Y Cyfarfod Llawn

Plenary

26/11/2024

Cynnwys

Contents

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog 1. Questions to the First Minister
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes 2. Business Statement and Announcement
3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 3. Statement by the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language: The Visitor Accommodation (Register and Levy) Etc. (Wales) Bill
4. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Cynnydd ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy—Dylunio drwy gydweithio 4. Statement by the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs: Progress on the Sustainable Farming Scheme—Design through collaboration
5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Adolygiad o briodoldeb dulliau mesur ymateb ambiwlansys argyfwng a thargedau cysylltiedig 5. Statement by the Cabinet Secretary for Health and Social Care: Review of the appropriateness of emergency ambulance response measures and associated targets
6. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Storm Bert 6. Statement by the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs: Storm Bert
7. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Paratoi ar gyfer diwygio ym maes bysiau 7. Statement by the Cabinet Secretary for Transport and North Wales: Preparing for bus reform
8. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Diweddariad ar Fuddsoddiadau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd 8. Statement by the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning: Update on Compound Semiconductor Investments
9., 10., 11. & 12. Rheoliadau Unigolion sydd wedi eu Hesemptio o ran Triniaethau Arbennig (Cymru) 2024, Rheoliadau Trwyddedau Triniaeth Arbennig (Cymru) 2024, Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau a Gymeradwywyd o ran Triniaethau Arbennig (Cymru) 2024, Rheoliadau Gwrthrychau Rhagnodedig ar gyfer Tyllu’r Corff (Triniaethau Arbennig) (Cymru) 2024 9., 10., 11. & 12. The Special Procedures Exempted Individuals (Wales) Regulations 2024, The Special Procedure Licences (Wales) Regulations 2024, The Special Procedures Approved Premises and Vehicles (Wales) Regulations 2024, and The Prescribed Objects for Body Piercing (Special Procedures) (Wales) Regulations 2024
13. Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygiadau Amrywiol etc.) (Cymru) 2024 13. The Partnership Arrangements (Miscellaneous Amendments etc.) (Wales) Regulations 2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

In the bilingual version, the left-hand column includes the language used during the meeting. The right-hand column includes a translation of those speeches.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

The Senedd met in the Chamber and by video-conference at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
1. Questions to the First Minister

Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r cwestiynau i’r Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Cefin Campbell.   

Good afternoon and welcome to this afternoon’s Plenary session. The first item on our agenda this afternoon is questions to the First Minister, and the first question is from Cefin Campbell.

Treth Etifeddiant
Inheritance Tax

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y newidiadau i'r dreth etifeddiant ar ffermydd Cymru? OQ61918

1. What assessment has the Welsh Government made of the impact of inheritance tax changes on Welsh farms? OQ61918

Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n rheoli'r dreth etifeddiaeth. Mae ffigurau’r Trysorlys yn awgrymu na fydd y newidiadau yn effeithio ar y rhan fwyaf o ffermydd yng Nghymru. 

The UK Government control inheritance tax. HM Treasury figures suggest that most farms will be unaffected by the changes announced by the Government.

Diolch yn fawr iawn i chi. Wel, roeddwn i yn y ffair aeaf yn Llanelwedd ddoe, ac, fel bob tro, roedd e’n ddathliad gwirioneddol wych o fywyd cefn gwlad a’n cynnyrch tymhorol arbennig. Ond fyddwch chi ddim yn synnu clywed bod yna lawer iawn o bryder ymhlith y sector hefyd ynglŷn â’r newidiadau diweddar i’r dreth etifeddiaeth. Nawr, mae’n amlwg i mi nad yw’r Trysorlys wedi gwneud eu gwaith cartref ar y newidiadau maen nhw’n eu hargymell. Yn ôl dadansoddiad gan arbenigwr treth, sef Dan Neidle, nid yw’r cynigion yn mynd yn ddigon pell o ran targedu’r miliwnyddion sy’n prynu tir er mwyn osgoi talu treth. Ond ar y llaw arall, maen nhw’n mynd yn rhy bell o ran cosbi’r ffermwyr go iawn—hynny yw, y bobl sy’n gwneud bywoliaeth o’r tir ac yn gofalu amdano. Dwi’n poeni y bydd effaith cyllideb Rachel Reeves yn arbennig o wael i’n ffermydd teuluol ni yng Nghymru. Gan ystyried mai dim ond ryw £18,000 yw cyflog cyfartalog ffermwyr mynydd, er enghraifft, fel yn y byd y mae modd iddyn nhw dalu’r treth etifeddiaeth ar gyflog mor isel? Felly, mae’n peri pryder i mi nad oes asesiad effaith penodol wedi cael ei wneud ar hyn. Wedyn, a gaf i ofyn i chi, felly, ymrwymo i gynnal asesiad o’r fath, a hynny ar fyrder?

Thank you very much. I was at the winter fair in Llanelwedd yesterday, and, as on all other occasions, it was a wonderful celebration of rural life and our seasonal produce. But you won’t be surprised to hear that there’s a great deal of concern amongst the sector about the recent changes to inheritance tax. Now, it’s clear to me that the Treasury hasn’t done its homework on the changes that they are recommending. According to analysis by a tax expert, namely Dan Neidle, the proposals don’t go far enough in terms of targeting the millionaires who buy land to avoid paying tax, but, on the other hand, they go too far in terms of punishing those genuine farmers, namely those who make a living from the land and who care for it. I’m concerned that the impact of Rachel Reeves's budget will be particularly bad for our family farms here in Wales. Given that the average income for a hill farmer is only £18,000, how can they pay this inheritance tax on such a low income? So, it causes concern to me that there has been no specific assessment of the impact of this. Therefore, may I ask you to commit to holding such an assessment as a matter of urgency?

Wel, diolch yn fawr, a dwi wedi clywed bod pethau wedi mynd yn arbennig o dda yn y ffair aeaf, a dwi’n falch dros ben bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi bod yna hefyd yn cyflwyno’r newidiadau ar gyfer y cynllun sustainable farming newydd. Dwi’n gwybod bod hwnna wedi cael ei groesawu gan nifer o bobl yna. Mae’r Dirprwy Brif Weinidog hefyd wedi bod yn cael trafodaethau adeiladol gyda’r undebau ffermwyr, ac maen nhw wedi gofyn am sicrwydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd llais undebau Cymru yn cael ei glywed, ac mae e wedi cael assurance bod hwnna yn mynd i ddigwydd.

Achos hyn, dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig i ni ddychwelyd at ddata’r Trysorlys. Mae Canghellor y Deyrnas Unedig wedi amlinellu safbwynt Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ryddhad eiddo amaethyddol ar gyfer y dreth etifeddiaeth, ac mae lot o fanylder i’w gael mewn llythyr a oedd wedi cael ei anfon at gadeirydd pwyllgor dethol y Trysorlys, a dwi’n awgrymu eich bod chi’n edrych ar hwnnw.

Thank you very much, and I have heard that things went particularly well at the winter fair, and I’m particularly pleased that the Deputy First Minister had attended too, presenting the changes to the new sustainable farming scheme. I know that that was welcomed by many of the people there. The Deputy First Minister has also been having constructive discussions with the farming unions, and they’ve asked for an assurance from the UK Government that the voice of the Welsh unions will be heard, and he’s received an assurance that that will be the case.

As a result of this, I think it is important that we return to the Treasury data. The UK Chancellor has outlined the stance of the UK Government on agricultural property relief in terms of inheritance tax, and there’s a great deal of detail available in a letter that was sent to the chair of the Treasury select committee, and I suggest that you look at that.

I’d like to declare an interest in this matter. First Minister, last week  was proud to stand with thousands of farmers and my constituents in Westminster, and yesterday at the winter fair, against the family farm tax. This tax is going to damage the fabric of rural Wales, putting our family farms at risk, putting our food security at risk, and has the real consequence of putting food prices up. You told farmers that they needed to calm down. That statement went down like a cup of cold sick with the farmers that I represent. First Minister, you said you would stand up for Wales. Will you now join the thousands of Welsh farmers and stand up for rural Wales and condemn your colleagues in Westminster, and stand with me and those farmers and condemn the family farm tax? And will you please raise it with the Prime Minister to say that the Welsh Labour Government here does not stand with them on this matter?

Hoffwn ddatgan buddiant yn y mater hwn. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, roeddwn i'n falch o sefyll gyda miloedd o ffermwyr a'm hetholwyr yn San Steffan, a ddoe yn y ffair aeaf, yn erbyn y dreth ar ffermydd teulu. Mae'r dreth hon yn mynd i niweidio adeiladwaith cefn gwlad Cymru, gan beryglu ein ffermydd teulu, peryglu ein diogeledd bwyd, ac mae ganddo'r canlyniad gwirioneddol o gynyddu prisiau bwyd. Fe wnaethoch chi ddweud wrth ffermwyr bod angen iddyn nhw bwyllo. Aeth y datganiad hwnnw i lawr fel paned o chwyd oer ymhlith y ffermwyr yr wyf i'n eu cynrychioli. Prif Weinidog, fe wnaethoch chi ddweud y byddech chi'n sefyll dros Gymru. A wnewch chi ymuno nawr â'r miloedd o ffermwyr o Gymru a sefyll dros Gymru wledig a chondemnio eich cydweithwyr yn San Steffan, a sefyll gyda mi a'r ffermwyr hynny a chondemnio'r dreth ar ffermydd teulu? Ac a wnewch chi ei godi gyda Phrif Weinidog y DU os gwelwch yn dda, i ddweud nad yw Llywodraeth Lafur Cymru yma yn sefyll gyda nhw ar y mater hwn?

Thanks very much, James, and can I first of all thank you for declaring an interest in this important matter? Certainly, we are very aware of the concern in the agricultural community around this issue. We know that agriculture contributes a huge amount to our economy, to our culture, to communities in rural Wales in particular. And that’s why the Deputy First Minister has been speaking to the farmers unions in Wales and has got that assurance that the UK Government will listen to them in relation to this matter. So, the National Farmers Union Cymru and the Farmers Union of Wales's voices will be heard.

So, I think it is important for us to recognise that this is a UK Government tax, and it is important that those figures are bottomed out because, clearly, there is a lack of an agreement on who exactly will be impacted. So, I would recommend again that the letter that was sent to the committee in Parliament is read in detail.

Diolch yn fawr iawn, James, ac a gaf i ddiolch yn gyntaf i chi am ddatgan buddiant yn y mater pwysig hwn? Yn sicr, rydym ni'n ymwybodol iawn o'r pryder yn y gymuned amaethyddol ynghylch y mater hwn. Rydym ni'n gwybod bod amaethyddiaeth yn gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi, at ein diwylliant, at gymunedau yng nghefn gwlad Cymru yn arbennig. A dyna pam mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi bod yn siarad â'r undebau ffermwyr yng Nghymru ac wedi cael y sicrwydd hwnnw y bydd Llywodraeth y DU yn gwrando arnyn nhw o ran y mater hwn. Felly, bydd lleisiau Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru yn cael eu clywed.

Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod mai treth Llywodraeth y DU yw hon, ac mae'n bwysig nodi pwynt isaf y ffigurau hynny oherwydd, yn amlwg, mae diffyg cytundeb ynghylch pwy yn union fydd yn cael eu heffeithio. Felly, byddwn yn argymell eto bod y llythyr a anfonwyd at y pwyllgor yn y Senedd yn cael ei ddarllen yn fanwl.

13:35
Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr
Employer National Insurance Contributions

2. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith cynyddu premiymau yswiriant gwladol cyflogwyr ar gyllidebau awdurdodau lleol? OQ61930

2. What assessment has the First Minister made of the impact on local authority budgets of the increase in employer national insurance premiums? OQ61930

Decisions on national insurance contributions are made by the UK Government. The UK Treasury has indicated additional funding will be provided to meet the costs of employer national insurance contributions in the public sector. Impacts on third and private sector service providers could affect local authority budgets.

Llywodraeth y DU sy'n gwneud penderfyniadau am gyfraniadau yswiriant gwladol. Mae Trysorlys y DU wedi nodi y bydd cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu i dalu costau cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn y sector cyhoeddus. Gallai effeithiau ar ddarparwyr gwasanaeth trydydd sector a sector preifat effeithio ar gyllidebau awdurdodau lleol.

First Minister, Monmouthshire County Council has written to me, setting out the financial impact of increased national insurance contributions that have been imposed by the Labour Government. They estimate these changes will result in a direct loss of at least £3.5 million from an already overstretched budget. However, the true cost will be far higher as many of their service providers will face increased expenses, which will inevitably be passed on to the council. This is a problem entirely created by the Labour Government in Westminster, whose budget will result in huge financial costs on councils across Wales. Unless this money is replaced in full, it will either result in higher council taxes or fewer services. So, First Minister, will you guarantee that the millions of pounds in extra costs faced by councils like Monmouthshire will be covered by this Welsh Government? And, if the extra costs are to be covered, will you confirm that this funding will not be misrepresented as new or increased investment but as simply the replacement for cash that has already been taken away in the budget?

Prif Weinidog, mae Cyngor Sir Fynwy wedi ysgrifennu ataf i, yn nodi effaith ariannol cyfraniadau yswiriant gwladol uwch sydd wedi cael eu gorfodi gan y Llywodraeth Lafur. Maen nhw'n amcangyfrif y bydd y newidiadau hyn yn arwain at golled uniongyrchol o £3.5 miliwn o leiaf o gyllideb sydd eisoes o dan bwysau. Fodd bynnag, bydd y gwir gost yn llawer uwch gan y bydd llawer o'u darparwyr gwasanaeth yn wynebu treuliau uwch, a fydd yn cael eu trosglwyddo yn anochel i'r cyngor. Mae hon yn broblem a grëwyd yn gyfan gwbl gan y Llywodraeth Lafur yn San Steffan, y bydd ei chyllideb yn arwain at gostau ariannol enfawr i gynghorau ledled Cymru. Oni bai fod yr arian hwn yn cael ei ddisodli yn llawn, bydd naill ai'n arwain at drethi cyngor uwch neu lai o wasanaethau. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi sicrhau y bydd y miliynau o bunnoedd mewn costau ychwanegol sy'n wynebu cynghorau fel sir Fynwy yn cael eu hysgwyddo gan y Llywodraeth hon yng Nghymru? Ac, os yw'r costau ychwanegol yn mynd i gael eu hysgwyddo, a wnewch chi gadarnhau na fydd y cyllid hwn yn cael ei gam-gynrychioli fel buddsoddiad newydd neu fwy ond yn syml fel arian sy'n disodli arian a gymerwyd i ffwrdd eisoes yn y gyllideb?

Well, thanks very much. I've got to be absolutely clear that the problems in local government have emanated from the fact that, actually, there have been 14 years of austerity. And if you look at—[Interruption.] And if you look at how we've stood in this Government—[Interruption.]—how we've stood in this Government with local authorities, giving them more than was given under the Tories to local government in England, that partnership that we've got, a very good partnership, is something that should be respected. Now, we don't expect confirmation of the funding until the main estimates, which will happen in spring to summer next year, so we can't give a detailed assessment. So, clearly, Monmouth can't be absolutely sure of what the implications are for them. But I appreciate this makes it difficult for local authorities to plan, and, obviously, we will work very closely with the Welsh Local Government Association to see how far we can go to get some sense of where this is likely to land.

Wel, diolch yn fawr iawn. Mae'n rhaid i mi fod yn gwbl eglur bod y problemau mewn llywodraeth leol wedi deillio o'r ffaith, mewn gwirionedd, y bu 14 mlynedd o gyni cyllidol. Ac os edrychwch chi ar—[Torri ar draws.] Ac os edrychwch chi ar sut rydym ni wedi sefyll yn y Llywodraeth hon—[Torri ar draws.]—sut rydyn ni wedi sefyll yn y Llywodraeth hon gydag awdurdodau lleol, gan roi mwy iddyn nhw nag a roddwyd o dan y Torïaid i lywodraeth leol yn Lloegr, mae'r bartneriaeth honno sydd gennym ni, partneriaeth dda iawn, yn rhywbeth y dylid ei barchu. Nawr, dydyn ni ddim yn disgwyl cadarnhad o'r cyllid tan y prif amcangyfrifon, a fydd yn digwydd yn y gwanwyn i'r haf y flwyddyn nesaf, felly ni allwn roi asesiad manwl. Felly, yn amlwg, ni all sir Fynwy fod yn hollol sicr o beth yw'r goblygiadau iddyn nhw. Ond rwy'n sylweddoli bod hyn yn ei gwneud hi'n anodd i awdurdodau lleol gynllunio, ac, yn amlwg, byddwn yn gweithio'n agos iawn gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i weld pa mor bell y gallwn ni fynd i gael rhywfaint o synnwyr o le mae hyn yn debygol o lanio.

It's incredibly rich for the Conservatives to scaremonger local authorities in this way. It has been 14 years of ideologically driven austerity from the Conservatives in Westminster—[Interruption.] I knew they were going to shout, I knew they were going to shout, but it's the truth, and the First Minister's pointed that out. The key issue—[Interruption.]—the key issue is it's unnecessary to scaremonger, given that we have heard about the contribution made to the public sector by the UK Treasury. Can the First Minister, therefore, confirm that that will then be allocated through the Barnett formula, and perhaps give us some insight into the discussions that she's had in the build-up to the Welsh Government's budget?

Mae'n un anhygoel o dda i'r Ceidwadwyr godi bwganod ymhlith awdurdodau lleol fel hyn. Cafwyd 14 mlynedd o gyni cyllidol wedi'i ysgogi gan ideoleg gan y Ceidwadwyr yn San Steffan—[Torri ar draws.] Roeddwn i'n gwybod eu bod nhw'n mynd i weiddi, roeddwn i'n gwybod eu bod nhw'n mynd i weiddi, ond dyna'r gwir, ac mae'r Prif Weinidog wedi tynnu sylw at hynny. Y mater allweddol—[Torri ar draws.]—y mater allweddol yw bod codi bwganod yn ddiangen, o gofio ein bod ni wedi clywed am y cyfraniad a wnaed at y sector cyhoeddus gan Drysorlys y DU. A all y Prif Weinidog, felly, gadarnhau y bydd hwnnw yn cael ei ddyrannu wedyn drwy fformiwla Barnett, ac efallai rhoi rhywfaint o wybodaeth i ni am y trafodaethau y mae wedi eu cael yn y cyfnod cyn cyllideb Llywodraeth Cymru?

Thanks very much, Hefin. We will, of course, be pushing the UK Government to cover the costs of the national insurance increases to the public sector in Wales, and I'll expect at least the Barnett consequentials of cost. So, the Welsh Government, I'm afraid, are currently not in a position to be able to provide that full analysis of the impact of these changes until we're clearer on the financial picture. But you're absolutely right that the reason we're in this situation is because of those 14 years of Tory austerity.

Diolch yn fawr iawn, Hefin. Byddwn, wrth gwrs, yn pwyso ar Lywodraeth y DU i ysgwyddo costau'r cynnydd i yswiriant gwladol i'r sector cyhoeddus yng Nghymru, a byddaf yn disgwyl cost cyllid canlyniadol Barnett o leiaf. Felly, nid yw Llywodraeth Cymru, mae gen i ofn, mewn sefyllfa ar hyn o bryd i allu darparu'r dadansoddiad llawn hwnnw o effaith y newidiadau hyn tan ein bod ni'n fwy eglur o ran y darlun ariannol. Ond rydych chi'n gwbl gywir mai'r rheswm pam rydym ni yn y sefyllfa hon yw oherwydd y 14 mlynedd hynny o gyni cyllidol Torïaidd.

I'm sure, First Minister, the last thing you need this afternoon is lectures from supporters of Liz Truss on economics. We all saw what happened when we had the Conservatives in power; they can't decide whether it was £30 billion or £60 billion they lost that afternoon. But what we do know is that they crashed the economy, we do know that austerity led to no growth, and we do know that they supported a Brexit that has reduced our trade. On every test—[Interruption.]—on every economic test, in 14 years, the Conservatives have failed Wales. First Minister—[Interruption.]—First Minister, what the UK Government—

Rwy'n siŵr, Prif Weinidog, mai'r peth olaf sydd ei angen arnoch chi y prynhawn yma yw pregethau gan gefnogwyr Liz Truss ar economeg. Fe wnaethom ni i gyd weld yr hyn a ddigwyddodd pan oedd gennym ni'r Ceidwadwyr mewn grym; allan nhw ddim penderfynu ai £30 biliwn neu £60 biliwn a gollwyd ganddyn nhw y prynhawn hwnnw. Ond yr hyn yr ydym ni'n ei wybod yw eu bod nhw wedi chwalu'r economi, rydym ni'n gwybod bod cyni cyllidol wedi arwain at ddim twf, ac rydym ni'n gwybod eu bod nhw wedi cefnogi Brexit sydd wedi lleihau ein masnach. Ar bob prawf—[Torri ar draws.]—ar bob prawf economaidd, mewn 14 mlynedd, mae'r Ceidwadwyr wedi methu Cymru. Prif Weinidog—[Torri ar draws.]—Prif Weinidog, mae'r hyn y mae Llywodraeth y DU—

Alun Davies's voice is quite loud, actually, in this Chamber, but even I'm struggling to hear him now with all the noises around. So, can we have some silence for the question, please? Diolch, Alun.

Mae llais Alun Davies yn eithaf uchel, mewn gwirionedd, yn y Siambr hon, ond rwyf i hyd yn oed yn ei chael hi'n anodd ei glywed nawr gyda'r holl synau yn y cefndir. Felly, a allwn ni gael ychydig o dawelwch ar gyfer y cwestiwn, os gwelwch yn dda? Diolch, Alun.

13:40

Presiding Officer, they’re embarrassed—we should forgive them.

First Minister, do you agree with me that what we require now is a UK Government that believes in Wales, that’s going to invest in Wales, that’s going to invest in public services, and is going to invest in Welsh people for the future?

Llywydd, maen nhw'n teimlo cywilydd—fe ddylen ni faddau iddyn nhw.

Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi mai'r hyn sydd ei angen arnom ni nawr yw Llywodraeth y DU sy'n credu yng Nghymru, sy'n mynd i fuddsoddi yng Nghymru, sy'n mynd i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, ac sy'n mynd i fuddsoddi ym mhobl Cymru ar gyfer y dyfodol?

Thanks very much, Alun. The difference between this Government and the last Government is the difference between night and day. The amount of additional money that will be coming into our coffers in order to support public services is something they’ve already demonstrated. They’ve even demonstrated it in this financial year, where we’ve been able to give above-inflation pay rises to people in the public sector—something that’s been difficult to do for years and years and years under the Tories. And now we’ve got a budget settlement for next year where, for the first time, we’ll be looking at a situation where we won’t be having to think about cuts and cuts and cuts, which is the situation we’ve been in year after year after year. So, thank you, Alun. I think it is important to recognise that the UK Government is serious about investing in Wales and is interested in making sure that we see growth in our economy, which, in turn, will help us to support the public sector.

Diolch yn fawr iawn, Alun. Mae'r gwahaniaeth rhwng y Llywodraeth hon a'r Llywodraeth ddiwethaf fel y gwahaniaeth rhwng dydd a nos. Mae'r swm o arian ychwanegol a fydd yn dod i mewn i'n coffrau er mwyn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus yn rhywbeth y maen nhw eisoes wedi ei ddangos. Maen nhw hyd yn oed wedi ei ddangos yn y flwyddyn ariannol hon, lle'r ydym ni wedi gallu rhoi codiadau cyflog uwch na chwyddiant i bobl yn y sector cyhoeddus—rhywbeth sydd wedi bod yn anodd ei wneud am flynyddoedd ar flynyddoedd ar flynyddoedd o dan y Torïaid. A nawr mae gennym ni setliad cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf lle, am y tro cyntaf, y byddwn ni'n edrych ar sefyllfa lle na fyddwn ni'n gorfod meddwl am doriadau a thoriadau a thoriadau, sef y sefyllfa yr ydym ni wedi bod ynddi flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn. Felly, diolch, Alun. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod bod Llywodraeth y DU o ddifrif am fuddsoddi yng Nghymru a bod ganddi ddiddordeb mewn gwneud yn siŵr ein bod ni'n gweld twf yn ein heconomi, a fydd, yn ei dro, yn ein helpu i gefnogi'r sector cyhoeddus.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from the Party Leaders

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.

Questions now from the party leaders. The leader of the Welsh Conservatives, Andrew R.T. Davies.

Thank you, Presiding Officer. First Minister, we all saw the scenes over the weekend of the flooding that affected many parts of Wales, and our thoughts, I’m sure, are with the family of the bereaved gentleman in north Wales, which shows the ultimate price that can be paid by people when such severe weather hits our communities.

There is a genuine question that’s coming loud and clear from those communities that, if there was greater warning, then there could have been more preventive measures put in place. I fully accept the force of the water in many areas was enormous, but there was a genuine point around a yellow alert being issued when we were forecast by the meteorologists and others that a month’s rain was going to fall in a 24-36 hour period. I hope you are as concerned as I am over those warnings. But, unlike me, obviously, you’re in Government. What are you doing with your agencies to get to the bottom of the lack of urgency around the warnings that could have prevented such losses as we saw of property and assets, and, ultimately, got the agencies better prepared for that appalling situation we saw on Sunday into Monday?

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, fe wnaethom ni i gyd weld y golygfeydd dros benwythnos o'r llifogydd a effeithiodd ar sawl rhan o Gymru, ac mae ein meddyliau, rwy'n siŵr, gyda theulu'r gŵr bonheddig a ddioddefodd brofedigaeth yn y gogledd, sy'n dangos y pris eithaf a all gael ei dalu gan bobl pan fydd tywydd difrifol o'r fath yn taro ein cymunedau.

Ceir cwestiwn gwirioneddol sy'n dod yn uchel ac yn eglur gan y cymunedau hynny sef, pe bai mwy o rybudd, yna gellid fod wedi rhoi mwy o fesurau ataliol ar waith. Rwy'n derbyn yn llawn bod grym y dŵr mewn sawl ardal yn enfawr, ond roedd pwynt gwirioneddol ynghylch rhybudd melyn yn cael ei gyhoeddi pan ragwelwyd gan y meteorolegwyr ac eraill bod mis o law yn mynd i ddisgyn mewn cyfnod o 24-36 awr. Rwy'n gobeithio eich bod chi mor bryderus ag yr wyf i am y rhybuddion hynny. Ond yn wahanol i mi, wrth gwrs, rydych chi yn y Llywodraeth. Beth ydych chi'n ei wneud gyda'ch asiantaethau i fynd at wraidd y diffyg brys ynghylch y rhybuddion a allai fod wedi atal colledion o'r fath a welwyd gennym ni o eiddo ac asedau, ac, yn y pen draw, a allai fod wedi paratoi'r asiantaethau yn well ar gyfer y sefyllfa echrydus honno a welsom ddydd Sul ac i mewn i ddydd Llun?

Thanks very much. It’s been a devastating weekend for many, many families across Wales, where we’ve seen in particular those impacted for the second time, after storm Dennis. They’ve seen storm Bert really create havoc in their homes and destroy lots of the property that they care about. I am particularly saddened to hear about the death of Bryan Perry, who lost his life in Conwy. Obviously, I’m sure we’d all here like to extend our sympathies to his family.

The Deputy First Minister will be making a statement later in the afternoon in terms of the detail of the response. I’d like to thank him for his tireless work over the weekend, along with the north Wales Cabinet Secretary, who was also on visits. I think it’s probably worth also putting on record how important it was in terms of the response of the emergency services. Local government have stepped up. It was very clear, visiting Pontypridd yesterday, speaking to the council there, that there were people there who’d gone way above and beyond the call of duty on the weekend, trying to protect people’s properties.

Clearly, there will be lessons learnt, as we learnt them last time, and we will need to work with Natural Resources Wales in terms of seeing if there could have been better warning. I’ve called a meeting next week with local authorities and NRW to assess the situation.

Diolch yn fawr iawn. Mae wedi bod yn benwythnos ofnadwy i lawer iawn o deuluoedd ledled Cymru, lle'r ydym ni wedi gweld yn arbennig y rhai a effeithiwyd am yr eildro, ar ôl storm Dennis. Maen nhw wedi gweld storm Bert wir yn creu distryw yn eu cartrefi ac yn dinistrio llawer o'r eiddo sy'n bwysig iddyn nhw. Mae'n peri tristwch arbennig i mi glywed am farwolaeth Bryan Perry, a gollodd ei fywyd yng Nghonwy. Yn amlwg, rwy'n siŵr yr hoffem ni i gyd yma gydymdeimlo â'i deulu.

Bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn gwneud datganiad yn ddiweddarach yn y prynhawn o ran manylion yr ymateb. Hoffwn ddiolch iddo am ei waith diflino dros y penwythnos, ynghyd ag Ysgrifennydd Cabinet gogledd Cymru, a fu'n gwneud ymweliadau hefyd. Rwy'n credu yn ôl pob tebyg ei bod hi hefyd yn werth nodi pa mor bwysig oedd hi o ran ymateb y gwasanaethau brys. Mae llywodraeth leol wedi camu i'r adwy. Roedd hi'n amlwg iawn, o ymweld â Phontypridd ddoe, o siarad â'r cyngor yno, bod pobl yno a oedd wedi mynd ymhell y tu hwnt i'w dyletswydd dros y penwythnos, yn ceisio amddiffyn eiddo pobl.

Yn amlwg, bydd gwersi yn cael eu dysgu, fel y gwnaethom ni eu dysgu y tro diwethaf, a bydd angen i ni weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru o ran gweld a ellid fod wedi cael gwell rhybudd. Rwyf i wedi trefnu cyfarfod yr wythnos nesaf gydag awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i asesu'r sefyllfa.

I’m grateful for the final point, when you indicated that a meeting is to be convened next week. But what’s important from meetings is that there are concrete actions that come to address some of the shortfalls. Many people indicated in some of the most severely affected areas in Pontypridd that the first that they realised the flooding was taking place was when neighbours were going from house to house banging on the doors. In an area that, only five years ago, had severe flooding—four years ago, I should say—from storm Dennis, that really is a failure to learn the lessons and implement an alert process. I really do hope that the First Minister will use her office, and that of the rest of Government, to drive this narrative that information is power in these situations and, ultimately, if that information isn't used to best effect, as we saw on the weekend, that devastating circumstances ensue. So, with that in mind, what financial support is the Government putting in place to support some businesses and individuals who are now in their second and third major flooding incident and ultimately will be facing a very bleak future unless there is some sort of intervention to support them to get to the other side of these flooding effects that are affecting their businesses and their domestic properties?

Rwy'n ddiolchgar am y pwynt olaf, pan wnaethoch chi nodi y bydd cyfarfod yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf. Ond yr hyn sy'n bwysig o gyfarfodydd yw bod gweithredoedd pendant yn dod i fynd i'r afael â rhai o'r diffygion. Nododd llawer o bobl yn rhai o'r ardaloedd yr effeithiwyd arnyn nhw'n fwyaf difrifol ym Mhontypridd mai'r cyntaf iddyn nhw sylweddoli bod y llifogydd yn digwydd oedd pan oedd cymdogion yn mynd o dŷ i dŷ yn curo ar y drysau. Mewn ardal a ddioddefodd lifogydd bum mlynedd yn unig yn ôl—bedair blynedd yn ôl, dylwn ddweud—yn sgil storm Dennis, mae hwnnw wir yn fethiant i ddysgu'r gwersi a rhoi proses rybudd ar waith. Rwy'n mawr obeithio y bydd y Prif Weinidog yn defnyddio ei swyddfa, a gweddill y Llywodraeth, i ddatblygu'r naratif hwn bod grym mewn gwybodaeth yn y sefyllfaoedd hyn ac, yn y pen draw, os na ddefnyddir yr wybodaeth honno yn y ffordd orau, fel y gwelsom ni dros y penwythnos, bod amgylchiadau ofnadwy yn dilyn. Felly, gyda hynny mewn golwg, pa gymorth ariannol y mae'r Llywodraeth yn ei roi ar waith i gynorthwyo rhai busnesau ac unigolion sydd bellach yn eu hail a'u trydydd digwyddiad llifogydd mawr ac a fydd yn wynebu dyfodol llwm iawn yn y pen draw oni bai fod rhyw fath o ymyrraeth i'w cynorthwyo i gyrraedd yr ochr arall i'r effeithiau llifogydd hyn sy'n effeithio ar eu busnesau a'u heiddo domestig?

13:45

Thanks very much. Well, I know that Natural Resources Wales issued 131 alerts and warnings, including two severe flood warnings, with over 95,000 messages sent and 46,000 plus customers being reached. So, they did quite a lot. The question is: could they have done more? And that is something, clearly, that will need to be analysed. I think it is important also to recognise that, actually, we did learn a lot of lessons as a result of storm Dennis, and massive investment has been put in place. 

In relation to support that the Welsh Government can give, I'm very pleased that the finance Secretary has been working very hard over the weekend to identify additional funding. And I'm pleased to announce that £1,000 will be given to households who don't have insurance, £500 to those who do have insurance, which will replicate the kind of support that was put in place following storm Dennis. 

Diolch yn fawr iawn. Wel, rwy'n gwybod bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi 131 o hysbysiadau a rhybuddion, gan gynnwys dau rybudd llifogydd difrifol, ac anfonwyd dros 95,000 o negeseuon gan gyrraedd mwy na 46,000 o gwsmeriaid. Felly, fe wnaethon nhw gryn dipyn. Y cwestiwn yw: a allen nhw fod wedi gwneud mwy? Ac mae hynny yn rhywbeth, yn amlwg, y bydd angen ei ddadansoddi. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod hefyd, mewn gwirionedd, ein bod ni wedi dysgu llawer o wersi o ganlyniad i storm Dennis, a bod buddsoddiad enfawr wedi cael ei roi ar waith. 

O ran y cymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi, rwy'n falch iawn bod yr Ysgrifennydd cyllid wedi bod yn gweithio'n galed iawn dros y penwythnos i nodi cyllid ychwanegol. Ac rwy'n falch o gyhoeddi y bydd £1,000 yn cael ei roi i aelwydydd nad oes ganddyn nhw yswiriant, £500 i'r rhai sydd ag yswiriant, a fydd yn efelychu'r math o gymorth a roddwyd ar waith yn dilyn storm Dennis.

Can you confirm, First Minister, because, in fairness to the UK Government, they have offered support—to date, I think Steve Reed has indicated that no response has come from the Welsh Government; I don't mean that in a negative way, I mean most probably the Welsh Government, in fairness, is calibrating what is required—that there will be a taking up of that offer from the Welsh Government to bring more resource in to support the communities? And importantly, you've talked about the lessons learned, but can you confidently stand there and say, after storm Dennis, that the recommendations and the preventative measures were implemented in full to protect the communities as best as possibly could be expected, albeit in exceptional circumstances?

A allwch chi gadarnhau, Prif Weinidog, oherwydd, er tegwch i Lywodraeth y DU, maen nhw wedi cynnig cymorth—hyd yma, rwy'n credu bod Steve Reed wedi nodi na chafwyd unrhyw ymateb gan Lywodraeth Cymru; nid wyf i'n golygu hynny mewn ffordd negyddol, rwy'n golygu yn ôl pob tebyg bod Llywodraeth Cymru, er tegwch, yn pwyso a mesur yr hyn sydd ei angen—y bydd yna fanteisio ar y cynnig hwnnw gan Lywodraeth Cymru i ddod â mwy o adnoddau i mewn i gynorthwyo'r cymunedau? Ac yn bwysig, rydych chi wedi sôn am y gwersi a ddysgwyd, ond a allwch chi sefyll yno yn hyderus a dweud, ar ôl storm Dennis, bod yr argymhellion a'r mesurau ataliol wedi cael eu gweithredu yn llawn i ddiogelu'r cymunedau cystal ag y gellid disgwyl, er mewn amgylchiadau eithriadol?

