Y Cyfarfod Llawn
Plenary
20/05/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
In the bilingual version, the left-hand column includes the language used during the meeting. The right-hand column includes a translation of those speeches.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
The Senedd met in the Chamber and by video-conference at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i’r Prif Weinidog fydd yr eitem gyntaf y prynhawn yma, ac mae’r cwestiwn cyntaf gan Natasha Asghar.
Good afternoon and welcome to this afternoon's Plenary meeting. The first item on our agenda this afternoon will be questions to the First Minister, and the first question is from Natasha Asghar.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y ddarpariaeth addysg rhyw mewn ysgolion? OQ62732
1. Will the First Minister make a statement on the provision of sex education in schools? OQ62732

Diolch yn fawr. Developmentally appropriate relationships and sexuality education is mandatory within the Curriculum for Wales. Our RSE code provides crucial safeguarding for learners and helps them to build respectful, trusting relationships through empathy, kindness and compassion.
Diolch yn fawr. Mae addysg cydberthynas a rhywioldeb sy'n briodol yn ddatblygiadol yn orfodol yn y Cwricwlwm i Gymru. Mae ein cod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn darparu diogelu hanfodol i ddysgwyr ac yn eu helpu i greu perthnasoedd parchus, ag ymddiriedaeth trwy empathi, caredigrwydd a thosturi.
Thank you, First Minister. We have a serious problem with how sex education is being taught in our schools and how Welsh councils are, indeed, interfering and wasting taxpayers’ money by telling schools how to teach what a healthy relationship should look like. I appreciate everything that you’ve just said about RSE classes, but I recently wrote to the Cabinet Secretary for Education about Bridgend County Borough Council’s quite horrific stance on sexual choking, and how it is, indeed, taught in schools. In the Cabinet Secretary’s response, she clearly states, and I quote,
‘On Thursday 24 April, Bridgend County Borough Council made their position very clear that the materials in question were never used by schools or seen by pupils, that all materials were vetted, with sections removed or updated to clearly describe non-fatal strangulation as illegal, dangerous and criminal, with reference to the Domestic Abuse Act 2021. One school within the local authority received the presentation, using these updated, appropriate materials.’
On the one hand, First Minister, we were told that these materials were never used in the schools or by pupils. Then, what was indeed the point of them in the first place, and what was the cost of producing these? First Minister, we are talking about the safety of children here. There is no safe way to choke a person during sex. It should be a clear case of, ‘No, this is not part of a healthy relationship.’ That’s it. Job done. And I’ve given that advice here for free to everyone here today. [Interruption.] You're welcome.
First Minister, do you agree with me today that this is wholly unacceptable as a saga, and has been a colossal waste of time and money, and that efforts should be better spent on tackling important issues within our schools, like the proliferation of pornography amongst young people instead? Thank you.
Diolch, Prif Weinidog. Mae gennym ni broblem ddifrifol gyda sut mae addysg rhyw yn cael ei haddysgu yn ein hysgolion a sut mae cynghorau Cymru, yn wir, yn ymyrryd ac yn gwastraffu arian trethdalwyr trwy ddweud wrth ysgolion sut i addysgu sut y dylai perthynas iach edrych. Rwy'n gwerthfawrogi popeth yr ydych chi newydd ei ddweud am ddosbarthiadau addysg perthnasoedd a rhyw, ond ysgrifennais at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ddiweddar am safbwynt cwbl erchyll Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar dagu rhywiol, a sut, yn wir, y mae'n cael ei addysgu mewn ysgolion. Yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n datgan yn eglur, ac rwy'n dyfynnu,
'Ddydd Iau 24 Ebrill, gwnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr eu safbwynt yn eglur iawn na ddefnyddiwyd y deunyddiau dan sylw erioed gan ysgolion ac na chawsant eu gweld gan ddisgyblion, bod yr holl ddeunyddiau wedi cael eu fetio, gydag adrannau yn cael eu dileu neu eu diweddaru i ddisgrifio yn eglur bod tagu nad yw'n angheuol yn anghyfreithlon, yn beryglus ac yn droseddol, gan gyfeirio at Ddeddf Cam-drin Domestig 2021. Derbyniodd un ysgol yn yr awdurdod lleol y cyflwyniad, gan ddefnyddio'r deunyddiau wedi'u diweddaru, priodol hyn.'
Ar y naill law, Prif Weinidog, dywedwyd wrthym ni na ddefnyddiwyd y deunyddiau hyn erioed yn yr ysgolion na chan ddisgyblion. Beth, felly, oedd eu pwrpas yn y lle cyntaf, a beth oedd y gost o gynhyrchu'r rhain? Prif Weinidog, rydym ni'n sôn am ddiogelwch plant yma. Nid oes unrhyw ffordd ddiogel o dagu rhywun yn ystod rhyw. Dylai fod yn achos eglur o, 'Na, nid yw hyn yn rhan o berthynas iach.' Dyna ni. Ei diwedd hi. Ac rwyf i wedi rhoi'r cyngor hwnnw yma am ddim i bawb yma heddiw. [Torri ar draws.] Croeso.
Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi heddiw bod hyn yn gwbl annerbyniol fel saga, ac wedi bod yn wastraff anferthol o amser ac arian, ac y byddai'n well canolbwyntio ymdrechion ar fynd i'r afael â materion pwysig yn ein hysgolion, fel ymlediad pornograffi ymhlith pobl ifanc yn hytrach? Diolch.

Natasha, I agree with you—there is absolutely no place for that kind of instruction within our schools. And I want to be absolutely clear that any materials condoning, or being seen to condone any form of harmful sexual behaviour, including non-fatal strangulation, are completely unacceptable in any school. So, I want to make that absolutely clear. And I think it is important that we stick to the facts: at no point were inappropriate materials shared for use in schools or seen by learners.
Natasha, rwy'n cytuno â chi—nid oes unrhyw le o gwbl i'r math hwnnw o gyfarwyddyd yn ein hysgolion. Ac rwyf i eisiau bod yn gwbl eglur bod unrhyw ddeunyddiau sy'n esgusodi, neu y mae'n ymddangos eu bod yn esgusodi unrhyw fath o ymddygiad rhywiol niweidiol, gan gynnwys tagu nad yw'n angheuol, yn gwbl annerbyniol mewn unrhyw ysgol. Felly, rwyf i eisiau gwneud hynny'n gwbl eglur. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cadw at y ffeithiau: ni rannwyd deunyddiau amhriodol ar unrhyw adeg i'w defnyddio mewn ysgolion ac ni chawsant eu gweld gan ddysgwyr.
2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu cyfranogiad pleidleiswyr yn etholiad y Senedd ym mis Mai 2026? OQ62721
2. What is the Welsh Government doing to increase voter participation in the Senedd elections in May 2026? OQ62721

We all share an interest in encouraging people to understand their rights and to vote. We're working with key partners to promote democratic engagement, and this Friday is the deadline for the next round of our democratic engagement grant, which is funding innovative work to promote participation.
Rydym ni i gyd yn rhannu diddordeb mewn annog pobl i ddeall eu hawliau ac i bleidleisio. Rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid allweddol i hyrwyddo ymgysylltu â democratiaeth a'r dydd Gwener hwn yw'r dyddiad cau ar gyfer rownd nesaf ein grant ymgysylltu â democratiaeth, sy'n ariannu gwaith arloesol i hyrwyddo cyfranogiad.
That sounds fantastic, actually, but it doesn’t mean a lot to me, and I’m not sure what it means to our voters out there. Now, we know, traditionally, the voter turnout for Senedd elections is much lower in terms of turnout than in a UK parliamentary election. In fact, we’ve never even reached the target of 50 per cent. Certainly now, with the new voting system that’s coming in, and the fact that a large number of the population don’t want 36 extra Members here, how are you going to reach out and engage with those who probably will not understand the new voting system, and are certainly against the 36 extra Members? How are you going to engage with those people to ensure that, as a result of your tinkering around with the electoral system and bringing in the 36 Members, you haven’t, in fact, turned the electorate of Wales off?
Mae hynny'n swnio'n wych, a dweud y gwir, ond nid yw'n golygu llawer i mi, ac nid wyf i'n siŵr beth mae'n ei olygu i'n pleidleiswyr allan yna. Nawr, rydym ni'n gwybod, yn draddodiadol, fod y ganran sy'n pleidleisio yn etholiadau'r Senedd yn llawer is na'r ganran sy'n pleidleisio mewn etholiad seneddol y DU. A dweud y gwir, nid ydym ni erioed wedi cyrraedd y targed o 50 y cant hyd yn oed. Yn sicr nawr, gyda'r system bleidleisio newydd sy'n cael ei chyflwyno, a'r ffaith nad yw nifer fawr o'r boblogaeth eisiau 36 o Aelodau ychwanegol yma, sut ydych chi'n mynd i estyn allan ac ymgysylltu â'r rhai y mae'n debygol na fyddan nhw'n deall y system bleidleisio newydd, ac sy'n sicr yn gwrthwynebu'r 36 o Aelodau ychwanegol? Sut ydych chi'n mynd i ymgysylltu â'r bobl hynny i sicrhau nad ydych chi, mewn gwirionedd, o ganlyniad i'ch chwarae o gwmpas gyda'r system etholiadol a dod â'r 36 Aelod i mewn, wedi lladd diddordeb etholwyr Cymru?

Well, I think it’s really important for us all to encourage people to participate in the elections. This an area where none of us should be trying to score political points, I don’t think. It is, I think—[Interruption.] But you want people to turn up in those elections. I think we should all be encouraging that as something we shouldn’t be apologising for. We had a 47 per cent turnout in the last Senedd elections. It’s really depressing to see the fall in the turnout for the UK elections—that was 56 per cent. So, that's fallen as well. It's really important to make it clear that this is not the sole responsibility of the Welsh Government. Okay? [Interruption.] No, no, wait a minute. Because it's the Senedd Commission that helps and leads the communication group, and they work with the Electoral Commission, the Electoral Management Board and local authorities. So, what happens is all of these groups come together to make sure that we try and avoid duplication, and we amplify the effectiveness of trying to encourage people to turn up to vote in those elections.
Wel, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni i gyd annog pobl i gymryd rhan yn yr etholiadau. Mae hwn yn faes lle na ddylai unrhyw un ohonom ni fod yn ceisio sgorio pwyntiau gwleidyddol, yn fy marn i. Rwy'n credu ei bod hi'n—[Torri ar draws.] Ond rydych chi eisiau i bobl droi i fyny yn yr etholiadau hynny. Rwy'n credu y dylem ni i gyd fod yn annog hynny fel rhywbeth na ddylem ni fod yn ymddiheuro amdano. Cawsom ni ganran bleidleisio o 47 y cant yn etholiadau diwethaf y Senedd. Mae wir yn ddigalon gweld y gostyngiad yn y ganran a bleidleisiodd yn etholiadau'r DU—56 y cant oedd hwnnw. Felly, mae hwnnw wedi gostwng hefyd. Mae'n bwysig iawn ei gwneud hi'n eglur nad cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yn unig yw hyn. Iawn? [Torri ar draws.] Na, na, arhoswch am funud. Oherwydd Comisiwn y Senedd sy'n helpu ac yn arwain y grŵp cyfathrebu, ac maen nhw'n gweithio gyda'r Comisiwn Etholiadol, y Bwrdd Rheoli Etholiadol ac awdurdodau lleol. Felly, yr hyn sy'n digwydd yw bod yr holl grwpiau hyn yn dod at ei gilydd i wneud yn siŵr ein bod ni'n ceisio osgoi ailadrodd, a'n bod ni'n cynyddu effeithiolrwydd ceisio annog pobl i ddod i bleidleisio yn yr etholiadau hynny.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Questions now from the party leaders. The leader of the Conservatives, Darren Millar.

Thank you, Presiding Officer. First Minister, yesterday's UK-EU summit should have been about taking Wales, along with the rest of the United Kingdom, forward. But, instead, Keir Starmer and the UK Government reopened the old Brexit battles that we have already fought and won and made some appalling announcements. So, let's be clear about what this deal means: free movement back, payments to the EU back, EU rules back, our fishing industry here in Wales betrayed, an unacceptable mobility scheme, billions of taxpayers' money going back to Brussels, being forced to accept EU rules and decisions from the European court, and European fishing boats in Welsh waters, in British waters, for at least the next 12 years. First Minister, you've got a responsibility to stand up for Wales and represent us. Why on earth have you welcomed this absolutely dreadful deal?
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, dylai uwchgynhadledd y DU-UE ddoe fod wedi ymwneud â symud Cymru, ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig, ymlaen. Ond, yn hytrach, ail-agorodd Keir Starmer a Llywodraeth y DU yr hen frwydrau Brexit yr ydym ni eisoes wedi eu hymladd a'u hennill a gwneud rhai cyhoeddiadau gwarthus. Felly, gadewch i ni fod yn eglur ynglŷn â'r hyn y mae'r cytundeb hwn yn ei olygu: symudiad rhydd yn ôl, taliadau i'r UE yn ôl, rheolau'r UE yn ôl, bradychu ein diwydiant pysgota yma yng Nghymru, cynllun symudedd annerbyniol, biliynau o arian trethdalwyr yn mynd yn ôl i Frwsel, cael ein gorfodi i dderbyn rheolau'r UE a phenderfyniadau gan y llys Ewropeaidd, a chychod pysgota Ewropeaidd yn nyfroedd Cymru, yn nyfroedd Prydain, am y 12 mlynedd nesaf o leiaf. Prif Weinidog, mae gennych chi gyfrifoldeb i sefyll yn gadarn dros Gymru a'n cynrychioli ni. Pam ar y ddaear ydych chi wedi croesawu'r cytundeb hollol ofnadwy hwn?

I'll tell you what I do know is the Tories botched Brexit. You promised—[Interruption.]—you promised the people of Wales that they would be better off as a result of Brexit. You said the NHS would be getting more money as a result of Brexit. The people of Wales have had their eyes opened and they've realised that they were told untruths in relation to what they were promised at the Brexit referendum. The fact is that what we will see now is much better opportunities for jobs in this country because people will be able to export to the EU for the first time without that red tape that occurred before. We have seen a £700 million drop in exports to the EU since Brexit. That was your group that promoted that, and that really means real jobs affecting real people in our communities. I am proud that we are moving ahead and that we have got lots of very significant things that will benefit Wales as a result of the third trade deal that has been made within two weeks by the UK Government.
Fe ddywedaf i wrthych chi mai'r hyn yr wyf i'n ei wybod yw bod y Torïaid wedi gwneud llanastr o Brexit. Fe wnaethoch chi addo—[Torri ar draws.]—fe wnaethoch addo i bobl Cymru y bydden nhw'n well eu byd o ganlyniad i Brexit. Fe wnaethoch chi ddweud y byddai'r GIG yn cael mwy o arian o ganlyniad i Brexit. Mae llygaid pobl Cymru wedi cael eu hagor ac maen nhw wedi sylweddoli y dywedwyd anwireddau wrthyn nhw o ran yr hyn a addawyd iddyn nhw yn y refferendwm Brexit. Y gwir amdani yw mai'r hyn y byddwn ni'n ei weld nawr yw llawer gwell cyfleoedd ar gyfer swyddi yn y wlad hon gan y bydd pobl yn gallu allforio i'r UE am y tro cyntaf heb y biwrocratiaeth hwnnw a ddigwyddodd o'r blaen. Rydym ni wedi gweld gostyngiad o £700 miliwn i allforion i'r UE ers Brexit. Eich grŵp chi wnaeth hyrwyddo hynny, ac mae hynny'n golygu swyddi go iawn sy'n effeithio ar bobl go iawn yn ein cymunedau. Rwy'n falch ein bod ni'n symud ymlaen a'n bod ni wedi cael llawer o bethau arwyddocaol iawn a fydd o fudd i Gymru o ganlyniad i'r trydydd cytundeb masnach a wnaed o fewn pythefnos gan Lywodraeth y DU.
First Minister, I know you don't like it, I know your Labour colleagues in the Senedd don't like it, and I know your friends in Plaid Cymru don't like it, but the people of Wales voted to leave the European Union, and, like me, they wanted us to take back control of our own affairs from faceless EU bureaucrats. Now, I respect the outcomes of referendums; it's a shame that you don't. This EU deal is a betrayal and it's a surrender. It is not a reset, it's a retreat, and every time Labour negotiates, the people of Wales and the United Kingdom lose. This is a terrible deal with the European Union. It will decimate our Welsh fishing industry, and these European boats will now have access for 12 years in our waters. It is a disgrace. Why on earth, First Minister, have you sold our fishing industry down the river, and why haven't you stood up for the decision of the people of Wales in that EU referendum?
Prif Weinidog, rwy'n gwybod nad ydych chi'n ei hoffi, rwy'n gwybod nad yw eich cyd-Aelodau Llafur yn y Senedd yn ei hoffi, ac rwy'n gwybod nad yw eich ffrindiau ym Mhlaid Cymru yn ei hoffi, ond pleidleisiodd pobl Cymru i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac, fel fi, roedden nhw eisiau i ni gymryd rheolaeth o'n materion ein hunain yn ôl oddi wrth fiwrocratiaid anhysbys yr UE. Nawr, rwy'n parchu canlyniadau refferenda; mae'n drueni nad ydych chi. Mae'r cytundeb hwn gyda'r UE yn frad ac mae'n ildiad. Nid ailosod mohono, mae'n enciliad, a phob tro y mae Llafur yn negodi, mae pobl Cymru a'r Deyrnas Unedig yn colli. Mae hwn yn gytundeb ofnadwy gyda'r Undeb Ewropeaidd. Bydd yn dinistrio ein diwydiant pysgota yng Nghymru, a bydd gan y cychod Ewropeaidd hyn fynediad am 12 mlynedd yn ei dyfroedd bellach. Mae'n warth. Pam ar y ddaear, Prif Weinidog, ydych chi wedi bradychu ein diwydiant pysgota, a pham nad ydych wedi sefyll dros benderfyniad pobl Cymru yn y refferendwm hwnnw ar yr UE?

Darren, you're not going to out-Reform Reform—that's the truth of it; we know who you're worried about. But let's be absolutely clear that I make no apologies for the fact that businesses in Wales will be able to export without the red tape that you wrapped them up in when you were a Government in this country. There are massive opportunities for the 20,000 people who work in our defence sector. There are real opportunities for our steel sector, because we won't be subject to the new rules that may have come in as a result of that. And I'm proud that young people from Wales will be able to go and travel to the continent. Why on earth would you want to deny people that opportunity? And on energy, there's real potential now for us to work with an EU energy market that may help to bring down bills in this country. Those are the things that matter to the people of Wales. On top of that, there'll be lots of people who will be really relieved that they don't have to wait in those almighty long queues at the borders when they go on their holidays this year. Let's be clear, that matters to the people of Wales.
Darren, nid ydych chi'n mynd i fod mwy fel Reform na Reform—dyna'r gwir amdani; rydym ni'n gwybod pwy rydych chi'n poeni amdano. Ond gadewch i ni fod yn gwbl eglur nad wyf i'n gwneud unrhyw ymddiheuriadau am y ffaith y bydd busnesau yng Nghymru yn gallu allforio heb y biwrocratiaeth y gwnaethoch chi eu lapio ynddo pan oeddech chi'n Llywodraeth yn y wlad hon. Ceir cyfleoedd enfawr i'r 20,000 o bobl sy'n gweithio yn ein sector amddiffyn. Ceir cyfleoedd gwirioneddol i'n sector dur, oherwydd ni fyddwn ni'n ddarostyngedig i'r rheolau newydd a allai fod wedi cael eu cyflwyno o ganlyniad i hynny. Ac rwy'n falch y bydd pobl ifanc o Gymru yn gallu mynd i deithio i'r cyfandir. Pam ar y ddaear fyddech chi eisiau gwadu'r cyfle hwnnw i bobl? Ac o ran ynni, ceir potensial gwirioneddol nawr i ni weithio gyda marchnad ynni'r UE a allai helpu i ostwng biliau yn y wlad hon. Dyna'r pethau sy'n bwysig i bobl Cymru. Ar ben hynny, bydd llawer o bobl a fydd yn teimlo rhyddhad mawr nad oes yn rhaid iddyn nhw ddisgwyl yn y ciwiau eithriadol o hir hynny ar y ffiniau pan fyddan nhw'n mynd ar eu gwyliau eleni. Gadewch i ni fod yn eglur, mae hynny'n bwysig i bobl Cymru.
Of course, it was perfectly possible for EU countries to shorten those queues at the borders and have arrangements on a bilateral basis. I'm afraid people just don't believe the figures being bandied about by the Labour Party. Before the last general election, you said that people's energy bills were going to go down by £300, and they've gone up by £300, not down. Look, the reality is the UK Labour Government did not consult with you and it did not consult with this Welsh Labour Government in spite of the fact that many of the parts of this deal are going to have an impact here in Wales. You simply don't have a voice, do you, First Minister? You claim to stand up for Wales, but the reality is that the UK Government and the Prime Minister don't give a rip about what you say or think. You're sidelined, you're airbrushed at every single opportunity. And then we've got an invisible Secretary of State, Jo Stevens, who we never hear from. Where on earth is she?
When our farmers were betrayed with the family farms tax, when our pensioners were betrayed with the winter fuel payment axe, and when our workers were betrayed with the jobs tax, the UK Labour Government simply hit the mute button as far as you were concerned, and there was silence from you. Yet, this week, it isn't just silence, it's worse, as we've just heard—you've actually welcomed this terrible deal. It's a terrible deal that risks jobs and risks livelihoods in some of our coastal communities around Wales, even though you were not consulted and fishing is devolved. It is a disgrace. So, what action are you now going to take to support our fishing industry and the jobs that rely on it across this country, and get this deal reopened so that it is fair to Wales?
Wrth gwrs, roedd yn berffaith bosibl i wledydd yr UE leihau'r ciwiau hynny ar y ffiniau a chael trefniadau ar sail ddwyochrog. Rwy'n ofni nad yw pobl yn credu'r ffigurau sy'n cael eu crybwyll gan y Blaid Lafur. Cyn yr etholiad cyffredinol diwethaf, fe wnaethoch chi ddweud bod biliau ynni pobl yn mynd i leihau £300, ac maen nhw wedi cynyddu £300, nid lleihau. Edrychwch, y gwir amdani yw na wnaeth Llywodraeth Lafur y DU ymgynghori â chi ac ni wnaeth ymgynghori â Llywodraeth Lafur Cymru er gwaethaf y ffaith bod llawer o'r rhannau o'r cytundeb hwn yn mynd i gael effaith yma yng Nghymru. Yn syml, nid oes gennych chi lais, nac oes, Prif Weinidog? Rydych chi'n honni eich bod chi'n sefyll yn gadarn dros Gymru, ond y gwir amdani yw nad oes gan Lywodraeth y DU a Phrif Weinidog y DU unrhyw ots o gwbl am yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud na'i feddwl. Rydych chi'n cael eich gwthio o'r neilltu, rydych chi'n cael eich dileu ar bob un cyfle. Ac yna mae gennym ni Ysgrifennydd Gwladol anweledig, Jo Stevens, nad ydym byth yn clywed ganddi. Ble ar y ddaear mae hi?
Pan fradychwyd ein ffermwyr gyda'r dreth ffermydd teuluol, pan fradychwyd ein pensiynwyr drwy gael gwared at daliad tanwydd y gaeaf, a phan fradychwyd ein gweithwyr gyda'r dreth swyddi, y cwbl wnaeth Llywodraeth Lafur y DU oedd taro'r botwm tawelu cyn belled ag yr oeddech chi yn y cwestiwn, ac roedd distawrwydd gennych chi. Eto, yr wythnos hon, nid distawrwydd yn unig ydyw, mae'n waeth, fel rydym ni newydd ei glywed—rydych chi wedi croesawu'r cytundeb ofnadwy hon mewn gwirionedd. Mae'n gytundeb ofnadwy sy'n peryglu swyddi ac yn peryglu bywoliaethau yn rhai o'n cymunedau arfordirol ledled Cymru, er na ymgynghorwyd â chi a bod pysgota wedi'i ddatganoli. Mae'n warth. Felly, pa gamau ydych chi'n mynd i'w cymryd nawr i gefnogi ein diwydiant pysgota a'r swyddi sy'n dibynnu arno ledled y wlad hon, a chael ail-agor y cytundeb hwn fel ei fod yn deg i Gymru?

You talk about a dire deal. I'll tell you what the dire deal was, it was the Brexit deal that you lot signed up to. It was a hard Brexit that has hurt the people of this country and that has caused chaos in some of our communities. EU funding was slashed, despite the fact that we were promised that we wouldn't be worse off.
The fact is, people in our shellfish industry, which is actually much greater than our fisheries industry sector, are very happy that, from now on, they will be able to export their goods to the continent without them sitting and waiting and having to fill in forms at the borders. We were engaged the whole way through with the debates. I am so pleased that the priorities that we set out—things like making sure that the sanitary and phytosanitary issue was in there, making sure that we have defence opportunities, making sure that issues in relation to steel and youth and exchange and energy—all of these things that we asked for, I am very pleased that they were there. We simply weren't there at the very end of the process because that's how Government works.
Rydych chi'n sôn am gytundeb ofnadwy. Fe wnaf i ddweud wrthych chi beth oedd y cytundeb ofnadwy, y cytundeb Brexit y gwnaethoch chi gytuno iddo. Roedd yn Brexit caled sydd wedi brifo pobl y wlad hon ac sydd wedi achosi anhrefn yn rhai o'n cymunedau. Cafodd cyllid yr UE ei dorri'n sylweddol, er gwaethaf y ffaith ein bod wedi cael addewid na fyddem ni ddim gwaeth ein byd.
Y gwir yw bod pobl yn ein diwydiant pysgod cregyn, sy'n llawer mwy na'n sector diwydiant pysgodfeydd mewn gwirionedd, yn hapus iawn y byddan nhw, o hyn ymlaen, yn gallu allforio eu nwyddau i'r cyfandir heb iddyn nhw eistedd ac aros a gorfod llenwi ffurflenni ar y ffiniau. Roeddem ni'n rhan o'r trafodaethau yr holl ffordd drwodd. Rwyf i mor falch bod y blaenoriaethau a nodwyd gennym ni—pethau fel gwneud yn siŵr bod y mater iechydol a ffytoiechydol yno, gwneud yn siŵr bod gennym ni gyfleoedd amddiffyn, gwneud yn siŵr bod materion o ran dur ac ieuenctid a chyfnewid ac ynni—yr holl bethau hyn y gwnaethom ni ofyn amdanyn nhw, rwy'n falch iawn eu bod nhw yno. Doedden ni ddim yno ar ddiwedd un y broses gan mai dyna sut mae Llywodraeth yn gweithio.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
The leader of Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Diolch, Llywydd. Yesterday, the UK Government signed a new deal with the European Union, and I'm pleased that there is some acceptance now of the harm of Brexit, but it's not bold enough in its response to that reality. Yes, the Tories did botch Brexit, and it's quite a sight to behold their denial, after their disastrous conference over the weekend, but Labour also is botching its response to the Brexit damage. With its so-called 'partnership in power' and promise of two Labour Governments working together in the interest of the people of Wales, I would have expected the First Minister to have been sighted on the deal in advance and to have been given an opportunity to influence the Prime Minister, especially given that parts of the deal involved areas of devolved responsibility. But, in yet another signal that Wales's voice matters little to UK Labour, the First Minister has admitted—I heard her myself—she was again sidelined, including on those aspects of the deal that fall under the jurisdiction of this Senedd. Why does she continue to allow Keir Starmer to treat the Welsh Government, this institution and the people of Wales with such contempt?
Diolch, Llywydd. Ddoe, llofnododd Llywodraeth y DU gytundeb newydd gyda'r Undeb Ewropeaidd, ac rwy'n falch bod rhywfaint o dderbyniad nawr o niwed Brexit, ond nid yw'n ddigon beiddgar yn ei ymateb i'r realiti hwnnw. Do, fe wnaeth y Torïaid lanastr o Brexit, ac mae'n werth eu gweld eu gwadiadau, ar ôl eu cynhadledd drychinebus dros y penwythnos, ond mae Llafur hefyd yn gwneud llanastr o'i hymateb i niwed Brexit. Gyda'i 'phartneriaeth mewn grym' honedig ac addewid o ddwy Lywodraeth Lafur yn gweithio gyda'i gilydd er budd pobl Cymru, byddwn i wedi disgwyl i'r Prif Weinidog fod yn ymwybodol o'r cytundeb ymlaen llaw ac i fod wedi cael cyfle i ddylanwadu ar Brif Weinidog y DU, yn enwedig o ystyried bod rhannau o'r cytundeb yn cynnwys meysydd o gyfrifoldeb datganoledig. Ond, mewn arwydd arall nad yw llais Cymru yn bwysig iawn i Lafur y DU, mae'r Prif Weinidog wedi cyfaddef—clywais hi fy hun—ei bod wedi cael ei gwthio o'r neilltu eto, gan gynnwys ar yr agweddau hynny ar y cytundeb sy'n dod o dan awdurdodaeth y Senedd hon. Pam mae hi'n parhau i ganiatáu i Keir Starmer drin Llywodraeth Cymru, y sefydliad hwn a phobl Cymru gyda'r fath ddirmyg?

It's really important for us to recognise that this is a good deal for Wales. The priorities that we set out, that we worked up a long time ago, that we've worked through with relevant departments of Government in Whitehall, have actually been taken on board—if you look at what's happened in relation to SPS, bringing down export barriers, making sure that those defence opportunities come our way, making sure that the issues surrounding steel were considered and making sure that the youth exchange and energy issues were addressed. Those were things that were all on our list of things that we wanted to see, and I am delighted to see that they've been respected. The fact is we weren't there at the final signing, no, because we are a part of the United Kingdom, and they're the lead nation. You may not like that as a nationalist, but I am keen to remain a part of the United Kingdom, and that's the way it works.
Mae'n bwysig iawn i ni gydnabod bod hwn yn gytundeb da i Gymru. Mae'r blaenoriaethau a gyflwynwyd gennym ni, a luniwyd gennym ni amser maith yn ôl, yr ydym ni wedi gweithio drwyddyn nhw gydag adrannau perthnasol y Llywodraeth yn Whitehall, wedi cael eu hystyried mewn gwirionedd—os edrychwch chi ar yr hyn sydd wedi digwydd o ran materion iechydol a ffytoiechydol, cael gwared ar rwystrau allforio, gwneud yn siŵr bod y cyfleoedd amddiffyn hynny yn dod i ni, gwneud yn siŵr bod y materion yn ymwneud â dur yn cael eu hystyried a gwneud yn siŵr bod y materion cyfnewid ieuenctid ac ynni yn cael sylw. Roedd y rheini'n bethau a oedd i gyd ar ein rhestr o bethau yr oeddem ni eisiau eu gweld, ac rwyf i wrth fy modd o weld eu bod nhw wedi cael eu parchu. Y gwir amdani yw nad oeddem yno ar adeg y llofnodi terfynol, nac oeddem, gan ein bod ni'n rhan o'r Deyrnas Unedig, a nhw yw'r genedl arweiniol. Efallai nad ydych chi'n hoffi hynny fel cenedlaetholwr, ond rwy'n awyddus i aros yn rhan o'r Deyrnas Unedig, a dyna sut mae'n gweithio.
It's becoming very clear that nothing has changed since that speech from two weeks ago. When Keir Starmer says it's a good deal then it must be a good deal for Wales. Barely two weeks have passed since that so-called 'red Welsh way' speech, but that speech has struck a dead end.
Here was another fork in the road, which called for the Labour Welsh Government to stand up for Wales's interests, but it did nothing, and wasn't invited to either. Once again, Wales's voice wasn't heard at the table, and we know what that means. When we're not at the table, pretty often we are on the menu.
So, let's cut to it. The only growth happening on the Prime Minister's watch is the size of the Brexit elephant in the room. No matter whether people voted leave or remain, nobody voted to put a dagger through the heart of the Welsh economy.
In 2018, a Labour Welsh Government Minister said:
'The Labour government has been very clear in terms of the Welsh position that we want to remain in the single market and the customs union. That has been a commitment from the UK Labour party during the transition period. We'd like them to go further. We'd like that commitment to be for the long term'.
That's what was said. Does the First Minister recall who said it?
Mae'n dod yn amlwg iawn nad oes dim wedi newid ers yr araith honno o bythefnos yn ôl. Pan fo Keir Starmer yn dweud ei fod yn gytundeb da yna mae'n rhaid ei fod yn gytundeb da i Gymru. Prin bythefnos sydd wedi mynd heibio ers yr araith 'ffordd goch Cymru' honno fel y'i gelwir, ond mae'r araith honno wedi cyrraedd pen y daith.
Dyma fforch arall yn y ffordd, a oedd yn galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i sefyll dros fuddiannau Cymru, ond ni wnaeth ddim, ac ni chafodd ei gwahodd chwaith. Unwaith eto, ni chafodd llais Cymru ei glywed wrth y bwrdd, ac rydym ni'n gwybod beth mae hynny'n ei olygu. Pan nad ydym ni wrth y bwrdd, yn eithaf aml rydym ni ar y fwydlen.
Felly, gadewch i ni fynd i wraidd y mater. Yr unig dwf sy'n digwydd o dan oruchwyliaeth Prif Weinidog y DU yw maint yr eliffant Brexit yn yr ystafell. Ni waeth a wnaeth pobl bleidleisio i adael neu i aros, pleidleisiodd neb i roi cyllell trwy galon economi Cymru.
Yn 2018, dywedodd Gweinidog Llafur Llywodraeth Cymru:
'Mae'r llywodraeth Lafur wedi bod yn eglur iawn o ran safbwynt Cymru ein bod ni eisiau aros yn y farchnad sengl a'r undeb tollau. Mae hynny wedi bod yn ymrwymiad gan blaid Lafur y DU yn ystod y cyfnod pontio. Hoffem iddyn nhw fynd ymhellach. Hoffem i'r ymrwymiad hwnnw fod ar gyfer yr hirdymor'.
Dyna'r hyn a ddywedwyd. A yw'r Prif Weinidog yn cofio pwy ddywedodd hynny?

I'm not going to apologise for the fact that I'm a Euro-enthusiast. I was a Member of the European Parliament for 15 years, and I am a keen enthusiast of the European Union. Was I gutted that we left? Absolutely, I was gutted that we left. Do I think we need to respect the UK mandate? Yes, I think we do. But I want as close as possible a deal with the European Union in order for our country and our nation to thrive. And what's been great this week—you may have missed it, Rhun—is the fact is our economy across the United Kingdom is actually growing. It may not meet your narrative, but it is something that is factually true. It is important now that we see the fruits of that and the growth of the economy helping to support our public services in Wales.
Nid wyf i'n mynd i ymddiheuro am y ffaith fy mod i'n rhywun sy'n frwdfrydig am Ewrop. Roeddwn i'n Aelod o Senedd Ewrop am 15 mlynedd, ac rwy'n frwdfrydig iawn am yr Undeb Ewropeaidd. A oeddwn i'n siomedig ein bod ni wedi gadael? Yn sicr, roeddwn i'n siomedig ein bod ni wedi gadael. A wyf i'n meddwl bod angen i ni barchu mandad y DU? Ydw, rwy'n credu bod angen i ni wneud hynny. Ond rwyf i eisiau cytundeb mor agos â phosibl gyda'r Undeb Ewropeaidd er mwyn i'n gwlad a'n cenedl ffynnu. A'r hyn sydd wedi bod yn wych yr wythnos hon—efallai eich bod chi wedi ei fethu, Rhun—yw'r ffaith bod ein heconomi ar draws y Deyrnas Unedig yn tyfu mewn gwirionedd. Efallai nad yw'n cyd-fynd â'ch naratif, ond mae'n rhywbeth sy'n ffeithiol wir. Mae'n bwysig nawr ein bod ni'n gweld ffrwyth hynny a thwf yr economi yn helpu i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Tell business feeling the weight of the national insurance increases, if that feels good for the Welsh economy. We have a First Minister who says she's a Euro-enthusiast, but that's in words only. I'm looking for a First Minister who shows through her deeds what her attitudes are towards the relationship between Wales and the European Union.
And yes, it was, of course, the First Minister herself who back then wanted Labour to commit to the single market and customs union long term. What is it about Labour politicians saying one thing in opposition, or a different thing when they're in power, or on becoming First Minister?
Let me say this, and I'll say it again: there are elements of the Prime Minister's deal that can be supported, absolutely. I welcome the element of recognition of the damage caused by Brexit. But even then, it depends if the final detail matches the rhetoric. Plaid Cymru has long called for a youth mobility scheme, for example.
But let's be straight, this deal isn't the kind of reset we need. The Government is still essentially retreating from addressing the £4 billion hit to the Welsh economy. I haven't wavered at all from my firm belief that Wales's economy would benefit from membership of the single market and customs union. Why has she?
Dywedwch wrth fusnesau sy'n teimlo pwysau'r cynnydd i yswiriant gwladol, os yw hynny'n teimlo'n dda i economi Cymru. Mae gennym ni Brif Weinidog sy'n dweud ei bod yn rhywun sy'n frwdfrydig am Ewrop, ond mae hynny mewn geiriau yn unig. Rwy'n chwilio am Brif Weinidog sy'n dangos drwy ei gweithredoedd beth yw ei hagweddau tuag at y berthynas rhwng Cymru a'r Undeb Ewropeaidd.
Ac ie, wrth gwrs, y Prif Weinidog ei hun oedd eisiau i Lafur ymrwymo i'r farchnad sengl a'r undeb tollau yn yr hirdymor yn ôl bryd hynny. Pam mae gwleidyddion Llafur yn dweud un peth fel gwrthblaid, neu rywbeth gwahanol pan fyddan nhw mewn grym, neu ar ôl dod yn Brif Weinidog?
Gadewch i mi ddweud hyn, ac fe'i dywedaf eto: ceir elfennau o gytundeb Prif Weinidog y DU y gellir eu cefnogi, yn sicr. Rwy'n croesawu'r elfen o gydnabod y niwed a achoswyd gan Brexit. Ond hyd yn oed wedyn, mae'n dibynnu a yw'r manylion terfynol yn cyd-fynd â'r rhethreg. Mae Plaid Cymru wedi galw ers amser maith am gynllun symudedd ieuenctid, er enghraifft.
Ond gadewch i ni fod yn onest, nid yw'r cytundeb hwn y math o ailosod sydd ei angen arnom ni. Mae'r Llywodraeth i bob pwrpas yn dal i encilio rhag mynd i'r afael â'r ergyd gwerth £4 biliwn i economi Cymru. Nid wyf i wedi simsanu o gwbl o'm cred gadarn y byddai economi Cymru yn elwa o aelodaeth o'r farchnad sengl a'r undeb tollau. Pam mae hi?

You talk about £4 billion cuts to the Welsh economy. You voted with the Tories recently in a vote that would have deprived our public services of precisely £4 billion. [Interruption.] Oh, they don't like it when they hand it back to them, do they? He doesn't like it when that happens. [Interruption.] You can dish it out—
Rydych chi'n sôn am doriadau gwerth £4 biliwn i economi Cymru. Fe wnaethoch chi bleidleisio gyda'r Torïaid yn ddiweddar mewn pleidlais a fyddai wedi amddifadu ein gwasanaethau cyhoeddus o £4 biliwn yn union. [Torri ar draws.] O, dydyn nhw ddim yn ei hoffi pan fyddan nhw'n dadlau yn ôl a nhw, ydyn nhw? Nid yw'n ei hoffi pan fydd hynny'n digwydd. [Torri ar draws.] Rydych chi'n gallu taflu baw—
I do need to hear the First Minister. Can I hear the First Minister, please?
Mae angen i mi glywed y Prif Weinidog. A allaf i glywed y Prif Weinidog, os gwelwch yn dda?

You can dish it out, but you can't take it, can you? It's really important, I think, that we think about the progress. You want to hear about what we do not just in words but in deeds. Yes, we were worried about the fact that the Erasmus programme was cut, so what did we do? We introduced our own programme, Taith. Eight thousand people have actually made that happen. I am really pleased that we led the way, we demonstrated to the UK Government that this can be done, it's good for the young people of our country, and it's something that enriches our communities.
Rydych chi'n gallu taflu baw, ond allwch chi ddim ei gymryd, allwch chi? Mae'n bwysig iawn, rwy'n credu, ein bod ni'n meddwl am y cynnydd. Rydych chi eisiau clywed am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud nid yn unig mewn geiriau ond mewn gweithredoedd. Oeddem, roeddem ni'n poeni am y ffaith bod rhaglen Erasmus wedi cael ei thorri, felly beth wnaethon ni? Fe wnaethon ni gyflwyno ein rhaglen ein hunain, Taith. Mae 8,000 o bobl wedi gwneud i hynny ddigwydd. Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi arwain y ffordd, ein bod ni wedi dangos i Lywodraeth y DU y gellir gwneud hyn, mae'n dda i bobl ifanc ein gwlad, ac mae'n rhywbeth sy'n cyfoethogi ein cymunedau.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am statws Cymru fel cenedl noddfa? OQ62733
3. Will the First Minister make a statement on Wales's status as a nation of sanctuary? OQ62733

The Welsh Government is committed to our vision of Wales as a nation of sanctuary, which aims to support people seeking sanctuary to fully contribute to Welsh life. We are committed to harnessing the opportunities that migration brings, to help our economy and our communities to thrive.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'n gweledigaeth o Gymru fel cenedl noddfa, sydd â'r nod o gynorthwyo pobl sy'n chwilio am noddfa i gyfrannu'n llawn at fywyd Cymru. Rydym ni wedi ymrwymo i harneisio'r cyfleoedd y mae mudo yn eu cynnig, i helpu ein heconomi a'n cymunedau i ffynnu.
First Minister, over the past 50 years in Wales, I've joined with and supported refugees from Chile, after the fascist coup by General Pinochet in the 1970s; I've worked with and I've supported Kurdish refugees persecuted and fighting for a homeland; students and refugees from Iraq persecuted and threatened by the Saddam Hussein regime; refugees from South Africa, including the great campaigner against apartheid, founder of the Welsh Anti-Apartheid Movement, who you knew, Hanef Bhamjee, sadly no longer with us but buried in Cardiff; Palestinians; Syrians; and recently some 8,000 Ukrainians, and many others welcomed to Wales, welcomed into our nation of sanctuary. These people are now contributors to the Welsh economy and to Welsh public services, especially our health services. Does the First Minister agree with me that Wales is not an island of strangers and that immigration has been culturally and economically good for Wales?
Prif Weinidog, dros yr 50 mlynedd diwethaf yng Nghymru, rwyf i wedi ymuno â ffoaduriaid o Chile a'u cefnogi, ar ôl i i'r Cadfridog Pinochet gipio awdurdod i'r ffasgiaid yn y 1970au; rwyf i wedi gweithio gyda ffoaduriaid Cwrdaidd sy'n cael eu herlid ac yn ymladd dros famwlad a'u cefnogi; myfyrwyr a ffoaduriaid o Irac a oedd yn cael eu herlid a'u bygwth gan gyfundrefn Saddam Hussein; ffoaduriaid o Dde Affrica, gan gynnwys yr ymgyrchydd mawr yn erbyn apartheid, sylfaenydd Mudiad Gwrth-Apartheid Cymru, yr oeddech chi'n ei adnabod, Hanef Bhamjee, nad yw gyda ni mwyach yn anffodus ond wedi ei gladdu yng Nghaerdydd; Palestiniaid; Syriaid; ac yn ddiweddar croesawyd tua 8,000 o Wcreiniaid, a llawer o rai eraill i Gymru, wedi'u croesawu i'n cenedl noddfa. Mae'r bobl hyn bellach yn cyfrannu at economi Cymru ac at wasanaethau cyhoeddus Cymru, yn enwedig ein gwasanaethau iechyd. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi nad yw Cymru yn ynys o ddieithriaid a bod mewnfudo wedi bod yn dda i Gymru yn ddiwylliannol ac yn economaidd?

Immigration is a matter for the United Kingdom Government, so let's just be clear. We are a nation of sanctuary. What that doesn't mean is that there's a free-for-all for anyone who wants to come here, but when people do come here, we want to make them feel welcome and we want them to integrate.
I think that we've got a really proud history of welcoming migrants and people seeking sanctuary in our communities. I think that we've got to harness the benefits that these people bring to our communities and make it easier for them to integrate, which is why I'm so proud that we make sure that there are opportunities for them to learn English and, if necessary, Welsh, so that they can feel and contribute to our communities.
I'd like to thank you and to note in particular, with your background, the particular pride we have in creating supersponsor routes for Ukrainians fleeing the war—8,000 Ukrainian refugees have found support here in Wales, 3,300 of them via our supersponsor route, and that's something I think we should be very proud of.
Mater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw mewnfudo, felly gadewch i ni fod yn eglur. Rydym ni'n genedl noddfa. Yr hyn nad yw hynny'n ei olygu yw bod cyfleoedd i unrhyw un sydd eisiau dod yma, ond pan fydd pobl yn dod yma, rydym ni eisiau gwneud iddyn nhw deimlo bod croeso iddyn nhw ac rydym ni eisiau iddyn nhw integreiddio.
Rwy'n credu bod gennym ni hanes balch iawn o groesawu ymfudwyr a phobl sy'n chwilio am noddfa yn ein cymunedau. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni harneisio'r manteision y mae'r bobl hyn yn eu cynnig i'n cymunedau a'i gwneud hi'n haws iddyn nhw integreiddio, a dyna pam rwyf i mor falch ein bod ni'n gwneud yn siŵr bod cyfleoedd iddyn nhw ddysgu Saesneg ac, os oes angen, Cymraeg, fel y gallan nhw deimlo a chyfrannu at ein cymunedau.
Hoffwn ddiolch i chi ac i nodi'n benodol, gyda'ch cefndir, y balchder arbennig sydd gennym ni mewn creu llwybrau uwch-noddwr i Wcreiniaid sy'n ffoi rhag y rhyfel—mae 8,000 o ffoaduriaid Wcráin wedi dod o hyd i gymorth yma yng Nghymru, 3,300 ohonyn nhw drwy ein llwybr uwch-noddwr, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n credu y dylem ni fod yn falch iawn ohono.
I'd like to pay tribute to Mick Antoniw. He's really laid out the work that he has done, and we're all proud of our reputation as a nation of sanctuary, welcoming people fleeing persecution and war. Once here, many with their families want to be part of their community, and we of course value their contributions. Many work in our public services, as you say, particularly the social care sector, where we consistently need to recruit if we are to fulfil our ambition to have a national care service. So, First Minister, will you continue to ensure that the UK Government understands the importance of people who've made their homes in Wales feeling welcome and that they are able to use their skills for the benefit of all of the people of Wales?
Hoffwn dalu teyrnged i Mick Antoniw. Mae wir wedi cyflwyno'r gwaith y mae wedi ei wneud, ac rydym ni i gyd yn falch o'n henw da fel cenedl noddfa, sy'n croesawu pobl sy'n ffoi rhag erledigaeth a rhyfel. Pan fyddan nhw yma, mae llawer gyda'u teuluoedd eisiau bod yn rhan o'u cymuned, ac rydym ni'n gwerthfawrogi eu cyfraniadau, wrth gwrs. Mae llawer yn gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus, fel y dywedwch chi, yn enwedig y sector gofal cymdeithasol, lle mae angen i ni recriwtio yn gyson os ydym ni'n mynd i gyflawni ein huchelgais o gael gwasanaeth gofal cenedlaethol. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi barhau i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn deall y pwysigrwydd bod pobl sydd wedi gwneud eu cartrefi yng Nghymru yn teimlo bod croeso iddyn nhw a'u bod nhw'n gallu defnyddio eu sgiliau er budd holl bobl Cymru?

Thanks very much. I think the contribution of people from outside the United Kingdom is something that we must underline. The contribution is really concentrated in some areas. Let me give you an example: in the Hywel Dda health board, almost 50 per cent of the doctors and nurses are trained outside the United Kingdom. Our services would not survive without these people. So, let's just be absolutely clear, when people are whipping up fear against these people, think about the consequences of that action. And let me just be clear also when it comes to care workers: it is important that we recognise their contribution, and we are working through exactly how the new proposals in relation to migration could affect us here in Wales.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu bod cyfraniad pobl o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei danlinellu. Mae'r cyfraniad wir yn ddwys mewn rhai ardaloedd. Gadewch i mi roi enghraifft i chi: ym mwrdd iechyd Hywel Dda, mae bron i 50 y cant o'r meddygon a'r nyrsys wedi'u hyfforddi y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Ni fyddai ein gwasanaethau yn goroesi heb y bobl hyn. Felly, gadewch i ni fod yn gwbl eglur, pan fydd pobl yn creu ofn yn erbyn y bobl hyn, meddyliwch am ganlyniadau'r weithred honno. A gadewch i mi fod yn eglur hefyd o ran gweithwyr gofal: mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod eu cyfraniad, ac rydym ni'n gweithio trwy sut yn union y gallai'r cynigion newydd o ran mudo effeithio arnom ni yma yng Nghymru.
4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Papur Gwyn Mewnfudo Llywodraeth y DU ar ofal cymdeithasol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ62753
4. What assessment has the Welsh Government made of the impact of the UK Government's Immigration White Paper on social care in Mid and West Wales? OQ62753

Rŷn ni’n parhau i ddadansoddi effaith y Papur Gwyn mewnfudo ar ofal cymdeithasol ledled Cymru. Rŷn ni’n gweithio’n agos gyda’r holl awdurdodau lleol, gan gynnwys y rheini yn y canolbarth a’r gorllewin, i daclo’r heriau o ran recriwtio a chadw staff yn y sector, ac i gynllunio ar gyfer tyfu’r gweithlu yn y dyfodol.
We continue to analyse the impact of the immigration White Paper on social care across Wales. We’re working closely with all local authorities, including those in mid and west Wales, to address challenges with recruitment and retention in the sector, and to plan for growing our workforce in the future.
Diolch. Mae mewnfudwyr yn asgwrn cefn i’n gwasanaeth iechyd. Mae tua un ym mhob 10 o staff bwrdd iechyd Hywel Dda, er enghraifft, wedi’u geni y tu fas i’r DU. Maen nhw hefyd yn cyfrannu’n helaeth yn ariannol i’n prifysgolion, gyda rhyw 7 y cant o fyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant yn dod o dramor.
Thank you. Immigrants are the backbone of our health service. Around one in 10 of Hywel Dda health board staff, for example, were born outside the UK. They also make a large financial contribution to our universities, with some 7 per cent of students at Trinity Saint David coming from abroad.
First Minister, the new immigration White Paper launched by Keir Starmer last week fails to recognise the contribution that migrant workers and overseas students make to our economy, and represents a further lurch to the right from a Prime Minister determined to dance to Nigel Farage’s tune. In fact, I find it increasingly difficult to recognise today’s Labour Party as it has strayed so far from its roots, as cuts to winter fuel payments and disability benefits, the two-child benefit cap and the betrayal of the Port Talbot steelworkers all demonstrate. The latest attack on migrants represents a further retreat from what the Labour Welsh Government claims are its core values. Will the First Minister, therefore, condemn the direction that her party leader has taken on immigration, or does she, as Starmer said of Liz Saville-Roberts in Westminster last week, believe that I’m also talking rubbish?
Prif Weinidog, mae'r Papur Gwyn newydd ar fewnfudo a lansiwyd gan Keir Starmer yr wythnos diwethaf yn methu â chydnabod y cyfraniad y mae gweithwyr mudol a myfyrwyr tramor yn ei wneud at ein heconomi, ac yn cynrychioli naid bellach i'r dde gan Brif Weinidog y DU sy'n benderfynol o ddawnsio i dôn Nigel Farage. A dweud y gwir, rwy'n ei chael hi'n fwyfwy anodd adnabod y Blaid Lafur sydd ohono gan ei bod wedi gwyro mor bell o'i gwreiddiau, fel y mae toriadau i daliadau tanwydd y gaeaf a budd-daliadau anabledd, y cap budd-daliadau dau blentyn a'r bradychiad o weithwyr dur Port Talbot i gyd yn ei ddangos. Mae'r ymosodiad diweddaraf ar fewnfudwyr yn cynrychioli enciliad pellach o'r hyn y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn honni yw ei werthoedd craidd. A wnaiff y Prif Weinidog, felly, gondemnio'r cyfeiriad y mae arweinydd ei phlaid wedi ei ddilyn o ran mewnfudo, neu a yw hi, fel y dywedodd Starmer am Liz Saville-Roberts yn San Steffan yr wythnos diwethaf, yn credu fy mod innau hefyd yn siarad rwtsh?

Dwi’n meddwl bod ein gweithwyr tramor yn ein sector gofal cymdeithasol yn cael eu gwerthfawrogi. Maen nhw’n cyfrannu’n helaeth ac yn sylweddol at ein gweithlu. Maen nhw’n dod ag amrywiaeth, maen nhw’n dod â phrofiad, maen nhw’n dod â chydymdeimlad a sgiliau i’n sector ni. Fel roeddwn i’n ei ddweud gynnau, y ffaith yw, yn Hywel Dda, bod un o bob 10 o’r gweithlu, efallai, yn dod o dramor, ond mae 50 y cant, bron â bod, o ran deintyddion a meddygon yn dod o dramor. Felly, mae’n rhaid inni fod yn ofalus, ac mae’n bwysig iawn ein bod ni’n 'navigate-io' ein ffordd ein hunain yma yng Nghymru drwy sicrhau ein bod ni’n dilyn y ffordd goch Gymreig.
I think that our overseas workers in our social care sector are appreciated. They do make a great contribution, and a significant contribution, to our workforce. They bring diversity, they bring experience, they bring sympathy and skills into our sector. As I said earlier, the fact is that, in Hywel Dda, one in every 10 of the workforce comes from overseas, but 50 per cent, nearly, in terms of dentists and GPs come from overseas. We have to be careful, and it is very important that we do navigate our own way here in Wales by ensuring that we follow the red Welsh way.
First Minister, the Welsh Government is heavily reliant on immigration to fix the social care sector. However, many people are telling me that they don't want to go and work in the social care sector because of the low pay that they receive for the fantastic work that they do supporting the most vulnerable people in our society.
One of the ways the Welsh Government could fix the sector is increasing the amount of money that our social care workforce is paid. You celebrate paying them the real living wage, but many social care workers are telling me that they could earn more money stacking shelves in supermarkets. I don't think that's a fair way to remunerate people who are holding up our NHS and supporting the system.
What is this Welsh Government going to do to remunerate our social care workforce better, which will encourage more people to go and work in the sector and not fall into it as a necessity of work?
Prif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu'n fawr ar fewnfudo i drwsio'r sector gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, mae llawer o bobl yn dweud wrthyf i nad ydyn nhw eisiau mynd i weithio yn y sector gofal cymdeithasol oherwydd y cyflog isel y maen nhw'n ei dderbyn am y gwaith ardderchog y maen nhw'n ei wneud yn cynorthwyo'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
Un o'r ffyrdd y gallai Llywodraeth Cymru drwsio'r sector yw cynyddu'r swm o arian a delir i'n gweithlu gofal cymdeithasol. Rydych chi'n dathlu talu'r cyflog byw gwirioneddol iddyn nhw, ond mae llawer o weithwyr gofal cymdeithasol yn dweud wrthyf i y gallen nhw ennill mwy o arian yn llenwi silffoedd mewn archfarchnadoedd. Nid wyf i'n credu bod honno'n ffordd deg o dalu pobl sy'n cynnal ein GIG ac yn cefnogi'r system.
Beth mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn mynd i'w wneud i dalu ein gweithlu gofal cymdeithasol yn well, a fydd yn annog mwy o bobl i fynd i weithio yn y sector a pheidio â syrthio i mewn iddo fel angenrheidrwydd gwaith?

Thanks very much. We have contributed significantly as a Government to make sure that they at least get the real living wage. And it wasn't a cheap option for us; it was an important contribution from the Welsh Government. If you remember, we introduced it far quicker than we had planned because we recognised that there were considerable pressures on the sector.
We are working with the UK Government to ensure that fair pay agreements in social care are included as part of the UK Government's Employment Rights Bill, and we want this to be extended to Wales. So, there is clearly a lot more work to be done in that space and we do hope that they will find some extra money in the United Kingdom to help pay care workers. If that happens, then, obviously, we will get a consequential.
Diolch yn fawr iawn. Rydym ni wedi cyfrannu'n sylweddol fel Llywodraeth at wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael y cyflog byw gwirioneddol o leiaf. Ac nid oedd yn opsiwn rhad i ni; roedd yn gyfraniad pwysig gan Lywodraeth Cymru. Os ydych chi'n cofio, fe wnaethom ni ei gyflwyno yn llawer cyflymach nag yr oeddem ni wedi ei fwriadu gan ein bod ni'n cydnabod bod pwysau sylweddol ar y sector.
Rydym ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod cytundebau cyflog teg ym maes gofal cymdeithasol yn cael eu cynnwys yn rhan o Fil Hawliau Cyflogaeth Llywodraeth y DU, ac rydym ni eisiau i hwn gael ei ymestyn i Gymru. Felly, mae'n amlwg bod llawer mwy o waith i'w wneud yn y maes hwnnw ac rydym ni'n gobeithio y byddan nhw'n dod o hyd i rywfaint o arian ychwanegol yn y Deyrnas Unedig i helpu i dalu gweithwyr gofal. Os bydd hynny'n digwydd, yna, yn amlwg, byddwn ni'n cael cyllid canlyniadol.
Good afternoon, First Minister. I would like to go back to the question, which is around the narrative of the White Paper and the Home Secretary saying that care workers are described as 'low skills'. That is, in my view, and in their view as well, highly offensive language. Words are hurtful. These are skilled, compassionate professionals who deliver essential care that upholds dignity, provides reassurance to families and holds our communities together. The chair of Care Forum Wales said that it was an absolute disgrace. I would invite you, just as Cefin did, to condemn what was said in that narrative. I'd invite you to condemn very clearly the phrase, as you've heard from Mick as well, that we have become a nation of strangers and that care workers are low skilled. Please could we hear you right now say that you distance yourselves from those remarks? Diolch yn fawr iawn.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Hoffwn ddychwelyd i'r cwestiwn, sy'n ymwneud â naratif y Papur Gwyn a'r Ysgrifennydd Cartref yn dweud bod gweithwyr gofal yn cael eu disgrifio fel 'sgiliau isel'. Mae hynny, yn fy marn i, ac yn eu barn hwythau hefyd, yn iaith hynod sarhaus. Mae geiriau yn peri loes. Mae'r rhain yn weithwyr proffesiynol medrus, tosturiol sy'n darparu gofal hanfodol sy'n cynnal urddas, sy'n rhoi sicrwydd i deuluoedd ac yn dal ein cymunedau gyda'i gilydd. Dywedodd cadeirydd Fforwm Gofal Cymru ei fod yn warth llwyr. Byddwn yn eich gwahodd chi, yn union fel y gwnaeth Cefin, i gondemnio'r hyn a ddywedwyd yn y naratif hwnnw. Byddwn yn eich gwahodd chi i gondemnio'n eglur iawn yr ymadrodd, fel rydych chi wedi ei glywed gan Mick hefyd, ein bod ni wedi dod yn genedl o ddieithriaid a bod gweithwyr gofal yn weithwyr sgiliau isel. A allem ni eich clywed chi'n dweud nawr eich bod chi'n ymbellhau oddi wrth y sylwadau hynny? Diolch yn fawr iawn.

Well, I’ve made it clear already that I wouldn’t have used those words myself. My understanding is that they used the words 'skilled worker’, and in the immigration context that refers to individuals with specific qualifications. I want to emphasise that this in no way suggests that we in Wales do not consider our social care workers to be highly skilled. I am very aware of the kind of very incredible skills that they need to do the very, very challenging job that they do. What we’ve got in Wales is registration for social care managers and workers, which ensures a skilled workforce by requiring relevant qualifications in order to register. This is central to our commitment to professionalising and upskilling the sector and delivering high-quality care.
Wel, rwyf i wedi ei gwneud hi'n eglur eisoes na fyddwn i wedi defnyddio'r geiriau hynny fy hun. Fy nealltwriaeth i yw eu bod nhw wedi defnyddio'r geiriau 'gweithiwr medrus', ac yn y cyd-destun mewnfudo mae hynny'n cyfeirio at unigolion â chymwysterau penodol. Hoffwn bwysleisio nad yw hyn yn awgrymu mewn unrhyw ffordd nad ydym ni yng Nghymru yn ystyried bod ein gweithwyr gofal cymdeithasol yn hynod fedrus. Rwy'n ymwybodol iawn o'r math o sgiliau anhygoel iawn sydd eu hangen arnyn nhw i wneud y gwaith anodd dros ben y maen nhw'n ei wneud. Yr hyn sydd gennym ni yng Nghymru yw cofrestriad ar gyfer rheolwyr a gweithwyr gofal cymdeithasol, sy'n sicrhau gweithlu medrus trwy wneud cymwysterau perthnasol yn ofynnol er mwyn cofrestru. Mae hyn yn ganolog i'n hymrwymiad i broffesiynoleiddio ac uwchsgilio'r sector a darparu gofal o ansawdd uchel.
5. Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi'r gweithlu nyrsio yng Nghymru? OQ62754
5. What is the Government doing to support the nursing workforce in Wales? OQ62754

Rŷn ni’n cydnabod ymroddiad, gwydnwch ac arbenigedd y gweithlu nyrsio, ac yn eu gwerthfawrogi’n fawr. Mewn ymateb i'r heriau cymhleth sy’n wynebu’r gweithlu, rŷn ni wedi ymrwymo i greu amgylchedd positif drwy fuddsoddi mewn llesiant, gwella datblygiad proffesiynol a grymuso nyrsys i ddarparu gofal o ansawdd uchel.
We recognise the dedication, resilience and expertise of our nursing workforce, and we value it deeply. In response to the complex challenges faced by the workforce, we are committed to creating a positive environment through investment in well-being, enhancing professional development and empowering nurses to deliver high-quality care.
Diolch am yr ateb. Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl ag anghenion dysgu. Yn wir, mewn adolygiad o ddata marwolaethau pobl ag anghenion dysgu rhwng 2012 a 2022, dangoswyd bod yna wahaniaeth o 20 mlynedd mewn disgwyliad oes rhwng pobl ag anableddau dysgu a'r boblogaeth ehangach. Mae angen gofal a chymorth ar nifer o bobl sydd yn byw ag anableddau dysgu, a dyna pam mae gennym ni nyrsys anableddau dysgu yma. Ond fel y mae'r RCN yn ei wneud yn glir, mae'r data ynghylch niferoedd y nyrsys a'r angen yn ddata gwan iawn, a niferoedd y llefydd sydd yn cael eu comisiynu yn wag oherwydd y diffyg hyrwyddo. Felly, a oes bwriad gan y Llywodraeth i ddatblygu cynllun gweithredu addysg a gweithlu nyrsio anableddau dysgu yng Nghymru?
Thank you for that response. The First Minister will be aware of the support required by those with additional learning needs. Indeed, in data review for deaths of people with ALN between 2012 and 2022, there was a 20-year difference in the life expectancy of those with ALN and the broader population. Many people living with learning disabilities need additional care, and that's why we have disability nurses here. But as the Royal College of Nursing has made clear, the data on the number of nurses and the need is very weak indeed, and a number of places commissioned are vacant because of the lack of promotion. So, does the Government intend to develop a disability education workforce plan for nurses in Wales?

Dwi'n ymwybodol iawn ein bod ni wedi bod yn cael trafferthion yn recriwtio yn y maes yma. Felly, mae'r hyfforddiant wedi'i gomisiynu, ond mae'n anodd cael pobl i gamu mewn i'r llefydd yna. Dwi'n falch o ddweud, o ran cyrsiau hyfforddiant, ein bod ni wedi gweld cynnydd o bron 9 y cant dros y pedair blynedd diwethaf. Felly, rŷn ni yn denu pobl at nyrsio yn gyffredinol, ond mae mwy o waith gennym ni i'w wneud i sicrhau bod pobl yn cael eu denu at yr arbenigedd yna. Rŷn ni'n gorfod gweithio gyda'r RCN ac eraill i weld beth allwn ni ei wneud yn fwy, ond nid diffyg hyfforddiant oddi wrth y Llywodraeth, na chomisiynu oddi wrth y Llywodraeth, yw'r broblem yma, ond darbwyllo pobl bod hwn yn ffordd ac yn gynllun teg i fynd amdano—dyna'r drafferth.
I am very aware that we have been having difficulty in recruiting in this area. So, the training has been commissioned, but it is difficult to attract people to take those places. I am pleased to say, in terms of training courses, that we have seen an increase of nearly 9 per cent over the last four years. So, we are attracting people into nursing generally, but we have more work to do to ensure that people are attracted to that particular specialism. We have to work with the RCN and others to see what more we can do, but the problem is not a lack of training or commissioning from the Government, but convincing people that this is a fair scheme to pursue—that's the problem.
First Minister, as you can appreciate, I have been contacted by many residents who are concerned about the future of nursing in Wales. The proposed cuts earlier this year to the department of nursing at Cardiff University, although they have now been put on hold pending a review of alternative plans, have led many of my constituents to believe that nursing is losing its value in Wales. I am conscious of your previous efforts in recruiting nurses from abroad, but the truth of the matter is that we need home-grown talent as well—more children and young people from Wales who see nursing as a viable career, and who study here and remain here.
As we both know, in Wales, nurse, midwife and health visitor numbers have risen by just 20 per cent since 2013, but NHS administration numbers have risen by under 60 per cent, which is a substantial difference and has led the Royal College of Nursing in Wales to state that the nursing workforce is simply not growing fast enough to meet demand. With this in mind, First Minister, what plans does the Welsh Government have to promote nursing careers to the people of Wales and to offer additional financial assistance to those who plan to enter the nursing workforce?
Prif Weinidog, fel y gallwch chi ei werthfawrogi, mae llawer o drigolion wedi cysylltu â mi sy'n poeni am ddyfodol nyrsio yng Nghymru. Mae'r toriadau arfaethedig yn gynharach eleni i'r adran nyrsio ym Mhrifysgol Caerdydd, er eu bod nhw wedi cael eu gohirio bellach tra bod adolygiad o gynlluniau amgen yn cael ei gynnal, wedi arwain i lawer o'm hetholwyr gredu bod nyrsio yn colli ei werth yng Nghymru. Rwy'n ymwybodol o'ch ymdrechion blaenorol i recriwtio nyrsys o dramor, ond y gwir amdani yw ein bod ni angen talent gartref arnom ni hefyd—mwy o blant a phobl ifanc o Gymru sy'n gweld nyrsio fel gyrfa ddichonol, ac sy'n astudio yma ac yn aros yma.
Fel y mae'r ddau ohonom ni'n ei wybod, yng Nghymru, dim ond 20 y cant y mae nifer y nyrsys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd wedi cynyddu ers 2013, ond mae niferoedd gweinyddu'r GIG wedi cynyddu o dan 60 y cant, sy'n wahaniaeth sylweddol ac wedi arwain i Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru ddweud nad yw'r gweithlu nyrsio yn tyfu'n ddigon cyflym i fodloni'r galw. Gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo gyrfaoedd nyrsio i bobl Cymru ac i gynnig cymorth ariannol ychwanegol i'r rhai sy'n bwriadu ymuno â'r gweithlu nyrsio?

