Y Cyfarfod Llawn

Plenary

11/06/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni gychwyn y prynhawn yma, mae'n bleser gen i i groesawu dirprwyaeth o Gynulliad Cenedlaethol Quebec i'r Senedd heddiw. Croeso i Lywydd y Cynulliad, Nathalie Roy, a thri aelod arall o'r Cynulliad hynny. 

Bienvenue à la délégation de l'Assemblée Nationale du Québec au Parlement Gallois aujourd'hui. J'espère que votre visite vous sera utile et que nos deux parlements peuvent continuer à travailler ensemble à l'avenir.

Diolch yn fawr. [Cymeradwyaeth.]

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Darren Millar. 

Cefnogi'r Economi yn y Gogledd

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi’r economi yng ngogledd Cymru? OQ61242

Mae ein cynllun ar gyfer rhoi hwb i economi'r gogledd wedi'i nodi yn ein cenhadaeth economaidd a'n fframwaith economaidd rhanbarthol. Rydym ni'n gweithio gyda'n partneriaid i dynnu sylw at ei gryfderau unigryw ac i sicrhau bod y gogledd yn teimlo buddion y pontio teg i economi gryfach a gwyrddach.

Prif Weinidog, pam ydych chi dal yma? Nid yw hyder y Senedd hon gennych chi a dylech chi barchu canlyniad pob pleidlais a gymerir gan Aelodau o Senedd Cymru, nid dim ond y rhai yr ydych chi'n cytuno â nhw. 

Nawr, o ran yr economi, rydych chi'n gwybod, ac rwyf innau'n gwybod, bod llawer o ganol trefi ar draws y gogledd yn ei chael hi'n anodd. O dan Lafur, Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o adeiladau gwag ar y stryd fawr ym Mhrydain, mae ein strydoedd mawr yn ei chael hi'n anodd cystadlu â manwerthwyr ar-lein a chanolfannau siopa y tu allan i'r dref, ac eto mae diffyg mynediad at barcio am ddim i ddenu siopwyr i'n strydoedd mawr, ac mae gennym ni'r drefn ardrethi busnes lleiaf cystadleuol ym Mhrydain. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w cymryd i hyrwyddo parcio am ddim yng nghanol ein trefi ac i ostwng ardrethi busnes fel y gall canol ein trefi ffynnu unwaith eto?

Mewn gwirionedd, os edrychwch chi ar yr hyn sydd ei angen arnom ni ar gyfer dyfodol economi Cymru, mae'n ymwneud, wrth gwrs, â sut rydym ni'n cefnogi busnesau bach a chanolig. Mae'n ymwneud, wrth gwrs, y moddion cyllidebol sydd gennym ni i wneud hynny. Y gwir amdani yw bod ein cyllideb werth £700 miliwn yn llai ar ôl tair blynedd o ganlyniad uniongyrchol i gamreolaeth economaidd y DU, a'r gwir amdani yw ein bod ni wedi colli dros £1 biliwn mewn hen gronfeydd yr UE y dylai'r Senedd hon fod wedi gallu craffu ar ddewisiadau Llywodraeth Cymru arnynt.

Mae'n dangos bod gennym ni gynllun eglur ar gyfer y dyfodol os cymerwch chi ddwy ran sy'n gwneud gwahaniaeth mawr yn y pedair blaenoriaeth a gyflwynwyd gan yr Ysgrifennydd dros yr economi. Meddyliwch am bŵer glân a'r cyfleoedd adnewyddadwy sydd gennym ni a'r sgiliau sy'n mynd ochr yn ochr â hynny. Ceir cryfderau enfawr yn y gogledd o ran ynni adnewyddadwy a'r swyddi a ddylai ddod gyda nhw. Pe bai gennym ni gyfres gydlynol o bwerau, heb gystadleuaeth ymosodol Llywodraeth y DU sy'n benderfynol o'n hatal rhag gwneud yr hyn yr ydym ni'n cael ein hethol a'n hanfon yma i'w wneud, gallem greu llawer mwy o swyddi â dyfodol tymor hwy, a byddem ni'n gwneud y peth iawn dros y blaned. Bydd yr holl bethau hynny'n bosibl gyda Llywodraeth wahanol yn y DU sy'n ystyried Cymru yn bartner, nid dim ond rhywun y maen nhw eisiau ymdrechu'n gyson i gymryd pwerau oddi wrtho. Yn wir, mae'r maniffesto yr ydych chi'n sefyll ar ei sail yn ymosodiad enfawr ar ddatganoli yn y Bil gyrwyr. Mae'n warth llwyr. Rwy'n hyderus ynghylch y neges y byddwn ni'n ei rhannu yn yr etholiad a thu hwnt, a'r hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud mewn partneriaeth gadarnhaol i Gymru a Phrydain ar ôl 4 Gorffennaf.

Mae pedair blynedd ar ddeg o gyni cyllidol Torïaidd wedi datgymalu gwasanaethau a chyllid cyhoeddus, a allai dalu am leoedd parcio a chyfleusterau toiled am ddim. Mae wedi cael effaith ddifrifol ar fusnesau bach ar draws y gogledd oherwydd pwysau chwyddiant a'r argyfwng costau byw. Mae gan lawer o deuluoedd lai o arian yn eu pocedi i'w wario mewn siopau lleol bellach, a cheir llai o gyfleusterau. Bydd Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn codi'r caeadau i fusnesau bach ar ôl blynyddoedd o ddirywiad, gyda chynlluniau i adfywio'r stryd fawr trwy gyflwyno hybiau bancio a chreu mwy o chwarae teg rhwng siopau'r stryd fawr a chewri ar-lein. Prif Weinidog, a wnaiff eich Llywodraeth Lafur yng Nghymru weithio gyda Llywodraeth Lafur y DU i sicrhau ffyniant i fusnesau bach ar ein strydoedd mawr?

Diolch am y cwestiwn a realiti'r hyn sydd wedi digwydd ar ôl 14 mlynedd o'r Torïaid. Rwy'n gwybod nad yw'r Torïaid yn hoffi ei glywed, ond dyna'r gwirionedd diymwad. Mae pedair blynedd ar ddeg o gyni wedi cael effaith fawr ar wasanaethau cyhoeddus a'r economi. Ceir rheswm pam mai'r DU yw un o'r gwledydd sy'n tyfu arafaf yn y G7. Nid yw'n ddamwain bod y Torïaid wedi bod yn rhedeg Llywodraeth y DU dros y 14 mlynedd hynny. 

A phan ddaw at yr hyn yr ydym ni'n gallu ei wneud—yr adolygiad o ardrethi busnes, y mae Rebecca Evans eisoes yn ei gychwyn—gallem ni wneud cymaint mwy yn yr hyn yr ydym ni'n gallu ei wneud gyda gwahanol bartner ar lefel y DU, gan weithredu ar yr argyfwng costau byw. Nid yw'r ffaith bod trethi pobl sy'n gweithio yn uwch nawr nag ar unrhyw adeg arall mewn hanes byw yn gamgymeriad; dewis bwriadol a wnaed gan y Torïaid. Mwy o arian ym mhocedi pobl, mwy o arian i'w wario ar y stryd fawr, Llywodraeth sydd â chynllun ac sy'n ein hystyried yn bartner cadarnhaol—dyna allem ni ei gael ar ôl 4 Gorffennaf, ac edrychaf ymlaen at ymgyrchu dros yr union ganlyniad hwnnw.

13:35
Etholiad Cyffredinol y DU

2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd gwahanol ganlyniadau etholiad cyffredinol y DU yn ei chael ar Gymru? OQ61260

Diolch am y cwestiwn. Ein hasesiad yw bod dau ganlyniad realistig i Gymru. Y cyntaf fyddai mwy o'r un peth—parhad o gamreolaeth economaidd, ymosodiadau ar ddatganoli, a throseddau yn mynd heb eu cosbi. Yr ail fyddai Llywodraeth a arweinir gan genhadaeth, dan arweiniad Keir Starmer, yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, gyda chynllun difrifol i newid Cymru a Phrydain er gwell.

Diolch, Prif Weinidog. Nawr, hysbysebwyd cronfa ffyniant gyffredin Llywodraeth Dorïaidd y DU, wrth gwrs, fel un o'u cynlluniau allweddol i ddisodli cyllid Undeb Ewropeaidd a gollwyd ar ôl Brexit, ac rydym ni'n gwybod pa mor bwysig yw'r cyllid hwn i Gymru. Wrth gwrs, fe wnaethom ni ddarganfod yn yr wythnosau diwethaf bod Rishi Sunak yn bwriadu ysbeilio coffrau'r gronfa ffyniant gyffredin er mwyn ariannu ei gynllun hynod amhoblogaidd i ddod â gwasanaeth cenedlaethol yn ôl. Ac os nad yw hyn yn ddigon drwg, roeddwn i'n bryderus iawn o ddarllen sesiwn friffio gan y Gynghrair Cymunedau Diwydiannol, sy'n nodi y disgwylir i 2,000 o swyddi a gyflogir yn uniongyrchol gael eu colli yng Nghymru pan ddaw'r rownd ddiweddaraf o gyllid cronfa ffyniant gyffredin i ben. A phan fydd effeithiau anuniongyrchol hyn yn cael eu cymryd i ystyriaeth, yna gallem ni fod yn edrych ar golli hyd at 10,000 o swyddi yng Nghymru. Prif Weinidog, pa asesiad allwch chi ei wneud o'r effaith y byddai colledion o'r fath yn ei chael, a beth fyddai eich neges i bobl Cymru am sut y gellir osgoi canlyniad mor drychinebus?

Diolch eto am y cwestiwn. Yr eglurder a'r dewis sy'n wynebu pob un ohonom ni, a'r effaith ar y lle hwn a'r cymunedau yr ydym ni'n eu gwasanaethu—. Mae'n fater o ffaith nid barn bod Cymru wedi bod ar ei cholled o'r gronfa ffyniant gyffredin. Nid yw'r addewidion maniffesto a wnaed mewn dau faniffesto Ceidwadol yn y DU y byddai disodliad ceiniog am geiniog, punt am bunt o hen gronfeydd yr UE wedi cael eu cadw. Ac mae'r grŵp Ceidwadol hwn wedi bod yn hyrwyddwyr i Gymru fod ar ei cholled. Dylai mwy nag £1 biliwn fod wedi dod i Gymru i Gymru benderfynu. Ac yn fwy na hynny, wrth gwrs, ceir addewid i adfer y pwerau a'r arian a ddaw gan arweinydd Plaid Lafur y DU. Edrychaf ymlaen at weld hynny'n digwydd, nid yn unig yn yr etholiad, ond yr hyn y bydd yn ei olygu wedyn i'r hyn y gallwn ni ei wneud, i ail-fuddsoddi yn y stryd fawr, i ail-fuddsoddi yn y rhaglenni sgiliau yr ydym ni wedi eu hariannu yn y gorffennol. Mae honno'n weledigaeth sydd wir werth ymladd drosti, o'i chymharu â'r realiti o golli miloedd yn fwy o swyddi, gwariant cyhoeddus yn cael ei wasgu, ac addewidion treth heb eu hariannu, unwaith eto, sy'n cael eu gwneud gan y Blaid Geidwadol, a'r cwbl yn ychwanegol at yr addewid parhaus o ymosodiad pellach ar ddatganoli. Roedd sylwadau Ysgrifennydd Gwladol presennol Cymru ddoe yn gywilyddus—i ddweud bod y Torïaid eisiau cyflwyno Bil i ddiddymu pob grym dros derfynau cyflymder yng Nghymru, gan nad ydyn nhw'n rhedeg y lle hwn. Dydyn nhw ddim wedi cael eu dewis gan bobl Cymru mewn pleidlais i ddod yma. Rwy'n falch o fod wedi brwydro dros greu datganoli, yn falch o fod wedi gwneud y ddadl, yn fy mywyd iau, yn falch o fod yma nawr fel y Prif Weinidog. Bydd dewisiadau a wneir yma ar gyfer meysydd cyfrifoldeb datganoledig yn parhau i gael eu gwneud yma, gyda Llywodraeth Lafur y DU. Rydym ni i gyd yn gwybod bod hynny o dan fygythiad os yw'r Torïaid byth yn cael eu caniatáu i fod yn agos at yr ysgogiadau grym unwaith eto ar draws y DU.

Fel y byddwch yn gwybod, Prif Weinidog, mae pob Llywodraeth y DU wedi cael ei threchu oherwydd ei record economaidd, sydd wedi ein gadael â threthi uwch, dyled genedlaethol uwch a diweithdra uwch. Fel yr ydym ni wedi ei weld yn ddiweddar, bydd Llywodraeth Keir Starmer—mae'n ddrwg gen i, Llywydd, Llywodraeth Syr Keir Starmer; beth bynnag arall ydyw, mae'r dyn yn dal yn farchog—bydd yn golygu trethi uwch i ddynion a menywod cyffredin ledled Cymru. [Torri ar draws.]

Allaf i ddim clywed yr Aelod, mae'n ddrwg gen i. Rwy'n mynd i ofyn i rai pobl fod ychydig yn fwy tawel nag y maen nhw. Joel James.

Diolch, Llywydd. Gyda hyn mewn golwg, Gweinidog, beth fu eich barn ar yr effaith hon ar Gymru ac economi Cymru? Diolch.

Wel, y gwir amdani, ar ddiwedd y Senedd hon, yw bod safonau byw wedi gostwng am y tro cyntaf a gofnodwyd erioed ledled y DU. Nid yw'n gyd-ddigwyddiad bod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi bod wrth y llyw drwy'r cyfnod hwnnw wedi'r degawd blaenorol. Fel y gwnaeth Carolyn Thomas ein hatgoffa, mae mwy na 14 mlynedd o gyni wedi cael effaith ar yr economi yn ogystal â gwasanaethau cyhoeddus. Ac yn y tymor diwethaf hwn, mae'r economi ledled y DU wedi bod yn wastad, ac nid yw economïau eraill sydd wedi cael yr un heriau rhyngwladol wedi cael yr un canlyniadau. Rydym ni'n talu'r pris am gamreolaeth economaidd y Ceidwadwyr. Boris Johnson, Liz Truss, Rishi Sunak—dihirod y sefyllfa yr ydym ni'n ei hwynebu bellach a dyna pam mae hi mor bwysig troi tudalen.

A hoffwn ymdrin yn gyflym â'r pwynt am drethi. Mae'n amlwg yn anonest honni y bwriedir codi trethi yn y ffordd y mae'r Ceidwadwyr wedi bod yn ei wneud. Mae hyd yn oed yr uwch was sifil yn y Trysorlys wedi gwrthod yr honiadau gwarthus ac anonest a wnaed gan y Blaid Geidwadol. [Torri ar draws.]

13:40

Allaf i ddim clywed y Prif Weinidog nawr. A allwn ni fod ychydig yn dawelach, os gwelwch yn dda?

Ac os ydych chi eisiau glynu wrth yr honiadau sy'n amlwg yn anonest a wnaed, bydd pobl yn eu gweld nhw. Byddan nhw'n pleidleisio yn y bleidlais ar 4 Gorffennaf. Ac edrychaf ymlaen at ddechrau newydd i Gymru gyda dwy Lywodraeth Lafur yn cydweithio dros Gymru a Phrydain, ac rwy'n credu y bydd pobl yma yng Nghymru yn pleidleisio dros hynny.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd ac arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.  

Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, Prif Weinidog, cafwyd pleidlais ar lawr y Senedd. Mae sawl un o'ch cyd-Aelodau ac, yn wir, chi eich hun, wedi ei alw'n 'gimig', yn 'stynt' ac yn 'gwestiwn rhyfedd i'w ofyn'. Ond ni wnaeth mynegiant y Senedd yr wythnos diwethaf ddangos hyder ynddoch chi. Fe wnaethoch chi golli pleidlais o ddiffyg hyder yma yn y Senedd. A oedd hi'n ddadl ddifrifol, neu a oedd hi'n 'gimig', fel yr ydych chi wedi bod yn ei galw drwy'r wythnos?

Rwy'n cymryd o ddifrif iawn y ddadl a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf, a'r bleidlais a ddaeth ohoni. Mae gen i feddwl mawr o'r sefydliad yr wyf i wedi bod yn falch o ymladd drosto, i ymgyrchu drosto ac i bleidleisio drosto nid yn unig yn y refferenda, ond mewn etholiadau dilynol. Rwy'n gresynu'r ffaith nad oeddem ni'n gallu parchu yr wythnos diwethaf y traddodiadau arferol ar baru a'r confensiynau sy'n caniatáu i'r ddemocratiaeth mewn pleidleisiau gael ei pharchu. Ond cynhaliwyd y bleidlais, a'r canlyniad yw'r canlyniad. Mae angen i mi nawr edrych ar y dyfodol a'r hyn y mae hynny'n ei olygu am yr ychydig wythnosau yr wyf i wedi bod yn Brif Weinidog, a'r ffordd yr wyf i eisiau arwain fy ngwlad i'r dyfodol, a'r angen i fagu hyder ar draws y Siambr hon a derbyn y realiti fy mod i'n sefyll yma fel y Prif Weinidog, sydd angen gweithio gyda gwahanol bobl i wneud i'r sefydliad weithio. O ran yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yn ystod datganoli, mae wedi gofyn i wahanol bobl gydweithio.

Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom ni ddathlu'r ffaith bod Cymru wedi llwyddo i fod yr ail genedl ailgylchu orau ar y ddaear. Mae hwnnw'n ddewis bwriadol yr ydym ni wedi ei wneud yn y Llywodraeth—partneriaethau o fewn y lle hwn a'r tu allan iddo—er mwyn iddo ddigwydd. Gallwn fod yn falch iawn o'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud yn ystod datganoli, ac rwyf i yn sicr yn falch. Felly, rwyf i wedi ymrwymo i ymddwyn mewn ffordd sy'n caniatáu i'r sefydliad hwn barhau i ddiwallu anghenion pobl yng Nghymru, i barchu'r dewisiadau y maen nhw'n eu gwneud mewn pleidleisiau, ac i feddwl am yr holl bethau y gallwn ni eu gwneud o hyd i wneud Cymru yn lle hyd yn oed yn well i'r holl gymunedau y mae'n fraint i ni eu cynrychioli yn y lle hwn.

Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf fe aethoch chi o'r Siambr hon a rhoi cyfweliad. Fe wnaethoch chi fy nghwestiynu i yn y cyfweliad hwnnw—yr amser a gymerais i ffwrdd oherwydd fy salwch. Dywedwyd wrthyf ar un adeg yn y salwch hwnnw i roi trefn ar fy mhethau, Prif Weinidog. Fe wnaeth eich dirprwy hefyd gwestiynu hynny ar Politics Wales a thynnu sylw ato. Aeth cadeirydd y grŵp Llafur ar Sharp End neithiwr gan gyfeirio at fy absenoldeb yma hefyd oherwydd salwch. Gallaf ddweud wrthych chi, fe roeddwn i'n sâl, a chefais nifer o ymyriadau gan feddygon ysbyty a chlinigwyr eraill. Mae mynd allan o'r ddadl honno yr wythnos diwethaf a'm cyhuddo i o beidio ag anrhydeddu'r system baru ac yna cyfeirio at fy salwch fy hun mor isel ag y gallwch chi fynd. Nawr, mae'n ffaith, Prif Weinidog, y byddai disgwyl i bob Aelod bleidleisio mewn pleidlais o hyder—mewn pleidlais o hyder. Ceir cyfleuster yn y sefydliad hwn i gael pleidleisio hybrid, i gael pleidleisio drwy ddirprwy a phleidleisio'n bersonol. A dyna dri opsiwn a fyddai wedi bod ar gael i unrhyw Aelod. Rydych chi wedi dweud wedi hynny y byddai'r ddau Aelod hynny a oedd yn absennol yr wythnos diwethaf wedi pleidleisio o'ch plaid chi. A ydych chi wedi'ch argyhoeddi y bydden nhw wedi bwrw eu pleidlais o'ch plaid chi, Prif Weinidog?

Rwy'n credu bod angen i ni gymryd cam yn ôl a myfyrio ar rai o'r ffeithiau. Mae'n ffaith, mewn pleidleisiau o hyder blaenorol, y bu parau. Gallaf ddweud wrthych chi'n uniongyrchol. Ym mis Mawrth y llynedd, pan bleidleisiodd y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru ar gynnig hyder yn erbyn Eluned Morgan, fe wnes i fynegi fy safbwynt yn eglur mewn cefnogaeth lawn i'r gwaith yr oedd Eluned Morgan yn ei wneud, ond fe wnes i hynny o bell, oherwydd i mi gael fy mharu ar gyfer y ddadl. Roeddwn i yn America, yn arwain cenhadaeth fasnach. Felly, mae gan bleidleisiau o hyder barau o'u cwmpas. Mae hwn yn gonfensiwn sefydledig.

Ar yr ail bwynt, ynghylch yr hyn a oedd wedi digwydd, roeddwn i, rwy'n credu, yn cyfeirio at y ffeithiau. Y ffaith yw, am oddeutu tri mis, ein bod ni wedi paru ym mhob achos ar bob pleidlais, a dyna oedd y peth iawn i'w wneud, oherwydd rwy'n derbyn yn llwyr nad oeddech chi'n iach, ddim yn ddigon iach i gymryd rhan, ddim yn ddigon iach i droi sgrin ymlaen. A dyna fel y dylai fod. Mae'n union fel y dylai fod. Ond ni ddigwyddodd hynny yr wythnos diwethaf.

Nawr, nid ein lle ni yw cael sylwebaeth barhaus ar y ddau unigolyn sy'n sâl. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n meddwl am hynny. Nid mater i'm grŵp gwleidyddol fy hun yn unig yw hwnnw, mae'n fater i ni fel sefydliad. Rwyf i eisiau i'r bobl hynny allu dod yn ôl, pan fyddan nhw'n iach ac yn abl i wneud hynny, i gael eu hailintegreiddio nid yn unig i fy ngrŵp gwleidyddol fy hun ond i'r sefydliad a dweud y gwir. Rwy'n meddwl llawer am y dewisiadau yr wyf i wedi eu gwneud wrth geisio amddiffyn pobl eraill, wrth geisio gwneud yn siŵr bod lle i'r bobl hynny gael llwybr yn ôl, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n bwysig. A dyna pam rwyf i wedi bod yn barod i gymryd ergydion a pheidio ag ymateb i wahanol bethau sydd wedi cael eu dweud, oherwydd mae hynny'n rhan o'm swydd o fod yn arweinydd.

Felly, dyna sut rwyf i wedi ymddwyn, a dyna sut y byddaf yn ymddwyn, ac rwy'n credu y dylai pawb fyfyrio nid yn unig ar yr hyn a wnaed yr wythnos diwethaf gyda'r bleidlais, ond mewn gwirionedd, popeth o'i chwmpas a'r sylwadau a wnaed hefyd. Mae'n gyfrifoldeb arnom ni i gyd. Ac yn y dyfodol, byddaf eisiau i'm grŵp barhau, pan fo pobl yn sâl, i wneud yn siŵr bod parau yn cael eu darparu ym mhob pleidlais o bwys, fel yr ydym ni wedi ei wneud yn y gorffennol.

13:45

Ar yr enghraifft a roddwyd gennych chi, rwy'n credu bod y Rheolau Sefydlog yn nodi, os ydych chi allan o'r wlad, na allwch chi bleidleisio beth bynnag, felly ni allech chi fod wedi pleidleisio yn y bleidlais honno beth bynnag, felly mae honno'n enghraifft wael iawn i'w defnyddio.

Ond mae'n ffaith bod tri gwahanol ddull o bleidleisio a oedd ar gael i'r Aelodau hynny pe baen nhw yn analluog ac yn methu dod i mewn yma. Gofynnaf y cwestiwn i chi—[Torri ar draws.] Gofynnaf y cwestiwn i chi—. Rwy'n gwerthfawrogi'r—. Rwy'n anghofio pa swydd sydd gennych chi ar hyn o bryd, yr Aelod dros Orllewin Abertawe. Ond y pwynt yr wyf i'n ei wneud i chi yw bod tri opsiwn a oedd ar gael i'r Aelodau hynny bleidleisio. Fe wnaethon nhw ddewis peidio â dangos eu hyder ynoch chi, Prif Weinidog.

Y broblem sydd gennych chi yma yw y bu pleidlais yn y Siambr hon ar hyder ynoch chi fel Prif Weinidog. Rydych chi a ffigurau uwch Llafur Llundain wedi dewis pardduo'r sefydliad hwn trwy ddweud, 'Nid yw o unrhyw bwys; mae'n amherthnasol.' Mewn gwirionedd, mae eich sylwadau ynghylch y refferendwm, er enghraifft, o ran materion yn ymwneud â Llywodraeth bresennol y DU—. Dylai cael dau refferendwm ar ddatganoli olygu bod lefel o barch nid yn unig at y sefydliad ond ein at ein swyddogaeth unigol fel Aelodau.

Mae'r Prif Weinidog blaenorol ar y cofnod yn dweud os yw cynnig yn cael ei gefnogi

'ar lawr y Senedd yna dyna fydd ewyllys democrataidd y Senedd ei hun.'

Mae'n amlwg nad ydych chi'n cymryd barn y Senedd i ystyriaeth pan nad ydych chi'n parchu'r bleidlais honno yr wythnos diwethaf. Mae'n achosi niwed enfawr, niwed i enw da, i'r sefydliad hwn. Mae angen i chi weithredu ar y bleidlais honno, a dyna rwy'n ei ofyn i chi heddiw: beth ydych chi'n mynd i'w wneud i barchu'r bleidlais honno a gynhaliwyd yma yr wythnos diwethaf a dynnodd hyder Senedd Cymru yn ôl o'ch swyddogaeth fel Prif Weinidog?

Dychwelaf eto i ddweud wrth gwrs fy mod i'n cymryd trafodion yn y lle hwn o ddifrif. Rwyf i wedi gwneud hyn y erioed. Rwyf i wedi erioed, a byddaf bob amser. Rwyf i wedi bod yn Brif Weinidog am gyfnod cyfyngedig o wythnosau. Rwy'n cymryd o ddifrif yr hyn a ddywedwyd yn y ddadl a'r ffaith bod pobl wedi bwrw eu pleidlais. Rwy'n bryderus, a hynny'n briodol rwy'n credu, am y ffaith nad oedd dau o'n haelodau yn gallu gwneud hynny. Dyna'r pwynt, Andrew R.T. Davies: doedden nhw ddim yn gallu gwneud hynny.

A dweud y gwir, mae'r sylwebaeth sy'n rhedeg y tu ôl iddo, yn ceisio dyfalu pa mor sâl yw'r Aelodau hynny, yn niweidiol iawn yn fy marn i. Eto, meddyliwch eto am yr hyn y mae'r bobl hynny yn gwrando arno bellach: nid y cyfle i ddod yn ôl a chael eu hailintegreiddio i'r Senedd hon pan fyddan nhw'n ddigon iach i wneud hynny, ond mewn gwirionedd eisiau gwneud dyfarniadau yn eu henw. Nid wyf i'n credu bod hynny'n helpu neb, ac nid wyf i'n credu ei fod yn adlewyrchu'n dda ar y ddadl yr ydych chi'n ei gwneud.

Rwy'n credu y dylai trafodion y lle hwn gael eu parchu. Rwy'n credu y dylai'r ddau refferendwm sydd wedi cyfrannu at greu'r pwerau ar gyfer y lle hwn gael eu parchu. Dyna pam rwyf i mor wirioneddol ddig am yr hyn y bu gan Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol Cymru i'w ddweud am fod eisiau cymryd pwerau i ffwrdd, pan mai'r gwir amdani yw ei fod yn anghytuno â'r dull yr ydym ni wedi ei fabwysiadu. Mae'r pwerau cyfraith a threfn cyffredinol sydd wedi'u cadw yn ôl sy'n caniatáu i Weinidog Ceidwadol ddiystyru ewyllys y lle hwn—mae y tu hwnt i eiriau bod hynny wedi cael ei ddweud, ac fe'i dywedwyd yn yr ymgyrch etholiadol, yn ychwanegol at gynnig y Bil gyrwyr. Sut all unrhyw un ddod i'r lle hwn a dweud y dylid parchu ein trafodion pan mai dyna'r maniffesto yr ydych chi'n ei gefnogi? Arweinydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi cynnig i gymryd pwerau oddi ar y lle hwn gan nad ydych chi wedi ennill etholiad. Nawr, ni all dyfodol y lle hwn weithio felly; ni all.

Felly, byddaf yn parhau i ddadlau dros y dyfodol y gallem ni ei gael, y dyfodol yr wyf i eisiau i ni ei gael ar ôl 4 Gorffennaf, y dyfodol y byddaf yn hapus i ddadlau drosto yr holl ffordd hyd at etholiadau'r Senedd yn 2026, a drwyddyn nhw, Senedd ddiwygiedig a fydd yn cael ei dychwelyd gan bobl Cymru, ac nid y record a fydd gennym ni o'r ddwy flynedd nesaf yn unig, ond cyfnod datganoli, a'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud dros ein gwlad mewn partneriaeth ag eraill yn y lle hwn a thu hwnt. Dyna fyddaf i'n ei wneud, ac rwy'n falch iawn o barhau i wneud y ddadl honno.

13:50

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Nawr, ers i'r Senedd basio'r cynnig hwnnw o ddiffyg hyder, mae Aelodau Llafur wedi ceisio ei esgusodi gan ddweud hyd yn oed, do, mai Aelodau eraill o'r gwrthbleidiau sydd ar fai am fynnu arfer ein hawl i bleidleisio. Mae'r mater paru yn achos llwyr o godi sgwarnogod. Mae'r Prif Weinidog yn gwybod hynny ac mae angen iddo roi'r gorau i daflu llwch i lygaid pobl. Dim ond un bleidlais o ddiffyg hyder mewn Prif Weinidog sydd wedi bod erioed o'r blaen. Roedd honno 24 mlynedd yn ôl ac yn sicr nid oedd unrhyw baru ar y diwrnod hwnnw. 

Nawr, rydym ni hyd yn oed wedi gweld tîm cyfryngau cymdeithasol Llafur yn defnyddio cerdyn credyd y blaid i dalu am hysbysebion sy'n awgrymu na ddylai'r gwrthbleidiau rywsut fyth gytuno â'i gilydd, er bod Llafur a'r Ceidwadwyr yn pleidleisio gyda'i gilydd drwy'r amser yma yn y Senedd hon, ac roedd Llafur yn berffaith hapus i ymuno â'r Torïaid ar fater diffyg hyder diweddar yn yr Alban. Ni all ei chael hi'r ddwy ffordd. Mae'n ymgyrch foesol sy'n swnio'n eithaf gwag gan y Prif Weinidog. 

