Pwyllgor o'r Senedd Gyfan - Y Chweched Senedd

Committee of the Whole Senedd - Sixth Senedd

05/03/2024

Cynnwys

Contents

1. Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Trafodion Cyfnod 2
Grŵp 1: Adolygu ffiniau etholaethau’r Senedd: diffiniadau a dehongli, cyfnodau ar gyfer sylwadau, adroddiadau, a gweithredu (Gwelliannau 59, 60, 76, 77, 91, 98, 100, 79, 105, 25, 54, 55, 56, 108, 15, 110, 16, 17, 111, 112, 113, 114, 115)
Grŵp 2: Effaith pa mor aml y cynhelir etholiadau cyffredinol cyffredin ar benodiadau cyhoeddus (Gwelliant 35)
Grŵp 3: Mân newidiadau drafftio yn y Gymraeg (Gwelliannau 61, 75, 90, 78, 80, 58)
Grŵp 4: Cynyddu nifer uchaf Gweinidogion Cymru drwy reoliadau (Gwelliannau 1, 52, 3)
Grŵp 5: Anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd neu’n ymgeisydd: personau nad ydynt wedi eu cofrestru ar y gofrestr etholiadol mewn cyfeiriad yng Nghymru (Gwelliannau 57, 38, 39, 40)
Grŵp 6: Anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd neu’n ymgeisydd: personau sydd wedi eu heuogfarnu o ddichell o fewn y pum mlynedd diwethaf (Gwelliant 126)
Grŵp 7: Adolygiad o’r posibilrwydd o rannu swyddi sy’n ymwneud â’r Senedd (Gwelliannau 4, 62, 63)
Grŵp 8: Y system bleidleisio yn etholiadau cyffredinol y Senedd a dyrannu seddi (Gwelliannau 21, 51, 22, 23, 117, 31, 32)
Grŵp 9: Seddi gwag na ellir eu llenwi yn unol ag adran 11 newydd o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (i’w mewnosod gan adran 9 o Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)) (Gwelliannau 29, 30, 33, 34, 118, 119, 120, 121, 122, 123)
Grŵp 10: Gwelliannau cysylltiedig at ddibenion Rhan 2 o Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) (y system bleidleisio yn etholiadau cyffredinol y Senedd a dyrannu seddi) (Gwelliannau 64, 65, 66, 67)
Grŵp 11: Adalw Aelodau o’r Senedd (Gwelliannau 124, 125)
Grŵp 12: Rhan 3 o Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol (Gwelliannau 68, 69, 89)
Grŵp 13: Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru: penodi ac anghymhwyso aelodau, y prif weithredwr a chomisiynwyr cynorthwyol (Gwelliannau 5, 6, 7, 8, 70, 41, 42, 71, 43, 72, 44, 45, 46, 73, 47, 48, 74)

Cofnodir y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y pwyllgor. Yn ogystal, cynhwysir trawsgrifiad o’r cyfieithu ar y pryd. Lle mae cyfranwyr wedi darparu cywiriadau i’w tystiolaeth, nodir y rheini yn y trawsgrifiad.

Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.

Dechreuodd y cyfarfod am 16:32.

1. Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Trafodion Cyfnod 2

Dyma ni nawr yn cychwyn felly ar Gyfnod 2 o Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). 

Grŵp 1: Adolygu ffiniau etholaethau’r Senedd: diffiniadau a dehongli, cyfnodau ar gyfer sylwadau, adroddiadau, a gweithredu (Gwelliannau 59, 60, 76, 77, 91, 98, 100, 79, 105, 25, 54, 55, 56, 108, 15, 110, 16, 17, 111, 112, 113, 114, 115)

Mae’r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud ag adolygu ffiniau etholaethau’r Senedd, gan gynnwys diffiniadau a dehongli, cyfnodau ar gyfer sylwadau, adroddiadau a gweithredu. Gwelliant 59 yw’r prif welliant yn y grŵp yma a dwi’n galw ar y Cwnsler Cyffredinol i gynnig y prif welliant ac i siarad ar y grŵp yma. Mick Antoniw.

Cynigiwyd gwelliant 59 (Mick Antoniw).

16:40
16:45

Hoffwn, fel Darren, ddiolch i bawb o dîm diwygio'r Senedd a hefyd pawb o dîm y Blaid sydd wedi bod yn gweithio’n ddiwyd ar bopeth sydd o'n blaenau ni heddiw, a hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy bwysleisio natur wirioneddol hanesyddol y Mesur sydd ger ein bron heddiw. Bron i chwarter canrif ar ôl i'n cenedl gymryd ei chamau cyntaf i oes newydd o ddatganoli a phennod newydd yn ei hanes, bydd sylfeini ein democratiaeth werthfawr, a enillwyd yn galed trwy fandad democrataidd dau refferendwm, a'r mwyafrifoedd o blaid datganoli ym mhob etholiad ers 1997, yn cael eu huwchraddio o’r diwedd i adlewyrchu anghenion a heriau'r unfed ganrif ar hugain.

Mewn gwirionedd, mae'r angen am y diwygiadau hyn wedi bod yn amlwg ers sbel. Er bod ystod y pwerau sydd gan y Senedd hon yn parhau i fod yn llawer rhy gyfyngedig, yn enwedig o gymharu â Senedd yr Alban, mae cymwyseddau datganoledig Cymru, serch hynny, wedi cynyddu'n sylweddol o ran nifer a chymhlethdod ers 1999, gyda chynnydd o ganlyniad yng nghyfrifoldebau a llwythi gwaith Aelodau etholedig. Er gwaethaf y datblygiadau hyn, dydy trefniadau etholiadol a seneddol datganoli Cymru heb newid drwy gydol y cyfnod hwn. Yn syml, nid yw maint ein Senedd yn darparu’n ddigonol ar gyfer y pwerau sydd ar gael iddi.

Mae enghreifftiau'r Alban a Gogledd Iwerddon yn tanlinellu i ba raddau y mae Cymru dan anfantais yn y cyd-destun hwn. Fel y gwyddom ni oll, mae gan Senedd yr Alban 129 o Aelodau, sy'n cyfateb i un Aelod ar gyfer tua 33,000 o etholwyr. Mae gan Gynulliad Gogledd Iwerddon 90 o Aelodau, sy'n cyfateb i un Aelod ar gyfer tua bob 15,000 o etholwyr. Mewn cyferbyniad, o ran y Senedd hon, os ydych chi'n edrych ar Gymru yn ei chyfanrwydd, gyda 60 Aelod yn unig, mae un Aelod i bob 39,000 o etholwyr. Ar sail y niferoedd hyn yn unig, does dim amheuaeth bod yna ddiffyg democrataidd yma ar hyn o bryd.

Dylem hefyd nodi bod adolygiad diweddaraf o'r ffiniau etholiadol wedi golygu bod dyraniad yr Aelodau Seneddol o Gymru yn San Steffan wedi ei leihau o 40 i 32. Ar hyn o bryd, mae hyn yn gadael Cymru gyda'r gynrychiolaeth etholiadol leiaf o holl wledydd y Deyrnas Unedig, a hynny o bell ffordd. Os edrychwn ni ar hyn yn unig, mae cyflwyno Bil diwygio’r Senedd yn anghenraid democrataidd, ac mae’n siŵr na allai unrhyw un sydd yn wirioneddol credu mewn democratiaeth wrthwynebu hyn. Mae gennym ni hawl i gael democratiaeth sy'n gweithio i Gymru; mae gennym ni hawl i fod yn uchelgeisiol dros y ddemocratiaeth honno. Pam y dylai Cymru wastad fodloni ar gael llai na'r holl wledydd eraill? Mae'n hen bryd i ni gael yr hyn rydym ni ei angen ac yn ei haeddu. 

Mae hefyd yn amlwg y byddai Senedd mwy o faint yn hwyluso atebolrwydd a chraffu mwy effeithiol ar y Llywodraeth. Mae nifer y meysydd polisi datganoledig yn golygu bod Aelodau’r gwrthbleidiau yn aml yn cael portffolios lluosog, gan orlwytho’r gwaith craffu angenrheidiol ar draws nifer cyfyngedig o unigolion. Edrychwch ar ein pwyllgorau ni a'r hyn sy'n gallu cael ei gyflawni gydag aelodaeth mor fach, yn aml.

Bydd cynyddu nifer Aelodau’r Senedd felly yn cyfoethogi, yn gwella ac yn grymuso gwleidyddiaeth gwrthbleidiol yng Nghymru—rhywbeth dwi'n gobeithio y byddai'r Torïaid yn falch ohono, oherwydd mae dal Llywodraeth i gyfrif yn eithriadol o bwysig. Rydyn ni'n sôn am fwy o atebolrwydd, mwy o graffu, tra'n bod hefyd yn uchelgeisiol.

