Y Cyfarfod Llawn
Plenary
29/01/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
In the bilingual version, the left-hand column includes the language used during the meeting. The right-hand column includes a translation of those speeches.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
The Senedd met in the Chamber and by video-conference at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg fydd gyntaf heddiw, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sam Rowlands.
Good afternoon and welcome to this Plenary meeting. The first item today is questions to the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language, and the first question is from Sam Rowlands.
1. Beth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei wneud i gefnogi'r cyfryngau Cymraeg? OQ62201
1. What is the Cabinet Secretary doing to support Welsh-language media? OQ62201

Diolch i'r Aelod, Llywydd, am y cwestiwn. Mae'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Cymru Greadigol ac S4C yn un enghraifft ymarferol yn unig o'r cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i gyfryngau Cymraeg. Mae’r canlyniad yn cynnwys hyrwyddo'r iaith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
I thank the Member, Llywydd, for the question. The memorandum of understanding between Creative Wales and S4C is just one practical example of the support that the Welsh Government provides to Welsh language media. The result has been the promotion of the language nationally and internationally.
Diolch yn fawr, Cabinet Secretary. You'll be aware that Global are closing their studio in Wrexham, including the Capital Cymru station, which will mean 12 jobs are lost at the site. Global, of course, will have their commercial reasons for this decision, but that will mean less Welsh language broadcasting, which, of course, is a blow for Welsh speakers and learners alike. So, Cabinet Secretary, what do you think the Welsh Government could do to make the media landscape in Wales more attractive for operators of Welsh-medium radio and television, not necessarily direct intervention or direct support, but making that landscape more attractive for them, both on a commercial and, perhaps, at times, on a non-commercial basis? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Global yn cau eu stiwdio yn Wrecsam, gan gynnwys gorsaf Capital Cymru, a fydd yn golygu colli 12 o swyddi ar y safle. Bydd gan Global eu rhesymau masnachol dros y penderfyniad hwn, ond bydd hynny’n golygu llai o ddarlledu yn y Gymraeg, sy'n ergyd i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr fel ei gilydd. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, beth y credwch chi y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i wneud y dirwedd gyfryngol yng Nghymru yn fwy deniadol i weithredwyr radio a theledu cyfrwng Cymraeg, nid o reidrwydd drwy ymyrraeth uniongyrchol neu gymorth uniongyrchol, ond gwneud y dirwedd honno'n fwy deniadol iddynt, ar sail fasnachol, ac efallai ar adegau, ar sail anfasnachol? Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Sam Rowlands am y cwestiwn ychwanegol.
I thank Sam Rowlands for the supplementary question.
I, too, regret the decision that has been made by commercial radio broadcasters to withdraw from the provision of local content, including content through the medium of the Welsh language. Their ability to do that was created in the 2024 Media Act, which removed the obligations that were previously there to provide such content, and removed the role of the regulator, Ofcom, in overseeing any changes to the plans that those companies had submitted prior to winning licences. So, it is very much a matter of regret. The companies will say, as Sam Rowlands said, that it's a reflection of the rapidly changing nature of broadcasting, where fewer people are listening to conventional radio, and more people are getting their information and their entertainment from a wider range of outlets.
I think it probably is important to put it in the wider context of the success of Welsh language media in Wales—and it's been a very strong success as well—with Welsh language content heard on Netflix, where S4C has successfully sold series for which they've been responsible for broadcast in the Welsh language in America, in Canada, in Japan, in parts of Europe. And the memorandum of understanding to which I referred has been a really important part of that, between Creative Wales and S4C. At a much more local level, the Government has invested in hyperlocal media, following advice from Senedd committees, and through my budget, in my Welsh language responsibilities, we continue to provide and, indeed, to extend next year, I hope, support for papurau bro, which means that there is Welsh language content available through people's doors in those parts of Wales where Welsh is most often spoken. So, while I regret and regard as a backward step the decisions that have been made to which Sam Rowlands referred, I also think that there is very strong and successful activity in this area, which the Welsh Government continues to support.
Rwyf innau'n gresynu at y penderfyniad a wnaed gan ddarlledwyr radio masnachol i roi'r gorau i ddarparu cynnwys lleol, gan gynnwys darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Crëwyd eu gallu i wneud hynny yn Neddf y Cyfryngau 2024, a gafodd wared ar y rhwymedigaethau blaenorol i ddarparu cynnwys o’r fath, a chafodd wared ar rôl y rheoleiddiwr Ofcom i oruchwylio unrhyw newidiadau i’r cynlluniau yr oedd y cwmnïau hynny wedi’u cyflwyno cyn ennill eu trwyddedau. Felly, mae’n sicr yn destun gofid. Bydd y cwmnïau’n dweud, fel y dywedodd Sam Rowlands, fod y penderfyniad yn adlewyrchiad o natur newidiol darlledu, lle mae llai o bobl yn gwrando ar radio confensiynol, a mwy o bobl yn cael eu gwybodaeth a’u hadloniant o ystod ehangach o ffynonellau.
Rwy'n credu ei bod hi, mae'n debyg, yn bwysig ystyried hyn yng nghyd-destun ehangach llwyddiant cyfryngau Cymraeg yng Nghymru—ac mae wedi bod yn llwyddiant cryf iawn hefyd—gyda chynnwys Cymraeg i’w glywed ar Netflix, lle mae S4C wedi llwyddo i werthu cyfresi y buont yn gyfrifol am eu darlledu yn y Gymraeg yn America, yng Nghanada, yn Japan, mewn rhannau o Ewrop. Ac mae’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth y cyfeiriais ato wedi bod yn rhan wirioneddol bwysig o hynny, rhwng Cymru Greadigol ac S4C. Ar lefel lawer mwy lleol, mae’r Llywodraeth wedi buddsoddi mewn cyfryngau hyperleol, yn dilyn cyngor gan bwyllgorau’r Senedd, a thrwy fy nghyllideb, yn fy nghyfrifoldebau'n ymwneud â'r Gymraeg, rydym yn parhau i ddarparu, ac yn ymestyn yn wir, cymorth i bapurau bro y flwyddyn nesaf, rwy'n gobeithio, sy’n golygu y bydd cynnwys Cymraeg ar gael drwy ddrysau pobl yn y rhannau o Gymru lle siaredir y Gymraeg amlaf. Felly, er fy mod yn gresynu at y penderfyniadau y cyfeiriodd Sam Rowlands atynt ac yn eu hystyried yn gam yn ôl, credaf hefyd fod gweithgarwch cryf a llwyddiannus iawn i'w gael yn y maes hwn, gweithgarwch y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i’w gefnogi.
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar bwysigrwydd amlygrwydd y Gymraeg ar y cyfryngau torfol i'r ymdrech i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? OQ62196
2. Will the Cabinet Secretary make a statement on the importance of the Welsh language being prominent in the mass media to the effort to have a million Welsh speakers by 2050? OQ62196
Diolch i Llyr Gruffydd, Llywydd. Mae’r cyfryngau yn rhan fawr o strategaeth 'Cymraeg 2050' ac mae gan ddarlledu rôl bwysig i sicrhau bod y Gymraeg yn weledol er mwyn ein helpu i gyrraedd ein gweledigaeth. Mae’n hanfodol ein bod ni’n gwarchod a datblygu’r Gymraeg yn y maes darlledu a’r cyfryngau.
I thank Llyr Gruffydd, Llywydd. The media is a big part of the 'Cymraeg 2050' strategy and broadcasting has an important role in ensuring the Welsh language is visible in order to help us achieve our vision. It’s vital that we protect and develop the language in broadcasting and the media.
Rŷch chi'n iawn—mae hi yn bwysig ein bod ni'n datblygu'r Gymraeg yn y cyd-destun yna. Ond, fel y cyfeirioch chi'n gynharach, mae'r Ddeddf Cyfryngau newydd, sydd wedi dod i rym drwy Lywodraeth San Steffan, wedi tanseilio'r ymdrech yna, oherwydd, yn flaenorol, roedd yn rhaid i orsafoedd radio masnachol, o dan reolau Ofcom, ddarparu cynnwys a oedd yn adlewyrchu natur ddiwylliannol yr ardaloedd a oedd yn derbyn y gwasanaeth. Roedd hynny, felly, yn asgwrn cefn i ddarlledu cyfrwng Cymraeg, yn enwedig mewn ardaloedd fel y gogledd-orllewin. A nawr rŷn ni'n gweld bod Global radio yn rhoi diwedd ar wasanaeth Capital Cymru. Mi fydd yr orsaf hynny'n diflannu ac felly'n rhoi diwedd ar ddarlledu masnachol yn yr iaith Gymraeg yng Nghymru, ac mae hynny, wrth gwrs, yn mynd i danseilio'r ymdrech i gyrraedd miliwn o siaradwyr.
Rŷch chi wedi rhestru sawl enghraifft o'r hyn sydd angen digwydd, ond a fyddech chi'n cytuno â fi mai'r ffordd orau nawr inni adfer y sefyllfa yn y cyd-destun penodol yna, o ran y Ddeddf Cyfryngau newydd, yw datganoli darlledu yn llawn i Gymru fel ein bod ni'n gallu gwarchod yr elfennau hynny yng nghyd-destun deddfwriaethol Cymreig?
You're right—it is important that we develop the Welsh language in that context. But, as you mentioned earlier, the new Media Act, which came into force through the Westminster Government, has undermined those efforts, because, previously, commercial radio stations, under Ofcom rules, had to provide content that reflected the cultural nature of the area receiving that service. That was, therefore, the backbone of Welsh-medium broadcasting, particularly in areas such as the north-west of Wales. And now we see that Global radio is bringing the Capital Cymru service to an end. That station will disappear and, therefore, put an end to Welsh language commercial broadcasting in Wales, and that, of course, will undermine the efforts to reach a million speakers.
Now, you have listed a number of examples of what needs to happen, but would you agree with me that the best way now for us to restore the situation in this specific context, in terms of the new Media Act, is to devolve broadcasting fully to Wales so that we can safeguard those elements in the Welsh legislative context?
Wel, diolch yn fawr i Llyr Gruffydd am y cwestiwn ychwanegol. Llywydd, rydym yn hynod siomedig am benderfyniad Global i ddod â rhaglenni Cymraeg Capital Cymru i ben. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yn llwyr ba mor hanfodol yw rhaglenni Cymraeg ar y radio i gynnal y Gymraeg wrth annog dysgwyr newydd, a'u pwysigrwydd i gynulleidfaoedd ledled Cymru. Pan oedd y Bil yn mynd trwy San Steffan, roedd pwyllgorau fan hyn a'r Llywodraeth—Dawn Bowden ar y pryd—wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet yn San Steffan i dynnu sylw yn benodol at y risg yr oedd y Bil yn ei chodi i ddarlledu ar y radio yn y maes lle rŷn ni newydd weld problemau'n codi.
Wrth gwrs, dwi'n ymwybodol o beth sydd yn rhaglen y Llywodraeth ar ddatganoli yn y maes yma. Dwi'n ymwybodol o beth oedd yn y cytundeb rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru ar y pryd, a chlywais i beth ddywedodd Jack Sargeant ar lawr y Senedd yr wythnos diwethaf. Mae'n dal i dynnu gwybodaeth at ei gilydd, yn edrych ar y dystiolaeth, ac, fel y dywedodd e, mae'n agored i nifer o'r llwybrau at y dyfodol ble allwn ni warchod pethau yma yng Nghymru yn well nag y byddem ni o dan y Ddeddf sydd newydd gael ei basio yn San Steffan.
I thank Llyr Gruffydd for that supplementary question, Llywydd. We're very disappointed about the decision by Global to bring Capital Cymru's Welsh programming to an end. The Welsh Government recognises fully how essential Welsh programmes on the radio are to maintain the Welsh language by encouraging new learners, and their importance to audiences across Wales. When the Bill was going through Westminster, committees here and the Government—Dawn Bowden at the time—wrote to the Cabinet Secretary in Westminster to draw specific attention to the risk that the Bill posed to radio broadcasting in the area where we have just seen problems arise.
Of course, I'm aware of what is in the programme for government in terms of devolution in this area. I'm aware of what was in the agreement between the Government and Plaid Cymru at the time, and I did hear what Jack Sargeant said on the floor of the Senedd last week. He is still gathering information, looking at the evidence, and, as he said, he is open to a number of pathways to the future where we could better protect these things here in Wales than we could under the Act that has just been passed in Westminster.
Mae adroddiadau na fydd pencampwriaeth y chwe gwlad yn cael ei ddangos ar deledu am ddim o flwyddyn nesaf yn peri pryder. Rydym, ar yr ochr yma o'r Siambr, wedi bod yn glir y dylai'r chwe gwlad barhau i fod yn gystadleuaeth warchodedig gan aros ar deledu am ddim oherwydd ei phwysigrwydd i'n diwylliant, i'n hiaith a hefyd i'r uchelgais ar gyfer miliwn o siaradwyr erbyn 2050.
Un o bleserau mwyaf y chwe gwlad yw ei gallu i ddod â phobl at ei gilydd. O ystyried y pwysau sy'n wynebu'r sector tafarndai yng Nghymru, efallai bydd leinin arian bach, bach iawn i'r newyddion hyn. Mae nifer y tanysgrifiadau sydd eu hangen ar dafarndai i ddangos chwaraeon byw yn syfrdanol, ac mae'r gost yn uchel. Os yw'r chwe gwlad wir yn symud i ffwrdd o deledu rhad ac am ddim, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried beth all ei wneud i leddfu'r baich ariannol ar dafarndai yng Nghymru sydd yn dangos y gemau? Bydd cefnogaeth yn helpu tuag at uchelgais miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Diolch.
Reports that the six nations championship will not be shown on free-to-air television from next year are a cause of concern. On this side of the Chamber, we have been clear that the six nations should continue to be a protected event, staying on free-to-air television because of its importance to our culture, our language and also to the ambition for a million Welsh speakers by 2050.
One of the greatest pleasures of the six nations is its ability to bring people together. Given the pressures facing the pub sector in Wales, perhaps there might be a very, very small silver lining to this news. The number of subscriptions needed by pubs to show live sport is staggering, and the costs are high. If the six nations truly is to move away from free-to-air television, will the Welsh Government consider what it can do to mitigate the financial burden on pubs in Wales that do show these games? Support would help towards the ambition of a million Welsh speakers by 2050. Thank you.
Wel, diolch i Sam am y cwestiwn, Llywydd. Ond y peth cyntaf inni yw gwarchod y sefyllfa sydd gyda ni yn bresennol, ble mae pobl yn gallu gweld y gemau ar y teledu. Y broblem yw pan fyddwn ni'n agor popeth i’r farchnad ac yn meddwl mai'r farchnad yw’r ffordd orau o ddarparu gwasanaethau i bobl. Gallwn ni weld nad yw hwnna'n wir yn y meysydd sydd mor bwysig i bobl yng Nghymru. A pholisi'r Llywodraeth yw gwarchod y system bresennol, a dyna beth fydd y gwaith rŷn ni'n mynd i'w wneud. A, Llywydd, dwi'n meddwl eich bod chi wedi cytuno i gael cwestiwn penodol ar y pwnc yma yn ddiweddarach y prynhawn yma, a bydd y Gweinidog yn gallu, rwy'n siŵr, ymateb i'r pwyntiau y mae Sam Kurtz wedi'u codi.
I thank Sam for the question, Llywydd. But the first thing for us is to protect the situation that we have at present, where people can view the games on tv. The problem is when we open things up to the market and think that the market is the best way to provide services for people. We can see that that is not true in the areas that are very important to the people of Wales. And the policy of the Government is to protect the current system, and that's what the work that we're doing will focus on. And, Llywydd, I think you've agreed to have a specific question on this subject later this afternoon, and the Minister will be able to, I'm sure, respond to the points that Sam Kurtz has raised.
Ro'n i'n ymweld ag Ysgol Glan y Môr yn ddiweddar, ac fe wnes i siarad gydag un siaradwr Cymraeg newydd—disgybl yna—a ddywedodd mai'r hyn a fyddai yn ei annog fo i siarad mwy o Gymraeg buasai cael chwarae EA Sports FIFA trwy gyfrwng y Gymraeg. Fe wnes i gysylltu efo EA Sports, a dyma nhw'n ateb, yn dweud:
I visited Ysgol Glan y Môr recently, and I spoke to one new Welsh speaker—a pupil there—who said that what would encourage him to speak more Welsh would be to play EA Sports FIFA through the medium of Welsh. Now, I contacted EA Sports, and they responded by saying:
'Unfortunately, it will not be possible for us to include the Welsh language in EA Sports FC 24. Although we publish the game in 85 countries, EA Sports FC 24 is translated into 19 languages’—
'Yn anffodus, ni fydd yn bosibl inni gynnwys y Gymraeg yn EA Sports FC 24. Er ein bod yn cyhoeddi’r gêm mewn 85 o wledydd, mae EA Sports FC 24 wedi’i chyfieithu i 19 iaith.'—
—gan ychwanegu y byddai’n cymryd dwy flynedd iddyn nhw baratoi rhaglen cyfrwng Cymraeg. Roedd yna griw o blant o ysgolion ym mhen draw Llŷn yma ddydd Mawrth, a dyma nhw’n dweud y bydden nhw’n awyddus i weld Roblox, Fortnite a Minecraft drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, mae yna ddigon o bethau, drwy’r cyfryngau newydd yma, y gallwn ni eu hyrwyddo. A wnewch chi ymuno gyda fi i roi pwysau ar y cyrff yma—FIFA, EA Sports, Fortnite a Roblox—a trio cael o leiaf un ohonyn nhw i ddarparu eu gêm drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer plant sydd eisiau hynny?
—adding that it would take two years for them to prepare a Welsh-medium version. There was a group of children from schools at the far end of the Llŷn peninsula here on Tuesday, and they said that they would be keen to see Roblox, Fortnite and Minecraft available through the medium of Welsh. So, there are plenty of things, through this new media, that we could promote. Would you join with me in putting pressure on these organisations—FIFA, EA Sports, Fortnite and Roblox—and try to get at least one of them to provide their game through the medium of Welsh for children who want to use those services?
Wrth gwrs, Llywydd, dwi’n hapus i godi’r pwyntiau y mae’r Aelod wedi’u gwneud. Mae cael pethau yn y maes chwarae ar gael i bobl trwy gyfrwng y Gymraeg yn hollol bwysig i bobl. Fel roedd Mabon ap Gwynfor yn dweud, pan fydd y sector yn newid mor gyflym, mae’n bwysig i bobl ifanc gael y pethau y maen nhw’n eu mwynhau ac sydd ar gael iddyn nhw’n Saesneg ar gael yn y Gymraeg hefyd.
Of course, Llywydd, I'm content to raise the points that have been raised by the Member. Having gaming available through the medium of Welsh is vital for people. As Mabon ap Gwynfor said, when the sector is changing so quickly, it's important for young people to have the things that they enjoy and which are available to them in English available in Welsh as well.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands.
Questions now from the party spokespeople. The Conservative spokesperson, Sam Rowlands.
Diolch, Llywydd. Cabinet Secretary, as the person holding the levers around taxation here in Wales, do you think we’ll ever see people pay less tax under a Welsh Labour Government?
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fel yr unigolyn sy'n gyfrifol am yr ysgogiadau mewn perthynas â threthiant yma yng Nghymru, a ydych chi'n credu y gwelwn ni byth bobl yn talu llai o dreth o dan Lywodraeth Lafur Cymru?
Well, Llywydd, there are examples in the current very limited tools that we have in Wales where people in Wales do pay less tax than they do elsewhere in the United Kingdom. People in Wales pay less income tax than they would were they to live in Scotland. They pay less in land transaction tax than they would if they were living in England. So, there are examples already there of exactly the point that the Member raises. However, let me make the point to him: I don’t share what I imagine is behind his question, this idea that low taxes are by themselves a sign of a healthy society. We pay taxes, as people say, as the entrance price to a civilised society, because it’s the taxes that we pay that provide the services that the people that the Member represents, and we all represent, rely on day in, day out. In some ways, we have to rehabilitate that notion with people. The reason people are asked to pay taxes is that that creates the collective resource from which we are all able to benefit.
Wel, Lywydd, mae enghreifftiau yn y dulliau gweithredu cyfyngedig iawn sydd gennym ar hyn o bryd yng Nghymru lle mae pobl yng Nghymru yn talu llai o dreth nag y maent yn ei wneud mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig. Mae pobl yng Nghymru yn talu llai o dreth incwm nag y byddent pe baent yn byw yn yr Alban. Maent yn talu llai mewn treth trafodiadau tir nag y byddent pe baent yn byw yn Lloegr. Felly, mae enghreifftiau yno eisoes o’r union bwynt y mae’r Aelod yn ei godi. Fodd bynnag, gadewch imi wneud y pwynt iddo: nid wyf yn cytuno â'r hyn y credaf sydd y tu ôl i'w gwestiwn, y syniad fod trethi isel ynddynt eu hunain yn arwydd o gymdeithas iach. Rydym yn talu trethi, fel y dywed pobl, fel y pris mynediad i gymdeithas wâr, gan mai'r trethi a dalwn sy’n darparu’r gwasanaethau y mae’r bobl y mae’r Aelod yn eu cynrychioli, ac y mae pob un ohonom ni'n eu cynrychioli, yn dibynnu arnynt bob dydd. Mewn rhai ffyrdd, mae’n rhaid inni atgoffa pobl o'r syniad hwnnw. Y rheswm y gofynnir i bobl dalu trethi yw am fod hynny’n creu’r adnoddau cyfunol y gall pob un ohonom elwa ohonynt.
Thank you for the open response, Cabinet Secretary. Another notion that taxation could represent is the ability to trust people with spending their money in a way that they see best. I wonder what it is, if you could describe, that makes you think that people in Wales can’t be trusted to spend their money in the best way possible for them and that makes you think the Welsh Government can spend it better on their behalf.
Diolch am yr ymateb agored, Ysgrifennydd y Cabinet. Syniad arall y gallai trethiant ei gynrychioli yw’r gallu i ymddiried mewn pobl i wario eu harian yn y ffordd y gwelant orau. Tybed beth, os gallwch ei ddisgrifio, sy’n gwneud ichi feddwl na ellir ymddiried ym mhobl Cymru i wario eu harian yn y ffordd orau bosibl iddynt hwy ac sy’n gwneud ichi feddwl y gall Llywodraeth Cymru ei wario’n well ar eu rhan.
I think that would be a real parody of what has happened in Wales in the period of devolution, Llywydd, because what successive Welsh Governments have done is to act in ways that leaves money in people’s pockets for them to be able to decide how to use it. If you live across the border, you now pay nearly £10 for every single prescription that a doctor writes for you. Here in Wales, we leave that money in people’s pockets. We leave it with them so they are able to make decisions about their priorities in their own lives. In fact, if you look at the record across the quarter of a century of devolution, what you will see is successive Welsh Governments acting to do exactly what the questioner has put to me.
Rwy'n credu y byddai hynny’n barodi go iawn o’r hyn sydd wedi digwydd yng Nghymru yn y cyfnod datganoli, Lywydd, oherwydd yr hyn y mae Llywodraethau Cymru olynol wedi’i wneud yw gweithredu mewn ffyrdd sy’n gadael arian ym mhocedi pobl er mwyn iddynt hwy allu penderfynu sut i’w ddefnyddio. Os ydych yn byw dros y ffin, rydych chi bellach yn talu bron i £10 am bob presgripsiwn y mae meddyg yn ei ysgrifennu i chi. Yma yng Nghymru, rydym yn gadael yr arian hwnnw ym mhocedi pobl. Rydym yn ei adael gyda hwy fel y gallant wneud penderfyniadau am eu blaenoriaethau eu hunain yn eu bywydau eu hunain. Mewn gwirionedd, os edrychwch ar gyflawniad y chwarter canrif diwethaf o ddatganoli, fe welwch Lywodraethau Cymru olynol yn gweithredu i wneud yn union yr hyn y mae’r holwr wedi’i ofyn i mi.
Thank you again, Cabinet Secretary. Clearly, we’re going to be disagreeing on these things, and it’s part of the reason why we’re on opposite sides of this Chamber. We would argue that people should be trusted to spend money in the way that they believe is best for them, and the Government should provide the public services that are absolutely necessary to support them with that, not on pet projects and frivolous ideas. This last week, Cabinet Secretary, you recently shared that you believe that Wales has too many hospitals and too many beds. As the person responsible for the finances of the Government here in Wales, is that, therefore, an indication of the direction of travel that you’re going to persuade your colleagues to go down, to spend less money on hospitals and less money on beds here in Wales?
Diolch eto, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn amlwg, rydym yn mynd i anghytuno ar y pethau hyn, ac mae'n rhan o'r rheswm pam ein bod ar ochrau gwahanol i'r Siambr hon. Byddem yn dadlau y dylid ymddiried mewn pobl i wario arian yn y ffordd sydd orau iddynt hwy yn eu barn hwy, a dylai’r Llywodraeth ddarparu’r gwasanaethau cyhoeddus sy’n gwbl angenrheidiol i’w cefnogi gyda hynny, nid ar brosiectau porthi balchder a syniadau gwamal. Yr wythnos hon, Ysgrifennydd y Cabinet, fe rannoch chi eich bod yn credu bod gan Gymru ormod o ysbytai a gormod o welyau. Fel yr unigolyn sy’n gyfrifol am gyllid y Llywodraeth yma yng Nghymru, a yw hynny felly'n arwydd o’r cyfeiriad yr ydych chi'n mynd i berswadio eich cyd-Aelodau i fynd iddo, i wario llai o arian ar ysbytai a llai o arian ar welyau yma yng Nghymru?
Well, the answer to that question is very obvious in the draft budget, Llywydd, because the department in the Welsh Government that gets the largest increase of any is, of course, as you would expect from a Labour Government, the health service. And that will be no surprise, because, over the period of devolution, that has always been the case. In the latest figures—figures published by a Conservative UK Government—Welsh health spending was higher than in England, grew faster than in England, and spending on social services in Wales was 37 per cent higher than in England. The facts speak for themselves. Here in Wales, we have always placed the highest priority on investment in our health and social care system. That is continued in the draft budget that will be before the Senedd for final determination on 4 March.
Wel, mae’r ateb i’r cwestiwn hwnnw'n amlwg iawn yn y gyllideb ddrafft, Lywydd, gan mai'r adran yn Llywodraeth Cymru sy’n cael y cynnydd mwyaf, wrth gwrs, fel y byddech yn ei ddisgwyl gan Lywodraeth Lafur, yw’r gwasanaeth iechyd. Ac ni fydd hynny’n syndod o gwbl, oherwydd dros gyfnod datganoli, mae hynny bob amser wedi bod yn wir. Yn y ffigurau diweddaraf—ffigurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU—roedd gwariant ar iechyd yng Nghymru yn uwch nag yn Lloegr, a thyfodd yn gyflymach nag yn Lloegr, ac roedd gwariant ar wasanaethau cymdeithasol yng Nghymru 37 y cant yn uwch nag yn Lloegr. Mae'r ffeithiau'n siarad drostynt eu hunain. Yma yng Nghymru, rydym bob amser wedi rhoi’r flaenoriaeth uchaf i fuddsoddi yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hynny’n parhau yn y gyllideb ddrafft a fydd gerbron y Senedd ar gyfer penderfyniad terfynol ar 4 Mawrth.
Llefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan.
Plaid Cymru spokesperson, Heledd Fychan.
Diolch, Llywydd. Cabinet Secretary, when you were before the Finance Committee last week, you described the UK Treasury’s plans to distribute reimbursement on national insurance increases in the public sector as 'fundamentally unfair', as it could lead to Welsh public sector employers not being covered to the same extent as those in England. You also stated that the application of the Barnett formula, with respect to NI reimbursement, was not 'a commonsense reading' of the Chancellor’s intentions.
So, what’s been the response of the UK Government to date when you’ve raised these matters with them? And have you made an assessment of how this potential shortfall will impact on the Welsh Government’s draft budget?
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, pan oeddech gerbron y Pwyllgor Cyllid yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi ddisgrifio cynlluniau Trysorlys y DU i ddosbarthu ad-daliadau ar gynnydd mewn yswiriant gwladol yn y sector cyhoeddus fel rhai 'sylfaenol annheg', gan y gallent arwain at beidio â chynnwys cyflogwyr sector cyhoeddus Cymru i'r un graddau â'r rhai yn Lloegr. Fe ddywedoch chi hefyd nad oedd defnyddio fformiwla Barnett, mewn perthynas ag ad-daliadau yswiriant gwladol, yn 'ddehongliad synnwyr cyffredin' o fwriadau’r Canghellor.
Felly, beth fu ymateb Llywodraeth y DU hyd yma pan wnaethoch chi godi’r materion hyn gyda hwy? Ac a ydych chi wedi gwneud asesiad o sut y bydd y diffyg posibl hwn yn effeithio ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru?
We continue to be in dialogue with the UK Government on these matters, Llywydd. I stand by what I said in the Finance Committee, that if the help for public services is distributed through the Barnett formula, rather than actual expenditure being reimbursed, that would not be in the interests of Wales. I’ve made that point very directly to the Chief Secretary to the Treasury, and will continue to make it to him.
Rydym yn parhau i drafod y materion hyn gyda Llywodraeth y DU, Lywydd. Rwy'n glynu wrth yr hyn a ddywedais yn y Pwyllgor Cyllid, sef os yw’r cymorth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn cael ei ddosbarthu drwy fformiwla Barnett, yn hytrach na bod gwariant gwirioneddol yn cael ei ad-dalu, ni fyddai hynny er budd Cymru. Rwyf wedi gwneud y pwynt hwnnw’n glir iawn i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, a byddaf yn parhau i wneud hynny.
Diolch am yr ateb. Fel pawb arall, dwi'n siŵr, eisiau gwybod beth maen nhw wedi’i ddweud hyd yma ydw i, a pha mor obeithiol ydych chi, neu ydych chi’n wirioneddol bryderus eu bod nhw ddim yn gwrando? Oherwydd pryder arall rydych chi wedi'i glywed droeon gen i, fel tôn gron, a gan nifer o Aelodau o’r Senedd yma, ydy’r pryder o ran effaith y newidiadau yswiriant gwladol ar sefydliadau’r trydydd sector ac elusennau. Wrth gwrs, maen nhw’n dod atom ni yn sôn am y toriadau byddan nhw’n gorfod eu gwneud. Felly, eisiau gwybod ydw i sut ydych chi’n gweithio gydag elusennau a’r trydydd sector i ddeall gwir effaith hyn arnyn nhw. A pha asesiad ydych chi wedi’i wneud o ran beth fyddai cost lleihad yn eu gwasanaethau nhw yn ei olygu o ran y gwasanaethau cyhoeddus a thargedau Llywodraeth Cymru mewn amryw o feysydd gwahanol?
Thank you for that response. Like everyone else, I'm sure, I want to know what they’ve said so far, and how hopeful you are, or are you genuinely concerned that they’re not listening? Because another concern that you’ve heard many times from me, and from a number of the other Senedd Members, is the concern regarding the impact of the national insurance changes on organisations in the third sector and charities. Of course, they’re coming to us talking about the cuts that they will have to make. So, I just want to know how you are working with charities and the third sector to understand the real impact of this on them. And what assessment have you made in terms of what the cost of a reduction in their services would be to our public services and Welsh Government targets in a variety of areas?
Wel, Llywydd, beth mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal i ddweud yw eu bod nhw’n gweithio ar yr arian sy’n mynd i ddod i helpu gydag effaith y cynnydd yn yr yswiriant gwladol yn y sector cyhoeddus. So, rŷn ni yn mynd i gael cymorth oddi wrth y Llywodraeth yn San Steffan; y ddadl yw sut maen nhw’n mynd i roi’r cymorth yna i ni, ac rŷn ni’n dal i drafod hwnna gyda nhw.
Wrth gwrs, rŷn ni wedi clywed beth mae pobl yn y trydydd sector, a phobl eraill, yn ei ddweud am effaith beth mae Llywodraeth San Steffan yn bwriadu ei wneud arnyn nhw. Dyna pam rŷn ni’n cynyddu grant cefnogi’r trydydd sector yng Nghymru o 7 y cant dros y cyfnod sydd i ddod, ac mae hwnna yn y gyllideb ddrafft sydd o flaen y Senedd. Ond, jest i fod yn glir—ac roeddwn i'n trio bod yn glir o flaen y Pwyllgor Cyllid—gallaf i ddim ffeindio’r arian i helpu bob adran a phob asiantaeth ble mae effaith beth mae Llywodraeth San Steffan yn ei wneud yn mynd i godi.
Well, Llywydd, what the UK Government are still saying is that they are working on the funding that will be provided to mitigate the impact of the increase in national insurance in the public sector. So, we will receive support from the Government in Westminster; the debate is how that support will be provided to us, and we are still negotiating that with them.
Of course, we’ve heard what people in the third sector, and others, are saying about the impact of the planned changes by the Westminster Government on them. That is why we are increasing the third sector support grant in Wales by 7 per cent over the ensuing period, and that is contained within the draft budget that is before the Senedd. But, just to be clear—and I was trying to be clear in front of the Finance Committee—I can’t find the money to help every department and every agency where the impact of the Westminster Government's changes will be felt.
Diolch ichi am hynny. Yn amlwg, eisiau cyllid teg i Gymru ydyn ni, a diwygio’r ffordd rydyn ni’n cael ein hariannu.
Os caf i fynd ar ôl elfen arall o’ch cyfrifoldebau portffolio chi, sef y Gymraeg, yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddwyd canlyniadau arolwg blynyddol y Swyddfa Ystadegau Gwladol, oedd yn nodi mai dim ond 27.7 y cant o bobl tair oed neu hŷn oedd yn gallu siarad Cymraeg—y ganran isaf sydd wedi ei gofnodi ers dros wyth mlynedd. Mae hyn, wrth gwrs, yn dilyn y cwymp a welwyd yn y cyfrifiad diwethaf. O ystyried targedau’r Llywodraeth o ran 'Cymraeg 2050', mae’n rhaid bod hyn yn eich pryderu chi. Wrth gwrs, rydyn ni wedi gweld ymateb y Llywodraeth a Chomisiynydd y Gymraeg, yn sôn bod angen gwell data; mi glywsom ni hyn yn dilyn y cyfrifiad hefyd. Pryd fydd y mater o ran data yn cael ei ddatrys, oherwydd sut ydyn ni'n gallu mesur cynnydd, a chraffu ar gynnydd y Llywodraeth, o ran targedau 'Cymraeg 2050' os nad ydyn ni hyd yn oed yn sicr o'r data?
Thank you for that. Evidently, we want fair funding for Wales, and a reform of the way in which we are funded.
If I could pursue another element of your portfolio responsibilities, namely the Welsh language, last week, the results of the annual survey by the Office for National Statistics were published, which indicated that only 27.7 per cent of people aged three or older could speak Welsh—the lowest percentage that has been recorded for over eight years. This, of course, follows the decline seen in the last census. In light of the Government’s target in terms of 'Cymraeg 2050', this must be of concern to you. Of course, we’ve seen the response from the Government and the Welsh Language Commissioner, talking about the need for better data, and we heard that following the census as well. So, when will the data issue be resolved, because how can we measure progress, and scrutinise the progress of the Government, in terms of the 'Cymraeg 2050' target if we can't even trust the data?
Wel, Llywydd, ar y pwynt cyntaf yr oedd Heledd Fychan yn ei godi, bydd cyfle i Blaid Cymru ddangos y pwysigrwydd y maen nhw'n ei roi ar fuddsoddiadau mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru pan fydd y gyllideb derfynol o flaen y Senedd, lle bydd £1.5 biliwn o fuddsoddiadau ychwanegol ar gael i'r gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Dwi'n edrych ymlaen at weld Plaid Cymru yn cefnogi'r gyllideb ar y sail yna.
Dwi'n cytuno â beth ddywedodd Heledd Fychan am bwysigrwydd data. Rŷn ni'n dal i siarad â'r ONS, ac mae gwaith yn mynd ymlaen rhwng pobl sy'n gweithio y tu fewn i'r Llywodraeth a phobl yn yr ONS i drio mynd y tu ôl i'r data sydd gennym ni ar hyn o bryd. Bydd Aelodau fan hyn yn ymwybodol o'r ffaith bod yr ONS wedi wynebu lot o broblemau yn ddiweddar gyda'r data, ac mae hynny'n cael effaith ar yr arolwg blynyddol o'r boblogaeth a gafodd ei gyhoeddi wythnos diwethaf.
Mae'r prif swyddog—chief statistician officer, sori—wedi cyhoeddi blog yn barod yn dweud beth y mae'r ONS a hi wedi ei wneud ar hyn o bryd, ac yn setio mas y gwaith sydd i ddod. Dwi'n edrych ymlaen at weld y gwaith yna, achos dwi'n cytuno â beth ddywedodd Heledd Fychan: heb gael y data, mae'n anodd gweld beth sy'n mynd ymlaen ar y llawr a beth allwn ni, fel Llywodraeth ac fel Senedd, ei wneud i helpu i godi nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg ac, fel dwi'n ei ddweud bob tro, sy'n defnyddio'r Gymraeg bob dydd hefyd.
Well, Llywydd, on that first point that Heledd Fychan made, there will be an opportunity for Plaid Cymru to demonstrate the importance that they place on investment in public services in Wales when the final budget comes before the Senedd, where £1.5 billion of additional investment will be available to public services here in Wales. I look forward to seeing Plaid Cymru supporting the budget on that basis.
I agree with what Heledd Fychan said about the importance of data. We continue to talk to the ONS, and work is progressing between those people working within Government and those working in the ONS to try to get behind the data that we have at present. Members here will be aware of the fact that the ONS has faced a number of problems recently in terms of data, and that is having an impact on the annual population survey, which was published last week.
The chief statistician officer has recently published a blog setting out what she and the ONS have done and are doing, and setting out the work that will be done in future. I look forward to seeing that work, because I do agree with what Heledd Fychan said: without the data, it's very difficult to see what's happening on the ground and what we, as a Government and as a Senedd, can do to help to increase the number of people who can speak Welsh and, as I always say, who use the Welsh language on a day-to-day basis.
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun buddsoddi i arbed? OQ62195
3. Will the Cabinet Secretary provide an update on the invest-to-save scheme? OQ62195
The invest-to-save programme has supported approximately 200 projects with an aggregate value of around £200 million. Funds are being used to support projects related to green growth and care-experienced children. Ministers are currently considering a large-scale invest-to-save scheme to help decarbonise our strategic road networks.
Mae’r rhaglen buddsoddi i arbed wedi cefnogi oddeutu 200 o brosiectau gyda gwerth cyfanredol o oddeutu £200 miliwn. Mae arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi prosiectau sy'n ymwneud â thwf gwyrdd a phlant â phrofiad o fod mewn gofal. Mae Gweinidogion wrthi’n ystyried cynllun buddsoddi i arbed ar raddfa fawr i helpu i ddatgarboneiddio ein rhwydweithiau ffyrdd strategol.
Can I thank the Cabinet Secretary for his reply? I've been a long-time supporter of invest-to-save. I support the provision of interest-free loans with flexible payback periods to public services, with the aim of helping them to transform the way they work through supporting the direction of new and proven ways of working, increasing efficiency and effectiveness and lowering costs. Whilst large sums of money were spent using invest-to-save to fund the creation of Natural Resources Wales, most has been used to increase efficiency and reduce costs, such as light-emitting diode lighting. Can the Cabinet Secretary outline how the successes that have been achieved, especially in health, are being shared and replicated across Wales?
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb? Rwyf wedi bod yn gefnogol i'r syniad o fuddsoddi i arbed ers amser maith. Rwy’n gefnogol i ddarpariaeth benthyciadau di-log gyda chyfnodau ad-dalu hyblyg i wasanaethau cyhoeddus, gyda’r nod o’u helpu i drawsnewid y ffordd y maent yn gweithio drwy gefnogi cyfeiriad ffyrdd newydd a phrofedig o weithio, cynyddu effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd a lleihau costau. Er y gwariwyd symiau mawr o arian buddsoddi i arbed i ariannu’r gwaith o greu Cyfoeth Naturiol Cymru, mae’r rhan fwyaf wedi’i ddefnyddio i gynyddu effeithlonrwydd a lleihau costau, megis goleuadau deuod allyrru golau. A all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae’r llwyddiannau, yn enwedig ym maes iechyd, yn cael eu rhannu a’u hailadrodd ledled Cymru?
I thank Mike Hedges for that question and for his consistent support of the invest-to-save programme. He's absolutely right, Llywydd, of course, that the investments we are making in the public sector cover a very wide range of individual schemes in the green-growth area: solar photovoltaics, wind turbines, upgrades to insulation and to glazing. In the health sector, as Mike Hedges mentioned and will know very well, we have a solar farm at Morriston Hospital in Swansea, which was funded through the invest-to-save scheme because it will save the hospital £1 million every year in its electricity bills, and that's only one example of work that's going on in the health service this year. There are two decarbonisation programmes in Cardiff and Vale and in Powys Teaching Health Board, both of them using invest-to-save funding.
Just to say, lastly, Llywydd, that Mike Hedges made a really important point: the reason why the invest-to-save scheme is a success is that it's a circulating fund; the money comes back into the fund and then can be reinvested. So, while the fund has been topped up at various points, what it really relies upon is the success of schemes in releasing revenue, where that fund can be topped up and reinvested in future activity.
Diolch i Mike Hedges am ei gwestiwn ac am ei gefnogaeth gyson i’r rhaglen buddsoddi i arbed. Mae'n llygad ei le, Lywydd, fod y buddsoddiadau a wnawn yn y sector cyhoeddus yn cwmpasu ystod eang iawn o gynlluniau unigol ym maes twf gwyrdd: systemau solar ffotofoltäig, tyrbinau gwynt, uwchraddiadau i inswleiddio a ffenestri. Yn y sector iechyd, fel y soniodd Mike Hedges ac fel y gŵyr yn iawn, mae gennym fferm solar yn Ysbyty Treforys yn Abertawe, a ariannwyd drwy’r cynllun buddsoddi i arbed, gan y bydd yn arbed £1 filiwn y flwyddyn i’r ysbyty gyda'i filiau trydan, ac un enghraifft yn unig yw hynny o waith sy’n mynd rhagddo yn y gwasanaeth iechyd eleni. Mae dwy raglen ddatgarboneiddio yng Nghaerdydd a’r Fro ac ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys, ill dwy yn defnyddio cyllid buddsoddi i arbed.
Hoffwn ddweud i gloi, Lywydd, fod Mike Hedges wedi gwneud pwynt pwysig iawn: y rheswm pam fod y cynllun buddsoddi i arbed yn llwyddiant yw am ei bod yn gronfa sy'n cylchredeg; daw'r arian yn ôl i'r gronfa, ac yna gellir ei ailfuddsoddi. Felly, er bod y gronfa wedi cael mwy o arian ar wahanol adegau, yr hyn y mae’n dibynnu arno mewn gwirionedd yw llwyddiant y cynlluniau i ryddhau refeniw, lle gellir ychwanegu at y gronfa honno ac ailfuddsoddi mewn gweithgarwch yn y dyfodol.

Cabinet Secretary, you'll always get Members on this side of the Chamber celebrating thrift and efficiency, and we welcome the invest-to-save scheme, and always have. You gave an indication as to the total investments that have been made, but what you haven't been able to share today, other than the saving at that one particular hospital, is the total savings that might have been generated as a result of the scheme. Is that something you're able to share with us?
Ysgrifennydd y Cabinet, bydd Aelodau ar yr ochr hon i'r Siambr bob amser yn dathlu darbodusrwydd ac effeithlonrwydd, ac rydym yn croesawu'r cynllun buddsoddi i arbed, a bob amser wedi'i groesawu. Fe roesoch syniad o gyfanswm y buddsoddiadau a wnaed, ond yr hyn nad ydych wedi gallu ei rannu heddiw, ac eithrio’r arbediad yn yr un ysbyty penodol hwnnw, yw cyfanswm yr arbedion a allai fod wedi’u cynhyrchu o ganlyniad i’r cynllun. A yw hynny'n rhywbeth y gallwch ei rannu gyda ni?
I probably can't do that accurately enough this afternoon. I’m very happy that those figures can be made available to Members. The leader of the opposition won’t be surprised to learn that, during the COVID period, there was less of an ability on behalf of public authorities to come forward with invest-to-save schemes, and the money was targeted, therefore, at services for children. The advocacy service for parents, which is designed to make sure that the voice of parents is heard at the point when children might be on the edge of being received into public care, is an example of that. I have talked with my officials recently about, in the post-COVID era, beginning to build the fund back up again and to invite new suggestions from public sector partners as to how we could use this way, as the Member said, of making sure that public money is being used as efficiently as possible.
Mae'n debyg na allaf wneud hynny'n ddigon cywir y prynhawn yma. Rwy’n falch iawn y gellir darparu'r ffigurau hynny i’r Aelodau. Ni fydd arweinydd yr wrthblaid yn synnu clywed, yn ystod cyfnod COVID, fod llai o allu gan awdurdodau cyhoeddus i gyflwyno cynlluniau buddsoddi i arbed, a chafodd yr arian ei dargedu felly at wasanaethau i blant. Mae’r gwasanaeth eiriolaeth i rieni, a gynlluniwyd i sicrhau bod llais rhieni’n cael ei glywed ar yr adeg pan allai plant fod ar fin mynd i ofal cyhoeddus, yn enghraifft o hynny. Rwyf wedi siarad â fy swyddogion yn ddiweddar ynglŷn â dechrau ailadeiladu’r gronfa yn y cyfnod ôl-COVID a gwahodd awgrymiadau newydd gan bartneriaid yn y sector cyhoeddus ynghylch sut y gallem ddefnyddio’r ffordd hon, fel y dywedodd yr Aelod, o sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio mor effeithlon â phosibl.
4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddyfodol fformiwla Barnett? OQ62221
4. Will the Cabinet Secretary make a statement on the future of the Barnett formula? OQ62221
I thank Alun Davies for that, Llywydd. We have long argued that resources should be allocated across the United Kingdom on the basis of relative need. Our priority in the near term is to ensure that the current funding formula delivers for Wales, by focusing on budget flexibilities and fair funding for rail.
Diolch i Alun Davies am hynny, Lywydd. Rydym wedi dadlau ers tro y dylid dyrannu adnoddau ar draws y Deyrnas Unedig ar sail angen cymharol. Ein blaenoriaeth yn y tymor byr yw sicrhau bod y fformiwla gyllido bresennol yn darparu ar gyfer Cymru, drwy ganolbwyntio ar hyblygrwydd cyllidebol a chyllid teg ar gyfer rheilffyrdd.
I'm grateful to the Cabinet Secretary for that response. I think many of us, having watched the Chancellor speaking this morning on growth, will have noticed her focus on the south-east of England, and that’s likely to lead to more and not less equality across the United Kingdom. But we’re also aware that the UK Government has announced a review of the United Kingdom Internal Market Act 2020, and, in announcing that review, has excluded financial assistance powers from it. That is likely to lead to more confusion and less coherence in the way that funding is allocated across the United Kingdom. And, at the same time, we saw the announcement last year on changes to the funding formula for Northern Ireland. I am aware, Cabinet Secretary, that the Northern Ireland Executive has just appointed Gerry Holtham to undertake a review of their own funding arrangements. Given all of those different matters, is it now the time for a more fundamental review of how we fund different parts of the United Kingdom, with an objective of fairness and reducing inequality across the whole of the United Kingdom for the future?
Rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb. Ar ôl gwylio’r Canghellor yn siarad am dwf y bore yma, rwy'n credu y bydd llawer ohonom wedi sylwi ar ei ffocws ar dde-ddwyrain Lloegr, ac mae hynny’n debygol o arwain at fwy ac nid llai o gydraddoldeb ar draws y Deyrnas Unedig. Ond rydym hefyd yn ymwybodol fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi adolygiad o Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, ac wrth gyhoeddi’r adolygiad hwnnw, wedi eithrio pwerau cymorth ariannol ohoni. Mae hynny’n debygol o arwain at fwy o ddryswch a llai o gydlyniant yn y ffordd y caiff cyllid ei ddyrannu ar draws y Deyrnas Unedig. Ac ar yr un pryd, gwelsom y cyhoeddiad y llynedd ar newidiadau i’r fformiwla gyllido ar gyfer Gogledd Iwerddon. Rwy’n ymwybodol, Ysgrifennydd y Cabinet, fod Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon newydd benodi Gerry Holtham i gynnal adolygiad o’u trefniadau cyllido eu hunain. O ystyried yr holl faterion gwahanol hynny, a yw nawr yn bryd cael adolygiad mwy sylfaenol o sut rydym yn ariannu gwahanol rannau o’r Deyrnas Unedig, gyda’r nod o sicrhau tegwch a lleihau anghydraddoldeb ar draws y Deyrnas Unedig gyfan ar gyfer y dyfodol?
I thank Alun Davies. I too saw that Gerry Holtham had accepted an invitation from the Northern Ireland Executive to help them in conducting an independent review of the level of funding needed in Northern Ireland. I agree with what Alun Davies has said, Llywydd, that there could be merit in exploring a similar piece of work, and seeing the extent to which Professor Holtham might be able to assist in that, given the success of the work that he carried out here in Wales over a decade ago.
I believe there’s a question on the order paper later this afternoon from my colleague on UKIMA. I’ll give you a small preview in saying that the Welsh Government argued for the inclusion of financial assistance powers within the review of UKIMA. Of course, we’re very glad to see that review being brought forward, because it’s a piece of legislation that we have long argued does not operate in the best interests of Wales.
But to go to the fundamental point that Alun Davies has made, the purpose of funding flows across the United Kingdom surely has to be to ensure that spending power is fair across the different parts of the United Kingdom, and that an equivalent level and quality of public goods can be delivered in all parts of the United Kingdom. And that’s why differential funding is needed, because it needs to match need. The idea of that funding then is to make sure that a citizen in any part of the United Kingdom is able to expect an equivalent level of public service. And those of us who believe in the United Kingdom know that that is one of the fundamental building blocks of a successful United Kingdom to which citizens would choose to belong.
Diolch i Alun Davies. Gwelais innau fod Gerry Holtham wedi derbyn gwahoddiad gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon i’w helpu i gynnal adolygiad annibynnol o lefel y cyllid sydd ei angen yng Ngogledd Iwerddon. Rwy'n cytuno â’r hyn y mae Alun Davies wedi’i ddweud, Lywydd, y gallai fod yn werth archwilio gwaith tebyg, a gweld i ba raddau y gallai’r Athro Holtham gynorthwyo yn hynny o beth, o ystyried llwyddiant y gwaith a wnaeth yma yng Nghymru dros ddegawd yn ôl.
Rwy'n credu bod cwestiwn ar y papur trefn yn ddiweddarach y prynhawn yma gan fy nghyd-Aelod ar Ddeddf Marchnad Fewnol y DU. Rhoddaf ragflas i chi drwy ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi dadlau dros gynnwys pwerau cymorth ariannol yn yr adolygiad o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU. Wrth gwrs, rydym yn falch iawn o weld yr adolygiad hwnnw, gan ei bod yn ddeddfwriaeth yr ydym wedi dadlau ers tro nad yw’n gweithredu er budd gorau Cymru.
Ond ar y pwynt sylfaenol y mae Alun Davies wedi’i wneud, rhaid mai pwrpas llif cyllid ar draws y Deyrnas Unedig yw sicrhau bod grym gwariant yn deg ar draws gwahanol rannau’r Deyrnas Unedig, ac y gellir sicrhau lefel ac ansawdd cyfatebol o wasanaethau cyhoeddus ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. A dyna pam fod angen cyllid gwahaniaethol, am fod angen iddo gyfateb i'r angen. Syniad y cyllid hwnnw felly yw sicrhau bod dinesydd mewn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig yn gallu disgwyl lefel gyfatebol o wasanaeth cyhoeddus. Ac mae’r rhai ohonom sy’n credu yn y Deyrnas Unedig yn gwybod mai dyna un o flociau adeiladu sylfaenol Teyrnas Unedig lwyddiannus y byddai dinasyddion yn dewis perthyn iddi.
I'm sure the Cabinet Secretary will be aware that I've stood up in this Chamber on several occasions calling for the Barnett formula to be reviewed. It's quite clear that the Barnett formula has been a contentious issue for UK Governments of all colours, because any changes to that formula would see other parts of the UK lose out on funding, and understandably that is a difficult situation for any UK Government. Cabinet Secretary, given that there still appears to be no appetite to reform the Barnett formula from the UK Government, can you tell me how you believe this issue can be addressed once and for all so that there is some fairness in the way devolved governments in the UK are funded?
Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fy mod wedi codi yn y Siambr hon sawl gwaith i alw am adolygu fformiwla Barnett. Mae'n gwbl amlwg fod fformiwla Barnett wedi bod yn fater dadleuol i Lywodraethau'r DU o bob lliw, oherwydd byddai unrhyw newidiadau i'r fformiwla honno yn golygu bod rhannau eraill o'r DU yn cael llai o arian, ac yn ddealladwy, mae honno'n sefyllfa anodd i unrhyw Lywodraeth y DU. Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried nad yw'n ymddangos bod unrhyw awydd o hyd gan Lywodraeth y DU i ddiwygio fformiwla Barnett, a allwch chi ddweud wrthyf sut y credwch chi y gellir mynd i'r afael â'r mater hwn unwaith ac am byth fel bod rhywfaint o degwch yn y ffordd y caiff Llywodraethau datganoledig yn y DU eu hariannu?
Llywydd, I remember the many occasions on which Paul Davies has made that case. Of course, in calling for reform of the Barnett formula he was echoing what Lord Joel Barnett himself called for many times later in his career.
We set out in ‘Reforming our Union’ our case for replacing the Barnett formula with a new rules-based funding system overseen through a new fiscal agreement. The key thing is—and this is the dilemma to which Paul Davies pointed—that such an agreement would have to be approved by all four governments in the United Kingdom, and there are different interests at stake between the four governments, so it is not an easy matter to see how fundamental reform of Barnett could be brought about.
What we've always done in Wales is to use the power of argument. We don't have some of the things that other parts of the United Kingdom can use to draw attention to their views. Scotland has always had the possibility that it might choose to leave the United Kingdom, which means that the UK Government will want to listen to what they have to say. We don't always have the same tools in our armoury, but what we've always had is the quality of the arguments that we're able to make. [Interruption.] Well, I believe you've tried that several times now at successive elections, with results that are plain to see.
What we have to rely on is the quality of our argument. To be ecumenical across the Chamber for a moment, I will say that it was the power of that argument that led to the agreement in 2016 of the fiscal framework with a Conservative Government in London. The block grant has benefited from that agreement by around £2 billion pounds over the period that has followed, and will be £400 million pounds higher in Wales's favour next year than had that agreement not been struck. That agreement mitigates the difficulties of the Barnett formula for Wales, but it doesn't resolve them. But it does show that you can make progress when the quality of the argument you advance convinces others.
Lywydd, rwy'n cofio'r achlysuron niferus pan wnaeth Paul Davies y ddadl honno. Wrth gwrs, wrth alw am ddiwygio fformiwla Barnett roedd yn adleisio'r hyn a alwodd yr Arglwydd Joel Barnett ei hun amdano droeon yn ddiweddarach yn ei yrfa.
Fe wnaethom nodi yn 'Diwygio ein Hundeb' ein hachos dros gael system ariannu newydd yn lle fformiwla Barnett, system yn seiliedig ar reolau wedi ei goruchwylio drwy gytundeb cyllidol newydd. Y peth allweddol—a dyma'r cyfyng-gyngor y tynnodd Paul Davies sylw ato—yw y byddai'n rhaid i gytundeb o'r fath gael ei gymeradwyo gan bob un o bedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae yna wahanol fuddiannau yn y fantol rhwng y pedair Llywodraeth, felly nid mater hawdd yw gweld sut y gellid sicrhau bod Barnett yn cael ei diwygio'n sylfaenol.
Yr hyn rydym wedi'i wneud bob amser yng Nghymru yw defnyddio grym dadl. Nid oes gennym rai o'r pethau y gall rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig eu defnyddio i dynnu sylw at eu safbwyntiau. Mae gan yr Alban y posibilrwydd bob amser y gallai ddewis gadael y Deyrnas Unedig, sy'n golygu y bydd Llywodraeth y DU eisiau gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud. Nid oes gennym yr un offer yn ein harfogaeth ni, ond yr hyn sydd wedi bod gennym bob amser yw ansawdd y dadleuon y gallwn eu gwneud. [Torri ar draws.] Wel, rwy'n credu eich bod wedi rhoi cynnig ar hynny sawl gwaith nawr mewn etholiadau olynol, gyda chanlyniadau sy'n amlwg i'w gweld.
Yr hyn sy'n rhaid i ni ddibynnu arno yw ansawdd ein dadl. I fod yn eciwmenaidd ar draws y Siambr am eiliad, fe ddywedaf mai grym y ddadl honno a arweiniodd at gytundeb y fframwaith cyllidol gyda Llywodraeth Geidwadol yn Llundain yn 2016. Mae'r grant bloc wedi elwa o oddeutu £2 biliwn o'r cytundeb hwnnw dros y cyfnod dilynol, ac fe fydd £400 miliwn yn uwch o blaid Cymru y flwyddyn nesaf na phe na bai'r cytundeb hwnnw wedi bodoli. Mae'r cytundeb hwnnw'n lliniaru anawsterau fformiwla Barnett i Gymru, ond nid yw'n eu datrys. Ond mae'n dangos y gallwch chi wneud cynnydd pan fydd ansawdd y ddadl a gyflwynwch yn argyhoeddi eraill.
I should just say that we'll happily put the tool of independence in the armoury of the Welsh Government after the next election, when the Government is led by Plaid Cymru. But in the interim, and when we're looking, of course, at the spending review the UK Government is going to be producing soon, the relative needs assessment that forms part of the way the Barnett formula operates for Wales now was set out 10 years ago, based on a report by Gerry Holtham from 15 years ago, using data from 24 years ago. Would the Cabinet Secretary accept that that assessment is now out of date, and would he convince his colleagues in Westminster that we need to update it? And if they're not convinced, can we produce it ourselves, so that the needs assessment reflects the Wales of today, not the Wales of a quarter of a century ago?
Dylwn ddweud y byddwn yn hapus i roi offeryn annibyniaeth yn arfogaeth Llywodraeth Cymru ar ôl yr etholiad nesaf, pan fydd y Llywodraeth yn cael ei harwain gan Blaid Cymru. Ond yn y cyfamser, a phan edrychwn ar yr adolygiad o wariant y bydd Llywodraeth y DU yn ei gynhyrchu yn fuan, nodwyd yr asesiad o anghenion cymharol sy'n rhan o'r ffordd y mae fformiwla Barnett yn gweithredu i Gymru 10 mlynedd yn ôl bellach, yn seiliedig ar adroddiad gan Gerry Holtham 15 mlynedd yn ôl, gan ddefnyddio data o 24 mlynedd yn ôl. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn bod yr asesiad hwnnw bellach wedi dyddio, ac a wnaiff argyhoeddi ei gymheiriaid yn San Steffan fod angen inni ei ddiweddaru? Ac os na chânt eu hargyhoeddi, a allwn ni ei gynhyrchu ein hunain, fel bod yr asesiad o anghenion yn adlewyrchu Cymru heddiw, nid Cymru chwarter canrif yn ôl?
Llywydd, I'll set aside the hubristic start to the Member's question to agree with him that there is a strong case for updating the figures that lie behind the fiscal framework. The UK Labour manifesto at last July's election commits the Government to do that, and I look forward to seeing that being achieved. In the meantime, as I said in my original answer to Alun Davies, I think there is a case for us doing some work of our own, and, to the extent that he will be willing to be involved, to involve Gerry Holtham in that, particularly given the fact that he is going to be engaged in work for one of the other four governments of the United Kingdom.
Lywydd, rwyf am anwybyddu'r dechrau rhyfygus i gwestiwn yr Aelod a chytuno ag ef fod achos cryf dros ddiweddaru'r ffigurau sy'n sail i'r fframwaith cyllidol. Mae maniffesto Llafur y DU yn etholiad mis Gorffennaf diwethaf yn ymrwymo'r Llywodraeth i wneud hynny, ac edrychaf ymlaen at weld hynny'n cael ei gyflawni. Yn y cyfamser, fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol i Alun Davies, rwy'n credu bod achos dros wneud peth gwaith ein hunain, a chynnwys Gerry Holtham yn hynny cyhyd â'i fod yn barod i gymryd rhan, yn enwedig o ystyried y bydd yn gwneud gwaith i un o bedair Llywodraeth arall y Deyrnas Unedig.
5. Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i leihau baich y cynnydd blynyddol yn y dreth gyngor? OQ62199
5. What steps is the Cabinet Secretary taking to reduce the burden of annual high council tax increases? OQ62199
I thank the Member for that question. The setting of budgets and council tax levels every year is a matter for democratically accountable local councils. I ask those local authorities to consider carefully the balance between maintaining services and the financial pressures on households, and to engage directly with communities on the decisions they make.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Mae pennu cyllidebau a lefelau'r dreth gyngor bob blwyddyn yn fater i gynghorau lleol sy'n atebol yn ddemocrataidd. Gofynnaf i'r awdurdodau lleol hynny ystyried yn ofalus y cydbwysedd rhwng cynnal gwasanaethau a'r pwysau ariannol ar aelwydydd, ac i ymgysylltu'n uniongyrchol â chymunedau ar y penderfyniadau a wnânt.
Thank you. For 26 years, you have held the financial levers here in Wales, and over that time, you did not, for three years, hand over the council tax freeze money that came from the UK Conservative Government. Conwy residents now are facing the alarming prospect of a third year of a 10 per cent council tax increase. They can't afford this. It's going to place an unbearable strain on pensioners, families and hard-working individuals already struggling with the cost-of-living crisis.
We're seeing public services in decline, public toilets closed, other essential services withdrawn. Quite frankly, Cabinet Secretary, my residents are fed up, and so am I. Some of them are having to choose between food and heating because of your withdrawal of the fuel premium they could claim. When will you look at funding our local authorities? When will you look at the funding formula, and will you consider going back and introducing a cap on how much local authorities can charge in terms of percentage increases on an annual basis? Diolch.
Diolch. Am 26 mlynedd, chi sydd wedi dal y liferi ariannol yma yng Nghymru, a dros y cyfnod hwnnw, am dair blynedd, ni wnaethoch chi drosglwyddo arian rhewi'r dreth gyngor a ddaeth gan Lywodraeth Geidwadol y DU. Mae trigolion Conwy bellach yn wynebu'r posibilrwydd brawychus o drydedd flwyddyn o gynnydd o 10 y cant yn y dreth gyngor. Ni allant fforddio hyn. Mae'n mynd i roi straen annioddefol ar bensiynwyr, teuluoedd ac unigolion gweithgar sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd gyda'r argyfwng costau byw.
Rydym yn gweld gwasanaethau cyhoeddus yn dirywio, toiledau cyhoeddus yn cau, gwasanaethau hanfodol eraill yn cael eu tynnu'n ôl. A dweud y gwir, Ysgrifennydd y Cabinet, mae fy nhrigolion wedi cael llond bol, a minnau hefyd. Mae rhai ohonynt yn gorfod dewis rhwng bwyd a gwresogi oherwydd eich bod chi wedi tynnu'r premiwm tanwydd y gallent ei hawlio yn ôl. Pa bryd y gwnewch chi edrych ar ariannu ein hawdurdodau lleol? Pa bryd y gwnewch chi edrych ar y fformiwla ariannu, ac a wnewch chi ystyried mynd yn ôl a chyflwyno cap ar faint y gall awdurdodau lleol ei godi o ran cynnydd canrannol yn flynyddol? Diolch.
Thank you for those questions. Let me assure the Member that had there been a council tax freeze in Wales, then the increases in precepts that local authorities would need to make now in order to make up for that would well exceed those that councils in Wales are reporting as under consideration for next year. Even the council to which she referred is proposing an increase of between 6.7 per cent and 8.7 per cent, not 10 per cent at all. The draft budget includes an uplift for local authorities in Wales of 4.3 per cent, more or less double the current rate of inflation. As the Government here has always said, we will always be willing to listen to local authorities' proposals for reform of the funding formula when local authorities themselves are willing to agree on what those changes would be. Until the day that local authorities in Wales are able to come forward with a coherent and agreed position, there is nothing with which the Welsh Government is able to have that negotiation. If they're in a position to do it, I look forward to hearing it.
Diolch am y cwestiynau hynny. Gadewch imi sicrhau'r Aelod pe bai'r dreth gyngor wedi cael ei rhewi yng Nghymru, byddai'r cynnydd mewn praeseptau y byddai angen i awdurdodau lleol eu gwneud nawr er mwyn gwneud iawn am hynny'n llawer mwy na'r rhai y mae cynghorau yng Nghymru yn adrodd eu bod yn eu hystyried ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae hyd yn oed y cyngor y cyfeiriodd hi ato'n cynnig cynnydd o rhwng 6.7 y cant ac 8.7 y cant, nid 10 y cant o gwbl. Mae'r gyllideb ddrafft yn cynnwys cynnydd o 4.3 y cant i awdurdodau lleol yng Nghymru, dwbl y gyfradd chwyddiant bresennol fwy neu lai. Fel y mae'r Llywodraeth yma wedi dweud erioed, byddwn bob amser yn barod i wrando ar gynigion awdurdodau lleol ar gyfer diwygio'r fformiwla ariannu pan fydd awdurdodau lleol eu hunain yn barod i gytuno ar beth fyddai'r newidiadau hynny. Tan y diwrnod y gall awdurdodau lleol yng Nghymru gyflwyno safbwynt cydlynol a chytunedig, nid oes unrhyw beth gan Lywodraeth Cymru i allu cael y drafodaeth honno. Os ydynt mewn sefyllfa i wneud hynny, rwy'n edrych ymlaen at ei glywed.
I know that councils are facing sleepless nights trying to balance their books. They have had over 14 years of cuts to public service funding. It was a decision made by the Tory UK Government. I know that previously, Conwy council's leader wanted to use the reserves rather than raise council tax, and cut education funding, and those were decisions that were made that really impacted that council. But thank goodness now we do have a forward-thinking council that's looking to build up the services. It shows how important it is, because last week, when we had no mains water, they had no reserves left for resilience to help local people, and that really impacts. I would like to ask you, Cabinet Secretary, whether you would agree with me that if we're going to protect public services that are vital to our communities and to bring a decent life to our residents, we need to support councils and make sure that they're not chastised for everything they do. Because they're trying to do everything they can within a limited amount of budget. Thank you.
Rwy'n gwybod bod cynghorau'n wynebu nosweithiau digwsg yn ceisio mantoli eu cyllideb. Maent wedi cael dros 14 mlynedd o doriadau i gyllid gwasanaethau cyhoeddus. Roedd yn benderfyniad a wnaed gan Lywodraeth Dorïaidd y DU. Rwy'n gwybod bod arweinydd cyngor Conwy eisiau defnyddio'r cronfeydd wrth gefn yn hytrach na chodi'r dreth gyngor, a thorri cyllid addysg, ac mae'r rheini'n benderfyniadau a wnaed a effeithiodd yn fawr ar y cyngor hwnnw. Ond diolch byth, bellach mae gennym gyngor blaengar sy'n ceisio datblygu'r gwasanaethau. Mae'n dangos pa mor bwysig yw hynny, oherwydd yr wythnos diwethaf, pan nad oedd gennym ddŵr o'r prif gyflenwad, nid oedd ganddynt unrhyw gronfeydd gwrthsefyll ar ôl i helpu pobl leol, ac mae hynny'n cael effaith wirioneddol. Hoffwn ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, os ydym yn mynd i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus sy'n hanfodol i'n cymunedau a chynnig bywyd boddhaol i'n trigolion, a ydych chi'n cytuno bod angen inni gefnogi cynghorau a sicrhau nad ydynt yn cael eu ceryddu am bopeth a wnânt. Oherwydd maent yn ceisio gwneud popeth a allant o fewn cyllideb gyfyngedig. Diolch.
I began my political experience as a locally elected member of South Glamorgan County Council, as a number of colleagues on these benches did too, and I've always had an enormous admiration for the work that local authorities do—and that's local authorities of different political persuasions. Local councils really are the welfare state of last resort, and the services that they provide are hugely important to people who often are facing real difficulties in their lives. It's why successive Welsh Governments have invested in local government far, far in excess of the investment that has been made by Conservative Governments in England. Tough as it is—and it is tough, as Carolyn Thomas has said—our local authorities at least have the knowledge that they have a Welsh Government that is on their side rather than regarding them somehow as the enemy.
I was very pleased to be able to agree a 4.3 per cent increase in the RSG for next year, but since the draft budget was laid, I've continued in conversations with the Cabinet Secretary responsible for local government, and with others, to see whether there is more that we might be able to do as we come towards the final budget, particularly for those local authorities who are furthest away in their own uplift from that 4.3 per cent average. I'm hopeful that it will be possible to provide that further assistance by the time we come to the final budget.
Dechreuais fy mhrofiad gwleidyddol fel aelod lleol o Gyngor Sir De Morgannwg, fel y gwnaeth nifer o gyd-Aelodau ar y meinciau hyn, ac rwyf bob amser wedi bod ag edmygedd enfawr o'r gwaith y mae awdurdodau lleol yn ei wneud—ac awdurdodau lleol o wahanol liwiau gwleidyddol ar hynny. Cynghorau lleol yw'r wladwriaeth les pan fetha popeth arall, ac mae'r gwasanaethau y maent yn eu darparu yn hynod bwysig i bobl sy'n aml yn wynebu anawsterau go iawn yn eu bywydau. Dyna pam y mae Llywodraethau olynol yng Nghymru wedi buddsoddi llawer iawn mwy mewn llywodraeth leol na'r buddsoddiad a wnaed gan Lywodraethau Ceidwadol yn Lloegr. Er mor anodd ydyw—ac mae'n anodd, fel y mae Carolyn Thomas wedi dweud—mae ein hawdurdodau lleol o leiaf yn gwybod bod ganddynt Lywodraeth Cymru sydd ar eu hochr yn hytrach nag un sy'n eu hystyried rywsut fel y gelyn.
Roeddwn yn falch iawn o allu cytuno ar gynnydd o 4.3 y cant yn y grant cynnal refeniw ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond ers i'r gyllideb ddrafft gael ei gosod, rwyf wedi parhau i gael sgyrsiau gydag Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am lywodraeth leol, a chydag eraill, i weld a oes mwy y gallem ei wneud wrth inni agosáu at y gyllideb derfynol, yn enwedig i'r awdurdodau lleol sydd bellaf i ffwrdd yn eu cynnydd eu hunain o'r cyfartaledd o 4.3 y cant. Rwy'n obeithiol y bydd modd darparu cymorth pellach erbyn y gyllideb derfynol.
6. Pa ystyriaeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei roi i neilltuo cyllid yng nghyllideb y Llywodraeth er mwyn digolledu cyrff trydydd sector sy'n darparu gwasanaethau a gomisiynir gan y sector gyhoeddus, yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i godi taliadau yswiriant gwladol cyflogwyr? OQ62212
6. What consideration has the Cabinet Secretary given to allocating funding in the Government's budget to compensate third sector bodies that provide services commissioned by the public sector, in light of the UK Government's decision to increase employers' national insurance payments? OQ62212
Fel yr esboniais i wrth Heledd Fychan y prynhawn yma, dwi ddim mewn sefyllfa i ddargyfeirio cyllid sydd wedi’i fwriadu ar gyfer cyfrifoldebau sydd wedi’u datganoli i ategu cyllidebau sydd heb eu datganoli. Y flwyddyn nesaf, bydd y grant cefnogi trydydd sector yng Nghymru yn codi 7 y cant, ar adeg pan fo chwyddiant yn hofran tua 2.5 y cant. Yn y modd hwn, rydym yn parhau i gefnogi’r sector mewn cyfnod heriol.
As I explained to Heledd Fychan this afternoon, I'm not in a position to divert funding intended for devolved responsibilities to supplement non-devolved budgets. Next year, the third sector support grant in Wales will rise by 7 per cent, at a time when inflation hovers around 2.5 per cent. In that way, we continue to support the sector in challenging times.
Diolch yn fawr iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr ateb yna. Dwi wedi bod mewn cyfarfodydd efo nifer o ddarparwyr yn fy etholaeth, ac yng Nghymru, mewn gwirionedd. Roedd yna gartref gofal yn fy etholaeth i sydd yn wynebu cynnydd o £250,000 yn eu taliadau nhw. Maen nhw'n darparu gwasanaethau i'r bwrdd iechyd. Mi ydym ni eisoes wedi clywed oddi wrth Tenovus a Marie Curie yng Nghymru eu bod nhw'n edrych ar gynnydd o tua £0.25 miliwn yr un oherwydd y cynnydd yma yn y dreth. Y gwir ydy bod y cyrff yma yn darparu gwasanaethau allweddol. Pe na baent yn eu gwneud nhw, buasai'n rhaid i'r byrddau iechyd eu gwneud nhw, ac felly byddai'r gost yna'n dod ar y pwrs cyhoeddus beth bynnag. Felly, yn ôl eich ateb chi heddiw, ai'r hyn rydych chi'n ei ddweud ydy, mewn gwirionedd, oherwydd eich bod chi'n methu â'u digolledu nhw, ein bod ni'n edrych i weld y gwasanaethau yma yn crebachu neu'n diflannu, a phobl yn dioddef, a hyn yn sgil penderfyniad Llywodraeth Lafur yn San Steffan?
I thank the Cabinet Secretary for that response. I've attended meetings with a number of providers in my constituency and across Wales. There was a care home in my constituency that was facing an increase of £250,000 in their contributions. They provide services to the health board. We've already heard from Tenovus and Marie Curie in Wales that they are looking at an increase of around £0.25 million each because of this increase in national insurance contributions. The truth is that these bodies provide key services. If they didn't provide them, then the health boards would have to step in and provide them themselves, so that cost would fall to the public purse in any case. So, according to your response today, is what you're saying, in reality, because you can't compensate them, that we are looking to see these services either shrinking or disappearing and people suffering, as a result of a decision taken by a Labour Government in Westminster?
Beth dwi'n ei ddweud yw bod penderfyniadau i'w gwneud. Bob wythnos rŷn ni'n clywed Plaid Cymru yn galw am fwy o arian am bopeth: y celfyddydau yr wythnos diwethaf, awdurdodau lleol, y gwasanaeth iechyd, prydau yn ein hysgolion. Ar ddiwedd y dydd, mae penderfyniadau i ni eu gwneud. Ac fel esboniais i o flaen y Pwyllgor Cyllid, allaf i ddim blaenoriaethu cyllidebau sydd ddim wedi cael eu datganoli. Yr unig ffordd o wneud hynny yw i ddefnyddio'r arian sydd gyda ni am y cyfrifoldebau sydd gyda ni yma ar lawr y Senedd. Rŷn ni wedi rhoi mwy o arian, fel y dywedais i, i'r trydydd sector ac i'r sectorau eraill, i'w helpu nhw gyda'r pethau cyffredinol maen nhw'n eu hwynebu ar hyn o bryd. Allaf i ddim sefyll i mewn i ffeindio'r arian am bethau sydd wedi dod o San Steffan a ble does dim arian gyda ni i wneud hwnna.
What I'm saying is that there are decisions are to be made. Every week we hear Plaid Cymru calling for more money for everything: the arts last week, local authorities, the health service, free school meals. At the end of the day, we have decisions to make. As I explained to the Finance Committee, I can't prioritise non-devolved budgets. The only way to do that is to use the funding that we have for the responsibilities that we have here on the floor of the Senedd. We've provided more funding, as I said, to the third sector and to the other sectors, to help them in respect of the general things that they're facing at present. I can't find funding for things that have come from Westminster where we don't have funding to do that.
Cabinet Secretary, as Mabon has pointed out, the increase in national insurance contributions is one of the biggest challenges facing the third sector in Wales. With already squeezed budgets, many organisations are struggling to make ends meet and are considering cutting services, staff, or both. Just this morning, I was informed that one of my local credit unions will be closing its branch in Port Talbot as a result of the increased costs of employing staff, adding further job losses to a town already struggling to cope. The Chancellor's decisions are having a devastating impact on employment and employers. Cabinet Secretary, what discussions have you had with the UK Treasury about ways to support charities and organisations who provide a public service not necessarily using public funds and are struggling to cope with the additional burdens placed on them by the recent UK budget?
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y nododd Mabon, mae'r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol yn un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r trydydd sector yng Nghymru. Gyda chyllidebau eisoes dan bwysau, mae llawer o sefydliadau yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd ac yn ystyried torri gwasanaethau, staff, neu'r ddau. Y bore yma, cefais wybod y bydd un o fy undebau credyd lleol yn cau ei gangen ym Mhort Talbot o ganlyniad i gostau cynyddol cyflogi staff, gan golli rhagor o swyddi mewn tref sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd ymdopi. Mae penderfyniadau'r Canghellor yn cael effaith ddinistriol ar gyflogaeth a chyflogwyr. Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau a gawsoch gyda Thrysorlys y DU am ffyrdd o gefnogi elusennau a sefydliadau sy'n darparu gwasanaeth cyhoeddus nad ydynt o reidrwydd yn defnyddio arian cyhoeddus ac sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â'r beichiau ychwanegol a roddwyd arnynt gan gyllideb ddiweddar y DU?
Well, Llywydd, I understand the points that the Member has raised, and it is why, indeed, those points and others have been drawn to the attention of Treasury Ministers in London. I've raised them orally and I've written to the Chief Secretary to the Treasury setting out those concerns, the concerns raised by different organisations in Wales with us a Government. The Finance: Interministerial Standing Committee, the meeting of finance Ministers from the four UK Governments, will take place in Cardiff next month, and that will be a further opportunity for Ministers from Northern Ireland, Scotland and certainly here in Wales to raise these issues again with UK colleagues.