Nawr, gadewch i ni ddychwelyd at sylwedd y mater hwn? Mae'r Prif Weinidog eisiau dechrau newydd, ond nid yw'n gweithio felly, onid yw? Rwy'n siŵr y byddai Rishi Sunak wrth ei fodd yn cael dechrau newydd hefyd, ond nid wyf i'n mynd i anghofio 14 mlynedd o bolisïau Torïaidd dinistriol. Ac yn wir, efallai fod y Prif Weinidog eisiau i'r sgandal rhodd o £200,000 ddiflannu, pan fo'r cyhoedd yng Nghymru yn amlwg yn meddwl ei fod wedi dangos crebwyll mor wael, ond ni all wneud hynny. Ond, ar gyfer unrhyw fath o ailosod, mae'n rhaid iddo fynd i'r afael â'r broblem yn gyntaf. A yw ymddiheuriad mewn unrhyw ffordd yn cyd-fynd â'i syniad o ddechrau newydd?

Felly, ceir tri phwynt i ymateb iddyn nhw, rwy'n credu. Y cyntaf yw: wrth gwrs, rwy'n gresynu'r ffordd y mae'r tri mis diwethaf wedi cael sylw a'u hadrodd, ac rwy'n gresynu effaith y dewis i mi ei wneud yn unol â'r holl reolau ar y pryd, ac ni fyddwn eisiau i mi fy hun nac unrhyw un o'm cyd-Aelodau fod wedi gorfod mynd trwy hynny eto. Rwy'n cydnabod bod niwed gwirioneddol wedi cael ei achosi i amrywiaeth o bobl yn y lle hwn. Dyna pam yr wyf i wedi cytuno ar unwaith i adolygiad mewnol o fewn fy mhlaid fy hun i edrych ar sut rydym ni'n cyflawni ein busnes. Dyna pam yr wyf i hefyd wedi gofyn i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar sail drawsbleidiol ystyried y rheolau a ddylai fod yn berthnasol i bob un ohonom ni, pa bynnag blaid yr ydym ni ynddi. A dyna fi'n cymryd o ddifrif y sefyllfa yr ydym ni'n cael ein hunain ynddi.

Ac rwy'n credu, ar eich ail bwynt ynghylch paru, nad yw paru yn fater o godi sgwarnogod. Diben y paru sy'n digwydd yw cynnal dyfarniad democrataidd y cyhoedd mewn pleidleisiau, a dyna'r hyn y mae paru yn ei gyflawni. Pan ewch chi yn ôl i 24 mlynedd yn ôl, roedd y rhifau yn wahanol iawn yn y Siambr. Pe bai paru wedi digwydd yn y ffordd y mae wedi ei wneud ac yn ei wneud fel rheol, yna, mewn gwirionedd, byddem ni wedi cael canlyniad gwahanol, ond cynhaliwyd y bleidlais a'r niferoedd yw'r niferoedd ar y diwrnod.

Ac nid wyf i'n credu ei fod yn beth anhygoel i fod eisiau cael dechrau newydd ar gyfer swydd yr wyf i wedi bod ynddi ers deufis, yr wyf i wedi bod yn falch nid yn unig o ennill cystadleuaeth arweinyddiaeth, ond mewn gwirionedd i ddod i mewn i'r lle hwn gyda chefnogaeth pobl o bob rhan o'r Siambr ac, yn wir, o fewn fy ngrŵp fy hun. Ac mae'n bwysig cydnabod ein bod ni wedi dod at ein gilydd ar ôl—. Mae cystadlaethau arweinyddiaeth mewnol yn anodd, ond rwy'n cydnabod y ffordd y mae gwahanol bobl wedi dod at ei gilydd a'u bod eisiau i'r Llywodraeth weithio, ac eisiau ei wneud mewn ffordd sy'n unedig, nid yn unig i'n plaid, ond mewn gwirionedd y gwaith y mae'n rhaid i ni ei wneud dros y wlad. Ac o fewn hynny, gwn fod arweinydd Plaid Cymru yn cyfeirio ac yn honni ein bod ni'n pleidleisio gydag eraill yn rheolaidd. Yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd y bleidlais i ddiswyddo Prif Weinidog Llafur Cymru. Roedd yr ymosodiad ar y Llywodraeth a ddigwyddodd yn gydweithrediad rhwng ei Blaid Cymru ef a'r Ceidwadwyr. Dyna'r hyn a ddigwyddodd. Ac nid wyf i'n credu bod unrhyw her o dynnu sylw at hynny, wrth i ni fynd trwy wleidyddiaeth fwy dwys ymgyrch etholiad cyffredinol ac fel yr hyn yr hoffech chi ei wneud yn y dyfodol.

Mae gen i ddiddordeb yn sut mae'r Llywodraeth hon yn gweithio ac yn gweithredu ac yn cyflawni'r maniffesto yr ydym ni eisoes wedi cael ein hethol ar ei sail, a'r addewidion yr wyf i wedi eu gwneud, fel yr arweinydd, o ran sut y gallwn ni wella'r wlad. Dyna'r hyn y mae gen i ddiddordeb yn ei wneud; dyna'r hyn yr wyf i wedi ymrwymo i'w wneud.

13:55

Hoffwn pe gallai'r Prif Weinidog weld ei hun, hoffwn wir. Ac fe wnaf i ddarllen ei eiriau yn ôl iddo:

'Rwy'n gresynu'r ffordd y mae'r tri mis diwethaf wedi cael sylw a'u hadrodd'.

'Rwy'n gresynu'r ffordd y mae'r tri mis diwethaf wedi cael sylw a'u hadrodd'.

Felly, y ffordd y mae hwn wedi cael sylw, y ffordd y mae hwn wedi cael ei adrodd yw'r broblem. Rwy'n gyn-newyddiadurwr, yn aelod o Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr. A ydych chi'n rhoi'r bai ar newyddiadurwyr am hyn? A ydych chi'n rhoi'r bai ar Aelodau'r gwrthbleidiau am y ffordd y gwnaethon ni bleidleisio yn y bleidlais honno yr wythnos diwethaf?

Yr hyn sydd gennym ni yma yw amheuon yn cael eu codi dro ar ôl tro am grebwyll Prif Weinidog. Mae gennym ni'r rhodd gan lygrydd a gafwyd yn euog, ond yna roedd y mater o sut y cafodd Gweinidog ei diswyddo yn ddiweddar hefyd; un o'r rheini nad oedd yma yr wythnos diwethaf. Cadarnhawyd heddiw na chynhaliwyd unrhyw ymchwiliad ffurfiol i'r gollyngiadau cyn i'r Prif Weinidog benderfynu diswyddo Hannah Blythyn. Mewn llythyr i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, mae cyfarwyddwr priodoldeb a moeseg Llywodraeth Cymru hefyd yn awgrymu na chynhaliwyd unrhyw ymchwiliad priodol o dan god y gweinidogion chwaith. Mae diswyddo Gweinidog yn fater difrifol, ond mae'n ymddangos na roddwyd mesurau diogelu arferol cyfiawnder naturiol i'r cyn- ddirprwy Weinidog yn yr achos hwn. Rwy'n credu bod angen ymchwiliad annibynnol yma i benderfynu a wnaeth y Prif Weinidog weithredu gyda'r diwydrwydd dyladwy gofynnol ac yn unol â'r rheolau sy'n llywodraethu penderfyniadau o'r arwyddocâd hwn. Ar y lleiaf, a wnaiff y Prif Weinidog egluro ar sail pa dystiolaeth ac ar sail cyngor pwy yr oedd yn gweithredu pan wnaeth ddiswyddo Hannah Blythyn?

Un o'r heriau wrth wneud dewisiadau fel arweinydd yw bod yn rhaid i chi nid yn unig feddwl am yr hyn yw'r dewis cywir, ond mae'n rhaid i chi hefyd ystyried mai dim ond chi sy'n gallu gwneud y penderfyniad, ac mae'n rhaid i chi ystyried a phwyso a mesur amrywiaeth o wahanol ganlyniadau. Wrth wneud penderfyniad, fe wnes i gael cyngor gan yr Ysgrifennydd Parhaol ar y broses, i wneud yn siŵr fy mod i'n gweithredu yn unol â chod y gweinidogion. Bydd cyhoeddi tystiolaeth mewn gwirionedd yn rhywbeth nad wyf i'n credu bydd yn helpu pobl sy'n ymwneud â hyn ac yn gysylltiedig â hyn, ac rwyf i bob amser wedi bod yn ceisio amddiffyn pobl eraill rhag canlyniadau'r hyn sy'n digwydd os caiff gwybodaeth heb ei golygu ei chyhoeddi'n llawn. Rwy'n dal i feddwl mai dyna'r dewis iawn i'w wneud. Mae'n gwneud fy mywyd yn anodd, ond dyna'r peth iawn i'w wneud, a dyna beth yw eich swydd fel arweinydd. Felly, mae'r wybodaeth wedi'i golygu wedi cael ei chyhoeddi, mae'r dystiolaeth, fel y mae, yn gymharol syml, a dyna pam nad oedd angen mynd trwy broses ychwanegol. Dyna'r cyngor a gefais gan yr Ysgrifennydd Parhaol. Rwy'n hyderus fy mod i wedi gweithredu yn unol â chod y gweinidogion a llawlyfr y Cabinet. Ac os ydych chi'n credu bod hwn yn llwybr i helpu'r Aelod, nad yw'n gallu cymryd rhan ym musnes y Senedd ar hyn o bryd, rwy'n credu y dylech chi ailystyried i ble mae hyn yn arwain a'r gwahanol gyfrifoldebau sydd gennym ni. Nid wyf i'n credu bod hon yn ffordd ddefnyddiol o fod eisiau ailintegreiddio'r Aelod dan sylw, fel yr wyf i'n dymuno ei wneud, i fusnes gweithredol y lle hwn.

Mae pawb i fod i fyfyrio ac eithrio ef ei hun, mae'n ymddangos. Nawr, ni allaf adael i'r sesiwn holi hon fynd heibio chwaith heb dynnu sylw at rai agweddau pryderus gan Lafur tuag at y Senedd yn ystod y dyddiau diwethaf. Mae'r Prif Weinidog, rydym ni'n gwybod, yn gwbl ddiystyriol o farn ddemocrataidd y Senedd hon, fel y gwelwyd yn y bleidlais honno yr wythnos diwethaf, ac roedd y dirmyg, a bod yn onest, gan bencadlys Llafur yn Llundain i'w weld yn llawn ddydd Sul gan Emily Thornberry—aelod uwch o dîm Keir Starmer, darpar Dwrnai Cyffredinol. Roedd yn agwedd mor ddiystyriol tuag at y Senedd hon a'i gweithdrefnau ag yr wyf i erioed wedi ei chlywed, a bod yn onest. Ond efallai mai'r cyfweliad mwyaf dadlennol oedd yr un a roddwyd gan y Gweinidog trafnidiaeth Ken Skates ar Politics Wales. 'Y flaenoriaeth i Lywodraeth Lafur Cymru', meddai, 'oedd cefnogi ymgyrch etholiadol Llafur y DU.' Nawr, rwyf i eisiau cael gwared ar y Torïaid yn fwy na neb, ond siawns na ddylai eu blaenoriaeth yn y Llywodraeth bob amser fod i wasanaethu pobl a chymunedau Cymru, yn hytrach na'u buddiannau etholiadol eu hunain. Onid yw hyn yn gwneud honiad Keir Starmer ei fod yn rhoi gwlad o flaen plaid yn destun dirmyg?

14:00

Nac ydy, ac os edrychwch chi ar yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud dim ond ers cwestiynau'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, rwyf i wedi bod yn rhan o'r broses maniffesto o fewn fy mhlaid ac rwy'n hyderus y byddwn ni'n cyflwyno cynnig a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol sylweddol i Gymru a Phrydain. Rwy'n hyderus y bydd hynny'n ein helpu i sicrhau hyder pobl Cymru yn y bleidlais ar 4 Gorffennaf, a'r holl gyfleoedd y bydd hynny'n eu creu i ni.

Yn fwy na hynny, dim ond yn yr wythnos ddiwethaf, rwyf i wedi bod yn cyflawni fy nyletswyddau i'r Llywodraeth a phobl Cymru, nid yn unig y cyhoeddiadau yr ydym ni wedi eu gwneud, ond y cynnydd yr ydym ni'n ei wneud. Felly, nodais yn gynharach mai Cymru bellach yw'r ail genedl ailgylchu orau ar y ddaear: cyflawniad trawiadol o ystyried lle dechreuon ni ar ddechrau ein taith ddatganoli. Rwyf i wedi gwneud y peth iawn ac wedi gwneud fy nyletswydd trwy fod yn bresennol yn y digwyddiadau D-day yn Normandi—braint wirioneddol i wneud hynny a gweld aberth rhyfeddol pobl eraill. Rwyf i wedi cael y gwaith gyda Chymdeithas Feddygol Prydain a'r Ysgrifennydd iechyd, ar wneud yn siŵr bod yna gynnig, bod tair cangen y Gymdeithas sydd mewn anghydfod yn argymell y cynnig hwnnw. Nid yw hynny'n beth hawdd i'w wneud, ac rydym ni wedi llwyddo i wneud hynny drwy weithio drwy'r holl sŵn yn gyhoeddus, y gwaith difrifol sydd wedi cael ei wneud gyda'r Ysgrifennydd iechyd i gyrraedd y pwynt hwnnw. Bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ym mhob cymuned ledled Cymru, os daw'r streic honno i ben yn barhaol.

Ddoe, roeddwn i ym Mhort Talbot, yn gwneud y ddadl eto dros swyddi yn y sector dur, nid yn unig ym Mhort Talbot, ond yn Shotton, Trostre, Llanwern a Catnic yng Nghaerffili hefyd. Gwneud y ddadl i'r cwmni edrych eto ar ble y gallem ni fod ymhen ychydig wythnosau yn unig. Y gwir amdani yw nad oes yn rhaid i'r swyddi hynny ddiflannu; mae yna ffordd wahanol o gael y fargen orau ar gyfer dur. Roeddwn i'n falch o fod yno gyda'r Aelod lleol, David Rees, yn falch o fod yno gydag Ysgrifennydd yr economi, Jeremy Miles, a dau Aelod a allai fod yn rhan o Lywodraeth Lafur y DU yn y dyfodol.

Mae gennym ni gyfrifoldebau uniongyrchol yr ydym ni'n eu cyflawni, ac rwyf i hefyd yn gwbl gadarnhaol a hyderus ac nid wyf i'n ymddiheuro am edrych ar yr hyn y gallem ni ei wneud dros ein gwlad ymhen ychydig wythnosau yn unig gyda gwahanol bartneriaeth i Gymru a Phrydain. Rwy'n credu y bydd pobl yn pleidleisio dros y bartneriaeth honno, ac rwy'n edrych ymlaen at ddyfarniad y bobl.

Tlodi Plant

3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â thlodi plant? OQ61251

Diolch am y cwestiwn.

Mae Gweinidogion a swyddogion Cymru yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU drwy amrywiaeth o fforymau dwyochrog ac amlochrog ar amrywiaeth o faterion i geisio helpu i fynd i'r afael â thlodi a gwella canlyniadau i deuluoedd incwm isel. Rydym ni bob amser yn awyddus i bwysleisio pwysigrwydd mynd i'r afael â thlodi yn ei holl ffurfiau fel ein blaenoriaeth. Yn anffodus, nid ydym yn credu bod Llywodraeth bresennol y DU wedi bod yn bartner cadarnhaol o ran lleihau tlodi plant.

Rydym ni'n gwybod, onid ydym ni, Prif Weinidog, bod 29 y cant o blant Cymru yn byw mewn tlodi. Dyna un o'r cyfraddau uchaf yn y DU, ac rydym ni wedi trafod yma yn y gorffennol sut y gwnaeth Llafur yng Nghymru gefnu ar nod 2020 o ddileu tlodi plant, a sut y mae gennym ni strategaeth tlodi plant heb dargedau statudol, ond fel y dywedwch, mae'r sefyllfa yma wedi cael ei gwaethygu gan Lywodraeth y DU, yn enwedig cap budd-dal dau blentyn creulon y Ceidwadwyr ar deuluoedd, sy'n gadael y teuluoedd tlotaf filoedd o bunnoedd yn waeth eu byd ac yn cael effaith niweidiol ar fwy nag un o bob 10 o blant yng Nghymru. Nawr, yn anghredadwy, mae Syr Keir Starmer wedi dweud na fydd yn cael gwared ar y cap, ac ar yr un pryd mae'n dweud ei fod wedi ymrwymo i ddarparu dros £200 biliwn ar gyfer prosiect niwclear Trident. Nawr, mae hynny'n dangos yn eglur, onid yw, bod blaenoriaethau Plaid Lafur y DU ym maes arfau distryw mawr mewn gwirionedd, ac nid cefnogi teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd? Ai dyna yw eich blaenoriaethau chi hefyd, Prif Weinidog?

Rwy'n credu bod honno'n gyfatebiaeth anhygoel i'w gwneud. Rwy'n credu pan fyddwch chi'n edrych ar le y byddwn ni gyda maniffesto a fydd yn cael ei gyhoeddi yn y dyddiau nesaf ledled y DU, gyda, yn ôl yr arfer, maniffesto Llafur Cymru hefyd i gyd-fynd ag ef, rwy'n credu y byddwch chi'n gweld uchelgais gwirioneddol ar gyfer dyfodol teuluoedd, i dyfu'r economi, i gael partneriaeth gadarnhaol i ddarparu'r swyddi o ansawdd uchel y gallem ni ac y dylem ni eu cael yng Nghymru. Byddwch hefyd yn gweld uchelgais i sicrhau nad oes yn rhaid i bobl fyw gydag anurddas cyflogau isel, yr hyn y bydd hynny'n ei olygu ar draws amrywiaeth o wahanol sectorau, ac rwy'n credu y byddwch chi'n gweld dull diwygio gwirioneddol o ran yr hyn sydd wedi digwydd yn llanast ein system fudd-daliadau bresennol ar draws y DU gyfan.

Rwy'n credu, pan fydd y maniffesto yn cael ei gyhoeddi, y bydd gan yr Aelod achos da i feddwl eto am uchelgais yr hyn a allai Llywodraeth Lafur y DU yn y dyfodol ei wneud, mewn partneriaeth â'r Llywodraeth hon, yn ogystal â'r hyn yr ydym ni eisoes yn ei wneud i roi arian ym mhocedi pobl yn uniongyrchol: y ffordd yr ydym ni'n ceisio helpu a chynorthwyo teuluoedd y tu hwnt i hynny, nid yn unig y prydau ysgol am ddim cyffredinol y dylem ni i gyd fod yn falch ohonyn nhw—darparwyd mwy nag 20 miliwn ohonyn nhw yma yng Nghymru—ond y cymorth yr ydym ni'n ei ddarparu, boed yn bresgripsiynau neu'n amrywiaeth eang o feysydd eraill, gan gynnwys gwisg ysgol hefyd. Rydym ni'n gwneud y pethau hyn yn fwriadol i wneud gwahaniaeth ymarferol. Mae angen i'n modd i wneud y gwahaniaeth hwnnw gynyddu, ac mae angen gwahanol bartneriaeth arnom ni gyda Llywodraeth y DU sy'n deall pam mae tlodi plant yn bla, gyda'r ymrwymiad i roi sylw iddo a mynd i'r afael ag ef, fel y gwnaeth y Llywodraeth Lafur ddiwethaf yn wir, gan godi cannoedd ar filoedd o blant allan o dlodi. Rwy'n falch o'r hyn a wnaethom yn y gorffennol. Byddaf yn fwy balch fyth o chwarae rhan i wneud gwahaniaeth i blant sy'n byw mewn tlodi yma heddiw.

14:05

Prynhawn da, Prif Weinidog. Mae ambell un ohonom ni wedi codi mater tlodi plant yma yn y Siambr, ac roeddwn i eisiau ei ystyried o wahanol safbwynt efallai, sef cysylltu'r agenda werdd â mynd i'r afael â thlodi plant yma yng Nghymru. Mae Comisiynydd Plant Cymru yn galw, yn ei hadroddiad diweddaraf, y dylem ni fod yn darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob plentyn dan 18 oed yn rhan o'r cynllun tlodi plant. Mae'r Senedd Ieuenctid yma yng Nghymru wedi cefnogi trafnidiaeth gyhoeddus am ddim hefyd, fel ffordd o hyrwyddo'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru gyfan. Ac yn olaf, mae'r Alban wedi dangos y manteision gwirioneddol, gyda'i chynllun bysiau am ddim i blant pump i 21 oed yn cynhyrchu dros 100 miliwn o deithiau yn ei flwyddyn gyntaf. Felly, Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno bod darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim yn ffordd o fynd i'r afael â thlodi plant, ac felly a wnewch chi ei wneud? Diolch yn fawr iawn.

Ceir llawer o syniadau da yr hoffem ni eu mabwysiadu nawr ac yn y dyfodol. Ceir pethau hefyd yr ydym ni eisoes yn eu gwneud heddiw, wrth gwrs. Felly, ceir amrywiaeth o gynlluniau sy'n cynnig teithiau rhatach ac am ddim i blant a phobl ifanc yr ydym ni'n eu hadolygu'n barhaus. Rydym ni wedi rhoi gostyngiad ar docynnau bws i bobl dan 22 oed drwy ein cynllun FyNgherdynTeithio. Mae gennym ni hefyd deithiau am ddim ar wasanaethau rheilffordd i bobl ifanc dan 16 oed o dan nifer o amgylchiadau lle maen nhw yng nghwmni oedolyn sy'n talu am docyn yng Nghymru eisoes. Ond yn fwy na hynny, bydd tocynnau talu wrth fynd digyswllt ar draws ardal metro de Cymru yn cael eu darparu yn ddiweddarach eleni.

Mae gen i ddiddordeb mewn sut y mae gennym ni fwy o foddau ar gael i ni. Hoffwn allu cyflawni mewn amrywiaeth eang o feysydd, ond mae angen yr adnoddau arnaf i wneud hynny, ac rydym ni newydd fynd trwy broses hynod boenus i sicrhau cyllideb sy'n cydbwyso. Rwy'n credu, yn y dyfodol, efallai y byddwn ni'n gallu gwneud rhywbeth tebyg i'r hyn y mae'r Aelod yn ei awgrymu, ond rwyf i angen yr adnoddau nad ydyn nhw gen i ar hyn o bryd. Ac yn y dewis pragmatig, rydym ni wedi gwneud dewisiadau ynghylch sut a ble rydym ni'n targedu ein hadnoddau i wneud y gwahaniaeth mwyaf posibl. Dyna'r gyllideb yr ydym ni wedi ei phasio. Edrychaf ymlaen at orwel gwahanol, gyda mwy o obaith a mwy o fodd i gyflawni ein hamcanion yn y dyfodol, ac edrychaf ymlaen at weld a fydd hynny'n cael ei alluogi gan y pleidleisiau cyhoeddus ar 4 Gorffennaf.

Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru? OQ61258

Gwnaf. Byddaf yn nodi blaenoriaethau deddfwriaethol y Llywodraeth yn fy natganiad deddfwriaethol ym mis Gorffennaf. Bydd y ddadl flynyddol o dan y Rheolau Sefydlog, sy'n ymdrin ag amcanion polisi a'r rhaglen ddeddfwriaethol, yn cynnig cyfleoedd pellach i Aelodau ystyried yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd.

Mae'r helbul sydd wedi wynebu eich Llywodraeth yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi gwneud i bobl gwestiynu a fyddech chi'n cadw at eich gair, Prif Weinidog. Ceir llawer o Filiau hynod bwysig y mae'r Llywodraeth hon wedi addo eu cyflwyno, o ddiwygio bysiau i ddiogelwch tomenni glo, ac o fynd i'r afael â digartrefedd i'r Gymraeg. Ond mae pobl yn nerfus oherwydd, ers i chi ddechrau’r swydd, mae eich Llywodraeth wedi newid ei meddwl am ddiwygiadau i'r dreth gyngor, 20 mya a newidiadau i wyliau ysgol. Rydych chi wedi nodi, dro ar ôl tro, na fydd newidiadau dewr a blaengar yn cael eu gwneud os byddan nhw'n eich gwneud chi a'ch Llywodraeth yn fwy amhoblogaidd. Felly, pa sicrwydd allwn ni ei gael y byddwch chi'n cyflwyno'r Biliau hyn ac na fyddan nhw'n cael eu gwanhau na'u gwneud yn llai uchelgeisiol mewn unrhyw ymgais i ddiogelu eich arweinyddiaeth eich hun?

Mae'r rheswm pam rydym ni wedi adolygu amrywiaeth o'r meysydd gweithgarwch yn rhannol oherwydd ein bod ni wedi gwneud addewidion i wneud hynny: mae 20 mya yn enghraifft dda. Roeddem ni eisoes wedi addo cael adolygiad o'r gweithrediad ac i weld a oes angen i ni wneud unrhyw fath o newidiadau, ac rydym ni'n gwrando ar y cyhoedd drwy wneud hynny. Nid wyf i'n gweld hynny fel gwendid; mae'n gryfder. Ac os edrychwch chi ar y set gyntaf o ddata ynghylch y newidiadau i'r terfynau cyflymder, mae'n dangos, fel y gwnaethom ni ddweud, bod llai o anafusion. Y nod yw mireinio hynny, i wneud yn siŵr ein bod ni'n ei gael yn iawn yn yr holl wahanol ardaloedd ar ôl mwy na chwe mis o brofiad.

Os edrychwch chi ar yr hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud, a'r rhaglen ddeddfwriaethol, rydym ni mewn gwirionedd yn creu mwy o le i wneud yn siŵr y gallwn ni gyflawni'r ddeddfwriaeth ddiwygio radical a fydd yn cael ei chyflwyno yn y rhaglen ddeddfwriaethol honno. Bydd yn gryfder gweld y lle yn cael ei neilltuo a'r gallu i gyflawni o ran amrywiaeth eang o feysydd. Nawr, ni wnaf i fynd trwy bob un ohonyn nhw, oherwydd mae gen i ddatganiad deddfwriaethol ddechrau mis Gorffennaf i wneud hynny, ond rwy'n credu y bydd yr Aelod yn gweld uchelgais y Llywodraeth hon i ddiwygio radical sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol gyda phobl Cymru ac ar eu cyfer, sy'n dychwelyd i'n maniffesto ac yn ceisio ei gyflawni. Byddwn ni yno, mor ddisglair ag erioed, a byddaf yn falch o arwain Llywodraeth a fydd wir yn cyflawni hynny ac yn gwneud y gwahaniaeth yr ydym ni wedi addo ei wneud.

14:10

Ers cael eich ethol, Prif Weinidog, rydych wedi gwneud tro pedol ar ddiwygio'r flwyddyn ysgol, wedi gohirio'r cynllun ffermio cynaliadwy, ac wedi ceisio newid y rhethreg o amgylch y polisi 20 mya diofyn, heb newid unrhyw beth mewn gwirionedd. Felly, mae hon yn Llywodraeth Lafur sydd mor amddifad o syniadau newydd ei bod hi bellach yn newid polisïau y mae hi ei hun wedi eu cyflwyno yr ydym ni wedi bod yn ymgyrchu yn eu herbyn. Felly, diolch. Oni fyddech chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, mai Llywodraeth Lafur Cymru yw hon nad oes ganddi fwy o syniadau ac sy'n cael ei harwain gan Brif Weinidog y mae ei ddyfodol yn y fantol?

Wel, mae'n ddiddorol bod yr Aelod bellach yn difrïo camau yr oedd yn gofyn amdanyn nhw. Y gwir amdani yw y cawsom ni, yr wythnos diwethaf, y ford gron gyntaf ar fwrw ymlaen â'r cynllun ffermio cynaliadwy. Rydym ni wedi ymrwymo i gynllun sy'n cefnogi cynhyrchu bwyd a diod o ansawdd uchel ac sy'n bodloni ein rhwymedigaethau ar gyfer yr argyfyngau hinsawdd a natur yr ydym yn eu hwynebu. Dyna rydym ni'n ei wneud, ac rydym ni'n rhoi'r lle i ni'n hunain wneud hynny.

A phan ddaw wedyn at weddill ei sylwadau, rwy'n edmygu'r ffaith ei fod yn hysbysebu ar gyfer swydd wag yn ei grŵp yn y dyfodol. Rwy'n credu mewn gwirionedd, pan ddaw'r amser i'r cyhoedd bleidleisio, y byddan nhw'n chwilio am bartneriaeth gadarnhaol ar gyfer Cymru a Phrydain. Byddan nhw'n edrych ar yr hyn y mae ei blaid wedi ei wneud. Byddan nhw'n edrych ar y ffordd y mae ei blaid wedi ymosod ar ddatganoli, wedi cymryd ein harian ac wedi cymryd ein pwerau, ac yn myfyrio na all hynny fod yr ateb cywir i Gymru. Rwy'n edrych ymlaen at yr hyn y byddwn ni'n ei wneud yn y dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen at yr Aelod yn cadw ei le ar feinciau'r wrthblaid, lle mae'n perthyn.

Prif Weinidog, ail-etholwyd Llywodraeth Lafur Cymru yn ysgubol gan bobl Cymru yn 2021, i sicrhau Cymru gryfach, decach a gwyrddach. Prif Weinidog, wrth i chi ystyried eich datganiad deddfwriaethol cyntaf, y disgwylir i chi ei gyflwyno i'r Senedd cyn toriad yr haf, ar ran fy etholwyr yn Islwyn, a gaf i ofyn i chi ystyried y ffordd orau y gall Llywodraeth Lafur Cymru ddeddfu i wella eu bywydau? Mae'r Bil diwygio bysiau arfaethedig yn hanfodol ac yn hollbwysig i wella trafnidiaeth gyhoeddus ledled Islwyn, ond yn enwedig i gymunedau cyfagos Pontllanfraith a'r Coed Duon, sy'n cael eu gwasanaethau gan fws yn unig. Mae hwn i'w osod yn gadarn wrth ddrysau polisi Llywodraeth y DU. Mae'n rhaid i'r system Thatcheraidd cwbl aflwyddiannus o ddadreoleiddio o'r 1980au gael ei sgrapio’n llwyr gan y Senedd hon yng Nghymru.

Mae'r Bil diogelwch tomenni glo yn gam cadarnhaol ymlaen i fynd i'r afael â'r creithiau diwydiannol hynny ar ein tirwedd amgylcheddol, er nad yw'n cael ei gefnogi o gwbl gan Lywodraeth Dorïaidd y DU ar hyn o bryd. Fodd bynnag, fel yr ydym ni wedi ei weld mewn cymunedau fel Ynysddu yn Islwyn, gyda phryderon cryf iawn ynghylch cynigion tomen Bedwas, ni ellir gwneud gwaith adfer tomenni glo ar unrhyw gost. Felly, Prif Weinidog, gyda'r Bil bysiau a'r Bil diogelwch tomenni glo, pa ddeialog fydd eich Llywodraeth yn ei chael gydag awdurdodau blaengar ledled gweddill y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Llywodraeth newydd y DU, ar ôl yr etholiad cyffredinol hollbwysig hwn? Diolch.