Thanks very much. Well, unlike your Government, we retained the nurse bursary, which has attracted and helped people to come into the nursing profession. We've seen a massive increase in nurses in Wales over the past 20 years, and, indeed, since 2021, we've seen almost a 9 per cent increase. So, it is important for us to recognise that not only have we got measures in place to train them, but they are coming through the doors, they are going on to our wards. It is also essential for us to recognise that, actually, the contribution of those nurses from abroad is also something that should be recognised. I'm delighted that we've managed to recruit quite so many from Kerala, in particular, who are making a difference to our hospitals and our communities. And what's interesting is that we've seen people now switch from being agency nurses into the main stream, because those people from the outside are coming and they're working full-time, so those people can't get the agency shifts that they used to get. That's actually what we wanted to see. We want people committing to the NHS. And that's why you've seen those rates in relation to agency spends coming down significantly.
Diolch yn fawr iawn. Wel, yn wahanol i'ch Llywodraeth chi, fe wnaethom ni gadw'r fwrsariaeth nyrsys, sydd wedi denu a helpu pobl i ddod i mewn i'r proffesiwn nyrsio. Rydym ni wedi gweld cynnydd enfawr i nifer y nyrsys yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac, yn wir, ers 2021, rydym ni wedi gweld cynnydd o bron i 9 y cant. Felly, mae'n bwysig i ni gydnabod nid yn unig bod gennym ni fesurau ar waith i'w hyfforddi nhw, ond maen nhw'n dod drwy'r drysau, maen nhw'n mynd ymlaen i'n wardiau. Mae hefyd yn hanfodol i ni gydnabod, mewn gwirionedd, bod cyfraniad y nyrsys hynny o dramor hefyd yn rhywbeth y dylid ei gydnabod. Rwyf i wrth fy modd ein bod ni wedi llwyddo i recriwtio cynifer o Kerala, yn arbennig, sy'n gwneud gwahaniaeth i'n hysbytai a'n cymunedau. A'r hyn sy'n ddiddorol yw ein bod ni wedi gweld pobl yn newid bellach o fod yn nyrsys asiantaeth i'r brif ffrwd, oherwydd mae'r bobl hynny o'r tu allan yn dod ac maen nhw'n gweithio'n llawn amser, felly ni all y bobl hynny gael y shifftiau asiantaeth yr oedden nhw'n arfer eu cael. Dyna roeddem ni eisiau ei weld mewn gwirionedd. Rydym ni eisiau i bobl ymrwymo i'r GIG. A dyna pam rydych chi wedi gweld y cyfraddau hynny o ran gwariant asiantaeth yn gostwng yn sylweddol.
6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae'r newid statudol diweddar o ran cyhoeddi tystysgrifau marwolaeth wedi effeithio ar y GIG yng Nghymru? OQ62759
6. Will the First Minister outline how the recent statutory change in the issuing of death certificates has impacted the Welsh NHS? OQ62759

Mae’r gwasanaeth archwilwyr meddygol sydd wedi’i gyflwyno gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig wedi sefydlu mesur diogelu newydd pwysig. Mae e hefyd wedi rhoi cyfle i deuluoedd godi unrhyw bryderon am farwolaeth rhywun annwyl iddyn nhw dan ofal yr NHS, ac wedi rhoi cyfle dysgu pwysig i sefydliadau’r NHS.
The medical examiner service, introduced by the UK Government, has put in place an important new safeguard. It has also provided families with an opportunity to raise any concerns about the death of a loved one in NHS care, and created important opportunities for NHS organisations.
Well, you will be aware, I'm sure, First Minister, of the unacceptable delays that families are encountering to receive a death certificate for a family member—weeks of delays—before bodies can be released for funeral arrangements. It's sometimes six, seven or up to eight weeks, from some of the cases that I've seen, after the person has passed away. Now, that, of course, leads to increased anguish, where families can't proceed with the financial, the legal or the practical arrangements that need to be put in place, the emotional toll is significant as well, and, of course, it's especially pertinent for faith communities for whom a quick burial is of the utmost importance.
Now, in January we were assured that the Government were putting measures in place to deal with this issue, but there's no evidence that the system is improving. In fact, the evidence I see suggests that it's actually getting worse, compounded, by the way, by the existing workforce from the health boards, who are meant to deal with this, voting with their feet and leaving the profession. So, will you, First Minister, assure us, and all the grieving families out there, that these delays won't continue any longer and that you're finally going to get to grips with an issue that's causing so much anguish to so many people all over Wales?
Wel, byddwch yn ymwybodol, rwy'n siŵr, Prif Weinidog, o'r oedi annerbyniol y mae teuluoedd yn ei wynebu cyn derbyn tystysgrif farwolaeth ar gyfer aelod o'r teulu—wythnosau o oedi—cyn y gellir rhyddhau cyrff ar gyfer trefniadau angladd. Weithiau mae'n chwech, saith neu hyd at wyth wythnos, o rai o'r achosion yr wyf i wedi eu gweld, ar ôl i'r unigolyn farw. Nawr, mae hynny, wrth gwrs, yn arwain at fwy o loes, lle na all teuluoedd fwrw ymlaen â'r trefniadau ariannol, cyfreithiol neu ymarferol y mae angen eu rhoi ar waith, mae'r doll emosiynol yn sylweddol hefyd, ac, wrth gwrs, mae'n arbennig o berthnasol i gymunedau ffydd y mae claddu cyflym yn hollbwysig iddyn nhw.
Nawr, ym mis Ionawr cawsom ein sicrhau bod y Llywodraeth yn rhoi mesurau ar waith i ymdrin â'r mater hwn, ond nid oes unrhyw dystiolaeth bod y system yn gwella. A dweud y gwir, mae'r dystiolaeth yr wyf i'n ei gweld yn awgrymu ei bod yn gwaethygu mewn gwirionedd, sefyllfa sy'n cael ei gwneud yn waeth, gyda llaw, gan y gweithlu presennol o'r byrddau iechyd, sydd i fod i ymdrin â hyn, yn pleidleisio gyda'u traed ac yn gadael y proffesiwn. Felly, a wnewch chi, Prif Weinidog, ein sicrhau ni, a'r holl deuluoedd sy'n galaru allan yna, na fydd yr oedi hwn yn parhau mwyach a'ch bod chi'n mynd i gael rheolaeth o'r diwedd o fater sy'n achosi cymaint o loes i gynifer o bobl ledled Cymru gyfan?

I absolutely sympathise. When you've gone through a loss like that, and then you have to wait, I think that is really, really difficult for families. I think it's probably worth reminding people why this is happening. This is happening because the changes as a result of many high-profile reviews, including the Shipman inquiry, meant that people—and after that big, long inquiry—said that you need additional safeguards to the death certification process. So, there is a little bit of bedding in. It has taken longer than we've hoped. The latest median time from death to registration has remained stable now at 11 days, down from 14. I still think it's too long, but it's definitely coming down. And what we do have is a strategic oversight group that is moving things on, and are making changes, to try and see if we can reduce that further.
Rwy'n cydymdeimlo'n llwyr. Pan fyddwch chi wedi bod trwy golled fel yna, ac yna mae'n rhaid i chi aros, rwy'n credu bod hynny'n anodd dros ben i deuluoedd. Rwy'n credu yn ôl pob tebyg ei bod yn werth atgoffa pobl pam mae hyn yn digwydd. Mae hyn yn digwydd oherwydd bod y newidiadau o ganlyniad i lawer o adolygiadau uchel eu proffil, gan gynnwys ymchwiliad Shipman, yn golygu bod pobl—ac ar ôl yr ymchwiliad mawr, hir hwnnw—yn dweud bod angen mesurau diogelu ychwanegol arnoch yn y broses ardystio marwolaethau. Felly, ceir rhywfaint o gyfnod ymsefydlu. Mae wedi cymryd mwy o amser nag yr oeddem ni wedi gobeithio. Mae'r amser canolrifol diweddaraf o farwolaeth i gofrestru wedi aros yn sefydlog nawr ar 11 diwrnod, i lawr o 14. Rwy'n dal i feddwl ei fod yn rhy hir, ond mae'n bendant yn lleihau. A'r hyn sydd gennym ni yw grŵp trosolwg strategol sy'n bwrw ymlaen â phethau, ac yn gwneud newidiadau, i geisio gweld a allwn ni leihau hynny ymhellach.
Like the Member for north Wales, I'm very concerned at the rising backlogs at hospital mortuaries across Wales, and in particular the north, which the lead medical examiner for Wales has attributed to the death certificate delays as a result of the Welsh Government's changes to its issuing of death certificates.
People have a right to have their loved ones released from the hospital promptly. I've heard from constituents impacted by this, and some of their stories are quite harrowing. Families and loved ones are decomposing in hospital mortuaries due to the backlog, denying the families the ability to have an open-casket funeral, if they'd like. And in the freedom of information requests I submitted late last year, the average stay for a deceased person in Wrexham Maelor Hospital mortuary was over 11 days. In Ysbyty Gwynedd, it was also over a week, and those numbers seem to be creeping up, First Minister, contrary to what you're saying. The BBC reported that it used to take around three to four days for a body to be released, and now that has risen to between 10 and 20 days. This is understandably causing a great deal of distress, and people are rightly upset that their loved ones are not being treated in a dignified manner.
So, what work is the First Minister doing to ensure that the problems causing backlogs in mortuaries are identified and remedied as soon as possible? What direct guidance are you and the health Minister issuing to health boards and NHS services across Wales that these indeed can be remedied? What exact action are you taking in terms of the instructions that you are giving to health boards at a local level about this?
Fel yr Aelod dros ogledd Cymru, rwy'n pryderu'n fawr am yr ôl-groniadau cynyddol mewn marwdai ysbytai ledled Cymru, ac yn enwedig y gogledd, y mae prif archwiliwr meddygol Cymru wedi eu priodoli i oedi cyn cyflwyno tystysgrifau marwolaeth o ganlyniad i newidiadau Llywodraeth Cymru i'w threfn cyflwyno tystysgrifau marwolaeth.
Mae gan bobl hawl i gael eu hanwyliaid wedi'u rhyddhau o'r ysbyty yn brydlon. Rwyf i wedi clywed gan etholwyr sydd wedi cael eu heffeithio gan hyn, ac mae rhai o'u straeon yn gwbl dorcalonnus. Mae teuluoedd ac anwyliaid yn dadelfennu mewn marwdai ysbytai oherwydd yr ôl-groniad, gan atal y teuluoedd rhag gallu cael angladd arch agored, os byddan nhw'n dymuno. Ac yn y ceisiadau rhyddid gwybodaeth a gyflwynais ddiwedd y llynedd, roedd yr arhosiad cyfartalog i unigolyn ymadawedig ym marwdy Ysbyty Maelor Wrecsam dros 11 diwrnod. Yn Ysbyty Gwynedd, roedd dros wythnos hefyd, ac mae'n ymddangos bod y niferoedd hynny yn cynyddu'n araf, Prif Weinidog, yn groes i'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud. Adroddodd y BBC ei bod yn arfer cymryd tua thri i bedwar diwrnod i gorff gael ei ryddhau, a nawr mae hynny wedi codi i rhwng 10 ac 20 diwrnod. Mae hyn yn ddealladwy yn achosi llawer iawn o drallod, ac mae pobl yn flin, a hynny'n briodol, nad yw eu hanwyliaid yn cael eu trin mewn ffordd urddasol.
Felly, pa waith mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i sicrhau bod y problemau sy'n achosi ôl-groniadau mewn marwdai yn cael eu nodi a'u datrys cyn gynted â phosibl? Pa ganllawiau uniongyrchol ydych chi a'r Gweinidog iechyd yn eu cyflwyno i fyrddau iechyd a gwasanaethau'r GIG ledled Cymru y gellir datrys y rhain mewn gwirionedd? Pa gamau yn union ydych chi'n eu cymryd o ran y cyfarwyddiadau yr ydych chi'n eu rhoi i fyrddau iechyd ar lefel leol am hyn?

Thanks very much. Look, there are reasons for these new rules. They are responding to a terrible, tragic situation with Shipman, and I am sure we all want to make sure that we avoid that kind of situation from happening again. This was the result of the recommendations as a result of an inquiry, and so we are putting in place the measures that were recommended. Now, it is inevitably going to take a bit longer than it did before. The question is: can we bring in a faster system than we have at the moment? As I say, we have got this strategic oversight group that is bringing together NHS bodies, the medical examiner service and all the stakeholders involved in the death certification process to monitor performance and to see what we can do to improve that situation.
I just want to address one issue that Llyr came up with, and that is about the swift scrutiny cases, often the faith deaths. More than 99 per cent of families have the opportunity to speak with a medical examiner within 24 hours, so there is a different process for that.
Diolch yn fawr iawn. Edrychwch, ceir rhesymau am y rheolau newydd hyn. Maen nhw'n ymateb i sefyllfa ofnadwy, drasig gyda Shipman, ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n osgoi'r math hwnnw o sefyllfa rhag digwydd eto. Dyma oedd canlyniad yr argymhellion o ganlyniad i ymchwiliad, ac felly rydym ni'n rhoi'r mesurau a argymhellwyd ar waith. Nawr, mae'n anochel y bydd yn cymryd ychydig yn hirach nag y gwnaeth o'r blaen. Y cwestiwn yw: a allwn ni gyflwyno system gyflymach nag sydd gennym ni ar hyn o bryd? Fel y dywedais i, mae gennym ni'r grŵp trosolwg strategol hwn sy'n dod â chyrff GIG, gwasanaeth yr archwiliwr meddygol a'r holl randdeiliaid sy'n gysylltiedig â'r broses ardystio marwolaethau ynghyd i fonitro perfformiad ac i weld beth allwn ni ei wneud i wella'r sefyllfa honno.
Hoffwn roi sylw i un mater a godwyd gan Llyr, ac mae hwnnw yn ymwneud â'r achosion craffu cyflym, y marwolaethau ffydd yn aml. Mae gan fwy na 99 y cant o deuluoedd y cyfle i siarad ag archwiliwr meddygol o fewn 24 awr, felly ceir gwahanol broses ar gyfer hynny.
7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r stryd fawr yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ62758
7. How is the Welsh Government supporting high streets in Carmarthen West and South Pembrokeshire? OQ62758

Rŷn ni’n gweithio gyda phartneriaid drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi i helpu i adfywio’r stryd fawr a chanol trefi ledled Cymru. Rŷn ni wedi gwarchod cyllidebau ar gyfer y rhaglen. Eleni, mae £10.8 miliwn ar gael ar draws y de-orllewin, gan gynnwys sir Benfro a sir Gaerfyrddin.
We are working with stakeholders through our Transforming Towns programme to support the regeneration of high streets and town centres across Wales. We have protected budgets for the Transforming Towns programme, with £10.8 million available across south-west Wales, including Pembrokeshire and Carmarthenshire.
Welsh businesses are hammered by the highest business rates in the United Kingdom, in south Pembrokeshire the final banking branch is due to shut—Lloyds Bank in Pembroke Dock—next month, leaving a community of approximately 50,000 people without banking facilities. I have launched a campaign this week to bring a post office banking hub into Pembroke Dock to service the customers of all those major banks. Have you and the Welsh Government undertaken any calculation as to the cost of reducing business rates for post offices, who also deliver key services in our rural communities and banking hubs, to ensure that people still have a reason to visit high streets across Wales?
Mae busnesau Cymru yn cael eu dyrnu gan y cyfraddau busnes uchaf yn y Deyrnas Unedig, yn ne Sir Benfro disgwylir i'r gangen fancio olaf gau—Banc Lloyds yn Noc Penfro—fis nesaf, gan adael cymuned o oddeutu 50,000 o bobl heb gyfleusterau bancio. Rwyf i wedi lansio ymgyrch yr wythnos hon i ddod â chanolfan fancio swyddfa'r post i Ddoc Penfro i wasanaethu cwsmeriaid yr holl fanciau mawr hynny. A ydych chi a Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw gyfrifiad o ran y gost o leihau ardrethi busnes ar gyfer swyddfeydd post, sydd hefyd yn darparu gwasanaethau allweddol yn ein cymunedau gwledig a'n hybiau bancio, i sicrhau bod gan bobl reswm o hyd i ymweld â strydoedd mawr ledled Cymru?

Well, we're always keeping our business rates relief scheme under review, and I am delighted to see that the scheme that we have put in place continues to provide £140 million of support annually, and helps about 70,000 properties. So, there will be examples where they are able to access that small business rates relief, including post offices.
Wel, rydym ni'n adolygu ein cynllun rhyddhad ardrethi busnes yn barhaus, ac rwyf i wrth fy modd o weld bod y cynllun yr ydym ni wedi ei roi ar waith yn parhau i ddarparu £140 miliwn o gymorth bob blwyddyn, ac yn helpu tua 70,000 o eiddo. Felly, bydd enghreifftiau lle maen nhw'n gallu cael gafael ar y rhyddhad ardrethi busnesau bach hwnnw, gan gynnwys swyddfeydd post.
8. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda rhanddeiliaid perthnasol i atal beiciau trydan cyflym anghyfreithlon? OQ62752
8. What work is the Welsh Government doing with relevant stakeholders to crack down on illegal high-speed electric bikes? OQ62752

We recognise the danger illegal high-speed e-bikes pose to vulnerable road users and riders, and are committed to keeping public spaces safe. While road traffic law is not devolved, we are working with road safety partners and the active travel board to find effective solutions.
Rydym ni'n cydnabod y perygl y mae e-feiciau cyflym anghyfreithlon yn ei achosi i ddefnyddwyr ffyrdd a beicwyr agored i niwed, ac rydym ni wedi ymrwymo i gadw mannau cyhoeddus yn ddiogel. Er nad yw cyfraith traffig ffyrdd wedi'i datganoli, rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid diogelwch ar y ffyrdd a'r bwrdd teithio llesol i ddod o hyd i atebion effeithiol.
Thank you. The police have told us that they are occasionally doing raids and stopping these very dangerous vehicles and confiscating them, but more needs to be done. These are bikes that have been souped up to travel at much greater speeds than 20 mph. I see them myself when I am travelling along the road on a bike. So, when they are seized, I want to know what happens to them. In line with reduce, reuse, recycle, what discussions may you have had with the police and local authorities to see if these bikes could be reverted to their original purpose, which is to enable vulnerable people who may have difficulty using a pedal bike to be able to get around, particularly travelling up hills? I am sure there are lots of social enterprise bike repair shops who would be happy to make those available to people who cannot afford an electric bike.
Diolch. Mae'r heddlu wedi dweud wrthym ni eu bod nhw'n gwneud cyrchoedd o bryd i'w gilydd ac yn stopio'r cerbydau peryglus iawn hyn a'u atafaelu, ond mae angen gwneud mwy. Mae'r rhain yn feiciau sydd wedi cael eu haddasu i deithio ar gyflymder llawer mwy na 20 mya. Rwy'n eu gweld nhw fy hun pan fyddaf i'n teithio ar hyd y ffordd ar feic. Felly, pan fyddan nhw'n cael eu hatafaelu, rwyf i eisiau gwybod beth sy'n digwydd iddyn nhw. Yn unol â arbed, ailddefnyddio, ailgylchu, pa drafodaethau allech chi fod wedi eu cael gyda'r heddlu ac awdurdodau lleol i weld a ellid dychwelyd y beiciau hyn i'w pwrpas gwreiddiol, sef galluogi pobl agored i niwed sydd efallai'n cael trafferth yn defnyddio beic pedalau i symud o gwmpas, ac i deithio i fyny elltydd yn arbennig? Rwy'n siŵr bod llawer o siopau trwsio beiciau menter gymdeithasol a fyddai'n hapus i wneud y rheini ar gael i bobl nad ydyn nhw'n gallu fforddio beic trydan.

Thanks, Jenny. Legal high-speed electric bikes I think pose significant risks to both riders and vulnerable road users, so it is important that we clamp down on it. This is, of course, a non-devolved policy area, but we really welcome initiatives like the one introduced by South Wales Police and their partners, in which they work together to enforce against anti-social illegal riding, and they deliver training and awareness courses at the same time. So, we want to make sure we work with them and make sure that illegal e-bikes that pose those risks are tackled, and that we work with partners to make sure that, where possible, we can revert them to the initial condition that they were in.
Diolch, Jenny. Mae beiciau trydan cyflym cyfreithiol yn achosi peryglon sylweddol i feicwyr a defnyddwyr ffyrdd agored i niwed yn fy marn i, felly mae'n bwysig ein bod ni'n eu hatal. Mae hwn, wrth gwrs, yn faes polisi nad yw'n ddatganoledig, ond rydym ni wir yn croesawu mentrau fel yr un a gyflwynwyd gan Heddlu De Cymru a'u partneriaid, lle maen nhw'n gweithio gyda'i gilydd i orfodi yn erbyn reidio anghyfreithlon gwrthgymdeithasol, ac maen nhw'n darparu cyrsiau hyfforddi ac ymwybyddiaeth ar yr un pryd. Felly, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n gweithio gyda nhw a gwneud yn siŵr bod e-feiciau anghyfreithlon sy'n achosi'r peryglon hynny yn cael eu hatal, a'n bod ni'n gweithio gyda phartneriaid i wneud yn siŵr, lle bo hynny'n bosibl, y gallwn eu dychwelyd i'r cyflwr cychwynnol yr oedden nhw ynddo.
Yn olaf, cwestiwn 9, Mike Hedges.
Finally, question 9, Mike Hedges.
9. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â chasineb at fenywod a diwylliant 'incel' mewn bechgyn a dynion ifanc? OQ62724
9. What is the Welsh Government doing to tackle misogyny and incel culture in boys and young men? OQ62724

Welsh Government tackles the societal problem of misogynistic attitudes, beliefs and behaviours through delivering our violence against women, domestic abuse and sexual violence strategy and blueprint approach, the compulsory relationships and sexuality education curriculum, and directly engaging with men and boys through our Sound campaign to focus on healthy relationships.
Mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â phroblem gymdeithasol yr ymagweddau, y coelion a'r ymddygiadau sy'n arwain at gasineb at fenywod drwy gyflawni dull strategaeth a glasbrint i ymdrin â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, y cwricwlwm addysg cydberthynas a rhywioldeb gorfodol, ac ymgysylltu â dynion a bechgyn yn uniongyrchol drwy gyfrwng ein hymgyrch, Iawn, ar gyfer canolbwyntio ar gydberthynas iach.
Can I thank you for that answer? Can I ask you what is the Welsh Government going to do to get sportspeople, who are highly respected in their communities, who young boys and men look up to, to actually take a part in this, using the football foundations as an example—to many boys, their heroes are the people on the football and rugby pitches—using them to say that treating women badly is wrong, using them to oppose the incel culture and telling them about how well they can do? And the football foundations are there in our communities; they can be used for that. Can I urge the First Minister and her colleagues to give serious thought to that? Because I know a number of members of your Government know that is true. Can you do it? Because there are people. I am not a Manchester United supporter, but David Beckham was a great role model for young men. I think that we need more of those, but we also need to use more of those.
A gaf i ddiolch i chi am yr ateb yna? A gaf i ofyn i chi beth mae Llywodraeth Cymru am ei wneud i ddenu athletwyr, sy'n fawr eu parch yn eu cymunedau, y mae bechgyn a dynion ifanc yn edrych i fyny atyn nhw, i gymryd rhan wirioneddol yn hyn, gan ddefnyddio'r sefydliadau pêl-droed fel enghraifft—i lawer o fechgyn, eu harwyr nhw yw'r gwŷr ar y caeau pêl-droed a rygbi—gan eu defnyddio i fynegi anghywirdeb casineb at fenywod, â'u defnyddio nhw i wrthsefyll y diwylliant 'incel' a dweud wrthyn nhw pa mor dda y gallan nhw wneud hynny? Ac mae'r sefydliadau pêl-droed yno yn ein cymunedau ni; fe ellid eu defnyddio nhw ar gyfer hynny. A gaf i annog y Prif Weinidog a'i chyd-Aelodau i roi ystyriaeth ddifrifol i hynny? Oherwydd fe wn i fod nifer o aelodau o'ch Llywodraeth chi'n gwybod bod hynny'n gywir. A allwch chi wneud hynny? Oherwydd mae yna bobl. Nid wyf i'n cefnogi Manchester United, ond roedd David Beckham yn esiampl ardderchog i ddynion ifanc. Rwy'n credu bod angen mwy o'r rhain, ond mae angen i ni ddefnyddio mwy ar y rhain hefyd.

