Y Cyfarfod Llawn

Plenary

13/11/2024

Cofnodir y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y pwyllgor. Yn ogystal, cynhwysir trawsgrifiad o’r cyfieithu ar y pryd. Lle mae cyfranwyr wedi darparu cywiriadau i’w tystiolaeth, nodir y rheini yn y trawsgrifiad.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg sydd gyntaf y prynhawn yma ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Heledd Fychan.

Cyllid Awdurdodau Lleol

1. Pa drafodaethau mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi eu cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ynglŷn a sicrhau bod awdurdodau lleol Cymru yn derbyn cyllid digonol i barhau i ddarparu gwasanaethau? OQ61844

Wel, Llywydd, rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â holl gyd-weithwyr y Cabinet, yn unigol ac ar y cyd, yn ystod y broses o osod cyllideb ddrafft. Mynychais yr is-grŵp cyllid gydag Ysgrifennydd y Cabinet ar 22 Hydref, i glywed gan awdurdodau lleol yn uniongyrchol am eu pwysau a'u blaenoriaethau. A chwrddais i eto ag arweinwyr y cyngor a phrif swyddogion ddydd Llun diwethaf.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’n fuddiol iawn gwybod eich bod chi yn cyfarfod mor rheolaidd, ac, yn amlwg, dwi'n siŵr y bydd arweinyddion llywodraeth leol wedi pwysleisio efo chi y ffaith eu bod nhw'n pryderu'n fawr ynglŷn â'u gallu nhw i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol yn benodol oherwydd yr heriau ariannol. Yn fy rhanbarth i, ac yn benodol yn Rhondda Cynon Taf, mae'r cyngor yn ymgynghori ynglŷn â chau dau gartref gofal er mwyn gwneud arbedion ar y funud: Cae Glas a Ferndale House. Mae hyn er gwaetha'r ffaith bod yna drigolion mewn gwelyau yn yr ysbytai lleol sy'n barod i gael eu rhyddhau ond yn aros am le mewn cartref gofal, weithiau am wythnosau.

Sut, felly, ydych chi'n gweithio gyda’r Ysgrifenyddion Cabinet perthnasol i sicrhau nad oes yna unrhyw benderfyniadau byrbwyll, megis cau cartrefi gofal, yn digwydd nes bod y darlun cyllid yn gliriach ar gyfer y flwyddyn nesaf? Ac onid ydy hi'n bwysig, o ran sefyllfa gyllidol y gwasanaeth iechyd, fod y cartrefi hyn yn parhau ar agor fel nad ydyn ni'n rhoi mwy o bwysau ar gyllidebau amgen?

Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Heledd Fychan am y cwestiwn atodol yna. Rŷch chi'n iawn—mae arweinwyr cynghorau lleol yn sôn bob tro rwy'n cwrdd â nhw am y pwysau y maen nhw'n ei wynebu yn y maes gofal cymdeithasol, ond ar draws eu cyfrifoldebau nhw i gyd.

Wrth gwrs, mae’r berthynas rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn un bwysig ac rŷn ni'n gwybod bod pobl mewn ysbytai yn awr sy'n ddigon da i fynd yn ôl adref neu i gael gofal y tu fas i'r ysbyty. Dwi ddim yn siŵr os yw’n wir i ddweud mai jest mater o arian yw e pan fydd cynghorau lleol yn symud i gau rhai cartrefi preswyl. Fel dwi'n deall, yn RhCT, mae gwelyau yn wag nawr yn y cartrefi gofal sydd ganddyn nhw. So, ar un ochr, mae arian, wrth gwrs, yn bwysig a dyna beth dwi'n ei drafod gyda nhw, ond hefyd mae'r galw am wasanaethau i bobl yn y gymuned yn newid a dyna beth mae awdurdodau lleol yn ei wynebu hefyd.

Diolch i fy nghyd-Aelod am godi'r mater pwysig hwn. Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r holl sôn wedi bod am fwy o arian i’r GIG er mwyn mynd i’r afael ag amseroedd aros. Mewn gwirionedd, y prif reswm pam fod Cymru’n cael cymaint o arian ychwanegol yw oherwydd yr arian y mae Llywodraeth y DU yn ei wario ar fynd i’r afael ag amseroedd aros y GIG yn Lloegr. Fodd bynnag, nid pwmpio biliynau ychwanegol i iechyd yw'r ateb i fynd i’r afael ag amseroedd aros. Mae angen inni gyfeirio gwariant at ofal cymdeithasol, ac mae hynny’n golygu cyfeirio arian at awdurdodau lleol. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gofal cymdeithasol yn cael ei ariannu’n briodol er mwyn dileu oedi wrth drosglwyddo gofal, a grybwyllwyd gennych yn gynharach?

Wel, Lywydd, wrth gwrs, rwy'n cytuno â’r Aelod fod buddsoddi mewn gofal cymdeithasol yn rhan o'r ateb i fynd i'r afael â’r pwysau cyffredinol ar ein system. O safbwynt yr unigolyn, nid oes ots a yw’r arian yn cael ei wario yn y gwasanaeth iechyd neu mewn gofal cymdeithasol, ar yr amod eu bod yn cael y gwasanaeth sydd ei angen arnynt hwy eu hunain.

Credaf fod pwynt ehangach, serch hynny, na’r un y mae Altaf Hussein wedi’i wneud y prynhawn yma, sef yn hanesyddol, ym mhob gwasanaeth cyhoeddus, ein bod yn canolbwyntio ar ddarparu—rydym yn darparu mwy o wasanaethau, rydym yn creu mwy o hyn, rydym yn darparu mwy o'r llall—tra bo angen inni edrych, mewn gwirionedd, ar y galw mewn gwasanaethau hefyd. Pam fod pobl yn ymgyflwyno am ofal yn y GIG, yn enwedig pan fo’r cyflyrau y maent yn ymgyflwyno â hwy yn gyflyrau y gellir eu hosgoi os gwneir dewisiadau gwahanol, ac os oes ffynonellau cymorth gwahanol ar gael i bobl yn gynharach yn natblygiad y broblem sy’n golygu, yn y pen draw, mai gwasanaeth gofal eilaidd sydd ei angen arnoch? Felly, mae a wnelo ag ailgydbwyso'r ffordd y mae ein gwasanaethau cyhoeddus nid yn unig yn cael eu hariannu, ond y ffordd y maent yn mynd ati i wneud y gwaith a wnânt fel bod mwy o bwyslais ar helpu i ymdrin â galw, yn hytrach na dim ond ymdrin â chanlyniadau'r galw pan fydd y galw hwnnw wedi crisialu.

13:35

Ysgrifennydd y Cabinet, fe wyddom yn iawn fod blynyddoedd o gyni wedi cael effaith ddinistriol ar wasanaethau cyhoeddus, ac rydym wedi dweud o'r blaen yn y lle hwn ei bod yn mynd i gymryd mwy na chyllideb y mis diwethaf i drawsnewid y sefyllfa honno. Ond fe wyddom hefyd, fel rydym eisoes wedi'i glywed y prynhawn yma, fod ein hawdurdodau lleol yn wynebu cyfres o heriau uniongyrchol, a'r heriau a deimlir yn fwyaf difrifol yn fy nghornel i o'r wlad, boed hynny ym maes gofal cymdeithasol, effaith deddfwriaeth, neu faterion bara menyn fel atgyweirio ffyrdd. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn, yng nghyd-destun yr hinsawdd sydd ohoni, pa ystyriaeth a roddwyd ac y gellid ei rhoi i unrhyw atebion ariannu tymor byrrach, boed hynny’n refeniw a chyfalaf, neu'r posibilrwydd o wneud pethau, unrhyw beth, yn wahanol—mae un o'r pethau a awgrymwyd i mi yn ymwneud ag edrych ar gronfeydd wrth gefn—ond ffordd o bontio'r bwlch hwnnw, efallai, i ddyfodol ariannol mwy disglair, gobeithio?

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae'n llygad ei lle am y pwysau y mae awdurdodau lleol yn ei wynebu, ond 14 mlynedd i mewn i gyfnod o gyfyngiadau ar adnoddau, mae gwasanaethau cyhoeddus o bob math yn wynebu'r mathau hynny o heriau. Fy nod yn y gyllideb y flwyddyn nesaf yw cynorthwyo ein hawdurdodau lleol i gamu'n ôl o'r dibyn o ran yr heriau gwaethaf y maent yn eu hwynebu a chaniatáu llwybr iddynt y tu hwnt i hynny tuag at ddyddiau pan fydd ganddynt, gobeithio, yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i ddiwallu anghenion eu poblogaethau lleol. Yn y tymor byr, rwyf mewn trafodaethau, wrth gwrs, gyda chyd-Aelodau o'r Cabinet ynglŷn â chyllideb eleni. Mae cynnydd yn yr adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn y flwyddyn gyfredol. Ac yn y tymor byr iawn, mae camau y gobeithiwn allu eu cymryd i liniaru rhywfaint o'r pwysau y mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn ei wynebu. Rwy’n awyddus iawn, yn ysbryd y cwestiwn blaenorol, i annog cyd-Aelodau o'r Cabinet a’n gwasanaethau cyhoeddus i ddefnyddio buddsoddiadau tymor byr fel llwybr at gynaliadwyedd mwy hirdymor. Ac mae ffyrdd y gellir defnyddio gwariant cyfalaf, yn arbennig, i wneud yr adnoddau refeniw sydd gan awdurdod i'w defnyddio yn fwy effeithiol ac yn fwy effeithlon. Ac rydym yn canolbwyntio ar y mathau hynny o gamau tymor byr fel rhan o’r llwybr pellach tuag at gyfnod pan fydd gan ein gwasanaethau cyhoeddus y buddsoddiadau y cawsant eu hamddifadu ohonynt ers cyhyd.

Cyllideb Hydref Llywodraeth y DU

2. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynglŷn a chyllideb hydref Llywodraeth y DU? OQ61856

Diolch i arweinydd yr wrthblaid am ei gwestiwn. Lywydd, cafwyd cyfres o drafodaethau cydweithredol gyda Gweinidogion y DU, yn canolbwyntio ar flaenoriaethau Cymru, cyn cyllideb y DU. Bydd y rhain yn parhau wrth inni symud ymlaen at ail gam adolygiad o wariant y DU, a fydd yn cael ei gwblhau yn y gwanwyn.

Diolch, Weinidog cyllid. Mae'n teimlo fel yr un hen stori yn sefyll yma'n gofyn cwestiynau i chi. Yn amlwg, un o’r mesurau a ddaeth o gyllideb Llywodraeth y DU oedd y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol i gyflogwyr. Mae hynny, o bosibl, yn cael effaith ddinistriol ar allu cwmnïau i gyflogi. Byddai cwmni sy’n cyflogi rhywun ar y cyflog canolrifol yn talu £900 yn ychwanegol mewn yswiriant gwladol yn y pen draw, ac ar yr isafswm cyflog, byddai’n £770. Rydych wrthi'n llunio cyllideb Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, Ysgrifennydd cyllid. Ni fuaswn yn gofyn ichi ddatgelu beth sydd yn y gyllideb honno, gan na fyddech yn dweud wrthyf. Ond a oes gallu gennych chi, fel Gweinidog cyllid, i edrych ar allu’r adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i adfer y rhyddhad ardrethi busnes ar y gwerth llawn o 75 y cant i fusnesau Cymru, fel yr oedd cyn cyllideb Llywodraeth Cymru y llynedd, gan y byddai hwnnw’n arf defnyddiol iawn o ran caniatáu i arian gael ei gadw o fewn y busnesau hynny, ac i wrthbwyso’r costau cynyddol y mae’r busnesau hynny’n eu hwynebu wrth gyflogi pobl yn y dyfodol?

13:40

Lywydd, diolch i Andrew R.T. Davies. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn rhoi iawndal i wasanaethau cyhoeddus am y cyfraniadau yswiriant gwladol ychwanegol y bydd cyflogwyr gwasanaethau cyhoeddus yn eu hysgwyddo. Y diffiniad a ddefnyddiant o weithiwr sector cyhoeddus yw’r un a ddefnyddiwyd gan y Llywodraeth ddiwethaf ac a nodir yn nosbarthiadau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Byddaf yn trafod gydag Aelodau o Lywodraeth y DU yr effaith y mae’r newid yn ei chael ar y rheini y tu allan i’r cwmpas hwnnw. Nid oes gennyf unrhyw gynlluniau i adfer lefel y rhyddhad ardrethi dros dro i fusnesau twristiaeth, hamdden a lletygarwch. Mae hynny bellach yn ei bumed flwyddyn o ryddhad dros dro. Mae’n amlwg i mi o gyllideb y DU na fydd y rhyddhad hwnnw’n cael ei ailadrodd ar ôl y flwyddyn ariannol nesaf, gan i'r Canghellor gyhoeddi dull newydd o ymdrin â'r lluosyddion ar gyfer y sectorau hynny. Rydym ar lwybr llithro allan o’r cymorth a roddwyd i helpu’r sector i adfer ar ôl pandemig COVID, a chredaf fod y llwybr llithro rydym wedi’i sefydlu yng Nghymru yn un a fydd yn helpu’r sector i ymdrin â’r ffaith nad yw'r cymorth yn mynd i fod yno yn y tymor hir ac na fwriadwyd erioed iddo fod.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fe ŵyr pob un ohonom fod gwasanaethau’r sector cyhoeddus yn dibynnu’n helaeth ar y darparwyr preifat hynny—fel y mae Heledd Fychan eisoes wedi'i nodi, cartrefi gofal, ond darparwyr gofal cartref hefyd. O ganlyniad i’r gyllideb ddiweddar a’r costau cynyddol, yn sicr mewn perthynas ag yswiriant gwladol, a’r trothwyon yn gysylltiedig â hynny, rydym yn mynd i weld y darparwyr hynny’n ei chael hi'n wirioneddol anodd. Ac maent yn hollbwysig i ddarparu ein gwasanaethau cyhoeddus ac ar gyfer y daith adfer y mae angen inni fod arni mewn sawl ffordd.

Nawr, fe welsom Gymru yn cynnig, neu'n mynd i gynnig rhyddhad ardrethi annomestig o 100 y cant ar gyfer darparwyr gofal plant ledled Cymru, ac roedd hynny i'w groesawu'n fawr. O gofio rhai o’r pethau yr oedd Heledd yn eu dweud yn gynharach, tybed pa gymorth y gellid ei roi i’r sector gofal ehangach i’w galluogi i sicrhau eu bod yn wydn, ac y gallant barhau i gefnogi ein sector cyhoeddus yn y ffordd rydym angen iddynt ei wneud. Rydym yn gweld cymaint o oriau o angen nas diwallwyd mewn gofal cartref, ac os bydd y busnesau sy’n darparu hynny'n erydu ymhellach, ni fydd hynny’n helpu’r system bresennol rydym ynddi.

Wel, Lywydd, gallaf roi sicrwydd i’r Aelod fod anghenion y sector gofal yn cael eu trafod yn weithredol fel rhan o’r broses o osod y gyllideb. Cefais sgwrs gyda’r Gweinidog iechyd a’r Gweinidog gofal cymdeithasol y bore yma ynglŷn â hynny. Mae’r gyllideb sydd ar gael i Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf yn golygu y byddwn mewn sefyllfa i ailfuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Nid i'r graddau yr hoffem, ond bydd y sector gofal yn bendant iawn yn ein meddyliau wrth wneud hynny. Ers dechrau tymor y Senedd hon, rydym wedi rhoi cymorth i’r sector dalu costau’r cyflog byw gwirioneddol i’r rheini sy’n cael eu cyflogi mewn gofal cartref, a bydd yn uchelgais gennym i barhau i wneud hynny.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, a chredaf fod pob un ohonom yn dymuno gweld y gwasanaethau hyn yn cael eu diogelu, gan fod hyn yn bwysicach na gwleidyddiaeth am ei fod mor sylfaenol i'r gymdeithas gyfan, ac mae angen inni wneud cynnydd ar hynny.

Soniodd Andrew R.T. Davies am rai o’r pethau roeddwn yn mynd i ganolbwyntio arnynt yn fy ail gwestiwn, gan gynnwys ceisio rhoi rhywfaint o sicrwydd i’r sectorau sy’n ei chael hi’n anodd ac sy’n ofni efallai na fydd rhyddhad ardrethi annomestig yn parhau yn y dyfodol yng Nghymru, lle gwyddom ei fod yn mynd i barhau yn Lloegr. Ond gwyddom eu bod yn rhewi eu lluosydd yno hefyd. Nawr, mae'r gallu gennym i ddefnyddio lluosydd, neu i roi lluosydd ar waith nawr yng Nghymru—. Nid ydym wedi gwneud hynny eto. A ydych chi'n credu bod cyfle nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, i ni ddefnyddio’r lluosydd i leihau’r effaith ar y busnesau llai yn ein cymunedau?

13:45

Lywydd, y peth cyntaf i'w ddweud yw nad yw hanner busnesau bach Cymru yn talu unrhyw ardrethi busnes o gwbl. Felly, nid yw’r lluosydd yn cael unrhyw effaith arnynt hwy am nad ydynt yn talu unrhyw beth mewn ardrethi busnes. Mae dros 30 y cant yn fwy o fusnesau yng Nghymru yn cael rhyddhad rhag o leiaf rywfaint o’u hardrethi busnes. Dim ond 20 y cant o fusnesau yng Nghymru sy’n talu ardrethi busnes llawn.

Credaf ei bod yn bryd diwygio'r system yn sylweddol pan fyddwch yn cyrraedd sefyllfa lle nad oes ond un o bob pum busnes yn talu'r ardrethi busnes fel y’u gosodwyd. Credaf fod hynny'n dweud wrthych fod y system, dros y blynyddoedd, wedi cynnwys rhyddhad fan hyn, cymorth ychwanegol fan draw, a'i bod yn bryd edrych arni'n agosach.

Cawsom bwerau newydd yn y Bil a aeth drwy’r Senedd yn gynharach eleni i allu ymateb yn fwy hyblyg o ran lluosydd. Ni fydd y pwerau hynny ar gael yng Nghymru tan 1 Ebrill y flwyddyn nesaf. Felly, mae’r gyllideb a fydd yn dod gerbron y Senedd ar 10 Rhagfyr yn adlewyrchu’r pwerau presennol sydd gennym, ond bydd posibiliadau newydd i ni o ganlyniad i benderfyniad y Senedd o’r flwyddyn nesaf ymlaen.

Diolch am eich ateb. Gwn ei bod yn rhwystredig pan fyddwn yn sôn yn aml am ardrethi annomestig, ond pan oeddwn gyda chymheiriaid o’r Ffederasiwn Busnesau Bach ddoe, roeddent yn pwysleisio unwaith eto y pwysau y mae busnesau sy'n talu ardrethi annomestig yn ei wynebu. Felly, nid yw'r naratif yn cyfateb i'r profiad y mae busnesau'n ei gael.

Gan symud ymlaen at fy mhwynt olaf, sy'n mynd â ni i faes ychydig yn wahanol, fe wyddom fod awdurdodau lleol yn wynebu gwerth oddeutu £560 miliwn o bwysau ariannol—rydym wedi clywed hyn yn aml—ar wasanaethau plant, gofal cymdeithasol ac addysg, ond credaf fod gennym fom amser arall, sef ein seilwaith bregus yma yng Nghymru, boed yn ffyrdd llawn tyllau neu'n hen bontydd gwan. Ac mae cannoedd o bontydd, miloedd o bontydd, y mae angen gwario arian enfawr arnynt. Wrth inni symud i mewn i'r gaeaf, dim ond cynyddu a wnaiff y pwysau hwn, yn enwedig gyda'r tywydd garw a welsom dros y blynyddoedd diwethaf. Mae hynny’n cynyddu pethau fel llifogydd, ond hefyd llawer o dirlithriadau ac ati. Rydym wedi gweld llawer o’r rheini, ac maent yn para blynyddoedd weithiau gan ei bod yn ymddangos na all cynghorau fynd i’r afael â hwy. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod digon o wytnwch o fewn llywodraeth leol i’w galluogi i ymdopi a chadw ein cymunedau’n ddiogel ac wedi'u cysylltu?

Diolch i Peter Fox am ei drydydd cwestiwn. Dylwn ddweud, yn syml, mai dim ond datganiad o ffaith oedd yr hyn a ddisgrifiodd fel 'y naratif' ar ardrethi annomestig. Dyna'r ffeithiau. Nid yw hanner busnesau Cymru yn talu unrhyw ardrethi busnes o gwbl, ac mae biliau 30 y cant arall ohonynt yn cael eu lleihau gan y cyhoedd, gan mai talwyr eraill y dreth gyngor a thalwyr treth incwm eraill sy’n darparu’r cymorth hwnnw i’r busnesau hynny.

Ar seilwaith, fodd bynnag, mae'n gwneud rhai pwyntiau pwysig. Dyma lle mae cyllideb 30 Hydref yn nodi newid sylweddol i wasanaethau cyhoeddus. Oherwydd bydd yn cofio i Jeremy Hunt, yn ei gyllideb ym mis Mawrth, roi £1 filiwn o fuddsoddiad cyfalaf i ni, ac ar 30 Hydref, darparodd y Canghellor £235 miliwn. Mae hynny'n golygu ein bod mewn sefyllfa wahanol yn mynd i mewn i'r flwyddyn nesaf, a chyda chyllideb y gwanwyn, a fydd yn rhoi tair blynedd arall o gyllidebau cyfalaf i ni, byddwn mewn sefyllfa wahanol eto i drefnu'r buddsoddiad sydd ei angen i atgyweirio'r difrod a wnaed yn sgil diffyg adnoddau dros y degawd blaenorol.

Rwy’n awyddus i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael eu cyfran deg o'r gyfres newydd honno o bosibiliadau, ac rwy’n barod i weithio’n ddychmygus gydag awdurdodau lleol, fel rydym wedi'i wneud yn y gorffennol, i feddwl sut y gallem ddefnyddio rhai o’r cyfleoedd y gallant eu creu er mwyn parhau i fuddsoddi yn eu ffyrdd, mewn cynnal a chadw ysgolion, a’r ôl-groniadau eraill y gwyddom eu bod wedi cronni tra bo adnoddau wedi bod mor brin.

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd Cabinet, os caf i ddychwelyd at bwyntiau roeddech chi wedi'u gwneud bach yn gynharach yn eich ymateb i Andrew R.T. Davies, jest o ran yswiriant gwladol yn benodol, roeddech chi'n sôn ynglŷn â diffiniad ONS, a bod yna bosibilrwydd o ddefnyddio'r un un ar hyn o bryd, ond yn amlwg mae yna ffigurau gwahanol iawn ynglŷn â pha ddiffiniad ONS sy'n cael ei ddefnyddio, wrth gwrs. Mae'r mesur sy'n cael ei ddefnyddio gan Stats Wales, sef y labour force survey, yn lot mwy ffafriol o ran Cymru. Gaf i ofyn, felly, pa ddiffiniad y byddwch chi'n pwyso amdano fo efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig?

13:50

Wel, mae'r posibiliadau yn dod ataf i achos dwi'n bwriadu bod yn Llundain nid yr wythnos nesaf, ond yr wythnos ar ôl hynny, i gael cyfleon i gael cyfarfodydd wyneb yn wyneb â'r Gweinidogion yn y Trysorlys. Wrth gwrs, rydw i yna i roi gwybodaeth a thystiolaeth iddyn nhw am y sefyllfa yma yng Nghymru—rhai o'r pwyntiau rydyn ni wedi eu clywed yn barod am yr effaith ar y maes gofal, ac yn y blaen. So, dyna pam dwi'n mynd, jest i fod yn glir gyda'r Trysorlys am bethau ar lawr gwlad yn fan hyn, a thrwy hynny, a thrwy bopeth arall y bydd y Trysorlys yn ei glywed gan bobl yn Lloegr ac yn yr Alban hefyd, jest iddyn nhw gael y wybodaeth lawn am y sefyllfa rydyn ni'n ei hwynebu yn y sector cyhoeddus, ond hefyd gyda'r asiantaethau rydyn ni'n gweithio â nhw tu fas y sector cyhoeddus. 

Diolch. Mi fydd yn hynod o fuddiol, a gobeithio eich bod chi'n gallu rhoi'r achos gerbron, oherwydd mi fyddwch chithau hefyd wedi derbyn, dwi'n siŵr, llu o gyfathrebiadau gan sefydliadau o'r trydydd sector sy'n hynod o bryderus ynglŷn â'r sefyllfa. Gwnes i sôn wythnos diwethaf am Cyngor ar Bopeth. Yn amlwg, rydyn ni hefyd wedi clywed gan hosbisau, ac mae Platfform wedi amcangyfrif cost ychwanegol o £0.25 miliwn; St John Ambulance, £50,000; Mirus, mudiad yn y sector gofal, cost ychwanegol o £1.6 miliwn. Mae un arweinydd cyngor wedi dweud wrthyf y bydd yn costio £2.5 miliwn i'r holl fudiadau trydydd sector sy'n darparu gwasanaethau i'r cyngor hwnnw. Felly, yr hyn dwi'n ei ofyn ydy: o ran y pwynt yswiriant gwladol yn benodol, beth fyddwch chi'n gofyn i'r diffiniad ONS fod? Oherwydd gan ein bod ni'n derbyn bod yna wahanol ddiffiniadau, beth fyddwn i'n hoffi ei wybod yn union ydy: beth fyddwch chi'n galw ar y Canghellor i'w wneud er mwyn unioni'r sefyllfa hon?

Wel, Lywydd, nid fi yw Canghellor y Trysorlys, ac nid yw’r penderfyniadau ar gyfraniadau yswiriant gwladol yn rhai a wneir gan Lywodraeth Cymru. Ond pe bawn i'n Ganghellor, rwy’n siŵr y buaswn yn dweud wrthych fod yn rhaid talu am yr £1 biliwn ychwanegol sydd gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf rywsut, ac mai’r hyn y mae wedi’i wneud yw newid lefel y cyfraniadau yswiriant gwladol gan gyflogwyr yn ôl i beth oeddent am 13 o 14 mlynedd y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf. Sonnir am hyn weithiau fel pe bai wedi gwneud rhywbeth cwbl eithriadol yn cynyddu cyfraniadau cyflogwyr, ond nid yw ond wedi eu newid yn ôl i'r hyn oeddent 12 mis yn gynharach. Nawr, byddaf yn dadlau’r achos, nid dros ddiffiniad gwahanol yn union, ond byddaf yn egluro i Weinidogion y Trysorlys yr effaith y bydd y cynnydd yng nghyfraniadau cyflogwyr yn ei chael yma yng Nghymru ar y sefydliadau yr ydym yn dibynnu arnynt am wasanaethau cyhoeddus, a'r tu hwnt i hynny hefyd. Oherwydd fy ngwaith i yw sicrhau bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau mor wybodus ag y gallant fod am amgylchiadau Cymru ac anghenion Cymru, a dyna fyddaf i'n ei wneud.