Mae'r Aelod yn cyflwyno eto y ddadl dros ddiwygio yr ydym ni wedi ymrwymo iddo yn y gorffennol. Edrychaf ymlaen at gyflwyno datganiad deddfwriaethol sy'n dangos sut y byddwn ni'n bwrw ymlaen â'r mesurau yr ydym ni wedi ymrwymo iddyn nhw. O ran y Bil bysiau a'r Bil diogelwch tomenni glo, nid y rheini fydd teitlau technegol y Biliau, ond bydd y ddau ohonyn nhw'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, rwy'n credu, o ran darparu datganiad deddfwriaethol i'n caniatáu i fuddsoddi mewn dyfodol sy'n gwneud synnwyr, oherwydd rydym ni'n gwybod, o'n holl fuddsoddiad mewn rheilffyrdd, mae'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y cymunedau sy'n cael eu gwasanaethu gan y rheilffyrdd. Ceir llawer o rai eraill, gan gynnwys yn fy etholaeth fy hun, ond hefyd ledled Cymru, sy'n cael eu gwasanaethu gan fws yn unig. Rydym ni angen mwy o synnwyr o ran sut mae'r bysiau'n cael eu rheoleiddio a sut rydym ni'n buddsoddi mewn system sy'n wirioneddol gynaliadwy. Mae gwaith eisoes wedi digwydd mewn rhai rhannau eraill o'r DU. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Lafur y DU yn y dyfodol i wneud hynny ar y Bil bysiau, ac yn wir ar ddiogelwch tomenni glo. Mae angen i'r ddeddfwriaeth ddod ochr yn ochr â'r parodrwydd i gydweithio ac i gydnabod bod rhai o'r cyfrifoldebau yn rhai a gedwir yn ôl, mae rhai i ni eu cyflawni. Partneriaeth gyda phobl barod sy'n cydnabod yr etifeddiaeth yr ydym ni'n delio â hi bellach yw'r union beth sydd ei angen arnom ni ar gyfer ei chymuned hi a llawer o rai eraill ledled Cymru.

14:15
Gwasanaethau Gofal Iechyd i Blant a Phobl Ifanc

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gwasanaethau gofal iechyd i blant a phobl ifanc yn Nwyrain De Cymru? OQ61239

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau darpariaeth gofal iechyd o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae amrywiaeth gynhwysfawr o bolisïau a rhaglenni, sy'n cael eu rhoi ar waith ar draws y Llywodraeth, yn chwarae rhan ganolog wrth wella canlyniadau iechyd a hyrwyddo iechyd a lles plant i blant ledled Cymru.

Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw. Yn ddiweddar, cysylltodd etholwr â mi yn apelio am help ynglŷn ag achos torcalonnus. Yn ddiweddar, mae Luna, sy'n dair oed ac yn dod o Gas-gwent, wedi cael diagnosis o gyflwr prin o'r enw MPS VI, sy'n cyfyngu ar fywyd. Argymhellodd ei meddyg arbenigol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan mai therapi amnewid ensymau fyddai'r dewis triniaeth mwyaf hyfyw i ymestyn bywyd a chynnal safon byw dda. Er na chafodd cais am gyllid ar gyfer y driniaeth ei ystyried yn gosteffeithiol gan yr awdurdodau perthnasol i ddechrau, roeddwn i'n falch iawn o glywed bod teulu Luna, ddiwedd yr wythnos diwethaf, wedi cael cymeradwyaeth swyddogol y bydd therapi amnewid ensymau yn cael ei ddarparu iddi drwy GIG Cymru. Maen nhw, wrth gwrs, ar ben eu digon; fodd bynnag, nid yw hyn wedi digwydd heb apêl swyddogol yn erbyn penderfyniadau'r awdurdod gan feddyg Luna ac ymgyrchu gan ei theulu dros gael y driniaeth hon i Luna ar adeg llawn straen. Wrth siarad ag ymgyrchwyr, fe wnes i ddarganfod bod yna wahaniaethau yn y driniaeth a roddir ar gyfer gwahanol straeniau o'r cyflwr. Yn flaenorol, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymeradwyaeth i MPS I i IV gael eu trin â therapi amnewid ensymau yng Nghymru. Fodd bynnag, nid yw MPS V a VI wedi'u cynnwys yn swyddogol eto. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar ddewisiadau yn y dyfodol ar gyfer ehangu triniaeth therapi amnewid ensymau ar gyfer MPS V a VI yn y lle cyntaf, fel na fydd yn rhaid i deuluoedd a fydd yn mynd trwy hyn yn y dyfodol ymgyrchu dros gael triniaeth i'w hanwyliaid? Diolch.

Nid wyf i'n credu y gallaf i roi ymrwymiadau ar gyflyrau unigol a thriniaethau unigol yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod hawl yr Aelod i godi materion ar ran ei hetholwyr. Yr hyn y byddwn i'n ei ofyn yw ei bod hi'n ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd gyda'r manylion, fel y gallwn ni ddeall a oes materion polisi y mae angen mynd i'r afael â nhw.

Ar ddechrau fy nghyfnod fel Aelod beth amser yn ôl yn 2011, roedden ni'n dal i gael dadleuon yn y lle hwn ynghylch ceisiadau cyllido cleifion unigol am driniaeth, a pha mor gyson oedd y rheini ledled y wlad. Dyma'r rheswm pam, yn ystod fy nghyfnod fel y Gweinidog iechyd, y gwnaethon ni gyflwyno'r gronfa triniaethau newydd sy'n dal i wneud gwahaniaeth o ran sicrhau bod triniaethau newydd sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gael yn fwy cyson, ac, yn hollbwysig, yn gyflymach ar draws GIG Cymru.

Galla' i ddim dweud o'r wybodaeth y mae'r Aelod wedi'i rhoi, a gallwn i ddim dweud yn realistig, a yw hwn yn fater sy'n rhan o gais claf unigol neu a yw'n rhywbeth y byddai modd ei gynnwys yn ein dull o sicrhau bod triniaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gael. Dyna pam y byddwn i'n gofyn iddi hi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd fel y gallwn ni roi ateb sydd wedi'i ystyried yn gywir iddi hi ac yn wir i unrhyw deuluoedd eraill a all fod yn yr un sefyllfa.

Llygredd Afonydd

6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o lefelau llygredd afonydd? OQ61222

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu dull dalgylchoedd integredig o ymdrin â llygredd afonydd, gan gydweithredu â phob sector dan sylw. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda changhennau eraill y Llywodraeth, rheoleiddwyr ac eraill, gan gynnwys drwy ein huwchgynadleddau llygredd afonydd. Mae'r uwchgynhadledd nesaf ym mis Gorffennaf, a byddaf yn ei chyd-gadeirio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

Diolch am yr ateb hwnnw. Mae llygredd afonydd yn broblem ar draws Cymru, ac mae problemau llygredd difrifol ar afon Gwy ac afon Wysg. O ran afon Tawe, mae gennym ni ollyngiadau carthion crai, llygredd amaethyddol a microblastigau. Mae amaethyddiaeth yn un o brif achosion problemau dŵr yn fyd-eang. Gall gwrteithiau, plaladdwyr a gwastraff anifeiliaid o ffermydd a gweithrediadau da byw olchi i afonydd yn rhwydd pan fo'n bwrw glaw, gan halogi'r afonydd. Mae gormod o nitrogen a ffosfforws mewn dŵr yn fygythiad sylweddol i ansawdd dŵr. Gall y maethynnau hyn arwain at ordyfiant algâu gan gynnwys algâu gwyrddlas gwenwynig, a all niweidio pobl a bywyd gwyllt. Rwy'n gofyn i'r Llywodraeth gomisiynu adolygiad annibynnol o lygredd afonydd, gan ddechrau gydag afonydd Tawe, Wysg a Gwy.

Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig sy'n mynd ar draws llinellau pleidiau, rwy'n credu. Yr her sy'n ein hwynebu yw sut yr ydyn ni'n cymryd camau effeithiol i leihau llygredd afonydd sy'n broblem weithredol i fioamrywiaeth yn ein hafonydd, ond sydd hefyd yn effeithio ar ddefnydd tir. Dyna pam mae'r uwchgynhadledd llygredd afonydd yn broses mor bwysig. Rwyf wedi gweld y dystiolaeth ar ddosrannu llwytho ffosfforws i afonydd, ac mae'r dystiolaeth, sydd wedi'i hadolygu gan gymheiriaid, yn dangos mai'r defnydd o dir gwledig sy'n cael yr effaith fwyaf. Dyna pam mae'n rhaid i ni gael sgwrs am hyn, nid yn unig gyda phobl sy'n defnyddio tir gwledig, ond, mewn gwirionedd, gydag amrywiaeth o sectorau eraill hefyd. Mae hynny'n rhan o'r hyn y mae'r broses uwchgynhadledd llygredd afonydd yn caniatáu i ni ei wneud.

Rydyn ni hefyd yn mynd trwy'r pedwerydd cylch o gynlluniau rheoli basnau afonydd Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae hynny'n ddull gweithredu allweddol ar gyfer gwella ansawdd dŵr. Rwy'n credu, wrth i ni fynd drwy'r rheini, ac wrth i ni gyrraedd camau drafft, y byddai'n werth cael sgwrs gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ynghylch a oes cyfle i gymheiriaid gynnal adolygiad annibynnol o'r cynlluniau ar y pwynt hwnnw. Mae hynny'n rhywbeth rwy'n credu sy'n werth cael sgwrs yn ei gylch, rhwng yr Aelod a'r Ysgrifennydd Cabinet, i ddeall sut y gallwn ni sicrhau bod yna rywfaint o wrthrychedd nid yn unig o ran beth yw'r cynlluniau, ond o ran pa mor effeithiol y maen nhw'n debygol o fod, ac yna sut maen nhw'n cael eu hadolygu wrth iddyn nhw gael eu gweithredu.

14:20

Prif Weinidog, mae'n peri cryn bryder bod diffyg hygyrchedd o ran adrodd achosion o lygredd i Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi ynghylch y ffaith eu bod yn cael trafferth cael gafael ar eu timau gorfodi, yn enwedig dros y ffôn, gydag un person yn cael gwybod gan Cyfoeth Naturiol Cymru, pan lwyddodd i gael gafael ynddyn nhw o'r diwedd, 'Does ganddon ni ddim y bobl yma i ymateb i e-byst neu ateb galwadau ffôn.' Mae'r rhwystr hwn i gyfathrebu yn tanseilio hyder y cyhoedd yng ngallu'r rheoleiddiwr i ymdrin â llygredd dŵr. Felly, a allwch chi amlinellu pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru i ymdrin â'r materion cyfathrebu hyn er mwyn sicrhau, pan gaiff llygredd ei weld mewn afonydd, y gellir rhoi gwybod amdano a mynd i'r afael ag ef mewn modd amserol?

Rwy'n credu bod yr Aelod yn codi pwynt teg ynghylch sut y gall aelodau'r cyhoedd gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru a chael ymateb sydd wir yn dangos bod y mater y maen nhw'n ei godi wedi'i gymryd o ddifrif, ac yna gallu Cyfoeth Naturiol Cymru fel y rheoleiddiwr i allu gweithredu ar y wybodaeth honno hefyd. Mae yna heriau bob amser ynghylch adnoddau. Mae'n ffaith ddiymwad ein bod ni, yn ystod y 14 mlynedd diwethaf, wedi cymryd arian allan o wasanaethau y byddai'n well gennym ni fuddsoddi ynddyn nhw. Mae gen i ddiddordeb yn sut y byddai partneriaeth newydd yn edrych, ond, yn yr un modd, sut allwn ni gael y gorau o'r adnoddau sydd gennym ni, ac rwy'n credu mai dyna bwynt yr Aelod mewn gwirionedd yng nghwestiwn yr Aelod. Byddwn i'n ddiolchgar pe byddai'n ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion wledig a newid hinsawdd i ddeall y materion penodol sydd gan ei etholwyr, i weld a oes mwy y gallwn ni ei wneud gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau eu bod yn gallu ymateb i'r pryderon y bydd ei etholwyr yn eu codi. Byddwn i'n disgwyl, os yw ei etholwyr ef yn codi materion, yna bydd gan eraill bryderon tebyg y bydden ni eisiau deall sut y gallwn ni fynd i'r afael â nhw.

Rhestrau Aros y GIG

7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o nifer y plant sydd ar restrau aros y GIG yn Sir Fynwy? OQ61256

Does gen i ddim data ar gyfer sir Fynwy yn benodol, ond o gymharu data bwrdd iechyd Aneurin Bevan o fis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2024, mae nifer y llwybrau plant ar restrau aros atgyfeirio i driniaeth dros ddwy flynedd wedi gostwng bron i 78 y cant, er bod cyfanswm yr arosiadau ar gyfer llwybrau plant wedi codi ychydig dros 2 y cant am yr un cyfnod. Felly, mae cynnydd yn cael ei wneud.

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n gwybod y byddech chi'n cytuno â mi y dylai plant sy'n aros am driniaeth gael eu blaenoriaethu, yn sicr ar gyfer rhai cyflyrau, ond mae gwaith achos diweddar yn dangos nad yw hynny'n wir yn fy etholaeth i. Cafodd bachgen ifanc sydd wedi bod yn dioddef poen pen-glin wybod gan uwch ffisiotherapydd fod niwed sylweddol i'w ligamentau ACL a MCL a bod angen sgan MRI arno. Roedd ei feddyg teulu hefyd yn poeni am ddiffyg symudedd y bachgen a gwnaeth atgyfeiriad at yr arbenigwr orthopedig. Derbyniodd y teulu lythyr a oedd yn nodi bod eu mab ar y rhestr aros. Fodd bynnag, er bod y bachgen yn cael ei ystyried yn fater brys, byddai'n rhaid iddo aros 43 o wythnosau am apwyntiad cychwynnol. Prif Weinidog, cefais sioc o glywed hyn, ac yn amlwg rwyf wedi ysgrifennu at y bwrdd iechyd. Fy mhryder i yw y dylai triniaeth amserol a chyflym fod yn flaenoriaeth i blant ifanc sydd mewn cyfnod o ddatblygu corfforol. Mae angen ymdrin â nhw'n gyflym, oherwydd gallai'r canlyniadau hirdymor fod yn ddifrifol iddyn nhw. Felly, pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i asesu maint y broblem hon a beth mae eich Llywodraeth yn mynd i wneud am y peth?

Unwaith eto, galla' i ddim gwneud sylwadau ar yr amgylchiadau unigol. Rwy'n falch bod yr Aelod wedi ysgrifennu at y bwrdd iechyd yn uniongyrchol amdano i ddeall a yw'r amseroedd aros yn gywir, neu, yn wir, beth y gellid ei wneud, o ystyried y cyflwr y mae'n ei ddisgrifio. Mae yna her bob amser ynglŷn â nifer o'r pethau gwahanol y mae angen i ni eu gwneud yn y gwasanaeth iechyd ac ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Un o'r pethau hynny yw'r oruchwyliaeth gan weinidogion, a bydd yr Aelod yn gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn craffu'n rheolaidd ar berfformiad amseroedd aros mewn byrddau iechyd, ac mewn gwirionedd mae'n rhan allweddol o ysgogi gwelliant o fewn hynny. Y rhannau eraill yw adnoddau, ac yn ein cyllideb, bydd yr Aelod yn gwybod mai'r GIG oedd y maes mwyaf o ran gwariant ychwanegol, gyda chynnydd o fwy na 4 y cant. Ac mae'r Aelod yn gwybod bod y ffigwr cymharol yn Lloegr tua 1 y cant. Felly, rydyn ni'n rhoi, o fewn ein cyllidebau termau real sy'n lleihau, fwy o arian i'r GIG, ond dydy hynny ddim yn golygu bod ganddo lwyth o adnoddau, oherwydd mewn gwirionedd, mae'r rhan fwyaf o'r gwariant hwnnw'n mynd ar staff. 

Mae hynny'n dod â fi at fy ail bwynt, sy'n ymwneud â pham mae hi wedi bod mor bwysig cael cynnig sy'n gallu cael y tri grŵp o feddygon yn ôl i'r gwaith a datrys y gweithredu diwydiannol. Mae angen eich staff arnoch chi yn y gwasanaeth, yn gallu trin a gofalu am bobl. Ond ochr yn ochr â hynny, nid dim ond o ran cyflog, mae yna ymrwymiad i ddiwygio a chynhyrchiant. Mae'n bwynt y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud yn rheolaidd, ac mae hi'n gywir: mae angen i ni sicrhau bod y lefelau cynhyrchiant y gwnaethon ni eu gweld cyn y pandemig yn cael eu cyflawni unwaith eto ac yna'n cael eu gwella ymhellach. Dydy hynny ddim yn ymwneud â chael digon o bobl i wneud y gwaith yn unig; mae'n ymwneud â sut maen nhw'n gweithio ochr yn ochr â phobl eraill i leihau'r arosiadau hir sydd gennym ni, ac yna i symud i ffwrdd oddi wrth roi llawer o'n hadnoddau i leihau amseroedd aros bron bob amser ar gyfer triniaeth yn yr ysbyty a'u rhoi yn y gwasanaeth yr ydyn ni ei eisiau, gyda mwy o fuddsoddi yn gynharach yn y system mewn gwasanaethau gofal sylfaenol ac ataliol i gael gwasanaeth gwirioneddol gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Dyna'n union beth rydyn ni'n ei wneud. Mae angen yr adnoddau arnom ni ac mae angen y diwygio arnom ni ac mae angen i ni gael staff sydd yn y gwaith ac sy'n gynhyrchiol o gwmpas hynny i wneud y gwaith maen nhw eisiau'i wneud hefyd. 

14:25
Cynllun Arbed

8. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ynglŷn â chefnogaeth i breswylwyr y mae cynllun Arbed wedi effeithio'n andwyol arnynt? OQ61253

Er nad wyf wedi cymryd rhan yn uniongyrchol yn y trafodaethau hyn, mae ein swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Dyfarnodd Llywodraeth Cymru gronfa grant gwerth £2.65 miliwn i'r cyngor ar gyfer gwaith adfer ar y cartrefi yr effeithiwyd arnyn nhw. Mae contractwr sydd wedi'i achredu'n llawn wedi'i benodi ac mae gwaith wedi hen gychwyn i ymdrin â'r materion sy'n peri pryder gwirioneddol. 

Diolch am yr ateb hwnnw, Prif Weinidog. Rwy'n deall bod Warmworks wedi cael ei gomisiynu i ymdrin â'r cynllun atgyweirio inswleiddio, ond mae trigolion yng Nghaerau yng nghwm Llynfi wedi bod yn cysylltu â mi gyda phryderon. Maen nhw wedi colli ffydd y bydd unrhyw beth yn cael ei ddatrys o ystyried faint o amser y mae hyn wedi bod yn rhygnu ymlaen. Maen nhw'n poeni nad oes unrhyw sôn am iawndal er bod angen i drigolion wario miloedd o bunnoedd ar atgyweiriadau i'w cartrefi. Mae hon, wrth gwrs, yn saga sydd wedi mynd ymlaen ers dros ddegawd. Mae un etholwr wedi dweud wrthyf fod ei merch yn 12 oed, felly am ei holl fywyd, bron, mae hi wedi byw mewn cartref sy'n llawn lleithder a dydy hi ddim wedi gwybod dim byd arall. Fydden i ddim yn derbyn yr amodau hyn, fyddech chi ddim yn derbyn yr amodau hyn, felly a gaf i ymrwymiad gennych chi heddiw y bydd y Llywodraeth yn rhoi pa gymorth bynnag sydd ei angen i hwyluso'r broses atgyweirio hon mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i unioni hyn, ond hefyd i ystyried iawndal i drigolion a ymunodd â chynllun y Llywodraeth hon yn ddiffuant ond a gafodd cam yn y pen draw?

Mae'n werth myfyrio ar hanes a realiti'r hyn y mae'r grŵp o bobl yr effeithiwyd arnyn nhw wedi mynd drwyddo. Arian ar gynllun Arbed 2 yn 2014-15 oedd hwn. Wrth gwrs, cafodd Arbed 1 ei gyflwyno yn Llywodraeth Cymru'n Un, felly roedd hyn yn adeiladu ar y gwaith a gafodd ei wneud, ac mae'r rhan fwyaf o gartrefi o dan y cynllun hwnnw wedi gweld budd gwirioneddol. Fodd bynnag, lle nad yw'r gwaith yn cael ei wneud yn briodol, mae'n cael effaith wirioneddol ar amodau yn y cartref.

Cafodd y deunydd inswleiddio a osodwyd ar waliau allanol yng Nghaerau ei ariannu gan raglen arbed ynni cymunedol Llywodraeth y DU. Y broblem wirioneddol ar y pryd oedd nad oedd unrhyw ofyniad i ddarparu gwarantau ar gyfer ansawdd y gwaith. Mae hynny wedi golygu nad yw'r bobl wedi cael datrysiad unigol i fynd yn ôl at y gosodwr; dyna pam mai'r cyngor, drwy ei adnoddau ei hun a chyda grant gan Lywodraeth Cymru, sy'n ymgymryd â'r gwaith adferol erbyn hyn. Cytunwyd ar hynny'n flaenorol gan Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pryd, sy'n dal i fod yn gyfrifol am dai, ac mae'r gwaith yn cael ei wneud erbyn hyn.

Mae'n bwysig bod y gwaith yn cael ei wneud a'i wneud i safonau uchel, ac yna mae angen i ni weld a oes ateb yn y dyfodol i berchnogion cartrefi unigol. Yr her bob amser yw, os yw'r cyngor neu'r Llywodraeth yn darparu adnoddau ychwanegol i'r bobl yr effeithir arnyn nhw, mae'r rheini'n adnoddau na allant fynd i feysydd eraill. Ond rwy'n cydnabod ei fod yn anghyfiawnder gwirioneddol i'r bobl hynny, felly byddwn i eisiau cynnal sgwrs agored gyda phreswylwyr, y cyngor ac, yn wir, ein hadran dai ein hunain. Ond mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth i sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud i safon briodol a bod pobl yn cael y budd yr oedden nhw'n meddwl y bydden nhw'n ei gael.

14:30
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny—Jane Hutt. 

Diolch, Llywydd. Mae dau ddatganiad llafar wedi cael eu hychwanegu i'r agenda heddiw, sef y cyd-destun a'r dull gweithredu ar gyfer cyfnod yr adolygiad o wariant nesaf, a'r chwe nod ar gyfer gofal brys ac argyfwng—dwy flynedd yn ddiweddarach. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig. 

Trefnydd, hoffwn alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd ar ailgylchu mewn cartrefi. Rwy'n falch iawn, oherwydd gwaith caled trigolion ledled Cymru, fod gan Gymru un o'r cyfraddau ailgylchu gorau yn y byd. Mae hynny'n newyddion gwych, ond mae angen i ni hefyd sicrhau bod ailgylchu'n hawdd i bobl a bod systemau lleol yn gweithio. Mae Cyngor Sir Ddinbych, dan arweiniad y blaid Lafur, newydd wario miliynau ar gael gwared ar ei wasanaeth  biniau olwynion glas cynnwys cymysg neu gasglu nwyddau ailgylchu poblogaidd, hwylus sy'n perfformio'n dda, ac yn lle hynny mae wedi cyflwyno system Trolibocs amhoblogaidd iawn, sydd wedi bod yn gwneud ailgylchu'n hunllef i drigolion lleol, ac mae wedi torri'r casgliadau gwastraff gweddilliol i bob pedair wythnos. 

Nawr, mae'r broses gyflwyno, mae'n rhaid i mi ddweud, wedi bod yn llanast llwyr. Mae casgliadau gwastraff wedi cael eu methu. Mae annibendod o finiau ar hyd a lled y strydoedd ac mae sbwriel ym mhobman hefyd. Yn syml, dydy e' ddim yn ddigon da. Felly, a gaf i annog Llywodraeth Cymru, yn hytrach na hyrwyddo ailgylchu wrth ymyl y ffordd yn unig, i hyrwyddo systemau ailgylchu symlach ar gyfer cartrefi fel yr un a gafodd ei defnyddio'n flaenorol yn sir Ddinbych, ac i'w gwneud yn ofynnol i finiau gael eu casglu o leiaf unwaith y pythefnos hefyd er budd iechyd y cyhoedd, ac a gawn ni ddatganiad sy'n cadarnhau mai dyna'r dull y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gymryd? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Darren Millar. Ydw, rwy'n falch eich bod chi'n croesawu'r cyhoeddiad gwych hwn bod Cymru bellach yn ail yn y byd am ailgylchu—mae'n dyst, byddwn i'n ei ddweud, i'r gwaith sy'n cael ei wneud mewn partneriaeth. Gweithio mewn partneriaeth sydd wedi cefnogi ein taith, gan gynnwys rôl hanfodol ein hawdurdodau lleol, gan gynnwys Cyngor Sir Ddinbych, wrth gwrs, wrth gynyddu faint o adnoddau y mae awdurdodau lleol yn eu casglu i'w hailgylchu ac ansawdd yr adnoddau hynny. 

O ran y gwasanaeth ailgylchu newydd sydd wedi'i gyflwyno gan sir Ddinbych, rydyn ni'n croesawu hyn. Dylai eu rhoi nhw mewn sefyllfa dda iawn i gyflawni'r targed o 70 y cant o leiaf sy'n dechrau'r flwyddyn ariannol hon. Ac rwy'n cydnabod eu bod nhw wedi lansio eu gwasanaeth gwastraff ailgylchu newydd ar 3 Mehefin. Mae sir Ddinbych wedi symud i wasanaeth sy'n cyd-fynd ag arferion gorau Llywodraeth Cymru sydd wedi'u nodi yn y glasbrint casgliadau. Fe ofynnoch chi i hynny gael ei gadarnhau. Gallaf wneud hynny. Ond hefyd, dim ond i ddweud, o ran paratoi, mae sir Ddinbych wedi bod yn gweithio ar weithredu gwasanaeth didoli newydd ar ymyl y ffordd am y ddwy flynedd diwethaf, gan weithio gyda'u cyhoedd—y bobl maen nhw'n eu cynrychioli—i baratoi ar gyfer y gyfradd ailgylchu honno o 70 y cant o leiaf a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2024, a hefyd ar weithredu ein glasbrint casgliadau, sy'n cyd-fynd â'r gofynion newydd ar gyfer ailgylchu yn y gweithle. 

A gadewch i ni gofio beth fydd hyn yn ei gyflawni i ni, i'r blaned, heb sôn am Gymru. Mae'n golygu ein bod ni'n casglu ailgylchu o ansawdd uchel y gellir ei fwydo'n ôl wedyn i'r economi, ac mae cyfradd ailgylchu uchel Cymru eisoes wedi cyfrannu at arbed tua 400,000 o dunelli o garbon deuocsid bob blwyddyn. Felly, rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn, ac rwy'n ddiolchgar y gallaf roi hynny i gyd ar y cofnod y prynhawn yma. 

Trefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol yn amlinellu'r trafodaethau sydd wedi digwydd gyda Heddlu De Cymru yn dilyn arestio 19 o ymgyrchwyr o blaid Palesteina yr wythnos diwethaf mewn llai na 48 awr. Mae rhestr helaeth o bobl wedi llofnodi datganiad sy'n cynnwys galwadau wedi'u cyfeirio at Heddlu De Cymru, ond sydd hefyd yn galw ar y sefydliad gwleidyddol i barchu'r hawl i brotestio. Roedd un o'r rhai a gafodd ei arestio yn Abertawe yn blentyn 12 oed o Balesteina, ac mae llawer o rai eraill yma yng Nghaerdydd yn fyfyrwyr. Mae'n amlwg bod dull yr heddlu yn cael ei gyfarwyddo gan ddeddfwriaeth greulon y DU ynghylch protestiadau, ond hoffwn wybod safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn, a sut rydym yn sicrhau bod pobl yn gallu protestio a dangos cefnogaeth pan fo taer angen gwneud hynny.

Diolch yn fawr, Heledd Fychan, ac rydych chi'n codi cwestiwn pwysig iawn. Yn amlwg, fel Llywodraeth Cymru, rydyn ni wedi sefyll a siarad dros yr hawl i brotestio ac wedi'i chroesawu'n fawr. Mae'r hawl i brotestio, wrth gwrs, wedi cael ei bygwth a'i thanseilio gan ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU, y gwnaethon ni, yn wir, ei gwrthsefyll. Ac fel y byddwch chi'n cofio, pan oeddwn i'n Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, fe wnaethon ni ymdrin â'r pwyntiau hynny a'r effaith y byddai'n ei chael ar ein hawl ddemocrataidd—. Mae hyn yn ymwneud â'n hawl ddemocrataidd i brotestio, ond hefyd, o ran digwyddiadau penodol, ac rydych chi wedi rhoi enghraifft heddiw, fe wnaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol ystyried yr amgylchiadau a'r sefyllfaoedd penodol hyn. Ac efallai dim ond i ddweud ein bod ni'n cydnabod, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU, bod y protestiadau hyn yn digwydd, bod yna bobl yn dod at ei gilydd yn heddychlon, gan godi mater yr hyn sy'n digwydd yn y dwyrain canol, ac i gydnabod pa mor bwysig yw hyn i'r bobl y mae'n effeithio arnyn nhw. Oherwydd, wrth gwrs, cydlyniant cymunedol ydyw a chydnabod bod hwn yn faes lle yr ydyn ni eisiau ymgysylltu â'r cymunedau, yr holl gymunedau y mae hyn yn effeithio arnyn nhw.

14:35

A gaf i hefyd ofyn am ddiweddariad arall gan Lywodraeth Cymru ar y broses drychinebus o gyflwyno biniau Trolibocs yn sir Ddinbych? Daw hyn wrth gwrs o fewn cylch gwaith Cyngor Sir Ddinbych, ond daeth llawer o'r cyllid a'r arweiniad ar gyfer hyn gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys targedau ailgylchu, ac roedd gan sir Ddinbych gyfradd ailgylchu o 65.9 y cant o dan y system biniau glas blaenorol, lle mae targed Llywodraeth Cymru yw 70 y cant. Felly, roedd sir Ddinbych bron yno o ran y biniau glas, ac mae'r broses drychinebus sydd wedi digwydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf wedi gweld etholwyr i mi yn methu cael mynediad at—. Nid yw eu hailgylchu wedi gallu cael ei gasglu mewn pryd, pan gafodd y dyddiadau eu trefnu, a hefyd, oherwydd natur y system Trolibocs, mae wedi caniatáu i ddeunydd ailgylchu a gwastraff gael ei wasgaru ar y strydoedd oherwydd yr oedi. Felly, a ydych chi'n argyhoeddedig bod modd cyrraedd y targed o 70 y cant o dan y system Trolibocs newydd, ac a wnewch chi gysylltu â Chyngor Sir Ddinbych, o ran sicrhau bod modd cyflawni'r 70 y cant o dan y system Trolibocs? Ac os caiff ei brofi nad yw'n bosibl, dros amser, a fyddwch chi'n agored i edrych ar systemau eraill a fyddai er budd gorau fy etholwyr ac a fyddai'n taro'r targed ailgylchu hwnnw o 70 y cant, yr wyf yn amau ei fod yn mynd i ddigwydd o dan y system bresennol hon yn Nyffryn Clwyd? Diolch.