Wel, Lywydd, rwy'n deall y pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u codi, a dyna pam, yn wir, y mae'r pwyntiau hynny ac eraill wedi'u dwyn i sylw Gweinidogion y Trysorlys yn Llundain. Rwyf wedi eu codi ar lafar ac rwyf wedi ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yn nodi'r pryderon hynny, y pryderon a godwyd i'n sylw ni fel Llywodraeth gan wahanol sefydliadau yng Nghymru. Bydd y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid, cyfarfod rhwng Gweinidogion cyllid pedair Llywodraeth y DU, yn digwydd yng Nghaerdydd fis nesaf, a bydd hwnnw'n gyfle pellach i Weinidogion o Ogledd Iwerddon, yr Alban ac yn sicr yma yng Nghymru godi'r materion hyn eto gyda chymheiriaid yn y DU.
7. Sut y bydd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 yn cyflawni'r pedair blaenoriaeth allweddol a nodwyd gan y Prif Weinidog? OQ62223
7. How will the Welsh Government’s draft budget for 2025-26 deliver on the four key priorities set out by the First Minister? OQ62223
I thank Lee Waters for that, Llywydd. The draft budget aligns the revenue support and the capital investment available next year against the four priorities of the Government, funding a healthier Wales, jobs and green growth, opportunity for every family and connecting communities.
Diolch i Lee Waters am hynny, Lywydd. Mae'r gyllideb ddrafft yn alinio'r cymorth refeniw a'r buddsoddiad cyfalaf sydd ar gael y flwyddyn nesaf â phedair blaenoriaeth y Llywodraeth, sef ariannu Cymru iachach, swyddi a thwf gwyrdd, cyfle i bob teulu a chysylltu cymunedau.
Thank you. Bearing in mind we had a £1 million settlement in capital spending from the last Government, the £175 million of capital funding delivered in this draft budget is 10 times the average growth in capital funding that's been made available over the last 14 years. That will allow investment in the maintenance of the NHS estate in new building and, of course, in crucial new scanners, equipment and digital technology. But, of course, every success brings its challenge, and you've said yourself that you're going to push the envelope further by maximising the borrowing capacity to add as much as possible to make up for that long drought in investment that we've had. So, what steps can be taken to make sure that the supply chains are able to deliver on time, that the skills are available to do that work, and that health boards are able to manage that expenditure on this fantastic investment bonanza that you've provided?
Diolch. O gofio inni gael setliad o £1 filiwn mewn gwariant cyfalaf gan y Llywodraeth ddiwethaf, mae'r £175 miliwn o gyllid cyfalaf a ddarperir yn y gyllideb ddrafft hon 10 gwaith y twf cyfartalog mewn cyllid cyfalaf a fu ar gael dros y 14 mlynedd diwethaf. Bydd hynny'n caniatáu buddsoddiad tuag at gynnal a chadw ystad y GIG mewn adeiladau newydd ac wrth gwrs, mewn sganwyr, offer a thechnoleg ddigidol newydd hanfodol. Ond wrth gwrs, i bob llwyddiant mae yna her, ac rydych chi wedi dweud eich hun eich bod chi'n mynd i wthio ymhellach trwy wneud y mwyaf o'r capasiti benthyca i ychwanegu cymaint â phosibl er mwyn gwneud iawn am y sychder hir o ran buddsoddi. Felly, pa gamau y gellir eu cymryd i sicrhau bod y cadwyni cyflenwi yn gallu cyflawni ar amser, fod y sgiliau ar gael i wneud y gwaith hwnnw, a bod byrddau iechyd yn gallu rheoli gwariant ar y bonansa buddsoddi gwych a ddarparwyd gennych?
Well, I thank Lee Waters for that. He is right, Llywydd, there were two budgets in the last financial year. In the autumn statement, Wales received an additional £7 million for all our capital needs, and in the spring budget we received an additional £1 million for all our capital needs. The amount of capital we received in the October budget from the new Government outstripped all of that and, indeed, outstripped the increases in capital expenditure that we'd had from the UK Government over many years prior to that accumulatively—not just in one year, but if you added them all up, it was less than we received in October.
You do have to be careful as you turn the tap on on capital expenditure. We rehearsed this, I thought very usefully, in front of the Finance Committee last week, because there are other constraints, and supply blockages certainly are one of them—having skilled people on the ground able to develop plans and make sure that they're implemented. If you're not careful, what you do is you inject extra money into a constrained market and you don't get any more for your money; all you do is you drive up prices because the market is inevitably tipped towards the suppliers that are there. Now, we have over £3 billion for the first time to invest in capital projects in Wales in the next financial year. I have done my best to push that envelope to the further end of what I think can be successfully and efficiently spent in the Welsh public service, but it will need careful monitoring. It will need monitoring from the centre, as well as at local health board level in the case of the health service, to make sure that that extra money does result in the advantages to which Lee Waters pointed in his supplementary question.
Wel, diolch i Lee Waters am hynny. Mae'n gywir, Lywydd, roedd dwy gyllideb yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Yn natganiad yr hydref, derbyniodd Cymru £7 miliwn ychwanegol ar gyfer ein holl anghenion cyfalaf, ac yng nghyllideb y gwanwyn cawsom £1 filiwn ychwanegol ar gyfer ein holl anghenion cyfalaf. Roedd faint o gyfalaf a gawsom yng nghyllideb mis Hydref gan y Llywodraeth newydd yn llawer mwy na hynny i gyd ac yn wir, yn fwy na'r cynnydd mewn gwariant cyfalaf a gawsom gan Lywodraeth y DU dros nifer o flynyddoedd cyn hynny gyda'i gilydd—nid yn unig mewn blwyddyn, ond pe baech chi'n eu hadio i gyd at ei gilydd, roedd yn llai nag a gawsom ym mis Hydref.
Mae'n rhaid i chi fod yn ofalus wrth i chi agor y tap ar wariant cyfalaf. Fe wnaethom sôn am hyn, yn ddefnyddiol iawn yn fy marn i, gerbron y Pwyllgor Cyllid yr wythnos diwethaf, oherwydd mae cyfyngiadau eraill, ac mae rhwystrau cyflenwi yn sicr yn un ohonynt—cael pobl fedrus ar lawr gwlad sy'n gallu datblygu cynlluniau a gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu gweithredu. Os nad ydych chi'n ofalus, yr hyn a wnewch yw chwistrellu arian ychwanegol i mewn i farchnad gyfyngedig ac ni chewch fwy am eich arian; y cyfan a wnewch yw gwthio prisiau i fyny oherwydd mae'n anochel fod y farchnad yn gwyro tuag at y cyflenwyr sydd yno. Nawr, mae gennym dros £3 biliwn am y tro cyntaf i fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf yng Nghymru yn y flwyddyn ariannol nesaf. Rwyf wedi gwneud fy ngorau i wthio hynny tuag at y nod pellach o'r hyn y credaf y gellir ei wario'n llwyddiannus ac yn effeithlon yng ngwasanaeth cyhoeddus Cymru, ond bydd angen monitro gofalus ar hynny. Bydd angen monitro o'r canol, yn ogystal ag ar lefel byrddau iechyd lleol yn achos y gwasanaeth iechyd, er mwyn sicrhau bod yr arian ychwanegol yn arwain at y manteision y cyfeiriodd Lee Waters atynt yn ei gwestiwn atodol.
8. A wnaiff yr Ysgrifenydd Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth Llywodraeth Cymru i oedolion sy’n dysgu Cymraeg? OQ62214
8. Will the Cabinet Secretary provide an update on Welsh Government support for adults learning Welsh? OQ62214
Diolch yn fawr i Hannah Blythyn. Llywydd, mae £15.5 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn y ganolfan genedlaethol eleni i ddarparu cyfleoedd i oedolion a phobl ifanc ddysgu Cymraeg. Mae’r gyllideb ddrafft yn cynnwys buddsoddiad o £16.7 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd hyn yn caniatáu i'r ganolfan ehangu’r ddarpariaeth mewn sectorau fel addysg ac iechyd.
I thank Hannah Blythyn for the question. Llywydd, £15.5 million is being invested in the national centre this year to provide opportunities for adults and young people to learn Welsh. The draft budget includes an investment of £16.7 million for the next financial year. This will allow the centre to expand its delivery in key sectors, such as education and health.
Diolch i chi am yr ymateb hwnnw. Dechreuais i ddysgu Cymraeg eto pan oeddwn yn oedolyn ac yn byw yn Llundain. Cymraeg oedd iaith gyntaf taid, ond roedd fy nain yn dod o Lerpwl, a doedden nhw ddim yn siarad Cymraeg gartref, felly wnaeth fy nhad erioed ddysgu Cymraeg. Dysgais i Gymraeg yn yr ysgol yn fy etholaeth yng ngogledd Cymru, ond doeddwn i ddim yn gallu sefyll arholiad. Ond yr haf diwethaf, pasiais i fy arholiad Cymraeg cyntaf. Mi wnes yr arholiad yng Ngholeg Cambria yn Wrecsam, a'r flwyddyn cyn hynny mi wnes i gwrs haf yno. Dwi hefyd yn cael gwersi bob wythnos drwy’r Senedd, ond mae'n anodd trefnu dysgu o amgylch bywyd a gwaith. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, gaf i ofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi dysgu mwy hyblyg i oedolion, o wersi rheolaidd i gyrsiau adolygu ac adnoddau arlein i sgwrsio yn y gymuned? Diolch.
Thank you for that answer. I started learning Welsh again as an adult when I was living in London. My taid was a first-language Welsh speaker, but my nanna was from Liverpool, and they didn't speak Welsh at home, therefore my dad never learned Welsh. I learned Welsh at school in my constituency in north Wales, but I wasn't able to take an exam. However, last summer I passed my first ever Welsh exam. I took the exam at Coleg Cambria in Wrexham, and the year before I did a summer course there. I also have lessons every week through the Senedd, but it can be difficult to fit learning around life and work. Therefore, Cabinet Secretary, can I ask what is the Welsh Government doing to support more flexible learning for adults, from regular lessons to revision courses and online resources to conversations in the community? Thank you.
Wel, llongyfarchiadau mawr i Hannah Blythyn am ei defnydd hi o'r Gymraeg ar lawr y Senedd ac, wrth gwrs, am y llwyddiant roedd hi wedi'i gael dros yr haf. A diolch am y cyfle i dynnu sylw at y ffaith fod y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnig darpariaeth arlein, wyneb yn wyneb neu'n hybrid ar draws pob lefel i'r dysgwyr. Mae cynnig amrywiaeth o ddarpariaeth yn sicrhau bod cyfleoedd ar gael i bob un ddysgu Cymraeg yn y ffordd sy'n siwtio nhw orau. A thrwy wneud hynny, mae creu cyfleoedd i ddysgwyr ymarfer siarad a defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bod dydd yn hollol bwysig os ydyn ni am greu siaradwyr newydd hyderus. Mae darparwyr dysgu Cymraeg yn cynnig ystod o weithgareddau i gefnogi dysgwyr, gan gynnwys Sadyrnau Siarad, boreau coffi a sesiynau adolygu mewn ffordd sy'n addas i bobl sy'n dysgu.
Well, many congratulations to Hannah Blythyn on her use of Welsh on the floor of the Senedd and, of course, for her success over the summer months. And thank you for the opportunity to highlight the fact that the National Centre for Learning Welsh does provide online, face-to-face or hybrid provision on all levels for learners. Providing a variety of opportunities ensures that there are opportunities available for everyone to learn Welsh in the way that suits them best. And in doing that, creating opportunities for learners to practise and use the Welsh language in their daily lives is crucially important if we are to create confident new Welsh speakers. Welsh teaching providers offer a range of activities to support learners, including Sadyrnau Siarad, coffee mornings and study sessions that are appropriate for people who are learning.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y sesiwn yna.
I thank the Cabinet Secretary for that session.
Yr eitem nesaf fydd y sesiwn gwestiynau i'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Y cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Peredur Owen Griffiths.
The next item will be questions to the Deputy First Minister and the Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs. The first question this afternoon is from Peredur Owen Griffiths.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â pherchnogaeth anghyfrifol ar gŵn? OQ62198
1. Will the Cabinet Secretary provide an update on the Welsh Government's plans to tackle irresponsible dog ownership? OQ62198

Diolch, Peredur. I attended our annual responsible dog ownership and breeding summit on 24 October. This collaborative work involves multiple stakeholders, including enforcers and campaigners for dog welfare and for public safety. Can I say I'm very grateful to you, Peredur, for agreeing to sponsor our partnership event in the Senedd in April where the achievements to date will be shared?
Diolch, Peredur. Mynychais ein huwchgynhadledd flynyddol ar berchnogaeth gyfrifol ar gŵn a bridio cŵn ar 24 Hydref. Mae'r gwaith cydweithredol hwn yn cynnwys nifer o randdeiliaid, gan gynnwys swyddogion gorfodi ac ymgyrchwyr dros les cŵn a diogelwch y cyhoedd. A gaf i ddweud fy mod yn ddiolchgar iawn i chi, Peredur, am gytuno i noddi ein digwyddiad partneriaeth yn y Senedd ym mis Ebrill lle caiff y cyflawniadau hyd yma eu rhannu?
Thank you very much, and it's good to have that co-operation with you on this, and to see the work going forward. As you know, Minister, the issue of dangerous dogs has been something I have constantly raised in this Chamber. In recent years my region has suffered some appalling tragedies in connection with irresponsible dog ownership that has led to fatalities and jail time for offenders.
I was hopeful that the Government could introduce legislation in this Senedd that would compel responsible dog ownership, and I have previously outlined how that could happen within existing powers. With a packed legislative programme and the next Senedd election fast approaching, it looks like that ship may have sailed. In light of that, the next best thing your Government could do is run a targeted awareness campaign within the next 15 months, with support from organisations such as the RSPCA, who have long called for such action to promote responsible dog ownership across the country. This could have a big impact on increasing community safety, which should be a priority, along with protecting and improving animal welfare. It would also go some way to ensuring that there is a consistent approach and set of outcomes throughout the country, because, at present, it seems there are pockets of good practice but not uniform. Could you please give me an idea of what you're planning to do?
Diolch, ac mae'n dda cael y cydweithrediad hwnnw gyda chi ar hyn, a gweld y gwaith yn symud ymlaen. Fel y gwyddoch, Weinidog, mae mater cŵn peryglus wedi bod yn rhywbeth rwyf wedi'i godi'n gyson yn y Siambr hon. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae fy rhanbarth wedi dioddef trychinebau erchyll yn gysylltiedig â pherchnogaeth anghyfrifol ar gŵn sydd wedi arwain at farwolaethau a dedfrydau o garchar i droseddwyr.
Roeddwn yn obeithiol y gallai'r Llywodraeth gyflwyno deddfwriaeth yn y Senedd hon a fyddai'n gorfodi perchnogaeth gyfrifol ar gŵn, ac rwyf eisoes wedi amlinellu sut y gallai hynny ddigwydd o fewn y pwerau presennol. Gyda rhaglen ddeddfwriaethol lawn ac etholiad nesaf y Senedd yn agosáu'n gyflym, mae'n edrych yn debyg y gallai fod yn rhy hwyr i hynny. Oherwydd hynny, y peth gorau nesaf y gallai eich Llywodraeth ei wneud yw cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth wedi'i thargedu o fewn y 15 mis nesaf, gyda chefnogaeth gan sefydliadau fel yr RSPCA, sydd wedi galw ers tro am gamau o'r fath i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn ledled y wlad. Gallai hyn gael effaith fawr ar gynyddu diogelwch cymunedol, a ddylai fod yn flaenoriaeth, ynghyd â diogelu a gwella lles anifeiliaid. Byddai hefyd yn mynd rywfaint o'r ffordd tuag at sicrhau bod dull cyson o weithredu a set gyson o ganlyniadau ledled y wlad, oherwydd, ar hyn o bryd, mae'n ymddangos bod pocedi o arfer da ond nid yw'n gyson. A allech chi roi syniad i mi o'r hyn y bwriadwch ei wneud?
Thank you, Peredur, and also thanks to you and other MSs for your engagement and for championing this, because of the too many eventualities that we have had that have been terrible incidents, and they still happen, so we do need to address this. And you are right, we need to raise awareness, and in fact the RSPCA is one of the many stakeholders in that quite powerful partnership collaboration we have on responsible ownership. We have some excellent examples out there and we need to showcase more of these and then get them to be adopted, not as best practice but as common practice, and we've seen that within the meetings and the summits that I have attended. So, for example, I know we've discussed the local environmental awareness on dogs initiative within the Gwent police force area, and how we can extend that application across all forces within Wales, although some are doing a version of it but slightly different—that collaboration space and then share the best practice and learn from each other. The uptake of the responsible dog ownership courses, which, all credit to Blue Cross, are now working across all of our four police areas, are really powerful again, because they actually work with owners to identify early warning signals of irresponsible ownership and then to get into that space and work with them to actually develop responsible ownership approaches.
There's the influential work that is done by an organisation many of us know, Hope Rescue, in my own patch, in fact, near to Llanharan, in the community, and the support they give as well to mental health charities but also to dog owners, working with dog owners as well. And, of course, the key to this, actually, this collaboration as well, is also going to be bringing forward the Welsh Government-funded animal licensing Wales project, because that delivers a website, a new portal, that organisations and individuals can access—local authority, breeders and members of the public as well. And this also deals not just with responsible ownership, but also things such as illegal dog breeding, which is linked to this, and the raising of standards and conditions for breeding. So, there is much that we're doing. We need to sing that out louder and then make sure that this good practice is replicated right across the whole of Wales. But there's a tremendous amount of good work going on, and I'm looking forward to that event because we can showcase some of this.
Diolch, Peredur, a diolch hefyd i chi ac Aelodau eraill am eich ymgysylltiad ac am hyrwyddo hyn, oherwydd rydym wedi cael gormod o ddigwyddiadau ofnadwy, ac maent yn dal i ddigwydd, felly mae angen i ni fynd i'r afael â hyn. Ac rydych chi'n iawn, mae angen inni godi ymwybyddiaeth, ac mewn gwirionedd mae'r RSPCA yn un o'r nifer o randdeiliaid yn y gwaith partneriaeth pwerus sydd gennym ar berchnogaeth gyfrifol. Mae gennym enghreifftiau gwych allan yno ac mae angen inni arddangos mwy o'r rhain a'u cael wedi eu mabwysiadu, nid fel arfer gorau ond fel arfer cyffredin, ac rydym wedi gweld hynny yn y cyfarfodydd a'r uwchgynadleddau a fynychais. Felly, er enghraifft, rwy'n gwybod ein bod wedi trafod y cynllun ymwybyddiaeth amgylcheddol leol ar gŵn yn ardal heddlu Gwent, a sut y gallwn ymestyn hwnnw ar draws pob llu yng Nghymru, er bod rhai yn gwneud fersiwn ohono ond ychydig yn wahanol—y gofod cydweithio hwnnw ac yna rhannu'r arfer gorau a dysgu oddi wrth ei gilydd. Mae'r nifer sy'n manteisio ar y cyrsiau perchnogaeth gyfrifol ar gŵn, er clod i'r Groes Las, bellach yn gweithio ar draws pob un o'n pedair ardal heddlu, yn bwerus iawn eto, oherwydd eu bod yn gweithio gyda pherchnogion i nodi arwyddion rhybudd cynnar o berchnogaeth anghyfrifol a gweithio gyda hwy i ddatblygu dulliau perchnogaeth gyfrifol.
Mae gwaith dylanwadol yn cael ei wneud gan sefydliad y mae llawer ohonom yn ei adnabod, Hope Rescue, yn fy ardal fy hun, yn agos at Lanharan, yn y gymuned, a'r gefnogaeth y maent yn ei rhoi i elusennau iechyd meddwl ond hefyd i berchnogion cŵn, gan weithio gyda pherchnogion cŵn. Ac wrth gwrs, yr allwedd i hyn, y cydweithrediad hwn, yw cyflwyno prosiect trwyddedu anifeiliaid Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru, oherwydd mae hwnnw'n darparu gwefan, porth newydd, y gall sefydliadau ac unigolion ei gyrchu—awdurdodau lleol, bridwyr ac aelodau o'r cyhoedd hefyd. Ac mae hwn hefyd yn ymdrin nid yn unig â pherchnogaeth gyfrifol, ond hefyd â phethau fel bridio cŵn yn anghyfreithlon, sy'n gysylltiedig â hyn, a chodi safonau ac amodau ar gyfer bridio. Felly, rydym yn gwneud llawer. Mae angen inni ddweud hynny'n uwch a sicrhau bod yr arfer da hwn yn cael ei ailadrodd ledled Cymru gyfan. Ond mae llawer iawn o waith da yn digwydd, ac rwy'n edrych ymlaen at y digwyddiad hwnnw oherwydd gallwn arddangos rhywfaint o hyn.
I think we can all agree that responsible dog ownership means prioritising the welfare of the animal as well, and over the last few years, however, this Senedd has heard repeatedly how the greyhound racing industry fails to meet even basic welfare standards, and I have written to the Cabinet Secretary with the latest statistics regarding deaths and injuries on the Valley track. The Welsh Government's animal welfare licensing consultation saw two thirds of respondents in favour of a phased or imminent ban on greyhound racing in Wales. This provides new and irrefutable evidence of the strength of support for an end to this activity, with more people in favour of a ban than the licensing of greyhound trainers, owners and keepers, as proposed elsewhere in the consultation. So, Cabinet Secretary, please could you provide reassurances that the views of the vast majority of respondents will be your focus, while making a decision on the future of greyhound racing in Wales?
Rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno bod perchnogaeth gyfrifol ar gŵn yn golygu blaenoriaethu lles yr anifail hefyd, a dros y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, mae'r Senedd hon wedi clywed dro ar ôl tro sut y mae'r diwydiant rasio milgwn yn methu cyrraedd safonau lles sylfaenol hyd yn oed, ac rwyf wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet gyda'r ystadegau diweddaraf ynghylch marwolaethau ac anafiadau ar drac Valley. Gwelodd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar drwyddedu lles anifeiliaid fod dwy ran o dair o'r ymatebwyr o blaid gwaharddiad ar unwaith neu waharddiad graddol ar rasio milgwn yng Nghymru. Dyma dystiolaeth newydd ac anwadadwy o gryfder y gefnogaeth i ddod â'r gweithgaredd hwn i ben, gyda mwy o bobl o blaid gwaharddiad na thrwyddedu hyfforddwyr, perchnogion a cheidwaid milgwn, fel y cynigir mewn rhannau eraill o'r ymgynghoriad. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allech chi roi sicrwydd mai barn y mwyafrif helaeth o ymatebwyr fydd eich ffocws chi, wrth wneud penderfyniad ar ddyfodol rasio milgwn yng Nghymru?
Carolyn, thank you very much indeed, and also for writing to me, and also for relentlessly championing this important matter. And there are others in this Chamber as well who have also been very outspoken on this issue as well. As you know, we fairly recently, actually, published the summary of the responses to the consultation we did on the licensing of animal welfare establishments, activities and exhibits, and we are looking forward to sharing the next steps as soon as possible. I can give you that assurance. You point to some of the evidence and the views that were put forward. Look, we firmly acknowledge the strength of feeling around the questions being asked, including specifically on greyhound welfare. It is important that we now take the time to consider all the evidence that has been put forward—including, as you say, you wrote to me the other day—and then we can actually bring forward our next steps as soon as possible. So, Carolyn, thanks for the way that you and others have championed this issue and have put forward evidence. You continue to do so as well. I am looking forward to sharing the next steps as soon as possible, having published that summary of responses quite recently, and then considering all the evidence and the views expressed within that consultation.
Carolyn, diolch i chi, a hefyd am ysgrifennu ataf, ac am hyrwyddo'r mater pwysig hwn yn ddi-ildio. Ac mae eraill yn y Siambr hefyd wedi bod yn ddi-flewyn-ar-dafod ar y mater. Fel y gwyddoch, yn weddol ddiweddar, fe wnaethom gyhoeddi'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a wnaethom ar drwyddedu sefydliadau lles anifeiliaid, gweithgareddau ac arddangosfeydd, ac rydym yn edrych ymlaen at rannu'r camau nesaf cyn gynted â phosibl. Gallaf roi'r sicrwydd hwnnw i chi. Rydych chi'n tynnu sylw at beth o'r dystiolaeth a'r safbwyntiau a gyflwynwyd. Edrychwch, rydym yn cydnabod yn gadarn pa mor gryf yw'r teimlad ynghylch y cwestiynau sy'n cael eu gofyn, gan gynnwys ar les milgwn yn benodol. Mae'n bwysig ein bod yn rhoi amser nawr i ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd—gan gynnwys, fel y dywedwch, eich bod wedi ysgrifennu ataf y diwrnod o'r blaen—ac yna gallwn gyflwyno ein camau nesaf cyn gynted â phosibl. Felly, Carolyn, diolch am y ffordd rydych chi ac eraill wedi hyrwyddo'r mater hwn ac wedi cyflwyno tystiolaeth. Rydych chi'n dal i wneud hynny hefyd. Rwy'n edrych ymlaen at rannu'r camau nesaf cyn gynted â phosibl, ar ôl cyhoeddi'r crynodeb o'r ymatebion yn eithaf diweddar, ac ystyried yr holl dystiolaeth a'r safbwyntiau a fynegwyd yn yr ymgynghoriad hwnnw.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wyrdroi colli rhywogaethau? OQ62193
2. What action is the Welsh Government taking to reverse species loss? OQ62193
Thank you, Mark. The Welsh Government has now invested over £150 million in programmes like Nature Networks and Natur am Byth to restore our most precious habitats and our species at local and landscape scales. Indeed, Curlew Connections is one project that I know is close to your heart that’s received around £1 million to help reverse the decline of this very iconic species.
Diolch, Mark. Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi buddsoddi dros £150 miliwn mewn rhaglenni fel Rhwydweithiau Natur a Natur am Byth i adfer ein cynefinoedd mwyaf gwerthfawr a'n rhywogaethau ar raddfeydd lleol a thirwedd. Yn wir, mae Cysylltu Gylfinir yn un prosiect y gwn ei fod yn agos at eich calon sydd wedi derbyn tua £1 filiwn i helpu i wrthdroi dirywiad y rhywogaeth eiconig hon.
Yes, absolutely, and I was at the launch at the Royal Welsh Show. But the curlew you mentioned, embedded in the culture of Wales, is forecast to be extinct as a breeding population in Wales by 2033 without interventions. Due to the severity of breeding curlew declines in the UK and Ireland, there's growing widespread interest in the potential for headstarting as a conservation intervention to aid curlew recovery, with the release into the wild of birds that have been hatched and reared from eggs harvested from the wild. What consideration have you therefore given, or will you give, to the Gylfinir Cymru Curlew Wales paper, a framework for headstarting Eurasian curlew in Wales? Further, noting your meeting last month with a delegation representing the Gylfinir Cymru agricultural and environment scheme sub-group—after which they told me that you seemed to grasp well the multiple benefits that managing beneficially the curlew could bring to both the environment and people—what action have you taken following your recognition at that meeting that Gylfinir Cymru is an essential group with which to liaise, and your agreement to nudge the policy makers with whom they need to liaise?
Yn sicr, ac roeddwn yn y lansiad yn Sioe Frenhinol Cymru. Ond rhagwelir y bydd y gylfinir a grybwylloch chi, sy'n rhan annatod o ddiwylliant Cymru, wedi diflannu fel poblogaeth sy'n nythu yng Nghymru erbyn 2033 heb ymyriadau. Oherwydd difrifoldeb y dirywiad yn niferoedd gylfinirod sy'n nythu yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, mae diddordeb cynyddol ym mhotensial cadw wyau fel ymyrraeth gadwraeth i gynorthwyo adferiad y gylfinir, gydag adar sydd wedi cael eu deor a'u magu o wyau a gynaeafwyd o'r gwyllt yn cael eu rhyddhau i'r gwyllt. Pa ystyriaeth a roddwyd gennych felly, neu y byddwch chi'n ei rhoi, i bapur Gylfinir Cymru, fframwaith ar gyfer cadw wyau gylfinir Ewrasia yng Nghymru? Ar ben hynny, gan nodi eich cyfarfod fis diwethaf gyda dirprwyaeth yn cynrychioli is-grŵp cynllun amaethyddol ac amgylcheddol Gylfinir Cymru—ar ôl y cyfarfod hwnnw, roeddent yn dweud wrthyf ei bod yn ymddangos eich bod yn amgyffred y manteision lluosog y gallai rheoli'r gylfinir eu cynnig i'r amgylchedd ac i bobl—pa gamau a gymerwyd gennych yn dilyn eich cydnabyddiaeth yn y cyfarfod hwnnw fod Gylfinir Cymru yn grŵp hanfodol i gysylltu ag ef, a'ch cytundeb i annog y llunwyr polisi y mae angen iddynt gysylltu â hwy?
Mark, thank you very much, and for the work that you're doing in championing this iconic species. We can sometimes be really pessimistic that we can do nothing on species like this, but I mentioned, I think it was last week, in a debate here, that I was out with the First Minister on the downs above Ogmore-by-Sea, and we were looking at one of the species that's also highly endangered, which is the high brown fritillary butterfly—a completely different species, but equally important because it's also linked to a type of habitat. There are three locations in the whole of the UK where this is critically endangered. There's only one where it's recovering—it's here in Wales, and it's because of long-term investment that we've done to turn this around. So, we can have hope.
Thank you for flagging the meeting that I recently had with Gylfinir Cymru Curlew Wales. I was delighted to do that, because I believe in working with people out there and looking at the evidence of what can actually restore and turn around the decline in curlews, as with our other species. There are significant challenges facing curlews. So, I'm actually going to be visiting later this year one of the most important curlew areas in Wales, to see myself upfront the excellent work that's actually going on on the ground now to benefit curlews, and, hopefully, I've got to say, to see and hear the curlew myself. I was at the event that you, and Alun Davies and others, sponsored last year; to hear it on the tape is not the same as hearing it in person, and too few people now are hearing this. The farmers don't hear it any more. We need to get back to that. So, I'm keen to work with the evidence. It was a good meeting. I'm very pleased to see new and innovative ways also that we are using technology to understand some of the challenges the species face. Mark, I'll keep that engagement going, and I'm more than happy to meet with you as well to discuss what we're doing in this space.
Mark, diolch yn fawr, ac am y gwaith a wnewch ar hyrwyddo'r rhywogaeth eiconig hon. Gallwn fod yn besimistaidd iawn weithiau na allwn wneud dim byd ynglŷn â rhywogaethau fel hyn, ond yr wythnos diwethaf rwy'n credu, mewn dadl yma, soniais fy mod allan gyda'r Prif Weinidog ar y twyni uwchben Aberogwr, ac roeddem yn edrych ar un o'r rhywogaethau sydd hefyd mewn perygl mawr, sef glöyn byw y fritheg frown—rhywogaeth hollol wahanol, ond yr un mor bwysig oherwydd mae hithau hefyd yn gysylltiedig â math o gynefin. Mae tri lleoliad yn y Deyrnas Unedig gyfan lle mae'r rhywogaeth hon mewn perygl difrifol. Nid yw'n adfer yn unman heblaw yng Nghymru, a hynny oherwydd buddsoddiad hirdymor a ddarparwyd gennym i wrthdroi hyn. Felly, gallwn gael gobaith.
Diolch am dynnu sylw at y cyfarfod a gefais yn ddiweddar gyda Gylfinir Cymru. Roeddwn yn falch iawn o wneud hynny, oherwydd rwy'n credu mewn gweithio gyda phobl allan yno ac edrych ar y dystiolaeth o'r hyn a all adfer a gwrthdroi'r dirywiad mewn gylfinirod, fel gyda'n rhywogaethau eraill. Mae heriau sylweddol yn wynebu gylfinirod. Felly, rwy'n mynd i ymweld yn ddiweddarach eleni ag un o ardaloedd pwysicaf y gylfinir yng Nghymru, i weld drosof fy hun y gwaith rhagorol sy'n digwydd ar lawr gwlad nawr er budd gylfinirod, a gweld a chlywed y gylfinir fy hun, gobeithio. Roeddwn yn y digwyddiad y gwnaethoch chi, ac Alun Davies ac eraill, ei noddi llynedd; nid yw ei glywed ar y tâp yr un fath â'i glywed drosoch eich hun, ac ychydig iawn o bobl sy'n ei glywed bellach. Nid yw'r ffermwyr yn ei glywed mwyach. Mae'n rhaid inni fynd yn ôl at hynny. Felly, rwy'n awyddus i weithio gyda'r dystiolaeth. Roedd yn gyfarfod da. Rwy'n falch iawn o weld ffyrdd newydd ac arloesol o ddefnyddio technoleg i ddeall rhai o'r heriau y mae'r rhywogaeth yn eu hwynebu. Mark, rwyf am barhau â'r ymgysylltu hwnnw, ac rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â chi hefyd i drafod yr hyn a wnawn yn y maes hwn.
Cabinet Secretary, as we've discussed many times before, the Gwent levels are a very precious area within Wales, and partly within my constituency. They support a variety of species, as you know, one of which is the water vole. They were reintroduced at Magor marsh, and have since spread across the levels, and there is ambition to spread them further on the levels, perhaps accessing some of the Nature Networks funding. But, given that they're in decline in terms of the areas that have water voles in the UK, I think it makes it even more important that we have this reintroduction and thriving of water voles on the Gwent levels. It's but one example of their value for different species and biodiversity. So, would you agree with me, Cabinet Secretary, that it's very, very important that we protect, nurture and enhance areas such as the Gwent levels, and, particularly, protect them from the threats of unwanted and inappropriate development?
Ysgrifennydd y Cabinet, fel rydym wedi ei drafod sawl gwaith o'r blaen, mae gwastadeddau Gwent yn ardal werthfawr iawn yng Nghymru, ac yn rhannol yn fy etholaeth i. Maent yn cefnogi amrywiaeth o rywogaethau, fel y gwyddoch, ac un ohonynt yw llygoden y dŵr. Fe'u hailgyflwynwyd yng nghors Magwyr, ac ers hynny maent wedi lledaenu ar draws y gwastadeddau, ac mae uchelgais i'w lledaenu ymhellach ar y gwastadeddau, gan ddefnyddio peth o gyllid y Rhwydweithiau Natur efallai. Ond o ystyried eu bod yn dirywio yn yr ardaloedd sydd â llygod y dŵr yn y Deyrnas Unedig, rwy'n credu ei bod yn bwysicach byth ein bod yn gweld yr ailgyflwyno'n digwydd a bod llygod y dŵr yn ffynnu ar wastadeddau Gwent. Dim ond un enghraifft ydyw o'u gwerth i wahanol rywogaethau a bioamrywiaeth. Felly, a fyddech yn cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn diogelu, yn meithrin ac yn gwella ardaloedd fel gwastadeddau Gwent, ac yn enwedig, yn eu diogelu rhag bygythiad datblygiadau diangen ac amhriodol?
John, thank you so much indeed, and for the work you're doing in championing the water vole, and the importance of focusing on species is because from that species runs that protection of landscape scale and habitats as well. It really works. I think probably one of the most powerful innovations that the WEL—the Wales Environment Link—have done is to actually identify individual Members and say, 'That's your species—champion and protect them', and then the habitat flows from that.
And the Gwent levels are critical, as we know—they're vital to us; they're vital for the species and habitat, but they are also vital for our own health and well-being as well. And you mentioned there the Nature Networks programme, which I think has been a tremendous success in actually helping the protection and the recovery of sites, and actually building ecological connectivity between sites as well: there is the Gwent levels writ large—it’s not just individual patches, but the landscape scale. It’s had an enormous impact. It’s developed more than 90 projects, with over £54 million awarded since 2021. So, we are putting our money where our mouth is. When we declared very early on that there was a nature crisis as well as a climate crisis, we backed this to the hilt as well. And that works in partnership with Natural Resources Wales and the National Lottery Heritage Fund as well.
So, I think we need to keep on investing, keep the way that we do it under review as well so that we get the best outcomes. But, yes, I think we should be deeply proud of the work that’s gone on on the Gwent levels.
John, diolch i chi, ac am y gwaith a wnewch yn hyrwyddo llygod y dŵr, ac mae'n bwysig canolbwyntio ar rywogaethau oherwydd o'r rhywogaeth honno daw diogelu ar raddfa'r dirwedd a chynefinoedd hefyd. Mae'n gweithio. Yn ôl pob tebyg, rwy'n credu mai un o'r pethau mwyaf pwerus y mae Cyswllt Amgylchedd Cymru wedi'i wneud yw nodi Aelodau unigol a dweud, 'Eich rhywogaeth chi yw hon—ewch ati i'w hyrwyddo a'i gwarchod', ac mae'r cynefin yn llifo o hynny.
Ac mae gwastadeddau Gwent yn hollbwysig, fel y gwyddom—maent yn hanfodol inni; maent yn hanfodol i'r rhywogaethau a'r cynefin, ond maent hefyd yn hanfodol i'n hiechyd a'n lles ein hunain hefyd. Ac fe sonioch chi am y rhaglen Rhwydweithiau Natur, sydd, yn fy marn i, wedi cael llwyddiant aruthrol yn helpu i amddiffyn ac adfer safleoedd, ac adeiladu cysylltedd ecolegol rhwng safleoedd hefyd: dyna wastadeddau Gwent yn amlwg iawn—nid dim ond darnau unigol, ond ar raddfa'r dirwedd. Mae wedi cael effaith enfawr. Mae wedi datblygu mwy na 90 o brosiectau, gyda dros £54 miliwn wedi'i ddyfarnu ers 2021. Felly, rydym yn gweithredu ein haddewidion. Pan wnaethom ddatgan yn gynnar iawn fod yna argyfwng natur yn ogystal ag argyfwng hinsawdd, fe wnaethom gefnogi hyn yn llwyr hefyd. Ac mae hynny'n gweithio mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol hefyd.
Felly, rwy'n credu bod angen inni barhau i fuddsoddi, ac adolygu'r ffordd yr ydym yn ei wneud hefyd fel ein bod yn cael y canlyniadau gorau. Ond, ydw, rwy'n credu y dylem fod yn falch iawn o'r gwaith sydd wedi digwydd ar wastadeddau Gwent.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.
Questions now from the party spokespeople. Conservative spokesperson, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Llywydd. I note the Chancellor's comments about economic growth being more important than achieving net zero. I feel that seems a bit rich coming from a party that clearly cares very little for economic growth and yet claims to be the party for tackling climate change. However, whilst striving for economic growth, it's crucial that it must go hand in hand with our journey to net zero and not come at its expense; growth and climate action are not mutually exclusive—we can and must do both.
Rachel Reeves's, the right honourable's, remarks at Davos, where she dismissed concerns about expanding Heathrow and other airports, whilst prioritising growth, suggest a dangerous shift away from the UK's climate commitments. With the economy stagnating, the Government cannot resort to short-sighted, pro-business policies that do come at the expense of our environment.
Climate policy cannot be confined to a single department or treated as a secondary issue—it must be embedded across Government. Achieving net zero by 2050 requires seamless co-ordination across transport, energy, agriculture, housing, education, health. So, what are your views on the Chancellor's comments about prioritising growth, and do you agree with me that the UK simply cannot afford to treat net zero as an afterthought?
Diolch, Lywydd. Rwy'n nodi sylwadau'r Canghellor ynglŷn â bod twf economaidd yn bwysicach na chyflawni sero net. Rwy'n teimlo bod hynny'n ymddangos braidd yn rhyfygus gan blaid sy'n amlwg yn poeni fawr ddim am dwf economaidd ac eto sy'n honni mai hi yw'r blaid dros fynd i'r afael â newid hinsawdd. Fodd bynnag, wrth ymdrechu am dwf economaidd, mae'n hanfodol iddo fynd law yn llaw â'n taith i gyrraedd sero net a pheidio â dod ar ei draul; nid yw twf a gweithredu ar yr hinsawdd yn annibynnol ar ei gilydd—fe allwn wneud y ddau ac mae'n rhaid inni wneud y ddau.
Mae sylwadau'r gwir anrhydeddus Rachel Reeves yn Davos, lle gwrthododd bryderon am ehangu Heathrow a meysydd awyr eraill, gan flaenoriaethu twf, yn awgrymu newid peryglus o ymrwymiadau hinsawdd y Deyrnas Unedig. Gyda'r economi'n marweiddio, ni all y Llywodraeth droi at bolisïau anystyriol, o blaid busnes sy'n dod ar draul ein hamgylchedd.
Ni ellir cyfyngu polisi hinsawdd i un adran na'i drin fel mater eilaidd—rhaid ei wreiddio ar draws y Llywodraeth. Mae sicrhau sero net erbyn 2050 yn galw am gydlynu di-dor ar draws trafnidiaeth, ynni, amaethyddiaeth, tai, addysg, iechyd. Felly, beth yw eich barn ar sylwadau'r Canghellor ynghylch blaenoriaethu twf, ac a ydych chi'n cytuno â mi na all y Deyrnas Unedig fforddio trin sero net fel ôl-ystyriaeth?
Janet, thank you very much for that question. I can speak for Welsh Government and the pioneering work that we’ve done here in Wales, preceding my time here in fact, in the establishment of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015. That’s the paradigm; those are the pillars, those are the principles, by which we view all growth.
We’re also very keen, by the way, on growth, economic growth, but it’s sustainable economic growth that does the right thing for nature, biodiversity and the climate as well—it’s not trading off one thing against another; it’s doing all things. We want to see more pounds in people’s pockets; we want to see more businesses expanding. And in fact, the opportunities there within, for example, the circular economy and what we can do in Wales, or in the future of renewables, including things like offshore and so on, all of these have great potential. So, rather than seeing it as a trade-off of one thing against the other, I think, Janet, the gist of your question is right, which is they all go together and they’re unpinned in Wales by the well-being of future generations Act.
Janet, diolch am y cwestiwn hwnnw. Gallaf siarad ar ran Llywodraeth Cymru a'r gwaith arloesol yr ydym wedi'i wneud yma yng Nghymru, cyn fy amser yma mewn gwirionedd, drwy sefydlu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Dyna'r model; dyna'r colofnau, dyna'r egwyddorion, yr ydym yn mesur pob twf yn eu herbyn.
Rydym hefyd yn frwd iawn, gyda llaw, ynghylch twf, twf economaidd, ond twf economaidd cynaliadwy sy'n gwneud y peth iawn ar gyfer natur, bioamrywiaeth a'r hinsawdd hefyd—nid yw'n cyfnewid un peth am un arall; mae'n gwneud popeth. Rydym am weld mwy o bunnoedd ym mhocedi pobl; rydym am weld mwy o fusnesau'n ehangu. Ac mewn gwirionedd, mae'r cyfleoedd yno o fewn, er enghraifft, yr economi gylchol a'r hyn y gallwn ei wneud yng Nghymru, neu yn nyfodol ynni adnewyddadwy, gan gynnwys pethau fel ynni ar y môr ac yn y blaen, mae gan bob un o'r rhain botensial mawr. Felly, yn hytrach na'i weld fel cyfnewid un peth am y llall, rwy'n credu, Janet, fod hanfod eich cwestiwn yn iawn, sef eu bod i gyd yn mynd law yn llaw a chânt eu hategu yng Nghymru gan Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.
Thank you. One key area for collaboration that could drive economic growth and progress towards net zero is Wales's energy infrastructure. Wales's grid is simply not fit for purpose to meet the 2050 net zero target, with limited capacity causing delays to really good renewable energy projects. Despite initiatives like the renewable energy infrastructure plan, progress does remain slow, and critical transmission upgrades are uncertain.
The independent advisory group on future electricity grid for Wales met three times last year, yet there is little clarity on what tangible progress they have made. Can the Cabinet Secretary provide an update on actions you are taking, working with the Department for Energy Security and Net Zero, to implement the 23 National Infrastructure Commission recommendations?
Diolch. Un maes allweddol ar gyfer cydweithredu a allai sbarduno twf economaidd a chynnydd tuag at sero net yw seilwaith ynni Cymru. Nid yw grid Cymru'n addas i'r diben ar gyfer cyrraedd targed sero net 2050, gyda chapasiti cyfyngedig yn achosi oedi i brosiectau ynni adnewyddadwy da iawn. Er gwaethaf mentrau fel y cynllun seilwaith ynni adnewyddadwy, mae'r cynnydd yn parhau'n araf, ac mae gwaith uwchraddio hanfodol i'r rhwydwaith trawsyrru yn ansicr.
Cyfarfu grŵp cynghori annibynnol grid trydan y dyfodol i Gymru dair gwaith y llynedd, ac eto ni cheir llawer o eglurder ynghylch ba gynnydd pendant y maent wedi'i wneud. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau rydych chi'n eu cymryd, gan weithio gyda'r Adran Diogeledd Ynni a Sero Net, i weithredu 23 argymhelliad y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol?
Thank you, again, for that question, Janet. There’s good cross-Government work in this space, both with the current Cabinet but also with predecessors in this role as well. We’ve long maintained—. Sorry, I should say as well that this is work that is primarily within the space of my colleague Rebecca Evans, with the economy brief, et cetera, but I have a direct interest in this because of my role in driving forward the carbon agenda right across Government and the carbon budget agenda as well. So, all of us, as you rightly say—transport, energy, everybody—has to play their part.
We’ve been very clear consistently over many years that we need that connectivity to all parts of Wales, including the offshore potential that we’ve talked about, but also to parts of Wales that have not been able to benefit from that connection to renewables to date. We also need to look at those aspects, as Rebecca Evans has made clear, about local connectivity, local grid connectivity as well, so it doesn’t all rely on, if you like, the image of 80, 90, 100 years ago of one big network around the UK. There are some great innovations going on in that space.
One of the things that is clear and compelling is, as we strive to actually achieve carbon budget 2, itself very challenging, the acceleration that we will then need to do to carbon budget 3 will require significant expansion of our renewable energy and our decarbonised energy base in many different ways, and that will require that grid connectivity you’ve talked about.
Diolch unwaith eto am y cwestiwn hwnnw, Janet. Mae gwaith trawslywodraethol da yn y maes hwn, gyda'r Cabinet presennol ond hefyd gyda rhagflaenwyr yn y rôl hon. Rydym wedi dadlau ers tro—. Mae'n ddrwg gennyf, dylwn ddweud hefyd mai gwaith yw hwn sy'n bennaf ym maes fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, gyda'r briff economi, ac ati, ond mae gennyf i fuddiant uniongyrchol yn hyn oherwydd fy rôl innau yn gyrru'r agenda garbon ar draws y Llywodraeth ac agenda'r gyllideb garbon hefyd. Felly, mae'n rhaid i bob un ohonom, fel rydych chi'n dweud yn gywir—trafnidiaeth, ynni, pawb—chwarae ein rhan.
Rydym wedi bod yn glir iawn dros nifer o flynyddoedd fod angen y cysylltedd hwnnw ar bob rhan o Gymru, gan gynnwys y potensial ar y môr yr ydym wedi sôn amdano, ond hefyd i rannau o Gymru nad ydynt wedi gallu elwa o'r cysylltiad ag ynni adnewyddadwy hyd yma. Mae angen inni edrych ar yr agweddau hynny hefyd, fel y mae Rebecca Evans wedi dweud yn glir, ar gysylltedd lleol, cysylltedd grid lleol hefyd, fel nad yw'r cyfan yn dibynnu ar y syniad a geid 80, 90, 100 mlynedd yn ôl o un rhwydwaith mawr ledled y Deyrnas Unedig. Mae datblygiadau arloesol gwych yn digwydd yn y maes hwnnw.
Un o'r pethau sy'n glir ac yn gymhellol, wrth inni ymdrechu i gyflawni cyllideb garbon 2, sydd ynddi ei hun yn heriol iawn, yw y bydd y cyflymu y bydd angen inni ei wneud wedyn tuag at gyllideb garbon 3 yn galw am ehangu ein hynni adnewyddadwy a'n sylfaen ynni ddigarbon mewn sawl ffordd wahanol, a bydd hynny'n galw am y cysylltedd grid y sonioch chi amdano.
Thank you. Planning, of course, does remain a significant obstacle. Recently, I held a round-table of all the climate change and environment stakeholders, and planning was mentioned by everybody, with bureaucratic constraints stalling both major infrastructure projects and smaller scale developments such as the ongoing 3m limitation for heat pumps. Additionally, essential minerals like copper are critical for renewable technologies. I’ve already highlighted this previously, that Wales has an unique opportunity to lead in the mining and processing of these vital resources, strengthening both our economy and energy transition. How do you intend to work with the energy and planning portfolio to remove these barriers, position Wales as a technological leader, and accelerate that shift to clean energy? Diolch.
Diolch. Mae cynllunio, wrth gwrs, yn parhau i fod yn rhwystr sylweddol. Yn ddiweddar, cynhaliais gyfarfod bord gron â'r holl randdeiliaid newid hinsawdd a'r amgylchedd, a soniodd pawb am gynllunio, gyda chyfyngiadau biwrocrataidd yn arafu prosiectau seilwaith mawr a datblygiadau ar raddfa lai megis y cyfyngiad 3 metr parhaus ar gyfer pympiau gwres. Yn ogystal, mae mwynau hanfodol fel copr yn hollbwysig ar gyfer technolegau adnewyddadwy. Rwyf eisoes wedi tynnu sylw at hyn, fod gan Gymru gyfle unigryw i arwain ar gloddio a phrosesu'r adnoddau hanfodol hyn, gan gryfhau ein heconomi a phontio i ynni adnewyddadwy. Sut y bwriadwch weithio gyda'r portffolio ynni a chynllunio i gael gwared ar y rhwystrau hyn, a sefydlu Cymru'n arweinydd technolegol, a chyflymu'r newid i ynni glân? Diolch.
Thank you very much, and it is a truly great question, because I’m really pleased to say the cross-Cabinet approach to delivering exactly the outcomes you’ve said has resulted—and my thanks to my colleague sitting to my right, as well as to Rebecca as well, and to Jayne in local government—in increased investment in the planning function. Because we’ve recognised that this is an obstacle, it’s a barrier to that sustainable growth that we were talking about, including within energy but also a wider range of planning issues.
I also made clear and had support from Cabinet colleagues in arguing the case that the other thing we need to unblock is the capacity issues with NRW over consenting and licensing as well. And I’m pleased to say that, both in revenue and in capital spending, we’ve been able to put significant amounts of money specifically into those functions—so, planning, licensing, consenting.
I think this is quite an exciting space, because if you can identify the obstacle and then decide you want to unblock it, and will in the means to do that as well, then you can significantly expedite the right decisions being made for sustainable growth—coming back to your first question—sustainable growth that also has the proper planning and environmental protections wrapped around it, but done in a way that will allow that growth to happen, particularly within our energy sector, which we know is a critical part of our path towards decarbonisation.
Diolch, ac mae'n gwestiwn gwirioneddol wych, oherwydd rwy'n falch iawn o ddweud bod y dull traws-Gabinet o gyflawni'r union ganlyniadau rydych chi wedi sôn amdanynt wedi arwain—a diolch i fy nghyd-Aelod ar fy llaw dde, yn ogystal ag i Rebecca hefyd, ac i Jayne mewn llywodraeth leol—at fwy o fuddsoddiad yn y swyddogaeth gynllunio. Oherwydd rydym wedi cydnabod bod hyn yn rhwystr, mae'n rhwystr i'r twf cynaliadwy yr oeddem yn sôn amdano, gan gynnwys o fewn ynni ond hefyd o fewn amrywiaeth ehangach o faterion cynllunio.
Gwneuthum yn glir hefyd a chefais gefnogaeth gan gyd-Aelodau yn y Cabinet i ddadlau'r achos mai'r peth arall y mae angen inni ei ddatrys yw'r problemau capasiti gyda CNC dros gydsynio a thrwyddedu. Ac rwy'n falch o ddweud, mewn gwariant refeniw a chyfalaf, ein bod wedi gallu rhoi symiau sylweddol o arian yn benodol i'r swyddogaethau hynny—felly, cynllunio, trwyddedu, cydsynio.
Rwy'n credu bod hwn yn faes cyffrous, oherwydd os gallwch nodi'r rhwystr a phenderfynu eich bod am gael ei wared, a chynnwys modd i wneud hynny hefyd, gallwch gyflymu'n sylweddol y penderfyniadau cywir a wneir ar gyfer twf cynaliadwy—gan ddod yn ôl at eich cwestiwn cyntaf—twf cynaliadwy sydd â'r amddiffyniadau cynllunio ac amgylcheddol priodol o'i gwmpas, ond wedi'i wneud mewn ffordd a fydd yn caniatáu i'r twf hwnnw ddigwydd, yn enwedig yn ein sector ynni, y gwyddom ei fod yn rhan hanfodol o'n llwybr tuag at ddatgarboneiddio.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Plaid Cymru spokesperson, Delyth Jewell.
Diolch, Llywydd. Prynhawn da. I want to ask some questions, please, about forever chemicals—the contamination, that is, that’s been left on landscapes across Wales by what’s known as PFAS, these substances. These chemicals have been linked to severe health conditions like cancers, immune system disruption, even infertility. The extent, though, of the contamination in Wales is unknown. We know from research that the worryingly prevalent amount of this contamination in drinking water and in surface water could be particularly a problem, particularly maybe in hotspots like landfill sites, former industrial sites as well, sewage outfalls. What assessment, please, has the Welsh Government made of the extent and scale of this contamination in Wales, including in drinking water and surface waters, especially in those sites like former industrial sites and landfills, where they’re most likely to be prevalent?
Diolch, Lywydd. Prynhawn da. Rwyf am ofyn rhai cwestiynau, os gwelwch yn dda, am gemegau am byth—yr halogiad, hynny yw, sydd wedi'i adael ar dirweddau ledled Cymru gan yr hyn a elwir yn PFAS, y sylweddau hyn. Mae'r cemegau hyn wedi'u cysylltu â chyflyrau iechyd difrifol fel canserau, amhariadau ar y system imiwnedd, ac anffrwythlondeb hyd yn oed. Fodd bynnag, nid yw maint yr halogiad yng Nghymru yn hysbys. Gwyddom o ymchwil y gallai'r halogiad pryderus hwn mewn dŵr yfed ac mewn dŵr wyneb fod yn broblem, yn enwedig mewn mannau problemus fel safleoedd tirlenwi, hen safleoedd diwydiannol hefyd, gollyngfeydd carthion. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o faint a graddfa'r llygredd hwn yng Nghymru, gan gynnwys mewn dŵr yfed a dŵr wyneb, yn enwedig mewn safleoedd fel hen safleoedd diwydiannol a safleoedd tirlenwi, lle mae'n fwyaf tebygol o fodoli?
Delyth, thank you so much. And this really is something that we do need to address, and we need to address it in Wales, but also as a UK and wider global issue. The increasing awareness of this means we have to act. We know that PFASs, the forever chemicals, are linked, as you say, to a variety of health concerns because of the accumulation in the body over time. It’s not one exposure; it’s that constant exposure that we have, especially at low levels. However, the toxicity of those various substances is not actually well understood, as you know, because you’ve been delving deeply into this. So, the UK Committee on Toxicity of Chemicals in Food is currently conducting an extensive review of the available evidence on the PFASs, and undertaking that very important health risk assessment as well.
Now, perfluorooctane sulfonic acid and PFASs—and I’m looking to my left here as well because I’ve got colleagues as well who are joined with you, like Jenny and others who’ve been pushing hard at this—have been identified as highly bioaccumulative. So, those two are listed as persistent organic pollutants under the Stockholm convention, to which the UK is a party. So, the use of these is prohibited in the UK, subject to certain time limit exemptions set out in legislation.
But to answer you directly on what work we’re currently doing, back in 2022, the Welsh Government's water policy team commissioned a PFAS literature review to understand the context and the risks that these chemicals pose here in Wales, and the report emphasised, not surprisingly, the need for additional further research. It provided a number of recommendations. It also identified a limited number of areas that present a higher risk of PFAS contamination in Wales, some of which have provided jobs over the years in urban areas and so on, and now we’ve identified there’s a risk there. So, in April 2023, the Health and Safety Executive published its regulatory management option analysis for PFASs. It is the most comprehensive UK analysis of these chemicals. It identifies the most common, most harmful uses of PFASs, and the measures we can put in place to control and manage them. And it does make a number of recommendations, one of these you’ll have come across before—so, for example, practical things such as limiting the use of PFAS-containing foams used by firefighters, but also things like textiles, furniture, cleaning products. So, we’ve got more to do in this space, and some of it is the evidence and the research, and some of it is the practical implementation of the recommendations.
Diolch, Delyth. Ac mae hyn yn rhywbeth y mae gwir angen inni fynd i'r afael ag ef, ac mae angen inni fynd i'r afael ag ef yng Nghymru, ond hefyd yn y DU ac yn fyd-eang. Mae ymwybyddiaeth gynyddol o hyn yn golygu bod yn rhaid inni weithredu. Gwyddom fod PFASau, y cemegau am byth, yn gysylltiedig, fel y dywedwch, ag amrywiaeth o bryderon iechyd oherwydd y cronni sy'n digwydd yn y corff dros amser. Nid un digwyddiad mohono; mae'n ymwneud â'r cysylltiad cyson a gawn, yn enwedig ar lefelau isel. Fodd bynnag, nid yw tocsigrwydd y sylweddau amrywiol wedi ei ddeall yn dda, fel y gwyddoch, oherwydd rydych chi wedi bod yn ymchwilio'n drylwyr i hyn. Felly, ar hyn o bryd, mae Pwyllgor y DU ar Docsigrwydd Cemegau mewn Bwyd yn cynnal adolygiad helaeth o'r dystiolaeth sydd ar gael ynghylch y PFASau, ac yn cynnal yr asesiad risg iechyd pwysig hwnnw hefyd.
Nawr, mae asid perfflworöoctan sylffonig a PFASau—ac rwy'n edrych i'r chwith yma hefyd oherwydd mae gennyf gyd-Aelodau hefyd sy'n unedig â chi, fel Jenny ac eraill sydd wedi bod yn gwthio'n galed ar hyn—wedi cael eu nodi fel sylweddau biogronnol iawn. Felly, rhestrir y ddau hynny fel llygryddion organig parhaol o dan gonfensiwn Stockholm, y mae'r Deyrnas Unedig yn rhan ohono. Felly, gwaherddir defnyddio'r rhain yn y DU, yn amodol ar eithriadau terfyn amser penodol a nodir mewn deddfwriaeth.
Ond i'ch ateb yn uniongyrchol ynglŷn â gwaith a wnawn ar hyn o bryd, yn ôl yn 2022, comisiynodd tîm polisi dŵr Llywodraeth Cymru adolygiad o lenyddiaeth PFAS i ddeall y cyd-destun a'r risgiau y mae'r cemegau hyn yn eu creu yma yng Nghymru, ac nid yw'n syndod fod yr adroddiad wedi pwysleisio'r angen am waith ymchwil ychwanegol pellach. Roedd yn rhoi nifer o argymhellion. Nododd hefyd nifer cyfyngedig o fannau sy'n peri risg uwch o halogiad PFAS yng Nghymru, ac mae rhai ohonynt wedi darparu swyddi dros y blynyddoedd mewn ardaloedd trefol ac yn y blaen, a nawr rydym wedi nodi bod risg yno. Felly, ym mis Ebrill 2023, cyhoeddodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ei ddadansoddiad rheoleiddiol o opsiynau rheoli ar gyfer PFASau. Dyma'r dadansoddiad mwyaf cynhwysfawr o'r cemegau hyn yn y DU. Mae'n nodi'r defnydd mwyaf cyffredin, mwyaf niweidiol o PFASau, a'r mesurau y gallwn eu rhoi ar waith i'w rheoli. Ac mae'n gwneud nifer o argymhellion, a byddwch wedi dod ar draws un o'r rhain o'r blaen—felly, er enghraifft, pethau ymarferol fel cyfyngu ar y defnydd o ewynnau sy'n cynnwys PFAS a ddefnyddir gan ddiffoddwyr tân, ond hefyd pethau fel tecstiliau, dodrefn, cynhyrchion glanhau. Felly, mae gennym fwy i'w wneud yn y maes hwn, a rhywfaint o hynny yw'r dystiolaeth a'r ymchwil, a rhywfaint ohono yw gweithredu'r argymhellion yn ymarferol.
Thank you. That’s incredibly useful. Staying with the same topic, if I could ask about accountability, please. Because these substances have a nature that is indestructible, the clean-up is going to have to be robust. There will surely be a part to play for NRW, but also for local authorities and the private sector, presumably. I’d like to know where you think the ultimate responsibility and accountability will lie, because the polluter-pays principle, of course, is important, but many of the companies that created the waste have disappeared, and, sometimes, the contamination can’t be traced because either the paperwork doesn’t exist anymore or it’s been destroyed, or it’s been lost. So, what measures will the Government put in place, please, to tackle the contamination in Wales in terms of holding the ultimate responsibility? Who do you think would hold that ultimate responsibility for monitoring, for regulating and, ultimately, remediating these sites?
Diolch. Mae hynny'n hynod ddefnyddiol. I aros ar yr un pwnc, os caf ofyn am atebolrwydd, os gwelwch yn dda. Oherwydd bod gan y sylweddau hyn natur sy'n anninistriadwy, bydd yn rhaid i'r gwaith glanhau fod yn drwyadl. Mae'n siŵr y bydd gan CNC ran i'w chwarae, ond hefyd awdurdodau lleol a'r sector preifat, mae'n debyg. Hoffwn wybod ble y credwch chi y bydd y cyfrifoldeb a'r atebolrwydd yn y pen draw, oherwydd mae'r egwyddor mai’r llygrwr sy’n talu yn bwysig wrth gwrs, ond mae llawer o'r cwmnïau a greodd y gwastraff wedi diflannu, ac weithiau, ni ellir olrhain yr halogiad am nad yw'r gwaith papur yn bodoli mwyach neu mae wedi'i ddinistrio, neu mae wedi'i golli. Felly, pa fesurau y bydd y Llywodraeth yn eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â'r halogiad yng Nghymru o ran pwy sydd â'r cyfrifoldeb eithaf? Pwy ydych chi'n meddwl fyddai â'r cyfrifoldeb eithaf am fonitro, rheoleiddio ac yn y pen draw, am adfer y safleoedd hyn?
Well, you raise the right questions, because, ultimately, yes, NRW have a key role to play in this. So do our local authorities within the powers that they have. But if those companies are still in existence, then they clearly carry a responsibility for helping deliver any clean-up of areas that are identified. But, fundamentally, we’ve got to make clear, as I’ve said here before in the Senedd, that local authorities have that duty now to identify contaminated land within their areas. It’s under the Environmental Protection Act 1990, Part IIA. Sometimes, if a site is proven to have a significant impact—so, for example, to controlled waters—regulatory responsibility can pass from the local authority to Natural Resources Wales. Now, we have in the past actually established funds. In the absence of somebody else to do the clean-up, we have established funds to assist with the remediation of land that is contaminated. This is slightly different from the wider piece of that sort of cumulative effect within the environment, within things that are around us every single day. Now, we don’t have that fund currently in place, but neither do we have a draw on it. We do not have people coming forward and saying, ‘We need contributions towards this’, but, in the future, who knows? If sites are identified by the local authorities, and that burden becomes clear, and the companies do not exist, we’re going to have to consider that. But I would say first of all, from an ethical and moral point of view, if the companies are still in existence, they should be contributing towards clearing up.
Wel, rydych chi'n gofyn y cwestiynau cywir, oherwydd yn y pen draw, oes, mae gan CNC rôl allweddol i'w chwarae yn hyn. Felly hefyd ein hawdurdodau lleol o fewn y pwerau sydd ganddynt hwy. Ond os yw'r cwmnïau hynny'n dal i fodoli, yna yn amlwg mae ganddynt gyfrifoldeb i helpu i lanhau unrhyw fannau a nodir. Ond yn y bôn, mae'n rhaid inni nodi'n glir, fel y dywedais yma o'r blaen yn y Senedd, mai dyletswydd awdurdodau lleol yw nodi tir halogedig yn eu hardaloedd. Mae'n rhan o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, Rhan IIA. Weithiau, os profir bod safle'n cael effaith sylweddol—felly, er enghraifft, ar ddyfroedd a reolir—gall y cyfrifoldeb rheoleiddiol drosglwyddo o'r awdurdod lleol i Cyfoeth Naturiol Cymru. Nawr, rydym wedi sefydlu cronfeydd yn y gorffennol. Yn absenoldeb rhywun arall i wneud y gwaith glanhau, rydym wedi sefydlu cronfeydd i helpu i adfer tir sydd wedi'i halogi. Mae hyn ychydig yn wahanol i'r math ehangach o effaith gronnol ar yr amgylchedd, ar bethau sydd o'n cwmpas bob dydd. Nawr, nid oes gennym y gronfa honno ar waith ar hyn o bryd, ond nid oes rhaid inni dynnu ohoni. Nid oes gennym bobl yn dweud, 'Mae angen cyfraniadau arnom tuag at hyn', ond, yn y dyfodol, pwy a ŵyr? Os nodir safleoedd gan yr awdurdodau lleol, a bod y baich hwnnw'n dod yn glir, ac nad yw'r cwmnïau'n bodoli, bydd yn rhaid inni ystyried hynny. Ond yn gyntaf oll, o safbwynt moesegol a moesol, os yw'r cwmnïau'n dal i fodoli, dylent gyfrannu at y gwaith glanhau.
Buaswn i'n cytuno 100 y cant gyda chi ar hwnna. Os yw'r cwmnïau'n dal yn bodoli, mae dyletswydd arnyn nhw i gymryd ymlaen y cyfrifoldeb yna. Buaswn i'n hoffi siarad gyda chi, efallai, yn fwy am y fund yna a'r posibilrwydd o ailagor y ffynhonnell yna. Ond i droi yn ôl at faint fydd clirio'r llefydd hyn yn costio, mae ymchwil yn awgrymu, os ydyn ni'n edrych dros Ewrop—achos, fel dŷch chi wedi sôn, mae hyn yn rhywbeth rhyngwladol fel problem—byddai clirio'r llygredd hwn dros Ewrop dros 20 mlynedd yn golygu bil bob blwyddyn o ryw £84 biliwn. Nawr, mae hwnna dros Ewrop. Gall yr ynysoedd hyn ar ein pennau ein hunain wynebu costau eithriadol o uchel wrth glirio'r llefydd yma hefyd. Rwy'n cymryd, yng Nghymru, fe dŷch chi wedi dweud, y byddai gan Gyfoeth Naturiol Cymru rôl i'w chwarae yn yr esiamplau yna lle dydy'r cwmnïau ddim yn bodoli mwyach neu dŷn ni'n methu profi o ble roedd y llygredd wedi dod. Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru heriau cyllidol syfrdanol. Beth ydych chi'n meddwl byddai'r costau yma'n gallu bod? Ac a ydych chi'n meddwl y byddai gan Gyfoeth Naturiol Cymru ddigon o gyllid i wynebu'r her yna neu ydych chi'n meddwl y byddai angen troi yn ôl at y ffynhonnell roeddech chi wedi sôn amdani yn gynt?
I agree 100 per cent with you on that. If the companies are still in existence, they have a duty to take on that responsibility. I would like to talk more about that fund and the possibility of reopening that particular source. But to return to the cost of remediating these sites, research suggests that, if we look across Europe—because, as you’ve mentioned, this is an international problem—clearing up this pollution over Europe over a period of 20 years would mean an annual bill of around £84 billion, and that is across the whole of Europe. Now, these isles alone could face huge costs in clearing these sites too. In Wales, as you’ve said, NRW would have a role to play in those examples where the companies no longer exist or where we can’t prove where the pollution came from. But NRW is facing substantial budgetary challenges. So, what do you think the costs could be? And do you think that NRW would have sufficient funding to face that challenge or do you think that we would need to turn to the source that you mentioned earlier?
Well, I’m pleased, when we appeared in front of the budget analysis for NRW, we were able to identify specific lines of funding that are going into NRW for particular purposes. This isn’t one of them, because, as I say, there isn’t currently the demand to draw on it. I maintain this position on the polluter-pays principle, that where you can identify the legal person that has polluted an area, they are responsible. They were under European legislation, and that is the maintained position now. But, too often, we have seen that the public purse has had to step in, not just NRW with their regulatory function but, actually, the establishment of funds, such as the contaminated land capital grant programme, which ran for six years after 2005. Then, we identified another draw on it, so it was re-established. We don’t have that current identified need for it now, but who knows in future. So, rather than speculate, if you like—and I’m not trying to be difficult or obtuse on this—if we identify there is a need for this funding, we have to do it, but the first point of call should be on the polluter. And then, after that, we need to look at it, because then it falls on the landowner, and often the landowner will say, ‘Well, I can’t do this either. I didn’t know anything about this’. And then the public purse steps in, as I look to my right there.
The other aspect on this is we do have to work, as you rightly say, with the UK Government and across the European Union and others, because we believe firmly in the polluter-pays principle and we hold to that, and I think we can do that by working collaboratively across borders.
Wel, pan wnaethom ymddangos gerbron y dadansoddiad cyllidebol ar gyfer CNC, rwy'n falch inni allu nodi llinellau cyllid penodol sy'n mynd i CNC at ddibenion penodol. Nid yw hyn yn un ohonynt, oherwydd, fel rwy'n dweud, nid oes galw amdano ar hyn o bryd. Rwy'n arddel y safbwynt hwn ar yr egwyddor mai’r llygrwr sy’n talu, sef lle gallwch nodi'r person cyfreithiol sydd wedi llygru ardal, mai hwy sy'n gyfrifol. Roeddent yn gyfrifol o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd, a dyna'r safbwynt sy'n cael ei arddel nawr. Ond yn rhy aml, gwelsom fod pwrs y wlad yn gorfod cael ei ddefnyddio, nid dim ond CNC gyda'u swyddogaeth reoleiddiol, ond sefydlu cronfeydd, fel y rhaglen grant cyfalaf tir halogedig, a oedd yn weithredol am chwe blynedd ar ôl 2005. Yna, fe wnaethom nodi rhagor o alw amdani, felly fe'i hail-sefydlwyd. Nid oes gennym yr angen dynodedig ar ei chyfer ar hyn o bryd, ond pwy a ŵyr yn y dyfodol. Felly, yn hytrach na dyfalu, os mynnwch—ac nid wyf yn ceisio bod yn anodd nac yn dwp ynglŷn â hyn—os nodwn fod angen y cyllid hwn, mae'n rhaid inni ei wneud, ond dylai'r cyfrifoldeb fod ar y llygrwr yn gyntaf. Ac yna, ar ôl hynny, mae angen inni edrych arno, oherwydd mae'n disgyn ar y tirfeddiannwr wedyn, ac yn aml bydd y tirfeddiannwr yn dweud, 'Wel, ni allaf wneud hyn ychwaith. Nid oeddwn yn gwybod dim am hyn'. Ac yna, bydd pwrs y wlad yn cael ei ddefnyddio, wrth imi edrych i'r dde yno.
Yr agwedd arall ar hyn yw bod yn rhaid inni weithio, fel y dywedwch, gyda Llywodraeth y DU ac ar draws yr Undeb Ewropeaidd ac eraill, oherwydd rydym yn credu'n gryf yn yr egwyddor mai’r llygrwr sy’n talu ac rydym yn glynu at hynny, ac rwy'n credu y gallwn wneud hynny trwy gydweithio ar draws ffiniau.
3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwinllannoedd? OQ62204
3. How is the Welsh Government supporting vineyards? OQ62204
Diolch, Sam. [Interruption.]—not personally. The Welsh Government is pleased to continue to support the Welsh wine industry through the Food and Drink Wales drinks cluster, together with the promotion of the protected geographical indication status for Welsh wines. And, in addition, we also provide business investment through the food business accelerator scheme.
Diolch, Sam. [Torri ar draws.]—nid yn bersonol. Mae Llywodraeth Cymru yn falch o barhau i gefnogi diwydiant gwin Cymru drwy glwstwr diodydd Bwyd a Diod Cymru, ynghyd â hyrwyddo'r statws dynodiad daearyddol gwarchodedig ar gyfer gwinoedd Cymru. Ac yn ogystal, rydym hefyd yn darparu buddsoddiad busnes drwy'r cynllun sbarduno busnesau bwyd.
Thank you, Deputy First Minister. Now, the award-winning Velfrey Vineyard in my constituency is a real gem, with PGI status sparkling brut and sparkling brut rosé. I'm also delighted to share with the Chamber that the vineyard is shortlisted in the Countryside Alliance awards’ best local food and drink category and I urge everyone here to vote for Velfrey Vineyard. The owner, Andy Mounsey, is also chair of the Welsh Vineyards Association. But not everything is as sparkling as it may seem, as your proposed deposit-return scheme is leaving a bitter taste in the mouth of Welsh vineyards. [Interruption.] There’s more, there’s more. Andy said, 'All of the customers responding to our survey said that they already return their bottles for recycling or reuse, so the cost complexity and concern caused by the inclusion of glass can have no upside as it’s impossible to improve on 100 per cent'. He added that, 'We would urge the Welsh Government to consider removing glass altogether from the DRS or, at least, ensuring that all Welsh wine production is exempted'. So, Deputy First Minister, will you toast the success of Welsh vineyards by heeding the advice of Andy, or will you tell them to put a cork in it and ignore their concerns?
Diolch, Ddirprwy Brif Weinidog. Nawr, mae gwinllan arobryn Velfrey Vineyard yn fy etholaeth yn berl go iawn, gyda gwin sych pefriog a gwin rhosliw sych pefriog â statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig. Rwyf hefyd yn falch iawn o rannu gyda'r Siambr fod y winllan ar y rhestr fer yng nghategori bwyd a diod lleol gorau yng ngwobrau'r Gynghrair Cefn Gwlad ac rwy'n annog pawb yma i bleidleisio dros Velfrey Vineyard. Mae'r perchennog, Andy Mounsey, hefyd yn gadeirydd Cymdeithas Gwinllannoedd Cymru. Ond nid yw popeth mor befriog ag y mae'n ymddangos, gan fod eich cynllun dychwelyd ernes arfaethedig yn gadael blas chwerw yng ngheg gwinllannoedd Cymru. [Torri ar draws.] Mae yna fwy, mae yna fwy. Meddai Andy, 'Dywedodd yr holl gwsmeriaid a ymatebodd i'n harolwg eu bod eisoes yn dychwelyd eu poteli i'w hailgylchu neu eu hailddefnyddio, felly ni all fod unrhyw fudd i'r cymhlethdod a'r pryder o ran cost a achosir drwy gynnwys gwydr gan ei bod yn amhosibl gwella ar 100 y cant'. Ychwanegodd, 'Hoffem annog Llywodraeth Cymru i ystyried cael gwared ar wydr yn gyfan gwbl o'r cynllun dychwelyd ernes, neu o leiaf i sicrhau bod pob cynnyrch gwin Cymreig wedi'i eithrio'. Felly, Ddirprwy Brif Weinidog, a wnewch chi godi gwydr i lwyddiant gwinllannoedd Cymru drwy wrando ar gyngor Andy, neu a fyddwch chi'n dweud wrthynt am roi corcyn ynddi ac anwybyddu eu pryderon?
Fair play. Fair play. Llywydd, I imbibed his words and I am drunk on his rhetoric. Well, well, well. Look, let me just begin by indeed congratulating Velfrey Vineyard in Pembrokeshire on once again being shortlisted for the Countryside Alliance awards. And I would encourage people to vote for their favourites. I have many favourites, personally, amongst our Welsh vineyards and regularly do my best to support them in my own little way.
Just to say, back in December 2022, the Food and Drink Wales wine special interest group launched a strategy for the industry, and a lot has happened since that launch. The strategy is unique, because it has been developed by industry, rather than led by the Government, although it has our support. And, as such, I have to say, it sets a real example for other sectors of what can be done. It's a real fine example of clustering, and very encouraging to see Welsh vineyards now working together to drive the growth within the industry. And just to say, Llywydd, the drinks strategy target to increase that sector's value tenfold, to reach £100 million by 2035, is looking more and more achievable—not least to do with my contribution, and yours probably as well. There are now more new vineyards in Wales. We've got over 40 individual vineyards, and many existing vineyards are expanding their vineyards as well. And we also, of course, co-ordinate, as you know, Welsh Wine Week every year through the Food and Drink Wales drinks cluster, and that really boosts buyers and consumers, and it attracts considerable press coverage. Our wine is excellent, it really is, and it's got a growing market out there.
You touched on DRS; it's an important thing. I've made it very, very clear that the reason we are proceeding in the way that we are is that we are already ranked second in the world for recycling. We need to go further with DRS with reuse, not just recycling. But, we want to work with the producers to support them, to make the most of these opportunities for resilient supply chains and, by the way, to decrease material costs, because if we can land this right and we're reusing rather than purchasing new all the time, with new bottles and so on, you can actually drive down costs, as shown in other countries where they've gone this way. But, look, as we bring forward a consultation on the scheme in Wales later this year, we will be continuing our very close engagement with industry to ensure that DRS works for Wales and to support producers to take advantage of the opportunities that this can bring, while addressing any concerns. We can make this work for Wales and for all of our producers as well.
Chwarae teg. Chwarae teg. Lywydd, fe wneuthum ddrachtio ei eiriau ac rwy'n meddwi ar ei rethreg. Wel, wel, wel. Edrychwch, gadewch imi ddechrau drwy longyfarch Velfrey Vineyard yn sir Benfro unwaith eto ar gyrraedd y rhestr fer yng ngwobrau'r Gynghrair Cefn Gwlad. A hoffwn annog pobl i bleidleisio dros eu ffefrynnau. Mae gennyf lawer o ffefrynnau, yn bersonol, ymhlith ein gwinllannoedd Cymreig ac rwy'n gwneud fy ngorau yn rheolaidd i'w cefnogi yn fy ffordd fach fy hun.
