Y Cyfarfod Llawn
Plenary
22/10/2024Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni fydd y cwestiynau i’r Prif Weinidog, ac mae’r cwestiwn cyntaf gan Siân Gwenllian.
1. Beth mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i ddatrys yr argyfwng tai yng Ngwynedd? OQ61732
Diolch yn fawr. Gyda'ch goddefgarwch, Llywydd, hoffwn ddechrau drwy fynegi fy nghydymdeimlad fel Prif Weinidog gyda'r rhai a oedd yn y ddamwain reilffordd neithiwr ger Llanbrynmair. Ac, yn benodol, hoffwn anfon ein cydymdeimlad at deulu'r gŵr a fu farw, a thalu teyrnged i'r gwasanaethau brys hefyd. A dim ond i roi gwybod i chi y bydd yr Ysgrifennydd trafnidiaeth yn gwneud datganiad llawnach yn ddiweddarach y prynhawn yma.
Fy mlaenoriaeth i yw darparu mwy o gartrefi fforddiadwy dros Gymru gyfan, ac rydyn ni wedi dyrannu’r lefelau uchaf erioed o gyllid yn ystod tymor y Llywodraeth hon. Rydyn ni hefyd yn gweithio'n agos gyda phartneriaid ar draws Gwynedd, wrth i nifer o gamau gael eu gweithredu a’u gwerthuso fel rhan o gynllun peilot ail gartrefi a fforddiadwyedd yn Nwyfor.
Mae’r argyfwng tai yn effeithio pob rhan o Gymru. Digartrefedd a chysgu ar y stryd ydy canlyniad cynyddol a gweladwy yr argyfwng hwnnw. Mae nifer y bobl sydd yn marw sydd yn cysgu ar y stryd wedi dyblu dros y blynyddoedd diweddar, sy’n warthus ac yn annerbyniol. Rŵan mae yna sôn am ryddhau carcharorion yn gynnar, gan greu risg o fwy fyth o ddigartrefedd. Mae gweithwyr rheng flaen, sy’n helpu atal digartrefedd, ac yn rhoi cymorth i’r digartref, angen cefnogaeth lawn. Er mwyn cefnogi rhai o’r mwyaf bregus yn ein cymunedau, fedrwch chi ymrwymo heddiw i sicrhau setliad ariannol teg a digonol ar gyfer y grant cymorth tai yng nghyllideb y flwyddyn nesaf?
Wel, diolch yn fawr. Rŷn ni’n ymwybodol iawn o’r sefyllfa, a pha mor anodd yw hi i bobl, yn enwedig i’r rheini sydd, efallai, â thai ac sy’n methu fforddio i gario ymlaen i dalu’u rhent nhw. A dyna pam rŷn ni wedi rhoi arian sy'n record—£1.4 biliwn o fuddsoddiad y tymor yma—i mewn i dai cymdeithasol. Mae £15 miliwn o hyn wedi mynd i Wynedd. Ond fe fyddwch chi’n ymwybodol ein bod ni’n mynd i gyflwyno deddfwriaeth ar ddigartrefedd hefyd.
Ond rŷn ni’n ymwybodol iawn o ba mor anodd yw hi, a dyna pam rŷn ni wedi helpu, er enghraifft, gyda phethau fel yr Help to Buy scheme, sydd yn helpu pobl gyda chyngor ar gyfer morgeisi, sy’n eu helpu nhw gyda sut i ddod mas o ddyled, a hefyd i roi cyfle iddyn nhw fenthyg arian heb dalu interest am bum mlynedd.
Fe wnaeth pwyllgor rhanbarthol gogledd Cymru y Cynulliad ar y pryd gymryd tystiolaeth gan bobl o Wynedd ar yr argyfwng tai fforddiadwy ym mis Hydref 2003, dros 20 mlynedd yn ôl, pan gynigiwyd atebion y gellid eu cyflawni i ni, a gafodd eu hanwybyddu gan Lywodraeth Lafur Cymru bryd hynny. Unig darged tai eich Llywodraeth Cymru chi yw adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i'w rhentu yn ystod tymor pum mlynedd y Senedd hon. Fodd bynnag, dim ond 3,120 a gwblhawyd yng Nghymru gan landlordiaid cymdeithasol yn ystod tair blynedd gyntaf tymor y Senedd hon. Felly, fe wnaethoch chi newid y nod, gan ychwanegu rhai cartrefi nad ydyn nhw'n adeiladau newydd ac nad ydyn nhw'n garbon isel, a hefyd cartrefi ar gyfer rhent canolradd a chydberchnogaeth. Ond, hyd yn oed gyda hyn, mae Archwilio Cymru yn dal i ddisgwyl i chi fethu â chyrraedd eich targed heb gyllid ychwanegol. Felly, nawr bod y cyn-Weinidog Lee Waters wedi cael ei alw i mewn i'ch helpu chi i gyrraedd y targed tai, a fyddwch chi nawr yn newid y nod ymhellach, neu sut fyddwch chi'n ymateb i gynigion gan ddarparwyr tai cymdeithasol yng Nghymru i gael gwared ar y rhwystrau i ddarparu cyllid cynaliadwy tymor hwy, ac i sicrhau eu bod nhw'n dal i adeiladu cartrefi newydd?
Wel, diolch yn fawr iawn. Byddwch yn ymwybodol y bu pecyn cyfan o fesurau i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon o ran tai. A'r ffaith yw, mae'r sefyllfa wedi newid ers i ni osod y targed hwnnw gyntaf. Rydym ni wedi cael chwyddiant enfawr, rydym ni wedi cael cynnydd enfawr i gyfraddau llog, ond y gwir yw, er gwaethaf hynny i gyd, rydym ni wedi gweld, er enghraifft, yng Ngwynedd, gostyngiad o bump y cant i nifer yr ail gartrefi o'i gymharu â'r llynedd.
Ceir cyfres gyfan o fesurau yr ydym ni'n eu rhoi ar waith ar ben y buddsoddiad uchaf erioed hwnnw mewn tai cymdeithasol, gan gynnwys y rhaglen gyfalaf llety trosiannol, sy'n darparu 1,700 o gartrefi ac wedi dod â llawer yn ôl i ddefnydd. Mae gennym ni Gynllun Prydlesu Cymru, sy'n caniatáu i landlordiaid preifat ganiatáu i awdurdodau lleol rentu eu cartrefi, ar lefel rent benodol, wedi'u gosod ar gyfraddau lwfans tai lleol. Mae hynny i gyd yn mynd at helpu pobl i aros yn eu cartrefi, ond mae hefyd yn rhoi'r sicrwydd i bobl sydd ag eiddo, sydd eisiau eu prydlesu ar gynllun hirdymor, o wybod y bydd rhywun yn y cartref hwnnw am amser maith. Felly, mae llawer iawn yn cael ei wneud yn y maes tai, ac, fel y dywedais, byddwn yn cyflwyno rhai deddfau newydd o ran digartrefedd yn fuan.
2. Beth y mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i wella mynediad at ofal iechyd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OQ61751
Byrddau iechyd sy'n gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau gofal iechyd diogel ac o ansawdd uchel ar ran eu poblogaethau lleol yn unol â'r adnoddau sydd ar gael. Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi nodi ei safbwynt, ac rwy'n disgwyl i unrhyw newid gwasanaeth gael ei lywio gan ymgysylltiad parhaus â rhanddeiliaid.
Diolch, Prif Weinidog. Gyda nifer o bobl yn aros am apwyntiadau ledled Cymru, yn enwedig ar gyfer llawdriniaethau, mae ganddyn nhw system yn Lloegr lle, os ydych chi wedi bod yn aros am gyfnod penodol o amser, y byddan nhw'n cynnig i chi fynd i fyrddau iechyd eraill ledled Lloegr i gael y driniaeth honno, yn enwedig ym maes orthopedeg. Felly, yn Henffordd, er enghraifft, ceir amseroedd aros hir am driniaeth orthopedig, ond maen nhw'n anfon cleifion i ysbytai eraill ledled Lloegr i leihau rhestrau aros ac i sicrhau bod pobl yn cael eu gweld. Ar ôl gwneud rhywfaint o waith ymchwil, nid yw GIG Cymru yn cynnig y gwasanaeth hwn i gleifion. Felly, a yw hyn yn rhywbeth y byddai GIG Cymru yn ystyried ei wneud, i roi'r cyfle i gleifion sy'n aros ar y rhestrau hynny fynd i rywle arall yn y system lle ceir capasiti, i gael eu gweld, oherwydd nid wyf i eisiau gweld cleifion yng Nghymru, ac yn enwedig yn fy etholaeth i ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, yn destun loteri cod post, lle na allan nhw gael eu gweld a lle y gallai fod capasiti dros ben yn y system mewn mannau eraill i gael y driniaeth sydd ei hangen arnyn nhw?
Wel, mae'n drueni na wnaeth y gwaith ymchwil a wnaethoch chi edrych ar yr ystadegau diweddaraf o ran yr hyn sydd eisoes yn digwydd o ran cymorth a gofal trawsffiniol. Mae'n ddiddorol iawn, yn enwedig o ran meddygon teulu ar y ffin. Mae 13,000 o drigolion o Gymru wedi'u cofrestru yn Lloegr, ond mae 21,000 o drigolion o Loegr wedi'u cofrestru yng Nghymru. A phan edrychwch chi ar nifer y bobl sy'n mynd i ysbytai yn Lloegr eisoes, roedd 60,700 dim ond y llynedd yn rhan o dderbyniad i ysbyty GIG yn Lloegr. Felly, mae'n digwydd eisoes, a byddwn yn parhau i weld os oes capasiti a phryd. Ond, ar hyn o bryd, rydym ni'n canolbwyntio ar wneud yn siŵr ein bod ni'n defnyddio'r capasiti sydd ar gael o fewn ein system, a gwneud yn siŵr ein bod ni'n ehangu'r cyfleoedd i hynny ddigwydd, gan ddefnyddio oriau hirach, er enghraifft, yng Nghymru, yn hytrach na mynd dros y ffin. Gadewch i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud y mwyaf ac yn gweld system effeithlon yng Nghymru yn gyntaf.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Dim ond i ddilyn ymlaen o'r cwestiwn gan James Evans yn y fan yna, hoffwn ganolbwyntio, os caf, ar driniaethau dewisol i gleifion ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, sy'n mynd dros y ffin—a dweud y gwir, rydym ni'n eithaf cyfarwydd â mynd, er enghraifft, i ysbyty Henffordd, i gael ein triniaeth. Ac rwy'n falch o glywed y bydd hyn yn cael ei gryfhau yn dilyn y cyhoeddiad o gynhadledd y blaid Lafur ac, rwy'n credu, a gefnogwyd gan Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens. Rydych chi wedi penodi grŵp o arbenigwyr i helpu gyda lleihau rhestrau aros yma yng Nghymru. Ond a gaf i ofyn i chi'n benodol, os gwelwch yn dda, sut y bydd hynny'n gweithio o ran y trefniadau trawsffiniol a gyhoeddwyd, a pha dargedau sydd gennych chi, a pha amserlenni sydd gennych chi, er mwyn lleihau'r rhestrau aros, yn enwedig i bobl sy'n byw ar y ffin, fel ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn. Wel, fel rydych chi'n dweud, mae gennym ni'r grŵp hwn o arbenigwyr bellach sydd wedi cael eu penodi, ac, os edrychwch chi ar eu CVs, byddwch yn gweld bod y rhain yn arbenigwyr gwirioneddol, pobl sydd eisiau ein helpu ni. Ac a dweud y gwir, un o'r bobl yn y grŵp hwnnw yw'r unigolyn sydd wedi cyflwyno a sefydlu'r dull GIRFT o ymdrin ag arferion gorau—hynny yw, 'gwneud pethau'n iawn y tro cyntaf'. Mae hwnnw wir yn edrych ar sut rydych chi'n gwneud y mwyaf o'r gwaith yn ein hysbytai. Maen nhw'n mynd i mewn i ysbytai ac maen nhw'n dweud wrthyn nhw beth allan nhw ei wneud i ddiwygio pethau, a dyna'n union yr ydym ni'n sôn amdano. Wyddoch chi, ceir ysbytai yn Lloegr lle mae hyn wedi cael ei gyflwyno ac mae'n gweithio'n dda iawn. Ceir rhai ysbytai yng Nghymru sydd wedi cyflwyno rhan ohono ond nid yr holl beth. Felly, ein gobaith yw y bydd y grŵp hwn yn dod i mewn ac yn arbenigo, edrych ar sut y gallwch chi wneud hynny, sut y gallwch chi ddod ag arferion gorau a'u cyflwyno i Gymru. Ac, wrth gwrs, ar y gwaith trawsffiniol hwnnw, fel y soniais yn gynharach, gyda 60,000 o drigolion Cymru eisoes yn mynd i Loegr, rwy'n siŵr y bydd hynny yn parhau hefyd.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Fel yr amlygodd fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, fe wnaethom ni ddarganfod dros y penwythnos bod yr Aelod dros Lanelli bellach, rwy'n tybio, yn rhan o'r Llywodraeth, oherwydd bydd, yng ngeiriau'r Gweinidog Cyflawni, yn cynnal—wel, eich geiriau chi yw'r rhain, Gweinidog—
'"ymchwiliad trylwyr cyflym iawn" i bob cais cynllunio wrth iddyn nhw gael eu cyflwyno.'
A allai'r Prif Weinidog gadarnhau beth yw union swyddogaeth yr Aelod dros Lanelli mewn pwnc—y system gynllunio—sy'n sensitif iawn yma yng Nghymru?
Wel, byddwch yn ymwybodol y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am dai yn gwneud yn siŵr—ac rydym ni, fel Llywodraeth, yn gwbl benderfynol—ein bod ni'n mynd i gyflawni. Dyna pam rydym ni'n dal i fod mewn trafodaethau am y swyddogaeth y bydd Lee Waters yn ei chyflawni. Byddwn yn cwblhau manylion y swyddogaeth honno a byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yn union yw honno yn ystod yr wythnosau nesaf. Ond mae gan y Gweinidog Cyflawni swyddogaeth o ran cefnogi—[Torri ar draws.]
A gawn ni glywed ateb y Prif Weinidog, os gwelwch yn dda?
Mae gan y Gweinidog Cyflawni swyddogaeth o ran cefnogi cyflawni ein holl uchelgeisiau fel Llywodraeth, a bydd datganiad ffurfiol ar y gwaith i gefnogi'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy yn dilyn.
Mae'n ddrwg gen i, Prif Weinidog, ond geiriau'r Gweinidog cyflawni ddydd Sul oedd bod aelod o'r meinciau cefn yn y Blaid Lafur yn mynd i gynnal ymchwiliad trylwyr cyflym o bob cais cynllunio sy'n cael ei dderbyn. Rydych chi, yn eich ymateb i mi, yn nodi'n eglur nad oes gennych chi syniad eto beth mae'n mynd i fod yn ei wneud, ac eto rydych chi'n ceisio cymell datblygwyr i gyflwyno ceisiadau i gyrraedd eich targed maniffesto o 20,000 o dai cymdeithasol yma yng Nghymru. Nid yw honno'n unrhyw ffordd i lywodraethu mewn gwirionedd. Amlygodd yr archwilydd cyffredinol yn ei adroddiad diweddar y byddai'r ymrwymiad maniffesto hwn yn gofyn am £600 miliwn i £750 miliwn ychwanegol i gyrraedd eich targed o 20,000 erbyn 2026. Felly, o le mae'r arian hwnnw yn dod? Allwch chi ddim dweud sut y mae'r aelod o'r meinciau cefn yn mynd i'ch helpu. Sut mae'r Gweinidog cyllid yn mynd i'ch helpu i gyrraedd y targed hwn, oherwydd, ar hyn o bryd, nid ydych chi wedi darparu hanner yr unedau y mae eich ymrwymiad maniffesto yn cyfeirio atyn nhw?
Wel, mae llawer o amser ar ôl o hyd cyn diwedd y tymor, a'r hyn yr ydym ni'n ymwybodol ohono, mewn gwirionedd, yw nad yw llawer o hyn yn ymwneud â chyllid. Mae rhywfaint ohono yn ymwneud â chael darnau yn sownd yn y system gynllunio a all, mewn gwirionedd, gael eu datgloi, a'r hyn y bydd Lee Waters yn ei wneud yw helpu i ddatgloi rhai o'r meysydd hynny lle ceir heriau. Rydym ni'n gwybod ein bod ni wedi ymrwymo £1.4 biliwn i dai cymdeithasol yn ystod tymor y Senedd hon. Mae hwn yn swm enfawr o arian, ac mae hyn yn gwbl allweddol i wneud yn siŵr ein bod ni'n atal digartrefedd yn y dyfodol.
A gaf i awgrymu eich bod chi'n gwybod beth mae eich Gweinidogion yn ei ddweud pan fyddan nhw ar rownd y cyfryngau? Dywedodd y Gweinidog ei hun, mewn gwirionedd, mai ychydig iawn o amser sydd ar ôl i gyflawni'r ymrwymiad maniffesto hwn—15 mis, meddai, yn ei geiriau hi. Felly, nid fi sy'n dweud bod gennych chi ychydig iawn o amser. Mae'r archwilydd cyffredinol wedi tynnu sylw at yr arian ychwanegol y bydd angen i chi sicrhau ei fod ar gael i gyflawni'r ymrwymiad maniffesto hwn, ac nid ydych chi'n gwybod beth mae eich aelod o'r meinciau cefn dros Lanelli yn mynd i fod yn ei wneud. Pan oedd yn Weinidog, cafodd ei gyhuddo o arafu Cymru. Nawr, yn eich geiriau chi, mae'n mynd i gyflymu'r system gynllunio. Ni all y ddau fod yn digwydd ar yr un pryd, Prif Weinidog. Felly, a allwch chi ddweud wrthyf i heddiw, ai chi fydd y Prif Weinidog sy'n methu'r targed maniffesto hwn o ddarparu 20,000 o unedau o dai cymdeithasol, yn union fel y gwnaethoch chi fethu eich targedau GIG i leihau amseroedd aros yma yng Nghymru? Neu a yw'r ymrwymiad maniffesto hwn yn mynd i gael ei gyflawni, y mae'r archwilydd cyffredinol, yn amlwg, yn amheus iawn y byddwch chi'n gallu ei wneud?
Nid oes unrhyw amheuaeth amdano, mae'n darged ymestynnol, ond mae'n darged yr ydym ni'n sicr yn mynd i wneud pob ymdrech i'w gyrraedd. Dyna pam rydym ni'n galw rhywfaint o gymorth ychwanegol i mewn i wneud yn siŵr y gallwn ni ddatgloi'r meysydd hynny. Mae llawer iawn, iawn o waith i'w wneud yma. Mae 22 o awdurdodau lleol. Mae gwneud yn siŵr mewn gwirionedd eich bod chi'n datgloi'r holl fanteision a'r potensial yn y lleoedd hynny—mae cryn dipyn o waith i'w wneud yma. Pam na fyddem ni eisiau galw rhywfaint o gymorth ychwanegol i mewn os ydym ni'n gallu gwneud hynny?
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Gaf i ddechrau trwy nodi ein cydymdeimlad ni ym Mhlaid Cymru efo teulu yr unigolyn a fu farw yn y ddamwain drên neithiwr ar linell y Cambrian a’r sawl gafodd eu hanafu? Dwi am ddiolch hefyd i bob un a fu’n rhan o’r ymateb brys.
Dwi’n gwybod bod y Prif Weinidog yn eiddgar i ni beidio â chwestiynu arweinyddiaeth Llafur y Deyrnas Unedig yma yn y Senedd, ond, wythnos cyn cyllideb Rachel Reeves, mae’n bwysig bod ein llygaid ni, dwi’n meddwl, ar benderfyniadau sy’n cael eu gwneud ganddi hi a Keir Starmer, ac mae’n bwysig bod Prif Weinidog Cymru, wrth gwrs, yn gwbl gadarn yn ei disgwyliadau wrth lobïo Downing Street cyn y gyllideb ar ran Cymru.
Mi wnaeth Plaid Cymru osod ein gofynion ni ar gyfer y gyllideb mewn cynnig a fydd yn cael ei drafod yma yn y Senedd brynhawn fory. Pam mae Llywodraeth Cymru am ddileu ein galwad ni am gyllid teg i Gymru drwy ddod â system gyllido newydd i gymryd lle fformiwla Barnett?
Achos beth rydyn ni’n ei wneud yw cymryd pethau o ddifri, ac rydyn ni’n cael sgyrsiau uniongyrchol gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn lle ein bod ni’n ysgrifennu resolutions ar lawr y Senedd. Dyna’r ffordd rydyn ni’n gweithio. Dwi’n gwybod bod hwnna’n anodd i bobl ei ystyried, efallai i bobl fel chi ei ystyried, fod pobl fel fi yn gallu siarad yn uniongyrchol gyda’r Prif Weinidog. Ond y ffaith yw dyna sut mae’n gweithio. Dwi wedi ei gwneud hi’n glir beth yw’n blaenoriaethau ni fel Llywodraeth. Mi wnaf i’r achos yna eto ag eto. Dwi wedi ei gwneud hi sawl gwaith, fel y Gweinidog sydd yn gyfrifol am gyllid hefyd, ac mi fyddwn ni’n parhau i wneud yr achos tan y gyllideb.
Nid wyf i'n amau bod sgyrsiau yn cael eu cynnal; cynnwys y sgyrsiau hynny sydd wir o ddiddordeb i mi. Ac mae wedi dod i rywbeth pan fo Prif Weinidog Cymru, Prif Weinidog Llafur, yn amau ein hawl yn y Senedd hon i drafod materion cyllidebol fel y maen nhw'n effeithio ar Gymru. Rydym ni eisiau Prif Weinidog ag eglurder gwirioneddol ar fater craidd cyllid, Prif Weinidog sy'n cymryd safbwynt cadarn. Rwy'n ofni bod ganddi fwy o ddiddordeb mewn peidio â rhoi Keir Starmer mewn sefyllfa anodd. Nawr, nid i ba raddau y mae un partner yn cytuno â'r llall yn ddiamod yw gwir brawf partneriaeth honedig mewn grym, ond pa un a yw'r bartneriaeth honno yn ymateb yn gadarnhaol i anghenion ein cymunedau.
Mae'r un peth yn wir am gyllid rheilffyrdd. Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru ar y cofnod yn amcangyfrif diffygion o dros £5 biliwn mewn cyllid rheilffyrdd i Gymru dros ddegawd. Dyfynnodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru £4.6 biliwn fel y ffigur sy'n ddyledus mewn symiau canlyniadol HS2. Nawr, mewn grym, maen nhw eisiau i ni dderbyn ei fod yn ffracsiwn o hynny. Gan ddiwygio cynnig cyllideb Plaid Cymru ar gyfer yfory, mae Llafur yn galw'n syml am drafodaethau pellach ar HS2. Pam mae'r Prif Weinidog yn rhoi'r gorau i frwydro dros biliynau Cymru?
Wel, mae'n amlwg nad yw'n fy adnabod i'n dda iawn os yw'n credu na fyddaf i'n dadlau'r achos fel y Prif Weinidog. Byddaf yn sefyll dros Gymru ar bob achlysur, gan gynnwys gyda Phrif Weinidog y DU, fel yr wyf i wedi ei wneud ar bob achlysur yr wyf i wedi cyfarfod ag ef. Gadewch i mi ei gwneud hi'n eglur fy mod i'n credu ein bod ni wedi dioddef anghyfiawnder o ran HS2, a byddaf yn parhau i ddadlau'r achos hwnnw—[Torri ar draws.] Os nad oes ots gennych chi, fe wnaf i barhau; £350 miliwn yw'r hyn a wariwyd hyd yma yn gymesur o ran HS2. Dyna'r ffigur y gwnaethom ni ei roi o'r blaen, pan oedd y Ceidwadwyr mewn grym. Nawr, os byddan nhw'n parhau i ehangu HS2, yna wrth gwrs bydd y rhif hwnnw yn codi, ond, ar hyn o bryd, y swm y maen nhw wedi ei wario, dyna rydym ni'n credu y dylai fod yn dod i ni. Rwyf i wedi dadlau'r achos hwnnw, byddaf yn parhau i ddadlau'r achos hwnnw, ac mae'n bwysig nawr eu bod nhw'n edrych ar y cynigion sydd gennym ni gan Lywodraeth Cymru o ran sut y gallan nhw gefnogi ein seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Ond un peth y gwnaf i ei ddweud yw ein bod ni, eisoes, wedi gweld gwahaniaeth. Maen nhw wedi ymrwymo i fwy o seilwaith yng Nghymru, a'r hyn y byddwn ni'n ei weld yw y bydd Trafnidiaeth Cymru yn cynyddu 50 y cant o ran mwy o wasanaethau wedi'u hamserlennu yn y dyfodol.
Y £4.6 biliwn oedd y ffigur a ddyfynnwyd gan Jo Stevens pan oedd hi yn yr wrthblaid, £4 biliwn oedd y ffigur a ddyfynnwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet presennol dros yr economi. Rydych chi wedi ei glywed yma'n swyddogol: maen nhw wedi rhoi'r gorau i frwydro dros biliynau Cymru. Rydym ni wedi cael addewid dro ar ôl tro i ailosod y berthynas rhwng Llywodraethau'r DU a Chymru. Mae'n edrych fel ailosodiad o'r hyn sy'n ddyledus i ni o HS2, ond mae hefyd wedi bod yn dipyn o ailosodiad i bensiynwyr sydd angen gwresogi eu cartrefi y gaeaf hwn. Rhagwelodd comisiynydd pobl hŷn Cymru y gallai diddymu'r ddarpariaeth gyffredinol o daliadau tanwydd y gaeaf arwain at 4,000 o farwolaethau ychwanegol y gaeaf hwn—gweithred gyntaf gywilyddus gan Lywodraeth Lafur newydd.
Eto, roedd cynnig Plaid Cymru a fydd yn cael ei drafod yfory yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru ochri â'r pensiynwyr hynny, ond fe wnaethon nhw ddewis ochri â chyni cyllidol. Nid ydyn nhw hyd yn oed yn fodlon gofyn i Lywodraeth y DU weithredu ar danwydd y gaeaf nac ar y cap budd-dal dau blentyn, nac ar Ystad y Goron, nac ar system gyfiawnder well. Rydym ni eisiau Llywodraeth sy'n dadlau'r achos dros Gymru bob amser. Pan ddaw 30 Hydref, gadewch i mi ofyn hyn: os bydd cyllideb y DU yn methu â sicrhau bargen deg i Gymru, i bensiynwyr, i deuluoedd mewn tlodi, a yw'r Prif Weinidog yn fodlon rhannu'r bai gyda'r Canghellor?
Wel, yn onest, nid wyf i'n gwybod pam mae'n rhaid i mi ddod yma bob wythnos a rhoi gwers iddo o ran sut mae datganoli yn gweithio. Mae ganddyn nhw eu pwerau; mae gennym ni ein pwerau. Byddaf i'n gwneud yr hyn sydd angen i mi ei wneud yma gyda'r pwerau sydd ar gael i mi.
3. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu ei chysylltiadau rhyngwladol? OQ61772
Diolch yn fawr. Mae Cymru yn genedl sydd wedi'i rhyng-gysylltu'n fyd-eang â phroffil cynyddol ar lwyfan y byd. Mae ein strategaeth ryngwladol yn cyflwyno tri uchelgais allweddol ar gyfer cyflawni. Mae'r rhain yn parhau fel: codi ein proffil rhyngwladol, tyfu'r economi trwy allforion a mewnfuddsoddi, a sefydlu Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang.
Diolch, Prif Weinidog. Yn y flwyddyn ers ymosodiadau erchyll Hamas, mae lluoedd milwrol Israel wedi lladd dros 40,000 o bobl yn Gaza, gan gynnwys cymaint o blant a menywod, ac mae nifer anhysbys wedi'u claddu o dan y rwbel. Mae cymorth dyngarol wedi cael ei atal a'i ddefnyddio fel offeryn rhyfel. Rydym ni wedi gweld gwasanaethau cyhoeddus sylfaenol a seilwaith yn cael eu dinistrio, ac mae newyn a chlefyd eithafol yn lledaenu. Mae cyfraith ryngwladol yn aml wedi cael ei hanwybyddu ac aethpwyd ag achos hil-laddiad i'r Llys Cyfiawnder Rhyngwladol. Mae barn y byd yn cefnogi cadoediad ar unwaith, rhyddhau'r gwystlon a dechrau proses tuag at ateb gwleidyddol.
Prif Weinidog, ynghyd ag aelodau o'r gymuned yn Nwyrain Casnewydd sydd â chysylltiadau ym Mhalesteina, rwy'n croesawu'n fawr gyfraniad Llywodraeth Cymru o £100,000 at apêl dwyrain canol Pwyllgor Argyfyngau Brys Cymru. A wnewch chi hefyd ystyried yn ofalus ffyrdd eraill y gall Llywodraeth Cymru wneud yn eglur ei phryder am y marwolaethau a'r dinistr parhaus yn Gaza, y Lan Orllewinol a nawr Libanus, pa un a yw hynny yn ymwneud â dadfuddsoddi yn economi Israel, cydnabod gwladwriaeth Palesteina, neu weithio i ddylanwadu ar ein Llywodraeth y DU?
Wel, diolch yn fawr, John, ac rwy'n gwybod pa mor ofidus yr ydym ni i gyd pan fyddwn ni'n gweld y golygfeydd hynny o'r dwyrain canol. Maen nhw'n wirioneddol erchyll, ac mae'n torri eich calon, yn enwedig pan fyddwch chi'n gweld plant yn dioddef, ac mae maint y dinistr yr ydym ni'n ei weld yn annirnadwy i ni, wrth i ni ystyried sut maen nhw'n dod i delerau â'r sefyllfa eithriadol o anodd hon. Rwy'n eglur iawn bod angen ateb dwy wladwriaeth hirdymor gwirioneddol. Mae angen terfyn ar yr ymladd. Rydym ni angen gweld cadoediad ar unwaith, terfyn ar y lladd, ac mae angen i ni weld cynnydd sylweddol i faint o gymorth y gellir ei ddarparu, ac, wrth gwrs, dylid dychwelyd y gwystlon.
Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cyfrannu £100,000 at y Pwyllgor Argyfyngau Brys ar gyfer y dwyrain canol. Yr hyn sy'n fwy trawiadol yw ymateb anhygoel pobl Cymru—dros £0.5 miliwn o fewn 24 awr. A hoffwn ddiolch a thalu teyrnged i bawb sydd wedi cyfrannu a gofyn i bobl eraill ystyried rhodd yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn yn y dwyrain canol.
A gaf i groesawu eich ateb i'r cwestiwn a ofynnwyd gan John Griffiths? Yn wir, rydym ni i gyd yn bryderus, ac rydym ni eisiau gweld ateb i'r argyfwng hwn—ac mae'n argyfwng, yn ogystal â gwrthdaro—yn y dwyrain canol cyn gynted â phosibl.
Mae'n bwysig, wrth gwrs, bod gan Lywodraeth Cymru lais ar gysylltiadau a materion rhyngwladol, ond un o'r pryderon a godwyd gyda mi yw bod swyddogion Llywodraeth Cymru, yn aml iawn, wedi'u lleoli yn y rhwydwaith mini-lysgenadaethau a sefydlwyd ledled y byd gan Lywodraeth Cymru a'i rhagflaenwyr yn hytrach nag ymsefydlu swyddogion yn llysgenadaethau Prydain, lle gallan nhw weithio ochr yn ochr ac ar y cyd â Llywodraeth y DU. A gaf i ofyn, Prif Weinidog, a wnewch chi ystyried cymryd golwg ar eich strategaeth cysylltiadau rhyngwladol fel y gellir cael gwell cydweithredu ac arbediad i'r trethdalwr trwy gau'r rhwydwaith mini-lysgenadaethau, sy'n ddiangen, a thrwy weithio yn hytrach gyda llysgenadaethau Prydain ledled y byd i ymsefydlu swyddogion Llywodraeth Cymru mewn ffordd fwy strategol nag sy'n digwydd ar hyn o bryd? Oherwydd mae cost y rhwydwaith mini-lysgenadaethau, sef £8 miliwn y flwyddyn, yn foethusrwydd na all ac na ddylai'r wlad hon dalu amdano.
Darren, edrychwch, yn gyntaf oll, rwy'n falch iawn eich bod chi'n gweld pa mor bwysig yw hi ein bod ni'n chwifio'r faner yn rhyngwladol; roeddwn i'n falch iawn o wneud hynny yn Iwerddon yr wythnos diwethaf, lle cefais gyfle i gyfarfod â'r Tánaiste a'r Arlywydd Higgins. Rhan o'r rheswm yr oeddem ni'n gallu gwneud hynny a bod gennym ni berthynas mor gryf ag Iwerddon yw oherwydd bod gennym ni gynrychiolwyr yn Iwerddon sydd yn wir wedi'u hymsefydlu gyda Llywodraeth y DU, sef yr hyn sy'n digwydd ledled y byd. Felly, ym mhob sefyllfa—ym mhob sefyllfa—mae ein pobl wedi'u hymsefydlu gyda Llywodraeth y DU. Fe wnaf i ddweud wrthych chi beth sy'n ddiddorol, fodd bynnag, yw lle nad oes gennym ni gynrychiolaeth: yn y maes hwn a gedwir yn ôl, pan oedd eich Llywodraeth chi mewn grym, cyn lleied y gwnaethon nhw chwifio'r faner dros Gymru yn y gwledydd hynny lle nad oedd gennym ni gynrychiolaeth. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i—mae'n ddrwg gen i—fe roddaf i enghraifft i chi. Fe roddaf i enghraifft i chi: fe es i i dreulio Dydd Gŵyl Dewi yn Nenmarc. Roeddwn i'n digwydd bod yno mewn cynhadledd, a dywedais, 'Gadewch i ni gael digwyddiad Dydd Gŵyl Dewi yn y llysgenhadaeth.' Fe wnaethon nhw ddweud wrthyf i nad oedden nhw wedi gwneud dim i hyrwyddo Cymru mewn 22 mlynedd—a dyna eu gwaith, mae'n faes a gedwir yn ôl. Felly, rwy'n hyderus, gan fy mod i eisoes wedi cael sgyrsiau gyda'r Gweinidog Ewropeaidd, sy'n digwydd bod yn Gymro, y gwn ei fod yn mynd i gywiro'r sefyllfa.
A gaf i ddiolch yn gyntaf i John Griffiths am godi cwestiwn mor bwysig? Ni roddwyd sylw i rai o elfennau'r cwestiwn, felly tybed a allai'r Prif Weinidog ysgrifennu ymateb ysgrifenedig i rai o'r rheini, yn enwedig am ddadfuddsoddi; byddai'n ddefnyddiol ei gael.
Ond, ar fater ehangach, Brif Weinidog, mae gan fy mhwyllgor yn y Senedd gyfrifoldeb dros sgrwtineiddio'r gwaith rhyngwladol mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud, ac mae gennym ni ymgynghoriad sydd ar agor ar hyn o bryd ar flaenoriaethau wedi 2025, pan fydd y strategaeth yn dod i ben. Mae Prif Weinidogion blaenorol wedi ymrwymo i gynnwys ein pwyllgor yn y broses yna. Dŷn ni wedi croesawu hynny. Allwch chi plîs osod mas yr amserlenni presennol sydd gennych chi ar gyfer y gwaith pwysig hwn, gan gynnwys pryd y byddwch chi'n ymgynghori â rhanddeiliaid a hefyd â'r pwyllgor?
Wel, diolch yn fawr iawn. Wel, fel dwi'n dweud, beth sydd o ddiddordeb i fi nawr yw delifro ar y polisïau sydd gyda ni, ar y strategaethau sydd gyda ni, a dwi'n awyddus bod pobl yn parhau i ganolbwyntio tan ein bod ni'n dod i bwynt i baratoi ar gyfer y bennod nesaf. Nawr, wrth gwrs, pan fyddwn ni'n dechrau paratoi beth fydd yn dod nesaf o ran blaenoriaethau, dwi'n siŵr bydd pethau fel y ffaith ein bod ni wedi cael investment summit a oedd yn llwyddiannus dros y Deyrnas Unedig, beth yw'n rôl ni, beth y gallwn ni ei wneud o fewn buddsoddi, cael mwy o fuddsoddiad o du fas i Gymru—. Mae yna lot o bethau, dwi'n meddwl, gallwn ni eu gwneud pan fo'n dod i flaenoriaethu yn y dyfodol, ond beth sydd o ddiddordeb i fi nawr yw delifro ar beth sydd yn y strategaeth bresennol. Ond, wrth gwrs, bydd yna gyfle i bobl ymuno yn yr ymgynghoriad pan ddaw hwnnw.
4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith penderfyniad Llywodraeth y DU i dorri taliadau tanwydd gaeaf ar bobl yn Nyffryn Clwyd? OQ61764
Mae manteisio i'r eithaf ar yr ysgogiadau sydd gennym ni yma yng Nghymru i fynd i'r afael â thlodi yn parhau i fod yn flaenoriaeth drawslywodraethol allweddol. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r rhai sydd mewn perygl o fynd i dlodi tanwydd. Rydym ni'n parhau i fuddsoddi yn ein taleb tanwydd a'n cynlluniau cymorth dewisol i helpu pobl mewn argyfwng gyda chostau tanwydd.
Diolch, Prif Weinidog, er bod arnaf i ofn na wnaiff hynny'r tro, gan y bydd 30,000 o bobl yng Nghonwy a sir Ddinbych yn colli eu taliadau tanwydd y gaeaf eleni, gyda'r disgwyl mai'r ddau fydd y siroedd a fydd yn cael eu taro galetaf yn y Deyrnas Unedig o ganlyniad i'r penderfyniad dideimlad hwn gan Lywodraeth Lafur y DU. Mae gan sir Ddinbych boblogaeth hŷn, ac mae'r oedran canolrifol bum mlynedd yn hŷn na'r oedran cyfartalog ledled Cymru, â lefelau uwch o dlodi sy'n bodoli eisoes na chyfartaledd Cymru. Felly bydd diddymiad creulon y taliad hanfodol hwn yn effeithio ar y tlotaf a'r mwyaf eiddil yn fy etholaeth, gyda phedwar o bob pum pensiynwr yn byw islaw neu ychydig uwchben y llinell dlodi ar fin colli eu taliadau tanwydd y gaeaf, a fydd yn cyd-fynd â chynnydd o 10 y cant i filiau ynni.
Rydym ni hefyd yn paratoi ein hunain ar gyfer 4,000 o farwolaethau ychwanegol y gaeaf hwn oherwydd penderfyniad y Canghellor, a dylem ni fod yn hollol eglur mai penderfyniad gwleidyddol yw hwn. Daeth y Canghellor o hyd i £22 biliwn ar gyfer cymorthdaliadau dal carbon a chanfuwyd biliynau o bunnoedd o rywle ar gyfer codiadau cyflog sector cyhoeddus uwch na chwyddiant i blesio tâl-feistri undeb y Blaid Lafur. O gofio bod disgwyl i'r toriadau hyn gael effaith anghymesur ar Gymru, mae fy etholwyr yn ddig ynghylch pa mor ddi-rym y mae Llywodraeth Cymru wedi bod o ran sefyll dros Gymru a'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, â diffyg diddordeb llwyr mewn perswadio Llywodraeth y DU i newid trywydd.
O gofio bod taliadau tanwydd y gaeaf Llywodraeth Cymru wedi cael eu diystyru, a wnaiff y Prif Weinidog roi'r gorau i wneud esgusodion dros benderfyniad anfad Llywodraeth Lafur y DU a dechrau siarad â Gweinidogion yn Whitehall a'u hannog i wrthdroi'r toriadau hyn fel na fydd fy etholwyr yn rhewi y gaeaf hwn?
Mae'n wirioneddol syfrdanol pan fyddwch chi'n meddwl am yr etifeddiaeth a adawyd i ni gan y Llywodraeth Geidwadol. Ond dywedaf wrthych chi beth, rydych chi yn llygad eich lle; mae'n rhaid i ni flaenoriaethu, mae angen i ni ddod o hyd i arian, ac rwy'n gwybod y bydd gan y Canghellor dasg anodd iawn o'i blaen, ond yr hyn y mae hi wedi ei ddweud yw y bydd y clo triphlyg sy'n amddiffyn pensiynwyr ar waith, felly bydd y cynnydd o 9 y cant ar waith eleni, 4.5 y cant y flwyddyn nesaf, sy'n amlwg yn llawer mwy na'r hyn y byddan nhw'n ei golli o ran taliad tanwydd y gaeaf.
Mae'n anodd ac mae'n heriol, ac rydym ni'n deall pa mor heriol fydd hi i bobl. Dyna pam rydym ni'n buddsoddi £30 miliwn eleni yn ein cynllun Nyth Cartrefi Clyd, ac rydym ni'n gwneud ymdrechion enfawr i wneud yn siŵr bod pobl yn hawlio'r hyn sy'n perthyn iddyn nhw. Mae llinell gymorth ar gael ac mae 36,000 o bobl yng Nghymru wedi cael eu helpu eisoes. Maen nhw wedi cael £10 miliwn o incwm ychwanegol oherwydd yr ymdrechion yr ydym ni wedi eu gwneud fel Llywodraeth i wneud yn siŵr eu bod nhw'n ymwybodol o'r hyn sydd ar gael iddyn nhw.
Rwy'n falch iawn hefyd o weld bod yr Ysgrifennydd sy'n gyfrifol am gyfiawnder cymdeithasol wedi cyhoeddi y bydd £1.5 miliwn ar gyfer canolfannau clyd y gaeaf hwn. Mae hyn yn rhywbeth yr oeddem ni'n ei wneud o'r blaen. Roedd yn hynod lwyddiannus, yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Mae'n rhywle y gall pobl fynd nid yn unig i gael cynhesrwydd, ond hefyd i gael cwmni ac i gael cyngor, a bydd hynny yn cael ei gyflwyno y gaeaf hwn. Felly, rwy'n siŵr y bydd croeso enfawr ledled y wlad gyfan, ac os hoffech wybod ble mae eich un chi, Gareth, yn eich ardal chi, yna cysylltwch.
Os gwnewch chi allosod y 4,000 o farwolaethau ychwanegol y mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn dweud y bydd y toriad i daliad tanwydd y gaeaf yn eu hachosi ym mhoblogaeth Gogledd Cymru, y rhanbarth yr wyf i'n ei gynrychioli, yna mae'n golygu tua 40 o bobl ychwanegol yn marw o ganlyniad i Lafur yn peidio â chefnu ar eu cynigion. A allwch chi wir sefyll yma a gwneud esgusodion dros bolisi a fydd, i bobl fel fi, yn lladd 40 o'r etholwyr yr wyf i yma i'w cynrychioli?