Rydych chi wedi codi'r mater hwn o'r blaen, ac yn wir, mae eich cyd-Aelod Darren Millar wedi'i godi y prynhawn yma. Mae'r hyn y mae sir Ddinbych yn ei wneud, ac rydyn ni'n croesawu'r system sydd wedi'i chyflwyno, fel y dywedais i, yn ei roi mewn sefyllfa dda i gyflawni'r targed hwnnw o o leiaf 70 y cant, sy'n dechrau yn y flwyddyn ariannol hon. Ond mae'n anochel y bydd unrhyw newid—unrhyw newid i wasanaeth sy'n effeithio ar bobl, ar drigolion mewn awdurdod, yn wynebu rhai heriau cychwynnol. Maen nhw wedi bod yn gweithio ar hyn am y ddwy flynedd ddiwethaf. Ond mae'r newidiadau'n adlewyrchu'r hyn sy'n cael ei gyflwyno gan awdurdodau cyfagos. Nawr, mae gennych chi gyd-Aelodau sy'n cynrychioli Conwy. Mae wedi cael ei gweithredu'n llwyddiannus yno, drws nesaf i'ch awdurdod chi. Felly, rwy'n credu y gallwch chi fod yn hyderus y bydd sir Ddinbych yn gweithredu hyn ac yn cyrraedd y targed o 70 y cant. Ac, wrth gwrs, mae'n rhaid mynd yn ôl at y ffaith bod sir Ddinbych wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â phartneriaid cyflawni arbenigol, wedi'u hariannu drwy ein rhaglen hirsefydlog, sydd wedi cefnogi llawer o awdurdodau'n llwyddiannus drwy'r newidiadau hyn. Ac eto, unwaith eto, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n croesawu—dydw i ddim wedi ei glywed gennych chi eto, Gareth—y ffaith bod perfformiad Cymru, perfformiad o safon fyd-eang, wedi cael ei gydnabod yn ystod yr wythnos diwethaf yn unig.

Mi fuaswn i'n licio gofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg ynglŷn â sefyllfa hufenfa Mona Dairy yn fy etholaeth i, ar ôl y cyhoeddiad bod y cwmni wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Dŷn ni'n clywed eu bod nhw wedi cael trafferthion i sicrhau cyllid digonol yn y byr dymor i barhau'n weithredol, er doedd y ffatri newydd yma, lle mae yna fuddsoddiad trwm wedi bod, erioed wedi gwireddu'r addewidion, erioed wedi gweithredu yn llawn.

Mae'n ergyd i'r economi leol, o ran colli'r potensial hwnnw, ond, wrth gwrs, mae'n ergyd i'r sector ac i'r gweithwyr, y 30 a mwy o weithwyr oedd yna rŵan, neu 24, os dwi'n cofio'n iawn, o weithwyr, ond 30 a mwy o gyflenwyr hefyd. Rŵan, mae yna deimlad pendant iawn o fod wedi cael eu gadael i lawr. Mae yna gwestiynau yn cael eu gofyn ynglŷn â lle yn union mae'r arian buddsoddiad wedi mynd. Mae'r Llywodraeth wedi bod yn gefnogol ac wedi buddsoddi. Mae angen dod i ddeall sut ydyn ni wedi dod at y pwynt yma, ac wedyn, wrth gwrs, pa gamau all gael eu cymryd gyda chefnogaeth y Llywodraeth er mwyn symud ymlaen. Ac oherwydd hynny, mi fyddai datganiad ar frys gan y Gweinidog yn werthfawr i ni yn Ynys Môn.

14:40

Diolch yn fawr, Rhun ap Iorwerth. Ac rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi gweld y newyddion hyn gyda phryder mawr nid yn unig o ran y gweithlu, ond o ran yr economi leol a'r gymuned hefyd. Ac rydym ni nawr, yn amlwg, yn cydnabod bod y newyddion hyn yn ddigalon iawn i weithwyr a chyflenwyr yn ogystal â Hufenfa Mona, ac, fel rydych chi'n dweud, eu teuluoedd nhw a'r gymuned leol. Felly, dim ond i'ch sicrhau chi, oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi ac, yn wir, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru, rydym ni mewn cysylltiad agos â'r cwmni ac fe fyddwn ni'n eu cefnogi nhw wrth iddynt sicrhau'r dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw. 

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet: Y cyd-destun a'r dull gweithredu ar gyfer cyfnod yr Adolygiad o Wariant nesaf

Y datganiad nesaf, felly, fydd y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet ar y cyd-destun a'r dull gweithredu ar gyfer cyfnod yr adolygiad o wariant nesaf. Ac felly, yr Ysgrifennydd Cabinet i gyflwyno'r datganiad. Rebecca Evans. 

Member
Rebecca Evans 14:41:45
Cabinet Secretary for Finance, Constitution and Cabinet Office

Diolch yn fawr. Rwy'n falch o amlinellu paratoadau Llywodraeth Cymru heddiw ar gyfer y cyfnod nesaf o adolygu gwariant a myfyrio ar y cyd-destun heriol economaidd a chyllidol, wrth i ni geisio nodi ein cynlluniau ar gyfer y blynyddoedd nesaf. Ni ellir tanbrisio'r heriau hyn. Mae pedair blynedd ar ddeg o gamreolaeth economaidd gan Lywodraethau Torïaidd olynol y DU wedi arwain at gyllideb gyni ar ôl cyllideb gyni. Bu'n rhaid i ni ymdrin â chanlyniadau cyllideb 'fechan' drychinebus Liz Truss a Kwasi Kwarteng, a chwalodd yr economi a gwneud i gyfradd chwyddiant aros ar ddau ddigid yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac fe wnaeth hynny effeithio ar ein gwasanaethau cyhoeddus a oedd dan bwysau yn barod.

Ar y cyfan, mae ein cyllideb ni'n werth £700 miliwn yn llai mewn termau real na'r disgwyl ar adeg yr adolygiad o wariant diwethaf yn y DU yn 2021. Mae ffactorau ychwanegol, fel effaith barhaus COVID, y rhyfel yn Wcráin a'r argyfwng costau byw wedi cael effaith enfawr, gan ein gorfodi i fynd i'r afael ag argyfyngau byrdymor. Ac mae'r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi cael eu nodweddu gan argyfyngau yn dilyn ei gilydd, ac mae hyn wedi cyfyngu ar gyfle i ystyried cyfleoedd i'r tymor hwy, sy'n gwneud yn fawr o effaith y cronfeydd sydd ar gael i ni.

Ni fyddwn yn gwybod am fanylion cynlluniau gwariant Llywodraeth nesaf y DU tan wedi'r etholiad cyffredinol. Serch hynny, o ystyried y bydd ein setliad cyllido amlflwyddyn cyfredol yn dod i ben ar ôl y flwyddyn ariannol hon, mae gwaith wedi dechrau i ddatblygu ein cynlluniau'r tu hwnt i fis Ebrill 2025. Yn y cyd-destun heriol hwn a gan ystyried y gwersi a ddysgwyd, rwyf i eisiau rhoi dull newydd ar waith, a fydd yn cefnogi strategaeth gyllidol tymor canolig i hirdymor ac yn llywio sut rydym ni'n penderfynu gwario a chodi arian yng Nghymru, dull a fydd yn cynnwys ein cyfrifoldebau statudol, yn gyrru cyllidebau yn y dyfodol ac yn cyd-fynd â'n blaenoriaethau yn y Llywodraeth. Rydym ni'n dymuno bod ag ymagwedd golegol tuag at y gwaith hwn, ac, fel erioed, rwy'n croesawu syniadau a chynigion, o ble bynnag y bydden nhw'n dod, yn y Siambr hon a thu hwnt, lle ceir budd amlwg i Gymru. Yn rhan o'r gwaith hwn, fe  hoffwn i glywed oddi wrth leisiau amrywiol, ar draws ein cymunedau ni. Ac yn yr ysbryd hwnnw'r wyf i'n gwneud y datganiad heddiw.

Mae hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod y cyd-destun ehangach yr ydym yn ymgymryd â'r paratoadau hyn ynddo. Mae'r heriau sy'n ein hwynebu ni'n rhai sylweddol. Ar hyn o bryd mae dyled net y sector cyhoeddus yn y DU cymaint â bron i 100 y cant o gynnyrch domestig gros, ei chyfradd uchaf ers y 1960au. Ar yr un pryd, mae baich cyffredinol treth yn y DU yn uwch nag ar unrhyw adeg ers 1950, ac fe ragwelir y bydd hwnnw'n parhau i godi dros y blynyddoedd nesaf, oherwydd newidiadau Llywodraeth y DU i'r lwfans personol, er enghraifft. Fe fydd unrhyw ddewisiadau sydd ar gael i ba blaid bynnag a fydd yn ffurfio Llywodraeth nesaf y DU yn cael eu cyfyngu gan yr etifeddiaeth hon o 14 mlynedd o anhrefn a chamreolaeth gan y Ceidwadwyr yn San Steffan. Mae hi'n amlwg fod cefndir cyllidol heriol iawn wrth i ni ddechrau edrych yn ein blaenau. Er y rhagwelir y bydd yr economi yn tyfu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, mae'r gyfradd twf cyfartalog o 1.7 y cant ar ei hisaf erioed yn ei hanes.

Mae gan ganghellor presennol yr wrthblaid, Rachel Reeves, gynlluniau beiddgar ac uchelgeisiol i sicrhau twf a swyddi ledled y DU ar ôl mwy na degawd o dwf isel. Rwy'n mawr hyderu y bydd yr etholiad cyffredinol yn rhoi cyfle i ni weithio gyda hi i weithredu'r cynlluniau hyn yng Nghymru. Fe fyddai twf economaidd cyflymach yn helpu i ysgafnu'r pwysau hwn, ac fe fydd Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn gwneud popeth yn ei gallu i wella'r rhagolygon ar gyfer twf a mwy o swyddi yma yng Nghymru, a'r rheiny'n swyddi gwell. Eto i gyd, ni allwn gynllunio ar sail senarios optimistaidd i economi'r DU yn y byrdymor. Mae hi'n bwysicach nag erioed i Lywodraeth Cymru sicrhau ei bod hi'n gwneud y mwyaf o'r adnoddau sydd ar gael iddi ac yn defnyddio'r adnoddau hynny yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl. Fe fyddwn ni'n dysgu am gynlluniau nesaf Llywodraeth y DU dros y misoedd nesaf, ond mae'n rhaid i ni fod yn barod am benderfyniadau anodd a chyfnewidiadau yn ein cynlluniau ni.

Yn 2021, fe wnaethom ni bennu cynlluniau tair blynedd o wariant a chynnal adolygiad cyfalaf ar sail sero. Roedd hyn yn ein galluogi ni i ddarparu setliad amlflwyddyn ar gyfer y cyfnod 2022-23 i 2024-25. Rydym ni'n parhau i ddibynnu ar setliad cyffredinol Llywodraeth y DU, ond fe fydd y dull newydd hwn yn ein galluogi i lunio atebion tymor hwy i'r heriau y byddwn yn eu hwynebu. Fe fydd adolygiad o wariant Cymru yn gyrru ein cyllidebau blynyddol, ac yn ymestyn y tu hwnt i flaenoriaethau byrdymor er mwyn canolbwyntio ar yr heriau a'r cyfleoedd allweddol yn y tymor canolig i'r tymor hwy sydd o'n blaenau, gan osod y sylfeini ar gyfer setliadau tymor hwy ac ymgorffori dull Llywodraeth gyfan o nodi blaenoriaethau a chefnogi canlyniadau da i Gymru. Fe fydd y gwaith sylweddol ac eang hwn yn caniatáu gwneud penderfyniadau cadarn a deallus ynghylch polisi cyllidol ar gyfer Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ac yn sicrhau y bydd ein gwariant yn dal i gydweddu â'n blaenoriaethau dros y tymor canolig i'r hirdymor.

Ar flaen y gad yn y gwaith hwn bydd pwyslais ar bum blaenoriaeth allweddol y Llywodraeth hon i Gymru: lleihau rhestrau aros y GIG; cefnogaeth i blant yn y blynyddoedd cynnar a rhagoriaeth addysgol yn ein hysgolion; swyddi gwell, gwyrddach; cartrefi diogel; a gwell cysylltiadau trafnidiaeth ledled y wlad. I adleisio geiriau'r Prif Weinidog pan wnaeth ef y datganiad hwn ar y blaenoriaethau hyn i'r Senedd ym mis Ebrill, fe fyddwn ni'n dod o hyd i 'atebion o Gymru i broblemau Cymru', sy'n mynd at hanfod yr hyn yw pwrpas datganoli, sef nodi dyfodol uchelgeisiol ar gyfer Cymru decach.

Rwy'n awyddus i bob un ohonom ni fod â gwell dealltwriaeth o broffil Cymru ar hyn o bryd yn ogystal â'r hyn a fydd yn bosibl yn y dyfodol, gan ein galluogi ni i addasu ac ymateb i amgylchiadau newidiol wrth greu'r amodau ar gyfer cynllunio cyllidol mwy deallus a pharhaus. Rydym ni yng nghamau cynnar iawn y gwaith hwn, ac rwy'n rhagweld y bydd yn parhau trwy gydol 2024 ac i mewn i 2025. Ond, roeddwn i'n awyddus i ddechrau'r ddadl yn y Siambr yn gynnar er mwyn i mi allu gwrando ar y cyd-Aelodau i gyd a gweithio gyda nhw a sicrhau y bydd cyfle i ymgysylltiad cynnar. Rwy'n edrych ymlaen at glywed syniadau cyd-Aelodau.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

14:45

A gaf i ddiolch i chi am y datganiad, Ysgrifennydd Cabinet? Rydym ni yn y cyfnod hwnnw o her wleidyddol, fe wyddom. Yn amlwg, roedd hanner cyntaf eich datganiad chi'n cynnwys ymosodiad gwleidyddol rhagweladwy sef y safbwynt diofyn mae'n ymddangos sy'n tynnu sylw oddi wrth anallu'r Llywodraeth i redeg y wlad hon. Nac anghofied neb, y chi sydd wedi bod yn rhedeg y wlad hon ers 25 mlynedd. Y gyllideb ddiwethaf a gawsoch ni oedd y setliad mwyaf a gawsoch chi erioed. Y ffaith amdani yw bod anallu'r Llywodraeth hon yn amlwg i'w weld.

Ac nac anghofied neb bod Cymru yn cael £1.20 am bob £1 sy'n cael ei wario yn Lloegr. Ond fe welsom ni gyllidebu difeddwl y llynedd, er bod cyngor ar waith fisoedd ynghynt, a oedd yn cynghori ynglŷn â'r materion o ran chwyddiant a oedd ar waith. Ni chafodd y gyllideb ei thrin yn dda eleni, gan i ni weld llywodraeth leol yn gweld toriad enfawr mewn termau real, gan orfodi cynghorau i wthio'r dreth gyngor i fyny. Rydym ni'n gweld dirywiad parhaus yn ein gwasanaeth iechyd, y rhestrau aros hwyaf yn y DU, addysg yn gorwedd ar waelod tablau perfformiad, rydym ni'n gweld economi sy'n tanberfformio gyda'r cyfraddau isaf o gyflog yn y DU. Nid yw eich Llywodraeth chi'n ceisio cefnogi busnesau ond mae hi'n llesteirio twf. Mae'r canolbwyntio a'r dewisiadau a wnaeth eich Llywodraeth chi wedi bod yn y mannau anghywir, ac fe wyddom ni beth oedd y meysydd hynny ac ni wnaf eu hailadrodd, ond yr un amlwg fyddai'r £120 miliwn yr ydym ni'n bwriadu ei wario ar Aelodau newydd yma, heb sôn am yr 20 mya a'r ergyd £9 biliwn a fydd i'r economi dros y blynyddoedd nesaf o ganlyniad i hynny.

Ni wnaiff ystyriaethau byrdymor ein hachub ni, Ysgrifennydd Cabinet. Mae angen i chi fod â chynllun, a dyna rywbeth nad oes gan Lafur mohono, a'r hyn y gwnaethoch chi ei gyfaddef heddiw yw nad oes unrhyw gynllun. Ystyriaethau byrdymor eich Llywodraeth chi sydd wedi arwain at ostyngiad mewn rhyddhad ardrethi busnes a fydd yn codi rhywfaint o arian i chi yn y byrdymor ond a fydd yn niweidio busnesau ledled Cymru ac, yn ddiamau, yn colli refeniw i chi yn y dyfodol yn yr hirdymor. Ystyriaethau byrdymor eich Llywodraeth chi a fydd yn colbio busnesau twristiaeth gyda'r dreth dwristiaeth ofnadwy a'r rheoliadau 182 diwrnod a fydd yn gwneud y sector yng Nghymru yn llai cystadleuol ac yn dlotach. Ystyriaethau byrdymor eich Llywodraeth chi sydd wedi peri i economi Cymru ddioddef ergyd o £9 biliwn, fel soniais i'n gynharach, o ganlyniad i'r polisi 20 mya. Wrth edrych ar yr holl bolisïau cosbol hyn gyda'i gilydd, mae hi'n amlwg fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi rhoi'r ffidil yn y to o ran twf. Mae arwain y ffordd mewn ymchwil a datblygu, a buddsoddi mewn technoleg, i hybu ein hynni mewn sectorau gwyrdd yn rhywbeth y dylech chi fod yn canolbwyntio arno. Edrychwch ar gynllun Llywodraeth y DU i ddarparu pwerdy gigawat newydd yn y gogledd neu drydaneiddio prif reilffordd y gogledd gyda gwerth £1 biliwn o fuddsoddiad, neu'r cronfeydd ffyniant bro, ffyniant a rennir neu berchnogaeth gymunedol. Ym mha le y mae gweledigaeth Llafur Cymru? Beth sydd gan Lywodraeth Lafur Cymru i'w gynnig? Dim byd o gwbl, yn anffodus.

Fodd bynnag, wedi dweud hynny i gyd, rwy'n croesawu eich gwahoddiad i weithio yn golegol, ac rydych chi'n gwybod y byddaf i'n gwneud hynny, ac rwy'n falch y byddwch chi'n gwrando ar y pethau y gallem ni fod yn eu cyflwyno. Rwy'n falch y bydd adolygiad trawslywodraethol o wariant, oherwydd rwyf i o'r farn fod rhywbeth ar goll mewn ffordd sylfaenol yn y lle hwn sef golwg gyfannol ar yr holl ystod o wasanaethau yr ydym ni'n eu darparu yma; ac o'r herwydd fe welwn ni lywodraethu portffolios a Llywodraethau nad ydynt yn siarad â'i gilydd, ac un ochr yn ymladd y llall, yn lle dod at ein gilydd i ddatrys rhai o'r prif faterion, fel y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Felly, rwy'n diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Rydym ni'n edrych ymlaen at yr hyn a fydd yn digwydd yn y dyfodol. Yn sicr, rwyf i'n gobeithio nad Rachel Reeves a fydd yn pennu beth fydd ein sefyllfa ariannol, wrth symud ymlaen, gan nad oes gennyf i lawer o ffydd ynddi hi, mae arna' i ofn. Diolch i chi.

14:50

Rwy'n ddiolchgar iawn i Peter Fox am ei sylwadau'r prynhawn yma. Rwy'n deall, wrth gwrs, ein bod ni yng nghyfnod etholiad cyffredinol, ond rwy'n credu mai asesiad syml o'r ffeithiau yn unig oedd fy sylwadau agoriadol i, wrth i mi nodi'r cyd-destun economaidd a chyllidol yr ydym ni'n cynnal yr adolygiad hwn o wariant ynddo, ac mae'r ffeithiau hynny ag effaith ar fywydau pobl ledled Cymru o ddydd i ddydd. Roedd rhai ffeithiau pellach i'w gweld yn yr adroddiad 'Ending Stagnation' gan y Resolution Foundation, yr wyf i'n ei argymell yn gryf iawn i gyd-Aelodau os ydyn nhw'n awyddus i ddysgu ychydig mwy am y cyd-destun yr ydym ni'n byw ynddo. Yn yr adroddiad hwnnw, maen nhw'n trafod effaith tlodi, a chyfraddau budd-daliadau sydd wedi methu â chadw i fyny â phrisiau yn ystod 10 o'r 15 mlynedd diwethaf. Ochr yn ochr â thoriadau ehangach ers 2010, mae hyn wedi lleihau incwm y bumed ran dlotaf o deuluoedd yng Nghymru gan ychydig dan £3,000 y flwyddyn. Mae hynny'n wir, wir arwyddocaol. Mae tua chwarter yr aelwydydd sydd ag oedolion anabl mewn tlodi ac mae mwy na dwy ran o bump o deuluoedd sydd â thri neu fwy o blant mewn tlodi hefyd. Nid yw anghydraddoldeb wedi lleihau, er gwaethaf y cynnydd yn yr isafswm cyflog a'r enillion cyflogaeth cynyddol dros y cyfnod. Felly, rwy'n credu, rydym ni'n wynebu ystod sylweddol o heriau wrth i ni ymgymryd â'r gwaith hwn.

Holl bwynt y gwaith hwn yw ein bod ni'n myfyrio ar y blynyddoedd yr ydym ni wedi bod trwyddyn nhw, trwy'r pandemig a thrwy'r argyfwng costau byw wedyn, sydd bron yn ôl eu natur wedi ein harwain at wneud rhai o'r penderfyniadau tactegol hynny sydd, yn anochel, yn fwy cydnaws â'r byrdymor. Mae hyn yn ymwneud mwy â bod â barn strategol ac ystyried gwaith y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac mae gan lawer o wledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fframweithiau gwariant tymor canolig hefyd, sef, yn y bôn, yr hyn yr ydym ni'n sôn amdano heddiw. Mae cwmpas a dyluniad y rhain yn amrywio yn sylweddol, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn dysgu o'r hyn sy'n digwydd mewn gwledydd eraill a chymryd ein hysbrydoli pan welwn ni enghreifftiau yr ydym ni o'r farn eu bod yn gadarnhaol iawn.

Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, er enghraifft, yn dweud mai rhai o fanteision posibl bod â fframwaith gwariant i'r tymor canolig allai fod i hwnnw fod yn sail i ddisgyblaeth ariannol, a hynny, wrth gwrs, i'r graddau y caiff yr uchafbrisiau eu fframio trwy gyfeirio at derfynau cyllidol a'r adnoddau sydd ar gael. Fe allen nhw wella effeithiolrwydd gwariant cyhoeddus trwy gysoni gwariant cyhoeddus â blaenoriaethau cenedlaethol. Fe allen nhw nodi cyfeiriad newidiadau polisi a chyllid, ac yn sgil hynny gynnig mwy o sicrwydd ynghylch gofynion adnoddau ac argaeledd dros y gorwel amlflwyddyn, ac, yn eu tro, hyrwyddo cynllunio effeithiol wrth symud ymlaen. Fe allen nhw hwyluso cynllunio ac adnoddau polisïau amlflwyddyn hefyd y gellid bod ag angen gorwel amser estynedig i'w gweithredu nhw, megis prosiectau cyfalaf mawr, er enghraifft, neu raglenni newydd neu ailstrwythuro sefydliadol. Felly, yr hyn yr ydym ni'n sôn amdano yma heddiw yw'r cynllunio tymor hwy, gan edrych ymlaen am bum mlynedd, am ddeng mlynedd, i ddeall deinameg Cymru i'r dyfodol a'r heriau yr ydym ni'n gwybod eu bod yn dod i gwrdd â ni, a sut y byddwn ni'n mynd ati i fynd i'r afael â nhw.

Rwy'n credu ein bod ni'n dechrau ar yr hyn a fydd yn ddarn cyffrous iawn o waith, ac mae'r cynnig hwnnw i fod yn golegol yn hynny o beth yn ddiffuant iawn. Fel dywedais i yn y datganiad, bydd y darn hwn o waith yn cael ei wneud yn ystod 2024 ac i mewn i 2025. Felly, unwaith y bydd y llwch wedi setlo ar yr etholiad cyffredinol, rwy'n siŵr y byddwn yn gallu cael rhai o'r trafodaethau mwy colegol hynny o ran y darn hwn o waith, oherwydd mae hwnnw'n bendant yn rhywbeth yn fy marn i, yn y Senedd, y bydd gan bob un ohonom ni awydd i weithio arno. Mae'r drws yn llydan agored i gael y trafodaethau hynny.

14:55

Diolch i chi am eich datganiad heddiw. Dyma fy nghyfle cyntaf i siarad efo chi fel llefarydd y blaid dros gyllid, a dwi'n edrych ymlaen i gydweithio â chi, a chraffu, wrth gwrs, Ysgrifennydd Cabinet, a dwi'n croesawu'r gwahoddiad hwnnw o ran cydweithio.

Mae'n rhaid i mi fod yn onest, rwyf i mewn ychydig o ddryswch ac yn siomedig oherwydd rhannau o'r datganiad heddiw. Roedd yna ddwy B ar goll yn bendant, sef Brexit—effaith Brexit; siawns nad oes rhaid i ni gydnabod effaith ddinistriol Brexit ar ein cymunedau ni a'r cyllid sydd ar gael i'n cymunedau ni—a Barnett hefyd. Rydym ni i gyd yma o'r unfarn mai model hen ffasiwn yw hwnnw. Beth am gyllid teg i Gymru? Rydym ni ar ganol ymgyrch yr etholiad cyffredinol, ac roedd yna ddigon o bwyntiau gwleidyddol yn cael eu sgorio yn eich datganiad chi o ran hyrwyddo Rachel Reeves, ond mae'n rhaid i gyllid teg i Gymru fod wrth galon ein galwadau ar Lywodraeth nesaf y DU—diwygio Barnett, gan sicrhau ein bod ni'n cael yr arian canlyniadol HS2 hwnnw i Gymru, a sicrhau ein bod ni'n cael datganoli Ystad y Goron hefyd. Mae rheidrwydd ar y Llywodraeth nesaf i wneud y pethau hyn, ac fe hoffwn i gael y sicrwydd hwnnw oddi wrthych chi y byddwch chi'n ymladd dros Gymru, yn brwydro am gyllid teg ac yn brwydro dros yr uchelgais honno. Oherwydd gadewch i ni fod yn eglur, fel yr oeddech chi'n amlinellu, wrth gwrs, effaith cyni—14 mlynedd o gyni'r Torïaid—sydd nid yn unig yn ddinistriol i'n sefydliadau, ond i bobl yn ein cymunedau hefyd. Rydym ni'n gwybod yr effaith mae tlodi yn ei chael ar iechyd pobl, sef bod pobl wedi bod yn byw mewn cartrefi llaith a'r effaith y mae hynny'n ei gael ar eu hiechyd wedyn. Bu pobl farw oherwydd polisïau creulon, ac mae hwnnw'n fater y mae'n rhaid ei ystyried.

Yr unig bwynt yr wyf i'n gytûn â Peter Fox yn ei gylch yw fy mod innau o'r farn fod yna bethau y mae angen i Lywodraeth Cymru fyfyrio arnyn nhw o ran y 25 mlynedd diwethaf o benderfynu ar bolisïau, felly rwy'n croesawu'r dull hwn o weithredu ag ymrwymiad hirdymor fel hyn. Yn amlwg, mae Llywodraethau eraill ledled y byd yn dewis y dull hwn. Ond un peth nad wyf i'n ei ddeall ydyw, gan fod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 gennym ni yma yng Nghymru, na wnaethpwyd unrhyw gyfeiriad ati hi o gwbl yn eich datganiad chi. Mae hi wedi bod ar waith ers 2015. Yn hynny o beth, mae'n dodi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ystyried yr hirdymor. Rwyf i wedi ceisio f'atgoffa fy hun o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac, fel sy'n cael ei nodi ynddi, mae'n ymwneud â

'gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru',

a'r diben i beri i gyrff cyhoeddus a restrir feddwl yn fwy am yr hirdymor drwy ddarparu fframwaith. Mae dyletswydd arnoch chi dan y Ddeddf honno i wneud llawer o'r hyn y gwnaethoch ei amlinellu heddiw. Felly, a wnewch chi egluro i mi sut ddylai hyn weithio gyda'r dyletswyddau hynny o ran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, ac a glywsom ni gyfaddefiad heddiw nad yw Gweinidogion Cymru wedi bod yn gwneud yr hyn sy'n ofynnol dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, neu eich bod chi, mewn gwirionedd, yn symud i ffwrdd oddi wrthi? Nid yw hynny'n eglur iawn i mi o gwbl, o ystyried bod y rhain wedi cael eu hamlinellu yn bendant iawn. Rwyf i wedi bod yn bryderus ac wedi sôn sawl gwaith ers i mi gael fy ethol yma fy mod i wedi pryderu am ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin â chyllidebau gydag ymagwedd gaeëdig, yn hytrach na meddwl yn drawslywodraethol o ran sut y gallwn ni fod yn buddsoddi mewn diwylliant, buddsoddi mewn chwaraeon yn rhan o'r agenda atal. Felly, rwy'n croesawu eich bod chi'n datgan fel hyn, ond rwy'n holi pam nad yw hyn yn digwydd eisoes, a'ch bod chi'n sôn am ddull gweithredu newydd, yn hytrach na gweithio o fewn fframweithiau'r Ddeddf honno. Ond, yn fwy na dim, rwy'n gobeithio ein bod ni wedi cael ymrwymiad gennych chi heddiw bod rhaid iddi fod yn flaenoriaeth i ni gael y cyllid teg hwnnw i Gymru oddi wrth Lywodraeth nesaf y DU, o ba bynnag liw y bydd hi, ac nad ydym ni ond yn cyfaddef ein bod ni wedi ein trechu.

Rydych chi'n sôn hefyd yn eich datganiad am—os gallaf i ddod o hyd iddo yma—godi arian yng Nghymru. Wel, yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni wedi galw amdano, i chi fod yn defnyddio'r pwerau hynny, felly rwy'n croesawu'r dull hwnnw. Ond, yn amlwg, fe gawsom ni gyfle i ddiwygio'r dreth gyngor, er enghraifft. Felly, a yw hwn hefyd yn gyfaddefiad nad aethom ni'n ddigon pell yn y gorffennol?

Felly, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cymryd y sylwadau hynny yn yr ysbryd y cawson nhw eu bwriadu, ynglŷn â sicrhau bod yr adnoddau sydd ar gael gennym ni yma yng Nghymru. Ond fe hoffwn i ddeall ym mha ffordd yr ydych chi'n brwydro er mwyn i ni fod â'r hyn sydd ei angen arnom ni yma yng Nghymru i ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus hynny hefyd.

15:00

Rwy'n ddiolchgar iawn am y sylwadau'r prynhawn yma, ac fe hoffwn i groesawu Helen Fychan i'w swydd llefarydd newydd. Rwy'n edrych ymlaen at yr hyn y gwn i a fydd yn ddigonedd o her a chraffu, ond i ddweud fy mod yn awyddus iawn hefyd i ganfod y meysydd hynny o dir cyffredin y gallwn ni weithio gyda'n gilydd arnyn nhw hefyd. A dim ond dweud 'diolch' wrth Peredur Owen Griffiths hefyd am ei waith yn llefarydd, ac fe wn i y bydd yn parhau wrth ei waith yn Gadeirydd cyllid hefyd, ac felly fe fyddwn yn parhau i gydweithio yn y maes hwnnw hefyd.

