Pwyllgor o'r Senedd Gyfan - Y Chweched Senedd
Committee of the Whole Senedd - Sixth Senedd
06/03/2024Cynnwys
Contents
Cofnodir y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y pwyllgor. Yn ogystal, cynhwysir trawsgrifiad o’r cyfieithu ar y pryd. Lle mae cyfranwyr wedi darparu cywiriadau i’w tystiolaeth, nodir y rheini yn y trawsgrifiad.
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 15:24.
Prynhawn da a chroeso i'r cyfarfod yma i ystyried Cyfnod 2 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Yn unol â'r rhestr o welliannau wedi'u didoli, byddwn yn ailddechrau'r trafodion y prynhawn yma drwy waredu gwelliannau 90 a 91, a drafodwyd yng ngrwpiau 3 ac 1, yn y drefn honno. Felly, gwelliant 90 i ddechrau. A yw'n cael ei gynnig yn ffurfiol gan y Cwnsler Cyffredinol?
Cynigiwyd gwelliant 90 (Mick Antoniw).
Ydy, mae'r gwelliant yn cael ei gynnig. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 90? A oes unrhyw wrthwynebiad? Does dim gwrthwynebiad. Felly, mae gwelliant 90 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Ydy gwelliant 91 yn cael ei gynnig gan y Cwnsler Cyffredinol?
Cynigiwyd gwelliant 91 (Mick Antoniw).
Ydy, mae wedi ei gynnig. A ddylid derbyn gwelliant 91, felly? A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 91 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Y grŵp nesaf y byddwn ni'n ei drafod yw grŵp 14. Enwau etholaethau’r Senedd a rôl Comisiynydd y Gymraeg yn eu henwi yw'r grŵp yma o welliannau. Gwelliant 92 yw'r prif welliant yn y grŵp a dwi'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol i gynnig y gwelliant hwnnw.
Cynigiwyd gwelliant 92 (Mick Antoniw).
Diolch, Llywydd. Yn sicr, mae'r dystiolaeth wedi dangos inni yn glir yn y Pwyllgor Biliau Diwygio yr angen i gryfhau'n sylweddol yr hyn a oedd yn y Bil fel y'i cyflwynwyd o ran y cyfle, wrth lunio etholaethau newydd i Gymru, i hyrwyddo’r Gymraeg wrth galon ein bywyd cyhoeddus a democrataidd, i sicrhau bod ffurfiau Cymraeg enwau yn cael eu defnyddio’n gywir ac yn eang, ac i gryfhau rôl Comisiynydd y Gymraeg yn y broses. Mi oeddwn i'n gwerthfawrogi’n fawr yr undod trawsbleidiol ar draws y pwyllgor yn hyn, a bod ein dyheadau ni wedi cael eu hadlewyrchu yn y gwelliannau gan Mick Antoniw. Mi ofynnodd Sarah Murphy, pan oeddem ni ar y pwyllgor, pam bod angen 'Bridgend', pam na wna 'Pen-y-bont' y tro yn y ddwy iaith. Mae parciau cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Eryri wedi arwain y ffordd ar ein cyfer, felly mae’n iawn fod trefniadau enwi etholaethau y Senedd hon yn dangos yr un uchelgais.
Dydy’r gwelliannau gan Mick Antoniw yn y grŵp yma ddim yn union fel y byddwn i wedi’u llunio, ond maent yn sicr yn dangos dylanwad y pwyllgor arnyn nhw ac mae o'n welliant sylweddol i'r hyn a oedd yn y Bil fel y’i cyflwynwyd am sawl rheswm. Yn gyntaf, maen nhw'n cael gwared ar y disgwyliad i'r comisiwn ffiniau roi enw at ddibenion cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a drwy gyfrwng y Saesneg ar etholaeth, gyda rhagdybiaeth o blaid enw uniaith, gyda’r ddealltwriaeth mai enw uniaith Gymraeg fyddai honno. Maen nhw yn ehangu rôl Comisiynydd y Gymraeg yn y cyfnod rhagymgynghori o ran orgraff enwau arfaethedig etholaethau, ac maen nhw'n gwneud y comisiynydd yn ymgynghorai statudol yn ystod y cyfnod agored o ymgynghori, fel y gallai’r comisiynydd gyfrannu arbenigedd ar y dewis o enwau, yn ychwanegol at y cyngor a roddir ar sillafiad neu’r orgraff yn y cyfnod rhagymgynghori, neu yn wir gynnig cyngor ar effaith yr etholaethau arfaethedig ar y Gymraeg yn ei ystyr ehangaf, gyda dyletswydd statudol wedyn ar y comisiwn ffiniau i roi sylw dyladwy i'r materion a godir. Mae hyn yn gydnabyddiaeth o swyddogaeth y comisiynydd fel y corff sydd â’r cyfrifoldeb arweiniol ar argymell ffurfiau safonol enwau lleoedd Cymru a’r cyfoeth o arbenigedd ehangach sydd wedi’i gronni yn y maes yma yn fwy cyffredinol gan y sefydliad.