Dydw i wir ddim yn meddwl bod angen defnyddio'r math yna o iaith a dydw i ddim yn meddwl ei bod yn briodol, ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod gennym ni gynlluniau a all gynorthwyo'r bobl hynny. Mae gennym ni daleb tanwydd ac mae gennym ni gynlluniau cymorth dewisol a all helpu pobl mewn argyfwng gyda'u costau tanwydd. Gallwn hefyd wneud yn siŵr bod mesurau ar gael iddyn nhw o ran arbedion effeithlonrwydd ynni a fydd yn eu helpu nhw i leihau biliau ynni yn yr hirdymor. A bydd y rhai sy'n gymwys i gael credyd pensiwn wrth gwrs yn parhau i dderbyn y lwfans tanwydd gaeaf hwnnw.
5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o gyhoeddi llyfrau yng Nghymru? OQ61771
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector cyhoeddi, ac fe'i darperir trwy Gyngor Llyfrau Cymru drwy grant blynyddol.
Diolch am yr ateb.
Mae fy etholwr Penny Thomas yn rhedeg y cyhoeddwr llyfrau plant Firefly Press. Mae'r grant Saesneg i gyhoeddwyr yng Nghymru trwy Gyngor Llyfrau Cymru wedi cael ei dorri 17 y cant yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Mae grantiau i gyhoeddwyr yng Nghymru yn achubiaeth lwyr; yn y byd llyfrau plant hynod gystadleuol, a gostyngiadau mawr y mae Firefly Press yn bodoli ynddo, gallan nhw'n aml wneud y gwahaniaeth rhwng cadw i fynd a mynd i'r wal. Mae mor bwysig ein bod ni'n cadw maes cyhoeddi llyfrau yng Nghymru a llenyddiaeth wedi'i lleoli yng Nghymru oherwydd mae'n bwysig i blant yn arbennig fod â straeon sydd wedi eu gosod yn lleol iddyn nhw, ac wedi'u hargraffu gan gyhoeddwyr yma yng Nghymru. Mae mor bwysig nad ydym ni'n colli'r sector hwn. Felly, hoffwn ofyn beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gadw'r sector hanfodol hwn i fynd.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi roi fy llongyfarchiadau i Firefly Press, a wnaeth, wrth gwrs, addasu Llyfr Glas Nebo i'r Saesneg, ac enillodd hwnnw wobr Carnegie, sef yr anrhydedd uchaf i gyhoeddwyr plant. Os nad ydych chi wedi darllen y llyfr, dylech wneud hynny—mae'n llyfr rhyfeddol. Mae cyhoeddi yn parhau i fod yn flaenoriaeth, ond rwy'n cydnabod bod hwn yn gyfnod anodd iawn, a bu'n rhaid i ni wneud rhai penderfyniadau anodd iawn. Rwy'n derbyn y bu toriad i'r cyngor llyfrau, ond mae'n cyd-fynd â'r toriadau sy'n wynebu cyrff eraill a noddir ar draws y sector diwylliant yng Nghymru. Ond yr hyn yr ydym ni wedi bod yn ceisio ei wneud yw gwneud yn siŵr bod cyfleoedd i bobl gydweithio. Er enghraifft, cynhaliodd Cymru Greadigol ddigwyddiad rhwydweithio yn yr Egin fel y gallai gwahanol gyhoeddwyr weithio gyda'i gilydd ar brosiectau creadigol a manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd masnachol hynny. Wrth gwrs, rydym ni wedi rhoi cyllid ychwanegol i ganiatáu i gyhoeddwyr fynd i ffeiriau llyfrau Llundain a Frankfurt. Felly, ydw, rwy'n derbyn ei fod yn gyfnod anodd, ond mae'n bwysig cydnabod ein bod ni wedi bod yn ceisio rhoi'r cymorth ychwanegol hwnnw pan allwn ni.
Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf clywsom brif weithredwr y cyngor llyfrau yn disgrifio'r argyfwng dirfodol sy'n wynebu cyhoeddwyr ledled Cymru. Rydym ni hefyd yn gwybod nad yw'r cyngor llyfrau wedi derbyn unrhyw arian ychwanegol yn ystod y flwyddyn ariannol hon gan Lywodraeth Cymru. Ac rydym ni wedi clywed am yr effeithiau y mae'r toriadau ehangach i'r cyngor llyfrau wedi eu cael ar gyhoeddwyr ledled Cymru. Un o'r cyhoeddwyr hynny yw Seren Books, sydd wedi'i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a ysgrifennodd lythyr eithaf manwl am yr effaith yr oedd y penderfyniadau hynny yn ei chael. Gadewch i mi ddyfynnu o hwnnw. Fe wnaethon nhw ddweud: 'Allwn ni ddim parhau i gynnig cyfleoedd sy'n debygol o wneud colled i awduron a darllenwyr, ni waeth beth fo'u gwerth a'u heffaith ddiwylliannol'. Maen nhw'n mynd ymlaen i ddweud: 'Fel y mae hi, rydym ni'n symud yn gyflym tuag at benderfyniad anodd—naill ai rydym ni'n torri costau ac felly'n cael gwared ar bopeth sy'n gwneud Llyfrau Seren yr hyn ydyw, neu'n wynebu'r posibilrwydd o gau am byth'. Beth yw hyfywedd hirdymor cyhoeddwr fel Seren Books ym marn Llywodraeth Cymru?
Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Chyngor Llyfrau Cymru i ymateb i'r heriau, ac, wrth gwrs, bydd yn rhaid i ni a bydd yn rhaid iddyn nhw fod yn greadigol a dod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol i wneud yn siŵr y gallwn ni gefnogi cynaliadwyedd y sector cyhoeddi yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, cefnogaeth i'r gronfa cynulleidfaoedd newydd i gefnogi amrywiaeth yn y sector cyhoeddi. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod, er efallai fod y grant mawr wedi cael ei dorri rhyw fymryn, mae pocedi eraill lle'r ydym ni'n ceisio eu gyrru nhw i feysydd eraill lle gallen nhw wneud gwahaniaeth mewn gwirionedd. Felly, rwy'n cydnabod ei fod yn gyfnod anodd. Rwy'n gwybod pa mor wych yw Seren Books hefyd, ac yn amlwg byddwn ni'n rhoi'r holl gefnogaeth y gallwn iddyn nhw er gwaethaf yr amgylchiadau anodd iawn hyn yr ydym ni'n byw drwyddyn nhw.
Mae cwestiwn 6 [OQ61733] wedi ei dynnu nôl.
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar ba gamau sy'n cael eu cymryd i rymuso menywod yn well fel rhan o'r gwaith o gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella'r gefnogaeth i iechyd menywod? OQ61754
Gwella gwasanaethau iechyd menywod yw un o fy mlaenoriaethau i. Yn allweddol i hynny y mae gwrando ar fenywod a gweithredu ar yr hyn y maen nhw'n ei ddweud y maen nhw ei eisiau gan wasanaethau iechyd. Mae barn bron i 4,000 o fenywod wedi bod yn sail i'r cynllun iechyd menywod, a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr.
Diolch am eich ymateb, Brif Weinidog.
Mae'n Fis Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron y mis hwn ac roedd hi'n Fis Ymwybyddiaeth o Ganser Gynaecolegol fis diwethaf, y mae'r ddau ohonyn nhw'n bwysig i mi yn bersonol. Pedair blynedd ar bymtheg yn ôl, cafodd fy mam ddiagnosis a thriniaeth ar gyfer canser y fron diolch i raglen Bron Brawf Cymru yn Wrecsam a ddaeth o hyd iddo ar gam dwythellol cynnar. Ni fyddai wedi gwybod fel arall. Fodd bynnag, dim ond pedair blynedd yn ddiweddarach, cafodd ddiagnosis yn y pen draw o ganser yr ofarïau. Yn ddiweddarach, ar ôl myfyrio ar hanes teuluol, gofynnodd fy mam am brawf genetig a chanfod bod ganddi'r genyn BRCA2 etifeddol. Fe es i i weld cwnselydd geneteg y GIG i ddechrau pan oeddwn i yn fy nhridegau cynnar, ac er nad oeddwn i'n teimlo'n bersonol mewn sefyllfa i fwrw ymlaen â phethau bryd hynny, oherwydd fy hanes teuluol, roeddwn i'n gymwys ar gyfer sgrinio cynnar, a phan wnes i gael braw, cefais fy rhoi drwy'r system ar frys.
Yn 2019, roedd fy amgylchiadau personol wedi newid, a gyda chefnogaeth fy mam a'm gwraig, penderfynais mai dyma'r amser iawn i mi gymryd y cam i gael prawf. Cefais fy atgyfeirio gan fy meddyg teulu i glinig geneteg Ysbyty Maelor Wrecsam, ac roedd y gwasanaeth a gefais yn anhygoel. A dweud y gwir, daeth fy nhaith fy hun i ben yn y fan honno, gan fod y canlyniadau wedi dod yn ôl yn dweud nad oedd gen i'r genyn BRCA2. Roeddwn i wedi paratoi fy hun yn feddyliol ar gyfer yr hyn y gallai'r camau nesaf ei olygu i mi a bod i mi, ond ni wnaf i fyth anghofio'r olwg o ryddhad ar wyneb fy ngwraig pan roddwyd y newyddion i ni. Fodd bynnag, rwy'n eithriadol o ymwybodol nad yw'r canlyniad yr un fath i bawb. Felly, Prif Weinidog, gwn y byddwch chi'n deall bod hyn yn parhau i fod yn bwysig i mi, felly a gaf i ofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y gall y rhai yr effeithir arnynt o bosib yn y ffordd yr wyf i wedi ei hamlinellu wneud dewis wedi'i rymuso i gymryd rheolaeth dros eu bywydau eu hunain ar adeg sy'n iawn iddyn nhw? A wnewch chi weithio gyda mi i godi ymwybyddiaeth ac argaeledd pwysigrwydd hyn? Diolch.
Diolch, Hannah, a diolch yn fawr iawn am rannu hanes eich mam a'ch hanes chi, sydd ddim yn hawdd mewn amgylchedd fel hwn. Anfonwch fy nymuniadau gorau i'ch mam. Mae hi, fel llawer o bobl eraill, wedi gwella. Ceir llawer iawn o bobl ac rwy'n credu y dylem ni ddathlu pob llwyddiant. Ond rydych chi'n gwbl gywir, ac rwy'n meddwl am y pwysau y mae'n rhaid eich bod chi wedi eu teimlo wrth fynd drwy'r sgrinio hwnnw. Yr hyn y gwnaf i ei ddweud yw y gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol atgyfeirio menywod sy'n poeni am eu risg deuluol o ganser y fron i'r gwasanaeth genomeg. Mae hwnnw'n darparu cwnsela genetig i helpu pobl i ddeall eu risg, ac, os oes angen, maen nhw'n darparu'r profion hynny a gawsoch chi. Mae'n bwysig, rwy'n credu, bod pobl yn deall bod hynny ar gael i bobl. Os oes risg o fewn eich teulu, gallwch ofyn i hynny gael ei wneud. Felly, anfonwch fy nymuniadau da ymlaen, ac rwy'n gobeithio y bydd menywod ledled Cymru yn clywed y bydd y gefnogaeth a'r cwnsela ynghylch y sgrinio anodd iawn hwnnw ar gael iddyn nhw.
Hoffwn ddiolch i Hannah Blythyn am ofyn y cwestiwn a rhannu ei phrofiadau gyda phob un ohonom ni yma yn y Siambr heddiw. Roedd yn wirioneddol anhygoel i chi rannu hynna gyda ni.
Prif Weinidog, mae cyhoeddi'r cynllun iechyd menywod yn hir-ddisgwyliedig ac o fewn cyrraedd o'r diwedd i ni gyd. Mae'n hanfodol ein bod ni'n gweld cynllun sy'n amlinellu golwg strategol a chyfannol ar sut i wella iechyd a thriniaeth menywod yma yng Nghymru. Fel y byddwch yn ymwybodol, bydd y rhaglen adferiad canser genedlaethol yn ystyried camau gweithredu ar ganser y fron yn benodol yn rhan ohoni, ond gellid adeiladu ar y maes hwn hefyd o fewn y cynllun iechyd menywod ehangach, fel bod y cynlluniau yn cynorthwyo ei gilydd i ddatblygu cymorth a thriniaeth menywod, ac nad ydyn nhw mewn perygl o greu dau ddull ar wahân. Ceir llawer o agweddau ehangach ar ganser y fron hefyd na ellir eu cynnwys yn y rhaglen adferiad, gan gynnwys iechyd ac ymwybyddiaeth y fron, gwella'r nifer sy'n cael eu sgrinio, a mynediad at ailadeiladu'r fron, sy'n agwedd ganolog ar hunaniaeth menywod yn dilyn triniaeth canser.
Prif Weinidog, mae bron i 3,000 o fenywod yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser y fron bob blwyddyn, felly gyda disgwyl i'r cynllun hir-ddisgwyliedig gael ei gyhoeddi ddiwedd mis Rhagfyr eleni, a wnewch chi amlinellu sut y bydd yn gwella diagnosis, triniaeth a chymorth mewn gwirionedd i'r menywod hynny sy'n byw gyda chanser y fron ledled Cymru gyfan? Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld y cynllun hir-ddisgwyliedig hwn, gallaf ddweud wrthych chi. Mae wedi bod yn hwy nag yr oeddwn i wedi ei obeithio yn ein cyrraedd, ac rwyf i wedi gwneud cytundeb i gael diod ar risiau'r Senedd gyda'r bobl sydd wedi bod yn ymgyrchu ac yn hyrwyddo hwn pan gaiff ei gyhoeddi. Rwyf i wedi dweud wrthyn nhw bod yn rhaid i hynny ddigwydd ym mis Rhagfyr, ni waeth pa mor oer yw hi.
Mae'n bwysig, rwy'n credu, ein bod ni'n caniatáu i'r GIG gymryd cyfrifoldeb am y cynllun hwn, oherwydd mae'n fwy tebygol o gael ei gyflawni os oes ganddyn nhw ymdeimlad gwirioneddol o berchnogaeth. Rwy'n credu mai dyna pam ei fod wedi cymryd cyhyd, oherwydd mae angen i ni gael pob un o'r byrddau iechyd ledled Cymru i ymrwymo iddo. Ond rwy'n siŵr y bydd cyfeiriadau yn hwnnw o ran y nifer sy'n manteisio ar sgrinio a'i bwysigrwydd. A cheir pocedi lle nad ydym ni'n gweld pobl yn manteisio ar y sgrinio yn y ffordd y dylen nhw, felly mae ymyriadau wedi'u targedu gyda chymunedau penodol hefyd yn bwysig. Ond rwy'n siŵr y byddwch chi'n falch o glywed yr ymgynghorwyd â 3,800 o fenywod yn ystod yr adroddiad darganfod hwnnw.
Y peth arall yr wyf i'n arbennig o falch ohono—. O ran ymchwil ym maes iechyd, mae menywod wedi'u tangynrychioli yn fawr hefyd. Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi ymrwymo £750,000 i waith ymchwil ar brosiectau iechyd menywod, a dyna'r tro cyntaf i hynny ddigwydd.
8. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae darparwyr y GIG yng Nghymru a Lloegr yn cydweithio'n agosach? OQ61736
Mae byrddau iechyd Cymru yn parhau i adeiladu ar y trefniadau cydfuddiannol sefydledig sydd eisoes ar waith lle mae darparwyr y GIG yng Nghymru a Lloegr yn comisiynu gwasanaethau ar gyfer cleifion sy'n byw mewn cymunedau ffiniol. Mae gan GIG Lloegr a GIG Cymru y capasiti i ddiwallu anghenion cleifion, a byddant yn parhau i ddefnyddio'r capasiti sydd ar gael.
Prif Weinidog, mae rhywfaint o ansicrwydd o hyd ynghylch yr hyn y mae eich cynlluniau ar gyfer cydweithredu trawsffiniol yn ei olygu mewn gwirionedd. Fe'i cyhoeddwyd gyntaf yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a chithau. Gwnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn glir ei bod am weld mwy o gleifion yn dod dros y ffin ar gyfer llawdriniaeth, ac fe ailadroddodd hynny sawl gwaith, ac, wrth gwrs, mae'n ymddangos bod Gweinidogion Cymru fel petaen nhw wedi cymryd cam yn ôl o'r datganiad hwnnw ac wedi rhoi mwy o bwyslais ar gydweithredu trawsffiniol. Felly, beth yw'r cynllun, a pha wybodaeth rydych chi wedi'i rhoi i fyrddau iechyd ledled Cymru yn dilyn eich cyhoeddiad? Ac, wrth gwrs, fe fyddwch chi'n gwybod bod llawer o fy etholwyr eisoes yn defnyddio cyfleusterau dros y ffin yn Lloegr, ac maen nhw wedi bod yn gwneud hynny ers degawdau. Ond sut ydych chi'n mynd i fynd i'r afael â materion fel meddygon ymgynghorol sy'n gweithio yn ysbytai GIG Lloegr yn dweud wrth gleifion o Gymru bod yn rhaid iddyn nhw aros yn hirach oherwydd eu bod nhw'n gleifion o Gymru? A sut ydych chi'n mynd i fynd i'r afael â'r materion technolegol sy'n bodoli pan na all ymddiriedolaethau'r GIG gael mynediad at gofnodion cleifion o Gymru, ac felly, mae fy etholwyr yn cael profiad tlotach o ganlyniad? Sut fyddwch chi'n mynd i'r afael â'r materion penodol hynny?
Diolch yn fawr iawn, a, Russell, fel Aelod o'r Senedd sy'n cynrychioli etholaeth ffiniol, fe fyddwch chi'n ymwybodol iawn faint o weithgarwch trawsffiniol sydd eisoes yn digwydd. Yn wir, yn dilyn y ddamwain rheilffordd neithiwr, aethpwyd â phobl i ysbytai yn Lloegr yn ogystal ag i ysbytai yng Nghymru. Felly, dydw i ddim yn credu y dylem orbwysleisio hyn gormod. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod bod llawer iawn o waith trawsffiniol yn cael ei wneud eisoes. Yn wir, rydych chi'n hollol iawn, mae yna gyfleoedd i bobl yng Nghymru. Maen nhw'n cael eu hatgyfeirio i ysbytai yn Lloegr. Yn wir, mae 27,000 o gleifion o Gymru yn aros i gael eu derbyn i ysbytai yn Lloegr. Felly, maen nhw'n ei chael hi'n anodd ar ochr arall y ffin, yn ogystal â'r heriau sydd gennym yma.
Yr hyn sydd gennym yw'r grŵp cynghori gweinidogol a fydd yn ein hysbysu ac yn rhoi gwybod i ni lle mae arfer gorau yn digwydd. Efallai ei fod ychydig dros y ffin. Efallai ei fod mewn rhannau eraill o Loegr. Mae'n rhaid i ni ddysgu o arfer gorau, mae'n rhaid i ni gopïo'r arfer gorau. Mae arfer gorau yn digwydd yng Nghymru. Yn gyntaf oll, mae'n rhaid i ni gyflwyno hynny a sicrhau, os oes cyfleoedd i fynd ymhellach o ran yr hyn rydym yn ei ddysgu oddi wrth ein gilydd ar draws ffiniau, yna pam na fyddem yn gwneud hynny? Ond, wrth gwrs, mae yna ddatganiad trawsffiniol eisoes o werthoedd ac egwyddorion y cytunwyd arno rhwng y GIG yng Nghymru a'r GIG yn Lloegr. Mae hynny i gyd yn bodoli eisoes.
9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau ei defnydd o chwynladdwyr glyffosad ar dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru neu a reolir ganddi? OQ61745
Ein nod ar ein tir ac mewn mannau eraill yw lleihau effeithiau defnyddio plaladdwyr ar bobl a'r amgylchedd i'r lefel isaf bosibl. Rhaid ystyried dulliau rheoli nad ydynt yn defnyddio cemegau yn gyntaf. Dim ond pan fydd dewisiadau eraill yn anymarferol neu pan na fyddant yn gweithio y dylid defnyddio plaladdwyr cemegol, gan gynnwys cynhyrchion glyffosad.
Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Mae digon o ymchwil sy'n dangos bod glyffosad yn niweidiol i iechyd pobl ac iechyd yr amgylchedd hefyd, ond mae'n dal i fod ar gael yn eang i'r cyhoedd ei ddefnyddio yn eu gerddi. Mae llawer o awdurdodau lleol yn parhau i'w ddefnyddio mewn parciau ac ardaloedd hamdden. Mae Ffrainc, yr Iseldiroedd a Gwlad Belg wedi gwahardd defnyddio'r chwynladdwr hwn yn y cartref, ond mae'r Almaen hefyd wedi mynd gam ymhellach ac wedi'i wahardd rhag cael ei ddefnyddio mewn mannau cyhoeddus, ac rwy'n credu bod cynnig meinciau cefn yn y Senedd heddiw i atal ei ddefnyddio mewn ardaloedd lle mae pobl yn byw. Ond yr hyn y mae gennyf ddiddordeb arbennig ynddo, Prif Weinidog, yw'r camau rydych chi'n eu cymryd, gyda'r pwerau sydd gennych chi, a'r sgyrsiau rydych chi'n eu cael gyda llywodraeth leol a Llywodraeth y DU hefyd, fel y gallwn ni gael defnyddiau eraill a rhoi'r gorau i wenwyno ein tir ac, o bosibl, y bobl o'i gwmpas.
Wel, diolch yn fawr iawn am eich ymrwymiad a'ch diddordeb yn y mater hwn. Rwy'n siŵr y bydd gennych chi ddiddordeb mawr mewn gwybod, heddiw, ar faes y Sioe Frenhinol, fod Llywodraeth Cymru yn cynnal digwyddiad ar gyfer awdurdodau lleol i ddangos dulliau eraill o reoli chwyn. Felly, rydym yn ymwybodol iawn o'r angen i symud i ffwrdd oddi wrth y defnydd o glyffosad, ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod dewisiadau amgen effeithiol ar gael. Felly, mae'n cael ei ddefnyddio i raddau ar draws tir ac ystad Llywodraeth Cymru, ond rydym yn gwneud ymdrechion ar hyn o bryd i sicrhau bod dewisiadau amgen effeithiol ar gael.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Y Trefnydd sy'n gwneud y datganiad yma. Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Nes ymlaen y prynhawn yma, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn gwneud datganiad llafar ar y gwrthdrawiad trenau ar linell y Cambrian.
Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am les anifeiliaid heddiw, yn benodol mewn perthynas â lles cŵn a chanolfannau achub cŵn? Fel y bydd llawer o Aelodau yn gwybod, rwy'n berchennog balch milgi bach o'r enw Blue, sydd wedi'i achub. Bydd yn 15 oed y Nadolig hwn, ac mae'n agos iawn, iawn at fy nghalon. Ond rwy'n gwybod, o ymweliadau â chanolfannau achub yn y gogledd, eu bod nhw'n cael eu llethu'n llwyr ar hyn o bryd. Fe ges i e-bost wrth Almost Home, canolfan achub milgwn—sydd hefyd yn cymryd bridiau eraill hefyd, ond milgwn yn bennaf—ac maen nhw'n dweud eu bod nhw mewn sefyllfa bryderus iawn, iawn. Mae'r ganolfan achub yn llawn—maen nhw'n gorfod troi anifeiliaid i ffwrdd, ac, yn anffodus, maen nhw mewn sefyllfa lle maen nhw'n gorfod rhoi anifeiliaid hollol iach i gysgu oherwydd y niferoedd enfawr sy'n dod i'w drysau, gan gynnwys tor gyfan o gŵn bach. Mae hyn yn drasiedi. Mae angen i ni wneud rhywbeth i helpu i ddatrys y materion hyn, a byddwn i'n ddiolchgar i wybod pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn a bridio cŵn yn gyfrifol er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r heriau hyn.
Diolch yn fawr, Darren Millar. Rydych chi'n codi cwestiwn pwysig iawn, ac rwy'n gwybod y bydd pwysigrwydd y canolfannau achub hynny yn cael ei rannu o amgylch y Siambr, o ran y nod o wella lles anifeiliaid ac achub yr anifeiliaid hynny sydd mewn perygl. A allwn ni eich llongyfarch ar sut rydych chi wedi gofalu am eich milgi bach o ganolfan achub dros yr holl flynyddoedd hyn? Ond rwy'n gwybod bod eraill yn y Siambr hon sydd hefyd wedi gwneud yr un peth i raddau helaeth, ar lefel bersonol, ond sydd hefyd yn cefnogi eu canolfannau achub lleol eu hunain. Byddaf yn gofyn i'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet edrych ar hyn o ran canolfannau achub cŵn. A gadewch i ni hefyd ganmol gwaith sefydliadau fel yr Ymddiriedolaeth Cŵn, sy'n gwneud cymaint o waith da nid yn unig o ran achub cŵn, ond hefyd yn cydnabod lle gallai cŵn fod mewn perygl mewn rhai amgylchiadau, ac rydym yn gwybod eu bod nhw'n edrych ar bob ffordd y gallan nhw wella lles anifeiliaid.
A allaf ofyn am ddau ddatganiad? Fe ymunais i â phrotest yn Wrecsam ddydd Gwener, yn cefnogi tua 700 o weithwyr yn Oscar Mayer, sy'n cynhyrchu prydau parod ar gyfer rhai o'r prif archfarchnadoedd. Nawr, maen nhw ar streic oherwydd bod y cwmni eisiau cwtogi eu cyflogau o £3,000 y flwyddyn, ac maen nhw eisoes, wrth gwrs, ar gyflog isel. Maen nhw hyd yn oed eisiau eu diswyddo a'u hailgyflogi ar delerau newydd, os bydd angen. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru nid yn unig yn cefnogi galwadau gan yr undebau ac eraill i feirniadu'r cwmni, ond yn cefnogi boicot o gynnyrch y cwmni a'r cwmni ei hun, nes ei fod yn dechrau trin ei weithwyr gyda'r urddas a'r parch maen nhw'n eu haeddu?
A allaf gael ail ddatganiad hefyd? Mae pryderon yn sir y Fflint ynghylch trosglwyddo gwasanaethau hamdden a llyfrgell o Aura, sy'n gymdeithas budd cymunedol sy'n eiddo i weithwyr, i Gyngor Sir y Fflint. Nawr, nid yn unig y mae hyn yn symudiad i ffwrdd oddi wrth ffocws Llywodraeth Cymru ar ddatblygu'r economi sylfaenol a'r pwyslais ar fusnesau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol sy'n eiddo i weithwyr ac ati, ond mae hefyd yn codi cwestiynau difrifol ynghylch a fydd y trosglwyddo yn dod i ben erbyn diwedd y mis hwn. Felly, mae angen sicrwydd arnom ynghylch parhad cyflogaeth, wrth gwrs, ar gyfer y gweithlu a pharhad gwasanaethau i'r cyhoedd, ond hefyd rwy'n siŵr y byddai'r Llywodraeth yn awyddus i weld parhad wrth gyflawni rhai o'ch polisïau eich hun yn hynny o beth.
Diolch yn fawr, Llyr Gruffydd. Felly, roedd eich pwynt cyntaf ar Oscar Mayer, ac, yn wir, fe godwyd hyn yr wythnos diwethaf gan Carolyn Thomas hefyd, a rhoddais sicrwydd bryd hynny ein bod ni'n edrych ar ffyrdd y gallem gefnogi'r—. Y gwir yw bod y sefyllfa honno wedi bygwth y gweithwyr hynny. Mae angen i ni edrych ar ba ffyrdd y gallwn ni roi pwysau o ran yr hyn sydd gennym i'w ddefnyddio, ond gan gydnabod hefyd fod hyn yn mynd yn hollol groes i'n deddfwriaeth partneriaeth gymdeithasol, ac, wrth gwrs, dyna lle rydym yn arwain y ffordd, o ran partneriaeth gymdeithasol, ac rwy'n ymwybodol bod y Gweinidog partneriaeth gymdeithasol hefyd yn ymwneud â'r mater hwn.
Mae eich ail bwynt yn bwysig iawn o ran cytundeb Aura Cymru. Mae'n negodiad, fel y dywedwch chi, gyda Chyngor Sir y Fflint a gwasanaethau llyfrgell, gyda dealltwriaeth bod gwasanaethau llyfrgell sir y Fflint o dan reolaeth Aura Cymru wedi perfformio'n dda yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf, gyda phresenoldeb arbennig o dda, darpariaeth Gymraeg, ac, yn wir, mae sir y Fflint wedi perfformio'n dda yn ei adroddiad blynyddol ar safonau llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru. Felly, yr hyn sy'n bwysig o ran trosglwyddo asedau cymunedol—ac, fel y dywedwch chi, mae hyn yn ymwneud yn rhannol â sut rydym yn adeiladu'r economi sylfaenol gymunedol honno—yw ei bod yn cael ei ystyried yn ofalus o ran y ffordd ymlaen, yr opsiynau anodd i'w harchwilio, ond gan gydnabod hefyd fod darpariaeth dda wedi bod a bod angen i'r trosglwyddiad ddigwydd nawr mewn ffordd reoledig a chyfrifol.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, arweinydd y tŷ? Yn gyntaf oll, o ran hybiau bancio, cafodd y Llywodraeth ei hethol gydag ymrwymiad i greu banc cymunedol. Nawr, rydym yn deall na ellir bwrw ymlaen â hynny am lawer o wahanol resymau, ond mae'r rhesymau dros yr ymrwymiad yn dal i fod yn real i bobl ledled y wlad. Mae cymunedau a threfi yn fy etholaeth i nad oes ganddyn nhw fynediad at wasanaethau bancio mwyach, ac mae'n ymddangos i mi fod hybiau bancio yn cymryd lle'r banc traddodiadol ar y stryd fawr. Mae'n bwysig, felly, bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi ac yn cynnal cymunedau sy'n ceisio cadw gwasanaethau ariannol yn y gymuned honno.
A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad ar ddyfodol y gronfa ffyniant gyffredin? Mae yna lawer o sefydliadau ac unigolion ym Mlaenau Gwent sydd wedi bod yn dibynnu ar gyllid o'r gronfa ffyniant gyffredin i ddarparu rhaglenni a phrosiectau. Nawr, nid yw'n ymddangos ar hyn o bryd bod ymrwymiad o ran dyfodol y gronfa honno y tu hwnt i ddiwedd y flwyddyn ariannol bresennol. Mae hynny'n golygu bod sefydliadau'n edrych ar ddiswyddiadau posib a dod â phrosiectau a rhaglenni i ben yn gynnar. Byddai'n ddefnyddiol, felly, pe gallai Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr hon am yr hyn sy'n digwydd gyda'r gronfa ffyniant gyffredin a sut mae'n bwriadu gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod cymunedau fel Blaenau Gwent yn cael yr arian y mae pobl yn y cymunedau yr wyf yn eu cynrychioli ei angen.
Diolch yn fawr iawn, Alun Davies, am y ddau gwestiwn pwysig iawn hynny, oherwydd rydym yn gwybod bod hyn yn ymwneud â chynhwysiant ariannol yn ein cymunedau a'r graddau y mae banciau masnachol yn cau ledled Cymru, yr ydym wedi'i nodi yn y Siambr hon dros y blynyddoedd. Wrth gwrs, dyma lle mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein banciau masnachol yn cymryd cyfrifoldeb ac, mewn gwirionedd, eu bod nhw'n gwrando arnom o ran ymgysylltu â ni ynghylch sut a ble y gallan nhw ddatblygu, yn enwedig yr hybiau bancio hynny, mynediad at gyllid, a chan gofio bod cynifer o'r bobl y mae hyn yn effeithio arnynt fwyaf yn bobl hŷn nad ydynt wedi'u cynnwys yn ddigidol.
Rwy'n falch iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ac, yn wir, rwyf i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid wedi trafod hyn yn ddiweddar o ran y ffordd ymlaen. Rwyf hefyd yn edrych ar gyfarfod â'r holl fenthycwyr cyfrifol hynny yng Nghymru, gan gynnwys undebau credyd, i drafod sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd. Rwy'n edrych ar gynlluniau peilot fel cynllun peilot OneBanx Principality o ran mynediad at arian parod, sydd hefyd yn fater pwysig, a byddwn yn trafod hynny yfory. Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig ein bod ni'n edrych ar y materion sy'n ymwneud â buddsoddi rhanbarthol a chronfeydd ôl-UE o ran agenda ffyniant bro—yr agenda ffyniant bro fel y'i gelwir—Llywodraeth flaenorol y DU. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud nawr yw sicrhau y bydd y fforwm strategol ar gyfer buddsoddi rhanbarthol a'n hymagwedd at y rhaglen hirdymor yn cael eu llywio gan farn ein holl bartneriaid yng Nghymru, gan adeiladu ar ein fframwaith ar gyfer buddsoddi rhanbarthol a'r gwersi a ddysgwyd o gronfeydd yr UE ac, yn wir, y gronfa ffyniant gyffredin.
Trefnydd, mae'r tymor tân gwyllt yn agosáu'n gyflym, a hoffwn gael datganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda, yn nodi pa ganllawiau y gellid eu rhoi i awdurdodau lleol er mwyn helpu i leihau'r straen y gall tân gwyllt ei roi ar bobl sydd ag anhwylder straen wedi trawma, ar bobl hŷn ac ar anifeiliaid. Yn ôl ymchwil gan RSPCA Cymru, mae o leiaf hanner perchnogion anifeiliaid anwes yng Nghymru yn profi trallod yn ystod y tymor tân gwyllt.
Nawr, rwy'n sylweddoli bod deddfwriaeth sy'n berthnasol i dân gwyllt wedi'i chadw i San Steffan, ond byddwn i'n cefnogi galwad yr RSPCA i awdurdodau lleol gael eu hannog i wneud mwy, fel sefydlu parthau dynodedig lle na chaniateir tân gwyllt, archwilio dewisiadau amgen fel arddangosfeydd dronau a thân gwyllt tawelach, cyflwyno cyfyngiadau ar dân gwyllt uchel mewn mannau cyhoeddus, a darparu hysbysiadau cyhoeddus ynghylch pryd y disgwylir i ddathliadau a drefnir gan gynghorau ddigwydd, fel bod pobl yn gallu cynllunio a gwybod beth i'w ddisgwyl. A allai'r canllawiau hynny gael eu cyhoeddi cyn mis Tachwedd, os gwelwch yn dda, ac a ellir nodi hynny mewn datganiad?
Diolch yn fawr iawn, Delyth Jewell, ac mae hyn yn amserol iawn. A byddaf yn gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar y sefyllfa bresennol, nid yn unig o ran y ddeddfwriaeth, nad yw'r cyfan, wrth gwrs, o dan ein cylch gorchwyl ni o ran rolau a chyfrifoldebau, ond hefyd o ran y canllawiau ar yr arfer gorau ar lefel awdurdod lleol.
Yn ystod gaeaf 2022-23, darparodd Llywodraeth Cymru £1 filiwn i gefnogi ac ehangu'r ddarpariaeth o leoedd diogel a chynnes yn y gymuned leol, a oedd yn boblogaidd iawn. Rwy'n croesawu cyhoeddiad y Llywodraeth y bydd £1.5 miliwn arall ar gael eleni i barhau i gefnogi'r ddarpariaeth o leoedd yn y gymuned leol lle gall pobl o bob oed fynd i gael mynediad at wasanaethau a chyngor, cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, neu gael diod gynnes a chwmni. Yr hyn rwy'n gofyn amdano yw datganiad ar sut y bydd yr arian yn cael ei ddosbarthu: a fydd yn defnyddio'r fformiwla llywodraeth leol, yn ôl poblogaeth, neu drwy system ymgeisio ac asesu?
Diolch yn fawr iawn, Mike Hedges. Wel, rwy'n obeithiol bod cydweithwyr o amgylch y Siambr wedi gweld y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais yn gynharach heddiw, i gyhoeddi'r £1.5 miliwn hwnnw ar gyfer hybiau cynnes. Mae'n ymwneud ag ariannu lleoedd cynnes a diogel yn y gymuned. Mae'n adeiladu i raddau helaeth ar fuddsoddiad blaenorol. Os cofiwch chi, fe wnaethon ni gyhoeddi'r fenter hybiau cynnes hon fel rhan o'n hymateb i'r argyfwng costau byw. Ac rwy'n credu hefyd ei bod yn ddiddorol iawn bod Gordon Brown, dim ond ychydig wythnosau yn ôl, sy'n arwain y fenter canolfannau croeso cynnes ledled y DU, wedi annog pobl i gefnogi lleoedd cynnes, canolfannau croeso cynnes—maen nhw'n cael eu galw'n llawer o bethau. Y peth da amdano yw bod y cyllid yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol yn yr un ffordd, o ran rhannu'r cyllid, ag yr oedd, oherwydd roedd yn llwyddiannus iawn pan gafodd ei gyflwyno.
Yn 2022-23, fe welson ni dros 800 o leoedd yn cael eu datblygu. Ac rydym yn gwybod, ym mhob un o'n cymunedau, bod rhai o'r rheini wedi parhau i fynd. Gallwch chi weld hynny'n barod, ond nawr mae hyn yn golygu y bydd awdurdodau lleol yn ariannu'r trydydd sector, cymunedau, llyfrgelloedd, eu darpariaeth eu hunain, grwpiau ffydd a lleoliadau. Ac, wrth gwrs, yr hyn sy'n mynd i fod yn bwysig iawn am y lleoedd cynnes a diogel hynny yw eu bod yn pontio'r cenedlaethau, maen nhw ar gyfer pob grŵp oedran o'r teulu, a hefyd gall teuluoedd a phobl hŷn hefyd gael mynediad at wasanaethau, cyngor a chael paned cynnes o de, coffi a lluniaeth, ond mae hefyd yn ymwneud â chwmni a chwalu ynysigrwydd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd cydweithwyr ar draws y Siambr yn croesawu'r hybiau cynnes, fel rwyf wedi eu henwi, sydd ar agor i bawb.
Diolch, Llywydd. Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, Trefnydd, un gan y Gweinidog diwylliant ynghylch cyllid ar gyfer y celfyddydau. Yn ddiweddar, fe ymwelais i â Wyeside yn Llanfair-ym-Muallt, ac fe fyddan nhw'n dathlu 150 mlynedd ers i'r theatr honno a'r sinema honno agor yn Llanfair-ym-Muallt y flwyddyn nesaf. Mae ganddyn nhw brosiect uchelgeisiol i ddod â'r adeilad yn ôl yn fyw a gwario llawer iawn o arian yno. Felly, hoffwn gael datganiad gan y Gweinidog diwylliant ynghylch tegwch y cyllid sy'n cael ei roi i'r celfyddydau ledled Cymru i sicrhau bod pob lleoliad yn cael cyllid ac nid dim ond rhai penodol mewn rhai rhannau o'r wlad.
Hoffwn hefyd ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog trafnidiaeth ynghylch yr adolygiad ffyrdd. Mae gen i gynllun yn fy etholaeth i oedd ar groesffordd Pont-y-bat; mae llawer iawn o ddamweiniau wedi bod dros y blynyddoedd. Fe gymerodd y panel adolygu ffyrdd hynny allan ac fe ddywedodd nad oedd yn addas bwrw ymlaen ag ef. Mae hynny'n rhywbeth a wnaeth beri pryder mawr i'm cymuned leol. Felly, byddai'n ddefnyddiol iawn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y panel adolygu ffyrdd a'i waith i sicrhau bod cynlluniau fel yr un ym Mhont-y-bat yn mynd rhagddynt, oherwydd rydym wedi colli gormod o fywydau'n ddiangen yno a gallai unrhyw oedi gostio mwy. Diolch, Llywydd.
Diolch yn fawr iawn, James Evans. Wrth gwrs, mae gwerth cymdeithasol, diwylliannol, economaidd a lleol canolfan y celfyddydau ar lefel leol yng Nghymru yn hynod o bwysig. Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yn falch o glywed y cwestiwn hwn y prynhawn yma. Yn wir, rydym wedi dyrannu swm anrheolaidd ychwanegol o £1.5 miliwn o gyllid refeniw ar gyfer y flwyddyn ariannol hon i helpu cyngor y celfyddydau—oherwydd, wrth gwrs, mae hon yn egwyddor ariannu hyd braich gyda Chyngor Celfyddydau Cymru—yn arbennig i ddiogelu swyddi a chryfhau gwytnwch yn sector y celfyddydau, a byddai hynny wrth gwrs yn cynnwys cefnogaeth ar draws eich etholaeth chi, ar draws Powys.
Rwy'n credu bod eich ail bwynt yn fater i—. Os oes problem benodol am ddiogelwch ar y ffyrdd yn arbennig—yn amlwg, rydym yn dal i gefnogi awdurdodau lleol gyda grantiau diogelwch ar y ffyrdd—rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y mae angen i chi ei godi nid yn unig gyda'r awdurdod lleol, fel derbynnydd allweddol y diogelwch ar y ffyrdd hwnnw, ond hefyd rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn hapus i dderbyn gohebiaeth gennych chi ar y mater hwnnw.
Mae nifer fawr o etholwyr wedi cysylltu efo fi sydd ar lyfrau deintyddfa Penrhyndeudraeth. Mae'r llyfrau yna wedi cau eu drysau ar gyfer cleifion yr NHS ers peth amser. Rŵan, mae Denplan wedi ei werthu i gwmni arall, ac mae'r cleifion yna sy'n etholwyr i fi wedi cael neges gan y cwmni newydd eu bod nhw bellach yn mynd i gael cynllun deintyddol sy'n mynd i gostio rhywbeth fel £23 y mis, efo gofal am ddim i blant hyd at chwech oed yn unig, a phlant dros chwech oed yn gorfod talu. Mae nifer fawr o fy etholwyr i yn methu talu'r math yma o raddau ar gyfer deintyddiaeth, ac, felly, does yna ddim deintydd ar eu cyfer nhw yn yr ardal. Wrth gwrs, gwraidd hyn i gyd ydy'r cytundeb deintyddol newydd a gafodd ei gyflwyno ychydig o flynyddoedd yn ôl, ac fe ddaru i Gymdeithas Ddeintyddol Prydain ein rhybuddio ni y byddai deintyddion yn gadael y sector oherwydd hyn. Felly, gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ar y cytundeb deintyddol yma, efo asesiad llawn o'i effaith ers ei gyflwyno, os gwelwch yn dda?
Diolch yn fawr, a diolch am dynnu sylw at hyn.
Mae'n bwysig iawn, fel yr ydym wedi sôn, ac, yn wir, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd wedi gwneud sylwadau ac wedi darparu datganiadau ar ddeintyddiaeth yng Nghymru. Ac o ran ein record ym maes deintyddiaeth, rwy'n credu ei bod yn werth rhoi ar y cofnod unwaith eto bod 400,000 o gleifion newydd wedi cael mynediad at ddeintydd y GIG ers 2022. Ac o ran—. Ond rydych chi'n codi cwestiwn hollol ddilys am y contract a'r hyn mae'n ei olygu, ac, wrth gwrs, mae deintyddion wedi ymrwymo i'r contract. Yn wir, mae contractau yn cael eu negodi bob amser, ac rwy'n cofio'r negodiadau hynny pan oeddwn i'n Weinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol amser maith yn ôl. Ond mae'n bwysig, unwaith eto, effaith y contract, a fydd, wrth gwrs, yn moderneiddio'r ffordd y caiff deintyddiaeth ei darparu i bob rhan o'r gymuned, ond yn enwedig efallai i'r rhai sydd bellaf o'r mynediad at ddeintyddiaeth y byddem yn ei ddymuno. Felly, diolch i chi am y cwestiwn, ac, unwaith eto, byddaf yn tynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol at hyn.