Rwyf i o'r farn fod llawer yr ydym ni'n cytuno ag ef yn eich cyfraniad heddiw. Brexit: rwy'n credu bod fy marn i ar Brexit yn gyfarwydd iawn, ond rwy'n hapus i ddweud ar goedd yma fod pryderon mawr gennyf i ynglŷn â'r ffordd yr ymadawyd â'r undeb yn y lle cyntaf, ond yna'r effeithiau y mae'n eu cael ar ein heconomi ac ar ein bywydau yn llawer ehangach y tu hwnt i hynny hefyd. Roeddwn i'n falch iawn fod Rachel Reeves wedi sôn am gau'r tyllau yn y cytundeb Brexit o leiaf, a thorri'r fiwrocratiaeth sy'n llesteirio rhai o'r diwydiannau blaenllaw sydd gennym ni yma yng Nghymru, a hefyd roeddwn i'n falch iawn o glywed Prif Weinidog Cymru yn ailadrodd y trafodaethau a gafodd ef gyda Keir Starmer yn flaenorol ynglŷn â phwerau a chyllid yn dychwelyd atom ni yma yng Nghymru ar ôl iddyn nhw gael eu diddymu o ganlyniad i Brexit, er gwaethaf y ffaith ein bod wedi cael ar ddeall na fyddem ni'r un geiniog yn dlotach ac na fyddai pwerau yn cael eu cymryd oddi arnom. Felly rwy'n credu bod y pethau hynny'n gadarnhaol, ond fe fydd effaith barhaus Brexit yma gyda ni am amser maith i ddod eto.

O ran Barnett, a diwygio'r ffordd y mae'r Deyrnas Unedig yn cael ei hariannu, nid es i ormod o fanylder ynglŷn â hynny, neu i mi beidio ag ymhél â hynny'r prynhawn yma, oherwydd fe gawsom ni ddadl drylwyr iawn am hynny yn y Senedd yn ddiweddar iawn. Unwaith eto, fe geir llawer o dir cyffredin. Rydym ni o'r farn fod angen diwygio Barnett. Barn Llywodraeth Cymru yw y dylem ystyried bod â system ledled y DU sydd ar sail anghenion, a bod dyfarniad annibynnol gennym ni, er mwyn cael y cyfleoedd hynny i fod yn argyhoeddedig o gyfiawnder unrhyw beth a allai ddod allan ar yr ochr arall i hynny. Fe fyddwn ni'n dal ati i bwyso'r dadleuon hynny, fel nodwyd gennym ni yn 'Diwygio ein Hundeb'. Rwy'n falch iawn o'r gwaith sydd wedi dod drwodd a'r safbwyntiau sydd wedi dod drwy'r comisiwn ynglŷn â dyfodol y cyfansoddiad yng Nghymru hefyd, a oedd yn cefnogi barn Llywodraeth Cymru ar hyblygrwydd cyllidol yn y ffordd honno. Unwaith eto, mewn gwirionedd, mae hwnnw'n rhywbeth y mae gennym ni gytundeb trawsbleidiol ynglŷn ag ef yn y Senedd, sy'n wirioneddol adeiladol.

O ran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, yn hollol, fe fydd honno wrth galon y gwaith, ond mae hi hefyd wrth galon y cyllidebau a luniwn ni beth bynnag. Felly, fe fydd y gwaith hwn—. Rydym ni'n ystyried hwn yn fframwaith cyllidol tymor hwy y byddwn ni'n ymgymryd â'n cyllideb flynyddol ynddo. Felly, mae cyllideb 2025-26 o'n blaenau ni, er enghraifft, felly fe fydd y gwaith o ran pennu'r blaenoriaethau uniongyrchol yn dechrau yn unol â'r amserlen arferol. Felly, mae'r ddadl sy'n cael ei harwain gan y Pwyllgor Cyllid yn dod cyn yr haf. Fe fydd honno'n digwydd, ac yna fe fyddwn ni'n ymgymryd â'r broses gyllidebol ffurfiol yn ôl ein harfer. Ond fe fydd hynny'n digwydd wedyn ar gyfer blynyddoedd i ddod yn y cyd-destun ehangach hwn.

Felly, fe fydd y cyd-destun ehangach hwn yn ystyried pethau fel demograffeg yng Nghymru, yr hyn a wyddom ni am gynhyrchiant a sut y gallwn ni fynd ati i rymuso hynny yng Nghymru. Ac rwy'n credu mai un o'r pethau sy'n bwysig iawn yw llwybr gwariant iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, un o'r heriau allweddol yr ydym ni'n eu hwynebu ar draws y gyllideb—fe wyddom ni i gyd; rydym ni'n trafod hyn drwy'r amser—a oes rhaid i ni ddargyfeirio cyllid o fannau eraill yn y Llywodraeth i sicrhau bod y cyllid angenrheidiol gan iechyd, ac mae hynny'n cymryd cyfran gynyddol o'r gyllideb adnoddau yn barhaus. Ar hyn o bryd, mae'n agos at 55% erbyn hyn; ar sail y tueddiadau cyfredol, ac fe allai fod hyd at 60 y cant erbyn 2028-29.

Felly, mae adolygiad o wariant Cymru yn gyfle pwysig iawn i ystyried y ffordd orau o reoli'r llwybr hwnnw yn y dyfodol, ochr yn ochr ag ystyriaeth o ystod o heriau a chyfleoedd cyllidol strategol allweddol eraill sy'n ein hwynebu ni hefyd, ac mae'r Ysgrifennydd Iechyd a minnau'n ystyried pa waith y mae angen i ni ei wneud neu ei gomisiynu yn allanol i ddeall hyn yn well. Mae hi wedi bod yn amser hir nawr ers gwaith Cronfa'r Brenin, er enghraifft. Mae llawer wedi newid ers hynny, felly rydym ni'n ystyried yr hyn y dylem ni fod yn ei wneud gyda'n gilydd ynglŷn â hynny hefyd. Ac, wrth gwrs, fe fydd ein cyllidebau arferol ni'n parhau i fod â'r asesiad effaith integredig strategol ac ati.

Mae gweithio ar y cyd wrth galon Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a dyna'r hyn a fydd wrth galon yr adolygiad o wariant. Rydym ni'n dymuno rhoi cynnig ar wahanol bethau nawr gyda'r adolygiad o wariant o ran ymgysylltu. Mae'r ymgysylltiad arferol â'r comisiynwyr gennym ni, sy'n gynnwys comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, er enghraifft. Mae gennym ni ystod eang o bethau eraill yr ydym ni'n eu gwneud i geisio ymgysylltu â chyllidebau, ond, mewn gwirionedd, rydym ni'n awyddus i agor hyn yn fwy eang a chlywed oddi wrth leisiau gwahanol ac amrywiol ledled Cymru.

Fel dywedais i, ystyr datganiad heddiw yw rhoi gwybod i'r Senedd fy mod i'n awyddus i gychwyn y darn hwn o waith a cheisio cynnal y sgwrs honno'n gynnar er mwyn clywed y safbwyntiau dechreuol, ond ychydig iawn hyd yn hyn sy'n llwyr ddigyfnewid o ran y camau nesaf. 

15:05

Rwy'n nodi eich pum blaenoriaeth. Ar ran y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, tybed a fyddech chi'n mynegi faint o bwys a roddir i'r datganiad effaith cydraddoldeb a sut y bydd yn wahanol i un y llynedd neu'r flwyddyn flaenorol, oherwydd rwy'n credu bod pryder gwirioneddol nad yw hyn yn cael ei ystyried yn flaenllaw nac yn ganolog o ran penderfyniadau'r Llywodraeth. 

Fe hoffwn i ofyn i chi hefyd pa sylw y byddwch chi'n ei roi i symud mwy o adnoddau tuag at atal, oherwydd mae hi'n costio cymaint llai i drin problemau yn eu dechreuad yn hytrach na gadael iddyn nhw ddatblygu ac wedyn mae hi'n mynd yn llawer mwy costus, ac mae angen dybryd i ni wneud rhagor ynglŷn â hyn.  

Felly, o ran yr asesiad effaith integredig strategol, rydym ni wedi'i gomisiynu—. Neu rydym ni'n cynnal adolygiad o'r asesiad effaith integredig strategol eleni, er mwyn i ni fyfyrio ar farn y pwyllgor ond ar y safbwyntiau ehangach a fynegwyd yn y Senedd hefyd wrth i ni ymgymryd â'r gyllideb flynyddol. Felly, fe fydd yr asesiad effaith yn rhan o'n cyllideb arferol ni. Y gwaith yr wyf i'n ei ddisgrifio heddiw yw'r ystyriaeth o'r fath sy'n fwy strategol, hirdymor. Felly, rydym ni'n ystyried y strategaeth ariannol yn rhagolwg pump i 10 mlynedd fel hynny. O fewn hynny wedyn, bydd cyfres o'r hyn yr ydym ni'n fewnol yn cyfeirio atyn nhw fel penodau. Felly, fe allai pennod fod yn gyllideb un flwyddyn neu fe allai fod yn adolygiad o wariant am dair blynedd, ond mae hynny i gyd dan yr ymbarél ehangach o olwg y tymor hwy, ac fe fydd yn edrych ar bethau fel demograffeg, yr hyn yr ydym ni'n disgwyl ei weld yn digwydd yn y gwasanaeth iechyd ac ati.

Felly, mae hyn yn caniatáu gwneud penderfyniadau fel hyn dros dymor hwy, ac mae'n ymateb i'r hyn y mae'r Senedd wedi bod yn awyddus iawn i'w wneud o ran y symudiad pellach fel hyn ac sy'n fwy ar sail tystiolaeth tuag at atal sy'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei wneud yn llwyr. Rwyf i newydd sôn am yr hyn yr ydym ni'n ei ddisgwyl, ar sail y llwybrau presennol, efallai y bydd y gwariant ar iechyd yn y blynyddoedd i ddod, a hynny—. Mae hi'n her enfawr, felly dyna un o'r rhesymau pam rydym ni'n gwneud y gwaith hwn, i geisio symud materion yn fwy tuag at atal, ond gwneud hynny yn yr hirdymor.  

Diolch i chi am eich datganiad. Ysgrifennydd Cabinet, os nad oedd hynny'n eglur i mi o'r blaen, mae'r ystod o gyfarfodydd yr wyf i wedi dechrau eu cynnal gyda rhanddeiliaid ar draws y sector addysg wedi gwneud i mi sylweddoli pa mor wirioneddol yw maint yr argyfwng oherwydd y tanfuddsoddi sydd wedi bod mewn addysg yng Nghymru. O addysg gynradd yr holl ffordd at addysg uwchradd, addysg bellach ac uwch, mae effaith y tanfuddsoddiad hwn yn amlwg i'w weld. Nawr, yn wir, fel gwelodd pawb ohonom ni ddoe, mae'r ffigurau a gyhoeddwyd gan 'School Cuts Cymru' yn dangos bod 922 o ysgolion yng Nghymru wedi wynebu toriadau yn eu cyllidebau, gyda chyllid termau real fesul disgybl wedi gostwng £343 yn yr ysgolion cynradd, £388 yn yr ysgolion uwchradd a £411 yn yr ysgolion arbennig. 

Nawr, fe wyddom ni hefyd o'r llythyrau cyhoeddus oddi wrth benaethiaid yn sir Ddinbych, Blaenau Gwent ac mewn mannau eraill eu bod nhw'n wynebu gwasgfa ariannol ddigynsail, gydag effeithiau canlyniadol ar ysbryd y staff, eu hiechyd meddwl a'u gallu i wneud eu gwaith. Ar yr un pryd, mae addysg uwch a phellach yn wynebu—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i? 

Mae'n ddrwg gen i, rwy'n dod at hwnnw. Reit, iawn. Felly, a wnewch chi gadarnhau eich bod chi'n gwneud popeth sydd yn eich gallu i sicrhau bod ein system addysg ni'n cael y gyfradd angenrheidiol o fuddsoddiad?

Rwy'n ddiolchgar iawn am hwnna, ac roedd Cefin Campbell a minnau mewn digwyddiad amser cinio'r prynhawn yma, yn siarad â chynrychiolwyr o Undeb y Brifysgol a'r Coleg, ac fe glywsom ni am yr heriau sy'n wynebu'r sector addysg uwch hefyd, ac felly rydym ni'n ymwybodol o'r pwysau ar draws y gyfundrefn addysg.

Felly, fe fydd addysg, yn amlwg, yn allweddol i'r gwaith yr ydym ni'n sôn amdano'r prynhawn yma, sy'n edrych tua'r cyfnod hwnnw rhwng pump a 10 mlynedd yn mynd yn ei flaen, ac rydych chi wedi gweld sut y mae ein hymgais ni i flaenoriaethu llywodraeth leol drwy ein prosesau cyllidebol yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi rhoi'r amddiffyniad gorau posibl y gallem ni ei roi i addysg, ond ie, yn hollol, rydym ni'n cydnabod y pwysau enfawr sydd ar addysg ar hyn o bryd.

O ran y gwaith ar gyfer y cyfnod adolygu gwariant, rwy'n credu mai'r hyn y dylwn ei ddysgu o hyn, mewn gwirionedd, yw cais iddi fod yn golofn allweddol yr ydym ni'n ei hystyried wrth i ni lunio'r broses adolygu gwariant, oherwydd nid yw'r hyn yr wyf i'n siarad amdano'r prynhawn hwn yn unrhyw beth sy'n dyrannu arian; mae hyn yn ymwneud mwy â'r broses o ddeall beth allai'r heriau fod yn y blynyddoedd i ddod, i sicrhau ein bod ni'n ymgymryd â'r dull strategol hwnnw o ymdrin â'r heriau hynny, yn hytrach na gorfod ymateb mewn rhyw fath o ddull byrdymor. Ond fe fydd yr heriau o ran demograffeg yr ydym ni'n eu hwynebu, yn fy marn i, â rhan yn hynny hefyd, ac fe fydd honno'n rhan bwysig o'n hymchwil ni.

15:10
4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Y Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng Ddwy Flynedd yn Ddiweddarach

Eitem 4 yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y chwe nod ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng ddwy flynedd yn ddiweddarach. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Eluned Morgan.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd rydym wedi'i wneud dros ail flwyddyn ein rhaglen chwe nod ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng. Mae'r galw am ofal brys a gofal argyfwng wedi codi'n gyson wrth i ni ddod allan o'r pandemig, ac yn ystod y 12 mis diwethaf gwelwyd y duedd hon yn parhau. Am gyfnod rhy hir, mae'r ffaith bod drws yr adran frys bob amser ar agor wedi golygu ei bod hi, a'r staff ymroddedig sy'n gweithio mewn unedau ledled Cymru, wedi bod ar flaen y gad o ran ymateb i'r ymchwydd hwn yn y galw yn gyffredinol, gan mai dyna'r unig ddrws ffrynt sydd ar agor drwy'r amser.

Fe wnaethom sefydlu'r rhaglen chwe nod ddwy flynedd yn ôl i sicrhau bod pobl yn cael y gofal cywir gan y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cywir y tro cyntaf y byddant yn gofyn amdano. I lawer iawn o bobl, mae hynny'n golygu nad yr adran frys yw'r lle mwyaf priodol iddynt dderbyn y lefel gywir o ofal, ond, tan ddwy flynedd yn ôl, doedd ganddyn nhw ddim dewis arall ond defnyddio'r adran frys pan oedd angen gofal brys arnynt. Mae'r rhaglen chwe nod yn newid hynny.

Roedd y llynedd yn flwyddyn hynod heriol arall i wasanaethau gofal brys a gofal argyfwng, ond, er gwaethaf y cyfuniad o alw uwch na'r disgwyl ynghyd â gweithredu diwydiannol gan undebau 'Agenda ar gyfer Newid' a meddygon iau, mae gwaith caled staff y GIG a gwaith y rhaglen chwe nod wedi helpu i sefydlogi perfformiad gofal argyfwng. Cwblhaodd mwy na 0.75 miliwn o bobl eu triniaeth mewn adrannau brys o fewn pedair awr yn 2023-24—mae hynny'n 57,000 yn fwy o bobl o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Fe wnaeth amseroedd ymateb ar gyfer galwadau 999 oren wella, a chafodd mwy na 26,700 o bobl ymateb gan ambiwlans o fewn wyth munud i alwad 999 pan oedd bywyd mewn perygl—mae hynny'n gynnydd o 13 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Nawr, rydyn ni wedi gweld gwelliannau calonogol mewn rhai ardaloedd, gan gynnwys Caerdydd a'r Fro, wrth leihau oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys. Fodd bynnag, mae amrywiad diangen mewn perfformiad ledled Cymru, a'r problemau yn gysylltiedig yn gynhenid â heriau wrth gefnogi rhyddhau cleifion o'r ysbyty i'r cartref yn brydlon. Bydd angen mynd i'r afael â'r problemau hyn ar frys dros y rhan gyntaf o'r flwyddyn hon. Er bod cynnydd wedi digwydd, wrth gwrs, mae llawer mwy i'w wneud. Mae gormod o bobl yn profi oedi hir mewn adrannau brys, sydd yn ei dro yn cynyddu eu risg o niwed. Nid yw hyn yn dderbyniol a bydd yn bwyslais ar gyfer y rhaglen chwe nod yn ei thrydedd flwyddyn.

Dirprwy Lywydd, heddiw rwy'n cyhoeddi'r ail adroddiad cynnydd blynyddol ar y chwe nod. Rydym wedi parhau i gefnogi sefydliadau'r GIG â £25 miliwn o gyllid rhaglen ychwanegol i ymateb i fy mlaenoriaethau i gynyddu capasiti gofal brys fel rhan o symudiad tuag at fodel gofal brys integredig 24/7, ac i ehangu gwasanaethau gofal argyfwng yr un diwrnod wrth ddrws ffrynt ysbytai i helpu mwy o bobl i osgoi cael eu derbyn yn ddiogel. Fe wnaethom hefyd gyhoeddi'r datganiad ansawdd ar gyfer gofal mewn adrannau brys, sy'n nodi'r canlyniadau a'r safonau y dylai pobl ddisgwyl eu derbyn wrth gael mynediad at ofal mewn adrannau brys o ansawdd uchel.

Ers i mi lansio'r rhaglen chwe nod, rydym wedi sefydlu 16 o ganolfannau gofal sylfaenol brys ledled Cymru, gan wasanaethu poblogaeth o 2.2 miliwn o bobl. Yn ystod ail flwyddyn y rhaglen, mae'r gwasanaethau hyn wedi tyfu ac mae'r data diweddaraf yn dangos bod tua 11,000 o bobl yn defnyddio'r canolfannau hyn bob mis. Mae 85 y cant yn cael eu rheoli'n ddiogel heb orfod mynd i adran achosion brys. Mae ehangu gwasanaethau gofal argyfwng yr un diwrnod dros y flwyddyn ddiwethaf yn golygu bod mwy na 7,500 o bobl yn defnyddio'r gwasanaethau hyn bob mis. Mae wyth o bob 10 yn cael eu rhyddhau i fynd adref ar yr un diwrnod heb orfod cael eu derbyn i'r ysbyty.

Mae'r rhaglen wedi darparu cyllid i fyrddau iechyd i gefnogi staff cartrefi gofal i helpu mwy o bobl i dderbyn gofal a thriniaeth yn eu preswylfa a lleihau nifer yr ambiwlansys sy'n dod ac yn cludo'r claf i'r adran frys. Ein bwriad yw y bydd pobl sy'n byw mewn cartrefi preswyl a chartrefi nyrsio, os byddant yn mynd yn sâl yn annisgwyl, yn cael eu hadolygu o bell gan uwch nyrs neu feddyg mewn modd amserol a, phan fo hynny'n briodol, yn cael mynediad at ddewisiadau amgen diogel yn hytrach na chael eu cludo a'u derbyn i'r ysbyty.

Mae blwyddyn dau'r rhaglen hefyd wedi gweld lansio llwybrau newydd, gan gynnwys llwybr GIG 111 newydd i roi cyngor i rieni plant ifanc i helpu i osgoi teithiau diangen i'r adran frys yn ddiogel, a gwasanaethau cyswllt torri esgyrn i helpu oedolion bregus i atal neu leihau cyfnodau gofal brys yn y dyfodol, a chefais gyfle i drafod hyn yn fanwl yr wythnos diwethaf yn ystod y ddadl fer am iechyd esgyrn. Hefyd, bydd mynediad at ddyfeisiau gwisgadwy a thechnoleg monitro hefyd yn helpu pobl i naill ai osgoi cael eu derbyn i'r ysbyty yn ddiogel neu ddychwelyd adref o'r ysbyty pan fyddan nhw'n barod yn glinigol i wneud hynny.

Dirprwy Lywydd, mae'r rhaglen chwe nod yn helpu i ddarparu gwasanaethau gwell a mwy priodol i bobl sydd angen gofal brys ac argyfwng. Mae hefyd wedi helpu i sefydlogi perfformiad gofal argyfwng er gwaethaf y cynnydd yn y galw. Ond, dwi'n gwybod bod llawer mwy i'w wneud. Yn benodol, mae rhai o'r problemau o ran gofal argyfwng a rhyddhau cleifion o'r ysbyty yn gymhleth ac wedi'u gwreiddio'n ddwfn. Rŷn ni wedi ymrwymo i barhau i gefnogi sefydliadau'r NHS a byrddau partneriaeth rhanbarthol drwy'r rhaglen hon a rhaglenni trawsnewid cenedlaethol eraill.

Wrth i ni symud i flwyddyn 3, dwi'n disgwyl gweld awydd a phenderfyniad o'r newydd ac ymdrech ar y cyd i wneud cynnydd amlwg yn erbyn yr heriau hyn. Dwi am weld mwy o ffocws ar fynd ati'n rhagweithiol i helpu pobl i aros yn iach, atal dirywiad, a'u galluogi i gael gofal acíwt yn ddiogel yn y gymuned. 

Eleni, bydd disgwyliadau uwch ar gyfer gwella elfennau allweddol, er enghraifft, perfformiad wrth drosglwyddo cleifion o'r ambiwlans a chyfnodau aros hir anniogel mewn adrannau achosion brys. Byddwn ni'n parhau i gryfhau gwasanaethau gofal brys 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Byddwn ni'n datblygu gwasanaethau gofal argyfwng yr un diwrnod, a lleihau'r cyfnod mae pobl yn ei dreulio yn yr ysbyty gan dargedu pobl eiddil a gwan. Ar ben hyn, bydd ffocws ar ddatblygu llwybrau clinigol gwell a defnyddio'r rhain yn y ffordd orau posibl. Bydd hyn yn galluogi mwy o bobl i fanteisio ar y gwasanaethau iawn, a hynny y tro cyntaf. Bydd e hefyd yn lleihau'r galw ar adrannau achosion brys.

Ar gyfer gofal brys, fel rhan o'r dewisiadau eraill yn lle mynd i'r ysbyty, dewisiadau sy'n ddiogel yn glinigol, bydd disgwyl i'r byrddau iechyd ddangos bod nifer y bobl sy'n cael gofal cymunedol wedi cynyddu erbyn mis Medi 2025. Y nod yw gallu darparu gofal yn nes at gartrefi pobl, lle mae hynny'n briodol yn glinigol. 

Bydd y byrddau iechyd yn parhau i gael cyllid ychwanegol i gyflawni'r blaenoriaethau hyn. Mae hyn yn rhan o fuddsoddiad ehangach gwerth £180 miliwn eleni i gefnogi sefydliadau'r NHS a byrddau partneriaeth rhanbarthol i ddatblygu atebion integredig ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd yr holl gamau hyn yn rhan o'n cynllun cyffredinol i gefnogi gwytnwch dros y gaeaf.

Gall pob un ohonom ni wneud ein rhan a chwarae'n rhan i helpu'r NHS drwy gymryd camau bach i ofalu am ein hiechyd ein hunain, gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, a bwyta'n iachach. Gallwn helpu hefyd drwy ddewis y gwasanaeth iawn pan fyddwn ni'n sâl ac angen help yn lle mynd i'r feddygfa neu'r adran achosion brys yn awtomatig. Os ŷch chi ddim yn gwybod ble i fynd, gall NHS 111 gynnig help a chymorth. Diolch.

15:20

Diolch am y datganiad heddiw, Cabinet Secretary.

Mae'n anodd anghytuno â'r chwe nod ac amcan, fel cyfeirio pobl ag anghenion gofal brys i'r lle cywir. Maen nhw'n synnwyr cyffredin a dylen nhw fod yn flaenoriaeth i unrhyw lywodraeth. Fodd bynnag, y tu hwnt i eiriau cynnes, mae'n amlwg bod problemau sylweddol a difrifol yn y system iechyd, ac mae'r ystadegau diweddar sy'n dangos y rhestrau aros hiraf a gofnodwyd erioed yn GIG Cymru yn brawf clir o hynny, ynghyd â'r catalog o fethiannau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sydd â'r ganran isaf o fynychwyr adrannau brys a welwyd o fewn y targed 12 awr. Er gwaethaf ymdrechion gorau staff ar lawr gwlad, mae pobl ledled Cymru yn dioddef oherwydd rheolaeth wael ar y gwasanaeth iechyd, sy'n dechrau yma ym Mae Caerdydd. Mae hyn wedi bod yn wir ers llawer rhy hir, ac mae angen y cynlluniau hyn arnom ni i wneud newid systemig go iawn yn ein system iechyd i sicrhau bod y trigolion yr ydym yn eu gwasanaethu yn gallu cael y driniaeth effeithlon o ansawdd y maent yn ei haeddu.

Hoffwn ofyn am yr amserlenni ar gyfer y targedau sydd wedi'u pennu. Yn y cynllun gwreiddiol, mae yna amrywiaeth o flaenoriaethau cychwynnol fel y'u gelwir, felly faint o'r dyddiadau cau sydd wedi mynd heibio a gyflawnwyd a faint ohonyn nhw na chyflawnwyd? Yn ogystal, mae nifer o nodau â therfynau amser erbyn etholiadau nesaf y Senedd yn 2026. Pa mor debygol yw'r rhain o gael eu cyflawni erbyn hynny? Ac i gymryd un esiampl, targed arbennig o bwysig yw y bydd gan bob person yr asesir bod ganddo angen gofal sylfaenol brys fynediad dibynadwy at y gweithiwr proffesiynol neu'r gwasanaeth cywir ar gyfer yr angen hwnnw o fewn wyth awr i gysylltu â'r GIG. Bydd cyflawni nodau fel yna yn gwneud gwahaniaeth i bobl, ond mae'n rhaid gweithredu'r camau ac nid dim ond eu gadael fel geiriau ar dudalen.

Mae hwn hefyd yn gynllun traws-bortffolio ac, yn y ddogfen wreiddiol, chi eich hun, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd, a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles ar y pryd oedd e'. A allech chi ymhelaethu ar sut mae'r gwaith traws-bortffolio hwn wedi datblygu gyda'r set newydd o Weinidogion? A sut ydych chi i gyd yn gweithio gyda'ch gilydd ar gynnydd parhaus y cynllun chwe nod?

Yn olaf, Ysgrifennydd Cabinet, mae'r cynllun gwreiddiol yn sôn am gymorth iechyd meddwl ac yn amlinellu pwysigrwydd ymateb cydlynol gan wasanaethau ar draws y llwybr gofal brys a gofal argyfwng. Mae llawer o wahanol rannau i ofal iechyd meddwl, fel y gwyddom i gyd, ac mae ymateb yn gyflym i'r rhai mewn angen yn hanfodol bwysig. Mae'r ymrwymiad i ehangu darpariaeth, er enghraifft noddfeydd, tai neu gaffis argyfwng, wedi'i bennu ar gyfer mis Ebrill 2025, felly, o fewn y 12 mis nesaf, pa grwpiau fyddwch chi'n gweithio â nhw i gyrraedd y nod hwnnw? A beth fyddwch chi'n ei wneud, o'r pwynt hwn ymlaen, i sicrhau bod y targed hwn yn cael ei gyrraedd, Gweinidog? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Wel, rwy'n falch iawn o glywed eich bod yn credu mai newid systemig yw'r hyn sydd ei angen, a dyma'n union beth yw hyn: mae'n newid systemig. Nid yw'n gwneud mwy o'r un peth ac yn meddwl eich bod chi'n mynd i gael canlyniadau gwahanol. Felly, mae hyn yn ymwneud â phethau fel cyflwyno'r gwasanaeth gofal argyfwng yr un diwrnod, sydd wedi cynyddu'n sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a chanolfannau gofal sylfaenol brys sy'n mynd â miloedd o bobl yn llythrennol, bob mis, i ffwrdd o'n hadrannau brys.

A'r gwasanaeth 111, ar gyfartaledd, rydym yn gweld o leiaf 70,000 o bobl yn ffonio'r gwasanaeth 111 yn fisol. Cofiwch, doedd y gwasanaeth hwnnw ddim yn bodoli ddwy flynedd yn ôl, a'r gwasanaeth 111 yn unig yw hynny. Mae gwasanaeth '111 pwyso 2', sydd ar wahân, ar gyfer iechyd meddwl. Ac, fel yr esboniais, mae un yn benodol ar gyfer plant erbyn hyn, a hefyd gwasanaeth 111 lle rydych chi'n pwyso 0 am ofal lliniarol. Felly, mae'r holl bethau hyn yno i sicrhau bod gan bobl y sicrwydd sydd ei angen arnyn nhw, ond hefyd eu bod yn cael eu cyfeirio at y gofal cywir a'r arbenigwyr cywir. Ac rwy'n credu mai dyna'n union rydych chi'n cyfeirio ato sef y newid systemig hwnnw.

Felly, y mater go iawn, o ran her yma, yw galw. Mae'r galw yn anghredadwy. Mae'n parhau i ddod. Os edrychwch chi ar y galwadau coch ar gyfer amseroedd ymateb ambiwlansys yn unig, rydyn ni wedi gweld nifer y galwadau coch yn dyblu—mwy na dyblu—ers y cyfnod cyn y pandemig. Mwy na dyblu. Ac yna ers diwedd y pandemig, mae wedi cynyddu eto 21 y cant ers yr adeg hon y llynedd. Mae hynny'n gynnydd enfawr, enfawr yn y galw. Nawr, iawn, rydyn ni'n rhoi'r arian ar waith—rydyn ni'n rhoi £25 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer rhai o'r pethau hyn—ond rwy'n credu mai'r hyn sy'n eithaf trawiadol yw er gwaetha'r cynnydd enfawr hwnnw yn y galw, mae'r amser ymateb ar gyfartaledd, er enghraifft, i gleifion oren, wedi gwella, a derbyniodd dros 80 y cant o gleifion yn y categori coch ymateb mewn 15 munud. Ddim yn ddigon da, ond yn bendant, os ydych chi'n meddwl am y galw, rwy'n credu ei fod yn berfformiad y mae angen gwella arno'n amlwg, ond gallai fod wedi bod yn llawer gwaeth. A'r hyn sy'n ddiddorol iawn, rwy'n credu, yw nodi bod y dull hwn yn rhywbeth y mae pobl eraill yn edrych arno nawr. Felly, mae Lloegr yn edrych ar ein model ni, oherwydd y ffaith yw, mae sefydlogrwydd wedi bod o ran gofal argyfwng o'i gymharu â system Lloegr, a dros y 18 mis diwethaf cafwyd gwell perfformiad mewn perthynas ag adrannau brys yng Nghymru nag sydd wedi bod yn Lloegr, ac mae'r rheini bellach wedi'u gwirio'n annibynnol. Felly, oes, mae mwy i'w wneud.