Diolch am yr ymateb. Yn amlwg, y pryder ydy, o ran y penderfyniad hwn gan y Canghellor, efallai ei bod hi heb gymryd i ystyriaeth beth fyddai'r oblygiadau ehangach o'r codiad hwn, oherwydd yn amlwg, mae o yn wyneb toriadau i gyllidebau hefyd. Felly, dwi'n gwybod eich bod chi'n sôn am fesur 12 mis, ond mae'r sefyllfa wedi dirywio i nifer o'r sefydliadau hyn ac maen nhw dan straen aruthrol. Gaf i ofyn, felly, os na fydd yna gefnogaeth ariannol ychwanegol ar gael iddyn nhw yn y gyllideb, beth ydy'r plan B o ran Llywodraeth Cymru? Oherwydd byddwch chi wedi clywed o'ch trafodaethau chi gyda llywodraeth leol pa mor bryderus ydyn nhw o ran y trydydd sector a'r gwasanaethau maen nhw'n eu darparu—mae cymaint o gynlluniau Llywodraeth Cymru, er enghraifft, i fynd i'r afael â thlodi ac ati, sydd mor allweddol, gan y trydydd sector hwn. Felly, beth ydy'r cynllun gan Lywodraeth Cymru os nad ydy'r diffiniad yn newid?

Wel, wrth gwrs, Lywydd, fy mwriad, gyda fy nghyd-Aelodau, yw defnyddio’r arian ychwanegol sydd gennym i allu parhau i gefnogi’r trydydd sector a sefydliadau eraill y gallwn eu hariannu yng Nghymru. Rwy’n hyderus y byddant yn cael arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf. Mae arnaf ofn y bydd yn rhaid ichi aros i gael cyllideb ddrafft i weld yn union faint, ac yna bydd yn rhaid i'r sefydliadau hynny, fel unrhyw sefydliad arall, edrych ar y gofynion y mae'n rhaid iddynt eu bodloni a sut y maent yn blaenoriaethu'r cyllid sydd ar gael iddynt. Ond bydd y ffaith y bydd gennym £1 biliwn nad oedd gennym cyn 30 Hydref yn golygu y bydd y sectorau hynny'n cael budd o hynny, hyd yn oed os oes ganddynt, ar yr un pryd, gostau ychwanegol y mae angen iddynt eu talu.

13:55
Blaenoriaethau Gwariant ar gyfer Arian Ychwanegol

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer yr arian ychwanegol a ddyrannwyd iddi yng nghyllideb Llywodraeth y DU? OQ61848

Lywydd, bydd y blaenoriaethau gwariant ar gyfer Llywodraeth Cymru yn cael eu nodi yn y gyllideb ddrafft ar 10 Rhagfyr.

Diolch am yr ateb byr hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Un o’r blaenoriaethau y mae pobl yn fy etholaeth i, ac yn wir, cymunedau ehangach Conwy a sir Ddinbych, am ei weld ar eich rhestr yw darparu ysbyty cymunedol newydd ar gyfer pobl gogledd sir Ddinbych. Mae wedi cael ei addo ers tro, ond hyd yma, yn anffodus, ni fu digon o gynnydd ar gyflawni’r addewid hwnnw. Mae 11 mlynedd ers eich cyhoeddiad y byddai ysbyty newydd yn agor gyda gwelyau ychwanegol i fynd â pheth o'r pwysau oddi ar Ysbyty Glan Clwyd i lawr y ffordd. Pryd y gall pobl ddisgwyl gweld cyhoeddiad ar y cyllid sydd ar gael i gyflawni’r prosiect hwnnw, fel y gallwn fynd ati i ymdrin unwaith ac am byth â rhywfaint o’r pwysau acíwt ar safle ein hysbyty acíwt?

Wel, Lywydd, rwy’n cydnabod y rhwystredigaeth y mae Darren Millar yn ei mynegi, yn union fel rwy'n cydnabod ei gysondeb yn dadlau’r achos dros y buddsoddiad hwnnw. Fe fydd yn gwybod, yn yr 11 mlynedd ers imi allu nodi’r gwaith hwnnw gyntaf fel rhywbeth y byddai Llywodraeth Cymru yn dymuno ei gefnogi, fod yr 11 mlynedd hynny wedi bod yn 11 mlynedd o gostau cynyddol a llai o adnoddau, sy'n golygu, erbyn i'r achos busnes llawn diwethaf gael ei gyflwyno ym mis Mawrth 2021, fod y costau wedi codi i dros £100 miliwn.

Fodd bynnag, dau ddarn o newyddion gwell i’r Aelod: yn gyntaf oll, mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo, a gwn y bydd yn ymwybodol o hyn, gan fod amrywiaeth eang o bartneriaid wedi bod ynghlwm wrtho, i adolygu cwmpas y datblygiad ac i nodi ffordd realistig ymlaen. Bydd y cynllun, rwy’n siŵr, yn ceisio cymorth gan gronfa cyfalaf iechyd Llywodraeth Cymru a chan y gronfa gyfalaf ailgydbwyso sydd gennym rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn disgwyl y bydd yr achos busnes hwnnw’n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ei ystyried yn y flwyddyn ariannol hon. Felly, dyna un darn o—. Rwy'n gobeithio y byddwch yn meddwl bod hynny'n newyddion da, ei bod yn ymddangos bod gennym ddyddiad ar gyfer gweld y cynllun newydd hwnnw. A'r ail ddarn o newyddion da yw, gyda £235 miliwn o gyfalaf ychwanegol ar gael i ni yng Nghymru y flwyddyn nesaf, bydd anghenion y gwasanaeth iechyd yn bendant iawn yn fy meddwl wrth imi gael trafodaethau ar draws Llywodraeth Cymru gyfan, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu gweld, o gymharu â’r hyn rydym wedi’i gael, cynnydd sylweddol yn y cyfalaf sydd ar gael i’r GIG yng Nghymru, fel y gellir bwrw ymlaen â chynlluniau fel yr un yn Ysbyty Brenhinol Alexandra.

Mae llawer ohonom dros y blynyddoedd, gan gynnwys arweinydd y cyngor Jason McLellan, yr aelod o'r cabinet Elen Heaton, a’r aelod lleol Barry Mellor, wedi bod yn lobïo am fuddsoddiad yn Ysbyty Brenhinol Alexandra. Roeddwn yn falch o fynychu cyfarfod gyda’r bwrdd iechyd yr wythnos diwethaf a chlywed bod cynigion wedi’u diweddaru fel y gellir mynd i’r afael â’r angen gofal iechyd cymdeithasol, ynghyd â’r uned mân anafiadau, a dywedwyd wrthyf y bydd cynllun wedi’i gostio’n llawn yn cael ei gyflwyno y flwyddyn nesaf i’r bwrdd iechyd ac i Lywodraeth Cymru. Ond gwn na ellir cyflawni hyn heb y cyllid y bûm yn galw'n gyson amdano, a diwedd ar y cyni Torïaidd sydd wedi amddifadu Cymru o gyllid, ac roeddwn wrth fy modd fod Llywodraeth y DU yn deall hyn ac yn awyddus i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa wahaniaeth y bydd y £553 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol—250 gwaith yn fwy na Llywodraeth flaenorol y DU—yn ei wneud i sicrhau y bydd prosiectau fel yr un hynod bwysig hwn yn mynd yn eu blaenau?

Diolch i Carolyn Thomas, ac rwy'n cydnabod bod y datblygiad hwn wedi bod yn un sydd wedi cael cefnogaeth eang iawn gan ein hawdurdodau lleol, yn ogystal â’r bwrdd iechyd ei hun. Nid gyda'r gefnogaeth i’r cynllun y mae'r rhwystredigaeth wedi bod; mae’r rhwystredigaeth wedi bod ynghylch y diffyg adnoddau inni allu bwrw ymlaen â chymaint o’r buddsoddiadau angenrheidiol ledled Cymru. Bydd y cynnydd mewn cyfalaf y flwyddyn nesaf yn ein galluogi i ddechrau mynd i'r afael â'r ôl-groniadau sydd wedi cronni dros y cyfnod o gyni, a bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol. Bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol yn y cynlluniau sydd bellach yn aeddfedu ar gyfer y ddarpariaeth gymunedol a'r rhyngwyneb rhwng iechyd a gofal cymdeithasol ar safle'r Rhyl ac mewn cymaint o agweddau eraill ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru. Clywsom yn gynharach gan Peter Fox, a wnaeth bwyntiau cwbl deg am y galw ar awdurdodau lleol i fuddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth. Ym mhob man yr edrychwch chi yng Nghymru, mae 14 mlynedd o fod heb y buddsoddiadau sydd eu hangen arnom wedi gadael gofynion na allwn eu bodloni mewn un flwyddyn. Ond y flwyddyn nesaf, yn sicr, byddwn yn gallu dechrau ar y daith honno mewn ffordd na ellid ei dychmygu yn ôl ym mis Mawrth.

14:00
Effaith Cyllideb Llywodraeth y DU

4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am effaith cyllideb ddiweddar Llywodraeth y DU ar Gymru? OQ61835

Diolch, Joyce Watson. Mae cyllideb y DU yn rhoi hwb mawr ei angen i bobl sy'n gweithio ac yn cymryd y camau cyntaf i ailadeiladu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Mae Llywodraeth y DU wedi gwrando ar yr hyn sydd ei angen ar Gymru, gan gynnwys darparu £25 miliwn tuag at ddiogelwch tomenni glo a chynnydd o £1.7 biliwn yn ein setliad dros ddwy flynedd ariannol.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, roedd derbyn y setliad gorau a gawsom erioed yn dda i ni. Dywedodd Gweinidog y DU y bydd y gyllideb yn galluogi buddsoddiad mewn ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus eraill, er enghraifft. Ysgrifennydd y Cabinet, heb ddatgelu gormod—oherwydd rwy'n gwybod na wnewch chi—a ydych chi'n gallu rhoi unrhyw fanylion i ni am y gwahaniaeth y gallai'r symiau canlyniadol ei gael ar addysg yma yng Nghymru, yn enwedig ar y sector anghenion dysgu ychwanegol?

Diolch i Joyce Watson am hynny. Rhoddais un enghraifft yn unig iddi o'r materion Cymreig penodol yn y gyllideb y mae hi ei hun wedi tynnu sylw atynt yma ar sawl achlysur ar lawr y Senedd. Mae yna rai eraill hefyd; mae buddsoddiad y porthladd rhydd Celtaidd, a'r prosiect hydrogen yn Aberdaugleddau, yn ddim ond dau yn ardal uniongyrchol yr Aelod ei hun, ar ben yr holl fuddsoddiadau y mae'r Aelod wedi'u nodi mewn perthynas â gofalwyr, a gofalwyr di-dâl hefyd.

Ar addysg, o fy sgyrsiau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, rwy'n ymwybodol iawn o'r cynnydd rhyfeddol yn nifer y bobl ifanc sy'n cael eu nodi fel rhai ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae cyllid wedi cael ei ychwanegu flwyddyn ar ôl blwyddyn ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru, ond mae'r alwad am y cymorth ychwanegol hwnnw wedi bod yn llawer uwch nag amcangyfrifon blaenorol o beth fyddai'r alwad honno. Felly, yn fy sgyrsiau gyda hi wrth baratoi'r gyllideb, mae'r galwadau newydd hynny wedi cael eu nodi'n amlwg ganddi.

O ran cyfalaf y soniodd Joyce Watson amdano, wrth gwrs, yma yng Nghymru, mae rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn golygu ein bod mewn sefyllfa wahanol iawn, bron i ddegawd i mewn i'r rhaglen honno, nag y mae ysgolion yn Lloegr yn ei wynebu. Ond o'r pwyntiau a wnaethpwyd i mi gan Ysgrifennydd y Cabinet ac arweinwyr awdurdodau lleol wrth imi eu cyfarfod dros yr wythnosau diwethaf, rwy'n ymwybodol o'r broblem gydag atgyweirio ar lefel ysgol—nid ysgolion newydd nawr, ond cadw adeiladwaith presennol adeiladau ar y safon y mae angen iddynt fod. Ac ar yr ochr gyfalaf, mae hynny hefyd wedi bod yn rhan fawr iawn o fy sgyrsiau gyda Lynne Neagle.

Yn dilyn un o'ch atebion yn gynharach, un o ganlyniadau niweidiol cyllideb ddiweddar Llywodraeth y DU oedd y codiad i'r yswiriant gwladol i elusennau a chyrff trydydd sector. Mae ffigurau'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dangos y bydd y cynnydd treth blynyddol cyfartalog i gyflogwyr yn fwy na £800 y gweithiwr. Gyda thua 134,500 o bobl yn gweithio yn y sector gwirfoddol yng Nghymru, hyd yn oed gyda gwaith rhan-amser, byddai hyn yn awgrymu cynnydd o oddeutu £100 miliwn y flwyddyn ym mil yswiriant gwladol y sector. Fel y dywed llythyr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru atoch:

'Mae llawer o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn gweithredu o dan gyfyngiadau ariannol tynn ac yn chwarae rhan hanfodol mewn darparu gwasanaethau hanfodol ochr yn ochr â’r sector cyhoeddus, ond dim ond cyflogwyr y sector cyhoeddus sy’n mynd i gael eu had-dalu am y costau cynyddol hyn.

'Mae’r cynnydd hwn...yn gost newydd sylweddol na fydd llawer o fudiadau yn gallu ei thalu heb iddi gael effaith gyfatebol ar y gwasanaethau a ddarperir ganddynt.'

Mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar y gwasanaethau hyn, felly beth, os o gwbl, y byddwch chi'n ei ddarparu i'r sector elusennol i ddiogelu'r gwasanaethau hanfodol hyn a lliniaru'r polisi annoeth hwn?

14:05

Roedd y Canghellor yn wynebu twll du gwerth £22 biliwn yn yr incwm a oedd ganddi ar gael iddi a'r gwariant a oedd eisoes wedi'i ymrwymo gan y Llywodraeth Geidwadol a oedd yn gadael. Mae'r twll du £22 biliwn hwnnw yn cyfateb bron yn union i'r toriad treth anghyfrifol yn y cyfraniadau yswiriant gwladol gan y Canghellor blaenorol. Felly, y broblem sy'n wynebu'r sectorau yma yng Nghymru yw gwaddol y penderfyniadau a wnaed gan y Llywodraeth flaenorol honno. Rwyf eisoes wedi ateb cwestiynau y prynhawn yma, Lywydd, am y camau y gobeithiaf y gallwn eu cymryd i gefnogi'r sectorau y mae'r penderfyniad hwnnw'n effeithio arnynt, ac nid wyf yn credu bod unrhyw beth pellach y gallaf ei gynnig i'r Aelod y prynhawn yma.

Diwygio Ardrethi Busnes

5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i ddiwygio ardrethi busnes? OQ61841

Diolch i Luke Fletcher am hynny. Rydym yn parhau i fod ar y trywydd iawn i gyflawni'r diwygiadau a gyhoeddwyd ar gyfer tymor y Senedd hon. Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 yn gwneud gwelliannau sylweddol, gan gynnwys ailbrisiadau amlach, camau i fynd i'r afael ag osgoi trethi, ac o'r flwyddyn nesaf ymlaen, pŵer i gyflwyno lluosyddion gwahaniaethol.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Gwrandawais â diddordeb mawr ar y dadleuon ar draws y Siambr yn gynharach yn y sesiwn hon. Rwy'n cymryd pwynt Ysgrifennydd y Cabinet nad yw hanner busnesau Cymru yn talu ardrethi busnes, ond nid wyf yn siŵr a yw hynny'n amharu ar botensial amrywio'r lluosydd ar gyfer ardrethi busnes, oherwydd, hyd y gwelaf, yr hyn y gallai'r lluosydd ei wneud yw symud baich pwy sy'n talu'r ardrethi busnes hynny, ac a ydynt yn talu digon o gyfran o'r pot cyffredinol ai peidio. Os edrychwn ar hynny, a'n bod yn newid y baich hwnnw, mae potensial yno i ryddhau rhywfaint o'r arian a ddefnyddiwn er mwyn i ryddhad ardrethi busnes gael ei fuddsoddi mewn mannau eraill. A yw'n deg dweud hynny? Wrth ragweld y bydd y Llywodraeth yn ennill y gallu i ddefnyddio'r pwerau yn y Ddeddf cyllid llywodraeth leol, pa waith paratoi sy'n cael ei wneud yng nghyd-destun diwygio'r system yn ehangach?

Diolch i Luke Fletcher am hynny, ac rwy'n ymddiheuro bod fy amser wedi dod i ben cyn ateb y pwynt a wnaeth yn y ddadl a gawsom ar y materion hyn yr wythnos diwethaf. Mae'n hollol gywir, dyna'n union sut y mae'r lluosydd yn gweithredu: mae'n symud baich ardrethi busnes o fusnesau llai i fusnesau mwy.

Yr hyn sy'n eich wynebu yng Nghymru yw bod patrwm ein busnesau'n wahanol iawn i'r patrwm yn Lloegr. Yno, mae'n llawer haws symud y baich i gyflogwyr mawr iawn, gan fod nifer y cyflogwyr mawr iawn yn Lloegr yn wahanol iawn i nifer y cyflogwyr mawr yn economi Cymru. Y gwerth ardrethol cyfartalog yng Nghymru yw £19,000, a'r cyfartaledd yn Lloegr yw £34,000. Mae strwythurau ein heconomi yn golygu nad oes modd defnyddio rhai o'r ysgogiadau polisi sydd ar gael dros y ffin mor hawdd yma yng Nghymru.

Nid yw hynny'n golygu na ellir eu defnyddio o gwbl, a dyna pam y mae'r pwerau yn Neddf 2024 yn bwysig. Yn ystod hynt y Ddeddf honno, aethom ati i ymgynghori ar unrhyw gynigion i gyflwyno lluosyddion gwahaniaethol yma yng Nghymru, felly mae gwaith yn mynd rhagddo ar fapio beth fyddai effaith symud i'r cyfeiriad hwnnw. Ond gallaf roi sicrwydd i'r Aelodau y bydd pa bynnag gynigion a ddaw gerbron yn ddarostyngedig i'r ymgynghoriad llawn yr oedd y Senedd yn awyddus i'w weld yn ystod hynt y Bil hwnnw.

Rwyf wedi gwrando'n astud ar yr hyn a ddywedwyd eisoes, ond mae'r newidiadau arfaethedig hyn i ardrethi busnes yng Nghymru wedi cael eu gyrru gan Lywodraeth Lafur Cymru sydd eisoes wedi torri rhyddhad busnesau bach o 75 y cant i 40 y cant, ac o ganlyniad, mae busnesau bach teuluol fel ein tafarndai a'n bwytai lleol bellach yn talu ardrethi sydd gryn dipyn yn uwch na'u cymheiriaid yn Lloegr, fel rydych chi wedi'i ddweud. Rwyf wedi siarad â llawer o berchnogion busnes sy'n teimlo'r straen ac yn credu nad yw'r Llywodraeth hon yn deall nac yn malio am fusnes. Y mentrau hyn yw asgwrn cefn ein cymunedau. Fel y dywedoch chi, nid oes rhaid i rai dalu ardrethi busnes, ond er hynny, mae yna lawer sy'n gwneud. Felly, fel rhan o'r diwygiadau honedig hyn, a wnewch chi ymrwymo heddiw y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn ystyried adfer y rhyddhad o 75 y cant i fusnesau bach yng Nghymru, i'r rhai sy'n dal i gael eu heffeithio?

14:10

Rwyf eisoes wedi dweud nad oes gennyf unrhyw gynlluniau i'w adfer. Rydym yn buddsoddi £78 miliwn ychwanegol eleni i ddarparu pumed flwyddyn olynol o gefnogaeth dros dro i'r sectorau hynny. Dywed yr Aelod nad yw 'rhai' busnesau yn talu ardrethi busnes—nid yw 50 y cant o fusnesau yn talu unrhyw ardrethi busnes yng Nghymru. Nid 'rhai' yn unig mohono; nid yw bron eu hanner yn gwneud hynny. Ac o'r rhai sy'n gwneud, mae 30 y cant arall—mwy na 30 y cant—yn cael help, ar raddfa gynyddol, gyda'r biliau hynny. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, rydym yn buddsoddi dros £300 miliwn o arian trethdalwyr i ddarparu rhyddhad i fusnesau yma yng Nghymru. Rydym yn falch o'i wneud, oherwydd mae'n caniatáu i'r busnesau hynny greu'r amodau y gallant fod yn llwyddiannus ynddynt. Ond nid yw'r syniad fod busnesau yng Nghymru yn cael cam gan y system sydd gennym yn dal dŵr.

Cefnogi Busnesau yn Ne-ddwyrain Cymru

6. Sut y mae polisi trethi Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i gefnogi busnesau yn ne-ddwyrain Cymru? OQ61847

Diolch i Peter Fox. Rydym yn canolbwyntio ar gadw ein trethi'n glir, yn syml ac yn sefydlog. Drwy hyn a phethau fel ein pecyn cymorth ardrethi annomestig, rydym yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi busnesau yng Nghymru.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Cyn bo hir, bydd y Senedd hon yn gwneud gwaith craffu ar yr ardoll twristiaeth yma yng Nghymru—dimensiwn newydd i'ch polisi trethiant, os caiff ei basio. Fel y gwyddoch, mae fy nghyd-Aelodau a minnau yn gwrthwynebu gweithredu ardoll o'r fath yn gryf, a gwn fod gan fusnesau ledled Cymru bryderon dwfn ynghylch ei heffaith. Nid ydynt hwy na ninnau'n credu y bydd yn cefnogi'r diwydiant—i'r gwrthwyneb, credwn y bydd yn niweidio ein heconomi.

Rydym yn gwybod mai awdurdodau lleol fydd yn gyfrifol am reoli'r ardoll hon. Fodd bynnag, yn rhy aml, gwelwn gynghorau'n cael eu gorfodi i ddibynnu ar godi refeniw i wneud iawn am bwysau cynyddol nad yw'r setliad llywodraeth leol bob amser wedi bod yn ddigon i fynd i'r afael ag ef. Gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, os caiff y dreth hon ei chyflwyno, pa fesurau diogelwch y gellir eu rhoi i'r sector twristiaeth y caiff ei defnyddio fel buddsoddiad ychwanegol ac nid ei sianelu i gefnogi gwasanaethau eraill sy'n ei chael hi'n anodd?

Edrychaf ymlaen at ddod â'r Bil ardoll ymwelwyr i lawr y Senedd. Rwy'n anghytuno'n llwyr â safbwynt y Blaid Geidwadol; mae'n ffordd o ymdrin ag effaith twristiaeth yn y rhannau o Gymru sy'n dibynnu fwyaf arni sy'n helpu i sicrhau bod y lleoedd hynny'n dal ati i fod yn ddeniadol i ymwelwyr yn y dyfodol. Ar draws y byd, mae hyn wedi cael ei ddefnyddio ac nid oes unrhyw dystiolaeth ei fod yn arwain at effaith niweidiol, oherwydd bydd yr arian a godir yn cael ei ailfuddsoddi i sicrhau bod y pethau sy'n dod â thwristiaid i ardal yn parhau i fod ar gael iddynt. Pan gyflwynir y Bil, bydd yr Aelod yn gweld ei fod yn defnyddio diffiniad a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau lleol sy'n dewis cael ardoll ymwelwyr—. Oherwydd nid gweinyddu'r ardoll yn unig fydd awdurdodau lleol, mater i awdurdodau lleol fydd penderfynu a yw hwn yn offeryn defnyddiol yn eu harfogaeth ai peidio. Mae'n rhan o ymrwymiad y Llywodraeth hon i ddatganoli nid yn unig i Gymru ond o fewn Cymru. Bydd y ffordd y caiff yr arian a gesglir gan ardoll ymwelwyr ei ddefnyddio hefyd yn destun ymgynghoriad blynyddol gyda busnesau twristiaeth yn yr ardal honno. Felly bydd gan y busnesau dan sylw lais uniongyrchol yn y ffordd y caiff y refeniw hwnnw ei ddefnyddio. Os ydynt yn dewis ei godi, rwy'n hyderus y bydd ein hawdurdodau lleol yn defnyddio'r arian mewn ffyrdd sy'n gwneud y diwydiant, sy'n bwysig iawn yn nifer o'n hawdurdodau lleol yng Nghymru, yn ddiwydiant sy'n parhau i fod yn llwyddiannus ac yn ddeniadol i'r dyfodol.

14:15
Argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg

7. Ydy'r Llywodraeth yn bwriadu diweddaru Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040 i ymgorffori ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch yn dilyn argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg? OQ61833

Diolch yn fawr, wrth gwrs, am y cwestiwn, Llywydd. Rŷn ni wrthi’n llunio ymateb i adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar hyn o bryd. Pan fyddwn ni’n adolygu 'Cymru’r Dyfodol', byddwn ni’n ystyried pob tystiolaeth, gan gynnwys argymhellion y comisiwn.

Ddoe, wrth drafod adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg a'i rôl hi mewn datblygu polisi, fe wnes i grybwyll pwysigrwydd sicrhau nad yw un agwedd o waith polisi'r Llywodraeth yn tanseilio gwaith polisi arall.

Un arall o'r meysydd lle mae potensial am wrthdaro mawr yw gyda'r cynllun datblygu cenedlaethol 'Cymru'r Dyfodol', a'r gwaith o ddatblygu cynlluniau datblygu strategol drwy'r cydbwyllgorau corfforedig. Byddwn yn gofyn i'r Llywodraeth ailystyried yr egwyddorion sydd yn gyrru'r gwaith, oherwydd bod peryg i'r cynlluniau strategol rhanbarthol filwrio yn erbyn gwaith polisi pwysig sy'n digwydd drwy'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg, a hefyd ym milwrio yn erbyn cynllun Arfor, sydd yn uno ardaloedd gorllewin ein gwlad.

Beth, felly, ydy'ch gweledigaeth chi, fel Ysgrifennydd Cabinet dros y Gymraeg, o safbwynt yr ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uchel, a beth ydy'ch gweledigaeth chi ar gyfer Arfor 3, sef y cam nesaf synhwyrol i'w gymryd efo'r cynllun arloesol hwn?

