Y Cyfarfod Llawn

Plenary

18/03/2025

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Y cwestiynau i'r Prif Weinidog fydd yr eitem gyntaf. Y cwestiwn cyntaf, Laura Anne Jones. 

Busnesau yn y Sector Amddiffyn

1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau yn y sector amddiffyn yng Nghymru? OQ62487

Darpariaeth Iechyd a Llesiant yn Nyffryn Nantlle

2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynlluniau i wella’r ddarpariaeth iechyd a llesiant ar gyfer trigolion dyffryn Nantlle? OQ62472

Rŷn ni wedi ymrwymo i wella canlyniadau iechyd a llesiant ledled Cymru. Mae’r camau gweithredu ar gyfer 'Cymru Iachach' wedi cael eu diweddaru, ac maen nhw’n cynnwys mynediad cyfartal at y system iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau canlyniadau teg.

Dwi yn bryderus am ddiffyg cynnydd sylweddol efo cynllun i wella’r cyfleusterau iechyd a llesiant yn nyffryn Nantlle yn fy etholaeth i. Er gwaethaf sawl addewid ac ymgynghoriad, ers o leiaf saith mlynedd, mae’r safle a glustnodwyd ar gyfer canolfan iechyd a llesiant Lleu yn parhau i fod yn wag. Does yna ddim sôn am y newidiadau mawr a addawyd ac mae pobl leol yn hynod siomedig, a dwi'n rhannu eu rhwystredigaeth. Mi fyddaf i'n cadeirio cyfarfod cymunedol, sy'n cael ei drefnu ar gyfer Ebrill 7, ym Mhen-y-groes. Fedrwch chi fy nghefnogi i, felly, os gwelwch yn dda, wrth ymuno yn y galwadau am ddiweddariad ar y sefyllfa gan y bwrdd iechyd a gan grŵp Cynefin? Rydyn ni wir angen diweddariad llawn erbyn y cyfarfod ar 7 Ebrill, ac mi fyddai cael cefnogaeth gan Brif Weinidog Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei werthfawrogi'n fawr iawn gan y bobl dwi'n eu cynrychioli yn nyffryn Nantlle.

13:35

Diolch yn fawr i chi, Siân. Dwi'n gwybod bod yna frwdfrydedd aruthrol i ddatblygu prosiect o'r math yma yn nyffryn Nantlle. Dŷch chi'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi £1.2 miliwn i grŵp Cynefin i ddatblygu'r syniad yma, felly dyw hwnna ddim yn swm bach o arian i ddatblygu cynllun. Mi oedden nhw, tra'u bod nhw'n datblygu hwn, yn edrych ar nifer o ffynonellau ariannol annibynnol a gwahanol, yn cynnwys Cyngor Gwynedd a'r Loteri Genedlaethol. Ond y ffaith yw bod yna nifer o bartneriaid wedi tynnu allan o'r prosiect, ac nid bai Llywodraeth Cymru yw hwnna. Nawr, dwi'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi cwrdd â Cynefin ym mis Chwefror, eu bod nhw'n ailasesu'r model gwreiddiol oedd wedi cael ei gynnig, ac mi fydd yna ddiweddariad ddiwedd y mis yma. Dwi'n meddwl bod Betsi'n cydnabod bod y feddygfa angen cael ei hadnewyddu, ond dwi'n gwybod bod y Gweinidog iechyd wedi trafod gyda chadeirydd y bwrdd iechyd ddoe ar y mater yma, ond rŷn ni'n aros i gael y diweddariad yna rŷn ni'n ei ddisgwyl erbyn diwedd y mis.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

13:40
13:45
13:50
Y Diwydiant Dŵr

3. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gomisiynu ei hadolygiad ei hun o'r diwydiant dŵr i asesu rhinweddau dod ag ef i berchnogaeth gyhoeddus? OQ62486

Rŷn ni wedi ymrwymo’n llawn i’r adolygiad annibynnol presennol o’r sector dŵr, a gafodd ei gomisiynu ar y cyd â Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Bydd yr adolygiad yma’n asesu heriau systemig ac yn gwneud argymhellion ar gyfer dyfodol Cymru. Ar ôl cael yr adroddiad terfynol, bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn amlinellu camau nesaf Llywodraeth Cymru.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae prif gwmni dŵr Cymru wedi bod yn ymddwyn yn fwyfwy tebyg i gwmnïau sector preifat ar draws y ffin, pa un ai trwy dalu bonysys anferth neu ollwng carthion i'n hafonydd, tra bod biliau yn cynyddu blwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae tystiolaeth o wledydd eraill yn awgrymu bod model ar sail perchnogaeth gyhoeddus yn dod â chanlyniadau gwell, ond mae'r comisiwn rydych chi newydd gyfeirio ato fe, Brif Weinidog, wedi cau mas yr opsiwn o wladoli oherwydd y gost y byddai yna o ran iawndal i gyfranddalwyr. Ond yn achos Dŵr Cymru, dyw hynny ddim yn codi achos bod yna ddim cyfranddalwyr. Felly, a fyddai Llywodraeth Cymru yn fodlon, yn gyfochrog â gwaith y comisiwn annibynnol, comisiynu cyngor annibynnol ynglŷn â'r model o greu awdurdod dŵr i Gymru a fyddai'n atebol nid i fwrdd o unigolion ond i Senedd a phobl Cymru?

13:55
Hyffordiant mewn Swydd a Chyflogaeth â Chymorth

4. Beth yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer hyfforddiant mewn swydd a chyflogaeth â chymorth? OQ62482

Cysylltedd Ffyrdd yn Sir Ddinbych

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cysylltedd ffyrdd yn Sir Ddinbych? OQ62465

14:00
Brexit a Phontypridd

7. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith Brexit ar Bontypridd? OQ62457

14:05
'Grymuso Cymunedau, Cryfhau’r Gymraeg'

8. A fydd Llywodraeth Cymru yn ymateb yn ffurfiol i adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, 'Grymuso cymunedau, cryfhau’r Gymraeg', a gyhoeddwyd ym mis Awst 2024? OQ62484

Rŷn ni’n gweithio ar draws y Llywodraeth wrth baratoi ymateb i argymhellion yr adroddiad. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg eisoes wedi datgan ei fwriad i gyhoeddi ein hymateb i'r adroddiad yn ystod Eisteddfod yr Urdd ym mis Mai eleni.

Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch i glywed bod yna ddyddiad clir wedi cael ei nodi, achos fe gofiwch chi, saith mis yn ôl, fe wnaethoch chi dderbyn adroddiad terfynol y comisiwn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd. Rŷch chi'n gwybod hefyd ei fod e'n ddarn o waith pwysig iawn sydd yn cynnwys nifer o argymhellion mewn meysydd allweddol o bwysig fel tai, addysg, cynllunio, yr economi, ac yn y blaen. Ac mae hyn yn dilyn, wrth gwrs, argyfwng yn y cadarnleoedd yna lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad fel iaith bob dydd, ardaloedd rŷch chi a fi yn eu cynrychioli yn rhanbarth Gorllewin a Chanolbarth Cymru. Ac o ran sir Gaerfyrddin, rŷn ni wedi gweld cwymp, wrth gwrs, o 50 y cant yn 2001 yn medru siarad Cymraeg, i 43.9 y cant yn 2011 a 39.9 y cant yn 2021. Felly, mae hi yn argyfwng.

Rŷch chi wedi ateb y cwestiwn yr oeddwn i yn bwriadu gofyn ar y diwedd, sef pryd yn union mae'r adroddiad yma yn mynd i gael ymateb gan y Llywodraeth, a'r cwestiwn ychwanegol felly yw: a fydd argymhellion yr adroddiad yn debygol o gael eu gweithredu yn ystod oes y Senedd hon?

Diolch yn fawr. Dwi'n cofio derbyn yr adroddiad yma yn ffurfiol. Dyna oedd y digwyddiad ffurfiol cyntaf i fi fel Prif Weinidog, ac roeddwn i mewn tipyn bach o sioc ar y pryd. Dwi'n meddwl ei fod e'n adroddiad pwysig dros ben, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cymryd amser nawr i fynd trwyddo a gweld pa argymhellion rŷn ni'n gallu eu derbyn.

Beth dwi yn gallu dweud yw y bydd isafswm o £100,000 y  flwyddyn nesaf i bob menter iaith fel canlyniad i'r gyllideb—cyllideb rŷch chi wedi pleidleisio yn ei herbyn. Ond hefyd rŷn ni wedi dyrannu £1 miliwn i gefnogi Cymraeg yn sir Gâr. Rwy'n ymwybodol iawn ei fod e'n bwysig ein bod ni'n cadw lefel y Gymraeg yn ein cadarnleoedd. Bydd adroddiad arall yn dod yn dilyn yr un yma a fydd yn edrych ar y Gymraeg ar draws Cymru ymhellach. Ond mi fyddwch chi yn cael ymateb gan y Gweinidog yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

14:10

Un o'r pethau mae'r adroddiad hyn yn nodi yw pwysigrwydd pobl yn gallu defnyddio gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg os ydyn nhw yn moyn eu defnyddio nhw. Dwi'n cofio—dwi'n credu y flwyddyn ddiwethaf, neu efallai'r flwyddyn cyn hynny—HSBC yn cau ei llinell cymorth bancio yn yr iaith Gymraeg, a llawer o sgyrsiau am hynny yn y Senedd ar y pryd. Ond un o'r rhesymau y gwnaeth HSBC ddweud pam eu bod nhw wedi cael gwared arno fe oedd bod neb yn gwybod amdano fe. Felly, pa waith mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda gwasanaethau, nid dim ond yn y sector cyhoeddus ond y sector preifat a'r trydydd sector hefyd, i hysbysebu'r ffaith fod gwasanaethau ar gael yn yr iaith Gymraeg ac i helpu pobl i'w defnyddio nhw?

Diolch yn fawr. Mae'n rili bwysig a dwi'n meddwl y dylem ni ddiolch i'r busnesau yna sydd yn gwerthfawrogi'r iaith Gymraeg ac yn defnyddio'r iaith Gymraeg yn eu gwasanaethau. Wrth gwrs, mae e i fyny iddyn nhw wneud y gwaith o sicrhau bod eu cwsmeriaid nhw yn ymwybodol o'r hyn sydd ar gael o ran gwasanaethau Cymraeg. Ond, wrth gwrs, mae gyda ni adran y Gymraeg yma yn Llywodraeth Cymru sydd yn gwneud gwaith aruthrol o hyrwyddo'r Gymraeg yn gyffredinol.

Cwmnïau sydd ym Mherchnogaeth Lwyr y Llywodraeth

9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau goruchwylio cwmnïau sydd ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru? OQ62483

Cynigion Ynni Gwynt ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed

10. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau y mae cynigion ynni gwynt yn effeithio arnynt ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OQ62454

14:15
Gwasanaethau Gofal Llygaid i Blant

11. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar wasanaethau gofal llygaid i blant? OQ62488

Diolch ichi am hynny. Mae e wedi, serch hynny, dod i'm sylw i fod plant yng Nghymru yn gallu bod o dan anfantais o'u chymharu â phlant yn Lloegr a'r Alban pan fo'n dod i'r cynllun Vouchers at a Glance. Mae hon yn daleb sy'n cael ei rhoi i rieni lle mae angen prynu sbectol, ond dyw hi ddim ond hanner gwerth yr hyn yw hi yn y ddwy wlad arall. Nawr, yn amlwg, mae'r rhieni hynny yn ymwybodol hefyd, fel rŷn ni i gyd, fod gyda ni lefel gymharol uwch o dlodi plant yng Nghymru—30 y cant, wrth gwrs, o blant yn byw mewn tlodi fan hyn—ac mae yna nifer o deuluoedd yn poeni, wrth gwrs, yn sgil hynny, efallai, dyw'r plant ddim yn gallu cael mynediad i'r sbectol sydd eu hangen arnyn nhw, neu, yn wir, y sbectol y maen nhw angen eu cael. Wedyn, y cwestiwn yw: beth ŷch chi'n ei wneud i ddysgu oddi wrth gwledydd eraill yn y cyd-destun yma er mwyn sicrhau bod y plant yng Nghymru nid yn unig yn cael rhyw fath o faes chwarae gwastad, ond eu bod nhw'n cael y gofal gorau posib pan fo'n dod i anghenion gofal llygaid?