O ran y gwaith traws-bortffolio, gweithiais yn agos iawn gyda Julie Morgan o'r blaen. Rwyf bellach yn gweithio'n agos iawn gyda Dawn Bowden, sy'n amlwg yn gyfrifol am ofal nawr, ond hefyd gyda llywodraeth leol. Rydym yn cynnal cyfarfodydd yn aml iawn. Rwy'n cwrdd â Julie James yfory i siarad am yr hyn y byddwn ni'n ei wneud nesaf a pharatoi ar gyfer y gaeaf, oherwydd yn amlwg, fel y gwyddoch chi, mae her sylweddol bob amser dros y gaeaf.

O ran yr ochr noddfa o bethau, mae rhai eisoes wedi'u datblygu, ond rydyn ni'n gwneud un peth ar y tro. Felly, byddwn yn cyrraedd hynny, ond ar hyn o bryd mae rhaglen glir iawn, ac yn amlwg rydyn ni'n gwneud un peth ar y tro.

15:25

Wel, mae'n ymddangos mai 'cynllun' ydy gair yr etholiad cyffredinol yma. Mae yna gynllun ar gyfer pob dim. Mae gan Sunak gynllun. Mae gan Starmer gynllun. Mae gan y byd a'i gi gynllun, mae'n ymddangos. Does gan neb mwy o brofiad o baratoi cynlluniau na Llywodraeth Cymru, gyda chynlluniau yn dod allan o'u clustiau, yn enwedig wrth edrych ar y gwasanaeth iechyd, ac felly dyma edrych ar gynllun arall yma heddiw—tro yma, cynllun ar ofal brys a gofal mewn argyfwng.

Ond mae unrhyw gynllun yn ddibynnol ar ei sylwedd a'r gweithredu, ac er gwaethaf y penawdau cadarnhaol wrth lansio'r cynlluniau, mae record y Llywodraeth hon wedi bod yn wan iawn wrth ddelifro. Mae'r chwe cham sydd ger ein bron heddiw yn enghraifft glir o hyn. Mae'r cynnydd ar weithredu'r chwe cham wedi bod yn anghyson ar y gorau, ac mae'n bryderus ei fod yn ymddangos fel ein bod yn symud yn ôl mewn rhai mannau. Felly, dwi am beintio darlun gwahanol iawn i'r un sydd wedi cael ei beintio gan yr Ysgrifennydd Cabinet yma heddiw.

Er enghraifft, mae gwella trosglwyddo cleifion ambiwlans wrth wraidd y nod ar gyfer ymateb cyflym mewn argyfwng iechyd corfforol neu iechyd meddwl, ond mae'r ystadegau diweddaraf sydd ar gael yn dangos bod yr oriau a gollwyd wrth drosglwyddo o ambiwlans 24.8 y cant yn uwch o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Yn wir, yn 2022-23, collwyd cyfanswm o bron i 300,000 o oriau gan y gwasanaeth ambiwlans oherwydd oedi wrth drosglwyddo—y ffigur uchaf a gofnodwyd. Mae'r nodau hefyd yn cynnwys targed ar gyfer gwelliannau blwyddyn ar ôl blwyddyn mewn amseroedd ymateb i alwadau coch ac oren, hyd at fis Ebrill 2026, fel y clywsom ni. Ond yr amser ymateb canolrif i alwadau coch yw 8 munud 17 eiliad ar hyn o bryd, sydd 43 eiliad yn arafach na'r un amser y llynedd. Mae llai na hanner y galwadau coch yn arwain at ymateb o fewn wyth munud, gyda tharged y Llywodraeth o 65 y cant wedi bod yn addurniadol yn unig ers peth amser. Yn y cyfamser, yr amser ymateb canolrif ar gyfer galwadau oren yw 1 awr 15 munud a 18 eiliad—12 munud llawn yn arafach na'r flwyddyn flaenorol.

Daw stori debyg i'r amlwg wrth ryddhau cleifion o welyau ysbyty. Ym mis Ebrill 2024, roedd 1,738 o bobl mewn gwely ysbyty'r GIG a brofodd oedi wrth eu trosglwyddo o fwy na 48 awr—y cyfanswm misol uchaf mewn 12 mis. Yn seiliedig ar gyfrifiadau'r Coleg Nyrsio Brenhinol, mae hyn yn golygu bod mwy na 576,000 o bobl yng Nghymru wedi profi oedi yn eu gofal dros flwyddyn gyfan, sy'n cyfateb i gyfanswm o dros 1 filiwn o ddyddiau o oedi.

Mae cleifion o Gymru hefyd yn parhau i wynebu arosiadau hir yn yr ysbyty, er gwaethaf nod y cynllun i hwyluso mwy o symudiad i ffwrdd oddi wrth ofal yn yr ysbyty. Roedd ymchwil a gomisiynwyd gan y Llywodraeth ar y mater hwn y llynedd yn cadarnhau astudiaethau a oedd yn dangos bod arosiadau mewn ysbytai yng Nghymru yn parhau i fod yn sylweddol uwch na'r rhai yn Lloegr. At hynny, yn absenoldeb trefniadau dibynadwy a gwydn i hwyluso'r newid hwn, rydym yn lle hynny wedi gweld cynnydd brawychus mewn gofal anniogel mewn coridorau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fel yr amlinellir mewn adroddiad gan RCN a gyhoeddwyd ddechrau'r mis hwn. 

Yna, mae'n rhaid i ni gyd-destunoli'r agweddau ataliol ar y cynllun i leihau'r risgiau o aildderbyn â'r realiti bod cyllid ar raglenni ataliol wedi'i leihau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan fod y Llywodraeth hon wedi gorfod taflu adnoddau cynyddol tuag at ymladd tanau ar y rheng flaen. 

Does dim o'i le ar fod â chynlluniau uchelgeisiol, ac yn sicr dydw i ddim yn cyhuddo'r Ysgrifennydd Cabinet o ddiffyg uchelgais yn y cynllun hwn. Ond does dim byd gwaeth nag uchelgais nad oes ganddo lwybr credadwy i'w gyflawni. Ac rwy'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno â mi y gall methiant i fod yn glir ac yn onest am yr hyn y gellir ei gyflawni arwain at oblygiadau niweidiol i hyder y cyhoedd yn ein gwasanaeth iechyd, yn ogystal â morâl ei staff.

A gaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet, felly, yng ngoleuni'r holl ystadegau rydw i wedi'u rhestru yn fy nghyfraniad, a yw hi wir yn credu bod gofal brys a gofal argyfwng yng Nghymru yn fwy effeithlon, yn fwy syml, ac, yn bwysicaf oll, yn fwy diogel nag yr oedd pan gafodd y cynllun ei ddatblygu? A yw hi hefyd yn cytuno y byddai cyflawni'r nodau yn y cynllun hwn wedi bod yn llawer haws ac yn llawer cyflymach pe bai gan Gymru fodel ariannu teg o San Steffan?

Ac yn olaf, wrth gyfeirio at broblemau o fewn yr amseroedd aros, er enghraifft, mae'r Ysgrifennydd Cabinet, fel Sunak, yn cyfeirio at effaith gweithredu diwydiannol gan staff y GIG. Ond maen nhw'n gweithredu'n ddiwydiannol i dynnu sylw at y peryglon yn y gwasanaeth iechyd, a'r angen i wella amodau gwaith a recriwtio mwy. A yw hi'n derbyn, felly, fod y feirniadaeth hon yn annheg?

15:30

Diolch yn fawr. Rwy'n cytuno â chi, pe bai gennym fwy o arian, y gallem wneud mwy, a byddai hynny'n cael ei groesawu'n fawr. Ac, yn amlwg, rydyn ni'n gobeithio y bydd Llywodraeth Lafur newydd yn helpu i sefydlogi'r economi ac y bydd mwy o arian wedyn yn llifo i wasanaethau cyhoeddus. 

Rwy'n credu ei bod yn annheg iawn dweud nad oes unrhyw gynllun. Nid cynllun yn unig ydyw; rydyn ni wedi cyflawni yn y fan yma mewn gwirionedd. Ni fyddaf yn dweud hynny am bopeth rwy'n ei wneud yn fy mhortffolio, ond ar yr un yma, rwy'n credu'n gryf bod hwn yn faes lle rydym wedi gweld trawsnewidiad. Y gwir amdani yw bod 80,000 o bobl bob mis bellach yn gallu ffonio dewis arall i adran frys neu feddygfa. Nid cynllun yw hwnnw; mae'n rhywbeth sy'n cael ei gyflawni. Mae'r un peth ar gyfer canolfannau gofal argyfwng yr un diwrnod—mae 7,500 o bobl bellach nad ydynt yn mynd i'r adrannau brys, maen nhw'n dod i mewn i'r canolfannau gofal argyfwng yr un diwrnod ac maen nhw'n gadael i fynd adref yr un diwrnod. Canolfannau gofal sylfaenol brys—16 ohonyn nhw, 16 o ganolfannau newydd, 11,000 o bobl y mis. Nid cynllun yw hwn. Dyma sy'n cael ei gyflawni. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nodi hynny.

A yw dan bwysau? Yn bendant, mae dan bwysau. A pham mae dan bwysau? Mae hyn oherwydd bod y galw wedi cynyddu a chynyddu a chynyddu. Fel y dywedais i, mae wedi dyblu ers cyn y pandemig, ac ers y pandemig rydym wedi gweld cynnydd o 21 y cant yn y galw. Dydych chi ddim yn mynd i lwyddo i ddatrys hynny ar unwaith, a dyna pam mae hwn yn ddull llawer mwy strategol a systemig sy'n ceisio edrych ar yr hyn y mae angen i ni ei wneud ar draws y system gyfan.

Y gwir yw, ym mis Ebrill, cawsom ni'r trydydd galw uchaf am ambiwlansys erioed. [Torri ar draws.] Nid yw'n ddigon da, ond dyna'r trydydd uchaf erioed. Ac eto—[Torri ar draws.]

15:35

Ysgrifennydd Cabinet, arhoswch am eiliad. Mae yna Aelodau sy'n gwneud sylwadau ar eu heistedd. Gadewch i'r Ysgrifennydd Cabinet ymateb i'r cwestiynau a ofynnwyd iddi, os gwelwch yn dda.

Ac eto, treuliodd 70 y cant o gleifion lai na phedair awr mewn cyfleusterau gofal argyfwng, a'r amser cyfartalog ar gyfer brysbennu oedd 20 munud. Felly, rydych chi'n iawn, nid yw'n ddigon da—wrth gwrs nad yw'n ddigon da—ond rydyn ni'n mynd i gymryd ychydig o amser i ymdopi â cheisio delio â'r cynnydd enfawr hwnnw yn y galw. Ac mae'r mathau hyn o systemau, gan ymateb gyda'r rhaglen chwe nod, rwy'n credu wedi lleddfu hyn. Dychmygwch sut beth fyddai wedi bod pe na baem wedi cyflwyno'r rhaglen hon.

O ran streiciau, yn amlwg rydym am osgoi gweithredu diwydiannol. Allwn ni ddim gwneud dim o hyn heb y gweithlu. Dyna pam roeddwn yn arbennig o falch ein bod wedi gallu gwneud cynnig i dair adran o'r BMA yr wythnos diwethaf ac y bydd hynny'n cael ei argymell i'w haelodau. Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n golygu y gallwn barhau i ddarparu'r gwasanaeth y mae pobl Cymru yn ei haeddu a'i angen.

Diolch am eich datganiad heddiw, Ysgrifennydd Cabinet. Rwy'n credu mai'r peth pwysicaf am y cynllun chwe phwynt yw bod pobl yn cael y gofal iawn, ar yr adeg iawn, ac yn y lle iawn. Mae agor 16 o ganolfannau gofal sylfaenol brys ledled Cymru yn fuddsoddiad da iawn, iawn, oherwydd mae'r rhan fwyaf o'r canolfannau gofal sylfaenol brys hynny yn agosach at gartref nag y byddai'r A&E—fel y mae'r rhan fwyaf o bobl yn cyfeirio ati—wedi bod. Ac mae hefyd yn golygu y gallan nhw barhau â'r gofal parhaus wedyn, oherwydd eu bod yn eu hardaloedd, a byddan nhw'n cael eu gweld a'u trin gan bobl sy'n gwybod ac yn deall eu hanghenion. Ni allwch orbwysleisio hynny. Bydd y cyllid rhaglen ychwanegol o £25 miliwn i gynyddu capasiti gofal brys i 24/7 yn helpu unwaith eto i leddfu'r pwysau gofal brys rydych newydd ei nodi. Ac os gofynnwch chi i unrhyw un—

Rydw i'n mynd i. Os byddwch yn gofyn i unrhyw un sydd wedi bod yno, byddan nhw'n dweud wrthych fod ganddyn nhw wasanaeth da. Felly, wrth symud ymlaen, ac eto, edrych ar gynnydd ar hyd y cynllun, pryd allwn ni ddisgwyl gweld y datganiad nesaf gennych chi a fydd yn dangos, rwy'n amau, hyd yn oed mwy o gynnydd ar y llwybr hwn?

Byddaf yn ceisio gwneud datganiad arall y flwyddyn nesaf. Rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn, oherwydd rwy'n hoffi cadw'r momentwm i fynd. Rwy'n credu bod cynnydd go iawn wedi bod—mae hyn yn gyflawniad go iawn. Ond mae llawer iawn yr ydym wedi'i wneud nad wyf wedi sôn amdano. Er enghraifft, rydyn ni wedi rhoi £5 miliwn i weithlu cymunedol gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gan geisio sicrhau bod pobl yn cael y gefnogaeth honno yn y gymuned—y ffisiotherapyddion, y gweithwyr ailalluogi hynny—yn ceisio sicrhau bod pobl yn ffit ac yn iach ac nad oes angen iddyn nhw wedyn fynd i mewn i ysbyty. Un o'r pethau rydyn ni'n ei wneud yw ein bod ni wedi cynyddu—a bydd Jenny Rathbone yn falch o glywed hyn—faint o arian sy'n mynd i mewn i nyrsio cymunedol a nyrsio gofal lliniarol arbenigol yn y gymuned, yn enwedig dros y penwythnos. Rydyn ni'n nodi'r 0.5 y cant o bobl sydd â'r risg fwyaf o fynd i ofal argyfwng. Rydyn ni'n gwybod pwy sy'n debygol o fod mewn gofal argyfwng yn y pen draw, felly rydyn ni'n rhoi'r gefnogaeth i mewn cyn iddyn nhw gyrraedd yno—ceisio eu cadw gartref a rhoi'r gefnogaeth iddyn nhw. Rwy'n credu bod llawer o bethau cyffrous iawn yr ydym yn eu gwneud.

Ar ben hynny, wrth gwrs, mae gennym ni'r fframwaith adrodd oedi mewn llwybrau gofal—mae hynny bellach wedi bod ar waith ers blwyddyn—felly rydyn ni'n gwybod beth yw'r oedi, pam mae pobl yn dal yn yr ysbyty. Mae hynny i gyd nawr yn system Cymru gyfan, felly gallwn ddwyn pawb i gyfrif. Ac wedyn, mae'r peth y siaradais amdano yr wythnos diwethaf—y gwasanaeth cyswllt toresgyrn. Bydd un o bob dwy fenyw dros 50 oed yn torri asgwrn ar ôl 50. Ac os ydych chi wedi ei dorri unwaith, mae llawer mwy o siawns y byddwch chi'n ei dorri eto. Gyda'r datblygiad hwn o wasanaeth cyswllt toresgyrn, rydym wedi gwneud llawer iawn o ddadansoddiad i edrych ar beth yw'r costau sy'n gysylltiedig â hyn, nid yn unig i'r person ond i'r GIG, ac mae'n enfawr. Felly pam nad ydyn ni'n rhoi'r gefnogaeth honno? Pan fyddwn yn gwybod a yw rhywun wedi cwympo, rhoi'r gefnogaeth i sicrhau nad yw'n cwympo eto ac yn dod yn ôl i'r ysbyty, yn enwedig y bobl hynny sydd wedyn yn ei chael hi'n anodd cyrraedd adref. Felly, mae hynny i gyd, rwy'n credu, yn ddatblygiadau cadarnhaol iawn.

Rhywbeth rwy'n arbennig o awyddus i'w wneud yw ceisio cael cartrefi gofal a chartrefi nyrsio i gymryd ychydig mwy o gyfrifoldeb, bod ychydig yn llai gwrth-risg, nid dim ond anfon pobl i'r ysbyty. Oherwydd os byddan nhw'n mynd i'r ysbyty, byddan nhw yno am amser hir. Felly, gadewch i ni ddod â'r ysbyty atyn nhw, gadewch i ni gael yr ymgynghorwyr meddygol ar beiriant monitro o bell i ddweud, 'Iawn, gadewch i ni gael golwg arnyn nhw. Sut maen nhw?' Oherwydd os ydyn nhw'n mynd i'r ysbyty, mae'n mynd i fod yn anodd iawn eu cael nhw allan, a dydyn nhw ddim eisiau bod yn yr ysbyty; maen nhw eisiau bod yn eu hamgylchedd cartref. Felly, dyna rydyn ni'n ceisio'i wneud—eto, i nodi pwy yw'r bobl sy'n debygol o fynd i'r ysbyty. Os ydyn nhw'n mynd i'r ysbyty, maen nhw'n debygol o aros yno am amser hir, a does neb eisiau hynny. 

15:40
5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Amgylchedd morol cynaliadwy yng Nghymru

Eitem 5 y prynhawn yma yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: amgylchedd morol cynaliadwy yng Nghymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Huw Irranca-Davies.  

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Y dydd Sadwrn hwn oedd Diwrnod Cefnforoedd y Byd, ac rydw i'n croesawu'r cyfle i wneud datganiad ar ein huchelgeisiau ar gyfer ein moroedd. Mae ein moroedd a'n harfordir yn rhan eiconig o Gymru, gan ddyblu maint ein gwlad. Nid rhywbeth pell i ffwrdd, draw fanno, yn ddwfn o dan y dŵr, nad oes rhaid inni ei ystyried yw'r amgylchedd morol. Mae cymunedau morol yn gartref i 60 y cant o bobl Cymru. Ac mae'n sail i'n bywoliaeth.

O fusnesau pysgota a bwyd môr, i ddenu twristiaid, i botensial enfawr swyddi gwyrdd mewn gwynt ar y môr na fanteiswyd yn llawn arno eto, mae pobl ledled Cymru yn dibynnu ar yr amgylchedd morol bob dydd. Wrth edrych yn fyd-eang, mae cefnforoedd yn allweddol i reoleiddio hinsawdd, gan ein hamddiffyn rhag newid hyd yn oed yn gyflymach yn yr hinsawdd. Nhw yw'r sinc carbon mwyaf ar y blaned, gan amsugno dros chwarter yr allyriadau carbon deuocsid rydym ni'n eu hachosi fel bodau dynol, a thua 90 y cant o wres gormodol. Ac er gwaethaf hyn i gyd, mae ein perthynas â'r amgylchedd morol yn ddiffygiol.

Fis diwethaf, adroddodd Gwasanaeth Newid Hinsawdd Copernicus fod tymheredd cefnforoedd y byd wedi bod yn uwch na phob cofnod hanesyddol bob dydd dros y flwyddyn ddiwethaf. Gadewch i ni fod yn hollol glir: mae hyn yn arwyddocaol yn fyd-eang. Mae'n effeithio ar fywyd morol: mae pysgod a morfilod yn symud i chwilio am ddŵr oerach, sy'n tarfu ar y gadwyn fwyd a bydd rhywogaethau eraill yn cael eu colli'n llwyr. Ac mae'n effeithio hefyd ar ein cymunedau yma gartref. Mae llenni iâ sy'n toddi yn arwain at lefelau'r môr yn codi, sy'n cynyddu'r perygl o lifogydd i'n hardaloedd arfordirol. Mae bron i 250,000 eiddo yng Nghymru mewn perygl o lifogydd. Dyna un o bob wyth eiddo, mewn trefi ar draws Cymru o'r Rhyl i Lanelli i Gasnewydd. Mae yna effeithiau eraill hefyd. Oherwydd erydiad arfordirol, llifogydd a newid hinsawdd, mae mwy na 260 o safleoedd tirlenwi arfordirol ledled Cymru mewn perygl o ollwng ar hyn o bryd. Ac mae hynny'n golygu bod gwastraff o ddegawdau a degawdau yn ôl yn gollwng i'r amgylchedd morol heddiw, o bosibl.

Mae hyn i gyd yn rhoi darlun clir iawn o pam mae cenedlaethau'r dyfodol—ein plant a'u plant nhw—yn dibynnu arnom ni i wneud y penderfyniadau cywir nawr. Mae angen gweithredu parhaus a thrawsnewidiol arnom ni i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i reoli ein hadnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy, gan gynnwys ein moroedd, fod wrth wraidd ein penderfyniadau. Mae'n golygu cefnogi ynni adnewyddadwy morol i'n helpu i gyrraedd sero-net, tra hefyd yn gwneud ein hecosystemau morol yn fwy cydnerth. Mae'n golygu harneisio egni a brwdfrydedd pobl, cymunedau a sefydliadau, i wella'r byd er gwell i'r rhai o'n cwmpas. Ac mae'n golygu sicrhau bod rheolaeth gynaliadwy wrth wraidd sut rydym ni'n ymdrin â physgodfeydd, gan fod o fudd i'r sector a'r amgylchedd. A byddaf yn gwneud datganiad ar wahân ar bysgodfeydd ar ôl yr egwyl, gyda chaniatád y Dirprwy Lywydd a'r Llywydd.

Rhan allweddol o'n dull gweithredu yw arwain datblygiad yn y modd cywir. Mae ein moroedd a'n harfordiroedd yn gynyddol orlawn, ac felly fe allwn ni wneud y gorau i ddiogelu a chefnogi'r diwydiannau sydd eisoes wedi'u sefydlu gan ganfod y lle hefyd ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol. Dyna pam rwy'n comisiynu adolygiad annibynnol o ddulliau cynllunio morol, fel ein bod yn deall sut y gallwn ni fynd ymhellach gyda'n system gynllunio morol wrth adeiladu ar y fframwaith presennol. Ac yn adeiladu ar waith fy rhagflaenydd, rydym ni'n gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod caniatâd morol yn broses alluogi—mae'n canolbwyntio ar sut i wneud i bethau weithio i gyflawni dros natur a'r hinsawdd hefyd.

Rwy'n archwilio sut y gallwn ni wneud mwy i annog prosiectau natur morol sy'n dod â manteision enfawr i bobl a natur. Edrychwch ar y gwaith sydd wedi'i wneud gan Project Seagrass, wedi'i ariannu drwy'r gronfa adeiladu capasiti mewn cymunedau arfordirol. Mae eu gwaith yn ymgysylltu â'r gymuned leol, mae'n gwella medrau pobl ifanc, ac mae'n ymgysylltu â thair ysgol leol ac yn cynnig hyfforddiant i ddau grŵp ieuenctid lleol. Edrychwch ar sut mae arsyllfa adar a maes Enlli yn cynnwys cymunedau amrywiol yn uniongyrchol yn nyfodol bywyd gwyllt yr ardal drwy ymgysylltu a thrwy wyddoniaeth dinasyddion. Byddwn yn cadw'r pwyslais hwn ar gydnerthedd y moroedd ac adfer ecosystemau, a byddwn yn gosod targedau uchelgeisiol yn ein Bil arfaethedig i ddiogelu'r cynefinoedd hanfodol hyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae ein rhwydwaith ardaloedd morol gwarchodedig yn hanfodol, gyda dros 50 y cant o ddyfroedd Cymru wedi'u dynodi ar hyn o bryd. Byddwn yn gweithio tuag at gwblhau'r rhwydwaith, ac rydym ni'n gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i'n helpu i ddeall cyflwr y rhwydwaith ac i nodi camau gweithredu i'w blaenoriaethu. Un o'r prif bwysau ar ecosystemau ein moroedd yw sbwriel yn y môr. Mae offer pysgota a gollwyd neu a daflwyd yn rhan sylweddol o'r llygredd plastig yn ein moroedd, ond mewn gwirionedd mae hwn yn faes lle mae gennym ni stori gadarnhaol iawn i'w hadrodd fel cenedl. Yn wir, mae Cymru wedi arwain y ffordd drwy ein cynllun i ailgylchu offer pysgota sydd wedi cyrraedd diwedd ei oes, sydd wedi casglu 10 tunnell o offer dros ddwy flynedd.

Ac nid dyna derfyn y gwaith rydym ni'n ei wneud i gefnogi ein moroedd a'n cefnforoedd. Rydym ni'n gweithio gyda rhanddeiliaid i gwblhau strategaeth cadwraeth adar môr Cymru, i gefnogi ein rhywogaethau adar môr sydd o bwysigrwydd rhyngwladol. Mae ein hadar môr wedi dod dan bwysau cynyddol, yn enwedig trwy achosion o ffliw adar. A byddwn yn rhyddhau potensial carbon glas trwy gefnogi adfer morwellt a morfeydd heli, a thrwy fforwm carbon glas newydd yng Nghymru.

Byddwn yn parhau i weithio ar y cyd, Dirprwy Lywydd. Mae Partneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru, CaSP, yn enghraifft wych o hyn, gan ddod ag ystod eang o randdeiliaid ynghyd a gwneud gwaith hanfodol mewn llythrennedd cefnforol i ehangu'r ddealltwriaeth. A byddwn yn manteisio i'r eithaf ar fuddsoddiad glas i gynyddu maint prosiectau adfer natur a pha mor gyflym maen nhw'n gweithio. A dyna pam rwy'n falch iawn heddiw o gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i gronfa gwydnwch morol a gwella ecosystemau naturiol, MARINE, Cymru. Bydd y cyllid hwn yn allweddol i alluogi MARINE Cymru i ddod yn weithredol ac i ddenu buddsoddiad cynaliadwy. Bydd y gronfa, a gefnogir gan ymchwil Cyfoeth Naturiol Cymru i'r cyfleoedd a'r blaenoriaethau o ran adfer ecosystemau morol, yn ein helpu i gyflymu ein hymdrechion.

Fe wyddom ni fod pobl ledled Cymru yn teimlo cysylltiad dwfn iawn â'n harfordir, ac mae llawer o bobl, yn wir, yn dibynnu ar ein harfordiroedd a'n cefnforoedd bob dydd. Gyda'n gilydd fe allwn ni ac mae'n rhaid i ni ddiogelu'r lleoedd arbennig hyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol hefyd. Diolch, Dirprwy Lywydd.

15:45

Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad—bu'n amser hir yn dod. Mae'n rhywbeth rydw i wedi'i godi yn y pwyllgor newid hinsawdd ac yr ydw i wedi ei godi yn y Senedd.

Mae moroedd tiriogaethol Cymru yn gorchuddio tua 32,000 cilomedr sgwâr. Mae hynny'n llawer mwy na'i dirfas tiriogaethol. Felly, i mi, rydw i'n mynd i neidio'n syth at y ffaith eich bod chi hefyd wedi sôn am y cyllid newydd rydych chi'n ei gyflwyno. Rwy'n gwybod y bydd ar y sefydliadau hynny sy'n gweithio yn amgylchedd morol Cymru eisiau gwneud cais am hyn. Felly, byddai'n dda, Gweinidog, pe gallech chi esbonio ac egluro y bydd yn hawdd cael gafael ar y cyllid hwn ar gyfer y bobl wych hynny sy'n gwneud cymaint ledled Cymru.

Nawr, o ystyried bod y rhan fwyaf o Gymru allan ar y môr, mae'n siomedig bod cyn lleied o sylw wedi'i roi i'r amgylchedd morol gan Lywodraeth Lafur Cymru. Ac rwyf hyd yn oed wedi crybwyll yn ddiweddar bod yr Arglwydd Deben, cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd ei hun, wedi dweud am y gwendidau y gallai eu gweld yn y sector morol o ran yr adroddiad.

Felly, mae'n newyddion gwych yn wir, ond mae gen i ddiddordeb gwirioneddol gweithio gyda chi i weld diwygio'r polisi ac, yn bwysicach fyth, ei gyflwyno. Mae cant un deg a thair miliwn tunnell o garbon yn cael ei storio yn y 10 cm uchaf o waddodion morol yng Nghymru. Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, mae hynny'n cynrychioli bron i 170 y cant o'r carbon sy'n cael ei ddal gan goedwigoedd Cymru. Gall arferion megis treillio ar waelod y môr, carthu gwaelod y môr a seilwaith oddi ar y glannau amharu ar y gwaddodion hyn yn sylweddol, felly mae'n rhaid i ni sicrhau bod y carbon a ryddheir gan weithgareddau o'r fath nid yn unig yn cael ei ystyried ond yr eir i'r afael â hynny. Er enghraifft, dylai fod astudiaeth i'r dewis o roi'r gorau i beth treillio ar waelod y môr. Mae metr sgwâr o forwellt yn dal teirgwaith cymaint â choedwig law gyfatebol a 10 gwaith cymaint â glaswelltir a dyna pam nad wyf wedi rhoi croeso arbennig o frwd i orchuddio 10 y cant o dir â choed pan fydd yr effaith ar ein ffermwyr—pan allem ni fod yn gwneud cymaint mwy gyda'r sector morol. Byddai morfeydd heli mewn aberoedd gyda llwythi gwaddod crog uchel yn y golofn ddŵr, fel aber Afon Hafren, yn dal mwy na'n coedwigoedd. Felly, dylem ni fod yn gwneud mwy.

Nawr, clywsom gan Mark Drakeford AS yr wythnos diwethaf na ddylai'r Senedd hon yng Nghymru ofni arloesi. Felly, fe hoffwn i weld uwchgynhadledd o'r gwyddonwyr morol gorau yng Nghymru, ac mae gennym ni rai o'r rhai gorau—. Dim ond un sydd angen mynd i Brifysgol Bangor, ac fe hoffwn ei roi ar y cofnod y ganmoliaeth a'r edmygedd enfawr sydd gennyf i Shelagh Malham, sy'n ddirprwy yn Ysgol Gwyddorau Eigion Bangor; mae'r gwaith maen nhw'n ei wneud yno yn rhyfeddol. Felly, mae arnom ni eisiau defnyddio'r arbenigedd hwnnw a'r wybodaeth honno sydd ganddyn nhw, gwnaeth hyd yn oed Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU alw yn 2022 am ganllawiau i gynnwys morfeydd heli a morwellt yn y rhestr lawn o nwyon tŷ gwydr, a chyn bo hir byddaf yn mynd i blymio gyda'r Gweinidog blaenorol i edrych ar rai o'r prosiectau morwellt gwych sydd gennym ni yng Nghymru.