Os ydyn ni'n edrych, felly, ar rai o'r dadleuon rydyn ni eisoes wedi'u clywed gan feinciau'r Torïaid am y gost o gyflawni'r diwygiadau hanfodol hyn, beth ydy'r gost o beidio gwneud hyn? Mae'n rhaid i ni ystyried hefyd y cyd-destun ehangach: nid bai Cymru ydy o, na phobl Cymru, fod yna smonach llwyr wedi'i wneud o economi'r Deyrnas Unedig gan y Llywodraeth Dorïaidd. Edrychwch ar Brexit, Liz Truss, yr argyfwng costau byw: i gyd yn hollol, hollol gysylltiedig efo penderfyniadau yn Downing Street.

Mi soniwyd eisoes ynglŷn â chostau Tŷ’r Arglwyddi. Beth am gostau afresymol adnewyddu San Steffan? Mae yna gymaint o bethau lle mae yna wariant mawr yn cael ei wneud; dydy o ddim yn ormod i ofyn am fuddsoddiad yn ein democratiaeth ni, a bod yn uchelgeisiol o ran hynny.

Rydym hefyd yn falch y bydd y Mesur hwn yn mynd i’r afael â’r angen amlwg am ddiwygio ein system bleidleisio, gan gael gwared unwaith ac am byth ar y system gyntaf i’r felin hynafol sydd wedi bod mor niweidiol i ymgysylltu a chael pleidleiswyr yn frwdfrydig ynglŷn ag etholiadau. Byddwn ni hefyd, wrth gwrs, yn cael gwared o'r holl daflenni sydd yn trio codi ofn ar bobl i bleidleisio mewn un ffordd, gan ddweud, 'Pleidleisiwch fel hyn i stopio rhywun arall.' Bydd cael system fwy cyfrannol yn golygu ei fod o'n fwy o weithred bositif o ran pleidleisio fel hyn. Mae symud tuag at system fwy cyfrannol yn drefniant modern, addas ar gyfer Senedd fodern, gan sicrhau y bydd pob pleidlais a chaiff ei bwrw yn etholiadau’r Senedd yn y dyfodol yn cael effaith ar ddosbarthiad y seddi.

Mi ydym ni ym Mhlaid Cymru wedi bod yn glir o'r cychwyn nad yw’r Bil hwn yn cyflawni popeth yr hoffem ei weld o ran diwygio'r Senedd. Ein polisi ni fel plaid, sydd yn wybyddus eisoes, ydy cefnogi STV yn hytrach na’r system restrau caeedig a fydd yn cael ei gweithredu gan y Bil hwn, a byddwn yn parhau i wthio a gweithio i sicrhau mai am un tro yn unig y byddwn ni’n defnyddio’r rhestrau caeedig, gan geisio defnyddio’r mecanwaith adolygu, wedi 2026, i fireinio ymhellach erbyn 2030.

Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod nad oes gan yr un blaid yn y Senedd y mwyafrif o ddwy ran o dair sy’n ofynnol i gyflawni diwygio ar ei phen ei hun, yn ôl y telerau a osodwyd gan y Ceidwadwyr yn San Steffan fel penseiri Deddf Cymru 2017, sy’n rhoi’r grym i ni wneud y diwygiadau i'n system etholiadol. Ac felly, mi ydym ni fel plaid wedi gweithio’n bragmataidd gyda’r Llywodraeth i ddatblygu set o gynigion a fydd yn medru cyrraedd y trothwy angenrheidiol hwnnw.

16:55

Dro ar ôl tro, heb os—dwi ddim yn meddwl fy mod i'n datgelu unrhyw gyfrinachau yn y fan yna—mae wedi bod yn glir mai safbwynt Plaid Cymru ydy STV, ond beth sydd gennym ni ydy ffordd bragmataidd o symud pethau ymlaen. Ond, yn sicr,  mae hynny wedi'i herio dro ar ôl tro.

Ein nod ni fel plaid wleidyddol ydy bod yn barod i weithio'n adeiladol er budd holl bobl Cymru, bob amser yn rhoi buddiannau ein pobl a'n cenedl ni yn flaenllaw i'n gweithredu.

Gan droi at sylwedd y gwelliannau yn y grŵp hwn, rydym yn fodlon â rhesymeg y rhai a gyflwynwyd gan y Cwnsler Cyffredinol. Byddwn hefyd yn cefnogi gwelliannau 16, 17, 25, 54, 55 a 56, gan ein bod yn credu eu bod yn sicrhau aliniad priodol rhwng amserlenni adolygiadau ffiniau’r Senedd a deddfwriaeth gyfatebol y Deyrnas Unedig, ac yn gwella tryloywder y gwaith a fydd yn cael ei wneud gan y Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru newydd. Fodd bynnag, rydym yn cytuno â’r Llywodraeth fod gwelliannau 15, 24, 27 a 28 yn ddyblygiadau llai safonol o’r rhai sydd eisoes wedi’u gosod gan y Cwnsler Cyffredinol, ac felly byddwn yn gwrthwynebu’r gwelliannau hyn.

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 59? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Does dim gwrthwynebiad i welliant 59, felly mae gwelliant 59 wedi'i gymeradwyo.

Derbyniwyd y y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cwnsler Cyffredinol, ydy gwelliant 60 yn cael ei gynnig yn ffurfiol?

Cynigiwyd gwelliant 60 (Mick Antoniw).

Mae gwelliant 60 yn cael ei gynnig. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 60? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae gwelliant 60 wedi'i gymeradwyo.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 2: Effaith pa mor aml y cynhelir etholiadau cyffredinol cyffredin ar benodiadau cyhoeddus (Gwelliant 35)

Grŵp 2 fydd nesaf, felly. Mae'r grŵp nesaf yma o welliannau yn ymwneud ag effaith—[Torri ar draws.]—pa mor aml y cynhelir etholiadau cyffredinol cyffredin ar benodiadau cyhoeddus. Gwelliant 35 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar Darren Millar i gyflwyno'r gwelliant hwnnw. 

17:00

Cynigiwyd gwelliant 35 (Darren Millar).

Nid ydym yn gefnogol o’r gwelliant yma. Fel sydd yn cael ei wneud eisoes, bydd dal modd i’r Llywodraeth a’r Senedd ystyried goblygiadau ymarferol fel maen nhw’n codi. Yn San Steffan, does yna ddim tymhorau pendant o gwbl mwyach ar ôl diddymu’r Fixed-term Parliaments Act 2011, ac maen nhw i'w weld yn llwyddo i drefnu apwyntiadau cyhoeddus o gwmpas hynny, felly does dim rheswm i hyn fod yn drech na ni yma chwaith. Yn wir, mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus wrthi’n cynnal ymchwiliad i mewn i benodiadau cyhoeddus ar hyn o bryd. Felly, mae o’n faes mae’r Senedd yn barod yn cymryd diddordeb byw ynddo, yn briodol felly, a rydym yn teimlo mai hwnnw yw’r fforwm mwyaf priodol i graffu ar benodiadau cyhoeddus yn y cyswllt yma at y dyfodol, gan gynnwys cadw trosolwg o sut mae’r Llywodraeth a Chomisiwn y Senedd yn ymateb i newid yn hyd tymhorau’r Senedd.

Rydym yn deall bod yna rai swyddi, fel yr archwilydd cyffredinol ac aelodau o’r bwrdd taliadau, er enghraifft, lle mae hyd eu tymhorau wedi eu gosod mewn deddfwriaeth gynradd, ac yn achos yr archwilydd, bod y penodiad am uchafswm o wyth mlynedd. Mae yna rywfaint o ddatgysylltiad rhwng etholiadau Senedd a’r penodiadau yma, a allai o bosibl gynnig mwy o warchodaeth o ran annibyniaeth lwyr y swyddogaethau, a bod lleihau hyd tymhorau i bedair blynedd yn golygu y byddant, o bosibl, yn cyd-fynd yn agos gyda’r penodiadau. Fodd bynnag, does yna ddim dal pryd all swyddi gwag ar gyfer penodiadau cyhoeddus godi trwy gydol tymor seneddol, yn ddibynnol, wrth gwrs, ar nifer o ffactorau megis rhywun yn ymddiswyddo, rhywun yn ymddeol neu, yn anffodus, fel rydym ni wedi gweld, marwolaeth, a thymhorau amrywiol. Ac felly, fyddai'r rheini ddim yn cwympo’n daclus i'r patrwm yma.

Mae’r annibyniaeth yn dod yn sgil y ffaith bod y penodiadau a’r gyllideb yn cael eu gosod, yn achos yr archwilydd, gan y Senedd, nid y Llywodraeth. Felly, y ffordd orau, mae’n debyg, i warchod annibyniaeth y penodiadau cyhoeddus sy’n gyfrifol am graffu ar y Llywodraeth ydy ymestyn nifer y penodiadau mae’r Senedd ei hun, yn hytrach na’r Llywodraeth, yn eu gwneud, fel sydd wedi bod yn destun trafod am nifer o flynyddoedd yn achos y comisiynwyr, er enghraifft.