Er mwyn sicrhau bod y darpariaethau yma yn gweithio yn effeithiol, fe glywsom ni yn y dystiolaeth i'r pwyllgor fod dal angen cytundeb rhwng y tri chorff mwyaf perthnasol—y comisiwn ffiniau, Comisiynydd y Gymraeg, a’r Llywodraeth—ar yr egwyddorion a’r confensiynau lefel uchel sy’n sail i ddatblygu enwau, i roi fframwaith i'r trefniadau manwl ar lo mân y broses fwy cadarn o lawer a fydd yn y Bil wedi’i ddiwygio o dderbyn y gwelliannau yma. Felly, byddai'n dda pe gallai'r Gweinidog ddweud mwy na hynny rŵan, neu ddychwelyd ato yng Nghyfnod 3. Yn yr un modd, byddwn yn awyddus i weld dychwelyd at y mater gwneud y Gymraeg yn un o'r clymau lleol yn Nghyfnod 3, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Biliau Diwygio.
Y Cwnsler Cyffredinol i ymateb.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 92? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 92 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Cwnsler Cyffredinol, ydy gwelliant 93 yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 93 (Mick Antoniw).
Ydy. A oes gwrthwynebiad i welliant 93? Na, dim gwrthwynebiad. Mae gwelliant 93 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Ydy gwelliant 94 yn cael ei symud, Cwnsler Cyffredinol?
Cynigiwyd gwelliant 94 (Mick Antoniw).
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 94? Nac oes. Felly, mae gwelliant 94 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Ydy gwelliant 95 yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 95 (Mick Antoniw).
Oes gwrthwynebiad i welliant 95? Nac oes. Felly, mae gwelliant 95 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Cwnsler Cyffredinol, gwelliant 96?
Cynigiwyd gwelliant 96 (Mick Antoniw).
Gwelliant 96—a oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 96 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Gwelliant 97, Cwnsler Cyffredinol.
Cynigiwyd gwelliant 97 (Mick Antoniw).
Oes gwrthwynebiad i welliant 97? Nac oes. Felly, mae gwelliant 97 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Gwelliant 98, Cwnsler Cyffredinol.
Cynigiwyd gwelliant 98 (Mick Antoniw).
Gwelliant 98—oes gwrthwynebiad? Na. Mae wedi ei dderbyn, felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Tynnwyd gwelliant 24 yn ôl.
Gwelliant 99, Cwnsler Cyffredinol.
Cynigiwyd gwelliant 99 (Mick Antoniw).
Gwelliant 99—gwrthwynebiad? Nac oes. Mae gwelliant 99 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Gwelliant 100, Cwnsler Cyffredinol.
Cynigiwyd gwelliant 100 (Mick Antoniw).
Oes gwrthwynebiad i welliant 100? Nac oes. Felly, mae e wedi ei gymeradwyo.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Gwelliant 78, Cwnsler Cyffredinol.
Cynigiwyd gwelliant 78 (Mick Antoniw).
Oes gwrthwynebiad i welliant 78? Nac oes. Mae gwelliant 78 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Gwelliant 79, Cwnsler Cyffredinol.
Cynigiwyd gwelliant 79 (Mick Antoniw).
Oes gwrthwynebiad i welliant 79? Nac oes. Felly, mae e wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Dyma ni'n cyrraedd grŵp 15. Grŵp 15 yw'r grŵp o welliannau sy'n ymwneud â'r cwota etholiadol ar gyfer adolygu ffiniau etholaethau’r Senedd. Gwelliant 14 yw'r prif welliant fan hyn, a dwi'n galw ar Darren Millar i gynnig y prif welliant.
Cynigiwyd gwelliant 14 (Darren Millar).
Diolch, Llywydd. Dŷn ni'n gwrthwynebu'r gwelliant yma gan Darren Millar. Mae'n bur amlwg i bawb beth yw canlyniad gosod cwota artiffisial yn achos yr etholaethau San Steffan newydd, gyda chanlyniadau anfwriadol fel etholaeth Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe. Byddai'n well gen i beidio gweld cwota, fel sydd yn digwydd yn yr Alban, ond os oes cwota yn gorfod bod, yna mae angen cynnig gymaint o hyblygrwydd ag sy'n bosib, yn hytrach na chlymu dwylo'r comisiwn ffiniau, fel mae gwelliant Darren Millar am wneud.