Enghraifft arall o ble mae'r amgylchedd morol yn cael ei drin er anfantais yw ym maes cynllunio. Ar gyfer y tir mae gennym ni gynlluniau datblygu lleol manwl. Mae RSPB Cymru, y Gymdeithas Cadwraeth Forol a minnau wedi dweud dro ar ôl tro bod angen yr un peth arnom ni ar draws ein—ac rwy'n gwneud hynny, oherwydd mae'r môr yna. Mae angen cynllun datblygu morol cenedlaethol, strwythurol, cynllun priodol sy'n dangos mewn gwirionedd—. Felly, mae angen iddo fod yn wahanol i'r cynllun morol cenedlaethol. Mae gwir angen iddo fod ar draws y sector cyfan.

Diolch i Lesley Griffiths am ei chydweithrediad caredig o ran mynd i'r afael â chynaeafu cyllyll môr yn anghyfreithlon yn Llanfairfechan. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn addo adolygiad i iechyd y boblogaeth hon o gyllyll môr ers blynyddoedd, felly does dim diben dechrau prosiectau a diogelu pethau heb gael yr atebion gwyddonol pan fyddwn yn gwneud hyn. Byddai'r ardal forol unigryw hon yn berffaith ar gyfer prosiect PhD i'r rhai sy'n astudio ym Mhrifysgol Bangor, un o'r canolfannau prifysgol mwyaf sy'n dysgu gwyddorau morol yn y DU.

A daw hyn â mi at fy mhwynt olaf. Ar ôl cyfarfod â'r Athro Shelagh Malham ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar, daeth yn amlwg y dylai Llywodraeth Cymru fod yn edrych yn fanylach ar y gwaith y mae'r brifysgol hon ac eraill yn ei wneud yn y sector morol. Er enghraifft, yn ystod COVID, doeddwn i ddim yn sylweddoli eu bod yn profi samplau dŵr, ac maen nhw'n gwneud hynny ar gyfer mathau eraill o firysau a chlefydau. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau ariannu wedi golygu eu bod wedi gorfod atal rhai o'r prosiectau hynny—

15:50

Iawn. Felly, byddwn yn gofyn i'r Gweinidog: mae wedi addo ymweld ag Ysgol Gwyddorau'r Eigion ym Mangor, a byddwn yn gallu dweud cymaint mwy wrtho a dangos cymaint mwy iddo pan fyddwn yn cynnal yr ymweliad hwnnw. Ond diolch yn fawr, gweinidog. Rwy'n credu mor gynnar yn eich briff, mae'r ffaith eich bod wedi gwrando arnom ni yn dda iawn, iawn yn wir.

Diolch yn fawr iawn am hynny, ac a gaf i ddim ond adleisio eich pwyntiau? Rwy'n gwybod, wrth ddod oddi ar y pwyllgor newid hinsawdd, lle buoch chi'n Aelod am beth amser yno, rwy'n awyddus i barhau i weithio gyda'r holl Aelodau yma yn y Senedd, a hefyd gyda'r pwyllgor hefyd, a chyda'r syniadau y maen nhw'n eu cyflwyno. Mae'n debyg mai'r unig gyfyngiad arnom ni yw'r cyfyngiad clasurol mewn Llywodraeth sef adnoddau a blaenoriaethau. Fodd bynnag, mae llawer y gallwn ni ei wneud.

Dim ond i godi'r pwynt a wnaethoch chi am brifysgolion, mae ein sector prifysgolion o ran gwyddor môr yn ardderchog. Mae'n hollol syfrdanol. Yn rhyfedd iawn, dyna pam aeth un o fy meibion i Fangor i astudio bioleg forol, ac yna mynd i wneud ei radd Meistr i lawr yn Plymouth ac yn y blaen. Ond aeth yno oherwydd ei fod yn gwybod am ragoriaeth y maes yna a'r bobl a oedd yn ymwneud ag ymchwil gymhwysol hefyd. Nid pethau damcaniaethol yn unig ydoedd, ond 'Sut mae gwneud Cymru'n lle gwell a gwneud hyn ar lawr gwlad?' Felly, rydych chi'n iawn, un o'r ffyrdd y gallwn ni ymestyn ein hadnoddau ymhellach yw gweithio gyda'n sector prifysgol, ac rydym ni'n awyddus iawn i wneud hynny.

Fe wnaethoch chi sôn am sawl maes. Dydw i ddim yn siŵr a alla i wneud cyfiawnder â nhw i gyd heb ennyn digofaint y Dirprwy Lywydd, sydd eisoes yn edrych arnaf. Ond gadewch i mi gyffwrdd â rhai o'r meysydd allweddol. Fe wnaethoch chi sôn am gronfa forol Cymru. Rydym yn falch ein bod yn gallu gweithredu ar hynny, a byddwn yn darparu cyllid i'w alluogi i ddod yn weithredol. Beth yw'r bwriad yma yw denu buddsoddiad uniondeb sylweddol cynaliadwy—mae uniondeb sylweddol yn hanfodol i hyn. Felly, rydym ni am wneud hyn yn enghraifft o sut y gall partneriaid weithio gyda'i gilydd i ddatblygu prosiectau i gyflawni canlyniadau ar y cyd yn yr amgylchedd morol, a gwneud i'r arian sydd ar gael fynd llawer pellach. Felly, bydd y gronfa honno'n ceisio buddsoddi mewn rhaglenni a phrosiectau sy'n galluogi, cynnal a gwella gwytnwch ein hecosystemau morol ac arfordirol yn y tymor hir, sy'n hwyluso darpariaeth ehangach o fuddion i unigolion, cymunedau a busnesau, ac yn cynhyrchu'r moroedd hynny yr ydym ni i gyd eu heisiau, sy'n lân, yn iach, yn ddiogel ac yn gynhyrchiol, ac yn fiolegol amrywiol hefyd.

O ran y cynllunio morol, fel y gwyddoch chi, ac rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn gwthio'n gyson at ddull gwahanol o gynllunio morol a fyddai'n efelychu rhywbeth fel cynllunio daearol, ond nid ydym ni'n cychwyn o ddalen wag yn fan yma, ac nid ydym ni'n dechrau o'r sail yr ydym ni'n ffodus wedi dechrau ohono gyda chynllunio daearol. Yr hyn sydd gennym ni yw llawer o bethau eisoes, ac nid ein cynllun morol cenedlaethol i Gymru yn unig yw hynny, ond rydym ni wedi ymgynghori'n ddiweddar, er enghraifft, ar feysydd adnoddau strategol posibl, ar gyfer ynni llif llanw. Felly, nod y meysydd adnoddau strategol posibl yw nodi a diogelu'r meysydd hynny sydd â'r potensial i gefnogi defnydd cynaliadwy yn y dyfodol gan y sector hwnnw, ac rydym ni wedi cael ymgynghoriad gwych ar hynny. Diolch i bawb a gyfrannodd eu barn. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion maes o law. Mae hynny'n ein galluogi i roi darn arall o'r jig-so yn ei le. Yn amodol ar ganlyniad hynny, byddwn yn ceisio gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu cynigion ar gyfer meysydd adnoddau strategol eraill ar gyfer sectorau eraill, gan gynnwys, er enghraifft, ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, ac yna, fesul tipyn, yn hytrach na cheisio dyfeisio efelychiad cyfan o'r drefn gynllunio daearol, rydym yn gwneud fesul tipyn, ac rydym ni mewn gwirionedd yn datblygu'r drefn yna o fapio'r moroedd fel yna.

Dirprwy Lywydd, ni allaf gwmpasu popeth, ond roedd arnaf i eisiau diolch am eich cefnogaeth hefyd am yr hyn rydym ni'n ei wneud gyda morfeydd heli a morwellt a charbon glas. Mae gan hynny botensial enfawr, mae'n rhaid i mi ddweud, os cawn hynny'n iawn, ac mae'n golygu cael dull gwirioneddol gynaliadwy lle mae gennym ni ddefnydd cynaliadwy o'n hadnodd morol fel y gallwn ni alluogi pysgodfeydd, er enghraifft, neu alluogi piblinellau neu beth bynnag, pa bynnag dechnolegau newydd sy'n dod i'r fei, ond rydym ni'n gwneud hynny mewn ffordd nad yw'n niweidio'r cronfeydd enfawr hynny o garbon glas sydd wedi'i gloi yn ein hamgylchedd morol hefyd. Dirprwy Lywydd, mae'n debyg fy mod i wedi mynd ymlaen ychydig yn rhy hir, ond, bydd Janet, rwy'n gwybod, yn parhau â'r sgwrs hon.

15:55

Gaf i ymddiheuro ar y cychwyn? Roeddwn i ychydig o funudau'n hwyr ar gyfer hyn, felly rwy'n ymddiheuro i'r Siambr a diolch i'r Dirprwy Lywydd am ei amynedd a diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei amynedd hefyd am hynna. 

Mater o frys ydy’r angen am ymateb i stad ein moroedd, wrth gwrs. Mae ymchwil diweddar wedi paentio llun pryderus: mae moroedd y byd yn wynebu her driphlyg o gynhesu eithafol, colli ocsigen ac asideiddio. Mae’r amgylchiadau eithafol hyn wedi gwaethygu ers degawdau—mae hynna'n rhoi straen ar fywyd morol a’r ecosystemau sy’n ddibynnol arno. Ac mae wedi cael ei ddweud yn barod, dŷn ni'n wlad arforol, mae'n rhaid inni gymryd sylw. Rwyf i yn croesawu'r hyn mae'r Llywodraeth yn ei wneud.

Nawr, hoffwn i bwysleisio’r gap mewn cyllido sy’n bodoli ar gyfer Cymru pan fo hi'n dod i warchodaeth. Annigonol ydy'r lefelau cyllido presennol. Felly, a fyddai'r Ysgrifennydd Cabinet yn medru rhoi manylion am ba gamau fydd yn cael eu cymryd i gael mwy o gyllid, ie, ar gyfer gwarchod hyn yng Nghymru, ond hefyd a oes yna gynlluniau penodol ar lefel Prydeinig i gael fwy o gyllid rhyngwladol i gefnogi'r hyn dŷn ni'n ei wneud? Achos, wrth gwrs, mae'n moroedd yn rhywbeth dŷn ni'n ei rannu'n rhyngwladol.

Nawr, mae ffeindio balans rhwng yr angen i warchod natur a’r angen i gyrraedd net sero trwy gynlluniau gwynt ar y môr, mae hynny'n hollbwysig. Tra bo ffermydd gwynt ar y môr yn ddarn canolog o’n strategaeth ynni adnewyddol, rhaid iddyn nhw gael eu cynllunio mewn ffyrdd sy’n lleihau’r effaith ar ecosystemau morol. Sut ydy'r Llywodraeth, ynghyd â beth sydd wedi cael ei ddweud yn barod—dwi ddim eisiau i chi ailadrodd—yn sicrhau bod y prosiectau’n cael eu cynllunio a’u creu gydag amddiffynfeydd amgylcheddol? A sut bydd hynny'n cael eu monitro, plîs?

Wrth gwrs, hefyd, mae’r potensial am swyddi glas yn syfrdanol. Mae’r amgylchedd yn cynnig cyfleoedd mewn cymaint o sectorau, fel pysgodfeydd, aquaculture, ynni adnewyddol. Felly, mae buddsoddi yn y swyddi hynny nid yn unig yn help i’n heconomi, ond i'n ffordd ni o fyw. Felly, pa strategaethau sydd mewn lle i sicrhau bod creu swyddi yn y sectorau hyn yn digwydd, eto mewn ffordd gynaliadwy a ffordd sydd o fudd i’n cymunedau, plîs? Mae cysylltiad cynhenid, wrth gwrs, rhwng iechyd ein moroedd ac iechyd ein planed. Eto, o ran partneriaid rhyngwladol i wynebu'r heriau bydol hyn, sut byddwn ni, fel Llywodraeth yng Nghymru, yn gweithio'n rhyngwladol ac yn helpu ymchwil rhyngwladol i edrych ar hyn, plis? 

Nawr, dŷn ni wedi gweld sôn am stad ein dŵr, achos, fel bo cwmnïau dŵr yn gollwng carthion yn ein moroedd, yn ein hafonydd, mae sicrhau bod cwmnïau’n cael eu dal i gyfrif am hynny mor bwysig. Ac, o ran gwella’n llywodraethant amgylcheddol a sicrhau bod toriadau cyfraith amgylcheddol yn wynebu cosb syfrdanol, ydych chi'n cytuno bod perygl yn hyn y gall ein gwleidyddiaeth ni gael ei pheryglu, ei lygru, o hyd? 

Ac, yn dod at y diwedd, dwi'n addo, Dirprwy Lywydd, hoffwn i bwysleisio pwysigrwydd mewnbwn y cyhoedd yn hyn oll. Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet wir yn teimlo'n gryf am hyn, hefyd. Yn aml, cymunedau lleol bydd y bobl cyntaf i sylwi ar newidiadau yn eu hamgylchedd, ac mae rôl hollbwysig ganddyn nhw, nid yn unig, efallai, i feddwl mai eu rôl nhw yw i gwyno pan dŷn nhw ddim yn cytuno gyda rhywbeth, ond i gael mewnbwn i wneud yn siŵr bod cynlluniau'n bethau y byddan nhw'n teimlo'n rhan ohonyn nhw. So, sut ydych chi eisiau sicrhau bod lleisiau’r bobl sydd yn mynd i gael eu heffeithio arnynt mwyaf yn mynd i gael eu clywed, ac nid jest eu clywed ond eu gweithredu arnyn nhw? Felly, ie, mae yna nifer o heriau, dwi'n ymwybodol o hynny, ond byddaf i'n edrych ymlaen at gydweithio gyda chi i ymateb i rai o'r heriau hynny. Diolch.

16:00

Diolch yn fawr iawn, Delyth. Mae'n wych cymryd rhan yn y ddadl hon gyda rhywun sydd wedi bod mor angerddol yn gyson am yr amgylchedd morol hefyd, a'r defnydd cynaliadwy a chynhyrchiol o'r amgylchedd morol hwnnw a chael y cydbwysedd yn iawn. 

Gadewch i mi ddechrau lle gwnaethoch chi orffen yn y fan yna, gyda chymunedau lleol. Mae'n rhywbeth rydw i'n canolbwyntio'n fawr arno, sut rydym ni'n ymgysylltu â chymunedau lleol mewn ardaloedd arfordirol o ran y potensial enfawr sydd yna, er enghraifft, mewn ynni adnewyddadwy ac yn y blaen. Ac mae'n amlwg bod yna anfanteision i hynny, ond mae'n rhaid i ni fynd ati mewn modd priodol, hefyd, i ddiogelu'r amgylchedd morol, ond hefyd o ran y pethau unigol hynny y gellir eu gwneud. Siaradais ag ysgol yma o etholaeth yn ne Cymru yn gynharach heddiw ac fe allech chi weld yr angerdd oedd ganddyn nhw fel plant ifanc am feddwl nid yn unig amdanyn nhw eu hunain, ond hefyd y plant sy'n dod y tu hwnt iddyn nhw hefyd. Felly, mae yna rywbeth yma am beidio â gwneud pethau i bobl, ond gwneud pethau gyda phobl a chyda'r cymunedau arfordirol hynny, ac mae angen plethu hynny, rwy'n credu, i bopeth a wnawn. Mewn gwirionedd, mae partneriaeth arfordiroedd a moroedd Cymru sydd gennym ni, y bartneriaeth sy'n dwyn ynghyd pysgodfeydd, ynni adnewyddadwy, cymunedau arfordirol, asiantaethau i gyd yn un, yn enghraifft glasurol o sut rydych chi'n dod â'r holl leisiau hynny ynghyd i drafod y ffordd ymlaen.

Roeddech chi'n sôn am fonitro. Mae angen ymgorffori monitro ym mhopeth a wnawn, a rhywfaint o fonitro'r—. Mae gennym ni eisoes lawer iawn o bethau yr ydym ni'n eu mesur ac yr ydym ni'n eu monitro yn yr amgylchedd morol, ond, mewn gwirionedd, mae'r potensial sydd gennym ni wrth gyflwyno'r Bil llywodraethu amgylcheddol a bioamrywiaeth hefyd yn rhoi mwy o allu inni nawr lenwi rhai o'r bylchau hynny o ran y pethau nad ydym ni'n eu monitro, ond mae'n rhaid i ni ddewis y pethau cywir y mae arnom ni eisiau eu mesur, llenwi'r bylchau hynny yno ac yna gwneud yn siŵr ein bod yn ei fonitro. Mae hwn hefyd yn amgylchedd deinamig. Dydy e ddim fel petai gennym ni wyddoniaeth berffaith, achos mae rhai o'r pethau rydym ni'n—. Roeddwn i'n dweud ei fod yn amgylchedd morol llawn iawn; ydy yn wir. Mae ein hamgylchedd arfordirol a morol yn llawn iawn; mae gofynion mawr arno. Felly, bydd yn rhaid i ni ddysgu hefyd wrth fynd, mynd ati'n bwyllog, ond, pan fyddwn ni'n defnyddio'r amgylchedd morol mewn ffordd gynaliadwy mewn gwirionedd, mae'n rhaid i ni fesur yr hyn y mae'n ei wneud, mewn gwirionedd, ac addasu wrth i ni symud ymlaen.

Rydym ni, yn wir, yn gwneud llawer eisoes o ran ymchwil ac arweinyddiaeth fyd-eang. Rydym ni'n edrych ymlaen at chwarae rhan amlwg. Weithiau, dydyn ni ddim yn gweiddi'n ddigon uchel, mewn gwirionedd, am yr hyn rydym ni'n ei wneud yn y maes hwnnw yn barod. Mae yna gyfleoedd yn y flwyddyn i ddod, lle rydym ni'n gobeithio tynnu sylw at rywfaint o'r gwaith rydym ni'n ei wneud yma yng Nghymru yn barod, gan gynnwys gyda phethau fel adfer morwellt ac ati, ond hefyd i ddysgu gan eraill hefyd.

Un peth olaf roedd arnaf i eisiau sôn amdano yma, oherwydd roeddech chi'n sôn am fuddsoddi—. Rwy'n credu ein bod ni'n cydnabod na fydd gennym ni fyth—. Mae'n debyg iawn i iechyd; ni fydd gennym ni fyth ddigon i wneud popeth mae arnom ni ei eisiau. Ond os gallwn ni roi systemau uniondeb sylweddol ar waith i ddenu partneriaid sy'n barod i ariannu, a bydd rhai o'r rheini yn bartneriaid a fydd, mewn gwirionedd, yn elwa o'u buddsoddiad yn yr amgylchedd morol—. Dyna pam mae buddsoddiad cronfa forol Cymru yr wyf wedi'i gyhoeddi heddiw ynghylch y ffordd ymlaen, gan edrych ar y buddsoddiad uniondeb sylweddol cynaliadwy hwnnw, yn ffordd dda ymlaen. A bydd y gronfa hon—. Dim ond i ddweud na fydd cyfraniadau i'r gronfa yn gysylltiedig â'r broses gynllunio a chydsynio yng Nghymru. Fodd bynnag, mae cyfleoedd i ddysgu o'r buddsoddiad: adfer cynefinoedd a gwerthuso'r buddion, prosesau i lywio'r gwaith o ddatblygu polisi'r dyfodol—felly, er enghraifft, yn y budd net ar gyfer bioamrywiaeth neu ar gyfer pethau fel buddsoddi carbon glas hefyd. Felly, mae hyn yn arloesol iawn; mae'n torri tir newydd mewn gwirionedd. Rydym yn edrych ymlaen at weld pa bartneriaid hoffai ymrwymo a'n helpu ni gyda hynny.

16:05

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch am eich datganiad heddiw, Ysgrifennydd Cabinet. Dim ond eisiau dweud ydw i nawr fy mod i ychydig yn bryderus ynghylch dal a storio carbon, ei storio oddi ar yr arfordir mewn hen ogofau nwy. Mae gen i adroddiad yr hoffwn i ei rannu gyda chi, a byddaf yn ei anfon atoch chi.

Mae'r Gymdeithas Cadwraeth Forol wedi bod yn ymgyrchu dros gyfyngiadau ar ryddhau cemegau tragwyddol fel y'u gelwir nhw. Fe'u defnyddir wrth weithgynhyrchu cynhyrchion bob dydd, yn amrywio o bapur gwrthsaim i gotiau glaw. Ar hyn o bryd mae'r cemegau hyn yn amhosibl eu tynnu o'r cefnfor, ac maen nhw'n deulu mor fawr o gemegau fel ei bod hi'n anodd iawn eu rheoleiddio nhw fesul cemegyn—byddai'n cymryd gormod o amser. Mae'r cemegau hyn eisoes wedi cael eu profi i gael effaith negyddol ar fywyd gwyllt, gan gynnwys systemau imiwnedd dolffiniaid a dyfrgwn. Felly, a oes gan yr Ysgrifennydd Cabinet gynlluniau, drwy'r Bil amgylchedd newydd, i gyflwyno mecanweithiau cadarn sy'n cyfyngu ar y defnydd o gemegau tragwyddol a llygryddion eraill i'n cefnforoedd yng Nghymru?

Diolch yn fawr iawn. Roedd dau beth a godwyd gennych chi yn y fan yna; un - dal a storio carbon. Dim ond yr wythnos diwethaf roeddwn i lawr yn Aberdaugleddau yn siarad â chwmnïau sy'n ceisio esblygu, fel rhan o'r trawsnewidiad hwn yr ydym ni'n aml yn siarad amdano, i ffwrdd o ddiwydiannau'r degawdau blaenorol ac yn y blaen i ddiwydiannau a all, mewn gwirionedd—. Efallai y bydd rhai ohonyn nhw'n dal a storio carbon. Ond maen nhw'n wybyddus iawn o'r ffaith, er mwyn gwneud hyn, bod yn rhaid iddo fod gyda'r rheoliad llymaf yn ei gylch a'r rheolaethau llymaf yn ei gylch. Mae potensial yma, fel rhan o'r pontio teg, i fuddsoddi mewn dal a storio carbon mewn gwirionedd. Ond rydych chi'n hollol gywir yn yr hyn rydych chi'n ei ddweud: mae angen ei wneud yn ddiogel ac yn gywir, ac mae'r raddfa rydym ni'n sôn am gyflawni arni ymhell y tu hwnt i'r hyn sy'n cael ei wneud mewn enghraifft prawf bach, felly mae'n rhaid i ni ei gael yn hollol gywir. Byddwn yn gweithio nid yn unig yma yng Nghymru ond hefyd gyda Llywodraeth y DU hefyd, a byddaf yn gweithio gydag Ysgrifenyddion Cabinet eraill i sicrhau ein bod ni'n mynd ati yn y ffordd iawn yma yng Nghymru.

O ran y cemegau tragwyddol, rwy'n ymwybodol o hyn ac rwy'n ymwybodol o'r gwaith y mae'r Gymdeithas Cadwraeth Forol ac eraill wedi bod yn ei wneud arno. Nid yw'n trosi'n awtomatig i'r ddeddfwriaeth yr ydym ni'n ei chyflwyno, ond rwy'n credu bod ffyrdd eraill y gallwn ni edrych ar ymdrin â hyn mewn gwirionedd, oherwydd mae'n un o'r meysydd hynny sydd wedi bod yn amlygu ei hun yn ystod y blynyddoedd diwethaf gydag ymwybyddiaeth o effeithiau'r cemegau tragwyddol hyn, fel y'u gelwir nhw, nid yn unig yn yr amgylchedd morol, ond mewn gwirionedd yn ehangach yn ein hamgylchedd, gan gynnwys mewn pridd ac ati ac ati. Felly, mae gen i ddiddordeb mewn—. Rwy'n gwybod y byddaf yn cyfarfod â'r Gymdeithas Cadwraeth Forol o bryd i'w gilydd yn fy swydd; rwy'n siŵr y byddant yn cyflwyno hyn i'w drafod. Ond os hoffech chi rannu unrhyw beth pellach gyda fi—rwy'n credu eich bod wedi sôn bod gennych chi bapur ar hwn—ar bob cyfrif anfonwch e ata i, ac fe gaf i olwg. Diolch.

16:10

Ysgrifennydd Cabinet, fel yr un sy'n hyrwyddo rhywogaeth y pâl, rwy'n falch eich bod wedi cyfeirio at strategaeth cadwraeth adar môr Llywodraeth Cymru yn eich datganiad. Un agwedd hanfodol o'r strategaeth yw bioddiogelwch cadarn ar ynysoedd, er mwyn sicrhau bod ein poblogaethau rhyngwladol pwysig o adar môr sy'n bridio yn cael eu hamddiffyn rhag rhywogaethau ymledol goresgynnol, fel llygod mawr brown. Daw'r cyllid ar gyfer y prosiect bioddiogelwch presennol i Gymru i ben ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf, ac mae'n hanfodol fod y gwaith hwn yn parhau.

Nawr, mae'r prosiect yn chwarae rhan hanfodol wrth ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau, fel y digwyddiad diweddar ar ynys Sgogwm lle roedd bad achub yn sownd ar y creigiau ac yn dechrau gollwng tanwydd. Fel rhan o'r ymateb, cafodd tîm bioddiogelwch Cymru eu defnyddio i chwilio am unrhyw lygod mawr a allai fod ar y llong. Pe bai unrhyw un wedi gwneud ei ffordd i'r ynys, gallai hyn fod wedi arwain at ganlyniadau dinistriol i'r adar môr sy'n nythu. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw hyn, ac mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn dynodi cyllid a mecanwaith cyflawni fel y gall barhau. Felly, a allwch chi roi sicrwydd heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r gwaith o ddarparu bioddiogelwch ar ynysoedd lle ceir adar y môr yng Nghymru, ac a allwch chi hefyd roi syniad o'r amser ynghylch pryd y gallwn ni ddisgwyl clywed mwy o fanylion am faint o gyllid a ddefnyddir i fod yn sail i'r strategaeth cadwraeth adar môr ddisgwyliedig yng Nghymru?

Diolch. O ran y ddau sylw, ynghylch strategaeth cadwraeth adar môr Cymru, rydym ni wedi ymrwymo'n fawr i hynny, ac rwy'n credu bod y gwaith yr ydym ni wedi'i wneud yn y maes yna eisoes yn dangos ei fanteision, ac, yn amlwg, fe hoffem ni barhau â'r gwaith yna. Rydw i wedi gweld drosof fy hun, rwy'n credu, y gwaith a wnaed, ochr yn ochr â chi ac Aelodau eraill—. Rydw i wedi anghofio enw'r ci a gafodd ei ddefnyddio'n ddiweddar ar ynys Sgogwm—ai Jaz oedd e? O diar, mi wnaf i gofio i rŵan. Ond y ci anhygoel hwnnw sydd mewn gwirionedd yn chwilio am lygod mawr a phlâu. Ac rydw i wedi bod allan yna i Ynys Sgogwm hefyd â'i weld yn gwneud hynny yn y fan a'r lle. Yn wir, cafodd ei anfon yn y digwyddiad diweddar hefyd. Felly, rydym ni'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd hyn o ran ein poblogaeth o adar môr. Ni allaf roi cyhoeddiad i chi heddiw, ar lawr y Senedd yma heddiw, ond rydym ni'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd y gwaith hwnnw, oherwydd mae gennym ni rai o'r rhai mwyaf gwerthfawr—nid palod yn unig; palod yn eu plith—o boblogaethau adar y môr ar lawer o'n cynefinoedd ynysoedd bregus. Ni allaf roi'r arwydd rydych chi'n chwilio amdano yma heddiw a lawr y Senedd, ond rydym ni'n ymwybodol iawn o arwyddocâd y gwaith hwn, a'i bwysigrwydd.

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad. Mae dros hanner arwynebedd Cymru yn cynnwys amgylchedd morol ac mae'n gartref i amrywiaeth enfawr o gynefinoedd a bywyd morol. Rydym ni'n ddigon ffodus i fod â chytrefi pwysig o adar môr, fel y palod sydd newydd eu crybwyll, ond hefyd adar drycin Manaw oddi ar ynys Sgomer, môr-wenoliaid oddi ar Ynys Môn, dolffiniaid trwyn potel ym Mae Ceredigion a morloi llwyd o amgylch arfordir sir Benfro. Felly, mae'r moroedd yn hanfodol i'n hiechyd a'n heconomi, ond maen nhw'n wynebu heriau digynsail, sy'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, newid hinsawdd, cynhesu'r moroedd a chanlyniadau trychinebus gorbysgota, llygredd, ynghyd â llawer o fathau eraill o rywogaethau ymledol.

Ond mae gwaith gwych yn mynd rhagddo, gyda buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, fel adfer dolydd morwellt—mae hynny wedi ei grybwyll—mewn rhai ardaloedd arfordirol, fel Llŷn, ac mewn cydweithrediad â phrifysgol Abertawe, ac maen nhw'n hynod bwysig i gynnal y bywyd gwyllt lleol hwnnw, a bod cydweithio yn allweddol i helpu adfer yr amgylchedd. Ond mae gan dros hanner dyfroedd Cymru ryw fath o amddiffyniad cyfreithiol. Credaf fod gennym ni 139 o ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru, ac un ardal gadwraeth forol o amgylch Sgomer. Ond er gwaethaf hyn, nid yw llawer o'n hamgylcheddau morol yn ffynnu ac maen nhw mewn amodau anffafriol oherwydd y llu o resymau yr ydw i ac eraill wedi'u hamlinellu. Felly, mae rheoli'r cynefinoedd hyn yn gynaliadwy yn hanfodol er mwyn eu helpu i ffynnu.

Felly, Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n awyddus iawn gwybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella sut y rheolir yr ardaloedd morol gwarchodedig hynny, fel y gallan nhw ffynnu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, a byddwn yn croesawu mwy o fanylion am MARINE Cymru a swyddogaeth honno wrth ddenu buddsoddiad cynaliadwy i faes sydd mewn dirfawr angen hynny.

16:15

Diolch yn fawr iawn, Joyce. Gallai MARINE Cymru, yn wir, oherwydd y cylch gwaith rydym ni'n ei roi iddi, fod â pheth potensial yn y maes hwn i adfer a gwarchod cynefinoedd ein hamgylchedd morol. Ond o ran y rhwydwaith ardal forol warchodedig y sonioch chi amdano, rydych chi'n dweud yn gwbl briodol nad y dynodiadau yn unig ydyw; mae ynghylch y ffordd rydyn ni'n eu monitro a'u rheoli'n effeithiol. Mae'r ffordd y'u rheolir nhw yn hynod bwysig. Ond mae gennym ni rwydwaith ardal forol warchodedig helaeth a'r hyn mae arnom ni eisiau ei sicrhau yw bod y safleoedd hyn a'r nodweddion ynddyn nhw yn parhau i fod mewn cyflwr ffafriol, ac yn wir yn gallu gwella hefyd. Felly, mae cynllun grant rheoli rhwydwaith ardal forol warchodedig yn cynnig cyllid cystadleuol ar gyfer cynigion a all wella dealltwriaeth o bwysau, neu sy'n ymyrraeth uniongyrchol yn y safle rheoli hwnnw. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfnod cyllido newydd ar gyfer cyflwyno cynigion newydd i gyfrannu at gynllun gweithredu rheoli ardal forol warchodedig 2024.

