Y Cyfarfod Llawn

Plenary

08/10/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r eitem gyntaf ar ein hagenda ni. Mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Vaughan Gething.

Penderfyniadau Cynllunio

1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei blaenoriaeth i gyflymu penderfyniadau cynllunio i helpu i dyfu economi Cymru? OQ61649

Mae cynllunio yn gwneud cyfraniad mawr at dwf gwyrdd, y ddarpariaeth o dai cymdeithasol a mynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd. Am y rheswm hwnnw, cyflymu penderfyniadau cynllunio yw un o fy mhrif flaenoriaethau. Mae cynllun cyflawni yn cyflwyno cynigion i gyflymu penderfyniadau yn cael ei baratoi.

Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Rwy'n croesawu eich pwyslais ar gyflymu penderfyniadau cynllunio i helpu i dyfu'r economi. Mae hwn yn faes lle mae'n rhaid i ni wneud yn well yng Nghymru—wrth gwrs, mae gennych chi brofiad o'r sector preifat yn hyn o beth. Dair wythnos yn ôl yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, codais barcffordd Caerdydd, sydd wedi'i gymeradwyo yng nghynigion comisiwn Burns fel dewis yn hytrach na ffordd liniaru'r M4. Mae'n werth myfyrio eto nad oes unrhyw ddewis arall wedi'i ariannu'n gyhoeddus ar gyfer gorsaf yn nwyrain Caerdydd. Mae hwn yn gynnig trafnidiaeth a datblygiad economaidd sylweddol a ddylai greu swyddi sy'n talu'n dda yn un o'r cymunedau lleiaf breintiedig yn y wlad. Mae bron i ddwy flynedd ers i'r cynnig cynllunio gael ei alw i mewn gan Weinidog blaenorol yng Nghymru. Prif Weinidog, a allwch chi gadarnhau pa Weinidog sydd bellach wedi cael ei neilltuo i wneud penderfyniad ar y mater hwn, yn dilyn y ddau adroddiad arolygydd cynllunio, a phryd y gallem ni ddisgwyl penderfyniad?

Diolch yn fawr, Vaughan. Rydych chi'n dweud dair wythnos yn ôl—mae'n teimlo fel tair blynedd yn ôl i mi pan wnaethoch chi ofyn am hyn ddiwethaf. Mae cais cynllunio ar gyfer y datblygiad wedi cael ei alw i mewn i'w benderfynu gan Weinidogion Cymru. Mae cyfarwyddiaeth gynllunio Llywodraeth Cymru wedi derbyn adroddiad yr arolygydd cynllunio ar gyfer y cais. Mae hwnnw bellach yn cael ei ystyried yn weithredol gan swyddogion, a bydd penderfyniad yn cael ei gyhoeddi cyn gynted â phosibl. Nawr, yn amlwg, oherwydd bod hwn yn achos galw i mewn, ni allaf roi unrhyw sylwadau ar unrhyw un o rinweddau'r cynigion gan ein bod ni eisiau osgoi rhagfarnu'r penderfyniad terfynol hwnnw. Rwyf i'n bwriadu gwneud y penderfyniad terfynol ar y cais.

Os ydym ni'n mynd i ryddhau potensial ynni gwyrdd Cymru yn llawn, yna mae cymeradwyo ceisiadau cynllunio yn brydlon yn hollbwysig, gan fod olwynion y sector preifat yn troi yn llawer cyflymach nag olwynion y sector cyhoeddus. Yn wir, nid oes unrhyw sicrwydd ar hyn o bryd o ran faint o amser y bydd yn ei gymryd i gael penderfyniadau ar y ceisiadau cynllunio hyn, sy'n gadael buddsoddwyr yn nerfus ac yn aml yn edrych ar fannau eraill, ar wledydd eraill, sy'n llawer mwy rhagweithiol a chroesawgar o fuddsoddiad o'r fath. Os na fyddwn ni'n cael hyn yn iawn, yna bydd Cymru yn colli cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i adfywio ac ailfywiogi rhannau o'n gwlad lle, yn anffodus, y mae swyddi a diwydiant wedi gadael. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fod yn agored i fusnes drwy ei threfn gynllunio, o ran gair a gweithred, fel nad yw'r cyfleoedd a'r angen i fanteisio ar y cyfleoedd hynny yn cael eu colli?

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Rwy'n credu bod hwn yn gyfle gwirioneddol i'r genedl, yn enwedig o ran datblygiadau gwynt ar y môr. Dyna pam mai un o'r blaenoriaethau allweddol yr wyf i wedi eu cyflwyno yw symleiddio'r ceisiadau cynllunio hynny, i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu cyflymu pethau, y gallwn ni wneud pethau o fewn amserlen benodol. Nid yw'n hawdd gwneud hynny, oherwydd mae'n rhaid i chi hefyd ganiatáu i bartïon eraill leisio eu barn, i wneud yn siŵr eich bod chi'n cael y cydbwysedd cywir rhwng datblygiad economaidd a'r amgylchedd. Felly, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y system yn gywir ac yn gadarn, ond mae angen i ni hefyd wneud yn siŵr bod yr adnoddau yno, i wneud yn siŵr y gellir gwneud y penderfyniadau hynny mewn amser prydlon. Felly, mae'n faes yr wyf i'n sicr yn canolbwyntio arno, ac yn rhywbeth sydd gan Weinidog yr economi, ynni a chynllunio, yn amlwg, ar frig ei hagenda.

Trafnidiaeth Gyhoeddus yn y Canolbarth a'r Gorllewin

2. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ61676

Mae ein strategaeth trafnidiaeth, 'Llwybr Newydd', yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer pob rhan o Gymru, gan gynnwys y canolbarth a’r gorllewin. Fe fyddwn ni’n cyflawni ar sail y strategaeth honno gan ddilyn y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth, yn ogystal â'r cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol sy'n cael eu datblygu gan gyd-bwyllgorau corfforedig. Pwyllgorau yw’r rhain lle mae sawl cyngor yn dod at ei gilydd i wneud penderfyniadau strategol ar gyfer rhanbarth ehangach.

Diolch yn fawr iawn. Dro ar ôl tro, rŷch chi fel Llywodraeth wedi annog pobl i ddefnyddio llai o’u ceir a’u hannog i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cyrraedd targedau newid hinsawdd a sero net. Ond rwy’n ofni fwyfwy taw geiriau gwag yw’r rhain, achos beth sy’n digwydd yn y rhanbarth rŷn ni’n ei gynrychioli yw bod yna grebachu yn digwydd o ran trafnidiaeth gyhoeddus. Yr wythnos diwethaf yn unig, fe gawsom ni gadarnhad y byddai gwasanaethau ar hyd llinell Calon Cymru, y rheilffordd eiconig honno sydd yn mynd o Lanelli i’r Amwythig, yn cael eu cwtogi o fis Rhagfyr eleni. Yr eironi, wrth gwrs, yw, tra bo isadeiledd trafnidiaeth y canolbarth yn gwegian, mae dros £4 biliwn o gyllid yn ddyledus i Gymru gan San Steffan am dwyll HS2. Dychmygwch y gwahaniaeth y gallai’r arian hwnnw ei wneud nid yn unig i linell Calon Cymru, ond i drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus ym mhob rhan o Gymru. Felly, wrth inni ddisgwyl cyllideb Llywodraeth Lafur San Steffan ddiwedd y mis yma, gawn ni felly eglurder oddi wrthych chi a ydych chi wedi cael unrhyw sgyrsiau gyda’r Llywodraeth er mwyn sicrhau bod pob ceiniog o’r £4 biliwn sy’n ddyledus i ni yn dod i Gymru?

13:35

Diolch yn fawr. Dwi ddim yn meddwl eu bod nhw’n eiriau gwag. Y ffaith yw ein bod ni wedi gweld, dros Gymru gyfan, gynnydd o 27 y cant yn y bobl sy'n defnyddio trenau yng Nghymru rhwng mis Ebrill a mis Mehefin. Mae hwnnw'n gynnydd aruthrol ac yn rhywbeth y dylem ni fod yn ei ddathlu. Dwi’n derbyn bod hynny yn haws mewn rhai rhannau o Gymru i gymharu ag ardaloedd eraill. O ran Calon Cymru, mae’n wir bod llai o wasanaethau, o bump i bedwar, ond bydd seddi ychwanegol a bydd capasiti ar gyfer cyclists ar y llinell yna.

O ran HS2, rŷn ni’n dal i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig  am degwch am yr hyn sydd wedi digwydd o ran buddsoddiad yn y strwythur yna. Dwi ddim yn meddwl bod y ffigur yna o £4 biliwn yn ffigur realistig, ond, dwi eisiau bod yn glir, mae’r trafodaethau yna'n parhau.

Prif Weinidog, mae pobl yn y canolbarth wedi cael llond bol o orfod dioddef trenau gorlawn ar reilffordd y Cambrian rhwng Amwythig ac Aberystwyth. Ers blynyddoedd lawer, gwnaed ymrwymiadau gan Trafnidiaeth Cymru a Gweinidogion blaenorol yma. Dywedwyd wrthym y byddai cerbydau newydd yn cael eu cyflwyno yn 2023, yna y gaeaf hwn oedd hi, a nawr dywedir wrthym ni mai diwedd y flwyddyn nesaf fydd hi. Mae'r cwbl yn peri rhwystredigaeth a siom fawr pan fo cerbydau newydd eisoes yn cael eu defnyddio mewn rhannau eraill o Gymru. Ar ben hynny, dywedir wrthym ni hefyd—er gwaethaf 10 mlynedd o ymrwymiadau gan Weinidogion Llywodraeth Cymru yma a chan Trafnidiaeth Cymru y bydd gwasanaeth bob awr gwirioneddol—y bydd hwnnw, o 2026, ym mhedwar mis o'r flwyddyn yn unig. Nawr, wrth gwrs, eich Llywodraeth chi sydd eisiau annog pobl allan o'u ceir ac ar drafnidiaeth gyhoeddus. Gallaf glywed Aelodau eraill yn gweiddi am San Steffan—mae'r rhain yn ymrwymiadau a wnaed ers degawd gan Weinidogion Llywodraeth Cymru yma a Llywodraeth Cymru sy'n berchen ar Trafnidiaeth Cymru ac yn gweithredu Trafnidiaeth Cymru. Felly, fy nghwestiwn i chi, Prif Weinidog, yw: pryd fydd hi y bydd pobl y canolbarth yn gallu cael gwasanaeth rheilffordd y gallan nhw ddibynnu arno ac sy'n wasanaeth da, ac sy'n wasanaeth da y gallan nhw ddibynnu arno fel y gallan nhw ddod allan o'u ceir ac ar drafnidiaeth gyhoeddus?

Diolch yn fawr iawn, Russell. Byddwch yn ymwybodol bod y galw ar y gwasanaethau hynny yn newid bron yn llwyr o un tymor i'r llall. Yr hyn sy'n digwydd yw y bydd yr amserlen yn adlewyrchu'r gwahaniaeth rhwng misoedd yr haf a misoedd y gaeaf. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n falch o glywed y bydd gwasanaeth ychwanegol rhwng Aberystwyth ac Amwythig o fis Mai 2025, a gwasanaethau ychwanegol i sefydlu gwasanaeth bob awr o fisoedd yr haf rhwng Aberystwyth ac Amwythig o 2026. Felly, rwy'n gobeithio y gallwch chi fynd â'r wybodaeth honno yn ôl. Ond, hefyd, bydd ymdrech i ailgyflwyno dau wasanaeth ar reilffordd Arfordir y Cambrian yn ystod misoedd yr haf, ochr yn ochr â dyblu'r capasiti ar rai o'r gwasanaethau prysurach. Mae hynny oherwydd ein bod ni wedi bod yn gwrando ar deithwyr a rhanddeiliaid wrth ddatblygu'r amserlen, gan adlewyrchu'r newidiadau hynny ac ymateb i'r hyn sydd ei angen ar y bobl ar y rheilffyrdd hynny.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rwy'n siŵr eich bod chi wedi cael eich dychryn a'ch pryderu gan raglen y BBC sy'n mynd i gael ei darlledu nos yfory, sydd ar yr iPlayer i bobl ei gwylio heddiw, am Neil Foden, y pennaeth o'r gogledd sydd wedi dwyn gwarth ar ei hun a gyflawnodd weithredoedd erchyll o gam-drin yn erbyn unigolion agored i niwed a oedd yn ei ofal a'i ymddiriedaeth. Mae'n ffaith, o edrych ar y dystiolaeth sy'n cael ei chyflwyno, y cyflawnwyd y lefel honno o gam-drin dros lawer mwy o ddegawdau yn hytrach na'r blynyddoedd yr oedd yr achos llys a gafodd ef yn euog yn ymdrin â nhw ym mis Gorffennaf. Pa asesiad, ers ei euogfarn ym mis Gorffennaf, y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud, oherwydd defnyddiwyd Neil Foden fel tyst arbenigol yn aml iawn mewn materion addysgol, fel cynghorydd i Lywodraeth Cymru, a hefyd fel tyst yma i bwyllgorau yn y Senedd, ynghylch effaith ei weithredoedd? Ac, yn bwysig, beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wneud yn siŵr bod lleisiau'r dioddefwyr yn cael eu clywed yn yr achos ofnadwy hwn?

Diolch yn fawr. A gaf i, yn gyntaf oll, roi ar y cofnod fy nghefnogaeth a fy nghydymdeimlad tuag at y dioddefwyr sydd wedi bod mor ddewr yn dod ymlaen? A dydw i ddim yn credu y dylai unrhyw un ohonom ni danbrisio pa mor anodd yw hi pan fydd y cam-drin hwnnw yn digwydd, pan fydd pobl mewn oedran agored i niwed ac mewn cyfnod anodd, gyda phobl mewn sefyllfaoedd o rym. Mae'n gwbl annerbyniol, a hoffwn dalu teyrnged iddyn nhw. Nawr, y peth allweddol yw ein bod ni'n dysgu gwersi a'n bod ni'n ceisio osgoi'r math hwn o sefyllfa rhag digwydd eto. Rwy'n credu ei bod hi'n wir dweud bod Neil Foden, mewn gwirionedd, wedi dod i mewn i bwyllgor i roi tystiolaeth—pwyllgor yr wyf i'n credu yr oeddech chi'n aelod ohono—yn ystod y Senedd ddiwethaf, felly mae'n amlwg yn rhywbeth y gallai'r Senedd fod eisiau ei ystyried. Ond, dim ond o ran gwersi a ddysgwyd, rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig nawr yw ein bod ni'n edrych ar yr adolygiad, ein bod ni'n dysgu o'r adolygiad. Rwy'n gwybod bod arbenigwyr yno bellach yn rhoi hyfforddiant i bobl ar yr awdurdod lleol, er enghraifft, i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gwybod beth i edrych arno o dan y mathau hyn o amgylchiadau.

Un o'r sylwadau sydd wedi cael ei wneud yw'r sylw eithaf eglur ar ddechrau'r rhaglen, sy'n sôn am sut y llwyddodd i guddio am gyhyd. Nawr, mae hwnnw'n gwestiwn dilys y byddai llawer o'r dioddefwyr ac, yn wir, unrhyw un sy'n edrych arno gyda safbwynt gwrthrychol yn ei fabwysiadu. Sut oedd unigolyn y gwnaed cyhuddiadau o fwlio a hefyd ymddygiad amhriodol yn ei erbyn, a gadarnhawyd gan weithdrefn a chanlyniadau disgyblu, yn dal i allu cael dyrchafiad i ddod yn bennaeth gweithredol yn ardal cyngor Gwynedd ar ddwy ysgol sylweddol heb i leisiau'r dioddefwyr gael eu clywed? Nawr, fe wnes i ofyn pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud dros yr haf ynghylch yr achos penodol hwn oherwydd, dro ar ôl tro, pan fyddwn ni'n dod i lawr y Senedd ac yn canolbwyntio ar yr achosion trasig hyn, gwelir yn aml iawn bod rhybuddion eglur drwy'r broses y gellid bod wedi rhoi sylw iddyn nhw. Ac yna, pan fydd adroddiad yn cael ei lunio, mae'n ymddangos mai ychydig neu ddim gweithredu sy'n dilyn o ran y bobl na wnaeth weithredu ar y rhybuddion eglur hynny. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, gan weithio gyda'r awdurdod lleol, sef ei gyflogwr, i wneud yn siŵr, os na wnaeth pobl weithredu er budd pennaf disgyblion a phobl yn ei ofal—ni wnaethon nhw weithredu er y budd pennaf hwnnw—y byddan nhw'n cael eu dwyn i gyfrif ac y bydd camau disgyblu yn cael eu cymryd yn eu herbyn?

Diolch yn fawr iawn. Edrychwch, nid dyma'r tro cyntaf i ni weld rhywun yn cyflawni'r mathau hyn o weithredoedd ofnadwy yng ngolwg lawn yr hyn a oedd yn digwydd, ac mae'n dangos natur ystrywgar rhai pobl sy'n ymddwyn fel hyn. Ond mae cyfleoedd, ac rwy'n siŵr bod cyfleoedd a gollwyd, a dyna pam mae angen i'r adolygiad diogelu sy'n cael ei gynnal fod yn adolygiad trylwyr, mae angen iddo fod yn adolygiad sensitif, mae angen i chi wrando'n ofalus iawn, yn ofalus iawn ac yn sensitif ar y dioddefwyr, mae angen i chi wrando'n ofalus ar y cynghorwyr a oedd yn gysylltiedig â'i ddyrchafu a'i benodi i'r swyddi hynny. Ble oedd y rhybuddion eglur? Mae'r holl waith hwnnw yn cael ei wneud, wrth i ni siarad.

Rwy'n mawr obeithio y bydd yr ymchwiliad yn darganfod gwir ffeithiau hyn ac, mewn gwirionedd, yn rhoi rhyw fath o derfyn a chysur, os mai dyna'r gair cywir, i'r dioddefwyr, oherwydd bydd ganddyn nhw'r atgofion o'r erchyllterau a berwyd iddynt am byth, ond trwy weld rhyw fath o fesurau gwella a diogelu yn cael eu cymryd a phobl yn cael eu dwyn i gyfrif, gobeithio y bydd hynny'n dod â lefel o derfyn fel y bydd pobl yn gallu bwrw ymlaen â'u bywydau.

A gaf i ofyn i chi am bwnc ar wahân, Prif Weinidog? Bythefnos yn ôl, fe wnes i eich holi am y cyhoeddiad yng nghynhadledd y Blaid Lafur ynghylch cleifion o Gymru yn gallu cael mynediad at gapasiti dros ben i leihau amseroedd aros yma yng Nghymru—rhywbeth y gwnes i ganmol y Llywodraeth am ei ystyried a'i gyflwyno. Yr wythnos diwethaf, dywedodd yr Ysgrifennydd iechyd, mewn cyfweliad ar WalesOnline, nad oedd hynny'n wir ac na fyddai cleifion yn gallu cael mynediad at yr opsiwn ail gynnig hwnnw. Mae'n eithaf eglur, mae yno i bawb ei ddarllen. Felly, mae gennym ni farn gan y Prif Weinidog bod y capasiti hwnnw yn mynd i gael ei brynu gan Lywodraeth Cymru i alluogi cleifion i deithio, rhywbeth sy'n swnio'n dda, ac yna mae gennym ni'r Ysgrifennydd iechyd yn dweud nad yw hynny'n wir. Pa un yw safbwynt polisi Llywodraeth Cymru? A fydd mwy o gapasiti yn cael ei brynu ac a fydd cleifion yn gweld eu hunain yn symud i fyny'r rhestr aros ac yn cael y triniaethau y maen nhw eu heisiau?

13:45

Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw eich bod chi'n darllen yr hyn yr ydym ni'n ei ddweud mewn gwirionedd, yn hytrach na'i ddehongli. Mewn gwirionedd, nid yw'r un ohonom ni wedi dweud y byddwn ni'n prynu capasiti gan y GIG yn Lloegr. Efallai y byddwn ni'n gwneud hynny ar ryw adeg, ond nid ydym ni erioed wedi ei ddweud ar lafar; pobl sy'n dehongli hynny i ni. Felly, gallwch chi edrych yn ôl ar yr hyn yr ydym ni wedi ei ddweud. Rydym ni wedi bod yn ofalus iawn i wirio hyn, oherwydd fe wnaethom ni ddweud droeon, 'O le mae hyn yn dod?' Ac nid oedd yn dod oddi wrthym ni. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gywir, eich bod chi'n gywir a bod y cyfryngau yn gywir a'u bod nhw'n gwrando mewn gwirionedd ar yr hyn yr ydym ni'n ei ddweud yn hytrach na'i ddehongli. 

Yr hyn ddigwyddodd oedd, yr wythnos diwethaf, byddwch chi wedi gweld y cyhoeddiad a wnaed gan Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, am y penodiad hwnnw o arbenigwyr, gan gynnwys rhywun a oedd yn brif swyddog gweithredol i'r GIG yn Lloegr. Mae gennym ni'r Athro Tim Briggs, sef arloesydd a chadeirydd y rhaglen Gwneud Pethau'n Iawn y Tro Cyntaf; mae gennym ni'r Athro Sally Lewis, sy'n arbenigwr mewn gwerth ym maes gofal iechyd; Marcus Longley, y bydd llawer yn ei adnabod fel arbenigwr mewn gofal iechyd yng Nghymru; Adam Roberts, sydd wedi meddu ar swyddi uwch ar draws y GIG yn Lloegr, lle mae'n gyfarwyddwr ar gyfer mewnwelediad gweithredol gofal brys ac argyfwng ar hyn o bryd—[Torri ar draws.] Maen nhw'n cvs mawr. Rwyf i eisiau i chi wrando ar y cvs yma, gan eu bod nhw'n dod i mewn i'n cynghori ni—[Torri ar draws.]

Gadewch i'r Prif Weinidog ymateb ac egluro'r sefyllfa i bob un ohonom ni. Dyna beth wnaethoch chi ofyn amdano, Andrew R.T. Davies. Mae'n cael ei ddarparu gan y Prif Weinidog nawr.

Maen nhw'n dod i mewn i'n cynghori ni ar y ffordd orau o weithio'r system fel y gallwn ni leihau'r rhestrau aros hynny gyflymaf. Felly, rwy'n credu y dylech chi aros i weld beth y byddwn ni'n ei gomisiynu, sut y byddwn ni'n ei gomisiynu a ble y byddwn ni'n ei gomisiynu, a byddwn ni'n defnyddio'r cynghorwyr arbenigol hyn i'n cynorthwyo ar y daith honno.

Pa drafodaeth gafodd y Prif Weinidog efo Keir Starmer cyn penodiad Sue Gray fel cennad arbennig, neu special envoy, i'r cenhedloedd a'r rhanbarthau?

Rwy'n credu ei bod hi'n wirioneddol wych y byddwn ni'n cael ein cyfarfod cyntaf o gyngor y gwledydd a'r rhanbarthau ddydd Gwener, lle byddwn ni, wrth gwrs, yn cael arweinwyr gwledydd y Deyrnas Unedig yn dod at ei gilydd, gan gynnwys arweinydd yr Alban, Aelod o'r SNP, sydd, rwy'n siŵr, mor falch ag yr wyf i y byddwn ni'n cael cyfle i drafod sut y gallwn ni gydweithio er budd ein gwledydd, lle mae hynny'n gwneud synnwyr.

Efallai y dylwn i fod wedi gofyn yn syml beth yw cennad arbennig, oherwydd yn sicr does gen i ddim syniad. Rwy'n gobeithio y gall y Prif Weinidog weld pa mor ofnadwy y mae hyn yn edrych, ac mae'n codi rhai cwestiynau eithaf difrifol os nad yw'n ei weld. Yr hyn sydd wir yn peri gofid yw bod y penodiad hwn yn tanseilio gallu Prif Weinidog Cymru i gael perthynas uniongyrchol gyda Keir Starmer. Rwy'n gwybod bod ei amhoblogrwydd yn golygu nad yw eisiau i mi sôn amdano, ond nid fy mai i yw bod yr anhrefn a'r brwydro mewnol yr ydym ni wedi ei weld yn rhengoedd Llafur Cymru yn ystod y misoedd diwethaf wedi lledaenu i dîm Keir Starmer hefyd.

Mae hyn hefyd, wrth gwrs, yn tanseilio Ysgrifennydd Cymru. Nid y Prif Weinidog nac Ysgrifennydd Llafur Cymru yw'r pwynt cyswllt cyntaf i Keir Starmer bellach o ran ymdrin â Chymru. Meddyliwch am hynny am eiliad. Pan gyhoeddodd Llafur newid, prin yr oeddem ni'n meddwl mai'r hyn yr oedd yn ei olygu mewn gwirionedd oedd y byddai'n rhaid i'r Prif Weinidog fod yn cymryd ei gorchmynion gan rywun nad yw Prif Weinidog y DU ei eisiau bellach fel ei bennaeth staff ac nad yw wedi ei hethol gan y cyhoedd. Sut wnaeth y Prif Weinidog ganiatáu iddi hi ei hun gael ei hisraddio i drydydd yn nhrefn flaenoriaeth Llafur, y tu ôl i Sue Gray a Jo Stevens?

13:50

Nid wyf i'n gwybod ym mha fyd tylwyth teg y mae'n byw ynddo, ond rwy'n credu fy mod i newydd esbonio fy mod i'n cyfarfod â'r Prif Weinidog ddydd Gwener. Rwy'n mynd i fod yn cael cyfarfod un i un gyda Phrif Weinidog y DU, Keir Starmer. Dyna, rwy'n credu, y tro cyntaf i mi ddweud hyn heddiw; dyna'r seithfed tro ar hugain iddo grybwyll ei enw yn y tair wythnos yr ydym ni wedi bod yn cyfarfod ers yr haf. A'r hyn y byddwn ni'n ei wneud yw cael cyfarfod—[Torri ar draws.]

Gadewch i'r Prif Weinidog ateb y cwestiynau, os gwelwch yn dda.

Wel, fe wnaf i ateb, byddwn i wrth fy modd yn ateb, oherwydd mae'n hollol deg dweud eich bod chi'n ffugio'r nonsens hwn. Mae gen i berthynas uniongyrchol. Mae'n cyfarfod â mi ddydd Gwener. Rydym ni'n cael cyfarfod un i un ddydd Gwener. Yna, byddaf yn cael cyfarfod gyda fy nghymheiriaid sy'n arweinwyr y gwledydd eraill, gan gynnwys arweinydd yr SNP. Felly, os oes gennych broblem gyda hyn, efallai y dylech siarad â'ch cymar yn yr Alban. Ond rwy'n credu ei fod yn beth da. Rwy'n credu ei bod yn beth da bod y gwledydd a'r rhanbarthau yn cael eu cymryd o ddifrif, yn wahanol i fel yr oedd o dan y Llywodraeth Dorïaidd ddiwethaf. Ni wnaeth yr un diwethaf erioed gyfarfod. Felly, gadewch i ni siarad am bwysigrwydd hyn. A'r peth hanfodol yw bod hyn yn ymwneud â materion ymarferol hefyd. Rydym ni'n cyfarfod i drafod cyfleoedd buddsoddi, a bydd hynny'n symud yn syth i'r uwchgynhadledd fuddsoddi enfawr a fydd yn digwydd ddydd Llun, lle, unwaith eto, mae arweinwyr y gwledydd wedi cael eu gwahodd ac y byddan nhw'n cymryd rhan mewn ffordd na chawsant erioed eu gwahodd a'u cynnwys o dan y Torïaid.

Mae'r Prif Weinidog yn sôn am ffugio pethau; yr unig beth yr wyf i'n ei weld yn cael ei ffugio yma yw swyddi i bobl nad yw Keir Starmer eu heisiau yn ei brif dîm mwyach, fel y gall ddirprwyo'r cyfrifoldeb am orfod ymdrin â Chymru. Nid yw'r Prif Weinidog eisiau i mi siarad am Lafur y DU. Mae'n dweud fy mod i wedi sôn am Keir Starmer 27 o weithiau; rwyf i wedi sôn amdano gannoedd o weithiau, ac fe wnaf i sôn amdano eto, achos fe yw Prif Weinidog y DU sy'n trin Cymru yn annheg o ran cyllid teg ac ati. Os nad yw hi eisiau i mi sôn amdano, dylai ddweud wrth ei phennaeth i beidio â gwneud cyhoeddiad ar ôl cyhoeddiad sy'n effeithio ar Gymru—o doriadau i daliadau tanwydd gaeaf i gytundebau iechyd trawsffiniol amheus y mae'n amlwg nad yw ei Haelod Cabinet dros iechyd ei hun eisiau dim i'w wneud â nhw. Mae'r holl benderfyniadau hyn yn cael effaith wirioneddol ar fywydau pobl Cymru.

Mae cyllideb gyntaf Llywodraeth Lafur y DU dair wythnos yn unig i ffwrdd, felly bydd pobl Cymru yn disgwyl yn briodol bod y Prif Weinidog wedi bod yn brysur yn gwneud y ddadl dros gytundeb teg—symiau canlyniadol HS2 gwerth biliynau o bunnau, datganoli Ystad y Goron, treth ffawdelw ar gwmnïau ynni mawr, pethau a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol i Gymru. Felly, a all y Prif Weinidog gadarnhau pa sgyrsiau y mae hi wedi eu cael gyda Rachel Reeves a beth yn union y mae hi wedi pwyso iddo gael ei gynnwys yn y gyllideb? A fydd yn dod â fformiwla Barnett i ben, fel y gallwn ni gael ein hariannu'n deg, neu, pan ddaw 30 Hydref, a wnaiff y canghellor ddangos nad oes ganddi unrhyw awydd am newid i Gymru, ei bod hi'n barod i anwybyddu Llywodraeth Cymru ac i ostwng y Prif Weinidog i'r pedwerydd safle yn y drefn flaenoriaeth?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod y bobl a allai fod yn gwylio cwestiynau i'r Prif Weinidog yn cydnabod, mewn gwirionedd, fy mod yma i gael fy nwyn i gyfrif am y penderfyniadau yr wyf i'n eu gwneud yma yng Nghymru. Ni ellir fy nwyn i gyfrif am y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud mewn gwahanol sefydliad. Ond os ydych chi eisiau parhau i wneud hynny—[Torri ar draws.] Os ydych chi eisiau parhau i wneud hynny, mae hynny'n iawn. Nid yw'n broblem i mi. Nid—[Torri ar draws.]  

Nid yw'n broblem i mi, ond rwy'n credu, yn gyffredinol, y gallai fod gan bobl Cymru ddiddordeb yn y pethau lle mae gen i rywfaint o reolaeth. Rwyf i wedi cael cyfarfod gyda Rachel Reeves mewn rhinwedd wleidyddol, a dweud y gwir, felly mae hynny'n rhywbeth lle—. Ac rydym ni wedi cael cyfarfod gyda'r Gweinidog cyllid blaenorol ar ddechrau fy nghyfnod fel Prif Weinidog, lle cawsom gyfle i nodi'r pethau hyn, a, do, codwyd mater HS2. Bydd yn rhywbeth y byddwn ni'n parhau i'w godi, oherwydd mae annhegwch sylfaenol yn y ffordd y cafodd HS2 ei ariannu.

13:55
Cefnogaeth Fugeiliol i Staff y GIG

3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda byrddau iechyd i sicrhau bod staff y GIG yn cael cefnogaeth fugeiliol ddigonol? OQ61675

Mae iechyd a llesiant y gweithlu yn brif flaenoriaeth, ac rydym ni wedi darparu cyllid ar gyfer mentrau i sicrhau y gall ein gweithlu ymroddedig gael mynediad at amrywiaeth eang o gymorth pan fydd ei angen arnyn nhw fwyaf.

Diolch am eich ymateb. Prif Weinidog, byddwch yn gwybod yn well na llawer y tu mewn i'r Siambr hon a'r tu allan am y pwysau sydd ar ein byrddau iechyd ar hyn o bryd. Yn ddiweddar, cysylltodd etholwr â mi a nododd sefyllfa wirioneddol bryderus y cafodd ei hun ynddi wrth weithio yn ein gwasanaeth iechyd. Yn anffodus, mae llawer mwy o achosion fel hyn o bob cwr o Gymru. Ond yn yr achos hwn, tra oedd yn gweithio fel nyrs yn ysbyty'r Faenor, roedd ganddi nifer o bryderon difrifol, gan gynnwys bwlio ac aflonyddu, prinder staff difrifol, nyrsys twyllodrus, cyfnewid bathodynnau a chleifion sepsis yn mynd heb driniaeth ac, yn ei geiriau hi, yn cael eu 'gadael i farw'. Yn syfrdanol, yn ôl fy etholwr, dywedwyd wrth holl staff nyrsio y Faenor ar adeg pob trosglwyddiad shifft i beidio ag adrodd unrhyw faterion trwy unrhyw sianeli swyddogol. Pan wnaeth fy etholwr, yn wir, dynnu sylw at y materion hyn gyda'i hasiantaeth, gwnaed cwynion amrywiol yn ei herbyn y mae'n dweud y cawsant eu ffugio ac ni ddarparwyd unrhyw dystiolaeth. Prif Weinidog, mae'r sefyllfa hon wedi cael effaith anhygoel ar fy etholwr, sy'n dweud ei bod wedi colli pob ffydd yn ein gwasanaeth iechyd ac na fyddai byth yn dychwelyd i nyrsio. Y cwbl y mae ei eisiau nawr yw i gamau gael eu cymryd i sicrhau nad yw hyn byth yn digwydd eto i unrhyw un arall sy'n gweithio ym maes nyrsio. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i ymchwilio i'r mater hwn ac i wneud yn siŵr bod gwersi'n cael eu dysgu fel nad yw rhywbeth fel hyn yn cael ei ailadrodd, a sicrhau bod unrhyw un sy'n cael ei gyhuddo o unrhyw drosedd o fewn y bwrdd iechyd, ni waeth beth fo'i statws cytundebol neu rwymedigaeth, yn cael gwrandawiad teg? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Mae gennym ni bellach fframwaith codi llais heb ofn eglur iawn ar gyfer staff GIG bellach, gan ein bod ni'n credu ei bod hi'n bwysig eu bod nhw'n gweithio mewn amgylchedd lle maen nhw'n teimlo eu bod nhw'n cael eu gwerthfawrogi, lle maen nhw'n teimlo nad oes gwahaniaethu yn eu herbyn, lle nad ydyn nhw'n teimlo eu bod nhw'n cael eu haflonyddu na'u bwlio. Mae angen iddyn nhw deimlo'n gyfforddus yn herio'r ymddygiad annerbyniol hwnnw a dyna'n union y bwriedir i'r fframwaith hwn ei wneud. Felly, byddwn yn awgrymu eich bod chi'n cysylltu â'ch etholwr eto i ofyn iddi edrych ar y fframwaith hwnnw, oherwydd mae'n bwysig bod y pryderon hynny yn cael eu cymryd o ddifrif ac mae fframwaith i ganiatáu i hynny ddigwydd. Os yw'n teimlo nad yw hynny wedi cael ei anrhydeddu, yna mae angen iddi gymryd camau dilynol drwy'r gweithdrefnau cywir, a phe baech chi eisiau gwybod beth yw'r gweithdrefnau hynny, rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog iechyd yn rhoi'r wybodaeth honno i chi.

Diolch i Natasha am y cwestiwn agoriadol yma. Os ydym ni wedi dysgu unrhyw beth o’r pandemig, yr angen i edrych ar ôl llesiant y gweithlu ydy hynny. Mae hyn yn golygu rhoi’r hyblygrwydd yna iddyn nhw er mwyn cael y balans rhwng gwaith a bywyd yn well, neu ddatblygu eu sgiliau proffesiynol. Yn ôl y cynllun cadw nyrsiaid, a wnaeth y Prif Weinidog ei gyhoeddi pan oedd hi’n Weinidog iechyd llynedd, mae disgwyl i sefydliadau ymateb yn dosturiol i geisiadau gweithio hyblyg yn unol ag anghenion y gwasanaeth. Ond mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol yn dweud wrthyf fi fod nifer o nyrsys yn dod atyn nhw yn dweud bod eu ceisiadau am weithio hyblyg yn cael eu gwrthod. Ydy’r Prif Weinidog felly yn credu bod y polisi yma ddaru hi ei gyflwyno yn gweithio ac a wnaiff hi ryddhau y data er mwyn dangos lefel llwyddiant y mesur yma?

Diolch yn fawr iawn. Yn sicr, fel y Gweinidog oedd yn gyfrifol am iechyd meddwl yn ystod y pandemig, rôn i’n ymwybodol iawn pa mor bwysig oedd gofalu am iechyd meddwl pobl oedd yn gweithio yn y gwasanaeth ar yr adeg honno. Rwy’n falch iawn o ddweud bod gyda ni wasanaeth ŷn ni’n gwario £1.5 miliwn y flwyddyn arno i sicrhau bod pobl gyda gwasanaeth maen nhw’n gallu ei ddefnyddio.

O ran cadw nyrsys a’r caniatâd yna i weithio’n hyblyg, mae hwn yn rhywbeth weddol newydd, ac yn amlwg mae’n bwysig ein bod ni’n gweld sut mae e’n gweithio yn ymarferol. Fel mae’n egluro, mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr bod gofynion y gwasanaeth hefyd yn cael eu hystyried, ond y default yw bod y caniatâd yn cael ei roi i weithio'n hyblyg, ac mae hwnna'n well, dwi'n meddwl, na gweld pobl yn mynd i weithio i asiantaethau. Felly, dyna'r syniad y tu ôl iddo. Bydd yn rhaid inni edrych ar sut mae'n gweithio'n ymarferol. Efallai ei fod yn gweithio'n well mewn rhai ardaloedd nac eraill, felly dwi'n siŵr bydd y Gweinidog iechyd eisiau gweld sut mae'n gweithio yn ymarferol ac eisiau ystyried beth sydd angen ei wneud i wella'r sefyllfa, os nad yw e'n gweithio yn y ffordd yr oedden ni wedi ystyried.

14:00
Diogelwch ar y Ffyrdd yn Sir Benfro

4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella diogelwch ar y ffyrdd yn Sir Benfro? OQ61636

Mae ein cynlluniau ar gyfer gwella'r rhwydwaith ffyrdd strategol wedi'u rhestru yn y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth. Ar ben hynny, yn y flwyddyn ariannol hon, rŷn ni'n darparu dros £7.5 miliwn i Gyngor Sir Penfro i wella trafnidiaeth leol, gan gynnwys datblygu ffyrdd mwy cydnerth, creu llwybrau diogel mewn cymunedau a chynnal hyfforddiant diogelwch ffyrdd.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Ond un ffordd o wella diogelwch ar y ffyrdd yn sir Benfro yw sicrhau bod cynlluniau ffyrdd yn briodol a bod traffig wir yn gallu llifo'n iawn. Nawr, fel y byddwch chi'n ymwybodol, mae problemau traffig sylweddol o amgylch cylchfan Sgwâr Salutation yn Hwlffordd ac wedi bod ers blynyddoedd lawer. Nawr, fel y gwyddoch, mae hon, wrth gwrs, yn gefnffordd ac mae'n achosi llawer iawn o rwystredigaeth i fodurwyr lleol, ac, yn hollbwysig, bu nifer o ddamweiniau y bu ond y dim iddynt ddigwydd o amgylch yr ardal. Nawr, rwyf i wedi codi hyn gyda nifer o Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion dros y blynyddoedd, ac er gwaethaf addewidion i weithio gyda rhanddeiliaid lleol i ddatblygu mesurau i wella diogelwch ar y ffyrdd, prin yw'r camau a gymerwyd mewn gwirionedd. Un ateb allai fod cyflwyno system goleuadau traffig ar y gylchfan, ac felly a wnewch chi ymrwymo i edrych ar y mater penodol hwn gyda'ch swyddogion fel y gellir datrys y mater hwn o'r diwedd ac y gall yr ardal fod yn fwy diogel i bawb?