Bydd y cwota yn gweithredu o fewn fframwaith ehangach o gyfarwyddiadau sydd yn Atodlenni’r Mesur, gan gynnwys y gofyniad i geisio lleihau newid. Mae yna bryder yn nhystiolaeth ysgrifenedig y comisiwn ffiniau am ganlyniadau anfwriadol yn eu dehongliad o hyn. Cafodd argymhelliad perthnasol y pwyllgor yn hyn o beth ei nodi gan y Cwnsler Cyffredinol. Felly, a gaf i ofyn am ddiweddariad ar y gwaith sy'n digwydd i fynd i'r afael â'r amheuon gododd y comisiwn? Os nad oes datrysiad derbyniol i hyn, mae'n bosib y bydd angen dychwelyd at y mater penodol hwn yng Nghyfnod 3.
Dylid pwysleisio hefyd mai ffiniau interim ar gyfer un tymor yn unig fydd y parau arfaethedig yn defnyddio etholaethau San Steffan. Felly, mae o'n bwysig bod y cyrff fydd yn gyfrifol am gyflawni'r system newydd yn deall hynny ac yn paratoi at weithredu o dan y ffiniau llawn Cymreig newydd fydd yn cael eu defnyddio o 2030 ymlaen ac yn cael eu hadolygu yn achlysurol wedyn.
Y Cwnsler Cyffredinol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 14? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 14. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Mae gwelliant 14 wedi ei wrthod.
Gwelliant 14: O blaid: 15, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 101 nesaf. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cynnig y gwelliant?
Cynigiwyd gwelliant 101 (Mick Antoniw).
Ydy, mae'n cael ei gynnig. A oes gwrthwynebiad i welliant 101? Nac oes. Mae gwelliant 101 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Ydy gwelliant 102 yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 102 (Mick Antoniw).
Ydy, gan y Cwnsler Cyffredinol. A oes gwrthwynebiad i 102? Nac oes. Mae 102 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Ydy 103 yn cael ei symud gan y Cwnsler Cyffredinol?
Cynigiwyd gwelliant 103 (Mick Antoniw).
A oes gwrthwynebiad i 103? Nac oes. Mae 103 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Gwelliant 104—Cwnsler Cyffredinol.
Cynigiwyd gwelliant 104 (Mick Antoniw).
A oes gwrthwynebiad i 104? Nac oes. Wedi ei dderbyn, felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Gwelliant 105—Cwnsler Cyffredinol.
Cynigiwyd gwelliant 105 (Mick Antoniw).
Gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae 105 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Gwelliant 106—Cwnsler Cyffredinol.
Cynigiwyd gwelliant 106 (Mick Antoniw).
A oes gwrthwynebiad i 106? Nac oes. Felly, wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Gwelliant 25, yn enw Darren Millar—ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 25 (Darren Millar).
Ydy, mae'n cael ei symud. A oes gwrthwynebiad i welliant 25? Nac oes. Felly, mae gwelliant 25 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Gwelliant 54—Darren Millar.
Cynigiwyd gwelliant 54 (Darren Millar).
A oes gwrthwynebiad i welliant 54? Nac oes, wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Tynnwyd gwelliant 26 yn ôl.
Gwelliant 55—Darren Millar.
Cynigiwyd gwelliant 55 (Darren Millar).
A oes gwrthwynebiad i welliant 55? Nac oes, wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Gwelliant 56—Darren Millar.
Cynigiwyd gwelliant 56 (Darren Millar).
A oes gwrthwynebiad i 56? Nac oes, wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Gwelliant 107, Cwnsler Cyffredinol—ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 107 (Mick Antoniw).
Ydy. A oes gwrthwynebiad i 107? Dim gwrthwynebiad. Wedi ei basio, felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Gwelliant 108—Cwnsler Cyffredinol.
Cynigiwyd gwelliant 108 (Mick Antoniw).
Wedi cael ei symud. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, 108 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Tynnwyd gwelliant 27 yn ôl.
Gwelliant 109—Cwnsler Cyffredinol.
Cynigiwyd gwelliant 109 (Mick Antoniw).
Wedi ei symud. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae 109 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Darren Millar, gwelliant 15—ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 15 (Darren Millar).
Ydy. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i welliant 15. Fe gawn ni bleidlais, felly. Agor y bleidlais—gwelliant 15. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 15 wedi ei wrthod.
Gwelliant 15: O blaid: 15, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Tynnwyd gwelliant 28 yn ôl.
Cwnsler Cyffredinol—gwelliant 110.
Cynigiwyd gwelliant 110 (Mick Antoniw).
Wedi cael ei symud. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Wedi ei basio, felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Gwelliant 16. [Chwerthin.] Gwelliant 16, Darren Millar—ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 16 (Darren Millar).
Wedi cael ei symud. A oes gwrthwynebiad i welliant 16? Nac oes. Felly, mae gwelliant 16 yn cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Gwelliant 17—Darren Millar.
Cynigiwyd gwelliant 17 (Darren Millar).
Felly, mae gwelliant 17 wedi'i gynnig. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Wedi ei basio, felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Gwelliant 111—Cwnsler Cyffredinol.
Cynigiwyd gwelliant 111 (Mick Antoniw).
A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae 111 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Gwelliant 112—Cwnsler Cyffredinol.