Diolch yn fawr i Siân Gwenllian. Llywydd, fe wrandawais i'n ofalus ar y pwyntiau roedd hi wedi'u gwneud yn y ddadl ddoe, a dwi'n barod wedi siarad gyda swyddogion y bore yma i gael mwy o gyngor ar y pwynt roedd hi'n codi am ble mae un polisi yn gwrthdaro â pholisïau eraill. So, diolch yn fawr am godi'r pwyntiau yna.

Rŷn ni'n aros, fel dwi'n siŵr mae Siân Gwenllian yn gwybod, am adroddiad penodol oddi wrth y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn y maes cynllunio, a oedd yn rhan o gam cyntaf y comisiwn, ond maen nhw wedi penderfynu rhoi adroddiad ar wahân i ni ym mis Rhagfyr, gobeithio, am eu hargymhellion nhw yn y maes cynllunio. So, fe allwn ni ddefnyddio hwnnw. A'm huchelgais i yw defnyddio'r profiadau rŷn ni wedi'u cael yn barod gydag Arfor 1 ac Arfor 2 i adeiladu ar rai o'r argymhellion yn yr adroddiad rŷn ni wedi'i weld yn barod a gafodd ei lansio yn yr Eisteddfod. Dwi'n edrych ymlaen at ddod yn ôl at lawr y Senedd yn y flwyddyn nesaf gydag ymatebion y Llywodraeth i bob un o'r argymhellion yn yr adroddiad cyntaf, ac ystyried y pwyntiau mae Siân Gwenllian wedi'u codi y prynhawn yma drwy'r broses o ymateb i'r argymhellion.

Hybu'r Gymraeg

8. Pa drafodaethau mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei gael gyda'r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg a gyda awdurdodau lleol ynglŷn a hybu y Gymraeg ymysg pobl o leiafrifoedd ethnig? OQ61830

Llywydd, yn ogystal â’n gwaith ledled Cymru i hyrwyddo’r Gymraeg i helpu sicrhau ei bod yn iaith i bawb, rydyn ni’n gofyn i bob awdurdod lleol roi gwybodaeth yn eu hadroddiadau blynyddol cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg ar sut maen nhw’n hyrwyddo’r Gymraeg ymysg cymunedau ethnig lleiafrifol.

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd Cabinet. Pam oeddwn i'n mynychu ysgol gynradd Gymraeg yng Nghaerdydd yn y 1990au, un plentyn o leiafrif ethnig oedd yn y flwyddyn o 70 o blant, ac un teulu Mwslemaidd mewn ysgol o dros 400 o blant. Nawr, mae pethau wedi gwella, ond mae lot fawr i'w wneud o hyd, ac rŷn ni'n sicr yn methu denu plant o gartrefi lle nad y Gymraeg a'r Saesneg yw'r iaith gyntaf—mae hynny'n amlwg pan rŷch chi'n mynd i ymweld ag ysgolion yng Nglan yr Afon a Threganna.

Nawr, dwi wedi gofyn cwestiwn tebyg i chi yn ddiweddar, ond mae'r ffigurau gyda fi nawr, a'r ffigurau ar draws Cymru—2.5 y cant o blant o gartrefi lle nad ydy'r Gymraeg neu'r Saesneg yn iaith gyntaf sy'n cael addysg Gymraeg. Tynnwch mas Gwynedd ac mae'n syrthio lawr canran arall i 1.6 y cant. Dyw'r rhain ddim yn ffigurau bach, chwaith, o ran nifer y plant—1.6 y cant o blant o gartrefi lle nad ydy'r Gymraeg neu'r Saesneg yn iaith gyntaf sy'n derbyn addysg Gymraeg. Rwy'n siŵr ein bod ni'n deall beth yw'r rheswm—mae'r rhieni eisiau i'w plant siarad Saesneg, ond mae hynny'n bosib trwy addysg Gymraeg. Rŷn ni'n gwybod hynny. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i wneud ymgyrch penodol i ddenu plant o leiafrifoedd ethnig i addysg cyfrwng Cymraeg? Diolch yn fawr.

14:20

Wel, Llywydd, dwi'n cytuno gyda Rhys ab Owen am y pwysigrwydd o dynnu mwy o blant mas o gymunedau BAME i mewn i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Dwi'n cofio yn y flwyddyn gyntaf o Ysgol Treganna, doedd neb, neb o gwbl, o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yn yr ysgol, a nawr mae'r ysgol yn hollol wahanol.

Dwi eisiau gweld mwy o bosibiliadau i dynnu pobl i mewn, a'r ffordd i'w wneud e, dwi'n meddwl—un o'r ffyrdd i'w wneud e—yw trwy ddefnyddio'r profiadau rŷn ni wedi'u cael nawr yn barod gyda theuluoedd o'r cymunedau yna, i esbonio i bobl eraill—word of mouth, fel rŷn dweud yn Saesneg—a'u perswadio nhw fod plentyn sy'n mynd i ysgol lle mae'r addysg yn cael ei gyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg wrth gwrs yn deall, ac yn dysgu Saesneg ar yr un pryd, ond nawr maen nhw'n gallu siarad Cymraeg hefyd.

So, rŷn ni wedi llwyddo, ond ddim wedi gwneud digon eto. Ond nawr, gyda'r teuluoedd sydd wedi cael y profiad yn barod, rŷn ni'n gallu defnyddio popeth y maen nhw wedi'i weld, a phopeth maen nhw wedi'i ddysgu, a'r profiadau maen nhw wedi'u cael, i berswadio pobl eraill.

2. Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Eitem 2 fydd y cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Y cwestiwn cyntaf gan Tom Giffard. 

Amddiffyn Rhag Llifogydd yn y Mwmbwls

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y gwaith amddiffyn rhag llifogydd parhaus yn y Mwmbwls? OQ61826

Member
Huw Irranca-Davies 14:22:46
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Gwnaf. Mae cynllun adeiladu'r rhaglen rheoli risg arfordirol yn y Mwmbwls yn mynd rhagddo'n gyflym. Mae'r awdurdod rheoli risg wedi cadarnhau y bydd y gwaith adeiladu yn cael ei gwblhau ym mis Ebrill 2025.

Diolch yn fawr am y diweddariad, Ddirprwy Brif Weinidog. Mae'r gwaith hwn ar ddiogelu arfordir y Mwmbwls i'w groesawu'n fawr, ac mae ei angen yn fawr i ddiogelu'r pentref, ymhell i'r dyfodol gobeithio. Nid oes angen egluro atyniad ac apêl y Mwmbwls. Rwy'n credu bod llawer ohonom yn deall hynny. Ond hefyd yr hyn sy'n gwneud y Mwmbwls yr hyn ydyw yw'r busnesau lleol sy'n ffynnu ac yn gweithredu yn y pentref. Ond mae'r gwaith wedi achosi tarfu sylweddol iddynt yn yr ystyr fod yna lai o lefydd parcio a llai o ymwelwyr yn ystod y misoedd diwethaf. Siaradais â chynghorwyr lleol y Mwmbwls, Francesca O'Brien, Will Thomas ac Angela O'Connor, sy'n dweud wrthyf nad yw'r busnesau hynny'n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi tra bod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo, ac nid ydynt wedi cael unrhyw gymorth ariannol. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi edrych ar y cymorth sydd ar gael i gefnogi busnesau sy'n dioddef tarfu ar eu busnes pan fydd gwaith fel yr amddiffynfeydd llifogydd hyn yn digwydd? 

Diolch, mae'n bwynt pwysig iawn, ac rydych chi, fel fi, sy'n caru'r Mwmbwls, yn cydnabod pwysigrwydd y gwaith hwn, a'i gael wedi'i wneud mewn modd amserol hefyd. Mae'n waith sylweddol ac mae'n achosi tarfu i ryw raddau. Yn wir, rydym yn deall bod yr awdurdod rheoli risg a'r contractwyr wedi cydnabod effaith y gwaith adeiladu o fewn y gymuned, ac maent yn gweithio gyda'r swyddog cyswllt cymunedol i geisio lleihau'r effeithiau.

Nawr, mae'r gwaith adeiladu wedi'i raglennu i geisio lleihau'r effaith ar fusnesau lleol, hyd yn oed a derbyn fy sylwadau yno eu bod yn cydnabod bod yna effaith, a hefyd i leihau'r effaith ar breswylwyr. Felly, dywedir wrthyf fod mynediad at fusnesau yn parhau i fod ar agor drwy gydol y gwaith adeiladu, a chaiff danfoniadau eu rhaglennu hefyd i leihau tarfu ar weithrediad y busnesau hynny. Dywedir wrthyf fod y contractwyr hefyd yn darparu sesiynau galw heibio misol i fusnesau ac i breswylwyr, ond hoffwn annog unrhyw drigolion neu fusnesau i gymryd rhan yn y sesiynau galw heibio rheolaidd hyn ac i fwydo'u safbwyntiau trwy'r awdurdod rheoli risg ac i'r contractwyr.

Ond os caf ddweud yn ogystal, Tom, fel chi—roedd hi'n dda clywed eich bod chi'n croesawu'r gwaith sy'n digwydd oherwydd mae ei angen yn fawr. Mae'n diogelu 126 eiddo ar gost o £26.5 miliwn, gydag 85 y cant yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Fel y gwyddoch chi a minnau, mae iddo fanteision ehangach, yn cynnwys adfywio mannau agored cyhoeddus hyfryd ar yr arfordir a'r amcanion, wrth gwrs, yw rhai Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Felly, anogwch eich etholwyr i barhau i fwydo eu safbwyntiau am unrhyw darfu, ond rwy'n clywed bod y contractwr a'r awdurdod rheoli risg yn awyddus iawn i'w leihau a gweithio gyda thrigolion a busnesau. 

14:25
Ffermio Gwymon

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ffermio gwymon yng Nghymru? OQ61829

Mae diddordeb sylweddol mewn ffermio gwymon yng Nghymru at amryw o ddibenion. Rydym yn cefnogi twf a arweinir gan ddiwydiant y sector dyframaeth a byddem yn croesawu unrhyw gynigion gan ddiwydiant sy'n sicrhau twf yn ein cymunedau arfordirol gan gydymffurfio â pholisïau cynllun morol cenedlaethol Cymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, mae'r farchnad wymon fyd-eang yn werth dros £7 biliwn ac mae ganddi gyfradd twf flynyddol o tua 12 y cant. Fe'i defnyddir fwyfwy mewn cynhyrchion bwyd, bwyd anifeiliaid, colur, biodanwydd, bioblastigau a gwrtaith, ond er gwaethaf ein potensial yn y DU i dyfu a chynaeafu gwymon, rydym yn dibynnu'n fawr ar wymon wedi'i fewnforio o Asia, sy'n 95 y cant o gyfanswm y cyflenwadau. Mae ffermio gwymon yn cael ei lesteirio yn y DU am nad oes digon o gyflenwadau hadu, problemau logistaidd a diffyg cyfleusterau prosesu, sy'n atal twf posibl y diwydiant. 

Mae ardal y cynllun morol o amgylch Cymru yn 32,000 km sgwâr, ac mae 50 y cant ohoni'n addas ar gyfer tyfu lludwymon, ac mae potensial enfawr inni ddatblygu mentrau tyfu gwymon masnachol, yr amcangyfrifir y byddai'n werth dros £100 miliwn y flwyddyn i economi Cymru. Rwy'n cydnabod bod gwaith yn cael ei wneud ar helpu i gynhyrchu'r diwydiant hwn, ond mae'n llawer rhy araf ac mae angen inni weithredu. Mae angen i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, nodi cynllun cadarn a blaengar ar gyfer tyfu'r diwydiant hwn yng Nghymru. Pryd y gallwn ni ddisgwyl gweld cynllun o'r fath yn cael ei gyflwyno? Diolch.

Diolch, Joel, ac rwy'n nodi eich bod yn hyrwyddo potensial y sector gwymon yn gyson i'r holl ddefnyddiau amrywiol hynny, sydd â photensial cyffrous iawn. Rydym wedi nodi bod diddordeb sylweddol ym manteision posibl ffermio gwymon, ond—ac mae'n 'ond' mawr, Joel—nid ydym eto wedi gweld hyn yn cael ei droi'n brosiectau hyfyw a chynigion masnachol. Ac wrth gwrs, mae angen inni allu dadansoddi hynny yng nghyd-destun yr amgylchedd morol ehangach a chynlluniau morol hefyd, pe baent yn cael eu datblygu. 

Ond un peth a allai fod o gymorth ac y gallech chi ei annog, Joel, yw i bobl fwydo i mewn—. Byddaf yn nodi dull strategol o ymdrin â physgodfeydd a dyframaethu Cymru—drwy ddatganiad ysgrifenedig, Lywydd, gyda'ch cydsyniad chi—o fewn yr wythnosau nesaf. Felly, yn y cyfamser, rwy'n disgwyl i'n cyfeiriad yn y dyfodol aros fel rydym eisoes wedi'i nodi gyda chyflawni rheolaeth gynaliadwy wrth ei wraidd, a ffocws ar gyflawni cynlluniau rheoli pysgodfeydd a mesurau rheoli wedi'u haddasu. Mae angen i hyn i gyd gael ei gefnogi gan y wyddoniaeth ac ymgysylltiad â rhanddeiliaid. Felly, byddwn yn parhau i gyflawni hyn yn unol â'n dyletswyddau statudol ar bysgodfeydd a dyframaethu. Byddwn yn chwilio am gyfleoedd a mentrau i gefnogi'r diwydiant i ddatblygu a thyfu, ond mae angen inni weld y cynigion hynny'n cael eu cyflwyno a'u hyfywedd masnachol, a'u bod yn cyd-fynd â chynaliadwyedd ehangach yr amgylchedd morol. 

Ar bwynt olaf, Joel, bydd ein rowndiau ariannu rheolaidd trwy gynllun môr a physgodfeydd Cymru yn cael eu cynllunio i danategu'r blaenoriaethau sy'n helpu i gyflawni'r canlyniadau yr ydym i gyd am eu gweld.

Yn ddiweddar, manteisiais ar y cyfle i ymweld â fferm wymon a physgod cregyn adfywiol Câr-y-Môr yn Nhyddewi—wel, nid yn Nhyddewi mewn gwirionedd; yn y dŵr oddi ar Dyddewi—ac maent yn mynd i adeiladu cyfleuster prosesu gwymon newydd, a hwn fydd y cyntaf o'i fath yng Nghymru. Fel y gwyddoch, mae gan wymon biosymbylyddion ac mae'n cynnwys sylweddau organig yn bennaf. Mae'r rhain yn ysgogi prosesau naturiol planhigion ar gyfer twf, blodeuo, ffrwytho a gwrthsefyll sychder, gwres ac oerfel. A allwch chi edrych ar y posibiliadau, ac fe sonioch chi am rai ohonynt, o gefnogi hyn fel ffordd o ffermio cynaliadwy? Oherwydd mae'r biosymbylyddion yn atebion amgen yn lle gwrteithiau a phlaladdwyr synthetig, felly maent yn bwydo i mewn yn dda i'r agenda ffermio cynaliadwy sydd gennych.

Felly, yr hyn rwy'n ei ofyn mewn gwirionedd yw, mae treialon a phrofion yn cael eu cynnal arnynt ar hyn o bryd—oherwydd rydych chi'n iawn, mae hyfywedd y prosiect yn allweddol—ond a wnewch chi eu cefnogi i fynd drwy'r weithdrefn brofi honno, ac os yw mor hyfyw ag y gobeithiwn y bydd, gall gynnal ein hamgylchedd ar gyfer y dyfodol, a gall gynnal ffermio ar gyfer y dyfodol a thyfu ar gyfer y dyfodol hefyd?

14:30

Joyce, diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw ac, unwaith eto, rwy'n cydnabod eich cefnogaeth barhaus i botensial y sector hwn ac yn enwedig i Câr-y-Môr. Ac yn wir, Câr-y-Môr, y fferm wymon fasnachol gyntaf yng Nghymru, wedi'i lleoli oddi ar Swnt Dewi yn Nhyddewi, yn ddiddorol iawn, mae'n gymdeithas budd cymunedol ac mae ganddi botensial cyffrous o ran cynhyrchu biowrtaith gwymon ac ychwanegion bwyd da byw, a photensial hynny i leihau methan hefyd. Felly, mae'n wirioneddol gyffrous, ond mae'n ddyddiau cynnar ac mae heriau o ran datblygu hyn.

Rwy'n deall y gall fod potensial hefyd i ddod â chynnyrch pysgod cregyn i'r farchnad ddomestig, gyda chapasiti cyfredol i brosesu oddeutu pedair tunnell y dydd o wymon ffres, ac maent yn awyddus i ehangu ymhellach. Felly, byddem yn bendant yn annog mentrau fel hyn. Mae heriau o ran cael y rhain yn weithredol a mynd â hwy o'r camau cynnar a'u tyfu. Ond rydym yn awyddus i gefnogi lle mae potensial, fel y dywedais yn fy ateb i Joel, i'w hannog a'u cefnogi i fynd heibio i'r rhwystrau hynny ac i dyfu yn y cyd-destun hwnnw yn ogystal â'r amgylchedd morol ehangach a chynlluniau morol hefyd. Felly, mae angen iddynt fod yn fasnachol hyfyw—rydym yn sicr yn eu hannog—a chyd-fynd â'n dull cynaliadwyedd ar gyfer pysgodfeydd ac amaethyddiaeth.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.

Diolch, Lywydd. Mae'r risg a'r gost o fwy o law oherwydd newid hinsawdd yn codi'n ddiau, gyda digwyddiadau tywydd eithafol yn dod yn fwy aml. Y gaeaf diwethaf, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru 483 o rybuddion llifogydd—cynnydd o 16 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae gaeafau'r Deyrnas Unedig 10 y cant yn fwy gwlyb erbyn hyn.

Fodd bynnag, mae glaw cynyddol yn rhoi mwy o bwysau ar ein cronfeydd dŵr. Yn gynharach eleni, methodd Argae Rapidan yn sir Blue Earth, Minnesota, oherwydd llifogydd dwys, gan arwain at symud trigolion cyfagos ar frys. Yn yr un modd, yma yn y DU yn 2019, cafodd miloedd o bobl eu symud o Whaley Bridge oherwydd bod rhan o wal cronfa ddŵr wedi cwympo, a ddegawd yn ôl, bu'n rhaid symud pentref cyfan yng Ngwynedd oherwydd tirlithriad a achosodd grac mewn cronfa ddŵr gyfagos.

Nawr, mae llawer o sôn wedi bod am ddiogelwch tomenni glo, ac mewn gwirionedd, yr hyn rwy'n bryderus iawn yn ei gylch—. Gwelodd fy etholaeth fy hun drychineb ofnadwy yn Nolgarrog. Yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddoch chi drwy ddatganiad ysgrifenedig y byddwch chi'n cydweithio â Llywodraeth y DU i ddiwygio diogelwch cronfeydd dŵr. O gofio bod dros 20 o gronfeydd dŵr preifat a risg uchel yng Nghymru, pam na ddaeth hyn gerbron ein Senedd ni i'w graffu?

Diolch am y cwestiwn hwnnw, Janet. Mae diogelwch cronfeydd dŵr yn fater allweddol i Lywodraeth Cymru ac mae'r cyfle wedi codi i weithio gyda Llywodraeth y DU ar sail Cymru a Lloegr i adolygu tirwedd gyfan rheoleiddio cronfeydd dŵr ledled Cymru a Lloegr. Ac rwy'n credu ei bod hi'n iawn ein bod yn manteisio ar y cyfle hwnnw oherwydd, lle mae ewyllys i weithio ar draws Llywodraethau ac i wneud yn siŵr fod gennym rywbeth sy'n addas i'r diben nawr ac i'r dyfodol, pan ydym, fel rydych chi'n gywir i ddweud, yn wynebu, nid yn unig glawiadau cynyddol ond llifogydd—. Wrth inni ystyried cyngor y Swyddfa Dywydd, rydym nid yn unig yn gweld lefelau cynyddol o law, ond glaw sy'n oedi dros ardaloedd, fel yr hyn a welsom yn ddiweddar, ond nid yn unig, yn y trychinebau sy'n datblygu yn Sbaen a rhannau eraill o ganolbarth Ewrop. Nawr, mae hyn yn achosi problemau mawr i'n holl seilwaith, gan gynnwys cronfeydd dŵr. Felly, rydym yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth y DU ar hyn ar y cyd. Mae'n arwydd o'r dull yr ydym yn ei fabwysiadu gan fod gennym Lywodraeth ar ben arall yr M4 bellach sy'n fodlon gweithio gyda ni yn ei gylch. Ond gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd cyfleoedd, heb os, i'r Senedd hefyd ystyried y ffordd ymlaen. Rydym wedi dechrau ymgysylltu â Llywodraeth y DU, ond byddwn yn sicrhau bod y cyfleoedd hynny yma hefyd, i'r pwyllgor, ac i Aelodau'r Senedd, Janet.

14:35

Nawr, amlinellodd y datganiad ysgrifenedig yr uchelgais i greu dull modern o reoli peryglon a diweddaru gwaith rheoleiddio a gorfodi. Fodd bynnag, mae pryderon o ran cyllid. Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn unig 20 cronfa ddŵr risg uchel, ac maent eisoes wedi gwario £2.68 miliwn yn 2019-20, a £3.72 miliwn yn 2020-21 ar 10 yn unig, ac roeddent yn brosiectau diogelwch hanfodol. Ar gyfartaledd, mae hynny'n oddeutu £600,000 i bob cronfa ddŵr. O gofio'r costau syfrdanol a all fod yn gysylltiedig â gwneud ein cronfeydd dŵr yn fwy solet, a ydych chi'n cadw at eich sylwadau i'r Senedd y mis diwethaf fod angen i bob perchennog cronfa ddŵr breifat wybod nawr fod ganddynt y cyfrifoldebau hyn, a chyda hynny, yr atebolrwydd?

Diolch, Janet. Rwy'n cadw at hynny'n llwyr. Mae angen i unrhyw un sy'n berchen ar gronfa ddŵr ar eu tir, yn fawr neu'n fach, sy'n rhwym i'r rheoliadau fod yn glir iawn ynghylch eu cyfrifoldebau. Mae'n gyfrifoldeb beichus i ymgymryd â'r agweddau ar gynnal a chadw a diogelwch y cyhoedd o gael cronfa ddŵr ar eich tir. Nawr, dylai pob tirfeddiannwr fod yn ymwybodol o'r rheini—dylent fod yn ymwybodol ohonynt. Ond os nad ydynt, mae angen i chi a finnau, ac eraill, ynghyd â Cyfoeth Naturiol Cymru, eu hysbysu'n uniongyrchol, i sicrhau eu bod yn ymwybodol o hynny a'r hyn y mae hynny'n ei olygu. Oherwydd mae hwn yn fater sy'n ymwneud â mwy nag arian trethdalwyr cyhoeddus yn mynd tuag at yr asedau mawr sy'n cael eu rheoli mewn gwahanol rannau o Gymru a Lloegr, mae hefyd yn ymwneud â'r cwmnïau mawr, fel Dŵr Cymru ac eraill, sydd ag asedau cronfa ddŵr mawr. Maent yn gwybod beth yw eu cyfrifoldebau a'u hatebolrwydd. Ond hefyd mae'n ymwneud â'r tirfeddianwyr llai hynny sydd â chronfeydd dŵr. Nodais gyda diddordeb yn ddiweddar fod hysbyseb am gronfa ddŵr ar werth—un y mae'r rhai ohonom yn ardal de Cymru yn eithaf cyfarwydd â hi. Fe'i cyflwynwyd fel cynnig eiddo tirol deniadol iawn. Byddem yn gobeithio—beth ydym ni'n eu galw yn y wlad hon; nid ydym yn eu galw'n asiantau eiddo tirol—[Torri ar draws.]—ie, yn wir—fod y bobl hynny sy'n gwerthu'r tir hefyd yn ei gwneud yn glir i'r darpar brynwyr eu bod yn ymwybodol o'r atebolrwydd sy'n dod yn sgil ymgymryd ag eiddo gyda chronfa ddŵr arno. Oherwydd mae cyfrifoldebau sylweddol ynghlwm wrth hynny.

Rwy'n ymwybodol o ddulliau trawsgludo lle nad ydynt, weithiau, bob amser yn hysbysu, pan fyddwch yn prynu tir, o'ch rhwymedigaethau mewn perthynas â chwlfertau, ffosydd a beth bynnag, ond hefyd gyda chronfeydd dŵr. Nawr, rhwng 2019 a 2021, gwariwyd £0.5 miliwn o arian trethdalwyr ar gronfeydd dŵr amddifad. Rwy'n gweld hyn yn ddiddorol, oherwydd mae'n fy rhyfeddu sut y gall pobl osgoi cyfrifoldebau, ac mae'r cronfeydd hyn yn cael eu hystyried yn gronfeydd dŵr amddifad. Mae'n fy mhoeni pam, o dan reolau'r Gofrestrfa Tir, na allwch chi ddod o hyd i bwy sy'n berchen arnynt. A hefyd, dim ond £20,000 sydd wedi'i ddyrannu i dîm rheoleiddio cronfeydd dŵr Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer eu gwaith mewn perthynas â'r cronfeydd dŵr preifat. Nid oes un geiniog o gefnogaeth i berchnogion cronfeydd dŵr preifat, er gwaethaf y costau a allai fod yn gysylltiedig, ac yn fwy na hynny, y risg sylweddol i gymunedau cyfan. Rwy'n credu y gallai'r sefyllfa hon fod yr un mor beryglus â diogelwch tomenni glo. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, gydag oddeutu 20 o gronfeydd dŵr preifat yng Nghymru yn cael eu hystyried yn risg uchel, oni fyddai'n ddoethach mabwysiadu dull rhagweithiol nawr yn rhan o'r dull newydd ar gyfer cronfeydd dŵr y byddwch yn ei ddatblygu gyda Llywodraeth y DU, lle mae'r wladwriaeth a'r perchnogion preifat yn cydweithredu â'i gilydd? Nid yw'n rhywbeth y bydd tirfeddianwyr preifat yn ei wneud neu'n gallu ei wneud ar eu pen eu hunain. Ac yna mae gennym y cronfeydd dŵr amddifad, ac yna mae gennym gronfeydd dŵr eraill, sy'n eiddo i Dŵr Cymru a phethau felly. Felly, a ydych chi'n meddwl y gallech gael grŵp gorchwyl a—nid wyf yn hoffi 'grŵp gorchwyl a gorffen', ond tasglu, i wneud yn siŵr fod yna ddull cydlynol o ymdrin â hyn?