Nid ydym yn argyhoeddedig, felly, fod angen rhoi dyletswydd ychwanegol ar y Llywodraeth ac ar Gomisiwn y Senedd i lunio a chyhoeddi adroddiad penodol ar hyn. Byddai’n gofyn am adnodd a chost ychwanegol, rhywbeth mae’r Ceidwadwyr wedi bod yn poeni yn fawr amdano fo, er mwyn adrodd yn benodol ar effaith lleihau tymor y Senedd o un flwyddyn mewn gwirionedd o bum i bedair blynedd. Mae’r gwelliant yma hefyd yn rhy gyfyng—mae’n debyg bod sawl Deddf yn cyfeirio at orfod adrodd ar wahanol bethau 'ym mhob tymor seneddol' y tu hwnt i benodiadau cyhoeddus, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Felly, ein disgwyliad ydy bod y Llywodraeth a’r Comisiwn yn delio efo’r goblygiadau yn rhagweithiol wrth i'r Senedd benderfynu newid hyd tymhorau, sydd yn ei hanfod yn beth da i ddemocratiaeth, ac sy’n rhoi mwy o rym i'r bobl ac yn mynd â’r Senedd yn ôl at ei gwreiddiau o ran hyd ei thymhorau gwreiddiol, a bod y Senedd, felly, drwy ei phwyllgorau, yn parhau i graffu ar sut mae swyddogaethau penodiadau cyhoeddus y cyrff yma yn cael eu gweithredu.

17:05
17:10

Felly, mae gwelliant 35—y cais yw i dynnu'r gwelliant hwnnw'n nôl. A oes unrhyw wrthwynebiad i hynny? Nac oes. Felly, mae gwelliant 35 wedi'i dynnu'n ôl.

Tynnwyd gwelliant 35 yn ôl gyda chaniatâd y pwyllgor.

Grŵp 3: Mân newidiadau drafftio yn y Gymraeg (Gwelliannau 61, 75, 90, 78, 80, 58)

Grŵp 3 fydd nesaf. Mân newidiadau drafftio yn y Gymraeg yw'r gyfres yma o welliannau. Gwelliant 61 yw'r prif welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol i gynnig y prif welliant, ac i siarad i'r grŵp. Mick Antoniw.

Cynigiwyd gwelliant 61 (Mick Antoniw). 

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 61? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae gwelliant 61 wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.

Grŵp 4: Cynyddu nifer uchaf Gweinidogion Cymru drwy reoliadau (Gwelliannau 1, 52, 3)

Grŵp 4 o welliannau sydd nesaf. Mae'r rhain yn ymwneud â chynyddu nifer uchaf Gweinidogion Cymru drwy reoliadau. Gwelliant 1 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar Darren Millar i gynnig y gwelliant hwnnw.

Cynigiwyd gwelliant 1 (Darren Millar).

17:15

Mi ydyn ni wedi bod yn glir o’r cychwyn: er bod y Bil hwn yn gam pwysig ymlaen yn esblygiad ein democratiaeth, nid dyma ddiwedd y daith o bell ffordd. Mae geiriau enwog Ron Davies am ddatganoli fel proses yn hytrach na digwyddiad yn parhau i fod mor berthnasol ag erioed.

Yn hyn o beth, mae'n hanfodol nad yw’r sylfeini cyfansoddiadol newydd yr ydym yn eu rhoi ar waith heddiw yn atal y posibilrwydd o fireinio pellach, gan alluogi'r Senedd hon i fynd i'r afael yn effeithiol â heriau’r dyfodol. Am y rheswm yma, dŷn ni'n credu y dylai fod mecanweithiau i ganiatáu’r Senedd gynyddu nifer y Gweinidogion yn ôl yr amgylchiadau. Ni allwn, felly, gefnogi gwelliant 1, a fyddai, i bob pwrpas, yn rhewi yn barhaol maint pob Cabinet dilynol, waeth beth fo'r hinsawdd wleidyddol y maent yn gweithredu ynddi.

Fel y mae'r Gweinidog eisoes wedi'i awgrymu, gallai hyn fod yn niweidiol at ddibenion diogelu datganoli yng Nghymru at y dyfodol. Nid yw natur y pwerau a roddwyd i’r Senedd wedi sefyll yn ei hunfan ers 1999, yn unol â dymuniadau democrataidd etholwyr Cymru. Mae'n hollol resymol, felly, y dylai capasiti y Llywodraeth gael yr hyblygrwydd angenrheidiol i ymateb yn yr un modd.

Byddem hefyd yn dadlau bod profiadau’r ychydig flynyddoedd diwethaf, wrth ymdrin ag effeithiau Brexit, y pandemig a’r argyfwng costau byw, wedi dangos yn glir pa mor bwysig yw creu gwytnwch a’r gallu i addasu yn ein pensaernïaeth gyfansoddiadol. Mae’r heriau aruthrol sydd i ddod, wrth gwrs, yn cynnwys bygythiad difrifol yr argyfwng hinsawdd, yn golygu bod yn rhaid i'n sefydliadau democrataidd gael yr offer perthnasol i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol. Nid dim ond gallu ymateb yn gyflym i argyfyngau ac amgylchiadau sydd angen chwaith. Yn ogystal ag ehangu maint y Senedd, rydym angen symud ar fyrder, yn unol ag argymhelliad y comisiwn cyfansoddiadol, i ehangu pwerau’r Senedd ac iddi fod yn gyfrifol am greu system gyfiawnder i Gymru, rheolaeth o Ystâd y Goron, goruchwylio darlledu a chyfathrebu, gweinyddiaeth lles, rheilffyrdd, i enwi dim ond rhai o'r meysydd angenrheidiol.

Fodd bynnag, gan y byddai unrhyw newid yng nghyfanswm nifer y Gweinidogion yn effeithio’n sylweddol ar waith craffu’r gwrthbleidiau, rydym yn cydnabod yr angen i unrhyw newidiadau gael eu cymeradwyo’n eang yn y Senedd. Byddwn felly yn cefnogi gwelliant 52, sy’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gynnydd o’r fath yn nifer y Gweinidogion dderbyn pleidlais fwyafrif o ddwy ran o dair yn y Senedd.

17:20
17:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1, felly? Ac os ydy gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliannau 52 a 3 yn methu. A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 1? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i welliant 1, ac felly symudwn i bleidlais ar welliant 1. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi cwympo.

Gwelliant 1: O blaid: 15, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 52 (Darren Millar).

Ydy, gwelliant 52. Oes yna wrthwynebiad i welliant 52? Na, does dim gwrthwynebiad i welliant 52. Felly mae gwelliant 52 wedi ei gymeradwyo.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.

Tynnwyd gwelliant 2 yn ôl.

Cynigiwyd gwelliant 3 (Darren Millar).

Tynnwyd gwelliant 3 yn ôl gyda chaniatâd y pwyllgor.

Grŵp 5: Anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd neu’n ymgeisydd: personau nad ydynt wedi eu cofrestru ar y gofrestr etholiadol mewn cyfeiriad yng Nghymru (Gwelliannau 57, 38, 39, 40)

Felly, grŵp 5 sydd nesaf. 

Grŵp 5 yw'r grŵp o welliannau sy'n ymwneud ag anghymwyso personau nad ydynt wedi eu cofrestru ar y gofrestr etholiadol mewn cyfeiriad yng Nghymru rhag bod yn Aelod o'r Senedd neu'n ymgeisydd. Gwelliant 57 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Darren Millar i gyflwyno'r gwelliant.

Cynigiwyd gwelliant 57 (Darren Millar).

17:30

Diolch, Llywydd. Credwn yn gryf y dylai unrhyw un sy’n cael ei ethol i’r Senedd hon, waeth beth fo’i ymlyniad gwleidyddol, fod yn ddarostyngedig i'r un cyfreithiau â'r bobl maent yn eu cynrychioli a'u bod yn talu trethi yma. Mi ydyn ni wedi gweld ymgeiswyr ac Aelodau o’r blaen nad ydyn nhw’n byw yn y wlad, sydd yn ymddangos yn annheg i bobl. Er nad oes dull hollol sicr sydd yn medru cynnal yr egwyddor sylfaenol hon, mae cyflwyno gofyniad preswylio ar gyfer ymgeiswyr y dyfodol yn welliant sylweddol ar y trefniadau presennol.

Doeddwn i ddim yn Aelod o'r Senedd ddiwethaf, ond fe welais y difrod a wnaethpwyd i ddemocratiaeth a'r Senedd hon yn llygaid etholwyr o weld rhai pobl yn cael eu hethol doedd ddim yn byw yma a ddim i weld yn malio am fuddiannau pobl Cymru. Ac mae pleidleiswyr Cymru yn iawn i ddisgwyl gwell, ac felly mae’n rhaid iddynt gael sicrwydd bod eu cynrychiolwyr etholedig yn mynd i ddal eu buddiannau nhw. Yn y rhan fwyaf o broffesiynau eraill, mae gan gyflogwyr brosesau fetio clir sy'n sail i'w harferion cyflogaeth. Pam na ddylai hyn fod yn wir hefyd ar gyfer ein Senedd genedlaethol, lle mae deddfau sy'n effeithio ar bobl Cymru yn cael eu gwneud?