Thanks very much, Mike, and I'm sure you'll be delighted to hear about our Sound campaign. The amazing thing about this campaign is that it's reached 95 per cent of the target audience, about 400,000 young men and boys. You will be pleased to hear that already they are partnering with grassroots organisations—with the Football Association of Wales, with Cardiff Rugby, with Cardiff City FC Community Foundation, White Ribbon UK and other organisations. I am sure you want us to see if we can extend it to Swansea City AFC Foundation and other areas, but it's already happening. It's actually something that has been recognised by the United Nations as a good example. It's something we should celebrate and I'm very grateful to you, Mike, for asking the question.
Diolch yn fawr iawn, Mike, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n falch iawn o glywed am ein hymgyrch ni, sef Iawn. Y peth anhygoel am yr ymgyrch hon yw ei bod hi wedi cyrraedd 95 y cant o'r gynulleidfa yr anelir ati, tua 400,000 o ddynion ifanc a bechgyn. Fe fyddwch chi'n falch o glywed eu bod nhw'n partneru â sefydliadau ar lawr gwlad eisoes—gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, gyda Rygbi Caerdydd, gyda Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, White Ribbon UK a sefydliadau eraill. Rwy'n siŵr eich bod chi'n dymuno i ni geisio gweld a allwn ni ei hymestyn i Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe ac i ardaloedd eraill, ond mae'n digwydd eisoes. Dyma rywbeth a gafodd ei gydnabod yn esiampl dda gan y Cenhedloedd Unedig. Mae hynny'n rhywbeth y dylem ni ei ddathlu ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi, Mike, am ofyn y cwestiwn.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Thank you, First Minister.
Yr eitem nesaf felly fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd fydd yn gwneud y datganiad yma. Ac felly, Jane Hutt i gyflwyno'r datganiad busnes.
The next item is the business statement and announcement, and I call on the Trefnydd to make that statement. Jane Hutt to make the business statement.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y ddadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg nawr yn digwydd ar 3 Mehefin. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn datganiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Thank you very much, Llywydd. There is one change to this week's business. The debate on the LCM on the Product Regulation and Metrology Bill will now take place on 3 June. Business for the next three weeks is shown on the business statement, which is available to Members electronically.
Trefnydd, I'd be grateful if we could have a statement from the Cabinet Secretary for Health and Social Care regarding genomics and the work of the all-Wales medical genomics service. Clearly, the earlier cancer is detected, the better the outcomes for the patient. Indeed, I know better than most people just how important early detection is.
Now, a constituent of mine has contacted me following the cancer diagnosis of his mother and sister in England, who have also had genetic testing, genetic counselling and pre-operative appointments for preventative surgery. Given that they have a gene known to cause cancer, my constituent has also been advised to consider genetic testing. He contacted the all-Wales medical genomics service, who have put him on an indefinite waiting list, with no indication as to how long he will have to wait.
Trefnydd, my constituent has also lost a child to cancer and he understandably lives with health anxiety, so I'm sure you can appreciate just how worrying this time is for him. Therefore, given the impact this could have on my constituent's life, and, indeed, the lives of others in Wales, we need an urgent statement from the Welsh Government explaining what is being done so that people living in Wales can access genetic testing and services, because it's just not right that people living in Wales are on waiting lists with no end in sight.
Trefnydd, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe caem ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynglŷn â genomeg a gwaith y Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan. Yn amlwg, os caiff canser ei ganfod cyn gynted ag y gellir gwneud hynny mae mwy o debygolrwydd o ganlyniadau gwell i'r claf. Yn wir, fe wn i'n well na'r rhan fwyaf o bobl pa mor bwysig yw canfyddiad cynnar.
Nawr, mae etholwr i mi wedi cysylltu â mi yn dilyn diagnosis canser ei fam a'i chwaer yn Lloegr, sydd wedi cael profion genetig, cwnsela genetig ac apwyntiadau o flaen llawdriniaeth ar gyfer llawdriniaeth ataliol hefyd. O ystyried bod ganddynt enyn y gwyddys ei fod yn achosi canser, mae fy etholwr i wedi cael ei gynghori i ystyried profion genetig hefyd. Fe gysylltodd â Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan, sydd wedi ei roi ef ar restr aros amhenodol, heb unrhyw arwydd o ba mor hir y bydd yn rhaid iddo aros.
Trefnydd, mae fy etholwr wedi colli plentyn i ganser hefyd ac mae'n byw gyda phryder iechyd, sy'n ddealladwy, felly rwy'n siŵr y gallwch chi ddeall pa mor ofidus yw'r amser hwn iddo. Felly, o ystyried yr effaith y gallai hyn ei chael ar fywyd fy etholwr i, ac, yn wir, ar fywydau pobl eraill yng Nghymru, mae angen datganiad brys gan Lywodraeth Cymru yn esbonio'r hyn sy'n cael ei wneud er mwyn i bobl sy'n byw yng Nghymru gael mynediad at brofion a gwasanaethau genetig, oherwydd nid yw hi'n iawn fod pobl sy'n byw yng Nghymru ar restrau aros heb wybod am ba hyd y bydd hynny.
Thank you very much for that question, Paul Davies, and thank you also for that question and relating it to your own experience—your own lived experience—and also referring to your constituents who also would clearly benefit, as will all those in terms of early detection of cancer and illnesses, serious illness of that kind. So, this is something that I will draw to the attention of the Cabinet Secretary for Health and Social Care, because I think we can be very proud of our all-Wales genomic service and the genetic testing, which is so important in terms of early detection. So, I'm sure the Cabinet Secretary will want to respond to update on access.
Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn yna, Paul Davies, a diolch i chi hefyd am y cwestiwn yna gan ei gysylltu â'ch profiad personol—eich profiad bywyd chi—a chyfeirio hefyd at eich etholwyr a fyddai'n amlwg yn elwa ar hynny, fel byddai unrhyw un yn y sefyllfa o ran canfyddiad canser a salwch, salwch difrifol o'r math hwnnw ar gam cynnar. Felly, mae hyn yn rhywbeth y byddaf i'n tynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ato, oherwydd rwyf i o'r farn y gallwn ni fod yn falch iawn o'n Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan a phrofion genetig, sydd mor bwysig o ran canfyddiad cynnar. Felly, rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i ymateb er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am fynediad.
Trefnydd, mae yna dri datganiad llafar brys yr hoffwn i ofyn amdanyn nhw, y cyntaf, yn dilyn y datganiad ysgrifenedig a wnaed wythnos diwethaf, o ran gwaith pont y Borth yn cael ei oedi'n bellach o ran gwaith cynnal a chadw. Yn amlwg, bydd yna nifer o Aelodau yn y Siambr hon eisiau cael cyfle i drafod a holi'r Ysgrifennydd Cabinet ar rywbeth o bwys mawr, a dwi ddim dim ond yn dweud hynna fel merch o Fôn yn wreiddiol.
Yr ail un ydy cais am ddatganiad yn dilyn y penderfyniad gan y llys o ran rhoi dirwy i Dŵr Cymru am fethiannau monitro ansawdd dŵr mewn dros 300 o safleoedd ledled Cymru. Mi fydd hwn eto yn fater o bwys i nifer o Aelodau yn y Siambr hon.
A'r trydydd datganiad—fel rydym ni wedi clywed yn barod, mae cryn ddiddordeb yn y Siambr hon yn dilyn goblygiadau'r cytundeb rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd. Dwi'n nodi bod yna ddatganiad ysgrifenedig wedi bod, ond, yn amlwg, mae'n rhaid inni ddeall beth ydy'r goblygiadau i Gymru, ac a gawn ni gyfle i gael trafodaeth drwy ddatganiad llafar a wedyn cyfle i holi'r Ysgrifennydd Cabinet ar lawr y Senedd hon? Diolch.
Trefnydd, there are three urgent oral statements I'd like to request, the first, following the written statement issued last week, in terms of the work on Menai bridge and that work being delayed further. Now, obviously, many Members in this Chamber will want to have an opportunity to discuss the issue and to question the Cabinet Secretary on such an important issue, and I'm not just saying that as a girl originally from Anglesey.
The second is a request for a statement following the decision in the court in terms of fining Dŵr Cymru for failing to monitor water quality at over 300 sites across Wales. This, again, will be an important issue for many Members in this Chamber.
And the third statement—as we've already heard mention of, there's some interest in the Chamber following the implications of the UK-EU deal. I note that there has been a written statement issued, but, clearly, we must understand what the implications for Wales are, and can we have an opportunity to have a discussion through having an oral statement and then an opportunity to question the Cabinet Secretary on the floor of this Senedd? Thank you.
Diolch yn fawr, Heledd Fychan, and those are three really important issues and subjects. I thank Rhun ap Iorwerth for writing to me, particularly, on the first issue, about the Menai suspension bridge. Extremely disappointed—I'll just say a few words at this stage—extremely disappointed that the original programme from UK Highways A55 DBFO Ltd is now delayed. We were given assurances at the time that the phase 2 works would be completed by December 2025. We've been advised that the delay has been caused by procurement issues, and this will result in the works continuing during the bridge's actual two-hundredth anniversary date of 30 January 2026, which is not what we have wanted. But there are regular meetings with UK Highways, and also we now need to see that the work could be finished earlier. The phase 1 works, of course, were successfully completed last October and permitted the bridge to reopen to all traffic over the winter period, giving much-needed resilience to the area, especially during the numerous storms that impacted Wales last year, by allowing traffic to continue to cross while the Britannia bridge was affected by high winds. But this is indeed crucial, historical and current infrastructure for access—indeed, not just to Ynys Môn, Holyhead and across the ocean. So, crucially important.
Your second question is about the Dŵr Cymru water quality monitoring—£1.3 million fine for negligent monitoring. And we're aware of the fine issued to Dŵr Cymru relating to compliance with their monitoring obligations. It's disappointing, but I'm reassured that there's been no identified environmental harm associated with the case. Again, I will draw this to the attention of the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs. I think it is important to say that officials regularly discuss performance issues with Dŵr Cymru, across all areas of operation, to ensure they're making improvements for customers and for the environment, and we've been clear that we expect more. And also, following a recent water price review process that concluded last December, Dŵr Cymru Welsh Water will invest £6 billion in Wales between 2025 and 2030, including £2.4 billion on new investments to deliver improvements. Price determination provides funding for water companies to maintain and improve services, meet Ofwat's targets and invest in infrastructure. Thank you for your question.92
Again, we have issued, in terms of the EU-UK deal that was announced yesterday—. And we've had a debate already in questions to the First Minister on this, and a written statement issued by the Cabinet Secretary yesterday to highlight the benefits for Wales and the progress and the process in terms of taking this forward. So, in terms of that summit agreement, I'm sure there will be an opportunity for a further update from the Cabinet Secretary, indeed also through her questions session, oral Senedd questions, as well. But, in terms of moving forward, that request today obviously is noted.
Diolch yn fawr, Heledd Fychan, dyma dri o faterion a phynciau pwysig iawn. Rwy'n diolch i Rhun ap Iorwerth am ysgrifennu ataf i, yn arbennig felly, ynglŷn â'r mater cyntaf, sef Pont y Borth. Mae hi'n eithriadol o siomedig—dim ond ychydig eiriau yr wyf i am eu dweud ar hyn o bryd—hynod siomedig fod y rhaglen wreiddiol gan UK Highways A55 DBFO Ltd wedi cael ei gohirio nawr. Fe'n sicrhawyd ni ar y pryd y byddai gwaith cam 2 yn cael ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2025. Fe gawsom ni wybod yr achoswyd yr oedi gan broblemau caffael, ac fe fydd hyn yn arwain at barhad y gwaith drwy gyfnod dathlu daucanmlwyddiant y bont sef 30 Ionawr 2026, yr hyn nad oeddem ni'n ei ddymuno. Ond mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rheolaidd gyda UK Highways, ac mae angen hefyd nawr i ni geisio gweld a allai'r gwaith gael ei gwblhau yn gynt. Cwblhawyd gwaith cam 1, wrth gwrs, yn llwyddiannus ym mis Hydref y llynedd a oedd yn caniatáu i'r bont ailagor i'r traffig i gyd drwy gyfnod y gaeaf, a oedd yn rhoi'r sicrwydd yr oedd ei angen yn fawr ar yr ardal, yn enwedig yn ystod y stormydd niferus a effeithiodd ar Gymru y llynedd, gan ganiatáu i draffig ei chroesi hi wrth i wyntoedd cryfion effeithio ar Bont Britannia. Ond mae hwn yn seilwaith gwirioneddol hanfodol, hanesyddol a chyfredol ar gyfer mynediad—yn wir, nid yn unig i Ynys Môn, Caergybi a thros y cefnfor. Felly, hanfodol bwysig.
Mae eich ail gwestiwn chi'n ymwneud â monitro ansawdd dŵr Dŵr Cymru—dirwy o £1.3 miliwn am fonitro diofal. Ac rydym ni'n ymwybodol o'r ddirwy a roddwyd i Dŵr Cymru o ran cydymffurfio â'u rhwymedigaethau i fonitro. Mae hi'n siomedig, ond rwy'n sicr na nodwyd unrhyw ddifrod amgylcheddol cysylltiedig â'r achos. Unwaith eto, fe fyddaf i'n tynnu sylw'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig at hyn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud bod swyddogion yn trafod materion perfformiad gyda Dŵr Cymru yn rheolaidd, ar draws pob maes o'i weithrediad, i sicrhau eu bod nhw'n gwneud gwelliannau ar gyfer cwsmeriaid ac er mwyn yr amgylchedd, ac fe fuom ni'n eglur iawn ein bod ni'n disgwyl mwy eto. A hefyd, yn dilyn proses adolygu prisiau dŵr ddiweddar a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr y llynedd, bydd Dŵr Cymru yn buddsoddi £6 biliwn yng Nghymru rhwng 2025 a 2030, gan gynnwys £2.4 biliwn ar fuddsoddiadau newydd ar gyfer cwblhau gwelliannau. Mae penderfynu ar brisiau yn darparu cyllid i gwmnïau dŵr ar gyfer cynnal a gwella'r gwasanaethau, cyrraedd nodau Ofwat a buddsoddi yn y seilwaith. Diolch i chi am eich cwestiwn.92
Unwaith eto, fe wnaethom ni gyhoeddi, o ran y cytundeb rhwng yr UE a'r DU a gyhoeddwyd ddoe—. Ac fe gawsom ni ddadl ar hynny eisoes yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, yn ogystal â datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet ddoe i dynnu sylw at y manteision i Gymru a'r cynnydd a'r broses o ran symud ymlaen â hynny. Felly, o ran y cytundeb a gafwyd yn yr uwchgynhadledd, rwy'n siŵr y bydd cyfle i gael diweddariad pellach gan yr Ysgrifennydd Cabinet, trwy ei sesiwn hi o gwestiynau hefyd, yn wir, ac mewn cwestiynau llafar y Senedd, hefyd. Ond, o ran symud ymlaen, yn amlwg, fe gafodd y cais hwnnw ei nodi heddiw.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
The Deputy Presiding Officer (David Rees) took the Chair.
I'd like to call for a statement on the disabled people's rights plan. I very much welcome the publication of this plan last week, and I'm very supportive of its aims to create a Wales where disabled people have equal rights to inclusion and participation in our society. I know the Cabinet Secretary has already published a written statement, but I also know that many disabled people are very concerned about the welfare reforms that are planned by the UK Government, and I know that some of the people from Wales will be travelling to a demonstration in London very soon. So, could the Trefnydd, when she makes the statement, cover how the proposals from Westminster would impact on the great reforms that are planned here in Wales?
Fe hoffwn i alw am ddatganiad ar gynllun hawliau pobl anabl. Rwy'n croesawu cyhoeddiad y cynllun hwn yr wythnos diwethaf yn fawr iawn, ac rwy'n gefnogol iawn i'w nodau o greu Cymru lle mae hawliau cyfartal gan bobl anabl o ran cynhwysiant a chyfranogiad yn ein cymdeithas. Fe wn i fod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig eisoes, ond fe wn i hefyd fod llawer o bobl anabl yn bryderus iawn ynglŷn â'r diwygiadau o ran lles y mae Llywodraeth y DU yn eu cynllunio, ac fe wn i y bydd rhai o Gymru yn teithio i brotest yn Llundain yn fuan iawn. Felly, a wnaiff y Trefnydd, pan fydd hi'n gwneud y datganiad, ymdrin â sut y byddai'r cynigion o San Steffan yn effeithio ar y diwygiadau mawr sy'n cael eu cynllunio yma yng Nghymru?
Diolch yn fawr, Julie Morgan. Yes, I was delighted to announce last week, on Thursday 15 May, the 12-week consultation for the draft disabled people's rights plan, and I will be giving an oral statement about the consultation on 3 June. But this does give me an opportunity, your question, just to highlight the fact that this plan sets out our ambition for Wales, for a Wales where disabled people can enjoy equitable rights, inclusion and participation. At the heart of our approach is the social model of disability, which helps us to understand how disabled people can be disadvantaged and excluded by society. But the plan will only succeed if organisations and people across Wales work together to deliver it. It was developed, co-produced, with the disability rights taskforce, which I co-chaired with Professor Debbie Foster.
What is important in terms of the consultation over the next 12 weeks is that we do get a robust response. It is being published in English, Welsh and BSL. We will set up an external independent advisory board to provide advice and support on the implementation, delivery and impact of the disabled people's rights plan.
I was able to meet with the disability equality forum last week, on the day that we published this. I took the opportunity at that meeting to ask the disability equality forum for their feedback on the proposed changes in terms of disability benefits, the Green Paper on welfare reform and, indeed, the impact of the changes that are proposed in terms of personal independence payments. I did say to the forum, 'You're the ones who will be most affected by these changes.' And I was there to listen to their views. It was very important to hear the views directly from people with lived experience, disabled people, about their concerns about many of the proposals in the Green Paper, 'Pathways to Work: Reforming Benefits and Support to Get Britain Working'.
So, I will obviously be continuing to get that feedback as we prepare our response to the Green Paper. I've also said that I will be making it clear what the impact on Wales, on disabled people, will be of those proposed reforms. I think it is important just to remember again that we've been looking at the numbers who are in receipt of personal independence payments in Wales and around 209,000 people are receiving the PIP daily living component. And, to say, as I said to colleagues and members of the disability equality forum, that we believe in an opportunity welfare state, and we do also already play a key part in helping and supporting disabled people who do wish to return to work if they can, through our disabled employment champions, but also recognising that there are people who will not be able to return to work. And I was able to engage fully last week, and will then reflect on that when I give my oral statement in due course.
Diolch yn fawr, Julie Morgan. Oeddwn, roeddwn i'n falch iawn o gyhoeddi, ar ddydd Iau 15 Mai, wythnos diwethaf, yr ymgynghoriad 12 wythnos ar gyfer cynllun drafft hawliau pobl anabl, ac fe fyddaf i'n rhoi datganiad llafar am yr ymgynghoriad ar 3 Mehefin. Ond mae hyn yn rhoi cyfle i mi, sef eich cwestiwn chi, i dynnu sylw at y ffaith fod y cynllun hwn yn nodi ein huchelgais ni ar gyfer Cymru, i greu Cymru lle gall pobl anabl fwynhau hawliau, cynhwysiant a chyfranogiad teg. Wrth graidd ein dull ni y mae'r model cymdeithasol o anabledd, sy'n ein helpu ni i ddeall sut mae pobl anabl yn gallu bod dan anfantais a chael eu heithrio yn y gymdeithas. Ond ni all y cynllun lwyddo oni bai y bydd sefydliadau a phobl ledled Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i'w gyflawni ef. Fe gafodd ei ddatblygu, ei gyd-gynhyrchu, gyda'r tasglu hawliau anabledd, yr oeddwn i'n ei gadeirio ar y cyd â'r Athro Debbie Foster.
Yr hyn sy'n bwysig o ran yr ymgynghoriad dros y 12 wythnos nesaf yw ein bod ni'n cael ymateb cadarn. Bydd yn cael ei gyhoeddi yn Gymraeg, Saesneg ac Iaith Arwyddion Prydain. Fe fyddwn ni'n sefydlu bwrdd cynghori annibynnol allanol i roi cyngor a chefnogaeth ar weithredu, cyflawni ac effaith y cynllun hawliau pobl anabl.
Fe gefais i gyfle i gwrdd â'r fforwm cydraddoldeb anabledd yr wythnos diwethaf, ar y diwrnod y gwnaethom ni gyhoeddi hwn. Fe wnes i fanteisio ar gyfle yn y cyfarfod hwnnw i ofyn i'r fforwm cydraddoldeb anabledd am eu hadborth nhw ar y newidiadau arfaethedig o ran budd-daliadau anabledd, y Papur Gwyrdd ar ddiwygio lles ac, yn wir, effaith y newidiadau a gynigir o ran taliadau annibyniaeth personol. Fe ddywedais i wrth y fforwm, 'Chi yw'r rhai yr effeithir fwyaf arnynt gan y newidiadau hyn.' Ac i wrando ar eu barn nhw yr oeddwn i yno. Roedd hi'n bwysig iawn clywed barn pobl â phrofiad bywyd, pobl anabl, yn uniongyrchol am eu pryderon nhw ynglŷn â llawer o'r cynigion yn y Papur Gwyrdd, 'Llwybrau at Waith: Diwygio Budd-daliadau a Chymorth i Gael Prydain i Weithio'.
Felly, yn amlwg, fe fyddaf i'n dal i gael yr adborth hwnnw wrth i ni baratoi ein hymateb ni i'r Papur Gwyrdd. Fe ddywedais i hefyd y byddaf i'n gwneud effaith y diwygiadau arfaethedig hynny ar Gymru, ar bobl anabl, yn eglur iawn. Rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig cofio unwaith eto i ni fod yn edrych ar y niferoedd sy'n derbyn taliadau annibyniaeth personol yng Nghymru ac mae tua 209,000 o bobl yn cael elfen byw bob dydd y taliad annibyniaeth personol. Ac, er mwyn dweud, fel dywedais i wrth gyd-Aelodau ac aelodau'r fforwm cydraddoldeb anabledd, ein bod ni'n credu mewn gwladwriaeth les lle mae cyfle i'w gael, ac mae gennym ni ran allweddol eisoes hefyd wrth helpu a chefnogi pobl anabl sy'n dymuno dychwelyd i'r gwaith os ydyn nhw'n gallu gwneud hynny, trwy gyfrwng ein hyrwyddwyr cyflogaeth anabl, ond gan gydnabod hefyd fod yna bobl na fydd yn gallu dychwelyd i waith. Ac roeddwn i'n gallu ymgysylltu â nhw'n llawn yr wythnos diwethaf, ac rwyf i am fyfyrio ar hynny eto pan fyddaf i'n rhoi fy natganiad llafar maes o law.
Trefnydd, as you’ll know, as of September this year, Rhondda Cynon Taf County Borough Council will be implementing the Welsh Government’s statutory walking distance to secondary schools and colleges of 3 miles, meaning that children will no longer be provided with free school transport if they live within this distance. I’m conscious that this has been brought up previously with you, but I would like to ask again for a statement on school transport in Rhondda Cynon Taf. Residents are concerned that this will mean their children will opt for the closest school rather than the school that best fits their needs, and this is already having a disproportionate impact on those who wish to attend Welsh-medium schools, as the council’s own findings predicted. Sadly, Trefnydd, we are dealing with proposed new walking routes that are unsafe, and where there is no alternative public transport option, all of which will mean that there will be increased car use and increased congestion.
You will know that RCT council have said that this measure is needed to protect budgets. But this reason is completely undermined by the fact that the council sits on a staggering £255 million-worth of usable reserves—the most of any local authority in the country. I believe our residents would value some action by the Welsh Government in helping to rectify this situation, and that is why I’m asking for this statement again today.
Trefnydd, fel gwyddoch chi, ym mis Medi eleni, fe fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn rhoi pellter statudol Llywodraeth Cymru o 3 milltir ar waith ar gyfer cerdded i ysgolion uwchradd a cholegau, sy'n golygu na fydd plant yn cael eu cludo i'r ysgol am ddim os ydyn nhw'n byw o fewn y pellter hwn. Rwy'n ymwybodol bod i hyn gael ei godi gyda chi o'r blaen, ond fe hoffwn i ofyn am ddatganiad unwaith eto ar gludiant i ysgolion yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r trigolion yn pryderu y bydd hyn yn golygu y bydd eu plant nhw'n dewis yr ysgol agosaf yn hytrach na'r ysgol sy'n gweddu orau i'w hanghenion nhw, ac fe gafodd hyn effaith anghymesur eisoes ar y rhai sy'n dymuno mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, fel rhagwelwyd yng nghanfyddiadau'r cyngor ei hun. Yn anffodus, Trefnydd, rydym ni'n ymdrin â llwybrau cerdded newydd arfaethedig sy'n anniogel, a lle nad oes dewis amgen o drafnidiaeth gyhoeddus, ac fe fydd hyn i gyd yn golygu y bydd mwy yn defnyddio ceir a mwy o dagfeydd.
Gwyddoch fod cyngor RhCT wedi dweud bod y mesur hwn yn angenrheidiol i ddiogelu cyllidebau. Ond mae'r rheswm hwn yn cael ei danseilio yn llwyr gan y ffaith fod y cyngor yn eistedd ar gronfeydd wrth gefn syfrdanol sydd o werth £255 miliwn—y mwyaf sydd gan unrhyw awdurdod lleol yn y wlad. Rwy'n credu y byddai ein trigolion ni'n gwerthfawrogi rhywfaint o weithredu gan Lywodraeth Cymru i helpu i unioni'r sefyllfa hon, a dyna pam rwy'n gofyn am y datganiad hwn unwaith eto heddiw.
Thank you very much, Joel, for that question. And, of course, you know that there was a learner travel summit only within the last fortnight, which was attended by local authorities across Wales. And I believe, in fact, it was held—the learner travel summit—in Rhondda Cynon Taf, and, of course, it was an important learner travel summit, which included young people. It included, obviously, Transport for Wales, and, of course, the Cabinet Secretary, supporting the learner travel summit fully, in order to learn and share best practice, and learn of the issues that were raised by local authorities across Wales.
So, this is something, in terms of implementation, for Rhondda Cynon Taf council, but I hope you will have seen that, and I’m sure that the Cabinet Secretary for Transport and North Wales will want to report on the outcomes of that learner travel summit.
Diolch yn fawr iawn i chi, Joel, am y cwestiwn yna. Ac, wrth gwrs, fe wyddoch chi mai dim ond o fewn y pythefnos diwethaf y cynhaliwyd uwchgynhadledd teithio gan ddysgwyr, y bu'r awdurdodau lleol ledled Cymru yn bresennol ynddi hi. Ac rwy'n credu, mewn gwirionedd, y cafodd ei chynnal—yr uwchgynhadledd teithio gan ddysgwyr—yn Rhondda Cynon Taf, ac, wrth gwrs, roedd honno'n uwchgynhadledd o bwys o ran teithio gan ddysgwyr, a oedd yn cynnwys pobl ifanc. Roedd honno'n cynnwys, yn amlwg, Trafnidiaeth Cymru a'r Ysgrifennydd Cabinet, wrth gwrs, a oedd yn cefnogi'r uwchgynhadledd teithio gan ddysgwyr yn llawn, er mwyn dysgu a rhannu arfer gorau, a dysgu am y materion a godwyd gan yr awdurdodau lleol ledled Cymru.
Felly, mater i gyngor Rhondda Cynon Taf yw hwn o ran ei weithredu, ond rwy'n gobeithio y byddwch wedi gweld hynny, ac rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn awyddus i adrodd ar ganlyniadau'r uwchgynhadledd teithio gan ddysgwyr honno.
I ask for a statement, please, to be brought to the Senedd on what’s happening in Gaza and the middle east. The situation in Gaza is becoming catastrophic. Civilians are not only being killed, but starved. I had a meeting last week with one of my old colleagues in Action Aid, and they’re based in Palestine. They told me about a doctor they’d seen crying in despair and powerlessness, because so many women who have given birth are not able to breastfeed because they are starving and they’re so weak. Ninety per cent of people there are without clean water. A bag of flour in some places costs $500. It’s only dry food like pasta and rice that have been available, hardly any vegetables, and without fuel, it’s becoming impossible to cook and prepare that food. Women have no period products. They’re having to make nappies for their babies by cutting up their own clothes. And every hour, a woman is killed in Gaza. We are witnessing the slow starvation of an entire people.
Surely, pressure must be placed on Westminster to use its influence for a political solution here, for Israel to open its borders entirely for humanitarian aid and supplies. Or else, we’re just prevaricating and waiting for more people to die. So, please can we have that statement?
Rwy'n gofyn am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, ger bron y Senedd ar yr hyn sy'n digwydd yn Gaza a'r dwyrain canol. Mae'r sefyllfa yn Gaza yn mynd yn enbydus. Mae sifiliaid nid yn unig yn cael eu lladd, ond yn newynu. Fe gefais i gyfarfod yr wythnos diwethaf gydag un o fy hen gydweithwyr yn Action Aid, ac roedd wedi ei leoli ym Mhalesteina. Roedd yn dweud wrthyf i am feddyg a welodd yn wylo mewn anobaith a diymadferthedd oherwydd niferoedd y menywod a roddodd enedigaeth ond nad ydyn nhw'n gallu bwydo o'r fron oherwydd eu bod nhw'n llwgu ac mewn gwendid mor fawr. Mae naw deg y cant o bobl yno heb unrhyw ddŵr glân. Mae bag o flawd yn costio $500 mewn rhai mannau. Dim ond bwyd sych fel pasta a reis sydd ar gael, prin fod unrhyw lysiau o gwbl, a heb danwydd mae hi'n mynd yn amhosibl coginio a pharatoi'r bwyd hwnnw. Nid oes gan fenywod unrhyw gynhyrchion mislif. Maen nhw'n gorfod gwneud cewynnau i'w babanod drwy dorri eu dillad eu hunain. A phob awr, mae menyw yn cael ei lladd yn Gaza. Rydym ni'n tystio i genedl gyfan sy'n newynu yn araf.
Yn sicr, mae'n rhaid rhoi pwysau ar San Steffan i ddefnyddio ei dylanwad ar gyfer datrysiad gwleidyddol yma, er mwyn i Israel agor ei ffiniau yn gyfan gwbl ar gyfer cludo cymorth dyngarol a chyflenwadau. Neu fel arall, nid ydym ni'n gwneud dim ond cloffi rhwng dau feddwl a disgwyl i fwy o bobl farw. Felly, os gwelwch chi'n dda, a gawn ni'r datganiad hwnnw?
Well, thank you very much, Delyth Jewell. And I’m glad that you’ve raised this question this afternoon in the Senedd. I think we’re all horrified by what’s happening in Gaza, the humanitarian situation—it's the worst humanitarian situation that we see. And I am pleased that, yesterday, the UK Government issued that joint statement with France and Canada on the situation in Gaza and the West Bank. Just to quote from that statement from Keir Starmer, Emmanuel Macron and Mark Carney:
'If Israel does not cease the renewed military offensive and lift its restrictions on humanitarian aid, we will take further concrete actions in response.'
'We have always supported Israel's right to defend Israelis against terrorism. But this escalation is wholly disproportionate.'
I did issue a statement on 8 May—it was a written statement on the humanitarian aid blockade in Gaza—in response to questions raised in the Senedd, and said at that time:
'The Welsh Government continues to call for a lift on the aid blockade in Gaza.'
And I think it's important to say, as I said in my statement, we've said that humanitarian aid should never be used as a political tool, and we joined the UK Government in calling for Israel to respect international law and allow the unhindered flow of aid into Gaza.
Wel, diolch yn fawr iawn i chi, Delyth Jewell. Ac rwy'n falch eich bod chi wedi codi'r cwestiwn yma y prynhawn yma yn y Senedd. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi cael ein dychryn gan yr hyn sy'n digwydd yn Gaza, y sefyllfa ddyngarol—dyma'r sefyllfa ddyngarol waethaf a welwn ni. Ac rwy'n falch fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'r datganiad hwnnw ar y cyd â Ffrainc a Chanada ar y sefyllfa yn Gaza a'r Lan Orllewinol. Dim ond i ddyfynnu o'r datganiad hwnnw gan Keir Starmer, Emmanuel Macron a Mark Carney:
'Os na fydd Israel yn rhoi'r gorau i'r ymosodiad milwrol adnewyddedig ac yn codi ei gyfyngiadau ar gymorth dyngarol, fe fyddwn ni'n cymryd camau pendant pellach i ymateb.'
'Rydym ni wedi cefnogi hawl Israel i amddiffyn Israeliaid rhag terfysgaeth bob amser. Ond mae'r cynyddiad hwn yn gwbl anghymesur.'
Fe gyhoeddais i ddatganiad ar 8 Mai—datganiad ysgrifenedig ar y blocâd ar gymorth dyngarol yn Gaza—mewn ymateb i gwestiynau a godwyd yn y Senedd, ac roeddwn i'n dweud ar y pryd hwnnw:
'Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i alw am godi'r blocâd ar y cymorth yn Gaza.'
Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud, fel dywedais i yn fy natganiad, ein bod ni wedi dweud na ddylid defnyddio cymorth dyngarol fel offeryn gwleidyddol, ac roeddem ni'n ymuno â Llywodraeth y DU i alw ar Israel i barchu cyfraith ryngwladol a chaniatáu llif o gymorth i Gaza heb unrhyw rwystr arno.
I'd like, please, to request two statements, if I may, one from you and one from the finance Secretary. The first is on access to cash and the real need in towns across Wales, particularly in our rural areas where they don't have banks, for banking hubs to be established. The community of Ystradgynlais, who, over two years, have fought for a banking hub to be situated there, have finally got it. It's real, meaningful access to cash for many parts of our community—people who are older, people with disabilities, particularly those with learning disabilities, who really need that access to cash and somebody to talk to. We need these developed across the whole of Wales. In Brecon, we only have one bank left. So, I would urge you to consider how we can make this a real social justice issue for many members of our community who need that access to cash.
The second statement, if I may, from the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language, is around a wealth tax and the views of the Welsh Government on this. I realise this is a non-devolved issue, but I've raised this a number of times in the Siambr, particularly looking at the statements from an organisation called Patriotic Millionaires. We could pay for the cuts that the UK Government have made to disability benefits, for not scrapping the two-child benefit cap, for all of the issues that they keep raising in order to justify the cuts, so I would welcome a statement from you as well about progress on that. Diolch yn fawr iawn.
Fe hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, os caf i, un oddi wrthych chi ac un oddi wrth yr Ysgrifennydd Cyllid. Mae'r cyntaf yn ymwneud ag argaeledd arian parod a'r angen mawr sydd mewn trefi ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle nad oes banciau i'w cael yno, i sefydlu canolfannau bancio. Mae cymuned Ystradgynlais, sydd, dros ddwy flynedd, wedi brwydro er mwyn cael canolfan fancio yno, wedi cael un yno o'r diwedd. Maen nhw'n sicrhau bod arian parod ar gael mewn ffordd wirioneddol, ystyrlon mewn llawer o rannau o'n cymdeithas ni—pobl hŷn, pobl ag anableddau, yn enwedig rhai ag anableddau dysgu, sydd â gwir angen i allu codi arian parod a chael rhywun i siarad â nhw. Mae angen i'r rhain ddatblygu ledled Cymru. Yn Aberhonddu, dim ond un banc sydd gennym ni ar ôl. Felly, fe fyddwn i'n eich annog chi i ystyried sut y gallwn wneud hwn yn fater cyfiawnder cymdeithasol gwirioneddol i lawer yn ein cymdeithas ni sydd ag angen ffordd o gael gafael ar arian parod fel hyn.
Mae'r ail ddatganiad, os caf i, oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, yn ymwneud â threth gyfoeth a barn Llywodraeth Cymru ynglŷn â honno. Rwy'n sylweddoli mai mater na chafodd ei ddatganoli yw hwn, ond fe godais i hyn sawl sawl gwaith yn y Siambr, yn enwedig wrth edrych ar y datganiadau gan sefydliad o'r enw Patriotic Millionaires. Fe allem ni dalu am y toriadau a wnaeth Llywodraeth y DU i fudd-daliadau anabledd, am beidio â dileu'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau, am yr holl faterion y maen nhw'n yn eu codi er mwyn cyfiawnhau'r toriadau, felly fe fyddwn i'n croesawu datganiad gennych chi hefyd am y cynnydd yn hynny o beth. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane Dodds. Thank you for that first question, which has already come up this afternoon, in terms of the desperate closure, the ongoing closure of all our bank branches across Wales. In fact, the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning and I spoke at a really important meeting recently with all banks, to talk about the issues of loss of banks and financial inclusion—a key priority for Welsh Government. Financial services are reserved, but we have regular meetings with LINK, Cash Access UK—the provision of ATMs is also diminishing—and also we had our credit unions represented, and building societies.
So, it is good to hear about the Ystradgynlais banking hub. Of course, that's a shared banking space, where different mainstream banks and their community bankers work on a rotating basis, with each present on one designated working day per week. There are just nine open, and a further four, I think, not just Ystradgynlais, but initial stages have set up in Flint, Holyhead and Monmouth. So, again, that is important that we've raised this today, that you've raised this today, and that we can again take this forward. And looking also at mobile banking vans, which NatWest Group and Lloyds Bank also offer, and Barclays as well. I was very proud to open the first mobile credit union van at Easter, for Neath Port Talbot—not just Neath Port Talbot, but a much wider area. We launched it at Easter.
On your second question, you did challenge me, I recall, Jane, to meet with Patriotic Millionaires when we were discussing the whole issue of child poverty and disability benefits changes. I met with them in April, with the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language, and indeed you also joined and helped convene that meeting. The Cabinet Secretary for finance, I know, would like to inform Members of the content and outcomes of that meeting with me, and we will do so, and we will engage, because it was very valuable to see the issues that they discussed.
They talked about the ways in which taxes could be raised for the highest earners for the benefit of all in society, including those high earners, and I know that the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language is intending to raise this at a future meeting with the Chief Secretary to the Treasury and the Finance: Interministerial Standing Committee. It would be good to discuss these issues as a Senedd. I think one of the discussions we had was about an annual wealth tax, a ready-made piece of work that has already been done by PM UK. I think it was very valuable and we would like to share the learning in terms of what that could mean and understanding this in terms of the need to raise that all-important finance to support our most vulnerable in Wales.
Diolch yn fawr, Jane Dodds. Diolch i chi am y cwestiwn cyntaf yna, a gafodd ei godi eisoes y prynhawn yma, o ran y cau enbyd, caead parhaus y canghennau banc i gyd ledled Cymru. Yn wir, fe siaradodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a minnau mewn cyfarfod pwysig iawn gyda'r banciau i gyd yn ddiweddar, er mwyn siarad am faterion ynglŷn â chau banciau a chynhwysiant ariannol—blaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Mae gwasanaethau ariannol yn faterion a gedwir yn ôl, ond rydym ni'n cyfarfod yn rheolaidd gyda LINK, Cash Access UK—mae'r ddarpariaeth o beiriannau ATM yn lleihau hefyd—ac roedd gennym ni gynrychiolaeth o'n hundebau credyd ni hefyd, a chymdeithasau adeiladu.
Felly, mae hi'n braf clywed am ganolfan fancio Ystradgynlais. Wrth gwrs, mae hwnnw'n lleoliad bancio a rennir, lle mae gwahanol fanciau prif ffrwd a'u bancwyr cymunedol nhw'n gweithio ar sail gylchredol, gyda phob un yn bresennol ar un diwrnod gwaith dynodedig bob wythnos. Dim ond naw sydd wedi agor, ac mae pedwar arall, rwy'n credu, nid yn unig yn Ystradgynlais, ond mewn cyfnodau cychwynnol wedi cael eu sefydlu yn y Fflint, Caergybi a Threfynwy. Felly, unwaith eto, mae i'n bwysig ein bod ni wedi codi hyn heddiw, eich bod chi wedi codi hyn heddiw, ac y gallwn ni ddwyn hyn yn ei flaen eto. A chan edrych ar faniau bancio symudol hefyd, y mae Grŵp NatWest a Banc Lloyds yn eu cynnig hefyd, ynghyd â Barclays hefyd. Roeddwn i'n falch iawn o agor y fan undeb credyd symudol gyntaf yn ystod y Pasg, ar gyfer Castell-nedd Port Talbot—nid Castell-nedd Port Talbot yn unig, ond ardal lawer fwy eang. Fe wnaethom ni lansio honno yn ystod y Pasg.
O ran eich ail gwestiwn chi, roeddech chi'n fy herio i, rwy'n cofio, Jane, i gwrdd â Patriotic Millionaires pan oeddem ni'n trafod mater tlodi plant a newidiadau budd-daliadau anabledd yn eu cyfanrwydd. Fe wnes i gyfarfod â nhw ym mis Ebrill, gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, ac roeddech chwithau yno hefyd yn wir ac fe wnaethoch chi helpu i ymgynnull y cyfarfod hwnnw. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, fe wn i, yn awyddus i roi gwybod i'r Aelodau am gynnwys a chanlyniadau'r cyfarfod hwnnw gyda mi, ac fe fyddwn ni'n gwneud hynny, ac fe fyddwn ni'n ymgysylltu, oherwydd roedd hi'n werthfawr iawn i ni gael ystyried y materion yr oedden nhw'n eu trafod yno.
Roedden nhw'n sôn am y ffyrdd y gellid codi trethi ar yr enillwyr uchaf er lles pawb yn y gymdeithas, gan gynnwys y rhai sy'n ennill arian mawr, ac fe wn i fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg yn bwriadu codi hyn mewn cyfarfod gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys a'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid. Fe fyddai hi'n braf cael trafod y materion hyn yn y Senedd. Rwy'n credu mai un o'r trafodaethau a gawsom ni oedd ynglŷn â threth gyfoeth flynyddol, darn parod o waith a gafodd ei wneud gan PM UK eisoes. Roedd hynny'n werthfawr iawn yn fy marn i ac fe fyddem ni'n hoffi rhannu'r hyn y gwnaethom ni ei ddysgu o ran yr hyn y gallai hynny ei olygu a deall hyn o ran yr angen i godi'r cyllid hollbwysig hwnnw er mwyn cefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed sydd gennym ni yng Nghymru.
I would like to ask for two statements, please, if I may, business Secretary? Could I firstly request a statement from the transport Secretary? Over the weekend, there have been, as we all know, reports by the Road Safety Foundation saying that road speeds should be cut to 10 mph. Now, in most places, the idea would be laughed out of town, but after the Welsh Government's disastrous default 20 mph speed limit, I think we need some reassurance. Could we have some reassurance, please, that this isn't on the cards here in Wales? I know that constituents would appreciate a statement ruling out this attack on motorists as soon as possible.
Secondly, I'd like to request a statement from the Cabinet Secretary for rural affairs on the calls to delay inheritance tax changes for family farms. The Welsh Conservatives, of course, would scrap inheritance changes in their entirety. But, following calls from the cross-party group in the UK Parliament's Environment, Food and Rural Affairs Committee, including seven Labour MPs, due to concerns that the changes would indeed hit the most vulnerable, I'd like to see an oral statement on the floor of this Senedd relaying these concerns and seeing what the Government has to say about it. Diolch.
Fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, os caf i, Ysgrifennydd busnes? A gaf i ofyn yn gyntaf am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd trafnidiaeth? Dros y penwythnos, fe ddaeth adroddiadau, fel gŵyr pawb ohonom ni, oddi wrth Sefydliad Diogelwch ar y Ffyrdd yn dweud y dylid torri terfyn cyflymder ar y ffyrdd hyd at 10 mya. Nawr, yn y rhan fwyaf o leoedd, fe fyddai'r syniad yn cael ei wawdio gan bawb yn y lle, ond ar ôl terfyn cyflymder trychinebus Llywodraeth Cymru o 20 mya, rwy'n credu bod angen rhywfaint o sicrwydd arnom ni. A gawn ni rywfaint o sicrwydd, os gwelwch chi'n dda, nad yw hyn yn yr arfaeth yma yng Nghymru? Rwy'n gwybod y byddai etholwyr yn gwerthfawrogi datganiad gyn gynted â phosibl ar gyfer diystyru'r ymosodiad hwn ar fodurwyr.
Yn ail, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig ar y galwadau i ohirio newidiadau yn y dreth etifeddiant ar gyfer ffermydd teulu. Fe fyddai'r Ceidwadwyr Cymreig, wrth gwrs, yn diddymu'r newidiadau o ran y dreth etifeddiant yn gyfan gwbl. Ond, yn dilyn galwadau gan y grŵp trawsbleidiol ym Mhwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Senedd y DU, sy'n cynnwys saith Aelod Seneddol Llafur, oherwydd pryderon y byddai'r newidiadau yn taro'r rhai mwyaf agored i niwed mewn gwirionedd, fe hoffwn i gael datganiad llafar ar lawr y Senedd hon yn trosglwyddo'r pryderon hyn a chlywed beth sydd gan y Llywodraeth i'w ddweud ynglŷn â'r mater. Diolch.
Diolch yn fawr, Laura Anne Jones. Well, clearly, road safety is about road safety, and it is interesting that that association did come forward with proposals, based on evidence, that in some circumstances, 10 mph, let alone 10 mph, 5 mph is appropriate in terms of road speeds. I think all the evidence has shown that the roll-out of the 20 mph speed limit in Wales, as appropriately instigated by local authorities, has not only saved lives, cut insurance bills, but actually has now been welcomed by the people of Wales. So, you've tried to raise it on this point about road safety; I think road safety is why we are very proud of that policy.
Yes, the inheritance tax arrangements in terms of inheritance for family farms is a live issue. It is not devolved to Wales, and I'm sure there'll be plenty of opportunities to raise those questions, not just in terms of Westminster, and to hear about that cross-party report as well, but also this is obviously still raised on a regular basis with our Deputy First Minister and Cabinet Secretary for rural affairs.
Diolch yn fawr, Laura Anne Jones. Wel, yn amlwg, mae diogelwch ar y ffyrdd yn ymwneud â diogelwch ar y ffyrdd, ac mae hi'n ddiddorol fod y gymdeithas honno wedi cyflwyno cynigion, yn seiliedig ar dystiolaeth, sef bod yn rai amgylchiadau, y byddai 10 mya, nid dim ond 10 mya, 5 mya yn briodol o ran terfyn cyflymder ar y ffyrdd. Rwy'n credu bod yr holl dystiolaeth wedi dangos bod cyflwyno'r terfyn cyflymder 20 mya yng Nghymru, pan gafodd ei roi ar waith mewn modd priodol gan yr awdurdodau lleol, nid yn unig wedi achub bywydau, wedi torri biliau yswiriant, ond mewn gwirionedd yn cael ei groesawu nawr gan bobl Cymru. Felly, rydych chi wedi ceisio ei godi ar y pwynt hwn ynglŷn â diogelwch ar y ffyrdd; rwy'n credu mai diogelwch ar y ffyrdd yw'r rheswm yr ydym ni'n falch iawn o'r polisi hwnnw.
Ydynt, mae'r trefniadau o ran y dreth etifeddiant ar gyfer ffermydd teulu yn fater byw. Ni chafodd hynny ei ddatganoli i Gymru, ac rwy'n siŵr y bydd digon o gyfleoedd i godi'r cwestiynau hynny, nid yn unig yn San Steffan, ac ar gyfer clywed am yr adroddiad trawsbleidiol hwnnw hefyd, ond mae hyn yn amlwg yn parhau i gael ei godi yn rheolaidd gyda'n Dirprwy Brif Weinidog ni ac Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig.
I'd like to ask for a statement, please, from the Cabinet Secretary for health on skin cancer prevention. We've had a very sunny spring, and exposure to UV from the sun is one of the primary causes of skin cancer. In 2019, skin cancers accounted for almost half of all cancers in Wales, and, of course, these are entirely preventable. In a debate I brought to the Senedd last year, I asked the Welsh Government to have a better focus on skin cancer prevention and to consider, for example, funding free sunscreen for schools, creating good habits among young children, many of whose families, of course, may find it difficult to afford sunscreen. The Government has invested, for instance, in improving access to menstrual products in school. So, I'd like to know whether the Government has considered providing sunscreen in the same way. May is Skin Cancer Awareness Month. Skin cancer is by far the most common cancer affecting Welsh people, and, out of the four UK nations, Wales has the highest rate of skin cancer. Many experts believe more could be done to help people reduce their risk. Diolch.
Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar atal canser y croen. Rydym ni wedi cael gwanwyn heulog iawn, ac mae pelydriad uwchfioled yn yr heulwen yn un o brif achosion canser y croen. Yn 2019, roedd canserau'r croen yn rhoi cyfrif am bron i hanner yr holl ganserau yng Nghymru, ac, wrth gwrs, fe ellir atal y rhain yn gyfan gwbl. Mewn dadl a gyflwynais i i'r Senedd y llynedd, roeddwn i'n gofyn i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio rhagor ar atal canser y croen ac ystyried, er enghraifft, ariannu eli haul yn rhad ac am ddim i ysgolion, a fyddai'n magu arferion da ymhlith plant ifanc, efallai y byddai llawer o'u teuluoedd nhw, wrth gwrs, yn ei chael hi'n anodd fforddio eli haul. Mae'r Llywodraeth wedi buddsoddi, er enghraifft, mewn gwella mynediad at gynhyrchion mislif yn yr ysgol. Felly, fe hoffwn i gael gwybod a yw'r Llywodraeth wedi ystyried darparu eli haul yn yr un modd. Mai yw Mis Ymwybyddiaeth Canser y Croen. Canser y croen yw'r canser mwyaf cyffredin sy'n effeithio ar bobl Cymru, ac, o bedair gwlad y DU, Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o ganser y croen. Mae llawer o arbenigwyr yn credu y gellid gwneud mwy i helpu pobl i leihau eu risg nhw. Diolch.
Diolch yn fawr for that really important question, Sioned Williams. I will ask the Cabinet Secretary for Health and Social Care what is most appropriate, because just a statement, a written statement—. It needs to be wider than that; it needs to be Public Health Wales as well, doesn't it, in terms of raising awareness. I'm sure that the Cabinet Secretary for Education would be interested in that question in terms of children at school and children going in and schools now having to take responsibility. They see the children coming in sun hats, sun cream and lotions as well. So, thank you for raising it. We will look at the best way to raise awareness, because, as you say, skin cancer is preventable, and we need to look at it now, just in terms of the particularly good, hot weather we've had.
Diolch yn fawr am y cwestiwn pwysig iawn yna, Sioned Williams. Fe wnaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol beth sydd fwyaf priodol, oherwydd ni wnaiff datganiad yn unig, datganiad ysgrifenedig—. Mae angen i hyn fod yn ehangach na hynny; mae angen cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd, onid oes, o ran codi ymwybyddiaeth. Rwy'n siŵr y byddai gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ddiddordeb yn y cwestiwn hwnnw o ran plant yn yr ysgol a phlant sy'n mynd i mewn ac ysgolion yn gorfod cymryd cyfrifoldeb nawr. Maen nhw'n gweld y plant yn dod mewn hetiau haul, hufen haul ac eli hefyd. Felly, diolch i chi am godi hyn. Fe fyddwn ni'n edrych ar y ffordd orau o godi ymwybyddiaeth, oherwydd, fel rydych chi'n dweud, fe ellir atal canser y croen, ac mae angen i ni edrych ar hyn nawr, dim ond o ran y tywydd arbennig o braf a thwym a gawsom ni'n ddiweddar.
First, I'd just like to associate myself with the remarks of Delyth Jewell. Her description of what is going on in Gaza is quite frightful, and it is not appropriate for the country that issued the Balfour declaration to sort of look the other way. We need to be working with peacemakers across Palestine and Israel to come up with a solution to the conflict, and to give them the support, the same sort of support that we have been providing for Ukraine.
I just wanted to add to the issue that was raised about easy banking and just say that this is also a major issue for small businesses in my constituency, because they are charged for depositing cash in the bank. Maybe these banks are no longer fit for purpose and we need to have a state bank, if they can't, simply, do the basics.
Lastly, I just want to ask for a statement about our management of water. It's barely rained for the last few weeks, and the meteorologists are talking about a drought this summer, and water is the one resource none of us can live without. If we have heavy rainfall in the next few months, most of it is going to end up in the sewage system, rather than it being harvested as grey water for washing our roads and flushing our loos. So, I wondered if we can have a statement from the Government about whether it's possible to rectify this ridiculous situation by an amendment to the building regulations, in the way that we ensure that new buildings have to be carbon neutral, or whether it's going to need legislation, because I know that all political parties will need to consider this in their manifesto.
Yn gyntaf, fe hoffwn i ymgysylltu â sylwadau Delyth Jewell. Mae ei disgrifiad hi o'r hyn sy'n digwydd yn Gaza yn ddychrynllyd iawn, ac nid yw hi'n briodol i'r wlad a gyhoeddodd ddatganiad Balfour droi llygad dall o ryw fath. Mae angen i ni fod yn gweithio gyda heddychwyr ar draws Palesteina ac Israel i ganfod datrysiad i'r gwrthdaro, ac estyn cymorth iddyn nhw, cefnogaeth o'r fath y gwnaethom ni ei rho i Wcráin.
Roeddwn i'n dymuno ategu'r mater a godwyd ynglŷn â bancio rhwydd a dweud bod hwnnw'n fater mawr hefyd i fusnesau bach yn fy etholaeth i, oherwydd eu bod nhw'n gorfod talu am ddodi arian parod yn y banc. Efallai nad yw'r banciau hyn yn addas i'r diben erbyn hyn ac mae angen i ni fod â banc gwladwriaethol, os na allan nhw wneud y pethau sylfaenol, yn syml.
Yn olaf, rwy'n gofyn am ddatganiad am sut yr ydym ni'n rheoli dŵr. Ni chawsom ni law o gwbl bron iawn dros yr wythnosau diwethaf, ac mae'r meteorolegwyr yn sôn y bydd sychder yn yr haf eleni, a dŵr yw'r unig adnodd na all unrhyw un ohonom ni fyw hebddo. Pe cawn ni law trwm yn ystod y misoedd nesaf, fe fydd y rhan fwyaf ohono'n diweddu yn y system garthffosiaeth, yn hytrach na chael ei gasglu fel dŵr llwyd ar gyfer golchi ein ffyrdd a fflysio ein toiledau. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ynghylch a yw hi'n bosibl cywiro'r sefyllfa chwerthinllyd hon trwy wella rheoliadau adeiladu, yn y ffordd y byddwn ni'n sicrhau bod yn rhaid i adeiladau newydd fod yn garbon niwtral, neu a fydd angen deddfwriaeth, oherwydd rwy'n gwybod y bydd angen i bob plaid wleidyddol ystyried hyn yn eu maniffestos.
Diolch yn fawr, Jenny Rathbone. Thank you. Again, it's important we have strong voices in the Senedd today in terms of the horrific situation in Gaza. As I said, we're pleased to see pressure from allies help lift the aid blockade into Gaza, and we hope that continued pressure from the international community can bring the conflict to an end. And working towards the implementation of a two-state solution is the only way to bring long-lasting peace and security that both Israelis and Palestinians deserve, and ensure long-term stability in the region.
Your second point about banks is important for small businesses, as you say, and it's interesting. At the meeting that was held with banks, which I and Rebecca Evans attended, as Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning—. They're taking the lead, although it's not reserved, in terms of the financial services lead engagement with the UK Government. To look at the impact it is having on small businesses, I think that some of the pilots, like the OneBanx pilot, through which the Principality Building Society is boosting access to cash in Welsh communities, is really helpful as well in terms of access for businesses—the business customers of major banks. And they now have the OneBanx in Buckley, Caerphilly and Cowbridge.
On your third point, about issues around how we can have rainwater harvesting, it's interesting that this is something where, back in 2018, the Welsh Government did amend building regulations so that, when a new dwelling is erected, the potential consumption of wholesome water by people occupying the dwelling mustn't exceed 110 litres per person, per day. And the calculation used demonstrated how compliance could take account of water consumption savings that could be made when using rainwater harvesting systems. The functional provisions of the building regulations also provide for differing arrangements for rainwater disposal, which could include the use of water butts. So, that's relating to new developments, but clearly this is about how we manage things as we are in the buildings that we have. So, thank you for raising that.
Diolch yn fawr, Jenny Rathbone. Diolch i chi. Unwaith eto, mae hi'n bwysig fod lleisiau cryf gennym ni yn y Senedd heddiw o ran y sefyllfa erchyll yn Gaza. Fel dywedais i, rydym yn falch o weld pwysau gan gynghreiriaid ar gyfer helpu i godi'r blocâd ar gymorth i Gaza, ac rydym ni'n gobeithio y gall pwysau parhaus gan y gymuned ryngwladol ddod â'r gwrthdaro i ben. A gweithio tuag at weithredu datrysiad dwy wladwriaeth yw'r unig ffordd i ddod â heddwch hirdymor a diogelwch y mae Israeliaid a Phalestiniaid fel ei gilydd yn ei haeddu, gan sicrhau sefydlogrwydd hirdymor yn y rhanbarth.
Mae eich ail bwynt chi am bwysigrwydd banciau i fusnesau bach, fel rydych chi'n sôn, yn un diddorol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd gyda banciau, yr oedd Rebecca Evans a minnau'n bresennol, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio—. Maen nhw'n cymryd yr awenau, er nad yw'n fater a gedwir yn ôl, o ran ymgysylltiad arweiniol gwasanaethau ariannol gyda Llywodraeth y DU. Ar gyfer ystyried yr effaith y mae'n ei chael ar fusnesau bach, rwy'n credu bod rhai o'r cynlluniau treialu, fel cynllun treialu OneBanx, lle mae Cymdeithas Adeiladu Principality yn ceisio cynyddu argaeledd arian parod yng nghymunedau Cymru, yn ddefnyddiol iawn hefyd o ran mynediad ar gyfer fusnesau—cwsmeriaid busnes banciau mawr. Ac mae ganddyn nhw'r OneBanx ym Mwcle, Caerffili a'r Bont-faen erbyn hyn.
O ran eich trydydd pwynt, ynglŷn â materion ynghylch gallu i gasglu dŵr glaw, mae hi'n ddiddorol bod hwn yn fater, yn ôl yn 2018, y diwygiodd Llywodraeth Cymru reoliadau adeiladu fel pan fydd annedd newydd yn cael ei adeiladu, ni ddylai'r defnydd posibl o ddŵr glân gan bobl sy'n preswylio yn yr annedd fod yn fwy na 110 litr y pen, bob dydd. Ac mae'r cyfrifiad a ddefnyddiwyd yn dangos sut y gallai cydymffurfio â hyn ystyried arbedion defnydd dŵr y gellid eu gwneud nhw wrth ddefnyddio systemau i gasglu dŵr glaw. Mae darpariaethau swyddogaethol y rheoliadau adeiladu yn darparu ar gyfer trefniadau gwahanol ar gyfer cael gwared ar ddŵr glaw hefyd, ac fe allai hynny gynnwys defnyddio casgenni dŵr. Felly, ymwneud â datblygiadau newydd y mae hyn, ond yn amlwg mae hyn yn ymwneud â sut y byddwn ni'n rheoli materion ynglŷn â'r adeiladau sydd gennym ni nawr. Felly, diolch i chi am godi hynny.
Trefnydd, can I request a statement from the Cabinet Secretary for Housing and Local Government on wildfires? We all know how dry it has been lately and how tinder dry everything is. And, indeed, we saw in my own community on the Sugar Loaf and the Blorenge mountains quite large fires. And whilst they provide a real spectacle in the evening, they just highlight how dangerous these fires can be, and we thank the fire service for their major efforts in keeping us safe and having to deal with these all-too-often occurrences. We all know that a lot of wildfires can be caused naturally, but sometimes they can be from external ignition, and as we see more and more people using disposable barbecues and things like that, those can trigger these wildfires, and people need to be responsible. I would, therefore, welcome a statement by the Cabinet Secretary, outlining what support the Welsh Government are making available to our Welsh fire and rescue services to address this real issue and what can be done to help educate the wider public.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol ar danau gwyllt? Fe wyddom ni i gyd pa mor sych y bu hi'n ddiweddar a pha mor gras yw pob tyfiant. Ac, yn wir, fe welsom ni yn fy nghymuned i fy hun danau gweddol fawr ar Fynydd Pen-y-fâl a mynyddoedd Blorens. Ac er eu bod nhw'n rhoi golygfa wirioneddol i ni gyda'r nos, maen nhw'n tynnu sylw at ba mor beryglus y gall tanau fel hyn fod, ac rydym ni'n diolch i'r gwasanaeth tân am eu hymdrechion mawr i'n cadw ni'n ddiogel ac maen nhw'n gorfod ymdrin â digwyddiadau fel hyn yn rhy aml. Fe wyddom ni i gyd y gall llawer o danau gwyllt gynnau yn naturiol, ond weithiau fe allan nhw gael eu cynnau gan achosion allanol, ac wrth i ni weld niferoedd cynyddol o bobl yn defnyddio offer barbeciw untro a phethau o'r fath, fe all y rhain gynnau'r tanau gwyllt hyn, ac mae angen i bobl fod yn gyfrifol. Felly, fe fyddwn i'n croesawu datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlinellu pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar gael i'n gwasanaethau tân ac achub ni yng Nghymru i fynd i'r afael â'r mater gwirioneddol hwn a'r hyn y gellir ei wneud i gynorthwyo gydag addysgu'r cyhoedd yn fwy eang.
Thank you very much indeed, Peter Fox. I'm very glad to say that the Cabinet Secretary for Housing and Local Government has agreed to make that statement, which is very valuable, in terms of the wildfires and also domestic fires and the impact they have on our fire and rescue services. So, a statement will be forthcoming.
Diolch yn fawr iawn i chi, Peter Fox. Rwy'n falch iawn o ddweud bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i wneud y datganiad hwnnw, a fydd yn werthfawr iawn, o ran tanau gwyllt a thanau domestig hefyd a'r effaith y maen nhw'n ei chael ar ein gwasanaethau tân ac achub ni. Felly, mae datganiad ar ddod.
Ac yn olaf, Siân Gwenllian.
And finally, Siân Gwenllian.
Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth am gynlluniau i greu cynaliadwyedd ariannol tymor hir ar gyfer y sector addysg uwch, ac yn benodol yn amlinellu pa gymorth sydd ar gael ar gyfer Prifysgol Bangor yn wyneb yr argyfwng presennol. Fe gafwyd cyhoeddiad yr wythnos diwethaf bod Prifysgol Bangor yn chwilio am arbedion o dros £5 miliwn, sy'n cynrychioli tua 78 o swyddi—cyhoeddiad sydd wedi creu ansicrwydd a phryder mawr i bawb yn yr ardal. Mae achosion busnes dros newid wedi eu cyhoeddi, ac mae'r brifysgol wedi dechrau ar broses ymgynghori ar draws y brifysgol tan 13 Mehefin. Mae nifer o staff wedi cysylltu â mi'n barod, ac mi fyddaf yn trafod yr holl bryderon efo'r is-ganghellor. Dwi wedi datgan yn glir fod angen osgoi diswyddiadau gorfodol yn gyfan gwbl. Mae'n hollol amlwg bod y sector addysg uwch yn ei chyfanrwydd yn wynebu heriau anferth, felly datganiad am hynny, plis, yn ogystal ag am gefnogaeth bosib i Fangor.
Could I ask for a statement from the Government about plans to create long-term financial sustainability for the higher education sector, outlining what support is available for Bangor University in the face of the current crisis? There was an announcement last week that Bangor University is seeking savings of over £5 million, which represents about 78 jobs, and it's an announcement that has generated great uncertainty and anxiety for everyone in the area. Business cases for change have been published, and the university has launched a consultation process across the university, which will run until 13 June. A number of staff members have already contacted me, and I will be discussing each and every concern with the vice-chancellor. I've stated clearly that we need to avoid compulsory redundancies altogether. It's quite clear that the higher education sector as a whole is facing major challenges, so I ask for a statement on that as well as regarding possible support for Bangor.
Diolch yn fawr, Siân Gwenllian. It's really important and, I'm afraid, also not just in terms of the situation that's emerging in Bangor, but for higher education across Wales. And, of course, perhaps the most focus has been on Cardiff University, but clearly the pressures on higher education institutions across Wales have been considerable and are now coming to the fore in terms of these proposals. So, it is important that, again, you've raised this today in the Chamber and drawn the attention of Members to not just the issues, but the consultation, which I'm sure will, and must, include the workforce, in terms of the trade unions as well, who have a key role to play in response to that consultation, but also to recognise the huge benefit of Bangor University in the community, economy and the higher education sector. Thank you for raising that today.
Diolch yn fawr, Siân Gwenllian. Mae hi'n bwysig iawn ac, mae arna i ofn, nid yn unig o ran y sefyllfa sy'n dod i'r amlwg ym Mangor, ond ar gyfer addysg uwch ledled Cymru hefyd. Ac, wrth gwrs, efallai fod y canolbwyntio wedi bod ar Brifysgol Caerdydd yn bennaf, ond mae hi'n amlwg y bu'r pwysau yn sylweddol ar sefydliadau addysg uwch ledled Cymru ac mae hynny'n dod i'r amlwg nawr o ran y cynigion hyn. Felly, mae hi'n bwysig eich bod, unwaith eto, wedi codi hyn yn y Siambr heddiw ac wedi tynnu sylw'r Aelodau nid yn unig at y materion, ond at yr ymgynghoriad, yr wyf i'n siŵr y bydd yn cynnwys y gweithlu, ac fe fydd yn rhaid iddo eu cynnwys nhw, o ran yr undebau llafur hefyd, sydd â swyddogaeth allweddol o ran ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw, ond i gydnabod budd enfawr Prifysgol Bangor yn y gymuned, yr economi a'r sector addysg uwch hefyd. Diolch i chi am godi hynny heddiw.
Diolch i'r Trefnydd.
I thank the Trefnydd.
Eitem 3 yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ar y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru). Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jayne Bryant.
Item 3 is a statement by the Cabinet Secretary for Housing and Local Government on the Homelessness and Social Housing Allocation (Wales) Bill. I call on the Cabinet Secretary, Jayne Bryant.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Across western Europe and beyond, homelessness poses an escalating and urgent challenge. It is a devastating and pervasive issue. It shortens lives and isolates people from their communities. It impacts people's health, mental well-being, people's ability to engage in work or with the economy, or indeed on educational outcomes.
The home is integral to every aspect of life, providing the foundation upon which we build our futures. Never was this more evident than in 2020, when the pandemic exposed the real danger in being without a safe place to live. In exposing this danger, the pandemic revealed a hidden homelessness need, a need that persists, placing unsustainable pressure on households and services across Wales. This is why reform is absolutely necessary. Alongside our significant investment in housing supply, we have to transform our approach to homelessness.
This is a Government that is looking to the future, centred on both ambition and delivery for the people of Wales. That's why I was pleased to lay the Homelessness and Social Housing Allocation (Wales) Bill before the Senedd yesterday. This marks an important step towards a bold vision of a Wales free from homelessness. In introducing this Bill, we complete the work started by my predecessor, Julie James, delivering our programme for government commitment to reform homelessness services to focus on prevention and rapid rehousing. I would like to put on record my thanks to Julie for her tireless work in this area. I know that this is an issue that is incredibly close to your heart. I also wish to thank members of this Chamber who've campaigned on homelessness issues. The work also formed part of the co-operation agreement, and I'm really grateful to Siân Gwenllian for her contribution and support for reform of the homelessness system.
The Bill is rooted in both evidence and experience. It is unique in that it is grounded in the insights of those with lived experience of homelessness. It has been developed over many years in close partnership with expert stakeholders. I'm grateful to all of our partners for their counsel on this Bill, but I pay particular tribute to the 350 people who shared their own experiences of homelessness to help us develop it. It was a privilege to see some of those people again today, to remind them and us that these reforms are designed to deliver the meaningful change that they have asked of us.
Bold reform is necessary to shift the paradigm and progress towards ending homelessness in Wales. It will help create a Welsh homelessness system fit for the future, moving away from a system that responds to crisis to one that focuses on prevention—by far the most effective means of addressing homelessness risk in Wales. The Bill will ensure local authorities are able to work with people at risk earlier and take more effective steps to keep them in their homes. It will abolish the priority need and intentionality test, which has served to exclude people from assistance in the past and left certain groups at a particular disadvantage, creating a fairer system where people receive the right support at the right time. A local connection test will ensure that local authority resources are targeted at people in their communities.
The Welsh Government has long held the view that homelessness is not just a housing issue, and today we deliver that principle. The Bill makes clear that preventing homelessness is the responsibility of public services, placing new duties on relevant public bodies to 'ask and act', ensuring we identify people in Wales at risk of homelessness at the earliest possible opportunity, and to get them help sooner. We have all, in our own constituencies, witnessed the devastation of homelessness—the stigma, the exclusion, the isolation and, often, the intersection with other support needs. Ending homelessness is not just about putting a roof over someone's head; it's about addressing its wide range of causes and consequences, and providing the right home, in the right place, at the right time.
The Bill will ensure localised multi-agency responses are in place for those in highest need and strengthen co-operation between housing teams and public service partners. I am particularly proud to say that this Bill provides us with the opportunity to end homelessness for young people leaving care. Social services and housing teams will work more effectively together, ensuring that these young people—who are our responsibility—receive the necessary planning and priority for social housing. This Bill also provides the most significant reform of allocation legislation since devolution. It provides local authorities with more tools to offer social housing to those most in need and ensure those taking up social housing are better supported.
Dirprwy Lywydd, these reforms are ambitious. They have to be, to match the scale of the challenge. They will take time to implement. This is not a quick fix. They will also require an initial financial outlay, as we invest in our public services to refocus on prevention. But our own assessment and independent research is clear that our approach will lead to long-term reductions in homelessness and to long-term cost savings as we mitigate the wider disadvantage, trauma and disruption that homelessness can cause.
Homelessness services are, for many, the final safety net when all others fail. I want to end this statement by commending the work of our delivery partners across local authorities and the wider housing sector. The work they do is incredibly challenging, but it is a lifeline to those most in need. I know these services are under huge pressure and there will be understandable nervousness about the pace and scale of change. We will continue to work collaboratively with partners as we plan for implementation. I know we all share the ambition to end homelessness in Wales and support the principles the reform is seeking to deliver. This is necessary change and a bold step towards ending homelessness in Wales. Our ambitions will take time to deliver, but I look forward to working with the sector and colleagues in this Senedd, through scrutiny and beyond, to deliver them in partnership, because this is a Government that cares about the future of Wales—a future where homelessness is confined to the history books. These reforms take us closer to realising that vision, delivering for the people of Wales now and for years to come. Dirprwy Lywydd, it is with great pride that I introduce the Homelessness and Social Housing Allocation (Wales) Bill to the Senedd today. Diolch.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ar draws gorllewin Ewrop a thu hwnt, mae digartrefedd yn her gynyddol ac yn fater o frys. Mae'n fater dinistriol a treiddiol. Mae'n byrhau bywydau ac yn ynysu pobl o'u cymunedau. Mae'n effeithio ar iechyd pobl, llesiant meddyliol, gallu pobl i gymryd rhan mewn gwaith neu ymgysylltu â'r economi, neu yn wir ar ganlyniadau addysgol.
Mae'r cartref yn rhan annatod o bob agwedd ar fywyd, gan ddarparu'r sylfaen ar gyfer adeiladu ein dyfodol. Nid oedd hyn erioed yn fwy amlwg nag yn 2020, pan oedd y pandemig yn datgelu'r perygl gwirioneddol o fod heb le diogel i fyw. Wrth ddatgelu'r perygl hwn, datgelodd y pandemig angen cudd digartrefedd, angen sy'n parhau, gan roi pwysau anghynaliadwy ar aelwydydd a gwasanaethau ledled Cymru. Dyna pam mae diwygio yn gwbl angenrheidiol. Ochr yn ochr â'n buddsoddiad sylweddol mewn cyflenwad tai, mae'n rhaid i ni drawsnewid ein dull o ymdrin â digartrefedd.
Dyma Lywodraeth sy'n edrych i'r dyfodol, sy'n canolbwyntio ar uchelgais a chyflawni ar gyfer pobl Cymru. Dyna pam roeddwn yn falch o osod y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) gerbron y Senedd ddoe. Mae hyn yn gam pwysig tuag at weledigaeth feiddgar o Gymru sy'n rhydd o ddigartrefedd. Wrth gyflwyno'r Bil hwn, rydym yn cwblhau'r gwaith a ddechreuwyd gan fy rhagflaenydd, Julie James, gan gyflawni ein rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth i ddiwygio gwasanaethau digartrefedd i ganolbwyntio ar atal ac ailgartrefu cyflym. Hoffwn ddiolch i Julie am ei gwaith diflino yn y maes hwn. Rwy'n gwybod bod hwn yn fater sy'n hynod agos at eich calon. Hoffwn ddiolch hefyd i aelodau o'r Siambr hon sydd wedi ymgyrchu ar faterion digartrefedd. Roedd y gwaith hefyd yn rhan o'r cytundeb cydweithio, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Siân Gwenllian am ei chyfraniad a'i chefnogaeth i ddiwygio'r system ddigartrefedd.
Mae'r Bil wedi'i wreiddio mewn tystiolaeth a phrofiad. Mae'n unigryw gan ei fod wedi'i seilio ar fewnwelediadau'r rhai sydd â phrofiad bywyd o ddigartrefedd. Mae wedi cael ei ddatblygu dros nifer o flynyddoedd mewn partneriaeth agos â rhanddeiliaid arbenigol. Rwy'n ddiolchgar i'n holl bartneriaid am eu cyngor ar y Bil hwn, ond rwy'n talu teyrnged arbennig i'r 350 o bobl a rannodd eu profiadau eu hunain o ddigartrefedd i'n helpu i'w ddatblygu. Roedd yn fraint gweld rhai o'r bobl hynny eto heddiw, i'w hatgoffa nhw a ni bod y diwygiadau hyn wedi'u cynllunio i gyflawni'r newid ystyrlon y maent wedi gofyn i ni amdano.
Mae angen diwygio beiddgar i newid y patrwm a'r cynnydd tuag at roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Bydd yn helpu i greu system ddigartrefedd yng Nghymru sy'n addas ar gyfer y dyfodol, gan symud i ffwrdd o system sy'n ymateb i argyfwng i system sy'n canolbwyntio ar atal—y ffordd fwyaf effeithiol o fynd i'r afael â risg digartrefedd yng Nghymru. Bydd y Bil yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu gweithio gyda phobl mewn perygl yn gynharach a chymryd camau mwy effeithiol i'w cadw yn eu cartrefi. Bydd yn diddymu'r prawf angen blaenoriaethol a'r prawf bwriad, sydd wedi eithrio pobl rhag cymorth yn y gorffennol ac wedi gadael rhai grwpiau dan anfantais arbennig, gan greu system decach lle mae pobl yn derbyn y gefnogaeth iawn ar yr adeg iawn. Bydd prawf cysylltiad lleol yn sicrhau bod adnoddau awdurdodau lleol yn cael eu hanelu at bobl yn eu cymunedau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod â'r farn ers amser maith nad mater tai yn unig yw digartrefedd, a heddiw rydym yn cyflawni'r egwyddor honno. Mae'r Bil yn ei gwneud yn glir mai cyfrifoldeb gwasanaethau cyhoeddus yw atal digartrefedd gan osod dyletswyddau newydd ar gyrff cyhoeddus perthnasol i 'ofyn a gweithredu', gan sicrhau ein bod yn nodi pobl yng Nghymru sydd mewn perygl o ddigartrefedd cyn gynted â phosibl, ac yn rhoi cymorth iddyn nhw yn gynt. Rydym i gyd, yn ein hetholaethau ein hunain, wedi gweld pa mor ddinistriol yw digartrefedd—y stigma, yr allgáu, yr ynysu ac, yn aml, y croestoriad ag anghenion cymorth eraill. Nid yw rhoi diwedd ar ddigartrefedd yn ymwneud â rhoi to uwch ben rhywun yn unig; mae'n ymwneud â mynd i'r afael â'i ystod eang o achosion a chanlyniadau, a darparu'r cartref iawn, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn.
Bydd y Bil yn sicrhau bod ymatebion amlasiantaeth lleol ar waith i'r rhai sydd â'r angen mwyaf ac yn cryfhau cydweithrediad rhwng timau tai a phartneriaid gwasanaeth cyhoeddus. Rwy'n arbennig o falch o ddweud bod y Bil hwn yn rhoi cyfle i ni roi diwedd ar ddigartrefedd i bobl ifanc sy'n gadael gofal. Bydd timau gwasanaethau cymdeithasol a thai yn gweithio'n fwy effeithiol gyda'i gilydd, gan sicrhau bod y bobl ifanc hyn—ein cyfrifoldeb ni—yn derbyn y cynllunio a'r flaenoriaeth angenrheidiol ar gyfer tai cymdeithasol. Mae'r Bil hwn hefyd yn darparu'r diwygiad mwyaf arwyddocaol o ddeddfwriaeth dyrannu ers datganoli. Mae'n darparu mwy o offer i awdurdodau lleol gynnig tai cymdeithasol i'r rhai sydd fwyaf mewn angen a sicrhau bod y rhai sy'n defnyddio tai cymdeithasol yn cael eu cefnogi'n well.
Dirprwy Lywydd, mae'r diwygiadau hyn yn uchelgeisiol. Mae'n rhaid iddyn nhw fod, i ymateb i raddfa'r her. Byddant yn cymryd amser i'w gweithredu. Nid yw hwn yn ateb cyflym. Bydd angen gwariant ariannol cychwynnol arnynt hefyd, wrth i ni fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus i ailganolbwyntio ar atal. Ond mae ein hasesiad a'n hymchwil annibynnol ein hunain yn glir y bydd ein dull gweithredu yn arwain at ostyngiadau hirdymor mewn digartrefedd ac at arbedion costau hirdymor wrth i ni liniaru'r anfantais, y trawma a'r aflonyddwch ehangach y gall digartrefedd ei achosi.
Gwasanaethau digartrefedd yw, i lawer, y rhwyd ddiogelwch olaf pan fydd pob un arall yn methu. Rwyf am orffen y datganiad hwn trwy ganmol gwaith ein partneriaid cyflawni ar draws awdurdodau lleol a'r sector tai ehangach. Mae'r gwaith maen nhw'n ei wneud yn anhygoel o heriol, ond mae'n achubiaeth i'r rhai sydd fwyaf mewn angen. Rwy'n gwybod bod y gwasanaethau hyn o dan bwysau enfawr a bydd nerfusrwydd dealladwy ynglŷn â chyflymder a graddfa'r newid. Byddwn yn parhau i weithio ar y cyd â phartneriaid wrth i ni gynllunio ar gyfer gweithredu. Rwy'n gwybod ein bod ni i gyd yn rhannu'r uchelgais i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru a chefnogi'r egwyddorion y mae'r diwygiad yn ceisio eu cyflawni. Mae hwn yn newid angenrheidiol ac yn gam beiddgar tuag at roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Bydd ein huchelgeisiau yn cymryd amser i'w cyflawni, ond edrychaf ymlaen at weithio gyda'r sector a chyd-Aelodau yn y Senedd hon, drwy graffu a thu hwnt, i'w cyflawni mewn partneriaeth, oherwydd mae hon yn Llywodraeth sy'n poeni am ddyfodol Cymru—dyfodol lle mae digartrefedd wedi'i fwrw i ebargofiant. Mae'r diwygiadau hyn yn mynd â ni'n agosach at wireddu'r weledigaeth honno, gan gyflawni ar gyfer pobl Cymru nawr ac am flynyddoedd i ddod. Dirprwy Lywydd, gyda balchder rwy'n cyflwyno'r Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) i'r Senedd heddiw. Diolch.
Diolch, Cabinet Secretary, for your statement. I and the Welsh Conservatives welcome these much-needed reforms in this Bill, particularly the commitment to give additional preference to homeless applicants and care leavers. These are some of the most vulnerable members of our society, and extending the homelessness prevention period from 56 days to six months is a welcome step towards preventative policy.
However, I am disappointed that the Welsh Government chose not to take forward proposals to specifically support those leaving hospital and custody. These are two of the most high-risk groups when it comes to homelessness. Ignoring these proposals misses a vital opportunity for a joined-up approach between health, justice and housing, rather than tackling them separately.
My question, therefore, to you, Cabinet Secretary, is this: what message does that send, that specific support for people leaving NHS care or prison has been dropped from our most significant homelessness reforms in years? We need a system that prevents homelessness before it starts—for everyone. That includes veterans, hospital patients and those leaving prison.
I support the clarification that housing associations cannot unreasonably refuse referrals from local authorities. This is a common-sense move that should both help streamline the process and reduce unnecessary barriers for those in need. The introduction of a deliberate manipulation test is an important safeguard, one that will help protect the integrity of the system whilst ensuring fairness for all applicants.
But while we support these reforms, let's not pretend they solve the deeper crisis that we face, which is the chronic shortage of social housing in Wales. The social housing acquisition programme needs new radical levels of investment to deliver desperately needed housing to Wales. The Welsh Government is set to fail in their housing target of 20,000 social homes by 2026, delivering around half that today, despite the acquisition programme being severely oversubscribed with houses already compliant with standards.
Despite significant investment in social housing, Audit Wales say the Welsh Government could require £740 million extra to meet those current housing targets. Add to that the fact that 80 per cent of local authorities in England and Wales are operating at below planning capacity, it's no wonder that progress is stalling in building homes as well as acquiring them.
Therefore, I want to ask you, Cabinet Secretary, with the social housing acquisition programme oversubscribed and the planning departments chronically understaffed, what concrete steps will your Government take to overcome these barriers and deliver the scale of housing that Wales so desperately needs?
Also in this Bill, I see little consideration for Welsh veterans. The local connection test will discriminate against veterans, who frequently move around and may not live near family and friends. This should not be the case; we all owe them a debt, not just their local communities. The UK Government has made it clear that there is an exemption in place for veterans from that local connection rule. Will you therefore clarify that the Welsh Government will commit also to this exemption, and will you guarantee that there is a consistent implementation of this across local authorities in Wales?
Thank you once again for your statement. I really hope that we are going some way towards a future without homelessness in Wales. Diolch.
Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad. Rwy'n croesawu'r diwygiadau hyn sydd eu hangen yn y Bil hwn, yn enwedig yr ymrwymiad i roi blaenoriaeth ychwanegol i ymgeiswyr digartref a phobl sy'n gadael gofal. Dyma rai o aelodau mwyaf agored i niwed ein cymdeithas, ac mae ymestyn y cyfnod atal digartrefedd o 56 diwrnod i chwe mis yn gam i'w groesawu tuag at bolisi ataliol.
Fodd bynnag, rwy'n siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi dewis peidio â chyflwyno cynigion i gefnogi'n benodol y rhai sy'n gadael yr ysbyty a'r ddalfa. Dyma ddau o'r grwpiau sydd â'r risgiau mwyaf o ran digartrefedd. Mae anwybyddu'r cynigion hyn yn colli cyfle hanfodol ar gyfer dull cydweithredol rhwng iechyd, cyfiawnder a thai, yn hytrach na mynd i'r afael â nhw ar wahân.
Fy nghwestiwn, felly, i chi, Ysgrifennydd Cabinet, yw hyn: pa neges mae hynny'n ei anfon, bod cefnogaeth benodol i bobl sy'n gadael gofal y GIG neu garchar wedi cael ei gollwng o'n diwygiadau digartrefedd mwyaf arwyddocaol ers blynyddoedd? Mae angen system sy'n atal digartrefedd cyn iddo ddechrau—i bawb. Mae hynny'n cynnwys cyn-filwyr, cleifion ysbytai a'r rhai sy'n gadael carchar.
Rwy'n cefnogi'r eglurhad na all cymdeithasau tai wrthod atgyfeiriadau gan awdurdodau lleol yn afresymol. Mae hwn yn gam llawn synnwyr cyffredin a ddylai helpu i symleiddio'r broses a lleihau rhwystrau diangen i'r rhai mewn angen. Mae cyflwyno prawf manipiwleiddio bwriadol yn ddiogelwch pwysig, un a fydd yn helpu i ddiogelu uniondeb y system gan sicrhau tegwch i bob ymgeisydd.
Ond er ein bod yn cefnogi'r diwygiadau hyn, gadewch i ni beidio ag esgus eu bod yn datrys yr argyfwng dyfnach rydym ni'n ei wynebu, sef y prinder affwysol o dai cymdeithasol yng Nghymru. Mae angen buddsoddiad newydd ar lefelau radical ar y rhaglen caffael tai cymdeithasol i ddarparu tai y mae eu hangen yn ddirfawr yng Nghymru. Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru fethu â chyrraedd ei tharged o 20,000 o gartrefi cymdeithasol erbyn 2026, gan gyflawni tua hanner hynny heddiw, er bod y rhaglen gaffael yn cael ei gordanysgrifio'n ddifrifol gyda thai eisoes yn cydymffurfio â safonau.
Er gwaethaf buddsoddiad sylweddol mewn tai cymdeithasol, mae Archwilio Cymru yn dweud y gallai Llywodraeth Cymru fod angen £740 miliwn yn ychwanegol i gyrraedd y targedau tai presennol hynny. Ychwanegwch at hynny y ffaith bod 80 y cant o awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr yn gweithredu ar lefel is na'r capasiti cynllunio, nid yw'n syndod bod cynnydd o ran adeiladu cartrefi yn ogystal â'u caffael wedi oedi.
Felly, rwyf eisiau gofyn i chi, Ysgrifennydd Cabinet, gyda'r rhaglen caffael tai cymdeithasol wedi ei gordanysgrifio a'r adrannau cynllunio yn brin iawn o staff, pa gamau pendant y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i oresgyn y rhwystrau hyn a chyflawni'r raddfa o dai y mae angen dirfawr amdanynt yng Nghymru?
Hefyd yn y Bil hwn, nid wyf yn gweld fawr o ystyriaeth o gyn-filwyr Cymru. Bydd y prawf cysylltiad lleol yn gwahaniaethu yn erbyn cyn-filwyr, sy'n aml yn symud o gwmpas ac efallai na fyddant yn byw yn agos at deulu a ffrindiau. Ni ddylai hyn fod yn digwydd; mae pob un ohonom yn ddyledus iddynt, nid eu cymunedau lleol yn unig. Mae Llywodraeth y DU wedi ei gwneud yn glir bod eithriad ar waith i gyn-filwyr o'r rheol cysylltiad lleol hwnnw. A wnewch chi egluro felly y bydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i'r eithriad hwn hefyd, ac a wnewch chi warantu bod hyn yn cael ei weithredu'n gyson ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru?
Diolch unwaith eto am eich datganiad. Rwy'n gobeithio yn fawr ein bod wedi cychwyn ar y llwybr tuag at ddyfodol heb ddigartrefedd yng Nghymru. Diolch.
Diolch, Laura, and thank you for your initial welcome of this Bill today. It is indeed a landmark Bill; it's bold and ambitious, and I believe it will transform our homelessness system. Again, it is about focusing our services on earlier identification and prevention, and not pushing people towards that crisis where we know the system is at the moment.
Laura, I know that you will be aware that I'm very passionate about supporting care leavers, and I'm really pleased within this that we have a package of measures for care leavers. The Bill does offer us the opportunity to end the use of the homeless system as a route out of care. Too many young people still leave care into homelessness, and this must absolutely stop. There's no reason why a young person transitioning from care should experience homelessness. The new duty means a local authority must take reasonable steps to make sure care leavers have a suitable place to live as they transition from care.
In terms of the points around hospital discharge, for example, we consider the policy intentions set out in the White Paper—to ensure that no-one is discharged from hospital to homelessness—can best be achieved by using existing mechanisms, rather than creating a new duty. A new task and finish group has been established, and is writing guidance to stop people being discharged to the street or stuck in hospital due to lack of housing.
This work will build on current guidance and link with the discharge to recover and assess model. We are working with health and housing partners to shape this guidance, and will adapt it based on what they tell us. Discharge liaison officers will be key, because they can help us plan early, link services and stop people from falling through the cracks.
You touched on supply; obviously, today, we're talking about the homelessness system, and I do recognise that supply is an issue, and that's part of that. The Bill must be underpinned by increasing our supply of social homes, because that's going to give us the best chance to end homelessness in Wales for good. We recognise the importance of social housing, and that's why we're providing those record levels of investment across Wales. During this Senedd term, that record level of investment will be just under £2 billion. We've had a record annual budget of £411 million for social housing in the 2025-26 financial year. That's an additional £81 million compared with this year.
Just finally, on the important point you raised around veterans, it was not possible to take forward any of the proposed new exemption categories on the local connection. As I said, we are introducing a local connection test. But it's crucial that we ensure the changes we make in this Bill and the resources required to make these changes benefit people within Wales. So, as I said, we're bringing forward the new local connection test. We have retained the current definition of local connection, but the Bill sets out regulation-making powers that help us add detail to this definition in partnership with stakeholders. These powers will allow us to reconsider the scope and function of local connection over time. I hope this offers a route to assisting particular groups who encounter problems associated with local connections, such as veterans, in the future.
Just to reassure you, I've also asked my officials to look at other ways that we can help veterans, especially through the local connection test for social housing. As you mentioned, Laura, in England, the UK Government in December last year changed the rules so that veterans no longer need a local connection to get social housing there. We have the power to do the same here in Wales, so my officials are working on plans to bring this change through secondary legislation. This will stop veterans being pushed down the list for social housing just because they don't have a local link.
Diolch, Laura, a diolch am eich croeso cychwynnol i'r Bil hwn heddiw. Mae'n wir yn Fil pwysig; mae'n feiddgar ac yn uchelgeisiol, ac rwy'n credu y bydd yn trawsnewid ein system ddigartrefedd. Unwaith eto, mae'n ymwneud â chanolbwyntio ein gwasanaethau ar nodi ac atal yn gynharach, a pheidio â gwthio pobl tuag at yr argyfwng hwnnw lle gwyddom fod y system ynddo ar hyn o bryd.
Laura, rwy'n gwybod y byddwch chi'n ymwybodol fy mod i'n angerddol iawn am gefnogi pobl sy'n gadael gofal, ac rwy'n falch iawn o fewn hwn fod gennym becyn o fesurau ar gyfer pobl sy'n gadael gofal. Mae'r Bil yn cynnig cyfle i ni roi diwedd ar y defnydd o'r system ddigartrefedd fel llwybr allan o ofal. Mae gormod o bobl ifanc yn dal i adael gofal ac yn dod yn ddigartref, ac mae'n rhaid i hyn ddod i ben yn bendant. Does dim rheswm pam y dylai person ifanc sy'n pontio o ofal brofi digartrefedd. Mae'r ddyletswydd newydd yn golygu bod yn rhaid i awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i wneud yn siŵr bod gan bobl sy'n gadael gofal le addas i fyw wrth iddynt bontio o ofal.
O ran y pwyntiau sy'n ymwneud â rhyddhau o'r ysbyty, er enghraifft, rydym yn ystyried y ffordd orau i gyflawni'r bwriadau polisi a nodir yn y Papur Gwyn—er mwyn sicrhau nad oes neb yn cael ei ryddhau o'r ysbyty i ddigartrefedd—yw trwy ddefnyddio mecanweithiau presennol, yn hytrach na chreu dyletswydd newydd. Mae grŵp gorchwyl a gorffen newydd wedi'i sefydlu, ac mae'n ysgrifennu canllawiau i atal pobl rhag cael eu rhyddhau i'r stryd neu'n gorfod aros yn yr ysbyty oherwydd diffyg Tai.
Bydd y gwaith hwn yn adeiladu ar y canllawiau presennol ac yn cysylltu â'r model rhyddhau i adfer ac asesu. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid iechyd a thai i lunio'r canllawiau hyn, a byddwn yn ei haddasu yn seiliedig ar yr hyn y maent yn ei ddweud wrthym. Bydd swyddogion cyswllt rhyddhau yn allweddol, oherwydd gallant ein helpu i gynllunio'n gynnar, cysylltu gwasanaethau a sicrhau nad yw pobl yn cael eu diystyru.
Fe wnaethoch chi grybwyll cyflenwad; yn amlwg, heddiw, rydym yn siarad am y system ddigartrefedd, ac rwy'n cydnabod bod y cyflenwad yn broblem, ac mae hynny'n rhan o hynny. Rhaid ategu'r Bil trwy gynyddu ein cyflenwad o gartrefi cymdeithasol, oherwydd bydd hynny'n rhoi'r cyfle gorau i ni roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru am byth. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd tai cymdeithasol, a dyna pam rydym ni'n darparu'r lefelau uchaf erioed hynny o fuddsoddiad ledled Cymru. Yn ystod tymor y Senedd hon, bydd y lefel uchaf erioed honno o fuddsoddiad ychydig yn llai na £2 biliwn. Rydym wedi cael y gyllideb flynyddol uchaf erioed o £411 miliwn ar gyfer tai cymdeithasol ym mlwyddyn ariannol 2025-26. Mae hynny'n £81 miliwn ychwanegol o'i gymharu ag eleni.
Yn olaf, ar y pwynt pwysig a godwyd gennych ynglŷn â chyn-filwyr, nid oedd yn bosibl bwrw ymlaen ag unrhyw un o'r categorïau eithriad newydd arfaethedig ar y cysylltiad lleol. Fel y dywedais, rydym yn cyflwyno prawf cysylltiad lleol. Ond mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod y newidiadau a wnawn yn y Bil hwn a'r adnoddau sydd eu hangen i wneud y newidiadau hyn o fudd i bobl yng Nghymru. Felly, fel y dywedais i, rydym ni'n cyflwyno'r prawf cysylltiad lleol newydd. Rydym wedi cadw'r diffiniad presennol o gysylltiad lleol, ond mae'r Bil yn nodi pwerau gwneud rheoliadau sy'n ein helpu i ychwanegu manylion at y diffiniad hwn mewn partneriaeth â rhanddeiliaid. Bydd y pwerau hyn yn caniatáu i ni ailystyried cwmpas a swyddogaeth cysylltiad lleol dros amser. Rwy'n gobeithio bod hyn yn cynnig llwybr i gynorthwyo grwpiau penodol sy'n wynebu problemau sy'n gysylltiedig â chysylltiadau lleol, fel cyn-filwyr, yn y dyfodol.
Dim ond i dawelu eich meddwl, rwyf hefyd wedi gofyn i'm swyddogion edrych ar ffyrdd eraill y gallwn helpu cyn-filwyr, yn enwedig trwy'r prawf cysylltiad lleol ar gyfer tai cymdeithasol. Fel y sonioch, Laura, yn Lloegr, ym mis Rhagfyr y llynedd, newidiodd Llywodraeth y DU y rheolau fel nad oes angen cysylltiad lleol ar gyn-filwyr mwyach i gael tai cymdeithasol yno. Mae gennym y pŵer i wneud yr un peth yma yng Nghymru, felly mae fy swyddogion yn gweithio ar gynlluniau i ddod â'r newid hwn trwy is-ddeddfwriaeth. Bydd hyn yn sicrhau na fydd cyn-filwyr yn cael eu gwthio i lawr y rhestr ar gyfer tai cymdeithasol dim ond oherwydd nad oes ganddynt gyswllt lleol.
Dwi'n croesawu gweld cyflwyno'r Bil pwysig yma i'r Senedd. Mae mynd i'r afael â'r argyfwng—[Anghlywadwy.]—digartrefedd, ac mae atal y lefelau digartrefedd cynyddol presennol yn gorfod bod yn flaenoriaeth. Dwi yn, felly, edrych ymlaen at graffu ar manylion y Bil yma.
Mi oedd cyflwyno'r ddeddfwriaeth yn ymrwymiad yn y cytundeb cydweithio, a dwi yn falch o'r holl waith a wnaed o ganlyniad i gyflwyno'r ymrwymiad hwnnw dros fisoedd lawer. Dwi'n croesawu hefyd yr ymgysylltiad helaeth fuodd efo rhanddeiliaid, ac yn enwedig cynnwys pobl sydd efo profiad byw o ddigartrefedd, wrth i'r Bil gael ei ddatblygu a'r dull sy'n canolbwyntio ar y person y mae'r Bil yn anelu at ei adlewyrchu.
Rydyn ni'n gwybod bod digartrefedd, gan gynnwys bod yn sownd mewn llety dros dro am y tymor hir, a bod mewn peryg o fod yn ddigartref, yn cael effaith difrifol ar iechyd, lles meddyliol, addysg a gallu pobl i weithio. Ond rhaid inni ddifrifoli efo'r sefyllfa yn llwyr. Mae'r ffigurau ar ddigartrefedd yng Nghymru heddiw yn wirioneddol syfrdanol: dros 11,000 o bobl mewn llety dros dro, gan gynnwys dros 2,600 o blant, a dros 400 o blant yn byw mewn llety gwely a brecwast neu westai. Ar hyn o bryd, rydyn ni'n gadael y rhai mwyaf agored i niwed i lawr, efo un o bob pedwar o bobl ifanc sy'n gadael gofal yn ddigartref. Felly, dwi yn falch o weld y Bil yma yn canolbwyntio ar y rhai sydd mewn peryg penodol.
Wrth gwrs, yr effaith ar fywydau sydd bwysicaf, ond fedrwch chi, Ysgrifennydd Cabinet, sôn am y costau ariannol sydd ynghlwm efo rheoli lefelau digartrefedd yng Nghymru heddiw? Ydy'r costau yna yn gynaliadwy, ac ydy'r Bil yma yn mynd i fod yn arwain at sefyllfa mwy cynaliadwy o ran cost gwasanaethau digartrefedd?
Fedrwn ni ddim cael y newid mawr sydd ei angen drwy ddeddfwriaeth yn unig, ac mae yna ormod o esiamplau o'r Llywodraeth yma'n nodi uchelgais mawr, ond eu bod nhw ddim yn cael eu cyflawni. Mae'r Bil yn amlinellu newidiadau mawr i gyrff cyhoeddus ar gyfer cydweithio efo'i gilydd. Ac yn ogystal â buddsoddi mewn hyfforddiant a chefnogaeth, mae gofyn i Lywodraeth Cymru arwain ar newid diwylliant, felly buaswn i yn licio gofyn y prynhawn yma: sut ydych chi'n mynd i greu'r diwylliant newydd yma o gydweithio, a sut ydych chi'n mynd i arwain ar y gwaith sydd ei angen ar gyfer paratoi ar gyfer gweithredu'r Bil pwysig yma?
Mae'r Bil yn gam angenrheidiol yn yr uchelgais i ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru, ond dim ond un rhan o'r jig-so cymhleth ydy o, ac mae angen inni fynd i'r afael â'r materion systemig sy'n sail i'r argyfwng tai. Wrth gwrs, un o'r heriau mwyaf—a dŷn ni wedi sôn am hyn yn barod y prynhawn yma—sy'n wynebu unigolion sy'n byw mewn llety dros dro ydy diffyg cartrefi cymdeithasol. Mae'n rhaid i chi, fel Llywodraeth, gydnabod eich bod chi wedi methu'n llwyr â chyrraedd eich targedau eich hun i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol. Y llynedd, dim ond 2,600 o gartrefi ychwanegol ar gyfer rhent cymdeithasol gafodd eu cwblhau, sydd yn ddim ond 3 y cant o'r galw am gartrefi cymdeithasol. Dydy’r Llywodraeth ddim yn agos at gyrraedd ei tharged o gynyddu'r cyflenwad i 20,000 dros dymor y Llywodraeth yma. Mae angen newid gêr, nid yn unig yn yr uchelgais i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol ond ar gyfer cyflawni'r gwaith hollbwysig yma sydd angen ei wneud.
Felly, yn olaf, ydych chi yn cytuno bod rhaid gweld y ddeddfwriaeth hon fel rhan o becyn o fesurau, efo cynnydd sylweddol mewn tai cymdeithasol yn elfen allweddol?
I welcome the introduction of this important Bill to the Senedd. Tackling the housing crisis—[Inaudible.]—and stemming the rising levels of homelessness is a priority. I therefore look forward to scrutinising the details of this Bill.
The introduction of this legislation was a commitment in the co-operation agreement, and I am proud of all the work that has been done as a result of the introduction of that commitment over a period of many months. I also welcome the extensive engagement with stakeholders, and particularly the inclusion of people with lived experience of homelessness, as the Bill was being developed, along with the person-centred approach that the Bill aims to reflect.
We know that homelessness, including being stuck in temporary accommodation over the long term, and being at risk of homelessness, have a serious impact on people's health, mental well-being, education and their ability to work. But we have to confront the situation. The figures on homelessness in Wales today are truly staggering. There are more than 11,000 people in temporary accommodation, including over 2,600 children, and there are more than 400 children living in bed-and-breakfast accommodation or hotels. At the moment, we are letting the most vulnerable people down, with one in four young care leavers being homeless. So, I am pleased to see this Bill focusing on those who are at particular risk.
Of course, the impact on lives is the most important thing, but could you, Cabinet Secretary, talk about the financial costs associated with managing levels of homelessness in Wales? Are those costs sustainable, and is this Bill going to lead to a more sustainable situation in terms of the costs of homelessness services?
We cannot have the great change that we need through legislation alone, and there are too many examples of this Government setting out a big ambition that is not met. The Bill outlines major changes for public bodies to collaborate. And as well as investing in training and support, this will require the Welsh Government to lead a cultural shift, so I'd like to ask this afternoon: how are you going to create that new culture of co-operation, and how are you going to lead on the work that needs to be done in order prepare to implement this very important Bill?
This Bill is a necessary step in terms of the ambition to end homelessness in Wales, but it is only one part of a complex jigsaw, and we need to address the systemic issues underlying the housing crisis. Of course, one of the greatest challenges—and we've already mentioned this this afternoon—facing individuals living in temporary accommodation is the lack of social housing. You as a Government have to recognise that you've entirely failed to meet your own targets in terms of increasing the supply of social housing. Last year, just 2,600 additional homes for social rent were completed, representing just 3 per cent of the demand for social homes. The Government is nowhere near meeting its target of increasing the supply to 20,000 over the term of this Government. We need to change gear, not only in terms of our ambition to increase the supply of social housing but in delivering on that vital work that needs to be done.
Finally, therefore, do you agree that we have to see this legislation as part of a package of measures, with a significant increase in social housing being a key element?
Diolch, Siân. Once again, just to put on record my thanks for the work that you have done on this as well, following the co-operation agreement. I know that this is something very close to your heart as well. Thank you, again, for the work and the involvement that you’ve had. I think it’s a very important day today, especially for those who’ve been with this legislation and proposed legislation for a long time, and seeing it in the making. So, I really do very much understand that.
I think some of the points that you made were very clear about why we are doing this, bringing forward this legislation. Inaction is not an option. This system that we have at the moment is the most expensive that we could possibly have; it’s pushing people into that crisis point. And it’s not just an expense in terms of the amount of money, particularly around temporary accommodation—that crisis end of services—but it’s actually the human cost that goes along with this. I think that is something that we all need to recognise. One of the really positive things about the development of this proposed legislation and the Bill has been that involvement of those 350 people with lived experience. It really is incredible, and I think that’s something that we should look at when we develop further legislation in the future. Those people have actually been through the system and I just want to pay tribute to them, because they're actually helping to develop a new system that will mean that other people won't be going through some of the things that they've gone through. I was fortunate today to meet, once again actually, Scotty and Phil; they were there at the launch of the White Paper, and I know that you were there as well, along with Julie James, who was the Minister at the time. I think, for them, it's another really important step on that journey to be here today at this point in the development of the Bill.
In terms of the other points you raised—and I recognise that there are a lot within that—I just wanted to talk a little bit around—. As I said, legislation alone can't end homelessness. We know that this is part of it and we do recognise that supply and social housing has a really important role to play, as well as what we're doing in terms of that multisystem approach, in terms of the public service response to homelessness. It's not just all around housing, but I do very much recognise the role that supply plays. As I said, we are investing more than we've ever done before—it's record levels of delivery, record levels of funding. I very much know that we need more housing—I very much recognise that—not just next year, but the years after as well. But we know that there have been some really tough global events that have increased costs; everyone knows that costs have gone up. We are making real progress with the sector, and what I'm really proud of and pleased about is that the pipeline of housing supply is really, really good, so I think that is very positive. But, again, I know that there is more to do with that.
Again, one of the aspects around prevention—. Again, the Bill changes the prevention period from 56 days to six months. That means that services are going to be able to work at an earlier stage to prevent those people who might be at risk of homelessness, and that is something that came loud and clear from people with lived experience—you know, having that earlier intervention would really help. I think, again, services working together to prevent homelessness and to have a real toolbox of things we can do, including supply, are all to the good.
Diolch, Siân. Unwaith eto, dim ond i gofnodi fy niolch am y gwaith rydych chi wedi'i wneud ar hyn hefyd, yn dilyn y cytundeb cydweithio. Rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth agos iawn at eich calon hefyd. Diolch, eto, am y gwaith a'r cyfranogiad. Rwy'n credu ei fod yn ddiwrnod pwysig iawn heddiw, yn enwedig i'r rhai sydd wedi bod yn ymwneud â'r ddeddfwriaeth hon a deddfwriaeth arfaethedig ers amser maith, a'i weld yn datblygu. Felly, rwy'n deall hynny yn fawr iawn.
Rwy'n credu bod rhai o'r pwyntiau a wnaethoch yn glir iawn ynghylch pam rydym ni'n gwneud hyn, sef cyflwyno'r ddeddfwriaeth. Nid yw diffyg gweithredu yn opsiwn. Y system hon sydd gennym ar hyn o bryd yw'r drutaf y gallai fod; mae'n gwthio pobl i'r argyfwng hwnnw. Ac nid yw'n gost o ran swm yr arian yn unig, yn enwedig ynghylch llety dros dro—pen argyfwng gwasanaethau—ond mewn gwirionedd mae cost ddynol sy'n cyd-fynd â hyn. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen i ni i gyd ei gydnabod. Un o'r pethau gwirioneddol gadarnhaol am ddatblygiad y ddeddfwriaeth arfaethedig hon a'r Bil yw cyfranogiad y 350 o bobl hynny sydd â phrofiad bywyd. Mae'n wirioneddol anhygoel, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylem edrych arno pan fyddwn yn datblygu deddfwriaeth bellach yn y dyfodol. Mae'r bobl hynny wedi bod trwy'r system mewn gwirionedd ac rydw i eisiau talu teyrnged iddyn nhw, oherwydd maen nhw mewn gwirionedd yn helpu i ddatblygu system newydd a fydd yn golygu na fydd pobl eraill yn mynd trwy rai o'r pethau y buon nhw drwyddynt. Roeddwn i'n ffodus heddiw i gwrdd, unwaith eto mewn gwirionedd â Scotty a Phil; roedden nhw yno yn lansiad y Papur Gwyn, ac rwy'n gwybod eich bod chi yno hefyd, ynghyd â Julie James, y Gweinidog ar y pryd. Rwy'n credu, iddyn nhw, roedd yn gam pwysig iawn arall ar y daith honno i fod yma heddiw ar y foment hon yn natblygiad y Bil.
O ran y pwyntiau eraill a godwyd gennych—ac rwy'n cydnabod bod yna lawer o fewn hynny—roeddwn i eisiau siarad ychydig ynghylch—. Fel y dywedais, ni all deddfwriaeth ar ei phen ei hun roi diwedd ar ddigartrefedd. Rydym yn gwybod bod hyn yn rhan ohono ac rydym yn cydnabod bod gan gyflenwad a thai cymdeithasol rôl bwysig iawn i'w chwarae, yn ogystal â'r hyn rydym ni'n ei wneud o ran y dull aml-system hwnnw, o ran ymateb y gwasanaeth cyhoeddus i ddigartrefedd. Nid yw'n ymwneud â thai yn unig, ond rwy'n cydnabod yn llwyr y rôl y mae cyflenwad yn ei chwarae. Fel y dywedais, rydym ni'n buddsoddi mwy nag a wnaethom erioed o'r blaen—lefelau uchaf o gyflawni, lefelau uchaf o gyllid. Rwy'n gwybod yn iawn fod angen mwy o dai arnom—rwy'n cydnabod hynny'n llwyr—nid yn unig y flwyddyn nesaf, ond y blynyddoedd wedyn hefyd. Ond gwyddom fod rhai digwyddiadau byd-eang anodd iawn wedi cynyddu costau; mae pawb yn gwybod bod costau wedi codi. Rydym ni'n gwneud cynnydd gwirioneddol gyda'r sector, a'r hyn rydw i'n falch iawn ohono ac yn hapus yn ei gylch yw bod y ffrwd cyflenwad tai yn wirioneddol dda, felly rwy'n credu bod hynny'n gadarnhaol iawn. Ond, unwaith eto, rwy'n gwybod bod mwy i'w wneud ynghylch hynny. Unwaith eto, un o'r agweddau ynghylch atal—.
Unwaith eto, mae'r Bil yn newid y cyfnod atal o 56 diwrnod i chwe mis. Mae hynny'n golygu bod gwasanaethau yn mynd i allu gweithio yn gynharach i atal y bobl hynny a allai fod mewn perygl o ddigartrefedd, ac roedd honno'n neges glir iawn gan bobl sydd â phrofiad bywyd—wyddoch chi, byddai cael yr ymyrraeth gynharach honno yn helpu. Rwy'n credu, unwaith eto, bod gwasanaethau sy'n gweithio gyda'i gilydd i atal digartrefedd a chael pecyn offer go iawn o bethau y gallwn eu gwneud, gan gynnwys cyflenwi, i gyd yn fanteisiol.
Thank you very much for your statement, and I'm glad to say that it recognises that it's a challenge for the wonderful people who are managing the existing homelessness services, which is an incredibly challenging job, and they do a brilliant job. But I want to focus on the long-term cost savings of this joining up of the dots of multi-agency working, because forward planning by public bodies that require a multi-agency response remains a work in progress.
I recall when I used to manage a Sure Start programme in London, and it always came as a total surprise to Holloway prison that the foreign national who was completing their sentence needed to be put on a plane the day their sentence ended. Nothing was done about it until after that had happened, and, meanwhile, they were spending—we, the taxpayer, were spending money on their hotel services while the border services booked them onto a plane. Really, that's not good enough, and, equally, we must ensure that local authorities are planning for when a person is leaving care, and, obviously, need to be obtaining appropriate housing so that they don't fall through the gaps.
I wondered whether you could also say a little bit about how this piece of legislation will also be informed by Lee Waters's report on the challenges around building social housing, because, obviously, we can work as hard as we want to join up the dots, but if the housing doesn't exist, it's extremely difficult, is it not, to make progress?
Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, ac rwy'n falch o ddweud ei fod yn cydnabod ei bod yn her i'r bobl wych sy'n rheoli'r gwasanaethau digartrefedd presennol, sy'n waith hynod o heriol, ac maen nhw'n gwneud gwaith gwych. Ond rwyf eisiau canolbwyntio ar arbedion costau hirdymor cysylltu'r elfennau sef gweithio amlasiantaeth, oherwydd mae rhag-gynllunio gan gyrff cyhoeddus sy'n gofyn am ymateb amlasiantaeth yn parhau i fod yn waith ar y gweill.
Rwy'n cofio pan oeddwn i'n arfer rheoli rhaglen Sure Start yn Llundain, ac roedd bob amser yn syndod llwyr i garchar Holloway bod angen i'r dinesydd tramor a oedd yn cwblhau ei ddedfryd gael ei roi ar awyren y diwrnod y daeth ei ddedfryd i ben. Ni wnaethpwyd unrhyw beth ynghylch hyn tan ar ôl i hynny ddigwydd, ac, yn y cyfamser, roedden nhw'n gwario—roeddem ni, y trethdalwyr, yn gwario arian ar ei wasanaethau gwesty tra bod y gwasanaethau ffin yn trefnu i'w gael ar awyren. Mewn gwirionedd, nid yw hynny'n ddigon da, ac, yn yr un modd, mae'n rhaid i ni sicrhau bod awdurdodau lleol yn cynllunio ar gyfer yr amser pan fydd person yn gadael gofal, ac, yn amlwg, mae angen iddynt gael tai priodol fel nad yw'n cael ei ddiystyru.
Roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi hefyd ddweud ychydig ynghylch sut y bydd y darn hwn o ddeddfwriaeth hefyd yn cael ei lywio gan adroddiad Lee Waters ar yr heriau sy'n ymwneud ag adeiladu tai cymdeithasol, oherwydd, yn amlwg, gallwn weithio mor galed ag yr ydym yn cysylltu'r elfennau, ond os nad yw'r tai yn bodoli, mae'n anodd iawn, onid ydyw, i wneud cynnydd?
Thank you, Jenny. Thank you also for giving me the opportunity to mention the importance of our workforce. We can't end homelessness without a strong, skilled and supported workforce. Staff in this sector do incredibly vital work, often in really tough conditions. I'm incredibly grateful, as I know we all are, for the work that they do, and it was a good opportunity for me, after meeting Scott and Phil today, to talk to some of the support workers who are really important to them on their journey. So, I just want to put on record my thanks, and just to say that, in terms of the workforce, I very much recognise some of those challenges. We have a task and finish group that's running at the moment, looking at how we can better value and support our workforce on such issues as pay, skills, support and recruitment, so that's work going alongside the work of this Bill. I just wanted to touch on that, first of all.
In terms of prisoners, absolutely right, and, obviously, as a Member who has a prison in their constituency as well, I certainly understand those issues around the amount of time that people are able to prepare, because we all know when people are coming out of prison. There have been some good examples with, perhaps, the early prisoner release scheme that we can learn from, and I think we've got to develop that, but we know that we want to make sure that people who are in prison have that effective advice before they leave prison and in terms of them preparing for release. It's not about the days before, is it? It's absolutely key in homelessness prevention. We do share that view with our colleagues in HM Prison and Probation Service and our local authorities, just to make sure those opportunities are maximised. Obviously, no-one should leave prison to sleep rough, and, again, planning ahead is really important. So, alongside the Bill, a new working group, which is co-led by Welsh Government and HMPPS, is shaping policy to stop people leaving prison into homelessness, drawing on lessons, as I said, from the 2024 early prisoner release scheme.
In terms of the points you raised around care leavers—again, this is an area I feel very strongly about. We should not be having young people leaving care into homelessness. That is not the system that we need, or that they need, and it's not right in any way that that happens. The corporate parents have responsibility in this as well. So, again, there's no reason why a young person transitioning from care should experience homelessness, and I think this duty means a local authority must take those reasonable steps to make sure they have a suitable place to live as they transition from care.
You mentioned the taskforce—again, I'm really grateful for the opportunity to put on record my thanks to Lee and the taskforce for all the work that they have done. I've provided a written statement and published the report alongside that written statement. Again, as I say, it's not just about legislative issues, it's about how we can free up some of the blockages in the system, and that's the work that Lee and others have done in this area. Again, as I said, I'm looking to move forward as quickly as possible with that piece of work, having published it recently. That, obviously, goes side by side with all of this as well, because it's all interlinked.
Diolch, Jenny. Diolch hefyd am roi'r cyfle i mi sôn am bwysigrwydd ein gweithlu. Ni allwn roi diwedd ar ddigartrefedd heb weithlu cryf, medrus wedi'i gefnogi. Mae staff yn y sector hwn yn gwneud gwaith anhygoel o hanfodol, yn aml o dan amodau anodd iawn. Rwy'n hynod ddiolchgar, a gwn ein bod ni i gyd yn ddiolchgar am y gwaith y maen nhw'n ei wneud, ac roedd yn gyfle da i mi, ar ôl cwrdd â Scott a Phil heddiw, i siarad â rhai o'r gweithwyr cymorth sy'n bwysig iawn iddyn nhw ar eu taith. Felly, rydw i eisiau cofnodi fy niolch, a dim ond dweud, o ran y gweithlu, rwy'n cydnabod rhai o'r heriau hynny yn llwyr. Mae gennym grŵp gorchwyl a gorffen sy'n gweithredu ar hyn o bryd, yn edrych ar sut y gallwn werthfawrogi a chefnogi ein gweithlu yn well ar faterion fel cyflog, sgiliau, cefnogaeth a recriwtio, felly mae hynny'n waith sy'n mynd ochr yn ochr â gwaith y Bil hwn. Roeddwn i eisiau crybwyll hynny, yn gyntaf oll.
O ran carcharorion, yn hollol gywir, ac, yn amlwg, fel Aelod sydd â charchar yn ei hetholaeth hefyd, rwy'n sicr yn deall y materion hynny ynghylch faint o amser sydd gan bobl i allu paratoi, oherwydd rydym ni i gyd yn gwybod pryd mae pobl yn dod allan o'r carchar. Mae yna rai enghreifftiau da gydag efallai y cynllun rhyddhau carcharorion yn gynnar y gallwn ni ddysgu ohono, ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni ddatblygu hynny, ond rydym ni'n gwybod ein bod eisiau gwneud yn siŵr bod pobl sydd yn y carchar yn cael y cyngor effeithiol hwnnw cyn iddynt adael y carchar ac o ran y nhw'n paratoi ar gyfer eu rhyddhau. Nid yw'n ymwneud â'r dyddiau cyn hynny nag yw? Mae'n hollol allweddol wrth atal digartrefedd. Rydym yn rhannu'r farn honno gyda'n cydweithwyr yng Ngwasanaeth Carchardai a Phrawf EF a'n hawdurdodau lleol, dim ond i sicrhau y manteisir i'r eithaf ar y cyfleoedd hynny. Yn amlwg, ni ddylai neb adael y carchar i gysgu allan ac, unwaith eto, mae cynllunio ymlaen llaw yn bwysig iawn. Felly, ochr yn ochr â'r Bil, mae gweithgor newydd, sy'n cael ei gyd-arwain gan Lywodraeth Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, yn llunio polisi i sicrhau nad yw pobl yn gadael y carchar a dod yn ddigartref, gan fanteisio ar wersi, fel y dywedais, o gynllun rhyddhau carcharorion yn gynnar 2024.
O ran y pwyntiau a godwyd gennych ynglŷn â phobl yn gadael gofal—unwaith eto, mae hwn yn faes rwy'n teimlo'n gryf iawn amdano. Ni ddylem fod yn gweld pobl ifanc yn gadael gofal a dod yn ddigartref. Nid dyna'r system sydd ei hangen arnom, neu sydd ei hangen arnyn nhw, ac nid yw'n iawn mewn unrhyw ffordd bod hynny'n digwydd. Mae gan y rhieni corfforaethol gyfrifoldeb yn hyn hefyd. Felly, unwaith eto, nid oes unrhyw reswm pam y dylai person ifanc sy'n pontio o ofal brofi digartrefedd, ac rwy'n credu bod y ddyletswydd hon yn golygu bod rhaid i awdurdod lleol gymryd y camau rhesymol hynny i wneud yn siŵr bod ganddynt le addas i fyw wrth iddynt bontio o ofal.
Fe wnaethoch chi sôn am y tasglu—unwaith eto, rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i ddiolch i Lee a'r tasglu am yr holl waith maen nhw wedi'i wneud. Rwyf wedi darparu datganiad ysgrifenedig a chyhoeddi'r adroddiad ochr yn ochr â'r datganiad ysgrifenedig hwnnw. Unwaith eto, fel y dywedais, nid yw'n ymwneud â materion deddfwriaethol yn unig, mae'n ymwneud â sut y gallwn ddileu rhai o'r rhwystrau yn y system, a dyna'r gwaith y mae Lee ac eraill wedi'i wneud yn y maes hwn. Unwaith eto, fel y dywedais, rwy'n bwriadu symud ymlaen cyn gynted â phosibl gyda'r darn hwnnw o waith, ar ôl ei gyhoeddi yn ddiweddar. Mae hynny, yn amlwg, yn mynd ochr yn ochr â hyn i gyd hefyd, oherwydd mae'r cyfan yn gysylltiedig.
Diolch yn fawr am y Bil, Gweinidog. Gobeithio wrth ei drafod a'i weithredu y bydd modd inni sicrhau bod y broses o dderbyn cymorth mor eglur â phosib. Fe ges i sioc yn ddiweddar o weld person oedd yn yr ysgol gyda fi yn byw ar y stryd yng Nghaerdydd. Mae llawer o'r rhesymau pam mae rhywun yn mynd yn ddigartref yn gymhleth iawn. Rhaid, felly, sicrhau bod y cymorth mor ddealladwy â phosib.
Yn yr un modd, gobeithio y byddwn yn sicrhau y gall ceiswyr sydd ddim yn rhugl yn y Saesneg dderbyn gwybodaeth glir yn eu hiaith hwy. Mae'n wych bod yr ymgynghoriad yma wedi cael ei gyfieithu i iaith arwydd, ond dyw'r memorandwm yn sôn dim byd am anghenion iaith pobl sy'n fyddar neu sydd ddim yn siarad Saesneg neu Gymraeg fel iaith gyntaf.
Thank you very much for introducing the Bill, Minister. I hope, as we discuss and implement this Bill, it'll be possible to ensure that the process of receiving support is as clear as possible. I was shocked recently to see someone who was at school with me living on the streets in Cardiff. There are many reasons why one becomes homeless, and they are very complex reasons. We must, therefore, ensure that the support is as clear as possible.
In the same way, I hope we will ensure that applicants who are not fluent in English can receive clear information in their own language. It's great that this consultation has been translated into sign language, but the memorandum doesn't make any mention of the language needs of applicants who are deaf or who don't speak English or Welsh as a first language.
Applications who understand the process fully are more aware to be able to self-advocate for themselves and to take charge of their own lives. Support, Cabinet Secretary, should be empowering, not disempowering, and a lot of that will come down to language and communication. Diolch yn fawr.
Mae ceiswyr sy'n deall y broses yn llawn yn fwy ymwybodol y gallent ddefnyddio hunaneiriolaeth a chymryd cyfrifoldeb am eu bywydau eu hunain. Dylai cefnogaeth, Ysgrifennydd Cabinet, rymuso, nid dadrymuso, a bydd llawer o hynny'n ymwneud ag iaith a chyfathrebu. Diolch yn fawr.
Diolch, Rhys, and thank you for the points that you've raised. Absolutely, when you see somebody that you know, it really does bring home to us all that any of us can face that at any point in our lives—the challenges that come for people. There are very complex reasons why people are homeless and face homelessness. That's why, I think, it's really important that we have more of a public service response to this real issue, because we do want to make sure that homelessness is rare, brief and unrepeated. Also, we have our long-term aim of ending homelessness here in Wales.
I very much take your point, and I think communication around services is really important, isn't it? Because people, again, with lots of different complex needs need to be able to access these services as easily as possible. Sometimes, we end up developing something where a language and a system create this whole new—you need a whole dictionary to understand it. So, I very much take on board that point.
Just to say, throughout every stage of the development of this Bill, we've sought to ensure inclusion and consideration of those under-served communities. We do have some examples in terms of our proposals for accessible housing registers, which support the recommendations of the disability rights taskforce, which were published this week. We’ve got prevention, support and accommodation plans, which will allow for individualised support planning that takes account of individual circumstances, protected characteristics and broader disadvantage. So, I think there’s a lot in that.
I will very much take those points back as well, because, again, I think it’s really important in terms of the languages that people have to use to access these services, and, understanding where you are in a system, it's so important to have it in your own language, or to be able to have it in an accessible way. So, thank you for raising that point today.
Diolch, Rhys, a diolch am y pwyntiau rydych chi wedi'u codi. Yn hollol, pan fyddwch chi'n gweld rhywun rydych chi'n ei adnabod, mae'n wir yn gwneud rhywun yn ymwybodol y gall unrhyw un ohonom wynebu hynny ar unrhyw adeg yn ein bywydau—yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu. Mae yna resymau cymhleth iawn pam y mae pobl yn ddigartref ac yn wynebu digartrefedd. Dyna pam, rwy'n credu, y mae hi'n bwysig iawn bod gennym fwy o ymateb gwasanaeth cyhoeddus i'r mater gwirioneddol hwn, oherwydd rydym eisiau gwneud yn siŵr bod digartrefedd yn brin, yn fyr ac nad yw'n fynych. Hefyd, mae gennym ein nod hirdymor o roi diwedd ar ddigartrefedd yma yng Nghymru.
Rwy'n derbyn eich pwynt yn llwyr, ac rwy'n credu bod cyfathrebu o ran gwasanaethau yn bwysig iawn, onid yw e? Oherwydd mae angen i bobl, unwaith eto, sydd â llawer o anghenion cymhleth gwahanol allu cael mynediad mor rhwydd â phosibl at y gwasanaethau hyn. Weithiau, rydym ni'n datblygu rhywbeth lle mae iaith a system yn creu rhywbeth hollol newydd—mae angen geiriadur cyfan arnoch i'w ddeall. Felly, rwy'n derbyn y pwynt hwnnw.
Dim ond i ddweud, trwy gydol pob cyfnod datblygiad y Bil hwn, rydym wedi ceisio sicrhau cynhwysiant ac ystyriaeth o'r cymunedau hynny sydd heb eu gwasanaethu'n ddigonol. Mae gennym rai enghreifftiau o ran ein cynigion ar gyfer cofrestrau tai hygyrch, sy'n cefnogi argymhellion y tasglu hawliau anabledd, a gyhoeddwyd yr wythnos hon. Mae gennym gynlluniau atal, cymorth a llety, a fydd yn caniatáu cynllunio cymorth unigol sy'n ystyried amgylchiadau unigol, nodweddion gwarchodedig ac anfantais ehangach. Felly, rwy'n credu bod yna lawer yn hynny.
Byddaf yn cymryd y pwyntiau hynny i'w hystyried hefyd, oherwydd, unwaith eto, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn o ran yr ieithoedd y mae'n rhaid i bobl eu defnyddio i gael mynediad at y gwasanaethau hyn, ac, er mwyn deall ble rydych chi mewn system, mae mor bwysig ei gael yn eich iaith eich hun, neu i allu ei gael mewn ffordd hygyrch. Felly, diolch am godi'r pwynt yna heddiw.
Thank you, Cabinet Secretary, for your statement on this very important and eagerly anticipated Bill, which has been drafted on evidence based on discussions with people with lived experience. And like you, it was really good to meet with Phil and Scotty earlier—two people who’ve been through the system and who now want to help people avoid homelessness, and have worked with you and your predecessor, Julie James, to ensure that this is the very best legislation possible. And listening to them talk earlier today, it emphasised to me the human cost of homelessness and how we must do everything we can to avoid it. Everyone needs a home, and everyone has a right to feel safe in that home. So, like others who’ve already spoken, I'm pleased to see proposed targeted action at those most at risk. And one example of that is young people leaving care.
Homelessness needs to be prevented in the first place, and we need to have that renewed focus on a multi-agency response, so that, when it does happen, everyone comes together to, as you say, make sure it’s as brief as possible and it’s not repeated. So, my first specific question to you, Cabinet Secretary, is: are you confident these proposals will ensure more people housed in temporary accommodation will be placed more quickly into permanent social housing? Diolch.
Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad ar y Bil pwysig iawn hwn y bu disgwyl mawr amdano, sydd wedi'i ddrafftio ar dystiolaeth sy'n seiliedig ar drafodaethau gyda phobl â phrofiad bywyd. Ac fel chi, roedd yn dda iawn cwrdd â Phil a Scotty yn gynharach—dau berson sydd wedi bod trwy'r system ac sydd bellach eisiau helpu pobl i osgoi digartrefedd, ac sydd wedi gweithio gyda chi a'ch rhagflaenydd, Julie James, i sicrhau mai hon yw'r ddeddfwriaeth orau bosibl. Ac wrth wrando arnyn nhw yn siarad yn gynharach heddiw, fe bwysleisiodd i mi gost ddynol digartrefedd a sut mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i'w osgoi. Mae angen cartref ar bawb, ac mae gan bawb hawl i deimlo'n ddiogel yn y cartref hwnnw. Felly, fel eraill sydd eisoes wedi siarad, rwy'n falch o weld gweithredu arfaethedig wedi ei anelu at y rhai sydd fwyaf mewn perygl. Ac un enghraifft o hynny yw pobl ifanc sy'n gadael gofal.
Mae angen atal digartrefedd yn y lle cyntaf, ac mae angen i ni gael y pwyslais o'r newydd hwnnw ar ymateb amlasiantaeth, fel bod pawb, pan fydd yn digwydd, yn dod at ei gilydd i, fel y dywedwch, i wneud yn siŵr ei fod mor fyr â phosibl ac nad yw'n cael ei ailadrodd. Felly, fy nghwestiwn penodol cyntaf i chi, Ysgrifennydd Cabinet, yw: ydych chi'n hyderus y bydd y cynigion hyn yn sicrhau y bydd mwy o bobl sy'n cael eu lletya mewn llety dros dro yn cael eu rhoi mewn tai cymdeithasol parhaol yn gyflymach? Diolch.
Diolch, Lesley. And thank you; I’m glad, and I know that you very much enjoyed meeting Scotty and Phil earlier, as much as I did, along with the Chair of the committee as well. They are incredibly passionate about this, and I think the fact that they’ve been so amazing in sharing their personal experiences and real trauma in the system that they faced to really help other people within this is hugely commendable, as it is with the other people who have actually taken part as well. But I just take my hat off to them for really talking to us about this to make sure that other people don’t have to go through, perhaps, the system that they did. But I think it’s also important to remind ourselves that that’s why this development of the Bill is all based on evidence. It’s based on evidence of real people as well, isn’t it? So, I’m very pleased to be bringing this forward today.
In terms of your point around care leavers—and thank you so much again for mentioning that—we know that there’s a real risk of homelessness that care leavers face. It’s an increased risk. The Bill does deliver this package of measures that, collectively, are designed to end the use of the homelessness system as a route out of care, and that is something that I know we’d all want to see. Social services and local housing authorities have to work together to develop those joint protocols for young people. And social services must ensure that suitable accommodation is available for occupation for certain care leavers once they leave care. And this is further supported as care leavers owed these duties will be recognised as a group that must be allocated reasonable preference for social housing. And the Bill, therefore, ensures prevention of homelessness for care leavers, mitigating the negative impacts that disproportionately impact that group.
I think, in terms of young people and temporary accommodation, we’ve got some measures in here around 16 and 17-year-olds. I think that’s real progress. We know that any young person in temporary accommodation—again, particularly, some of the worst types of temporary accommodation that we see—is, again, in my opinion, one too many, and we need to be doing everything we can to move the system away from what is at the moment just focused on the crisis point, back to prevention. And I think moving from 56 days to six months, in terms of being able to work with people across all public services, is really a big step forward.
Diolch, Lesley. Rwy'n falch, ac rwy'n gwybod eich bod wedi mwynhau cwrdd â Scotty a Phil yn gynharach, cymaint ag y gwnes i, ynghyd â Chadeirydd y pwyllgor hefyd. Maen nhw'n angerddol iawn am hyn, ac rwy'n credu bod y ffaith eu bod wedi bod mor anhygoel wrth rannu eu profiadau personol a'u trawma go iawn yr oeddent yn eu hwynebu yn y system er mwyn helpu pobl eraill o fewn hon, yn hynod ganmoladwy, felly hefyd y bobl eraill sydd wedi cymryd rhan mewn gwirionedd. Ond rwy'n codi fy het iddyn nhw am siarad â ni am hyn i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl eraill fynd trwy, efallai, y system yr aethon nhw drwyddi. Ond rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig atgoffa ein hunain mai dyna pam mae'r datblygiad hwn o'r Bil i gyd yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae'n seiliedig ar dystiolaeth gan bobl go iawn hefyd, onid yw e? Felly, rwy'n falch iawn o gyflwyno hwn heddiw.
O ran eich pwynt ynglŷn â gadael gofal—a diolch yn fawr eto am sôn am hynny—rydym yn gwybod bod y rhai sy'n gadael gofal yn wynebu risg wirioneddol o ddigartrefedd. Mae'n risg uwch. Mae'r Bil yn cyflwyno'r pecyn hwn o fesurau sydd, gyda'i gilydd, wedi'u cynllunio i roi diwedd ar y defnydd o'r system ddigartrefedd fel llwybr allan o ofal, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn gwybod y byddwn ni i gyd eisiau ei weld. Mae'n rhaid i wasanaethau cymdeithasol ac awdurdodau tai lleol weithio gyda'i gilydd i ddatblygu'r protocolau hynny ar y cyd ar gyfer pobl ifanc. Ac mae'n rhaid i wasanaethau cymdeithasol sicrhau bod llety addas ar gael i'w feddiannu ar gyfer rhai sy'n gadael gofal unwaith y byddant yn gadael gofal. Ac mae hyn yn cael ei gefnogi ymhellach gan y bydd pobl sy'n gadael gofal sy'n haeddu'r dyletswyddau hyn yn cael eu cydnabod fel grŵp y mae'n rhaid rhoi iddo'r dewis rhesymol ar gyfer tai cymdeithasol. Ac mae'r Bil, felly, yn sicrhau na fydd pobl sy'n gadael gofal yn wynebu digartrefedd, gan liniaru'r effeithiau negyddol sy'n effeithio'n anghymesur ar y grŵp hwnnw.
Rwy'n credu, o ran pobl ifanc a llety dros dro, mae gennym rai mesurau yma yn ymwneud â phobl ifanc 16 a 17 oed. Rwy'n credu bod hynny'n gynnydd go iawn. Rydym yn gwybod bod unrhyw berson ifanc mewn llety dros dro—unwaith eto, yn enwedig, rhai o'r mathau gwaethaf o lety dros dro a welwn—unwaith eto, yn fy marn i, yn un yn ormod, ac mae angen i ni fod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i symud y system i ffwrdd o'r hon sydd ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar y pwynt argyfwng, yn ôl at atal. Ac rwy'n credu bod symud o 56 diwrnod i chwe mis, o ran gallu gweithio gyda phobl ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus, yn gam mawr ymlaen.
Ac, yn olaf, Mark Isherwood.
And, finally, Mark Isherwood.
Diolch. Why do you state in this statement,
'the pandemic revealed a hidden homelessness need',
when I came from the sector and first highlighted this homelessness need in this very Chamber in 2003, when Homes for All Cymru warned in 2004 that there would be a housing supply crisis in Wales if action was not taken, and subsequently called for action when that crisis became reality, and subsequently referred to the housing emergency that we're now encountering? Why, when successive committee reports, starting with one I participated in in 2005 on youth homelessness in Wales, highlighted the hidden homelessness need in Wales? Why isn't the scrutiny of previous housing legislation, which I took part in, acknowledged, which highlighted the hidden homelessness need in Wales? This isn't new. This isn't a new issue. This isn't a new housing supply issue, or a prevention or early intervention issue. I, myself, and many previous Members—maybe some still here—have been directly involved in highlighting this for more than two decades. So, how can you possibly say the pandemic revealed this?
Finally, you recognise the role that housing supply plays, you said, but you can't get a quart into a pint pot. Without a massive increase in supply, remedying the issues identified over the last two decades, you're simply going to be having different people in the homes, but the same numbers waiting for those homes. There are many exciting—
Diolch. Pam ydych chi'n dweud yn y datganiad hwn,
'datgelodd y pandemig angen cudd digartrefedd',
pan ddes i o'r sector a thynnu sylw at yr angen digartrefedd hwn am y tro cyntaf yn y Siambr hon yn 2003, pan rybuddiodd Cartrefi i Gymru Gyfan yn 2004 y byddai argyfwng cyflenwad tai yng Nghymru pe na bai camau yn cael eu cymryd, ac wedi hynny galw am weithredu pan ddaeth yr argyfwng hwnnw'n realiti, ac wedi hynny cyfeirio at yr argyfwng tai yr ydym bellach yn ei wynebu? Pam, pan amlygodd adroddiadau pwyllgor olynol, gan ddechrau gydag un a gymerais ran ynddo yn 2005 ar ddigartrefedd ieuenctid yng Nghymru, angen cudd digartrefedd yng Nghymru? Pam nad yw'r gwaith craffu ar ddeddfwriaeth dai flaenorol, y cymerais ran ynddo, yn cael ei gydnabod a oedd yn tynnu sylw at angen cudd digartrefedd yng Nghymru? Nid yw hyn yn newydd. Nid mater newydd yw hwn. Nid mater cyflenwad tai newydd yw hwn, nac yn fater atal neu ymyrraeth gynnar. Rydw i, fy hun, a llawer o Aelodau blaenorol—efallai rhai yn dal yma—wedi bod yn ymwneud yn uniongyrchol â thynnu sylw at hyn ers mwy na dau ddegawd. Felly, sut allwch chi ddweud bod y pandemig wedi datgelu hyn?
Yn olaf, rydych chi'n cydnabod y rôl y mae cyflenwad tai yn ei chwarae, ond ni allwch gael chwart i mewn i bot peint. Heb gynnydd enfawr yn y cyflenwad, gan ddatrys y problemau a nodwyd dros y ddau ddegawd diwethaf, rydych chi'n mynd i gael gwahanol bobl yn y cartrefi, ond yr un niferoedd yn aros am y cartrefi hynny. Mae yna lawer o—
You need to conclude, Mark, please.
Mae angen i chi orffen, Mark, os gwelwch yn dda.
—proposals across the sectors to tackle this. So, how will you finally sit down around the table with all the sectors, including the private sector, to capitalise upon some of the solutions they're proposing?
—o gynigion cyffrous ar draws y sectorau i fynd i'r afael â hyn. Felly, sut fyddwch chi'n eistedd i lawr o amgylch y bwrdd gyda'r holl sectorau, gan gynnwys y sector preifat, i fanteisio ar rai o'r atebion y maen nhw'n eu cynnig?
Thank you, Mark. I understand that homelessness is something that the Senedd, and the Assembly before, would have discussed over time as well, and everybody—. And your work, which you have highlighted, over a number of years—I acknowledge the work that you have done, as was said, with many other people here. In terms of the pandemic, the issue was around the approach that we took, and my predecessor took, Julie James, which was the 'no-one left out' approach, and how we were able to house people who were living and sleeping rough at that time, and also trying to find—. You know, the cost-of-living crisis, and all those other things that really hit people. So, we've got a new approach to how we tackle homelessness here in Wales. Again, this Bill hasn't been developed over a short time; this has actually been something that has been in train since 2018. Again, as I said, it has been developed with people with lived experience. It has been developed with experts. We have an expert review panel, who I'd also like to pay tribute to for the work that they have been doing, which includes local authorities, it includes housing sector experts, really making sure that we're getting this right—again, with the third sector. So, I'm very much grateful for the work that they have done.
The issue around supply—. And Wales isn't alone in facing this challenge of homelessness. As I said at the start, this is something that we're facing not just, again, in the UK, but also across the western world. We have—. In terms of the supply, again, I see it as an—. It obviously has a role to play; I don't doubt that. We also have some programmes, like our Help to Stay programme, which is making sure that people who are struggling, perhaps with their mortgage payments, for example, don't have to go into temporary accommodation. I met a family who that would have happened to if they hadn't accessed the Help to Stay programme. So, we are trying to find different ways to get in at an earlier stage. And that's why the crucial part of this Bill is to really focus on prevention, take us away from that crisis point, and really look at preventing that. Obviously, supply is an issue. As I said, we are putting a record amount of money into the supply sector, and I do work with the private sector, as well as others, to look at the issue of supply.
Diolch, Mark. Rwy'n deall bod digartrefedd yn rhywbeth y byddai'r Senedd, a'r Cynulliad o'r blaen, wedi trafod dros amser hefyd, a phawb—. A'ch gwaith chi, yr ydych wedi tynnu sylw ato, dros nifer o flynyddoedd—rwy'n cydnabod y gwaith rydych chi wedi'i wneud, fel y dywedwyd, gyda llawer o bobl eraill yma. O ran y pandemig, roedd y mater yn ymwneud â'r dull gweithredu a fabwysiadwyd gennym ni, a gan fy rhagflaenydd, Julie James, sef y dull 'neb yn cael ei adael allan', a sut roedden ni'n gallu cartrefu pobl a oedd yn byw ac yn cysgu allan ar y pryd, a hefyd yn ceisio dod o hyd i—. Wyddoch chi, yr argyfwng costau byw, a'r holl bethau eraill hynny sy'n taro pobl mewn gwirionedd. Felly, mae gennym ddull newydd o ran mynd i'r afael â digartrefedd yma yng Nghymru. Unwaith eto, nid yw'r Bil hwn wedi'i ddatblygu dros gyfnod byr; mae hwn wedi bod yn rhywbeth sydd wedi dechrau ers 2018. Unwaith eto, fel y dywedais i, mae wedi cael ei ddatblygu gyda phobl sydd â phrofiad bywyd. Mae wedi cael ei ddatblygu gydag arbenigwyr. Mae gennym banel adolygu arbenigol, yr hoffwn i dalu teyrnged iddo am y gwaith mae wedi ei wneud, sy'n cynnwys awdurdodau lleol, mae'n cynnwys arbenigwyr y sector tai, gan wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud hyn yn iawn—eto, gyda'r trydydd sector. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith maen nhw wedi'i wneud.
Mae'r mater ynglŷn â'r cyflenwad—. Ac nid yw Cymru ar ei phen ei hun yn wynebu'r her hon o ddigartrefedd. Fel y dywedais i ar y dechrau, mae hyn yn rhywbeth rydym ni'n ei wynebu nid yn unig, eto, yn y DU, ond hefyd ar draws y byd gorllewinol. Mae gennym ni—. O ran y cyflenwad, eto, rwy'n ei weld fel—. Mae'n amlwg bod ganddo rôl i'w chwarae; dydw i ddim yn amau hynny. Mae gennym hefyd rai rhaglenni, fel ein rhaglen Cymorth i Aros, sy'n gwneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl sy'n cael trafferth, efallai gyda'u taliadau morgais, er enghraifft, fynd i lety dros dro. Fe wnes i gwrdd â theulu y byddai hynny wedi digwydd iddynt pe na baent wedi cael mynediad i'r rhaglen Cymorth i Aros. Felly, rydym ni'n ceisio dod o hyd i wahanol ffyrdd o fynd i mewn yn gynharach. A dyna pam mai rhan hanfodol o'r Bil hwn yw canolbwyntio ar atal, mynd â ni i ffwrdd o'r pwynt argyfwng hwnnw, ac edrych ar atal hynny. Yn amlwg, mae cyflenwad yn broblem. Fel y dywedais i, rydym ni'n rhoi'r swm uchaf erioed o arian i'r sector cyflenwi, ac rwy'n gweithio gyda'r sector preifat, yn ogystal ag eraill, i edrych ar fater cyflenwi.
A late request—Sioned Williams.
Cais hwyr—Sioned Williams.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch, Ysgrifennydd y Cabinet.
Thank you, Dirprwy Lywydd, and thank you, Cabinet Secretary.
I just wanted to pay tribute to the work of End Youth Homelessness Cymru. They have shone a real light on all the different aspects of youth homelessness. One of those reports that I remember reading when I was first elected was a report of 2019 called 'Out on the Streets', which really shone a light on young people within the LGBTQ+ community. We know, don't we, that people in that community are disproportionately affected by homelessness, and people in the LGBTQ+ community are most at risk of homelessness around the time they tell their family and friends about their sexuality and gender identity. So, I wonder if you could just outline how this Bill will support the LGBTQ+ community, who are increasingly having to deal with homophobia and transphobia in society, and how it will align with the Welsh Government's LGBTQ+ action plan. Diolch.
Roeddwn i eisiau talu teyrnged i waith End Youth Homelessness Cymru. Maent wedi taflu goleuni go iawn ar yr holl wahanol agweddau ar ddigartrefedd ieuenctid. Un o'r adroddiadau hynny rwy'n cofio ei ddarllen pan gefais fy ethol gyntaf oedd adroddiad o 2019 o'r enw 'Out on the Streets', a oedd wir yn taflu goleuni ar bobl ifanc o fewn y gymuned LHDTC+. Rydym ni'n gwybod, onid ydym, yr effeithir yn anghymesur ar bobl yn y gymuned honno gan ddigartrefedd, a phobl yn y gymuned LHDTC+ sydd fwyaf mewn perygl o ddigartrefedd pan fyddant yn dweud wrth eu teulu a'u ffrindiau am eu rhywioldeb a'u hunaniaeth rhywedd. Felly, tybed a allech chi amlinellu sut y bydd y Bil hwn yn cefnogi'r gymuned LHDTC+, sy'n gorfod ymdrin fwyfwy â homoffobia a thrawsffobia mewn cymdeithas, a sut y bydd yn cyd-fynd â chynllun gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru. Diolch.
Diolch, Sioned. Thank you. Again, I'll thank, as you have, the End Youth Homelessness group that have also played a part, with others. This is a real example of that collaboration across the services and sectors as well.
Evidence is clear that, again, early intervention and integrated practice is effective in homelessness prevention amongst young people. The Bill will require social services and housing to set out how they'll work together to prevent homelessness, and this will create clarity for professionals and ensure a joined-up, efficient response to young people.
In terms of the points you make, we know that those experiencing homelessness are not a homogenous group. Their backgrounds and experience will obviously vary, but we know that the risk of homelessness can be exacerbated through those broader external factors. We know some of that disproportionately impacts some groups, as you have said.
In terms of the work around local connection tests—and there's some other work that we're able to do in terms of other groups—as I said, there will be ways that we'll be able to develop some of that work as we move forward, but the 'ask and act' duty will provide particular benefits for those who experience homelessness alongside other support needs, who should receive that earlier support and earlier intervention.
So, there is a lot more there, I think, in terms of making sure we're supporting people who are at risk more than others. Again, I'd like to thank all those people who have been involved in the making of this Bill. I hope they will be able to see and hear their voices through this Bill.
Diolch, Sioned. Diolch. Unwaith eto, hoffwn ddiolch, fel y gwnaethoch chi, i'r grŵp End Youth Homelessness sydd hefyd wedi chwarae rhan, ynghyd ag eraill. Mae hon yn enghraifft wirioneddol o'r cydweithio hwnnw ar draws y gwasanaethau a'r sectorau hefyd.
Mae'r dystiolaeth yn glir, unwaith eto, bod ymyrraeth gynnar ac ymarfer integredig yn effeithiol wrth atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Bydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau cymdeithasol a thai nodi sut y byddan nhw'n gweithio gyda'i gilydd i atal digartrefedd, a bydd hyn yn creu eglurder i weithwyr proffesiynol ac yn sicrhau ymateb cydgysylltiedig, effeithlon i bobl ifanc.
O ran y pwyntiau rydych chi'n eu gwneud, rydyn ni'n gwybod nad yw'r rhai sy'n profi digartrefedd yn grŵp unffurf. Bydd eu cefndiroedd a'u profiad yn amlwg yn amrywio, ond rydyn ni'n gwybod y gall y risg o ddigartrefedd gael ei gwaethygu gan y ffactorau allanol ehangach hynny. Rydyn ni'n gwybod bod rhai ohonyn nhw'n cael effaith anghymesur ar rai grwpiau, fel y dywedoch.
O ran y gwaith sy'n ymwneud â phrofion cysylltiadau lleol—ac mae rhywfaint o waith arall y gallwn ni ei wneud o ran grwpiau eraill—fel y dywedais i, bydd ffyrdd y byddwn ni'n gallu datblygu rhywfaint o'r gwaith hwnnw wrth i ni symud ymlaen, ond bydd y ddyletswydd 'gofyn a gweithredu' yn rhoi manteision penodol i'r rhai sy'n profi digartrefedd ochr yn ochr ag anghenion cymorth eraill, a ddylai dderbyn y gefnogaeth gynharach honno ac ymyrraeth gynharach.
Felly, mae llawer mwy yn y fan yna, rwy'n credu, o ran gwneud yn siŵr ein bod ni'n cefnogi pobl sy'n wynebu mwy o risg nag eraill. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r holl bobl hynny sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith o lunio'r Bil hwn. Rwy'n gobeithio y byddan nhw'n gallu gweld a chlywed eu lleisiau trwy'r Bil hwn.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Thank you, Cabinet Secretary.
Yr eitem nesaf fydd datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Lynne Neagle.
The next item is a statement by the Cabinet Secretary for Education on Sustainable Communities for Learning. I call on the Cabinet Secretary, Lynne Neagle.