Wel, diolch yn fawr iawn. Mae'n wych clywed y Ceidwadwyr yn cymryd cymaint o ddiddordeb mewn diogelwch ar y ffyrdd, ac rwy'n siŵr y bydd gennych chi ddiddordeb—[Torri ar draws.] Rwy'n siŵr y bydd gennych chi ddiddordeb mewn clywed yr wybodaeth ddiweddaraf ein bod ni wedi gweld gostyngiad o 23 y cant yn nifer y damweiniau difrifol ers cyflwyno'r 20 mya.

O ran diogelwch cynlluniau ffyrdd, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod, oes, mae llawer o broblemau a llawer o feysydd lle mae angen canolbwyntio. Rwy'n ymwybodol o'r sefyllfa yn Sgwâr Salutation—wrth gwrs, mater i'r awdurdodau lleol ymdrin ag ef yw hwnnw. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw bod swm sylweddol o gyllid wedi cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi grantiau trafnidiaeth, gan gynnwys £3.37 miliwn ar gyfer gorsaf fysiau Hwlffordd, ac os gallwn ni gael honno'n agored ac yn gweithredu, yna, yn amlwg, bydd yn lleddfu rhywfaint o'r traffig sy'n mynd i mewn i'r canol. Felly, rwyf i yn gobeithio y bydd hynny, sydd wedi cymryd amser maith i ddwyn ffrwyth, yn digwydd yn weddol fuan.

Plant mewn Tlodi Cymharol

5. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu strategaeth bresennol Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau nifer y plant mewn tlodi cymharol? OQ61674

Mae ein strategaeth tlodi plant, a gafodd ei lansio ym mis Ionawr eleni, yn nodi ein huchelgais tymor hir i daclo tlodi plant ac i leddfu effeithiau gwaethaf tlodi yng Nghymru. Mae’n nodi hefyd sut byddwn ni’n gweithio ar draws y Llywodraeth a gyda phartneriaid i gael yr effaith fwyaf posib drwy’r dulliau sydd ar gael inni.

Diolch am yr ymateb.

Byddwch yn gwybod, ein bod ni, dros y chwe blynedd diwethaf, wedi gweld cynnydd syfrdanol yn nifer y teuluoedd mwy sy'n byw mewn tlodi cymharol. Mae 43 y cant o blant ar aelwydydd o dri neu fwy bellach mewn perygl o dlodi cymharol. Mae hynny'n nifer syfrdanol o 100,000 o blant yma yng Nghymru. Mae'r cap budd-dal dau blentyn yn ffactor allweddol sy'n ysgogi'r argyfwng hwnnw. Mae'r polisi hwn, a feirniadwyd yn eang fel un creulon sy'n mynd yn groes i hawliau plant gan nifer o sefydliadau cymdeithas sifil, gan gynnwys Comisiynydd Plant Cymru, yn effeithio ar dros 11 y cant o blant—65,000 o blant. Ac ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, mae bron i 1,000 o blant yn byw mewn teuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan y cap budd-dal dau blentyn.

Dywedodd y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant yr wythnos hon bod 10,000 o blant wedi syrthio i dlodi ers i Lafur ddod i rym yn San Steffan. Rwy'n galw arnoch chi, fel Prif Weinidog, i godi hyn unwaith eto gyda Phrif Weinidog y DU, ac efallai y gallech chi wneud hynny ddydd Gwener yn eich cyfarfod ag ef. Ond rwyf i hefyd yn myfyrio ar y ffaith bod fy mhlaid i, pan oeddem ni mewn Llywodraeth yn y glymblaid, wedi gwneud camgymeriadau, ac rwy'n eglur iawn ar y cofnod yn dweud mai un o'r rheini oedd chwarae ein rhan mewn cyni. Prif Weinidog, hoffwn alw arnoch chi—rydym ni i gyd yn oedolion yma a dylem ni allu cydnabod bod pobl yn gwneud camgymeriadau. Rwy'n galw arnoch chi i wneud datganiad ei bod hi'n gamgymeriad rhoi—[Torri ar draws.]

14:05

Gadewch i'r Aelod orffen ei chwestiwn, os gwelwch yn dda. Mae gormod o sŵn y tu ôl heddiw o bob cyfeiriad. Doeddwn i ddim, mewn gwirionedd, yn disgwyl yr un yna nawr, ond rwyf i eisiau i'r Aelod orffen ei chwestiwn, os gwelwch yn dda.

Diolch, jest un frawddeg arall.

Dim ond un frawddeg arall. Rwy'n galw ar y Prif Weinidog i ddweud ei bod yn credu bod y cap budd-dal dau blentyn, a methiant y Llywodraeth Lafur i'w ddiddymu, yn gamgymeriad. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn. Wel, rwy'n credu bod llawer o bobl o fewn y Blaid Lafur sy'n anghyfforddus iawn amdano; dyna'r gwir amdani, ond ceir y twll du gwerth £22 biliwn y mae'n anodd ei lenwi. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yng Nghymru yw gwneud yr hyn a allwn i gynorthwyo plant sy'n byw mewn tlodi, a dyna pam mae pethau fel y cymorth prydau ysgol am ddim yn gwbl hanfodol, fel eu bod nhw o leiaf yn cael pryd o fwyd poeth unwaith y dydd, felly mae rhywfaint o gymorth yno. Yn amlwg, mae gennym ni nifer enfawr o feysydd eraill lle rydym ni'n rhoi cymorth, yn enwedig i'r teuluoedd agored i niwed hynny; fe wnaethom ni roi gwerth tua £5 biliwn rhwng 2022 a 2025. Nid yw hwnnw'n swm bach o arian i roi cymorth i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed, felly, lle y gallwn, byddwn ni'n darparu'r cymorth hwnnw, ond mae'r mathau o feintiau o arian y byddai eu hangen arnoch chi, yn syml, y tu hwnt i allu Llywodraeth Cymru eu cynnal. 

Prif Weinidog, mae 'Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2024' Llywodraeth Cymru yn siarad yn rhannol am sut mae plant sy'n byw mewn tlodi mewn mwy o berygl o anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, ac y gall ymyrraeth gynnar wella canlyniadau yn yr hirdymor. Mae tystiolaeth yn awgrymu y gallai dros 50 y cant o blant mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol ddechrau'r ysgol gyda sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu gwan, ac, yn anffodus, gall hyn eu dal nhw yn ôl yn eu dysgu.

Mae rhaglen Llywodraeth Cymru, Siarad Gyda Fi, y byddwch chi'n ymwybodol iawn ohoni, wedi'i chynllunio i wella ymwybyddiaeth o sut y gall rhyngweithio oedolion, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar, wella lleferydd, iaith a chyfathrebu. Dyluniwyd cynllun gweithredu i gofnodi perfformiad cyfredol sylfaenol ac yna cyflwyno dull casglu data mwy cadarn i fonitro cynnydd. Pa dystiolaeth all Llywodraeth Cymru ei darparu nawr bod y rhaglen hon wedi llwyddo i helpu i wella lleferydd, iaith a chyfathrebu ymhlith plant, a pha gyllid ydych chi wedi ei nodi sydd ei angen i barhau i wella'r rhaglen? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol gwneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi'r cymorth hwnnw, yn enwedig i'r teuluoedd agored i niwed hynny, a dyna pam mae pethau fel ein rhaglenni Dechrau'n Deg a thargedu'r ardaloedd hynny yn hollbwysig. Rwy'n falch iawn o weld ein bod ni wedi gallu ehangu'r rhaglen honno, oherwydd dyna lle gallwch chi roi'r dwysedd hwnnw o gymorth sydd mor hanfodol yn y blynyddoedd cynnar hynny. Rydym ni i gyd yn gwybod bod y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf yn bwysig iawn, iawn o ran ffurfio datblygiad plentyn. 

Roeddech chi'n siarad yn benodol, fodd bynnag, am leferydd ac iaith. Yn amlwg, gellir galw rhai o'r rheini i mewn i gynorthwyo'r ardaloedd Dechrau'n Deg hynny. Mae'r rhaglen Siarad Gyda Fi wedi bod yn llwyddiannus. Y broblem mewn gwirionedd yw dod o hyd i ddigon o therapyddion lleferydd i gefnogi honno, ac nid yw hynny'n syml oherwydd, mewn gwirionedd, mae'n cymryd cryn amser i hyfforddi pob therapydd lleferydd. Mae'r galw yn cynyddu yn gyson, ac yn amlwg, mae'r GIG yn awyddus iawn i fanteisio ar y sgiliau hynny hefyd. Felly, mae mwy i'w wneud yn y maes hwnnw, ond rydym ni'n ymwybodol iawn bod angen. Rwy'n falch o ddweud bod Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi cynyddu nifer y therapyddion lleferydd ac iaith.

Rydych chi'n sôn am y miliynau a wariwyd ar gynorthwyo plant mewn tlodi, fel pe bai hynny'n rhywbeth i fod yn falch ohono—nid dyna'r gwir, mae'n rhywbeth y dylem ni fod â chywilydd ohono, bod yn rhaid i ni ei wneud. Mae'n rhaid i ni ddarparu'r cymorth hwnnw oherwydd, fel y'i galwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid,

'yr un polisi mwyaf costeffeithiol ar gyfer lleihau nifer y plant sy'n byw o dan y llinell dlodi yw cael gwared ar y terfyn dau blentyn.'

Ac nid yw hynny o fewn ein gallu. Flwyddyn yn ôl, dywedodd eich Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol presennol:

'rydym ni'n galw'n barhaus'—

yn sôn am Lywodraeth Cymru—

'am ddiddymu'r cap budd-dal a'r terfyn dau blentyn, gan ein bod ni'n credu fod y rhain yn ysgogiadau allweddol o dlodi ymhlith teuluoedd mwy yng Nghymru, yn arbennig.'

Dim ond blwyddyn yn ôl oedd hynny. Felly, beth fyddwch chi'n galw ar Lywodraeth Lafur y DU i'w wneud yn wahanol yng nghyllideb eleni i helpu Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant?

14:10

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu mai'r peth allweddol o ran tlodi plant yw gwneud yn siŵr bod cyfleoedd hefyd i bobl gael swyddi, ac os yw pobl yn gweithio maen nhw'n gallu cefnogi eu teuluoedd. Er mwyn gwneud hynny, mae angen i ni wneud yn siŵr bod y cymorth plant yn y sefyllfa y dylai fod, ac rwy'n falch o ddweud bod hwnnw wedi cael ei ehangu yn nhymor y Senedd hon. Ond mae'r pwyslais, rwy'n credu, ar dyfu'r economi yn gwbl allweddol, oherwydd os byddwn ni'n tyfu'r economi gallwch ddefnyddio'r trethi hynny er mwyn cefnogi'r math o agenda cyfiawnder cymdeithasol y mae gennych chi a minnau gymaint o ddiddordeb ynddi.

Cwestiwn 6, Janet Finch-Saunders.

Fe gewch chi ofyn eich cwestiwn, Janet.

Treth Incwm

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynigion Llywodraeth Cymru i gynyddu treth incwm? OQ61632

Nid oes unrhyw gynigion i gynyddu treth incwm yng Nghymru.

Fe wnaf i eich dal at eich gair. Y rheswm yr wyf i wedi gofyn y cwestiwn yw bod Mark Drakeford AS, yn ôl yn gyfrifol am gyllid—mae rhywfaint o destun pryder, oherwydd gwrthododd yr Ysgrifennydd Cabinet ddiystyru cynnydd i dreth incwm. Ysgrifennodd ataf eto ar 3 Hydref, gan wrthod diystyru unrhyw gynnydd mewn gwirionedd, ac a dweud y gwir dim ond yr wythnos diwethaf y soniodd am godi'r gyfradd sylfaenol o 20c a faint o arian sylweddol y byddai'n dod yn ei sgil i Gymru. Fodd bynnag, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid hefyd wedi cyfaddef, rydym ni'n gwybod bod y rhan fwyaf o bobl bellach ar yr ymyl eithaf o allu ymdopi, ac weithiau ddim yn ymdopi o gwbl, o ran eu cyllid cartref. Felly, mae'n galonogol, hynna. Rwy'n gobeithio y bydd y cyfryngau'n adrodd hynna, oherwydd mae llawer iawn o bobl yn credu, yn union fel Keir Starmer—Prif Weinidog y DU, dylwn i ddweud—mae'n amlwg bod teimlad nawr mai'r cwbl yr ydych chi'n mynd i'w wneud yw trethu a threthu a threthu, felly mae'n eithaf calonogol eich bod chi'n dweud na fydd unrhyw gynnydd i dreth incwm yng Nghymru. Diolch, Prif Weinidog.

Beth yw hi gyda chi'r Torïaid? O ddifrif calon—rydych chi'n ffugio pethau rydym ni'n eu dweud. Doedd erioed—. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn eglur yn y Pwyllgor Cyllid nad yw'n bwriadu cynyddu cyfradd treth incwm Cymru, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod nad ei benderfyniad ef yn unig yw'r hyn sy'n digwydd. Ceir Senedd. Ceir system gyfan i fynd drwyddi. Efallai eich bod chi eisiau codi'r trethi, ond ni fyddwn ni'n pleidleisio dros hynny. Ni fyddwn ni'n pleidleisio dros hynny. Ac rydych chi wedi bod yn gwneud hynny. Fe wnaethoch chi eu codi nhw gryn dipyn o dan eich arweinyddiaeth—yr uchaf ers 70 mlynedd, rwy'n deall, o ran trethi. Ond ni fyddwn ni fel Llywodraeth yn awgrymu ein bod ni'n codi trethi. Felly, ewch i ddweud wrth eich ffrindiau bach—[Torri ar draws.]—ewch i ddweud wrth eich ffrindiau bach yn y Telegraph bod yr hyn y maen nhw'n ei ysgrifennu yn nonsens.

Lwfans Tanwydd Gaeaf

7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith toriadau Llywodraeth y DU i'r lwfans tanwydd gaeaf ar bensiynwyr yn Nwyrain De Cymru? OQ61672

Rŷn ni’n ymwybodol fod llawer o bensiynwyr yng Nghymru yn pryderu am doriadau i’r lwfans tanwydd gaeaf. Rŷn ni’n parhau i gefnogi pobl er mwyn lleddfu pwysau ariannol ar draws y wlad, gan gynnwys yn Nwyrain De Cymru. Mae ein cynllun talebau tanwydd a’r gronfa cymorth dewisol ar gael i helpu pobl sydd mewn argyfwng gyda chostau tanwydd, ac mae’r rhaglen Cartrefi Clyd yn darparu ffyrdd o wella effeithlonrwydd ynni a lleihau biliau ynni yn y tymor hir.

Diolch, Gweinidog. Mae hyn yn peri pryder mawr i mi. Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd miloedd o bensiynwyr yng Nghymru yn dioddef brathiad oer y gaeaf oherwydd bod eu lwfans tanwydd gaeaf wedi cael ei dorri. Nawr, dyma ganlyniad garw diffyg ewyllys Llafur oherwydd, ie, y Torïaid ddechreuodd hyn—roedd eu creulondeb yn drychinebus—ond felly hefyd y mae'r dewis y mae Llafur yn ei wneud i lynu wrth eu hanwarineb. Oherwydd mae gorfodi pobl i ddioddef yr oerfel o dan y system breifat ddidrugaredd hon, sy'n moneteiddio'r gwres sydd ei angen arnom ni i aros yn fyw, gan atal eu modd o gysur, mae hynny'n anwarineb. Mae'n condemnio pobl i'r oerfel. Felly, Prif Weinidog, a wnaiff eich Llywodraeth wneud apêl munud olaf i Lywodraeth Keir Starmer i ailfeddwl y toriad creulon hwn? Dydych chi ddim eisiau i'ch Llywodraeth fod yn gysylltiedig ag ef 'does bosib.

14:15

Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n ymwybodol y bydd llawer o bensiynwyr ledled Cymru a fydd yn bryderus iawn am y sefyllfa hon, a dyna pam ein bod ni'n awyddus iawn fel Llywodraeth, yn yr un modd ag y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig, i sicrhau y bydd pawb sy'n gymwys i gael taliadau tanwydd gaeaf yn manteisio ar y cyfle hwnnw. Fe allwn ni wneud yr hyn y gallwn ni yn Llywodraeth Cymru er mwyn cefnogi pobl, ac mae'n wych gweld bod cynghorau fel Cyngor Castell-nedd Port Talbot eisoes wedi helpu 2,100 o bobl i wneud cais am y credyd pensiwn hwnnw, sy'n golygu y byddan nhw wedyn yn gymwys. Felly, byddwn i'n annog pob cyngor ledled Cymru i yrru'r prosiect gwybodaeth hwnnw ymlaen er mwyn sicrhau bod pawb sy'n gymwys, a fydd yn cefnogi'r bobl dlotaf—. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig, eu bod yn ymwybodol o hynny.  

Rydyn ni fel Llywodraeth yn gwneud yr hyn y gallwn ni i gefnogi pobl gyda'u sefyllfa tanwydd gaeaf. Rydyn ni'n buddsoddi £30 miliwn y flwyddyn yn ein cynllun Nyth Cartrefi Cynnes, ac rydyn ni hefyd wedi rhoi mwy na £5.6 miliwn o gyllid ar gyfer taleb tanwydd cenedlaethol a chronfa wres, ac mae hynny wedi bod ar waith ers 2022. Felly, rydyn ni'n gwneud yr hyn y gallwn ni yn hyn o beth, ond rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig i bensiynwyr nodi—. Rwy'n siarad â llawer o bobl ac roeddwn i'n siarad ag un ohonyn nhw a gododd y mater hwn gyda mi dros y penwythnos, a doedd dim syniad ganddo y byddai ei bensiwn eleni, mewn gwirionedd, yn cynyddu 8.5 y cant, ac y byddai'n codi 4 y cant y flwyddyn nesaf. Felly, at ei gilydd, bydd yn well ei fyd ond, yn amlwg, mae llawer o sensitifrwydd ynghylch hyn, a llawer o bobl sy'n poeni am y sefyllfa. 

Fepio ymhlith Pobl Ifanc

8. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â fepio ymhlith pobl ifanc fel rhan o'r addewid 'iechyd da'? OQ61646

Ni ddylai plant a phobl ifanc byth defnyddio fêps. Fel rhan o genhadaeth fy Llywodraeth i greu Cymru iachach, byddwn ni'n ymdrin â dibyniaeth ar nicotin yn ei holl ffurfiau ac yn cynllunio i fynd i'r afael â fepio ymhlith pobl ifanc trwy atal y cynhyrchion hyn rhag cael eu targedu'n fwriadol at blant.

Diolch. Mae fepio ymhlith pobl ifanc yn bryder cynyddol yn y Rhondda. Mae trigolion dig wedi cysylltu â mi ynglŷn â siop fêps newydd sydd wedi agor yn ddiweddar yn Nhreorci. Fel y rhan fwyaf o siopau fêps eraill, mae ganddi arwyddion wedi'u goleuo nad ydyn nhw'n cyd-fynd â'r stryd fawr. Mae ganddi arddangosfa ffrynt ddwbl o fêps lliwgar sy'n amlwg yn cael eu marchnata tuag at bobl ifanc, ac mae ar y prif lwybr i'r ysgolion cynradd a chyfun. Mae'r cynghorydd lleol Bob Harris wedi cyflwyno sylwadau i adran cynllunio a gorfodi cynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ond yn ofer. Fe wnaethon ni hefyd ymweld ag Ysgol Gyfun Treorci yr wythnos diwethaf, a fydd yn parhau â'r gwaith maen nhw'n ei wneud i godi ymwybyddiaeth o beryglon fepio i bobl ifanc.

Prif Weinidog, pa gamau eraill y gallwch chi eu cymryd i gefnogi cymunedau lleol drwy adolygiadau o ganiatadau cynllunio a rheoliadau ar gyfer siopau fepio, yn enwedig enwau siopau ac arwyddion? A beth arall y gellir ei wneud i fynd i'r afael â brandio a marchnata fêps, fel eu bod yn llai deniadol i bobl ifanc? Hefyd, oes cyfle i gynnal ymgyrch ehangach ledled Cymru ar draws ysgolion i fynd i'r afael â fepio ymhlith pobl ifanc mewn ffordd fwy grymus?  

Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi ein syfrdanu gan y nifer fawr o siopau fêps; maen nhw i'w gweld yn ymddangos ym mhobman ac, yn amlwg, mae hwn yn faes lle mae angen i awdurdodau lleol ddefnyddio rheoliadau a chanllawiau cynllunio i sicrhau bod safleoedd newydd yn cydymffurfio â'r gyfraith. Ac rydyn ni'n awyddus iawn i sicrhau bod byrddau iechyd lleol yn chwarae rhan weithredol pan fydd cynghorau'n datblygu cynlluniau datblygu lleol. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n cael y cynlluniau datblygu lleol hynny'n gywir, fel bod y ceisiadau cynllunio, pan fyddan nhw'n cael eu cyflwyno, os nad ydyn nhw'n cydymffurfio â'r hyn rydyn ni eisiau ei weld—a fêps yw hyn, ond rwy'n credu y gallech chi ddweud yr un peth am siopau bwyd brys y tu allan i ysgolion a phethau, yr holl bethau hynny—. Rwy'n credu bod cyfle gwirioneddol i dynhau pethau yn hyn o beth, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y bydd gennyf ddiddordeb mewn mynd ar ei drywydd. 

O ran hysbysebu, edrychwch, mae'n amlwg bod yn rhaid i ni archwilio'r holl gamau blaengar i gyfyngu ar farchnata, hysbysebu, blasau, sydd yn amlwg wedi'u targedu'n at blant, ac mae'n frawychus gweld faint o blant sydd erbyn hyn yn defnyddio ac yn rhoi cynnig ar y cynhyrchion hynny. Rwy'n credu bod 18 y cant o bobl ifanc 11 i 17 oed wedi rhoi cynnig ar y cynhyrchion. Felly, mae llawer mwy i'w wneud yn hyn o beth ac, yn amlwg, bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno'r Bil tybaco a fêps hwnnw, a byddwn ni'n edrych i weld sut y gallwn ni weithio gyda nhw i ddatblygu'r agenda hon.

14:20
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd fydd yn gwneud y datganiad yma, felly Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 14:21:14
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

Trefnydd, a gaf i alw am ddau ddatganiad yr wythnos hon: un gennych chi yn rhinwedd eich swydd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol er mwyn i ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer Aelodau'r Senedd ynghylch y camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â gwrthsemitiaeth yng Nghymru? Ddoe, wrth gwrs, roedd hi'n flwyddyn ers yr erchyllterau ofnadwy ar 7 Hydref 2023, pan ymosododd terfysgwyr Hamas ar sifiliaid diniwed yn Israel, ac rydyn ni wedi gweld pethau erchyll yn digwydd ers y dyddiad hwnnw. Ac roedd hi'n dda gweld bod y Prif Weinidog wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig i nodi blwyddyn ers y digwyddiadau hynny, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n deall y camau eraill y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â gwrthsemitiaeth yng Nghymru. Mae'n bodoli; mae'n broblem y mae angen i bob un ohonon ni weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â hi.

Yn ail, a gaf i alw am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am ddigartrefedd o ran y problemau rydyn ni'n eu gweld gyda digartrefedd ymhlith y gymuned o gyn-filwyr ledled Cymru? Roeddwn i mewn cysylltiad â sefydliad cymorth digartrefedd yn y gogledd, a gydag Alabare UK, y mae'r ddau, wrth gwrs, yn gweithio ar faterion yn ymwneud â thai cyn-filwyr. Ond mae'n amlwg iawn i mi fod angen gwneud mwy o waith. Mae cyn-filwyr digartref, yn anffodus, yn y gogledd ar hyn o bryd, sy'n byw mewn pebyll, mewn llety Airbnb, llety tymor byr, ac, yn amlwg, mae'n warthus nad oes gan bobl sydd wedi gwasanaethu ein gwlad yn y lluoedd arfog urddas cartref priodol. Roeddwn i'n falch o weld Prif Weinidog y DU, yn ei araith i gynhadledd y Blaid Lafur, yn cyfeirio'n benodol at roi terfyn ar ddigartrefedd cyn-filwyr. Nawr, yn amlwg, dylai hynny gael canlyniadau yma yng Nghymru hefyd, a hoffwn i wybod pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w cymryd nawr er mwyn mynd i'r afael â digartrefedd ymhlith y gymuned o gyn-filwyr yma yng Nghymru, o ystyried mai cyfrifoldeb datganoledig yw hynny, ac o ystyried yr ymrwymiad y mae Prif Weinidog y DU wedi'i wneud.

Diolch yn fawr iawn, Darren Millar, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n cydnabod heddiw y datganiad ysgrifenedig, wrth gwrs, gan y Prif Weinidog am—. Mae'n drasig dweud ein bod ni'n nodi blwyddyn ers y digwyddiadau hynny yr adeg hon y llynedd, ac mae'n rhaid i mi ddweud, nid dim ond y datganiad ysgrifenedig gan y Prif Weinidog, rwyf hefyd wedi ysgrifennu at ein cydweithwyr Iddewig yng Nghymru a hefyd at Gyngor Mwslimiaid Cymru. Rwy'n bwriadu ymweld â'r addoldai a chwrdd â phobl eto, fel y gwnes i sawl tro y llynedd. Rydyn ni'n bryderus iawn am adroddiadau am gynnydd mewn troseddau casineb sydd wedi'u targedu at gymunedau Iddewig a Mwslimaidd yng Nghymru, ac rwy'n credu mai'r brif neges rwyf eisiau ei rhoi heddiw yw ein bod ni'n annog aelodau o'r cymunedau hyn i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau casineb. Mae canolfan cymorth casineb Cymru, yr ydym yn ei chyllido, yn cael ei chynnal gan Cymorth i Ddioddefwyr, ac rydyn ni wedi gofyn i'n canolfan cymorth casineb yng Nghymru fonitro unrhyw gynnydd yn y troseddau casineb gwrthsemitig ac Islamoffobig y rhoddir gwybod amdanynt, ac i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Felly, byddwn i'n hapus iawn i adrodd yn ôl eto ar y digwyddiadau hynny yr wyf i'n cymryd rhan ynddyn nhw gyda'r cymunedau hynny y mae hyn yn effeithio arnyn nhw yn ystod y dyddiau a'r wythnosau nesaf.

Felly, o ran eich ail gwestiwn, ydy, mae'n bwysig o ran datganiad cadarn iawn a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol yr wythnos diwethaf ynghylch ffyrdd yr ydyn ni'n estyn allan i ddiwallu'r anghenion tai hynny yn ein cymunedau, yr ydyn ni'n cydnabod, wrth gwrs, y gallant gynnwys cyn-filwyr sy'n agored i niwed hefyd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod bod gennym ni gyfamodau partneriaeth cadarn, pwysig iawn gyda'n hawdurdodau lleol ledled Cymru a gyda'n cyn-filwyr a'n lluoedd arfog hefyd o ran y trefniadau hynny. Felly, unwaith eto, bydd yr Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n siŵr, yn cydnabod hynny o ran y ffordd rydyn ni'n ymateb gyda digartrefedd a'r Papurau Gwyn y disgwylir iddynt gael eu cyhoeddi'n fuan. 

14:25

Ddoe, fe gyhoeddwyd adroddiad ac argymhellion gan fwrdd diogelu Cwm Taf Morgannwg yn nodi methiannau mawr a fu yng ngofal claf gyda chyflwr sgitsoffrenia paranoiaidd a wnaeth ladd June Fox-Roberts, mamgu 65 oed, yn Nhachwedd 2021. Yr hyn sy'n echrydus i deulu June ydy'r cadarnhad y gallai June fod dal yn fyw heddiw pe byddai Luke wedi derbyn y gofal y dylai. Dyma'r pedwerydd achos o'r fath yn ardal Cwm Taf Morgannwg rhwng 2018 a 2021, ac mae argymhelliad olaf yr adroddiad yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad thematig. Hoffwn ofyn am ddatganiad llafar gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y mater hwn fel bod cyfle i ni fel Aelodau o'r Senedd sy'n cynrychioli'r rhanbarth ac ardal Cwm Taf Morgannwg gael atebion o ran pa wersi nid yn unig sydd wedi'u nodi ond sydd hefyd wedi'u gweithredu. Dydw i ddim eisiau gweld adroddiad unwaith eto gyda'r un un argymhellion, ond hefyd clywed teulu yn cael gwybod y byddai aelod o'u teulu nhw'n gallu bod dal yn fyw pe byddai claf wedi derbyn y gofal y dylai nhw.

Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn.

Mae'n bwysig bod unrhyw argymhellion sy'n cael eu nodi yn sgil sefyllfaoedd ac amgylchiadau fel y rhai rydych chi'n eu disgrifio, nid yn unig yn cael eu rhoi ar waith, ond yn cael eu monitro hefyd. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn edrych yn benodol ar yr achos— y mater—ac yn wir yr amgylchiadau rydych chi wedi'u codi heddiw. Diolch.

Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch y cyhoeddiad gan Cymwysterau Cymru yr wythnos diwethaf bod TGAU Iaith Arwyddion Prydain wedi'i hatal bellach. Rwy'n gwybod bod y TGAU yn mynd i fod ar gael o 2026 yn wreiddiol, ac yna cafodd ei gohirio tan 2027, a nawr mae wedi'i hatal, felly hoffwn i gael datganiad yn esbonio pam mae'r penderfyniad hwn wedi'i wneud. Mae etholwyr sy'n bryderus iawn am y penderfyniad hwn ac sy'n teimlo bod y gymuned fyddar yn cael ei siomi wedi cysylltu â mi. Roedden nhw'n deall bod ymrwymiad i'r TGAU hon. Rwy'n deall, yn lle'r TGAU, y byddai unedau BSL ar gael yn y cymwysterau Sgiliau Bywyd newydd, ond nid yw hyn yr un fath â'r ymrwymiad i bobl gael TGAU lawn mewn Iaith Arwyddion Prydain; nid oes ganddo'r un pwysau na chydnabyddiaeth. Felly, rwy'n gofyn am ddatganiad i geisio esbonio'r cam niweidiol iawn hwn.

Diolch yn fawr iawn, Julie Morgan. Wrth gwrs, fel y mae cyd-Aelodau ar draws y Siambr yn ei wybod, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod BSL fel iaith yn 2004, ac rydyn ni wedi ymrwymo i'r gymuned arwyddo BSL yng Nghymru, ac wrth gwrs, ni yw'r wlad gyntaf yn y DU i gynnwys Iaith Arwyddion Prydain yn ei chwricwlwm sydd, wrth gwrs, yn gam da iawn a phwysig ymlaen. Felly, mae gwaith wedi'i wneud ar hyn gydag ymarferwyr BSL ac arbenigwyr eraill, gan gynnwys aelodau o'r gymuned fyddar, i ddatblygu canllawiau ar ddylunio cwricwlwm sy'n cynnwys dilyniant mewn BSL ar gyfer defnyddwyr BSL sy'n fyddar. Felly, wrth gwrs, mae yna siom; mae siom ynglŷn â phenderfyniad Cymwysterau Cymru i atal datblygu TGAU BSL, ond rwy'n croesawu, ac fel y gwnaethoch chi sôn, eu bod nhw wedi cadarnhau y byddan nhw'n parhau i ddatblygu unedau BSL fel rhan o'r cymhwyster sgiliau newydd a fydd ar gael o 2027, a thrwy'r llwybr hwnnw, bydd dysgwyr yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu BSL ymarferol. Ac wrth gwrs, bydd yr unedau yn haws i ysgolion eu rheoli, byddan nhw'n addas ar gyfer dysgu peripatetig, a byddan nhw hefyd yn gwneud defnydd da o'r gweithlu athrawon presennol. Felly, bydd Cymwysterau Cymru, rwy'n deall, yn parhau i fonitro datblygiad TGAU BSL yn Lloegr, a bydd yn ceisio sicrhau bod y cymhwyster hwn ar gael i ysgolion yng Nghymru.

14:30

Gweinidog Busnes, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio am ddyfodol Maes Awyr Caerdydd? Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ei adroddiad ar fuddsoddiad arfaethedig Llywodraeth Cymru o £206 miliwn i'r maes awyr, wedi'i ariannu gan drethdalwyr. Fe wnaeth yr adroddiad, i bob pwrpas, dorri llawer o dyllau yng nghyflwyniad a chyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros y cymhorthdal anferth, ac yn y bôn fe gynghorodd Weinidogion i ddechrau o'r dechrau ac ailysgrifennu'r pecyn. Roedd rhai o brif feirniadaethau'r adroddiad yn cynnwys: diffyg tystiolaeth i gefnogi honiadau'r Llywodraeth bod gwir angen y cymhorthdal; diffyg craffu ar y ffigurau a gyflwynwyd gan y maes awyr; methiant i ddeall yr effaith y byddai'r cymhorthdal yn ei chael ar gystadleuaeth; ac, unwaith eto, diffyg tystiolaeth yn dangos y byddai'r cymhorthdal hwn yn newid ffocws strategol y maes awyr o oroesi ac adfer i dwf, yn y pen draw. Nodwyd ofnau yn yr adroddiad hefyd ei bod yn ymddangos mai diben y chwistrelliad ariannol hwn yw achub neu ailstrwythuro menter ffaeledig neu ansolfent. Mae honno'n elfen arbennig o bwysig, oherwydd, fel yr wyf i'n ei ddeall, os yw hynny'n wir a bod y maes awyr ar fin mynd i'r wal, yna ni all y cymhorthdal fynd yn ei flaen yn unol â Deddf Rheoli Cymhorthdal 2022. Rwy'n gofyn am ddatganiad yn nodi a fydd y Llywodraeth yn newid y cymhorthdal arfaethedig yn sylweddol, yng ngoleuni beirniadaeth yr Uned Cyngor ar Gymorthdaliadau, a fydd Gweinidogion yn ymgynghori â'r sector hedfanaeth ehangach cyn dod i benderfyniad, fel yn wir, y gwnaeth yr Uned Cyngor ar Gymorthdaliadau ei gynghori, a hoffwn i hefyd wybod i ba amserlenni y mae'r Llywodraeth yn gweithio. Byddai'n cael ei werthfawrogi'n fawr gennyf i a llawer o bobl eraill. Felly, diolch.

Wel, diolch am eich cwestiwn. Rwy'n ymwybodol iawn mai dim ond yn ddiweddar y mae Maes Awyr Caerdydd wedi cyfarfod â'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, fel maen nhw'n ei wneud, oherwydd mae'n bwysig eu bod nhw'n ymgysylltu â ni yn y Senedd, yn ogystal â Llywodraeth Cymru. Ond a gaf i egluro'r sefyllfa'n gywir? Cafodd asesiad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd o'n buddsoddiad hirdymor arfaethedig—mae hyn yn ymwneud â buddsoddi ym Maes Awyr Caerdydd—ei gyhoeddi ar 2 Hydref. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, fel y gwyddoch chi, wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig mewn ymateb. Nid ydyn ni'n mynd i wneud sylwadau, fel y nodir yn y datganiad ysgrifenedig, ar fanylion adroddiad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, ond mae angen i ni gymryd yr amser sydd ei angen i roi ystyriaeth lawn i'w asesiad. Wrth gwrs, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd maes o law, unwaith y bydd penderfyniad wedi'i wneud ar y ffordd orau ymlaen. Ond, unwaith eto, onid ydym yn gallu cydnabod pwysigrwydd ein maes awyr, a dychwelyd at y pwynt bod hyn yn ymwneud â buddsoddi mewn maes awyr i Gymru, sydd hefyd yn cyflogi dros 200 o bobl? Ac rydych chi'n gwybod hynny, oherwydd rwy'n gwybod eich bod chi wedi ymweld ag ef, Natasha, ac wedi gweld y gwaith gwych maen nhw'n ei wneud.

Trefnydd, mi fyddwch yn ymwybodol o ymchwiliad gan y BBC sy'n cynnwys honiadau newydd am y pedoffil Neil Foden, a oedd yn bennaeth ysgol yn fy etholaeth i. Mae'n bosib ei fod wedi cam-drin disgyblion am dros 40 o flynyddoedd. Hoffwn i roi ar record fy niolch diffuant i ymchwilwyr y BBC ac, yn bwysicach, i'r merched sydd wedi rhannu eu profiadau erchyll—rhai ohonyn nhw am y tro cyntaf. Mae fy nghalon i'n gwaedu drostyn nhw a dros y pedair merch ifanc a oedd yn rhan o'r achos llys diweddar. Mae'r rhaglen deledu'n codi mwy o bryderon a mwy o lawer o gwestiynau. Felly, dwi'n gofyn eto i Lywodraeth Cymru gynnal ymchwiliad cyhoeddus. Dwi'n gofyn hefyd am adolygiad annibynnol o brosesau'r cyngor. Mae'n rhaid deall beth arall aeth o'i le, er mwyn dysgu gwersi, ac mae'n rhaid gwneud hynny ar fyrder. Dwi'n deall y gofid a'r pryder sy'n cael eu teimlo, a'r dioddefwyr sydd yn bwysig yn hyn oll.

Diolch yn fawr, Siân Gwenllian. Rwy'n falch bod hyn wedi cael ei godi eto gennych chi, Siân Gwenllian.

Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn unwaith eto.

Rydych chi wedi gofyn y cwestiynau hynny o'r blaen, ac roedd hi'n bwysig bod gennym ni gwestiwn i'r Prif Weinidog hefyd. I ailadrodd, fel yr ydych chi a'r Prif Weinidog wedi'i wneud, ein meddyliau, a dewrder y dioddefwyr hynny a gamodd ymlaen.

Rwy'n cytuno â chi.

Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n edrych ar y gwersi sydd wedi'u dysgu, fel y mae'r Prif Weinidog wedi'i ddweud. Fe fyddwch chi'n ymwybodol, wrth gwrs, fod bwrdd diogelu Gogledd Cymru wedi comisiynu adolygiad o ymarfer plant ac wedi penodi adolygydd annibynnol, ond ni ddisgwylir i'r adolygiad o ymarfer plant ddod i ben am sawl mis. Ar hyn o bryd, rydym yn dal i gredu y dylid caniatáu i'r adolygiad o ymarfer plant ddod i ben cyn i unrhyw benderfyniadau ehangach gael eu gwneud. Ond, dim ond i ddweud, wrth gwrs y byddwn ni'n ystyried canfyddiadau'r adolygiad. Mae angen i ni ddeall hyd a lled unrhyw fethiannau yn y trefniadau diogelu presennol, gan sicrhau eto bod mesurau priodol yn cael eu rhoi ar waith yn ddi-oed i atal digwyddiadau o'r fath yn y dyfodol. Mewn gwirionedd, mae swyddogion addysg erbyn hyn yn adolygu diogelu plant mewn addysg, yn ymdrin â honiadau o gam-drin yn erbyn athrawon a staff eraill, ac yn ymgynghori ar ganllawiau statudol, y bwriedir iddyn nhw ddechrau, ar hyn o bryd, ar ôl i'r adolygiad o ymarfer plant gael ei gyhoeddi.

14:35

Roeddwn i'n siomedig iawn o ddarllen bod Dŵr Cymru yn cael ei ystyried yn llusgwr traed yn y diwydiant dŵr, ynghyd â dau gwmni arall. Mae'n ymddangos i mi fod y mater o ran sut rydyn ni'n trosglwyddo o system rheoli gwastraff Fictoraidd i un sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, mewn cyfnod o newid hinsawdd ac eithafion llifogydd a sychder, yn un a fyddai'n haeddu dadl yn amser y Llywodraeth ar sut rydyn ni'n rheoli ein dŵr glaw yn ogystal â'n system garthffosiaeth, fel nad ydyn ni'n gollwng ein carthion i'r afonydd a'r moroedd, a bod gennym ddigon o ddŵr hefyd pan na fydd hi'n bwrw glaw.

Diolch yn fawr, Jenny Rathbone. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet yma heddiw, y Dirprwy Brif Weinidog, o ran ei gyfrifoldebau yn ymwneud â hyn, o ran deall nawr beth mae hyn yn ei olygu o ran Swyddfa'r Gwasanaethau Dŵr a'r ymateb heddiw. Rwy'n credu bod perfformiad cymharol wael Dŵr Cymru a'i fethiant—fel y dywedwch chi, methiant mor siomedig—i gyrraedd ei holl dargedau presennol yn siomedig. Rydyn ni wedi bod yn glir ein bod ni'n disgwyl i gwmnïau dŵr yng Nghymru gyflawni'n effeithiol i gwsmeriaid ac i'r amgylchedd, sy'n hanfodol bwysig. Felly, mewn gwirionedd dyma lle mae'n rhaid i'n datganiad blaenoriaethau strategol i Ofwat a'n canllawiau i gwmnïau dŵr nodi ein disgwyliadau ar gyfer gwelliannau sylweddol ym mherfformiad cwmnïau dŵr ar gyfer y cyfnod 2025-30, yn ogystal â monitro'r hyn sy'n digwydd nawr.

Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ynghylch y protestiadau arfaethedig yn erbyn y toriadau i ryddhad ardrethi busnes ddydd Mercher nesaf ym Mhrestatyn. Fe wnes i gyfarfod â fforwm busnes Prestatyn ym mis Awst, a byddai dweud bod y morâl yn isel yn dweud llai na'r gwirionedd, Trefnydd. Mae'r nifer sy'n ymweld wedi gostwng yn sylweddol, wedi'i waethygu gan y terfyn 20 mya a chau Pontins, mae costau wedi cynyddu, a nawr mae eu rhyddhad ardrethi busnes wedi cael ei dorri o 75 y cant i 40 y cant, gan greu gwahaniaeth enfawr gyda Lloegr. Yr hyn y mae llawer o berchnogion busnes yn ei ddweud wrthyf yw mai dyma fydd yr hoelen olaf yn yr arch o bosibl ac efallai na fydd llawer ohonyn nhw'n goroesi. Fe allen ni weld rhannau helaeth o'n stryd fawr yn cau yn barhaol, gan droi Prestatyn yn dref anghyfannedd druenus, sefyllfa rwy'n siŵr sy'n debyg i drefi eraill ledled Cymru.

Felly, mae casgliad o fusnesau ar stryd fawr Prestatyn yn cynnal protest ar 16 Hydref, lle byddan nhw naill ai'n cau eu siopau neu'n papuro dros ffrynt eu siopau i brotestio yn erbyn y toriad i ryddhad ardrethi busnes ac i fynnu paredd â Lloegr. Rwy'n credu y bydd hon yn olygfa eithaf teimladwy ac y bydd yn anfon neges gref at Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r niwed y mae eu penderfyniadau cyllidebol yn ei achosi.

Felly, a gaf i ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ynghylch a fydd yn gwrando ar ofynion y protestwyr ac yn nodi'r effaith ddifrifol y mae'r toriad i ryddhad ardrethi yn ei chael ar fusnesau yn fy etholaeth i ac ar draws Cymru? Ac a wnaiff ymuno â mi i gyfarfod â phrotestwyr i wrando ar eu pryderon ac i drafod ffyrdd y gallai helpu'r busnesau hynny y mae hyn yn effeithio arnyn nhw ar stryd fawr Prestatyn? Diolch yn fawr iawn.

Rydyn ni'n mynd yn ôl nawr at gof byr iawn y Ceidwadwyr o'r rhesymau pam ein bod ni mewn sefyllfa mor enbyd: y ffordd y gwnaethoch chi ein gadael ni ar ôl 14 mlynedd o gyni ac mewn twll du gwerth £22 biliwn, yr ydym, wrth gwrs, wedi bod yn ceisio mynd i'r afael ag ef gyda dull strategol pwysig iawn, rwy'n credu, yn enwedig o ran y ffordd rydyn ni'n trawsnewid trefi gyda buddsoddi a hefyd ein polisi ardrethi busnes. Ond, yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth lle, o ran twf economaidd—ac mae gennym ni ddatganiad y prynhawn yma—mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod y cyfleoedd sydd gennym ni nawr yng Nghymru, o ran ein sefyllfa, ein polisïau a'r ffordd ymlaen, o ran sut y gallwn ni gefnogi ein trefi a'n busnesau, ac, yn wir, mae hynny'n cynnwys manwerthu. Felly, mae llawer o gyfleoedd i chi fynd ar drywydd hynny hefyd gyda'r siopau rydych chi'n mynd i fod yn cyfarfod â nhw—y sector manwerthu y byddwch chi'n cyfarfod ag ef—ym Mhrestatyn. 

14:40

A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth, jest i'r Llywodraeth fedru esbonio os ŷch chi'n credu ei bod hi'n deg bod cynghorau Cymru yn talu ffioedd sylweddol i Ystâd y Goron er mwyn cael mynediad i draethau a safleoedd a chyfleusterau oddi mewn i'w siroedd eu hunain? Dwi'n gofyn, wrth gwrs, oherwydd mae yna gynnig gan y Cynghorydd Dewi Jones o Blaid Cymru yng Ngwynedd wedi ei basio yn ddiweddar i geisio mynd i'r afael â hynny yn sefyllfa Gwynedd, sy'n gorfod talu dros £160,000 y flwyddyn mewn ffioedd. Nawr, un sir yw Gwynedd. Mi allwch chi luosogi hynny sawl gwaith drosodd, a hynny, wrth gwrs, ar adeg pan fod yna gyni difrifol yn wynebu awdurdodau lleol, ac ar yr un pryd, gyda llaw, mae Ystâd y Goron wedi gweld ei helw yn fwy na dyblu, o £443 miliwn i dros £1.1 biliwn llynedd. Felly, mi fyddai datganiad gan y Gweinidog perthnasol yn fuddiol iawn, yn y lle cyntaf i roi darlun inni o ble ŷch chi arni o ran datganoli cyffredinol Ystâd y Goron, ond yn sicr i esbonio sut mae'r Llywodraeth yn mynd i ymateb ar fyrder i sefyllfa sydd yn annheg, yn anghyfiawn ac yn anfoesol?

Diolch yn fawr, Llyr Gruffydd. Wel, mae hyn yn rhywbeth lle mae cyfarfodydd rheolaidd ag Ystâd y Goron. Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth lle rydyn ni wedi trafod materion, yn enwedig fel codi ffioedd, oherwydd mae hynny'n cael effaith wirioneddol ar ein heconomi, ac mae'n bwysig eich bod chi wedi cofnodi hynny heddiw.

A gaf i dynnu'ch sylw, os gwelwch yn dda, at ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ynghylch y sefyllfa ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys ac, yn wir, mewn byrddau iechyd eraill hefyd, rwy'n siŵr? Rydyn ni'n wynebu toriadau i'n gwasanaethau a'r posibilrwydd y bydd ein hunedau mân anafiadau yn Aberhonddu a Llandrindod yn cau hefyd. Y pryder sydd gan drigolion yw mai dyma ddechrau toriadau a fydd yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol, ac rwy'n gofyn am sicrwydd na fydd y cyfyngiadau cyllidebol sydd ar y bwrdd iechyd ar hyn o bryd yn golygu y bydd gofyn am doriadau eraill yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn. 

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n edrych ar yr hyn y mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ei ystyried, p'un a yw hyn yn ymwneud â chyllidebau. Nid wyf yn siŵr nad ydyn nhw'n gysylltiedig â chyllidebau, ac rwy'n credu bod angen egluro hynny. Ydyn nhw'n gysylltiedig â newidiadau polisi eraill? Ac, wrth gwrs, mae hynny'n rhywbeth, rwy'n credu, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystyriol iawn ohono ac yn barod i ystyried y materion hyn, ond mae'n rhaid iddo fod yn fater o, 'Beth sy'n ysgogi hwn?' a hefyd, 'Ble mae llais y claf yn hyn?' Yn amlwg, rydych chi wedi codi hyn heddiw, Jane Dodds, ac mae'n bwysig wedyn ein bod ni'n gweld beth yw'r effeithiau, beth yw'r rhesymau, beth sydd y tu ôl i hyn, o ran yr hyn sy'n cael ei ystyried yn ddatblygiadau cyllidebol.

Hoffwn i ofyn am ddatganiad clir heddiw ynghylch model cyllido diwylliant Cymru yn y dyfodol. Dangosodd sioe arddangos cerddoriaeth Cymru yn y Senedd yr wythnos diwethaf ansawdd a rhagoriaeth ysblennydd ein sefydliadau sydd wedi'u hariannu'n gyhoeddus—Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Opera Cenedlaethol Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru, Cymru Greadigol, Anthem—ac fe wnaeth hefyd gydnabod y cyfraniad economaidd anhygoel y mae'r rhanddeiliaid cerddoriaeth a oedd yn bresennol yn ei wneud i Gymru. Heddiw yn 2024, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn cael ei ddadgyllido, mae'n gwywo ac mae'n wynebu streiciau—ac nid yw'n sefydliad sy'n adnabyddus am ei ysbryd milwriaethus—ac mae'n syllu i ddyfnderoedd dinodedd o'i safle o ragoriaeth. Heddiw yn 2024, nid oes gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru unrhyw ddewis arall ar gyfer llif talent genedlaethol a dyma'r unig conservatoire yn y byd sydd yn y sefyllfa hon. Ac er gwaethaf camau mawr ymlaen gyda'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol, mae Cymru yn chwarae gêm beryglus o roulette gyda'n dyfodol diwylliannol. Ac mae'n anghywir i ddweud bod pob penderfyniad o'r fath yn cael ei wneud gan gyrff hyd braich; mae angen pennaeth a chyfeiriad strategol ar bob corff.

Felly, rwy'n gofyn am ddatganiad i'r Senedd hon, yn amlinellu amserlen yr adolygiad o strategaeth ddiwylliannol Cymru rydyn ni'n ei ddisgwyl. Ni allwn ni ddiystyru'r cysyniad oesol o ragoriaeth, conglfaen a phrif nod uchelgais artistig ar gyfer pob mileniwm, neu fel arall, rydyn ni'n gwahardd a chau pob amgueddfa, theatr ac oriel gelf ac yn canslo am byth y Gemau Olympaidd a'r holl weithgareddau artistig. Nid yw cerddoriaeth yn wahanol. Mae'n fwlch difrifol yn y strategaeth bresennol hon, ac mae wedi camgyfeirio a llywio cyllid prin iawn er niwed i'r genedl. Ac yn olaf, beth yw'r cynllun ar gyfer achub Opera Cenedlaethol Cymru a beth yw'r cynllun ar gyfer llwybr talent iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a'i adolygiad allanol cydgysylltiedig? Rwy'n aros am yr ateb hwnnw. Diolch yn fawr.

14:45

Diolch yn fawr, Rhianon Passmore, unwaith eto am eich datganiad clir o gefnogaeth i'n sector diwylliannol hanfodol bwysig yng Nghymru. Pan oeddwn i'n gyfrifol am y portffolio yn ystod misoedd yr haf, roeddwn i'n falch iawn o allu cyhoeddi'r £5 miliwn hwnnw, a oedd wrth gwrs yn bwysig iawn, ac aeth hynny'n uniongyrchol i rai o'r cyrff allweddol hynny sy'n cael eu hariannu, ond hefyd i Gyngor Celfyddydau Cymru. A nawr mae'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yn ymdrin â'r union faterion rydych wedi'u codi. Ac, wrth gwrs, mater i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, unwaith eto, yw ystyried eu blaenoriaethau, ond rwy'n gwybod mai'r hyn sydd ar ddod, o ganlyniad i ymgynghori helaeth, yw'r blaenoriaethau ar gyfer datganiad a strategaeth diwylliannol, yr wyf, wrth gwrs, yn gwybod bod y pwyllgor hefyd yn ymgysylltu â nhw fel elfen allweddol wrth ddatblygu eu polisi.

A gaf i ofyn i'r Trefnydd am ddau ddatganiad heddiw, y ddau yn ymwneud â materion clyw plant? Yn gyntaf, Trefnydd, hoffwn gefnogi galwadau am ddatganiad llafar ar y rhesymau pam mae'r TGAU mewn iaith arwyddion yng Nghymru wedi'i gollwng a pha gynigion sydd gan Lywodraeth Cymru nawr i wella nifer y defnyddwyr iaith arwyddion yng Nghymru, oherwydd mae'r prinder defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru yn cael effaith niweidiol ar y gymuned fyddar a'u gallu i gael mynediad at yr un gwasanaethau â phawb arall. 

Yn ail, Trefnydd, fel y gwyddoch chi efallai, yn Lloegr, ers 2019, mae dros 1,500 o blant wedi cael camddiagnosis o ran eu clyw, gyda rhai hyd yn oed yn cael gwybod bod popeth yn iawn pan oedd ganddyn nhw broblemau clyw sylweddol. Mae hyn wedi arwain at ychydig o dan 500 o blant yn dioddef niwed cymedrol neu ddifrifol o ran datblygiad eu lleferydd ac iaith. Yn y pen draw, mae pryderon am ddwy ran o dair o'r unedau clyw yn Lloegr, ac rwy'n credu y byddai'n ddoeth iawn ar gyfer iechyd plant yng Nghymru bod adolygiad o wasanaethau clyw yn cael ei gynnal yma fel bod modd adalw cleifion os bydd angen. Gyda hyn mewn golwg, a gaf i ofyn am ddatganiad llafar ar yr asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud neu'n bwriadu ei wneud o unrhyw gamddiagnosis posibl o golli clyw yn unedau clyw GIG Cymru? Diolch.

Diolch yn fawr. Rwyf wedi ateb y cwestiwn am atal datblygiad TGAU mewn Iaith Arwyddion Prydain. Cymwysterau Cymru sydd wedi gwneud y penderfyniad, ac rwyf wedi rhoi'r rhesymau pam mae hynny wedi'i atal. A hefyd mae'n bwysig bod Cymwysterau Cymru eu hunain yn monitro datblygiad TGAU BSL yn Lloegr, a'n bod ni, yn bwysig, yn mynd yn ôl at y ffaith mai ni yw'r wlad gyntaf yn y DU i gynnwys BSL yn y cwricwlwm.

Gwnaf, fe wnaf hefyd rannu gyda'r Ysgrifennydd Cabinet eich pryderon ynghylch a oes rhaid edrych ar y camddiagnosis hefyd o ran y sefyllfa yng Nghymru. 

Trefnydd, hoffwn gael datganiad brys gan y Llywodraeth ar unrhyw gynnydd  sydd wedi'i wneud i gyflwyno mesurau ac efallai hyd yn oed deddfwriaeth ynghylch perchenogaeth gyfrifol ar gŵn yng Nghymru. Rwyf wedi codi'r mater hwn yn y Senedd sawl gwaith o'r blaen, gan gynnwys gyda chynnig deddfwriaethol Aelod, yn sgil nifer o ymosodiadau difrifol ac angheuol gan gŵn yn fy rhanbarth i. Ddoe, roedd ymosodiad difrifol iawn arall yn fy rhanbarth, y tro hwn yn Nant-y-glo, ar ferch 12 oed gan yr hyn a oedd yn ymddangos fel ci tebyg i gi bully XL. Mae'r anafiadau'n erchyll a byddan nhw'n newid ei bywyd, ond fe allen nhw fod wedi bod yn llawer gwaeth oni bai am weithredu cyflym gan dad y ferch, a ddaliodd y ci i lawr nes bod yr heddlu yn cyrraedd. Mae angen datganiad gan y Llywodraeth yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ar yr hyn sy'n digwydd o ran hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn. Byddwn hefyd yn gofyn i'r gwaith ar y mater hwn gael ei gyflymu er mwyn cadw ein cymunedau a'n dinasyddion yn ddiogel. Diolch yn fawr.

14:50

Diolch yn fawr, Peredur, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn eich bod chi wedi codi hyn heddiw ac, mewn gwirionedd, mae gennym ni gwestiynau i'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet yfory. Mae'n warthus bod gennym ni'r digwyddiadau trasig hyn, oherwydd mae cymaint o berchenogaeth gyfrifol ar gŵn yng Nghymru, onid oes? Rydyn ni'n gwybod hynny, ac rydyn ni'n gwybod am waith y Dogs Trust a llawer o rai eraill i ysgogi hynny. A lle y gallwn ni chwarae rhan, fe wnawn ni hynny'n sicr. Ac rwy'n siŵr, mewn cwestiynau i'r Dirprwy Brif Weinidog yfory, efallai y bydd yn gallu dweud mwy am y ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb.

Rwy'n galw am ddatganiad llafar brys gan yr Ysgrifennydd iechyd ar ofal deintyddol y GIG yn y gogledd. Ar 18 Medi, anfonodd etholwr blin a siomedig e-bost ar ôl darllen ar y cyfryngau cymdeithasol na fydd practis deintyddol y Fali ar Ynys Môn, o fis Rhagfyr 2024, yn cynnig gwasanaethau'r GIG. Gan ailadrodd profiad llawer o etholwyr a oedd wedi cysylltu â mi hyd yn oed cyn hyn, roedd wedi ffonio llawer o ddeintyddion ar yr ynys ond ni allai ddod o hyd i un a oedd yn cynnig gwasanaethau'r GIG. Nododd y postiad cyfryngau cymdeithasol gan dîm practis deintyddol y Fali,

'mae newidiadau diweddar yng nghytundebau'r GIG a'r ffordd y mae'n rhaid i ni ddarparu triniaeth wedi ei gwneud hi'n amhosibl parhau i gynnig y safon o ofal yr ydym yn credu y mae ein cleifion y GIG yn ei haeddu.'

Dim ond y diwrnod canlynol y gwnaeth y bwrdd iechyd roi wybod i Aelodau'r Senedd. Mae'n ddau ddegawd erbyn hyn ers i ddeintyddion yn y gogledd rybuddio Pwyllgor Rhanbarthol Gogledd Cymru y Cynulliad ar y pryd y byddem yn wynebu argyfwng deintyddol y GIG pe na bai Llywodraeth Cymru yn gwrando, ac mae angen i ni wybod a fydd Llywodraeth Cymru nawr yn gofyn i'r proffesiwn deintyddol beth sydd angen i Lywodraeth Cymru ei wneud er mwyn dechrau unioni pethau. Rwy'n galw am ddatganiad llafar yn unol â hynny.

Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, rwy'n gwybod y byddech chi'n croesawu'r ffaith bod 93,000 o gleifion GIG newydd yn y gogledd. Er hynny, mae'n siomedig pan fydd deintydd yn penderfynu lleihau ei ymrwymiad i'r GIG neu ddod â'r ymrwymiad hwnnw i ben, ac rydyn ni'n cofio'r ffaith eu bod nhw'n ymarferwyr annibynnol, hunangyflogedig. Gallan nhw ddewis a ydyn nhw eisiau darparu triniaeth y GIG neu a ydyn nhw eisiau darparu gofal preifat. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod, er enghraifft, bod gwerth £1.5 miliwn o gyllid wedi'i ddyfarnu yn ddiweddar i bractis, gan gynnwys practis yn Amlwch, ac mae yna ddyfarniadau cyllid eraill y mae Betsi Cadwaladr yn eu gwneud yn ddiweddarach eleni. Rwy'n credu bod yr academi newydd yn y gogledd yn bwysig iawn, ac mae hynny'n helpu hefyd o ran darparu deintyddiaeth y GIG yng Nghymru. Ond rwy'n falch iawn o adrodd bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn mynd i wneud datganiad ar ddeintyddiaeth ledled Cymru, o ran y darlun llawn o lle rydyn ni, ac fe fydd yn canolbwyntio ar lle y gallwn ni ymyrryd, lle y gallwn ni ariannu, ac, yn wir, effaith gadarnhaol y contract deintyddol newydd hefyd.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, yn amlinellu'r sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â chyffordd Rhaglan yr A40 yn fy etholaeth i, Trefynwy? Fel y gwyddoch chi mae'n siŵr, mae llawer iawn o ddamweiniau wedi bod yn ystod y blynyddoedd, ac wedi'u cofnodi gan Heddlu Gwent, a hyd yn oed yr ystadegau diweddaraf hefyd, sy'n ychwanegu at hynny. Felly, byddwn i'n croesawu datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn amlinellu'r sefyllfa bresennol o ran y gwelliannau diogelwch ar y gyffordd, ac a allai'r datganiad gynnwys ymrwymiad i gyhoeddi'r astudiaeth hirddisgwyliedig ar ddiogelwch ar y ffyrdd. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Peter Fox. Fe wnaf i'n siŵr bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn ymateb i'r ymholiad penodol hwnnw o ran cylchfan Rhaglan.

14:55

Trefnydd, rwy'n ddiolchgar am eich ymateb i gais fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, am ddatganiad ychydig funudau yn ôl, oherwydd mae gwasanaethau deintyddol a mynediad at ddeintyddion y GIG yn bwysig ledled Cymru gyfan. Byddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog, yn ei ddatganiad ar wasanaethau deintyddol, ddweud rhywfaint am sut mae'n bwriadu monitro cynnydd yn erbyn ei uchelgeisiau ar gyfer gofal deintyddol y GIG yng Nghymru. Ond rwy'n ddiolchgar, yn gyntaf oll, am y datganiad a fydd yn dod maes o law. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr. Rwy'n credu, Sam, fy mod wedi dweud fy nweud, ac y dylwn ni drosglwyddo nawr i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ddilyn hynny.

Diolch, Llywydd. Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan y Prif Weinidog, yn dilyn y newyddion eithaf rhyfeddol am wariant Llywodraeth Cymru yn America? Mae rhai o'r costau anferth yn yr Unol Daleithiau yn cynnwys bil bwyd ar gyfer Zou Zou's, bwyty arbennig yn Efrog Newydd, a ddaeth i gyfanswm o bron i £16,000 ar gyfer digwyddiad Dydd Gŵyl Dewi. A beth oedd ar y fwydlen? Saladau am $29, cebab cimwch am $51, a sglodion Ffrengig am $12—ymhell o fod yn ddathliad o fwyd a diwylliant Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi. Cafodd dros £2,300 hefyd ei wario mewn bar Gwyddelig o'r enw Donnelly's yn Efrog Newydd, pan fo bar Cymreig yn Efrog Newydd y mae pobl o Gymru yn berchen arno ac yn ei weithredu. A allai'r Prif Weinidog amlinellu pa rwystrau a gwrthbwysau sydd ar eu gwariant, pa ddadansoddiad cost a budd sydd wedi'i wneud, os o gwbl, a sut mae'r gwariant hwn yn helpu i ddenu mewnfuddsoddiad i Gymru neu, yn wir, i gryfhau rhwydwaith diaspora Cymru os nad yw busnesau a rhwydweithiau allweddol o dras Gymreig dramor yn cymryd rhan hyd yn oed?

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Rwy'n credu y byddai'n bwysig iawn cael yr adborth, ac rwy'n siŵr y gall y Prif Weinidog ei ddarparu, o ran effaith y digwyddiadau hynny a gynhaliwyd yn Efrog Newydd. Allwch chi ddim tanamcangyfrif y digwyddiadau sy'n cymryd lle ar draws y byd i gyd ar Ddydd Gŵyl Dewi, ac rwy'n credu bod rhai ohonon ni wedi bod—. Fe es i i un yn Nulyn y llynedd, lle mae busnesau'n dod i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Mae busnesau sy'n gweithredu yng Nghymru yn dod i'r digwyddiadau hyn—ac maen nhw ar draws y byd, y digwyddiadau hyn—ac maen nhw'n canmol y buddsoddiad maen nhw'n ei wneud yng Nghymru, ac maen nhw eisiau ei ddathlu. [Torri ar draws.] Ond a gaf i ddweud ei bod yn bwysig—

Hoffwn i glywed yr ateb gan y Trefnydd, felly rwy'n gobeithio y bydd Aelodau ar bob ochr, gan gynnwys Gweinidogion, yn sicrhau y gallaf glywed yr ymateb, os gwelwch yn dda.

Rwy'n credu bod angen i chi—. Yn hytrach na chwilota, fel mae'n ymddangos eich bod chi a'ch tîm o staff eisiau ei wneud, mewn cydweithrediad â'r Daily Telegraph llawer iawn o'r amser, rwy'n credu bod gwir angen i ni ei gydnabod, ac efallai y gofynnaf i'r Prif Weinidog wneud datganiad ar Ddydd Gŵyl Dewi a chanlyniad y digwyddiadau a gynhaliwyd yn gynharach eleni.

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Iechyd Meddwl a Llesiant

Eitem 3 heddiw yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, a galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Sarah Murphy.

Diolch. Ddydd Iau, rydyn ni'n dathlu Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, a hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am ein rhaglen waith i wella, diogelu a chefnogi iechyd meddwl a llesiant pobl ledled Cymru.

Yn unol â blaenoriaethau'r Prif Weinidog, rwy'n canolbwyntio ar leihau amseroedd aros ar gyfer cymorth a thriniaeth iechyd meddwl. Mae hyn yn rhan fawr o'n gweledigaeth hirdymor i drawsnewid gwasanaethau ac i gryfhau ein dull o wella iechyd meddwl a llesiant. Mae hyn yn cydnabod y meysydd ehangach o fywyd a chymdeithas a all gael effaith ar ein hiechyd meddwl, o dai a chyflogaeth i arian a dyled ac addysg. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y strategaethau iechyd meddwl a llesiant ac atal hunanladdiad a hunan-niweidio drafft, sydd wedi'u cynhyrchu ar y cyd a'u llywio gan gyfnod estynedig o ymgysylltu cyn ymgynghori. Daeth yr ymgyngoriadau i ben ar 11 Mehefin ac rydyn ni heddiw yn cyhoeddi'r adroddiadau ymgynghori, sy'n rhoi crynodeb o'r ymatebion a ddaeth i law. Cafwyd dros 370 o ymatebion i'r ymgyngoriadau ar-lein. Yn gyffredinol, mae'r ymatebion yn dangos ein bod ni'n canolbwyntio ar y meysydd cywir yn y strategaethau, ond maen nhw wedi rhoi llawer o wybodaeth ddefnyddiol a gwerthfawr i ni a fydd yn helpu i gryfhau ein dull.

O ran y strategaeth iechyd meddwl a llesiant, mae cefnogaeth gref i barhau i ddatblygu ein dull trawslywodraethol o ymdrin â phenderfynyddion ehangach iechyd meddwl. Byddaf yn parhau i weithio gyda fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet i wneud hyn, ond mae angen i ni gryfhau ein dull gweithredu er mwyn sicrhau bod cefnogaeth gydgysylltiedig gan iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â'r trydydd sector, i roi cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n cael ei arwain gan anghenion.

Mae'r heriau allweddol i wasanaethau ein GIG ni'n cynnwys rhai o ran gweithlu, gwasanaethau digidol, data, a'r ystad, ac er fy mod i'n disgwyl gweld canolbwyntio ar y rhain yn y strategaeth derfynol, rwyf i wedi gofyn i swyddogion fwrw ymlaen â'r gwaith yn y meysydd hyn nawr. Mae cyfrifoldebau gweinidogol fy mhortffolio i'n cynnwys gwasanaethau digidol a thechnoleg, ac os ydym ni'n dymuno gwella gwasanaethau, mae'n rhaid i ni wella'r ffordd yr ydym ni'n defnyddio technoleg ddigidol a data. Rwy'n benderfynol o sbarduno'r newid hwn.

Mae ein strategaeth ddrafft ar gyfer atal hunanladdiad a hunan-niweidio yn nodi ein huchelgais i ostwng cyfraddau hunanladdiadau, ac mae honno'n flaenoriaeth allweddol i mi hefyd. Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad wedi tynnu sylw at y ffaith fod angen i ni wneud mwy i nodi a mynd i'r afael â ffactorau ac amgylchiadau sy'n cynyddu'r risg o hunanladdiad, i sicrhau y bydd cyfleoedd mwyaf eang posibl ar gael ar gyfer atal. Trwy barhau i ddatblygu ein gwyliadwriaethau amser real pryd yr amheuir bydd ymgais o hunanladdiad, a buddsoddiad yn y tîm atal hunanladdiad a hunan-niweidio cenedlaethol yng ngweithrediaeth y GIG, gosodwyd y sylfeini ar gyfer ysgogi'r newidiadau hyn mewn gwirionedd. Roedd yr adborth yn eglur hefyd o ran yr angen am fwy o amlygrwydd i hunan-niweidio yn y strategaeth derfynol.

Yn ogystal â chynyddu argaeledd y gefnogaeth, mae hi'n hanfodol ein bod ni'n cynyddu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a chydymdeimlad hefyd yn y gwasanaethau a'r gymdeithas, fel bydd pobl yn teimlo yn ddigon hyderus i chwilio am gymorth heb ofni cywilydd na beirniadaeth. Ar draws y ddwy strategaeth, mae hi'n amlwg fod angen i ni wneud mwy o ran atal, lleihau defnydd a chynnig gwell cefnogaeth a thriniaeth i'r rhai sy'n defnyddio sylweddau, gan gynnwys dileu'r rhwystrau i'r rhai sydd â chyflyrau iechyd meddwl sy'n digwydd yn gyfamserol. Mae yna gysylltiad amlwg ag iechyd meddwl ac atal hunanladdiad, ac fe fydd hwn yn faes allweddol i mi ganolbwyntio arno wrth symud ymlaen. Roedd yna gefnogaeth gref hefyd i fabwysiadu dull sy'n seiliedig ar drawma, ac fe fyddwn ni'n parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid, gyda gwasanaethau a defnyddwyr, wrth i ni gwblhau'r ddwy strategaeth, gan ganolbwyntio ar gyd-gynhyrchu a gwrando ar leisiau defnyddwyr gwasanaethau. Rwy'n awyddus i gyhoeddi'r ddwy strategaeth fawr a'r cynllun cyflawni hwn yn gynnar yn y flwyddyn nesaf, a'r rhain a fydd yn arwain cyfeiriad y gwaith i'r degawd nesaf.

Dirprwy Lywydd, fe hoffwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau hefyd am wasanaeth '111, Pwyso 2'. Mae hyn yn crynhoi'r dull gweithredu 'dim drws anghywir' wrth ymdrin â gofal iechyd meddwl yng Nghymru ac yn estyn cefnogaeth 24/7 i bobl ag anghenion brys gyda'u hiechyd meddwl. Rwyf i wedi bod yn ymweld â nifer o wasanaethau ers i mi gael fy mhenodi i'r gwaith gweinidogol hwn, gan gynnwys '111, Pwyso 2', ac rwyf i wedi gweld drosof fy hun y dull teimladwy sydd gan ein staff iechyd meddwl ymroddedig. Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion newydd gwblhau adolygiad o'r flwyddyn gyntaf o'i weithrediad. Fe dderbyniwyd mwy na 100,000 o alwadau—ac rwy'n credu ein bod ni wedi derbyn cymaint â 120,000 heddiw—yn y 12 mis cyntaf, ac fe arweiniodd 99 y cant o'r galwadau hynny yn ystod cyfnod yr adolygiad at ostyngiad mewn pryder, gydag unigolion yn cael ymateb teimladwy ac amserol.

Mae'r adolygiad yn gwneud argymhellion i gynnal a datblygu '111, Pwyso 2' ymhellach a'n bwriad ni yw cysylltu gwasanaethau drws ffrynt fel ein noddfeydd argyfwng a'n gwasanaethau iechyd meddwl gofal sylfaenol i ddarparu cymorth di-dor. Yn allweddol, mae'r adolygiad hwn yn rhoi sicrwydd ein bod ni ar y trywydd iawn, ond mae hwnnw'n cydnabod nad yw'r galw na'r angen am wasanaethau yn aros yn llonydd chwaith; mae'r Coleg Brenhinol wedi awgrymu adolygiadau ailadroddol pellach wrth i'r gwasanaeth barhau i ddatblygu, ac mae '111, Pwyso 2' yn enghraifft dda o drawsnewid ac arloesi gwasanaethau, sy'n creu effaith wirioneddol ac ystyrlon ar gyfer pobl Cymru.

Thema Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar gyfer eleni yw pwysigrwydd cefnogi iechyd meddwl yn y gweithle, sydd â manteision amlwg i unigolion, sefydliadau a chymunedau. Mae gwaith da ac ystyrlon yn llesol i'n hiechyd meddwl a'n llesiant ni, ac felly mae hi'n bwysig ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i helpu pobl i barhau yn eu gwaith neu ddychwelyd iddo. Mae ein gwasanaeth cymorth yn y gwaith yn darparu cymorth i helpu pobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl neu gorfforol i aros yn eu gwaith, ac mae'n helpu'r rhai sy'n absennol oherwydd salwch i ddychwelyd i'w gweithle yn gynt. Rhwng misoedd Ebrill 2023 a Mehefin 2024, roedd y gwasanaeth yn cefnogi mwy na 3,500 o bobl, y rhan fwyaf ohonyn nhw mewn perygl o fod yn absennol o'r gwaith oherwydd cyflwr eu hiechyd. Mae'r gwasanaeth yn cefnogi busnesau i helpu i greu gweithleoedd iachach hefyd drwy gyflawni gwelliannau o ran arferion a pholisïau iechyd a llesiant. Fe ategir hyn gan ein rhaglen ni, Cymru Iach ar Waith, sy'n cael ei chyflawni gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Rydym ni'n helpu pobl sy'n gwella o afiechyd meddwl a/neu ddefnyddio sylweddau nad ydyn nhw'n gweithio, drwy gyfrwng ein gwasanaeth mentora cymheiriaid di-waith. Mae'r gwasanaeth wedi helpu pobl i chwilio am waith ac ennill cymwysterau, gyda 430 o bobl wedi cael eu helpu i gael gwaith. Rydym ni'n ariannu dau brosiect lleoli a chefnogi unigol ar y cyd â Llywodraeth y DU hefyd, sy'n cael eu cynnig gan fyrddau iechyd prifysgol Hywel Dda a Chaerdydd a'r Fro. Fe fydd y rhain yn estyn cymorth iechyd a chyflogaeth integredig i fwy na 1,300 o bobl ag anableddau corfforol neu feddyliol i'w helpu nhw i mewn i waith neu tuag ato erbyn mis Mawrth 2026.

Dirprwy Lywydd, rwyf i am gloi gydag anogaeth i bob un ohonom ni gofio bod gennym ni gyfrifoldeb i gefnogi gwell iechyd meddwl a llesiant yng Nghymru. Fe allai hynny ddigwydd drwy gymryd camau i wella ein hiechyd meddwl ein hunain neu drwy wella ein dealltwriaeth ni o'r modd y gallwn ni gefnogi pobl eraill sydd mewn trafferthion. Mae rhan yn y gwaith hwn i bob un ohonom ni. Diolch.

15:05

Diolch yn fawr iawn i chi am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog. Yn gyntaf, fe hoffwn i ddweud fy mod i'n falch o ymateb i'r datganiad hwn heddiw, ac mae hi'n bleser cael siarad fel llysgennad newydd i Bipolar UK. Mae hi wedi bod yn anrhydedd i mi ymgymryd â'r gwaith hwnnw'r wythnos hon a hithau'n wythnos Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Fel rydych chi'n gywir i'w ddweud, Gweinidog, thema eleni ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yw iechyd meddwl yn y gweithle. Fe amcangyfrifir bod gan 15% o weithwyr y DU eisoes gyflwr iechyd meddwl, nid oes digon o drafodaeth ynglŷn â'r mater hwn, ac iechyd meddwl oedd y pumed rheswm mwyaf cyffredin dros absenoldeb oherwydd salwch yn 2022. Mae hyn yn cynyddu, gyda llawer yn y sector preifat yn dweud bod nifer o blith aelodau iau'r staff yn cymryd diwrnodau i ffwrdd oherwydd eu hiechyd meddwl yn aml.

Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog heddiw, y bu cryn ddisgwyl amdano. Rwy'n croesawu strategaeth a'r cynllun cyflawni iechyd meddwl a llesiant newydd, a ddylai fod wedi cael ei gwblhau dro yn ôl. Mae hi'n siomedig, yn y lle cyntaf, mai dyma'r datganiad cyntaf i ymdrin ag iechyd meddwl i ni ei gael ers yma ers pan oedd Mark Drakeford yn Brif Weinidog. Ond rwy'n falch er hynny ei fod gerbron y Senedd heddiw. Gyda'r strategaeth newydd hon, mae angen mwy o sicrwydd arnom ni y bydd y strategaeth hon yn cael ei gweithredu, ac mae angen sicrwydd arnom ni y bydd yna ganolbwyntio ar gyflawni.