Yn ôl ym mis Rhagfyr 2022, fe lansiodd grŵp diddordeb arbennig Bwyd a Diod Cymru ar win strategaeth ar gyfer y diwydiant, ac mae llawer wedi digwydd ers hynny. Mae'r strategaeth yn unigryw, am ei bod wedi'i datblygu gan y diwydiant, yn hytrach na'i harwain gan y Llywodraeth, er ein bod yn ei chefnogi. Ac fel y cyfryw, mae'n rhaid imi ddweud, mae'n gosod esiampl go iawn i sectorau eraill o'r hyn y gellir ei wneud. Mae'n enghraifft wych o glystyru, ac mae'n galonogol iawn gweld gwinllannoedd Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i sbarduno twf yn y diwydiant. Lywydd, mae targed y strategaeth ddiodydd i gynyddu gwerth y sector hwnnw ddengwaith drosodd, i gyrraedd £100 miliwn erbyn 2035, yn edrych yn fwyfwy cyraeddadwy—yn anad dim oherwydd fy nghyfraniad, a'ch un chi hefyd mae'n debyg. Mae mwy o winllannoedd newydd yng Nghymru bellach. Mae gennym dros 40 o winllannoedd unigol, ac mae llawer o winllannoedd sy'n bodoli eisoes yn ehangu eu gwinllannoedd hefyd. Ac rydym yn cydlynu, fel y gwyddoch, Wythnos Gwin Cymru bob blwyddyn trwy glwstwr diodydd Bwyd a Diod Cymru, ac mae hynny'n rhoi hwb mawr i brynwyr a defnyddwyr, ac mae'n denu sylw sylweddol gan y wasg. Mae ein gwin yn ardderchog, ac mae ganddo farchnad sy'n tyfu allan yno.
Fe wnaethoch chi grybwyll y cynllun dychwelyd ernes; mae'n beth pwysig. Rwyf wedi dweud yn glir iawn mai'r rheswm pam ein bod yn gweithredu yn y ffordd a wnawn yw ein bod eisoes yn ail yn y byd am ailgylchu. Mae angen inni fynd ymhellach gyda'r cynllun dychwelyd ernes ac ailddefnyddio, nid ailgylchu'n unig. Ond rydym am weithio gyda'r cynhyrchwyr i'w cefnogi, i wneud y gorau o'r cyfleoedd hyn i gael cadwyni cyflenwi gwydn, ac i leihau costau deunydd, gyda llaw, oherwydd os gallwn wneud hyn yn iawn a'n bod yn ailddefnyddio yn hytrach na phrynu o'r newydd drwy'r amser, gyda photeli newydd ac yn y blaen, gallwch ostwng costau, fel y dangosir mewn gwledydd eraill lle maent wedi mynd ar y trywydd hwn. Ond edrychwch, wrth inni gyflwyno ymgynghoriad ar y cynllun yng Nghymru yn ddiweddarach eleni, byddwn yn parhau â'n gwaith ymgysylltu agos iawn â'r diwydiant i sicrhau bod y cynllun dychwelyd ernes yn gweithio i Gymru ac i gefnogi cynhyrchwyr i fanteisio ar y cyfleoedd y gall hyn eu cynnig, gan fynd i'r afael ag unrhyw bryderon. Gallwn wneud i'r gwaith hwn weithio i Gymru ac i'n holl gynhyrchwyr hefyd.
4. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i fynd i'r afael â sbwriel yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ62218
4. What is the Welsh Government doing to help tackle littering in Mid and West Wales? OQ62218
Thank you, Joyce. We continue to fund Keep Wales Tidy, who support communities and local authorities right across Wales. This includes conducting litter prevention trials and interventions, co-ordinating volunteer clean-up activities as well, working with children and young people, and encouraging positive environmental behaviours through our behaviour change campaigns.
Diolch, Joyce. Rydym yn parhau i ariannu Cadwch Gymru'n Daclus, sy'n cefnogi cymunedau ac awdurdodau lleol ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys cynnal treialon ac ymyriadau atal sbwriel, cydlynu gweithgareddau glanhau gwirfoddol, gweithio gyda phlant a phobl ifanc, ac annog ymddygiad amgylcheddol cadarnhaol drwy ein hymgyrchoedd newid ymddygiad.
Of course, we all know, Cabinet Secretary, that everyone has a part to play in keeping our communities clean and tidy, and a lot of people do just that. They actually manage to take their litter home or put it in the bin—amazing, I'm sure. So, I'm delighted that the Welsh Government has boosted its support for Keep Wales Tidy, with £1.2 million extra announced just this month. That money will help more than 2,500 dedicated volunteers go even further to make cleaner, greener spaces for everyone. And I'm sure you'll join with me in thanking those volunteers for picking up the rubbish that other people can't be bothered to put in the bins or take home with them. But, we do need prevention, too, and the incoming ban on single-use vapes is a huge win for the environment against plastic waste. Could you update us on how well businesses in Wales are preparing and adapting ahead of that 1 June deadline?
Wrth gwrs, rydym i gyd yn gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, fod gan bawb ran i'w chwarae yn cadw ein cymunedau'n lân ac yn daclus, ac mae llawer o bobl yn gwneud hynny. Maent yn llwyddo i fynd â'u sbwriel adref neu ei roi yn y bin—gwych, rwy'n siŵr. Felly, rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi hwb i'w chymorth i Cadwch Gymru'n Daclus, gyda £1.2 miliwn yn ychwanegol wedi'i gyhoeddi y mis hwn yn unig. Bydd yr arian hwnnw'n helpu mwy na 2,500 o wirfoddolwyr ymroddedig i fynd hyd yn oed ymhellach i wneud mannau glanach a gwyrddach i bawb. Ac rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i ddiolch i'r gwirfoddolwyr hynny am godi'r sbwriel nad yw pobl eraill yn trafferthu ei roi yn y biniau na mynd ag ef adref gyda hwy. Ond mae angen atal hefyd, ac mae'r gwaharddiad sydd ar y ffordd ar fêps untro yn fuddugoliaeth enfawr i'r amgylchedd yn erbyn gwastraff plastig. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynghylch pa mor dda y mae busnesau yng Nghymru yn paratoi ac yn addasu cyn y dyddiad gweithredu ar 1 Mehefin?
Thanks, Joyce, and, yes, I join you in paying tribute to all of those volunteers—some of whom will be in this Chamber, I'm sure, who join those gangs of volunteers—who work with Keep Wales Tidy to do local clean-ups. It's really important, and it sets a behavioural norm, and it sends the message, as we know, as people pass by in their cars and go, 'Well done', they say, 'Yes, great; just don't throw this stuff away, please. Don't dump it; do what we are doing, so we don't have to tidy up so much in future.'
But, look, the £1.2 million of funding that we've put forward, I think, has been really welcomed. It will enable, by the way, in Mid and West Wales, project officer roles in several local authorities in the area to continue their work with volunteers and community groups and local authorities on litter and dog fouling and so on. There are over 35 litter hubs now in Mid and West Wales, allowing those volunteers to get on with it themselves. That behavioural change is not just relying on Keep Wales Tidy officers, but volunteers themselves going, 'Hey, we'll sort it out now. You go. Go and do somewhere else.' And that works really well.
On the single-use vapes, this is one of a range of measures that we've brought forward to tackle it at point source, to get ahead of it, and I can confirm that from 1 June 2025, it will be an offence to supply or offer to supply—including for free—single-use vape products to consumers in Wales. It aligns with bans elsewhere in the UK. We've worked together across the UK, but we've also worked and continue to work with those in the supply chain, because we don't have to rely on these single-use vapes, and there are some benefits that people will point to in vapes for those who are weaning themselves off, for example, nicotine and cigarettes and so on, but actually doing it in a way that doesn't destroy the environment and also doesn't attract some of these disposable vapes targeted specifically at young people. So, we have health benefits and we have environmental benefits, and we'll keep on looking for those interventions where we can do more, Joyce.
Diolch, Joyce, ac ydw, rwy'n ymuno â chi i dalu teyrnged i'r holl wirfoddolwyr hynny—bydd rhai yn y Siambr, rwy'n siŵr, yn ymuno â'r grwpiau hynny o wirfoddolwyr—sy'n gweithio gyda Cadwch Gymru'n Daclus i wneud gwaith glanhau lleol. Mae'n bwysig iawn, ac mae'n sefydlu ymddygiad normal, ac mae'n anfon y neges, fel y gwyddom, wrth i bobl fynd heibio yn eu ceir a dweud, 'Da iawn', maent yn dweud, 'Ie, gwych; peidiwch â thaflu'r pethau hyn, os gwelwch yn dda. Peidiwch â'i ollwng; gwnewch yr hyn a wnawn ni, fel nad oes rhaid inni dacluso cymaint yn y dyfodol'.
Ond edrychwch, mae'r £1.2 miliwn o gyllid a roddwyd gennym wedi'i groesawu'n fawr. Gyda llaw, yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, bydd yn galluogi swyddogion prosiect mewn sawl awdurdod lleol yn yr ardal i barhau â'u gwaith gyda gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol ac awdurdodau lleol ar sbwriel a baw cŵn ac yn y blaen. Mae dros 35 o hybiau sbwriel yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru bellach, gan ganiatáu i'r gwirfoddolwyr hynny fwrw ymlaen â'r gwaith eu hunain. Yn ogystal â dibynnu ar swyddogion Cadwch Gymru'n Daclus, mae'r newid ymddygiadol hwnnw'n golygu bod gwirfoddolwyr eu hunain yn dweud, 'Hei, fe wnawn ni ei ddatrys nawr. Ewch chi. Ewch chi i wneud gwaith yn rhywle arall.' Ac mae hynny'n gweithio'n dda iawn.
Ar fêps untro, dyma un o amryw o fesurau a gyflwynwyd gennym i fynd i'r afael â'r mater yn y ffynhonnell, i achub y blaen arno, a gallaf gadarnhau y bydd yn drosedd cyflenwi neu gynnig cyflenwi fêps untro—gan gynnwys gwneud hynny am ddim—i ddefnyddwyr yng Nghymru o 1 Mehefin 2025 ymlaen. Mae'n cyd-fynd â gwaharddiadau mewn mannau eraill yn y DU. Rydym wedi gweithio gyda'n gilydd ledled y DU, ond rydym hefyd wedi gweithio ac yn parhau i weithio gyda'r rhai yn y gadwyn gyflenwi, oherwydd nid oes raid inni ddibynnu ar y fêps untro hyn, ac mae rhai buddion y bydd pobl yn tynnu sylw atynt gyda fêps i'r rhai sy'n ceisio rhoi'r gorau, er enghraifft, i nicotin a sigaréts ac ati, ond ei wneud mewn ffordd nad yw'n dinistrio'r amgylchedd ac nad yw'n denu rhai o'r fêps tafladwy hyn sydd wedi'u targedu'n benodol at bobl ifanc. Felly, mae gennym fanteision i iechyd ac mae gennym fanteision amgylcheddol, a byddwn yn parhau i chwilio am yr ymyriadau hynny lle gallwn wneud mwy, Joyce.
Cabinet Secretary, a common issue that I come across is overflowing bins, and when I walk to my office in Newtown, there's a particular location where the bin's always overflowing. I even witness people putting rubbish next to the bin, so this, of course, is an issue that we can all raise with our local authorities. Sometimes I get responsive answers, such as more frequent collections or larger bins; sometimes I don't, because of those financial constraints. But I wonder whether there are other examples across Europe or the world that you could look at to overcome this issue. I notice in continental Europe that waste often drops down into an underground container. That would resolve the issue of overflowing bins, but it would also possibly be a cost reduction for local authorities with less frequent collections. I wonder if there are other examples that you could look at and consider piloting such schemes in communities across Wales.
Ysgrifennydd y Cabinet, mater cyffredin y dof ar ei draws yw biniau gorlawn, a phan fyddaf yn cerdded i fy swyddfa yn y Drenewydd, mae yna un man penodol lle mae'r bin bob amser yn orlawn. Rwyf hyd yn oed yn gweld pobl yn rhoi sbwriel wrth ymyl y bin, felly mae hwn, wrth gwrs, yn fater y gall pob un ohonom ei godi gyda’n hawdurdodau lleol. Weithiau, byddaf yn cael atebion cadarnhaol, fel casgliadau amlach neu finiau mwy o faint; weithiau, nid wyf yn eu cael, oherwydd cyfyngiadau ariannol. Ond tybed a oes enghreifftiau eraill ledled Ewrop neu'r byd y gallech eu harchwilio er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn. Sylwaf ar gyfandir Ewrop fod gwastraff yn aml yn cwympo i mewn i gynhwysydd tanddaearol. Byddai hynny’n datrys mater biniau gorlawn, ond mae’n bosibl hefyd y byddai’n arwain at ostwng costau i awdurdodau lleol gyda chasgliadau llai aml. Tybed a oes enghreifftiau eraill y gallech edrych arnynt ac ystyried treialu cynlluniau o’r fath mewn cymunedau ledled Cymru.
Thank you, Russell. There are some really interesting ideas out there, but I'm going to hesitate from doing anything that looks like micromanaging bins across the whole of Wales. I can take responsibility for some things, but not for every bin. But there are some interesting alternative technologies out there. I think it's not just a role for Welsh Government, but actually the Welsh Local Government Association and the very strong partnership that exists within the sub-committees of the WLGA, looking at recycling, litter, et cetera, to explore some of these options, and to see then whether there is value in adopting alternative ways forward.
You are right: it's a right pain, I've got to say, quite frankly, when you see overflowing bins, and people with the best intentions then put it next to the bin, which then gets pulled open by the passing scavenging dog or whatever. Not that dogs should be out without a lead, by the way; that's another area of my portfolio. Peredur, yes. But it's an interesting approach and I think we should encourage the WLGA to look at this in their sub-committees as well.
Diolch, Russell. Mae rhai syniadau hynod ddiddorol i'w cael, ond rwy'n mynd i ymatal rhag gwneud unrhyw beth sy'n edrych fel microreoli biniau ledled Cymru gyfan. Gallaf gymryd cyfrifoldeb am rai pethau, ond nid am bob bin. Ond mae technolegau amgen diddorol i'w cael. Ni chredaf mai rôl Llywodraeth Cymru yn unig yw hyn, ond gallai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r bartneriaeth gref iawn sy’n bodoli yn is-bwyllgorau CLlLC, sy’n edrych ar ailgylchu a sbwriel ac ati, archwilio rhai o’r opsiynau hyn, a gweld wedyn a oes gwerth mewn mabwysiadu ffyrdd eraill o weithredu.
Rydych yn llygad eich lle: mae'n boen, mae'n rhaid imi ddweud, pan fyddwch yn gweld biniau gorlawn, a phobl â bwriadau da wedyn yn rhoi sbwriel wrth ymyl y bin, sydd wedyn yn cael ei dynnu'n dipiau gan gŵn yn sborioni neu beth bynnag. Nid y dylai cŵn fod allan heb dennyn, gyda llaw; dyna faes arall yn fy mhortffolio. Peredur, ie. Ond mae’n ddull diddorol o weithredu a chredaf y dylem annog CLlLC i edrych ar hyn yn eu his-bwyllgorau hefyd.
5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at gamlesi yng Ngorllewin De Cymru, ac i wella eu budd amgylcheddol? OQ62215
5. What is the Welsh Government doing to improve access to, and the environmental benefit of, canals in South Wales West? OQ62215
Thanks, Sioned. Canals contribute to the economic, social, environmental and cultural well-being of Wales. Whilst canals are non-devolved, of course, the Welsh Government has funded projects to enhance the network, and these have included improvements to infrastructure and active travel routes along Swansea canal.
Diolch, Sioned. Mae camlesi'n cyfrannu at les economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Er nad yw camlesi wedi’u datganoli, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu prosiectau i wella’r rhwydwaith, ac mae’r rhain wedi cynnwys gwelliannau i seilwaith a llwybrau teithio llesol ar hyd camlas Abertawe.
Diolch. Last October, I attended the opening of the phase 2 of the Clydach buried lock restoration scheme and the Swansea Canal Centre. The Swansea Canal Society does amazing work to bring this community asset to life. Canals run through many communities in my region, and I've also supported the Tennant Canal Association in their efforts to safeguard the Tennant canal, which is crucial to biodiversity, as part of this canal is a breeding ground for the fen raft spider, the largest spider in the UK and one of the rarest, and I am its species champion. Additionally, I've engaged with St Modwen, who own the Neath canal, which runs between Glyn Neath and Briton Ferry, and also Tŷ Banc Canal Group, a volunteer group based in Resolven that undertakes many duties to help maintain this stretch of the Neath canal.
The previous climate change Minister highlighted the risks associated with the reductions in funding made to the Canal & River Trust by the then Tory UK Government, such as the loss of sections of the canal network and the negative impact on biodiversity. For canals not owned by the Canal & River Trust, such as both the Neath and Tennant canals, the risk of losing access to and benefit from these canals is even greater. The benefits of canals touch on almost every portfolio within Welsh Government, so what conversations are being had across Government, including with the UK Government, to ensure our canal network is preserved, protected, supported and celebrated? Diolch.
Diolch. Fis Hydref diwethaf, mynychais agoriad cam 2 cynllun adfer loc claddedig Clydach a Chanolfan Camlas Abertawe. Mae Cymdeithas Camlas Abertawe yn gwneud gwaith anhygoel yn dod â'r ased cymunedol hwn yn fyw. Mae camlesi'n rhedeg drwy lawer o gymunedau yn fy rhanbarth, ac rwyf hefyd wedi cefnogi Cymdeithas Camlas Tennant yn eu hymdrechion i ddiogelu camlas Tennant, sy'n hanfodol i fioamrywiaeth, gan fod rhan o'r gamlas hon yn fagwrfa i gorryn rafft y ffen, corryn mwyaf y DU ac un o'r prinnaf, a fi yw ei hyrwyddwr rhywogaethau. Yn ogystal, rwyf wedi ymgysylltu â St Modwen, sy’n berchen ar gamlas Castell-nedd, sy’n rhedeg rhwng Glyn-nedd a Llansawel, a hefyd Grŵp Camlas Tŷ Banc, grŵp gwirfoddol yn Resolfen sy’n cyflawni llawer o ddyletswyddau i helpu i gynnal y rhan hon o gamlas Castell-nedd.
Tynnodd y cyn-Weinidog newid hinsawdd sylw at y risgiau sy’n gysylltiedig â’r gostyngiadau yn y cyllid a wnaed i'r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd gan Lywodraeth Dorïaidd y DU ar y pryd, megis colli rhannau o’r rhwydwaith camlesi a’r effaith negyddol ar fioamrywiaeth. I gamlesi nad ydynt yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, fel camlesi Castell-nedd a Tennant, mae'r risg o golli mynediad at y camlesi hyn a chael budd ohonynt hyd yn oed yn fwy. Mae manteision camlesi yn gysylltiedig â bron bob portffolio o fewn Llywodraeth Cymru, felly pa sgyrsiau sy’n mynd rhagddynt ar draws y Llywodraeth, gan gynnwys gyda Llywodraeth y DU, i sicrhau bod ein rhwydwaith camlesi yn cael ei gadw, ei ddiogelu, ei gefnogi a’i ddathlu? Diolch.
Thank you very much for that supplementary. Can I just begin by joining you in praising the work of those many volunteers across our whole canal network in Wales, and across the UK, who do so much? I remember that the inception of the Canal & River Trust model was very much predicated on that idea that, if I recall correctly, the UK Government could draw on some real estate capitalisation, because they own some massive Treasury houses like parts of the Docklands in London and so on, and use that to drive investment, but also draw on volunteers and the goodwill that exists from volunteers who are interested in the archaeology of the canals, as well as wildlife, biodiversity, access, fitness, well-being and all that sort of thing. People have a real stake in this.
But you are right: my understanding is that a decision has been taken. I've got to stress that this is not a devolved matter, but the decision has been taken to review the funding model for the Canal & River Trust, so moving it from a 15-year period of tapering to a 10-year period, so that it's accelerated. We need, in Wales, to continue to monitor what we can do in our contribution to the canals, and that does, by the way, involve not insubstantial investment in things like the active travel network, but also, specifically, in places like the Montgomery canal, camlas Maldwyn, in biodiversity projects running into the hundreds of thousands of pounds. So, we do recognise the importance of these and we'll keep doing what we can here, but, meanwhile, I think it's vitally important that the UK Government work with the Canal & River Trust to make sure that that goodwill is translated into continuing investment, maintenance and, as some volunteers want to do, the expansion of the canal network as well.
Diolch am eich cwestiwn atodol. A gaf i ddechrau drwy ymuno â chi i ganmol gwaith y gwirfoddolwyr niferus sy'n gwneud cymaint ar draws ein rhwydwaith camlesi yng Nghymru a ledled y DU? Rwy’n cofio bod model yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yn seiliedig ar y syniad, os cofiaf yn iawn, y gallai Llywodraeth y DU ddefnyddio rhywfaint o gyfalaf eiddo tirol, gan eu bod yn berchen ar dai enfawr y Trysorlys fel rhannau o'r Docklands yn Llundain ac ati, ac yn defnyddio hynny i ysgogi buddsoddiad, ond hefyd yn cael cymorth gan wirfoddolwyr a’r ewyllys da sy’n bodoli gan wirfoddolwyr sydd â diddordeb yn archaeoleg y camlesi yn ogystal â bywyd gwyllt, bioamrywiaeth, mynediad, ffitrwydd, llesiant a phopeth felly. Mae hyn yn wirioneddol bwysig i bobl.
Ond rydych chi'n llygad eich lle: fy nealltwriaeth i yw bod penderfyniad wedi'i wneud. Mae'n rhaid imi bwysleisio nad yw hwn yn fater datganoledig, ond mae'r penderfyniad wedi'i wneud i adolygu'r model ariannu ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, gan ei newid o gyfnod o 15 mlynedd o dapro i gyfnod o 10 mlynedd, fel ei fod wedi ei gyflymu. Mae angen i ni yng Nghymru barhau i fonitro’r hyn y gallwn ei wneud o ran ein cyfraniad at y camlesi, ac mae hynny, gyda llaw, yn golygu buddsoddiad nid ansylweddol mewn pethau fel y rhwydwaith teithio llesol, ond hefyd, yn benodol, mewn lleoedd fel camlas Maldwyn, mewn prosiectau bioamrywiaeth sy'n costio cannoedd o filoedd o bunnoedd. Felly, rydym yn cydnabod pwysigrwydd y rhain, a byddwn yn parhau i wneud yr hyn a allwn yma, ond yn y cyfamser, rwy'n credu ei bod yn hanfodol bwysig fod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd i sicrhau bod yr ewyllys da hwnnw’n cael ei drosi’n fuddsoddiad parhaus, gwaith cynnal a chadw, ac fel y mae rhai gwirfoddolwyr am ei wneud, ehangu’r rhwydwaith camlesi hefyd.
Cabinet Secretary, I would firstly thank Sioned for raising this important issue, really. I would like to pay tribute to the army of volunteers working to restore canals across South Wales West, including but not limited to the Tennant canal and the Swansea canal. These historical waterways are not only part of our industrial heritage, but are also a key part of our future actions to improve biodiversity. Canals offer a variety of habitats that attract different species of flora and fauna all year round. Due to their linear structure, canals can also provide connecting corridors that create a link through urban and rural environments. Cabinet Secretary, what more can the Welsh Government do to support those seeking to restore our historical canals and waterways?
Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ddiolch yn gyntaf i Sioned am godi’r mater pwysig hwn. Hoffwn dalu teyrnged i’r fyddin o wirfoddolwyr sy’n gweithio i adfer camlesi ar draws Gorllewin De Cymru, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gamlas Tennant a chamlas Abertawe. Mae’r dyfrffyrdd hanesyddol hyn nid yn unig yn rhan o’n treftadaeth ddiwydiannol, maent hefyd yn rhan allweddol o’n gweithredoedd i wella bioamrywiaeth yn y dyfodol. Mae camlesi'n cynnig amrywiaeth o gynefinoedd sy'n denu gwahanol rywogaethau o fflora a ffawna drwy gydol y flwyddyn. Oherwydd eu strwythur llinellog, gall camlesi hefyd ddarparu coridorau cyswllt drwy amgylcheddau trefol a gwledig. Ysgrifennydd y Cabinet, beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi’r rheini sy’n ceisio adfer ein camlesi a’n dyfrffyrdd hanesyddol?
Thank you, Altaf, and I can feel the love here at the moment in this Chamber, for the volunteers as well as for the fen raft spider, from the species champion. There is investment that we can enable, but it's also giving—. As I've outlined, there's the £100,000 that we've provided to the Swansea Canal Society via the brilliant basics fund to make infrastructure improvements at Clydach lock. I've seen it myself up close, it's fantastic to see and the work of volunteers there. There's the £128,000 that we've put into that stretch as well, of active travel funding to upgrade the towpaths alongside the Swansea canal. It's great to see that Neath Port Talbot have secured funding themselves for restoring and regenerating the Neath and Tennant canals. This is very positive, and I know they'll be keen to work with volunteers as well.
I suspect there'll be more that we can do in future around biodiversity, active travel and so on, so even though it is indeed a non-devolved aspect here, we recognise the value of the canals and rivers network to our wider well-being and the environmental gains, and the economic gains as well, because you walk up and down these canals from Clydach and elsewhere and you'll find the cafes, you'll find the pubs thriving on the back of them and so on. We're back to the wine again, the Welsh wine. So, they have multiple benefits.
Diolch, Altaf, a gallaf deimlo’r cariad yma ar hyn o bryd yn y Siambr hon, at y gwirfoddolwyr yn ogystal â thuag at gorryn rafft y ffen, gan yr hyrwyddwr rhywogaethau. Mae buddsoddiad y gallwn ei alluogi, ond mae hefyd yn rhoi—. Fel y nodais, rydym wedi darparu £100,000 i Gymdeithas Camlas Abertawe drwy'r gronfa pethau pwysig i wneud gwelliannau i'r seilwaith yn loc Clydach. Rwyf wedi'i weld fy hun, mae'n wych ei weld, a gwaith y gwirfoddolwyr yno. Hefyd, rydym wedi rhoi £128,000 at y rhan honno, o gyllid teithio llesol i uwchraddio'r llwybrau halio ger camlas Abertawe. Mae’n wych gweld bod Castell-nedd Port Talbot wedi sicrhau eu cyllid eu hunain ar gyfer adfer ac adfywio camlesi Castell-nedd a Thennant. Mae hyn yn gadarnhaol iawn, a gwn y byddant yn awyddus i weithio gyda gwirfoddolwyr hefyd.
Rwy’n tybio y bydd mwy y gallwn ei wneud yn y dyfodol ynghylch bioamrywiaeth, teithio llesol ac ati, felly er yn wir nad yw hyn wedi'i ddatganoli, rydym yn cydnabod gwerth y rhwydwaith camlesi ac afonydd i’n llesiant ehangach a’r buddion amgylcheddol, a’r buddion economaidd hefyd, oherwydd wrth ichi gerdded wrth y camlesi hyn o Glydach a mannau eraill fe welwch y caffis, fe welwch y tafarndai’n ffynnu yn eu sgil ac ati. Rydym yn ôl at y gwin eto, y gwin Cymreig. Felly, mae ganddynt nifer o fanteision.
I also want to outline the good work being done by the Swansea Canal Society. The canal was constructed between 1794 and 1798, running for 16 and a half miles from Swansea to Abercraf. Today, only 5 miles of Swansea canal is fully navigable, from Clydach to Pontardawe and from Pontardawe to Ynysmeudwy. The canal society, with its volunteers, has been involved in extending the canal and getting one of the locks reopened. I, along with many other Senedd Members, including Cabinet Members, was at the official opening earlier this year. Will the Minister join me in congratulating the canal society and their many volunteers? How can this good practice be shared out? I mean, far too often in Wales, we have great things happening and then they only happen in one place. How can we share it around the other canal societies?
Hoffwn innau hefyd amlinellu’r gwaith da sy’n cael ei wneud gan Gymdeithas Camlas Abertawe. Adeiladwyd y gamlas rhwng 1794 a 1798, ac roedd yn arfer ymestyn 16 milltir a hanner o Abertawe i Aber-craf. Heddiw, dim ond 5 milltir o gamlas Abertawe sy'n gwbl fordwyadwy, o Glydach i Bontardawe ac o Bontardawe i Ynysmeudwy. Mae cymdeithas y gamlas, gyda'i gwirfoddolwyr, wedi bod yn rhan o'r gwaith o ymestyn y gamlas ac ailagor un o'r lociau. Roeddwn i, ynghyd â llawer o Aelodau eraill o'r Senedd, gan gynnwys Aelodau o’r Cabinet, yn yr agoriad swyddogol yn gynharach eleni. A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i longyfarch cymdeithas y gamlas a’u gwirfoddolwyr niferus? Sut y gellir rhannu'r arferion da hyn? Hynny yw, yn llawer rhy aml yng Nghymru, mae gennym bethau gwych yn digwydd ac nid ydynt ond yn digwydd mewn un lle. Sut y gallwn rannu ymhlith y cymdeithasau camlesi eraill?
Mike, you're absolutely right. I'm glad that you and so many Members were there for that opening of it. I've just got to point out that I do have a vested interest, as I've sailed every inch of that navigable canal, and others within south Wales, in my 17-footer, and I'm regularly out on expeditions exploring it. This is the best time of year, actually, in terms of seeing the wildlife, so I'd encourage anybody to walk, cycle and enjoy it and so on.
And we can spread it more. There's much work going on beyond Swansea and the Tennant canal, and so on, and all those volunteers. We can actually do that investment, as I've mentioned, in places like the Mongomery canal, camlas Maldwyn, using, for example, the Nature Networks fund for biodiversity there, so, into the hundreds of thousands of pounds in that area. So, we can definitely spread this, and I think one of the best ways of propagating this, I have to say, is through volunteer to volunteer, because what's impressive in this and the original conception of the Canal & River Trust is building on the goodwill, the energy and the knowledge and enthusiasm of volunteers. They were the ones who had driven the restoration of all of the canal network, from the moment they would have disappeared in this country. They were the ones who actually started it; they're the ones who are continuing to drive it and we need to support them.
Mike, rydych chi'n llygad eich lle. Rwy'n falch eich bod chi a chymaint o Aelodau yno yn yr agoriad. Mae'n rhaid imi nodi bod gennyf fuddiant personol, gan fy mod wedi hwylio pob modfedd o'r gamlas fordwyadwy honno, ac eraill yn ne Cymru, yn fy nghwch 17 troedfedd, ac rwy'n aml yn ei harchwilio ar allteithiau. Dyma’r adeg orau o’r flwyddyn, mewn gwirionedd, o ran gweld y bywyd gwyllt, felly rwy'n annog unrhyw un i gerdded, beicio a’i mwynhau ac ati.
A gallwn ledaenu hyn ymhellach. Mae llawer o waith yn mynd rhagddo y tu hwnt i Abertawe a chamlas Tennant, ac yn y blaen, a'r holl wirfoddolwyr hynny. Gallwn wneud y buddsoddiad hwnnw, fel y soniais, mewn lleoedd fel camlas Maldwyn, gan ddefnyddio, er enghraifft, y gronfa Rhwydweithiau Natur ar gyfer bioamrywiaeth yno, felly cannoedd o filoedd o bunnoedd yn yr ardal honno. Felly, yn sicr, gallwn ledaenu hyn ymhellach, a chredaf mai un o'r ffyrdd gorau o ledaenu hyn, mae'n rhaid imi ddweud, yw o un gwirfoddolwr i'r llall, gan mai'r hyn sy'n drawiadol yn hyn o beth a syniadaeth wreiddiol yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yw adeiladu ar ewyllys da, egni a gwybodaeth a brwdfrydedd gwirfoddolwyr. Gwirfoddolwyr sydd wedi ysgogi'r gwaith o adfer y rhwydwaith camlesi cyfan, o'r eiliad y byddent wedi diflannu yn y wlad hon. Hwy a'i cychwynnodd; hwy yw'r rhai sy'n parhau i wneud iddo ddigwydd, ac mae angen i ni eu cefnogi.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon yn Nwyrain De Cymru? OQ62209
6. What steps is the Welsh Government taking to tackle fly-tipping in South Wales East? OQ62209
Thanks, Natasha. Fly-tipping Action Wales, a Welsh Government-funded programme, continues to work with local authorities in south-east Wales targeting fly-tipping hotspots. Successful surveillance exercises have led to prosecutions and other enforcement action. This includes supporting Newport City Council in successfully dealing with the notorious, I think it's fair to say, 'road to nowhere' site in Coedkernew.
Diolch, Natasha. Mae Taclo Tipio Cymru, rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol yn ne-ddwyrain Cymru i dargedu ardaloedd lle ceir llawer o dipio anghyfreithlon. Mae ymarferion gwyliadwriaeth llwyddiannus wedi arwain at erlyniadau a chamau gorfodi eraill. Mae hyn yn cynnwys cefnogi Cyngor Dinas Casnewydd i ymdrin yn llwyddiannus â safle ag iddi enw drwg, rwy'n credu ei bod yn deg dweud, sef y ‘ffordd i unman’ yng Nghoedcernyw.
Thank you so much, Cabinet Secretary, for your answer. Mounds of rubbish, as you mentioned, rightfully, are piling up in Newport and are becoming an increasingly regular occurrence for residents. Not too long ago at a council scrutiny meeting, it was revealed that the city reclaims the unwanted crown of Wales's fly-tipping capital. A report found that more than 8,000 of the 42,171 fly-tipping incidents reported by all local authorities over the last year were, indeed, in the Newport council area.
One example of the ever-growing problem in our city was the mammoth mound of rubbish made up of nappies, bags, household waste and other discarded waste that was left on Factory Road to pile up. One local described the smell coming from the site as disgusting, with rats spotted scurrying around the site and a swarm of flies hovering over the pile of waste. After being reported numerous times and being raised by my Welsh Conservative colleague and Newport city councillor David Fairweather, I'm pleased to see that it's now being cleared. However, Cabinet Secretary, it should never have got to this stage. So, I'd like to know how the Welsh Government is specifically working with local authorities to combat this issue, which blights our communities, and if any extra support will, indeed, be given to Newport City Council, as it's clear that this particular area is a hotbed for fly-tipping. Thank you.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae tomenni o sbwriel, fel y sonioch chi'n gywir ddigon, yn pentyrru yng Nghasnewydd ac yn dod yn ddigwyddiad cynyddol reolaidd i drigolion. Heb fod mor bell yn ôl â hynny yn un o gyfarfodydd craffu’r cyngor, datgelwyd bod y ddinas wedi adennill ei choron annymunol fel prifddinas tipio anghyfreithlon Cymru. Canfu adroddiad fod mwy nag 8,000 o’r 42,171 o achosion o dipio anghyfreithlon a nodwyd gan bob awdurdod lleol dros y flwyddyn ddiwethaf yn ardal cyngor Casnewydd.
Un enghraifft o'r broblem gynyddol yn ein dinas oedd y domen enfawr o sbwriel a oedd yn cynnwys cewynnau, bagiau, gwastraff cartrefi a gwastraff arall a gafodd ei gadael i bentyrru ar Factory Road. Disgrifiodd unigolyn lleol yr arogl o'r safle fel un ffiaidd, gyda llygod mawr i'w gweld yn sgrialu o amgylch y safle a haid o bryfed yn hofran dros y domen o wastraff. Ar ôl nifer o gwynion ac ar ôl i fy nghyd-aelod o'r Ceidwadwyr Cymreig a chynghorydd dinas Casnewydd David Fairweather godi'r mater, rwy’n falch o weld bod y domen bellach yn cael ei chlirio. Fodd bynnag, Ysgrifennydd y Cabinet, ni ddylai byth fod wedi cyrraedd y sefyllfa hon. Felly, hoffwn wybod sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n benodol gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r mater, sy'n difetha ein cymunedau, ac a fydd unrhyw gymorth ychwanegol yn cael ei roi i Gyngor Dinas Casnewydd, gan ei bod yn amlwg fod yr ardal benodol hon yn fan problemus o ran tipio anghyfreithlon. Diolch.
Thanks, Natasha. And, look, I think that headline for a local authority is deeply unwanted. I saw some of the coverage on that and I've seen some of the responses from some of the officers and councillors, that they've issued now more than 200—200—fixed-penalty notices for fly-tipping and waste offences this year, compared with only a few dozen in the years before. So, they're now going at it, which is really great to see.
What we can do as Welsh Government is continue the investment. So, the £1.2 million that we've put into the Fly-tipping Action Wales programme over the past three years really boosts that, and that does include strengthening enforcement action across Wales, as I've just described, employing new enforcement officers to target those well-known fly-tipping hotspots and building those robust relationships with local authority enforcement teams, so we have best practice, front-foot practice everywhere, and that includes delivering the enforcement outcomes, delivering prosecutions and other enforcements that, sometimes, are quite laborious, because it is like forensic analysis, but to pursue those fly-tippers as well. We've got to acknowledge that a majority of what we're seeing is linked to the disposal of domestic waste in fly-tipping. So, people have to take responsibility as well, themselves, individually. Who are they giving their waste to? Are they a licensed contractor? Do they know it's going to a dump, and that they're paying for that, not that it'll be dumped at the end of their lane? So, we'll continue to support this.
In your own area, there’s some stuff that we're doing in south-east Wales. In the Gwent levels, we're developing a future project working with communities, building on the success of the previous Living Levels fly-tipping project. We're working directly with Newport council as well. Fly-tipping Action Wales are working on doing more with signage and increasing surveillance activities. In the wider south-east area, we're doing work with Rhondda Cynon Taf and Merthyr Tydfil on common land sites, working with NRW on that, at targeted locations where we know there's a problem in south Wales. And with Monmouthshire and Torfaen we're doing a similar targeting of hotspots as well.
Diolch, Natasha. Ac edrychwch, credaf fod hwnnw'n bennawd cwbl annymunol i awdurdod lleol. Gwelais rai o’r adroddiadau ar hyn, ac rwyf wedi gweld rhai o’r ymatebion gan rai o’r swyddogion a’r cynghorwyr, eu bod bellach wedi cyhoeddi mwy na 200—200—o hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer troseddau tipio anghyfreithlon a gwastraff eleni, o gymharu â dim ond ychydig ddwsinau yn y blynyddoedd blaenorol. Felly, maent yn mynd i'r afael â hyn, sy'n wirioneddol wych i'w weld.
Yr hyn y gallwn ei wneud fel Llywodraeth Cymru yw parhau â’r buddsoddiad. Felly, mae’r £1.2 miliwn a roesom i raglen Taclo Tipio Cymru dros y tair blynedd diwethaf yn hwb gwirioneddol i hynny, ac mae hynny’n cynnwys cryfhau camau gorfodi ledled Cymru, fel rwyf newydd ei ddisgrifio, cyflogi swyddogion gorfodi newydd i dargedu’r mannau problemus o ran tipio anghyfreithlon a meithrin perthynas gadarn â thimau gorfodi awdurdodau lleol, fel bod gennym arferion gorau, arferion rhagweithiol ym mhobman, ac mae hynny’n cynnwys cyflawni’r canlyniadau gorfodi, cyflawni erlyniadau a chamau gorfodi eraill sydd, weithiau, yn eithaf llafurus, gan y gall fod fel dadansoddi fforensig, ond erlyn tipwyr anghyfreithlon hefyd. Mae'n rhaid inni gydnabod bod y rhan fwyaf o'r hyn a welwn o ran tipio anghyfreithlon yn gysylltiedig â gwaredu gwastraff domestig. Felly, mae’n rhaid i bobl gymryd cyfrifoldeb eu hunain, fel unigolion. I bwy y maent yn rhoi eu gwastraff? A ydynt yn gontractwr trwyddedig? A ydynt yn gwybod ei fod yn mynd i domen sbwriel, a'u bod yn talu am hynny, yn hytrach na'i fod yn cael ei adael ym mhen draw'r lôn? Felly, byddwn yn parhau i gefnogi hyn.
Yn eich ardal chi, mae rhai pethau yr ydym yn eu gwneud yn ne-ddwyrain Cymru. Ar wastadeddau Gwent, rydym yn datblygu prosiect ar gyfer y dyfodol lle byddwn yn gweithio gyda chymunedau, gan adeiladu ar lwyddiant y prosiect tipio anghyfreithlon blaenorol, Lefelau Byw. Rydym yn gweithio'n uniongyrchol gyda chyngor Casnewydd hefyd. Mae Taclo Tipio Cymru yn gweithio ar wneud mwy gydag arwyddion a chynyddu gweithgarwch gwyliadwriaeth. Yn ardal ehangach y de-ddwyrain, rydym yn gwneud gwaith gyda Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful ar safleoedd tir comin, gan weithio gyda CNC ar hynny, mewn lleoliadau wedi'u targedu lle gwyddom fod problem yn ne Cymru. A chyda sir Fynwy a Thorfaen, rydym yn targedu ardaloedd problemus mewn ffordd debyg.
7. Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i awdurdodau lleol i wella ansawdd aer pobl sy'n byw ger safleoedd glo brig a chwareli? OQ62191
7. What guidance does the Welsh Government provide to local authorities to improve air quality for people living near opencast sites and quarries? OQ62191
Thank you, Delyth. Local authorities have a clear duty to ensure that the air environment is considered with any planning application made. Local authorities also have duties to improve air quality in their areas, using mechanisms including planning permission and enforcement, environmental permitting, statutory nuisance and compliance.
Diolch, Delyth. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd glir i sicrhau bod amgylchedd yr aer yn cael ei ystyried gydag unrhyw gais cynllunio a wneir. Mae gan awdurdodau lleol hefyd ddyletswyddau i wella ansawdd aer yn eu hardaloedd, gan ddefnyddio mecanweithiau gan gynnwys caniatâd cynllunio a gorfodi, trwyddedu amgylcheddol, rheoliadau niwsans statudol a chydymffurfiaeth.
Thank you for that. Living near a quarry can have harmful effects on your health. The Bryn quarry in Gelligaer has, reportedly, continued blasting operations, although its planning consent ran out at the end of last year. Residents living nearby have long complained about noise pollution from the blasts, vibrations in their homes and the dust, and it's the dust I wanted to focus on. Exposure to quarry dust can have hugely detrimental effects on our health; it's particularly harmful to children's lungs—it can lead to asthma—and in adults long-term exposure can be associated with heart attacks and strokes.
It is near impossible to get an accurate picture of how badly air quality is being affected by quarries. It doesn't help that quarry companies like that in Gelligaer self-monitor the air quality data. Surely we need independent monitoring in these sites across Wales, since some quarry companies have been accused in the past of underreporting emissions. Cabinet Secretary, this should, surely, be an early test case for the clean air Act. Would you look at this, please, and introduce changes to protect the health of everyone living near these quarry sites across Wales?
Diolch. Gall byw yn agos at chwarel gael effeithiau niweidiol ar eich iechyd. Yn ôl y sôn, mae chwarel Bryn yng Ngelligaer wedi parhau â gweithrediadau ffrwydro er i'w caniatâd cynllunio ddod i ben ddiwedd y llynedd. Mae trigolion sy'n byw ger y chwarel wedi cwyno ers tro am lygredd sŵn o'r ffrwydradau, dirgryniadau yn eu cartrefi a'r llwch, a hoffwn ganolbwyntio ar y llwch. Gall dod i gysylltiad â llwch o chwareli gael effeithiau hynod andwyol ar ein hiechyd; mae'n arbennig o niweidiol i ysgyfaint plant—gall arwain at asthma—ac mewn oedolion, gall dod i gysylltiad hirdymor â llwch o chwareli fod yn gysylltiedig â thrawiadau ar y galon a strôc.
Mae bron yn amhosibl cael darlun cywir o'r graddau y mae chwareli'n effeithio ar ansawdd aer. Nid yw'n help fod cwmnïau chwarela fel yr un yng Ngelligaer yn hunanfonitro'r data ansawdd aer. Mae angen monitro'r safleoedd hyn ledled Cymru yn annibynnol, gan fod rhai cwmnïau chwarela wedi’u cyhuddo yn y gorffennol o dangofnodi allyriadau. Ysgrifennydd y Cabinet, dylai hwn fod yn achos prawf cynnar ar gyfer y Ddeddf aer glân. A wnewch chi edrych ar hyn, os gwelwch yn dda, a chyflwyno newidiadau i ddiogelu iechyd pawb sy’n byw ger y chwareli hyn ledled Cymru?
Thanks, Delyth. One of the things that may be of interest to you and to others, rather than rehearse the protections that are currently in place and our expectation as the Welsh Government that those are used, is that, since the 2024 Act, we've opened a consultation to update the local air quality guidance for local authorities to support them further in meeting their air quality obligations. We'd welcome anyone and everyone to input into this consultation; it's on our website.
But I would say as well that it's very clear that the potential impact on health must always be considered in relation to any proposal for aggregates extraction, and health impact assessments have to be carried out for such proposals where they're within 1 km of an existing community. Of course, something that we passed fairly recently in 2024, the Environment (Air Quality and Soundscapes) (Wales) Act, requires local authorities to monitor and manage air quality within their area.
So, those are in place; we need to make sure that they're being used properly. But if there are other proposals coming forward, as I've said in response to previous questions, I'm always interested in hearing good suggestions and evidence of a better way forward.
Diolch, Delyth. Un o'r pethau a allai fod o ddiddordeb i chi ac eraill, yn hytrach nag ailadrodd yr amddiffyniadau sydd ar waith ar hyn o bryd a'n disgwyliad fel Llywodraeth Cymru y cânt eu defnyddio, yw ein bod, ers Deddf 2024, wedi agor ymgynghoriad i ddiweddaru’r canllawiau ansawdd aer lleol ar gyfer awdurdodau lleol i’w cefnogi ymhellach i gyflawni eu rhwymedigaethau ansawdd aer. Byddem yn falch iawn o weld unrhyw un a phawb yn cyfrannu at yr ymgynghoriad hwn; mae i'w weld ar ein gwefan.
Ond mae'n amlwg iawn hefyd fod yn rhaid ystyried yr effaith bosibl ar iechyd bob amser mewn perthynas ag unrhyw gynnig i gloddio am agregau, ac mae'n rhaid cynnal asesiadau o'r effaith ar iechyd ar gyfer cynigion o'r fath pan fyddant o fewn 1 km i gymuned bresennol. Wrth gwrs, mae rhywbeth a gyflwynwyd gennym yn weddol ddiweddar yn 2024, sef Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fonitro a rheoli ansawdd aer yn eu hardal.
Felly, mae’r rheini ar waith; mae angen inni sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio'n briodol. Ond os oes cynigion eraill i'w cyflwyno, fel y dywedais mewn ymateb i gwestiynau blaenorol, mae gennyf ddiddordeb bob amser mewn clywed awgrymiadau da a thystiolaeth o ddull gweithredu gwell.
8. Pa gefnogaeth y mae'r Llywodraeth yn ei rhoi i dyfu morwellt? OQ62213
8. What support does the Government provide for the growing of seagrass? OQ62213
Diolch yn fawr iawn, Mabon. Rydym wedi buddsoddi £300,000 i gefnogi adferiad morwellt ar hyd arfordir Cymru. Mae hyn yn cynnwys cyllid diweddar ar gyfer datblygu cynllun gweithredu morwellt cenedlaethol Rhwydwaith Morwellt Cymru, sy’n amlinellu gweledigaeth ar gyfer adfer 266 hectar o forwellt ar draws Cymru erbyn 2030.
Thank you very much, Mabon. We have invested £300,000 to support the recovery of seagrass along the coastline of Wales. This includes recent funding for the development of Seagrass Network Cymru’s national seagrass action plan, which sets out a vision for the restoration of 266 hectares of seagrass across Wales by 2030.
Diolch yn fawr iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr ateb yna. Dwi'n croesawu'r cyhoeddiad diweddar o fwy o arian tuag at Rwydwaith Morwellt Cymru. Mae'r rhwydwaith yma, wrth gwrs, yn gwneud gwaith gwych; dwi wedi cael y pleser yn y flwyddyn ddiwethaf o fynd i blannu hadau morwellt ym Mhenychain gydag aelodau o'r rhwydwaith. Wrth gwrs, mae morwellt nid yn unig yn helpu natur ac yn sicrhau bod yna bysgodfeydd iach gennym ni ar ein glannau ni, ond hefyd maen nhw'n amsugno carbon deuocsid i raddau anferthol. Ond yn fwy na'r arian yma, a'r gefnogaeth dwi'n gwerthfawrogi sydd wedi cael ei roi, beth y tu hwnt i hynny ydych chi'n ei wneud o ran gosod uchelgais? Beth ydy uchelgais y Llywodraeth pan ei fod yn dod i forwellt, a beth ydy'r targedau rydych chi'n eu gosod er mwyn gwireddu'r uchelgais yma?
Thank you very much to the Cabinet Secretary for that response. I welcome the recent announcement of more funding for Seagrass Network Cymru. The network does great work; I had the pleasure last year of planting seagrass seeds in Penychain with members of the network. Of course, seagrass not only helps nature and ensures that there are healthy fisheries along our shores, but they also absorb carbon dioxide at a huge quantity. But in addition to this funding, and the support that I appreciate has already been given, beyond that, what are you doing in terms of setting an ambition? What is the Welsh Government's ambition when it comes to seagrass, and what targets have you put in place in order to deliver that ambition?
Not only seagrass, but also salt marsh is important within this context as well. You rightly point out that this isn't the only funding that we've done. We've awarded, since 2021, nearly £852,000 of funding towards salt marsh restoration through the Nature Networks fund. These will contribute to our 30x30 conservation targets, without a doubt. As you know—and there's great support here in this Chamber for the seagrass network and seagrass project—we were delighted to put that additional £100,000 forward, but part of that will support the development of the national seagrass action plan. Within that, we can have ideas coming of forward about the level of ambition that can be done within Wales, rather than me arbitrarily saying, 'Here's the hectarage'. But even this funding on its own now will develop that 266 hectares more.
I visited, only a month or so ago, one of the sites that's crucial to this, which is in the industrial estate in Bridgend, where they're developing those little nubs that will be planted out—again, a theme today—by volunteers, many of them, right across Wales. So, this will contribute to our nature restoration. It will contribute to that marine environment. It will contribute to carbon sequestration as well. It has those multiple benefits. That's why we're pleased to put the investment in, and we're looking forward to them developing not only the national seagrass action plan, but part of this funding is to encourage others to be part of this, to bring other funders in. Because there's a great deal of excitement around seagrass, and salt marsh as well, and we hope that other people will say, 'Well, we want to be in this space, helping to fund the development of this'. Then we can lift the ambition significantly.
Nid yn unig morwellt, ond mae morfeydd heli hefyd yn bwysig yn y cyd-destun hwn. Rydych chi'n nodi'n gywir ddigon nad dyma'r unig gyllid a ddarparwyd gennym. Rydym wedi dyfarnu, ers 2021, bron i £852,000 o gyllid tuag at adfer morfeydd heli drwy'r gronfa Rhwydweithiau Natur. Bydd y rhain yn cyfrannu at ein targedau cadwraeth 30x30, heb os nac oni bai. Fel y gwyddoch—ac mae llawer o gefnogaeth yma yn y Siambr i’r rhwydwaith morwellt a'r prosiect morwellt—roeddem yn falch iawn o ddarparu £100,000 ychwanegol, ond bydd rhan o hwnnw’n cefnogi datblygiad y cynllun gweithredu morwellt cenedlaethol. O fewn hynny, gallwn gael syniadau am lefel yr uchelgais y gellir ei chael yng Nghymru, yn hytrach na fy mod i'n dweud yn fympwyol, 'Dyma faint o hectarau’. Ond bydd hyd yn oed y cyllid hwn ar ei ben ei hun nawr yn datblygu'r 266 hectar ychwanegol hynny.
Ymwelais, oddeutu mis yn ôl, ag un o'r safleoedd sy'n hollbwysig i hyn, ar yr ystad ddiwydiannol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle maent yn datblygu'r cnepynnau bach a gaiff eu plannu—unwaith eto, thema heddiw—gan wirfoddolwyr, llawer ohonynt, ledled Cymru. Felly, bydd hyn yn cyfrannu at ein gwaith adfer natur. Bydd yn cyfrannu at yr amgylchedd morol. Bydd yn cyfrannu at atafaelu carbon hefyd. Mae iddo nifer o fuddion. Dyna pam ein bod yn falch o wneud y buddsoddiad, ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygiad nid yn unig y cynllun gweithredu morwellt cenedlaethol, ond diben rhan o’r cyllid hwn yw annog eraill i gymryd yn rhan, i ddenu cyllidwyr eraill. Oherwydd mae llawer iawn o gyffro ynghylch morwellt, a morfeydd heli hefyd, a gobeithiwn y bydd pobl eraill yn dweud, 'Wel, mae arnom eisiau bod yn rhan o hyn, a helpu i ariannu'r gwaith o'i ddatblygu'. Yna, gallwn godi’r uchelgais yn sylweddol.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Thank you, Cabinet Secretary.
Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau amserol. Mae'r cyntaf o'r rheini heddiw i'w ateb gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, ac i'w ofyn gan Julie Morgan.
The next item will be the topical questions. The first of those today will be answered by the Minister for Further and Higher Education, and will be asked by Julie Morgan.
1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Phrifysgol Caerdydd yn dilyn y cyhoeddiad y bydd 400 o swyddi yn cael eu torri? TQ1293
1. What discussions has the Welsh Government had with Cardiff University following the announcement that 400 jobs are to be cut? TQ1293

The Welsh Government has discussed the proposals with Cardiff University and we expect the concerns of staff, students and trade unions to be heard during the consultation. Universities across Wales make vital contributions to our communities, economy and public services. We need sustainable solutions to ensure that continues, including training healthcare workers.
Mae Llywodraeth Cymru wedi trafod y cynigion gyda Phrifysgol Caerdydd, ac rydym yn disgwyl i bryderon staff, myfyrwyr ac undebau llafur gael eu clywed yn ystod yr ymgynghoriad. Mae prifysgolion ledled Cymru yn gwneud cyfraniadau hanfodol i’n cymunedau, ein heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus. Mae angen atebion cynaliadwy arnom i sicrhau bod hynny’n parhau, gan gynnwys hyfforddi gweithwyr gofal iechyd.
Diolch am yr ateb.
Thank you for the answer.
I’d like to, first of all, declare an interest as my son-in-law works for Cardiff University. I think I’ve been—and I think we’ve all been—in a state of shock following the announcement from Cardiff University yesterday that it’s proposing to cut 400 jobs, leading to the closures of the departments of ancient history, modern languages and translation, music, nursing and religious theology. These are fundamental, essential courses that will just disappear. Four hundred jobs account for 7 per cent of the university’s workforce, and to lose that many high-skilled jobs will have a devastating and lasting impact not only on the individuals involved, but on the city and on Wales. It will result in thousands of students not coming to Cardiff to study, and this will have a knock-on effect on other industries that are reliant on students for their income.
I’m particularly concerned that nursing is to be one of the main departments that will be affected. The nursing course at Cardiff University is ranked first in Wales and fifth across the whole of the UK. According to the Royal College of Nursing, there are 800 to 1,000 students in the nursing school. To cut this number of nursing students, when it’s estimated that we are short of 2,000 nurses in Wales, I can only say is astonishing, and the impact of this will be felt right across Wales. Could the Minister ask the university to consider the Wales-wide impact of such proposals, particularly when the Welsh Government here is making such an effort to recruit nurses, and also has retained the bursary in order to keep nurses in the field? And also, does the Minister know if any other allied professionals will also be affected if this closure goes ahead at the school of nursing?
And then, of course, to lose the music department will be a huge blow that, again, will not just affect Cardiff. The loss of roughly 275 music students in the school will affect the whole of Wales and will affect the Welsh music culture. Last year in Cardiff we've already had the closure of the junior department of the Royal Welsh College of Music and Drama, and this is a further blow to the arts in Wales. The head of the school has described this proposal as a dereliction of duty and a betrayal of Welsh cultural heritage. I've spoken to the union representatives and they feel they are at a loss as to how the university has come to this decision so drastically, with such essential courses being proposed to be cut.
One of the reasons given for this money crisis is the drop in international students because of the change in visa requirements, and I wondered if the Minister had any more details of the numbers related to this and what percentage has it dropped in Cardiff University. I'm also very fearful that these cuts would just be the tip of the iceberg. These are the academic jobs that are going. I think the university have said that there would be professional jobs that will follow that. Those will be jobs in the administration sections and in estates. I wondered if the Minister had any indication, or would be able to find out, what the university has planned for next.
And finally, what about the students? Could the Minister confirm that the students, who may be in the middle of their courses, will be supported in this very difficult period? Because you can imagine how devastated you might be if you're in the middle of a course and then you're told this course might be axed. I think the welfare of the students is something the university must consider.
In conclusion, our universities in Wales are absolutely vital. They're a part of the fabric of our society and they mean so much more than just thinking of teaching of students. I urge the Minister to do all she possibly can to see what the Welsh Government can do in order to prevent these proposals coming into effect.
Yn gyntaf oll, hoffwn ddatgan buddiant gan fod fy mab yng nghyfraith yn gweithio i Brifysgol Caerdydd. Credaf fy mod—a chredaf fod pob un ohonom—yn syfrdan yn dilyn y cyhoeddiad gan Brifysgol Caerdydd ddoe ei bod yn bwriadu torri 400 o swyddi, gan arwain at gau adrannau hanes yr henfyd, ieithoedd modern a chyfieithu, cerddoriaeth, nyrsio a diwinyddiaeth grefyddol. Mae'r rhain yn gyrsiau hollbwysig, hanfodol a fydd yn diflannu. Mae 400 o swyddi yn 7 y cant o weithlu’r brifysgol, a bydd colli cynifer o swyddi sgiliau uchel yn cael effaith ddinistriol a pharhaol nid yn unig ar yr unigolion dan sylw, ond ar y ddinas ac ar Gymru. Bydd yn golygu na fydd miloedd o fyfyrwyr yn dod i Gaerdydd i astudio, a bydd hyn yn cael effaith ganlyniadol ar ddiwydiannau eraill sy'n dibynnu ar fyfyrwyr am eu hincwm.
Rwy’n arbennig o bryderus y bydd nyrsio'n un o’r prif adrannau yr effeithir arnynt. Mae’r cwrs nyrsio ym Mhrifysgol Caerdydd ar frig y tabl yng Nghymru ac yn bumed drwy'r DU gyfan. Yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol, mae 800 i 1,000 o fyfyrwyr yn yr ysgol nyrsio. Mae torri'r nifer hwn o fyfyrwyr nyrsio, pan amcangyfrifir ein bod 2,000 o nyrsys yn brin yng Nghymru, yn gwbl syfrdanol, a bydd effaith hyn yn cael ei theimlo ledled Cymru. A allai’r Gweinidog ofyn i’r brifysgol ystyried effaith cynigion o’r fath ar Gymru gyfan, yn enwedig pan fo Llywodraeth Cymru yn gwneud cymaint o ymdrech i recriwtio nyrsys, a hefyd wedi cadw’r fwrsariaeth er mwyn cadw nyrsys yn y maes? A hefyd, a yw'r Gweinidog yn gwybod a fyddai unrhyw weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd eraill hefyd yn cael eu heffeithio pe bai'r ysgol nyrsio'n cau?
Ac yna, wrth gwrs, bydd colli’r adran gerddoriaeth yn ergyd enfawr a fydd, unwaith eto, yn effeithio ar fwy na Chaerdydd yn unig. Bydd colli oddeutu 275 o fyfyrwyr cerdd yn yr ysgol yn effeithio ar Gymru gyfan ac yn effeithio ar ddiwylliant cerddoriaeth Cymru. Y llynedd yng Nghaerdydd, rydym eisoes wedi gweld adran iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn cau, ac mae hon yn ergyd bellach i’r celfyddydau yng Nghymru. Mae pennaeth yr ysgol wedi disgrifio’r cynnig fel esgeuluso dyletswydd a bradychu treftadaeth ddiwylliannol Cymru. Rwyf wedi siarad â chynrychiolwyr yr undebau, ac maent yn teimlo nad oes syniad ganddynt sut y mae'r brifysgol wedi dod i benderfyniad mor llym, gyda'r cynigion i dorri cyrsiau mor hanfodol.
Un o’r rhesymau a roddwyd dros yr argyfwng ariannol yw’r gostyngiad yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol oherwydd y newid i ofynion fisa, a thybed a oes gan y Gweinidog ragor o fanylion am y niferoedd hyn a pha ganran y maent wedi gostwng ym Mhrifysgol Caerdydd. Rwyf hefyd yn ofnus iawn mai dim ond crib y rhewfryn yw'r toriadau hyn. Dyma'r swyddi academaidd sy'n mynd. Credaf fod y brifysgol wedi dweud y byddai swyddi proffesiynol yn dilyn hynny. Swyddi yn yr adrannau gweinyddol a'r ystadau fydd y rheini. Tybed a oes gan y Gweinidog unrhyw syniad, neu a fyddai’n gallu darganfod, beth sydd wedi'i gynllunio nesaf gan y brifysgol?
Ac yn olaf, beth am y myfyrwyr? A all y Gweinidog gadarnhau y bydd y myfyrwyr, sydd efallai ar ganol eu cyrsiau, yn cael eu cefnogi yn y cyfnod anodd hwn? Oherwydd gallwch ddychmygu pa mor ddigalon y gallech fod os ydych ar ganol cwrs ac yna'n cael gwybod y gallai'r cwrs hwnnw gael ei dorri. Credaf fod lles y myfyrwyr yn rhywbeth y mae'n rhaid i'r brifysgol ei ystyried.
I gloi, mae ein prifysgolion yng Nghymru yn gwbl hanfodol. Maent yn rhan o wead ein cymdeithas ac maent yn golygu cymaint mwy nag addysgu myfyrwyr yn unig. Rwy'n annog y Gweinidog i wneud popeth yn ei gallu i weld beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i atal y cynigion hyn rhag cael eu rhoi ar waith.
I'd like to thank Julie Morgan for that question. We are aware of Cardiff University's recent announcement on plans to consult with staff and trade unions on compulsory job losses, and the potential closure of course provision. We understand that the university has entered a statutory consultation period with the recognised trade unions concerned, including the University and College Union, and this follows a period of dialogue across university departments.
I'd like to stress that, at challenging times such as this, I would expect institutions to adhere to the principles of social partnership, and that the trade unions and the affected workforce are involved and engaged in the proposed restructuring process, and that students affected by the proposed changes, which I believe include the teaching out of those courses, are fully supported.
I do recognise that the uncertainty is going to cause anxiety for many staff and students. It's essential that proper support for mental health and well-being is available to all those affected, and I know that trade unions and student unions will be making every effort to put that support in place.
The most important point, Llywydd, that I'd like to place on record in this Chamber this afternoon is that we need to see a review of how the HE sector is funded across the UK as a whole. That needs to take into account factors such as the impact of Brexit, changes to visa requirements, the importance of international partnerships and those UK Treasury rules that govern the student finance system, all of which are not in our hands in Wales.
I understand that some work is ongoing in the UK Government, and I expect the Welsh Government to have the opportunity to contribute to this review so that any findings are relevant to the needs of Wales, which will of course always be my primary concern. In fact, I spoke with the UK Government Minister for higher education earlier today to make these points, and we have further meetings arranged early next week to discuss this in more detail.
Sustainable higher education institutions of course are vitally important for the future of Wales. That's why we've taken the difficult decision to maintain the real-terms value of tuition fees in the last two years. That's why Welsh universities continue to be relatively well funded per student compared to other parts of the UK, and indeed internationally, and that's why we provide the most generous student support package to our students, to enable them to access HE whatever their background. That's also why we want to prioritise improving participation and attainment in our schools and colleges over the long term, so that we can increase the numbers of our young people who might aspire to go to university.
I do recognise, of course, the financial pressures that HEIs in Wales are under. Welsh Ministers, officials and Medr will continue regular constructive engagement with sector leaders on this. And to support universities, as well as increasing our tuition fees, we have provided up to £21.9 million in additional income to them, an additional £10 million also to the sector, bringing total grant funding to over £200 million in the current financial year.
We know that our universities are undergoing a significant period of, frankly, painful adjustment following the sudden recent decrease in international postgraduate enrolments. But higher education funding in Wales compares favourably to other UK nations. According to the London Economics research published in 2024, net higher education funding per full-time student home in Wales in 2023-24 was 18 per cent higher than in Scotland, and 22 per cent higher than in Northern Ireland. We expect our funding will be at a comparable level to England now that tuition fees are the same in both nations. So, we must work closely with the UK Government on developing a funding system for higher education that's sustainable, and works for universities, for students and for staff.
If I can turn, then, also to the issue of nursing that you raised there, Julie. Cardiff University has played an important role in our ambition for a sustainable NHS workforce for the future, and we are disappointed that nursing courses form part of these proposals. The Cabinet Secretary for health is working urgently with Health Education and Improvement Wales to ensure that we can train the same number of nurses in Wales.
And then, finally, just turning to the three specific questions that you raised with me, I can confirm that the university is proposing to keep midwifery, allied health professionals and other medical courses in place, and say that they would work to improve their other medical provision. And then, on your question on international student numbers, the data that we have on student numbers in the current and last academic year hasn't yet been published, but we do know from Home Office data that, across the UK, there's been a 14 per cent fall in student visa applications in 2024, compared to 2023. And a survey of 70 UK universities found that 80 per cent reported a decrease in international postgraduate enrolments in September 2024, and overall international postgraduate enrolments declining by 20 per cent. That data really does concur with what universities in Wales have been telling us, and their staff, about declining international enrolments this year.
In terms of your question about what other plans the university might have, the university hasn't advised us of any further restructuring plans. But I do want to re-emphasise that universities are autonomous of Government in making any such decisions.
And finally you asked about the wider impact of the proposals on Cardiff and the region. I've no doubt that responses to the consultation will focus on seeing these changes in terms of their impact on Cardiff and on Wales as a whole, which will of course then be for the university to take into account in their final decisions.
Hoffwn ddiolch i Julie Morgan am ei chwestiwn. Rydym yn ymwybodol o gyhoeddiad diweddar Prifysgol Caerdydd ar gynlluniau i ymgynghori â staff ac undebau llafur ar golli swyddi'n orfodol, a’r posibilrwydd o roi'r gorau i gynnig rhai cyrsiau. Deallwn fod y brifysgol wedi dechrau cyfnod ymgynghori statudol gyda’r undebau llafur cydnabyddedig dan sylw, gan gynnwys yr Undeb Prifysgolion a Cholegau, ac mae hyn yn dilyn cyfnod o drafodaethau ar draws adrannau’r brifysgol.
Ar adegau heriol fel hyn, hoffwn bwysleisio y byddwn yn disgwyl i sefydliadau gadw at egwyddorion partneriaeth gymdeithasol, a bod yr undebau llafur a’r gweithlu yr effeithir arnynt yn cymryd rhan weithredol yn y broses ailstrwythuro arfaethedig, a bod myfyrwyr yr effeithir arnynt gan y newidiadau arfaethedig, y credaf eu bod yn cynnwys cwblhau’r cyrsiau hynny, yn cael eu cefnogi’n llawn.
Rwy'n cydnabod bod yr ansicrwydd yn mynd i beri pryder i lawer o staff a myfyrwyr. Mae'n hanfodol fod cymorth priodol ar gyfer iechyd meddwl a lles ar gael i bawb yr effeithir arnynt, a gwn y bydd undebau llafur ac undebau myfyrwyr yn gwneud pob ymdrech i roi'r cymorth hwnnw ar waith.
Y pwynt pwysicaf yr hoffwn ei gofnodi yn y Siambr y prynhawn yma, Lywydd, yw bod angen inni weld adolygiad o sut y caiff y sector addysg uwch ei ariannu ledled y DU. Mae angen i hynny ystyried ffactorau megis effaith Brexit, newidiadau i ofynion fisa, pwysigrwydd partneriaethau rhyngwladol a’r rheolau gan Drysorlys y DU sy’n llywodraethu’r system cyllid myfyrwyr, nad oes yr un ohonynt yn ein dwylo ni yng Nghymru.
Rwy’n deall bod rhywfaint o waith yn mynd rhagddo yn Llywodraeth y DU, ac rwy’n disgwyl i Lywodraeth Cymru gael cyfle i gyfrannu at yr adolygiad hwn fel bod unrhyw ganfyddiadau'n berthnasol i anghenion Cymru, sef fy mhrif bryder bob amser, wrth gwrs. A dweud y gwir, siaradais â Gweinidog addysg uwch Llywodraeth y DU yn gynharach heddiw i wneud y pwyntiau hyn, ac mae gennym gyfarfodydd pellach wedi’u trefnu yn gynnar yr wythnos nesaf i drafod hyn yn fanylach.
Mae sefydliadau addysg uwch cynaliadwy yn hanfodol bwysig i ddyfodol Cymru. Dyna pam ein bod wedi gwneud y penderfyniad anodd i gynnal gwerth ffioedd dysgu mewn termau real yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Dyna pam fod prifysgolion Cymru yn parhau i gael eu hariannu’n gymharol dda fesul myfyriwr o gymharu â rhannau eraill o’r DU, ac yn rhyngwladol yn wir, a dyna pam ein bod yn darparu’r pecyn cymorth myfyrwyr mwyaf hael i’n myfyrwyr, i’w galluogi i gael mynediad at addysg uwch ni waeth beth fo'u cefndir. Dyna hefyd pam ein bod yn awyddus i flaenoriaethu gwella cyfranogiad a chyrhaeddiad yn ein hysgolion a'n colegau dros y tymor hir, fel y gallwn gynyddu nifer ein pobl ifanc a allai fod ag uchelgais i fynd i'r brifysgol.
Rwy'n cydnabod y pwysau ariannol sydd ar sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Bydd Gweinidogion Cymru, swyddogion a Medr yn parhau i ymgysylltu’n adeiladol ac yn rheolaidd ar hyn gydag arweinwyr y sector. Ac i gefnogi prifysgolion, yn ogystal â chynyddu ein ffioedd dysgu, rydym wedi darparu hyd at £21.9 miliwn mewn incwm ychwanegol iddynt, a £10 miliwn yn ychwanegol i’r sector hefyd, gan ddod â chyfanswm y cyllid grant i dros £200 miliwn yn y flwyddyn ariannol gyfredol.
Gwyddom fod ein prifysgolion yn mynd drwy gyfnod sylweddol o addasu poenus, a dweud y gwir, yn dilyn y gostyngiad sydyn diweddar yn nifer y cofrestriadau o fyfyrwyr ôl-raddedig rhyngwladol. Ond mae cyllid addysg uwch yng Nghymru yn cymharu'n ffafriol â chenhedloedd eraill y DU. Yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd gan London Economics yn 2024, roedd cyllid addysg uwch net fesul myfyriwr amser llawn yng Nghymru yn 2023-24 18 y cant yn uwch nag yn yr Alban, a 22 y cant yn uwch nag yng Ngogledd Iwerddon. Rydym yn disgwyl y bydd ein cyllid ar lefel gymharol â Lloegr gan fod ffioedd dysgu yr un fath yn y ddwy wlad. Felly, mae’n rhaid inni weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar ddatblygu system gyllido addysg uwch sy'n gynaliadwy, ac sy'n gweithio i brifysgolion, i fyfyrwyr ac i staff.
Os caf droi, felly, at fater nyrsio a godwyd gennych chi, Julie. Mae Prifysgol Caerdydd wedi chwarae rhan bwysig yn ein huchelgais ar gyfer gweithlu GIG cynaliadwy yn y dyfodol, ac rydym yn siomedig fod cyrsiau nyrsio yn rhan o’r cynigion hyn. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn gweithio ar frys gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i sicrhau y gallwn hyfforddi’r un nifer o nyrsys yng Nghymru.
Ac yna, yn olaf, os caf droi at y tri chwestiwn penodol a ofynnoch chi i mi, gallaf gadarnhau bod y brifysgol yn cynnig cadw bydwreigiaeth, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a chyrsiau meddygol eraill, ac yn dweud y byddent yn gweithio i wella eu darpariaeth feddygol arall. Ac yna, ar eich cwestiwn ynghylch niferoedd myfyrwyr rhyngwladol, nid yw'r data sydd gennym ar niferoedd myfyrwyr yn y flwyddyn academaidd gyfredol a'r flwyddyn academaidd ddiwethaf wedi'i gyhoeddi eto, ond gwyddom o ddata'r Swyddfa Gartref y bu gostyngiad o 14 y cant ledled y DU mewn ceisiadau am fisâu myfyrwyr yn 2024, o gymharu â 2023. A chanfu arolwg o 70 o brifysgolion y DU fod 80 y cant wedi nodi gostyngiad yn nifer y cofrestriadau ôl-raddedig rhyngwladol ym mis Medi 2024, a bod nifer y cofrestriadau ôl-raddedig rhyngwladol yn gyffredinol wedi gostwng 20 y cant. Mae’r data hwnnw'n ategu’r hyn y mae prifysgolion yng Nghymru wedi bod yn ei ddweud wrthym, a’u staff, ynglŷn â'r gostyngiad yn niferoedd y myfyrwyr rhyngwladol sydd wedi cofrestru eleni.
Ar eich cwestiwn ynghylch pa gynlluniau eraill a allai fod gan y brifysgol, nid yw'r brifysgol wedi rhoi gwybod i ni am unrhyw gynlluniau ailstrwythuro pellach. Ond hoffwn ailbwysleisio bod prifysgolion yn annibynnol ar y Llywodraeth wrth wneud unrhyw benderfyniadau o'r fath.
Ac yn olaf, fe ofynnoch chi am effaith ehangach y cynigion ar Gaerdydd a'r rhanbarth. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar ystyried y newidiadau hyn yng nghyd-destun eu heffaith ar Gaerdydd ac ar Gymru gyfan, a bydd hynny'n fater i'r brifysgol ei ystyried wedyn wrth wneud eu penderfyniadau terfynol.
Minister, these colossal cuts are devastating, not just for the affected staff and students—my phone has been bombarded by parents, who are concerned about the future of their children at Cardiff University. It's also going to have a tremendous impact on the local community, our economy and, ultimately, future generations. Financial problems and a drop in international students have been blamed for the drastic cuts—I can hear it, I can understand it, to a point. But it was really, really disappointing to hear a Welsh Government spokesperson shrug off any responsibility yesterday, by saying that universities are independent institutions. Whilst that's true, and I think we can all accept that to another point, is the Government genuinely comfortable sitting on their hands and allowing this act of educational vandalism to be taking place here in Wales? Because, quite frankly, I'm not comfortable with it.
In my view, the Government must act, particularly as this university is well known, and it's apparent to all of us it's going to be axing the nursing college, as our colleague mentioned a little while ago. It's going to be enduring a huge shortfall in the number of nurses that we're going to be bringing to the forefront here in the Welsh health service. In light of the nursing school's potential closure, what discussions has the Government had with the health boards in the immediate area in regard to their capacity to pick up some of the slack? Given that any benefit to a tuition fee uplift to universities has been cancelled out by an increase in national insurance contributions, what steps are being taken to ensure increased support for our universities through the budget happening here for 2025-26?
And in terms of the drop in international students, can the Minister explain the reasons behind this and outline—and you mentioned these in your previous answer, and I appreciate that—what role this specific Welsh Government is playing to market Welsh universities, both here at home and across the world, in a bid to boost student numbers? Of course, this is a developing issue—I can't deny that—with major ramifications, so an urgent statement I do hope will be brought to the Chamber next week so that we can properly debate this issue in more depth and detail. Thank you.
Weinidog, mae'r toriadau enfawr hyn yn ddinistriol, nid yn unig i'r staff a'r myfyrwyr yr effeithir arnynt—mae nifer o rieni wedi fy ffonio, yn pryderu am ddyfodol eu plant ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hefyd yn mynd i gael effaith aruthrol ar y gymuned leol, ein heconomi ac yn y pen draw, ar genedlaethau'r dyfodol. Mae problemau ariannol a gostyngiad yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol wedi cael y bai am y toriadau llym—gallaf ei glywed, gallaf ei ddeall, i raddau. Ond siomedig iawn oedd clywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru yn gwrthod unrhyw gyfrifoldeb ddoe, drwy ddweud bod prifysgolion yn sefydliadau annibynnol. Er bod hynny'n wir, ac rwy'n credu y gallwn i gyd dderbyn hynny i raddau, a yw'r Llywodraeth o ddifrif yn gyffyrddus i eistedd yn ôl a chaniatáu i'r weithred hon o fandaliaeth addysgol ddigwydd yma yng Nghymru? Oherwydd, a bod yn onest, nid wyf i'n gyfforddus yn ei gylch.
Yn fy marn i, mae'n rhaid i'r Llywodraeth weithredu, yn enwedig gan fod y brifysgol hon yn adnabyddus, ac mae'n amlwg i bob un ohonom y bydd yn cael gwared ar y coleg nyrsio, fel y soniodd ein cyd-Aelod ychydig yn ôl. Mae'n mynd i fod yn wynebu diffyg enfawr yn nifer y nyrsys y byddwn yn dod â hwy i'r rheng flaen yma yng ngwasanaeth iechyd Cymru. Yng ngoleuni'r perygl o gau'r ysgol nyrsio, pa drafodaethau y mae'r Llywodraeth wedi'u cael gyda'r byrddau iechyd yn yr ardal gyfagos o ran eu gallu i wneud iawn am rywfaint o'r golled? O ystyried bod unrhyw fudd i godi ffioedd dysgu prifysgolion wedi'i ddileu gan y cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol, pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau mwy o gefnogaeth i'n prifysgolion drwy'r gyllideb sy'n digwydd yma ar gyfer 2025-26?
Ac ar y gostyngiad yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol, a all y Gweinidog esbonio'r rhesymau sy'n sail i hyn ac amlinellu—ac fe sonioch chi am y rhain yn eich ateb blaenorol, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny—pa rôl y mae'r Llywodraeth hon yn ei chwarae yn marchnata prifysgolion Cymru, yma gartref ac ar draws y byd, mewn ymgais i chwyddo niferoedd myfyrwyr? Wrth gwrs, mae hwn yn fater sy'n datblygu—ni allaf wadu hynny—gyda goblygiadau mawr, felly rwy'n gobeithio y cawn ddatganiad brys yn y Siambr yr wythnos nesaf fel y gallwn drafod y mater yn fwy manwl. Diolch.
I'd like to thank Natasha Asghar for those questions. And you began by talking about the well-being of students, and I share your concern for the well-being of students. I know that the National Union of Students branch in Cardiff is very active and will be supporting students through this time. But I reiterate the point that I made to Julie Morgan: I think it is very important that all of us share the responsibility to ensure that the correct facts are available here and that the consultation proposes the teaching out of courses so that no students who are currently enrolled in Cardiff will be affected there.