Nododd y Prif Weinidog yn glir bod trwsio ein ffyrdd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Y penwythnos hwn, fe ges i wahoddiad gan Gyngor Sir y Fflint i weld eu peiriant JCB Pothole Pro, gyda thri atodiad pwrpasol i dorri, tocio a glanhau'r twll yn y ffordd. Y cyfan sydd ei angen yw'r tar. A chyda thwll arferol yn cael ei drwsio mewn dim ond wyth munud, mae'r peiriant hyd at bedair gwaith yn gyflymach na dulliau atgyweirio tyllau traddodiadol a hanner cost atebion cyfredol. Felly, mae sir y Fflint yn agored i rannu'r peiriant a dangos i awdurdodau lleol eraill fanteision ei ddefnyddio. Yr unig beth sy'n eu harafu ar hyn o bryd yw cyllid ar gyfer y tarmac. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad i egluro cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatganoli cyllid i awdurdodau lleol fel y gallan nhw ddechrau gweithio ar yr ôl-groniad o dyllau ac atgyweirio ein ffyrdd? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Carolyn Thomas. Wel, fel y dywedoch chi, un o flaenoriaethau ein Prif Weinidog yw trwsio ein ffyrdd. Yn amlwg, mae hyn yn hanfodol ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd, ond hefyd o ran cysylltedd a gweithgarwch economaidd. Ac mae'n rhaid i'r angen am waith cynnal a chadw ar draws y rhwydwaith fod yn flaenoriaeth, wedyn, o ran yr effaith, er enghraifft, effeithiau newid hinsawdd, mwy o gerbydau, ceir, glawiad amlach. Mae'n her delio â thyllau a chynnal a chadw ffyrdd, a dyna pam rydym yn gwella ein hymateb cynnal a chadw ac yn dysgu o lawer o atebion sy'n cael eu llywio gan ddata. Rydych chi wedi rhoi enghraifft dda iawn o'r hyn rydych chi wedi'i weld. Rwy'n credu ei fod yn ymwneud â beth yw'r ffordd orau y gall awdurdodau lleol ddefnyddio eu hadnoddau o ran archwiliadau, adroddiadau cyhoeddus a mynd i'r afael â thyllau yn fwy effeithlon hefyd. Rydym yn gwybod y gall tyllau gael eu llenwi ac yna ymddangos eto oni bai eu bod yn cael eu hail-lenwi a'u hatgyweirio yn y ffordd iawn. Felly, ydy, mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn canolbwyntio arno fel rhan o strategaeth drafnidiaeth Cymru—yn addas i'r dyfodol, yn ddiogel, yn hygyrch ac wedi'i gynnal a'i gadw'n dda. Gyda dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i gynnal y rhwydwaith ffyrdd strategol o dan Ddeddf Priffyrdd 1980, wrth gwrs, dyna lle rydym wedyn yn gweithio'n agos gyda'n hawdurdodau lleol i gyflawni'r dyletswyddau statudol hynny.
Trefnydd, hoffwn unwaith eto ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch mynediad at wasanaethau meddygon teulu. Ddiwedd y mis hwn, mae'n debyg mai Tyddewi, yn fy etholaeth i, fydd yr unig ddinas yn y DU heb feddygfa, a dylai hynny beri llawer o embaras i'r Llywodraeth hon, sydd wedi sefyll yn ôl a gwneud dim i herio'r bwrdd iechyd lleol a dim i gefnogi'r gymuned leol. Mae cleifion yn Nhyddewi yn bryderus ac yn rhwystredig iawn eu bod wedi cael eu gwasgaru i bractisau eraill yn sir Benfro. I rai, mae'r teithio i bractis arall yn rhy bell ac mae'n achosi gormod o straen. Trefnydd, ni ddylai hyn byth fod wedi cael digwydd, gan fod y gymuned wedi ei gwneud yn glir iawn ei bod yn gwrthwynebu penderfyniad y bwrdd iechyd, ac maen nhw hyd yn oed wedi cyflwyno cynigion amgen eu hunain. Nawr, mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol yn eu cymuned leol. Felly, o gofio na fydd gan ddinas yng Nghymru feddygfa mwyach yn ystod cyfnod y Llywodraeth hon, byddwn yn ddiolchgar pe gallem gael datganiad brys ar fynediad at wasanaethau gofal sylfaenol, fel y gall Llywodraeth Cymru ddweud wrthym beth mae'n ei wneud i atal canoli gwasanaethau meddygon teulu yn y dyfodol.
Diolch yn fawr iawn, Paul Davies. Mae hwn yn bwynt allweddol, onid yw? Rydych chi'n defnyddio'r geiriau 'mynediad at ofal sylfaenol', sydd, wrth gwrs—. Ie, gofal sylfaenol, yn wir, yw'r meddyg teulu ar y rheng flaen o ran gofal sylfaenol, ond hefyd yr holl wasanaethau ategol eraill hefyd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod mai dyna'r ffordd yr eir i'r afael â hyn, o ystyried enghraifft Tyddewi, o ran yr ystod o wasanaethau y byddem yn eu cynnwys mewn gofal sylfaenol, ac mae hynny'n amlwg yn cynnwys fferylliaeth, yn benodol, ond hefyd y gweithwyr iechyd proffesiynol eraill a'r gwasanaethau a arweinir gan nyrsys, sy'n cael eu darparu'n llwyddiannus ledled Cymru gyfan erbyn hyn, a rôl parafeddygon—y rhain i gyd—ac, yn wir, optometryddion, gyda menter gofal llygaid wych Cymru, sy'n golygu nad oes rhaid i bobl â chyflyrau llygaid fynd at eu meddyg teulu; gall yr optometryddion eu hatgyfeirio'n syth i ofal eilaidd. Felly, mae'n rhaid i ni edrych ar—. Ac rwy'n gwybod eich bod chi a llawer ar draws y Siambr hon yn croesawu'r diffiniad ehangach hwnnw o ofal sylfaenol. Ond gadewch i ni ddweud, o ran meddygon teulu, fod mwy na 70,000 o bobl yn cael apwyntiad gyda'u meddyg teulu bob dydd, a thrwy gyflwyno contract newydd i feddygon teulu, mae'r dagfa 8 a.m. mewn meddygfeydd nawr, ac fe ddylai fod, yn perthyn i'r gorffennol. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod hynny o ran ein profiad ein hunain. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod bod 58 y cant yn fwy o drigolion o Loegr wedi'u cofrestru gyda meddygon teulu yng Nghymru na thrigolion o Gymru sydd wedi'u cofrestru yn Lloegr, ac rydym wedi bod yn siarad cryn dipyn am ofal iechyd trawsffiniol, onid ydym, y prynhawn yma. Felly, mae'n destun gofid nad oes gennym wasanaeth meddyg teulu yn Nhyddewi, ond mae'n ymwneud â sut y gallwn ni fynd i'r afael â hyn o ran y ddealltwriaeth a'r ddarpariaeth ehangach honno o ofal sylfaenol.
Prynhawn da, Trefnydd. Hoffwn ofyn am ddatganiad, os caf i, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Yn 2023-24, roedd Dŵr Cymru yn gyfrifol am 105,000 o ollyngiadau, yr ystyriwyd bod 93 y cant ohonyn nhw'n rhai sylweddol. Caiff Dŵr Cymru ei ddisgrifio fel sefydliad nid-er-elw, ac eto mae ei brif weithredwr yn y flwyddyn ddiwethaf hon wedi derbyn bonws o £91,000. Tra ar y llaw arall, rydym ni, fel trigolion, yn gweld biliau'n cynyddu 29 y cant, rydym yn gweld Dŵr Cymru—unwaith eto, sefydliad nid-er-elw—yn derbyn digon o arian, yn ôl pob golwg, i dalu bron i £100,000 i'w brif weithredwr. Fe wnaeth y Prif Weinidog blaenorol, Mark Drakeford, addo—[Torri ar draws.]
Mae angen i'r Aelod gael ei chlywed. Mae hi'n gwneud pwyntiau pwysig iawn. Rwy'n credu bod gan yr Aelodau ddiddordeb mewn clywed y pwyntiau hynny.
Diolch yn fawr iawn. Fe wnaeth y Prif Weinidog blaenorol ymrwymo i adolygiad o Dŵr Cymru, ar ôl ei sefydlu, rwy'n credu, dros 20 mlynedd yn ôl. A gawn ni ddatganiad ar yr amserlenni o ran pryd y bydd yr adolygiad hwn yn digwydd? Diolch yn fawr iawn, Llywydd.
Diolch yn fawr iawn, Jane Dodds. Yn wir, roedd hwn yn bwnc arbennig o boblogaidd yr wythnos diwethaf gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, ac yn wir datganiadau ar y mater, pryderon yn cael eu codi am y record echrydus a ddatgelwyd gyda Dŵr Cymru. Ac rydym yn gweld bod hynny wedi cael ei adlewyrchu ledled y DU o ran methiant yr awdurdodau dŵr hynny. Bydden ni'n gobeithio, fel sefydliad nid-er-elw, y byddai Dŵr Cymru mewn lle gwell—ac maen nhw o gymharu â rhai, mae'n rhaid i ni gydnabod hynny—ond rwy'n credu bod y ddeddfwriaeth sy'n cael ei chyflwyno yn San Steffan nawr yn mynd i fod yn bwysig ac yn ddefnyddiol wrth fynd i'r afael â hyn. Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymgysylltu'n agos â chydweithwyr a chymheiriaid gweinidogol yn Llywodraeth y DU ar y mater hwn. Yn wir, mae'n bwysig bod hynny'n cael ei ystyried o ran lle y byddem yn mynd o ran adolygiad o'r fath o Dŵr Cymru.
Ond a gaf i ddweud bod yna bethau pwysig—? Rwy'n sicr yn gweithio'n dda gyda Dŵr Cymru ar faterion eraill. Er enghraifft, mae'r ffaith bod ganddyn nhw dariff cymdeithasol i'w groesawu'n fawr yn fy marn i o ran eu polisïau codi tâl sy'n helpu'r rhai sy'n agored i niwed, yn estyn allan i bobl fregus. Felly, mae llawer i'w ganmol, a hefyd y ffordd y mae gan aelodau, dinasyddion, rôl o ran llywodraethu Dŵr Cymru. Felly, rwy'n dal i feddwl y dylen ni—. Rwy'n siŵr ein bod ni'n falch o'r ffaith ei fod yn sefydliad nid-er-elw, ond mae'n amlwg bod angen edrych ar ei berfformiad a'i gyflawniad a chraffu'n ofalus iawn arnynt, ac yn sicr dyna ymagwedd yr Ysgrifennydd Cabinet at weithio gyda Dŵr Cymru.
Arweinydd y tŷ, a yw'n bosibl cael datganiad llafar gan y Dirprwy Brif Weinidog mewn perthynas â dirwy dreth Cyfoeth Naturiol Cymru? Rwy'n gwerthfawrogi bod datganiad ysgrifenedig wedi'i gyhoeddi ddoe, ond talwyd £19 miliwn ar gyfrif ac mae mwy i'w dalu. Dyna gyfanswm yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano oherwydd anallu Cyfoeth Naturiol Cymru, fel y gwelaf. Bu'n rhaid i gyrff cyhoeddus eraill ddiswyddo staff ac yn amlwg doedd dim modd iddyn nhw ymgymryd â phrosiectau. Ceisiodd Cyfoeth Naturiol Cymru roi staff oddi ar y llyfrau ac yna parhau i wneud prosiectau na allent gael eu cynnal yn amlwg pe baen nhw'n talu'r lefelau priodol o drethiant, yswiriant gwladol a chostau eraill. Mae unrhyw berson sy'n ymwneud â busnes yn deall, os yw person hunangyflogedig yn cymryd y rhan fwyaf o'i incwm o un contract neu gyflogwr, mai'r contractwr neu'r cyflogwr hwnnw sy'n gyfrifol am yr atebolrwydd treth. Rydym yn gwybod bod £19 miliwn wedi'i dalu ar gyfrif, rydym yn gwybod o sylwadau eraill sydd wedi cael eu gwneud bod mwy i ddod. Pa hyder all unrhyw un ei gael bod gan y Gweinidog oruchwyliaeth gywir dros Cyfoeth Naturiol Cymru? Mae'n sefydliad y dywedais i, nôl yn 2020, nad oedd yn addas at y diben, ac yn amlwg mae'r ddirwy hon yn dangos hynny. Felly, a gawn ni ddatganiad llafar fel y gall Aelodau herio'r Llywodraeth ynglŷn â pham mae'r trethdalwr yn gorfod talu swm mor enfawr o arian?
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Diolch am hynny, Andrew R.T. Davies. Wrth gwrs, rydych chi wedi gweld y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod bod Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau datrysiad, fel y dywedodd y datganiad ysgrifenedig. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud nad yw hyn wedi bod yn fater i Cyfoeth Naturiol Cymru yn unig, rwy'n credu ei fod wedi bod yn fater—ac mae hyn yn mynd yn ôl i'ch cyn Lywodraeth Geidwadol—sydd wedi'i nodi ar gyfer DEFRA yn ogystal ag ar gyfer Llywodraeth Cymru, ac wrth gwrs y Weinyddiaeth Gyfiawnder hefyd, o ran rheoli'r materion hyn.
Yr hyn sy'n bwysig—a gobeithio y byddwch chi'n fy nghlywed ar hyn—yw sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi cynyddu ymgysylltiad â Cyfoeth Naturiol Cymru, yn monitro ei gynnydd, yn datrys y mater, yn dysgu gwersi o sut y digwyddodd hyn—sy'n hollbwysig, fel yn amlwg y byddech chi'n cydnabod—a hefyd i sicrhau bod gwaith gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i wella monitro, cefnogi capasiti a gallu yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Ond rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn fodlon dod yn ôl a diweddaru'r Siambr gyda datganiadau wrth i ni symud ymlaen. Rydym yn gweithio'n gyflym ar hyn, ac rwy'n siŵr, pan ddown yn ôl ar ôl y toriad, y bydd mwy i'w adrodd i'r Siambr ac i'r Aelodau.
Rydym wedi defnyddio'r holl amser a neilltuwyd, felly os gall y tri Aelod nesaf sy'n siarad wneud hynny'n fyr, byddwn i'n ddiolchgar.
Rwy'n galw am un datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gymorth i blant a phobl ifanc â chanser a'u teuluoedd yng Nghymru. Mae ymchwil 'Running on Empty' Young Lives vs Cancer wedi canfod bod plant a phobl ifanc â chanser a'u teuluoedd yng Nghymru yn gwario £280 y mis ar gyfartaledd, sy'n uwch na chyfartaledd y DU, yn teithio i gael eu triniaeth canser arbenigol, a dim ond 12 y cant sy'n cael cymorth ariannol i dalu'r costau hyn. Mae angen i ni wybod pa gamau uniongyrchol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pobl ifanc â chanser a'u teuluoedd yn gallu fforddio teithio i'w triniaeth, megis cyflwyno cronfa deithio i gleifion ifanc â chanser. Rwy'n galw am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn unol â hynny.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw, Mark Isherwood. Yn amlwg, rydym am gael y ddarpariaeth a'r gwasanaethau gorau a'r mynediad gorau at driniaeth canser i blant a'u teuluoedd yng Nghymru. Wrth gwrs, mae ein rhwydweithiau clinigol yn hanfodol i gyflawni hynny, ond hefyd yr arbenigeddau sy'n cael eu darparu i gefnogi plant â chanser yn ein hysbyty plant, ac, yn wir, o ran y gogledd, y ddarpariaeth, wrth gwrs, yn Lloegr, sy'n hanfodol bwysig ac sydd wastad wedi'i rhwydweithio ar gyfer cleifion yn y gogledd.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch sicrhau bod gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn wirioneddol hygyrch i bawb? Y rheswm pam rwy'n gofyn am hyn heddiw yw oherwydd bod un o'm hetholwyr yng Nghaerffili, sy'n 80 oed, wedi ffonio Trafnidiaeth Cymru mewn ymgais i adnewyddu ei cherdyn teithio rhatach. Dywedodd gweithredwr Trafnidiaeth Cymru y siaradodd â nhw na allai adnewyddu ei phàs dros y ffôn mwyach ac y byddai'n rhaid iddi fynd ar-lein i'w adnewyddu. Yn anffodus, nid oes gan fy etholwr fynediad ar-lein ond, diolch byth, fe gamodd ei nai i'r adwy i'w helpu. Ysgrifennydd Cabinet, rydyn ni wedi trafod yn y Siambr hon sawl gwaith—ac rwy'n gwybod eich bod chi eich hun yn ymwybodol—bod gan Gymru lefelau uchel o allgáu digidol, gyda thua 170,000 o drigolion nad ydynt yn gallu cael mynediad i'r rhyngrwyd, ac nid oes gan bawb rywun i'w helpu. Felly mae'n rhaid bod yna lwybr arall i'r bobl hynny nad ydynt yn gallu defnyddio'r rhyngrwyd gael mynediad at y mathau hyn o wasanaethau. Felly, byddai datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn amlinellu pa gamau y gellir eu cymryd i sicrhau bod hyn yn wir ac nad yw pobl dan anfantais yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Diolch.
Diolch yn fawr iawn i chi, Natasha Asghar. Wrth gwrs, yr wythnos diwethaf, bu cyfleoedd i ofyn cwestiynau a chodi materion o'r fath gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru. Rwy'n ymwybodol iawn hefyd, yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, fod hyn yn berthnasol i minnau hefyd o ran hygyrchedd, wrth weithio yn agos iawn gyda phobl anabl yn ein tasglu hawliau anabledd gyda'r grŵp teithio, a gweithio yn agos gyda Trafnidiaeth Cymru. Felly, unwaith eto, fe fyddwn ni'n rhoi ystyriaeth i'r mater hwn ar y cyd, ac ar draws y Llywodraeth.
Ac yn olaf, Sam Rowlands.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Trefnydd, fe hoffwn i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar gynnydd o ran cyflawni prosiectau lliniaru llifogydd. Mae hyn yn arbennig o wir yn dilyn digwyddiadau lle bu llifogydd yn Sandycroft, Mancot a Phentre yn ystod y dyddiau diwethaf yn dilyn glawogydd dirfawr, gan arwain at lawer o bobl yn gorfod gadael eu cartrefi a chau ffyrdd yn yr ardal. Rwy'n adnabod yr Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy ac mae'r ddau wedi codi'r materion hyn yn bersonol, gyda'r awdurdod lleol a gyda CNC. Rwy'n ymwybodol bod gan CNC gynlluniau i fynd i'r afael â'r materion yn yr ardal, ond mae'n amlwg bod angen gwneud hyn yn gyflym i leddfu pryderon teg trigolion lleol sydd, yn anffodus, wedi dioddef llifogydd nid unwaith yn unig ond sawl gwaith yn y gorffennol, oherwydd mae angen i ni weld y gwaith hwnnw'n cael ei gyflawni rhag blaen. Felly, fe fyddai datganiad ar gynnydd ar ran darparu hyn yn dderbyniol dros ben. Diolch i chi.
Diolch i chi, Sam Rowlands. Rydym ni'n ymwybodol o ddigwyddiadau o lifogydd ledled Cymru yn ddiweddar. Rydym ni'n cydymdeimlo â phawb yr effeithiwyd arnynt. Mae manylion yr effeithiau hyn ar gymunedau yn parhau i ddod i'r amlwg, drwy gysylltiadau â'r awdurdodau lleol. Fe allwn ni weld pa effaith a gaiff hynny ar dai. Mae hynny'n cynnwys ardaloedd yn y gogledd, yn sir y Fflint, i roi un awdurdod yn enghraifft. Ond hefyd, rwy'n credu mai'r peth pwysicaf ar gyfer heddiw yw bod gennym ni ddatganiad newydd yn dod gerbron, Dirprwy Lywydd, ar addasu i'r hinsawdd, ac fe fydd digon o gyfleoedd—fe gaiff hyn sylw'r prynhawn yma—ar gyfer craffu, ond gan gofio i ddatganiad llafar gael ei roi ar 1 Hydref ar fod yn barod am lifogydd. Rwy'n credu bod dychwelyd at hynny yn bwysig, i edrych ar y datganiad hwnnw, a'r ffaith bod CNC wedi cael £800,000 i fynd i'r afael â phroblemau oherwydd llifogydd, er enghraifft, yn Sandycroft, sef un enghraifft o'r effaith mor ddinistriol a gafodd y llifogydd hynny.
Diolch i'r Trefnydd.
Eitem 3 heddiw yw datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni ar y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru). Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol, Julie James.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Bwriad y Bil, er ei fod o natur dechnegol, yw llunio rhan bwysig o'r seilwaith sy'n gosod sylfaen i gyfraith Cymru. Mae rhai darpariaethau yn llenwi bylchau ac yn rheoleiddio sefyllfa deddfwriaeth Cymru, fel ei bod yn cael statws cyffelyb i ddeddfwriaeth yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae darpariaethau eraill yn fwy newydd, ac rwy'n arbennig o falch y bydd y Bil, pe bai'n cael ei ddeddfu, yn gosod rhwymedigaeth ar Argraffydd y Brenin i gyhoeddi deddfwriaeth Cymru ar ei gwedd gyfredol am y tro cyntaf. Rwy'n falch iawn o ddweud hefyd y byddwn ni'n gorfodi swyddogaethau cynhwysfawr a chlir ar Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru am y tro cyntaf. Ac wrth ymarfer y swyddogaethau yn unol â'r Bil, mae Argraffydd y Brenin i'w adnabod erbyn hyn fel Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru.
Fel mae teitl y Bil yn ei awgrymu, fe geir tair prif adran i'r Bil. Mae'r gyntaf yn ymwneud â'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud is-ddeddfwriaeth Cymru. Mae'r Bil yn ceisio rhesymoli ac, yn y bôn, yn codio gweithdrefnau sydd wedi mynd yn rhy gymhleth. Mae hyn yn cynnwys labelu'r gweithdrefnau hyn yn unol â mater sylfaenol sef a allai Gweinidogion lunio is-ddeddfwriaeth yn amodol ar allu'r Senedd i'w diddymu yn nes ymlaen, neu a yw hi'n briodol i'r Senedd gymeradwyo'r ddeddfwriaeth ymlaen llaw.
Fy mwriad i yw symleiddio'r darpariaethau deddfwriaethol presennol sy'n ymwneud â'r gweithdrefnau hyn fel ein bod ni'n nodi'r gweithdrefnau unwaith yn y Bil hwn, gan roi label llaw fer iddyn nhw a fydd yn cael ei ddefnyddio i'w disgrifio nhw mewn Biliau yn y dyfodol ac yn ein Rheolau Sefydlog ni, maes o law. Y ddwy brif weithdrefn yw gweithdrefn gymeradwyaeth y Senedd, sy'n cyfateb i'r hyn yr ydym ni heddiw yn ei galw yn weithdrefn gadarnhaol ddrafft, a gweithdrefn diddymu'r Senedd, sy'n cyfateb i'r hyn yr ydym ni'n ei galw heddiw yn weithdrefn penderfyniad negyddol.
Rydym ni'n darparu hefyd ar gyfer gweithdrefn gadarnhau'r Senedd—yr hyn yr ydym ni heddiw ni'n ei galw yn weithdrefn gadarnhaol 'gwnaed'. Yn unol â hynny, fe allai Gweinidogion lunio is-ddeddfwriaeth, ond mae hyn yn berthnasol ar yr amod y bydd cymeradwyaeth yn dod yn ddiweddarach gan y Senedd, sy'n weithdrefn a welsom ni, wrth gwrs, yn cael ei defnyddio yn aml yn ystod y coronafeirws—wir, sut allwn i fod wedi anghofio sut i ddweud hynny mewn cyn lleied o amser—yn ystod pandemig coronafeirws.
Yn olaf, yn gyffredinol, mae'n rhaid i bob offeryn statudol arall yng Nghymru nad yw'n ddarostyngedig i unrhyw un o'r gweithdrefnau hyn gael eu gosod gerbron y Senedd. Mae hyn yn sicrhau y bydd unffurfiaeth oherwydd, heddiw, nid yw pob offeryn statudol yn ddarostyngedig i'r gofyniad hwn. Fe ddylwn i bwysleisio, drwy gyfrwng y Bil hwn, nad yw'r Llywodraeth yn ceisio gorfodi ei hewyllys hi ar y Senedd yn hyn o beth. Mae rhyddid i'r Senedd benderfynu, fel y gwna hi nawr, sut fath o graffu y mae hi o'r farn y dylid ei gymhwyso i ymarfer pwerau i lunio is-ddeddfwriaeth. Mae'r gweithdrefnau presennol wedi bod yn weithredol yn Senedd y DU ers blynyddoedd lawer, ac wedi eu mabwysiadu yma ac yn Senedd yr Alban, ac yn y pen draw ychydig iawn o arloesi sydd wedi digwydd dros amser. A, Dirprwy Lywydd, mae hynny'n ddealladwy, debyg iawn. Fel dywedais i, y cwestiwn yn y bôn yw a ddylai cymeradwyaeth ddod oddi wrth y Senedd cyn i unrhyw ddeddfwriaeth gael ei llunio, neu a yw hi'n fodlon i Weinidogion lunio'r ddeddfwriaeth yn gyntaf a phleidleisio wedyn i'w diddymu hi wedyn pe na fyddai'r Senedd yn cytuno arni. Mae hi'n anodd dychmygu beth arall allai ddigwydd.
Mae ail Ran y Bil yn moderneiddio'r rheolau ar gyfer cyhoeddi deddfwriaeth Cymru. Mae'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer cyhoeddi cyfreithiau Cymru yn fratiog ac yn hen ffasiwn. Mae'r darpariaethau presennol ar wasgar dros nifer o ddeddfiadau, rhai ohonyn nhw'n hen iawn a heb eu haddasu yn llawn ar gyfer cyd-destun deddfwriaethol y Gymru gyfoes. Mae darnio fel hyn yn arwain at ddryswch ac aneffeithlonrwydd. Er enghraifft, er bod Deddfau'r Senedd yn cael eu hargraffu a'u cadw yn swyddogol, nid oes unrhyw rwymedigaeth ddeddfwriaethol amlwg i argraffu'r Deddfau hyn, ac nid oes cydnabyddiaeth ffurfiol ychwaith o ddeddfwriaeth Cymru yng nghylch gwaith Argraffydd Deddfau Seneddol y Brenin. Yn yr un modd, fe gyhoeddir offerynnau statudol Cymru yn rhan o gyfres y DU, heb gydnabyddiaeth na rhifo penodol, sy'n cymhlethu eu dynodi a'u hygyrchedd. Mae is-ddeddfwriaeth nad yw'n cael ei llunio ar ffurf offerynnau statudol, fel gorchmynion ffyrdd dros dro, yn dioddef o anghysonderau o ran eu cyhoeddiad. Er bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymdrechion i gyhoeddi'r rhain ar ei gwefan hi ei hun, nid yw'r broses yn syml bob amser, sy'n arwain at fylchau o ran eu hygyrchedd i'r cyhoedd a thryloywder.
I fynd i'r afael â'r materion hyn, mae'r Bil yn sefydlu system fwy cydlynol a phwrpasol ar gyfer cyhoeddi deddfwriaeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys gwneud darpariaeth i Gymru sy'n debyg i'r hyn a gafodd ei wneud ar gyfer yr Alban drwy gyfrwng Deddf Dehongli a Diwygio Deddfwriaethol (Yr Alban) 2010. Mae hyn yn cynnwys creu, yn rhyfeddol efallai, dosbarth o ddeddfwriaeth sydd i'w adnabod fel 'offeryn statudol Cymreig' a dodi gofynion ffurfiol ar unigolyn a gaiff ei alw erbyn hyn yn Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru. Yn nodedig, cynlluniwyd y darpariaethau hefyd ar gyfer adlewyrchu'r sefyllfa wirioneddol heddiw o brosesu deddfwriaeth yn electronig.
Yn rhan o'n mentrau ehangach i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, mae'r Bil yn adlewyrchu gwaith y mae'r Llywodraeth wedi bod yn ei wneud ers peth amser hefyd i nodi darpariaethau ar y llyfr statud nad ydyn nhw'n angenrheidiol erbyn hyn. Mae Rhan 3 o'r Bil, felly, yn cyflwyno cyfres o ddiddymiadau i ddarpariaethau nad ydyn nhw o unrhyw ddefnydd neu fudd ymarferol erbyn hyn. Ar yr wyneb, materion technegol y tu ôl i'r llenni yw'r rhain ond, wrth gwrs, pan fydd pobl yn dymuno cael gweld a darllen y gyfraith, mae angen iddi fod ar gael iddyn nhw wrth glicio botwm. Mae angen i bobl fod â hyder eu bod yn darllen y fersiwn gywir o'r gyfraith, heb fod yn gofidio a gafodd y darpariaethau eu diwygio a'u diweddaru neu nad ydyn nhw'n berthnasol oherwydd eu bod nhw wedi darfod neu'n hynafol.
Dirprwy Lywydd, yn olaf, bydd y Bil yn gwneud rhai mân ddiwygiadau i Ran 2 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019. Drwy foderneiddio ein fframwaith deddfwriaethol ni, fe allwn ni rymuso eglurder a hygyrchedd cyfraith Cymru, ac fe fydd hynny o fudd i bawb sy'n dibynnu arni hi, yn y pen draw. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda'r Aelodau wrth iddyn nhw graffu ar y ddeddfwriaeth hon. Diolch.
Mae gwerth, o ran cyflawnder, hygyrchedd ac atebolrwydd, mewn Bil technegol i gyhoeddi a diddymu gweithdrefnau i ddwyn trefniadau gweithdrefnol at ei gilydd a ffurfioli hynny ar gyfer llunio a chyhoeddi is-ddeddfwriaeth Gymreig a gwella hygyrchedd cyfraith Cymru.
Mae Cymdeithas y Gyfraith wedi datgan bod pwrpas y Bil, sef dod â'r trefniadau gweithdrefnol at ei gilydd a'u ffurfioli ar gyfer llunio is-ddeddfwriaeth Gymreig a'r gofynion ar gyfer cyhoeddi Deddfau Senedd Cymru ac offerynnau statudol Cymreig ac is-ddeddfwriaeth arall nas llunir drwy gyfrwng offeryn statudol, nid yn unig am fod o gymorth i'w haelodau hi sy'n gweithio yng Nghymru, ond ei haelodau hefyd sy'n gweithio dros y ffin ar faterion Cymreig. Ac fe roddwyd enghraifft ganddyn nhw o gwmni yn Llundain sy'n gweithio i gleient o Gymru sy'n prynu eiddo yng Nghymru. Ond yn fwy eang, er hynny, sut bydd hyn yn gweithredu lle ceir croestoriad â chyfraith y DU sy'n gymwys yng Nghymru a thrigolion Cymru sy'n gweithredu o dan y system gyfreithiol yn Lloegr?
Mae Cymdeithas y Gyfraith wedi dweud hefyd y bydd gwella hygyrchedd cyfraith Cymru yn fuddiol iawn o ran cynyddu ymwybyddiaeth o'r gyfraith ymhlith y cyhoedd. Roedden nhw'n dweud wedyn, er hynny, mai dim ond os bydd ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd y gall hyn fod yn llwyddiannus, gan fod angen rhoi gwybodaeth i bobl ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd. Mae posibilrwydd yma iddi fod yn ymgyrch dda ar gyfer addysgu am reolaeth y gyfraith, ond ni fydd hynny'n digwydd os na chaiff ei dilyn gan y cyhoeddusrwydd haeddiannol. Felly, pa gynlluniau, os o gwbl, a gafodd eu gwneud i fanteisio i'r eithaf ar y cyfle hwn yn sgil y Bil? Mewn geiriau eraill, sut y bydd hygyrchedd cyfraith Cymru yn cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwerau datganoledig a deddfwriaeth ddatganoledig, er mwyn iddyn nhw allu cael yr wybodaeth gywir o'r man cywir yn yr amser cywir?
Mae amcanion nobl iawn yn y Bil ei hun. Er hynny, mae Cymdeithas y Gyfraith yn dweud na chaiff y rhain eu cyflawni os na roddir adnoddau i gefnogi'r sector cyfreithiol, yng Nghymru ac ar draws y ffin, ar gyfer deall y newidiadau ac effaith bosibl y rhain ar ei ffyrdd o weithio. Felly, pa asesiad a wnaeth Llywodraeth Cymru o effaith ariannol y ddeddfwriaeth arfaethedig hon? Beth a gaiff ei roi i gefnogi'r sector cyfreithiol i ddeall a gweithredu'r newidiadau hyn, os bydd unrhyw beth yn cael ei roi o gwbl? A sut mae'r Cwnsler Cyffredinol yn bwriadu cefnogi a gweithio gyda'r sectorau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr drwy holl hynt y Bil?
Oni bai bod Aelodau'r Senedd yn eistedd ar y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ni fyddan nhw'n gwybod o reidrwydd fod Llywodraeth Cymru yn llunio is-ddeddfwriaeth pan gaiff honno ei llunio drwy'r weithdrefn negyddol, yn hytrach na'r weithdrefn gadarnhaol, o ran y Cyfarfod Llawn. Yn olaf, felly, pa ystyriaeth a fyddwch chi'n ei rhoi i ffyrdd gwell o ddwyn is-ddeddfwriaeth gweithdrefn negyddol at sylw Aelodau'r Senedd, gan gofio ein bod ni'n cael ein hystyried yn rhai sy'n cydsynio i honno?
Diolch, Mark. Diolch yn fawr iawn i chi. Rwy'n credu ein bod ni'n gytûn bod hyn yn ddymunol iawn a'r angen amdano'n fawr, ac rwy'n falch eich bod chi wedi cael golwg ar ymateb Cymdeithas y Gyfraith i hyn. Nid oeddwn i'n deall yn iawn a oeddech chi wedi bod yn siarad â nhw. Rwyf i wedi siarad â nhw, ac rwy'n siŵr eich bod chi wedi gwneud felly, neu y byddwch chi'n gwneud felly yn y dyfodol. Mae hyn i'w groesawu yn fawr iawn.
Yr hyn y mae hyn yn ei wneud, i bob pwrpas, a'i wneud yn llawer—. Os ewch chi i legislation.gov.uk, ac yn y fan honno y bydd pob cyfreithiwr yn chwilio am bethau, a lle gall y cyhoedd wneud felly hefyd, fe fydd hi'n amlwg iawn beth sy'n offeryn statudol i Gymru, beth sy'n ddarn o ddeddfwriaeth i Gymru a pha bethau nad ydyn nhw ddim. Fe allwch chi ganfod hynny heddiw wrth gwrs, ond mae'r gwaith chwilio yn fwy anodd. Felly, fe fydd hyn yn ei gwneud hi'n llawer rhwyddach. Wrth gwrs, fe allwch chi ddod o hyd i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU sy'n effeithio ar Gymru yn y fan honno, felly, ceir deddfwriaeth i Gymru a Lloegr ar gyfer materion a gedwir yn ôl, er enghraifft.
O ran rhai o'r cwestiynau eraill y gwnaethoch chi eu gofyn, yn amlwg, nid yw hyn yn effeithio ar y ffordd y bydd y Senedd yn penderfynu pa weithdrefn i'w defnyddio. Fe hoffwn ei gwneud hi'n eglur iawn i bawb nad yw'r Llywodraeth yn bwriadu dylanwadu ar hynny. Mater yw hynny i'r pwyllgorau sy'n craffu ar y ddeddfwriaeth, a'i nodi ar gyfer y Gweinidog, a gwneud diwygiadau yn unol â hynny, o ran pa weithdrefn y maen nhw'n awyddus i'w defnyddio.
Yr hyn y mae'n ei wneud yw egluro beth mae'r gweithdrefnau yn ei wneud mewn gwirionedd. Felly, rwyf i wedi cynnal sgyrsiau mewn swyddi blaenorol, er enghraifft, ac mewn gwahanol bwyllgorau, ynghylch a ddylid defnyddio gweithdrefn gadarnhaol, ac os felly, pa weithdrefn gadarnhaol. Ac, a dweud y gwir, rwy'n credu nad yw hi wedi bod yn hawdd o gwbl sicrhau bod pawb yn deall ystyr hynny. Fe fydd hyn yn ei gwneud hi'n eglur iawn beth yw ystyr hynny.
Felly, i bob pwrpas, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw gwneud dewis llawer symlach rhwng Gweinidog yn gosod offerynnau statudol a—. Gyda llaw, dim ond i ateb eich cwestiwn olaf, fe fydd yr holl offerynnau statudol yn cael eu gosod gerbron y Senedd. Felly, mae hwnnw'n welliant hefyd, a dyna pryd fydd eich cyfle chi i gael gwybod eu bod nhw'n digwydd. Yna, pe byddai'r Gweinidog yn defnyddio'r weithdrefn ddirymu, fel bydd honno'n cael ei galw erbyn hyn, oherwydd mae hynny'n llawer symlach, fe fydd yn cael ei gosod gerbron, ac os nad yw'r Senedd yn ei hoffi, fe allai alw am ddadl ar y llawr a phasio cynnig diddymu. Os mai proses gadarnhaol yw hi, yna mae'r Gweinidog, fel gwna pawb ohonom ni, yn dod i'r Senedd ac yn gwneud datganiad ar yr offeryn statudol; fe gaiff hwnnw ei drafod, ac yna fe fydd y Senedd yn penderfynu a ddylid cymeradwyo hwnnw, yn rhan o'r broses gadarnhaol—felly, y broses gymeradwyo.
Felly, rwyf i o'r farn fod hynny'n egluro hyn. Mae'n ei gwneud hi'n llawer, llawer mwy hygyrch i bobl nad ydyn nhw o fewn yr adeilad hwn. Dros fy etholwyr i fy hunan yn unig yr wyf i'n siarad, ond pe bawn i'n curo ar ddrysau yn fy etholaeth ac yn sôn am weithdrefn uwchgadarnhaol, ni fyddai llawer felly o bobl yn gwybod beth yw ystyr hynny, er tegwch—ar wahân i chi, Huw, yn amlwg. Ond yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw gwneud yr iaith yn ddealladwy, ei gwneud hi'n llawer mwy amlwg beth ydyw, a rhoi rhwymedigaeth ar y Llywodraeth i osod pob un.
Fel Bil technegol, mae'n anodd iawn i ffeindio rhywbeth i anghytuno ag e yn y Bil yma, felly dwi'n mynd i sôn am rai pethau sydd ddim yn y Bil a allai fod yn y Bil, neu'n berthnasol iddo fe.
Roeddech chi wedi sôn jest nawr yn eich ateb fanna, Weinidog, ynglŷn â'r newidiadau fydd yn deillio o'r Bil yma o ran hygyrchedd digidol Deddfau Cymru ar legislation.gov.uk, ac mae hwn yn deillio o raglen waith wnaeth ddilyn y Bil cyfatebol diwethaf, Legislation (Wales) Act 2019, ac wedyn rhaglen ar ddyfodol y gyfraith yng Nghymru a hygyrchedd digidol. Ond rhan arall o hynny oedd y wefan neu'r hafan Cyfraith Cymru, Law Wales, sydd tipyn yn fwy hygyrch na legislation.gov.uk i etholwyr cyffredin. Roeddwn i jest yn edrych gynnau ar yr hafan hynny ac mae llawer iawn o'r tudalennau ddim wedi cael eu diweddaru ers pedair blynedd, tair blynedd neu ddwy flynedd. Ar rai o'r tudalennau—addysg, er enghraifft—does dim byd yna o gwbl. Felly, allwch chi ein diweddaru ni ynglŷn â'r elfennau eraill o ran hygyrchedd digidol cyfreithiau yng Nghymru?
Mae'r Bil yn ymwneud â'r broses o ddeddfu ar gyfer is-ddeddfwriaeth, fel roeddech chi'n sôn. Roeddech chi wedi dweud, o ran y gwahanol opsiynau o ran delio ag is-ddeddfwriaeth, fod yna ddim opsiwn arall. Wel, mae yna opsiwn arall sydd wedi cael ei drafod sawl gwaith, a dweud y gwir. Yng nghyd-destun San Steffan, mae wedi codi droeon dros y blynyddoedd ac mae wedi codi yn rhai o'n trafodaethau ni fan hyn yn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, yn LJC, sef i gael proses fydd yn galluogi'r Senedd i basio gwelliant i is-ddeddfwriaeth—amendable statutory instruments. Maen nhw'n bodoli yn San Steffan. Maen nhw'n eithriadol iawn, ond maen nhw'n bodoli, ac mae yna drafodaeth i gael system fyddai'n galluogi'r Senedd yma i basio gwelliant i is-ddeddfwriaeth, er mwyn sicrhau bod yna atebolrwydd democrataidd gwell ar gyfer is-ddeddfwriaeth. Felly, ydy'r Bil yma yn fodd o bosib inni gyflwyno'r arloesedd democrataidd hynny yn ein cyd-destun ni?
Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, dwyieithrwydd. Rŷn ni wedi bod yn trafod yn ein pwyllgor ni hefyd yr offerynnau statudol sydd yn cael eu sgrwtineiddio fan hyn ac yn San Steffan, ac sydd, ar hyn o bryd, ddim ond yn cael eu cyhoeddi'n Saesneg. Y ddadl sydd wedi bod tan nawr yw bod yna wrthwynebiad yn San Steffan i gael fersiynau dwyieithog. Nawr, ein dealltwriaeth ni yw bod yna ddim gwrthwynebiad yn San Steffan i hynny. Felly, ydy'r Bil yma yn gyfrwng i ni sicrhau, drwy gael cydsyniad, hyn yn oed, Llywodraeth San Steffan, fod yr offerynnau statudol hynny sy'n cael eu sgrwtineiddio yn y ddau le yn cael eu cynhyrchu'n ddwyieithog?
Diolch, Adam. Rydych chi'n gwneud cyfres eang o bwyntiau diddorol iawn nawr. O ran hygyrchedd digidol, sôn am newidiadau i legislation.gov.uk yr ydym ni, Dirprwy Lywydd, ac mae hynny'n rhoi cyfle i mi fynegi ar goedd pa mor fawr yw ein gwerthfawrogiad ni o'r wefan honno, sy'n gweithredu fel adnodd dibynadwy rhad ac am ddim i'r cyhoedd i'w phori a'i defnyddio. Mae fy swyddogion i wedi bod yn gweithio gyda'r tîm y tu ôl i honno ers nifer o flynyddoedd ac wedi ymgysylltu â nhw ynglŷn â'r holl agweddau ar gyhoeddi a nodir yn Rhan 2B newydd Deddf 2019. Dim ond effaith gyfyngedig a gaiff hyn ar y wefan, ond fe fydd angen sefydlu categori newydd o ddeddfwriaeth ffurfiol yn y system sy'n rhoi sail i'r safle, ac fe amcangyfrifir cost hynny ac nid yw'n aruthrol fawr.