Dim ond i ddwyn i gof yn y fan yma—oherwydd byddwn ni wedi gweld rhai o'r prosiectau hyn dros y blynyddoedd diwethaf—y llynedd yn unig, dyrannwyd cyllid yn 2023 i bedwar prosiect sylweddol sy'n cael eu cyflawni gan brifysgolion Cymru, yr ydym ni wedi sôn amdanyn nhw eisoes, a chan sefydliadau anllywodraethol hefyd, sy'n gyfanswm o dros £100,000. Roedd y prosiectau hyn yn cynnwys ymchwil i ddatblygu proffiliau newid hinsawdd ar gyfer cynefinoedd morol Cymru, gwella dealltwriaeth o bysgod mudol yn aber afon Hafren—ac fe ddylwn i ddatgan diddordeb, gan fy mod i'n credu mai fi o hyd yw'r un sy'n eiriol dros eogiaid yr Iwerydd yma yn y Senedd—a datblygu cynllun gwyliadwriaeth ar gyfer ynys Gwales hefyd.

I ychwanegu, yn olaf, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wrthi'n cynnal proses i ddiweddaru ein hasesiadau o gyflwr Ardaloedd Morol Gwarchodedig, a fydd yn hanfodol i'n helpu i ddeall yr ymyriadau posibl sydd eu hangen arnom ni i wella ein nodweddion morol. Rydym ni'n gobeithio cwblhau hyn—os yw'n ddefnyddiol rhoi amlinelliad o'r amserlen—rywbryd yn 2025, ond mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Diolch.

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad heddiw. Rwy'n falch iawn eich bod wedi sôn am Project Seagrass oherwydd, fel y gŵyr llawer o Aelodau, fi yw'r un yn y Senedd sy'n eiriol dros forwellt, ac rwy'n awyddus iawn i sicrhau nad yw Llywodraeth Cymru yn anghofio ei hymrwymiad i adfer morwellt. Fel y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet efallai yn ei wybod eisoes, y materion mwyaf sy'n wynebu'r gymuned forwellt erbyn hyn yw'r tasgau beichus a llafurus o gael tystysgrifau trwyddedu morol, y ffioedd uchel sy'n gysylltiedig â nhw, a'r rheoliadau llym sy'n eu hatal rhag defnyddio cerbydau ar draethau wrth gynaeafu a phlannu morwellt. Gyda hyn mewn golwg, beth ydych chi'n ei wneud i blannu morwellt wedi'i eithrio rhag trwyddedu morol neu i ganiatáu i sefydliadau a ganiateir fel Project Seagrass a'r WWF gael un drwydded unigol sy'n cwmpasu Cymru gyfan?

Byddai gennyf ddiddordeb hefyd gwybod eich barn am wymon, yn benodol datblygu diwydiant ffermio gwymon masnachol yng Nghymru, gan fod gan hyn botensial mawr i ni, ond mae'n dioddef o faterion trwyddedu tebyg. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Byddem yn bendant yn cefnogi unrhyw fesurau i gyflwyno diwydiant gwymon cynaliadwy ar gyfer bwyd a defnyddiau eraill, oherwydd rwy'n deall bod gwymon nawr ar gael at ddibenion eraill hefyd, ac i wneud hynny mewn modd cynaliadwy. Un o'n llwyddiannau mawr yng Nghymru, mewn gwirionedd, yw'r gwaith yr ydym ni wedi'i wneud yn y sector bwyd a diod, ac mae llawer o hyn yn canolbwyntio ar rai datblygiadau arloesol lleol a newydd iawn yn ein sector bwyd. Roeddwn i, bythefnos yn ôl, i fyny yn Halen Môn, oddi ar Ynys Môn, yn edrych ar y gwaith maen nhw'n ei wneud, ac maen nhw'n parhau i dyfu hefyd.

O ran morfeydd heli, nid oes gennyf unrhyw gynigion o'm blaen i eithrio adfer morfeydd heli o'r broses gydsynio, ond rwy'n awyddus i ymgysylltu â'n cyrff anllywodraethol amgylcheddol ac eraill sy'n gweithio ar hyn o bryd i weld pa rwystrau sydd ganddyn nhw o ran symud ymlaen. Ond rwy'n falch ein bod ni wedi gallu dyfarnu'r cyllid i Project Seagrass drwy'r gronfa rhwydweithiau natur. Mae'n gam pwysig tuag at adfer morwellt yng Nghymru, ac rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae'r prosiect hwnnw'n datblygu. Ac rwy'n siŵr bod mwy o botensial hefyd, ond rwyf bob amser yn awyddus i weithio gyda'r sefydliadau hynny ar lawr gwlad i weld sut y gallwn ni ddatblygu'r mater ymhellach ymlaen a pha rwystrau y maen nhw'n eu hwynebu.

16:20
6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: D-day ac Wythnos y Lluoedd Arfog

Eitem 6 sydd nesaf. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth ar D-day ac Wythnos y Lluoedd Arfog yw hwn, ac felly'r Ysgrifennydd Cabinet, Ken Skates. 

Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf roeddem yn nodi 80 mlynedd ers D-day, diwrnod yn dilyn cyfnod hir o gynllunio, aberth anferth, dioddefaint a cholledion i lawer o wledydd, a charreg filltir dyngedfennol wrth ryddhau Ewrop rhag gormes y Natsïaid. Mae'r flwyddyn hon yn arbennig o bwysig. Mae D-Day 80 yn garreg filltir o gofio, pryd yr ydym yn ffodus o fod â thystiolaeth fyw o hyd gan y gymuned hynafol o'u rhan yn y digwyddiad hanesyddol hwn.

Cynrychiolodd y Prif Weinidog Gymru yn y digwyddiad coffau yn y gofeb Brydeinig yn Normandi ar 6 Mehefin. Roedd hwn yn ddiwrnod yn bennaf i'r cyn-filwyr olaf hynny a oroesodd; fodd bynnag, roedd hefyd yn gyfle i bobl Cymru gofio'r cyfraniad pwysig a wnaethom fel cenedl. Roedd yn bleser yn ddiweddar i gwrdd â chyn-filwr D-day, Donald Jones, 99 oed, yn ei gartref yn Yr Wyddgrug. Roedd Donald yn y Llynges Frenhinol, yn un o griw y badau glanio ar D-day. Roeddwn yn teimlo'n wylaidd iawn wrth glywed am ei brofiad a'i aberth yn enw rhyddid.

Glaniodd Cyffinwyr De Cymru yn gynnar ar D-day yn ail don un o sectorau Prydain ar y traeth Aur—yr unig uned Gymreig i lanio'r diwrnod hwnnw, gan symud ymlaen naw milltir i mewn i'r tir. Roedd y Prif Weinidog yn gallu anrhydeddu eu cof, gan osod torch wrth eu cofeb yn Asnelles yn ystod ei ymweliad yr wythnos diwethaf. Mae cofeb y Deyrnas Unedig, a oedd yn ganolbwynt i'r coffáu ar ran y DU, yn cynnwys 22,000 o enwau, yn eu plith  llawer o Gymru a wasanaethodd yn y fyddin, y llynges a'r Llu Awyr Brenhinol a gollodd eu bywydau ar D-day neu'n ddiweddarach yn ymgyrch Normandi, yn ystod 85 diwrnod caled o ymladd.

Yn ddiweddar, cynhaliwyd digwyddiadau coffa i nodi D-day 80 mewn cymunedau ledled Cymru hefyd, a byddant yn parhau dros y mis hwn gydag Wythnos y Lluoedd Arfog ar y gorwel. Rwy'n siŵr fod Aelodau wedi bod yn bresennol mewn llawer o'r digwyddiadau hyn ac yn dymuno dathlu'r rheini yn eu cyfraniadau heddiw.

Mae tua 115,000 o gyn-filwyr yn byw yng Nghymru; mae un o bob 12 aelwyd â rhywun sydd wedi gwasanaethu yn y gorffennol. Mae rhai yn hoffi cael eu galw'n 'gyn-filwyr', mae eraill yn dewis rhywbeth gwahanol neu'n dewis peidio â datgan dim. Mae ein poblogaeth o gyn-filwyr yn ddynion hŷn yn bennaf, ond yn newid yn araf i adlewyrchu ein poblogaeth ehangach. Ar y cyfan, maent yn boblogaeth lwyddiannus sy'n cyflawni, sydd i'w dathlu, wedi'u sefydlu am oes gan y sgiliau a'r gwerthoedd a gafwyd yn sgil eu gwasanaeth, gyda swyddi, cartrefi ac iechyd da. Wedi dweud hynny, mae bywyd yn y lluoedd arfog yn unigryw, i'r milwyr a'u teuluoedd, a dyna pam mae gennym ni gyfamod y lluoedd arfog fel amddiffyniad rhag y potensial o ddioddef anfantais yn sgil gwasanaethu, ac, mewn rhai achosion, cyfiawnhau blaenoriaethu mewn cysylltiad ag iechyd, tai, addysg a chyflogaeth.

Fel Llywodraeth Cymru, rydym yn parhau i gefnogi cymuned ein lluoedd arfog. Mae ein buddsoddiad mewn cymorth iechyd meddwl arbenigol yn parhau drwy GIG Cymru i Gyn-filwyr. Ysgrifennodd prif weithredwr GIG Cymru at fyrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG fis diwethaf ynghylch cyfamod y lluoedd arfog, gan nodi gwasanaethau ac adnoddau sydd ar gael ledled Cymru, gan gynnwys sut mae rhai byrddau iechyd yn ariannu mentoriaid cymheiriaid i ddarparu cymorth ychwanegol yn y maes hwn. Gofynnwyd i sefydliadau ystyried ymwybyddiaeth o'r ddyletswydd sylw dyladwy a chydymffurfio â hi, a bwriadau Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad sylfaenol blynyddol ar draws gofal iechyd yng Nghymru.

Mae ymwybyddiaeth o gyn-filwyr yn hanfodol, a dyna pam rydym wedi llunio cynllun achredu gyda hyfforddiant ar gyfer meddygfeydd. Mae annog meddygfeydd i gofrestru yn rhywbeth y gallwn ni i gyd ei wneud yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau. Mae ein cyllid ar gyfer swyddogion cyswllt y lluoedd arfog yn parhau, a chyn bo hir byddaf yn ystyried argymhellion gwerthusiad allanol, gan edrych ar 2025-26 a thu hwnt. Rydym hefyd yn parhau i ariannu prosiect Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg Cymru, gan adlewyrchu'r heriau y mae symudedd yn eu gosod ar fywydau pobl ifanc.

Llywydd, rydym yn darparu 7 y cant o gryfder y lluoedd arfog, o ddim ond 5 y cant o boblogaeth y DU. Mae'r gwasanaeth fel arfer y tu allan i Gymru. Mae bobl y lluoedd arfog yn meithrin sgiliau a gwerthoedd gwych, ac rydym mewn cystadleuaeth i sicrhau'r dalent hon. Rydym eisiau i bobl y lluoedd arfog o Gymru ddychwelyd adref a chyfrannu at ein gwlad.

Mae hon yn adeg o'r flwyddyn pan, drwy Wythnos y Lluoedd Arfog a Diwrnod y Lluoedd Arfog, rydym ni'n dathlu ac yn cofio'r rhai sy'n gwasanaethu: yn rheolaidd ac wrth gefn. Rydym yn dathlu'r cyfraniad y maent yn ei wneud i amddiffyn y wlad ac i'r gymdeithas ehangach. Bydd y cyfraniad hwnnw'n cael ei ddathlu'n genedlaethol yn Abertawe, ochr yn ochr â'u sioe awyr ar 6 Gorffennaf, ac mewn digwyddiadau lleol eraill ledled Cymru. Rydym eisoes wedi cefnogi'r awdurdod lleol sy'n cynnal y digwyddiad hwn ar lefel Cymru gyda hyd at £20,000 yn mynd tuag at gostau cynnal y diwrnod pwysig hwn, ac rwy'n falch o gynnal y lefel hon o gymorth i Gyngor Abertawe eleni ac i Gyngor Sir Fynwy ar gyfer 2025.

Mae gwasanaeth rheolaidd ac wrth gefn yn gofyn llawer oddi wrth bobl y lluoedd arfog a'u teuluoedd. Mae cyflogwyr cefnogol a llawn cydymdeimlad yn allweddol. Yn fy mhortffolio fy hun, er enghraifft, mae Trafnidiaeth Cymru yn dangos yr hyn sy'n bosibl i'w gyflawni gan eu bod yn ddeiliaid gwobr aur cynllun cydnabod cyflogwyr y weinyddiaeth amddiffyn; a Bws Caerdydd sydd wedi dechrau'r daith honno hefyd, drwy lofnodi cyfamod y lluoedd arfog ym mis Ebrill. Rydym yn gweithio gyda'r Career Transition Partnership, y lluoedd arfog a Chymdeithasau Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid i helpu yn y gwaith o chwilio am swyddi da yma yng Nghymru. Rydym wedi bod yn gwneud hyn drwy ffeiriau cyflogaeth a gweithdai yn y de, a byddwn yn cynnal ein digwyddiad cyntaf yn y gogledd yn Wrecsam cyn bo hir.

I gloi, Llywydd, rydym yn dathlu ac yn dweud diolch am aberth y rhai a roddodd eu bywydau ar draethau Normandi a hefyd yn ehangach yn yr Ail Ryfel Byd. Rydym hefyd yn dathlu ein lluoedd arfog a'n cyn-filwyr sy'n gwasanaethu trwy Wythnos y Lluoedd Arfog a Diwrnod y Lluoedd Arfog, ac fel Ysgrifennydd y Cabinet gyda chyfrifoldeb am y lluoedd arfog, cyn-filwyr a'u teuluoedd yng Nghymru, rwy'n ymrwymo i chwarae fy rhan yn llawn i'w cefnogi.

16:25

Hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am eich datganiad y prynhawn yma gan amlinellu cyfraniad Llywodraeth Cymru i'n cymuned lluoedd arfog ledled Cymru. Rwyf eisiau ymuno â chi a fy ngrŵp yn eich ymrwymiad chi, a'n hymrwymiad ni, i gyn-filwyr a'u teuluoedd ledled ein gwlad. Mae eu gwasanaeth a'u haberth yn haeddu ein diolchgarwch dwysaf. Fel y sonioch chi'n briodol, mae Cymru'n cyflawni y tu hwnt i bob disgwyl o ran personél ein lluoedd arfog. Mae sicrhau eu llesiant yn hollbwysig, oherwydd mae Cymru'n anfon y nifer fwyaf o bersonél y lluoedd arfog, o'i gymharu ago unrhyw ran o'r DU, i wasanaethu yn ein lluoedd arfog.

Sonioch chi am D-day, ac rydym i gyd yn ymuno â'n gilydd i barchu'r rhai a roddodd gymaint yn ystod y glaniadau D-day hynny, ac fe wnaethant yr aberth eithaf i sicrhau ein rhyddid. Ac rwy'n credu ei fod yn hollol anhygoel yr hyn a wnaethant, a'r hyn yr oedd yn rhaid iddynt fynd drwyddo, i sicrhau bod gennym ni wir heddwch ar dir mawr Ewrop. Roeddwn yn bresennol mewn digwyddiad yn Llandrindod, a chefais fy nghyffroi'n fawr gan rai o'r cyfraniadau a wnaeth pobl yno ac mewn gwirionedd y straeon a ddywedodd rhai o'r bobl wrthyf.

Ysgrifennydd Cabinet, hoffwn dreiddio ychydig yn ddyfnach, os yw hynny'n iawn, i ychydig o feysydd y sonioch chi amdanyn nhw yn eich datganiad. Fe wnaethoch chi sôn am yr adolygiad o raglen swyddogion cyswllt y lluoedd arfog. Roeddech chi'n sôn am hynny, ac mae'n hollbwysig ein bod ni'n sicrhau bod y rhaglen honno'n parhau; maen nhw'n gwneud gwaith hollol anhygoel. Ond bydd deall yr argymhellion yn hanfodol ar gyfer eiriol dros eu cefnogaeth barhaus, felly efallai y gallech rannu rhai meysydd y canolbwyntir arnynt ar y cychwyn ar gyfer yr adolygiad rydych chi'n ei gynnal, a sut y byddwch chi'n ymgysylltu â rhanddeiliaid, wrth symud ymlaen.

Fe wnaethoch chi hefyd sôn am y gefnogaeth i bersonél y lluoedd arfog o fewn ein byrddau iechyd a'r system cymorth cymheiriaid sydd ganddyn nhw yno. Rhywbeth y mae'r grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog wedi sôn amdano yw cael pobl ymroddedig o fewn y byrddau iechyd sy'n deall ein lluoedd arfog a phersonél y lluoedd arfog yn llawn, ac a ellid eu hariannu gan Lywodraeth Cymru i greu swyddi llawn amser. Byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod eich barn am hynny, oherwydd, fel grŵp, roeddem yn mynd i ysgrifennu atoch ynghylch hynny, felly os oes gennych unrhyw ddiweddariadau, byddwn yn ddiolchgar iawn.

Roeddech hefyd yn siarad am gefnogaeth iechyd meddwl i gyn-filwyr, ac rwy'n credu bod peth o'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ynghylch hynny'n gymeradwy ac i'w ddathlu, mewn gwirionedd; rwy'n credu y dylem ni bob amser ddod o hyd i feysydd cyffredin yr ydym yn cytuno arnynt, ac rwy'n credu mai dyna un maes lle rydym yn gytûn. Mae cynyddu cyllid yn rhywbeth cadarnhaol, ond efallai y gallech ymhelaethu mwy ar y rhaglenni penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwthio, gyda byrddau iechyd, oherwydd gall llawer o gyn-filwyr fod yn betrusgar iawn o ran mynd allan a cheisio cymorth oherwydd yr hyn y maent wedi gorfod mynd drwyddo mewn gwirionedd, sy'n creu diwylliant eithaf macho, lle nad yw pobl eisiau ceisio cymorth mewn gwirionedd. Felly, rwy'n credu pe gallech amlinellu heddiw pa raglenni sydd ar gael, gallai helpu unrhyw un sy'n gwrando yn ein cymuned cyn-filwyr i fynd i ofyn am y cymorth sydd ei angen.

Ar ben hynny, rwy'n cytuno'n gryf â chi ynghylch annog cyflogwyr ledled Cymru i ymgysylltu â'r cynllun cydnabod cyflogwyr y weinyddiaeth amddiffyn. Mae arddangos arfer gorau yn bwysig—fel y dywedwch chi, ar ran Trafnidiaeth Cymru a Bws Caerdydd. Mae'n ddechrau gwych. Fodd bynnag, a allwch chi ymhelaethu ar unrhyw gynlluniau ychwanegol i hyrwyddo'r cynllun ledled y wlad ac arfer gorau i fusnesau Cymru o bob maint, gan dynnu sylw at y cyfraniad gwerthfawr y gall cyn-filwyr ei wneud yn y gweithle a'r sgiliau y maent wedi'u dysgu yn ein lluoedd arfog?

Rhywbeth arall yr oeddwn eisiau siarad â chi amdano oedd rôl hyrwyddwyr y lluoedd arfog o fewn ein hawdurdodau lleol. Rwy'n credu eu bod yn gwneud gwaith gwych o fewn cynghorau ledled y wlad i godi proffil ein lluoedd arfog mewn llywodraeth leol. Yn fy awdurdod lleol fy hun ym Mhowys, mae'r awdurdod lleol yno wedi penderfynu dileu rolau pencampwyr. Rwy'n credu bod hynny'n gamgymeriad, yn enwedig o ran rôl pencampwr y lluoedd arfog. Byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod beth yw eich ymateb i hynny, Ysgrifennydd Cabinet, i sicrhau bod gennym gynrychiolaeth gref gan ein cynghorwyr mewn llywodraeth leol, oherwydd cyfrifoldeb ein hawdurdodau lleol ledled Cymru yw llawer o'r gwasanaethau y mae cyn-filwyr eu hangen.

Rwyf hefyd yn credu yn y cydweithio parhaus yr ydych wedi siarad amdano rhwng cyrff cyhoeddus. Fel rwyf newydd ddweud, mae'n bwysig er mwyn cefnogi cymuned ein lluoedd arfog. Ac mae strategaethau cyfathrebu ac allgymorth effeithiol yn hanfodol i sicrhau, fel rwyf wedi dweud yn gynharach, ein cymorth iechyd meddwl, cymorth tai—yn union yr hyn y mae pobl yn ymwybodol sydd ar gael a sut y gallant gael mynediad atynt. Yn bersonol, Ysgrifennydd Cabinet, rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda chi yn y maes hwn, ac fel rwy'n gwybod, felly hefyd cadeirydd grŵp trawsbleidiol y lluoedd arfog, Darren Millar, sydd wedi gwneud gwaith aruthrol i godi proffil cymuned ein lluoedd arfog yma yn y Senedd. Rwy'n gwybod y byddai'n hoffi gwneud datganiad ei hun, ond nid yw'n gallu, mae gen i ofn—nid yw yma.

Hefyd, hoffwn adleisio i gloi, rai o'r sylwadau a wnaethoch ynghylch Wythnos y Lluoedd Arfog. Rwy'n credu bod hwnnw'n ddigwyddiad gwych arall sy'n digwydd ledled ein gwlad i dynnu sylw at ein lluoedd arfog a'r gwaith maen nhw'n ei wneud i'n cadw'n ddiogel ddydd ar ôl dydd, nos a dydd. Maen nhw'n mynd i rai o'r lleoedd mwyaf peryglus yn y byd i sicrhau ein bod ni'n gallu cysgu'n ddiogel yn ein gwelyau gyda'r nos. Credaf y dylid annog unrhyw beth y gallwn ei wneud i'w cefnogi yn fwy, ac rwy'n falch o'r arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i wneud hynny. Fe fyddwn yn dymuno cael ychydig mwy o arian i gefnogi Wythnos y Lluoedd Arfog ledled y wlad, ond efallai y gallech siarad am hynny.

Wrth gloi, Ysgrifennydd Cabinet, hoffwn ddiolch unwaith eto am eich datganiad a dweud fy mod yn edrych ymlaen at gydweithio â chi i gefnogi ein cymuned lluoedd arfog yma ledled Cymru i sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u bod yn cael eu grymuso ar gyfer y rôl hanfodol y maent yn ei chwarae yn ein cymdeithas. Diolch. 

16:30

Diolch, James Evans. A gaf i ddiolch yn ddiffuant i James am deyrnged o'r galon i'n lluoedd arfog a'n cyn-filwyr? Rwy'n gwybod bod James yn amlwg yn angerddol am y maes hwn o gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, ac rwy'n diolch iddo am ei gwestiynau heddiw. Codwyd nifer o bwyntiau gwerthfawr iawn, gan gynnwys iechyd meddwl cyn-filwyr ein lluoedd arfog a phersonél sy'n gwasanaethu, y cynllun cydnabod cyflogwyr y weinyddiaeth amddiffyn, a rôl awdurdodau lleol wrth gefnogi a hyrwyddo lluoedd arfog Cymru a'r Deyrnas Unedig yn ehangach.

O ran D-day, byddwn yn cytuno ei fod yn achlysur rhyfeddol. Rwy'n credu mai C.S. Lewis a ddywedodd ein bod yn darllen er mwyn gwybod nad ydym ar ein pennau ein hunain, ac rwy'n credu ei bod yn amhrisiadwy yr adeg hon o'r flwyddyn i ddarllen straeon y rhai a roddodd gymaint er mwyn Ewrop yn y cyfnodau tywyllaf. Roeddwn yn bresennol yn y gwasanaeth coffa yn Wrecsam ac yna fe es i ymweld â hyb cymunedol lluoedd arfog y ddinas. O ran iechyd meddwl, mae'r hyb hwnnw wedi dangos ei fod yn amhrisiadwy. Mae'n ffordd wych i gyn-filwyr gael gafael ar wybodaeth, i gael eu cyfeirio at grwpiau cymorth perthnasol, a gwn fod hybiau tebyg yn bodoli ledled Cymru. Er enghraifft, ger Wrecsam, ym Mae Colwyn, mae yna hyb yr un mor effeithiol sy'n gwasanaethu cymuned y lluoedd arfog, ac yn wir eu teuluoedd hefyd, ac rwy'n awyddus i wneud popeth o fewn fy ngallu i gefnogi twf hybiau o'r fath, gan eu bod yn hanfodol i helpu cyn-filwyr y lluoedd arfog i gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.

Mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud o fewn y GIG. Cyfeiriais at lythyr at fyrddau iechyd lleol yn ddiweddar a oedd yn eu gwahodd i edrych ar arfer gorau ledled Cymru. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn dysgu o'r gorau, ac mae'r un neges yn berthnasol i awdurdodau lleol. Roeddwn i gyda hyrwyddwr lluoedd arfog yr awdurdod lleol ddydd Iau ac yna eto ddydd Gwener yn Wrecsam. Efallai eich bod yn adnabod pencampwr y lluoedd arfog yn Wrecsam, y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, eiriolwr gwych dros gyn-filwyr y lluoedd arfog. Roeddwn yn falch iawn o fod gyda hi yn y ddau ddigwyddiad hynny. Rwy'n credu y dylid canmol rhai awdurdodau lleol ar y ffordd y maent yn cefnogi eu hyrwyddwyr lluoedd arfog, a byddwn yn argymell bod pob un o'r 22 awdurdod lleol yn parhau i gynnal y gefnogaeth iddynt.

O ran y cynllun cydnabod cyflogwyr y weinyddiaeth amddiffyn, mae hwn wedi bod yn hynod werthfawr hefyd, ac mae'n rhywbeth rwyf wedi ei drafod gyda nifer o gyflogwyr. Yn wir, roeddwn i yn Zip World yn ddiweddar, yn cwrdd â Sean Taylor, sydd ag angerdd anhygoel dros gefnogi'r lluoedd arfog a chyn-filwyr. Trwy grwpiau cyflogwyr fel y CBI rydym yn gallu hyrwyddo cynllun cydnabod cyflogwyr y weinyddiaeth amddiffyn, yn ogystal â thrwy rai o'r grwpiau cyflogwyr rhanbarthol sy'n bodoli yng Nghymru.

O ran swyddogion cyswllt y lluoedd arfog, byddwn yn cytuno bod y rhain wedi cael eu parchu'n fawr iawn ledled Cymru. Maen nhw wir yn wych. Roeddwn i gyda swyddog cyswllt y lluoedd arfog, eto yn Wrecsam, ar sawl achlysur yr wythnos diwethaf, yn trafod materion sy'n wynebu'r lluoedd arfog—personél sy'n gwasanaethu, cyn-filwyr a'u teuluoedd—a'r rôl y maen nhw'n ei chwarae yn eu cymunedau. Cadarnhawyd cyllid eto—£275,000—ac rydym yn gwybod bod ein swyddogion cyswllt yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr am y gwaith maen nhw'n ei wneud, ond rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig ein bod yn pwyso a mesur hyn, i ystyried sut rydym yn darparu ar gyfer cyn-filwyr dros y tymor hwy. Dyna pam y gwnaethom gomisiynu gwerthusiad o'r rhwydwaith o swyddogion cyswllt i helpu i lywio cynllunio tymor hir. Fy marn i yw bod swyddogion cyswllt wedi bod yn amhrisiadwy, a'r cwestiwn yw, nid a ddylid parhau i'w cefnogi ond a allwn ni ehangu eu rôl a sut y gallwn eu cefnogi i gyflawni eu swyddogaethau. Byddaf wrth gwrs yn ymgysylltu'n eang â rhanddeiliaid a phartneriaid ynghylch dyfodol swyddogion cyswllt y lluoedd arfog ledled Cymru, a byddwn yn falch iawn o gyflwyno'r argymhellion i'r grŵp trawsbleidiol ar gyfer y lluoedd arfog. Diolch.

16:35

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad heddiw. Mae'n dda clywed am yr adnoddau sy'n cael eu buddsoddi i wella bywydau cyn-filwyr. Yng Nghymru, mae cyn-filwyr yn cyfrif am 4.5 y cant o oedolion, o'i gymharu â 3.8 y cant yn Lloegr. Mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod eu triniaeth yn cael ei chyflawni'n gywir yma yng Nghymru. Fel y clywsom y prynhawn yma, mae cytundeb na ddylid cyfyngu cydnabyddiaeth i un wythnos y flwyddyn yn unig sef Wythnos y Lluoedd Arfog. Mae cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o anghenion y gymuned lluoedd arfog yn ymdrech barhaus.

Hoffwn ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet am nifer o faterion a godais yn Wythnos y Lluoedd Arfog y llynedd i ddeall y cynnydd a wnaed. Mae angen cydraddoldeb o ran y gwasanaeth i gyn-filwyr, ni waeth ble maent yn byw yng Nghymru. Mae yna enghreifftiau da o fyrddau iechyd yn dilyn y cyfamod milwrol, ond fe wnes i amlygu wrth y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol y llynedd fy mod i wedi clywed tystiolaeth anecdotaidd nad oedd rhai byrddau iechyd yn dangos y parch y mae'n ei haeddu. O ystyried y trafferthion y mae GIG Cymru yn eu hwynebu ar hyn o bryd, sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro cydymffurfiaeth â'r cyfamod milwrol a sicrhau llwyddiannau ar draws pob bwrdd iechyd, gan gynnwys gofal deintyddol, yr wyf wedi'i godi yma ar sawl achlysur? Y llynedd, gwelsom lansiad y cynllun achredu meddygon teulu cyfeillgar i gyn-filwyr. Roedden ni ymhell ar ôl Lloegr o ran y fenter hon.

Pa ganran o'n meddygfeydd sydd bellach wedi cael eu hachredu? A ydyn ni wedi dal i fyny â Lloegr? Yn olaf, Ysgrifennydd Cabinet, hoffwn wneud pwynt ehangach. Brwydrodd ein lluoedd arfog, sy'n cynnwys perthnasau fy nheulu, i'n cadw ni'n ddiogel ac yn erbyn y ffasgiaeth gynyddol yn Ewrop, ond ar draws Cymru a Lloegr rydym wedi gweld cynnydd mewn gwahaniaethu a chasineb—boed hynny'n hiliaeth, Islamoffobia, gwrthsemitiaeth neu homoffobia—dros y blynyddoedd diwethaf. Yn ystod yr etholiad cyffredinol hwn, rydym wedi gweld sylwadau ynghylch Hitler yn dod i'r amlwg sydd wedi arwain at ymddiheuriad gan ymgeisydd adain dde penodol. Hoffwn atgoffa pawb fod yn rhaid i ni barhau i fod yn effro i bob math o gasineb a gwahaniaethu yn ogystal â chynnal gwerthoedd goddefgarwch a chynhwysiant. Dyma un o'r ffyrdd gorau y gallem anrhydeddu aberthau'r rhai a frwydrodd yn erbyn gormes yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Rydym yn parhau i ymladd a sefyll yn gadarn yn erbyn casineb a gormes yn eu holl ffurfiau. Rydym yn parhau i gefnogi'r hyn y buont yn ymladd ac yn marw drosto, a byddwn yn eu cofio.

16:40