Diolch, Janet. Rwy'n poeni, Lywydd, na fydd gennym ddigon o bobl i lenwi'r grwpiau gorchwyl a gorffen hyn. Efallai na fydd gennym ddigon o ewyllys wych Gymreig i weithio gyda ni arno, mewn gwirionedd. Ond edrychwch, rwy'n derbyn y pwynt difrifol y tu ôl i hyn. Dyma'r union reswm pam ein bod yn mabwysiadu'r dull cydgysylltiedig hwn o edrych arno, oherwydd mae'r un materion, gyda llaw, yn digwydd dros y ffin, ar yr ochr arall i Glawdd Offa. Fel cyn-Weinidog Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a oedd â chyfrifoldeb am y maes hwn, nefoedd, 15 mlynedd yn ôl erbyn hyn, rwy'n ymwybodol iawn ein bod yn wynebu'r un heriau. Felly, rwy'n credu mai'r gwaith rheoleiddio ar y cyd a wnawn yw'r ffordd iawn o'i wneud. Rwy'n edrych ymlaen, os yw'r Senedd neu'r pwyllgor yn edrych ar sut rydym ni'n ariannu hyn, at y syniadau a gaiff eu cyflwyno. Ond gadewch imi ei gwneud hi'n glir iawn: ni all hyn fod yn gyfrifoldeb i'r trethdalwr yn gyfan gwbl ac ni ddylai fod. Pe bawn yn berchen ar ddarn o dir gyda chronfa ddŵr arno, yn fawr neu'n fach, fy nghyfrifoldeb i fyddai hynny. Nawr, mae yna ffyrdd y gallwn helpu, wrth edrych ar hyn wrth symud ymlaen.

Y sicrwydd arall rwyf am ei roi, oherwydd mae yna berygl yn hyn, yn enwedig pan ydym wedi gweld rhai o'r digwyddiadau bron yn drychinebus mewn rhannau eraill o'r DU, yw rhoi'r sicrwydd fod Cyfoeth Naturiol Cymru a'r awdurdodau rheoli risg yn monitro cyflwr y cronfeydd dŵr hyn yn agos, felly nid ydym yn edrych ar berygl neu ddifrod sydd ar fin digwydd i unrhyw un o'r cronfeydd dŵr bach neu fawr hyn; maent yn asesu'r risg yn agos. Dyna pam ein bod yn gwybod, gyda llaw, lle mae'r peryglon, yr un fath â chyda thomenni glo—y gwaith a wnaethom o fewn Llywodraeth Cymru. Ond nawr mae angen inni edrych yn iawn ar, wel, sut i sicrhau bod y cyfrifoldebau a'r atebolrwydd sy'n dod o gael cronfa ddŵr ar eich tir—yn fawr a bach—yn cael eu hysgwyddo'n iawn. Ac rydych yn codi'r pwynt pwysig o ran cronfeydd dŵr amddifad, lle cânt eu gadael yn amddifad nid fel asedau ond fel atebolrwydd. Wel, mae hynny'n rhan o'r hyn rydym yn ei ystyried hefyd, sut i ymdrin â hynny. Ac rwy'n edrych ymlaen at gael cyfle gerbron y Senedd neu gerbron pwyllgorau i gymryd rhan fwy manwl yn hyn.

14:40

Diolch, Lywydd. Mae'r arwyddion rhybudd o chwalfa hinsawdd yn fflachio'n goch, gyda llifogydd, stormydd, tywydd poeth yn dwysáu. Mae arweinyddiaeth ar yr hinsawdd gan Gymru a'r DU yn fwy hanfodol nag erioed. Ond mae Trump, sy'n wadwr hinsawdd amlwg, ar fin dychwelyd, sy'n golygu bod y posibilrwydd y bydd yr Unol Daleithiau unwaith eto yn cefnu ar gytundeb Paris yn fawr iawn. Mae dadansoddwyr yn rhagweld y gallai agenda Trump bwmpio biliynau yn fwy o dunelli o nwyon tŷ gwydr i'r atmosffer. Yn y cyd-destun hwnnw, mae addewid Keir Starmer i dorri allyriadau'r Deyrnas Unedig 81 y cant erbyn 2035 yn gam i'r cyfeiriad cywir. Rhaid ei weld fel llinell sylfaen nid terfyn, serch hynny. A allwch chi egluro, os gwelwch yn dda, pa sgyrsiau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU am yr addewid newydd hwnnw, ac yn hollbwysig, i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan o lunio'r nod hwnnw? A allwch chi ein sicrhau bod anghenion penodol Cymru, ein safbwyntiau ni, yn cael eu hystyried wrth inni ymateb i'r argyfwng hinsawdd brys, cynyddol frawychus hwn?

Gallaf, yn sicr. Diolch am godi hyn ar y llawr heddiw yng nghanol y cannoedd o sgyrsiau hinsawdd yr ydym yn eu cael ledled Cymru yr wythnos hon, gyda phobl ifanc, pobl hŷn, grwpiau cymunedol, busnes, masnach, academyddion ac ati. Rwyf wedi bod yn ddwfn yn y sgyrsiau hynny yr wythnos hon, ac mae cydnabyddiaeth ddifrifol ar draws cymdeithas ddinesig Cymru o'r ffordd y mae angen i ni, yn unigol ac ar y cyd, fel Llywodraeth a dinasyddion unigol, gamu i'r adwy fel y gallwn fynd i'r afael â'r hyn sydd eisoes wedi'i gloi i mewn yno, sef tua 1.5 gradd a gostwng hynny mewn gwirionedd, a gwneud yn siŵr y gallwn achub y blaen ar hyn. Ac fe allwn wneud hynny.

Roeddwn yn siarad â phobl ifanc, fel rhan o'n COP ni, os mynnwch, gyda phobl ifanc, yn y deml heddwch ym Mharc Cathays heddiw—cannoedd o blant ifanc o bob rhan o Gymru; mae digwyddiad arall yn Wrecsam yn ddiweddarach yr wythnos hon—ac maent yn ein gyrru ni, yn yr un ffordd, Delyth, ag y cefais y sgyrsiau hynny gyda Gweinidogion y DU i ddweud, 'Byddwn yn eich cefnogi i ddangos arweiniad, i fynd ymhellach.' Rwy'n falch iawn o weld hynny—. Rwy'n deall eich bod wedi ei ddisgrifio fel 'cam'; rwy'n credu ei fod yn newid sylweddol o'r hyn a welsom yn ystod y blynyddoedd diwethaf, i ddweud toriad o 81 y cant mewn allyriadau, a bydd, fe fydd Cymru nid yn unig wrth y bwrdd gyda Gweinidogion y DU yn sicrhau bod hynny'n cyd-fynd â'r hyn a wnawn. Rydym yn gwybod mai'r tair her fwyaf i ni yng Nghymru yw gweithgynhyrchu a diwydiant—ac rydym am gael gweithgynhyrchu a diwydiant, ond—eu helpu i bontio tuag at ddyfodol gwyrddach, tecach; mae'n ymwneud â thrafnidiaeth, wrth gwrs, ac mae angen inni gyflwyno'r Bil bws hwnnw, mae angen inni fuddsoddi mewn rheilffyrdd ac mae angen inni fuddsoddi mewn cerdded a beicio hefyd a'r holl newidiadau eraill i ddulliau teithio; ac mae'n ymwneud ag amaethyddiaeth, a'r gwaith a wnawn gyda ffermwyr, nid i ffermwyr, fel y gallwn eu helpu i ymgorffori gwytnwch hinsawdd. Ond mae angen inni ostwng yr allyriadau. Rydym yn dawel hyderus ein bod ar y trywydd iawn i ddod â Chymru o fewn cyllideb garbon 2, o ran lle rydym arni, ond bydd cyllideb garbon 3, yr ydym eisoes yn gweithio arni—a bydd angen eich cefnogaeth i gyd arnom—fel Eryri o'i gymharu â'r bryn rwy'n ei gerdded ar y ffordd adref bob nos. Bydd yn llawer mwy serth.

14:45

Diolch am hynny ac am nodi'r her honno. Mae'n deg disgwyl, o ystyried yr ymrwymiad newydd hwn ar lefel y DU i gyflymu targedau allyriadau, y bydd hyn yn dod â mwy o gefnogaeth gan y Llywodraeth i bontio teg, ac rydych chi newydd egluro hynny. Nawr, mae hynny'n creu cyfle hanfodol inni fwrw ymlaen â'r holl uchelgeisiau a nodwyd gennych, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Grŵp Her Sero Net 2035 Cymru wedi darparu llwybrau clir ar gyfer cyflawni sero net erbyn 2035. Nawr, fel rydych chi newydd ei amlinellu, bydd y Senedd yn penderfynu ar dargedau cyllideb garbon 4 cyn bo hir. Bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn amlinellu ei strategaeth ar gyfer cyllideb garbon 3. Mae angen dybryd i Gymru gyflymu ochr yn ochr â hynny. Felly, a yw Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i fabwysiadu llwybrau Grŵp Her Sero Net 2035 Cymru er mwyn cyrraedd sero net erbyn 2035 oherwydd yr ymrwymiad cyflymach sydd ei angen?

Diolch, Delyth. Roedd fy rhagflaenydd yn falch iawn, gyda chefnogaeth cyd-Aelodau, o sefydlu'r grŵp her 2035 hwnnw. Maent wedi gwneud gwaith gwirioneddol anhygoel. Ond maent hwy hyd yn oed yn cydnabod—ac rwy'n talu teyrnged i Jane Davidson am gadeirio hwnnw, ond hefyd yr holl unigolion a ddaeth â'u syniadau at ei gilydd—fod rhannau o'u cynigion i gyrraedd sero net 2035 a fydd yn hynod heriol nid yn unig i'r Llywodraeth, ond i unigolion. Felly, rydym yn mynd i roi ystyriaeth ddifrifol i bopeth sydd o fewn yr adroddiad hwnnw.

Ond o ran pontio teg, a dod â phobl gyda ni, rwy'n credu bod angen inni feddwl hefyd nid yn unig am y dystiolaeth wyddonol sy'n sail i sut y cyrhaeddwn yno, yn y data sy'n ysgogi lleihau allyriadau a datgarboneiddio ac yn y blaen, mae angen hefyd inni ddefnyddio'r gwyddorau ymddygiad a sut y down â phobl gyda ni, a lle mae'r ysgogiadau, rheoliadau a phethau eraill hynny yn ei gwneud hi'n hawdd i bobl wneud y dewisiadau cywir. Fe euthum y trên y diwrnod o'r blaen er mwyn mynd i'r Iseldiroedd—y trên, dyna ddewis; nid awyren, trên. Ond pan gyrhaeddais y trên yng Nghaerdydd y peth cyntaf yn y bore, fe brynais goffi o'r ciosg y mae pawb ohonom yn gwybod amdano yno. Euthum ar y trên, gyda'r coffi o'm blaen a dweud wrth y cyfaill a oedd yn teithio gyda mi, 'Edrychwch ar hwn. Pam y mae hwn yn bwysig?' Oherwydd ein bod ni yng Nghymru, gyda chefnogaeth dinasyddion yng Nghymru, wedi newid ein dull o ymdrin â phlastigau untro. Nid oedd unrhyw blastig ynddo. Roedd y cyfan yn ddeunydd brand, ailgylchadwy. Nid oedd yn rhaid imi feddwl am hynny; fe brynais baned o goffi, a dyna lle roedd Cymru'n gwneud gwahaniaeth. A yna lle mae'r neges yr wythnos hon hefyd, oherwydd mae'n wythnos yr hinsawdd, oherwydd bydd rhai o'r rhai sy'n gwadu newid hinsawdd yn dweud, 'Beth y gall Cymru ei wneud?' Wel, gallwn newid y byd. Mae'n rhaid inni ddangos arweiniad, dyna i gyd. 

Yn sicr, gallwn newid y byd. Ac un o elfennau mwy tawel hynny o bosibl—elfen dawel o newid ein byd natur, ond elfen sydd serch hynny yn sylfaenol bwysig—yw mynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth. Yn eich sesiwn ddiweddar gyda'r pwyllgor newid hinsawdd ar hyn, fe nodoch chi y gallai'r targedau bioamrywiaeth o dan y Bil llywodraethu amgylcheddol gymryd hyd at dair blynedd ar ôl i'r Bil gael ei basio. O ystyried ein bod yn disgwyl i'r Bil basio yn 2026, gallai hynny olygu oedi tan 2029. Nawr, mae hynny'n bryder difrifol oherwydd mae'r ddeddfwriaeth yn allweddol i gyfrifoldeb Cymru i atal colli bioamrywiaeth, ac ie, i newid byd natur. A chlywais rai o ran arall o'r Siambr yn chwerthin pan ddywedom hynny, ond dyna yn ei hanfod y ceisiwn ei wneud. A allwch chi ein sicrhau eich bod yn gweithio i fyrhau'r amserlen honno cymaint â phosibl, i ddechrau datblygu'r targedau hynny ochr yn ochr â hynt y Bil, fel y gallwn ateb her ddybryd gwrthdroi colli bioamrywiaeth erbyn 2030, oherwydd po hwyaf yw'r oedi, y mwyaf o golledion na ellir eu gwrthdroi a welwn, a'r mwyaf o bethau na fydd modd inni eu cael yn ôl yn ein byd natur?

Ie, Delyth, rydych chi'n hollol gywir. Ac mae adfer bioamrywiaeth yn mynd law yn llaw ag addasu i newid hinsawdd a gwytnwch. Mae'n rhaid inni wneud y ddau gyda'i gilydd. Cefais her sylweddol gan y pwyllgor hwnnw pan osodais ein hamserlen waith ar gyflwyno'r targedau'n gynharach. Mae sail resymegol iddo, ac rwy'n awyddus i'w rhannu gyda'r pwyllgor, ond rwyf hefyd yn awyddus i ddychwelyd o flaen y pwyllgor a gweld—a dyma'r cwestiwn a ofynnais i fy swyddogion—a allwn gyflymu'r cynnydd tuag at ddod â'r targedau'n gynharach, gan gael y targedau cywir a gwneud yn siŵr mai'r rheini yw'r targedau cywir a'u bod wedi'u seilio ar y dystiolaeth hefyd. Felly, gadewch inni barhau â'r drafodaeth honno. Roeddwn yn falch o'r ymateb, oddi wrthych chi a'r Cadeirydd ac eraill. Felly, gadewch inni weld lle byddwn yn cyrraedd. Mae'n Fil sydd ar y gweill. Rwyf bob amser yn Weinidog sy'n hoffi gweithio gyda phwyllgorau i weld a allwn wneud gwelliannau.

14:50
Ffermydd Teuluol

3. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael â Llywodraeth y DU am effaith cyllideb Llywodraeth y DU ar ffermydd teuluol yng Nghymru? OQ61849

Ers i Lywodraeth y DU gyhoeddi eu cyllideb ar 30 Hydref, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cael trafodaethau niferus gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn.

Ysgrifennydd y Cabinet, yr wythnos hon, clywais gan ffermwr lleol yn sir Fynwy sy'n ofni y bydd ffermydd teuluol bach fel ei hun hi yn cael eu dinistrio gan newidiadau Llafur i'r dreth etifeddiant, gan droi ffermydd a oedd ar un adeg yn ffynnu yn ysglyfaeth i ddatblygwyr a rhwygo'r galon o'n cymunedau gwledig. Gadewch inni ei alw yr hyn ydyw: cipio tir gwledig wedi'i ysgogi gan Lafur. Ond mae'n mynd yn waeth, yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd y cyn uwch-gynorthwyydd Llafur, John McTernan, ac rwy'n dyfynnu,

'nid oes angen ffermwyr bach arnom',

ac mae hwn yn

'ddiwydiant y gallwn wneud hebddo'.

Mae'n warthus, a gofynnaf i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a yw barn Mr McTernan yn adlewyrchu'r dirmyg sydd gan Lafur tuag at weithwyr cefn gwlad sy'n gweithio'n ddiflino i fwydo ein cenedl? A wnewch chi herio Llywodraeth Lafur y DU, sy'n aberthu asgwrn cefn ein cymunedau amaethyddol tra bod ffigyrau Llafur blaenllaw'n awgrymu bod ein ffermydd bach yn bethau y gellir cael gwared arnynt?

Laura, diolch am y cwestiwn hwnnw. Gadewch imi ddweud yn union lle rwy'n sefyll. Yn gyntaf oll, credaf y dylem ymfalchïo yn y ffaith bod Canghellor y Trysorlys, Rachel Reeves, wedi cyflwyno cyllideb gyntaf erioed y DU gan Ganghellor benywaidd ar 30 Hydref. Rhaid imi ddweud, Laura, mae'n cynrychioli'r camau cyntaf tuag at atgyweirio 14 mlynedd o niwed a achoswyd i'n gwasanaethau cyhoeddus a'n cymunedau gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU. Ond bu'n rhaid i'r Llywodraeth wneud penderfyniadau anodd iawn, gan fynd i'r afael â heriau a etifeddwyd gan y weinyddiaeth flaenorol.

Nawr, er bod pryderon am effeithiau newidiadau i'r dreth etifeddiant, yn fwyaf penodol y rhyddhad eiddo amaethyddol, ac mae'r rheini'n ddealladwy, yn sicr, nid yw'n ddefnyddiol dyfalu ynghylch nifer y ffermydd yr effeithir arnynt o ystyried y nifer o ffactorau cymhleth sy'n gysylltiedig. Mae'r rheini'n cynnwys strwythurau perchnogaeth fferm, y cynlluniau etifeddiant, y rhyddhadau cymwys a allai fod yn berthnasol, sydd i gyd yn effeithio ar y modd y cymhwysir y rhyddhad eiddo amaethyddol. Mae gwerthoedd ffermydd eu hunain hefyd yn amrywio, gan ei gwneud hi'n eithaf anodd amcangyfrif faint a gaiff eu prisio dros drothwy treth etifeddiant ar unrhyw bwynt penodol. Ond yn syml, mae hwn yn fater a gadwyd yn ôl, ond rwy'n ymwybodol iawn, ac roeddwn yng nghynhadledd NFU Cymru yr wythnos diwethaf a siaradais nid yn unig ar y platfform, gan ateb cwestiynau ar hyn a llawer o faterion eraill, fel y cynllun ffermio cynaliadwy a llawer o bethau eraill, ond fe siaradais â ffermwyr yn uniongyrchol yn ei gylch hefyd. Mae gennyf ffermwyr yn fy nheulu estynedig y cefais drafodaethau â hwy yn ogystal. Byddant yn cael cyngor ar hyn i weld a yw'n effeithio arnynt hwy ai peidio.

Ond yn absenoldeb ffigurau penodol, oherwydd yr holl gymhlethdodau hynny, rwy'n credu bod ffigurau'r Trysorlys sydd wedi eu cyflwyno am eu hamcangyfrif o faint o ffermydd yr effeithir arnynt—. A chofiwch, mae yna strwythur gwahanol, ar y cyfan, i ffermydd yng Nghymru. Pan fyddwn yn sôn am ffermio teuluol yng Nghymru, y ffermydd bach a chanolig hynny, mae'n wahanol iawn o ran nodweddion i'r hyn a allai fod ar gyfartaledd ar yr ochr arall i'r ffin yn Lloegr. Felly, mae'n rhaid inni weld sut y bydd hyn yn gweithio. Rwy'n deall y bydd NFU Cymru ac eraill yn cyflwyno sylwadau i'r Canghellor, ac rwy'n dymuno'n dda iddynt gyda hynny, i gyflwyno'r data a'r dystiolaeth ar eu dadansoddiad. Ond yn y cyfamser, mae'n fater a gadwyd yn ôl, Lywydd.

A'r cwestiwn yw: a wnewch chi gyflwyno'r sylwadau hynny hefyd?

Nawr, rydych chi'n iawn—mae natur ffermydd yn wahanol iawn rhwng Cymru a Lloegr. Rwyf wedi bod yn edrych ar rai o ffigurau Llywodraeth Cymru ei hun. Mae asesiad effaith economaidd y cynllun ffermio cynaliadwy, a gyhoeddwyd ddiwedd y llynedd, yn ystyried y ffermydd sy'n gyfrifol am oddeutu 84 y cant o gyfanswm yr arwynebedd amaethyddol a ddefnyddir yng Nghymru, 89 y cant o allbwn safonol amaethyddol Cymru, a 93 y cant o gyfanswm y da byw sy'n pori—felly, yn y bôn, ffermydd gweithiol yng Nghymru. Mae arwynebedd y ffermydd sydd dan ystyriaeth yn yr adroddiad hwnnw'n cyfateb i werth fferm gyfartalog sydd ymhell dros ddwbl y trothwy arfaethedig o £1 filiwn ar gyfer rhyddhad eiddo amaethyddol, sy'n cyfateb i fil treth etifeddiant a allai fod dros chwe gwaith incwm blynyddol cyfartalog ffermwyr da byw yng Nghymru. Felly, mae'r Prif Weinidog yn dweud mai cyfran fach iawn o ffermydd Cymru fydd yn cael eu heffeithio. Rydych chi wedi dweud nad oes gennych ffigurau i allu mesur hynny, felly nid wyf yn siŵr o ble y cafodd y Prif Weinidog y ffigur. Ond mae eich ffigurau chi, a gyhoeddwyd lai na 12 mis yn ôl, yn awgrymu darlun gwahanol iawn—y byddai nifer helaeth o ffermydd yng Nghymru nid yn unig yn cael eu heffeithio, ond na fyddant mewn sefyllfa i allu fforddio talu'r bil treth. Felly, y cwestiwn yma yw: a fydd Llywodraeth Cymru, felly, yn ymrwymo i gyhoeddi dadansoddiad cynhwysfawr o effeithiau posibl trothwy rhyddhad eiddo amaethyddol newydd ar gyfer pob maint a chategori fferm i ateb y cwestiwn yr ydych chi wedi'i ofyn yma eich hun? Ac nid yw hynny, wrth gwrs, yn cynnwys y tyddynnod a'r daliadau eraill a anwybyddwyd gan eich Llywodraeth eich hun o'ch asesiad effaith economaidd ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy.

14:55

Felly, Llyr, edrychwch—diolch am y cwestiwn hwnnw—am y rhesymau a amlinellais o'r blaen, fod pob fferm, fel y gwyddom, yn wahanol iawn, ac yn wahanol o ran sut y cânt gyngor treth, a ydynt yn gwneud rhodd, a oes cytundeb priodasol hefyd, bydd cymhwyso hyn yn wahanol iawn ar gyfer pob daliad tir unigol. Felly, i wneud yr hyn y mae rhai wedi bod yn gofyn amdano, sef, 'A allwch chi roi nifer penodol y ffermydd a fydd yn cael eu heffeithio?', nid yw'n bosibl—[Torri ar draws.] Nid yw'n bosibl ei wneud, Llyr. [Torri ar draws.]

Felly, yr hyn roedd y Prif Weinidog yn ei wneud, yn briodol, oedd cyfeirio at ddata Trysorlys Ei Fawrhydi a gyhoeddwyd. Nawr, mae ffigurau Trysorlys Ei Fawrhydi yn dangos na fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o ffermydd. Maent yn dangos, ar gyfer 2021-22, yn y data diweddaraf sydd ar gael, ar draws y Deyrnas Unedig gyfan, mai dim ond 462 o hawliadau am ryddhad amaethyddol oedd yn fwy nag £1 filiwn, ac mae pobl wedi gwneud allosodiadau am yr hyn y mae hynny'n ei olygu i Gymru. Ond gadewch imi ychwanegu at hynny. Mae Paul Johnson, cyfarwyddwr y Sefydliad Astudiaethau Cyllid annibynnol, wedi dod i'r casgliad y dylai'r newidiadau effeithio ar nifer fach o'r ffermydd mwyaf gwerthfawr yn unig. Fodd bynnag, fel y dywedais mewn ymateb i'r cwestiwn cychwynnol, os yw rhanddeiliaid fel undebau ffermio yn gallu cynhyrchu data amgen, fe hoffwn edrych ar hynny, ond mae angen iddynt gyflwyno hynny, fel y deallaf y byddant yn ei wneud, i Ganghellor y Trysorlys yn Llundain; nid i fy nghyd-Aelod yma, ond i Rachel Reeves. 

Ac mae'n bwysig fod pob aelod o'r undebau ffermio, ond hefyd y rhai nad ydynt yn aelodau o'r undebau ffermio, a fydd yn gwrando ar y twrw ynglŷn â hyn nawr, yn edrych ar y manylion ac yn cael cyngor da, cadarn. Gyda llaw, Lywydd, mae Cyswllt Ffermio yn un o'r sefydliadau sy'n ymwneud â hyn, ond gwn y bydd rhai ffermwyr yn cael cyngor annibynnol eu hunain hefyd, y byddant yn talu amdano, ac yn y blaen. Ond mae manylion y newidiadau i gyd ar wefan Trysorlys Ei Fawrhydi.

Ac os caf ddweud, ar un agwedd na ofynnwyd imi amdani heddiw ond sy'n bwysig iawn yn hyn, fe wnaeth Llywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau nad yw ffermwyr Cymru sy'n ymuno â'r gwaith yr ydym yn dal i'w wneud ar y cynllun ffermio cynaliadwy o dan anfantais mewn unrhyw ffordd yn sgil cynigion y rhyddhad eiddo amaethyddol. Felly, rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod hynny yno hefyd. Felly, yn y cyfamser, hoffwn ddweud hefyd fod gennyf bryder, Lywydd—rhywfaint o bryder—y bydd peth o'r sŵn dealladwy o gwmpas hyn yn dwysáu pryderon a gofidiau allan yno, ac rwyf am sicrhau ein bod yn cyfeirio unrhyw un sy'n pryderu am hyn nid yn unig i gael cyngor da ac i wneud y peth economaidd a chyllidol resymegol ar gyfer eu fferm, ond hefyd i wybod bod cefnogaeth allan yno hefyd gan lawer o elusennau ffermio, megis Sefydliad DPJ, Tir Dewi, y Sefydliad Amaethyddol Llesiannol Brenhinol a Rhwydwaith y Gymuned Ffermio. Felly, unrhyw un sy'n poeni am hyn, y tu hwnt i'r mesurau ariannol, 'Codwch y ffôn; mae yna bobl ar gael i siarad â hwy ynglŷn â hyn hefyd.'