Gyda strategaethau iechyd meddwl y gorffennol, ni welsom ni'r canlyniadau angenrheidiol, a bu methiannau dro ar ôl tro o ran cyflawni. Hefyd, a hynny'n briodol, fe fu mwy o ganolbwyntio ar lesiant yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond fe geir pryderon y bydd hynny'n dod ar draul ansawdd y gofal i'r rhai sydd â salwch meddwl difrifol. Fe ddylid canolbwyntio ar hunanladdiad hefyd, y mae'r cyfraddau yn uwch yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o'r DU, a gwrywod sy'n cyfrif am tua thri chwarter y marwolaethau oherwydd hunanladdiad, yn enwedig y rhai rhwng 25 a 44 oed. Mae hunanladdiad yn fwy cyffredin yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig hefyd, gyda hunanladdiad yn digwydd ar ddwywaith y gyfradd mewn ardaloedd difreintiedig o'i chymharu â'r ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Mae iechyd meddwl gwael yn effeithio ar ffermwyr ar gyfradd anghymesur hefyd, ac fe godwyd hynny sawl tro gan fy nghyd-Aelod, James Evans, gyda 95 y cant o ffermwyr y DU o dan 40 oed yn nodi iechyd meddwl gwael fel un o'r problemau cuddiedig mwyaf sy'n wynebu ffermwyr heddiw, fel yr amlygwyd hynny gan y Farm Safety Foundation. Yn ôl data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn anffodus, fe gafodd 36 o hunanladdiadau eu cofrestru yng Nghymru a Lloegr yn achosion unigolion a oedd yn gweithio yn y diwydiant ffermio ac amaethyddol yn 2021. Mae hi'n bwysig i'r strategaeth, felly, gynnwys dull gweithredu a anelir tuag at atal hunanladdiad ar gyfer nodi pa garfannau o'r boblogaeth sydd mewn mwy o berygl a sicrhau bod adnoddau yn cael eu cyfuno yn y meysydd hynny.

Rydym ni'n clywed llawer iawn am feddygaeth ataliol, ac mae angen dull ataliol arnom ni i ymdrin ag iechyd meddwl hefyd. Mae hyn yn golygu arfogi athrawon yn ogystal â rhai sy'n gweithio gyda phobl ifanc, yn arbennig felly, i adnabod arwyddion hunan-niweidio a chanfod y cymorth priodol. Mae teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid oherwydd hunanladdiad yn dweud yn aml fod y cymorth yn dod pan fo hi'n rhy hwyr, a'u bod nhw'n cael trafferth cael gafael ar y cymorth angenrheidiol yn yr amser priodol. Felly, mae hi'n rhaid i honno fod yn flaenoriaeth i'r strategaeth. Rwy'n eiddgar iawn i ddeall sut y bydd Llywodraeth Cymru yn hwyluso'r berthynas rhwng y gwahanol gyrff i sicrhau y bydd hyn yn gweithio.

Yn gyffredinol, mae Cydffederasiwn y GIG yn cytuno bod y strategaeth yn cymryd camau cadarnhaol hefyd tuag at ddull ar sail y boblogaeth o wella canlyniadau iechyd meddwl a llesiant yn ogystal â lleihau anghydraddoldebau gyda phrofiadau a chanlyniadau. Maen nhw wedi tynnu sylw, fel roeddwn i'n sôn, at y rheidrwydd i ystyried amddifadedd yn y strategaeth gyda rhagor o fanylder ac mae'n rhaid sefydlu dull cyfannol sy'n cydnabod yr effaith y mae amddifadedd yn ei chael ar iechyd meddwl.

Rwy'n falch o glywed y Gweinidog yn siarad am bwysigrwydd amseroedd aros hefyd a godwyd, wrth gwrs, sawl gwaith yn y Siambr hon. Ond, yn gyffredinol, fe hoffwn i glywed sut mae'r Gweinidog yn bwriadu sicrhau y bydd y strategaeth yn llwyddo lle methodd eraill a sut mae Llywodraeth Cymru am sicrhau y bydd y strategaeth yn cael ei chyflawni gyda chanlyniadau gwirioneddol. Fe hoffwn i gael gwybod sut mae gwasanaethau ataliol ac addysg iechyd meddwl yn cael eu grymuso a sut mae Llywodraeth Cymru am sicrhau y bydd y strategaeth yn cynnwys teilwra'r gwasanaethau i rannau yn y gymdeithas yng Nghymru sy'n teimlo'r effeithiau fwyaf. Diolch yn fawr iawn i chi.

Diolch yn fawr iawn i chi, Gareth. Rwy'n credu, yn ddiffuant, bod eich cyfraniad chi'n dangos pa mor eang yw'r pwnc hwn. Mae gen i, fel gwelwch chi, bethau o'm cwmpas i baratoi ar gyfer cwmpasu'r holl bethau yr ydych chi wedi bod yn sôn amdanyn nhw. Ond mae hynny oherwydd bod cymaint wedi cael ei gynnwys ynddo.

Roeddwn i'n gobeithio y byddwn i'n cael y cyfle, hefyd, i ddiolch i chi yn y Siambr ar ddod yn llysgennad i Bipolar UK. Roeddwn i'n teimlo'n gyffrous iawn ac yn falch iawn hefyd, ac yn falch o'ch gweld chi'n siarad mor agored wrth rannu eich profiad byw. Rwy'n credu bod hynny'n ysbrydoli; rwy'n credu bod hynny'n gwneud gwahaniaeth. Ac rwy'n cytuno â chi'n llwyr fod yr amseroedd aros ar gyfer diagnosis o anhwylder deubegynol yn rhy faith yma ac yn Lloegr hefyd, ac mae'n rhaid gwneud rhywbeth ynghylch hynny, ac fe fydd hynny'n rhan o'r strategaeth iechyd meddwl. Fe fyddwn i'n falch iawn o gyfarfod â chi i drafod hyn gyda mwy—a bod yn onest, fe fyddai hynny o gymorth mawr, yn fy marn i.

Roeddwn i'n awyddus i ddweud, serch hynny, fod fy nghyd-Aelod Cabinet Jayne Bryant yn y Siambr ac fe wnaeth hi ddatganiad yma ym mis Mai, felly rwy'n eich sicrhau chi nad ydym ni wedi gadael pethau mor hir â hynny. Felly, a bod yn deg â'r Ysgrifennydd Cabinet, fe gafwyd datganiad ym mis Mai yn bendant; rwy'n cofio hynny'n dda.

Ond roeddwn i'n awyddus hefyd i gyffwrdd â'r hyn yr oeddech chi'n ei ddweud am iechyd meddwl a llesiant. Fe ddywedaf i, gan fy mod i yn y swydd weinidogol hon, fod iaith yn bwysig iawn. Mae iaith yn bwysig bob amser, ond rwy'n teimlo hynny i raddau mwy gyda'r portffolio hwn oherwydd bod iaith yn gallu golygu gwahanol bethau a bod â gwahanol effeithiau ar wahanol bobl fel codi cywilydd a dwyn atgofion annifyr. Nid wyf i'n dymuno i bobl gredu, trwy ymgorffori llesiant yn hyn, fod hynny'n golygu nad yw hwn yn rhywbeth mor ddifrifol rywsut—iechyd meddwl a llesiant yw hyn. Ac mewn gwirionedd, fe gefais gymaint o adborth yn mynegi nad oedd pobl yn dymuno i hyn ddod o dan iechyd meddwl yn unig, roedden nhw'n dymuno i hyn fod â'r agwedd honno o ymwneud â llesiant hefyd. Felly, rwy'n ystyried yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud, ond fe geir awgrymiadau ieithyddol yn hyn o beth yr wyf i bob amser yn awyddus i fynd i'r afael â nhw.

Rwyf i am ddweud gair yn benodol am yr hyn y gwnaethoch chi ei godi am y gymuned ffermio, oherwydd fe godwyd hynny gan lawer o gyd-Aelodau. Rwy'n ymwybodol iawn fod gweithwyr amaethyddol a ffermio yn wynebu pwysau unigryw, gan gynnwys oriau gwaith hir, bygythiadau cynyddol o anafiadau corfforol a phryderon ariannol hefyd, ac mae hi'n bwysig iawn eu bod nhw'n cael y gwasanaeth arbennig hwnnw sy'n cael ei deilwra ac yn cael ei gyflwyno drwy gyfrwng eu cymunedau nhw eu hunain. Fe fues i'n ymweld â'r Sioe Frenhinol eleni, ac roedd honno'n wych, ac roeddwn i yno pan lansiodd y Samariaid eu prosiect nhw Ein Ffermio, Ein Dyfodol, ac roedd llawer o bobl ifanc yno, hefyd, a oedd yn rhywbeth gwirioneddol gadarnhaol yn fy marn i—ffermwyr ifanc yn dod drwodd ac yn siarad. Fe ddysgais i lawer, hefyd, am anghenion amrywiol y gymuned honno, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dros ben eu bod nhw'n cael cyfle i fynegi'r hyn sydd ei angen arnyn nhw. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu mwy na £65,000 i Sefydliad DPJ i wella'r ddarpariaeth o gymorth profedigaeth i'r gymuned amaeth eisoes—eto, am lawer o'r rhesymau y gwnaethoch chi eu crybwyll nhw.

O ran y gwaith ataliol, mae llawer o hyn yn cyfeirio yn ôl at y datganiad a roddais i heddiw am Gymru Iach ar Waith, Cymru sy'n iachach i bawb. Rwy'n credu bod yr hyn yr ydych chi'n ei wneud i leihau'r gwarthnod a chodi'r ymwybyddiaeth yn rhan enfawr o hynny. Rwy'n credu mai'r hyn yr wyf i'n ei glywed gan lawer o bobl yw ei fod yn ymwneud â dilyniant, ac mae hynny'n wir am bob agwedd ar iechyd meddwl; pryd bynnag y byddwch yn dod i gysylltiad â chymorth iechyd meddwl, os ydych chi'n ffonio '111, Pwyso 2' neu sut bynnag y gwnewch chi hynny, mae angen i bobl gael rhywun i holi sut mae hi arnyn nhw wedyn hefyd. Mae angen iddyn nhw allu dod yn ôl i gael cymorth pe byddai angen hwnnw arnyn nhw. Felly, dim ond i'ch sicrhau chi bod hwnnw'n rhywbeth yr wyf i'n ymwybodol iawn ohono ac rwy'n gobeithio symud ymlaen gyda'r mater yn y dyfodol hefyd. Rwy'n gobeithio fy mod i wedi ymdrin â phopeth, ond os na wnes i, gadewch i ni gael cyfarfod ac fe wnaf i ateb eich cwestiynau eraill i gyd, Gareth. Diolch.

15:10

Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am y datganiad yma. Croeso i'r swydd a phob lwc efo'r swydd yma. Dwi am ddechrau fy nghyfraniad, os caf, drwy ddiolch i'r holl elusennau a chyrff trydydd sector sydd yn gwneud gwaith mor werthfawr yn y maes yma. Gaf i hefyd ddiolch i Gareth Davies fan hyn am ei ddewrder yn siarad allan am ei brofiadau personol ei hun? Roedd o'n gam dewr iawn ar ei ran, a dwi am estyn ein diolch iddo fo a hefyd i’w wraig a’i blant a'i anwyliaid, sydd wedi dangos eu bod yn gefn iddo. Mae rôl teulu a chyfeillion mor bwysig, wrth gwrs, wrth fynd i’r afael â chyflyrau iechyd meddwl.

O’r diwedd, mi rydym ni yn dechrau gweld y stigmas niweidiol yn cael eu herio, a mwy o barodrwydd i drafod materion iechyd meddwl mewn awyrgylch agored. Ond mae yna lawer iawn mwy i’w wneud er mwyn sicrhau bod darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl yn gymesur ag anghenion ein poblogaeth. A pha gyhuddiad mwy damniol o hyn na'r ffaith bod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni yn digwydd yn syth ar ôl y penderfyniad i gau uned mân anafiadau Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli yn ystod oriau'r hwyr? Bydd gan hyn, fel y mae prif swyddog gweithredol Mind yn Llanelli wedi'i nodi'n gwbl gywir, oblygiadau andros o niweidiol o ran mynediad y cyhoedd at dimau argyfwng a chymorth iechyd meddwl ar adeg o'r dydd pan all materion iechyd meddwl fod yn arbennig o heriol.

Mae hyn, wrth gwrs, yn adlewyrchiad o ddiffygion ehangach yn y system. Mae nifer y gwelyau iechyd meddwl wedi disgyn o dros 2,000 yn 2010 i 1,271 eleni, sef y lefel isaf erioed o gapasiti; yn yr un modd y gweithlu, gyda dim ond 7.2 o nyrsys ymgynghorol iechyd meddwl yng Nghymru ar hyn o bryd—y lleiaf erioed. Fel y dywed yr RCN, yn syml, mae maint y gweithlu iechyd meddwl yn annigonol i’r gofynion sydd yna.

Rhan o’r broblem, a dwi’n syrffedu ar orfod ailadrodd hyn, ydy’r diffyg data penodol ar lefelau staffio yn y sector iechyd meddwl. Mae’r wybodaeth yma yn gwbl allweddol er mwyn sicrhau gwasanaeth da yn y llefydd iawn ar yr amser iawn, ac roeddwn i'n hynod falch o glywed y Gweinidog yn pwysleisio pwysigrwydd yr angen am ddata cywir yn ei datganiad. Felly, hoffwn ddiweddariad oddi wrth y Gweinidog, os gwelwch yn dda, yn ei hymateb am sut mae’r Llywodraeth am fynd i’r afael â’r hen broblem yma.

Mae yna fylchau deddfwriaethol i’w hystyried yn y cyd-destun yma hefyd. Tra bod y Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 wedi bod yn llwyddiant ar y cyfan o ran cynyddu’r gweithlu, nid yw section 25B, fel y mae'n cael ei adnabod, wedi’i ymestyn eto i gynnwys nyrsys iechyd meddwl. Felly, gaf i ofyn am ddiweddariad gan y Gweinidog am amserlen? Erbyn pryd fydd y newid yma yn cael ei weithredu?

Yn ogystal â hyn, mae angen ystyried cryfhau’r fframwaith deddfwriaethol o amgylch y defnydd o'r hyn sy'n cael ei alw'n ‘restrictive practice’ mewn wardiau iechyd meddwl, arfer y mae arbenigwyr yn y maes wedi pwysleisio y dylid ei ddefnyddio dim ond fel y defnydd olaf un. Unwaith eto, mae’r data ar hyn o bersbectif Cymru yn hynod anfoddhaol, ond gan fod y Llywodraeth eisoes wedi datblygu canllawiau er mwyn gostwng y defnydd o restrictive practice cyn belled â phosib, tybed a all y Gweinidog gadarnhau a oes unrhyw fwriad i roi'r canllawiau yma ar sylfaen statudol.

Mae’r sefyllfa o ran darpariaeth gwasanaethau yn arbennig o fregus i blant a phobl ifanc, sydd yn dioddef amseroedd aros am driniaeth sydd ar gyfartaledd yn llawer hirach nag oedolion. Mae’r ystadegau diweddar yn dangos taw ychydig dros hanner yr ymyriadau therapiwtig ar gyfer pobl dan 18 a ddechreuwyd o fewn 28 diwrnod yn dilyn asesiad iechyd meddwl lleol, o gymharu â dros dri chwarter i bobl dros 18 mlwydd oed. Yn ogystal â hyn, mae 61 y cant o staff yn y sector iechyd yng Nghymru heb unrhyw hyfforddiant mewn iechyd meddwl ar gyfer babanod. Tybed a all y Gweinidog esbonio sut mae'r Llywodraeth am wella'r sefyllfa yma. 

Rŵan, dŷn ni wedi son sawl gwaith am yr angen i integreiddio'r gwasanaeth iechyd a gofal. Ond mae’n ymddangos fel ein bod ni’n gweld y sectorau yn pellhau ym maes iechyd meddwl. Yn wir, mae pedwar o awdurdodau lleol gogledd Cymru wedi tynnu eu gweithlu iechyd meddwl allan o’r timoedd iechyd meddwl cymunedol. Ydy’r Gweinidog yn ymwybodol o hyn ac yn edrych i mewn iddo, ac a wnaiff hi wneud hynny er mwyn canfod datrysiad i'r broblem hon?

Ac un pwynt olaf: rwy’n ofni bod yr adnoddau yn aml yn cael eu cyfeirio at bobl mewn argyfwng. Clywson ni sawl gwaith yn y cyhoeddiad am bobl mewn argyfwng, ac, wrth gwrs, mae mawr angen hyn. Ond dydy’r strwythur ddim mewn lle er mwyn sicrhau nad ydy pobl yn cyrraedd pwynt o argyfwng i gychwyn. Er enghraifft, mewn achosion o hunanladdiad, mae teuluoedd yn aml iawn yn dweud bod y cymorth ar eu cyfer nhw yn wych ar adeg o alar, ond dylid fod wedi darparu'r cymorth yna yn gynt. Felly, pa gamau y mae'r Gweinidog am eu cymryd er mwyn sicrhau bod pobl sydd mewn relapse, neu angen y cymorth yna'n gynt, yn derbyn y cymorth, os gwelwch yn dda? Ac un pwynt olaf, os caf i—[Torri ar draws.] Wel, dwi am orffen yn fanna, felly. Diolch yn fawr iawn.

15:15

Diolch yn fawr iawn, iawn i chi ac mae'r rhain i gyd yn gwestiynau difrifol a pherthnasol iawn, a dweud y gwir, felly rwy'n gwerthfawrogi hynny. Roeddech chi'n dechrau trwy sôn am y trydydd sector, ac fe hoffwn innau hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch yn fawr iawn i'r trydydd sector, gan na fyddem ni'n gallu darparu'r gwasanaeth na'r gefnogaeth a wnawn ni hebddyn nhw. Dim ond i'ch sicrhau chi hefyd y bydd y strategaeth iechyd meddwl hon yn cael ei chyflawni mewn cydweithrediad â nhw i raddau helaeth iawn. Rwy'n dweud bob amser pan fyddaf i'n cwrdd â'r elusennau a'r sefydliadau hyn mai nhw yw'r rhai sy'n gallu gweld yr hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad, ac sy'n ein helpu ni i fod yn llais yn ogystal â theilwra'r gefnogaeth a'r gwasanaeth hwnnw.

O ran yr hyn a drafodwyd gan Mind Cymru a chau'r gwasanaeth hwnnw, unwaith eto, rwy'n ymddiheuro am wneud hyn, ond ni fyddai hynny o fewn fy nghylch gwaith ac ni fyddai hi'n briodol i mi wneud unrhyw sylwadau ar hyn o bryd. Serch hynny, o ran sicrhau y bydd pawb yn cael y gefnogaeth honno a'r gefnogaeth honno mewn argyfwng, mae hyn yn rhywbeth y byddaf i'n rhoi llawer iawn o sylw iddo.

O ran gwybodaeth bellach ar y gwaith ynghylch iechyd meddwl a'r data, a sefyllfa ein gweithlu iechyd meddwl, unwaith eto mae hyn yn rhywbeth y byddaf i'n sicr o roi gwybodaeth bellach i chi amdano. Serch hynny, rydym ni'n ymwybodol, wrth gwrs, ein bod ni'n cael problemau o ran recriwtio a chadw staff ar hyn o bryd, a'r hyn y byddwn i'n ei ddweud yw bod y gweithlu wedi mynegi lawer tro i mi nad yw'r cydnerthedd hwnnw ganddyn nhw yn hanfod y system, ac maen nhw'n disgrifio hynny fel blinder gofalu, sy'n rhywbeth yr wyf i'n ei ddeall yn llwyr. Rwy'n credu bod ymdeimlad weithiau o gywilydd ymysg gweithwyr gofal iechyd pan fyddant yn teimlo felly, ond mae hi'n bwysig iawn eu bod nhw'n cael y cymorth hwnnw hefyd o ran eu hiechyd meddwl eu hunain. Felly, roeddwn i'n awyddus i dynnu sylw, oherwydd rwyf i o'r farn ei bod hi'n rhaglen ragorol, at raglen Canopi, sydd ar waith nawr i ddarparu'r cymorth iechyd meddwl hwnnw'n uniongyrchol i weithwyr gofal iechyd a gweithwyr gofal cymdeithasol, a chymaint o wahaniaeth y mae honno'n ei wneud. Mae'r data ynglŷn â honno gennyf i, sef data ar gyfer 2023 a 2024 sy'n dangos bod 60 y cant o gleientiaid wedi dal ati i weithio trwy gydol eu sesiynau therapi nhw. Felly, mae'r cwnsela personol unigol hwnnw'n gwneud gwahaniaeth enfawr.

O ran y bwlch deddfwriaethol, rwy'n cofio cyfarfod â'r Coleg Nyrsio Brenhinol cyn i mi ddod i mewn i'r swydd hon hefyd ar gyfer trafod y gofyniad sylfaenol hwnnw. Yn amlwg, mae hynny wedi bod drwy'r broses drafod erbyn hyn. Nid fy lle i o reidrwydd fyddai dweud a fydd hynny'n cael ei godi unwaith eto, ond rwy'n cofio'r dadleuon o blaid hynny, ac rwy'n credu ei bod hi'n rhaid i'r ymgysylltiad hwnnw barhau. Nid wyf i'n credu y dylid gorffen y drafodaeth honno. [Torri ar draws.] Byddwn wrth gwrs; yn siŵr i chi. Fe fyddwn i'n fwy na hapus i gael cyfarfod ynglŷn â hynny a pharhau i'w drafod.

Fe hoffwn i grybwyll hefyd, serch hynny, rai o'r pethau y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw. Mae James Evans gyda ni yn y Siambr heddiw, ac mae hi'n amlwg fod James yn parhau i weithio ar ei Fil Aelod, ac fe fyddai rhai o'r pethau yr ydych chi wedi sôn amdanyn nhw nawr, yn enwedig o ran pobl sy'n ailwaelu, yn debyg iawn o ddod o dan y gwaith y mae James wedi bod yn ei wneud, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld y drafft nesaf o'r hyn y bydd ef yn ei gyflwyno.

Hefyd, o ran ymarfer cyfyngol, mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n gofidio llawer iawn amdano. Pryd bynnag y byddaf i'n mynd i ymweld ag unedau, ac unedau cleifion mewnol, dyma'r peth cyntaf un yr wyf i'n godi ac fe fyddaf i'n holi yn ei gylch bob amser, ac rwyf i wedi darllen trwy adroddiadau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru  ynglŷn â hyn hefyd. Rwy'n dra hyderus nawr, wedi trafod hynny—yn arbennig, fe es at fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr a thrafod hynny yno—mae rhaglen dda iawn â chyllid wedi ei chyflwyno yno erbyn hyn. Mae Betsi yn arwain y ffordd yn hyn o beth mewn gwirionedd, ac fe gaiff ei chyflwyno mewn byrddau iechyd eraill hefyd, dim ond i—nage, nid wyf i am ddweud hynny—dim ond i wneud yn siŵr y bydd pobl yn deall pryd a phan fo hynny'n briodol. Unwaith eto, ni fyddwn i'n ystyried y ddeddfwriaeth i orfodi hynny ar hyn o bryd, oherwydd rwyf i o'r farn fod gwelliannau yn digwydd. Serch hynny, unwaith eto, fe fyddwn i'n agored iawn i gynnal sgwrs ynglŷn â'r peth. Mae hwn yn fater pwysig yn fy marn i.

O ran amseroedd aros, mae tîm gweithredol perfformiad a sicrwydd cyflawni'r GIG yn derbyn llwybrau perfformiad oddi wrth bob bwrdd iechyd, ac mae cynnydd yn cael ei fonitro trwy gyfarfodydd perfformiad misol gyda Gweithrediaeth y GIG. Ac rydym ni wedi sicrhau bod gwelliannau sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn cael eu cynnwys yn y llythyrau atebolrwydd at fyrddau iechyd hefyd fel rhan o'u cynlluniau tymor canolig integredig a'u cynlluniau blynyddol. Fe fydd swyddogion yn monitro ac yn herio cynnydd yn rheolaidd drwy'r byrddau iechyd unigol. Ac o ran pobl ifanc yn benodol, fe fydd y rhan fwyaf o bobl ifanc sy'n cael eu cyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl yn cael eu gweld o fewn pedair wythnos, ac mae gan bob bwrdd iechyd gynlluniau ar waith i fyrhau'r amseroedd aros hynny eto, hyd yn oed. Rydym ni'n parhau i fuddsoddi mewn amrywiaeth o ddulliau a fydd o gymorth wrth leihau'r angen am wasanaethau mwy arbenigol, fel mynediad ar-lein a chymorth iechyd meddwl, a'r cymorth yr ydym ni'n ei gynnig mewn ysgolion.

O ran iechyd meddwl o'r—. Fe wnaethoch chi sôn am iechyd meddwl yn y timau cymunedol, y pedwar tîm cymunedol. Mae hynny'n rhywbeth y byddaf i'n ei godi gyda fy nghyd-Aelod Cabinet hefyd, gan ei fod yn croesi dros bortffolios y ddau ohonom ni. Unwaith eto, rwy'n hapus iawn i ysgrifennu atoch chi ynglŷn â hynny gyda diweddariad. Ac fe wnaethoch chi grybwyll gwasanaethau galar hefyd. Roeddwn i'n falch iawn—tua mis yn ôl nawr fe fues i'n ymweld â Sefydliad Jac Lewis a leolir yn Abertawe, a sefydlwyd yn Rhydaman. Rydym ni wedi buddsoddi cannoedd o filoedd o bunnau yn y gwasanaeth hwnnw erbyn hyn, ac mae hynny'n golygu, pe byddech chi'n cael profedigaeth oherwydd hunanladdiad, y gallwch eu ffonio nhw ar unrhyw amser, ac fe gewch chi siarad â rhywun, ac fe fyddan nhw'n llunio cynllun cymorth ar eich cyfer chi. Maen nhw'n rhoi cymorth i blant mor ifanc â phedair oed drwy gynnig therapi chwarae, therapi cerddoriaeth iddyn nhw. Ac fe gewch chi ddal ati i fynd atyn nhw cyhyd ag y bydd angen hynny arnoch chi. Fe siaradais i â llawer o rieni yno a oedd wedi colli eu plant, ac roedden nhw'n dweud wrthyf i pa mor fawr yw'r gwahaniaeth a wnaeth hyn i'w bywydau nhw. Ac mae'r cyfan yn digwydd ledled Cymru, ar gyfer unrhyw un o bob cwr o Gymru, ac fe fyddan nhw'n sicrhau eu bod nhw'n gallu eich gweld chi mewn lleoliad sy'n agos at eich cartref chi.

Unwaith eto, rwy'n gobeithio fy mod i wedi ateb eich cwestiynau chi i gyd, ond fe fyddwn i'n yn gwerthfawrogi cael sgwrs ddilynol gyda chi ar unrhyw adeg beth bynnag, ac rwyf i am ysgrifennu atoch chi i ymdrin ag unrhyw bwnc arall na lwyddais i ymateb i chi ynglŷn ag ef. Diolch. 

15:25

Diolch am y diweddariadau— 

—cyn Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, gyda phwyslais arbennig ar iechyd meddwl yn y gweithle. Rwy'n credu bod angen i ni i gyd fod yn fwy meddylgar, boed hynny yn ein gweithleoedd ein hunain neu yn y lle hwn hefyd. Yn ddiweddar, fe gynhaliais gyda'm cyd-Aelod sydd wrth eich ymyl chi nawr fy 'niwrnod democratiaeth ar waith' blynyddol yn fy etholaeth i, sy'n dod â phobl ifanc o ysgolion uwchradd ledled sir y Fflint at ei gilydd. Yn rhan o hynny, fe gawson nhw gyfle i holi Jack Sargeant a minnau, ond hefyd i ystyried yr hyn a fyddai yn eu maniffestos eu hunain ynglŷn â'r problemau y maen nhw'n ystyried eu bod yn eu hwynebu ond, mewn gwirionedd, yn bwysicach na hynny, y datrysiadau y bydden nhw'n hoffi eu gweld.

Roedd cefnogaeth i iechyd meddwl yn rhywbeth a godwyd gan nifer o'r grwpiau yno. Roedd Ysgol Maes Garmon yn mynegi bod angen mwy o gefnogaeth ac adnoddau ar iechyd meddwl mewn ysgolion, yn enwedig ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, disgyblion niwroamrywiol, yn arbennig felly wrth iddyn nhw ddisgwyl am asesiad. Roedden nhw'n dweud hefyd fod angen mwy o ymwybyddiaeth o ran sut i ganfod y gefnogaeth honno a'r hyn sydd ar gael ar gyfer iechyd meddwl. Roedd Ysgol Uwchradd y Fflint yn dweud bod ysgolion ag angen am fwy o gwnselwyr hyfforddedig, neu i athrawon fod yn cael cymorth gyda'r swyddogaeth honno gyda nhw, i helpu pobl ifanc, a allai helpu i fynd i'r afael hefyd â rhai o'r rhestrau aros heriol hynny o ran yr aros am wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc. 

Felly, sut fyddech chi'n ymateb i'r bobl ifanc hyn, a pha sicrwydd allwch chi ei roi iddyn nhw y bydd camau yn cael eu cymryd, ond y bydd camau eraill yn dod hefyd ymhen amser?  

Yn sicr, a diolch i chi, Hannah Blythyn, am y cwestiwn yna, ac rwy'n gobeithio bod y myfyrwyr yn gwylio heddiw, oherwydd rwy'n credu ei bod hi mor bwysig iddynt weld bod yr union beth y gwnaethon nhw ei ddweud wrthych chi'n cael ei gyflwyno yn y Siambr erbyn hyn a'u bod nhw'n cael yr ateb uniongyrchol hwnnw oddi wrth y Llywodraeth. Roeddwn i'n awyddus i ddweud hefyd, ers dod i mewn i'r swydd hon, fy mod i wedi mynd yn ôl a chael golwg arall ar adroddiad 'Meddyliau Iau o Bwys' Senedd Ieuenctid Cymru, oherwydd, unwaith eto, maen nhw wedi codi iechyd meddwl fel mater pwysig sawl gwaith erbyn hyn mewn gwirionedd, oherwydd, unwaith eto, maen nhw'n cynrychioli pobl ifanc Cymru a dyna sy'n dod yn amlwg. Roedden nhw'n dweud bod 65 y cant o bobl ifanc yn ei chael hi'n anodd ar un achlysur bob pythefnos, ond mai dim ond 23 y cant oedd wedi mynd allan i geisio'r gefnogaeth honno. Ac roedden nhw'n dweud mai'r tri pheth mwyaf yn eu barn nhw a oedd yn effeithio arnyn nhw oedd y gwaith ysgol a'r arholiadau, eu perthynas gyda ffrindiau a theulu, ac wedyn cael eu targedu a'u bwlio ar y cyfryngau cymdeithasol. Felly, rwy'n credu bod llawer o bethau cyffredin ynglŷn â hyn ledled Cymru sy'n dod i'r amlwg.

Fe hoffwn i sicrhau'r myfyrwyr a'r bobl ifanc ar lawr gwlad ein bod ni wedi darparu dros £13.6 miliwn yn y flwyddyn bresennol i gefnogi'r gwaith o weithredu'r fframwaith ysgol gyfan hwnnw, a bod y cyllid yn cynnwys parhad o ran cefnogaeth i gydlynwyr sy'n gweithredu fframwaith wrth weithio gydag ysgolion a phartneriaid, gan eu cefnogi nhw i asesu a mynd i'r afael â'u hanghenion o ran llesiant. Rydym ni wedi datblygu pecyn dysgu proffesiynol llesiant ar gyfer ysgolion hefyd, fel gall pob ysgol fod yn sicr ei bod yn ymdrin â materion gyda chydymdeimlad ac yn hyddysg yn y materion o ran trawma, a'u bod nhw'n cynnal ymchwil perthnasol wrth greu adnoddau penodol ynglŷn â'r materion hynny.

Roeddwn i'n awyddus i ddweud ein bod wedi ymestyn a gwella'r gwasanaeth cwnsela presennol mewn ysgolion, sy'n ymdrin â thua 12,500 o blant a phobl ifanc bob blwyddyn. Ac rydym ni'n datblygu ystod o adnoddau ar gyfer yr ysgolion hefyd, gan gynnwys adnoddau dysgu proffesiynol i fyfyrwyr mewn hyfforddiant addysgu cychwynnol. Felly, mae'r ymwybyddiaeth gyfan hon, mewn gwirionedd, yn ogystal â lliniaru'r gwarthnod hwnnw, a dim drws anghywir a 'Cymru iachach'—mae'r rhain i gyd, yn y bôn, yn dod at ei gilydd fel bydd pobl ifanc mewn ysgolion, sy'n wynebu mathau amrywiol iawn o straen, heriau a chyfnodau pontio y maen nhw'n eu profi yn y cyfnod hwnnw, yn cael eu deall a'u clywed yn wirioneddol.

Ond rwyf i am ddod yn ôl at yr hyn a ddywedais i: roedd 65 y cant yn dweud yn yr arolwg gan Senedd Ieuenctid Cymru eu bod nhw'n ei chael hi'n anodd, ond dim ond 23 y cant oedd wedi mynd i geisio cefnogaeth, a dyna'r hyn sy'n peri gofid i mi yn hyn o beth. Fe fyddwn i'n dweud wrth unrhyw unigolyn ifanc sy'n gwrando neu'n gwylio: ewch i chwilio am gymorth os ydych chi mewn trafferthion. Mae llawer ohonom ni yn yr ystafell hon a fyddai'n cadarnhau hynny. Os gwelwch chi'n dda, ewch i geisio cymorth, ac rwy'n gobeithio yn fawr mai dyna'r hyn sy'n dod drwodd i raddau helaeth iawn yn ystod yr wythnos hon sy'n cynnwys Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Diolch. 

Fe hoffwn i ddiolch i chi, Gweinidog, am grybwyll fy Mil iechyd meddwl i; nid wyf i am siarad am hwnnw heddiw. Mater arall sy'n wirioneddol bwysig yn fy marn i, yw dysmorffia'r corff, a'r niferoedd o bobl ifanc ledled Cymru sy'n dioddef o dysmorffia'r corff a maint y delweddau ffug yr ydym ni'n eu gweld ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, boed hynny'n Facebook, Instagram neu TikTok. Mae gennych chi ferched ifanc nawr yn gofyn am fwy a mwy o lawdriniaethau cosmetig er mwyn newid eu delwedd. Mae gennych chi ddynion ifanc yn mynd i gampfeydd sy'n niweidio eu datblygiad nhw, y cyfan oll oherwydd eu dyhead i edrych yn berffaith—beth bynnag allai perffaith fod yn ei olygu. 

Mae angen i ni fynd i'r afael â hyn yn gyflym iawn, iawn. Roedd Bil yn mynd trwy San Steffan a oedd yn ymwneud â delweddau a newidwyd yn ddigidol—rwy'n gwybod nad yw hynny yn eich portffolio chi—ond yr hyn yr hoffwn i'n fawr gael gwybod amdano yw: beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, Gweinidog, i helpu pobl â dysmorffia'r corff i geisio rhoi strategaethau ar waith a rhoi cefnogaeth i'r trydydd sector hefyd, a phwy a all helpu ein pobl ifanc ni ledled Cymru? Oherwydd, os na fyddwn ni'n ymdopi a'r mater hwn, fe fydd gennym ni niferoedd cynyddol o bobl ifanc yn newid eu hedrychiad am resymau cosmetig ac yn mynd o dan y gyllell yn ifanc iawn, a fydd yn niweidio eu hiechyd meddwl am flynyddoedd lawer i ddod. Mae hwn yn fater enfawr, ac fe fyddwn ni'n falch iawn o gael gwybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem wirioneddol hon y mae ein pobl ifanc ni ledled Cymru yn ei hwynebu.

15:30

Yn hollol. Diolch i chi, James Evans. Rwy'n credu bod hynny'n cyfeirio at yr hyn a ddywedais i wrth Hannah Blythyn yn fy ymateb blaenorol, sef mai un o'r achosion mwyaf o straen ar bobl ifanc sy'n effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u llesiant, yw'r math hwnnw o—. Y bwlio a'r targedu ar-lein yw hynny, ond hefyd cael eu targedu trwy'r amser gan gwmnïau nad ydyn nhw'n malio dim am iechyd meddwl na llesiant pobl ifanc. Fe wnaethoch chi grybwyll y Biliau a oedd yn mynd drwodd, neu'n paratoi i fynd trwodd yn San Steffan. Yn sicr, fe fyddaf i'n siarad â'm swyddogion cyfatebol yn San Steffan i gael gwybod ym mha le yr ydym ni arni gyda'r rhain, oherwydd rwy'n credu bod llawer o waith da yn cael ei wneud yno, ac mae llawer o glinigwyr a'r trydydd sector wedi bod yn cyfrannu atyn nhw.

Fe hoffwn i ddweud hefyd fy mod i'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, ac rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi profi hyn, wrth i ni sôn am 'Pwysau Iach: Cymru Iach', ein bod ni'n ofalus iawn ynghylch yr hyn yr ydym ni'n ei gyhoeddi o ran ein cenadwri hefyd. Rwy'n credu ein bod ni wedi cynnal nifer o ddadleuon dros y blynyddoedd diwethaf yn ymwneud â sicrhau ein bod ni'n gwrando ar lais pawb ac nid y llais cryfaf yn unig, fel sy'n digwydd weithiau. Rwy'n credu hefyd, o ran dysmorffia'r corff, bod croes-drosiad rhwng y cyflwr hwnnw ac anhwylder derbyn bwyd, osgoi a chyfyngol, ARFID, sy'n rhywbeth yr wyf i'n gwybod eich bod chi'n ymwybodol iawn ohono, fel minnau. Fe hoffwn i ddweud bod rhaglen yn cael ei hystyried erbyn hyn ar gyfer bwrdd iechyd Aneurin Bevan, sy'n cynnal cynllun treialu, a fydd yn rhywbeth pwysig iawn yn fy marn i.

Felly, rydym ni'n ceisio bod yn fwy agored mewn gwirionedd o ran y pwysau amrywiol y mae pobl yn eu profi a'r gwahanol—. Oherwydd nid oedd hi fel yna bob amser—nid wyf i'n credu bod pobl yn deall. Felly, yn benodol o ran dysmorffia'r corff, rwy'n credu ei fod yn ymwneud â'r negeseuon sy'n cael eu cyfleu mewn ysgolion a'r rhaglenni sydd gennym. Rwy'n credu bod hyn yn ymwneud â sicrhau, pan fo'r cymorth yn cael ei estyn i mewn drwy CAMHS, fod y bobl sy'n darparu'r cymorth hwnnw'n ymwybodol iawn o hynny. Yn fy marn i, o ran y negeseuon ar-lein a digidol a'r targedu, bod hynny'n fonolithig, ac rwy'n credu y bydd angen deddfwriaeth yn ôl pob tebyg, ac rwy'n credu y bydd angen rhywbeth ar lefel y DU yn hynny o beth. Felly, fe fyddaf i'n sicrhau pob amser fod hynny'n flaenllaw yn fy meddwl.

Rwy'n dyfalu hefyd, wir—. Rwy'n treulio eithaf tipyn o amser ar y cyfryngau cymdeithasol, ac rwy'n gweld y rhain i gyd, ac rydych chi'n cael eich sugno i mewn i ddefnyddio'r rhain—. Rwy'n gwybod bod pobl yn defnyddio apiau Facetune, ac yna mae hi'n anodd iawn edrych ar eich wyneb eich hun eto, ar ôl i chi ei weld trwy'r hidlyddion trwy'r amser. Ond yr hyn y byddwn i'n ei ddweud hefyd yw fy mod i wir yn gwerthfawrogi pobl sy'n dweud eu barn yn  glir ar ôl iddyn nhw fynd drwy o'r triniaethau hyn ac maen nhw wedi mynd o chwith. Rwy'n gweld llawer o hynny nawr hefyd, lle mae pobl yn mynd dramor ac maen nhw wir yn difaru gwneud hynny wedyn. Rwy'n credu bod hynny'n mynd yn beth mwy cyffredin, ac mae'n debyg bod angen anfon llawer mwy o negesau ynglŷn â hynny hefyd. Felly, diolch i chi.