Cynigiwyd gwelliant 112 (Mick Antoniw).
Oes gwrthwynebiad i 112? Nac oes. Wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Gwelliant 113—Cwnsler Cyffredinol.
Cynigiwyd gwelliant 113 (Mick Antoniw).
Gwrthwynebiad? Nac oes. Mae 113 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Gwelliant 114—Cwnsler Cyffredinol.
Cynigiwyd gwelliant 114 (Mick Antoniw).
Wedi ei symud. Does dim gwrthwynebiad, felly mae e wedi ei basio.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Gwelliant 115—Cwnsler Cyffredinol.
Cynigiwyd gwelliant 115 (Mick Antoniw).
Gwelliant 115 wedi ei symud. Ydy e'n cael ei wrthwynebu? Nac ydy, felly mae 115 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Dwi yn mynd i gymryd toriad o bum munud ar y pwynt yma, felly fe gymerwn ni doriad.
Gohiriwyd y cyfarfod rhwng 15:55 ac 16:03.
Reit, rŷn ni'n barod i ailgychwyn. Byddwn ni'n ailgychwyn gyda grŵp 16. Refferendwm ar Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac etholiadau) 2024 yw'r grŵp yma. Gwelliant 36 yw'r prif welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar Darren Millar i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r grŵp yma.
Cynigiwyd gwelliant 36 (Darren Millar).
Yn etholiad diwethaf y Senedd, aeth dros 63 y cant o gyfanswm y pleidleisiau i bleidiau oedd gydag ymrwymiadau maniffesto i ddiwygio’r Senedd hon. Yn refferendwm 2011, pleidleisiodd cyfran debyg o blaid atgyfnerthu pwerau datganoledig Cymru, ac mae’r Bil hwn yn parhau â’r daith honno ac yn ceisio galluogi creu deddfwrfa genedlaethol fydd yn deilwng o bobl Cymru ac yn gallu cyflawni’r gwaith y gofynnwyd iddi ei wneud yn effeithiol ar ran pobl Cymru.
Mae o y tu hwnt i unrhyw amheuaeth resymol, felly, fod yna fandad democrataidd ar gyfer y mesurau sydd wedi’u cynnwys yn y Bil hwn, ac felly—ddim yn syndod, dwi'n siŵr—nid ydym yn cefnogi gwelliannau 36 a 37, a fyddai’n diystyru ewyllys sefydlog etholwyr Cymru. At hynny, pan fyddwn yn ystyried eu hanes ar faterion cyfansoddiadol sy’n effeithio ar Gymru, mae’n amlwg nad oes gan y Torïaid unrhyw hygrededd o gwbl. Mi wnaeth Mike Hedges ddangos hwnna'n glir.
Fel y gwnes i sôn, doedd yna ddim refferendwm ar y penderfyniad i dorri nifer Aelodau Seneddol Cymru yn San Steffan o 40 i 32, ac fe wnaethant wrthsefyll pob galwad am bleidlais gyhoeddus ar delerau eu bargen Brexit galed, drychinebus a na wnaeth, yn wahanol i’r cynigion a amlinellwyd yn y Bil hwn, ymddangos ar unrhyw bapur pleidleisio neu faniffesto. Doedd dim refferendwm ychwaith ar newidiadau adweithiol y Blaid Geidwadol i system etholiadol y comisiynwyr heddlu a throsedd yng Nghymru, yn ail gyflwyno system cyntaf i’r felin yn lle system fwy cyfrannol, gan nad ydyn nhw’n gallu ennill mewn system lle mae pob pleidlais yn cyfrif, fe ymddengys.
Bob tro pan fydd llais a safiad Cymru yn lleihau o ganlyniad i benderfyniadau San Steffan, mae distawrwydd yr Aelodau Torïaidd wedi bod yn llethol. Ac eto, pan ddaw’n fater o fesur hanesyddol a fydd yn cryfhau seiliau ein democratiaeth yn defnyddio rheolau a osodwyd gan eu meistri nhw yn San Steffan yn Neddf Cymru 2017, mae gennym y Torïaid ar eu traed yn ceisio troi'r cloc yn ôl ar ddatganoli yng Nghymru. Mi oedd o'n ddigon da iddyn nhw bryd hwnnw gael uwchfwyafrif, ond rŵan bod y trothwy uchel hwnnw wedi'i fodloni, maen nhw'n trio newid y rheolau eto.