O ran gwefannau eraill, mae hynny'n mynd y tu hwnt i hyn. Yn y bôn, mae hyn yn dodi rhwymedigaethau ar rywbeth sy'n safle ar gyfer y DU gyfan, i sicrhau ei bod yn nodi deddfwriaeth ac offerynnau statudol Cymru yn gywir ac mewn ffordd sy'n hawdd cael mynediad ati. Fe allwch chi fynd yno i chwilio nawr, ond mae hi'n cymryd peth amser i wneud felly, fel gwyddoch chi'n amlwg—yn sicr, fe wn i. Felly, rwy'n credu bod hyn yn welliant enfawr ar hynny, ac fe allwn ni edrych ar ddulliau eraill o gael mynediad at ddeddfwriaeth Cymru ar wefannau eraill eto, yn sicr, ond mae hyn yn benodol ynglŷn â dodi rhwymedigaethau ar Argraffydd y Brenin ac ar y wefan, ac felly mae hwn yn bwynt ychydig yn wahanol.
O ran yr offeryn statudol y gellir ei addasu, rwy'n awyddus iawn i ystyried hynny. Rwy'n credu bod y broses gadarnhaol 'gwnaed' yn un o'r rhai y gallwn edrych arni, y broses gymeradwyo. Felly, wrth gymeradwyo hyn, nid wyf i'n gweld unrhyw reswm pam na allech chi awgrymu gwelliant.
Fe gefais i'n ddiweddar fy mhenodi i fod ar y pwyllgor y bydd y Dirprwy Lywydd yn ei gadeirio i ystyried prosesau'r Senedd. Un o'r pethau yr wyf i'n awyddus i'w gwneud yw sicrhau, gan ein bod ni'n defnyddio offerynnau statudol yn aml iawn ar Filiau fframwaith mawr—. Felly, yr un y bûm i'n ei defnyddio yn enghraifft yw'r Ddeddf seilwaith a ddygais i drwy'r Senedd. Mae gan honno nifer fawr iawn o offerynnau statudol ynghlwm wrthi, a hynny'n briodol iawn. Rwy'n dal i fod yn gwbl sicr mai hwnnw yw'r cyfeiriad iawn i deithio ynddo, oherwydd fe fyddai'r rhain yn cynnwys manylion o ran sut i wneud cais drwy'r system honno, ac fe allai hynny newid yn gyflym iawn dros flynyddoedd, ond mae hi'n ymddangos yn synhwyrol i mi na ddylai offeryn statudol sy'n cynnwys polisi o'r math hwnnw fynd at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn unig, ond fe ddylid ei gyfeirio at bwyllgor polisi ar gyfer craffu ar y polisi yn hynny o beth, ac fe fyddai gwneud felly o reidrwydd yn arwain at gyfnod diwygio, mae hi'n debyg iawn i mi. Felly, rwy'n credu bod yna wahanol lwybrau ar gyfer hynny, ac mae hynny'n rhywbeth i'w drafod yn rhan o brosesau'r pwyllgor hwnnw ar gyfer creu gwell prosesau ar gyfer y Senedd nesaf, ac yn wir fe allem ni edrych ar hynny ar gyfer diwedd y Senedd hon. Ond rwy'n credu, wrth i'r mathau hynny o Filiau fframwaith mawr ddod drwodd, wrth iddyn nhw gynyddu fel mae'r Senedd yn aeddfedu, y bydd angen inni edrych ar broses wahanol ar gyfer Asesiadau Cydsyniad Polisïau yn ogystal ag ar gyfer y prosesau rheoleiddio yr ydym ni'n hen gyfarwydd â nhw.
Ond rwy'n credu bod hyn yn gwneud hynny'n haws yn yr ystyr y bydd un broses ar gyfer hynny a phroses arall i'r rhai nad ydyn nhw'n ddadleuol. Er fy mod i'n cofio i Suzy Davies, pan oedd hi'n Aelod o'r Senedd hon, gyflwyno cynnig diddymu, rwy'n credu mai hwnnw oedd yr unig un a welais i erioed, mewn gwirionedd. Felly, mae'r broses yn bosibl ond mae'n fwy cymhleth nawr. Felly, fe fyddwn i'n awyddus tu hwnt i gael golwg ar hynny.
Ac wedyn, o ran y pwynt ynglŷn â dwyieithrwydd, fe wn i fod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol. Nid wyf i'n hollol sicr ar ba gam y mae'r ohebiaeth honno, ond fe wnaethom ni'r pwynt hefyd ein bod ni'n dymuno i bethau gael eu gwneud yn ddwyieithog, ac rwy'n awyddus iawn i wneud hynny. Fy nealltwriaeth i yw nad yw hynny mor bendant am eu bod o'r farn fod hyn yn iawn, ond rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y dylem ni fynd ar ei drywydd, oherwydd yn amlwg fe ddylai unrhyw beth a wneir naill ai ar y cyd gan y Senedd hon a Senedd y DU neu gennym ni gael ei gyhoeddi yn ddwyieithog, yn amlwg.
Diolch i chi am y datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Efallai fod y mater yn un technegol, ond rwyf i o'r farn ei fod yn gam pwysig ymlaen i roi cydraddoldeb i gyfraith Cymru, a gwella cyfraith Cymru, a gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch. Rwyf i am wneud cyfaddefiad nawr: tua 15 mlynedd yn ôl, roeddwn i yng Nghanolfan Cyfiawnder Sifil Abertawe, a phrif bwynt fy nadl i oedd adran o ddarn o ddeddfwriaeth y gwnes i ei hargraffu oddi ar wefan Legislation.gov.uk. Fe gafodd y pwynt ei ildio gan fy ngwrthwynebydd, ac fe aeth y barnwr i ffwrdd i ddrafftio ei ddyfarniad ef. Llai na phum munud yn ddiweddarach, daeth barnwr blin iawn yn ei ôl a rhoi gwybod i mi fod prif bwynt fy nadl i ar sail darn o ddeddfwriaeth a ddiddymwyd eisoes. Y rheswm yr wyf i'n dweud hyn yw am fod y gyfraith yn gymhleth; mae'n ddigon cymhleth i gyfreithwyr, hyd yn oed. Felly, fe ddylid canmol unrhyw waith a wneir gan Lywodraeth Cymru i'w gwneud hi'n fwy hygyrch, yn enwedig am na fydd neb yn eich canmol chi am hyn, ni chewch eich llongyfarch am hyn, ac ni fydd yn destun penawdau ffafriol, ond mae'n waith pwysig sy'n cael ei wneud. Wrth gwrs, mae'r gwaith hwn yn cymryd llawer o amser ac yn ddrud iawn. Fe welsom ni hynny yn San Steffan. Ni welsom ni Fil diddymu yn San Steffan ers 2013. Pa mor aml yr hoffech chi weld Bil diddymu yma yng Nghymru, ac a oes gennych chi'r gallu i wneud hynny, o ystyried ein bod ni wedi gweld oedi gyda'r Bil cydgrynhoi cynllunio? Diolch yn fawr.
Ie. Diolch yn fawr iawn i chi am hynna, Rhys. Mae'n rhaid i mi ddweud, fe gefais innau'r un profiad: fe gefais innau fy nal allan yn yr un ffordd yn union pan oeddwn i'n dal i fod yn gyfreithiwr, ac rwy'n cofio yn dda pa mor gynhyrfus yr oeddech chi wrth i chi gyflwyno cynnig blaengar ond heb fod yn gwbl sicr ei fod ar sail y darn diweddaraf o gyfraith. Felly, rwy'n deall y pwynt yn llwyr, ac rwy'n credu y bydd hyn o gymorth mawr. Roeddwn i wir yn golygu hynny pan ddywedais i yn y datganiad y dylai fod yn hygyrch ar wasgiad botwm. Fe ddylech chi gael gweld y gyfraith ddiweddaraf, fel y mae hi mewn grym yng Nghymru ar hyn o bryd, wrth i chi wneud hynny. Nid yw'n helpu'r hanesydd ynof i pan fyddwch chi'n dymuno olrhain, efallai, gan fynd yn ôl; fe all hynny fod ychydig yn fwy anodd. Ac, wrth gwrs, os ydych chi'n dymuno gwneud hyn ar bapur, ar ôl talu ffi fechan fe allwch chi gael copi a argraffwyd yn swyddogol, ac fe allwch chi ei argraffu yn syth oddi ar y wefan, fel rwy'n siŵr y gwyddoch chi. Ond mae hyn yn golygu ei bod hi'n fwy hygyrch i rai nad ydyn nhw'n gyfreithwyr yn ogystal â chyfreithwyr yn y proffesiwn, ac felly rwy'n cytuno â hynny i gyd yn llwyr.
O ran y diddymiadau, fe fyddwn ni'n mynd â'r Bil cydgrynhoi cynllunio drwodd, rwy'n mawr hyderu, cyn belled ag y gallwn ni ddatrys ein hamserlenni deddfwriaethol. Y fi sydd â'r fraint o gael gwneud hynny fel mae pethau ar hyn o bryd. Ar ôl bod yn ymarfer y gyfraith yn y maes hwnnw am amser maith iawn, rwy'n gwybod pa mor fawr y mae angen hynny. A'r hyn yr ydym ni'n ei obeithio amdano yw, wrth i'r Senedd aeddfedu a dod yn fwy cyfarwydd â'r broses gyfuno, y bydd y diddymiadau yn dilyn yn beiriannol. Oherwydd wrth gydgrynhoi'r gyfraith y byddwch chi'n dechrau sylweddoli lle mae'r darnau hen ffasiwn yn gorwedd. Ac rwy'n credu bod Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol yn awyddus iawn i sicrhau bod proses reolaidd o ddiddymu gennym ni ar waith, oherwydd mae hynny'n amlwg o gymorth mawr gyda'r holl faterion ynghylch yr hyn sydd a'r hyn nad ydyw mewn grym.
Felly, rwy'n credu ein bod ni'n awyddus iawn, ac fe fyddwn ni'n awyddus iawn i gynnal trafodaeth ynglŷn â sut mae'r broses gydgrynhoi yn gweithio yng ngoleuni'r un gyntaf, sydd bron wedi cwblhau ei hynt nawr. Ac yna fe fydd y cydgrynhoad cynllunio mawr yn ein helpu i fireinio ein harfer yn hynny o beth yn fy marn i, ac fe fyddwn ni'n gallu gwneud rhai argymhellion ar gyfer gwaith y Senedd yn y dyfodol yn sgil y profiad o wneud hynny, os hoffech chi. Dyma'r un mawr cyntaf i ni ei gwblhau.
Diolch yn fawr iawn i chi am eich datganiad ac am y gwaith a wnewch chi hefyd o ran ceisio gwneud y gyfraith yn fwy hygyrch i'r dinesydd, oherwydd mae hon yn rhan bwysig iawn o'r broses o roi'r gallu i'r dinesydd herio gweithred gan naill ai gan gwmni cyhoeddus neu breifat yn wir nad yw'n addas i'r diben, yn ei farn ef. Felly, mae rhoi popeth mewn un man—nid yn llythrennol mewn un man, ond bod â fframwaith a fydd wedyn, yn amlwg, yn cyfeirio pobl at y darn perthnasol o ddeddfwriaeth, yn ddibynnol ar faes eu diddordeb nhw—yn ymddangos i mi'n gwbl hanfodol. Mae'n rhaid i ni wneud llunio cyfreithiau yn fwy ystwyth yng Nghymru, gan ein bod ni ar fin trafod y strategaeth addasu i'r hinsawdd, sy'n golygu bod gwir angen i ni fwrw ymlaen â rhai materion os ydym ni am osgoi trychineb.
Felly, roeddech chi'n sôn bod y Ddeddf seilwaith yn ddarn fframwaith o ddeddfwriaeth. Yn rhywun a oedd â rhan yn y gwaith craffu arno, un o elfennau pwysicaf ein hargymhellion ni oedd sicrhau y bydd popeth o ran hwnnw, ac unrhyw ddiweddariadau iddo, yn yr un man i gyd. Yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud, serch hynny—
A wnewch chi ofyn y cwestiwn nawr, os gwelwch chi'n dda?
—yw bod llawer iawn o waith i'w wneud eto o ran ei gwneud hi'n ddogfen fyw sy'n berthnasol i gyflymu a symleiddio'r broses o wneud cais am ddeddfwriaeth amgylcheddol neu unrhyw ddeddfwriaeth arall o ran seilwaith. Felly, tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy ynglŷn â'r modd y bydd y darn hwn o waith yr ydych chi'n ei wneud yn cynnig gwelliant yn hynny o beth.
Diolch yn fawr i chi am hynna, Jenny. Mae honno'n enghraifft dda iawn. Mae Deddf fframwaith wedi mynd drwy'r Senedd erbyn hyn, wedi cwblhau ei phrosesau, wedi cael Cydsyniad Brenhinol, ond mae angen i ni lunio'r is-ddeddfwriaeth nawr a fydd yn ei bywiogi hi. Y fi a wnaeth ddod â'r Bil hwnnw drwodd, fel y cofiwch chi. Roeddwn i'n eglur iawn mai Bil proses oedd hwnnw, ni roddais i unrhyw bolisi ynddo, ond proses yn unig oedd yno, ac fe fyddai'n berthnasol i bob polisi hyd yma, heb ystyried eu cynnwys nhw, ac ati. Fe fydd yr offerynnau statudol sy'n mynd gyda hynny'n nodi yn amlwg—yr offerynnau statudol, hynny yw—yn union sut byddai cais yn gweithio, yr hyn a gynhwysir yn hynny, sut y dylech chi ei gyflwyno ac ati. Mae yna bolisi ynddo; nid rhywbeth syml—. A phan gaiff y cwbl ei gyhoeddi, pan fydd yr offerynnau statudol hynny wedi mynd drwodd ar ba ffurf bynnag y bo'r Senedd yn eu cymeradwyo nhw, yna fe fyddan nhw'n cael eu cyhoeddi gyda'i gilydd yn rhan o hyn. Fe fyddwch chi'n gallu eu dilyn o un i'r llall.
Ar hyn o bryd, fe fyddai ein prosesau ni'n cyfeirio'r pob un o'r offerynnau statudol hynny drwy'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, am eu bod nhw'n cael eu hystyried yn rhai technegol. Rwy'n credu ei fod yn un o'r pethau y dylem ni ei ystyried—dim ond fy marn bersonol i yw hon—y dylem ni ystyried a oes elfen o bolisi gan rai offerynnau statudol fel y dylid eu cyfeirio at bwyllgor polisi, ac mae hynny'n rhywbeth y bydd y Dirprwy Lywydd yn dymuno ei ystyried, yn fy marn i, yn rhan o'r darn o waith yr ydym ni ar fin ei wneud gyda'r adolygiad o'r Rheolau Sefydlog, oherwydd dyna fyddai hynny'n ei olygu, ac mae'n rhywbeth y mae'r Trefnydd a minnau wedi ei drafod gyda'r Llywydd yn ddiweddar iawn, mewn gwirionedd, mor ddiweddar â bore heddiw mewn gwirionedd, Jane, nage ddim? Felly, mae hwn yn bwynt byw, ac rwy'n credu ei fod yn un y mae gan bob un ohonom ni ddiddordeb mawr ynddo.
Ac yn olaf, Alun Davies.
Rwy'n ddiolchgar, Dirprwy Lywydd. A gaf i groesawu cyhoeddi'r Bil hwn yn fawr—mae'n debyg fy mod i'n un o'r ychydig rai sydd yn cael gwir fwynhad wrth ei ddarllen ar ôl ei gyhoeddi—a'r ffordd y gwnaethoch chi ateb cwestiynau'r prynhawn yma hefyd? Rwy'n arbennig o ddiolchgar i chi am y ffordd y gwnaethoch chi ateb Adam Price, oherwydd credaf fod hwn yn gyfle i ni newid y ffordd yr ydym yn gweithredu yma, ac mae'n gyfle i ni gyd-gynhyrchu deddfwriaeth mewn ffordd, o bosibl, y mae'r system efallai, fel mae hi'n bodoli ar hyn o bryd, yn ein hatal ni rhag gwneud felly.
Mae gen i ddiddordeb arbennig—. Y Dirprwy Brif Weinidog—gan ei fod ef yma, rwyf i am ei enwi—o flaen y pwyllgor ddoe, mewn gwirionedd, ac roeddwn i'n dadlau mai dim ond creu deddfwriaeth fframwaith y mae'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol y mae ef yn ei gymryd trwodd. Nawr, ni fyddai ef wedi meiddio dweud hynny, wrth gwrs, yn Gadeirydd y pwyllgor, ond mae'r amseroedd yn newid. O ran ein sefyllfa bresennol, fe fydd y ddeddfwriaeth fframwaith honno'n cael ei chyflwyno drwy offerynnau eilaidd, ac mae hi'n ymddangos i mi fod cyfle gennym ni—gan ddilyn ymlaen oddi ar y pwyntiau a gafodd eu gwneud eisoes—yma i ddylunio ffordd y mae'r Llywodraeth yn cael ei busnes, sef ei hawl, ond mae gan y lle hwn gyfle i gyfranogi mwy yng nghyflwyniad yr offerynnau statudol hynny ar gyfer trafod polisi a gallu sicrhau bod yr offerynnau statudol sydd ar y llyfr statud wedyn yn cyflawni nid yn unig uchelgais y Llywodraeth, ond cyfranogiad gweithredol y Senedd hefyd.
Diolch yn fawr, Alun.
Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Rwy'n credu mai un o'r pethau, wrth i ni aeddfedu fel sefydliad, yw adolygu ein prosesau'n barhaus, ac rwy'n credu bod y ffordd yr ydyn ni wedi dechrau pasio'r Deddfau fframwaith mawr yma—mae'n anochel po fwyaf o bŵer gweinyddol sydd gan y lle hwn, po fwyaf tebygol yw'r mathau hynny o Ddeddfau—bod angen i ni wedyn adolygu'r broses yr ydyn ni'n ei defnyddio i greu is-ddeddfwriaeth sydd, fel y dywedodd Jenny Rathbone, yn ei gwireddu nhw, os mynnwch chi.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
Eitem 4 nawr, datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar y strategaeth addasu i’r hinsawdd, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet—Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae newid hinsawdd yn digwydd nawr. Gallwn weld yr effeithiau yn barod. Yma yng Nghymru, mae'n effeithio ar ein cymunedau, ein gwasanaethau cyhoeddus, ein seilwaith a'n byd natur, a bydd y newidiadau yma dim ond yn cynyddu dros y blynyddoedd nesaf.
Mae llawer o'n cymunedau eisoes yn teimlo effaith cynnydd yn lefel y môr ac erydu arfordirol. Rydyn ni'n gweld risgiau cynyddol o stormydd, glaw trwm, tywydd poeth, sychder a thanau gwyllt. Ac mae'n rhaid i ni gofio bob amser na fydd pawb yn teimlo effeithiau newid hinsawdd yn gyfartal. Y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymunedau yn ein plith sydd, ac y bydd, fwyaf mewn perygl.
Wedi dweud hynny, mae'r newid yn dod â chyfleoedd hefyd, o weithgareddau awyr agored newydd a swyddi ym maes seilwaith adeiladu, i fathau newydd o gnydau a chynigion twristiaeth gwahanol. Mae'n rhaid i ni wneud popeth y gallwn ni i sicrhau bod y buddion hefyd yn cael eu rhannu'n gyfartal rhyngom, ni. A dyna pam, gyda mis i fynd nes bod arweinwyr y byd yn ymgynnull yn Baku ar gyfer COP29, rydyn ni'n nodi sut y byddwn ni'n helpu Cymru i addasu i newid hinsawdd. Mae'n rhaid ymdrin â blaenoriaethau'r Llywodraeth hon—er mwyn sicrhau Cymru iachach, swyddi a thwf gwyrdd, cyfleoedd i bob teulu, a chysylltu cymunedau, yng nghyd-destun newid hinsawdd.
Mae'n rhaid i ni ymdrin â'r effeithiau a'r achosion, ac mae'r ddau wedi'u cysylltu'n annatod. Er enghraifft, mae gwneud cynnydd o ran lleihau ein hallyriadau carbon yn dibynnu arnom ni'n diogelu storfeydd carbon mewn mawndir iach, mewn priddoedd, mewn coetir a'r môr, sydd eu hunain yn wynebu risg newid hinsawdd. Dyna pam mae gwaith fel ein hymrwymiad i ddiogelu 30 y cant o'n tir a'n moroedd erbyn 2030 a'n rhaglen adfer mawndiroedd mor bwysig. Ac rwy'n falch o gadarnhau ein bod ni wedi cyrraedd ein targed adfer mawndiroedd flwyddyn gyfan yn gynnar. Mae hyn wedi diogelu mwy na 1.6 miliwn tunnell o garbon wedi'i storio. Mae wedi arwain at amcangyfrif o ostwng allyriadau gan 8,000 tunnell o garbon bob blwyddyn—mae hynny'n gyfwerth, Dirprwy Lywydd, ag allyriadau 5,700 o geir yn flynyddol. Rydyn ni'n diogelu mawndiroedd rhag difrod yn sgil newid hinsawdd ac yn lleihau allyriadau ar yr un pryd. Nawr, mae hon yn enghraifft gadarn o pam mae'n hanfodol ein bod ni'n ystyried datgarboneiddio ac addasu gyda'i gilydd.
Mae'r strategaeth addasu i'r hinsawdd yn canolbwyntio ar ymdrin â'r dystiolaeth ddiweddaraf ar risg hinsawdd. Mae'r strategaeth hefyd yn ymdrin â chanfyddiadau adroddiad cynnydd ar addasu i'r hinsawdd Pwyllgor Newid Hinsawdd Cymru 2023, ac yn nodi sut mae'r rhain yn llywio'n gwaith. Mae llawer iawn o waith eisoes yn digwydd ledled Cymru i ddatblygu cydnerthedd. Mae'n allweddol mewn cymaint o ardaloedd—rheoli dŵr a llifogydd, iechyd y cyhoedd, coedwigaeth, amaethyddiaeth, trafnidiaeth, cynllunio datblygu a mwy. Er enghraifft, rydyn ni'n darparu mwy na £75 miliwn i awdurdodau rheoli risg llifogydd ledled Cymru y flwyddyn ariannol hon—2024-25—i ddiogelu cartrefi a busnesau pobl. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddiogelu 45,000 o eiddo ychwanegol yn ystod tymor y Senedd hon. Rydyn ni'n cyflwyno cynlluniau mwy cynaliadwy trwy atebion sy'n seiliedig ar natur a dulliau rheoli ar raddfa dalgylch.
Yn wir, yn ystod ymweliad diweddar â'r cynllun rhaglen rheoli risg arfordirol yn Aberaeron, cefais y cyfle i gwrdd â dau brentis sy'n cymryd rhan weithredol mewn dysgu a datblygu sgiliau a dulliau gweithredu o fewn y prosiect i sicrhau dulliau adeiladu cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r cwmni adeiladu, BAM, wedi cwrdd â disgyblion ysgolion lleol i helpu disgyblion i ddeall a gwireddu eu potensial i fod yn beirianwyr sifil y dyfodol, ac i ddysgu sut y gall peirianwyr sifil weithio gyda chymunedau i ddylunio datrysiadau peirianneg.
Ond rydyn ni'n gwybod bod angen gwneud mwy. Rydyn ni wedi ymrwymo i wreiddio ein hymateb yn yr argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth yr ydyn ni'n ei wneud. Mae'r strategaeth yn cynnwys cynlluniau i bob rhan o'r Llywodraeth weithio gyda'i gilydd, o ddiogelu rhwydweithiau trafnidiaeth agored i niwed rhag tywydd eithafol i weithio gyda Llywodraeth y DU i wella diogeledd bwyd. Ac er bod gan Lywodraeth Cymru ran hanfodol yn cyflenwi addasiadau i'r hinsawdd, ni allwn ni wneud hyn ar ein pen ein hunain.
Mae'r strategaeth hefyd, felly, yn nodi'r camau allweddol y mae partneriaid yn eu cymryd, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, awdurdodau lleol a byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Er enghraifft, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi'r asesiad o effaith newid hinsawdd ar iechyd yng Nghymru i helpu sefydliadau i asesu'r risgiau i iechyd a lles yn sgil newid hinsawdd, wrth fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn canolbwyntio ar atebion sy'n seiliedig ar natur i leihau llifogydd ac yn datblygu cynlluniau peilot addasu'r arfordirol yn rhannau mwyaf agored i niwed Cymru.
Rwy'n ddiolchgar iawn i randdeiliaid, y mae eu cyfraniad wedi rhoi cymaint o ehangder a dyfnder i'r strategaeth hon. Byddwn ni'n parhau i weithio gyda'n cymunedau, gyda phob sector a busnes ledled Cymru, i gryfhau ein polisïau addasu i'r hinsawdd ymhellach. Rydyn ni hefyd eisiau cefnogi pobl ledled Cymru i gymryd rhan. At y diben hwn, byddwn ni'n parhau i ddatblygu ein rhaglen Gweithredu ar Newid Hinsawdd Cymru. Bydd Wythnos Hinsawdd Cymru eleni ym mis Tachwedd hefyd yn canolbwyntio ar addasu i'r hinsawdd a bydd yn rhoi cyfle i bobl ledled y wlad gymryd rhan. Rydyn ni hefyd yn cefnogi grwpiau cymunedol i gynnal digwyddiadau lleol, drwy ein cronfa sgyrsiau hinsawdd.
Yn ei hanfod, mae'r strategaeth hon yn gatalydd ar gyfer gweithredu pellach. Rydyn ni'n datblygu fframwaith monitro newydd i helpu i drosi'r polisïau yn gamau ar lawr gwlad ac i ysgogi'r gwelliant parhaus hwnnw. Bydd y fframwaith yn cael ei gyhoeddi'r flwyddyn nesaf, a byddwn ni'n gweithio gyda chyrff cyhoeddus perthnasol i gasglu'r dystiolaeth sydd ei hangen arnom i gefnogi hyn. Ac rydyn ni'n archwilio sut i gryfhau ymhellach ein cysylltiadau â'r byd academaidd ar amrywiaeth o bynciau, fel addasu i'r hinsawdd.
Dirprwy Lywydd, mae sawl her anodd a chymhleth ynghlwm wrth newid hinsawdd, ac mae llawer iawn mwy i’w wneud o hyd. Mae ein strategaeth newydd ar addasu i'r hinsawdd yn sicr yn gam pwysig ymlaen. Diolch yn fawr iawn.
Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad ar y maes polisi hanfodol hwn. Yn wir, gwnaeth adroddiad cynnydd 2023 y Pwyllgor Newid Hinsawdd ar addasu yng Nghymru ganfod nad oedd digon o gynnydd o ran cyflawni a gweithredu, a bod monitro'n gyfyngedig iawn. Mae newid hinsawdd yma—rydyn ni'n gwybod hynny. Cafodd y tymheredd dyddiol uchaf newydd yng Nghymru, sef 37 gradd ei gofnodi ym Maes Awyr Penarlâg, sir y Fflint. Mewn gwirionedd, gallai'r costau sy'n codi o newid hinsawdd fod tua 7 y cant o gynnyrch domestig gros y DU erbyn 2100. Felly, mae'n rhaid i ni addasu yn y ffordd orau a mwyaf economaidd i Gymru.
Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod gennym ni ddigon o graffu yn y Senedd, a chraffu effeithiol yn y Senedd, mae'n hanfodol bod gennym ni ddigon o amser i ystyried dogfennau cyn y sesiynau Cyfarfod Llawn fel hyn. Heddiw, ni chawsom gopi o'r strategaeth addasu 88 tudalen newydd tan hanner dydd. Felly, byddwn i'n gofyn, Ysgrifennydd Cabinet: rwy'n gwybood eich bod chi yn y portffolio hwn galon ac enaid, a'ch bod yn brysur iawn, ond siawns na allai eich swyddogion ddarparu mwy nag ychydig oriau o amser i holl Aelodau'r Senedd—wel, roedd yn llai na hynny—i ystyried gwaith papur a pholisi cyn sesiynau yn y Siambr hon.
Rwy'n croesawu'r ffaith y byddwch chi'n sefydlu fforwm polisi newydd gydag arbenigwyr ar newid hinsawdd i helpu i ysgogi'r agenda hon. Unwaith eto, pa mor gynhwysol fydd hynny i Aelodau eraill nad ydyn nhw ym mhlaid y Llywodraeth? Mae polisi newid hinsawdd, fel y gwelwn ni o'r cynllun, yn eang. Felly, sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod y fforwm yn gynrychioliadol o'r sector cyfan? Rydych chi'n ymwybodol na fydd unrhyw ran o waith Cyfoeth Naturiol Cymru na fydd yn cael ei effeithio gan newid hinsawdd, a bod dros 50 o gamau gweithredu wedi'u llunio bellach. Ar ben hynny, maen nhw'n aelod o'r 13 bwrdd gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r Senedd eisoes wedi clywed bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn wynebu methiant ariannol sylweddol, wedi'i waethygu gan gostau cynyddol a dyraniadau cymorth grant nad ydynt yn cyd-fynd â chwyddiant. Pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i leihau'r pwysau ar Cyfoeth Naturiol Cymru, drwy rannu rhai o'i gyfrifoldebau, fel rheoli llifogydd, i asiantaeth llifogydd genedlaethol newydd i Gymru?
Yn briodol, mae Adran 4(3) yn cydnabod bod cynghorau ar flaen y gad wrth fynd i'r afael â chynhesu byd-eang a lliniaru risg hinsawdd. Felly, sut byddwch chi'n sicrhau bod awdurdodau lleol, gan gynnwys fy un i, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, lle maen nhw o bosibl yn wynebu methdaliad o ganlyniad i'r diffyg cyllid sy'n dod o'r lle hwn—? [Torri ar draws.] Pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi—? O, felly mae gennym ni gyni yn Llywodraeth Cymru nawr, ydych chi'n ei ddweud, yr Aelod ar y fainc gefn. Pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i'r ffaith bod gwasanaethau statudol, fel addysg a gofal cymdeithasol, yn tynnu adnoddau oddi wrth brosiectau a allai helpu i fynd i'r afael ag effaith newid hinsawdd? Maen nhw eu hunain yn feysydd pwysig iawn o ran darparu gwasanaethau.
Rwy'n croesawu'r cynllun ar gyfer natur a'r ffaith bod strategaeth cadwraeth adar môr Cymru yr ydyn ni wedi galw amdani ers tro ar y meinciau hyn, erbyn hyn yn addewid ar gyfer 2025, ac mae'r ymrwymiad hwnnw hefyd wedi'i wneud i ariannu adfer cynefinoedd arfordirol allweddol, fel morfeydd heli a morwellt. Ond a allwch chi fynd gam ymhellach a threfnu creu cynllun datblygu morol cenedlaethol i Gymru sy'n mapio lle yn union yr ydyn ni eisiau i brosiectau adnewyddadwy mawr ac eraill ddigwydd? O ran pysgodfeydd, nid oes cyfeiriad at effaith prosiectau ynni gwyrdd ar ein pysgotwyr. A allech chi ychwanegu fel targed, yr angen i ystyried sut y gall seilwaith fel ffermydd gwynt alltraeth gael effaith gadarnhaol ar ein pysgotwyr, fel trwy greu riffiau artiffisial, ffermydd morwellt a chyfyngu ar aflonyddu ar wely'r môr?
O ran amaethyddiaeth, y mae wedi'i nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy ar ffermydd. A wnewch chi roi cafeat ar hynny drwy wrthwynebu colli ffermydd cyfan i solar? O ran diogeledd bwyd—ac rwyf wedi codi hyn gymaint o weithiau ers i mi fod yma—nid yw'r weledigaeth yn sôn am leihau dibyniaeth ar fewnforion. Felly, a wnewch chi gadarnhau eich bod chi'n cytuno â mi y dylen ni helpu Cymru a gweddill y byd i addasu i newid hinsawdd drwy wneud ymrwymiad polisi clir i gynhyrchu mwy o fwyd yng Nghymru a dibynnu llai ar fewnforion costus—sy'n gostus i'n trigolion ac yn gostus o ran yr agenda newid hinsawdd?
Mae llawer mwy y gallwn i ei ofyn, ond, yn olaf, mae'r adroddiad y nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiadau eraill ac yn adrodd ar gynnydd o fewn y pum mlynedd nesaf. A allwn ni gael yr adroddiadau cynnydd hynny bob blwyddyn? A hefyd, mae angen cyfle priodol arnom i drafod yr holl dargedau yr ydych chi wedi'u gosod yn y cynllun hwn. Diolch.
Diolch yn fawr, Janet. Dirprwy Lywydd, dim ond i amlygu bod y strategaeth sydd wedi'i chyflwyno a'r datganiad heddiw yw rhoi'r cyfle cyntaf, nid yr unig gyfle, i drafod yr amrywiaeth o faterion yn hyn o beth. Oherwydd bod y strategaeth, yn wir, yn draws-lywodraethol, yn draws-sector, yn draws-gymdeithas. Nid ydyn ni'n mynd i wneud cyfiawnder â hwn o fewn 45 munud y prynhawn yma, ond mae'n gyfle, byddwn i'n dweud, i ddod â hyn i lawr y Senedd, a hwn fydd y cyntaf o lawer o gyfleoedd hefyd. Oherwydd bod hyn yn cynnwys lliniaru hinsawdd, busnes a'r economi, cyfiawnder cymdeithasol, llifogydd, iechyd a lles, bwyd, amaethyddiaeth, planhigion, rhywogaethau ymledol—ni soniodd neb am hynny y prynhawn yma, ond mae'n un wirioneddol sydd o ddiddordeb mawr i mi—diwylliant, amgylchedd hanesyddol, cynllunio, adeiladau, TGCh a thelathrebu, cydnertheddd ein seilwaith ehangach, yn gweithio gyda Llywodraeth y DU. Mae llawer o bethau yn hyn o beth.
Ni allwn wneud cyfiawnder llawn â hyn y prynhawn yma, Janet, ond os ydych chi neu Aelodau eraill, y tu hwnt i'r drafodaeth yma ar lawr y Senedd heddiw, am fanylu mwy, rwyf i bob amser yn awyddus i ymgysylltu ag ef. Ond yr hyn y mae yn ei wneud yw nodi'r heriau sydd gennym ni, achosion ac effeithiau newid hinsawdd, ac mae hefyd yn nodi gweledigaeth glir iawn o sut olwg fyddai ar Gymru wedi'i haddasu'n dda mewn dyfodol cadarnhaol sy'n ymdrin â risgiau newid hinsawdd, ond hefyd y cyfleoedd y mae'n eu rhoi a hefyd yn lleihau anghydraddoldebau ar draws ein cymdeithas hefyd. Felly, diben y strategaeth hon yw ysgogi ymgysylltu ehangach, gan gynnwys, mae'n rhaid i mi ddweud, gydag Aelodau'r Senedd yn ogystal ag ar bwnc addasu i'r hinsawdd. Ac mae hynny ar y gweill yn awr gyda chynnydd tuag at Wythnos Hinsawdd Cymru ym mis Tachwedd hefyd. Ond mae yn galw, Janet, am weithredu ar y cyd; mae'n nodi, mewn gwirionedd, y bydd fframwaith monitro, fel y gwnaethoch chi sôn amdano, a fydd yn cael ei gyhoeddi'r flwyddyn nesaf; mae'n dweud yn glir iawn bod yn rhaid i ni ymgorffori addasu i'r hinsawdd i wneud penderfyniadau ar draws pob maes polisi, a hefyd y ffaith y bydd hyn yn arbed arian yn y tymor hir, gan y bydd y gost o beidio â gwneud unrhyw beth, y difrod, yn fwy.
Dim ond i godi un neu ddau o'r pwyntiau y gwnaethoch chi eu codi yn y fan yna, Janet, o ran llifogydd, rydyn ni'n cydnabod her hyn, a dyna pam mae'r gwariant cyfalaf y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddo y flwyddyn ddiwethaf ac eleni yn enfawr a sylweddol, dyma'r lefel uchaf erioed. Ond, wrth gwrs, rydyn ni hefyd yn darparu mwy na £75 miliwn i awdurdodau rheoli risg llifogydd ledled Cymru yn y flwyddyn ariannol hon, i gefnogi addasu a chydnerthedd ehangach. Bydd hyn yn mynd tuag at y cyfuniad o lifogydd a lefel y môr yn codi, gan ddiogelu 45,000 o eiddo ychwanegol y tymor hwn. Mae hyn drwy weithio gydag awdurdodau lleol ac eraill, fel contractwyr a Cyfoeth Naturiol Cymru, ar lawr gwlad, ond rydyn ni hefyd yn gweithio gydag atebion sy'n seiliedig ar natur. Yn wir, mae'n rhaid i ni wneud mwy am yr amgylchedd morol. Dyna pam mae'r gwaith sydd gennym ni ar y gweill yn y Llywodraeth ar gynllunio morol a chyflwyno parthau morol eisoes ar y gweill, ac edrychwn ymlaen at gyflwyno hynny i'r Senedd hefyd i graffu arno ymhellach.
Yn sicr, o ran diogeledd bwyd, rydyn ni yn aml yn cael y ddadl hon sydd, weithiau, yn cael ei thynnu i lawr i'r nodweddion mwyaf cyffredin, sef canrannau o faint o fwyd yr ydyn ni'n ei gynhyrchu mewn gwirionedd. Ac rwy'n dweud dro ar ôl tro, 'Wrth gwrs, mae angen i ni gynhyrchu bwyd da, fforddiadwy, maethlon yma ar gyfer ein marchnadoedd domestig' ac mae llawer y gallwn ni ei wneud o fewn hynny, ond ni ddylem eithrio gallu ein ffermwyr, lle maen nhw'n gweld y cyfle masnachol, i allforio eu cynnyrch hefyd. Ac, mewn gwirionedd, maen nhw'n cael prisiau gwell weithiau a phrisiau uchel am bethau nad ydyn ni'n eu bwyta yma, yr ydym yn eu hallforio. Felly, lle mae hynny'n cysylltu â ddiogeledd bwyd? Oherwydd mae yna ddiogeledd bwyd byd-eang. Mae yna rai pethau yr ydyn ni'n eu mewnforio oherwydd nad ydyn nhw'n cael eu cynhyrchu yma. Yn sicr, gallwn ni wneud mwy. Mae Jenny yn codi mater garddwriaeth yn rheolaidd. Gallwn ni wneud llawer mwy ar hynny. Ond o ran diogeledd bwyd, mae yna agwedd ryngwladol iddo yn ogystal ag agwedd ddomestig.
Yn wir, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda DEFRA a'r gweinyddiaethau datganoledig, ac Adroddiad Diogeledd Bwyd y Deyrnas Unedig—yr UKFSR—sy'n nodi ein dadansoddiad o ddiogeledd bwyd. Ac er na allwn ni byth fod 100 y cant yn ddiogel, rydyn ni, drwy'r cynllun ffermio cynaliadwy, eisiau sicrhau y gallwn ni gynhyrchu dyfodol ar gyfer ffermio cynaliadwy yng Nghymru sy'n ein helpu gyda chydnerthedd hinsawdd, oherwydd y diogelwch gorau i'n ffermydd a'n bywoliaeth ffermio yng Nghymru mewn gwirionedd yw sicrhau cydnerthedd hinsawdd i ffermio, sef yr hyn yr ydyn ni'n ceisio ei wneud gyda'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a bydd hynny hefyd yn rhoi hwb i'n cynhyrchu bwyd gwirioneddol yma ar gyfer marchnadoedd domestig a rhyngwladol hefyd. Roedd llawer mwy o bwyntiau, Janet, yr ydych chi'n eu codi, ond rwy'n fwy na pharod i gael trafodaeth arall ar y rhain wrth i amser fynd heibio.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am hyn. Mae hi mor bwysig, achos addasu i'r hinsawdd ydy un o'r heriau mwyaf pwysig a mwyaf o sialens sy'n ein hwynebu ni yng Nghymru wrth i ni, fel dŷch chi wedi gosod mas, ymdrechu i ddiogelu cymunedau, seilwaith a'n hamgylchedd naturiol rhag effeithiau cynyddol y creisis hinsawdd.
Mae'r rhagamcanion yn frawychus: erbyn y 2050au, gallai tymereddau blynyddol yng Nghymru godi 1.2 gradd Celsius, gyda'r gaeafau'n mynd yn fwy gwlyb a'r hafau yn mynd yn fwy sych. Mae hynny'n bygwth ein hecosystemau, adnoddau dŵr, ac, wrth gwrs, iechyd y cyhoedd. O ystyried y cefndir hwn, mae'r cyhoeddiad heddiw ar y strategaeth addasu i'r hinsawdd yn foment allweddol, dwi'n meddwl.
Mae fy mhryder cyntaf yn ymwneud â'r ffaith bod yr asesiad risg newid hinsawdd diwethaf i Gymru wedi'i gynnal yn 2021. Yn adeiladu ar yr hyn sydd wedi cael ei ddweud yn barod ar hyn, oherwydd bod yr hinsawdd yn esblygu ar gyflymder cyflymach o hyd, pa asesiad mwy diweddar ydych chi'n bwriadu edrych arno er mwyn edrych ar y risgiau sydd yn ein hwynebu ni nawr? A oes gennych chi hyder fod gennym ni'r data mwyaf diweddar i sicrhau bod y strategaeth hon yn adlewyrchu’r dystiolaeth a’r tueddiadau gwyddonol yn ddigonol?
Nododd adroddiad Pwyllgor Newid Hinsawdd y Deyrnas Unedig, sef y CCC, fod 61 o risgiau a chyfleoedd sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd, gyda bron i hanner angen gweithrediad ar frys. Hoffwn i ofyn pa gamau penodol bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i leihau'r bygythiadau ar draws sawl sector, fel rheoli dŵr, iechyd y cyhoedd a seilwaith. Sut fyddwch chi’n blaenoriaethu'r rheini o fewn tymor presennol y Senedd, plîs?
Mae’r CCC wedi amlygu bod monitro a gwerthuso mor gyfyngedig fel nad oedd gan y CCC y gallu i asesu cynnydd ar fwy na hanner y canlyniadau addasu. Mae hyn yn codi'r cwestiwn pam, er gwaethaf y fframweithiau cynllunio, nad yw'r canlyniadau rydym ni'n eu dymuno wedi'u cyflawni. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â'r broblem honno a’r diffygion hynny, a pha gamau fydd yn cael eu cymryd i gryfhau'r fframwaith monitro a gwerthuso, plis?