Mae fy nheimlad i fod cenhedlaeth goll gennym ni o ran iechyd meddwl yn rhywbeth yr wyf i wedi siarad amdano o'r blaen. Ac fe fyddwn i'n dweud mai fy nghenhedlaeth i yw'r genhedlaeth goll honno. Rydym ni wedi cael yr iaith i fynd i'r afael ag iechyd meddwl, ac fe ddywedwyd wrthym ni, 'Mae angen i chi siarad allan, mae angen i chi fynegi eich teimladau', ond nid wyf i'n credu ein bod wedi cael yr offer i wneud felly. Rydym ni wedi cael ein magu gan genhedlaeth, wrth gwrs, nad oedd yn deall iechyd meddwl, ac mae hynny wedi bod â sgil-effaith, rhyw gyfran o weddillion diwylliannol. Felly, fe fyddai gennyf i ddiddordeb mawr i ddeall sut mae'r Gweinidog yn rhoi ystyriaeth i'r pwnc penodol hwn a sut y gallai hi geisio mynd i'r afael ag ef. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf i'n teimlo yn gryf iawn yn ei gylch, yn enwedig wedi'r niferoedd o hunanladdiadau a welsom ni ymysg gwŷr ifanc, nid yn unig yn ein rhanbarth ni, ond mewn gwirionedd yn yr ardal yr ydym ni ein dau yn ei chynrychioli. Mae clybiau rygbi yn gwneud llawer o waith da ynglŷn â hyn, ond, wrth gwrs, mae angen i ni wneud llawer mwy.

A dim ond gair byr iawn, yn yr amser sydd gennyf i, sut mae'r Llywodraeth am edrych ar effeithiau iechyd meddwl y rhai sy'n byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor, eu teuluoedd a'u gofalwyr nhw? Fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddementia, rydym ni wedi derbyn llawer o dystiolaeth yn ddiweddar ynghylch effeithiau dementia ar iechyd meddwl, yn enwedig yng ngoleuni'r gwaith arloesol iawn sy'n digwydd nawr i ddarparu brechlyn ar gyfer dementia o bosibl, ac mae llawer o deuluoedd yn teimlo bod eu hanwyliaid nhw ar eu colled o ran yr hyn a allasai fod yn frechlyn i drawsnewid bywyd.

Ie wir. Diolch yn fawr iawn i chi, Luke Fletcher. Rwy'n credu ein bod ni o'r un genhedlaeth i ryw raddau—a ydym ni'n gynwysedig ymhlith plant y 'mileniwm' o hyd? Rwy'n amau felly. [Torri ar draws.] [Chwerthin.] Ond fe fyddwn i'n dweud, pryd bynnag y byddaf i'n mynd i mewn i ysgolion nawr ac yn siarad â phobl ifanc, rwy'n dweud pob amser, mewn gwirionedd, fy mod i'n un o'r genhedlaeth iau a wnaeth, fe fyddwn i'n dadlau, ddyfeisio'r iaith. Nid oedd yr iaith honno'n bodoli hyd yn oed. Oherwydd ein cenedlaethau iau a wnaeth ddechrau siarad am bethau fel pryder, am deimlo yn isel, am bethau sy'n dwyn atgofion annifyr i gof, am deimlo yn anghyfforddus. Fe fyddwn i'n dweud bod gennym ni gymaint i ddiolch i'r genhedlaeth iau amdano, fel bod yn ddewr iawn ac yn ddyfal wrth wthio hynny ymlaen yn gryf. O ganlyniad i hynny, maen nhw wedi dweud, 'Wel, edrychwch chi, nid oedd yr hyn yr oeddem ni'n ei gynnig o'r blaen yn iawn, nid oedd yn ddigonol, ac nid oedd yn cynnig yr hyn yr oedd ei angen arnom ni.'

Pan fyddwn ni'n sôn am fod yn wybodus o ran trawma, fe fyddwn i'n dadlau, pe byddech chi'n siarad â llawer o bobl sy'n cynnig hyfforddiant gyda hynny ac yn siarad am y pwnc, y bydden nhw'n dweud ei fod, fel roeddech chi'n disgrifio, yn drawma cenhedlaeth mewn llawer o ffyrdd. Clywodd cenedlaethau blaenorol na ddylech chi siarad am unrhyw beth. Felly, pan fyddwn ni'n siarad am godi ymwybyddiaeth a lliniaru'r gwarthnod, nid wyf i'n credu y gallwn feddwl yn rhy fach am y gwahaniaeth enfawr y mae hynny'n ei olygu a'i wneud, ac mae pobl, fel dywedais i o'r blaen, wedi siarad yn y Siambr hon hyd yn oed, a'r nifer o bobl ifanc sy'n siarad allan.

Felly, yr hyn y byddwn i'n ei ddweud am y strategaeth iechyd meddwl a'r strategaethau atal hunanladdiad a hunan-niweidio yw bod hynny wedi'i ymgorffori'n llwyr ynddynt. Mae rhai pobl wedi dweud na ddylem ni fod â strategaeth i bob oed, ond fe wnaethom ni benderfynu ei gwneud hi'n strategaeth i bob oed, oherwydd fel arall fe fyddem ni'n mynd i'r afael â materion ynglŷn â therfynau ac fe fyddwn i'n casáu gorfod creu rhaglenni pontio ar gyfer datrys y terfynau y byddai pobl yn sôn amdanyn nhw wedyn. Felly, mae'r ddau bolisi hyn yn golygu bod plant ac oedolion i gyd yn cael eu hymgorffori ynddyn nhw, ac fe ymgynghorwyd â nhw ynglŷn â hyn hefyd, er mwyn iddyn nhw gael dweud, 'Dyma'r hyn sydd ei angen arnom ni a dyma'r hyn yr ydym ni'n ei ddymuno.'

O ran dementia, rwy'n credu bod llawer o bobl yn gweld y newyddion hyn y gallai rhyw fath o wellhad ddod efallai, os gallwn ni ei alw felly, rhywbeth sy'n dod drwodd, felly, a fyddai wir yn gwella bywydau pobl sy'n cael diagnosis o ddementia. Mae gennym ni gynllun gweithredu dementia newydd, mewn gwirionedd, ar y gweill. Nid wyf i'n hoff iawn o lunio cynlluniau a strategaethau er eu mwyn eu hunain, mae hyn yn ymwneud â chyflawni pethau a'u rhoi nhw ar waith, ond mewn gwirionedd y rheswm pam y byddwn ni'n ei ail-lunio, unwaith eto, a'i gyd-gynhyrchu, yw oherwydd bod y dirwedd dementia wedi newid mor sylweddol, hyd yn oed yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Rhan allweddol o hyn, fel roeddech chi'n dweud, yw'r gofalwyr. Rwy'n adnabod llawer o bobl sy'n gofalu am bobl â dementia a sut mae'n rhaid iddyn nhw gael yn gyfan gwbl—wyddoch chi, mae yna anghenion cymhleth iawn—y gefnogaeth honno sy'n hanfodol. Felly, mae hyn yn rhywbeth y byddwn ni'n ei wneud nawr cyn gynted ag y gallwn ni a fydd yn cael ei ymgorffori yn hynny. Diolch i chi.

15:35

Roeddwn i'n falch iawn o ymweld â chanolfan iechyd a llesiant 19 Hills yr wythnos diwethaf, sy'n cael ei hadeiladu yn Ringland yn Nwyrain Casnewydd, sy'n ardal sydd â llawer o anghydraddoldebau o ran iechyd, ac roeddwn i'n falch iawn o weld sut le fydd yr ystafell iechyd meddwl yno, a fydd yn cynnwys sesiynau cwnsela un i un, grŵpiau a theuluoedd, a bod yn rhan o'r ymagwedd honno sy'n dod ag iechyd corfforol a meddyliol ynghyd yn y gymuned, gydag ymagwedd gymdeithasol gref hefyd. Rwy'n gobeithio y bydd dull cylchol, cyfannol yn gwneud rhywbeth i wella'r driniaeth o faterion iechyd meddwl sy'n bodoli yn y cymunedau hynny. Tybed a ydych chi'n meddwl—mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu hyn; rwy'n siŵr bod Llywodraeth Cymru yn ystyried hwn yn batrwm da, ond—a allem ni fod â mwy o'r canolfannau iechyd hyn wrth inni symud ymlaen yn ein cymuned, gan dynnu gwasanaethau o'r ysbytai a'r sector acíwt i'r gymuned, lle gall y gymuned ddod at ei gilydd ar gyfer, rydym ni'n gobeithio, darparu'r cymorth cymdeithasol hwnnw sy'n cydweddu â'r elfennau corfforol a meddyliol.

Yn union. Diolch yn fawr iawn i chi, John Griffiths, am y cwestiwn yna. Ie, hwnnw yw'r patrwm y profwyd iddo fod yn gweithio, oherwydd, fel roeddech chi'n dweud, mae'n gweithio gyda'r teulu. Rwy'n credu i mi grybwyll yn fy natganiad fod cymaint o bwysau allanol ar deuluoedd nawr ac fe fyddai hynny'n effeithio ar lesiant meddyliol unrhyw un—tai a dyled a phryderon a gwaith a gofidiau ac, fel y dywedais, newidiadau i fywydau pobl. Felly, y teulu hwnnw a chyfannol a chofleidiol yw'r hyn sy'n ymddangos i weithio orau i'r rhan fwyaf o bobl.

Rwy'n credu eich bod chi'n iawn hefyd, bod hyn ar gael yn eich cymuned chi, mae hynny'n ymwneud â phopeth yr ydym ni wedi bod yn sôn amdano heddiw ynglŷn â lliniaru'r gwarthnod hwnnw a'r cywilydd hwnnw, fel gall pobl ofyn am y cymorth sydd ei angen arnyn nhw a'i gael pan fo'i angen a symud ymlaen i fyw bywydau sy'n fwy hapus, ac iach, yn y pen draw. Felly, rwy'n falch iawn o glywed am hynny.

Ystyr hyn i raddau helaeth iawn—. Fel clywsom ni heddiw, mae llawer mwy i'w wneud eto, ac rydym ni wedi ymrwymo i gyflawni hyn yn Llywodraeth Cymru, ond mae yna lawer iawn o ymarfer da ar gael nawr hefyd. Mae yn lawer iawn o bobl anhygoel yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd a'r gwasanaeth iechyd meddwl sy'n dweud, 'Dyma'r hyn sy'n gweithio yn ein barn ni, a wnewch chi gefnogi ac ariannu hyn, os gwelwch chi'n dda', ac rydym ninnau'n gwrando, rydym ni'n sicr iawn yn gwrando ac yn cyflawni hynny. Felly, ydw, rwy'n credu bod yr hyn rydych chi'n ei ddisgrifio yn swnio yn gadarnhaol iawn, ac fe fyddwn i'n dychmygu ac yn gobeithio eu bod nhw'n cynnig y mannau cyffwrdd eraill hynny gyda gwasanaethau cymorth eraill o fewn y gwasanaeth hwnnw, lle gallwn ni ddechrau gweld hynny'n trawsweithio, fel rydym ni'n bwriadu ei gyflawni ar draws ein Llywodraeth gyfan ni yng Nghymru. 

15:40

Diolch i chi. Ddydd Iau, fe fyddaf i'n noddi'r digwyddiad Adferiad yn y Senedd, pryd y byddwn ni'n siarad am eu hadroddiad nhw, 'Caffael ar y Corfforol', sy'n ystyried iechyd corfforol pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl parhaus.

Felly, diolch yn fawr iawn i chi am eich datganiad. Rwy'n cymeradwyo'r ffaith yn fawr eich bod chi'n hyrwyddo dull sy'n seiliedig ar drawma, yn ogystal â chyd-gynhyrchu gwasanaethau gyda defnyddwyr, oherwydd mae hi'n hanfodol nad ydym ni'n gwneud dim ond dweud wrth bobl; mae'n rhaid i ni ddarganfod pa bethau sy'n ddymunol ac yn angenrheidiol iddyn nhw. Mae gen i ddiddordeb yn eich gwasanaeth '111, Pwyso 2' a'r ffaith bod Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi gwneud adolygiad o hwnnw. Rwyf i braidd yn bryderus pan fo etholwyr yn dweud wrthyf i, pan fyddan nhw mewn argyfwng, nad yw ffonio'r gwasanaeth '111, Pwyso 2' hwn yn ddefnyddiol iawn, oherwydd mae'n gofyn y cwestiynau iddyn nhw, 'Beth yw eich enw chi? Beth yw eich cyfeiriad chi?' a'r data sylfaenol fel arall i gyd, ac maen nhw mewn cyflwr o argyfwng, ac mae angen iddyn nhw gael gweld rhywun. Felly, rwy'n gefnogol iawn i'r gwasanaeth mynediad agored i bobl ifanc 11 i 18 oed yng nghanol dinas Caerdydd, sy'n cael ei redeg gan Platfform—mae'n wirioneddol bwysig er mwyn caniatáu i bobl ifanc fynd yno yn ddiarwybod i'w ffrindiau yn yr ysgol. Ond mae hi'n amlwg fod angen mwy o wasanaethau ar gyfer oedolion hefyd, ac fe fyddaf i'n ymweld ag un o'r canolfannau gofal sylfaenol—

—argyfwng nawr. Ond fe hoffwn i'n fawr iawn gael gywbod sut y gallwn ni gael gwasanaethau  ymyrryd mewn argyfwng gwell er mwyn atal pobl rhag gorfod mynd i ofal cleifion mewnol.

Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn yna. Fe fyddaf i'n mynd i'r digwyddiad hwnnw y byddwch chi'n ei noddi yn ddiweddarach yr wythnos hon ynghylch cysylltu iechyd a llesiant corfforol ag iechyd a llesiant meddyliol, sydd wedi cael ei brofi ac rydym ni'n ceisio rhoi cefnogaeth gref iddo.

Rwy'n credu bod yr '111, Pwyso 2'—. Mae hwnnw wedi bodoli ers oddeutu blwyddyn; ac mae'n wasanaeth ar gyfer Cymru gyfan. Fe gafodd ei gynnwys ar The One Show y BBC. Fe wnaethon nhw ddangos y tîm sydd i fyny yn Betsi Cadwaladr, i fyny yn uned Heddfan, y bues i'n ymweld â hi yn ddiweddar, ac mewn gwirionedd dim ond eu gweld i gyd yn eistedd yn yr ystafell honno yn ateb galwadau ffôn pobl. A, wyddoch chi, rydym ni'n dysgu wrth i ni fynd yn ein blaenau. Mae'n ddiddorol hefyd eich bod wedi dweud amdano—. Rwy'n deall pan fo pobl mewn argyfwng, ac rydych chi'n ffonio ac maen nhw'n gofyn rhai manylion, ond rwy'n sicr iawn eu bod nhw'n fanylion sylfaenol. A'r rheswm pam rwyf i'n dweud hynny yw oherwydd ein bod ni wedi siarad llawer am yr awydd am ddata er mwyn i ni fod â rhagor o wybodaeth, ac mewn gwirionedd, un o'r pethau sydd wedi dod yn ôl atom ni yw, pan fo pobl mewn argyfwng, nad ydyn nhw'n dymuno ateb rhestr hir o gwestiynau, felly fe ddylai honno fod yn rhestr fer iawn. Ac rwyf i wedi crybwyll hyn hefyd heddiw sef yr angen am y dilyniant hwnnw. Yr hyn yr ydym ni'n ei gael yn yr adborth nawr, er hynny, yw pan fydd pobl yn yr argyfwng hwnnw ac yn cael eu cyfeirio, a'u bod nhw'n cael y cymorth a chefnogaeth ar unwaith yn y dull hwnnw, mae'n ymwneud wedyn â chanfod ffordd iddyn nhw dderbyn galwad ddilynol efallai, ac yna fe allem ni gasglu ychydig mwy o wybodaeth amdanyn nhw. Fe fyddai hyn yn ein helpu ni i wella'r gwasanaeth. Felly, dyna'r cyfeiriad yr wyf i'n ein gweld ni'n mynd iddo gyda'r '111, Pwyso 2'.

Ac yna, dim ond gair, o ran ymweld â'r canolfannau argyfwng, rwyf innau'n gwneud hynny hefyd, ac yn mynd o gwmpas Cymru yn gwneud hynny, ac yn dysgu lllawer, yn gofyn llawer o'r cwestiynau yr ydych chi'n eu gofyn i mi yn y Siambr. Fe hoffwn i ddweud fy mod wedi cwrdd â Lads and Dads, sef grŵp cymunedol ar draws  y de, yr wythnos hon, ac maen nhw'n angerddol iawn, iawn ynglŷn â gwasanaethau ataliol. Fe fyddwn i'n dweud bod gennym ni ffordd o atal pobl rhag dod i'r pwynt hwnnw o fod mewn argyfwng hyd yn oed a dyna'r hyn y mae angen i ni ei wneud. Felly, rydym ni—. Wrth gwrs, mae '111, Pwyso 2' yn helpu gydag ymdrin ag argyfyngau felly, ond rydym ni hefyd mewn gwirionedd, drwy'r strategaeth iechyd meddwl—ac, yn llythrennol, fe'i gelwir yn strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio—yn gobeithio y gallwn ni atal pobl rhag cyrraedd y pwynt hwnnw o fod mewn argyfwng hyd yn oed. Ac rwy'n credu y bydd y grwpiau trydydd sector hynny sydd ar lawr gwlad yn gyfan gwbl hanfodol yn hyn o beth. 

Diolch i'r Gweinidog. 

Cyn i ni symud ymlaen i'r eitem nesaf, mae Gareth Davies wedi gofyn am bwynt o drefn. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn y sylwadau a wnes i wrth ymateb i ddatganiad y Gweinidog, fe wnes i gamgymeriad syml wrth fynegi nad oeddem ni wedi cael datganiad ers i Mark Drakeford fod yn Brif Weinidog. Rwy'n falch eich bod chi wedi fy nghywiro yn eich ymateb gan ddweud ein bod ni wedi cael datganiad gan Jayne Bryant ym mis Mai. Dim ond esgeulustod oedd achos hynny, ac fe wn i fod Jayne wedi gwneud ei gwaith yn angerddol pan oedd hi yn y swydd, felly roeddwn i'n awyddus i roi hynny ar y cofnod, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny i'w weld yn y cofnod cyhoeddus. Diolch yn fawr iawn i chi. 

15:45

Dydw i ddim yn credu ei fod yn bwynt o drefn, ond rwy'n derbyn y ffaith bod yr Aelod wedi cydnabod ei gamgymeriad a'i fod wedi cywiro'r cofnod i'r diben hwnnw. 

4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Twf Economaidd

Eitem 4 heddiw yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ar dwf economaidd. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Rebecca Evans. 

Diolch. Rwy'n falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y cynnydd sy'n cael ei wneud i sicrhau twf economaidd. Rwy'n falch iawn o ymgymryd â phortffolio'r economi, sydd, ynghyd â chynllunio ac ynni, yn rhoi cyfle unigryw i gyflawni maes blaenoriaeth Prif Weinidog Cymru o dwf a swyddi gwyrdd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r economi yng Nghymru wedi wynebu heriau sylweddol yn amrywio o Brexit i COVID, wedi'i gwaethygu gan ddegawd o gyni, a arweiniodd at fuddsoddiad isel a gwasgu ar wariant cyhoeddus. Mae hyn wedi effeithio ar dwf ac wedi cael canlyniadau pellgyrhaeddol ar incwm cartrefi. Ond er gwaethaf yr heriau hyn, mae'r amgylchedd economaidd cyffredinol yn parhau i wella'n raddol, ac rydym yn gweld arwyddion o dwf, y mae'n rhaid i ni ei hwyluso a gwneud y mwyaf ohono.

Mae Cymru yn arwain mewn meysydd fel gweithgynhyrchu uwch ym maes awyrofod a bwyd, i ddylunio, datblygu a masnacheiddio lled-ddargludyddion a'u defnydd, sy'n rhan annatod o'r economi sero net. Mae gennym gyfleoedd sylweddol mewn meysydd gan gynnwys cynhyrchu ynni adnewyddadwy i ymwthio buddsoddi pellach, gan fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur ar yr un pryd. Dim ond mewn partneriaeth â busnes, academia, rhanbarthau, undebau, awdurdodau lleol, buddsoddwyr sector preifat a Llywodraeth y DU y gellir cyflawni hyn. A gyda'i gilydd, mae Cymru yn agored i fusnes.

Mae ein cenhadaeth economaidd a'r pedwar maes blaenoriaeth cenedlaethol yn ategu'r cyfeiriad sy'n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth y DU. Rydym yn rhannu ymrwymiad Llywodraeth y DU i ganolbwyntio ar dwf sydd wedi'i adeiladu ar sefydlogrwydd, buddsoddiad a diwygio. Mae cywair y lleisiau yn Llywodraeth y DU a'i pharodrwydd i weithio mewn partneriaeth yn fyd i ffwrdd o'r weinyddiaeth flaenorol. Yn sydyn rydym yn cael trafodaethau cynnar, credadwy a chydweithredol, a fydd yn llunio sut rydym yn cyflawni yn erbyn ein blaenoriaethau economaidd. Mae hyn yn cynnwys perthynas gryfach ac agored gyda Swyddfa Cymru a'r Adran Busnes a Masnach.

Yn y trafodaethau hyn rydym wedi gallu ystyried ar y cyd sut i gefnogi Tata a defnyddio ysgogiadau ar draws y ddwy Lywodraeth, er enghraifft. Rydym wedi bod o amgylch y bwrdd ar feysydd fel y gronfa gyfoeth a datblygu grwpiau rhyng-weinidogol i ganolbwyntio ar dwf economaidd. Rydym wedi dechrau rhannu syniadau a gwybodaeth am strategaeth ddiwydiannol newydd, strategaeth fasnach newydd ac am y Bil hawliau cyflogaeth, a fydd yn cael effaith drawsnewidiol wrth wneud gwaith yn decach, yn fwy diogel ac yn fwy sicr i bob gweithiwr. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo a chynyddu dros y misoedd nesaf.

Byddwn yn sicrhau amgylchedd sydd o blaid busnes ac o blaid y gweithiwr, gyda fframwaith cystadleuaeth, cynllunio a rheoleiddio sy'n cefnogi arloesedd, ymchwil, buddsoddiad a swyddi o ansawdd uchel. Bydd polisi caffael a masnach yn cyd-fynd â'n blaenoriaethau, gan weithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU i gyflymu cyfleoedd ac i gynyddu enw da rhyngwladol Cymru.

Mae entrepreneuriaeth, arloesi a chynhyrchiant yn genadaethau canolog y mae angen i ni eu cyflawni ar draws y Llywodraeth a meithrin yn yr economi ehangach. Mae ein Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru yn cefnogi twf busnes ym mhob rhan o Gymru. Mae Cymru wedi gweld cynnydd uwch nag erioed mewn gweithgarwch entrepreneuraidd, gyda ffigurau newydd yn dangos y lefelau uchaf o ardrethi busnes cyfnod cynnar a gofnodwyd yn ôl adroddiad Global Entrepreneurship Monitor 2023. Mae hon yn agwedd optimistaidd yr ydym eisiau ei datblygu. 

Byddaf yn manteisio ar gryfder ein rhanbarthau a'n darpariaeth mewn meysydd fel bargeinion dinesig a phorthladdoedd rhydd. Byddwn yn gweithio ar draws sectorau. Roeddwn yn falch iawn o siarad â Chonsortiwm Manwerthu Cymru yr wythnos diwethaf, gan gyflawni ein cynllun gweithredu manwerthu. Byddwn yn parhau i gryfhau ein cynghreiriau ar draws ffiniau, er enghraifft, trwy bartneriaeth Porth y Gorllewin, partneriaeth y Gororau a Chynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy.

Mae galluoedd a sgiliau unigolion yng Nghymru yn sbardun allweddol i ffyniant economaidd a chynhyrchiant. Mae Cymru'n Gweithio, ein porth gyrfaoedd cenedlaethol, yn rhoi mynediad i unigolion at filoedd o swyddi a chyfleoedd ac yn cael ei gefnogi gan gynnig cryf drwy ein rhaglenni cenedlaethol, megis prentisiaethau, Twf Swyddi Cymru+, ReAct+, Cymunedau am Waith +, y rhaglen Sgiliau Hyblyg a Chronfa Ddysgu Undebau Cymru. Rwy'n credu bod amgylcheddau gwaith teg, diogel a sicr, lle mae gan weithwyr lais, yn fuddiol i fusnesau a gweithwyr. Pan fydd gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a'u gwerthfawrogi, maent yn cyfrannu syniadau ac arloesiadau sy'n gwella cynhyrchiant. Dyna pam rydym yn annog busnesau i gydweithio ag undebau llafur, er budd busnesau, gweithwyr a'r economi ehangach. Yn ogystal, mae ein hymrwymiad parhaus i gefnogi cyflogadwyedd a datblygu sgiliau yn hanfodol, gan ei fod yn rhoi'r offer angenrheidiol i weithwyr addasu a ffynnu mewn marchnad lafur sy'n newid.

Mae polisi cynllunio yn helpu i greu'r amodau lle gall busnesau fuddsoddi, ymestyn ac addasu. Mae 'Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040' a 'Polisi Cynllunio Cymru' eisoes yn rhoi pwys sylweddol ar yr angen i gefnogi twf economaidd, swyddi gwyrdd a chynhyrchiant. Fodd bynnag, mae cyni wedi effeithio ar y sector cynllunio, gan ymestyn yr amser a gymerir i wneud penderfyniadau, gan gynyddu ansicrwydd a chostau busnes. Rwy'n benderfynol o fynd i'r afael â hyn drwy sicrhau bod adnoddau ar waith. Byddaf yn ymgynghori ar gynyddu ffioedd ceisiadau cynllunio yr hydref hwn, a byddaf yn nodi cynigion i gynyddu'r llif o gynllunwyr.

Mae cael ffynhonnell ynni ddibynadwy, fforddiadwy a gwyrdd yn dod yn fwyfwy pwysig i'n heconomi fodern, gyda'n diwydiannau yn ceisio datgarboneiddio eu gweithrediadau, wrth i ni ddenu diwydiannau newydd ac wrth i gartrefi newid i gerbydau trydan a phympiau gwres.

Gyda gwynt arnofiol ar y môr, mae gennym gyfle i drawsnewid ein cymunedau arfordirol, gan ddechrau gyda'n porthladdoedd ac ehangu ledled y gadwyn gyflenwi. Mae Cymru yn arwain y ffordd o ran darparu'r sector cyhoeddus, drwy Trydan Gwyrdd Cymru, Ynni Cymru a Cwmni Egino, gan ddatblygu buddsoddiad ynni adnewyddadwy newydd. Fel y dywedodd y Prif Weinidog, mae Cymru wrth wraidd y genhadaeth i atgyfnerthu ymdrechion i wneud Prydain yn archbŵer ynni glân. Byddwn yn gweithio gyda Great British Energy i wireddu hyd yn oed mwy o gyfleoedd.

Mae'r economi gylchol yn hanfodol i ddatgarboneiddio a thwf economaidd. Rwyf eisiau defnyddio ailgylchu o'r radd flaenaf ac enw da byd-eang Cymru am gynaliadwyedd i sbarduno creu swyddi. Gyda Chymru bellach yn ail yn y byd am ailgylchu, mae hynny'n golygu ein bod o'r radd flaenaf o ran dal deunydd o ansawdd uchel a'i roi yn ôl yn ein heconomi. Gallwn ddarparu'r cyflenwad cydnerth, o ansawdd uchel o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu sydd eu hangen ar gwmnïau i ddatgarboneiddio. Mae'r buddsoddiad o £45 miliwn a wnaed gan Jayplas yn Abertawe a'r datblygiad gwerth £1 biliwn ym Melin Shotton yn enghraifft o'r hyder yng Nghymru yn y maes hwn.

Byddaf yn gwrando ac yn gweithredu ar feysydd cyflawni dros y 18 mis nesaf. Byddaf yn bwrw ymlaen ag ymrwymiad blaenorol i sefydlu ystod o adolygiadau tymor byr a chynnal cyfres o seminarau ymgysylltu rhanbarthol. Bydd y rhain yn gwella cyflawniad ac yn llunio rhestr benodol o flaenoriaethau. Byddaf hefyd yn ystyried ein strwythurau cynghori, er mwyn sicrhau y gellir optimeiddio'r rhain dros y misoedd nesaf.

Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau'r Senedd i ddatblygu twf economaidd. Rwyf eisiau i ni fod yn effro i'r rhwystrau a'r heriau, a chydweithio i ddatblygu atebion i gyflawni'r canlyniadau gorau i bobl Cymru.

15:50

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd Cabinet, am y datganiad. Mae economi Cymru yn dapestri cyfoethog o sectorau, sy'n cynnwys busnesau ym maes amaethyddiaeth, twristiaeth, gweithgynhyrchu, technoleg, adeiladu, ynni, a llawer mwy, ac mae gan bob un ohonynt, rwy'n credu, ddyfodol cyffrous, ond i economi Cymru o dan y Llywodraeth Lafur hon, mae wedi bod yn gyfnod anodd.

Gadewch i ni edrych yn gyntaf ar y Deyrnas Unedig. Ar lefel y DU, mae'r Llywodraeth Lafur newydd wedi etifeddu'r economi sy'n tyfu gyflymaf yn y G7, chwyddiant ar 2 y cant ac economi a welodd 800 o swyddi newydd yn cael eu creu bob dydd ers 2010. Ar y llaw arall, beth fyddai Llywodraeth Geidwadol Cymru pe bai'n dod i mewn yn etifeddu oddi wrth Lafur yma yng Nghymru? Cyfradd cyflogaeth Cymru: yr isaf yn y DU. Anweithgarwch economaidd Cymru: yr uchaf yn y DU. Ac, ar gyflog clir, mae gan enillwyr Cymru lai yn eu pocedi bob mis na'u cymheiriaid yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Etifeddiaeth wirioneddol ysgytwol Llafur a'u polisïau.

Gadewch i ni edrych ar un o'r ystadegau hynny yn fwy manwl. O dan 14 mlynedd o Lywodraeth Geidwadol y DU, crëwyd 800 o swyddi newydd bob dydd, ac eto yng Nghymru, nid oes gennym unrhyw dargedau swyddi, heb fawr mwy na dull gweithredu gwasgarog o ddatblygu economaidd. Felly, a all yr Ysgrifennydd Cabinet ymrwymo i darged creu swyddi, fel y gallwn gael y nifer syfrdanol hwn o bobl economaidd anweithgar yn ôl i waith, darparu ar gyfer eu teuluoedd, ac yn y pen draw, gefnogi eu heconomi a'u cymuned leol?

Cawsom addewid o wlad o laeth a mêl yn dychwelyd gyda Llafur yn ôl yn Llywodraethu yn Llundain, ond mae'r realiti yn wahanol iawn. Ym mis Medi yn unig, fe wnaeth cronfeydd sy'n canolbwyntio ar y DU weld tynnu'n ôl net o £666 miliwn. Mae hynny'n llai o fuddsoddiad, nid mwy; llai o swyddi, nid mwy; ac economi sy'n arafu, nid un sy'n tyfu. Ac yn ôl Calastone, mae'r gwacáu cyfoeth a'r buddsoddiad hwn o'r DU yn ganlyniad i feirniadaeth lom ar Starmer a'i Lywodraeth.

Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i agor y drysau ar gyfer mwy o fuddsoddiad i Gymru? Sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn creu'r dŵr coch clir hwnnw rhwng pesimistiaeth ei chydweithwyr Llafur y DU, i geisio croesawu buddsoddwyr i Gymru a gwella hyder busnesau, oherwydd bod yr ystadegau yma yn glir? Roedd chweched adroddiad blynyddol Dirnad Economi Cymru yn glir: mae hyder busnesau yn isel, gyda phryderon am yr economi ddomestig yn parhau i fod yn bryder rhif 1. Ar ben hynny, mae'r adroddiad yn dangos bod nifer y marwolaethau busnes yng Nghymru yn parhau i fod yn fwy na genedigaethau busnes, fel y bu ers 2021. Yn chwarter 1 2024, dechreuwyd 2,795 o fusnesau, ond yn yr un cyfnod caewyd dros 3,000. Ysgrifennydd Cabinet, y dirywiad hwn a reolir, am faint mwy o amser ydym ni'n barod i hyn barhau?

Nid geiriau budr yw twf economaidd a chyfoeth; mae eu hangen i ariannu ein hysgolion, ein hysbytai a'n gwasanaethau cyhoeddus eraill yr ydym yn meddwl y byd ohonyn nhw. Os ydym am gael twf, mae angen i fusnesau ffynnu. Felly, beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella'r amgylchedd i fusnesau yng Nghymru, fel bod y busnesau hynny sy'n dechrau neu'n bodoli eisoes yn cael y cyfle gorau i oroesi?

Rwy'n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi sôn am ynni yn ei datganiad. Yn wir, rwy'n credu ei fod yn beth da bod y gair ynni yn enw ei phortffolio Cabinet, oherwydd bod gan Gymru gymaint o gyfle yn y maes hwn. Mae 'cyfle' yn air a ddefnyddiodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth gyfeirio at wynt arnofiol ar y môr, diwydiant yr wyf wedi'i hyrwyddo ers tro, ers i mi gael fy ethol, ynghyd â'r porthladdoedd rhydd yng Nghymru. Fodd bynnag, mae angen i ni droi cyfle yn realiti, ac mae cynllunio a chydsynio yn gymaint o rwystr i'r datblygiadau mawr eu hangen hyn, felly nid yw sôn am gynyddu ffioedd pan fydd angen edrych ar y system gyfan yn ddim mwy na ffidlan o amgylch yr ymylon.

Yn olaf, ar sgiliau, mae angen gweithlu medrus ar fusnesau, un sy'n ateb y galw ar gyfer pethau fel prosiectau adeiladu a seilwaith. Y gwir amdani yw bod colegau a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru yn wynebu toriad o tua 24 y cant i'w cyllidebau prentisiaeth 2024-25. Sut ydym yn mynd i gael y gweithlu a ddymunir ar gyfer y dyfodol os na allwn hyfforddi ein pobl ifanc? Sut ydym am adeiladu cartrefi a seilwaith i gwrdd â heriau'r argyfwng tai a'r newid hinsawdd? A wnewch chi siarad â'ch cyd-Ysgrifenyddion yn y Cabinet i drafod ariannu colegau a darparwyr hyfforddiant yn iawn, fel y gallant addysgu mwy o bobl ifanc yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt yma ac y mae ein gwlad eu hangen, fel y gallant aros yng Nghymru?

Ysgrifennydd Cabinet, ar ôl 25 mlynedd, mae gan y darlun economaidd o Gymru olion bysedd methiannau Llafur drosto i gyd. Ni all y Llywodraeth hon guddio yn y cysgodion mwyach a phwyntio bys a beio eraill. Gydag ychydig dros 18 mis i fynd tan etholiadau'r Senedd—

15:55

—bydd y rheini'n rhoi cyfle i bobl Cymru fynegi eu barn ynghylch a yw'r Llywodraeth hon wir yn gweithio er eu budd gorau, oherwydd ein bod ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn barod i gymryd yr awenau i ddeffro a rhyddhau'r ddraig sy'n cysgu sef economi Cymru. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Rwy'n ddiolchgar iawn i Sam Kurtz am ei sylwadau y prynhawn yma, ac rwyf am ddechrau, fel y gwnaeth ef, trwy gydnabod y tapestri cwbl gyfoethog o sectorau sydd gennym yma yng Nghymru. Mae rhai ohonyn nhw, rwy'n credu, yn ein rhoi ni ar lwyfan y byd. Cefais gyfle i gwrdd â'n tîm marchnata Cymru yn gynharach heddiw, i drafod y gwaith pwysig y maent yn ei wneud yn gwerthu Cymru ledled y byd. Ac rwy'n credu ein bod ni'n adnabyddus iawn am rai o'n sectorau, gan gynnwys twristiaeth—y croeso Cymreig cynnes iawn, iawn mae pobl yn ei gael pan ddônt yma—ond hefyd rhai o'r meysydd sgiliau uchel iawn, gan gynnwys gweithgynhyrchu uwch, modurol ac ati, felly mae Cymru yn bendant ar y map. Felly, rwy'n credu bod gennym lawer iawn i fod yn gadarnhaol yn ei gylch.

Fe wnaeth Sam Kurtz siarad am etifeddiaeth, wrth gwrs, a'r hyn y mae Llywodraeth newydd y DU wedi'i etifeddu yw, wrth gwrs, twll du'r gyllideb o £22 biliwn, sy'n gwneud y dyfodol yn anodd iawn. Ond mae Llywodraeth newydd y DU yn canolbwyntio'n llwyr ar dwf, ac, wrth wneud hynny, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth newydd y DU yn y maes o ddatblygu ei strategaeth ddiwydiannol. Mae hynny'n mynd i fod yn bwysig iawn i ni yma yng Nghymru yn enwedig o ystyried ein sylfaen ddiwydiannol. Ond yna hefyd mae'r strategaeth fasnach y mae Llywodraeth y DU yn ei datblygu ar hyn o bryd—bydd honno'n rhywbeth yr ydym ni, unwaith eto, yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU arni. 

Byddwn yn gwrthod yr awgrym bod gennym ddull gweithredu gwasgaredig yma yng Nghymru. Rwy'n credu 'does ond rhaid i chi edrych ar y ffordd yr ydym yn targedu ein rhaglenni prentisiaeth i weld ein bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n ceisio diwallu anghenion sgiliau strategol. Rydym yn dylunio'r rhaglenni hynny i wella cynhyrchiant, ac rydym yn blaenoriaethu buddsoddiad i fynd i'r afael â'r prinder sgiliau y gwyddom eu bod yn bodoli, a datblygu prentisiaethau yn y sectorau twf penodol, y soniais amdanyn nhw yn fy araith y prynhawn yma. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol, wrth gwrs, ond hefyd yn ystyried gwybodaeth am y farchnad lafur ac adolygiadau sector a gynhelir gan Cymwysterau Cymru, er mwyn sicrhau ein bod yn targedu ac yn strategol yn y mathau o brentisiaethau rydym yn eu darparu.