Well, thanks very much. I think that the first thing to say is that it was really notable that Keir Starmer actually picked up the phone and spoke to both me and Andrew Morgan, the leader of the Welsh Local Government Association on Sunday night, something that hasn't happened before, to offer that support. Clearly, we're working through at the moment the impact, not just on homes, the number of homes, which amount to around 400 now across Wales, but also to businesses and infrastructure. So, we will need a little bit of time to work through that. But I was very grateful that he reached out and offered that support, and, clearly, we will be getting back to him on that. 

But, in terms of lessons learned, since storm Dennis, we have invested £300 million in defences to try and support people. And I think that it is important to note, particularly in places like Rhondda Cynon Taf, for example, where last time about 2,000 homes were affected, that, this time, around 150 homes were affected. That is a significant number of people who were protected as a result of the investment that went in by the Welsh Government—thousands of people protected because of that investment. And I think that that is something. Clearly, it's of no comfort to the people who were flooded out, and clearly we're trying to stand by and with them in these very difficult days for them. 

Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu mai'r peth cyntaf i'w ddweud yw ei bod hi'n drawiadol iawn bod Keir Starmer wedi codi'r ffôn a sgwrsio gyda mi ac Andrew Morgan, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru nos Sul, rhywbeth nad yw wedi digwydd o'r blaen, i gynnig y cymorth hwnnw. Yn amlwg, rydym ni'n gweithio drwy'r effaith ar hyn o bryd, nid yn unig ar gartrefi, y nifer o gartrefi, sy'n gyfanswm o tua 400 bellach ledled Cymru, ond hefyd ar fusnesau a seilwaith. Felly, bydd angen ychydig o amser arnom ni i weithio drwy hynny. Ond roeddwn i'n ddiolchgar iawn ei fod wedi cysylltu a chynnig y cymorth hwnnw, ac, yn amlwg, byddwn ni'n dod yn ôl ato o ran hynny. 

Ond, o ran gwersi a ddysgwyd, ers storm Dennis, rydym ni wedi buddsoddi £300 miliwn mewn amddiffynfeydd i geisio cynorthwyo pobl. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig nodi, yn enwedig mewn lleoedd fel Rhondda Cynon Taf, er enghraifft, lle effeithiwyd ar tua 2,000 o gartrefi y tro diwethaf, bod tua 150 o gartrefi wedi cael eu heffeithio y tro hwn. Mae honno yn nifer sylweddol o bobl a gafodd eu diogelu o ganlyniad i'r buddsoddiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru—miloedd o bobl a ddiogelwyd oherwydd y buddsoddiad hwnnw. Ac rwy'n credu bod hynny yn rhywbeth. Yn amlwg, nid yw'n unrhyw gysur i'r bobl a ddioddefodd lifogydd, ac yn amlwg rydym ni'n ceisio sefyll yn gadarn â nhw yn y dyddiau anodd iawn hyn iddyn nhw.

Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

The leader of Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Diolch, Llywydd. Mae'r llifogydd, unwaith eto, wedi achosi difrod sylweddol a cholli bywyd, ac mae ein cydymdeimlad ni'n fawr efo teulu'r unigolyn hwnnw a phawb sydd wedi dioddef gwaethaf o effeithiau storm Bert, a dwi'n ddiolchgar iawn ar ran grŵp Plaid Cymru i'r asiantaethau a'r gwirfoddolwyr hynny sydd wedi ymateb ar frys.

Thank you, Llywydd. The floods have again caused substantial damage and have led to loss of life, and our sympathies go out to the family of that individual and everyone who has suffered the worst of the impacts of storm Bert. And I'm very grateful, on behalf of the Plaid Cymru group, to the agencies and volunteers who have responded urgently. 

I visited Pontypridd yesterday evening with my colleague, Heledd Fychan. I must say that the speed with which the community had responded was very, very impressive, but those I spoke with are again now looking to Government, of course, for a response. Bad weather is inevitable, we know that, but floods hitting the same places time and time again is not, and, when storms hit in early 2020, we implored Welsh Government to hold an independent inquiry into flooding. Instead, we had a review, which can't give us all the answers, unfortunately, on infrastructure, on the investment needed, on warning systems, are they fit for purpose, is the current multi-agency approach the right approach. Given, though, that we had repeated flooding again, in Pontypridd in particular, does the Government accept that there's deep frustration that Government doesn't seem to have learnt the lessons, and what does she intend to do differently from her predecessors to make sure that we're not in this situation again, a few years down the line?

Fe wnes i ymweld â Phontypridd neithiwr gyda fy nghyd-Aelod, Heledd Fychan. Mae'n rhaid i mi ddweud bod y cyflymder yr oedd y gymuned wedi ymateb wedi gwneud argraff fawr arnaf i, ond mae'r rhai y siaradais i â nhw yn edrych eto at y Llywodraeth, wrth gwrs, am ymateb. Mae tywydd garw yn anochel, rydym ni'n gwybod hynny, ond nid yw'r un peth yn wir am lifogydd yn taro'r un mannau dro ar ôl tro, a phan darodd stormydd ddechrau 2020, fe wnaethom ni annog Llywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad annibynnol i lifogydd. Yn hytrach, cawsom adolygiad, na all roi'r holl atebion i ni, yn anffodus, o ran seilwaith, o ran y buddsoddiad sydd ei angen, o ran systemau rhybuddio, a ydyn nhw'n addas i'r diben, ai'r dull amlasiantaeth presennol yw'r dull cywir. O ystyried, fodd bynnag, ein bod ni wedi cael llifogydd unwaith eto, ym Mhontypridd yn arbennig, a yw'r Llywodraeth yn derbyn bod rhwystredigaeth ddwys nad yw'n ymddangos bod y Llywodraeth wedi dysgu'r gwersi, a beth mae'n bwriadu ei wneud yn wahanol i'w rhagflaenwyr i wneud yn siŵr nad ydym ni yn y sefyllfa hon eto, ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach?

13:50

Thanks very much. I've got a sign in my office; it says, 'Less chat and more do', and that's what we did. After the last flood, we got on with it, investing £300 million. Yesterday, I was pleased to be able to go and see some of the investment and what a difference that was making: real-time identification of where the floods were hitting, where the blockages were coming, looking at those culverts—massive, massive investment in the culverts—and local authorities being able to monitor in real time, being able to send JCBs in to dig out any of the debris that had built up, which was then able to be removed, saving those thousands of properties. The system improved hugely, compared to what happened under storm Dennis. That is not a small amount of money. I accept that that is very little comfort to the people who were affected, and I know how devastating, just before Christmas, this must be for them, but we did learn lessons, and we have put in massive investment.

Diolch yn fawr iawn. Mae gen i arwydd yn fy swyddfa; mae'n dweud, 'Less chat and more do', a dyna wnaethom ni. Ar ôl y llifogydd diwethaf, fe wnaethon ni fwrw ati, gan fuddsoddi £300 miliwn. Ddoe, roeddwn i'n falch o allu mynd i weld rhywfaint o'r buddsoddiad a pha wahaniaeth yr oedd hynny yn ei wneud: nodi mewn amser real lle'r oedd y llifogydd yn taro, lle'r oedd y rhwystrau yn dod, edrych ar y cwlfertau hynny—buddsoddiad enfawr, enfawr yn y cwlfertau—ac awdurdodau lleol yn gallu monitro mewn amser real, yn gallu anfon JCBs i mewn i balu unrhyw weddillion a oedd wedi casglu, y gallwyd eu symud wedyn, gan achub y miloedd hynny o eiddo. Fe wnaeth y system wella yn enfawr, o'i gymharu â'r hyn a ddigwyddodd yn ystod storm Dennis. Nid yw hwnnw'n swm bach o arian. Rwy'n derbyn mai ychydig iawn o gysur yw hynny i'r bobl a gafodd eu heffeithio, ac rwy'n gwybod pa mor ofnadwy, ychydig cyn y Nadolig, y mae'n rhaid yw hyn iddyn nhw, ond fe wnaethom ni ddysgu gwersi, ac rydym ni wedi gwneud buddsoddiad enfawr.

It's quite an assessment that the First Minister has been able to make in just a day or two. I'm sure there are lessons that have been learnt. We'll need to know exactly what happened. Was there less rain this time? Why did some of the warnings not come from NRW on time and so on? But the flooding will have caused, of course, significant financial hardship for families, for businesses and for other organisations, not least local authorities themselves. They're looking for both short-term and more medium- to long-term responses now.

The First Minister said again now that hundreds of millions of pounds have been put into flood defences. What she has forgotten to say is that there's been an £8.5 million cut to flood risk management in this year's budget. NRW reckon that flood spending needs to more than triple because of climate change, and I'm interested in knowing how the First Minister intends to reflect that kind of warning in the forthcoming budget.

But let's focus on what's needed right now. I hope to hear later on today what financial support is going to be made available, and, meanwhile, businesses in flood risk areas being unable to get insurance is a major problem. We've raised it many times on these benches—is the First Minister willing to address that now? But, on immediate spending, UK Government has said there may be more resource available if and when it is needed. Does the First Minister agree with me that it's not a matter of 'if', it's, 'We need it now, and let's get down to talking how much'?

Mae'n gryn asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi gallu ei wneud mewn diwrnod neu ddau yn unig. Rwy'n siŵr bod gwersi sydd wedi cael eu dysgu. Mae angen i ni wybod yn union yr hyn a ddigwyddodd. A oedd llai o law y tro hwn? Pam na ddaeth rhai o'r rhybuddion gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn brydlon ac yn y blaen? Ond bydd y llifogydd wedi achosi, wrth gwrs, caledi ariannol sylweddol i deuluoedd, i fusnesau ac i sefydliadau eraill, yn enwedig awdurdodau lleol eu hunain. Maen nhw'n chwilio am ymatebion byrdymor a mwy tymor canolig i hirdymor nawr.

Dywedodd y Prif Weinidog eto nawr bod cannoedd o filiynau o bunnoedd wedi cael eu gwario ar amddiffynfeydd rhag llifogydd. Yr hyn y mae hi wedi anghofio ei ddweud yw y bu toriad o £8.5 miliwn i reoli perygl llifogydd yn y gyllideb eleni. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn credu bod angen i wariant ar lifogydd fwy na threblu oherwydd y newid yn yr hinsawdd, ac mae gen i ddiddordeb mewn gwybod sut mae'r Prif Weinidog yn bwriadu adlewyrchu'r math hwnnw o rybudd yn y gyllideb sydd i ddod.

Ond gadewch i ni ganolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen nawr. Rwy'n gobeithio clywed yn ddiweddarach heddiw pa gymorth ariannol fydd ar gael, ac, yn y cyfamser, mae busnesau mewn ardaloedd lle ceir perygl llifogydd yn methu â chael yswiriant yn broblem fawr. Rydym ni wedi ei chodi sawl gwaith ar y meinciau hyn—a yw'r Prif Weinidog yn fodlon mynd i'r afael â hynny nawr? Ond, o ran gwariant ar unwaith, mae Llywodraeth y DU wedi dweud y gallai fod mwy o adnoddau ar gael os a phryd y mae eu hangen. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi nad yw'n fater o 'os', mae'n fater o, 'Mae ei angen arnom ni nawr, a gadewch i ni drafod faint'?

Thanks very much. The rain this time, in some parts of our communities, was more intense and more frequent. The river levels were higher than they were under storm Dennis, and yet, despite that, far fewer homes were affected, so I do think that we need to acknowledge that that investment is making a difference. I accept that people need better warning, and that is something, clearly, that will need to be discussed with NRW and the Met Office. There will be times when it'll be difficult for us to protect every property in Wales. With the changes in climate, that is going to be very, very difficult.

But what we can do is to build resilience, and it was really interesting in Pontypridd yesterday to speak to some of the shop owners who had been flooded out. They were back on their feet the next day, because of some of the investment we put in, because the floors were able to resist flooding, because the sockets had been raised up, because they'd been given protection by local authorities in terms of storm protection. And they were open the next day. Last time, it took them about two weeks. So, that building in of resilience—. Sometimes, I think we're going to have to accept that it'll be very difficult to protect every property. Climate change is not going anywhere; if anything, it's going to become more difficult. So, we do need to recognise that we'll need to adapt to a changing climate. And clearly, there is a limit to budgets; if you spend it on this, you're not spending it on something else. So, you'll have to be clear, if you want us to spend it on this, exactly where you'd like us to take that money from.

Diolch yn fawr iawn. Roedd y glaw y tro hwn, mewn rhai rhannau o'n cymunedau, yn drymach ac yn amlach. Roedd lefelau'r afonydd yn uwch nag yr oedden nhw yn ystod storm Dennis, ac eto, er gwaethaf hynny, effeithiwyd ar lawer llai o gartrefi, felly rwy'n credu bod angen i ni gydnabod bod y buddsoddiad hwnnw yn gwneud gwahaniaeth. Rwy'n derbyn bod angen gwell rhybudd ar bobl, ac mae hynny yn rhywbeth, yn amlwg, y bydd angen ei drafod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Swyddfa Dywydd. Bydd adegau pan fydd hi'n anodd i ni amddiffyn pob eiddo yng Nghymru. Gyda'r newidiadau yn yr hinsawdd, mae hynny'n mynd i fod yn anodd iawn, iawn.

Ond yr hyn y gallwn ni ei wneud yw datblygu gwytnwch, ac roedd yn ddiddorol iawn ym Mhontypridd ddoe siarad â rhai o berchnogion y siopau a oedd wedi dioddef llifogydd. Roedden nhw yn ôl ar eu traed y diwrnod canlynol, oherwydd rhywfaint o'r buddsoddiad a wnaed gennym ni, gan fod y lloriau yn gallu gwrthsefyll llifogydd, gan fod y socedi wedi cael eu codi, gan eu bod nhw wedi cael eu hamddiffyn gan awdurdodau lleol o ran amddiffyniad rhag stormydd. Ac roedden nhw ar agor y diwrnod canlynol. Y tro diwethaf, cymerodd tua pythefnos iddyn nhw. Felly, y datblygu gwytnwch hwnnw—. Weithiau, rwy'n credu y bydd yn rhaid i ni dderbyn y bydd hi'n anodd iawn diogelu pob eiddo. Nid yw newid hinsawdd yn mynd i ddiflannu; os rhywbeth, mae'n mynd i ddod yn fwy anodd. Felly, mae angen i ni gydnabod y bydd angen i ni addasu i hinsawdd sy'n newid. Ac yn amlwg, ceir terfyn i gyllidebau; os byddwch chi'n gwario ar hyn, dydych chi ddim yn ei wario ar rywbeth arall. Felly, bydd yn rhaid i chi fod yn eglur, os ydych chi eisiau i ni ei wario ar hyn, o le yn union yr hoffech chi i ni gymryd yr arian hwnnw.

13:55

I'll move on to anxiety over the landslip in the former mining community of Cwmtillery. We've now had three First Ministers, I think, in post since the idea of introducing coal tip safety legislation was first raised in the Senedd. And we in Plaid Cymru have long argued that Westminster should be footing the bill for making tips safe. These tips predate devolution itself; our communities shouldn't have to live with the risk that they pose or have to pay for their removal. Estimates suggest that making tips safe could cost maybe up to £600 million over 10 to 15 years. Yet, with a fanfare, the new UK Labour Government announced that they were making just £25 million available. This week, the First Minister has admitted that that is all she asked for. These tips need to be made safe, and urgently, so will she now be asking Keir Starmer to foot the whole bill for making these tips safe?

Fe wnaf i symud ymlaen at bryder ynghylch y tirlithriad yn hen gymuned lofaol Cwmtyleri. Erbyn hyn, bu gennym ni dri Prif Weinidog, rwy'n credu, yn y swydd ers i'r syniad o gyflwyno deddfwriaeth diogelwch tomenni glo gael ei godi gyntaf yn y Senedd. Ac rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi dadlau ers tro y dylai San Steffan fod yn ysgwyddo'r bil am wneud tomenni yn ddiogel. Mae'r tomenni hyn yn rhagddyddio datganoli ei hun; ni ddylai ein cymunedau orfod byw gyda'r risg y maen nhw'n ei pheri na gorfod talu am gael gwared arnyn nhw. Mae amcangyfrifon yn awgrymu y gallai gwneud tomenni yn ddiogel gostio hyd at £600 miliwn dros 10 i 15 mlynedd efallai. Ac eto, gyda chynnwrf, cyhoeddodd Llywodraeth Lafur newydd y DU mai dim ond £25 miliwn yr oedden nhw'n ei wneud ar gael. Yr wythnos hon, mae'r Prif Weinidog wedi cyfaddef mai dyna'r cyfan y gofynnodd amdano. Mae angen gwneud y tomenni hyn yn ddiogel, ac ar frys, felly a fydd hi bellach yn gofyn i Keir Starmer ysgwyddo'r bil cyfan am wneud y tomenni hyn yn ddiogel?

We've been asking for money from the UK Government for four years, and nothing was forthcoming until we had a Labour Government. And we were really pleased that the Labour Government answered our request for £25 million, which is what we asked for, because we recognise that this is a 10 to 15-year project, it's not something you can put in place overnight, and there will be limits in terms of being able to absorb additional money, because there will be limits in terms of expertise, equipment. So, if they gave us the money, it'd be very difficult for us to use it all up because of the lack of expertise, which we need to build up. So, as I said, Keir Starmer picked up the phone, offered support, and we, of course, will be going back to ask for more money in relation to coal tips and I'm very confident that he will be forthcoming, as he was last time.

Rydym ni wedi bod yn gofyn am arian gan Lywodraeth y DU ers pedair blynedd, a doedd dim ar y gweill tan fod gennym ni Lywodraeth Lafur. Ac roeddem ni'n falch iawn bod y Llywodraeth Lafur wedi ateb ein cais am £25 miliwn, sef yr hyn y gwnaethom ni ofyn amdano, gan ein bod ni'n cydnabod bod hwn yn brosiect 10 i 15 mlynedd, nid yw'n rhywbeth y gallwch chi ei roi ar waith dros nos, a bydd cyfyngiadau o ran gallu amsugno arian ychwanegol, oherwydd bydd cyfyngiadau o ran arbenigedd, offer. Felly, pe baen nhw'n rhoi'r arian i ni, byddai'n anodd iawn i ni ei ddefnyddio i gyd oherwydd y diffyg arbenigedd, y mae angen i ni ei ddatblygu. Felly, fel y dywedais i, cododd Keir Starmer y ffôn, cynigodd gymorth, ac wrth gwrs, byddwn ni'n mynd yn ôl i ofyn am fwy o arian o ran tomenni glo ac rwy'n hyderus iawn y bydd yn ei roi, fel y gwnaeth y tro diwethaf.

Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf
Rhondda Cynon Taf's Local Development Plan

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynllun datblygu lleol diwygiedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer 2022-2037? OQ61956

3. Will the First Minister make a statement on Rhondda Cynon Taf County Borough Council's revised local development plan 2022-2037? OQ61956

Rhondda Cynon Taf County Borough Council consulted on their local development plan preferred strategy earlier this year. The Welsh Government, as a statutory consultee, made formal representations to the emerging plan, which are publicly available on the Welsh Government website.

Ymgynghorodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar y strategaeth a ffefrir ganddyn nhw ar gyfer eu cynllun datblygu lleol yn gynharach eleni. Gwnaeth Llywodraeth Cymru, fel ymgynghorai statudol, sylwadau ffurfiol i'r cynllun sy'n dod i'r amlwg, sydd ar gael i'r cyhoedd ar wefan Llywodraeth Cymru.

First Minister, as you've just said and as you'll be aware, RCT council has recently published its formal response to all the consultation submissions it received about its proposed LDP strategy plan, and I'm happy to see that the council has responded positively to Welsh Government observations regarding one of its strategic sites and has completely removed it. However, it is disconcerting to see that the council is still considering residential development on the Ystrad Barwig site in Llantwit Fardre, which has been continually refused by this Welsh Government due to it being classified as a C2 flood zone, the worst classification there is. Council and national planning guidance is clear on this matter: you don't build residential developments on this classification of floodplain, which, as you can no doubt appreciate, First Minister, was under water over the weekend. I am conscious that you cannot talk about individual planning matters, but why can allocations such as these continue to be promoted by RCT council, when there is so much local and Government opposition to it? It not only undermines public trust and confidence in the planning system, but they are a substantial waste of taxpayers' money. Thank you.

Prif Weinidog, fel rydych chi newydd ei ddweud ac fel y byddwch yn ymwybodol, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi yn ddiweddar ei ymateb ffurfiol i'r holl gyflwyniadau ymgynghori a dderbyniwyd ganddo am ei gynllun strategaeth CDLl arfaethedig, ac rwy'n falch o weld bod y cyngor wedi ymateb yn gadarnhaol i sylwadau Llywodraeth Cymru ynghylch un o'i safleoedd strategol ac wedi cael gwared arno'n llwyr. Fodd bynnag, mae'n annisgwyl gweld bod y cyngor yn dal i ystyried datblygiad preswyl ar safle Ystrad Barwig yn Llanilltud Faerdref, sydd wedi cael ei wrthod yn barhaus gan y Llywodraeth hon yng Nghymru oherwydd ei fod wedi'i ddosbarthu fel parth llifogydd C2, y dosbarthiad gwaethaf sy'n bodoli. Mae canllawiau cynllunio cyngor a chenedlaethol yn eglur ar y mater hwn: nid ydych yn adeiladu datblygiadau preswyl ar y dosbarthiad hwn o orlifdir, a oedd, fel yr wyf i'n siŵr y gallwch chi ei werthfawrogi, Prif Weinidog, o dan ddŵr dros y penwythnos. Rwy'n ymwybodol na allwch chi siarad am faterion cynllunio unigol, ond pam all neilltuadau fel y rhain barhau i gael eu hyrwyddo gan gyngor Rhondda Cynon Taf, pan fo cymaint o wrthwynebiad lleol a Llywodraeth iddo? Nid yn unig y mae'n tanseilio ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y system gynllunio, ond maen nhw'n wastraff sylweddol o arian trethdalwyr. Diolch.

Thanks very much. I welcome the fact that RCT have been revising their LDP and consulting on this. The closing date was 16 April and they've now been moving on with what happens next. Obviously, they have to comply with the planning needs and policies of the Welsh Government. All LDPs are subject to statutory processes, which include several stages of consultation. Welsh Government, as you said, made it very clear that we thought that the Llanilltud Faerdref and Efail Isaf projects should be removed from the plan. I don’t think it would be appropriate for me to comment further on individual plans and policies, because that statutory process is still under way.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Rhondda Cynon Taf wedi bod yn diwygio eu CDLl ac yn ymgynghori ar hyn. 16 Ebrill oedd y dyddiad cau ac maen nhw bellach wedi bod yn symud ymlaen gyda'r hyn sy'n digwydd nesaf. Yn amlwg, mae'n rhaid iddyn nhw gydymffurfio ag anghenion a pholisïau cynllunio Llywodraeth Cymru. Mae pob CDLl yn destun prosesau statudol, sy'n cynnwys sawl cam ymgynghori. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru hi'n eglur iawn, fel y dywedoch chi, ein bod ni'n credu y dylid cael gwared ar brosiectau Llanilltud Faerdref ac Efail Isaf o'r cynllun. Nid wyf i'n credu y byddai'n briodol i mi wneud sylwadau pellach ar gynlluniau a pholisïau unigol, gan fod y broses statudol honno yn dal i fynd rhagddi.

14:00
Gofal Iechyd Sylfaenol yn Abertawe
Primary Healthcare in Swansea

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ofal iechyd sylfaenol yn Abertawe? OQ61915

4. Will the First Minister make a statement on primary healthcare in Swansea? OQ61915

Swansea Bay University Health Board serves around 383,000 people and employs just under 12,500 people. I expect the health board to work with its partners, through the pan-cluster planning group, to develop an increasing range of primary care services in line with the primary care model for Wales.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn gwasanaethu tua 383,000 o bobl ac yn cyflogi ychydig o dan 12,500 o bobl. Rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd weithio gyda'i bartneriaid, drwy'r grŵp cynllunio pan-glwstwr, i ddatblygu amrywiaeth gynyddol o wasanaethau gofal sylfaenol yn unol â'r model gofal sylfaenol i Gymru.

Thank you, First Minister. Primary care is the basic building block of the national health service. It is estimated that 90 per cent of patient health contacts are with general practice. Swansea East is covered by some excellent GP practices. When it goes wrong, and patients cannot get appointments, then pressure increases on accident and emergency departments. The ability to get an appointment varies by practice. When someone says they need an urgent GP appointment, a practice telling them they need to go into A&E does not help the system. The system is also not helped by inappropriate referrals to a consultant. General practice needs to feel valued. Protecting a share of the health budget spent on general practice would be a good place to start. I have regular complaints about one GP practice. Can the Welsh Government instruct health boards to monitor GP practice complaints and discuss them with GP practices?

Diolch, Prif Weinidog. Gofal sylfaenol yw bloc adeiladu sylfaenol y gwasanaeth iechyd gwladol. Amcangyfrifir bod 90 y cant o gysylltiadau iechyd cleifion â meddygfeydd teulu. Mae Dwyrain Abertawe yn llawn meddygfeydd rhagorol. Pan aiff o'i le, ac na all cleifion gael apwyntiadau, yna mae'r pwysau yn cynyddu ar adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae'r gallu i gael apwyntiad yn amrywio fesul meddygfa. Pan fydd rhywun yn dweud eu bod nhw angen apwyntiad meddyg teulu brys, nid yw meddygfa yn dweud wrthyn nhw bod angen iddyn nhw fynd i adran damweiniau ac achosion brys yn helpu'r system. Nid yw'r system yn cael ei helpu chwaith gan atgyfeiriadau amhriodol i feddyg ymgynghorol. Mae angen i feddygfeydd teulu deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Byddai diogelu cyfran o wariant y gyllideb iechyd ar feddygfeydd teulu yn lle da i ddechrau. Rwy'n cael cwynion rheolaidd am un meddygfa deulu. A all Llywodraeth Cymru gyfarwyddo byrddau iechyd i fonitro cwynion am feddygfeydd teulu a'u trafod nhw gyda meddygfeydd teulu?

Thanks very much. I think, first of all, we've got to recognise the amount of work that GP practices undertake. It is quite, quite remarkable that they see 1.6 million people every month in a population of 3 million. The scale of this work is quite, quite remarkable. And in Swansea bay, I think they're delivering exceptional access to their patients. Some of that is because, actually, there's been a new contract. There's been a new GP access contract. They've signed up to the contract. Ninety-seven per cent of practices told us they were achieving that commitment, supporting more equitable access arrangements across Wales. But you're right, there are some—and we all know who they are—practices that are not doing what they should, and you're absolutely right, I think it's important that we chase those down. Certainly, when I was health Minister—I'm sure Jeremy will do the same thing—when you hear about them, you get on the phone and you say, 'I hear this is not going well', and you chase them down. I'd encourage you, as Senedd Members, to get in touch with the local health boards to make sure that you're standing up for your constituents, because the contract has been signed. Most GP practices across Wales are doing exceptional work, but it is important that we chase down those are who not complying with those new rules.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu, yn gyntaf oll, bod yn rhaid i ni gydnabod faint o waith y mae meddygfeydd teulu yn ei wneud. Mae'n gwbl, gwbl ryfeddol eu bod nhw'n gweld 1.6 miliwn o bobl bob mis mewn poblogaeth o 3 miliwn. Mae graddfa'r gwaith hwn yn gwbl, gwbl ryfeddol. Ac ym mae Abertawe, rwy'n credu eu bod nhw'n darparu mynediad eithriadol i'w cleifion. Mae rhywfaint o hynny oherwydd, mewn gwirionedd, y bu contract newydd. Bu contract mynediad at feddygon teulu newydd. Maen nhw wedi ymrwymo i'r contract. Dywedodd naw deg saith y cant o feddygfeydd wrthym ni eu bod nhw'n cyflawni'r ymrwymiad hwnnw, gan gefnogi trefniadau mynediad tecach ledled Cymru. Ond rydych chi'n iawn, mae rhai meddygfeydd—ac rydym ni i gyd yn gwybod pwy ydyn nhw—nad ydyn nhw'n gwneud yr hyn y dylen nhw, ac rydych chi yn llygad eich lle, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n mynd ar drywydd y rheini. Yn sicr, pan oeddwn i'n Weinidog iechyd—rwy'n siŵr y bydd Jeremy yn gwneud yr un peth—pan fyddwch chi'n clywed amdanyn nhw, rydych chi'n codi'r ffôn ac rydych chi'n dweud, 'Rwy'n clywed nad yw hyn yn mynd yn dda', ac rydych chi'n mynd ar eu trywydd. Byddwn yn eich annog chi, fel Aelodau'r Senedd, i gysylltu â'r byrddau iechyd lleol i wneud yn siŵr eich bod chi'n sefyll dros eich etholwyr, gan fod y contract wedi cael ei lofnodi. Mae'r rhan fwyaf o feddygfeydd teulu ledled Cymru yn gwneud gwaith eithriadol, ond mae'n bwysig ein bod ni'n mynd ar drywydd y rheini nad ydyn nhw'n cydymffurfio â'r rheolau newydd hynny.

You're right, GPs do do exceptional work across Wales. I've heard from a number in the city of Swansea over the last month or so who've written to me concerned about the UK Government's decision to increase national insurance contributions in the recent budget. One GP at a surgery, Tŷ'r Felin surgery in Gorseinon, said to me that that decision can, and I quote, 'only served to directly undermine access and patient care'. With that in mind, all they're asking you to do is to reimburse the costs, like other parts of the NHS. So, it's a simply request. Will you?

Rydych chi'n iawn, mae meddygon teulu yn gwneud gwaith eithriadol ledled Cymru. Rwyf i wedi clywed gan nifer yn ninas Abertawe dros tua'r mis diwethaf sydd wedi ysgrifennu ataf i yn bryderus am benderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol yn y gyllideb ddiweddar. Dywedodd un meddyg teulu mewn meddygfa, meddygfa Tŷ'r Felin yng Ngorseinon, wrthyf mai'r cwbl y gall y penderfyniad hwnnw ei wneud, ac rwy'n dyfynnu, 'yw tanseilio mynediad a gofal cleifion yn uniongyrchol'. Gyda hynny mewn golwg, y cwbl y maen nhw'n gofyn i chi ei wneud yw ad-dalu'r costau, fel rhannau eraill o'r GIG. Felly, mae'n gais syml. A wnewch chi?

Thanks very much. I think it is important to recognise that they're actually seeing more people than ever more before. So, there's a 0.9 per cent increase in people being seen this year compared to last year. When it comes to the national insurance contributions, clearly, we've heard loud and clear that they are concerned about the situation. Don't forget that the health service has already been given a significant uplift as a result of the budget. That doesn't come from nowhere, that's got to come from somewhere, and some of that comes from an increase in national insurance contributions. Now, we recognise that there are specific issues in relation to GPs; clearly, we'll continue conversations with them around that. But the UK Government has made it clear that the money will be reimbursed in relation to people who are directly employed in the public sector, and GPs are not.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod eu bod nhw, mewn gwirionedd, yn gweld mwy o bobl nag erioed o'r blaen. Felly, ceir cynnydd o 0.9 y cant i nifer y bobl sy'n cael eu gweld eleni o'i chymharu â'r llynedd. O ran y cyfraniadau yswiriant gwladol, yn amlwg, rydym ni wedi clywed yn gwbl eglur eu bod nhw'n poeni am y sefyllfa. Peidiwch ag anghofio bod y gwasanaeth iechyd eisoes wedi cael codiad sylweddol o ganlyniad i'r gyllideb. Nid yw hwnnw yn dod o unman, mae'n rhaid i hwnnw ddod o rywle, ac mae rhywfaint o hwnnw yn dod o gynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol. Nawr, rydym ni'n cydnabod bod materion penodol o ran meddygon teulu; yn amlwg, byddwn yn parhau i drafod hyn gyda nhw. Ond mae Llywodraeth y DU wedi ei gwneud yn eglur y bydd yr arian yn cael ei ad-dalu o ran pobl sy'n cael eu cyflogi yn uniongyrchol yn y sector cyhoeddus, ac nid yw hynny'n wir am feddygon teulu.

Aflonyddu Rhywiol yn y Sector Cyhoeddus
Sexual Harassment in the Public Sector

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y sector cyhoeddus? OQ61955

5. What action is the Welsh Government taking to tackle sexual harassment in the public sector? OQ61955

We work in social partnership to promote inclusive working environments in all sectors, so that women and, indeed, all workers, can work free from the limitations imposed by a sexist culture and the fear of bullying, sexual harassment and discrimination.

Rydym ni'n gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i hyrwyddo amgylcheddau gwaith cynhwysol ym mhob sector, fel y gall menywod ac, yn wir, pob gweithiwr, weithio yn rhydd o'r cyfyngiadau a orfodir gan ddiwylliant rhywiaethol ac ofn bwlio, aflonyddu rhywiol a gwahaniaethu.

Diolch am eich ateb, Prif Weinidog.

Thank you very much for your response, First Minister.

This month, Sky News reported on more shocking revelations about sexual harassment and misconduct in the public sector, this time in the ambulance service. The report followed a year-long investigation into sexual misconduct that, I quote,

'revealed a culture where abuse and harassment among staff are rife and patients are sexualised.'

Jason Killens, head of the Association of Ambulance Chief Executives, AACE, and the Welsh Ambulance Services University NHS Trust, is quoted in the report as saying that he expects 'a steady increase' in the number of cases, with more paramedics being sacked for sexually inappropriate behaviour over the coming years across the UK, because of the work AACE is doing to change the culture.

To be clear, the Sky News report did not cite services in Wales specifically, but sadly we've seen before that such inappropriate and unacceptable behaviour is present across society and services. Therefore, Prif Weinidog, what assurances can the Welsh Government give both the workforce and the wider public regarding safeguarding processes and culture within the Welsh ambulance service? In addition, surely the time has come for us to use what levers we do have in Wales for a pan-public-sector zero-tolerance approach to sexual harassment that includes avenues for whistleblowing, and one that has the full and firm collaboration, commitment and conditions of accountability for both employers and trade unions, however hard that is. So, can the Welsh Government commit to taking this forward and, in doing so, lead the way to make the public sector in Wales the safest and most inclusive place to work?

Y mis hwn, adroddodd Sky News am fwy o ddatgeliadau ofnadwy am aflonyddu a chamymddwyn rhywiol yn y sector cyhoeddus, yn y gwasanaeth ambiwlans y tro hwn. Dilynodd yr adroddiad ymchwiliad blwyddyn o hyd i gamymddwyn rhywiol a wnaeth, rwy'n dyfynnu,

'ddatgelu diwylliant lle mae cam-drin ac aflonyddu ymhlith staff yn rhemp ac mae cleifion yn cael eu rhywioli.'

Mae Jason Killens, pennaeth y Gymdeithas Prif Weithredwyr Ambiwlans, AACE, ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, yn cael ei ddyfynnu yn yr adroddiad yn dweud ei fod yn disgwyl 'cynnydd cyson' i nifer yr achosion, â mwy o barafeddygon yn cael eu diswyddo am ymddygiad rhywiol amhriodol dros y blynyddoedd nesaf ledled y DU, oherwydd y gwaith y mae AACE yn ei wneud i newid y diwylliant.

