Y Cyfarfod Llawn
Plenary
16/04/2024Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso nôl i bawb i'r Senedd.
Cyn galw'r Prif Weinidog newydd i ateb ei gyfres gyntaf o gwestiynau, dyma'r tro cyntaf yr wyf i wedi ei gael yn bersonol i longyfarch Vaughan Gething ar gael ei ethol yn Brif Weinidog.
Llongyfarchiadau a phob dymuniad da.
Efallai y bydd yn syndod i rai ohonoch chi wybod fy mod i wedi gweithio allan y bore yma fy mod wedi adnabod Vaughan Gething yn hirach nag yr wyf i wedi adnabod unrhyw Aelod arall o'r Senedd hon. Pan oeddwn i'n faer Aberystwyth yn ôl yn y ganrif ddiwethaf, Vaughan oedd llywydd undeb y myfyrwyr yn Aberystwyth, ac, ar gyfer y cofnod, ni fydd ffafriaeth amlwg i raddedigion Prifysgol Aberystwyth yn y Siambr hon. [Chwerthin.]
Felly, cwestiynau i'r Prif Weinidog, i'w hateb gan Vaughan Gething, a'r cwestiwn cyntaf, Russell George.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y bydd y Bil Seilwaith (Cymru) yn effeithio ar sir Drefaldwyn? OQ60916
Diolch am y cwestiwn. Bydd y Bil yn sefydlu proses gydsynio symlach newydd ar gyfer prosiectau seilwaith sylweddol, a fydd o fudd i Gymru gyfan. Bydd yn helpu'r ddarpariaeth brydlon o brosiectau seilwaith hanfodol sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at ein ffyniant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, yn wir yn ogystal â'n huchelgeisiau sero net, gan gynnig cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu cymunedol gwell.
Diolch am eich ateb, Prif Weinidog, a llongyfarchiadau ar eich swydd newydd. Fy mhryder a'm gwrthwynebiad sylweddol i i'r Bil hwn, er gwaethaf nodau honedig y Bil i rymuso cymunedau i ddeall a chynnwys pobl ledled Cymru yn well mewn prosiectau graddfa fawr, yn enwedig pan fo ganddyn nhw bryderon gyda'r ceisiadau cynllunio graddfa fawr hynny, yw nad yw'r Bil yn gwneud hynny o gwbl. Nid yw'r Bil yn rhoi manylion allweddol i ni am yr ymgynghoriad a'r cyhoeddusrwydd cyn ymgeisio, am sut y dylid gwneud ceisiadau am ganiatâd seilwaith, amserlenni, ffurf caniatâd ac adroddiadau effaith lleol, sut y bydd gwrandawiadau llawr agored yn cael eu sbarduno, y weithdrefn archwilio. Gallwn barhau, ond mae diffyg manylion ar wyneb y Bil, a bydd llawer o'r darpariaethau, wrth gwrs, yn y Bil yn cael eu penderfynu gan Weinidogion Cymru yn ddiweddarach ar ôl i'r Bil gael ei basio, os caiff ei basio yn ddiweddarach heddiw.
Felly, byddwch yn ymwybodol, Prif Weinidog, o'm safbwyntiau hirsefydlog o ran gwrthwynebu diwydiannu tirwedd y canolbarth gyda channoedd o dyrbinau gwynt ar y tir a'r seilwaith cysylltiedig sy'n dod yn sgil hynny, a fydd, yn sicr, yn fy marn i, yn drychinebus i'r diwydiant twristiaeth yn y canolbarth. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi nodi sut y bydd pobl y canolbarth yn gallu lleisio eu barn a chwarae rhan wrth benderfynu pa seilwaith sy'n cael ei adeiladu a lle mae wedi'i leoli? Ac a allwch esbonio sut, yn eich barn chi, y bydd y Bil hwn yn grymuso cymunedau lleol ac yn cynyddu eu llais yn y broses gynllunio?
Nid wyf i'n derbyn y mwyafrif helaeth o feirniadaethau a sylwadau'r Aelod ar y Bil. Ei fwriad mewn gwirionedd yw cynnig proses gydsynio dryloyw a thrylwyr a chyson ledled Cymru a fydd yn caniatáu i gymunedau lleol ddeall yn well a chymryd rhan yn effeithiol mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw. Byddwn yn annog yr Aelod—yn wir, yr holl Aelodau—a rhanddeiliaid eraill i gymryd rhan yn yr ymgynghoriadau sydd ar fin cael eu cynnal a fydd yn gysylltiedig â gweithredu'r Bil hwn i helpu i lunio'r broses gydsynio ymhellach.
Nid wyf i, yn arbennig, yn rhannu ei farn am ddiwydiannu tirwedd y canolbarth. Mae hyn yn ymwneud mewn gwirionedd â'r cydbwysedd rhwng y gofyniad i gynhyrchu ynni mewn ffordd wahanol a chael cydbwysedd â'r amgylchedd a'n tirwedd. A gallwch weld yr hyn sy'n digwydd os ydych chi'n cymryd agwedd galed i'n hatal ni rhag manteisio ar ein hasedau ar y tir ac ar y môr. Pan gyflwynodd Lloegr waharddiad yn 2015—fe wnaeth atal datblygiadau ynni'r gwynt ar y tir—fe gostiodd £180 yn ychwanegol i dalwyr biliau'r DU mewn gwirionedd. Mae hynny oherwydd ein dibyniaeth ychwanegol ar nwy, sydd nid yn unig yn ddrwg i'r blaned, ond mewn gwirionedd yn ddrwg i filiau. Ceir cydbwysedd o ran yr amgylchedd, o ran tirwedd, ond o ran ein cyfrifoldebau hinsawdd parhaus hefyd.
2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y grant hanfodion ysgol? OQ60906
Diolch am y cwestiwn. Rydym ni'n falch o'r effaith gadarnhaol y mae ein grant hanfodion ysgol yn ei chael ar blant ledled Cymru. Manteisiwyd ar bron i 90 y cant o gyllideb £13.6 miliwn eleni eisoes, ac rydym ni'n annog teuluoedd cymwys i wneud cais cyn i'r cynllun presennol ddod i ben ar 31 Mai.
Mae'r grant hwn—menter gan Lywodraeth Cymru—yn eithriadol o bwysig i helpu teuluoedd i dalu costau anfon eu plant i'r ysgol. Yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn unig, mae o leiaf 11,500 o ddisgyblion yn gymwys ar gyfer y grant hanfodion ysgol. Ond ymwelais â banc bwyd yn Rhydaman yn ddiweddar, a chefais fy nychryn o glywed gan wirfoddolwyr a defnyddwyr y gwasanaeth bod rhai teuluoedd yn cael eu rhwystro rhag gwneud cais am y grant hanfodion ysgol oherwydd oediadau mewn ceisiadau am gredyd cynhwysol. Mae'r rhain yn deuluoedd sydd eisoes mewn argyfwng. Mae'r oediadau hyn, yn fy marn i, yn greulon ac yn ddiangen, ac mae'n rhwystro ceisiadau am nifer o fudd-daliadau eraill, fel prydau ysgol am ddim, budd-dal tai, gostyngiad yn y dreth gyngor, a llawer mwy. Felly, er fy mod i'n croesawu'r cymorth yr ydym ni'n ei roi, mae'n groes i'r rhwystrau hynny sy'n cael eu codi gan Lywodraeth y DU, Prif Weinidog. Felly, pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch effaith yr oediadau hysbys hyn, a'r effaith y mae'r oediadau hysbys hynny yn ei chael ar geisiadau eraill, pan ydym ni'n ceisio helpu pobl?
Rwy'n credu bod dau bwynt eang mewn ymateb i gwestiwn yr Aelod a'r pwyntiau y mae'n eu gwneud. Y cyntaf yw bod y grant hanfodion ysgol yn cael effaith wirioneddol o ran helpu teuluoedd mewn angen gyda'r costau ychwanegol o wneud yn siŵr bod eich plentyn yn gallu mynd i'r ysgol a manteisio ar yr holl gyfleoedd y dylai fod gan bob plentyn hawl iddyn nhw. A dweud y gwir, o fewn y cyfnod ymgeisio presennol hwn, ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae bron i £2 filiwn wedi cael ei dalu mewn grant hanfodion ysgol.
Yr ail bwynt yw bod yr oediadau credyd cynhwysol yn fwriadol. Nid camgymeriad ydyn nhw—maen nhw wedi eu dylunio'n fwriadol yn rhan o'r ddeddfwriaeth. Ac os meddyliwch chi am nifer y teuluoedd sydd o bosibl fis i ffwrdd, pecyn cyflog i ffwrdd, o fynd i amddifadedd, mae cael oediad bwriadol o bum wythnos yn ychwanegu at yr ofn, yn ychwanegu at y pryder, a dyma realiti pobl sy'n wynebu bywyd anoddach nag y dylen nhw ei wynebu. Dylai'r system fudd-daliadau fod yno i gefnogi pobl mewn angen, ac asesir bod gan y grŵp hwn o bobl hawl ac angen i'w ddiwallu. Rydym ni wedi galw'n gyson i'r cyfnod aros o bum wythnos gael ei leihau, ac, yn wir, rwy'n siŵr y bydd Lesley Griffiths, fel yr Ysgrifennydd Cabinet newydd â'r cyfrifoldeb am ein hymateb i ddiwygio lles, yn parhau i wneud y ddadl i Weinidogion y DU am newid. Y gwir trist, serch hynny, yw bod hynny'n annhebygol o fod yn wir gyda Llywodraeth bresennol y DU, a byddai'n gofyn am newid ar lefel y DU o ran gwerthoedd a gwedduster o ran sut rydym ni'n cyfeirio'r system fudd-daliadau, i weld y math o newid y gwn y bydd yr Aelod eisiau ei weld. Yn y cyfamser, rydym ni'n parhau i wneud popeth y gallwn ni ac y dylem ni ei wneud i wneud yn siŵr bod teuluoedd ledled Cymru yn manteisio ar yr hyn y mae ganddyn nhw hawl iddo drwy'r system fudd-daliadau. Yn wir, sicrhaodd ein gwasanaeth cyngor unigol ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru, trwy gydol 2023, fod mwy na £10 miliwn yn cael ei dalu i bron i 18,000 o wahanol hawlwyr, er mwyn sicrhau bod eu hawl yn cael ei dalu. Bydd y Llywodraeth hon yn parhau i wneud y peth iawn i gynorthwyo teuluoedd ledled ein gwlad gyfan.
Prif Weinidog, defnyddiwyd cymhwysedd am brydau ysgol am ddim fel dangosydd i weld pa deuluoedd oedd yn gallu cael mynediad at y grant datblygu disgyblion. Wrth i brydau ysgol am ddim cyffredinol barhau i gael eu cyflwyno, bydd y data ar bwy fydd yn gymwys yn dod yn llai ac yn llai cywir. Dywedodd y Gweinidog addysg blaenorol mewn datganiad y byddai hyn yn cael ei adolygu'n barhaus. Byddai gen i ddiddordeb mewn gwybod gennych chi heddiw pa ddulliau y mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu defnyddio yn y dyfodol i sicrhau bod ganddi'r wybodaeth fwyaf cyfredol i sicrhau bod y rhai sydd fwyaf mewn angen yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.
Byddwn yn parhau i gael y sgyrsiau hynny gyda'r Ysgrifennydd Cabinet newydd dros Addysg, ynghylch sut rydym ni'n sicrhau bod yr hawl i brydau ysgol am ddim yn cael ei ddarparu, a'r porth y mae hwnnw'n ei ddarparu wedyn, o ran y plant mewn angen, yn parhau i lywio sut rydym ni'n gwario'r grant datblygu disgyblion. Hoffwn gael partneriaid yn Llywodraeth y DU sy'n cydnabod yr un gofyniad i gynorthwyo teuluoedd mewn angen, ac, fel y nododd Joyce Watson, mae cael oediad bwriadol o bum wythnos i gredyd cynhwysol yn gwthio mwy o deuluoedd mewn angen i fwy o drafferthion ariannol. Byddwn yn croesawu'r cyfle i weithio gydag Aelodau ar draws y Siambr hon i sicrhau nid yn unig ein bod ni'n cyfeirio ein hadnoddau ein hunain yn briodol yma yng Nghymru, ond bod gennym ni Lywodraeth y DU sydd yr un mor ymrwymedig i wneud y peth iawn a chynorthwyo nid cosbi teuluoedd mewn angen.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Rwy'n croesawu'n gynnes cefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru i'r grant hanfodion ysgol, ac rwy'n adleisio safbwyntiau fy nghyd-Aelod, Joyce Watson. Gan ganolbwyntio, fodd bynnag, ar y grant hanfodion ysgol a'r hyn y gall Cymru ei wneud, roeddwn i'n bryderus iawn o ddarllen adroddiad gan Sefydliad Bevan a amlygodd sut y mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol ar hyn o bryd yn eithrio plant o'r grant hanfodion ysgol yn seiliedig ar eu statws mewnfudo yn unig, yn enwedig y teuluoedd hynny nad oes ganddyn nhw unrhyw hawl i arian cyhoeddus. Mae hyn yn peri pryder mawr. Y rhain yw ein teuluoedd tlotaf sydd wedi'u stigmateiddio a'u trawmateiddio eisoes, ac mae'r ffaith na all y teuluoedd gael mynediad at y gronfa bwysig iawn hon yn peri pryder. Felly, hoffwn ofyn i chi a allwch chi wneud unrhyw beth yn ei gylch i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud yn siŵr bod pob plentyn, gan gynnwys y plant hynny sydd â gwahanol statws mewnfudo, yn gallu cael mynediad at y grant hanfodion ysgol. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n credu ei fod yn bwynt pwysig y mae Jane Dodds yn ei wneud am y realiti i bobl nad oes ganddyn nhw hawl i arian cyhoeddus a'r potensial iddyn nhw ddod yn amddifad. Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw cymryd nifer o gamau i egluro'r wybodaeth ar ein gwefan Llywodraeth Cymru ein hunain. Rydym ni hefyd wedi rhannu'r wybodaeth honno gydag awdurdodau lleol, gan ei gwneud yn gwbl eglur bod plant sy'n ceisio lloches yn gymwys ar gyfer y grant hanfodion ysgol, ond, yn fwy na hynny, eu hannog i edrych eto ar eu pwerau dewisol sydd yn bodoli i sicrhau, er enghraifft, y gallan nhw ddarparu prydau ysgol am ddim i blant o deuluoedd nad oes ganddyn nhw hawl i arian cyhoeddus. Y risg fel arall yw y bydd y plant hynny'n dod yn amddifad, byddan nhw'n llwglyd, a bydd canlyniadau gwael i'r plant hynny ac, yn wir, yr hyn y mae'n ei ddweud amdanom ni fel gwlad. Felly, rydym ni eisoes wedi annog awdurdodau lleol i edrych ar y pwerau hynny, ac edrychaf ymlaen at yr ymgysylltiad parhaus sydd gennym ni i gyd â nhw, a'r Ysgrifennydd Cabinet newydd dros Addysg, i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd i'r ysgol yn llwglyd.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd, ac a gaf innau hefyd eich llongyfarch chi, Prif Weinidog, am gymryd swydd y Prif Weinidog yma yng Nghymru? Dyma'r tro cyntaf yr ydych chi a minnau wedi bod ar draws y Siambr yn ein swyddi priodol. Nid oedd y tro cyntaf i mi gyfarfod â chi mor bell yn ôl â'r Llywydd, ond roedd yn yr ymgyrch i achub rec Tredelerch, efallai eich bod yn cofio, pan gynhaliwyd y cyfarfodydd cyhoeddus, ac rwy'n falch o ddweud bod y cyfleuster hwnnw yn dal yno hyd heddiw.
Prif Weinidog, ar eich taith i swydd y Prif Weinidog, bu'n rhaid i chi ymgymryd ag ymgyrch etholiadol yn y Blaid Lafur, lle'r oedd Jeremy Miles yn amlwg yn wrthwynebydd yn yr ymgyrch honno. Gwnaed rhodd sylweddol i'ch ymgyrch yn ystod yr ymgyrch etholiad honno. Roedd hwnnw'n dod i'r hyn yr oeddwn i'n ei dybio oedd yn £200,000. A allwch chi gadarnhau mai dyna oedd y ffigur, ei fod yn £200,000, neu a oedd yn ffigur mwy na hynny gan y datblygwr-ailgylchwr, David Neal?
Mae'r ffigur yn gywir.
Rwy'n ddiolchgar i chi am gadarnhau eich bod wedi derbyn rhodd o £200,000 yn union. A wariwyd yr holl arian hwnnw yn ystod yr ymgyrch, neu a drosglwyddwyd arian i'r Blaid Lafur ar ddiwedd yr ymgyrch fel y gellir defnyddio'r arian hwnnw, yn amlwg, o fewn y mudiad Llafur ehangach?
Mae'r rheolau'n ei gwneud yn ofynnol, yn y gystadleuaeth Llafur Cymru fewnol hon, bod pob rhodd yn cael ei datgan a byddai angen i'r ddwy ymgyrch ffeilio eu cyfrifon ar y diwedd, ac os oes unrhyw arian dros ben, byddai hwnnw'n mynd i Lafur Cymru wedyn fel rhodd wleidyddol. Ar ôl i'r cyfrifon gael eu ffeilio, nid oes gen i unrhyw amheuaeth y bydd diddordeb parhaus, ac edrychaf ymlaen at fod yn eglur am hynny. Mae angen i mi orffen y cyfrifon ar gyfer yr holl roddion a dderbyniais, o symiau amrywiol.
O safbwynt gwleidyddol Cymru, mae hwnna'n rhodd enfawr a gawsoch chi yn ystod eich ymgyrch arweinyddiaeth. Ni lwyddoch i sicrhau mwy na dim ond traean o'r grŵp Llafur yma yn y bae i gefnogi eich cais arweinyddiaeth, ond fe lwyddoch i wneud yn siŵr bod gŵr busnes lleol wedi cyfrannu bron i £0.25 miliwn at eich ymgyrch arweinyddiaeth. Pa fesurau ydych chi wedi eu rhoi ar waith nawr eich bod chi'n Brif Weinidog i wneud yn siŵr nad oes y dybiaeth barhaus y gall arian brynu dylanwad o fewn eich Llywodraeth a sedd wrth fwrdd y Cabinet?
Rwy'n credu, pan edrychwch chi ar le'r ydym ni a'n cydymffurfiad â chod y gweinidogion a'r gofynion i wahanu buddiannau gweinidogol oddi wrth rai etholaethol a rhai personol, mae gan y Llywodraeth hon a phob fersiwn o Lywodraeth dan arweiniad Llafur Cymru hanes da o wneud y peth iawn. Lle bu heriau, cymerwyd camau. Rwy'n eglur iawn na allaf ac na fyddaf yn gwneud unrhyw fath o ddewis gweinidogol o fewn fy etholaeth, fel yr wyf i wedi ei wneud trwy gydol fy amser fel Gweinidog—er enghraifft, gwaith dur Celsa. Rwy'n credu mewn dyfodol i'r diwydiant dur, fel yn wir y mae Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, ond ni allaf ac ni fyddaf yn gwneud dewisiadau ynghylch Celsa Steel, naill ai yn fy swydd bresennol neu, yn wir, fel yr wyf i wedi ei wneud yn y gorffennol. A dweud y gwir, rwyf i wedi bod yn ofalus wrth blismona'r rhaniad rhwng buddiannau etholaethol a gweinidogol, ac rwyf i wedi anfon cyflwyniadau yn ôl sydd, ar adegau prin, wedi dod ataf yn anghywir a buddiannau etholaethol ynddyn nhw. Gallwch ddisgwyl hynny gan bob aelod o'm Llywodraeth. Hoffwn pe gellid dweud yr un peth am weinyddiaethau eraill o fewn y Deyrnas Unedig.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Rydym ni'n croesawu'r Prif Weinidog newydd i'w sesiwn gwestiynau wythnosol cyntaf heddiw, ac rydw innau'n estyn fy llongyfarchiadau iddo fo. Ond dwi eisiau gwybod yn syth ganddo fo pa wahaniaeth mae o'n mynd i'w wneud.
Daeth y Prif Weinidog newydd i'r swydd dan gwmwl, ond rydym ni'n gwybod o leiaf bod ganddo ddawn o drosoli arian i mewn ar ôl iddo berswadio un unigolyn i roi £200,000 i'w ymgyrch arweinyddiaeth. Nawr, rwy'n siŵr na fyddai'r Prif Weinidog eisiau i mi atgoffa pobl am ffynhonnell amheus yr arian hwnnw, a bydd cwestiynau pellach i'w gofyn am hynny, ond y cwestiwn heddiw yw: a fydd ef mor llwyddiannus gyda'i benaethiaid Llafur?
Fe'i gwelwyd yn ddiweddar yn eistedd o amgylch bwrdd Cabinet gwrthblaid Keir Starmer, felly a wnaiff ef gadarnhau a oedd yno fel cyfle am lun, neu a wnaeth lwyddo tra'r oedd yno i gael addewid cadarn o gyllid teg i Gymru os bydd Llafur yn ennill etholiad nesaf y DU?
Wrth gwrs, etholwyr ac aelodau teulu Llafur Cymru yw fy mhenaethiaid. Rwy'n cydnabod bod Mr ap Iorwerth yn parhau i fod ag obsesiwn am faterion mewnol y Blaid Lafur, yn union fel pan oedd yr Aelod dros Orllewin Caerdydd yn Brif Weinidog. Edrychaf ymlaen at sgwrs barhaus ac ymroddgar â thîm presennol yr wrthblaid yn San Steffan. Rwy'n edrych ymlaen at dorchi llewys i sicrhau eu bod nhw'n Llywodraeth Lafur y DU yn y dyfodol, ac ni all yr etholiad hwnnw ddod yn ddigon buan. Byddai hynny'n dda i Gymru ac yn dda i Brydain, i fod â dwy Lywodraeth Lafur yn cydweithio er budd cyffredin y bobl y mae'n fraint i ni eu gwasanaethu. Edrychaf ymlaen at fod yn rhan nid yn unig o'r sgwrs honno ond sut rydym ni'n llywodraethu a sut rydym ni'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y Gymru uchelgeisiol a thecach yr wyf i eisiau ei gweld.
Rwy'n euog fel y cyhuddir o fod ag obsesiwn o fod eisiau cyllid teg gan Lywodraeth y DU o ba bynnag liw. Ac mae'n drueni bod gennym ni Brif Weinidog nad oes ganddo'r un obsesiwn â mynd ar drywydd hynny. Mae'n cwyno digon am y diffyg cyllid sydd ganddo; mae ganddo blaid wleidyddol sy'n benaethiaid arno yn San Steffan sy'n gobeithio ffurfio Llywodraeth nesaf y DU; dylen nhw fod yn rhoi'r addewid hwnnw i Gymru, yn hytrach na chymryd pleidleisiau yn ganiataol.
Nawr, dywedodd rhagflaenydd y Prif Weinidog wrthyf lawer gwaith na fyddai unrhyw Lywodraeth Lafur y DU newydd yn gwybod yn union faint o arian fyddai ganddyn nhw tan iddyn nhw ddod i rym, felly na ddylem ddisgwyl unrhyw addewidion ariannu teg tan hynny. Nawr, mae'n debyg y byddai'r un peth yn wir ar draws y Llywodraeth—amddiffyn, er enghraifft. Oes, mae angen i ni weld symiau rhesymol yn cael eu gwario ar amddiffyn, ond rwy'n tybio, yn union fel cyllid i Gymru, na all Llafur ddweud faint o arian fyddai ganddyn nhw i'w gyfrannu at amddiffyn. Wel, na, mae'n debyg. Dywedir wrthym ni nawr gan Keir Starmer y byddai'n cynyddu gwariant amddiffyn i 2.5 y cant o gynnyrch domestig gros—ymrwymiad ariannol pendant a pharhaol. Felly, mae arian ar gyfer arfau, ond dim cyhoeddiad ariannu ar gyfer Cymru o hyd. A all y Prif Weinidog esbonio pam, efallai, ac a yw'n cytuno bod anghysondeb gwirioneddol yno?
Na, dim o gwbl. A dweud y gwir, mae Keir Starmer eisoes wedi addo, pan ddaw i hen gyllid yr Undeb Ewropeaidd, er enghraifft, y bydd cyllid a gafodd ei ddwyn oddi ar Gymru, pwerau sydd wedi eu harfer yma ers bron i chwarter canrif, y bydd y cyllid hwnnw a'r pwerau drosto yn dychwelyd i Lywodraeth Cymru ac i'r Senedd hon i graffu arno—addewid eglur ar gyllid yn dod yn ôl i Gymru. Mae'r darlun ehangach yn llawer llai eglur. Os oes unrhyw un wir yn meddwl y gallan nhw ragweld nawr y llanast y bydd Llywodraeth y DU yn y dyfodol yn ei etifeddu ar ôl i'r criw di-glem presennol adael y llwyfan o'r diwedd, yna rwy'n credu y byddech chi'n ddewin neu y byddech chi'n freuddwydiwr. Ni all unrhyw un ohonom ni wybod.
Yr her tymor hwy, fodd bynnag, dros amrywiaeth o'r meysydd hyn, yw bod ag amrywiaeth o gynlluniau gwariant uchelgeisiol ond eglur y bydd y cyhoedd yn edrych arnyn nhw a byddan nhw'n cymryd o ddifrif yr hyn sy'n mynd i mewn i faniffesto Llafur, gan ei fod yn faniffesto gwirioneddol ar gyfer llywodraeth. Ac, fel y mae'r Aelod yn gwybod, ceir gwahanol brawf i wrthblaid Lafur ymateb iddo bob amser, o'i gymharu ag un Geidwadol, o ran sut rydych chi'n gwario arian a sut rydych chi'n ei godi, nid dim ond y polisïau sydd gennym ni. Eto, edrychaf ymlaen at fod yn rhan o drafodaeth a chytundeb maniffesto. Rwy'n argyhoeddedig y bydd yn dda i Gymru ac yn dda i Brydain, ac rwy'n credu y bydd pobl Cymru yn cytuno ar hynny hefyd yn y ffordd y maen nhw'n pleidleisio.
Rwy'n bryderus dros ben nad yw'n poeni mwy, er bod yr arian yn cael ei wneud ar gael ar gyfer amddiffyn ar hyn o bryd, na ellir gwneud yr un addewid i Gymru, gydag angen dybryd am yr arian hwnnw. Nawr, siaradodd y Prif Weinidog ei hun ddoe am ddewisiadau anodd yn wyneb y sefyllfa ariannu bresennol. Nawr, mae 'dewisiadau' yn air y mae'n ei ddefnyddio llawer, ac un o ddewisiadau diweddar Llafur fu torri cyllid i Amgueddfa Cymru—rhywbeth y gwnaeth y Prif Weinidog ei amddiffyn yn gadarn ddoe; mae'r un peth yn wir am Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Nawr, dywedodd Keir Starmer yn ddiweddar y byddai'n rhoi terfyn â'r hyn a alwodd yn 'rhyfel ar ddiwylliant', ond, yma yng Nghymru, mae'n ymddangos bod Llafur, mae gen i ofn, yn gwneud yn hollol i'r gwrthwyneb: 90 o swyddi yn y fantol yn yr amgueddfa; casgliadau cenedlaethol, enaid y genedl, dan fygythiad gan doeau sy'n gollwng. Yn rhy aml, mae Cymru wedi anghofio ei hanes ei hun, ond mae'n ymddangos bod Llywodraeth Lafur sydd ohoni yn barod i fwrw cenedlaethau'r dyfodol i gyfrif llwm o'r lle y maen nhw'n dod ohono a phwy ydyn nhw. Dim ond pedair wythnos i mewn i'r swydd, a yw'r Prif Weinidog wir yn barod i fod yr arweinydd sy'n cael ei gofio am adael Cymru heb amgueddfa genedlaethol ac am dawelu hanes ein cenedl?
Rwy'n sylweddoli mai ymarfer yw hwn yn y ffordd yr ydych chi'n gwneud sylwadau rhyfeddol ac yn mynnu bod unrhyw ffuglen benodol yr ydych chi'n ei chreu yn cael ei derbyn fel y gwir. Pan edrychwch chi ar le'r ydym ni yma yng Nghymru, cawsom sgyrsiau adeiladol iawn gyda Siân Gwenllian a dweud y gwir, fel yr Aelod dynodedig, ynghylch y gyllideb ddiwylliant, a'r heriau rhyfeddol a wynebwyd gennym o ran ceisio llunio cyllideb a oedd yn gytbwys, o gofio ein blaenoriaethau llethol ac yn wir—[Torri ar draws.]—ac yn wir yr arian a roesom ni yn y gwasanaeth iechyd, sy'n flaenoriaeth eglur i bobl Cymru. Mae hynny'n golygu bod dewisiadau anodd ar draws gweddill y Llywodraeth, wedi'u hysgogi gan y ffaith, dros 14 mlynedd, bod ein cyllideb wedi cael ei lleihau. Yn ystod y tair blynedd diwethaf, yn wir, mae ein cyllideb wedi cael ei lleihau £700 miliwn mewn termau real, yn ogystal â'r £1.1 biliwn sydd wedi diflannu o Gymru oherwydd y ffordd y mae'r Torïaid wedi cymryd arian oddi wrthym ni o hen gyllid yr Undeb Ewropeaidd—mewn gwirionedd, colled barhaol o bron i £0.25 miliwn i'r economi wledig, oherwydd y dewisiadau Ceidwadol hynny. Rydym ni'n delio â realiti'r hyn y mae hynny yn ei olygu, fel y byddai pobl Cymru yn disgwyl i ni ei wneud. Edrychaf ymlaen at ddyfodol newydd lle mae'n bosibl parhau i fuddsoddi yn y pethau yr ydym ni'n credu sy'n bwysig, gan gynnwys ein hanes. Rwyf i eisiau i bobl fod yn falch nid yn unig o hanes Cymru, ond yn fwy na hynny, yn fwy balch byth o'r dyfodol y byddwn ni'n ei greu, a dyna fydd yn parhau i fod yn bwyslais i'm Llywodraeth.
3. Beth yw blaenoriaethau'r Prif Weinidog ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru? OQ60901
Diolch am y cwestiwn. Mae seilwaith trafnidiaeth dibynadwy a chynaliadwy, gan gynnwys ffyrdd, yn hanfodol i'n heconomi a'n cymdeithas. Rydym ni wedi ymrwymo i wrando ar bobl a chymunedau i sicrhau ein bod ni'n dylunio, yn adeiladu ac yn cynnal ein rhwydwaith trafnidiaeth i ddiwallu anghenion pobl yn unol â'r adnoddau sydd ar gael i ni.
Prif Weinidog, wrth i bawb eich croesawu i'ch sesiwn cwestiynau'r Prif Weinidog cyntaf, meddwl oeddwn i tybed a allem ni gymryd eiliad i fyfyrio ar sylwadau ac ymrwymiadau a wnaethoch chi yn ystod eich ymgyrch arweinyddiaeth. Yn ystod yr ymgyrch, wrth gael eich holi ar y polisi 20 mya diofyn, fe wnaethoch chi ddweud, ac rwy'n dyfynnu,
'mae'n rhaid i chi gael sgwrs gyda'r cyhoedd',
ac:
'Os na wnewch chi roi'r cyfle i'r cyhoedd wneud sylwadau'
ac ystyried eu safbwyntiau cyn gwneud penderfyniadau pellach byddan nhw'n
'dweud ei fod yn cael ei wneud i ni, nid gyda ni.'
Aethoch chi ymlaen hefyd i ddweud bod agwedd Llafur Cymru tuag at y polisi dadleuol hwn yn enghraifft wych o bobl eisiau gwybod a ydych chi'n ddigon gostyngedig a rhadlon i fyfyrio os oes rhywbeth wedi mynd o'i le. Prif Weinidog, rwy'n croesawu'r datganiad hwn yn ddiffuant, a'r teimlad hefyd, ac rwy'n cytuno'n llwyr y dylai barn y cyhoedd fod yn flaenllaw yn y broses o wneud penderfyniadau mewn unrhyw Lywodraeth, waeth ble'r ydym ni yn y Deyrnas Unedig, a dyna pam roedd cyflwyno'r ddeiseb fwyaf erioed, ag ychydig yn llai na 0.5 miliwn o lofnodion, i ddiddymu a dileu'r dull polisi diofyn hwn, mor arwyddocaol.
Rydym ni eisoes yn gwybod bod cynghorydd trafnidiaeth a wnaeth helpu i lunio'r polisi 20 mya wedi cael ei benodi i arwain adolygiad o'i weithrediad, ond, Prif Weinidog, a wnewch chi gadarnhau heddiw pa un a fyddwch chi, yn eich geiriau eich hun, yn ddigon gostyngedig a rhadlon i fyfyrio ar y polisi hwn trwy ganiatáu i gyhoedd Cymru gymryd rhan yn yr adolygiad hwn? Diolch.
Rwy'n falch iawn o wneud yr ymrwymiadau yr wyf i wedi eu cyflwyno, ac, yn wir, ategu'r gwaith sydd wedi ei wneud, gyda chydnabyddiaeth o adolygiad o'r canllawiau yn rhan o hynny. Byddwch yn cofio, wrth gwrs, fod yr Aelod dros Lanelli yn eglur iawn y byddem ni'n disgwyl, ar ôl hynny, y byddai newidiadau ar rai o'r ffyrdd ledled Cymru, ond hefyd i wneud yn siŵr bod ymgysylltu â'r cyhoedd ynghylch y dewisiadau hynny. Byddwch, wrth gwrs, yn clywed mwy gan Ken Skates yr wythnos nesaf, pan fydd yn gwneud datganiad ar flaenoriaethau trafnidiaeth yn y dyfodol, ond edrychaf ymlaen at gyflawni fy addewid a dangos yn wir ein bod ni'n gwrando ar y cyhoedd, ac yna'n gweithredu.
Mae adroddiad ar dlodi yn Arfon gan y Sefydliad Bevan yn dangos yn glir fod diffyg cludiant cyhoeddus yn rhannau gwledig ac ôl-ddiwydiannol yr etholaeth yn cyfrannu at dlodi, yn rhan o'r hyn sy'n cael ei alw'n premiwm tlodi gwledig. Heb setliad cyllid teg i Gymru, a pholisïau llymder yn debygol o barhau er gwaethaf newid Llywodraeth, ydych chi’n cytuno efo fi fod integreiddio gwasanaethau bysiau efo cludiant cymunedol yn rhan o’r datrysiad realistig sydd ei angen yn Arfon a rhannau eraill gwledig y wlad? A beth fydd eich Llywodraeth chi yn ei wneud i hwyluso canfod datrysiadau o’r math yna? Hynny yw, fydd trafnidiaeth wledig yn rhan o’ch blaenoriaethau chi?