And in terms of your question about discussions with health boards, the Cabinet Secretary for Health and Social Care is working with Health Education and Improvement Wales, and they, in turn, have those discussions with health boards so that we can ensure that our workforce planning models for nursing and other allied health professions are fulfilled.
But it is really important that we recognise that this is not an issue just for one university here in Wales or for Welsh universities. The issues that we’re facing are issues that have been brought upon us, I’m sorry to say, by the previous UK Conservative Government. So, if we look at the lasting impact of Brexit, the inability that that has given to our HEIs to access research funding—that’s been absolutely catastrophic; the hostile environment for those coming into our country from overseas—that’s a direct result of the previous UK Government's visa changes; and then, of course, we have the rampant inflation that every vice-chancellor has raised with me—the effects of the rampant inflation caused by Liz Truss. [Interruption.] So, those are very important points for us to consider to ensure that we have the full context.
Hoffwn ddiolch i Natasha Asghar am y cwestiynau hynny. Ac fe ddechreuoch chi drwy siarad am les myfyrwyr, ac rwy'n rhannu eich pryder am les myfyrwyr. Gwn fod cangen Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yng Nghaerdydd yn weithgar iawn a bydd yn cefnogi myfyrwyr trwy'r cyfnod hwn. Ond rwy'n ailadrodd y pwynt a wneuthum i Julie Morgan: rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i bob un ohonom rannu'r cyfrifoldeb i sicrhau bod y ffeithiau cywir ar gael yma a bod yr ymgynghoriad yn cynnig cwblhau cyrsiau fel na fydd unrhyw fyfyrwyr sydd wedi cofrestru yng Nghaerdydd ar hyn o bryd yn cael eu heffeithio.
Ac ar eich cwestiwn am drafodaethau gyda byrddau iechyd, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ac maent hwy, yn eu tro, yn cael trafodaethau gyda byrddau iechyd fel y gallwn sicrhau bod ein modelau cynllunio'r gweithlu ar gyfer nyrsio a phroffesiynau eraill perthynol i iechyd yn cael eu cyflawni.
Ond mae'n bwysig iawn ein bod yn cydnabod nad problem i un brifysgol yn unig yma yng Nghymru yw hyn nac i brifysgolion Cymru yn unig. Mae'r problemau a wynebwn yn faterion sydd wedi'u hachosi i ni, mae'n ddrwg gennyf ddweud, gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU. Felly, os edrychwn ar effaith barhaol Brexit, ac anallu ein sefydliadau addysg uwch yn ei sgil i gael gafael ar gyllid ymchwil—mae hynny wedi bod yn gwbl drychinebus; yr amgylchedd gelyniaethus i'r rhai sy'n dod i'n gwlad o dramor—canlyniad uniongyrchol newidiadau Llywodraeth flaenorol y DU i fisâu yw hynny; ac yna, wrth gwrs, mae gennym y chwyddiant rhemp y mae pob is-ganghellor wedi ei godi gyda mi—effeithiau chwyddiant rhemp a achoswyd gan Liz Truss. [Torri ar draws.] Felly, mae'r rhain yn bwyntiau pwysig iawn i ni eu hystyried er mwyn sicrhau ein bod yn cael y cyd-destun llawn.
The news from Cardiff University yesterday was absolutely devastating. And thanks to Labour in Wales, our universities are on the brink. Minister, what happened to education, education, education? I can tell you what: it’s been replaced by stagnation, obfuscation and deterioration. I am meeting union representatives and senior management from the university later on today, and I’m looking forward to hearing directly from them about the impact on jobs, announcements on staff, students and the wider community.
Now, that Wales’s biggest university is set to lose 400 staff is a shocking symptom of Labour’s chronic failure over 25 years to put our universities on a sustainable financial footing. Now, Wales, as has been mentioned already, has a proud record of being a learning nation. And whilst the university must rethink its plans, obviously, it must also be provided with the means to support its staff now and in the future.
So, what and when, Minister, did you know about this announcement? Despite the countless warnings about the financial sustainability of the sector, rather than providing crucial support, you are waving the white flag in the face of hundreds of redundancies, leaving the university sector to wither on the vine. You prematurely announced a transformation fund, only for that to turn out to be just smoke and mirrors. And after three successive years of cuts to the HE budget—three successive years of cuts—the draft budget for 2025-26 does not appear to offer any further investment to support the sector. Dare I ask where the money for this transformation fund is in this budget? Now, during budget scrutiny the week before last, the Cabinet Secretary for Education said:
'In tertiary education, the Minister...decided...to prioritise, ensuring further education and sixth forms can meet the needs of learners.'
Is that the official position of the Welsh Government, that you are content to abandon our universities in Wales? Just a few weeks ago, Welsh Government let the flames go out, alongside thousands of jobs lost at Tata in Port Talbot. We can’t let the same happen again to our universities. Welsh Government failed to act then. Minister, will you act now?
Roedd y newyddion gan Brifysgol Caerdydd ddoe yn hollol ddinistriol. A diolch i Lafur yng Nghymru, mae ein prifysgolion ar y dibyn. Weinidog, beth a ddigwyddodd i addysg, addysg, addysg? Gallaf ddweud wrthych beth: mae wedi cael ei ddisodli gan farweiddio, taflu llwch i lygaid a dirywiad. Rwy'n cyfarfod â chynrychiolwyr undebau ac uwch reolwyr o'r brifysgol yn ddiweddarach heddiw, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed yn uniongyrchol ganddynt hwy am yr effaith ar swyddi, cyhoeddiadau ynghylch staff, myfyrwyr a'r gymuned ehangach.
Nawr, mae'r ffaith bod prifysgol fwyaf Cymru yn mynd i golli 400 o staff yn symptom brawychus o fethiant cronig Llafur dros 25 mlynedd i roi ein prifysgolion ar sylfaen ariannol gynaliadwy. Nawr, fel y soniwyd eisoes, mae gan Gymru hanes balch o fod yn genedl sy'n dysgu. Ac er bod yn rhaid i'r brifysgol ailystyried ei chynlluniau, yn amlwg, rhaid iddi hefyd gael y modd i allu cefnogi ei staff nawr ac yn y dyfodol.
Felly, Weinidog, beth a phryd oeddech chi'n gwybod am y cyhoeddiad hwn? Er gwaethaf y rhybuddion dirifedi am gynaliadwyedd ariannol y sector, yn hytrach na darparu cefnogaeth hanfodol, rydych chi'n chwifio'r faner wen yn wyneb cannoedd o ddiswyddiadau, gan adael y sector prifysgolion i wywo. Fe wnaethoch chi gyhoeddi cronfa drawsnewid yn gynamserol, a gwelwyd nad oedd honno'n ddim byd mwy na rhith. Ac ar ôl tair blynedd olynol o doriadau i gyllideb addysg uwch—tair blynedd olynol o doriadau—nid yw'n ymddangos bod y gyllideb ddrafft ar gyfer 2025-26 yn cynnig unrhyw fuddsoddiad pellach i gefnogi'r sector. A gaf i fentro gofyn ble mae'r arian ar gyfer y gronfa drawsnewid hon yn y gyllideb? Nawr, yn ystod gwaith craffu ar y gyllideb yr wythnos cyn diwethaf, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
'Mewn addysg drydyddol, penderfynodd y Gweinidog... flaenoriaethu, gan sicrhau y gall addysg bellach ac addysg chweched dosbarth ddiwallu anghenion dysgwyr.'
Ai dyna safbwynt swyddogol Llywodraeth Cymru, eich bod yn fodlon cefnu ar ein prifysgolion yng Nghymru? Ychydig wythnosau yn ôl, fe wnaeth Llywodraeth Cymru adael i'r fflamau ddiffodd ochr yn ochr â'r miloedd o swyddi a gollwyd yn Tata ym Mhort Talbot. Ni allwn adael i'r un peth ddigwydd eto i'n prifysgolion. Methodd Llywodraeth Cymru weithredu bryd hynny. Weinidog, a wnewch chi weithredu nawr?
Thank you, Cefin, for those series of comments. I will try to extract some questions from them so that I can answer. [Interruption.] As you know, we have—
Diolch, Cefin, am y gyfres honno o sylwadau. Fe geisiaf dynnu rhai cwestiynau ohonynt imi allu ateb. [Torri ar draws.] Fel y gwyddoch, mae gennym—
Can we have some—? Can we listen to the Minister's response? She's being heckled by her own backbenches at the moment.
A gawn ni—? A gawn ni wrando ar ymateb y Gweinidog? Mae hi'n cael ei heclo gan ei meinciau cefn ei hun ar hyn o bryd.
I was heckling Cefin. [Laughter.]
Roeddwn i'n heclo Cefin. [Chwerthin.]
But you were interrupting the Minister. The Minister, please.
Ond roeddech chi'n torri ar draws y Gweinidog. Weinidog, os gwelwch yn dda.
Diolch, Llywydd. As you will know, Cefin, we’ve provided over £200 million to the higher education sector in the current financial year, with an additional £10 million being awarded in the supplementary budget, and also other funding such as the Digarbon scheme, which I’m really proud of. I went on a lovely visit with the Deputy First Minister to Cardiff University to see how they’ve used the £12 million that they were awarded through that as well. So, I’m confident that the Welsh Government is supporting the sector as much as we possibly can.
You’ll be aware, of course, that higher education institutions are autonomous and that 90 per cent of their funding comes from outside of Government. You referred there to trade unions. I was pleased to be able to speak with representatives from the higher education trade union sector just this morning, and I will continue to have those conversations, which are really important to be having.
In terms of you going back to the issue of funding, as I’ve told the Senedd previously, discussion of a transformation fund for the sector was very much in early stages and it was one of a range of options that was considered for supporting the higher education sector. And we did conclude through the budget discussions that a transformation fund is not required for the sector at this stage. Instead, what we sought to do was to increase core funding for universities through the uplifts to tuition fees, in order that we could direct our core budget to support the priorities identified by the First Minister last summer.
But I bring you back to what I’ve already said is the most important point that I want to make in the Chamber today, that the answers to these problems, which are significant problems—these answers are found in a review of the higher education sector across the UK. And I’m really pleased that I’ve been able to discuss that with my UK counterpart, Jacqui Smith, this morning, and that she has agreed that the Welsh Government can work with the UK Government on that review, so that any findings are relevant to the needs of Wales, which will always be my primary concern.
Diolch, Lywydd. Fel y gwyddoch, Cefin, rydym wedi darparu dros £200 miliwn i'r sector addysg uwch yn y flwyddyn ariannol bresennol, gyda £10 miliwn ychwanegol yn cael ei ddyfarnu yn y gyllideb atodol, a chyllid arall fel cynllun Digarbon, yr wyf yn falch iawn ohono. Euthum ar ymweliad hyfryd gyda'r Dirprwy Brif Weinidog i Brifysgol Caerdydd i weld sut y maent wedi defnyddio'r £12 miliwn a ddyfarnwyd iddynt drwy hwnnw hefyd. Felly, rwy'n hyderus fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector gymaint ag y gallwn.
Fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, fod sefydliadau addysg uwch yn ymreolaethol a bod 90 y cant o'u cyllid yn dod o'r tu allan i'r Llywodraeth. Fe gyfeirioch chi at undebau llafur. Roeddwn yn falch o allu siarad â chynrychiolwyr o'r sector undebau llafur addysg uwch y bore yma, a byddaf yn parhau i gael y sgyrsiau hynny, sy'n bwysig iawn inni eu cael.
Gan eich bod yn dychwelyd at fater cyllid, fel y dywedais wrth y Senedd yn flaenorol, roedd trafodaeth ynghylch cronfa drawsnewid ar gyfer y sector ar gam cynnar iawn ac roedd yn un o ystod o opsiynau a ystyriwyd ar gyfer cefnogi'r sector addysg uwch. A daethom i'r casgliad drwy'r trafodaethau cyllidebol nad oes angen cronfa drawsnewid ar gyfer y sector ar hyn o bryd. Yn hytrach, yr hyn y ceisiem ei wneud oedd cynyddu cyllid craidd i brifysgolion drwy'r cynnydd i ffioedd dysgu, er mwyn inni allu cyfeirio ein cyllideb graidd tuag at gefnogi'r blaenoriaethau a nodwyd gan y Prif Weinidog yr haf diwethaf.
Ond deuaf â chi'n ôl at yr hyn y dywedais eisoes yw'r pwynt pwysicaf yr wyf am ei wneud yn y Siambr heddiw, sef bod yr atebion i'r problemau hyn, sy'n broblemau sylweddol—mae'r atebion hyn i'w cael mewn adolygiad o'r sector addysg uwch ar draws y DU. Ac rwy'n falch iawn fy mod wedi gallu trafod hynny gyda fy swyddog cyfatebol yn y DU, Jacqui Smith, y bore yma, a'i bod hi wedi cytuno y gall Llywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU ar yr adolygiad hwnnw, fel bod unrhyw ganfyddiadau'n berthnasol i anghenion Cymru, a fydd bob amser yn flaenoriaeth i mi.
These are indeed radical plans, but they can’t spend money they haven’t got, and we are not responsible for the attitude of the previous Government that people were not welcome to come and study in this country. The issues involved are multiple, though. Particularly I want to know what the impact of the abolition of the nursing courses would have on the culture and appropriateness of the medical school’s training of the doctors of the future. I don’t know whether any conversation’s been had in advance with the Cabinet Secretary for health on this matter, because it really is a strategic issue, not just a numbers issue. Equally, if modern languages were no longer at Cardiff University, what impact is this going to have on our ambition to strengthen our trading partnership with the rest of the world, as well as strengthen our relationships with the rest of Europe, in light of the hostile culture emanating from the United States?
I think these are really significant issues, because we cannot simply arrogantly expect everybody to speak English. If we want to strengthen our relationships with these foreign countries, we absolutely have to have people who can communicate with them in their language, and, therefore, the Cabinet Secretary for economy is also somebody I’d like to see involved in these conversations.
Mae'r rhain yn gynlluniau radical yn wir, ond ni allant wario arian nad yw ganddynt, ac nid ydym yn gyfrifol am agwedd y Llywodraeth flaenorol nad oedd croeso i bobl ddod i astudio yn y wlad hon. Fodd bynnag, mae'r materion dan sylw'n niferus. Yn benodol, rwyf am wybod beth fyddai effaith diddymu'r cyrsiau nyrsio ar ddiwylliant a phriodoldeb hyfforddiant yr ysgol feddygol i feddygon y dyfodol. Nid wyf yn gwybod a gafwyd unrhyw sgwrs ymlaen llaw gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar y mater hwn, gan ei fod yn fater strategol mewn gwirionedd, nid mater o niferoedd yn unig. Yn yr un modd, os na cheir cyrsiau ieithoedd modern ym Mhrifysgol Caerdydd mwyach, pa effaith y bydd hynny'n ei chael ar ein huchelgais i gryfhau ein partneriaeth fasnachol â gweddill y byd, yn ogystal â chryfhau ein perthynas â gweddill Ewrop, yng ngoleuni'r diwylliant gelyniaethus sy'n deillio o'r Unol Daleithiau?
Rwy'n credu bod y rhain yn faterion arwyddocaol iawn, oherwydd ni allwn ddisgwyl yn drahaus i bawb siarad Saesneg. Os ydym am gryfhau ein perthynas â'r gwledydd tramor hyn, rhaid inni gael pobl sy'n gallu cyfathrebu â hwy yn eu hiaith, ac felly, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi hefyd yn rhywun yr hoffwn ei gweld yn rhan o'r sgyrsiau hyn.
Thank you, Jenny, for your questions and your comments there, and I align myself completely with the comments that you’ve made about the value of international students. And that’s not just, obviously, the monetary value that they bring to our HEIs, but the cultural enrichment value that they bring as well.
With regard to your question about nursing, I understand that the Cabinet Secretary has written to the university regarding the points that you raised, and I’m sure that he would be willing to share that response with you once received. And you make an important point about the value of modern foreign language courses as well, and I’d like to stress to the Chamber that the Welsh Government remains committed to ensuring effective support on international languages across Wales.
Our curriculum officials are in touch with the university regarding the new Curriculum for Wales grant support programme and the proposals for delivery of that. And also I’d like to say that, although Cardiff University are not an accredited provider of initial teacher education, any loss of modern foreign language undergraduate provision could of course affect the potential number of prospective future MFL postgraduate certificate in education students across Wales. So, we will continue to assess any potential impacts on student teacher recruitment to MFL programmes as well.
Diolch am eich cwestiynau a'ch sylwadau, Jenny, ac rwy'n cyd-fynd yn llwyr â'r sylwadau a wnaethoch am werth myfyrwyr rhyngwladol. Ac nid yn unig y gwerth ariannol y maent yn ei gynnig i'n sefydliadau addysg uwch, ond y modd y maent yn cyfoethogi ein ddiwylliannol hefyd.
Ar eich cwestiwn am nyrsio, deallaf fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ysgrifennu at y brifysgol ynglŷn â'r pwyntiau a godwyd gennych, ac rwy'n siŵr y byddai'n fodlon rhannu'r ymateb gyda chi pan ddaw i law. Ac rydych chi'n gwneud pwynt pwysig am werth cyrsiau ieithoedd tramor modern hefyd, a hoffwn bwysleisio wrth y Siambr fod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau cefnogaeth effeithiol i ieithoedd rhyngwladol ledled Cymru.
Mae swyddogion ein cwricwlwm mewn cysylltiad â'r brifysgol ynglŷn â'r rhaglen cymorth grant Cwricwlwm i Gymru newydd a'r cynigion ar gyfer cyflawni honno. Ac er nad yw Prifysgol Caerdydd yn ddarparwr addysg gychwynnol athrawon achrededig, gallai colli darpariaeth ieithoedd tramor modern i israddedigion effeithio ar y niferoedd posibl o ddarpar fyfyrwyr tystysgrif addysg i raddedigion mewn ieithoedd tramor modern ymhlith myfyrwyr addysg ledled Cymru yn y dyfodol. Felly, byddwn yn parhau i asesu unrhyw effeithiau posibl ar recriwtio myfyrwyr addysg i raglenni ieithoedd tramor modern hefyd.
I must say I’m hugely disappointed by your response, Minister, and, in particular, it seemed, listening to your initial response, that there is no problem—Welsh Government has done everything possible. Well, can I ask, therefore, why has the sector been asking the Welsh Government for years now to do more? You say they’re autonomous, but they’ve been asking for greater support. So, why hasn’t that been the case? And what are you going to do now that there is a UK Labour Government? We’ve heard about the partnership in power, but what Julie Morgan didn’t mention was the impact of the national insurance contributions adding to that bill by millions—a UK Labour decision.
So, you must take some accountability in terms of decisions, and also an acknowledgement that Labour has been in charge of education for nearly 26 years. So, we don’t want excuses. We want to know what the plan is. And as my colleague Cefin Campbell asked: what did you know, and when? Because this hasn’t happened overnight. We knew, in the opposition, that this was an issue that needed to be dealt with. We’ve been calling on Welsh Government to do so. So, why haven’t you done so? Why have you let it get to this point?
Rhaid imi ddweud fy mod yn hynod siomedig gyda'ch ymateb, Weinidog, ac yn fwyaf arbennig, roedd yn ymddangos, wrth wrando ar eich ymateb cychwynnol, nad oes problem—mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth posibl. Wel, a gaf i ofyn felly pam y mae'r sector wedi bod yn gofyn i Lywodraeth Cymru ers blynyddoedd i wneud mwy? Rydych chi'n dweud eu bod yn ymreolaethol, ond maent wedi bod yn gofyn am fwy o gefnogaeth. Felly pam na ddigwyddodd hynny? A beth y bwriadwch ei wneud gan fod Llywodraeth Lafur yn y DU erbyn hyn? Clywsom am y bartneriaeth mewn grym, ond yr hyn na soniodd Julie Morgan amdano oedd effaith cyfraniadau yswiriant gwladol sy'n ychwanegu miliynau at y bil—penderfyniad Llafur y DU.
Felly, mae'n rhaid i chi gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am benderfyniadau, a hefyd cydnabyddiaeth fod Llafur wedi bod yn gyfrifol am addysg ers bron i 26 mlynedd. Felly, nid ydym eisiau esgusodion. Rydym eisiau gwybod beth yw'r cynllun. Ac fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Cefin Campbell: beth oeddech chi'n ei wybod, a phryd? Oherwydd nid yw hyn wedi digwydd dros nos. Roeddem yn gwybod, yn yr wrthblaid, fod hwn yn fater yr oedd angen ymdrin ag ef. Rydym wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud hynny. Felly pam nad ydych chi wedi gwneud hynny? Pam ydych chi wedi gadael iddo gyrraedd y pwynt hwn?
Ac os caf i, fel llefarydd Plaid Cymru dros y Gymraeg a diwylliant, dwi hefyd yn poeni’n aruthrol am effaith torri’r cyrsiau cerddoriaeth, ac uno ysgol y Gymraeg gydag ysgolion eraill, a’r effaith fydd hyn yn ei gael ar ein hiaith a’n diwylliant cenedlaethol ni. Mae strategaeth Gymraeg y brifysgol—'Yr Alwad'—yn ymrwymo’r brifysgol i ddarparu cynnig Cymraeg, yn ddiwylliannol a chymunedol, sy’n ategu ac yn gwella ymchwil, addysgu ac uchelgeisiau rhyngwladol cyffredinol y brifysgol.
Felly, Weinidog, a allwch chi ymrwymo i gydweithio â’r brifysgol a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn sicrhau nad yw darpariaeth Cymraeg, fel pwnc a chyfrwng, yn cael ei effeithio’n negyddol gan y toriadau arfaethedig yma?
And as Plaid Cymru spokesperson for the Welsh language and culture, I’m also hugely concerned about the cuts to music courses, and merging the school of Welsh with other schools, and the impact that this will have on our national language and culture. The university’s Welsh language strategy—'Yr Alwad'—commits the university to providing a Welsh language offer, in the community and culturally, that adds to and improves research, teaching and the general international ambitions of the university.
So, Minister, can you commit to working with the university and the Coleg Cymraeg Cenedlaethol in order to ensure that the provision of Welsh as a subject and a medium of education isn’t negatively impacted by these proposed cuts?
Well, thank you, Heledd, for your questions there, but I’m sure, if you look back and read the transcript, you will see that I’ve said at various intervals during this exchange that this is a serious problem for the HE sector here, not just in Wales, but across the UK. And I am sure that I have placed on record as well how important the sector is to us here in Wales, and my intention to work as closely with them as possible to support them. And I'm confident that we are doing all we can as a Welsh Government here to support that sector. Yes, we’ve just had the best funding settlement that we’ve had since devolution from the UK Labour Government, and that, of course, is fantastic news, but, after 14 years of austerity, what we’ve received can only just begin to scrape the surface of the problems that we are facing. And you can shake your head, but I know that you know that that is absolutely factually correct. You asked about when we knew about these proposals—and apologies, Cefin, I forgot to answer that question when you asked it yourself—I can confirm that both myself and the Cabinet Secretary for Health and Social Care were told about these proposals last week.
Finally, on the point you raise regarding the Coleg Cymraeg Cenedlaethol, I can absolutely commit to working with them in the future to safeguard the future of Welsh language provision.
Wel, diolch i chi am eich cwestiynau, Heledd, ond os edrychwch yn ôl a darllen y trawsgrifiad, rwy'n siŵr y gwelwch fy mod i wedi dweud ar wahanol adegau yn ystod y drafodaeth fod hon yn broblem ddifrifol i'r sector addysg uwch yma, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU. Ac rwy'n siŵr fy mod wedi cofnodi yn ogystal pa mor bwysig yw'r sector i ni yma yng Nghymru, a fy mwriad i weithio mor agos â phosibl gyda hwy i'w cefnogi. Ac rwy'n hyderus ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu fel Llywodraeth Cymru yma i gefnogi'r sector. Rydym newydd gael y setliad ariannu gorau a gawsom ers datganoli gan Lywodraeth Lafur y DU, ac mae hynny'n newyddion gwych wrth gwrs, ond ar ôl 14 mlynedd o gyni, ni all yr hyn a gawsom ond dechrau crafu wyneb y problemau a wynebwn. A gallwch ysgwyd eich pen, ond gwn eich bod yn gwybod bod hynny'n hollol ffeithiol gywir. Fe wnaethoch chi holi pryd y gwyddem am y cynigion hyn—ac ymddiheuriadau, Cefin, anghofiais ateb y cwestiwn hwnnw pan wnaethoch chi ei ofyn—gallaf gadarnhau fy mod i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cael gwybod am y cynigion hyn yr wythnos diwethaf.
Yn olaf, ar y pwynt a godwch ynglŷn â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gallaf ymrwymo'n llwyr i weithio gyda hwy yn y dyfodol i ddiogelu dyfodol y ddarpariaeth Gymraeg.
I’m grateful to Julie Morgan for raising these matters and to you, Minister, for your response. Higher education is fundamentally important to our wider economy, of course, and the contribution of higher education institutions is important to all of us, wherever we happen to represent. The news yesterday from Cardiff, of course, follows on from the news we had in west Wales, with the Lampeter campus losing its undergraduate teaching. And we’re seeing disruption and a weakening of the higher education sector as a consequence both of difficulties in funding and UK decisions on immigration—you’ve addressed that already—and it is important, I think, that we now consider that wider context. And my question to you, Minister, this afternoon, is: will you look at how we fund the fundamentals of university education and higher education, because I’ve never been a believer in the tuition fee system, I’ll tell you that now from the start. I’ve always felt that tuition fees are the wrong way to fund a fundamental part of our education system. For me, I would much prefer to see some sort of graduate tax approach to providing security for higher education into the future, but also ensuring that the taxpayer is able to demonstrate that we can invest not simply in the institutions, but in the people, in our society and our economy, so that we invest in higher education as part of our investment in the people and places and the future of this country.
Rwy'n ddiolchgar i Julie Morgan am godi'r materion hyn ac i chi, Weinidog, am eich ymateb. Mae addysg uwch yn sylfaenol bwysig i'n heconomi ehangach wrth gwrs, ac mae cyfraniad sefydliadau addysg uwch yn bwysig i bob un ohonom, ble bynnag y digwyddwn ei gynrychioli. Daw'r newyddion ddoe o Gaerdydd yn sgil y newyddion a gawsom yng ngorllewin Cymru, gyda champws Llanbedr Pont Steffan yn colli ei addysg israddedig. A gwelwn wanhau a tharfu ar y sector addysg uwch o ganlyniad i anawsterau cyllid a phenderfyniadau'r DU ar fewnfudo—rydych chi wedi rhoi sylw i hynny eisoes—ac mae'n bwysig, rwy'n credu, ein bod ni nawr yn ystyried y cyd-destun ehangach hwnnw. A fy nghwestiwn i chi y prynhawn yma, Weinidog, yw: a wnewch chi edrych ar sut rydym yn ariannu hanfodion addysg brifysgol ac addysg uwch, oherwydd nid wyf erioed wedi bod yn gredwr yn y system ffioedd dysgu, fe ddywedaf hynny ar y dechrau. Rwyf bob amser wedi teimlo bod ffioedd dysgu yn ffordd anghywir o ariannu rhan sylfaenol o'n system addysg. I mi, byddai'n llawer gwell gennyf weld rhyw fath o ddull treth graddedigion i ddarparu diogelwch i addysg uwch yn y dyfodol, gan sicrhau hefyd fod y trethdalwr yn gallu dangos y gallwn fuddsoddi nid yn unig yn y sefydliadau, ond yn y bobl, yn ein cymdeithas a'n heconomi, fel ein bod yn buddsoddi mewn addysg uwch fel rhan o'n buddsoddiad yn y bobl a'r lleoedd a dyfodol y wlad hon.
Well, thank you, and I think Alun Davies is absolutely right in saying that we need to see this issue in its widest possible context, and that’s both in terms of the funding issues that we face across the UK, but also in terms of the economic, educational and cultural benefits that our higher education institutions bring to not just the areas they’re located in but the wider regions as well. So, obviously, Alun, your community of Blaenau Gwent and my community in Cynon Valley, we all benefit from the richness of the tapestry of higher education institutions that are on our doorstep and accessible to those constituents that we represent. I am open to any and all discussions on the wider context of higher education, how the sector is funded and how we can ensure that there is a sustainable system moving forward. So, I am really keen, anxious and looking forward to those discussions that myself and my officials will be having with the UK Labour Government.
Wel, diolch, a chredaf fod Alun Davies yn llygad ei le wrth ddweud bod angen inni weld y mater hwn yn ei gyd-destun ehangaf posibl, a hynny o ran y problemau cyllido sy'n ein hwynebu ledled y DU, ond hefyd o ran y buddion economaidd, addysgol a diwylliannol y mae ein sefydliadau addysg uwch yn eu cynnig nid yn unig i'r ardaloedd y maent wedi'u lleoli ynddynt ond i'r rhanbarthau ehangach hefyd. Felly, yn amlwg, Alun, eich cymuned chi ym Mlaenau Gwent a fy nghymuned i yng Nghwm Cynon, rydym i gyd yn elwa o gyfoeth y tapestri o sefydliadau addysg uwch sydd ar garreg ein drws ac sy'n hygyrch i'r etholwyr a gynrychiolwn. Rwy'n agored i unrhyw drafodaethau ar gyd-destun ehangach addysg uwch, sut y mae'r sector yn cael ei ariannu a sut y gallwn sicrhau bod gennym system gynaliadwy wrth symud ymlaen. Felly, rwy'n awyddus iawn ac yn edrych ymlaen at y trafodaethau y byddaf i a fy swyddogion yn eu cael gyda Llywodraeth Lafur y DU.
Diolch i'r Gweinidog. Y cwestiwn nesaf i'w ateb gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol a Heledd Fychan sydd yn gofyn y cwestiwn.
I thank the Minister. The next question is to be answered by the Minister for Culture, Skills and Social Partnership and to be asked by Heledd Fychan.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod buddiannau cefnogwyr rygbi Cymru yn cael eu blaenoriaethu mewn unrhyw gytundebau darlledu yn y dyfodol, yn dilyn adroddiadau diweddar ynghylch cais posibl TNT Sports am hawliau teledu y Chwe Gwlad? TQ1288
2. What steps is the Welsh Government taking to ensure that the interests of Welsh rugby fans are prioritised in any future broadcasting agreements, following recent reports regarding TNT Sports' potential bid for the Six Nations TV rights? TQ1288

Diolch yn fawr. We continue to stress to the UK Government the importance of the tournament to Welsh audiences and the need for continued free-to-air coverage. We have written to the Secretary of State for Culture, Media and Sport to reiterate this point and will continue to make the case.
Diolch yn fawr. Rydym yn parhau i bwysleisio wrth Lywodraeth y DU pa mor bwysig yw'r bencampwriaeth i gynulleidfaoedd Cymru a'r angen i barhau i ddarparu gwasanaeth am ddim. Rydym wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i ailadrodd y pwynt hwn a byddwn yn parhau i ddadlau'r achos.
Thank you for your response, Minister. Once again, we find ourselves here in the Senedd, just before the six nations tournament kicks off, raising concerns about future broadcasting agreements and the impact they'll have on the people of Wales. The then UK Government, last year, made the decision not to include the six nations in the free-to-air category, despite the significance of the tournament to Wales and the clear demand from fans to keep it accessible. And yet, here we are, again, facing the prospect of TNT Sports bidding for the six nations tv rights, once again putting the interests of Welsh rugby fans at risk. I hope we can all agree that watching our national teams should not be a privilege that only those who can afford subscriptions are able to do. It's more than just a sport; it's about our national identity, our culture, and the ability of every person in Wales, no matter their background, to be part of something bigger.
Samuel Kurtz mentioned earlier the economic impact such tournaments have as well of bringing communities together, but also boosting business. We know that when our national side takes to the field, both men's and women's, our whole nation gets behind them. We celebrate their victories. We share in their struggles; we've had to share in too many struggles with rugby recently. But, most importantly, we do inspire future generations to take up sport, and, if we want to inspire young people to dream of putting on that red jersey one day, we have to make sure that they can actually watch the players who wear it now.
So, Minister, you say that you've written to the UK Government. Your predecessor did the same. The UK Labour Government is now in 10 Downing Street, so I would hope those discussions could be more fruitful. So, can I press you: when will we get a response and when will we see progress on this, so we don't have to keep having these conversations every year?
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Unwaith eto, rydym yma yn y Senedd, ychydig cyn i bencampwriaeth y Chwe Gwlad ddechrau, yn codi pryderon am gytundebau darlledu yn y dyfodol a'r effaith y byddant yn ei chael ar bobl Cymru. Gwnaeth Llywodraeth y DU ar y pryd, y llynedd, benderfyniad i beidio â chynnwys y chwe gwlad yn y categori am ddim, er gwaethaf arwyddocâd y bencampwriaeth i Gymru a'r alwad glir gan gefnogwyr i'w gadw'n hygyrch. Ac eto, dyma ni, unwaith eto, yn wynebu'r posibilrwydd y bydd TNT Sports yn gwneud cais am hawliau teledu'r chwe gwlad, gan beryglu buddiannau cefnogwyr rygbi Cymru. Rwy'n gobeithio y gallwn i gyd gytuno na ddylai gwylio ein timau cenedlaethol fod yn fraint na all neb ond y rhai sy'n gallu fforddio tanysgrifiadau ei mwynhau. Mae'n fwy na champ yn unig; mae'n ymwneud â'n hunaniaeth genedlaethol, ein diwylliant, a gallu pob unigolyn yng Nghymru, ni waeth beth fo'u cefndir, i fod yn rhan o rywbeth mwy.
Soniodd Samuel Kurtz yn gynharach am yr effaith economaidd y mae pencampwriaethau o'r fath yn ei chael ar hybu busnes, yn ogystal â dod â chymunedau ynghyd. Pan fydd ein tîm cenedlaethol yn mynd ar y cae, yn ddynion a menywod, fe wyddom fod ein cenedl gyfan yn eu cefnogi. Rydym yn dathlu eu buddugoliaethau. Rydym yn rhannu eu brwydrau; rydym wedi gorfod rhannu gormod o frwydrau gyda rygbi yn ddiweddar. Ond yn bwysicach na dim, rydym yn ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol i gymryd rhan mewn chwaraeon, ac os ydym am ysbrydoli pobl ifanc i freuddwydio am wisgo'r crys coch un diwrnod, rhaid inni sicrhau eu bod yn gallu gwylio'r chwaraewyr sy'n ei wisgo nawr.
Felly, Weinidog, rydych chi'n dweud eich bod chi wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU. Fe wnaeth eich rhagflaenydd yr un peth. Llywodraeth Lafur y DU sydd yn 10 Stryd Downing erbyn hyn, felly rwy'n gobeithio y gallai'r trafodaethau hynny fod yn fwy ffrwythlon. Felly, a gaf i bwyso arnoch chi: pryd y cawn ni ymateb a phryd y gwelwn ni gynnydd ar hyn, fel nad oes rhaid inni barhau i gael y trafodaethau hyn bob blwyddyn?
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
The Deputy Presiding Officer (David Rees) took the Chair.
Diolch yn fawr, Heledd, for raising the question in the first place and, indeed, your supplementary question. Llywydd, I think rugby, particularly at the national level, is one of those topics that does bring the Senedd together. Rugby is of cultural significance to the nation and I do agree with the Member when she says it's more than just a sport. It is there to inspire the next generation, but, as you pointed to Sam Kurtz and his contribution earlier in the day, we also recognise the wider benefits that the sport brings particularly at the national level, but right the way through the game.
And I think the debate brought forward by the Culture, Communications, Welsh Language, Sport and International Relations Committee in July of last year really did show that consensus from the Senedd from all parties around the six nations and that it should remain free to air—our position as a Welsh Government remains the same—including to Welsh-language audiences.
The Member points to areas of actions that we have taken. Well, I've taken the opportunity to raise this in a number of different forums—indeed, at the BBC in October and again with the director general—to play their role and do all they can to ensure a commitment to free-to-air coverage in the future, and, as I referred to in my first answer, Presiding Officer, around the letter that myself and the First Minister wrote to Lisa Nandy, the Secretary of State at the Department for Culture, Media and Sport, just yesterday, setting out our position, outlining our position, as did the former First Minister back in 2023. I haven't got an answer, Presiding Officer, to when we'll have a response to that, but I do look forward to the response from Lisa Nandy and I do hope that it is more forthcoming than the previous UK Government.
Diolch yn fawr, Heledd, am godi'r cwestiwn yn y lle cyntaf ac yn wir, am eich cwestiwn atodol. Lywydd, rwy'n credu bod rygbi, yn enwedig ar y lefel genedlaethol, yn un o'r pynciau sy'n dod â'r Senedd at ei gilydd. Mae rygbi'n arwyddocaol yn ddiwylliannol i'r genedl ac rwy'n cytuno â'r Aelod pan fo'n dweud ei bod yn fwy na champ yn unig. Mae yno i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf, ond fel y nodoch chi wrth Sam Kurtz a'i gyfraniad yn gynharach yn y dydd, rydym hefyd yn cydnabod y manteision ehangach y mae'r gamp yn eu cynnig yn enwedig ar lefel genedlaethol, ond yr holl ffordd drwy'r gêm.
Ac rwy'n credu bod y ddadl a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ym mis Gorffennaf y llynedd wedi dangos bod consensws yn y Senedd gan bob plaid ynghylch y chwe gwlad ac y dylai barhau'n wasanaeth am ddim—mae ein safbwynt ni fel Llywodraeth Cymru yn aros yr un fath—gan gynnwys i gynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith.
Mae'r Aelod yn nodi'r camau gweithredu a gymerwyd gennym. Wel, rwyf wedi achub ar y cyfle i godi hyn mewn nifer o fforymau gwahanol—yn y BBC ym mis Hydref ac eto gyda'r cyfarwyddwr cyffredinol—i chwarae eu rôl a gwneud popeth yn eu gallu i sicrhau ymrwymiad i ddarpariaeth am ddim yn y dyfodol, fel y nodais yn fy ateb cyntaf, Lywydd, ynghylch y llythyr a ysgrifennais i a'r Prif Weinidog at Lisa Nandy, yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ddoe ddiwethaf, yn nodi ein safbwynt, fel y gwnaeth y cyn-Brif Weinidog yn ôl yn 2023. Nid oes gennyf ateb, Lywydd, i pryd y cawn ateb i hwnnw, ond rwy'n edrych ymlaen at ymateb Lisa Nandy ac rwy'n gobeithio y bydd yn fwy cadarnhaol nag a gafwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU.
I think we're all united in this Chamber in the belief that the six nations must remain free to air, and we're a rugby nation, and the bid expressed by TNT broadcasting rights does not mean that the six nations being behind a paywall is a dead cert. It was the Welsh Conservatives 12 months ago who tabled a debate on this very topic this time last year, and the motion called on the Welsh Government to call on the Department for Culture, Media and Sport, DCMS, to ensure that the broadcasting rights remain with a broadcaster committed to free-to-air broadcast, and Welsh Labour Members voted with our motion, as did the whole Chamber. So, can the Minister outline what representations you specifically will make to the DCMS, whether that's in writing, a meeting? Can you please describe that to this Chamber and what particular representations you'll make on behalf of the people and the viewers of Wales to really make that case, and also with the BBC as well? Because I think we've got to all be heading in the same direction and be collegiate on this matter. And the willingness to maintain free-to-air broadcasting must be felt across the board in order to make that happen, and stop a paywall coming into place further down the line in the future. Thank you.
Rwy'n credu ein bod i gyd yn unedig yn y Siambr hon yn y gred fod yn rhaid i'r chwe gwlad barhau i fod yn ddarpariaeth am ddim, ac rydym yn genedl rygbi, ac nid yw'r cais a fynegir gan hawliau darlledu TNT yn golygu ei bod hi'n anochel y bydd y chwe gwlad y tu ôl i wal dalu. Y Ceidwadwyr Cymreig 12 mis yn ôl a gyflwynodd ddadl ar yr union bwnc hwn yr adeg hon y llynedd, ac roedd y cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i alw ar yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i sicrhau bod yr hawliau darlledu yn parhau gyda darlledwr sydd wedi ymrwymo i ddarlledu am ddim, a phleidleisiodd Aelodau Llafur Cymru gyda'n cynnig, fel y gwnaeth y Siambr gyfan. Felly, a all y Gweinidog amlinellu pa sylwadau penodol y byddwch chi'n eu gwneud i'r Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, boed hynny'n ysgrifenedig, neu'n gyfarfod? A allwch chi ddisgrifio hynny i'r Siambr a pha sylwadau arbennig y byddwch chi'n eu gwneud ar ran pobl a gwylwyr Cymru i gyflwyno'r achos hwnnw, ac i'r BBC hefyd? Oherwydd rwy'n credu bod yn rhaid i ni i gyd fynd i'r un cyfeiriad a bod yn golegol ar y mater hwn. Ac mae'n rhaid i bawb deimlo parodrwydd i gadw darlledu am ddim er mwyn gwneud i hynny ddigwydd, ac atal wal dalu rhag dod i'w lle yn nes ymlaen yn y dyfodol. Diolch.
Diolch, Gareth, and I'm grateful for your questions on this particular matter. We often have disagreements in this Senedd Chamber, Presiding Officer, and Gareth and I have had many over the years that we've been here. On this occasion, we do stand shoulder to shoulder, with the view that the six nations should be free to air on television, for viewers across Wales to participate in and to view and celebrate, hopefully, future rugby in Wales. Credit where credit is due, where it should be, his party did produce the motion in the Senedd last year, which was supported. I'm grateful for the work of the culture committee and their inquiry and interest in this matter, and it is, as the Member points out, an interesting topic for the Chamber, one that we are all united on, and I'm sure that consensus remains the same today.
The Member points to the representations that we have made directly. As I said in response to Heledd earlier, the former First Minister, back in 2023, wrote to the then UK Government outlining his position and the position of the Welsh Government. I've taken the opportunity with BBC Wales, and the opportunity with the director general of the BBC, to reiterate our position, that they should do all they can in the role that they can play in response to this. And, as I said earlier, the First Minister and I set out yesterday to Lisa Nandy, the Secretary of State for the Department for Culture, Media and Sport, our views, that we remain of the view and our position remains that the six nations should be free to air. We'll continue those discussions with DCMS colleagues in due course.
Diolch, Gareth, ac rwy'n ddiolchgar am eich cwestiynau ar y mater penodol hwn. Rydym yn aml yn anghytuno yn Siambr y Senedd, Lywydd, ac mae Gareth a minnau wedi anghytuno sawl tro yn y blynyddoedd y buom yma. Ar yr achlysur hwn, rydym yn sefyll gyda'n gilydd, gyda’r farn y dylai pencampwriaeth y chwe gwlad fod yn ddarpariaeth am ddim ar y teledu, i wylwyr ledled Cymru gymryd rhan, gwylio a dathlu, gobeithio, rygbi'r dyfodol yng Nghymru. I roi clod lle mae'n ddyledus, lluniodd ei blaid y cynnig yn y Senedd y llynedd, a gafodd ei gefnogi. Rwy’n ddiolchgar am waith y pwyllgor diwylliant a’u hymchwiliad a’u diddordeb yn y mater hwn, ac fel y mae’r Aelod yn ei nodi, mae'n bwnc diddorol i’r Siambr, un y mae pob un ohonom yn cytuno arno, ac rwy’n siŵr fod y consensws hwnnw’n parhau heddiw.
Mae’r Aelod yn tynnu sylw at y sylwadau a wnaethom yn uniongyrchol. Fel y dywedais mewn ymateb i Heledd yn gynharach, ysgrifennodd y cyn-Brif Weinidog, yn ôl yn 2023, at Lywodraeth y DU ar y pryd yn nodi ei safbwynt a safbwynt Llywodraeth Cymru. Rwyf wedi achub ar y cyfle gyda BBC Wales, a’r cyfle gyda chyfarwyddwr cyffredinol y BBC, i ailadrodd ein safbwynt, y dylent wneud popeth yn eu gallu yn y rôl y gallant ei chwarae mewn ymateb i hyn. Ac fel y dywedais yn gynharach, nododd y Prif Weinidog a minnau wrth Lisa Nandy, Ysgrifennydd Gwladol yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ein bod yn parhau o’r farn y dylai pencampwriaeth y chwe gwlad fod yn ddarpariaeth am ddim. Byddwn yn parhau â'r trafodaethau hynny gydag aelodau o'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon maes o law.
I'm grateful for the question this afternoon. I think it's important that we do debate and discuss these things. It's 45 years, Deputy Presiding Officer, since I first made my way down on the train from Rhymney to watch Wales taking on France in January 1980, and the six nations are a part of all of our stories and all of our communities, and all of us, whoever we happen to be, and wherever we sit in this Chamber. The six nations does bring us together as a country and as a community, and everybody should have the right to be a part of that community. Everybody should have the right to go through the joy and the sorrow of supporting Welsh rugby union. The terror that we've felt at different times, and the utter joy that we've felt. I can still remember watching Ieuan Evans break the English line and run towards the east terrace, scoring to beat England 10-9. I could keep us here all afternoon, Deputy Presiding Officer. [Laughter.] But the importance—. And we also will remember the way in which Welsh rugby supporters follow the team, as some of us will be in Murrayfield later this season.
Minister, this is a part of us, a part of our national story, a part of our national life. It cannot be taken away by anyone. It is a matter for this Parliament and this Government to ensure that the culture and sport of this country are available to each and every one of us, no matter where we sit, no matter where we live and no matter what our individual teams happen to be. We come together to support Wales, and we want to continue coming together to support Wales.
Rwy’n ddiolchgar am y cwestiwn y prynhawn yma. Credaf ei bod yn bwysig inni gynnal dadl a thrafod y pethau hyn. Mae’n 45 mlynedd, Ddirprwy Lywydd, ers imi fynd am y tro cyntaf ar y trên o Rymni i wylio Cymru’n herio Ffrainc ym mis Ionawr 1980, ac mae pencampwriaeth y chwe gwlad yn rhan o’n straeon ni i gyd a’n holl gymunedau, a phob un ohonom, ni waeth pwy ydym, a lle bynnag yr eisteddwn yn y Siambr hon. Mae pencampwriaeth y chwe gwlad yn dod â ni ynghyd fel gwlad ac fel cymuned, a dylai fod gan bawb hawl i fod yn rhan o’r gymuned honno. Dylai fod gan bawb hawl i fynd drwy’r llawenydd a’r tristwch o gefnogi rygbi'r undeb yng Nghymru. Yr ofn a deimlwyd gennym ar wahanol adegau, a'r llawenydd pur a deimlwyd. Rwy'n dal i gofio gwylio Ieuan Evans yn torri llinell Lloegr a rhedeg i gyfeiriad teras y dwyrain, gan sgorio i guro Lloegr 10-9. Gallwn ein cadw yma drwy’r prynhawn, Ddirprwy Lywydd. [Chwerthin.] Ond mae pwysigrwydd—. A byddwn hefyd yn cofio’r ffordd y mae cefnogwyr rygbi Cymru yn dilyn y tîm, fel y bydd rhai ohonom yn mynd i Murrayfield yn ddiweddarach y tymor hwn.
Weinidog, mae hyn yn rhan ohonom, yn rhan o’n stori genedlaethol, yn rhan o’n bywyd cenedlaethol. Ni all unrhyw un fynd ag ef oddi wrthym. Mae'n ddyletswydd ar y Senedd hon a’r Llywodraeth hon i sicrhau bod diwylliant a chwaraeon y wlad hon ar gael i bob un ohonom, ni waeth ble rydym yn eistedd, ni waeth ble rydym yn byw ac ni waeth beth yw ein timau unigol yn digwydd bod. Rydym yn dod ynghyd i gefnogi Cymru, ac rydym am barhau i ddod ynghyd i gefnogi Cymru.
I'm grateful to Alun Davies for that, Llywydd. My history doesn't stretch as far back as Alun's, but I think the passion, no doubt, is the same, as Alun represents the country in that passion. And I agree with him: it is a matter of national identity, isn't it, the game of rugby in Wales? As I said earlier, it's of cultural significance to us all, as both a Government and a Parliament, but as a nation as well. The competition of the six nations has been free since its inception. It is my view, and the view of this Government, that it should remain as free-to-air coverage and, indeed, as it is this weekend. I'll take the opportunity, Deputy Presiding Officer, to repeat, as I've said, that we've set out to the DCMS our position, and I look forward to the response to that. But I'll just take Alun's passion in his contribution and wish the squad all the very best in their first game on Friday in France.
Rwy’n ddiolchgar i Alun Davies am hynny, Lywydd. Nid yw fy hanes yn ymestyn mor bell yn ôl â hanes Alun, ond credaf fod yr angerdd, heb os, yr un fath, gan fod Alun yn cynrychioli’r wlad gyda'r angerdd hwnnw. Ac rwy’n cytuno ag ef: mae’n fater o hunaniaeth genedlaethol, onid yw, rygbi yng Nghymru? Fel y dywedais yn gynharach, mae iddo arwyddocâd diwylliannol i bob un ohonom, fel Llywodraeth a Senedd, ond fel cenedl hefyd. Mae cystadleuaeth y chwe gwlad wedi bod am ddim ers ei sefydlu. Fy marn i, a barn y Llywodraeth hon, yw y dylai barhau i fod yn ddarpariaeth am ddim, fel y mae, yn wir, y penwythnos hwn. Rwyf am achub ar y cyfle, Ddirprwy Lywydd, i ailadrodd, fel y dywedais, ein bod wedi nodi ein safbwynt i’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ac edrychaf ymlaen at yr ymateb i hynny. Ond fe gymeraf angerdd Alun yn ei gyfraniad a dymuno’r gorau i’r garfan yn eu gêm gyntaf yn Ffrainc ddydd Gwener.
Just to let you know, my history stretches a bit further back than his. [Laughter.] Delyth Jewell.
Er gwybodaeth, mae fy hanes yn ymestyn ychydig ymhellach yn ôl na'i hanes ef. [Chwerthin.] Delyth Jewell.
Diolch, Dirprwy Lywydd. The culture committee did report on this last year, as you've alluded to, and we recommended that the games should be contained and that they should be protected as free to air, to protect against this exact eventuality, and that was for all of the reasons that have been rehearsed so well this afternoon in the Chamber: the unique place that the six nations have in our psyche as a nation, the fact that they bring us together, the audiences, being so much more overwhelmingly the case in Wales than in the other nations.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyflwynodd y pwyllgor diwylliant adroddiad ar hyn y llynedd, fel y nodoch chi, ac argymhellwyd gennym y dylai’r gemau gael eu cynnwys ac y dylent gael eu gwarchod fel darpariaeth am ddim, i ddiogelu rhag hyn yn union, ac roedd hynny am yr holl resymau a ailadroddwyd y prynhawn yma yn y Siambr: y lle unigryw sydd i bencampwriaeth y chwe gwlad yn ein seice fel cenedl, y ffaith ei bod yn dod â ni ynghyd, y cynulleidfaoedd, a chymaint yn fwy felly yng Nghymru nag yn y gwledydd eraill.
Nawr, fel pwyllgor, roeddem ni wedi dweud yn gryf y dylai'r gemau yma aros yn rhad ac am ddim, ond roeddem ni wedi argymell, os oedd newid yn dod, ei fod e mor bwysig bod yn rhaid i'r Llywodraeth yma gymryd camau i sicrhau bod Llywodraeth San Steffan hefyd yn gwneud popeth i ddiogelu'r iaith Gymraeg mewn sylwebaeth. Gwnaethom ni hefyd ddadlau, eto, os oedd y newid yma'n dod—doeddem ni ddim eisiau gweld y newid yma, ond os oedd y twrnamaint yn symud i system lle roedd yn rhaid talu—fod angen amddiffyn llefydd lletygarwch, efallai trwy wthio am gymal cytundebol i alluogi tafarndai a chlybiau i gael tanysgrifiadau llai costus. Nawr, dwi'n gobeithio'n wir y bydd e ddim yn dod at hwnna, ond a allaf gael sicrwydd gennych chi fod hwnna'n rhywbeth rydych chi hefyd yn ei drafod gyda Llywodraeth San Steffan, os ydyn ni'n cyrraedd y pwynt yna does neb yn y Siambr yma eisiau i ni ei gyrraedd?
Now, as a committee, we had stated very clearly that these games should remain free to air, but we had recommended that if there were to be a change, that it was so important that this Government should take steps to ensure that the Westminster Government also did everything it could to safeguard Welsh-language commentary. We also argued, again, if this change were to come—and we didn't want to see this change, but if the tournament moved to a pay-per-view system—that we need to protect hospitality settings, perhaps by pushing for contractual clauses to enable pubs and clubs to get reduced subscription fees. Now, I very much hope it doesn't come to that, but can I have an assurance from you that that is something that you too are discussing with the Westminster Government, if we do reach that point that nobody in this Chamber wants us to reach?
Diolch, Delyth, for the question. Again, I'm grateful for the committee's work on this topic, as I said earlier. It is of national significance, isn't it, and we will do all we can to make the case for the coverage of the six nations to be free to air, Presiding Officer. I hope, as well as the Member, that it doesn't get to that position, and no decision has been made yet on the future of broadcasting, but I do hope that it does remain free to air, and I can't be clearer on this Government's position. I won't go into hypotheticals of what may or may not happen, but of course, we will keep a watching brief of this situation, and we'll want to respond appropriately with our partners in the UK Government.
As I say, Presiding Officer, this does bring the Senedd together, and I'm grateful for the opportunity that Members have recommitted. All political parties, of all colours, support the cause of free-to-air coverage of the six nations, as does this Welsh Government, and we send that consensus, collaboration and spirit to the team in France on Friday, and wish them all the best for the tournament in the next few weeks.
Diolch am eich cwestiwn, Delyth. Unwaith eto, rwy’n ddiolchgar am waith y pwyllgor ar y pwnc hwn, fel y dywedais yn gynharach. Mae o bwysigrwydd cenedlaethol, onid yw, a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i ddadlau'r achos dros gadw pencampwriaeth y chwe gwlad yn ddarpariaeth am ddim, Lywydd. Rwy'n gobeithio, fel yr Aelod, na ddaw hi i hynny, ac nid oes unrhyw benderfyniad wedi’i wneud eto ar ddarlledu yn y dyfodol, ond rwy'n gobeithio y bydd yn parhau i fod yn ddarpariaeth am ddim, ac ni allaf ddatgan safbwynt y Llywodraeth yn gliriach. Nid wyf am sôn am bethau damcaniaethol o ran yr hyn a allai ddigwydd ai peidio, ond wrth gwrs, byddwn yn cadw llygad ar y sefyllfa, a byddwn am ymateb yn briodol gyda'n partneriaid yn Llywodraeth y DU.
Fel y dywedaf, Lywydd, daw hyn â’r Senedd ynghyd, ac rwy’n ddiolchgar am y cyfle i’r Aelodau ailymrwymo iddo. Mae pob plaid wleidyddol, o bob lliw, yn cefnogi darlledu pencampwriaeth y chwe gwlad am ddim, ac felly hefyd Llywodraeth Cymru, ac rydym yn anfon y consensws, y cydweithio a’r ysbryd hwnnw at y tîm yn Ffrainc ddydd Gwener, ac yn dymuno'r gorau iddynt oll yn y bencampwriaeth dros yr wythnosau nesaf.
Diolch i'r Gweinidog.
Thank you, Minister.
To reiterate, on behalf of the whole Senedd, we wish the Welsh team all the best for Friday night, and the remainder of the six nations.
I ailadrodd, ar ran y Senedd gyfan, dymunwn y gorau i dîm Cymru nos Wener, a gweddill pencampwriaeth y chwe gwlad.
Eitem 4 heddiw yw'r datganiadau 90 eiliad. Bydd y datganiad cyntaf gan Mike Hedges.
Item 4 today is the 90-second statements. The first statement will be made by Mike Hedges.
Thank you, Deputy Presiding Officer. Stroke Prevention Day is Thursday 30 January. Strokes happen suddenly, usually without warning. I attend two local stroke groups, one in Morriston and one in Trallwn, with people from their early 30s who have had a stroke attending. When a stroke strikes, part of your brain shuts down, and so does part of you. It happens every five minutes in the UK, and changes lives instantly. Recovery is tough, but with the right specialist support, courage and determination, brains can adapt.
Most stroke prevention strategies are the same as the strategies to prevent heart disease. Preventative tips include: diet and healthy eating, decreasing the amount of cholesterol and saturated fat in your diet, controlling diabetes, monitoring blood pressure, making sure you avoid having high blood pressure, avoiding illicit drugs, exercising, and quitting smoking and alcohol. The Stroke Association is dedicated to the prevention of stroke, and offers extensive support to those impacted by them.
There are currently around 70,000 stroke survivors living in Wales, and a further 7,400 people are expected to have a stroke this year. Using thrombectomy, which involves removing a clot from a blood vessel, most commonly from the brain, heart or lung for eligible patients, represents a saving of £47,000 per patient over a five-year period, but more importantly, it improves someone's life and someone's life chances. We need to raise public awareness of the symptoms of a stroke and the need for timely treatment, and most importantly of all, we need to prevent people having strokes.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dydd Iau 30 Ionawr yw Diwrnod Atal Strôc. Mae strôc yn digwydd yn sydyn, ac fel arfer heb rybudd. Rwy’n mynychu dau grŵp strôc lleol, un yn Nhreforys ac un yn Nhrallwng, gyda phobl yn eu 30au cynnar a hŷn sydd wedi cael strôc yn mynychu. Pan fydd strôc yn taro, mae rhan o'ch ymennydd yn diffodd, a rhan ohonoch chi hefyd. Mae'n digwydd bob pum munud yn y DU, ac yn newid bywydau ar unwaith. Mae adferiad yn anodd, ond gyda'r cymorth arbenigol cywir, dewrder a phenderfynoldeb, gall yr ymennydd addasu.
Mae'r rhan fwyaf o strategaethau atal strôc yr un fath â'r strategaethau i atal clefyd y galon. Mae cynghorion ataliol yn cynnwys: deiet a bwyta'n iach, lleihau faint o golesterol a braster dirlawn sydd yn eich diet, rheoli diabetes, monitro pwysedd gwaed, sicrhau eich bod yn osgoi cael pwysedd gwaed uchel, osgoi cyffuriau anghyfreithlon, ymarfer corff, a rhoi'r gorau i ysmygu ac alcohol. Mae'r Gymdeithas Strôc yn ymroddedig i atal strôc, ac yn cynnig cymorth helaeth i bobl y mae strôc wedi effeithio arnynt.
Ar hyn o bryd, mae oddeutu 70,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru, ac mae disgwyl i 7,400 o bobl eraill gael strôc eleni. Mae triniaethau thrombectomi, sy’n cynnwys tynnu clot o bibell waed, fel arfer o’r ymennydd, y galon neu’r ysgyfaint ar gyfer cleifion cymwys, yn cynnig arbediad o £47,000 y claf dros gyfnod o bum mlynedd, ond yn bwysicach fyth, mae’n gwella bywyd a chyfleoedd bywyd rhywun. Mae angen inni godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o symptomau strôc a’r angen am driniaeth amserol, ac yn bwysicaf oll, mae angen inni atal pobl rhag cael strôc.
Yr areithiwr gorau iddo glywed erioed. Dyna farn Vaughan Roderick am Emrys Roberts. Ganed yn Leamington Spa, ond yn 10 mlwydd oed symudodd i Gaerdydd. Trwy Gapel Minny Street, ysgol Cathays a’i fodryb Bet, dysgodd Emrys y Gymraeg. Yn Cathays, roedd e’n un o griw o fechgyn a ddaeth yn rhugl yn yr iaith, gan gynnwys Bobi Jones a Tedi Millward.
Yn wrthwynebydd cydwybodol, gwrthododd wneud gwasanaeth milwrol wedi’r ail ryfel byd, ac fe’i dedfrydwyd i garchar Caerdydd. Tra roedd e yno, fe grogwyd Mahmood Mattan. Gwelodd Emrys Roberts yr hiliaeth yn erbyn Mahmood, a gwelodd ei gyd-garcharorion Somali yn gorfod cloddio'r bedd, a quicklime yn cael ei roi yn y bedd.
Roedd meddylfryd rhyngwladol gan Emrys. Roedd yn flaenllaw yn yr Ymgyrch Diarfogi Niwclear, ac roedd ganddo barch enfawr tuag at Castro a Chiwba. Ei ddyhead mawr oedd gweld Cymru yn eistedd yn ochr yn ochr â Chiwba yn y Cenhedloedd Unedig.
Fe safodd dros y Blaid mewn sawl isetholiad amlwg, a fe oedd arweinydd cyngor Merthyr ar ddiwedd y 1970au. Ef hefyd oedd yn gyfrifol am y darllediadau anghyfreithlon a ddigwyddodd pan wnaeth y BBC wahardd darllediadau gwleidyddol gan y Blaid.
Er iddo ddal swyddi blaenllaw o fewn Plaid Cymru, mae’n deg i ddweud na welodd llygaid yn llygaid ag arweinyddiaeth y blaid ar bob achlysur. Roedd yn sosialydd wrth reddf, ac fe weithiodd yn galed i wthio’r blaid i’r cyfeiriad hynny. Roedd popeth a wnaeth Emrys wedi'i wreiddio yn yr hyn oedd orau i Gymru ac i bobloedd y byd. Roedd e’n ddyn caredig, ac fe brofais innau o’r caredigrwydd hynny ar hyd y blynyddoedd.
Mae’n fraint talu teyrnged i Emrys yn y Senedd. Roedd yn rhan o griw bychan a fynnodd bod Cymru yn genedl, a ffrwyth eu hymdrechion hwy yw’r Senedd yma. Diolch yn fawr.
The best orator he had ever heard. That was Vaughan Roderick's opinion about Emrys Roberts. He was born in Leamington Spa, but at the age of 10 the family moved to Cardiff. Through Minny Street Chapel, Cathays school and his aunt Bet, Emrys learned Welsh. In Cathays, he was one of a group of boys who became fluent in Welsh, including Bobi Jones and Tedi Millward.
A conscientious objector, he refused to do military service after the second world war, and he was sentenced to a term in Cardiff prison. While he was there, Mahmood Mattan was hanged. Emrys Roberts saw the racism against Mahmood, and saw his fellow prisoners, those of Somali descent having to dig the grave, and covering it with quicklime.
Emrys had an international mindset. He was a leader in the Campaign for Nuclear Disarmament, and had enormous an respect for Castro and Cuba. His great aspiration was to see Wales sitting next to Cuba at the United Nations.
He stood for Plaid Cymru in several prominent by-elections, and he led Merthyr council at the end of the 1970s. He was also responsible for the unlawful broadcasts that happened when the BBC banned political broadcasts by Plaid.
Although he held leading roles within Plaid Cymru, it's fair to say that he did not see eye to eye with the leadership of the party on all occasions. He was a socialist by instinct, and he worked hard to push the party in that direction. Everything that Emrys did was rooted in what was best for Wales and the peoples of the world. He was a kind man, and I experienced that kindness over the years.
It's a privilege to pay tribute to Emrys here in the Senedd. He was part of a small group that insisted that Wales was a nation, and this Senedd is the fruit of their labours. Thank you very much.
Symudwn ymlaen at eitem 5, cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12.19 (Dadleuon Agored). Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Heledd Fychan.
We'll move on now to item 5, a motion to amend Standing Orders: Standing Order 12.19 (Open Debates). I call on a member of the Business Committee to formally move the motion. Heledd Fychan.
Cynnig NDM8805 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12.19 (Dadleuon Agored)', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Ionawr 2025.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12.19, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Motion NDM8805 Elin Jones
To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 33.2:
1. Considers the report of the Business Committee, ‘Amending Standing Orders: Standing Order 12.19 (Open Debates)’, laid in the Table Office on 22 January 2025.
2. Approves the proposal to amend Standing Order 12.19, as set out in Annex A of the Business Committee’s report.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.
Cynnig yn ffurfiol.
I formally move.
Y cwestiwn yw: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
The proposal is to agree to amend Standing Orders. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Eitem 6 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid, 'Cyfalaf Trafodiadau Ariannol'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Peredur Owen Griffiths.
Item 6 today is a debate on the Finance Committee report, 'Financial Transactions Capital'. I call on the Chair of the committee to move the motion. Peredur Owen Griffiths.
Cynnig NDM8801 Peredur Owen Griffiths
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ‘Cyfalaf Trafodiadau Ariannol’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Tachwedd 2024.
Motion NDM8801 Peredur Owen Griffiths
To propose that the Senedd:
Notes the report of the Finance Committee ’Financial Transactions Capital’ laid in the Table Office on 25 November 2024.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cyn i mi ddechrau, buaswn i'n licio diolch i bawb a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor fel rhan o’r ymchwiliad byr i gyfalaf trafodiadau ariannol, neu FTC. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i’r Ysgrifennydd Cabinet am ymgysylltu â’r ymchwiliad ac am ddarparu ei ymateb i’r adroddiad cyn y ddadl yma. Diolch yn fawr. Rwy’n arbennig o falch o weld bod pob un o’r 15 argymhelliad wedi cael eu derbyn, gydag un wedi ei dderbyn mewn egwyddor, ac un arall wedi ei dderbyn yn rhannol.
Wrth gynnal yr ymchwiliad hwn i FTC, ein nod oedd edrych ar sut i wella’r ffordd y mae’n cael ei ddefnyddio a sut i’w ddefnyddio'n well. Yn benodol, gwnaethom ni edrych ar: y rheolau ynghylch defnyddio FTC; y dibenion y mae wedi cael ei ddefnyddio arnynt; y cryfderau a’r gwendidau; sut y mae’n cael ei ad-dalu; a sut y mae’n cael ei gyflwyno yn y gyllideb ddrafft a’r gyllideb atodol.
Thank you very much, Dirprwy Lywydd. Before I begin, I would like to thank all those who gave evidence to the committee as part of our short inquiry into financial transactions capital, or FTC. I’m also grateful to the Cabinet Secretary for engaging with the inquiry and for providing his response to our report ahead of this debate. Thank you very much. I’m particularly pleased to see that all 15 of our recommendations have been accepted, with one accepted in principle, and another accepted in part.
In conducting this inquiry into FTC, our aim was to look at how its use could be improved and better utilised. In particular we looked at: the rules governing the use of FTC; the purposes for which it has been used; its strengths and weaknesses; how it is repaid; and how it is presented in the draft and final budgets.
Dirprwy Lywydd, FTC comprises a significant part of the Welsh Government’s budget, amounting to a portfolio of about £2.2 billion in the budget for 2024-25. However, we found that its practical use is constrained by its uncertain nature, which causes difficulties for the Welsh Government when planning in the medium to long term. We also found that the Welsh Government is often using FTC within a straitjacket of rules over which it has no control, given that they are set centrally by the UK Government.
That said, the evidence received from stakeholders demonstrates that FTC has the potential to support significant policy outcomes. The organisations we heard from saw FTC as a crucial part of the jigsaw to enable them to access financial capital that would lead to tangible results with clear social benefits. We found this to be somewhat at odds with the Cabinet Secretary’s own view that there is no great appetite in Wales for FTC funding.
Our inquiry also looked at the role played by the Development Bank of Wales in administering FTC. Although we found it plays an essential function, we are concerned that the recent reclassification of the bank by HMRC as a central Government body, rather than as a public corporation, will limit the way in which it can effectively support FTC. As a result, we have recommended that the Government assess how this change will impact on the services and products the bank can provide, and I'm glad that the Cabinet Secretary has already confirmed in his response that this work is well under way.
The committee also notes that the Welsh Government is currently reforming the way it manages FTC. We are supportive of the areas of reform mooted by the Cabinet Secretary, especially around enabling more flexibility by removing the ring fence around the use of FTC; providing greater stability and predictability to the flow of money that could be shared through FTC; and ensuring less bureaucracy in the way that the money is used. We believe that these are solid principles and ask the Cabinet Secretary to provide an update on progress in discussions with the Treasury in this area. We welcome that early informal discussion between officials has already taken place.
As mentioned, the experiences of businesses and organisations in using FTC have been generally positive. However, we believe that improvements can be made. We have called on the Welsh Government to publish its criteria for success in using FTC so that expected outcomes for businesses are known at the outset prior to an application, and for them to share more details regarding ongoing attempts to streamline the FTC application process, which stakeholders told us was often lengthy and difficult.
Dirprwy Lywydd, I would now like to turn to other recommendations in our report. During the sixth Senedd, the committee has regularly called for further clarity in the Welsh Government's budget documentation to explain how FTC allocations are made and for what purpose. This lack of clarity was evident during our inquiry, given we received differing figures from the Welsh Government in its evidence regarding the amount of FTC received to date. However, it is pleasing to see that positive steps have been taken in this area already in response to the committee's work. I'm glad that the draft budget narrative for 2025-26 includes a greater level of detail on FTC, including the provision of disaggregated data.
In terms of using FTC, I have already mentioned that it comprises a substantial amount of the Welsh Government's spending firepower. However, whilst this funding already benefits some areas, there are certain areas within the Government's responsibilities where it could be used more effectively. To tackle this issue, the committee has called on the Welsh Government to gain a better understanding of where FTC can be used. We have called for a sectoral analysis to be conducted to identify this, and we look forward to further engagement with Government officials on this point.
We also believe that steps are needed to raise awareness of FTC across the Welsh Government, including better knowledge sharing and training, and again it is heartening that progress on reviewing guidance in this area has begun. We also made a range of other recommendations to open up the FTC process, with a view to enhancing its use.
Ddirprwy Lywydd, mae rhan sylweddol o gyllideb Llywodraeth Cymru yn gyfalaf trafodiadau ariannol, gyda phortffolio o oddeutu £2.2 biliwn yn y gyllideb ar gyfer 2024-25. Fodd bynnag, canfuom fod ei ddefnydd ymarferol wedi’i gyfyngu gan ei natur ansicr, sy’n peri anawsterau i Lywodraeth Cymru wrth gynllunio yn y tymor canolig i’r tymor hir. Gwelsom hefyd fod Llywodraeth Cymru yn aml yn defnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol o fewn cyfres o reolau llym nad oes ganddi unrhyw reolaeth drostynt gan eu bod yn cael eu gosod yn ganolog gan Lywodraeth y DU.
Wedi dweud hynny, mae'r dystiolaeth a gafwyd gan randdeiliaid yn dangos bod gan gyfalaf trafodiadau ariannol botensial i gefnogi canlyniadau polisi sylweddol. Roedd y sefydliadau y clywsom ganddynt yn ystyried cyfalaf trafodiadau ariannol yn rhan hanfodol o'r jig-so i'w galluogi i gael mynediad at gyfalaf ariannol a fyddai'n arwain at ganlyniadau diriaethol gyda buddion cymdeithasol clir. Fe wnaethom nodi bod hyn yn groes i farn Ysgrifennydd y Cabinet nad oes unrhyw awydd mawr yng Nghymru am gyllid cyfalaf trafodiadau ariannol.
Edrychodd ein hymchwiliad hefyd ar y rôl a chwaraeir gan Fanc Datblygu Cymru wrth weinyddu cyfalaf trafodiadau ariannol. Er inni ganfod ei fod yn cyflawni swyddogaeth hanfodol, rydym yn pryderu y bydd ailddosbarthiad diweddar y banc gan CThEF fel corff Llywodraeth ganolog, yn hytrach na chorfforaeth gyhoeddus, yn cyfyngu ar y ffordd y gall gefnogi cyfalaf trafodiadau ariannol yn effeithiol. O ganlyniad, rydym wedi argymell bod y Llywodraeth yn asesu sut y bydd y newid hwn yn effeithio ar y gwasanaethau a’r cynhyrchion y gall y banc eu darparu, ac rwy’n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi cadarnhau yn ei ymateb fod y gwaith hwn ar y gweill.
Mae’r pwyllgor hefyd yn nodi bod Llywodraeth Cymru wrthi'n diwygio’r ffordd y mae’n rheoli cyfalaf trafodiadau ariannol. Rydym yn cefnogi’r meysydd diwygio a grybwyllwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet, yn enwedig ar gyfer galluogi mwy o hyblygrwydd drwy gael gwared ar y cyllid sydd wedi’i glustnodi mewn perthynas â defnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol; darparu mwy o sefydlogrwydd a rhagweladwyedd i'r llif arian y gellid ei rannu drwy gyfalaf trafodiadau ariannol; a sicrhau llai o fiwrocratiaeth yn y ffordd y defnyddir yr arian. Credwn fod y rhain yn egwyddorion cadarn, a gofynnwn i Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd mewn trafodaethau â’r Trysorlys yn y maes hwn. Rydym yn croesawu’r ffaith bod trafodaethau anffurfiol cynnar eisoes wedi’u cynnal rhwng swyddogion.
Fel y crybwyllwyd, mae profiadau busnesau a sefydliadau o ddefnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan. Fodd bynnag, credwn y gellir gwneud gwelliannau. Rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ei meini prawf ar gyfer llwyddiant wrth ddefnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol fel bod busnesau'n ymwybodol o'r canlyniadau disgwyliedig o’r cychwyn cyntaf cyn iddynt wneud cais, ac iddynt rannu mwy o fanylion am ymdrechion parhaus i symleiddio’r broses o ymgeisio am gyfalaf trafodiadau ariannol, y dywedodd rhanddeiliaid wrthym ei bod yn aml yn hirwyntog ac anodd.
Ddirprwy Lywydd, hoffwn droi nawr at argymhellion eraill yn ein hadroddiad. Yn ystod y chweched Senedd, mae’r pwyllgor wedi galw’n rheolaidd am ragor o eglurder yn nogfennaeth cyllideb Llywodraeth Cymru i egluro sut y dyrennir cyfalaf trafodiadau ariannol ac at ba ddiben. Roedd y diffyg eglurder hwn yn amlwg yn ystod ein hymchwiliad, o ystyried ein bod wedi cael ffigurau gwahanol gan Lywodraeth Cymru yn ei thystiolaeth ynghylch faint o gyfalaf trafodiadau ariannol a dderbyniwyd hyd yma. Fodd bynnag, mae’n braf gweld bod camau cadarnhaol wedi’u cymryd yn y maes hwn eisoes mewn ymateb i waith y pwyllgor. Rwy'n falch fod naratif y gyllideb ddrafft ar gyfer 2025-26 yn cynnwys lefel uwch o fanylion am gyfalaf trafodiadau ariannol, gan gynnwys darparu data wedi'i ddadgyfuno.
O ran defnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol, rwyf eisoes wedi crybwyll ei fod yn cynrychioli rhan helaeth o bŵer gwariant Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, er bod y cyllid hwn eisoes o fudd i rai meysydd, ceir rhai meysydd yng nghyfrifoldebau’r Llywodraeth lle gellid ei ddefnyddio’n fwy effeithiol. Er mwyn mynd i’r afael â’r mater, mae’r pwyllgor wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gael gwell dealltwriaeth o ble y gellir defnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol. Rydym wedi galw am gynnal dadansoddiad sectorol i nodi hyn, ac edrychwn ymlaen at ymgysylltu ymhellach â swyddogion y Llywodraeth ar y pwynt hwn.
Credwn hefyd fod angen camau i godi ymwybyddiaeth o gyfalaf trafodiadau ariannol ar draws Llywodraeth Cymru, gan gynnwys gwell trefniadau rhannu gwybodaeth a hyfforddiant, ac unwaith eto, mae’n galonogol fod cynnydd ar adolygu canllawiau yn y maes hwn wedi dechrau. Fe wnaethom amrywiaeth o argymhellion eraill hefyd i wneud y broses cyfalaf trafodiadau ariannol yn fwy agored, gyda'r bwriad o wella'r defnydd ohono.
I gloi, Dirprwy Lywydd, gyda'i gilydd, mae ein hargymhellion yn anelu at sicrhau proses fwy agored o ran cyfalaf trafodiadau ariannol a sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf ymarferol ar draws Llywodraeth Cymru. Rwy'n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi ymateb yn gadarnhaol i'n hargymhellion, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed barn Aelodau eraill yn ystod y ddadl. Diolch yn fawr.
To close, Dirprwy Lywydd, taken together, our recommendations aim to ensure a more open process in terms of FTC and to ensure that it is used in the most practical way possible across the Welsh Government. I'm pleased that the Cabinet Secretary has responded positively to our recommendations, and I look forward to hearing the views of other Members during the debate. Thank you.
I'm glad, following my suggestion, that the Finance Committee agreed to undertake a short inquiry into financial transactions capital. Too often here, financial transactions capital has been something that's happening over which we have very little discussion and very few people have any knowledge.
The UK Government provides financial transactions capital as part of the Welsh Government's block grant. It is a ring-fenced element of capital funding and includes loans or equity investment by the Welsh Government into the private sector. It was an invention of one of the previous Conservative Governments, who created a device to allow the Treasury to avoid declaring capital expenditure in a way that scored against the public sector borrowing requirement, because it appeared both in the debit and credit column, and could be netted off. The discretion afforded to the Welsh Government in operating it means that it can decide on its own programme within the allocation. And can I just say, it's highly unfortunate that a similar scheme does not exist to fund the building of council houses? Because it would do exactly the same thing. It would exist on both the debit and credit side and would be netted off.
As repayable public finance, it is required that it is properly utilised in line with requirements set both at the UK and Welsh Government levels for the effective use of public money. Every year is uncertain, because the Welsh Government does not hear until the autumn statement how much financial transactions capital is coming and then have the short gap between the autumn statement and the draft and final budget in order to show how the Government are going to use the money. In the main, the funding must be repaid to His Majesty's Treasury. In contrast to grants, it is only to be given to entities outside the accounting budgetary boundaries of the Welsh Government and is expected to generate a financial return.
I am pleased that the Welsh Government accepted the committee's recommendations, although one in principle and one partly. Whilst the reply from the Welsh Government that no formal engagement has taken place with the Treasury in recent years regarding the potential reform of financial transactions capital is disappointing, some early informal discussion between officials has taken place in anticipation of reforms to financial transactions capital being considered through the UK Government's spending review that is currently under way. I look forward to the update to the committee following that process.