I fod yn eglur, nid oedd adroddiad Sky News yn cyfeirio at wasanaethau yng Nghymru yn benodol, ond yn anffodus rydym ni wedi gweld o'r blaen bod ymddygiad amhriodol ac annerbyniol o'r fath yn bresennol ar draws cymdeithas a gwasanaethau. Felly, Prif Weinidog, pa sicrwydd all Llywodraeth Cymru ei roi i'r gweithlu ac i'r cyhoedd yn ehangach ynghylch prosesau diogelu a diwylliant o fewn gwasanaeth ambiwlans Cymru? Hefyd, siawns nad yw'r amser wedi dod i ni ddefnyddio'r ysgogiadau sydd gennym ni yng Nghymru ar gyfer dull dim goddefgarwch sector cyhoeddus cyfan o ymdrin ag aflonyddu rhywiol sy'n cynnwys llwybrau ar gyfer chwythu'r chwiban, ac un sydd â chydweithrediad, ymrwymiad ac amodau atebolrwydd llawn a chadarn cyflogwyr ac undebau llafur, waeth pa mor anodd yw hynny. Felly, a all Llywodraeth Cymru ymrwymo i fwrw ymlaen â hyn a thrwy wneud hynny, arwain y ffordd i wneud y sector cyhoeddus yng Nghymru y lle mwyaf diogel a chynhwysol i weithio?

14:05

Thanks very much, Hannah, and I think it's important to note that actually the vast majority of people who work in our public sector behave incredibly well, and in a decent way. But anybody who conducts this kind of unacceptable behaviour should be chased out of town, frankly. It is not acceptable in our public sector today for us to have this situation in relation to sexual harassment. The case that was quoted by you was certainly unacceptable, and you know I would endorse what Jason Killens has said as the chief executive: these people must be sacked.

But, of course, we've got to change a culture before we get to that, and I think it's really important for people to recognise that sexual banter is not acceptable, but actually that whole tone within workplaces needs to be shifted. I'm really pleased to say that we have a conference series for public sectors leaders that promotes practical action to prevent and respond to workplace harassment, and that aligns with the Worker Protection (Amendment of Equality Act 2010) Act 2023. Compliance with law, though, as I say, is just the starting point; it's a cultural shift that we need to see, and we've been disseminating, for example, TUC Cymru's toolkit through the networks that we have.

Diolch yn fawr iawn, Hannah, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig nodi bod y mwyafrif llethol y bobl sy'n gweithio yn ein sector cyhoeddus yn ymddwyn yn anhygoel o dda, ac mewn ffordd weddus. Ond dylai unrhyw un sy'n ymddwyn yn y ffordd annerbyniol hon gael ei hel i ffwrdd, a bod yn onest. Nid yw'n dderbyniol yn ein sector cyhoeddus heddiw i ni fod â'r sefyllfa hon o ran aflonyddu rhywiol. Roedd yr achos y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn sicr yn annerbyniol, ac rydych chi'n gwybod y byddwn i'n cymeradwyo'r hyn y mae Jason Killens wedi ei ddweud fel y prif weithredwr: mae'n rhaid diswyddo'r bobl hyn.

Ond, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni newid diwylliant cyn i ni gyrraedd hynny, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i bobl gydnabod nad yw tynnu coes mewn ffordd rywiol yn dderbyniol, ond mae angen newid yr holl naws o fewn gweithleoedd mewn gwirionedd. Rwy'n falch iawn o ddweud bod gennym ni gyfres o gynadleddau ar gyfer arweinwyr sector cyhoeddus sy'n hyrwyddo camau ymarferol i atal ac ymateb i aflonyddu yn y gweithle, ac sy'n cyd-fynd â Deddf Diogelu Gweithwyr (Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010) 2023. Fodd bynnag, fel y dywedais i, dim ond y man cychwyn yw cydymffurfiad â'r gyfraith; newid diwylliannol y mae angen i ni ei weld, ac rydym ni wedi bod yn dosbarthu, er enghraifft, pecyn cymorth TUC Cymru drwy'r rhwydweithiau sydd gennym ni.

Can I thank Hannah Blythyn for asking this really important question here today? First Minister, sexual harassment is far too common in and out of the workplace. In 2021, Welsh Women's Aid found that four in five women in Wales have experienced some form of workplace sexual harassment. This can include anything from degrading comments and unwanted propositions to unwelcome advances and inappropriate jokes. It is quite frankly despicable that in 2024 we are still in a position where so many women and girls are made to feel uncomfortable going into work just because of this behaviour.

But this is not just a work issue, Presiding Officer, and also First Minister. We know that many women and girls feel uncomfortable, even scared, to travel alone on public transport due to previous experiences of sexual harassment. With this in mind, First Minister, what is the Welsh Government doing to clamp down on this abhorrent behaviour and harassment towards women and girls, to make them feel comfortable and confident whilst travelling on buses and services, and that ultimately the threat of harassment is not going to be a devastating hindrance that is going to hold them back from using public services? Thank you.

A gaf i ddiolch i Hannah Blythyn am ofyn y cwestiwn pwysig iawn hwn heddiw? Prif Weinidog, mae aflonyddu rhywiol yn llawer rhy gyffredin yn y gweithle a'r tu allan iddo. Yn 2021, canfu Cymorth i Fenywod Cymru fod pedair o bob pum menyw yng Nghymru wedi dioddef rhyw fath o aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Gall hyn gynnwys unrhyw beth o sylwadau diraddiol a chynigion digroeso i symudiadau digroeso a jôcs amhriodol. A bod yn onest, mae'n gwbl warthus ein bod ni, yn 2024, yn dal mewn sefyllfa lle mae cynifer o fenywod a merched yn cael eu gwneud i deimlo'n anghyfforddus wrth fynd i'r gwaith dim ond oherwydd yr ymddygiad hwn.

Ond nid mater gwaith yn unig yw hwn, Llywydd, a hefyd Prif Weinidog. Rydym ni'n gwybod bod llawer o fenywod a merched yn teimlo'n anghyfforddus, yn ofnus hyd yn oed, yn teithio ar eu pennau eu hunain ar drafnidiaeth gyhoeddus oherwydd profiadau blaenorol o aflonyddu rhywiol. Gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i atal yr ymddygiad a'r aflonyddu ffiaidd hwn tuag at fenywod a merched, i wneud iddyn nhw deimlo'n gyfforddus ac yn hyderus wrth deithio ar fysiau a gwasanaethau, ac yn y pen draw nad yw'r bygythiad o aflonyddu yn mynd i fod yn rhwystr ofnadwy sy'n mynd i'w hatal rhag defnyddio gwasanaethau cyhoeddus? Diolch.

Thanks very much. Well, public services should be a safe place, and it's really important that we lead by example in Welsh Government and in the organisations that we finance. We have a zero-tolerance policy in relation to this and I want particularly Welsh Government workplaces to be a model of safety and respect. I don't think people quite understand the impact that this has on people's lives and women's lives. We're talking sleepless nights, we're talking real stress and vulnerability and a real feeling of people feeling uncomfortable and feeling a little bit powerless, particularly if there's a power relationship. And it is something that I think almost all women have experienced, and it is something that we've got to take on.

It's important that men call out this behaviour. It's not just women; men have a responsibility here too to call it out. Don't be a bystander; make sure you're calling it out, whether that be in the workplace, on public transport, in the NHS. That is the key thing. We all have a responsibility to stop this from happening.

Diolch yn fawr iawn. Wel, dylai gwasanaethau cyhoeddus fod yn lle diogel, ac mae'n bwysig iawn ein bod ni'n arwain drwy esiampl yn Llywodraeth Cymru ac yn y sefydliadau yr ydym ni'n eu hariannu. Mae gennym ni bolisi dim goddefgarwch yn hyn o beth ac rwyf i eisiau i weithleoedd Llywodraeth Cymru yn arbennig fod yn fodel o ddiogelwch a pharch. Nid wyf i'n credu bod pobl yn deall yn iawn yr effaith y mae hyn yn ei chael ar fywydau pobl a bywydau menywod. Rydym ni'n sôn am nosweithiau di-gwsg, rydym ni'n sôn am straen a theimlad o fod yn agored i niwed gwirioneddol a theimlad gwirioneddol o bobl yn teimlo'n anghyfforddus ac yn teimlo ychydig yn ddi-rym, yn enwedig os oes perthynas rym. Ac mae'n rhywbeth yr wyf i'n ei gredu bod bron pob menyw wedi ei ddioddef, ac mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag ef.

Mae'n bwysig bod dynion yn tynnu sylw at yr ymddygiad hwn. Nid yw'n fater o fenywod yn unig; mae gan ddynion gyfrifoldeb yma hefyd i dynnu sylw ato. Peidiwch â sefyll o'r neilltu; gofalwch eich bod chi'n tynnu sylw ato, pa un a yw hynny yn y gweithle, ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn y GIG. Dyna'r peth allweddol. Mae gennym ni i gyd gyfrifoldeb i atal hyn rhag digwydd.

14:10
Iechyd Geneuol a Deintyddol
Oral and Dental Health

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwarchod iechyd geneuol a deintyddol trigolion Gorllewin De Cymru? OQ61953

6. How is the Welsh Government protecting the oral and dental health of residents in South Wales West? OQ61953

Rŷn ni wedi ymrwymo i ddiwygio contract deintyddol y gwasanaeth iechyd yn seiliedig ar egwyddorion atal, risg, angen a mynediad. Mae trafodaethau ar gyfer contract newydd wedi dod i ben yn ddiweddar. Bydd y contract newydd hwn yn creu system sy'n fwy apelgar i ddeintyddion ac yn decach i gleifion.

We are committed to reforming the NHS dental contract around the principles of prevention, risk, need and access. Negotiations for a new dental contract have recently concluded. This new contract will create a system that is more attractive to dentists and fairer for patients.

Diolch am yr ateb. 

Thank you for the response. 

Public Health Wales recently revealed that more than half of all mouth cancer cases are now being diagnosed at the most advanced stages, with the number of cases in Wales rising each year. Timely access to dental appointments, of course, can help pick up the early signs of mouth cancer, but people in my region are still finding it difficult to get an NHS dental appointment. In 2022, I conducted a survey on this matter, receiving hundreds of responses, concerns that I've raised with you and the Government, but constituents are still coming to me asking for help. One dental practice in Neath said in their response to me, 'There is a crisis in dental workforce. We are finding it incredibly difficult to find dentists who are willing to provide NHS services.' 

Dentists and their staff are often bearing the brunt of the public's frustration. They're also frustrated themselves because they can't serve their NHS patients properly. I met with Morgannwg Local Dental Committee to discuss this and they said there are things Welsh Government can do immediately to avoid people being turned away, for example, showing more flexibility around the historic patient and new and urgent patient metrics, as these are having unintended consequences. People's dental and oral health are at risk and NHS dentists are voting with their feet, so what thought has the Government given to these types of calls? And I'm glad to hear you can give me an update on the negotiations. When will that come into force? Diolch. 

Datgelodd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ddiweddar bod diagnosis yn cael ei roi ar y camau mwyaf datblygedig ym mwy na hanner yr holl achosion o ganser y geg, a bod nifer yr achosion yng Nghymru yn codi bob blwyddyn. Gall mynediad prydlon at apwyntiadau deintyddol, wrth gwrs, helpu i ddarganfod arwyddion cynnar o ganser y geg, ond mae pobl yn fy rhanbarth yn dal i'w chael hi'n anodd cael apwyntiad deintyddol GIG. Yn 2022, cynhaliais arolwg ar y mater hwn, gan dderbyn cannoedd o ymatebion, pryderon yr wyf i wedi eu codi gyda chi a'r Llywodraeth, ond mae etholwyr yn dal i ddod ataf i yn gofyn am gymorth. Dywedodd un practis deintyddol yng Nghastell-nedd yn eu hymateb i mi, 'Mae argyfwng o ran gweithlu deintyddol. Rydyn ni'n ei chael hi'n arbennig o anodd dod o hyd i ddeintyddion sy'n barod i ddarparu gwasanaethau GIG.'  

Mae deintyddion a'u staff yn aml yn dwyn pwysau rhwystredigaeth y cyhoedd. Maen nhw hefyd yn teimlo'n rhwystredig eu hunain oherwydd nad ydyn nhw'n gallu gwasanaethu eu cleifion GIG yn iawn. Fe wnes i gyfarfod â Phwyllgor Deintyddol Lleol Morgannwg i drafod hyn ac fe wnaethon nhw ddweud bod pethau y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud ar unwaith i osgoi troi pobl i ffwrdd, er enghraifft, dangos mwy o hyblygrwydd o ran y metrigau cleifion hanesyddol a chleifion newydd a brys, gan fod y rhain yn arwain at ganlyniadau anfwriadol. Mae iechyd deintyddol ac iechyd y geg pobl mewn perygl ac mae deintyddion GIG yn pleidleisio gyda'u traed, felly pa ystyriaeth mae'r Llywodraeth wedi ei rhoi i'r mathau hyn o alwadau? Ac rwy'n falch o glywed y gallwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi am y trafodaethau. Pryd fydd hynny'n dod i rym? Diolch.

Thanks very much. We're challenged when it comes to dentistry. It's not something that's unique to Wales, but I'm really pleased to see that the change in the dental contract in Wales has made a difference, particularly if you compare it to the situation across the border. If you just look at your region, 69,000 people who previously could not see a dentist have now seen a dentist, and that is a—[Interruption.] Would you like to me answer? Sixty-nine thousand people have seen an NHS dentist. So, it is important, I think, to recognise that a new dental contract has been signed. The details of that contract will be made available soon, but I hope it will address some of the issues that you are concerned with.

There is an issue also around workforce. We're trying to increase training places for all members of the dental team, and let's be clear: we're interested in the whole dental team, not just in dentists. That is difficult to achieve in the current financial crisis and, obviously, it takes time for people to come through the system. But I'm very pleased to see that already we've increased the number of people doing dental therapy, and also we're just seeing the first graduates to qualify from the Bangor University dental hygiene programme.

Diolch yn fawr iawn. Rydyn ni mewn sefyllfa anodd o ran deintyddiaeth. Nid yw'n rhywbeth sy'n unigryw i Gymru, ond rwy'n falch iawn o weld bod y newid i'r contract deintyddol yng Nghymru wedi gwneud gwahaniaeth, yn enwedig os gwnewch chi ei gymharu â'r sefyllfa dros y ffin. Os edrychwch chi ar eich rhanbarth chi yn unig, mae 69,000 o bobl nad oedden nhw'n gallu gweld deintydd yn flaenorol wedi gweld deintydd erbyn hyn, ac mae hynny'n a—[Torri ar draws.] Hoffech chi i mi ateb? Mae chwe deg naw mil o bobl wedi gweld deintydd GIG. Felly, mae'n bwysig, rwy'n credu, cydnabod bod contract deintyddol newydd wedi cael ei lofnodi. Bydd manylion y contract hwnnw ar gael yn fuan, ond rwy'n gobeithio y bydd yn mynd i'r afael â rhai o'r materion yr ydych chi'n pryderu amdanyn nhw.

Ceir problem hefyd yn ymwneud â'r gweithlu. Rydym ni'n ceisio cynyddu lleoedd hyfforddi i bob aelod o'r tîm deintyddol, a gadewch i ni fod yn eglur: mae gennym ni ddiddordeb yn y tîm deintyddol cyfan, nid mewn deintyddion yn unig. Mae hynny'n anodd ei gyflawni yn yr argyfwng ariannol presennol ac, yn amlwg, mae'n cymryd amser i bobl ddod drwy'r system. Ond rwy'n falch iawn o weld ein bod ni eisoes wedi cynyddu nifer y bobl sy'n gwneud therapi deintyddol, ac rydym ni hefyd yn gweld y graddedigion cyntaf i gymhwyso o raglen hylendid deintyddol Prifysgol Bangor.

Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
Local Places for Nature

7. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o lwyddiant y rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur? OQ61929

7. What assessment has the First Minister made of the success of the Local Places for Nature programme? OQ61929

Many of you here will have seen first-hand the benefits in your local communities. More than 4,000 green spaces have been created or improved for nature and growing food, transforming our towns and the lives of countless volunteers, and let's not forget the volunteers. The social and economic outcomes are currently being independently evaluated alongside a biodiversity assessment.

Bydd llawer ohonoch chi yma wedi gweld drosoch eich hunain y manteision yn eich cymunedau lleol. Mae mwy na 4,000 o fannau gwyrdd wedi cael eu creu neu eu gwella ar gyfer natur a thyfu bwyd, gan weddnewid ein trefi a bywydau gwirfoddolwyr di-rif, a gadewch i ni beidio ag anghofio'r gwirfoddolwyr. Mae'r canlyniadau cymdeithasol ac economaidd yn cael eu gwerthuso yn annibynnol ar hyn o bryd, ochr yn ochr ag asesiad bioamrywiaeth.

Thank you for that answer, First Minister. We ignore nature and the current crisis that faces us at our peril. No nature, no pollinators, no food, no economy. We must all come to the realisation that nature cannot flourish in neatly cut grassland—nature isn't neat—and we must properly manage areas in order for it to thrive. In turn, connecting with nature is really beneficial for our own mental and physical well-being. Tomorrow, I am sponsoring an exhibition by One Voice Wales, showcasing the incredible achievements of our town and community councils through the Local Places for Nature funding programme. Would you join me in encouraging Members and members of the public to attend the event tomorrow, to learn more about restoring biodiversity in public spaces within our local communities?

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Gwae ni os ydym ni'n anwybyddu natur a'r argyfwng presennol sy'n ein hwynebu. Dim byd natur, dim peillwyr, dim bwyd, dim economi. Mae'n rhaid i ni gyd sylweddoli na all natur ffynnu mewn glaswelltir wedi'i dorri yn daclus—nid yw natur yn daclus—ac mae'n rhaid i ni reoli ardaloedd yn iawn er mwyn iddi ffynnu. Yn ei dro, mae cysylltu â natur yn fuddiol iawn i'n llesiant meddyliol a chorfforol ein hunain. Yfory, rwy'n noddi arddangosfa gan Un Llais Cymru, yn arddangos cyflawniadau anhygoel ein cynghorau tref a chymuned trwy raglen ariannu Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. A wnewch chi ymuno â mi i annog Aelodau a'r cyhoedd i ddod i'r digwyddiad yfory, i ddysgu mwy am adfer bioamrywiaeth mewn mannau cyhoeddus yn ein cymunedau lleol?

Thanks very much, Carolyn. I don't know how you keep an eye on so many things—you seem to be all over everything—but thank you very much for hosting that event tomorrow because I think it is something we should celebrate. I think everybody should have a look at what's going on in this space in relation to our implementation of the Local Places for Nature programme. The great thing is this is the fifth year that it's in place, and it's great that One Voice Wales is taking a lead on some of this. The projects are community partnerships, and that's the key thing: it's about the community getting involved. As I said, there are 20,000 volunteers, and this is really changing people's lives. So, it is something we should celebrate, and it's making a difference not just to those people, but also, clearly, to biodiversity. Just to give you an example, there are more than 2,400 pollinator sites, 800 food-growing sites, and 700 community orchards, as well as 86 therapeutic gardens for mental health and well-being. All of that is something to celebrate. We all need a boost, it's just coming up to Christmas, go and have a look at what's happening in your local environment in this space.

Diolch yn fawr iawn, Carolyn. Dydw i ddim yn gwybod sut rydych chi'n cadw llygad ar gynifer o bethau—mae'n ymddangos eich bod chi'n ymwybodol o bopeth—ond diolch yn fawr iawn am gynnal y digwyddiad hwnnw yfory oherwydd rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y dylem ni ei ddathlu. Rwy'n credu y dylai pawb gymryd golwg ar yr hyn sy'n digwydd yn y maes hwn o ran ein gweithrediad o'r rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Y peth gwych yw mai dyma'r bumed flwyddyn y mae'n weithredol, ac mae'n wych bod Un Llais Cymru yn arwain rhywfaint o hyn. Partneriaethau cymunedol yw'r prosiectau, a dyna'r peth allweddol: mae'n golygu cael y gymuned i gymryd rhan. Fel y dywedais i, ceir 20,000 o wirfoddolwyr, ac mae hyn wir yn newid bywydau pobl. Felly, mae'n rhywbeth y dylem ni ei ddathlu, ac mae'n gwneud gwahaniaeth nid yn unig i'r bobl hynny, ond hefyd, yn amlwg, i fioamrywiaeth. Dim ond i roi enghraifft i chi, mae mwy na 2,400 o safleoedd peillwyr, 800 o safleoedd tyfu bwyd, a 700 o berllannau cymunedol, yn ogystal ag 86 o erddi therapiwtig ar gyfer iechyd a llesiant meddwl. Mae hynny i gyd yn rhywbeth i'w ddathlu. Mae angen hwb ar bob un ohonom ni, mae'r Nadolig yn agosáu, ewch i gael golwg ar yr hyn sy'n digwydd yn eich amgylchedd lleol yn y maes hwn.

14:15

Yn olaf, cwestiwn 8, Adam Price.

Finally, question 8, Adam Price.

Amseroedd Aros Ambiwlansys
Ambulance Waiting Times

8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu lleihau'r amseroedd aros ar gyfer ambiwlans yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr? OQ61958

8. How is the Welsh Government planning to reduce waiting times for ambulances in Carmarthen East and Dinefwr? OQ61958

Ein bwriad yw rheoli pobl ag anghenion gofal brys yn y gymuned a gwella’r cynlluniau ar gyfer rhyddhau. Bydd hyn yn golygu bod mwy o ambiwlansys ar gael mewn argyfwng. Yn ddiweddar, rŷn ni wedi lansio'r her 50 diwrnod, cyhoeddi canllawiau newydd ar drosglwyddo cleifion o ambiwlansys, a recriwtio 26 o glinigwyr i ddarparu cyngor o bell o ganolfannau cyswllt 999.

Our plan is to manage people with urgent care needs in the community and improve discharge planning. This will free up emergency ambulance capacity. In recent weeks, we have launched the 50-day challenge, new ambulance patient handover guidance, and recruited 26 clinicians to provide remote advice from 999 contact centres.

Brif Weinidog, mae'r sefyllfa o ran amseroedd aros ar gyfer ambiwlansys yn sir Gaerfyrddin wedi cyrraedd sefyllfa hollol argyfyngus. Clywais i ddim ond mis yma gan etholwr, a'i mam yn ei nawdegau wedi cwympo ac anafu am 6 o'r gloch y bore, yr ambiwlans wedyn yn methu â chyrraedd tan 2 o'r gloch yn y prynhawn, a hithau mewn poen difrifol trwy'r amser. Wrth gyrraedd yr adran frys wedyn, bu'n rhaid iddi aros dros nos yn yr ambiwlans hwnnw nes iddi gael ei chludo i ysbyty arall am 3 o'r gloch y bore. Mewn achos arall ar ddechrau'r mis, mi gafodd chwaraewr rygbi yn Nantgaredig ei anafu, a gorfu ef a'r ffisios oedd yn gofalu amdano fe aros ar y cae, ar noson oer aeafol, am chwech awr, i ambiwlans gyrraedd o ysbyty pum milltir i ffwrdd. 'Dywedwch llai, gwnewch fwy' yw'r hyn a ddywedoch chi gynnau. Ydych chi'n gallu sicrhau i fi na fydd fy etholwyr i yn gorfod wynebu'r sefyllfaoedd hollol annerbyniol yma dim mwy?

First Minister, the situation in terms of waiting times for ambulances in Carmarthenshire has reached a critical point. I heard just this month from a constituent whose mother was in her nineties and had fallen and been injured at 6 o'clock in the morning, the ambulance couldn't get to her until 2 o'clock in the afternoon and she was in serious pain. In getting to A&E then, she had to wait overnight in that ambulance until she was taken to another hospital at 3 o'clock in the morning. In another case at the beginning of the month, a rugby player in Nantgaredig was injured, and he and the physios caring for him had to stay on the pitch, on a cold wintry night, for six hours, to wait for an ambulance to arrive from a hospital five miles away. 'Say less, do more' is what you said earlier. Can you give me an assurance that my constituents won't have to face these unacceptable situations any longer?

Diolch yn fawr. Mae'r achosion yna yn annerbyniol, ac mae'n bwysig ein bod ni yn rhoi pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans ac ar y bwrdd iechyd i wella'r sefyllfa. Ond, wrth gwrs, mae lot o bwysau. Mae'n anodd iawn i gael pobl allan o ddrws cefn yr ysbytai, a dyna beth rŷn ni'n trio ei wneud, a hefyd atal pobl rhag mynd i mewn yn y lle cyntaf, gofalu amdanyn nhw yn eu cartrefi. Dwi'n falch o ddweud bod bwrdd iechyd Hywel Dda wedi gweld gwelliant o 10 y cant o ran galwadau coch, o gymharu gyda'r un mis y llynedd.

Thank you very much. Those cases that you've mentioned are unacceptable, and it's important that we encourage the ambulance service and the health board to improve that situation. But of course, there is a great deal of pressure. It's difficult to get people out the back door of the hospitals, and that's what we're trying to do, and also prevent people from having to go to hospital in the first instance, caring for them in their homes. I'm pleased to say that Hywel Dda health board has seen an improvement of 10 per cent in terms of red calls, as compared to the same month last year. 

Ambulance calls were 18 minutes faster than the national average, and that was followed by a 20 per cent reduction in ambulance hours lost at Glangwili, compared to October last year. So, things are improving. We've got a long way to go; it is not easy to crack this nut. There is a real fragility when it comes to care in the community. I think the model in Hywel Dda, working with local authorities, is actually something—. If you haven't been to see it, it's really worth going to see how all of the different agencies are working together, to stop people from coming in in the first plate, look after them in their own homes, make sure that support is put in upfront to stop them from having to go, so that the cases that you've outlined that are absolutely urgent and do need to get to hospital actually manage to get through the system quicker.

Roedd galwadau ambiwlans 18 munud yn gyflymach na'r cyfartaledd cenedlaethol, ac yna cafwyd gostyngiad o 20 y cant yn nifer yr oriau ambiwlans a gollwyd yng Nglangwili, o'i gymharu â mis Hydref y llynedd. Felly, mae pethau'n gwella. Mae gennym ni dipyn o ffordd i fynd; nid yw'n hawdd datrys y mater hwn. Mae yna fregusrwydd gwirioneddol o ran gofalu yn y gymuned. Rwy'n credu bod y model yn Hywel Dda, gan weithio gydag awdurdodau lleol, wir yn rhywbeth—. Os nad ydych chi wedi bod i'w weld, mae'n werth mynd i weld sut mae'r holl wahanol asiantaethau yn gweithio gyda'i gilydd, i atal pobl rhag dod i mewn yn y lle cyntaf, gan ofalu amdanyn nhw yn eu cartrefi eu hunain, gwneud yn siŵr bod cymorth yn cael ei roi ymlaen llaw i'w hatal rhag gorfod mynd, fel bod yr achosion rydych chi wedi'u hamlinellu wir yn faterion brys ac angen mynd i'r ysbyty, wir yn llwyddo i fynd drwy'r system yn gyflymach.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
2. Business Statement and Announcement

Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Y Trefnydd sy'n gwneud y datganiad yma. Jane Hutt.

The next item is the business statement and announcement. I call on the Trefnydd to make that statement. Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 14:19:53
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch, Llywydd. Mae dau newid i agenda heddiw. Bydd datganiad llafar ar storm Bert. Bydd datganiad llafar ar baratoi ar gyfer diwygio bysiau nawr yn cael ei wneud ar 10 Rhagfyr. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

Thank you, Llywydd. There are two changes to today's agenda. There will be an oral statement on storm Bert. The oral statement on preparing for bus reform will now be made on 10 December. Draft business for the next three weeks is set out in the business statement and announcement, which is available to Members electronically.

14:20

Trefnydd, can I call for two statements today? The first is from the Minister with responsibility for skills in relation to apprenticeships. ColegauCymru and the National Training Federation for Wales published a report yesterday to show the impact of the apprenticeship funding cuts in Wales in this financial year. Those cuts, according to the report, resulted in a hit to the Welsh economy of over £50 million. We saw a massive reduction, a 30 per cent reduction, in health and social care apprenticeships, and a 20 per cent reduction in construction apprenticeships—two very important pillars of our economy, and obviously, from a health and social care point of view, very important for our public services as well. What's worse is that those cuts in apprenticeships seem to have had a bigger impact in deprived communities than elsewhere. I do think that we need a response from the Welsh Government to this report, and I look to you to procure that for Members from the Minister responsible. 

Secondly, I've been contacted by many farmers in my constituency regarding the calendar-based approach to slurry spreading and the impact that that is having on their land management. We all know that a science-based approach to the spreading of slurry is more appropriate and that there are weather conditions outside the current period during which slurry is prohibited from being spread that are suitable for slurry spreading. So, I think we do need to have a further discussion on this issue in order to move the Welsh Government's policy agenda to one that is backed by science and frankly not by a simple calendar approach, which isn't working.

Trefnydd, a gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw? Y cyntaf gan y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am sgiliau o ran prentisiaethau. Cyhoeddodd ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru adroddiad ddoe i ddangos effaith y toriadau mewn cyllid prentisiaethau yng Nghymru yn y flwyddyn ariannol hon. Yn ôl yr adroddiad, fe arweiniodd y toriadau hynny at ergyd o dros £50 miliwn i economi Cymru. Fe wnaethon ni weld gostyngiad enfawr, gostyngiad o 30 y cant, mewn prentisiaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a gostyngiad o 20 y cant mewn prentisiaethau adeiladu—dau gonglfaen pwysig iawn o ran ein heconomi ni, ac yn amlwg, o safbwynt iechyd a gofal cymdeithasol, rhai pwysig iawn i'n gwasanaethau cyhoeddus hefyd. Yr hyn sy'n waeth yw ei bod hi'n ymddangos bod y toriadau hynny mewn prentisiaethau wedi cael mwy o effaith ar gymunedau difreintiedig nag ar fannau eraill. Rwy'n credu bod angen ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r adroddiad hwn, a gofynnaf i chi gael yr ymateb hwnnw ar gyfer Aelodau gan y Gweinidog sy'n gyfrifol. 

Yn ail, mae llawer o ffermwyr yn fy etholaeth i wedi cysylltu â mi ynglŷn â'r dull seiliedig ar galendr o wasgaru slyri a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar y ffordd maen nhw'n rheoli eu tir. Rydyn ni i gyd yn gwybod bod dull o wasgaru slyri sy'n seiliedig ar wyddoniaeth yn fwy priodol a bod amodau tywydd y tu hwnt i'r cyfnod presennol lle mae slyri yn cael ei wahardd rhag cael ei wasgaru sy'n addas ar gyfer gwasgaru slyri. Felly, rwy'n credu bod angen i ni gael trafodaeth bellach ar y mater hwn er mwyn symud agenda bolisi Llywodraeth Cymru i un a gefnogir gan wyddoniaeth ac, a dweud y gwir, nid gan ddull calendr syml, nad yw'n gweithio.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

The Deputy Presiding Officer (David Rees) took the Chair.

Diolch yn fawr, Darren Millar. The Minister for Culture, Skills and Social Partnership has heard your question about apprenticeships. I think it would be helpful to have an update on the positive progress that's been made in terms of delivery of apprenticeships. I think you will also be interested that, yesterday, the Minister and I appeared before the Equality and Social Justice Committee, and it was really heartening to hear about the success of young Welsh people at the WorldSkills fair in Manchester last week, and how impressive it was. That was a cross-party committee in which people heard of the impressive ways in which our young people have gained those skills, and many through the apprenticeship route.

But also perhaps I could use the opportunity to congratulate Cardiff and Vale College, who had—. In fact, I know Luke Fletcher was hosting this. Many of us attended, because this was an example of innovation at Cardiff and Vale College with their junior apprenticeship scheme route. I'm sure the Minister for Further and Higher Education was interested in that as well. So, yes, there's been huge pressures as a result of 14 years of Conservative austerity policies, but we have invested, we've made this a priority, and I've given two examples of how we've been delivering on apprenticeships.

I'm afraid I have not got the knowledge in front of me here about the way in which slurry is spread, but I will be asking the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs to inform me and guide me, and also give you an answer on that point about the timing and the arrangements. I'm sure that this is something that the farming community are fully engaged in in terms of influencing, if we have any influence on how that is undertaken. But thank you for raising the question.

Diolch yn fawr, Darren Millar. Mae'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi clywed eich cwestiwn am brentisiaethau. Rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd cadarnhaol sydd wedi'i wneud o ran darparu prentisiaethau. Rwy'n credu y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd i wybod bod y Gweinidog a minnau wedi ymddangos gerbron y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ddoe, ac roedd hi'n galonogol iawn clywed am lwyddiant Cymry ifanc yn ffair WorldSkills ym Manceinion yr wythnos diwethaf, a pha mor drawiadol oedd hi. Roedd hwnnw'n bwyllgor trawsbleidiol lle gwnaeth bobl glywed am y ffyrdd trawiadol y mae ein pobl ifanc ni wedi ennill y sgiliau hynny, a llawer ohonyn nhw drwy'r llwybr prentisiaethau.

Ond hefyd efallai y gallaf achub ar y cyfle i longyfarch Coleg Caerdydd a'r Fro, a oedd—. Yn wir, rwy'n gwybod mai Luke Fletcher oedd yn cynnal hyn. Roedd llawer ohonon ni'n bresennol, oherwydd roedd hon yn enghraifft o arloesi yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro gyda'u llwybr cynllun prentisiaeth iau. Rwy'n siŵr bod gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ddiddordeb yn hynny hefyd. Felly, oes, mae pwysau enfawr wedi bod o ganlyniad i 14 mlynedd o bolisïau cyni'r Ceidwadwyr, ond rydyn ni wedi buddsoddi, rydyn ni wedi gwneud hyn yn flaenoriaeth, ac rwyf wedi rhoi dwy enghraifft o sut rydyn ni wedi bod yn cyflawni prentisiaethau.

Mae arna i ofn nad oes gennyf i'r wybodaeth o fy mlaen i yma am y ffordd y mae slyri yn cael ei wasgaru, ond byddaf i'n gofyn i'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig roi gwybod i mi a'm harwain i, a hefyd roi ateb i chi ar y pwynt hwnnw am yr amseru a'r trefniadau. Rwy'n siŵr bod hyn yn rhywbeth y mae'r gymuned ffermio yn ymwneud yn llawn ag ef o ran dylanwadu, os oes gennym ni unrhyw ddylanwad ar sut y caiff hynny ei wneud. Ond diolch i chi am godi'r cwestiwn.

May I thank you, Trefnydd, for including today's statement following our request on storm Bert? It is important that we have opportunities as a Senedd. May I also request that we receive regular updates and opportunities now, given that the First Minister just said about her meeting with Natural Resources Wales next week? I would also like to request that the Government be very careful with the messaging around this, and I wonder if you could feed that back. To say in terms of the number of homes saved because of investment gives false hope and assurances to people. We don't know that as a matter of fact yet. Please can we be extremely careful with further storms that will be coming over winter? We need to make sure that everybody takes the steps to keep themselves safe. In terms of regular updates, regular opportunity to discuss this, I would also like to hear from Government in terms of preparations for storms in winter. We know that more extreme weather is becoming more frequent. I asked the Deputy First Minister last week in terms of how we are preparing. We have had updates from the Welsh Government, but given how frequently these storms are happening, I believe we need further information before the recess, because we don't know what's coming over the next few weeks and months.