Diolch am y cwestiwn. Rwy'n credu mewn gwirionedd, pan edrychwch chi ar drafnidiaeth wledig—. A chefais fy magu mewn rhan wledig o'r byd, rwy'n deall sut beth yw bod â gwasanaeth rheolaidd sy'n ymddangos ddwywaith yr wythnos, felly rwy'n deall yr heriau go iawn i bobl sy'n byw mewn cymunedau gwledig yng Nghymru. Ac eto, gan ddychwelyd i'r realiti, realiti diymwad ein setliad cyllid, mae'n rhaid i chi edrych ar y ffaith bod cynnal y rhwydwaith bysiau presennol wedi bod yn her wirioneddol i'r Llywodraeth hon.
Ond rydym ni'n deall, mewn gwirionedd, bod y rhwydwaith bysiau yn hanfodol ar gyfer dyfodol trafnidiaeth—ei integreiddio nid yn unig â chymunedau ond â thrafnidiaeth rheilffordd hefyd. Dyna pam mae'r Llywodraeth hon mor eglur ynghylch yr angen i ail-reoleiddio’r bysiau, i fod â system fasnachfraint sy'n gallu sicrhau nad y llwybrau economaidd unigol y mae cwmnïau presennol yn cystadlu â'i gilydd amdanyn nhw yn unig, ond hefyd bod y rhwydweithiau gwirioneddol bwysig yn gymdeithasol, hefyd yn cael eu darparu, mewn system fasnachfraint gydlynol a synhwyrol a ddylai wneud gwell defnydd o'r arian yr ydym ni'n ei ddarparu ar gyfer y rhwydwaith, i wneud yn siŵr bod rhwydwaith sy'n gwasanaethu'r cyhoedd yn well. Yn wir, rwy'n gobeithio, yn y dyfodol, y byddwn ni'n gallu buddsoddi mwy ynddo, oherwydd mae bod â llwybrau bysiau effeithiol ar gyfer cymunedau gwledig a threfol yn hanfodol i sut mae'r economi'n gweithio, ac yn wir ein rhyngweithio cymdeithasol â'n gilydd hefyd.
Prif Weinidog, mae angen system drafnidiaeth lawer mwy integredig arnom ni yng Nghymru, ac yn ne-ddwyrain Cymru, wrth gwrs, bu gennym ni gomisiwn Burns. Mae gennym ni uned gyflawni Burns bellach, sy'n gweithio i greu'r system fwy integredig honno. Rhan bwysig iawn o hynny yw gorsafoedd rheilffordd newydd, y mae tair ohonyn nhw wedi'u cynnig ar gyfer Dwyrain Casnewydd, ym Magwyr, Llan-wern a Somerton. Wrth gwrs, nid yw seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli, a byddai'n cymryd cannoedd o filiynau o bunnoedd i adeiladu'r gorsafoedd newydd hynny a gwneud y gwaith seilwaith cysylltiedig. Felly, Prif Weinidog, o gofio bod Cymru wedi cael cyfran mor bitw o gyllid seilwaith rheilffyrdd y DU am gryn gyfnod o amser o dan y weinyddiaeth bresennol a'i rhagflaenwyr Ceidwadol, a wnewch chi barhau i bwyso yn galed iawn i gael y gyfran deg honno i Gymru fel y gallwn ni weld y gorsafoedd rheilffordd hyn yn cael eu hadeiladu yn ne-ddwyrain Cymru, ac y gallwn ni greu'r system drafnidiaeth fwy integredig honno?
Rwy'n credu ei fod yn bwynt wedi'i wneud yn dda am sut rydym ni'n ymdrin â'r tagfeydd presennol sy'n bodoli ar wahanol adegau mewn amser ag effeithiau gwirioneddol, rwy'n gwybod, ar etholwyr yr Aelod hefyd, ond mewn gwirionedd sut rydym ni'n cael pobl ar fathau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth hefyd. Bydd hynny'n gofyn am fwy o fuddsoddiad yn ein rhwydwaith rheilffyrdd.
Edrychaf ymlaen at gael yr adroddiad dilynol gan uned gyflawni Burns, y gwaith sy'n cael ei gadeirio nawr gan yr Athro Simon Gibson. Rwy'n deall ei fod i fod gyfarfod ag Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros drafnidiaeth yn ddiweddarach y mis hwn. Rydym ni'n edrych ymlaen nid yn unig at ei adroddiad, ond at barhau i wneud y ddadl y mae'r Aelod yn ei nodi ar gyfer buddsoddiad newydd mewn maes a gedwir yn ôl i sicrhau bod gennym ni'r rhwydweithiau trafnidiaeth y mae pobl yn eu haeddu ac, eto, bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n heconomi ac yn wir y rhwydweithiau cymdeithasol sy'n bodoli ac sy'n hanfodol i'r ffordd yr ydym ni'n byw ein bywydau nawr ac yn y dyfodol.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc? OQ60922
Diolch am y cwestiwn. Rydym ni wedi ymrwymo i roi terfyn ar bob math o ddigartrefedd ac rydym ni'n buddsoddi bron i £220 miliwn mewn atal digartrefedd a gwasanaethau cymorth eleni. Mae hyn yn cynnwys dros £7 miliwn wedi'i dargedu'n benodol at nodi digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn gynnar a chymorth i helpu pobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau bywyd sydd eu hangen arnyn nhw i fyw'n annibynnol.
Diolch am yr ateb, Brif Weinidog.
Ac wrth gwrs, cefais gyfarfod ag End Youth Homelessness Cymru dros doriad y Pasg, a amlygodd rai o'r nodweddion allweddol hynny yn y rhai sy'n fwy tebygol neu agored i fod yn ddigartref pan yn ifanc—pobl ag anableddau, er enghraifft, a'r rhai â chyfrifoldebau gofalu, i enwi dim ond rhai. Fe wnaethon nhw nodi angen am newid diwylliannol difrifol yn y sector cyhoeddus, pa un a yw hynny ar draws addysg, iechyd, ac eraill fel tai, er mwyn mynd i'r afael â'r her hon mewn gwirionedd—newid diwylliannol go iawn sy'n sôn am ganolbwyntio'n wirioneddol ar atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Felly, i'r perwyl hwn, a wnaiff y Llywodraeth gefnogi gweithrediad pellach rhaglen Upstream Cymru, sydd wedi bod mor llwyddiannus o ran nodi'r bobl ifanc hynny sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, ac a wnaiff ef hefyd ymrwymo heddiw i ddarparu strategaeth sy'n canolbwyntio'n benodol ar atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc?
Mae'r gwaith hwn yn eithriadol o bwysig i'r Llywodraeth hon. Hoffwn ailddatgan yr hyn a ddywedais wrth ateb y cwestiwn cychwynnol: rydym ni wedi ymrwymo i roi terfyn ar bob math o ddigartrefedd. Mae hynny'n golygu bod angen i chi ddeall nid yn unig yr ysgogiadau pam mae pobl yn mynd yn ddigartref, ond sut rydych chi'n eu cynorthwyo nhw i gael tenantiaethau llwyddiannus. Mae'r gwaith ehangach hwnnw o ystyried y dystiolaeth o'r model tai yn gyntaf gyda chynlluniau peilot yng Nghymru, a'r dystiolaeth gychwynnol o hynny yn galonogol iawn a dweud y gwir. Mae'n dangos bod tai yn gyntaf, lle maen nhw ar waith, yn cyd-fynd â'r dystiolaeth ryngwladol o 80 y cant i 90 y cant o denantiaethau llwyddiannus o ganlyniad.
Ein nod yw cymryd yr hyn a ddysgwyd i'r gwaith rydym ni'n ei wneud i geisio mynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc, ac rwy'n falch bod yr Aelod wedi tynnu sylw at y ffaith bod hwn yn fater nad yw'n cyflwyno ei hun ar un adeg mewn bywyd. Os edrychwch chi ar y gwaith yr ydym ni'n ei wneud gyda'n fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid, lle'r ydym ni'n ceisio nodi'r bobl ifanc hynny sydd fwyaf mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ar ddiwedd eu hamser mewn addysg orfodol, mae llawer o'r bobl hynny mewn mwy o berygl o ddod yn ddigartref eu hunain. Felly, mewn gwirionedd mae'n waith rhwng mwy nag un adran i nodi'n gynharach pwy allai fod mewn perygl o ddod yn ddigartref, yn ogystal â'r cymorth os yw pobl yn cael eu hunain yn ddigartref yn ystod eu bywydau. Dyna bwyslais ein sylw.
Rydym ni, wrth gwrs, yn cael sgyrsiau fel Llywodraeth gyda'r gynghrair, sy'n bwriadu cael sgwrs am Upstream Cymru i weld a oes modd rhoi'r dystiolaeth y maen nhw wedi ei chasglu o wahanol rannau o'r byd ar waith yma yng Nghymru. Ac rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio eisoes wedi cael sgyrsiau gyda'r gynghrair honno. Wrth gwrs, byddwn yn parhau i weithio'n adeiladol gyda'r holl bartneriaid i sicrhau bod y dull sydd gennym ni yn effeithiol ac yn cyflawni'r canlyniadau y mae pob un ohonom ni eisiau eu gweld i roi terfyn ar bob math o ddigartrefedd o'r diwedd, gan gynnwys i'n pobl ifanc.
Prif Weinidog, ym mis Rhagfyr y llynedd dywedodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr eu bod nhw wedi gweld cynnydd sylweddol i nifer y bobl sy'n aros ar y gofrestr tai cyffredin; roedd wedi cynyddu 200 y cant ers 2019-20. Ac yn yr adroddiad, rhestrodd y cyngor resymau pam roedden nhw'n meddwl bod y ffigurau mor llwm. Yn eu barn nhw, y rheswm mwyaf oedd nifer y newidiadau deddfwriaethol a wnaed gan Lywodraeth Llafur Cymru, a'u gallu i ymdrin â nhw. Mae'n mynd ymlaen wedyn i sôn am yr angen am gyllid pellach i ddilyn y newidiadau deddfwriaethol hynny, nad yw'n ymddangos fel pe bai wedi digwydd hyd yn hyn.
Felly, mae'n ymddangos mai barn y cyngor yw bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud y rhan hawdd, sef gwneud y newidiadau deddfwriaethol hynny, ond wedi methu â darparu'r cyllid i fynd gydag ef. Felly, Prif Weinidog, mae cyngor sy'n cael ei redeg gan Lafur yng Nghymru yn rhoi'r bai ar eich Llywodraeth Llafur Cymru chi am y pwysau y maen nhw'n eu hwynebu wrth ymdrin â digartrefedd, felly sut wnewch chi ymateb?
Rwy'n credu y byddai'n ddiddorol pe bawn i'n cymryd gair Tom Giffard ynglŷn â'r hyn y mae cyngor dan arweiniad Llafur yn eu ddweud a ddim yn ei ddweud am y Llywodraeth hon, pan fo'r holl dystiolaeth yn awgrymu bod realiti'r argyfwng costau byw, realiti'r hyn y mae hynny'n ei olygu i bobl allu fforddio eu llety eu hunain ac aros yn y llety hwnnw yn ysgogiadau llawer mwy o ran pam nad oes gan bobl eu cartref eu hunain yn y pen draw. Byddwn yn parhau i weithio gyda phob cyngor i geisio sicrhau bod yr arian yr ydym ni'n ei gyfrannu at roi terfyn ar ddigartrefedd yn effeithiol ac yn cael ei wario'n dda. Mae hynny'n golygu edrych ar y dystiolaeth, nad wyf i'n credu sy'n cael ei gyfleu'n arbennig o gryf yn sylwadau'r Aelod.
Byddwn hefyd yn nodi o ran adnoddau nad yw'r cyhoedd yn derbyn yr honiad hwn nad yw'r Ceidwadwyr yn gyfrifol rywsut am realiti'r gyllideb sy'n ein hwynebu yn y Llywodraeth. Mae'n ddiymwad bod pobl ledled Cymru yn wynebu heriau gwirioneddol gyda chostau byw, gyda'r baich treth cynyddol i bobl sy'n gweithio, ac maen nhw'n gwybod mai eich plaid chi sy'n bennaf gyfrifol am yr heriau hynny. Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod chi eisiau parhau i gael sgwrs am realiti'r cyllid cyhoeddus sydd ar gael i ni. Nid wyf i'n credu y bydd y cyhoedd ar eich ochr chi pan ddaw i benderfynu pwy sy'n gyfrifol.
Un cam pwysig tuag at roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yw sicrhau ein bod ni'n adeiladu'r math cywir o dai cymdeithasol fforddiadwy sydd ar gael i bobl ifanc ledled Cymru. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi, er mwyn cyflawni hyn, bod yn rhaid i ni fynd i'r afael â'r ôl-groniad yn y system gynllunio trwy gael gwared ar y rhwystrau yno, ac adeiladu ar frys ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i groesawu dulliau modern o adeiladu tai, gan gynnwys adeiladau modiwlaidd oddi ar y safle?
Rwy'n croesawu'r sylwadau a wnaed gan yr Aelod. Yn wir, rwyf i wedi cael rhywfaint o'r sgwrs hon yr wythnos hon gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio ynghylch sut y gallwn ni sicrhau mwy o gyflymder o ran cyflenwi tir a phenderfyniadau ynghylch hyn, ac, yn wir, y gwaith ymarferol i sicrhau bod dulliau adeiladu modern yn cael eu mabwysiadu'n gyson ledled Cymru. Ceir cyfle gwirioneddol yn yr economi i ddarparu mwy o dai carbon isel ond o ansawdd uchel, ac, yn wir, i ddatgloi cyflenwad tir. Byddai gen i ddiddordeb mawr mewn sgwrs gyda'r Aelod ac, yn wir, Ysgrifennydd y Cabinet, ynghylch sut y gallwn ni fwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw.
5. Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod trigolion Gorllewin De Cymru yn derbyn gofal iechyd prydlon? OQ60907
Diolch am y cwestiwn.
Mae darpariaeth y GIG o ofal prydlon yn ymrwymiad y mae'r Llywodraeth hon yn sefyll drosto. Fe'i cefnogir gan fuddsoddiad ychwanegol ac adnoddau wedi'u targedu i gefnogi trawsnewid. Rydym ni wedi gweld amseroedd aros hir yn lleihau bob mis, ond mae angen mwy. Rydym ni'n parhau i flaenoriaethu buddsoddiad yn ein GIG i wella perfformiad a chyflawniad yn erbyn yr ymrwymiad hwn.
Diolch. Am bum diwrnod y mis hwn, o 4 Ebrill tan 9 Ebrill, cafodd y lefel uchaf o uwchgyfeirio ei datgan yn Ysbyty Treforys—'rhybudd du' fel y'i gelwir. Roedd cleifion yn yr adran damweiniau ac achosion brys yn wynebu arosiadau o 15 awr. Cynghorodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe bobl, am bum diwrnod, i osgoi dod i adran achosion brys yr ysbyty oni bai eu bod nhw'n ddifrifol wael neu wedi'u hanafu'n ddifrifol. Mae'r rhybudd hwn yn cael ei sbarduno o dan amgylchiadau eithriadol yn unig. Dyma'r lefel rhybudd uchaf y gall bwrdd iechyd ei datgan. Byddech chi'n disgwyl, felly, iddo fod yn ddigwyddiad prin iawn. Wel, Prif Weinidog, mae Ysbyty Treforys wedi datgan rhybudd o'r fath bum gwaith dros y pum mis diwethaf. Bu naw dros y flwyddyn ddiwethaf.
Yn ystod y digwyddiad diwethaf, bu'n rhaid i un o'm hetholwyr o Gastell-nedd, sy'n 77 oed ac a wnaeth ddarganfod yn ddiweddarach ei fod wedi torri ei wddf, aros 20 awr am ambiwlans ac yna bu'n rhaid iddo aros pum awr arall i gael ei weld gan feddyg yn Nhreforys. Bu etholwr arall o Greunant yn aros 30 awr yn yr adran damweiniau ac achosion brys. Cafodd etholwr o Bontardawe, sy'n cael cemotherapi, ei hatgyfeirio i adran damweiniau ac achosion brys yn Nhreforys, gwnaed iddi aros 11 awr, dim ond i gael gwybod wedyn nad oedden nhw'n siŵr pam y dywedwyd wrthi am fynd atyn nhw. Mae'r rhain yn bobl a oedd angen bod yno, y dywedwyd wrthyn nhw am fynd yno; doedden nhw ddim yn feddw. A ydych chi'n cytuno, Prif Weinidog, bod hyn yn gwbl annerbyniol? Mae'n rhaid rhoi sylw uniongyrchol i ddifrifoldeb y pwysau hyn ar wasanaethau iechyd. A allwch chi roi sicrwydd i bobl sy'n byw yn fy rhanbarth i bod eu hadran achosion brys fwyaf yn gallu diwallu eu hanghenion pan fydd eu hangen fwyaf?
Mae'r Llywodraeth hon yn cydnabod yr angen am welliant pellach o ran mynediad at ofal prydlon ac o ansawdd uchel ar draws ein GIG. Dyma brif ganolbwynt Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac rydych chi bellach yn gweld amseroedd aros yn gostwng yng Nghymru mewn misoedd olynol. Mae gennym ni'r gymhariaeth â Lloegr yn rheolaidd; mewn gwirionedd, ym 15 o'r 18 mis diwethaf, mae perfformiad adrannau damweiniau ac achosion brys wedi bod yn well yng Nghymru nag yn Lloegr, ond rydym ni'n cydnabod bod angen llawer mwy.
Mae angen i'r cynnydd o ran arhoswyr hir barhau. Mae angen i'r cynnydd o ran atgyfeirio safonol at driniaeth barhau. A dweud y gwir, yn ardal bwrdd iechyd bae Abertawe, mae'r arhosiad canolrifol am atgyfeiriad i driniaeth yn llai na 19 wythnos bellach. Mae hynny, eto, yn gynnydd o flwyddyn yn ôl. Ond dyna pam mai dyma yw prif ganolbwynt y Llywodraeth hon, y rheswm pam, o dan amgylchiadau anodd iawn, rydym ni'n dal wedi buddsoddi mwy na 4 y cant mewn cynnydd i gyllideb ein GIG—mae'n llai nag 1 y cant yn Lloegr—gan ein bod ni'n gwybod ei fod yn gofyn am adnoddau, diwygio ac arloesi i leihau'r amseroedd aros hynny i bobl ym mhob rhan o'n system gofal iechyd. Dyna ymrwymiad parhaus y Llywodraeth hon.
Rwy'n disgwyl gweld gwelliant pellach yn cael ei wneud dros weddill eleni. Dyna pam, yn fy ymgysylltiad cynnar, y gwnes i flaenoriaethu sgwrs gyda Chymdeithas Feddygol Prydain, i geisio sicrhau y gallwn ni roi terfyn ar y gweithredu diwydiannol, fel bod meddygon sydd eisiau bod yn ôl yn y gwaith, ynghyd â'r grŵp staff ehangach, yn gallu gwneud hynny, fel bod gan gleifion sy'n dibynnu ar ein gwasanaeth iechyd—fel yn wir yr wyf i wedi ei wneud ar wahanol adegau yn fy mywyd—y gwasanaeth iechyd y maen nhw'n ei haeddu, sy'n barod ac yn fodlon rhoi'r gofal o ansawdd uchel iddyn nhw, sef profiad safonol pobl ledled Cymru o hyd.
Prif Weinidog, a gaf i eich croesawu i'ch swydd newydd hefyd? Ond, fel cyn Weinidog iechyd, rydych chi'n gwbl ymwybodol bod yr heriau sy'n wynebu gofal sylfaenol yn rhagflaenu ymhell y pandemig a'r her o ran cyllid y Llywodraeth. Rydym ni wedi bod yn ymwybodol o'r argyfwng yn ein meddygfeydd teulu ers ymhell dros ddegawd, ac mae diffyg difrifol o ran cynllunio'r gweithlu wedi gwaethygu'r sefyllfa. Mae ysbryd mor wael, yn ôl yr arolwg diweddar y Cyngor Meddygol Cyffredinol, bod chwarter y meddygon teulu yn bwriadu symud dramor o fewn y 12 mis nesaf. Prif Weinidog, a wnewch chi a'ch Cabinet newydd fynd i'r afael nawr â'r argyfwng sy'n wynebu'r porth i'r GIG, yn fy rhanbarth i, ledled Cymru, cyn ei bod hi'n rhy hwyr?
Wel, diolch i'r Aelod am o leiaf cydnabod y cyllid heriol y mae'r Llywodraeth hon yn ei wynebu. Nid yw'n rhywbeth yr ydym ni'n ei glywed yn rheolaidd gan Aelodau'r Ceidwadwyr Cymreig; mae hynny'n rhywfaint o gynnydd o leiaf. O ran cynllun gweithlu, nid yw'r her yn ymwneud â bod â chynllun gweithlu; mae'n ymwneud â'r adnoddau i ddarparu'r cynllun gweithlu hwnnw, y bobl i'w recriwtio i ddod â nhw i mewn i'n system, ac yna eu cadw nhw yn ein system i sicrhau bod ganddyn nhw obaith. Mae hynny'n gofyn am arian go iawn, wrth gwrs, ac mewn gwirionedd, yn ystod yr amser yr wyf i wedi bod yn Weinidog iechyd, fe welsom ni welliant gwirioneddol o ran cael mwy o bobl i lenwi lleoedd hyfforddi meddygon teulu. Ni wnaethom ni lenwi'r lleoedd hyfforddi hynny yn rheolaidd, a nawr rydym ni wedi llwyddo i'w gorlenwi ac ailosod ein targedau. Felly, mae llif o bobl sydd eisiau dod i weithio yng Nghymru oherwydd y ffordd fwriadol yr ydym ni'n ceisio blaenoriaethu gofal sylfaenol o fewn ein system ehangach. Mae'n hanfodol bod â gwasanaeth mwy ataliol i sicrhau ein bod ni'n gwneud mwy mewn gofal sylfaenol, nid llai. Edrychaf ymlaen at barhau i gael sgwrs nid yn unig gyda'r gweithlu presennol, ond gweithlu'r dyfodol am y math o system seiliedig ar ofal sylfaenol yr ydym ni eisiau ei chael, ac rwy'n credu y dylai fod anogaeth i hynny yma yng Nghymru, ond mae'n gofyn am adnoddau go iawn yn ogystal ag ymrwymiad gwleidyddol parhaus.
Y brif broblem gyda gofal iechyd yn Nwyrain Abertawe yw ei bod hi'n anodd iawn, mewn rhai meddygfeydd teulu, cael apwyntiad gofal sylfaenol. Os byddan nhw'n dweud wrth y darparwr gofal sylfaenol ei fod yn fater brys, dywedir wrthyn nhw, 'Ewch i'r adran damweiniau ac achosion brys.' Mae cleifion yn mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys gan eu bod nhw'n gwybod, hyd yn oed os bydd yn rhaid iddyn nhw aros sawl awr, byddan nhw'n cael eu gweld gan feddyg. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi ynghylch y pwysigrwydd bod gofal sylfaenol ar gael, ac y byddai mwy o adnoddau i ofal sylfaenol yn lleihau'r galw mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ac yn arwain at well canlyniadau iechyd?
Mae gennym ni'r sefyllfa hon yn y gwasanaeth iechyd bod y mwyafrif llethol o gysylltiadau o fewn ein system gofal iechyd yn digwydd mewn gofal sylfaenol, ac eto mae mwyafrif cyffredinol ein hadnoddau yn cael eu gwario mewn gofal yn yr ysbyty, gan fod ysbytai yn ddrud iawn i'w rhedeg, ac mae'r rhan fwyaf o'r pwyslais, mewn gwirionedd, o ran beirniadaeth a her o amgylch y gwasanaeth iechyd yn ymwneud â gwasanaethau ac arbenigeddau mewn ysbytai. Fodd bynnag, mae symud mwy o adnoddau i ofal iechyd sylfaenol a mwy ataliol, yn haws ei ddweud ar lafar nag y mae i'w gyflawni yn ymarferol.
Bydd gan bob Aelod yma brofiad o etholwyr yn dod atyn nhw, grwpiau ymgyrchu, ac maen nhw bron i gyd yn canolbwyntio ar ran eilaidd ein system. Mewn gwirionedd, rydym ni angen ffordd gydgysylltiedig lawer gwell y mae ein system gyfan yn gweithio, y staff yn gweithio gyda'i gilydd—ac rwy'n credu bod ewyllys da iawn i fod eisiau gweld hynny, ac rydym ni eisoes wedi cymryd camau ar hynny. Rydym ni wedi symud mwy a mwy o'n gwasanaethau i ofal sylfaenol, pa un a yw'n optometreg, pa un a yw'n ddeintyddiaeth, lle ceir mwy o apwyntiadau nawr na blwyddyn yn ôl, ac, yn wir, yr hyn y gallwn ni ei wneud yn y tîm gofal sylfaenol lleol. Rwy'n cofio dod i'r lle hwn ac roedd pobl yn sôn am rith-ward fel ffordd newydd ac arloesol o drin pobl. A dweud y gwir, yn ardal iechyd bae Abertawe, rydych chi'n gweld rhith-wardiau fel arfer safonol nawr. Felly, rydym ni'n gweld arloesedd yn cael ei safoni.
Mae mwy i'w wneud bob amser i sicrhau bod gan bobl fynediad da at ofal o ansawdd da, a gallwn ddarparu mwy a mwy o'n gwasanaethau yn y sector gofal sylfaenol, lle mae arian yn cael ei ddefnyddio'n dda iawn mewn gwirionedd, ond hefyd mae'r profiad i'r claf bron bob amser yn un gwell os gallwch chi ymdrin â'r heriau hynny yn gynharach.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau bach yng Ngogledd Caerdydd? OQ60912
Diolch am y cwestiwn. Mae ein gwasanaeth Busnes Cymru yn rhoi mynediad i unigolion ac entrepreneuriaid at amrywiaeth eang o wybodaeth, canllawiau a chymorth, yn ariannol ac nad yw'n ariannol. Mae ein tîm busnes a rhanbarthau'r de-ddwyrain hefyd yn darparu cymorth pwrpasol i helpu cwmnïau i oroesi a thyfu.
Diolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Ers dechrau'r flwyddyn, mae nifer o siopau a bwytai bach annibynnol yng Ngogledd Caerdydd wedi cau oherwydd costau cynyddol gyda'r argyfwng costau byw a chamreolaeth yr economi gan Lywodraeth y DU, ac mae'r achosion hyn o gau yn arbennig o amlwg mewn ardaloedd fel Heol yr Eglwys Newydd, er enghraifft, sydd wedi dod yn dipyn o ganolfan ar gyfer bwytai a siopau bach annibynnol. Felly, rwy'n croesawu'n fawr cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru o gronfa diogelu at y dyfodol gwerth £20 miliwn, y gwn y bydd hyn yn helpu busnesau bach, ond beth arall allwch chi ei wneud i helpu busnesau bach yng Ngogledd Caerdydd?
Diolch am y cwestiwn. Efallai nad yw yn fy etholaeth i, ond rwy'n adnabod Heol yr Eglwys Newydd a'r ganolfan busnesau bach yn y rhan benodol honno o Ogledd Caerdydd. Mae'n ymwneud mwy, serch hynny, rwy'n credu, â sut y mae'r holl fusnesau hynny yn ychwanegu at ymdeimlad o le a bywiogrwydd cymuned lle'r ydych chi'n byw, a dyna pam mae gennym ni gynllun gweithredu ar fanwerthu, a ddatblygwyd gyda'r fforwm manwerthu mewn partneriaeth gymdeithasol—undebau llafur a busnesau yn cydweithio yw hynny, i geisio creu dyfodol mwy olynol i fanwerthu. Dyna pam rydym ni'n parhau i fuddsoddi arian mewn cymorth rhyddhad ardrethi hefyd; ein rhyddhad parhaol yw hwn mewn gwirionedd, felly mae werth £0.25 miliwn y flwyddyn, ac mae'n cynnwys mwy na 70,000 o eiddo ledled Cymru.
O ran Gogledd Caerdydd, mae gen i ddiddordeb yn y gwaith y gallwn ni ei wneud ynghyd â'r partneriaid allweddol eraill hynny, ein hawdurdodau lleol, ar y gwaith yr ydym ni'n ei wneud ar Trawsnewid Trefi, ar y gwaith yr ydym ni'n ei wneud i sicrhau nad oes cynlluniau creu lleoedd yn unig ond cyfleoedd i gymryd mwy o bwerau i ymdrin â rhai o'r unedau gwag a allai fod yn broblem i fusnesau presennol. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â busnesau bach a phartneriaid awdurdod lleol—rwy'n gwybod ei fod yn flaenoriaeth i Weinidog newydd yr economi hefyd—ynghylch sut y mae'n arwain at bwynt llawer ehangach am sut y gallwn ni gael cymunedau bywiog y mae pobl yn falch o fyw ynddyn nhw ac eisiau siopa ynddyn nhw a chefnogi eu busnesau lleol eu hunain ynddyn nhw.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei ddull o ymdrin â datblygu economaidd ym Mlaenau Gwent? OQ60921
Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid fel prifddinas-ranbarth Caerdydd, cyngor Blaenau Gwent a busnesau allweddol i sicrhau ffyniant a manteision twf economaidd i bob rhan o Gymru, a phob rhan o dde-ddwyrain Cymru, gan gynnwys Blaenau Gwent. Rwy'n cydnabod bod twf parhaus ym Mlaenau Gwent yn gofyn am ymyrraeth ac ymrwymiad hirdymor gan y Llywodraeth hon a phartneriaid eraill.
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am hynny. Rwy'n ddiolchgar hefyd i'r Prif Weinidog am ddod â'i Lywodraeth i Flaenau Gwent ddoe, i Lynebwy. Mae'n rhywbeth yr ydyn ni'n ei groesawu'n fawr. Ond mae angen i'r ffocws hwnnw fod yn ffocws parhaus, Prif Weinidog. O ran sut yr ydyn ni'n bwrw ymlaen â hyn, mae datblygiad ffordd ddeuol yr A465 wedi gwneud gwahaniaeth enfawr eisoes ym Mlaenau Gwent, a'r hyn yr ydyn ni'n ei ystyried nawr yw sut y gallwn ni adeiladu ar y llwyddiant hwnnw wrth i'r prosiect cyfan gael ei gwblhau hyd at Hirwaun.
A wnaiff y Prif Weinidog weithio gyda mi ac Aelodau eraill ar draws Blaenau'r Cymoedd i sicrhau bod gennym ni gysylltedd o amgylch y coridor newydd hwnnw a'n bod ni'n gallu buddsoddi yn yr ystadau diwydiannol a'r parciau busnes o amgylch Blaenau'r Cymoedd i sicrhau bod gennym ni amgylchedd busnes a all gynnal ac annog mwy o dwf o ganlyniad i'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'i wneud?
Rwy'n credu bod y pwynt wedi'i wneud yn dda o ran buddsoddiad parhaus a bod angen i'r sector cyhoeddus gymryd rhan yn hynny; fydd e' ddim i gyd yn dod o'r sector preifat pan gyrhaeddwch chi'r Cymoedd gogleddol. Mae hynny wedi cael ei gydnabod gan brifddinas-ranbarth Caerdydd gyda menter y Cymoedd gogleddol, a lansiwyd gydag awdurdodau'r Cymoedd gogleddol ar 10 Ebrill. Rwy'n awyddus—fel y mae'r Ysgrifennydd newydd dros yr economi ac ynni hefyd, rwy'n gwybod—i sicrhau ein bod ni'n cael sgyrsiau ymarferol â'r partneriaid hynny o ran sut yr ydyn ni'n agor safleoedd i'w datblygu, oherwydd mae yna fusnesau sydd eisiau mynd yno. A dweud y gwir, mae galw eithaf da am adeiladau busnes lle mae'r safleoedd yn briodol. Ond yn fwy na hynny, nid y safle yn unig ydyw, ond y buddsoddiad parhaus mewn sgiliau ac uchelgais.
Pan oeddwn i yng Ngholeg Gwent ddoe, rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn falch o wybod fy mod i wedi llwyddo i gwrdd â rhai o'r bobl ifanc a oedd yno yn astudio ar gyrsiau peirianneg a busnes. Mae ganddyn nhw lefelau uchel o uchelgais ar gyfer eu hunain a'u cymuned leol, sy'n gydnabyddiaeth o'r rhagoriaeth yn y cyfleusterau y mae Coleg Gwent yn eu darparu. Yn benodol, roeddem yn tynnu sylw at waith y prosiect peirianneg gwerth uchel—ymyriad bwriadol gan y Llywodraeth hon a phartneriaid eraill i sicrhau bod ansawdd gwirioneddol i bobl ifanc ddysgu, ond hefyd i fusnesau presennol ddefnyddio'r cyfleusterau hynny hefyd. Dyma'r union fath o bartneriaeth y mae angen mwy ohoni, ynghyd ag uchelgais ac ymyrraeth barhaus gan y Llywodraeth hon ac eraill. Byddaf yn hapus iawn i weithio gyda'r Aelod a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod yna gydlyniaeth i'n cynllun ni ar gyfer datblygu economaidd yn y Cymoedd gogleddol.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Cefin Campbell.
8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn brwydro yn erbyn tlodi cefn gwlad yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ60934
Diolch am y cwestiwn.
Mae adeiladu economi gryfach a chefnogi pobl i ffynnu yn yr economi honno yn hanfodol i leihau tlodi yn y tymor hwy ym mhob rhan o Gymru. Mae ein cenhadaeth economaidd yn nodi blaenoriaethau ar gyfer economi gryfach a'n huchelgeisiau i sicrhau Cymru fwy llewyrchus, gwyrddach a mwy cyfartal.
Diolch yn fawr iawn. Dwi'n croesawu'r cyfle yn y cwestiwn cyntaf i chi fel Prif Weinidog i ofyn beth yn union mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i daclo tlodi gwledig. Rŷn gwybod bod yna bremiwm yn cael ei dalu gan bobl sydd yn byw mewn ardaloedd gwledig: mae cyflogau ar gyfartaledd yn is, mae cost gwasanaethau cyhoeddus yn llawer mwy na mewn ardaloedd trefol, mae cost gofal plant yn fwy, mae cost gwresogi cartrefi yn fwy. Ar gyfartaledd, mae pobl yn talu £27 yr wythnos yn fwy ar drafnidiaeth a £4 yr wythnos yn fwy ar fwyd.
Cyn y Pasg, mi wnes i drefnu cynhadledd ar dlodi gwledig, ac un o'r pethau ddaeth mas yn glir o'r gynhadledd honno yw'r angen am brawf-fesur gwledig, rhyw fath o rural-proofing, ar bob un o bolisïau’r Llywodraeth, yn arbennig y rhai sydd yn mynd i’r afael â thaclo tlodi, ac mae Archwilio Cymru yn cytuno gyda hynny. Felly, allaf i ofyn i chi, Brif Weinidog, sut ŷch chi’n bwriadu mynd ati i osod rhyw fath o brawf-fesur gwledig ar eich polisïau chi, ac a fyddech chi’n fodlon ystyried y posibilrwydd o roi hynny ar sail statudol?