Diolch yn fawr, ac rŷch chi'n ymwybodol bod y ddeddfwriaeth yng Nghymru yn wahanol i weddill y Deyrnas Unedig. 

Diolch i'r Prif Weinidog. Mae'r Prif Weinidog wedi llwyddo i ateb pob un o'r cwestiynau oedd wedi cael eu gosod iddi hi, ac mae hynny siŵr o fod yn dipyn bach o record.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Eitem 2 fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Y Trefnydd, Jane Hutt, i wneud y datganiad hwnnw. 

Member
Jane Hutt 14:19:21
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

14:20

Trefnydd, mi hoffwn ofyn am ddatganiad ynglŷn â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, oherwydd mi oedd ddoe yn nodi 10 mlynedd ers i'r Senedd hon basio'r Ddeddf honno. Wrth gwrs, ers hynny, mae yna gryn sylw rhyngwladol wedi bod, lot mawr o ddiddordeb, ond eto rydym ni'n gwybod bod yna'n dal rhai heriau o ran gweithredu'r Ddeddf. Rydym ni'n ei gweld hi'n cael ei herio weithiau o ran achosion cynllunio, er enghraifft. Rydym ni'n dal i weld, wrth gwrs, fod tlodi plant yn dal i gynyddu yma yng Nghymru, er bod gennym ni'r Ddeddf yma, ddegawd ymlaen. Felly, dwi'n meddwl ei fod o'n gyfle inni adlewyrchu fel Senedd ar rai o'r llwyddiannau, ond hefyd efallai i edrych ar y ddegawd nesaf o ran y Ddeddf bwysig hon.

Diolch yn fawr, Heledd Fychan, am eich cwestiwn pwysig iawn i ni i gyd yn y Siambr.

14:25
14:30
14:35

Diolch yn fawr, Mike Hedges, am eich cwestiynau hefyd.

14:40
3. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol 2025-26

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar y rhaglen rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol 2025-26. Huw Irranca-Davies, felly, i wneud y datganiad.

Member
Huw Irranca-Davies 14:44:38
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

14:45

Ond, dangosodd y gaeaf hwn unwaith eto realiti llym newid hinsawdd i ni. Nid oes angen i mi atgoffa'r Aelodau am effaith storm Bert ym mis Tachwedd, a effeithiodd ar dros 700 eiddo ledled Cymru, na'r dinistr a ddilynodd storm Darragh ym mis Rhagfyr.

Mae’r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru wedi ymrwymo i helpu i gadw cymunedau’n ddiogel rhag llifogydd, a bydd yn parhau i ymrwymo i hynny. Rydyn ni’n ategu ein geiriau gyda'r buddsoddiad mwyaf erioed a gweithredu gwirioneddol i ddiogelu cymunedau ledled Cymru, o'r Rhyl i Aberdaugleddau, i Gasnewydd. Pan fyddwn ni’n gwneud addewidion, rydyn ni’n eu cyflawni, a gall y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu weld y gwahaniaeth.

14:50
14:55
15:00
15:05
15:10
15:15
15:20
4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Diwygio Deintyddiaeth y Gwasanaeth Iechyd

Eitem 4 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: diwygio deintyddiaeth y gwasanaeth iechyd gwladol. A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y datganiad—Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaeth cyfyngiadau'r coronafeirws effeithio yn fawr iawn ar ddeintyddiaeth y gwasanaeth iechyd. Mae wedi bod yn araf i adfer yn llwyr o effaith y pandemig. Mae'r pum mlynedd diwethaf wedi bod yn heriol i'r gwasanaeth hwn. Mae dros filiwn o bobl nawr yn cael triniaeth reolaidd bob blwyddyn. Mae cleifion newydd, yn oedolion ac yn blant, yn cael eu gweld, diolch i'n gwaith i ehangu mynediad drwy amrywio’r contract.

Ond mae gormod o bobl yn dal i’w chael hi’n anodd dod o hyd i ddeintydd dan y gwasanaeth iechyd mewn rhai rhannau o Gymru. Rwy'n benderfynol o'i wneud yn haws cael mynediad at ddeintyddiaeth y gwasanaeth iechyd, a'r nod yw y bydd pawb sydd eisiau cael eu gweld gan ddeintydd dan y gwasanaeth iechyd yn gallu gwneud hynny.

Wrth wraidd hyn mae'r contract newydd ar gyfer gwasanaethau deintyddol cyffredinol. Mae e'n newid pethau yn sylfaenol. Mae'r model presennol wedi ei seilio ar gyflawni unedau o weithgarwch deintyddol, neu'r treadmill, fel mae'n cael ei alw. Cafodd y model hwn ei gyflwyno bron i 20 mlynedd yn ôl yn 2006. Ers y pandemig, rŷn ni wedi cyflwyno amrywiadau blynyddol i'r contract i ddelio gyda rhai o'r anawsterau yn y contract unedau o weithgarwch deintyddol. Ond heb gontract newydd, allwn ni ddim mynd yn ddigon pell i ddelio gyda’r holl broblemau unedau o weithgarwch deintyddol fel dull mesur.