A gaf i ddiolch i chi, Trefnydd, am gynnwys y datganiad heddiw yn dilyn ein cais ar storm Bert? Mae'n bwysig ein bod ni'n cael cyfleoedd fel Senedd. A gaf i ofyn hefyd ein bod ni'n derbyn diweddariadau a chyfleoedd rheolaidd nawr, o gofio bod y Prif Weinidog newydd sôn am ei chyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru yr wythnos nesaf? Hoffwn i hefyd ofyn i'r Llywodraeth fod yn ofalus iawn gyda'r negeseuon ynghylch hyn, a thybed a allech chi fwydo hynny'n ôl. Mae sôn am nifer y cartrefi sydd wedi'u hachub oherwydd buddsoddiad yn rhoi gobaith a sicrwydd ffug i bobl. Nid ydyn ni'n gwybod hynny'n bendant eto. A allwn ni fod yn hynod ofalus gyda stormydd eraill a fydd yn dod dros y gaeaf? Mae angen i ni sicrhau bod pawb yn cymryd y camau i gadw eu hunain yn ddiogel. O ran diweddariadau rheolaidd, cyfle rheolaidd i drafod hyn, hoffwn i glywed hefyd gan y Llywodraeth ynghylch paratoadau ar gyfer stormydd yn y gaeaf. Rydym yn gwybod bod tywydd mwy eithafol yn digwydd yn amlach. Gofynnais i'r Dirprwy Brif Weinidog yr wythnos diwethaf ynglŷn â sut rydyn ni'n paratoi. Rydyn ni wedi cael diweddariadau gan Lywodraeth Cymru, ond o ystyried pa mor aml mae'r stormydd hyn yn digwydd, rwy'n credu bod angen rhagor o wybodaeth arnom cyn y toriad, oherwydd dydyn ni ddim yn gwybod beth sydd i ddod dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

14:25

Diolch yn fawr, Heledd Fychan, am eich cwestiwn.

Thank you very much, Heledd, for your question.

I think it was very important, and there was no question that there needed to be an oral statement today on storm Bert. Of course, there will be ongoing questions, ongoing updates, ongoing statements, as we learn the lessons. Indeed, we understand the impact of this devastating experience that so many people went through at the weekend. I do think this is something where we all need to be mindful of how we address this, and of course we have the oral statement from the Deputy First Minister later on this afternoon, and to recognise the devastating impact of storm Bert on those who have been affected by it, and also those who were hit before—of course, we go back—after storm Dennis as well. But it is important that we recognise the role of the emergency services, particularly over the weekend, and local authorities.

I think something that hasn't come out yet is the role of the community, and the way we saw the community coming out, and the neighbours. I think the First Minister referred to people knocking on doors in their streets and communities. I know that many Senedd Members were also contacted in that way—Mick Antoniw, Alun Davies; I know Buffy Williams and you were too. Everybody responded, and volunteers came out.

But I think it's really important that we recognise that climate change is increasing the risk of flooding in our communities. NRW does offer support on what to do before, during and after a flood. That's available on their website, and we do encourage people who are concerned or affected by flooding to consult this support. I think this is a time where we do have to again remind everybody—. They will all be thinking, anybody across Wales, and in my constituency, which has been sorely affected by flooding in the past—. Always when it rains, you think, 'Is there going to be a flood?' We're very much aware of that. But fortunately, there were many who weren't affected by storm Bert. So, let's have the statement this afternoon and go from there.

Rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn, a doedd dim amheuaeth bod angen datganiad llafar heddiw ar storm Bert. Wrth gwrs, fe fydd yna gwestiynau parhaus, diweddariadau parhaus, datganiadau parhaus, wrth i ni ddysgu'r gwersi. Yn wir, rydyn ni'n deall effaith y profiad dinistriol hwn yr aeth cynifer o bobl drwyddo dros y penwythnos. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth lle mae angen i ni gyd fod yn ymwybodol o sut rydyn ni'n mynd i'r afael ag ef, ac wrth gwrs mae gennym ni'r datganiad llafar gan y Dirprwy Brif Weinidog yn ddiweddarach y prynhawn yma, ac i gydnabod effaith ddinistriol storm Bert ar y rhai y mae wedi effeithio arnyn nhw, a hefyd y rhai yr effeithiwyd arnyn nhw o'r blaen—wrth gwrs, rydyn ni'n mynd yn ôl—ar ôl storm Dennis hefyd. Ond mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod rôl y gwasanaethau brys, yn enwedig dros y penwythnos, ac awdurdodau lleol.

Rwy'n credu mai rhywbeth sydd heb ddod i'r amlwg eto yw rôl y gymuned, a'r ffordd y gwelsom y gymuned yn dod allan, a'r cymdogion. Rwy'n credu bod y Prif Weinidog wedi cyfeirio at bobl yn curo ar ddrysau yn eu strydoedd a'u cymunedau. Rwy'n gwybod bod pobl wedi cysylltu â nifer o Aelodau'r Senedd yn y ffordd honno hefyd—Mick Antoniw, Alun Davies; Buffy Williams a chithau hefyd, rwy'n gwybod. Ymatebodd pawb, a daeth gwirfoddolwyr allan.

Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n cydnabod bod newid hinsawdd yn cynyddu'r risg o lifogydd yn ein cymunedau. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnig cymorth ar beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd. Mae hynny ar gael ar eu gwefan, ac rydyn ni'n annog pobl sy'n bryderus neu y mae llifogydd yn effeithio arnyn nhw i ddarllen am y cymorth hwn. Rwy'n credu bod hwn yn gyfnod lle mae'n rhaid i ni atgoffa pawb eto—. Byddan nhw i gyd yn meddwl, unrhyw un ar draws Cymru, ac yn fy etholaeth i, y mae llifogydd wedi cael effaith fawr arnyn nhw yn y gorffennol—. Bob tro mae'n bwrw glaw, rydych chi'n meddwl, 'A fydd llifogydd?' Rydyn ni'n ymwybodol iawn o hynny. Ond yn ffodus, roedd llawer nad oedd storm Bert wedi effeithio arnyn nhw. Felly, gadewch i ni gael y datganiad y prynhawn yma a mynd o fanna.

I'm asking for two statements. The first relates to the M4 between Llandarcy at junction 43 and junction 38, which has only two lanes. I spend a lot of time when I am travelling between my home in Swansea and the Senedd in a traffic jam between those junctions. Will the Welsh Government consider banning lorries from using the outside lanes at peak times? Far too often, a slow lorry passes a very slow lorry, causing serious congestion.

The second is a statement on life sciences, which is a rapidly growing part of the world economy. This should include the growth of life science employment in Wales and the Welsh Government's strategy to increase the number of life science companies and the number employed to numbers similar to the south-east of England, which would increase gross value added and the median wage in Wales.

Rwy'n gofyn am ddau ddatganiad. Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r M4 rhwng Llandarcy ar gyffordd 43 a chyffordd 38, sydd â dwy lôn yn unig. Rwy'n treulio llawer o amser pan fyddaf i'n teithio rhwng fy nghartref yn Abertawe a'r Senedd mewn tagfeydd traffig rhwng y cyffyrdd hynny. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried gwahardd lorïau rhag defnyddio'r lonydd pellaf allan ar adegau prysur? Yn rhy aml o lawer, mae lori araf yn pasio lori araf iawn, gan achosi tagfeydd difrifol.

Yr ail yw datganiad ar wyddorau bywyd, sy'n rhan o economi'r byd sy'n tyfu'n gyflym. Dylai hyn gynnwys twf cyflogaeth gwyddorau bywyd yng Nghymru a strategaeth Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y cwmnïau gwyddorau bywyd a'r nifer sy'n cael eu cyflogi i niferoedd tebyg i dde-ddwyrain Lloegr, a fyddai'n cynyddu gwerth ychwanegol gros a'r cyflog canolrifol yng Nghymru.

Diolch yn fawr, Mike Hedges. The issue about the M4 you of course know so well, as do those who travel along it to come and go through your constituencies to the Senedd and further afield. I'm very aware that this area that you refer to gets congested at peak times. The majority of this stretch of the M4 is subject to 50 mph for air quality particularly. I'm sure we can discuss this further. I understand that a traffic order would be required to restrict HGVs from using lane two—in terms of traffic flows, a traffic order would be required to restrict them. It’s been used in England, interestingly—and some of us may know this—on the M42, but on an uphill, two-lane section where there is no other speed restriction in place. But I can say, you’ve raised this question, it is being considered, and there may be opportunities for a modal shift, which could be developed with the south-west Wales regional transport plan engaging with the corporate joint committee, and also having an influence on investment in the strategic road network by the Welsh Government in our national transport delivery plan. So, you’ve raised it, and I will know it will then be considered.

And thank you for your question on life sciences. So, this is important in terms of the positive impact. If you look at life sciences in Wales, it comprises some 319 business sites, ranging from small and medium-sized enterprises to large blue-chip companies, as you indicated, with that turnover—a £2.85 billion turnover—and an increase on the year before. And it’s important to recognise that, as far as Welsh Government support is concerned, we are promoting Wales in the UK and overseas markets, and life sciences businesses are crucial in terms of new quality inward investment projects and jobs coming into Wales.

But I think it’s also important to look at this in terms of the fact that we have a dedicated relationship management team in each of the regions working on this. We have an export action plan for Wales, a programme for government commitment, and, indeed, of course, we have the Life Sciences Hub Wales, which works towards the mission of transforming the health and well-being and the economic well-being of the nation.

Diolch yn fawr, Mike Hedges. Rydych chi, wrth gwrs, yn ymwybodol iawn o'r mater ynghylch yr M4, fel y mae'r rhai sy'n teithio ar ei hyd i fynd a dod drwy eich etholaethau i'r Senedd ac ymhellach i ffwrdd. Rwy'n ymwybodol iawn bod yna dagfeydd yn yr ardal hon rydych chi'n cyfeirio ati yn ystod oriau brig. Mae'r rhan fwyaf o'r rhan hon o'r M4 yn destun terfyn cyflymder o 50 mya ar gyfer ansawdd aer yn arbennig. Rwy'n siŵr y gallwn ni drafod hyn ymhellach. Rwy'n deall y byddai angen gorchymyn traffig i atal cerbydau HGV rhag defnyddio lôn dau—o ran llifau traffig, byddai angen gorchymyn traffig i'w hatal. Mae wedi cael ei ddefnyddio yn Lloegr, yn ddiddorol—ac efallai y bydd rhai ohonon ni'n gwybod hyn—ar yr M42, ond ar ran dwy lôn sy'n dringo lle nad oes unrhyw gyfyngiad cyflymder arall ar waith. Ond gallaf ddweud, rydych chi wedi codi'r cwestiwn hwn, mae'n cael ei ystyried, ac efallai y bydd cyfleoedd i newid dulliau teithio, a allai gael ei ddatblygu gyda chynllun trafnidiaeth rhanbarthol de-orllewin Cymru yn ymgysylltu â'r cyd-bwyllgor corfforaethol, a hefyd i gael dylanwad ar fuddsoddiad yn y rhwydwaith ffyrdd strategol gan Lywodraeth Cymru yn ein cynllun cyflawni trafnidiaeth cenedlaethol. Felly, rydych chi wedi'i godi, ac rwy'n gwybod y bydd yn cael ei ystyried wedyn.

A diolch am eich cwestiwn am wyddorau bywyd. Felly, mae hyn yn bwysig o ran yr effaith gadarnhaol. Os ydych chi'n edrych ar wyddorau bywyd yng Nghymru, mae'n cynnwys rhyw 319 o safleoedd busnes, yn amrywio o fentrau bach a chanolig i gwmnïau mawr o'r radd flaenaf, fel y nodoch chi, gyda'r trosiant hwnnw—trosiant o £2.85 biliwn—a chynnydd ar y flwyddyn flaenorol. Ac mae'n bwysig cydnabod, cyn belled ag y mae cymorth Llywodraeth Cymru yn y cwestiwn, ein bod ni'n hyrwyddo Cymru ym marchnadoedd y DU a thramor, ac mae busnesau gwyddorau bywyd yn hanfodol o ran swyddi a phrosiectau mewnfuddsoddi newydd o safon sy'n dod i mewn i Gymru.

Ond rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig edrych ar hyn o ran y ffaith bod gennym ni dîm rheoli cysylltiadau penodedig ym mhob un o'r rhanbarthau sy'n gweithio ar hyn. Mae gennym ni gynllun gweithredu allforio ar gyfer Cymru, ymrwymiad yn y rhaglen llywodraethu, ac, yn wir, wrth gwrs, mae gennym ni Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, sy'n gweithio tuag at y genhadaeth o drawsnewid iechyd a lles a llesiant economaidd y genedl.

14:30

I call for a single Welsh Government statement on tackling fuel poverty in Wales. Tomorrow is National Energy Action’s Fuel Poverty Awareness Day, which I’m pleased to be supporting as chair of the Senedd’s cross-party group on fuel poverty and energy efficiency. In Wales it is estimated that up to 98 per cent of low-income households are living in fuel poverty. With energy prices set to stay high throughout the winter—well above pre-crisis levels—many households will struggle to keep warm and well. There’s an urgent need to improve the energy efficiency of fuel-poor homes in Wales, with energy bills that are permanently low.

At the joint meeting of the cross-party group on fuel poverty and energy efficiency and the cross-party group on housing last week, the discussion included the Welsh Government’s Warm Homes programme. There’s a need to significantly increase its investment, which is currently insufficient, to address the scale of the challenge in Wales, with opportunity to use consequentials from the UK Government’s Warm Homes plan to help to do this. I call for a Welsh Government statement accordingly.

Rwy'n galw am un datganiad gan Lywodraeth Cymru ar ymdrin â thlodi tanwydd yng Nghymru. Mae hi'n Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd National Energy Action yfory, ac rwy'n falch o fod yn ei gefnogi fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni. Yng Nghymru, amcangyfrifir bod hyd at 98 y cant o aelwydydd incwm isel yn byw mewn tlodi tanwydd. Gyda phrisiau ynni yn debygol o aros yn uchel drwy gydol y gaeaf—ymhell uwchlaw y lefelau cyn yr argyfwng—bydd llawer o aelwydydd yn ei chael hi'n anodd cadw'n gynnes ac yn iach. Mae angen dybryd i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi sy'n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru, gyda biliau ynni sy'n isel yn barhaol.

Yng nghyfarfod ar y cyd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni a'r grŵp trawsbleidiol ar dai yr wythnos diwethaf, gwnaeth y drafodaeth  gynnwys rhaglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru. Mae angen cynyddu'r buddsoddiad ynddi, nad yw'n ddigonol ar hyn o bryd, yn sylweddol er mwyn mynd i'r afael â maint yr her yng Nghymru, gyda chyfle i ddefnyddio symiau canlyniadol o gynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth y DU i helpu i wneud hyn. Rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn unol â hynny.

Thank you very much for that question, and also for your stewardship in chairing the cross-party group on fuel poverty, which I regularly attend, and which I’m sure I'm probably going to attend in due course. It is also very important to recognise that this is something on which we’re working very closely, not just in terms of tackling fuel poverty through a number of initiatives, like, for example, the Fuel Bank Foundation funding. And, of course, last week the Fuel Bank Foundation came to the Senedd, and I was able to announce funding of £700,000 to the Fuel Bank Foundation—I announced that a couple of weeks ago—in addition to the £500,000 I’ve made available, which will meet many households’ needs, particularly those with prepayment metres and those who are off-grid.

But it is also important that we link this to the Warm Homes programme. Of course, Jayne Bryant, the Cabinet Secretary for Housing and Local Government is responsible for that programme, but is working very closely with me in terms of delivery. And I know that we’re going to be updating on this very soon. Can I just say, in terms of the Warm Homes programme, that this is something that is going to make, and is making already, a huge difference to people’s lives? It is a scheme that was launched on 1 April, and it is £30 million more that we’re investing to reduce the number of low-incomes households living in cold, damp homes. And I think it’s also important that we recognise that this is contributing towards achieving a net-zero Wales by 2050, and directly enabling a just transition. We've got a package of measures to insulate and decarbonise homes, leading to a reduction in energy bills, to move families and households out of fuel poverty.

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw, a hefyd am eich stiwardiaeth wrth gadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd, yr wyf yn ei fynychu'n rheolaidd, ac yr wyf yn siŵr y byddaf yn debygol o'i fynychu maes o law. Mae hefyd yn bwysig iawn cydnabod bod hyn yn rhywbeth yr ydym yn gweithio'n agos iawn arno, nid yn unig o ran ymdrin â thlodi tanwydd drwy nifer o fentrau, fel, er enghraifft, cyllid y Sefydliad Banc Tanwydd. Ac, wrth gwrs, yr wythnos diwethaf daeth y Sefydliad Banc Tanwydd i'r Senedd, ac roeddwn i'n gallu cyhoeddi cyllid o £700,000 i'r Sefydliad Banc Tanwydd—fe gyhoeddais i hynny ychydig wythnosau yn ôl—yn ychwanegol at y £500,000 yr wyf wedi'i ddarparu, a fydd yn diwallu anghenion llawer o aelwydydd, yn enwedig y rhai sydd â mesuryddion rhagdalu a'r rhai nad ydyn nhw ar y grid.

Ond mae hefyd yn bwysig ein bod ni'n cysylltu hyn â'r rhaglen Cartrefi Cynnes. Wrth gwrs, Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol sy'n gyfrifol am y rhaglen honno, ond mae'n gweithio'n agos iawn gyda mi o ran ei chyflawni. Ac rwy'n gwybod y byddwn ni'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am hyn yn fuan iawn. A gaf i ddweud, o ran y rhaglen Cartrefi Cynnes, bod hwn yn rhywbeth sy'n mynd i wneud, ac sydd eisoes yn gwneud, gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl? Mae'n gynllun a gafodd ei lansio ar 1 Ebrill, ac mae'n £30 miliwn yn fwy yr ydyn ni'n ei fuddsoddi i leihau nifer yr aelwydydd incwm isel sy'n byw mewn cartrefi oer, llaith. Ac rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig ein bod ni'n cydnabod bod hyn yn cyfrannu at gyflawni Cymru sero net erbyn 2050, ac yn galluogi pontio teg yn uniongyrchol. Mae gennym ni becyn o fesurau i inswleiddio a datgarboneiddio cartrefi, a fydd yn arwain at ostyngiad mewn biliau ynni, i symud teuluoedd ac aelwydydd allan o dlodi tanwydd.

14:35

I'd like to associate myself with the remarks of Heledd Fychan earlier.

Trefnydd, Ofgem has announced that the energy price cap will be raised in January. That will, without a doubt, push more pensioners into poverty at just the time when their winter fuel allowance is being cut so cruelly. I'd like the Government to make a statement, please, setting out how it thinks this shameful price hike by Ofgem will affect Welsh households, particularly pensioners on the brink of poverty. Now, I'd request your support in calling on the head of Ofgem to appear before a Senedd committee, so that they can justify this increase in customer bills—an increase that's coming at a time when we are already expecting up to 4,000 extra deaths in Wales because of Westminster's cut to the winter fuel allowance. We know our energy market is broken—it works for the benefit of shareholders instead of keeping people alive—but, sadly, we have a Government in Westminster that is making things immeasurably worse this winter. So, can that statement set out the likely effects of these two vicious policies being brought in together—a rise in energy bills and this caustic cut to the winter fuel allowance?

Hoffwn i gysylltu fy hun â sylwadau Heledd Fychan yn gynharach.

Trefnydd, mae Ofgem wedi cyhoeddi y bydd y cap ar brisiau ynni'n cael ei godi ym mis Ionawr. Bydd hynny, heb amheuaeth, yn gwthio mwy o bensiynwyr i dlodi ar yr union adeg y mae eu lwfans tanwydd gaeaf yn cael ei dorri mor greulon. Hoffwn i'r Llywodraeth wneud datganiad, os gwelwch yn dda, yn nodi sut mae'n credu y bydd y cynnydd cywilyddus hwn mewn prisiau gan Ofgem yn effeithio ar aelwydydd Cymru, yn enwedig pensiynwyr sydd ar drothwy tlodi. Nawr, hoffwn ofyn am eich cefnogaeth wrth alw ar bennaeth Ofgem i ymddangos gerbron un o bwyllgorau'r Senedd, fel y gallan nhw gyfiawnhau'r cynnydd hwn mewn biliau cwsmeriaid—cynnydd sy'n dod ar adeg pan ydyn ni eisoes yn disgwyl hyd at 4,000 o farwolaethau ychwanegol yng Nghymru oherwydd toriad San Steffan i'r lwfans tanwydd gaeaf. Rydyn ni'n gwybod bod ein marchnad ynni wedi chwalu—mae'n gweithio er budd cyfranddalwyr yn lle cadw pobl yn fyw—ond, yn anffodus, mae gennym ni Lywodraeth yn San Steffan sy'n gwneud pethau llawer iawn yn waeth y gaeaf hwn. Felly, a all y datganiad hwnnw nodi effeithiau tebygol y ddau bolisi creulon hyn sy'n cael eu cyflwyno gyda'i gilydd—cynnydd mewn biliau ynni a'r toriad difaol hwn i'r lwfans tanwydd gaeaf?

Thank you, Delyth Jewell, for that question. Following on from my response to Mark Isherwood about some of the measures that we're taking—bespoke measures—in Wales, like the support not just for the Fuel Bank Foundation, particularly helping those very-low-income households on prepayment meters and off-grid, but also our £30 million Warm Homes scheme, we were very disappointed with the energy price cap, not just the one that was increased in October, which is a blow to many households across Wales. I did meet with Ofgem, and, in fact, Ofgem also came to the cross-party group on fuel poverty.

It is crucial also that we influence energy suppliers—I met with energy suppliers recently—to say to them they need to do all they can to support their customers through this difficult time. They can do this with fair and affordable payment plans and emergency support, and many of them are investing in that way. And in fact, the Bevan Foundation has encouraged customers to engage with their energy suppliers in this way. But I'm also going to speak to Ofgem about the most recent rise that was announced, because, although it was less of a rise, it still is a rise in the price cap. It's disappointing, on top of the increase of 10 per cent on the previous price cap of £1,568. So, I will be raising this with Ofgem. But when I am with Ofgem, I want to raise with them—and I know you've called for this, Delyth Jewell—we should call for them to engage fully on calling for a social tariff, because that's something that we believe would protect the most vulnerable households.

Diolch, Delyth Jewell, am y cwestiwn yna. Yn dilyn ymlaen o fy ymateb i Mark Isherwood am rai o'r mesurau rydyn ni'n eu cymryd—mesurau pwrpasol—yng Nghymru, fel y cymorth nid yn unig i'r Sefydliad Banc Tanwydd, sy'n helpu yn arbennig yr aelwydydd incwm isel iawn hynny sydd ar fesuryddion rhagdalu neu nad ydyn nhw ar y grid, ond hefyd ein cynllun Cartrefi Cynnes gwerth £30 miliwn, roedden ni'n siomedig iawn gyda'r cap ar brisiau ynni, nid dim ond yr un a gafodd ei gynyddu ym mis Hydref, sy'n ergyd i nifer o aelwydydd ar draws Cymru. Fe wnes i gyfarfod ag Ofgem, ac, yn wir, fe ddaeth Ofgem hefyd i'r grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd.

Mae'n hanfodol hefyd ein bod ni'n dylanwadu ar gyflenwyr ynni—fe wnes i gwrdd â chyflenwyr ynni yn ddiweddar—i ddweud wrthyn nhw fod angen iddyn nhw wneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi eu cwsmeriaid trwy'r cyfnod anodd hwn. Gallan nhw wneud hyn gyda chynlluniau talu teg a fforddiadwy a chymorth brys, ac mae llawer ohonyn nhw'n buddsoddi yn y ffordd honno. Ac, a dweud y gwir, mae Sefydliad Bevan wedi annog cwsmeriaid i ymgysylltu â'u cyflenwyr ynni yn y ffordd hon. Ond rydw i hefyd yn mynd i siarad ag Ofgem am y cynnydd diweddaraf a gafodd ei gyhoeddi, oherwydd, er ei fod yn llai o gynnydd, mae'n dal i fod yn gynnydd yn y cap ar brisiau. Mae'n siomedig, ar ben y cynnydd o 10 y cant ar y cap ar brisiau blaenorol o £1,568. Felly, byddaf i'n codi hyn gydag Ofgem. Ond pan fyddaf i gydag Ofgem, rydw i eisiau codi gyda nhw—ac rwy'n gwybod eich bod chi wedi galw am hyn, Delyth Jewell—dylen ni alw arnyn nhw i ymgysylltu'n llawn â'r alwad am dariff cymdeithasol, oherwydd mae hynny'n rhywbeth rydyn ni'n credu byddai'n diogelu'r aelwydydd mwyaf bregus.

Trefnydd, I'd like to call for a statement on outdoor safety, particularly in relation to rescue services. The cross-party group for outdoor activities met on Friday, in Llanberis, which is the busiest mountain rescue station in the whole of the United Kingdom. Last year they had over 300 call-outs, and they've already had more call-outs so far this year than the whole of last year put together. In their words, their service is not sustainable. It's completely volunteer-run, with no Government funding whatsoever, with each call-out lasting, at times, hours, with lots of people involved, often dealing with traumatic and sometimes, sadly, tragic situations. Of course, if they don't provide that voluntary service, the responsibility sits with police services. They say they're at breaking point. So, I'd like a statement outlining the Government's view on outdoor safety and, in particular, how it may be able to support rescue services here in Wales.

Trefnydd, hoffwn i alw am ddatganiad ar ddiogelwch yn yr awyr agored, yn enwedig o ran gwasanaethau achub. Fe wnaeth y grŵp trawsbleidiol ar weithgareddau awyr agored gyfarfod ddydd Gwener, yn Llanberis, sef yr orsaf achub mynydd brysuraf yn y Deyrnas Unedig gyfan. Y llynedd, fe gawson nhw dros 300 o alwadau am gymorth, ac maen nhw eisoes wedi cael mwy o alwadau am gymorth hyd yma eleni na thrwy gydol y llynedd at ei gilydd. Yn eu geiriau nhw, nid yw eu gwasanaeth yn gynaliadwy. Mae'n cael ei gynnal yn llwyr gan wirfoddolwyr, heb unrhyw arian o gwbl gan y Llywodraeth, gyda phob galwad yn para, weithiau, am oriau, gyda llawer o bobl yn cymryd rhan, yn aml yn ymdrin â sefyllfaoedd trawmatig ac weithiau, yn anffodus, trasig. Wrth gwrs, os nad ydyn nhw'n darparu'r gwasanaeth gwirfoddol hwnnw, mae'r cyfrifoldeb ar ysgwyddau gwasanaethau'r heddlu. Maen nhw'n dweud eu bod nhw wedi'u hymestyn i'r eithaf. Felly, hoffwn i gael datganiad yn amlinellu barn y Llywodraeth ar ddiogelwch yn yr awyr agored ac, yn benodol, sut y gallai gefnogi gwasanaethau achub yma yng Nghymru.

Thank you very much, Sam Rowlands, and thank you for bringing this to our attention as a result of the cross-party group on outdoor activities meeting in Llanberis and meeting with all those volunteers in mountain rescue. And they are all volunteers, they're dedicated, brave, committed, and we do recognise the role the mountain rescue plays across Wales in keeping people safe in our outdoor spaces. And, of course, that can be at all times of the day, in all weather conditions. They need a lot of training and support. It’s a highly professional volunteer rescue service.

Just in terms of how we can assist them further, there are different ways. I understand health officials are engaged with mountain rescue about funding to support elements of their work in the future, and they’re awaiting a business case from mountain rescue. Also, just looking at ways in which help can be given in terms of funding for protective equipment, technical access, Brecon Mountain Rescue has successfully got some funding from our community facilities programme back last year. So, there are ways in which—I’m glad you brought this to our attention—we can reach out to support.

Diolch yn fawr iawn, Sam Rowlands, a diolch am dynnu ein sylw ni at hyn ar ôl i'r grŵp trawsbleidiol ar weithgareddau awyr agored gyfarfod yn Llanberis a chyfarfod â'r holl wirfoddolwyr hynny yn y gwasanaeth achub mynydd. Ac maen nhw i gyd yn wirfoddolwyr, maen nhw'n ymroddedig, yn ddewr, yn ymrwymedig, ac rydyn ni'n cydnabod y rhan y mae'r gwasanaeth achub mynydd yn ei chwarae ledled Cymru wrth gadw pobl yn ddiogel yn ein mannau awyr agored. Ac, wrth gwrs, gall hynny fod bob amser o'r dydd, ym mhob tywydd. Mae angen llawer o hyfforddiant a chymorth arnyn nhw. Mae'n wasanaeth achub proffesiynol iawn sy'n cael ei ddarparu gan wirfoddolwyr.

O ran sut y gallwn ni eu helpu nhw ymhellach, mae yna wahanol ffyrdd. Rwy'n deall bod swyddogion iechyd yn ymgysylltu â'r gwasanaeth achub mynydd am gyllid i gefnogi elfennau o'u gwaith yn y dyfodol, ac maen nhw'n aros am achos busnes gan y gwasanaeth achub mynydd. Hefyd, gan edrych ar ffyrdd y gall cymorth gael ei roi o ran cyllid ar gyfer cyfarpar diogelu, mynediad technegol, llwyddodd Gwasanaeth Achub Mynydd Aberhonddu i gael rhywfaint o arian o'n rhaglen cyfleusterau cymunedol y llynedd. Felly, mae yna ffyrdd—rwy'n falch eich bod chi wedi tynnu ein sylw at hyn—y gallwn ni estyn allan i gefnogi.

14:40

Could I add my voice to the calls made by Darren Millar for a statement from the Government on the joint report released today by ColegauCymru and the National Training Federation for Wales on the impact of the apprenticeship cuts? Could I also as well ask for a debate in Government time on how we fund further education going forward? There are very clearly issues that need to be addressed, and I feel a debate in the Senedd would give ample time for Members to go through the different models that could be available.

I think the Trefnydd is right to want to focus on some of the positives, and, of course, the joint meeting between the cross-party groups on apprenticeships and further education did exactly that today. But what was clear in that meeting was that the positives won’t be around for much longer if we do not address the challenges that this report sets out. The report was very clear. The analysis measured the economic impact of losing nearly 6,000 apprenticeships in Wales. Darren Millar was right that, in the short term, this resulted in an immediate economic loss of £50.3 million in gross value added. But looking at the long-term impact, the total economic loss ranges from £158.8 million to £215.7 million. So, there’s a real crisis developing here in further education, and I feel a statement and a debate would allow this Senedd to look at it in more detail.

A gaf i ychwanegu fy llais at y galwadau a wnaed gan Darren Millar am ddatganiad gan y Llywodraeth ar yr adroddiad ar y cyd a gafodd ei gyhoeddi heddiw gan ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru ar effaith y toriadau i brentisiaethau? A gaf i hefyd ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth ar sut rydyn ni'n ariannu addysg bellach wrth symud ymlaen? Mae yna faterion amlwg iawn y mae angen mynd i'r afael â nhw, ac rwy'n teimlo y byddai dadl yn y Senedd yn rhoi digon o amser i'r Aelodau fynd drwy'r gwahanol fodelau a allai fod ar gael.

Rwy'n credu bod y Trefnydd yn iawn i fod eisiau canolbwyntio ar rai o'r pethau cadarnhaol, ac, wrth gwrs, fe wnaeth y cyfarfod ar y cyd rhwng y grwpiau trawsbleidiol ar brentisiaethau ac addysg bellach yn union hynny heddiw. Ond yr hyn a oedd yn amlwg yn y cyfarfod hwnnw oedd na fydd y pethau cadarnhaol o gwmpas am lawer hirach os na fyddwn ni'n ymdrin â'r heriau y mae'r adroddiad hwn yn eu nodi. Roedd yr adroddiad yn glir iawn. Aeth y dadansoddiad ati i fesur effaith economaidd colli bron i 6,000 o brentisiaethau yng Nghymru. Roedd Darren Millar yn hollol gywir bod hyn wedi arwain at golled economaidd uniongyrchol o £50.3 miliwn mewn gwerth ychwanegol gros yn y tymor byr. Ond o edrych ar yr effaith hirdymor, mae cyfanswm y golled economaidd yn amrywio o £158.8 miliwn i £215.7 miliwn. Felly, mae argyfwng gwirioneddol yn datblygu yma ym maes addysg bellach, ac rwy'n teimlo y byddai datganiad a dadl yn caniatáu i'r Senedd hon ei ystyried yn fanylach.

Thank you very much, Luke Fletcher. I think events like today are important, and reports. ColegauCymru—of course, we look to them and work very closely with them in terms of engagement and evidence from their members. We are fortunate to have the Minister for Further and Higher Education here and the Minister for Culture, Skills and Social Partnership. They’ve also heard the earlier question from Darren Millar.

It is important we look at achievements and the positives, but also recognise the huge impact. And it is an investment in skills, isn’t it, particularly, that we see through our further education colleges? We recognise that that route to apprenticeships is something that, of course, has always been a priority for this Government—a priority that, of course, was severely undermined this financial year, because of the 14 years of austerity and the £22 billion black hole that has meant that we have suffered as a result in terms of settlements. But now, of course, we look to how we can rebuild, and we look forward to discussing this in relation to priorities in the budget.

Diolch yn fawr iawn, Luke Fletcher. Rwy'n credu bod digwyddiadau fel heddiw yn bwysig, ac adroddiadau. ColegauCymru—wrth gwrs, rydyn ni'n edrych tuag atyn nhw ac yn gweithio'n agos iawn gyda nhw o ran ymgysylltu a thystiolaeth gan eu haelodau. Rydyn ni'n ffodus o gael y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch yma a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. Maen nhw hefyd wedi clywed y cwestiwn cynharach gan Darren Millar.

Mae'n bwysig ein bod ni'n ystyried y cyflawniadau a'r pethau cadarnhaol, ond hefyd yn cydnabod yr effaith enfawr. Ac mae'n fuddsoddiad mewn sgiliau yn enwedig, onid ydyw, rydyn ni'n ei weld drwy ein colegau addysg bellach? Rydyn ni'n cydnabod bod y llwybr hwnnw at brentisiaethau yn rhywbeth sydd, wrth gwrs, wedi bod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon erioed—blaenoriaeth a gafodd ei thanseilio'n ddifrifol y flwyddyn ariannol hon, wrth gwrs, oherwydd y 14 mlynedd o gyni a'r twll du gwerth £22 biliwn sydd wedi golygu ein bod ni wedi dioddef o ganlyniad i setliadau. Ond nawr, wrth gwrs, rydyn ni'n edrych ar sut y gallwn ni ailadeiladu, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at drafod hyn o ran blaenoriaethau yn y gyllideb.

Trefnydd, earlier this month, I tabled a written question to ask how many people were working in the Welsh Government building in Merthyr Tydfil on the random date of Friday, 13 September. The answer was 16. The Welsh Government building in Merthyr Tydfil can apparently accommodate up to 450 people. I think it’s fair to assume that some of those 16 workers would have been part of the building security and maintenance crew. Could the Welsh Government therefore provide a statement on whether or not the cost of heating and cleaning Welsh Government buildings that seem to be largely empty is offering value for money for the taxpayer? Thank you.

Trefnydd, yn gynharach y mis hwn, fe gyflwynais i gwestiwn ysgrifenedig i ofyn faint o bobl oedd yn gweithio yn adeilad Llywodraeth Cymru ym Merthyr Tudful ar ddyddiad ar hap, sef dydd Gwener, 13 Medi. Un deg chwech oedd yr ateb. Mae'n debyg bod adeilad Llywodraeth Cymru ym Merthyr Tudful yn gallu dal hyd at 450 o bobl. Rwy'n credu ei bod yn deg tybio y byddai rhai o'r 16 o weithwyr hynny wedi bod yn rhan o'r criw sy'n gyfrifol am ddiogelwch yr adeilad a'r gwaith o'i gynnal a'i gadw. A allai Llywodraeth Cymru felly rhoi datganiad ynghylch a yw cost gwresogi a glanhau adeiladau Llywodraeth Cymru sy'n ymddangos yn wag i raddau helaeth yn cynnig gwerth am arian i'r trethdalwr ai peidio? Diolch.

Well, we have got a big change, haven’t we, as a result of the pandemic, and different ways of working? Hybrid working and flexible working have brought great benefits to our workforce, not just, indeed, in terms of the Welsh Government workforce, but our workforce here in the Senedd, our workforce and Members’ working arrangements, but also across all sectors, public, private and third sector.