In the 2025 budget, the Welsh Government published data on the new financial transactions capital funding allocation and recycled financial transactions capital repayments. The recycling is very useful, because you actually get more money being spent in a year than you get being allocated during the year. The total quantum of available funding has been allocated, with an element of overprogramming to manage potential underspends. The development bank is currently recycling financial transactions capital within the Wales property fund and the Wales stalled sites fund. I was pleased to see that, in 2023-24, the bank reinvested a total of £32 million. This was split £19 million to the Wales property fund and £13 million for the Wales stalled sites fund. This illustrates the significant value that the recycling of funds can have compared to new in-year funding.
I'm pleased that the Cabinet Secretary has asked his officials to undertake an analysis of where financial transactions capital has been allocated to date and provide this information to the committee. To facilitate this work, he has asked them to engage further with the committee to better understand the nature of the information that would be most useful to the committee. I look forward to this further discussion. Financial transactions capital is one of the tools that the Welsh Government has to support the Welsh economy. It may not survive the new Government, but whilst we have it in Wales, we must make the best use of it.
Yn dilyn fy awgrym, rwy'n falch fod y Pwyllgor Cyllid wedi cytuno i gynnal ymchwiliad byr i gyfalaf trafodiadau ariannol. Yn rhy aml yma, mae cyfalaf trafodiadau ariannol wedi bod yn rhywbeth sy'n digwydd nad ydym yn trafod llawer arno, ac ychydig iawn o bobl sydd ag unrhyw wybodaeth yn ei gylch.
Mae Llywodraeth y DU yn darparu cyfalaf trafodiadau ariannol fel rhan o grant bloc Llywodraeth Cymru. Mae’n elfen sydd wedi’i chlustnodi o gyllid cyfalaf ac mae’n cynnwys benthyciadau neu fuddsoddiad ecwiti gan Lywodraeth Cymru i’r sector preifat. Fe'i dyfeisiwyd gan un o'r Llywodraethau Ceidwadol blaenorol i ganiatáu i’r Trysorlys osgoi datgan gwariant cyfalaf mewn ffordd a oedd yn sgorio yn erbyn gofyniad benthyca'r sector cyhoeddus, gan ei fod yn ymddangos yn y golofn debyd a chredyd, a gallai gael ei netio. Mae’r disgresiwn a roddir i Lywodraeth Cymru i'w ddefnyddio'n golygu y gall benderfynu ar ei rhaglen ei hun o fewn y dyraniad. Ac a gaf i ddweud, mae'n siomedig nad oes cynllun tebyg yn bodoli i ariannu'r gwaith o adeiladu tai cyngor? Oherwydd byddai'n gwneud yn union yr un peth. Byddai'n bodoli ar yr ochr ddebyd a chredyd, a byddai'n cael ei netio.
Fel cyllid cyhoeddus ad-daladwy, mae'n ofynnol iddo gael ei ddefnyddio'n briodol yn unol â gofynion a osodwyd ar lefel Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer defnyddio arian cyhoeddus yn effeithiol. Mae pob blwyddyn yn ansicr, gan nad yw Llywodraeth Cymru yn clywed tan ddatganiad yr hydref faint o gyfalaf trafodiadau ariannol y byddwn yn ei gael, ac yna mae ganddi'r bwlch byr rhwng datganiad yr hydref a’r gyllideb ddrafft a’r gyllideb derfynol er mwyn dangos sut y mae’r Llywodraeth yn mynd i ddefnyddio'r arian. Yn gyffredinol, mae'n rhaid ad-dalu'r cyllid i Drysorlys Ei Fawrhydi. Yn wahanol i grantiau, dim ond i endidau y tu hwnt i ffiniau cyllidebol cyfrifyddu Llywodraeth Cymru y'i rhoddir, a disgwylir iddo gynhyrchu enillion ariannol.
Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion y pwyllgor, er bod un wedi'i dderbyn mewn egwyddor yn unig, ac un yn rhannol. Er bod yr ateb gan Lywodraeth Cymru na chafwyd unrhyw ymgysylltu ffurfiol â’r Trysorlys yn y blynyddoedd diwethaf ynghylch y posibilrwydd o ddiwygio cyfalaf trafodiadau ariannol yn siomedig, cafwyd rhywfaint o drafod anffurfiol cynnar rhwng swyddogion wrth ragweld y bydd diwygiadau i gyfalaf trafodiadau ariannol yn cael eu hystyried drwy'r adolygiad o wariant sy'n mynd rhagddo gan Lywodraeth y DU. Edrychaf ymlaen at y diweddariad i’r pwyllgor yn dilyn y broses honno.
Yng nghyllideb 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddata ar ddyraniadau cyllid cyfalaf trafodiadau ariannol newydd ac ad-daliadau cyfalaf trafodiadau ariannol wedi'u hailgylchu. Mae'r ailgylchu'n ddefnyddiol iawn, oherwydd mewn gwirionedd, caiff mwy o arian ei wario mewn blwyddyn nag a gaiff ei ddyrannu yn ystod y flwyddyn. Mae cyfanswm y cyllid sydd ar gael wedi'i ddyrannu, gan gynnwys elfen o or-raglennu i reoli tanwariant posibl. Ar hyn o bryd, mae'r banc datblygu'n ailgylchu cyfalaf trafodiadau ariannol o fewn cronfa eiddo Cymru a chronfa safleoedd segur Cymru. Roeddwn yn falch o weld bod y banc, yn 2023-24, wedi ailfuddsoddi cyfanswm o £32 miliwn. Cafodd hwn ei rannu'n £19,062,000 ar gyfer cronfa eiddo Cymru a £13 miliwn ar gyfer cronfa safleoedd segur Cymru. Mae hyn yn dangos y gwerth sylweddol y gall ailgylchu cyllid ei gynnig o gymharu â chyllid newydd yn ystod y flwyddyn.
Rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn i'w swyddogion gynnal dadansoddiad o ble mae cyfalaf trafodiadau ariannol wedi'i ddyrannu hyd yma ac i ddarparu'r wybodaeth hon i'r pwyllgor. Er mwyn hwyluso’r gwaith hwn, mae wedi gofyn iddynt ymgysylltu ymhellach â’r pwyllgor i ddeall yn well natur y wybodaeth a fyddai'n fwyaf defnyddiol i’r pwyllgor. Edrychaf ymlaen at y drafodaeth bellach hon. Mae cyfalaf trafodiadau ariannol yn un o’r dulliau sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi economi Cymru. Efallai na fydd yn goroesi’r Llywodraeth newydd, ond tra bydd ar gael i ni yng Nghymru, rhaid inni wneud y defnydd gorau ohono.
I'm grateful for the opportunity to speak on this report briefly this afternoon. I wasn't a member of the committee whilst the hard work on this was done. My colleague Peter Fox was our Conservative member on there. I'm not saying that the reason he left that committee was because of the excitement of this report, but it is a strange link, isn't it, that that has now happened. I'm pleased that the committee was able to do this report. It's not often that they're able to carry out an inquiry, because of the size of the agenda within the Finance Committee, but clearly, as Mike Hedges pointed out, it was important that the committee was able to take a moment to look a little deeper into a specific area of finance.
As a Member looking at it whilst not being within the process of the committee's work, there are a few things that jumped out at me, and I hope that the Cabinet Secretary will respond to these points. Ironically, it's clear that there are a number of recommendations in here that speak to the point of transparency and clarity as to the way in which FTC functions and the way it's understood. It's not, I'm sure, purposely murky, but I guess it is a technical financial vehicle where the simpler that it can be explained, the better, because it helps to provide better transparency. There's a theme of that through all of the recommendations. I appreciate that the Government's response to this is a positive one in terms of the recommendations, but I'd be interested to hear whether the Cabinet Secretary in particular feels as though there is, even with the recommendations, enough transparency around FTC.
The second point, which has already been mentioned by the Chair in particular, is in relation to the constraints that sit around FTC. I'd be interested to hear whether the Cabinet Secretary believes that, within the existing constraints, we are maximising its effectiveness, or maximising its use. And then secondly the likelihood of those constraints being adjusted to allow for further effectiveness in the future and how useful, or not, that might be. Of course, there are very good reasons why those constraints are in place, and there are much more qualified people than myself to comment on that, but of course, we want to see the effectiveness and use of this spend in Wales to be the best possible.
And a final point, briefly, in relation to recommendation 7, which again has been highlighted as a recommendation for analysis on the FTC by sector. I wonder whether the Cabinet Secretary would be willing to also consider an analysis of FTC by risk as well, because of course what we want to do is minimise any defaults on these types of loans, and understanding the risk profile by who is making use of FTC would be helpful in that as well. Diolch yn fawr iawn.
Diolch am y cyfle i siarad am yr adroddiad hwn yn gryno y prynhawn yma. Nid oeddwn yn aelod o'r pwyllgor tra bo'r gwaith caled yn mynd rhagddo ar hyn. Fy nghyd-Aelod Peter Fox oedd ein haelod Ceidwadol o'r pwyllgor. Nid wyf yn dweud mai’r rheswm y gadawodd y pwyllgor hwnnw oedd oherwydd cyffro’r adroddiad hwn, ond mae’n gysylltiad rhyfedd, onid yw, fod hynny bellach wedi digwydd. Rwy’n falch fod y pwyllgor wedi gallu llunio’r adroddiad hwn. Nid yn aml y gallant gynnal ymchwiliad, oherwydd maint agenda'r Pwyllgor Cyllid, ond yn amlwg, fel y nododd Mike Hedges, roedd yn bwysig fod y pwyllgor yn gallu rhoi eiliad i edrych yn fanylach ar faes penodol o gyllid.
Wrth edrych ar yr adroddiad fel Aelod nad oedd yn rhan o broses waith y pwyllgor, roedd ychydig o bethau'n sefyll allan, a gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymateb i’r pwyntiau hyn. Yn eironig, mae'n amlwg fod nifer o argymhellion yma'n ymwneud â thryloywder ac eglurder y ffordd y mae cyfalaf trafodiadau ariannol yn gweithredu a'r ffordd y caiff ei ddeall. Rwy'n siŵr nad yw'n aneglur yn fwriadol, ond mae'n debyg ei fod yn gyfrwng ariannol technegol lle mai gorau po symlaf y gellir ei egluro, gan fod hynny'n helpu i ddarparu gwell tryloywder. Mae honno'n thema drwy'r holl argymhellion. Rwy’n sylweddoli bod ymateb y Llywodraeth i hyn yn un cadarnhaol o ran yr argymhellion, ond hoffwn glywed a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn enwedig yn teimlo, hyd yn oed gyda’r argymhellion, fod digon o dryloywder ynghylch cyfalaf trafodiadau ariannol.
Mae'r ail bwynt, a grybwyllwyd eisoes gan y Cadeirydd yn fwyaf arbennig, yn ymwneud â'r cyfyngiadau sy'n perthyn i gyfalaf trafodiadau ariannol. Hoffwn glywed a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu, o fewn y cyfyngiadau presennol, ein bod yn gwneud y mwyaf o'i effeithiolrwydd, neu'n gwneud y defnydd mwyaf ohono. Ac yna'n ail, y tebygolrwydd y caiff y cyfyngiadau hynny eu haddasu i ganiatáu ar gyfer effeithiolrwydd pellach yn y dyfodol a pha mor ddefnyddiol ai peidio y gallai hynny fod. Wrth gwrs, mae rhesymau da iawn pam fod y cyfyngiadau hynny ar waith, ac mae pobl llawer mwy cymwys na mi i wneud sylwadau ar hynny, ond wrth gwrs, rydym am weld yr effeithiolrwydd a'r defnydd gorau posibl o'r gwariant hwn yng Nghymru.
A phwynt olaf, yn gryno, mewn perthynas ag argymhelliad 7, sydd eto wedi'i nodi fel argymhelliad ar gyfer dadansoddiad fesul sector o gyfalaf trafodiadau ariannol. Tybed a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i ystyried dadansoddiad o gyfalaf trafodiadau ariannol fesul risg hefyd, oherwydd wrth gwrs, yr hyn rydym am ei wneud yw lleihau unrhyw ddiffygdalu ar y mathau hyn o fenthyciadau, a byddai deall proffil risg yn ôl pwy sy'n defnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol yn ddefnyddiol yn hynny o beth hefyd. Diolch yn fawr iawn.
Mi hoffwn ddiolch i’r pwyllgor am eu hadroddiad, sydd yn hynod o ddifyr, ynglŷn ag elfen eithaf esoterig o’r gyllideb, ond sydd â goblygiadau sylweddol ar allu’r Llywodraeth i reoli ei hadnoddau.
Beth sydd yn dod drosodd yn glir yn yr adroddiad ydy bod y rheolau o amgylch defnydd FTCs yn ogystal ag amseru a dosbarthu yn fwy o rwystr nag ydy o o gymorth yng nghyd-destun trefniadau cyllidol datganoli. Ac mae hyn, wrth gwrs, yn adlewyrchiad o'r cyfyngiadau sylweddol ehangach ar hyblygrwydd fframwaith cyllidol y Senedd, sydd i gyd yn cael ei benderfynu’n uniongyrchol gan San Steffan heb fewnbwn o Gymru ac yn aml ar sail sy’n gallu ymddangos yn fympwyol.
I roi un enghraifft, rydym yn dal i aros i bwerau benthyg y Senedd a therfynau tynnu i lawr cronfa wrth gefn Cymru gael eu halinio gyda chwyddiant, rhywbeth sydd eisoes yn digwydd yn yr Alban. Ac o ran hyn, mi oedd yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg yn iawn i ddweud yn ystod ei ymddangosiad diweddar o flaen y Pwyllgor Cyllid fod hyn yn rhwystredig dros ben o ystyried pa mor syml fuasai newid o’r fath. Ac mae'r un rhwystredigaethau'n dod yn amlwg wrth inni ystyried tystiolaeth y Llywodraeth a rhanddeiliaid sydd wedi cael profiad o ddelio gyda rheolau cymhleth FTCs. Mae hefyd yn werth nodi, fel y gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet wrth roi tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad hwn, bod FTCs i bob pwrpas yn bodoli er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig pan fo’n dod i gofnodi diffyg cyllid cyhoeddus. Felly, Cymru sydd yn gorfod cario’r baich yn ymarferol o gyfrifo creadigol San Steffan.
Dwi’n cydnabod bod trafodaethau ynglŷn â diwygiadau posib i’r drefn FTCs yn digwydd, ac mi fuaswn i’n gwerthfawrogi diweddariadau gan y Llywodraeth fel y mae'r rhain yn mynd rhagddynt. Ond, onid oes, o edrych ar ganfyddiadau’r ymchwil yma, achos cryf dros gael gwared ar FTCs yn gyfan gwbl, a symud at drefn lle nad oes cyfyngiadau na rheolau gorfiwrocrataidd ar ddefnydd y Senedd o’n hadnoddau ariannol? Ac onid ydy creu’r rhyddid yma yn angenrheidiol wrth ystyried prinder buddsoddi cyfalaf sydd wedi bod yn bosib yng Nghymru dros y ddegawd ddiwethaf?
Natur gwleidyddiaeth, wrth gwrs, ydy bod gennym ni i gyd flaenoriaethau gwahanol o ran ble a sut y dylai arian cyhoeddus gael ei wario, ond dwi’n sicr ein bod ni i gyd—ta waeth pa blaid ydym ni—am weld sefyllfa lle nad oes rhwystrau diangen ar sut mae’r arian yn cael ei ddefnyddio. Wedi’r cyfan, mae yna gefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd yma i gael gwared o’r system a’r fformiwla Barnett eisoes, a symud at drefniadau ariannol tecach sy’n adlewyrchu anghenion ein poblogaeth.
Mae pob plaid hefyd wedi sôn o dro i dro am yr angen i greu mwy o hyblygrwydd yn strwythurau’r broses gyllidebol. Credaf felly bod yna gyfle i ni yn sgil yr adroddiad hwn i adeiladu consensws trawsbleidiol ar y mater o FTCs a’r fframwaith cyllidol datganoledig presennol yn ei gyfanrwydd, ac uno fel Senedd i wneud yr achos yn gryf i San Steffan o ran yr angen am drefniadau llawer mwy addas ar gyfer ein Senedd fodern, aeddfed ac felly gwireddu potensial y Senedd hon i’r eithaf.
Thank you. I'd like to thank the committee for its report, which was extremely interesting, regarding a quite esoteric element of the budget, but one that has significant implications in relation to the Government's ability to manage its resources.
What comes across clearly in the report is that the rules surrounding the use of FTC as well as the timing of its distribution are more of a hindrance than a help in the context of devolved fiscal arrangements. And this is, of course, a reflection of the significantly wider limitations on the flexibility of the Senedd's fiscal framework, decided directly by Westminster without any input from Wales and often on what appears to be an arbitrary basis.
To give one example, we are still waiting for the Senedd's borrowing powers and the drawdown limits of the Wales reserve to be aligned with inflation, something that is already happening in Scotland. And in this respect, the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language was right to say during his recent appearance before the Finance Committee that this is extremely frustrating, bearing in mind how simple such a change would be. And the same frustrations emerge as we consider the evidence of the Government and stakeholders who have had experience of dealing with the complex rules relating to FTC. It is also worth noting, as the Cabinet Secretary did when giving evidence to this inquiry, that FTC effectively exists to give the UK Government more flexibility when it comes to recording a deficit in terms of public funding. Therefore, Wales must carry the practical burden of Westminster's creative calculations.
I acknowledge that discussions regarding possible amendments of the FTC regime are taking place and I would appreciate updates from the Government as these progress. However, is there not, in looking at the findings of this inquiry, a strong case for getting rid of FTC altogether, and moving to a system where there are no restrictions or excessively bureaucratic rules on the Senedd's use of our financial resources? And isn't creating this freedom necessary when considering the lack of capital investment in Wales over the last decade?
The nature of politics, of course, is that we all have different priorities as to where and how public money should be spent, but I'm sure that we all—regardless of which party we're in—want to see a situation where there are no unnecessary barriers on how the money is used. After all, there is cross-party support in this Senedd to getting rid of the existing Barnett funding system and moving towards fairer financial arrangements that reflect the needs of our population.
All parties have also spoken from time to time about the need to create more flexibility in the structures of the budget process. I therefore believe that there is an opportunity for us as a result of this report to build cross-party consensus on the issue of FTC and the current devolved financial framework as a whole, and to unite as a Senedd to make a strong case to Westminster in terms of the need for much more suitable arrangements for our modern, mature Senedd in order to fully realise its potential.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford.
I call on the Cabinet Secretary for Finance and the Welsh Language, Mark Drakeford.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Gaf fi ddechrau drwy groesawu adroddiad y Pwyllgor Cyllid a dweud diolch i'r Cadeirydd ac aelodau'r pwyllgor am y gwaith y maen nhw wedi'i wneud?
Thank you very much, Dirprwy Lywydd. May I start by welcoming the Finance Committee's report and thanking the Chair and members of the committee for the work that they have done?
The report will undoubtedly help us to continue to develop this relatively new financial instrument, making sure that we are able to deploy it effectively in the future. As you’ve heard, I’ve already responded formally to the report and to each of its recommendations. I was very pleased to be able to accept all the recommendations. The limitation on the acceptance of recommendation 7, for example, was simply in order to allow further discussions to refine the information that the committee would find useful. I’m very happy to ask my officials to pick up the point that Sam Rowlands made about the issue of risk in the way in which financial transactions capital is deployed here in Wales.
I am very committed to being able to provide the committee and the wider community here in Wales with as much transparency as possible about its use. There is some limitation on the extent to which you can provide simplified information, given the inherently complex nature of FTCs and the rulebooks that we have to operate within, as the Chair pointed out in his opening. But I hope that Members will recognise that the draft budget already reflects some of the committee's proposals in that regard.
Sam Rowlands asked questions about maximising the use of financial transaction capital. Well, I can say that we deploy every penny of it, and Mike Hedges, I think, made the important points about the extent to which the recyclable nature of this funding means that it comes back in, particularly through the Development Bank of Wales, and then is used again for the purposes to which it has been dedicated by the Welsh Government.
I think it is important to recall that FTCs were only introduced as part of the 2013 budget process. They were a device then, as Mike said, to allow George Osborne to invest without it being on the balance sheet and therefore to meet whatever artificial rule he was claiming to meet at the time. I think, by now, we can't hope that we will simply revert to traditional capital to fund all areas of Government spend, and therefore we have to maximise the ability that FTCs offer us to boost our investment in private and third sector organisations, while remembering that the key difference between conventional capital and FTCs is that FTCs have to be repaid. Therefore, in thinking of that other recommendation of the committee about the criteria for success in this area, and I set them out in my response: that use of the funds has to be feasible, visible, desirable, but it also, in this case—this is why it's different to conventional capital—has to be repayable. That has undoubtedly had an impact on the appetite of organisations in Wales to use FTCs, and while that appetite may be greater a decade into FTCs, it certainly was an appetite that had to be stimulated in those early days.
Now, as we evolve our approach to the use of FTCs and take incremental steps to improve the process and increase transparency, I am very keen to continue to work with the committee to continue to review the usefulness of this tool and how it might be refined in terms of reporting in future budgets. Progress has been made to address some of the other recommendations in the report. We anticipate that the reclassification of DBW will be considered by both Governments through the current spending review, and I will certainly report on the outcome of that to the Senedd. I've also committed to publishing revised guidance. We'll be offering training sessions to staff in policy areas across the Welsh Government to see if there is an appetite for use of FTCs more broadly than the relatively limited set of purposes in which it has been successively used up until now—[Interruption.]
Heb os, bydd yr adroddiad yn ein helpu i barhau i ddatblygu’r offeryn ariannol cymharol newydd hwn, gan sicrhau ein bod yn gallu ei ddefnyddio’n effeithiol yn y dyfodol. Fel y clywsoch, rwyf eisoes wedi ymateb yn ffurfiol i'r adroddiad ac i bob un o'i argymhellion. Roeddwn yn falch iawn o allu derbyn yr holl argymhellion. Roedd y cyfyngiad ar dderbyn argymhelliad 7, er enghraifft, er mwyn caniatáu trafodaethau pellach i fireinio’r wybodaeth a fyddai’n ddefnyddiol i’r pwyllgor. Rwy’n fwy na pharod i ofyn i fy swyddogion fynd ar drywydd y pwynt a wnaeth Sam Rowlands ynglŷn â risg yn y ffordd y caiff cyfalaf trafodiadau ariannol ei ddefnyddio yma yng Nghymru.
Rwy’n ymrwymedig iawn i allu darparu cymaint o dryloywder â phosibl ynglŷn â’i ddefnydd i’r pwyllgor a’r gymuned ehangach yma yng Nghymru. Mae rhywfaint o gyfyngiad ar y graddau y gallwch ddarparu gwybodaeth symlach, o ystyried natur sylfaenol gymhleth cyfalaf trafodiadau ariannol a'r llyfrau rheolau y mae'n rhaid inni weithredu o'u mewn, fel y nododd y Cadeirydd yn ei ddatganiad agoriadol. Ond rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau’n cydnabod bod y gyllideb ddrafft eisoes yn adlewyrchu rhai o gynigion y pwyllgor yn hynny o beth.
Gofynnodd Sam Rowlands gwestiynau am wneud y defnydd mwyaf posibl o gyfalaf trafodiadau ariannol. Wel, gallaf ddweud ein bod yn defnyddio pob ceiniog ohono, a chredaf fod Mike Hedges wedi gwneud pwyntiau pwysig ynghylch y graddau y mae natur ailgylchadwy’r cyllid hwn yn golygu ei fod yn dod yn ôl, yn enwedig drwy Fanc Datblygu Cymru, ac yna'n cael ei ddefnyddio eto at y dibenion y mae wedi'i glustnodi ar eu cyfer gan Lywodraeth Cymru.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig cofio mai dim ond fel rhan o broses cyllideb 2013 y cyflwynwyd cyfalaf trafodiadau ariannol. Roeddent yn ddyfais ar y pryd, fel y dywedodd Mike, i ganiatáu i George Osborne fuddsoddi heb iddo fod ar y fantolen ac felly i fodloni pa bynnag reol artiffisial yr honnai ei fod yn ei bodloni ar y pryd. Erbyn hyn, nid wyf yn credu y gallwn obeithio y byddwn yn dychwelyd at gyfalaf traddodiadol i ariannu pob maes o wariant y Llywodraeth, ac felly mae’n rhaid inni wneud y mwyaf o’r gallu y mae cyfalaf trafodiadau ariannol yn ei gynnig i ni hybu ein buddsoddiad yn sefydliadau'r sector preifat a’r trydydd sector, gan gofio mai'r gwahaniaeth allweddol rhwng cyfalaf confensiynol a chyfalaf trafodiadau ariannol yw bod yn rhaid ad-dalu cyfalaf trafodiadau ariannol. Felly, wrth feddwl am yr argymhelliad arall gan y pwyllgor am y meini prawf ar gyfer llwyddiant yn y maes hwn, ac fe’u nodais yn fy ymateb: fod yn rhaid i’r defnydd o’r cronfeydd fod yn ddichonadwy, yn hyfyw, yn ddymunol, ond rhaid iddo hefyd, yn yr achos hwn—dyma pam ei fod yn wahanol i gyfalaf confensiynol—fod yn ad-daladwy. Heb os, mae hynny wedi cael effaith ar awydd sefydliadau yng Nghymru i ddefnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol, ac er y gallai’r awydd fod yn fwy ddegawd ers cyflwyno cyfalaf trafodiadau ariannol, yn sicr, roedd yn awydd y bu'n rhaid ei annog yn y dyddiau cynnar hynny.
Nawr, wrth inni ddatblygu ein dull o ddefnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol a chymryd camau graddol i wella'r broses a chynyddu tryloywder, rwy'n awyddus iawn i barhau i weithio gyda'r pwyllgor i barhau i adolygu defnyddioldeb y dull a sut y gellid ei fireinio ar gyfer adrodd yng nghyllidebau’r dyfodol. Mae cynnydd wedi’i wneud i fynd i’r afael â rhai o’r argymhellion eraill yn yr adroddiad. Rydym yn rhagweld y bydd y ddwy Lywodraeth yn ystyried ailddosbarthiad Banc Datblygu Cymru drwy’r adolygiad o wariant presennol, a byddaf yn sicr yn adrodd ar ganlyniad hynny i’r Senedd. Rwyf hefyd wedi ymrwymo i gyhoeddi canllawiau diwygiedig. Byddwn yn cynnig sesiynau hyfforddi i staff mewn meysydd polisi ar draws Llywodraeth Cymru i weld a oes awydd i ddefnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol ar sail ehangach na’r set gymharol gyfyngedig o ddibenion y mae wedi’i defnyddio ar eu cyfer hyd yn hyn—[Torri ar draws.]
Wrth gwrs.
Of course.
Jest ar y pwynt yna, felly, ydych chi’n meddwl bod yna dipyn mwy o botensial i’r defnydd o’r ffordd arbennig yma o ariannu projectau cyfalaf, yn enwedig ym maes tai? Ydy’r maes tai yn un sydd yn gweiddi allan ar gyfer defnyddio y math yma o ddull ariannu oherwydd bod modd cael rhent yn ôl, onid oes, er mwyn talu’r benthyciad yn ôl?
Just on that point, therefore, do you think that there is a fair bit more potential for the use of this particular mechanism in terms of funding capital projects, particularly in housing? Is housing an area that is crying out for the use of this kind of funding mechanism because one can recoup rent in order to pay back that loan?
Diolch yn fawr i Siân Gwenllian, Dirprwy Lywydd. Y maes tai yw’r maes ble rŷn ni yn defnyddio’r rhan fwyaf o’r FTCs, ond os oes mwy rŷn ni’n gallu ei wneud a'n gallu bod yn fwy hyblyg yn y ffordd rŷn ni yn defnyddio FTCs ym maes tai, yna, wrth gwrs, dwi eisiau ystyried unrhyw awgrymiadau. Beth dwi’n ei feddwl, ar ôl degawd bron nawr o ddefnyddio FTCs, yw ei bod hi yn bosib y bydd mwy o alw am eu defnyddio achos mae pobl yn fwy ymwybodol ac mae profiadau gyda ni. Rŷn ni’n gallu dangos i bobl sut yn ymarferol mae’r FTCs yn rhedeg a sut y gallwn ni eu defnyddio nhw yma yng Nghymru, ac mae gwaith y pwyllgor yn ddefnyddiol dros ben inni wneud hynny.
I thank Siân Gwenllian, Dirprwy Lywydd. The area of housing is the area where we do use the majority of these FTCs, but if there's more that we can do and we can be more flexible in the way that we use FTCs in the area of housing, then, of course, I want to consider any suggestions to that end. What I think, after nearly a decade of using FTCs, is it is possible that there will be more demand for their use because people are more aware of them and we have experiences. We can show people in practice how the FTCs are used and how we can use them here in Wales, and the work done by the committee is very useful in terms of doing that.
So, let me just end, Dirprwy Lywydd, by thanking the committee once again for their work on the report. I look forward to continuing to work alongside them as we develop our thinking in this policy area.
Felly, Ddirprwy Lywydd, gadewch imi orffen drwy ddiolch i'r pwyllgor unwaith eto am eu gwaith ar yr adroddiad. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio ochr yn ochr â hwy wrth inni ddatblygu ein syniadau yn y maes polisi hwn.
Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i ymateb i'r ddadl.
I call on the Chair of the committee to respond to the debate.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl yma heddiw ac wedi darllen yr adroddiad. Gan ein bod ni ddim yn cael cyfle yn aml iawn i wneud ymchwiliadau, mae'n dda cael cyfle i wneud ymchwiliad byr i mewn i hyn.
Fe wnaf i gychwyn efo Mike Hedges yn sôn am sut ddechreuodd FTCs—
Thank you, Dirprwy Lywydd, and I'd like to thank everyone who has taken part in today's debate and has read the report. Given that we don't get an opportunity, very often, to undertake inquiries, it's excellent to have an opportunity to do a short inquiry like this.
I'll start with Mike Hedges, who talked about FTCs—
—and the history and some of the timescale issues and some of those things that we grappled with when we were talking about this. As Sam mentioned, Peter Fox was on the committee when we did this and it was great to have Peter there, and I do hope it wasn't the reason you left the committee. It's actually quite a good report, I think, so surely it wasn't that. [Laughter.] But he alluded to something that I think the Cabinet Secretary said, talking about that straitjacket that we're working within, and I'm hoping that the Cabinet Secretary will go to the Treasury and try and find the key to it, because that would be very, very useful.
—a'r hanes a rhai o'r materion amserlennu a rhai o'r pethau hynny y buom yn ymrafael â hwy pan oeddem yn siarad am hyn. Fel y soniodd Sam, roedd Peter Fox ar y pwyllgor pan wnaethom hyn ac roedd hi'n wych cael Peter yno, ac rwy'n gobeithio nad dyna'r rheswm pam y gwnaethoch chi adael y pwyllgor. Mae'n adroddiad eithaf da mewn gwirionedd, felly mae'n siŵr nad hynny oedd. [Chwerthin.] Ond fe gyfeiriodd at rywbeth y credaf fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i ddweud, wrth siarad am y rhwymau sydd arnom, ac rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i'r Trysorlys ac yn ceisio dod o hyd i'r allwedd i hyn, oherwydd byddai hynny'n ddefnyddiol tu hwnt.
Diolch yn fawr i Heledd, a oedd yn sôn am sut fyddwn ni'n gallu defnyddio hwn, gan nad y ffordd orau, o bosib, ydy hwn o'i wneud o, ond bod o yma ar hyn o bryd, a bod angen edrych ar ddiwygio ac edrych ar sut dŷn ni'n defnyddio hwn, ond sut dŷn ni hefyd yn cael setliad gwell a sut dŷn ni'n symud pethau yn eu blaenau efo'r Trysorlys er mwyn cael cyllideb decach i Gymru a rhywbeth sydd yn fuddiol ar gyfer y Senedd newydd amgen fydd yn symud yn ei blaen ar ôl yr etholiad nesaf. A diolch yn fawr i chi am yr ymatebion i'r adroddiad, a diolch hefyd am eich sylwadau heno.
I thank Heledd, who talked about how we could use this, because it's not the best way, perhaps, but it is available to us now, and the need to look at reform and at how we use this, but how we also have a better settlement and move things forward with the Treasury in order to have a fairer budget for Wales and something that is beneficial for the new Senedd that we'll be moving into after the next election. And thank you very much for your responses to the report, and I also thank you for your comments this evening.
It is an interesting but complex—you know, it's simple but complex, and that's the aspect that came through in this: how do you present very complicated things in a simple enough way for people to understand how they're used? And how do you do that linking with businesses, with arm's-length bodies to understand what that is? And how do you explain to your Cabinet colleagues how it could be used in more interesting ways within that?
Mae'n ddiddorol ond yn gymhleth—wyddoch chi, mae'n syml ond yn gymhleth, a dyna'r agwedd a ddaeth drwodd yn hyn: sut y mae cyflwyno pethau cymhleth iawn mewn ffordd ddigon syml i bobl ddeall sut y cânt eu defnyddio? A sut y mae gwneud y cyswllt â busnesau, â chyrff hyd braich i ddeall beth yw hynny? A sut y mae egluro i'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet sut y gellid ei ddefnyddio mewn ffyrdd mwy diddorol o fewn hynny?
A diolch i Siân am yr ymyriad ynglŷn â thai—mae hwnna'n hynod o bwysig.
And I thank Siân for the intervention on housing—that's extremely important.
So, just to conclude, Dirprwy Lywydd, Members will be more than aware that capital funding has been in short supply over recent years, so this is one way of doing it. And as a committee, we are also firm believers in good scrutiny and the ability to bring about positive change, and I think this is one of the ways that we try and push the agenda forward, as a committee, to go into some of these more obscure, maybe, mechanisms that we have of raising capital and using capital. That is why we have focused our recommendations on increasing the transparency and finding ways to maximise the use of FTC within the Welsh Government's budgets.
Again, I thank the Cabinet Secretary and everybody who's taken part and I recommend people read the report, because it is not that long, but it makes for interesting reading. Diolch yn fawr.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, bydd yr Aelodau'n ymwybodol iawn fod cyllid cyfalaf wedi bod yn brin dros y blynyddoedd diwethaf, felly dyma un ffordd o'i wneud. Ac fel pwyllgor, rydym hefyd yn gredinwyr cadarn mewn craffu da a'r gallu i sicrhau newid cadarnhaol, ac rwy'n credu mai dyma un o'r ffyrdd y ceisiwn wthio'r agenda yn ei blaen, fel pwyllgor, i fynd i mewn i rai o'r mecanweithiau mwy aneglur hyn, efallai, sydd gennym o godi cyfalaf a defnyddio cyfalaf. Dyna pam ein bod wedi canolbwyntio ein hargymhellion ar gynyddu tryloywder a dod o hyd i ffyrdd o wneud y defnydd gorau o gyfalaf trafodiadau ariannol yng nghyllidebau Llywodraeth Cymru.
Unwaith eto, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet a phawb sydd wedi cymryd rhan ac rwy'n argymell y dylai pobl ddarllen yr adroddiad, oherwydd nid yw mor hir â hynny, ond mae'n ddiddorol. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
The proposal is to note the committee's report. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Heledd Fychan.
The following amendments have been selected: amendment 1 in the name of Jane Hutt, and amendments 2 and 3 in the name of Heledd Fychan.
Eitem 7 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyflogaeth, a galwaf ar Samuel Kurtz i wneud y cynnig.
Item 7 today is the Welsh Conservatives debate on employment, and I call on Samuel Kurtz to move the motion.
Cynnig NDM8803 Paul Davies
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r Trosolwg o'r Farchnad Lafur a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 21 Ionawr 2025.
2. Yn gresynu at y canlynol o dan Lywodraeth Cymru:
a) bod y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru wedi cynyddu am y seithfed mis yn olynol i 5.6 y cant, sef y gyfradd uchaf yn y Deyrnas Unedig;
b) bod y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru wedi gostwng i 70 y cant, sef y gyfradd isaf yn y Deyrnas Unedig;
c) bod gan Gymru gyfradd anweithgarwch economaidd o 25.6 y cant, sef y gyfradd uchaf ym Mhrydain Fawr; a
d) mai Cymru sydd â’r pecynnau cyflog isaf ym Mhrydain Fawr.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu mwy o swyddi yng Nghymru a hybu twf drwy:
a) adfer rhyddhad ardrethi busnes i 75 y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden i gefnogi busnesau a diogelu swyddi;
b) cael gwared ar ardrethi busnes i fusnesau bach;
c) sicrhau ffyniant broydd ledled Cymru gyda lefelau cymesur o fuddsoddiad ym mhob rhan o’r wlad; a
d) gweithio gyda Llywodraeth y DU i dalu costau ei chynnydd mewn yswiriant gwladol cyflogwyr ar gyfer busnesau preifat.
Motion NDM8803 Paul Davies
To propose that the Senedd:
1. Notes the Labour Market Overview published by the Office for National Statistics on 21 January 2025.
2. Regrets that under the Welsh Government:
a) Wales’s unemployment rate has increased for the seventh consecutive month to 5.6 per cent, the highest rate in the United Kingdom;
b) Wales’s employment rate has decreased to 70 per cent, the lowest rate in the United Kingdom;
c) Wales’s economic inactivity rate stands at 25.6 per cent, the highest rate in Great Britain; and
d) Welsh wage packets are the lowest in Great Britain.
3. Calls on the Welsh Government to create more jobs in Wales and boost growth by:
a) reinstating business rates relief to 75 per cent for the retail, hospitality and leisure sector to support business and protect jobs;
b) abolishing business rates for small businesses;
c) levelling-up the whole of Wales with adequate levels of investment for all parts of the country; and
d) working with the UK Government to cover the costs of their employer national insurance increase on private businesses.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.
Diolch, Dirprwy Lywydd. I move the motion on the order paper in the name of Paul Davies. I open this debate today on a topic of growing concern for us all: the state of the Welsh economy. Last week the Office for National Statistics published its latest labour market overview and the figures should serve as a wake-up call. These statistics do not merely represent abstract data points, they reveal the very real struggles faced by Welsh communities, Welsh businesses and Welsh families.
Let us start with unemployment. The unemployment rate in Wales has now risen for the seventh consecutive month, reaching 5.6 per cent. That is an increase of 0.7 percentage points in just the last quarter, making it the highest in the United Kingdom. Compared to the UK average of 4.4 per cent, it is clear that Wales is falling behind. Employment figures paint an equally troubling picture. Wales's employment rate has dropped to 70 per cent, the lowest across the United Kingdom, and nearly 5 per cent behind the UK average. Perhaps most concerning is economic inactivity. In November Wales's economic inactivity rate stood at a staggering 25.6 per cent—far above the UK average of 21.6 per cent. Behind these numbers are real people—young people struggling to find opportunities, workers unable to re-enter the job market and families facing financial insecurity. These are not just statistics, they are a stark reflection of the failures of this Welsh Labour Government. For seven months running, unemployment has climbed. For far too long, economic growth has stalled. This is not a sudden development, but the cumulative result of poor policy choices, missed opportunities and a severe lack of ambition.
Now, let us talk about why this matters. A strong economy is not just a 'nice to have', it's essential. It is the engine that drives everything else: jobs, public services, investment and opportunity. But here in Wales, our economic engine is sputtering. Like a neglected car engine, Labour has failed to maintain it. They skipped the oil change, ignored the warning lights and left it running on empty, and as a result, it's now slow, sluggish and struggling to get out of first gear. We've all seen the consequences of this neglect: small businesses, the lifeblood of our communities, are being squeezed by rising costs, inadequate support and excessive bureaucracy; investment in infrastructure and innovation, both essential to fuelling economic growth, has been patchy, if it's been present at all.
The consequences are clear: fewer jobs, lower wages and stalled growth, which leaves Wales lagging behind every other part of the United Kingdom. But it doesn't have to be this way. With the right leadership, the Welsh economy can move from sluggish to dynamic, from lagging to leading. What Wales needs is a Government that understands the importance of a strong economy and is willing to take action to deliver it. The Welsh Conservatives have that vision. Our plan for the economy is bold, practical and focused on delivering real change. A Welsh Conservative Wales would be a Wales that is open for business.
First, we would reinstate business rates relief at 75 per cent for the retail, hospitality and leisure sectors. These sectors have been hit hardest by rising costs and need urgent support to protect jobs and livelihoods. Second, we would abolish business rates for small businesses. This would provide a lifeline to thousands of entrepreneurs, giving them the breathing space they need to grow, invest and create jobs. Third, we would commit to raise up the whole of Wales. Talent is equally spread across our nation, but opportunity is not. It is unacceptable that some parts of our country still feel forgotten. We would ensure that investment is distributed fairly so that every community has the opportunity to thrive.
Why else would the Welsh economy be better nurtured under the Welsh Conservatives? Because of our values: we are pro-wealth creation, pro-tourism, pro-farming, pro-enterprise, pro-infrastructure and pro-business. It's clear that there are two options facing the Wales of today: a future of continued, managed decline under a Labour Party out of ideas, out of energy, out of their depth and, soon enough, out of office, content with their foot on the windpipe of the Welsh economy; or a future where the Welsh economic dragon is allowed to roar, soaring high as it is unleashes the pent-up potential of the Welsh people, of Welsh businesses and of Welsh industry, setting Wales onto a path of prosperity for all. That's why I urge Members to back business, to boost our economy and to undo the barriers to growth by supporting our motion today. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig ar y papur trefn yn enw Paul Davies. Rwy'n agor y ddadl hon heddiw ar bwnc o bryder cynyddol i ni i gyd: cyflwr economi Cymru. Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ei throsolwg diweddaraf ar y farchnad lafur a dylai'r ffigurau ganu larymau. Nid pwyntiau haniaethol yn unig y mae'r ystadegau hyn yn eu cynrychioli, maent yn datgelu'r brwydrau go iawn a wynebir gan gymunedau, busnesau a theuluoedd yng Nghymru.
Gadewch inni ddechrau gyda diweithdra. Mae'r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru bellach wedi codi am y seithfed mis yn olynol, gan gyrraedd 5.6 y cant. Dyna gynnydd o 0.7 pwynt canran yn y chwarter diwethaf yn unig, a dyma'r gyfradd uchaf yn y Deyrnas Unedig. O'i gymharu â chyfartaledd y DU o 4.4 y cant, mae'n amlwg fod Cymru ar ei hôl hi. Mae ffigurau cyflogaeth yn creu darlun yr un mor ofidus. Mae cyfradd gyflogaeth Cymru wedi gostwng i 70 y cant, y lefel isaf ar draws y Deyrnas Unedig, a bron i 5 y cant yn is na chyfartaledd y DU. Efallai mai'r peth mwyaf pryderus yw anweithgarwch economaidd. Ym mis Tachwedd roedd cyfradd anweithgarwch economaidd Cymru yn 25.6 y cant—lefel lawer uwch na chyfartaledd y DU o 21.6 y cant. Y tu ôl i'r ffigurau hyn mae pobl go iawn—pobl ifanc sy'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i gyfleoedd, gweithwyr sy'n methu ailymuno â'r farchnad swyddi a theuluoedd sy'n wynebu ansicrwydd ariannol. Nid ystadegau yn unig yw'r rhain, maent yn adlewyrchiad clir o fethiannau'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Ers saith mis yn olynol, mae diweithdra wedi cynyddu. Ers llawer gormod o amser, mae twf economaidd wedi dod i stop. Nid datblygiad sydyn yw hyn, ond canlyniad cronnus dewisiadau polisi gwael, cyfleoedd a gollwyd a diffyg uchelgais difrifol.
Nawr, gadewch inni drafod pam y mae hyn yn bwysig. Nid rhywbeth 'braf i'w chael' yn unig yw economi gref, mae'n hanfodol. Dyna'r injan sy'n gyrru popeth arall: swyddi, gwasanaethau cyhoeddus, buddsoddiad a chyfle. Ond yma yng Nghymru, mae ein peiriant economaidd yn bygwth dod i stop. Fel injan car sydd wedi'i hesgeuluso, mae Llafur wedi methu cynnal yr economi. Fe wnaethant osgoi newid yr olew, anwybyddu'r goleuadau rhybudd a'i gadael i redeg yn wag, ac o ganlyniad, mae bellach yn araf ac yn cael trafferth dod allan o'r gêr cyntaf. Rydym i gyd wedi gweld canlyniadau'r esgeulustod hwn: mae busnesau bach, anadl einioes ein cymunedau, yn cael eu gwasgu gan gostau cynyddol, cefnogaeth annigonol a biwrocratiaeth ormodol; mae buddsoddiad mewn seilwaith ac arloesedd, y ddau'n hanfodol i danio twf economaidd, wedi bod yn anghyson, os yw wedi bodoli o gwbl.
Mae'r canlyniadau'n glir: llai o swyddi, cyflogau is a diffyg twf, sy'n gadael Cymru ar ei hôl hi o gymharu â phob rhan arall o'r Deyrnas Unedig. Ond nid oes rhaid iddi fod felly. Gyda'r arweinyddiaeth gywir, gall economi Cymru symud o fod yn araf i fod yn ddeinamig, o fod ar ei hôl hi i fod yn arweinydd. Yr hyn sydd ei angen ar Gymru yw Llywodraeth sy'n deall pwysigrwydd economi gref ac sy'n barod i weithredu i'w chyflawni. Y Ceidwadwyr Cymreig sydd â'r weledigaeth honno. Mae ein cynllun ar gyfer yr economi yn feiddgar, yn ymarferol ac yn canolbwyntio ar gyflawni newid go iawn. Byddai Cymru Geidwadol Gymreig yn Gymru sydd ar agor i fusnes.
Yn gyntaf, byddem yn adfer rhyddhad ardrethi busnes ar 75 y cant ar gyfer y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden. Y sectorau hyn sydd wedi cael eu taro galetaf gan gostau cynyddol ac mae angen cymorth arnynt ar frys i ddiogelu swyddi a bywoliaeth pobl. Yn ail, byddem yn dileu ardrethi busnes i fusnesau bach. Byddai hyn yn rhoi achubiaeth i filoedd o entrepreneuriaid, gan roi lle iddynt anadlu fel sydd ei angen i dyfu, buddsoddi a chreu swyddi. Yn drydydd, byddem yn ymrwymo i godi Cymru gyfan. Mae talent wedi ei ledaenu'n gyfartal ar draws ein cenedl, ond nid yw cyfle. Mae'n annerbyniol fod rhai rhannau o'n gwlad yn dal i deimlo eu bod wedi eu hanghofio. Byddem yn sicrhau bod buddsoddiad yn cael ei ddosbarthu'n deg fel bod pob cymuned yn cael cyfle i ffynnu.
Pam arall y byddai economi Cymru yn cael ei meithrin yn well o dan y Ceidwadwyr Cymreig? Oherwydd ein gwerthoedd: rydym o blaid creu cyfoeth, o blaid twristiaeth, o blaid ffermio, o blaid menter, o blaid seilwaith ac o blaid busnes. Mae'n amlwg fod dau opsiwn yn wynebu Cymru heddiw: dyfodol parhaus o ddirywiad wedi'i reoli o dan Blaid Lafur sy'n brin o syniadau, yn brin o egni, allan o'u dyfnder, ac allan o rym heb fod yn hir, Llafur sy'n hapus i gadw troed ar bibell wynt economi Cymru; neu ddyfodol lle mae draig economaidd Cymru yn cael rhyddid i ruo, i esgyn yn uchel wrth iddi ryddhau potensial y Cymry, busnesau Cymru a diwydiant Cymru, gan osod Cymru ar lwybr ffyniant i bawb. Dyna pam rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi busnes, i roi hwb i'n heconomi ac i ddadwneud y rhwystrau i dwf trwy gefnogi ein cynnig heddiw. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.
I have selected the three amendments to the motion, and I call on the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning to move formally amendment 1, tabled in the name of Jane Hutt.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu at y ffaith bod problemau o hyd o ran asesu perfformiad y llafurlu yng Nghymru yn sgil y pryderon ynghylch ansawdd yr Arolwg o’r Llafurlu.
Yn cydnabod bod data Arolwg y Llafurlu ar gyfer Cymru ymhlith y data o ansawdd isaf o blith holl wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr;
Yn cytuno mai’r ffordd orau o ddeall llafurlu Cymru yw ystyried tueddiadau hirdymor ar draws amryfal ddangosyddion, sy’n cynnwys ffynonellau eraill fel yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, gwybodaeth amser real Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi am weithwyr cyflogedig, data am swyddi’r gweithlu, a data am nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau.
Yn nodi ymhellach fod cyflogau oedolion yng Nghymru a oedd yn gweithio’n amser llawn yn 2024 yn uwch na chyflogau oedolion cyfatebol yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gogledd Iwerddon, Swydd Efrog a Humber.
Yn croesawu’r ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn creu mwy o swyddi yng Nghymru ac yn hybu twf drwy wneud y canlynol:
a) parhau i ddarparu pecynnau o gymorth ychwanegol ar gyfer ardrethi annomestig sydd werth £134 miliwn eleni ac £85 miliwn y flwyddyn nesaf yn ogystal â chynlluniau rhyddhad parhaol gwerth £250 miliwn yn flynyddol a’r cymorth ychwanegol sylweddol sydd wedi’i ddarparu i fusnesau a threthdalwyr eraill dros y blynyddoedd diwethaf;
b) sicrhau buddsoddiad o’r tu allan a chynyddu nifer y swyddi yma yng Nghymru;
c) cydweithio â Llywodraeth y DU er mwyn adfer y drefn o roi’r hawl i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau ynghylch buddsoddiad rhanbarthol ar ôl 2026 a datblygu rhaglen newydd o fuddsoddiadau gyda phartneriaid ar draws Cymru yn dilyn cau rhaglenni gwaddol fel y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn 2026; a
d) cydweithio â Llywodraeth y DU wrth ddatblygu’r Strategaeth Ddiwydiannol.
Amendment 1—Jane Hutt
Delete all after point 1 and replace with:
Regrets that there continues to be issues assessing labour market performance in Wales due to the concerns regarding the quality of the Labour Force Survey (LFS).
Recognises that LFS data for Wales are among the lowest quality of all UK countries and English regions;
Agrees that the best way of understanding the Welsh labour market is to consider longer term trends across a basket of indicators, which includes alternative sources such as the Annual Population Survey, HMRC real time information on paid employees, data on workforce jobs, and the claimant count.
Further notes that in 2024, Welsh wage packets for full-time adults working in Wales were higher than the North East of England, East Midlands, Northern Ireland, Yorkshire and the Humber.
Welcomes that the Welsh Government will create more jobs in Wales and boost growth by:
a) continuing to provide packages of additional support for non-domestic rates worth £134 million this year and £85 million next year in addition to permanent relief schemes worth £250 million annually and the considerable additional support provided to businesses and other ratepayers over recent years;
b) securing inward investment and increasing the number of jobs here in Wales;
c) working with the UK Government to restore decision-making on post-2026 regional investment to the Welsh Government, and developing a new investment programme with partners across Wales to follow the closure of legacy programmes like the Shared Prosperity Fund in 2026; and
d) working with the UK Government in developing the Industrial Strategy.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Amendment 1 moved.

Yes, moved.
Iawn, cynigiwyd.
Formally—thank you.
Yn ffurfiol—diolch.
Galwaf ar Luke Fletcher i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.
I call on Luke Fletcher to move amendments 2 and 3, tabled in the name of Heledd Fychan.
Gwelliant 2—Heledd Fychan
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod economi Cymru wedi dioddef o ddiffyg buddsoddiad a model cyllido annheg o dan Lywodraethau blaenorol a phresennol y DU.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddychwelyd pwerau i wneud penderfyniadau dros gyllid ôl-Brexit yn ôl i'r Senedd.
Amendment 2—Heledd Fychan
Add as new points at end of motion:
Regrets that the Welsh economy has suffered from a lack of investment and unfair funding model under previous and current UK Governments.
Calls on the UK Government to return decision-making powers over post-Brexit funding back to the Senedd.
Gwelliant 3—Heledd Fychan
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i:
a) dilyn argymhelliad yr OECD ar sefydlu asiantaeth hyd braich i hyrwyddo datblygiad economaidd;
b) mabwysiadu targedau newydd ac effeithiol i yrru datblygiad economaidd cynaliadwy yng Nghymru;
c) gweithredu archwiliad sgiliau cenedlaethol, mapio anghenion economi Cymru ar gyfer y dyfodol a chyfateb hyn â buddsoddiad mewn strategaeth ar gyfer sgiliau a hyfforddiant; a
d) adolygu ac adnewyddu'r Warant Pobl Ifanc, gan sicrhau bod gan bob person ifanc fynediad gwirioneddol at waith, hyfforddiant neu gyfleoedd gwerthfawr ar gyfer datblygu sgiliau.
Amendment 3—Heledd Fychan
Add as a new point at end of motion:
Further calls on the Welsh Government to:
a) follow the OECD's recommendation to establish an arm's length agency to promote economic development;
b) adopt new and effective targets to drive sustainable economic development in Wales;
c) implement a national skills audit, mapping the needs of the Welsh economy for the future and matching them with investment in a strategy for skills and training; and
d) review and renew the Young Person's Guarantee, ensuring that all young people have genuine access to work, training or valuable opportunities for skills development.
Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.
Amendments 2 and 3 moved.
Diolch, Dirprwy Lywydd, and I move the amendments in the name of Heledd Fychan. I can't promise to use as many puns as the Conservative spokesperson, but the figures do tell a story, and that's a story that isn't just told by members of the opposition but is told by many economists outside of this building, and the story isn't a good one. Wales does have some of the worst employment opportunities in the UK, the lowest wages, stagnating growth and poor productivity, and this isn't just an isolated issue, it's a damning trend. But what’s equally concerning is the Government’s constant attempts to brush it under the carpet and the refusal to accept that the current strategy isn’t working. Instead of addressing these issues head on, blame is shifted elsewhere. Before the general election, it was the Tories’ fault; a Cabinet Secretary recently said it’s the global economic conditions—those were present, to be fair, under the previous UK Government—and, in this specific debate, it’s not policy that is at fault, but the data available. Now, though data is not the primary issue here, I will concede that there is an issue with the availability and quality of data to measure the success of economic policy. We’ve known this for a long time. It was a point of discussion long before I was elected to this place, and it seemingly will be an issue past the next election, by the looks of things. So, on that point of data, I would welcome, from the Cabinet Secretary, a road map as to how we improve that data available to us. It's highlighted in the Government’s amendment, the Cabinet Secretary for finance has before raised the issues in relation to data, but there is nothing in the amendment outlining the next step forward, and it’s an important step.
Now, I think it’s also worth pointing out that, while the Conservatives have brought forward today’s motion, we shouldn’t forget their own track record on the UK economy. They want to talk about employment, and that’s fine, but that should also be discussed alongside wages. And the record of the previous Tory Government was that of the lowest wage growth—wage stagnation for 14 years, 900,000 children pushed into poverty, average wages just £16 a week higher in real terms than in 2010. That on its own isn’t a record to be proud of.
Now, where there is agreement on the original motion is how we support Welsh business. There needs to be a resolution on business rates, and there needs to be cross-party discussions on how we get to a place where the system is fair, because it clearly isn’t fair at this current moment in time. Yes, there needs to be investment in all parts of Wales, which will be helped by the reforming of the funding model and the return of decision-making powers over post-Brexit funding to the Senedd, which is what our amendment 2 seeks to address.
And finally, I draw Members’ attention to amendment 3. We would follow the OECD’s recommendation to establish an economic development agency—a return of the Welsh Development Agency—that would focus on growing Welsh business and creating a funding and advice landscape that is easy to understand, navigate and set economic development targets to reflect what is important to Government when it comes to economic growth. Growth for growth’s sake is of no use, but growth to resolve a specific problem, like eradicating child poverty, for example, does make sense.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliannau yn enw Heledd Fychan. Ni allaf addo defnyddio cymaint o fwyseiriau â llefarydd y Ceidwadwyr, ond mae'r ffigurau'n adrodd stori, ac mae honno'n stori sy'n cael ei hadrodd nid yn unig gan aelodau'r wrthblaid ond gan lawer o economegwyr y tu allan i'r adeilad hwn, ac nid yw'r stori'n un dda. Cymru sydd â rhai o'r cyfleoedd cyflogaeth gwaethaf yn y DU, y cyflogau isaf, diffyg twf a chynhyrchiant gwael, ac nid mater ynysig yn unig yw hyn, mae'n duedd ddamniol. Ond yr hyn sydd yr un mor bryderus yw ymdrechion cyson y Llywodraeth i'w wthio o'r neilltu a gwrthod derbyn nad yw'r strategaeth bresennol yn gweithio. Yn hytrach na mynd i'r afael â'r materion hyn yn uniongyrchol, caiff y bai ei symud i rywle arall. Cyn yr etholiad cyffredinol, bai'r Torïaid ydoedd; dywedodd Ysgrifennydd Cabinet yn ddiweddar mai amodau economaidd byd-eang sydd ar fai—roedd y rheini'n bresennol, a bod yn deg, o dan Lywodraeth flaenorol y DU—ac yn y ddadl benodol hon, nid polisi sydd ar fai, ond y data sydd ar gael. Nawr, er nad data yw'r prif fater dan sylw, rwy'n cyfaddef bod problem gydag argaeledd ac ansawdd data i fesur llwyddiant polisi economaidd. Fe wyddom hyn ers amser maith. Roedd yn bwynt trafod ymhell cyn imi gael fy ethol i'r lle hwn, ac mae'n ymddangos y bydd yn fater sy'n codi y tu hwnt i'r etholiad nesaf. Felly, ar fater data, byddwn yn croesawu cynllun gan Ysgrifennydd y Cabinet i ddangos sut yr awn ati i wella'r data sydd ar gael i ni. Mae wedi cael sylw yng ngwelliant y Llywodraeth, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid wedi codi'r materion sy'n gysylltiedig â data o'r blaen, ond nid oes dim yn y gwelliant i amlinellu'r cam nesaf ymlaen, ac mae'n gam pwysig.
Nawr, er mai'r Ceidwadwyr sydd wedi cyflwyno'r cynnig heddiw, rwy'n credu ei bod hefyd yn werth nodi na ddylem anghofio eu hanes hwy gydag economi'r DU. Maent eisiau siarad am gyflogaeth, ac mae hynny'n iawn, ond dylid trafod hynny ochr yn ochr â chyflogau. A hanes y Llywodraeth Dorïaidd flaenorol oedd y twf cyflogau isaf—marweiddio cyflogau am 14 mlynedd, 900,000 o blant wedi eu gwthio i fyw mewn tlodi, cyflogau cyfartalog nad oedd ond £16 yr wythnos yn uwch mewn termau real nag yn 2010. Nid yw hynny ynddo'i hun yn hanes i fod yn falch ohono.
Nawr, ceir cytundeb ar y cynnig gwreiddiol o ran y ffordd y cefnogwn fusnesau Cymru. Mae angen datrys ardrethi busnes, ac mae angen cynnal trafodaethau trawsbleidiol ar sut y mae cyrraedd man lle mae'r system yn deg, oherwydd yn amlwg nid yw'n deg ar hyn o bryd. Oes, mae angen buddsoddi ym mhob rhan o Gymru, a chaiff hynny ei helpu drwy ddiwygio'r model ariannu a dychwelyd pwerau gwneud penderfyniadau dros gyllid ar ôl Brexit i'r Senedd, sef yr hyn y mae ein gwelliant 2 yn mynd i'r afael ag ef.
Ac yn olaf, rwy'n tynnu sylw'r Aelodau at welliant 3. Byddem yn dilyn argymhelliad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i sefydlu asiantaeth datblygu economaidd—adfer Awdurdod Datblygu Cymru—a fyddai'n canolbwyntio ar dyfu busnesau Cymru a chreu tirwedd ariannu a chyngor sy'n hawdd ei deall a'i llywio, a gosod targedau datblygu economaidd i adlewyrchu'r hyn sy'n bwysig i'r Llywodraeth ar gyfer twf economaidd. Nid yw twf er mwyn twf o unrhyw ddefnydd, ond mae twf i ddatrys problem benodol, fel dileu tlodi plant, er enghraifft, yn gwneud synnwyr.
It’s great to be able to contribute to this debate today, which highlights the unfortunate and devastating decline we’ve witnessed in our economic outputs since Labour gained power in Wales. Twenty-five years of this tired Government. They refer to themselves as progressive, but yet are seemingly regressive when it comes to the economy. We’ve been left in a situation by Labour where we have the highest economic inactivity, the highest unemployment rate and the smallest pay packets of any UK nation. They’re, quite frankly, shocking statistics that represent a continued failure from the Welsh Labour Government to kick-start growth, opportunity and investment into the Welsh economy, and, as a result, the people of Wales are, and continue to be, let down.
But they’re not just a list of statistics being complacently thrown around the Chamber today; they represent the job opportunities of people right across Wales, in every constituency, the job opportunities of the next generation, and the ability for young people to grow up, study and gain employment in Wales in the industries of today and the industries of tomorrow. To put it simply, Dirprwy Lywydd, the entire economic prosperity of our nation rests upon these frightening figures, which, at present, represent an extremely scary trajectory, should our direction not change as a matter of urgency.
If there’s anything the economic track record of consecutive Welsh Labour Governments have proven it’s that too much bureaucracy stifles growth, and that businesses should be given the tools and the climate they need to invest and grow, not micromanaged and supertaxed by this Government, which, as we’ve heard before from Labour benches, doesn’t even know what it’s doing on the economy.
Now, just today, Dirprwy Lywydd, Welsh Labour’s friends down the M4 proved yet again that it was a party-wide trait not to be able to manage the economy, when the Chancellor had to virtually start from scratch when setting out some refreshed plans just six months in, as she’s already talked the economy down so far that it has already flatlined, and even shrunk in September and October, following Labour’s acquisition of power in Westminster just last year. And in addition, Dirprwy Lywydd, we'll have already another statement from the Chancellor now in March on kick-starting growth yet again. It seems that this Chancellor is so desperate to see growth, but is actively putting policies in place that prevent it.
Basic economics tells you that higher taxes take away from people's disposable incomes, naturally reducing spending, which in turn slows economic growth, and, if the Chancellor hadn't put those growth-stifling policies in place in the first instance, we wouldn't be in the position we are today, where Governments are making statements about their plan to restart and refresh and re-kick-start growth six months in. They'd have the confidence of the public and the economy and businesses just to get on with it.
As I said before, job opportunities and incomes and all those opportunities linked to these factors continue to hang in the balance, with the Welsh Labour Government doing very little to help. That's why our motion today calls on this Welsh Labour Government to take four simple steps that would have a hugely beneficial economic impact for the people of Wales: reinstating business rates relief up to 75 per cent from the current 40 per cent for the hospitality, retail and leisure sectors; abolishing the business rates tax for small businesses; levelling up the whole of Wales with a fairly distributed, adequate level of investment across the country; and step 4 is, if they can't do it, Llywydd, we will.
These are steps with the ability to open up Wales for investment, drive growth and provide job security for people across Wales, keeping home-grown talent here. We're living in unstable times. People understandably are nervous about the cost of living and rising bills, and now business owners are having further tax hikes to contend with, following national insurance increases by the UK Labour Party. So, I encourage you, everybody in this Chamber, and those watching I'm sure, to support small businesses by giving them the opportunity for the investment injection that they so deserve, supporting people across Wales with subsequent job creation, supporting people's pay packets, supporting hospitality, supporting our leisure, supporting our retail sectors. And if UK Labour cannot be anything other than negative, when it comes to talking down our economy, let's step away from that pessimistic rhetoric and make Wales a positive place for investment and prosperity, and let's open up business in Wales. That's why we've put this motion forward today, and that's why I urge all Members to support it.
Mae'n wych gallu cyfrannu at y ddadl hon heddiw, sy'n tynnu sylw at y dirywiad anffodus a dinistriol a welsom yn ein hallbynnau economaidd ers i Lafur ennill grym yng Nghymru. Pum mlynedd ar hugain o'r Llywodraeth flinedig hon. Maent yn cyfeirio atynt eu hunain fel rhai blaengar, ond eto mae'n ymddangos eu bod yn mynd tuag yn ôl mewn perthynas â'r economi. Rydym wedi cael ein gadael mewn sefyllfa gan Lafur lle mae gennym yr anweithgarwch economaidd uchaf, y gyfradd ddiweithdra uchaf a'r pecyn cyflog lleiaf yn unrhyw un o wledydd y DU. Maent yn ystadegau brawychus sy'n arwydd o fethiant parhaus Llywodraeth Lafur Cymru i hybu twf, cyfle a buddsoddiad i economi Cymru, ac o ganlyniad, mae pobl Cymru yn parhau i gael cam.
Ond nid dim ond rhestr o ystadegau i'w taflu o amgylch y Siambr heddiw ydynt; maent yn gyfleoedd swyddi i bobl ledled Cymru, ym mhob etholaeth, cyfleoedd gwaith y genhedlaeth nesaf, a'r gallu i bobl ifanc dyfu, astudio a chael gwaith yng Nghymru yn niwydiannau heddiw a diwydiannau yfory. I'w roi'n syml, Ddirprwy Lywydd, mae holl ffyniant economaidd ein cenedl yn dibynnu ar y ffigurau brawychus hyn, sydd, ar hyn o bryd, ar drywydd brawychus iawn, os na fydd ein cyfeiriad yn newid ar frys.
Un peth y mae hanes economaidd Llywodraethau Llafur Cymru olynol wedi ei brofi yw bod gormod o fiwrocratiaeth yn mygu twf, ac y dylai busnesau gael yr offer a'r hinsawdd sydd ei angen arnynt i fuddsoddi a thyfu, nid cael eu microreoli a'u trethu fwy nag unwaith gan y Llywodraeth hon, nad yw'n gwybod beth y mae'n ei wneud ar yr economi, fel y clywsom o'r blaen oddi ar y meinciau Llafur.
Nawr, heddiw ddiwethaf, Ddirprwy Lywydd, profodd cyfeillion Llafur Cymru ar ben arall yr M4 unwaith eto mai nodwedd ar draws y blaid yw methu rheoli'r economi, pan fu'n rhaid i'r Canghellor ddechrau o'r dechrau i bob pwrpas a nodi cynlluniau newydd chwe mis yn unig ar ôl iddynt ddod i rym, gan ei bod eisoes wedi lladd ar yr economi i'r fath raddau nes ei bod eisoes wedi gwastatáu, a hyd yn oed wedi crebachu ym mis Medi a Hydref, wedi i Lafur ddod i rym yn San Steffan y llynedd. Ac yn ogystal, Ddirprwy Lywydd, fe gawn ddatganiad arall gan y Canghellor nawr ym mis Mawrth ar ysgogi twf unwaith eto. Mae'n ymddangos bod y Canghellor mor daer i weld twf, ond yn rhoi polisïau ar waith sy'n ei atal.
Mae economeg sylfaenol yn dweud wrthych fod trethi uwch yn tynnu oddi ar incwm gwario pobl, gan leihau gwariant yn naturiol, sydd yn ei dro yn arafu twf economaidd, a phe na bai'r Canghellor wedi rhoi polisïau sy'n mygu twf ar waith yn y lle cyntaf, ni fyddem yn y sefyllfa rydym ynddi heddiw, lle mae Llywodraethau'n gwneud datganiadau am eu cynllun i ailgychwyn ac adnewyddu ac ailddechrau twf chwe mis ers dod i rym. Byddai ganddynt hyder y cyhoedd a'r economi a busnesau i fwrw ati.
Fel y dywedais o'r blaen, mae cyfleoedd swyddi ac incymau a'r holl gyfleoedd sy'n gysylltiedig â'r ffactorau hyn yn parhau i fod yn y fantol, gyda Llywodraeth Lafur Cymru yn gwneud fawr ddim i helpu. Dyna pam y mae ein cynnig heddiw yn galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i roi pedwar cam syml ar waith a fyddai'n cael effaith economaidd hynod fuddiol i bobl Cymru: adfer rhyddhad ardrethi busnes i 75 y cant o'r 40 y cant presennol ar gyfer y sector lletygarwch, manwerthu a hamdden; cael gwared ar ardrethi busnes i fusnesau bach; codi'r gwastad i Gymru gyfan gyda lefelau digonol o fuddsoddiad wedi'u dosbarthu'n deg ar draws y wlad; a cham 4, Lywydd, yw os na allant ei wneud, yna fe'i gwnawn ein hunain.
Mae'r rhain yn gamau sydd â gallu i agor Cymru ar gyfer buddsoddiad, ysgogi twf a darparu sicrwydd swyddi i bobl ledled Cymru, gan gadw talent Cymreig yma. Rydym yn byw mewn cyfnod ansicr. Mae pobl yn ddealladwy yn nerfus ynghylch costau byw a biliau cynyddol, a nawr mae perchnogion busnesau'n wynebu codiadau treth pellach, yn dilyn cynnydd i yswiriant gwladol gan Blaid Lafur y DU. Felly, rwy'n eich annog, bawb yn y Siambr hon, a'r rhai sy'n gwylio rwy'n siŵr, i gefnogi busnesau bach trwy roi cyfle iddynt gael y chwistrelliad o fuddsoddiad y maent yn ei haeddu cymaint, i gefnogi pobl ledled Cymru i greu swyddi yn sgil hynny, i gefnogi pecynnau cyflog pobl, cefnogi ein sectorau lletygarwch, hamdden a manwerthu. Ac os na all Llafur y DU fod yn ddim byd heblaw negyddol, wrth ladd ar ein heconomi, gadewch i ni gamu'n ôl o'r rhethreg besimistaidd honno a gwneud Cymru'n lle cadarnhaol ar gyfer buddsoddiad a ffyniant, a gadewch inni agor Cymru i fusnes. Dyna pam ein bod wedi cyflwyno'r cynnig hwn heddiw, a dyna pam rwy'n annog pob Aelod i'w gefnogi.
Well, this is marching to the sound of gunfire, isn't it? The Chamber is packed with Tories who are talking—. They're the ones talking down the economy. Everything that was said was entirely negative. In spite of Tom Giffard saying that it's Labour talking down the economy, it's the Conservatives who are doing so for political advantage. Let's just remember this: 2010—[Interruption.]—. If you're all going to heckle me at once I can't hear you.
Wel, dyma beth yw gorymdeithio i sŵn y gynau, onid e? Mae'r Siambr yn llawn Torïaid sy'n siarad—. Hwy sy'n lladd ar yr economi. Roedd popeth a ddywedwyd yn gwbl negyddol. Er i Tom Giffard ddweud mai Llafur sy'n lladd ar yr economi, y Ceidwadwyr sy'n gwneud hynny er mantais wleidyddol. Gadewch inni gofio hyn: 2010—[Torri ar draws.]—. Os ydych chi i gyd yn mynd i fy heclo ar yr un pryd, ni allaf eich clywed.
I want to hear the contribution from the Member, so if you'll allow me to do so without any heckling, please, I'll be very grateful.
Rwyf am glywed cyfraniad yr Aelod, felly hoffwn i chi adael imi wneud hynny heb unrhyw heclo, os gwelwch yn dda.
I don't mind a bit of heckling, Dirprwy Lywydd. I don't mind. It was David Cameron and George Osborne in 2010—. And Tom Giffard mentions basic economics; well, you've got to pick a side in this, because, for every problem, there's a different policy solution. My side is basic Keynesian economics, and in 2010 the Keynesian lesson was you invest when the economy's underperforming, you invest to build and grow, which is where we are now with the UK Labour Government. What David Cameron and George Osborne did in 2010, with the support of the Liberal Democrats, was the opposite. That's when austerity began and that's when our continual decline, that led through Brexit, led through Theresa May to Liz Truss and all those disasters—. That was followed through from those early days of David Cameron.
Nid wyf yn malio am ychydig o heclo, Ddirprwy Lywydd. Nid wyf yn malio. David Cameron a George Osborne yn 2010—. Ac mae Tom Giffard yn sôn am economeg sylfaenol; wel, mae'n rhaid ichi ddewis ochr ar hyn, oherwydd, am bob problem, mae yna ateb polisi gwahanol. Fy ochr i yw economeg sylfaenol Keynesaidd, ac yn 2010 y wers Keynesaidd oedd eich bod chi'n buddsoddi pan fo'r economi'n tanberfformio, rydych chi'n buddsoddi i adeiladu a thyfu, a dyna lle rydym ni nawr gyda Llywodraeth Lafur y DU. Yr hyn a wnaeth David Cameron a George Osborne yn 2010, gyda chefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol, oedd y gwrthwyneb. Dyna pryd y dechreuodd cyni a dyna pryd y gwnaeth ein dirywiad parhaus, a arweiniodd drwy Brexit, drwy Theresa May at Liz Truss a'r holl drychinebau hynny—. Roedd hynny'n dilyn ymlaen o ddyddiau cynnar David Cameron.
Would you not acknowledge that Alistair Darling, who has, unfortunately, now passed away, stated before his last budget that austerity had already arrived? That was inherited, and the Keynesian model you refer to requires Governments to reduce spending as a proportion of GDP when an economy is growing in order to increase spending as a proportion of GDP when an economy is slowing. They broke that rule, and the consequence was the austerity that Mr Darling had already acknowledged.
Oni fyddech chi'n cydnabod bod Alistair Darling, sydd bellach wedi ein gadael, wedi datgan cyn ei gyllideb olaf fod cyni eisoes wedi cyrraedd? Cafodd hynny ei etifeddu, ac mae'r model Keynesaidd y cyfeiriwch chi ato yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraethau leihau gwariant fel cyfran o gynnyrch domestig gros pan fo economi'n tyfu er mwyn cynyddu gwariant fel cyfran o gynnyrch domestig gros pan fo economi'n arafu. Fe wnaethant dorri'r rheol honno, a'r canlyniad oedd y cyni yr oedd Mr Darling eisoes wedi'i gydnabod.
This reminds me of my university days: I'd say something, and then, 'No, actually, Hefin, you’re wrong.' Well, the point was the economic investment that happened during the later stages of the UK Labour Government was exactly that, and there weren't, under any circumstances, the same level of plans to introduce austerity in the way that it was done by David Cameron and George Osborne. It was introduced in a way that was devastating to communities in Wales, and let's not forget the public sector—[Interruption.]—the public sector in Wales is by far the biggest employer in Wales than in the rest of the UK, and that's where the devastating impact happened. I remember I was first elected to Caerphilly County Borough Council in 2007. By 2010, under the Conservative Government, that's when we first started talking about cuts and we've been talking about cuts ever since. But I think what the Welsh Labour Government's amendment does is address some of those misconceptions in the Conservative motion, so I'm really pleased to vote for it. I actually liked some of the things that Luke Fletcher said as well, although perhaps different solutions to the ones that the Cabinet Secretary is going to take.
Let me give you an example of an optimistic view from my constituency. Transcend Packaging at Dyffryn Business Park produce straws for global chains such as McDonalds and Starbucks, and they've just reached an agreement with Tokyo-based paper producer Itochu Corporation, and the two companies will develop a range of paper- and fibre-based packing products, enabling Transcend Packaging to expand into new markets in North America and in Asia. That's a Caerphilly success story and the Welsh Government has issued a press release today identifying that small and medium-sized businesses in Wales have secured export deals worth over £320 million as a direct result of Welsh Government support since the launch of the export action plan in December 2020.
That is small business success and the trick with identifying which small businesses to work with is through those that can export, and those that can export are those that have been supported well by the Welsh Labour Government. And it's not just Japanese companies. In Tir-y-Berth in my constituency, we've got another growing company, Norgine, who make pharmaceutical products, and I visited them with Chris Evans MP a few weeks ago. And we can see the success that they're having as a growing business and employer in my constituency.
And it's not just foreign investment and small businesses that are looking successful in my constituency. The core Valleys lines are connecting communities, getting people to work in Cardiff and beyond in ways that we hadn't seen in the years leading up to the 2020s. The bus Bill, too, will start to develop those opportunities for employment.
Finally, I just want to say one thing that is very close to my heart. If we're talking about employment, we can't forget those people with additional learning needs. You talk about economic inactivity; well, I look at my little girl and think, 'One day, I'd like you to be able to have a meaningful job.' In my 'Transitions to Employment' report I said:
'The Welsh Government should review support for job coaching for those...with Additional Learning Needs who request it. With reference to the good practice developed by Engage to Change and Learning Disability Wales, an ALN job coaching strategy should be prepared, expanding the provision of specialist coaches'.
I think we need to remember that it's not just about the kind of economic growth with exports and small businesses and successful firms; it's also about looking at those employees who need the most support, and I think job coaching for those with additional learning needs is really important. So, I'd like to take that opportunity to advocate for that as well.
I could say more but I see I'm out of time, Dirprwy Lywydd, so I won't test your patience and I'll stop there.
Mae hyn yn fy atgoffa o fy nyddiau prifysgol: byddwn i'n dweud rhywbeth, ac yna, 'Na, Hefin, rydych chi'n anghywir.' Wel, y pwynt oedd mai buddsoddiad Llafur oedd y buddsoddiad economaidd a ddigwyddodd yn ystod camau diweddarach Llywodraeth Lafur y DU, ac ni chafwyd mewn unrhyw ffordd yr un lefel o gynlluniau i gyflwyno cyni yn y ffordd y cafodd ei wneud gan David Cameron a George Osborne. Fe'i cyflwynwyd mewn ffordd a oedd yn ddinistriol i gymunedau yng Nghymru, a gadewch inni beidio ag anghofio mai'r sector cyhoeddus—[Torri ar draws.]—y sector cyhoeddus yng Nghymru yw'r cyflogwr mwyaf yng Nghymru o bell ffordd o gymharu â gweddill y DU, a dyna lle digwyddodd yr effaith ddinistriol. Rwy'n cofio imi gael fy ethol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am y tro cyntaf yn 2007. Erbyn 2010, o dan y Llywodraeth Geidwadol, dyna pryd y dechreuwyd siarad am doriadau am y tro cyntaf ac rydym wedi bod yn sôn am doriadau byth ers hynny. Ond rwy'n credu mai'r hyn y mae gwelliant Llywodraeth Lafur Cymru yn ei wneud yw mynd i'r afael â rhai o'r camsyniadau yn y cynnig Ceidwadol, felly rwy'n falch iawn o bleidleisio drosto. Roeddwn yn hoffi rhai o'r pethau a ddywedodd Luke Fletcher hefyd, er eu bod efallai'n atebion gwahanol i'r rhai y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i'w rhoi.