Yn lle galw pawb yn ôl yn awtomatig bob chwe mis i gael apwyntiad arferol, bydd y contract newydd wedi ei seilio ar atal ac ar ddarparu triniaeth ddeintyddol yn ôl risg ac anghenion. Bydd hefyd yn cynnig tâl gyda chydnabyddiaeth deg a deniadol i'r proffesiwn deintyddol. Bydd hyn yn sicrhau bod deintyddiaeth y gwasanaeth iechyd yn parhau i fod yn ddeniadol.

Nid ar chwarae bach mae gwneud newid sylfaenol fel hwn, a rhaid mynd ati mewn ffordd sy'n cynnwys pawb gyda diddordeb yn y mater.

15:30
15:35
15:40

Os ydym ni i gredu sbin y Llywodraeth yma, ac, yn wir, Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, yna ddeintyddiaeth ydy’r un lle ble mae Cymru yn rhagori o ran darpariaeth iechyd. Mae pawb yma yn cofio’r datganiad a wnaed yng nghynhadledd hydref y Blaid Lafur yn Lerpwl, wrth i Lywodraeth newydd Llafur San Steffan ddweud eu bod nhw am gymryd ysbrydoliaeth o arferion da Llywodraeth Cymru ar ddeintyddiaeth. Ac ers hynny, mae’r Prif Weinidog yma wedi ail-adrodd sawl gwaith bod Cymru o flaen Lloegr pan fo’n dod at ddatgloi apwyntiadau deintyddol y gwasanaeth iechyd yma. Ond pan fo’r BDA yn cyhuddo’r Llywodraeth o beidio â bod yn onest am niferoedd apwyntiadau, gan ddweud bod yna anialwch deintyddol yn lledaenu ar draws Cymru, ac ein bod ni yn clywed am gleifion yn gorfod tynnu eu dannedd eu hunain, yna mae’n amlwg bod yna rywbeth yn bwdr o fewn deintyddiaeth yma yng Nghymru.

15:45
15:50
15:55

Y gwir yw, wrth gwrs, ŷn ni yng ngogledd Cymru, ŷn ni wedi colli saith practis deintyddol sydd wedi cyhoeddi eu bod nhw'n rhoi'r cytundebau NHS yn ôl a'u bod yn symud i'r sector breifat: ym Mwcle, y Fali, Llandudno, Llandrillo-yn-Rhos, Dinbych, Coed-poeth a Bae Colwyn. Mae yna filoedd wedi colli mynediad at wasanaethau deintyddol ar yr NHS. Nawr, ŷch chi'n dweud yn eich datganiad eich bod chi'n gobeithio y bydd y cytundeb newydd yn weithredol o Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen, wel, mae hynny'n 12 mis arall, onid yw e, o bobl efallai yn fotio gyda'u traed, y deintyddion yn cael digon ac yn gadael yr NHS. Ydych chi'n rhagweld, o dan y cytundeb newydd ŷch chi'n gobeithio y bydd yn dod i rym ymhen blwyddyn, y bydd rhai o'r rheini'n dod nôl? Ydych chi wir yn disgwyl, unwaith y byddan nhw wedi mynd i'r sector breifat, y bydd y cytundeb y byddwch chi'n gallu ei gynnig iddyn nhw yn eu denu nhw nôl i'r sector gyhoeddus? Ac a gaf i hefyd ofyn—? Dwi'n ymwybodol o un etholwraig sydd wedi cychwyn gwaith deintyddol ar yr NHS, ond sydd nawr yn mynd i orfod talu'n breifat i orffen y gwaith hwnnw, oherwydd bod y practis wedi mynd i'r sector breifat. Ydych chi'n cytuno â fi fod gwaith deintyddol sydd wedi'i gychwyn ar yr NHS angen ei orffen ar yr un telerau, er tegwch i'r claf?

Wel, dyna beth hoffwn i weld yn digwydd. O ran y rhestr wnaeth yr Aelod ei rhoi o'r practisys sydd wedi rhoi'r contract yn ôl, bydd e hefyd yn gwybod, o ran y gwaith caffael sydd wedi digwydd gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, fod gweithgarwch NHS wedi ymestyn yn Amlwch, yng Nghei Connah—mae syrjeri newydd yng Nghei Connah; mae'r Aelod yn ysgwyd ei ben, ond mae yno. Yn Nolgellau, yng Nghaernarfon, ym Mae Colwyn, mae estyniad wedi bod i waith deintyddiaeth y gwasanaeth iechyd. Felly, mae hwnna'n beth calonogol. Dwi'n siŵr bod yr Aelod yn croesawu'r datblygiadau hynny, oherwydd mae'n dangos, er gwaethaf y cyfyngiadau ar y cytundeb presennol, fod pobl yn awyddus i wneud mwy o waith gwasanaeth iechyd hefyd.

Dwi ddim yn amau'r ffigurau mae'r Aelod yn sôn amdanyn nhw, y colledion hynny, ond mae hefyd galw ymhlith practisys i wneud mwy o waith gwasanaeth iechyd, ac ŷn ni'n gweld hynny'n beth positif, wrth gwrs. Byddwn i yn cytuno y byddem ni eisiau gweld bod y cytundeb newydd yn denu deintyddion sydd wedi symud allan o'r gwasanaeth iechyd nôl i'r ddarpariaeth gyhoeddus honno; dyna sydd wrth wraidd y diwygiadau yw sicrhau bod y cytundeb yn apelgar i'r cyhoedd, ond i'r proffesiwn hefyd.

16:00
5. Datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: y rhaglen trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol plant. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Dawn Bowden.

16:05
16:15

A gaf i ddechrau trwy ddatgan budd? Mae fy ngwraig yn gweithio i elusen yn y sector.