Un o ganfyddiadau eraill allweddol adroddiad y CCC, achos mae hwnna mor bwysig yn y cyd-destun hwn, wrth gwrs, oedd yr angen am fwy o eglurder, ac mae hyn wedi cael ei godi yn barod, o ran lle mae'r cyfrifoldeb i ddarparu addasiad i'r hinsawdd yn sefyll. Mae cyrff cyhoeddus fel Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol, fforymau cydnerthedd lleol a byrddau gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn chwarae rôl, ond nid ydym wedi gweld llinellau atebolrwydd clir sy'n sicrhau gweithredu cydlynol ac effeithiol ar draws y cyrff hyn. Felly, sut bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod y sefydliadau yn cael eu hadnoddu yn ddigonol a’u grymuso a'u cydlynu'n briodol i sicrhau bod hynny i gyd yn digwydd ar draws?
Gan droi at y dimensiwn iechyd cyhoeddus, mae digwyddiadau tywydd eithafol yn cynyddu nifer yr achosion o salwch sy'n gysylltiedig â gwres, cyflyrau iechyd meddwl, a lledaeniad afiechydon a gludir gan fector. Beth ydych chi’n ei wneud er mwyn sicrhau bod gan y systemau iechyd a gofal cymdeithasol ddigon o adnoddau a bod hynny’n cael ei gydlynu i mewn gyda hyn, plis?
Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, os oes amser gen i, mae rheoli dŵr yn fater hanfodol yn y cyd-destun hwn. Mae disgwyl y bydd faint o law byddwn yn ei weld yn ystod misoedd yr haf yn lleihau 15 y cant erbyn y 2050au, efallai lan at 26 y cant erbyn y 2080au. Bydd lleihad hyd yn oed yn fwy syfrdanol yn ne-ddwyrain Lloegr. Os nad oes gennym ni yng Nghymru fwy o bwerau dros ddŵr, byddwn ni’n cario ymlaen i weld y cwmnïau yma yn Lloegr yn gallu echdynnu dŵr heb daliad teg ac yn ein gadael ni mewn mwy o greisis. Felly, a fydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu ceisio datganoli pwerau dros ddŵr yn llawn i osgoi creisis fel yna rhag digwydd?
Diolch yn fawr iawn, Delyth. Roedd llawer o bethau yna.
Fe wnaf geisio ymateb i'r rhan fwyaf o'r pwyntiau yr ydych chi wedi'u codi yn y fan yna. Yn gyntaf oll, fel yr ydych chi'n ei gydnabod yn briodol, rydyn ni wedi datgan argyfyngau natur a hinsawdd yma, fel yn wir y mae llawer o awdurdodau lleol ledled y wlad, fel yn wir y mae llawer o gyrff cyhoeddus hefyd, ac mae angen i ni weithredu ar hynny. Mae rôl i bob un ohonom ni i wneud hyn. Fe wnaf i ddisgrifio rhai o'r hanfodion strategol yn fyr mewn eiliad.
Roeddwn i'n dweud fy mod i allan yn Aberaeron yn ddiweddar. Un o'r ymweliadau cysylltiedig eraill y gwnes i oedd i'r ysgol yn Aberaeron, ac roeddwn i gyda phlant yno a oedd yn plannu perllan. Efallai y byddwch chi'n dweud, 'Wel, mae hynny'n hyfryd, plannu perllan', ond, mewn gwirionedd, roedd plannu'r berllan yn ymwneud yn union â chydnerthedd hinsawdd ac amsugno rhywfaint o'r carbon hefyd. Fe allech chi weld faint yr oedden nhw wedi ymgysylltu â hyn fel dinasyddion ifanc. Fy neges iddyn nhw oedd, 'Peidiwch â rhoi'r gorau i hyn pan fyddwch chi'n mynd adref, neu pan fyddwch chi'n gadael yr ysgol, neu beth bynnag, daliwch ati i fod yn angerddol amdano.' Ond mae yna neges i'r Llywodraeth, yn ogystal ag i bob dinesydd unigol yno hefyd.
Y peth pwysig i'w ddweud o ran yr her yw ein bod ni'n cydnabod yr her, rydyn ni'n cydnabod bod yn rhaid i ni fynd ymhellach. Mae hyn wedi'i ddangos yn glir yn y strategaeth sydd wedi'i chyflwyno, y 15 cynllun addasu traws-sector sy'n cynnwys gwahanol systemau. Felly, mae'r 15 cynllun hynny wedi'u cynllunio'n fwriadol i fynd ar draws y darn, i rai o'r meysydd yr ydych chi wedi'u disgrifio a mwy, ac yna i gyflwyno'r fframwaith monitro, fel y gallwn ni fesur sut yr ydyn ni'n ei wneud yn erbyn hynny, wrth symud ymlaen.
Ond mae hon yn gydnabyddiaeth, mae'n rhaid i mi ddweud, ein bod ni, wrth gyflwyno hyn, sy'n cymryd lle ein cynllun addasu cenedlaethol blaenorol, 'Ffyniant i Bawb: Cymru sy'n Effro i'r Hinsawdd', a gafodd ei gyhoeddi yn 2019, a yn cael ei lywio gan 'Asesiad Annibynnol o Risg Hinsawdd y DU 2021', ac 'Addasu i newid yn yr hinsawdd: Cynnydd yng Nghymru', a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, ac a ddangosodd y dystiolaeth bod risgiau'r hinsawdd yn cynyddu amryw waith, ond bod addasu yn mynd ar ei hôl hi, a dyna pam y gwnaethon ni gyflwyno'r strategaeth hon nawr, ar draws y 15 sector hynny, ac mae'n rhaid i bawb chwarae rhan. Ac mae'n ddull sy'n seiliedig ar systemau. Mewn gwirionedd, mae'n seiliedig ar fframwaith monitro addasu'r Pwyllgor Newid Hinsawdd. Dyma'r ffordd y maen nhw wedi dweud y dylen ni ei gyflawni: gan nodi'n fanwl iawn pwy sydd â chyfrifoldeb, fel y dywedwch chi, sydd ag atebolrwydd i ysgogi hyn. Wel, mae cyfrifoldeb gennym ni i gyd mewn gwirionedd, ond wrth nodi hyn o fewn y strategaeth, mae'n nodi'r prif feysydd hynny.
Roeddech chi'n gywir i dynnu sylw at y mater o ddadansoddi risg, a dim ond i ddweud, mae'n rhaid i bob un o'r pedair gwlad gynhyrchu'r cynllun addasu cenedlaethol. Mae'r strategaeth hon yn seiliedig ar ein hymateb i asesiad risg hinsawdd statudol Llywodraeth y DU, sy'n dangos i ni rywfaint o'r diffyg sydd gennym ni a sut mae angen i ni fynd ymhellach. Ac mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi ein cynghori ni ar hyn hefyd.
Nawr, o ran digonolrwydd adnoddau, ar gyfer yr holl sefydliadau dan sylw, weithiau mae pobl yn dweud, 'Wel, yr awdurdodau lleol neu Cyfoeth Naturiol Cymru ydyw', ond hefyd, mae'n ymwneud â sefydliadau fel yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, sy'n ymdrin â lles anifeiliaid, ac yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion sy'n ymdrin â materion ffytoiechydol planhigion hefyd, oherwydd mae'r rhain i gyd yn heriau o ran cydnerthedd hinsawdd. Nawr, bydd pob un ohonyn nhw o dan bwysau cyllidebol. Nid oes sefydliad yn y wlad nad oes, ond mae angen i ni sicrhau, er mwyn cyflawni hyn, fod ganddyn nhw adnoddau digonol a'u bod yn blaenoriaethu hyn yn effeithiol hefyd.
O ran iechyd, ar fater critigol iechyd a lles, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyflwyno cyhoeddiad 'Newid Hinsawdd yng Nghymru: Asesiad o'r Effaith ar Iechyd', sy'n werthusiad cynhwysfawr o effeithiau newid hinsawdd ar iechyd y boblogaeth. Mae tîm gwyliadwriaeth integredig newydd ar gyfer hinsawdd ac iechyd cyhoeddus amgylcheddol, sydd wedi ei lansio'n ddiweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, a hefyd mae pecyn cymorth addasu hinsawdd wedi'i ddatblygu ar gyfer sefydliad iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Dyna rai o'r pethau gweladwy sy'n cael eu cyflawni yn y maes hwnnw, ac rwy'n credu ei fod yn cyd-fynd â'r manylu hwnnw o fewn y strategaeth sy'n dweud bod gan bawb rôl i'w chwarae ynddi erbyn hyn.
Ac yn olaf, ar fater y pwerau dros y dŵr, mae'n disgyn i Weinidogion, Gweinidogion Cymru, ac rwy'n gwybod y byddwn ni'n cadw llygad barcud ar hyn, oherwydd eich bod chi'n gywir, gan y byddwn ni'n cael cyfnodau yng Nghymru pan fyddwn ni'n cael ein boddi a'n gorlifo a byddwn ni'n cael sychder hefyd. Ond rydyn ni'n cydnabod y gallai fod galwadau arnom ni yn y dyfodol, wrth symud ymlaen, i helpu gyda rhai o'r materion cymdeithasol a thegwch hynny yr ydyn ni'n siarad amdanyn nhw ledled y DU a mynediad at ddŵr. Ond, Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am reoli hynny. Byddwn ni'n cadw golwg ar ddeddfwriaethau a'r rheoliadau perthnasol a beth bynnag, ond rydyn ni'n glir iawn mai mater i ni yw gwneud y penderfyniadau yna o ran yr ased dŵr sydd yng Nghymru. Ond bydden ni eisiau chwarae ein rhan, yn amlwg, pe bai pethau cywir a phriodol yn cael eu gofyn gennym ni wrth symud ymlaen.
Hoffwn i longyfarch pawb sydd wedi bod rhan o'r gwaith o gyrraedd y targed adfer mawndiroedd flwyddyn cyn yr oedd i fod i gael ei gyflawni. Mae hynny'n rhagorol. Gwelais i rywfaint o'r gwaith hwn pan ymwelodd pwyllgor yr economi â'r canolbarth y diwrnod o'r blaen. Yn amlwg, rydw i ond eisiau bod yn eofn gan ddweud, 'Wel, onid oedd y targed yn ddigon heriol?' [Chwerthin.] [Torri ar draws.] Iawn. Iawn. Ond mae'n bwysig iawn ein bod ni'n parhau i wneud yr hyn y mae'n amlwg ein bod yn ei wneud yn dda. Ac mae gennym ni nifer fawr o randdeiliaid sy'n barod i gymryd rhan yn cyflawni hynny, oherwydd mae'n dda i'r amgylchedd, yn dda i'r hinsawdd ac yn dda i bawb.
Rwy'n hoffi'r siart gylch sydd gennych chi ar gyfer y pum cam rheoli argyfwng yn fawr, oherwydd mae'n gwneud yn glir iawn yr holl wahanol bethau y mae angen i ni eu gwneud. Ac mae hyn yn bwysig iawn os ydyn ni'n mynd i ymgysylltu â'r cyhoedd yn hyn o beth, ac ni allwn ni ei wneud hebddyn nhw. Ac yn amlwg, pe na bai Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn bodoli, byddai'n rhaid i ni eu dyfeisio.
Roeddwn i eisiau gofyn un peth penodol, oherwydd fory, byddwn ni'n trafod cynlluniau ffermio cynaliadwy ac, felly, bydd modd trafod popeth sy'n ymwneud â phridd, ac ati, yno. Ond un o'r risgiau mwyaf, fel yr ydych chi'n ei amlygu yn eich dogfen, yw'r gwres mewn cartrefi ac adeiladau eraill, a byddai hynny wrth gwrs yn cynnwys ysgolion ac ysbytai. Mae pob adeilad cyhoeddus i fod i fod yn sero net erbyn 2030, ond rwy'n gweld nad yw'n ymddangos bod meddylfryd llawer o weision cyhoeddus, mewn gwirionedd, yn cyd-fynd â hynny, ac mae'n fater o, 'O, nid ydyn ni wedi ystyried hynny mewn gwirionedd.' Wel, 2030 yw'r diwrnod ar ôl yfory—
Mae angen i chi ofyn y cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda.
—yn nhermau hinsawdd, a hefyd mae'n amlwg bod rhaglen Cartrefi Cynnes hefyd yn rhaglen cartrefi oer. Nawr, fe wnes i feddwl tybed pa drafodaeth yr ydych chi wedi'i chael gyda'ch cydweithwyr yn y Cabinet ar gynyddu'r £30 miliwn hwnnw i rywbeth mwy realistig o ran y dasg aruthrol sydd o'n blaen ni o ran hynny.
Jenny, diolch yn fawr, a dim ond o ran y targedau adfer mawndiroedd, na, roedden nhw'n uchel ac yn uchelgeisiol, ac mae'n glod gwirioneddol, fel y dywedoch chi, i bawb sy'n gysylltiedig â hyn ein bod ni wedi eu cyflawni. Ac rwy'n credu bod y rhaglen adfer mawndiroedd yn dangos y ffordd y gallwn ni ddod â phartneriaid ynghyd â swm o gyllid sydd nid yn unig yn ymwneud â'r sector cyhoeddus, i ysgogi newid a chyrraedd y targedau mewn blwyddyn. Ac yna ystyried, 'Wel, i ble'r awn ni nesaf? A allwn ni wneud hynny mewn meysydd eraill?', a fyddai'n ddiddorol iawn, a fyddai'n sicrhau cydnerthedd hinsawdd ac enillion bioamrywiaeth, ac ati.
Rydych chi'n sôn yn benodol—ac eto, gan adlewyrchu hyd a lled y strategaeth hon—y mater sy'n ymwneud â'r hyn y gwnaethoch chi, yn hollol gywir, ei ddisgrifio, sef bod yn rhaid i rai o'n dull Cartrefi Cynnes hefyd fod yn ymwneud â chartrefi oer hefyd, wrth i ni addasu i wirionedd cynhesu hinsawdd, ond hefyd i newid hinsawdd. Felly, rydyn ni wedi ymrwymo'n fawr i ymgorffori'r gofyniad hwn i adeiladu ac ôl-osod y cartrefi i fod yn gydnerth a chydnabod y gwahanol agweddau hynny ar newid hinsawdd a sut mae angen i ni addasu. Yn fuan, byddwn ni'n cyhoeddi map llwybr a chynllun gweithredu ar gyfer datgarboneiddio cartrefi yng Nghymru, sy'n ceisio cydnabod addasrwydd a gofynion cydnerthedd cartrefi, a chydbwyso'r rheini ag anghenion datgarboneiddio hefyd, a gan ystyried yn union yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud, bod angen cartrefi cynnes a chartrefi oer arnon ni hefyd. Mae angen eu cynllunio yn y ffordd honno.
Wrth gwrs, mae gennym ni hefyd y gwaith yr ydyn ni'n ei wneud ym maes safonau ansawdd tai Cymru a hefyd o ran rheoliadau adeiladu, ac mae angen iddyn nhw chwarae rhan yn hyn hefyd. Ond rydych chi'n gywir: mae angen meddwl am yr hen ddealltwriaeth gonfensiynol, ychydig ar ei hôl hi erbyn hyn, sef 'Adeiladwch gartrefi cynnes, adeiladau cynnes', mewn modd mwy manwl erbyn hyn ac mewn gwirionedd dweud, 'Wel, mae angen iddyn nhw fod yn adeiladau sy'n hawdd iawn eu haddasu o ran cydnerthedd hinsawdd ac addasu i'r hinsawdd.'
Dau beth, yn sydyn, os caf i, os gwelwch yn dda. Mae pawb yn pryderu yn naturiol am lefel y môr yn cynyddu, ond un o'r heriau mwyaf sydd ein hwynebu ni o ran dŵr ydy lefel y glaw sydd yn disgyn ar y mynyddoedd a'r dŵr yn dod lawr o'r afonydd. Un o'r ffyrdd, yn fy ardal i yn enwedig, o ddelio efo hynny ydy'r ardaloedd dreinio mewnol sydd gennym ni. Maen nhw'n effeithiol iawn yn sicrhau bod dŵr yn gallu mynd allan i'r môr, ond mae'r drefn bresennol o weithredu ardaloedd dreinio mewnol yn fethedig. Felly, ydych chi wedi ystyried adolygu trefn ardaloedd dreinio mewnol, ac a wnewch chi gyfarfod â fi er mwyn edrych ar system a'r ffyrdd o weithredu'r ardaloedd yna yn well?
Ac yn ail, roeddwn i'n falch iawn o fynychu, yn ddiweddar, sesiwn o blannu hadau morwellt ym Mhenychain ger Pwllheli, ac mae nifer fawr o hadau morwellt wedi cael eu plannu ar hyd arfordir Llŷn. Mi ydym ni'n gwybod bod morwellt yn ffordd effeithiol iawn o gloi carbon, ond does yna ddim digon o waith yn cael ei wneud yn hynny o beth. Mae Prifysgol Abertawe'n gwneud gwaith rhagorol yn y maes yma efo'r WWF. Beth mwy ydych chi fel Llywodraeth yn mynd i'w wneud er mwyn sicrhau bod mwy o forwellt yn tyfu ar hyd ein glannau ni?
Cwpl o bwyntiau da iawn. Yn gyntaf, rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â chi a thrafod y mater. Rhag ofn fy mod i'n camgymryd, a ydyn ni'n sôn am systemau draenio cynaliadwy neu ddraenio mewn tir amaethyddol?
ADM—ardaloedd draenio mewnol.
Iawn, iawn. Ydw, rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â chi a thrafod y rheini, oherwydd rhan o fater cydnerthedd hinsawdd yw meddwl yn wahanol. Yn y gorffennol, roedd ardaloedd draenio mewnol neu fyrddau draenio mewnol, fel yr oedden nhw yn Lloegr, pan oeddwn i'n Weinidog DEFRA, yn cael eu hystyried o ran 'Beth yw'r ffordd gyflymaf i gael dŵr oddi ar y tir?', allan yn syth, ac ati. Mae rhywfaint o'r syniadau nawr ychydig yn wahanol ynghylch hyn hefyd; mewn gwirionedd, maen nhw'n ymwneud â sut yr ydych chi'n defnyddio'r rheini i ddatblygu cydnerthedd hinsawdd yn system y fferm honno. Felly, rwy'n credu bod trafodaeth i'w chael ar hynny. Rwy'n fwy na hapus i eistedd a chyfarfod â chi a chlywed eich syniadau amdano.
O ran morwellt, mae potensial anhygoel, heb amheuaeth—potensial enfawr. Ein her yw, i fod yn hollol onest, sut yr ydyn ni'n troi'r potensial a'r cynlluniau sy'n cael eu cyflwyno a'r cynigion—. Gyda llaw, rydyn ni'n gweithio gyda'r rhwydwaith morwellt ar hyn ac yn ceisio eu cefnogi, ond dyma sut yr ydyn ni'n dod o hyd i swm o gyllid i roi i'r hyn sy'n gynlluniau uchelgeisiol iawn; maen nhw'n cyrraedd lefel yr uchelgais yr ydyn ni wedi bod yn ei chyflawni ym maes mawndiroedd. Y broblem yw bod yr alwad ar forwellt ac ar fawn ac ar bopeth arall yn dueddol o lanio ar ein hysgwyddau ni. Rwy'n credu bod yna ffordd ymlaen, a dywedodd fy nghyd-Aelod a wnaeth siarad yn gynharach, Julie James, fod angen i mi fynd i Brifysgol Abertawe, i weld y gwaith y maen nhw'n ei wneud, ac rwy'n awyddus i wneud hynny. Ond rwyf i hefyd yn awyddus i gyfarfod ag eraill yn y rhwydwaith morwellt, oherwydd mae potensial enfawr yma fel rhan o'r mater addasu i'r hinsawdd a chydnerthedd hinsawdd hwn. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud, ac rydyn ni wedi bod yn eu cefnogi ar hyn, yw ceisio gweld a oes ffyrdd o ddefnyddio ffynonellau cyllid eraill nad ydyn nhw i gyd yn dibynnu ar y trethdalwr yn unig, ychydig fel yr hyn yr ydyn ni wedi'i wneud gyda'r mawndiroedd. Dyna pam yr ydyn ni wedi cyrraedd y targedau flwyddyn yn gynnar—mae gennym ni bartneriaid eraill yn rhan ohono. Nawr, mae hwnnw'n ddarn anoddach o waith i'w gyflawni, ond rwy'n credu mai dyna le mae angen i ni fod, oherwydd gallaf i weld, y tu hwnt i fawndiroedd, a'r tu hwnt i forwellt, a gallai fod meysydd eraill y mae angen i ni eu gwneud hefyd.
Byddwch chi'n ymwybodol ein bod ni'n ymgynghori, gyda llaw, ar egwyddorion creiddiol iawn ar fuddsoddi moesegol mewn cyllid gwyrdd. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn y man hwn, ac mae'n rhaid i ni fanteisio ar y gorau o waith y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar hyn. Mae'n rhaid i ni fanteisio ar rywfaint o waith sefydliadau'r trydydd sector fel y mae'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar ac eraill wedi'u gwneud, a WWF, lle maen nhw wedi denu cyllid ychwanegol mewn ffordd y gallan nhw yn unig ei wneud, na allaf i ei wneud.
Byddwn ni yno bob amser fel y parth cyhoeddus, ond rwy'n credu bod angen i ni feddwl yn greadigol, gan gydnabod bod swm y cyllid sydd ei angen arnom o ran datrysiadau sy'n seiliedig ar natur ar bethau fel addasu i'r hinsawdd ymhell y tu hwnt i'r hyn y bydd trethdalwyr yn gallu'i wneud ar eu pen eu hunain. Mae angen i ni ddenu eraill i mewn, ond i seilio hynny mewn egwyddorion cyllid moesegol, gyda chywirdeb cadarn fel y graig o amgylch cyllid, gan beidio ag ailadrodd camgymeriadau a gafodd eu gwneud yn y gorffennol gyda rhai o'r pethau gwrthbwyso carbon ac yn y blaen. A allen ni greu safon aur yng Nghymru? Rwy'n credu y gallen ni, oherwydd mae gennym ni dystiolaeth ar lawr gwlad eisoes o brosiectau gyda sefydliadau'r trydydd sector, ar fawndiroedd ac ati, ein bod ni wedi'i wneud. A allwn ni wneud yr un peth gyda morwellt? Felly, dyna'r man trafod rwy'n credu y mae angen i ni fod ynddo.
Rwy'n croesawu'r datganiad hwn. Mae 90 y cant o dir Cymru yn dir amaeth. Mae iechyd gwael y pridd yn effeithio arno'n ddifrifol. Bydd plannu coed a gwrychoedd, mwy o amrywiaeth cnydau a chylchdroi cnydau a buddsoddi mewn seilwaith yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gydnerthedd ar gyfer llifogydd a sychder, ond mae angen ategu hyn gydag adnoddau ac addysg. Roeddwn i'n falch o glywed Andy Wall, rheolwr risg llifogydd yn Cyfoeth Naturiol Cymru, yn siarad ar BBC Radio Wales am bwysigrwydd preswylwyr yn cofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd ac yn cymryd rhagofalon i ddod mor gydnerth â llifogydd â phosibl. Ysgrifennydd Cabinet, a allech chi ystyried y posibilrwydd o ychwanegu at y neges honno gan Andy, sef y dylai tirfeddianwyr sicrhau bod eu ffosydd, eu ceuffosydd, eu cwlferi a'u draeniau'n cael eu cadw'n glir? Maen nhw'n gyfrifol o dan gyfraith glannau afonydd ac ni ddylen nhw ddraenio i'r priffyrdd. Ni all y draeniau carthffosiaeth na gwlis y priffyrdd gymryd y dŵr dros ben, ac mae'n difrodi priffyrdd ac yna'n llifo i gartrefi. Diolch.
Carolyn, ie, yn hollol, a diolch eto am godi hyn yn gyson ac yn uchel dro ar ôl tro yma ar lawr y Senedd, a'r tu allan yn y parth cyhoeddus hefyd. Mae gan bob tirfeddiannwr y cyfrifoldeb hwnnw i sicrhau bod eu ffosydd, eu cyrsiau dŵr ac ati'n gweithredu'n effeithiol fel rhan o'n hecosystemau naturiol yma o ran ein hymateb yn enwedig i lifogydd, ond yn ehangach hefyd. Yn rhyfedd iawn, mae'r pwynt yr oedd Mabon yn ei godi yn gynharach am Ardaloedd Draenio Mewnol hefyd yn cyd-fynd â hyn: sut maen nhw'n ein helpu ni, yn hytrach nag yn ein rhwystro ni? Ond, ydych, rydych chi'n hollol gywir, ac, fel rydw i wedi'ch atgoffa chi mewn ymateb i'ch cwestiynau ar y llawr o'r blaen, mae gan bob perchennog glannau afonydd gyfrifoldeb, ac mae hynny'n cynnwys y ffosydd bach hynny i lawr ochrau'r ffyrdd sydd, fel arall, yn arwain yn y pen draw aton ni'n gorlifo'r ffyrdd hynny a'r awdurdodau lleol yn ysgwyddo baich o'u clirio a'r llanast a phopeth arall.
Ac yn olaf, Lee Waters.
Diolch. Mae'n amlwg o'r strategaeth nad mater amgylcheddol yn unig yw effaith newid hinsawdd. Mae'n fater iechyd. Mae'n fater economi. Mae'n effeithio ar adeiladau, rhwydweithiau trafnidiaeth, diogeledd bwyd a dŵr. Nawr, rydyn ni'n gwybod bod yna un ymyrraeth a all fod â manteision o ran addasu i'r hinsawdd a lliniaru i ymdrin â'r hyn sy'n rhan annatod ohono ac i sicrhau bod yr hyn sydd i ddod yn cael llai o effaith arnon ni, a phlannu coed a gwrychoedd yw hynny. Felly, mae gennyf i ddau gwestiwn i chi, Ysgrifennydd Cabinet. Y cyntaf: o ddarllen camau gweithredu'ch strategaeth yn gyflym iawn, mae cyfeiriad i'w groesawu at ganlyniadau ystyried bioamrywiaeth yn fanwl, ond ni allwn i weld cyfeiriad at ganlyniadau ystyried targedau coed yn fanwl, sy'n cynnwys llawer o'r camau yr ydych chi eisiau eu cyflawni, gan gynnwys rhoi pwysau ar bob corff cyhoeddus i fapio pa dir sydd ganddyn nhw a allai fod yn addas ar gyfer plannu coed. Felly, a allech chi gadarnhau mai dyna'r ymrwymiad o hyd, ac a oes modd cyfeirio at hynny mewn dogfennau yn y dyfodol?
Yn ail, mae'r strategaeth yn nodi risg tywydd poeth, cyfnodau hir o sychder, a thanau gwyllt, ar ffermwyr Cymru a busnesau gwledig yn benodol. Rwy'n poeni am awgrymiadau y gallai mynediad i'r cynllun ffermio cynaliadwy drwy'r haen gyffredinol fod yn drothwy isel iawn erbyn hyn. Yn hytrach na'r gorchudd coed 10 y cant a gafodd ei argymell, mae awgrym y byddai angen i ymgeiswyr am gymorth cyhoeddus ddarparu cynllun ar gyfer coed yn unig, heb unrhyw ofyniad i blannu coed mewn gwirionedd, ac rydyn ni'n gwybod bod cynlluniau ond cystal â'u gweithredu. Felly, a wnaiff ein sicrhau ni, o ran cyflawni uchelgeisiau ei strategaeth addasu, y bydd yn sicrhau nad yw'r cynllun ffermio cynaliadwy, pan gaiff ei gyhoeddi, yn hepgor y cam ymlaen pwysig iawn hwn?
Lee, diolch yn fawr iawn. I gadarnhau, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i dyfu'r ystad goetir a'r ystad goedwigaeth ledled Cymru ym mhob agwedd ar y gwaith a wnawn, felly pa un ai'r goedwig genedlaethol, pa un ai'r gwaith da sy'n digwydd ar hyn o bryd o fewn y cynllun ffermio cynaliadwy—peidiwch â gofyn i mi achub y blaen o ran i ble y gallem ni gyrraedd, ond mae gennym drafodaethau da yn digwydd ymhlith yr holl randdeiliaid o amgylch y ford gron weinidogol ar hyn o bryd. Rydyn ni wedi symud ymlaen yn dda ar ystod o faterion, mae'n rhaid i mi ddweud, gan gynnwys y cynefinoedd amgylcheddol ehangach ac ati, ac rydyn ni'n ymgysylltu'n ddwfn ynghylch sut mae coetiroedd yn chwarae rhan yn hyn o beth, ac rwy'n parhau i bwysleisio'r pwynt, mewn gwirionedd, mai'r ffordd orau y gallwn ni adeiladu cydnerthedd yn y sector ffermio a bwyd yw cael y coetir cywir yn y lle cywir a all wneud pethau fel creu lloches i anifeiliaid, sy'n cynyddu cynhyrchiant anifeiliaid, sy'n dda i linell waelod y ffermwr, ond mae hefyd yn dda yn gyffredinol ar gyfer amgylchedd y fferm honno ac ar gyfer bioamrywiaeth ac ati. Ond rydym yn gweithio drwy hynny wrth i ni siarad, a byddwn yn dod yn ôl pan fyddwn yn barod i ddod yn ôl a dweud i ble rydym wedi cyrraedd.
Rydym ni hefyd, fel y gwyddoch, yn gobeithio cyflwyno, ac mae'n berthnasol i'r pwynt hwn hefyd, y strategaeth ar gyfer pren yn fuan hefyd, y gwn eich bod wedi chwarae rhan hanfodol wrth annog hon ymlaen. Ar hyn o bryd, mae gennym y grantiau coetir, a'n neges i ffermwyr a thirfeddianwyr eraill yw ein bod am iddynt fanteisio ar hynny. [Torri ar draws.] Yn wir. Felly, ym mhopeth rydym yn ei wneud, nid yn unig yn y cynllun ffermio cynaliadwy ond yn ehangach o ran addasu i'r hinsawdd, gan gynnwys y plant hynny sy'n plannu coed yn Aberaeron, gan gynnwys y Coetiroedd Bach yr es i ymweld â nhw yn Nhrefynwy yn ddiweddar hefyd, mae creu coetiroedd yn rhan sylfaenol nid yn unig o addasu, nid yn unig o gydnerthedd, ond hefyd o wella bioamrywiaeth. Felly, rwyf yn eich sicrhau chi o hynny, ond yr hyn na allaf ei wneud yw achub y blaen o ran i ble y byddwn yn cyrraedd o ran y cynllun ffermio cynaliadwy. Y cyfan y byddwn yn ei ddweud yw bod y trafodaethau yn adeiladol iawn. Maen nhw'n hollol ddiffuant. Ac rydym yn ceisio dod â phawb i fan lle gallwn gytuno y gallwn greu coetir yn yr amgylchedd ffermio, yn y lle iawn, peidio â chymryd tir cynhyrchiol, sydd mewn gwirionedd yn fuddiol i'r fferm a busnes y fferm, ond hefyd yn cyflawni agweddau ehangach y cynllun ffermio cynaliadwy hefyd. Felly byddwch yn amyneddgar. Rydym yn gweithio'n galed i gyrraedd yno.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru—gwrthdrawiad rheilffordd ar lein y Cambrian. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates.
Dirprwy Lywydd, neithiwr, roedd dau drên Trafnidiaeth Cymru mewn gwrthdrawiad ar gyflymder araf ger Llanbrynmair ym Mhowys, yn y canolbarth. Yn drist iawn, bu farw un dyn yn dilyn y gwrthdrawiad ac mae 15 o bobl eraill wedi cael anafiadau, na chredir eu bod yn peryglu bywyd nac yn newid bywyd. Mae ein meddyliau gyda phawb yr effeithiwyd arnynt.
Bydd rheilffordd y Cambrian i'r dwyrain o Fachynlleth ar gau tra bod timau arbenigol yn parhau â'u hymchwiliadau, ac mae Trafnidiaeth Cymru yn annog teithwyr i beidio â theithio i'r rhan hon o'r rhwydwaith. Rwy'n hynod ddiolchgar i'r gwasanaethau brys a oedd yn bresennol ac a fu'n cynorthwyo ein teithwyr a'n staff. Diogelwch ein teithwyr a'n staff yw'r brif flaenoriaeth bob amser. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r holl asiantaethau, gan gynnwys y gwasanaethau brys a'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd, i ddeall sut digwyddodd y ddamwain hon a byddant yn cael fy nghefnogaeth lawn.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
A gaf i, Ysgrifennydd Cabinet, gyd-fynd â'ch barn chi hefyd o ran bod ein meddyliau gyda theulu'r gŵr a fu farw, yn drist iawn? Ac wrth gwrs, mae'n rhaid bod hwn wedi bod yn gyfnod pryderus i'r nifer o bobl eraill yr effeithiwyd arnynt, gan gynnwys y 15 y sonioch amdanynt a gafodd eu hanafu hefyd. Ac eto, hefyd y gwasanaethau brys, sut y gwnaethon nhw ymateb mor gyflym i'r digwyddiad hefyd.
Bydd y cyhoedd eisiau gwybod beth ddigwyddodd a sut y gallai fod wedi digwydd, felly rwy'n gwerthfawrogi'r ymchwiliadau sydd angen eu cynnal, ac rydych chi wedi amlinellu rhywfaint o hynny, ond a allwch chi ddweud wrthym pwy sy'n arwain yr ymchwiliadau hynny, pa asiantaethau sy'n rhan o hynny? Sut mae'r Llywodraethau yn gweithio gyda'i gilydd? Ac a allwch chi roi unrhyw linellau amser ynghylch pryd y gallem gael unrhyw atebion cychwynnol i'r ddau gwestiwn yna o ran yr hyn a ddigwyddodd a sut y gallai hyn fod wedi digwydd?
Hefyd, Ysgrifennydd Cabinet, wrth gwrs, mae'r gefnffordd a'r rheilffordd ar gau ar hyn o bryd. A allwch roi unrhyw arwydd i ni ynghylch pryd y gellid ailagor y rheini, ac, os na allwch wneud hynny heddiw, a allwch ddweud wrthym pryd y byddwch mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni?
Ac yn olaf, rydych chi wedi sôn bod 15 o bobl wedi'u hanafu. A oes unrhyw beth arall y gallwch ei ddweud am lefel yr anafiadau y mae'r bobl hynny wedi'u ddioddef hefyd?
Llywydd, a gaf i ddiolch i Russell George ac Aelodau ar draws y Siambr am fod mor adeiladol heddiw wrth asesu'r hyn sydd wedi digwydd yn ystod y 24 awr ddiwethaf? Mae'r hyn sydd wedi digwydd yn drasig, ond bydd yn cymryd amser i ddod i gasgliadau, ac mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd yn arwain yr ymchwiliad i'r digwyddiad, gyda chefnogaeth Heddlu Trafnidiaeth Prydain. Gallai adroddiad llawn gymryd misoedd—sawl mis—ond efallai y bydd yn bosibl i'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd roi rhyw syniad yn gynnar ynghylch achos y ddamwain. Swyddogaeth y gangen honno, y sefydliad hwnnw, yw cyhoeddi hynny; ni fyddwn yn ymyrryd ac rydym eisiau rhoi cymaint o amser a rhyddid i'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd ag sydd ei angen i gynnal ymchwiliad cynhwysfawr.
Derbyniais ddiweddariadau drwy gydol y nos ac yna, y bore yma, cwrddais â phrif swyddog gweithredol Trafnidiaeth Cymru, James Price, gyda'r Prif Weinidog, ac mae James Price yn y lleoliad heddiw. Mae'r sefyllfa yn un gyfnewidiol, fel y gall Aelodau, rwy'n siŵr, werthfawrogi. O ran yr amserlen, bydd yr A470 yn ailagor unwaith y bydd y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd a Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn caniatáu hynny. Rydym yn eu dwylo nhw ar hyn o bryd, ond byddaf yn rhoi gwybod i'r Aelodau cyn gynted ag y cawn syniad o bryd y gellir ailagor y llwybr hwnnw. Yn y cyfamser, mae'n ymddangos bod y dargyfeiriadau lleol sydd ar waith yn gweithio'n dda, ac mae Trafnidiaeth Cymru newydd gadarnhau i mi nad yw gwasanaethau rheilffyrdd yn gallu gweithredu ar lein y Cambrian rhwng Machynlleth a'r Amwythig tan ddiwedd yfory ar y cynharaf. Mae gwasanaethau yn lle trenau ar waith, ond byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am yr amserlen o ran ailagor y llinell ac ailagor y ffordd.
Ni allaf roi sylwadau ar ddifrifoldeb anafiadau unigol, ond, fel y dywedais i, rydym yn hyderus nad ydynt yn rhai sy'n peryglu bywyd neu'n newid bywyd, a hoffwn gofnodi fy niolch i'r holl wasanaethau brys a oedd yn bresennol. Gwn hefyd fod gan Heddlu Trafnidiaeth Prydain swyddogion arbenigol sydd wedi bod yn cynorthwyo teulu'r gŵr a gollodd ei fywyd neithiwr, yn drist iawn.
Rwyf wedi cwrdd â'r undebau hefyd heddiw ar gyfer sgyrsiau adeiladol iawn, gan glywed am ba gymorth ychwanegol y dylid ei gyflwyno i staff. Fy nealltwriaeth i yw bod pedwar aelod o staff ar y trenau, a thua 40 aelod o'r cyhoedd.
Ysgrifennydd Cabinet, diolch am eich datganiad heddiw, ac rwy'n adleisio'r sylwadau a fynegwyd gan Russell George a chithau.
Ar ran Plaid Cymru, hoffwn fynegi ein pryder a'n cydymdeimlad dwfn yn dilyn y gwrthdrawiad trên ddoe ym Mhowys. Mae ein meddyliau gyda'r unigolion yr effeithir arnynt a'u teuluoedd. Mae'r newyddion hyn, fel y mae wedi datblygu dros nos a'r bore 'ma, yn peri gofid mawr ac yn codi nifer o bryderon. Rwy'n deall y gallai ymchwiliad llawn gymryd misoedd i'w gwblhau, ond byddwn yn croesawu, fel rydych eisoes wedi cyfeirio ato, gasgliad cynnar, fel sydd wedi digwydd o'r blaen mewn damweiniau rheilffyrdd eraill.
Ysgrifennydd Cabinet, a allwch chi amlinellu'r cymorth sy'n cael ei gynnig i deithwyr a staff a allai fod wedi cael eu trawmateiddio gan y digwyddiad hwn? A allwch hefyd amlinellu unrhyw gymorth sy'n cael ei ddarparu i Trafnidiaeth Cymru neu awdurdodau lleol i helpu i ymdrin ag effaith weithredol y digwyddiad? Yn olaf, pa sicrwydd allwch chi ei roi i deithwyr sy'n poeni am ddiogelwch y rhwydwaith, yn enwedig yng ngoleuni'r digwyddiad difrifol hwn? Diolch yn fawr.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau ac am y cydymdeimlad y mae wedi'i fynegi ar gyfer pawb sy'n rhan o'r digwyddiad hwn? Mae undebau llafur yn gofyn am gymorth arbenigol, y cwrddais â nhw heddiw, ac rwyf wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru sicrhau bod hynny ar gael. Bydd hynny yn ychwanegol i'r rhaglen cymorth brys sydd eisoes ar waith ac sy'n cael ei chynnig i staff Trafnidiaeth Cymru. O ran y cymorth oedd yn cael ei gynnig i deithwyr, yn amlwg, roedd y gwasanaethau brys yn eithriadol yn y ffordd yr oedden nhw'n ymateb i'r digwyddiad ac wedi cefnogi'r rhai yr effeithiwyd arnynt. Bydd cefnogaeth barhaus ar gael drwy'r gwasanaethau iechyd. Hoffwn gofnodi fy niolch hefyd i'r ysbytai sydd wedi derbyn y teithwyr, nid yn unig yma yng Nghymru, ond hefyd yn Lloegr. Rwy'n dymuno gwellhad buan i bawb a ddioddefodd anaf.
O ran diogelwch y rhwydwaith rheilffyrdd, dyma ein prif bryder: bod y rhwydwaith mor ddiogel ag y gall fod. Mae'r digwyddiadau hyn yn eithriadol o brin. Mae teithio ar y rheilffyrdd yn dal i fod yn hynod ddiogel o'i gymharu â dulliau teithio eraill. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, byddwn yn annog y cyhoedd sy'n teithio i gynllunio ymlaen llaw os ydynt yn bwriadu defnyddio'r llwybr penodol hwn ac i ddefnyddio'r gwasanaethau bysiau yn lle hynny tra bod yr ymchwiliad hwn yn digwydd yn y lleoliad. Mae'r Aelod yn llygad ei le bod pobl yn dyheu am atebion ynghylch pam y digwyddodd hyn, ond mae'n rhaid i ni roi amser i'r ymchwilwyr ddod i'w casgliadau, i wneud ymholiadau trylwyr, lawrlwytho cynnwys blychau du a oedd ar y trenau, ac i sicrhau bod yr atebion a dderbyniwn yn gynhwysfawr.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am eich diweddariad. Wrth gwrs, mae fy meddyliau, ynghyd â meddyliau pawb arall, gyda'r teulu ac anwyliaid y teithiwr a gollodd ei fywyd yn drist iawn, a hefyd y rhai a anafwyd a'r lleill a oedd yn rhan o'r digwyddiad ofnadwy hwn. Hoffwn gofnodi fy niolch i'r gwasanaethau brys a ddaeth i'r lleoliad am eu gwaith ymroddedig, am helpu teithwyr a hefyd y criw rheilffordd, a hefyd y bobl a roddodd gymorth drwy'r GIG, boed hynny yn yr ysbyty neu yn y lleoliad.
Unwaith y bydd canlyniadau'r ymchwiliad ar gael, rwy'n gobeithio y byddwch yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn gyhoeddus, nid yn unig i ni yma, ond i'r holl bobl hynny sy'n gobeithio defnyddio'r gwasanaeth yn y dyfodol agos. Rwy'n falch iawn eich bod wedi cwrdd â'r undebau llafur, oherwydd bydd y pryder yn aros gyda'r bobl hynny sy'n gweithredu'r gwasanaeth, ac maen nhw, yn eu tro, yn gallu rhoi'r sicrwydd hynny ar ôl i ni ei gael, i'r cyhoedd yn ehangach.
Rydych chi wedi crybwyll y cynlluniau teithio yn y dyfodol, ond mae hon yn ffordd brifwythiennol o'r gogledd i'r de, yr A470, a bydd yn effeithio ar lawer o bobl, boed hynny'n blant ysgol yn ceisio mynd i'r ysgol neu bobl sy'n ceisio mynd i'r ysbyty. Bydd y bobl hynny'n awyddus iawn i wybod pa lwybrau i'w cymryd. Felly, rwy'n gofyn a yw'r wybodaeth honno ar gael mewn ardal sy'n wledig iawn. Byddant yn ffyrdd cul iawn yr adeg hon o'r flwyddyn. Diolch.