Llifogydd yn Ardal Caerdydd

4. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â llifogydd yn ardal Caerdydd? OQ61831

Eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £1.7 miliwn i Gyngor Caerdydd ar gyfer tri chynllun cyfalaf a £119,000 ar gyfer tri phrosiect ar raddfa fach o dan y rhaglen rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd. Rydym hefyd wedi darparu dros £32 miliwn i Gyngor Caerdydd i adeiladu cynllun diogelu'r arfordir o dan y rhaglen rheoli risgiau arfordirol.

Diolch, Ddirprwy Brif Weinidog. Bydd rhai yn y Siambr yn cofio'r llifogydd mawr ar ddechrau'r 1980au. Dim ond lluniau ohonynt a welais i, pan oedd Heol y Gadeirlan a sawl rhan o Bontcanna a Threganna dan ddŵr. Ond mae Caerdydd yn dal dan fygythiad oherwydd llifogydd. Mae glaw eleni yn unig wedi gadael llawer o strydoedd dan ddŵr, a bu'n rhaid achub cwpl o'u car—yn y brifddinas. Oherwydd mae Caerdydd yn ymladd llifogydd ar dair ffrynt: ni yw'r bedwaredd ddinas sydd fwyaf mewn perygl yn sgil lefelau'r môr yn codi; mae gennym dair afon yn llifo trwy Gaerdydd; ac maent yn llifo i aber Afon Hafren wedyn, yr aber llanw ail uchaf yn y byd i gyd. Amcangyfrifir bod llifogydd yn costio cyfanswm o £200 miliwn mewn difrod bob blwyddyn, heb yr effaith bersonol ar unigolion. Oherwydd y risg uchel o lifogydd yng Nghaerdydd, a fydd Llywodraeth Cymru yn ei gwneud hi'n haws i'r fframwaith llifogydd helpu i adeiladu gallu i wrthsefyll llifogydd yn y brifddinas yn y dyfodol? Diolch yn fawr.

15:00

Diolch am eich cwestiwn dilynol, Rhys. Rydym yn awyddus i wneud popeth a allwn, gan gynnwys rhywfaint o'r swm sylweddol o gyllid a nodais yn fy ymateb cychwynnol i chi, rydym yn ei roi i Gaerdydd at amryw o ddibenion. Ac rydych chi'n llygad eich lle: mae'n ymwneud â llifogydd afonol wedi'u cyfuno â dilywiau, a llifogydd dŵr wyneb, ynghyd â llifogydd o’r môr a chynnydd yn lefel y môr. Yn yr wythnos hon lle rydym yn cael sgyrsiau ynghylch gweithredu ar yr hinsawdd, mae angen inni gael y sgyrsiau hynny â chymunedau yng Nghaerdydd, ac rydym yn eu cael hefyd, ynglŷn â'u syniadau ynghylch sut i unioni'r sefyllfa. Ond byddwn yn cynnal, ac yn wir, rydym wedi cynnal, y llynedd ac eleni wrth symud ymlaen, y lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad mewn atal a lliniaru llifogydd.

Nid amddiffynfeydd caled yw'r unig ateb. Mae rhywfaint o hyn, gan gynnwys mewn rhannau o Gaerdydd, yn ymwneud ynglŷn â'r defnydd o rywbeth sy'n diflasu llawer o bobl yma, ond mae gennyf i ddiddordeb mawr ynddo, sef systemau draenio cynaliadwy. Felly, pan fydd gennych y datblygiadau newydd hynny, nid ydych yn gollwng yn syth i'r afonydd, a allai orlifo, ond rydych chi'n arafu'r dŵr. Mae a wnelo â phlannu'r goeden iawn yn y lle iawn hefyd. Mae a wnelo â'r holl bethau hynny. Ac mae angen inni gynnwys cymunedau. Mae gan Lywodraeth Cymru ei rhan i'w chwarae, gyda'r cyllid a ddarparwn. Mae angen i'r awdurdodau rheoli perygl yn yr ardaloedd hynny fynd ati hefyd i ddefnyddio'r cyllid hwnnw, a chyflawni'r prosiectau ar lawr gwlad, y bydd rhai ohonynt yn fach, yn berthnasol i nifer fach o ddeiliaid tai, yn ymwneud â gwydnwch ac ati; bydd rhai yn fawr, fel y byddant yng Nghaerdydd. Oherwydd fe wyddom, o'r gwaith mapio, os na chymerwn y camau cywir nawr i arafu’r cynnydd a welwn yn y tymheredd, a lefel y môr yn codi, nid yw’r mapio ar gyfer Caerdydd yn dda. Ond byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn mesurau i amddiffyn Caerdydd, peidiwch â phoeni.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel y clywsom, mae llifogydd yn digwydd yn amlach yng Nghaerdydd, ac mae'r cyngor wedi datgan bod y broblem yn cael ei hachosi'n rhannol gan ddraeniau wedi'u blocio, problem y maent yn gobeithio ei hunioni cyn gynted â phosibl, ond hefyd gan y system garthffosiaeth, nad yw'n gallu ymdopi â faint o ddŵr sy’n disgyn yn ein prifddinas. Nid yw’r sefyllfa ond yn mynd i waethygu wrth i law trymach barhau i gael ei ddarogan ar gyfer y wlad hon, sy'n destun pryder. Pa sgyrsiau rydych chi wedi'u cael, neu pa sgyrsiau rydych chi a Llywodraeth Cymru wedi’u cael, gyda Dŵr Cymru, i fynd i’r afael â hyn a chynyddu capasiti carthffosiaeth y ddinas? Diolch.

Ydy, mae hon yn broblem yng Nghaerdydd, ond ledled Cymru hefyd, y pwysau ar system a oedd yn addas ar gyfer y ganrif ddiwethaf gyda charthffosydd cyfun a gollyngiadau dŵr, lle gellid cludo’r llwyth yn ddiogel ar y pryd, gyda phoblogaeth o'r maint hwnnw, drwy’r pibellau hyn. Mae'r system bellach wedi dyddio ac yn cael ei gorlwytho, a Joel, dyna’n union pam ein bod ni nawr ar flaen y gad yng Nghymru. Mewn gwirionedd, yn ddiweddar, fe wnaethom gynnal digwyddiad DU gyfan, mewn swyddfeydd 50 llath yn unig o’r fan hon, a ddaeth â pheirianwyr systemau draenio cynaliadwy o bob rhan o’r DU ynghyd. Ac mae'n rhaid imi ddweud, y clod a roddwyd i Gymru, am symud ymlaen yn gyflym gyda systemau draenio trefol cynaliadwy—. Ac i'r rhai nad ydynt yn gwybod beth yw'r rhain, maent yno i osgoi sefyllfa lle mae'r holl ollyngiadau oddi ar doeau a'r system ddŵr ehangach yn mynd i lawr y pibellau'n uniongyrchol ac yn gorlwytho capasiti'r pibellau hynny. Y syniad yma yw eich bod yn defnyddio prosesau naturiol yn lle hynny, ac mae awdurdodau lleol yn gweithio ar hyn yng Nghymru, i'w gynnwys yn eu gwaith cynllunio trefol a strydoedd newydd, y cartrefi newydd y maent yn eu codi, fel nad ydym yn gollwng yn syth i mewn i'r rhwydwaith carthffosydd cyfun, ond ein bod ni mewn gwirionedd yn gollwng i mewn i brosesau naturiol ac yn arafu'r llif i mewn i afonydd. Felly, Joel, byddwn yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol, gan gynnwys Caerdydd, i wneud hynny. Ac mewn gwirionedd, mae gan Gaerdydd gynlluniau gwych y gwnaethant eu dangos i gynrychiolwyr yn y digwyddiad hwnnw, i ddangos beth y maent yn ei wneud mewn datblygiadau tai newydd.

Wel, bydd fy swyddfa, fy nghartref a chartrefi'r rhan fwyaf o fy etholwyr o dan ddŵr oni bai bod pob un ohonom yn newid ein ffyrdd. Felly, hoffwn eich holi ynglŷn â phrosiect Grangetown Werddach, gan ei bod yn enghraifft wirioneddol dda o ddraenio trefol cynaliadwy, sydd wedi arbed llawer iawn o ddŵr glaw rhag mynd i mewn i'r system garthffosiaeth, gan arbed arian ar ynni, a gwella'r amgylchedd wrth gwrs. Felly, hoffwn archwilio nid yn unig pam nad oes gennym fwy o systemau tebyg i Grangetown Werddach ar waith ar draws y ddinas, lle gwyddom fod llifogydd eisoes yn digwydd, fel y nodwyd eisoes gan Rhys ab Owen, ond hefyd sut rydym yn mynd i fanteisio ar y system ddŵr glaw, ac yn wir, lle rydym yn golchi ein dwylo, i'w defnyddio ar gyfer fflysio'r toiled. Oherwydd mae'n warthus ein bod yn defnyddio dŵr yfed ar gyfer fflysio'r toiled, ac nid oes gennym ddigon o ddŵr glaw wedi'i gasglu i ddyfrio gerddi hyd yn oed, lle nad dŵr yfed yw'r opsiwn gorau. Felly, mae'n rhaid inni feddwl yn hollol wahanol mewn perthynas â lleihau defnydd, ailddefnyddio ac ailgylchu a sut y gwnawn hynny. Ai diffyg arian yw'r broblem, neu ai diffyg dychymyg a brys mewn perthynas â hyn?

15:05

Jenny, diolch am eich cwestiwn atodol. A gaf i gymeradwyo, gan imi sôn am y gynhadledd systemau draenio cynaliadwy ac fe aethant i weld menter Grangetown Werddach, a gwnaeth argraff enfawr arnynt, ac roeddent yn meddwl, 'Wel, sut y gallwn wneud hyn yn brif ffrwd yn Lloegr hefyd?' Mae angen inni wneud mwy ohono yng Nghymru. Nawr, mae'n golygu ffordd wahanol o feddwl i beirianwyr, sy'n draddodiadol yn meddwl, 'Wel, plymiwch ef i mewn i'r pibellau. Defnyddiwch beirianneg galed draddodiadol', ond erbyn hyn, mae gennym garfan o beirianwyr systemau draenio cynaliadwy gwybodus iawn ledled Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, ac maent ym mhob awdurdod lleol ac yn dechrau meddwl yn wahanol iawn am y peth.

Rydych chi'n siarad hefyd, yn gywir ddigon, am fater y cyfeirir ato weithiau fel, 'Sut y defnyddiwn systemau dŵr coch?' Rwy’n datgan buddiant yma, Lywydd, oherwydd 15 mlynedd yn ôl, pan adeiladais fy nhŷ, mae gennym long danfor o dan yr ardd. Mae'n beth maint llong danfor sy'n casglu'r holl ddŵr coch. Rydym yn fflysio ein toiledau gydag ef; rydym yn gwneud defnydd arall ohono. Os nad ydym yn defnyddio'r casgenni dŵr yn yr ardd i ddyfrio'r tomatos, rydym yn defnyddio'r system ddŵr coch i'w wneud, ac yn y blaen. Ond rywsut, mae angen inni weithio ar draws y Llywodraeth a llywodraeth leol i wneud hyn yn fwy normal ac i arloesi yn y gofod hwnnw, fel y gall datblygiadau tai wneud mwy o hynny hefyd. Systemau draenio cynaliadwy ar un llaw, casglu dŵr glaw ar y llall, y gellir ei ddefnyddio at ddibenion eraill.

A'r peth syml arall, Lywydd, yw dweud wrth bobl, 'Peidiwch â gwastraffu dŵr.' Nid ydym erioed wedi cael gwerth priodol, os mynnwch, wedi'i roi ar ddŵr, felly bydd pobl yn llenwi'r bath, byddant yn defnyddio dŵr glân sydd wedi'i drin at ystod o ddibenion nad oes angen ei ddefnyddio ar eu cyfer, ac mae angen inni gyfleu'r neges honno iddynt eto. Mae’n rhaid inni wneud hyn yn gyson, dweud wrth bobl, 'Gwerthfawrogwch eich dŵr, gan nad yw’n rhad nac am ddim mewn gwirionedd. Mae cost i hyn, ac mae a wnelo rhai o'r costau hynny â'r hyn y buom yn sôn amdano yma heddiw, sef newid hinsawdd.'

Amaethyddiaeth Cymru

5. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith cyllideb hydref Llywodraeth y DU ar amaethyddiaeth Cymru? OQ61855

Mae'n rhy gynnar i fod wedi gwneud asesiad manwl, ond bydd Gweinidogion Cymru, gyda chymeradwyaeth y Senedd, yn penderfynu sut i ddyrannu cyllideb Llywodraeth Cymru i adlewyrchu ein blaenoriaethau cenedlaethol yng Nghymru, gan gynnwys y cynnydd o £1.7 biliwn i setliad y gyllideb, a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl yn ein holl gymunedau.

Weinidog, diolch am eich ateb. Rwy’n cofio’r Prif Weinidog yn dweud yr wythnos diwethaf yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud dadansoddiad, ond credaf ichi nodi, mewn ymateb i gwestiwn Llyr Gruffydd, ei fod yn fwy o asesiad cyffredinol yr oeddech wedi’i wneud o ffigurau Cyllid a Thollau EF ynghylch diddymu rhyddhad eiddo amaethyddol. A yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud gwaith manwl penodol ar amaethyddiaeth Cymru, fel y gallwn ddeall yn llawn y goblygiadau y mae’r cynigion hyn yn eu cynrychioli i hyfywedd amaethyddiaeth Cymru? Oherwydd os cymerwch ffigurau’r Trysorlys ei hun, bydd hyn yn effeithio ar oddeutu 2,000 o ffermydd ledled y Deyrnas Unedig gyfan, ac mewn tymor seneddol o bum mlynedd, mae hynny'n 10,000 o ffermydd. Mae hynny’n nifer fawr o fusnesau a allai gael eu heffeithio ar lefel y DU, ond ar lefel Cymru, rydym yn sôn am rai cannoedd, a fyddai’n cael effaith ddramatig ar dirwedd, cynhyrchiant a hyfywedd amaethyddiaeth Cymru. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu gwneud gwaith a fyddai'n cefnogi'r honiad a wnaeth y Prif Weinidog yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog fod gwaith ar y gweill?

Andrew, diolch am eich cwestiwn dilynol. Roeddwn yn rhagweld y byddai’n ymwneud â’r gyllideb ehangach mewn perthynas â Chymru, ond mae’n canolbwyntio ar dreth etifeddiant a’r rhyddhad eiddo amaethyddol, ac rwy'n fwy na pharod i'w trafod eto. Mewn dau ateb blaenorol arall, rwyf wedi egluro bod cymhlethdod hyn yn golygu ei bod bron yn amhosibl pennu un ffigur oherwydd strwythurau perchnogaeth ffermydd; cynlluniau neu ddiffyg cynlluniau etifeddiaeth; y rhyddhadau perthnasol y gellir eu cymhwyso neu beidio; i briod neu beidio; gwneud rhoddion i blant neu beidio, ac yn y blaen. Bydd y defnydd o ryddhad eiddo amaethyddol yn amrywio'n fawr ac felly hefyd yr elfen o werth ffermydd. Felly, mae'n anodd iawn cyrraedd un pwynt lle rydych chi'n dweud, 'Dyna'r effaith.' Felly, o ganlyniad, yr hyn y dibynnwn arno yw’r dadansoddiad a wnaed gan y Trysorlys, fel yr eglurais mewn ymateb i gwestiynau blaenorol, ond hefyd peth o’r dadansoddiadau annibynnol a gafwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ac eraill, sydd hefyd wedi cytuno â dadansoddiad y Trysorlys na fydd yr effaith ar y raddfa y mae rhai yn ei honni—bydd yn llawer llai.

Ond gadewch imi nodi yma ar y gyllideb pa mor anodd yw hi i Ganghellor presennol y Trysorlys lenwi’r bwlch wrth gerdded i mewn i’r swyddfa honno—ac mae effaith yma yng Nghymru hefyd—a chanfod nad oedd yr hyn yr oeddem o dan yr argraff ei fod wedi'i ymrwymo'n ariannol wedi'i ymrwymo mewn gwirionedd, ac yna bu'n rhaid iddi ddod o hyd i ffyrdd o lenwi'r bwlch hwnnw. Wel, bydd ffermwyr hefyd, llawer o’r ffermwyr rwy’n eu hadnabod, yn dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus da, byddant yn dibynnu ar y GIG i weithredu’n dda, ac eto, mae’r 14 mlynedd diwethaf o doriadau dwfn drwy flwyddyn ar ôl flwyddyn o gyni, nad ydym erioed wedi cael ymddiheuriad amdanynt yn y Siambr hon—. Mae’n teimlo i mi, Lywydd, fel pe bai'r bobl a daniodd y fatsien, a feginodd y tân, a geisiodd losgi’r economi a gwasanaethau cyhoeddus, bellach yn cwyno am y difrod wrth gynhesu eu dwylo ar y cols. Mae eisiau gwasanaethau cyhoeddus, GIG a gofal iechyd cyhoeddus da ar ffermwyr a’u teuluoedd hefyd, ac mae pob un o’r rhain wedi bod dan ymosodiad parhaus ers degawd a mwy o Lywodraethau Ceidwadol. Felly, yn sail i hyn mae: i ba raddau rydym yn barod i gyfrannu at gyfoeth cyhoeddus y deyrnas hon? Ac rwy'n credu, ac rwy’n dweud hyn yn hyderus oherwydd y sgyrsiau a gefais, fod ffermwyr hefyd yn cydnabod eu bod yn dibynnu ar y gwasanaethau cyhoeddus hyn, fod arnynt eisiau talu’r swm dyledus i sicrhau bod gennym wasanaethau cyhoeddus da, ac maent yn edrych yn ôl ar y 14 mlynedd hyn fel ymosodiad cyson gan y bobl a geisiodd losgi ein heconomi.

15:10
Cefnogi'r Diwydiant Amaethyddol

6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant amaethyddol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ61846

Rydym yn darparu ystod eang o gymorth uniongyrchol ac anuniongyrchol i ffermwyr yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Mae ein grantiau ar gyfer buddsoddi mewn gwelliannau ar y fferm, offer a thechnoleg, a’r dysgu a’r datblygu a gynigir gan Cyswllt Ffermio oll yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi dyfodol cynaliadwy i amaethyddiaeth Cymru.

Diolch, Ddirprwy Brif Weinidog. Un peth a aeth o dan y radar i raddau yn y gyllideb oedd y ffaith bod y Canghellor, yn ddiangen a heb fod rhaid, wedi penderfynu ailddiffinio cyllid amaethyddol ar gyfer y gwledydd datganoledig drwy fformiwla Barnett, a oedd yn gwbl ddiangen. Yn y gorffennol, rwyf wedi gofyn i chi a’ch rhagflaenydd, mewn perthynas â'r cynllun ffermio cynaliadwy, ysgrifennu at y Trysorlys i ofyn am swm mesuradwy o arian y byddai ei angen i roi'r cynllun ar waith yng Nghymru. Gan ddefnyddio cyfrifiannell cyfradd llog Banc Lloegr, byddai hynny oddeutu £500 miliwn. A allwch chi gadarnhau ar lawr y Siambr hon pa un a wnaethoch chi neu’ch rhagflaenydd ysgrifennu at y Canghellor neu’r Trysorlys ynglŷn â hynny, ac a ydych chi wedi cael gohebiaeth â hwy yn gofyn iddynt beidio â newid neu ailddiffinio taliadau amaethyddol drwy fformiwla Barnett?

Diolch am eich cwestiwn, Sam, a dylwn nodi bod y trafodaethau gyda Thrysorlys y DU wedi’u harwain, wrth gwrs, gan fy nghyd-Aelod, a oedd yma funud yn ôl, yr Ysgrifennydd cyllid, ond mewn trafodaeth gyda fi a fy swyddogion hefyd. Er ein bod yn croesawu cael gwared ar gyllid amaethyddol a glustnodwyd yn lle cyllid yr UE, rydym wedi dadlau ers tro, ers amser maith, ac yn dal i fod o'r farn, y dylid dyrannu adnoddau ledled y DU ar sail angen cymharol, fel y nodir yn 'Diwygio ein Hundeb'. Bydd angen i’r pedair gwlad gytuno ar y diwygiad hwnnw, a’i osod o fewn cytundeb cyllidol newydd, wedi’i oruchwylio a’i weithredu gan gorff sy’n annibynnol ar Lywodraeth y DU. Byddai hyn yn llawer mwy effeithlon, yn llawer mwy effeithiol. Byddai'n helpu i leihau'r aflunio a'r aneffeithlonrwydd sy'n codi yn y system bresennol. Byddai’n galluogi dyraniad mwy rhesymegol a thryloyw o wariant cyhoeddus ar draws y DU. Ein blaenoriaeth wrth symud ymlaen yw sicrhau, fodd bynnag, fod y fformiwla ariannu bresennol yn cyflawni ar gyfer Cymru, a byddwn yn parhau i ddadlau'r achos hwnnw. Mewn ymateb i ateb blaenorol, Sam, nodais yn glir ein boddhad na fyddai unrhyw un o’r newidiadau yng nghyllideb y DU yn effeithio ar ddyfodol y cynllun ffermio cynaliadwy i Gymru. Fe wnaethom nodi hynny'n glir, ac rwy'n falch fod hynny wedi'i glywed.

15:15
Treth Etifeddiaeth

7. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith economaidd bosibl Llywodraeth y DU yn newid treth etifeddiant ar Gymru wledig? OQ61842

Mae treth etifeddiant yn dreth a gedwir yn ôl ac a reolir gan Lywodraeth y DU, ac mae’n gymwys ledled y DU. Mae ffigurau Trysorlys EF yn awgrymu na fydd y rhan fwyaf o ffermydd yn cael eu heffeithio gan y newidiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU.

Diolch yn fawr iawn. Gan ddilyn trywydd rhai o'r materion a godwyd y prynhawn yma, mae'n ddiddorol iawn eich clywed yn dweud mai ychydig iawn o ffermydd yr effeithir arnynt, gan fod angen y ffigurau hynny arnom, os mai dyna yw eich barn. Mae arnom angen y dystiolaeth i ategu hynny. Er bod trothwy o £1 filiwn yn swnio'n sylweddol, mae mwy o asedau nag arian yn aml gan ffermydd teuluol Cymru. Mae’r teuluoedd hyn yn byw’n gynnil ac yn gweithio’n ddiflino ar yr un tir, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac eto maent bellach yn wynebu ymosodiad o bwysau ariannol, a dysgais fwy am ddau wahanol fath o bwysau yn sgil cyllideb Llywodraeth y DU. O fis Ebrill nesaf, bydd cerbydau gwaith fel tryciau codi cab dwbl, y mae ein ffermwyr yn dibynnu arnynt bob dydd i gludo deunyddiau ac offer, yn cael eu hailddosbarthu at ddibenion treth. Gallai’r newid hwn arwain at gynnydd sylweddol mewn taliadau budd mewn nwyddau, gyda rhai ffermydd yn wynebu cynnydd 11 gwaith y flwyddyn. Bydd cyflwyno’r mecanwaith addasu pris carbon ar draws ffiniau yn 2027 yn rhoi rhagor o bwysau ar ein ffermydd. Felly, unwaith eto, yn dilyn rhai o'r materion a godwyd y prynhawn yma, pa asesiad a wnaethpwyd gennych o effaith y newidiadau hyn yng nghyllideb y DU ar ffermydd Cymru? Diolch yn fawr iawn.

Jane, diolch yn fawr iawn. Rwyf mewn perygl o ailadrodd fy hun, ond hoffwn fod yn glir iawn ar hyn. Er bod y pryderon ynghylch effaith y newidiadau yn ddealladwy, ac mae llawer o bobl—llawer o ffermwyr unigol a'u teuluoedd—bellach yn gofyn, 'A yw hyn yn berthnasol i mi? Beth y mae'n ei olygu?' ac yn y blaen, a buaswn yn eu cynghori'n gryf i edrych arno'n iawn, i edrych ar y manylion ar wefan Trysorlys EF, a gweithio drwyddo hefyd, a gweld a yw'n berthnasol, nid yw dyfalu ynghylch union nifer y ffermydd yr effeithir arnynt naill ai’n ddefnyddiol nac yn bosibl o ran pennu ffigur, oherwydd cymhlethdod y materion y soniais amdanynt ynghynt. Felly, ar y sail honno, rydym yn defnyddio'r data a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF. Ond rwyf am ddweud yn gryf iawn, ac yn eich sgyrsiau â ffermwyr yn eich ardal, os yw ffermwyr yn gallu cyflwyno dadansoddiadau amgen neu ddata amgen, fod angen iddynt gyflwyno’r dadleuon hynny i Ganghellor y Trysorlys.

Byddai gennyf innau ddiddordeb mewn gweld hynny hefyd, ond mae cymhlethdod hyn, oherwydd gwerth y ffermydd, y cynlluniau etifeddiant a allai fod ganddynt neu beidio, strwythurau perchnogaeth gwahanol ffermydd, a yw rhyddhad perthnasol yn gymwys ai peidio—. Mae pob un o’r pethau hynny, a mwy, yn ei gwneud yn anodd iawn pennu un ffigur pan fydd busnesau fferm unigol yn gwneud penderfyniadau ar gyfer busnes fferm unigol. Ond o ddifrif, buaswn yn cynghori pawb i edrych ar yr hyn y mae'n ei ddweud ar wefan Trysorlys EF. Gofynnwch am gyngor, gan gynnwys gan gynghorwyr ariannol unigol os oes gennych rai, ond gan Cyswllt Ffermio hefyd. Ac yna, os oes gan yr undebau ffermio neu eraill ddadansoddiad amgen, dylech gyfleu hynny i Drysorlys EF ac i Ganghellor y Trysorlys. Rwy’n fodlon edrych ar hynny hefyd, gan fy mod yn awyddus i sicrhau bod gennym yr hyfywedd yn y dyfodol, yn enwedig wrth inni fwrw ymlaen â’r cynllun ffermio cynaliadwy. Er bod hynny'n waith caled, rydym yn gwneud cynnydd da a chyson, ond hoffwn wneud yn siŵr, gyda’n ffocws ar ffermydd bach a chanolig, y gellir sicrhau cynaliadwyedd hirdymor yn ariannol. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny o gymorth mewn rhyw ffordd, ond mae ceisio ei gyfyngu i un ffigur yn mynd i fod bron yn amhosibl.