Mae hefyd yn drawiadol iawn bod mesur sydd wedi'i gynllunio yn bennaf i hybu craffu seneddol, rhywbeth y byddai unrhyw wrthblaid sydd o ddifrif yn ysu i'w weld, yn achosi cymaint o bryder ymhlith rhengoedd y Torïaid. Yn lle cynnig gimigau di-fudd sy'n mynd yn erbyn llif hanes, mi fyddwn i'n annog yr Aelodau Torïaidd yma i ymgysylltu'n adeiladol gyda'r mesurau sydd ger ein bron ni heddiw, ac i gysoni eu hunain efo'r realiti, ar ôl dwy refferenda a chwe etholiad, mae datganoli yng Nghymru yma i aros. Canolbwyntiwch eich egni ar wneud i ddatganoli weithio i bobl Cymru, yn hytrach na cheisio creu rhaniadau diangen. Nid gêm ydy gwleidyddiaeth. Mae o'n effeithio ar fywydau pawb ohonom a phawb rydym ni'n ei gynrychioli. Mae pobl Cymru yn haeddu'r buddsoddiad hwn yn ein democratiaeth, ac wedi dangos eu cefnogaeth iddo eisoes.
Cwnsler Cyffredinol.
Gwelliant 36. Os bydd gwelliant 36 yn cael ei wrthod, bydd gwelliant 37 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 36? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 36. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Mae gwelliant 36 wedi'i wrthod.
Gwelliant 36: O blaid: 14, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Methodd gwelliant 37.
Grŵp 17 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma'n ymwneud ag adolygiad o weithrediad y Ddeddf ar ôl etholiad cyffredinol 2026. Gwelliant 9 yw'r prif welliant yn y grŵp. Darren Millar i gyflwyno gwelliant 9.
Cynigiwyd gwelliant 9 (Darren Millar).
Diolch, Llywydd. Dwi'n falch o ddilyn Darren y tro yma, oherwydd dwi'n mynd i ganolbwyntio fy nghyfraniad ar y gwelliant dwi wedi ei gyflwyno yn y grŵp hwn, gwelliant 116, sydd yn welliant er mwyn amlygu’r angen i roi ystyriaeth bellach i sawl agwedd yn ymwneud efo trefniadau i gefnogi datblygu polisi. Mae Senedd fwy a mwy cynrychioladol yn ei ystyr ehangaf yn mynd i roi mwy o gapasiti i ni i ddeddfu, craffu, a chynrychioli pobl Cymru. Ond mae’r un mor bwysig i ymestyn ein gorwelion o ran sylwedd y gwaith, o ran ein gallu fel Aelodau ac fel pleidiau i ddatblygu rhaglen i lywodraethu Cymru fel sail i'n gwaith a llunio a chynnig datrysiadau ar gyfer dyfodol Cymru, o’r argyfyngau natur a hinsawdd i effaith deallusrwydd artiffisial ar waith, o ran ein huchelgais dros addysg ac iechyd, taclo tlodi—pob math o feysydd gwahanol. Mae hynny i gyd yn golygu adnodd—ddim o reidrwydd mwy o adnodd, ond yn sicr yr angen i ryddhau'r adnodd sy’n bodoli yn barod ac i'w ddefnyddio fo yn fwy creadigol.
Fe glywson ni yn y Pwyllgor Biliau Diwygio nad yw'r trefniadau presennol ddim yn gydnaws efo datganoli fel y mae, heb sôn am mewn Senedd fwy. Cytunodd Elan Closs Stephens ar ran y Comisiwn Etholiadol, sy'n gyfrifol am weinyddu’r grant datblygu polisi presennol dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, fod y pwyllgor wedi adnabod anomali. Er mwyn cymhwyso ar gyfer y grant o £2 filiwn, sydd heb gynyddu ers 2000, er mwyn cael arian i ddatblygu maniffestos ar gyfer etholiadau Senedd Cymru, rhaid i blaid wleidyddol gael dau Aelod Seneddol yn San Steffan. Mae yna ymgais, annigonol fyddwn i'n dweud, wedi bod i geisio ystyried datganoli fel ryw bolt-on ar ymylon y drefn yma, ond fel mae’n sefyll mae’r arian sydd ar gael i bleidiau ar gyfer cefnogi llunio maniffestos ar gyfer etholiadau Senedd Cymru yn gallu amrywio os oes newid yn system pleidiau gwlad arall, fel digwyddodd gyda dyfodiad Plaid Alba yn yr Alban.
Er bod yr agwedd benodol hon wedi’i chadw yn ôl yn San Steffan, mae ffyrdd drwy Bwyllgor y Llefarydd yn San Steffan, drwy Bwyllgor y Llywydd yma yn y Senedd a thrwy gangen y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru i bwyso i newid y drefn. Mae angen i Lywodraeth Cymru ychwanegu ei llais at y drafodaeth, a Chomisiwn y Senedd hefyd. Mae’r mesur diwygio etholiadol arall sydd yn mynd drwy’r Senedd ar hyn o bryd, sef y Bil etholiadau a chyrff etholedig, hefyd yn cynnig posibiliadau y bydd fy mhlaid am archwilio i'r eithaf o ran symud y maes pwysig yma ymlaen.