Gadewch imi roi enghraifft o farn optimistaidd i chi o fy etholaeth. Mae Transcend Packaging ym Mharc Busnes Dyffryn yn cynhyrchu gwellt yfed i gadwyni byd-eang fel McDonalds a Starbucks, ac maent newydd ddod i gytundeb gyda'r cynhyrchydd papur o Tokyo, Itochu Corporation, a bydd y ddau gwmni yn datblygu ystod o gynhyrchion pecynnu papur a ffibr, gan alluogi Transcend Packaging i ehangu i farchnadoedd newydd yng Ngogledd America ac yn Asia. Mae honno'n stori lwyddiant yng Nghaerffili ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad i'r wasg heddiw yn nodi bod busnesau bach a chanolig yng Nghymru wedi sicrhau cytundebau allforio gwerth dros £320 miliwn o ganlyniad uniongyrchol i gymorth Llywodraeth Cymru ers lansio'r cynllun gweithredu ar allforio ym mis Rhagfyr 2020.
Llwyddiant busnesau bach yw hynny a'r gamp wrth nodi pa fusnesau bach i weithio gyda hwy yw drwy'r rhai sy'n gallu allforio, a'r rhai sy'n gallu allforio yw'r rhai sydd wedi cael cefnogaeth dda gan Lywodraeth Lafur Cymru. Ac nid cwmnïau Japaneaidd yn unig mohono. Yn Nhir-y-Berth yn fy etholaeth i, mae gennym gwmni arall sy'n tyfu, Norgine, sy'n gwneud cynhyrchion fferyllol, ac fe ymwelais â hwy gyda Chris Evans AS ychydig wythnosau yn ôl. A gallwn weld y llwyddiant y maent yn ei gael fel busnes a chyflogwr sy'n tyfu yn fy etholaeth i.
Ac nid buddsoddiad tramor a busnesau bach yn unig sy'n edrych yn llwyddiannus yn fy etholaeth i. Mae rheilffyrdd craidd y Cymoedd yn cysylltu cymunedau, yn cludo pobl i weithio yng Nghaerdydd a thu hwnt mewn ffyrdd nad oeddem wedi'u gweld yn y blynyddoedd cyn y 2020au. Bydd y Bil bysiau hefyd yn dechrau datblygu'r cyfleoedd cyflogaeth hynny.
Yn olaf, hoffwn ddweud un peth sy'n agos iawn at fy nghalon. Os ydym yn siarad am gyflogaeth, ni allwn anghofio pobl ag anghenion dysgu ychwanegol. Rydych chi'n siarad am anweithgarwch economaidd; wel, rwy'n edrych ar fy merch fach ac yn meddwl, 'Un diwrnod, hoffwn i ti allu cael swydd ystyrlon.' Yn fy adroddiad 'Pontio i Fyd Gwaith' dywedais hyn:
'Dylai Llywodraeth Cymru adolygu cymorth ar gyfer hyfforddiant mewn swydd ar gyfer y dysgwyr hynny ag Anghenion Dysgu Ychwanegol... [sy'n] gofyn am y cyfryw gymorth. Gan gyfeirio at yr arfer da a ddatblygwyd gan Engage to Change ac Anabledd Dysgu Cymru, dylid paratoi strategaeth hyfforddiant mewn swydd ar gyfer y rheini ag ADY, gan ehangu'r ddarpariaeth o hyfforddwyr arbenigol'.
Rwy'n credu bod angen inni gofio ei fod yn ymwneud â mwy na'r math o dwf economaidd gydag allforion a busnesau bach a chwmnïau llwyddiannus; mae hefyd yn ymwneud ag edrych ar weithwyr sydd angen y cymorth mwyaf, ac rwy'n credu bod hyfforddiant mewn swydd i rai ag anghenion dysgu ychwanegol yn bwysig iawn. Felly, hoffwn fanteisio ar y cyfle i hyrwyddo hynny hefyd.
Gallwn ddweud mwy ond rwy'n gweld bod fy amser ar ben, Ddirprwy Lywydd, felly nid wyf am brofi eich amynedd ac fe wnaf orffen yno.
It's very clear that the new Labour Government's damaging tax and spending policies, as well as the heavy-handed policies such as we see in the agricultural sector, will have a massive effect and are already having a massive effect on the economy in the United Kingdom, and that we're seeing the economy slipping further and further as a consequence of these. We're already seeing large businesses disinvesting and moving from the UK, and that's a very sad state of affairs.
Rachel Reeves's national insurance tax rise is a case in point. It was not just the breaking of a manifesto pledge, but it is a direct tax on business growth. This tax makes it more expensive to hire staff and will disproportionately affect small businesses across a wide range of sectors. And I'm not surprised to see businesses and their representative bodies from all sectors coming out so strongly against this, including the Road Haulage Association, farming unions, the Federation of Small Businesses, the hospitality sectors, to name a few, all of whom have raised concerns that it will suppress growth, wages and employment opportunities.
It is clear that businesses across the United Kingdom are in for a rough few years thanks to Labour's anti-business mindset, or just plain incompetence in relation to the economy more generally. For over 25 years, the successive Labour-led Governments here in Wales have been at the helm of the Welsh economy, yet time and time again we see Wales languishing at the bottom of a series of tables. As we've already heard, Wales's unemployment rate has increased for the seventh consecutive month to 5.6 per cent, the highest rate in the United Kingdom, whilst the employment rate has fallen to the lowest rate in the United Kingdom, at only 70 per cent. This is all whilst Welsh Labour wage packets continue to remain at the lowest in Great Britain.
Dirprwy Lywydd, we know that Wales is a nation of small family-run businesses, full of aspirations of growth, but the truth is that they are being held back by Labour policy at both ends of the M4, like a drag anchor around their necks. Wales currently has the highest level of business rates for small businesses in Great Britain, who have historically faced lower amounts of support than their counterparts in England. Under the UK Conservative Government, businesses in the hospitality, retail and leisure sector paid half the business rates in England than the same businesses were paying here. Now, I know that businesses operating close to the border, such as in my constituency of Monmouth, feel especially let down and feel as if they're fighting an uphill battle, while their counterparts in England receive more support.
But all is not lost, as we've already heard from Sam Kurtz, as he eloquently described, under the Welsh Conservatives, Wales would be open for business. We have a plan—several plans—to kickstart the economy and reverse a trend that successive Welsh Labour Governments have set for the last 25 years. And, as we've heard, we would strengthen business rate relief for the retail, hospitality and leisure sector, support and protect jobs, and abolish business rates for small businesses, taking practical steps to increase growth.
We also want Welsh Government to level up all of Wales, ensuring fair levels of investment for all of the country, so the whole country can thrive. Welsh Conservatives in control would be a Welsh Government that stands up for workers and businesses in Wales and ensures that we stand up to the UK Labour Government's anti-growth taxation policies, in a way that this Welsh Labour Government simply doesn't want to do. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Mae'n amlwg iawn y bydd polisïau treth a gwariant niweidiol y Llywodraeth Lafur newydd, yn ogystal â'r polisïau llawdrwm fel y gwelwn yn y sector amaethyddol, yn cael effaith enfawr, ac maent eisoes yn cael effaith enfawr ar economi'r Deyrnas Unedig, a'n bod yn gweld yr economi'n llithro ymhellach ac ymhellach o ganlyniad i'r rhain. Rydym eisoes yn gweld busnesau mawr yn dadfuddsoddi ac yn symud o'r DU, ac mae honno'n sefyllfa drist iawn.
Mae cynnydd Rachel Reeves i dreth yswiriant gwladol yn profi'r pwynt. Nid torri addewid maniffesto yn unig ydoedd, mae'n dreth uniongyrchol ar dwf busnes. Mae'r dreth hon yn ei gwneud yn ddrutach i gyflogi staff a bydd yn effeithio'n anghymesur ar fusnesau bach ar draws ystod eang o sectorau. Ac nid wyf yn synnu bod busnesau a'u cyrff cynrychioliadol o bob sector mor wrthwynebus i hyn, gan gynnwys y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd, undebau ffermio, y Ffederasiwn Busnesau Bach, y sectorau lletygarwch, i enwi ond ychydig, ac mae pob un ohonynt wedi mynegi pryderon y bydd yn cyfyngu ar dwf, cyflogau a chyfleoedd cyflogaeth.
Mae'n amlwg fod busnesau ledled y Deyrnas Unedig yn wynebu blynyddoedd garw diolch i feddylfryd gwrth-fusnes Llafur, neu ddiffyg cymhwysedd syml ar yr economi yn fwy cyffredinol. Ers dros 25 mlynedd, mae'r Llywodraethau Llafur olynol yma yng Nghymru wedi bod wrth y llyw gydag economi Cymru, ac eto dro ar ôl tro gwelwn Gymru'n dihoeni ar waelod cyfres o dablau cynghrair. Fel y clywsom eisoes, mae cyfradd ddiweithdra Cymru wedi cynyddu am y seithfed mis yn olynol i 5.6 y cant, y gyfradd uchaf yn y Deyrnas Unedig, tra bo'r gyfradd gyflogaeth wedi gostwng i'r gyfradd isaf yn y Deyrnas Unedig, ar ddim ond 70 y cant. A hyn i gyd tra bod pecynnau cyflog Llafur Cymru yn parhau i fod yn is nag unman arall ym Mhrydain.
Ddirprwy Lywydd, gwyddom fod Cymru yn genedl o fusnesau bach teuluol, yn llawn dyheadau am dwf, ond y gwir amdani yw eu bod yn cael eu dal yn ôl gan bolisi Llafur ar ddau ben yr M4, fel angor llusg am eu gyddfau. Ar hyn o bryd, gan Gymru y mae'r lefel uchaf o ardrethi busnes i fusnesau bach ym Mhrydain, ac maent yn hanesyddol wedi wynebu lefelau is o gymorth na'u cymheiriaid yn Lloegr. O dan Lywodraeth Geidwadol y DU, yn Lloegr roedd busnesau yn y sector lletygarwch, manwerthu a hamdden yn talu hanner yr ardrethi busnes a dalai'r un busnesau yma. Nawr, rwy'n gwybod bod busnesau sy'n gweithredu'n agos at y ffin, fel yn fy etholaeth i ym Mynwy, yn teimlo'n arbennig o siomedig ac yn teimlo eu bod yn ymladd brwydr na allant ei hennill, tra bo'u cymheiriaid yn Lloegr yn cael mwy o gefnogaeth.
Ond nid yw popeth wedi ei golli, fel y clywsom eisoes gan Sam Kurtz, fel y disgrifiodd yn huawdl, o dan y Ceidwadwyr Cymreig, byddai Cymru ar agor i fusnes. Mae gennym gynllun—sawl cynllun—i hybu'r economi a gwrthdroi tuedd y mae Llywodraethau Llafur olynol Cymru wedi'i gosod dros y 25 mlynedd diwethaf. Ac fel y clywsom, byddem yn cryfhau rhyddhad ardrethi busnes i'r sector manwerthu, lletygarwch a hamdden, yn cefnogi a diogelu swyddi, ac yn dileu ardrethi busnes i fusnesau bach, gan gymryd camau ymarferol i gynyddu twf.
Hefyd, rydym eisiau i Lywodraeth Cymru godi'r gwastad i Gymru gyfan, gan sicrhau lefelau teg o fuddsoddiad ar gyfer y wlad gyfan, fel y gall y wlad gyfan ffynnu. Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig mewn grym yn Llywodraeth Cymru sy'n sefyll dros weithwyr a busnesau yng Nghymru ac sy'n sicrhau ein bod yn gwrthsefyll polisïau trethiant gwrth-dwf Llywodraeth Lafur y DU, mewn ffordd nad yw'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru eisiau ei wneud. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Low wages, slow growth, and high unemployment, three things that, sadly, epitomise the last 26 years of Labour Government in Wales. People in Wales have been held back by an underperforming Welsh economy and by an underperforming Labour Welsh Government, a Government that has strangled our businesses with high business rates, preventing them from being able to flourish and for our economy, therefore, to reap the benefits.
Unemployment in Wales has risen by 50 per cent since Labour took power, and these latest figures show no sign of improvement. The Office for Budget Responsibility has predicted that Labour's tax increases will cost the UK 50,000 jobs and will reduce productivity and seriously hurt working people. Unemployment will not improve until both Labour Governments take bold, immediate action, and ensure that we reinstate the 75 per cent business rate relief. We need a plan, and we need to cover the costs of the national insurance increases for employers.
Not only that, but this Government is not thinking ahead, it's not planning for the future; it's failing to ensure that our future generations are being skilled for future jobs. The Government is failing to provide an array of apprenticeship opportunities, like they have over the border, often resulting in a lot of talent here moving out of Wales. This Government has failed to support our universities, as we've just seen very recently, and failed to realise the importance of them to our economy. We've not only seen 400 jobs being lost now at Cardiff University, but key courses being axed that will have an effect on the economy and jobs in Wales.
There is just no joined-up thinking. And talking about a joined-up approach, does this Government really think it's future-proofing the economy by not encouraging enough people to go into science, technology, engineering and mathematics? Is dumbing down sciences in our schools this side of the border to double science, and limiting the opportunities to take single separate sciences, really sending the right message to our young people and pushing them in the direction of future jobs? Shouldn't we even be looking at teaching coding in our schools? This Government needs to think ahead. Over 14,000 young people are currently unemployed in Wales, waiting for an opportunity, waiting for a career. We need to prepare. Are we really preparing our workforce? Do we have an industrial strategy? Do we have a good business strategy that will produce these opportunities that we are crying out for? We need to be competitive, not just within the UK, which we are failing at miserably, but we need to be competitive with the rest of the world.
And talking of the rest of the world, the Welsh Government have satellite offices now, from North America to the middle east, and 21 international offices, I believe. At what cost? Whatever it is, it's wasted money if we don't have a coherent, ambitious strategy to go alongside them. We need to be attracting inward investment, making Wales open for business, as has been said, and the place to do business. This will in turn create much-needed jobs. Unfortunately, I know many big businessmen and women who are put off investing in Wales due to the atrocious infrastructure that we have in Wales, particularly as you enter Wales via the M4, where the decision to not go ahead with the M4 relief road effectively put up 'closed for business' signs across our border, signs to the international business community and for inward investment, which was crushed.
We have to manage to attract some good industry into Wales, and we have managed some. The compound semiconductor industry, for one, is brilliant, which I had more information on recently on a visit to Compound Semiconductor Applications Catapult in Newport. There is so much potential and opportunity there about what's happening in this industry, and how we are leaders in some areas in the world, but are we really making the most of that, not just for my region, but for the whole of Wales?
Free ports: another success story for Wales, but sadly, again, not of your doing. This Government's lacklustre approach to this $1 billion opportunity just sums up your approach more generally to jumping on these fantastic opportunities that will boost the whole economy of Wales, and again provide those much-needed job opportunities. Anglesey free port is now up and running, along with the Celtic free port. Seventeen thousand jobs have been created, and billions of pounds of inward investment will follow, and we need more of this: an initiative achieved thanks to the last UK Conservative Government.
And now, Labour have landed us with the increases in national insurance contributions for employers, which are crippling for many. This will inevitably result in more job losses, and already has, and businesses closing. An economic survey conducted by Chambers Wales has shown that 24 per cent of businesses are predicted to cut staff because of recent Labour policies. It's a sad state of affairs. And rather than helping, Labour Governments at both ends of the M4 keep exacerbating the problem due a team of economic illiteracy between Rachel from accounts at one end of the M4, and an equally incompetent devolved Government closer to home. Wales has the worst economic inactivity rate of British nations, sitting at 25 per cent compared to the rest of the UK.
Cyflogau isel, twf araf, a diweithdra uchel, tri pheth sydd, yn anffodus, yn crynhoi’r 26 mlynedd ddiwethaf o Lywodraeth Lafur yng Nghymru. Mae pobl yng Nghymru wedi cael eu dal yn ôl gan economi Cymru sy’n tanberfformio a chan Lywodraeth Lafur Cymru sy’n tanberfformio, Llywodraeth sydd wedi tagu ein busnesau ag ardrethi busnes uchel, gan eu hatal rhag gallu ffynnu ac atal ein heconomi, felly, rhag elwa ar y manteision.
Mae diweithdra yng Nghymru wedi codi 50 y cant ers i Lafur ddod i rym, ac nid yw’r ffigurau diweddaraf hyn yn dangos unrhyw arwydd o wella. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi rhagweld y bydd codiadau treth Llafur yn costio 50,000 o swyddi i'r DU ac yn lleihau cynhyrchiant ac yn brifo pobl sy'n gweithio. Ni fydd diweithdra’n gwella hyd nes y bydd y ddwy Lywodraeth Lafur yn cymryd camau beiddgar i sicrhau ein bod yn adfer y rhyddhad ardrethi busnes i 75 y cant. Mae angen cynllun arnom, ac mae angen inni dalu am y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr.
Nid yn unig hynny, ond nid yw’r Llywodraeth hon yn meddwl ymlaen, nid yw’n cynllunio ar gyfer y dyfodol; mae'n methu sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn meithrin sgiliau ar gyfer swyddi'r dyfodol. Nid yw'r Llywodraeth yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd prentisiaeth, fel sydd ganddynt dros y ffin, gan arwain yn aml at lawer o dalent yma yn symud allan o Gymru. Mae’r Llywodraeth hon wedi methu cefnogi ein prifysgolion, fel rydym newydd ei weld yn ddiweddar iawn, ac wedi methu cydnabod eu pwysigrwydd i’n heconomi. Nid yn unig ein bod wedi gweld 400 o swyddi'n cael eu colli nawr ym Mhrifysgol Caerdydd, ond cyrsiau allweddol yn cael eu torri a fydd yn cael effaith ar yr economi a swyddi yng Nghymru.
Nid oes unrhyw feddwl cydgysylltiedig. A siarad am ddull cydgysylltiedig, a yw'r Llywodraeth hon o ddifrif yn credu ei bod yn diogelu'r economi at y dyfodol drwy beidio ag annog digon o bobl i fynd i faes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg? A yw symleiddio gwyddoniaeth yn ein hysgolion yr ochr hon i’r ffin yn wyddoniaeth ddwbl, a chyfyngu ar y cyfleoedd i astudio pynciau gwyddonol unigol ar wahân, yn cyfleu'r neges gywir i’n pobl ifanc a’u gwthio i gyfeiriad swyddi’r dyfodol? Oni ddylem ystyried addysgu codio yn ein hysgolion? Mae angen i’r Llywodraeth hon feddwl ymlaen. Mae dros 14,000 o bobl ifanc yn ddi-waith yng Nghymru ar hyn o bryd, yn aros am gyfle, yn aros am yrfa. Mae angen inni baratoi. A ydym o ddifrif yn paratoi ein gweithlu? A oes gennym strategaeth ddiwydiannol? A oes gennym strategaeth fusnes dda a fydd yn cynhyrchu’r cyfleoedd hyn yr ydym yn crefu amdanynt? Mae angen inni fod yn gystadleuol, nid yn unig o fewn y DU, lle rydym yn methu'n llwyr â gwneud hynny ar hyn o bryd, mae angen inni fod yn gystadleuol yng ngweddill y byd.
A sôn am weddill y byd, mae gan Lywodraeth Cymru swyddfeydd lloeren bellach, o Ogledd America i’r dwyrain canol, a 21 o swyddfeydd rhyngwladol, rwy'n credu. Ar ba gost? Beth bynnag yw'r gost, mae’n arian sy’n cael ei wastraffu os nad oes gennym strategaeth gydlynol, uchelgeisiol i gyd-fynd â hynny. Mae angen inni fod yn denu mewnfuddsoddiad, yn sicrhau bod Cymru yn agored i fusnes, fel y dywedwyd, ac yn lle i wneud busnes. Bydd hyn yn ei dro yn creu swyddi mawr eu hangen. Yn anffodus, rwy’n adnabod llawer o ddynion a menywod busnes o bwys sy’n oedi cyn buddsoddi yng Nghymru oherwydd y seilwaith erchyll sydd gennym yng Nghymru, yn enwedig wrth ichi ddod i mewn i Gymru ar hyd yr M4, lle mae’r penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â ffordd liniaru’r M4 i bob pwrpas yn gosod arwyddion 'ar gau i fusnes' ar ein ffin, arwyddion i'r gymuned fusnes ryngwladol ac i fewnfuddsoddiad, sy'n chwilfriw.
Mae’n rhaid inni allu denu diwydiannau da i Gymru, ac rydym wedi cael rhywfaint o lwyddiant. Mae’r diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd, er enghraifft, yn wych, a chefais fwy o wybodaeth amdano'n ddiweddar ar ymweliad â Compound Semiconductor Applications Catapult yng Nghasnewydd. Mae cymaint o botensial a chyfle yno o ran yr hyn sy’n digwydd yn y diwydiant hwn, a sut rydym yn arweinwyr byd-eang mewn rhai meysydd, ond a ydym o ddifrif yn gwneud y gorau o hynny, nid yn unig ar gyfer fy rhanbarth i, ond ar gyfer Cymru gyfan?
Porthladdoedd rhydd: llwyddiant arall i Gymru, ond yn anffodus, unwaith eto, nid o’ch gwaith chi. Mae agwedd ddilewyrch y Llywodraeth hon at y cyfle gwerth $1 biliwn hwn yn crynhoi eich ymagwedd yn fwy cyffredinol tuag at achub ar y cyfleoedd gwych hyn a fydd yn rhoi hwb i economi Cymru gyfan, ac unwaith eto, yn darparu'r cyfleoedd swyddi mawr eu hangen hynny. Mae porthladd rhydd Ynys Môn bellach yn weithredol, ynghyd â'r porthladd rhydd Celtaidd. Mae 17,000 o swyddi wedi’u creu, a bydd biliynau o bunnoedd o fewnfuddsoddiad yn dilyn, ac mae angen mwy o hyn arnom: menter a gyflawnwyd diolch i Lywodraeth Geidwadol ddiwethaf y DU.
A nawr, mae Llafur wedi rhoi’r cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr i ni, sy’n hynod niweidiol i lawer. Bydd hyn yn anochel yn arwain, ac mae eisoes wedi arwain, at golli mwy o swyddi a busnesau'n cau. Mae arolwg economaidd a gynhaliwyd gan Siambrau Cymru wedi dangos y rhagwelir y bydd 24 y cant o fusnesau'n torri niferoedd staff oherwydd polisïau diweddar Llafur. Mae'n sefyllfa drist. Ac yn hytrach na helpu, mae Llywodraethau Llafur ar ddau ben yr M4 yn parhau i waethygu’r broblem oherwydd anllythrennedd economaidd Rachel o'r adran gyfrifon ar un pen i’r M4, a Llywodraeth ddatganoledig yr un mor anghymwys yn nes at adref. Gan Gymru y mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd waethaf yng ngwledydd Prydain, sef 25 y cant o gymharu â gweddill y DU.
You need to conclude now, please.
Mae angen ichi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda.
The unemployment rate for disabled people in Wales is double that of an able-bodied person. I just want to say to the Member for Caerphilly, I completely concur with what you said, that we need to look into opening up those opportunities, making them more accessible, making interviews fairer et cetera for disabled people, so that we bring them into the economy.
It's time to face facts, Deputy Presiding Officer: Labour's socialist policies are keeping Wales poor. Wales has the talent. It's time for a Welsh Conservative Government to get Wales moving again, to fix Wales, provide those job opportunities—
Mae’r gyfradd ddiweithdra ar gyfer pobl anabl yng Nghymru ddwywaith yn uwch na'r gyfradd ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl. Hoffwn ddweud wrth yr Aelod dros Gaerffili fy mod yn cytuno’n llwyr â’r hyn a ddywedoch chi, fod angen inni ystyried agor y cyfleoedd hynny, eu gwneud yn fwy hygyrch, gwneud cyfweliadau'n decach ac yn y blaen i bobl anabl, er mwyn inni eu cynnwys yn yr economi.
Mae’n bryd wynebu'r ffeithiau, Ddirprwy Lywydd: mae polisïau sosialaidd Llafur yn cadw Cymru’n dlawd. Mae'r dalent gan Gymru. Mae'n bryd i Lywodraeth Geidwadol Cymru wneud i Gymru symud eto, trwsio Cymru, darparu'r cyfleoedd swyddi hynny—
You need to conclude.
Mae angen ichi ddirwyn i ben.
—and the Welsh Conservative Government would make us, once again, open for business. I urge you to support our motion today.
—a byddai Llywodraeth Geidwadol Cymru yn ein gwneud ni, unwaith eto, yn agored i fusnes. Rwy'n eich annog i gefnogi ein cynnig heddiw.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans.
I call on the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning, Rebecca Evans.

Well, I thank the Welsh Conservatives for the opportunity this afternoon to remind the Senedd of the absolutely dire situation that the UK Labour Government faced on coming into power: the highest level of debt since the 1960s, and a £22 billion black hole in public finances, all covered up by the Conservative Party, and all of which contributed to the destabilisation of our economy here in Wales.
I also want to take this opportunity to remind colleagues of the importance of using data and statistics responsibly. The issues with the reliability of the Labour force survey data in relation to rates of employment, unemployment and economic inactivity aren't a secret. Our chief statistician has blogged about them; I've spoken about them in this Chamber before; and I even issued a statement on 14 November. But you don't have to take it from the Welsh Government: the Office for National Statistics themselves have made statements being crystal clear that the ONS no longer designates the data referred to by the Conservatives this afternoon as accredited official statistics. They're now official statistics in development until further review, with caution recommended when interpreting the data.
But, other LFS users, including the Bank of England and the Office for Budget Responsibility, they've also expressed concerns about the quality of the UK level estimates, and a recent Resolution Foundation report highlighted the fact that we currently don't actually know what the UK employment rate is due to the problems with the Labour force survey, and they estimate that the national inactivity rate is likely to be materially overestimated.
So, I'm not sure how much clearer the Welsh Conservatives would like the Welsh Government to be, or the ONS, or the Bank of England, or the Resolution Foundation, because I think that we've recognised now that the Welsh Conservatives either aren't paying attention, or they're deliberately misleading people, and either way it's not good, but perhaps they can let us know which it is when they sum up in this debate.
The best way of understanding the performance of the Welsh labour market is to consider the longer term trends across a basket of indicators, and these include sources such as HMRC real-time information on paid employees, data on workforce jobs, the claimant count, and the annual population survey, which the Welsh Government pays to boost, so that we have more accurate Welsh data.
So, evidence from these data sources does suggest that the labour market in Wales has followed similar trends to the UK as a whole since the pandemic. In fact, this wider basket of data shows that Welsh workers have more money in their pay packets than many of their equivalents in the rest of the UK. In 2024, median gross weekly earnings for full-time adults working in Wales were higher than the north-east of England, the east midlands, Northern Ireland, and Yorkshire and the Humber. And in December, the proportion of the workforce claiming benefits, mainly for reasons of unemployment, was lower in Wales than the UK rate.
So, given the challenges that I've described, and in answer to Luke Fletcher’s question, the ONS is introducing a new transformed labour force survey, which they plan to become the main data source for information on the labour market in the UK and Wales in the future. And the ONS is continuing to test and design improvements for that, and they've indicated that they will say more on progress in the spring. I have met with the UK chief statistician on this point, and our statisticians here in the Welsh Government are fully engaged in that work.
So, I'm focusing on delivering the First Minister's priority area of delivering good jobs for the people of Wales, and I'm busy securing inward investment to increase the number of quality jobs here in Wales, which will, in turn, create strong regional economies with greater opportunities for small businesses to thrive and to grow. Already, thanks to Welsh Government action, we've secured a £1 billion investment into the Eren group’s Shotton paper mill in Deeside, £45 million into Jayplas in Swansea, and £50 million into Vishay’s semiconductor plant in Newport.
We're providing support to businesses and employers through our non-domestic rates relief. We're providing £134 million of extra support this year, and £85 million additional next year. That, of course, is an addition to our permanent reliefs, which are worth more than £250 million annually. So, that's more than £0.33 billion each year being spent by the Welsh Government on helping businesses with their bills.
We're also actively collaborating with the UK Labour Government via the Department for Work and Pensions on one of their inactivity trailblazers. Our officials are already working with their opposite numbers in the DWP and the Wales Office to develop options for the scheme's implementation here in Wales. And with my colleague the Minister for Culture, Skills and Social Partnership, we're also ensuring that our workforce has the right skills to meet the needs of businesses and to provide people with quality, rewarding jobs.
Wel, diolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am y cyfle y prynhawn yma i atgoffa’r Senedd o’r sefyllfa gwbl enbyd a wynebodd Llywodraeth Lafur y DU wrth iddi ddod i rym: y lefel uchaf o ddyled ers y 1960au, a thwll du o £22 biliwn yn y cyllid cyhoeddus, a hyn oll wedi'i gelu gan y Blaid Geidwadol, ac mae'r holl ffactorau hynny wedi cyfrannu at ansefydlogi ein heconomi yma yng Nghymru.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn hefyd i atgoffa fy nghyd-Aelodau o bwysigrwydd defnyddio data ac ystadegau’n gyfrifol. Nid yw'r problemau gyda dibynadwyedd data'r arolwg o'r llafurlu mewn perthynas â chyfraddau cyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd yn gyfrinach. Mae ein prif ystadegydd wedi blogio amdanynt; rwyf wedi sôn amdanynt yn y Siambr hon o'r blaen; a chyhoeddais ddatganiad, hyd yn oed, ar 14 Tachwedd. Ond nid oes raid ichi gymryd gair Llywodraeth Cymru: mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol eu hunain wedi gwneud datganiadau sy’n gwbl glir nad ydynt bellach yn ystyried y data y cyfeiriwyd ato gan y Ceidwadwyr y prynhawn yma yn ystadegau swyddogol achrededig. Maent bellach yn ystadegau swyddogol mewn datblygiad hyd nes y cânt eu hadolygu ymhellach, gydag argymhelliad y dylid bod yn ofalus wrth ddehongli'r data.
Ond mae defnyddwyr eraill yr arolwg o'r llafurlu, gan gynnwys Banc Lloegr a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, hefyd wedi mynegi pryderon am ansawdd amcangyfrifon ar lefel y DU, ac amlygodd adroddiad diweddar gan y Resolution Foundation y ffaith nad ydym yn gwybod ar hyn o bryd beth yw cyfradd gyflogaeth y DU oherwydd y problemau gyda'r arolwg o'r llafurlu, ac maent yn amcangyfrif bod y gyfradd anweithgarwch genedlaethol yn debygol o fod wedi'i goramcangyfrif yn sylweddol.
Felly, nid wyf yn siŵr faint yn gliriach yr hoffai’r Ceidwadwyr Cymreig i Lywodraeth Cymru fod, neu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, neu Fanc Lloegr, neu’r Resolution Foundation, gan y credaf ein bod wedi cydnabod bellach naill ai nad yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn talu sylw, neu eu bod yn camarwain pobl yn fwriadol, a’r naill ffordd neu’r llall, nid yw’n dda, ond efallai y gallant roi gwybod i ni pa un sy'n wir pan fyddant yn crynhoi'r ddadl hon.
Y ffordd orau o ddeall perfformiad y farchnad lafur yng Nghymru yw drwy ystyried y tueddiadau mwy hirdymor ar draws nifer o ddangosyddion, ac mae’r rhain yn cynnwys ffynonellau fel gwybodaeth amser real CThEF am weithwyr cyflogedig, data ar swyddi’r gweithlu, nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau, a'r arolwg blynyddol o'r boblogaeth, y mae Llywodraeth Cymru yn talu i'w hyrwyddo, fel bod gennym ddata mwy cywir ar gyfer Cymru.
Felly, mae tystiolaeth o’r ffynonellau data hyn yn awgrymu bod y farchnad lafur yng Nghymru wedi dilyn tueddiadau tebyg i’r DU gyfan ers y pandemig. Mewn gwirionedd, mae’r fasged ehangach hon o ddata yn dangos bod gan weithwyr Cymru fwy o arian yn eu pecynnau cyflog na llawer o’u cymheiriaid yng ngweddill y DU. Yn 2024, roedd enillion wythnosol canolrifol gros ar gyfer oedolion a oedd yn gweithio amser llawn yng Nghymru yn uwch na gogledd-ddwyrain Lloegr, dwyrain canolbarth Lloegr, Gogledd Iwerddon, a swydd Efrog a Humber. Ac ym mis Rhagfyr, roedd cyfran y gweithlu a oedd yn hawlio budd-daliadau, yn bennaf am resymau diweithdra, yn is yng Nghymru na chyfradd y DU.
Felly, o ystyried yr heriau a ddisgrifiais, ac i ateb cwestiwn Luke Fletcher, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyflwyno arolwg trawsnewidiol newydd o'r llafurlu, y bwriadant ei ddefnyddio fel y brif ffynhonnell ddata ar gyfer gwybodaeth am y farchnad lafur yn y DU a Chymru yn y dyfodol. Ac mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i brofi a llunio gwelliannau ar gyfer hynny, ac maent wedi nodi y byddant yn dweud mwy am gynnydd yn y gwanwyn. Rwyf wedi cyfarfod â phrif ystadegydd y DU ar y pwynt hwn, ac mae ein hystadegwyr yma yn Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan lawn yn y gwaith hwnnw.
Felly, rwy’n canolbwyntio ar gyflawni maes blaenoriaeth y Prif Weinidog o sicrhau swyddi da i bobl Cymru, ac rwy’n brysur yn sicrhau mewnfuddsoddiad i gynyddu nifer y swyddi o ansawdd yma yng Nghymru, a fydd, yn ei dro, yn creu economïau rhanbarthol cryf gyda mwy o gyfleoedd i fusnesau bach ffynnu a thyfu. Eisoes, diolch i gamau gweithredu Llywodraeth Cymru, rydym wedi sicrhau buddsoddiad o £1 biliwn i felin bapur grŵp Eren yn Shotton yng Nglannau Dyfrdwy, £45 miliwn i Jayplas yn Abertawe, a £50 miliwn i ffatri led-ddargludyddion Vishay yng Nghasnewydd.
Rydym yn darparu cymorth i fusnesau a chyflogwyr drwy ein rhyddhad ardrethi annomestig. Rydym yn darparu £134 miliwn o gymorth ychwanegol eleni, ac £85 miliwn ychwanegol y flwyddyn nesaf. Mae hynny, wrth gwrs, yn ychwanegol at ein rhyddhad parhaol, sy'n werth mwy na £250 miliwn y flwyddyn. Felly, dyna fwy na £0.33 biliwn bob blwyddyn sy'n cael ei wario gan Lywodraeth Cymru ar helpu busnesau gyda'u biliau.
Rydym hefyd yn cydweithio’n weithredol â Llywodraeth Lafur y DU drwy’r Adran Gwaith a Phensiynau ar un o’u cynlluniau arloesi ar anweithgarwch. Mae ein swyddogion eisoes yn gweithio gyda’u swyddogion cyfatebol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau a Swyddfa Cymru i ddatblygu opsiynau ar gyfer rhoi'r cynllun ar waith yma yng Nghymru. A chyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, rydym hefyd yn sicrhau bod ein gweithlu'n meddu ar y sgiliau cywir i ddiwallu anghenion busnesau ac i ddarparu swyddi gwerth chweil o ansawdd uchel i bobl.
Will you take an intervention on that point?
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar y pwynt hwnnw?
I will do.
Gwnaf.
Thank you for taking an intervention. At a recent Finance Committee, both the Institute for Fiscal Studies and the Office for Budget Responsibility acknowledged that the recent national insurance increase for employers is both going to supress wages and reduce job growth. Do you regret the UK Government's implementation of that policy then?
Diolch am dderbyn ymyriad. Mewn Pwyllgor Cyllid diweddar, cydnabu’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid a’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol fod y cynnydd diweddar yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn mynd i gyfyngu ar gyflogau a lleihau twf swyddi. A ydych chi felly'n gresynu bod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno'r polisi hwnnw?
I've said before, and again we're repeating ourselves over and over in this Chamber, but I've said before that the UK Government—even at the start of my speech today—was set a really incredibly difficult task, and they've had to take choices that they wouldn't have wanted to have to take in order to balance the books and to deal with the black hole that they were presented with when they came into power. But also I think it is the OBR that has said that, actually, more than half of all businesses will either benefit or not be impacted by the changes as well. So, I think that's important to recognise.
But, just to return to that point on apprenticeships, I would just remind colleagues that we're spending over £143 million on providing people with apprenticeships in Wales, and that's the most that we've ever spent.
On regeneration and the replacement of EU structural funds, the previous UK Government's chaotic mish-mash of levelling-up programmes saw it trample over devolution. We now have a UK Government that is committed to working in partnership on our shared ambition to deliver jobs and growth in Wales. I'm also working closely with the UK Government on the industrial strategy to maximise our opportunities to accelerate economic growth and to bring good-quality jobs to Wales. And we're working together to unlock the strength and ambitions of Wales with a national wealth fund that will make investments right across Wales, so our industry leads the world—
Rwyf wedi dweud o’r blaen, ac unwaith eto, rydym yn ailadrodd ein hunain dro ar ôl tro yn y Siambr hon, ond rwyf wedi dweud o’r blaen fod Llywodraeth y DU—hyd yn oed ar ddechrau fy araith heddiw—wedi cael tasg hynod anodd, ac maent wedi gorfod gwneud dewisiadau na fyddent wedi dymuno eu gwneud er mwyn mantoli'r cyfrifon ac i fynd i'r afael â'r twll du y bu'n rhaid iddynt ei wynebu pan ddaethant i rym. Ond hefyd, credaf fod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi dweud hefyd y bydd mwy na hanner yr holl fusnesau naill ai'n elwa neu heb eu heffeithio gan y newidiadau. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod hynny.
Ond i ddychwelyd at y pwynt ar brentisiaethau, hoffwn atgoffa fy nghyd-Aelodau ein bod yn gwario dros £143 miliwn ar ddarparu prentisiaethau i bobl yng Nghymru, a dyna'r swm mwyaf a wariwyd gennym erioed.
Ar adfywio a chyllid yn lle cyllid strwythurol yr UE, fe wnaeth amrywiaeth anhrefnus Llywodraeth flaenorol y DU o raglenni ffyniant bro sathru ar ddatganoli. Mae gennym bellach Lywodraeth y DU sydd wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth ar ein huchelgais cyffredin i sicrhau swyddi a thwf yng Nghymru. Rwyf hefyd yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar y strategaeth ddiwydiannol i wneud y mwyaf o'n cyfleoedd i gyflymu twf economaidd ac i ddod â swyddi o ansawdd da i Gymru. Ac rydym yn gweithio gyda'n gilydd i ddatgloi cryfder ac uchelgeisiau Cymru gyda chronfa gyfoeth wladol a fydd yn gwneud buddsoddiadau ledled Cymru, fel bod ein diwydiant yn arwain y byd—
Would the Cabinet Secretary give way?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ildio?
Just a second—leads the world through investment in clean hydrogen, tidal energy, and carbon capture and storage, for example.
Mewn eiliad—yn arwain y byd drwy fuddsoddi mewn hydrogen glân, ynni'r llanw, a dal a storio carbon, er enghraifft.
This close working relationship with the UK Government is something that this Labour Government here in Wales has championed as a benefit. Why, then, do you not sit, as the Cabinet Secretary for the economy, on the Welsh economic growth advisory group that the UK Government set up?
Mae’r berthynas waith agos hon â Llywodraeth y DU yn rhywbeth y mae’r Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru wedi’i hyrwyddo fel budd. Pam, felly, nad ydych chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, yn aelod o'r grŵp cynghori ar dwf economaidd Cymru a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU?
Because we're a Government—we're not stakeholders—so we work in partnership Government to Government, rather than sitting as stakeholders on groups.
Just to finish, then, in parallel, we're working with the UK Government on the AI opportunities plan, where Wales is well placed to secure the lion's share of a multibillion-pound investment. What we do have now, as I've said, is two Governments working in partnership with our local government colleagues to unleash Wales's potential after 14 long years of Tory neglect and stagnation.
Oherwydd ein bod yn Llywodraeth—nid ydym yn rhanddeiliaid—felly rydym yn gweithio mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth a Llywodraeth, yn hytrach na bod yn aelodau o grwpiau fel rhanddeiliaid.
I gloi, felly, ochr yn ochr â hyn, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar y cynllun cyfleoedd deallusrwydd artiffisial, lle mae Cymru mewn sefyllfa dda i sicrhau cyfran fawr o biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad. Yr hyn sydd gennym nawr, fel y dywedais, yw dwy Lywodraeth yn gweithio mewn partneriaeth â’n cymheiriaid llywodraeth leol i ryddhau potensial Cymru ar ôl 14 mlynedd hir o esgeulustod a marweiddio o dan y Torïaid.
It's a pleasure to close this debate this evening. I've been scribbling away for the past hour or so and I think it's fair to come to the conclusion that Labour have failed the economy, Labour have failed Welsh workers, and Labour have failed in all of these departments, many of which have been devolved to Cardiff for the last 25 years.
In Samuel Kurtz's opening remarks, he said that unemployment is up every month, it's higher in Wales than in England, with high rates of economic inactivity and people struggling to find employment. That's the reality people are facing here in Wales.
Luke Fletcher seemed to agree with what Samuel Kurtz was saying in many ways, and was equally critical of the Welsh Government's record on this matter. He was critical of the previous UK Conservative Government on wages, but it was the Conservative Government that increased the personal allowance, putting more money into people's pockets. That's the difference with the Conservative Party: we tax less and put more money in people's pockets.
Tom Giffard said we're in a regressive economy under Labour in Wales and highlighted the potential for economic opportunities with a Welsh Conservative Government, with lower business rates, hospitality and tourism opportunities.
Despite the predicted negativity from the Labour benches, Hefin David very positively put his ambition for expanding employment opportunities for people with disabilities, which is fantastic and something I think that everyone can support.
The remarks made by the Conservative Members were also echoed by Peter Fox and Laura Anne Jones very well, particularly on STEM subjects. It's shocking that the R&D spend in Wales is significantly lower than other UK nations. We can really do a lot more in terms of that department.
As I said last week in my remarks in the previous debate, the people of Wales have got a choice in this next 12 to 18 months in terms of navigating the direction of the future of this country. Do we want more status quo after 26 years of Labour, or do we want a party in charge who is ambitious about the economy in Wales and can really see the potential? That's the difference, and that's why people need to vote Welsh Conservative in the next 12 months. Thank you very much.
Mae’n bleser cloi’r ddadl hon heno. Rwyf wedi bod yn brysur yn ysgrifennu am yr awr neu ddwy ddiwethaf, a chredaf ei bod yn deg dod i’r casgliad fod Llafur wedi methu o ran yr economi, fod Llafur wedi methu ar ran gweithwyr Cymru, a bod Llafur wedi methu ym mhob un o’r adrannau hyn, y mae llawer ohonynt wedi eu datganoli i Gaerdydd dros y 25 mlynedd diwethaf.
Yn sylwadau agoriadol Samuel Kurtz, dywedodd fod diweithdra ar gynnydd bob mis, a'i fod yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr, gyda chyfraddau uchel o anweithgarwch economaidd a phobl yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i waith. Dyna’r realiti sy'n wynebu pobl yma yng Nghymru.
Roedd Luke Fletcher i’w weld yn cytuno â’r hyn roedd Samuel Kurtz yn ei ddweud mewn sawl ffordd, ac roedd yr un mor feirniadol o hanes Llywodraeth Cymru yn y mater hwn. Roedd yn feirniadol o Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU ar gyflogau, ond y Llywodraeth Geidwadol a gynyddodd y lwfans personol, gan roi mwy o arian ym mhocedi pobl. Dyna’r gwahaniaeth gyda’r Blaid Geidwadol: rydym yn trethu llai ac yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl.
Dywedodd Tom Giffard ein bod mewn economi sy'n mynd am yn ôl o dan Lafur yng Nghymru, a thynnodd sylw at y potensial ar gyfer cyfleoedd economaidd gyda Llywodraeth Geidwadol Cymru, gydag ardrethi busnes is, a chyfleoedd lletygarwch a thwristiaeth.
Er gwaethaf y cywair negyddol rhagweladwy ar feinciau Llafur, nododd Hefin David yn gadarnhaol iawn ei uchelgais ar gyfer ehangu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ag anableddau, sy’n wych ac yn rhywbeth y credaf y gall pawb ei gefnogi.
Ategwyd y sylwadau a wnaed gan yr Aelodau Ceidwadol yn dda iawn gan Peter Fox a Laura Anne Jones, yn enwedig ar bynciau STEM. Mae’n syfrdanol fod y gwariant ar ymchwil a datblygu yng Nghymru yn sylweddol is na gwledydd eraill y DU. Gallwn wneud llawer mwy o safbwynt hynny.
Fel y dywedais yr wythnos diwethaf yn fy sylwadau yn y ddadl flaenorol, mae gan bobl Cymru ddewis yn y 12 i 18 mis nesaf i lywio cyfeiriad dyfodol y wlad hon. A ydym am gael mwy o'r status quo ar ôl 26 mlynedd o Lafur, neu a ydym am gael plaid wrth y llyw sy'n uchelgeisiol ynghylch yr economi yng Nghymru ac sy'n gallu gweld y potensial? Dyna'r gwahaniaeth, a dyna pam fod angen i bobl bleidleisio dros y Ceidwadwyr Cymreig yn y 12 mis nesaf. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi wedi clywed gwrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
The proposal is to agree the motion without amendment. Does any Member object? [Objection.] There are objections, and I will therefore defer voting under this item until voting time.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Voting deferred until voting time.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.
The following amendments have been selected: amendment 1 in the name of Paul Davies, and amendment 2 in the name of Jane Hutt. If amendment 1 is agreed, amendment 2 will be deselected.
Eitem 8, dadl Plaid Cymru, Brexit a'r berthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Galwaf ar Adam Price i wneud y cynnig.
Item 8, the Plaid Cymru debate, Brexit and the future relationship with the European Union. I call on Adam Price to move the motion.
Cynnig NDM8804 Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y bydd hi’n bum mlynedd ers i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol ar 31 Ionawr 2025.
2. Yn gresynu at y canlynol:
a) yn ôl prosiect Cost Economaidd Brexit, bod y ffurf Brexit caled a ddilynwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU wedi costio hyd at £4 biliwn i economi Cymru;
b) bod Brexit wedi lleihau gwerth allforion Cymru hyd at £1.1 biliwn, a bod cytundebau masnach ôl-Brexit wedi bod yn arbennig o anffafriol i amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu yng Nghymru;
c) y golled bellach i Gymru o hyd at £1 biliwn mewn cyllid strwythurol a chyllid datblygu gwledig Ewropeaidd o ganlyniad i Brexit;
d) y cyfleoedd i weithio, teithio, astudio a byw yn Ewrop y mae pobl yng Nghymru wedi eu colli o ganlyniad i Brexit, yn enwedig pobl ifanc;
e) bod Llywodraeth bresennol y DU wedi methu â mynd i'r afael â'r heriau a achosir gan Brexit i Gymru a'r DU yn ehangach, ac wedi nodi ei gwrthwynebiad i ailymuno â'r farchnad sengl a'r undeb tollau; a
f) diddymu Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyflwyno deddfwriaeth newydd i hwyluso aliniad ddeinamig rhwng cyfraith Cymru a'r UE;
b) datblygu a mabwysiadu strategaeth Ewropeaidd gynhwysfawr; ac
c) pwyso ar Lywodraeth y DU i geisio ailymuno â farchnad sengl ac undeb tollau'r UE.
Motion NDM8804 Heledd Fychan
To propose that the Senedd:
1. Notes that 31 January 2025 will mark five years since the United Kingdom formally left the European Union.
2. Regrets:
a) that according to the Economic Cost of Brexit project, the hard Brexit pursued by the previous UK Government has cost the Welsh economy up to £4 billion;
b) that Brexit has reduced the value of Welsh exports by up to £1.1 billion, and that post-Brexit trade deals have been particularly unfavourable for Welsh agriculture and manufacturing;
c) the further loss to Wales of up to £1 billion in European structural and rural development funding as a result of Brexit;
d) the opportunities to work, travel, study and live in Europe that have been lost to people in Wales as a result of Brexit, particularly young people;
e) that the current UK Government has failed to address the issues caused by Brexit for Wales and the wider UK, and has signalled its opposition to rejoining the single market and customs union; and
f) the repeal of the Law Derived from the EU (Wales) Act 2018.
3. Calls on the Welsh Government to:
a) introduce new legislation to facilitate dynamic alignment between Welsh and EU law;
b) develop and adopt a comprehensive European strategy; and
c) urge the UK Government to seek to rejoin the EU’s single market and customs union.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.
Diolch, Dirprwy Lywydd. This debate is clearly called to mark a particular anniversary that we're facing on Friday—the fifth anniversary of Wales leaving the European Union. But we're here to debate not the past but Wales's future. People, I fully expect and anticipate, will express different views in relation to Brexit, and there's a difference of opinion that is held throughout the nation. But it's important that we look at the question of what we do now as objectively and as pragmatically as possible, because a lot is riding on that. I think it would be magical thinking, wouldn't it, it would be stretching credulity, to say that Brexit has been a triumph, the kind of step change that was promised to us at the time of the referendum. Nor has it been the complete cataclysm in totality that some had feared. The real picture is mixed. The problem lies in the make-up of that mixture.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n amlwg fod y ddadl hon wedi'i galw i nodi pen-blwydd penodol yr ydym yn ei wynebu ddydd Gwener—pum mlynedd ers i Gymru adael yr Undeb Ewropeaidd. Ond rydym yma i drafod nid y gorffennol ond dyfodol Cymru. Rwy’n llwyr ddisgwyl ac yn rhagweld y bydd pobl yn mynegi safbwyntiau gwahanol mewn perthynas â Brexit, ac fe geir gwahaniaeth barn ledled y wlad. Ond mae'n bwysig ein bod yn edrych ar beth a wnawn nawr mor wrthrychol a phragmataidd â phosibl, gan fod llawer yn dibynnu ar hynny. Rwy'n credu mai breuddwyd gwrach, onid e, ymestyn hygrededd, fyddai dweud bod Brexit wedi bod yn fuddugoliaeth, y math o newid sylweddol a addawyd i ni adeg y refferendwm. Nid yw ychwaith wedi bod yn drychineb llwyr fel yr oedd rhai wedi'i ofni. Mae'r darlun go iawn yn gymysg. Mae'r broblem ym manylion y cymysgedd hwnnw.
London has lost a few thousand jobs, according to most estimates, in financial services, but it remains Europe's largest financial hub and a global centre. Large companies, particularly those in the service sector, based in the south-east, have often weathered Brexit quite well, certainly compared to some of the most dire predictions for those sectors. That's because those large companies have the resources to navigate new rules, to offset higher costs more easily. It's small and medium-sized firms in small and medium-sized towns and cities and the villages and valleys that surround them that have suffered the most, because they have struggled to cope with the additional paperwork, with the supply chain disruptions, and they have less financial capacity to absorb or pass on additional costs. And it's unfortunate for us in Wales, isn't it, that what I've just described is our economic geography. And by the way, what I've said about small and medium-sized firms also applies to small and medium-sized farms in particular in terms of the crisis that they've had to face.
Brexit has not worked for us. I think that we have to be honest and objective about that. And it's reflected, I think, in the estimates of the billions of pounds of losses to the Welsh economy that we've set out in our motion. You can argue about the precise figures, maybe, but I think that the general picture that they paint is difficult to disagree with. The problem is this: in the world we're living in now, it's likely to get worse. In a world in which global trade is disrupted by tariffs, regional wars, climate change, and supply chains are becoming shorter, proximity matters. And so that European market is the shock absorber for us in an increasingly uncertain world.
If that's the analysis, what is Wales's European strategy? Well, the problem is this: nobody knows. We don't know, the UK doesn't know, Europe doesn't know. That's what the Legislation, Justice and Constitution Committee said in its report, essentially, on UK-EU governance. We don't have a strategy at the moment. Some people might summarise our European strategy in two words: Derek Vaughan. He does deserve an honourable mention, I think, in the amendment, and he is very effective in his role. But you can't build an international strategy around a single individual, no matter how charming or well networked, unless maybe it's Benjamin Franklin in Paris. We need a strategy and we lack one at the moment, and this is mission critical for the future of our economy.
The top line of any strategy has to be the goal, and, for us, it's clear what that goal should be in the near term: it's to rejoin the single market and the customs union. To achieve that goal, there should be two broad elements to the strategy, if you like, the political and the practical; what we say and what we do. In terms of the political, the most powerful thing that the Welsh Government could do is simply, explicitly to say that we are in favour of membership of the single market and the customs union. The Scottish Government say so; the mayor of London has essentially said so—he's said that we shouldn't be scared of rejoining the single market. More voices within these islands saying that in relation to the single market de-risks the idea for the Westminster Government that, at the moment, are haunted by the ghost of Brexit past.
I'm not engaging in magical thinking, either. I don't think that Keir Starmer is going to be converted to joining the single market tomorrow. But in our taking here a more radical position, it will speed the pace in their taking the intermediate steps that are beneficial to us: a youth mobility agreement, a veterinary agreement, a qualifications agreement, dynamic alignment on goods, a rules of origin trade agreement as part of the pan-Euro-Mediterranean convention. The Treaty of Rome will not be rebuilt in a day, but we can rebuild bridges faster if we in Wales find our voice. If that’s what we say, then what should we do? Well, if we’re really sincere about placing Wales at the heart of Europe, let’s demonstrate that by committing to maintaining minimum European standards in the areas of law for which we are responsible, and keeping pace with new European law in those areas. Northern Ireland does that automatically through the Windsor framework. Scotland does it voluntarily through its continuity Act, an idea that it adopted from us before we repealed it. We could pass a new European alignment Act to give Welsh Ministers—subject to Senedd approval—a route to align with new EU law via secondary legislation where that was in Wales’s best interest.
A policy of alignment would have three benefits: it would mean we kept up with world-leading standards in areas like environmental protection; it would directly help Welsh businesses in accessing European markets as seamlessly as possible in those areas of product regulation where we have competence; and it would send a positive pro-European message, which will help us market Wales to investors, customers and partners in Europe. As part of a wider strategy, of course, we can look at other actions as well. We can build on the excellent experience of the Taith programme, expand it to other areas in scale and in scope. We could review our presence on the ground, much more important now than it was when we were in the European Union. Twenty years ago, Wales had an office in Italy, an important market for us still, through the WDA, and we might have something to say about that as well in other debates. We need to look at our presence on the ground because we need people there, selling Wales as effectively as possible. We should look to work with partners across Europe, but particularly our nearest European neighbour, Ireland, working together with Ireland—north and south—and Scotland as European-facing nations, if you like, sending a clear message that we see Wales at the heart of Europe.
In a world that is changing, and it is an uncertain world, standing still is not an option. The status quo is not an option. We do need to reset, but reset, in my mind, is best thought of as an active verb than an abstract noun. Let’s lead the way, and hopefully, that way, Westminster will follow.
Mae Llundain wedi colli rhai miloedd o swyddi, yn ôl y rhan fwyaf o amcangyfrifon, mewn gwasanaethau ariannol, ond mae'n parhau i fod yn ganolbwynt ariannol mwyaf Ewrop ac yn ganolfan fyd-eang. Mae cwmnïau mawr, yn enwedig y rhai yn y sector gwasanaethau, sydd wedi’u lleoli yn ne-ddwyrain Lloegr, wedi goroesi Brexit yn eithaf da ar y cyfan, yn sicr o gymharu â rhai o’r rhagfynegiadau mwyaf enbyd ar gyfer y sectorau hynny. Y rheswm am hynny yw bod gan y cwmnïau mawr hynny adnoddau i ymdopi â rheolau newydd, i osod yn erbyn costau uwch yn haws. Cwmnïau bach a chanolig eu maint mewn trefi a dinasoedd bach a chanolig a’r pentrefi a’r cymoedd o’u cwmpas sydd wedi dioddef fwyaf, am eu bod wedi'i chael hi'n anodd ymdopi â’r gwaith papur ychwanegol, â’r tarfu ar y gadwyn gyflenwi, ac maent ganddynt lai o allu ariannol i amsugno neu drosglwyddo costau ychwanegol. Ac mae'n anffodus i ni yng Nghymru, onid yw, mai'r hyn rwyf newydd ei ddisgrifio yw ein daearyddiaeth economaidd ni. A chyda llaw, mae'r hyn a ddywedais am gwmnïau bach a chanolig hefyd yn berthnasol i ffermydd bach a chanolig, yn enwedig o ran yr argyfwng y maent wedi gorfod ei wynebu.
Nid yw Brexit wedi gweithio i ni. Rwy'n credu bod rhaid inni fod yn onest ac yn wrthrychol ynglŷn â hynny. Ac rwy'n credu bod hynny wedi'i adlewyrchu yn yr amcangyfrifon o'r biliynau o bunnoedd o golledion i economi Cymru a nodwyd gennym yn ein cynnig. Gallwch ddadlau am yr union ffigurau, efallai, ond credaf ei bod yn anodd anghytuno â'r darlun cyffredinol y maent yn ei baentio. Y broblem yw hyn: yn y byd rydym yn byw ynddo nawr, mae'n debygol o waethygu. Mewn byd lle mae tariffau, rhyfeloedd rhanbarthol, a newid hinsawdd yn tarfu ar fasnach fyd-eang, a chadwyni cyflenwi'n mynd yn fyrrach, mae agosrwydd yn bwysig. Ac felly y farchnad Ewropeaidd yw'r siocleddfwr i ni mewn byd cynyddol ansicr.
Os mai dyna'r dadansoddiad, beth yw strategaeth Ewropeaidd Cymru? Wel, y broblem yw hyn: nid oes unrhyw un yn gwybod. Nid ydym ni'n gwybod, nid yw'r DU yn gwybod, nid yw Ewrop yn gwybod. Dyna a ddywedodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, yn y bôn, yn ei adroddiad ar lywodraethiant y DU a'r UE. Nid oes gennym strategaeth ar hyn o bryd. Efallai y byddai rhai pobl yn crynhoi ein strategaeth Ewropeaidd mewn dau air: Derek Vaughan. Mae’n haeddu gair o ganmoliaeth yn y gwelliant, ac mae’n effeithiol iawn yn ei rôl. Ond ni allwch adeiladu strategaeth ryngwladol o amgylch un unigolyn, ni waeth pa mor gyfareddol ydynt na pha mor dda yw eu rhwydwaith, oni bai efallai am Benjamin Franklin ym Mharis. Mae angen strategaeth arnom, ac nid oes gennym un ar hyn o bryd, ac mae hon yn genhadaeth hanfodol ar gyfer dyfodol ein heconomi.
Mae’n rhaid mai llinell gyntaf unrhyw strategaeth yw’r nod, ac i ni, mae’n amlwg beth ddylai’r nod hwnnw fod yn y tymor agos: ailymuno â’r farchnad sengl a’r undeb tollau. Er mwyn cyflawni'r nod hwnnw, dylai fod dwy elfen fras i’r strategaeth, y gwleidyddol a’r ymarferol, os mynnwch; yr hyn a ddywedwn a'r hyn a wnawn. O ran y gwleidyddol, y peth mwyaf pwerus y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yw dweud yn syml ac yn ddiamwys ein bod o blaid aelodaeth o’r farchnad sengl a’r undeb tollau. Mae Llywodraeth yr Alban yn dweud hynny; mae maer Llundain wedi dweud hynny i bob pwrpas—mae wedi dweud na ddylem ofni ailymuno â'r farchnad sengl. Mae cael mwy o leisiau ar yr ynysoedd hyn yn dweud hynny mewn perthynas â’r farchnad sengl yn dadrisgio'r syniad i Lywodraeth San Steffan sydd, ar hyn o bryd, yn cael ei phlagio gan hen ysbrydion Brexit y dyddiau a fu.
Nid breuddwyd gwrach sydd gennyf innau, ychwaith. Ni chredaf fod Keir Starmer yn mynd i gael ei hudo i ymuno â’r farchnad sengl yfory. Ond wrth inni fynegi safbwynt mwy radical yma, bydd yn cyflymu’r broses iddynt hwy o gymryd y camau canolraddol sydd o fudd i ni: cytundeb symudedd i bobl ifanc, cytundeb milfeddygol, cytundeb cymwysterau, aliniad deinamig ar nwyddau, a chytundeb masnach ar reolau tarddiad fel rhan o'r confensiwn pan-Ewro-Môr y Canoldir. Ni fydd Cytuniad Rhufain yn cael ei ailadeiladu mewn diwrnod, ond fe allwn ailadeiladu pontydd yn gynt os ydym ni yng Nghymru yn dod o hyd i'n llais. Os mai dyna rydym yn ei ddweud, beth ddylem ei wneud? Wel, os ydym o ddifrif ynglŷn â gwneud Cymru'n rhan annatod o Ewrop, gadewch inni ddangos hynny drwy ymrwymo i gynnal safonau gofynnol Ewropeaidd yn y meysydd o'r gyfraith rydym yn gyfrifol amdanynt, a chadw i fyny â chyfraith Ewropeaidd newydd yn y meysydd hynny. Mae Gogledd Iwerddon yn gwneud hynny’n awtomatig drwy fframwaith Windsor. Mae’r Alban yn ei wneud yn wirfoddol drwy ei Deddf parhad, syniad y gwnaethant ei fabwysiadu gennym ni cyn i ni ei ddiddymu. Gallem basio Deddf alinio Ewropeaidd newydd i roi llwybr i Weinidogion Cymru—yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd—alinio â chyfraith newydd yr UE drwy is-ddeddfwriaeth lle mae hynny er budd Cymru.
Byddai tair mantais i bolisi alinio: byddai'n golygu ein bod yn cadw i fyny â safonau uchaf y byd mewn meysydd fel diogelu'r amgylchedd; byddai’n helpu busnesau Cymru yn uniongyrchol i gael mynediad mor ddi-dor â phosibl at farchnadoedd Ewropeaidd mewn meysydd rheoleiddio cynnyrch lle mae gennym gymhwysedd; a byddai’n anfon neges gadarnhaol o blaid Ewrop, a fydd yn ein helpu i farchnata Cymru i fuddsoddwyr, cwsmeriaid a phartneriaid yn Ewrop. Fel rhan o strategaeth ehangach gallwn edrych ar gamau gweithredu eraill hefyd. Gallwn adeiladu ar brofiad rhagorol rhaglen Taith, ei hehangu i feysydd eraill o ran maint a chwmpas. Gallem adolygu ein presenoldeb ar lawr gwlad, sy'n llawer pwysicach nawr na phan oeddem yn yr Undeb Ewropeaidd. Ugain mlynedd yn ôl, roedd gan Gymru swyddfa yn yr Eidal, marchnad bwysig i ni o hyd, drwy Awdurdod Datblygu Cymru, ac efallai fod gennym rywbeth i’w ddweud am hynny hefyd mewn dadleuon eraill. Mae angen inni edrych ar ein presenoldeb ar lawr gwlad gan fod arnom angen pobl yno, yn gwerthu Cymru mor effeithiol â phosibl. Dylem geisio gweithio gyda phartneriaid ledled Ewrop, ond yn enwedig ein cymydog Ewropeaidd agosaf, Iwerddon, cydweithio gydag Iwerddon—gogledd a de—a’r Alban fel gwledydd sy’n agored i Ewrop, os mynnwch, gan anfon neges glir ein bod yn gweld Cymru fel rhan annatod o Ewrop.
Mewn byd sy’n newid, ac mae’n fyd ansicr, nid yw sefyll yn llonydd yn opsiwn. Nid yw'r status quo yn opsiwn. Mae angen inni ailosod, ond credaf ei bod yn well meddwl am ailosod fel berf weithredol yn hytrach nag enw haniaethol. Gadewch inni arwain y ffordd, ac yn y modd hwnnw, rwy'n gobeithio y bydd San Steffan yn dilyn.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
The Llywydd took the Chair.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Darren Millar i gynnig gwelliant 1.
I have selected the two amendments to the motion. If amendment 1 is agreed, amendment 2 will be deselected. I call on Darren Millar to move amendment 1.
Gwelliant 1—Paul Davies
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016.
2. Yn credu y dylid parchu a gweithredu canlyniad refferenda.
3. Yn nodi ymhellach y bydd 31 Ionawr 2025 yn nodi pum mlynedd ers i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol.
Amendment 1—Paul Davies
Delete all and replace with:
1. Notes that the people of Wales voted to leave the European Union in the referendum held on the 23 June 2016.
2. Believes that the outcome of referendums should be respected and implemented.
3. Further notes that the 31 January 2025 will mark five years since the United Kingdom formally left the European Union.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Amendment 1 moved.
Diolch, Llywydd. I move the amendment on the order paper in the name of Paul Davies. Can I begin by saying that this Friday for me is a celebration of democracy? Because in leaving the European Union, the previous UK Conservative Government honoured the wishes of the British people who voted in a historic referendum to leave the European Union. It resulted in a huge repatriation of powers to the United Kingdom and extra powers here in Cardiff Bay in our Senedd. People voted to leave in spite of the fearmongering and, frankly, outright lies about what would happen if we left. We were told—[Interruption.] I’ll give way in a moment. We were told that Brexit would lead to rising unemployment, a collapse in house prices and shortages of every imaginable commodity, from fresh fruit and vegetables to Viagra. Yet what happened? Well, the prophets of doom were completely wrong.
Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant ar y papur trefn yn enw Paul Davies. A gaf i ddechrau drwy ddweud bod y dydd Gwener hwn, i mi, yn ddathliad o ddemocratiaeth? Oherwydd wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, fe wnaeth Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU anrhydeddu dymuniadau pobl Prydain a bleidleisiodd mewn refferendwm hanesyddol i adael yr Undeb Ewropeaidd. Arweiniodd at ddychwelyd pwerau enfawr i’r Deyrnas Unedig a phwerau ychwanegol yma ym Mae Caerdydd yn ein Senedd. Pleidleisiodd pobl dros adael er gwaethaf y codi bwganod, ac a dweud y gwir, y celwyddau noeth am yr hyn a fyddai'n digwydd pe baem yn gadael. Dywedwyd wrthym—[Torri ar draws.] Fe ildiaf mewn eiliad. Dywedwyd wrthym y byddai Brexit yn arwain at ddiweithdra cynyddol, cwymp ym mhrisiau tai a phrinder o bob nwydd y gellir ei ddychmygu, o ffrwythau a llysiau ffres i Viagra. Ond beth a ddigwyddodd? Wel, roedd y proffwydi gwae'n gwbl anghywir.
Would you agree that at no point in the campaign did anyone in the ‘vote leave’ campaign advocate for leaving the single market and customs union? In fact, there were a number of prominent members of that campaign who said of course we would never have to leave the single market and customs union. So, surely you’d want to support our motion.
A fyddech chi'n cytuno na wnaeth unrhyw un yn yr ymgyrch dros adael, ar unrhyw adeg, ddadlau dros adael y farchnad sengl a’r undeb tollau? A dweud y gwir, dywedodd nifer o aelodau amlwg o’r ymgyrch honno na fyddem byth yn gorfod gadael y farchnad sengl a’r undeb tollau. Felly, does bosibl na fyddech chi eisiau cefnogi ein cynnig.
I made it clear that I wanted to leave the single market, and it was said by the detractors of Brexit that if you do that, you’ll leave the single market. So, frankly, I’m not sure what you’re going on about. I’m amazed that Plaid Cymru have the audacity to hold this debate today, because in doing so, they’ve reminded us about the contradiction at the heart of their own political thinking. They claim that they want to break away from the most successful union that the world has ever seen, the union of the United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland. The UK is a union that provides Wales with national security and economic security. We're defended by one of the finest armed forces in the world and we're part of the sixth largest economy in the world.
Dywedais yn glir fy mod am adael y farchnad sengl, a dywedwyd gan wrthwynebwyr Brexit, pe baech chi'n gwneud hynny, y byddech chi'n gadael y farchnad sengl. Felly, nid wyf yn siŵr am beth rydych chi'n sôn. Rwy’n rhyfeddu bod gan Blaid Cymru wyneb i gynnal y ddadl hon heddiw, oherwydd wrth wneud hynny, maent wedi ein hatgoffa ynghylch y gwrthddywediad sy'n ganolog i'w meddylfryd gwleidyddol eu hunain. Maent yn honni eu bod am dorri’n rhydd o’r undeb mwyaf llwyddiannus a welodd y byd erioed, sef undeb Teyrnas Unedig Prydain a Gogledd Iwerddon. Mae’r DU yn undeb sy’n rhoi diogelwch cenedlaethol a sicrwydd economaidd i Gymru. Cawn ein hamddiffyn gan un o'r lluoedd arfog gorau yn y byd ac rydym yn rhan o'r chweched economi fwyaf yn y byd.

Will you take an intervention?
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yet you want to dismantle that successful union that works for Wales and has worked for many centuries for Wales, and not to achieve an independent Wales, as you often claim—I'll take your intervention in a moment—but to shackle Wales instead to a far more restrictive union, the European Union, with its barmy and bloated bureaucracy a burden on Welsh and British taxpayers and the lack of democracy and direct accountability of its decision makers. I'll take it.
Eto i gyd, rydych chi am ddatgymalu'r undeb llwyddiannus sy'n gweithio i Gymru ac sydd wedi gweithio ers canrifoedd lawer i Gymru, ac nid i gyflawni Cymru annibynnol, fel rydych chi'n aml yn ei honni—fe dderbyniaf eich ymyriad mewn eiliad—ond i glymu Cymru yn lle hynny at undeb llawer mwy cyfyngol, yr Undeb Ewropeaidd, gyda'i fiwrocratiaeth hurt a chwyddedig yn faich ar drethdalwyr Cymru a Phrydain a diffyg democratiaeth ac atebolrwydd uniongyrchol y rhai sy'n gwneud penderfyniadau o'i fewn. Fe ildiaf.
Thank you for taking the intervention. Describe to me how the economic stagnation that Wales has been suffering as part of the United Kingdom or the entrenched child poverty that we have in Wales as part of the United Kingdom makes this a successful union for us. And remember, of course, that Brexit is the opposite of the pursuit of Welsh independence and that Brexit was turning our backs on the world, when seeking Welsh independence is wanting to take our place in the world—direct opposites.
Diolch am dderbyn yr ymyriad. Disgrifiwch i mi sut y mae'r marweiddio economaidd y mae Cymru wedi bod yn ei ddioddef fel rhan o'r Deyrnas Unedig neu'r tlodi plant dwfn sydd gennym yng Nghymru fel rhan o'r Deyrnas Unedig yn gwneud hwn yn undeb llwyddiannus i ni. A chofiwch, wrth gwrs, mai Brexit yw'r gwrthwyneb i geisio annibyniaeth Cymru a bod Brexit yn golygu troi ein cefnau ar y byd, pan fo ceisio annibyniaeth i Gymru yn golygu bod eisiau cymryd ein lle yn y byd—y gwrthwyneb yn llwyr.
Look, I'm pro European, but I'm not pro European Union, and I have to say you've identified two failures—the economic failure that we've seen in Wales and the child poverty progress that we haven't made in Wales. They're failures of this clapped-out Welsh Labour Government and, in fact, the coalition that your party formed part of for a number of years, propping this Government up for such a long time.
Now, there's an inconvenient truth that Plaid and Labour would like us to ignore, and it is this: the people of Wales spoke very clearly on this issue. They voted to leave the European Union. Plaid Cymru, so-called party of Wales, wanted to ignore their voices. You did all you could as a party to block the decision of the people of Wales, and you ignored them. You claim to be a party of the people of Wales and you're not. You don't like it, but it's an inconvenient truth that that is the case and the fact of the matter.
Now, Llywydd, the benefits of Brexit became apparent almost immediately. Let's take one of them. It was very, very visible right at the start, just after the situation of our leaving the European Union: the COVID-19 vaccine roll-out. Now, people here in Wales and across the UK benefited from a faster vaccine deployment programme than any other part of the world, and that speedier roll-out literally saved thousands of lives here in Wales and across the rest of UK. It was only possible, Llywydd—only possible—because we had left the European Union and the European Medicines Agency, and how did the EU react? How did the EU react? They tried to prevent us from having the vaccines that we had ordered from the Netherlands for the British market. Now, imagine that. The European Union and its supporters were willing to risk lives here in Wales because they couldn't stomach the fact that we were saving lives faster than they were. Thank God we had a Prime Minister who stood firm, got those vaccines, saved lives and we demonstrated the value of standing on our own two feet.
We've also heard this week about the fact that we've got a new free port operating on Anglesey, Ynys Môn, in the Plaid leader's own constituency. Thousands of jobs, billions of investment coming into Wales as a result of these free ports, which would not have been possible if we were members of the European Union.
So, in closing, I want to say this: the greatest benefit of Brexit is the return of democracy to the United Kingdom. For decades, the EU showed contempt for the democratic will of its member states. In 1992 the Danes voted against the Maastricht treaty, they were told to vote again. In 2001 the Irish voted against the Nice treaty, they were told to vote again. In 2008 the Irish voted against the Lisbon treaty, and once more they were told to vote again. In 2005 the French and Dutch voted against the EU constitution, they weren't even given the chance to vote again, it was simply repackaged as the Lisbon treaty and imposed by their national Governments. The UK was the first country to hold a referendum on the EU and actually respect the result. That's something I'm proud of, and I support the people of Wales in their decision to leave.
Edrychwch, rwyf i o blaid Ewrop, ond nid wyf o blaid yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'n rhaid imi ddweud eich bod wedi nodi dau fethiant—y methiant economaidd a welsom yng Nghymru a'r cynnydd ar dlodi plant nad ydym wedi'i wneud yng Nghymru. Methiannau'r Llywodraeth Lafur Cymru flinedig hon ydynt, a'r glymblaid yr oedd eich plaid chi'n rhan ohoni am nifer o flynyddoedd, yn cynnal y Llywodraeth hon cyhyd.
Nawr, mae yna wirionedd anghyfleus yr hoffai Plaid Cymru a Llafur i ni ei anwybyddu, sef hwn: siaradodd pobl Cymru yn glir iawn ar y mater hwn. Fe wnaethant bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Roedd Plaid Cymru, y 'party of Wales' fel y'i gelwir, eisiau anwybyddu eu lleisiau. Fe wnaethoch chi bopeth yn eich gallu fel plaid i rwystro penderfyniad pobl Cymru, ac fe wnaethoch chi eu hanwybyddu. Rydych chi'n honni eich bod chi'n blaid i bobl Cymru ac nid yw hynny'n wir. Nid ydych yn ei hoffi, ond mae'n wirionedd anghyfleus mai dyna yw'r ffaith amdani.
Nawr, Lywydd, daeth manteision Brexit i'r amlwg bron yn syth. Gadewch inni gymryd un ohonynt. Roedd yn weladwy iawn ar y dechrau un, ychydig ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd: cyflwyno brechlyn COVID-19. Nawr, fe wnaeth pobl yma yng Nghymru ac ar draws y DU elwa o raglen ddarparu brechlynnau yn gyflymach nag unrhyw ran arall o'r byd, ac fe wnaeth cyflwyno'r brechlyn yn gyflymach yn y ffordd honno achub miloedd o fywydau yma yng Nghymru ac ar draws gweddill y DU. Yr unig reswm pam fod hynny'n bosibl, Lywydd oedd am ein bod wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd a'r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd, a sut yr ymatebodd yr UE? Sut yr ymatebodd yr UE? Fe wnaethant geisio ein hatal rhag cael y brechlynnau yr oeddem wedi'u harchebu o'r Iseldiroedd ar gyfer y farchnad Brydeinig. Nawr, dychmygwch hynny. Roedd yr Undeb Ewropeaidd a'i gefnogwyr yn barod i beryglu bywydau yma yng Nghymru am na allent stumogi'r ffaith ein bod ni'n achub bywydau'n gynt nag a wnaent hwy. Diolch i Dduw fod gennym Brif Weinidog yn y DU a safodd yn gadarn, a gafodd y brechlynnau hynny, a achubodd fywydau a'n bod wedi dangos gwerth sefyll ar ein traed ein hunain.
Clywsom yr wythnos hon hefyd am y ffaith bod gennym borthladd rhydd newydd yn gweithredu ar Ynys Môn, yn etholaeth arweinydd Plaid Cymru ei hun. Miloedd o swyddi, biliynau o fuddsoddiad yn dod i mewn i Gymru o ganlyniad i'r porthladdoedd rhydd, na fyddai wedi bod yn bosibl pe baem yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd.
Felly, wrth gloi, rwyf am ddweud hyn: budd mwyaf Brexit yw adfer democratiaeth i'r Deyrnas Unedig. Am ddegawdau, dangosodd yr UE ddirmyg tuag at ewyllys ddemocrataidd ei aelod-wladwriaethau. Yn 1992 pleidleisiodd y Daniaid yn erbyn cytundeb Maastricht, dywedwyd wrthynt am bleidleisio eto. Yn 2001 pleidleisiodd y Gwyddelod yn erbyn cytundeb Nice, dywedwyd wrthynt am bleidleisio eto. Yn 2008 fe bleidleisiodd y Gwyddelod yn erbyn cytundeb Lisbon, ac unwaith eto dywedwyd wrthynt am bleidleisio eto. Yn 2005 pleidleisiodd Ffrainc a'r Iseldiroedd yn erbyn cyfansoddiad yr UE, ni roddwyd cyfle iddynt bleidleisio eto, cafodd ei ailbecynnu fel cytundeb Lisbon a'i orfodi gan eu Llywodraethau cenedlaethol. Y DU oedd y wlad gyntaf i gynnal refferendwm ar yr UE ac i barchu'r canlyniad. Mae hynny'n rhywbeth rwy'n falch ohono, ac rwy'n cefnogi pobl Cymru yn eu penderfyniad i adael.
Yr Ysgrifennydd Cabinet dros economi nawr i gynnig gwelliant 2 yn ffurfiol.
The Cabinet Secretary for economy now to move formally amendment 2.
Gwelliant 2—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu ailsefydlu cysylltiadau gyda’r Undeb Ewropeaidd o dan Lywodaeth newydd y DU ac yn nodi bod y Brexit caled a drafodwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU wedi bod yn niweidiol i Gymru, ei phobl a’r DU.