Rwy'n credu mai'r her o ran gofyn am sail statudol bob amser yw sut mae hynny wedyn yn cael ei throsglwyddo i ddewisiadau ymarferol ynghylch gallu'r lle hwn, gyda rhaglen ddeddfwriaethol lawn iawn, i ystyried deddfwriaeth yn y dyfodol. Mae gennyf i ddiddordeb yn y camau ymarferol y gall pobl eu cymryd ym mhob un o'r portffolios gwahanol yn y Llywodraeth hon i sicrhau ein bod ni'n gwasanaethu pob rhan o Gymru'n briodol. Mae gennym ni eisoes, wrth gwrs, amrywiaeth o feysydd sy'n edrych yn benodol ar ddatblygu economaidd. Mae rhaglen Arfor, y mae'r Aelod yn ei deall yn dda o'i rôl fel Aelod dynodedig, yn buddsoddi yn nyfodol yr economi yn y gogledd-orllewin a'r de-orllewin, gan edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod dyfodol priodol i'r iaith yn ogystal â'r cymunedau lle mae'r iaith yn ffynnu ar hyn o bryd. Mae'r persbectif ehangach ar gymorth datblygu economaidd a phartneriaeth awdurdodau lleol yn rhan allweddol o'r ffordd yr ydym yn mynd i allu datblygu economi sy'n gweithio i bawb ym mhob rhan o Gymru.
Mae hynny'n cyd-fynd â'r gwaith yr ydyn ni eisoes yn ei wneud i gefnogi pobl sydd mewn gwir angen. Yn wir, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae cymorth Llywodraeth Cymru yr ydyn ni wedi'i ddarparu wedi bod yn werth mwy na £3.3 biliwn i helpu pobl â'r argyfwng costau byw. Ac yn rhanbarth yr Aelod, wrth gwrs, fe nodais i'n gynharach, mewn ymateb i Joyce Watson, fod y gronfa gynghori sengl yn 2023 wedi darparu mwy na £10 miliwn o fudd-daliadau na fyddent wedi'u hawlio fel arall i'w etholwyr yn y rhanbarth. Yn fwy na hynny, fodd bynnag, mae'r cymorth uniongyrchol mewn argyfwng yr ydyn ni'n parhau i'w ddarparu, fel y gronfa cymorth dewisol. Ym mis Chwefror eleni yn unig, cafodd dros 2,200 o ddyfarniadau eu gwneud. Felly, mae angen i ni wneud yr hyn y gallwn ni gyda'r adnoddau sydd gennym ni i roi cefnogaeth a chymorth uniongyrchol, yn ogystal â'n cynllun a'n darpariaeth tymor hwy i sicrhau bod dyfodol economaidd parhaus yng Nghymru wledig yn ogystal â Chymru drefol.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu cynnal yr eitem nesaf o fusnes. Y Prif Weinidog i wneud y cynnig yn ffurfiol.
Cynnig NNDM8530 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8529 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 16 Ebrill 2024.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwy'n cynnig y cynnig yn ffurfiol.
Diolch. Y cynnig, felly, yw i atal Rheolau Sefydlog dros dro. Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae hynny wedi ei gymeradwyo.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mae hynny'n caniatáu inni symud ymlaen i'r cynnig i gymeradwyo enwebu Cwnsler Cyffredinol. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig yma. Vaughan Gething.
Cynnig NNDM8529 Vaughan Gething
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 49(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 9.1, yn cytuno â’r argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Fawrhydi y Brenin benodi Mick Antoniw AS yn Gwnsler Cyffredinol.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
Yn ffurfiol i enwebu Cwnsler Cyffredinol.
Rwy'n enwebu Mick Antoniw i barhau i ymgymryd â rôl Cwnsler Cyffredinol, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi ei enwebiad.
Does neb arall yn cynnig unrhyw sylwadau ar yr enwebiad yna, ac felly y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn, ac mae enwebiad Mick Antoniw wedi ei gymeradwyo.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yr eitem nesaf yw'r enwebiadau ar gyfer Cadeiryddion pwyllgorau. Rwyf nawr yn gwahodd enwebiadau o dan Reol Sefydlog 17.2F i ethol y Cadeiryddion yma. Dim ond aelod o'r grŵp gwleidyddol y dyrannwyd y pwyllgor hwnnw iddo all gael ei enwebu'n Gadeirydd, a dim ond aelod o'r un grŵp pleidiol sy'n cael cynnig yr enwebiad. Cytunwyd ar y dyraniad Cadeiryddion i'r grŵp Llafur yn unol â Rheol Sefydlog 17.2A a 17.2R. Pan fo gan grŵp plaid fwy nag 20 aelod, mae'n rhaid i'r enwebiad gael ei eilio gan aelod arall o'r un grŵp. Os bydd unrhyw Aelod yn gwrthwynebu enwebiad, neu os ceir dau enwebiad neu fwy ar gyfer un pwyllgor, byddwn ni yn cynnal pleidlais gyfrinachol, a byddaf yn parhau gyda'r enwebiadau ar gyfer gweddill y pwyllgorau hyd nes bydd yr enwebiadau i gyd wedi'i gwneud.
Dyma ni yn symud ymlaen yn gyntaf i wahodd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a ddyrannwyd i'r grŵp Llafur. Dwi'n galw ar aelod o'r grŵp Llafur i gynnig enwebiad.
Hoffwn i enwebu Buffy Williams, os gwelwch yn dda.
Diolch. A oes unrhyw aelod arall o'r grŵp Llafur yn eilio'r enwebiad yna?
Hoffwn i ei eilio.
Mae'r enwebiad wedi ei eilio. A oes rhagor o enwebiadau? Does yna ddim rhagor o enwebiadau. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r enwebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i'r enwebiad hwnnw. Oherwydd y gwrthwynebiad, mi fydd pleidlais ar gyfer y Cadeirydd yma drwy bleidlais gyfrinachol.
Yr eitem nesaf fydd gwahodd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, unwaith eto wedi ei ddyrannu i'r grŵp Llafur. A oes unrhyw un yn cynnig enw?
Hoffwn i enwebu Alun Davies.
A oes unrhyw eilydd i enwebiad Alun Davies?
Eilio.
Oes, mae yna eilydd. Felly, mae'r enwebiad yna wedi ei dderbyn. A oes unrhyw enwebiadau eraill?
Rwy'n enwebu Sarah Murphy.
Mae Sarah Murphy wedi ei henwebu. A oes eilydd i enwebiad Sarah Murphy?
Eilio.
Oes, mae yna eilydd, sef Hefin David. Felly, mae yna ddau enwebiad. Oes yna unrhyw enwebiad arall? Na, does yna ddim enwebiad arall. Gan fod yna ddau enwebiad, mi fydd yna etholiad drwy bleidlais gyfrinachol ar gyfer cadeiryddiaeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Fe fyddwn ni felly yn pleidleisio yn gyfrinachol yn unol â'r Rheolau Sefydlog. Dwi'n dweud wrth yr Aelodau bydd y pleidleisiau cyfrinachol yma yn cael eu cynnal yn ystafell briffio 13 yn y Senedd. Fe fydd y pleidleisio yn agor yn y munudau nesaf ac fe fydd yn cau cyn 16:30 y prynhawn yma. Mae modd i unrhyw Aelod sydd wedi rhoi gwybod i ni eu bod nhw'n dymuno pleidleisio o bell wneud hynny. Y clerc fydd yn gyfrifol am oruchwylio’r broses bleidleisio a'r broses o gyfri'r pleidleisiau, ac ar ôl y pleidleisiau cyfrinachol byddaf i'n cyhoeddi canlyniad y ddwy etholiad yma cyn y cyfnod pleidleisio y prynhawn yma. Diolch yn fawr i chi am hynny.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae sawl newid i fusnes yr wythnos yma. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad yn fuan ar gyflawni blaenoriaethau Cymru. Bydd y datganiad am y Bil iechyd a gofal cymdeithasol nawr yn cael ei wneud ar 21 Mai, ac mae cwestiynau llafar fory wedi newid yn unol â'r Cabinet newydd. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd ar gael yn y papurau cyfarfod ar-lein.
Llongyfarchiadau ar eich rôl newydd, Trefnydd, wrth ymgymryd â dyletswyddau arweinydd y tŷ y prynhawn yma.
Hoffwn i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros Addysg ar y gostyngiad yn nifer y bobl ifanc 18 oed sy'n ymrestru mewn prifysgolion yng Nghymru. Cefais i'r pleser o ymweld â Phrifysgol Wrecsam yn ystod y toriad a chyfarfod â'r is-ganghellor, Maria Hinfelaar, a ddywedodd wrthyf fod nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy'n ymrestru yn cynyddu, sy'n wych, ond bod yna ostyngiad o 5 y cant yn nifer y bobl ifanc 18 oed o Gymru sy'n ymrestru ym Mhrifysgol Wrecsam eleni. Roedd yna ostyngiad hefyd ar draws Cymru rhwng 2021 a 2022, gyda chanran y bobl ifanc 18 oed o Gymru a gafodd eu derbyn am le yn y brifysgol yng Nghymru hefyd yn gostwng o 33.7 y cant i 32.4 y cant.
Yn amlwg, mae hyn yn destun pryder i ogledd Cymru, gan fod myfyrwyr rhyngwladol yn fwy tebygol o adael ar ôl ennill eu cymwysterau, ac mae angen i ni gadw'r sgiliau hyn yn y gogledd. Mae Prifysgol Wrecsam yn ased enfawr i fy etholaeth i, gan fod eu cyfleusterau hyfforddi meddygol rhagorol yn fagned ar gyfer hyfforddi talent ranbarthol, a fydd yn lleihau'r pwysau staffio ar wasanaethau brys ac Ysbyty Glan Clwyd. Rwy'n ymwybodol bod gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i gadw myfyrwyr yn y gogledd ar ôl iddyn nhw raddio, ond beth mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud i sicrhau bod cymhellion ar gael i bobl ifanc ddewis prifysgol yng Nghymru pan fyddan nhw'n ystyried eu dewisiadau ar ôl Safon Uwch? Diolch.
Diolch yn fawr am eich cwestiwn.
Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gwerthfawrogi, fel yr ydych chi wedi'i wneud heddiw, ein prifysgolion yng Nghymru, a Phrifysgol Wrecsam yn arbennig, o ran eich etholaeth chi—asedau enfawr, fel y mae ein holl sefydliadau addysg uwch ledled Cymru. Wrth gwrs, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, nawr, yn cyfarfod yn fuan â'n prifysgolion, nid yn unig o ran yr holl is-gangellorion, Prifysgolion Cymru, ond gan gydnabod bod hwn wedi bod yn fater sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod y dyddiau a'r wythnosau diwethaf fel her. Ac mae llawer o resymau dros yr heriau hynny, ac mae rhai o'r rheini'n gyfrifoldeb ar Lywodraeth y DU.
Ond byddwn i'n dweud, o ran cydnabod ein prifysgolion, a'r rhan maen nhw'n ei chwarae, nid yn unig o ran addysg a dysgu gydol oes, ond hefyd o ran eu heconomi, eu cymunedau lleol a dilyniant ar gyfer addysg, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr, ac, wrth gwrs, yn cael eu cefnogi gan ein system hael iawn o gymorth i fyfyrwyr hefyd. Felly, rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd ar drywydd y pwyntiau hynny yr ydych chi wedi'u gwneud.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ddarparu gwasanaethau GIG a gofal sylfaenol i bobl fyddar. Mae tua 575,000 o bobl fyddar a thrwm eu clyw yn byw yng Nghymru, gan gynnwys dros 4,000 o bobl sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Nawr, mae un o'm hetholwyr, Andrea Eveleigh, yn un o'r 4,000 o bobl hynny. Mae Andrea wedi cysylltu'n ddiweddar am y profiad brawychus a gafodd wrth geisio trefnu apwyntiad deintydd. Mae apeliadau niferus Andrea a'i gŵr i'w deintyddfa wedi'u hanwybyddu'n llwyr ac mae Andrea yn parhau i gael galwadau ffôn. Nawr, mae mwyafrif llethol o wasanaethau yn disgwyl i bawb ddefnyddio gwasanaethau sain, ond nid yw hyn yn hygyrch nac yn briodol o gwbl i bobl fyddar sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain fel Andrea. Felly, byddwn i'n ddiolchgar am eglurhad ar ffurf datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau mynediad cyfartal at wasanaethau iechyd a gofal sylfaenol i bobl fyddar.
Diolch yn fawr, Luke, am eich cwestiwn.
Mae mynediad cyfartal yn hanfodol bwysig ac yn allweddol iawn, ac mae'n sail i gefnogaeth, amcanion ac uchelgeisiau Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer gwasanaeth iechyd cenedlaethol gwirioneddol gynhwysol yma yng Nghymru, yn enwedig o ran pobl fyddar. Rydyn ni hefyd yn ffodus bod gennym ni ymgysylltiad llawn â phobl anabl, gan gynnwys pobl fyddar. Mae ein tasglu hawliau pobl anabl, y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i fynychu ei hun, yn ystyried yr holl faterion sy'n ymwneud â thegwch iechyd a chynhwysiant. Ond rwy'n credu, hefyd, ei fod yn cydnabod Iaith Arwyddion Prydain a'r ffyrdd sy'n dangos nad mater iechyd yn unig yw hwn, mewn gwirionedd, mae'n fater addysg bod ein plant a'n pobl ifanc yn dysgu Iaith Arwyddion Prydain fwyfwy mewn ffordd gynhwysol. Ond, yn sicr, o ran gofal sylfaenol, bydd Ysgrifennydd y Cabinet, sydd yma, yn mynd ar drywydd y pwynt hwnnw.
Dau ddatganiad, os gwelwch yn dda. O ganlyniad i gais rhyddid gwybodaeth, roeddwn i'n bryderus iawn o ddarllen bod tua 230 o achosion o ryddhau'n anniogel o gyfleusterau meddygol ym mwrdd Betsi. Roedd yr achosion o ryddhau'n anniogel fel a ganlyn: cleifion anghywir yn cael eu cludo—pum claf; rhyddhau i leoliadau anghywir—pump; cyrchfan a chyfeiriad anghywir wedi'u darparu—tua phump; rhyddhau claf yn amhriodol—nifer syfrdanol o 221 o gleifion. Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, rwyf wedi cael gwybod am ddau achos o ryddhau anniogel iawn mewn gwirionedd, lle'r oedd angen i'r cleifion fynd yn ôl i'r ysbyty wedyn. Mae hyn yn amlinellu'n glir, er bod rhai gwelliannau wedi'u gwneud i'r bwrdd hwn, na allwch chi gael sefyllfa gynaliadwy lle'r ydym yn gweld achosion rhyddhau mor anniogel. Felly, pe gallem gael datganiad gan y Gweinidog iechyd ar hynny, byddwn i'n ddiolchgar.
Rwy'n gofyn hefyd am ddatganiad gan y Gweinidog dros faterion gwledig—datganiad ar unwaith. Erbyn hyn, mae ein ffermwyr yn wynebu argyfwng nas gwelwyd erioed o'r blaen ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae caeau yn ddwrlawn, mae lefelau trwythiad yn uchel iawn, mae pobl yn gorfod dod ag ŵyn i mewn, sy'n fwydo ychwanegol. Maen nhw wir yn wynebu argyfwng aruthrol. Felly, rwyf i wir eisiau gweld pa gefnogaeth, o ran cyllid, neu unrhyw gefnogaeth y gall y Gweinidog materion gwledig— . Does bosibl ei fod yn ymwybodol o'r sefyllfa yr wyf i'n ymwybodol ohoni ledled Cymru, a beth mae'n mynd i'w wneud mewn gwirionedd i gefnogi ein ffermwyr? Mae'r cnwd cyntaf ddylai fod wedi mynd i mewn, mae llawer wedi cael eu colli, ac mae'n amser eithaf gwael i ffermwyr mewn gwirionedd. Diolch.
Diolch yn fawr am eich cwestiwn, Janet Finch-Saunders.
Dau gwestiwn pwysig y prynhawn yma. Rwy'n credu, yn bwysig, bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi clywed y pwynt yr ydych chi wedi'i wneud ynglŷn â mater diogelwch rhyddhau yn Betsi Cadwaladr. A hefyd, wrth gwrs, mae gennym ni Ysgrifennydd y Cabinet dros ogledd Cymru hefyd, Ken Skates, a fydd yn clywed y pwynt hwnnw, a gwn y bydd ef, ochr yn ochr â'r Ysgrifennydd iechyd, yn trafod y pwyntiau hynny gyda Betsi Cadwaladr.
Ac fe wnaethoch chi godi pwynt pwysig iawn o ran ffermio a'r tywydd gwlyb, y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn ymwybodol iawn ohono. Rydyn ni'n cydnabod bod hyn yn ymwneud ag amodau hinsoddol newidiol, mwy o dywydd eithafol, sydd eisoes yn effeithio ar bridd, adnoddau dŵr a da byw yng Nghymru, glaw dwys dros gyfnod hir a llifogydd—fe wnaethon ni weld hynny ein hunain dros gyfnod y Pasg—ond mae hefyd yn gysylltiedig â chyfnodau rheolaidd o sychder yn yr haf a thanau gwyllt. Ond rwy'n credu bod y materion sy'n ymwneud â'r tywydd gwlyb yn benodol—rydyn ni'n monitro hynny, mae Ysgrifennydd y Cabinet a swyddogion yn monitro hynny'n ofalus, o ran yr effaith ar ffermwyr, a hefyd yn cysylltu â grŵp monitro'r farchnad amaeth ledled y DU. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn mynd i gynnull uwchgynhadledd o randdeiliaid allweddol i drafod y sefyllfa bresennol, a pha ymyriadau y gall fod eu hangen o bob rhan o'r gadwyn gyflenwi i ymdrin â'r amgylchiadau eithriadol y mae rhai ffermwyr yn eu hwynebu.
Mae sgandal yn datblygu yng ngwaith glo brig Ffos-y-frân ger Merthyr. Hyd at yn gynharach eleni, roedd y cwmni a oedd yn gyfrifol am y safle wedi bod yn cloddio glo yn anghyfreithlon ers dros flwyddyn. Erbyn hyn, maen nhw wedi cefnu ar y safle, ond i ychwanegu mwy o halen at y briw o ran yr hyn sydd wedi'i wneud i'r dirwedd honno, fe wnaethon nhw ddiffodd y pympiau dŵr pan wnaethon nhw adael. Felly, nawr, mae trigolion Merthyr wedi cael eu gadael, nid yn unig gyda thwll yn y ddaear, ond twll sy'n llenwi'n gyflym â dŵr halogedig. Nawr, hoffwn i gael datganiad, os gwelwch yn dda, gan y Llywodraeth, yn nodi pa gamau brys y byddwch chi'n eu cymryd. Rydych chi wedi dweud y byddwch chi'n cadw llygad barcud ar y sefyllfa, ond mae amser yn mynd yn brin arnon ni. Mae crynodiad y cemegau sy'n halogi'r dŵr budr yn cynyddu, yn yr un modd ag y mae lefelau dŵr yn codi. Nawr, mae hynny'n peri risg, nid yn unig o ran iechyd yr amgylchedd, ond mae'n berygl i fywyd. Gallai waliau'r domen fethu—mae'n dirwedd sy'n agored i dirlithriadau—ac rydyn ni'n prysur agosáu at adeg pan fydd hi'n rhy hwyr i bwmpio'r dŵr allan. Felly, a all datganiad brys egluro beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod syrfewyr annibynnol yn cael mynediad i'r domen, bod y pympiau yn cael eu troi yn ôl ymlaen, hyd yn oed os yw hynny'n golygu prynu'r tir yn orfodol, ac a fydd achos cyfreithiol yn cael ei gymryd yn erbyn y cwmni am ganiatáu i'r halogi hwn ddigwydd?
Diolch yn fawr am eich cwestiwn, Delyth Jewell.
Mae hwn yn broblem, yn amlwg iawn, o ran Ffos-y-frân, y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi bod yn ymdrin â hi, gan fonitro'r sefyllfa o ran Ffos-y-frân yn agos. A'r flaenoriaeth, wrth gwrs, fel yr ydych chi wedi'i chydnabod a'n hatgoffa ohoni, yw sicrhau diogelwch y gymuned leol. Felly, mae swyddogion Ysgrifennydd y Cabinet, ac ef ei hun, yn cysylltu'n rheolaidd â'r awdurdod lleol ac amrywiaeth o bartneriaid sector cyhoeddus, gan fod yn glir ynghylch diogelu ac adfer y safle. Dyna'r nod, ond gan ddymuno, ochr yn ochr â hynny, weld y safle yn cael ei adfer yn llwyr, yn unol â chaniatâd cynllunio. Mae arweinydd y cyngor wedi rhoi sicrwydd nad yw lefel y dŵr yn y gwagle, er enghraifft, yn destun pryder uniongyrchol. Ond mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i'r cyngor, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu asesu asesiadau annibynnol ar bryderon llifogydd posibl ac effeithiau amgylcheddol.
Prynhawn da, Trefnydd, a chroeso i'ch rôl newydd. Roeddwn i eisiau gofyn cwestiwn sydd mewn gwirionedd yn pontio'ch rôl flaenorol fel y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a oedd yn ymwneud â'r tocyn bws croeso i ffoaduriaid. Erbyn hyn mae hynny wedi'i oedi, tra'n aros am iteriad arall. Ond yn y cyfamser, mae gennym ni ffoaduriaid ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, heb unrhyw gyllid mewn gwirionedd i gludo eu hunain, mynd â'u plant i'r ysgol, er enghraifft, ac mae'n effeithio'n benodol, fel y dywedais, ar y rhai mewn ardaloedd gwledig, sy'n gorfod dibynnu ar fysiau. Tybed a allaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog diwylliant—sori, Ysgrifennydd y Cabinet; bydd yn rhaid i ni ddod yn gyfarwydd â dweud hynny nawr, sbo—Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol ar amserlen ar gyfer ailgyflwyno'r cynllun newydd ar gyfer y tocyn bws croeso i ffoaduriaid. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane Dodds, a diolch am eich dymuniadau da ar gyfer fy rôl newydd fel Trefnydd. Mae hwn wedi bod yn gynllun pwysig iawn, onid ydyw, y tocyn croeso? Fe gyfrannodd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf at helpu cynifer o ffoaduriaid, ac rwy'n cydnabod y pwynt yr ydych chi wedi'i wneud am ardaloedd gwledig yn arbennig. Dim ond ychydig eiriau, rwy'n credu, yn amlwg oherwydd fy rôl flaenorol, i adlewyrchu ei fod wedi'i gyflwyno fel rhan o'n hymateb i ddechrau'r rhyfel yn Wcráin, ac rydyn ni'n amcangyfrif bod dros filiwn o deithiau am ddim wedi'u darparu i bobl sy'n chwilio am noddfa o Wcráin, Affganistan, Hong Kong a ffoaduriaid o bob cwr o'r byd.
Fe ddywedaf hefyd, dim ond ar gyfer y cofnod, fod y cynllun yn un o amodau'r pecyn cyllid brys gwerth £200 miliwn ar gyfer y diwydiant bysiau i'w helpu i adfer yn dilyn y pandemig, ac, fel y gwyddoch chi, cafodd ei ymestyn yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Ond wrth i hyn ddod i ben ddiwedd mis Mawrth eleni, roedd hyd y cynllun bob amser yn mynd i gael ei benderfynu o ran y cyllid a oedd ar gael.
Felly, fel y cafodd ei gydnabod, daeth cam cyntaf y tocyn croeso i ben ar 31 Mawrth, a'r bwriad yw defnyddio'r hyn a ddysgwyd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf i ddatblygu cyfnod nesaf y cynllun, y mae angen iddo fod yn gynaliadwy ac yn addas i'r diben, gan sicrhau bod adnoddau'n canolbwyntio ar y rhai mwyaf anghenus. Yn bwysig iawn, cafodd rhanddeiliaid eu cynnwys yr holl ffordd trwy ddatblygu'r cynllun blaenorol—Cyngor Ffoaduriaid Cymru, awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru, yr holl randdeiliaid—ac mae gwaith yn mynd rhagddo gyda'r rhanddeiliaid allweddol i lansio cyfnod newydd yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Felly, yn sicr, fe wnaf rannu hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol o ran unrhyw wybodaeth ac eglurhad pellach ar yr amserlen ar gyfer hyn.
Rwy'n galw am ddau ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Y cyntaf ar y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i leihau nifer y bobl awtistig neu bobl ag anabledd dysgu sy'n dal i fod dan glo mewn canolfannau asesu a thriniaeth yng Nghymru a Lloegr. Bydd protest 'cartrefi nid ysbytai' y tu allan i'r Senedd amser cinio yfory, gyda chefnogaeth Anabledd Dysgu Cymru a 13 o sefydliadau eraill gan gynnwys Mencap Cymru, yn codi ymwybyddiaeth o ddiffyg symudiad Llywodraeth Cymru ar y mater hwn.
Ar ôl i mi ysgrifennu at y cyn Ddirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant fel cadeirydd y grŵp awtistiaeth trawsbleidiol, ar y cyd â Hefin David fel aelod o'r grŵp, ynghylch anfon pobl awtistig i ysbyty meddwl a'u cadw oherwydd bod lleoliadau yn chwalu yn hytrach nag unrhyw fater iechyd meddwl penodol, cadarnhaodd ei hymateb hi nad yw data ar hyn yn cael ei gadw'n ganolog gan Lywodraeth Cymru, sy'n cwestiynu sut y gallan nhw wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch darparu gwasanaethau.
Mae strategaeth anabledd dysgu wedi bod ar waith yng Nghymru ers 2018, sy'n ceisio sicrhau bod pobl awtistig neu bobl ag anabledd dysgu sydd mewn lleoliadau hirdymor yn cael eu rhyddhau ac yn gallu byw eu bywydau yn eu cymuned. Fodd bynnag, mae Anabledd Dysgu Cymru yn nodi bod tua 150 o bobl awtistig neu bobl ag anabledd dysgu mewn ysbyty, dros ddwy ran o dair ohonyn nhw ers dros 10 mlynedd, er nad yw'r niferoedd yn cynnwys pob person a phob lleoliad. Felly mae angen i ni wybod pam mae nifer mor uchel yn dal i fod mewn lleoliadau ysbyty tymor hir. Rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny.
Rwyf hefyd yn galw am ddatganiad ar y gwasanaeth rheoli poen yn y gogledd. Ar ôl i Ysbyty Iarlles Caer ddweud wrthyf fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ailsefydlu gwasanaethau rheoli poen ar gyfer pobl yng ngogledd-ddwyrain Sir y Fflint yn Ysbyty Maelor Wrecsam, gyda chynnydd sylweddol mewn amseroedd aros yn sgil hynny, dywedodd y Gweinidog Iechyd ar y pryd, Mark Drakeford, wrthyf ei fod yn fater i'r bwrdd iechyd ac fel arall ni wnaeth ddim.
Dim ond ddoe fe wnaeth etholwr sy'n byw ym Mhenarlâg sy'n dioddef o boen cronig anfon e-bost at y tîm sy'n ymdrin â threfnu apwyntiadau ar gyfer y clinig rheoli poen yn Wrecsam Maelor ac fe wnaethon nhw roi gwybod iddo y byddai'n rhaid iddo aros dwy flynedd arall cyn y byddai'n cael apwyntiad, gan olygu y bydd yn rhaid iddo aros am dair blynedd at ei gilydd. Mae e'n gofyn pa gamau ydych chi'n eu cymryd i'w dwyn i gyfrif a sicrhau gwelliant sylweddol, neu a ydych chi'n ystyried bod aros tair blynedd am driniaeth yn dderbyniol? Felly, rwy'n gofyn y cwestiwn hwnnw i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac rwy'n galw am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet hwnnw ar y mater hwn hefyd.
Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, am y cwestiynau hynny. Rwy'n credu bod digwyddiadau fel y digwyddiad a gafodd ei gynnal yn y Senedd heddiw yn bwysig iawn o ran tynnu sylw at yr angen am fynediad, yn enwedig i bobl awtistig, pobl ag anableddau dysgu, a'r sefydliadau a gynrychiolwyd, fel yr ydych chi wedi'u hamlinellu, heddiw—Anabledd Dysgu Cymru, Mencap Cymru. Ac, wrth gwrs, rwy'n gwybod y bydd hynny wedi cynnwys—. Roedd llawer o'r bobl a oedd yn ymgynnull yn bobl â phrofiad bywyd, a phrofiad bywyd o'r angen i gael mynediad at wasanaeth iechyd cynhwysol o ran y ffordd ymlaen. Ac rwy'n llwyr gydnabod hefyd arweiniad ac ymagwedd ac uchelgais 'cartrefi nid ysbytai' Llywodraeth Cymru a'n GIG ni yng Nghymru. Felly, yn sicr, bydd hynny'n cael ei gymryd yn ôl, ei gydnabod a'i ddatblygu o ran ymateb i'r digwyddiad heddiw.
O ran eich ail bwynt am y gwasanaeth yn y gogledd-ddwyrain yn benodol y mae Betsi Cadwaladr yn ei ddarparu, o ran mynediad ato a'r hyn a fydd yn wirioneddol bwysig i bobl, yn enwedig pobl â chyflyrau cronig o ran rheoli poen, unwaith eto, fe wnaf i godi hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet ac, yn wir, Ysgrifenyddion y Cabinet dros iechyd a gogledd Cymru hefyd o ran ystyried y sefyllfa honno.
Gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg ar rôl Cymru—gwnaf i aros un eiliad—datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ar rôl Cymru yn arfogi Llywodraeth Israel a'r IDF, os gwelwch yn dda? Bydd y Trefnydd yn ymwybodol bod dros 33,000 bellach wedi cael eu lladd yn Gaza a bod 1.7 miliwn o bobl yn dioddef newyn ar hyn o bryd. Mae Canada, Sbaen ac eraill wedi atal trwyddedu'r gwerthiant o arfau i'r Llywodraeth yn Israel, tra bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi parhau i drwyddedu gwerthu arfau iddyn nhw. Mae'r ICJ wedi galw ar Lywodraeth Israel i atal gweithredoedd sydd, yn ôl yr ICJ, yn ymddangos fel y gallant ddod i mewn i gonfesiwn hil-laddiad, felly mae'r ffaith bod y Deyrnas Gyfunol yn caniatáu i arfau o'r fath gael eu gwerthu a'u defnyddio gan yr IDF yn golygu bod y Deyrnas Gyfunol yn rhan o'r erchyllterau yma. Mae yna gwmnïau o Gymru yn darparu rhannau i'r arfau yma, felly a gawn ni ddatganiad ynghylch pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd er mwyn atal hyn rhag digwydd a sicrwydd nad ydy arian Llywodraeth Cymru yn mynd tuag at gwmnïau sy'n ariannu'r arfau yma?
Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor. Diolch am godi'r mater pwysig hwn. Wrth gwrs, yn ystod wythnosau toriad y Pasg, rydyn ni wedi gweld y sefyllfa erchyll ac echrydus yn y dwyrain canol ac wedi gweld effaith y newyn ar bobl, a phlant yn arbennig, yn Gaza. Yn sicr, mae hyn yn rhywbeth lle, o ran ein pwerau a'n cyfrifoldebau, does gennym ni ddim rôl o ran amddiffyn a gwerthu arfau, ond yn sicr, fe wnaf i rannu'r cwestiwn hwn ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi o ran Cymru a lle yr ydyn ni yn y sefyllfa honno o ran y cwestiwn hwnnw.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad brys gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar y sefyllfa barhaus ar safle tirlenwi Withyhedge yn fy etholaeth? Mae trigolion yr ardal yn parhau i ddioddef arogleuon ofnadwy o'r safle, er i'r gweithredwr addo gweithredu i ddatrys hyn erbyn 5 Ebrill. Mae'n bwysicach byth bod Llywodraeth Cymru yn ymyrryd ac yn sicrhau bod y broblem hon yn cael ei datrys, o gofio, fel y dywedwyd yn gynharach, fod y gweithredwr wedi rhoi swm enfawr o arian i ymgyrch arweinyddiaeth ddiweddar y Prif Weinidog. Mae'r trigolion wedi gorfod dioddef ers misoedd. Mae hi wedi mynd ymlaen ac ymlaen, ac mae'n rhaid iddi stopio, oherwydd mae hyn yn gwbl annerbyniol. Nawr, rwyf wedi cyflwyno sylwadau i Cyfoeth Naturiol Cymru ac i'r Prif Weinidog, ac rwy'n dal i aros am ymateb llawn, ond mae angen i Lywodraeth Cymru nodi ei bwriad ac egluro beth mae'n ei wneud i fynd i'r afael â'r mater difrifol hwn sy'n ymwneud â'r amgylchedd ac, mewn gwirionedd, iechyd y cyhoedd. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi, Trefnydd, bod iechyd a lles pobl yn bwysicach nag unrhyw beth arall, ac felly rwy'n annog Llywodraeth Cymru i roi datganiad ar frys fel nad oes rhaid i drigolion ddioddef mwyach, oherwydd, yn gwbl briodol, mae fy etholwyr eisiau gweithredu, nid geiriau.
Diolch yn fawr, Paul Davies. Yn amlwg, rwy'n deall y pryder sydd wedi ei godi—ac rydych chi wedi ei godi heddiw—ymysg y gymuned leol o ran safle tirlenwi Withyhedge. Rwy'n deall bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn derbyn diweddariadau gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi pwysleisio'r angen i weithredu'n gyflym i atal yr arogleuon. Maen nhw wedi cynyddu eu presenoldeb ar y safle, Cyfoeth Naturiol Cymru, ac maen nhw'n parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r gymuned trwy eu gwefan wrth i weithgareddau fynd rhagddynt, ac mae hysbysiad gorfodi wedi'i gyflwyno i'r gweithredwr tirlenwi, y mae'n ofynnol iddo orchuddio'r holl wastraff agored a chwblhau gwaith peirianneg tirlenwi i atal a chasglu nwy tirlenwi.