Mae gennym rywfaint o gydymdeimlad â rhai o amcanion y gwelliannau yn y grŵp hwn i geisio darparu ar gyfer achosion eithriadol. Fodd bynnag, mi ydym ni'n cytuno efo'r Llywodraeth fod y gofyniad preswylio ar wyneb y Bil yn glir, yn wrthrychol ac yn dilyn cynsail cyfreithiol. At hynny, byddai cynnig cyfnodau gras estynedig ar gyfer pennu meini prawf cymhwyster ymgeisydd neu ar gyfer llenwi seddi gwag yn creu bwlch yn y ddeddfwriaeth a allai annog, yn hytrach nag atal, yr union sefyllfa mae'r ddarpariaeth hon yn ceisio osgoi. Ac o'r herwydd y rhesymau yma, ni allwn gefnogi gwelliannau 38, 39 a 57.

17:35
17:40

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 57? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly symudwn ni i bleidlais ar welliant 57. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Mae gwelliant 57 wedi ei wrthod.

Gwelliant 57: O blaid: 15, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 38 (Darren Millar).

Ydy, mae wedi cael ei gynnig. A ddylid derbyn gwelliant 38? A oes unrhyw wrthwynebiad i hynny? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Gwnawn ni symud i bleidlais ar welliant 38. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Gwelliant 38 wedi ei wrthod.

17:45

Gwelliant 38: O blaid: 15, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Mae gwelliant 39 wedi ei dynnu'n ôl. Os nad oes yna wrthwynebiad i hynny, fe wnawn ni symud ymlaen. Felly, dim pleidlais ar welliant 39. 

Ni chynigiwyd gwelliant 39.

Grŵp 6: Anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd neu’n ymgeisydd: personau sydd wedi eu heuogfarnu o ddichell o fewn y pum mlynedd diwethaf (Gwelliant 126)

Daw hynny â ni at grŵp 6. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud ag anghymhwyso personau sydd wedi eu heuogfarnu o ddichell o fewn y pum mlynedd diwethaf rhag bod yn Aelod o'r Senedd neu'n ymgeisydd. Gwelliant 126 yw'r prif welliant a'r unig welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar Adam Price i gynnig y gwelliant yma.

Cynigiwyd gwelliant 126 (Adam Price).

[Anghlywadwy.]—i symud gwelliant 126 yn fy enw i.

17:50
17:55
18:00

Tynnwyd gwelliant 126 yn ôl gyda chaniatâd y pwyllgor.

Grŵp 7: Adolygiad o’r posibilrwydd o rannu swyddi sy’n ymwneud â’r Senedd (Gwelliannau 4, 62, 63)

Grŵp 7 sydd nesaf. Mae'r grŵp nesaf yma o welliannau yn ymwneud ag adolygiad o’r posibilrwydd o rannu swyddi sy’n ymwneud â’r Senedd. Gwelliant 4 yw'r prif welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar Darren Millar i gyflwyno'r prif welliant.

Cynigiwyd gwelliant 4 (Darren Millar).

18:05

Mi fyddwn ni'n gwrthwynebu gwelliant 4. Os ydym eisiau sicrhau tegwch i bawb a gwella cynrychiolaeth o fewn ein democratiaeth, ni ellir diystyru'r rôl y gall rhannu swyddi chwarae at y dibenion hynny. Ers blynyddoedd bellach, mae tystiolaeth gan amrywiaeth eang o unigolion a sefydliadau wedi awgrymu y gallai’r opsiwn o rannu swyddi olygu bod pobl yn fwy tebygol o sefyll i gael eu hethol. Yn sicr, mi ges i fy argyhoeddi'n bersonol o hynny wrth gymryd rhan yn y rhaglen Equal Power Equal Voice, a chlywed gan bobl sydd ag uchelgais erbyn hyn o fod yn y Senedd hon am y gwahaniaeth y byddai hynny'n gwneud, ac nid mater sydd ddim ond yn effeithio ar fenywod ydy hyn.

Er ei fod o'n berthnasol o ran apelio i fwy o fenywod sefyll, mae o hefyd yn berthnasol iawn o ran pobl ag anableddau, pobl â chyfrifoldebau gofal plant neu gyfrifoldebau gofal eraill sydd ddim yn ferched, a phobl sydd am gynnal eu gyrfaoedd proffesiynol presennol. Fel nododd adroddiad y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd yn y Senedd ddiwethaf, gallai rhannu swydd ddarparu dau am bris un o ran sgiliau a phrofiad, a gallai alluogi Aelodau i gadw gwell cysylltiadau â’u bywyd y tu allan i’r Senedd, a allai fod yn berthnasol i waith craffu a chynrychioli. Mi gofiwch chi, er enghraifft, enghraifft Dai Lloyd fel meddyg teulu. Mi oedd hynny'n allweddol bwysig. Dŷn ni ddim yn sôn am bobl yn cadw i weithio mewn swyddi sy'n dod â miliynau o bunnoedd fel dŷn ni'n gweld yn San Steffan. Mae hyn ynglŷn â phrofiad go iawn yn ein cymdeithas. 

Mewn adroddiad gan Women's Equality Network Wales ar y pwnc yma yn Ebrill 2022, nodwyd fod gwleidyddion sydd â phrofiad o rannu swydd wedi adleisio'r pwyntiau hyn. Dywedodd Fleur Anderson, AS Putney, y gallai helpu gweithwyr proffesiynol ifanc i fynd i fyd gwleidyddiaeth, a dwi'n dyfynnu fan hyn: 

Mae profiad Mohammed Seedat, aelod cabinet yng Nghyngor Lambeth yn 2018, yn awgrymu y gall rhannu swydd hefyd ddarparu cyfleoedd mentora sy’n galluogi ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i symud ymlaen i rolau uwch, a dwi'n dyfynnu eto:

Yn wir, mae nifer o gynghorau yng Nghymru yn barod yn rhannu swyddi ar gyfer swyddi o fewn yr awdurdod lleol gan gynnwys aelodau cabinet. Felly, mae yna beryg ein bod ni ar ei hôl hi yn y Senedd hon, ac inni fod yn siarad am gydraddoldeb ond yn methu ei weithredu yn ein trefniadau ein hunain yn y Senedd hon. Rydyn ni'n sôn am Senedd fodern, ddemocrataidd; rydyn ni ar ei hôl hi.  

Trwy gael mecanwaith statudol ar wyneb y Bil, mae'n cynnig gwarant y bydd ystyriaeth flaenllaw ar ddechrau’r Senedd nesaf i symud ymlaen efo’r gwaith pwysig yma ac i hynny roi llwybr at gyflwyno deddfwriaeth i alluogi—.

18:10

Nid dyna ydy fy nadl i o gwbl. Os mai dyna rydych chi'n ei glywed, dwi'n meddwl bod hynna'n dweud mwy amdanoch chi a'ch agweddau chi na'r ddadl dwi wedi rhoi gerbron. Yr opsiwn mae hyn yn ei roi, a rhywbeth i edrych arno fo yn bellach. Dydyn ni ddim yn awgrymu bod pob un Aelod o'r Senedd hon yn gwneud job share, ond mae yn bwysig ein bod ni'n edrych ar hyn. Yr hyn mae yn ei roi ydy rheidrwydd bod hyn yn cael ei edrych arno fel bod yna rywbeth yn ei le erbyn 2030—creu Senedd fodern, gynrychioliadol. 

Mae yna hefyd amserlen glir a fframwaith ar gyfer y gwaith i ddigwydd fel y mae o yn y Mesur hwn. Yn ymarferol, does dim i atal pwyllgor o’r Senedd yma rhag dechrau’r gwaith, ond a bod yn realistig mae gennym raglen ddeddfwriaethol lawn yn y Senedd hon. Felly, mae'n annhebygol y bydd modd cyflawni deddfwriaeth ar rannu swyddi o fewn y Senedd bresennol. Mae’r darpariaethau yn y Bil, felly, yn cynnig cyfle i fwrw ati yn syth yn y Senedd newydd, edrych yn drylwyr ar hyn a'r holl bryderon sydd gan rai, ond hefyd i ddysgu gwersi gan lefydd eraill sydd yn gwneud hyn yn llwyddiannus. Mae'n rhaid i ni gael momentwm tu ôl i'r gwaith hwn, a sicrhau bod ein democratiaeth ni yn adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd mewn cymdeithas. 

18:15
18:20

Y bleidlais nesaf fydd gwelliant 4. Os derbynnir gwelliant 4, bydd gwelliannau 62 a 63 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni agor y bleidlais ar welliant 4. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 4 wedi ei wrthod.