Thank you, Dirprwy Lywydd. I’m pleased to have the opportunity to update you today on the Sustainable Communities for Learning programme. This transformative initiative has been reshaping the educational landscape across Wales since 2014, and I'm delighted to share our progress and vision.
Originally launched as the twenty-first century schools programme, this initiative was renamed in January 2022 to reflect our deeper commitment to sustainability and community. Working in partnership with the Welsh Local Government Association, CollegesWales and diocesan directors we've created modern, sustainable and digitally equipped learning environments that benefit learners of all ages.
The first phase of investment, band A, represented a £1.4 billion investment over five years, ending in 2018-19, delivering 204 projects, including major refurbishments and new-build schools. Band B began in April 2019, expanding to include further education colleges, with £2.2 billion invested across 131 major capital projects.
I'm pleased to report that, with the capital budget of £371 million approved this year, we are on course to achieve our programme for government commitment of investing £1.5 billion within this current Senedd term. This is a remarkable achievement that demonstrates the effectiveness of our collaborative approach.
In addition to traditional capital, the programme is successfully delivering new schools and colleges through the revenue education mutual investment model. This is seeing a further £500 million capital equivalent of investment in our education estate. The mutual investment model has delivered three primary schools in Rhondda Cynon Taf and a three-to-16 learning campus in Mynydd Isa, Flintshire, and will soon deliver Cardiff and Vale College’s twin-campus project, which recently secured financial close. Together, these projects represent a capital equivalent value of £237 million.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi heddiw am y rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Mae'r fenter drawsnewidiol hon wedi bod yn ail-lunio'r dirwedd addysg ledled Cymru ers 2014, ac rwy'n falch iawn o rannu ein cynnydd a'n gweledigaeth.
Wedi'i lansio'n wreiddiol fel rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, cafodd y fenter hon ei hailenwi ym mis Ionawr 2022 i adlewyrchu ein hymrwymiad dyfnach i gynaliadwyedd a chymuned. Gan weithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ColegauCymru a chyfarwyddwyr esgobaethol, rydyn ni wedi creu amgylcheddau dysgu modern, cynaliadwy â chyfarpar digidol sydd o fudd i ddysgwyr o bob oedran.
Roedd cam cyntaf y buddsoddiad, band A, yn cynrychioli buddsoddiad o £1.4 biliwn dros bum mlynedd, a ddaeth i ben yn 2018-19, gan gyflawni 204 o brosiectau, gan gynnwys gwaith adnewyddu mawr ac ysgolion newydd. Dechreuodd Band B ym mis Ebrill 2019, gan ehangu i gynnwys colegau addysg bellach, gyda £2.2 biliwn wedi'i fuddsoddi ar draws 131 o brosiectau cyfalaf mawr.
Rwy'n falch o adrodd, gyda'r gyllideb gyfalaf o £371 miliwn a gymeradwywyd eleni, ein bod ni ar y trywydd iawn i gyflawni'r ymrwymiad a wnaethom yn y rhaglen lywodraethu i fuddsoddi £1.5 biliwn yn ystod tymor presennol y Senedd. Mae hwn yn gyflawniad rhyfeddol sy'n dangos effeithiolrwydd ein dull cydweithredol.
Yn ogystal â chyfalaf traddodiadol, mae'r rhaglen yn darparu ysgolion a cholegau newydd yn llwyddiannus trwy'r model buddsoddi cydfuddiannol addysg refeniw. Mae hyn yn gweld cyfalaf cyfwerth â £500 miliwn arall yn cael ei fuddsoddiad yn ein hystâd addysg. Mae'r model buddsoddi cydfuddiannol wedi darparu tair ysgol gynradd yn Rhondda Cynon Taf a champws dysgu tair i 16 oed ym Mynydd Isa, sir y Fflint, a bydd yn cyflawni prosiect dau gampws Coleg Caerdydd a'r Fro yn fuan, a sicrhaodd gwblhau'r agweddau ariannol yn ddiweddar. At ei gilydd, mae'r prosiectau hyn yn cynrychioli cyfalaf cyfwerth â £237 miliwn.
The success of this programme extends far beyond bricks and mortar. These facilities represent our commitment to ensuring equal opportunities for every young person in Wales to achieve the highest educational standards. When we combine great teaching and learning with state-of-the-art facilities, we provide our children and young people with the absolute best that education can offer. It has been my privilege to visit some of these schools and colleges, and speak directly with students about their experiences in these transformative environments. Their enthusiasm reinforces my belief in the power of well-designed learning spaces.
Our commitment to tackling the climate emergency is embedded within this programme. In March 2022, we celebrated the opening of South Point Primary School, Wales's first net-zero carbon school. Building on this success, since January 2022, all major new builds or refurbishments must meet our ambitious decarbonisation targets. I'm particularly excited about Pen y Dre High School in Merthyr Tydfil, which, once completed, will be the first major refurbishment project to achieve net-zero carbon in operation. By retaining key building elements, we're reducing embodied carbon, and the school will even supply surplus green energy to Prince Charles Hospital.
Additionally, £45 million of Welsh Government funding will support three innovative, sustainable primary schools through the sustainable schools challenge. Located in Neath Port Talbot, Gwynedd and Rhondda Cynon Taf, these projects will push sustainability boundaries and provide valuable case studies for the wider programme. To support local authorities in planning the decarbonisation of their education estates, we've procured the innovative elemental building condition and carbon survey. This will create a database of building condition and energy information, providing a net-zero carbon route-map for schools and colleges.
I'm also committed to supporting learners with additional learning needs. We've already invested £60 million across 800 projects through our ALN capital grant, increasing educational access for children and young people with ALN. I was particularly impressed by my visit to Ysgol Craig y Don in Conwy in March, when I was able to announce an additional £20 million for schools under the ALN capital grant this financial year. Furthermore, the core programme will invest £750 million over the next nine years to create new specialist school and college facilities.
Our community focus remains strong, with a further £20 million allocated this financial year to our community-focused schools initiative. Over the past three financial years, £58 million has been invested in 128 projects that enhance community engagement and promote lifelong learning. These projects often include provisions for adult education and training, enhancing skills development and employment prospects. The investment has created local jobs, apprenticeships, and work-experience opportunities, especially within the construction sector, which employs many small and medium-sized enterprises in Wales.
Looking ahead, I'm pleased to confirm that the next stage of the programme is transitioning to a nine-year rolling programme of priority projects. This new rolling programme includes a pipeline of 316 projects, valued at £5.4 billion at today's costs. This ambitious vision is only possible through partnership with local authorities, colleges and dioceses. Together, we are building not just schools and colleges, but sustainable communities that will nurture generations of Welsh learners. Diolch yn fawr.
Mae llwyddiant y rhaglen hon yn ymestyn ymhell y tu hwnt i frics a morter. Mae'r cyfleusterau hyn yn cynrychioli ein hymrwymiad i sicrhau cyfle cyfartal i bob person ifanc yng Nghymru gyflawni'r safonau addysgol uchaf. Pan ydyn ni'n cyfuno addysgu a dysgu gwych gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf, rydyn ni'n rhoi'r gorau y gall addysg ei gynnig i'n plant a'n pobl ifanc. Mae wedi bod yn fraint i mi ymweld â rhai o'r ysgolion a'r colegau hyn, a siarad yn uniongyrchol â myfyrwyr am eu profiadau yn yr amgylcheddau trawsnewidiol hyn. Mae eu brwdfrydedd yn ategu fy nghred ym mhŵer mannau dysgu sydd wedi'u cynllunio'n dda.
Mae ein hymrwymiad i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd wedi'i wreiddio yn y rhaglen hon. Ym mis Mawrth 2022, fe wnaethon ni ddathlu agor Ysgol Gynradd South Point, sef ysgol carbon sero net gyntaf Cymru. Gan adeiladu ar y llwyddiant hwn, ers mis Ionawr 2022, mae'n rhaid i bob adeilad neu waith adnewyddu newydd mawr gyrraedd ein targedau datgarboneiddio uchelgeisiol. Rwy'n arbennig o gyffrous am Ysgol Uwchradd Pen y Dre ym Merthyr Tudful, sef y prosiect adnewyddu mawr cyntaf i gyflawni carbon sero net wrth weithredu pan gaiff ei gwblhau. Trwy gadw elfennau allweddol o'r adeilad, rydyn ni'n lleihau carbon ymgorfforedig, a bydd yr ysgol hyd yn oed yn cyflenwi ynni gwyrdd dros ben i Ysbyty'r Tywysog Charles.
Yn ogystal, bydd £45 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru yn cefnogi tair ysgol gynradd arloesol, gynaliadwy drwy'r her ysgolion cynaliadwy. Wedi'u lleoli yng Nghastell-nedd Port Talbot, Gwynedd a Rhondda Cynon Taf, bydd y prosiectau hyn yn gwthio ffiniau cynaliadwyedd ac yn darparu astudiaethau achos gwerthfawr ar gyfer y rhaglen ehangach. Er mwyn cefnogi awdurdodau lleol i gynllunio datgarboneiddio eu hystadau addysg, rydyn ni wedi caffael yr arolwg arloesol elfennol o gyflwr adeiladau a charbon. Bydd hyn yn creu cronfa ddata o wybodaeth am gyflwr adeiladau ac ynni, gan roi map llwybr carbon sero net ar gyfer ysgolion a cholegau.
Rwyf hefyd wedi ymrwymo i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Rydyn ni eisoes wedi buddsoddi £60 miliwn ar draws 800 o brosiectau drwy ein grant cyfalaf ADY, gan gynyddu mynediad at gyfleoedd addysgol i blant a phobl ifanc ag ADY. Fe wnaeth fy ymweliad ag Ysgol Craig y Don yng Nghonwy ym mis Mawrth greu argraff arbennig arnaf, pan wnes i allu cyhoeddi £20 miliwn ychwanegol i ysgolion o dan y grant cyfalaf ADY yn y flwyddyn ariannol hon. Ar ben hynny, bydd y rhaglen graidd yn buddsoddi £750 miliwn dros y naw mlynedd nesaf i greu cyfleusterau arbenigol newydd ar gyfer ysgolion a cholegau.
Mae ein ffocws ar y gymuned yn parhau i fod yn gryf, gydag £20 miliwn arall yn cael ei ddyrannu yn y flwyddyn ariannol hon i'n menter ysgolion bro. Dros y tair blynedd ariannol diwethaf, mae £58 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn 128 o brosiectau sy'n gwella ymgysylltu cymunedol ac yn hyrwyddo dysgu gydol oes. Mae'r prosiectau hyn yn aml yn cynnwys darpariaethau ar gyfer addysg a hyfforddiant oedolion, gan wella gweithgarwch datblygu sgiliau a rhagolygon gwaith. Mae'r buddsoddiad wedi creu swyddi, prentisiaethau a chyfleoedd profiad gwaith lleol, yn enwedig yn y sector adeiladu, sy'n cyflogi llawer o fentrau bach a chanolig yng Nghymru.
Wrth edrych tua'r dyfodol, rwy'n falch o gadarnhau bod cam nesaf y rhaglen yn trosglwyddo i raglen dreigl naw mlynedd o brosiectau blaenoriaeth. Mae'r rhaglen dreigl newydd hon yn cynnwys llif o 316 o brosiectau, gwerth £5.4 biliwn ar gostau heddiw. Mae'r weledigaeth uchelgeisiol hon ond yn bosibl trwy bartneriaeth ag awdurdodau lleol, colegau ac esgobaethau. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n adeiladu nid yn unig ysgolion a cholegau, ond cymunedau cynaliadwy a fydd yn meithrin cenedlaethau o ddysgwyr yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Thank you so much for this afternoon's statement, Cabinet Secretary. Cabinet Secretary, significant investment was announced for this programme a couple of years ago by your predecessor as part of the next phase of this plan under the programme for government. My party has previously welcomed the commitment, but two First Ministers later, are we seeing a return on this investment in terms of improvement in education? Last time, we were told of the need for a more agile programme and that lessons had to be learnt from band A. So, can you please kindly elaborate today on what lessons have been learnt and set out what steps have indeed been taken in light of them? We were also previously told, Deputy Presiding Officer, and I quote, that
'School transformation remains a vital outcome of our investment.... Well-designed buildings and pleasant surroundings play a key role in supporting both staff and learners'.
We would all agree with the overall aims of this, Cabinet Secretary. However, we cannot deny that we have a shortage of teachers here in Wales. It's all well and good creating these new buildings, but it's imperative that we have teachers and staff to populate these new schools going forward. So, do you think that £1.5 billion over the course of the Parliament could be better spent on the people who are important to a child's education?
Cabinet Secretary, having a good environment for learning is laudable, but Estyn last month warned about declining behaviour in our secondary schools. With fixed-term exclusions of five days or less nearly doubling within the space of four years to nearly 23,000 in 2022-23 alone, and with teachers reporting threats of violence, failure to complete work, vaping and mobile phone misuse, a nice new building is all very well, but teachers and children are suffering due to poor behaviour. So, Cabinet Secretary, apart from your much self-promoted behaviour summit, what clear steps are you going to be taking to tackle bad behaviour in schools?
Cabinet Secretary, in this afternoon's statement you talk about the Government's commitment to tackle, and I quote, 'the climate emergency'. An example of this, which you have alluded to this afternoon, is South Point Primary School, the first net-zero carbon school in Wales. Cabinet Secretary, at a time when our health service is struggling, transport systems are cracking and educational systems are not delivering the outcomes they should be, do you think the people of Wales will still welcome this announcement when you are pledging an additional £45 million-worth of funding to support sustainable schools? In this afternoon's statement, the Cabinet Secretary boasts that, since 2022,
'all major new builds or refurbishments must meet our ambitious decarbonisation targets.'
Cabinet Secretary, I would like to ask you: does this requirement for net zero come at a higher cost to the programme? If so, how much?
Going forward, Cabinet Secretary, you have confirmed that 316 projects will be delivered over the next nine years, valued at £5.4 billion at today's cost. Given the significance of such a large sum, can you shed some light on some of these up-and-coming projects this afternoon, here in the Chamber? I appreciate you may not have them to hand, so, if not, I'd be really grateful if you could please share them with us after this session is over.
Cabinet Secretary, I appreciate I may be sounding really, really critical here today, but there are some bits that I really do welcome. Yes, there are some bits that I do welcome in your statement, including the support for those with ALN and the community-focused initiatives. You say this has created local jobs, apprenticeships and work-experience opportunities, and I'd really appreciate some figures supporting this claim. So, would you please kindly share those with us as well after the session is over? Thank you.
Diolch yn fawr iawn am y datganiad y prynhawn yma, Ysgrifennydd Cabinet. Ysgrifennydd Cabinet, cafodd buddsoddiad sylweddol ei gyhoeddi ar gyfer y rhaglen hon ychydig flynyddoedd yn ôl gan eich rhagflaenydd, fel rhan o gam nesaf y cynllun hwn o dan y rhaglen lywodraethu. Mae fy mhlaid wedi croesawu'r ymrwymiad yn flaenorol, ond dau Brif Weinidog yn ddiweddarach, ydyn ni gweld elw ar y buddsoddiad hwn o ran gwelliant mewn addysg? Y tro diwethaf, fe wnaethon ni glywed am yr angen am raglen fwy hyblyg a bod yn rhaid dysgu gwersi gan fand A. Felly, a fyddech cystal ag ymhelaethu heddiw ar y gwersi sydd wedi'u dysgu a nodi'r camau sydd wedi'u cymryd yn eu sgil? Cawson ni wybod eisoes hefyd, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n dyfynnu,
'Mae trawsnewidiad yr ysgol yn parhau i fod yn ganlyniad hanfodol i'n buddsoddiad.... Mae adeiladau sydd wedi eu dylunio'n dda ac amgylchoedd dymunol yn chwarae rhan allweddol o ran cefnogi staff a dysgwyr'.
Byddwn ni i gyd yn cytuno â nodau cyffredinol hyn, Ysgrifennydd Cabinet. Fodd bynnag, allwn ni ddim gwadu bod gennym ni brinder athrawon yma yng Nghymru. Mae'n beth da creu'r adeiladau newydd hyn, ond mae'n hanfodol bod gennym ni athrawon a staff i boblogi'r ysgolion newydd hyn yn y dyfodol. Felly, ydych chi'n credu y gallai'r £1.5 biliwn hwnnw yn ystod y Senedd gael ei wario'n well ar y bobl sy'n bwysig i addysg plant?
Ysgrifennydd Cabinet, mae sicrhau bod yna amgylchedd da ar gyfer dysgu yn ganmoladwy, ond rhybuddiodd Estyn fis diwethaf am y ffaith bod ymddygiad yn dirywio yn ein hysgolion uwchradd. Gyda gwaharddiadau cyfnod penodol o bum diwrnod neu lai bron yn dyblu o fewn pedair blynedd i bron 23,000 yn 2022-23 yn unig, a chydag athrawon yn adrodd am fygythiadau o drais, methiant i gwblhau gwaith, fepio a chamddefnyddio ffônau symudol, mae adeilad newydd braf yn iawn, ond mae athrawon a phlant yn dioddef oherwydd ymddygiad gwael. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, ar wahân i'ch uwchgynhadledd ymddygiad rydych chi'n gwneud llawer i'w hyrwyddo, pa gamau clir ydych chi'n mynd i'w cymryd i ymdrin ag ymddygiad gwael mewn ysgolion?
Ysgrifennydd Cabinet, yn y datganiad y prynhawn yma, rydych chi'n sôn am ymrwymiad y Llywodraeth i ymdrin â, ac rwy'n dyfynnu, 'yr argyfwng hinsawdd'. Enghraifft o hyn, yr ydych wedi cyfeirio ati y prynhawn yma, yw Ysgol Gynradd South Point, yr ysgol carbon sero net gyntaf yng Nghymru. Ysgrifennydd Cabinet, ar adeg pan fo'n gwasanaeth iechyd yn ei chael hi'n anodd ymdopi, pan fo'n systemau trafnidiaeth yn dirywio ac nad yw systemau addysg yn cyflawni'r canlyniadau y dylen nhw fod yn eu cyflawni, ydych chi'n credu y bydd pobl Cymru yn dal i groesawu'r cyhoeddiad hwn pan ydych chi'n addo gwerth £45 miliwn ychwanegol o gyllid i gefnogi ysgolion cynaliadwy? Yn y datganiad y prynhawn yma, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn brolio, ers 2002,
'mae'n rhaid i bob adeilad neu waith adnewyddu newydd mawr gyrraedd ein targedau datgarboneiddio uchelgeisiol.'
Ysgrifennydd Cabinet, hoffwn ofyn i chi: a yw'r gofyniad hwn am sero net yn golygu mwy o gost i'r rhaglen? Os felly, faint?
Wrth symud ymlaen, Ysgrifennydd Cabinet, rydych chi wedi cadarnhau y bydd 316 o brosiectau yn cael eu cyflawni dros y naw mlynedd nesaf, sy'n werth £5.4 biliwn ar gostau heddiw. O ystyried arwyddocâd swm mor fawr, allwch chi daflu rhywfaint o oleuni ar rai o'r prosiectau newydd hyn y prynhawn yma, yma yn y Siambr? Rwy'n gwerthfawrogi efallai nad ydyn nhw gyda chi wrth law, felly, os ddim, byddwn i'n ddiolchgar iawn pe gallech chi eu rhannu gyda ni ar ôl i'r sesiwn hon ddod i ben.
Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n gwerthfawrogi efallai fy mod i'n swnio'n feirniadol iawn yma heddiw, ond mae yna rai darnau rwyf wir yn eu croesawu. Oes, mae yna rai darnau rwyf yn eu croesawu yn eich datganiad, gan gynnwys y gefnogaeth i'r rhai sydd ag ADY a'r mentrau sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Rydych chi'n dweud bod hyn wedi creu swyddi, prentisiaethau a chyfleoedd profiad gwaith lleol, a byddwn i wir yn gwerthfawrogi rhai ffigurau sy'n cefnogi'r honiad hwn. Felly, a wnewch chi rannu'r rheini gyda ni hefyd ar ôl i'r sesiwn ddod i ben? Diolch.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
The Llywydd took the Chair.
Well, thank you, Natasha. I am disappointed, really, by your approach this afternoon and your ability to digest what was actually on the agenda, because lots of the issues you've raised, although they are linked to school buildings, are not the main subject of our discussion today.
As you highlighted, my predecessor Jeremy Miles signalled, when he last made a statement on this, that we would be moving to a nine-year rolling programme. The reason for that was for there to be more agility and dynamism in the programme. Having a set programme for a number of years was creating some unintended consequences. Some of the examples of this included tying up capital investment whilst external factors such as consultation issues, land acquisition, planning consent, et cetera, were ongoing, and that led to some project delivery delays. So, it’s firmly our view that by having a rolling programme—and there are review periods built into that rolling programme—we can be more dynamic and more flexible.
You raised the issue of school standards, and as you are aware, raising school standards is a top priority for this Government. I think having world-class buildings is an absolutely key part of raising standards. For me, it sends a really powerful message to the children and young people, as well as the staff in schools, that we value and respect them. That is very important. It enables schools to arrange their learning in more flexible and appropriate ways. One of the schools I was at a little while ago was Bassaleg School, where they've used their new facilities that we part-funded to align with the new curriculum areas of learning and experience, so there is a direct link from school buildings to the quality of learning. You referred to teacher recruitment and retention. I think that having the ability to work in top-notch facilities is a key part of retaining, respecting and valuing our school staff. I would encourage you to go and see some of these new buildings, Natasha, because they are absolutely stunning. I would love to have gone to school in some of those buildings myself.
You also referred to behaviour and exclusions. Well, having high-quality buildings is a key part of managing problematic behaviour. The Welsh-medium school I went to open last week in Rhondda Cynon Taf has a huge hall running right down the centre of the school, so the children can break out of their classrooms. They can work in little areas. That provides opportunity to support children who are maybe having difficulty self-regulating, who need extra interventions with learning. Having that space is particularly important in special schools, where we know that sometimes behaviour can be especially challenging to manage. So, having these top-notch buildings is a key part of tackling the other challenges we know that we face in schools.
I am especially disappointed to hear your comments on net zero. There is a cost for all of us if we don't tackle the climate emergency. I am very proud that this Government has built into the Sustainable Communities for Learning programme a commitment to net zero. I think it is something that our young people are incredibly passionate about as well, so I think it is regrettable, really, that you have gone down this road of climate denial, which is a new low for the Welsh Conservatives, when we are talking about something as important as the climate and nature emergency.
I have referred as well to the investment in the nine-year rolling programme. All local authorities have submitted their strategic outline cases. Obviously, we have got the college bids as part of that as well. What you are asking for there is a lot of detail, which obviously I don’t have to hand, as you would expect, today. In terms of the jobs and opportunities for local businesses, that is a key part of this programme. Local authorities work to deliver the programme, and colleges. We don’t collect the data, as far as I am aware, on the number of jobs, but I can assure you that supporting our economy is a key part of the programme.
Wel, diolch, Natasha. Rwy'n siomedig, mewn gwirionedd, gan eich ymagwedd y prynhawn yma a'ch gallu i ddeall yr hyn oedd ar yr agenda, oherwydd nid yw llawer o'r materion rydych chi wedi'u codi, er eu bod yn gysylltiedig ag adeiladau ysgolion, yn ymwneud â phrif bwnc ein trafodaeth heddiw.
Fel y gwnaethoch chi ei nodi, soniodd fy rhagflaenydd Jeremy Miles, pan wnaeth ddatganiad ar hyn ddiwethaf, y bydden ni'n symud i raglen dreigl naw mlynedd. Y rheswm am hynny oedd sicrhau bod y rhaglen yn fwy hyblyg a deinamig. Roedd cael rhaglen benodol am nifer o flynyddoedd yn creu rhai canlyniadau anfwriadol. Roedd rhai o'r enghreifftiau o hyn yn cynnwys rhwymo buddsoddiad cyfalaf tra bod ffactorau allanol fel materion ymgynghori, caffael tir, caniatâd cynllunio, ac ati, yn mynd rhagddynt, ac arweiniodd hynny at rywfaint o oedi o ran cyflawni prosiectau. Felly, rydyn ni'n gadarn ein barn y gallwn ni fod yn fwy deinamig ac yn fwy hyblyg trwy gael rhaglen dreigl—ac mae yna gyfnodau adolygu wedi'u cynnwys yn y rhaglen dreigl honno.
Fe wnaethoch chi godi'r mater o safonau ysgolion, ac fel y gwyddoch chi, mae codi safonau ysgolion yn brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Rwy'n credu bod cael adeiladau o'r radd flaenaf yn rhan hollol allweddol o godi safonau. I mi, mae'n anfon neges wirioneddol bwerus i'r plant a'r bobl ifanc, yn ogystal â'r staff mewn ysgolion, ein bod ni'n eu gwerthfawrogi ac yn eu parchu nhw. Mae hynny'n bwysig iawn. Mae'n galluogi ysgolion i drefnu eu dysgu mewn ffyrdd mwy hyblyg a phriodol. Un o'r ysgolion yr oeddwn i ynddi ychydig yn ôl oedd Ysgol Basaleg, lle maen nhw wedi defnyddio eu cyfleusterau newydd rydyn ni wedi'u hariannu'n rhannol i'w gwneud yn gydnaws â meysydd dysgu a phrofiad newydd y cwricwlwm, felly mae cysylltiad uniongyrchol rhwng adeiladau'r ysgol ac ansawdd y dysgu. Fe wnaethoch chi gyfeirio at recriwtio a chadw athrawon. Rwy'n credu bod gallu gweithio mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf yn rhan allweddol o gadw, parchu a gwerthfawrogi'r staff yn ein hysgolion. Byddwn i'n eich annog i fynd i weld rhai o'r adeiladau newydd hyn, Natasha, oherwydd maen nhw'n drawiadol iawn. Byddwn i wedi bod wrth fy modd yn mynd i'r ysgol yn rhai o'r adeiladau hynny fy hun.
Fe wnaethoch chi hefyd gyfeirio at ymddygiad a gwaharddiadau. Wel, mae cael adeiladau o ansawdd uchel yn rhan allweddol o reoli ymddygiad problematig. Mae gan yr ysgol cyfrwng Cymraeg yr es i i'w hagor yr wythnos diwethaf yn Rhondda Cynon Taf neuadd enfawr i lawr canol yr ysgol, fel bod y plant yn gallu dod allan o'u hystafelloedd dosbarth. Gallan nhw weithio mewn ardaloedd bach. Mae hynny'n rhoi cyfle i gefnogi plant sydd efallai'n cael trafferth i hunanreoleiddio, y mae angen ymyriadau dysgu ychwanegol arnyn nhw. Mae cael y gofod hwnnw yn arbennig o bwysig mewn ysgolion arbennig, lle rydyn ni'n gwybod y gall ymddygiad fod yn anodd iawn i'w reoli weithiau. Felly, mae cael yr adeiladau hyn sydd o'r radd flaenaf yn rhan allweddol o ymdrin â'r heriau eraill rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n eu hwynebu mewn ysgolion.
Rwy'n arbennig o siomedig i glywed eich sylwadau ar sero net. Mae cost i bob un ohonon ni os nad ydyn ni'n mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Rwy'n falch iawn bod y Llywodraeth hon wedi cynnwys ymrwymiad i sero net yn y rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y mae ein pobl ifanc yn angerddol iawn amdano hefyd, felly rwy'n credu ei bod yn anffodus, mewn gwirionedd, eich bod chi wedi mynd ar hyd y llwybr hwn o wadu newid hinsawdd, sy'n bwynt isel newydd i'r Ceidwadwyr Cymreig, pan ydyn ni'n siarad am rywbeth mor bwysig â'r argyfwng hinsawdd a natur.
Rwyf wedi cyfeirio hefyd at y buddsoddiad yn y rhaglen dreigl naw mlynedd. Mae'r awdurdodau lleol i gyd wedi cyflwyno eu hachosion amlinellol strategol. Yn amlwg, mae gennym ni geisiadau'r colegau yn rhan o hynny hefyd. Yr hyn rydych chi'n gofyn amdano yn y fan yna yw llawer o fanylion, ac yn amlwg does gen i ddim y manylion hynny wrth law, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, heddiw. O ran y swyddi a'r cyfleoedd i fusnesau lleol, mae hynny'n rhan allweddol o'r rhaglen hon. Mae awdurdodau lleol a cholegau yn gweithio i gyflwyno'r rhaglen. Dydyn ni ddim yn casglu'r data ar nifer y swyddi, hyd y gwn i, ond gallaf eich sicrhau bod cefnogi ein heconomi yn rhan allweddol o'r rhaglen.
Well, we all know that children learn best in environments that are safe, inspiring and fit for purpose. A modern, well-maintained school can transform not just outcomes, but lives. We cannot expect twenty-first century learning in twentieth century buildings. So, investment in infrastructure is an investment in our children's future, and Plaid Cymru, of course, supports efforts to build school facilities of the highest standard across Wales.
However, unfortunately, despite the good news for those who teach and learn in brand-new schools, there is less good news for those stuck in classrooms and school buildings requiring replacement and repairs. One word that wasn't mentioned in your statement, Cabinet Secretary, was 'maintenance', which is fundamental to maintaining high-quality school buildings. As Plaid Cymru revealed earlier this year, the total maintenance backlog for the school building estate in Wales is at least £0.5 billion—yes, £0.5 billion. That's the bill faced by our schools and local authorities after 25 years of Labour neglect. The total urgent maintenance backlog is at least £85 million. At least 320 schools in Wales require urgent maintenance. That is 22 per cent of all schools in Wales.
In the previous financial year, the Welsh Government committed £50 million for schools and college maintenance, but that would only be enough to cover around 10 per cent of the actual maintenance backlog. So, my question is this: has the Welsh Government considered reallocating a small percentage of the funds announced for the next nine years for new buildings over to the maintenance of current buildings to help reduce the total maintenance backlog, and potentially clear the urgent backlog?
In response to questions on this topic earlier this year, the Cabinet Secretary said that, and I quote:
'The information on repairs is, obviously, held at local authority level'.
And I continue from my own words and from correspondence with some councils: 'we are aware they are meant to undertake an annual school building conditions survey'. However, research from Plaid Cymru can show that in some local authorities, these annual surveys have not been carried out for some years, with some dating back as far as 2019. So, my second question is this: how does the Welsh Government know if the limited money they've announced for maintenance is going to the right place, if all local authorities have not got up-to-date surveys, with some using data that goes back as far as six years?
Whilst the Welsh Government have commissioned an education estate decarbonisation condition survey, this by its own definition collected high-level information and did not go into any details on finishes within buildings. This contrasts with the previous UK Government, which did undertake a detailed condition of school building survey in England, which was published in 2021. So, my final question is this: does the Welsh Government accept that there is a need for a national school condition survey to properly assess the maintenance requirements of the school estate in Wales, to ensure that Welsh Government funding is properly allocated to where it's most needed? Diolch yn fawr iawn.
Wel, rydyn ni gyd yn gwybod bod plant yn dysgu orau mewn amgylcheddau sy'n ddiogel, yn ysbrydoledig ac yn addas i'r diben. Gall ysgol fodern, wedi'i chynnal yn dda drawsnewid nid yn unig canlyniadau, ond bywydau. Allwn ni ddim disgwyl dysgu ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yn adeiladau'r ugeinfed ganrif. Felly, mae buddsoddi mewn seilwaith yn fuddsoddiad yn nyfodol ein plant, ac mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn cefnogi ymdrechion i adeiladu cyfleusterau ysgol o'r safon uchaf ledled Cymru.
Fodd bynnag, yn anffodus, er gwaethaf y newyddion da i'r rhai sy'n addysgu ac yn dysgu mewn ysgolion newydd sbon, mae llai o newyddion da i'r rhai sy'n sownd mewn ystafelloedd dosbarth ac adeiladau ysgol sydd angen eu disodli a'u hatgyweirio. Un peth na chafodd ei grybwyll yn eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, oedd 'cynnal a chadw', sy'n sylfaenol i gynnal adeiladau ysgol o ansawdd uchel. Fel y datgelodd Plaid Cymru yn gynharach eleni, mae cyfanswm yr ôl-groniad o waith cynnal a chadw ar yr ystad adeiladau ysgolion yng Nghymru yn £0.5 biliwn o leiaf—ie, £0.5 biliwn. Dyna'r bil sy'n wynebu ein hysgolion a'n hawdurdodau lleol ar ôl 25 mlynedd o esgeulustod Llafur. Mae cyfanswm yr ôl-groniad o waith cynnal a chadw brys yn £85 miliwn o leiaf. Mae angen gwaith cynnal a chadw brys ar o leiaf 320 o ysgolion yng Nghymru, sef 22 y cant o'r holl ysgolion yng Nghymru.
Yn y flwyddyn ariannol flaenorol, ymrwymodd Llywodraeth Cymru £50 miliwn ar gyfer gwaith cynnal a chadw mewn ysgolion a cholegau, ond byddai hynny ond yn ddigon i dalu am tua 10 y cant o'r ôl-groniad cynnal a chadw gwirioneddol. Felly, fy nghwestiwn i yw hyn: a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried ailddyrannu canran fach o'r arian a gyhoeddwyd ar gyfer y naw mlynedd nesaf ar gyfer adeiladau newydd i gynnal a chadw adeiladau presennol er mwyn helpu i leihau cyfanswm yr ôl-groniad cynnal a chadw, a chlirio'r ôl-groniad brys o bosibl?
Mewn ymateb i gwestiynau ar y pwnc hwn yn gynharach eleni, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet, ac rwy'n dyfynnu:
'Mae’r wybodaeth am atgyweiriadau, yn amlwg, yn cael ei chadw ar lefel awdurdod lleol.'
Ac rwy'n parhau drwy fy ngeiriau fy hun ac o ohebiaeth â rhai cynghorau: 'rydyn ni’n ymwybodol y dylen nhw fod yn cynnal arolwg blynyddol o gyflwr adeiladau ysgolion'. Fodd bynnag, gall ymchwil gan Blaid Cymru ddangos nad yw'r arolygon blynyddol hyn wedi cael eu cynnal ers rhai blynyddoedd, gyda rhai'n dyddio'n ôl i 2019. Felly, fy ail gwestiwn yw hyn: sut mae Llywodraeth Cymru yn gwybod a yw'r arian cyfyngedig maen nhw wedi'i gyhoeddi ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn mynd i'r lle cywir, os nad oes gan bob awdurdod lleol arolygon cyfredol, gyda rhai yn defnyddio data sy'n mynd yn ôl mor bell â chwe blynedd?
Er bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu arolwg o gyflwr datgarboneiddio ystadau addysg, roedd yr arolwg hwn, yn ôl ei diffiniad ei hun, yn casglu gwybodaeth lefel uchel ac nid oedd yn mynd i unrhyw fanylion am orffeniadau mewn adeiladau. Mae hyn yn cyferbynnu â Llywodraeth flaenorol y DU, a gynhaliodd arolwg manwl o gyflwr adeiladau ysgolion yn Lloegr, a gyhoeddwyd yn 2021. Felly, fy nghwestiwn olaf yw hyn: a yw Llywodraeth Cymru yn derbyn bod angen arolwg cenedlaethol o gyflwr ysgolion i asesu gofynion cynnal a chadw yr ystad ysgolion yng Nghymru yn briodol, er mwyn sicrhau bod cyllid Llywodraeth Cymru yn cael ei ddyrannu'n briodol i'r lle mae ei angen fwyaf? Diolch yn fawr iawn.
Can I thank Cefin Campbell for his questions, and for his acknowledgement that investment in education infrastructure is investment in our children's future? I 100 per cent agree with him on that. I'm aware that you've raised concerns previously about the maintenance backlog. Obviously, some of the investment that we make through the Sustainable Communities for Learning programme does contribute to that. Addressing backlog maintenance in schools has been a priority for the programme since 2014 through its investment objectives. We've rebuilt or refurbished 20 per cent of the school estate over the last 10 years, which has made a significant inroad into reducing the number of poor condition schools in Wales through the Sustainable Communities for Learning programme.
In addition to that, over the last 10 years we've invested £286 million in capital maintenance funding across schools and colleges in Wales, and a further £114 million of revenue maintenance funding has been provided for schools to address smaller items of maintenance that wouldn't classify as capital expenditure. We provided a note recently to the children's committee on that. You've referred, Cefin, to the funding that was announced last year for capital maintenance; so far this year, I've already approved £30 million capital maintenance funding, but I will release further funding if we are able to, should the budget allow. That has been what we've tended to do when some funding has become available through the Sustainable Communities for Learning programme.
I think it is important to be very clear as well that we provide a capital allocation to local authorities through their revenue support grant allocation, and it is local authorities and diocesan authorities' responsibility to manage the backlog and assess the condition of their school building assets in line with good practice in estate management. As you've highlighted, the local authorities hold the information on backlog costs. I wasn't aware that some local authorities haven't carried out a survey for some years, and if you would like to share that information with me, I will certainly look at that.
My understanding is that they provide us with an annual conditions rating of the schools, which we monitor, and then we discuss with local authorities. So, I think local authorities have that local information. It is incumbent on them to provide that information, rather than us doing a national survey. But it is important that we have a national view of what is happening at local authority level and we have those discussions with local authorities. I'm meeting Cardiff shortly to discuss some of the challenges in the city in Cardiff. But if you'd like to share that correspondence with me, I will follow that up.
A gaf i ddiolch i Cefin Campbell am ei gwestiynau, ac am ei gydnabyddiaeth bod buddsoddi mewn seilwaith addysg yn fuddsoddiad yn nyfodol ein plant? Rwy'n cytuno gant y cant ag ef ar hynny. Rwy'n ymwybodol eich bod chi wedi codi pryderon o'r blaen am yr ôl-groniad o waith cynnal a chadw. Yn amlwg, mae rhywfaint o'r buddsoddiad rydyn ni'n ei wneud drwy'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn cyfrannu at hynny. Mae ymdrin â'r ôl-groniad o waith cynnal a chadw mewn ysgolion wedi bod yn flaenoriaeth i'r rhaglen ers 2014 trwy ei hamcanion buddsoddi. Rydyn ni wedi ailadeiladu neu adnewyddu 20 y cant o'r ystad ysgolion dros y 10 mlynedd diwethaf, sydd wedi mynd tipyn o'r ffordd i leihau nifer yr ysgolion yng Nghymru sydd mewn cyflwr gwael drwy'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Yn ogystal â hynny, yn ystod y 10 mlynedd diwethaf rydyn ni wedi buddsoddi £286 miliwn mewn cyllid cynnal a chadw cyfalaf ledled ysgolion a cholegau yng Nghymru, ac mae £114 miliwn arall o gyllid cynnal a chadw refeniw wedi'i ddarparu i ysgolion ymdrin ag eitemau cynnal a chadw llai na fyddai'n cael eu hystyried yn wariant cyfalaf. Fe wnaethon ni ddarparu nodyn yn ddiweddar i'r pwyllgor plant ar hynny. Rydych chi wedi cyfeirio, Cefin, at y cyllid a gyhoeddwyd y llynedd ar gyfer gwaith cynnal a chadw cyfalaf; hyd yn hyn eleni, rwyf eisoes wedi cymeradwyo £30 miliwn o gyllid cynnal a chadw cyfalaf, ond fe fyddaf yn rhyddhau cyllid pellach os gallwn ni, os bydd y gyllideb yn caniatáu. Dyna'r hyn yr ydyn ni wedi bod yn dueddol o'i wneud pan fydd rhywfaint o gyllid wedi dod ar gael trwy'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod yn glir iawn hefyd ein bod ni'n darparu dyraniad cyfalaf i awdurdodau lleol trwy eu dyraniad grant cynnal refeniw, ac awdurdodau lleol ac awdurdodau esgobaethol sy'n gyfrifol am reoli'r ôl-groniad ac asesu cyflwr asedau adeiladau ysgolion yn unol ag arfer da ym maes rheoli ystadau. Fel yr ydych wedi'i nodi, yr awdurdodau lleol sydd â'r wybodaeth am gostau ôl-groniadau. Doeddwn i ddim yn ymwybodol nad yw rhai awdurdodau lleol wedi cynnal arolwg ers rhai blynyddoedd, ac os hoffech chi rannu'r wybodaeth honno gyda mi, yn sicr, fe wnaf i edrych ar hynny.
Fy nealltwriaeth i yw eu bod nhw'n rhoi sgôr cyflwr blynyddol i ni o'r ysgolion, yr ydyn ni'n ei monitro, ac yna rydyn ni'n trafod gydag awdurdodau lleol. Felly, rwy'n credu bod gan awdurdodau lleol yr wybodaeth leol honno. Mae'n ddyletswydd arnyn nhw i ddarparu'r wybodaeth honno, yn hytrach nag ein bod ni'n gwneud arolwg cenedlaethol. Ond mae'n bwysig bod gennym ni ddarlun cenedlaethol o'r hyn sy'n digwydd ar lefel awdurdodau lleol a'n bod ni'n cael y trafodaethau hynny gydag awdurdodau lleol. Rwy'n cwrdd â Chaerdydd cyn bo hir i drafod rhai o'r heriau yn y ddinas yng Nghaerdydd. Ond os hoffech chi rannu'r ohebiaeth honno gyda mi, yna fe af fi ar drywydd hynny.
I'd like to congratulate you and your predecessor on the success in meeting the Labour manifesto commitment to invest £1.5 billion in our school buildings. It's clear that we're going to meet that within the next 10 months. I look forward to seeing these two new campuses for Cardiff and Vale College in the Vale of Glamorgan that are going to be delivered through this mutual investment model.
I also am very pleased that we now aren't just focusing on new buildings, but also sustainable communities for learning through refurbishment as well. Thank you, Cabinet Secretary, for the response you gave me to the short debate a couple of weeks ago about the challenges facing the Victorian scaffolding schools in my constituency. I hope that the work being done in Welshpool and Bangor is going to be a very useful pointer to how we can address these problems in Cardiff.
I wondered if you could say a little bit more about the innovative elemental building condition and carbon survey that you've procured, because this may help local authorities speed up their knowledge on how we are going to decarbonise all our public buildings, supposedly by 2030.
Hoffwn eich llongyfarch chi a'ch rhagflaenydd ar y llwyddiant wrth gyflawni ymrwymiad maniffesto Llafur i fuddsoddi £1.5 biliwn yn ein hadeiladau ysgol. Mae'n amlwg ein bod ni'n mynd i gyflawni hynny o fewn y 10 mis nesaf. Rwy'n edrych ymlaen at weld y ddau gampws newydd hyn ar gyfer Coleg Caerdydd a'r Fro ym Mro Morgannwg a fydd yn cael eu cyflawni drwy'r model buddsoddi cydfuddiannol hwn.
Rwyf hefyd yn falch iawn ein bod ni, erbyn hyn, yn canolbwyntio ar gymunedau dysgu cynaliadwy drwy adnewyddu hefyd, nid dim ond adeiladau newydd. Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am yr ymateb y gwnaethoch chi ei roi i mi i'r ddadl fer ychydig wythnosau yn ôl am yr heriau sy'n wynebu'r ysgolion sgaffaldwaith Fictoraidd yn fy etholaeth i. Rwy'n gobeithio y bydd y gwaith sy'n cael ei wneud yn y Trallwng a Bangor yn mynd i fod yn ddefnyddiol iawn wrth nodi sut allwn ni ymdrin â'r problemau hyn yng Nghaerdydd.
Tybed a allwch chi ddweud ychydig mwy am yr arolwg arloesol elfennol o gyflwr adeiladau a charbon rydych chi wedi'i gaffael, oherwydd gallai hyn helpu awdurdodau lleol i gyflymu eu gwybodaeth am sut rydyn ni'n mynd i ddatgarboneiddio ein holl adeiladau cyhoeddus, erbyn 2030 yn ôl pob sôn.
Can I thank Jenny Rathbone for her kind words about the capital programme, which, I think, we're all very proud of as Labour Members, and to recognise her commitment to improving the school buildings in her own constituency? I know that you're passionate about net zero, so thank you for the welcome for that. I know that you're familiar with the example that I gave of Pen y Dre school in Merthyr, where that's being refurbished as a net-zero-carbon school very successfully. Net-zero costs are incorporated now into the bids that come forward to us from local authorities and colleges. That is an important part of the programme now.
In terms of the elemental building condition and carbon survey, to assist local authorities and further education institutions in working towards the 2030 net-zero carbon public sector commitment, the Sustainable Communities for Learning team have procured an estate-wide building elemental condition and carbon survey, and that's created an innovative approach that prioritises decarbonisation measures in a way that maximises the remaining life of existing building elements. So, for example, we wouldn't recommend taking off a flat roof to upgrade the insulation if the roof has 20 years' life still in it. It means that the recommendations in the route-map are sustainable, minimising waste and providing value-for-money solutions for local authorities and colleges. The programme was completed in March 2025, and all state-funded schools and colleges now have an elemental building condition and carbon survey, along with a route-map to net-zero carbon.
A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am ei geiriau caredig am y rhaglen gyfalaf, yr ydyn ni i gyd, rwy'n credu, yn falch iawn ohoni fel Aelodau Llafur, ac i gydnabod ei hymrwymiad i wella adeiladau ysgolion yn ei hetholaeth ei hun? Rwy'n gwybod eich bod chi'n angerddol dros sero net, felly diolch am y croeso ar gyfer hynny. Rwy'n gwybod eich bod chi'n gyfarwydd â'r enghraifft a roddais i o ysgol Pen y Dre ym Merthyr, lle mae honno'n cael ei hadnewyddu fel ysgol carbon sero net yn llwyddiannus iawn. Mae costau sero net yn cael eu cynnwys nawr yn y ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno i ni gan awdurdodau lleol a cholegau. Mae honno'n rhan bwysig o'r rhaglen nawr.
O ran yr arolwg elfennol o gyflwr adeiladau a charbon, er mwyn cynorthwyo awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach i weithio tuag at yr ymrwymiad i sicrhau carbon sero net yn y sector cyhoeddus erbyn 2030, mae'r tîm Cymunedau Dysgu Cynaliadwy wedi caffael arolwg elfennol o gyflwr adeiladau a charbon ledled yr ystad, ac mae hynny wedi creu dull arloesol sy'n blaenoriaethu mesurau datgarboneiddio mewn ffordd sy'n manteisio i'r eithaf ar yr oes sydd gan elfennau o'r adeiladau presennol ar ôl. Felly, er enghraifft, fydden ni ddim yn argymell cael gwared ar do gwastad i uwchraddio'r inswleiddio os oes gan y to 20 mlynedd o oes ar ôl o hyd. Mae'n golygu bod yr argymhellion yn y map llwybr yn gynaliadwy, yn lleihau gwastraff cymaint â phosibl ac yn darparu atebion gwerth am arian i awdurdodau lleol a cholegau. Cafodd y rhaglen ei chwblhau ym mis Mawrth 2025, ac mae gan bob ysgol a choleg a ariennir gan y wladwriaeth arolwg elfennol o gyflwr adeiladau a charbon nawr, ynghyd â map llwybr i garbon sero net.
Carolyn Thomas, finally.
Ac yn olaf, Carolyn Thomas.
Thank you, Llywydd. As a previous school governor and county councillor, I remember looking at the repairs and maintenance backlog and thinking, 'How on earth are we ever going to address this?' It was so big. I remember the director of education then saying, 'There is a twenty-first century schools programme coming along being funded by Welsh Government.' And I have been stunned at the difference it has made. In almost every community across Wales, you will see fantastic schools, twenty-first century schools and community schools for learning. We have not had this programme in England under the Tories. We've got school buildings full of reinforced autoclaved aerated concrete, haven't we, crumbling.
I recently visited the Mynydd Isa school in Flintshire, and it was amazing. It's replacing crumbling brutal concrete architecture. It's carbon neutral and BREEAM-rated excellent. There's extensive solar right across the roof; it's absolutely covered with it. There is embedded carbon actually in the build as well, using replacement cement, urban drainage, biodiversity elements, which is great for me. There are thick insulated walls—really, really thick—so their energy bills must be non-existent going forward. There were 40 contracts as part of that build to share the investment. I would like to ask you, though, how will those young people in those schools learn from their amazing surroundings—not just take them for granted—about the engineering, the construction, the technology being used, the impact on climate change and biodiversity of their surroundings as part of this great programme of investment? Thank you.
Diolch, Llywydd. Fel cyn-lywodraethwr ysgol a chynghorydd sir, rwy'n cofio edrych ar yr ôl-groniad o waith atgyweirio a chynnal a chadw a meddwl, 'Sut ar y ddaear ydyn ni byth yn mynd i fynd i'r afael â hyn?' Roedd e mor fawr. Rwy'n cofio'r cyfarwyddwr addysg ar y pryd yn dweud, 'Mae rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ar y gweill y bydd Llywodraeth Cymru yn ei hariannu.' Ac rwyf wedi cael fy synnu gan y gwahaniaeth y mae wedi'i wneud. Ym mron pob cymuned ledled Cymru, fe welwch chi ysgolion gwych, ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ac ysgolion cymunedol ar gyfer dysgu. Dydyn ni ddim wedi cael y rhaglen hon yn Lloegr o dan y Torïaid. Mae gennym ni adeiladau ysgol yn llawn concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth, onid oes, yn adfeilio.
Fe ymwelais i ag ysgol Mynydd Isa yn sir y Fflint yn ddiweddar, ac roedd yn anhygoel. Mae'n disodli pensaernïaeth goncrit lem sy'n adfeilio. Mae'n garbon niwtral ac mae ganddi sgôr BREEAM ardderchog. Mae yna baneli solar helaeth ar draws y to; mae wedi'i orchuddio â nhw. Mae carbon corfforedig yn yr adeilad hefyd, sy'n defnyddio dewis amgen i sment, draenio trefol, elfennau bioamrywiaeth, sy'n wych i mi. Mae waliau trwchus wedi'u hinswleiddio—rhai trwchus iawn—felly mae'n rhaid na fydd ganddyn nhw unrhyw filiau ynni yn y dyfodol. Roedd 40 o gontractau yn rhan o'r gwaith adeiladu hwnnw i rannu'r buddsoddiad. Hoffwn ofyn i chi, fodd bynnag, sut y bydd y bobl ifanc hynny yn yr ysgolion hynny yn dysgu o'u hamgylchedd anhygoel—nid dim ond eu cymryd yn ganiataol—am y peirianneg, yr adeiladwaith, y dechnoleg sy'n cael ei defnyddio, yr effaith ar newid hinsawdd a bioamrywiaeth eu hamgylchedd fel rhan o'r rhaglen wych hon o fuddsoddi? Diolch.
Thank you, Carolyn, for those positive words and for highlighting the difference that there is between England and Wales on this issue. You can see that very clearly through the RAAC situation, where we have only had five schools with RAAC in Wales, which we also dealt with really quickly, so a very different picture to the one over the border. I'm really glad that you managed to get the opportunity to go to Mynydd Isa school, which is one of our MIM schools, a 3-16 school. That was an investment of £64.7 million under the programme, and there was additional capital investment for furniture and ICT equipment as well.
You make a really important point about how the young people learn through these new buildings. Although I don't have any detail on what's happened in relation to that on Mynydd Isa, I know that when I went to Pen y Dre school, the young people there were working with the contractors. All the contractors I've seen in action seem to be really engaged with the young people in the schools. They were working with the young people to help them learn about sustainability and all the technology that was going into the school.
As you're aware, our curriculum includes learning on sustainability and net zero, so there's a really important opportunity here. Learner voice is an important part of the Sustainable Communities for Learning programme. There are lots of good examples of where contractors have worked with young people to incorporate their views into the design of the building as well, and really positive partnerships between contractors, schools, local authorities and young people.
Diolch, Carolyn, am y geiriau cadarnhaol hynny ac am dynnu sylw at y gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr ar y mater hwn. Gallwch chi weld hynny'n glir iawn trwy'r sefyllfa gyda choncrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth, lle mai dim ond mewn pum ysgol yr oedd gennym goncrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth yng Nghymru, y gwnaethon ni ddelio ag ef yn gyflym iawn hefyd, felly darlun gwahanol iawn i'r un dros y ffin. Rwy'n falch iawn eich bod chi wedi llwyddo i gael y cyfle i fynd i ysgol Mynydd Isa, sy'n un o ysgolion ein model buddsoddi cydfuddiannol, ysgol 3-16 oed. Roedd hynny'n fuddsoddiad o £64.7 miliwn o dan y rhaglen, ac roedd buddsoddiad cyfalaf ychwanegol ar gyfer dodrefn ac offer TGCh hefyd.
Rydych chi'n gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch sut mae'r bobl ifanc yn dysgu trwy'r adeiladau newydd hyn. Er nad oes gen i unrhyw fanylion am yr hyn sydd wedi digwydd o ran hynny ym Mynydd Isa, rwy'n gwybod, pan es i i ysgol Pen y Dre, fod y bobl ifanc yno yn gweithio gyda'r contractwyr. Mae'n ymddangos bod pob un o'r contractwyr rwyf wedi'u gweld ar waith yn ymgysylltu'n dda â'r bobl ifanc yn yr ysgolion. Roedden nhw'n gweithio gyda'r bobl ifanc i'w helpu i ddysgu am gynaliadwyedd a'r holl dechnoleg a oedd yn cael ei chyflwyno yn yr ysgol.
Fel y gwyddoch chi, mae ein cwricwlwm yn cynnwys dysgu am gynaliadwyedd a sero net, felly mae cyfle pwysig iawn yma. Mae llais y dysgwr yn rhan bwysig o'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Mae yna lawer o enghreifftiau da lle mae contractwyr wedi gweithio gyda phobl ifanc i gynnwys eu safbwyntiau yn nyluniad yr adeilad hefyd, a phartneriaethau cadarnhaol iawn rhwng contractwyr, ysgolion, awdurdodau lleol a phobl ifanc.
Diolch yn fawr i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Thank you, Cabinet Secretary.
Eitem 5 sydd nesaf. Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol sydd yn cyflwyno'r blaenoriaethau diwylliant. Felly y Gweinidog, Jack Sargeant, i wneud ei ddatganiad.
Item 5 is next, a statement by the Minister for Culture, Skills and Social Partnership on priorities for culture. So, the Minister, Jack Sargeant, to make his statement.