Llongyfarchiadau ar eich rôl newydd, Ysgrifennydd y Cabinet, arweinydd y tŷ. Hoffwn ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet perthnasol i alluogi trafodaeth bwysig ar lawr y tŷ hwn ar adolygiad Cass, yr adroddiad terfynol. Fe wnes i dynnu sylw at fy mhryderon cychwynnol am adolygiad Cass ar ôl i ni ddarllen yr adroddiad interim, ond, yn anffodus, fe'i anwybyddwyd yn y Siambr hon, pan alwais am adolygiad penodol i Gymru, ac eto, fe fwrodd y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru ymlaen gyda'i llwybr ideolegol a gwneud dim. Mae canlyniad canfyddiadau Dr Cass yn hynod arwyddocaol i Gymru yn ogystal â Lloegr. Yng Nghymru, mae'r llwybr ar gyfer pobl ifanc sy'n cael diagnosis o ddysfforia rhywedd yn cynnwys atgyfeiriad at wasanaethau rhywedd yn Lloegr, fel y gwyddoch. Mae adolygiad Cass yn tynnu sylw at bryderon a pheryglon presgripsiynu cyffuriau heb eu profi na ellir eu gwrthdroi, fel meddyginiaeth atal y glasoed, i bobl ifanc. Mae adroddiad Cass hefyd yn rhybuddio na ddylai athrawon gael eu gorfodi i wneud penderfyniadau cynamserol ac, i bob pwrpas, clinigol. Eto i gyd, mae hyn yn ymhlyg drwy gynllun gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru a'r addysg rhyw a pherthnasoedd sy'n orfodol yma yng Nghymru.
Ers blynyddoedd, rydym wedi gweld y Llywodraeth hon a'i Gweinidogion yn gwrthod wynebu'r sefyllfa o ran diogelu'r plant a'r bobl ifanc hyn. Mae'r adroddiad terfynol hwn wedi dangos nawr bod y bobl a gafodd eu difrïo'n flaenorol am fynegi'r pryderon real iawn hyn yn iawn i wneud hynny. Bydd rhieni, athrawon a gweithwyr iechyd ledled Cymru yn disgwyl i Lywodraeth Cymru gymryd sylw o'r canfyddiadau a gweithredu arnynt, ni waeth pa mor anghyfforddus y mae hynny'n gwneud iddynt deimlo. Rwyf bellach yn galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn ostyngedig ac i gyfaddef bod yr hyn y maen nhw wedi bod yn eirioli drosto wedi bod yn rhan o'r broblem, ac i ymrwymo nawr i edrych ar y 32 o argymhellion ar sut i wneud gwasanaethau rhywedd i blant a phobl ifanc yng Nghymru y gorau a'r mwyaf diogel y gallant fod, gan gynnwys ystyried gwahardd meddyginiaeth atal y glasoed yng Nghymru.
Mae pryderon a rennir, ar draws y blaid, am ganfyddiadau adolygiad Cass, yr adroddiad terfynol, felly mae angen i ni fynd i'r afael â hyn ar lawr y Siambr hon ar frys, os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd y Cabinet, a gofynnaf i'r Llywodraeth Cymru hon ddarparu ar gyfer hynny. Diolch.
Wel, Laura Anne Jones, nod adolygiad Cass oedd sicrhau bod plant a phobl ifanc a oedd yn cwestiynu eu hunaniaeth rhywedd neu'n profi dysfforia rhywedd ac yr oedd angen cymorth y GIG arnyn nhw yn derbyn y safon uchel honno o ofal sy'n diwallu eu hanghenion ac sy'n ddiogel, yn gyfannol ac yn effeithiol. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n tynnu'r gwenwyndra allan o'r ddadl hon a'n bod ni'n cydnabod, yma yng Nghymru, ein bod wedi ymrwymo i wella'r llwybr datblygu hunaniaeth rhywedd, y cymorth sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghymru, yn unol â'n hymrwymiadau yn ein cynllun LHDTC+. Ond byddwn ni'n ystyried canfyddiadau'r adroddiad. Byddwn ni'n parhau i gael ein llywio gan y dystiolaeth i sicrhau bod anghenion pobl ifanc yn cael eu diwallu yn y ffordd orau bosibl. Ac rwy'n credu mai dyna'r rôl bwysicaf, o ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Llywodraeth hon ac, yn wir, y Senedd hon, i'w chymryd o ran deall beth mae hyn yn ei olygu i'n pobl ifanc yng Nghymru, a'i gweld yng ngoleuni'r ffaith bod hon yn sefyllfa anodd iawn i gynifer o bobl ifanc ac, yn wir, y rhai sy'n gofalu amdanyn nhw ac sy'n dysgu gyda nhw ac sy'n eu dysgu, ac mae angen i ni ddeall ac ystyried hyn yn ofalus ac yn gyfrifol gyda'n gilydd.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan y Prif Weinidog ar gyflawni blaenoriaethau Cymru. Y Prif Weinidog, felly—Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser mawr heddiw i allu gosod allan blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac ein hymrwymiad i weithio gyda phobl Cymru i greu dyfodol sy'n gweithio i bobl Cymru.
Mae'n bleser mawr heddiw i allu nodi blaenoriaethau'r Llywodraeth Cymru hon a'n hymrwymiad i weithio gyda phobl Cymru i greu dyfodol sy'n gweithio i bobl Cymru.
Yn ystod fy nhair wythnos gyntaf fel Prif Weinidog, rwyf wedi cyfarfod â Chymdeithas Feddygol Prydain i drafod streiciau'r GIG, gydag undebau ffermio i wrando ar eu pryderon, a chyda gweithwyr dur i drafod sut allwn ni wthio'r achos dros gael y fargen orau ar gyfer dur, nid y fargen rataf. Hoffwn i ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y trafodaethau cynhyrchiol ac adeiladol hynny, lle rwyf i, ochr yn ochr â'n Ysgrifenyddion Cabinet newydd, wedi cael cyfle i ymgysylltu ar faterion anodd sy'n gofyn am weithio mewn partneriaeth a chyfaddawdu i ddod o hyd i ateb ar gyfer y dyfodol.
Roedd yr ymrwymiadau cynnar hyn yn flaenoriaeth, ac maen nhw, rwy'n gobeithio, yn arwydd o'r buddsoddiad y bydd Gweinidogion ar draws Llywodraeth Cymru yn ei roi i fusnes difrifol deialog, trafod a gweithio mewn partneriaeth. Rwy'n falch o fod wedi dod â thîm ynghyd sydd â'r weledigaeth, y gwerthoedd a'r profiad sydd eu hangen i wasanaethu Cymru.
Rydym yn gwybod ei bod yn bwysicach nag erioed nawr i sicrhau bod ein holl adnoddau ar draws y Llywodraeth yn canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i fywydau beunyddiol pobl. Ar ôl dros ddegawd o gyni, rhaid i ni ganolbwyntio ar gyfres o flaenoriaethau craidd os ydym am gyflawni'r newid cadarnhaol a blaengar yr ydym am ei weld. Wrth i ni ddod ynghyd i drafod cyllideb Llywodraeth Cymru, fe wnaethom ni i gyd sylweddoli difrifoldeb y sefyllfa ariannol sy'n ein hwynebu. Mae'r gostyngiad o £1.3 biliwn yng ngwerth ein cyllideb werth pedair gwaith cyllideb economi'r Llywodraeth hon. Wrth i nifer cynyddol o awdurdodau lleol mawr yn Lloegr gyhoeddi eu bod yn methu ffurfio cyllideb yn effeithiol, rydym wedi osgoi'r argyfwng hwnnw, gan ddefnyddio ein gwerthoedd i lywio cwrs blaengar trwy heriau amlwg. Mae hynny'n golygu penderfyniadau na ddaeth yr un ohonom i wleidyddiaeth yn gobeithio eu gwneud, a dyfarniadau anodd nad oes yr un Gweinidog byth yn eu cymryd yn ddi-hid.
Bydd canolbwyntio'n barhaus ar y materion pwysicaf yn dangos yr hyn yr ydym ni, fel Llywodraeth, yn sefyll drosto a'r hyn yr ydym yn benderfynol o'i gyflawni. Bydd hefyd yn sbarduno ffocws mwy amlwg o fewn y Llywodraeth, ar adeg pan fo teuluoedd a busnesau yn byw gyda'r fath ansicrwydd a'r argyfwng costau byw parhaus. Fodd bynnag, ni all olygu cynnig ymrwymiadau amhosibl heb atebion cyflawn ar sut y cânt eu hariannu a'u cyflawni. Mae ymrwymiadau o'r fath yn bygwth y gwasanaethau y mae'r rhai y mae angen cymorth arnynt fwyaf yn dibynnu arnynt.
Mae'n amlwg bod y GIG, a lleihau amseroedd aros, yn brif flaenoriaeth i bobl Cymru, ac mae'r un peth yn wir amdanom ni fel Llywodraeth. Mae atal y streicio, a gyhoeddwyd yn dilyn ein cyfarfod gyda'r BMA, yn gam cyntaf pwysig o ran y gwaith hwnnw, ac rwy'n falch bod trafodaethau ffurfiol yn gallu cael eu cynnal nawr. Bydd gofal cleifion yn ganolog i bopeth a wnawn. Mae hyn yn golygu y byddwn ni'n blaenoriaethu cyllid ar gyfer ein GIG a gofal cymdeithasol yn ein cyllidebau, gan fynd i'r afael â rhestrau aros, a buddsoddi mewn technoleg ac arloesedd.
Dros y 14 mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld sut mae'r cylch diddiwedd o gyni a thwf isel yn yr economi wedi cadw safonau byw yn isel ac wedi dal potensial economaidd Cymru, yn ogystal â photensial economaidd y DU gyfan, yn ôl. Mae wedi gyrru pobl i dlodi, wedi arwain at gynnydd mawr mewn costau byw, ac wedi pentyrru pwysau ar y gwasanaethau cyhoeddus yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i'r Llywodraeth Cymru hon weithio ddwywaith mor galed i gefnogi pobl sydd angen ein cymorth a'n cefnogaeth fwyaf.
Dyna pam y bydd y frwydr i godi plant allan o dlodi wrth wraidd cenhadaeth y Llywodraeth Cymru hon. Ni ddylai unrhyw blentyndod ddechrau drwy gael ei ddifetha gan dlodi. Byddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau y gall plant dyfu i fyny yn teimlo'n hapus ac yn obeithiol am eu dyfodol. I wneud hyn, byddwn ni'n adnewyddu ein pwyslais ar gefnogi'r 1,000 diwrnod cyntaf ym mywyd plentyn. Mae'r dyddiau cynharaf hynny yn gosod y sylfaen ar gyfer bywyd plentyn, ac ar gyfer y teulu cyfan. Byddwn ni'n gwella'r gefnogaeth sydd ar gael i blant ac yn ceisio grymuso rhieni a theuluoedd yn ystod y cyfnod hanfodol hwn. Bydd hynny'n gofyn am ymateb hirdymor a chydlynol ar draws y Llywodraeth, ar draws gwasanaethau cyhoeddus ac, yn wir, ledled Cymru.
Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu i sicrhau rhagoriaeth yn ein hysgolion, gyda gwelliant parhaus mewn cyrhaeddiad addysgol yn brif flaenoriaeth. Gwyddom fod addysg dda yn allweddol i adeiladu dyfodol uchelgeisiol a bywydau iachach. Mae pa mor dda y mae plentyn yn ei wneud yn yr ysgol yn chwarae rhan bwysig yn y cyfleoedd y mae'n eu cael mewn bywyd. Felly, byddwn ni'n parhau i gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru, gan ganolbwyntio o'r newydd ar lythrennedd a rhifedd. Mae'n hanfodol bod plant yn yr ysgol gyda'u ffrindiau, yn dysgu, os ydyn nhw am gyrraedd eu llawn botensial, felly byddwn ni'n blaenoriaethu gwella presenoldeb a chyrhaeddiad, gan gydnabod y buddsoddiad mewn cydraddoldeb y mae hyn yn ei gynrychioli hefyd. A byddwn ni'n gweithio fel y gall y genhedlaeth nesaf, a phawb mewn cymdeithas, deimlo ffyniant newydd trwy economi gref a gwyrddach, mewn cyfnod pontio y mae Cymru mewn sefyllfa berffaith i fanteisio arno.
Byddwn ni'n blaenoriaethu adeiladu economi wyrddach lle mae pobl yn dod o hyd i waith da, diogel. Mae'n dda i'r blaned, mae'n dda i fusnes ac mae'n dda i'r dyfodol economaidd diogel y mae pobl ledled Cymru yn ei ddisgwyl ac yn ei haeddu. Bydd gennym ni hybiau twf glân newydd i ddarparu swyddi â chyflog gwell, benthyciadau busnes gwyrdd i helpu busnesau i ddatgarboneiddio a lleihau biliau ynni a hyfforddiant ar gyfer sgiliau sero net, diwygiadau cynllunio a buddsoddiad uchelgeisiol i ddatgloi twf gwyrdd. Fe arweiniodd Cymru y ffordd mewn chwyldro diwydiannol blaenorol. Nawr, wrth i wledydd eraill rasio i gystadlu am swyddi'r dyfodol, rwyf am i Gymru fod ar flaen y gad yn y ras honno. Gyda'n gilydd, mae'n rhaid i ni fanteisio ar y cyfle hwn fel bod Cymru yn gallu arwain eto.
Ac yn olaf, byddwn ni'n gwella'r rhwydweithiau trafnidiaeth sy'n gwneud ac yn llunio'r lleoedd lle rydym yn byw, gan helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac adfer ymdeimlad o berthyn, cysylltiad a chymuned. Bydd y Llywodraeth hon yn newid y ffordd y mae'r system drafnidiaeth gyhoeddus yn gweithio yng Nghymru yn sylweddol, gan gynnwys deddfu ar gyfer Bil bysiau newydd. Mae'n golygu symud o system sydd wedi'i phreifateiddio sy'n rhoi elw cyn pobl i system sy'n dod â bysiau a threnau at ei gilydd o amgylch anghenion pobl.
Lleihau rhestrau aros y GIG, cefnogi plant yn ystod y blynyddoedd cynnar, rhagoriaeth addysgol yn ein hysgolion, swyddi gwell, gwyrddach, gwell cysylltiadau trafnidiaeth ledled y wlad—dyma flaenoriaethau Cymru, a dyma ein blaenoriaethau ni. Mae hyn yn mynd at wraidd yr hyn mae datganoli yn ei olygu a pham mae'n rhaid i ni ei amddiffyn bob amser: atebion Cymreig i broblemau a chyfleoedd Cymreig. Byddwn ni'n parhau i wneud y ddadl gref dros bartneriaeth wirioneddol â Llywodraeth y DU ac am bwerau pellach a mwy o gyllid sydd ei angen ar Gymru i gefnogi'r canlyniadau y mae Cymru yn eu haeddu. Dyma fydd yn ein harwain wrth symud ymlaen i bennod nesaf datganoli yng Nghymru.
Rydyn ni nawr yn dechrau ar daith newydd, pennod newydd yn hanes datganoli.
Rwyf wedi sefydlu rôl newydd yn Swyddfa'r Cabinet o fewn y tîm gweinidogol, ac mae'r Cabinet eisoes yn gweithio ar sut y gallwn ni sicrhau bod ein gweithredoedd a'n blaenoriaethau yn cyflawni'r canlyniadau cryfaf posibl i gymunedau a busnesau sy'n wynebu cefndir mor heriol. Ond, Llywydd, mae'n rhaid i ni wynebu'r realiti bod gormod o'n gwleidyddiaeth a'n bywyd cyhoeddus yn cael ei fwrw i'r cysgodion gan y rhai sy'n ceisio ein rhannu, ein gwthio ni yn erbyn ein greddfau gorau. Dydy Cymru ddim yn ddiogel rhag yr her hon, ond gallwn ni ddewis llwybr mwy cadarnhaol.
Yr wythnos diwethaf, cefais yr anrhydedd o fynychu a chyflwyno Gwobrau Dewi Sant. Ymhlith y llu o enillwyr ysbrydoledig, cwrddais â Callum Smith, bachgen yn ei arddegau o'r Porth yn y Rhondda, a achubodd ddyn ifanc a oedd ar fin cymryd ei fywyd. Y diwrnod hwnnw, roedd Callum yn ddigon dewr i gynnig llaw cyfeillgarwch i ddieithryn mewn anobaith. Dangosodd Callum, fel cynifer o'r enillwyr, ddewrder gwirioneddol a dangosodd unwaith eto ei bod yn arwydd o wir gryfder i wneud y peth iawn, i wasanaethu ac i helpu eraill. Nid oes gan y rhai sy'n dewis masnachu mewn poblyddiaeth sinigaidd y nerth i wneud hynny a dim ond gwasanaethu eu hunain y maen nhw'n ei wneud. Yn waeth byth, mae eu gwleidyddiaeth nhw yn ein gwahodd ni i droi ein hegni yn ddadleuon obsesiynol ynghylch lle rydyn ni'n wahanol ar draul yr holl bethau hynny sy'n ein tynnu at ein gilydd.
Ond mae enillwyr Gwobrau Dewi Sant yn ein hatgoffa o'r daioni cynhenid sydd i'w gael yng ngweithredoedd pobl ledled Cymru—yr holl bethau bychain y gallwn ni eu gwneud gyda'n gilydd i'n gilydd. Rwy'n gobeithio y gall atgoffa pob un ohonom fod gennym ni fwy yn gyffredin na'r hyn sy'n ein rhannu.
Gobeithio y gallwn dynnu ar y cryfder ac optimistiaeth a gynrychiolwyd gan weithredoedd enillwyr y gwobrau.
Gobeithio y gallwn dynnu ar y cryfder a'r optimistiaeth a gynrychiolwyd gan weithredoedd enillwyr y gwobrau hynny a chydweithio ar y blaenoriaethau hyn i greu dyfodol uchelgeisiol er mwyn creu Cymru decach. Diolch, Llywydd.
Prif Weinidog, rwy'n dymuno yn dda i chi a'ch Llywodraeth yn eich ymdrechion, oherwydd mae gennych chi fandad ac mae pobl Cymru yn edrych tua'r Llywodraeth i gyflawni'r mandad hwnnw, yn amlwg, ac, os yw hwnnw'n gweithio, fe fydd yn gwella bywydau pobl ar hyd a lled Cymru. Ond wrth wrando ar eich datganiad a'r cyfeiriad at Swyddfa'r Cabinet yr ydych chi wedi'i chreu o dan Rebecca Evans, rwy'n dwyn dyddiau Carwyn Jones i gof a'i uned gyflawni ef, ac mae'n ymddangos i mi mai'r cyfan rydych chi'n ei wneud yw rhoi enw newydd i honno, a'r un swyddogaeth a fydd ganddi. Ac fel gwyddom ni, yn anffodus, ar lawer o'r nodau allweddol, methu a wnaeth y Llywodraeth flaenorol, dan arweiniad Mark Drakeford, o ran cyrraedd y nodau a bennwyd ganddi hi ei hun o ran amseroedd aros, nodau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr ar gyrhaeddiad addysgol yr oedd yn awyddus i'w cyflawni, a'r nodau economaidd yr oeddech chi, fel Gweinidog yr economi, yn gyfrifol am eu cyflawni.
O ran iechyd—ac fe wnaethom ni siarad yng nghwestiynau'r Prif Weinidog heddiw am gyllidebau a'r crebachu, fel yr ydych chi'n ei weld, yng nghyllideb gyffredinol Llywodraeth Cymru—un o'r pethau allweddol sydd, yn amlwg, yn gallu helpu i gydbwyso'r gyllideb yw gweithio gyda'r byrddau iechyd i wneud yn siŵr nad ydyn nhw'n mynd dros eu cyllideb yn barhaus ac yn gorfod cael eu hachub yn ariannol gan Lywodraeth Cymru yn y pen draw, a bod yn rhaid i ni fod â chyllidebau dros dro wedyn sy'n tynnu arian oddi wrth gyfrifoldebau portffolios eraill. Felly, sut fyddwch chi'n gweithio gyda'r byrddau iechyd i aros o fewn terfynau eu cyllidebau a chyflawni'r nod allweddol o fyrhau amseroedd aros yr ydym ni i gyd yn awyddus i'w weld, ac yr ydym yn gwybod yn y pen draw, yn anffodus, nad ydyn nhw'n cael eu cyflawni flwyddyn ar ôl blwyddyn? Ni all fod yn iawn bod bron i 25,000 o bobl yn aros yma yng Nghymru am driniaeth gan GIG Cymru am ddwy flynedd neu ragor. Mae'n rhaid mai hwnnw, siawns, yw'r prif darged y byddech chi'n dymuno ei daro a'i gyflawni. Felly sut ydych chi am weithio gyda'r byrddau iechyd i aros o fewn terfynau eu cyllidebau a chyrraedd y nodau hyn, fel gall meysydd portffolios eraill gyflawni'r nodau a bennir yn y rhaglen lywodraethu yn y pen draw?
O ran gweithio yn y sector addysg, fe wyddom ni'n iawn fod y canlyniadau PISA a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd y llynedd yn siomedig iawn, a dweud y lleiaf. Mae Llywodraethau blaenorol Cymru wedi pennu nodau o ran ble maen nhw eisiau i'r targed PISA nesaf fod o ran addysg yng Nghymru. Fe roddodd Leighton Andrews, pan oedd ef yn Weinidog addysg, gynnig arni, a Kirsty Williams hefyd. A fyddwch chi'n pennu nodau tebyg i'ch Gweinidog addysg chi weithio gyda'r sefydliadau addysgol ledled Cymru? Oherwydd trwy addysg dda byddwch chi'n mynd i'r afael â'r tlodi a welwch chi mewn llawer o gymunedau, sydd, yn anffodus, mor anodd i'w dileu. A phe byddai'r nod hwnnw gennych chi, fe all y system addysg gyfan symud yn ei chyfanrwydd tuag at wella'r profiad hwnnw o addysg yn ein hysgolion. Felly, a wnewch chi gadarnhau a fydd y Llywodraeth yn pennu ei thargedau ar gyfer y rownd nesaf o arholiadau PISA?
Hefyd, yn rownd ddiwethaf y gyllideb, rwy'n sylweddoli i hynny gael ei adfer, ond fe gafodd ymrwymiad maniffesto'r Llywodraeth ar brentisiaethau ei atal am gyfnod byr oherwydd toriadau ariannol. Fe gafodd hwnnw, fel rwy'n deall, ei adfer, ond a wnewch chi ymrwymiad na fydd ymosodiad tebyg ar yr ymrwymiad maniffesto hwnnw am weddill y tymor sydd gan y Senedd hyd 2026, er mwyn i'r colegau addysg bellach fod â sicrwydd wrth gyflawni'r ymrwymiad maniffesto pwysig hwnnw o gynyddu nifer y prentisiaethau yma yng Nghymru?
O ran portffolio'r economi, fe wyddom ni fod llawer o fusnesau yma yng Nghymru dan anfantais oherwydd y penderfyniad cyllidebol a wnaethpwyd i ostwng y rhyddhad ar ardrethi sydd i'w gael ar ardrethi busnes yma yng Nghymru o 75 y cant i 40 y cant. A oes unrhyw ystyriaeth yn cael ei rhoi yn y Llywodraeth ar hyn o bryd i adfer y rhyddhad hwnnw o 75 y cant? Oherwydd fe fyddai hynny'n golygu hwb aruthrol i fusnesau bach a chanolig ar hyd a lled Cymru. Oherwydd, fel rwy'n siŵr y cofiwch chi o'ch amser yn llefarydd economi'r Llywodraeth, bod yr arian hwnnw'n aros yn y busnesau hynny, mae'n diogelu swyddi ac mae'n diogelu buddsoddiadau, ac nid yw'n cael ei roi o'r neilltu mewn rhyw gronfa gynilo. Felly, a wnewch chi gadarnhau pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i weithio gyda busnesau i liniaru'r penderfyniad gwreiddiol ac, mewn byd delfrydol, i wrthdroi'r penderfyniad hwnnw er mwyn i fusnesau ar yr ochr hon o Glawdd Offa allu elwa ar yr un rhyddhad fel gwna rhannau eraill o'r wlad o ran yr ardrethi busnes?
O ran trafnidiaeth, yr hyn sy'n hanfodol bwysig yw ein bod ni'n deall yr adolygiad y mae'r Gweinidog trafnidiaeth newydd wedi'i nodi yn y cynlluniau adeiladu ffyrdd a fydd yn sefydlu profion newydd ar gyfer penderfynu a fyddan nhw'n bwrw ymlaen i gael eu hystyried ar gyfer gwaith adeiladu. Fe glywsom ni gan yr Aelod dros Flaenau Gwent pa mor bwysig yw ffordd Blaenau'r Cymoedd ac, yn y pen draw, y sgil-effeithiau economaidd ar gyfer y buddsoddiad pwysig hwnnw ym Mlaenau'r Cymoedd. Pam ddylai rhannau eraill o Gymru gael eu hamddifadu am fod y penderfyniadau i fwrw ymlaen â'r prosiectau hyn wedi eu rhoi o'r neilltu, i bob pwrpas, gan y Gweinidog trafnidiaeth blaenorol? Felly, fe fyddwn i'n dra diolchgar pe byddech chi, yn eich ymateb i mi, yn nodi sut y bydd y penderfyniadau hynny'n cael eu hail-greu, eu hailystyried, o fewn y Llywodraeth newydd yr ydych chi'n ei harwain hi?
Yn ogystal â hynny, fel y pwysleisiwyd yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, dechreuad anodd, a dweud y lleiaf, a welodd y gostyngiad cyflymder cenedlaethol i 20 mya a gyflwynwyd ym mis Medi, ond a fydd ag effaith andwyol barhaus ar berfformiad economaidd, ac, yn y pen draw, pa brosesau adolygu a fydd ar waith nad oedden nhw ar waith cyn i chi ymgymryd â swyddogaeth y Prif Weinidog? Roeddech chi'n nodi y byddwch chi'n cael trafodaeth ystyrlon ar y safbwynt polisi hwn. Ai dim ond parhau â'r adolygiad a gychwynnodd y Gweinidog Trafnidiaeth blaenorol a fydd hynny, neu a fydd yna adolygiad newydd gwirioneddol a thrafodaeth newydd ynghylch y ddeddfwriaeth hon a gyflwynwyd gan y Llywodraeth flaenorol?
O ran y cynllun ffermio cynaliadwy, gwnaeth y Gweinidog materion gwledig nodi mewn cyfweliad neithiwr na fyddai unrhyw newid yn nyddiad ei weithrediad, ac fe fyddai hynny'n digwydd y flwyddyn nesaf, ond roedd datrysiadau eraill yn cael eu hystyried gan y Llywodraeth ynghylch y gorchudd coed o 10 y cant a materion eraill a gynhwysir yn y cynllun ffermio cynaliadwy. A fyddech chi'n gallu dweud wrthym ni, o gofio bod eich datganiad chi'n cynnwys cyfeiriad at y cyfarfod cyntaf un a gynhaliwyd gennych chi â'r undebau ffermio, i ba gyfeiriad cyffredinol y mae'r Llywodraeth yn mynd o ran y maes polisi pwysig hwn, a fydd, am y tro cyntaf ers datganoli, yn gyfrifol am gyflwyno'r pecyn hwnnw a'r cynnig hwnnw i gefnogi amaethyddiaeth yma yng Nghymru?
Ac o ran streic y meddygon, os caf i fynd yn ôl i'r man y dechreuais i, a gohirio gweithredu diwydiannol hyd nes ceir trafodaethau, mae'r Gweinidog iechyd, yn ei sylwebaeth flaenorol ar y gweithredu diwydiannol, wedi dweud nad oes mwy o arian ar gael yn nghoffrau Cymru i gynyddu'r cynnig hwnnw. Felly, a wnewch chi gadarnhau heddiw y bydd y trafodaethau ynghylch y streicio yn ymwneud yn ymwneud yn fwy â thelerau ac amodau, neu a ydych chi fel Prif Weinidog, yn wahanol i'ch rhagflaenydd, wedi gallu dynodi arian newydd yng nghyllideb Cymru i—? Nid wyf i'n gofyn i chi ddatgelu beth fyddai'r swm hwnnw oherwydd, yn amlwg, rydych chi mewn trafodaethau, ond a wnewch chi ddatgelu a oes yna arian newydd i'w gynnig, neu a yw hyn, mewn gwirionedd, yn mynd i'r afael â thelerau ac amodau gan gadw at y cynnig ariannol a wnaethpwyd eisoes i'r meddygon? Diolch i chi, Prif Weinidog.
Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Rwy'n edrych ymlaen at ein ymgysylltu ar draws y Siambr. Efallai y byddwn ni'n dod o hyd i gyfleoedd i gytuno ymhlith y pwyntiau lle bydd gwahaniaethau eglur a sicr, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl o ystyried ein bod yn arwain gwahanol bleidiau gydag ymagweddau gwahanol o ran sut olwg ddylai fod ar ddyfodol Cymru a'r DU. Rwy'n tueddu i weld y 14 mlynedd diwethaf fel achos y broblem; mae'n siŵr y bydd ef yn dweud bod y 14 mlynedd diwethaf dan arweinyddiaeth y Ceidwadwyr wedi bod yn llwyddiant ysgubol i Gymru a Phrydain. Fe fydd pobl yn dod i'w penderfyniadau eu hunain pan ddaw'r etholiad nesaf ar y dewis canolog hwnnw.
Rwyf i am redeg drwy'r pwyntiau wnaeth yr Aelod yn fras, a dweud gair yn fwy eang am ein blaenoriaethau ni—fel y nodais i, y blaenoriaethau cynnar hynny mewn sgyrsiau gyda meddygon, gweithwyr dur a ffermwyr, ac fe gododd nifer o'r pwyntiau hynny yn sylwadau'r Aelod, er na chrybwyllwyd y sector dur. O ran y GIG a'n her gyllidebol, mae hyn yn gyffredin i ystod o'r sylwadau a wnaeth yr Aelod. Yn fy natganiad agoriadol, fe nodais fod cyfrifoldeb gennym ni o ran nodi datrysiadau ar gyfer eu hariannu nhw a sut y byddwn ni'n eu darparu. Roedd llawer o'r hyn y gofynnodd yr Aelod amdano yn rhestr siopa ar gyfer gwariant ychwanegol heb, ar unrhyw adeg, nodi o ble y byddai'r arian hwnnw'n dod. Ac eto mae'r Aelod yn gwybod, ers 2021, mae ein cyllideb werth £700 miliwn yn llai mewn termau real nawr wedi rownd ddiweddaraf y gyllideb. Yn ogystal â hynny, mae yna £1.1 biliwn o gronfeydd yr UE gynt nad ydyn nhw wedi dod i Gymru. Mae honno'n golled uniongyrchol a pharhaol i Gymru nad yw'r gronfa ffyniant gyffredin wedi ei lliniaru, ac wrth gwrs, fe gawsom ni ein heithrio yn fwriadol ohoni.
O ran sut mae'r gwahanol wasanaethau iechyd gwladol yn ymdopi, wrth gwrs, mae'r GIG yn Lloegr wedi gallu trosi cyfalaf i refeniw bob amser ar ddiwedd y flwyddyn; ni fu hynny ar gael i ni erioed. Mae gwahanol ddulliau ariannol ar gael i wahanol rannau o'r DU. Serch hynny, yn yr holl ddewisiadau anodd a wnaethom ni, rydym ni wedi buddsoddi mwy na 4 y cant yng nghyllideb ein GIG, o'i gymharu â llai nag 1 y cant yn Lloegr. Mae hynny'n ymwneud â chadw'r cerbyd ar y cledrau, er mwyn i'r gwasanaeth iechyd barhau i weithio, ond hefyd yr her o ran sut rydym ni am gyflawni gwelliannau. Yn 15 o'r 18 mis diwethaf, fe gawsom ni well perfformiadau pedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru nag yn Lloegr. Mae hynny'n dangos bod yr ymdrech sy'n cael ei gwneud ar draws ein gwasanaeth iechyd, ac arweinyddiaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, yn dechrau gweld gwrthdroad yn niferoedd y rhai sy'n aros am yn hirach a rhai sy'n aros amseroedd safonol hefyd. Rydym ni'n edrych ymlaen at weld y duedd yn parhau.
Fodd bynnag, mae hyn hefyd yn ymwneud â'n hymagwedd ni at atebolrwydd a'r galw sydd ar ein system: sut ydym ni'n disgwyl i'r GIG gyrraedd y nodau yr ydym yn eu darparu? Ni ddaw'r 4 y cant a mwy yn rhad ac am ddim; mae'n honno'n gost wirioneddol ar feysydd eraill o wariant ar draws y gwasanaethau cyhoeddus ac, yn wir, ein dull ni o gefnogi'r economi. Nid ydym ni wedi gweld cyllideb amgen gan unrhyw blaid arall yn y lle hwn, felly, mewn gwirionedd, nid ydym ni'n gallu deall sut olwg fyddai ar flaenoriaethau eraill: a fyddech chi'n dymuno i fwy fynd i mewn i'r GIG ac o ble y byddai hwnnw'n dod; a fyddech chi'n dymuno rhoi llai yn y GIG a lle byddai hwnnw'n mynd wedyn. Ni chafodd un o'r dewisiadau hynny erioed ei nodi mewn cyllideb amgen am dros ddegawd.
O ran sut y byddwn ni'n gweld gwelliannau, mae hynny'n ymwneud yn rhannol â chadw ein gweithlu ni wrth eu gwaith. Dyna pam roeddwn i mor falch o gyfarfod a'r Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a Chymdeithas Feddygol Prydain. Rydym ni wedi cael elfen o arian diwedd blwyddyn. Mae hi'n bosibl i ni ddefnyddio hwnnw, nad oedd honno ar gael yn ystod yr wyth cyfarfod blaenorol a gafodd Eluned Morgan gyda Chymdeithas Feddygol Prydain, ond mae'n tynnu sylw hefyd at y ffaith bod y ffordd y mae ein system ariannol ni'n gweithio yn gwbl annerbyniol. Rydym ni wedi mynd trwy rownd gyllidebol gan wneud dewisiadau poenus, anodd iawn. Pe byddem ni wedi gwybod am yr arian diwedd blwyddyn, er mwyn gallu cynllunio gyda hwnnw, fe allem ni fod wedi gwneud dewisiadau gwahanol fel na fyddem ni efallai wedi gweld unrhyw weithredu diwydiannol yn y gwasanaeth iechyd, neu fe allem ni fod wedi osgoi rhai o'r dewisiadau poenus y bu'n rhaid i ni eu gwneud i gyflwyno cyllideb gytbwys i'r lle hwn ei phasio. Felly, rwy'n edrych ymlaen at allu gwneud yn well yn y dyfodol, pan fyddaf yn gobeithio y bydd Llywodraeth wahanol gennym ni yn y DU a fydd yn cydnabod y sefydlogrwydd sydd ei angen ar Gymru a Phrydain. Ac, mewn gwirionedd, yn fy ymgysylltiad â'r cyhoedd yn fwy eang, mae pobl yn deall bod llawer o'n heriau cyllidebol yn uniongyrchol gysylltiedig â 14 mlynedd o'r deiliaid yn Stryd Downing.