Gwelliant 4: O blaid: 15, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant—. Na, fe fyddwn ni'n symud nawr nesaf i grŵp 8. Na, dŷn ni ddim. Rydyn ni'n mynd i welliant 62.

Cynigiwyd gwelliant 62 (Mick Antoniw).

Oes yna wrthwynebiad i welliant 62? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, agor y bleidlais ar welliant 62. Cau'r bleidlais. O blaid 41, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Mae gwelliant 62 wedi ei dderbyn.

Gwelliant 62: O blaid: 41, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 63 (Mick Antoniw).

Ydy. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 63? Oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 63 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 8: Y system bleidleisio yn etholiadau cyffredinol y Senedd a dyrannu seddi (Gwelliannau 21, 51, 22, 23, 117, 31, 32)

Grŵp 8 fydd nesaf. Y system bleidleisio yn etholiadau cyffredinol y Senedd a dyrannu seddi yw'r gwelliannau yn y grŵp yma. Gwelliant 21 yw'r prif welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar Darren Millar i gynnig y gwelliant.

Cynigiwyd gwelliant 21 (Darren Millar, gyda chefnogaeth Jane Dodds).

18:30

Diolch, Llywydd. Fel y gwyddom ni oll, mae nifer o baneli a phwyllgorau a chomisiynau wedi cytuno bod ein Senedd heb ei chyfansoddi yn iawn i wneud y gwaith mae pobl Cymru wedi gofyn iddi wneud. Bu llawer o drafod hefyd am beth ddylai’r system ddelfrydol fod, a'r ateb yn dibynnu, i raddau helaeth, ar bwy dŷch chi’n gofyn. Fel y dywedais ar ddechrau'r ddadl hon, mae’n gwbl hysbys mai system STV neu restrau cyfrannol agored neu hyblyg y byddem ni, fel Plaid Cymru, yn ei ffafrio. Mi oedden ni'n berffaith onest: cyfaddawd ydy hwn—cydweithio, tir canol er budd ein cymunedau. Does yna ddim byd cyfrinachol am hynny ac mi ydyn ni wedi cael cydsyniad aelodau Plaid Cymru er mwyn bod o'r farn honno wrth ddod â'r cytundeb cydweithio ger eu bron nhw. Felly, mae hyn yn dangos aeddfedrwydd o ran gallu cyfaddawdu, tra hefyd yn datgan yn glir beth fyddem ni wedi'i ffafrio.

Ein blaenoriaeth ni heddiw, fodd bynnag, ydy sicrhau bod pecyn beiddgar o ddiwygiadau yn eu lle erbyn 2026 ac, fel dwi wedi pwysleisio droeon erbyn hyn,  fod yr adolygiad yn un gwirioneddol a fydd yn galluogi rhagor o newid erbyn 2030.

Mi ydyn ni'n cydnabod yr heriau sydd yn gysylltiedig gyda’r system ar wyneb y Bil ar hyn o bryd. Ond mae'r Bil, fel rhan o’r pecyn o fesurau sydd wedi’u cytuno rhwng ein dwy blaid, yn darparu ar gyfer mecanwaith adolygu lle bydd y Senedd ei hun yn gallu dychwelyd yn syth ar ôl etholiad 2026 at drafodaeth am yr union ffurf o gynrychiolaeth gyfrannol i'w defnyddio.

18:35

Dŷn ni mewn cytundeb cydweithio—dydy hynny ddim yn golygu bod gen i fewnwelediad i feddylfryd y Blaid Lafur, felly, byddwn i'n awgrymu eich bod chi yn gofyn y cwestiwn hwnnw i'r Cwnsler Cyffredinol ei hun. Oherwydd, medraf i gyfiawnhau pam fod Plaid Cymru yn fodlon cyfaddawdu, ond dwi'n meddwl ei fod o i fyny i'r Blaid Lafur egluro pam eu bod nhw mor daer mai dyma'r unig system y bydden nhw'n fodlon mynd ymlaen â hi, oherwydd dŷn ni wedi trio eu cael nhw i symud ar hynny.

Mi ydyn ni—. Sori, dwi wedi colli fy lle. Y pwysigrwydd o ran hyn i gyd ydy ein bod ni'n cael y diwygiadau hyn ar waith rŵan, oherwydd bod amser yn ein herbyn gydag ychydig dros ddwy flynedd i fynd tan etholiad Senedd 2026, a sicrhau mai dim ond ar gyfer yr etholiad cyntaf o dan y system newydd y defnyddir y rhestrau caeedig. Byddwn yn ceisio sicrhau bod y mecanwaith adolygu yn cael ei ddefnyddio i alluogi newid.

Er efallai nad y system yw'r un ddelfrydol, fel dŷn ni wedi clywed eisoes, mae'r achos dros Senedd briodol gyda digon o Aelodau yn y Senedd i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif a chael gwared ar y system hen ffasiwn cyntaf i'r felin, a chyflwyno yn ei lle system lle mae nifer y pleidleisiau a fwriwyd yn adlewyrchu'r seddi a enillwyd, yn glir i mi—mae o yn gam ymlaen.

I'r sawl sy'n dweud y dylem ni geisio newid y system bleidleisio a chwalu’r cytundeb ar y pecyn o ddiwygiadau rŵan, fel y byddai derbyn gwelliant Darren Millar a Jane Dodds yn ei wneud, mae gen i ofn y byddai hynny'n mynd â ni yn ôl at y dechrau. Nid dewis rhwng y pecyn hwn a’r pecyn perffaith ydyn ni ar y pwynt yma, ond dewis rhwng y pecyn hwn neu dim un o gwbl. Y gwir amdani ydy fod y pecyn hwn yn gam pendant tuag at greu Senedd briodol, sy'n addas ar gyfer gwlad annibynnol yn y dyfodol ac mae'n rhaid inni fanteisio ar y cyfle.

Ond rhaid cofio hefyd fod y system yma ar wyneb y Bil hefyd yn hwyluso cyflwyno datblygiad radical arall: mecanwaith statudol i wreiddio’r addewid o Senedd fwy cynrychioliadol o'r dechrau, sy’n rhan greiddiol o’r ymrwymiad ar ddiwygio yn y cytundeb cydweithio. Mae’r ddwy blaid, yn ôl y cytundeb, yn cytuno i gefnogi cynlluniau i ddiwygio’r Senedd yn seiliedig ar, ymhlith pethau eraill, gwotâu rhywedd statudol wedi’u hintegreiddio yn y system etholiadol. Oherwydd, wrth ehangu'r Senedd a chreu Senedd wirioneddol gynrychioliadol, rydym yn benderfynol o gywiro’r sefyllfa annerbyniol bresennol lle mae merched wedi’u tangynrychioli yn y lle yma, sy’n effeithio yn andwyol ar allu’r Senedd i weithredu’n effeithiol a’i gallu i adlewyrchu’r wlad y mae’n ceisio ei chynrychioli yn llawn.

Mi oeddwn i'n falch o weld y Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) yn cael ei gyhoeddi yn y datganiad busnes y prynhawn yma ac edrychwn ymlaen at weld y Bil yn cael ei gyflwyno wythnos nesaf, ac i bob plaid, gan gynnwys fy un i, sicrhau y bydd yr ymgeiswyr a ddewisir yn 2026 yn gwarantu ethol Senedd fodern sy'n adlewyrchu ein cenedl. Does dim byd yng ngwelliant 23 sy’n esbonio sut byddai’r rhestrau hyblyg maen nhw’n eu cynnig yn gweithio ochr yn ochr â’r elfen cwbl greiddiol o’r pecyn i sicrhau Senedd gynrychioliadol drwy gwotâu rhywedd statudol. Hyd y gwelaf, gallai’r pleidiau fod yn cyflwyno rhestrau yn unol â’r egwyddor honno, ond heb ddim i atal y rhestrau rhag cael eu hailosod gan yr etholwyr wedi’r etholiad i roi dynion ar y top. Mae’r gwelliannau sy’n gysylltiedig efo hwn hefyd ynghylch rhoi dyletswydd ar y comisiwn ffiniau i adolygu’r trothwy ar gyfer y rhestrau hyblyg yn tanseilio annibyniaeth y comisiwn ffiniau oddi ar y system wleidyddol, rhywbeth rydyn ni’n ceisio ei gryfhau drwy welliannau eraill sydd wedi’u gosod. Swyddogaeth y Senedd hon yw cytuno ei system etholiadol, felly nid yw’n briodol ceisio tynnu corff arall sydd i fod y tu allan i'r system wleidyddol i mewn i'r darlun.

Mi wnaeth Darren Millar gydnabod bod cyflwyno rhestr o ymgeiswyr yn golygu nad yw pleidleiswyr yn gwybod pwy maen nhw'n pleidleisio drostyn nhw ddim yn cael ei adlewyrchu yn ein hanes ni yng Nghymru o ran ei grŵp fo ei hun.