Rwy'n credu hefyd, fodd bynnag, fod y pwynt am iaith yn bwysig iawn. Rydym yn croesawu buddsoddiad yma yng Nghymru, ac mewn gwirionedd, mae gan Gymru un o'r ecosystemau gorau posibl ar gyfer cymorth busnes, twf a mewnfuddsoddiad sy'n bodoli. Mae gennym Busnes Cymru, sy'n cynnig gwasanaeth hollol wych i fusnesau yma yng Nghymru. Ac yna, wrth gwrs, mae Banc Datblygu Cymru hefyd, sy'n darparu cefnogaeth ardderchog. Mae wedi cefnogi 430 o fusnesau gwahanol, gan elwa ar 491 buddsoddiad, cyfanswm o £125.2 miliwn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Cynhyrchodd y buddsoddiad hwnnw £50 miliwn o gyd-fuddsoddiad yn y sector preifat, gyda 4,406 o swyddi wedi'u creu neu eu diogelu, gan ragori mewn gwirionedd ar y targed a osodwyd, sef 3,779. Felly, rwy'n credu bod hynny'n gadarnhaol iawn.

Cefais y cyfle yn gynharach heddiw i ddiolch yn bersonol i Gareth Bullock, sy'n gadael ei swydd fel cadeirydd y banc datblygu, am ei holl waith rhagorol a diysgog dros gymaint o flynyddoedd. A buom yn siarad am y ffaith bod gan Banc Datblygu Cymru gymaint i'w gynnig mewn gwirionedd. Mae ganddynt arbenigwyr mewn cyllid eiddo, mae ganddynt arbenigwyr mewn cynhyrchion gwyrdd a chael y rheini i'r farchnad. Felly, rwy'n credu ein bod yn sicr yn gam ar y blaen mewn sawl ffordd, ac mae gennym y cyfleoedd hynny i gefnogi busnesau. Rydym wedi gweld rhai enghreifftiau gwych o fewnfuddsoddi, yn enwedig yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, o ran y buddsoddiad o £1 biliwn ar safle Melin Shotton, ac roeddwn yn falch o ymweld ag ef ochr yn ochr ag Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth yn ddiweddar. Felly, mae cymaint o bethau y dylem fod yn gadarnhaol yn eu cylch, ac mae'r pwynt hwnnw am iaith yn bwysig iawn.

A dim ond sôn am wynt arnofiol ar y môr hefyd. Mae hwnnw'n faes penodol lle credaf fod iaith yn bwysig iawn. Mae angen i ni ddangos bod gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb yn yr agenda hon a'n bod yma i gefnogi. Felly, rwy'n falch iawn y byddaf i—mae wedi'i recordio ymlaen llaw—yn rhoi araith mewn cynhadledd ar wynt arnofiol ar y môr sy'n digwydd yr wythnos hon yn Aberdeen, i fuddsoddwyr yn y sector penodol hwnnw, ac yna cawn ddigwyddiad pellach yma yng Nghymru. Felly, rydym yn rhoi ein hunain mewn safle blaenllaw ym meddyliau'r buddsoddwyr hynny, gan ddangos ein cefnogaeth i'n porthladdoedd yng Nghymru, ein cefnogaeth i'n hagenda sgiliau ac ati. Felly, mae'r iaith yn bwysig iawn, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hynny.

16:00

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad. Rwy'n mynd i ddechrau fy ymateb i'r datganiad mewn ffordd eithaf rhyfedd mae'n debyg trwy gytuno mewn gwirionedd â rhywbeth a ddywedodd llefarydd y Ceidwadwyr mewn cyfeiriad at yr economi a dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran datblygu economaidd fel rhywbeth gwasgaredig. Roeddech yn defnyddio'r enghraifft o brentisiaethau; wel, os ydych chi'n siarad â cholegau addysg bellach, dyna'n union maen nhw'n ei ddweud wrthon ni—mae yna deimlad bod dull gweithredu Llywodraeth Cymru yn wasgaredig. Dyna pam na allaf or-bwysleisio pwysigrwydd bod â strategaeth ddiwydiannol, pwysigrwydd bod â strategaeth fasnach. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld beth sy'n dod i'r bwrdd o ran y strategaeth ddiwydiannol a'r strategaeth fasnach honno a'r Bil hawliau gweithwyr.

Rydyn ni i gyd yn gwybod beth yw'r ffigurau erbyn y pwynt hwn—erbyn hyn rwy'n eu hadrodd yn fy nghwsg. Yr hyn yr wyf yn awyddus i'w ddeall yw'r hyn yr ydym yn edrych arno. O ran gwella twf economaidd, beth yw nodau'r Llywodraeth? Yn y datganiad, mae nifer o egwyddorion ac uchelgeisiau, ond beth yw'r amcanion? Beth yw'r marcwyr y tu hwnt i ddweud yn syml ein bod ni'n mynd i wella twf economaidd? Mae risg yma y gallwn ffeilio'r datganiad hwn gyda datganiadau blaenorol gan nad oes targedau amlwg ar y ffordd i wella twf. Dyfynnaf o'r datganiad:

'Byddwn yn sicrhau amgylchedd sydd o blaid busnes ac o blaid y gweithiwr, gyda fframwaith cystadleuaeth, cynllunio a rheoleiddio sy'n cefnogi arloesedd, ymchwil, buddsoddiad a swyddi o ansawdd uchel.'

Gwych. Rydym yn cytuno mewn egwyddor. Ond yr hyn yr ydym eisiau ei weld yw sut mae hynny'n edrych mewn gwirionedd—rhywbeth y gallwn gnoi cil arno i ddeall safbwynt y Llywodraeth a chael, wedyn, y ddadl onest honno ar y cyfeiriad ymlaen. Gyda pharch, nid yw'r datganiad hwn yn caniatáu ar gyfer hynny.

Rwyf am ymdrin â dau beth. Yn gyntaf, twf economaidd. Sut fydd y Llywodraeth yn mesur y twf hwnnw? Rwy'n credu y gallwn gytuno, pe baem ni dim ond yn mesur o ran cynnyrch domestig gros, na fyddai hynny o reidrwydd yn rhoi gwir adlewyrchiad i ni ynghylch a yw'r economi'n cyflawni ar gyfer ein hetholwyr ai peidio. Fe wnaethon ni grybwyll hyn yn nadl fer Hannah ychydig wythnosau yn ôl. Mae'r safleoedd byd-eang ar yr economi yn wahanol iawn pan fyddwn yn dechrau mesur llwyddiant economaidd yn wahanol. Felly, sut y bydd y Llywodraeth yn mynd ati i fesur y twf hwnnw?

Yn ail, rwy'n croesawu gweld o fewn y datganiad hwn y gydnabyddiaeth bod partneriaeth yn allweddol wrth gyflawni twf economaidd, ond eto, sut olwg sydd ar hyn? Os ydym yn sôn am ddarpariaeth gan gyflenwyr allanol yn unig i'r farchnad, yna ni fyddwn yn gweld y ddarpariaeth i'r graddau yr ydym yn dymuno. Nid yw cael darpariaeth gan gyflenwyr allanol ond yn lleihau capasiti'r Llywodraeth ymhellach.

I gloi ar y pwynt penodol hwn, mae partneriaeth yn iawn, ond os nad yw'r system bresennol o gymorth a chyllid busnes yn gweithio fel y dylai, unwaith eto, byddwn yn ei chael hi'n anodd gweld llwyddiant. Felly, pa ystyriaeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i roi i edrych ar rôl Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru a sut maen nhw'n gweithredu ac yn cael eu cynnwys? Nid yw'r darlun mor wych ag y gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet awgrymu yn ei hymateb i lefarydd y Ceidwadwyr. Cyhoeddwyd adroddiad gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a oedd yn fy marn i ag argymhellion synhwyrol iawn gan gynnig ffordd ymlaen ar gyfer Banc Datblygu Cymru, felly byddem yn croesawu rhai syniadau cychwynnol ar sut rydym yn symud ymlaen, a sut rydym yn sicrhau bod Banc Datblygu Cymru yn cyflawni ei botensial yn llawn mewn gwirionedd.

16:05

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiynau a'r sylwadau yna heddiw. Efallai fy mod ar fai yn anghofio cyfeirio at rywfaint o'r cynnydd a wnaed ers datganoli yn fy ymateb i'r sylwadau cyntaf y prynhawn yma, oherwydd mae'r duedd hir-dymor ar gyfer y gyfradd gyflogaeth wedi bod yn gadarnhaol iawn, gan leihau'r bwlch hwnnw, ac rwy'n credu bod hynny'n un o lwyddiannau mawr datganoli. Mae'r data arolwg poblogaeth blynyddol diweddaraf ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024 yn dangos bod cyfradd cyflogaeth Cymru bellach yn agos at fod yr uchaf erioed ers i gofnodion ddechrau, a dros y 10 mlynedd diwethaf mae'r gyfradd gyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu dros 4 y cant, gan ragori ar y cynnydd a welwyd yn y DU gyfan. Felly, dyna'r math o bethau y byddem yn awyddus i barhau i wneud cynnydd arnynt. Ond wedyn, hefyd, mae anweithgarwch economaidd, rwy'n gwybod, yn rhywbeth sy'n arbennig o bryderus i'r Aelod, fel y mae i Lywodraeth Cymru, ond mae hynny wedi gweld gostyngiad cyffredinol ers datganoli hefyd, gyda Chymru a'r DU yn dilyn tueddiadau tebyg yn y maes hwnnw. Felly, rwy'n credu bod y rheini'n ddau fetrig pwysig iawn, ac mae'r ffaith bod y rheini wedi gwella ers datganoli, oherwydd gweithredoedd Llywodraeth Cymru yn aml yn cael ei hanwybyddu

Rwy'n credu y bydd yr adolygiadau tymor byr yn bwysig wrth ganolbwyntio'n benodol ar rai o'r meysydd. Heriodd Luke Fletcher ni ynghylch dull gweithredu gwasgaredig, ond mewn gwirionedd bydd yr adolygiadau tymor byr hynny, gan edrych yn benodol, er enghraifft, at AI, yn ein helpu yn fawr iawn o ran canolbwyntio ar y pethau penodol hynny. Rwy'n gwybod bod llawer o iaith sych yn yr adroddiad, yn siarad am y cyd-destun rheoleiddio ac ati, ond rwy'n credu y bydd rhywfaint o rheini yn anochel yn bethau eithaf sych, oherwydd mae gennym y ddeddfwriaeth gaffael newydd, a gyflawnwyd gan Lywodraeth y DU a byddwn yn dweud mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, oherwydd roedd honno'n enghraifft wirioneddol o weithio mewn partneriaeth, i fod yn deg â Llywodraeth flaenorol y DU o ran hynny. Ond mae gennym ein deddfwriaeth ein hunain yma yng Nghymru hefyd. Felly, rwy'n credu y bydd y rheini'n bwysig iawn o ran gallu cefnogi busnesau Cymru, yn enwedig busnesau bach a chanolig, wrth ganiatáu iddynt gael cyfran well o'r arian sydd ar gael drwy gaffael cyhoeddus yma yng Nghymru.

Rwy'n gwybod ein bod ni wedi siarad o'r blaen, Luke Fletcher, am sut rydyn ni'n mesur cynnydd. Nid yw'n ymwneud â'r llinell waelod yn unig. Mae hefyd yn ymwneud â'r gwerth cymdeithasol hwnnw. Mae'r gwaith y mae Cwmpas yn ei wneud, rwy'n credu, yn bwysig iawn yn y maes penodol hwnnw. Cefais y cyfle i gadeirio fforwm adeiladu Cymru ddoe, ac mewn gwirionedd cawsom drafodaeth dda iawn ar yr union bwynt hwn, am gael dealltwriaeth gyson ynghylch beth yw gwerth cymdeithasol, am beth yw buddion cymunedol. Nid wyf yn credu ein bod wedi cyrraedd y pwynt hwnnw eto, oherwydd gwn fod gwahanol rannau o'r sector cyhoeddus yn gweithio i wahanol ddiffiniadau ac yn cyflawni gwahanol bethau. Felly, yn sicr mae yna waith i'w wneud yna.

O ran sut rydym yn dangos gweithio mewn partneriaeth, credaf mai enghraifft dda iawn fyddai'r ffordd yr ydym yn ymgymryd â'r gwaith trawsffiniol. Mae'r Gynghrair Ynni ar y Môr, er enghraifft, yn gorff aelodaeth clwstwr trawsffiniol. Mae hwnnw'n parhau i hyrwyddo cyfleoedd rhanbarthol a chefnogi datblygiad cadwyn gyflenwi drwy ystod o weithgareddau, ac mae hynny ar draws gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr. Soniais yn gynharach am Gynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy; rydym yn un o sylfaenwyr honno, ac rydym yn gwerthfawrogi'r bartneriaeth o sefydliadau sy'n gweithio yno i gefnogi'r economi drawsffiniol honno.

Bydd cyd-Aelodau wedi gweld y cyhoeddiad pwysig iawn ynglŷn â'r economi hydrogen a dal a storio carbon trawsffiniol yng ngogledd Cymru drwy gyhoeddiad HyNet a wnaed yn ddiweddar iawn. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid ar hynny ers nifer o flynyddoedd bellach ac rydym eisiau gwireddu'r buddion i bobl yma yng Nghymru. Dyma rai enghreifftiau yn unig o ffyrdd y gallwn weithio mewn partneriaeth ar draws ffiniau, ond wrth gwrs rydym yn gwneud hynny mewn partneriaeth ledled y sector cyhoeddus a phreifat yma yng Nghymru hefyd.

16:10

Diolch am y datganiad ar dwf economaidd heddiw.

Pan fyddwn yn siarad am dwf, a chredaf fy mod wedi dweud hyn yn y lle hwn o'r blaen, twf i bwy? Rwy'n credu bod angen i dwf fod yn deg yn y ffordd y caiff ei gynhyrchu a'i lywodraethu, ac fel rhan o ddull sy'n grymuso pobl yn hytrach na'u hecsbloetio. Rwy'n credu ei bod hi'n ddealladwy iawn ein bod ni eisiau denu mewnfuddsoddiad i Gymru, ond mae angen i hwnnw fod wedi'i angori yn ein cymunedau. Rwy'n credu i mi ac i eraill, yn rhy aml, rydym wedi gweld enwau mawr yn dod yma ac yna'n aml yn codi'u pac a diflannu, weithiau o fewn yr un degawd. Er ein bod yn naturiol eisiau creu cymaint o swyddi da â phosibl, rwy'n credu bod angen i hyn ymwneud ag ansawdd y swyddi hynny, nid dim ond y nifer.

I mi, ni ddylai arian cyhoeddus fynd at gwmnïau nad ydynt yn alinio eu hegwyddorion eu hunain ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i waith teg. Gwn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, fod y cyswllt economaidd wedi esblygu ac wedi ei wella. Rwy'n credu i mi, pan ddechreuodd, mae'n debyg ei fod yn ymwneud fwy ag arddull yn hytrach na sylwedd, ond mae wedi'i ddefnyddio fel offeryn bellach yn fwy effeithiol. Ond fy marn i yw y gallai ac y dylai fynd ymhellach, a dylai unrhyw sefydliad sy'n derbyn arian cyhoeddus fod wedi ymrwymo o leiaf i dalu'r cyflog byw go iawn, cynnig oriau contract i'w holl weithwyr os ydyn nhw'n dymuno hynny, a chaniatáu mynediad i undebau llafur a hyrwyddo aelodaeth undebau llafur. Ysgrifennydd Cabinet, a gaf i ofyn a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y newidiadau hyn, newidiadau rwy'n credu y byddai'n gwneud i'r economi weithio'n llawer gwell i weithwyr ac i Gymru?

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiynau yna. Byddwn i'n dweud bod Llywodraeth Cymru yn gefnogol iawn i'r agenda sydd wedi'i nodi yng nghynllun Llywodraeth y DU i wneud i waith dalu, a hefyd wrth gwrs y Bil hawliau cyflogaeth arfaethedig. Rydym wedi cael rhai trafodaethau adeiladol iawn ar lefel swyddogol am y dull o weithredu, gyda rhythm rheolaidd o gyfarfod bob pythefnos gyda Llywodraeth y DU yn y maes hwnnw. Rwy'n credu bod hynny'n gadarnhaol iawn.

Roedd yr amlinelliad rwy'n credu y gwnaeth Hannah Blythyn ei ddisgrifio nawr yn rhan fawr iawn o'r drafodaeth a gawsom yn y cyngor partneriaeth gymdeithasol yr wythnos diwethaf yn unig. Rydym wedi cytuno y bydd is-grŵp yn cael ei sefydlu i edrych yn fanylach ar y math o faterion rydych chi wedi'u disgrifio o ran sut rydyn ni'n sicrhau'r budd mwyaf i weithwyr o'r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi—y math yna o ddull rhywbeth-am-rywbeth, sydd mor bwysig.

Rwyf hefyd yn bwriadu rhoi rhywfaint o ystyriaeth i'r contract economaidd hefyd, er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o werth hwnnw ac i sicrhau ei fod yn gyfredol ac yn addas i'r diben wrth i ni symud ymlaen hefyd. Ond hoffwn roi'r sicrwydd hwnnw bod y mater hwnnw'n rhywbeth sy'n cael ei archwilio drwy'r cyngor partneriaeth gymdeithasol ar hyn o bryd.

Roedd newyddion siomedig gan Nidec Drives yn Y Drenewydd y bore 'ma, gyda'r posibilrwydd o 65 o ddiswyddiadau. Bydd hwn yn gyfnod pryderus, wrth gwrs, i lawer o staff y gallai hwn effeithio arnyn nhw. Rydych chi wedi dweud yn eich datganiad heddiw, Gweinidog, mai Cymru'n Gweithio yw porth gyrfaoedd Llywodraeth Cymru. Felly, a allwch chi siarad am sut y bydd hynny'n digwydd, yn ymarferol, sut y bydd pobl yn cael eu cefnogi yn y Drenewydd a allai golli eu swyddi oherwydd nad oes modd eu hadleoli i rannau eraill o'r busnes? Sut fydd hynny'n gweithio'n ymarferol o ran paru pobl sydd â sgiliau penodol gyda busnesau eraill yn yr ardal?

Rwyf hefyd wedi siarad â llywydd dros dro Nidec Drives y prynhawn yma ac mae'n dweud y gwnaed y cyhoeddiad oherwydd dirywiad ym marchnad y byd; nid oherwydd eu bod yn ystyried symud cynhyrchu o'r Drenewydd i rannau eraill o'r wlad neu'r byd. Mae potensial i ddod â swyddi yn ôl wrth i amodau marchnad y byd newid. Rydych chi wedi dweud yn eich datganiad heddiw eich bod chi eisiau sicrhau amgylchedd sydd o blaid busnes sy'n cefnogi arloesedd, buddsoddiad a swyddi o ansawdd uchel. Felly, pa gamau ymarferol y bydd y Llywodraeth a swyddogion Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nawr i weithio gyda Nidec i helpu i dyfu'r busnes hwnnw? 

16:15

Rwy'n ddiolchgar iawn i Russell George am godi hynna yn y Siambr a hefyd yn ddiolchgar am y cyfle a gawsom i drafod hyn y tu allan i'r Siambr heddiw hefyd, o ystyried pwysigrwydd a brys hyn. Mae'n newyddion siomedig ac yn gyfnod ansicr iawn nawr i'r holl staff dan sylw. Rwy'n deall, ar hyn o bryd, nad yw'n glir faint o swyddi a allai fynd, ond rwyf eisiau eich sicrhau bod swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â'r cwmni i gynnig cymorth a byddwn yn gweithio gyda nhw ar y mater hwn. Mae swyddogion hefyd mewn cysylltiad â Cymru'n Gweithio yn barod i ymateb i unrhyw ddiswyddiadau pe baent yn cael eu cadarnhau, ac felly gallai'r gefnogaeth drwy Cymru'n Gweithio gynnwys cefnogaeth ReAct, er enghraifft, ystyried ailsgilio pobl os yw hynny'n briodol, neu eu paru â swyddi tebyg, fel y dywedwch chi, gyda swyddi gwag eraill yn yr ardal. Felly, mae'n debyg, byddai'r gefnogaeth honno'n bwrpasol i'r unigolyn dan sylw. Ond diolch am ei godi, ac rwyf eisiau eich sicrhau bod swyddogion mewn cysylltiad agos â'r cwmni.

Hoffwn godi dau bwynt os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, mae twf economaidd yn cael ei bennu, yn anorfod, gan iechyd y boblogaeth, ac mae gennym ni bob amser y cyfraddau o anweithgarwch economaidd sydd ymhlith yr uchaf yn y DU, sy'n cael ei ysgogi gan salwch hirdymor yn y gweithlu yn bennaf. Felly, a yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn derbyn, hyd nes y bydd y Llywodraeth wir yn mynd i'r afael â gwella canlyniadau iechyd ein cenedl, y bydd yr uchelgeisiau ar gyfer twf economaidd yn cael eu cyfyngu yn eu hanfod?

Yn ail, yn y datganiad, mae'n nodi ac yn dweud eich bod yn sôn am ffynhonnell ynni fforddiadwy a gwyrdd cyn mynd ymlaen i gyfeirio at Cwmni Egino yn datblygu ynni adnewyddadwy newydd. Nawr, mae cylch gwaith Cwmni Egino yn niwclear. A all yr Ysgrifennydd Cabinet esbonio sut mae pŵer niwclear yn cael ei ystyried yn rhad pan fydd yn Hinkley C, er enghraifft, yn mynd i fod yn £92.50 MWh ac mae'n costio mwy na £46 biliwn ar hyn o bryd? Sut mae hi'n ystyried bod pŵer niwclear yn wyrdd pan fydd yn cynhyrchu allyriadau fel hecsafflẅorid sylffwr a sut mae niwclear yn cael ei ystyried yn adnewyddadwy pan fo'n amlwg nad ydyw?

Felly, mewn perthynas â'r pwynt cyntaf am ganlyniadau iechyd a'r economi, nid wyf yn credu y byddai unrhyw un yn anghytuno bod poblogaeth iach yn bwysig o ran yr economi, oherwydd bydd pob un ohonom, rwy'n credu, yn rhy gyfarwydd â'r ystadegau o ran nifer y bobl sydd i ffwrdd o'u gwaith yn sâl, lle bynnag y bo hynny, ac rydym yn gwybod bod iechyd meddwl yn bryder penodol. Cawsom y datganiad gan fy nghyd-Aelod Cabinet yn gynharach y prynhawn yma am iechyd meddwl a'r math o gefnogaeth y gallem ei darparu i bobl. Rwy'n gwybod mai materion cyhyrysgerbydol yw'r mater mwyaf pryderus o ran pobl sydd angen cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith, ac, unwaith eto, mae'r rhain yn bethau sydd y tu hwnt i'm portffolio, ond y mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol ohonynt ac yn ceisio mynd i'r afael â nhw.

Mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylid ystyried pŵer niwclear fel rhan o gyflawni uchelgeisiau sero net i fynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd ac y dylai rhanbarthau a chymunedau lleol sy'n cynnal safleoedd o'r fath elwa ar seilwaith carbon isel a dylent sicrhau buddion priodol o ganlyniad i hynny. Felly, rydym yn cefnogi'r defnydd o safleoedd trwyddedig cyfredol i helpu i gyflawni uchelgeisiau o'r fath. Fel y dywedom o'r blaen, mae ein pwyslais fel Llywodraeth yn fawr iawn ar y pontio teg hwnnw i economi carbon isel, gan sicrhau bod yr holl bŵer newydd a gynhyrchir yng Nghymru yn ddi-allyriadau. Bydd ynni adnewyddadwy ar flaen y gad yn y newid hwnnw, gan adlewyrchu argymhellion y Pwyllgor Newid Hinsawdd annibynnol i gynyddu'r gwaith o gynhyrchu carbon isel, ond bydd niwclear yn chwarae rhan ar y daith honno i Gymru ddi-allyriadau. Felly, rwy'n gwerthfawrogi bod safbwyntiau gwahanol ar hynny. Wrth gwrs, mae penderfyniadau polisi cyffredinol yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU o ran rôl y dyfodol, ond rwy'n credu fy mod i wedi nodi dull gweithredu penodol Llywodraeth Cymru ar gyfer symud ymlaen.

Mae economi Cymru wedi perfformio'n wael o'i chymharu â chyfartaledd y DU, yn enwedig o'i chymharu â Llundain a de-ddwyrain Lloegr dros y cyfnod cyfan ar ôl y rhyfel. Mae gennym gyfran lai o'n poblogaeth yn gweithio mewn sectorau cyflog uwch fel gwyddorau bywyd, TGCh, gwasanaethau gwyddonol a thechnegol proffesiynol, y celfyddydau ac adloniant. Hyd nes yr eir i'r afael â strwythur economi Cymru, yna bydd twf yn parhau i fod y tu ôl i gyfartaledd y DU. O edrych ar ranbarthau Ewropeaidd llwyddiannus, fel Hamburg, Salzburg a de Iwerddon, rydym yn gweld mewnfuddsoddiad mwy sylweddol ac, yn hollbwysig, cwmnïau cychwynnol yn y sectorau TGCh, fferyllol a gwyddorau bywyd. Mae'r sectorau newydd yn elwa ar Lywodraeth ac, unwaith eto, yn hollbwysig, cymorth prifysgol. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi bod angen strategaeth arnom i gynyddu cyflogaeth TGCh a gwyddorau bywyd drwy fewnfuddsoddi a thyfu cwmnïau o Gymru? Sut mae'r Gweinidog yn mynd i gael y sector prifysgolion i gymryd rhan? Ac yn olaf, mae angen mwy o swyddi Llywodraeth San Steffan. Mae pwysigrwydd y DVLA i Fae Abertawe mor adnabyddus i'r Gweinidog ag y mae i mi, ac mae'n cael effaith enfawr. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ar adleoli swyddogaethau Llywodraeth ganolog i Gymru?

16:20

Hyd yn hyn, nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth y DU o ran adleoli swyddi i Gymru, ond, wrth gwrs, rydym yn barod i gael y trafodaethau hynny gyda Llywodraeth y DU. Mae'n debyg y byddent yn cael eu harwain, o bosibl, gan gyd-Aelodau Cabinet eraill, ond byddaf yn sicr yn archwilio hynny ymhellach, oherwydd gwn ei fod yn fater a gododd Mike Hedges yn y Siambr dim ond yr wythnos diwethaf hefyd. Felly, rwy'n awyddus, efallai, i siarad â Mike mewn ychydig mwy o fanylder am ei feddyliau, ond rwy'n cydnabod yn llwyr bwysigrwydd y DVLA i Abertawe; rydym yn rhannu llawer o etholwyr, rwy'n credu, sy'n gweithio yno.

O ran gwyddorau bywyd, mae hwnnw'n faes allweddol iawn, ac mewn gwirionedd, mae'n un o'r meysydd y mae gennyf i a'r Gweinidog iechyd gyfrifoldeb drosto. Rwy'n gyffrous iawn ein bod yn mynd â nifer o fusnesau i'r gynhadledd MedTech yn fuan iawn, yn yr Almaen, i arddangos rhai o'r busnesau gwyddorau bywyd anhygoel sydd gennym yma yng Nghymru yn barod. Mae'n sector hollol allweddol i ni. Mae dros 319 o gwmnïau, yn amrywio o BBaChau i gwmniau mawr o'r radd flaenaf, gyda throsiant o tua £2.85 biliwn, ac mae'n sector sy'n cyflogi dros 13,000 o bobl. Y cryfderau penodol sydd gennym yma yng Nghymru yw ym maes medtech, diagnosteg, gwella clwyfau, meddygaeth adfywiol a niwrowyddorau. Felly, mae'n sector allweddol i ni, ac mae'n ffynhonnell swyddi â chyflog da, sgiliau uchel ac mae'n denu cryn dipyn o fuddsoddiad uniongyrchol tramor hefyd.

Mae gennym, wrth gwrs, y cynllun gweithredu allforio ar gyfer Cymru, ac mae gan hynny lefel gynhwysfawr o gefnogaeth i fusnesau, yn enwedig yn y sector gwyddorau bywyd. A soniais am y grant ar gyfer ymweliadau tramor i ddatblygu busnesau, y mae nifer o fusnesau yn manteisio arno i fynd i Medica, yn hytrach na MediTech—Medica—yn yr Almaen, ond hefyd i Arab Health yn yr Emiradau Arabaidd Unedig a Bio yn UDA. Felly, mae'r rheini'n ddigwyddiadau llwyddiannus iawn yr ydym wedi'u cael o'r blaen, ac rwy'n gwybod eu bod wedi cael eu hymestyn i eleni hefyd.

Ysgrifennydd Cabinet, cefais y pleser o fod yn bresennol yn agoriad swyddogol yr Hwb Sgiliau Trawsnewid i Ynni Adnewyddadwy yng Ngholeg Sir Benfro yn fy etholaeth i yn ddiweddar. Datblygwyd yr hwb newydd gan y coleg a Shell UK a'i nod yw rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i bobl ddod o hyd i waith mewn prosiectau ynni adnewyddadwy a charbon isel. Nawr, mae gan y ganolfan hefyd ystafell reoli newydd o'r radd flaenaf, a fydd yn galluogi hyfforddiant mewn systemau rheoli ar gyfer nifer o sectorau ynni pwysig. Felly, heb os, bydd yr hyfforddiant hwn yn rhoi sgiliau i unigolion sy'n eu paratoi ar gyfer y gweithle ac yn helpu i sicrhau bod sir Benfro yn parhau i fod yn gystadleuol yn fyd-eang yn y sectorau ynni adnewyddadwy a charbon isel yn y dyfodol. Dyma'r union fath o gydweithio y dylem fod yn ei hyrwyddo, ac felly, Ysgrifennydd Cabinet, a allwch chi ddweud wrthym beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu a chefnogi partneriaethau fel hyn ledled Cymru er mwyn helpu i ddatblygu a sicrhau bod gan Gymru y gweithlu medrus sydd ei angen arni yn y dyfodol?

Rwy'n credu mai un o'r pwerau sydd gennym ni fel Llywodraeth Cymru yw'r pŵer hwnnw i ddod â phartneriaid at ei gilydd, felly dod â diwydiant a'n colegau a'n prifysgolion at ei gilydd a hefyd cael y trafodaethau cynnar hynny fel y gall busnesau nodi'r sgiliau y gallai fod eu hangen arnynt yn y dyfodol, a gallwn weithio, wedyn, i sicrhau bod gennym y llif hwnnw o weithwyr ar gael iddynt fanteisio ar y swyddi hynny. Roedd yn ddrwg iawn gennyf nad oeddwn yn gallu dod i'r lansiad yn sir Benfro. Rwy'n credu ei fod yn hollol gyffrous, ac rwyf wedi bod yn siarad amdano, mewn gwirionedd, gyda fy nghyd-Aelod Cabinet, Vikky Howells, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, ac mae hi hefyd yn teimlo'n gyffrous iawn am y peth. Felly, rydym wedi dweud, os gallwn o bosibl drefnu ymweliad ar y cyd, y byddwn yn gwneud hynny, ond os na allwn, bydd yn mynd i ymweld ar ei phen ei hun yn fuan iawn fel rhan o'i thaith o golegau. Ond roedd hi'n awyddus iawn i weld y gwaith hwnnw'n arbennig. Ond, fel rwy'n dweud, rwy'n awyddus iawn, iawn i gael gwybod amdano hefyd, oherwydd mae pobl yn teimlo'n gyffrous iawn am y peth ac rwy'n awyddus iawn i ddarganfod mwy.

16:25

Yn dilyn y cyhoeddiad y bydd cynnig gwyrddgalchu trawsffiniol HyNet yn mynd rhagddo, yn cludo carbon deuocsid mewn pibellau o Stanlow ar draws sir y Fflint i'w storio ar y môr yn Nhalacre, sut y bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Chyfoeth Naturiol Cymru yn sicrhau na fydd cludo carbon deuocsid yn agored i unrhyw ollyngiadau na thoriadau ar hyd y bibell neu pan gaiff ei storio ar y môr yn Nhalacre; y bydd cymunedau yr effeithir arnynt yn cael iawndal priodol ac nid yn unig yn cael £3,000 am adfer ardal chwarae; ac y bydd pontio priodol o danwydd ffosil a dal carbon deuocsid yn digwydd? Clywais fod Stanlow mewn gwirionedd yn adeiladu mewnforiwr carbon deuocsid ac maen nhw'n bwriadu mewnforio amonia gwyrdd hefyd, ac, o bosib, byddant yn mewnforio amonia gwyrdd o India fel rhan o'r prosiect hwn i greu hydrogen glas. Diolch.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn. Rwyf am gydnabod fy mod yn gwybod bod gan Carolyn Thomas farn gref iawn ar y cynnig penodol hwn. Byddwn yn dweud, serch hynny, fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ers nifer o flynyddoedd gyda HyNet ar y prosiect datgarboneiddio gwerth miliynau o bunnau. Cefais y cyfle, ochr yn ochr ag Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth, i ymweld â Heidelberg Materials yn Padeswood yn ddiweddar—mae hwnnw'n rhan o'r consortiwm y tu ôl i'r prosiect, sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyllid fel rhan o broses pennu dilyniant o glystyrau dal a storio carbon cam 2 Llywodraeth y DU. 

Byddai'r prosiect yn dal ac yn storio tua 800,000 tunnell o garbon deuocsid bob blwyddyn ac yn galluogi'r gwaith i gynhyrchu sment carbon sero net, sydd, rwy'n credu, yn gam sylweddol iawn ymlaen i'r diwydiant sment; dyma fyddai'r gwaith sment sero net cyntaf, rwy'n credu, yn y DU, os nad ymhell y tu hwnt i hynny hefyd. Felly, rydym yn gweithio'n agos iawn ar hynny. 

O ran y pwynt ehangach hwnnw ynghylch dal a storio carbon, bwriad Llywodraeth Cymru yw darparu datganiad cliriach o'n barn a'n dull gweithredu o ran y defnydd o ddal a storio carbon, a fyddwn, o bosibl, yn ei gynnig ar gyfer ymgynghoriad, er enghraifft, ochr yn ochr â'n dull gweithredu o ran hydrogen hefyd, oherwydd mae'r ddau beth hyn yn newydd ac arloesol. Rydym yn gwybod bod gan bobl farn gref, ac rydym yn awyddus i glywed ganddynt.

Ysgrifennydd Cabinet, diolch yn fawr iawn am eich datganiad. Mae llawer ynddo rwy'n ei groesawu, ond bydd yn rhaid aros, fel pob amser, i weld y canlyniadau go iawn. Rydych chi'n siarad am ddull gweithredu o blaid y gweithiwr ac o blaid busnes o ran twf economaidd, ond nid yw hyn yn wir. Yn sicr, ni fyddai llawer o fusnesau rydw i wedi siarad â nhw yn teimlo hynny—llawer o'r mentrau bach a chanolig hynny—yn sicr yn y sector lletygarwch, manwerthu a hamdden. Wyddoch chi, yn yr ardal honno, roedden nhw'n talu dwbl y cyfraddau ardrethi busnes o gymharu â'u cymheiriaid yn Lloegr, ac roedd hynny'n achosi pwysau enfawr, yn enwedig os ydyn nhw'n byw ger y ffiniau.

Nawr, BBaChau yn fwy cyffredinol yw anadl einioes economi Cymru, ond ymddengys eu bod yn aml yn cael eu hesgeuluso, fel yn y datganiad hwn; nid wyf yn credu eu bod yn cael eu crybwyll unwaith yn y datganiad. Nawr mae gan eich Llywodraeth y gallu i weithredu lluosydd haenog i sicrhau nad yw busnesau bach a chanolig yng Nghymru yn talu'r un gyfradd â busnesau mwy. Pa gynlluniau sydd gennych i ddefnyddio'r pŵer hwn i leddfu'r baich treth ar lawer o fusnesau bach teuluol yma yng Nghymru?

Rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn, a hoffwn atgoffa cyd-Aelodau bod ymestyn y rhyddhad ardrethi dros dro ar gyfer y sector lletygarwch ar 40 y cant yn dilyn cefnogaeth dros £2 biliwn dros y blynyddoedd diwethaf, a gwaddol COVID oedd yr hyn yr oeddem yn ceisio mynd i'r afael ag ef trwy barhau'r rhyddhad yn y maes penodol hwnnw.

Mae Peter Fox yn iawn fod Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024, fel y mae nawr, yn rhoi'r gallu i Lywodraeth Cymru amrywio'r lluosydd yn y dyfodol. Byddai Llywodraeth Cymru eisiau ymgynghori ar hynny; rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, a gwn fod cyd-Aelodau o bob rhan o'r Siambr eisoes wedi rhoi rhai syniadau ynghylch sut y gallem fynd ati i ddefnyddio'r lluosydd, o ran dull sectoraidd neu ddull daearyddol, felly mae amrywiaeth o opsiynau y gellid eu defnyddio. Fy nghyd-Ysgrifennydd, yr Ysgrifennydd dros gyllid, fyddai'n cyflwyno unrhyw gynigion maes o law, ond dim ond cadarnhau na fyddai bwriad defnyddio'r lluosydd hwnnw yn y flwyddyn ariannol nesaf, oherwydd byddai'n rhaid i ni gynnal ymgynghoriad, a byddai penderfyniadau y byddai'n rhaid eu gwneud nad ydynt yn cyd-fynd â llinellau amser y gyllideb. Felly, mae'n fwy o offeryn tymor hwy—neu'n sicr nid tymor uniongyrchol—i Lywodraeth Cymru.

16:30

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fe wnaethoch chi sôn am dwf gwyrdd yn eich datganiad, ond mae twf gwyrdd yn costio i gymunedau. Mae llawer o bobl ym Mrycheiniog a Maesyfed yn bryderus iawn am ddiwydiannu canolbarth Cymru gan dyrbinau gwynt ar raddfa fawr. Fe wnaeth ymweliad Prif Weinidog Cymru a Phrif Weinidog y DU â fferm wynt ar y tir beri arswyd i lawer yn fy etholaeth, a hefyd dydy rhethreg Ed Miliband ddim wir yn helpu hynny chwaith. Ysgrifennydd y Cabinet, a fydd Llywodraeth Cymru yn sefyll dros bobl y canolbarth ac yn atal diwydiannu cefn gwlad, neu a wnewch chi sefyll gyda chorfforaethau mawr a chaniatáu i ffermydd gwynt gael eu rhoi ar hyd a lled fy etholaeth ar y ffordd i sero net?

Rwy'n credu mai'r pwynt pwysig yma yw bod Llywodraeth Cymru ar daith tuag at sero net, a bydd ynni adnewyddadwy yn chwarae rhan bwysig o hynny'n sicr, ond mae amrywiaeth o ffynonellau ynni adnewyddadwy. Rydym ni wedi siarad gryn dipyn y prynhawn yma am ffermydd gwynt arnofiol ar y môr; mae yna ffermydd gwynt arnofiol mwy traddodiadol, a solar. Dydym ni ddim wir wedi siarad llawer y prynhawn yma—er bod gen i ddatganiad ar ynni wythnos nesaf, felly efallai y byddwn ni'n sôn am hynny ychydig mwy bryd hynny—am gynhyrchu cymunedol ac yn y blaen. Felly, mae yna ystod eang o ffyrdd y byddem yn mynd ati ar ein taith i sero net a chyflawni ein hymagwedd tuag at ynni adnewyddadwy.