Byddwn i'n awgrymu bod angen trefn neilltuol ar gyfer etholiadau Senedd Cymru, yn ogystal ag etholiadau Senedd San Steffan tra’n bod ni’n rhan o’r system honno. Fydd hi ddim yn beth cwbl newydd i Lywodraeth Cymru fentro i'r maes yma; mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cyfrannu £441,000 ar gyfer Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, gyda'r Economic and Social Research Council yn rhoi grant o £9 miliwn dros bum mlynedd i gefnogi’r gwaith. Ond dim ond y blaid lywodraethol gaiff fynediad at yr adnodd yma ar hyn o bryd. Mae eisiau paratoi i sicrhau bod gennym drefn briodol i gefnogi gwaith polisi gan yr holl bleidiau yn y lle yma sy’n deilwng o bobl Cymru, fel bod pob plaid yn gallu bod yn datblygu eu gweledigaeth a chyfrannu rhywbeth i Senedd newydd.
O ran y gefnogaeth sydd ar gael i bleidiau wneud eu gwaith o fewn y Senedd wedyn, mae angen edrych ar y trefniadau hynny hefyd. Yn wahanol i'r rhyddid cymharol ddaw efo’r arian Short yn San Steffan, sy’n gallu cael ei ddefnyddio at ddibenion pleidiol wleidyddol o ystyried natur cynhenid wleidyddol gwaith gwrthblaid, mae’r trefniadau yn ein Senedd ni yn llawer mwy llym. Mae’n sefyllfa ryfedd hefyd lle mae’r Clerc, fel prif swyddog cyfrifyddu’r Comisiwn, i bob pwrpas yn bersonol gyfrifol am wariant pob un grŵp gwleidyddol, sy’n gofyn wedyn wrth gwrs am reolau caeth i roi sicrwydd ei fod yn cael ei wario yn iawn.
Mae’r argymhelliad gan y Pwyllgor Biliau Diwygio yn argymell i'r Llywodraeth, y Comisiwn a’r bwrdd taliadau gydweithio i adolygu'r trefniadau cyn 2026 yn gam cyntaf ar y daith, sydd wedi ei nodi gan y Cwnsler Cyffredinol wrth ymateb, ond hoffwn glywed felly am ei fwriadau o ran ymateb i'r argymhelliad. Mae angen mynd yn llawer pellach a bod yn uchelgeisiol os am greu Senedd newydd uchelgeisiol, a galluogi i'r gystadleuaeth am seddi fod yn ornest o syniadau. Rydyn ni eisoes wedi clywed am bwysigrwydd maniffestos; rydym ni angen sicrhau bod gan bob plaid sydd yn sefyll ar gyfer y Senedd yr adnodd hwnnw ac nad yw'n ddibynnol ar y nifer o Aelodau Seneddol yn San Steffan.
Mi fyddwn i yn hoffi clywed gan y Cwnsler Cyffredinol o ran sicrwydd y daw'r gwaith hwn ymlaen, ac os felly, fydda i ddim yn gwthio hyn i bleidlais heddiw. Ond yn sicr, dwi’n gobeithio y byddwn ni’n gytûn bod hyn yn rhywbeth mae’n rhaid inni edrych arno fo er mwyn ein democratiaeth ni.
Y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw.
Darren Millar i ymateb i'r ddadl.
Gwelliant 9, felly: os derbynnir gwelliant 9, bydd gwelliannau 10, 19, 116, 11, 12, 49 a 53 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 9? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, gymerwn ni bleidlais ar welliant 9. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Mae gwelliant 9 wedi ei wrthod.
Gwelliant 9: O blaid: 15, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Yw gwelliant 10 yn cael ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 10 (Darren Millar).
Ydy, gan Darren Millar. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i welliant 10, felly gymerwn ni bleidlais ar welliant 10. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Mae gwelliant 10 wedi ei wrthod.
Gwelliant 10: O blaid: 15, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Yw gwelliant 19 yn cael ei symud, Darren Millar?
Cynigiwyd gwelliant 19 (Darren Millar).
Ydy. Oes yna wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad. Felly, pleidlais ar welliant 19. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 19 wedi ei wrthod.
Gwelliant 19: O blaid: 14, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 116, Heledd Fychan—yn cael ei symud?
[Anghlywadwy.]
Na, dyw e ddim yn cael ei symud, ac felly, os nad oes yna wrthwynebiad i hynny, fydd yna ddim pleidlais ar welliant 116.
Ni chynigiwyd gwelliant 116 (Heledd Fychan).
Gwelliant 11—Darren Millar?
Cynigiwyd gwelliant 11 (Darren Millar).
Mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, gwrthwynebiad. Felly, pleidlais ar welliant 11. Agor y bleidlais. Pleidlais Luke Fletcher yn llafar eto.
Yn erbyn.
Yn erbyn. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 11 yn cael ei wrthod.
Gwelliant 11: O blaid: 15, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 12, Darren Millar—yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 12 (Darren Millar).
Ydy. Gwelliant 12—a oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, gymerwn ni bleidlais ar welliant 12. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Ac mae gwelliant 12 wedi ei wrthod.