Llifogydd yng Nghanol De Cymru

8. Pa fesurau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau’r risg o lifogydd yng Nghanol De Cymru, gan ystyried effeithiau newid hinsawdd a llifogydd dinistriol diweddar ledled Ewrop? OQ61845

15:20

Yn gyntaf oll, rwy'n cydymdeimlo â phawb yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd diweddar yn Ewrop, yn enwedig yn Sbaen. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i adeiladu cymunedau mwy gwydn wrth inni frwydro yn erbyn bygythiad newid hinsawdd, a dyna pam y mae'r Llywodraeth hon bellach wedi buddsoddi £60 miliwn yng Nghanol De Cymru ers 2021, a fydd o fudd i 2,800 eiddo.

Diolch am eich ymateb, Ddirprwy Brif Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol o’n hymweliadau diweddar â Theras Clydach yn Ynys-y-bwl o effaith ddinistriol llifogydd 2020. Yn ffodus, ni chollwyd unrhyw fywydau, ond fe wyddom, yn 2020, fod ardaloedd fel Canol De Cymru wedi dioddef gwerth tri mis a hanner i bedwar mis o law oherwydd y storm honno. Nid oes ond angen edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yn Sbaen i weld gwerth blwyddyn o law mewn cyfnod mor fyr. A gaf i ofyn, felly, pa wersi a ddysgwyd gennych o’r hyn sy’n digwydd mewn mannau eraill i ddeall yr effaith bosibl ar gymunedau yma yng Nghymru, a hefyd y sicrwydd y gallwn ei roi i gymunedau a oedd eisoes yn dioddef ac yn bryderus ar ôl 2020 ond sy’n gwylio’r newyddion yn awr, gan wybod eu bod mewn perygl ac y bydd eu bywydau mewn perygl pe bai sefyllfa debyg i storm Dennis yn digwydd, ond sy'n gofyn, 'Beth os yw'n waeth y tro nesaf?'?

Diolch am eich cwestiwn atodol ac am eich cefnogaeth chi a Vikki ac eraill i'r trigolion. Credaf fod hynny wedi bod yn bwysig iawn. A diolch am y cyfle i gyfarfod â thrigolion Teras Clydach hefyd, i geisio archwilio ffyrdd ymlaen iddynt, ond hefyd, rydych chi'n llygad eich lle, i ofyn beth rydym wedi'i ddysgu.

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu yw hyn: amser maith yn ôl yn 2008 adeg llifogydd Cumbria, pan welwyd dinistr llwyr drwy lawer o drefi Cumbria, pan newidiwyd tirweddau, ailgyfeiriwyd afonydd, grym hynny, yr hyn a welsom bryd hynny gyda chymorth y Swyddfa Dywydd oedd un o’r enghreifftiau cynnar nid yn unig o dywydd trawmatig, ond lle symudodd y ffrynt tywydd ac oedi uwchben cymuned. Os edrychwch chi nawr ar y digwyddiadau trasig yn Sbaen, mae'n sefyllfa debyg; mewn rhannau eraill o Ewrop, yr un peth.

Cawsom gyflwyniad yr wythnos hon yn rhan o’r sgyrsiau hinsawdd gan un o uwch swyddogion y Swyddfa Dywydd a ddangosodd hynny: yr hyn sydd wedi newid yw bod y ffryntiau hyn yn oedi uwchben cymunedau bron fel trolif uwch eu pennau, ac yna’n creu dilyw yn y cymunedau hynny. Mae hynny’n bwysig i’w nodi. Mae pethau'n newid. Nid yn unig fod cynnydd yn y dŵr sy'n cael ei ollwng gyda newid hinsawdd; ond mae ffryntiau'n oedi mewn rhai mannau uwchben cymunedau. Felly, mae angen inni feddwl yn greadigol ac mae angen inni feddwl yn wahanol.

Rwy'n cydymdeimlo â'r rheini yn Nheras Clydach, a llawer o gymunedau eraill hefyd, am ein bod yn darganfod bod cymunedau nad oeddent yn meddwl y caent lifogydd bellach yn cael llifogydd. Mae cymunedau ar ben bryniau'n cael fflachlifoedd. Felly, mae angen inni achub y blaen ar hyn a pharatoi ar gyfer hyn yn y ffordd y symudwn ymlaen.

A gaf i ddiolch hefyd am y sylwadau a wnaethoch chi a Vikki o ran y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol? Clywais yn y cyfarfod hwnnw pa mor bwysig ydynt. Rwy'n credu efallai eich bod wedi cael fy llythyr yn cadarnhau ein bod wedi ymestyn cyllid i'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol i weithio gyda thrigolion Teras Clydach am weddill y flwyddyn ariannol hon. Rwy'n credu y bydd hynny’n rhoi rhywfaint o sicrwydd iddynt hefyd, gan y gwn pa mor ddefnyddiol y mae’r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol wedi bod wrth weithio gyda hwy.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau amserol. Mae dau gwestiwn wedi eu cytuno heddiw. Mae'r cyntaf gan Peredur Owen Griffiths.

1. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i fusnesau ac unigolion sydd wedi'u heffeithio gan y tân yn y Fenni? TQ1239

Rydym yn cydymdeimlo â phawb yr effeithiwyd arnynt gan y tân. Rydym yn ymgysylltu â phartneriaid plismona a diogelwch cymunedol ar unrhyw faterion ehangach sy'n effeithio ar y gymuned mewn perthynas â'r digwyddiad. Mewn ymateb i’r difrod a’r tarfu ar fusnesau yn sgil y tân, gall Busnes Cymru ddarparu cymorth i fusnesau adfer ar ôl y tân.

Diolch am yr ateb yna.

Mae'r tân a welwyd yn y Fenni dros y penwythnos wedi difrodi rhan hanesyddol o ganol y dref. Hoffwn dalu teyrnged i ymateb y gwasanaethau brys a sicrhaodd ddiogelwch trigolion lleol ac a frwydrodd yn ddewr i atal y tân i'r graddau mwyaf posibl. Pan fydd ymchwiliad i'r achos wedi'i gwblhau, bydd sylw'n troi at ailadeiladu bywoliaeth y bobl yr effeithiwyd arnynt. Rwy'n bryderus hefyd ynglŷn â'r effaith y mae’r tân wedi’i chael ar elusen The Magic Cottage, sy’n cefnogi plant a phobl ifanc o dan 25 oed ag anghenion ychwanegol a salwch cronig a chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd. Maent yn gweithio ar draws pedair sir—sir Fynwy, Blaenau Gwent, Torfaen a Phowys. Maent wedi dweud wrth y cyfryngau eu bod wedi colli popeth yn y tân, ond yn dyst i haelioni'r cyhoedd, mae llawer o stoc wedi'i roi i The Magic Cottage ers y tân. Maent bellach yn chwilio am eiddo newydd i storio'r stoc. I roi syniad o raddfa, roedd oddeutu 10,000 troedfedd sgwâr o ofod manwerthu yn y siop yn y Fenni, sef y siop elusen fwyaf yng Nghymru, mae'n debyg. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa arbenigedd, canllawiau a chymorth ariannol y gall y Llywodraeth hon eu darparu i bawb yr effeithiwyd arnynt gan y tân yn y Fenni, a pha gymorth y gallwch chi ei ddarparu i sicrhau y ceir cyn lleied â phosibl o darfu a bod bywydau, busnesau a chanol y dref a gwaith yr elusen hynod bwysig hon yn gallu dychwelyd i'r hyn yr arferai fod cyn gynted â phosibl? Diolch.

15:25

Hoffwn eilio’r sylwadau a wnaed gan Peredur Owen Griffiths mewn perthynas â chanmol gwaith Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ac wrth gwrs, y gwasanaethau brys a’r asiantaethau eraill am eu hymateb cyflym ac effeithiol iawn. Mewn perthynas â’r cymorth y gellir ei ddarparu, mae Banc Datblygu Cymru ar gael i gefnogi busnesau yr effeithiwyd arnynt ac a allai elwa o gronfa micro fenthyciadau Cymru sy’n cynnig benthyciadau carlam o rhwng £1,000 a £50,000. Felly, buaswn yn annog unrhyw fusnes, yn y lle cyntaf, i gysylltu â llinell gymorth Busnes Cymru. Byddant yn gallu darparu gwybodaeth a chyngor ymarferol, neu gallant gyfeirio at asiantaethau a sefydliadau perthnasol a allai roi cymorth.

Gallent hefyd gyfeirio at gynghorydd Busnes Cymru penodol, a all helpu gyda chynlluniau adfer manylach hefyd. Gallai’r rheini gynnwys llif arian, hylifedd ac effeithiau tarfu ar fasnachu. Efallai y gallant eu helpu i ddod o hyd i ofod busnes amgen. Gallai hynny fod ar ffurf swyddfeydd neu warysau, er enghraifft, i helpu'r busnesau i barhau i fasnachu ac ymadfer wedi'r difrod tân. Felly, fel y dywedaf, yn y lle cyntaf, dylid ffonio Busnes Cymru, a all sôn am y cymorth adfer sydd ar gael.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel cymaint o rai eraill yn y Siambr hon, cefais fy niflasu'n fawr gan y golygfeydd gwirioneddol ofnadwy a welsom yn y Fenni nos Sul. Yn ddealladwy, mae’r gymuned mewn sioc, gyda chartrefi wedi'u colli, busnesau wedi’u dinistrio, ac yn amlwg, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Peredur Owen Griffiths yn gynharach, elusen plant The Magic Cottage yn colli popeth.

Lywydd, rwy'n hynod ddiolchgar na fu unrhyw anafusion, a hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r 100 a mwy o ddiffoddwyr tân a fu'n ymladd y fflamau, a phob unigolyn sydd wedi chwarae rhan yn cefnogi'r rheini yr effeithiwyd arnynt. Yn naturiol, mae gan y Fenni ysbryd cymunedol anhygoel, ac mae wedi bod yn galonogol gweld pobl leol yn dod ynghyd i wneud yr hyn a allant i helpu, gan gynnwys lansio llu o ymdrechion codi arian ar-lein.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gwerthfawrogi eich atebion blaenorol i fy nghyd-Aelod yn nodi safbwynt Llywodraeth Cymru, gan y credaf fod gan bob un ohonom gyfle diffuant i helpu. Felly, hoffwn wybod pa sgyrsiau y mae Gweinidogion, a chi'n enwedig, wedi’u cael gyda Chyngor Sir Fynwy i sicrhau eu bod yn y sefyllfa orau bosibl i ddarparu cymorth a chefnogaeth. Fel y sonioch chi yn eich ateb blaenorol, mae yna wahanol grwpiau a sefydliadau, ond mae hefyd yn hollbwysig ein bod yn cefnogi busnesau, yn enwedig yn y cyfnod cyn y Nadolig. Felly, a wnaiff y Llywodraeth weithio gyda’r rhanddeiliaid allweddol, hyd yn oed y rhai y sonioch chi amdanynt yn eich ateb blaenorol, i weld beth y gellir ei wneud i helpu'r unigolion a’r busnesau hynny allu ymadfer yn iawn? Diolch.

Rwy’n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn, ac unwaith eto, am gydnabod dewrder yr ymatebwyr, a haelioni'r gymuned hefyd, sydd wedi dod ynghyd, ac sy’n gwbl wych. Roedd y cwestiwn a ofynnwyd yn ymwneud yn benodol â chymorth i fusnesau, felly, fel y dywedais, y pwynt cyswllt allweddol fyddai drwy Busnes Cymru i archwilio gyda chynghorydd Busnes Cymru pa fath o gynllun y gellir ei roi ar waith i adfer wedi'r digwyddiad. Ond o ran y sgyrsiau ehangach hynny, byddai’r rheini’n cael eu harwain gan gyd-Aelodau eraill sydd â chyfrifoldeb dros lywodraeth leol, a hefyd y gwasanaeth tân ac achub. Ond hoffwn roi sicrwydd i fy nghyd-Aelodau, fel y dywedais yn fy ateb cychwynnol i'r cwestiwn, ein bod yn ymgysylltu â phartneriaid plismona a diogelwch cymunedol ar yr effeithiau ehangach mewn perthynas â'r gymuned yn fwy cyffredinol.

Diolch am y cyfle i siarad. Ysgrifennydd y Cabinet, cafodd y tân diweddar yn y Fenni, fel y dywedwyd eisoes gan fy nghyd-Aelodau—ac rwy’n cytuno â’r holl sylwadau a wnaed—effaith ddinistriol ar y gymuned leol a busnesau lleol yno, gan gynnwys Cable News, siop boblogaidd sydd wedi cael ei rhedeg gan Paul Cable ers dros 30 mlynedd bellach, a siop elusen The Magic Cottage, y mae ei pherchnogion wedi gweithio’n ddiflino i gefnogi pobl ifanc mewn angen. Felly, rwy'n cytuno â’r sylwadau a wnaethoch, a diolch am nodi'r cymorth y credwch y gall fod ar gael iddynt hwy ac eraill i ailadeiladu, ac yn enwedig o ran cefnogi’r grwpiau agored i niwed hynny yn ein cymuned. Fel y byddwch yn cytuno, rwy'n siŵr, mae hyn o'r pwys mwyaf. Ac a ydych chi'n cytuno â mi mai un peth y gallem ei wneud nawr yw gweithio'n galed gyda'n gilydd, ar y cyd, i sicrhau bod pobl yn ymweld â'r Fenni yn y cyfnod cyn y Nadolig ac yn cefnogi ein busnesau lleol?

15:30

Yn sicr, rwy'n annog pobl i ymweld â'r Fenni yn y cyfnod cyn y Nadolig, ond drwy gydol y flwyddyn mewn gwirionedd, oherwydd mae'n lle prydferth iawn i ymweld ag ef—cymaint o siopau annibynnol na fyddech chi'n gallu dod o hyd iddynt mewn mannau eraill. Ac mae'n rhywle y byddem yn annog pobl i ymweld ag ef am bob math o resymau, ond yn enwedig nawr, i brofi peth o'r ysbryd cymunedol gwych y soniodd eich cyd-Aelod Natasha amdano yn ei chyfraniad.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Mae'r cwestiwn amserol nesaf i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac i'w ofyn gan Mabon ap Gwynfor.

Y Her 50 Diwrnod i Fyrddau Iechyd

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am yr her 50 diwrnod newydd i fyrddau iechyd fynd i'r afael ag oedi wrth ryddhau cleifion o’r ysbyty? TQ1244

Mae her 50 diwrnod y gaeaf yn nodi 10 cynllun arfer gorau i helpu pobl i aros yn iach gartref a gadael yr ysbyty pan fydd anghenion clinigol wedi'u diwallu. Mae'n herio partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol i dargedu cymorth at y 2 y cant o gleifion sy'n destun oedi wrth ryddhau, a rhoi cynlluniau ar waith i'w cynorthwyo i ddychwelyd adref.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi cydnabod yr angen o'r diwedd am agwedd newydd tuag at broblem hirsefydlog oedi wrth ryddhau cleifion o ysbytai, ond rwy'n poeni bod sylwedd y cynllun yn bell o gyrraedd y nod. Yn gyntaf, mae'n amlwg y bydd yn seiliedig i raddau helaeth ar adnoddau presennol yn hytrach nag adnoddau newydd. Rhoddwyd y gronfa integreiddio rhanbarthol, er enghraifft, ar waith yn ôl ym mis Ebrill 2022, gyda'r nod penodol o integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn well. Felly, rhaid gofyn y cwestiwn: os nad yw wedi bod yn effeithiol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, pam y dylem ddisgwyl canlyniadau gwahanol nawr?

Yn ail, mae'n anodd gweld lle mae hyn yn cyd-fynd â thueddiad y Llywodraeth Lafur o fynd ar drywydd atebion byrdymor ar draul gweledigaeth drosfwaol gydlynol ar gyfer trawsnewid y GIG. Mae'n werth cyfeirio at ddyfarniad Cydffederasiwn y GIG yn hyn o beth: 

'Oni bai bod heriau ehangach y galw a'r capasiti ar draws y system iechyd a gofal gyfan yn cael sylw, ni fydd her 50 diwrnod a chynllun gweithredu yn ddigon i sicrhau system iechyd a gofal gynaliadwy yn y tymor hir.'

Rwy'n rhannu amheuaeth ddealladwy Cydffederasiwn y GIG ynghylch potensial y cynllun hwn i gyflawni ar ei ben ei hun. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â dadansoddiad Cydffederasiwn y GIG?

Yn olaf, fel rydym wedi sôn mor aml mewn perthynas â chynlluniau Llywodraeth Cymru, mae yna ddiffyg targedau amlwg. Felly, hoffwn orffen gyda chwestiwn syml iawn i Ysgrifennydd y Cabinet: ym mis Medi 2024, y dyddiad adrodd diweddaraf, gwelwyd 1,596 achos o oedi wrth ryddhau o ysbytai ledled Cymru; pa ffigur y mae'n disgwyl ei weld ar ddiwedd cyfnod yr her 50 diwrnod?

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hyn. Carwn awgrymu mai'r adeg i asesu llwyddiant y fenter hon yw ar ôl iddi gael ei chwblhau yn hytrach na chyn iddi ddechrau. Ond ar y pwynt y mae'n ei roi yn benodol i mi, mae hon yn enghraifft o'r dull y bûm yn ei argymell, fel y mae'n gwybod, ers i mi ymgymryd â'r cyfrifoldebau hyn, sef nodi'n gyflym o fewn y system iechyd a gofal cymdeithasol yr ymyriadau hynny y mae sawl rhan o'r system eisoes yn eu cyflawni ac sydd wedi cael llwyddiant amlwg a sicrhau bod y rheini'n cael eu nodi a'u lledaenu'n gyflym drwy'r system. Felly, dyma enghraifft o hyn yn digwydd yn weithredol. O'r 10 peth sydd ar y rhestr weithredu, mae'r rhan fwyaf ohonynt eisoes yn cael eu gweithredu mewn rhai rhannau o Gymru. Yr her nawr yw ad-drefnu gwasanaethau fel bod pob rhan o Gymru yn cynnig cymaint o'r rheini â phosibl.

Mae'n gwneud pwynt pwysig ynglŷn ag adnoddau. Yn y trafodaethau a gawsom gyda'r bwrdd iechyd a phartneriaid awdurdodau lleol, cafwyd cydnabyddiaeth fod y gronfa integreiddio rhanbarthol, ynghyd â'r gronfa Ymhellach, yn Gyflymach ac eraill, yn y system ac yn gallu cael eu defnyddio i gefnogi rhai o'r mentrau hyn. Mae llawer ohonynt yn niwtral o ran cost mewn gwirionedd ac mae eraill yn cynnwys ailddyrannu adnoddau presennol. Yr hyn sy'n newydd yma, rwy'n credu, yw cydnabyddiaeth o'r ymyriadau mwyaf effeithiol a'r parodrwydd i ad-drefnu gwasanaethau i adlewyrchu'r rheini ym mhob ardal bwrdd iechyd. Ac rwy'n credu bod honno wedi bod yn her y mae partneriaid wedi ymgymryd â hi gydag ymroddiad gwirioneddol dros yr wythnosau diwethaf. Mae arnaf ofn na chlywais yr hyn a oedd gan Gydffederasiwn y GIG i'w ddweud, ond rwy'n gwybod ein bod yn gweithio'n uniongyrchol gyda'u haelodau sy'n cyflawni ar lawr gwlad. Ac rwy'n ddiolchgar iddynt i gyd, oherwydd maent wedi ymgysylltu'n adeiladol iawn â ni mewn perthynas â'r gwaith hwn.

Roedd yr Aelod yn y Siambr ddoe pan gafodd y pwynt ei roi i'r Prif Weinidog ynglŷn â'r targed. Wrth gwrs, fe atebodd fel y gwneuthum innau yn fy nghwestiwn cychwynnol, fod y gefnogaeth wedi'i hanelu at 25 y cant o'r rhai sydd wedi bod yn aros hiraf, sef oddeutu 350 o bobl. Felly, mae'r her hon yn ymwneud â ffyrdd newydd o weithio a thargedu cefnogaeth at y 25 y cant, a sicrhau y gellir rhyddhau cymaint â phosibl o'r rheini adref. Ond yn hollbwysig, y pwynt yma yw sicrhau bod y llwyddiant yn cael ei gynnal. Mae'n bwysig i'r unigolion hynny fynd adref, ond rydym am sicrhau bod cyfraddau oedi'n dod i lawr ar draws y system. Ac mae sicrhau bod hynny'n cael ei gynnal yn bwysig, felly rydym yn cael sgyrsiau â phartneriaid yn ystod y 50 diwrnod ynglŷn â pha adnoddau y gallai fod eu hangen i wneud yr ymyrraeth yn gynaliadwy yn y tymor hwy. A bydd hynny'n cael ei ystyried yn sgil y profiad dros yr wythnosau nesaf.

15:35

Diolch i Mabon ap Gwynfor am ddod â'r cwestiwn hwn i'r Senedd heddiw. Rwy'n ddiolchgar, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich ymateb i Mabon ap Gwynfor nawr hefyd. Roeddwn eisiau diolch eto i'r gweithwyr iechyd a gofal sy'n mynd i wynebu pwysau'r gaeaf a'r heriau o'u blaenau. Ac rydym i gyd yn gwybod yn y Siambr hon eu bod yn gwneud eu gorau, ac eisiau gwneud eu gorau, i sicrhau bod pobl yn cael eu rhyddhau ar yr adeg fwyaf priodol, a gobeithio, i fwy o bobl, y bydd hynny'n gyflymach nag y bu dros y blynyddoedd diwethaf.

Clywais eich sylwadau ynghylch yr elfennau o fewn y cynllun 10 pwynt, ac rwy'n deall, Ysgrifennydd y Cabinet, mai'r awydd yma yw sicrhau rhywfaint o gysondeb, nid o reidrwydd ailddyfeisio'r olwyn ledled Cymru. Ond tybed a allech chi wneud sylwadau ar ba rai o'r 10 pwynt y credwch chi y byddant yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i'r targed 50 diwrnod a osodwyd gennych. Rwy'n credu y byddai hynny'n ddefnyddiol i ni ddeall yr elfennau o fewn y cynllun 10 pwynt, a pha rai a fyddai'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Hoffwn ddeall hefyd o ble y daw'r ffigur o 50 diwrnod, ac a wnaethoch chi ystyried niferoedd eraill o ddyddiau fel rhai a allai fod yn dargedau mwyaf effeithiol i anelu atynt—boed yn dystiolaeth glinigol neu'r dystiolaeth sydd gennych chi i sicrhau bod y targed 50 diwrnod hwnnw'n rhywbeth sydd naill ai'n gyraeddadwy neu'n realistig i fyrddau iechyd yn gweithio gyda gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Roeddwn yn cytuno â phwynt Mabon ap Gwynfor ynghylch y risg y byddai hon yn cael ei hystyried yn foment dymor byr. A'r hyn sydd angen inni ei weld, wrth gwrs—ac rwy'n meddwl y byddech chi'n cytuno â hyn—yw cynllun mwy hirdymor, er mwyn sicrhau nad yw pobl yn yr ysbyty'n hwy na sydd angen iddynt fod. Felly, hoffwn wybod, ar ddiwedd yr her darged hon a roddwyd ar waith gennych—rwy'n credu ei bod yn weithredol hyd at ddiwedd y flwyddyn, dyna sut y'i disgrifiwyd—sut y bydd y byrddau iechyd, awdurdodau lleol ac eraill yn cael eu dwyn i gyfrif ac yn cael eu cefnogi i sicrhau bod rhyddhau cleifion yn digwydd mewn modd amserol.

A fy nghwestiwn olaf—mae'n ddrwg gennyf, Lywydd—yw yr hoffwn ddeall beth yw eich disgwyliadau ynghylch yr effaith ar restrau aros yn ehangach. Oherwydd fe ddylai, ac fe fydd hyn yn creu mwy o gapasiti yn ein hysbytai, i sicrhau bod pobl sydd ar restrau aros ar hyn o bryd yn cael eu trin. Yn eich dadansoddiad, sut rydych chi'n disgwyl i restrau aros gael eu lleihau o ganlyniad i'r her 50 diwrnod. Diolch yn fawr iawn.

Diolch i Sam Rowlands am y cwestiynau hynny. Rwy'n credu bod pob un o'r 10 cam yn chwarae rôl wahanol, mewn gwirionedd, yn cefnogi'r system yn gyffredinol. Felly, mae rhai, os mynnwch, yn ymyriadau yn yr ysbyty. Felly, mae'r gwasanaeth rhyddhau integredig a welodd y Gweinidog gofal cymdeithasol a minnau ar waith yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf, ond sydd hefyd yn weithredol mewn rhannau eraill o Gymru, yn ymwneud â sut y gellir cydleoli adnoddau presennol mewn lleoliad ysbyty, i sicrhau bod taith y claf, yn ddelfrydol, o'r eiliad y croesant y trothwy neu gael eu derbyn, yn cael ei ddeall yn gynyddol ac yr ymatebir iddi. Felly, mae rhai ymyriadau mewn ysbytai, os mynnwch, ac mae eraill yn y cynllun, fel y bydd wedi'i weld, sy'n ymwneud â gwneud yn siŵr ein bod, er enghraifft, yn gwneud mwy o ddefnydd o welyau cartrefi gofal a chymunedol ar gyfer asesiadau gofal iechyd parhaus. Nid oes rhaid i'r rhain ddigwydd mewn ysbyty. Felly, mae rhywfaint ohono'n ymwneud â'r lleoliad lle mae'r ymyrraeth yn digwydd, ond mae rhywfaint ohono'n ymwneud â'r gefnogaeth ategol, os mynnwch, yn y system ar gyfer yr ystod hon o ymyriadau. Felly, mae ffocws ar ailalluogi yn hanfodol er mwyn i hynny lwyddo. Pa bynnag ymyriadau a roddwch ar waith, byddant i gyd yn y bôn yn elwa o ailalluogi gwell. Felly, nid wyf yn credu bod eu graddio'n ffordd wyddonol o edrych arno; rwy'n credu eu bod yn chwarae rhan wahanol yn yr ystyr honno.

Pam 50 diwrnod? Wel, fe wyddom mai'r gaeaf yw'r cyfnod pan fo'r GIG a gofal o dan y pwysau mwyaf dwys, ac felly mae 50 diwrnod rhwng nawr a diwedd y flwyddyn, ac fel arfer fe welwn y pwysau dwysaf ar ddechrau'r flwyddyn newydd. Felly, mae'r cyfnod, os mynnwch, wedi ei bennu gan yr amserlen sydd ar gael. Rydym wedi ceisio taflunio faint o unigolion y credwn ei bod hi'n rhesymol ceisio eu cefnogi o fewn y cyd-destun hwnnw.