Diolch yn fawr, Llywydd. I am pleased to publish the 'Priorities for Culture' today, and delighted to be delivering this programme for government commitment. I would like to thank colleagues who have been part of the development journey, including former Ministers and Plaid Cymru designated Members, but most importantly I would like to thank sector stakeholders for sharing their insights and vision and for their positive support for this work.
Llywydd, the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 sets out in law that cultural well-being must be a consideration for every policy area and every public body in Wales. The new priorities provide a critically important framework for taking this forward. Whilst the priorities have been in development, we have continued to focus on delivery, even when working within challenging social and economic backdrops. We have delivered programme for government commitments including Celf, the national contemporary art gallery for Wales, and we are making good progress on the redevelopment of Theatr Clwyd and a new football museum for Wales.
Since 2022 we have awarded more than £5 million to make collections and spaces more inclusive and to support grass-roots cultural participation, ensuring our diverse communities are at the centre of culture. And there has been challenge and discussion in this Chamber relating to the protection of our cultural and heritage collections. We’ve increased capital funding, providing almost £3 million additional funding for urgent works at the National Library of Wales and Amgueddfa Cymru, Cardiff last year. I am continuing to make additional funding available this year for investment across the library and amgueddfa estates and historic sites across Wales. This includes investing in the redevelopment of the National Slate Museum at Llanberis and the project at Caerphilly castle.
Llywydd, we have continued to invest in local museum, library and archive services through our transformation capital grant, supporting the transformation and modernisation of local services, and between 2022-23 and 2024-25, we have invested over £3.5 million in local projects. In 2024 we launched a new collections management grant scheme for our local sectors, awarding over £420,000. Through small-scale interventions, we enabled local organisations across Wales to improve their storage standards, increase storage capacity and improve collections' care.
Launching the 'Priorities for Culture' provides a renewed impetus and focus for the mid-to-long term future. I’ve allocated £15 million to support the delivery of these new priorities. This includes £8 million for an arts sector strategic capital investment programme via the Arts Council of Wales. This significant investment will provide vital capital funding and support the delivery of many ambitions within the 'Priorities for Culture'. It also includes a £7 million capital and revenue fund for museums, archives, libraries and the historic environment. This will be deployed alongside existing funding streams to maximise its impact. For example, I will be enhancing the collections management grant scheme, providing broader support for our local sectors, matched to the ambitions of the 'Priorities for Culture'. This will enable support for adaptations focused on addressing climate change, facilities for children and young people, enhancing access and inclusion and digital improvements. Our ambitions prioritise being inclusive, accessible and diverse, and focus on children and young people. We need to provide cultural experiences for all children and young people, starting from an early age, and continue building those experiences at regular intervals. We must provide rich opportunities and break down all barriers to access.
Llywydd, from the moment I was appointed Minister for culture, I set the challenge that children from working-class communities should have the same opportunities and access to our cultural offer. I want to focus on improving facilities for children, young people and families, but I also want to strengthen their voices. Young people should be deeply embedded in influencing and shaping culture and be able to aspire to future careers in the sector. I will look at ways of strengthening their voice, and at directing funding to meet travel and ticket costs. I have already allocated funding to support school travel to local museums in the final budget, and funding to establish a programme of activity, based in libraries, focused on creating opportunities for children to engage with authors, story-tellers and reading for pleasure. We will strive to ensure the culture sector is a great place to work and volunteer, with a professional and skilled workforce.
The need for specialist skills was a key theme in the consultation responses. We are already starting to address this. A specialist heritage craft skills traineeship programme is in progress, supporting the development of Cadw's conservation team, but I want to consider how we can develop further training, apprenticeships and other routes into work. I want to improve our understanding of the workforce across all areas of the sector, including what we know about its diversity.
We will also focus on leadership and collaboration in sustainable development. Last week I published findings on how culture is responding to the climate and nature emergencies. The report looks at the sector's current approaches and skill sets, providing recommendations and proposed actions. It is clear the sector needs further support to achieve net-zero and to co-ordinate its response to the climate and nature emergencies. The Welsh Government already funds carbon literacy training for museums, archives and library staff. I will build on this by providing dedicated staffing resource to work across the sectors, based at one of our national bodies, supported by both revenue and capital funding to take this forward. In this first year of implementation, I will also be looking to support intangible cultural heritage and digital improvements.
Llywydd, I would like to end by saying that I am immensely proud of the culture sector. Every day I witness the power of culture. This is a vision developed with and for the sector, and I look forward to working collaboratively with the sector to deliver these priorities. I would like to thank all those who have made this happen, including my team of dedicated officials, and I look forward to receiving questions from Members today. Diolch.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n falch o gyhoeddi'r 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' heddiw, ac yn falch iawn o gyflawni'r ymrwymiad hwn yn y rhaglen lywodraethu. Hoffwn ddiolch i gyd-Aelodau sydd wedi bod yn rhan o'r daith ddatblygu, gan gynnwys cyn-Weinidogion ac Aelodau dynodedig Plaid Cymru, ond yn bwysicaf oll hoffwn ddiolch i randdeiliaid y sector am rannu eu mewnwelediadau a'u gweledigaeth ac am eu cefnogaeth gadarnhaol i'r gwaith hwn.
Llywydd, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn nodi yn y gyfraith bod yn rhaid i les diwylliannol fod yn ystyriaeth ar gyfer pob maes polisi a phob corff cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r blaenoriaethau newydd yn darparu fframwaith hanfodol bwysig ar gyfer symud ymlaen â hyn. Tra bod y blaenoriaethau wedi bod yn cael eu datblygu, rydyn ni wedi parhau i ganolbwyntio ar gyflawni, hyd yn oed wrth weithio o fewn cefndiroedd cymdeithasol ac economaidd heriol. Rydyn ni wedi cyflawni ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu gan gynnwys Celf, yr oriel celf gyfoes genedlaethol i Gymru, ac rydyn ni'n gwneud cynnydd da ar ailddatblygu Theatr Clwyd ac amgueddfa bêl-droed newydd i Gymru.
Ers 2022 rydyn ni wedi dyfarnu mwy na £5 miliwn i wneud casgliadau a mannau yn fwy cynhwysol ac i gefnogi cyfranogiad diwylliannol ar lawr gwlad, gan sicrhau bod ein cymunedau amrywiol wrth wraidd diwylliant. Ac mae her a thrafodaeth wedi bod yn y Siambr hon ynghylch diogelu ein casgliadau diwylliannol a threftadaeth. Rydyn ni wedi cynyddu cyllid cyfalaf, gan ddarparu bron i £3 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer gwaith brys yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru, Caerdydd y llynedd. Rwy'n parhau i sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael eleni i'w fuddsoddi ar draws safleoedd hanesyddol ac ystadau llyfrgell ac amgueddfa ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi yn y gwaith o ailddatblygu'r Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis a'r prosiect yng nghastell Caerffili.
Llywydd, rydyn ni wedi parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau lleol drwy ein grant cyfalaf trawsnewid, gan gefnogi'r gwaith o drawsnewid a moderneiddio gwasanaethau lleol, a rhwng 2022-23 a 2024-25, rydyn ni wedi buddsoddi dros £3.5 miliwn mewn prosiectau lleol. Yn 2024 fe wnaethon ni lansio cynllun grant rheoli casgliadau newydd ar gyfer ein sectorau lleol, gan ddyfarnu dros £420,000. Trwy ymyriadau ar raddfa fach, fe wnaethon ni sicrhau bod sefydliadau lleol ledled Cymru yn gallu gwella eu safonau storio, cynyddu eu capasiti storio a gwella'r gofal a roddir i gasgliadau.
Mae lansio'r 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' yn rhoi ysgogiad a phwyslais o'r newydd ar gyfer y tymor canolig i'r tymor hir. Rwyf wedi dyrannu £15 miliwn i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r blaenoriaethau newydd hyn. Mae hyn yn cynnwys £8 miliwn ar gyfer rhaglen buddsoddi cyfalaf strategol ar gyfer sector y celfyddydau drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn darparu cyllid cyfalaf hanfodol ac yn cefnogi'r gwaith o gyflawni llawer o'r uchelgeisiau o fewn y 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant'. Mae hefyd yn cynnwys cronfa cyfalaf a refeniw gwerth £7 miliwn ar gyfer amgueddfeydd, archifau, llyfrgelloedd a'r amgylchedd hanesyddol. Bydd y gronfa hon yn cael ei defnyddio ochr yn ochr â ffrydiau cyllido presennol i sicrhau ei bod yn cael yr effaith fwyaf bosibl. Er enghraifft, byddaf yn gwella'r cynllun grant rheoli casgliadau, gan ddarparu cymorth ehangach ar gyfer ein sectorau lleol sy'n cyd-fynd ag uchelgeisiau'r 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant'. Bydd hyn yn galluogi cymorth ar gyfer addasiadau sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â newid hinsawdd, cyfleusterau i blant a phobl ifanc, gwella mynediad a chynhwysiant a gwelliannau digidol. Mae ein huchelgeisiau yn blaenoriaethu bod yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn amrywiol, ac maen nhw'n canolbwyntio ar blant a phobl ifanc. Mae angen i ni ddarparu profiadau diwylliannol i bob plentyn a pherson ifanc, gan ddechrau o oedran ifanc, a pharhau i adeiladu'r profiadau hynny yn rheolaidd. Rhaid i ni ddarparu cyfleoedd cyfoethog a chwalu'r holl rwystrau i fynediad.
Llywydd, o'r foment y ces i fy mhenodi'n Weinidog dros ddiwylliant, fe osodais i'r her y dylai plant o gymunedau dosbarth gweithiol gael yr un cyfleoedd a mynediad i'n harlwy diwylliannol. Rwyf am ganolbwyntio ar wella cyfleusterau i blant, pobl ifanc a theuluoedd, ond rwyf hefyd eisiau cryfhau eu lleisiau. Dylai pobl ifanc fod wedi'u hymwreiddio'n ddwfn mewn dylanwadu a siapio diwylliant ac fe ddylen nhw fod yn gallu anelu at ddilyn gyrfaoedd yn y sector yn y dyfodol. Byddaf yn edrych ar ffyrdd o gryfhau eu llais, ac ar gyfeirio cyllid i dalu costau teithio a thocynnau. Rwyf eisoes wedi dyrannu cyllid i helpu ysgolion i deithio i amgueddfeydd lleol yn y gyllideb derfynol, a chyllid i sefydlu rhaglen o weithgarwch, wedi'i lleoli mewn llyfrgelloedd, sy'n canolbwyntio ar greu cyfleoedd i blant ymgysylltu ag awduron, storïwyr a darllen er pleser. Byddwn ni'n ymdrechu i sicrhau bod y sector diwylliant yn lle gwych i weithio a gwirfoddoli ynddo, gyda gweithlu proffesiynol a medrus.
Roedd yr angen am sgiliau arbenigol yn thema allweddol yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Rydyn ni eisoes yn dechrau mynd i'r afael â hyn. Mae rhaglen hyfforddeiaeth sgiliau crefft treftadaeth arbenigol ar y gweill, sy'n cefnogi datblygiad tîm cadwraeth Cadw, ond rwyf eisiau ystyried sut allwn ni ddatblygu hyfforddiant pellach, prentisiaethau a llwybrau eraill i mewn i waith. Rwyf eisiau gwella ein dealltwriaeth o'r gweithlu ar draws pob rhan o'r sector, gan gynnwys yr hyn rydyn ni'n ei wybod am ei amrywiaeth.
Byddwn ni hefyd yn canolbwyntio ar arweinyddiaeth a chydweithredu o ran datblygu cynaliadwy. Yr wythnos diwethaf fe gyhoeddais i ganfyddiadau ar sut mae diwylliant yn ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae'r adroddiad yn edrych ar ddulliau a setiau sgiliau cyfredol y sector, gan ddarparu argymhellion a chamau gweithredu arfaethedig. Mae'n amlwg bod angen mwy o gymorth ar y sector i gyflawni sero net ac i gydlynu ei ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ariannu hyfforddiant llythrennedd carbon ar gyfer staff amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd. Byddaf yn adeiladu ar hyn trwy ddarparu adnoddau staffio pwrpasol i weithio ar draws y sectorau, wedi'u lleoli yn un o'n cyrff cenedlaethol, gyda chefnogaeth cyllid refeniw a chyfalaf i symud ymlaen â hyn. Yn y flwyddyn weithredu gyntaf hon, byddaf hefyd yn ceisio cynorthwyo treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol a gwelliannau digidol.
Llywydd, hoffwn orffen trwy ddweud fy mod i'n falch iawn o'r sector diwylliant. Bob dydd rwy'n dyst i bŵer diwylliant. Mae hon yn weledigaeth a ddatblygwyd gyda'r sector ac ar ei chyfer, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r sector i gyflawni'r blaenoriaethau hyn. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd, gan gynnwys fy nhîm o swyddogion ymroddedig, ac rwy'n edrych ymlaen at gael cwestiynau gan yr Aelodau heddiw. Diolch.
I'd like to thank the Minister for his statement to the Senedd this afternoon, although I have some grave concerns about some of the ambitions listed in the Welsh Government's priorities. Firstly, when setting priorities, the Welsh Government must be delicate and ensure they are not encroaching on the freedom of the sector, and this guidance fails in that and it clips the wings of the culture sector. Culture is organic, not top-down. The underlying ideological motivation suggests the Welsh Government intends to use our cultural sector as a vehicle for its progressive agenda, and I think that's very sinister. I agree with the first priority, that culture brings us together. However, the first ambition under this priority is for culture to be inclusive, accessible and diverse, which is directly undermining of togetherness. Emphasising differences within a nation divides us, it does not unite us. We should be emphasising that which binds us: our common culture and our identity. The Welsh Government should not be issuing diktats like this to our cultural sector, railroading their political ideology into public and private life. It should prioritise a cultural sector that reflects Welsh culture.
But perhaps the most dystopian of them all is ambition three, which is for culture to take an inclusive and balanced approach to interpreting, commemorating and presenting our past. While these may sound innocuous on the face of it, the particular use of language has a political undercurrent and many fear that this is a Trojan horse for the Welsh Government to inject its own ideological view. It's also outrageous for the Government to dictate how institutions present or interpret history. This is historical revisionism and Government overreach. The Welsh Conservatives will not tolerate the Welsh Government injecting divisive left wing grievance narratives into our cultural institutions. This again undermines the first priority of bringing us together. [Interruption.] And to quote Alun Davies—I can hear you there—
'it is not the role of politicians to determine what productions are in theatres or what exhibitions are in museums. We do not live in a totalitarian society'.
I wholeheartedly agree with the Member for Blaenau Gwent, for a change. Moving to ambition seven, for culture to reflect Wales as a bilingual and multilingual nation. This bizarre addition of multilingual is an attempt at inclusion, but every country on earth is technically multilingual. Since the Welsh Language Act 1993, Wales has two official languages, English and Welsh, and the priority should reflect this legislation.
Moving on to the last ambition under the priority of ensuring culture is resilient and sustainable, it states that the culture sector must tackle all aspects of climate and nature emergencies. These terms—climate and nature emergency—are not scientific terms, and therefore totally unprofessional and inappropriate to use. These are politicised and alarmist phrases that mislead public policy, and I'd urge the Welsh Government to use language employed by the scientific experts, not political activists. But my overreaching concern with this ambition is again that this is a sinister overreach by the Welsh Government. It is not the job of the culture sector to fix climate change, and Government should not be issuing decrees for them to do so.
When the arts and culture sector acts as an arm of the state, the organic nature of arts and culture is lost. What they produce will lack authenticity and will fail to reflect the human condition. Creative expression should not be curtailed on the whim of bureaucrats. The ambition to tackle climate change will ironically hurt the sustainability of the culture sector, because no-one wants to see politicised propaganda produced on the orders of the Welsh Government, and we are already seeing footfall at Welsh museums are struggling to bounce back following the COVID-19 pandemic.
There are also notable omissions from these priorities that I'd like to raise. It should be an ambition to ensure that culture in Wales does not stray into dangerous and illegal territory, which is why the Welsh Conservatives condemned Kneecap's planned performance at the Green Man Festival, despite being under ongoing investigation by counterterrorism police for their calls to murder MPs.
There was also little mention of the importance of sports to our culture. For the first time in over a decade, no professional rugby will be taking place at any point in north Wales this year, and it should be the cultural ambition to see our national sport represented across the nation. So, overall, I'd strongly urge the Minister to consider the points I've made regarding some of the problematic ambitions in the 'Priorities for Culture' he's published and ensure these are revised to avoid unacceptable Government overreach into the culture sector. Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad i'r Senedd y prynhawn yma, er bod gen i rai pryderon difrifol am rai o'r uchelgeisiau sydd wedi'u rhestru ym mlaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Yn gyntaf, wrth osod blaenoriaethau, rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn sensitif a sicrhau nad ydyn nhw'n tresmasu ar ryddid y sector, ac mae'r canllawiau hyn yn methu o ran hynny ac yn cyfyngu ar ryddid y sector diwylliant. Mae diwylliant yn organig, nid o'r brig i lawr. Mae'r cymhelliant ideolegol sylfaenol yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio ein sector diwylliannol fel cyfrwng ar gyfer ei hagenda flaengar, ac rwy'n credu bod hynny'n sinistr iawn. Rwy'n cytuno â'r flaenoriaeth gyntaf, bod diwylliant yn dod â ni at ein gilydd. Fodd bynnag, yr uchelgais gyntaf o dan y flaenoriaeth hon yw i ddiwylliant fod yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn amrywiol, sy'n tanseilio agosatrwydd yn uniongyrchol. Mae pwysleisio gwahaniaethau o fewn cenedl yn ein gwahanu, nid yw'n ein huno. Dylem fod yn pwysleisio'r hyn sy'n ein rhwymo: ein diwylliant cyffredin a'n hunaniaeth. Ni ddylai Llywodraeth Cymru fod yn rhoi dictadau fel hyn i'n sector diwylliannol, gan wthio ei hideoleg wleidyddol ar fywyd cyhoeddus a phreifat. Dylai flaenoriaethu sector diwylliannol sy'n adlewyrchu diwylliant Cymru.
Ond efallai mai'r mwyaf dystopaidd ohonyn nhw i gyd yw uchelgais tri, sef i ddiwylliant gymryd agwedd gynhwysol a chytbwys tuag at ddehongli, coffáu a chyflwyno ein gorffennol. Er y gall y rhain swnio'n ddiniwed ar yr wyneb, mae gan y defnydd penodol o iaith is-gerrynt gwleidyddol ac mae llawer yn ofni bod hwn yn geffyl pren Troea i Lywodraeth Cymru chwistrellu ei barn ideolegol ei hun. Mae hefyd yn warthus i'r Llywodraeth orchymyn sut mae sefydliadau'n cyflwyno neu'n dehongli hanes. Adolygiadaeth hanesyddol a gorgyrraedd gan y Llywodraeth yw hyn. Ni fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn goddef Llywodraeth Cymru yn chwistrellu naratifau cwynion asgell chwith i mewn i'n sefydliadau diwylliannol. Mae hyn unwaith eto yn tanseilio'r flaenoriaeth gyntaf o ddod â ni at ein gilydd. [Torri ar draws.] Ac i ddyfynnu Alun Davies—gallaf eich clywed chi yno—
'nad rôl gwleidyddion yw penderfynu pa gynyrchiadau sydd mewn theatrau neu pa arddangosfeydd sydd mewn amgueddfeydd. Nid ydym yn byw mewn cymdeithas dotalitaraidd'.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod dros Flaenau Gwent, am newid. Gan symud i uchelgais saith, i ddiwylliant adlewyrchu Cymru fel cenedl ddwyieithog ac amlieithog. Mae'r ychwanegiad rhyfedd hwn o amlieithog yn ymgais i fod yn gynhwysol, ond mae pob gwlad ar y ddaear yn amlieithog yn dechnegol. Ers Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, mae gan Gymru ddwy iaith swyddogol, Saesneg a Chymraeg, ac fe ddylai'r flaenoriaeth adlewyrchu'r ddeddfwriaeth hon.
Gan symud ymlaen at yr uchelgais olaf o dan y flaenoriaeth o sicrhau bod diwylliant yn wydn ac yn gynaliadwy, mae'n nodi bod yn rhaid i'r sector diwylliant fynd i'r afael â phob agwedd ar argyfyngau hinsawdd a natur. Nid yw'r termau hyn— argyfwng hinsawdd a natur—yn dermau gwyddonol, ac felly mae'n hollol amhroffesiynol ac amhriodol i'w defnyddio. Ymadroddion gwleidyddol sy'n codi bwganod yw'r rhain sy'n camarwain polisi cyhoeddus, a byddwn i'n annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio iaith a ddefnyddir gan yr arbenigwyr gwyddonol, nid actifyddion gwleidyddol. Ond yr hyn sy'n fy mhryderu fwyaf am yr uchelgais hon yw bod hyn, unwaith eto, yn orgyrraedd sinistr gan Lywodraeth Cymru. Nid gwaith y sector diwylliant yw datrys newid hinsawdd, ac ni ddylai'r Llywodraeth fod yn cyhoeddi archddyfarniadau iddyn nhw wneud hynny.
Pan fydd y sector celfyddydau a diwylliant yn gweithredu fel cangen o'r wladwriaeth, mae natur organig y celfyddydau a diwylliant yn cael ei cholli. Ni fydd yr hyn maen nhw'n ei gynhyrchu yn ddilys ac ni fydd yn adlewyrchu'r cyflwr dynol. Ni ddylai mynegiant creadigol gael ei gyfyngu ar fympwy biwrocratiaid. Bydd yr uchelgais i fynd i'r afael â newid hinsawdd, yn eironig, yn niweidio cynaliadwyedd y sector diwylliant, oherwydd does neb eisiau gweld propaganda gwleidyddol yn cael ei gynhyrchu ar orchymyn Llywodraeth Cymru, ac rydyn ni eisoes yn gweld nad oes cymaint o bobl yn ymweld ag amgueddfeydd Cymru yn dilyn pandemig COVID-19.
Mae yna hefyd bethau nodedig sydd wedi'u hepgor o'r blaenoriaethau hyn yr hoffwn eu codi. Dylai fod yn uchelgais i sicrhau nad yw diwylliant yng Nghymru yn mynd i diriogaeth beryglus ac anghyfreithlon, a dyna pam y condemniodd y Ceidwadwyr Cymreig berfformiad arfaethedig Kneecap yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, er eu bod yn destun ymchwiliad gan yr heddlu gwrthderfysgaeth i'r galwadau yr oedden nhw wedi'u gwneud i lofruddio Aelodau Seneddol.
Nid oedd llawer o sôn ychwaith am bwysigrwydd chwaraeon i'n diwylliant. Am y tro cyntaf ers dros ddegawd, ni fydd unrhyw rygbi proffesiynol yn cael ei gynnal ar unrhyw adeg yn y gogledd eleni, ac fe ddylai fod yn uchelgais ddiwylliannol i weld ein camp genedlaethol yn cael ei chynrychioli ledled y genedl. Felly, ar y cyfan, byddwn i'n annog y Gweinidog yn gryf i ystyried y pwyntiau rwyf wedi'u gwneud ynglŷn â rhai o'r uchelgeisiau problematig yn y 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' y mae wedi'u cyhoeddi a sicrhau bod y rhain yn cael eu diwygio er mwyn osgoi gorgyrraedd annerbyniol gan y Llywodraeth i mewn i'r sector diwylliant. Diolch yn fawr iawn.
Llywydd, I think I counted one question in there, and the Member is right, in fairness, to point to that question around the role of sport in the 'Priorities for Culture'. The 'Priorities for Culture' does not include sport explicitly, but sport does have a role, and if you read through the document, it does mention the role of sport, and I think there are areas of our sporting organisations that will go on to use this document to celebrate culture. If you look already at what the Football Association of Wales are doing in this space, I think they are a great example of where we can come together and celebrate Welsh culture on that international level. And whilst it doesn't necessarily mention sport as the Member would like, sport will play a role in the future of Wales's culture priorities.
But I'm afraid to say, Llywydd, I'm not sure there were any more questions to me; it was more of a reflection on the Member's view of the sector. He started by saying we should not have a top-down approach to the priorities for culture. Well, he should well know that this document was produced with the sector and by the sector. So, the first consultation of the priorities for culture received over 400 consultation responses to it. It continued to be co-produced alongside Plaid Cymru designated Members as well, a shared ambition of both of ours, and the external steering group, which cleared the final document, the document that you've all seen in front of you, and I hope have read, in front of you, should be there—.
He goes on to say we shouldn't clip the wings of the sector. Well, we're not clipping the wings of the sector. If you speak to the sector on the back of this 'Priorities for Culture' launch, what this offers is a vision. It's a vision for the sector that all of us can work towards, not just the Government, but the sector themselves. And actually, when I've spoken to the sector directly about what's in here, they are very proud of what we've achieved to date and what we'll achieve together going forward.
He then quotes Alun Davies from a previous exchange in the Senedd, and Alun was right to say it's not for politicians to dictate culture priorities. That's not what we're doing here. I struggle when the Member says this, because in one breath he does say that it's not for politicians to dictate, and, in the next breath, he wants to politically intervene in the sector. So, you can't have it both ways, unfortunately. You can't have—[Interruption.] It's not selective hearing at all; it's exactly what you said and have said again. So, it's no-sense politics from the Conservatives, Presiding Officer.
The Member then reaches to climate change. Well, let me just end on this. We heard the same argument from the Conservatives in the previous statement as well. I know they want to be the new Reform and not believe in climate change, but climate change is for us all—for us all—to consider how we support and tackle those emergencies. I won't take lessons in scientific language; I have a degree in mechanical science. I'll leave that where it is, Presiding Officer.
But I look forward to further engagement with the sector. This is an important day for the sector, Presiding Officer, a sector that offers economic value, offers a real importance in improving our health and well-being, especially in young people, and I think all Members should take the opportunity to welcome today's launch of the 'Priorities for Culture'.
Llywydd, rwy'n credu fy mod i wedi cyfrif un cwestiwn yn y fan yna, ac mae'r Aelod yn iawn, a bod yn deg, i dynnu sylw at y cwestiwn hwnnw ynglŷn â rôl chwaraeon yn y 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant'. Nid yw'r 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' yn cynnwys chwaraeon yn benodol, ond mae gan chwaraeon rôl, ac os darllenwch chi drwy'r ddogfen, mae'n sôn am rôl chwaraeon, ac rwy'n credu bod yna rannau o'n sefydliadau chwaraeon a fydd yn mynd ymlaen i ddefnyddio'r ddogfen hon i ddathlu diwylliant. Os edrychwch chi ar yr hyn mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ei wneud yn barod yn y gofod hwn, rwy'n credu eu bod nhw'n enghraifft wych o lle gallwn ni ddod at ein gilydd a dathlu diwylliant Cymru ar y lefel ryngwladol honno. Ac er nad yw o reidrwydd yn sôn am chwaraeon fel y byddai'r Aelod yn ei hoffi, bydd chwaraeon yn chwarae rhan yn nyfodol blaenoriaethau diwylliant Cymru.
Ond mae arnaf ofn, Llywydd, nad ydw i'n siŵr a oedd mwy o gwestiynau i mi; roedd yn fwy o adlewyrchiad o farn yr Aelod am y sector. Fe ddechreuodd trwy ddweud na ddylem fynd i'r afael â'r blaenoriaethau ar gyfer diwylliant drwy ddull o'r brig i lawr. Wel, fe ddylai ef wybod yn dda bod y ddogfen hon wedi'i chynhyrchu gyda'r sector a chan y sector. Felly, fe dderbyniwyd dros 400 o ymatebion i'r ymgynghoriad cyntaf ar y blaenoriaethau ar gyfer diwylliant. Fe barhaodd i gael ei chyd-gynhyrchu ochr yn ochr ag Aelodau dynodedig Plaid Cymru hefyd, uchelgais a rannwyd gan y ddau ohonom, a'r grŵp llywio allanol, a gymeradwyodd y ddogfen derfynol, y ddogfen rydych chi i gyd wedi'i gweld o'ch blaen, ac rwy'n gobeithio eich bod wedi'i darllen, o'ch blaen, fe ddylai fod yno—.
Mae'n mynd ymlaen i ddweud na ddylem gyfyngu ar ryddid y sector. Wel, dydyn ni ddim yn cyfyngu ar ryddid y sector. Os siaradwch chi â'r sector ar gefn y lansiad 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' hwn, yr hyn mae hyn yn ei gynnig yw gweledigaeth. Mae'n weledigaeth ar gyfer y sector y gall pob un ohonom ni weithio tuag ati, nid dim ond y Llywodraeth, ond y sector ei hun. Ac, a dweud y gwir, pan wyf wedi siarad â'r sector yn uniongyrchol am yr hyn sydd yma, maen nhw'n falch iawn o'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni hyd yma a'r hyn y byddwn ni'n ei gyflawni gyda'n gilydd yn y dyfodol.
Yna mae'n dyfynnu'r hyn a ddywedodd Alun Davies mewn trafodaeth flaenorol yn y Senedd, ac roedd Alun yn iawn i ddweud nad lle gwleidyddion yw pennu blaenoriaethau diwylliant. Nid dyna rydyn ni'n ei wneud yma. Rwy'n ei chael hi'n anodd pan yw'r Aelod yn dweud hyn, oherwydd mewn un anadl mae'n dweud nad lle gwleidyddion yw dweud, ac, yn yr anadl nesaf, mae eisiau ymyrryd yn wleidyddol yn y sector. Felly, allwch chi ddim ei gael y ddwy ffordd, yn anffodus. Allwch chi ddim cael—[Torri ar draws.] Nid clyw dethol mohono o gwbl; dyma'n union beth ddywedoch chi ac rydych chi wedi ei ddweud eto. Felly, mae'n wleidyddiaeth ddi-synnwyr gan y Ceidwadwyr, Llywydd.
Mae'r Aelod yn sôn wedyn am newid hinsawdd. Wel, gadewch i mi orffen ar hyn. Fe glywson ni'r un ddadl gan y Ceidwadwyr yn y datganiad blaenorol hefyd. Rwy'n gwybod eu bod nhw eisiau bod y Reform newydd a pheidio â chredu mewn newid hinsawdd, ond mae newid hinsawdd i ni i gyd—i ni i gyd—i ystyried sut rydyn ni'n cefnogi ac yn mynd i'r afael â'r argyfyngau hynny. Wnaf i ddim cymryd gwersi mewn iaith wyddonol; mae gen i radd mewn gwyddor fecanyddol. Fe wnaf i adael hynny yn y fan yna, Llywydd.
Ond rwy'n edrych ymlaen at ymgysylltu ymhellach â'r sector. Mae hwn yn ddiwrnod pwysig i'r sector, Llywydd, sector sy'n cynnig gwerth economaidd, yn cynnig pwysigrwydd gwirioneddol wrth wella ein hiechyd a'n lles, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, ac rwy'n credu y dylai pob Aelod achub ar y cyfle i groesawu lansio'r 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' heddiw.
Diolch i’r Gweinidog am y datganiad heddiw ac am rannu copi efo fi ymlaen llaw. Fel fy mod i'n gallu profi, dwi wedi ei ddarllen. Mi fydd fy sylwadau i yn seiliedig ar y ddogfen hon, yn hytrach na rhethreg, ac mae gen i gwestiynau pendant i ofyn i'r Gweinidog heddiw. Fel rydych chi'n dweud, mae’r ddogfen hon yn un hirddisgwyliedig, ac mi fydd y sector heddiw yn croesawu bod dogfen wedi ei chyhoeddi gan y Llywodraeth o’r diwedd.
Dwi am ddechrau gyda’r cadarnhaol, sef bod y ddogfen hon yn cynnwys nifer o ddatganiadau islaw pob un o’r blaenoriaethau sydd yn disgrifio pam mae diwylliant yn bwysig i’n cenedl a’n pobl. I’r rhai sy'n gweithio yn y sectorau hyn, neu’n cael cyfle i ymgysylltu â nhw, maen nhw’n ddatganiadau sy’n amhosib anghytuno â nhw, ac mae yna esiamplau niferus o waith arloesol sy’n digwydd ledled Cymru sy’n dangos bod y sector yn cyflawni'r rhain yn barod. Nid uchelgais mohonyn nhw; mae'r rhain yn bethau mae ein sefydliadau ni a'r bobl sy'n gweithio yn y maes hwn yn eu cyflawni rŵan.
Wythnos diwethaf, mi fues i'n ddigon ffodus i ailymweld efo Theatr Clwyd a chael fy nghyfareddu gan y weledigaeth anhygoel sydd gan y tîm yna, a'r gwaith cyfnewidiol, trawsnewidiol, sydd yn cael ei gyflawni o ran trawsnewid bywydau pobl ac o ran iechyd a lles ac ati. Dwi’n siŵr bod nifer ohonom ni'n ysu i ailymweld unwaith bydd y theatr yn ailagor.
Dwi hefyd yn cytuno’n llwyr gyda sylwadau’r Gweinidog ynglŷn â phwysigrwydd sicrhau y dylai pawb, beth bynnag bo'u cefndir neu sefyllfa ariannol, gael mynediad at a chyfle i ymwneud â diwylliant. Mae hwn yn hawl sylfaenol sydd wedi ei erydu yn sgil y toriadau a’r diffyg blaenoriaethu i’r portffolio hwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ac felly y cwestiwn sydd gen i, wedi gwrando ar y datganiad a darllen y ddogfen, ydy: sut mae’r Llywodraeth am sicrhau hynny? Oherwydd y gwir amdani ydy bod yna lai o bobl o gefndiroedd tlawd wedi gallu ymwneud efo diwylliant yn y blynyddoedd diwethaf yma o'i gymharu efo degawd yn ôl. Felly, sut ydyn ni am sicrhau bod y toriadau sydd wedi bod—? Sut ydyn ni'n mynd i sicrhau bod y bobl yna, unwaith eto, yn cael mynediad i ddiwylliant, a mwy o bobl? Mae o'n hawl sylfaenol.
O ran y £15 miliwn o gyllid rydych chi wedi ei gyhoeddi, mi fyddwn i'n gwerthfawrogi gwybod a ydy hwn yn arian newydd, faint o’r cyllid hwn sy’n gyllid refeniw, a beth ydy’r allbwn disgwyliedig o’r buddsoddiad hwn, hefyd, ydy o'n gynnydd am un flwyddyn neu ydy o dros nifer o flynyddoedd ariannol, dim ond i fi gael gwell dealltwriaeth o sut yn union rydych chi'n gweld yr arian hwn yn cefnogi'r blaenoriaethau.
I thank the Minister for the statement today and for sharing a copy with me in advance. So, I can prove that I've read it. My comments will be based on this document, rather than rhetoric, and I do have some specific questions for the Minister today. As you've said, this document is a long-awaited one, and the sector will today welcome the fact that a document has been published by the Government at last.
I want to start with a positive, namely that this document contains a number of statements below each of the priorities that describe why culture is important to our nation and our people. For those who work in these sectors, or who have the opportunity to engage with them, they are statements that cannot be disputed, and there are numerous examples of innovative work taking place throughout Wales that show that the sector is already achieving these things. These are not ambitions; these are things that our organisations and people who work in this field are delivering now.
Last week, I was lucky enough to revisit Theatr Clwyd, and I was fascinated by the amazing vision that the team has there, and the transformative work that's taking place in terms of transforming people's lives and their health and well-being. I'm sure that many of us are very eager to visit the theatre again once the doors of the theatre reopen.
I also agree entirely with the Minister's comments regarding the importance of ensuring that everyone, regardless of their background or financial situation, should have access to culture and an opportunity to participate in it. This is a fundamental right that has been eroded as a result of the cuts and the lack of prioritisation afforded to this portfolio in recent years. And so the question that I have, having listened to the statement and read the document, is: how does the Government want to ensure that? Because the truth is that there are fewer people from poorer backgrounds who have been able to take part in culture in recent years compared with a decade ago. So, how are we going to ensure that the cuts that have happened—? How are we going to ensure that those people have access to culture once again, and encourage more people to do that? That's a fundamental right.
In terms of the £15 million of funding that you've announced, I'd appreciate knowing whether this is new funding, how much of this funding is revenue funding, and what's the expected output from this investment, and also is it going to be an annual increase or is it just a one-off, just for me to have a better understanding of how you see this funding supporting the priorities.
Because if you listened to today's statement, and even from reading the document, you would be forgiven for thinking that all was well in these crucial sectors. You'd think that there had been ample investment from Government, and that ample investment was being made, but that's not the case, is it? Yes, there's been more investment, but we're still not at the levels of investment there were even a decade ago.
I would like to know how we're going to ensure that the Government will help the sectors not only recover, but flourish. Because, as was evident in the culture committee’s recent report, 'A decade of cuts', this is a sector in crisis. Wales ranks third from bottom of European countries in terms of spending per person on recreational and sporting services, and second from bottom for cultural services. That’s not a legacy to be proud of. And it seems to me that the good-news stories and achievements of these sectors in recent years has been despite Government, not because of it.
I’m sure that many Members here today will recall a debate I led about the importance of culture in March 2024, when the then Minister with responsibility for culture repeatedly heckled me with the words, 'But what about the NHS?', showing a complete lack of understanding from the Minister who was supposed to be the champion of culture in Government about the interconnectivity between health and the arts, as well as wider Government priorities, including the economy. So, I'm pleased to see in this document that that acknowledgement is there.
Oherwydd pe baech chi'n gwrando ar y datganiad heddiw, a hyd yn oed o ddarllen y ddogfen, gellid maddau i chi am feddwl bod popeth yn iawn yn y sectorau hanfodol hyn. Byddech chi'n meddwl bod digon o fuddsoddiad wedi bod gan y Llywodraeth, a bod digon o fuddsoddiad yn cael ei wneud, ond dydy hynny ddim yn wir, onid yw? Oes, mae mwy o fuddsoddiad wedi bod, ond dydyn ni dal ddim ar y lefelau buddsoddi a welwyd hyd yn oed degawd yn ôl.
Hoffwn wybod sut rydyn ni'n mynd i sicrhau y bydd y Llywodraeth yn helpu'r sectorau nid yn unig i adfer, ond hefyd i ffynnu. Oherwydd, fel yr oedd yn amlwg yn adroddiad diweddar y pwyllgor diwylliant, 'Degawd o doriadau', mae hwn yn sector mewn argyfwng. Mae Cymru yn drydydd o'r gwaelod o ran yr hyn mae gwledydd yn Ewrop yn ei wario y pen ar wasanaethau hamdden a chwaraeon, ac yn ail o'r gwaelod ar gyfer gwasanaethau diwylliannol. Dydy honno ddim yn etifeddiaeth i fod yn falch ohoni. Ac mae'n ymddangos i mi fod y straeon newyddion da a chyflawniadau'r sectorau hyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod er gwaethaf y Llywodraeth, nid o'i herwydd.
Rwy'n siŵr y bydd llawer o Aelodau yma heddiw yn cofio dadl a arweiniais am bwysigrwydd diwylliant ym mis Mawrth 2024, pan wnaeth y Gweinidog â chyfrifoldeb dros ddiwylliant ar y pryd fy heclo dro ar ôl tro gyda'r geiriau, 'Ond beth am y GIG?', gan ddangos diffyg dealltwriaeth llwyr gan y Gweinidog a oedd i fod yn hyrwyddo diwylliant yn y Llywodraeth am y rhyng-gysylltedd rhwng iechyd a'r celfyddydau, yn ogystal â blaenoriaethau ehangach y Llywodraeth, gan gynnwys yr economi. Felly, rwy'n falch o weld hon bod y gydnabyddiaeth honno yno yn y ddogfen hon.
Rydym ni hefyd, wrth gwrs, wedi gweld comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol, yn ei adroddiad diweddar, yn mynegi pryder ynglŷn â dyfodol y sector diwylliant, yn sôn y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno Bil diwylliant i wneud diwylliant yn ofyniad statudol ar gyrff cyhoeddus. Hoffwn felly ofyn i’r Gweinidog heddiw am ei ymateb i’r syniad hwn, ac a ydy o'n rhywbeth sy’n cael ei ystyried o ddifrif gan y Llywodraeth.
Of course, we've seen the future generations commissioner, in his recent report, conveying concern about the future of the culture sector, saying that the Welsh Government should introduce a culture Bill to make culture a statutory requirement for public bodies. I would therefore like to ask the Minister today for his response to this idea, and whether this is something that is being seriously considered by the Government.
Because what’s clear to me, and I think what comes through clearly from the priorities document itself, is that today’s publication can be seen as a welcome first step for many people working in the sector, but that further work is needed to identify the support required to make this a reality, accompanied by clear commitments. There are still a number of references in the document to that further work is required, or that we need to develop a skills strategy, so there are some elements that still haven't been worked up. And as someone who's been waiting nine years for this document, I do feel that we've missed an opportunity to perhaps put forward those plans to show definitely how those steps are going to be taken.
So, I look forward to working, hopefully, constructively with the Minister to take this forward. It is a first step, but there is a lot of work to be done to get us back to the position we were in, let alone take us further forward in the future.
Oherwydd yr hyn sy'n glir i mi, a'r hyn sy'n dod drwodd yn glir o'r ddogfen flaenoriaethau ei hun, yn fy marn i, yw y gellir gweld y cyhoeddiad heddiw fel cam cyntaf i'w groesawu i lawer o bobl sy'n gweithio yn y sector, ond bod angen gwaith pellach i nodi'r cymorth sydd ei angen i wireddu hyn, ynghyd ag ymrwymiadau clir. Mae yna nifer o gyfeiriadau yn y ddogfen o hyd at y ffaith bod angen gwaith pellach, neu fod angen i ni ddatblygu strategaeth sgiliau, felly mae yna rai elfennau nad oes unrhyw waith wedi'i wneud arnyn nhw o hyd. Ac fel rhywun sydd wedi aros naw mlynedd am y ddogfen hon, rwy'n teimlo ein bod ni wedi colli cyfle, efallai, i gyflwyno'r cynlluniau hynny i ddangos yn bendant sut mae'r camau hynny'n mynd i gael eu cymryd.
Felly, rwy'n edrych ymlaen at weithio, yn adeiladol gobeithio, gyda'r Gweinidog i fynd â hyn ymlaen. Mae'n gam cyntaf, ond mae llawer o waith i'w wneud i sicrhau ein bod ni nôl yn y sefyllfa yr oeddem ynddi, heb sôn am fynd â ni ymhellach ymlaen yn y dyfodol.
Diolch yn fawr, Heledd, for the constructive feedback on the 'Priorities for Culture' today, but not just today, also the constructive relationship we’ve had on this issue, both yourself and I, but others in your own party as well, particularly the designated Members, when this was co-produced through the co-operation agreement. I am pleased that you think the document is a welcome first step in the process. It shares the ambitions of what the sector is saying as well.
You’re right to say that this is a lot of the things that we’re already doing, we’re already delivering, both the Government but also the sector as well. What the 'Priorities for Culture' does and will do is enable us to build on those successes in the future. I'll just go through, or try to go through, the points that the Member has asked around.
Firstly, on access, well, access is critical for me. It's one of the most important things that we can offer in this area. One of the items that I addressed in the speech was around travel and ticket costs for those children and young people as well. So, we're already looking at supporting that within the final budget, and I'll be looking at further expanding an offer so that we can support. What we know from the consultation, and what we know from what people tell me, and I'm sure you and others in this place, is that travel, and then the ticket costs to enter these sites, is one of the barriers. I had that conversation at the Royal Welch Fusiliers Museum during VE Day celebrations, so there's a direct intervention, which we'll look to address in the immediate future.
You asked around funding and whether it's new funding. Well, it is new funding this year. It's £8 million capital funding for the Arts Council of Wales, which is referenced within the speech, and I'm sure that more will come out when they announce what that will be used for in due course. And then the £7 million funding ring-fenced—. You asked around capital and revenue, well, it's £3.35 million for capital and £3.7 million ring-fenced funding in revenue. But it's not just that. What I'll ask arm's-length bodies to do in their allocations in draft and then final budgets—. I've asked them to set out in their operational plans to me how they can go on to support the 'Priorities for Culture' in the allocation that they've had in the final budget as well.
The Member points to the future generations commissioner's recent report and the culture Bill—she asked for my response to calls for a culture Bill. I think what the commissioner said was that it would be for the next Government to bring forward a culture Bill, in his view. I'm not considering that at the moment. I think that will be for all parties to consider, going forward, and putting that to a mandate, to the vote, in the next Senedd elections. What I'm keen to do, and what the focus of my job is and what I've asked officials to do, is implement those immediate steps that we've heard—so, around workforce, around the travel and ticket costs, and around the climate and nature emergency, which I've already outlined.
The Member then points to Theatr Clwyd. I think most—. Certainly, I saw that Gareth Davies was there over recess as well. I enjoyed my recent visit there and I look forward to being back there in the very near future for the opening of Theatr Clwyd. I went there as a nine-year-old with an opportunity behind the camera for Lucky Come Back—my local primary school, Ysgol Bryn Deva, in collaboration with Theatr Clwyd. What I'm hoping we'll do—. With the significant investment from the Welsh Labour Government into capital investment in Theatr Clwyd in north-east Wales, more opportunities like that will come forward. So, I'm grateful for the Member's interest and look forward to all Members having the opportunity to be able to see that. In fairness to Gareth Davies, I was pleased that he was able to note the investment by the Welsh Government in his recent video—he didn't do that last time.
Presiding Officer, this is a really important step forward. There is more work to be done, and we'll do that collaboratively with the sector, indeed. I just want to point out where we've been since I've been in post, Presiding Officer. We were able to announce in-year funding to support the sector; we were able to increase in both draft and final budgets, which was welcomed by the sector. Today, we're launching the 'Priorities for Culture'. I'm proud to have been able to deliver on that. I am grateful to the Member for her particular interest, and I am very happy to work constructively with her ongoingly on this matter.
Diolch yn fawr, Heledd, am yr adborth adeiladol ar y 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' heddiw, ond nid dim ond heddiw, y berthynas adeiladol rydyn ni wedi'i chael ar y mater hwn hefyd, chithau a minnau, ond eraill yn eich plaid eich hun hefyd, yn enwedig yr Aelodau dynodedig, pan gafodd y ddogfen hon ei chyd-gynhyrchu drwy'r cytundeb cydweithio. Rwy'n falch eich bod chi'n meddwl bod y ddogfen yn gam cyntaf i'w groesawu yn y broses. Mae'n rhannu uchelgeisiau'r hyn mae'r sector yn ei ddweud hefyd.
Rydych chi'n iawn i ddweud bod hyn yn llawer o'r pethau rydyn ni'n eu gwneud yn barod, rydyn ni'n eu cyflawni'n barod, y Llywodraeth ond hefyd y sector. Yr hyn mae 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' yn ei wneud ac y bydd yn ei wneud yw ein galluogi i adeiladu ar y llwyddiannau hynny yn y dyfodol. Fe af i drwy, neu fe geisiaf fynd drwy'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi gofyn amdanyn nhw.
Yn gyntaf, o ran mynediad, wel, mae mynediad yn hanfodol i mi. Mae'n un o'r pethau pwysicaf y gallwn ni ei gynnig yn y maes hwn. Un o'r pethau yr es i i'r afael ag ef yn yr araith oedd ynghylch costau teithio a thocynnau i'r plant a'r bobl ifanc hynny hefyd. Felly, rydyn ni eisoes yn edrych ar gefnogi hynny o fewn y gyllideb derfynol, ac fe fyddaf yn edrych ar ehangu cynnig ymhellach fel y gallwn ni gefnogi. Yr hyn rydyn ni'n ei wybod o'r ymgynghoriad, a'r hyn rydyn ni'n ei wybod o'r hyn mae pobl yn ei ddweud wrthyf, a chi ac eraill yn y lle hwn rwy'n siŵr, yw bod teithio, ac yna costau tocynnau i fynd i mewn i'r safleoedd hyn, yn un o'r rhwystrau. Fe ges i'r sgwrs honno yn Amgueddfa Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru yn ystod dathliadau Diwrnod VE, felly mae ymyrraeth uniongyrchol, y byddwn ni'n edrych i roi sylw iddi yn y dyfodol agos.
Fe ofynnoch chi am gyllid ac a yw'n gyllid newydd. Wel, mae'n gyllid newydd eleni. Mae'n gyllid cyfalaf o £8 miliwn ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru, y cyfeirir ato yn yr araith, ac rwy'n siŵr y bydd mwy yn dod allan pan fyddan nhw'n cyhoeddi'r hyn y bydd yr arian hwnnw'n cael ei ddefnyddio ar ei gyfer maes o law. Ac yna'r cyllid o £7 miliwn sydd wedi'i neilltuo—. Fe ofynnoch chi am gyfalaf a refeniw, wel, mae'n £3.35 miliwn ar gyfer cyfalaf a £3.7 miliwn o gyllid wedi'i neilltuo mewn refeniw. Ond nid dim ond hynny. Yr hyn y byddaf yn gofyn i gyrff hyd braich ei wneud yn eu dyraniadau mewn cyllidebau drafft ac wedyn terfynol—. Rwyf wedi gofyn iddyn nhw nodi yn eu cynlluniau gweithredol i mi sut allan nhw fynd ymlaen i gefnogi'r 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' yn y dyraniad maen nhw wedi'i gael yn y gyllideb derfynol hefyd.
Mae'r Aelod yn tynnu sylw at adroddiad diweddar comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol a'r Bil diwylliant—fe ofynnodd hi am fy ymateb i alwadau am Fil diwylliant. Rwy'n credu mai'r hyn a ddywedodd y comisiynydd oedd mai lle'r Llywodraeth nesaf fyddai cyflwyno Bil diwylliant, yn ei farn ef. Dydw i ddim yn ystyried hynny ar hyn o bryd. Rwy'n credu y bydd hynny'n rhywbeth i bob plaid ei ystyried, wrth symud ymlaen, a rhoi hynny i fandad, i'r bleidlais, yn etholiadau nesaf y Senedd. Yr hyn rwy'n awyddus i'w wneud, a'r hyn mae fy swydd yn canolbwyntio arno a'r hyn rwyf wedi gofyn i swyddogion ei wneud, yw gweithredu'r camau uniongyrchol hynny rydyn ni wedi'u clywed—felly, o gwmpas y gweithlu, o gwmpas costau teithio a thocynnau, ac o gwmpas yr argyfwng hinsawdd a natur, yr wyf wedi'u hamlinellu'n barod.
Yna mae'r Aelod yn cyfeirio at Theatr Clwyd. Rwy'n credu bod y rhan fwyaf—. Yn sicr, fe welais i fod Gareth Davies yno dros y toriad hefyd. Fe fwynheais i fy ymweliad diweddar yno ac rwy'n edrych ymlaen at fod yn ôl yno yn y dyfodol agos iawn ar gyfer agoriad Theatr Clwyd. Fe es i yno fel plentyn naw oed gyda chyfle y tu ôl i'r camera ar gyfer Lucky Come Back—fy ysgol gynradd leol, Ysgol Bryn Deva, mewn cydweithrediad â Theatr Clwyd. Yr hyn rwy'n gobeithio y byddwn ni'n ei wneud—. Gyda'r buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Lafur Cymru i fuddsoddiad cyfalaf yn Theatr Clwyd yn y gogledd-ddwyrain, bydd mwy o gyfleoedd fel hynny yn dod ar gael. Felly, rwy'n ddiolchgar am ddiddordeb yr Aelod ac rwy'n edrych ymlaen at weld pob Aelod yn cael y cyfle i allu gweld hynny. Er tegwch i Gareth Davies, roeddwn i'n falch ei fod wedi gallu nodi'r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn ei fideo diweddar—wnaeth e ddim mo hynny y tro diwethaf.
Llywydd, mae hwn yn gam pwysig iawn ymlaen. Mae mwy o waith i'w wneud, ac fe wnawn ni hwnnw ar y cyd â'r sector, yn wir. Rwyf eisiau tynnu sylw at lle rydyn ni wedi bod ers i mi ddechrau yn y swydd, Llywydd. Llwyddon ni i gyhoeddi cyllid yn ystod y flwyddyn i gefnogi'r sector; llwyddon ni i gynyddu cyllidebau drafft a therfynol, a groesawyd gan y sector. Heddiw, rydyn ni'n lansio'r 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant'. Rwy'n falch o fod wedi gallu cyflawni hynny. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ei diddordeb arbennig, ac rwy'n hapus iawn i barhau i weithio'n adeiladol gyda hi ar y mater hwn.
I welcome the priority statements today, cementing the importance of Wales's cultural sectors, and the announcement of the £15 million of new Welsh Government spending across the gamut of the cultural sectors of Wales. After years of austerity-led underspend, which has led Wales to appear at the bottom of EU cultural spend, this Senedd is fully aware of the financial pressures that are being felt in the world of the arts, especially when these services are often discretionary and not statutory. However, culture and creatives provide key economic drivers to Welsh gross domestic product and cement our excellence in this world, and generally make life worth living. So, I welcome that the cuts to this portfolio are being partly remediated, but we still do remain low in European portfolio funding standards.
I note that there is, yet, no mention of the importance of funding nationally significant cultural organisations such as Welsh National Opera, suffering worrying redundancies, or the solution to the loss of the junior royal Welsh college music department, which, though not on this mandate, has a very deep cross-cutting impact to pipelines for musicians and Welsh artistic export. I welcome, Minister, your announcement that the investment includes £8 million for a strategic capital investment programme via the Arts Council of Wales, and also your support locally for the Blackwood Miners’ Institute.
So, Minister, what discussions have you had with the Arts Council of Wales about their strategic role in mitigating the severe onslaughts on the music and performance sectors of Wales? What further arm's-length assessments, such as the previous tailored review process, will the Welsh Government undertake to ensure that the critical work of the Arts Council of Wales is fit for purpose so it's fully sighted and able to respond to the pressures across the performance sectors of Wales, of which I note the music sector is silent within the priorities document? Diolch yn fawr i chi.
Rwy'n croesawu'r datganiadau blaenoriaeth heddiw, sy'n cadarnhau pwysigrwydd sectorau diwylliannol Cymru, a'r cyhoeddiad am y £15 miliwn o wariant newydd Llywodraeth Cymru ar draws yr ystod lawn o sectorau diwylliannol Cymru. Ar ôl blynyddoedd o danwariant a arweiniwyd gan gyni, sydd wedi arwain at weld Cymru ar waelod gwariant diwylliannol yr UE, mae'r Senedd hon yn gwbl ymwybodol o'r pwysau ariannol sy'n cael ei deimlo ym myd y celfyddydau, yn enwedig pan fo'r gwasanaethau hyn yn aml yn ddewisol ac nid yn statudol. Fodd bynnag, mae diwylliant a phobl greadigol yn ysgogwyr economaidd allweddol i gynnyrch domestig gros Cymru ac yn cadarnhau ein rhagoriaeth yn y byd hwn, ac yn gwneud bywyd yn werth ei fyw yn gyffredinol. Felly, rwy'n croesawu bod y toriadau i'r portffolio hwn yn cael eu hadfer yn rhannol, ond rydyn ni'n dal i fod yn isel o ran safonau cyllido portffolio Ewropeaidd.
Rwy'n nodi nad oes sôn, hyd yma, am bwysigrwydd ariannu sefydliadau diwylliannol o bwys cenedlaethol fel Opera Cenedlaethol Cymru, sy'n dioddef diswyddiadau pryderus, na'r ateb i golli adran gerddoriaeth iau coleg brenhinol Cymru, sydd, er nad yw ar y mandad hwn, yn cael effaith drawsbynciol ddofn iawn ar biblinellau ar gyfer cerddorion ac allforion artistig o Gymru. Gweinidog, eich cyhoeddiad bod y buddsoddiad yn cynnwys £8 miliwn ar gyfer rhaglen buddsoddi cyfalaf strategol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, a hefyd eich cefnogaeth leol i Sefydliad y Glowyr Coed-duon.
Felly, Gweinidog, pa drafodaethau rydych chi wedi'u cael gyda Chyngor Celfyddydau Cymru am eu rôl strategol wrth liniaru'r ymosodiadau difrifol ar sectorau cerddoriaeth a pherfformio Cymru? Pa asesiadau hyd braich pellach, megis y broses adolygiad teilwredig flaenorol, fydd Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â nhw er mwyn sicrhau bod gwaith hanfodol Cyngor Celfyddydau Cymru yn addas i'r diben fel ei fod yn gallu gweld yn glir ac yn gallu ymateb i'r pwysau ar draws sectorau perfformio Cymru gan gynnwys y sector cerddoriaeth, yr wyf yn nodi nad yw'n cael sylw yn y ddogfen flaenoriaethau? Diolch yn fawr i chi.
I thank Rhianon Passmore for that. She will know the music sector is very alive and well in the creative industry's ambitions, and there is very much a link between the two there, as I said earlier to Gareth around sport. The creative sector as well plays a role in delivering against the ‘Priorities for Culture’.
The Member is an absolutely consistent champion for the sector, and I think that's worth recognising this afternoon. I think today is very much an important milestone for the sector, which will go some way towards addressing the challenges that Rhianon Passmore has highlighted already. I was very pleased to be with Rhianon Passmore earlier this year at Blackwood miners', where, because of the intervention from my department, the in-year funding, and the intervention from the Arts Council of Wales with the additional funding we made available, we were able to save the Blackwood Miners' Institute—another great example of our working-class cultural heritage.
I'll try not to delve into areas that are not my responsibility, but what I will say—and I should have said in response to Heledd earlier as well—as part of the ‘Priorities for Culture’ work, I'll also be having a series of bilaterals with other Cabinet Secretaries within other portfolios. So, the health Secretary, the Deputy First Minister, the local government Minister and, indeed, the education Minister in the first tranche of those, but then it will spread across to others, because this is a document for not just the Government, and all parts of the Government, to contribute towards, but actually it's much wider than that. So, we've had lots of conversations with arm's-length bodies, including the Arts Council of Wales. That investment of £8 million for a capital fund, we've not had that type of funding before in the sector. It should be really welcome news for the sector, and I look forward to seeing the outcome of that.
And on the point about the WNO, again I was pleased with that in-year funding of £755,000 in December. I was able to meet with the new directors of the WNO. Their vision and ambition, I think, for the WNO perfectly align with the ‘Priorities for Culture’ document that you will have seen today, and particularly around access and in creating that the WNO is a space for everybody. I was very impressed and I'm very optimistic about the future of the WNO. I look forward to working with them, the arts council and the Member in the future to deliver against these priorities.
Diolch i Rhianon Passmore am hynny. Bydd hi'n gwybod bod y sector cerddoriaeth yn fyw ac yn iach iawn yn uchelgeisiau'r diwydiant creadigol, ac mae yna gysylltiad rhwng y ddau yn y fan yna, fel y dywedais yn gynharach wrth Gareth ynglŷn â chwaraeon. Mae'r sector creadigol hefyd yn chwarae rôl wrth gyflawni'r 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant'.
Mae'r Aelod yn hyrwyddwr cyson dros y sector, ac rwy'n credu ei bod yn werth cydnabod hynny y prynhawn yma. Rwy'n credu bod heddiw yn garreg filltir bwysig iawn i'r sector, a fydd yn mynd rhywfaint o'r ffordd tuag at fynd i'r afael â'r heriau y mae Rhianon Passmore wedi tynnu sylw atyn nhw eisoes. Roeddwn i'n falch iawn o fod gyda Rhianon Passmore yn gynharach eleni yn Sefydliad y Glowyr Coed-duon, lle, oherwydd yr ymyrraeth gan fy adran, y cyllid yn ystod y flwyddyn, ac ymyrraeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru gyda'r cyllid ychwanegol a roddwyd gennym, roedden ni'n gallu achub Sefydliad y Glowyr Coed-duon—enghraifft wych arall o'n treftadaeth ddiwylliannol dosbarth gweithiol.
Fe wnaf i geisio peidio ag archwilio meysydd nad ydw i'n gyfrifol amdanyn nhw, ond yr hyn y byddaf i'n ei ddweud—ac fe ddylwn i fod wedi ei ddweud mewn ymateb i Heledd yn gynharach hefyd—fel rhan o'r gwaith 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant', byddaf hefyd yn cael cyfres o gyfarfodydd dwyochrog gydag Ysgrifenyddion Cabinet eraill o fewn portffolios eraill. Felly, yr Ysgrifennydd iechyd, y Dirprwy Brif Weinidog, y Gweinidog llywodraeth leol ac, yn wir, y Gweinidog addysg yn y gyfran gyntaf o'r rheini, ond yna bydd yn lledaenu i eraill, oherwydd mae hon yn ddogfen nid yn unig i'r Llywodraeth, a phob rhan o'r Llywodraeth, gyfrannu tuag ati, ond mae'n llawer ehangach na hynny mewn gwirionedd. Felly, rydyn ni wedi cael llawer o sgyrsiau gyda chyrff hyd braich, gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru. Y buddsoddiad hwnnw o £8 miliwn ar gyfer cronfa gyfalaf, dydyn ni ddim wedi cael y math hwnnw o gyllid o'r blaen yn y sector. Dylai fod yn newyddion i'w groesawu'n fawr i'r sector, ac rwy'n edrych ymlaen at weld canlyniad hynny.
Ac o ran y pwynt ynglŷn ag Opera Cenedlaethol Cymru, unwaith eto roeddwn i'n falch gyda'r cyllid hwnnw o £755,000 yn ystod y flwyddyn ym mis Rhagfyr. Fe ges i gyfle i gwrdd â chyfarwyddwyr newydd Opera Cenedlaethol Cymru. Mae eu gweledigaeth a'u huchelgais, rwy'n credu, ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru yn cyd-fynd yn berffaith â'r ddogfen 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' y byddwch chi wedi'i gweld heddiw, ac yn enwedig o ran mynediad a chreu Opera Cenedlaethol Cymru sy'n ofod i bawb. Fe wnaethon nhw argraff fawr arnaf ac rwy'n optimistaidd iawn am ddyfodol Opera Cenedlaethol Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw, cyngor y celfyddydau a'r Aelod yn y dyfodol i gyflawni'r blaenoriaethau hyn.
Diolch am y datganiad. Mae gan ddiwylliant le mor ganolog, dwi'n meddwl, wrth hybu lles a newid agweddau niweidiol er budd ein cymdeithas. Rydych chi hefyd wedi sôn yn eich datganiad eich bod wedi rhoi pwyslais yn y strategaeth ar bobl ifanc.
Mae Theatr na nÓg, sydd wedi'i lleoli yng Nghastell Nedd yn fy rhanbarth i, yn gwneud gwaith arbennig yn cynhyrchu gwaith theatr sy'n cyrraedd pobl ifanc. Yr wythnos yma, byddaf yn mynd i weld Y Naid, Just Jump, yn yr eglwys Norwyeg—drama a gomisiynwyd yn wreiddiol gan Awdurdod Harbwr Caerdydd i godi ymwybyddiaeth o beryglon ymddygiad fel neidio a nofio heb oruchwyliaeth, a'r pwysau gall fod ar bobl ifanc i ymuno mewn ymddygiad o'r fath. Fe glywon ni oblygiadau difrifol a thorcalonnus hyn yr wythnos yma, gyda'r cwest i farwolaeth y bachgen 15 oed, David Ejimofor, un o fy etholwyr i, a foddodd yn y môr ger Aberafan. Bob blwyddyn, mae pobl ifanc yng Nghymru yn colli eu bywydau mewn dŵr fel hyn, a gall theatr helpu i gyfathrebu'r peryglon mewn ffordd sy'n dal sylw, ac mae'r cynhyrchiad hwn yn gwneud yn union hynny. Ond bydd gan ddisgyblion ledled Cymru ddim cyfle i weld y cynhyrchiad, er bod y cwmni wedi bod yn ceisio ers rhai blynyddoedd i sicrhau hyn. Felly, pa ystyriaeth mae'r strategaeth yn rhoi i ddeall potensial a chefnogi ymgyrchoedd cenedlaethol theatr mewn addysg i geisio sicrhau bod trasiedïau diangen fel hyn yn cael eu hatal? Diolch.
Thank you for the statement. Culture has such a central role, I think, in promoting well-being and changing damaging attitudes for the benefit of all of our society. You've also mentioned in your statement that there is an emphasis on young people in the strategy.
Theatr na nÓg, which is based in Neath in my region, does excellent work in producing theatre work that reaches young people. This week, I will be going to see Y Naid, Just Jump, at the Norwegian church. It was originally commissioned by the Cardiff Harbour Authority to raise awareness of the dangers of behaviours such as jumping into water and swimming unsupervised, and the pressure young people can feel to join in such behaviour. We've heard about the serious and heartbreaking consequences of that this week, with the inquest into the death of the 15-year-old boy, David Ejimofor, a constituent of mine, who drowned in the sea near Aberavon. Every year, young people in Wales lose their lives in water like this, and theatre can help to communicate the dangers in a way that captures their attention, and this production does exactly that. But pupils across Wales will not have an opportunity to see the production, although the company has been striving for some years to achieve this. So, what consideration does the strategy give to understanding the potential and supporting national theatre in education campaigns to try and ensure that unnecessary tragedies like this one are prevented? Thank you.
Can I thank the Member for those questions? I think you are absolutely right to point to the role that the culture sector can play in not just those traditional arts and going to the theatre because you want to go to the theatre, but actually what it can do to open the doors and reach areas that we sometimes simply can't reach. The performance that you mentioned, Just Jump, I am sure, does exactly that.
I was very pleased this morning to be in Sarah Murphy's constituency at Seren Books to discuss just the same thing, but the role publishing can play and the priorities around that. It is very important to be able to improve that access to communities across Wales and then get the right type of culture in front of people, to be able to ultimately save lives and improve lives as well.
The ambition set out in the 'Priorities for Culture' document is a vision that the sector can work towards. I think the first one does exactly that. The one that brings everybody together is the important part here, and then accessing programmes like the Just Jump theatre, I think will be a consideration for the sector to take forward. So, when arm's-length bodies set out in their operational plans to me how they can support the 'Priorities for Culture', I very much take your point on board about how that access looks, and I'll ask them to consider that as well, but also the role that schools can play. I think that may form part of the discussion that I will have with the Cabinet Secretary around that. But thanks for those constructive comments this afternoon.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny? Rwy'n credu eich bod chi'n hollol iawn i gyfeirio at y rôl y gall y sector diwylliant ei chwarae nid yn unig yn y celfyddydau traddodiadol hynny a mynd i'r theatr oherwydd eich bod chi eisiau mynd i'r theatr, ond yr hyn y gall ei wneud mewn gwirionedd i agor y drysau a chyrraedd ardaloedd nad ydyn ni'n gallu eu cyrraedd weithiau. Rwy'n siŵr bod y perfformiad y gwnaethoch chi ei grybwyll, Just Jump, yn gwneud yr union beth hynny.
Roeddwn i'n falch iawn y bore yma i fod yn etholaeth Sarah Murphy yn Seren Books i drafod yr un peth, ond y rôl y gall cyhoeddi ei chwarae a'r blaenoriaethau o gwmpas hynny. Mae'n bwysig iawn gallu gwella'r mynediad hwnnw i gymunedau ledled Cymru ac yna cael y math cywir o ddiwylliant o flaen pobl, er mwyn gallu achub bywydau a gwella bywydau hefyd yn y pen draw.
Mae'r uchelgais a nodir yn y ddogfen 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' yn weledigaeth y gall y sector weithio tuag ati. Rwy'n credu bod yr un gyntaf yn gwneud yn union hynny. Yr un sy'n dod â phawb at ei gilydd yw'r rhan bwysig yma, ac yna rwy'n credu y bydd cael mynediad at raglenni fel theatr Just Jump yn ystyriaeth y gall y sector fwrw ymlaen â hi. Felly, pan fydd cyrff hyd braich yn nodi yn eu cynlluniau gweithredol i mi sut allan nhw gefnogi'r 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant', rwy'n nodi'r pwynt rydych chi'n ei wneud ynglŷn â sut mae'r mynediad hwnnw'n edrych, ac fe ofynnaf iddyn nhw ystyried hynny hefyd, ond hefyd y rôl y gall ysgolion ei chwarae. Rwy'n credu y gallai hynny fod yn rhan o'r drafodaeth y byddaf yn ei chael gyda'r Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â hynny. Ond diolch am y sylwadau adeiladol hynny y prynhawn yma.
I welcome the statement by the Minister. Minister, protecting our cultural heritage is also about preserving specialist skills. I welcome the specialist heritage craft skills traineeship programme with the support and development of Cadw’s conservation team. We need to develop further apprenticeships. We know that a number of those with certain building skills, such as dry stone wall building and thatching, are declining. We also know that these skills are necessary to preserve our built heritage. Dry stone walling is a building method by which structures are constructed from stones without any mortar to bind them together. A certain amount of binding is obtained through the use of carefully selected interlocking stones. Thatching is the craft of building a roof with dry vegetation, such as straw, water reeds, rushes, et cetera, layering the vegetation so as to shed water away from the inner roof. Since the bulk of the vegetation stays dry and is densely packed, trapping air, thatching also functions as insulation.
Finally, I want to stress the importance of sport and music, including choirs and brass bands, to our cultural heritage.
Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Gweinidog. Gweinidog, mae diogelu ein treftadaeth ddiwylliannol hefyd yn ymwneud â chadw sgiliau arbenigol. Rwy'n croesawu'r rhaglen hyfforddeiaeth sgiliau crefft treftadaeth arbenigol gyda chefnogaeth a datblygiad tîm cadwraeth Cadw. Mae angen i ni ddatblygu prentisiaethau pellach. Rydyn ni'n gwybod bod y nifer sydd â sgiliau adeiladu penodol, fel adeiladu waliau cerrig sych a thoi, yn lleihau. Rydyn ni hefyd yn gwybod bod angen y sgiliau hyn er mwyn gwarchod ein treftadaeth adeiledig. Mae codi waliau cerrig sych yn ddull adeiladu lle mae strwythurau'n cael eu hadeiladu o gerrig heb unrhyw forter i'w rhwymo. Ceir rhywfaint o rwymo trwy ddefnyddio cerrig sy'n cydgloi a ddewisir yn ofalus. Toi â gwellt yw'r grefft o adeiladu to gyda llystyfiant sych, fel gwellt, cyrs, brwyn, ac ati, haenu'r llystyfiant er mwyn cadw dŵr i ffwrdd oddi wrth y to mewnol. Gan fod y rhan fwyaf o'r llystyfiant yn aros yn sych ac yn cael ei bacio'n ddwys, gan ddal aer, mae gwellt toi hefyd yn gweithredu fel inswleiddio.
Yn olaf, rwyf am bwysleisio pwysigrwydd chwaraeon a cherddoriaeth, gan gynnwys corau a bandiau pres, i'n treftadaeth ddiwylliannol.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
The Deputy Presiding Officer took the Chair.
I thank Mike Hedges for those two areas. I absolutely agree with him on that last point there, and I hope the priorities will help further enhance the offer that we can make to support that.
The point on skills, well, look, I've asked all Cabinet Secretaries and Ministers within the Government to consider how they support the priorities for culture in their portfolios, so it's only right that I ask myself that as well. So, with skills in mind, as the Member pointed out, skills was a key theme of the consultation response that we had from the sector, so we're looking to address that in the immediate term, as I've said in the statement, with the specialist skills traineeship with Cadw. But the Member points to apprenticeships, and I'm very interested in the role that apprenticeships can play in the sector, particularly for those specialist skills—so, skills like conservation, but skills like dry stone walling as well, and other skills. What I'm asking officials to do is to go back and consider a shared-type apprenticeship scheme for the sector. We do this already in the construction sector, where SMEs are able to go onto that type of scheme, and to just see if that's something that, firstly, the sector is interested in, and then how that works.
So, without going into detail around this, the two areas that the Member pointed to very much could be of interest to not just Cadw, but also the National Trust and local government colleagues as well. So, I thank the Member for doing that, and we'll certainly be considering that in the very near future, and I look forward to reporting back to him and to Members on that scheme.
Diolch i Mike Hedges am y ddau faes hynny. Rwy'n cytuno'n llwyr ag ef am y pwynt olaf hwnnw yn y fan yna, ac rwy'n gobeithio y bydd y blaenoriaethau yn helpu i wella ymhellach y cynnig y gallwn ni ei wneud i gefnogi hynny.
O ran y pwynt ar sgiliau, wel, edrychwch, rwyf wedi gofyn i bob Ysgrifennydd Cabinet a Gweinidog yn y Llywodraeth ystyried sut maen nhw'n cefnogi'r blaenoriaethau ar gyfer diwylliant yn eu portffolios, felly mae'n iawn fy mod i'n gofyn hynny i mi fy hun hefyd. Felly, gyda sgiliau mewn golwg, fel y nododd yr Aelod, roedd sgiliau yn thema allweddol yn yr ymateb a gawsom gan y sector i'r ymgynghoriad, felly rydyn ni'n edrych i fynd i'r afael â hynny yn y tymor agos, fel yr wyf wedi'i ddweud yn y datganiad, gyda'r hyfforddeiaeth sgiliau arbenigol gyda Cadw. Ond mae'r Aelod yn tynnu sylw at brentisiaethau, ac mae gen i ddiddordeb mawr yn y rôl y gall prentisiaethau ei chwarae yn y sector, yn enwedig ar gyfer y sgiliau arbenigol hynny—felly, sgiliau fel cadwraeth, ond sgiliau fel codi waliau cerrig sych hefyd, a sgiliau eraill. Yr hyn rwy'n gofyn i swyddogion ei wneud yw mynd yn ôl ac ystyried cynllun prentisiaeth ar y cyd ar gyfer y sector. Rydyn ni'n gwneud hyn eisoes yn y sector adeiladu, lle mae busnesau bach a chanolig yn gallu cymryd rhan yn y math hwnnw o gynllun, ac i weld a yw hynny'n rhywbeth y mae gan y sector ddiddordeb ynddo yn gyntaf, ac yna sut mae hynny'n gweithio.
Felly, heb fynd i fanylion ynglŷn â hyn, gallai'r ddau faes y tynnodd yr Aelod sylw atyn nhw fod o ddiddordeb nid yn unig i Cadw, ond hefyd i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a chydweithwyr llywodraeth leol hefyd. Felly, diolch i'r Aelod am wneud hynny, a byddwn ni'n sicr yn ystyried hynny yn y dyfodol agos iawn, ac rwy'n edrych ymlaen at adrodd yn ôl iddo ef ac i'r Aelodau ar y cynllun hwnnw.
Diolch i'r Gweinidog am hyn a dwi'n croesawu'r ddogfen ar y blaenoriaethau. Mae hi'n hir ddisgwyliedig, achos mae'r sector diwylliant wedi dioddef yn uffernol gyda thangyllido, er newidiwyd cwrs ar hynny ryw ychydig yn gynharach eleni, wrth gwrs. Ond erys problemau yn sgil y pandemig, y creisis costau byw a Brexit.
Mae ein pwyllgor ni wedi dangos yr effaith sydd wedi dod o dangyllido dros ddegawd. Allwch chi fynegi, er mwyn ein helpu ni weld hyn y ei gyd-destun, lle rydych chi'n gobeithio y bydd y lefelau cyllid dros y blynyddoedd nesaf? Mae Llywodraeth yr Alban, dwi'n gwybod, wedi dweud eu bod nhw'n gobeithio rhoi £100 miliwn mwy bob blwyddyn erbyn 2028-29. Felly, er mwyn gweld y snapshot yn ei gyd-destun, buasai hwnna'n ddefnyddiol i ni ei weld.
Oherwydd does dim lot o fanylion o ran y gweithrediad a fydd yn angenrheidiol i gyflawni hyn oll, a'r blaenoriaethau rwy'n meddwl y byddai nifer ohonom ni wir yn eu clodfori yma, nac ychwaith unrhyw amserlenni, a fyddwch chi'n cyhoeddi cynllun gweithredu i gyd-fynd â hyn i roi'r manylder yna? Rwy'n meddwl y byddem ni fel pwyllgor yn croesawu gweld rhywbeth fel yna er mwyn ein helpu ni gyda'r gwaith o sgrwtineiddio hyn. Diolch.
I thank the Minister for the statement and I welcome the document on the priorities. It is long awaited, because the culture sector has suffered bitterly from underfunding, although there was a bit of a change of course on that earlier this year, of course. However, problems remain in the wake of the pandemic, the cost-of-living crisis and Brexit.
Our committee has demonstrated the impact of underfunding for over a decade. Could you tell us, in order for us to be able to see this in context, where you hope funding levels will be over the next few years? The Scottish Government, I know, has said that it hopes to allocate £100 million more each year by 2028-29. So, in order to see this snapshot in context, that would be very useful for us to see.
And because there aren't many details in terms of the implementation that will be needed to achieve all of this, and the priorities that I think many of us would praise here, or any timescales, will you be publishing an action plan to accompany this to provide that detail? I think that we as a committee would welcome something like that to help us with the scrutiny of this. Thank you.
Diolch, Delyth, for those questions. I think there were two points in there. I'm not in a position to announce future budgets. I was very pleased to be able to increase the level of funding from the draft budget to the final budget this year. It was disappointing that opposition parties didn't want to support that funding, but I'm not in a position at the moment to be able to set budgets. I don't think the finance Secretary would be very happy if I was able to do that. [Interruption.] I know Sam Kurtz is trying to tempt me to do just that, but I'll refrain.
On implementation, what I am keen to see happen—and this is partly because of how the sector happens—this is a document a long time in the making, and I am very keen that we deliver against the actions and ambitions within it in the immediate term. So, my focus, as I've set out in this statement, will be focusing on delivering against those actions, particularly around the climate and nature emergency. We've seen the report I published last week and some of the recommendations there. We'll look to deliver against them. I've already mentioned around children and young people and how we are trying to improve access already, in the statement, as well as other areas around workforce. Again, the actions that we will take as to the Cadw traineeship scheme, but then we will look to shared apprenticeship schemes.
I'm not going to publish an implementation plan now. I think that would cause further delay to addressing the problems. That is not to say I won't in the future, but I am not in that place now. I think the sector wants us to get on to deliver against this. I look forward to the scrutiny of the committee. I think there will be lots of opportunity for that to take place against the priorities.
Diolch, Delyth, am y cwestiynau hynny. Rwy'n credu bod yna ddau bwynt yn y fan yna. Dydw i ddim mewn sefyllfa i gyhoeddi cyllidebau yn y dyfodol. Roeddwn i'n falch iawn o allu cynyddu lefel y cyllid o'r gyllideb ddrafft i'r gyllideb derfynol eleni. Roedd yn siomedig nad oedd y gwrthbleidiau eisiau cefnogi'r cyllid hwnnw, ond dydw i ddim mewn sefyllfa ar hyn o bryd i allu pennu cyllidebau. Dydw i ddim yn credu y byddai'r Ysgrifennydd cyllid yn hapus iawn pe bawn i'n gallu gwneud hynny. [Torri ar draws.] Rwy'n gwybod bod Sam Kurtz yn ceisio fy nhemtio i wneud hynny, ond fe wnaf i ymatal rhag gwneud hynny.
O ran gweithredu, yr hyn rwy'n awyddus i'w weld yn digwydd—ac mae hyn yn rhannol oherwydd sut mae'r sector yn digwydd—mae hon yn ddogfen sydd wedi cymryd cryn amser i'w llunio, ac rwy'n awyddus iawn ein bod ni'n cyflawni yn erbyn y camau gweithredu a'r uchelgeisiau ynddi yn y tymor agos. Felly, fy ffocws i, fel rwyf wedi'i nodi yn y datganiad hwn, fydd canolbwyntio ar gyflawni yn erbyn y camau gweithredu hynny, yn enwedig o amgylch yr argyfwng hinsawdd a natur. Rydyn ni wedi gweld yr adroddiad a gyhoeddais yr wythnos diwethaf a rhai o'r argymhellion yn y fan yna. Byddwn ni'n ceisio eu cyflawni. Rwyf eisoes wedi sôn am blant a phobl ifanc a sut rydyn ni'n ceisio gwella mynediad eisoes, yn y datganiad, yn ogystal â meysydd eraill o amgylch y gweithlu. Unwaith eto, y camau y byddwn ni'n eu cymryd o ran cynllun hyfforddeiaeth Cadw, ond yna fe fyddwn ni'n edrych at gynlluniau prentisiaeth a rennir.
Dydw i ddim yn mynd i gyhoeddi cynllun gweithredu nawr. Rwy'n credu y byddai hynny'n achosi oedi pellach wrth fynd i'r afael â'r problemau. Nid yw hynny'n golygu na fyddaf i'n gwneud hynny yn y dyfodol, ond nid wyf am wneud hynny nawr. Rwy'n credu bod y sector eisiau i ni fwrw ymlaen i gyflawni hyn. Rwy'n edrych ymlaen at y gwaith craffu y bydd y pwyllgor yn ei wneud. Rwy'n credu y bydd llawer o gyfle i hynny ddigwydd yn erbyn y blaenoriaethau.
Minister, I'm sure you'll join me in welcoming the new culture strategy of Newport City Council, which is just a few months old now, which has created a real buzz around the city and involved the grass roots in working up ideas and being part of what will take place as a result of that strategy. Perhaps one aspect of it, which is very notable, is a new music venue in the city centre, and a new enthusiasm and buzz around the music scene. There's long been a history in Newport of edgy, modern music performance and venues and strength. I think the new cultural strategy very much draws on that. But it's much wider than music; it's music and the arts and culture more generally.
I just wonder, Minister, if you will be looking to work with local authorities like Newport, which are particularly ambitious in terms of having this new cultural strategy and wanting to develop and grow it. How can you work with authorities to make sure that the potential within the area is realised?
Gweinidog, rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i groesawu strategaeth ddiwylliant newydd Cyngor Dinas Casnewydd, sydd ond ychydig fisoedd oed erbyn hyn, sydd wedi creu bwrlwm go iawn o amgylch y ddinas ac sydd wedi cynnwys pobl ar lawr gwlad yn meddwl am syniadau a bod yn rhan o'r hyn a fydd yn digwydd o ganlyniad i'r strategaeth honno. Efallai mai un agwedd ohoni, sy'n nodedig iawn, yw lleoliad cerddoriaeth newydd yng nghanol y ddinas, a brwdfrydedd a bwrlwm newydd o amgylch y sîn gerddoriaeth. Mae hanes hir o berfformiadau cerddoriaeth bigog, fodern a lleoliadau a chryfder yng Nghasnewydd. Rwy'n credu bod y strategaeth ddiwylliannol newydd yn tynnu ar hynny i raddau helaeth. Ond mae'n llawer ehangach na cherddoriaeth; mae'n gerddoriaeth a'r celfyddydau a diwylliant yn fwy cyffredinol.
Tybed, Gweinidog, a ydych chi'n bwriadu gweithio gydag awdurdodau lleol fel Casnewydd, sy'n arbennig o uchelgeisiol o ran cael y strategaeth ddiwylliannol newydd hon ac eisiau ei datblygu a'i thyfu. Sut allwch chi weithio gydag awdurdodau i wneud yn siŵr bod y potensial yn yr ardal yn cael ei wireddu?
I thank John Griffiths for that. I think all of the things that are happening in Newport right now are very exciting for not just the area, but for Wales as a whole. It was great to be there over the Easter period with Jayne Bryant and the leader of the council, Dimitri. I was very pleased to see Dimitri re-elected as leader of the council. I think the cultural strategy for Newport and all of the things that John Griffiths has mentioned are very much because of his leadership. We will work with local authorities, of course. One of the bilaterals I'll have with Ministers will be with the local government Minister because I think the workforce of local government, as well as on the skills piece, have a key role to play in this.
But the ambitions of Newport's cultural strategy align very well with the 'Priorities for Culture'. I was in Caerleon just yesterday with the two cabinet members from Newport who have responsibility for tourism and culture. We were in the National Roman Legion Museum in Caerleon. That's not just got national significance; it has international significance to cultural heritage, and it's right on our doorstep. I think there's a lot more to do there, and it was pleasing to be able to launch the priorities in Newport, in Caerleon.
The music scene is alive and kicking in Newport. I know there might not be any TJ’s any more, but there are things that are replacing it, and I think all of the work that Le Pub are doing, and others, in this space is very exciting. I wish them all the best with the music trail—that's just been, but the ones they'll have in the future. We will go on to support them in that way, and I look forward to working with the Member as well.
Diolch i John Griffiths am hynna. Rwy'n credu bod yr holl bethau sy'n digwydd yng Nghasnewydd ar hyn o bryd yn gyffrous iawn nid yn unig i'r ardal, ond i Gymru gyfan. Roedd yn wych bod yno dros gyfnod y Pasg gyda Jayne Bryant ac arweinydd y cyngor, Dimitri. Roeddwn i'n falch iawn o weld Dimitri yn cael ei ailethol yn arweinydd y cyngor. Rwy'n credu bod y strategaeth ddiwylliannol ar gyfer Casnewydd a'r holl bethau y mae John Griffiths wedi'u crybwyll wedi digwydd i raddau helaeth oherwydd ei arweinyddiaeth. Byddwn ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol, wrth gwrs. Un o'r cyfarfodydd dwyochrog y byddaf yn eu cael gyda Gweinidogion fydd gyda'r Gweinidog llywodraeth leol oherwydd rwy'n credu bod gan y gweithlu llywodraeth leol rôl allweddol i'w chwarae yn hyn, yn ogystal ag o ran sgiliau.
Ond mae uchelgeisiau strategaeth ddiwylliannol Casnewydd yn cyd-fynd yn dda iawn â'r 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant'. Roeddwn i yng Nghaerllion ddoe gyda'r ddau aelod cabinet o Gasnewydd sy'n gyfrifol am dwristiaeth a diwylliant. Roedden ni yn Amgueddfa Genedlaethol y Lleng Rufeinig yng Nghaerllion. Mae honno'n arwyddocaol yn genedlaethol, ond mae hi'n arwyddocaol yn rhyngwladol hefyd i dreftadaeth ddiwylliannol, ac mae ar garreg ein drws. Rwy'n credu bod llawer mwy i'w wneud yno, ac roedd yn braf gallu lansio'r blaenoriaethau yng Nghasnewydd, yng Nghaerllion.
Mae'r sîn gerddoriaeth yn fyw ac yn iach yng Nghasnewydd. Rwy'n gwybod efallai nad oes TJ's yno mwyach, ond mae yna bethau sy'n cymryd ei le, ac rwy'n credu bod yr holl waith y mae Le Pub, ac eraill, yn ei wneud yn y maes hwn yn gyffrous iawn. Rwy'n dymuno'r gorau iddyn nhw gyda'r llwybr cerddoriaeth—mae hwnnw newydd fod, ond y rhai y byddan nhw'n eu cael yn y dyfodol. Byddwn ni'n mynd ymlaen i'w cefnogi yn y modd hwnnw, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Aelod hefyd.
Ac yn olaf, Buffy Williams.
And finally, Buffy Williams.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Minister, as you've outlined, creative opportunities help our young people find their voice, build confidence, and feel proud of their true identity and celebrate where they're from. Whether it's music, art, gaming or film, culture lifts us up and opens doors to real careers. Rhondda is home to some of our most beloved stars in Wales, with the likes of Sophie Evans and Callum Howells inspiring future generations.
More recently, we've seen the birth of the Turning the Wheel musical, providing opportunities for local writers, artists, actors and actresses. We're also lucky in Rhondda to have outstanding organisations like Spectacle Theatre, who support young people through the arts. I've been fortunate to experience the music and gaming courses available at Coleg y Cymoedd and to see Ysgol Gynradd Llwyncelyn and Ysgol Gyfun Cwm Rhondda opening up Welsh language culture for the next generation.
You mention in your statement not leaving children from working-class communities behind when it comes to accessing culture. Can you further outline how the strategy can achieve this and build on the opportunities already available?
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, fel rydych chi wedi'i amlinellu, mae cyfleoedd creadigol yn helpu ein pobl ifanc i ddod o hyd i'w llais, i fagu hyder, ac i deimlo'n falch o'u gwir hunaniaeth a dathlu o ble maen nhw'n dod. P'un a yw'n gerddoriaeth, celf, hapchwarae neu ffilm, mae diwylliant yn ein codi ni ac yn agor drysau i yrfaoedd go iawn. Mae'r Rhondda yn gartref i rai o'n sêr mwyaf poblogaidd yng Nghymru, gyda phobl fel Sophie Evans a Callum Howells yn ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol.
Yn fwy diweddar, rydyn ni wedi gweld genedigaeth y sioe gerdd Turning the Wheel, sydd wedi darparu cyfleoedd i awduron, artistiaid, actorion ac actoresau lleol. Rydyn ni hefyd yn ffodus yn y Rhondda i gael sefydliadau rhagorol fel Spectacle Theatre, sy'n cefnogi pobl ifanc drwy'r celfyddydau. Rwyf wedi bod yn ffodus i brofi'r cyrsiau cerddoriaeth a hapchwarae sydd ar gael yng Ngholeg y Cymoedd ac i weld Ysgol Gynradd Llwyncelyn ac Ysgol Gyfun Cwm Rhondda yn agor diwylliant Cymraeg i'r genhedlaeth nesaf.
Rydych chi'n sôn yn eich datganiad am beidio â gadael plant o gymunedau dosbarth gweithiol ar ôl o ran cael mynediad at ddiwylliant. Allwch chi amlinellu ymhellach sut all y strategaeth gyflawni hyn ac adeiladu ar y cyfleoedd sydd eisoes ar gael?
I thank Buffy Williams for raising those important points. Again, there are lots of things happening in the Rhondda, and it's great. It's steeped in cultural history, particularly working-class history. I think we've got a proud working-class history in Wales, and we should always look to celebrate that. I look forward to celebrating it with the Member.
I'm particularly interested in the point the Member raised on gaming. Gaming and the creative industries is not mentioned directly in the ambitions, but it will link closely to the 'Priorities for Culture'. I think there's real space between the creative industries and perhaps the more traditional arts and culture, and how they work together. I think the priorities document will help shape that conversation.
When I was in Wrexham University looking at some of the games fund that we deliver through them, I was able to meet a student there who's created his own game and all the technology that you have to be able to use to make that happen, but actually, the scenery in the game—not just the gameplay and script writing of the game—he's painted every single scene. So, he's used his artistic licence on one side and then he's gone on to produce the game, and I think there's much more opportunity to do more collaboration.
I'm very pleased to see the Member bringing up, again, the importance of children and young people having access to culture. I think the response, which I've already set out, in meeting those travel and ticket costs—and we'll look at the detail of what that will mean—will go some way in making sure people have the opportunity.
Just yesterday, when I was in Caerleon, I was reminded about Gwilym, who was eight years old when he first visited there. So, very similar to me, when I first visited Theatr Clwyd and did that project with them up in north Wales, Gwilym was eight years old when he was inspired by all of the Roman history in Caerleon. Gwilym is now the head of Cadw. I want there to be more Gwilyms across all parts of Wales, to be inspired by the culture that we have here. I think the vision set out in the 'Priorities for Culture' will enable us to offer more experiences and inspirations to more people across Wales. We look forward to doing that, including in working-class communities like the ones the Member and I represent. Diolch.
Diolch i Buffy Williams am godi'r pwyntiau pwysig yna. Unwaith eto, mae yna lawer o bethau'n digwydd yn y Rhondda, ac mae'n wych. Mae'n llawn hanes diwylliannol, yn enwedig hanes dosbarth gweithiol. Rwy'n credu bod gennym ni hanes dosbarth gweithiol balch yng Nghymru, a dylem bob amser geisio dathlu hynny. Rwy'n edrych ymlaen at ei ddathlu gyda'r Aelod.
Mae gen i ddiddordeb arbennig yn y pwynt a gododd yr Aelod am hapchwarae. Nid yw hapchwarae a'r diwydiannau creadigol yn cael eu crybwyll yn uniongyrchol yn yr uchelgeisiau, ond bydd yn cysylltu'n agos â'r 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant'. Rwy'n credu bod gofod go iawn rhwng y diwydiannau creadigol ac efallai'r celfyddydau a'r diwylliant mwy traddodiadol, a sut maen nhw'n gweithio gyda'i gilydd. Rwy'n credu y bydd y ddogfen flaenoriaethau yn helpu i lywio'r sgwrs honno.
Pan oeddwn i ym Mhrifysgol Wrecsam yn edrych ar rywfaint o'r gronfa gemau rydyn ni'n ei darparu trwyddyn nhw, fe ges i gyfle i gwrdd â myfyriwr yno sydd wedi creu ei gêm ei hun a'r holl dechnoleg y mae'n rhaid i chi allu ei defnyddio i wneud i hynny ddigwydd, ond mewn gwirionedd, mae'r golygfeydd yn y gêm—nid dim ond y ffordd y caiff y gêm ei chwarae a'r sgript ar gyfer y gêm—mae wedi paentio pob golygfa. Felly, mae wedi defnyddio ei ryddid artistig ar un ochr ac yna mae wedi mynd ymlaen i gynhyrchu'r gêm, ac rwy'n meddwl bod yna lawer mwy o gyfle i gydweithio.
Rwy'n falch iawn o weld yr Aelod yn sôn, unwaith eto, am bwysigrwydd plant a phobl ifanc yn cael mynediad at ddiwylliant. Rwy'n credu y bydd yr ymateb, yr wyf eisoes wedi'i nodi, o ran talu'r costau teithio a'r tocynnau hynny—a byddwn yn edrych ar fanylion yr hyn y bydd hynny'n ei olygu—yn mynd rhywfaint o'r ffordd i wneud yn siŵr bod pobl yn cael y cyfle.
Dim ond ddoe, pan oeddwn i yng Nghaerllion, fe ges i fy atgoffa am Gwilym, a oedd yn wyth oed pan aeth yno am y tro cyntaf. Felly, yn debyg iawn i mi, pan wnes i ymweld â Theatr Clwyd am y tro cyntaf a gwneud y prosiect hwnnw gyda nhw yn y gogledd, roedd Gwilym yn wyth oed pan gafodd ei ysbrydoli gan yr holl hanes Rhufeinig yng Nghaerllion. Erbyn hyn, Gwilym yw pennaeth Cadw. Rwyf eisiau gweld mwy o Gwilyms ym mhob rhan o Gymru, i gael eu hysbrydoli gan y diwylliant sydd gennym ni yma. Rwy'n credu y bydd y weledigaeth a nodir yn y 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' yn ein galluogi i gynnig mwy o brofiadau ac ysbrydoliaeth i fwy o bobl ledled Cymru. Rydyn ni'n edrych ymlaen at wneud hynny, gan gynnwys mewn cymunedau dosbarth gweithiol fel y rhai y mae'r Aelod a minnau'n eu cynrychioli. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog.
Thank you, Minister.
And I will add: don't forget street art as well. We have a tremendous scene of street art in Wales.
Ac fe wnaf i ychwanegu: peidiwch ag anghofio celf stryd hefyd. Mae gennym sîn celf stryd wych yng Nghymru.
I fully agree with the Deputy Presiding Officer.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Dirprwy Lywydd.
Eitem 6 heddiw yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, diweddariad ar ddigwyddiadau mawr. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Rebecca Evans.
Item 6 this afternoon is a statement by the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning, an update on major events. I call on the Cabinet Secretary, Rebecca Evans.