Yr hyn sydd bwysicaf, mewn gwirionedd, yw bod cymunedau bob amser yn cymryd rhan ac yn teimlo'n rhan, a bod y broses ymgynghori yn bwysig iawn. Rwy'n gwybod y gall ymgynghori gymryd amser. Mae datblygwyr yn gweld yr amser, weithiau, yn rhwystredig, ond credaf fod hynny'n rhywbeth yn y system y mae'n rhaid i ni ei barchu'n llwyr, i roi cyfle i gymunedau ddweud eu dweud, ac yna hefyd i sicrhau bod y manteision cymunedol sy'n cyd-fynd â hynny yn ddigonol ac yn briodol. Ac rwy'n credu mai dyna un o'r pethau mae Trydan Gwyrdd Cymru yn rhoi cyfle go iawn i ni ei ystyried, sef buddion cymunedol. Felly, gyda Llywodraeth Cymru yn datblygu'r prosiectau hyn, fe gawn ni'r cyfle, rwy'n credu, i feddwl yn wahanol am fuddion cymunedol, ac rwy'n awyddus i glywed barn cyd-Aelodau ar hynny.

5. Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol: Partneriaeth gymdeithasol

Eitem 5 yw datganiad Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Jack Sargeant.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Bron i ddegawd yn ôl, pasiodd y Senedd hon ddarn uchelgeisiol, arloesol o ddeddfwriaeth, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Yn unigryw i Gymru, mae'n gosod pwrpas cyffredin i'r sector cyhoeddus, ac yn manylu ar y ffyrdd y mae'n rhaid i'r cyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf weithio a chydweithio i wella bywydau pobl yng Nghymru, nawr ac yn y dyfodol. Roedd yn gosod disgwyliad clir y byddai cyrff cyhoeddus yn cydweithio ac yn cynnwys pobl wrth wneud penderfyniadau. Ers i'r Ddeddf honno gael ei phasio, mae agenda llesiant cenedlaethau'r dyfodol wedi bod yn sbarduno gwelliant parhaus yn y ffordd y mae'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus yn gweithio, fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ddisgwyl gwell ansawdd bywyd ar blaned iach.

Rydym ni, Llywydd, wedi cymryd cam beiddgar arall yn fwy diweddar, gan adeiladu ar Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol i ymgorffori ein ffordd Gymreig unigryw o weithio mewn partneriaeth yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae hyn hefyd wedi'i adeiladu ar yr egwyddor bod penderfyniadau'n well pan fyddant yn cynnwys pobl sy'n cael eu heffeithio ganddynt—yn yr achos hwn, gweithwyr. Rwy'n falch iawn o fod yn arwain y gwaith o weithredu Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023. Mae'n atgyfnerthu lle Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae dyletswydd partneriaeth gymdeithasol newydd bellach mewn grym, sy'n golygu bod gan weithwyr lais cryfach wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, a ddylai, yn ei dro, arwain at ganlyniadau gwell i ddinasyddion a chymunedau.

Mae'r cyngor partneriaeth gymdeithasol yn gosod sylfaen statudol ar gyfer partneriaeth gymdeithasol, gan ddod â chynrychiolwyr y sector cyhoeddus, y sector preifat, y trydydd sector a gweithwyr ynghyd i gynghori Gweinidogion ar faterion partneriaeth gymdeithasol. Cyd-gadeiriais pedwerydd cyfarfod y cyngor gyda'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, ac roeddwn yn falch bod y cyngor eisoes yn rhoi partneriaeth gymdeithasol wrth wraidd llunio polisïau Llywodraeth Cymru. Mae'r cyngor yn archwilio sut y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei dulliau ariannol i greu gwaith teg, ac mae wedi darparu safbwyntiau cyflogwyr a gweithwyr traws-sector ar ein paratoadau cyllideb a'n rhaglen ddeddfwriaethol flynyddol.

Mae cydberchnogi problemau ac ymrwymiad ar y cyd i atebion ar y cyd yn rhoi cyfle i ni adeiladu economi sy'n hyrwyddo gwaith teg, yn hybu cydraddoldeb, ac yn hybu cyfiawnder economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol—Llywydd, economi lle mae gan bawb lais. Nid yw hyn yn ymwneud â deddfwriaeth yn unig; mae hyn yn ymwneud â newid bywydau. Rydym ni wedi annog cydweithio cymdeithasol ers amser maith, gan ddod â phartneriaid ynghyd o bob rhan o'r Llywodraeth, cyflogwyr ac undebau llafur, fel y ffordd orau o ganfod atebion i'r heriau sy'n wynebu Cymru, yn seiliedig ar gydweithredu ystyrlon a gonest. Mae'r ffordd Gymreig hon o weithio, a nodweddir gan gydberchnogi problemau ac ymrwymiad ar y cyd i atebion ar y cyd, wedi'i adeiladu ar berthnasoedd sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch. Ac yn yr hinsawdd economaidd bresennol, ac yn nghyd-destun cyllidebau tynn, mae'n bwysicach nawr nag erioed o'r blaen.

Mae'r her o ran darparu a wynebwn ni dros y 18 mis nesaf yn aruthrol, ac mae arnom ni angen i bob punt yr ydym yn ei wario sicrhau'r effaith fwyaf bosibl. Mae angen i bob gweithiwr sector cyhoeddus deimlo y gallan nhw herio prosesau a mynegi pryderon am weithgareddau aneffeithlon neu dasgau diangen. Partneriaeth gymdeithasol ar lefel sefydliadol yw'r sail ar gyfer y trafodaethau hynny. Llywydd, mae'n fodel sy'n trosgynnu rhwystrau ac sydd yr un mor bwysig i'r sector preifat ag y mae i'r sector cyhoeddus. Ni ddylid ei gyfyngu i'r lleoliadau neu'r sefydliadau hynny a gwmpesir gan y ddeddfwriaeth yn unig. Credaf yn gryf y dylid ymestyn egwyddorion partneriaeth gymdeithasol mor eang â phosibl.

Mae hwn yn fodel y profwyd ei fod yn gweithio, a gadewch imi roi ychydig enghreifftiau i chi o effaith gadarnhaol bosib gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol ar unigolion a sectorau ehangach fel ei gilydd. Yn y sector manwerthu, er enghraifft, mae partneriaeth gymdeithasol wedi gweld sefydlu'r fforwm manwerthu, cyflwyno cynllun gweithredu manwerthu, ac ymrwymiad gan y Llywodraeth, undebau llafur a chyflogwyr i gydweithio i fynd i'r afael â materion allweddol sy'n wynebu'r sector. Mae cyflogwyr, undebau a'r Llywodraeth wedi cydweithio'n llwyddiannus drwy'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol i weithredu'r cyflog byw gwirioneddol. Mae gan ein gweithlu gofal cymdeithasol cofrestredig a'n cynorthwywyr personol yr urddas o ennill cyflog byw.

Mae cyngor partneriaeth y gweithlu, partneriaeth o undebau llafur, cyflogwyr sector cyhoeddus a Llywodraeth Cymru, yn parhau i ddatblygu cynllun gwaith sy'n cynnwys hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle a defnydd moesegol o ddeallusrwydd artiffisial yn y sector cyhoeddus. Ac yn fwy diweddar rydym ni wedi sefydlu fforwm hawliau a chyfrifoldebau'r gweithlu, lle bydd ein model llwyddiannus o bartneriaeth gymdeithasol yn gwella dealltwriaeth gyfunol o hawliau a chyfrifoldebau yn y gweithle.

Llywydd, mae'r rhain yn enghreifftiau sy'n dangos bod y ffordd Gymreig o weithio wedi creu manteision clir ac amlwg ar draws ein heconomi gyfan, yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus. Mae'r diddordeb cynyddol mewn mabwysiadu fframweithiau partneriaeth gymdeithasol gan sefydliadau addysg bellach i lywio eu diddordebau busnes yn dangos y gall hyd yn oed y rhai nad ydyn nhw'n dod yn uniongyrchol o dan y ddeddfwriaeth weld budd y ffordd hon o weithio.

Rwy'n falch o'r hyn yr ydym ni eisoes wedi'i gyflawni trwy ein dull partneriaeth gymdeithasol, ond, Llywydd, ni fyddwn yn gorffwys ar ein rhwyfau. Fel y cyfeiriodd fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ato yn ei datganiad yn gynharach y prynhawn yma, mae cyfleoedd cyffrous yn deillio o agenda bolisi Llywodraeth y DU, gyda'r bwriad o gyflawni'r cynnydd mwyaf i hawliau gweithwyr mewn cenhedlaeth.

Mae'r Llywodraeth Lafur hon yn llwyr gefnogi eu cynllun i wneud i waith dalu. Mae'r cynllun yn ymdrin â hawliau a dyletswyddau y gellir eu gorfodi'n gyfreithiol mewn llawer o feysydd yr ydym ni wedi bod yn ceisio eu hybu a'u hannog yng Nghymru ar sail wirfoddol, gan gynnwys gwahardd contractau dim oriau camfanteisiol, dod â thactegau diswyddo ac ail-gyflogi i ben, diddymu Deddf Streiciau (Isafswm Lefelau Gwasanaeth) 2023 a Deddf Undebau Llafur 2016, a chyflwyno hawliau sylfaenol i bawb ar ddiwrnod cyntaf eu cyflogaeth.

Ddydd Llun yr wythnos hon cwrddais â'r Gweinidog Justin Madders, sy'n gyfrifol am gyflawni'r newidiadau hyn a nodir yn y cynllun i wneud i waith dalu, ac mae wedi ymrwymo i gyflwyno Bil hawliau cyflogaeth. Mae fy swyddogion wedi bod yn cynnal trafodaethau adeiladol gyda'u cymheiriaid yn Whitehall ynghylch y ffordd orau y gallwn ni weithredu'r newidiadau a ddaw yn ei sgil.

Llywydd, bydd y mesurau hyn, ochr yn ochr â'n ffordd Gymreig o bartneriaeth gymdeithasol, yn helpu i wneud gwaith yn decach, yn fwy diogel ac yn sicrach i bawb; uchelgeisiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhannu'n llawn. Rydym ni wedi dod yn bell dros y degawd diwethaf ac wedi gweld llawer o fanteision cadarnhaol o'r ffordd yr aethpwyd ati. Ond mae mwy y gellir ei wneud bob tro, a byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth i ddefnyddio ein harbenigedd cyfunol i ganfod atebion i'n problemau cyffredin. Llywydd, credaf yn angerddol mai dyma'r ffordd orau o wneud gwahaniaeth cadarnhaol a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'n cymunedau, i'n heconomi ac i'n gwlad. Yn y modd hwn byddwn yn creu Cymru mae arnom ni i gyd eisiau byw ynddi, nawr ac yn y dyfodol. Diolch. 

16:40

Diolch yn fawr, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Ym mis Gorffennaf eleni, eglurodd y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar y pryd, Sarah Murphy, sut mae partneriaeth gymdeithasol wedi'i hymgorffori yn y ffordd o weithio yng Nghymru a dywedodd y buom ni'n ei wneud ers amser maith ac mai dyna yw'r ffordd Gymreig, model sy'n goresgyn rhwystrau—rhywbeth rwy'n gwybod eich bod yn parhau i'w ailadrodd. Fodd bynnag, rwy'n credu ei bod hi ychydig yn hy dweud bod y ffordd Gymreig o bartneriaeth gymdeithasol yn rhywbeth unigryw a gwahanol i bartneriaethau cymdeithasol eraill, o ystyried ei fod yn ddull sydd wedi'i gymhwyso gan lawer o wledydd yn fyd-eang ers yr ail ryfel byd, gan gynnwys holl wledydd y DU, ac mae hefyd ychydig yn wamal disgrifio partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru fel y ffordd Gymreig, tra bu gweithio ar y cyd i ddatrys problemau wrth wraidd byd busnes a'r Llywodraeth erioed.

Rwy'n credu, Gweinidog, eich bod yn gor-werthu'r model cydweithio partneriaeth gymdeithasol fel ffordd unigryw y gall Cymru ddatrys ei phroblemau economaidd. Y gwir amdani yw nad yw'r Llywodraeth hon wedi dangos unrhyw gynllun clir o ran sut mae deddfu ar gyfer ffordd o weithio yn mynd i wella canlyniad economaidd Cymru. Efallai eich bod yn ymwybodol, Gweinidog, bod gwerth ychwanegol gros—mesur da o gynhyrchiant—wedi gostwng yn raddol o 84.3 y cant yn 2004 i 82.7 y cant heddiw, gan gyrraedd ei faint isaf yn 2009, a bu Cymru yn dihoeni yn un o'r pedwar safle isaf o ran cyfradd cyflogaeth ac enillion wythnosol ers dros 20 mlynedd. Ac rydym ni hyd yn oed wedi profi gostyngiad incwm gwario o 4 y cant, o'i gymharu â chyfartaledd y DU, ers 2004. Ar ben hynny, nid yw mesurau economaidd eraill wedi newid mewn gwirionedd, heblaw dilyn yr un llwybrau â gweddill y DU. Felly, Gweinidog: beth fydd yn wahanol nawr? Sut y bydd deddfwriaeth sy'n gofyn am fod yn gyd-gyfrifol am broblemau ac ymrwymiad ar y cyd i atebion ar y cyd yn creu unrhyw gyfle newydd i wella'r economi nad yw'n bodoli, neu nad oedd yn bodoli o'r blaen? Pe bai gan y ffordd Gymreig, fel rydych chi'n ei ddisgrifio, unrhyw fuddion economaidd gwirioneddol i weithwyr, busnesau a diwydiant, siawns na fyddai hynny wedi cael ei wireddu erbyn hyn.

Rydych yn rhoi enghraifft yn eich datganiad ynghylch partneriaeth gymdeithasol yn y sector manwerthu, sy'n dangos bod ein ffordd Gymreig o weithio wedi creu budd clir ac amlwg ar draws yr economi gyfan, y sector preifat a'r sector cyhoeddus fel ei gilydd. Rydych chi hefyd yn dweud hyn fel rhagarweiniad i'r hyn a gyflawnwyd drwy ein dull partneriaeth gymdeithasol. Er hynny, gwireddwyd fforwm y sector manwerthu ym mis Mawrth 2022, cyn bod y ddeddfwriaeth partneriaeth gymdeithasol hon hyd yn oed ar waith, ac nid yw'n dangos manteision economaidd partneriaeth gymdeithasol mewn gwirionedd. Nid yw'n gwneud dim mwy na dangos dealltwriaeth ar y cyd o safbwynt gwahanol aelodau o'r fforwm, o'r pwysau a'r problemau y mae gwahanol fusnesau manwerthu yn eu profi, ac yn trefnu i gyfathrebu hynny i Lywodraeth Cymru.

Mae'r sector manwerthu yn dioddef yng Nghymru ac mae angen gweithredu. Mae'r stryd fawr yn ei chael hi'n anodd oherwydd bod cyfraddau busnes yn rhy uchel o'i gymharu â throsiant, sy'n golygu bod cost eitemau yn llawer uwch. Nid oes digon o le i barcio, ac yn aml ystyrir pa barcio bynnag sydd ar gael yn rhy ddrud, ac ychydig iawn o doiledau cyhoeddus sydd hyd yn oed, sy'n atal llawer o bobl rhag bod eisiau siopa ar ein stryd fawr. Nid oes angen deddfwriaeth partneriaeth gymdeithasol arnoch chi i ddatrys y problemau hynny; Yr hyn sydd ei angen arnoch yw i Lywodraeth Cymru a'n cynghorau lleol roi'r gorau i gosbi strydoedd mawr gyda chyfraddau a thaliadau afresymol.

Rwyf wedi dweud droeon, Gweinidog, nad wyf yn deall y broblem y mae'r Llywodraeth hon yn ceisio ei datrys gyda'r ddeddfwriaeth hon mewn gwirionedd. Tybed nawr a fyddech chi'n gallu dweud wrthyf. Nid yw partneriaeth gymdeithasol yn unigryw nac yn newydd i Gymru, ond bu busnesau yn ei weithredu ers degawdau. Beth, yn eich meddwl chi, yw diben ddeddfu ar gyfer partneriaeth gymdeithasol? A gadewch i ni fod yn onest, nid yw ymgorffori ffordd Gymreig o weithio fel gwaddol nad yw'n darparu unrhyw brofiad amlwg na buddion economaidd tybiedig yn ddigon da.

Fel y trydydd Gweinidog dros y portffolio hwn, mae gennyf ddiddordeb hefyd gwybod pa fesurau rydych chi'n bwriadu eu defnyddio i gofnodi llwyddiant neu fethiant partneriaeth gymdeithasol wrth symud ymlaen. Pan oedd y ddeddfwriaeth yn mynd drwy'r Siambr, fe'i beirniadwyd yn hallt am nad oedd wedi gwneud unrhyw asesiad o'r materion y mae gweithwyr neu fusnesau yng Nghymru yn eu hwynebu mewn gwirionedd, ac y gallai deddfwriaeth partneriaeth gymdeithasol ei ddatrys. Felly, Gweinidog, rwy'n wirioneddol chwilfrydig: beth fyddwch chi nawr yn ei wneud i ddangos bod y ddeddfwriaeth hon yn cael effaith?

Mae cryn dystiolaeth bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wedi cymryd amser hir iawn i gael ei chydnabod hyd yn oed, a hyd yn oed saith mlynedd ar ôl ei gweithredu, roedd nifer o gyrff cyhoeddus yn dal i honni nad oedden nhw wedi clywed amdani. Fe wyddom ni hefyd y bu gweithredu polisi yn gyffredinol gan Lywodraeth Cymru yn broblem wirioneddol, ac yn ddi-os mae gan Ddeddf partneriaeth gymdeithasol yr un potensial. Nid oes gan gyrff cyhoeddus yr adnoddau mewn gwirionedd i wneud y newidiadau sydd eu hangen ac felly ni fyddant yn ei roi ar waith yn y pen draw, oherwydd nid oes unrhyw ganlyniadau i beidio â gwneud hynny. Felly, Gweinidog, beth ydych chi'n ei wneud nawr i ymgorffori'r ddeddfwriaeth hon yn y sector cyhoeddus yng Nghymru? Ac os yw corff cyhoeddus, am ryw reswm neu'i gilydd, yn methu cydymffurfio, a ydych chi'n mynd i gosbi mewn unrhyw ffordd? Beth fyddwch chi'n ei wneud i orfodi cydymffurfiaeth?

Yn olaf, Gweinidog, fe hoffwn i grybwyll—

16:45

O, wel, iawn. Yn olaf, Gweinidog, un peth cyflym: nid oes sôn o gwbl am weithwyr anabl yn y datganiad, ac rwy'n gwybod, er enghraifft, yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, fod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi galw am gynrychioli pobl anabl yn well mewn is-grwpiau ac, yn anffodus, nid yw wedi cael ymateb. Felly, rwy'n awyddus gwybod beth fyddwch chi'n ei wneud i roi llais iddyn nhw mewn sylwadau yn y dyfodol. Diolch.

Diolch i Joel James am y sylwadau a'r cwestiynau ar y datganiad heddiw. Efallai nad yw'r ysbryd y penderfynodd yr Aelod ei fabwysiadu ynghylch ein ffordd ni o weithio yma yng Nghymru yn syndod. Rwy'n falch o'r ffordd Gymreig yr ydym ni'n gweithio ynddi, o ran partneriaeth gymdeithasol.

Os cymeraf ei bwynt olaf yn gyntaf, Llywydd, ynghylch gweithwyr anabl, oherwydd credaf fod hynny'n gyfraniad gwerthfawr gan yr Aelod, ac mae'n rhywbeth y mae angen i bob un ohonom ni ar draws y Llywodraeth ei gymryd o ddifrif pan fyddwn yn cyflwyno deddfwriaeth. Rwy'n fodlon ac yn gyfforddus dweud bod pob Gweinidog ar draws y Llywodraeth yn cydnabod bod mwy i'w wneud o ran cynnwys pobl ag anableddau, o ran y gwahanol bobl y mae angen eu cynrychioli ar gyrff, a dyna pam y bydd cyngor partneriaeth y gweithlu a'r gwaith y maen nhw'n ei wneud i wella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn allweddol i sicrhau ein bod yn clywed ystod o safbwyntiau ac amrywiaeth o leisiau, yn y dyfodol.

I grybwyll nifer o'r pwyntiau—efallai na fyddaf yn gallu eu cynnwys i gyd heddiw, Llywydd—o ran y sector manwerthu—. Wel, ers sefydlu'r fforwm manwerthu—. Ac rwy'n derbyn ei bwynt bod hynny wedi'i sefydlu cyn y ddeddfwriaeth partneriaeth gymdeithasol, ond ers i'r ddeddfwriaeth partneriaeth gymdeithasol ddod i rym, rydym ni wedi gweld fforwm y sector manwerthu, y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet ato yn gynharach yn ei datganiad, rydym ni wedi gweld datblygiad y cynllun gweithredu manwerthu drwy bartneriaeth gymdeithasol. Mae'r trafodaethau hynny a gafwyd a chreu'r cynllun gweithredu hwnnw yn fudd amlwg fod y Ddeddf partneriaeth gymdeithasol yn gweithio i'r sector manwerthu. Pan oedd gen i gyfrifoldeb am y sector manwerthu dros yr haf, un o'r sgyrsiau a gefais gyda phartneriaid cymdeithasol, undebau llafur, busnesau ac, yn wir, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, oedd ynghylch troseddu, troseddau manwerthu, a sut y gallwn ni fynd i'r afael â hynny. A chydnabuwyd, yn Boots ym Mangor, mai'r ffordd i fynd i'r afael â throseddau manwerthu yw drwy'r model partneriaeth gymdeithasol.

Ac rwy'n credu, yn olaf, Llywydd, fod yr Aelod yn sôn am gyfleoedd, a pha gyfleoedd fydd yn cael eu gwireddu oherwydd partneriaeth gymdeithasol a dull partneriaeth gymdeithasol. Wel, gadewch i ni gymryd esiampl y cyfleoedd yn ein hymrwymiadau a'n blaenoriaethau twf a swyddi gwyrdd. Y cyfleoedd hynny, lle byddwn yn gwireddu technolegau'r dyfodol, technolegau gwyrdd, mewn amrywiaeth o ddiwydiannau gwahanol ledled Cymru, fe hoffwn i weld Cymru a gweithwyr Cymru yn chwarae rhan wrth ddatblygu'r technolegau hynny, ac mae'n hynod bwysig ein bod yn trosglwyddo mewn ffordd sy'n gweithio i weithwyr a sicrhau nad yw'r pontio hwn yn digwydd iddyn nhw yn unig. Bydd y dull partneriaeth gymdeithasol a'r ddeddfwriaeth yn eu galluogi i gael y llais hwnnw mewn trafodaethau.

Rwy'n credu y dylem ni fod yn falch o'r gwaith rydym ni'n ei wneud yma i gefnogi gweithwyr, Llywydd. Mae'n rhaid i chi feddwl, pan edrychwch chi ar draws yr M4 ar gystadleuaeth arweinyddiaeth y Ceidwadwyr, lle mae ffigwr blaenllaw yn y Blaid Geidwadol yn credu bod tâl mamolaeth yn ormodol ac wedi mynd yn rhy bell. Wel, byddwn yn galw ar y Ceidwadwyr yn y fan yma i alw hynny yr hyn ydy hynny. Dydym ni, Lywodraeth Cymru, ddim yn credu hynny. Nawr, er eu bod yn parhau i gael y dadleuon anghydnaws hynny yn eu cystadlaethau arweinyddiaeth eu hunain, Llywydd, bydd y Llywodraeth hon yn parhau i weithio gyda'n cymheiriaid ym mhlaid Lafur y DU i wella hawliau gweithwyr a llais y gweithiwr.

16:50

Fe hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw. Rydw i'n mynd i gymryd eiliad i siarad am waith y cyngor partneriaeth gymdeithasol. Mae rhai cwestiynau heb eu hateb am ei flaenoriaethau, ei weithrediadau a'i effaith ymarferol. Er bod y cyngor yn dod ag undebau, busnesau a'r Llywodraeth at ei gilydd, mae'n dal yn aneglur sut y penderfynir ar ei lwyth gwaith, felly beth yw ei flaengynllun gwaith, pa gyngor y mae wedi'i roi i Weinidogion Cymru hyd yma, ac yna, yn bwysicach, sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'r cyngor hwnnw. Felly, a allai'r Gweinidog amlinellu pa waith sydd ar y gweill yn y meysydd hyn a beth yw nodau mesuradwy'r cyngor? Felly, mewn pum mlynedd, sut olwg sydd ar lwyddiant? I'r perwyl hwn, byddai gennyf ddiddordeb hefyd gwybod a oes unrhyw is-grwpiau wedi'u sefydlu eto i fynd i'r afael â heriau sy'n benodol i'r sector ac ystyried, wrth gwrs, anghenion amrywiol economi Cymru.

Gan droi at effaith ymarferol partneriaeth gymdeithasol a gwaith y cyngor, rwy'n credu ei bod hi'n anodd iawn anwybyddu realiti'r hyn sydd wedi digwydd ar lawr gwlad o ran Tata Steel, sy'n arwydd o broblem strwythurol hirhoedlog o fewn economi Cymru a allai o bosibl barhau i danseilio gweithrediad yr agenda gwaith teg, hyd yn oed o roi hyn ar sail statudol. Mae'r methiant polisi sydd wedi arwain at golli gwneud dur sylfaenol wedi digwydd o fewn cyfres ehangach o faterion yn ymwneud â sut mae'r economi a chyflogwyr mawr yn cael eu rheoli fel rhan o'r newid i sero net. Mae'r hyn a ddigwyddodd gyda Tata ond wedi arwain at wrthbwyso allyriadau carbon, yn hytrach na phontio cyfiawn gwirioneddol i sero net. Felly, wrth fyfyrio ar yr hyn sydd wedi digwydd ym Mhort Talbot, fe wnaeth llawer o'r dyheadau o ran partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg dadfeilio, wedi'u crisialu gan fygythiadau Tata fel diddymu pecynnau diswyddo i weithwyr pe baen nhw'n mynd ar streic. Fe welsom ni'r angen yno am Lywodraeth ragweithiol, felly pa le fydd gan y ddeddfwriaeth a gwaith y cyngor wrth reoli sefyllfaoedd yn y dyfodol sy'n mynnu dull o'r fath? Ac, i gloi, a ydych chi'n gallu argyhoeddi gweithwyr mewn diwydiannau sy'n agored i newid diwydiannol y byddan nhw'n cael eu hamddiffyn o ganlyniad i bartneriaeth gymdeithasol?

A gaf i ddiolch i Luke Fletcher am ei sylwadau fel llefarydd Plaid Cymru y prynhawn yma? I ateb eich sylwadau ar y cyngor partneriaeth gymdeithasol, wel, mae'r cyngor partneriaeth gymdeithasol yn ei bedwerydd cyfarfod. Cyd-gadeiriais y pedwerydd cyfarfod yr wythnos diwethaf, lle'r oedd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn bresennol, i gael trafodaeth am waith teg a rhywfaint o'r contract economaidd yr ydym ni wedi clywed amdano gan Hannah Blythyn eisoes yn y cyfraniadau yn gynharach heddiw. Bydd ganddyn nhw hefyd ran hanfodol wrth gynghori Gweinidogion ynghylch ein cyllideb, er enghraifft, ynghylch ein rhaglen ddeddfwriaethol, er enghraifft, a byddant yn ystyried adolygiad blynyddol o'n nodau llesiant. Mae is-bwyllgorau'r cyngor partneriaeth gymdeithasol yn cael eu sefydlu, ac mae un o'r rheiny, fel y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ato'n gynharach, yn ymwneud â'r darn o waith ar waith teg a beth mae hynny'n ei olygu—Llywodraeth Cymru yn benodol yn defnyddio eu dulliau ariannol, efallai, i hyrwyddo gwaith teg, mewn ffordd.

Gan droi at Tata Steel, a gaf i ddiolch i Luke Fletcher am y drafodaeth ar Tata Steel? Rwy'n credu ei fod yn iawn i godi Tata Steel heddiw. Wrth gwrs, byddem ni wedi gobeithio, trwy bartneriaeth gymdeithasol efallai, y byddem ni wedi cael gwell canlyniad i'r gweithlu yno. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig nawr edrych ar ddyfodol y gweithlu a sut rydym ni'n pontio, mewn ffordd. Felly, dylai dyfodol gwneud dur ym Mhort Talbot a goblygiadau posib hynny fod â llais y gweithwyr wrth wraidd y drafodaeth a'r penderfyniadau yn ei gylch. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod y tri undeb llafur, Community, Unite a GMB, i gyd ar y bwrdd pontio y gwn i fod yr Aelod hefyd yn rhan ohono, ac rwy'n credu mai ein model o bartneriaeth gymdeithasol a all helpu'r bwrdd pontio hwnnw i gyflawni a helpu'r cwmni i gyflawni cynllun dur gwell ar gyfer y dyfodol. Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn werth nodi, oherwydd ein cydweithwyr yn yr undebau llafur ym Mhort Talbot, yn y gwaith dur—rwy'n gwybod, Llywydd, y bydd gennych chi ddiddordeb brwd yn hyn—mae'r ganolfan gymorth gymunedol newydd wedi cael ei hagor, gyda chefnogaeth yr undeb Community a Llywodraeth Cymru. Dyna bartneriaeth gymdeithasol unwaith eto ar waith, lle bydd yn mynd ymlaen i gefnogi nifer o weithwyr a fydd yn wynebu colli eu swyddi oherwydd bod Tata Steel yn cau yno.

Ac rwy'n credu, yn fwy cyffredinol, lle gallwn ni gryfhau arweiniad a chefnogaeth o ran partneriaeth gymdeithasol, wel, rwy'n credu bod cyfle go iawn, onid oes? A chyfeiriais at y cyfleoedd yn fy natganiad, gyda chynllun Llafur y DU i wneud i waith dalu. Yma yng Nghymru mae gennym ni ddull yr hoffem ei rannu. Mae gennym ni ddull y gallwn ni adeiladu arno, rwy'n credu. Ac mae a wnelo hynny â sicrhau bod gan weithwyr y dyletswyddau hynny y gellir eu gorfodi'n gyfreithiol o San Steffan, y gallwn ni eu cefnogi, ac y gobeithiaf y gall y Senedd yn ei chyfanrwydd eu cefnogi, pan gyflwynir cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y pwnc hwnnw, a all fynd ymlaen i gryfhau hawliau gweithwyr o'r diwrnod cyntaf, gan roi terfyn ar ddiswyddo ac ailgyflogi, er enghraifft, a gwahardd contractau dim oriau, i grybwyll rhai pethau'n unig. Rwy'n edrych ymlaen at gyflwyno'r Bil hawliau cyflogaeth hwnnw maes o law, a chredaf y bydd hynny'n mynd yn bell o ran cryfhau gweithwyr, ac y bydd y dull partneriaeth gymdeithasol a'r ffordd Gymreig o weithio wrth ei galon.

16:55

Diolch am eich datganiad cyntaf heddiw.

Rydych chi'n iawn pan ydych chi'n dweud nad yw'n ymwneud â deddfwriaeth yn unig, mae'n ymwneud â newid bywydau, a hefyd o'r safbwynt hwnnw, nid yn unig y polisi a'r egwyddorion, ond effaith ymarferol a chanlyniad hynny'n i weithwyr ledled Cymru. Ac er fy mod yn cydnabod bod partneriaeth gymdeithasol a'r strwythurau a'i galluogodd yn wahanol i gysylltiadau diwydiannol ac efallai trafodaethau ynghylch cyflog ac amodau, mae yna gyswllt rhyngddyn nhw. Gall partneriaeth gymdeithasol fod yn sail i gysylltiadau diwydiannol da, a gall cysylltiadau diwydiannol gwael weithiau, o bosibl, danseilio partneriaeth gymdeithasol.

Er fy mod i'n cydnabod nad yw hyn yn uniongyrchol o fewn eich portffolio, ond fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am bartneriaeth gymdeithasol ar draws y Llywodraeth, a gaf i ddim ond sôn am rywbeth a godwyd gyda mi gan yr RMT ynghylch cysoni tâl ac amodau glanhawyr Trafnidiaeth Cymru? Rwy'n deall, yn ôl yn 2020, bod Trafnidiaeth Cymru wedi penderfynu terfynu ei gontract glanhau allanol a chyflogi ei holl lanhawyr yn fewnol. Croesawyd y penderfyniad hwn ar y pryd, fel y byddech yn ei ddisgwyl, gan yr RMT, ac mae'n gam sylweddol yr hoffen nhw ei weld yn cael ei efelychu mewn mannau eraill. Fodd bynnag, o droi'r cloc ymlaen at heddiw, gwelwn nad yw'r gweithwyr hyn yn cael eu cyflogi ar yr un cyfraddau cyflog nac amodau cyflogaeth, ac mae glanhawyr Trafnidiaeth Cymru yn parhau i fod yn weithlu dwy haen. A gaf i ofyn i chi godi hyn gyda'ch cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth, a chytuno â mi ar gael pob partner yn ôl o gwmpas y bwrdd i gael canlyniad cadarnhaol?

A gaf i ddiolch i Hannah Blythyn am y cwestiwn hwnnw a'r sylwadau am bartneriaeth gymdeithasol yn gyffredinol? Fe ddylwn i ddiolch ar goedd i Sarah Murphy, fy rhagflaenydd, a Hannah Blythyn yn ogystal am ei swyddogaeth allweddol wrth gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon. Siaradais am ddau ddarn o ddeddfwriaeth heddiw yn y datganiad hwn: yn gyntaf, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a gyflawnwyd gan Aelod o Gei Connah; ac ail ddarn o ddeddfwriaeth, y Ddeddf partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus, a gyflawnwyd, unwaith eto, gan Aelod o Gei Connah. Wel, rwy'n falch iawn o fod y trydydd o Gei Connah mewn swydd weinidogol i brysuro peth o'r gwaith y gall y Deddfau blaengar hyn ei wireddu, ac fe hoffwn i dalu teyrnged i Hannah Blythyn am y gwaith a wnaeth wrth wneud hynny'n bosibl.

O ran y materion rhwng undeb RMT a Trafnidiaeth Cymru, byddaf yn sicr o godi'r pwnc hwnnw gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru. Nid wyf yn credu y byddai'n briodol i mi wneud sylw pellach. Ond yr hyn y byddaf yn ei ddweud wrth unrhyw un sydd mewn anghydfod, efallai, ar lefel gweithredu diwydiannol neu hyd yn oed cyn unrhyw weithredu diwydiannol, mai'r ffordd orau o ddatrys materion yn y gweithle yw ailymgynnull, cael y sgyrsiau gonest a chydweithredol hynny yn y ffordd Gymreig o bartneriaeth gymdeithasol, ac rwy'n sicr yn annog Trafnidiaeth Cymru ac undeb yr RMT i wneud hynny yn yr achos hwnnw.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n croesawu eich datganiad beiddgar bod agenda llesiant cenedlaethau'r dyfodol wedi bod yn sbarduno gwelliant parhaus yn y ffordd y mae'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus yn gweithio—rhywbeth y byddaf yn awyddus i'w werthuso yn y dyfodol. Nid yw gwaith teg yn ymwneud â chyflogau yn unig; mae hefyd yn ymwneud â'r amodau y mae pobl yn gweithio ynddynt a sut rydym yn dangos ein bod yn eu gwerthfawrogi. Rwy'n ymwybodol, yn eich etholaeth eich hun, bod Tai Clwyd Alyn yn darparu prydau bwyd ffres ar gyfer ei breswylwyr cartrefi gofal yn ogystal â'i weithlu. Sut y bydd agwedd caffael cyhoeddus y dull partneriaeth gymdeithasol hwn yn hyrwyddo caffael cyhoeddus bwyd a wneir yng Nghymru i'w weini yn ein hysgolion, ein hysbytai, ein cartrefi gofal, a fydd o fantais i'r bobl sy'n cynhyrchu ac yn tyfu ac yn prosesu'r bwyd hwnnw, yn ogystal â'r bobl sy'n darparu ac yn defnyddio'r gwasanaethau cyhoeddus hyn?

17:00

Diolch i Jenny Rathbone am hynny. Dirprwy Lywydd, fe hoffwn i gydnabod gwaith amhrisiadwy Jenny yn y Senedd o ran hyrwyddo'r cyfleoedd y mae caffael yn eu cynnig i newid y dull o ymdrin â sut rydym yn caffael bwyd yng Nghymru. Yr hyn mae hynny'n ei olygu yw nid yn unig y person sy'n bwyta'r bwyd yn y pen draw, ond yr holl bethau a'r buddion y mae'n eu cynnig o ran yr economi leol a'r swyddi.

Soniodd Jenny Rathbone am Tai Clwyd Alyn yn fy etholaeth fy hun, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu eu bod yn sefydliad sydd â golwg flaengar iawn ar faterion fel y rhain, ac mae'n faes y gallwn ni ddysgu mwy ohono. Rwy'n gwybod am y gwaith y maen nhw'n ei wneud gyda Well-Fed yn arbennig yn fy etholaeth. Ac mae'r Aelod wedi gwneud llawer o waith fel Aelod o'r Senedd ond hefyd drwy gadeirio'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch yr hyn y gall ansawdd bwyd gwell ei gynnig i bobl Cymru. Ac rwy'n credu, unwaith eto, bod hynny'n rhywbeth y dylem ni geisio ein hysbysu ein hunain yn fwy ohono, a gweld lle y gallwn ni wella ein cynnig.

O ran agwedd caffael cyhoeddus y ddeddfwriaeth hon, rydym yn ceisio gwneud y mwyaf o'r cyfraniad y mae caffael cyhoeddus yn ei wneud i gyflawni ein nodau llesiant, pan gyfeiriwn yn ôl at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae bwyd yn gategori o wariant caffael lle mae ein holl nodau llesiant yn bwysig iddo. Byddwn yn parhau i ddatblygu'r canllawiau caffael statudol, a bydd hyn yn rhoi cyfle i dynnu sylw at astudiaethau achos da—fel yr un yng Nghlwyd Alyn a Well-Fed—wrth gaffael bwyd. Rwy'n credu mai dyna'r cyfle wedyn i weld sut y gallwn ni wneud y mwyaf o'i botensial ar draws pob corff cyhoeddus ac ar draws Cymru. Diolch.

6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Addysg cyfrwng Cymraeg drwy drochi hwyr

Eitem 6 sydd nesaf, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar addysg cyfrwng Cymraeg drwy drochi hwyr. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn heddiw i dynnu sylw at a dathlu'r gwaith a wneir yn ein canolfannau trochi hwyr ar draws Cymru, a'r rhan rydym ni fel Llywodraeth Cymru yn ei chwarae wrth gefnogi'r gwaith hwnnw.