O dan system gyntaf i'r felin San Steffan i ethol Aelodau Seneddol, mae pleidleiswyr mewn gwirionedd yn dewis rhwng rhestr gaeedig o un a ddewiswyd gan blaid. Felly, mae'n rhaid inni fod yn onest ynglŷn â faint o ddewis sydd gan etholwyr ar y funud o ran pwy sydd yn sefyll mewn etholiad. Mae'r syniad bod y math penodol o gynrychiolaeth gyfrannol y darperir ar ei gyfer yn y Bil hwn yn ddiwedd ar ddemocratiaeth yng Nghymru neu ddiwedd datganoli yn or-ddatganiad. Ac ymhell o fod yn ddiwedd, mae hwn yn gam arwyddocaol iawn ymlaen a dylid ei gydnabod felly. Am y rhesymau hyn oll felly, nid ydym yn gallu cefnogi gwelliannau 21, 22 a 23 yn enw Darren Millar, nac ychwaith gwelliannau 31 a 32.

Ar y gwelliannau eraill o fewn y grŵp yma, mi ydym ni'n gefnogol o welliant 51 yn enw Jane Dodds. Mae’n bwysig bod enwau unigolion i'w gweld ar y rhestr, fel ei bod hi'n glir pwy fydd yn cael eu hethol. Dyma yw’r arfer ar hyn o bryd ar bapurau balot rhestrau rhanbarthol, ac rydym o'r farn y dylai hynny barhau, felly rydym ni'n falch o gefnogi hwnnw.

18:40
18:50

Gaf i jest gofyn? Un peth doedd ddim yn glir o'ch cyfraniad chi oedd sut mae'r gwelliant yma rydych chi wedi sôn amdano fo i fod i weithio gyda'r cwotâu, oherwydd beth fyddai'n atal rhestr gydradd o ran rhywedd wedyn rhag cael ei aildrefnu? Os byddech chi'n gallu jest ymateb ar y pwynt yna.

18:55
19:00
19:05
19:10
19:15

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 21? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly symudwn i bleidlais ar welliant 21. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 21 wedi ei wrthod.

Gwelliant 21: O blaid: 16, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 51 (Jane Dodds, gyda chefnogaeth Darren Millar).

Ydy, mae e'n cael ei symud. A ddylid derbyn gwelliant 51? A oes unrhyw wrthwynebiad? Does yna ddim gwrthwynebiad i welliant 51, felly mae gwelliant 51 wedi ei gymeradwyo.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.

Tynnwyd gwelliant 18 yn ôl.

Cynigiwyd gwelliant 40 (Darren Millar).

Ydy. A oes yna unrhyw wrthwynebiad i welliant 40? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 40. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Mae gwelliant 40 wedi ei wrthod.

Gwelliant 40: O blaid: 16, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 22 (Darren Millar, gyda chefnogaeth Jane Dodds).

Ydy. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 22? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe gawn ni bleidlais ar welliant 22. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 40 yn erbyn, felly mae gwelliant 22 wedi ei wrthod.

Gwelliant 22: O blaid: 16, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 23 (Darren Millar, gyda chefnogaeth Jane Dodds).

Ydy. Os gwrthodir gwelliant 23, bydd gwelliant 117 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 23? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Pleidlais ar welliant 23. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 23 wedi ei wrthod.

Gwelliant 23: O blaid: 16, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Methodd gwelliant 117.

Cyn i ni symud i grŵp 9, fe wnawn ni gymryd toriad byr o ryw 20 munud. Fe wnawn ni ganu'r gloch bum munud cyn i ni ailgychwyn.

Gohiriwyd y cyfarfod rhwng 19:18 ac 19:49.

19:45
Grŵp 9: Seddi gwag na ellir eu llenwi yn unol ag adran 11 newydd o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (i’w mewnosod gan adran 9 o Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)) (Gwelliannau 29, 30, 33, 34, 118, 119, 120, 121, 122, 123)

Fe wnawn ni nawr ailddechrau, a grŵp 9 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r rhain yn ymwneud â seddi gwag na ellir eu llenwi yn unol ag adran 11 newydd o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Gwelliant 29 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a dwi'n galw ar Jane Dodds i gynnig y prif welliant. 

19:50

Cynigiwyd gwelliant 29 (Jane Dodds, gyda chefnogaeth Darren Millar).

19:55

Diolch, Llywydd. Fel y dywedodd Mike Hedges, mae'r mecanwaith ar gyfer llenwi seddi gweigion yn adlewyrchu i raddau helaeth yr hyn sy’n digwydd o dan y system rhestrau rhanbarthol presennol. Rydyn ni hefyd yn mynd i fod y ddeddfwrfa genedlaethol gyntaf ym Mhrydain i gael gwared ar y drefn cyntaf i'r felin yn llwyr, yn gyfnewid am sefyllfa ble caiff pob Aelod ei ethol yn llwyr drwy gynrychiolaeth gyfrannol.

Does dim rhesymeg, felly, mewn creu sefyllfa lle byddai system etholiadol ar gyfer llenwi llefydd gweigion yn wahanol ar gyfer y prif ffrwd o ethol aeloadu i'r Senedd newydd gyda’r system fwy blaengar y byddwn wedi ei roi mewn lle. Mae hefyd, wrth gwrs, yn debyg o ffafrio pleidiau mwy, ar draul pleidiau llai. Drwy wrthod y gwelliannau yma, rydyn ni’n galw am i'r holl faes yma gael ei ystyried gan y pwyllgor safonau yng nghyd-destun y gwaith ar adalw Aelodau, gan mai’r un yw’r hanfodion, yr egwyddorion a’r rhwystrau, ac yna yng nghyd-destun, wrth gwrs, y mecanwaith adolygu yn 2026.

20:00
20:05

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 29? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 29. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 40 yn erbyn, ac felly—. Na. Ymddiheuriadau. Canlyniad y bleidlais ar welliant 29, felly, yw fod 16 o blaid, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 29 wedi ei wrthod.

Gwelliant 29: O blaid: 16, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 30 (Jane Dodds, gyda chefnogaeth Darren Millar).

Oes yna unrhyw wrthwynebiad i welliant 30? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 30. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Mae gwelliant 30 wedi ei wrthod.

Gwelliant 30: O blaid: 16, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 31 (Jane Dodds, gyda chefnogaeth Darren Millar).

Ydy, wedi'i gynnig. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 31? Oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 31. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Mae gwelliant 31 wedi ei wrthod.

Gwelliant 31: O blaid: 16, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 32 (Jane Dodds, gyda chefnogaeth Darren Millar).

Ydy. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 32? Oes yna wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Pleidlais, felly, ar welliant 32. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Mae gwelliant 32 wedi cwympo.

Gwelliant 32: O blaid: 16, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 33 (Jane Dodds, gyda chefnogaeth Darren Millar).

Ydy. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 33? Oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad. Fe gymerwn ni bleidlais, felly, ar welliant 33. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 33 wedi ei wrthod.

Gwelliant 33: O blaid: 16, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

20:10

Cynigiwyd gwelliant 34 (Jane Dodds, gyda chefnogaeth Darren Millar).

Ydy, gan Jane Dodds. Os gwrthodir gwelliant 34, bydd gwelliannau 120, 122 ac 123 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 34? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly byddwn yn cymryd pleidlais ar welliant 34. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant yna wedi ei wrthod.

Gwelliant 34: O blaid: 16, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Methodd gwelliannau 120, 122 ac 123.

Cynigiwyd gwelliant 118 (Jane Dodds).

Ydy, gan Jane Dodds. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 118? Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Gwnawn ni gymryd pleidliais, felly, ar 118. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Mae gwelliant 118 wedi ei wrthod.

Gwelliant 118: O blaid: 16, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 119 (Jane Dodds).

Ydy, mae'n cael ei gynnig ac—. [Gwrthwynebiad.] Ie. [Chwerthin.]

—un un naw. Felly, agor y bleidlais ar welliant 119. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 119 wedi ei wrthod.

Gwelliant 119: O blaid: 16, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 121 (Jane Dodds).

Mae'n cael ei symud gan Jane Dodds. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 121? Oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, gwrthwynebiad. Felly, gwnawn ni gymryd pleidlais ar welliant 121. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Mae gwelliant 121 wedi ei wrthod.

Gwelliant 121: O blaid: 16, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 10: Gwelliannau cysylltiedig at ddibenion Rhan 2 o Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) (y system bleidleisio yn etholiadau cyffredinol y Senedd a dyrannu seddi) (Gwelliannau 64, 65, 66, 67)

Grŵp 10 o welliannau sydd nesaf. Grŵp 10: mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â gwelliannau cysylltiedig at ddibenion Rhan 2 o'r Bil. Gwelliant 64 yw'r prif welliant. Y Cwnsler Cyffredinol i gynnig y gwelliant hwnnw. Mick Antoniw.

Cynigiwyd gwelliant 64 (Mick Antoniw).