Diolch. I welcome the opportunity today to highlight the success of the Welsh Government in making Wales a top global destination for major events. Cultural, sporting and business events are a vital part of our visitor economy. By bringing events to destinations the length and breadth of Wales, the Welsh Government is driving positive economic impact, showcasing our world-class venues, spotlighting our cities, towns and communities, and highlighting our incredible landscapes. We are working to support the growth of a geographical and seasonal spread of home-grown and international events across the whole of Wales. In doing so, we are attracting people to visit Wales, both from elsewhere in the UK and internationally.
Diolch. Rwy'n croesawu'r cyfle heddiw i dynnu sylw at lwyddiant Llywodraeth Cymru wrth sicrhau bod Cymru yn gyrchfan fyd-eang flaenllaw ar gyfer digwyddiadau mawr. Mae digwyddiadau diwylliannol, chwaraeon a busnes yn rhan hanfodol o'n heconomi ymwelwyr. Drwy ddod â digwyddiadau i gyrchfannau ar hyd a lled Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn ysgogi effaith economaidd gadarnhaol, yn dangos ein lleoliadau o'r radd flaenaf, yn tynnu sylw at ein dinasoedd, ein trefi a'n cymunedau, ac yn rhoi sylw i'n tirweddau anhygoel. Rydyn ni'n gweithio i gefnogi twf lledaeniad daearyddol a thymhorol o ddigwyddiadau cartref a rhyngwladol ledled Cymru gyfan. Wrth wneud hynny, rydyn ni'n denu pobl i ymweld â Chymru, o rannau eraill y DU ac yn rhyngwladol.
As well as boosting the economy, events help us to celebrate and share our distinct Welsh culture with the world. They also deliver wider benefits such as supporting mental health and well-being, helping to increase participation in sports and the arts, and fostering community engagement and cohesion.
Securing a stage of the grand départ of the Tour de France in 2027 is a significant achievement. It will provide an opportunity to showcase Wales's natural beauty to an audience of millions, as well as bringing significant economic impact to Wales. We will also use the event to encourage people of all ages to try, or return to, cycling, for example.
Similarly, hosting six matches of the UEFA Euro 2028 in Cardiff represents another significant opportunity. We can be confident that the economic benefits will be significant, and that a vibrant atmosphere for communities and visitors alike will be guaranteed. We will also work closely with partners to ensure that these events are delivered effectively and responsibly.
More immediately, this weekend we will welcome the European rugby finals to the Principality Stadium, bringing tens of thousands of fans from England and France to our capital city and boosting the economy. We hope that our warm Welsh welcome will see the fans hungry to come back for more.
Also taking place this weekend is the Devauden Festival in Monmouthshire. Our Welsh Government support has helped it grow from a one-day festival to a three-day festival, and the profits from the event are re-invested in the community, enabling local people access to arts, sporting, cultural and community activities throughout the year. And then, in July, we will be bringing the AIG Women's Open to the Royal Porthcawl Golf Club. This will be the biggest women-only sporting event ever to be held in Wales.
The Between the Trees Festival, over the bank holiday weekend in August, attracts almost half of its audience from outside of Wales to enjoy the beauty of Candleston woods in Bridgend. With Welsh Government support, the festival attracted around 20 per cent more visitors in 2024. It creates up to 50 volunteer placements for community groups across the Bridgend area, and was listed in The Guardian's 'Ten great ideas for August bank holiday'.
We're also pleased to be supporting a programme of activity that celebrates this year's centenary of the birth of one of Wales's cultural icons, Richard Burton, showcasing and promoting his birthplace to an international audience. Celebrating world-famous icons of Welsh culture is a great way of inspiring people to visit Wales. The more people know about Wales, the more they want to visit. These programmes celebrating the likes of Burton, Dylan Thomas and Roald Dahl in creative and fun ways resonate with fans across the globe and demonstrate Wales's pride in their achievements.
We're always looking to the future to bring more events to Wales, and we have events in the calendar right up to 2030. We're not complacent, however, and we're in regular dialogue with a range of event owners about future opportunities. Some of these discussions have to take place confidentially, but we will continue to pursue different options to bring more exciting events to Wales.
Event opportunities are being considered within the framework of our Event Wales strategy, which seeks to maximise the benefits of major events for Wales. Last year alone, we saw a return on investment from events of over 10:1, supporting almost a 1,000 jobs in the wider tourism economy, and providing showcase opportunities for almost 1,000 Welsh artists.
The numbers tell part of the story of how valuable events can be, but they don't tell the whole story. By providing funding and directly supporting events, we see and hear first-hand the vital contribution that events make to Welsh businesses. From beer suppliers and food vans to stage technicians and sound engineers, there are people and businesses thriving across Wales because of the range of events taking place here.
Hosting major events requires careful planning and collaboration, and we can't deliver our ambitions for a thriving sector alone. We're committed to working closely with our partners to ensure events are delivered successfully and that they provide tangible benefits for the people of Wales. We’re also aware of the need to balance the potential benefits with the potential costs and impacts. We'll continue to ensure that our investment in events is informed by the best available evidence and are delivered in a way that benefits all of Wales. Thank you.
Yn ogystal â rhoi hwb i'r economi, mae digwyddiadau yn ein helpu i ddathlu a rhannu ein diwylliant Cymreig unigryw gyda'r byd. Maen nhw hefyd yn darparu manteision ehangach fel cefnogi iechyd meddwl a llesiant, helpu i gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon a'r celfyddydau, a meithrin ymgysylltu a chydlyniant cymunedol.
Mae sicrhau cymal grand départ o'r Tour de France yn 2027 yn gyflawniad sylweddol. Bydd yn rhoi cyfle i arddangos harddwch naturiol Cymru i gynulleidfa o filiynau, yn ogystal â dod ag effaith economaidd sylweddol i Gymru. Byddwn hefyd yn defnyddio'r digwyddiad i annog pobl o bob oed i roi cynnig ar, neu ddychwelyd i feicio, er enghraifft.
Yn yr un modd, mae cynnal chwe gêm o UEFA Euro 2028 yng Nghaerdydd yn gyfle sylweddol arall. Gallwn fod yn hyderus y bydd y manteision economaidd yn sylweddol, ac y bydd awyrgylch bywiog i gymunedau ac ymwelwyr fel ei gilydd heb os. Byddwn hefyd yn gweithio'n agos gyda phartneriaid i sicrhau bod y digwyddiadau hyn yn cael eu cyflwyno'n effeithiol ac yn gyfrifol.
Yn fwy agos yn y dyfodol, y penwythnos hwn byddwn yn croesawu rowndiau terfynol rygbi Ewrop i Stadiwm Principality, gan ddod â degau o filoedd o gefnogwyr o Loegr a Ffrainc i'n prifddinas a rhoi hwb i'r economi. Rydym ni'n gobeithio y bydd ein croeso cynnes Cymreig yn gweld y cefnogwyr yn ysu i ddod yn ôl am fwy.
Hefyd yn digwydd y penwythnos hwn mae Gŵyl Devauden yn sir Fynwy. Mae ein cefnogaeth ni yma gan Lywodraeth Cymru wedi ei helpu i dyfu o ŵyl undydd i ŵyl dridiau, ac mae'r elw o'r digwyddiad yn cael ei ailfuddsoddi yn y gymuned, gan alluogi pobl leol i gael mynediad at weithgareddau celfyddydol, chwaraeon, diwylliannol a chymunedol drwy gydol y flwyddyn. Ac yna, ym mis Gorffennaf, byddwn yn dod â'r AIG Women's Open i Glwb Golff Brenhinol Porthcawl. Dyma'r digwyddiad chwaraeon mwyaf i ferched yn unig erioed i'w gynnal yng Nghymru.
Mae'r Ŵyl Rhwng y Coed, dros benwythnos gŵyl y banc ym mis Awst, yn denu bron i hanner ei chynulleidfa o'r tu allan i Gymru i fwynhau harddwch coedwigoedd Tregawntlo ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, denodd yr ŵyl tua 20 y cant yn fwy o ymwelwyr yn 2024. Mae'n creu hyd at 50 o leoliadau i wirfoddolwyr ar gyfer grwpiau cymunedol ledled ardal Pen-y-bont ar Ogwr, ac fe'i rhestrwyd yn narn 'Ten great ideas for August bank holiday' The Guardian.
Rydym ni hefyd yn falch o gefnogi rhaglen o weithgareddau sy'n dathlu canmlwyddiant geni un o eiconau diwylliannol Cymru eleni, sef Richard Burton, sy'n arddangos a hyrwyddo ei fan geni i gynulleidfa ryngwladol. Mae dathlu eiconau byd-enwog o ddiwylliant Cymru yn ffordd wych o ysbrydoli pobl i ymweld â Chymru. Po fwyaf o bobl sy'n gwybod am Gymru, y mwyaf maen nhw eisiau ymweld. Mae'r rhaglenni hyn sy'n dathlu pobl fel Burton, Dylan Thomas a Roald Dahl mewn ffyrdd creadigol a difyr yn taro tant ymhlith cefnogwyr ledled y byd ac yn dangos balchder Cymru yn eu llwyddiannau.
Rydym ni bob amser yn edrych i'r dyfodol i ddod â mwy o ddigwyddiadau i Gymru, ac mae gennym ni ddigwyddiadau yn y calendr hyd at 2030. Nid ydym yn hunanfodlon, fodd bynnag, ac rydym ni'n trafod yn rheolaidd gydag ystod o berchnogion digwyddiadau am gyfleoedd yn y dyfodol. Mae'n rhaid i rai o'r trafodaethau hyn fod yn gyfrinachol, ond byddwn yn parhau i gloriannu gwahanol ddewisiadau i ddod â digwyddiadau mwy cyffrous i Gymru.
Mae cyfleoedd digwyddiadau yn cael eu hystyried o fewn fframwaith ein strategaeth Digwyddiadau Cymru, sy'n ceisio gwneud y mwyaf o fanteision digwyddiadau mawr i Gymru. Y llynedd yn unig, fe welsom ni enillion ar fuddsoddiad o dros 10:1, gan gefnogi bron i 1,000 o swyddi yn yr economi dwristiaeth ehangach, a darparu cyfleoedd arddangos i bron i 1,000 o artistiaid o Gymru.
Mae'r niferoedd yn dweud rhan o'r stori o ba mor werthfawr y gall digwyddiadau fod, ond nid ydynt yn dweud y stori gyfan. Drwy ddarparu cyllid a chefnogi digwyddiadau'n uniongyrchol, rydym yn gweld ac yn clywed yn uniongyrchol y cyfraniad hanfodol y mae digwyddiadau yn ei wneud i fusnesau yng Nghymru. O gyflenwyr cwrw a faniau bwyd i dechnegwyr llwyfan a pheirianwyr sain, mae yna bobl a busnesau sy'n ffynnu ledled Cymru oherwydd yr amrywiaeth o ddigwyddiadau a gynhelir yma.
Mae cynnal digwyddiadau mawr yn gofyn am gynllunio a chydweithrediad gofalus, ac ni allwn ni gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer sector ffyniannus ar ein pennau'n hunain. Rydym wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda'n partneriaid i sicrhau bod digwyddiadau yn cael eu cynnal yn llwyddiannus a'u bod yn darparu manteision go iawn i bobl Cymru. Rydym ni hefyd yn ymwybodol o'r angen i gydbwyso'r manteision posibl â'r costau a'r effeithiau posibl. Byddwn yn parhau i sicrhau bod ein buddsoddiad mewn digwyddiadau yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael a'i gyflwyno mewn ffordd sydd o fudd i Gymru gyfan. Diolch.
Thank you, Cabinet Secretary, for the update on this. We warmly welcome the vision to establish Wales as a leading global destination for major events—as you said, securing a stage of the Tour de France grand départ in 2027; the AIG Women’s Open at the Royal Porthcawl, a course that I'm excited to play next week; six matches of the UEFA Euro 2028, and not just six matches, but the open ceremony as well; and, obviously, this weekend, we have the European rugby finals here in the capital city. Impressive milestones. As your statement rightly highlights, these events provide significant opportunities to boost our economy, showcase Welsh culture, and draw global attention to our landscapes, communities and world-class venues.
However, while the ambition of the strategy is clear and commendable, the key challenge remains in its delivery, as with everything. Right now, there remain concerns about whether the necessary infrastructure and long-term planning are in place to support a growing and thriving events sector. Your statement makes an important point about the economic benefits of major events and the return on investment they bring, but those benefits can only be realised when attendees are able to travel to and from events easily and safely, and that's not often the case. Large-scale events, including music concerts, particularly in Cardiff, are frequently hampered by poor rail services, including a lack of late-night trains and irregular Sunday timetables. This is a persistent concern.
How are you working with your colleague the Cabinet Secretary for transport and Transport for Wales on forward planning and practical solutions, especially when these events are well known in advance? In addition, I'm concerned by the decision to scrap the major events stabling line, infrastructure that would have been vital to increase rail capacity during peak periods. How does cancelling this project support the aims of the events strategy? What alternative solutions are being explored to meet the same need? Because let's be clear, this was £10 million that was spent on a rail line that now will not be built.
Closer to home for me, Ironman in Tenby remains one of the nation's flagship sporting events, attracting athletes and visitors from around the world. Yet, in 2023, international visitor numbers were still around 13 per cent below pre-pandemic levels. So, what specific steps are being taken to attract more international visitors to major events here in Wales? I still remember with pride the Ryder Cup and the NATO summit being hosted here—two landmark events, but for very different reasons, that brought new international eyes onto Wales.
It's encouraging to hear that planning is already under way for events through to 2030. Looking abroad, Australia is in the midst of its golden decade of sport, from 2023 to 2033, including the British and Irish Lions tour this summer, and the summer Olympics on the horizon. While I must admit under duress that the Olympics may be a bit of a stretch for us here in Wales to host, the Commonwealth Games are far more realistic, and one could be hosted across multiple venues throughout Wales. Has the Welsh Government considered the feasibility of submitting a future bid for the Commonwealth Games?
Looking further ahead, the Football Association of Wales, in evidence to the culture committee only last week, mentioned the possibility of bidding for the UEFA Women's Champions League final in 2029, or even the FIFA Women's World Cup in 2035. Cabinet Secretary, are you aware of these ambitions? If so, what support is the Welsh Government offering the FAW in pursuing them?
Of course, major events in Wales are not confined to sport alone. As you noted in your statement, they include cultural and agricultural events too. I've often spoken in the Chamber next door about my annual pilgrimage to mid Wales for the Royal Welsh Show—over 200,000 people descending on Builth Wells. It's my Glastonbury, Cabinet Secretary. You can keep your Worthy Farm—I'll take farmers in harlequin shorts, dealer boots, shearing vests, the smell of the cattle lines, and the taste of a crisp cider in Builth Wells over Beyoncé headlining any musical festival any day. But hey, that's just me, and maybe Alun Davies as well. How is the Welsh Government supporting these annual agricultural shows—not just the Royal Welsh Show but also shows such as the Pembrokeshire County Show and the smaller ones that are so vital to our rural way of life and local economies? Wales absolutely has what it takes—the talent, the venues and the natural beauty—but a bold vision must always be matched by practical action. We want to see this strategy succeed, not just in producing a glossy list of high-profile events, but in building a lasting, inclusive legacy for communities right across Wales. That means fixing the infrastructure that underpins the experience, supporting the full spectrum of events, from world-class tournaments to cherished local shows, and ensuring that the benefits are felt far beyond the pitch, the stage or the arena.
My final paragraph, Dirprwy Lywydd—
Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am y diweddariad ar hyn. Rydym yn croesawu'n gynnes y weledigaeth i sefydlu Cymru fel cyrchfan fyd-eang flaenllaw ar gyfer digwyddiadau mawr—fel y dywedoch chi, sicrhau cymal o grand départ Tour de France yn 2027; AIG Women's Open yn y Royal Porthcawl, cwrs rydw i'w edrych ymlaen at chwarae arno yr wythnos nesaf; chwe gêm o UEFA Euro 2028, ac nid chwe gêm yn unig, ond y seremoni agor hefyd; ac, yn amlwg, y penwythnos hwn, mae gennym ni rowndiau terfynol rygbi Ewrop yma yn y brifddinas. Cerrig milltir trawiadol. Fel y mae eich datganiad yn tynnu sylw ato'n briodol, mae'r digwyddiadau hyn yn cynnig cyfleoedd sylweddol i roi hwb i'n heconomi, arddangos diwylliant Cymru, a thynnu sylw byd-eang at ein tirweddau, ein cymunedau a'n lleoliadau hynod.
Fodd bynnag, er bod uchelgais y strategaeth yn glir ac yn glodwiw, yr her allweddol o hyd yw cyflawni hynny, fel gyda phopeth. Ar hyn o bryd, mae pryderon o hyd ynghylch a yw'r seilwaith angenrheidiol a chynllunio hirdymor ar waith i gefnogi sector digwyddiadau sy'n tyfu ac yn ffynnu. Mae eich datganiad yn gwneud pwynt pwysig am fanteision economaidd digwyddiadau mawr a'r enillion ar fuddsoddiad maen nhw'n ei gynnig, ond dim ond pan fydd mynychwyr yn gallu teithio i ac o ddigwyddiadau yn hawdd ac yn ddiogel y gellir gwireddu'r manteision hynny, ac nid yw hynny'n wir yn aml. Mae digwyddiadau ar raddfa fawr, gan gynnwys cyngherddau cerddoriaeth, yn enwedig yng Nghaerdydd, yn aml yn cael eu llesteirio gan wasanaethau rheilffyrdd gwael, gan gynnwys diffyg trenau hwyr y nos ac amserlenni dydd Sul afreolaidd. Mae hyn yn bryder parhaus.
Sut ydych chi'n gweithio gyda'ch cyd-Aelodau, yr Ysgrifennydd Cabinet dros drafnidiaeth a Trafnidiaeth Cymru, ar gynllunio blaengar ac atebion ymarferol, yn enwedig pan fo'r digwyddiadau hyn yn hysbys ymlaen llaw? Yn ogystal, rwy'n pryderu am y penderfyniad i ddileu'r rheilffordd ychwanegol ar gyfer digwyddiadau mawr, seilwaith a fyddai wedi bod yn hanfodol i gynyddu capasiti rheilffyrdd yn ystod cyfnodau brig. Sut mae canslo'r prosiect hwn yn cefnogi nodau'r strategaeth digwyddiadau? Pa atebion amgen sy'n cael eu harchwilio i ddiwallu'r un angen? Oherwydd gadewch i ni fod yn glir, roedd hwn yn £10 miliwn a wariwyd ar linell reilffordd na fydd bellach yn cael ei hadeiladu.
Yn agosach at adref i mi, mae Ironman yn Ninbych-y-pysgod yn parhau i fod yn un o brif ddigwyddiadau chwaraeon y genedl, gan ddenu athletwyr ac ymwelwyr o bob cwr o'r byd. Ac eto, yn 2023, roedd niferoedd ymwelwyr rhyngwladol yn dal i fod tua 13 y cant yn is na'r niferoedd cyn y pandemig. Felly, pa gamau penodol sy'n cael eu cymryd i ddenu mwy o ymwelwyr rhyngwladol i ddigwyddiadau mawr yma yng Nghymru? Rwy'n dal i gofio gyda balchder y Cwpan Ryder ac uwchgynhadledd NATO yn cael eu cynnal yma—dau ddigwyddiad pwysig, ond am resymau gwahanol iawn, a ddaeth â llygaid rhyngwladol newydd ar Gymru.
Mae'n galonogol clywed bod cynllunio eisoes ar y gweill ar gyfer digwyddiadau hyd at 2030. Wrth edrych dramor, mae Awstralia yng nghanol ei degawd euraidd o chwaraeon, rhwng 2023 a 2033, gan gynnwys taith Llewod Prydain ac Iwerddon yr haf hwn, a Gemau Olympaidd yr haf ar y gorwel. Er bod yn rhaid i mi gyfaddef yn anfoddog y gallai'r Gemau Olympaidd fod yn dipyn o straen i ni eu cynnal yma yng Nghymru, mae Gemau'r Gymanwlad yn llawer mwy realistig, a gellid cynnal un mewn sawl lleoliad ledled Cymru. A yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried dichonoldeb cyflwyno cais ar gyfer Gemau'r Gymanwlad yn y dyfodol?
Wrth edrych ymhellach ymlaen, soniodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, mewn tystiolaeth i'r pwyllgor diwylliant yr wythnos diwethaf, am y posibilrwydd o gynnig am rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr Menywod UEFA yn 2029, neu hyd yn oed Cwpan y Byd Merched FIFA yn 2035. Ysgrifennydd Cabinet, ydych chi'n ymwybodol o'r uchelgeisiau hyn? Os felly, pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i'r FAW i geisio gwireddu hyn?
Wrth gwrs, nid yw digwyddiadau mawr yng Nghymru wedi'u cyfyngu i chwaraeon yn unig. Fel y nodwyd yn eich datganiad, maen nhw'n cynnwys digwyddiadau diwylliannol ac amaethyddol hefyd. Rwyf wedi siarad yn aml yn y Siambr drws nesaf am fy mhererindod flynyddol i ganolbarth Cymru ar gyfer y Sioe Frenhinol—dros 200,000 o bobl yn dod i Lanfair-ym-Muallt. Dyna fy ngŵyl Glastonbury i, Ysgrifennydd Cabinet. Gallwch gadw eich Worthy Farm—mae'n well gen i ffermwyr mewn siorts harlequin, botasau dealer, festiau cneifio, arogl y llinellau gwartheg, a blas seidr cryf yn Llanfair-ym-Muallt na Beyoncé mewn unrhyw ŵyl gerddorol unrhyw ddydd. Ond dyna ni, dim ond fi yw hyn, ac efallai Alun Davies hefyd. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sioeau amaethyddol blynyddol hyn—nid yn unig y Sioe Frenhinol ond hefyd sioeau fel Sioe Sir Benfro a'r rhai llai sydd mor hanfodol i'n ffordd wledig o fyw ac economïau lleol? Mae gan Gymru yr hyn sydd ei angen—y ddawn, y lleoliadau a'r harddwch naturiol—ond mae'n rhaid paru gweledigaeth feiddgar â gweithredu ymarferol bob amser. Mae arnom ni eisiau gweld y strategaeth hon yn llwyddo, nid yn unig wrth gynhyrchu rhestr sgleiniog o ddigwyddiadau amlwg, ond gan greu gwaddol parhaol, cynhwysol i gymunedau ledled Cymru. Mae hynny'n golygu trwsio'r seilwaith sy'n sail i'r profiad, cefnogi'r sbectrwm llawn o ddigwyddiadau, o dwrnameintiau o'r radd flaenaf i sioeau lleol annwyl, a sicrhau bod y manteision yn cael eu teimlo ymhell y tu hwnt i'r cae, y llwyfan neu'r arena.
Fy mharagraff olaf, Dirprwy Lywydd—
No, sentence—sentence, not paragraph.
Na, brawddeg—brawddeg, nid paragraff.
It is a sentence. Indeed it is. So, while we celebrate the ambition, we will continue to challenge on the delivery constructively and with the shared hope that Wales truly becomes a leading nation for events on the global stage.
Mae'n frawddeg. Yn wir. Felly, wrth i ni ddathlu'r uchelgais, byddwn yn parhau i herio'r cyflawniad yn adeiladol a chyda'r gobaith a rennir y bydd Cymru'n dod yn genedl flaenllaw ar gyfer digwyddiadau ar y llwyfan byd-eang.
Diolch am eich amynedd.
Thank you for your patience.
I'm very grateful for those comments this afternoon. I do think that there is a shared desire right across the Senedd for Wales to become really, really successful and to further embed our reputation as a really, really successful place to host major events. I think that the work that we've done in recent years really has showcased what we have to offer here in Wales. If you just look at 2024, you can see a real year of delivery there. We had 35 events supported through our Event Wales programme, so 25 cultural and 10 sporting events, and together they generated an estimated economic impact of over £40 million to the Welsh economy, with a return on investment of over 10 to one. They attracted almost 170,000 visitors into Wales and supported 944 jobs in the wider tourism economy, and provided over 4,000 opportunities for volunteers. And those showcase opportunities for over 1,000 Welsh artists I think are wonderful in terms of a testimony of the work that we're doing through Event Wales. I've tried to concentrate my statement this afternoon on the events that we are supporting directly through Welsh Government, because, of course, there is so much more in terms of that wider piece of having Wales being a welcoming place, and the work that we do through Visit Wales to put Wales on the world's map as well. So, this is just, I think, a small part of the work that we do in this particular sector, but it certainly is very powerful.
The points I think were well made about international tourists and international visitors to events. In 2023, which is the latest year for which we have figures, Wales received 892,000 international visits. That was up 30 per cent on the year before that, so it's an improving picture in that space, and again this is partly because of that fantastic work that we do through Visit Wales. Colleagues will have seen the 'come and feel the hwyl' campaign, which I think has been really well received. It received lots of plaudits, really, within the media right across the UK, but more importantly it's been seen by millions of people, particularly in our target markets of the US and Germany. So, I think this, as I say, is part of a wider picture.
I think that making sure that events go off smoothly and without incident is really important, and as part of that, it's really important that we work in partnership. I think a really good example of that would be the stadium events liaison group in Cardiff. That sits around the Principality Stadium and has representation from the police, the rail sector, the ambulance service, Cardiff Council, Welsh Government and, of course, the Welsh Rugby Union as well. They meet regularly to discuss possible impacts that events in the stadium might have on the city centre and the wider transport network, with a view to addressing those particular challenges. And they are challenges, of course, because when you have tens of thousands of people to send in, all in one place, in a less than regular way, it is difficult to manage. But I know that that group tries very hard to make things as smooth as possible.
As I mentioned in the statement, we are looking ahead to where the possible future opportunities lie. I'm aware of the opportunities around the Commonwealth Games. I think that's hugely important, and it really is the highest level under which people compete with the Welsh flag in sports as well, so I think that that is important. It will be interesting to see how the games evolve in future and what the hosting strategy will be for future years, because there is a potential, I think, for that hosting strategy to be seeking multiple host cities. And will it remain a smaller event, because it was a smaller event on the last occasion? So, I think those factors will influence whether or not it's plausible for us to consider hosting it here in Wales, but we're watching that situation really closely. And similarly with the UEFA Women's Champions League final, the FAW, we know, has been very open about its ambitions to bring the event to Wales in the future, and obviously that will involve a real partnership effort to secure the Champions League final. So, it is important that all stakeholders are brought into those discussions from an early stage to understand the full costs and benefits of hosting that, and I am due to meet with the FAW to have some of those discussions as well, so we're aware of those opportunities for the future too.
And then I think the points about cultural events are really well made. At the start of responding to these points, I talked about the number of events that are supported, and, actually, we support more cultural events than we do sporting events, although it is often those mega sporting events that get the attention, and I think we've got some really good examples of those. Together, they contribute around £20 million of additional expenditure within the Welsh economy every year, and it's more than just the single day of those events; it's about celebrating our culture and our language to international visitors and providing those further opportunities for engagement and volunteers and skills development and so on. So, they're tremendously valuable, and we're really pleased to host and support as many of them as we can.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y sylwadau yna y prynhawn yma. Rwy'n credu bod awydd ar y cyd ar draws y Senedd i Gymru ddod yn wirioneddol lwyddiannus ac i ymgorffori ymhellach ein henw da fel lle gwirioneddol lwyddiannus i gynnal digwyddiadau mawr. Rwy'n credu bod y gwaith rydym ni wedi'i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi dangos yr hyn sydd gennym i'w gynnig yma yng Nghymru. Os edrychwch chi ar 2024 yn unig, gallwch weld blwyddyn wirioneddol o gyflawni yno. Fe gawsom ni gefnogaeth 35 o ddigwyddiadau drwy ein rhaglen Digwyddiadau Cymru, felly 25 digwyddiad diwylliannol a 10 digwyddiad chwaraeon, a gyda'i gilydd fe wnaethan nhw gynhyrchu effaith economaidd amcangyfrifedig o dros £40 miliwn i economi Cymru, gydag enillion ar fuddsoddiad o dros 10 i un. Fe wnaethan nhw ddenu bron i 170,000 o ymwelwyr i Gymru a chefnogi 944 o swyddi yn yr economi dwristiaeth ehangach, a darparu dros 4,000 o gyfleoedd i wirfoddolwyr. Ac mae'r cyfleoedd arddangos hynny i dros 1,000 o artistiaid Cymreig rwy'n credu yn wych o ran tystiolaeth o'r gwaith rydym ni'n ei wneud drwy Ddigwyddiad Cymru. Rwyf wedi ceisio canolbwyntio fy natganiad y prynhawn yma ar y digwyddiadau rydym ni'n eu cefnogi'n uniongyrchol drwy Lywodraeth Cymru, oherwydd, wrth gwrs, mae cymaint mwy o ran y darn ehangach hwnnw o gael Cymru yn lle croesawgar, a'r gwaith rydym ni'n ei wneud drwy Croeso Cymru i roi Cymru ar fap y byd hefyd. Felly, mae hyn yn rhan fach o'r gwaith rydym ni'n ei wneud yn y sector penodol hwn, ond mae'n sicr yn bwerus iawn.
Roedd y sylwadau a wnaed rwy'n credu yn rhai da iawn am dwristiaid rhyngwladol ac ymwelwyr rhyngwladol i ddigwyddiadau. Yn 2023, sef y flwyddyn ddiweddaraf y mae gennym ni ffigurau ar ei chyfer, derbyniodd Cymru 892,000 o ymweliadau rhyngwladol. Roedd hynny'n cynnydd o 30 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn gynt, felly mae'n ddarlun sy'n gwella yn hynny o beth, ac eto mae hyn yn rhannol oherwydd y gwaith gwych hwnnw rydym ni'n ei wneud drwy Croeso Cymru. Bydd cyd-Aelodau wedi gweld yr ymgyrch 'dewch a theimlo'r hwyl', sydd yn fy marn i wedi cael derbyniad da iawn. Derbyniodd lawer o ganmoliaethau, mewn gwirionedd, o fewn y cyfryngau ledled y DU, ond yn bwysicach fyth mae wedi cael ei weld gan filiynau o bobl, yn enwedig yn ein marchnadoedd targed yn yr Unol Daleithiau a'r Almaen. Felly, rwy'n credu bod hyn, fel y dywedais, yn rhan o ddarlun ehangach.
Rwy'n credu bod gwneud yn siŵr y cynhelir digwyddiadau yn llyfn a didrafferth yn bwysig iawn, ac fel rhan o hynny, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gweithio mewn partneriaeth. Dw i'n meddwl mai enghraifft dda iawn o hynny fyddai'r grŵp cyswllt digwyddiadau'r stadiwm yng Nghaerdydd. Mae hynny ynghylch Stadiwm Principality ac mae ganddo gynrychiolaeth gan yr heddlu, y sector rheilffyrdd, y gwasanaeth ambiwlans, Cyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru ac, wrth gwrs, Undeb Rygbi Cymru hefyd. Maen nhw'n cwrdd yn rheolaidd i drafod effeithiau posibl digwyddiadau yn y stadiwm ar ganol y ddinas a'r rhwydwaith trafnidiaeth ehangach, gyda'r bwriad o fynd i'r afael â'r heriau penodol hynny. Ac maen nhw'n heriau, wrth gwrs, oherwydd pan fydd gennych chi ddegau o filoedd o bobl i'w cludo, i gyd mewn un lle, mewn ffordd lai nag arferol, mae'n anodd ei reoli. Ond rwy'n gwybod bod y grŵp hwnnw'n gweithio'n galed iawn i wneud pethau mor llyfn â phosibl.
Fel y soniais yn y datganiad, rydym ni'n edrych ymlaen at ble mae'r cyfleoedd posibl yn y dyfodol. Rwy'n ymwybodol o'r cyfleoedd ynghylch Gemau'r Gymanwlad. Dw i'n meddwl bod hynny'n hynod bwysig, a dyma'r lefel uchaf y mae pobl yn cystadlu arni o dan faner Cymru mewn chwaraeon hefyd, felly dw i'n meddwl bod hynny'n bwysig. Bydd yn ddiddorol gweld sut mae'r gemau yn esblygu yn y dyfodol a beth fydd y strategaeth gynnal ar gyfer blynyddoedd i ddod, oherwydd mae potensial, rwy'n credu, i'r strategaeth gynnal honno fod yn chwilio am sawl dinas i gynnal digwyddiadau o'r fath. Ac a fydd yn parhau i fod yn ddigwyddiad llai, oherwydd ei fod yn ddigwyddiad llai ar yr achlysur diwethaf? Felly, rwy'n credu y bydd y ffactorau hynny'n dylanwadu ar a yw hi'n gredadwy i ni ystyried ei chynnal yma yng Nghymru, ond rydyn ni'n cadw golwg fanwl iawn ar y sefyllfa honno. Ac yn yr un modd â rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr Menywod UEFA, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru, rydym yn gwybod, wedi bod yn agored iawn ynglŷn â'i huchelgeisiau i ddod â'r digwyddiad i Gymru yn y dyfodol, ac yn amlwg bydd hynny'n golygu cyd-ymdrech wirioneddol i sicrhau rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr. Felly, mae'n bwysig bod yr holl randdeiliaid yn cael eu dwyn i mewn i'r trafodaethau hynny yn gynnar i ddeall costau a manteision llawn cynnal hynny, ac mae disgwyl i mi gwrdd â Chymdeithas Bêl-droed Cymru i gael rhai o'r trafodaethau hynny hefyd, felly rydym yn ymwybodol o'r cyfleoedd hynny ar gyfer y dyfodol hefyd.
Ac yna rwy'n credu bod y sylwadau a wnaed am ddigwyddiadau diwylliannol yn rhai da iawn. Ar ddechrau ymateb i'r pwyntiau hyn, siaradais am nifer y digwyddiadau sy'n cael eu cefnogi, ac, mewn gwirionedd, rydym yn cefnogi mwy o ddigwyddiadau diwylliannol na digwyddiadau chwaraeon, er mai'r digwyddiadau chwaraeon mawr hynny yn aml sy'n cael y sylw, ac rwy'n credu bod gennym ni rai enghreifftiau da iawn o'r rheini. Gyda'i gilydd, maen nhw'n cyfrannu tua £20 miliwn o wariant ychwanegol o fewn economi Cymru bob blwyddyn, ac mae'n fwy na dim ond un diwrnod o'r digwyddiadau hynny; mae'n ymwneud â dathlu ein diwylliant a'n hiaith i ymwelwyr rhyngwladol a darparu'r cyfleoedd pellach hynny ar gyfer ymgysylltu a gwirfoddolwyr a datblygu sgiliau ac ati. Felly, maen nhw'n hynod werthfawr, ac rydym ni'n falch iawn o groesawu a chefnogi cymaint ohonyn nhw ag y gallwn ni.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad.
Thank you to the Cabinet Secretary for the statement.
I'll start by welcoming the conversation that just took place around transport, because the point that Sam Kurtz makes around transport is incredibly important. It is not just about, I would add, those going to the gigs or the events, it is also about those who are working within the sector.
I don't know if I've mentioned before, but I used to work in the hospitality sector. I have always kept that one close to my chest—kept people wondering what I used to do before. But on a serious point, when we were on shift in Cardiff, when those big major events happened, it often meant you were working later, and working later meant that there was no access to public transport because public transport, whether that be train or bus, wasn't running, which then, in my case, resulted in either getting a taxi, which is incredibly expensive, or walking 2 miles to get back to the home.
So, I think, in part of those conversations that happen now with Transport for Wales and other stakeholders, there really needs to be a conversation about those late-night services, not just so that, then, people can easily get back and forward from work, but also to ensure, then, that there is a safe way for those people to go back and forth from home to work, because, again, some of these major events do result in—often, at times—disruptive behaviour within the town centres or city centres, and it makes it relatively unsafe for those people who are working quite late to get back home.
The Welsh Government's national events strategy does set out a compelling vision, but I would add that we cannot build those world-class events on crumbling infrastructure. Without rail devolution, for example, and fair funding, Wales will always be playing catch-up. It's great to have the ambitions around transport, but if we can't back that up, we will consistently be playing catch-up. Until the Welsh Government actually see that it's about demanding rail devolution and securing our fair share of rail spending in England, then the reality is that strategy remains a wish list rather than a plan, because you can't claim to support an all-Wales events strategy when communities and cultural hubs across Wales continue to be so poorly connected.
Now, one potential solution around focusing on transport put forward by the Musicians' Union has been this idea of a night-time advisory board or a night-time economy adviser, whatever you want to call it. They feel that that could be quite helpful in addressing the issues around the night-time economy, particularly when it comes to transport. One of the fears that both the Musicians' Union and a number of other stakeholders, and myself, have is actually that the full potential of the night-time economy is something that, actually, this Government has yet to really tap into. A number of cities across the UK and wider Europe have been establishing those night-time economy advisers, or a night-time economy mayor, to lead on the night-time economy strategy and then the diversification of the night-time economy. Cities like Manchester, for example, are showing how the night-time economy can really be reimagined, especially when there's a voice of a sector in decision making, and actually make, then, the night-time economy a cornerstone of redevelopment within our towns and cities. So, as I said, call it whatever you want, but is it something that the Cabinet Secretary has considered and is it something that we could expect the Welsh Government to explore seriously over the next year?
Finally, I'd like to emphasise that major world-class events don't have to be imported all the time. It's linked, actually, with the cultural report from the last item. The Government needs to ensure that there is the right balance between supporting international events and championing local, home-grown ones. While bringing world-class events to Wales shows national ambition and it shows that confidence, we need to show the same belief in the value of events that are Welsh, those that reflect our culture, heritage and language. We already have incredible home-grown events like the National Eisteddfod and the Llangollen International Musical Eisteddfod, the former, actually, being the largest cultural festival in Europe. The Cabinet Secretary mentioned in her statement events that are happening this weekend, but, of course, starting Monday, we have the Eisteddfod yr Urdd, again an event that comes under major events but did not feature in the Cabinet Secretary's statement, despite the focus, as she referred to it when responding to Sam Kurtz, on Welsh Government-supported events. But the reality is that, with a greater investment in such events, they could grow from celebrated national institutions into internationally recognised cultural showcases.
Wales has its own identity, its own culture, one of the oldest surviving Celtic languages and a proud history. That's our strength and that's what sets us apart. So, if we truly want to grow sustainable heritage, tourism and raise the Cymru brand globally, just as Scotland and Ireland have done, we must invest in what makes us unique, putting Cymru at the centre of that major events strategy. So, in conclusion, Llywydd, what evidence does the Government have to suggest that this programme strikes the right balance between the support it gives to events developed in Wales that are home grown and those attracted into Wales from elsewhere?
Rwyf am ddechrau trwy groesawu'r sgwrs a gafwyd ynghylch trafnidiaeth, oherwydd mae'r pwynt y mae Sam Kurtz yn ei wneud ynghylch trafnidiaeth yn hynod o bwysig. Nid yw'n ymwneud â'r rhai sy'n mynd i'r gigs neu'r digwyddiadau yn unig, ond hefyd y rhai sy'n gweithio yn y sector.
Wn i ddim a ydw i wedi sôn o'r blaen, ond roeddwn i'n arfer gweithio yn y sector lletygarwch. Rwyf bob amser wedi cadw hynny'n weddol dawel—wedi cadw pobl yn meddwl tybed beth oeddwn i'n arfer ei wneud o'r blaen. Ond i fod o ddifrif, pan oeddem ar shifft yng Nghaerdydd, pan ddigwyddodd y digwyddiadau mawr hynny, roedd yn aml yn golygu eich bod chi'n gweithio'n hwyrach, ac roedd gweithio yn hwyrach yn golygu nad oedd mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus oherwydd nad oedd trafnidiaeth gyhoeddus, boed hynny'n drên neu'n fws, yn rhedeg, a oedd wedyn, yn fy achos i, yn arwain at naill ai cael tacsi, sy'n anhygoel o ddrud, neu gerdded 2 filltir i fynd yn ôl i'r cartref.
Felly, rwy'n credu, mewn rhan o'r sgyrsiau hynny sy'n digwydd nawr gyda Trafnidiaeth Cymru a rhanddeiliaid eraill, mae angen sgwrs am y gwasanaethau hwyr yn y nos, nid yn unig fel y gall pobl fynd yn ôl ac ymlaen o'r gwaith yn hawdd, ond hefyd i sicrhau, felly, bod ffordd ddiogel i'r bobl hynny fynd yn ôl ac ymlaen o'r cartref i'r gwaith, oherwydd, eto, mae rhai o'r digwyddiadau mawr hyn yn arwain at—yn aml, ar adegau—ymddygiad aflonyddgar yng nghanol trefi neu ganol dinasoedd, ac mae'n ei gwneud hi'n bur anniogel i'r bobl hynny sy'n gweithio'n eithaf hwyr i fynd yn ôl adref.
Mae strategaeth digwyddiadau genedlaethol Llywodraeth Cymru yn nodi gweledigaeth glodwiw, ond byddwn yn ychwanegu na allwn ni adeiladu'r digwyddiadau safonol hynny ar seilwaith simsan. Heb ddatganoli rheilffyrdd, er enghraifft, a chyllid teg, bydd Cymru bob amser ar ei hôl hi. Mae'n wych cael yr uchelgeisiau o ran trafnidiaeth, ond os na allwn ni gefnogi hynny, byddwn ar ei hôl hi'n gyson. Hyd nes y bydd Llywodraeth Cymru yn gweld bod a wnelo hyn â mynnu datganoli rheilffyrdd a sicrhau ein cyfran deg o wariant rheilffyrdd yn Lloegr, yna y gwir amdani yw bod y strategaeth yn parhau i fod yn rhestr ddymuniadau yn hytrach na chynllun, oherwydd ni allwch chi honni eich bod yn cefnogi strategaeth digwyddiadau Cymru gyfan pan fo cymunedau a chanolfannau diwylliannol ledled Cymru yn parhau i fod mor wael o ran eu cysylltiadau.
Nawr, un ateb posibl ynghylch canolbwyntio ar drafnidiaeth a gynigir gan Undeb y Cerddorion yw'r syniad hwn o fwrdd cynghori ynghylch economi'r nos neu gynghorydd economi'r nos, beth bynnag rydych chi am ei alw. Maen nhw'n teimlo y gallai hynny fod yn ddefnyddiol iawn wrth fynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud â'r economi nos, yn enwedig o ran trafnidiaeth. Un o'r ofnau sydd gan Undeb y Cerddorion a nifer o randdeiliaid eraill, a minnau, mewn gwirionedd yw bod potensial llawn yr economi nos yn rhywbeth nad yw'r Llywodraeth hon wedi manteisio arno eto. Mae nifer o ddinasoedd ledled y DU ac Ewrop ehangach wedi bod yn sefydlu'r cynghorwyr economi nos hynny, neu faer economi nos, i arwain ar strategaeth economi nos ac yna arallgyfeirio'r economi nos. Mae dinasoedd fel Manceinion, er enghraifft, yn dangos sut y gellir ail-ddychmygu'r economi nos mewn gwirionedd, yn enwedig pan fo llais sector i'w glywed wrth wneud penderfyniadau, ac mewn gwirionedd yn gwneud yr economi nos yn gonglfaen ailddatblygu yn ein trefi a'n dinasoedd. Felly, fel y dywedais, galwch ef beth bynnag yr hoffech chi, ond a yw'n rhywbeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i ystyried ac a yw'n rhywbeth y gallem ni ddisgwyl i Lywodraeth Cymru ei archwilio o ddifrif dros y flwyddyn nesaf?
Yn olaf, fe hoffwn i bwysleisio nad oes rhaid mewnforio digwyddiadau mawr o'r radd flaenaf drwy'r amser. Mae'n gysylltiedig, mewn gwirionedd, â'r adroddiad diwylliannol o'r eitem ddiwethaf. Mae angen i'r Llywodraeth sicrhau bod y cydbwysedd cywir rhwng cefnogi digwyddiadau rhyngwladol a hyrwyddo digwyddiadau lleol, cartref. Er bod dod â digwyddiadau o'r radd flaenaf i Gymru yn dangos uchelgais genedlaethol ac mae'n dangos yr hyder hwnnw, mae angen i ni ddangos yr un gred yng ngwerth digwyddiadau sy'n Gymreig, y rhai sy'n adlewyrchu ein diwylliant, ein treftadaeth a'n hiaith. Mae gennym ni eisoes ddigwyddiadau cartref anhygoel fel yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, a'r Eisteddfod, mewn gwirionedd, yw'r ŵyl ddiwylliannol fwyaf yn Ewrop. Soniodd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei datganiad am ddigwyddiadau y penwythnos hwn, ond, wrth gwrs, gan ddechrau dydd Llun, mae gennym ni Eisteddfod yr Urdd, eto digwyddiad sy'n dod o dan ddigwyddiadau mawr ond nad oedd yn ymddangos yn natganiad yr Ysgrifennydd Cabinet, er gwaethaf y pwyslais, fel y cyfeiriodd ato wrth ymateb i Sam Kurtz, ar ddigwyddiadau a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Ond y gwir amdani yw y gallen nhw dyfu o sefydliadau cenedlaethol enwog i arddangosfeydd diwylliannol a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Mae gan Gymru ei hunaniaeth ei hun, ei diwylliant ei hun, un o'r ieithoedd Celtaidd hynaf sydd wedi goroesi a hanes balch. Dyna ein cryfder a dyna sy'n ein gosod ar wahân. Felly, os ydym ni wir eisiau datblygu twristiaeth, treftadaeth gynaliadwy, a hyrwyddo brand Cymru yn fyd-eang, yn union fel y gwnaeth yr Alban ac Iwerddon, mae'n rhaid i ni fuddsoddi yn yr hyn sy'n ein gwneud ni'n unigryw, gan roi Cymru yng nghanol y strategaeth ddigwyddiadau mawr honno. Felly, i gloi, Llywydd, pa dystiolaeth sydd gan y Llywodraeth i awgrymu bod y rhaglen hon yn sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng y gefnogaeth y mae'n ei roi i ddigwyddiadau a ddatblygwyd yng Nghymru a gânt eu meithrin gartref a'r rhai sy'n cael eu denu i Gymru o fannau eraill?
I'm very grateful for those comments. I think the points around transport and the importance of safety for not only those people who are visitors to those major events, but also people who are working at those events are really well made, and they will be things that the transport Secretary will be acutely aware of when he's having his discussions alongside Transport for Wales and others in respect of making sure that there is as smooth as possible a service for people who are attending and also working at events. I'll endeavour to have a further conversation with him following the statement today, because both contributions thus far have focused on transport.
The night-time economy, again, whilst not being strictly a major event in and of itself, is really, really important. We recognise that by having a representative of the night-time economy on our Wales tourism advisory board, and it's really important that we hear that perspective. The representative is really clear about the importance of the night-time economy, the growing nature of the night-time economy and the further potential of it. So, again, we do have the opportunity to hear that voice really clearly in those tourism advisory board meetings.
But I think the main contribution I can respond to, really, is about how we support our own home-grown events. I think that we really do strike a really good balance in terms of the work that we do to both work with other Governments to bring those big mega events, if you like, to Wales, but then also hosting our own major events as well. I mentioned the Between the Trees Festival—I think that that's a really good example. Last year it attracted 3,500 spectators over the course of the weekend. I think that that's a good example of where an event meets our wider strategies around people, place and planet themes.
Also, of course, I mentioned in my statement the work that we're doing around the centenary of the birth of Richard Burton. So, I think that that is a further opportunity, really, for us to take those opportunities to look at those individuals who are really well known in the minds of people internationally and to make sure that we make the most of those opportunities as well. So, we're supporting Neath Port Talbot in that. They're leading on those celebrations; they've got a programme of events celebrating 100 years since the actor was born. That work has been developed in partnership with Swansea University, which is home of the Richard Burton archives, and that will see events taking place right across the region, and lots of engagement with the arts in that space as well.
Then, through our support, the Urdd Eisteddfod, in partnership with Theatr Na nÓg, has produced a Welsh language performance of Halen yn y Gwaed by children from Neath Port Talbot and the Swansea areas. That show will see over 100 children take the stage at the Eisteddfod in Margam Park at the end of May in a performance dedicated to the life and legacy of Richard Burton. So, I think that that shows ways in which we’re trying to bring those things together.
And then, we’ve previously, in the past, supported some early editions of mass participation events in Wales that have actually gone on, in many cases, to be successful in and of their own right and not required further support from us. So, Event Wales provided financial support for the early editions of the Cardiff Half Marathon, for example, and we’ve heard about Ironman Wales in Tenby, and those things have gone on to establish themselves as cornerstones in the global calendar for those sports and provided a major economic boost as well. So, I think there are ways in which we’ve supported these activities from the start and I do think we have a really good balance between those mega events, which are once-in-a-generation events, and then those often annual or every two or four-year, locally grown events, which we seek to support and sustain.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y sylwadau yna. Rwy'n credu bod y pwyntiau ynghylch trafnidiaeth a phwysigrwydd diogelwch nid yn unig i'r bobl hynny sy'n ymweld â'r digwyddiadau mawr hynny, ond hefyd i'r bobl sy'n gweithio yn y digwyddiadau hynny yn rhai da iawn, a byddant yn bethau y bydd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth yn ymwybodol iawn ohonyn nhw pan fydd yn cael ei drafodaethau ochr yn ochr â Trafnidiaeth Cymru ac eraill mewn perthynas â sicrhau bod gwasanaeth mor llyfn â phosibl i bobl sy'n mynychu a hefyd yn gweithio mewn digwyddiadau. Byddaf yn ymdrechu i gael sgwrs bellach gydag ef yn dilyn y datganiad heddiw, oherwydd mae'r ddau gyfraniad hyd yma wedi canolbwyntio ar drafnidiaeth.
Mae'r economi nos, unwaith eto, er nad yw'n ddigwyddiad mawr ynddo'i hun, yn wirioneddol bwysig. Rydym yn cydnabod hynny trwy gael cynrychiolydd o'r economi nos ar ein bwrdd sy'n cynghori ynghylch twristiaeth yng Nghymru, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn clywed y persbectif hwnnw. Mae'r cynrychiolydd yn glir iawn am bwysigrwydd yr economi nos, natur gynyddol yr economi nos a'r potensial pellach ohoni. Felly, unwaith eto, mae gennym ni gyfle i glywed y llais hwnnw'n glir iawn yn y cyfarfodydd byrddau hynny sy'n cynghori ar dwristiaeth. Ond rwy'n credu mai'r prif gyfraniad y gallaf ymateb iddo, mewn gwirionedd, yw sut rydym yn cefnogi ein digwyddiadau cartref ein hunain.
Rwy'n credu ein bod yn sicrhau cydbwysedd da iawn o ran y gwaith rydym ni'n ei wneud i weithio gyda Llywodraethau eraill i ddod â'r digwyddiadau mawr hynny, os dymunwch chi, i Gymru, ond yna hefyd cynnal ein digwyddiadau mawr ein hunain hefyd. Soniais am Ŵyl Rhwng y Coed—dw i'n meddwl bod hynny'n enghraifft dda iawn. Y llynedd denodd 3,500 o wylwyr dros y penwythnos. Rwy'n credu bod hynny'n enghraifft dda o ble mae digwyddiad yn cwrdd â'n strategaethau ehangach o ran themâu pobl, lleoedd a phlanedau.
Hefyd, wrth gwrs, soniais yn fy natganiad am y gwaith rydym ni'n ei wneud o ran canmlwyddiant geni Richard Burton. Felly, rwy'n credu bod hynny'n gyfle pellach, mewn gwirionedd, i ni fanteisio ar y cyfleoedd hynny i edrych ar yr unigolion hynny sy'n adnabyddus iawn ym meddyliau pobl yn rhyngwladol ac i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd hynny hefyd. Felly, rydym ni'n cefnogi Castell-nedd Port Talbot yn hynny o beth. Maen nhw'n arwain ar y dathliadau hynny; mae ganddyn nhw raglen o ddigwyddiadau sy'n dathlu 100 mlynedd ers i'r actor gael ei eni. Mae'r gwaith hwnnw wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, sy'n gartref i archifau Richard Burton, a bydd hynny'n gweld digwyddiadau yn cael eu cynnal ledled y rhanbarth, a llawer o ymgysylltiad â'r celfyddydau yn hynny o beth hefyd.
Yna, trwy ein cefnogaeth, mae Eisteddfod yr Urdd, mewn partneriaeth â Theatr Na nÓg, wedi cynhyrchu perfformiad Cymraeg o Halen yn y Gwaed gan blant o Gastell—nedd Port Talbot ac ardaloedd Abertawe. Bydd y sioe honno yn gweld dros 100 o blant yn camu ar lwyfan yr Eisteddfod ym Mharc Margam ddiwedd mis Mai mewn perfformiad sy'n ymroddedig i fywyd a gwaddol Richard Burton. Felly, rwy'n credu bod hynny'n dangos ffyrdd rydym ni'n ceisio dod â'r pethau hynny at ei gilydd.
Ac yna, rydym ni wedi cefnogi rhai fersiynau cynnar o ddigwyddiadau torfol mawr yng Nghymru sydd wedi datblygu, mewn llawer o achosion, i fod yn llwyddiannus yn eu hawl eu hunain ac nad oes angen cefnogaeth bellach gennym ni. Felly, rhoddodd Digwyddiadau Cymru gefnogaeth ariannol i fersiynau cynnar Hanner Marathon Caerdydd, er enghraifft, ac rydym ni wedi clywed am Ironman Cymru yn Ninbych-y-pysgod, ac mae'r pethau hynny wedi datblygu i sefydlu eu hunain fel conglfeini yn y calendr byd-eang ar gyfer y chwaraeon hynny ac wedi rhoi hwb economaidd mawr hefyd. Felly, rwy'n credu bod yna ffyrdd rydym ni wedi cefnogi'r gweithgareddau hyn o'r dechrau ac rwy'n credu bod gennym ni gydbwysedd da iawn rhwng y digwyddiadau mawr hynny, sy'n ddigwyddiadau unwaith mewn cenhedlaeth, ac yna'r digwyddiadau hynny sy'n aml yn flynyddol neu bob dwy neu bedair blynedd, digwyddiadau wedi'u meithrin yn lleol, yr ydym yn ceisio eu cefnogi a'u cynnal.
Cabinet Secretary, thank you for your statement today. It was a shame that you didn’t mention the Premier League Darts that comes to Cardiff every year—I was very disappointed not to hear about that, because the amount of people who flock to Cardiff for that event is huge, and I’m one of them myself.
However, it was really good to hear you mention the AIG Women’s Open. It’s the largest women’s sporting event that Wales has ever seen, and it’s also one of the largest women’s sporting events in golf throughout the whole world, so I think we’re really privileged to have that event come to Wales. I just want to place on the record, I’m sure, everybody’s thanks to Rob Holt, who used to work for Welsh Government and is now the chairman of Wales Golf, for all his work in getting that event to the country.
So, Cabinet Secretary, we’ve got the Women’s Open and we’ve had the Ryder Cup. There are two big events that I would really like to see come to Wales. Those are the Solheim Cup, which is the women’s version of the Ryder Cup, and also the Open championship. But what we do know about the Open championship is that, for that to be delivered at Royal Porthcawl Golf Club, there needs to be some infrastructure investment into that area in terms of, probably, accommodation and elements around transport. That would be the crown jewel for us in getting more people to visit Wales for golf experiences. And I’m just interested in what work the Welsh Government is doing to invest in that infrastructure so that we can bring those huge events to Wales to make us truly that global golfing destination that everybody wants to see.
Ysgrifennydd Cabinet, diolch am eich datganiad heddiw. Roedd hi'n drueni na sonioch chi am Uwch Gynghrair y Dartiau sy'n dod i Gaerdydd bob blwyddyn—roeddwn i'n siomedig iawn i beidio â chlywed am hynny, oherwydd mae'r nifer o bobl sy'n heidio i Gaerdydd ar gyfer y digwyddiad hwnnw yn enfawr, ac rwy'n un ohonyn nhw fy hun.
Fodd bynnag, roedd yn dda iawn eich clywed chi'n sôn am Bencampwriaeth Agored Menywod AIG. Dyma'r digwyddiad chwaraeon menywod mwyaf i Gymru ei weld erioed, ac mae hefyd yn un o'r digwyddiadau chwaraeon menywod mwyaf ym maes golff ledled y byd i gyd, felly rwy'n credu ein bod ni'n fraint iawn cael y digwyddiad hwnnw yn dod i Gymru. Fe hoffwn i ei nodi ar y cofnod, dros bawb, rwy'n siŵr, ein diolch i Rob Holt, a oedd yn arfer gweithio i Lywodraeth Cymru ac sydd bellach yn gadeirydd Golff Cymru, am ei holl waith i gael y digwyddiad hwnnw i'r wlad.
Felly, Ysgrifennydd Cabinet, mae gennym ni Pencampwriaeth Agored y Menywod ac rydyn ni wedi cael y Cwpan Ryder. Mae yna ddau ddigwyddiad mawr yr hoffwn i eu gweld yn dod i Gymru. Y rheini yw Cwpan Solheim, sef fersiwn menywod Cwpan Ryder, a hefyd y bencampwriaeth Agored. Ond yr hyn rydym ni'n ei wybod am y bencampwriaeth Agored yw, er mwyn cynnal hynny yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl, bod angen rhywfaint o fuddsoddiad mewn seilwaith yn yr ardal honno o ran llety ac elfennau o ran trafnidiaeth. Dyna fyddai'r pinacl i ni gael mwy o bobl i ymweld â Chymru am brofiadau golff. Ac mae gen i ddiddordeb yn y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fuddsoddi yn y seilwaith hwnnw fel y gallwn ni ddod â'r digwyddiadau enfawr hynny i Gymru i'n gwneud ni mewn difrif y cyrchfan golff fyd-eang hwnnw y mae pawb eisiau ei weld.
I’m really grateful for those points and the recognition of the success of bringing the AIG Women’s Open to Porthcawl. I think that is really exciting and something, again, I know is welcomed right across the Senedd. Making a success of that particular tournament is going to really be the proof, if you like, that this is a world-class venue. We’ll have the whole world watching Porthcawl at that point, and I think if we can put on a show that is absolutely amazing in terms of the golf that is available, but also the facilities, and give that proper welcome to those people who are participating in it and their teams and so on, so that we can show, really, that this is the absolute place to be undertaking these tournaments, I think this is the challenge that we’ve been set in terms of making this a success and proving what can be done for the future. So, I’m really glad that colleagues are excited about it, and very much look forward to doing everything that we can, as Welsh Government, to make sure that it’s successful.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y pwyntiau hynny a'r gydnabyddiaeth o'r llwyddiant o ddod â Phencampwriaeth Agored Menywod AIG i Borthcawl. Rwy'n credu bod hynny'n gyffrous iawn ac mae rhywbeth, unwaith eto, rwy'n gwybod sy'n cael ei groesawu ar draws y Senedd. Gwneud llwyddiant o'r twrnamaint penodol hwnnw fydd y prawf, os mynnwch chi, bod hwn yn lleoliad o'r radd flaenaf. Bydd gennym y byd i gyd yn gwylio Porthcawl bryd hynny, ac rwy'n credu os gallwn ni gynnal rhywbeth sy'n hollol anhygoel o ran y golff sydd ar gael, ond hefyd y cyfleusterau, a rhoi croeso priodol i'r bobl hynny sy'n cymryd rhan ynddo a'u timau ac yn y blaen, fel y gallwn ni ddangos, mewn gwirionedd, mai dyma'r lle absoliwt i ymgymryd â'r twrnameintiau hyn, rwy'n credu mai dyma'r her rydym ni wedi'i gosod o ran gwneud hyn yn llwyddiant a phrofi beth y gellir ei wneud ar gyfer y dyfodol. Felly, rwy'n falch iawn bod cyd-Aelodau wedi gwirioni amdano, ac yn edrych ymlaen yn fawr at wneud popeth y gallwn ni, fel Llywodraeth Cymru, i wneud yn siŵr ei fod yn llwyddiannus.
Last Friday, the High Court gave judgment in the Brockwell Park case in Lambeth. Whilst paragraph 115 of the judgment clearly acknowledges the financial pressures facing the local authority, it states that the statutory duty to maintain public parks as amenities for the general public must remain a priority. Commercial activities may be permitted to generate income for park maintenance, but they cannot become so extensive as to fundamentally alter the character or the space, or substantially interfere with its primary purpose. The ruling reinforces the need for rigorous legal compliance, environmental impact assessments and genuine community consultation. Now, many of us have received correspondence from constituents concerned about large parts of Bute Park being fenced off for commercial use. Following the very recent judgment, Cabinet Secretary, will you issue guidance to local authorities to ensure that the commercialisation of public spaces does not impact unfairly on communities and the use of public spaces? Diolch yn fawr.
Ddydd Gwener diwethaf, rhoddodd yr Uchel Lys ddyfarniad yn achos Brockwell Park yn Lambeth. Er bod paragraff 115 o'r dyfarniad yn cydnabod yn glir y pwysau ariannol sy'n wynebu'r awdurdod lleol, mae'n nodi bod yn rhaid i'r ddyletswydd statudol i gynnal parciau cyhoeddus fel amwynderau i'r cyhoedd barhau i fod yn flaenoriaeth. Gellir caniatáu i weithgareddau masnachol gynhyrchu incwm ar gyfer cynnal a chadw'r parc, ond ni allan nhw fod mor helaeth fel eu bod yn newid y cymeriad neu'r lle yn sylfaenol, neu ymyrryd yn sylweddol â'i brif bwrpas. Mae'r dyfarniad yn atgyfnerthu'r angen am gydymffurfiaeth gyfreithiol drylwyr, asesiadau effaith amgylcheddol ac ymgynghori cymunedol gwirioneddol. Nawr, mae llawer ohonom ni wedi derbyn gohebiaeth gan etholwyr sy'n pryderu am rannau helaeth o Barc Bute yn cael eu ffensio at ddefnydd masnachol. Yn dilyn y dyfarniad diweddar iawn, Ysgrifennydd Cabinet, a wnewch chi gyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol i sicrhau nad yw masnacheiddio mannau cyhoeddus yn effeithio'n annheg ar gymunedau a'r defnydd o fannau cyhoeddus? Diolch yn fawr.
I'm really grateful for that question. I know that Rhys ab Owen did submit an OQ on this particular point, which wasn't reached in Plenary, so it's good to have the opportunity this afternoon to address that. I can say that Cadw is liaising with Cardiff Council to ensure that the events respect the outstanding special interest of the historic park. On Cadw's advice, Cardiff Council is preparing a heritage impact assessment to ensure the park is not unduly compromised by the events. Local authorities using licensing powers are responsible for considering the impacts, benefits and the costs of events, and the decision to use Blackweir fields for this new series of concerts was a democratic decision taken by Cardiff Council. But, certainly, in light of the judgment that has been referred to this afternoon, I will explore whether any further guidance is needed.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n gwybod bod Rhys ab Owen wedi cyflwyno cwestiwn llafar ar y pwynt penodol hwn, na chafodd sylw yn y Cyfarfod Llawn, felly mae'n dda cael y cyfle y prynhawn yma i fynd i'r afael â hynny. Gallaf ddweud bod Cadw yn cysylltu â Chyngor Caerdydd i sicrhau bod y digwyddiadau yn parchu diddordeb arbennig eithriadol y parc hanesyddol. Ar gyngor Cadw, mae Cyngor Caerdydd yn paratoi asesiad o'r effaith ar dreftadaeth i sicrhau nad yw'r parc yn cael ei gyfaddawdu'n ormodol gan y digwyddiadau. Mae awdurdodau lleol sy'n defnyddio pwerau trwyddedu yn gyfrifol am ystyried effeithiau, manteision a chostau digwyddiadau, ac roedd y penderfyniad i ddefnyddio caeau'r Gored Ddu ar gyfer y gyfres newydd hon o gyngherddau yn benderfyniad democrataidd a wnaed gan Gyngor Caerdydd. Ond, yn sicr, yng ngoleuni'r dyfarniad y cyfeiriwyd ato y prynhawn yma, byddaf yn archwilio a oes angen unrhyw arweiniad pellach.
I'm grateful to the Cabinet Secretary for the statement here this afternoon and for contributions from Members so far. I just want to make two points, Cabinet Secretary, in my role as a Member of the Senedd for North Wales. The first is in relation to major events that have been held historically in the region, in a not-too-distant past. I'm thinking particularly of county cricket and under-20s international rugby, which were often a regular occurrence in north Wales, but, sadly, no longer exist. They attracted thousands of spectators during their time, so I'd be interested to know your thoughts on how we can re-attract those major events into the region.
The second point is in relation to the growth we're seeing in Wrexham more broadly, in particular in relation to the football club, which, as we know, has now been promoted to the championship, and the football club's ambitions to expand the stadium, eventually to a capacity of 55,000. I'd be interested to know what plans you may have in the future to work with Wrexham football club to make use of that facility so that we can attract major events into north-east Wales as well. Thank you.
Rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad yma y prynhawn yma ac am gyfraniadau gan yr Aelodau hyd yn hyn. Fe hoffwn i ddim ond gwneud dau bwynt, Ysgrifennydd Cabinet, yn fy swyddogaeth yn Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru. Mae'r cyntaf mewn perthynas â digwyddiadau mawr sydd wedi cael eu cynnal yn hanesyddol yn y rhanbarth, ddim mor bell yn ôl â hynny. Rwy'n meddwl yn arbennig am griced sirol a rygbi rhyngwladol dan 20, a oedd yn aml yn ddigwyddiad rheolaidd yn y gogledd, ond, yn anffodus, dydyn nhw ddim yn bodoli mwyach. Fe wnaethon nhw ddenu miloedd o wylwyr yn eu hamser, felly byddai gen i ddiddordeb gwybod eich barn ar sut y gallwn ni ail-ddenu'r digwyddiadau mawr hynny i'r rhanbarth.
Mae'r ail bwynt mewn perthynas â'r twf rydym ni'n ei weld yn Wrecsam yn ehangach, yn enwedig mewn perthynas â'r clwb pêl-droed, sydd, fel y gwyddom ni, bellach wedi cael ei ddyrchafu i'r bencampwriaeth, ac uchelgeisiau'r clwb pêl-droed i ehangu'r stadiwm, yn y pen draw i gapasiti o 55,000. Byddai gen i ddiddordeb gwybod pa gynlluniau sydd gennych yn y dyfodol i weithio gyda chlwb pêl-droed Wrecsam i wneud defnydd o'r cyfleuster hwnnw er mwyn inni allu denu digwyddiadau mawr i'r gogledd-ddwyrain hefyd. Diolch.
I'm really grateful for those points. Sam Rowlands is absolutely right that we could be seeing there, really, an absolutely fantastic facility that could draw in future events, and we're keen to explore that with the club, but then also to have those conversations more widely about making sure that we do have a real range of events right across the length and breadth of Wales, and I do think that we do within the portfolio that we support through our Events Wales programme.
I also just want to say what a fantastic event Sam Rowlands sponsored last week in the Senedd. It was Wales Tourism Week, and it was an opportunity to bring the tourism sector together and really celebrate the contribution that it makes to Welsh life, and to really shine a light on some of our amazing tourism businesses that we have here in Wales. I think that this is all part of that wider picture: the support that we bring through Events Wales to get these major events and other events happening right across Wales as part of our investment in the tourism sector, alongside that wider work that we do through Visit Wales, where we promote Wales right across the globe.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y pwyntiau hynny. Mae Sam Rowlands yn hollol gywir y gallem ni fod yn gweld, mewn gwirionedd, cyfleuster hollol wych a allai ddenu digwyddiadau yn y dyfodol, ac rydym ni'n awyddus i archwilio hynny gyda'r clwb, ond yna hefyd i gael y sgyrsiau hynny'n ehangach am wneud yn siŵr bod gennym ni ystod go iawn o ddigwyddiadau ar hyd a lled Cymru, ac rwy'n credu ein bod ni'n gwneud hynny o fewn y portffolio rydym ni'n ei gefnogi drwy ein rhaglen Digwyddiadau Cymru.
Rwyf hefyd eisiau dweud mor wych oedd y digwyddiad a noddodd Sam Rowlands yr wythnos diwethaf yn y Senedd. Roedd hi'n Wythnos Twristiaeth Cymru, ac roedd yn gyfle i ddod â'r sector twristiaeth at ei gilydd a dathlu'r cyfraniad y mae'n ei wneud i fywyd Cymru, ac i daflu goleuni ar rai o'n busnesau twristiaeth anhygoel sydd gennym ni yma yng Nghymru. Rwy'n credu bod hyn i gyd yn rhan o'r darlun ehangach hwnnw: y gefnogaeth rydym ni'n ei roi drwy Ddigwyddiadau Cymru i sicrhau y cynhelir y digwyddiadau mawr hyn a digwyddiadau eraill ledled Cymru yn rhan o'n buddsoddiad yn y sector twristiaeth, ochr yn ochr â'r gwaith ehangach hwnnw a wnawn ni drwy Croeso Cymru, lle rydym ni'n hyrwyddo Cymru ledled y byd.
Ac yn olaf, Heledd Fychan.
And finally, Heledd Fychan.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn bigo i fyny ar y pwyntiau a godwyd gan Luke Fletcher, yn benodol o ran y Gymraeg a lle'r Gymraeg o fewn y strategaeth digwyddiadau mawr, oherwydd mae yna bwynt ynddi hi o ran hyrwyddo a defnyddio'r Gymraeg mewn digwyddiadau, ond dim am ddigwyddiadau yn y Gymraeg. Nid i bobl sy'n siarad Cymraeg y mae digwyddiadau fel yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol yn unig; maen nhw'n ddigwyddiadau rhyngwladol o bwys mawr, ac mae pobl sy'n dod o bedwar ban byd yn rhyfeddu at gael y profiad o fod yn yr Eisteddfod. Rwy'n pryderu o'r ffaith, yn eich ymateb i Luke Fletcher, eich bod chi heb adlewyrchu ar y ffaith bod hynny heb gael ei grybwyll o gwbl yn y datganiad hwn. Mae'n ŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop. Mi fydd yna 15,000 o blant yn cystadlu wythnos nesaf. Felly, a gaf i ofyn pa mor bwysig ydy'r Gymraeg o ran y strategaeth yma? Ydy'r Llywodraeth yn deall pwysigrwydd yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd, oherwydd dwi'n ofni nad ydych chi, o'r sylwadau dwi wedi eu clywed heddiw nac ychwaith yn y strategaeth ei hun?
Thank you, Dirprwy Lywydd. I'd like to pick up on the points raised by Luke Fletcher, specifically around the Welsh language and the place of the Welsh language within the major events strategy, because there is a point in it in terms of promoting and using the Welsh language in events, but not about Welsh language events. Events like the Urdd and the National Eisteddfod aren't just events for Welsh speakers; they are international, important events, and people coming from all corners of the world are astonished at having that experience of being at the Eisteddfod. I'm concerned, in your response to Luke Fletcher, that you hadn't reflected on the fact that that isn't mentioned at all in this statement. It is Europe's biggest youth festival. There will be 15,000 children competing next week. So, may I ask: how important is the Welsh language in terms of this strategy? Does the Government understand the importance of the National Eisteddfod and the Urdd Eisteddfod, because I fear that you don't, from the comments that I've heard this afternoon and in the strategy itself?
Well, in the opening remarks of the statement I did recognise the important role that our events strategy plays in terms of sharing our Welsh language with the world. I specifically mentioned that in those comments, and then I went on to talk about, in response to that particular question, the Urdd Eisteddfod itself. I gave an example of a specific performance that is taking place in respect of Richard Burton. So, we absolutely recognise the importance of the Welsh language through our Events Wales strategy, and I do think it is properly recognised in it.
But, if colleagues feel that there's more work to do, I'm more than happy to have these conversations about exploring how best we recognise the whole of Wales through that events strategy. I do think it is about striking that balance, because there are certain sports that some people will not be interested in, there will be events that lots of people aren't interested in, but, actually, the Welsh language, I think, is something that we all will have an interest in, so we need to make sure that it runs right through the strategy, rather than necessarily being about specific events. For example, the 'Feel the hwyl' campaign, that's the work that we're doing through Visit Wales, and that was deliberately about being unashamedly proud of our language and expressing a real confidence in Wales by using a Welsh word right at the centre of our Visit Wales strategy. We've done that, and it is the Year of Croeso, again, sharing the Welsh language. I think that that shows a real confidence in the nation, and I would hope that it's something that runs through our strategy, as well as supporting individual events.
Wel, yn sylwadau agoriadol y datganiad roeddwn i'n cydnabod swyddogaeth bwysig ein strategaeth ddigwyddiadau o ran rhannu ein hiaith Gymraeg gyda'r byd. Soniais i am hynny yn benodol yn y sylwadau hynny, ac yna es ymlaen i siarad am, mewn ymateb i'r cwestiwn penodol hwnnw, Eisteddfod yr Urdd ei hun. Rhoddais enghraifft o berfformiad penodol sy'n digwydd mewn perthynas â Richard Burton. Felly, rydym yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg drwy ein strategaeth Digwyddiadau Cymru, ac rwy'n credu ei bod yn cael ei chydnabod yn briodol ynddi.
Ond, os yw cyd-Aelodau yn teimlo bod mwy o waith i'w wneud, rwy'n fwy na hapus i gael y sgyrsiau hyn am archwilio sut orau rydym ni'n adnabod Cymru gyfan drwy'r strategaeth ddigwyddiadau honno. Rwy'n meddwl ei fod yn ymwneud â chael y cydbwysedd hwnnw, oherwydd mae rhai chwaraeon na fydd gan rai pobl ddiddordeb ynddyn nhw, bydd yna ddigwyddiadau nad oes gan lawer o bobl ddiddordeb ynddyn nhw, ond, mewn gwirionedd, mae'r Gymraeg, rwy'n credu, yn rhywbeth y bydd gennym ni i gyd ddiddordeb ynddi, felly mae angen i ni wneud yn siŵr ei bod yn elfen anhepgor o'r strategaeth, yn hytrach na bod o reidrwydd yn ymwneud â digwyddiadau penodol. Er enghraifft, yr ymgyrch 'Teimlo'r hwyl', dyna'r gwaith rydym ni'n ei wneud drwy Croeso Cymru, ac roedd hynny'n fwriadol am fod yn falch iawn o'n hiaith a mynegi hyder gwirioneddol yng Nghymru drwy ddefnyddio gair Cymraeg yng nghanol ein strategaeth Croeso Cymru. Rydym ni wedi gwneud hynny, a dyma Flwyddyn Croeso, unwaith eto, yn rhannu'r Gymraeg. Rwy'n credu bod hynny'n dangos hyder gwirioneddol yn y genedl, a byddwn yn gobeithio ei fod yn rhywbeth sy'n rhan o'n holl strategaeth, yn ogystal â chefnogi digwyddiadau unigol.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Thank you, Cabinet Secretary.
Eitem 7 heddiw yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Hawliau Rhentwyr. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynnig—Jayne Bryant.
Item 7 today is the legislative consent motion on the Renters' Rights Bill. I call on the Cabinet Secretary for Housing and Local Government to move the motion—Jayne Bryant.
Cynnig NDM8902 Jayne Bryant
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Hawliau Rhentwyr i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Motion NDM8902 Jayne Bryant
To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 29.6, agrees that provisions in the Renters’ Rights Bill in so far as they fall within the legislative competence of the Senedd, should be considered by the UK Parliament.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.