Certainly, this is an issue for Welsh Government and our Permanent Secretary to look at in terms of estate. It is good that in Cathays, for example, we now have other users of the building, and that is also the case in terms of our other Government buildings in Wales, looking at the future, responding to these changes in working practice. I was a Senedd Member, and in Government, when we made these decisions to devolve out of Cathays, that we weren't just going to be a civil service in Cardiff and that we were going to have these offices, particularly in the Valleys communities, Heads of the Valleys, and Aberystwyth and Llandudno. So, we need to look very carefully at how we manage this in terms of the future opportunities for our workforce and for the local labour market and economies as well. 

Wel, mae gennym ni newid mawr, onid oes, o ganlyniad i'r pandemig, a gwahanol ffyrdd o weithio? Mae gweithio hybrid a gweithio hyblyg wedi dod â manteision mawr i'n gweithlu, nid yn unig, yn wir, o ran gweithlu Llywodraeth Cymru, ond ein gweithlu yma yn y Senedd, ein gweithlu a threfniadau gweithio'r Aelodau, ond hefyd ar draws pob sector, y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.

Yn sicr, mae hwn yn fater i Lywodraeth Cymru a'n Hysgrifennydd Parhaol ei ystyried o ran yr ystad. Yn Cathays, er enghraifft, mae'n dda bod gennym ni bobl eraill yn defnyddio'r adeilad erbyn hyn, ac mae hynny hefyd yn wir o ran adeiladau eraill y Llywodraeth yng Nghymru, gan edrych ar y dyfodol ac ymateb i'r newidiadau hyn mewn arferion gwaith. Roeddwn i'n Aelod o'r Senedd, ac yn y Llywodraeth, pan wnaethon ni'r penderfyniadau hyn i ddatganoli o Cathays, nad oeddem ond yn mynd i fod yn wasanaeth sifil yng Nghaerdydd a'n bod ni'n mynd i gael y swyddfeydd hyn, yn enwedig yng nghymunedau'r Cymoedd, Blaenau'r Cymoedd, ac Aberystwyth a Llandudno. Felly, mae angen i ni edrych yn ofalus iawn ar sut rydyn ni'n rheoli hyn o ran y cyfleoedd i'n gweithlu ni yn y dyfodol ac i'r farchnad lafur a'r economïau lleol hefyd. 

14:45

Cabinet Secretary, can I ask for a statement from you regarding support for Welsh pensioners this winter? Just last week, I met with Age Cymru and pensioners from my region in south-east Wales, which was, quite frankly, one of the most grounding meetings that I've had to date in this job. I heard a story of a cancer patient who was fearful for her health and life, as she knows it is just above the threshold when it comes to money that she has in her account and will now not be able to afford to keep her heating on in the winter months. I also heard a story of a couple who'd worked their whole lives to enjoy retirement, yet now have higher bills and are having to give up everything they enjoy to be able to keep their heating on in the winter. The list, honestly, goes on, and stories were heartbreaking. Cabinet Secretary, just last week in this Chamber, you said, and I quote, 

'we continue to support all those at risk of falling into fuel poverty.'

But I can't imagine this Welsh Government has looked that far ahead, as, according to Age Cymru's research, by 2035, 45 per cent of households in Wales could be in fuel poverty. Now, we all know that 86 per cent of pensioners are either in poverty or just above the poverty line itself. So, they're not set to receive any more in winter fuel payments due to the decision of the UK Labour Government, and it doesn't seem a very compassionate measure from the party that is supposedly built on equality and fairness. So, Cabinet Secretary, you did mention to my colleague, Mark Isherwood, in your response, £500,000 and £700,000 that has been given by the Welsh Government. However, the best accountant in the world can even agree that this money isn't going to last forever. So, I'd like you to, please, outline the specific steps this Welsh Government will be taking to ensure that the shocking statistics that I've just shared here today will not become a reality, as, right now, the Welsh Government is letting down a generation that have worked their whole lives to contribute to our society here in Wales.

Ysgrifennydd Cabinet, a gaf i ofyn am ddatganiad gennych chi ynglŷn â chefnogaeth i bensiynwyr Cymru y gaeaf hwn? Dim ond yr wythnos diwethaf, fe wnes i gyfarfod ag Age Cymru a phensiynwyr o fy rhanbarth i yn y de-ddwyrain, a oedd, a dweud y gwir, yn un o'r cyfarfodydd mwyaf darostyngol yr wyf wedi'i gael hyd yma yn y swydd hon. Fe glywais i stori am glaf canser a oedd yn ofni am ei hiechyd a'i bywyd, gan ei bod hi'n gwybod ei bod hi ychydig yn uwch na'r trothwy o ran yr arian sydd ganddi yn ei chyfrif ac na fydd nawr yn gallu fforddio cadw ei gwres ymlaen yn ystod misoedd y gaeaf. Fe glywais i stori hefyd am gwpl a oedd wedi gweithio eu holl fywydau i fwynhau eu hymddeoliad, ond sydd â biliau uwch erbyn hyn ac yn gorfod rhoi'r gorau i bopeth maen nhw'n ei fwynhau er mwyn gallu cadw eu gwres ymlaen yn ystod y gaeaf. Yn wir, mae'r rhestr yn parhau, ac roedd y straeon yn dorcalonnus. Ysgrifennydd Cabinet, dim ond yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon, fe wnaethoch chi ddweud, ac rwy'n dyfynnu, 

'rydym yn parhau i gefnogi pawb sydd mewn perygl o ddisgyn i dlodi tanwydd.'

Ond allaf i ddim dychmygu bod Llywodraeth Cymru wedi edrych mor bell i'r dyfodol â hynny oherwydd, yn ôl ymchwil Age Cymru, erbyn 2035, gallai 45 y cant o aelwydydd yng Nghymru fod mewn tlodi tanwydd. Nawr, rydyn ni i gyd yn gwybod bod 86 y cant o bensiynwyr naill ai mewn tlodi neu ychydig yn uwch na'r ffin dlodi ei hun. Felly, ni fyddan nhw'n cael mwy mewn taliadau tanwydd gaeaf oherwydd penderfyniad Llywodraeth Lafur y DU, ac nid yw'n ymddangos yn fesur tosturiol iawn gan y blaid sydd wedi'i hadeiladu ar gydraddoldeb a thegwch, yn ôl pob sôn. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, fe wnaethoch chi sôn wrth fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, yn eich ymateb, am £500,000 a £700,000 sydd wedi cael eu rhoi gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, gall hyd yn oed y cyfrifydd gorau yn y byd gytuno nad yw'r arian hwn yn mynd i bara am byth. Felly, hoffwn i chi, os gwelwch yn dda, amlinellu'r camau penodol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau na fydd yr ystadegau brawychus rydw i newydd eu rhannu yma heddiw yn dod yn realiti, oherwydd, ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn siomi cenhedlaeth sydd wedi gweithio eu holl fywydau i gyfrannu at ein cymdeithas ni yma yng Nghymru.

Well, thank you, Natasha Asghar. I have responded to questions this afternoon about ways in which we are supporting people who may be in danger of being in fuel poverty. And I also would say that I have worked very closely—and it's a real opportunity to work—with the new UK Government on these issues.  I've mentioned the fact that I met with the Minister for Energy Consumers and Affordability on 8 November, and discussed issues like, for example, calling for a social tariff to protect the most vulnerable households, because I think that's a really progressive way that we can support our most vulnerable, without having significant negative effects on other households. But, clearly, this is something where I think it's important that people do turn to the opportunities that we have through the Warm Homes programme, through take-up not just through the Fuel Bank Foundation, but also through the discretionary assistance fund. I think it's important that pensioners, particularly, can apply to the discretionary assistance fund, which, of course, is something where we have a real opportunity there to reach out when people are in particularly difficult circumstances in terms of emergency needs. But this is something where take-up of the pension credit, I think, is being addressed, and not just by local authorities. Yesterday, I was pleased to meet with all Welsh local authorities to talk about the Welsh benefits charter, to make sure that pensioners are—and many are—taking up the council tax reduction scheme. So, on all aspects of policy, we are working to ensure that pensioners are able to withstand the pressures in terms of the cost-of-living crisis, and to support them to enable them not to fall into fuel poverty.

Wel, diolch, Natasha Asghar. Rwyf wedi ymateb i gwestiynau y prynhawn yma am ffyrdd rydym yn cefnogi pobl a allai fod mewn perygl o fod mewn tlodi tanwydd. A byddwn i hefyd yn dweud fy mod wedi gweithio'n agos iawn—ac mae'n gyfle gwirioneddol i weithio—gyda Llywodraeth newydd y DU ar y materion hyn. Rwyf wedi sôn am y ffaith fy mod i wedi cyfarfod â'r Gweinidog Defnyddwyr Ynni a Fforddiadwyedd ar 8 Tachwedd, ac wedi trafod materion fel, er enghraifft, galw am dariff cymdeithasol i ddiogelu'r aelwydydd mwyaf agored i niwed, oherwydd rwy'n credu bod honno'n ffordd flaengar iawn y gallwn ni gefnogi ein pobl fwyaf agored i niwed, heb gael effeithiau negyddol sylweddol ar aelwydydd eraill. Ond, yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth lle rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod pobl yn troi at y cyfleoedd sydd gennym ni drwy'r rhaglen Cartrefi Cynnes, trwy fanteisio nid yn unig drwy'r Sefydliad Banc Tanwydd, ond hefyd drwy'r gronfa cymorth dewisol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod pensiynwyr, yn arbennig, yn gallu gwneud cais i'r gronfa cymorth dewisol, sydd, wrth gwrs, yn rhywbeth lle mae gennym ni gyfle gwirioneddol yno i estyn allan pan fo pobl mewn amgylchiadau arbennig o anodd o ran anghenion brys. Ond mae hyn yn rhywbeth lle mae'r nifer sy'n manteisio ar y credyd pensiwn, rwy'n credu, yn cael sylw, ac nid dim ond gan awdurdodau lleol. Ddoe, roeddwn i’n falch o gyfarfod â holl awdurdodau lleol Cymru i siarad am siarter budd-daliadau Cymru, er mwyn gwneud yn siŵr bod pensiynwyr yn manteisio—ac mae llawer ohonyn nhw'n gwneud hynny—ar y cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Felly, ar bob agwedd ar y polisi, rydyn ni'n gweithio i sicrhau bod pensiynwyr yn gallu gwrthsefyll y pwysau o ran yr argyfwng costau byw, ac i'w cefnogi nhw i'w galluogi i beidio â mynd i dlodi tanwydd.

I would like to raise a statement from the Cabinet Secretary for Transport and North Wales in both guises, really, regarding timescales for the repair of Llannerch bridge, between Trefnant and Tremeirchion, in my constituency. We finally have confirmation that the preliminary remedial work will begin on the Llannerch bridge project, following the bridge's destruction nearly four years ago to storm Christophe in 2021. It's a case of better late than never, so I'm pleased that funding has been provided by the Welsh Government to take forward design work on a replacement bridge, although I would like to make it clear that local news coverage today has been slightly misleading, as work is only just beginning on the design of a bridge not the construction, which we have no timescale for and, going by the general pace of local authorities, could still be over a year away. Construction of the bridge is also likely to far exceed the £750,000 provided so far, and we need confirmation that, once a design has been agreed, the funding for the construction will be forthcoming. I would see no reason why the Cabinet Secretary couldn't make a commitment as, if the funding for construction wasn't provided, the £750,000 provided for the design would be a total waste of taxpayers' money. So, can the Cabinet Secretary provide a statement outlining a timescale for the construction of the bridge, and can the Welsh Government make a commitment here today that the necessary funding will be provided for the construction of this bridge once and for all? Thank you.

Hoffwn i gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn y ddwy rôl, mewn gwirionedd, ynghylch yr amserlen ar gyfer atgyweirio pont Llannerch rhwng Trefnant a Thremeirchion, yn fy etholaeth i. Rydym wedi cael cadarnhad o'r diwedd y bydd y gwaith adfer cychwynnol yn dechrau ar brosiect pont Llannerch ar ôl i'r bont gael ei dinistrio bron i bedair blynedd yn ôl gan storm Christophe yn 2021. Mae'n fater o well hwyr na hwyrach, felly rwy'n falch bod cyllid wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r gwaith o ddylunio pont newydd, er hoffwn i ei wneud yn glir bod y newyddion lleol heddiw wedi bod ychydig yn gamarweiniol, gan mai'r gwaith o ddylunio'r bont sydd wedi dechrau, nid y gwaith adeiladu, nad oes gennym amserlen ar ei gyfer ac y gallai, o ystyried cyflymder cyffredinol awdurdodau lleol, fod dros flwyddyn i ffwrdd o hyd. Mae'r gwaith o adeiladu'r bont hefyd yn debygol o fod yn llawer uwch na'r £750,000 sydd wedi'i ddarparu hyd yn hyn, ac mae angen cadarnhad arnom y bydd yr arian ar gyfer y gwaith adeiladu ar gael unwaith y cytunir ar y dyluniad. Ni welaf unrhyw reswm pam na allai'r Ysgrifennydd Cabinet wneud ymrwymiad oherwydd, pe na bai'r cyllid ar gyfer y gwaith adeiladu yn cael ei ddarparu, byddai'r £750,000 sydd wedi'i ddarparu ar gyfer y gwaith dylunio yn wastraff llwyr o arian trethdalwyr. Felly, a all yr Ysgrifennydd Cabinet roi datganiad yn amlinellu amserlen ar gyfer adeiladu'r bont, ac a all Llywodraeth Cymru ymrwymo yma heddiw y bydd y cyllid angenrheidiol yn cael ei ddarparu ar gyfer adeiladu'r bont hon unwaith ac am byth? Diolch.

14:50

Diolch yn fawr am eich cwestiwn. 

Thank you very much for your question.

In terms of the importance of the redesign and tackling this really crucial issue for north Wales and for the region and constituency, I think there's no question that the duration of physical works for phase 2 hasn't altered. We've listened to stakeholders and the local community and we've decided to reschedule the start date to March 2025. It will bring a host of benefits to the local community and the travelling public. It will particularly improve local business opportunities during the Christmas period, which was impacted last year, and then, of course, works will recommence, the same as before, and also are programmed to be completed in December, instead of the summer, of 2025. But, we will keep, obviously, all partners, key partners and stakeholders engaged and informed, and I'm sure that you'll be able to follow this up with the Cabinet Secretary for Transport and North Wales.

O ran pwysigrwydd ailddylunio ac ymdrin â'r mater hollbwysig hwn i ogledd Cymru ac i'r rhanbarth a'r etholaeth, dydw i ddim yn credu bod unrhyw amheuaeth nad yw hyd y gwaith ffisegol ar gyfer cam 2 wedi newid. Rydyn ni wedi gwrando ar randdeiliaid a'r gymuned leol ac rydyn ni wedi penderfynu aildrefnu'r dyddiad cychwyn i fis Mawrth 2025. Bydd yn dod â llu o fanteision i'r gymuned leol a'r cyhoedd sy'n teithio. Bydd yn gwella cyfleoedd busnes lleol yn arbennig yn ystod cyfnod y Nadolig, yr effeithiwyd arno y llynedd, ac yna, wrth gwrs, bydd y gwaith yn ailddechrau, yn yr un ffordd ag o'r blaen, a hefyd mae wedi'i raglennu i'w gwblhau ym mis Rhagfyr 2025, yn hytrach na'r haf. Ond, byddwn ni'n dal, yn amlwg, yn ymgysylltu â phob partner, partneriaid allweddol a rhanddeiliaid ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n gallu mynd ar drywydd hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru.

Trefnydd, I was very disappointed to see that the Welsh Government has pulled its statement next week on the United Nations International Day for Persons with Disabilities and instead will now provide a written statement, thus denying the opportunity for comment and questioning by Members of this Chamber. I believe that this is insensitive to those with disabilities, who already feel sidelined and ignored by this Government, and is ultimately a stark indication of what this Government actually thinks about them. As with everything, there are warm words but very little action. As you will know, I have had to ask several times in this Chamber for those with disabilities to even be mentioned in Government statements. So, I ask you if you can reconsider your decision and allow for an oral statement next week.

Trefnydd, roeddwn i'n siomedig iawn o weld bod Llywodraeth Cymru wedi tynnu ei datganiad yr wythnos nesaf ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl ag Anableddau yn ôl ac y bydd nawr yn rhoi datganiad ysgrifenedig yn lle hynny, gan olygu na fydd Aelodau'r Siambr hon yn cael cyfle i wneud sylwadau a gofyn cwestiynau. Rwy'n credu bod hyn yn ansensitif i'r rhai ag anableddau, sydd eisoes yn teimlo eu bod nhw'n cael eu hanwybyddu a'u gwthio i'r naill ochr gan y Llywodraeth hon ac, yn y pen draw, mae'n arwydd clir o'r hyn y mae'r Llywodraeth hon yn ei feddwl amdanyn nhw mewn gwirionedd. Fel gyda phopeth, mae yna eiriau caredig ond ychydig iawn o weithredu. Fel y gwyddoch chi, rwyf wedi gorfod gofyn sawl gwaith yn y Siambr hon i'r rhai ag anableddau hyd yn oed gael eu crybwyll yn natganiadau'r Llywodraeth. Felly, gofynnaf a allwch chi ailystyried eich penderfyniad a chaniatáu datganiad llafar yr wythnos nesaf.

Thank you very much, Joel James. I'll be very pleased to issue a written statement on the international day of disabled people. I'm also very pleased to be holding and chairing a meeting of the disability equality forum on Thursday and, indeed, also addressing the Disability Wales conference, and meeting with the co-chair of the disability rights taskforce. So, I've got many engagements in terms of delivering, with a very busy business schedule for the Senedd over the next two weeks, to address this really important issue. I was glad to come before the Equality and Social Justice Committee yesterday for scrutiny in their all-important inquiry on the employment gap for disabled people. I hope the Welsh Government will be able to address, with the Minister for Culture, Skills and Social Partnership, the important evidence that's come from that inquiry.

Diolch yn fawr iawn, Joel James. Byddaf yn falch iawn o gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar ddiwrnod rhyngwladol pobl anabl. Rwyf hefyd yn falch iawn o fod yn cynnal ac yn cadeirio cyfarfod o'r fforwm cydraddoldeb anabledd ddydd Iau ac, yn wir, byddaf hefyd yn annerch cynhadledd Anabledd Cymru, ac yn cyfarfod â chyd-gadeirydd y tasglu hawliau anabledd. Felly, mae gen i lawer o ymrwymiadau o ran cyflawni, gydag amserlen fusnes brysur iawn ar gyfer y Senedd yn ystod y pythefnos nesaf, i ymdrin â'r mater pwysig iawn hwn. Roeddwn i'n falch o ddod gerbron y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ddoe i graffu yn eu hymchwiliad hollbwysig ar y bwlch cyflogaeth i bobl anabl. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru, gyda'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, yn gallu ymdrin â'r dystiolaeth bwysig sydd wedi dod o'r ymchwiliad hwnnw.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Trefnydd, you'll be aware that I've raised the issue of the Withyhedge landfill site in my constituency on many occasions in this Chamber. You will also know that I've had grave concerns about this facility, where many of my constituents have had to suffer terrible odours, and some of the people I represent have suffered headaches, nausea, dizziness and watery eyes because of this landfill site. Now, even though things have improved recently, it's now been reported in the local press that Public Health Wales have said that its most recent risk assessment relating to air quality data collected at Spittal school monitoring station between 1 October and 3 November showed that there were occasions when hydrogen sulphide concentrations in the air were above the World Health Organization odour annoyance guideline values. When residents are actually exposed to odours at levels above the World Health Organization guidelines, then they can experience headaches, dizziness and watery eyes. I'm sure you'll agree with me that this is unacceptable, and you know that I've consistently called for this landfill site to be permanently closed. So, given this latest development, I believe it’s crucial that we have a statement now from the Welsh Government telling us what it’s doing to prevent these high concentrations, especially given that this was recorded at a primary school, and I’m sure you’ll agree with me that we cannot be exposing children to these kinds of odours.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Trefnydd, byddwch chi'n ymwybodol fy mod i wedi codi mater safle tirlenwi Withyhedge yn fy etholaeth ar sawl achlysur yn y Siambr hon. Byddwch chi hefyd yn gwybod fy mod i wedi cael pryderon difrifol am y cyfleuster hwn, lle mae llawer o fy etholwyr wedi gorfod dioddef arogleuon ofnadwy, ac mae rhai o'r bobl rwy'n eu cynrychioli wedi dioddef pennau tost, cyfogi, pendro a llygaid dyfrllyd oherwydd y safle tirlenwi hwn. Nawr, er bod pethau wedi gwella yn ddiweddar, mae'r wasg leol wedi adrodd nawr bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod ei asesiad risg diweddaraf o ddata ansawdd aer a gasglwyd yng ngorsaf fonitro ysgol Spittal rhwng 1 Hydref a 3 Tachwedd yn dangos bod adegau pan oedd crynodiadau sylffid hydrogen yn yr aer yn uwch na gwerthoedd canllaw annifyrrwch arogleuon Sefydliad Iechyd y Byd. Pan fydd preswylwyr yn dod i gysylltiad ag arogleuon ar lefelau uwchlaw canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd, yna gallan nhw ddioddef pennau tost, pendro a llygaid dyfrllyd. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi fod hyn yn annerbyniol, ac rydych chi'n gwybod fy mod i wedi galw'n gyson am gau'r safle tirlenwi hwn yn barhaol. Felly, o ystyried y datblygiad diweddaraf hwn, rwy'n credu ei bod yn hanfodol ein bod ni'n cael datganiad nawr gan Lywodraeth Cymru yn dweud wrthyn ni am yr hyn y mae'n ei wneud i atal y crynodiadau uchel hyn, yn enwedig o ystyried bod hyn wedi'i gofnodi mewn ysgol gynradd, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi na allwn ni amlygu plant i'r mathau hyn o arogleuon.

14:55

Thank you, Paul Davies, for that question, and I can assure you that Natural Resources Wales are working closely with the local authority, Public Health Wales and Hywel Dda health board to address the issues of concern at Withyhedge landfill site. You will be aware, I’m sure, that there is a public engagement session in Spittal church hall on Thursday 5 December, and so I would encourage anyone with any interest to attend that session. NRW, Public Health Wales, the local authority and Hywel Dda will all be there to answer questions from the public.

Diolch i chi, Paul Davies, am y cwestiwn yna, ac fe allaf i eich sicrhau chi fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio yn agos gyda'r awdurdod lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Hywel Dda i fynd i'r afael â'r materion sy'n peri pryder ar safle tirlenwi Withyhedge. Rydych chi'n ymwybodol, rwy'n siŵr, y bydd sesiwn ymgysylltu â'r cyhoedd yn neuadd eglwys Spittal ar ddydd Iau 5 Rhagfyr, ac felly fe fyddwn i'n annog unrhyw un sydd â diddordeb i fod yn bresennol yn y sesiwn hwnnw. Fe fydd CNC, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr awdurdod lleol a Hywel Dda i gyd yno i ateb cwestiynau gan y cyhoedd.

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru)
3. Statement by the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language: The Visitor Accommodation (Register and Levy) Etc. (Wales) Bill

Eitem 3 sydd nesaf, datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru). Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Mark Drakeford.

Item 3 is next, a statement by the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language: the Visitor Accommodation (Register and Levy) Etc. (Wales) Bill. I call on the Cabinet Secretary, Mark Drakeford.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yesterday, the Visitor Accommodation (Register and Levy) Etc. (Wales) Bill was laid in the Senedd. The Bill provides a permissive power to local authorities to decide whether or not they want to introduce a visitor levy in their local areas based on their local circumstances. Doing so fulfils a commitment in Welsh Labour’s manifesto, repeated in the programme for government and the co-operation agreement. The power is to be drawn down by participating councils where they wish to be enabled to raise a modest levy on visitors staying overnight in visitor accommodation. The levy is rooted in the principle of fairness. In participating local authorities, the costs of maintaining the public infrastructure and services that make Wales an attractive destination will be shared by all those who use them and who benefit from them. The considerable bulk of these costs will continue to be borne by local residents, but visitors will now also make a small but fair contribution to the development and preservation of the characteristics that drew them to those areas as visitors in the first place. In doing so, there will be a collective effort to secure the long-term sustainability of the tourism sector and its significance to the Welsh economy.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ddoe, gosodwyd y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) ger bron y Senedd. Mae'r Bil yn rhoi pŵer caniataol i awdurdodau lleol benderfynu a ydyn nhw'n dewis cyflwyno ardoll ymwelwyr yn eu hardaloedd lleol ai peidio, yn seiliedig ar eu hamgylchiadau lleol. Mae gwneud hynny'n cyflawni'r ymrwymiad ym maniffesto Llafur Cymru, a gaiff ei ailadrodd yn y rhaglen lywodraethu a'r cytundeb cydweithio. Fe gaiff y pŵer ei dynnu i lawr gan y cynghorau sy'n cymryd rhan pan fôn nhw'n awyddus i fod â'r gallu i godi ardoll resymol ar ymwelwyr sy'n aros dros nos mewn llety i ymwelwyr. Cafodd yr ardoll ei gwreiddio yn yr egwyddor o chwarae teg. Mewn awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan, fe fydd y costau wrth gynnal y seilwaith cyhoeddus a'r gwasanaethau sy'n gwneud Cymru yn gyrchfan ddeniadol yn cael eu rhannu gan bawb sy'n eu defnyddio nhw ac sy'n elwa arnyn nhw. Fe fydd y rhan helaethaf o'r costau hyn yn dal i gael eu talu gan drigolion lleol, ond fe fydd ymwelwyr hefyd yn gwneud cyfraniad bach ond teg nawr at ddatblygiad a chadwraeth y nodweddion a wnaeth eu denu nhw i fod yn ymwelwyr â'r ardaloedd hynny yn y lle cyntaf. Wrth wneud hynny, fe fydd yna ymdrech ar y cyd i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y sector twristiaeth a'i bwysigrwydd i economi Cymru.

Dirprwy Lywydd, mae'r Bil yma wedi cymryd amser hir i ddod i fodolaeth. Cafodd y syniad o’r ardoll ymwelwyr ei gynnig am y tro cyntaf yn 2017, yn ystod galwad gyhoeddus am syniadau treth newydd. Ers hynny, mae’r syniad wedi cael ei ddatblygu drwy gydweithio ac ymgynghori helaeth, gan gynnwys gyda’r sector twristiaeth. Rydym ni wedi ystyried eu pryderon wrth ddatblygu'r polisi yma ymhellach, gan ddefnyddio'r adborth i gynllunio ardoll syml a theg.

Dirprwy Lywydd, mae ardollau ymwelwyr a threthi twristiaeth yn gyffredin ar draws y byd. Bydd llawer o'r Aelodau sydd yma heddiw wedi talu ardoll mewn gwlad dramor, a hynny heb sylwi, efallai. Mae Llywodraethau ar draws y byd yn gweld bod ardoll ymwelwyr yn ffordd effeithiol o wrthbwyso rhai o'r costau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth. Mae’r ymchwil a gafodd ei gyhoeddi gyda'r Bil yn dangos bod y refeniw yn gallu gwella ardaloedd twristiaeth drwy ariannu gwelliannau i’r seilwaith a diogelu’r amgylchedd. Ac nid dim ond mewn rhannau eraill o'r byd mae ardollau ymwelwyr yn cael eu defnyddio; mae Manceinion eisoes wedi cyflwyno ffi canol dinas, ac, yn gynharach eleni, fe wnaeth yr Alban basio deddfwriaeth fel bod yr awdurdodau lleol yno yn gallu ystyried ardoll, ac rydyn ni’n gwybod bod Caeredin wedi bwrw ymlaen i gynllunio i ddefnyddio'r pwerau newydd. Mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn ystyried y syniad hefyd. Mae ein cynigion yma yng Nghymru yn mynd gyda’r llanw, nid yn ei erbyn.

Dirprwy Lywydd, this Bill has taken a great deal of time to come into existence. The idea of the visitor levy was proposed by for the first time in 2017, during a public call for new tax ideas. Since then, the idea has been refined and developed through extensive consultation and collaboration, including with the tourism sector. We have addressed their concerns as we have developed and refined this policy, incorporating feedback to design a straightforward and fair levy.

Dirprwy Lywydd, visitor levies and tourism taxes are commonplace all over the world. Many Members of the Senedd here today will have paid the levy abroad, probably without noticing, perhaps. Governments worldwide recognise that visitor levies are an effective means to offset some of the costs associated with tourism. The research that was published alongside the Bill shows that revenues from visitor levies can greatly enhance tourist destinations by funding infrastructure improvements and protecting the environment. Nor is the use of visitor levies confined to other parts of the world; Manchester has already introduced its own city-centre charge, and, earlier this year, Scotland passed legislation to enable its local authorities to consider a levy, and we know that Edinburgh has plans to use those new powers. Other parts of the UK are also considering visitor levies. Our proposals here in Wales are rowing with the tide, not against it.

Dirprwy Lywydd, given the constraints on council budgets over the last 14 years, which have placed such pressures on discretionary budgets in particular, a visitor levy would provide those participating local authorities with an important new revenue stream to support tourism-related costs. If all 22 local authorities were to introduce the levy, it could potentially raise up to £33 million each year.

Authorities interested in this power will be required to consult residents and businesses before making a decision to introduce a levy. Moneys collected will have to be held in a separate visitor levy account. An annual report will have to be produced to demonstrate to their communities how funds raised from the levy have been applied in their areas. Ensuring transparency in this way will be crucial in reaffirming the benefit a visitor levy can bring in the long term.

Now, Dirprwy Lywydd, consumer research, published alongside the consultation, amongst Welsh residents and UK holidaymakers has shown broad support for a visitor levy. Most respondents agreed that tourists should help cover the costs of maintaining and investing in destinations, especially in high-tourism areas. Many people who responded to our public consultation suggested a per person per night charge was the best approach for businesses, and we have followed that advice. However, to ensure fairness, we are proposing to set two different visitor levy rates, with a lower rate applied to stays at hostels and camping site pitches. The visitor levy rate is set in the Bill at 75p per person per night for people staying in hostels and on campsite pitches, and £1.25 per person per night for stays in all other types of visitor accommodation.

Now, we have kept the rate low in comparison to many levies overseas, and we have limited exceptions and reliefs in order to reduce complexity. As a new levy, we want consistency in approach across local authority areas and that is why we have set the initial rates on the face of the Bill.

Dirprwy Lywydd, despite all the work already undertaken to bring this Bill before the Senedd, we estimate that 2027 will be the earliest a visitor levy could be introduced anywhere in Wales. In the coming period, we will continue to work with businesses, local authorities and the Welsh Revenue Authority to ensure the visitor levy is a success. Developing guidance collaboratively will be an initial step in this process, and that was discussed at this morning's meeting of the visitor economy forum, which I was very pleased to attend.

Finally, Dirprwy Lywydd, as we developed this Bill through the process of consultation and continued engagement and based on the work led by the Welsh Revenue Authority, we received consistent feedback that we needed to have registration in place to support the levy. That advice has informed our decision to include a national register of all those providing visitor accommodation in Wales as part of this Bill. The register will provide valuable data to inform future tourism development and assist in the efficient collection of the levy where implemented. It will form the basis of the statutory licensing scheme to which this Government remains committed. We have also developed some additional registration and enforcement provisions that I intend to share with committees today to support Stage 1 scrutiny.

Llywydd, as we continue to promote our country as a world-class destination for visitors and the benefits that that brings, we must also take collective responsibility for managing the impact that tourism has on our environment and local communities. I hope Senedd Members will allow the Bill to proceed to Stage 1 scrutiny as an investment in Wales’s future, to help us create a sustainable and prosperous tourism industry and to support those communities that rely upon it.

Dirprwy Lywydd, o ystyried y cyfyngiadau a fu ar gyllidebau cynghorau dros y 14 mlynedd diwethaf, sydd wedi rhoi cymaint o bwysau ar gyllidebau dewisol yn benodol, fe fyddai ardoll ymwelwyr yn darparu llif newydd pwysig o refeniw i'r awdurdodau hynny sy'n cymryd rhan ar gyfer ateb y costau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth. Pe byddai pob un o'r 22 awdurdod lleol yn cyflwyno'r ardoll, fe allai godi hyd at £33 miliwn bob blwyddyn.

Fe fydd hi'n ofynnol i unrhyw awdurdod a fyddai'n hoffi ymarfer y pŵer hwn ymgynghori â phreswylwyr a busnesau cyn gwneud penderfyniad i gyflwyno ardoll. Fe fydd hi'n rhaid cadw unrhyw arian sy'n cael ei gasglu mewn cyfrif ardoll ymwelwyr ar wahân. Fe fydd hi'n rhaid llunio adroddiad blynyddol i ddangos i'w priod gymunedau sut y defnyddiwyd yr arian a godwyd o'r ardoll yn eu hardaloedd nhw. Fe fydd sicrhau tryloywder yn y modd hwn yn hanfodol o ran ailddatgan y budd y gall ardoll ymwelwyr ei gynnig yn yr hirdymor.

Nawr, Dirprwy Lywydd, mae ymchwil defnyddwyr, a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r ymgynghoriad, ymhlith trigolion Cymru a phobl ar wyliau o'r DU wedi dangos cefnogaeth eang i ardoll ymwelwyr. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr yn cytuno y dylai twristiaid helpu i dalu costau cynnal a buddsoddi mewn cyrchfannau, yn enwedig mewn ardaloedd sy'n boblogaidd ymhlith twristiaid. Roedd llawer o'r rhai a wnaeth ymateb i'n hymgynghoriad cyhoeddus ni'n cytuno mai tâl fesul unigolyn bob noson fyddai'r arddull gorau ar gyfer busnesau, ac rydym ni wedi dilyn y cyngor hwnnw. Serch hynny, i sicrhau cyfiawnder, rydym ni'n cynnig gosod dwy gyfradd wahanol i'r ardoll ymwelwyr, gyda chyfradd is yn cael ei chymhwyso i arosiadau mewn hosteli a safleoedd ar gaeau gwersylla. Mae'r gyfradd ar gyfer ardoll ymwelwyr yn cael ei phennu yn y Bil ar 75c y pen y noson i bobl sy'n aros mewn hosteli ac ar gaeau gwersylla, a £1.25 y pen y noson am aros ym mhob math arall o lety i ymwelwyr.

Nawr, rydym ni wedi cadw'r gyfradd yn isel o'i chymharu â llawer o'r ardollau sy'n bodoli dramor, ac mae eithriadau a rhyddhad cyfyngedig gennym ni ar waith i leihau cymhlethdod. Am mai ardoll newydd yw hon, rydym ni'n awyddus i fod â chysondeb o ran y dull o'i gweithredu hi ar draws ardaloedd yr awdurdodau lleol a dyna pam rydym ni wedi pennu'r cyfraddau cychwynnol ar wyneb y Bil.