A gaf i ddiolch i Joyce Watson am fynegi ei hempathi? Rwy'n cytuno, yn fawr iawn, gyda'i theimladau ynglŷn â'r digwyddiad. Mae'n drasiedi, ac rydym yn ddiolchgar iawn i'r rhai a ymatebodd mor gyflym iddi ac a helpodd y bobl dan sylw. Mae trafnidiaeth ysgolion a choleg yn gweithredu, er bod hynny trwy ddargyfeiriadau, a thrwy Traffig Cymru, mae pobl yn gallu cael yr wybodaeth ddiweddaraf am nid yn unig y gefnffordd, ond am y dargyfeiriadau ar hyd ffyrdd lleol hefyd.
Roeddwn yn falch iawn o allu cyfarfod mor fuan â'r undebau, hefyd, a'r hyn a'm trawodd y prynhawn yma pan siaradom am y digwyddiad a sut rydym yn ymateb iddo ar y cyd yw bod y diwydiant rheilffyrdd yn deulu clos iawn a bydd yn dod at ei gilydd—bydd y rhai a gyflogir o fewn y diwydiant yn cefnogi ei gilydd.
Byddaf wrth gwrs, Llywydd, yn dychwelyd i'r Siambr i wneud datganiad ar yr ymchwiliad unwaith y bydd yr ymchwiliad wedi dod i ben ac adroddiad wedi'i gyhoeddi, oherwydd credaf ei bod yn hanfodol bwysig ein bod yn craffu ar achos neu achosion digwyddiad neithiwr.
Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am ddatganiad y prynhawn yma. Hoffwn adleisio'r hyn y mae pob Aelod unigol wedi'i ddweud yma yn y Siambr ei hun. Ar ran grŵp cyfan y Ceidwadwyr Cymreig, mae ein meddyliau a'n gweddïau gyda theulu ac anwyliaid y teithiwr a fu farw'n drasig a chyda phawb yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad dychrynllyd neithiwr. Hoffwn hefyd gofnodi bod ein meddyliau gyda holl bersonél y gwasanaethau brys a ruthrodd i'r lleoliad ac a weithiodd yn ddiflino drwy'r nos.
Ysgrifennydd Cabinet, gall pawb yma ddeall bod hon yn sefyllfa hynod o gyfnewidiol a sensitif, ac er y bydd mwy o gwestiynau yn codi'n naturiol maes o law, gwn mai ychydig o wybodaeth sydd gennych ar hyn o bryd, gan fod yr ymchwiliad newydd ddechrau. Fodd bynnag, gallwn i gyd werthfawrogi y bydd hwn wedi bod yn brofiad trawmatig a brawychus iawn i bob un person ar fwrdd y trenau hynny. Tybed, yng ngoleuni hyn, pa sgyrsiau a gafwyd ynghylch rhoi cymorth bugeiliol angenrheidiol ar waith i'r rhai oedd ar y trên yn ystod y gwrthdrawiad ei hun. Heb os, bydd y digwyddiad hwn yn cael effaith barhaol ar bob un person ar y trenau hynny ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd eisiau i bob un o'r rhai yr effeithiwyd arnynt gael cefnogaeth ddigonol wrth iddynt ddod i delerau â'r hyn sydd wedi digwydd, yn ogystal â theulu'r dyn a fu farw, yn drasig, ar y trên.
Ysgrifennydd Cabinet, er fy mod yn deall ac yn gwerthfawrogi ein bod yng nghamau cynnar yr ymchwiliad, bydd y cyhoedd yn naturiol eisiau cael atebion cyn gynted â phosibl. Credaf ei bod yn hanfodol bod yr awdurdodau'n agored ac yn dryloyw gyda'r cyhoedd drwy gydol y broses barhaus hon. Felly, a gaf i ymrwymiad gennych chi heddiw y bydd ASau yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn llawn? Rwy'n gwybod eich bod newydd ddweud y byddwch chi, ond rwy'n gobeithio y byddwch chi'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y sefyllfa wrth iddi ddatblygu. Hefyd, a oes gennych amserlen fras ynghylch pa mor hir y bydd yr ymchwiliad yn ei gymryd i'w gwblhau?
Ac yn olaf, Ysgrifennydd Cabinet, yn anffodus, mae digwyddiadau trasig fel y rhain wir yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw diogelwch rheilffyrdd i bob un ohonom. Wrth i fwy o fanylion ddod i'r amlwg, wrth gwrs, bydd mwy o gwestiynau i'w hateb. Fodd bynnag, roeddwn i eisiau gorffen trwy fynegi fy nghydymdeimlad dwysaf unwaith eto ag anwyliaid yr unigolyn a fu farw yn drasig iawn. Diolch unwaith eto am ddatganiad y prynhawn yma.
Llywydd, a gaf fi ddiolch i Natasha Asghar am ei chwestiynau ac am y pwyntiau a gododd hi? Oherwydd eu bod yn adlewyrchu'r pryder cyffredinol yr ydym yn ei glywed, yn dilyn digwyddiad neithiwr. Ni allwn ddyfalu ynghylch canlyniadau'r ymchwiliad, ond gwn y bydd pob corff a phob sefydliad yn awyddus i ddeall yn union beth ddigwyddodd a sut y gellir mynd i'r afael ag unrhyw fethiannau.
Rwyf wedi cael fy mhlesio'n fawr gan y ffordd y gwnaeth Heddlu Trafnidiaeth Prydain gefnogi teithwyr a staff, ochr yn ochr â'r gwasanaethau brys ac ochr yn ochr â gwasanaethau'r GIG, a bydd cymorth parhaus ar gael yn y ffordd briodol, yn y ffordd arferol, drwy'r GIG, i unrhyw deithiwr sy'n dioddef o ganlyniad i'r profiad yr aeth drwyddo. Roedd Trafnidiaeth Cymru hefyd yn cefnogi teithwyr a byddant yn cefnogi eu staff, wrth i ni symud ymlaen. Fel y dywedais i, cwrddais â'r undebau yn gynharach, a ofynnodd am gymorth arbenigol trawma ac mae'r cais hwnnw bellach wedi'i roi i Trafnidiaeth Cymru. A byddaf i, Llywydd, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pryd bynnag y bydd datblygiadau yn digwydd mewn perthynas â'r ymchwiliad.
Diolch am y datganiad. Gaf innau estyn cydymdeimlad â theulu'r person buodd farw, a hefyd dymuno'n dda i'r rhai sydd wedi cael eu niweidio yn y ddamwain, naill ai'n gorfforol neu yn feddyliol? A diolch, yn ogystal, i'r gwasanaethau brys am y gwaith gwych a wnaethon nhw neithiwr a'r bore yma.
Mae yna wersi i'w dysgu, wrth gwrs, wrth edrych ymlaen at y dyfodol, ac mi fyddwn ni'n aros am ddatganiad pellach wrthych chi ynglŷn â beth yw canfyddiadau'r archwiliad sydd wedi digwydd. Ond, wrth gwrs, yn naturiol, mae yna bryder yn mynd i fod gan bobl sydd yn teithio ar drenau heddiw ac yfory ac yn ystod yr wythnosau nesaf bod mesurau diogelwch yn eu lle. Felly, allech chi gadarnhau bod yna archwiliadau perthnasol yn cael eu gwneud er mwyn sicrhau nad oes dim byd tebyg yn digwydd eto?
Ar un mater yn benodol, fel y gwyddoch chi, ar ddiwedd y mis yma, mae'r ffordd fawr, yr A470, yn mynd i fod ar gau am ryw 10 wythnos ger Talerddig, sydd yn agos iawn i ble ddigwyddodd y ddamwain, ac roedd yna gyngor wedi cael ei roi i deithwyr ac i rieni disgyblion i ddefnyddio'r trên er mwyn naill ai mynd i'r ysgol neu i fynd i ble bynnag y maen nhw fel arfer yn teithio iddo. Felly, pa gyngor y byddech chi yn ei roi iddyn nhw, petai'r llinell yma'n gorfod cau am amser hirach na'r disgwyl? Diolch yn fawr iawn.
A gaf i ddiolch i Cefin Campbell am ei gwestiynau a'i sicrhau, er nad ydym yn gwybod beth yw achos y ddamwain eto—ac fe all gymryd sawl mis i'r adroddiad terfynol hwnnw gael ei gyhoeddi—bod diogelwch rheilffyrdd o'r pwys mwyaf i Trafnidiaeth Cymru, i Network rail, i Heddlu Trafnidiaeth Prydain, ac i bob gweithredwr ar draws Prydain Fawr? Mae'r tywydd garw diweddar yr ydym wedi'i brofi wedi effeithio ar linellau eraill ac mae gwybodaeth am unrhyw amhariadau ar gael, yn amlwg, ar ap a gwefan Trafnidiaeth Cymru.
Mae'r adeg hon o'r flwyddyn yn heriol iawn i weithredwyr rheilffyrdd, o ystyried glawiadau trwm a dail yn syrthio. Ond mae diogelwch teithwyr o'r pwys mwyaf, a phryd bynnag a lle bynnag y mae pryder am ddiogelwch, yna bydd risgiau'n cael eu hosgoi. Fodd bynnag, nid ydym yn gwybod beth achosodd y ddamwain hon, ac rwy'n credu na fyddai unrhyw ddyfalu yn ddefnyddiol ar hyn o bryd.
O ran faint o amser y bydd y llwybr ar gau, fel y dywedais i, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am hyn. Nid ydym yn disgwyl i unrhyw wasanaethau weithredu tan o leiaf nos yfory. Mae angen cynnal dau ymchwiliad trylwyr ynghylch y trenau eu hunain cyn y gellir eu symud, a hefyd y trac.
Ar hyn o bryd, mae swyddogion o'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd yn y lleoliad, ac mae'r ardal y maen nhw'n ei chwmpasu ar hyn o bryd yn un eang, a dyna pam rydym yn credu y gallai fod sawl diwrnod cyn i wasanaethau ailddechrau. Fy ngobaith yw y bydd gwasanaethau'n ailddechrau mewn da bryd i beidio ag effeithio ar y cynlluniau sydd eisoes wedi'u hamlinellu ac a gafodd eu hamlinellu gan yr Aelodau eto heddiw. Ond, yn amlwg, pe na baem yn gallu anrhydeddu'r dulliau teithio amgen, yna byddai'n rhaid i ni ailedrych ar y cynlluniau sydd wedi'u cyhoeddi hyd yma.
A gaf i atseinio’r cydymdeimladau a’r diolch sydd wedi cael eu sôn amdanynt heddiw? Mae llinell y Cambrian, wrth gwrs, yn un sy’n cael ei ddefnyddio’n aml gan etholwyr i mi yn ne Meirionnydd. Rydw i wedi derbyn nifer o negeseuon dros nos a'r bore yma gan rai o’r etholwyr hynny sy’n mynegi pryderon, a hynny’n gwbl naturiol, yn dilyn y digwyddiad ofnadwy yma—pryderon ynghylch a fydd hyn yn digwydd eto. Os ydyn nhw’n mynd i fynd ar y trên, a ydyn nhw’n mynd i brofi rhywbeth tebyg? Felly, maen nhw eisiau’r sicrwydd yna eu bod nhw am fod yn ddiogel wrth deithio ar y rheilffordd.
Rwyf yn derbyn, fel rydych chi wedi’i ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, ei bod hi’n rhy gynnar i wybod sut, a beth, a pham, ac rwyf yn ategu eich sylwadau chi na ddylid gwneud unrhyw sylwadau di-sail neu ddod i gasgliad yn seiliedig ar sïon. Ond mae fy etholwyr i yn haeddu’r sicrwydd yna y bydd y Llywodraeth yn gwneud pob dim er mwyn dysgu’r gwersi, a sicrhau, hyd orau eich gallu chi, o leiaf, na fydd hyn yn digwydd eto. Felly, pa sicrwydd yr ydych chi’n gallu ei roi er mwyn sicrhau bod y gwersi’n cael eu dysgu gan Trafnidiaeth Cymru, sydd o dan eich rheolaeth chi, gan Network Rail ac unrhyw gorff arall perthnasol, pan fo’n dod i’r gwersi sydd angen eu dysgu o’r profiad yma?
A gaf i ddiolch i Mabon am ei gwestiynau a dweud y bydd gwersi'n cael eu dysgu unwaith y bydd yr adroddiad wedi ei gyhoeddi a'r ymchwiliad wedi dod i ben? Mae'r holl sefydliadau sy'n rhan o'r digwyddiad hwn yn awyddus i wybod yn union beth ddigwyddodd neithiwr—beth arweiniodd at y digwyddiad. Dim ond yr ymchwilwyr sy'n mynd i allu darparu'r dadansoddiad cynhwysfawr hwnnw o ddigwyddiadau yn arwain at y gwrthdrawiad.
O ran teithio ar y rheilffyrdd, fodd bynnag, fel y dywedais i, mae diogelwch teithwyr a diogelwch staff o'r pwys mwyaf. Mae teithio ar y rheilffyrdd yn parhau i fod yn eithriadol o ddiogel o'i gymharu â dulliau teithio eraill. Felly, byddwn yn sicrhau teithwyr, er bod digwyddiad neithiwr yn drasig, bod trafnidiaeth reilffordd yn parhau i fod yn un o'r dulliau teithio mwyaf diogel sydd ar gael iddynt.
Byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod y gwersi y mae angen eu dysgu o'r digwyddiad hwn yn cael eu dysgu cyn gynted â phosibl. Ond rydym yn nwylo'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd, ac rwyf eisiau pwysleisio'r pwynt unwaith eto: rydym eisiau sicrhau eu bod yn cael y lle a'r amser i allu cynnal ymchwiliad trylwyr.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr eitem yna.
Eitem 6 sydd nesaf. Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2024 yw'r rhain. Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol i wneud y cynnig yma. Jack Sargeant.
Cynnig NDM8697 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo y gwneir y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2024 yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Hydref 2024.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o fod yn y Siambr heddiw i gyflwyno Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2024 i Aelodau'r Senedd eu hystyried. Y gyfres hon o reoliadau yw'r darn olaf yn jig-so is-ddeddfwriaeth sydd ei hangen i gefnogi Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023, a ddaw i rym yn llawn ar 4 Tachwedd.
Llywydd, rwy'n falch o ddweud bod Deddf 2023 unwaith eto wedi rhoi Cymru ar flaen gwledydd y DU wrth ddeddfu ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol. Mewn un Ddeddf gydlynol, darperir cyfraith gwbl ddwyieithog ar gyfer cydrannau amrywiol yr amgylchedd hanesyddol mewn darpariaethau trefnus a chynhwysfawr. Bydd y Ddeddf newydd yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer datblygu'r gyfraith ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru yn y dyfodol.
Mae angen y rheoliadau hyn oherwydd bod drafftio Deddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023 San Steffan, sy'n ymdrin yn rhannol â materion treftadaeth, yn mynd ymlaen ar yr un pryd â drafftio Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Gan nad oedd yn glir pa Ddeddf fyddai'n dod i rym gyntaf, ystyriwyd mai rheoliadau canlyniadol oedd y ffordd orau o sicrhau cysondeb rhwng deddfwriaeth Cymru a deddfwriaeth Lloegr. Diolch.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Dim byd i'w ychwanegu at yr eitem hon mewn gwirionedd. Rydym o'r farn nad oes unrhyw broblem ynddi.
Diolch. A yw'r Gweinidog yn dymuno ymateb i'r cyfraniad yna? [Chwerthin.] Neu a oes unrhyw beth y mae'r Gweinidog eisiau ei ddweud? Nid oes unrhyw gyfranwyr eraill ar gyfer yr eitem hon.
Diolch, Llywydd. Dim ond i fod yn ddiolchgar iawn am arweinyddiaeth Mike Hedges a gwaith y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ac edrychaf ymlaen at ymgysylltu ag ef a'i bwyllgor ar faterion yn y dyfodol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna o dan eitem 6 wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 7 sydd nesaf. Y Gorchymyn Cynlluniau Masnachu Allyriadau Cerbydau (Diwygio) 2024 yw'r Gorchymyn yma. Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru nawr i wneud y cynnig. Ken Skates.
Cynnig NDM8698 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo y gwneir y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynlluniau Masnachu Allyriadau Cerbydau (Diwygio) 2024 yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Medi 2024.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o allu cyflwyno'r cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Cynlluniau Masnachu Allyriadau Cerbydau (Diwygio) 2024. Mae'r gwelliant hwn yn ymestyn maint tiriogaethol y cynlluniau hyn, y cytunodd y Senedd arnynt y llynedd, i gynnwys Gogledd Iwerddon. Mae'n fesur technegol, ond mae'n gam arall yn nhaith hir y DU tuag at sero net, ac mae'n daith rwy'n falch o ddweud bod Cymru wedi helpu i'w harwain.
Bydd yr Aelodau'n cofio bod Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru wedi creu'r cynlluniau masnachu allyriadau cerbydau ar y cyd, sy'n mandadu y bydd cyfran gynyddol o geir a faniau newydd a werthir ym Mhrydain Fawr yn gerbydau di-allyriadau. Mae'r cynlluniau hyn wrth wraidd ein hymdrechion i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o drafnidiaeth, sef trydydd sector allyrru mwyaf Cymru. Mae gosod Cymru ar lwybr ar gyfer sero net yn golygu gwneud newidiadau mawr i'r ffordd yr ydym yn teithio, ac mae'n golygu helpu pobl i wneud dewisiadau teithio mwy gwyrdd. Mae'n golygu defnyddio technoleg newydd i gysylltu cymunedau, ac mae'n golygu buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus carbon isel, ddibynadwy a fforddiadwy y bydd pobl eisiau ei defnyddio.
Mae'r car yn mynd i barhau'n bwysig a bydd y mandad cerbydau di-allyriadau, ynghyd â'n strategaeth gwefru cerbydau trydan, yn hanfodol wrth gyflawni ein targedau ar gyfer lleihau allyriadau. Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi croesawu hyn fel mesur polisi pwysig, ac rydym yn amcangyfrif y bydd yn arbed 23 miliwn tunnell o garbon deuocsid yng Nghymru rhwng 2024 a 2050. Felly, rwy'n annog Aelodau i gefnogi'r cynnig.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Nid oes gennym unrhyw bryderon ynghylch hyn, ac rydym yn falch iawn o'i weld yn symud ymlaen. Ni fyddaf yn dweud hynny am yr eitem nesaf. [Chwerthin.]
Ysgrifennydd Cabinet, ydych chi eisiau dweud unrhyw beth ymhellach? Diolch.
Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r Gorchymyn yna wedi'i gymeradwyo.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitemau 8 a 9 sydd nesaf, ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig o dan eitem 8 a 9 yn cael eu grwpio i’w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân.
Gan nad oes yna wrthwynebiad i hynna, fe wnaf i alw ar y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i wneud y cynnig yma. Dawn Bowden.
Cynnig NDM8695 Dawn Bowden
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru).
Cynnig NDM8696 Dawn Bowden
Cynnig bod Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o fath y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Cynigiwyd y cynigion.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynigion. Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), a chynnig y cynnig a'r penderfyniad ariannol.
Mae gan y Bil ddau brif nod: dileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal, a galluogi cyflwyno taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus y GIG. Mae'r ddau nod hyn yn cefnogi rhaglen ar gyfer ymrwymiadau'r llywodraeth. Bydd y Bil hefyd yn gwneud sawl gwelliant i sicrhau y gall rheoliadau ac arolygiad Deddf Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 weithredu'n llawn ac yn effeithiol.
Llywydd, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a'r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith craffu trylwyr ar y Bil hwn yn ystod Cyfnod 1 ac am eu hadroddiadau. Hoffwn hefyd ddiolch i'r holl randdeiliaid, cymunedau ac unigolion sydd wedi cyfrannu, cefnogi a chymryd rhan weithredol yn y gwaith o ddatblygu'r ddeddfwriaeth hanfodol hon.
Mae'r darpariaethau i ddileu elw yn rhan o'n rhaglen ehangach i drawsnewid gwasanaethau plant. Wrth ddatblygu'r Bil hwn, rydym wedi cael ein harwain gan bobl ifanc sydd wedi dweud wrthym eu bod yn gwrthwynebu'n gryf sefydliadau sy'n gwneud elw o'u profiad o fod mewn gofal, a lle gall buddion masnachol effeithio ar y ffordd y maent yn derbyn gofal.
Dros nifer o flynyddoedd, mae rhanddeiliaid hefyd wedi codi materion ynghylch y rhyngwyneb rhwng gofal cymdeithasol a gofal iechyd parhaus a pheryglu llais a rheolaeth pobl wrth drosglwyddo o ofal a ddarperir gan yr awdurdod lleol, gyda thaliadau uniongyrchol, i ofal iechyd parhaus, lle mae'r dewis hwnnw'n cael ei golli ar hyn o bryd.
Rwy'n croesawu, o dan argymhelliad 1, fod mwyafrif aelodau'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil, ac rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Cyllid am groesawu nodau'r Bil. Llywydd, o ystyried nifer a natur fanwl yr argymhellion ar draws tri adroddiad, ni fydd yn bosibl imi ymateb i bob un ohonynt heddiw. Felly, byddaf yn ysgrifennu at Gadeiryddion y pwyllgorau yn unigol gyda fy ymateb llawn, gan dderbyn fy mod eisoes wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid gyda fy ymateb i'w adroddiad a'i argymhellion.
Derbyniais 72 o argymhellion i gyd: 26 gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, 28 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a 18 gan y Pwyllgor Cyllid. Roedd yr argymhellion yn amrywio o ddarparu gwybodaeth eglurhaol ychwanegol i wneud gwelliannau i'r Bil ei hun. Rwy'n falch o ddweud y byddaf yn derbyn y mwyafrif ohonynt yn llawn, yn rhannol, neu mewn egwyddor. Rwy'n gobeithio y bydd y ddadl hon a'r llythyrau sy'n dilyn yn bodloni aelodau'r pwyllgor ein bod wedi cymryd eu hargymhellion o ddifrif, hyd yn oed os nad ydym wedi teimlo y gallwn fwrw ymlaen â'r holl argymhellion.
Byddaf yn canolbwyntio heddiw ar rai o'r prif bynciau a materion a godwyd gan bob un o'r pwyllgorau. Gan droi yn gyntaf at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, rwy'n croesawu neu'n derbyn 24 o'r 26 argymhelliad yn llawn, yn rhannol neu mewn egwyddor. Rwy'n falch o dderbyn argymhelliad 2. Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i ystyried unrhyw fodelau eraill a allai gyd-fynd â'n hamcanion polisi. Wrth wneud hynny, bydd angen i ni sicrhau nad yw'r modelau hyn yn caniatáu i elw o unrhyw fath gael ei dynnu allan, hyd yn oed pan fyddai'r rhain y mathau o fodelau y byddem yn eu hannog mewn amgylchiadau eraill. Mae hyn oherwydd bod yn rhaid i ni sicrhau ein bod yn dileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal.
Rwy'n cydnabod bod cefnogaeth y pwyllgor i'r nod o atal tynnu elw y tu ôl i'w argymhelliad 3, ac rwy'n cydymdeimlo â'r pryder na ddylai'r ddeddfwriaeth ganiatáu i sefydliadau osgoi'r cyfyngiadau. Fodd bynnag, credaf fod adran 6 o'r Bil eisoes yn caniatáu i'r rheoleiddiwr ymateb pe bai sefydliad yn dilyn trefniadau ariannol afresymol neu anghymesur i dynnu elw mewn ffordd annisgwyl. Am y rheswm hwnnw, rwyf wedi gwrthod yr alwad hon am ychwanegu pŵer deddfu eang at y Bil, ond credaf y bydd y Bil yn mynd i'r afael â'ch pryderon.
Rwy'n cydnabod pryderon rhanddeiliaid ynghylch y risg o darfu ar blant sydd mewn gofal ar hyn o bryd wrth i'r newidiadau hyn gael eu cyflwyno, ac rwy'n derbyn argymhelliad 8 ac rwy'n parhau i ystyried yn ofalus y dystiolaeth a gafwyd ochr yn ochr â gwybodaeth a gasglwyd o'n hymgysylltiad ein hunain â rhanddeiliaid. Rwyf hefyd yn falch o dderbyn argymhellion 4 i 5, 11 i 12, 14, 18 a 22 yn rhannol, a 6 i 7, 9 i 10, 13, 16 i 17, 19 i 21 a 23 i 26 yn llawn, er nad wyf yn credu bod angen diwygiadau i'r Bil mewn ymateb i'r argymhellion hyn.
Mae'r pwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion yn ymwneud â chanllawiau, adnoddau neu ddiweddariadau ar gynnydd cyhoeddedig i ddileu elw a galluogi taliadau uniongyrchol mewn gofal iechyd parhaus. Rwy'n awyddus i bwyllgorau ac Aelodau gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd yn rheolaidd, ac felly rwyf wedi derbyn yr argymhellion hyn yn llawn neu'n rhannol. Gwahoddodd rhai o'r argymhellion ni i ymateb i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan gyfeirio at dri argymhelliad blaenorol o'u hargymhellion nhw, ac rwy'n hapus i ysgrifennu ar wahân ar y rhain maes o law.
Rwyf am droi yn awr at argymhellion y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Ochr yn ochr â phum casgliad cyffredinol i'w hystyried yn ehangach mewn perthynas â'r rhaglen ddeddfwriaethol, gwnaeth y pwyllgor 28 o argymhellion ar y Bil. Nawr, er nad wyf wedi gallu derbyn y rhain i gyd, rwy'n falch ein bod wedi derbyn 16 o argymhellion yn llawn, yn rhannol neu mewn egwyddor, a'n nod yw cyflwyno wyth o ddiwygiadau'r Llywodraeth gan ymateb yn uniongyrchol i, neu ar bynciau sy'n gysylltiedig ag argymhellion pwyllgorau 10, 12, 14, 16, 17, 18, 22 a 28.
Rwy'n derbyn argymhelliad cyntaf y pwyllgor ar ddarparu ymateb cyn y ddadl hon mewn egwyddor. Yn anffodus, nid oedd hyn yn bosibl oherwydd yr amserlen dynn a'r angen i ystyried argymhellion y pwyllgor yn ofalus cyn y ddadl hon. O ran argymhelliad 2, rwy'n derbyn ac yn cadarnhau bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi rhoi cydsyniad Gweinidog y Goron ar gyfer y darpariaethau ym mharagraff 4 o Atodlen 2 i'r Bil. Rwyf hefyd yn falch o dderbyn argymhellion 3, 7 i 9, 11 i 12, 14 i 18, 22, 24 a 28 yn llawn, yn rhannol neu mewn egwyddor.
Rwyf wedi ystyried pob un o argymhellion y pwyllgor yn ofalus ac rwyf wedi penderfynu mewn nifer o achosion i wneud newidiadau i'r Bil i ymateb i'r rhain. Er enghraifft, ar ôl ystyried pryderon y pwyllgor, byddaf yn cyflwyno diwygiadau i'r Bil mewn ymateb i argymhellion 14 a 28 i ddyfarnu'r ddau bŵer rheoleiddio y cyfeirir atynt yn yr argymhellion hyn i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft yn hytrach na'r weithdrefn negyddol.
Yn olaf, gan droi at argymhellion y Pwyllgor Cyllid, unwaith eto rwy'n croesawu'r casgliad bod y pwyllgor yn fodlon ar y cyfan â goblygiadau ariannol y Bil fel y nodir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, yn amodol ar ei sylwadau a'i argymhellion. Rwy'n falch o dderbyn pob un o'r 18 o argymhellion y pwyllgor naill ai'n llawn, yn rhannol neu mewn egwyddor. Yn achos adroddiad y pwyllgor hwn, rwyf eisoes wedi ymateb yn ysgrifenedig i ddarparu rhagor o wybodaeth ac eglurhad yn ôl y gofyn.
Rwyf wedi derbyn argymhellion 1, 2 a 3 ar yr angen am esboniadau clir, cywir a llawn o'r holl gostau a buddion amcangyfrifedig yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Rwyf wedi derbyn argymhellion 5 a 6. Yn y memorandwm esboniadol diwygiedig yn dilyn Cyfnod 2, byddaf yn darparu gwybodaeth am unrhyw newid sylweddol yn y costau disgwyliedig ar gyfer y Bil. Rwyf hefyd yn hapus i ddarparu modelu ar gyfer canlyniadau ariannol cyfnod trosiannol hirach ar gyfer dileu elw mewn ymateb i argymhelliad 7 y pwyllgor.
Felly, Llywydd, fel y dywedais i ar y dechrau, o ystyried nifer yr argymhellion, nid wyf wedi gallu ymdrin â phob un ohonynt yn eu tro yn fanwl heddiw, ond rwyf wedi ceisio ymateb i rai o'r prif bwyntiau o'r tri adroddiad pwyllgor. Fodd bynnag, rwy'n edrych ymlaen at ateb cwestiynau pellach yn nes ymlaen yn y ddadl hon. Diolch yn fawr.
Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gyfrannu'n gyntaf felly. Russell George.
Diolch, Llywydd. Rwy'n gobeithio bydd fy nodiadau siarad yn y drefn gywir gan fy mod newydd eu gollwng ac fe aethon nhw i gyd i'r cyfeiriad anghywir. Ond diolch yn fawr, Llywydd.
Yr hyn y dylwn ei ddweud ar y dechrau yw bod mwy nag un plentyn ym mhob 100 o blant yng Nghymru bellach mewn gofal. Mae nifer y plant a'r bobl ifanc mewn gofal wedi cynyddu'n sylweddol dros y 10 mlynedd diwethaf, ac mae anghenion y plant a'r bobl ifanc hynny yn dod, wrth gwrs, yn fwy cymhleth hefyd.
Nawr, yn ystod ein gwaith craffu ar y Bil, roedd y Gweinidog yn eithaf clir nad oedd gwneud dim yn y maes hwn yn opsiwn i Lywodraeth Cymru. Clywsom gan bobl ifanc â phrofiad o ofal eu hunain a phlant mewn gofal, nad ydynt eisiau cael eu trin fel nwyddau, ac nid ydynt eisiau cael eu hysbysebu gyda thocyn pris. Clywsom hefyd am gost anghynaladwy'r system bresennol i awdurdodau lleol.
Fel pwyllgor, rydym yn credu'n gryf y dylai'r holl ofal a ddarperir i blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal ddarparu'r canlyniadau gorau posibl i'r plant hynny, ac mewn amgylchedd cefnogol hefyd sy'n diwallu eu hanghenion unigol. Roedd y bobl ifanc a glywsom ganddyn nhw yn glir iawn y dylai arian sy'n cael ei wario ar ofal plant sy'n derbyn gofal fod o fudd uniongyrchol i'r plant hynny. Mae mwyafrif y pwyllgor yn credu mai'r ffordd orau o gyflawni hyn yw cyfyngu ar elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal. O'r herwydd, mae mwyafrif y pwyllgor yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil.
Nawr, er gwaethaf y gefnogaeth hon mewn egwyddor, mae gennym bryderon gwirioneddol am sut y bydd y Bil yn gweithio'n ymarferol, ac rwyf eisiau sôn am rai o'r meysydd hynny. Pontio i drefniadau newydd a digonolrwydd lleoliadau oedd dau o'r prif bryderon i randdeiliaid, yn enwedig yng ngoleuni'r heriau sylweddol a hirdymor sy'n wynebu awdurdodau lleol wrth sicrhau digon o lety i'r plant a'r bobl ifanc y maen nhw'n gofalu amdanynt. Mae risgiau enfawr i ddigonolrwydd a chynaliadwyedd lleoedd preswyl a maeth, yn enwedig yn y tymor byr i'r tymor canolig, wrth i nifer anhysbys o ddarparwyr adael y farchnad, ac mae awdurdodau lleol a'r trydydd sector yn gweithio i adeiladu eu capasiti. Gallai hyn, yn ei dro, gynyddu'r heriau o ddod o hyd i lety addas, sefydlog a diogel ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, yn enwedig i'r rhai ag anghenion mwy cymhleth.
Y pryder mwyaf i ni fel pwyllgor oedd y potensial am ganlyniadau negyddol i blant a phobl ifanc os na chaiff y pontio ei reoli'n effeithiol. Dywedodd pobl ifanc eu hunain wrthym eu bod yn poeni am yr hyn fydd yn digwydd os bydd cwmnïau'n penderfynu gadael y farchnad oherwydd cyfyngiadau ar elw. Felly, byddwn yn awgrymu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau pontio trefnus, un lle mae anghenion plant a phobl ifanc o'r pwys mwyaf. I lawer o ddarparwyr, ni fydd symud i fodel nid-er-elw newydd o reidrwydd yn broses hawdd neu syml. Dyna pam rydym wedi argymell bod y Gweinidog yn darparu cynnig manwl o gymorth ac arweiniad i ddarparwyr preifat ac annibynnol a allai fod eisiau symud at y model nid-er-elw hwnnw. Mae angen gwneud hynny, byddwn yn awgrymu, fel mater o frys, ac mae hynny wedi'i amlinellu yn ein hargymhelliad 4.
Mae'r gost o ofalu am blant sy'n derbyn gofal wedi cynyddu'n aruthrol dros y degawd diwethaf. Gan ragamcanu ymlaen llaw, mae'r sefyllfa honno'n ymddangos yn anghynaladwy ar gyfer cyllid cyhoeddus yn y tymor hwy. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £68 miliwn yn uniongyrchol i'w polisi dileu elw. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod angen buddsoddiad parhaus cynaliadwy yn y cyfrifoldeb am ddarparu gofal digonol a chynaliadwy i blant sy'n derbyn gofal wrth iddo symud i awdurdodau lleol, ac nid yw maint hynny yn hysbys ychwaith. Ar adeg pan fo awdurdodau lleol yn debygol o fod o dan bwysau ariannol sylweddol, enfawr, credaf fod angen ymrwymiad clir gan Lywodraeth Cymru ar y cyllid a'r cymorth y gallant ddisgwyl ei gael am o leiaf y pum mlynedd nesaf—amserlen a fydd yn hanfodol i awdurdodau lleol wrth ddatblygu eu darpariaeth eu hunain.
Yn olaf, mewn perthynas ag amserlenni ar gyfer y cyfnod pontio, nid yw'r Bil yn cynnwys amserlenni penodol ar gyfer pontio, ond mae'r Gweinidog wedi bod yn glir ei bod yn gweld pethau'n symud yn gymharol gyflym o fis Ebrill 2026. Yn ein hadroddiad, gwnaethom nodi pryderon sylweddol rhanddeiliaid, yn enwedig awdurdodau lleol a'r trydydd sector, am yr hyn yr oeddent yn ei ystyried yn amserlenni afrealistig a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru. Eu pryder yw y gallai'r amserlenni hyn waethygu problemau digonolrwydd presennol gydag unrhyw golled sydyn o ddarpariaeth. Am y rheswm hwn, rydym wedi galw ar y Gweinidog i adolygu pryderon rhanddeiliaid ynghylch yr amserlen bontio, er mwyn sicrhau ei hun y gellir cyflawni'r polisi yn yr amserlen a gynigir, heb effeithio ar fywydau plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal.
Rydym hefyd wedi galw ar y Gweinidog i baratoi a chyhoeddi adroddiad ar gynnydd y pontio bob chwe mis o'r pwynt hwn ymlaen, yn ein hargymhelliad 9. Ni ellir tanbrisio maint yr her sy'n wynebu awdurdodau lleol, gwasanaethau cymdeithasol a darparwyr eu hunain wrth weithredu Rhan 1 o'r Bil hwn, rwy'n credu. Felly, byddwn yn annog y Gweinidog i roi ystyriaeth ddofn a difrifol i'r argymhellion yn ein hadroddiad, er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal.
Wrth gwrs, nid yw'r Bil yn ymwneud yn unig â chyfyngu ar elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal. Bydd Rhan 2 yn cyflwyno'r opsiwn o daliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus. Yma, bwriad y Gweinidog yw rhoi mwy o lais a rheolaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth. Felly, roedd cefnogaeth eang i egwyddorion cyffredinol y Rhan hon o'r Bil, er, fel yn achos Rhan 1, roedd pryderon ynghylch sut y byddai'n gweithredu'n ymarferol, yn enwedig o ystyried y prinder staffio presennol ym maes gofal cymdeithasol. Rhowch eiliad i mi. Iawn.
Clywsom yn uniongyrchol hefyd gan bobl anabl a rhanddeiliaid eraill am yr anawsterau wrth recriwtio a chadw cynorthwywyr personol, felly byddem yn argymell bod y Gweinidog yn gweithio gyda'i chyd-Aelodau yn y Cabinet a'i phartneriaid ehangach i hyrwyddo rôl cynorthwywyr personol a chynyddu nifer y ceisiadau. Credaf fod hon yn sefyllfa arbennig o bwysig. Yn arwyddocaol, clywsom y gallai rhai pobl fod yn amharod i dderbyn y cynnig o daliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus, oherwydd eu bod yn ofni'r hyn nad yw'n hysbys a'r cynnwrf a allai fod yn gysylltiedig â hynny. Felly, mewn ymateb i hyn, rydym wedi galw ar y Gweinidog i gynnwys yn y Bil hawl i wybodaeth, cyngor a chefnogaeth i unrhyw un sy'n ceisio derbyn taliadau yn uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus.
Gweinidog, edrychaf ymlaen at eich ymateb ffurfiol i'n hargymhellion. Doeddwn i ddim yn gallu cadw i fyny yn llwyr. Weithiau roedd yn edrych fel pe baech yn darllen rhifau'r loteri, felly ni lwyddais i nodi'r holl argymhellion. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn edrych yn ôl ar y Cofnod, ond, wrth gwrs, yn bwysicach, edrychaf ymlaen at eich ymateb ffurfiol i adroddiad ac argymhellion ein pwyllgor.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad sydd nesaf, Mike Hedges.
Diolch, Llywydd. Daeth adroddiad y pwyllgor i bum casgliad a gwnaeth 28 o argymhellion. Yn gyntaf oll, rwy'n croesawu'r ymateb gan y Gweinidog y prynhawn yma.
Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau ar themâu cyffredinol sy'n dod i'r amlwg o'n gwaith craffu. Nid ydym o'r farn ei bod yn foddhaol na chyhoeddwyd manylion llawn am effaith y Bil ar y materion allweddol gan gynnwys hawliau dynol, y system gyfiawnder a diogelu data mewn pryd ar gyfer ystyriaeth y Senedd o'r Bil yng Nghyfnod 1. Yn ein barn ni, dylai datblygu'r cynigion deddfwriaethol gael eu llywio gan ganlyniadau asesiadau effaith. Dylid cwblhau'r gwaith o baratoi'r asesiadau hyn cyn cyflwyno Bil. Dylid ystyried hwn fel arfer safonol. Felly roedd ein dau gasgliad cyntaf yn tynnu sylw at yr hyn yr ydym yn ei ystyried yn arfer da ar y materion hyn.
Roedd diffyg gwybodaeth amserol gan y Llywodraeth yn thema yn ein canfyddiadau. Nid yw'n syndod, felly, bod ein trydydd casgliad yn mynegi pryder bod y Bil wedi'i gyflwyno'n rhy gynnar a chyn i'r holl waith paratoi angenrheidiol gael ei gwblhau. Wrth ddod i'r casgliad hwn, gwnaethom ystyried cyfaddefiad y Gweinidog ei hun bod angen rhoi ystyriaeth bellach i ddrafftio darpariaethau penodol. Mae hyn yn rhannol yn esbonio'r nifer fawr o argymhellion yn ein hadroddiad.
Mynegwyd pryder hefyd y gallai'r deunydd esboniadol fod yn gamarweiniol, oherwydd ei fod yn cyfeirio at ddileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal. Gwnaed hyn yn hytrach na chyfeirio at y ffaith bod y Bil yn gwneud darpariaeth i gyfyngu ar wneud elw. Felly, rydym yn argymell y dylai'r Gweinidog ddiwygio'r memorandwm esboniadol, gan gynnwys y nodiadau esboniadol, erbyn dechrau trafodion Cyfnod 3 er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu'n gywir fwriad y Bil i gyfyngu yn hytrach na dileu gwneud elw o ofal plant sy'n derbyn gofal.
Mae cychwyn a gweithredu'r Bil yn amodol ar drefniadau trosiannol. Yn ein barn ni, mae dyddiad terfyn y trefniadau trosiannol yn aneglur, sy'n destun pryder o ystyried eu bod wedi'u bwriadu, yn rhannol, i ddiogelu hawliau plant sy'n derbyn gofal. Credwn y dylai'r Gweinidog roi gwybodaeth am ddyddiad terfyn y trefniadau trosiannol ar wyneb y Bil. Byddai hyn yn rhoi mwy o sicrwydd i bawb yr effeithir arnynt gan y newidiadau sydd i'w gwneud gan y Bil ac yn rhoi targed iddynt weithio tuag ato o ran paratoi ar gyfer y newidiadau hynny. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gallai fod angen newid y dyddiad terfyn. Gellid cyflawni hyn trwy gynnwys pŵer deddfu sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft. Yn ein barn ni, byddai hyn yn lliniaru'r pryderon a fynegwyd gan y Gweinidog ynghylch dyddiad terfyn ar wyneb y Bil.
Rwyf am droi nawr at rai o'r materion a drafodir ym mhennod 4 ein hadroddiad. Dywedodd Casgliad 4 o'n hadroddiad
'y dylai deddfwriaeth ddiffinio’n glir y termau y mae’n eu defnyddio, yn hytrach na’i gwneud yn ofynnol i’r darllenydd arfer rhywfaint o ddehongli, waeth pa mor syml yw’r dehongliad ym marn y Gweinidog dan sylw.'
Adlewyrchwyd yr egwyddor honno mewn nifer o argymhellion â'r nod o wneud termau a ddefnyddir yn y Bil yn fwy manwl.
O ran adran 3 o'r Bil a mewnosod adran 6A newydd i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, gwnaethom ddau argymhelliad pwysig. Yn gyntaf, argymhellwyd y dylai'r Gweinidog ddiffinio 'budd cyhoeddus', gan ei fod yn gysyniad sylfaenol i natur y darparwyr gwasanaethau sy'n dymuno cael eu cofrestru i ddarparu gwasanaethau plant cyfyngedig. Yn ail, argymhellwyd y dylai'r pŵer deddfu yn adran newydd 6A(3)(b) o Ddeddf 2016 fod yn weithdrefn uwchgadarnhaol. Mae hyn oherwydd bod y pŵer yn eithriadol o eang a gellid ei ddefnyddio i ehangu elfen allweddol o'r Bil. Ar ben hynny, bydd y pŵer hwn ar gael i Weinidogion Cymru o bob Llywodraeth yn y dyfodol, ac felly dylai Senedd Cymru ei oruchwylio'n fanylach.