O ran addysg, roeddem ni'n gweld cynnydd o ran llythrennedd, rhifedd a gwyddoniaeth cyn y pandemig. Nid yw'r gostyngiad o ran perfformiad a welsom ni wedyn yn rhywbeth yr ydym yn ei ddiystyru. Wrth gwrs, nid oedd y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr ddiwethaf yn asesu unrhyw fyfyrwyr a gafodd eu haddysg drwy gyfrwng ein cwricwlwm newydd. Mae gen i ddiddordeb mewn gweithio gyda'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid ac eraill, wrth i ni edrych ar wella perfformiad a'r pwyntiau allweddol ar gyfer diwygio i helpu i gyflawni o ran cyrhaeddiad a phresenoldeb mewn cwricwlwm newydd sy'n blaenoriaethu gwybodaeth a sgiliau; nid mater o'r naill neu'r llall yw hyn. Ac fe allwch chi ddisgwyl y bydd y Llywodraeth hon yn canolbwyntio yn ddi-baid ar wella canlyniadau i blant a phobl ifanc.
Mae hyn yn cysylltu â'r heriau o ran prentisiaethau hefyd. Fe glywais i lawer o sôn am awydd i weld mwy o arian yn cael ei wario. Ni chlywais i erioed, gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, gydnabyddiaeth o'r symiau enfawr o arian a dynnwyd o'n cyllideb ni ar gyfer prentisiaethau oherwydd y brad gyda chronfeydd blaenorol yr UE. Mae honno'n ffaith ddiymwad. Os yw ef yn amau hynny, fe ddylai gael gair â Chadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, fydd yn gallu dangos iddo yr adroddiad a gynhaliodd ei bwyllgor. Mae yna ymosodiad ar ein cyllideb sydd â chanlyniadau na ellir mo'u gwadu. Rwy'n edrych ymlaen at addewid yn cael ei chyflawni o ran y cronfeydd a'r pwerau a oedd gan yr UE yn cael eu dychwelyd i Gymru, ac fe allwn ni adfer y buddsoddiad yr ydym ni'n awyddus i'w wneud yn ein rhaglen brentisiaethau ar gyfer prentisiaid o bob oed, ac fe fyddai hynny'n llesol i'r economi.
O ran blaenoriaethau trafnidiaeth, fe wnewch chi glywed mwy am hyn oddi wrth Ken Skates wythnos nesaf. O ran y prawf ar gyfer adeiladu ffyrdd, mae'r polisi yn aros yr un fath; mae'n ymwneud â sut y byddwn ni'n ei roi ar waith. Ac, wrth gwrs, nid yw'r her o ran ein cyllideb wedi diflannu. Rydym ni wedi gwneud yn eithriadol o wael o ran ein cyllideb gyfalaf yn ystod y rowndiau diweddar o gyllidebau gan Lywodraeth y DU. Felly, nid oes gwariant cyfalaf ar gael, hyd yn oed pe byddai'r uchelgais gennym ni i ymgymryd â phrosiect i adeiladu ffyrdd enfawr. Ond, mewn gwirionedd, nid y polisi yw'r her, mae'n ymwneud â'i gyflawni a'i ddibenion hefyd.
Rydym yn adolygu'r canllawiau ar 20 mya, fel y dywedais i fwy nag unwaith. Rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid llywodraeth leol yn hynny o beth, ac fe fydd yna gyfle i ymgysylltu â'r cyhoedd ynghylch cynigion ar gyfer newid, fel yr addewais i sawl gwaith.
O ran y cynllun ffermio cynaliadwy, roedd hwnnw'n gyfarfod adeiladol iawn a gefais i gydag Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, gyda'r undebau ffermio. Roedd yna gydnabyddiaeth o'r cyfeiriad i fynd iddo, gyda bron i 12,000 o ymatebion i'r ymgynghoriad, a'r sgyrsiau parhaus ynghylch rhai o'r materion mwyaf dryslyd ac anodd, ond roedd yna benderfyniad o ran dod o hyd i ddatrysiad sy'n blaenoriaethu cynhyrchu bwyd a diod o ansawdd uchel yma yng Nghymru, a'r gofyniad y bydd angen i bob sector o'n heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus ei wneud i'r argyfyngau hinsawdd a natur sy'n ein hwynebu. Roedd hi'n eglur iawn hefyd, serch hynny, nad yw pobl yn dymuno gweld y cynllun a weithredir yn Lloegr. Fe wn i fod yna gyfnodau wedi bod pan ddywedodd pobl eu bod nhw'n dymuno'r hyn sydd dros y ffin, ond nid honno yw barn y rhai sy'n cynrychioli ffermwyr. Rydym ni am barhau i weithio i ddeall sut olwg a allai ac y dylai fod ar gynllun yma yng Nghymru, ac rwy'n edrych ymlaen at adroddiadau pellach gan Huw Irranca-Davies yn ei swyddogaeth newydd.
Yn olaf, o ran cyflawni, rwy'n obeithiol iawn ynglŷn â'r hyn y byddwn ni'n gallu ei wneud i gael mwy o gydlyniad ynghylch yr hyn a wnawn ar draws y Llywodraeth gyda'r heriau amrywiol a wynebwn. Mae hynny'n golygu, ar gyfer rhai grwpiau a phwyllgorau sydd â diddordeb, y bydd angen i ni wrthod ceisiadau am strategaethau a pholisïau newydd. Os oes blaenoriaethau gennym ni, ni allwn ddal ati i ychwanegu mwy o flaenoriaethau a mwy o strategaethau at yr hyn yr ydym ni'n ei wneud. Rwy'n credu y bydd pobl yn gweld cysondeb yn y ffordd yr ydym ni'n ymdrin â hynny o fewn y Llywodraeth ac yn ein hymgysylltiad ni â rhanddeiliaid yn fwy eang hefyd.
Dwi'n croesawu'r datganiad buan yma o flaenoriaethau'r Llywodraeth newydd, ac yn dymuno'n dda iddi hi yn ei gwaith yn ddiffuant. Mae'r heriau sydd o'i blaen hi'n niferus, maen nhw'n sylweddol, maen nhw'n deillio'n rhannol, wrth gwrs, o lymder Ceidwadol San Steffan, a dydy o'n synnu dim arnaf i i weld y Prif Weinidog heddiw yma'n rhoi gymaint o sylw i hynny yn ei ddatganiad. Dwi'n cytuno efo fo, wrth gwrs, ar effaith y toriadau Torïaidd, ond does yna ddim posib rhoi'r bai am bopeth ar hynny. Mae'r rhestr o flaenoriaethau rydyn ni wedi'u clywed yn rhai dwi'n ddigon hapus i'w cefnogi'n gyffredinol. Mae yna, ar nifer cyfyngedig o feysydd, gytundeb lle rydyn ni'n gallu trio dylanwadu ar y Llywodraeth i ddelifro, ac mi rydyn ni wedi llwyddo i wneud hynny mewn meysydd pwysig iawn, ond mae'n rhwystredigaeth i'n rhy aml efo anallu'r Llywodraeth Lafur i weithredu go iawn ar ei blaenoriaethau ar draws yr holl feysydd polisi yna, mewn iechyd ac addysg a'r economi, y maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw, ac yn gyfrifol am wneud gwahaniaeth arnyn nhw ar ran pobl Cymru.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Rwy'n gobeithio y bydd y Senedd yn maddau i mi am fod ychydig yn sinigaidd ar ddechrau'r tymor newydd hwn, ond mae'n teimlo yn rhy gyfarwydd o lawer, bod rhywfaint o newid cadeiriau wedi bod yn y Cabinet, ond fel arall ailwampio, diwygio'r hyn a welwyd o'r blaen yw hyn.
Rwyf i am ddechrau gyda rhai sylwadau am yr hyn yr wyf i'n eu hystyried yn wendidau, gwendidau sylfaenol yn ymagwedd y Llywodraeth: maen nhw'n rhoi'r ffidil yn y to yn rhy aml yn wyneb methiant. Am gyfnod rhy hir, wrth i nodau gael eu pennu i fynd ar drywydd cyflawniad, mae gormod wedi cael eu newid neu eu diddymu yn gyfan gwbl, yn enwedig o ran y GIG yn ddiweddar. Yn ail, rwy'n credu bod angen i ni gydnabod na allwch chi wneud yr un peth dro ar ôl tro a disgwyl canlyniadau gwahanol. Ar ddechrau datganoli, roedd gan y weinyddiaeth Lafur gyntaf rai nodau eithaf beiddgar i leihau'r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a gweddill y DU—rhagofyniad ar gyfer meithrin economi fwy ffyniannus a mwy deinamig. Ar y pryd, roeddem ni ar 74 y cant o gyfartaledd y DU, ond prin fu unrhyw newid, gyda nodau yn cael eu taflu o'r neilltu oherwydd diffyg uchelgais. Mae Cymru yn parhau i fod yn unfed ar ddeg allan o 12 gwlad a rhanbarthau'r DU o ran gwerth ychwanegol gros y pen heb unrhyw newid wedi bod mewn chwe blynedd.
O ran iechyd, edrychwch ar y ffigurau ar gyfer 2018, gydag ychydig dros 1,500 o bobl yn aros mwy na 14 wythnos ar restr aros y GIG; erbyn hyn mae hynny dros 43,000, ac roedd y rhestrau hynny'n tyfu yn sylweddol cyn i'r pandemig daro. Felly, mae cynnwys economi ac iechyd ymhlith y blaenoriaethau yn gwbl briodol; nid wyf i'n anghytuno cymaint â'r blaenoriaethau ond yn hytrach anallu'r Llywodraeth i fynd i'r afael â'r heriau y mae'n eu nodi. Maen nhw wedi nodi blaenoriaethau o'r blaen; sef fod record Llafur o ran cyflawni wedi bod yn rhy wael, yn rhy aml.
Ystyriwch chi dlodi plant: darlun sobreiddiol o'm pwynt cynharach i, sef pan fydd Llywodraeth Cymru yn debyg o fethu unrhyw nod, mae ganddi enw am ei gollwng. Fe ddaeth pwyllgor trawsbleidiol o'r Senedd hon i'r farn nad oes uchelgais gan y Llywodraeth o ran tlodi plant. Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru fod y Llywodraeth yn canolbwyntio ar yr hyn na all hi ei wneud, yn hytrach na'r hyn y gall hi ei wneud. Yn yr un modd, mae methiant i ddatblygu cynllun gweithlu cynaliadwy yn y GIG wedi arwain at aros am ragor o amser, gweithlu sydd wedi'u llethu ac elw cynyddol i gwmnïau preifat oherwydd gorddibyniaeth ar staff asiantaeth. Ac ni allwn ddisgwyl unrhyw beth ond marweidd-dra economaidd os mai agwedd y Llywodraeth yw cosbi cwmnïau uchelgeisiol trwy dorri rhyddhad ardrethi busnes.
Mae'n debyg mai un cwestiwn syml sydd gennyf i'r Prif Weinidog, ac fe ofynnais i hwnnw iddo ar ddechrau cwestiynau'r Prif Weinidog heddiw: beth fydd ef yn ei wneud yn wahanol? O dan hynny, fe allwch chi ei rannu i nifer o gwestiynau sylfaenol eraill. Pam mae'r Prif Weinidog mor ddifater ynglŷn â'r posibilrwydd y bydd trysorau cenedlaethau'r dyfodol yn cael eu colli o ganlyniad i'w doriadau i Amgueddfa Cymru? Pryd fydd tâl yn cael ei adfer ar gyfer gweithwyr iechyd rheng flaen a chynllun hirdymor yn cael ei ddatblygu i recriwtio a chadw mwy o staff? Faint yn hirach fydd yn rhaid i ni aros? Pam mae ffermwyr yn gweld Llywodraeth sy'n gweithio yn groes i'w budd gorau nhw? Dyna sut mae'r byd amaeth yn teimlo. A pham mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn dod i'r casgliad mai o ganlyniad i bolisïau Llywodraeth Cymru y mae'r cyraeddiadau addysgol mor isel?
Mae bodolaeth cwestiynau o natur sylfaenol fel hyn, rwy'n credu, yn amlygu'r angen i fabwysiadu dull gwahanol. Rwy'n annog y Prif Weinidog i fabwysiadu dull gwahanol er mwyn sicrhau gwell canlyniadau, neu fel arall fe fydd dirywiad a reolir yn parhau i fod yn nodwedd o Lywodraethau Llafur Cymru.
Rŵan, ym Mhlaid Cymru, rydyn ni'n glir beth fyddwn ni'n ei wneud yn wahanol ac, yn gyntaf, mae'n rhaid rhoi'r gorau i edrych ar bethau drwy'r amser drwy brism San Steffan. Rydyn ni i fod i gredu bod ethol Llywodraeth Lafur am fod fel rhyw fath o ffon hud, er bod yna ddim math o addewidion yn cael eu gwneud ar y pethau sylfaenol mae Cymru yn chwilio amdanyn nhw. Dydy rhoi ffawd Cymru yn nwylo Llywodraeth arall ddim yn gysyniad y mae fy mhlaid i yn fodlon ei dderbyn. Mae ffynnon y dŵr clir coch yn sych, mae gen i ofn, ac mae angen i'r Prif Weinidog feddwl yn ofalus cyn bod mor barod i ufuddhau i orchmynion ei gyfeillion yn San Steffan. Dyna pam bod clywed addewidion am arfau a dim byd ar HS2 ac arian i Gymru yn rhwystredig. [Torri ar draws.]
Cafodd arweinydd y Ceidwadwyr ychydig mwy o amser na hyn, pe gallech chi ddal eich gafael am ychydig.
A beth am blismona a chyfiawnder? Gydag etholiadau comisiynwyr heddlu a throsedd ar y gorwel, mae'r meinciau yma wedi ymrwymo'n llwyr i system gyfiawnder i Gymru. Yn ystod y ras arweinyddol, mi ddywedodd y Prif Weinidog ei fod o eisiau mwy o bwerau, ond mae gen i ofn y bydd yn rhaid iddo fo egluro'i hun yn well na hynny. Pwy ydy llais Llafur yn Nghymru go iawn? Ai fo, Prif Weinidog Cymru, neu'r Aelod Seneddol Llafur a ddywedodd wrth Politico,
'Mae Jeremy a Vaughan yn colli arni os ydyn nhw'n credu eu bod nhw am gael datganoli cyfiawnder'?
Rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn dadlau dros rymuso Cymru a'r Senedd hon, ac yn dangos bod ei flaenoriaethau ef yn cael eu hysgogi gan les ein cymunedau ac nid gan y chwip Lafur yn Llundain.
Diolch i chi am y gyfres o sylwadau a rhai cwestiynau oddi mewn iddynt. Fe hoffwn i ddechrau gyda'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ynglŷn â ffurf y Llywodraeth hon. Rwy'n credu mewn gwirionedd fod pobl yng Nghymru yn weddol falch o fod â Llywodraeth sefydlog sy'n gallu gwneud dewisiadau, hyd yn oed mewn cyfnod anodd. Mae modelau eraill ar gael, fel mae ymddangosiad calonogol Liz Truss yn y cyfryngau unwaith eto yn ein hatgoffa ni i gyd bod modelau gwahanol wedi cael eu rhoi ar brawf dro ar ôl tro yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac rydym ni i gyd yn byw gyda'r canlyniadau.
A chyda pob parch, ni all yr Aelod ei chael hi bob ffordd. Ni all gwyno'n chwerw am wirionedd cyni'r Ceidwadwyr a gwadu ei effaith wedyn. Rwy'n eglur ynghylch lle mae cyni a'n cyllideb ni ag effaith wirioneddol ar y dewisiadau a wnawn. Fe welsom ni i gyd hynny yn y gyllideb yr oedd yn rhaid i ni ei phasio ychydig o wythnosau yn ôl. Rwy'n eglur hefyd ynglŷn â'r meysydd yr wyf i'n awyddus i weld gwelliannau ynddyn nhw. Fe nodais i'r rhain yn y datganiad ar y GIG ac yn awyddus i weld gwelliant gydag amseroedd aros. Mae angen i'r buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud ar draul wirioneddol rhannau eraill o'r gyllideb yng Nghymru ddod â'r gallu i gyflawni yn well yn ein gwasanaeth iechyd. Dyna farn Eluned Morgan hefyd: i sicrhau bod llinellau clir gennym o ran atebolrwydd, ond o ran yr hyn y mae angen i ni fuddsoddi ynddo hefyd, i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r cyfle gorau i'n staff wneud eu gwaith gorau un er mwyn y cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu.
Ac mae'r gwasanaeth iechyd yn fater personol iawn i mi. Rwy'n gwybod yn union sut beth yw bod â'ch bywyd cyfan yn ddibynnol ar ansawdd yr hyn sy'n digwydd yn ein gwasanaeth. Pe byddwn i wedi bod yn byw mewn gwlad arall pan oeddwn i'n ddifrifol wael yn 19 ac 20 oed, mae hi'n gwbl bosibl na fyddwn i yma nawr. Rwy'n gwybod beth mae'r gwasanaeth iechyd yn ei olygu a'r profiad o ofal yn ogystal â'r canlyniadau sy'n cael eu cyflawni. Dyna pam mae'r GIG yn flaenoriaeth ddiamheuol i'r Llywodraeth hon ac mae'r ffordd yr ydym ni wedi llunio ein cyllideb yn adlewyrchu hynny.
Ac o ran addysg, os oes unrhyw un yn amau ymrwymiad Lynne Neagle i weld canlyniadau gwell i blant a phobl ifanc yn eu hiechyd a'u lles, ond o ran eu cyfle i fod â dyfodol tecach hefyd, yna nid wyf i'n credu eich bod wedi bod yn talu unrhyw sylw dros y 25 mlynedd diwethaf. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Lynne wrth i ni edrych ar adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, wrth i ni roi ystyriaeth i'r heriau mae'n eu rhoi i ni, ond i'n gallu ni hefyd i weithio gyda nhw ar ddarparu system a fydd yn sicrhau gwelliannau gwirioneddol o ran cyrhaeddiad a phresenoldeb. Fe ddywedaf i unwaith eto, serch hynny, nad oedd adroddiad diweddar y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn rhoi unrhyw ystyriaeth i'r sefyllfa wirioneddol nad oedd y dysgwyr a aeth drwy rownd ddiwethaf PISA wedi cael eu dysgu yn ôl y cwricwlwm newydd sydd yng Nghymru. Rydym ni'n benderfynol o sicrhau y bydd gan blant a phobl ifanc yma ddyfodol gwell cyn mynd i'r ysgol, yn ystod dyddiau'r ysgol ac wedi hynny.
O ran cynhyrchiant, mae honno'n rhan allweddol o'r her sydd i ddyfodol ein heconomi. Mae'r broblem o ran cynhyrchiant yn her ledled y DU, lle nad yw swm yr oriau a weithiwyd yn golygu bob amser ein bod ni'n gweld mwy o gynhyrchiant yn ein heconomi. Yn ystod datganoli, fe welsom ni welliant o ran cynhyrchiant. Ein her ni yw bod bwlch sylweddol rhyngom ni a gweddill y DU, a ysgogir yn bennaf gan yr anghydraddoldeb enfawr yn ne-ddwyrain Lloegr. Ond dyna pam rydym ni mor awyddus i weld ein pwerau yn cael eu hadfer i Gymru ar gyfer buddsoddi mwy mewn sgiliau a'r dyfodol hirdymor, gan ddefnyddio'r dulliau sydd gennym ni i fuddsoddi yn wirioneddol yn y dyfodol y byddem ni'n gallu ei weld mewn gwirionedd. Dyna pam mae ffyniant gwyrdd wrth hanfod ymagwedd y Llywodraeth hon tuag at ddyfodol ein heconomi.
O ran tlodi plant, fy swydd gyntaf i yn y Llywodraeth oedd Dirprwy Weinidog dros Drechu Tlodi, ac roeddwn i'n edrych ar yr hyn yr oeddem ni'n ei wneud ar draws y Llywodraeth, ac yn edrych ar yr hyn a oedd wedi gweithio a sut roeddem ni'n gallu ymdrin ag ef gyda'n gwahanol ysgogiadau—llawer ohonyn nhw'n ysgogiadau hirdymor, a'r rhai a oedd yn darparu cefnogaeth a chymorth ar unwaith—gan wybod bod Llywodraeth y DU yn symud i'r cyfeiriad anghywir yn llwyr, fel gwnaeth hi'n gyson trwy gydol fy amser yn Weinidog, mae canlyniadau eithriadol i hynny. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn ein strategaeth ni yw bod yn ddiffuant â phobl ynglŷn â'r hyn y gallwn ni fod yn gyfrifol amdano, yr hyn yr ydym ni am ei wneud, a sut y byddwn ni'n mantoli'r canlyniadau a gyflawnir. Yr her bob amser yw bod y dewisiadau bwriadol wedi eu gwneud yn y system dreth a budd-daliadau y gwyddom ni mewn gwirionedd eu bod nhw'n gwneud bywyd yn fwy anodd i deuluoedd â phlant. Dyma'r rheswm pam mae cymaint o blant mewn tlodi yn tyfu i fyny mewn cartref lle mae un oedolyn eisoes yn gweithio. Cafodd y fargen sef y dylai gwaith fod yn llwybr at ffyniant ei thorri gan y Llywodraeth gyfredol hon yn y DU. Rwy'n edrych ymlaen at allu cywiro hynny yn y dyfodol gyda phartneriaid gwahanol yng Nghymru a ledled y DU hefyd.
Rwy'n credu bod pobl yng Nghymru yn deall yn reddfol y byddai bod â dwy Lywodraeth Lafur sy'n ymrwymedig i gydweithio er mwyn dyfodol Cymru yn beth da ac fe allwn ni weld cynnydd gwirioneddol iawn yn hwn ac mewn cymaint o feysydd eraill. Nid wyf i'n ymddiheuro am nodi bod dyfodol amgen yn bosibl. Mae hwnnw'n rhywbeth y byddaf i'n falch iawn o ymgyrchu a brwydro drosto, nid yn unig yn y cyfnod cyn etholiad, ond wedi hynny, pryd y byddaf i'n rhoi llais i Gymru fel y Prif Weinidog, ac ni ddylai unrhyw un amau y byddwn i'n gwneud hynny. Rwy'n falch o'r hyn yr wyf i'n gallu ei wneud er mwyn fy nghenedl, ac rwy'n fwy balch eto o'r cyfleoedd mwy a ddaw yn y dyfodol, yn fy marn i. Nid ydym ni wedi cymryd y cyhoedd yn ganiataol erioed—dyna pam y buom ni mor llwyddiannus gyda'r wleidyddiaeth etholedig yn oes datganoli—ac ni fyddwn ni'n cymryd y cyhoedd yn ganiataol wrth i ni symud at yr heriau anodd hynny sydd o'n blaenau ni, ond yn yr uchelgeisiau a'r cyfleoedd i'n cenedl. Rwy'n falch o arwain Llywodraeth sy'n llawn uchelgais i'n dyfodol, a chyda diffuantrwydd ynglŷn â'r heriau sy'n ein hwynebu ar hyd y daith yno.
Rydym ni wedi cymryd 40 munud o'r 45 a ddynodwyd. Mae gen i nifer o siaradwyr ar ôl. Rwyf i am alw ar bob un ohonyn nhw, ond fe hoffwn i eich atgoffa chi a'i gwneud hi'n eglur mai un munud sydd gan bob siaradwr sydd ar ôl i wneud ei gyfraniad, ac fe fyddaf i'n eich torri i ffwrdd ar ôl munud.
Fel arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, rwy'n gwybod mai un munud sydd gennyf i ymateb i'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud. Rwy'n eich croesawu chi i'r swyddogaeth ar ran y blaid, ac yn edrych ymlaen at weithio gyda chi. Yn y cyfnod hollbwysig hwn, mae angen gobaith ar y cyhoedd yng Nghymru. Mae angen gobaith am system gofal iechyd well. Mae angen gweithredu amgylcheddol beiddgar, ac mae angen gweithredu i fynd i'r afael â thlodi plant, fel rydych chi wedi sôn. Mae angen gobaith ar gyfer ein GIG. Mae pobl wedi blino'n lân, gyda rhestrau aros hir, ac mae ein staff yn dioddef straen oherwydd y pwysau sydd arnyn nhw. Rwy'n awyddus iawn i weld gwasanaethau deintyddol yn gwella ac i ni fod â deintyddion y GIG ym mhob ardal yng Nghymru, yn enwedig ardaloedd cefn gwlad. Mae angen gobaith ar gyfer ein hamgylchedd. Gadewch i ni weld mwy o sgiliau gwyrdd, trawsnewidiad gwyrdd, ac incwm sylfaenol cyffredinol pontio hefyd, lle gall Cymru fod yn gyntaf, yn arwain y ffordd, yn arwain y byd ar bopeth sy'n wyrdd. Ac mae angen gobaith ar gyfer ein plant ni, fel y gwnaethoch chi sôn. Mae angen gobaith i'r rhai tlotaf. Rwy'n falch o'ch clywed chi'n sôn am hyn ac yn dweud eich bod chi'n rhoi hynny wrth wraidd eich agenda. Ac eto nid oes gennym ni Weinidog dros fabanod, plant a phobl ifanc, Gweinidog trawsbynciol—
Diolch i chi, Jane.
—a all fynd i'r afael â thlodi. Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n bwrw ymlaen â hynny. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i chi am y sylwadau. O ran ystod o'r meysydd hynny, rwy'n credu y byddwch chi'n dod o hyd i Lywodraeth sy'n barod i wrando a gweithio gyda chi. Rwy'n credu y byddwch chi'n canfod y bydd Jayne Bryant, y Gweinidog blynyddoedd cynnar newydd, yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r heriau hyn dros y 1,000 diwrnod cyntaf ym mywyd plentyn, gan weithio ar draws y tîm iechyd a gofal cymdeithasol, ac, yn wir, gan weithio gyda'r Ysgrifennydd dros addysg. Fe luniwyd hyn yn fwriadol i geisio dwyn y gwahanol ddulliau sydd gennym i gyd at ei gilydd a ddeall y gwahaniaeth y gall hynny ei wneud gyda thlodi plant. Rwy'n falch iawn, fel Aelod o Lafur Cymru, o'r ffaith ein bod ni wedi creu Dechrau'n Deg. Roedd hynny cyn i mi fod yn Aelod, ond fe allwch chi weld y gwelliant uniongyrchol nawr o ran canlyniadau i blant a ddaeth yn sgil y rhaglen honno. Dyna pam rwy'n falch ein bod ni wedi ymrwymo i'w chyflwyno ymhellach a'i hymestyn; mae hi'n dangos y gallwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Buddsoddiad hirdymor yw hwn, sydd â budd hirdymor. Ac o ran deintyddiaeth, yr amgylchedd, hinsawdd, yr economi a thai, rwy'n siŵr y bydd gennym ni lawer mwy i siarad amdano ac y bydd gennym ni lawer mwy i gytuno arno a chydweithredu arno.
Diolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad yma heddiw. Rwy'n croesawu'r cywair y mae'n ei osod i'ch Llywodraeth—cywair gobeithiol, cadarn ac uchelgeisiol. Rwy'n croesawu hefyd yr uchelgeisiau o ran polisi y gwnaethoch chi eu nodi mor eglur—yn benodol, eich addewid i ganolbwyntio ar greu economi wyrddach â chyflogaeth dda, ddiogel. Rwy'n gwybod y byddai fy etholwyr i'n awyddus i glywed mwy am eich cynllun chi ar gyfer canolfannau twf gwyrdd a benthyciadau busnes gwyrdd. Beth arall allwch chi ei ddweud wrthym ni heddiw am y ddau faes hyn o bolisi?
Diolch i chi. Mae gennym ni sail dda i adeiladu arni, oherwydd mae gennym ni ganolfannau twf gwyrdd mewn rhai rhannau o Gymru eisoes. Fe allwn ni ddysgu o'r rhain i ddeall sut rydym ni am ddod â busnesau sydd â diddordeb mewn twf amgylcheddol cynaliadwy at ei gilydd yn fwriadol. Ac mae yna wahanol agweddau ar hynny. Os ewch chi i'r gogledd-ddwyrain, fe welwch chi ar Lannau Dyfrdwy—ac efallai y bydd Jack Sargeant yn ymddiddori yn hyn—rai o'r heriau ynghylch nid yn unig dal carbon ond mewn gwirionedd gan roi ystyriaeth i newid tanwydd hefyd. Rwy'n credu bod peth o'r gwaith yn y maes hwn yn ddiddorol iawn. Mae Enfinium wedi cael sylw yn ddiweddar am ei fod yn fusnes sy'n ystyried gwneud hynny. A phan edrychwch chi ar y dewisiadau amgen sy'n bodoli nid yn unig ar gyfer twf gwyrdd ond y cynllun benthyciadau busnes gwyrdd hefyd, mae hynny'n adeiladu ar yr hyn a wnaethom ni eisoes gyda'n cynllun peilot, a ddarperir trwy Fanc Datblygu Cymru. Rydym ni'n helpu busnesau i wneud y peth sy'n deg i'r blaned, gan ddatgarboneiddio sut mae eu busnes nhw'n gweithio, ond hefyd gan wneud y peth sy'n iawn ar gyfer eu helw sylfaenol, oherwydd mae gan y rhan fwyaf ohonyn nhw ddiddordeb mawr mewn cynhyrchu eu pŵer eu hunain—mae hynny'n lleihau eu biliau nhw, yn gwneud y rhain yn fwy rhagweladwy, ac mae rhai ohonyn nhw'n gallu cynhyrchu incwm wrth ddychwelyd hwnnw i'r grid. Dyma ddwy enghraifft o bolisïau y gwnaethom ni eu treialu eisoes. Rwy'n awyddus ac yn uchelgeisiol i ni wneud mwy, i wneud yr hyn sy'n gweithio i wneud gwahaniaeth mawr iawn ym mhob cymuned, yn y gogledd, y de, y dwyrain a'r gorllewin.
Prif Weinidog, sut ydych chi'n bwriadu codi pontydd gyda'n cymunedau gwledig, yn enwedig y sector amaethyddol, a sut caiff hynny ei adlewyrchu mewn unrhyw newidiadau posibl i'r cynllun ffermio cynaliadwy? Hefyd, o ran parhad swydd Gweinidog dros ogledd Cymru, fe allai hyn gael ei ystyried yn ddim ond rhywbeth symbolaidd gan rai, oherwydd, wedi'r cyfan, ble mae eich Gweinidog dros y canolbarth, y gorllewin, neu unrhyw fan arall? Siawns na ddylai pob Gweinidog yn eich Llywodraeth fod yn Weinidog dros ogledd Cymru. A dweud y gwir, onid yw eich angen chi am Weinidog dros ogledd Cymru yn datgan ynddo'i hun nad yw'r Gweinidogion eraill, o bosibl, wedi bod yn cynrychioli Cymru gyfan fel y dylen nhw efallai?
Na, dydw i ddim yn cytuno â hynny o gwbl. Rwy'n credu mewn gwirionedd bod rhanddeiliaid ar draws y gogledd yn croesawu creu Gweinidog dros ogledd Cymru, ac rwy'n edrych ymlaen at fod â Ken Skates yn parhau â'r gwaith a wnaeth Lesley Griffiths cyn hyn eisoes. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Ken, ac, yn wir, â Gweinidogion ar draws fy Llywodraeth i sicrhau ein bod ni'n cyflawni ar gyfer y wlad gyfan. O ran yr her ynglŷn â Gweinidog dros ogledd Cymru, roedd yna gydnabyddiaeth eang fod rhai rhanddeiliaid o'r farn fod yna her o ran sicrhau bod y Llywodraeth gyfan yn gweithio er mwyn y genedl gyfan. Rydym ni'n fwriadol yn ceisio gwneud hynny, gan ymestyn allan, i wneud yn siŵr y bydd pobl yn gallu gweld yn glir rhywun sy'n gyfrifol dros y Llywodraeth yn y gogledd, gyda chyfrifoldebau gwirioneddol ledled Cymru. Rwyf i o'r farn fod rhanddeiliaid yn y gogledd yn croesawu parhau i benodi Gweinidog dros ogledd Cymru, ac yn gallu gweld mai Llywodraeth yw hon sy'n wirioneddol yn ceisio gwasanaethu'r genedl gyfan.
O ran codi pontydd â chefn gwlad, wrth gwrs, fe gefais i fy magu mewn cymuned wledig. Rwy'n gwybod yn union sut beth yw byw mewn bro fwy gwledig. Rwy'n gwybod sut beth yw, fel y dywedais i'n gynharach, bod â gwasanaeth bws sy'n rheolaidd ond heb fod yn arbennig o gyson. Rwy'n deall yr heriau, nid yn unig o fod, rwy'n credu, yn Brif Weinidog cyntaf sy'n fab i ffermwr, ond ar gyfer deall sut mae angen i chi ymestyn allan a chynnal sgwrs gyda'r cymunedau hynny a chefn gwlad Cymru hefyd. Roedd y cyfarfod hwnnw a gawsom gyda chynrychiolwyr o'r undebau ffermio yn gyfarfod agoriadol adeiladol iawn. Rwy'n credu bod pawb yn awyddus i dymheru'r ddadl ac ystyried datrysiadau ar gyfer yr hyn y gallem ni ei wneud gyda'n gilydd. Mae angen dylunio cynllun newydd i gefnogi dyfodol ffermio, i wneud hynny o fewn cyfyngiadau'r gyllideb sydd gennym ni ar gael, i edrych eto ar yr hyn a ddaeth o'r ymgynghoriad. Fel y dywedwyd erioed, roedd yr ymgynghoriad yn un cwbl ddilys. Fe fyddwn ni'n ystyried nawr pa newidiadau y gallem ni eu gwneud i gyflawni cynllun sy'n cyflawni ein holl amcanion ni, gan gefnogi cynhyrchiant bwyd a diod mewn modd priodol yng Nghymru, gan wneud y cyfraniad difrifol y mae angen i bob un ohonom ni ei wneud gyda'r argyfyngau hinsawdd a natur sy'n ein hwynebu. Mae'r ffermwyr eu hunain yn gwybod bod yr argyfyngau hynny'n rhai gwirioneddol iawn.
Prif Weinidog, a gaf i yn gyntaf estyn llongyfarchiadau o Islwyn? Rwy'n edrych ymlaen at eich croesawu chi'n ôl unwaith eto gyda hyn. Rydych chi'n gywir i nodi canlyniadau dinistriol 14 mlynedd o gyni Llywodraeth Dorïaidd y DU wrth i chi ddweud bod y gostyngiad o £1.3 biliwn yng ngwerth ein cyllideb yn werth pedair gwaith cyllideb economi'r Llywodraeth hon—gadewch i hynny suddo i mewn.