Mae pob un ohonon ni am weld y gorau i’n plant, ac rydyn ni'n gwybod bod gweithwyr cymdeithasol a’r rhai hynny sydd yn gweithio mewn gwasanaethau plant yn gwneud gwaith hanfodol eithriadol o anodd a'u bod hwythau hefyd am weld y gorau i’r plant a phobl ifainc sydd o dan eu gofal, ond mae angen y systemau cywir, yr adnoddau cywir a’r arweiniad cywir i wneud hynny yn effeithiol. Ac fel y saif pethau, dydy’r sylfeini hynny ddim yn ddigon cadarn. Yn y degawd diwethaf, mae nifer y plant mewn gofal wedi cynyddu bron i 30 y cant, ond y tu ôl i’r ystadegau mae plant a phobl ifanc sydd wedi profi trawma a cholled. Maen nhw am weld gweithredu yn y maes yma, nid geiriau ac addewidion yn unig.

Mae felly angen newid radical. Mae pobl â phrofiad gofal wedi bod yn gwbl glir: maen nhw am weld newid. Maen nhw am wybod bod y plant fydd yn dod ar eu holau nhw yn cael profiadau gwell na’r hyn y cawson nhw. Fe wnaeth y Llywodraeth yma addewid iddyn nhw, gan lofnodi y datganiad. Mae’r bobl ifanc yma yn haeddu gweld newid, felly, er gwell, a gweld byw i fyny i’r datganiad, ond eto mae’r camau ymlaen wedi bod yn fychain ac yn araf.

16:20
16:25
16:30
16:35
16:40
6. Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2024-2025

Eitem 6 heddiw yw dadl ar yr ail gyllideb atodol, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig—Mark Drakeford. 

Cynnig NDM8831 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024-25 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'r gyllideb atodol yn cyflwyno cynlluniau gwario terfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol. Mae'r ail gyllideb atodol hon yn rheoleiddio nifer o newidiadau a dyraniadau a gafodd eu gwneud yn ystod 2024-25. Roedd hyn yn bennaf oherwydd y cynnydd sylweddol i gyllideb Llywodraeth Cymru yng nghyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddiwedd mis Hydref.  

Dirprwy Lywydd, nid dim ond bygwth cenedlaethau'r dyfodol mae newid hinsawdd; mae'n effeithio ar y ffordd rydym ni'n byw heddiw. Dyna pam mae'n rhaid i ni newid y ffordd rydym ni'n teithio a dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi camu i mewn eto eleni i helpu awdurdodau lleol i ymateb i stormydd Bert a Darragh. Mae £10 miliwn o gymorth brys wedi ei adlewyrchu yn y penderfyniadau sydd o'ch blaen. 

Er bod yr ail gyllideb atodol yn cynnwys gwariant sylweddol, cam technegol yw hwn yn y bôn. Tu ôl i'r penawdau, mae dyraniadau symiau i mewn ac allan o gronfeydd wrth gefn, diwygio'r addasiad grant bloc, diwygio rhagolwg trethi datganoledig, amcangyfrif atodol Llywodraeth y Deyrnas Unedig a throsglwyddo o fewn a rhwng adrannau. 

Pwrpas yr ail gyllideb atodol yw dod â phenderfyniadau at eu gilydd mewn un lle, fel eu bod yn fwy amlwg ac fel bod modd gweld newidiadau unigol yng nghyd-destun y gwaith mwy eang o reoli'r gyllideb yn ystod y flwyddyn. Ac rwy'n arbennig o ddiolchgar i aelodau'r Pwyllgor Cyllid ac i'r Cadeirydd, Peredur Owen Griffiths, am yr ystyriaeth ofalus sydd y tu ôl i'w hadroddiad nhw. Diolch iddynt hefyd am fod yn barod i drin a thrafod nid yn unig y manylion sylweddol sydd yn y dogfennau, ond hefyd y dadleuon a'r penderfyniadau ehangach sydd y tu ôl i'r elfennau unigol.

Rwy'n gofyn i'r Aelodau nodi casgliad y pwyllgor fod y gyllideb atodol hon yn debyg i gyllidebau atodol blaenorol, gan ei bod yn rheoleiddio gwariant o fewn Llywodraeth Cymru ac yn esbonio lle mae symudiadau wedi digwydd. Mae'r pwyllgor wedi gwneud naw o argymhellion, a dwi'n edrych ymlaen at ymateb iddynt cyn hir. Rwy'n gofyn, Llywydd, i'r Aelodau gefnogi'r cynnig.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

16:45

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid nawr i gyfrannu. Peredur Owen Griffiths.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser cael siarad yn y ddadl yma heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid. Bu’r pwyllgor yn craffu ar yr ail gyllideb atodol ar 6 Mawrth, a hoffwn ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet a’i swyddogion am fod yn bresennol. Mae ein hadroddiad yn gwneud naw o argymhellion ac yn dod i un casgliad.

Mae’r pwynt cyntaf yn un cyffredinol, sef bod y pwyllgor yn croesawu’r cynnydd a welir yn y cyllid yn y gyllideb atodol hon. Serch hynny, rydym wedi nodi meysydd a fyddai’n elwa o ragor o eglurder. Yn benodol, er ein bod yn ddiolchgar i’r Ysgrifennydd Cabinet am egluro sut y mae’n rheoli tanwariant adrannol wrth i ni agosáu at ddiwedd y flwyddyn ariannol, gofynnwn iddo rannu manylion am y mecanweithiau a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru wrth benderfynu sut y caiff tanwariant o’r fath ei ddyrannu. Rydym hefyd o’r farn y dylid ystyried gwneud dyraniadau ychwanegol i gyrff sydd â’r gallu i ddwyn cyllid ymlaen i 2025-26, a hynny er mwyn helpu gyda phwysau ariannu, megis awdurdodau lleol. Gofynnwn i’r Ysgrifennydd Cabinet ymateb i’r awgrym hwn.