Mae'r ffordd rydym ni'n trochi plant yn yr iaith Gymraeg yn unigryw i ni yng Nghymru. Mae data o'r cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion o 2024 yn dangos cynnydd yn nifer a chanran y dysgwyr blwyddyn 1 sy'n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, sy'n arwydd clir i mi bod ymrwymiadau yng nghynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg awdurdodau lleol yn bwrw gwreiddiau. Rydym yn gwybod pwysigrwydd sector y blynyddoedd cynnar fel pwynt mynediad cynnar i addysg Gymraeg, ac mai addysg cyfrwng Cymraeg yw ein prif ddull o sicrhau bod plant yn datblygu i fod yn ddefnyddwyr hyderus ac annibynnol o'r Gymraeg, ac ar gyfer creu siaradwyr newydd. Fodd bynnag, ni fydd pawb yn dechrau dysgu Cymraeg yn y camau cynnar hynny.

Dyma'r gofod y mae'r ddarpariaeth trochi hwyr yn ei meddiannu. Rhaglen dysgu Cymraeg ddwys yw darpariaeth trochi hwyr, sy'n galluogi mynediad i addysg Gymraeg yn ddiweddarach. Gall dysgwyr sydd ag ychydig neu ddim Cymraeg ymgysylltu â'r rhaglen am hyd at ddeuddeg wythnos, pan fyddant yn parhau i gadw mewn cysylltiad â'u hysgol gartref, a'r cwricwlwm, nes eu bod yn barod i barhau â'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Rwyf wedi gweld drosof fy hun yr hyn y gellir ei gyflawni mewn ychydig wythnosau byr. Yn ystod fy ymweliad diweddar ag Ysgol Corn Hir ar Ynys Môn, cefais y fraint o gwrdd â dysgwr ym mlwyddyn 6, Artem, a oedd wedi trosglwyddo o ganolfan drochi Cymraeg yn ddiweddar ac a oedd yn ffynnu.

Er y bu canolfannau trochi hwyr yn rhan o'r cynnig addysg mewn rhai rhannau o Gymru ers blynyddoedd lawer, hyd at 2021 nid oedd pob awdurdod lleol yn gallu darparu'r gwasanaeth amhrisiadwy hwn yn lleol. Dyna pam rydym ni wedi buddsoddi £8.8 miliwn i gefnogi sefydlu darpariaeth trochi hwyr ym mhob awdurdod lleol. Mae hyn yn cynnwys ehangu darpariaeth sydd eisoes wedi ei sefydlu yn ogystal â galluogi'r awdurdodau lleol sy'n weddill i sefydlu eu darpariaeth eu hunain yn lleol.

Bu'r effaith yn sylweddol. Mae awdurdodau lleol yn dweud bod y galw am eu darpariaeth wedi cynyddu'n sylweddol. Er enghraifft, pan ymwelais â'r ganolfan drochi hwyr yn Ysgol Gynradd Groes-wen yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf, dywedwyd wrthyf eu bod wedi croesawu eu carfan fwyaf erioed o ddysgwyr eleni, gan gynnwys cyfran sylweddol o ddysgwyr o gefndiroedd amrywiol. Mae Wrecsam wedi cefnogi dros 600 o ddysgwyr yn ei chanolfan ers iddi agor yn 2022, ac yn fy etholaeth i yn Nhorfaen, mae canolfan drochi Carreg Lam yn Ysgol Panteg nid yn unig wedi gweld cynnydd o flwyddyn i flwyddyn mewn niferoedd ond mae hefyd wedi nodi cyfleoedd i gryfhau trefniadau pontio ysgolion rhwng blynyddoedd 6 a 7 ar draws ardal yr awdurdod lleol.

Mae dros 4,000 o ddysgwyr wedi elwa o raglenni iaith dwys trochi hwyr ers 2021. Defnyddiwyd arferion addysgu trochi hwyr hefyd i atgyfnerthu sgiliau Cymraeg ymhlith y dysgwyr llai hyderus, yn enwedig ar ôl y pandemig. Roedd adroddiad thematig Estyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar ddatblygu sgiliau darllen Cymraeg disgyblion rhwng 10 a 14 oed yn cydnabod swyddogaeth canolfannau trochi hwyr wrth ddatblygu sgiliau Cymraeg effeithiol ymhlith dysgwyr sy'n trosglwyddo o'r sector cyfrwng Saesneg. Mae'r cyllid i awdurdodau lleol hefyd wedi cefnogi cadw a recriwtio dros 60 o ymarferwyr trochi hwyr, yn ogystal â galluogi defnydd creadigol o dechnoleg i gyfoethogi'r profiad dysgu. Mae Cyngor Gwynedd, er enghraifft, wedi arwain datblygiad pentref rhithiol, Pentref Aberwla, gan ddefnyddio technoleg realiti rhithwir a fydd yn cael ei gyflwyno'n genedlaethol dros amser.

Gyda throchi hwyr bellach yn rhan o arlwy pob awdurdod lleol, rydym ni wedi manteisio ar y cyfle i sefydlu rhwydwaith trochi hwyr i ddod ag ymarferwyr trochi hwyr a swyddogion awdurdodau lleol ynghyd i rannu arferion da a gwybodaeth sy'n seiliedig ar ymchwil. Rydym yn prysur ddod yn arweinwyr byd mewn darpariaeth trochi hwyr. Mae'r gwaith a wnawn ni yma yng Nghymru hefyd yn cael sylw y tu allan i Gymru. Mae ymarferwyr ac academyddion trochi hwyr o Quebec yn awyddus i weithio mewn partneriaeth â ni a byddant yn dod i un o'n cyfarfodydd rhwydwaith trochi hwyr ar-lein yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Dyma gyfle heddiw i ddathlu cyflawniadau ein hymarferwyr trochi hwyr, a'r awdurdodau lleol sy'n eu cefnogi. Mae'r creadigrwydd a'r gefnogaeth y maen nhw'n eu darparu i'w gilydd o fewn y rhwydwaith, i ddysgwyr, ac i ysgolion ledled Cymru yn haeddu cael eu dathlu a'u canmol. Rwy'n eich llongyfarch chi i gyd am yr hyn rydych chi wedi'i gyflawni ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio mewn partneriaeth i gefnogi dysgwyr ar eu teithiau Cymraeg. Diolch yn fawr.

17:05

Diolch ichi, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad chi y prynhawn yma. Mae'n bwysig i ddweud—er ei bod hi'n teimlo fel fy mod i'n dweud hyn drwy'r amser pan fyddem ni'n gwneud datganiadau fel hyn—fod yr iaith Gymraeg yn perthyn i bawb. Mae'n bwysig bod pawb yn teimlo bod cyfle iddyn nhw siarad Cymraeg a bod cyfle iddyn nhw gael addysg yn yr iaith Gymraeg. Does dim gwahaniaeth os ydych yn dod o deulu sydd yn gallu siarad Cymraeg neu gymuned sydd yn gallu siarad Cymraeg. Mae'r ffaith bod dewis gan bobl i gael addysg yn yr iaith Gymraeg, i siarad yn yr iaith Gymraeg ac i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg yn bwysig hefyd. Felly dyna pam dwi'n credu bod y datganiad hwn yn bwysig heddiw.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae gen i ambell sylw, ond a gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod i'n meddwl bod trochi hwyr yn dda iawn i'r rhai sydd wedi colli, fel roeddech chi'n ei gydnabod, y cyfleoedd Cymraeg cynnar hynny mewn gofal plant, yn y feithrinfa, ac mewn ysgolion? Ond sut allwn ni sicrhau bod llai o bobl yn y sefyllfa honno yn y lle cyntaf drwy ddewis? Fe wnaf roi enghraifft i chi: yn y dref rwy'n byw ynddi, Porthcawl, nid oes gennym ni ysgol gynradd Gymraeg, felly pe bawn i eisiau anfon plant i ysgol Gymraeg, efallai na fyddai hynny'n bosibl ac y byddai'n golygu taith hirach. Felly, gobeithio, bydd cynyddu dros amser nifer yr ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg hynny, ar un ystyr, yn gwneud y canolfannau trochi hyn yn llai angenrheidiol yn y pen draw.

Byddwn i'n cwestiynu hefyd—ac fe wnaethoch chi sôn am hyn, rwy'n credu, yn y datganiad—daearyddiaeth rhai o'r llefydd rydych chi wedi'u dewis i gynnal y canolfannau trochi Cymraeg hyn. Tybed a yw mynd am y cynnydd mwyaf yn nifer y siaradwyr i gyrraedd y miliwn o siaradwyr hynny erbyn 2050—. Oni fyddai'n synhwyrol, ar un ystyr, mynd am rai o'r llefydd lle mae gennym y siaradwyr Cymraeg lleiaf? O edrych ar sir y Fflint, mae 6 y cant o ddisgyblion mewn addysg Gymraeg ar hyn o bryd—does dim canolfan drochi. Mae sir Fynwy, 3 y cant, yr un fath. Felly, rwy'n chwilfrydig, Gweinidog, a allwch chi egluro'r rhesymeg pam, er y bydd mynediad i bawb, ni fydd pob awdurdod yn cynnal canolfan drochi. Yn amlwg, fel y dywedais yn glir yn y pwynt blaenorol, mae daearyddiaeth yn ffactor pur allweddol mewn cryn dipyn o'r penderfyniadau hyn ynghylch a ddylid cael mynediad at un o'r pethau hyn.

Rydym yn amlwg yn gwybod y bydd hwn yn un o gyfres o strategaethau y bydd gennych chi ar gael i gyrraedd y miliwn o siaradwyr hynny erbyn 2050. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn pryderu am y cyfrifiad diwethaf a welodd ostyngiad yn nifer y siaradwyr. Fel erioed, gydag addysg Gymraeg, er mwyn i hyn fod yn llwyddiannus, mae angen athrawon arnom ni. Mae angen athrawon sy'n gallu addysgu yn yr iaith Gymraeg. Rwy'n pryderu, o edrych ar ystadegau Cyngor y Gweithlu Addysg, ers 2020 bod nifer yr athrawon sy'n dweud na allan nhw siarad Cymraeg wedi cynyddu 2 bwynt canran, o 62.7 y cant yn 2020 i 64.6 y cant yn 2024. Felly, nid yn unig ein bod yn gweld mater cyffredinol yr wyf yn gwybod ein bod wedi ei drafod yn y gorffennol am nifer yr athrawon sy'n cael eu recriwtio, mae'n ymddangos bod y gyfran ohonyn nhw na all siarad Cymraeg hefyd yn cynyddu. Yn amlwg, nid yn unig y bydd angen staffio'r canolfannau trochi hyn, ond, yn ogystal, os ydym yn mynd i gael cynnydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg, bydd angen y staff hefyd. Felly, heb y cynllun gweithlu tymor hir hwnnw, mae'n ddigon posibl y byddwn yn y pen draw yn methu yn ein hamcanion yma'n fwy cyffredinol.

Rwy'n credu mai'r newid mwyaf sydd ar y gorwel—ac rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet dros y Gymraeg yn eistedd wrth eich ymyl chi—yw'r Bil Cymraeg sydd ar y gweill y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei gyflwyno. Sut ydych chi'n rhagweld y bydd Bil y Gymraeg yn rhyngweithio â'r canolfannau trochi hyn? Oherwydd, wrth ddychwelyd at fater staffio, clywsom dystiolaeth gan undebau athrawon yr wythnos diwethaf yn y pwyllgor addysg a gododd bryderon difrifol am argaeledd staff. Roedd pawb yn cytuno ag egwyddor y Bil, ond roeddent yn teimlo y byddai'n anodd cyflawni oni bai bod gennym ni gynllun hirdymor i gynyddu nifer yr athrawon a oedd yn gallu addysgu yn y Gymraeg. Felly, rwy'n chwilfrydig ynglŷn â sut rydych chi'n gweld y berthynas rhwng Bil y Gymraeg a chanolfannau trochi Cymraeg a staffio yn fwy cyffredinol.

Rwy'n chwilfrydig hefyd i ofyn—. Fe wnaethoch chi sôn am 4,000 o ddysgwyr sy'n elwa o drochi hwyr. Mae hynny'n rhif calonogol iawn. Yr hyn y byddwn i'n ei ofyn wedyn yw faint wedyn sy'n mynd ymlaen o ffrwd Saesneg i ffrwd Gymraeg. Felly, os ydyn nhw mewn ysgol gynradd cyfrwng Saesneg, maen nhw'n mynd i'w canolfan drochi, faint ohonyn nhw wedyn sy'n dewis peidio â mynd i ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg, yn defnyddio'r wybodaeth maen nhw wedi'i dysgu a naill ai'n mynd ymlaen i ffrwd ddeuol neu i addysg Gymraeg?

Rwy'n credu mai'r peth pwysig roeddwn i eisiau ei gyfleu hefyd yw y gallwn ni wneud cymaint o addysgu yn y Gymraeg ag y dymunwn, a gall y Llywodraeth gyflwyno cymaint o raglenni ag y mae hi eisiau, ond yr un peth na all yr un ohonom ni ei ddysgu yw hyder. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nad rhaglen 12 wythnos yn unig yw hon lle mae pobl yn dysgu Cymraeg ac maen nhw'n ei dysgu i safon uchel, ond bod ganddyn nhw'r hyder i barhau i'w defnyddio, wythnosau, misoedd, flynyddoedd ar ôl iddyn nhw adael y canolfannau trochi hyn. Tybed sut y byddwch chi'n cadw golwg ar hynny wrth i amser fynd yn ei flaen. Diolch yn fawr.

17:10

Diolch yn fawr iawn, Tom, a diolch am eich ymateb cadarnhaol i'r datganiad. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod y Gymraeg ar gyfer pawb. Dydyn ni ddim eisiau i unrhyw un gael ei adael ar ôl. Dyna pam rydym ni'n bwrw ymlaen â'r polisïau rydym ni'n eu cynnig.

Roeddech chi'n cyfeirio at y ffaith nad oes gennych chi ysgol gynradd Gymraeg lle rydych chi'n byw. Byddwch yn ymwybodol mai'r CSCAau yw ein mecanwaith presennol ar gyfer sicrhau bod gennym ni ddigon o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gael. Mae pob awdurdod lleol yn cynhyrchu eu CSCAau ac yn eu hanfon at Lywodraeth Cymru. Maen nhw gyda ni ar hyn o bryd. Rydym yn eu hadolygu, ac yna byddwn yn cael trafodaethau gyda'r awdurdodau lleol hynny. Ond mae yna ymrwymiadau yn y CSCAau i agor 23 o ysgolion Cymraeg newydd ac ehangu 25 sydd eisoes yn bodoli. Ers 2022, a'r buddsoddiad band B a'r grant cyfalaf cyfrwng Cymraeg, rydym ni wedi cefnogi 39 o brosiectau i gynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ledled Cymru, ac mae hynny'n cynnwys 14 ysgol newydd sydd wedi'u hagor neu eu hadleoli a 25 prosiect i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, sydd hefyd yn cynnwys rhai prosiectau gofal plant.

Mae eich pwyntiau am ddaearyddiaeth yn ddiddorol, rwy'n credu. Rwy'n credu, yn bersonol, ei bod hi'n bwysig bod trochi ar gael i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig cydnabod ei fod ar wahanol gamau ledled Cymru hefyd. Felly, mewn llefydd fel fy etholaeth i, Torfaen, a fyddai'n debyg i sir y Fflint o ran demograffeg, mae gennym ni'r brif uned, ond mae yna awdurdodau eraill lle mae ganddyn nhw ganolfannau trochi sefydledig iawn; mae ganddyn nhw hynny yn yr ysgol gynradd ac uwchradd. Felly, nid wyf yn credu ei fod yn un cynllun i bawb, ac rwy'n credu ei fod yn ymwneud ag ymateb i'r angen yn y gymuned, mewn gwirionedd, ond rydym ni'n gweld hyn fel maes sy'n tyfu ac yn un yr ydym ni am adeiladu arno, sy'n bwysig iawn i bawb gael mynediad ato.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at rai o faterion y gweithlu, ac, wrth gwrs, maen nhw'n heriol, ac rydym ni'n eu trafod drwy'r amser yn y Siambr hon. Mae gennym ni ein cynllun gweithlu Cymraeg mewn addysg, ac roeddwn yn trafod gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ddoe rai o'r heriau sy'n ymwneud â'r gweithlu a'r Bil sy'n cael ei ddatblygu. Byddwch yn ymwybodol bod gennym ni bethau fel cymhellion i fod yn athro neu athrawes cyfrwng Cymraeg, ond rydym ni'n adolygu'n gyson beth arall y gallwn ni ei wneud. O ran y Bil y mae fy nghyd-Aelod Mark Drakeford yn gweithio arno, mae canolfannau trochi yn rhan glir o hynny—ymrwymiad iddyn nhw, gan eu cryfhau ond hefyd hyrwyddo eu bodolaeth yn lleol hefyd, fel bod pawb yn ymwybodol ohonyn nhw, gan adeiladu ar y gwaith rydym ni wedi'i wneud yn hynny o beth.

Rydych chi'n gwneud pwyntiau pwysig ynglŷn â phontio rhwng ysgol gynradd ac uwchradd, ac rwy'n gwybod, o'r sgyrsiau rydw i wedi'u cael gyda rhai staff mewn ysgolion, y gall hynny fod yn faes lle mae plant yn cael eu colli, felly mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cadw llygad ar y sefyllfa honno. Ac fel y dywedais i, mae gwaith da yn digwydd mewn perthynas â Thorfaen.

Nawr, roeddwn i hefyd yn meddwl bod y pwyntiau a wnaethoch chi am hyder yn bwysig iawn. Fe wnes i Lefel A Cymraeg yn yr ysgol, ond does gen i ddim llawer o hyder yn ei siarad, byddaf yn hollol onest â chi, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn rhoi hyder i bobl wrth ddefnyddio'r Gymraeg. Un o'r pethau y sylwais arnyn nhw am y canolfannau trochi hwyr yw nad ydyn nhw ar gyfer plant sydd heb ddod i gysylltiad â'r Gymraeg yn unig ac sydd angen gwella eu hiaith, maen nhw hefyd ar gyfer plant a phobl ifanc sydd angen gwella eu hyder a'u rhuglder yn y Gymraeg, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, yn enwedig ar ôl y pandemig, oherwydd fe wyddom ni fod plant o gartrefi Saesneg eu hiaith wedi colli rhywfaint o'u hyder yn yr iaith yn ystod y pandemig. Felly, rwy'n credu bod sawl gwedd iddyn nhw, mewn gwirionedd, ac, wrth gwrs, yr hyn maen nhw hefyd yn ei roi i ni—wyddoch chi, mae gennym ni tua 60 o ymarferwyr yn gweithio yn y canolfannau hyn—yw ffynhonnell gyfoethog iawn o arbenigedd gweithlu, ac fe wn i eu bod yn gweithio nid yn unig gydag athrawon cyfrwng Cymraeg, ond mae gwaith hefyd yn dechrau gydag athrawon mewn ysgolion Saesneg hefyd, i adeiladu ar y sgiliau hynny a'r hyder hwnnw. Felly, rwy'n credu ei bod yn sylfaen dda iawn i symud ymlaen ac yn un y gallwn ni adeiladu arni yn bendant.

17:15

Diolch i chi, fel Ysgrifennydd Cabinet, am y datganiad. Mae trochi hwyr, fel rŷn ni i gyd yn gwybod, yn elfen hollbwysig o sicrhau ein bod ni'n cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg, ac yn rhan o'r strategaeth 'Cymraeg 2050'. Rwyf i hefyd yn croesawu'r datganiad o fewn y datganiad, a chydnabyddiaeth gan y Llywodraeth mai addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yw'r ffordd fwyaf effeithiol o ddatblygu siaradwyr Cymraeg hyderus ac annibynnol. Ac, wrth gwrs, fel Plaid Cymru, rŷn ni'n cefnogi pob ymdrech i ehangu'r cyfleoedd dysgu trochi hwyr ar draws Cymru gyfan, fel bod pawb sydd eisiau dysgu a meistroli'r Gymraeg yn cael y cyfle i wneud hynny.

Yn eironig iawn, rwy'n cofio mai efelychu modelau Canada nôl yn y 1970au a'r 1980au wnaeth Cymru er mwyn datblygu'r syniad yma o addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, felly mae'n ddiddorol gweld bod Québec, erbyn hyn, yn edrych ar ein modelau ni ac eisiau dysgu o'r gwaith rŷn ni'n ei wneud, sydd, wrth gwrs, yn beth da iawn, iawn.

Rwy'n cofio bod yn rhan, mewn bywyd blaenorol, o gefnogi nifer fawr o'r canolfannau hwyrddyfodiaid yma, yn arbennig yn sir Gaerfyrddin, ond roedden nhw wedi'u sefydlu cyn hynny mewn llefydd fel Gwynedd a Cheredigion, er mwyn cymhathu teuluoedd oedd yn symud mewn i ardaloedd gwledig yn bennaf. Ond mae gyda ni fodelau eraill erbyn hyn, sef ail gyfle i ddysgwyr neu, efallai, ddisgyblion sydd wedi dechrau drwy gyfrwng y Saesneg mewn ysgolion cynradd, ond bod cyfle iddyn nhw, efallai, ym mlwyddyn 6 a blwyddyn 7, symud i'r trac cyfrwng Cymraeg, acmfelly mae hynny hefyd yn ddatblygiad i'w groesawu'n fawr iawn. Dwi hefyd yn croesawu, wrth gwrs, yr ymrwymiad i roi £8.8 miliwn i gefnogi'r datblygiadau yma, ac, eto, yn diolch i chi am hynny. 

Y cwestiwn cyntaf sydd gyda fi yw: sut, wrth edrych ymlaen at y dyfodol, mae modd cyfrifo a chynllunio faint o arian sydd ei angen ar gyfer pob awdurdod lleol gwahanol, o gofio ei bod hi'n anodd rhagweld patrymau mewnfudo i Gymru a'r nifer fyddai angen trosglwyddo o addysg cyfrwng Saesneg i addysg cyfrwng Cymraeg? Hefyd, fel gwnes i nodi, mae yna fodelau gwahanol o drochi hwyr gyda ni yng Nghymru, felly oes barn gan y Gweinidog ynglŷn â'r model mwyaf llwyddiannus? Hefyd, pa fodel o ddarparu ar gyfer hwyrddyfodiaid sydd wedi bod fwyaf llwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf mewn ardaloedd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg ac mewn ardaloedd lle mae yna lai o ddwysedd? Mi fyddai hynny'n eithaf diddorol.

Rŷn ni'n gwybod gydag addysg Gymraeg yn gyffredinol, ac mae'r canolfannau trochi hwyr yma yn enghreifftiau tebyg iawn, fod cludiant yn hollbwysig, ac mae cludiant yn gallu bod yn rhwystr hefyd i ganiatáu i ddysgwyr gael mynediad at ganolfannau trochi hwyr. Felly, ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn rhannu fy mhryder i fod pellter teithio yn gallu bod yn broblem, a pha gefnogaeth ariannol, felly, mae awdurdodau lleol yn mynd i'w chael gan y Llywodraeth i sicrhau nad oes un plentyn yn mynd i gael ei rwystro rhag mynd i'r canolfannau yma oherwydd pellter, yn arbennig, os caf i ddweud, mewn ardaloedd gwledig, lle mae'r pellter yn eithaf sylweddol?

Wrth ystyried effeithiolrwydd y canolfannau yma, mae'n rhaid inni ystyried bod angen inni fynd â dysgwyr hefyd y tu hwnt i lefel sylfaen o ddysgu'r iaith. Mi fydd yna nifer o ddysgwyr, efallai, sydd wedi bod mewn cylchoedd meithrin yn flaenorol—cyfrwng Cymraeg—wedi mynd i addysg Saesneg, ac efallai fod rhywfaint o afael gyda nhw ar yr iaith—mwy na bod yn ddysgwyr pur. Felly, oes yna gyfle i ddarparu cyrsiau ar lefelau uwch—cyrsiau gloywi iaith, efallai—mewn canolfannau trochi hwyr?

Rwy'n cofio yn bersonol bod yn rhan o werthuso rhai o'r canolfannau yma ryw saith neu wyth mlynedd yn ôl. Un o'r diffygion wnaethon ni ganfod oedd y diffyg ôl-ofalaeth, y diffyg cefnogaeth yna i'r dysgwyr oedd wedi bod yn y canolfannau, ond ar ôl iddyn nhw gyrraedd nôl yn yr ysgol, doedd dim digon o gefnogaeth iddyn nhw ddatblygu hyder yn eu defnydd o'r Gymraeg. Felly, y ddau gwestiwn olaf, Ysgrifennydd Cabinet, yw: beth yw'r rhagolygon o ran cynnydd o ran y canolfannau trochi hwyr yma? Oes gyda chi ryw syniad o faint sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol? Dwi hefyd yn croesawu sefydlu'r rhwydwaith yma o ganolfannau iaith er mwyn dysgu o arfer dda. Pwy sydd yn mynd i arwain y rhwydwaith yma, ac ydych chi'n gallu sicrhau bod yna gyllid digonol i gefnogi hyn at y dyfodol? Diolch yn fawr iawn.

17:25

A gaf i ddiolch i Cefin Campbell am ei ymateb cadarnhaol i'r datganiad, sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr, a hefyd ei groeso am yr arian sydd ar gael ar gyfer y gwaith hwn, sydd, fel yr ydych wedi tynnu sylw ato, wedi bod yn allweddol iawn i sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni? Rydych chi wedi cyfeirio hefyd at y ffaith bod Québec yn edrych arnom ni. Rwy'n credu mai'r hyn y mae hynny'n ei ddangos yw bod ieithoedd yn bethau byw, a gallant fynd ar drai ac ar lanw oni bai eich bod yn parhau i flaenoriaethu a buddsoddi ynddynt. 

O ran cynllunio ar gyfer lleoedd, yn amlwg, mae'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn ddull allweddol sydd gennym ar hyn o bryd i wneud yn siŵr ein bod yn cynllunio digon ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg, ac, fel y dywedais i eisoes, mae pob awdurdod lleol wedi eu cyflwyno; bydd eu cynlluniau yn para am 10 mlynedd. Ar hyn o bryd rydym yn adolygu CSCAau awdurdodau lleol a byddwn yn mynd yn ôl atynt gydag adborth.

O ran y gwahanol fodelau trochi hwyr, rydych chi'n gywir yn hynny, ac mae gan rai ardaloedd gefnogaeth peripatetig ar gyfer trochi hwyr, sydd, yn amlwg, yn wahanol i blentyn mewn canolfan. Byddaf yn ysgrifennu atoch ynghylch a oes gennym unrhyw dystiolaeth ar yr hyn sydd fwyaf effeithiol, oherwydd yn bersonol ni fyddwn yn gymwys i ddweud a yw fersiwn benodol yn fwy effeithiol ai peidio, neu a ydynt yn gweithio'n arbennig o dda mewn ardaloedd dwysedd uchel neu ddwysedd isel. Yr hyn y byddwn yn gobeithio sy'n digwydd yw bod awdurdodau lleol yn ystyried eu demograffeg yn ofalus iawn, yn ystyried y niferoedd sy'n dod drwyddynt, ac yn cynllunio'r ddarpariaeth yn unol â hynny. Fel yr ydych wedi tynnu sylw ato'n briodol, mae cludiant yn broblem, a buom yn trafod hyn mewn cwestiynau yr wythnos diwethaf. Fy nealltwriaeth i yw ein bod yn rhoi cymorth gyda chludiant, ond byddaf yn ysgrifennu atoch am hynny hefyd.

O ran yr hyn a ddywedoch chi am gyrsiau gloywi, mae hynny'n digwydd eisoes, mewn gwirionedd. Felly, pobl ifanc sydd efallai wedi bod i ysgol feithrin, neu hyd yn oed wedi mynd drwy'r ysgol gynradd, gallant gael y cyfle i ddefnyddio'r canolfannau trochi hwyr i fagu hyder yn y Gymraeg. Mae hynny'n bwysig iawn.

Diolch am eich croeso i'r rhwydwaith. Mae hynny'n cael ei gydlynu gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Nid wyf yn ei ystyried yn beth arbennig o ddrud. Mae'n gyfle i ddod â phobl at ei gilydd, i rannu arfer da. Ac yn olaf, o ran yr hyn a ddywedoch chi am y diffyg cefnogaeth i blant sy'n mynd yn ôl i'w hamgylchedd ysgol, rwy'n gweld hyn yn allweddol iawn, mewn gwirionedd. Yn amlwg, dydych chi ddim eisiau cael plentyn wedi trochi am 12 wythnos ac yna'n cael ei ollwng yn ôl, ac yn sicr y sicrwydd a gefais i pan oeddwn yn Ysgol Gynradd Groes-wen yn ddiweddar yng Nghaerdydd oedd nad dyna maen nhw'n ei wneud o gwbl. Maen nhw'n gweithio'n barhaus gyda'r plentyn i wneud yn siŵr bod y plentyn yn gallu mynd yn ôl i'r ysgol a'i fod yn gyfforddus gyda'r hyn y mae'n ei wneud, ac rwy'n meddwl bod hynny'n bwysig iawn—bod y gefnogaeth barhaus honno ar gael.

Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Gweinidog. Po ieuengaf yw'r disgybl, gorau oll mae'r trochi yn gweithio. Dywedwyd wrthyf yng Ngwynedd bod uned drochi yn y Gymraeg ar gyfer disgyblion hyd at flwyddyn 9. Mewn siroedd eraill, dim ond uned drochi ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd sydd ar gael. I bob pwrpas, mae Mudiad Meithrin yn gynllun trochi cynnar i blant o dan oed meithrin o deuluoedd Saesneg eu hiaith. Mae hyn yn gweithio'n dda iawn, ac roeddwn i'n ddigon ffodus i ymweld â Meini Bach ym Môn-y-maen ddydd Llun.

Po fwyaf o eiriau y mae plant yn eu gwybod yn Saesneg, y mwyaf anodd yw dysgu ail iaith, hyd yn oed trwy drochi. I'r rhai sy'n dod o du allan i ardaloedd Saesneg eu hiaith, yna mae'n ymddangos bod trochi yn Saesneg yn gweithio, oherwydd dyma'r iaith y bydd plant yn ei chlywed ar y teledu ac wrth ryngweithio cymdeithasol. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi mai'r cynharaf yw'r trochi, y gorau yw'r canlyniad, ac i'r Gymraeg, y trochi cynnar mwyaf llwyddiannus yw'r Mudiad Meithrin?

Diolch yn fawr iawn, Mike, a diolch am eich sylwadau cadarnhaol iawn am y Mudiad Meithrin yng Nghymru, sydd, yn amlwg, yn cael cyllid ar ei gyfer gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n cytuno â chi, yn ddelfrydol, mai'r amlygiad cynnar hwnnw i iaith mewn amgylchedd trochol a all wneud y gwahaniaeth mwyaf, felly rwy'n hapus iawn i longyfarch y gwaith sy'n cael ei wneud mewn ysgolion meithrin ledled Cymru i wreiddio'r Gymraeg. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig, os nad yw hynny'n ddewis sydd wedi'i wneud gan rai teuluoedd, nad ydym yn cau'r cyfle hwnnw i deuluoedd yng Nghymru. Dyna pam mae gennym ni'r ddarpariaeth drochi hwyr hon yng Nghymru, ac rydych chi'n llygad eich lle bod yna amrywioldeb o ran pwy sy'n ei gynnig ar lefel ysgol gynradd ac uwchradd. Mae gan rai awdurdodau ddarpariaeth uwchradd, ond rwyf hefyd yn falch o ddweud, yn ogystal â darpariaeth gynradd yn Abertawe, fod yna hefyd gynllun treialu ar gyfer darpariaeth uwchradd hefyd. Felly, mae hynny'n amlwg yn rhywbeth y mae angen i ni adeiladu arno, a byddai'n cymryd sylw o'r pwyntiau y mae Cefin Campbell wedi cyfeirio atynt fel ffynhonnell gymorth i bobl ifanc sydd efallai angen datblygu eu sgiliau yn yr iaith. 

17:30

Mae trochi yn gweithio, heb os. Does yna ddim dadl am hynny, ac wrth gwrs rydyn ni'n croesawu hyn. Beth fyddwn i'n hoffi ydy pe byddwch chi'n gallu darparu beth ydy'r diffiniad o drochi ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, a beth ydy'r ddarpariaeth sydd ar gael, a'r llwybrau sydd ar gael i'r dysgwyr hynny. Oherwydd fy nealltwriaeth i ydy bod yna amrywio o sir i sir, fod trochi—fel rydych chi'n sôn—peripatetig. O ran fy rhanbarth i, mae yna ganolfannau trochi yng Nghaerdydd, ym Mro Morgannwg, ond peripatetig ydy o yn Rhondda Cynon Taf. Yn anffodus, mae athrawon wedi rhannu efo fi dydyn nhw ddim yn diffinio hynny fel trochi, a ddim yn gweld y cynnydd y byddan nhw'n hoffi ei weld yn y plant hwnnw. Felly, er mwyn i ni fod yn gallu dathlu hyn, pryd fyddem ni'n gweld bod yna drochi gwirioneddol a'r un fath o gynnig ar gael ym mhob rhan o Gymru? Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at hynny? Oherwydd mi oedd eich rhagflaenydd yn cydnabod mai taith oedd hi i bob awdurdod lleol, ond byddai'n dda gwybod beth ydy'r amserlen ar gyfer sicrhau bod yna 12 wythnos o drochi dwys ar gael lle bynnag eich bod chi'n byw yng Nghymru, a hefyd ar gyfer dysgwyr sydd ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol. 

Diolch i chi, Heledd, ac rydych chi'n gywir bod y ffordd mae'r gwasanaethau'n cael eu rhedeg yn wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru, ac, fel rydych chi wedi tynnu sylw ato, yn RhCT mae'n wasanaeth peripatetig; mewn rhai awdurdodau mae'r plant yn yr uned am 12 wythnos. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn canmol awdurdodau lleol am yr hyn y maent yn ei wneud yn y maes hwn, ond mae mwy y gallwn ei wneud bob amser. Mae gen i restr yma o bwy sy'n darparu beth i bob awdurdod lleol yng Nghymru, ond rwy'n siŵr nad ydych chi eisiau i mi fynd drwyddi nawr. Ond rwy'n hapus iawn i ysgrifennu atoch gyda'r rhestr o'r hyn sydd ar gael, ac, fel y dywedais i mewn ymateb i Tom Giffard, rwy'n credu mai dim ond mynd o nerth i nerth y gallwn ni ei wneud gyda hyn, mewn gwirionedd. Mae gennym ni y Bil nawr, sydd ag ymrwymiad i drochi. Byddwn yn adeiladu ar hynny, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar sut mae hyn yn gweithio mewn gwahanol feysydd a sicrhau ein bod yn defnyddio'r arferion gorau posibl. Rwyf hefyd yn cytuno'n llwyr â chi am blant ag ADY, a dyna un o'r pethau a ofynnais yn yr uned yn Ysgol Groes-wen, oherwydd nid ydym eisiau i unrhyw ddysgwyr gael eu gadael ar ôl, ac roeddent yn galonogol iawn eu bod, ie, yn gweithio gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn amlwg, maen nhw'n gweithio ar eu cyflymder eu hunain, ond maen nhw wedi'u cynnwys yn hynny. Ond rwy'n meddwl bod angen i ni wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd ym mhobman yng Nghymru.

Y peth arall sydd wedi fy nharo i mewn gwirionedd yw amrywiaeth y plant. Felly, roedd y person ifanc y gwnes i gwrdd ag ef yn Ynys Môn yn ffoadur o Wcrain, ac roedd yn siarad Cymraeg yn rhugl. Cwrddais â bachgen bach yn Ysgol Groes-wen ychydig wythnosau yn ôl ac roedd yn llythrennol—eto o deulu arall o ffoaduriaid, yn llythrennol ar ei ail ddiwrnod yn yr uned, ac fe ruthrodd i fyny a dywedodd 'Bore da', ac roeddech chi'n gallu gweld ei fod mor falch o'r hyn roedd e wedi'i ddysgu. Roedd yn hyfryd i'w weld. Felly, mae hyn i bawb, onid ydyw, ac mae'n bwysig ein bod yn croesawu hynny.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am y gwaith pwysig yma ac am eich cyfraniad hynod naturiol yn y Gymraeg ar ddechrau'r datganiad. Dwi'n gobeithio bydd eich hyder dim ond yn cynyddu o hyn ymlaen. Dwi'n cofio yn y 1990au cynnar, yn 1990, pobl yn galw fy mam yn greulon am iddi adael i blant o gartrefi cyfrwng Saesneg i ymuno â'n cylch meithrin ni. Yn ddiweddarach yn yr ysgol gynradd, dwi'n cofio cyfoedion yn gadael addysg cyfrwng Cymraeg oherwydd i deuluoedd gael eu cynghori gan yr ysgol y byddai addysg Saesneg yn siwtio eu plant yn well. Rŷm ni wedi dod yn bell iawn mewn 30 mlynedd, a dwi'n nabod plant sydd wedi dod yn rhugl trwy unedau trochi wedi i'r teulu symud nôl i Gymru. 

Ond, er gwaethaf ariannu gan y Llywodraeth, dwi'n rhannu consérn Heledd Fychan nad oes gan bob awdurdod lleol uned trochi Cymraeg o hyd. Pryd dŷch chi'n disgwyl uned ym mhob awdurdod lleol? Mae'n amlwg bod yna ddiffyg cysondeb ar hyn o bryd. Sut mae Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i sicrhau bod ymarfer da a bod cysondeb yn digwydd ym mhob awdurdod lleol? Diolch yn fawr. 

17:35

Diolch yn fawr iawn, ac rydych chi'n gwneud pwyntiau pwysig iawn am gynhwysiant a bod yn gynhwysol, a chredaf fod hynny'n allweddol, mewn gwirionedd, onid ydyw, er mwyn i'r iaith ffynnu? Rwy'n ystyried yr hyn a ddywedwyd am amrywioldeb yn y ffordd y mae'r ddarpariaeth yn cael ei gwneud. Rwy'n dal i feddwl ei bod yn werth canmol pawb am fod gennym y ddarpariaeth hon ym mhob rhan o Gymru nawr, ac mae hynny'n gam mawr ymlaen go iawn. Mae'r CSCAau i mewn; byddaf yn edrych i weld beth maen nhw'n ei ddweud am y ddarpariaeth drochi, ac mae cyfle yno i graffu ar yr hyn y mae awdurdodau lleol yn ei wneud yn y maes hwnnw. Ond rwyf hefyd yn credu bod y rhwydwaith yr wyf wedi siarad amdano yn gyfle da iawn i rannu arfer da a sicrhau bod pob awdurdod yn dod i fyny i lefel y gorau. 

Dyna ni; dyna ddiwedd ar y datganiad yna. Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet, a hyfryd eich clywed chi yn siarad yn y Gymraeg wrth gyflwyno'r datganiad yna. Dyna ni—dyna ddiwedd ar ein trafodion ni am heddiw. Diolch i bawb. 

Daeth y cyfarfod i ben am 17:37.