Prif Weinidog, un o lwyddiannau datganoli fu ailadeiladu ac uwchraddio rheilffordd Cwm Ebwy i Gaerdydd—a Chasnewydd nawr. Mae hynny wedi golygu bod gwasanaethau rheilffordd arloesol yn dychwelyd i gymunedau Islwyn ac i'n dwy ddinas fwyaf ers pan wnaeth Beeching ddiddymu'r gwasanaethau hynny. Mae adeiladu Parcffordd Caerdydd yn cynnig y posibilrwydd o uwchraddio'r capasiti hwn ymhellach ar y lein a hwyluso mwy o wasanaethau i drigolion Islwyn, yn ogystal â hyfforddiant, prentisiaethau a swyddi. Ddwy flynedd ar ôl i Barcffordd Caerdydd gael caniatâd cynllunio gan yr awdurdod cynllunio lleol, beth yw'r amserlen ar gyfer penderfyniad Llywodraeth Cymru ar ryddhau'r caniatâd hwn, a fyddai o fudd uniongyrchol i'm hetholwyr i?
Mae yna ddau bwynt yr hoffwn i eu gwneud. Y cyntaf yw diolch i'r Aelod am ddymuniadau da Islwyn, ac rwy'n edrych ymlaen at fynd yno. Fe ddylwn i nodi, o ran perfformiad y rheilffyrdd yng Nghymru, fod yna Aelodau yn y Siambr hon sy'n haeddu canmoliaeth wirioneddol am y buddsoddiad parhaus a wnaethom ni i'n cerbydau, yr arian y bu'n rhaid i ni ei roi i wella'r cledrau eu hunain. Pan wnaethom gymryd rheolaeth o gledrau'r Cymoedd, fe ddaethom o hyd i ased mewn cyflwr enbyd iawn a oedd yn gofyn llawer iawn o wariant cyfalaf. Mae hyn wedi arwain at ganlyniadau gwirioneddol i'r Llywodraeth gyfan. Newyddion da, serch hynny, yw mai Trafnidiaeth Cymru yw'r gweithredwr sy'n perfformio orau yng Nghymru o ran prydlondeb, o ran ansawdd y cerbydau. O gymharu â phob gweithredwr arall yng Nghymru, Trafnidiaeth Cymru yw'r perfformiwr gorau o gryn bellter.
Yr ail bwynt i'w wneud yw y bydd yn rhaid i mi wrthod y cyfle i ateb y cwestiwn ar y pwynt penodol hwn ynglŷn â Pharcffordd Caerdydd, gan ei bod yn fy etholaeth i. Nid wyf i mewn sefyllfa i wneud unrhyw fath o ddatganiad gweinidogol. Mae gen i farn, wrth gwrs, fel Aelod o'r etholaeth, ond rwy'n fwy na pharod i'w chyfeirio hi at Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth ynghylch rhai o'n huchelgeisiau ehangach. Mae hwn yn fater cynllunio y bydd angen i ni fynd drwyddo yn iawn ac ni fydd unrhyw ran i mi yn hynny, wrth gwrs.
Diolch am y rhestr o flaenoriaethau, Brif Weinidog.
Sut allwn ni wybod a yw rhywbeth yn flaenoriaeth? Fel arfer, mae amcanion a nodau clir yn cael eu cynllunio i gefnogi'r flaenoriaeth honno. Eleni yn unig, fe godais i dlodi plant 20 gwaith yn y Cyfarfod Llawn, ac fe fyddaf i'n parhau i wneud hynny, oherwydd, ym marn Plaid Cymru, mae honno'n flaenoriaeth. Rydych chi'n dweud y bydd y frwydr i godi plant o dlodi wrth hanfod gwaith eich Llywodraeth chi, ond ni wnaethoch chi ddatgan wrth ymgeisio i fod yn arweinydd eich bod chi o blaid datganoli pwerau dros les, er nad oes amheuaeth y byddai llunio budd-daliadau sy'n addas i'r diben, fel taliad y plentyn yn yr Alban, sydd wedi bod yn drawsnewidiol o ran mynd i'r afael â thlodi plant, ac fe ellid cyflawni hynny pe bydda'r pwerau gennym ni i wneud hynny yng Nghymru. Nid yw diwygio lles yn ddigon, yn enwedig o ystyried bod Keir Starmer wedi gwrthod ystyried cael gwared ar y cap dau blentyn pe byddai ef yn cyrraedd Rhif 10. Felly, o ystyried y byddai hynny'n gwneud un o'r gwahaniaethau mwyaf ar gyfer liniaru tlodi plant, a wnewch chi anrhydeddu'r ymrwymiad a ddatganwyd gan Lywodraeth flaenorol Cymru i weithio ar ddatganoli pwerau dros les?
Rwy'n credu bod enghraifft taliad y plentyn yn yr Alban yn enghraifft dda iawn nid yn unig o bwerau ond y gyllideb amgen ar gyfer gallu gwneud hynny, mewn gwirionedd. Mae hwn yn rhywbeth y mae diddordeb gennym ni ynddo—y math o wahaniaeth y gallai ei wneud i blant a phobl ifanc yma yng Nghymru. Dyna pam mae angen setliad gwell arnom ni o ran pwerau ac adnoddau i Lywodraeth Cymru a'r Senedd hon. Rwy'n parhau i fod â diddordeb mewn cynnal sgwrs a phenderfyniad ynghylch gweinyddu budd-daliadau. Rwy'n credu y gallem ni wneud llawer iawn mwy yma yng Nghymru gyda chefnogaeth y byddem ni ein hunain yn ei darparu i sicrhau bod yr ymagwedd sydd gennym ni'n dangos cydymdeimlad o ran ein system ac ymagwedd fwy effeithiol gyda'n dulliau ni o gefnogi pobl. Mae honno'n parhau i fod yn un o'm blaenoriaethau i. Rwy'n edrych ymlaen at y sgwrs a'r maniffesto i'r DU yn y dyfodol a allai gyflawni hynny. Rwy'n edrychaf ymlaen at bleidleisio wedyn dros roi'r maniffesto hwnnw ar waith.
Fe hoffwn i groesawu Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ken Skates. Ac fe hoffwn i ganolbwyntio ychydig ar ein priffyrdd. Ein priffyrdd, lleol a strategol, yw un o'r asedau cyfalaf mwyaf sydd gennym ni, ac rwy'n bryderus iawn, wedi 14 o flynyddoedd o doriadau, eu bod nhw'n gwaethygu llawer iawn a bod angen i ni ddechrau buddsoddi i gynnal a chadw'r seilwaith sy'n bodoli eisoes. Ac maen nhw'n cael eu heffeithio hefyd gan stormydd glaw trwm a llifogydd. Felly, fe hoffwn i ofyn i chi: a fyddech chi'n blaenoriaethu cynnal a chadw seilwaith presennol ein priffyrdd, wrth fynd ymlaen, ar gyfer trafnidiaeth?
Ie, rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt diddorol iawn ynglŷn â chanlyniadau uniongyrchol lleihau cyllidebau. Ac nid ydych chi'n gallu gweld y rhain ar y tro cyntaf bob amser. Ond, mewn gwirionedd, rydym ni wedi buddsoddi rhywfaint o arian i geisio sicrhau ein bod ni'n gallu ymateb i'r difrod a wneir gan ddigwyddiadau tywydd arbennig. Fe hoffwn i edrych unwaith eto ar yr adolygiad a gafwyd eisoes ar y dull o gynnal a chadw ffyrdd sydd gennym ni yma yn Llywodraeth Cymru, ac ar y rhwydwaith cefnffyrdd, i weithio gyda phartneriaid yn yr awdurdodau lleol i ddeall yr hyn y gallent hwythau ei wneud hefyd. Ac rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth y mae gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth ddiddordeb ynddo hefyd.
Ar ben hynny, nid yw hyn am roi adnoddau i'r seilwaith yn unig, yr hyn y gallwn ni ei wneud gyda chyfalaf, ond mae hefyd yn ymwneud â phobl a sgiliau hefyd. Ac rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth y mae gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio ddiddordeb ynddo, o ran y modd yr ydym ni'n cynnal yr arbenigedd sydd ei angen ar yr awdurdodau lleol, yn unigol neu ar y cyd, i ymgymryd â rhai o'r swyddogaethau hyn. Mae honno'n sgwrs y mae angen i ni ei chael gyda nhw fel partneriaid i sicrhau bod y dyfodol yn wirioneddol gynaliadwy i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau lleol, yn ogystal â'r dewisiadau a wnawn ni yma ar gyfer y wlad gyfan.
Wel, adnodd pwysicaf y gwasanaeth iechyd, wrth gwrs, ydy'r gweithlu, y bobl sy'n gweithio ynddo. Dŷn ni wedi rhoi croeso gofalus, wrth gwrs, i'r cyhoeddiad wythnos diwethaf ynghylch meddygon iau, ond bod angen manylion arnon ni. Ond mae'r broblem o fewn y gweithlu yn treiddio llawer iawn dyfnach na meddygon iau. Mae'n rhaid inni edrych ar roi cytundebau nyrsys newydd mewn lle, cytundebau efo'r ymgynghorwyr, meddygon teulu, a llawer iawn mwy. Dŷn ni ddim wedi clywed hyd yma gennych chi beth ydych chi am ei wneud er mwyn cadw, felly, y gweithlu sydd gennym ni, heb sôn am recriwtio rhai newydd. Dŷch chi wedi rhoi geiriau cynnes, do, ond yr un Gweinidog sydd gennym ni, ac i bob pwrpas yr un Llywodraeth, felly beth ydych chi am wneud yn wahanol pan fydd hi'n dod i gadw a recriwtio'r gweithlu iechyd?
Ac yn ail, o ran yr argyfwng tai, mae'n parhau i fod yn hynod o acíwt yma yng Nghymru. Yn eich maniffesto personol chi, ddaru chi sôn am dai cymdeithasol, sef y datrysiad cywir, ond does yna ddim golwg bod eich Llywodraeth chi'n mynd i gyrraedd eich targed eich hunan, heb sôn am gyrraedd yr anghenion. Felly, unwaith eto, beth yn wahanol ydych chi'n mynd i'w wneud er mwyn datrys yr argyfwng tai?
Diolch i chi am y sylwadau a'r cwestiynau. O ran gweithlu'r GIG, rydym ni wedi bod trwy hyn sawl gwaith yn barod heddiw, o ran yr hyn a wnaethom ni eisoes i geisio sicrhau ein bod ni mewn sefyllfa well i hyfforddi mwy o'n gweithwyr ni yma yng Nghymru, yn ogystal â recriwtio yn fwy eang. Ac, yn hollbwysig, mae hynny'n wirioneddol bwysig, o ran sut yr ydym ni'n cadw'r gweithlu presennol i sicrhau bod gobaith gwirioneddol i'r dyfodol. Ac mae diwygio cytundebau yn rhan o'r hyn sy'n rhoi gobaith i bobl i'r dyfodol—eu swyddi, ac ym mha le a sut y maen nhw'n gwneud eu gwaith. Felly, mae'r ddau ohonom ni'n rhoi ystyriaeth i gyflog ond i amodau hefyd ar gyfer ystyried pa welliannau y gallwn ni eu gwneud wrth negodi a bod mewn partneriaeth â'n holl wahanol grwpiau o staff.
Rydym ni'n siarad ar hyn o bryd, neu fe fyddwn ni'n gwneud hynny yn ystod y dyddiau nesaf, yn ffurfiol, gyda'r tri grŵp amrywiol o feddygon. Fe wyddom ni, yn ddiweddarach yn y flwyddyn, y bydd argymhellion i undebau'r Agenda ar gyfer Newid, ar gyfer nyrsys, therapyddion ac eraill. Mae yna raglen ddiwygio barhaus sy'n hanfodol i roi gweithlu ar gyfer y dyfodol i ni a rhywfaint o obaith ynglŷn â'r swyddi a fydd ganddyn nhw a'r ffordd y mae'r Llywodraeth hon yn eu gwerthfawrogi.
Ac o ran tai cymdeithasol, rwy'n credu, efallai, y byddaf i'n troi yn ôl at y sgwrs gyda Jack Sargeant ynglŷn â sicrhau ein bod ni'n ystyried cyflenwad tir, dulliau modern o adeiladu ar gyfer blaenoriaethu adeiladu tai cymdeithasol, i fynd i'r afael â'r angen am dai sydd arnom, ond i'r rhain fod yn gartrefi o ansawdd da i bobl hefyd—ni ddylid llacio o ran yr ansawdd. A dweud y gwir, mae gan dai cymdeithasol ansawdd da iawn oherwydd mae'n rhaid iddyn nhw i gyd fodloni safon ansawdd tai Cymru. Fe ddylem ni i gyd fod yn falch o'r hyn sy'n cael ei wneud wrth ddarparu cartrefi o ansawdd da, ond o ran yr hyn y mae hynny'n ei olygu o ran buddsoddi yn yr economi leol hefyd. Felly, mae cartrefi carbon is sy'n fwy effeithlon o ran ynni ac, yn hollbwysig, ac yn gyfochrog â hynny, nid y tai yn unig, ond ei fod yn lle priodol fel gall pawb ei alw yn gartref, ac mewn gwirionedd mae hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr iawn i'r economi leol. Felly, sawl cenhadaeth dan wahanol Weinidogion, ac mae honno'n swyddogaeth yr wyf i'n edrych ymlaen at ei datblygu gyda'r tîm o Weinidogion sydd gennyf.
Ac yn olaf, Luke Fletcher.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn gyfeirio at flaenoriaethau ar gyfer dur. Ddoe mewn cynhadledd i'r wasg dywedoch ein bod ni eisiau buddsoddiad a bod angen dyfodol iach ar gyfer gwneud dur sylfaenol, ac, fel y gwyddoch, rwy'n cytuno'n llwyr â chi ar hynny. Fe wnaethoch chi hefyd gyfeirio at yr angen i weld ble mae trafodaethau gyda Tata yn mynd o ganlyniad i'r pleidleisiau i streicio. Nawr, mae Tata yn gywilyddus wedi bygwth tynnu pecynnau diswyddo ffafriol oddi wrth y gweithwyr hynny sy'n mynd ar streic. Fe wnaethon nhw'r bygythiad hwnnw cyn pleidlais Unite; mae'n gwneud y bygythiad hwnnw eto. Felly, beth fyddech chi'n ei ddweud wrth Tata mewn ymateb i'r bygythiad hwn? Oherwydd rwy'n poeni nad yw gweithredoedd o'r fath yn cyd-fynd â'r weledigaeth honno o ddyfodol iach ar gyfer gwneud dur sylfaenol y mae pob un ohonom yma eisiau ei weld.
Wel, fel y dywedais yn gynharach, rwyf wedi cael tri chyfarfod cynnar yn fy wythnosau cychwynnol: meddygon, ffermwyr a gweithwyr dur. Roedd yn dda cyfarfod â Tata ac, yn wir, gynrychiolwyr lleol ym Mhort Talbot, ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ac ynni. Mae'r sgwrs yn glir iawn ynglŷn â lle mae Llywodraeth Cymru eisiau i'r dyfodol fod. Rydym eisiau dyfodol sy'n buddsoddi yn nyfodol gwneud dur, partneriaeth wahanol gyda mwy o fuddsoddi cyfalaf gan Lywodraeth y DU i ddatgloi buddsoddiad gan y cwmni hefyd. Ochr yn ochr â hynny, mae angen uchelgeisiau ar gyfer dyfodol yr economi, fel y gall y cwmni a gwneuthurwyr dur eraill weld bod buddsoddi mewn gwaith dur yma yn golygu bod gweithgaredd hefyd lle bydd angen y cynhyrchion hynny mewn niferoedd er mwyn iddynt barhau i fuddsoddi. Mae hynny'n golygu ein bod ni am weld negodi rhwng y tri undeb dur a'r cwmni nad yw'n arwain at ddiswyddiadau gorfodol, nad yw'n arwain at sefyllfa lle mae'r gweithlu'n cael ei leihau'n sylweddol ac yn barhaol, a hoffwn weld pobl yn cynnal y negodiadau yn ddidwyll gyda'i gilydd yn gyhoeddus ac yn breifat.
Rwy'n cydnabod bod pleidlais gweithredu diwydiannol yn rhan o broses negodi: cyhoeddi eich bod yn mynd i bleidleisio, yna cynnal y bleidlais, yna pan fydd canlyniadau'r bleidlais yn dod i law, beth mae hynny'n ei wneud i'ch sefyllfa negodi. Yn ogystal ag undeb Unite, wrth gwrs, mae'r GMB ac undeb Community yn cynnal eu pleidlais eu hunain; rwy'n edrych ymlaen at ddeall beth yw canlyniadau hynny. Ac fe allwch chi fod yn gwbl sicr nid yn unig gyda mi fel Prif Weinidog, ond gyda Jeremy Miles, yr Ysgrifennydd dros yr economi ac ynni, y bydd ymrwymiad y Llywodraeth hon i ddyfodol dur yn ddiwyro, ac y byddwn ni'n parhau â'n sgyrsiau didwyll gyda phob ochr ar hyn. Mae hynny'n cynnwys parhau i gyflwyno'r achos i Lywodraeth bresennol y DU a Llywodraeth y DU yn y dyfodol, rwy'n gobeithio, ynghylch y buddsoddiad y gallwn ni ei weld yn nyfodol dur a'r hyn y bydd hynny'n ei olygu i weithwyr dur yma, i gael y fargen orau ar gyfer dur, nid y fargen rataf, a datgloi ein huchelgeisiau ein hunain ar gyfer economi wyrddach.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Mae eitem 7 wedi ei gohirio tan 21 Mai.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y ddau gynnig o dan eitemau 9 a 10 eu grwpio i'w trafod gyda'i gilydd, ond gyda phleidleisiau ar wahân.
Maen nhw i gyd yn mynd, felly dydyn nhw ddim yn gwrthwynebu.
Gwelaf nad oes unrhyw wrthwynebiad, felly galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet i wneud y cynnig. Rebecca Evans.
Cynnig NDM8533 Rebecca Evans
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru).
Cynnig NDM8532 Rebecca Evans
Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Cynigiwyd y cynigion.
Diolch. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bob un o dri phwyllgor y Senedd am eu gwaith craffu gofalus drwy gydol Cyfnod 1 y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru), ac am eu casgliadau a'u hargymhellion. Rwy'n cynnig y cynnig a'r penderfyniad ariannol.
Cyn mynd i'r afael ag argymhellion y pwyllgorau, credaf ei bod yn werth i mi atgoffa'r Aelodau yn fyr beth yw diben y Bil hwn, gan fod sawl mis wedi mynd heibio ers ei gyflwyno. Mae'r Bil yn gwneud cyfraniad pwysig i'n hagenda diwygio trethi lleol ehangach yng Nghymru, gan fynd i'r afael â llawer o gyfyngiadau'r trefniadau presennol, a nodwyd o ymchwil helaeth ac o'n profiad o weithredu'r systemau presennol ers dros 20 mlynedd. Bydd y Bil yn ein galluogi i wneud newidiadau mewn modd mwy amserol i addasu ein systemau mewn ymateb i flaenoriaethau ac amgylchiadau sy'n datblygu. Bydd yn lleihau'r angen am fesurau anneddfwriaethol brys fel y rhai a ddefnyddiwyd i dargedu cymorth yn ystod y blynyddoedd diwethaf mewn ymateb i'r pandemig a goresgyniad Wcráin, a bydd yn lleihau ein dibyniaeth ar ddarpariaethau yn neddfwriaeth Llywodraeth y DU yn sylweddol. Yn yr amser sydd gennym y prynhawn yma, byddaf yn gallu darparu crynodeb byr o ymateb y Llywodraeth i'r prif bwyntiau a godwyd gan bob pwyllgor, ac egluro ein rhesymeg dros y dull yr ydym yn ei gymryd, ond rwyf wedi cynnwys rhagor o fanylion yn fy llythyrau diweddar at bob pwyllgor.
Felly, gan droi'n gyntaf at yr adroddiad gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, rwy'n croesawu ei argymhelliad y dylai'r Senedd gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil, ac rwy'n falch bod y pwyllgor yn cytuno â'r llu o dystion y cymerwyd tystiolaeth ganddynt a fynegodd gefnogaeth i'r Bil hwn.
Er bod adroddiad y pwyllgor yn gefnogol i ddarpariaethau'r Bil ar y cyfan, mae llawer o'i argymhellion yn canolbwyntio ar y gweithdrefnau sy'n berthnasol i'r pwerau gwneud rheoliadau sydd ynddo. Er enghraifft, mae'r pwyllgor yn gwneud nifer o argymhellion sy'n cynnig y dylai unrhyw is-ddeddfwriaeth a gyflwynwn ar ryddhad ardrethi annomestig, esemptiadau a lluosyddion neu ostyngiadau yn y dreth gyngor fod yn destun cyfnodau gosod estynedig a dyletswyddau ymgynghori statudol. Rwyf wedi egluro yn fy ymateb ysgrifenedig i'r pwyllgor pam y byddai gofynion o'r fath o bosibl yn rhoi trethdalwyr a busnesau yng Nghymru dan anfantais. O'm mhrofiad i, byddai'r rhain yn gohirio neu hyd yn oed yn atal darparu cymorth newydd mewn sefyllfaoedd lle mae angen i ni symud yn gyflym, er enghraifft lle mae datganiad yr hydref Llywodraeth y DU yn effeithio ar ein cyllideb.
Yn ail, byddai gofynion o'r fath yn anghymesur yn y nifer o achosion lle byddem yn ceisio gwneud mân addasiadau technegol neu weinyddol yn unig. Bydd yr Aelodau'n gwybod ein bod ni'n cynnal ymgynghoriad fel mater o drefn ar unrhyw gynigion sylweddol sy'n ymwneud ag ardrethi annomestig a'r dreth gyngor. Yn ddiweddar, er enghraifft, rydym wedi ymgynghori ar ryddhad gwelliannau a rhyddhad rhwydweithiau gwresogi a gwelliannau i gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Bydd ein hymrwymiad i ymgynghori ystyrlon fel Llywodraeth yn parhau i fod yn wir yn y dyfodol. Rwyf eisoes wedi cadarnhau y byddwn ni'n cynnal ymgyngoriadau ar unrhyw gynigion yn y dyfodol sy'n ymwneud â lluosyddion gwahaniaethol a threfniadau yn erbyn osgoi treth.
Mae'r pwyllgor hefyd yn gofyn i ni gynnwys dyletswydd ar wyneb y Bil i gynnal adolygiad statudol o'r pwerau gwneud rheoliadau hyn cyn diwedd y Senedd nesaf. Rwy'n deall rhesymau'r pwyllgor dros gynnwys yr argymhelliad hwn, ac er nad wyf yn credu bod angen gofyniad o'r fath ar wyneb y Bil, byddaf yn sicrhau bod y memorandwm esboniadol yn cael ei ddiwygio i gynnwys ymrwymiad i gynnal adolygiad ôl-weithredu o weithrediad ac effaith y ddeddfwriaeth hon cyn diwedd y Senedd nesaf.
Rwy'n fodlon derbyn y rhan fwyaf o argymhellion eraill y pwyllgor. Diolch i'r Aelodau am eu dull gweithredu ystyriol ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r pwyllgor drwy gydol y cyfnodau craffu sy'n weddill.
Gan droi yn awr at yr adroddiad gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, mae'r Llywodraeth wedi derbyn holl argymhellion y pwyllgor ar wahân i'r rhai sy'n ymwneud â hepgor adrannau penodol o'r Bil sy'n darparu pwerau dirprwyedig. Rwyf wedi rhoi gwybodaeth ychwanegol i'r pwyllgor lle gofynnwyd amdani. Yn fy llythyr ymateb, rwyf hefyd wedi mynd i'r afael â 14 o gasgliadau'r pwyllgor a'r chwe argymhelliad cysylltiedig, sy'n cynnig ein bod ni'n dileu'r pwerau gwneud rheoliadau perthnasol o'r Bil. Rwyf wedi egluro pam rwy'n credu y byddai cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol ar wahân bob tro y byddai angen newid yn y meysydd hynny yn anymarferol, yn ddiangen ac, o bosibl, yn rhoi trethdalwyr, busnesau ac awdurdodau lleol Cymru dan anfantais. Rwy'n gwerthfawrogi nad dyma'r tro cyntaf i'r pwyllgor godi materion yn y Senedd hon ynghylch cydbwysedd y darpariaethau ar wyneb deddfwriaeth sylfaenol a'r rhai a ddirprwywyd o dan bwerau gwneud rheoliadau. Rwy'n cydnabod y bydd y trafodaethau ehangach rhwng y Llywodraeth a'r pwyllgor ar y mater hwn yn parhau y tu hwnt i graffu ar y Bil penodol hwn. Y tro hwn, credaf fod yr esboniadau manwl a'r enghreifftiau penodol yr wyf wedi'u darparu yn fy ymateb ysgrifenedig yn helpu i sicrhau'r pwyllgor nad oes unrhyw fwriad i geisio osgoi craffu nac atebolrwydd.
Mae cyd-Aelodau ar y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi cydnabod yn eu hadroddiad nad yw deddfwriaeth sylfaenol yn darparu ar gyfer system drethu ystwyth ac ymatebol, ac rydym wedi cymryd y dull gweithredu yr ydym wedi'i gymryd gyda'r Bil hwn am yr union reswm hwn. Ein nod yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n gallu deddfu mewn modd amserol a chymesur i Gymru pan fydd angen i ni wneud hynny.
Byddaf yn troi yn awr at adroddiad y Pwyllgor Cyllid. Rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor am ei argymhellion, ac rwy'n derbyn pob un ohonynt. Rwyf hefyd yn falch bod y pwyllgor yn cydnabod bod y Bil yn rhan hanfodol o raglen ehangach y Llywodraeth hon o ddiwygio trethi lleol, gan geisio creu system ardrethi annomestig a threth gyngor decach, fwy blaengar yng Nghymru. Gwerthfawrogir diddordeb, arbenigedd a dull craffu ystyriol y pwyllgor, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda holl Aelodau'r Senedd yn yr un ysbryd cadarnhaol hwn wrth i ni barhau â'r daith ddiwygio. Edrychaf ymlaen yn fawr at gyfraniadau gan gyd-Aelodau y prynhawn yma.
Hoffwn wneud cywiriad i'r Cofnod.
Eitemau 8 a 9 sy'n cael eu trafod gyda'i gilydd, nid eitemau 9 a 10.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, John Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gael siarad heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, sydd wedi gwneud gwaith craffu Cyfnod 1 ar y Bil hwn. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ymchwiliad y pwyllgor ac Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb i'n hadroddiad.
Mae'r Bil, wrth gwrs, yn cynnwys ystod o ddarpariaethau sy'n ymwneud â'r systemau treth gyngor ac ardrethi annomestig yma yng Nghymru, ac, ar ôl ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd i ni, daethom i'r casgliad ein bod yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil ac felly'n argymell bod y Senedd yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol. Fodd bynnag, er ein bod yn nodi'r gefnogaeth eang gan randdeiliaid, rydym hefyd yn cydnabod rhai pryderon. Mae ein hadroddiad yn manylu ar ein hystyriaeth o bob un o'r darpariaethau, ac mae ein hargymhellion yn ceisio gwneud gwelliannau lle credwn fod eu hangen i gryfhau'r ddeddfwriaeth hon.
Rydym yn cydnabod mai Bil galluogi yw hwn, yn rhannol, sy'n darparu fframwaith i nifer o newidiadau polisi yn y dyfodol gael eu gwneud gan Weinidogion Cymru mewn is-ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, clywsom bryderon gan randdeiliaid bod y dull hwn yn rhoi cyfle cyfyngedig ar gyfer ymgysylltu cyhoeddus a chraffu gan y Senedd, yn enwedig mewn perthynas ag adrannau sy'n darparu ar gyfer cyflwyno polisïau newydd sylweddol o bosibl drwy reoliadau. Rydym yn cydnabod barn Llywodraeth Cymru bod y defnydd o is-ddeddfwriaeth yn darparu ar gyfer system drethu fwy ystwyth ac ymatebol, ond credwn y dylai rhai darpariaethau, oherwydd natur y newidiadau a allai gael eu gwneud yn y dyfodol, fod yn destun cyfle ychwanegol i'r Senedd graffu arnynt. Felly, gwnaethom argymell y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno gwelliannau i'r Bil i ddarparu ar gyfer gweithdrefnau cymeradwyo gwell i warantu isafswm cyfnod o amser ar gyfer craffu ar rai rheoliadau a gynigir o dan adrannau 5, 9, 10, 13 ac 18. At hynny, gwnaethom hefyd argymell y dylid cyflwyno gwelliannau i'w gwneud yn ofynnol yn benodol i Weinidogion Cymru gynnal ymgynghoriad cyn gwneud rheoliadau penodol o dan adrannau 5, 9, 10 ac 18. Rydym yn siomedig bod yr argymhellion hyn wedi cael eu gwrthod. Byddaf yn amlinellu rhai o'r rhesymau y tu ôl i'n hargymhellion heddiw a pham y byddem yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i ailystyried.
O ran ardrethi annomestig, clywsom gefnogaeth eang i'r symudiad arfaethedig i ailbrisiadau bob tair blynedd ac rydym yn cydnabod bod hwn yn gylch cymesur, rhesymol. Mae adran 5 o'r Bil yn cyflwyno darpariaethau a fyddai'n galluogi Gweinidogion Cymru i gyflwyno rhyddhad ardrethi annomestig newydd ac i amrywio neu dynnu'r rhyddhad ardrethi annomestig presennol yn ôl yng Nghymru. Fel y nodwyd eisoes, rydym yn cydnabod barn Llywodraeth Cymru y byddai'r darpariaethau'n caniatáu ymateb i amgylchiadau sy'n newid mewn ffordd fwy ystwyth. Fodd bynnag, nodwn hefyd y gallai unrhyw newidiadau polisi a wneir drwy'r darpariaethau hyn gael goblygiadau sylweddol i drethdalwyr. Rydym yn cytuno â barn rhanddeiliaid am bwysigrwydd tryloywder pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniadau sy'n ymwneud â chyflwyno rhyddhadau newydd neu dynnu rhyddhadau presennol yn ôl. Am y rheswm hwn, rydym yn argymell y dylai unrhyw reoliadau drafft a gynigir o dan y pwerau yn adran 5, lle mae'r pwerau i'w defnyddio i gyflwyno rhyddhadau neu eu tynnu'n ôl, fod yn destun craffu gwell. Mae'r un rheswm yn berthnasol i argymhellion 8 a 9 ein hadroddiad. Mae'r rhain yn ymwneud ag adran 9, sy'n rhoi pwerau gwneud rheoliadau ehangach i Weinidogion Cymru gyflwyno esemptiadau newydd, neu amrywio neu dynnu esemptiadau presennol yn ôl. Mae'r darpariaethau yn adrannau 10 ac 11 yn ymdrin â chyfrifo'r lluosydd ardrethi annomestig; byddent yn rhoi pwerau newydd i Weinidogion Cymru bennu, drwy reoliadau, wahanol luosyddion ar gyfer gwahanol ddisgrifiadau o eiddo. Dywedwyd wrthym nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad i gyflwyno unrhyw gynnig penodol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y risgiau posibl o bennu lluosyddion gwahaniaethol, yn benodol, pryder a godwyd ynghylch y potensial ar gyfer ystumio'r farchnad. Felly, mae'n allweddol y dylai unrhyw newid polisi yn y dyfodol fod yn destun craffu llawn a thrylwyr gan y Senedd. Credwn hefyd y dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i drefniadau ymgynghori statudol i leddfu rhai o'r pryderon a godwyd gan randdeiliaid.
Mae adran 13 yn ceisio lleihau'r cyfleoedd i osgoi talu trethi annomestig drwy ganiatáu i Weinidogion Cymru nodi ymddygiad osgoi artiffisial mewn rheoliadau. Cefnogir y darpariaethau osgoi gan bŵer sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ar gyfer gosod cosbau ariannol. Rydym yn nodi rhesymeg Llywodraeth Cymru dros ddefnyddio is-ddeddfwriaeth er mwyn ymateb yn gyflym, o ystyried bod technegau i osgoi talu treth yn esblygu'n gyson. Serch hynny, credwn fod y goblygiadau posibl i drethdalwyr yn gwarantu cymhwyso gweithdrefn graffu well. Credwn y dylai fod digon o gyfle i'r Senedd graffu ar benderfyniadau polisi mewn maes mor arwyddocaol.
Mae cynlluniau disgowntiau a gostyngiadau'r dreth gyngor yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi aelwydydd. Yn benodol, mae'r disgownt person sengl yn achubiaeth i lawer o aelwydydd sy'n cael trafferthion ariannol. Rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal y disgownt hwn ar 25 y cant. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol y gallai Llywodraeth yn y dyfodol fabwysiadu agwedd wahanol. Oherwydd natur eang y pwerau a gynigir yn adran 18, sy'n ymwneud â disgowntiau'r dreth gyngor, rydym yn argymell y dylai unrhyw reoliadau drafft o dan adran 18 fod yn ddarostyngedig i isafswm cyfnodau craffu gwarantedig gan y Senedd, ac eithrio wrth newid cyfraddau disgownt.
Mae gan y pwerau newydd yn yr adran hon, ynghyd â'r ailbrisiad sydd ar ddod, a ddefnyddir ochr yn ochr â'r pwerau presennol i ddiwygio ardrethi a/neu fandiau, y potensial i effeithio'n sylweddol ar bobl yng Nghymru. Felly, byddem yn annog Gweinidog y Cabinet i ailystyried ei safbwynt ar ein hargymhelliad. Credwn hefyd ei bod yn bwysig y dylai Llywodraeth Cymru ymgynghori ar unrhyw bolisi newydd sy'n gysylltiedig â disgowntiau, o ystyried arwyddocâd posibl unrhyw newidiadau.
Mae adran 20 yn disodli'r gofyniad presennol ar awdurdodau lleol i gyhoeddi hysbysiadau treth gyngor mewn papurau newydd lleol gyda dyletswydd newydd i gyhoeddi'r hysbysiadau hynny ar-lein a rhoi trefniadau amgen addas ar waith ar gyfer y rhai sydd â mynediad cyfyngedig i gyfleusterau ar-lein. Clywsom bryderon am yr adran hon, gan gynnwys y potensial ar gyfer allgáu digidol a'r effaith bosibl ar refeniw i bapurau newydd lleol. Rydym yn cydnabod bod pobl yn cael gwybodaeth mewn llawer o wahanol fformatau, ac yn deall manteision peidio â bod yn rhy ragnodol. Fodd bynnag, heb wybodaeth hygyrch, mae perygl y gallai rhai pobl ymddieithrio. Rydym yn falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i fonitro gweithrediad y darpariaethau yn adran 20, a byddem yn croesawu diweddariad ar y gwaith hwn yn y dyfodol, pe bai'r Bil yn cael ei basio.