Ond mewn ffordd, rwy'n credu mai cwestiwn olaf yr Aelod yw'r pwysicaf. Yn allweddol, fel roeddwn i'n dweud wrth Mabon ap Gwynfor, yr hyn yr hoffem ei weld—. Nid yw'n ddull 50 diwrnod a dyna ni, mae'n gyfnod o 50 diwrnod i roi'r darpariaethau hyn ar waith. A gwneud hynny'n llwyddiannus yw'r hyn sy'n mynd i roi'r cyfle gorau i ni sicrhau bod y manteision, i gleifion unigol ac i'r system, yn cael eu cynnal, sef yr hyn yr hoffem ei weld wrth gwrs. Felly, mae'r cyfnod o 50 diwrnod, os mynnwch, yn gyfnod o weithio dwys i roi'r trefniadau newydd ar waith a helpu cymaint o'r garfan 25 y cant â phosibl. Ond caiff y llwyddiant ei farnu yn ôl y graddau y caiff y cynnydd hwnnw ei gynnal yn y tymor canolig a'r tymor hwy y tu hwnt i hynny.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

15:40

Hoffwn ofyn cwestiwn penodol i chi am fy rhanbarth, os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd y Cabinet. Efallai eich bod yn ymwybodol fod ymgynghoriad yng nghyngor Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd ynghylch y posibilrwydd o gau dau gartref gofal, Tŷ Glynrhedyn a Chae Glas. Rwyf wedi cael staff sy'n gweithio yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cysylltu â mi yn bryderus am fod derbyniadau i gartrefi gofal wedi eu rhewi tra bo'r ymgynghoriad hwn yn mynd rhagddo, sy'n golygu, am eu bod yn ansicr ynghylch dyfodol y rheini, fod yna bobl a ddylai fod yn mynd i gartrefi gofal preswyl mewn gwelyau ysbyty ar hyn o bryd. Felly, a gaf i ofyn pa drafodaethau sy'n digwydd gydag awdurdodau lleol yng ngoleuni'r cyhoeddiad hwn i sicrhau bod ymgynghoriadau sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd yn adlewyrchu'r sefyllfa gyllidebol y gwyddom amdani ac na fydd yn gwaethygu'r sefyllfa mewn gwirionedd? Siaradais yn uniongyrchol â phreswylwyr yn Nhŷ Glynrhedyn. Maent yn iach ac yn heini, ond nid ydynt yn ddigon da i fyw gartref. Dywedodd sawl un wrthyf, yn uniongyrchol eu hunain, eu bod yn teimlo na fyddent yn fyw nawr pe na baent mewn cartref gofal. Roeddent wedi ceisio byw gartref, ond wedi methu ac yn anffodus nid yw hynny'n gynaliadwy iddynt, ac maent yn bryderus iawn y bydd symud o'r cartref hwnnw'n eu lladd, mai eu hunig opsiwn fydd blocio gwelyau mewn ysbyty, am na fydd pecynnau gofal ar gael; maent wedi gorfod gwerthu eu cartrefi hefyd, nid oes cartrefi iddynt ddychwelyd iddynt. Felly, pa sgyrsiau rydych chi'n eu cael gydag awdurdodau lleol ynglŷn â rhewi'r nifer sy'n cael eu derbyn a sut y bydd hynny'n cael ei adlewyrchu yn yr her 50 diwrnod hon? 

Nid wyf yn gwybod beth yw amgylchiadau'r preswylwyr unigol, yn naturiol, ac ni fyddai'r Aelod yn disgwyl hynny, ac nid wyf yn gwybod ble mae'r ymgynghoriadau mewn perthynas â'r cartrefi gofal penodol, ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod yw bod cyngor Rhondda Cynon Taf, fel pob cyngor, wedi bod yn ymwneud yn drwyadl iawn â datblygu a bwrw ymlaen â'r cynlluniau hyn. Mae'r Gweinidog gofal cymdeithasol a minnau wedi cyfarfod â phob un o ranbarthau'r byrddau iechyd a'r awdurdodau lleol mewn partneriaeth i drafod eu cynlluniau yn gyffredinol, ond yn benodol mewn perthynas â'r her 50 diwrnod, ac mae rhan o'r drafodaeth wedi ymwneud ag argaeledd a chapasiti'r sector cartrefi gofal ym mhob un o'r rhanbarthau hynny, felly gallaf roi sicrwydd i'r Aelod ynglŷn â hynny. Yn amlwg, mewn gwahanol rannau o Gymru, bydd lefel sylfaenol wahanol o gapasiti a dewisiadau a phenderfyniadau'n cael eu gwneud yn y ffordd y mae'n disgrifio enghreifftiau yn ei rhanbarth ei hun. Ond os caf ei sicrhau, mae'r holl ddata mewn perthynas ag argaeledd lleoedd mewn cartrefi gofal yn cael ei ystyried yn llawn yn y trafodaethau a gawsom gyda'n partneriaid. 

4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi am ddefnyddio'r cyfle yma i longyfarch clybiau ffermwyr ifanc Cymru ar eu llwyddiant yn eisteddfod y ffermwyr ifanc a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin yr wythnos diwethaf. Fe ddaeth nifer o gystadleuwyr i’r brig, yn cynnwys llawer un o’m rhanbarth i yn y gogledd, mewn meysydd mor amrywiol â’r ensemble lleisiol, lle cipiodd Clwb Rhosybol yn Ynys Môn y wobr gyntaf, Hawys Grug o Glwyd yn ennill yr unawd ieuenctid, a Mared Edwards o Fôn yn ennill y gystadleuaeth adrodd digri.

Llongyfarchiadau mawr hefyd i Mared Fflur Jones o Ynys Môn ar ennill y gadair, ac i Elain Iorwerth, sydd yn astudio ym Mhrifysgol Bangor, ar ennill y goron. Mae llwyddiant ysgubol yr eisteddfod unwaith eto eleni yn deyrnged i rôl hanfodol y mudiad fel un o gonglfeini cefn gwlad, diwylliant Cymreig a'r iaith Gymraeg.

Ond y tu hwnt i Gymru hefyd, fe ddaeth llwyddiant i’r ffermwyr ifanc yng ngwobrau cymunedol Prydeinig clybiau'r ffermwyr ifanc, a gynhaliwyd yn Birmingham yn ddiweddar. Un o sêr ffermwyr ifanc ardal Uwchaled, Ceridwen Edwards, a ddaeth i’r brig yng nghategori 'Calon y CFfI', gyda'r beirniaid wrth eu bodd efo egni a gwaith di-flino Ceridwen dros ei chlwb.

Un arall o lwyddiannau mawr y noson oedd Clwb Ffermwyr Ifanc Llangwyryfon yng Ngheredigion. Nhw enillodd wobr 'Ysbryd Cymunedol Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc', gyda chanmoliaeth am rôl y clwb wrth helpu i achub y neuadd bentref leol, a'u cyfraniad at hyfywedd yr iaith Gymraeg.

Mae gan glybiau ffermwyr ifanc Cymru dros 5,500 o aelodau, a'r rheini yn cyflawni dros filiwn o oriau gwaith gwirfoddol yn flynyddol. Gadewch i ni, felly, ddathlu'r holl lwyddiannau yma, a chyfraniad amhrisiadwy'r mudiad i gymunedau ar hyd a lled y wlad. 

15:45

Mae gennyf 90 eiliad i nodi 90 mlynedd ers agor neuadd les y glowyr yn Ystradgynlais. Adeiladwyd y neuadd wych hon â cheiniogau'r glowyr ac fe gostiodd £9,000 ar y pryd. Dilynwyd y seremoni agoriadol gan wythnos o ddathliadau, gan gynnwys cynhyrchiad mawreddog o 'The Bells of Beaulieu' gan Gymdeithas Operatig Ieuenctid Ystradgynlais, a gynhyrchwyd gan Mr Cynlais Davies.

Ers 1934, mae'r neuadd wedi mynd drwy drawsnewidiadau amrywiol, a heddiw, mae'n ganolfan gelfyddydol fywiog ac yn ganolfan gymunedol. Weithiau, mae'n orsaf radio hefyd, weithiau'n stiwdio deledu. Mae ganddi sinema, sy'n dangos yr holl ffilmiau diweddaraf, ac mae'n cynnal digwyddiadau fel—credwch neu beidio—band teyrnged Abba byw, ac mae ganddi amrywiaeth o weithdai a gweithgareddau. Mae hefyd yn gartref i Sefydliad Celf Josef Herman Cymru, sy'n ymroddedig i hyrwyddo gwerthfawrogiad o fywyd a gwaith Josef Herman, sydd wedi arddangos gwaith yn y Tate Britain.

Yn wir, mae'r neuadd les yn falch o'r ffaith ei bod yn un o'r ychydig neuaddau lles ledled y wlad gyfan sydd wedi cadw ei phwrpas gwreiddiol o fod yn lle o ddiwylliant ac addysg. Mae'r neuadd hon gan ac ar gyfer cymuned gyfan Ystradgynlais. Diolch i'r holl staff a gwirfoddolwyr sydd wedi bod yno dros y 90 mlynedd diwethaf, ac rydym yn dymuno'n dda iddynt ar gyfer y 90 mlynedd nesaf. Diolch yn fawr iawn.

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant?'

Item 5 this afternoon is a debate on the Children, Young People and Education Committee report, 'Do disabled children and young people have equal access to education and childcare?' And I call on the Chair of the committee to move the motion—Buffy Williams.

Cynnig NDM8718 Buffy Williams

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef ‘A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant?’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2024, a'r fersiwn hawdd ei deall a osodwyd hefyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yng ngwanwyn 2023, lansiodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg un o'n hymchwiliadau mwyaf uchelgeisiol hyd yma: archwiliad manwl o brofiadau gofal plant ac addysg plant anabl a niwrowahanol a'u teuluoedd. Roedd ein gwaith yn ymdrin â darpariaeth blynyddoedd cynnar a darpariaeth cyn ysgol, gan gynnwys cyllid, staffio a digonolrwydd. Roedd yn cynnwys clybiau brecwast, clybiau ar ôl ysgol a darpariaeth gwyliau.

Fe wnaethom edrych yn fanwl ar y diwrnod ysgol ei hun—ysgolion arbennig, ysgolion prif ffrwd, gweithgareddau allgyrsiol ac adeiladau ysgol. Fe wnaethom archwilio cyllid ysgolion, trefniadau staffio, capasiti, hyfforddiant, darpariaeth cyfrwng Cymraeg a mwy. Fe wnaethom hefyd archwilio effeithiau darpariaeth anghyfartal ar blant a'u teuluoedd, a yw teuluoedd yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt, ac a gânt eu clywed.

Yn ystod ein hymchwiliad, cynhaliwyd 13 sesiwn dystiolaeth lafar. Cawsom dros 80 darn gwahanol o dystiolaeth ysgrifenedig, a llawer ohonynt gan deuluoedd yn uniongyrchol. Ymwelwyd â phum ysgol a thri lleoliad gofal plant a chymorth. Fe wnaethom ategu ein tystiolaeth ysgrifenedig â gohebiaeth ag ystod o gyrff gwahanol.

Ochr yn ochr â hyn, cynhaliodd y tîm cysylltu â dinasyddion dros 40 o gyfweliadau teuluol ar ein rhan gyda rhieni, gofalwyr a phlant, a phobl ifanc hefyd o bob rhan o Gymru.

Fe wnaethom sefydlu grŵp cynghori ar-lein gyda dros 15 o rieni, gofalwyr a phobl ifanc. Fe wnaeth eu profiadau personol helaeth siapio a llywio ein gwaith.

Mae'r holl dystiolaeth hon a mwy wedi bwydo i mewn i'n hadroddiad. Roedd yn ymchwiliad cadarn, cynhwysfawr a thrylwyr, ac wrth ei wraidd mae profiadau personol trallodus llawer o deuluoedd, tystiolaeth sy'n sicr wedi gadael argraff arnaf i, ac rwy'n tybio, ar aelodau eraill y pwyllgor yn y gorffennol a'r presennol a oedd yn rhan o'r ymchwiliad hwn.

Rwy'n dweud hyn i gyd i gadarnhau pwysau'r dystiolaeth a gawsom sy'n sail i'n canfyddiadau, oherwydd nid ydym yn dod i gasgliadau fel y rhai yn yr adroddiad hwn yn ysgafn. Deuwn i'r casgliad yn ein hadroddiad fod nifer sylweddol o hawliau plant a phobl ifanc i addysg yn cael eu torri yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'r plant a'r bobl ifanc hyn yn cael cam sylfaenol.

Deuwn i'r casgliad y gall gwadu hawl plant a phobl ifanc i addysg gael effaith sylweddol ar eu llesiant emosiynol a meddyliol, yn ogystal â'u hiechyd corfforol. Nid y plentyn yn unig sy'n gorfod byw gyda'r effeithiau hyn, ond rhieni, gofalwyr, brodyr a chwiorydd, neiniau a theidiau ac aelodau eraill o'r teulu a'r gymuned ehangach. Unwaith eto, gall yr effeithiau hyn fod yn sylweddol ac yn barhaol.

Gwnaeth ein hadroddiad 32 o argymhellion. Nid oes digon o amser i'w trafod i gyd heddiw, felly fe ganolbwyntiaf ar flaenoriaethau ein grŵp cynghori ar-lein. Fel pwyllgor, rydym wedi ymrwymo i wneud yr hyn a allwn i wrando ar bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o'r materion rydym yn eu harchwilio, felly mae'n briodol fod pobl sydd â phrofiad bywyd yn siapio'r ddadl ar yr adroddiad hwn. Hwy yw'r arbenigwyr ar yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru mewn gwirionedd, ni waeth pa ddogfennau canllawiau, datganiadau polisi, neu hyd yn oed yr hyn y mae ein deddfau'n ei ddweud. Felly, beth oeddent hwy'n ei feddwl o ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad? Dyma farn gynrychiadol gan un aelod o'r grŵp:

'Nid wyf yn credu bod yr ymateb yn cydnabod maint a difrifoldeb y problemau i deuluoedd, na'u bod yn faterion brys. Nid wyf yn gweld cydnabyddiaeth o'r anawsterau y mae teuluoedd yn eu hwynebu yn yr ymateb, heb sôn am y gwaith sydd ei angen i fynd i'r afael â hwy.'

Maent wedi gofyn inni ganolbwyntio ar rai materion penodol yn y ddadl heddiw. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gobeithio y gallwch ymateb i'r pryderon hyn yn benodol yn eich ymateb. Er fy mod yn cydnabod bod rhai o'r materion hyn yn ymestyn y tu hwnt i'ch portffolio addysg, fel cynrychiolydd Llywodraeth Cymru sy'n ymateb i'r ddadl heddiw, hoffwn i chi siarad ar ran y Llywodraeth ar bob mater heddiw.

Yn gyntaf, y diffyg darpariaeth gofal plant ar gyfer plant anabl a niwrowahanol. Yn yr ymateb i argymhelliad 4, mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod darpariaeth gofal plant yn cael ei gweithredu i raddau helaeth gan unigolion neu fusnesau preifat, felly mae awdurdodau lleol yn gyfyngedig o ran yr hyn y gallant ei wneud i sicrhau gofal plant cynhwysol i blant anabl a niwrowahanol. Ond mae problem fawr gyda'r ddadl hon, fel y nododd un aelod o'n grŵp cynghori yn glir:

'Mae'r farchnad wedi methu darparu gwasanaeth gofal plant i deuluoedd ac mae'n ymddangos nad oes cynigion polisi i fynd i'r afael â hynny.'

Ysgrifennydd y Cabinet, a yw Llywodraeth Cymru yn derbyn bod prinder sylweddol o ofal plant cynaliadwy, cynhwysol, fel y mae'r ymateb yn awgrymu? A oes gan Lywodraeth Cymru gynllun neu fwriadau i ddatblygu cynllun i gynyddu capasiti gofal plant cynhwysol?

Yn ail, ein hargymhelliad 15, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i nodi'r cyflyrau mwyaf cyffredin sy'n effeithio ar blant anabl a niwrowahanol, a datblygu a chyflwyno cefnogaeth i ysgolion i'w helpu i ymateb i'r cyflyrau hynny. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr argymhelliad hwn, gan ddadlau bod gwaith eisoes ar y gweill yn y maes hwn gyda gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru, ond fel y gwyddom i gyd, mae gwahaniaeth pwysig rhwng cynnwys y cwricwlwm a'r ffordd y caiff y cwricwlwm ei gyflwyno. Mae mor bwysig ein bod yn canolbwyntio ein dadl ar sut y gall ysgolion gyflwyno eu cwricwla i ddysgwyr anabl a niwrowahanol, nid sut y mae'r cwricwlwm yn galluogi ysgolion i ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain. Fel y dywedodd un o aelodau ein grŵp cynghori wrthym:

'Heb ddeall y gwahaniaethau yn y ffordd y mae'r plant hynny'n dysgu, beth bynnag am y cysyniad newydd hwn o gwricwlwm newydd, rydych chi'n dal i'w gyflwyno yn yr un modd.'

Rydym yn cytuno'n llwyr. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi esbonio'n gliriach sut y credwch y bydd y Cwricwlwm i Gymru yn helpu ysgolion i ddeall a diwallu anghenion eu dysgwyr anabl a niwrowahanol?

Nesaf, ein hargymhelliad 19. Galwn ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu modiwl hyfforddiant gorfodol ar ymwybyddiaeth o anabledd i holl staff ysgolion. Fe wrthodwyd yr argymhelliad hwn gennych, gan ddadlau bod ymgysylltu gwirfoddol mewn dysgu proffesiynol yn fwy effeithiol na hyfforddiant gorfodol. Fodd bynnag, mae eich ymateb hefyd yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn gallu ac yn hyrwyddo dysgu proffesiynol mewn meysydd blaenoriaeth. Rwy'n cymryd bod hyn yn golygu y gallech chi hyrwyddo hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd hefyd, pe baech chi'n teimlo ei fod yn flaenoriaeth. Ysgrifennydd y Cabinet, a yw hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd i staff addysg yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru?

Yn olaf, mewn nifer o leoedd mae'n ymddangos bod ymateb Llywodraeth Cymru yn dirprwyo'r cyfrifoldeb am gydraddoldeb mewn gofal plant ac addysg i awdurdodau lleol. Dyma ychydig o enghreifftiau. Argymhellion 4, 10 a 32: roedd yr argymhellion hyn yn canolbwyntio ar fylchau yn strategaethau a chynlluniau hygyrchedd gofal plant awdurdodau lleol ac ysgolion, a bylchau mewn swyddi addysgu arbenigol. Cafodd pob un o'r rhain eu gwrthod, gyda chyfrifoldeb yn cael ei daflu'n ôl i'r awdurdodau lleol. Ond fel y mae ein hadroddiad yn nodi mor glir, mae awdurdodau lleol yn ei chael hi'n anodd darparu mynediad cyfartal at ofal plant ac addysg yn gyson. Er gwaethaf yr ymdrechion gorau, gan ddefnyddio'r cyllid, y staff a'r adnoddau sydd ar gael iddynt ledled Cymru gyfan, nid yw awdurdodau lleol yn darparu mynediad cyfartal i ofal plant ac addysg. Beth arall y mae'n mynd i'w gymryd i Lywodraeth Cymru gamu i'r adwy i roi'r cymorth sydd ei angen arnynt mor glir i awdurdodau lleol, fel yr amlinellir yn ein hargymhellion?

Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn croesawu'r gydnabyddiaeth yn eich ymateb i'n hadroddiad fod yn rhaid gwneud mwy i sicrhau bod hawliau plant i addysg yn cael eu cynnal yn gyson ledled Cymru. Ond nid ydym yn teimlo bod eich ymateb yn ymrwymo i newid sylweddol yng nghyflymder a graddau'r camau sydd eu hangen i wneud hynny. Mae ein pwyllgor, fel y grŵp cynghori ar-lein, yn poeni efallai nad ydych chi'n rhoi'r flaenoriaeth y maent yn ei haeddu i'r materion hyn. Y bore yma, ymwelais ag Ysgol Gyfun Cwm Rhondda i weld eu darpariaeth ADY newydd. Nid oes modd gwadu o gwbl fod staff addysg, fel eu cymheiriaid gofal plant, yn gwneud eu gorau gyda'r hyn sydd ganddynt. Mae aelodau'r pwyllgor, fel finnau, yn argyhoeddedig na allai ein staff addysg a gofal plant fod yn gwneud rhagor. Ond nid wyf wedi fy argyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn sylweddoli faint o waith sydd angen ei wneud i wella mynediad at ofal plant ac addysg i blant anabl a niwrowahanol, ac nid wyf yn argyhoeddedig fod Llywodraeth Cymru wedi dangos ei bod yn deall y brys sy'n ofynnol ar gyfer y gwaith.

Edrychaf ymlaen at glywed eich safbwyntiau a safbwyntiau'r Aelodau ar draws y Siambr yn y ddadl heddiw.

15:55

Rwy'n falch o fod yn trafod rhai o'r canfyddiadau pwysig iawn yn adroddiad y pwyllgor hwn y prynhawn yma, ac rwy'n awyddus i glywed ymateb Llywodraeth Cymru i gasgliadau'r adroddiad, fel y mae Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg eisoes wedi eu nodi wrth agor y ddadl.

I ddechrau gyda gofal plant, canfu'r adroddiad fod darpariaeth gofal plant gynhwysol a hygyrch yn dameidiog, yn amrywio a heb fod yn bodoli o gwbl mewn rhai mannau, ac mae hyn ar unwaith yn gosod rhai plant dan anfantais o'r oedran cynharaf. Mae'r ddarpariaeth gofal plant i bob plentyn yn gynyddol ddrud, ac mae lleoedd yn brin. Felly, i rieni plant niwrowahanol, mae lleoedd hyd yn oed yn anos dod o hyd iddynt. Dywedodd y comisiynydd plant mai ychydig iawn o ddarpariaeth arbenigol blynyddoedd cynnar a geir a bod y bwlch yn cael ei gydnabod yn eang. Mae cymhlethdodau anghenion plant yn cynyddu ac ar sail anecdotaidd, rwy'n ymweld â llawer o feithrinfeydd yn fy etholaeth yn rhinwedd fy swydd fel Gweinidog blynyddoedd cynnar yr wrthblaid, ac rwyf bob amser yn clywed gan berchnogion meithrinfeydd fod plant yn dod atynt a chanddynt broblemau dysgu ac ymddygiad mwy cymhleth na'r hyn y maent wedi eu hyfforddi i ymdrin â hwy a bod diffyg cefnogaeth ddiagnostig i blant yr oedran hwnnw.

Ategwyd hyn yn yr adroddiad, sy'n nodi bod y pwyllgor wedi clywed gan deuluoedd a rhanddeiliaid y gall sicrhau gofal plant cynhwysol fod yn gymhleth, am mai dim ond dechrau dod yn amlwg y mae'r anghenion, ac efallai na ddaw'r anghenion hynny'n amlwg hyd nes y bydd plentyn yn cael gofal plant, ac yna mae'n rhaid i deuluoedd wynebu amseroedd aros am asesiad. Felly, mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn nodi sut y mae'n bwriadu parhau i ymateb i dueddiadau newidiol mewn niwrowahaniaeth yng Nghymru, a sicrhau cydnabyddiaeth i'r cymorth sydd angen i blant niwrowahanol ei gael.

Yn yr un modd â'r ddarpariaeth gofal plant, amlygodd yr adroddiad fod darpariaeth gynhwysol, ledled Cymru, yn dameidiog ac yn anghyson; mae ysgolion yn brwydro i gael digon o gyllid, staff ac arbenigedd i ddarparu addysg gynhwysol. Wrth gwrs, o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae'n ofynnol i ysgolion wneud addasiadau rhesymol ar gyfer disgyblion anabl a chyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau statudol yn ôl yn 2018, gyda'r nod o wella mynediad at addysg.

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru eu bod yn ymwybodol nad yw'r gofyniad statudol i ysgolion ymgynghori â phlant a phobl ifanc ar gynlluniau hygyrchedd bob amser yn digwydd, gyda Whizz Kids hefyd yn tynnu sylw at y ffordd nad ymgynghorir â hwy fel mater o drefn. Mae'n bwysig hefyd fod y strategaethau a'r cynlluniau hygyrchedd yn cael eu gwerthuso a'u diwygio ar sail dreigl dair blynedd, ac yn ystyried pob agwedd ar addysg. Rhaid ymgynghori â'r plant eu hunain a bydd y diwygio i sail dreigl yn sicrhau bod strategaethau'n parhau i ymateb i dueddiadau sy'n newid. Felly, rwy'n awyddus i wybod beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod canllawiau statudol yn cael eu dilyn, oherwydd, mor aml, dywedir yr hyn y maent am ei glywed wrth bobl; caiff y canllawiau eu cyhoeddi ac nid yw'r canlyniadau byth yn cael eu gweld. Nid oes unrhyw ddarpariaeth nac adnoddau wedi'u rhoi tuag at gyflwyno a gweithredu'r canllawiau newydd, felly mae'n hanfodol fod strategaethau hygyrchedd yn cael eu diwygio'n gyson, gan ymgynghori â phlant a phobl ifanc a bod y strwythurau gwneud penderfyniadau sy'n dyrannu'r adnoddau yn cyd-fynd yn llwyr â gofynion disgyblion.

O ystyried ei bod hi'n Wythnos Gwrth-fwlio, hoffwn dynnu sylw hefyd at rai o'r rhwystrau i addysg y mae disgyblion anabl yn eu hwynebu o ganlyniad i fwlio, a phwysigrwydd llesiant disgyblion. Yn syfrdanol, yn ôl arolwg Gobeithion i Gymru o dros 10,000 o blant, pobl ifanc a rhieni, dywedodd ychydig o dan 60 y cant o bobl ifanc rhwng 12 a 18 oed a nododd eu bod yn anabl eu bod wedi dioddef bwlio. Nododd gweithwyr proffesiynol hefyd mai pobl ifanc anabl sy'n wynebu'r risg fwyaf o fwlio, gyda dros 17 y cant o bobl ifanc anabl yn dweud nad ydynt byth yn teimlo'n ddiogel yn yr ysgol. Wrth gwrs, mae hyn yn gwaethygu mater diffyg hygyrchedd addysgol, mae'n gwaethygu ynysigrwydd cymdeithasol ac yn arwain at gyrhaeddiad addysgol gwaeth.