Yn olaf, mae’r pwyllgor yn croesawu’r manylion a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet ynghylch adolygiadau o wariant y Deyrnas Unedig a Chymru, a’r ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn cael cyfleoedd i lywio hynt ymarfer y Deyrnas Unedig cyn i'r adolygiad gael ei gyhoeddi ar 11 Mehefin. Roeddem hefyd yn falch bod y berthynas rhwng y Trysorlys a Llywodraeth Cymru wedi gwella, ac yn croesawu'n benodol y ffaith bod camau'n cael eu cymryd i sefydlu llyfr rheolau i godeiddio'r broses o rannu gwybodaeth rhwng Llywodraethau. Fel pwyllgor, rydym wedi galw am hyn ers tro, ac rydym yn falch o weld cynnydd yn cael ei wneud. Fodd bynnag, rydym yn galw am ddiweddariad ar y trafodaethau hyn, gan gynnwys manylion yr hyn a gaiff ei godeiddio.

Fel bob amser, rydym yn croesawu ymgysylltiad parhaus y Gweinidog â ni fel rhan o’n gwaith craffu parhaus ar gyllideb Llywodraeth Cymru, a gofynnwn fod gwaith ar y meysydd yr ydym wedi’u nodi yn ein hadroddiad yn cael ei ddatblygu.

16:50

A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am roi diweddariad yn gynharach heddiw hefyd? Mae'n dda ein bod ni wedi bod yn cael cyfarfodydd rheolaidd er mwyn deall yr arian ychwanegol hwn. Yn amlwg, pan gawson ni drafodaeth, rai misoedd yn ôl erbyn hyn, ynglŷn â'r gyllideb ddrafft atodol gyntaf, mi wnaeth Plaid Cymru, wrth gwrs, groesawu'r buddsoddiad o ran cyflogau sector cyhoeddus. Mi oedden ni'n gwybod bod hynny'n gyfan gwbl angenrheidiol, ac mae o’n hollbwysig, wrth gwrs, ein bod ni'n gallu parhau i fuddsoddi o ran tâl cyhoeddus. Mi fyddwch chi'n gwybod bod hi'n anodd edrych ar y gyllideb atodol hon heb, wrth gwrs, edrych ar beth fydd yn digwydd nesaf. A thra bod yna bethau, wrth gwrs, i'w croesawu o ran tâl cyhoeddus, byddwch chi yn gwybod, wrth gwrs, fod yna bryderon o ran beth fydd yn bosib yn y blynyddoedd i ddod, yn enwedig o ystyried y sefyllfa o ran yswiriant gwladol.

16:55
17:00

Yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid nawr i ymateb i'r ddadl. Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch i bob un sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Diolch yn enwedig i Gadeirydd y pwyllgor. Dwi'n cytuno, wrth gwrs. Bob tro, rŷn ni'n edrych am ffyrdd i symleiddio pethau sy'n gymhleth, sy'n dechnegol, a ble mae lot o bethau yn symud, yn enwedig pan rŷn ni'n dod at ddiwedd y flwyddyn ariannol.

17:10

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebu.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, gwnawn ni adael y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2023-24

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Paul Davies, a gwelliant 3 yn enw Heledd Fychan.

Eitem 7 sydd nesaf. Dadl ar adroddiad blynyddol Estyn 2023-24 yw hon. Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg i wneud y cynnig. Lynne Neagle.

Cynnig NDM8856 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol 2023-24 gan Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Fawrhydi yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Chwefror 2025.

2. Yn nodi bod gan sectorau addysg a hyfforddiant Cymru gryfderau sylweddol ond bod yna feysydd sydd yn parhau i fod angen gwelliant.

Cynigiwyd y cynnig.

17:20

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Tom Giffard, yn gyntaf, i gynnig gwelliannau 1 a 2.

Gwelliant 1—Paul Davies

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod Adroddiad Blynyddol Estyn ar gyfer 2024-25 wedi tynnu sylw at faterion yn ymwneud â phresenoldeb is, ymddygiad gwael disgyblion a heriau o ran recriwtio staff, sy'n cael effaith negyddol ar addysg yng Nghymru.

Gwelliant 2—Paul Davies

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu mai canlyniadau PISA diweddaraf Cymru ar gyfer mathemateg, darllen ac ysgrifennu yw'r rhai isaf yn y Deyrnas Unedig.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

17:25

Gwelliant 3—Heledd Fychan

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod yr Adroddiad Blynyddol yn nodi:

a) ar y gyfradd wella bresennol, byddai’n cymryd dros 10 mlynedd i bresenoldeb uwchradd wella i’r lefelau cyn y pandemig;

b) bod recriwtio athrawon i bynciau sydd â phrinder neu’n medru darparu drwy gyfrwng y Gymraeg, yn parhau i beri pryder arbennig; ac

c) mewn gormod o achosion, nid yw ansawdd addysgu ac asesu’n ddigon da.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a dwi'n hapus i gynnig y gwelliant yna. Ar yr un pwynt, mae'n braf cael cyfle i drafod adroddiad Estyn y prynhawn yma. Gaf i ddiolch, yn yr un ffordd ag y mae eraill wedi gwneud, i'r prif arolygydd a staff Estyn am eu gwaith caled yn paratoi'r adroddiad yma, ac i athrawon a staff yn ein hysgolion ar draws Cymru hefyd am y gwaith aruthrol maen nhw'n ei wneud o ddydd i ddydd er lles plant a phobl ifanc Cymru?

Nawr, mae Plaid Cymru yn cydnabod y cyd-destun heriol mae ysgolion wedi'i wynebu dros y cyfnod diwethaf, gyda'r sialensiau o weithredu newidiadau a diwygiadau i'r system addysg tra bod cyllidebau ysgolion yn crebachu ar yr un pryd. Er gwaethaf yr holl waith caled mae nifer o athrawon a disgyblion yn ei wneud, mae'r heriau yn parhau, fel rŷn ni wedi clywed eisoes, ac mae hynny o ganlyniad i ddiffyg gweithredu pwrpasol gan y Llywodraeth Lafur hon. Dyna pam mae ein gwelliant ni yn debyg i welliant y Ceidwadwyr, ac yn tynnu sylw yn benodol at yr heriau hyn.