Mae adran 21 yn darparu ar gyfer ailbrisio eiddo domestig bob pum mlynedd, gan ddechrau yn 2030. Rydym yn cytuno y dylai'r gofyniad newydd hwn helpu i sicrhau bod y baich treth yn cael ei ddosbarthu'n fwy cywir yn y dyfodol. Fodd bynnag, gan mai hwn fydd yr ailbrisiad cyntaf mewn 20 mlynedd, bydd effaith ar nifer o aelwydydd. Efallai y bydd awdurdodau lleol hefyd yn gweld effaith ar sylfaen eu treth gyngor. Felly, ein hargymhelliad terfynol oedd bod Llywodraeth Cymru yn diweddaru'r Senedd ar ei chynigion ar gyfer unrhyw drefniadau trosiannol y gallai fod eu hangen i gefnogi aelwydydd ac awdurdodau lleol o ganlyniad i'r ailbrisiad treth gyngor sydd ar ddod. Rydym yn falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhelliad hwn, ac edrychwn ymlaen at gael diweddariad maes o law.
Felly, Dirprwy Lywydd, er ein bod yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil, credwn y byddai gweithredu ar ein hargymhellion yn gwneud y ddeddfwriaeth hon yn fwy effeithiol, yn gwarchod rhag canlyniadau anfwriadol posibl i drethdalwyr yn y dyfodol, ac yn sicrhau bod y Senedd yn cael digon o gyfle i graffu ar faterion mor bwysig. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Alun Davies i siarad ar ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd, am y cyfle i wneud sylwadau ar y Bil hwn y prynhawn yma. Mae adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn cynnwys 13 o argymhellion, ac rwy'n diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb, a gawsom ddiwedd yr wythnos diwethaf. Yn anffodus, rwy'n credu, er gwaethaf y geiriau caredig, efallai, a ddefnyddiodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei chyflwyniad i'r ddeddfwriaeth yn gynharach y prynhawn yma, ei bod hi'n deg nodi bod gan y pwyllgor ac Ysgrifennydd y Cabinet safbwyntiau gwahanol iawn ar y ddeddfwriaeth sydd o’n blaenau. Er i Ysgrifennydd y Cabinet wneud y pwynt yn ei chyflwyniad ei bod wedi derbyn nifer o argymhellion y pwyllgor, mae'n deg dweud iddi hefyd wrthod yr holl argymhellion a oedd yn awgrymu gwelliannau i'r Bil, gan gynnwys cael gwared ar adrannau penodol, oherwydd ein pryderon ynghylch priodoldeb cyfansoddiadol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dadlau'n gryf bod y Bil yn gyson ag egwyddorion deddfu hirsefydlog, a'i fod yn gwella rôl y Senedd wrth wneud penderfyniadau. Rwy'n cydnabod pŵer y ddadl a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet. Fodd bynnag, nid wyf wedi fy argyhoeddi gan y dadleuon hynny, ac nid yw'r pwyllgor wedi'i argyhoeddi ychwaith.
Ers 2011, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn glir iawn bod Llywodraeth Cymru wedi ceisio defnyddio Biliau Llywodraeth y DU yn y maes hwn ar o leiaf 13 achlysur. Yn ein hadroddiad, nodwn nad oeddem yn glir ynghylch pa rwystrau cymhwysedd deddfwriaethol a fu i atal Llywodraeth Cymru rhag deddfu ei hun, a gwnaethom ofyn pam na fyddai'r Senedd wedi gallu pasio deddfwriaeth o'r fath. Cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet, mewn ymateb, at y memoranda cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â phob un o'r Biliau hyn yn y DU. Yn amlwg, mae'r pwyllgor yn ymwybodol o'r hyn sydd wedi'i gynnwys yn y memoranda hynny, ac nid ydym o'r farn eu bod yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, na'r wybodaeth a ddisgrifiwyd gennym. Gofynnwn i Ysgrifennydd y Cabinet ailystyried ei hymateb i'r argymhelliad hwn ac ysgrifennu eto at y pwyllgor. Hoffwn bwysleisio bod y pwyllgor yn barod iawn i barhau â sgwrs gydag Ysgrifennydd y Cabinet ar y mater hwn, a nodaf fod y Cwnsler Cyffredinol newydd hefyd yn y Siambr y prynhawn yma, a bod hwn yn fater y byddai'r pwyllgor yn barod iawn i barhau i ddadlau yn ei gylch a'i drafod gyda'r Llywodraeth.
Wrth gyfiawnhau cyflwyno Bil fframwaith gyda phwerau mor arwyddocaol wedi'u dirprwyo i'r Llywodraeth, dadleuodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gryf y bydd y pwerau yn lleihau dibyniaeth Llywodraeth Cymru ar geisio darpariaeth ar gyfer Cymru ym Miliau'r DU. Pe byddai hyn yn wir, rhaid i mi ddweud y byddai'r pwyllgor yn croesawu'r Bil hwn a'r egwyddor y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei hamlinellu.
Mae gan defnydd Llywodraeth Cymru o Fil y DU i ddeddfu dros Gymru, neu y cynnig drwy ei Bil ei hun, i gymryd pwerau deddfu i'w harfer gan Weinidogion Cymru, un elfen bwysig yn gyffredin: maen nhw'n gwadu cyfle i Aelodau'r Senedd geisio gwella'n weithredol, drwy'r broses cyfnodau diwygio sydd ond ar gael i ddeddfwriaeth sylfaenol, gyfraith a fydd yn berthnasol yng Nghymru. Mae arnaf ofn nad oeddem yn croesawu awgrym Ysgrifennydd y Cabinet, pe na bai'r Senedd yn cymeradwyo'r pwerau yn y Bil, y byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy o ddefnydd o geisio darpariaethau ar gyfer Cymru ym Miliau'r DU.
Rydym hefyd yn pryderu bod y safbwyntiau a fynegwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet yn gorbwysleisio'r dylanwad y gall deddfwrfa ei gael ar offerynnau statudol. Mae hyn eto wedi bod yn thema rhyngweithio'r pwyllgor â'r Llywodraeth drwy gydol y Senedd hon, ac o bosibl Seneddau blaenorol hefyd. Yn arwyddocaol, nid yw sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod y ffaith nad oes modd diwygio offerynnau statudol. Barn Llywodraeth Cymru yw bod Biliau ac offerynnau statudol cadarnhaol drafft yn ddarostyngedig i'r un, ac rwy'n dyfynnu, 'trothwy ar gyfer llwyddiant'. Fodd bynnag, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol bod y trothwy mwyafrif syml sy'n berthnasol i ddeddfwriaeth sylfaenol yn dilyn dau gyfnod diwygio, pan gall Aelodau unigol o'r Senedd geisio gwneud newidiadau a gwelliannau i Fil, a thrwy gynnig gwelliannau o'r fath, gallant gychwyn sgwrs lawer mwy dwys gyda'r Llywodraeth am natur agweddau unigol ar Fil. Nid yw craffu a dylanwad o'r fath ar gael i Aelodau yn achos is-ddeddfwriaeth.
Awgrymodd Ysgrifennydd y Cabinet fod y penderfyniad i gynnwys llawer o bwerau dirprwyedig yn y Bil hwn, yn hytrach na pharhau â'r system bresennol, a fyddai'n gofyn am ddeddfwriaeth sylfaenol i ddod â rhai newidiadau i rym, ac rwy'n dyfynnu eto,
'yn fater o'r hyn sy'n rhesymol a chymesur'.
Mewn ymateb, rydym yn gofyn: yn rhesymol a chymesur i bwy? Nid ydym o'r farn y dylai'r dull sy'n cael ei gymryd yn yr achos hwn fod ar draul egwyddor hirsefydlog o pryd y dylid defnyddio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth. Ar ben hynny, nid ydym o'r farn bod y dull y mae Llywodraeth Cymru wedi'i fabwysiadu yn y Bil yn gyson â'r gwaith a'r ymdrechion parhaus i wella cyfleoedd ar gyfer gwaith craffu gwell gan y Senedd drwy Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) Llywodraeth Cymru.
Ac felly, Dirprwy Lywydd, rydym wedi dod i gyfres o gasgliadau, a byddaf innau'n gorffen gyda'r sylw hwn. Er ein bod ni'n anghytuno â datganiad Ysgrifennydd y Cabinet y bydd y trefniadau a gynigir yn y Bil hwn yn gwella rôl y Senedd yn sylweddol, gwelwn fod y sylwadau bod y Bil yn fframwaith deddfwriaethol ar gyfer diogelu at y dyfodol yn groes i farn Ysgrifennydd y Cabinet ei fod hefyd yn gyson ag egwyddorion hirsefydlog mewn perthynas â rôl y ddeddfwrfa. Er ein bod wedi anghytuno ag Ysgrifennydd y Cabinet ar nifer o faterion gwahanol yn y Bil hwn, a'r ffordd y mae'r Bil wedi'i lunio, rydym yn cydnabod yr ewyllys da y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i amlinellu, yn ei hymateb ysgrifenedig i'r pwyllgor a hefyd—
Mae angen i chi ddod i ben nawr, Alun, os gwelwch yn dda.
—wrth siarad y prynhawn yma. Felly, byddem yn croesawu'r cyfle i gael sgyrsiau pellach gydag Ysgrifennydd y Cabinet wrth i'r ddeddfwriaeth hon fynd drwy'r Senedd.
A galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a dwi'n croesawu’r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl yma heddiw. Yn ein hadroddiad, gwnaethom ni ddod i un casgliad a gwnaethom ni 11 o argymhellion. Dwi'n ddiolchgar i’r Ysgrifennydd Cabinet am ymateb i’n hargymhellion cyn y ddadl heddiw ac am dderbyn pob un ohonyn nhw.
Er ein bod ni wedi dod i’r casgliad ein bod ni’n fodlon ar y cyfan â’r amcangyfrifon ariannol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth, yn ddarostyngedig i’n hargymhellion ni, rydym ni'n nodi mai dim ond rhan o’r gwaith diwygio trethiant lleol yw’r Bil hwn, ac felly nid ydym yn gwybod beth fydd costau rhaglen ehangach y Llywodraeth. Ar ben hynny, mae’r darlun llawn o ran costau cysylltiedig yn parhau i fod yn ansicr gan y bydd polisi’r Bil yn cael ei ddarparu drwy is-ddeddfwriaeth a thrwy fentrau polisi a deddfwriaeth eraill.
Gan droi at ein hargymhellion penodol, rydym yn cefnogi nod allweddol y Bil i ddiwygio'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig i greu system decach a hyblyg a all ymateb i newid economaidd. Rwy'n falch o ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i argymhelliad 3 o'n heiddo, bod gwaith pellach yn cael ei wneud i archwilio systemau amgen o drethu lleol. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y penderfyniad cywir yn cael ei wneud ynghylch y system fwyaf priodol. Rwyf hefyd yn falch bod archwiliad pellach yn cael ei gynnal ar dreth gwerth tir lleol. Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi nodi ymrwymiad i lunio cynllun erbyn diwedd tymor y Senedd hon, ac mae'r pwyllgor yn edrych ymlaen at gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwn wrth iddo fynd rhagddo.
Bydd y Bil yn cynyddu pa mor aml y caiff ardrethi annomestig eu hailbrisio o bob pum mlynedd i bob tair blynedd, gyda newidiadau tebyg yn cael eu gweithredu ledled y DU. Mae'r pwyllgor yn croesawu manteision ac arbedion maint cyd-fynd â Lloegr mewn perthynas â gwasanaethau Asiantaeth y Swyddfa Brisio yng Nghymru. Fodd bynnag, os na chaiff y Bil ei weithredu a bod yr ailbrisio nesaf yn anghydnaws â'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr, mae gennym ni bryderon ynghylch peryglon a goblygiadau cost y gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr.
Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am gytuno i ddiweddaru'r asesiad effaith rheoleiddiol gyda rhagor o wybodaeth am y goblygiadau o ran adnoddau i Asiantaeth y Swyddfa Brisio, yn unol ag argymhelliad 5. Rwyf hefyd yn falch y caiff gwybodaeth bellach ei chynnwys yn yr asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i ddiweddaru i egluro beth fydd y ddyletswydd newydd yn ei chostio i drethdalwyr o ran darparu'r wybodaeth ddiweddaraf i'r swyddfa brisio, ac nad yw cwblhau ailbrisio 2026 yn ddibynnol ar lansio system ar-lein y swyddfa brisio, ac felly nid oes risg i drethdalwyr sy'n gysylltiedig ag amseru'r lansiad.
Gan symud ymlaen i'r dreth gyngor, bu peth amheuaeth yn ystod ymgysylltiad cyhoeddus Llywodraeth Cymru ynghylch y ddarpariaeth sy'n caniatáu ailbrisio eiddo domestig yn rheolaidd fel cyfrwng i godi'r dreth gyngor. Fe gawsom ni sicrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet mai'r bwriad yw codi'r un faint o refeniw, ond trwy system decach. O ystyried natur atchweliadol y dreth gyngor, rydym yn cefnogi'r nod o'i gwneud hi'n decach heb effeithio ar y sail dreth. Pan graffwyd ar y manylion, roedd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ei dulliau posibl o ddiwygio'r dreth gyngor newydd ddod i ben. Argymhellwyd rhoi diweddariad unwaith y bydd penderfyniad wedi'i wneud wedi i'r Llywodraeth ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, ac edrychaf ymlaen at dderbyn yr wybodaeth, gan gynnwys y dadansoddiad cost, maes o law.
Mae'r Bil hefyd yn rhoi pwerau deddfu estynedig i Weinidogion Cymru i gymhwyso gostyngiadau a diystyru. Rydym yn derbyn bod angen hyblygrwydd i greu'r rhain. Fodd bynnag, gallai fod costau sylweddol yn gysylltiedig â nhw. Rydym hefyd yn ymwybodol o effaith ailbrisio ar drethdalwyr, ac rydym yn falch bod trefniadau trosiannol yn cael eu hystyried. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i gynnwys y costau, y buddion a'r effeithiau mewn perthynas â gostyngiadau a diystyru, a'r trefniadau trosiannol, yn yr asesiadau effaith rheoleiddiol perthnasol a fydd yn cyd-fynd â'r ddeddfwriaeth sydd ei hangen i weithredu'r rhain.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, rydw i wedi mynegi fy marn sawl gwaith yn y Siambr hon ynghylch Biliau sy’n cynnwys sawl pŵer i wneud rheoliadau; nid ydynt yn darparu goblygiadau ariannol llawn y ddeddfwriaeth sy’n cael ei hystyried. Yn anffodus, nid yw’r Bil hwn yn eithriad i hynny. Er fy mod yn cydnabod y bydd y pwerau sy’n cael eu cynnig yn y Bil hwn i wneud is-ddeddfwriaeth yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn llai dibynnol ar Filiau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu newidiadau i Gymru, mae’n lleihau tryloywder, ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i barhau i ystyried y mater hwn yn ystod gweddill ei rhaglen ddeddfwriaethol. Diolch yn fawr.
Hoffwn ymuno â'r Aelodau i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y broses mewn pwyllgorau, ond sydd hefyd wedi cysylltu â mi yn bersonol mewn perthynas â'r Bil hwn, ac rwy'n sicr yn cydnabod eu barn. I ddechrau, o'n hochr ni i'r Siambr yma, rydym ni'n cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Mae rhai meysydd yr hoffem eu gweld yn cael eu gwella wrth i'r Bil hwn fynd ar ei hynt.
Yn gyntaf, Ysgrifennydd y Cabinet, mewn perthynas â'r ardrethi annomestig, gyda'r cynigion fel y maen nhw ar hyn o bryd, fel y gwyddom ni, caiff yr ardrethi annomestig hyn eu hailbrisio yn llawer amlach, yn sicr yn amlach nag ailbrisio ar gyfer y dreth gyngor. Mae yna berygl, wrth gwrs, y gallai hyn roi rhywfaint o bwysau ychwanegol ar y busnesau hynny, rhyw raddau o ansicrwydd efallai yn eu cynlluniau tymor hwy hefyd, yn enwedig ar adeg anodd i lawer o'r busnesau hynny ar hyn o bryd. Mae grwpiau ac unigolion yn y pwyllgor wedi tynnu sylw at effaith mwy o achosion o ailbrisio'r ardrethi annomestig ar fusnesau yng Nghymru, felly byddwn yn ddiolchgar o glywed beth fydd yn cael ei wneud i leihau'r effaith negyddol ar y busnesau hynny sydd eisoes yn dioddef heb y rhyddhad ardrethi busnes sydd ei ddirfawr angen. Rwy'n deall ac yn cydnabod bod manteision i'r ailbrisio amlach hwnnw, ond mae angen mynd i'r afael â rhai o'r anfanteision hefyd.
O ran yr ardrethi annomestig, mae pryderon bod y Bil yn rhoi mwy o rym yn nwylo Llywodraeth Cymru, yn hytrach na gydag awdurdodau lleol. Mae nifer o bwerau a roddwyd i Weinidogion Llywodraeth Cymru yma ym Mae Caerdydd y credaf y byddent mewn sefyllfa well gydag awdurdodau lleol, y credaf eu bod yn gwybod eu hardaloedd yn well. Felly, byddai'n dda gen i ddeall sut rydych chi'n credu bod hynny'n cyfateb i'ch dull datganedig o ddatganoli mwy o bwerau i bobl leol. Yr hyn rydych chi'n ei wneud yma yw ceisio tynnu'r pwerau hynny oddi wrth yr awdurdodau lleol hynny.
Rwyf hefyd yn pryderu bod y Bil yn gam tuag at gyflwyno trethi uwch drwy'r drws cefn. Fel y gwyddom ni, nid yw'r Bil hwn ynddo'i hun o reidrwydd yn gwneud hynny, ond mae'n sicr yn galluogi newidiadau i drethiant lleol yn y dyfodol. Felly, byddwn yn croesawu sylw ar gynlluniau ehangach y Llywodraeth ar gyfer trethiant gyda Phrif Weinidog newydd wrth y llyw.
Dim ond sylw byr ar yr hyn nad yw'n cael ei gynnwys yn y Bil, rwy'n siomedig nad oes sylw na deddfwriaeth benodol yn cael ei drafftio yma ar ddyfodol fformiwla ariannu llywodraeth leol. Fe wyddoch chi, Ysgrifennydd y Cabinet—rwy'n dod i arfer â'ch galw yn Ysgrifennydd y Cabinet; rwy'n ymddiheuro—nad yw'r fformiwla ariannu llywodraeth leol, yn fy marn i, yn gweithio fel y dylai, ac rwy'n credu y collwyd cyfle yn y ddeddfwriaeth hon i adolygu hynny ac i gael adolygiad rheolaidd o'r fformiwla ariannu honno hefyd.
Gan ddychwelyd at yr hyn sydd y Bil, mae amodau cymhwysedd cryfach i elusennau o ran rhyddhad ardrethu. Hoffwn gael rhywfaint o sicrwydd na fydd yr amodau hynny yn ormod o faich ar yr elusennau hynny. Fel y gwyddoch chi, mae llawer o'r elusennau pwysig hynny'n cael eu staffio gan wirfoddolwyr ymroddedig, gweithgar nad oes ganddyn nhw'r llu o sgiliau o reidrwydd, o bosib, neu'r proffesiynoldeb i ymdrin â mwy o ddeddfwriaeth a'r baich arnyn nhw. Felly, hoffwn y sicrwydd hwnnw gennych chi hefyd, os gwelwch yn dda.
Y pwynt olaf yw fy ngwrthwynebiad i unrhyw gamau fyddai'n terfynu’r gofyniad i gyhoeddi hysbysiad y dreth gyngor yn y wasg leol. Credwn ei bod hi'n rhan bwysig iawn o'r broses ddemocrataidd mewn llywodraeth leol, yn enwedig mewn perthynas â thryloywder, ac rwy'n credu y bydd yn cael effaith fawr ar ein poblogaeth hŷn hefyd. Rydym yn gwybod bod allgáu digidol yn bryder gwirioneddol iawn, ac ni ddylai Llywodraeth Cymru, yn fy marn i, fod yn gwneud hyn yn waeth i aelodau cymdeithas sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol. A byddwch wedi clywed gan nifer fawr o gyfryngau lleol a chynrychiolwyr, sydd wedi mynegi barn, i sicrhau y bydd y gofynion o ran yr hysbysiad yn parhau, ac rwy'n rhannu eu barn yn hyn o beth. Felly, byddai diweddariad ar eich safbwynt yn hyn o beth yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn ddiolch i'r pwyllgorau am yr holl waith maen nhw wedi'i wneud. Rwy'n credu bod y pwyllgorau wedi gwneud rhai argymhellion synhwyrol iawn. A dweud y gwir, rwy'n cytuno â Sam Rowlands hefyd, ei fod ychydig yn siomedig nad yw'r fformiwla llywodraeth leol yn rhan o'r Bil hwn, er fy mod i yn poeni y gallem ni fod wedi brathu mwy nag y gallem ei gnoi pe byddem ni wedi cynnwys hynny yn y Bil penodol hwn. Yn fy marn i, mae angen trafodaeth ar ryw adeg ynghylch sut rydym ni'n ariannu llywodraeth leol, serch hynny.
Rwy'n credu bod egwyddorion cyffredinol y Bil i'w croesawu ar y cyfan. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod trethiant lleol wedi bod yn anaddas i'r adegau rydym ni'n byw ynddyn nhw ers peth amser bellach. Yr unig beth y byddwn i eisiau canolbwyntio arno, ac un o'r pryderon sydd gen i, yw er gwaethaf yr holl botensial a welwn ni yn y Bil hwn, yn y pen draw, bydd angen gweithredu. A'r hyn rwy'n ei olygu wrth hynny yw y bydd gweithredu, unwaith y bydd y Bil wedi pasio, wedyn yn gwireddu'r potensial.
Felly, byddaf yn siarad am ardrethi annomestig yma'n benodol, oherwydd rydym ni wedi sôn gryn dipyn dros y misoedd diwethaf am ardrethi annomestig a sut yr hoffwn i ein gweld yn amrywio'r lluosydd, gan nodi, mewn gwirionedd, ceisio sicrhau bod gwahanol sectorau yn talu symiau gwahanol, p'un a ydyn nhw'n talu mwy neu lai, yn dibynnu ar eu heffaith ar yr economi a faint a gesglir drwyddyn nhw. Mae hynny'n rhywbeth y credaf y byddai'n werth ei drafod yn rhan o'r Bil hwn, fel cam posibl y mae'r Bil hwn yn caniatáu inni ei wneud. Y rheswm rwy'n dweud hynny yw oherwydd, o ran sgyrsiau rydw i wedi'u cael, yn enwedig gyda'r sector lletygarwch ynghylch hyn yn benodol, maen nhw wedi bod yn eithaf cyffrous am hynny. Maen nhw wedi bod yn eithaf cyffrous, felly, o ganlyniad i'r hyn y gallai'r Bil hwn ei gynnig. Dychmygwch, sgyrsiau ynghylch trethiant, bod pobl yn cyffroi, nad ydyn nhw'n Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Wyddoch chi, mae hynny'n rhywbeth i'w groesawu'n fawr. Felly, yr hyn rwy'n gobeithio ei weld, trwy gynnydd y Bil hwn, yw rhai o'r syniadau hynny sy'n dod i'r amlwg, o'r Llywodraeth, ie, ond hefyd o bob rhan o'r Siambr, ynghylch sut y gallem ni ddefnyddio'r pwerau hyn mewn gwirionedd. Credaf y byddai hynny'n cyfoethogi'r broses o graffu mewn gwirionedd, o ran y Bil hwn yn gwneud cynnydd.
Fe hoffwn i hefyd grybwyll treth gwerth tir, os caf i, oherwydd yn ystod gwaith craffu'r pwyllgor, soniodd y Gweinidog fod y Llywodraeth yn mynd ati i'w harchwilio. Yn yr achos hwnnw, a fyddai'r Gweinidog yn gallu rhoi rhywfaint o amlinelliad, rhywfaint o syniad, o ran ble mae'r Llywodraeth arni yn hyn o beth a phryd y gallem ni ddisgwyl barn sefydlog gan y Llywodraeth? Rwy'n credu y byddai llawer o bobl yn gwerthfawrogi rhywfaint o eglurder ynghylch safbwynt y Llywodraeth o ran treth gwerth tir.
Felly, dof i ben, Dirprwy Lywydd, drwy ddweud bod croeso mawr i'r egwyddorion cyffredinol, ond credaf fod y cyfle yma nawr i ni ymgysylltu'n ystyrlon a gwneud newidiadau blaengar difrifol i drethiant lleol, yr wyf yn gobeithio eu gweld drwy gydol proses y Bil hwn. Rwy'n credu y byddai'n ystyrlon iawn ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd yn ehangach, a chredaf fod hynny'n rhywbeth i'w groesawu.
Rydym ni'n trafod y ddwy dreth y mae'r cyfoethog yn eu casáu fwyaf. Mae'n anodd iawn osgoi'r dreth gyngor, ac mae'n anodd iawn osgoi ardrethi busnes. Rwy'n cefnogi'r cynigion ar gyfer treth y cyngor i gynnwys ymarfer ailbrisio rheolaidd i sicrhau bod pobl yn talu'r swm cywir o dreth gyngor. Mae'r dreth gyngor yn talu am oddeutu un rhan o bump o'r gwariant gan gynghorau, gan amrywio o lawer llai ym Mlaenau Gwent i lawer mwy yn Sir Fynwy. Ond mae'r system bresennol bron i 20 mlynedd ar ei hôl hi ac yn cyfrannu at anghydraddoldeb.
Ni fwriadwyd i'r dreth gyngor fod yn deg erioed. Roedd yn ateb tymor byr i ddelio â threth y pen. Ac mae'r gostyngiad o 30 y cant i bobl sengl a natur atchweliadol y system yn golygu ei bod hi'n sylfaenol annheg. Mae rhywun sy'n byw mewn eiddo sy'n werth £100,000 yn talu tua phum gwaith cymaint o dreth gyngor o'i gymharu â gwerth yr eiddo â rhywun sy'n byw mewn eiddo sy'n werth £1 miliwn. Mae tŷ £420,000 ond yn talu dwywaith cymaint â thŷ £120,000. I mi, mae hyn yn annheg, oherwydd nid yw talu yn gymesur â gwerth eiddo, ac mae'n debyg mai gwerth eiddo yw'r dangosydd gorau sydd gennym ni o gyfoeth personol. Rwy'n cefnogi system yn y dyfodol a fyddai'n cydbwyso'r baich treth ar aelwydydd, yn ariannu gwasanaethau sydd o fudd i bawb, ac a gai ei ddiweddaru'n rheolaidd i gadw'r dreth yn deg.
Mae ailbrisio cyflawn o'r 1.5 miliwn eiddo yng Nghymru i sicrhau bod prisiadau'n gyfredol a bod pobl yn talu'r swm priodol yn hynod o bwysig. Byddai hyn yn galluogi creu bandiau gwahanol gyda chyfraddau treth newydd yn cael eu dewis ar gyfer pob band, gan greu treth decach. Diben yr ailbrisio yw ailgydbwyso'r dreth sy'n daladwy rhwng aelwydydd. Roedd y diwygiad diwethaf yn 2003. Er bod gwerth cartrefi wedi cynyddu'n sylweddol ers hynny, ni fyddai newidiadau i'r dreth gyngor mewn perthynas â'r cynnydd yng ngwerth eiddo o reidrwydd yn arwain at gynnydd yn y dreth gyngor. Byddai tŷ unrhyw un wedi mynd i fyny tua'r un faint oherwydd byddai'r symudiad cyffredinol yn aros yn union yr un fath.
Rydym ni'n gwybod bod angen ailbrisiad mwy rheolaidd. Nid yw pob rhyw 20 mlynedd yn dderbyniol. Rwy'n croesawu'r cynnig yn y Bil i sefydlu cylchoedd pum mlynedd statudol ar gyfer ailbrisio'r dreth gyngor, gan ddechrau yn 2030. Rwy'n gofyn eto bod band ychwanegol yn cael ei ychwanegu at y gwaelod ar gyfer y rhai sy'n byw yn yr eiddo rhataf, ac ychwanegir o leiaf ddau fand uwch i'r brig. Hoffwn weld bandiau yn codi bob £250,000 heb unrhyw derfyn o gwbl. Byddai hynny, rwy'n credu, yn llawer mwy teg.
Pwy sy'n elwa o'r gostyngiadau i fyfyrwyr? Ai myfyrwyr neu landlordiaid? Byddwn i, ymhlith llawer o bobl eraill, yn dadlau mai landlordiaid sy'n elwa. Rydym ni'n gwybod bod y cyfoethog yn ffafrio treth incwm lleol, oherwydd byddai'n arbed arian iddyn nhw trwy gynlluniau gostyngiad treth neu dderbyn taliadau drwy ddifidendau. Mae trethi eiddo, iddyn nhw, yn anodd eu hosgoi. Ond rydym ni hefyd yn gwybod, o dan y system bresennol, fod y rhai sydd lleiaf abl i dalu yn gwario cyfran fwy o'u cyfoeth ar y dreth gyngor.
O ran ardrethi busnes, rwyf bob amser wedi cefnogi eu dychwelyd i awdurdodau lleol. Does dim angen system Cymru gyfan; dylid gadael i bob awdurdod lleol osod ei drethi busnes ei hun. O'i gymharu ag afreoleidd-dra ailbrisio'r dreth gyngor, bu ailbrisio ardrethi annomestig yn fwy arferol, gyda'r un olaf yn 2023. Yn gyffredinol, mae ailbrisio ardrethi wedi'u gwneud ar gylch pum mlynedd. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r achos dros gylch byrrach a mwy ymatebol—un rwy'n cytuno ag ef. Y rhesymeg yw y byddai'n darparu mwy o sefydlogrwydd a biliau mwy cywir i fusnesau. Mae incwm o ardrethi busnes yn un o brif ffynonellau incwm awdurdodau lleol.
Ar hyn o bryd, mae ardrethi busnes yn dreth a delir ar eiddo annomestig. Efallai y bydd rhai busnesau wedi'u heithrio, tra gall eraill fod yn gymwys i gael rhyddhad. Mae cynlluniau rhyddhad ardrethi eraill hefyd sy'n cynnwys rhyddhad ar gyfer eiddo sy'n cael eu meddiannu gan sefydliadau elusennol, nid-er-elw, yn ogystal â rhyddhad ar eiddo gwag. Ar hyn o bryd, mae'r ardrethi annomestig yn darparu fframwaith statudol o ran rhoi rhyddhad ardrethi i fusnesau bach. Mae rhyddhad ardrethi yn hynod boblogaidd. Yr hyn a wyddom ni hefyd yw bod rhai pobl yn talu ardrethi a rhent ar y cyd, a'r peth arall rydym ni'n ei wybod yw bod y landlordiaid, bob tro mae'r Llywodraeth yn lleihau'r ardrethi, o ystyried rhyddhad ardrethi, yn penderfynu cynyddu'r rhent. Rydym ni'n gwybod, oherwydd ei fod yn wybodaeth gyhoeddus, fod y rhent y llynedd ar leoliadau cerddoriaeth wedi cynyddu dros 30 y cant ar gyfartaledd.
Rwy'n credu bod gwir angen system sy'n deg, a dydyn ni ddim wir eisiau rhoi arian ym mhocedi landlordiaid. Rwy'n gwybod bod gen i bryderon am ryddhad ardrethi. Pam ddylai rhywun sydd â siop 'arian am aur'—sydd i bob diben yn gweithredu fel brocer gwystlo—gael yr un rhyddhad ardrethi â'r rhai sydd i bob diben y mathau o siopau rydym ni'n ceisio eu denu? Rwy'n credu bod angen i ni gael rhyw ffordd o ymdrin â hynny.
Rwy'n gwrthwynebu dileu'r ddyletswydd i ddarparu gwybodaeth am dreth gyngor yn ysgrifenedig mewn papurau newydd. Mae yna lawer o bobl nad ydyn nhw ar-lein, nad ydyn nhw eisiau bod ar-lein, ac fe ddylen nhw fod â'r un hawl i wybodaeth â phawb arall.
Yn olaf, ynghylch treth gwerth tir, mae'n syniad gwych, ond mae'n golygu na fydd gennych chi fyth dai cymdeithasol yn yr ardaloedd drud, oherwydd byddai gwerth y tir yn golygu na fyddai pobl yn gallu talu'r dreth gwerth tir arno, felly bydd gennych chi yn y pen draw yr holl dai cymdeithasol mewn rhai ardaloedd a phob tŷ preifat mewn ardaloedd eraill, ac rwy'n credu bod arnom ni eisiau'r gwrthwyneb, onid ydym ni?
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet i ymateb i'r ddadl.
Diolch, a diolch i'r holl gyd-Aelodau y prynhawn yma am eu cyfraniadau. Rwy'n gwybod ein bod ni ar brydiau o reidrwydd wedi siarad am yr agweddau hynny rydym ni'n anghytuno yn eu cylch. Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar yr hyn y mae'r Bil yn ei olygu. Mae gennym ni rai pethau cadarnhaol iawn, rwy'n credu, bod y Bil yn ceisio eu cyflawni. Er enghraifft, bydd y cylch tair blynedd o ailbrisio ardrethi annomestig a'r cylch ailbrisio'r dreth gyngor pum mlynedd yn hanfodol i uniondeb ein system drethu leol yn y dyfodol. Bydd y Bil hefyd yn ein galluogi i ymdrin â'r materion sy'n ymwneud â chamfanteisio ar ryddhad ardrethi elusennol, addasu eithriadau rhyddhad ardrethi annomestig a'r lluosydd i gefnogi blaenoriaethau polisi, a hefyd i weithredu fframwaith gwrth-osgoi newydd ar gyfer ardrethi annomestig hefyd. O ran y dreth gyngor, bydd yn ein galluogi i addasu'r gostyngiadau treth gyngor, y diystyriadau a'r eithriadau hynny mewn ffordd fwy effeithiol, yn ogystal â sefydlu un cynllun cenedlaethol o ostyngiadau'r dreth gyngor a fyddai'n caniatáu newidiadau yn ystod y flwyddyn. Mae hyn wedi cael ei groesawu'n fawr gan randdeiliaid hefyd.
Er mwyn ymateb i rai o'r pryderon penodol, yn enwedig y rheini, rwy'n credu, ar y pwynt hwn, a godwyd gan Gadeiryddion pwyllgorau mewn perthynas â'r awydd am y cyfnodau gosod 60 diwrnod hynny, ein pryder yw y gallai hynny roi trethdalwyr dan anfantais trwy oedi neu hyd yn oed atal darparu cymorth, ac mae hynny'n arbennig o wir pan fo'r gyllideb sydd ar gael i bennu sut rydym ni'n mynd i'r afael â'r materion hynny yn cael ei heffeithio gan ddatganiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn yr hydref.