Dylem dderbyn bod bod ag anabledd yn arwain o reidrwydd at ganlyniadau addysgol gwaeth a bod pob plentyn yn haeddu mynediad cyfartal at addysg o ansawdd da, ac mae'n bwysig cydnabod nad yw'r rhwystrau bob amser yn ariannol. Dywedodd Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau (NASUWT) wrth y pwyllgor nad yw digwyddiadau bob amser yn cael eu labelu fel bwlio ac felly nid yw strategaethau bwlio yn dod yn weithredol. Felly, mae'n amlwg o'r ystadegau fod disgyblion anabl yn profi bwlio ar lefelau anghymesur mewn ysgolion a bod angen gweithredu mesurau diogelu gwell i nodi bwlio yn gynt.

Hoffwn wybod sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau bod ysgolion yn dilyn canllawiau, fod strategaethau anabledd yn cael eu hadolygu'n aml gan ymgynghori'n rheolaidd â phlant, a sut y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu gwella mesurau diogelwch rhag bwlio i blant anabl a chydnabod y rôl bwysig y mae llesiant meddyliol yn ei chwarae yn y drafodaeth ynghylch rhwystrau i addysg lwyddiannus. Diolch yn fawr.

16:00

Mae’n anrhydedd cymryd rhan yn y ddadl hon; roedd yn anrhydedd bod yn rhan o’r pwyllgor tra bo'r ymchwiliad hwn yn mynd rhagddo. Hoffwn dalu teyrnged i’r tîm clercio. Hoffwn dalu teyrnged hefyd i fy holl gyd-aelodau o’r pwyllgor, yn ogystal â phawb a gymerodd ran yn yr ymchwiliad hynod bwysig hwn. Roedd yn emosiynol. Roedd yn dorcalonnus. Roedd yn galonogol, ar adegau, gweld rhai o’r enghreifftiau gwych pan fo plant yn cael eu cefnogi’n briodol a phan fydd eu teuluoedd yn cael eu cefnogi’n iawn, sut y maent yn ffynnu, pa mor hapus ydynt, sut y maent yn mynd ymlaen i wneud pethau gwych. Ond pan fydd methiannau, mae'n rhaid inni gydnabod pa mor ddinistriol y gall yr effeithiau hynny fod.

Gwn na chymerodd y tîm clercio, pob Aelod, yn ogystal â’r rhai a roddodd eu hamser i’r ymchwiliad hwn, yr argymhellion yn ysgafn. O ddifrif, fe wnaethom geisio gwneud llai o argymhellion; fe wnaethom geisio cael adroddiad byrrach na hwn. Ond roedd faint o dystiolaeth a gawsom yn golygu bod yn rhaid inni gynnwys y cyfraniadau a’r lleisiau pwysig hynny, ac nid oes ond angen ichi edrych ar nifer y cyfeirnodau i ddeall ein bod wedi cael llawer iawn o dystiolaeth ysgrifenedig hefyd. Fe wnaeth yr ymweliadau gyfoethogi ein dealltwriaeth yn fawr. A phan feddyliwch am rai o’r teuluoedd, fe wnaethant roi eu hamser mewn cyfnod pan fônt yn ei chael hi'n anodd, a rhoi eu hamser nid unwaith, ond droeon, i helpu i’n cynghori. Fy mhryder i yw’r hyn sy’n digwydd nesaf, oherwydd pan fydd pobl yn rhoi eu hamser mewn ffordd mor ystyrlon ac mor onest, maent yn disgwyl i hynny arwain at newid.

Gŵyr pob un ohonom am yr anawsterau sy’n wynebu awdurdodau lleol, y sector addysg a Llywodraeth Cymru, ond dywedwyd wrthym yr wythnos diwethaf fod cyni ar ben a bod pethau'n mynd i wella nawr. Yn amlwg, roedd rhywfaint o newyddion da yn y gyllideb, ond mae angen inni gydnabod maint y problemau, ac rwy’n falch fod y Cadeirydd wedi tynnu sylw at rai o’r heriau allweddol hynny, gan ei bod yn anodd deall pam fod rhai o’r argymhellion wedi’u gwrthod gan Lywodraeth Cymru. Unwaith eto, hoffwn annog, fel y gwnaeth Cadeirydd y pwyllgor, o ran argymhelliad 19, ar hyfforddiant gorfodol—hoffwn ddeall barn Llywodraeth Cymru ar hyn a gofyn ichi ailystyried.

Oherwydd yr holl waith achos a gaf fel Aelod rhanbarthol sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc anabl, a’u mynediad, neu ddiffyg mynediad, at addysg a gofal plant, penderfynais gynnal arolwg, a gyflwynais wedyn fel rhan o'r gwaith hwn fel gwybodaeth. Mae'r gwaith achos yn dal i gynyddu, felly er ein bod wedi gwneud y gwaith hwn ac wedi ymgysylltu, mae'r problemau'n dal i fodoli.

Hoffwn dynnu sylw hefyd at y broblem y credaf y byddwn yn ei gweld lle bydd rhai pobl wedi'u trawmateiddio gan system addysg nad yw wedi gweithio iddynt hyd yn hyn, ac wedi'u colli o'r system addysg, yn bum mlwydd oed neu'n chwe blwydd oed efallai. Ar hyn o bryd—wel, maent yn cael eu categoreiddio fel plant sy'n derbyn eu haddysg yn y cartref. Nid ydynt yn derbyn eu haddysg yn y cartref; maent wedi cael cam gan system addysg, ac nid oes unrhyw gymorth, gan y caiff ei ystyried yn ddewis gan rieni. Nid yw'n ddewis pan nad yw ysgolion wedi gallu cefnogi eu plentyn, ac os ydynt wedi cael eu trawmateiddio gan yr ysgol. Felly, beth fydd y cymorth parhaus iddynt hwy tra byddwn ni, gobeithio, yn sicrhau y bydd unrhyw blentyn sy'n dod i mewn i'r system addysg o hyn ymlaen yn cael eu cefnogi ac na fydd addysg yn achosi trawma iddynt? Beth am y plant sydd wedi cael eu trawmateiddio am nad ydynt wedi cael y cymorth sydd ei angen arnynt?

Hefyd, o ran teuluoedd, mae menywod yn cael eu heffeithio’n anghymesur gan y methiannau a amlinellir yn yr adroddiad hwn yn sgil methu gweithio, ac mae’r effaith, felly, ar economi Cymru yn ddwys. Roedd diffyg argaeledd gofal plant yn rhywbeth yr oeddwn yn wirioneddol siomedig nad oedd rhai o’r cynrychiolwyr awdurdodau lleol a siaradodd â ni fel pwyllgor hyd yn oed yn cydnabod ei bod yn broblem. Byddech wedi meddwl, o glywed ganddynt, nad oedd unrhyw broblem yma. Oni bai ein bod yn cydnabod bod problem, ni allwn unioni pethau. Felly, hoffwn annog Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei hymateb, i ganolbwyntio ar sut rydym yn cael y gydnabyddiaeth honno a'r darlun cywir o'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad, fel y gallwn unioni hynny, oherwydd os oes gennym uwch swyddogion mewn awdurdodau lleol yn dweud, 'Nid oes problem', a bod gennym bobl yn eu dagrau yn dweud wrthym eu bod yn teimlo'n hunanladdol oherwydd y methiannau, mae rhywbeth o'i le yn fy marn i.

Diolch am waith y pwyllgor. Hoffwn glywed gan y Cadeirydd, yn eich sylwadau clo, sut rydych chi'n bwrw ymlaen â’r gwaith hwn. Nid wyf ar y pwyllgor mwyach. Mae'n bwysig iawn ein bod nid yn unig yn gwrando, ond yn gweithredu. Mae dyletswydd arnom i’r rheini sydd wedi rhoi eu hamser i sicrhau bod y newidiadau a amlinellir yn yr adroddiad hwn ac yn yr argymhellion hyn yn cael eu rhoi ar waith.

16:05

Diolch am y cyfle i gyfrannu at y ddadl fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau. Roedd y pwyllgor am imi dynnu sylw at rai deisebau pwysig a ystyriwyd gennym yn ddiweddar, lle mae’r dystiolaeth gan ddeisebwyr wedi helpu i lywio’r ymchwiliad hwn. Mae hyn yn cynnwys pum deiseb yn ymwneud â chymorth a darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol, a’r diwygiadau i’r cod ADY. Fe wnaethom drafod y materion hyn ar 8 Mai, ac fe wnaethom ystyried y deisebau eto yn ein cyfarfod ar 14 Hydref. Mae’r manylion wedi’u rhannu gydag Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r nifer enfawr o ddeisebau a llofnodion yn amlygu cryfder y teimladau. Mae rhai o’r deisebwyr wedi gallu ymgysylltu â’r pwyllgor, ac Ysgrifennydd y Cabinet a’i swyddogion, ac mae hynny, wrth gwrs, i’w groesawu’n fawr.

Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom gyfarfod â deisebydd a gefnogwyd gan y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar. Roedd yn galw am fwy o athrawon plant byddar, a chefnogaeth i blant byddar a'u teuluoedd ac athrawon. Mae’r deisebydd yn addysgwr profiadol ac yn rhiant i ddau o blant byddar, a dywedodd wrthym ei bod yn siomedig iawn fod y Llywodraeth wedi gwrthod argymhelliad 32 yn yr adroddiad hwn. Mae argymhelliad 32 yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun cyflawni clir ar gyfer mynd i’r afael â bylchau mewn swyddi addysgu arbenigol, ar gyfer athrawon plant byddar, ac athrawon plant ag amhariad ar eu golwg, er mwyn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn gallu cael mynediad at y cymorth hwn pan fydd ei angen arnynt. Dylai’r cynllun cyflawni hwn gynnwys targedau, amcanion ac amserlenni clir fel y gellir ei fonitro a chraffu arno. Addewais i'r deisebydd y buaswn yn ei godi heddiw. Gofynnwn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg edrych eto ar yr argymhelliad hwn, a byddwn hefyd yn ysgrifennu ati cyn bo hir gyda mwy o fanylion ynglŷn â'r ffordd orau ymlaen ym marn y deisebwyr, ar ôl eu cyfarfod yr wythnos diwethaf. Sylwaf fod gan y ddeiseb gefnogaeth lawn grŵp trawsbleidiol y Senedd ar faterion byddar.

Mae ein dadl ddiweddar yn y Siambr ar fynediad at arian parod i oedolion agored i niwed hefyd yn tynnu sylw at faint o waith sydd ei angen o hyd i warantu bod gan bobl anabl yr un hawliau mynediad â phawb arall. Rydym wedi gwneud llawer o gynnydd, ond mae'r perygl o lithro'n ôl yn real.

Mae cludiant ar fysiau a theithio gan ddysgwyr yn faes arall sy’n peri pryder i ddeisebwyr. Yn ein cyfarfod ar 4 Tachwedd, cawsom y wybodaeth ddiweddaraf am bedair deiseb yn ymwneud â chludiant i blant ysgol a chludiant ar fysiau yn fwy cyffredinol. Mae adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnwys tri argymhelliad ar deithio gan ddysgwyr: argymhellion 21, 22 a 23, sy'n ymwneud â sicrhau arferion gorau, diweddaru canllawiau a hyfforddiant i ddarparwyr trafnidiaeth er mwyn darparu gwell cymorth i bobl ifanc. Mae llawer o waith wedi’i gynllunio yn y maes hwn, ond roedd y pwyllgor yn awyddus imi dynnu sylw heddiw at ba mor bwysig yw’r materion hyn, fel y nodir yn adroddiad y Pwyllgor Deisebau, 'Rhyddid i ffynnu: Trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i bobl ifanc’, y cawsom ddadl yn ei gylch ym mis Hydref.

Diolch am y cyfle i dynnu sylw at y deisebau hyn fel rhan o’r ddadl heddiw. Yn bersonol, hoffwn ddweud yn y funud sy'n weddill fy mod yn deall, a minnau'n arfer gweithio mewn awdurdodau lleol, ein bod wedi cael toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol, fod y galw'n cynyddu, fod angen inni edrych ar Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, a gwn fod cost darparu trafnidiaeth i blant wedi cynyddu 40 y cant. Felly, rwy’n deall y cefndir o gyni yr ydym wedi bod yn ei wynebu, ond roeddwn yn awyddus i sicrhau bod y pwyntiau hyn, ar ran y Pwyllgor Deisebau, yn cael eu codi heddiw. Diolch.

16:10

Fel cyn-Aelod o’r pwyllgor fy hun, a gaf i hefyd ddechrau drwy ddiolch i’r clerc, holl staff y pwyllgor a’r holl Aelodau sydd wedi gwasanaethu ar y pwyllgor, ac sydd wedi mynd drwy’r adolygiad hwn i gyd, ac wrth gwrs, i'n Cadeirydd gwych, Buffy Williams, a’r cyn-Gadeirydd, Jayne Bryant, sydd wedi bod yn gwbl ymroddedig a gweithgar wrth gynnal adolygiad trylwyr o hyn? Roedd yn anrhydedd cael bod yn rhan allweddol o'r gwaith o ddod â hyn i sylw’r pwyllgor i ddechrau, ac rwy'n diolch o waelod calon i chi am wneud hyn yn iawn. Rwy'n mawr obeithio y bydd y Llywodraeth yn gwrando ar y rhain nawr, ac yn ailedrych, efallai, ar rai o'r argymhellion a wnaethom fel pwyllgor—y pwyllgor presennol.

Cymorth i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yw un o’r materion mwyaf enbyd sy’n effeithio ar deuluoedd yng Nghymru heddiw, ac mae bod yn rhan o’r adolygiad hwn, fel y dywedwyd eisoes, wedi bod yn dorcalonnus ac yn addysgiadol. Er gwaethaf blynyddoedd o alwadau am ddiwygio, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fethu ar ran y plant hyn a’u teuluoedd, gan eu gadael i frwydro heb y cymorth na’r adnoddau angenrheidiol.

Mae staff ysgolion yn gwneud eu gorau glas â’r hyn sydd ganddynt, fel y dywedwyd eisoes gan ein Cadeirydd. Mae’n warthus nad yw cymaint o athrawon a chynorthwywyr addysgu wedi cael yr hyfforddiant safonol sylfaenol ar niwrowahaniaeth o hyd, heb sôn am achosion arbenigol, fel syndrom Angelman, sy’n aml yn gallu codi. Mae hyn yn achosi nifer o broblemau, gan gynnwys, os nad yw rhywun yn gwbl barod i ofalu am a bod yn ymwybodol o ymddygiadau a'r anghenion penodol a allai fod gan ddysgwyr ag ADY, a heb ddealltwriaeth o sut i ymdrin â hwy, yn aml, gellir camddiagnosio’r ymddygiadau hyn fel ymddygiad gwael.

Ddoe, tynnodd etholwr fy sylw at achos mewn ysgol gyfun lle cafodd plentyn ei wahardd am ei fod yn gweiddi’r atebion yn y dosbarth. Roedd ei ymddygiad yn cael ei ystyried yn ymddygiad gwael, ond mae'r plentyn ei hun yn mynd adref yn crio bob nos am na all atal ei hun rhag gwneud hynny. A dyma'r ADY lefel is sy'n anffodus yn mynd o dan y radar gyda—a pheidiwch â'm camddeall, mae i'w chroesawu'n fawr—y Ddeddf ADY newydd hon. Mae’n rhywbeth y mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael ag ef ar frys, ynghyd â'r ffaith bod y Ddeddf yn cael ei dehongli mewn 22 o wahanol ffyrdd gan 22 awdurdod lleol, gan arwain at loteri cod post o ran sut y caiff ADY eu trin ledled Cymru.

Nid yw ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 7 yn ddigon da. Mae angen cyflwyno canfyddiadau'r adolygiad cyn haf 2025. Mae hyn yn fater brys. Fel arall, bydd llawer mwy o blant yn cael eu heffeithio os na fyddwn yn cymryd camau brys ar hyn. Bydd yr amrywiaeth o ffyrdd y mae’r Ddeddf ADY yn cael ei dehongli yn parhau i ddwysáu'r anghydraddoldebau y mae dysgwyr ag ADY yn eu hwynebu bob dydd. Gwrthododd Llywodraeth Cymru argymhelliad 19, a alwai am hyfforddiant gorfodol ar ymwybyddiaeth o anabledd i holl staff ysgolion. Sut y gallwn ddisgwyl cynhwysiant pan nad ydym yn rhoi sgiliau i’n hathrawon ddeall a chefnogi’r plant yn eu gofal? Mae argymhelliad 15 yn galw am ddarpariaeth gyffredinol ar gyfer cyflyrau cyffredin fel dyslecsia, a fyddai wedi sicrhau y gallai pob ysgol, ni waeth beth fo’i lleoliad neu ei hadnoddau, ddarparu cymorth, ac eto, mae Llywodraeth Cymru wedi ei wrthod. Mae hwn yn gyfle a gollwyd i greu tegwch a chysondeb ar draws y system addysg.

Mae argymhelliad 11 yn galw am ganllawiau ymarferol ar y model cymdeithasol o anabledd yn yr ysgol. Heb y canllawiau hollbwysig hyn, bydd ysgolion yn cael eu gadael i ofalu amdanynt eu hunain, gan arwain at ddulliau anghyson ac annigonol o ymdrin â chynhwysiant. Yn ogystal â’r addasiadau ymarferol y mae angen eu gwneud mewn ysgolion ar gyfer anableddau corfforol, mae’n hanfodol fod addasiadau ar gyfer plant byddar a phlant dall yn dod yn norm pendant ar gyfer ysgolion ledled Cymru, gan fod y rhan fwyaf o blant byddar, er enghraifft, yn cael eu haddysgu mewn addysg brif ffrwd. Nid oes ysgol i blant byddar yng Nghymru. Rwy'n falch eich bod wedi derbyn argymhelliad 12, ond mae eich ymateb yn eithaf gwan. Mae cynorthwywyr addysgu yn gwbl hanfodol. Hebddynt yn yr ystafell ddosbarth, mae'r athro yn gorfod ymdrin â nifer o blant â nifer o wahanol anghenion, sy'n effeithio ar addysg pob plentyn yn yr ystafell ddosbarth honno. Nid yw’r brwydrau a wynebir gan deuluoedd yn gorffen wrth gatiau’r ysgol wrth gwrs, gyda phroblemau teithio yn aml yn faich ariannol enfawr ar deuluoedd. Nid yn unig hynny, ond nid oes gan rieni unrhyw ddewis ond aberthu eu gyrfaoedd a'u lles personol eu hunain er mwyn sicrhau bod eu plant yn cael addysg deilwng.

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion hollbwysig yma. Mae arnom angen system sy’n blaenoriaethu plant, sy'n gwarantu'r cymorth angenrheidiol ac sy'n sicrhau nad oes unrhyw deulu yn cael ei adael ar ôl. Nid moethusrwydd yw addysg gynhwysol, ond hawl, ac felly mae angen i’r Llywodraeth weithredu ar hyn. Mae’n gwbl hanfodol fod plant a phobl ifanc yn cael eu nodi'n gynt er mwyn atal pobl rhag colli addysg y maent yn ei haeddu. Mae angen i ysgolion a meithrinfeydd fod yn gwbl barod i addysgu pawb â phob lefel o ADY ac anableddau eraill. Mae ysgolion arbennig, fel y gwyddom, yn llawn dop, ac ni allant gynnig lle i bawb y byddem fel arfer yn eu gweld yn y lleoliad hwnnw. Maent yn dod i mewn i addysg brif ffrwd, felly mae angen inni ddarparu ar gyfer hynny. Rwy'n annog—

16:15

Rwy’n annog Ysgrifennydd y Cabinet—mae’n ddrwg gennyf—i wneud popeth yn ei gallu, gan ailedrych ar yr argymhellion efallai, i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael yr addysg y maent yn ei haeddu, ym mha bynnag iaith a ddewisant a ble bynnag y maent yn ei ddewis. Diolch.

Fel bob amser, rwy'n datgan buddiant fel tad i blentyn anabl ag anghenion dysgu ychwanegol, a fydd mewn ysgol arbennig ac sydd mewn canolfan adnoddau ar hyn o bryd. Felly, mae hyn yn adlewyrchu fy mhrofiad bywyd fy hun i raddau helaeth, ond mae gennyf rai safbwyntiau a allai fod yn wahanol i rai o'r Aelodau sydd wedi siarad hyd yn hyn.

Yn gyntaf, gadewch inni roi hyn yn ei gyd-destun. Yn y 1970au a’r 1980au, byddai fy merch wedi bod mewn sefydliad, a byddai wedi bod mewn sefydliad am y rhan fwyaf o’i bywyd cynnar. Byddai wedi treulio ei holl amser yno. Y Ddeddf gofal yn y gymuned a’r Deddfau dilynol a arweiniodd at y ddarpariaeth sydd gennym heddiw, ac adeiladwyd ar hynny ac fe'i datblygwyd. Weithiau, nid yw wedi datblygu'n yn ddigon cyflym, ond mae cynnydd yn sicr wedi’i wneud yn y ffyrdd y mae ein plant ifanc ag ADY, plant awtistig, plant dyspracsig yn cael eu trin yn well heddiw nag erioed o’r blaen. Credaf fod bod yn besimistaidd ynghylch rhai o’r pethau hyn yn dibrisio profiadau'r rheini a ddioddefodd yn y 1970au a’r 1980au.

Rwy’n cyfaddef fy mod wedi bod yn Aelod absennol o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am wahanol resymau, yn anad dim oherwydd gwrthdaro buddiannau, ac rwy’n mynd i fod yn gadael y pwyllgor hwnnw, ond credaf ei bod yn broblemus gwneud 32 o argymhellion i'r Llywodraeth. Credaf fod hynny'n ormod. Credaf na fydd o fudd i'r bobl a gynrychiolwn a’r Llywodraeth am fod adnoddau’n brin. Os ydych chi'n ceisio taenu’r adnoddau prin hynny ar draws cymaint o argymhellion, mae’n anochel y caiff rhai argymhellion eu gwrthod.

Gallaf weld un argymhelliad a fyddai'n galw am adnoddau enfawr ar ei ben ei hun, ac fe'i hategwyd gan benderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet i gynnal adolygiad o’r Ddeddf ADY. Credaf fod angen adnoddau llawn ar hynny ynddo’i hun, a deallaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn cynnal cyfarfodydd gyda’r Gweinidog cyllid ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i’r Gweinidog cyllid ymrwymo'r cyllid canlyniadol Barnett llawn i’r adolygiad ADY hwnnw er mwyn sicrhau bod y Ddeddf ADY yn cael ei datblygu a’i gwella’n llawn. Ond gallaf ddeall hefyd pam y byddai’r Llywodraeth yn ei chael hi’n anodd darparu adnoddau ar gyfer popeth y mae’r pwyllgor wedi’i fynnu, ac rwy’n tybio y bydd pwyllgorau sy’n cynhyrchu cymaint â hyn o argymhellion yn parhau i wynebu’r broblem honno mewn dadl awr o hyd.

Hoffwn edrych ar argymhelliad 24:

'Dylai Llywodraeth Cymru wneud rhagor o waith i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu symleiddio er mwyn mabwysiadu dull dim drws anghywir yn llawn ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus, ond gan ganolbwyntio’n benodol ar y rhyngweithio rhwng gwasanaethau iechyd ac addysg. Dylai’r gwaith hwn nodi’r rhwystrau i gydgysylltu gwasanaethau’n effeithiol, yn ogystal â nodi arferion gorau, a mecanweithiau ar gyfer rhannu’r arferion gorau hyn.'

Hoffwn ddweud fy mod wedi bod yn rhan o'r dull 'dim drws anghywir' hwn yn fy etholaeth. Fel rhywun sy’n rhan o’r gymuned awtistiaeth yn fy etholaeth i, rwyf wedi cyfarfod â rhieni, rwyf wedi cynnal cyfarfodydd yng nghanolfan Autistic Minds, ac rwy’n aelod o grŵp anghenion dysgu ychwanegol Sparrows lle mae fy mhlant yn mynd i chwarae, a thrwy hynny, rwyf wedi cyfarfod â llawer o rieni sy'n rhieni i blant awtistig. Rwyf wedi canfod bod ffordd o ddatblygu rhyngweithiadau a all weithio rhwng ysgolion ac iechyd, a hoffwn awgrymu’r dull hwn i Ysgrifennydd y Cabinet.

Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Dr Sarah Ellis yw’r pennaeth cynhwysiant, felly os bydd rhywun yn dod ataf ac yn dweud, 'Nid yw’r ysgol yn gweithio i fy merch neu fy mab—nid ydym yn cael ein trin yn gywir’, gallaf fynd at Sarah Ellis a threfnu cyfarfod. Gall ymyrryd yn yr ysgol ar eu rhan, ac nid yw'r llwybr yn gorffen yno. Os oes gwelliannau pellach y mae angen eu gwneud yn yr ysgol, bydd yr ysgol yn gwneud y gwelliannau ac yn gallu cysylltu â’r gwasanaeth iechyd drwy fy swyddfa i. Credaf y gellir efelychu hyn ar raddfa fwy am gost fach iawn. O ystyried bod cyngor Caerffili yn ei wneud, credaf y gall ddigwydd ar draws awdurdodau yng Nghymru, ac rwy’n fwy na pharod i helpu Ysgrifennydd y Cabinet i ddatblygu cynllun ar gyfer beth y gellid ei wneud. Ond yn sicr, mae'r hyn sy'n digwydd yno yn effeithiol, ac yn seiliedig ar egwyddor 'dim drws anghywir'—gallwch fynd i mewn mewn unrhyw fan a sicrhau bod eich taith drwy'r system yn llyfn, a'ch bod yn cyrraedd y lle iawn ar yr amser iawn yn yr amgylchiadau iawn.

Ond yn hollbwysig, mae hyn yn fater o adnoddau; er fy mod wedi ceisio lleihau faint o adnoddau rwy'n eu hawgrymu ar gyfer yr argymhelliad hwnnw, mae'n fater o adnoddau. Ac os na fydd yr adolygiad o’r Ddeddf ADY a’r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer yr argymhellion a dderbyniwyd yn cael ei roi ar waith na'i ystyried gan y Gweinidog cyllid, mae arnaf ofn y byddwn mewn sefyllfa anodd iawn. Rwy'n dymuno pob llwyddiant i Ysgrifennydd y Cabinet gyda chael y cyllid llawn ar gyfer ei hadran.

16:20