Darren Millar—. Does yna neb arall i siarad. Felly, ydy'r Cwnsler Cyffredinol eisiau dweud unrhyw beth yn fwy? Na. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 64? A oes unrhyw wrthwynebiad? Na, does yna ddim gwrthwynebiad. Mae gwelliant 64 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.

Cynigiwyd gwelliant 65 (Mick Antoniw).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 65? Unrhyw wrthwynebiad? Na, dim gwrthwynebiad, felly mae gwelliant 65 wedi ei dderbyn.

20:15

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.

Cynigiwyd gwelliant 66 (Mick Antoniw).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 66? Unrhyw wrthwynebiad? Nac oes, felly mae gwelliant 66 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.

Cynigiwyd gwelliant 67 (Mick Antoniw).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 67? Unrhyw wrthwynebiad? Na, felly mae gwelliant 67 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.

Grŵp 11: Adalw Aelodau o’r Senedd (Gwelliannau 124, 125)

Daw hyn â ni at grŵp 11 o welliannau. Mae'r grŵp yma yn ymwneud ag adalw Aelodau o'r Senedd. Gwelliant 124 yw'r prif welliant yn y grŵp. Darren Millar i gynnig y prif welliant.

Cynigiwyd gwelliant 124 (Darren Millar).

20:20

Diolch, Llywydd. Wrth gwrs, mae adalw yn rhywbeth, mewn egwyddor, sydd yn synhwyrol ac yn rhywbeth mae yna gefnogaeth eang ar ei gyfer ar draws y Senedd. Dwi ddim yn meddwl bod neb yn dadlau hynny. Beth dŷn ni ddim yn gallu cefnogi heno yma ydy'r ymgais i gopïo, yn uniongyrchol fwy neu lai, ddeddfwriaeth San Steffan allan o gyd-destun a cheisio ei osod ar system etholiadol sylfaenol wahanol y mae’r Bil yma yn darparu ar ei chyfer.

Mae o’n dda iawn fod yna ymrwymiad i wneud gwaith pellach, yn dilyn argymhelliad y Pwyllgor Biliau Diwygio i'r pwyllgor safonau wneud darn o waith i edrych ar adalw ac atebolrwydd Aelodau yn fwy cyffredinol ac i adrodd cyn diwedd y Senedd hon, fel y gall unrhyw newidiadau gael eu symud ymlaen drwy’r mecanwaith adolygu wedi 2026. Mae o'n clymu'n dda iawn efo'r hyn yr oedd Adam Price, wrth gwrs, wedi symud yn gynharach.

Mae hwn yn eithriadol o bwysig, ac nid gwrthwynebiad i adalw ydy peidio â chefnogi'r gwelliant hwn. Mae'n rhaid inni fynd ymlaen efo'r trywydd yma, ond hefyd i wrthod y gwelliannau yma. Mae yna reswm penodol pam ein bod ni'n gwneud hynny.

20:25

Gwelliant 124—os bydd gwelliant 124 yn cael ei wrthod, bydd gwelliant 125 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 124? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly fe gymrwn ni bleidlais ar welliant 124. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Mae gwelliant 124 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 124: O blaid: 16, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Methodd gwelliant 125.

Grŵp 12: Rhan 3 o Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol (Gwelliannau 68, 69, 89)

Grŵp 12 fydd y grŵp nesaf o welliannau. Mae'r rhain yn ymwneud â mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol at ddibenion Rhan 3 o'r Bil. Y Cwnsler Cyffredinol sy'n cynnig y prif welliant, sef gwelliant 68.

Cynigiwyd gwelliant 68 (Mick Antoniw).

Does gyda fi ddim siaradwyr ar y grŵp yma o welliannau. Dwi'n cymryd bod y Cwnsler Cyffredinol ddim eisiau cyfrannu dim ymhellach. Felly, mae gwelliant 68 wedi ei gynnig. A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 68? Nac oes. Mae gwelliant 68 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.

Cwnsler Cyffredinol, ydy gwelliant 69 yn cael ei gynnig yn ffurfiol? 

Cynigiwyd gwelliant 69 (Mick Antoniw).

Gwelliant 69 wedi ei gynnig. Unrhyw wrthwynebiad? Na, does dim gwrthwynebiad. Felly gwelliant 69 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.

Grŵp 13: Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru: penodi ac anghymhwyso aelodau, y prif weithredwr a chomisiynwyr cynorthwyol (Gwelliannau 5, 6, 7, 8, 70, 41, 42, 71, 43, 72, 44, 45, 46, 73, 47, 48, 74)

Grŵp 13 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Hwn fydd y grŵp olaf y byddwn ni'n ei drafod heno. Mae'r grŵp yma yn ymwneud â phenodi ac anghymwyso aelodau, y prif weithredwr a chomisiynwyr cynorthwyol Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru. Gwelliant 5 yw'r prif welliant yn y grŵp, a galwaf ar Darren Millar i gyflwyno'r gwelliant. 

Cynigiwyd gwelliant 5 (Darren Millar).

20:30

Diolch, Llywydd. Mi oeddem ni'n falch o weld nifer o welliannau yn y grŵp yma sydd yn cyflawni ysbryd os nad union lythyren argymhellion perthnasol y Pwyllgor Biliau Diwygio. Mae nifer o welliannau Darren Millar yn y grŵp yma yn ceisio cyflawni'r un nod â gwelliannau'r Llywodraeth yn enw Mick Antoniw, er enghraifft, drwy wahardd cynghorwyr arbennig rhag bod yn aelodau o’r comisiwn ffiniau. O ystyried y ffaith y bydd y ffiniau yn dod i rym heb bleidlais gan y Senedd, roedd y Pwyllgor Biliau Diwygio yn glir fod angen i'r broses ffiniau fod yn rhydd rhag unrhyw ymyrraeth gan y broses wleidyddol a hefyd unrhyw ganfyddiad o hynny. Mae gwelliant y Llywodraeth yn y cyswllt yma yn fwy cyflawn, er enghraifft yn gwahardd cynghorydd arbennig sydd yn gweithio i Lywodraeth Cymru, y Deyrnas Unedig neu'r Alban rhag dal swyddogaethau o fewn y comisiwn ffiniau, tra bo gwelliannau Darren Millar yn cyfyngu'r gwaharddiad i gynghorwyr arbennig Llywodraeth Cymru yn unig.

Roedd y Bil fel y'i cyflwynwyd mewn peryg o drin y sawl sy'n gwasanaethu'r gwrthbleidiau a'r ddeddfwrfa yma yn wahanol ac yn gosod mwy o gyfyngiadau arnynt o ran y comisiwn ffiniau na staff y Llywodraeth neu'r Goron. Er y gellid cael dadl am ba mor addas ydy hi i weision sifil neu aelodau o staff Comisiwn y Senedd fod yn dal ail swydd yn y comisiwn ffiniau, maent, yn ôl eu telerau cyflogaeth, yn cyflawni swyddogaethau sy’n ddiduedd yn wleidyddol. Mae'r gwelliant i ddileu staff Comisiwn y Senedd o restr felly ac i ychwanegu aelodau staff pleidiau gwleidyddol a chynghorwyr arbennig Llywodraethau Cymru, y Deyrnas Unedig neu'r Alban at y rhestr yn dod â mwy o resymeg i'r darpariaethau. Mae hefyd yn gwneud i ffwrdd â'r angen am ddiffiniad o 'aelod o staff Senedd Cymru'.

Fodd bynnag, mae yna ddal fan gwan hyd yn oed ar ôl twtio'r darpariaethau yma, sef er bod cynghorwyr arbennig Llywodraethau Cymru, y Deyrnas Unedig a'r Alban wedi'u heithrio yn briodol, ac aelodau staff cymorth Aelodau'r Senedd a'r grwpiau pleidiol yn y Senedd, bydd dal modd i staff cymorth Aelodau Seneddol San Steffan a'r Alban wasanaethu. Byddwn i felly yn gwerthfawrogi cadarnhad gan y Cwnsler Cyffredinol y bydd yn rhoi ystyriaeth bellach i'r loophole yma wrth edrych ymlaen at Gyfnod 3, yn enwedig o ran staff Aelodau Seneddol San Steffan, gan y gall fod ganddynt ddiddordeb arbennig i geisio cadw'r ffiniau mor agos at rai San Steffan, er enghraifft, sy'n golygu y dylid cyfyngu eu gallu i fod ar y comisiwn, o ddilyn yr un rhesymeg ag a wneir efo'u cyfoedion o ran staff cymorth Aelodau'r Senedd, cynghorwyr arbennig y tair Llywodraeth, staff pleidiau gwleidyddol cofrestredig ac ati. Ymddengys yn rhesymegol y sefyllfa o ran prif weithredwr y comisiwn ffiniau a'r angen i drin y penodiad hwnnw yn wahanol i gomisiynwyr a chomisiynwyr cynorthwyol o ran y cyfyngiadau arnynt.