Gwelliant 12: O blaid: 15, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Jane Dodds, gwelliant 49—yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 49 (Jane Dodds).
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 49? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, gymerwn ni bleidlais ar welliant 49. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 1, neb yn ymatal, 53 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 49 wedi ei wrthod.
Gwelliant 49: O blaid: 1, Yn erbyn: 53, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Tynnwyd gwelliant 13 yn ôl.
Gwelliant 53—Darren Millar?
Cynigiwyd gwelliant 53 (Darren Millar).
Mae'n cael ei symud. Gwrthwynebiad i welliant 53—oes yna? Nac oes. Felly, mae gwelliant 53 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Gwelliant 20—Darren Millar?
Cynigiwyd gwelliant 20 (Darren Millar).
Move.
Mae'n cael ei symud. A oes gwrthwynebiad i welliant 20? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i welliant 20. Felly, pleidlais. Agor y bleidlais ar welliant 20. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, gwelliant 20 wedi'i wrthod.
Gwelliant 20: O blaid: 15, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 50. Yn cael ei symud, Jane Dodds?
Cynigiwyd gwelliant 50 (Jane Dodds).
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 50? [Gwrthwynebiad.] Oes, gwrthwynebiad. Felly fe wnawn ni gymryd pleidlais. Agor y bleidlais ar welliant 50. Cau'r bleidlais. O blaid un, neb yn ymatal, 53 yn erbyn. Mae gwelliant 50 wedi'i wrthod.
Gwelliant 50: O blaid: 1, Yn erbyn: 53, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Cwnsler Cyffredinol, gwelliant 80. Yn cael ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 80 (Mick Antoniw).
Ydy, mae'n cael ei gynnig. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, gwelliant 80 wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Sy'n dod â ni nawr at grŵp 18. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â phŵer i osod terfynau gwariant ymgyrchoedd etholiadol y Senedd mewn cysylltiad ag adran 1 a Rhan 2 o'r Bil. Felly, gwelliant 81 yw'r prif welliant, a'r Cwnsler Cyffredinol i gyflwyno'r gwelliant.
Cynigiwyd gwelliant 81 (Mick Antoniw).
Diolch, Llywydd. Mae’n bwysig bod yna allu i wneud newidiadau rhesymol a chymesur o ran terfynau gwariant pleidiau yn etholiadau Senedd Cymru at y dyfodol, yn enwedig wrth ystyried bydd y pleidiau yn gyfrifol am wariant ar draws 16 etholaeth neu restr newydd, a bod y trefniadau yn gallu esblygu.
Mae'r datblygiadau, wrth gwrs, dros yr wythnos neu ddwy diwethaf, yn y ras i olynu’r Prif Weinidog wedi amlygu pwysigrwydd tryloywder ac atebolrwydd pan fo’n dod i faterion yn ymwneud â gwariant yn ystod ymgyrchoedd. Rydym yn croesawu’r ffaith bydd defnydd o'r pŵer yn cael ei ddefnyddio gyda throsolwg y Comisiwn Etholiadol a thrwy’r weithdrefn gadarnhaol, neu'r affirmative procedure, fydd yn rhoi rôl bendant i‘r Senedd hon, felly mi fyddwn ni'n cefnogi'r gwelliannau yma.
Cwnsler Cyffredinol.
Gwelliant 81. Os gwrthodir gwelliant 81, bydd gwelliannau 83, 85 a 86 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 81? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gymerwn ni bleidlais, felly, ar welliant 81. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Gwelliant 81 wedi'i wrthod.
Gwelliant 81: O blaid: 40, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Gwelliant 82, Cwnsler Cyffredinol. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 82 (Mick Antoniw).
Ydy. A oes yna wrthwynebiad i welliant 82? [Gwrthwynebiad.] Oes mae yna. Felly pleidlais ar welliant 82. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais.
Cau'r bleidlais, felly. O blaid 40, ymatal neb, 14 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 82 wedi ei dderbyn.
Gwelliant 82: O blaid: 40, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Gwelliant 83. Yn cael ei gynnig gan y Cwnsler Cyffredinol?
Cynigiwyd gwelliant 83 (Mick Antoniw).
Ydy, mae'n cael y cynnig. A oes yna wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Pleidlais ar welliant 83, felly. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Ac felly gwelliant 83 wedi ei dderbyn.
Gwelliant 83: O blaid: 40, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Grŵp 19 yw'r grŵp nesaf, y grŵp olaf y prynhawn yma. Mae'r grŵp yma yn ymwneud â darpariaeth drosiannol pe bai etholiad cyffredinol eithriadol yn arwain at beidio â chynnal etholiad cyffredinol cyffredin 2026. Gwelliant 84 yw'r prif welliant. Cwnsler Cyffredinol i gynnig y gwelliant yma.
Cynigiwyd gwelliant 84 (Mick Antoniw).