Gaf i ddechrau â rhai pwyntiau allan o adroddiad Estyn? Presenoldeb: rŷn ni wedi clywed yn barod fod lefelau presenoldeb mewn ysgolion ers y pandemig wedi syrthio. Mae adroddiad Estyn yn dweud hyn:

'Ar y gyfradd wella bresennol, byddai’n cymryd dros 10 mlynedd i bresenoldeb uwchradd wella i’r lefelau cyn y pandemig.'

Mae data diweddaraf y Llywodraeth yn dangos bod y gyfradd presenoldeb yn 2023-4 yn 90.5 y cant. Roedd hwnna'n bedwar pwynt canran i lawr ar bum mlynedd yn ôl. Ac i'r rhai sydd yn derbyn prydau ysgol am ddim, y gyfradd yw 84.8 y cant. Mae hynny yn ostyngiad o dros chwe phwynt mewn pum mlynedd. 

Rŷn ni'n gwybod pa mor bwysig yw presenoldeb mewn ysgolion er mwyn sicrhau bod disgyblion yn cael mynediad llawn at y cwricwlwm a chael cyfle hefyd i wella eu sgiliau a'u gwybodaeth, sydd yn sail ac yn sylfaen bwysig ar gyfer eu bywydau yn y dyfodol, yn broffesiynol a hefyd yn bersonol. Allwn ni ddim caniatàu i'r genhedlaeth nesaf yn enwedig, a'r rhai mwyaf difreintiedig yn arbennig, aros mor hir â degawd nes gweld gwelliannau. Felly, a gaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet a ydy hi'n gallu rhoi sicrwydd i ni fod pethau yn mynd i wella ynghynt na'r 10 mlynedd y mae Estyn yn ei nodi o ran lefelau presenoldeb yn ein hysgolion, yn arbennig ysgolion uwchradd? 

Y pwynt nesaf o ran recriwtio athrawon—mae'r adroddiad hefyd yn nodi nifer o bethau sy'n peri pryder, ac, dwi'n dyfynnu, 

'mae recriwtio athrawon cymwys priodol yn parhau i fod yn risg i’r system addysg.'

Mae'r adroddiad yn mynd ymlaen i ddweud bod yr heriau recriwtio yn fwy amlwg ar gyfer addysg ysgol uwchradd, yn arbennig mewn pynciau fel mathemateg a gwyddoniaeth. Ond, o bryder i ni i gyd, mae'r diffyg athrawon cymwys sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn broblem benodol, ac yn bryder mawr wrth i ni weld taith Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) drwy'r Senedd yma, sydd yn gosod nodau uchelgeisiol iawn o ran datblygu sgiliau dwyieithog ein plant ni ar gyfer y dyfodol, a hefyd y nod, wrth gwrs, o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Mae diffyg recriwtio athrawon i mewn i hyfforddiant athrawon hefyd yn broblem. 

Felly, wrth ystyried hyn i gyd, beth rŷn ni'n gweld yn digwydd yn rhy aml yw bod athrawon sydd ddim yn athrawon mewn pwnc penodol yn gorfod dysgu'r pwnc hwnnw oherwydd does yna ddim athrawon arbenigol yn yr ysgol. A does dim rhyfedd wedyn bod adroddiad Estyn yn dweud hyn:

'Mewn gormod o achosion, nid yw ansawdd addysgu ac asesu’n ddigon uchel.'

Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu y dylid ailedrych ar y cymhelliant sydd yn cael ei roi i ddenu athrawon i mewn i'r proffesiwn, ac i ddenu pobl ifanc yn arbennig i mewn i gael eu hyfforddi i fod yn athrawon. Mae hyn yn rhywbeth mae arbenigwyr o Brifysgol Met Caerdydd wedi ei nodi yn ddiweddar. Felly, dwi am ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet: a ydy'r ddwy ffrwd waith y mae hi wedi cyfeirio atynt sawl gwaith yn y Senedd yma yn mynd i gael eu gweithredu, sef yr ymchwil ar y system cymhelliant sy'n mynd i gael ei gyhoeddi cyn diwedd y tymor yma, ac a fyddwn ni'n gweld ffrwyth gwaith y cynllun strategol yn ei gyfanrwydd cyn yr etholiad nesaf? 

Jest i gloi, Llywydd, un pwynt bach am safonau. Rŷm ni wedi clywed yn barod am y safonau gwaethaf yn hanes Cymru. A ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu rhoi sicrwydd i ni fod cynlluniau yn eu lle i sicrhau cynnydd mewn safonau dros y blynyddoedd nesaf? Diolch yn fawr. 

17:30
17:35
17:40
17:45

Dwi’n croesawu'r cyfle i ni gael trafodaeth ar yr adroddiad pwysig hwn heddiw. Hoffwn innau ategu fy niolch i Estyn a hefyd, wrth gwrs, i'n holl ddarparwyr addysg ni. Dwi'n gwybod bod yna ganolbwyntio wedi bod heddiw ar ysgolion, ac, wrth gwrs, mae honno'n un elfen, ond yn amlwg mae hwn yn adroddiad sy'n edrych ar addysg yn ei chyfanrwydd gydol oes, ac mae yna sylwadau pwysig iawn, dwi'n meddwl, y mae angen i ni adlewyrchu arnyn nhw o ran hynny hefyd.

Mi oeddwn i eisiau gofyn yn benodol, Ysgrifennydd Cabinet, o ran y sylwadau o ran y Gymraeg. Yn amlwg, mae hwn yn ffocws pendant o ran yr adroddiad hwn. Wrth gwrs, mae yna rai astudiaethau achos sydd yn wych i'w gweld, yn ysbrydoledig, ond mae yna bryderon amlwg y mae sylw wedi'i dynnu atyn nhw yn yr adroddiad hwn—yr anghysondeb, yn arbennig, felly, o ran ysgolion sydd ddim yn rhai cyfrwng Cymraeg. Byddwn i'n hoffi gwybod beth ydy rhai o'r camau rydych chi wedi eu cymryd yn sgil rhai o'r pethau hyn. Yn amlwg, mae gennym ni Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), ond mae yna bryderon mawr yn dod drwodd mewn rhai meysydd fan hyn.