Dirprwy Lywydd, er gwaethaf yr holl waith a gafodd ei wneud eisoes ar gyfer cyflwyno'r Bil hwn ger bron y Senedd, rydym ni'n amcangyfrif mai 2027 fydd yr adeg gynharaf y gellid cyflwyno ardoll ymwelwyr mewn unrhyw fan yng Nghymru. Yn ystod y cyfnod nesaf, fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda busnesau, awdurdodau lleol ac Awdurdod Cyllid Cymru i sicrhau y bydd yr ardoll ymwelwyr yn llwyddiant. Bydd datblygu canllawiau ar y cyd yn gam cychwynnol yn y broses hon, ac fe drafodwyd hynny yng nghyfarfod y fforwm economi ymwelwyr y bore yma, yr oeddwn i'n falch iawn o fod yn bresennol ynddo.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, wrth i ni ddatblygu'r Bil hwn drwy'r broses ymgynghori ac ymgysylltu parhaus ac sy'n seiliedig ar y gwaith a arweiniwyd gan Awdurdod Cyllid Cymru, fe gawsom ni adborth cyson ynglŷn â'r angen i ni fod â chofrestru ar waith i gefnogi'r ardoll. Y cyngor hwnnw sydd wedi llywio ein penderfyniad ni i gynnwys cofrestr genedlaethol o bawb sy'n darparu llety i ymwelwyr yng Nghymru yn rhan o'r Bil hwn. Fe fydd y gofrestr yn darparu data gwerthfawr i lywio datblygiad twristiaeth yn y dyfodol ac yn cynorthwyo wrth gasglu'r ardoll yn effeithlon lle bydd honno'n weithredol. Fe fydd yn rhoi sail i'r cynllun trwyddedu statudol y mae'r Llywodraeth hon yn parhau i fod yn ymrwymedig iddo. Rydym ni wedi datblygu rhai darpariaethau cofrestru a gorfodi ychwanegol hefyd yr wyf i'n bwriadu eu rhannu nhw mewn pwyllgorau heddiw ar gyfer cefnogi gwaith craffu Cyfnod 1.

Llywydd, wrth i ni barhau â hyrwyddo ein gwlad ni fel cyrchfan benigamp ar gyfer ymwelwyr a'r manteision sy'n dod yn sgil hynny, mae'n rhaid i ni i gyd gymryd cyfrifoldeb cyffredin am reoli'r effaith sydd gan dwristiaeth yn ar ein hamgylchedd a'n cymunedau lleol. Rwy'n gobeithio y bydd Aelodau'r Senedd yn caniatáu i'r Bil fwrw ymlaen i broses graffu Cyfnod 1 am ei fod yn fuddsoddiad yn nyfodol Cymru, a fydd yn ein helpu i feithrin diwydiant twristiaeth cynaliadwy a ffyniannus a chefnogi'r cymunedau hynny sy'n dibynnu arno.

15:05

Thank you, Cabinet Secretary, for the statement. Dirprwy Lywydd, I make it clear from the outset that I and my group are opposed to this Labour-Plaid tax hike on our tourism sector.

As we all know, one in seven jobs in Wales relies on the tourism industry, which equates to almost 200,000 people. Clearly, this is an industry that must be supported, not exploited. The Welsh Government states that a visitor levy would follow the Welsh Government's tax principles, one of which is to deliver Welsh Government policy objectives, in particular supporting jobs and growth. But Labour's policy for supporting the economy by levying new taxes simply doesn't make sense. The Government's own impact assessment highlights the fact that, in the worst case scenario, there could be as much as a £60 million impact on the industry, resulting in, possibly, losses of hundreds of jobs.

Now, we know that businesses in the hospitality sector already have huge challenges, having to pay double the business rates that their counterparts in England do; they shouldn't be further disadvantaged by things like this. Now, the legislation will create another significant pressure on an incredibly hard-pressed sector. And I know this tax wouldn't arrive until as early as 2027, but it is seen as another drag anchor around the industry's neck. The tourism sector is still trying to build back from the pandemic, and, to make matters worse, they are faced with UK Labour hiking up their costs through the increase to employer's national insurance and its reduced threshold. If councils introduce this to the industry, it will bring the additional bureaucracy and administration of the tax, and that's another hidden cost and burden to those businesses.

And let's just look at the costs for the Welsh visitor. We talk about it being minimal, but £1.25 a night—so, a family with four children staying in a guesthouse would have to budget for around another £52.50. If that business is VAT registered, it will have to charge the VAT on top and that will take it to over £60 for a seven-day break. I would suggest that that could stop visitors deciding to holiday in Wales. Also, we see councils can lift the charge—councils can lift the charge—of the proposed levels to new proposed levels with Government permission. So, the cost to visitors in some parts of Wales could be greater. And as you know, Cabinet Secretary, Welsh councils are facing £560 million-worth of pressures—we heard from leaders earlier today—due to, mainly, the inadequate past settlements. Now, I'm concerned that there is a real risk that the tax will end up helping other struggling services and divert the money away from its intended purpose.

There have to be real safeguards put in place—and I know you've outlined some of those—to make sure that tourism uplifts aren't top-sliced from existing budgets for economic development, for instance. The Welsh Government cites examples of tourism levy across the world, but several of these have been implemented to deter tourists. You quoted Edinburgh, and I believe Edinburgh is considering bringing one in to deter tourists. So, with this in mind, what assessment has been made of the impact that this proposed tax will have on the number of overnight tourists coming to visit Wales? And yes, other countries use visitor levies as a way of raising revenue and for that money to be exclusively used to improve facilities for tourism use, and there is some merit in that argument. However, comparing other countries with ours could be like comparing apples with pears; other countries have different taxation regimes for their citizens, they may not have the equivalent of our council tax, for instance, which already makes provision for economic development and as such ought to be considering tourism. In Wales, it could be argued that this levy would be levelling double taxation on hard-pressed families for something that already should have been provided for.

I note that the legislation will compel the publication of reports on how much revenue has been collected and where it should be spent, and I do welcome this, at least. Cabinet Secretary, can you indicate how much the administration of this levy will cost and who will ultimately foot the bill?

Dirprwy Lywydd, I look forward to scrutinising this legislation in more detail going forward. It has to be said, though, that many people across Wales will feel that this is ill-thought-out and unnecessary legislation. I hope that my colleagues across the Chamber will see sense as this Bill makes its way forward.

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd Cabinet, am y datganiad. Dirprwy Lywydd, rwyf am ei gwneud yn eglur o'r cychwyn cyntaf fy mod i a fy ngrŵp yn gwrthwynebu'r codiad treth hwn gan Bleidiau Llafur a Chymru ar ein sector twristiaeth.

Fel gwyddom i gyd, mae un o bob saith swydd yng Nghymru yn dibynnu ar y diwydiant twristiaeth, sydd bron yn 200,000 o bobl. Yn amlwg, mae hwn yn ddiwydiant y mae'n rhaid ei gefnogi, nid manteisio arno. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y byddai ardoll ymwelwyr yn dilyn egwyddorion Llywodraeth Cymru o ran trethiant, ac un o'r rhain yw cyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru, yn enwedig cefnogi swyddi a thwf. Ond nid yw polisi Llafur ar gyfer cefnogi'r economi drwy godi trethi newydd ddim yn gwneud unrhyw synnwyr. Mae asesiad effaith gan y Llywodraeth ei hun yn tynnu sylw at y ffaith, yn y sefyllfa waethaf bosibl, y gallai hynny gael effaith o bron i £60 miliwn ar y diwydiant a fyddai'n arwain at golli cannoedd o swyddi o bosibl.

Nawr, fe wyddom ni fod gan fusnesau yn y sector lletygarwch heriau enfawr eisoes, sef gorfod talu dwbl y cyfraddau busnes y mae eu cymheiriaid yn Lloegr yn ei wneud; ni ddylen nhw gael eu rhoi dan anfantais ymhellach oherwydd pethau fel hyn. Nawr, fe fydd y ddeddfwriaeth hon yn rhoi pwysau sylweddol fel arall ar sector sy'n ei chael hi'n hynod o anodd. Ac rwy'n gwybod na fyddai'r dreth hon yn dod i rym tan 2027 yn y man cyntaf, ond mae hon i'w gweld fel maen melin arall am wddf y diwydiant. Mae'r sector twristiaeth yn dal i geisio ail-adeiladu ar ôl y pandemig, ac i wneud pethau yn waeth, maen nhw'n wynebu Plaid Lafur yn y DU sy'n cynyddu eu costau nhw trwy'r cynnydd mewn yswiriant gwladol i gyflogwyr a'r trothwy is sydd i hwnnw. Os bydd y cynghorau yn cyflwyno hyn i'r diwydiant, fe ddaw â biwrocratiaeth a gweinyddu'r dreth ar ben hynny, sy'n golygu cost a baich cudd arall ar y busnesau hynny.

A gadewch i ni edrych ar y costau i rai sy'n ymweld â Chymru. Rydym ni'n dweud mai peth bychan iawn yw hwn, ond £1.25 y noson—felly, fe fyddai hi'n rhaid i deulu gyda phedwar o blant sy'n aros mewn gwesty ganfod tua £52.50 arall. Os yw'r busnes hwnnw wedi cael ei gofrestru ar gyfer TAW, fe fydd yn rhaid i hwnnw godi'r TAW ar ben hynny ac fe fyddai hynny'n mynd â'r cyfanswm hyd at dros £60 am wyliau o saith diwrnod. Fe fyddwn i'n awgrymu y gallai hynny atal ymwelwyr rhag penderfynu dod i Gymru am wyliau. Hefyd, rydym ni'n gweld y gall y cynghorau gynyddu'r tâl—gall cynghorau gynyddu'r tâl—o'r lefelau arfaethedig hyd at lefelau arfaethedig newydd gyda chaniatâd y Llywodraeth. Felly, fe allai'r gost i ymwelwyr fod yn fwy eto mewn rhai ardaloedd o Gymru. Ac fel gwyddoch chi, Ysgrifennydd Cabinet, mae cynghorau Cymru yn wynebu pwysau ariannol o £560 miliwn—fel clywsom ni oddi wrth arweinwyr yn gynharach heddiw—oherwydd setliadau annigonol y gorffennol yn fwyaf arbennig. Nawr, rwy'n pryderu bod perygl gwirioneddol y bydd y dreth yn cael ei defnyddio i helpu gwasanaethau eraill sy'n ei chael hi'n anodd ac yn dargyfeirio'r arian oddi wrth y pwrpas a fwriadwyd.

Mae'n rhaid rhoi mesurau diogelu gwirioneddol ar waith—ac rwy'n gwybod eich bod chi wedi amlinellu rhai o'r rhain—i sicrhau nad yw cynnydd mewn incwm o dwristiaeth yn cael ei ddefnyddio mewn cyllidebau sydd eisoes yn bodoli ar gyfer datblygiad economaidd, er enghraifft. Mae Llywodraeth Cymru yn dyfynnu enghreifftiau o ardollau twristiaeth ledled y byd, ond mae nifer o'r rhain wedi cael eu rhoi ar waith er mwyn cyfyngu ar dwristiaeth. Fe wnaethoch chi roi enghraifft Caeredin, ac rwy'n credu bod Caeredin yn ystyried cyflwyno ardoll er mwyn cyfyngu ar niferoedd y twristiaid. Felly, gyda hyn mewn golwg, pa asesiad a gafodd ei wneud o'r effaith y bydd y dreth arfaethedig hon yn ei chael ar niferoedd y twristiaid sy'n dod i ymweld â Chymru ac yn aros dros nos? Ac ydynt, mae gwledydd eraill yn defnyddio ardollau ymwelwyr fel dull o godi refeniw a bod yr arian hwnnw yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwella cyfleusterau at ddibenion twristiaeth, ac mae yna rywfaint o werth yn y ddadl honno. Eto i gyd, fe allai cymharu gwledydd eraill â'n gwlad ni ein hunain ni fod fel cymharu pethau anghymharus; mae yna wahanol gyfundrefnau mewn gwledydd eraill o ran trethiant dinasyddion, efallai nad oes unrhyw beth yno sy'n cyfateb i'n treth gyngor ni, er enghraifft, sy'n gwneud darpariaeth eisoes ar gyfer datblygiad economaidd ac felly fe ddylen nhw fod yn ystyried twristiaeth. Yng Nghymru, fe ellid dadlau y byddai'r ardoll hon yn codi trethi dyblyg ar deuluoedd sydd dan bwysau oherwydd rhywbeth y dylid bod wedi darparu ar ei gyfer eisoes.

Rwy'n nodi y bydd y ddeddfwriaeth yn cymell cyhoeddi adroddiadau am swm y refeniw a gesglir ac ym mha le y dylid ei wario, ac rwyf i'n croesawu hyn, o leiaf. Ysgrifennydd Cabinet, a wnewch chi nodi faint y bydd gweinyddu'r ardoll hon yn ei gostio a phwy fydd yn talu'r bil hwnnw yn y pen draw?

Dirprwy Lywydd, rwy'n edrych ymlaen at graffu ar y ddeddfwriaeth hon â rhagor o fanylder yn y dyfodol. Mae'n rhaid dweud, serch hynny, y bydd llawer o bobl ledled Cymru yn teimlo mai deddfwriaeth anystyriol a di-alw-amdani yw hon. Rwy'n gobeithio y bydd fy nghyd-Aelodau ar draws y Siambr yn dod at eu synhwyrau wrth i'r Bil hwn wneud ei ffordd drwodd.

15:10

Well, Dirprwy Lywydd, I do regret that attempt to catastrophise what is a modest measure that simply offers local authorities the opportunity to introduce a visitor levy where they choose to do so. I've sat through many lectures in this Chamber from the benches opposite about the need for us to devolve more powers and decision making locally, often portrayed here as an essential Conservative principle. Yet, offered an opportunity to do exactly that, we find that their reactionary tendencies very quickly overwhelm their principles. The Bill—

Wel, Dirprwy Lywydd, rwy'n gresynu at yr ymgais honno i wneud môr a mynydd o fesur cymedrol fel hwn sy'n gwneud dim ond estyn cyfle i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr pan fyddan nhw'n dewis gwneud felly. Rwyf i wedi eistedd trwy ddarlithoedd lawer yn y Siambr hon o'r meinciau gyferbyn am yr angen i ni ddatganoli mwy o bwerau a gwneud penderfyniadau yn lleol, ac mae hynny'n aml yn cael ei bortreadu yn y fan hon fel egwyddor hanfodol Geidwadol. Ac eto, pan roddir cyfle iddyn nhw wneud hynny'n union, rydym ni'n gweld eu tueddiadau adweithiol nhw'n gorlethu eu hegwyddorion nhw'n gyflym iawn. Mae'r Bil—

Can we avoid conversations across the Chamber, please, whilst we listen to the response from the Cabinet Secretary?

A gawn ni osgoi cynnal sgyrsiau ar draws y Siambr, os gwelwch chi'n dda, tra byddwn ni'n gwrando ar ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet?

The Bill does exactly what I set out in my introduction, Dirprwy Lywydd. It offers local authorities a permissive power that they can draw down when they make an assessment that this would be the right thing to do in their local circumstances.

I was surprised to hear Peter Fox’s characterisation of local authorities as organisations that clearly aren’t to be trusted. As a former leader of a local authority, that would not have been, I think, his viewpoint when he was a member of a local authority in Wales, and it’s not my view either.

I think that the Bill strikes a proper balance. It provides safeguards on the face of the Bill. Local authorities will have to follow the procedures that I set out. They will have to consult their local populations and businesses. If they decide to introduce a levy, they will have to keep the money raised in a separate account for all to see. They will have to report annually on how those funds are used for purposes that are set out in the face of the Bill. The Bill is clear: the funds used can only be used for purposes of destination management and improvement. I think that that provides local authorities with the right level of discretion without the risk of those funds being siphoned away for nothing to do with the costs associated with tourism and its promotion in the future.

The Member said that many people across Wales will not want to support the Bill. But the irony of the Conservative Party position on the floor of this Senedd is that they believe that local people should bear all of the costs associated with tourism, and that visitors should bear none of them. And believe me, that is not a popular position, particularly among those populations who see the greatest impact of tourism in those communities.

They believe, and we believe, that it is simply fair that people who visit an area and who use the facilities of that area, and who expect that those facilities will be kept in good order—that’s what draws them to those places in the first place—make some small, modest contribution to ensuring that those facilities can be there for the future. Not only is it a right cause, Dirprwy Lywydd, it’s a popular cause, particularly amongst those populations who, otherwise, are left to pick up all of those costs on behalf not just of residents, but everyone who visits as well.

Mae'r Bil yn gwneud yr union beth a amlinellais yn fy nghyflwyniad, Dirprwy Lywydd. Mae'n cynnig pŵer caniataol i'r awdurdodau lleol y gallen nhw dynnu arno wrth iddyn nhw wneud asesiad i ganfod ai dyma'r peth cymwys i'w wneud yn eu hamgylchiadau lleol nhw.

Roedd hi'n syndod mawr i mi glywed Peter Fox yn portreadu'r awdurdodau lleol fel sefydliadau y mae hi'n amlwg na ellir ymddiried ynddyn nhw. Yn gyn-arweinydd mewn awdurdod lleol, nid honno fyddai ei farn yntau, rwy'n amau, pan oedd ef yn aelod o awdurdod lleol yng Nghymru, ac nid honno mo fy marn innau chwaith.

Rwy'n credu bod y Bil yn taro'r cydbwysedd cywir. Mae'n rhoi mesurau diogelu ar wyneb y Bil. Fe fydd yn rhaid i'r awdurdodau lleol ddilyn y gweithdrefnau a nodais i. Fe fydd yn rhaid iddyn nhw ymgynghori â'r bobl sy'n byw yno a'r busnesau lleol. Pe bydden nhw'n penderfynu cyflwyno ardoll, fe fyddai'n rhaid iddyn nhw gadw'r arian sy'n cael ei godi mewn cyfrif ar wahân er mwyn i bawb ei weld. Fe fydd yn rhaid iddyn nhw adrodd yn flynyddol ar sut mae'r cronfeydd hynny'n cael eu defnyddio at ddibenion sy'n cael eu nodi yn wyneb y Bil. Mae'r Bil yn eglur iawn: at ddibenion rheoli a gwella cyrchfannau yn unig y gellir defnyddio'r arian hwnnw. Rwy'n credu bod hynny'n rhoi'r gyfradd briodol o ddisgresiwn i'r awdurdodau lleol heb berygl o grynhoi hwnnw ar gyfer pethau nad ydyn nhw'n ymwneud dim â'r costau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth a hyrwyddo hynny i'r dyfodol.

Roedd yr Aelod yn dweud na fydd llawer o bobl ledled Cymru yn awyddus i gefnogi'r Bil. Ond eironi safbwynt y Blaid Geidwadol ar lawr y Senedd hon yw eu bod nhw'n credu y dylai pobl leol ysgwyddo'r holl gostau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth, ac na ddylai'r ymwelwyr dalu am ddim ohonyn nhw. A chredwch chi fi, nid yw hwnnw'n safbwynt poblogaidd, yn enwedig ymhlith y poblogaethau hynny sy'n gweld yr effaith fwyaf oherwydd twristiaeth yn eu cymunedau nhw.

Maen nhw o'r farn, ac rydym ninnau o'r farn, ei bod hi'n ddigon teg bod pobl sy'n ymweld ag ardal ac sy'n defnyddio cyfleusterau'r ardal honno, ac sy'n disgwyl y bydd y cyfleusterau hynny'n cael eu cadw mewn cyflwr da—dyna sy'n eu tynnu nhw i'r mannau hynny yn y lle cyntaf—yn gwneud cyfraniad bychan, rhesymol i sicrhau bod y cyfleusterau hynny'n gallu bod yno i'r dyfodol. Nid yn unig bod hwnnw'n achos cyfiawn, Dirprwy Lywydd, ond mae'n achos poblogaidd, yn enwedig ymhlith y poblogaethau hynny sydd, fel arall, yn cael eu gadael i dalu'r holl gostau hynny ar ran nid yn unig y preswylwyr yno, ond ar ran pawb sy'n ymweld â'r lle hefyd.

I welcome the introduction of this Bill in the Senedd because now we actually have something to discuss. I have actually been really concerned about the discourse around this levy, notwithstanding some of the genuine concerns that have been raised, which I'll come to shortly. If you had listened to what some have said in the run-up to this Bill—we have heard some of that here today—you'd swear that, in order to visit Wales, you'd have to remortgage your house because it would be so expensive. That simply isn't the case, is it?

On the cost to visitors, I think that 75p or £1.25 a night is reasonable. When you're already paying hundreds, sometimes thousands, to visit Wales, in accommodation costs and so on, an additional £1.25 a night won't factor into the decision of whether or not you'll come to Wales. I know that much has been said around international comparisons by both sides. We've heard reference to where the levy is being used to deter visitors. Well, let's actually look at the example of Venice. There, the levy was being used to influence people not to come to Venice. That was at €5 a day for day-trippers only, with the levy on overnight stays remaining. Well, the reality is it failed. They didn't meet that policy objective of reducing visitors to Venice. Instead, the first 11 days of the pilot period saw nearly 750,000 visitors registered; on the same days in 2023, there were around 680,000 entries. So, the numbers went up regardless of the levy being in place. This indicates that, if someone wants to go somewhere, they'll do it regardless of whether there's a visitor levy or not.

Now, in terms of some of those concerns that have been raised, we heard mention in the Cabinet Secretary's statement about ensuring that the funds raised through the levy find their way to actually supporting the sector. Transparency, I think, is going to be key in this process, and I'd genuinely be interested to understand how the Cabinet Secretary will enforce some of those things that he has set out, in terms of ensuring that money gets to the sector, to support it. How, as well, will he be bringing those businesses with concerns along with him on this legislation journey?

I think that an important point that Peter did raise around VAT was very pertinent. In countries where the visitor levy is already in place, VAT is significantly lower. So, I'd be interested to understand if the Government has also looked at other ways in which it could support the tourism sector. I've been an advocate for VAT to be lowered for hospitality in particular, but it would be interesting to understand what work the Government has done in that field.

If I could turn to the register of visitor accommodation. Could you give further detail on what the definition of visitor accommodation will be that would then qualify an accommodation to be registered? What happens, then, when an accommodation isn't registered? And finally, will the register be public and shared with local authorities? As I said earlier, I welcomed the introduction of this Bill, but now is the time to hammer out some of those details.

Rwy'n croesawu cyflwyniad y Bil hwn yn y Senedd oherwydd fe fydd gennym ni rywbeth gwirioneddol i'w drafod nawr. Rwyf i wedi bod yn bryderus iawn ynglŷn â'r drafodaeth am yr ardoll hon, er gwaethaf rhai o'r pryderon gwirioneddol a godwyd, ac fe fyddaf i'n dod atyn nhw cyn bo hir. Pe byddech chi wedi gwrando ar yr hyn y mae rhai wedi ei ddweud yn y cyfnod cyn y Bil hwn—fe glywsom ni rywfaint o hynny yma heddiw—fe fyddech chi wedi tyngu y bydd hi'n rhaid i chi, er mwyn ymweld â Chymru, roi morgais arall ar eich tŷ oherwydd fe fydd hynny mor gostus. Ond nid dyna'r achos o gwbl, nage?

O ran y gost i ymwelwyr, rwy'n credu bod 75c neu £1.25 y noson yn rhesymol iawn. Pan fyddwch chi'n talu cannoedd, miloedd o bunnau weithiau, i ymweld â Chymru, mewn costau llety ac yn y blaen, ni fydd £1.25 ychwanegol y noson o unrhyw ddylanwad ar y penderfyniad i ddod i Gymru neu beidio. Fe wn i fod llawer wedi cael ei ddweud ynghylch cymariaethau rhyngwladol gan y ddwy ochr. Fe glywsom ni sôn am y mannau hynny lle mae ardoll yn cael ei defnyddio i atal ymwelwyr. Wel, gadewch i ni edrych ar enghraifft Fenis. Yno, roedd yr ardoll yn cael ei defnyddio i berswadio pobl i beidio â dod i Fenis. Cyfradd o €5 y dydd oedd honno ar gyfer teithwyr dydd yn unig, gyda'r ardoll ar aros dros nos yn parhau. Y gwir amdani yw ei fod wedi methu. 'Wnaethon nhw ddim cyflawni'r amcan polisi hwnnw o leihau niferoedd ymwelwyr i Fenis. Yn hytrach na hynny, yn ystod 11 diwrnod cyntaf cyfnod y cynllun treialu fe gofnodwyd bron i 750,000 o ymwelwyr a oedd wedi dod; ar yr un dyddiadau yn 2023, fe ddaeth tua 680,000 i mewn. Felly, fe aeth y niferoedd yn fwy er gwaethaf y ffaith bod ardoll ar waith. Mae hynny'n golygu, os bydd rhywun yn dymuno mynd i unrhyw le, fe fydd yn gwneud felly pe byddai ardoll ymwelwyr ar waith ai peidio.

Nawr, o ran rhai o'r pryderon hynny a gafodd eu codi, fe glywsom ni sôn yn natganiad yr Ysgrifennydd Cabinet am sicrhau bod yr arian sy'n cael ei godi drwy'r ardoll yn mynd i gefnogi'r sector. Bydd tryloywder, rwy'n credu, yn allweddol yn y broses honno, ac fe fyddwn i'n wirioneddol falch o gael deall sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet am orfodi rhai o'r pethau hynny a nododd ef, o ran sicrhau bod arian yn cyrraedd y sector, i roi cefnogaeth i hwnnw. Sut, hefyd, y mae ef am ddod â'r busnesau hynny sydd â phryderon gydag ef ar y daith ddeddfwriaethol hon?

Rwy'n credu bod pwynt pwysig a gododd Peter ynghylch TAW yn berthnasol iawn. Mewn gwledydd lle mae'r ardoll ymwelwyr ar waith eisoes, mae TAW ar gyfradd sylweddol is. Felly, fe fyddai hi'n dda iawn gennyf i ddeall a yw'r Llywodraeth wedi ystyried ffyrdd eraill hefyd y gallai hi gefnogi'r sector twristiaeth. Rwyf i wedi eiriol dros ostwng TAW ar gyfer lletygarwch yn benodol, ond fe fyddai hi'n ddiddorol i ni gael deall pa waith a wnaeth y Llywodraeth yn y maes hwnnw.

Os caf i droi at y gofrestr llety ymwelwyr. A wnewch chi roi rhagor o fanylion am yr hyn a fydd yn ddiffiniad o lety i ymwelwyr ac a fyddai wedyn yn gwneud llety yn gymwys i'w gofrestru? Beth sy'n digwydd, felly, pan nad yw llety wedi cael ei gofrestru? Ac yn olaf, a fydd y gofrestr yn un gyhoeddus ac yn cael ei rhannu â'r awdurdodau lleol? Fel dywedais i'n gynharach, roeddwn i'n croesawu cyflwyno'r Bil hwn, ond nawr yw'r amser i saernïo rhai o'r manylion hynny.

15:15

Dirprwy Lywydd, I thank Luke Fletcher for those questions. He's right that the cost to visitors in this Bill is at the modest end of the spectrum, and deliberately at the modest end. Peter Fox referred to tax principles here in Wales. Our tax principles are that any form of levy of this sort should be clear, it should be stable and it should be simple. It should be easy to comply with. And that's why we've set the level of the visitor levy as we have.

Dirprwy Lywydd, when Luke Fletcher mentioned Venice, I was reminded that I once had an opportunity to meet the finance Minister in the Dutch Government. He told me that he had previously been the mayor of Amsterdam, and that the single best decision he had ever made was to introduce a visitor levy to that city, and that he faced all the sorts of criticisms that we face here today, and that every one of those criticisms had turned out to be false. And I believe the same will be true here in Wales.

The enforcement provisions of the Bill are also designed to be simple, and they're also designed to be based on a high-trust relationship with our local authorities. I simply don't accept the characterisation of local authorities as organisations that are always on the lookout for ways to get around the law. The law will be clear, it will tell them the things for which they are able to use funds raised through the visitor levy, and there will be a reporting mechanism through which they can be held to account. That will, I think, ensure that they do just as we would expect. And, in the end, they face their electors, as we do here. They have democratic legitimacy of their own, and this Bill supports that by offering them a new opportunity that otherwise would not be available to them.

We will continue to work with tourism businesses. As I said, I was pleased to meet with the forum today. Businesses recognise that, if a levy is to happen, then their efforts are best directed towards making the levy work for them. And there have been many, many constructive conversations with the industry that have helped us to get the Bill to the position that is in today. 

As to the register, Dirprwy Lywydd, it will be public, it will be shared. The details are to be found in Part 3 of the Bill—that is the heart of the Bill. There are six separate Chapters involved in Part 3 of the Bill. They set out many of the details that Luke Fletcher has asked me about this afternoon.

Dirprwy Lywydd, rwy'n diolch i Luke Fletcher am y cwestiynau yna. Mae ef yn gywir o ran bod y gost i ymwelwyr yn y Bil hwn ar ben cymedrol y sbectrwm, ac yn fwriadol felly. Fe gyfeiriodd Peter Fox at yr egwyddorion o ran trethiant yma yng Nghymru. Ein hegwyddorion ni o ran trethiant yw y dylai unrhyw fath o ardoll o'r math hwn fod yn eglur, fe ddylai fod yn sefydlog ac fe ddylai fod yn syml. Fe ddylai fod yn rhwydd cydymffurfio â hi. A dyna pam rydym ni wedi pennu cyfradd yr ardoll ymwelwyr fel gwnaethom ni.

Dirprwy Lywydd, pan grybwyllodd Luke Fletcher Fenis, fe ddaeth i'm cof fy mod i wedi cael cyfle i gwrdd un tro â'r Gweinidog cyllid yn Llywodraeth yr Iseldiroedd. Fe ddywedodd ef wrthyf i iddo fod yn faer Amsterdam ar un adeg, ac mai'r penderfyniad gorau a wnaeth erioed oedd cyflwyno ardoll ymwelwyr yn y ddinas honno, a'i fod wedi wynebu'r holl fathau o feirniadaethau sy'n ein hwynebu ninnau yn y fan hon heddiw, ac yn y pen draw fe ddangoswyd bod pob un o'r beirniadaethau hynny'n anghywir. Ac rwy'n credu y bydd yr un peth yn wir yma yng Nghymru.

Mae darpariaethau'r Bil o ran gorfodi wedi eu cynllunio i fod yn syml hefyd, ac fe gawson nhw eu cynllunio hefyd i fod yn seiliedig ar berthynas o ymddiriedaeth gadarn yn ein hawdurdodau lleol ni hefyd. Yn syml, nid wyf i'n derbyn y portread o'r awdurdodau lleol fel sefydliadau sy'n chwilio am ffyrdd o anwybyddu'r gyfraith trwy'r amser. Fe fydd y gyfraith yn eglur, fe fydd hi'n dweud wrthyn nhw ar gyfer pa bethau y gallan nhw ddefnyddio'r arian sy'n cael ei godi drwy'r ardoll ymwelwyr, ac fe fydd yna fecanwaith ar gyfer adrodd y gellir ei ddefnyddio i'w dwyn nhw i gyfrif. Fe fydd hynny, yn fy marn i, yn sicrhau eu bod nhw'n gwneud yn union fel y byddem ni'n ei ddisgwyl. Ac, yn y pen draw, maen nhw'n wynebu eu hetholwyr, fel gwnawn ninnau yn y fan hon. Mae ganddyn nhw gyfreithlondeb democrataidd o'u rhan eu hunain, ac mae'r Bil hwn yn cefnogi hynny drwy estyn cyfle newydd iddyn nhw na fyddai ar gael iddyn nhw fel arall.

Fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda busnesau twristiaeth. Fel dywedais i, roeddwn i'n falch o gyfarfod â'r fforwm heddiw. Mae busnesau yn cydnabod, pe bydd ardoll yn digwydd, mai'r ffordd orau iddyn nhw gyfeirio eu hymdrechion nhw yw ceisio gwneud i'r ardoll weithio iddyn nhw. Ac mae llawer o sgyrsiau adeiladol wedi bod gyda'r diwydiant sydd wedi ein helpu ni i ddwyn y Bil i'r sefyllfa y mae ynddi heddiw.

O ran y gofrestr, Dirprwy Lywydd, fe fydd hi'n gyhoeddus, fe gaiff ei rhannu. Mae'r manylion i'w gweld yn Rhan 3 y Bil—honno yw calon y Bil. Mae chwe Phennod ar wahân i'w cael yn Rhan 3 y Bil. Maen nhw'n nodi llawer o'r manylion y mae Luke Fletcher wedi gofyn i mi yn eu cylch y prynhawn yma.

15:20

A visitor levy is common across Europe. There are more than 60 destinations around the world where this type of tax is already in place. These vary from a nationwide tax in Iceland to various towns across the US. Some have been in place for a long time. France did it first in 1910, but most were introduced during the last few decades. On holiday in Italy, Greece and Spain, I have paid the tourist levy. The argument against it is that it would increase the cost of rooms and reduce visitor numbers. That does not appear to have happened in the countries I have just named.

As someone who stays in Gwynedd regularly, prices vary significantly. Staying in a chain hotel in Caernarfon, I have paid under £50 and over £100 per night for exactly the same room. Tourists add costs to the local council that are currently paid by the local residents. Why would a visitor levy affect Wales when it does not affect Spain, Greece and France, the three most visited destinations in Europe?

Mae ardoll ymwelwyr yn rhywbeth cyffredin ledled Ewrop. Fe geir rhagor na 60 o gyrchfannau ledled y byd erbyn hyn lle mae treth o'r fath yn weithredol. Mae'r rhain yn amrywio o fod yn dreth genedlaethol yng Ngwlad yr Iâ hyd at dreth mewn trefi amrywiol ledled yr Unol Daleithiau. Mae rhai wedi bod ar waith ers cryn amser. Gwnaeth Ffrainc hynny gyntaf ym 1910, ond fe gafodd y rhan fwyaf ohonyn nhw eu cyflwyno yn ystod y degawdau diwethaf. Rwyf i wedi talu ardoll ymwelwyr pan fues i ar wyliau yn yr Eidal, yng Ngwlad Groeg ac yn Sbaen. Y ddadl yn ei herbyn yw y byddai hi'n cynyddu cost ystafelloedd ac yn lleihau nifer yr ymwelwyr. Nid yw hi'n ymddangos bod hynny wedi digwydd yn y gwledydd yr wyf i newydd eu henwi nhw.

Yn rhywun sy'n aros yng Ngwynedd yn rheolaidd, mae'r prisiau yn amrywio llawer iawn. Pan oeddwn i'n aros mewn gwesty cadwyn yng Nghaernarfon, roeddwn yn talu llai na £50 a thros £100 y noson am yr un ystafell yn union. Mae twristiaid yn ychwanegu costau i'r cyngor lleol sy'n cael eu talu ar hyn o bryd gan y trigolion lleol. Pam ddylai ardoll ymwelwyr effeithio ar Gymru pan nad yw honno'n effeithio ar Sbaen, Gwlad Groeg na Ffrainc, y tair cyrchfan fwyaf poblogaidd i ymwelwyr yn Ewrop?

I agree entirely with the points that Mike Hedges makes, Llywydd, and it’s not just that I agree with him, but the research published as part of the preparation of the Bill, independent research by Bangor University that looks at the experience of visitor levies introduced elsewhere, bears out exactly what Mike Hedges says. There is no evidence that they act as a deterrent to the tourism industry, and there are countless examples of where a visitor levy produces funds that are reinvested in making sure that those places go on being attractive to visitors in the future. And that is what this Bill is designed to do. It is designed to allow local authorities to make sure that tourism, which is very important in those localities, goes on being sustainable on the one hand and successful on the other into the future. And I think the points that Mike Hedges has made this afternoon, pointing to evidence elsewhere, shows how it can be made to be a success.