Yn olaf, ac eto fel mater o egwyddor, dylai Llywodraeth Cymru fod yn glir ynghylch yr angen am bwerau dirprwyedig cyn cyflwyno Bil i'r Senedd. Felly, er ein bod yn croesawu bwriad y Gweinidog i adolygu'r angen am y pŵer i wneud rheoliadau ym mharagraff 2(4)(b) o Atodlen 1A newydd i Ddeddf 2016, argymhellwyd y dylid ei ddileu o'r Bil.
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Llywydd. Dwi’n croesawu’r cyfle i gyfrannu i’r ddadl yma heddiw i drafod yr argymhellion a nodwyd yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid. Hoffwn hefyd ddiolch i’r Gweinidog a’i swyddogion am ddod i’n sesiwn dystiolaeth, ac am ddarparu ymateb i'n hargymhellion cyn y ddadl heddiw. Dwi'n ddiolchgar i’r Gweinidog am dderbyn bob un o'r 18 argymhelliad, er fy mod yn nodi bod dau ohonyn nhw wedi eu derbyn mewn egwyddor a thri yn cael eu derbyn yn rhannol yn unig, a byddaf yn troi at y rheini maes o law.
Mae'r pwyllgor yn fodlon ar y cyfan â'r goblygiadau ariannol fel y nodir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Fodd bynnag, rydym yn bryderus iawn am ansawdd yr wybodaeth a ddarperir ochr yn ochr â'r Bil hwn. O ganlyniad, rydym wedi gwneud 18 o argymhellion gyda'r nod o wella eglurder yr wybodaeth ariannol, a oedd yn siomedig ac islaw'r safon mewn nifer o feysydd.
Gadewch i mi ddechrau gyda'r newyddion da. Rydym yn cytuno â nodau'r Bil hwn: sef na ddylai fod marchnad ar gyfer gofalu am blant sy'n derbyn gofal, lle caiff elw ei ddosbarthu fel difidendau i gyfranddalwyr neu aelodau. Yn anffodus, fodd bynnag, cafodd ein gallu i ystyried goblygiadau ariannol y darpariaethau hyn ei rwystro'n sylweddol gan y diffyg manylder difrifol ar draws yr asesiad effaith rheoleiddiol. Mae hyn yn arbennig o amlwg yn y dull anghyson a gymerwyd wrth gyflwyno costau a buddion y newidiadau polisi arfaethedig, sy'n eang ac yn aml yn amwys.
Maes a achosodd ddryswch mawr i'r pwyllgor oedd penderfynu ar yr amrywiant cywir ar gyfer cyfanswm cost y Bil. Er enghraifft, cywirwyd yr ystod a nodir yn y tabl cryno o gostau a buddion y Bil gan y Gweinidog yn ei thystiolaeth ysgrifenedig ei hun. Aeth yr wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan y Gweinidog ar 26 Gorffennaf gryn ffordd i gefnogi rhai o'r amcangyfrifon cost a amlinellwyd yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Fodd bynnag, cawsom ohebiaeth bellach ar 3 Hydref, yn cadarnhau o'r diwedd gyfanswm cost net y Bil—tri mis llawn ar ôl sesiwn dystiolaeth gychwynnol y pwyllgor gyda'r Gweinidog.
Er ein bod yn ddiolchgar am yr eglurhad, nid yw'r dull hwn yn ddigon da. Mae'n arbennig o siomedig ein bod wedi derbyn yr wybodaeth hon wythnos yn unig cyn dyddiad cau adrodd Cyfnod 1. Rwy'n credu y byddwch yn cytuno, Gweinidog, nad dyma'r arfer gorau, ac, a dweud y gwir, nid yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan yr Aelod sy'n gyfrifol am Fil. Yn benodol, nid yw hyn yn adlewyrchu'n dda ar y gweithdrefnau sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith i wirio ansawdd gwybodaeth cyn iddi gael ei chyflwyno i'r pwyllgor craffu. Felly, nod argymhellion 1 i 5 o'n hadroddiad yw mynd i'r afael â'r amwyseddau sylfaenol hyn.
Gan symud ymlaen at yr amcangyfrifon cost ynghylch dileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal, nodwn yr ansicrwydd presennol ynghylch union nifer y darparwyr annibynnol a fyddai'n fodlon neu'n gallu trosi i statws nid-er-elw. Am y rheswm hwn, canfu'r pwyllgor fod modelu gwahanol sefyllfaoedd, a'r ystod o oblygiadau cost posibl, yn ddefnyddiol iawn. Fodd bynnag, gofynnwn i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am fwriadau darparwyr wrth i'r dystiolaeth ynghylch hyn ddod i'r amlwg.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol y bydd y trefniadau trosiannol yn y Bil hwn yn dod i rym ymhen llai na thair blynedd. Fodd bynnag, dywedodd y Gweinidog wrthym pe bai'r cyfnod pontio yn cymryd mwy o amser na'r disgwyl, y byddai costau cysylltiedig i'w hysgwyddo dros y cyfnod hirach. Felly, rydym yn pryderu am yr effaith y gallai hyn ei chael ar ddarparwyr ac nid ydym yn sicr bod y canlyniadau posibl yn y maes hwn yn cael eu hadlewyrchu yn yr asesiad effaith rheoleiddiol.
Holodd y pwyllgor hefyd pam y mae'r Gweinidog wedi seilio costau ar gyfer y Bil ar nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal ar lefel gyson yn ystod y cyfnod arfarnu, pan fo'r dystiolaeth yn awgrymu bod y niferoedd, mewn gwirionedd, yn cynyddu, ac wedi gofyn am eglurhad ar y pwynt hwn. Rydym hefyd yn annog y Gweinidog i adolygu'r costau sy'n disgyn yn uniongyrchol ar ysgwyddau awdurdodau lleol, ac i ddarparu mwy o wybodaeth am y modelau amgen yr ystyrir eu bod yn cyflawni amcan polisi'r Bil, yn ogystal â manylion am sut y bydd ailfuddsoddi'r elw yn gwella gwasanaethau i blant a theuluoedd.
Yn olaf, o ran cyflwyno taliadau uniongyrchol gofal iechyd parhaus, mae'r pwyllgor yn croesawu'r cymhelliant y tu ôl i'r cynnig hwn. Fodd bynnag, teimlwn fod gorddibyniaeth ar ffigurau sy'n seiliedig ar fodelau tebyg mewn mannau eraill i amcangyfrif costau, yn hytrach na thystiolaeth empirig, ddiriaethol. Nid yw'r Gweinidog wedi darparu'r dystiolaeth i gefnogi'r rhagdybiaethau hyn ac nid yw wedi egluro pam y mae'r dull hwn yn briodol.
I gloi, Lywydd, ni ddylai amcanion canmoladwy'r Bil hwn guddio ansawdd gwael y wybodaeth ariannol a ddarparwyd, sydd wedi gwneud ein gwaith o graffu ar y costau yn galetach nag y dylai fod. Dwi'n falch bod y Gweinidog wedi derbyn rhan fwyaf yr argymhellion yn llawn, a rhai eraill ddim yn llawn, ond gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn ystyried ein hargymhellion wrth i'r Bil fynd rhagddo. Diolch yn fawr.
Fel yr amlinellais pan gyflwynwyd y Bil hwn, roeddem i gyd yn cytuno na ddylai neb fod yn elwa ar blant agored i niwed. Nid oes lle i gwmnïau ecwiti preifat o Qatar a'r Emiradau Arabaidd Unedig i redeg gwasanaethau plant yng Nghymru. Dyna'r bwriadau y tu ôl i'r ddeddfwriaeth hon. Maen nhw'n fwriadau da, bwriadau clodwiw, ond rydyn ni i gyd yn gwybod bod y ffordd i uffern yn frith o fwriadau da.
Gallai canlyniadau anfwriadol y Bil hwn arwain at ostyngiad enfawr yng ngofal plant sy'n derbyn gofal. Nid yw er elw yn anghydnaws â gofalu am y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas—plant mewn gofal. Mae mwyafrif y darparwyr gofal annibynnol, sy'n darparu 83 y cant o'r holl wasanaethau gofal plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru, yn weithredwyr bychain sy'n darparu gofal rhagorol. Fel y dywed memorandwm esboniadol Llywodraeth Cymru ei hun, mae'r rhain fel arfer yn eiddo i bobl sydd â phrofiad mewn gofal cymdeithasol plant ac yn eiddo i bobl yng Nghymru yn unig fwy neu lai. Mae'r rhain yn bobl sy'n gofalu'n angerddol am blant sy'n derbyn gofal ac sydd wedi ymateb i fethiant y wladwriaeth i ddarparu llety preswyl. Mae nifer y plant sy'n derbyn gofal wedi codi 79 y cant dros y ddau ddegawd diwethaf. Mae plant sydd wedi'u lleoli mewn gofal preswyl wedi cynyddu 186 y cant dros yr 20 mlynedd diwethaf, a 54 y cant yn ystod y pedair blynedd diwethaf. Nid yw saith awdurdod lleol yn darparu unrhyw ofal o gwbl, felly y sector preifat yw'r unig ddewis. A nawr mae Llywodraeth Cymru eisiau pardduo'r union gwmnïau hynny a roddodd achubiaeth i'n plant mwyaf agored i niwed. Mae'r Bil hwn yn ddiffygiol ac yn seiliedig ar ragdybiaeth ddiffygiol. Mae pawb sydd wedi gwneud sylwadau ar y ddeddfwriaeth hon wedi amlygu'r rhwystrau i'w gweithredu.
Ar y pwynt hwn, hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol am eu trafodaethau Cyfnod 1 amhrisiadwy ar y Bil hwn. Mae tystion wedi dweud wrth y pwyllgor am eu pryderon y byddai'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector yn ei chael hi'n anodd darparu'r lleoedd sy'n cael eu cynnig ar hyn o bryd gan y sector er elw. Mewn gwirionedd, rhybuddiodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am y risg o brinder sydyn a difrifol pe bai'r darparwyr presennol yn penderfynu gadael y farchnad. Yn anffodus, dyna'n union sy'n debygol o ddigwydd. Dywedodd Cymdeithas Cartrefi Plant, sy'n cynrychioli 22 darparwr sy'n darparu mwy na hanner y gwelyau yng Nghymru, wrth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol—
A wnewch chi ildio?
Gwnaf.
Diolch. Nid wyf yn credu ei fod yn ymwneud â phardduo'r sector preifat, ond rwy'n derbyn eich pwynt bod y capasiti wedi'i gyfyngu, ac mae'n ymwneud â chaniatáu i awdurdodau lleol adeiladu capasiti. Oni fyddai'n cytuno mai'r hyn sy'n amhriodol yw gosod rhai o'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed ar dendr, a gallant weld hyn drostynt eu hunain—y costau sy'n gysylltiedig â'u gofal eu hunain? Onid yw hi'n iawn i symud i ffwrdd o'r system honno?
Diolch yn fawr iawn. Gofynnaf felly i Lywodraeth Cymru dynnu'r Bil yn ôl ac ail feddwl. Mae angen ac awydd i ddiogelu'r sector rhag gwneud elw, ond nid y Bil hwn yw'r ateb. Os ydych chi wir eisiau dileu elw o ofal plant, yna gwnewch i'r wladwriaeth ddarparu'r cartrefi gofal. Ond ni allwch chi, ac ni fyddwch chi, yn seiliedig ar berfformiad yn y gorffennol, ac os yw Llywodraeth Cymru wir yn gwrthwynebu darparu gwasanaethau cyhoeddus yn y sector preifat, a ydych chi'n mynd i wladoli practis cyffredinol, deintyddion, fferyllfeydd, optegwyr? Beth nesaf? Gofal cymdeithasol i oedolion? Na wrth gwrs ddim. Rwy'n annog yr Aelodau i wrthod y Bil a'r cynnig hwn. Diolch.
Wel, mae Plaid Cymru wedi bod yn gwbl ddiwyro yn ein cred y dylai ein gwasanaethau iechyd a gofal gael eu rhedeg er lles y bobl, nid er budd elw mentrau masnachol. Rwy’n falch, felly, y bydd y ddeddfwriaeth hon yn cyflawni un o flaenoriaethau’r cytundeb cydweithio fu yno rhyngom ni a’r Llywodraeth, sef i gael cyfyngu ar y gallu i wneud elw ar draul plant mewn gofal.
Mae'r angen am ddiwygio yn y maes hwn, wrth gwrs, wedi bod yn amlwg ers peth amser. Fel y pwysleisiwyd yn adroddiad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd 2022, mae'r farchnad ar gyfer y sector wedi'i sgiwio'n drwm ac yn anghymesur o blaid cyflenwyr preifat, lle mae gallu awdurdodau lleol i ddarparu eu gofal maeth eu hunain wedi cael ei erydu'n ddifrifol gan wasgfa hir cyni. Gyda darparwyr preifat bellach yn cyfrif am bron i 80 y cant o holl leoliadau plant sy'n derbyn gofal, a 90 y cant o gartrefi plant, mae tua £3 o bob £10 sy'n cael eu gwario ar ofal maeth yng Nghymru ar hyn o bryd yn mynd i bocedi cyfranddalwyr a chwmnïau ecwiti, yn hytrach na chael eu hailfuddsoddi i wella ansawdd gwasanaethau. Ac, fel yr ydym wedi dadlau ers amser maith, yn sicr nid yw'r farchnad yn gwybod orau o ran darparu ar gyfer anghenion plant sy'n derbyn gofal. Mae hyn yn arbennig o amlwg mewn perthynas â lleoliad daearyddol, sydd, yn y cyd-destun hwn, yn ffactor o'r pwysigrwydd mwyaf ar gyfer llesiant. Er bod 84 y cant o blant mewn gofal maeth awdurdodau lleol yng Nghymru yn aros yn eu hardal leol, gan sicrhau parhad hanfodol yn eu bywydau yn ystod cyfnod o ansicrwydd cynhenid, mae 79 y cant o blant mewn maethu preifat yn derbyn gofal y tu allan i'w hardal leol, ac mae 6 y cant yn cael eu symud allan o Gymru yn gyfan gwbl.
Ond mae'n siŵr bod yr achos mwyaf cymhellol dros newid yn dod o dystiolaeth y plant eu hunain, sy'n dangos anfodlonrwydd ac anghysur eang ynghylch sut y gellir defnyddio eu hamgylchiadau fel cyfrwng ar gyfer gwneud elw. Nid oes amheuaeth y bydd y ddeddfwriaeth hon yn brociad sylweddol i'r sector ac, heb gynllunio gofalus, mae'n debygol y bydd sgîl-effaith negyddol ar ffurf cyflenwyr preifat yn dewis gadael y farchnad. Dyna pam mae rheoli'r cyfnod pontio yn effeithiol mor bwysig, er mwyn lliniaru unrhyw darfu canlyniadol cyn belled ag y bo modd, ac i sicrhau bod digon o gapasiti ar gyfer gofal maeth unwaith y bydd y newidiadau'n dechrau o fis Ebrill 2027.
Felly, a allai'r Ysgrifennydd Cabinet amlinellu'r mesurau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i annog a chefnogi darparwyr preifat i drawsnewid i fodel nid-er-elw? Beth yw ei hamcangyfrif diweddaraf o gyfran y darparwyr o'r fath sy'n debygol o barhau â'u gweithrediadau y tu hwnt i Ebrill 2027? A yw hi hefyd yn derbyn yr angen am gymhwysiad pragmatig o ofynion adran 4 ar ddarparwyr er elw yn ystod y cyfnod trawsnewid, yn enwedig i'r rhai y bydd galw am leoliadau atodol arnynt, yn unol ag adran 13 o'r Bil?
Gan droi at agweddau eraill y Bil, rydym yn cefnogi cyflwyno dyletswydd gyfreithiol i adrodd ar blant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio yn unol ag argymhellion yr ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol. Mae'n hanfodol bod y ddyletswydd hon yn cael ei hategu gan fecanweithiau cymorth cadarn ar gyfer yr unigolion yr effeithir arnynt, a ddylai gynnwys dull gweithredu hawliau plant yn achos plant dan oed. Dylid datblygu'r canllawiau adrodd hefyd er mwyn atal creu hierarchaeth de facto o achosion o gam-drin. Bydd y Gweinidog hefyd yn ymwybodol bod Swyddfa Gartref y DU yn bwriadu deddfu ar gyfer adrodd gorfodol am gam-drin plant yn rhywiol fel rhan o'r Bil Cyfiawnder Troseddol, a byddwn yn croesawu ei barn ar sut y bydd hyn yn rhyngweithio â'r cynigion yn y darn hwn o ddeddfwriaeth y Senedd.
Yn olaf, er bod y Llywodraeth yn iawn i fynd i'r afael â'r diffygion yn y fframwaith deddfwriaethol presennol ynghylch taliadau uniongyrchol i'r rhai sy'n gymwys i gael gofal iechyd parhaus y GIG, mae'n hanfodol bod awdurdodau lleol yn cael yr adnoddau angenrheidiol i reoli'r cyfrifoldeb ychwanegol hwn. Felly, byddwn yn ddiolchgar felly pe gallai'r Gweinidog roi syniad o'r gost flynyddol ddisgwyliedig i awdurdodau lleol o ganlyniad i'r newidiadau hyn ac egluro sut y bydd eu grant cynnal refeniw yn cael ei uwchraddio i ddygymod â hyn.
Hoffwn ddiolch i wahanol bwyllgorau'r Senedd am eu gwaith craffu amhrisiadwy ar y Bil hwn. Ni ddylem danbrisio pa mor bwysig yw'r Bil hwn. Os caiff ei basio, bydd ganddo ganlyniadau dwys a phellgyrhaeddol i blant mewn gofal. Nid yw'r agenda ddileu wedi bod yn rhan ganolog o'n gwaith ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Mae ein gwaith wedi canolbwyntio ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiwygio radical ar gyfer plant a phobl ifanc â phrofiad o ofal. Rydym wedi ein siomi'n fawr oherwydd y cynnydd yn y maes hwnnw, ond rydym yn cydnabod lefel yr uchelgais a nodir yn y Bil hwn. Gwyddom hefyd fod cael gwared ar elw preifat o ofal plant yn cael ei groesawu'n gryf gan lawer o blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal eu hunain.
Fodd bynnag, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i wrando ar y pryderon a nodwyd gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystod ei waith craffu Cyfnod 1, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â phrinder lleoliadau posibl. Ond mae'r Bil hwn yn gwneud mwy na chyfyngu ar realeiddio elw o ofal plant; mae hefyd yn ei gwneud yn haws i awdurdodau lleol leoli plant y tu allan i'w hawdurdod lleol cartref. Mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol bod llety ar gyfer plant mewn gofal o fewn ardal yr awdurdod neu'n agos ati. Ar hyn o bryd, rhaid i'r llety fod o fewn ardal yr awdurdod. Dywed Llywodraeth Cymru y byddai'r darpariaethau hyn yn caniatáu i awdurdodau lleol leoli plentyn yn agosach at eu cymuned gartref, hyd yn oed os yw hynny mewn awdurdod lleol gwahanol. Mae gennym bryderon mawr am y cynnig hwn. Yn gyntaf, nid oes digon o fanylion yn y Bil am yr hyn y mae 'yn agos at' yn ei olygu. O ystyried y prinder difrifol o leoliadau o ansawdd, rydym yn ofni y bydd y darpariaethau hyn yn golygu bod plant yn anochel yn cael eu lleoli ymhellach i ffwrdd o'u cartrefi.
Yn ail, cyn gynted ag y byddwch chi'n gosod plentyn y tu allan i'w awdurdod lleol cartref, ni waeth pa mor agos yw'r lleoliad hwnnw'n ddaearyddol, mae'n rhaid i ddau awdurdod lleol rannu gwybodaeth am y plentyn—dwy adran gwasanaethau plant, dwy adran tai, dwy adran addysg. Gallai hyd yn oed olygu bod yn rhaid i ddau fwrdd iechyd rannu gwybodaeth am y plentyn, a dau heddlu. Rydym yn gwybod y gall gweithio amlasiantaethol fod yn hynod heriol. Mae'n codi dro ar ôl tro wrth ddiogelu adolygiadau pan fydd pethau wedi mynd o chwith yn ofnadwy. Gwyddom hefyd fod 24 y cant o blant sy'n mynd ar goll mewn gofal, er bod plant mewn gofal yn cyfrif am 1 y cant o holl blant Cymru. Bob tro y bydd plentyn yn mynd ar goll o ofal, mae gweithio amlasiantaethol yn dod yn ofyniad brys a difrifol. Gweinidog, rydych wedi cydnabod i ni fod lleoliadau y tu allan i'r ardal yn sbardun blaenllaw ar gyfer cyfnodau coll, a bod cyfnodau coll yn rhoi plant mewn perygl o gael eu hecsbloetio. Felly, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r Bil yn unol ag argymhelliad 15 y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gydnabod y risgiau sy'n gysylltiedig â lleoliadau y tu allan i'r ardal.
Rydym hefyd yn pryderu am ddarpariaeth yn y Bil sy'n ymwneud â lleoliadau atodol. P'un ai heb gyfyngiad neu heb eu rheoleiddio, ein pryder yw y gallai'r darpariaethau hyn wthio plant mwy agored i niwed i lety lle nad ydynt yn derbyn gofal, lle nad ydynt yn cael eu cefnogi, ac o bosibl lle maent yn agored i risgiau annerbyniol. Nid yw'n gyd-ddigwyddiad bod yr asiantaethau sydd hefyd wedi mynegi pryderon am y darpariaethau hyn yn gweithio'n agos gyda phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal: y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol, Lleisiau o Ofal, TGP Cymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, heb sôn am Gomisiynydd Plant Cymru, Plant yng Nghymru a Chymdeithas Cartrefi Plant, hyd yn oed Arolygiaeth Gofal Cymru.
Gadewch i ni atgoffa'n hunain o'r realiti y bydd gweithwyr cymdeithasol yn ei wynebu pan ddaw'r darpariaethau hyn i rym. Bydd angen rhywle ar blentyn i aros ar unwaith—y noson honno, hyd yn oed. Ni fydd lleoliad ar eu cyfer yn rhywle sy'n cael ei arolygu a'i reoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae lleoliadau gwych, cefnogol nad ydynt yn cael eu rheoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru—lleoliadau gan Llamau, Barnardo's ac eraill—ond mae'r lleoliadau hyn yn brin. Efallai na fydd unrhyw un ar gael ar fyr rybudd o'r fath. Lle bydd y plentyn yn mynd? Ar hyn o bryd, mae eu rhoi mewn llety anghyfyngedig yn gwbl anghyfreithlon. Mae'n digwydd, pan nad oes opsiwn arall, ond mae'r anghyfreithlondeb hwnnw'n ddull diogelu difrifol. Mae'r darpariaethau hyn yn gwanhau'r dull diogelu hwnnw.
Gweinidog, a allwch chi sicrhau plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal na fydd y darpariaethau hyn yn arwain at fwy o blant mewn gofal yn cael eu rhoi mewn llety anaddas ac anniogel? Diolch.
Rwy'n falch o fod yma yn y Senedd, ac mewn gwlad sy'n cymryd camau hanesyddol i ddileu elw preifat o'n system ofal. Mae hwn yn Fil hanesyddol ar y ffordd i greu system ofal yng Nghymru sy'n rhoi plant a phobl ifanc agored i niwed wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.
Fel cyn-weithiwr cymdeithasol a chadeirydd y grwpiau trawsbleidiol ar blant a theuluoedd a phlant â phrofiad o ofal, mae'n ymddangos i mi fod y system bresennol sydd gennym yn gwbl gamweithredol. Os ydym yn meddwl am y peth, rydym yn talu ein treth gyngor; sy'n mynd yn syth i bocedi'r cyfranddalwyr ac nid yw'n diwallu anghenion y plant hynny sy'n wirioneddol agored i niwed. Fel y tystiodd Rowan Gray yn rymus i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
'Mae plant mewn gofal eisiau cael gofal gan bobl sy'n eu trin fel petaen nhw'n blant iddyn nhw. Dydyn nhw ddim eisiau cael eu hysbysebu gyda thocyn pris'.
Ac nid oes angen i ni edrych yn bell i weld effeithiau elw ar ganlyniadau diffyg gweithredu neu newid araf. Dim ond y mis diwethaf, roedd adroddiad gan Brifysgol Rhydychen yn rhyfeddu at gyflymder rhyfeddol preifateiddio cartrefi plant yn Lloegr, gan ganfod bod bron pob lleoliad gofal preswyl a orfodwyd i gau gan reoleiddwyr yn y 12 mlynedd hyd at 2023 wedi'u rhedeg yn breifat.
Fodd bynnag, mae cael y Bil hwn yn iawn yn hanfodol. Mae angen i Lywodraeth Cymru osgoi'r peryglon ac ystyried dysgu o brofiad yr Alban. Yn anffodus, dangosodd ymchwil yn gynharach eleni fod awdurdodau lleol yr Alban wedi gwario £218 miliwn ar ddarparu gofal preswyl i blant i gwmnïau gwneud elw. Roedd hynny ers ymrwymo i osgoi moneteiddio gofal yn 2020. Dywedodd pedwar ar ddeg o awdurdodau lleol nad oedd ganddynt unrhyw gynlluniau o gwbl i roi'r gorau i ddefnyddio cwmnïau gwneud elw. A thynnodd adroddiad gan Who Cares? Yr Alban sylw at ddiffyg dewisiadau amgen a seilwaith priodol, sy'n golygu, hyd nes y rhoddir cyllid digonol i awdurdodau lleol, na fydd moniteiddio gofal yn cael ei herio'n ddigonol.
Yma yng Nghymru, rydym yn wynebu heriau tebyg. Fel yr ydym wedi clywed, ar hyn o bryd, mae dros 80 y cant o blant mewn gofal preswyl a 35 y cant mewn gofal maeth yng Nghymru yn cael eu lleoli gyda darparwyr preifat. Os na fydd y darparwyr hyn yn trawsnewid i'r model nid-er-elw, yna rydym yn amlwg yn wynebu heriau difrifol. Er bod cyllid trawsnewid £68 miliwn Llywodraeth Cymru i'w groesawu, mae pob awdurdod lleol a sefydliad trydydd sector wedi ei gwneud yn glir bod yn rhaid i'r cyllid hwn ymestyn y tu hwnt i 2025. Felly, rwy'n croesawu eich datganiad, Gweinidog, eich bod wedi ymrwymo i ariannu'r Bil hwn yn y dyfodol, ond hoffwn weld mwy o'r manylion, yn enwedig y tu hwnt i 2025.
Hoffwn nawr fynd i'r afael â mater hollbwysig arall—diffyg amlwg eiriolaeth weithredol o fewn y Bil. Mae hwn yn gyfle a gollwyd, yn union fel yr oedd cyfle a gollwyd yn yr adroddiad diwygio radical. Mae angen cymorth eiriolaeth arbennig ar blant y mae trefniadau gofal sy'n newid yn effeithio arnynt ac maent yn ei haeddu, yn enwedig yn ystod y cyfnod trawsnewid hwn. Fel y dywedodd NYAS Cymru wrth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mae'n rhaid i eiriolaeth fod wrth wraidd dull diogelu. Felly, hoffwn alw arnoch, Gweinidog, os caf, i ddiwygio'r Bil hwn i gynnwys hawl statudol i eiriolaeth ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc y gallai'r newidiadau hyn effeithio ar eu trefniadau gofal.
Yn olaf, hoffwn adleisio barn y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a galw ar y Gweinidog i ddiwygio'r Bil mewn perthynas â'r hyn sy'n ddarpariaeth leol—darpariaeth 'agos at'. A allem fod yn gliriach ynglŷn â hyn, ac efallai dweud ei fod yn golygu ffinio ag awdurdodau lleol yn unig, cyfyngu ar y lleoliadau hyn i amgylchiadau eithriadol yn unig?
Yn y pen draw, credaf ein bod ni fel Senedd yn dymuno gweld gwell system ofal sy'n diwallu anghenion ein plant mwyaf agored i niwed. Fodd bynnag, mae llwyddiant y Bil hwn yn dibynnu ar weithredu meddylgar, cyllid priodol, llinellau amser priodol ac, yn bwysicaf oll, bod cadw plant â phrofiad o ofal wrth ei wraidd. Ni yw rhieni corfforaethol y plant a'r bobl ifanc sydd o fewn ein system ofal. Mae angen i ni wneud yn well, ac rwy'n gobeithio, drwy'r Bil hwn, y byddwn ni'n gwneud hynny. Rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i weld y canlyniad a'r adroddiad gan y Gweinidog. Diolch yn fawr iawn.
Y peth cyntaf yr hoffwn i ei ddweud yw bod y bobl sy'n darparu gofal ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn rhoi gwasanaeth rhagorol i'r mwyafrif o'r plant hynny, ac maen nhw'n mynd y tu hwnt i hynny i sicrhau hynny, p'un a ydyn nhw'n gweithio yn y sector preifat neu'r sector cyhoeddus. Fe hoffwn i ddim ond egluro hynny.
Mae hwn yn fater pwysig, ac mae pawb, mae'n ymddangos, yn gytûn bod angen i ni ddileu elw o ofalu am blant sy'n derbyn gofal. Mae'n rhywbeth y mae llawer ohonom ni wedi ymgyrchu drosto ers amser maith. Felly, rydym ni'n croesawu'r rhan honno o'r Bil. Rydym ni'n gwybod ei fod yn uchelgeisiol. Rydym ni'n gwybod ei fod yn arloesol, ac y dylid cydnabod diwygio.
Rwy'n cytuno y dylem ni anelu at gymryd llai o blant i ofal, a dylai gwasanaethau ddarparu'r cymorth cywir i deuluoedd ar yr adeg iawn, i'w helpu i aros gyda'i gilydd lle bynnag y bo hynny'n bosibl. Hefyd, pan fydd pobl ifanc yn barod i adael gofal, dylid eu cefnogi'n briodol i gynllunio ar gyfer y dyfodol, i fyw bywydau annibynnol. Ond bydd cael gwared ar yr elw o ofal yn helpu i gefnogi rhwydwaith o wasanaethau lleol yn y gymuned sydd, yn ei dro, yn gallu diogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc.
Fel pawb yma, rwy'n awyddus i weld rheolaeth esmwyth ar y trawsnewid hwnnw o ofal preifat i ofal dielw. Mae wedi cael ei grybwyll sawl gwaith—pwysigrwydd hynny i'r plant, gan roi hyder a sicrwydd iddyn nhw o'r dyddiad olaf, a fydd yn digwydd heb ryw derfyniad sydyn yn ychwanegu at eu heriau, gan greu pryder diangen iddyn nhw a'u teuluoedd.
Mae angen ystyried yr amserlen yn ofalus iawn ynghylch y cyfleoedd sydd yna i gael lleoliadau digonol ledled Cymru, a dylid gofalu am blant bregus, fel y crybwyllwyd, mor agos at adref ag sy'n bosibl. Ond mae angen hyblygrwydd fel bod y lleoliad agosaf posibl yn cael ei roi iddyn nhw pan nad yw hynny'n briodol. Rwy'n deall bod Cyngor Sir Caerfyrddin ar flaen y gad yn y cyfnod pontio hwnnw, ac mae angen cofio hefyd bod £68 miliwn wedi mynd i awdurdodau lleol i'w helpu i weithredu rhai o'r newidiadau hyn, a gofynnwyd i bob awdurdod lleol gyflwyno cynlluniau. Tra bod Arolygiaeth Gofal Cymru yn dal i gael ceisiadau gan ddarparwyr preifat, mae'n ymddangos—rwy'n gobeithio—bod rhai o'r rheini yn bwriadu symud i'r farchnad nid-er-elw.
Fe hoffwn i hefyd gefnogi'r argymhellion canlynol: argymhelliad 7, dylai cofrestru gofalwyr maeth fod yn orfodol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, a thrwy hynny greu cofrestr genedlaethol o ofalwyr maeth. Oherwydd nid yw pob plentyn mewn gofal mewn gofal preswyl. Mae'r adrodd gorfodol am gam-drin plant yn rhywiol—argymhelliad 16—yn hollbwysig, yn amlwg. Rydym ni wedi gweld adroddiadau sy'n waith darllen yn anodd iawn, ond, yn bennaf, maen nhw'n difetha bywydau'r rhai yr effeithir arnyn nhw. Y prif nod yma yw gwrando ar y rhai sy'n mynegi pryderon, yn enwedig y plant. Mae eu lleisiau, mewn rhai achosion, wedi cael eu hanwybyddu. Rwy'n credu bod angen i ni gydnabod hefyd bod nifer o blant yn niwroamrywiol; nid ydyn nhw bob amser yn gallu mynegi eu teimladau, a gellir priodoli eu hymddygiad i'r plentyn yn hytrach na'r tramgwyddwr. Rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol ein bod yn cael hyfforddiant priodol ac rwy'n cytuno'n llwyr â Jane ynglŷn ag eiriolaeth. Mae'n anghenraid llwyr yma, ac yn enwedig i'r plant hynny na allan nhw fynegi eu hunain.
Rwyf hefyd yn cydnabod mai ni a'r awdurdodau lleol yw'r rhiant corfforaethol, ac unwaith eto, mae angen i ni sicrhau, er bod y trawsnewid hwn yn digwydd, bod adroddiadau rheolaidd i awdurdodau lleol sy'n glir ac yn atebol ac yn dryloyw, a bod y strwythurau ar waith fel bod pobl yn cymryd cyfrifoldeb am y plant y maen nhw, yn y pen draw, yn rhieni corfforaethol iddyn nhw.
Galwaf ar y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol nawr i ymateb i'r ddadl—Dawn Bowden.
Diolch, Llywydd. A gaf i ddweud ar y dechrau fy mod i'n croesawu'n fawr yr ymateb cadarnhaol i'r darn hwn o ddeddfwriaeth? Fe hoffwn i gydnabod ac arddel y gwaith a wnaethom ni gyda Phlaid Cymru wrth ddatblygu'r ddeddfwriaeth hon tra roeddem yn y cytundeb cydweithio.
Rwy'n credu ein bod ni'n glir pam rydym ni'n gwneud yr hyn rydym ni'n ei wneud. Nid ydym ni am weld plant yn cael eu trin fel nwyddau yn y sector gofal; rydym ni am weld buddsoddiad yng ngofal ein plant sy'n derbyn gofal. Fel yr wyf wedi dweud ar sawl achlysur, yn y pwyllgorau craffu ac ar lawr y Siambr hon, nid yw gwneud dim yn ddewis. Os edrychwn ni ar gostau yn unig, heb edrych ar foesoldeb gwneud elw o blant sy'n derbyn gofal, rydym ni wedi gweld cynnydd mewn costau o £60 miliwn dim ond 10 mlynedd yn ôl i oddeutu £200 miliwn bellach yn y gost i awdurdodau lleol wrth ddarparu gofal i blant sy'n derbyn gofal. Os byddwn yn parhau â'r duedd honno, byddwn yn edrych ar fil o tua £1 biliwn i awdurdodau lleol yn ystod y 10 mlynedd nesaf. Felly, yn amlwg, nid yw gwneud dim, fel y dywedaf, yn ddewis. Ac fe hoffwn i geisio ymdrin â chymaint o'r pwyntiau allweddol a gododd heddiw ag y gallaf, ond roedd cymaint, ac, fel y dywedais ar y dechrau, mae'r ffaith bod gennym ni 72 o argymhellion ar draws tri phwyllgor yn golygu y bydd hynny, mewn gwirionedd, yn anodd iawn i mi ei wneud. Ond roedd yna rai themâu amlwg iawn, wrth gwrs.
Yr un cyntaf roedd arnaf i eisiau ei grybwyll oedd—rwy'n credu mai Russell George a soniodd amdano, soniodd Peredur Owen Griffiths amdano, soniodd Mike Hedges amdano, fel y gwnaeth eraill—y pryder ynghylch pontio a'r angen i ni symud o ble rydym ni nawr i'r lle rydym ni eisiau bod, a sut rydym ni'n mynd i wneud hynny mewn ffordd sy'n amddiffyn hawliau'r plentyn yn ogystal ag edrych ar ôl buddiannau darparwyr sydd ar hyn o bryd yn y farchnad ac a allai fod eisiau trosglwyddo.
Fe hoffwn i roi sicrwydd i'r Senedd ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau ein bod yn cael sgyrsiau rhesymol gydag awdurdodau lleol, gyda'r sector preifat, gyda'r trydydd sector, i sicrhau eu bod yn datblygu cynlluniau digonol ar gyfer cyfnod pontio. Ni allwn ni symud o'r lle rydym ni awr i'r lle y mae angen i ni fod hyd nes y bydd gennym ni ddigon o ddarpariaeth.
Diolch yn fawr i'r Gweinidog. Rwy'n credu mai rhan o'r dystiolaeth a glywsom ni yn y pwyllgor a rhan o'r profiad a gefais gan y sector preifat yw eu bod yn pryderu nad ydyn nhw wedi cael yr wybodaeth na'r arweiniad hwnnw hyd yma. Mae wedi cael ei drafod ers peth amser, ond oherwydd nad yw hyn yn ddeddfwriaeth eto, maen nhw wedi dal yn ôl a nawr maen nhw'n ysu am yr wybodaeth honno, oherwydd bod arnyn nhw eisiau gwybod a allan nhw barhau yn y model newydd.
Rwy'n credu bod hynny'n deg. Rydym ni wedi bod yn rhan o drafodaethau gyda'r trydydd sector a chyda'r sector preifat. Rwy'n cydnabod yn llwyr y pwynt a wnaethoch chi, ac rwy'n credu pan fyddwch chi'n gweld ein hymateb i argymhellion y pwyllgor, y byddwn yn ystyried hynny. Rydym ni'n gwybod bod yn rhaid i ni ddarparu arweiniad manwl a phenodol iawn i sefydliadau, gan fod arnom ni eisiau i gynifer â phosibl drosglwyddo i'r model nid-er-elw. Yn wahanol iawn i'r darlun y mae Altaf Hussain yn ei gyflwyno, dydym ni ddim yn ceisio pardduo sefydliadau. Rydym ni'n gwybod bod yna ddarparwyr da iawn sy'n ddarparwyr preifat. Yr hyn rydym ni yn ei ddweud yw bod arnom ni eisiau defnyddio'r arbenigedd hwnnw a'n bod arnom ni eisiau gweithio gyda'r darparwyr hynny, y darparwyr da hynny, i drosglwyddo i drefniant nid-er-elw lle mae'r elw a wnânt yn cael ei ailfuddsoddi yng ngofal plant yn hytrach nag ym mhocedi cyfranddalwyr, a dyna lle mae'n barn ni'n wahanol
Mae llawer o waith i'w wneud o hyd yn hynny o beth. Rydym ni'n glir iawn hefyd ein bod ni wedi gwrando ar farn rhanddeiliaid ynghylch y trawsnewid—a phan fyddaf yn sôn am randdeiliaid, rwy'n cynnwys awdurdodau lleol yn hyn—sy'n poeni am gostau'r cyfnod pontio, ac rydym ni'n ystyried hynny i gyd. Pan fyddaf wedi ystyried yn llawn yr holl sylwadau yr ydym ni wedi'u gwneud, byddwn yn gwneud datganiad pellach am y sefyllfa ynghylch y cyfnod pontio, oherwydd nid yw hynny ar wyneb y Bil mewn gwirionedd. Bydd yn cael ei reoli, ond mae angen inni ganiatáu cyfnod pontio a fydd yn cyflawni'r hyn y mae arnom ni angen iddo ei gyflawni yn y ffordd y mae arnom ni eisiau iddo gael ei gyflawni.
Gwnaeth Russell, Peredur a Jane sylwadau hefyd—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i, Jane, oeddech chi—?
Rwy'n credu bod amser wedi cael y gorau arnom ni. Mae'n wir ddrwg gen i.
Rydych chi'n hael iawn mewn—
Mae gen i lawer mwy i'w ddweud, Llywydd, ond rwy'n ymwybodol iawn fod amser wedi cario'r dydd arnaf, a dywedais nad oeddwn yn teimlo fy mod i'n mynd i allu trafod yr holl faterion a godwyd.
Rwy'n hapus i chi ymestyn eich amser am ychydig funudau. Rwy'n gwybod yr holwyd llawer o gwestiynau i chi yn ystod y ddadl.
Diolch. Mi geisiaf fod ychydig yn fwy cryno y tro hwn.
O ran ymrwymiad i gyllid yn y dyfodol, yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod wedi nodi'n glir iawn yr hyn yr ystyriwn ni fydd y lefelau cyllido sy'n ofynnol ar gyfer y tair blynedd nesaf. Menter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol fydd honno. Gallaf nodi'r ymrwymiad i'r hyn y gallwn ni ei wneud ar unwaith; yr hyn na allaf ei wneud yw rhoi ymrwymiadau yn y dyfodol o ran cyfnod pan nad yw Llywodraeth Cymru ei hun yn gwybod beth fydd ei chyllideb a'i chyllid. Ond nid yw hynny'n lleihau ein hymrwymiad i hyn mewn unrhyw ffordd. Mae'n ymrwymiad rhaglen lywodraethu, mae'n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a bydd hynny'n cael ei ystyried yn rownd nesaf y gyllideb. Ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, wrth gwrs, yn eistedd yma yn gwrando ar y ddadl hon heddiw.
O ran digonolrwydd, rydym ni wedi siarad am arweiniad i ddarparwyr preifat. Roedd arna i eisiau crybwyll y mater y mae nifer o gyd-Aelodau wedi'i godi am yr hyn rydym ni'n ei olygu wrth 'agos', a lle rydym ni'n gosod plant yn agos at ble maen nhw'n byw. Gwnaeth Buffy Williams y pwynt y dylai 'agos at' fod yn fwy penodol. Rwy'n credu bod angen i ni roi arweiniad manylach ar hynny, ac rydym ni'n hapus i wneud hynny.
Yr hyn na allwn ni ei ddweud yw bod yn rhaid i hynny fod yn ardal yr awdurdod lleol, oherwydd mae'n rhaid i ni gydnabod bod angen hyblygrwydd arnom ni i allu darparu ar gyfer plentyn mewn llety sydd fwyaf addas i'w anghenion, ac felly mae'n rhaid iddo fod mor agos i'r man lle mae'n byw ag y gall fod, ond ni fydd hynny o reidrwydd yn eu hardal awdurdod lleol eu hunain. A gadewch i ni gofio, os yw yn eu hardal awdurdod lleol eu hunain, mewn ardal fel Powys, y gallai hynny fod yn llawer pellach i ffwrdd na phe baech yn eu rhoi mewn awdurdod lleol cyfagos. Mae angen i ni ystyried hynny, fel nad ydym ni'n llunio map yn unig, ond ein bod yn edrych ar ble mae plentyn yn byw a lle yw'r man gorau i'w rhoi nhw.
A gaf i wneud un neu ddau o sylwadau ar sylwadau Peredur Owen Griffiths o ran y Pwyllgor Cyllid? Mae'n rhaid i mi gydnabod y pwyntiau roeddech chi'n eu codi yn eich cyfraniad, ac rwy'n gobeithio ein bod ni wedi mynd i'r afael â hynny mewn ymateb i adroddiad y pwyllgor, yn enwedig drwy dderbyn yn llawn argymhellion 1 i 5 o'ch eiddo, sef y rhai allweddol yr oeddech chi am i ni edrych arnyn nhw.