Diolch, Deputy Llywydd. Today, I'm pleased to bring this motion to the Senedd. The changes brought forward by this motion will allow greater access to rented accommodation to benefit claimants and those with children, providing tenants with additional protections when it comes to rented accommodation. This is because of additional safeguards afforded by the Renters' Rights Bill, which will prohibit discrimination against tenants who are in receipt of benefits or who have children who are seeking to rent under an occupation contract in Wales.
Further provisions will allow local authorities additional scope to enforce against landlords in control of houses in multiple occupation in cases where enforcement action is required, such as substandard accommodation. So, I move this motion.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n falch o ddod â'r cynnig hwn i'r Senedd. Bydd y newidiadau a gyflwynwyd gan y cynnig hwn yn caniatáu mwy o fynediad at lety rhent i hawlwyr budd-daliadau a'r rhai sydd â phlant, gan ddarparu amddiffyniadau ychwanegol i denantiaid o ran llety rhent. Mae hyn oherwydd mesurau diogelu ychwanegol a roddir gan y Bil Hawliau Rhentwyr, a fydd yn gwahardd gwahaniaethu yn erbyn tenantiaid sy'n derbyn budd-daliadau neu sydd â phlant sy'n ceisio rhentu o dan gontract meddiannaeth yng Nghymru.
Bydd darpariaethau pellach yn caniatáu i awdurdodau lleol weithredu yn erbyn landlordiaid sy'n rheoli tai amlfeddiannaeth mewn achosion lle mae angen camau gorfodi, fel llety is-safonol. Felly, rwy'n cynnig y cynnig hwn.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, John Griffiths.
I call on the Chair of the Local Government and Housing Committee, John Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. As a committee, we have laid two reports on the legislative consent memoranda for the Renters’ Rights Bill. We reported on the initial LCM in January and on the supplementary memorandum in March. As noted in these reports, we support the policy objectives of the legislation. It is crucial that the private rented sector should be available to everyone who needs to use it, and nobody should face discrimination in doing so. Given the current demand for rental properties, prohibiting these discriminatory practices may not result in significantly more tenancies being offered to people with children or benefit claimants, but it is very important, we believe, that they should be eligible to apply in any event.
We believe that the key route to eradicating discrimination is to increase housing supply. One area of disappointment is that the provisions in the Bill relating to pets do not extend to Wales. Our work has demonstrated that a high number of properties are advertised as not allowing pets, and we feel strongly that tenants should not be put into a situation where they feel they have to part company with a pet in order to move into a new property. We do not believe that the Welsh Government’s proposals in the White Paper on adequate housing go far enough, and we would like to see Welsh tenants afforded the same rights as those living in England.
Dirprwy Lywydd, I should also note our concern at the approach taken in using a UK Government Bill to make these legislative changes in Wales. We previously reported on some of these provisions in May 2024 when they were included in the LCM for the previous Renters (Reform) Bill. In that report, we noted the rationale set out by the Welsh Government for using the LCM route as being more expedient than bringing forward Senedd legislation. A year has now passed since that report was published and the provisions have still not become law. Such a delay highlights the disadvantages around relying on the UK Parliament to legislate on behalf of Wales.
But, despite these concerns, we recognise the importance of these legislative changes to prevent Welsh tenants facing discrimination, and we therefore recommend the Senedd should grant its consent for the UK Government to legislate on these devolved matters. Diolch yn fawr.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel pwyllgor, rydym ni wedi cyflwyno dau adroddiad ar y memoranda cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Hawliau Rhentwyr. Fe wnaethom ni adrodd ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol cychwynnol ym mis Ionawr ac ar y memorandwm atodol ym mis Mawrth. Fel y nodwyd yn yr adroddiadau hyn, rydym yn cefnogi amcanion polisi'r ddeddfwriaeth. Mae'n hanfodol y dylai'r sector rhentu preifat fod ar gael i bawb sydd angen ei ddefnyddio, ac ni ddylai neb wynebu gwahaniaethu wrth wneud hynny. O ystyried y galw presennol am eiddo rhent, efallai na fydd gwahardd yr arferion gwahaniaethol hyn yn arwain at lawer mwy o denantiaethau yn cael eu cynnig i bobl â phlant neu hawlwyr budd-daliadau, ond mae'n bwysig iawn, credwn y dylen nhw fod yn gymwys i wneud cais mewn unrhyw achos.
Credwn mai'r ffordd allweddol i ddileu gwahaniaethu yw cynyddu'r cyflenwad tai. Un maes o siom yw nad yw'r darpariaethau yn y Bil sy'n ymwneud ag anifeiliaid anwes yn ymestyn i Gymru. Mae ein gwaith wedi dangos bod nifer fawr o eiddo yn cael eu hysbysebu fel rhai nad ydynt yn caniatáu anifeiliaid anwes, ac rydym yn teimlo'n gryf na ddylid rhoi tenantiaid mewn sefyllfa lle maen nhw'n teimlo bod yn rhaid iddyn nhw gael gwared ar anifail anwes er mwyn symud i eiddo newydd. Nid ydym yn credu bod cynigion Llywodraeth Cymru yn y Papur Gwyn ar dai digonol yn mynd yn ddigon pell, ac fe hoffem ni weld tenantiaid Cymru yn cael yr un hawliau â'r rhai sy'n byw yn Lloegr.
Dirprwy Lywydd, fe ddylwn i hefyd nodi ein pryder am y ffordd yr aethpwyd ati wrth ddefnyddio Bil Llywodraeth y DU i wneud y newidiadau deddfwriaethol hyn yng Nghymru. Fe wnaethom ni adrodd yn flaenorol ar rai o'r darpariaethau hyn ym mis Mai 2024 pan gawsant eu cynnwys yn yr memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Rhentwyr (Diwygio) blaenorol. Yn yr adroddiad hwnnw, nodwyd bod y rhesymeg a nodwyd gan Lywodraeth Cymru dros ddefnyddio'r llwybr memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn fwy hwylus na chyflwyno deddfwriaeth yn y Senedd. Mae blwyddyn bellach wedi mynd heibio ers i'r adroddiad hwnnw gael ei gyhoeddi ac nid yw'r darpariaethau wedi dod yn gyfraith o hyd. Mae oedi o'r fath yn tynnu sylw at yr anfanteision sy'n ymwneud â dibynnu ar Senedd y DU i ddeddfu ar ran Cymru.
Ond, er gwaethaf y pryderon hyn, rydym yn cydnabod pwysigrwydd y newidiadau deddfwriaethol hyn i atal camwahaniaethu yn erbyn tenantiaid Cymru, ac felly rydym yn argymell y dylai'r Senedd gydsynio i Lywodraeth y DU ddeddfu ar y materion datganoledig hyn. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
I call on the Chair of the Legislation, Justice and Constitution Committee, Mike Hedges.
Thank you, Deputy Presiding Officer. The Legislation, Justice and Constitution Committee reported on the Welsh Government’s legislative consent memoranda in January and March. Of particular relevance is that the UK Government Bill is amending two housing Acts passed by the Senedd: the Renting Homes (Wales) Act 2016 and the Renting Homes (Fees etc) (Wales) Act 2019.
The provisions within the Renters’ Rights Bill that require consent are broadly the same as those included in the Renters (Reform) Bill, which fell at the dissolution of the UK Parliament in May 2024. The Welsh Government has twice chosen to go down the route of using a UK Government Bill to change housing law on renters’ rights in Wales. The committee’s report highlights how a Welsh Government Bill on renters’ rights introduced to the Senedd could have completed its passage in the autumn of 2024. This would have meant that the benefits of the legislation could have been felt sooner by citizens in Wales. Moreover, the provisions could have been consulted on by Senedd committees, and subject to more debate and scrutiny, with a view to producing better outcomes.
We are concerned and disappointed, therefore, at the approach the Welsh Government has taken to legislating on renters’ rights. The varying and sometimes contradictory evidence the committee received provided no clear rationale for using a UK Government Bill to legislate in the devolved policy area of housing. The committee expressed concern that the provisions for Wales simply ‘piggyback’ on provisions initially designed for England with some modifications, and despite differences in the approach to enforcement between Wales and England. As a result, the committee expressed its frustration that two housing Bills, subject to detailed scrutiny, that became Senedd Acts are now being amended using legislation considered at Westminster, and with minimal input of elected Members of this Senedd.
The Senedd is in effect being provided with a fait accompli: vote in favour or risk losing important legislation on housing. This is even though the Bill’s provisions for Wales have not been the subject of rigorous policy development, detailed scrutiny by Members of the Senedd with knowledge of Welsh housing issues, or consultation with stakeholders.
On that latter point, the Cabinet Secretary’s admission that no formal consultation has been undertaken by the Welsh Government on the provisions in the UK Government Bill is also a concern, particularly as new criminal offences are being created. Briefing stakeholders and having informal engagement is not the same as a formal consultation.
In the committee’s view, the decision to pursue provisions for Wales in the UK Government’s Bill on grounds of expediency was a miscalculation and ill judged. Also, the committee does not believe it is appropriate for the Welsh Government to suggest that the Senedd need not have a role in helping shape legislation that impacts on the constituents of Senedd Members just because the Welsh Government considers its plans are in the best interests of Wales and that, if not followed, Welsh citizens could lose out.
Using a Welsh Government Bill on renters’ rights would have alleviated this concern and provided more control for the Welsh Government over the delivery and timing of the changes it would like to see. Moreover, as I have already highlighted, detailed scrutiny in the Senedd could have resulted in better, more informed legislation. Making legislation tailored to Welsh needs is a key principle underpinning devolution.
Linked to that, the use of a UK Government Bill has meant that the Welsh Government has avoided the need to prepare relevant impact assessments that would accompany a Bill introduced in the Senedd. Accordingly, in the absence of supporting evidence, the committee is sceptical about the Cabinet Secretary’s view that no financial implications arise from the relevant provisions of the Renters' Rights Bill.
The committee therefore believes that the use of the UK Government Bill to legislate in the devolved area of housing has become a matter of convenience for the Welsh Government, linked to capacity and issues of resourcing, particularly within the department responsible for housing. The Welsh Government should have worked towards introducing a Bill to the Senedd that made use of the bilingual provisions that had been included as amendments to the UK Government’s Renters (Reform) Bill once it fell at dissolution of the UK Parliament last year. Responsibility for not introducing such a Bill to the Senedd rests solely with the Welsh Government because of decisions it has taken internally and matters that are entirely within its control.
In conclusion, the approach of the Welsh Government to using the Renters’ Rights Bill to legislate for Wales in the area of housing policy, which excludes the Senedd as a legislature and stakeholders in Wales, represents a regrettable and unwelcome approach to devolution.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Adroddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr a mis Mawrth. Yn arbennig o berthnasol yw bod Bil Llywodraeth y DU yn diwygio dwy Ddeddf Tai a basiwyd gan y Senedd: Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) (Cymru) 2019.
Mae'r darpariaethau o fewn y Bil Hawliau Rhentwyr sy'n gofyn am ganiatâd yn fras yr un fath â'r rhai sydd wedi'u cynnwys yn y Bil Rhentwyr (Diwygio), a gyflwynwyd adeg ddiddymiad Senedd y DU ym mis Mai 2024. Mae Llywodraeth Cymru wedi dewis ddwywaith defnyddio Bil Llywodraeth y DU i newid cyfraith tai ar hawliau rhentwyr yng Nghymru. Mae adroddiad y pwyllgor yn tynnu sylw at sut y gallai Bil Llywodraeth Cymru ar hawliau rhentwyr a gyflwynwyd i'r Senedd fod wedi cwblhau ei hynt yn hydref 2024. Byddai hyn wedi golygu y gallai dinasyddion yng Nghymru fod wedi profi manteision y ddeddfwriaeth ynghynt. Ar ben hynny, gallai pwyllgorau'r Senedd fod wedi ymgynghori â'r darpariaethau, ac wedi dadlau a chraffu'n fanylach arnynt, gyda'r bwriad o gynhyrchu canlyniadau gwell.
Rydym yn bryderus ac yn siomedig, felly, am ymagwedd Llywodraeth Cymru i ddeddfu ar hawliau rhentwyr. Nid oedd y dystiolaeth amrywiol ac weithiau gwrthgyferbyniol a dderbyniodd y pwyllgor yn darparu unrhyw resymeg glir dros ddefnyddio Bil Llywodraeth y DU i ddeddfu ym maes polisi datganoledig tai. Mynegodd y pwyllgor bryder bod y darpariaethau ar gyfer Cymru ond yn efelychu’r darpariaethau a ddyluniwyd yn wreiddiol ar gyfer Lloegr gyda rhai addasiadau er bod gwahaniaeth yn y dull gorfodi rhwng Cymru a Lloegr. O ganlyniad, mynegodd y pwyllgor ei rwystredigaeth bod dau Fil tai, yn destun gwaith craffu manwl, a ddaeth yn Ddeddfau'r Senedd bellach yn cael ei diwygio gan ddefnyddio deddfwriaeth a ystyriwyd yn San Steffan, a heb fawr ddim mewnbwn gan Aelodau o’r Senedd.
Mae’r Senedd, mewn gwirionedd, yn wynebu fait accompli: pleidleisio o blaid neu fod mewn perygl o golli deddfwriaeth bwysig ar dai. Mae hyn er gwaethaf y ffaith nad yw darpariaethau'r Bil wedi bod yn destun gwaith datblygu polisi trwyadl, craffu manwl gan Aelodau o’r Senedd sydd â gwybodaeth am faterion tai Cymru, nac ymgynghoriad â rhanddeiliaid.
Ar y pwynt olaf hwnnw, mae cyfaddefiad yr Ysgrifennydd Cabinet nad oes ymgynghoriad ffurfiol wedi cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru ar y darpariaethau yn Bil Llywodraeth y DU hefyd yn bryder, yn enwedig gan fod troseddau newydd yn cael eu creu. Nid yw briffio rhanddeiliaid a chael ymgysylltiad anffurfiol yr un peth ag ymgynghoriad ffurfiol.
Ym marn y pwyllgor, roedd y penderfyniad i fynd ar drywydd darpariaethau ar gyfer Cymru ym Mil Llywodraeth y DU ar sail hwylustod yn gam gwag ac annoeth. Hefyd, nid yw'r pwyllgor yn credu ei bod hi'n briodol i Lywodraeth Cymru awgrymu nad oes angen i'r Senedd fod â rhan yn helpu i lunio deddfwriaeth sy'n effeithio ar etholwyr Aelodau'r Senedd dim ond oherwydd bod Llywodraeth Cymru o'r farn bod ei chynlluniau er budd gorau Cymru ac y gallai dinasyddion Cymru fod ar eu colled os na wneir hyn.
Byddai defnyddio Bil Llywodraeth Cymru ar hawliau rhentwyr wedi lliniaru'r pryder hwn ac wedi darparu mwy o reolaeth i Lywodraeth Cymru dros gyflawni ac amseru'r newidiadau yr hoffai eu gweld. Ar ben hynny, fel yr wyf eisoes wedi tynnu sylw ato, gallai craffu manwl yn y Senedd fod wedi arwain at ddeddfwriaeth well, fwy gwybodus. Mae gwneud deddfwriaeth wedi'i theilwra i anghenion Cymru yn egwyddor allweddol sy'n sail i ddatganoli.
Yn gysylltiedig â hynny, mae'r defnydd o Fil Llywodraeth y DU wedi golygu bod Llywodraeth Cymru wedi osgoi'r angen i baratoi asesiadau effaith perthnasol a fyddai'n cyd-fynd â Bil a gyflwynwyd yn y Senedd. Yn unol â hynny, yn absenoldeb tystiolaeth ategol, mae'r pwyllgor yn amheus ynghylch barn yr Ysgrifennydd Cabinet nad oes unrhyw oblygiadau ariannol yn deillio o ddarpariaethau perthnasol y Bil Hawliau Rhentwyr.
Mae'r pwyllgor felly yn credu bod y defnydd o Fil Llywodraeth y DU i ddeddfu yn y maes datganoledig o dai wedi dod yn fater o gyfleustra i Lywodraeth Cymru, sy'n gysylltiedig â chapasiti a materion adnoddau, yn enwedig o fewn yr adran sy'n gyfrifol am dai. Dylai Llywodraeth Cymru fod wedi gweithio tuag at gyflwyno Bil i'r Senedd a oedd yn defnyddio'r darpariaethau dwyieithog a oedd wedi'u cynnwys fel gwelliannau i Fil Rhentwyr (Diwygio) Llywodraeth y DU ar ôl iddo ddisgyn pan y'i cyflwynwyd adeg diddymu Senedd y DU y llynedd. Llywodraeth Cymru yn unig sy'n gyfrifol am beidio â chyflwyno Bil o'r fath i'r Senedd oherwydd penderfyniadau y mae wedi'u gwneud yn fewnol a materion sydd yn gyfan gwbl o fewn ei rheolaeth.
I gloi, mae dull Llywodraeth Cymru o ddefnyddio’r Bil Hawliau Rhentwyr i ddeddfu ar gyfer Cymru ym maes polisi tai, sy’n eithrio’r Senedd fel deddfwrfa a rhanddeiliaid yng Nghymru, yn cynrychioli agwedd anffodus ac annerbyniol at ddatganoli.
The Welsh Conservatives warned against this Bill, not to oppose renters' rights, because of course every tenant deserves safety, fairness and dignity in their home, but to sound the alarm on the deeply concerning direction that this Bill is taking, particularly with the ban on section 21. It is likely that if this Bill passes, it will be replicated in Wales by Welsh Ministers, and the Local Government and Housing Committee has alluded to this. This move, though well intentioned, risks repeating mistakes we've already seen made in Scotland. Scotland abolished no-fault evictions in 2017, and since then, there's been increasing hostility to landlords, resulting in 22,000 rental properties being taken off the market last year.
During a housing crisis, a shrinking market where families, students and young people are priced out and pushed aside is the last thing that we need. Let's not ignore the economic reality: less supply means higher rents and people stuck in temporary accommodation, and so forth, like bed-and-breakfast accommodation. If we scare responsible landlords out of the market, it's the tenants who pay the price, quite literally.
Finally, I'd like to draw the committee's attention to the Cabinet Secretary's admission that no consultation has been undertaken by Welsh Government on the provisions contained within the UK Government Bill, which is something that the Legislation, Justice and Constitution Committee has labelled as a particular concern. Let's fix the flaws in the current system, yes, but without doing it in such a way that actually adds to our housing crisis, and I would recommend that the Senedd oppose this LCM today. Diolch.
Rhybuddiodd y Ceidwadwyr Cymreig am y Bil hwn, nid i wrthwynebu hawliau rhentwyr, oherwydd wrth gwrs mae pob tenant yn haeddu diogelwch, tegwch ac urddas yn eu cartref, ond i dynnu sylw at natur hynod bryderus y Bil hwn, yn enwedig gyda'r gwaharddiad ar adran 21. Mae'n debygol, os bydd y Bil hwn yn pasio, y bydd yn cael ei ailadrodd yng Nghymru gan Weinidogion Cymru, ac mae'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi cyfeirio at hyn. Mae'r symudiad hwn, er ei fod yn deillio o fwriadau da, yn peryglu ailadrodd camgymeriadau rydym ni eisoes wedi'u gweld yn cael eu gwneud yn yr Alban. Fe wnaeth yr Alban ddiddymu troi allan heb fai yn 2017, ac ers hynny, mae gelyniaeth gynyddol wedi bod i landlordiaid, gan arwain at 22,000 o eiddo rhent yn cael eu tynnu oddi ar y farchnad y llynedd.
Yn ystod argyfwng tai, marchnad sy'n crebachu lle mae teuluoedd, myfyrwyr a phobl ifanc yn cael eu prisio allan a'u gwthio o'r neilltu, dyma'r peth olaf sydd ei angen arnom. Gadewch i ni beidio ag anwybyddu'r realiti economaidd: mae llai o gyflenwad yn golygu rhenti uwch a phobl yn sownd mewn llety dros dro, ac yn y blaen, fel llety gwely a brecwast. Os ydym yn dychryn landlordiaid cyfrifol o'r farchnad, mae'r tenantiaid sy'n talu'r pris, yn llythrennol.
Yn olaf, fe hoffwn i dynnu sylw'r pwyllgor at gyfaddefiad yr Ysgrifennydd Cabinet nad oes unrhyw ymgynghoriad wedi'i gynnal gan Lywodraeth Cymru ar y darpariaethau a gynhwysir yn Bil Llywodraeth y DU, sy'n rhywbeth y mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi'i nodi fel pryder arbennig. Gadewch i ni gywiro'r diffygion yn y system bresennol, ie, ond heb ei wneud yn y fath fodd sy'n ychwanegu at ein hargyfwng tai, a byddwn yn argymell bod y Senedd yn gwrthwynebu'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw. Diolch.
I'd like to ask how the right to have a pet and the benefits that they bring have been addressed in the Bill; it's been raised by the Chair of the committee. Just over half the residents in Wales have a pet; one in three, a dog. A survey revealed that 8 per cent of homes—that's all—were advertised as pet friendly, and this shortage has meant that many owners have had to give up their pet. Charities and rescue centres have hundreds of people enquiring about handing their pets over, citing a change in accommodation or rental agreements. It's heartbreaking, plus the rescue centres are full and unable to cope.
Renters with pets actually stay longer, they make really good tenants, so it actually works out financially better for the landlord in the long run. I'm worried about the surcharges, which are costly, and so are the proposed insurance recommendations. I would like to know how these have been considered as well going forward. Thank you.
Hoffwn ofyn sut yr ymdriniwyd â'r hawl i gael anifail anwes a'r buddion a ddaw yn sgil hyn yn y Bil; mae wedi cael ei godi gan Gadeirydd y pwyllgor. Mae gan ychydig dros hanner y trigolion yng Nghymru anifail anwes; un o bob tri â chi. Datgelodd arolwg fod 8 y cant o gartrefi—dyna'r cyfan—wedi'u hysbysebu fel rhai cyfeillgar i anifeiliaid anwes, ac mae'r prinder hwn wedi golygu bod llawer o berchnogion wedi gorfod rhoi eu hanifeiliaid anwes i ffwrdd. Mae elusennau a chanolfannau achub yn gweld cannoedd o bobl yn holi ynghylch trosglwyddo eu hanifeiliaid anwes iddynt, gan sôn am newid mewn cytundebau llety neu rentu. Mae'n dorcalonnus, ac mae'r canolfannau achub yn llawn ac yn methu ymdopi.
Mae rhentwyr gydag anifeiliaid anwes mewn gwirionedd yn aros yn hirach, maen nhw'n gwneud tenantiaid da iawn, felly yn ariannol mae'n fwy manteisiol i'r landlord yn y tymor hir. Rwy'n poeni am y taliadau ychwanegol, sy'n gostus, ac felly hefyd yr argymhellion yswiriant arfaethedig. Hoffwn wybod sut mae'r rhain wedi cael eu hystyried hefyd wrth fwrw ymlaen. Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl.
I call on the Cabinet Secretary to reply to the debate.