Heledd Fychan.
Diolch, Llywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl bwysig hon ddoe a heddiw. Fel y soniais ar ddechrau’r trafodion ddoe, bydd y Bil sydd ger ein bron heddiw yn cael effaith wirioneddol drawsnewidiol a grymusol ar dirwedd democratiaeth Cymru, ac mi ydw i'n gobeithio y bydd hyd yn oed y rhai sy'n ansicr neu'n gwrthwynebu yn dod yn y pen draw i werthfawrogi gwerth cadarnhaol y diwygiadau y cytunwyd arnynt heddiw.
Rydym yn cydnabod nad yw’r Bil hwn yn berffaith, a byddwn yn parhau i roi ger bron dadleuon dros fireinio pellach, yn enwedig o ran y system bleidleisio. Dwi'n gobeithio does yna ddim amheuaeth o ran beth ydy barn Plaid Cymru ar hynny yn dilyn y ddadl yma. Ond dyna yw democratiaeth—cydweithio a chyfaddawdu trawsbleidiol adeiladol, sydd wedi bod yn angenrheidiol i ddatblygu'r darn hwn o ddeddfwriaeth. Gallwn hefyd ddweud, yn gwbl bendant, chwarter canrif ers i'r Senedd hon ddechrau gweithredu, bydd y Bil yma yn sicrhau ei bod, o’r diwedd, yn dod i oed, yn unol ag ewyllys democrataidd diamwys pobl Cymru.
Gan droi at sylwedd y gwelliannau yn y grŵp hwn, rydym yn cytuno â rhesymeg y Llywodraeth dros wneud darpariaethau trosiannol pe bai etholiad cyffredinol eithriadol yn cael ei gynnal cyn 6 Ebrill 2026, ac felly byddwn yn cefnogi’r gwelliannau yma. Diolch.
Y Cwnsler Cyffredinol i ymateb.
Cyn i ni symud i'r gyfres o bleidleisiau olaf sydd gyda ni y prynhawn yma, mae'n bosibl fy mod i wedi camddweud ar welliant 81. Rhag ofn fy mod i wedi, fe wnaf i gadarnhau bod gwelliant 81 wedi'i wrthod. Gwelliant 84—[Torri ar draws.] Wel, dwi'n meddwl ei bod hi'n amlwg fy mod i wedi camddweud nawr, ac mae gwelliant 81, ar gyfer y record, wedi'i dderbyn.
Gwelliant 84, felly, sydd nesaf. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 84? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 84. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Mae gwelliant 84 wedi'i dderbyn.
Gwelliant 84: O blaid: 39, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Gwelliant 85, ydy e'n cael ei symud gan y Cwnsler Cyffredinol?
Cynigiwyd gwelliant 85 (Mick Antoniw).
Ydy. Felly, oes yna wrthwynebiad i welliant 85? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni gymryd pleidlais ar welliant 85. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 42, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 85 wedi'i dderbyn.
Gwelliant 85: O blaid: 42, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Ydy gwelliant 86 yn cael ei symud gan y Cwnsler Cyffredinol?
Cynigiwyd gwelliant 86 (Mick Antoniw).
Ydy. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, pleidlais ar welliant 86. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Mae gwelliant 86 wedi'i dderbyn.
Gwelliant 86: O blaid: 40, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Cynigiwyd gwelliant 87 (Mick Antoniw).
Ydy, mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Agor y bleidlais ar welliant 87. Cau'r bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Mae gwelliant 87 wedi'i dderbyn.
Gwelliant 87: O blaid: 40, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Gwelliant 88, ydy e'n cael ei symud gan y Cwnsler Cyffredinol?
Cynigiwyd gwelliant 88 (Mick Antoniw).
Ydy. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Agor y bleidlais ar welliant 88. Cau'r bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Mae gwelliant 88 wedi'i dderbyn.
Gwelliant 88: O blaid: 40, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Ydy gwelliant 89 yn cael ei symud gan y Cwnsler Cyffredinol?
Cynigiwyd gwelliant 89 (Mick Antoniw).
Ydy. Ydy e'n cael ei wrthwynebu? Does yna ddim gwrthwynebiad. Felly, mae gwelliant 89 wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Gwelliant 58 yw'r gwelliant olaf. Ydy e'n cael ei symud gan y Cwnsler Cyffredinol?
Cynigiwyd gwelliant 58 (Mick Antoniw).
Ydy. Oes yna wrthwynebiad? Na, does yna ddim gwrthwynebiad. Mae gwelliant 58 wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.
Felly, rydw i'n dweud ein bod ni wedi cyrraedd diwedd ein hystyriaeth yng Nghyfnod 2 o Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), ac rydw i'n datgan bod pob adran o'r Bil a phob Atodlen wedi cael eu derbyn. Diolch yn fawr ichi i gyd. Dyna ddiwedd ar ein gwaith ni fel pwyllgor am y dydd heddiw.
Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:30.