Unwaith eto, gyda Mike Hedges a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, rwy'n credu pan welwch chi ein hymateb, Mike, y byddwch yn gweld bod yr argymhellion allweddol a wnaethoch chi i ni o ran y gwelliannau y mae angen i ni eu cyflwyno yng Nghyfnod 2 i fynd i'r afael â'r materion oedd yn peri pryder i'r pwyllgor, yr ymdrinnir â'r rhain gyda gwelliannau'r Llywodraeth a gyflwynir yng Nghyfnod 2.
Mabon, rwy'n credu eich bod hefyd wedi codi mater lleoliad daearyddol. Fe wnaethoch chi hefyd godi'r mater o ddarparwyr preifat yn ystumio'r farchnad, costau darparwyr preifat, ac unwaith eto mae hynny'n sail wirioneddol i'r hyn rydym ni'n ceisio'i wneud a'r rheswm ein bod ni'n ceisio gwneud hynny. O ran cymorth gorfodol, dywedaf hynny'n gyflym iawn: nid oes gennym ni unrhyw gynlluniau i newid ein trefniadau presennol ar gyfer adrodd gorfodol. Mae hynny'n bodoli'n barod, mae'n rhywbeth rydym ni'n ei wneud yn barod, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn ni'n ei gryfhau o ran ein canllawiau.
Jane Dodds, yn gyflym iawn mewn perthynas ag eiriolaeth, mae angen i mi atgoffa cyd-Aelodau bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2024 yn amlinellu dyletswydd awdurdodau lleol i ddarparu eiriolaeth, a byddwn yn mynd ati i ymgysylltu ag awdurdodau lleol i sicrhau bod hynny'n digwydd o dan yr amgylchiadau a nodir yn y Bil.
Rwy'n credu, Joyce Watson, eich bod hefyd wedi codi mater lleoliadau ger y cartref a chynllunio digonolrwydd. Fe wnaethoch chi hefyd godi'r mater o'r gofrestr o ofalwyr maeth. Mewn ymateb i'r pwyllgor rwy'n dweud fy mod yn fwy na pharod i barhau â'r drafodaeth honno. Rydym ni wedi rhoi'r ymrwymiad hwnnw i Faethu Cymru y byddwn yn parhau i gael trafodaethau gyda'r bwriad o gael cofrestr gofal maeth pan allwn ni wneud hynny, ond mae'n rhaid i ni ystyried barn pawb.
Fel yr amlinellais i, rwyf wedi ystyried yn ofalus yr holl argymhellion gan y pwyllgorau a byddaf yn ymateb i gadeiryddion y pwyllgorau perthnasol lle nad wyf eisoes wedi gwneud hynny yn dilyn y ddadl hon. Ar ben hynny, byddaf yn fwy na pharod i gwrdd â'r Cadeiryddion a gyda llefarwyr y pleidiau yn dilyn y ddadl heddiw gyda'r bwriad o gyrraedd consensws mor eang ag y gallaf o bosibl cyn Cyfnod 2.
Fe hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i'r holl Aelodau a gyfrannodd at graffu ar y Bil drwy Gyfnod 1 yn ystod y ddadl hon, ac edrychaf ymlaen at drafodaeth a chraffu pellach yng Nghyfnod 2. Byddwn yn gofyn i'r Aelodau gymeradwyo'r cynigion. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly gwnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio, sy'n golygu ein bod ni hefyd yn gohirio'r bleidlais ar y penderfyniad ariannol tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Mae hynny'n dod â ni at eitem 10, y ddadl ar y gyllideb atodol gyntaf 2024-25. Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid i wneud y cynnig. Mark Drakeford.
Cynnig NDM8681 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024-25 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 1 Hydref 2024.
Cynigiwyd y cynnig.
Llywydd, diolch yn fawr. Cyllideb atodol gyntaf 2024-25 yw'r cyfle cyntaf i ddiweddaru'r cynlluniau ar gyfer y flwyddyn ariannol yma. Mae'n dilyn newidiadau sydd wedi'u gwneud ers i'r Senedd basio'r gyllideb derfynol ym mis Mawrth. Mae'r gyllideb atodol yma hefyd yn gwneud newidiadau i fod yn gyson â'r Cabinet newydd. Dyma fydd sail ein cyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr. Diolch, wrth gwrs, i'r Pwyllgor Cyllid am ystyried y gyllideb, a diolch am yr adroddiad. Byddaf i'n ymateb yn fanwl iddo yn y ffordd arferol.
Llywydd, mae'r gyllideb atodol yn cynnwys cynlluniau gwariant ac ariannu ar gyfer Llywodraeth Cymru a'r cyrff a ariennir yn uniongyrchol o gronfa gyfunol Cymru. Y drefn arferol oedd cyhoeddi'r gyllideb atodol gyntaf cyn egwyl yr haf. Fodd bynnag, eleni cafodd hyn ei ohirio oherwydd etholiad cyffredinol y DU, a ohiriodd, yn ei dro, gyflwyno prif amcangyfrifon Llywodraeth y DU.
Ymarfer cyllidebol yw hwn, y gyllideb atodol gyntaf, nad yw'n cynnwys unrhyw gyhoeddiadau cyllido newydd. O ystyried y cyfnod y mae'n ei gwmpasu, fodd bynnag, mae'n parhau i adlewyrchu'r penderfyniadau gwario sy'n deillio o'r cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Ac fel sy'n arferol ar gyfer cyllidebau atodol, mae'r newidiadau'n cynnwys addasiadau i faint o adnoddau sydd ar gael i Gymru'n gyffredinol, gan adlewyrchu trosglwyddiadau a symiau canlyniadol sy'n deillio o newidiadau yng ngwariant adrannau'r DU. Mae'r gyllideb hefyd yn rheoleiddio trosglwyddiadau cymeradwy o fewn a rhwng portffolios gweinidogol Llywodraeth Cymru.
Mae'r gyllideb atodol yn cynnwys dyraniadau sy'n ymwneud â'r cynnydd yng nghyfraniadau pensiwn cyflogwr ar gyfer cyfraniadau blwydd-dal a addaswyd ar gyfer profiad blaenorol, neu SCAPE fel y'u gelwir nhw fel arfer, sy'n deillio o newid i'r gyfradd ddisgownt berthnasol. Derbyniwyd cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU, ac mae £117 miliwn ohono wedi'i ddyrannu i'r prif grŵp gwariant iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer costau'r Gwasanaeth Iechyd, £64 miliwn i'r prif grŵp gwariant tai a llywodraeth leol ar gyfer costau yn ymwneud ag athrawon ac ysgolion a'r gwasanaeth tân, a £12 miliwn i'r prif grŵp gwariant addysg ar gyfer costau sy'n gysylltiedig ag athrawon mewn lleoliadau chweched dosbarth a cholegau addysg bellach.
Llywydd, yn unol â'r hyn sydd wedi digwydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae newidiadau hefyd yn y gyllideb atodol gyntaf hon sy'n ymwneud ag ailddosbarthu cyllidebau'n dechnegol i adlewyrchu gweithrediad y safonau adrodd cyllid rhyngwladol—neu IFRS 16 fel y'i hadwaenir ar lafar—mewn perthynas â phrydlesau. Er ein bod yn aros am gadarnhad gan Drysorlys y DU, rydym yn disgwyl i effeithiau cyllidebol IRS 16 fod yn rhan o'n setliad ariannol heb ei neilltuo o 2025-26 ymlaen.
Mae'r gyllideb atodol hon hefyd yn rheoleiddio nifer fach o drosglwyddiadau o gronfa wrth gefn Cymru. Dyna £39 miliwn i'r prif grŵp gwariant iechyd a gofal cymdeithasol i helpu ariannu'r dyfarniad cyflog i feddygon, £5 miliwn ar gyfer prif grŵp gwariant yr economi, ynni a chynllunio i gefnogi ein cyrff diwylliant a chwaraeon hyd braich a Cadw, a £1.58 miliwn i'r prif grŵp gwariant cyfiawnder cymdeithasol i ddatblygu cynhwysiant digidol, partneriaethau bwyd lleol a'r ymgyrch gyfathrebu costau byw.
Yn ogystal, mae'r gyllideb atodol hon yn rheoleiddio dyraniad o £141 miliwn o gyllid canlyniadol o gyllideb Mawrth y DU i'r prif grŵp gwariant iechyd a gofal cymdeithasol a oedd yn rhy hwyr i gael ei adlewyrchu yn ein cyllideb derfynol ein hunain, ac mae'r cronfeydd hyn yn adlewyrchu adnoddau ychwanegol rheolaidd a ddarparwyd yn hwyr yn 2023-24 a ariannodd setliadau cyflog y Gwasanaeth Iechyd yn y flwyddyn honno.
Llywydd, bydd yna ail gyllideb atodol yn nes ymlaen yn y flwyddyn ariannol. Bydd yr ail gyllideb atodol yn nodi unrhyw arian arall sy'n cael ei roi o gronfeydd wrth gefn eleni. Bydd honno hefyd yn cynnwys manylion unrhyw arian canlyniadol arall i Gymru, positif neu negatif, yn dilyn newidiadau i wariant adrannol Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Diolch eto, Llywydd, i'r Pwyllgor Cyllid am graffu ar y gyllideb atodol, a dwi'n gofyn i'r Aelodau ei chefnogi.
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid i gyfrannu—Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae'n bleser gennyf siarad yn y ddadl yma heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid. Bu’r pwyllgor yn craffu ar y gyllideb atodol gyntaf ar 10 Hydref, a hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet a'i swyddogion am eu presenoldeb.
Mae'r pwyllgor yn nodi bod y newidiadau a gynhwysir yn y gyllideb atodol hon yn weithredol ac yn drafodiadol eu natur i raddau helaeth. Fodd bynnag, roedd hi'n arbennig o anodd i ni ddeall gwir effaith symudiadau arian parod a heb fod yn arian parod ar yr achlysur hwn. Mae'n ymddangos bod dyraniadau a wneir yn y gyllideb atodol hon, megis y rhai sy'n ymwneud â safonau cyfrifeg newydd, pennu cyfraniadau cyflogwyr ar gyfer pensiynau cyhoeddus a darpariaethau sy'n ymwneud â benthyciadau myfyrwyr, yn arwyddocaol ond yn cael effaith gyfyngedig ar wariant beunyddiol Llywodraeth Cymru.
Er ein bod yn cydnabod yr heriau wrth gyflwyno gwybodaeth ariannol gymhleth a thechnegol, credwn fod dyletswydd ar yr Ysgrifennydd Cabinet i egluro effaith gyllidebol penderfyniadau a wneir yn y gyllideb atodol hon mor eglur â phosibl. Dyna pam mae arnom ni eisiau i'r Ysgrifennydd Cabinet roi naratif pellach ochr yn ochr â'r gyllideb atodol, er mwyn helpu i wahaniaethu dyraniadau a newidiadau lle gallai disgresiwn Llywodraeth Cymru i wario fod yn gyfyngedig. Byddai hyn yn mynd peth ffordd tuag at sicrhau y gellir deall penderfyniadau o'r fath yn glir a lliniaru'r risg o ddryswch.
Rydym yn deall pam mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi tynnu cyllid pellach o gronfeydd wrth gefn Cymru a bod hyn yn rhoi sicrwydd bod penderfyniadau gwario yn y gyllideb atodol yn fforddiadwy. Fodd bynnag, roedd y dull darbodus hwn yn groes i benderfyniad Llywodraeth Cymru i ariannu dyfarniadau cyflog y Gwasanaeth Iechyd cyn sicrhau cadarnhad gan Lywodraeth y DU y byddai'r cyllid yn cael ei seilio ar gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25. Fe hoffem ni sicrwydd pellach ar y pwynt hwn a gofyn am ddarparu manylion am y penderfyniad, gan gynnwys y risgiau a nodwyd gyda'r dull hwn, ac a wnaed asesiad effaith o sut y gallai effeithio ar feysydd eraill yng nghyllideb Llywodraeth Cymru.
Llywydd, fe hoffwn i ddweud ychydig eiriau am rai o'r prif ddyraniadau adrannol a wnaed yn y gyllideb atodol. Mae'r pwyllgor yn croesawu bod sefyllfa ariannol bresennol cyrff y Gwasanaeth Iechyd yn well nawr na'r llynedd, a bod byrddau iechyd yn llawer agosach at reoli o fewn cyllidebau cyn profi pwysau'r gaeaf. Mae hyn yn amlwg yn newyddion da. Fodd bynnag, nodwn nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau gweithredol i ddarparu cymorth ariannol ychwanegol i fyrddau iechyd, drwy'r gyllideb atodol, i liniaru pwysau o'r fath. Felly, mae gennym ni ddiddordeb yn y cynlluniau wrth gefn sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith at y diben hwn, a gofynnwn i'r Ysgrifennydd Cabinet am ddiweddariadau cynnydd ar y gwaith sy'n cael ei wneud, er mwyn deall effaith ariannol debygol hyn ar gyfer gweddill 2024-25.
O ran y cyllid ychwanegol a ddarperir i reilffyrdd craidd y Cymoedd, mae'r pwyllgor yn nodi mai dyma'r diweddaraf mewn nifer o achosion lle mae cyllid ychwanegol wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru i'r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Rydym ni wedi gofyn yn flaenorol am eglurder ynghylch cyllid yn y maes hwn, ac ailadroddwn hyn eto yn ein hadroddiad, yn enwedig o ran y symiau cyllido y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl eu cael at y diben hwn gan Lywodraeth y DU, ac effaith y trosglwyddiadau cyllid hyn ar feysydd eraill o fewn y prif grŵp gwariant trafnidiaeth.
Llywydd, hoffwn i ddod â fy nghyfraniad i gloi drwy sôn am y cynnydd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Trysorlys ar sicrhau mwy o hyblygrwydd yn y gyllideb, er mwyn sicrhau bod cymaint o wariant datganoledig â phosib yng Nghymru. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod y maes hwn wedi bod o ddiddordeb i'r pwyllgor ers tro, ac mae ein hadroddiad, a gyhoeddwyd wythnos diwethaf, ar gysylltiadau rhynglywodraethol cyllidol yn cynnwys nifer o argymhellion i geisio mynd i'r afael â materion o'r fath. Mae e'n galonogol bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn barod i fynd ar ôl y rhain ac rydym yn cefnogi ei amcanion i gynyddu terfynau yn y fframwaith cyllidol yn ogystal â'r amcan ehangach i ddatblygu perthynas fwy effeithiol â'r Trysorlys.
Rydym yn galw am fwy o ddiweddariadau yn y maes hwn, ac rwy'n credu y dylai Llywodraeth Cymru fod â'r un lefel o ddisgresiwn cyllidol â Llywodraethau datganoledig eraill. Mae hyn yn arbennig o bwysig, o ystyried barn Ysgrifennydd y Cabinet mai Cymru, erbyn hyn, sydd â'r hyblygrwydd cyllidol lleiaf o blith cenhedloedd datganoledig y Deyrnas Unedig. Diolch yn fawr.
Felly, gwyddom fod y gyllideb atodol yn dangos i ni lle mae'r Llywodraeth hon wedi dyrannu ei chyllid a gafodd yn ystod y flwyddyn, ac er na allwn ni fynd yn ôl mewn amser a newid eu dewisiadau, fe allwn ni herio'r blaenoriaethau a wnaed a thynnu sylw at yr angen am newid cyfeiriad.
Er bod cyllideb Llywodraeth Cymru wedi cynyddu, yn ogystal â'r pwysau y mae llawer o'n gwasanaethau cyhoeddus yn eu hwynebu, rwy'n falch y bu cynnydd yn y cyllid i'n Gwasanaeth Iechyd. Fodd bynnag, mae'n amlwg nad yw rhywbeth yn gweithio. Dros y chwe mis diwethaf, rydym ni wedi gweld rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd yn cynyddu i'r niferoedd mwyaf erioed, ac mae ein gwelyau ysbyty yn dal i fod yn llawn cleifion sy'n ddigon iach i gael eu rhyddhau, ond na ellir gwneud hynny, oherwydd, yn rhannol, y pwysau y mae'r sector gofal cymdeithasol yn ei wynebu. Ni allwn ni fynd i'r afael â'r rhestrau aros hyn heb fynd i'r afael â gofal cymdeithasol hefyd, felly byddwn yn gobeithio, yn y dyfodol, y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd agwedd gyfannol at fynd i'r afael â'r argyfwng yn ein system iechyd. Byddai hyn yn sicrhau bod ein sector gofal cymdeithasol yn derbyn yr arian sydd ei angen i fynd i'r afael â'r pwysau sydd arno a galluogi'r sector i chwarae ei ran wrth oresgyn rhwystrau a welwn yn y GIG.
Rwy'n siomedig hefyd na ddaeth Llywodraeth Cymru o hyd i ffordd o ddarparu mwy o ryddhad busnes i'r sector lletygarwch, manwerthu a hamdden. Rydym yn clywed bod yr economi yn flaenoriaeth, fodd bynnag, mae'r realiti i'r gwrthwyneb. Ac mae hyn yn amlwg pan welwn ni fusnesau ar ochr Cymru o'r ffin yn gorfod talu bron i ddwywaith cyfraddau ardrethi annomestig Lloegr. Mae'n ffaith bod busnesau bach yng Nghymru yn talu'r ardrethi busnes mwyaf ym Mhrydain Fawr, gan dalu'r un gyfradd â busnesau mwy. Gellir gwneud mwy. Mae gan Lywodraeth Cymru y gallu i leddfu'r baich a gweithredu'r lluosydd hollt, ond nid yw wedi gwneud hynny.
Ar hyn o bryd, mae'r heriau i'n busnesau a'n gweithwyr ar fin gwaethygu yma yng Nghymru wrth i'r Canghellor ystyried cynyddu yswiriant cenedlaethol i gyflogwyr. Bydd y cam hwn, fel mae'r Canghellor ei hun wedi dweud yn flaenorol, yn gwneud pob un recriwt newydd yn ddrytach ac yn cynyddu'r gost i fusnesau. Ond fe wyddom ni y byddai hyn hefyd yn berthnasol i'r sector cyhoeddus, gyda 330,000 o weithwyr, gan ddod â phwysau ychwanegol enfawr arnyn nhw. Os yw'r Blaid Lafur o ddifrif am dwf economaidd, yna siawns nad oes angen i ni fod yn creu amgylchedd economaidd sy'n caniatáu twf, nid codi trethi uwch yn erbyn busnesau.
Maes arall i ganolbwyntio arno yw ein llywodraeth leol. Mae'n amlwg bod angen i ni weld gwell dull o ariannu ein hawdurdodau lleol, ac os na fydd y Llywodraeth yn gweithredu'n fuan, yna bydd y gwasanaethau cyhoeddus y mae pobl Cymru'n eu haeddu yn parhau i ddadfeilio.
Yn olaf, fe hoffwn i grybwyll cyflwr addysg yma yng Nghymru. Nid yw'r gyllideb atodol wedi gwneud dim i wyrdroi'r toriadau y mae ein sector addysg wedi'u hwynebu dros y flwyddyn ddiwethaf. Er fy mod yn cydnabod nad yw gwariant heb fod yn ariannol sy'n symud i gronfeydd wrth gefn yn effeithio ar wariant addysgol, erys cwestiynau ynghylch meysydd fel y gyllideb anghenion dysgu ychwanegol. Mae'r gyllideb atodol hon yn gweld toriad arall i'r gyllideb anghenion dysgu ychwanegol, nid yn unig mewn termau real, ond mewn termau arian parod, ac nid yw'n glir pam na ble mae wedi mynd. Efallai y gall yr Ysgrifennydd Cabinet egluro hynny. Os ydym ni am sicrhau bod ein plant a chenedlaethau'r dyfodol yn cael y cyfle gorau posibl mewn bywyd, yna mae'n rhaid i ni sicrhau bod pethau mor bwysig â chymorth anghenion dysgu ychwanegol yn canolbwyntio ar y rhai sydd ei angen. Yn amlwg, mae diffyg uchelgais Llafur a rheolaeth wael ar ein system addysg, ym mob mhob agwedd, yn siomi ein pobl ifanc.
Llywydd, mae'r gyllideb atodol hon yn adlewyrchu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, ac mae'n amlwg na allan nhw gael pethau'n hollol iawn. Mae pobl Cymru angen i'r Llywodraeth newid cyfeiriad ar frys ac ailganolbwyntio eu blaenoriaethau cyn ei bod hi'n rhy hwyr. Dim ond wedyn y cawn ni'r gwasanaethau cyhoeddus y mae pobl Cymru yn eu haeddu.
Diolch am y cyfle i ymateb i’r ddadl hon ar y gyllideb atodol. Fel gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet ddweud wrth agor y ddadl hon, yn amlwg does yna ddim lot o bethau annisgwyl fan hyn. Mae'r ffaith bod etholiad San Steffan wedi dod mor annisgwyl yn golygu ein bod ni'n hwyrach, ond yn amlwg, un o'r pethau sydd yn siomedig ydy bod yna ddim mwy o gyllid wedi dod i Gymru eto gan y Llywodraeth honno. Mae yna gymaint o feysydd fyddai’n deisyfu gweld cynnydd yn y gyllideb, cymaint o lefydd y gallem ni fod yn gwneud gwahaniaeth, ac yn amlwg dydy’r cyllid ychwanegol rydyn ni wedi ei weld hyd yma ddim yn mynd i wneud bywyd yn well o ran y sefydliadau hynny.
Ond fel dwi wedi ei nodi’n flaenorol, mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn croesawu’r arian ychwanegol a gyhoeddwyd ar 10 Medi ar gyfer cyflogau’r sector cyhoeddus. Wedi 14 mlynedd o lymder o dan y Torïaid, mi oedd dirfawr angen y cynnydd hwn. Wrth gwrs, dydy hwnnw ddim yn datrys yr heriau aruthrol sy’n parhau i wynebu’r sectorau hyn, ac fel roeddech chi’n nodi pan oeddech chi'n cyflwyno hynny i ni ym mis Medi, doedd hyn ddim yn cynnig cyllid ychwanegol o ran cyflogau llywodraeth leol. Adeg hynny, mi ddywedoch chi, ym mis Medi, fod angen trafodaethau pellach gyda llywodraeth leol ynglŷn â hyn. Gaf i ofyn, felly, pa drafodaethau sydd wedi bod? Ac oes yna rywbeth wedi deillio o hynny?
Elfen arall o’r gyllideb dwi wedi ei chroesawu hefyd ydy’r £5 miliwn ychwanegol sydd ynddi ar gyfer y celfyddydau a diwylliant. Tybed allwch chi amlinellu o ble ddaeth yr arian hwn. Mae £5 miliwn yn rhan sylweddol o ran y gyllideb hon. A beth yw effaith yr arian ychwanegol? Yn amlwg, roedd nifer fawr o staff wedi gorfod gadael y cyrff hyn, megis Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cyn i hyn gael ei gyhoeddi, drwy gynlluniau diswyddo gwirfoddol. Ar y pwyllgor diwylliant, rydyn ni wedi clywed am effaith dirdynnol ar y sefydliadau hyn a'r effaith ar eu gwaith nhw, o ran gallu cyflawni’r hyn mae Llywodraeth Cymru yn deisyfu iddyn nhw ei wneud. Mae rhai elfennau o'r gwaith allweddol hwn o dan fygythiad, gan gynnwys y gallu i godi incwm. Felly, mae'r arian hwn wedi dod yn rhy hwyr yn y dydd i warchod y swyddi hynny.
Mae hon yn stori gyson mae nifer ohonom yn ei chlywed gan gyrff wrth i ni graffu ar eu cyllid, bod yr ansefydlogrwydd ariannol a'r cynnydd sydd yn dod yn aml yn hwyr yn y dydd, wedi torri mawr, yn ei gwneud hi'n anodd dros ben i gynllunio gweithgaredd a gwaith yn strategol. Dydyn nhw ddim yn dweud 'na' i'r £5 miliwn yma—yn sicr mo hynny—ond mae o'n golygu bod yna swyddi wedi'u colli, ac mae hynny yn rhywbeth—. Dydyn ni ddim yn sôn am ambell i swydd yn fan hyn. Mae yna nifer fawr o swyddi wedi eu colli. Felly, er bod yr arian yma'n gallu mynd tuag at elfennau eraill, dydy o ddim yn caniatáu i'r sefydliadau fod yn strategol. A dwi'n siŵr eich bod chi'n rhannu'r un rhwystredigaeth o ran y cyllid ychwanegol sy'n dod i Gymru o San Steffan, a pha mor anodd yw hi wedyn, pan fydd arian ad hoc yn dod, i flaengynllunio fel Llywodraeth.
Felly, tra'n edrych ymlaen at gyllideb wythnos nesaf gan Lywodraeth Lafur San Steffan, pa drafodaethau mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi eu cael o ran sicrhau cylchoedd gwariant aml-flwyddyn ar gyfer Llywodraeth Cymru, fel y gallwch felly roi'r un sicrwydd i'r cyrff sy'n cael eu cyllido gennych, megis awdurdodau lleol a'r cyrff dwi wedi eu crybwyll? Ac a ydych chi'n cytuno y dylai hyn fod yn ystyriaeth fel rhan o'r diwygiadau ehangach sydd eu hangen i'n fframwaith cyllido?
Un elfen o'r gyllideb hon sydd yn siomedig yw'r ffaith nad ydy hi'n unioni'r toriadau a wnaed o ran y gyllideb ataliol. Dwi'n meddwl ein bod ni wedi bod yn gadarn fan hyn—Rhun ap Iorwerth a Mabon ap Gwynfor—o ran pwysigrwydd parhau i fuddsoddi yn yr ochr ataliol. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau os oes yna asesiad risg wedi'i gynnal o'r toriadau diweddaraf yma i raglenni ataliol ac iechyd cyhoeddus, ac, os felly, ymrwymo i'w cyhoeddi er budd tryloywder cyn gynted â phosib?
Yn amlwg, yfory, mi gawn ni gyfle i drafod cyllideb San Steffan, ond hoffwn cyn hynny ofyn pwynt ehangach ichi, sydd efallai yn fwy perthnasol i'r drafodaeth heddiw. Yn eich ymddangosiad cyntaf fel Ysgrifennydd y Cabinet ger bron y Pwyllgor Cyllid, fe ddywedoch y byddech yn dadlau dros fwy o hyblygrwydd o ran pwerau cyllideb Llywodraeth Cymru, gan gynnwys alinio terfynau tynnu i lawr cronfa wrth gefn Cymru â chwyddiant, fel sydd wedi'i wneud eisoes yn yr Alban. Allwch chi ein diweddaru ni ar hynny heddiw?
Gyda hynny o sylwadau, mi wnaf i eistedd i lawr, ond dwi yn credu y bydd yna fwy o drafod o ran y cyllidebau yfory, a bydd yna rai atebion y byddwn ni eu heisiau o ran yr hyn y byddwch chi'n ei fynnu gan y Llywodraeth Lafur yn San Steffan.
Mae hwn yn fân ddigwyddiad ariannol, ond mae angen i'r Senedd a'r Pwyllgor Cyllid graffu arno o hyd, ac mae yn wir yn haeddu hynny. Nid oes dyraniadau newydd i'r gyllideb hon, ac mae'r holl newidiadau yn ymwneud â chyllid a gyhoeddwyd yn flaenorol. Nid yw cyllid ychwanegol y cytunwyd arno ar gyfer dyfarniadau cyflog y sector cyhoeddus a gyhoeddwyd ar 10 Medi wedi'i gynnwys. Mae'r Gweinidog cyllid wedi dweud ei fod yn hyderus y caiff y gwariant hwn ei ariannu o symiau canlyniadol disgwyliedig gan Lywodraeth y DU, ac mae wedi dweud y rheoleiddir y dyraniadau hynny'n rhan o'r ail gyllideb atodol ym mis Chwefror. Mae'r gyllideb atodol yn cadarnhau bod benthyca Llywodraeth Cymru yn parhau i fod ar uchafswm o £150 miliwn, a bod £39 miliwn yn ychwanegol mewn refeniw yn cael ei dynnu o gronfa wrth gefn Cymru, sy'n golygu bod cyfanswm o £125 miliwn wedi'i gyllidebu yn 2024-25.
Byddaf yn dweud hyn eto: nid oes rheswm y tu hwnt i feicroreoli'r Trysorlys pam mae angen rheoli symud arian allan o gronfeydd wrth gefn neu i mewn iddyn nhw. Gall pob awdurdod lleol yng Nghymru symud arian i mewn ac allan o gronfeydd wrth gefn, faint bynnag sydd arnyn nhw ei eisiau. Eu harian nhw yw e ac maen nhw'n cael ei wario. Arian Senedd Cymru yw hwn; pam na allwn ni ei wario? Mae hyn yn rhywbeth sy'n sylfaenol anghywir. Ac wrth fenthyca, gall awdurdodau lleol fenthyca yn ddarbodus. Nid wyf yn siŵr pa mor ddarbodus y mae rhai o'r ardaloedd bychain hynny yn Lloegr wedi bod, sydd wedi benthyca 12 neu 15 gwaith eu hincwm blynyddol er mwyn prynu canolfannau siopa er mwyn cefnogi eu hincwm, ond ystyrir bod hynny'n ddarbodus, ac maen nhw'n cael gwneud hynny. Pam mae Llywodraeth Cymru wedi ei chyfyngu a'i rheoli gan y Trysorlys, mewn modd nad ydyn nhw hyd yn oed yn meddwl am wneud i awdurdodau lleol, hyd yn oed y lleiaf o awdurdodau lleol? Hynny yw, mae'n sylfaenol ryfedd, ac rwy'n credu ei fod yn sylfaenol anghywir hefyd.
Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi argymell bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn cadarnhau na fydd newidiadau IFRS 16 yn effeithio ar gapasiti gwariant Llywodraeth Cymru, ac yn egluro a fydd graddfa newidiadau IFRS 16 sydd wedi'u cynnwys yn y gyllideb atodol yn cael eu hailadrodd mewn cyllidebau dilynol. Roedd y Pwyllgor Cyllid, wrth inni ystyried y gyllideb atodol, yn ei chael hi'n anodd deall gwir effaith arian parod a symudiadau nad oeddent yn arian parod. Er fy mod yn derbyn eich bod wedi darparu'r manylion yn naratif a thablau'r gyllideb atodol, ac rwy'n ddiolchgar am hyn, byddwn yn croesawu rhagor o wybodaeth yng nghyllidebau atodol y dyfodol i wahaniaethu dyraniadau a newidiadau lle gallai disgresiwn Llywodraeth Cymru i wario fod yn gyfyngedig. A yw'n arian go iawn sydd o fewn capasiti gwario Llywodraeth Cymru, a yw'n arian a geir fel swm canlyniadol ac sydd eisoes wedi'i ddyrannu, neu ai dim ond rheoleiddio ariannol ydyw lle rydych chi'n gweld arian yn symud i fyny ac i lawr yn y cannoedd o filiynau, ond nid arian y gellir ei wario mewn gwirionedd? Mae'n bwysig bod cyllidebau sydd wedi'u cynnwys yn y gyllideb atodol yn gwahaniaethu rhwng gwariant a dyrannu adnoddau arian parod.
Mae £372.278 miliwn o ddyraniadau o gronfeydd refeniw cyllidol ar gyfer y gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol yn y gyllideb atodol hon. Unwaith eto, rwy'n tynnu sylw at fy siom nad yw'r arian yn cael ei ddyrannu ar gyfer gwella iechyd. Mae angen gweithredu ar frys i leihau ysmygu a gordewdra i leihau'r galw ar wasanaethau iechyd. Mae angen cynlluniau gwella iechyd eraill hefyd. Mae angen poblogaeth iachach arnom ni, i beidio â gwario mwy o arian ar ddelio â phobl sy'n sâl.
Mae angen delio ar wahân o fewn y Llywodraeth gyda'r costau sy'n ymwneud â darpariaeth benthyciadau myfyrwyr o weddill y gwariant addysg. Esboniodd yr Ysgrifennydd Cabinet eu bod yn cyhoeddi un tabl lle y gallent wneud hynny ond ei fod yn cydnabod y gallent geisio rhoi mwy o amlygrwydd iddo yn y ffordd y maent yn disgrifio pethau. Nid wyf yn credu bod hynny'n mynd yn ddigon pell, a dylid ei drin ar wahân fel gwariant nad oes gan Lywodraeth Cymru reolaeth drosto, ac nid yw hynny'n effeithio ar yr arian sydd ar gael. Oni bai bod hynny'n digwydd, bydd pobl yn tynnu sylw at naill ai doriad sylweddol mewn gwariant addysg, fel yn y gyllideb hon, neu gynnydd sylweddol, fel yr adroddwyd yn flaenorol.
Mae'r gorraglennu cyfalaf yn syniad da iawn oherwydd bod cynlluniau cyfalaf yn llithro am amryw resymau. Mae angen cymorth allanol ar Lywodraeth Cymru i ddangos sut y gall gwaith cynnal a chadw fel boeleri newydd neu system oleuadau newydd mewn ysbyty fod naill ai'n gyfalaf neu'n refeniw ac yn caniatáu i'r cyllid ddod o naill ai cyfalaf neu refeniw, yn dibynnu ar y cyllid sydd ar gael. Credaf fod gan yr Ysgrifennydd Cabinet ddyletswydd i egluro mor glir â phosibl effaith y penderfyniad cyllidebol a wnaed yn y gyllideb atodol. Mae hyn yn sicrhau y gellir eu deall yn glir ac i leihau'r risg o ddryswch. Rwy'n croesawu'r awgrym gan yr Ysgrifennydd Cabinet y byddai Llywodraeth Cymru yn ceisio rhoi mwy o amlygrwydd i'r ffordd y disgrifir dyraniadau yn y gyllideb atodol hon ac yn gofyn am ystyried hyn ar gyfer rowndiau cyllidebol yn y dyfodol.
Ysgrifennydd y Cabinet nawr i gyfrannu at y ddadl, i ymateb i'r ddadl—Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch i bob Aelod sydd wedi cyfrannu at y ddadl, yn enwedig y bobl sydd wedi canolbwyntio ar y gyllideb atodol.
A gaf i ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiad? Rwy'n rhannu ei uchelgais a dyhead Mike Hedges ein bod yn adrodd mor blaen â phosibl ar y newidiadau a gofnodir yn yr hyn a ddisgrifiodd Mike Hedges yn gywir fel y mân ddigwyddiad ariannol hwn. Gallaf roi eglurder hawdd iawn i'r rhai sydd wedi gofyn a yw'r newidiadau i drin lesoedd a'r newidiadau i drin cyllid myfyrwyr yn cael unrhyw effaith ar allu Llywodraeth Cymru i wario ai peidio. Yr ateb i'r cwestiwn hwnnw yw 'na'. Mewn gwirionedd, mae mor syml â hynny. Materion cyfrifeg yw'r rhain. Mae'n edrych fel petai symiau mawr o arian yn llifo i mewn ac allan, ond dyw e ddim yn arian go iawn; mae'n arian y mae Llywodraeth y DU wedi'i ddarparu i reoleiddio rhai o'r newidiadau i safonau cyfrifeg ar y naill law a'r modd y caiff benthyciadau myfyrwyr eu trin ar y llaw arall.
Er mwyn ymateb yn uniongyrchol i ychydig o bwyntiau eraill a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llywydd, yn arbennig, mae ychwanegiadau y Gwasanaeth Iechyd a welwch yn y gyllideb hon i raddau helaeth i adlewyrchu dyfarniadau cyflog. Ac roedd yn benderfyniad sy'n seiliedig ar risg ac yn benderfyniad anodd i Lywodraeth Cymru wrth osod ein cyllideb derfynol ym mis Mawrth eleni nad oedd gennym ni sicrwydd gan Lywodraeth y DU a fyddai'r dyfarniadau cyllido y cytunwyd arnyn nhw ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn dod yn rheolaidd i'r flwyddyn ariannol hon. Doedd gennym ni ddim sicrwydd o'r fath. Fe wnaethom ni benderfyniad sy'n seiliedig ar risg ei bod hi'n amhosibl hyd yn oed i'r Llywodraeth ddiwethaf dalu am ddyfarniadau cyflog mewn blwyddyn a dewis peidio â thalu amdanyn nhw yn y flwyddyn nesaf. Felly, fe wnaethon ni benderfyniad yn seiliedig ar risg y byddai'r arian hwnnw'n dod i Gymru. Ac, yn wir, dyna a fu, ynte, oherwydd yn hwyr iawn ym mis Mawrth, ar ôl ein cyllideb ein hunain, daeth yr arian hwnnw i Gymru yn wir ac felly mae wedi'i reoleiddio a'i adlewyrchu yn y gyllideb atodol gyntaf hon. Nid hon yw'r gyllideb sy'n delio â dyraniadau pwysau'r gaeaf, nid y gyllideb sy'n delio â chyllid ar gyfer rheilffyrdd craidd y Cymoedd yn y dyfodol.
Ond dwi yn cytuno ar y pwyntiau roedd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn eu gwneud, ac roedd Mike Hedges wedi'u hadlewyrchu hefyd, am hyblygrwydd. Polisi Llywodraeth Cymru yw cael mwy o hyblygrwydd i ddelio â'r arian sydd yn ein dwylo ni, ac roeddwn i'n codi hynny gyda’r Gweinidogion newydd yn y Llywodraeth yn San Steffan, ac roedd Gweinidogion o’r Alban a Gogledd Iwerddon yn gwneud yr un pwyntiau. Dwi'n edrych ymlaen i gael mwy o drafodaethau gyda’r Trysorlys am roi mwy o hyblygrwydd i ni ddelio gyda'r arian sydd wedi bod yn arian i ni o'r dechrau.
Llywydd, gofynnodd Peter Fox am fwy o arian i'r Gwasanaeth Iechyd, mwy o arian ar gyfer gofal cymdeithasol, mwy o arian ar gyfer rhyddhad ardrethi, mwy o arian i awdurdodau lleol, mwy o arian ar gyfer addysg, ac yna dywedodd ei bod hi'n anghywir codi trethi er mwyn talu am unrhyw un o'r pethau hynny. Edrychaf ymlaen at weld mewn unrhyw gyllideb gan y Ceidwadwyr—yn yr achlysur annhebygol iawn y dylen nhw fyth gael eu dwylo arno yma—sut y bydden nhw'n llwyddo i wneud hynny.
Fe glywsom ni gan Aelodau Ceidwadol eraill yn gynharach heddiw eu bod yn gwrthwynebu codiad cyflog i staff y Gwasanaeth Iechyd. Nid dyna yw polisi'r Llywodraeth hon; Dyna pam rydych chi'n gweld yr arian ar gyfer tâl yn y gyllideb. Fe wnes i groesawu'r hyn ddywedodd Peter Fox am—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog cyllid yn cydnabod, o'r meinciau hyn, ein bod ni bob amser wedi dweud y dylid talu dyfarniad y corff adolygu cyflogau yn llawn, ar adeg pan nad oedd y Llywodraeth a arweiniwyd gennych chi yn gweithredu'r dyfarniadau adolygu cyflogau hynny, fel y llynedd. Felly, mae'r ochr hon i'r Siambr wedi bod yn gyson. Lle nad ydym yn credu y buoch chi'n gyson yw'r dyfarniad cyflog 20 y cant a mwy sydd wedi'i roi i feddygon iau ac nad yw'r arian wedi'i warantu ar ei gyfer.
Wel, rwy'n ddiolchgar i arweinydd yr wrthblaid am egluro eto bod ei blaid yn gwrthwynebu'r dyfarniad cyflog a wnaed i feddygon iau yma yng Nghymru. Byddai'n well ganddo fod wedi eu gweld ar streic fel yr oedden nhw yn Lloegr, mae'n siŵr.
Fe wnes i groesawu'r hyn ddywedodd Peter Fox am ofal cymdeithasol ac am yr angen am ddull cyfannol—mae buddsoddi mewn un rhan o'r system yn cael effaith uniongyrchol ar rannau eraill o'r system. Nid dyna oedd polisi ei blaid erioed yn y blynyddoedd a fu, ond rwy'n falch o weld y trawsnewid hwnnw.
Diolch i Heledd Fychan am beth ddywedodd hi. Fel roeddwn i'n esbonio i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, roedd e'n anodd asesu’r risg ar ddiwedd y cyfnod pan oeddem ni'n paratoi ein cyllid terfynol ni, ac o ran y £5 miliwn roeddem ni wedi'i ffeindio ar ôl hynny i fuddsoddi nôl ym meysydd celfyddydau ac yn y blaen, roedd hynny’n rhywbeth doeddem ni ddim yn gallu ei wneud ym mis Mawrth pan oedd pethau’n rhy ansicr. Ond dwi'n diolch am beth ddywedodd hi i groesawu’r ffaith ein bod ni wedi ffeindio'r arian i wneud hynny yn y flwyddyn ariannol hon a chael hwnna yn y cyllid sydd o flaen y Senedd heddiw.
Felly, diolch i'r Aelodau am eu holl gyfraniadau. Mae hyn, ar ddiwedd y dydd, yn ymarfer sydd ond yn rheoleiddio penderfyniadau a wnaed eisoes. Yn bwysig eleni, mae'n golygu y bydd pwyllgorau a fydd yn craffu ar y gyllideb ddrafft y byddwn yn ei gosod ym mis Rhagfyr yn gallu gwneud hynny gyda'r wybodaeth bellach wedi'i chysoni'n briodol â phortffolios y Cabinet, a chredaf y bydd hynny'n gymorth sylweddol i'r Senedd yn y gwaith craffu pwysig sydd o'n blaenau. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe gymerwn ni bleidlais ar eitem 10 yn ystod y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Rydyn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr ac, os nad oes tri Aelod sydd eisiau i fi ganu'r gloch, mi awn ni'n syth i'r bleidlais gyntaf. Felly, mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 8 heddiw, ar egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Dawn Bowden. Agor y bleidlais—[Anghlywadwy.]—14 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
Eitem 8. Egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru): O blaid: 37, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Yr eitem nesaf fydd y bleidlais ar y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil iechyd a gofal cymdeithasol. Dwi’n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Dawn Bowden. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 37, un yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, mae’r cynnig yna hefyd wedi ei dderbyn.
Eitem 9. Y penderfyniad ariannol ynghylch Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru): O blaid: 37, Yn erbyn: 13, Ymatal: 1
Derbyniwyd y cynnig
Eitem 10 yw’r bleidlais olaf, sydd ar gyllideb atodol gyntaf 2024-25. Dwi’n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 26, 24 yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi ei dderbyn.
Eitem 10. Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2024-25: O blaid: 26, Yn erbyn: 1, Ymatal: 24
Derbyniwyd y cynnig
Dyna ddiwedd ar y pleidleisio a diwedd ar ein gwaith ni am heddiw.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:12.