Ond gan barhau â'r thema o benodiadau cyhoeddus a'r angen am warchodaeth o ran tryloywder y broses, yn amlwg mae hynny'n allweddol. Mae'r gwelliant gan Darren Millar i wneud y broses benodi i'r comisiwn yn ddarostyngedig i god penodiadau cyhoeddus San Steffan yn dyblygu gofyniad sy'n barod yn bodoli drwy'r Gorchymyn yn y Cyngor sy'n rhestru'r comisiwn ffiniau a democratiaeth leol cyfredol, a ddaw'n Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru, fel un o'r cyrff lle mae penodiadau iddo eisoes wedi eu rheoleiddio. Mae yna broblemau amlwg gyda'r drefn honno. Caiff y Gorchymyn ei gytuno drwy uchelfraint gan y Brenin heb gydsyniad yr un corff Seneddol democrataidd. Gall Llywodraeth San Steffan newid y Gorchymyn ar fympwy, ac mae'r cod penodiadau cyhoeddus yn cael ei ddyroddi gan Lywodraeth San Steffan ac yn cynnwys cymal sydd yn galluogi penodiadau i gael eu gwneud gan Weinidogion heb gystadleuaeth mewn sefyllfaoedd eithriadol. Nid ydym ni'n cefnogi ein clymu yn agosach at y drefn annigonol Cymru a Lloegr yma felly.

Yr hyn sydd ei angen ydy datblygu trefn benodiadau cyhoeddus rymus, priodol a democrataidd i Gymru byddai'n cryfhau'r trefniadau ar gyfer y corff hwn a phob un arall. Credwn mai nad drwy'r Bil hwn, yn anffodus, ydy'r ffordd orau o wneud hynny.

20:35
20:40
20:45
20:50

Cyn i ni symud i'r gyfres o bleidleisiau rŷn ni ar fin ei rhedeg, dwi eisiau nodi'r ffaith bod gyda ni bobl ifanc a phleidleiswyr y dyfodol yn ein horiel gyhoeddus ni heno, ac, os ydw i'n iawn, rŷch chi i gyd yn dod o ardaloedd Nefyn, Tudweiliog, Edern, Chwilog, Garn, Pentre-uchaf, Llanbedrog a Phont y Gof. Felly, rŷn ni'n eich croesawu chi i gyd i'n Senedd ni heno. Diolch yn fawr i chi am fod yma tra'n bod ni'n trafod dyfodol eich Senedd chi. Felly, diolch yn fawr.

Gwnawn ni redeg cyfres o bleidleisiau nawr yn gyflym, cyn i ni orffen ar ein gwaith ni am heno. Y bleidlais gyntaf fydd ar welliant 5. A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 5? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 5. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 5 wedi'i wrthod.

Gwelliant 5: O blaid: 16, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 6 (Darren Millar).

Ydy. Felly, a oes yna wrthwynebiad i welliant 6? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Agor y bleidlais ar welliant 6. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 6 wedi'i wrthod. 

Gwelliant 6: O blaid: 16, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 7 (Darren Millar).

A oes gwrthwynebiad i welliant 7? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly agor y bleidlais ar welliant 7. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 7 wedi'i wrthod. 

Gwelliant 7: O blaid: 16, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Ydy gwelliant 70 yn cael ei gynnig gan y Cwnsler Cyffredinol?

Mae'n ddrwg gen i. Dwi wedi 'miss-o' gwelliant. Gwelliant 8 yn gyntaf, gan Darren Millar. 

Cynigiwyd gwelliant 8 (Darren Millar).

Ydy, mae'n cael ei gynnig. Oes yna wrthwynebiad i welliant 8? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 8. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Mae gwelliant 8 wedi'i wrthod.

Gwelliant 8: O blaid: 16, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Mae gwelliant 70 yn cael ei gynnig gan y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw.

Cynigiwyd gwelliant 70 (Mick Antoniw).

Ydy, mae'n cael ei gynnig. Oes gwrthwynebiad i welliant 70? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 70. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 42, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 70 wedi'i dderbyn.

Gwelliant 70: O blaid: 42, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 41 (Darren Millar).

Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 41? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly agor y bleidlais ar welliant 41. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 41 wedi'i wrthod.

Gwelliant 41: O blaid: 16, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 42 (Darren Millar).

Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 42? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly agor y bleidlais ar welliant 42. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 42 wedi'i wrthod. 

Gwelliant 42: O blaid: 16, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Ydy gwelliant 71 yn cael ei gynnig gan y Cwnsler Cyffredinol? 

Cynigiwyd gwelliant 71 (Mick Antoniw).

Ydy. Ydy gwelliant 71 yn cael ei dderbyn? [Gwrthwynebiad.] Nac ydy. Felly, mae yna wrthwynebiad. Gwelliant 71 yw'r bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Mae gwelliant 71 wedi ei dderbyn.

20:55

Gwelliant 71: O blaid: 40, Yn erbyn: 16, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 43 (Darren Millar).

Ydy, gan Darren Millar. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 43. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Mae gwelliant 43 wedi ei wrthod.

Gwelliant 43: O blaid: 16, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Ydy gwelliant 72 gan y Cwnsler Cyffredinol yn cael ei gynnig?

Cynigiwyd gwelliant 72 (Mick Antoniw).

Ydy. Oes unrhyw wrthwynebiad i 72? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 72. Cau'r bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Mae gwelliant 72 wedi'i gymeradwyo.

Gwelliant 72: O blaid: 40, Yn erbyn: 16, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 44 (Darren Millar).

Ydy. Oes gwrthwynebiad i 44? [Gwrthwynebiad.] Oes, gwrthwynebiad. Fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 44. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 40 yn erbyn, felly mae gwelliant 44 wedi'i wrthod.

Gwelliant 44: O blaid: 16, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 45 (Darren Millar).

Ydy. Oes gwrthwynebiad i 45? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 45. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 40 yn erbyn, felly mae gwelliant 45 wedi'i wrthod.

Gwelliant 45: O blaid: 16, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 46 (Darren Millar).

Ydy, gan Darren Millar. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe wnawn ni gymryd pleidlais, ac agor y bleidlais ar welliant 46. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 40 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 46 wedi ei wrthod.

Gwelliant 46: O blaid: 16, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 47, Darren Millar. Nage. Sori. Sori. Gwelliant 73, Cwnsler Cyffredinol?

Cynigiwyd gwelliant 73 (Mick Antoniw).

Mae e'n cael ei gynnig. Oes yna wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 73. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Mae gwelliant 73 wedi'i gymeradwyo.

Gwelliant 73: O blaid: 40, Yn erbyn: 16, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 47 (Darren Millar).

Mae'n cael ei symud yn ffurfiol. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Gwelliant 47, felly, i'r bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 40 yn erbyn, felly mae gwelliant 47 wedi'i wrthod.

Gwelliant 47: O blaid: 16, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 48 (Darren Millar).

Ydy, mae'n cael ei symud. Y cwestiwn yw: a ddylid ei dderbyn? [Gwrthwynebiad.] Mae'n cael ei wrthwynebu, felly cynhaliwn ni bleidlais ar welliant 48. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Mae gwelliant 48 wedi ei wrthod.

Gwelliant 48: O blaid: 16, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 74 (Mick Antoniw).

Oes gwrthwynebiad i welliant 74? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 74. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Mae gwelliant 74 wedi ei dderbyn.

Gwelliant 74: O blaid: 40, Yn erbyn: 16, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

21:00

Cynigiwyd gwelliant 75 (Mick Antoniw).

Mae gwelliant 75 wedi ei gynnig. Does dim gwrthwynebiad i welliant 75, felly mae gwelliant 75 yn cael ei gymeradwyo.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.

Cynigiwyd gwelliant 76 (Mick Antoniw).

A oes gwrthwynebiad i welliant 76? Nac oes. Felly, mae gwelliant 76 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.

Cynigiwyd gwelliant 77 (Mick Antoniw).

Gwelliant 77, does yna ddim gwrthwynebiad. Felly, mae gwelliant 77 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.

Dyna ddiwedd ar ein pleidleisio ni am heno. Ac felly, gan na fyddwn ni'n gallu gwaredu'r holl welliannau, rwy'n gohirio'r trafodion Cyfnod 2 yn unol â Rheol Sefydlog 17.47. Yn unol â'r drefn ystyried, dwi'n barnu bod adrannau 1 i 17 wedi eu derbyn.

Barnwyd y cytunwyd ar adrannau 1 i 17 o’r Bil.

Byddwn ni'n ailgychwyn y Cyfarfod Llawn yfory am 1 o'r gloch. Byddwn ni'n cwblhau'r Cyfarfod Llawn, ac wedyn yn symud ati i'r pwyllgor Cyfnod 2, yn dilyn y Cyfarfod Llawn. Felly, fe wnaf i'ch gweld chi i gyd am 1 o'r gloch yfory.

Diolch, bawb. Nos da. Nos da i blant Gwynedd.

Daeth y cyfarfod i ben am 21:01.