2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru n anelu at sicrhau bod sylw yn cael ei roi i’r niwed a achoswyd i Gymru wrth i’r DU ymadael â’r UE yn y fath fodd.
3. Yn nodi ymhellach fod Llywodraeth Cymru yn atgyfnerthu’n effeithiol gysylltiadau gyda phartneriaid Ewropeaidd drwy gadw ein swyddfa ym Mrwsel ar agor, a phenodi Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Ewrop; mae wedi cydweithio â Gweinidogion ac Uwch Swyddogion o wahanol ranbarthau o fewn yr Undeb Ewropeaidd, a hefyd Québec, er mwyn trafod cydweithredu rhyngranbarthol cynyddol yn ardal yr Iwerydd, a thrwy’r Rhaglen Taith mae wedi dangos ei ymrwymiad parhaus i hwyluso symudedd pobl ifanc.
4. Yn edrych ymlaen at well cysylltiadau gyda’r Undeb Ewropeaidd.
Amendment 2—Jane Hutt
Delete all and replace with:
To propose that the Senedd:
1. Welcomes the reset of relations with the European Union under the new UK Government and notes that the hard Brexit negotiated under the previous UK Government has been detrimental to Wales, its people and the UK.
2. Notes that the Welsh Government is working to ensure that the damage caused to Wales by the UK leaving the EU in the way it did is successfully addressed.
3. Further notes that the Welsh Government is effectively strengthening links with European partners through the continuation of our Brussels office, and the appointment of the WG Representative on Europe; has worked with ministers and senior officials from a range of EU regions, plus Québec, to discuss strengthened interregional cooperation in the Atlantic area; and through the Taith programme has demonstrated its continued commitment to youth mobility.
4. Looks forward to further improved relations with the European Union.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Amendment 2 moved.
Formally—I was stunned, sorry.
Yn ffurfiol—roeddwn i'n pensynnu, mae'n ddrwg gennyf.
Julie Morgan.
Julie Morgan.
Diolch, Llywydd. It's a pleasure to speak in this debate today. If you ask anyone in the street how they've benefited from Brexit, I think most people find it very hard to answer, and opinion polls do confirm this. I'm sure that many Members will have seen the YouGov poll that was published today: 55 per cent of Britons say it was wrong to leave the EU and it's the lowest proportion saying it was right to leave since the referendum—
Diolch, Lywydd. Mae'n bleser siarad yn y ddadl hon heddiw. Os gofynnwch i unrhyw un ar y stryd sut y maent wedi elwa o Brexit, rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn ei chael hi'n anodd iawn ateb, ac mae arolygon barn yn cadarnhau hyn. Rwy'n siŵr y bydd llawer o Aelodau wedi gweld arolwg YouGov a gyhoeddwyd heddiw: dywed 55 y cant o Brydeinwyr mai camgymeriad oedd gadael yr UE a chafwyd y gyfran isaf ers y refferendwm yn dweud mai gadael oedd y penderfyniad cywir—
Will you take an intervention just on polling?
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar arolygon barn?
I've only just started. And a multilevel regression with post-stratification survey by YouGov last week showed that more people in every constituency in Wales, Scotland and England backed a closer arrangement with the EU than with the US. Of course, as has been said today, I absolutely accept that Wales voted to leave the EU and that has dictated the way that we've had to respond to policy since. But I've no doubt that public opinion has changed, and I find that in my daily work in the constituency; I do believe that people no longer think it was a good thing to leave the EU. And I am glad that the UK Government plans to reset its relationship with the EU. I mean, I hope, eventually, that we will rejoin the single market and the customs union, but I do think that will take time, bearing in mind that there was a democratic vote to leave the EU.
I now want to just say a few words about the impact that Brexit has had on young people and the loss of opportunities for them, and how much harder it is for young people to have the opportunities that many of us have had to live, work and travel freely in the EU. Certainly, after the Brexit result was announced, I had so many young people coming to me in my constituency saying how bitter they felt that they had lost all these opportunities, and at that time, we didn't have votes for 16 or 17-year-olds and they couldn't vote in that referendum, and they felt that older people had shut off their future. And I'm very keen that we do as much as we possibly can to ensure that young people have as many opportunities as they possibly can.
And I'm very pleased that Adam Price mentioned the Taith programme. I think it is great that the Welsh Government has invested £65 million into the Taith programme and has expanded it beyond and further afield than the EU. I think it does show that Welsh Government is committed to keeping our international links in Europe and across the world. And, of course, we do want our young people to be internationalists; we want them to have as many experiences and as many wide experiences as possible.
One of my constituents runs an organisation, Schools into Europe, and I'm sure that you can imagine the difficult, logistical challenges that he's had since we left the European Union. And there are many things that are arising all the time that make it increasingly difficult for young people to go to Europe. For example, the Home Office is pursuing a drive towards a one-document-per-traveller policy, a part of which will involve the withdrawal of the collective passport. This is something that was decided on by the previous Government in the UK, a Conservative Government, in 2022. And at the moment, a school group can travel member states without individual party members requiring their own passports, which for schools in areas of deprivation is really the difference between being able to travel abroad or not being able to travel abroad, because a collective passport costs £39 and covers the entire group, whereas individual child passports cost £57.50. And so, despite repeated lobbying, the Home Office is continuing to pursue this policy, citing border security. So, I wondered if the Minister, when she makes her contribution, or the Cabinet Secretary, could perhaps comment on whether there are any discussions with the Home Office to try to perhaps not introduce this decision that was made during the previous Government.
Secondly, before Brexit, the list of travellers scheme enabled any pupil of a British education establishment to travel to the EU without the need to apply for a visa, and that has now changed. The other examples of difficulties that are arising are that there are currently two incoming schemes that will radically impact travel to Europe: the entry/exit system, EES, which will require schoolchildren to undergo biometric scanning at the port, and which the Port of Dover has categorically said will cause extreme delays, again decided by the previous Government; and then ETIAS, the European travel information and authorisation system, under which travellers will be required to obtain pre-authorisation to travel before travelling to the Schengen area. These two things are coming in; they're going to make it even more difficult for children to travel, and I just make a plea, really, for us to do all we can, as a Government here in Wales, working with the Home Office, to try to remove these restrictions that have come about as a result of Brexit, and try to open up more opportunities to our young people so we don't become inward looking in Wales, but that we're able to act and function on an international scale.
Newydd ddechrau wyf i. Dangosodd arolwg atchweliad ôl-haeniad aml-lefel gan YouGov yr wythnos diwethaf fod mwy o bobl ym mhob etholaeth yng Nghymru, yr Alban a Lloegr yn cefnogi trefniant agosach gyda'r UE na chyda'r Unol Daleithiau. Wrth gwrs, fel y dywedwyd heddiw, rwy'n derbyn yn llwyr fod Cymru wedi pleidleisio dros adael yr UE ac mae hynny wedi pennu'r ffordd y bu'n rhaid inni ymateb i bolisi ers hynny. Ond nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod barn y cyhoedd wedi newid, ac rwy'n gweld hynny yn fy ngwaith dyddiol yn yr etholaeth; rwy'n credu nad yw pobl yn credu mwyach ei bod yn beth da ein bod wedi gadael yr UE. Ac rwy'n falch fod Llywodraeth y DU yn bwriadu ailosod ei pherthynas â'r UE. Hynny yw, yn y pen draw, rwy'n gobeithio y byddwn yn ailymuno â'r farchnad sengl a'r undeb tollau, ond rwy'n credu y bydd yn cymryd amser, o gofio ein bod wedi cael pleidlais ddemocrataidd dros adael yr UE.
Rwyf am ddweud ychydig eiriau am yr effaith y mae Brexit wedi'i chael ar bobl ifanc a cholli cyfleoedd iddynt, a chymaint yn anos yw hi i bobl ifanc gael y cyfleoedd y mae llawer ohonom ni wedi eu cael i fyw, gweithio a theithio'n rhydd yn yr UE. Yn sicr, ar ôl cyhoeddi canlyniad Brexit, cefais gymaint o bobl ifanc yn dod ataf yn fy etholaeth i ddweud pa mor chwerw y teimlent eu bod wedi colli'r holl gyfleoedd hyn, ac ar y pryd, nid oedd gennym bleidlais i bobl ifanc 16 neu 17 oed ac ni chawsant bleidleisio yn y refferendwm hwnnw, ac roeddent yn teimlo bod pobl hŷn wedi cau'r drws ar eu dyfodol. Ac rwy'n awyddus iawn inni wneud cymaint ag y gallwn i sicrhau bod pobl ifanc yn cael cymaint o gyfleoedd ag y gallant.
Ac rwy'n falch iawn fod Adam Price wedi sôn am raglen Taith. Rwy'n credu ei bod yn wych fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £65 miliwn yn y rhaglen Taith ac wedi ei hehangu y tu hwnt i'r UE. Rwy'n credu ei fod yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gadw ein cysylltiadau rhyngwladol yn Ewrop ac ar draws y byd. Ac wrth gwrs, rydym am i'n pobl ifanc fod yn rhyngwladolwyr; rydym am iddynt gael cymaint o brofiadau a chymaint o brofiadau eang â phosibl.
Mae un o fy etholwyr yn rhedeg sefydliad, Schools into Europe, ac rwy'n siŵr y gallwch ddychmygu'r heriau anodd, logistaidd y mae wedi'u cael ers inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Ac mae yna lawer o bethau sy'n codi drwy'r amser sy'n ei gwneud hi'n fwyfwy anodd i bobl ifanc fynd i Ewrop. Er enghraifft, mae'r Swyddfa Gartref yn mynd ar drywydd polisi un ddogfen y teithiwr, a bydd rhan ohoni'n golygu tynnu'r pasbort cyfunol yn ôl. Mae hyn yn rhywbeth y penderfynwyd arno gan y Llywodraeth flaenorol yn y DU, Llywodraeth Geidwadol, yn 2022. Ac ar hyn o bryd, gall grŵp ysgol deithio i aelod-wladwriaethau heb i aelodau unigol o'r parti orfod cael eu pasbortau eu hunain, sy'n gwneud y gwahaniaeth mewn ardaloedd difreintiedig rhwng bod ysgolion yn gallu neu'n methu teithio dramor, gan fod pasbort cyfunol yn costio £39 ar gyfer y grŵp cyfan, tra bo pasbortau unigol i blant yn costio £57.50. Ac felly, er gwaethaf lobïo mynych, mae'r Swyddfa Gartref yn parhau i ddilyn y polisi hwn, gan nodi diogelwch ffiniau. Felly, tybed a allai'r Gweinidog, pan fydd hi'n gwneud ei chyfraniad, neu Ysgrifennydd y Cabinet, ddweud a oes unrhyw drafodaethau gyda'r Swyddfa Gartref i ofyn am beidio â chyflwyno'r penderfyniad hwn a wnaed yn ystod y Llywodraeth flaenorol.
Yn ail, cyn Brexit, roedd y rhestr teithwyr yn galluogi unrhyw ddisgybl mewn sefydliad addysg ym Mhrydain i deithio i'r UE heb fod angen gwneud cais am fisa, ac mae hynny bellach wedi newid. Yr enghreifftiau eraill o anawsterau sy'n codi yw bod dau gynllun ar y ffordd sy'n mynd i effeithio'n radical ar deithio i Ewrop: y system mynediad/ymadael, EES, a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i blant ysgol gael sganiau biometrig yn y porthladd, ac y dywedodd Porthladd Dover y bydd yn bendant yn achosi oedi eithafol, penderfyniad y Llywodraeth flaenorol eto; ac yna ETIAS, y system Ewropeaidd ar gyfer gwybodaeth am deithio ac awdurdodi teithio, lle bydd yn ofynnol i deithwyr gael caniatâd ymlaen llaw i deithio cyn teithio i ardal Schengen. Mae'r ddau beth ar eu ffordd; maent yn mynd i'w gwneud hi'n anos byth i blant deithio, ac rwy'n apelio arnom i wneud popeth yn ein gallu, fel Llywodraeth yma yng Nghymru, gan weithio gyda'r Swyddfa Gartref, i geisio cael gwared ar y cyfyngiadau hyn sydd wedi digwydd o ganlyniad i Brexit, a cheisio agor mwy o gyfleoedd i'n pobl ifanc fel nad ydym yn bod yn fewnblyg yng Nghymru, ond ein bod yn gallu gweithredu ar raddfa ryngwladol.
As Adam has already outlined, you can't credibly argue that Brexit has been a success, no matter how hard the Conservative leader tries. Brexit never needed to mean leaving the single market or the customs union. Delyth is right: throughout the Brexit campaign, a number of prominent leavers advocated for staying within the single market and customs union. Remember the Norway model that was something that was touted so many times in television debates and in articles across the board. Where's that now? It's completely forgotten.
Almost 10 years after that referendum, and five years after those promises were broken, and here we are, £4 billion poorer as a nation than we should be—now, there's one figure that we didn't see on the side of the Brexit battle bus. According to research conducted by Cambridge Econometrics for the Greater London Authority, gross value added in the UK as a whole in 2023 was approximately £140 billion less than it would have been had the UK not opted to leave the EU single market and customs union. Here in Wales, leaving the single market and customs union has gutted entire industries, almost wiping them out overnight. The Welsh shellfish sector, for example, has been dealt an absolute hammer blow by Brexit. Farmed finfish and shellfish saw an 82 per cent fall in value between 2019 and 2021, and a staggering 93 per cent decline in total tonnage produced.
Welsh manufacturers and services have all suffered as a result of the particular Brexit negotiated. In addition to the £1.1 billion it has cost them and us in exports, leaving the single market and customs union has also left us with a bill for the installation of border control posts at our ports—infrastructure we didn't need. Here we come to another broken promise: 'not a penny less'. It was promised that the UK shared prosperity fund would replace, pound for pound, funding that previously flowed to Wales through the European regional development fund and European social fund. It never did, and now we remain none the wiser as to when and what to expect in terms of a replacement. The reality is that Wales is being short-changed to the tune of £1 billion when it comes to structural funds, and now the future of regional development funding is subject to the changing whims of Westminster, rather than the previous needs-based criteria.
Now, while this is our situation, we have a case study in how it doesn't have to be this way in the form of Northern Ireland. Northern Ireland functionally remains in the single market and customs union, and is the only part of the UK where the Cost of Brexit project has not found a negative Brexit effect on economic output. The National Institute of Economic and Social Research found that Northern Ireland's preferential access to the EU market has brought significant economic benefits. So, the case for rejoining the single market and customs union is there to be seen in the example of Northern Ireland, and it is time that we accepted this most basic of economic realities.
Fel y mae Adam eisoes wedi'i nodi, ni allwch ddadlau'n gredadwy fod Brexit wedi bod yn llwyddiant, ni waeth pa mor galed y mae arweinydd y Ceidwadwyr yn ceisio gwneud hynny. Nid oedd angen i Brexit olygu gadael y farchnad sengl na'r undeb tollau. Mae Delyth yn iawn: drwy gydol ymgyrch Brexit, roedd nifer o bobl amlwg a ddadleuai dros adael yn argymell aros o fewn y farchnad sengl a'r undeb tollau. Fe gofiwch am fodel Norwy a oedd yn rhywbeth a gafodd ei grybwyll gymaint o weithiau mewn dadleuon teledu ac mewn erthyglau ym mhobman. Lle mae hwnnw nawr? Mae wedi ei anghofio'n llwyr.
Bron 10 mlynedd wedi'r refferendwm, a phum mlynedd wedi i'r addewidion gael eu torri, dyma ni, £4 biliwn yn dlotach fel cenedl nag y dylem fod—nawr, mae yna un ffigur nas gwelsom ar ochr y bws Brexit. Yn ôl ymchwil a gynhaliwyd gan Cambridge Econometrics ar gyfer Awdurdod Llundain Fwyaf, roedd gwerth ychwanegol gros yn y DU gyfan yn 2023 oddeutu £140 biliwn yn llai nag y byddai wedi bod pe na bai'r DU wedi dewis gadael marchnad sengl ac undeb tollau'r UE. Yma yng Nghymru, mae gadael y farchnad sengl a'r undeb tollau wedi dinistrio diwydiannau cyfan, gan eu dileu dros nos bron iawn. Mae sector pysgod cregyn Cymru, er enghraifft, wedi cael ergyd drom gan Brexit. Gwelwyd gostyngiad o 82 y cant yng ngwerth y sector pysgod asgellog a physgod cregyn a ffermir rhwng 2019 a 2021, a gostyngiad syfrdanol o 93 y cant yng nghyfanswm y tunelledd a gynhyrchwyd.
Mae gweithgynhyrchwyr a gwasanaethau yng Nghymru i gyd wedi dioddef o ganlyniad i'r Brexit penodol a negodwyd. Yn ogystal â'r £1.1 biliwn y mae wedi'i gostio iddynt hwy ac i ni mewn allforion, mae gadael y farchnad sengl a'r undeb tollau hefyd wedi ein gadael â bil am osod swyddi rheoli ffiniau yn ein porthladdoedd—seilwaith nad oedd mo'i angen arnom. Dyma ni'n dod at addewid arall a dorrwyd: 'yr un geiniog yn llai'. Addawyd y byddai cronfa ffyniant gyffredin y DU yn cymryd lle'r cyllid, bunt am bunt, a oedd yn llifo'n flaenorol i Gymru drwy gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop a chronfa gymdeithasol Ewrop. Ni wnaeth hynny, a nawr nid ydym ronyn yn gallach pryd a beth i'w ddisgwyl yn eu lle. Y gwir amdani yw bod Cymru £1 biliwn ar ei cholled yn sgil colli'r cronfeydd strwythurol, a bellach mae dyfodol cyllid datblygu rhanbarthol yn ddarostyngedig i fympwyon newidiol San Steffan, yn hytrach na'r meini prawf blaenorol a oedd yn seiliedig ar anghenion.
Nawr, er mai dyma yw'r sefyllfa, mae gennym astudiaeth achos o'r ffordd nad oes rhaid iddi fod fel hyn ar ffurf Gogledd Iwerddon. Mae Gogledd Iwerddon yn parhau'n weithredol yn y farchnad sengl a'r undeb tollau, a dyma'r unig ran o'r DU lle nad yw prosiect costau Brexit wedi dod o hyd i effaith Brexit negyddol ar allbwn economaidd. Canfu'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol fod mynediad ffafriol Gogledd Iwerddon i farchnad yr UE wedi dod â manteision economaidd sylweddol. Felly, mae'r achos dros ailymuno â'r farchnad sengl a'r undeb tollau yno i'w weld yn enghraifft Gogledd Iwerddon, ac mae'n bryd inni dderbyn y realiti economaidd mwyaf sylfaenol hwn.
I was reading today's The Times earlier to discover that the European Surfing Federation is moving their headquarters from Cornwall to France. In many ways, it sums up the disaster of Brexit, doesn't it? It's a decision that's driven by business, by people, by culture and by reality. So, when we talk about Brexit, what we talk about is something that has diminished Britain, that has diminished the United Kingdom. It has marginalised us in business, it has marginalised us in diplomacy and it has marginalised us in culture. There isn't a single aspect of British life that is better as a consequence of Brexit than had we stayed in the European Union. [Interruption.] I'm being heckled by an European citizen, of course, because the leader—[Interruption.] I will give way. The leader of the Welsh Conservatives, of course, thinks that Brexit is so good he's retained his European citizenship.
Roeddwn i'n darllen yn The Times yn gynharach heddiw fod Ffederasiwn Syrffio Ewrop yn symud eu pencadlys o Gernyw i Ffrainc. Mewn sawl ffordd, mae'n crynhoi trychineb Brexit, onid yw? Mae'n benderfyniad sy'n cael ei yrru gan fusnes, gan bobl, gan ddiwylliant a chan realiti. Felly, pan fyddwn ni'n siarad am Brexit, yr hyn y soniwn amdano yw rhywbeth sydd wedi crebachu Prydain, sydd wedi crebachu'r Deyrnas Unedig. Mae wedi ein gwthio i'r cyrion mewn busnes, mae wedi ein gwthio i'r cyrion mewn diplomyddiaeth ac mae wedi ein gwthio i'r cyrion mewn diwylliant. Nid oes unrhyw agwedd ar fywyd Prydain sy'n well o ganlyniad i Brexit na phe baem wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd. [Torri ar draws.] Rwy'n cael fy heclo gan ddinesydd Ewropeaidd, wrth gwrs, oherwydd mae'r arweinydd—[Torri ar draws.] Fe ildiaf. Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wrth gwrs, yn credu bod Brexit cystal fel ei fod wedi cadw ei ddinasyddiaeth Ewropeaidd.
I'm proud to be an Irish citizen, as well as a British citizen, and I'm proud to be Welsh as well. You made reference to not one benefit coming. Don't you accept that there are people alive in Wales today—including in your constituency, which, by the way, voted by the largest margin to leave the European Union in the whole of Wales—do you accept that there are people alive today, because of that faster vaccine roll-out and deployment here in Wales, which would not have been possible had we been a part of the European Union?
Rwy'n falch o fod yn ddinesydd Gwyddelig, yn ogystal â dinesydd Prydeinig, ac rwy'n falch o fod yn Gymro hefyd. Fe nodoch chi nad oes unrhyw fudd wedi dod. Onid ydych chi'n derbyn bod pobl yn fyw yng Nghymru heddiw—gan gynnwys yn eich etholaeth chi, lle gwelwyd canran uwch na gweddill Cymru i gyd yn pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd, gyda llaw—a ydych chi'n derbyn bod yna bobl yn fyw heddiw oherwydd bod y brechlyn wedi ei gyflwyno a'i ddarparu'n gyflymach yma yng Nghymru nag a fyddai wedi bod yn bosibl pe baem ni'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd?
And that, you see—. And that, you see—. The European citizen in our midst tells a direct lie, because—. It is direct lie, and you know it is—and you know it is. I wouldn't use the word otherwise. Because the European structures and the European frameworks, the EU frameworks, were in place throughout the whole of that procurement process, and that is a fact. And, of course, the fastest vaccine roll-out actually didn't happen in England under the Conservatives, but it happened in Wales under a Welsh Labour Government. So, you need to remember the whole of your facts.
One of the more diminishing aspects of Brexit—one of the more diminishing aspects of Brexit—is how it has diminished our cultural output. We heard, and the culture committee—and the Conservatives didn't challenge this at the time, during that committee—about the way that British musicians and British cultural performers are unable to tour in Europe in the way that they were able to beforehand. So, Britain is diminished—our cultural output, who we are as a people, is diminished. I give way.
A dyna ni, welwch chi—. Dyna chi—. Mae'r dinesydd Ewropeaidd yn ein plith yn dweud celwydd pur, oherwydd—. Mae'n gelwydd pur, ac rydych chi'n gwybod ei fod—ac rydych chi'n gwybod hynny. Ni fyddwn yn defnyddio'r gair fel arall. Oherwydd roedd y strwythurau Ewropeaidd a'r fframweithiau Ewropeaidd, fframweithiau'r UE, ar waith trwy gydol y broses gaffael honno, ac mae hynny'n ffaith. Ac wrth gwrs, nid yn Lloegr o dan y Ceidwadwyr y digwyddodd y broses o gyflwyno'r brechlyn gyflymaf mewn gwirionedd, ond yng Nghymru o dan Lywodraeth Lafur Cymru. Felly, mae angen i chi gofio eich ffeithiau i gyd.
Un o agweddau mwy lleihaol Brexit—un o agweddau mwy lleihaol Brexit—yw'r modd y mae wedi lleihau ein hallbwn diwylliannol. Fe glywsom ni, a'r pwyllgor diwylliant—ac ni wnaeth y Ceidwadwyr herio hyn ar y pryd, yn ystod y pwyllgor hwnnw—am y ffordd nad yw cerddorion Prydeinig a pherfformwyr diwylliannol Prydeinig yn gallu teithio yn Ewrop yn y ffordd y gallent ei wneud o'r blaen. Felly, mae Prydain yn cael ei lleihau—mae ein hallbwn diwylliannol, pwy ydym ni fel pobl, wedi lleihau. Rwy'n ildio.
Diolch, Alun. Would you agree with me that there are so many ways in which we can actually measure the catastrophic harm that has been done economically to us as a result of Brexit, but that—exactly what you've just been talking about—is one of the ways in which we can't actually measure the harm? Because now artists have to go through different visa requirements for each of the 27 member states it means that only established artists get to embark on European tours. So, we never hear the new voices. That is something you can't measure. We never get to hear that talent emerge.
Diolch, Alun. A fyddech chi'n cytuno â mi fod cymaint o ffyrdd y gallwn fesur y niwed trychinebus a wnaed yn economaidd i ni o ganlyniad i Brexit, ond dyna—yn union yr hyn rydych chi newydd fod yn sôn amdano—yw un o'r ffyrdd na allwn fesur y niwed mewn gwirionedd? Oherwydd gan fod rhaid i artistiaid fynd trwy wahanol ofynion fisa ar gyfer pob un o'r 27 aelod-wladwriaeth bellach, mae'n golygu mai dim ond artistiaid sefydledig sy'n gallu mynd ar deithiau Ewropeaidd. Felly, nid ydym byth yn clywed y lleisiau newydd. Mae hynny'n rhywbeth na allwch ei fesur. Ni chawn glywed y dalent honno'n dod i'r amlwg.
And we've lost it as a consequence. And when the committee start work on the review of the TCA, we will also hear that all respondents—all respondents—to the consultation report increased bureaucracy, costs, time and disruption to supply chains. Ninety per cent of businesses in Wales reported more and additional challenges, and the Conservatives regard this as a triumph of diplomacy and a triumph of democracy. I will give way, and I hope the Presiding Officer will be generous with me for doing so.
Ac rydym wedi ei golli o ganlyniad. A phan fydd y pwyllgor yn dechrau gweithio ar yr adolygiad o'r cytundeb masnach a chydweithredu, byddwn hefyd yn clywed bod yr holl ymatebwyr—yr holl ymatebwyr—i'r adroddiad ymgynghori yn nodi cynnydd mewn biwrocratiaeth, costau, amser a tharfu ar gadwyni cyflenwi. Soniodd 90 y cant o fusnesau yng Nghymru am heriau ychwanegol a mwy, ac mae'r Ceidwadwyr yn ystyried hyn yn fuddugoliaeth i ddiplomyddiaeth a buddugoliaeth i ddemocratiaeth. Fe wnaf ildio, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywydd yn hael gyda mi am wneud hynny.
I would just ask the Member: does it not surprise you that so many of the leading Brexiteers now happen to have European passports?
Hoffwn ofyn i'r Aelod: onid yw'n syndod i chi fod cymaint o brif gefnogwyr Brexit bellach yn meddu ar basbortau Ewropeaidd?
No, it doesn't surprise me at all, because hypocrisy is hard-wired into the Conservatives. They worship Winston Churchill, of course, and his international legacy is the European convention on human rights. Now, he recognised, in the years after the Holocaust, that to prevent that happening again, you didn't just have to make law, but you had to make human rights a part of the culture and society across the whole of our continent, and they diminish it. And of course, another one of their heroes is Margaret Thatcher. Now, I remember Margaret Thatcher fighting tooth and nail for the single market that they no longer want to be a part of. So, they diminish their own heritage by doing so. But I have to, Presiding Officer, make progress and speak about the future of where we are.
I fully agree with what Plaid Cymru are saying in their motion this afternoon, and I'm disappointed with much of what has come out of the United Kingdom Government in London. I believe that we should be making the case to rejoin the European Union, and I believe that, in our politics, we should always be honest with people. We should always be honest with people. The Conservatives haven't been honest this afternoon, and I think there are many times when I hear UK Ministers today not being honest with people. The Chancellor of the Exchequer made a speech on growth this morning. She would be better off recognising that membership of the single market would do more to hard-wire growth in the UK economy than any number of runways she wishes to build, and that growth would be more equally shared across the United Kingdom in places like Wales as well. Because Wales has suffered as a consequence of Brexit, and I want the UK Government to recognise that, to say that, and to be honest with the people of Wales and the United Kingdom, and be absolutely clear that our economic and national future has to be as Europeans, and not simply following some sort of fantasy Ruritania. And I hope, Presiding Officer, that in the future there will be a proper role and recognition for this Parliament and the Government the people of Wales elect. We did have that before we left the European Union, as it happened. Myself, the Presiding Officer and others attended meetings of European councils to represent Wales. Nowadays, we're not even allowed to debate or discuss things like the shared prosperity fund, which apparently replaces European funding, but £1 billion less in funding for communities in Wales.
I will close on this, Presiding Officer. I'm grateful to you. We need, as a Parliament and as politicians, to be honest with people and to speak clearly about what we want to see. Brexit has diminished Wales. It has damaged Wales. For those of us who believe in Wales and believe in the future of the United Kingdom we need to say very, very clearly: we will campaign, we will argue, for rejoining the European Union and taking our place not just in the councils of Europe, but in the councils of the world.
Na, nid yw'n fy synnu o gwbl, oherwydd mae rhagrith yn nodwedd greiddiol ymhlith y Ceidwadwyr. Maent yn addoli Winston Churchill, wrth gwrs, a'i waddol rhyngwladol ef yw'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Nawr, fe gydnabu, yn y blynyddoedd ar ôl yr Holocost, er mwyn atal hynny rhag digwydd eto, fod rhaid ichi wneud mwy na chyfraith yn unig, roedd yn rhaid ichi wneud hawliau dynol yn rhan o'r diwylliant a'r gymdeithas ar draws ein cyfandir cyfan, ac maent yn lleihau hynny. Ac wrth gwrs, un arall o'u harwyr yw Margaret Thatcher. Nawr, rwy'n cofio Margaret Thatcher yn ymladd yn ffyrnig dros y farchnad sengl nad ydynt am fod yn rhan ohoni mwyach. Felly, maent yn lleihau eu treftadaeth eu hunain trwy wneud hynny. Ond Lywydd, mae'n rhaid imi wneud cynnydd a siarad am y dyfodol.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae Plaid Cymru yn ei ddweud yn eu cynnig y prynhawn yma, ac rwy'n siomedig ynghylch llawer o'r hyn a ddaeth allan o Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn Llundain. Credaf y dylem fod yn dadlau'r achos dros ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd, ac rwy'n credu, yn ein gwleidyddiaeth, y dylem bob amser fod yn onest â phobl. Rhaid inni fod yn onest â phobl bob amser. Nid yw'r Ceidwadwyr wedi bod yn onest y prynhawn yma, ac rwy'n meddwl bod yna sawl adeg pan glywaf Weinidogion y DU heddiw yn methu bod yn onest â phobl. Gwnaeth Canghellor y Trysorlys araith ar dwf y bore yma. Byddai'n well iddi gydnabod y byddai aelodaeth o'r farchnad sengl yn gwneud mwy i sicrhau twf yn economi'r DU nag unrhyw nifer o redfeydd y dymuna eu hadeiladu, ac y byddai twf yn cael ei rannu'n fwy cyfartal ledled y Deyrnas Unedig mewn lleoedd fel Cymru hefyd. Oherwydd mae Cymru wedi dioddef o ganlyniad i Brexit, ac rwyf am i Lywodraeth y DU gydnabod hynny, dweud hynny, a bod yn onest â phobl Cymru a'r Deyrnas Unedig, a bod yn gwbl glir fod yn rhaid i'n dyfodol economaidd a chenedlaethol olygu mai Ewropeaid ydym ni, ac nid mynd ar drywydd rhyw fath o Rwritania ffantasïol. Ac rwy'n gobeithio, Lywydd, y bydd rôl a chydnabyddiaeth briodol i'r Senedd hon a'r Llywodraeth a etholir gan bobl Cymru yn y dyfodol. Roedd gennym hynny cyn inni adael yr Undeb Ewropeaidd, fel mae'n digwydd. Roeddwn i, y Llywydd ac eraill yn mynychu cyfarfodydd cynghorau Ewropeaidd i gynrychioli Cymru. Y dyddiau hyn, nid ydym hyd yn oed yn cael dadlau na thrafod pethau fel y gronfa ffyniant gyffredin, sy'n cymryd lle cyllid Ewropeaidd mae'n debyg, ond bod £1 biliwn yn llai o gyllid i gymunedau yng Nghymru.
Rwyf am orffen gyda hyn, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i chi. Mae angen i ni, fel Senedd ac fel gwleidyddion, fod yn onest â phobl a siarad yn glir am yr hyn rydym am ei weld. Mae Brexit wedi gwneud Cymru'n llai. Mae wedi niweidio Cymru. I'r rhai ohonom sy'n credu yng Nghymru ac sy'n credu yn nyfodol y Deyrnas Unedig, mae angen inni ddweud yn glir iawn: byddwn yn ymgyrchu, byddwn yn dadlau, dros ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd a chymryd ein lle nid yn unig yng nghynghorau Ewrop, ond yng nghynghorau'r byd.
Diolch, Llywydd. I’d like to start with the point you were ending on, Alun Davies, in terms of honesty, because that's the one thing that was lacking from those that were advocating for Brexit, and it is important, because it did damage politicians. It has damaged trust in institutions such as the Senedd, and we've got to reflect on that. And there is a hypocrisy, when you do have a European passport, to be—
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau gyda'r pwynt y gwnaethoch chi orffen ag ef, Alun Davies, ynglŷn â gonestrwydd, oherwydd dyna'r un peth a oedd yn brin gan y rhai a oedd yn dadlau dros Brexit, ac mae'n bwysig, oherwydd fe wnaeth niweidio gwleidyddion. Mae wedi niweidio ymddiriedaeth mewn sefydliadau fel y Senedd, ac mae'n rhaid inni ystyried hynny. Ac mae yna ragrith, pan fo gennych basbort Ewropeaidd, i fod—
Can I—? I'd like to put this straight, if I may make an intervention. I'm an Irish citizen. My mother is Irish. Three of my grandparents are Irish. I know you seem to be wanting to discriminate against me on the basis of my Irishness, but I have held an Irish passport for decades, long before the Brexit referendum, and I find it contemptuous, frankly, that I am being told to give up my citizenship of a country that I'm proud to be a citizen of.
A gaf i—? Hoffwn nodi hyn yn glir, os caf wneud ymyriad. Rwy'n ddinesydd Gwyddelig. Mae fy mam yn Wyddeles. Mae tri o fy neiniau a theidiau'n Wyddelod. Rwy'n gwybod ei bod yn ymddangos fel pe baech chi eisiau gwahaniaethu yn fy erbyn ar sail fy ninasyddiaeth Wyddelig, ond rwyf wedi meddu ar basbort Gwyddelig ers degawdau, ymhell cyn refferendwm Brexit, ac rwy'n teimlo sarhad, a dweud y gwir, fod rhywrai'n dweud wrthyf am ildio fy ninasyddiaeth o wlad rwy'n falch o fod yn ddinesydd ohoni.
There is no discrimination there, but when I talk about being a proud Welsh European—[Interruption.] When I talk being a proud Welsh European, that—
Nid oes unrhyw wahaniaethu, ond pan soniaf am fod yn Gymraes Ewropeaidd falch—[Torri ar draws.] Pan siaradaf am fod yn Gymraes Ewropeaidd falch, mae hynny—
You've made your point, clearly, and I thank you for enabling us all to understand your situation, Darren Millar. That's useful.
Rydych chi wedi gwneud eich pwynt yn glir, a diolch ichi am ein galluogi ni i gyd i ddeall eich sefyllfa, Darren Millar. Mae hynny'n ddefnyddiol.
Heledd Fychan i gario ymlaen.
Heledd Fychan to continue.
Diolch yn fawr iawn. I would say there is a slight hypocrisy when you do enjoy the whole benefits of EU citizenship, whereas we have had those denied, and we're seeing the impact of that on people in our communities. And the people of Wales have had their say on the Brexit deal that was negotiated by the Conservatives. They voted to have no Conservatives representing them from Wales in the UK Parliament. So why not reflect on that and listen to our communities? Because it's very, very clear that Brexit has not benefited our communities, and, if we want people to trust us as politicians, we need to reflect when bad decisions are made because of misinformation, and there were lies told. There were lies told continuously during that campaign.
So, we want to focus on the facts. According to analysis from the National Institute of Economic and Social Research, Brexit was responsible for a 2 per cent to 3 per cent real-terms decline in UK GDP during the first three years after the transition period, which equates to a loss of £850 per capita. The negative effects are likely to escalate in the coming years, with a real-terms hit of 5 per cent to 6 per cent. The Centre for European Reform estimates that Brexit was responsible for a £40 billion shortfall in tax revenues during 2020-21 alone, and, based on population share, that's £2 billion-worth of potential funding to Wales that was lost in a single year.
Now, proponents of Brexit used to argue that the resultant savings from not having to contribute to the EU budget could be reinvested into public services. Luke Fletcher mentioned that infamous bus, but, as the OBR concluded in March 2024, these savings have already been entirely incorporated into UK Government departmental expenditure lines. So, whatever the precise total of these savings, they haven't been anywhere near enough to arrest relentless public spending squeezes, which include a £559 million funding gap for Welsh local authorities over the coming financial year alone. Meanwhile, the need to navigate the reams of extra red tape after Brexit has generated new costs, such as the £87.6 million outlay on new border infrastructure at Holyhead, of which only £53.5 million has so far been committed by the UK Government. This means that, from 2026-27, the remaining £34.1 million might need to be found from the Welsh budget, an outlay we can ill afford, especially at a time when maintenance backlogs in the NHS, in our education sector, as well as our cultural institutions, have grown substantially.
When we consider the scale of this damage inflicted on the public purse, it’s difficult to know what’s more infuriating. There’s the knowledge that the principal cheerleaders of Brexit—that disreputable crew of multi-millionaires, tax dodgers, those that were willing to lie—aren’t the ones feeling the pinch; rather, it is our public services and hard-pressed working households that are having to carry the can. But then there’s the fact that, despite correctly identifying the need to address the UK’s anaemic record on economic growth and productivity as a route to restoring public finances, the UK Labour Government steadfastly refuses to pull the most obvious policy lever that could actually make an immediate positive difference, namely rejoining the EU single market and customs union. So, for the sake of our struggling public services, let’s hope that the powers that be at Westminster wake up to this inescapable necessity sooner rather than later.
Diolch yn fawr iawn. Mae'n rhagrithiol braidd a chithau'n mwynhau holl fuddion dinasyddiaeth yr UE, ond ein bod ni wedi ein hamddifadu ohonynt, a'n bod yn gweld effaith hynny ar bobl yn ein cymunedau. Ac mae pobl Cymru wedi cael dweud eu barn ar y cytundeb Brexit a gafodd ei negodi gan y Ceidwadwyr. Fe wnaethant bleidleisio dros beidio â chael unrhyw Geidwadwyr o Gymru i'w cynrychioli yn Senedd y DU. Felly beth am ystyried hynny a gwrando ar ein cymunedau? Oherwydd mae'n amlwg iawn nad yw Brexit wedi bod o fudd i'n cymunedau, ac os ydym am i bobl ymddiried ynom fel gwleidyddion, mae angen inni feddwl pryd y gwneir penderfyniadau gwael oherwydd camwybodaeth, a bod celwyddau wedi'u dweud. Dywedwyd celwyddau'n barhaus yn ystod yr ymgyrch honno.
Felly, rydym am ganolbwyntio ar y ffeithiau. Yn ôl dadansoddiad gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, roedd Brexit yn gyfrifol am ostyngiad o 2 y cant i 3 y cant mewn termau real yng nghynnyrch domestig gros y DU yn ystod y tair blynedd gyntaf ar ôl y cyfnod pontio, sy'n gyfystyr â cholled o £850 y pen. Mae'r effeithiau negyddol yn debygol o gynyddu yn y blynyddoedd i ddod, gydag ergyd mewn termau real o 5 y cant i 6 y cant. Mae'r Ganolfan Diwygio Ewropeaidd yn amcangyfrif mai Brexit oedd yn gyfrifol am ddiffyg o £40 biliwn mewn refeniw treth yn ystod 2020-21 yn unig, ac yn seiliedig ar ei chyfran o'r boblogaeth, dyna werth £2 biliwn o gyllid posibl i Gymru wedi'i golli mewn un flwyddyn.
Nawr, arferai cefnogwyr Brexit ddadlau y gallai'r arbedion canlyniadol o beidio â gorfod cyfrannu at gyllideb yr UE gael eu hailfuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Soniodd Luke Fletcher am y bws enwog, ond fel y casglodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ym mis Mawrth 2024, mae'r arbedion hyn eisoes wedi'u hymgorffori'n llwyr yn llinellau gwariant adrannol Llywodraeth y DU. Felly, beth bynnag yw union gyfanswm yr arbedion, nid ydynt wedi dod yn agos at ddatrys y wasgfa ddi-baid ar wariant cyhoeddus, sy'n cynnwys bwlch ariannol o £559 miliwn i awdurdodau lleol Cymru dros y flwyddyn ariannol nesaf yn unig. Yn y cyfamser, mae'r angen i lywio drwy'r fiwrocratiaeth ychwanegol helaeth ar ôl Brexit wedi creu costau newydd, megis y gwariant o £87.6 miliwn ar seilwaith ffiniau newydd yng Nghaergybi, a dim ond £53.5 miliwn ohono sydd wedi'i ymrwymo hyd yma gan Lywodraeth y DU. Mae hyn yn golygu, o 2026-27 ymlaen, y gallai fod angen dod o hyd i'r £34.1 miliwn sy'n weddill o gyllideb Cymru, gwariant na allwn prin ei fforddio, yn enwedig ar adeg pan fo ôl-groniadau cynnal a chadw yn y GIG, yn ein sector addysg, yn ogystal â'n sefydliadau diwylliannol, wedi tyfu'n sylweddol.
Pan ystyriwn faint y niwed a achoswyd i'r pwrs cyhoeddus, mae'n anodd gwybod beth sy'n gwylltio rhywun fwyaf. Ai'r wybodaeth nad prif hyrwyddwyr Brexit—y criw diegwyddor o aml-filiwnyddion, osgowyr trethi, y rheini a oedd yn barod i ddweud celwydd—yw'r rhai sy'n teimlo'r pwysau, ond ein gwasanaethau cyhoeddus a'n haelwydydd gweithgar. Wedyn, er bod Llywodraeth Lafur y DU wedi nodi'r angen, yn gywir ddigon, i fynd i'r afael â hanes anaemig y DU o ran twf economaidd a chynhyrchiant fel llwybr tuag at adfer cyllid cyhoeddus, mae'n gwrthod tynnu'r lifer polisi mwyaf amlwg a allai wneud gwahaniaeth cadarnhaol ar unwaith, sef ailymuno â marchnad sengl ac undeb tollau'r UE. Felly, er budd ein gwasanaethau cyhoeddus sy'n ei chael hi'n anodd, gadewch inni obeithio y bydd y pwerau yn San Steffan yn deffro i'r angen anosgoadwy hwn yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.
Mae'n rhaid i ni fod yn onest ynglŷn ag effaith Brexit ar Gymru a rhoi ar waith strategaeth i liniaru hynny. Dydyn ni ddim yn mynd i gael ffydd nôl yn y Senedd hon nag unrhyw wleidydd os nad ydym ni yn onest am yr effeithiau ar Gymru, a'n bod ni yn mynnu bod Llywodraeth Lafur San Steffan yn gweithredu.
We have to be honest about the impact of Brexit on Wales and put in place a strategy to mitigate that. We are not going to restore faith in this Senedd or in any politician if we're not honest about the impact on Wales, and that we do insist that the UK Labour Government takes action.
As my colleague Darren Millar said earlier, this is a good day for me. I love coming here to talk about Brexit and the benefits that it has brought to Wales and the United Kingdom, and I will say that some of the contributions from the opposite side of the Chamber here I think just show how out of touch opposition parties here are to what real people are saying out across Wales, because here we are again—another day, another debate where Plaid Cymru dusts off the old playbook. It clings to the past and peddles their tired old narrative of breaking up the United Kingdom while simultaneously hitching their wagon to the European Union. And let us call it what it is—a desperate, unworkable ideology that ignores the will of the people.
But let's not forget in 2016 that the people of Wales decisively voted to leave the European Union by 52 per cent to 47 per cent. That's a clear majority. Plaid Cymru, however, refuse—[Interruption.] You refuse to respect that decision. Instead—
Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Darren Millar yn gynharach, mae hwn yn ddiwrnod da i mi. Rwyf wrth fy modd yn dod yma i siarad am Brexit a'r manteision y mae wedi'u dwyn i Gymru a'r Deyrnas Unedig, ac rwy'n credu bod rhai o'r cyfraniadau o ochr arall y Siambr yma yn dangos cyn lleied o gysylltiad sydd gan y gwrthbleidiau yma â'r hyn y mae pobl go iawn yn ei ddweud ledled Cymru, oherwydd dyma ni eto—diwrnod arall, dadl arall lle mae Plaid Cymru yn canu'r un hen gân. Mae'n glynu wrth y gorffennol ac yn pedlera ei hen naratif treuliedig ynghylch chwalu'r Deyrnas Unedig gan glymu eu hunain wrth yr Undeb Ewropeaidd ar yr un pryd. A gadewch inni ei alw yr hyn ydyw—ideoleg ddiobaith, anymarferol sy'n anwybyddu ewyllys y bobl.
Ond gadewch inni beidio ag anghofio yn 2016 fod 52 y cant o bobl Cymru wedi pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd a 47 y cant wedi pleidleisio yn erbyn. Dyna fwyafrif amlwg. Mae Plaid Cymru, fodd bynnag, yn gwrthod—[Torri ar draws.] Rydych chi'n gwrthod parchu'r penderfyniad hwnnw. Yn hytrach—
Will you take an intervention?
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Not yet; I'm going to make some progress. Instead, they campaign tirelessly to drag us back into a system that we chose to leave, a system that ignored Wales for years. This is not democracy. It's a refusal to listen. Plaid Cymru is stuck in the past, while the people of Wales have moved on. Brexit gave us something the EU could never give us—control over our own destiny. It allowed us to take back control of our laws, our borders and our trade. That's what sovereignty means. Yet Plaid Cymru would happily surrender all that sovereignty back to Brussels.
And what is Plaid Cymru's solution? They want Wales to rejoin the single market, the customs union and a back route to rejoining the European Union entirely. But let's just say what that means. Rejoining the single market means surrendering control of our laws to Brussels. Rejoining the customs union means we can't strike our own trade deals and, worst of all, we'd have no say over EU rules yet we'd be forced to follow them.
And let's talk about one of the biggest concerns that people across Wales and the whole of the United Kingdom have. Let's talk about it. Plaid Cymru and Labour don't want to talk about it, but let's talk about controlling our borders. One of the clear benefits of Brexit is the ability to create our own immigration system. Under Conservative leadership, we introduced the Rwanda plan, a bold and clear, effective policy designed to deter illegal immigration, dismantle the business models of people smugglers who exploit vulnerable people. But what has Labour done? They scrapped the Rwanda plan, opening the floodgates for illegal immigration to increase. And only our party knows that a nation without secure borders cannot secure its own citizens, and that is the truth.
Plaid Cymru talks endlessly about breaking up the United Kingdom as if it's a source of all our problems. But let's not forget the strength we draw from being part of a union that has stood the test of time. The UK is more than an economic agreement; it's a bond of shared culture, shared history, shared opportunity, and breaking it apart would leave Wales weaker, more isolated, and not stronger—[Interruption.] Yes, I'll take an intervention, Heledd.
Ddim eto; rwy'n mynd i wneud rhywfaint o gynnydd. Yn hytrach, maent yn ymgyrchu'n ddiflino i'n llusgo'n ôl i system y gwnaethom ddewis ei gadael, system a oedd wedi anwybyddu Cymru ers blynyddoedd. Nid democratiaeth mo hyn, ond gwrthod gwrando. Mae Plaid Cymru yn gaeth yn y gorffennol, tra bo pobl Cymru wedi symud ymlaen. Rhoddodd Brexit rywbeth na allai'r UE fyth mo'i roi i ni—rheolaeth dros ein tynged ein hunain. Fe ganiataodd i ni adfer rheolaeth ar ein cyfreithiau, ein ffiniau a'n masnach. Dyna beth y mae sofraniaeth yn ei olygu. Eto i gyd, byddai Plaid Cymru yn hapus i ildio'r sofraniaeth honno yn ôl i Frwsel.
A beth yw ateb Plaid Cymru? Maent am i Gymru ailymuno â'r farchnad sengl, yr undeb tollau a llwybr cefn i ailymuno'n llawn â'r Undeb Ewropeaidd. Ond gadewch inni ddweud beth y mae hynny'n ei olygu. Mae ailymuno â'r farchnad sengl yn golygu ildio rheolaeth ar ein cyfreithiau i Frwsel. Mae ailymuno â'r undeb tollau yn golygu na allwn daro ein cytundebau masnach ein hunain ac yn waeth na dim, ni fyddai gennym unrhyw lais dros reolau'r UE er y byddem yn cael ein gorfodi i'w dilyn.
A gadewch inni siarad am un o'r pryderon mwyaf sydd gan bobl ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig gyfan. Gadewch inni siarad am y peth. Nid yw Plaid Cymru a Llafur eisiau siarad amdano, ond gadewch inni siarad am reoli ein ffiniau. Un o fanteision amlwg Brexit yw'r gallu i greu ein system fewnfudo ein hunain. O dan arweinyddiaeth y Ceidwadwyr, fe wnaethom gyflwyno cynllun Rwanda, polisi beiddgar, clir ac effeithiol a gynlluniwyd i atal mewnfudo anghyfreithlon, datgymalu modelau busnes smyglwyr pobl sy'n ecsbloetio pobl agored i niwed. Ond beth y mae Llafur wedi ei wneud? Fe gawsant wared ar gynllun Rwanda, gan agor y llifddorau i fewnfudo anghyfreithlon allu cynyddu. A dim ond ein plaid ni sy'n gwybod na all cenedl heb ffiniau diogel ddiogelu ei dinasyddion ei hun, a dyna'r gwir.
Mae Plaid Cymru yn siarad yn ddiddiwedd am chwalu'r Deyrnas Unedig fel pe bai'n ffynhonnell i'n holl broblemau. Ond gadewch inni beidio ag anghofio'r cryfder a gawn o fod yn rhan o undeb sydd wedi gwrthsefyll prawf amser. Mae'r DU yn fwy na chytundeb economaidd; mae'n gwlwm o ddiwylliant a rennir, o hanes a rennir, o gyfle a rennir, a byddai ei ddatod yn gadael Cymru'n wannach, yn fwy ynysig, ac nid yn gryfach—[Torri ar draws.] Iawn, fe wnaf dderbyn ymyriad, Heledd.
Do you not accept that, because of our proximity, we've always enjoyed having strong connections? Many of us feel European because of those connections. You look back at the connection between Wales going back with Ireland, other European nations, your argument makes no sense. You're talking about being completely cut off from those connections that we've enjoyed for centuries that form part of our identity. Can't you see the irony in your argument? You have made these connections disappear overnight.
Onid ydych chi'n derbyn, oherwydd ein hagosrwydd, ein bod bob amser wedi mwynhau cael cysylltiadau cryf? Mae llawer ohonom yn teimlo'n Ewropeaidd oherwydd y cysylltiadau hynny. Rydych chi'n edrych yn ôl ar y cysylltiad a fu rhwng Cymru ac Iwerddon, cenhedloedd Ewropeaidd eraill, nid yw eich dadl yn gwneud unrhyw synnwyr. Rydych chi'n sôn am gael eich ynysu'n llwyr oddi wrth y cysylltiadau yr ydym wedi'u mwynhau ers canrifoedd ac sy'n ffurfio rhan o'n hunaniaeth. Oni allwch chi weld yr eironi yn eich dadl? Rydych chi wedi gwneud i'r cysylltiadau hyn ddiflannu dros nos.
Heledd, they've not disappeared overnight. I'm an internationalist. I want to be a part of a country that can strike trade agreements with any part of the world, not shackled to an institution that wants to do those deals for us. And here's the long irony: Plaid Cymru want to leave the United Kingdom and jump straight back into another union. Wales would have less influence than what it does today. That's not independence; it's total hypocrisy.
Brexit has brought us great opportunities. We have freedoms to strike our own trade deals tailored to our own unique strengths. We can create a system that supports our farmers, free of EU red tape and diktat. We can prioritise industries that matter most to Wales—[Interruption.]—matter most to Wales, through technology, through emerging markets—[Interruption.] That's what we can do.
Heledd, nid ydynt wedi diflannu dros nos. Rwy'n rhyngwladolwr. Rwyf am fod yn rhan o wlad sy'n gallu taro cytundebau masnach gydag unrhyw ran o'r byd, nid cael ein rhwymo wrth sefydliad sydd am ffurfio'r cytundebau hynny ar ein rhan. A dyma'r eironi: mae Plaid Cymru eisiau gadael y Deyrnas Unedig a neidio'n syth yn ôl i mewn i undeb arall. Byddai gan Gymru lai o ddylanwad na'r hyn sydd ganddi heddiw. Nid annibyniaeth yw hynny, ond rhagrith llwyr.
Mae Brexit wedi dod â chyfleoedd mawr i ni. Mae gennym ryddid i daro ein cytundebau masnach ein hunain wedi'u teilwra i'n cryfderau unigryw ein hunain. Gallwn greu system sy'n cefnogi ein ffermwyr, yn rhydd o fiwrocratiaeth a dictad yr UE. Gallwn flaenoriaethu'r diwydiannau sydd bwysicaf i Gymru—[Torri ar draws.]—sydd bwysicaf i Gymru, drwy dechnoleg, drwy farchnadoedd sy'n dod i'r amlwg—[Torri ar draws.] Dyna y gallwn ei wneud.
I do want to hear James Evans. I will call Plaid Cymru. If you've put your name down, I may call you in the next few minutes to express your views. I know some of you haven't been called yet, so if you're quiet, I may call you. James Evans.
Rwyf eisiau clywed James Evans. Fe alwaf ar Blaid Cymru. Os ydych chi wedi rhoi eich enw i lawr, efallai y byddaf yn eich galw yn ystod yr ychydig funudau nesaf i fynegi eich barn. Rwy'n gwybod bod rhai ohonoch heb gael eich galw eto, felly os byddwch chi'n dawel, efallai y byddaf yn eich galw. James Evans.
Diolch, Llywydd. I want to say to those people who are out there listening to this debate today: those of you who supported Brexit and believe in a strong United Kingdom, we hear you. You voted for sovereignty, secure borders, for a Government that puts its people first, not unelected bureaucrats in Brussels. Plaid Cymru doesn't understand that. Labour doesn't understand that. But we do. If you believe in the principles of Brexit, believe in protecting our borders in a strong, independent United Kingdom, then the Conservative vision is your vision. Plaid Cymru's vision is not a solution; it's a backward-looking muddled fantasy that would leave Wales isolated, weaker and controlled by unelected bureaucrats. You can laugh all you like, Rhun ap Iorwerth, but you're on the wrong side of history on this. I'm afraid to say you're finished. If Labour stick to this task as well, they are finished. We support those people who supported Brexit. We always will and always have.
Diolch, Lywydd. Rwyf am ddweud wrth y bobl sydd allan yno'n gwrando ar y ddadl hon heddiw: y rhai ohonoch a gefnogodd Brexit ac sy'n credu mewn Teyrnas Unedig gref, rydym yn eich clywed. Fe wnaethoch chi bleidleisio dros sofraniaeth, ffiniau diogel, dros Lywodraeth sy'n rhoi ei phobl yn gyntaf, nid biwrocratiaid anetholedig ym Mrwsel. Nid yw Plaid Cymru'n deall hynny. Nid yw Llafur yn deall hynny. Ond rydym ni. Os ydych chi'n credu yn egwyddorion Brexit, yn credu mewn diogelu ein ffiniau mewn Teyrnas Unedig gref, annibynnol, gweledigaeth y Ceidwadwyr yw eich gweledigaeth chi. Nid yw gweledigaeth Plaid Cymru yn ateb; ffantasi niwlog sy'n edrych tuag yn ôl yw hi a fyddai'n gadael Cymru'n ynysig, yn wannach ac yn cael ei rheoli gan fiwrocratiaid anetholedig. Gallwch chwerthin faint a fynnwch, Rhun ap Iorwerth, ond rydych chi ar yr ochr anghywir i hanes ar hyn. Mae arnaf ofn ei bod ar ben arnoch. Os yw Llafur yn glynu wrth hyn, mae ar ben arnynt hwythau hefyd. Rydym ni'n cefnogi'r bobl a gefnogodd Brexit. Rydym bob amser wedi gwneud hynny, a byddwn yn parhau i'w cefnogi.
Well, that's the best episode of Tory Jackanory I've heard in a long time, I have to say. Honestly. Honestly. The brass neck of Conservatives telling the rest of us that we're out of touch. Really? Really? Look, increased red tape, a worsening economic situation, damaging free trade deals, a trail of broken promise. Those are just some of the issues raised by farmers—raised by farmers—and those working in ancillary industries who are far from satisfied with Brexit. And that's not my list—[Interruption.] Hang on, I've been on my feet 25 seconds; you've been on your feet for about six minutes, you've just sat down. Give me a second to develop—. I know it's hurting, right, but it's your turn to listen this time, okay? It's your turn to listen this time.
Wel, dyna'r bennod orau o Jackanory Torïaidd i mi ei glywed ers amser maith, mae'n rhaid imi ddweud. O ddifrif. Am wyneb sydd gan y Ceidwadwyr i ddweud wrth y gweddill ohonom ein bod ni allan o gysylltiad. Go iawn? Go iawn? Edrychwch, mwy o fiwrocratiaeth, sefyllfa economaidd sy'n gwaethygu, cytundebau masnach rydd sy'n niweidio, cyfres o addewidion wedi eu torri. Dyna rai yn unig o'r pethau a godwyd gan ffermwyr—a godwyd gan ffermwyr—a'r rhai sy'n gweithio mewn diwydiannau ategol sydd ymhell o fod yn fodlon â Brexit. Ac nid fy rhestr i yw hi—[Torri ar draws.] Un eiliad, rwyf wedi bod ar fy nhraed ers 25 eiliad; fe fuoch chi ar eich traed am oddeutu chwe munud, newydd eistedd ydych chi. Rhowch eiliad i mi ddatblygu—. Rwy'n gwybod ei fod yn brifo, iawn, ond eich tro chi yw gwrando nawr, o'r gorau? Eich tro chi yw gwrando nawr.
Llyr Gruffydd.
Llyr Gruffydd.
Now, those were all highlighted in a recent Farmers Weekly survey—that's not me making this up—where they asked farmers—[Interruption.] Look, do you—?
Nawr, tynnwyd sylw at y rheini i gyd mewn arolwg diweddar gan Farmers Weekly —nid fi sy'n creu hyn—lle roeddent yn gofyn i ffermwyr—[Torri ar draws.] Edrychwch, a ydych chi—?
You did have your six minutes; I was generous with you. You did have a lot of heckling, and I did stop them.
Fe gawsoch chi eich chwe munud; roeddwn yn garedig gyda chi. Fe gawsoch chi lawer o heclo, ac fe roddais stop arnynt.
If you want me to heckle, I will.
Os ydych chi eisiau i mi heclo, fe wnaf.
No, no. Llyr, just carry on with your speech, okay? You're doing a very—
Na, na. Llyr, parhewch gyda'ch araith, iawn? Rydych chi'n gwneud—
I can heckle myself. I'm very good at it.
Rwy'n gallu heclo fy hun. Rwy'n dda iawn am wneud.
And stop the pointing as well. Stop the pointing as well. Okay. Carry on, Llyr.
A rhowch y gorau i'r pwyntio hefyd. Rhowch y gorau i'r pwyntio hefyd. O'r gorau. Parhewch, Llyr.
Right. Okay. In that survey, farmers believed that Brexit had had a negative effect. They overwhelmingly felt so: 75 per cent said it was negative for the economy; nearly 70 per cent said it was negative for their business. Now, one immediate effect that we felt in the industry in Wales, of course, is the loss of funding stability and security, because it stripped rural Wales of the stability provided by the EU's seven-year multi-annual financial framework. We're literally going from one 12 months to another, not knowing what's coming. That's undermined the sector's ability to plan for its future. It's undermined confidence. It's impacted the ability to invest in infrastructure, in innovation, and, of course, that means that we're falling behind our competitors who are moving ahead. The whole sustainable farming scheme debacle, if you like, the concern, the friction, the upheaval, it's only happening because of Brexit. It's only happening because we need to replace the common agricultural policy here in Wales.
Now, we've had broken promises, as we've heard, about the 'not a penny less' promise in the 2019 manifesto, and, of course, we know that Wales is around a £0.25 billion worse off since Brexit, and that equates, by the way, to about £15,000 per basic payment scheme claimant in Wales since 2019. In fact, agricultural funding in Wales is now £90 million less annually than under the common agricultural policy. And there are huge concerns, by the way, about that being eroded further by the Barnettisation of agricultural support.
It was interesting, wasn't it, because, earlier this afternoon, the Cabinet Secretary for finance was telling us that he was angry that the money coming from Westminster to cover the cost of the increase in national insurance contributions for the public sector in Wales is Barnettised instead of being based on the size of the sector in Wales, and he's right, of course, because the public sector in Wales is relatively larger than the rest of the UK, and it should be recognised in the way that funding is allocated rather than using the blunt, population-based Barnett formula. He's right to oppose it, but, of course, this Government is much more accepting of the same injustice when it comes to agricultural funding, and that needs to change. [Interruption.] Very briefly.
Iawn. O'r gorau. Yn yr arolwg hwnnw, credai ffermwyr fod Brexit wedi cael effaith negyddol. Roedd nifer aruthrol ohonynt yn teimlo hynny: dywedodd 75 y cant ei fod yn negyddol i'r economi; dywedodd bron i 70 y cant ei fod yn negyddol i'w busnes. Nawr, un effaith uniongyrchol a deimlwyd gennym yn y diwydiant yng Nghymru yw colli sefydlogrwydd a diogelwch ariannol, oherwydd fe amddifadodd gefn gwlad Cymru o'r sefydlogrwydd a gâi gan fframwaith ariannol aml-flwyddyn saith mlynedd yr UE. Rydym yn llythrennol yn mynd o un 12 mis i'r llall, heb wybod beth sy'n dod. Mae hynny wedi tanseilio gallu'r sector i gynllunio ar gyfer ei ddyfodol. Mae wedi tanseilio hyder. Mae wedi effeithio ar y gallu i fuddsoddi mewn seilwaith, mewn arloesi, ac wrth gwrs, mae hynny'n golygu ein bod yn llusgo ar ôl ein cystadleuwyr sy'n symud ymlaen. Y rheswm pam y mae holl ffiasgo'r cynllun ffermio cynaliadwy, y pryder, y gwrthdaro, y cynnwrf, yn digwydd yw oherwydd Brexit. Yr unig reswm y mae'n digwydd yw oherwydd bod angen inni gael rhywbeth yn lle'r polisi amaethyddol cyffredin yma yng Nghymru.
Nawr, rydym wedi cael addewidion a dorrwyd, fel y clywsom, yr addewid 'yr un geiniog yn llai' ym maniffesto 2019, ac wrth gwrs, fe wyddom fod Cymru oddeutu £0.25 biliwn yn waeth ei byd ers Brexit, ac mae hynny'n cyfateb, gyda llaw, i oddeutu £15,000 am bob un o hawlwyr cynllun y taliad sylfaenol yng Nghymru ers 2019. Mewn gwirionedd, mae cyllid amaethyddol yng Nghymru bellach £90 miliwn yn llai bob blwyddyn nag o dan y polisi amaethyddol cyffredin. Ac mae pryderon enfawr, gyda llaw, fod hynny'n cael ei erydu ymhellach yn sgil Barnetteiddio cymorth amaethyddol.
Roedd yn ddiddorol, onid oedd, oherwydd, yn gynharach y prynhawn yma, roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn dweud wrthym ei fod yn ddig fod yr arian sy'n dod o San Steffan i dalu cost y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru wedi ei Barnetteiddio yn hytrach na'i fod yn seiliedig ar faint y sector yng Nghymru, ac mae'n iawn, wrth gwrs, oherwydd mae'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn fwy yn gymharol na gweddill y DU, a dylid cydnabod hynny yn y ffordd y caiff cyllid ei ddyrannu yn hytrach na defnyddio'r fformiwla Barnett ddi-awch sy'n seiliedig ar boblogaeth. Mae'n iawn i'w wrthwynebu, ond wrth gwrs, mae'r Llywodraeth hon yn llawer mwy parod i dderbyn yr un anghyfiawnder mewn perthynas â chyllid amaethyddol, ac mae angen i hynny newid. [Torri ar draws.] Yn fyr iawn.
Thank you. Do you agree with me that, far from the comfort blanket that the UK was, as described by the leader of the Conservatives, Brexit opened the door to the UK Government undermining Wales through the Barnettisation of the funding for agriculture?
Diolch. A ydych chi'n cytuno â mi, ymhell o fod yn flanced gysur fel y disgrifiwyd y DU gan arweinydd y Ceidwadwyr, fod Brexit wedi agor y drws i Lywodraeth y DU allu tanseilio Cymru drwy Barnetteiddio'r cyllid ar gyfer amaethyddiaeth?
Well, absolutely, and it's being undermined in other ways as well, because we only have to look at the impact of some of the post-Brexit trade deals on Welsh farmers, which is causing huge concern. The Australia and New Zealand deal: the UK Government's own impact analysis predicts that hundreds of millions of pounds in losses will be experienced by the UK farming sector under some of these trade agreements. They expose Welsh farmers to unfair competition, again, from countries with significantly lower production costs and lower regulatory standards, and that's why we want the UK Government to revise its trade policy to prioritise domestic food security, high standards and fair competition for Welsh farmers.
Now, farmers have lost out on a level playing field as a consequence of Brexit. Abi Reader, the deputy president of NFU Cymru, was on Radio Wales earlier this week, and she said, 'All we want is a level playing field', and that's been lost since Brexit. Being part of the single market and the customs union would at least repair some of that damage. It's accepted that Brexit has made trading a lot more complicated for farmers in this country. There are issues now with veterinary certifications, increased border checks and controls. We've never had them before: plant health certification, and all of the chilled chain requirements for our perishable products. They're all added burdens, they're causing a lot of friction and, with that, of course, comes increased costs for the sector. [Interruption.] I'm afraid I'm out of time.
We need closer alignment with our nearest neighbours and our biggest export market, and being part of the single market and the customs union would at least be a positive step for Welsh farmers and for the Welsh agricultural sector.
Wel, yn hollol, ac mae'n cael ei danseilio mewn ffyrdd eraill hefyd, oherwydd nid oes raid ond edrych ar effaith rhai o'r cytundebau masnach ôl-Brexit ar ffermwyr Cymru, sy'n destun pryder enfawr. Cytundeb Awstralia a Seland Newydd: mae dadansoddiad effaith Llywodraeth y DU ei hun yn rhagweld y bydd sector ffermio'r DU yn wynebu cannoedd o filiynau o bunnoedd o golledion o dan rai o'r cytundebau masnach hyn. Maent yn gwneud ffermwyr Cymru'n agored i gystadleuaeth annheg, unwaith eto, gan wledydd sydd â chostau cynhyrchu sylweddol is a safonau rheoleiddio is, a dyna pam ein bod am i Lywodraeth y DU adolygu ei pholisi masnach i flaenoriaethu diogeledd bwyd domestig, safonau uchel a chystadleuaeth deg i ffermwyr Cymru.
Nawr, mae ffermwyr wedi cael eu hamddifadu o chwarae teg o ganlyniad i Brexit. Roedd Abi Reader, dirprwy lywydd NFU Cymru, ar Radio Wales yn gynharach yr wythnos hon, ac fe ddywedodd, 'Y cyfan rydym ei eisiau yw chwarae teg', ac mae hynny wedi ei golli ers Brexit. Byddai bod yn rhan o'r farchnad sengl a'r undeb tollau yn unioni rhywfaint o'r niwed o leiaf. Derbynnir bod Brexit wedi gwneud masnachu'n llawer mwy cymhleth i ffermwyr yn y wlad hon. Mae problemau nawr gydag ardystiadau milfeddygol, mwy o archwiliadau a rheolaethau ffiniau. Nid ydym erioed wedi'u cael o'r blaen: ardystiadau iechyd planhigion, a'r holl ofynion oeri ar gyfer ein cynhyrchion darfodus. Mae pob un ohonynt yn feichiau ychwanegol, maent yn achosi llawer o wrthdaro a chyda hynny, wrth gwrs, daw costau uwch i'r sector. [Torri ar draws.] Rwy'n ofni bod fy amser wedi dod i ben.
Mae angen alinio'n agosach â'n cymdogion agosaf a'n marchnad allforio fwyaf, a byddai bod yn rhan o'r farchnad sengl a'r undeb tollau yn gam cadarnhaol ymlaen i ffermwyr Cymru ac i'r sector amaethyddol yng Nghymru.
Llywydd, right at the start of this, I perhaps ought to say that we will be forming a cross-party group on Wales and Europe to rejoin the European Union, and I look forward to Members opposite supporting that.
Michael Heseltine was on television the other day, and he was angry because he was saying that Brexit has wrecked the greatest achievement of Margaret Thatcher, which was the creation of the single market. He went on to say that Brexit was won on a lie and it was a deception. That, of course, makes Farage the architect of that lie and that deception, and I suppose, in biblical terms, you'd describe him as the arch deceiver. When I looked at that term, I thought I'd look at what it actually meant. Well, of course, the arch deceiver is one who orchestrates deception, especially the devil—especially, but not exclusively, the devil. And if you go on to 'deceiver', it's someone who leads you to believe something that is not true, and that is what Brexit was, because we are now worse off, and we are getting worse, and it will get worse. Brexit is a political, economic and social cancer.
The clear economic statistics, agreed by nearly all the main economic monitors, with no political agenda: the average Briton is nearly £2,000 per annum worse off. Loss to the UK economy is assessed at £140 billion, and it's estimated that, by 2035, we will be £300 billion worse off than if we had not left the EU, and we currently have an estimated 1.8 million fewer jobs as a consequence.
And at a time when globalisation is taking place throughout the world, we see the great political blocs being formed already—China, India, Russia, USA, the EU—and we're not in any of these blocs at all. We are outside all of them. Now, Nigel Farage and, of course, the Reform party, talk a lot about the US special relationship. In fact, rather than being in his constituency, Farage virtually lives in the US, trying to get close to the White House. Well, I have to say, in my view, I don't think there is any longer a US special relationship. What the US wants, and certainly under Trump, is they want the UK health market. That's why Farage is supportive of the privatisation of the health service. That is why he is speaking about that now. Now, Lenin had a term for people like that and it was 'useful idiots'. Farage is Trump's useful idiot, and he’s working to see the break-up of the national health service, and that is a consequence of that politics.
The benefit to being in the EU, particularly at this moment in time, after Russia's invasion of Ukraine, a war in Europe, is that there was an interdependence and a common support that we are rapidly trying to keep going and to recreate. And we see the risks of what is happening as a result of that war—the threat, were Russia to succeed, in terms of Moldova, Georgia, the Baltic countries, Serbia, Poland, and the political consequences of that are significant.
The other thing that membership of the EU gave us was a common and an independent governance in terms of international law and the rule of law. So, things like the International Criminal Court, the European Court of Human Rights, the European Court of Justice—all those things are important because it was recognised that you cannot be the marker of your own homework, you cannot be the determinant of certain standards that you have signed up to agreeing. And yet we have a Conservative Party that wants to actually eliminate those, that wants to actually pull out of those, and that would be an actual disaster for the common governance, for international law, and for the rule of law as we know it.
Wales has lost out as a result of being out of the EU, and the consequence of that is that we've had UK centralisation. One of the things we should be doing now is looking at abolishing the United Kingdom Internal Market Act 2020, which was a consequence of that. But we've seen the centralisation of funding, and we've not seen the proper replacement of EU funding, and I share all those particular views with regard to the shared prosperity fund and the others that need to be resolved. But what we did have as part of the EU was that Wales had a sub-national status and the ability in devolved areas of engaging on a European front at the highest level of politics. We don't have that any more.
So, what are the steps forward? Well, the one thing I do welcome very much that's happening now, and the more positive messages that are coming out, is moving towards joining the single market and a customs union. And it's interesting, isn't it, to see Lord Frost—that Brexiteer who so berated unelected politicians, becoming an unelected politician himself—actually saying he has no objection. He doesn't think it matters. He doesn't think that's an issue or that it undermines Brexit. So, the first step, really, has to be rejoining the single market.
And I think there is a second step, and I will be working with this when we have this cross-party group formed—and, again, there's a conference this weekend where I hope that will be announced—and that is that we have to join the EU again. And if that means a referendum, well, with a decision that's been taken on a lie that you now recognise was a lie, there is no reason why the people should not have that choice again, and that is democracy also. Diolch.
Lywydd, ar ddechrau hyn, efallai y dylwn ddweud y byddwn yn ffurfio grŵp trawsbleidiol ar Gymru ac Ewrop i ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd, ac edrychaf ymlaen at weld yr Aelodau gyferbyn yn ei gefnogi.
Roedd Michael Heseltine ar y teledu y diwrnod o'r blaen, ac roedd yn ddig oherwydd dywedai fod Brexit wedi difetha cyflawniad mwyaf Margaret Thatcher, sef creu'r farchnad sengl. Aeth ymlaen i ddweud bod Brexit wedi ei ennill drwy gelwydd a'i fod yn dwyll. Mae hynny, wrth gwrs, yn gwneud Farage yn bensaer y celwydd a'r twyll, ac mewn termau Beiblaidd, mae'n debyg y byddech chi'n ei ddisgrifio fel yr arch-dwyllwr. Pan edrychais ar y term hwnnw, roeddwn i'n meddwl yr edrychwn i weld beth a olygai mewn gwirionedd. Wel, wrth gwrs, arch-dwyllwr yw un sy'n trefnu twyll, yn enwedig y diafol—y diafol yn enwedig, ond nid yn unig. Ac os edrychwch ar 'twyllwr', mae'n rhywun sy'n eich arwain i gredu rhywbeth nad yw'n wir, a dyna beth oedd Brexit, oherwydd rydym bellach yn waeth ein byd, ac mae'n gwaethygu, ac fe fydd yn gwaethygu. Mae Brexit yn ganser gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol.
Yr ystadegau economaidd clir, y cytunwyd arnynt gan bron bob un o'r prif fonitorau economaidd, heb unrhyw agenda wleidyddol: mae'r Prydeiniwr cyfartalog bron i £2,000 y flwyddyn yn waeth ei fyd. Asesir bod y golled i economi'r DU yn £140 biliwn, ac amcangyfrifir y byddwn, erbyn 2035, £300 biliwn yn waeth ein byd na phe na byddem wedi gadael yr UE, ac amcangyfrifir bod gennym 1.8 miliwn yn llai o swyddi ar hyn o bryd o ganlyniad.
Ac ar adeg pan fo globaleiddio'n digwydd ledled y byd, gwelwn y blociau gwleidyddol mawr yn cael eu ffurfio'n barod—Tsieina, India, Rwsia, UDA, yr UE—ac nid ydym yn yr un o'r blociau hyn. Rydym ar y tu allan i bob un ohonynt. Nawr, mae Nigel Farage, a phlaid Reform wrth gwrs, yn siarad llawer am berthynas arbennig yr Unol Daleithiau. Mewn gwirionedd, yn hytrach na bod yn ei etholaeth, mae Farage yn byw fwy neu lai yn yr Unol Daleithiau, yn ceisio dod yn agos at y Tŷ Gwyn. Wel, mae'n rhaid imi ddweud, yn fy marn i, nid wyf yn credu bod unrhyw berthynas arbennig â'r Unol Daleithiau yn bodoli mwyach. Yr hyn y mae'r Unol Daleithiau ei eisiau, ac yn sicr o dan Trump, yw marchnad iechyd y DU. Dyna pam y mae Farage yn gefnogol i breifateiddio'r gwasanaeth iechyd. Dyna pam ei fod yn siarad am hynny nawr. Roedd gan Lenin derm am bobl o'r fath sef 'ffyliaid defnyddiol'. Farage yw ffŵl defnyddiol Trump, ac mae'n gweithio i weld y gwasanaeth iechyd gwladol yn chwalu, a dyna yw canlyniad y wleidyddiaeth honno.
Y fantais o fod yn yr UE, yn enwedig ar hyn o bryd, ar ôl goresgyniad Rwsia o Wcráin, rhyfel yn Ewrop, yw bod yna gyd-ddibyniaeth a chefnogaeth gyffredin yr ydym yn gyflym yn ceisio ei chynnal a'i hail-greu. A gwelwn risgiau'r hyn sy'n digwydd o ganlyniad i'r rhyfel hwnnw—y bygythiad, pe bai Rwsia'n llwyddo, i Moldofa, Georgia, gwledydd y Baltig, Serbia, Gwlad Pwyl, ac mae canlyniadau gwleidyddol hynny'n sylweddol.
Y peth arall a roddai aelodaeth o'r UE i ni oedd llywodraethiant cyffredin ac annibynnol ar gyfraith ryngwladol a rheolaeth y gyfraith. Felly, mae pethau fel y Llys Troseddol Rhyngwladol, Llys Hawliau Dynol Ewrop, Llys Cyfiawnder Ewrop—mae'r holl bethau hynny'n bwysig oherwydd cafwyd cydnabyddiaeth na allwch farcio eich gwaith cartref eich hun, ni allwch fod yn benderfynydd safonau penodol yr ydych wedi ymrwymo i gytuno iddynt. Ac eto mae gennym Blaid Geidwadol sydd am ddileu'r rheini, sydd eisiau tynnu allan ohonynt, a byddai hynny'n drychineb gwirioneddol i lywodraethiant cyffredin, i gyfraith ryngwladol, a rheolaeth y gyfraith fel y'i hadwaenwn.