Dwi'n gwybod fy hun o waith achos yn fy rhanbarth i, mewn rhai ysgolion cyfrwng Saesneg nad ydyn nhw'n rhedeg lefel A yn y Gymraeg, er bod yna ddysgwyr eisiau gwneud lefel A yn y Gymraeg. Felly, sut ydym ni'n sicrhau bod y ddarpariaeth honno ar gael? Dwi hefyd yn gwybod am rai ysgolion cyfrwng Cymraeg, lle mae'r niferoedd sydd eisiau cymryd lefel A yn y Gymraeg wedi bod yn isel, lle mae yna anogaeth wedi bod iddyn nhw beidio â rhedeg y cwrs hwnnw. Dwi'n meddwl bod hynny yn gyfan gwbl annerbyniol. Rydyn ni'n gwybod, o ran sicrhau parhad, o ran y rheini efo’r Gymraeg, o ran recriwtio athrawon yn y dyfodol, pa mor bwysig ydy lefel A Cymraeg fel pwnc. Felly, byddwn i'n hoffi cael rhai adlewyrchiadau gan y Llywodraeth ar hynny.

Un o'r elfennau eraill oedd yn tynnu sylw oedd, os caf i ddyfynnu'r adroddiad fan hyn:

'Yn aml, roedd cysylltiad disgyblion â hanes a diwylliant Cymru wedi’i gyfyngu i ddigwyddiadau cul, fel eisteddfod yr ysgol.'

Dwi'n meddwl, unwaith eto, rydyn ni'n dod yn ôl i'r anghysondeb hwnnw o ran profiadau. Felly, mi ydw eisiau gofyn, o ran rhai o'r pethau sydd wedi bod yn digwydd, o ran dysgu hanes yn ein hysgolion ni: sut ydyn ni'n sicrhau bod y profiad hwnnw’n gyson i bawb?

Byddwn i'n hoffi tynnu sylw at un llwyddiant o ran y Gymraeg, sef y sector Cymraeg i oedolion, lle mae'r adroddiad yn tynnu sylw bod y sector hwn yn dangos cryfder sylweddol unwaith eto. Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol yn cael canmoliaeth hefyd, a'r bartneriaeth efo Llywodraeth Cymru, felly mae'n bwysig tynnu sylw at hynny.

Dwi'n meddwl, o ran ein carchardai ni, fod yr anghysondeb yn parhau o ran profiadau addysgu. Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig ydy hynny. Felly, efallai rhai o'r sylwadau byddwn i'n gofyn i chi adlewyrchu arnyn nhw, y tu hwnt i ysgolion: sut ydyn ni'n sicrhau bod y profiadau hynny yn gyson? Sut ydyn ni'n sicrhau bod y profiadau hynny hefyd ar gael yn y Gymraeg? A sut ydyn ni'n parhau efo'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud o ran y sector Cymraeg i oedolion, ond ein bod ni'n sicrhau ein bod ni ddim yn methu ein pobl ifanc ni yn y maes hwn? Dydyn ni ddim eisiau iddyn nhw aros tan eu bod nhw'n oedolion i gael y cyfleoedd i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus, felly cysondeb mwy na dim.

Gaf i hefyd adlewyrchu o ran rhai o'r sylwadau ar anghenion dysgu ychwanegol? Mae hynny hefyd yn dod drosodd yn yr adroddiad hwn. Dwi'n gwybod bod yna fuddsoddi wedi ei wneud, ond yr un peth fyddwn i'n meddwl byddem ni i gyd eisiau ei weld fyddai bod yr astudiaethau achos arbennig yma ddim yn rhai sy'n haeddu cael sylw wedi'i dynnu atyn nhw, gan fod y profiadau yma yn gyson ledled Cymru. Ddylai fo ddim fod yn loteri cod post o ran eich hawl chi i gael y math o addysg sydd yn gadael ichi allu cyflawni'r hyn rydych chi'n gallu ei gyflawni i'r gorau y gallwch. Mae'r un peth yn wir, wrth gwrs, o ran y Gymraeg. Felly, gaf i ofyn o ran yr heriau sydd fan hyn, sut ydyn ni am sicrhau'r arferion da hyn, bod athrawon ledled Cymru yn cael y cyfle i fynd ati i roi'r math yma o astudiaethau achos ar waith yn eu hysgolion nhw, a chael yr amser hefyd o ran dyblygu rhai o'r pethau rydyn ni wedi eu gweld sydd yn gweithio'n dda?

17:50
17:55
18:00
18:05
18:10

Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i welliant 1. Felly, mi wnawn ni ohirio'r holl bleidleisiau o dan yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio ac, oni bai bod tri Aelod yn gofyn i fi ganu'r gloch, mi wnawn ni symud yn syth i'r bleidlais gyntaf, ac mae'r bleidlais honno ar eitem 6, y ddadl ar yr ail gyllideb atodol 2024-25. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, 23 yn ymatal a neb yn erbyn. Felly, mae'r gyllideb yna wedi ei chymeradwyo.

18:15

Eitem 6. Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2024-2025: O blaid: 24, Yn erbyn: 0, Ymatal: 23

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 7 sydd nesaf, y ddadl ar adroddiad blynyddol Estyn 2023-24. Mae'r bleidlais gyntaf ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2023-24. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Paul Davies: O blaid: 22, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2 sydd nesaf, a gyflwynwyd eto yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2023-24. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Paul Davies: O blaid: 22, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 3 sydd nesaf, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2023-24. Gwelliant 3, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 23, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Mae'r bleidlais olaf ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 47, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei dderbyn. 

Eitem 7. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2023-24. Cynnig: O blaid: 47, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Dyna ni. Dyna ddiwedd ar y pleidleisio a diwedd ar ein gwaith ni am heno. Diolch yn fawr.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:18.