Hefyd, mae'n bwysig cydnabod nad oes yr un o'r pwerau presennol i Weinidogion Cymru eu darparu ar gyfer rhyddhad neu eithriadau ardrethi annomestig, neu osod y lluosydd gan reoliadau neu ostyngiadau i'r dreth gyngor yn ddarostyngedig i'r gweithdrefnau uwchgadarnhaol. Yn fy ymatebion i'r pwyllgorau, nodais rai enghreifftiau o'r amgylchiadau lle na allem ni fod wedi gweithredu i ddarparu cymorth i drethdalwyr yn yr amserlenni gofynnol pe bai gweithdrefn o'r fath yn berthnasol. Byddai gweithdrefnau cadarnhaol hefyd yn anghymesur lle rydym yn aml ond yn gwneud mân ddiwygiadau gweinyddol i reoliadau.
O ran y dyletswyddau ymgynghori statudol hynny, wrth ystyried a ddylid ymgynghori a sut i ymgynghori â rhanddeiliaid, rydym yn ystyried polisi Llywodraeth Cymru ar ymgynghori ac rydym yn gweithredu yn unol â dyletswyddau ymgynghori cyfraith gyffredin, a bydd hynny, wrth gwrs, yn parhau i fod yn wir yn y dyfodol. Gallai ymgynghoriad statudol ym mhob amgylchiad roi trethdalwyr dan anfantais yng Nghymru. Unwaith eto, byddai hynny drwy oedi neu hyd yn oed atal darparu cymorth newydd, yn enwedig lle, unwaith eto, bod y gyllideb sydd ar gael yn cael ei llywio gan ddatganiad Llywodraeth y DU yn yr hydref. A byddai'n anghymesur, unwaith eto, lle rydym ond yn sôn am wneud rhai mân welliannau, yn enwedig gwelliannau gweinyddol, i reoliadau. Unwaith eto, nid oes unrhyw un o'r ystod o bwerau presennol sydd gennym ni yn destun ymgynghoriad statudol ym maes rhyddhad ardrethi annomestig, eithriadau a'r gostyngiadau lluosydd neu'r dreth gyngor.
Unwaith eto, rwyf wedi nodi rhai enghreifftiau yn y gofod hwnnw ar gyfer pwyllgor. Un enghraifft y byddwn yn tynnu sylw ato ar hyn o bryd fyddai ein hymagwedd at y lluosydd. Mae gennym y broses flynyddol ar gyfer cadarnhau'r lluosydd, ac mae hynny'n gyfyngedig iawn o ran amser, ac fe allem ni fod o bosibl fod mewn sefyllfaoedd lle na allwn ni ddarparu cefnogaeth amserol i drethdalwyr yn y gofod hwnnw.
Enghraifft dda iawn arall, rwy'n credu, yma, yw'r gefnogaeth a ddarparwyd gennym ni i fusnesau pan wnaethom ni gynnal yr ailbrisio diwethaf yn 2023. Roeddem yn gallu darparu cefnogaeth drosiannol i fusnesau a welodd gynnydd yn eu hatebolrwydd ardrethi annomestig. Unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth na fyddem wedi gallu ei wneud yn gyflym pe baem ni'n gorfod cymryd y camau sy'n cael eu hawgrymu gan y pwyllgor yn yr amgylchiadau penodol hynny. Felly, rwy'n credu bod yr amgylchiadau ar gyfer pob un o'r materion hynny yn ymwneud â gweithdrefnau cadarnhaol, a hefyd, ymgynghori, yn dibynnu ar yr hyn yr ydym yn ceisio'i gyflawni. Ond, yn amlwg, rwy'n fwy na pharod i barhau i gael y trafodaethau hynny gyda phwyllgorau ac rwy'n gobeithio'n fawr ein bod yn symud ymlaen i Gyfnod 2. Rwy'n gwybod y cawn ni drafodaethau da bryd hynny.
Fe hoffwn i sicrhau cyd-Aelodau nad oes dim yn y Bil hwn yn cymryd pwerau gan awdurdodau lleol. Bydd gan awdurdodau lleol ystod eang o ddisgresiwn o hyd ar gael iddynt, yn y gofod rhyddhad ardrethi annomestig a hefyd, yng ngofod y dreth gyngor. Mae'n werth nodi bod y Bil mewn gwirionedd, ar yr ymylon, yn ymestyn y pwerau sydd ar gael i lywodraeth leol yn yr ystyr ei fod yn dileu'r terfyn chwe mis hwnnw ar gymorth dewisol i ardrethi annomestig. Felly, rwy'n credu, mewn ffordd fach, ei fod yn ehangu'r pwerau a'r dewisiadau sydd ar gael i lywodraeth leol.
Rwy'n credu bod potensial y lluosydd yn gyffrous iawn yn y dyfodol. Gallai Llywodraeth yn y dyfodol fod yn edrych ar ffyrdd y gallai'r lluosydd gael ei newid yn ddaearyddol neu ar sail anghenion sectorau penodol. Rwy'n credu y gallai fod yn offeryn eithaf pwerus yn y dyfodol. Ond does gennym ni ddim cynlluniau penodol. Yn amlwg, byddai'r rhain yn destun yr holl ymgynghoriad eang hwnnw. Mae ein pwyslais uniongyrchol ar y Bil, yn hytrach nag ar ddatblygu polisi yn y gofod hwnnw ar gyfer y dyfodol.
Rwy'n falch bod cyd-Aelodau wedi croesawu ein bod yn cynnal y gostyngiad person sengl ar wyneb y Bil. Rwy'n credu bod hynny'n rhoi rhywfaint o hyder i bobl ledled Cymru am ein hymrwymiad i hynny ar gyfer y dyfodol hefyd.
O ran y pryderon ynghylch rhoi cyhoeddusrwydd i fanylion y dreth gyngor mewn papurau newydd, rwy'n deall y pryderon hynny. Fodd bynnag, credaf fod yn rhaid i ni hefyd gydnabod bod y gofynion presennol wedi'u gosod yn y 1990au, ac mae pethau wedi symud ymlaen yn sylweddol; mae'r ffordd y mae pobl yn cael gwybodaeth wedi newid yn sylweddol. Wedi dweud hynny, ni fydd unrhyw beth i atal awdurdodau lleol rhag cyhoeddi'r wybodaeth honno mewn papurau newydd lleol, ac rwy'n siŵr y bydd llawer ohonyn nhw yn parhau i wneud hynny. Ond bydd yn rhaid iddyn nhw hefyd ystyried ffyrdd ehangach o ddarparu'r wybodaeth, er enghraifft mewn llyfrgelloedd lleol. Yn hanfodol, bydd pawb sy'n talu'r dreth gyngor yn derbyn bil neu ddatganiad gan lywodraeth leol, sy'n gyfle i gynnwys gwybodaeth hanfodol hefyd. Felly, dylai pobl fod yn derbyn gwybodaeth drwy eu blwch llythyrau yn ogystal â'i bod ar gael yn y mannau cyhoeddus hynny hefyd.
Ymdriniodd rhai o'r cyfraniadau wedyn, rwy'n credu, ag agweddau y tu hwnt i'r Bil ei hun, o ran siarad am rai o'r pethau eraill yr ydym yn edrych arnyn nhw. Codwyd y syniad o dreth incwm lleol. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni wedi ei ystyried yn ein taith i'r fan lle rydym ni nawr, ond mae'n rhywbeth—am yr holl resymau a nododd Mike Hedges—yr ydym ni wedi gwrthod oherwydd bod y pwyntiau hynny amdano yn anodd iawn i'w gweinyddu, a'r potensial i bobl osgoi talu hynny mewn gwahanol ffyrdd.
Fel y nododd Mike Hedges, eto, mae'r dreth gyngor yn dreth sefydlog iawn, mae'n ddibynadwy, ac am yr holl resymau hynny, rwy'n credu bod sawl agwedd gadarnhaol iddi yn sicr, ond nid yw hynny'n golygu nad ydym ni'n edrych ar fodelau gwahanol o bosibl ar gyfer y dyfodol o ran treth gwerth tir. Fel y dywedais i, byddwn yn darparu'r cynllun hwnnw maes o law ynghylch sut y gallem ni symud at hynny. Rwy'n credu mai'r pwynt hanfodol yw y byddai'n rhaid iddo fod yn amlwg yn well na'r system sydd gennym ni ar hyn o bryd. Nid wyf yn siŵr bod yr achos wedi'i wneud yn llwyr ar gyfer hynny eto, ond mae'n sicr yn rhywbeth y mae angen i ni ei ystyried wrth i ni symud ymlaen yn y gofod hwnnw.
Yna gwnaed rhai sylwadau am ein rhaglen ddiwygio'r dreth gyngor ehangach. Bydd cyd-Aelodau yn gyfarwydd â'r ddogfen ymgynghori yr ydym ni wedi'i chyhoeddi'n ddiweddar. Rydym ni wedi bod yn dadansoddi'r ymatebion hynny ac yn ystyried y ffordd ymlaen ochr yn ochr â'r Aelod dynodedig ym Mhlaid Cymru, gan fod hyn yn rhan hanfodol o'n cytundeb cydweithio. Fy mwriad i yw gallu gwneud datganiad yn sicr yr ochr yma i egwyl yr haf ynghylch hynny; yn sicr, fe hoffwn i wneud hynny cyn gynted â phosibl yn yr wythnosau i ddod, unwaith inni benderfynu ar y ffordd honno ymlaen, ar ôl ystyried yr holl ymatebion i hynny. Ond rwy'n credu bod llawer i fod yn gyffrous amdano yn yr agenda benodol hon, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at barhau i weithio gyda chyd-Aelodau a phwyllgorau yn y Senedd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 10 yw'r cynnig i amrywio trefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Galwaf ar y darpar Gwnsler Cyffredinol i wneud y cynnig yn ffurfiol. Mick Antoniw.
Cynnig NDM8531 Jane Hutt
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:
a) Adrannau 1-12;
b) Atodlen 1;
c) Adrannau 13-17;
d) Atodlen 2;
e) Adran 18;
f) Atodlen 3;
g) Adrannau 19-26;
h) Enw hir.
Cynigiwyd y cynnig.
Cynnig yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 11, y Bil Seilwaith (Cymru), hysbysiad o gydsyniad Ei Fawrhydi, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Julie James.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gennyf orchymyn gan Ei Fawrhydi y Brenin i ddweud wrth y Senedd fod Ei Fawrhydi, ar ôl cael gwybod am Fil Seilwaith (Cymru), wedi cydsynio i'r Bil hwn. Diolch.
Eitem 12, dadl ar Gyfnod 4 y Bil Seilwaith (Cymru). Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Julie James.
Cynnig NDM8539 Julie James
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil Seilwaith (Cymru).
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gynnig gerbron y Senedd heddiw Gyfnod 4 Bil Seilwaith (Cymru).
Cyn i mi symud ymlaen i siarad am fanylion y Bil, fe hoffwn i ddechrau drwy fynegi fy niolch i'r pwyllgorau a'r Aelodau sy'n ymwneud ag ystyried a chraffu ar y Bil, yn ogystal â staff y Comisiwn am eu cefnogaeth ym mhroses y Bil. Fe hoffwn i ddiolch yn arbennig i'r Aelodau hynny a gynigiodd welliannau yng Nghyfnod 3 i mi ar ddwy ochr y Senedd. Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cyfraniad ac am y gwaith a roesoch chi i'r Bil, ac mae wedi bod yn dda iawn gweithio gyda'n gilydd yn y ffordd gydweithredol honno. Mae eich cyfraniadau wedi sicrhau bod y Bil yn y sefyllfa orau y gall fod yn wrth symud ymlaen ac rwy'n ddiolchgar iawn amdanyn nhw. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i'r holl randdeiliaid a phartneriaid cyflenwi sydd wedi cyfrannu eu barn, awgrymiadau ac arbenigedd drwy gydol y broses polisi a deddfwriaethol. Bu eu sylwadau yn hynod bwysig wrth lunio'r Bil hwn ac rwyf wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda nhw wrth ddatblygu'r is-ddeddfwriaeth. Yn olaf, Dirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r holl swyddogion sydd wedi gweithio'n ddiflino ar y Bil hwn. Mae eu hymrwymiad, eu hymroddiad a'u hymdrechion a'u harbenigedd a'u cymorth wedi bod yn gwbl ganolog i gael y Bil hwn i'r fan lle mae heddiw, a dylid eu canmol amdano.
Gan droi, felly, at y Bil ei hun, mae'r Bil hwn yn cyflwyno proses fodern a symlach o ran cydsynio i brosiectau seilwaith sylweddol yng Nghymru, ar y tir ac yn y môr tiriogaethol. Mae cael proses gydsynio effeithiol ac effeithlon yn hanfodol i gyflawni prosiectau seilwaith sylweddol yng Nghymru sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at ein ffyniant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a'n huchelgeisiau sero net. Nid yn unig y bydd yn gwella cystadleurwydd Cymru fel lle deniadol ar gyfer buddsoddi a swyddi, bydd hefyd yn grymuso cymunedau lleol a deiliaid stoc allweddol eraill trwy ddarparu cyfleoedd cadarn i gymryd rhan mewn proses agored a thryloyw i helpu llunio datblygiadau sy'n effeithio arnyn nhw. Bydd y Bil hefyd yn chwarae rhan bwysig iawn tuag at gefnogi ein hymrwymiad i gyflawni targedau ynni adnewyddadwy wrth inni symud tuag at allyriadau sero-net erbyn 2050 trwy alluogi cydsynio i brosiectau ynni adnewyddadwy mewn modd cadarn ond amserol.
Dirprwy Lywydd, pe bai'r Bil yn pasio heddiw, rwy'n cydnabod bod cryn dipyn o waith o'n blaenau o hyd i sicrhau proses weithredu esmwyth, ac rwy'n bwriadu dechrau drwy gyhoeddi dau bapur ymgynghori byr cyn egwyl y Sulgwyn. Bydd y papur ymgynghori cyntaf yn canolbwyntio ar y weithdrefn ymgynghori cyn ymgeisio a bydd yn galw am dystiolaeth gan randdeiliaid, cymunedau lleol a phartïon eraill sydd â diddordeb i ofyn am syniadau ac awgrymiadau o ran sut y dylid cynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio er mwyn sicrhau'r ymgysylltiad mwyaf. Bydd yr ail bapur ymgynghori yn canolbwyntio ar ffioedd ar gyfer y broses gydsynio. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol iawn o'r pwysau sydd ar awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a rhanddeiliaid eraill ar hyn o bryd, o ran pobl a chyllid. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod cyrff sydd â dyletswydd swyddogaethol a osodir arnynt gan y Bil hwn yn gallu adennill eu costau yn llawn. Mae'r papur ymgynghori hwn yn ceisio barn a thystiolaeth i gefnogi'r egwyddor honno o adennill costau. Yn dilyn y dystiolaeth hon, bydd papur ymgynghori terfynol yn cael ei gyhoeddi yn amlinellu ein proses newydd yn ei gyfanrwydd. Rwy'n bwriadu cyhoeddi'r ymgynghoriad hwnnw yn ddiweddarach eleni.
Fel y bydd yr Aelodau wedi clywed o'r blaen, mae hwn yn Fil proses i raddau helaeth iawn. Er, wrth graffu ar y Bil, gwnaed sawl gwelliant sydd wedi rhoi mwy o fanylion ar wyneb y Bil, bydd angen is-ddeddfwriaeth i roi manylion am nifer fawr o faterion. Rwyf wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda rhanddeiliaid yn ystod datblygu'r is-ddeddfwriaeth i helpu sicrhau bod y broses gydsynio seilwaith yn gweithredu'n effeithiol, yn effeithlon a chyda'r ymgysylltu mwyaf posibl. Rwy'n gobeithio, Dirprwy Lywydd, y bydd pob plaid yn y Senedd yn cefnogi'r Bil hwn fel y gallwn gael proses ar waith sy'n darparu system ar gyfer cydsynio i brosiectau seilwaith sylweddol, a bydd y broses honno'n rhoi llais i bawb ac yn sicrhau bod Cymru ar agor i fusnesau a'i bod yn parchu ein gwerthoedd cymdeithasol ac amgylcheddol. Diolch.
Rwyf wedi mwynhau gweithio ar y ddeddfwriaeth hon, ond nid wyf yn mwynhau'r ddeddfwriaeth. Mae wedi bod yn dda gweld cydweithrediad y Gweinidog gyda ni ar rai gwelliannau synhwyrol iawn a gyflwynwyd ar y camau. Fe hoffwn i ddiolch i swyddogion y Comisiwn, Molly Skates, Katie Wyatt, fy staff Mostyn Jones, a hefyd y gefnogaeth gyfreithiol a gawsom ni. Fe wnaethom ni gyflwyno 125 o welliannau yn wreiddiol. Yn ystod Cyfnod 2, cytunodd fy nghyd-Aelod Joel James AS yn garedig i dynnu sylw at sefyllfa ddifrifol y mae'n rhaid i'r Senedd hon ei hystyried, sef proses ddeddfwriaethol y fan yma. Er enghraifft, dim ond dau ddiwrnod gwaith llawn o rybudd gawsom ni o ran grwpio gwelliannau yng Nghyfnod 2, ac roedd swyddog yn gweithio tan 9 o'r gloch ar y nos Sul cyn hynny oherwydd amserlen mor dynn. Dylid ystyried y profiad o weithio ar y Bil hwn fel tystiolaeth o'r angen i ddiwygio swyddogaeth bwysicaf y Senedd ifanc hon, sef deddfu i Gymru.
Mae'r Bil hwn hefyd yn gynamserol. Mae'n ddiwygiad di-sylwedd i'r gyfraith sy'n llywodraethu datblygu seilwaith sylweddol yng Nghymru a moroedd Cymru. Mae mewn cyferbyniad llwyr â nodau craidd y Bil i gyflawni proses symlach ac unedig ac mae gallu grymuso cymunedau i ddeall ac ymgysylltu â'r darpariaethau dirifedi yn destun rheoleiddio yn unig. Mae Bute Energy yn llygad ei le mai dyma un o fethiannau allweddol y Bil. Credaf y byddai'r Bil hwn yn fwy tebygol o gyflawni ei nod arfaethedig pe ymgynghorid ar yr holl adrannau sydd angen is-ddeddfwriaeth ac yna diwygio'r Bil ar sail yr ymatebion. Dyna pa fath o ymgynghoriad ddylai fod i bob un darn o ddeddfwriaeth sy'n dod o'r fan hon. Byddai hyn yn osgoi pwyntiau annerbyniol yn y Bil hwn heddiw, fel nad yw'n dweud wrthym ni pa fath o brosiectau y gallai Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau yn eu cylch o ran pennu datblygiadau fel prosiect seilwaith sylweddol. Nid yw'n nodi terfynau amser i ni ar gyfer gwneud penderfyniadau yn dilyn ceisiadau am gyfarwyddiadau; ffurf ceisiadau am gyfarwyddiadau; natur y gwasanaethau cyn ymgeisio sydd i'w darparu; y gofynion ar gyfer hysbysu ceisiadau arfaethedig. Nid oes ganddo'r manylion allweddol am ymgynghori a chyhoeddusrwydd cyn ymgeisio, na sut y dylid gwneud y ceisiadau am gydsyniad seilwaith; ffurf a chynnwys adroddiadau effaith lleol; ffurf a chynnwys adroddiadau effaith morol; a'r gofynion ar gyfer ymgynghori, ôl-ymgeisio, mewn perthynas â chaffael gorfodol. Ac nid oes ganddo'r meini prawf cywir i'w cymhwyso ar gyfer penodi person i awdurdod archwilio. Nid yw'n dweud wrthym ni beth fyddai'n cymell gwrandawiadau llawr agored. Nawr, mae'r un llinell—nid yw'n dweud wrthym sut mae gwrandawiadau llawr agored yn cael eu sbarduno. Mae hynny'n sylfaenol mewn unrhyw fath o ymgynghoriad, os ydych chi wir yn cymryd ein pleidleiswyr, ein trigolion a'n hetholwyr o ddifrif. Nid yw'n dweud unrhyw beth wrthym ni am y weithdrefn archwilio. Nid yw'n dweud unrhyw beth wrthym ni am y weithdrefn ar gyfer cywiro gwallau mewn dogfennau penderfynu, na'r weithdrefn ar gyfer newid a dirymu gorchmynion. Efallai y gallai'r Gweinidog ddweud wrth y Siambr hon pa weithgareddau y gellir defnyddio hysbysiad stop dros dro, ac efallai hefyd ein cynghori ynghylch ffurf a chynnwys cofrestrau ceisiadau. A pha awdurdodau cyhoeddus, Gweinidog, y byddwch yn ymgynghori â nhw, beth fydd y ffioedd, a llawer mwy?
Gyda rhestr mor helaeth o fanylion pwysig ar goll, mae'n amlwg i unrhyw berson rhesymol nad yw'r Bil hwn yn cyflawni unrhyw beth yn agos at yr hyn y mae'n addo ei wneud ac mae honno'n broses symlach ac unedig. Y gwir amdani yw bod cymaint o wybodaeth yn cael ei hepgor fel nad ydym ni'n gwybod sut y bydd y prosesau hyn yn gweithio mewn gwirionedd. Er fy mod i'n ddiolchgar y cytunwyd i 10 o'm gwelliannau, mae dros 100 wedi cael eu gwrthod. Yn amlwg, nid yw'r ddeddfwriaeth fel y credaf y dylai fod. Nid ydym yn credu ei fod yn cyflwyno proses gadarn i Gymru, ac mae'n amlwg i bawb sy'n darllen y Bil nad oes ganddo fanylion sylfaenol; mae'n ddi-sylwedd. Felly, ar y meinciau hyn, nid oes gennym ni unrhyw ddewis: byddwn yn pleidleisio yn erbyn y Bil hwn heddiw. Diolch.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad trwy ddweud bod y Mesur hwn yn un pwysig, yn rhan o'r siwrnai tuag at net zero, a chreu dyfodol gwell i'n gwlad.
Mae yna bethau, dal, dŷn ni ddim yn cytuno gyda nhw yn y Mesur, a thrwy gydol taith y Mesur hwn, rŷn ni, fel Plaid, wedi ceisio ein gorau glas i wella'r cynnwys, i gryfhau'r ddarpariaeth sydd ar gyfer cymunedau lleol—lleisiau lleol. Ac rwyf i wir yn ddiolchgar i'r cyn-Weinidog yn y maes hwn, o leiaf, am ei gwaith hi a'i thîm ar y Mesur, ac am ei pharodrwydd i weithio ar y cyd, dros ffiniau plaid, ar sawl achlysur. Dyma fel y dylai deddfu ddigwydd. Felly, dwi wir yn ddiolchgar iddi am hynny. Hoffwn hefyd estyn fy niolch i'r arbenigwyr, i staff y Comisiwn a phawb sydd wedi ein helpu trwy osod gwelliannau. Ac, wrth gwrs, diolch i Tomos Rowley a Lewis Richard Owen yn nhîm Plaid am eu gwaith ar y Mesur.
Yn ystod Cyfnod 3, pwysleisiais pa mor hanfodol yw hi ein bod yn cymryd y prosesau cynllunio a'n bod yn eu gwneud yn fwy hygyrch i'r cyhoedd. Yn rhy aml mae cymunedau'n teimlo wedi'u difreinio ac yn cael eu gwthio i'r cyrion pan wneir penderfyniadau am seilwaith heb iddynt gael rhoi eu barn. Roedd ein gwelliannau'n ceisio cywiro hyn drwy wella tryloywder, meithrin ymgysylltiad cyhoeddus a grymuso lleisiau lleol yn y broses gynllunio. Fe wnaethom danlinellu'r brys o daro'r cydbwysedd cywir rhwng mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur a chadw a gwella'r byd naturiol.
Mae gan Gymru dapestri cyfoethog o fioamrywiaeth ac adnoddau naturiol y mae'n rhaid eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Nod ein diwygiadau, Llywydd, yw ymgorffori egwyddorion cynaliadwyedd i ffabrig datblygu seilwaith, gan sicrhau bod ystyriaethau amgylcheddol yn rhan annatod o bob penderfyniad a wneir.
Nawr, gwnaethom ddadlau dros fwy o berchnogaeth leol ar seilwaith ynni adnewyddadwy. Mae gan Gymru ddigon o botensial ynni adnewyddadwy, o wynt i hydro i solar. Trwy rymuso cymunedau i gymryd perchnogaeth o'r prosiectau hynny, rydym nid yn unig yn cyflymu ein trawsnewidiad i economi carbon isel, rydym yn meithrin grymuso economaidd a gwytnwch ar lawr gwlad.
Nawr, fel y dywedais i, mae darpariaethau yn y Bil hwn yr ydym yn dal i anghytuno â nhw. Yng Nghyfnod 2, cyflwynais welliant a fyddai wedi tynnu glo o'r rhestr o brosiectau seilwaith sylweddol yn y Bil. Nawr, nod y gwelliant hanfodol hwn oedd dangos ein hymrwymiad mewn deddfwriaeth i ddod ag echdynnu glo i ben yng Nghymru, gan alinio â'n cyfrifoldeb ar y cyd i frwydro yn erbyn newid hinsawdd a'r newid i ffynonellau ynni mwy newydd, glanach.
Nawr, wrth gwrs, roedd yn ddigalon na wnaeth y gwelliant hwn basio, ac mae datblygiadau diweddar yn Ffos-y-frân ac mewn cymoedd ar draws ein maes glo yn pwysleisio ymhellach i mi na allwn fforddio parhau i lawr llwybr sy'n hwyluso'r diraddiad amgylcheddol a'r risgiau iechyd cyhoeddus sy'n gysylltiedig ag echdynnu glo. Ddoe oedd yr amser ar gyfer gweithredu beiddgar a phendant, ond mae'n aros heddiw er mwyn ein yfory ni i gyd. Rwy'n erfyn ar gyd-Aelodau i ymuno â ni yn ein hymrwymiad i ddyfodol di-lo i Gymru.
Mae diogelu ein tirweddau ni yn bwnc llosg o hyd—ar ein planed, wrth gwrs, sydd yn llosgi. Codwyd pryderon amryw yn y wasg yn ddiweddar am roddion gwleidyddion sydd wedi'u gwneud i bobl uchel yn y Llywodraeth gan gwmnïau sydd â hanes o dramgwyddo amgylcheddol. Erys pryderon am y rhain, wrth gwrs, a dyna pam y mae dirfawr angen tryloywder a chyfrifoldeb yn ein prosesau cynllunio. Mesur prosesau, fel mae'r Gweinidog—neu’r Cabinet Secretary newydd—wedi’i ddweud, yw hwn, wrth gwrs, ond mae sgileffeithiau gwleidyddol i hyn oll hefyd.
Rhaid i’n deddfwriaeth ni gael y balans yn iawn rhwng gweithredu i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a’r angen i ddiogelu ein hamgylchedd naturiol. Buaswn i’n erfyn ar yr Ysgrifenyddion Cabinet newydd i dawelu ein meddyliau ni y bydd y ddeddfwriaeth hon yn blaenoriaethu ac yn pwyso’r ddau alwad hyn. Mae cenedlaethau ein dyfodol yn dibynnu arnom i wneud penderfyniadau er eu budd nhw.
Oherwydd, Llywydd, a byddaf yn gorffen gyda hyn, wrth inni nesáu at gamau olaf y ddeddfwriaeth hon, ni ddylem ni golli golwg ar yr effeithiau dwys y bydd y Bil hwn yn eu cael ar ein cymunedau, ein hamgylchedd a'n dyfodol ar y cyd. Mae yna bethau yr ydym ni'n anghytuno â nhw, ond gadewch i ni ailddatgan ein hymrwymiad yma i adeiladu Cymru sydd nid yn unig yn ffyniannus a chynaliadwy, ond hefyd yn gyfiawn ac yn deg i bawb.
Byddwn yn parhau i bwyso am nifer o newidiadau mewn rheoliadau. Ond byddai golchi dwylo o'r cyfrifoldeb a chaniatáu i'r Bil hwn fethu yn gam yn ôl. Gadewch i hyn fod y cam cyntaf mewn taith tuag at ddemocrateiddio ein proses gynllunio. Mae llawer mwy y mae'n rhaid i ni ei wneud, ond gall o leiaf ddechrau yma. Diolch.
Yr Ysgrifennydd Cabinet, nawr, i ymateb i'r drafodaeth.
Diolch, Llywydd. Unwaith eto, fe hoffwn i ddiolch i'r holl Aelodau, rhanddeiliaid a swyddogion am eu gwaith ar y Bil hwn. Fe wnaf un neu ddau o sylwadau mewn ymateb i'r ddau gyfraniad a gawsom ni.
Rwy'n credu, Janet, bod gennych chi gamddealltwriaeth sylfaenol o'r hyn ydy'r Bil hwn yn eich sylwadau, mae arna i ofn. Fe hoffem ni weithio'n agos iawn gyda chi, a gobeithiaf yr hoffech chithau weithio'n agos gyda ni, i roi'r manylion rydych chi newydd eu disgrifio mewn rhestr hir, nad ydyn nhw ar wyneb y Bil, yn yr is-ddeddfwriaeth. Nid ydynt yn fwriadol ar wyneb y Bil, oherwydd pe baech chi'n rhoi hynny mewn deddfwriaeth sylfaenol, byddai'n dyddio mor gyflym hyd yn oed cyn diwedd y flwyddyn. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn rhoi'r pethau hynny mewn is-ddeddfwriaeth. Maen nhw'n weithdrefnau datrys cadarnhaol. Rwyf eisoes wedi ymrwymo ar sawl achlysur i weithio gyda chi ac eraill i wneud yn siŵr eu bod yn addas i'r diben, eu bod nhw'n cynnwys yr holl faterion a godoch chi, yn gwbl briodol, ond byddant yn yr is-ddeddfwriaeth ac nid ar wyneb y Bil. Nid yw'r syniad na fyddech yn cefnogi Bil fframwaith oherwydd nad yw'r hyn a ddylai fod yn yr is-ddeddfwriaeth ar wyneb y Bil yn gwneud unrhyw synnwyr i mi.
Gan droi at sylwadau Delyth, cytunaf yn llwyr â llawer o'r hyn a ddywedoch chi, Delyth. Wrth gwrs fod arnom ni eisiau system gynaliadwy, ffyniannus, gyfiawn a thryloyw. Mae arnom ni eisiau i Gymru fod yn fan lle gall busnesau ffynnu. Mae arnom ni eisiau i'r diwydiant adnewyddadwy feddwl am Gymru fel lle y mae modd iddyn nhw weithredu. Ond mae arnom ni eisiau i'r busnes hwnnw fod o fudd i'n cymunedau, nid buddsoddwyr tramor na chymunedau mewn mannau eraill. Felly, rwy'n gwbl ymrwymedig i wneud hynny.
Mae Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros yr economi ac ynni a minnau eisoes wedi cael trafodaeth am hynny, ac rwy'n siŵr na fydd ots ganddo fy mod yn ei ymrwymo i weithio gyda mi i wneud yn siŵr bod y ddeddfwriaeth eilaidd yn adlewyrchu hynny. A hefyd fe gawsom ni ychydig o drafodaeth yn ystod Cyfnod 2 a Chyfnod 3 gydag Aelodau grŵp Plaid ynghylch prosesau cynllunio a pholisi cynllunio yr wyf hefyd yn cytuno â nhw ond nad ydyn nhw'n briodol ar gyfer wyneb y Bil hwn, yn ein barn ni, ond rwy'n ymrwymo'n llwyr i weithio gyda chi yn hynny o beth, ac mae'r rheini'n cynnwys pethau fel rhwydweithiau trosglwyddo, tanddaearol a nifer o bethau eraill a drafodwyd gennym ni. Felly, rwy'n awyddus iawn i weithio gyda chi i sicrhau ein bod yn bwrw ymlaen â'r rheini fel trafodaeth bolisi. Bydd digon o gyfle i wneud hynny fel diwygiadau i 'Cymru'r Dyfodol', neu, yn wir, i 'Polisi Cynllunio Cymru', ochr yn ochr â'r cynllun ynni, ac rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelod yn ei gyflwyno ac y gallwn ni weithio gyda'n gilydd.
Felly, rwy'n credu bod hwn yn Fil y buwyd yn gweithio arno ers tro byd. Mae'r rhanddeiliaid wedi rhoi llawer iawn o ymdrech iddo. Mae'n Fil y gwyddom ni fod y rhanddeiliaid yn ei groesawu, rydym yn gwybod bod partneriaid awdurdod lleol yn ei groesawu, fe wyddom ni y bydd yn sicrhau bod Cymru yn bwerdy economaidd gwirioneddol addas ar gyfer y dyfodol, oherwydd dyma'r diwydiannau a fydd yn ein harwain i'r Gymru lewyrchus y mae arnom ni gyd eisiau ei gweld, ac mae'r Gymru lewyrchus honno'n dod â'r pethau eraill y mae arnom ni hefyd eisiau eu gweld. Felly, Llywydd, byddwn yn annog yr holl Aelodau i gefnogi'r Bil yma heddiw, i gyflwyno'r dyfodol hwnnw i bob un ohonom ni. Diolch.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50(c), rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gyfer cynigion Cyfnod 4, felly bydd y bleidlais yn cael ei gohirio tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Cyn inni gyrraedd y cyfnod pleidleisio y prynhawn yma, mae gyda fi ddau ganlyniad etholiad i rannu gyda chi. Yn gyntaf, yr etholiad ar gyfer y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Mi wnaeth 57 o Aelodau bleidleisio. Mi gafodd Alun Davies 28 pleidlais; mi gafodd Sarah Murphy 29 pleidlais. Ac felly, mae Sarah Murphy wedi'i hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
Yr etholiad nesaf, ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: unwaith eto, mi bleidleisiodd 57 o Aelodau. O blaid mi oedd 37, yn ymatal pleidlais mi oedd saith, ac yn erbyn mi oedd 13. Ac felly, mae Buffy Williams wedi'i hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Llongyfarchiadau i'r ddau Gadeirydd newydd.
Nawr, fe awn ni ymlaen i'r bleidlais sydd angen ei chynnal y prynhawn yma. Ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, fe awn ni'n syth i'r bleidlais honno.
Mae'r bleidlais honno ar y cynnig rŷn ni newydd ei drafod ar Gyfnod 4 y Bil Seilwaith (Cymru). Dwi'n galw, felly, am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Tri-deg chwech o blaid, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.
Eitem 12. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Seilwaith (Cymru): O blaid: 36, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Dyna'r unig bleidlais am heddiw, ac felly dyna ddiwedd ein gwaith ni am heddiw. Diolch yn fawr i bawb.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:04.