Mae Cymru ar ei cholled o ganlyniad i fod allan o'r UE, a chanlyniad hynny yw ein bod wedi gweld canoli yn y DU. Un o'r pethau y dylem fod yn ei wneud nawr yw edrych ar ddiddymu Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, a ddigwyddodd o ganlyniad i hynny. Ond rydym wedi gweld canoli cyllid, ac nid ydym wedi gweld cyllid priodol yn lle cyllid yr UE, ac rwy'n rhannu'r holl safbwyntiau ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin a'r lleill sydd angen eu datrys. Ond yr hyn a oedd gennym fel rhan o'r UE oedd statws is-genedlaethol i Gymru a'r gallu mewn meysydd datganoledig i ymgysylltu ar ffrynt Ewropeaidd ar y lefel uchaf o wleidyddiaeth. Nid yw hynny gennym mwyach.
Felly, beth yw'r camau ymlaen? Wel, yr un peth rwy'n ei groesawu'n fawr iawn sy'n digwydd nawr, a'r negeseuon mwy cadarnhaol, yw symudiad tuag at ymuno â'r farchnad sengl ac undeb tollau. Ac onid yw'n ddiddorol gweld yr Arglwydd Frost—yr ymgyrchydd Brexit a fu'n lladd cymaint ar wleidyddion anetholedig, a ddaeth yn wleidydd anetholedig ei hun—yn dweud nad oes ganddo wrthwynebiad. Nid yw'n credu ei fod yn bwysig. Nid yw'n credu bod hynny'n broblem na'i fod yn tanseilio Brexit. Felly, rhaid mai'r cam cyntaf fydd ailymuno â'r farchnad sengl.
Ac rwy'n credu bod yna ail gam, ac fe fyddaf yn gweithio ar hyn pan fydd y grŵp trawsbleidiol wedi'i ffurfio—ac unwaith eto, mae yna gynhadledd y penwythnos hwn lle rwy'n gobeithio y caiff hwnnw ei gyhoeddi—sef bod rhaid inni ymuno â'r UE eto. Ac os yw hynny'n golygu refferendwm, wel, gyda phenderfyniad sydd wedi'i wneud ar gelwydd y mae'n rhaid i chi gydnabod bellach ei fod yn gelwydd, nid oes unrhyw reswm pam na ddylai'r bobl gael y dewis hwnnw eto, a democratiaeth yw hynny hefyd. Diolch.
Mae Brexit wedi ail-lunio ein perthynas ag Ewrop, ac mae'n hanfodol ein bod yn deall effaith arbennig hyn ar ein pobl ifanc a hefyd ein prifysgolion. Cyn Brexit, roedd ein pobl ifanc ni'n gallu mynd ar draws Ewrop, cael cyfleoedd i weithio, i gyfoethogi eu bywydau ac ehangu eu gorwelion, ond mae hynny wedi cael ei gwtogi yn sylweddol ers Brexit. Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr wedi dweud bod Brexit wedi creu rhwystrau sylweddol i fyfyrwyr sy'n dymuno astudio dramor, gan gyfyngu ar eu cyfleoedd ar gyfer twf personol ac academaidd.
Mae diwedd rhaglen Erasmus+ hefyd wedi bod yn ergyd sylweddol. Dyw cynllun Taith Llywodraeth Cymru, er ei fod yn gam da i'r cyfeiriad cywir, ddim yn gallu adfer ehangder y cyfleoedd oedd ar gael cyn i Erasmus+ ddod i ben. Mae cyllid ar gyfer Taith wedi cael ei leihau hefyd, wrth gwrs, a dyw penderfyniad ar ei barhad y tu hwnt i 2026 ddim wedi cael ei wneud eto. Bydd cynllun Erasmus yn dod i ben y flwyddyn nesaf, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i werthuso'r achos dros sicrhau bod cyfranogiad o Gymru yn y rhaglen Erasmus nesaf.
Y tu hwnt i gyfleoedd astudio, mae'r rhyddid i symud ar draws Ewrop wedi cael ei dorri i'n pobl ifanc ni, a'u bod nhw'n gallu dod nôl â'r profiad yna er mwyn hyrwyddo economi a diwylliant Cymru. Ac fel rŷn ni wedi clywed eisoes y prynhawn yma, mae ein sector prifysgolion ni yn wynebu heriau arbennig ar hyn o bryd. Rhwng 2014 a 2020, roedd £366 miliwn yn cael ei rhoi i brifysgolion Cymru gan strwythurau yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r arian yna wedi diflannu, ac mae hynny yn golygu bod ein prifysgolion ni ar eu colled a nawr yn wynebu torri lefelau staffio, a dyna pam—un o'r ffactorau yw hyn—mae ein sector addysg uwch ni yn wynebu heriau difrifol iawn, iawn. Roedd y prosiectau hyn yn cefnogi busnesau yn y sector cyhoeddus, a hefyd yn creu rhyw 1,000 o swyddi tu fas i'n prifysgolion o sgiliau uchel, a rhyw 60 o brosiectau ymchwil, sgiliau ac arloesi.
Yn olaf, allwn ni ddim tanbrisio effaith Brexit ar recriwtio myfyrwyr o dramor—eto yn ffactor sydd yn dylanwadu yn uniongyrchol ar y picil mae ein prifysgolion ni yn ei wynebu ar hyn o bryd. Mae UCAS, er enghraifft, wedi nodi gostyngiad o rhwng 30 a 40 y cant yng ngheisiadau myfyrwyr o'r Undeb Ewropeaidd i Gymru ers Brexit. Mae hwnna yn ffigwr aruthrol. Ochr yn ochr â hyn, mae newidiadau diweddar i'r system fewnfudo a roddwyd ar waith gan y Torïaid yn San Steffan, yn enwedig y cyfyngu ar deuluoedd estynedig oedd yn gallu dod draw yma gyda'r myfyrwyr i astudio, ac mae hynny wedi bod yn golled ariannol enfawr i'n prifysgolion. Felly, mae'r ffactorau hyn i gyd gyda'i gilydd wedi ei gwneud hi'n heriol iawn i'r sector addysg uwch, sydd wedi gweld gostyngiad o ryw 40 i 50 y cant mewn cofrestriadau rhyngwladol eleni yn unig, ac mae hyn yn golygu colled o ryw £70 miliwn i £80 miliwn mewn incwm i'r sector addysg uwch.
I gloi, felly, Llywydd, mae'n rhaid inni ddadlau o blaid polisïau sy'n cefnogi ein pobl ifanc ac yn sicrhau bod ein sefydliadau addysg uwch yn parhau i ffynnu mewn byd ar ôl Brexit. Diolch.
Brexit has reshaped our relationship with Europe, and it is essential that we understand the particular impact of this on our young people and our universities. Before Brexit, our young people could travel Europe and have opportunities to work, to enrich their lives and expand their horizons, however, that has been significantly curtailed since Brexit. The National Union of Students has said that Brexit has created significant barriers for students wishing to study abroad, limiting their opportunities for personal and academic growth.
The end of the Erasmus+ programme has also been a significant blow. The Welsh Government's Taith scheme, although it's a step in the right direction, cannot fully replace the breadth of opportunities that were available before Erasmus+ came to an end. Funding for Taith has been reduced as well, of course, and a decision on its continuation beyond 2026 has not yet been made. The Erasmus scheme will come to an end next year, and I encourage the Welsh Government to work closely with the UK Government to evaluate the case for ensuring Wales's participation in the next Erasmus programme.
Beyond study opportunities, freedom of movement across Europe has been curtailed for our young people, and that they could come back with those experiences in order to promote the Welsh economy and culture. And as we have already heard this afternoon, our university sector faces significant challenges at present. Between 2014 and 2020, a sum of £366 million was awarded to Welsh universities by EU structures. That funding has disappeared, and that means that our universities are losing out and now face staffing cuts, and that is why—it's one of the factors why—our higher education sector faces very, very significant challenges. These projects supported businesses in the public sector, and also created about 1,000 high-skilled jobs outside our universities, and also 60 research, skills and innovation projects.
Finally, we can't undervalue the impact of Brexit on the recruitment of international students—again, a factor that has a direct influence on the situation that our universities face at present. UCAS, for example, has identified a reduction of between 30 per cent and 40 per cent in the number of student applications from the EU to Wales since Brexit. That is a shocking figure. Alongside this are the recent changes to the immigration system that were implemented by the Tories in Westminster, particularly the restrictions on dependents who could accompany the students to study, and that has been a major financial hit for our universities. So, these factors combined have made it very challenging for the higher education sector, which has seen a reduction of 40 to 50 per cent in international registrations this year alone, and this will mean a loss of between £70 million and £80 million in income for the higher education sector.
To conclude, therefore, Llywydd, we must advocate policies that support our young people and ensure that our higher education institutions continue to thrive in a post-Brexit world. Thank you.
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, Rebecca Evans.
The Cabinet Secretary for the economy, Rebecca Evans.

Diolch. Wales is an outward looking, European nation, and we place great value on our relationships with our European partners, and we want to continue our constructive, positive and successful relationships for years to come. It's this principle of mutual co-operation that is fundamental to how we tackle the global challenges that we face both now and in the future.
Despite a hard, chaotic, Tory Brexit, Wales has remained committed to maintaining a strong relationship with the European Union—a relationship that's based on the shared fundamental values of democracy, freedom, equality, the rule of law, and human rights. And despite all of the negatives of Brexit, which are clear for everyone to see and which colleagues have spoken about so clearly this afternoon, I really want to focus my remarks on the positive way in which we are trying to engage with the challenges and overcome them.
Diolch. Mae Cymru yn genedl Ewropeaidd sy'n edrych tuag allan, ac rydym yn rhoi gwerth mawr ar ein perthynas â'n partneriaid Ewropeaidd, ac rydym am barhau â'n perthynas adeiladol, gadarnhaol a llwyddiannus am flynyddoedd i ddod. Mae'r egwyddor hon o gydweithrediad yn allweddol i'r ffordd yr awn i'r afael â'r heriau byd-eang a wynebwn nawr ac yn y dyfodol.
Er gwaethaf Brexit caled, anhrefnus, Torïaidd, mae Cymru wedi parhau i fod yn ymrwymedig i gynnal perthynas gref â'r Undeb Ewropeaidd—perthynas sy'n seiliedig ar werthoedd cyffredin sylfaenol democratiaeth, rhyddid, cydraddoldeb, rheolaeth y gyfraith, a hawliau dynol. Ac er gwaethaf holl elfennau negyddol Brexit, sy'n amlwg i bawb eu gweld ac y mae cyd-Aelodau wedi siarad amdanynt mor glir y prynhawn yma, rwy'n awyddus iawn i ganolbwyntio fy sylwadau ar y ffordd gadarnhaol y ceisiwn wynebu a goresgyn yr heriau.
We want to work closely with our friends and our neighbours to address those global challenges, including economic challenges, geopolitical, competition, irregular migration, climate change and energy prices, which pose fundamental challenges to the shared values of Wales and the European Union and provide the strategic driver for stronger co-operation. We made a clear commitment in our programme for government to retain a presence in Brussels, so that Welsh interests in policy and trade are represented. Our Brussels team engages with the EU and ensures that the message about Wales being open for business is heard. After all, the EU countries want to continue to be Wales’s most significant trading partner and the largest source of inward investment.
Our Government’s manifesto also contained a commitment to strengthen our links with the EU through the appointment of a Welsh Government representative on Europe—so there is that honourable mention that we heard about in Adam Price’s contribution at the start. And this unique role has been a visible demonstration of our commitment to Europe, and it has received really positive feedback from the EU and also from UK and Welsh stakeholders alike, saying how that role has helped open doors to the highest levels within EU organisations and also enabled Ministers to directly address committees, highlighting initiatives such as our Taith programme.
Our role in the political bureau of the Conference of Peripheral Maritime Regions has also strengthened Wales’s standing in this network. Wales led a group of non-EU regions in an €800,000 EU-funded project that promotes research and industry collaboration in the blue economy. As a result, in 2023, Wales hosted the CPMR Atlantic Arc Commission general assembly, bringing together Ministers from EU regions plus Quebec to discuss inter-regional co-operation in the Atlantic sea. This was the first time that the general assembly had been held in the UK after Brexit, and it did provide an important opportunity to demonstrate that we can co-operate on shared interests despite EU withdrawal.
Reduced freedom of movement within the EU, however, is leading to significant challenges for businesses, the creative sector and individuals. The previous UK Conservative Government’s decision not to associate with Erasmus was deeply regrettable and it impacted significantly on our young people. In response, we established Taith, our international learning exchange programme, helping thousands of learners to experience enriching educational mobility activities. And through its many positive experiences, Taith is continually referenced by senior EU officials as a strong example of co-operation between Wales and Europe.
Going forward, a holistic approach is needed to restore mobility opportunities for young people to ensure that they’re not overlooked, and we do see this as a vital part of our global responsibility commitment in the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015. Last week, the future generations commissioner and our team in Brussels met with the EU’s first-ever commissioner for intergenerational fairness, Glenn Micallef, to share 10 years of learning in Wales since our groundbreaking well-being of future generations Act became law. Even outside the EU, we are having influence and we are showing leadership.
The trade and co-operation agreement now governs aspects of our relationship with the EU, including trade. In 2024, we published the Welsh Government’s approach to trade policy, and we said that trade policy needs to consider the long-term impacts of how we trade with other countries and the effects on our economy, our communities and the environment. The UK’s manifesto commitment to reset its relationships with the EU is welcome and it should be considered in that context. The TCA is not a like-for-like replacement of the market access that we had as EU members. Instead, it has created new barriers for Welsh businesses. However, it does create a comprehensive governance structure for UK-EU engagement, and we’ve used that structure to engage with the EU through the UK Government, and I hope that some of those trade barriers can be resolved. The implementation of the TCA will be reviewed, and whilst this might lead to small changes, it's the broader reset sought by the UK Government that could present more significant opportunities to make progress and remove some of Brexit’s negative consequences.
There are a number of areas that the UK Government should consider, including business and youth mobility, barriers to trade, access to programmes and a phytosanitary agreement, and we’re working closely with the UK Government to make these priorities clear. We make those cases through bilateral meetings and also I represent the Welsh Government on the inter-governmental committee on trade, which met earlier this month. I just want to reassure colleagues that those important points about youth mobility in particular are front and centre of the things that I am trying to raise in those fora.
So, for a number of years, the Welsh Government has prioritised closer ties with Europe and we've strengthened our bilateral agreements with countries and regions across Europe, and signed new ones, including with Silesia, Flanders and Baden-Württemberg in recent years. These partnerships reflect our approach to tackling shared challenges such as the climate crisis and to sharing economic opportunities to enable Welsh businesses to grow and compete on the European stage, and they also of course strengthen our cultural ties and build lasting relationships and friendships.
As we navigate the post-Brexit landscape, this engagement with our European neighbours continues to demonstrate that Wales is at its strongest when we're working collaboratively on the international stage.
Rydym am weithio'n agos gyda'n ffrindiau a'n cymdogion i fynd i'r afael â'r heriau byd-eang, yn cynnwys heriau economaidd, geowleidyddol, cystadleuaeth, mudo afreolaidd, newid hinsawdd a phrisiau ynni, sy'n creu heriau sylfaenol i werthoedd cyffredin Cymru a'r Undeb Ewropeaidd a darparu'r sbardun strategol ar gyfer cydweithredu cryfach. Fe wnaethom ymrwymiad clir yn ein rhaglen lywodraethu i gadw presenoldeb ym Mrwsel, fel bod buddiannau Cymru'n cael eu cynrychioli mewn polisi a masnach. Mae ein tîm ym Mrwsel yn ymgysylltu â'r UE ac yn sicrhau bod y neges fod Cymru ar agor i fusnes yn cael ei chlywed. Wedi'r cyfan, mae gwledydd yr UE eisiau parhau i fod yn bartner masnachu pwysicaf Cymru a'r ffynhonnell fwyaf o fewnfuddsoddiad.
Roedd maniffesto ein Llywodraeth hefyd yn cynnwys ymrwymiad i gryfhau ein cysylltiadau â'r UE drwy benodi cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Ewrop—felly ceir y sôn canmoliaethus y clywsom amdano yng nghyfraniad Adam Price ar y dechrau. Ac mae'r rôl unigryw hon wedi bod yn arddangosiad gweladwy o'n hymrwymiad i Ewrop, ac mae wedi cael adborth cadarnhaol iawn o'r UE a hefyd gan randdeiliaid y DU a Chymru fel ei gilydd, sy'n dweud sut y mae'r rôl honno wedi helpu i agor drysau i'r lefelau uchaf yn sefydliadau'r UE a hefyd wedi galluogi Gweinidogion i annerch pwyllgorau'n uniongyrchol, gan dynnu sylw at fentrau fel ein rhaglen Taith.
Mae ein rôl ym miwro gwleidyddol Cynhadledd y Rhanbarthau Morol Ymylol hefyd wedi cryfhau statws Cymru yn y rhwydwaith hwn. Arweiniodd Cymru grŵp o ranbarthau oddi allan i'r UE mewn prosiect €800,000 a ariannwyd gan yr UE i hyrwyddo ymchwil a chydweithio diwydiannol yn yr economi las. O ganlyniad, yn 2023, cynhaliodd Cymru gynulliad cyffredinol Comisiwn Bwa'r Iwerydd Cynhadledd y Rhanbarthau Morol Ymylol a ddaeth â Gweinidogion o ranbarthau'r UE a Quebec ynghyd i drafod cydweithrediad rhyngranbarthol ym môr yr Iwerydd. Dyma'r tro cyntaf i'r cynulliad cyffredinol gael ei gynnal yn y DU ar ôl Brexit, ac roedd yn gyfle pwysig i ddangos y gallwn gydweithredu ar fuddiannau a rennir er ein bod wedi gadael yr UE.
Ond mae llai o ryddid i symud o fewn yr UE yn creu heriau sylweddol i fusnesau, y sector creadigol ac unigolion. Roedd penderfyniad blaenorol Llywodraeth Geidwadol y DU i beidio â chysylltu ag Erasmus yn destun gofid mawr ac effeithiodd yn sylweddol ar ein pobl ifanc. Mewn ymateb, fe wnaethom sefydlu Taith, ein rhaglen gyfnewid ryngwladol ar gyfer dysgu, i helpu miloedd o ddysgwyr i brofi gweithgareddau symudedd addysgol cyfoethog. A thrwy ei brofiadau cadarnhaol niferus, mae uwch swyddogion yr UE yn cyfeirio at Taith yn gyson fel enghraifft gref o gydweithredu rhwng Cymru ac Ewrop.
Wrth symud ymlaen, mae angen dull cyfannol o adfer cyfleoedd symudedd i bobl ifanc er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu hesgeuluso, ac rydym yn ystyried hyn yn rhan hanfodol o'n hymrwymiad cyfrifoldeb byd-eang yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Yr wythnos diwethaf, cyfarfu comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol a'n tîm ym Mrwsel â chomisiynydd tegwch rhwng cenedlaethau cyntaf erioed yr UE, Glenn Micallef, i rannu 10 mlynedd o ddysgu yng Nghymru ers i'n Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol arloesol ddod i rym. Hyd yn oed y tu allan i'r UE, rydym yn dylanwadu ac yn dangos arweinyddiaeth.
Mae'r cytundeb masnach a chydweithredu bellach yn llywodraethu agweddau ar ein perthynas â'r UE, gan gynnwys masnach. Yn 2024, fe wnaethom gyhoeddi dull Llywodraeth Cymru o weithredu polisi masnach, gan ddweud bod angen i bolisi masnach ystyried effeithiau hirdymor y ffordd y masnachwn â gwledydd eraill a'r effeithiau ar ein heconomi, ein cymunedau a'r amgylchedd. Croesewir ymrwymiad maniffesto'r DU i ailosod ei pherthynas â'r UE a dylid ei ystyried yn y cyd-destun hwnnw. Nid yw'r cytundeb masnach a chydweithredu yn cymryd lle mynediad at y farchnad ar y sail gyfatebol a oedd gennym fel aelodau o'r UE. Yn hytrach, mae wedi creu rhwystrau newydd i fusnesau Cymru. Fodd bynnag, mae'n creu strwythur llywodraethu cynhwysfawr ar gyfer ymgysylltiad DU-UE, ac rydym wedi defnyddio'r strwythur hwnnw i ymgysylltu â'r UE trwy Lywodraeth y DU, ac rwy'n gobeithio y gellir datrys rhai o'r rhwystrau i fasnach. Adolygir y modd y gweithredir y cytundeb masnach a chydweithredu, ac er y gallai hyn arwain at newidiadau bach, yr ailosod ehangach y mae Llywodraeth y DU yn ei geisio a allai sicrhau cyfleoedd mwy sylweddol i wneud cynnydd a dileu rhai o ganlyniadau negyddol Brexit.
Ceir nifer o feysydd y dylai Llywodraeth y DU eu hystyried, gan gynnwys busnes a symudedd ieuenctid, rhwystrau i fasnach, mynediad at raglenni a chytundeb ffytoiechydol, ac rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i wneud y blaenoriaethau hyn yn glir. Rydym yn cyflwyno'r achosion hynny drwy gyfarfodydd dwyochrog ac rwy'n cynrychioli Llywodraeth Cymru ar y pwyllgor rhynglywodraethol ar fasnach, a gyfarfu yn gynharach y mis hwn. Rwyf am roi sicrwydd i gyd-Aelodau fod y pwyntiau pwysig am symudedd ieuenctid yn enwedig yn flaenllaw ac yn ganolog i'r pethau y ceisiaf eu codi yn y fforymau hynny.
Ers nifer o flynyddoedd, mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu cysylltiadau agosach ag Ewrop ac rydym wedi cryfhau ein cytundebau dwyochrog â gwledydd a rhanbarthau ledled Ewrop, ac wedi arwyddo rhai newydd, gan gynnwys gyda Silesia, Fflandrys a Baden-Württemberg yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r partneriaethau hyn yn adlewyrchu ein dull o fynd i'r afael â heriau cyffredin fel yr argyfwng hinsawdd ac o rannu cyfleoedd economaidd i alluogi busnesau Cymru i dyfu a chystadlu ar y llwyfan Ewropeaidd, ac wrth gwrs maent hefyd yn cryfhau ein cysylltiadau diwylliannol ac yn adeiladu perthynas a chyfeillgarwch parhaol rhyngom.
Wrth inni lywio'r dirwedd ôl-Brexit, mae'r ymgysylltiad hwn â'n cymdogion Ewropeaidd yn parhau i ddangos bod Cymru ar ei chryfaf pan fyddwn yn gweithio'n gydweithredol ar y llwyfan rhyngwladol.
Adam Price i ymateb i'r ddadl.
Adam Price to reply to the debate.
Diolch, Llywydd. Well, how to summarise that? I think I'll start with the Tory contributions. There was a marked contrast with the amendment, which didn't say much at all, because quite frankly, what can you say? It simply notes. But what we heard was this kind of ferociously zealous kind of defence of all the benefits, and we were back in the sunlit uplands again, weren't we, which never arrived.
I have to say, in relation to the vaccines point, because I think it is important that we as politicians—as you know, Darren, this is a particular issue that's close to my heart—we have to be accurate, so the UK approved the Pfizer-BioNTech vaccine through the Medicines and Healthcare products Regulatory Agency on 2 December 2020, before the Brexit transition period ended on 31 December 2020. At that time, the UK was still subject to EU rules, but EU law, which we were subject to, allowed national regulations to grant emergency-use authorisation independently in exceptional circumstances. The UK decided to do that; other countries didn't. The MHRA used an emergency approval process that was permitted under EU law, and so Brexit did not influence whatsoever the speed of that decision. So, the Member may want to, when he has an opportunity, to look at this, and may want to correct the record in that regard.
I and Julie Morgan mentioned the Taith programme, as did my colleague Cefin Campbell, and indeed the Minister. I think we're big supporters of the principles of the Taith programme. It's important to note, sadly, that in the draft budget, the Welsh Government are cutting the budget for Taith. They are cutting it by £1.6 million.
Diolch, Lywydd. Wel, sut y mae crynhoi hyn? Rwy'n credu y dechreuaf gyda'r cyfraniadau Torïaidd. Roedd cyferbyniad amlwg â'r gwelliant, nad oedd yn dweud llawer o gwbl, oherwydd a dweud y gwir, beth sydd yna i'w ddweud? Mae'n nodi, a dyna i gyd. Ond yr hyn a glywsom oedd amddiffyniad tanbaid a ffyrnig o'r holl fanteision, ac roeddem yn ôl yn y wlad ddelfrydol eto, onid oeddem, nad ydym erioed wedi ei chyrraedd.
Mae'n rhaid i mi ddweud, mewn perthynas â'r pwynt am frechlynnau, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni fel gwleidyddion—fel y gwyddoch, Darren, mae hwn yn fater sy'n agos at fy nghalon—mae'n rhaid inni fod yn fanwl gywir, felly fe gymeradwyodd y DU y brechlyn Pfizer-BioNTech trwy'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd ar 2 Rhagfyr 2020, cyn i gyfnod pontio Brexit ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2020. Bryd hynny, roedd y DU yn dal i fod yn ddarostyngedig i reolau'r UE, ond roedd cyfraith yr UE, yr oeddem yn ddarostyngedig iddi, yn caniatáu i reoliadau cenedlaethol roi awdurdodiad defnydd brys yn annibynnol mewn amgylchiadau eithriadol. Penderfynodd y DU wneud hynny; ni wnaeth gwledydd eraill. Defnyddiodd yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd broses gymeradwyo frys a ganiatawyd o dan gyfraith yr UE, ac felly ni ddylanwadodd Brexit ar gyflymder y penderfyniad hwnnw o gwbl. Felly, efallai yr hoffai'r Aelod edrych ar hyn, pan gaiff gyfle, a chywiro'r cofnod yn hynny o beth.
Soniais i a Julie Morgan am raglen Taith, fel y gwnaeth fy nghyd-Aelod Cefin Campbell, a'r Gweinidog yn wir. Rwy'n credu ein bod ni'n cefnogi egwyddorion rhaglen Taith yn frwd. Mae'n bwysig nodi, yn anffodus, fod Llywodraeth Cymru, yn y gyllideb ddrafft, yn torri'r gyllideb ar gyfer Taith. Maent yn torri £1.6 miliwn oddi arni.
I do want to hear Adam Price's closing of this debate. If we can hear it in some silence, please. Thank you.
Rwyf am glywed Adam Price yn cau'r ddadl. Os caf ei glywed mewn distawrwydd, os gwelwch yn dda. Diolch.
And that was on the back of a further reduction that had happened previously, so I think if we're all agreed that Taith is good, then we're going in the wrong direction in terms of the financial support that's provided to it.
Luke Fletcher mentioned Northern Ireland, and the signs of the success of the model that they have, which is membership of the single market, which we should have here in Wales. It's reflected in the vote that they had, of course, just before Christmas, where the Northern Ireland Assembly used their political sovereignty to vote 48-36 to remain within the single market. If only we had that power to make that decision here in Wales.
Alun Davies referenced some of the—what was it—21 infrastructure investments announced today by the Chancellor. One for Wales would be great. Therein lies the problem, isn't it, because most of those, with the exception of Old Trafford, are in the already most affluent corner of the United Kingdom, the bit that doesn't need, quite frankly, much more infrastructure investment. And rather than creating an European silicon valley, maybe the Chancellor should be supporting the south Wales Valleys and all the other valleys in Wales, by actually investing in regional development policy and infrastructure investment, and getting us back in the heart of the single market, which is essential to our economy because we are a more export-intensive economy in Wales.
Mick Antoniw referred to the deceptive tactics that were undoubtedly used by some unscrupulous politicians in the Brexit referendum. It’s fitting that you were the Counsel General, Mick, that I think, partly as a result of that experience, said, ‘We are committed here in Wales, in the Welsh Government, we’re going to be the first democracy to outlaw and prohibit deliberate deception by politicians.’ Those who lead us should not be able to mislead us with impunity, because that has consequences. There are consequences for people’s lives. The kind of economic devastation that we’ve heard about in this debate is wreaking havoc in our communities and we need to do something about that. That’s why moving to the single market is essential. I agree with Mick about moving to the next stage. That’s the thing in a democracy, and I’ll say this to James Evans: public opinion never stays in one position.
We had a referendum in 1979 where people voted 8:1 against devolution. A few years later, after the closures of steelworks and the miners' strike, public opinion was shifting, because they thought, ‘If only we had our own parliament to protect us now.’ Public opinion moves when it sees the reality on the ground, and that’s reflected in all the opinion polls that I’ve seen in Wales and the UK. They’re showing public opinion on the move massively towards certainly getting a closer relationship through the single market, but eventually as well joining the European Union. Democracy never stays in one place.
We’ll abstain on the Government motion. There’s not much to disagree with there, but the frustration that we have is, 'Use your voice on behalf of all of us', because we need to inspire a bit of boldness at that other Parliament the other end of the M4. They are being timid at the moment, when they need to be audacious. We in Wales, working with Scotland and Northern Ireland, can actually provide the lead that is so lacking there at the moment.
Ac roedd hynny ar gefn gostyngiad pellach a oedd wedi digwydd yn flaenorol, felly os ydym i gyd yn cytuno bod Taith yn dda, rydym yn mynd i'r cyfeiriad anghywir o ran y cymorth ariannol a roddir iddo.
Soniodd Luke Fletcher am Ogledd Iwerddon, ac arwyddion llwyddiant y model sydd ganddynt ac y dylem ei gael yma yng Nghymru, sef aelodaeth o'r farchnad sengl. Caiff ei adlewyrchu yn y bleidlais a gawsant ychydig cyn y Nadolig, lle defnyddiodd Cynulliad Gogledd Iwerddon eu sofraniaeth wleidyddol i bleidleisio 48-36 dros aros yn y farchnad sengl. O na bai gennym bŵer i wneud y penderfyniad hwnnw yma yng Nghymru.
Cyfeiriodd Alun Davies at rai o'r—beth ydoedd—21 o fuddsoddiadau seilwaith a gyhoeddwyd heddiw gan y Canghellor. Byddai un i Gymru'n wych. Dyna'r broblem, onid e, oherwydd mae'r rhan fwyaf o'r rheini, ac eithrio Old Trafford, eisoes yng nghornel fwyaf cyfoethog y Deyrnas Unedig, y darn nad oes arno angen llawer mwy o fuddsoddiad seilwaith a dweud y gwir. Ac yn hytrach na chreu dyffryn silicon Ewropeaidd, efallai y dylai'r Canghellor gefnogi Cymoedd de Cymru a'r holl gymoedd eraill yng Nghymru, trwy fuddsoddi mewn polisi datblygu rhanbarthol a buddsoddi mewn seilwaith, a'n cael yn ôl yng nghanol y farchnad sengl, sy'n hanfodol i'n heconomi oherwydd ein bod yn economi fwy dwys o ran allforion yng Nghymru.
Cyfeiriodd Mick Antoniw at y tactegau twyllodrus a gafodd eu defnyddio, heb amheuaeth, gan wleidyddion diegwyddor yn y refferendwm Brexit. Mae'n briodol mai chi oedd y Cwnsler Cyffredinol, Mick, a ddywedodd, rwy'n credu, yn rhannol o ganlyniad i'r profiad hwnnw, 'Rydym wedi ymrwymo yma yng Nghymru, yn Llywodraeth Cymru, i fod y ddemocratiaeth gyntaf i wahardd twyll bwriadol gan wleidyddion.' Ni ddylai'r rhai sy'n ein harwain allu ein camarwain yn ddi-gosb, oherwydd mae canlyniadau i hynny. Mae yna ganlyniadau i fywydau pobl. Mae'r math o ddinistr economaidd y clywsom amdano yn y ddadl hon yn creu hafog yn ein cymunedau ac mae angen inni wneud rhywbeth am hynny. Dyna pam y mae symud i'r farchnad sengl yn hanfodol. Rwy'n cytuno â Mick ynglŷn â symud i'r cam nesaf. Dyna'r peth mewn democratiaeth, a dywedaf hyn wrth James Evans: nid yw barn y cyhoedd byth yn aros yn ddigyfnewid.
Cawsom refferendwm yn 1979 lle pleidleisiodd pobl 8:1 yn erbyn datganoli. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, ar ôl cau gweithfeydd dur a streic y glowyr, roedd barn y cyhoedd yn newid, oherwydd roeddent yn meddwl, 'O na bai gennym ein senedd ein hunain i'n diogelu nawr.' Mae barn y cyhoedd yn symud pan fo'n gweld y realiti ar lawr gwlad, a chaiff hynny ei adlewyrchu yn yr holl arolygon barn a welais yng Nghymru a'r DU. Maent yn dangos barn y cyhoedd yn symud yn helaeth tuag at gael perthynas agosach trwy'r farchnad sengl, ond yn y pen draw tuag at ymuno â'r Undeb Ewropeaidd yn ogystal. Nid yw democratiaeth byth yn aros yn yr unfan.
Byddwn yn ymatal ar gynnig y Llywodraeth. Nid oes llawer i anghytuno ag ef yno, ond y rhwystredigaeth sydd gennym yw, 'Defnyddiwch eich llais ar ran pob un ohonom', oherwydd mae angen inni ysgogi tipyn o feiddgarwch yn y Senedd arall ar ben arall yr M4. Maent yn ofnus iawn ar hyn o bryd, pan fo angen iddynt fod yn feiddgar. Gallwn ni yng Nghymru, gan weithio gyda'r Alban a Gogledd Iwerddon, ddarparu'r arweiniad sydd mor brin yno ar hyn o bryd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni adael y pleidleisiau ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
The proposal is to agree the motion without amendment. Does any Member object? [Objection.] There are objections. Therefore, we will defer voting under that item until voting time.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Voting deferred until voting time.
Rydyn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr. Oni bai bod tri Aelod yn moyn i fi ganu'r gloch, byddwn ni'n symud yn syth i'r pleidleisiau.
That brings us to voting time. Unless three Members wish for the bell to be rung, we will move immediately to voting.
Mae'r pleidleisiau cyntaf heddiw ar eitem 7, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyflogaeth. Dwi'n galw am bleidlais felly ar y cynnig heb ei ddiwygio, yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei wrthod.
The first votes today are on item 7, the Welsh Conservatives debate on employment. I call for a vote on the motion without amendment, tabled in the name of Paul Davies. Open the vote. Close the vote. In favour 13, no abstentions, 38 against. Therefore, the motion is not agreed.
Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyflogaeth. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Item 7. Welsh Conservatives Debate - Employment. Motion without amendment: For: 13, Against: 38, Abstain: 0
Motion has been rejected
Gwelliant 1 fydd nesaf, felly. Pleidlais ar welliant 1 yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae'r bleidlais yna ar welliant 1 wedi pasio.
We will now vote on amendment 1. I call for a vote on amendment 1, in the name of Jane Hutt. Open the vote. Close the vote. In favour 27, no abstentions, 25 against. Therefore, the amendment is agreed.
Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyflogaeth. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 27, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Item 7. Welsh Conservatives Debate. Amendment 1, tabled in the name of Jane Hutt: For: 27, Against: 25, Abstain: 0
Amendment has been agreed
Gwelliant 2 nesaf, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, 13 yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi'i wrthod.
We'll now move to amendment 2, tabled in the name of Heledd Fychan. Open the vote. Close the vote. In favour 11, 13 abstentions, 28 against. Therefore, amendment 2 is not agreed.
Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyflogaeth. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 11, Yn erbyn: 28, Ymatal: 13
Gwrthodwyd y gwelliant
Item 7. Welsh Conservatives Debate. Amendment 2, tabled in the name of Heledd Fychan: For: 11, Against: 28, Abstain: 13
Amendment has been rejected
Gwelliant 3 fydd nesaf, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwelliant yna wedi'i wrthod.
Amendment 3 is next, in the name of Heledd Fychan. Open the vote. Close the vote. In favour 25, no abstentions, 27 against. And therefore, the amendment is not agreed.
Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyflogaeth. Gwelliant 3, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 25, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Item 7. Welsh Conservatives Debate. Amendment 3, tabled in the name of Heledd Fychan: For: 25, Against: 27, Abstain: 0
Amendment has been rejected
Mae'r bleidlais olaf ar yr eitem yma ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
The final vote on this item is on the motion as amended.
Cynnig NDM8803 fel y diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r Trosolwg o'r Farchnad Lafur a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 21 Ionawr 2025.
2. Yn gresynu at y ffaith bod problemau o hyd o ran asesu perfformiad y llafurlu yng Nghymru yn sgil y pryderon ynghylch ansawdd yr Arolwg o’r Llafurlu.
3. Yn cydnabod bod data Arolwg y Llafurlu ar gyfer Cymru ymhlith y data o ansawdd isaf o blith holl wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr;
4. Yn cytuno mai’r ffordd orau o ddeall llafurlu Cymru yw ystyried tueddiadau hirdymor ar draws amryfal ddangosyddion, sy’n cynnwys ffynonellau eraill fel yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, gwybodaeth amser real Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi am weithwyr cyflogedig, data am swyddi’r gweithlu, a data am nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau.
5. Yn nodi ymhellach fod cyflogau oedolion yng Nghymru a oedd yn gweithio’n amser llawn yn 2024 yn uwch na chyflogau oedolion cyfatebol yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gogledd Iwerddon, Swydd Efrog a Humber.
6. Yn croesawu’r ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn creu mwy o swyddi yng Nghymru ac yn hybu twf drwy wneud y canlynol:
a) parhau i ddarparu pecynnau o gymorth ychwanegol ar gyfer ardrethi annomestig sydd werth £134 miliwn eleni ac £85 miliwn y flwyddyn nesaf yn ogystal â chynlluniau rhyddhad parhaol gwerth £250 miliwn yn flynyddol a’r cymorth ychwanegol sylweddol sydd wedi’i ddarparu i fusnesau a threthdalwyr eraill dros y blynyddoedd diwethaf;
b) sicrhau buddsoddiad o’r tu allan a chynyddu nifer y swyddi yma yng Nghymru;
c) cydweithio â Llywodraeth y DU er mwyn adfer y drefn o roi’r hawl i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau ynghylch buddsoddiad rhanbarthol ar ôl 2026 a datblygu rhaglen newydd o fuddsoddiadau gyda phartneriaid ar draws Cymru yn dilyn cau rhaglenni gwaddol fel y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn 2026; a
d) cydweithio â Llywodraeth y DU wrth ddatblygu’r Strategaeth Ddiwydiannol.
Motion NDM8803 as amended:
To propose that the Senedd:
1. Notes the Labour Market Overview published by the Office for National Statistics on 21 January 2025.
2. Regrets that there continues to be issues assessing labour market performance in Wales due to the concerns regarding the quality of the Labour Force Survey (LFS).
3. Recognises that LFS data for Wales are among the lowest quality of all UK countries and English regions;
4. Agrees that the best way of understanding the Welsh labour market is to consider longer term trends across a basket of indicators, which includes alternative sources such as the Annual Population Survey, HMRC real time information on paid employees, data on workforce jobs, and the claimant count.
5. Further notes that in 2024, Welsh wage packets for full-time adults working in Wales were higher than the North East of England, East Midlands, Northern Ireland, Yorkshire and the Humber.
6. Welcomes that the Welsh Government will create more jobs in Wales and boost growth by:
a) continuing to provide packages of additional support for non-domestic rates worth £134 million this year and £85 million next year in addition to permanent relief schemes worth £250 million annually and the considerable additional support provided to businesses and other ratepayers over recent years;
b) securing inward investment and increasing the number of jobs here in Wales;
c) working with the UK Government to restore decision-making on post-2026 regional investment to the Welsh Government, and developing a new investment programme with partners across Wales to follow the closure of legacy programmes like the Shared Prosperity Fund in 2026; and
d) working with the UK Government in developing the Industrial Strategy.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yma yn gyfartal: 26 o blaid, 26 yn erbyn. Byddaf yn defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y cynnig. Ac felly, canlyniad y bleidlais yw bod 26 o blaid, 27 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i wrthod.
Open the vote. Close the vote. This vote is tied: 26 in favour, 26 against. I will, therefore, exercise my casting vote against the motion. And therefore, the result of the vote is that there were 26 in favour, 27 against, and the motion as amended is not agreed.
Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyflogaeth. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Item 7. Welsh Conservatives Debate. Motion as amended: For: 26, Against: 26, Abstain: 0
As there was an equality of votes, the Llywydd used her casting vote in accordance with Standing Order 6.20(ii).
Motion as amended has been rejected
Eitem 8 sydd nesaf, dadl Plaid Cymru ar Brexit a'r berthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn dyfodol. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, un yn ymatal, 40 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Item 8 is next, the Plaid Cymru debate on Brexit and the future relationship with the EU. I call for a vote on the motion without amendment, tabled in the name of Heledd Fychan. Open the vote. Close the vote. In favour 11, one abstention and 40 against. Therefore, the motion is not agreed.
Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Brexit a'r berthynas â'r UE yn y dyfodol. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 11, Yn erbyn: 40, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y cynnig
Item 8. Plaid Cymru Debate - Brexit and the future relationship with the EU. Motion without amendment: For: 11, Against: 40, Abstain: 1
Motion has been rejected
Gwelliant 1 fydd nesaf. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Pleidlais ar welliant 1, yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, 11 yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 1 wedi'i wrthod.
Amendment 1 is next. If amendment 1 is agreed, amendment 2 will be deselected. I call for a vote on amendment 1, tabled in the name of Paul Davies. Open the vote. Close the vote. In favour 14, 11 abstentions and 27 against. And therefore, amendment 1 is not agreed.
Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Brexit a'r berthynas â'r UE yn y dyfodol. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Paul Davies: O blaid: 14, Yn erbyn: 27, Ymatal: 11
Gwrthodwyd y gwelliant
Item 8. Plaid Cymru Debate - Brexit and the future relationship with the EU. Amendment 1, tabled in the name of Paul Davies: For: 14, Against: 27, Abstain: 11
Amendment has been rejected
Pleidlais ar welliant 2, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, 11 yn ymatal, 14 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwellant yna wedi'i gymeradwyo.
We will next vote on amendment 2 in the name of Jane Hutt. Open the vote. Close the vote. In favour 27, 11 abstentions and 14 against. Therefore, the amendment is agreed.
Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Brexit a'r berthynas â'r UE yn y dyfodol. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 27, Yn erbyn: 14, Ymatal: 11
Derbyniwyd y gwelliant
Item 8. Plaid Cymru Debate - Brexit and the future relationship with the EU. Amendment 2, tabled in the name of Jane Hutt: For: 27, Against: 14, Abstain: 11
Amendment has been agreed
Y bleidlais olaf, felly, ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
The final vote is on the motion as amended.
Cynnig NDM8804 fel y diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu ailsefydlu cysylltiadau gyda’r Undeb Ewropeaidd o dan Lywodraeth newydd y DU ac yn nodi bod y Brexit caled a drafodwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU wedi bod yn niweidiol i Gymru, ei phobl a’r DU.
2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru n anelu at sicrhau bod sylw yn cael ei roi i’r niwed a achoswyd i Gymru wrth i’r DU ymadael â’r UE yn y fath fodd.
3. Yn nodi ymhellach fod Llywodraeth Cymru yn atgyfnerthu’n effeithiol gysylltiadau gyda phartneriaid Ewropeaidd drwy gadw ein swyddfa ym Mrwsel ar agor, a phenodi Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Ewrop; mae wedi cydweithio â Gweinidogion ac Uwch Swyddogion o wahanol ranbarthau o fewn yr Undeb Ewropeaidd, a hefyd Québec, er mwyn trafod cydweithredu rhyngranbarthol cynyddol yn ardal yr Iwerydd, a thrwy’r Rhaglen Taith mae wedi dangos ei ymrwymiad parhaus i hwyluso symudedd pobl ifanc.
4. Yn edrych ymlaen at well cysylltiadau gyda’r Undeb Ewropeaidd.
Motion NDM8804 as amended:
To propose that the Senedd:
1. Welcomes the reset of relations with the European Union under the new UK Government and notes that the hard Brexit negotiated under the previous UK Government has been detrimental to Wales, its people and the UK.
2. Notes that the Welsh Government is working to ensure that the damage caused to Wales by the UK leaving the EU in the way it did is successfully addressed.
3. Further notes that the Welsh Government is effectively strengthening links with European partners through the continuation of our Brussels office, and the appointment of the WG Representative on Europe; has worked with ministers and senior officials from a range of EU regions, plus Québec, to discuss strengthened interregional cooperation in the Atlantic area; and through the Taith programme has demonstrated its continued commitment to youth mobility.
4. Looks forward to further improved relations with the European Union.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, 11 yn ymatal, 14 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.
Open the vote. Close the vote. In favour 27, 11 abstentions and 14 against. Therefore, the motion as amended is agreed.
Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Brexit a'r berthynas â'r UE yn y dyfodol. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 14, Ymatal: 11
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Item 8. Plaid Cymru Debate - Brexit and the future relationship with the EU. Motion as amended: For: 27, Against: 14, Abstain: 11
Motion as amended has been agreed
Dyna ni. Dyna ddiwedd ar y pleidleisio am heddiw.
That concludes voting for this evening.
Fe fyddwn ni, felly, yn mynd nawr at eitem 10. Eitem 10 yw'r ddadl fer. Mae'r ddadl fer yn enw Delyth Jewell, a phan fydd Aelodau wedi ymdawelu, caiff Delyth Jewell gychwyn ar ei chyfraniad.
We will, therefore, move to item 10, the short debate. The short debate this week is in the name of Delyth Jewell, and when Members have quietened down, Delyth Jewell may begin.
Diolch, Llywydd. Rwyf wedi addo rhoi munud o fy amser i Peredur Owen Griffiths.
Thank you, Llywydd. I have promised to give Peredur Owen Griffiths a minute of my time.
What is a community? Are the towns and villages where we live just places where we happen to have houses, or are there corners of congregation there still—spaces and sites that belong to us all? In the Valleys, we have a proud history of such buildings: the miners’ halls, libraries, community centres—places built to feed our minds and nourish our souls. So many of them were paid for from miners' wages—the funds collected from the wage packets of men who spent their days digging in the darkness. They wanted to ensure their children had something better to live for—places of light and hope and splendour. Yes, splendour. Because what a bounty was bought by their benevolence. The miners’ welfare building in Ystrad Mynach alone housed a library, reading rooms, a snooker room, a community hall for public meetings, whilst in Caerphilly a general hospital was constructed with contributions from miners too—a place for miners to be taken for surgery when accidents befell them. A place to ensure they would not have to be carried over the mountain to Cardiff to get life-saving treatment.
Beth yw cymuned? Ai dim ond lleoedd lle rydym yn digwydd bod â thai yw'r trefi a'r pentrefi lle rydym yn byw, neu a oes corneli yno o hyd lle rydym yn ymgynnull—gofodau a safleoedd sy'n perthyn i ni i gyd? Yn y Cymoedd, mae gennym hanes balch o adeiladau o'r fath: neuaddau'r glowyr, llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol—lleoedd a adeiladwyd i fwydo ein meddyliau a meithrin ein heneidiau. Talwyd am gymaint ohonynt o gyflogau'r glowyr—yr arian a gasglwyd o becynnau cyflogau dynion a dreuliai eu dyddiau'n cloddio yn y tywyllwch. Roeddent eisiau sicrhau bod gan eu plant rywbeth gwell i fyw ar ei gyfer—mannau o olau a gobaith ac ysblander. Ie, ysblander. Oherwydd am drysorau a brynwyd gan eu cymwynasgarwch. Roedd neuadd les y glowyr yn Ystrad Mynach ei hun yn gartref i lyfrgell, ystafelloedd darllen, ystafell snwcer, neuadd gymunedol ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus, ac yng Nghaerffili adeiladwyd ysbyty cyffredinol â chyfraniadau gan lowyr hefyd—lle i lowyr gael llawdriniaeth pan gaent ddamweiniau. Lle i sicrhau na fyddai'n rhaid eu cario dros y mynydd i Gaerdydd i gael triniaeth i achub eu bywydau.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
The Deputy Presiding Officer took the Chair.
In Blackwood, 100 years ago, a miners' institute was opened for concerts and galas, to which was later added a library, auditorium, dancefloor and rooms for local societies. For a century, that building has stood as a cornerstone of the community, until the wickedness of austerity, the baseness of budget cuts, came close to closing its doors. Blackwood Miners’ Institute was saved by the dedication of local campaigners and outpouring of support from a community long used to having things taken away. Thank heavens its future now looks more secure.
But alas, the same cannot be said for Llancaiach Fawr, a gem of the Rhymney valley that, since the year's beginning, has remained closed, its heavy doors shut against the towns and villages that used to send their children there for school trips, whose local societies congregated in its cafe for meetings or visited its barn for fairs and concerts. Until such time as a private buyer is found, the stories held in its walls will stay silent. Indeed, I wonder whether the non-commercial side of the business, the manor house where children went back in time, will ever reopen again.
And that is not the only community asset at risk of closure. In Merthyr, the iconic Redhouse building and arts centre closed its doors last year. Questions were raised over the future of the Aberfan community centre, a place paid for by funds sent to grieving families after the disaster that killed their children. If we do not protect these sites that have served our communities in the darkest hours of our history, we could be at risk of forgetting the lessons of that history.
Community centres the Valleys over face closure or reduced hours, the swimming pools where so many of us learned that life skill being a special casualty of rising energy costs. And in this time of cuts to local authority budgets, libraries seem considered an easy target. In Caerphilly, the council is proposing to close 10 libraries across the borough, including in Nelson, Llanbradach, Bedwas, Deri and Pengam. Residents who rely on their services have expressed anger and sadness, but I fear it will be to no avail.
What a thing it is to close a library. It is much meaner an act than merely closing the doors to a building. Because a library is more than brickwork and pipes. Within its walls are mansions of memory, immeasurable worlds to which we can be transported. And they are hubs, too, for the weary and lonely; places to meet, stay warm, to learn and wonder. That was the dream bought for us by our grandparents. Places of comfort and knowledge and friendship. And that is the legacy so at risk of being lost.
In the Valleys, we are rightly proud of that son of Tredegar, Nye Bevan, and his masterwork, the national health service. But Bevan's favourite role came earlier in his career. He said the job that gave him the most joy was the role he played as buyer for the miners' libraries, the years he spent as chairman of the book selection committee. His legacy to our Valleys was thus not only found in hospital wards, but in the hordes of children and adults learning, taking delight in the books bought for them.
I wonder what he would say if he could visit our streets today. So many shuttered windows, majestic buildings, now either demolished, let out for commercial rent, or being left vacant as spectres to haunt and mock our present. The miners' halls and institutes fighting for survival, empty chapels, run-down theatres; the memories they evoke of a time when community was an experience we shared.
It's the empty buildings that are most ruinous. In the years and centuries that followed the departure of the Romans from these shores, how people must have felt when they saw the imposing structures that had been left behind; memories of a time much crueller, but a time when places of majesty had been built—monuments, amphitheatres.
In the twelfth century, Geraldus Cambrensis travelled through Caerleon and we can tell from his writings that the roofs of the Roman baths were there still. He spoke of the remains of temples and immense palaces, which once rivalled the magnificence of ancient Rome. How it must have felt to look at those structures and realise that their time had faded, that no such building would be built again. Sic transit gloria mundi. How the glory of the earth vanishes.
And yet—. And yet—we would not go back to the time of coal mining, a time of bitterness, exploitation, injury and death. But something of value was forged in those cruel years, a sense of defiance and splendour—I come back to that word. A greatness we demanded for our people, a grandeur we projected to the world and to God. Places of congregation where our communities came together. Places where we could learn and find joy and beauty. Those places deserve to be more than remembered. They deserve to be centres of community again.
Yn y Coed Duon, 100 mlynedd yn ôl, agorwyd sefydliad y glowyr ar gyfer cyngherddau ac uchelwyliau, ac yn ddiweddarach ychwanegwyd llyfrgell, awditoriwm, llawr dawns ac ystafelloedd ar gyfer cymdeithasau lleol. Ers canrif, mae'r adeilad wedi bod yn gonglfaen i'r gymuned, nes i anfadrwydd cyni, gwarth toriadau cyllidebol, ddod yn agos at gau ei ddrysau. Cafodd Sefydliad y Glowyr y Coed Duon ei achub gan ymroddiad ymgyrchwyr lleol a chefnogaeth hael gan gymuned a oedd wedi hen arfer â chael pethau wedi eu cymryd oddi wrthynt. Diolch byth, mae ei ddyfodol bellach yn edrych yn fwy diogel.
Ond gwae ni, ni ellir dweud yr un peth am Lancaeach Fawr, trysor yng nghwm Rhymni sydd wedi bod ar gau ers dechrau'r flwyddyn, a'i ddrysau trwm ar gau yn erbyn y trefi a'r pentrefi a arferai anfon eu plant yno ar dripiau ysgol, y bu ei gymdeithasau lleol yn ymgynnull yn ei gaffi i gynnal cyfarfodydd neu'n ymweld â'i ysgubor ar gyfer ffeiriau a chyngherddau. Hyd nes y ceir prynwr preifat, bydd y straeon a gedwir yn ei waliau yn aros yn fud. Yn wir, tybed a fydd ochr anfasnachol y busnes, y maenordy lle byddai plant yn mynd yn ôl mewn amser, byth yn ailagor eto.
Ac nid dyna'r unig ased cymunedol sydd mewn perygl o gau. Ym Merthyr, caeodd adeilad a chanolfan gelfyddydau eiconig Redhouse ei ddrysau y llynedd. Codwyd cwestiynau dros ddyfodol canolfan gymunedol Aberfan, lle y talwyd amdano gan arian a anfonwyd at deuluoedd yn galaru wedi'r trychineb a laddodd eu plant. Os nad ydym yn diogelu'r safleoedd hyn sydd wedi gwasanaethu ein cymunedau yn oriau tywyllaf ein hanes, gallem fod mewn perygl o anghofio gwersi'r hanes hwnnw.
Mae canolfannau cymunedol ar hyd a lled y Cymoedd yn wynebu cau neu dorri eu horiau, gyda'r pyllau nofio lle dysgodd cymaint ohonom y sgìl bywyd hwnnw'n dioddef yn arbennig yn sgil gostau ynni cynyddol. Ac yn y cyfnod hwn o doriadau i gyllidebau awdurdodau lleol, mae'n ymddangos bod llyfrgelloedd yn cael eu hystyried yn darged hawdd. Yng Nghaerffili, mae'r cyngor yn cynnig cau 10 llyfrgell ar draws y fwrdeistref, gan gynnwys yn Nelson, Llanbradach, Bedwas, Deri a Phengam. Mae trigolion sy'n dibynnu ar eu gwasanaethau wedi mynegi dicter a thristwch, ond yn ofer, rwy'n ofni.
Mae cau llyfrgell yn beth mawr. Mae'n weithred greulonach na chau drysau ar adeilad yn unig. Oherwydd mae llyfrgell yn fwy na brics a phibellau. O fewn ei waliau mae plastai cof, bydoedd anfesuradwy y gellir ein cludo iddynt. Ac maent yn hybiau hefyd i'r llesg a'r unig; lleoedd i gyfarfod, cadw'n gynnes, dysgu a rhyfeddu. Dyna'r freuddwyd a brynwyd i ni gan ein neiniau a'n teidiau. Lleoedd o gysur, gwybodaeth a chyfeillgarwch. A dyna'r gwaddol sydd mewn perygl o gael ei golli.
Yn y Cymoedd, rydym yn briodol falch o'r mab o Dredegar, Nye Bevan, a'i waith meistrolgar, y gwasanaeth iechyd gwladol. Ond daeth hoff rôl Bevan yn gynharach yn ei yrfa. Dywedodd mai'r swydd a roddodd fwyaf o lawenydd iddo oedd y rôl a chwaraeodd fel prynwr i lyfrgelloedd y glowyr, y blynyddoedd a dreuliodd fel cadeirydd y pwyllgor dethol llyfrau. Felly, nid ar wardiau ysbytai'n unig y gwelir ei waddol i'n Cymoedd, ond yn y llu o blant ac oedolion yn dysgu, gan ymhyfrydu yn y llyfrau a brynwyd ar eu cyfer.
Tybed beth fyddai'n ei ddweud pe gallai ymweld â'n strydoedd heddiw. Mae cymaint o ffenestri wedi'u bordio, adeiladau mawreddog, sydd bellach naill ai wedi'u dymchwel, wedi'u gosod i'w rhentu'n fasnachol, neu'n cael eu gadael yn wag fel bwganod i watwar a phlagio ein presennol. Neuaddau a sefydliadau'r glowyr yn brwydro i oroesi, capeli gwag, theatrau diffaith; yr atgofion y maent yn eu cymell o gyfnod pan oedd cymuned yn brofiad a rannem.
Yr adeiladau gwag yw'r dinistr mwyaf. Yn y blynyddoedd a'r canrifoedd a ddilynodd ymadawiad y Rhufeiniaid â'r glannau hyn, sut oedd pobl yn teimlo wrth weld yr adeiladau mawreddog a adawyd ar ôl; atgofion o gyfnod llawer creulonach, ond adeg pan adeiladwyd lleoedd mawreddog—cofebau, amffitheatrau.
Yn y ddeuddegfed ganrif, teithiodd Gerallt Gymro trwy Gaerllion a gallwn ddweud o'i ysgrifau fod toeau'r baddonau Rhufeinig yno o hyd. Siaradodd am olion temlau a phalasau anferth, a oedd unwaith yn debyg i fawredd Rhufain hynafol. Sut deimlad oedd edrych ar yr adeiladau hynny a sylweddoli bod eu hamser wedi diflannu, na fyddai adeilad o'r fath yn cael ei adeiladu eto. Sic transit gloria mundi. Dyma'r modd y mae ysblander y ddaear yn diflannu.
Ac eto—. Ac eto—ni fyddem yn mynd yn ôl i amser y gweithfeydd glo, cyfnod o chwerwder, ecsbloetio, anafiadau a marwolaeth. Ond cafodd rhywbeth o werth ei greu yn y blynyddoedd creulon hynny, ymdeimlad o herfeiddiwch ac ysblander—rwy'n dychwelyd at y gair hwnnw. Mawredd y gwnaethom ei fynnu i'n pobl, mawredd a ddangoswyd gennym i'r byd ac i Dduw. Mannau ymgynnull lle deuai ein cymunedau ynghyd. Lleoedd lle gallem ddysgu a dod o hyd i lawenydd a harddwch. Mae'r lleoedd hynny'n haeddu mwy na chael eu cofio. Maent yn haeddu bod yn ganolfannau i gymunedau unwaith eto.
Mae angen deddfwriaeth arnom i ddiogeli’r asedau hyn, ffyrdd o'i gwneud hi’n haws i ddod â nhw nôl i mewn i berchnogaeth gyhoeddus. Yn wir, mae angen deddfwriaeth a fuasai’n sicrhau hawliau perchnogaeth cymunedol. Dyna’r hyn mae Cwmpas yn ymgyrchu drosto. Ac oes, mae comisiwn wedi’i sefydlu ar asedau cymunedol, ond mae angen brys yma. Rŷn ni’n barod ar ei hôl hi o gymharu â’r Alban a Lloegr, ac os gwnawn ni golli mwy o asedau cymunedol wrth aros i’r ddeddfwriaeth ddod ger ein bron, bydd ein cymunedau ni gyd ar eu colled.
Nawr, mae esiamplau o lefydd lle mae asedau wedi’u hachub yn y cymunedau hyn. Yng Nghaerffili, mae’r ysbyty glöwyr y gwnes i sôn amdano'n gynharach bellach yn ganolfan i’r gymuned, gyda siop goffi, gardd newid hinsawdd, ac mae’n ganolbwynt ar gyfer gwersi ioga, dosbarthiadau gwnïo, grwpiau megis Men’s Sheds, gweithgarddau fel sgiliau cyfrifiaduron, celf a chrefft—pob math o bethau dan un tô. Ar hyd a lled y cwm, mae hen gapeli sydd bellach wedi’u cau nawr wedi’u troi’n ganolfanau cymunedol, fel Nazareth yn Abertridwr a Beulah yn Rhymni. Esiamplau calonogol ydy pob un o fywyd newydd yn yr hen gerrig, a rhaid eu dathlu nhw.
Ond mae angen gwneud pethau’n haws i grwpiau a gwirfoddolwyr wneud y fath beth. Mae angen cymorth arbenigol, mynediad at gyllid a grymuso cymunedau. Canolfannau i’r Gymraeg ydy cymaint o'r rheina—wedi'r cwbl, buasent yn helpu’r Llywodraeth i gyrraedd mwy nag un targed neu flaenoriaeth.
Llefydd ysblennydd ydy’r asedau hyn. Mae’n hen bryd inni eu dathlu a’u gwerthfawrogi cyn y byddant yn troi’n gofebau’n unig i fyd coll, a gwerthoedd a phobl sydd wedi hen adael ein byd.
We need legislation to protect these assets, ways to make it easier to bring them back into public ownership. Indeed, we need legislation that would ensure community ownership rights. That is what Cwmpas is campaigning for. And yes, a commission has been established on community assets, but there is an urgent need here. We are already lagging behind compared to Scotland and England, and if we lose more community assets while waiting for the legislation to come before us, our communities will all lose out.
Now, there are examples of places where assets have been saved in these communities. In Caerphilly, the miners' hospital that I mentioned earlier is now a centre for the community, with a coffee shop and a climate change garden, and it is a hub for yoga lessons, sewing classes, groups such as Men's Sheds, and activities such as computer skills, arts and crafts—all kinds of things under one roof. All over the valley, old chapels that have been closed have now been turned into community centres, such as Nazareth in Abertridwr and Beulah in Rhymney. These are all encouraging examples of new life in the old stones, and they must be celebrated.
But we need to make it easier for groups and volunteers to do these things. We need specialist support, access to finance and community empowerment. These are also centres for the Welsh language in so many communities—after all, they would help the Government achieve more than one target or priority.
These assets are spectacular places. It's high time that we celebrated and appreciated them before they become mere monuments to a lost world, and values and people who have long since left our world.
Diolch yn fawr iawn i ti, Delyth, am y ddadl yma.
Thank you very much, Delyth, for this short debate.
It's a subject that's very close to my heart and I've supported groups that have sought to hold on to such cherished community assets, but have had the odds stacked against them. The private market usually has much deeper pockets than resident co-operatives. It's a big anomaly that people in Wales don't enjoy the same rights as counterparts in Scotland and England when it comes to the right to buy those community assets. No adequate explanation has ever been given for this. It's led to the Institute of Welsh Affairs producing a report in 2022 that found Welsh communities to be the least empowered in Britain. Successive Labour Governments have dropped the ball on this. In the meantime, how many of our community assets have we lost? How many will we continue to lose until this anomaly is corrected? How many of our communities will be deprived of the opportunities that we all have had? Those groups I've supported would have found it much easier to keep community assets for community use with such protections in place. I urge the Government to act swiftly on this, to protect our community assets and to give our communities hope.
Mae'n bwnc sy'n agos iawn at fy nghalon ac rwyf wedi cefnogi grwpiau sydd wedi ceisio dal gafael ar asedau cymunedol y mae pobl mor hoff ohonynt, er mor annhebyg oeddent o lwyddo. Fel arfer, mae gan y farchnad breifat bocedi llawer dyfnach na chwmnïau cydweithredol preswylwyr. Mae'n anghysondeb mawr nad yw pobl yng Nghymru yn mwynhau'r un hawliau â chymheiriaid yn yr Alban a Lloegr o ran yr hawl i brynu'r asedau cymunedol hyn. Ni roddwyd esboniad digonol am hyn erioed. Mae wedi arwain at adroddiad gan y Sefydliad Materion Cymreig yn 2022 a ganfu mai cymunedau Cymru sydd wedi eu grymuso leiaf ym Mhrydain. Mae Llywodraethau Llafur olynol wedi colli cyfle yn hyn o beth. Yn y cyfamser, faint o'n hasedau cymunedol a gollwyd? Faint y parhawn i'w colli hyd nes y caiff yr anghysondeb ei gywiro? Faint o'n cymunedau fydd yn cael eu hamddifadu o'r cyfleoedd yr ydym ni i gyd wedi'u cael? Byddai'r grwpiau a gefnogais wedi ei chael hi'n haws o lawer cadw asedau cymunedol at ddefnydd cymunedol gyda mesurau diogelu o'r fath ar waith. Rwy'n annog y Llywodraeth i weithredu'n gyflym ar hyn, i ddiogelu ein hasedau cymunedol ac i roi gobaith i'n cymunedau.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i ymateb i'r ddadl. Jayne Bryant.
I call on the Cabinet Secretary for Housing and Local Government to reply to the debate. Jayne Bryant.

Diolch, Dirprwy Lywydd. I'd like to start first by thanking Delyth Jewell for bringing this important debate forward today, and to Peredur Owen Griffiths for contributing.
I think we can all agree today that protecting community assets is of paramount importance to people across Wales. As the Minister responsible for community assets, I know how valuable these spaces can be in bringing people together and championing local identities, and not just remembering the history. That's why the Welsh Government is fully committed to safeguarding our community assets, which in turn supports local activities, heritage and culture. They're spaces where we share experience, support each other and build stronger, more resilient communities.
To echo the Idris Davies poem, and the question posed by the brown bells of Merthyr, there is hope for the future. Community assets underpin many of the priorities of the First Minister, in particular ensuring opportunities for every family. And as Delyth said, often these are hubs for our communities, places that offer friendship, essential support, services and a sense of connection and meaning. Such spaces offer opportunity for us to consider how we relate to one another and to our communities. I know how important they are for people across the Valleys and beyond.
The Welsh Government is proud to support community-led projects through various funding programmes, including the community facilities programme, and the community asset loan fund. These programmes have provided vital assistance, financial assistance, to help communities purchase or improve essential local facilities, such as buildings and green spaces. These programmes are designed to empower communities, providing them with the financial resources necessary to maintain and enhance their community assets.
Our community facilities programme has provided over £63 million in capital grants to around 450 projects across Wales since 2015. Each of these projects represents a well-used and much-needed community facility. They include all types of assets, including sporting venues, community centres and facilities run by faith groups, churches, chapels and mosques. Not all of these assets are community owned, but they are all run by the community, for the community. The community facilities programme has funded small projects like the repair of the Hirwaun Men's Shed, and the installation of solar panels at the Port Talbot Gas Welfare Club. Larger projects include the refurbishment of the Ponthir and district sports club in Torfaen, and the creation of a Welsh-Jewish cultural centre in the heart of Merthyr Tydfil.
Our Transforming Towns programme has also supported a range of community projects across Wales. One notable example is the Trinity Chapel in Abertillery, which I'm very much looking forward to visiting in the coming weeks. This project has brought a long-term vacant town-centre building back into use, to provide a flagship library service, as well as adult education and training, which includes a digital learning space and lettable space for community-focused activities. Because these are more than just spaces for learning. These are spaces that allow communities to come together, and that's why supporting them is so important.
One way in which we can do this is through the community asset commission, which was established in March last year, and is a partnership between Welsh Government and Ystadau Cymru. The commission consists of a task and finish group, made up of 18 members, representing key stakeholder groups. These groups include the Plunkett Foundation, One Voice Wales, the Wales Council for Voluntary Action, the Development Trusts Association Wales and the Barcud housing association. The primary focus of the commission is buildings, land and natural assets. These include local facilities that bring people together and provide essential resources, assets such as libraries, museums, art centres, green spaces and leisure centres. We are considering assets in the public, private and voluntary sectors, as well as those under community ownership. The commission aims to understand the challenges that facilities may face, explore options for ownership and management, and develop proposals to advance the community asset agenda.
I'm aware of the proposals in England to consult on the community right to buy, and my team is fully engaged with UK Government officials on this matter. Any future decision will be shaped by the recommendations of our own community asset commission, and we will be reflective of the needs of the communities in Wales. Part of the commission's remit is to review the legislative landscape and how well it has worked and whether it has genuinely empowered communities.
One of the key tools that we have developed to support this work is the community asset transfer best practice guide, published by Ystadau Cymru. This guide provides valuable insight and practical advice for communities to look to take ownership of local assets. It's scheduled for review in 2025, ensuring that it remains relevant and up to date, in line with the recommendations from the community asset commission. Cardiff University are conducting independent academic research and are hosting a series of stakeholder workshops that started in September to understand first-hand experiences of community groups across Wales. I'm confident that our approach will provide invaluable evidence-based insights that will shape the way forward.
The commission's terms of reference are published on the Ystadau Cymru's website, allowing anyone interested to understand the scope and objectives of our efforts. We believe that open communication and collaboration with all stakeholders are essential to the success of our initiatives. It's expected that recommendations made by the commission's task and finish group will be presented by autumn 2025. Community facilities like this offer so much more than an inviting space for local people; they offer local jobs and volunteering opportunities, and enhanced access to learning. They cater for families, offering childcare, parent and toddler groups, youth clubs, and Welsh lessons. Their potential to bring people together and foster community cohesion is invaluable. Whether through providing electric charging points or serving as bases for community transport projects, community assets are integral to connecting and strengthening our communities. We have made a firm commitment to supporting community-led developments and have provided a framework that includes advice, guidance and financial support.
Community assets serve as a valuable purpose for people across Wales. Whether we're talking about libraries, education facilities, cultural centres, sports clubs or green spaces, these are hubs for our community that foster a sense of belonging and pride, and I look forward to seeing the recommendations of the community asset commission later this year. Diolch yn fawr.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau yn gyntaf trwy ddiolch i Delyth Jewell am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw, ac i Peredur Owen Griffiths am gyfrannu.
Rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno heddiw fod diogelu asedau cymunedol o'r pwys mwyaf i bobl ledled Cymru. Fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am asedau cymunedol, gwn pa mor werthfawr y gall y mannau hyn fod i ddod â phobl ynghyd a hyrwyddo hunaniaeth leol, ac nid cofio'r hanes yn unig. Dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu ein hasedau cymunedol, sydd yn eu tro yn cefnogi gweithgareddau, treftadaeth a diwylliant lleol. Maent yn fannau lle rydym yn rhannu profiad, yn cefnogi ein gilydd ac yn adeiladu cymunedau cryfach, mwy gwydn.
I adleisio cerdd Idris Davies, a'r cwestiwn a ofynnwyd gan glychau brown Merthyr, mae yna obaith i'r dyfodol. Mae asedau cymunedol yn sail i lawer o flaenoriaethau'r Prif Weinidog, yn enwedig sicrhau cyfleoedd i bob teulu. Ac fel y dywedodd Delyth, mae'r rhain yn aml yn ganolfannau i'n cymunedau, lleoedd sy'n cynnig cyfeillgarwch, cefnogaeth hanfodol, gwasanaethau ac ymdeimlad o gysylltiad ac ystyr. Mae mannau o'r fath yn cynnig cyfle i ni ystyried sut ydym yn ymwneud â'n gilydd ac â'n cymunedau. Rwy'n gwybod pa mor bwysig ydynt i bobl ar draws y Cymoedd a thu hwnt.
Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gefnogi prosiectau a arweinir gan y gymuned trwy amrywiol raglenni ariannu, gan gynnwys y rhaglen cyfleusterau cymunedol, a'r gronfa benthyciadau asedau cymunedol. Mae'r rhaglenni hyn wedi darparu cymorth hanfodol, cymorth ariannol, i helpu cymunedau i brynu neu wella cyfleusterau lleol hanfodol, fel adeiladau a mannau gwyrdd. Mae'r rhaglenni hyn wedi'u cynllunio i rymuso cymunedau, gan roi'r adnoddau ariannol y maent eu hangen iddynt i gynnal a gwella eu hasedau cymunedol.
Mae ein rhaglen cyfleusterau cymunedol wedi darparu dros £63 miliwn mewn grantiau cyfalaf i tua 450 o brosiectau ledled Cymru ers 2015. Mae pob un o'r prosiectau hyn yn cynrychioli cyfleuster cymunedol mawr ei angen sy'n cael defnydd da. Maent yn cynnwys pob math o asedau, gan gynnwys lleoliadau chwaraeon, canolfannau cymunedol a chyfleusterau sy'n cael eu rhedeg gan grwpiau ffydd, eglwysi, capeli a mosgiau. Nid yw pob un o'r asedau hyn yn eiddo i'r gymuned, ond maent i gyd yn cael eu rhedeg gan y gymuned, ar gyfer y gymuned. Mae'r rhaglen cyfleusterau cymunedol wedi ariannu prosiectau bach fel atgyweirio Sied Dynion Hirwaun, a gosod paneli solar yng Nghlwb Lles Nwy Port Talbot. Mae prosiectau mwy yn cynnwys ailwampio clwb chwaraeon Pont-hir a'r clwb chwaraeon rhanbarthol yn Nhorfaen, a chreu canolfan ddiwylliannol Gymreig-Iddewig yng nghanol Merthyr Tudful.
Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi hefyd wedi cefnogi amrywiaeth o brosiectau cymunedol ledled Cymru. Un enghraifft nodedig yw Capel y Drindod yn Abertyleri, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at ymweld ag ef yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae'r prosiect hwn wedi dod ag adeilad gwag yn hirdymor yng nghanol y dref yn ôl i ddefnydd, i ddarparu gwasanaeth llyfrgell blaenllaw, yn ogystal ag addysg a hyfforddiant i oedolion, sy'n cynnwys gofod dysgu digidol a gofod i'w osod ar gyfer gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Oherwydd mae'r rhain yn fwy na dim ond lleoedd ar gyfer dysgu. Mae'r rhain yn fannau sy'n caniatáu i gymunedau ddod at ei gilydd, a dyna pam ei bod hi mor bwysig eu cefnogi.
Un ffordd y gallwn wneud hyn yw drwy'r comisiwn asedau cymunedol, a sefydlwyd ym mis Mawrth y llynedd, ac sy'n bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru ac Ystadau Cymru. Mae'r comisiwn yn cynnwys grŵp gorchwyl a gorffen, gyda 18 aelod, sy'n cynrychioli grwpiau rhanddeiliaid allweddol. Mae'r grwpiau hyn yn cynnwys Sefydliad Plunkett, Un Llais Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru a chymdeithas dai Barcud. Prif ffocws y comisiwn yw adeiladau, tir ac asedau naturiol. Mae'r rhain yn cynnwys cyfleusterau lleol sy'n dod â phobl at ei gilydd ac yn darparu adnoddau hanfodol, asedau fel llyfrgelloedd, amgueddfeydd, canolfannau celf, mannau gwyrdd a chanolfannau hamdden. Rydym yn ystyried asedau yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, yn ogystal â rhai sydd ym mherchnogaeth y gymuned. Nod y comisiwn yw deall yr heriau y gallai cyfleusterau eu hwynebu, archwilio opsiynau ar gyfer perchnogaeth a rheolaeth, a datblygu cynigion i hyrwyddo'r agenda asedau cymunedol.
Rwy'n ymwybodol o'r cynigion yn Lloegr i ymgynghori ar hawl y gymuned i brynu, ac mae fy nhîm yn ymgysylltu'n llawn â swyddogion Llywodraeth y DU ar y mater hwn. Bydd unrhyw benderfyniad yn y dyfodol yn cael ei lywio gan argymhellion ein comisiwn asedau cymunedol ein hunain, a byddwn yn adlewyrchu anghenion y cymunedau yng Nghymru. Rhan o gylch gwaith y comisiwn yw adolygu'r dirwedd ddeddfwriaethol a pha mor dda y mae wedi gweithio ac a yw wedi grymuso cymunedau mewn gwirionedd.
Un o'r arfau allweddol a ddatblygwyd gennym i gefnogi'r gwaith hwn yw'r canllaw arfer gorau ar gyfer trosglwyddo asedau cymunedol, a gyhoeddwyd gan Ystadau Cymru. Mae'r canllaw hwn yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr a chyngor ymarferol i gymunedau geisio perchnogi asedau lleol. Mae wedi'i amserlennu i'w adolygu yn 2025, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau'n berthnasol ac yn gyfredol, yn unol ag argymhellion y comisiwn asedau cymunedol. Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnal ymchwil academaidd annibynnol ac yn cynnal cyfres o weithdai rhanddeiliaid a ddechreuodd ym mis Medi i ddeall profiadau uniongyrchol grwpiau cymunedol ledled Cymru. Rwy'n hyderus y bydd ein dull gweithredu'n darparu syniadau amhrisiadwy yn seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn llywio'r ffordd ymlaen.
Cyhoeddir cylch gorchwyl y comisiwn ar wefan Ystadau Cymru, i ganiatáu i unrhyw un sydd â diddordeb ddeall cwmpas ac amcanion ein hymdrechion. Credwn fod cyfathrebu agored a chydweithio â'r holl randdeiliaid yn hanfodol i lwyddiant ein mentrau. Disgwylir y bydd argymhellion grŵp gorchwyl a gorffen y comisiwn yn cael eu cyflwyno erbyn hydref 2025. Mae cyfleusterau cymunedol fel y rhain yn cynnig cymaint mwy na lle atyniadol i bobl leol; maent yn cynnig swyddi a chyfleoedd gwirfoddoli lleol, a gwell mynediad at ddysgu. Maent yn darparu ar gyfer teuluoedd, gan gynnig gofal plant, grwpiau rhieni a phlant bach, clybiau ieuenctid, a gwersi Cymraeg. Mae eu potensial i ddod â phobl ynghyd a meithrin cydlyniant cymunedol yn amhrisiadwy. Boed trwy ddarparu pwyntiau gwefru trydan neu wasanaethu fel canolfannau ar gyfer prosiectau trafnidiaeth gymunedol, mae asedau cymunedol yn rhan annatod o gysylltu a chryfhau ein cymunedau. Rydym wedi ymrwymo'n gadarn i gefnogi datblygiadau a arweinir gan y gymuned ac wedi darparu fframwaith sy'n cynnwys cyngor, arweiniad a chymorth ariannol.
Mae asedau cymunedol yn rhoi pwrpas gwerthfawr i bobl ledled Cymru. Boed yn llyfrgelloedd, cyfleusterau addysg, canolfannau diwylliannol, clybiau chwaraeon neu fannau gwyrdd, mae'r rhain yn ganolfannau ar gyfer ein cymuned sy'n meithrin ymdeimlad o berthyn a balchder, ac edrychaf ymlaen at weld argymhellion y comisiwn asedau cymunedol yn ddiweddarach eleni. Diolch yn fawr.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch, Delyth. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
I thank the Cabinet Secretary, and thank you, Delyth. That brings today's proceedings to a close.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:58.
The meeting ended at 18:58.