Diolch, Deputy Llywydd. I'd like to thank the committees for their detailed and thorough scrutiny of the legislative consent memoranda.
I completely understand the concerns about using a UK Government Bill to legislate in a devolved area. Practically, we could not deliver within the time frame of this Bill without making sacrifices elsewhere. We could have looked to deliver a discrete Bill, but it would have been delivered further down the line, and I'm not prepared to make tenants in Wales who are being discriminated against wait for a legislative time slot, and nor did I want to jeopardise other important legislation that we're looking to deliver during this term of Government. So, by making provision in the Bill, tenants in Wales are placed on a similar footing to tenants in Scotland and England at the same time.
The discrimination provisions in the Renters' Rights Bill amend existing Welsh legislation, and the amended provisions will be contained in Welsh Acts. My officials have liaised closely with UK Government counterparts to ensure the provisions are prepared in a way that suitably reflects our expectations on accessibility. I recognise that the Senedd is afforded less scrutiny through this approach, but I do need to balance that consideration with the need to deliver positive changes for Wales, which I believe this Bill offers.
The Bill contains powers for Welsh Ministers to commence these provisions, and in addition there are powers to make consequentials, transitional and savings provisions. There are also powers to make regulations to extend the protections from discrimination to other groups of people, if Welsh Ministers are satisfied that further discriminatory rental practices exist in relation to dwellings. The statutory instruments will be all subject to the scrutiny of the Senedd, and most will be subject to the affirmative procedure.
We've also already included an assessment within the published LCMs that no financial implications have been identified. My officials have fully briefed all sector stakeholders on the proposed changes, including representatives of landlords, agents, tenants, as well as local authorities, and all are supportive of these clauses. While we've not consulted on these changes, I would stress that the concerns being addressed by the Bill are in no way new. These issues in Wales concerning discrimination against renting to persons with children or benefits claimants are likely to be similar to those identified in consultation carried out in England. Also, some stakeholders work across England and Wales, so would have fed into the original consultation process, and there would have been nothing stopping any Welsh individual or organisation responding to that process.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r pwyllgorau am eu craffu manwl a thrwyadl ar y memoranda cydsyniad deddfwriaethol.
Rwy'n deall yn llwyr y pryderon ynghylch defnyddio Bil Llywodraeth y DU i ddeddfu mewn maes datganoledig. Yn ymarferol, ni allwn gyflawni o fewn amserlen y Bil hwn heb wneud aberth mewn mannau eraill. Gallem fod wedi ystyried cyflwyno Bil ar wahân, ond byddai wedi cael ei gyflwyno yn hwyrach, ac nid wyf yn barod i wneud i denantiaid yng Nghymru sy'n dioddef gwahaniaethu aros am amser deddfwriaethol wedi ei neilltuo, ac nid oeddwn ychwaith eisiau peryglu deddfwriaeth bwysig arall yr ydym yn ceisio ei chyflawni yn ystod tymor hwn y Llywodraeth. Felly, trwy wneud darpariaeth yn y Bil, mae tenantiaid yng Nghymru yn cael eu rhoi ar sail debyg i denantiaid yn yr Alban a Lloegr ar yr un pryd.
Mae'r darpariaethau gwahaniaethu yn y Bil Hawliau Rhentwyr yn diwygio deddfwriaeth bresennol Cymru, a bydd y darpariaethau diwygiedig yn cael eu cynnwys yn Neddfau Cymru. Mae fy swyddogion wedi cysylltu'n agos â swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU i sicrhau bod y darpariaethau yn cael eu paratoi mewn ffordd sy'n adlewyrchu ein disgwyliadau ynghylch hygyrchedd. Rwy'n cydnabod bod y Senedd yn cael llai o waith craffu drwy'r dull hwn, ond mae angen i mi gydbwyso'r ystyriaeth honno â'r angen i gyflawni newidiadau cadarnhaol i Gymru, yr wyf yn credu bod y Bil hwn yn ei gynnig.
Mae'r Bil yn cynnwys pwerau i Weinidogion Cymru gychwyn ar y darpariaethau hyn, ac yn ychwanegol mae pwerau i wneud darpariaethau canlyniadol, trosiannol ac arbedion. Mae yna hefyd bwerau i wneud rheoliadau i ymestyn yr amddiffyniadau rhag gwahaniaethu i grwpiau eraill o bobl, os yw Gweinidogion Cymru yn fodlon bod arferion rhentu gwahaniaethol pellach yn bodoli mewn perthynas ag anheddau. Bydd yr offerynnau statudol i gyd yn destun craffu'r Senedd, a bydd y rhan fwyaf yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol.
Rydym hefyd eisoes wedi cynnwys asesiad o fewn y memoranda cydsyniad deddfwriaethol cyhoeddedig nad oes unrhyw oblygiadau ariannol wedi'u nodi. Mae fy swyddogion wedi briffio holl randdeiliaid y sector yn llawn am y newidiadau arfaethedig, gan gynnwys cynrychiolwyr landlordiaid, asiantau, tenantiaid, yn ogystal ag awdurdodau lleol, ac mae pob un ohonynt yn gefnogol o'r cymalau hyn. Er nad ydym wedi ymgynghori ar y newidiadau hyn, byddwn yn pwysleisio nad yw'r pryderon sy'n cael eu trafod gan y Bil mewn unrhyw ffordd yn newydd. Mae'r materion hyn yng Nghymru sy'n ymwneud â gwahaniaethu yn erbyn rhentu i bobl â phlant neu hawlwyr budd-daliadau yn debygol o fod yn debyg i'r rhai a nodwyd mewn ymgynghoriad a gynhaliwyd yn Lloegr. Hefyd, mae rhai rhanddeiliaid yn gweithio ledled Cymru a Lloegr, felly byddent wedi bwydo i mewn i'r broses ymgynghori wreiddiol, ac ni fyddai unrhyw beth wedi atal unrhyw unigolyn neu sefydliad o Gymru rhag ymateb i'r broses honno.
Will the Minister give way?
A wnaiff y Gweinidog ildio?
I will do.
Gwnaf.
I'm grateful to you for this. I'm listening to the argument that you're pursuing here. This is essentially an argument to go back to the pre-2011, 1999 settlement, that there's no need for Welsh consultation. Members here don't have the opportunity to scrutinise, but it's okay because Welsh Ministers are getting powers and we are putting this through the affirmative process. That is unacceptable, Minister, I'm afraid. It's absolutely unacceptable to speak to our Parliament in that way. Members here have the absolute right to scrutinise legislation. It's why we are elected here. It's why the Welsh Government fought for and achieved a referendum on full primary powers, and we should be afforded the opportunity to exercise those primary powers. The Welsh Government's argument—and you're not the first Cabinet Secretary to pursue this—of taking us back to pre-2011 days is an unacceptable argument to put in front of this Parliament. And I will be voting for the Government today, but I have to say, I'm extremely disappointed. [Interruption.] I'm extremely disappointed with the way that—[Interruption.] I'm going to make my point.
Rwy'n ddiolchgar i chi am hyn. Rwy'n gwrando ar y ddadl rydych chi'n mynd ar ei thrywydd yn y fan yma. Yn y bôn, dadl yw hon i fynd yn ôl i'r setliad yn 1999, cyn 2011, sef nad oes angen ymgynghoriad yng Nghymru. Nid oes gan yr Aelodau yma gyfle i graffu, ond mae'n iawn oherwydd mae Gweinidogion Cymru yn cael pwerau ac rydym yn rhoi hyn drwy'r broses gadarnhaol. Mae hynny'n annerbyniol, Gweinidog, mae gen i ofn. Mae'n gwbl annerbyniol siarad â'n Senedd yn y modd yna. Mae gan yr Aelodau yma yr hawl absoliwt i graffu ar ddeddfwriaeth. Dyna pam rydym wedi ein hethol yma. Dyna pam y brwydrodd Llywodraeth Cymru a chyflawni refferendwm ar bwerau sylfaenol llawn, a dylem gael y cyfle i arfer y pwerau sylfaenol hynny. Mae dadl Llywodraeth Cymru—ac nid chi yw'r Ysgrifennydd Cabinet cyntaf i fynd ar drywydd hyn—ynghylch mynd â ni yn ôl i ddyddiau cyn 2011 yn ddadl annerbyniol i'w rhoi gerbron y Senedd hon. A byddaf yn pleidleisio dros y Llywodraeth heddiw, ond mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n hynod siomedig. [Torri ar draws.] Rwy'n hynod siomedig gyda'r ffordd y mae—[Torri ar draws.] Rydw i'n mynd i wneud fy mhwynt.
I think you're starting to make a speech rather than an intervention.
Rwy'n credu eich bod chi'n dechrau gwneud araith yn hytrach nag ymyriad.
I'm extremely disappointed with the approach being taken by the Welsh Government.
Rwy'n hynod siomedig gyda'r dull sy'n cael ei fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru.
Diolch, Alun, and I appreciate that. There were similar comments made during the committee stage as well, and I know that you made those points then, and I do very much understand the concerns about using a UK Government Bill to legislate in this devolved area. I've tried to outline why this has been an opportunity to use that this time, because of the practicalities around it, and I was just wanting to highlight some of the ways that there were opportunities in terms of the consultation more widely.
Deputy Llywydd, if you might just let me touch on the issue of pets very briefly.
Diolch, Alun, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny. Roedd sylwadau tebyg wedi'u gwneud yn ystod cyfnod y pwyllgor hefyd, ac rwy'n gwybod eich bod wedi gwneud y pwyntiau hynny bryd hynny, ac rwy'n deall yn iawn y pryderon ynghylch defnyddio Bil Llywodraeth y DU i ddeddfu yn y maes datganoledig hwn. Rwyf wedi ceisio amlinellu pam mae hwn wedi bod yn gyfle i ddefnyddio hynny y tro hwn, oherwydd yr elfennau ymarferol, ac roeddwn i eisiau tynnu sylw at rai o'r ffyrdd oedd yn cynnig cyfleoedd o ran yr ymgynghoriad yn ehangach.
Dirprwy Lywydd, os wnewch adael imi grybwyll mater anifeiliaid anwes yn fyr iawn.
Very briefly, because we've gone over time. I'll give you a little bit of time for the intervention.
Yn fyr iawn, oherwydd rydym ni wedi mynd dros amser. Rwyf am roi ychydig o amser i chi ar gyfer yr ymyriad.
I really very much understand that that was touched on by a number of Members. We weren't able to pick and choose which parts of the Bill that we wanted to extend to Wales, but, as I say, we set out in our White Paper, on adequate housing for the private rented sector, around those wishing to rent with a pet. In December, I met Cats Protection, Dogs Trust and the RSPCA to discuss the proposals in our White Paper and the provisions in the Renters' Rights Bill regarding pet insurance. So, these charities have welcomed the proposals in our White Paper, and we're currently analysing responses to our White Paper consultation regarding these measures.
Thank you for your patience. So, finally, I urge the Senedd to approve this motion and give tenants and prospective tenants the protection that these provisions will afford them. Diolch, Deputy Llywydd.
Rwy'n deall yn iawn fod nifer o Aelodau wedi crybwyll hwnnw. Nid oeddem yn gallu dewis pa rannau o'r Bil yr oeddem am eu hymestyn i Gymru, ond, fel y dywedais i, fe wnaethom nodi yn ein Papur Gwyn, ar dai digonol ar gyfer y sector rhentu preifat, ynghylch y rhai sy'n dymuno rhentu gydag anifail anwes. Ym mis Rhagfyr, cyfarfûm â Cats Protection, Dogs Trust a'r RSPCA i drafod y cynigion yn ein Papur Gwyn a'r darpariaethau yn y Bil Hawliau Rhentwyr ynghylch yswiriant anifeiliaid anwes. Felly, mae'r elusennau hyn wedi croesawu'r cynigion yn ein Papur Gwyn, ac rydym ar hyn o bryd yn dadansoddi ymatebion i'n hymgynghoriad Papur Gwyn ynghylch y mesurau hyn.
Diolch am eich amynedd. Felly, yn olaf, rwy'n annog y Senedd i gymeradwyo'r cynnig hwn a rhoi tenantiaid a darpar denantiaid yr amddiffyniad y bydd y darpariaethau hyn yn ei roi iddynt. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
The proposal is to agree the motion. Does any Member object? [Objection.] I will defer voting under this item until voting time.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Voting deferred until voting time.
Mae eitem 8 wedi'i gohirio tan 3 Mehefin.
Item 8 has been postponed until 3 June.
Felly, eitem 9 sydd nesaf: Cyfnod 4 y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru). Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Cyflawni i wneud y cynnig, Julie James.
So, item 9 will be next: Stage 4 of the Legislation (Procedure, Publication and Repeals) (Wales) Bill. I call on the Counsel General and Minister for Delivery to move the motion, Julie James.
Cynnig NDM8907 Julie James
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo'r Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru).
Motion NDM8907 Julie James
To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 26.47:
Approves the Legislation (Procedure, Publication and Repeals) (Wales) Bill.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.

Diolch, Dirprwy Lywydd. This is not a Bill that will capture the headlines. Indeed, it is unlikely to receive any attention at all. It is not a vote winner, nor will it feature on any list of topical matters of concern discussed today in Swansea market or on any social media. And it's partly for this reason that I am so grateful to those of you who have raised questions in a constructive way and helped to improve the Bill as it has progressed through the Senedd. The collaborative approach you have taken is much appreciated, and it is an example of the way this legislature works best. Because ultimately, this Bill is about the Senedd's infrastructure for making and publishing legislation.
Most of this infrastructure was borrowed. We have, for many years, made use of the often very old provisions in place for legislation of the UK Parliament and Government. Sometimes, what was adopted was adapted for Wales, and sometimes it was not. So, the Bill further develops our legal and constitutional foundations, building on the Legislation (Wales) Act 2019. The 2019 Act put in place distinct rules of interpretation for Welsh law, as well as entrenching our commitment to consolidate and codify Welsh law, accelerating the development of our work towards a better organised, clearer and bilingual statute book for Wales. Dirprwy Lywydd, this time we are plugging some gaps that have existed since we first began to develop our own legislation in 1999.
I am particularly pleased that we can now talk about clear statutory responsibilities of the King's Printer for Wales, setting formal requirements in relation to the publication of Welsh legislation, including, for the first time, through an instrument that is now formally called a Welsh statutory instrument. The Bill brings about parity with Scotland and Northern Ireland in some respects, and in others it goes further. We alone will have accurately set out the process for published legislation electronically in the modern era, and, for the first time, a duty is imposed on the King's Printer to publish legislation in up-to-date form, in other words, reflecting legislation in the form that it has been amended.
I'm also very pleased that we are streamlining our procedures for scrutinising subordinate legislation, and hope that we will quickly adopt our new terminology: the Senedd approval procedure—
Diolch, Dirprwy Lywydd. Nid yw hwn yn Fil a fydd yn cyrraedd y penawdau. Yn wir, mae'n annhebygol o gael unrhyw sylw o gwbl. Nid yw'n un i ennill pleidleisiau, ac ni fydd yn ymddangos ar unrhyw restr o faterion cyfoes sy'n peri pryder a drafodir heddiw ym marchnad Abertawe nac ar unrhyw gyfryngau cymdeithasol. Ac mae'n rhannol, am y rheswm hwn, fy mod mor ddiolchgar i'r rhai ohonoch sydd wedi codi cwestiynau mewn ffordd adeiladol ac wedi helpu i wella'r Bil ar ei daith drwy'r Senedd. Mae'r dull cydweithredol rydych chi wedi'i gymryd yn cael ei werthfawrogi'n fawr, ac mae'n enghraifft o'r ffordd y mae'r ddeddfwrfa hon yn gweithio orau. Oherwydd yn y pen draw, mae'r Bil hwn yn ymwneud â seilwaith y Senedd ar gyfer gwneud a chyhoeddi deddfwriaeth.
Benthycwyd y rhan fwyaf o'r seilwaith hwn. Rydym wedi defnyddio'r darpariaethau sy'n aml yn hen iawn ar waith ar gyfer deddfwriaeth Senedd a Llywodraeth y DU. Weithiau, addaswyd yr hyn a fabwysiadwyd ar gyfer Cymru, ac weithiau ddim. Felly, mae'r Bil yn datblygu ein sylfeini cyfreithiol a chyfansoddiadol ymhellach, gan adeiladu ar Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019. Rhoddodd Deddf 2019 reolau dehongli gwahanol ar waith ar gyfer cyfraith Cymru, yn ogystal â gwreiddio'n hymrwymiad i atgyfnerthu a chodio cyfraith Cymru, gan gyflymu datblygiad ein gwaith tuag at lyfr statud mwy trefnus, cliriach a dwyieithog ar gyfer Cymru. Dirprwy Lywydd, y tro hwn rydym yn llenwi rhai bylchau sydd wedi bodoli ers i ni ddechrau datblygu ein deddfwriaeth ein hunain ym 1999.
Rwyf yn arbennig o falch y gallwn nawr siarad am gyfrifoldebau statudol clir Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru, gan osod gofynion ffurfiol mewn perthynas â chyhoeddi deddfwriaeth Cymru, gan gynnwys, am y tro cyntaf, drwy offeryn sydd bellach yn cael ei alw'n ffurfiol yn offeryn statudol Cymru. Mae'r Bil yn dod â chydraddoldeb â'r Alban a Gogledd Iwerddon mewn rhai agweddau, ac mewn eraill mae'n mynd ymhellach. Ni yn unig fydd wedi nodi’n gywir y broses ar gyfer cyhoeddi deddfwriaeth yn electronig yn yr oes fodern, ac, am y tro cyntaf, gosodir dyletswydd ar Argraffydd y Brenin i gyhoeddi deddfwriaeth ar ffurf gyfoes, mewn geiriau eraill, adlewyrchu deddfwriaeth yn y ffurf y mae wedi'i diwygio.
Rwyf hefyd yn falch iawn ein bod yn symleiddio ein gweithdrefnau ar gyfer craffu ar is-ddeddfwriaeth, a gobeithio y byddwn yn mabwysiadu ein terminoleg newydd yn gyflym: gweithdrefn gymeradwyo'r Senedd—
—yr weithdrefn gymeradwyo;
—the approval procedure;
the Senedd confirmation procedure—
gweithdrefn gadarnhau'r Senedd—
—yr weithdrefn gadarnhau.
—the confirmation procedure.
Some of you will see that I need help with the pronunciation in Welsh, but I hope we'll get very used to saying it. And the Senedd annulment procedure—
Bydd rhai ohonoch chi'n gweld bod angen help arnaf gyda'r ynganiad yn Gymraeg, ond gobeithio y byddwn ni'n dod i arfer â'i ddweud. A gweithdrefn annilysu'r Senedd—
—yr weithdrefn annilysu.
—the annulment procedure.
Finally, for the first time for Wales alone, the Bill tidies up the statute book by removing outdated provisions. This is notable not only because of what this Bill does, but also because it is the start of a process where we will regularly review the statute book for provisions that no longer work or are no longer needed, bringing forward further Bills as necessary.
Dirprwy Lywydd, the technical, administrative nature of this Bill may make it uninteresting to most, but that does not mean it's unimportant. Legislation like this forms part of an infrastructure that people only really notice when something goes wrong. People notice when it isn't there, and that's why it has to exist. Diolch yn fawr.
Yn olaf, am y tro cyntaf i Gymru yn unig, mae'r Bil yn tacluso'r llyfr statud trwy ddileu darpariaethau sydd wedi dyddio. Mae hyn yn nodedig nid yn unig oherwydd yr hyn y mae'r Bil hwn yn ei wneud, ond hefyd oherwydd ei fod yn ddechrau proses lle byddwn yn adolygu'r llyfr statud yn rheolaidd ar gyfer darpariaethau nad ydynt bellach yn gweithio neu nad oes eu hangen bellach, gan gyflwyno Biliau ychwanegol yn ôl yr angen.
Dirprwy Lywydd, efallai y bydd natur dechnegol, weinyddol y Bil hwn yn ei gwneud yn anniddorol i'r mwyafrif, ond nid yw hynny'n golygu ei fod yn ddibwys. Mae deddfwriaeth fel hon yn rhan o seilwaith y mae pobl yn sylwi arno dim ond pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le. Mae pobl yn sylwi pan nad yw yno, a dyna pam mae'n rhaid iddo fodoli. Diolch yn fawr.
I'd like to start by thanking the Counsel General and the Member for Carmarthen East and Dinefwr for the opportunity to work collaboratively on this Bill. I'm also very grateful to the clerks dealing with this Bill, the lawyers, the Welsh Government officials, and all of the staff that have worked on this piece of legislation. We on this side of the Chamber have always supported the principles of this Bill, and I can confirm that we will be supporting the Stage 4 passing of this Bill this afternoon.
Improving the accessibility of Welsh law is absolutely essential for Wales to be the modern, progressive country that it is, and this Bill improves the accessibility of Welsh law by repealing, amending and disapplying provisions and enactments that are no longer of practical use, and by also making minor amendments to the Legislation (Wales) Act 2019, as the Counsel General has already said. Of course, the Bill also formalises the procedural arrangements for making Welsh subordinate legislation, and formalises the requirements for publishing Acts of Senedd Cymru and Welsh statutory instruments and other subordinate legislation. Now, as the Counsel General said, it might not sound like the most thrilling piece of legislation, but it is a very important piece of legislation nonetheless. This Bill will hopefully result in procedures being clearer and more accessible in the future.
Now, my focus throughout this process has been to ensure that there is an opportunity for some post-legislative scrutiny, so that we can ensure that the Bill is delivering as intended, and I'm pleased that the Senedd was able to support my amendment at Stage 3 on this very specific issue. The amendment that I tabled at Stage 3 will amend Part 4 of the Legislation (Wales) Act 2019, to require the Counsel General to undertake a review of the first two years of operation of the new Parts 2A and 2B. It also requires a report to be laid before the Senedd, and a consultation with the Llywydd, the clerk of the Senedd, and other interested parties, like the Welsh Language Commissioner, for instance. Now, in a nutshell, a post-legislative scrutiny process will now take place in the next Senedd, and that provides an opportunity to relook at the Bill and make sure it's doing exactly what it set out to do.
I'm also very pleased that, within this Bill, there is a set of activities aimed at resolving ambiguities and correcting errors in Welsh law, which was, of course, proposed by the Member for Carmarthen East and Dinefwr. As he explained last week, the amendment also ensures regular reporting on such corrections, which is very welcome.
Therefore, in closing, Dirprwy Lywydd, I just want to reiterate to the Chamber just how important this Bill is. It has been referred to as a legislative tidying-up exercise, but that tidying-up exercise is very important. As a result, important amendments have been made to the Legislation (Wales) Act 2019 in order to make provision about Senedd procedures for making Welsh subordinate legislation, and also in relation to the publication and preservation of Welsh legislation. I believe that this legislation has been shaped and strengthened by cross-party collaboration throughout this process, and so I commend this Bill to the Chamber.
Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr am y cyfle i weithio ar y cyd ar y Bil hwn. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i'r clercod sy'n ymdrin â'r Bil hwn, y cyfreithwyr, swyddogion Llywodraeth Cymru, a'r holl staff sydd wedi gweithio ar y darn hwn o ddeddfwriaeth. Rydym ar yr ochr hon o'r Siambr bob amser wedi cefnogi egwyddorion y Bil hwn, a gallaf gadarnhau y byddwn yn cefnogi pasio Cyfnod 4 y Bil hwn y prynhawn yma.
Mae gwella hygyrchedd cyfraith Cymru yn gwbl hanfodol er mwyn i Gymru fod y wlad fodern, flaengar fel y mae hi, ac mae'r Bil hwn yn gwella hygyrchedd cyfraith Cymru drwy ailadrodd, diwygio a datgymhwyso darpariaethau a deddfiadau nad ydynt bellach o ddefnydd ymarferol, a thrwy hefyd wneud mân ddiwygiadau i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, fel y mae'r Cwnsler Cyffredinol eisoes wedi dweud. Wrth gwrs, mae'r Bil hefyd yn ffurfioli'r trefniadau gweithdrefnol ar gyfer gwneud is-ddeddfwriaeth yng Nghymru, ac yn ffurfioli'r gofynion ar gyfer cyhoeddi Deddfau Senedd Cymru ac offerynnau statudol Cymru ac is-ddeddfwriaeth arall. Nawr, fel y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, efallai nad yw'n swnio fel y darn mwyaf cyffrous o ddeddfwriaeth, ond mae'n ddarn pwysig iawn o ddeddfwriaeth serch hynny. Gobeithio y bydd y Bil hwn yn arwain at weithdrefnau cliriach a mwy hygyrch yn y dyfodol.
Nawr, rwyf wedi canolbwyntio drwy gydol y broses hon ar sicrhau bod cyfle i gael rhywfaint o graffu ôl-ddeddfwriaethol, fel y gallwn sicrhau bod y Bil yn cyflawni fel y bwriadwyd, ac rwy'n falch bod y Senedd wedi gallu cefnogi fy ngwelliant yng Nghyfnod 3 ar y mater penodol iawn hwn. Bydd y gwelliant a gyflwynais yng Nghyfnod 3 yn diwygio Rhan 4 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, er mwyn ei gwneud yn ofynnol i'r Cwnsler Cyffredinol gynnal adolygiad o'r ddwy flynedd gyntaf o weithredu'r Rhannau 2A a 2B newydd. Mae hefyd yn gofyn am osod adroddiad gerbron y Senedd, ac ymgynghori â'r Llywydd, clerc y Senedd, a phartïon eraill â buddiant, fel Comisiynydd y Gymraeg, er enghraifft. Nawr, yn gryno, bydd proses graffu ôl-ddeddfwriaethol nawr yn digwydd yn y Senedd nesaf, ac mae hynny'n rhoi cyfle i ailedrych ar y Bil a gwneud yn siŵr ei fod yn gwneud yn union yr hyn y bwriadwyd iddo ei wneud.
Rwyf hefyd yn falch iawn bod, o fewn y Bil hwn, set o weithgareddau gyda'r nod o ddatrys amwysedd a chywiro gwallau yng nghyfraith Cymru, a gynigiwyd wrth gwrs gan yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Fel yr eglurodd yr wythnos diwethaf, mae'r gwelliant hefyd yn sicrhau adroddiadau rheolaidd ar gywiriadau o'r fath, sy'n cael ei groesawu'n fawr.
Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, rwyf am ailadrodd i'r Siambr pa mor bwysig yw'r Bil hwn. Cyfeirir ato fel ymarfer tacluso deddfwriaethol, ond mae'r ymarfer tacluso hwnnw yn bwysig iawn. O ganlyniad, gwnaed diwygiadau pwysig i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 er mwyn gwneud darpariaeth ynghylch gweithdrefnau'r Senedd ar gyfer gwneud is-ddeddfwriaeth yng Nghymru, a hefyd mewn perthynas â chyhoeddi a chadw deddfwriaeth Cymru. Credaf fod y ddeddfwriaeth hon wedi'i llunio a'i chryfhau gan gydweithrediad trawsbleidiol trwy gydol y broses hon, ac felly rwy'n cymeradwyo'r Bil hwn i'r Siambr.
Hoffwn innau hefyd ddechrau drwy ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol, i lefarydd y Ceidwadwyr, i'r clercod, cyfreithwyr, a phawb sydd wedi gweithio mor ddiwyd ar y Bil hwn, ac i fynegi unwaith eto ein cefnogaeth gadarn fel plaid i brif amcanion y ddeddfwriaeth. Rŷn ni fel plaid wedi bod yn dadlau ers tro am yr angen hanfodol i wella ansawdd, statws a hygyrchedd cyfraith Cymru, ac mae'r Bil hwn yn cynrychioli cam sylweddol ymlaen o ran y nodau hynny. Rwy'n ddiolchgar iawn am yr ymgysylltiad adeiladol a gawsom gyda'r Llywodraeth ers cyfnod craffu'r pwyllgor, ac yn falch ein bod ni wedi cyrraedd cyfaddawdau boddhaol mewn sawl maes allweddol. Er ein bod ni yn parhau i gredu bod achos cryf i fynd rhyw gam ymhellach o ran sefydlu swyddfa argraffu deddfwriaethol benodol i Gymru, gyda'r un ystod lawn o gyfrifoldebau ac sydd gan swyddfeydd tebyg yn y gwledydd datganoledig eraill, rŷn ni yn croesawu'r gwelliant a gytunwyd ac yr oedd y Llywodraeth wedi'i gyflwyno yn ystod Cyfnod 3 i greu mwy o eglurer ynghylch statws Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru, sy'n cael ei greu nawr gan y ddeddfwriaeth yma, a'i ddyletswyddau perthnasol i'r Senedd.
Rwyf hefyd yn croesawu cefnogaeth y Llywodraeth i'm gwelliant, sydd wedi cael ei grybwyll eisoes, i sicrhau bod rhaid i bob rhaglen a wneir gan Weinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol o dan adran 2 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 gynnwys gweithgareddau penodol sydd wedi'u hanelu at ddatrys amwysedd a chywiro gwallau yng nghyfraith Cymru. Yn ogystal, gosodwyd gennym welliannau pwysig i greu mecanwaith i'r Senedd wella offerynnau statudol—cam a fyddai'n cryfhau gallu'r ddeddfwrfa i oruchwylio a mireinio is-ddeddfwriaeth. Er na chafodd y gwelliannau hyn eu derbyn, ar hyn o bryd, rŷn ni'n gobeithio y bydd modd parhau â'r drafodaeth hon mewn cyd-destun ehangach ac adeiladu consensws gwleidyddol ar draws y Senedd ar y mater pwysig hwn i'r dyfodol.
Er nad yw'r ddeddfwriaeth yn cyflawni ein holl ddyheadau, credaf ei bod hi'n gam arwyddocaol ac adeiladol ymlaen tuag at system gyfreithiol fwy hygyrch, tryloyw ac effeithiol i Gymru, ac, ar sail hynny, rŷn ni'n falch o'i chefnogi a'i chymeradwyo i'r Senedd.
I, too, would like to start by thanking the Counsel General, the Conservative spokesperson, the clerks, lawyers and everyone who has worked so hard on this Bill, and to confirm our firm support as a party to the main objectives of this legislation. We, as a party, have been arguing for some time about the need to improve the quality, status and accessibility of Welsh law, and this Bill represents a significant step forward in terms of those objectives. I am very grateful for the constructive engagement that we had with the Government since the committee scrutiny stages, and I’m pleased that we have reached acceptable compromises in several key areas. Although we continue to believe that there is a strong case for going further in terms of establishing the office of King's Printer for Wales with the same range of responsibility as that of similar offices within the other devolved nations, we do welcome the amendment that was agreed upon and which was tabled by the Government during Stage 3 to provide more clarity as to the status of the King's Printer for Wales, which is created by this legislation, and the relevant functions for the Senedd.
I also welcome the Government's support for my amendment, which has already been mentioned, to ensure that every programme made by the Welsh Government and the Counsel General under section 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 must include specific actions that are aimed at resolving ambiguities and correcting errors in Welsh law. In addition, we laid important amendments to create a mechanism for the Senedd to improve statutory instruments—a step that would strengthen the ability of the legislature to refine and have oversight of legislation. Although these amendments were not accepted, we do hope that it will be possible to continue with this discussion in a broader context and to build political consensus across the Senedd on this important issue for the future.
Whilst the legislation does not achieve all of our aspirations, I do believe that it signifies a constructive and significant step forward towards a more accessible, transparent and effective legal system for Wales, and, on that basis, we are pleased to support the legislation today and to commend it to the Senedd.
Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i ymateb i'r ddadl.
I call on the Counsel General to reply to the debate.

Diolch, Dirprwy Lywydd. It just remains for me to thank everybody for their hard work. I am particularly grateful to Paul Davies, Adam Price and Alun Davies for the constructive engagement that we had in the committee. I'm particularly grateful to the committee Chair, Mike Hedges, as well, for the helpful sessions that we had.
I echo Adam Price's last remarks, actually. I think there are things that we can build a consensus on that will continue to improve this programme. I am particularly happy that this Bill sets a really good grounding for being able to use it as a springboard to build that further consensus. And I'm particularly interested in the conversation we might have around amending statutory instruments, for example, in the future. But, Dirprwy Lywydd, this is a Bill, as I said, that will probably not hit the social media channels. It will probably not be discussed extensively in Swansea market or in Carmarthen market or anywhere else for that matter, but, as everyone has said in the debate, it will absolutely strengthen the foundations of the Welsh Parliament and its ability to legislate for the people of Wales, and, on that basis, I commend it to you.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn olaf hoffwn ddiolch i bawb am eu gwaith caled. Yr wyf yn arbennig o ddiolchgar i Paul Davies, Adam Price ac Alun Davies am yr ymgysylltiad adeiladol a gawsom yn y pwyllgor. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i Gadeirydd y pwyllgor, Mike Hedges, hefyd, am y sesiynau defnyddiol a gawsom.
Rwy'n adleisio sylwadau olaf Adam Price, mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod yna bethau y gallwn adeiladu consensws arnynt a fydd yn parhau i wella'r rhaglen hon. Rwy'n arbennig o hapus fod y Bil hwn yn gosod sylfaen dda iawn ar gyfer ei ddefnyddio fel sbardun i adeiladu'r consensws pellach hwnnw. Ac mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y sgwrs y gallwn ei chael ynglŷn â diwygio offerynnau statudol, er enghraifft, yn y dyfodol. Ond, Dirprwy Lywydd, Bil yw hwn, fel y dywedais, na fydd yn taro'r sianeli cyfryngau cymdeithasol yn ôl pob tebyg. Mae'n debyg na fydd yn cael ei drafod yn helaeth ym marchnad Abertawe nac ym marchnad Caerfyrddin nac unrhyw le arall os daw i hynny, ond, fel y mae pawb wedi dweud yn y ddadl, bydd yn cryfhau'n llwyr sylfeini Senedd Cymru a'i gallu i ddeddfu ar gyfer pobl Cymru, ac, ar y sail honno, rwy'n ei gymeradwyo i chi.
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cynnal pleidlais wedi ei chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, felly gohirir y bleidlais ar y cynnig hwn tan y cyfnod pleidleisio.
In accordance with Standing Order 26.50C, a recorded vote must be taken on Stage 4 motions. So, I defer voting on this motion to voting time.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Voting deferred until voting time.
A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.
And that brings us to voting time. Unless three Members wish for the bell to be rung, I will proceed directly to voting time.
Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 7, cynnig cydsyniad deddfwriaethol y Bil Hawliau Rhentwyr. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jayne Bryant. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
The first vote this afternoon is on item 7, the LCM on the Renters' Rights Bill. I call for a vote on the motion, tabled in the name of Jayne Bryant. Open the vote. Closed the vote. In favour, 37, no abstentions, 14 against. Therefore, the motion is agreed.
Eitem 7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Hawliau Rhentwyr: O blaid: 37, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Item 7. Legislative Consent Motion: The Renters' Rights Bill: For: 37, Against: 14, Abstain: 0
Motion has been agreed
Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 9, Cyfnod 4 y Bil deddfwriaeth. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 51, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
The next vote is on item 9, Stage 4 of the legislation Bill. I call for a vote on the motion, tabled in the name of Julie James. Open the vote. Close the vote. In favour 51, no abstentions, no-one against. Therefore, the motion is agreed.
Eitem 9. Cyfnod 4 Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru): O blaid: 51, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Item 9. Stage 4 of the Legislation (Procedure, Publication and Repeals) (Wales) Bill: For: 51, Against: 0, Abstain: 0
Motion has been agreed
A daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr.
And that brings today's proceedings to a close. Thank you very much.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:10.
The meeting ended at 18:10.