Rwy'n cytuno yn llwyr â'r pwyntiau a wnaeth Mike Hedges, Llywydd, ac nid yn unig fy mod i'n cytuno ag ef, ond mae'r ymchwil a gyhoeddwyd yn rhan o baratoi'r Bil, ymchwil annibynnol gan Brifysgol Bangor sy'n ystyried y profiad a gafwyd mewn mannau eraill pan gyflwynwyd ardollau ymwelwyr, yn mynegi'r union beth a ddywedodd Mike Hedges. Nid oes unrhyw dystiolaeth eu bod nhw'n rhwystr i'r diwydiant twristiaeth, ac mae yna enghreifftiau di-ri o ardoll ymwelwyr yn cynhyrchu arian sy'n cael ei ailfuddsoddi i sicrhau bod y lleoedd hynny'n mynd ymlaen i fod yn ddeniadol i ymwelwyr yn y dyfodol. A dyna'r hyn y cynlluniwyd y Bil hwn i'w wneud. Fe'i cynlluniwyd i ganiatáu i awdurdodau lleol sicrhau y bydd twristiaeth, sy'n bwysig iawn yn yr ardaloedd hynny, yn dal i fod yn gynaliadwy i'r dyfodol ar y naill law ac yn llwyddiannus i'r dyfodol ar y llaw arall. Ac rwy'n credu bod y pwyntiau a wnaeth Mike Hedges y prynhawn yma, a oedd yn tynnu sylw at y dystiolaeth o fannau eraill, yn dangos sut y gellir gwneud hyn yn llwyddiannus.

First Minister—former First Minister, rather—when you first mooted the suggestion of a tourism levy, I was very angry, frankly, on behalf of the businesses in my own constituency that might be affected. And I'm afraid to say that I'm equally angry with this proposal today. One thing that we know is that visitors who come to places like Rhyl, Colwyn Bay, Llandudno, many of them are price-sensitive visitors. They are people who make a choice based on an extra £50 or £60. If someone comes on a holiday and it costs them an extra £84 for a fortnight for a family of four, that's quite a lot of money for those people who are just about able to go on holiday for that year, and people will choose to go to the coasts of the north-west of England rather than the north Wales coast, or they'll choose to go to the Lake district instead of Snowdonia. I'm very concerned about that.

I appreciate that you have taken some action, which will hopefully protect and reassure some people who holiday in my constituency. So, caravan owners, for example, are going to be exempt, which I appreciate. There are other areas where I think that you ought to look at exemptions. One of them is those places that people stay when they're on pilgrimages, very often informal accommodation in church halls. That at the moment doesn't appear to have been exempted, but I would appreciate if you could consider exempting those from these provisions. I think also we've talked a lot about the fact that these are—

Prif Weinidog—cyn-Brif Weinidog, yn hytrach—pan wnaethoch chi grybwyll yr awgrym o gael ardoll dwristiaeth am y tro cyntaf, roeddwn i'n ddig iawn, a dweud y gwir, ar ran y busnesau yn fy etholaeth y gallai honno effeithio arnyn nhw. Ac rwyf i'r un mor ddig oherwydd y cynnig hwn heddiw, rwy'n ofni. Un peth yr ydym ni'n ei wybod yw bod ymwelwyr sy'n dod i lefydd fel Y Rhyl, Bae Colwyn, a Llandudno, mae llawer ohonyn nhw'n ymwelwyr sy'n sensitif i brisiau. Maen nhw'n bobl sy'n gwneud dewisiadau ar sail rhyw £50 neu £60 ychwanegol. Os daw rhywun ar wyliau ac mae'n costio £84 ychwanegol iddyn nhw am bythefnos i deulu o bedwar, mae hynny'n dipyn o arian i'r bobl hynny sy'n ei chael hi'n galed mynd ar wyliau o gwbl y flwyddyn honno, ac fe fydd pobl yn dewis mynd i arfordiroedd gogledd-orllewin Lloegr yn hytrach nag arfordir gogledd Cymru, neu fe fyddan nhw'n dewis mynd i ardal y Llynnoedd yn lle Eryri. Rwy'n bryderus iawn ynglŷn â hynny.

Rwy'n falch eich bod chi wedi cymryd rhywfaint o gamau, a fydd, gobeithio, yn amddiffyn ac yn rhoi sicrwydd i rai a fydd yn mynd ar eu gwyliau yn fy etholaeth i. Felly, fe fydd perchnogion carafanau, er enghraifft, yn cael eu heithrio, ac rwy'n falch o hynny. Mae yna feysydd eraill yr wyf i o'r farn y dylech chi ystyried eu heithrio. Un ohonyn nhw yw'r safleoedd hynny y mae pobl yn aros ynddyn nhw ar bererindodau, llety anffurfiol yw hwnnw mewn neuaddau eglwys yn aml iawn. Nid yw hi'n ymddangos i mi fod hynny wedi cael ei eithrio ar hyn o bryd, ond fe fyddwn i'n falch iawn pe byddech chi'n ystyried eithrio darpariaethau fel hyn. Rwy'n credu hefyd ein bod ni wedi siarad llawer iawn am y ffaith fod y rhain—

You need to conclude, Darren, please.

Darren, mae angen i chi derfynu, os gwelwch yn dda.

I will. We've talked a lot about the fact that many of these levies are charged elsewhere in the world, but there's also a significant differential in VAT in most of those places. That isn't the case here in Wales, and I am concerned that if we're not careful, we will completely outprice Wales out of the holiday market. We know that visitor numbers were down last year, 14 per cent on 2019 in Wales, compared to just 4 per cent over the border in England. I think that's because of the messages, frankly, the anti-tourism messages that have been coming from this Government.

Fe wnaf i. Rydym ni wedi siarad llawer am y ffaith fod llawer o'r ardollau hyn yn cael eu codi mewn mannau eraill yn y byd, ond fe geir gwahaniaethau sylweddol hefyd o ran TAW yn y rhan fwyaf o'r mannau hynny. Nid yw hynny'n wir yma yng Nghymru, ac rwy'n pryderu, os nad ydym ni'n ofalus, y byddwn ni'n codi cymaint yng Nghymru fel y byddwn ni allan o'r farchnad wyliau yn gyfan gwbl. Fe wyddom ni fod nifer yr ymwelwyr wedi gostwng y llynedd, 14 y cant ers 2019 yng Nghymru, o gymharu â dim ond 4 y cant dros y ffin yn Lloegr. Rwy'n credu bod hynny wedi digwydd oherwydd y genadwri, a dweud y gwir, y genadwri wrth-dwristiaeth sydd wedi dod oddi wrth y Llywodraeth hon.

I'd just say to Darren Millar that there are many causes that we talk about on the floor of this Senedd where anger is a justified response, but a modest tourism levy is not one of them. Just in a very basic sense of proportion, the things that we talk about here that genuinely ought to be a source of anger, asking somebody to pay 75p a night to come and stay in Wales is not one of them. I'd much rather have a dialogue with him about sensible practical issues. I'm very happy to look at the point that he made about village halls. If we're going to make the tourism levy work, that's the conversation that's worth having. The other sorts of points he makes are so disproportionate to the modest measure in front of the Senedd that he ends up not being taken seriously when his other points are worth taking seriously.

Fe hoffwn i ddweud wrth Darren Millar fod yna lawer o achosion yr ydym ni'n siarad amdanyn nhw ar lawr y Senedd hon lle gall dicter fod yn ymateb cyfiawn, ond nid yw ardoll dwristiaeth resymol iawn yn un ohonyn nhw. I fod â synnwyr sylfaenol iawn o gymesuredd, ni ddylai'r pethau yr ydym ni'n siarad amdanyn nhw nawr fod yn destun dicter gwirioneddol, sef gofyn bod rhywun yn talu 75c y noson i ddod i aros yng Nghymru. Fe fyddai hi'n llawer gwell gen i gynnal trafodaeth ag ef am faterion ymarferol synhwyrol. Rwy'n hapus iawn i ystyried y pwynt a wnaeth ef am neuaddau pentref. Os ydym ni'n am wneud i'r ardoll dwristiaeth weithio, honno yw'r sgwrs sy'n werth ei chael. Mae'r mathau o bwyntiau a wnaeth ef fel arall mor anghymesur o ystyried pa mor gymedrol yw'r mesur ger bron y Senedd fel na fydd neb yn ei gymryd ef o ddifrif yn y pen draw tra bod ei bwyntiau eraill yn werth eu cymryd o ddifrif.

15:25

A gaf i groesawu'r datganiad hwn yn fawr iawn? Fel mae'n digwydd, pan oeddwn i'n Aelod dynodedig yn rhan o'r cytundeb cydweithio, fi oedd yn gyfrifol am y maes polisi hwn. Gallaf dystio i'r gwaith caled mae'r swyddogion wedi ei wneud i edrych yn fanwl iawn ar esiamplau ar draws y byd o arfer da. Maen nhw wedi edrych i weld beth sy'n gweithio, maen nhw wedi ymgynghori gyda'r sector, fel rŷch chi wedi'i ddweud, a gydag awdurdodau lleol, ac wedi cynnal arolygon barn. Rwy'n gwbl ffyddiog erbyn hyn fod y levy sy'n cael ei gynnig yn un teg a chytbwys iawn. Hynny yw, mae'r ymateb gan y Torïaid yn afresymol. Hynny yw, rŷn ni'n sôn am ddau berson yn aros un noson am bris paned o goffi i un person. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn gytbwys o ran sut ŷn ni'n ymateb. 

Ond y pwynt dwi eisiau ei wneud yw hyn: mae yna gost i awdurdodau lleol o ddelio ag effaith twristiaeth o ran glanhau'r strydoedd, glanhau'r sbwriel, gwella'r ffyrdd, gwella cyfleusterau cyhoeddus, llwybrau cyhoeddus ac yn y blaen. Nawr, dylai cyn-arweinydd cyngor fod yn deall beth yw'r gost hynny, felly rwy'n hapus iawn fod y gost yn cael ei rhannu, a dyna'r cynnig ger bron fan hyn. 

Un awgrym bach i gloi, os y caf i, Dirprwy Lywydd. A oes modd annog awdurdodau lleol i sicrhau bod llais y sector yn cael ei glywed pan fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud ynglŷn â sut mae gwario'r arian, er mwyn gwella'r profiad yna i dwristiaid?

May I welcome this statement warmly? As it happens, when I was a designated Member as part of the co-operation agreement, I was responsible for this policy area. I can bear witness to the hard work that the officials have done to look in very great detail at examples across the globe of good practice. They have looked to see what works, they've consulted with the sector, as you've set out, and with local authorities, and have conducted surveys. I am entirely confident now that the levy that's being proposed is fair and very proportionate. Now, the Tory response is irrational. That is, we are talking about two people staying one night for the price of a cup of coffee for one person. So, we do have to be balanced in terms of our response to this. 

But the point I wanted to make is this: there is a cost to local authorities for dealing with the impact of tourism in terms of cleaning the streets, clearing away rubbish, improving the roads, improving public facilities, public footpaths and so on. Now, a former council leader should understand those costs, so I am very happy that that cost is being shared, and that is the proposal before us here. 

One small suggestion to conclude, Dirprwy Lywydd, if I may. Would it be possible to encourage local authorities to ensure that the voice of the sector is heard when decisions are made as to how this money will be spent, in order to enhance that visitor experience? 

Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr i Cefin Campbell a diolch i Cefin am y gwaith roedd e wedi'i wneud o dan do'r gwaith a oedd yn mynd ymlaen rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru, a diolch iddo am beth ddywedodd e am y gwaith caled mae swyddogion wedi'i wneud. Fel y dywedais i wrth Darren Millar, dwi'n agored i unrhyw ddadl resymol i wella'r Bil. Dwi ddim wedi gweld unrhyw Fil sydd wedi dod o flaen y Senedd sydd ddim wedi cael ei wella trwy'r broses o graffu. Dwi'n hollol hapus i edrych gyda'r pwyllgorau ar sut y gallwn ni fod yn glir y bydd llais busnesau yn cael ei glywed pan fydd yr awdurdodau lleol yn gwneud y penderfyniad am sut i wario'r arian maen nhw'n ei gasglu trwy'r ardoll. A dwi'n siŵr, trwy'r broses o graffu ar y Bil, y bydd syniadau fel yna yn gallu dod i wyneb y ddadl, a dwi'n hollol hapus i'w hystyried nhw pan fyddan nhw'n codi fel yna.

Dirprwy Lywydd, thank you very much to Cefin Campbell and thanks to Cefin for the work that he did under the auspices of the work undertaken by the Government and Plaid Cymru, and thanks to him for what he said about the hard work undertaken by officials on this. As I said to Darren Millar, I'm open to any reasonable proposal to improve the Bill. I haven't seen any Bill that has come before the Senedd that has not been improved through the scrutiny process. I'm entirely happy to look alongside the committees at how we can be clear that the voice of businesses will be heard when local authorities make the decisions on how to spend the funding that they receive through this levy. And I'm sure that, through the scrutiny process, those kinds of ideas will come to the fore in the debate, and I'm entirely happy to consider them when they arise in that way.  

Minister, I speak very briefly in order to support the proposal that is contained at the heart of this Bill. This is something that is entirely normal across the whole of the European mainland and elsewhere in the world. The hysteria we've heard from the Conservatives this afternoon is really misplaced. I've never seen them angry about poverty; I've only seen them angry about other things.

Let me say this, Cabinet Secretary: I think it's important that the levy raises funds that are reinvested into the fabric of the communities that support and sustain tourism. All of us who've lived in tourism hotspots, if you like, have seen the impact of tourism for good and for ill, in fact, and what we need to ensure is that the facilities exist to support and to sustain tourism, but also that tourists provide that investment in the communities they visit. So, I hope that what we'll see through this levy is greater investment in those communities, and the freedom for local authorities to take the decisions that they believe are best for their own communities. 

Gweinidog, rwy'n dweud gair byr iawn o gefnogaeth i'r cynnig sydd wrth galon y Bil hwn. Mae hyn yn rhywbeth sy'n gwbl normal ledled cyfandir Ewrop i gyd ac mewn mannau eraill yn y byd hefyd. Mae'r gynddaredd a glywsom ni gan y Ceidwadwyr y prynhawn yma'n wirioneddol anghymwys. Ni welais i erioed mohonyn nhw'n gynddeiriog ynglŷn â thlodi; dim ond eu gweld nhw'n gynddeiriog ynglŷn â phethau eraill.

Gadewch i mi ddweud hyn, Ysgrifennydd Cabinet: rwy'n credu ei bod hi'n bwysig y bydd yr ardoll yn codi arian a fydd yn cael ei ailfuddsoddi yng ngwead y cymunedau sy'n cefnogi ac yn cynnal twristiaeth. Mae pob un ohonom ni sydd wedi byw mewn mannau poblogaidd ymhlith twristiaid, os mynnwch chi, wedi gweld effeithiau twristiaeth er gwell ac er gwaeth, mewn gwirionedd, a'r hyn y mae angen i ni ei sicrhau yw bod y cyfleusterau yn bod ar gyfer cefnogi a chynnal twristiaeth, ond bod twristiaid hefyd yn darparu'r buddsoddiad hwnnw yn y cymunedau y maen nhw'n ymweld â nhw. Felly, rwy'n gobeithio mai'r hyn y byddwn ni'n ei weld yn sgil yr ardoll hon yw rhagor o fuddsoddi yn y cymunedau hynny, a'r rhyddid i awdurdodau lleol wneud y penderfyniadau sydd fwyaf cymwys yn eu barn nhw i'w cymunedau nhw eu hunain. 

I thank Alun Davies for those important points, Llywydd. He's absolutely right: the purpose of the Bill is that any funds raised through a visitor levy must be retained and reinvested in those communities, and they must be reinvested in creating the circumstances that make those places attractive. For example, the Bill makes reference directly to supporting the Welsh language. We know that some of the highest concentrations of tourism happen in the parts of Wales where the language is at its strongest. One of the reasons people come to Wales and visit those communities is because they want to be somewhere with that particular cultural sense of place and purpose. The Bill will allow local authorities to reinvest, exactly as Alun Davies said, in circumstances and facilities that are attractive to visitors, but that allow those communities to go on being places that have a character of their own, and it’s that character that brings other people to visit them.

Rwy'n diolch i Alun Davies am y pwyntiau pwysig yna, Llywydd. Mae ef yn llygad ei le: diben y Bil yw y bydd hi'n rhaid i unrhyw arian sy'n cael ei godi drwy ardoll ymwelwyr gael ei gadw a'i fuddsoddi o'r newydd yn y cymunedau hynny, ac  mae'n rhaid ei ailfuddsoddi i greu'r amgylchiadau sy'n gwneud y lleoedd hynny'n ddeniadol. Er enghraifft, mae'r Bil yn cyfeirio yn uniongyrchol at gefnogi'r iaith Gymraeg. Fe wyddom ni fod rhai o'r crynoadau mwyaf o dwristiaeth yn digwydd mewn rhannau yng Nghymru lle mae'r iaith ar ei chryfaf. Un o'r rhesymau pam mae pobl yn dod i Gymru ac yn ymweld â'r cymunedau hynny yw oherwydd eu bod nhw'n dymuno bod yn rhywle sydd ag ymdeimlad diwylliannol arbennig o leoliad a phwrpas fel hyn. Fe fydd y Bil yn caniatáu i awdurdodau lleol ailfuddsoddi, yn union fel dywedodd Alun Davies, mewn amgylchiadau a chyfleusterau sy'n ddeniadol i ymwelwyr, ond sy'n caniatáu i'r cymunedau hynny barhau i fod yn lleoedd sydd â'u hynodrwydd eu hunain, a'r hynodrwydd hwnnw sy'n tynnu pobl eraill i ymweld â nhw hefyd.

15:30

The thing about being a politician is that we’re here to serve those that we represent. We’re not here to pay lip service to these shocking policies that you’re bringing forward. A tourism tax in Wales is nothing short of a disgrace. It's £1.25 for hotels—that apparently now includes VAT. Would the Cabinet Secretary provide clarification? Hotels in particular are already seeing food cost increases, higher energy bills, staff wages up, a percentage of business rates relief withdrawn. This tax will see visitors thinking twice about travelling to Wales, and I’ve got to be honest, I think that’s something that Plaid Cymru wants—it was their payback for the co-operation agreement.

Too often we hear of references to other countries. Mallorca, for instance, has a much lower VAT rate, but even they are now thinking of withdrawing the tourism tax. The consultation on this, I understand, was overwhelmingly against the implementation of this tax, so do you not actually listen when you put these consultations out? People are so fed up right now with the Labour Government in the UK, and here, hence why we’ve got a petition—

Hanfod bod yn wleidydd yw ein bod ni yma i wasanaethu'r rhai yr ydym ni'n eu cynrychioli. Nid ydym ni yma i esgus cefnogi'r polisïau brawychus hyn yr ydych chi'n eu cyflwyno. Nid yw treth dwristiaeth yng Nghymru yn ddim llai na gwarth. Sef £1.25 ar gyfer gwestai—sydd yn ôl pob tebyg yn cynnwys TAW erbyn hyn. A fyddai'r Ysgrifennydd Cabinet yn rhoi eglurhad? Mae gwestai yn arbennig yn gweld cynnydd eisoes o ran costau bwyd, biliau ynni uwch, cyflogau staff, canran o ryddhad ardrethi busnes yn cael ei dynnu yn ôl. Fe fydd y dreth hon yn gweld ymwelwyr yn meddwl ddwywaith cyn teithio i Gymru, ac mae'n rhaid i mi fod yn onest, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae Plaid Cymru yn ei hoffi—eu cildwrn nhw am y cytundeb cydweithio.

Rydym ni'n clywed yn rhy aml am gyfeiriadau at wledydd eraill. Mae gan Mallorca, er enghraifft, gyfradd TAW sy'n llawer is, ond maen nhw'n ystyried tynnu'r dreth dwristiaeth yn ôl erbyn hyn. Roedd yr ymgynghoriad ar hynny, rwy'n deall, yn ysgubol yn erbyn gweithredu'r dreth hon, ac felly nid ydych ch'n gwrando mewn gwirionedd pan fyddwch chi'n cyflwyno'r ymgynghoriadau hyn? Mae pobl wedi cael llond bol nawr gyda'r Llywodraeth Lafur yn y DU, ac yn y fan hon, dyn pam y mae deiseb gennym ni—

Janet, you need to ask a question, please, and conclude. 

Janet, mae angen i chi ofyn cwesitwn, os gwelwch yn dda, a therfynu.

—hurtling towards 3 million people dissatisfied with you and your policy. Why are you not listening? And a very important point—

—yn chwyrlïo tuag at 3 miliwn o bobl sy'n anfodlon â chi a chyda'ch polisi chi. Pam nad ydych chi'n gwrando? A phwynt pwysig iawn—

Janet, you need to conclude, please. 

Janet, mae angen i chi derfynu, os gwelwch yn dda.

I’ve heard that women and children using holiday accommodation whilst fleeing violence will have to pay this visitor levy, but I understand the charity, or they themselves, can then ask for it back. Do you honestly think—? I think that’s insensitive, expecting people who’ve come here, actually fleeing domestic abuse and violence, after all the talk about it here—. Why should they have to pay this, finance Cabinet Secretary? And—

Fe glywais i y bydd yn rhaid i fenywod a phlant sy'n defnyddio llety gwyliau i ffoi oddi wrth drais dalu'r ardoll ymwelwyr hon, ond rwy'n deall y gall yr elusen, neu nhw eu hunain, ofyn am ad-daliad. A ydych chi'n meddwl mewn difrif—? Rwy'n credu bod hynny'n ansensitif, a disgwyl i bobl sydd wedi dod yma, mewn gwirionedd ar gyfer ffoi oddi wrth gam-drin domestig a thrais, wedi'r holl sôn am hynny yma—. Pam ddylen nhw dalu honno, Ysgrifennydd Cabinet? A—

Do you not believe that this is an insensitive policy, for those people, but also for our businesses? Diolch yn fawr. 

Onid ydych chi'n credu bod hwn yn bolisi ansensitif, o ran y bobl hynny, ond o ran ein busnesau ni hefyd? Diolch yn fawr. 

Well, Dirprwy Lywydd, the Member can never see a top without wanting to go over it. And she, as usual, didn’t disappoint us this afternoon. Her conspiracy-minded ideas of how a visitor levy came about wouldn’t bear any examination. And let me give her an assurance that there are safeguards in the Bill so people who are placed in accommodation because of domestic abuse will not pay a visitor levy. So, let me set her mind at rest on that.

Surely the most important point Janet Finch-Saunders made was the first one. We are sent here by those whom we represent, and, believe me, the people who live in areas that have large numbers of tourists visiting them are very clearly in support of this Bill. If you were speaking on behalf of your residents, rather than your visitors, then there is no doubt you would be in favour of this Bill.

I listened carefully earlier this afternoon to an important contribution from another north Wales Member, Sam, when he talked about outdoor safety and mountain rescue. He pointed out that those organisations are very short of funds. In your view of the world, Janet, all the costs of mountain rescue and other facilities that are offered to tourists should be borne by people who live in those areas, but those people who visit them, those people who need—

Wel, Dirprwy Lywydd, ni fethodd yr Aelod erioed â gweld ei chyfle i fynd dros ben llestri. Ac, fel arfer, ni chawsom ein siomi ganddi hi'r prynhawn yma. Ni fyddai ei syniadau hi ynghylch y cydgynllwynio sydd wedi bod ar gyfer llunio'r ardoll ymwelwyr yn gwrthsefyll unrhyw archwiliad. A gadewch i mi roi sicrwydd iddi hi fod yna fesurau diogelu yn y Bil fel na fydd pobl sy'n cael eu rhoi mewn llety oherwydd cam-drin domestig yn talu ardoll ymwelwyr. Felly, gadewch i mi dawelu ei meddwl hi ynglŷn â hynny.

Mae'n sicr mai'r pwynt pwysicaf a wnaeth Janet Finch-Saunders oedd yr un cyntaf. Fe gawn ni ein hanfon i'r fan hon gan y rhai yr ydym ni'n eu cynrychioli, a chredwch chi fi, mae'r bobl sy'n byw mewn ardaloedd sydd â nifer fawr o dwristiaid yn ymweld â nhw yn amlwg iawn o blaid y Bil hwn. Pe byddech chi'n siarad ar ran eich preswylwyr chi, yn hytrach na'ch ymwelwyr chi, nid oes amheuaeth y byddech chi o blaid y Bil hwn.

Yn gynharach y prynhawn 'ma, fe wrandewais i'n astud ar gyfraniad pwysig oddi wrth Aelod arall o'r gogledd, Sam, pan oedd ef yn siarad am ddiogelwch awyr agored ac achub mynydd. Roedd ef yn tynnu sylw at y ffaith fod y sefydliadau hynny'n brin iawn o arian. Yn eich gweledigaeth chi o'r byd, Janet, fe ddylai costau achub mynydd a'r cyfleusterau eraill i gyd sy'n cael eu cynnig i dwristiaid gael eu talu gan bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny, ond y bobl hynny sy'n ymwelwyr yno, y bobl hynny sydd ag angen—

I never said that. On a point of order, I never said anything of the kind.

Ni ddywedais i erioed mo hynny. Ar bwynt o drefn, ni ddywedais i unrhyw beth o'r fath.

You said exactly that. You said that people who visit areas should not make a contribution to the cost of the services that they rely on. Mountain rescue services, very clearly, very often go out to rescue people who are visiting those areas. Is it unfair, Dirprwy Lywydd, that those visitors should make a very modest contribution indeed to the costs of providing the service, which Sam quite rightly said was struggling to be funded for what they do?

Fe ddywedoch chi hynny'n union. Roeddech chi'n dweud na ddylai pobl sy'n ymweld ag ardaloedd fod yn cyfrannu at gost y gwasanaethau y maen nhw'n dibynnu arnyn nhw. Mae gwasanaethau achub mynydd, yn amlwg iawn, yn mynd allan i achub pobl sy'n ymweld â'r ardaloedd hynny'n aml iawn. A yw hi'n annheg, Dirprwy Lywydd, y dylai'r ymwelwyr hynny wneud cyfraniad rhesymol iawn wir at gostau darparu'r gwasanaeth, yr oedd Sam yn gwbl briodol i ddweud ei fod yn cael trafferthion o ran cael ei ariannu i wneud yr hyn y mae'n ei wneud?

15:35

I'm sorry, Cabinet Secretary, but I have never uttered the words that you have just said that I've said here. You won't find them on the Record of Proceedings. I've never even mentioned those words. So, I would ask you to withdraw those comments. I have not—

Mae'n ddrwg gennyf i, Ysgrifennydd Cabinet, ond nid wyf erioed wedi ynganu'r geiriau yr ydych chi newydd eu dweud yma. Ni fyddech chi'n dod o hyd iddyn nhw ar y Cofnod. Nid wyf i hyd yn oed wedi crybwyll y geiriau hynny hyd yn oed. Felly, rwy'n gofyn i chi dynnu'r sylwadau hynny'n eu holau. Nid wyf i—

The point of order should be addressed to me, not to the Cabinet Secretary.

Fe ddylid cyfeirio'r pwynt o drefn ataf i, nid at yr Ysgrifennydd Cabinet.

It should be addressed to myself as Chair.

Fe ddylid ei gyfeirio ataf i fel Cadeirydd.

Oh, I do apologise. But I have not used those words, today in my speech, or at any time in this Chamber since I've been elected. Diolch.

O, rwy'n ymddiheuro. Ond nid wyf i wedi defnyddio'r geiriau hynny, heddiw yn fy araith i, nac ar unrhyw achlysur yn y Siambr hon ers i mi gael fy ethol. Diolch.

Thank you, Janet. I'm sure the Cabinet Secretary will review the words very carefully.

Diolch i chi, Janet. Rwy'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn adolygu'r geiriau yn ofalus iawn.

I'm very happy to review them.

Rwy'n hapus iawn i'w hadolygu nhw.

Rydw innau hefyd yn croesawu gweld cyflwyno'r Bil yma. Mi fyddai arian y lefi yn fuddiol iawn ar gyfer gwella profiadau ymwelwyr a bywydau pobl leol mewn sawl cymuned yn Arfon, o'r cymunedau o gwmpas yr Wyddfa, i lannau'r Fenai. Dwi'n falch hefyd o weld cyflwyno'r gofrestr llety gwyliau, a fydd yn ffynhonnell data pwysig all gynorthwyo gyda phenderfyniadau polisi i’r dyfodol. Mae’r gofrestr yn angenrheidiol ar gyfer Bil arall hefyd, onid ydy, sef y Bil trwyddedu statudol ar gyfer llety gwyliau tymor byr. Rydych wedi dweud y byddwch chi'n cyflwyno’r ail Fil cyn diwedd tymor y Senedd. Beth yn union fydd yr amserlen ar gyfer cyflwyno’r ail Fil? Rydw i’n deall bod llawer o waith i’w wneud ar y Bil cyntaf yma, ond mae’r ail Fil yn bwysig hefyd, yn bwysig ar gyfer gwella diogelwch ymwelwyr, creu cyfartaledd rhwng gwahanol fathau o lety o fewn y diwydiant, a gwarchod y stoc tai lleol rhag troi yn asedau masnachol yn hytrach nag yn gartrefi. Felly, wnewch chi gadarnhau amserlen yr ail Fil, y dyddiad cyflwyno, a’r dyddiad gweithredu hefyd?

I too welcome the introduction of this Bill. The levy funding would be very beneficial in improving experiences for visitors and the lives of local residents in several communities in Arfon, from the communities surrounding yr Wyddfa, to the shores of the Menai. I’m pleased too to see the introduction of the holiday accommodation register, which will be an important source of data that could help with policy decisions in future. The register is vital for another Bill, isn't it, namely the statutory licensing Bill for short-term holiday lets. You have said that you will introduce this second Bill before the end of the Senedd term. What exactly is the timetable for the introduction of this second Bill? I understand that there is a great deal of work to be done on this first Bill, but the second Bill is important too, important to improve safety for visitors, to ensure that a balance is struck between different types of accommodation within the industry, and in terms of protecting the local housing stock from being turned into commercial assets rather than homes. So, will you confirm the timetable for the second Bill, the introduction date, and the implementation date too?

Diolch yn fawr i Siân Gwenllian hefyd, Dirprwy Lywydd. Dwi'n cytuno, wrth gwrs, gyda hi: pwrpas y Bil yw gwella profiadau ymwelwyr, ond hefyd gwella bywydau pobl leol. Diolch iddi hi am beth ddywedodd hi am bwysigrwydd y rhestr. Mae'r rhestr yn angenrheidiol ar gyfer yr ail Fil, am y pwrpasau y mae Siân Gwenllian wedi cyfeirio atynt. Mae Gweinidogion a swyddogion yn gweithio'n galed ar yr ail Fil. Rydyn ni'n cwrdd â'n gilydd bron bob wythnos nawr i gytuno ar y manylion yn yr ail Fil. Dydy'r dyddiadur ddim o fy mlaen i y prynhawn yma, Dirprwy Lywydd, ond, yn y flwyddyn nesaf, bydd yr ail Fil yn dod o flaen y Senedd am y pwrpasau y mae Siân Gwenllian wedi eu hesbonio y prynhawn yma.

Thank you very much to Siân Gwenllian too, Dirprwy Lywydd. I agree with her, of course: the purpose of the Bill is to improve the visitor experience, but also to improve the lives of local people. I thank her for her comments on the importance of the register. The register is necessary for the second Bill, for the reasons set out by Siân Gwenllian. Ministers and officials are working hard on that second Bill. We meet on an almost weekly basis now to agree on the details of that second Bill. I don't have the dates with me this afternoon, Dirprwy Lywydd, but, next year, the second Bill will come before the Senedd, for the purposes that Siân Gwenllian set out this afternoon.

As someone who represents nearly all the coastline of Wales, I understand the pressures that visitors can bring on local budgets. One example is street cleaning, waste collection, public toilets, and parking. Of course those visitors are welcome, and of course those businesses are supported by the tourism. But what I've heard here today from the Tories beggars belief, quite frankly. We're talking about a levy on the people who come, not the businesses, which they seem a bit confused about, and also the fact that the money will be ring-fenced into those communities who choose to charge this levy, which is another important factor here. We're talking about £1.25 a night. You won't buy a coffee for £1.25, unless they know something I don't. And yet, people will spend quite happily, and quite rightly, and I'm sure everybody's pleased about it, more than £1.25 to buy a cup of coffee, without even thinking that that's going to put them off if they buy one every single day. So, we've heard a lot here, but Barcelona and Venice are already charging €5 a night and it hasn’t prevented anything. And I think—

A minnau'n cynrychioli arfordir Cymru bron i gyd, rwy'n deall y pwysau y gall ymwelwyr ei roi ar gyllidebau lleol. Un enghraifft yw tacluso'r strydoedd, casglu gwastraff, toiledau cyhoeddus, a pharcio. Wrth gwrs mae yna groeso i'r ymwelwyr hynny, ac wrth gwrs mae'r busnesau hynny'n cael eu cefnogi gan dwristiaeth. Ond mae'r hyn a glywais i yma heddiw gan y Torïaid yn anghredadwy, a dweud y gwir. Sôn yr ydym ni am ardoll ar y bobl sy'n dod, nid ar y busnesau, y mae hi'n ymddangos eu bod nhw ychydig yn ddryslyd ynghylch hynny, a'r ffaith y bydd yr arian yn cael ei neilltuo hefyd i'r cymunedau hynny sy'n dewis codi'r ardoll hon, sy'n ffactor pwysig arall yn hyn o beth. Rydym ni'n sôn am £1.25 y noson. Ni allwch chi brynu paned o goffi am £1.25, oni bai eu bod nhw'n gwybod rhywbeth nad wyf i'n ei wybod. Ac eto, fe all pobl wario yn hapus iawn, ac yn gwbl briodol, ac rwy'n siŵr bod pawb yn falch oherwydd hynny, mwy na £1.25 ar baned o goffi, heb feddwl am funud y byddai hynny'n peri iddyn nhw beidio â gwneud felly pe bydden nhw'n prynu un bob dydd. Felly, rydym ni wedi clywed llawer yma, ond mae Barcelona a Fenis eisoes yn codi tâl o €5 y noson ac nid yw hynny wedi atal unrhyw beth. Ac rwy'n credu—

15:40

You need to ask a question now, please, Joyce.

Mae angen i chi ofyn cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda, Joyce.

Yes, and I will. When we're looking at the way to spend this, the area that I just talked about has environmental challenges. People come to those areas to see those environments in good order. And of course, here's an opportunity to answer some of the questions the Tories ask us about investing in those communities and in those environments.

Iawn, ac fe wnaf. Pan fyddwn ni'n edrych ar y ffordd i wario hyn, mae heriau amgylcheddol yn yr ardal yr wyf newydd sôn amdani. Mae pobl yn dod i'r ardaloedd hynny i weld yr amgylcheddau hynny mewn cyflwr da. Ac wrth gwrs, dyma gyfle i ateb rhai o'r cwestiynau y mae'r Torïaid yn eu gofyn i ni am fuddsoddi yn y cymunedau hynny ac yn yr amgylcheddau hynny.

I thank Joyce Watson, Dirprwy Lywydd. I take what she says particularly seriously on this Bill, given her own direct experience of working and living in a high-impact tourism part of Wales. I thought she captured very well indeed that sense of proportion that has been very absent in some other contributions here this afternoon. Of course visitors are welcome to Wales. The Bill is designed to make them even more welcome in the future. What do those visitors expect when they come to see the beautiful country that we are so lucky to live in? They expect beaches to be clean, they expect footpaths and trails to be properly maintained, they want to be able to use the visitor centre, if it rains they want to be able to go to the leisure centre locally as well. What this Bill does in its very modest way is to allow local authorities to collect that small contribution—cheaper, as Joyce Watson said, than a cup of coffee—towards maintaining the things that have attracted them to that area in the first place. I thank Joyce for the way in which she captured the essence of this Bill.

Diolch i Joyce Watson, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cymryd yr hyn y mae hi yn ei ddweud am y Bil hwn o ddifrif, yn arbennig, o ystyried ei phrofiad uniongyrchol ei hun o weithio a byw mewn rhan o Gymru lle mae twristiaeth yn cael effaith fawr. Rwy'n credu iddi grisialu'n dda iawn yr ymdeimlad hwnnw o gymesuredd a fu'n absennol iawn mewn rhai cyfraniadau eraill yma y prynhawn yma. Wrth gwrs mae croeso i ymwelwyr i Gymru. Mae'r Bil wedi'i gynllunio i roi hyd yn oed mwy o groeso iddyn nhw yn y dyfodol. Beth mae'r ymwelwyr hynny'n ei ddisgwyl pan fyddan nhw'n dod i weld y wlad brydferth yr ydym mor ffodus i fyw ynddi? Maen nhw'n disgwyl i draethau fod yn lân, maen nhw'n disgwyl i lwybrau gael eu cynnal a'u cadw'n iawn, maen nhw eisiau gallu defnyddio'r ganolfan ymwelwyr, os yw'n bwrw glaw maen nhw eisiau gallu mynd i'r ganolfan hamdden yn lleol hefyd. Yr hyn y mae'r Bil hwn yn ei wneud yn ei ffordd wylaidd iawn yw caniatáu i awdurdodau lleol gasglu'r cyfraniad bach hwnnw—rhatach, fel y dywedodd Joyce Watson, na phaned o goffi—tuag at gynnal y pethau sydd wedi eu denu i'r ardal honno yn y lle cyntaf. Diolch i Joyce am y ffordd y gwnaeth hi grisialu hanfod y Bil hwn.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. Cyn i ni orffen yr eitem hon—.

I thank the Cabinet Secretary. Before we conclude this item—.

On the point of order, I want to make sure that everyone respects points of order and they listen to them, because it is important that we understand what the point of order raises and that the Record is accurate. I’m sure the Cabinet Secretary, as I said, will review the Record and if there are any inaccuracies he will seek to make sure they are amended.

Ar y pwynt o drefn, rwyf eisiau sicrhau bod pawb yn parchu pwyntiau o drefn ac yn gwrando arnynt, oherwydd mae'n bwysig ein bod yn deall yr hyn y mae'r pwynt o drefn yn ei godi a bod y Cofnod yn gywir. Rwy'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet, fel y dywedais i, yn adolygu'r Cofnod ac os bydd unrhyw anghywirdebau bydd yn ceisio sicrhau eu bod yn cael eu diwygio.

4. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Cynnydd ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy—Dylunio drwy gydweithio
4. Statement by the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs: Progress on the Sustainable Farming Scheme—Design through collaboration

Eitem 4 heddiw yw'r datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar gynnydd ar y cynllun ffermio cynaliadwy—dylunio drwy gydweithio. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Huw Irranca-Davies.

Item 4 is a statement by the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs on progress on the sustainable farming scheme—design through collaboration. I call on the Cabinet Secretary, Huw Irranca-Davies.

Member
Huw Irranca-Davies 15:42:39
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o fod yma heddiw i gyhoeddi cynllun ffermio cynaliadwy diwygiedig ar ôl gweithio'n agos gyda ffermwyr, elusennau amgylcheddol ac eraill dros y misoedd diwethaf.

Thank you very much, Dirprwy Lywydd. I'm very proud to be here today to announce a revised sustainable farming scheme after working closely with farmers, environmental charities and others over the last few months.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

The Llywydd took the Chair.

Since the sustainable farming scheme’s 'Keeping farmers farming' consultation closed in March this year, I have been committed to listening to feedback and working with farmers and environmental groups to address concerns they have about the sustainable farming scheme. As Members will be aware, I established the ministerial round-table with key stakeholders to develop revised proposals for the SFS. Supporting the round-table, an official working group and the carbon sequestration evidence review panel have worked tirelessly to explore technical scheme design issues and the evidence on additional and alternative actions to sequester carbon that could be included.

This scheme is critical in securing a sustainable future for Welsh farming. Farmers make an important contribution to our economy, food production, and to our communities. As stewards of the land, they also have a crucial role to play in tackling the climate and nature emergencies. I have said many times since the round-table and the associated groups were established that we have been burning the midnight oil to make progress on this scheme. That has certainly been the case. It is because of the work of each individual involved in these groups and all the supporting teams that I can now publish a revised scheme that I strongly believe works both for the farming industry and for the environment. I’d like to put on record how grateful I am for the dedication and hard work of every person involved. Diolch yn fawr iawn i chi i gyd.

The changes I have made address the needs of Welsh farmers and meet the sustainable land management objectives that are set out in legislation. These include supporting the ongoing sustainable production of food, as well as our climate change and nature commitments. This is a scheme that delivers for farmers and for nature together, and that is crucial. The impacts of climate change are already with us, and many farmers across Wales are already seeing and feeling the effects on the land they care for year on year, from flooded fields to heatwaves impacting on crops and on livestock. This scheme will play a crucial role in securing a sustainable future for the sector.

Ers i ymgynghoriad 'Cadw ffermwyr i ffermio' y cynllun ffermio cynaliadwy ddod i ben ym mis Mawrth eleni, rwyf wedi ymrwymo i wrando ar adborth a gweithio gyda ffermwyr a grwpiau amgylcheddol i fynd i'r afael â phryderon sydd ganddynt am y cynllun ffermio cynaliadwy. Fel y gŵyr yr Aelodau, sefydlais y ford gron weinidogol gyda rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu cynigion diwygiedig ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy. Gan gefnogi'r ford gron, mae gweithgor swyddogol a'r panel adolygu tystiolaeth atafaelu carbon wedi gweithio'n ddiflino i archwilio materion dylunio cynllun technegol a'r dystiolaeth ar gamau ychwanegol ac amgen i atafaelu carbon y gellid eu cynnwys.

Mae'r cynllun hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i ffermio yng Nghymru. Mae ffermwyr yn gwneud cyfraniad pwysig i'n heconomi, ym maes cynhyrchu bwyd, ac i'n cymunedau. Fel stiwardiaid y tir, mae ganddynt rôl hanfodol i'w chwarae hefyd wrth fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Rwyf wedi dweud sawl gwaith ers sefydlu'r ford gron a'r grwpiau cysylltiedig ein bod wedi bod yn llosgi'r gannwyll yn hwyr i wneud cynnydd ar y cynllun hwn. Yn sicr, dyna fu'r achos. Oherwydd gwaith pob unigolyn sy'n ymwneud â'r grwpiau hyn a'r holl dimau ategol, gallaf nawr gyhoeddi cynllun diwygiedig sydd, rwy'n credu'n gryf, yn gweithio ar gyfer y diwydiant ffermio ac ar gyfer yr amgylchedd. Hoffwn gofnodi pa mor ddiolchgar ydw i am ymroddiad a gwaith caled pob unigolyn a gymerodd ran. Diolch yn fawr iawn i chi i gyd.

Mae'r newidiadau rwyf wedi'u gwneud yn mynd i'r afael ag anghenion ffermwyr Cymru ac yn bodloni'r amcanion rheoli tir cynaliadwy a nodir mewn deddfwriaeth. Mae'r rhain yn cynnwys cefnogi'r gwaith parhaus o gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, yn ogystal â'n hymrwymiadau newid hinsawdd a natur. Mae hwn yn gynllun sy'n cyflawni ar gyfer ffermwyr ac ar gyfer natur gyda'i gilydd, ac mae hynny'n hanfodol. Mae effeithiau newid hinsawdd eisoes gyda ni, ac mae llawer o ffermwyr ledled Cymru eisoes yn gweld ac yn teimlo'r effeithiau ar y tir y maent yn gofalu amdano flwyddyn ar ôl blwyddyn, o gaeau dan ddŵr i dywydd poeth sy'n effeithio ar gnydau ac ar dda byw. Bydd y cynllun hwn yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r sector.

Now, whilst the progress we have made collectively is significant, this is not the final scheme. The round-table has agreed that the scheme outline published yesterday will be used to undertake an updated economic analysis and impact assessment over the coming months to determine impacts on a range of agricultural, environmental and social aspects. In the scheme, we have retained the framework of the universal layer for all, with additional optional and collaborative actions for those who choose to do more. Having considered a range of evidence from experts and scientific papers, the executive summary of the carbon panel's findings has been published alongside the scheme outline. The summary provides a wide-ranging science and evidence-led foundation to inform the round-table discussions and many of the panel's recommendations on the SFS universal actions have already been incorporated.

I'd like to run now through some of the most significant changes to the scheme. Based on feedback, we have made significant changes to the majority of the universal actions to ensure that they are appropriate, achievable and recognise existing good practice taking place on farms across Wales. This means we have reduced the number of universal actions from 17 to 12. An important scheme change is that we have merged the animal health, welfare and biosecurity actions into a single simplified universal action to focus discussions with the farm vet on improved animal health and welfare outcomes. We have also moved the requirement for all farms to have wash stations to an optional action, recognising that the biosecurity needs of individual farms can be very different indeed.

Given the importance of the scheme in tackling the nature and the climate emergencies, we have maintained the requirement for farmers to manage at least 10 per cent of their farm as habitat. To help farmers meet this requirement, we are considering additional options to support farmers to create temporary habitats. These should be suitable for all farming systems and land ownership. So, for example, I believe it would be unreasonable for a landlords to deny a tenant access to the SFS on the basis of including a temporary habitat with, for example, an ongoing crop rotation. The management of existing wildlife ponds will be merged with the existing habitat maintenance universal action and will count towards the 10 per cent. We have moved the creation of additional scrapes to an optional action.

Throughout this process, Llywydd, we have listened very carefully to the views expressed, including by the carbon panel. As Members will know, tree planting and hedgerow creation are of critical importance to achieving our net-zero commitments. As such, the farm-level figure for tree cover has been removed and will be replaced by a scheme-wide target, which will be set after discussion with the ministerial round-table and a new universal action for a tree planting and hedgerow creation opportunity plan. We will set up a governance mechanism, which will include key members of the farming industry and environmental stakeholders, to ensure that the scheme-wide target is met. And, again, working in collaboration is key to ensure that we can achieve our goals and targets in the most positive way. 

The changes to the scheme mean that farmers who apply will be able to decide and map where they would like to add more trees and hedges on their farm, how many, and, if appropriate, get funding to support them through the optional layer of the scheme. We propose that farmers will complete this opportunity planned for their farm in the first year they enter the scheme and will need to demonstrate progress by the end of the 2030 scheme year. We intend to make this a straightforward process, so farmers will not need professional forestry guidance, but we will ensure that there is expert advice to help the farmer decide where is best to plant. The planting grants available are very flexible and they provide support for a wide variety of actions, including planting woodland areas, shelter belts, agro-forestry, orchards, individual trees and, indeed, new hedgerows.

The universal scheme remains focused on supporting farmers producing food and other sustainable benefits. The actions and the administration have been streamlined to operate through Rural Payments Wales Online as efficiently as possible, and to provide opportunity for existing and new and young farmers. In the scheme outline, we have also set out how we propose to work out the SFS universal payment. As well as costs incurred and income forgone, we still intend to include a social value to this payment. This will represent the wider benefits to society, which come from a sustainable agricultural industry, and we will publish the payment rates with the final scheme. Other changes include taking account of sites of special scientific interest—SSSIs—and common land rights in the universal payment. Further support for both will also be available as optional and collaborative elements.

I have been very clear with Members that this is not the final scheme. Whilst the progress we've made is significant, there is still lots of work to be done. In terms of the next steps, we will now use the scheme, published yesterday, to undertake an updated economic analysis and impact assessment over the coming months, to determine the impacts on a range of agricultural, environmental and social aspects.

Nawr, er bod y cynnydd rydym wedi'i wneud gyda'n gilydd yn sylweddol, nid dyma'r cynllun terfynol. Mae'r ford gron wedi cytuno y bydd amlinelliad y cynllun a gyhoeddwyd ddoe yn cael ei ddefnyddio i gynnal dadansoddiad economaidd wedi'i ddiweddaru ac asesiad effaith dros y misoedd nesaf i bennu effeithiau ar ystod o agweddau amaethyddol, amgylcheddol a chymdeithasol. Yn y cynllun, rydym wedi cadw fframwaith yr haen gyffredinol i bawb, gyda gweithredoedd dewisol a chydweithredol ychwanegol i'r rhai sy'n dewis gwneud mwy. Ar ôl ystyried ystod o dystiolaeth gan arbenigwyr a phapurau gwyddonol, mae'r crynodeb gweithredol o ganfyddiadau'r panel carbon wedi'i gyhoeddi ochr yn ochr ag amlinelliad y cynllun. Mae'r crynodeb yn darparu sylfaen eang a arweinir gan wyddoniaeth a thystiolaeth i lywio trafodaethau'r ford gron ac mae llawer o argymhellion y panel ar weithredoedd cyffredinol y cynllun ffermio cynaliadwy eisoes wedi'u hymgorffori.

Hoffwn fynd nawr drwy rai o'r newidiadau mwyaf arwyddocaol i'r cynllun. Yn seiliedig ar adborth, rydym wedi gwneud newidiadau sylweddol i'r rhan fwyaf o'r gweithredoedd cyffredinol i sicrhau eu bod yn briodol, yn gyraeddadwy ac yn cydnabod arferion da presennol sy'n digwydd ar ffermydd ledled Cymru. Mae hyn yn golygu ein bod wedi lleihau nifer y gweithredoedd cyffredinol o 17 i 12. Newid cynllun pwysig yw ein bod wedi uno'r gweithredoedd iechyd a lles anifeiliaid a bioddiogelwch yn un weithred gyffredinol symlach i ganolbwyntio trafodaethau gyda'r milfeddyg fferm ar ganlyniadau gwell o ran iechyd a lles anifeiliaid. Rydym hefyd wedi newid y gofyniad i bob fferm fod â gorsafoedd golchi i weithred dewisol, gan gydnabod y gall anghenion bioddiogelwch ffermydd unigol fod yn wahanol iawn yn wir.

O ystyried pwysigrwydd y cynllun wrth fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd, rydym wedi cadw'r gofyniad i ffermwyr reoli o leiaf 10 y cant o'u ffermydd fel cynefin. Er mwyn helpu ffermwyr i fodloni'r gofyniad hwn, rydym yn ystyried opsiynau ychwanegol i gefnogi ffermwyr i greu cynefinoedd dros dro. Dylai'r rhain fod yn addas ar gyfer pob system ffermio a pherchnogaeth tir. Felly, er enghraifft, credaf y byddai'n afresymol i landlordiaid wrthod mynediad tenant i'r cynllun ffermio cynaliadwy ar sail cynnwys cynefin dros dro gydag er enghraifft, cylchdro cnydau parhaus. Bydd gwaith rheoli pyllau bywyd gwyllt presennol yn cael ei gyfuno â'r gweithredoedd cyffredinol cynnal a chadw cynefinoedd presennol a bydd yn cyfrif tuag at y 10 y cant. Rydym wedi newid creu pyllau dŵr tymhorol ychwanegol i fod yn weithred ddewisol.

Drwy gydol y broses hon, Llywydd, rydym wedi gwrando'n ofalus iawn ar y safbwyntiau a fynegwyd, gan gynnwys y rhai gan y panel carbon. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae plannu coed a chreu gwrychoedd o bwysigrwydd hanfodol i gyflawni ein hymrwymiadau sero net. O'r herwydd, mae'r ffigur lefel fferm ar gyfer gorchudd coed wedi'i ddileu a bydd yn cael ei ddisodli gan darged ar draws y cynllun cyfan a fydd yn cael ei bennu ar ôl trafodaeth gyda'r ford gron weinidogol a gweithredu cyffredinol newydd ar gyfer cynllun cyfle plannu coed a chreu gwrychoedd. Byddwn yn sefydlu mecanwaith llywodraethu, a fydd yn cynnwys aelodau allweddol o'r diwydiant ffermio a rhanddeiliaid amgylcheddol, er mwyn sicrhau bod y targed ar draws y cynllun yn cael ei gyrraedd. Ac unwaith eto, mae gweithio mewn cydweithrediad yn allweddol i sicrhau y gallwn gyflawni ein nodau a'n targedau yn y ffordd fwyaf cadarnhaol.

Mae'r newidiadau i'r cynllun yn golygu y bydd ffermwyr sy'n gwneud cais yn gallu penderfynu a mapio lle yr hoffent ychwanegu mwy o goed a gwrychoedd ar eu fferm, eu nifer, ac os yw'n briodol, cael cyllid i'w cefnogi drwy haen ddewisol y cynllun. Rydym yn cynnig y bydd ffermwyr yn cwblhau'r cyfle hwn a gynlluniwyd ar gyfer eu fferm yn y flwyddyn gyntaf y maent yn ymuno â'r cynllun a bydd angen iddynt ddangos cynnydd erbyn diwedd blwyddyn cynllun 2030. Rydym yn bwriadu gwneud hon yn broses syml, felly ni fydd angen arweiniad coedwigaeth proffesiynol ar ffermwyr, ond byddwn yn sicrhau bod cyngor arbenigol ar gael i helpu'r ffermwr i benderfynu ble sydd orau i'w plannu. Mae'r grantiau plannu sydd ar gael yn hyblyg iawn ac maent yn darparu cymorth ar gyfer amrywiaeth eang o weithredoedd, gan gynnwys plannu ardaloedd o goetir, lleiniau cysgodi, amaeth-goedwigaeth, perllannau, coed unigol ac, yn wir, gwrychoedd newydd.

Mae'r cynllun cyffredinol yn parhau i ganolbwyntio ar gefnogi ffermwyr sy'n cynhyrchu bwyd a buddion cynaliadwy eraill. Mae'r gweithredoedd a'r gweinyddu wedi cael eu symleiddio i weithredu drwy Daliadau Gwledig Cymru Ar-lein mor effeithlon â phosibl, ac i roi cyfle i ffermwyr presennol a newydd ac ifanc. Yn amlinelliad y cynllun, rydym hefyd wedi nodi sut rydym yn bwriadu cyfrifo taliad cyffredinol y cynllun ffermio cynaliadwy. Yn ogystal â'r costau a ysgwyddwyd a'r incwm a ildiwyd, rydym yn dal yn bwriadu cynnwys gwerth cymdeithasol i'r taliad hwn. Bydd hyn yn cynrychioli'r manteision ehangach i gymdeithas a ddaw o ddiwydiant amaethyddol cynaliadwy, a byddwn yn cyhoeddi'r cyfraddau talu gyda'r cynllun terfynol. Mae newidiadau eraill yn cynnwys ystyried safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig—SoDdGAau—a hawliau tir comin yn y taliad cyffredinol. Bydd cymorth pellach i'r ddau hefyd ar gael fel elfennau dewisol a chydweithredol.

Rwyf wedi bod yn glir iawn gyda'r Aelodau nad hwn yw'r cynllun terfynol. Er bod y cynnydd rydym wedi'i wneud yn sylweddol, mae llawer o waith i'w wneud o hyd. O ran y camau nesaf, byddwn nawr yn defnyddio'r cynllun, a gyhoeddwyd ddoe, i gynnal dadansoddiad economaidd wedi'i ddiweddaru ac asesiad effaith dros y misoedd nesaf, i ganfod yr effeithiau ar ystod o agweddau amaethyddol, amgylcheddol a chymdeithasol.

Byddaf yn parhau i weithio gyda'n rhanddeiliaid yn y diwydiant ffermio, cyrff amgylcheddol ac eraill i edrych ar fanylion ychwanegol y camau gweithredu, gofynion y cynllun a'r prosesau gweinyddol, drwy y grŵp bord gron a'r grŵp swyddogion. Mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn rhan hanfodol o'r cynllun hwn hyd yn hyn, ac mae gweithio gyda'n gilydd yn hanfodol i lwyddiant y cynllun.

I will continue to work with our stakeholders in the farming industry, environmental bodies and others to look at the additional details of the actions, the requirements of the scheme and the administrative processes, through the round-table group and the officers' group. Working in partnership has been an essential part of this scheme so far, and working together is essential to the success of the scheme.

I intend, Llywydd, to make final scheme decisions next summer, based on these further discussions at the ministerial round-table, and evidence, including the economic analysis and the impact assessment. This will be the earliest opportunity we have to provide details of the payment rates. Following that, I will publish a final scheme next summer.

I’m very pleased to provide this progress update today. I believe these changes will make it easier for farmers to participate and to benefit from the scheme, whilst also supporting us to meet the imperatives of tackling the climate and the nature emergency. Diolch yn fawr.

Llywydd, rwy'n bwriadu gwneud penderfyniadau terfynol y cynllun yr haf nesaf, yn seiliedig ar y trafodaethau pellach hyn ym mwrdd y ford gron weinidogol, a thystiolaeth, gan gynnwys y dadansoddiad economaidd a'r asesiad effaith. Hwn fydd y cyfle cyntaf sydd gennym i ddarparu manylion am y cyfraddau talu. Yn dilyn hynny, byddaf yn cyhoeddi cynllun terfynol yr haf nesaf.

Rwy'n falch iawn o ddarparu'r diweddariad hwn heddiw. Rwy'n credu y bydd y newidiadau hyn yn ei gwneud yn haws i ffermwyr gymryd rhan ac elwa ar y cynllun, gan hefyd ein cefnogi i gwrdd â hanfodion mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur. Diolch yn fawr.

15:50

As I'm not quite sure, I'd better declare a relatable interest in this, due to family circumstances.

I'd like to thank you, Cabinet Secretary, for providing an update on the revised sustainable farming scheme, and, like you, I'd like to thank all those farming organisations and active farmers on that panel for all the time they have given to make this scheme probably be in a better place than what it was previously. However, there are still some challenges that still exist and some key issues that remain unresolved, and I'd just like to see some further clarification from you on behalf of those Welsh farmers and rural communities about the questions that I was asked yesterday.

I think the main issue that came through at the winter fair after your announcement yesterday was around financial certainty and future support, because this could be the best scheme possible that could ever be put on the table, but if there isn't a long-term budget, a secure budget, put in place to support the implementation of this scheme, then no-one is going to take it up. So, I need some assurance—I'm sure the farmers across Wales need assurance—that this scheme is going to be backed by an adequate budget and it's financially resourced to ensure economic stability for family farms. So, can you confirm, if you haven't already done so, or are in the process of doing so, the payment rates, what will be outlined, and can you confirm whether the payment rates will be in excess of income forgone? Because a lot of farmers I talked to yesterday were saying if everything was on income forgone, they're probably not going to go into the scheme. There has to be some financial benefit for doing the things that you want them to, and I'd be interested to hear that.

You also mentioned the social value payment. I think that's something that's welcomed, that we're actually going to see the social value of farming. So, I just want to know how that's actually going to be calculated and what measures are in place to ensure that it accurately reflects the value that farming does add to the Welsh economy and society.

I can't go through this without talking about tree planting, and I've always been an advocate for the right tree planted in the right place. That's what everybody's talked about, and I'm pleased to hear that farmers now will be able to map their own farms, where they think they can plant, and that's a positive step forward. I'm pleased that the 10 per cent tree-planting target has gone, because I think that was a major sticking point for a lot of people out there. I'd be interested to know, going forward, about the tree-planting plan that people are going to put forward. How is the governance going to work around that, and how is that going to be agreed with Government on individual farms? Because say, for example, a farmer says, 'I can do 2 per cent', but then perhaps Government or others say it could be 6 per cent. It'll be interesting to see how that negotiation is going to work, because if you want farmers to buy into it, they need to feel that, actually, what they're putting forward is being respected by Government agencies. And I'm just interested why the 10 per cent habitat figure is still in there if the tree-planting figure has gone. I'm interested why there isn't an overarching scheme target for habitat as well. And I just want to know as well what specific guidance and support are going to be provided for farmers to make sure that the habitat is feasible across various farming systems. You mentioned tenants, and I'll come on to that. But one thing I do want to ask as well is around pre-existing trees and hedgerows. I know that's something that has been a bone of contention for some time, and I'm not sure whether it's been decided as part of the round-tables yet—are existing trees and hedgerows going to be counted towards the overall habitat target, or are they going to be counted towards the overall tree-planting target? So, some clarity around that I think is very needed, for people to know that.

You predecessor in this brief said that if this scheme didn't work for tenant farmers, it didn't work for everybody, and I had a very constructive meeting yesterday with the Tenant Farmers Association around the scheme, and there is still some nervousness to make sure that if tenants want to go into this scheme, that they won't have no restrictions imposed upon them on landlords, especially in terms of tree planting, because we know that tree planting does devalue land. So, we need to make sure that, actually, if tenants want to do this, they're enabled to do it, so any support you can give around that would be interesting to hear.

One thing that I think I would like to see is an actual definition of an active farmer in this scheme, because we need to have that clear definition, because there were far too many people accessing agricultural schemes in the past who are not active farmers, and we need to make sure that money is actually going towards the people who produce food for this country and give us food security. I'm going to run out of time; I've got loads of questions.

Veterinary capacity is also another issue. I was very pleased that the universal actions were rolled down, especially on animal health and welfare and biosecurity; it's something that you and I have talked about in some of the meetings that we've had. If there's going to be 6,000 vet meetings happening across the country, there are not that many vets across the country to do that, especially farm vets, so it'll be interesting to know what support you're going to provide to that sector as well, to make sure that we do have the capacity to actually roll out these universal actions.

I know I'm out of time, but I've got one quick question, Llywydd, if that's okay. One of the key things that's very important to me and the Welsh Conservative group is food security. We need to make sure that any scheme supports our food and makes our farmers produce food. There is a worrying trend at the moment, Cabinet Secretary, about the decrease in livestock numbers across the country. I've met with Farmers Fresh who were talking to me, actually, about the critical mass of lamb and the critical mass of beef that is going through abattoirs at the moment, and, actually, the threat that abattoirs have got to close because we're not seeing the sheer volume of stock going through those abattoirs. So, it would be very interesting to know what support you're going to put in this scheme to actually make sure farmers keep farming, that they keep producing livestock as well, to make sure that we safeguard those jobs and opportunities, not just in agriculture, but those wider associated industries, because without those abattoirs, places like Merthyr, with St Merryn—if they close a couple of lines down there could be an awful lot of people, hundreds of people, losing their jobs. So, some assurances around that would also be very welcome. Diolch, Llywydd.

Gan nad wyf yn hollol siŵr, byddai'n well i mi ddatgan buddiant perthynadwy yn hyn, oherwydd amgylchiadau teuluol. Hoffwn ddiolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun ffermio cynaliadwy diwygiedig, ac, fel chi, hoffwn ddiolch i'r holl sefydliadau ffermio hynny a'r ffermwyr gweithredol ar y panel hwnnw am yr holl amser y maent wedi'i roi i wneud yn siŵr bod y cynllun hwn mewn lle gwell na'r hyn yr oedd o'r blaen. Fodd bynnag, mae rhai heriau yn dal i fodoli a rhai problemau allweddol sy'n parhau heb eu datrys, a hoffwn weld rhywfaint o eglurhad pellach gennych chi ar ran y ffermwyr a'r cymunedau gwledig hynny yng Nghymru ynghylch y cwestiynau a ofynnwyd imi ddoe.

Rwy'n credu mai'r prif fater a ddaeth i'r amlwg yn y ffair aeaf ar ôl eich cyhoeddiad ddoe oedd sicrwydd ariannol a chefnogaeth yn y dyfodol, oherwydd gallai hyn fod y cynllun gorau posibl y gellid ei roi ar y bwrdd erioed, ond os nad oes cyllideb hirdymor, cyllideb ddiogel, a roddir ar waith i gefnogi gweithredu'r cynllun hwn, yna, ni fydd neb yn ei dderbyn. Felly, mae angen rhywfaint o sicrwydd arna i—rwy'n siŵr bod angen sicrwydd ar ffermwyr ledled Cymru—bod y cynllun hwn yn mynd i gael ei gefnogi gan gyllideb ddigonol a bod ganddo adnoddau ariannol i sicrhau sefydlogrwydd economaidd i ffermydd teuluol. Felly, a allwch gadarnhau, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, neu os ydych yn y broses o wneud hynny, y cyfraddau talu, beth fydd yn cael ei amlinellu, ac a allwch gadarnhau a fydd y cyfraddau talu yn fwy na'r incwm a ildiwyd? Oherwydd mae llawer o ffermwyr y siaradais â nhw ddoe yn dweud pe bai popeth ar incwm a ildiwyd, mae'n debyg na fydden nhw'n ymuno â'r cynllun. Mae'n rhaid bod rhywfaint o fudd ariannol ar gyfer gwneud y pethau rydych chi eisiau iddyn nhw eu gwneud, a byddai gen i ddiddordeb mewn clywed hynny.

Roeddech hefyd yn sôn am y taliad gwerth cymdeithasol. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sy'n cael ei groesawu, ein bod ni'n mynd i weld gwerth cymdeithasol ffermio. Felly, hoffwn wybod sut y bydd hynny'n cael ei gyfrifo mewn gwirionedd a pha fesurau sydd ar waith i sicrhau ei fod yn adlewyrchu'n gywir y gwerth y mae ffermio yn ei ychwanegu at economi a chymdeithas Cymru.

Ni allaf fynd trwy hyn heb sôn am blannu coed, ac rwyf bob amser wedi bod yn eiriolwr dros egwyddor y goeden gywir yn y man cywir. Dyna mae pawb wedi bod yn sôn amdano, ac rwy'n falch o glywed y bydd ffermwyr nawr yn gallu mapio eu ffermydd eu hunain, lle maen nhw'n credu y gallan nhw blannu, ac mae hynny'n gam cadarnhaol ymlaen. Rwy'n falch bod y targed plannu coed 10 y cant wedi mynd, oherwydd rwy'n credu bod hwnnw wedi bod yn achos anghytuno mawr i lawer o bobl allan yna. Byddai gennyf ddiddordeb i wybod, wrth symud ymlaen, am y cynllun plannu coed y mae pobl yn mynd i'w gyflwyno. Sut mae'r llywodraethiant yn mynd i weithio o amgylch hynny, a sut y cytunir ar hynny gyda'r Llywodraeth ar ffermydd unigol? Oherwydd dywedwch er enghraifft bod ffermwr yn dweud, 'Gallaf wneud 2 y cant', ond yna efallai fod y Llywodraeth neu eraill yn dweud y gallai fod yn 6 y cant. Bydd yn ddiddorol gweld sut y bydd y negodi hwnnw'n gweithio, oherwydd os ydych chi eisiau i ffermwyr dderbyn hyn, mae angen iddyn nhw deimlo, mewn gwirionedd, bod yr hyn maen nhw'n ei gyflwyno yn cael ei barchu gan asiantaethau'r Llywodraeth. Ac mae gen i ddiddordeb mewn gwybod pam y mae'r ffigur cynefinoedd o 10 y cant yn dal i fod yno os yw'r ffigur plannu coed wedi mynd. Mae gen i ddiddordeb mewn gwybod pam nad oes targed cynllun trosfwaol ar gyfer cynefin hefyd.

Ac rwyf ond eisiau gwybod hefyd pa ganllawiau a chefnogaeth benodol fydd yn cael eu darparu i ffermwyr er mwyn sicrhau bod y cynefin yn ymarferol ar draws gwahanol systemau ffermio. Fe wnaethoch chi sôn am denantiaid, a byddaf yn dod at hynny. Ond mae un peth rydw i eisiau ei ofyn hefyd yn ymwneud â choed a gwrychoedd sy'n bodoli eisoes. Rwy'n gwybod bod hynny'n rhywbeth sydd wedi bod yn asgwrn cynnen ers peth amser, a dydw i ddim yn siŵr a yw wedi cael ei benderfynu fel rhan o gyfarfodydd y ford gron eto—a fydd coed a gwrychoedd presennol yn cael eu cyfrif tuag at y targed cyffredinol o ran cynefinoedd, neu a ydyn nhw'n mynd i gael eu cyfrif tuag at y targed plannu coed yn gyffredinol? Felly, mae angen mawr cael rhywfaint o eglurder ynghylch hynny rwy'n credu, er mwyn i bobl wybod hynny.

Dywedodd eich rhagflaenydd yn y briff hwn, os nad oedd y cynllun hwn yn gweithio i ffermwyr tenant, yna nid oedd yn gweithio i bawb, a chefais gyfarfod adeiladol iawn ddoe gyda'r Gymdeithas Ffermwyr Tenant ynghylch y cynllun, ac mae rhywfaint o nerfusrwydd o hyd ynghylch sicrhau os yw tenantiaid am fynd i mewn i'r cynllun hwn, na fydd cyfyngiadau yn cael eu gorfodi arnynt gan landlordiau, yn enwedig o ran plannu coed, oherwydd gwyddom fod plannu coed yn dibrisio tir. Felly, mae angen i ni sicrhau, mewn gwirionedd, pe bai tenantiaid eisiau gwneud hyn, eu bod yn gallu gwneud hyn, felly byddai'n ddiddorol clywed am unrhyw gefnogaeth y gallwch ei rhoi ynghylch hynny.

Un peth yr hoffwn ei weld yw diffiniad gwirioneddol o ffermwr gweithredol yn y cynllun hwn, oherwydd mae angen i ni gael y diffiniad clir hwnnw, oherwydd roedd gormod o lawer o bobl yn defnyddio cynlluniau amaethyddol yn y gorffennol nad oedden nhw'n ffermwyr gweithredol, ac mae angen i ni sicrhau bod arian yn mynd i'r bobl sy'n cynhyrchu bwyd ar gyfer y wlad hon a rhoi diogeledd bwyd i ni. Rwy'n rhedeg allan o amser; mae gennyf lawer o gwestiynau.

Mae capasiti milfeddygol hefyd yn fater arall. Roeddwn yn falch iawn bod y camau cyffredinol wedi'u cyflwyno, yn enwedig ynghylch iechyd a lles anifeiliaid a bioddiogelwch; mae'n rhywbeth yr ydych chi a minnau wedi siarad amdano yn rhai o'r cyfarfodydd a gawsom. Os bydd 6,000 o gyfarfodydd milfeddygon yn digwydd ledled y wlad, nid oes digon o filfeddygon ledled y wlad i wneud hynny, yn enwedig milfeddygon fferm, felly bydd yn ddiddorol gwybod pa gefnogaeth rydych chi'n mynd i'w darparu i'r sector hwnnw hefyd, i sicrhau bod gennym y capasiti i gyflwyno'r camau cyffredinol hyn mewn gwirionedd.

Rwy'n gwybod bod fy amser ar ben, ond mae gennyf un cwestiwn cyflym, Llywydd, os yw hynny'n iawn. Un o'r pethau allweddol sy'n bwysig iawn i mi a grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yw diogeledd bwyd. Mae angen i ni sicrhau bod unrhyw gynllun yn cefnogi ein bwyd ac yn gwneud i'n ffermwyr gynhyrchu bwyd. Mae tuedd bryderus ar hyn o bryd, Ysgrifennydd Cabinet, sef y gostyngiad yn nifer y da byw ledled y wlad. Rwyf wedi cwrdd â Farmers Fresh a oedd yn siarad â mi, mewn gwirionedd, am y màs critigol o gig oen a'r màs critigol o gig eidion sy'n mynd trwy ladd-dai ar hyn o bryd, ac, mewn gwirionedd, y bygythiad y bydd yn rhaid i ladd-dai gau oherwydd nad ydym yn gweld swmp digonol o stoc yn mynd trwy'r lladd-dai hynny. Felly, byddai'n ddiddorol iawn gwybod pa gymorth rydych chi'n mynd i'w roi yn y cynllun hwn i sicrhau bod ffermwyr yn parhau i ffermio, eu bod yn parhau i gynhyrchu da byw hefyd, i sicrhau ein bod yn diogelu'r swyddi a'r cyfleoedd hynny, nid yn unig mewn amaethyddiaeth, ond y diwydiannau cysylltiedig ehangach, oherwydd heb y lladd-dai hynny, lleoedd fel Merthyr, gyda St Merryn—os ydyn nhw'n cau cwpl o linellau fe allai lawer iawn o bobl, cannoedd o bobl, golli eu swyddi. Felly, byddai rhywfaint o sicrwydd ynghylch hynny hefyd i'w groesawu'n fawr. Diolch, Llywydd.

15:55