Y Cyfarfod Llawn
Plenary
19/03/2024Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Adam Price.
1. Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o'r risg i iechyd pobl o lygredd o fwyngloddiau metel segur yng Nghymru? OQ60893
Wel, Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr, a jest i ddweud, mae'n fy nharo i ei bod hi'n addas i gael y cwestiwn cyntaf yma y tro olaf i fi ateb cwestiynau oddi wrth yr Aelod.
Felly, mae treftadaeth ddiwydiannol Cymru wedi ein gadael ag etifeddiaeth anodd o lygredd o lawer o ddiwydiannau. Rydym ni'n gweithio ochr yn ochr ag eraill i ddeall a rheoli'r canlyniadau. Ers 2020, rydym ni wedi ariannu Cyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu rhaglen waith wedi'i thargedu i leihau llygredd mwyngloddiau metel a'i effeithiau cymaint â phosibl.
[Anghlywadwy.]—a wnaed yr wythnos diwethaf yn dilyn ymchwiliad gan y Financial Times wedi dangos bod hyd at 500 o dunelli o fetel o'r 129 o fwyngloddiau lle mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud ei bod yn sicr bod llygredd yn digwydd ar hyn o bryd. Ac yn wir, daeth yr astudiaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru o wyau a llysiau a gynhyrchwyd yng nghyffiniau un o'r mwyngloddiau hyn i'r casgliad y gallai plentyn ifanc sy'n bwyta un i ddau o'r wyau a gynhyrchir yno'n rheolaidd ddatblygu nam gwybyddol, a gallai'r llysiau a samplwyd o bosibl beri risgiau i iechyd pobl, a phlant yn arbennig, os cânt eu bwyta. Aeth yr astudiaeth ymlaen i ddweud bod yn rhaid i drigolion lleol gael eu hysbysu'n well am y risgiau posibl o fyw ger mwyngloddiau metelaidd segur a sut y gallan nhw liniaru'r risgiau hyn. Felly, Prif Weinidog, a yw pobl sy'n byw o fewn y 129 o fwyngloddiau mwyaf llygredig hynny ac, yn wir, y 140 lle gallai llygredd fod yn bosibl, wedi cael eu hysbysu am y risgiau posibl i iechyd pobl a'r hyn y gallan nhw ei wneud i'w lliniaru?
Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, a gaf i ddiolch i Adam Price am y cwestiwn yna? Mae Cymru wedi'i gorchuddio â mwyngloddiau metel. Rydym ni'n credu bod 1,300 ohonyn nhw, rhai ohonyn nhw'n adnabyddus iawn, fel mwynglawdd aur Dolaucothi yn rhan yr Aelod ei hun o Gymru, lle mae Afon Cothi yn llifo i fwynglawdd plwm Tywi Nant y Mwyn. Mae eraill yn llawer llai adnabyddus. Ers 2020, bu gan Cyfoeth Naturiol Cymru raglen o weithio ar y mwyngloddiau plwm a'r mwyngloddiau metel mwyaf llygredig yr ydym ni'n ymwybodol ohonyn nhw.
Rwy'n credu mai'r ffordd y byddech chi'n disgwyl i bobl sy'n byw yn lleol wybod fyddai drwy'r archwiliadau sy'n cael eu cynnal pan fydd pobl yn prynu eiddo. Bydd y rhai ohonoch sydd wedi bod yn rhan ohono yn gwybod eich bod chi'n cael mapiau, rydych chi'n cael gwybod a oes mwyngloddiau segur yn agos at lle'r ydych chi'n byw. Nawr, o ystyried arwyddocâd y mater a'r ffaith ein bod ni'n gwybod mwy amdano nag yr oeddem ni, mae'n bosibl, rwy'n credu, y bydd mwy i'w wneud i wneud yn siŵr, pan fydd archwiliadau yn cael eu cynnal yn rhan o brynu eiddo, bod pobl yn cael eu rhybuddio am y ffaith bod risgiau posibl i iechyd pobl o rai o'r ffyrdd y mae'r mwyngloddiau metel hyn yn gollwng eu llygredd. Byddai'n rhaid ei wneud yn sensitif. Gallwch ddychmygu y byddai pobl yn bryderus am effeithiau ar eu gallu i ailwerthu eiddo pe na bai'n cael ei wneud mewn ffordd sensitif. Ond rwy'n credu bod hwn yn fater polisi cyhoeddus sy'n mynd i fyny'r agenda, a lle bydd angen i ni feddwl mwy amdano yn y blynyddoedd i ddod, i wneud yn siŵr ein bod ni'n ymateb i'r anawsterau sy'n cael eu hwynebu a bod pobl yn cael eu hysbysu'n iawn amdanyn nhw.
Yn wir, mae'r cyfraniad y gallwn ni ei wneud yng Nghymru at y maes hwn, rwy'n credu, yn sylweddol. Ac, yn wir, yn ddiweddar yng Nghasnewydd—yr haf diwethaf—cynhaliwyd Cynhadledd y Gymdeithas Dŵr Mwyngloddiau Ryngwladol yno, a rhoddodd hyn gyfle hollbwysig i arddangos y gwaith yr ydym ni'n ei wneud yma yng Nghymru ar ôl troed byd-eang. Yn wir, mae'n adeiladu ar yr etifeddiaeth—yr etifeddiaeth falch—sydd gennym ni o unigolion rhagorol yn y maes hwn, fel Kathleen E. Carpenter, yr oedd ei gwaith ar afonydd Cymru fwy na chanrif yn ôl mor hanfodol i ddeall yr effeithiau ar ecoleg dŵr croyw ac yn y blaen. Felly, o ystyried, fel y mae Adam wedi dweud, nifer y mwyngloddiau—y cyfoeth mwynol yn y wlad hon—ac effeithiau hynny ar yr ecoleg, pa gyfraniad allwn ni ei wneud yng Nghymru i adeiladu ar etifeddiaeth unigolion rhagorol fel hynny, fel y gallwn ni nid yn unig arddangos yr hyn y gallwn ni ei wneud, ond cyfrannu'n wirioneddol at yr wybodaeth ryngwladol am y maes hwn hefyd?
Wel, diolch i Huw Irranca-Davies am hynna, Llywydd. Roeddwn i'n falch iawn y llynedd o wybod ein bod ni wedi denu'r gynhadledd ryngwladol honno, a does dim dwywaith mai un o'r rhesymau pam roedd gennym ni arbenigwyr o bob cwr o'r byd yma yng Nghymru oedd oherwydd bod pethau y gallem ni ddangos yr ydym ni'n eu gwneud yn y maes hwn, oherwydd nid mater i Gymru yn unig yw hwn; mae'n fater i bob rhan o'r Deyrnas Unedig ac ymhell y tu hwnt. Wrth gwrs, roedd pethau i ni eu dysgu hefyd, Dirprwy Lywydd—dyna pam rydych chi'n gwahodd arbenigwyr o leoedd eraill i ddod. Ac roedd rhai atebion triniaeth arloesol, diddorol iawn y soniwyd amdanyn nhw yn y gynhadledd honno, ac y gallwn ni ddysgu ohonyn nhw yn y dyfodol. Mae'r ffordd yr wyf i'n credu yr ydym ni'n ceisio defnyddio'r cyllid sydd gennym ni yn rhannol yn y ffordd y cyfeiriodd Adam Price ati—noddwyd y ddwy astudiaeth hynny gan Brifysgol Nottingham yn rhannol drwy Cyfoeth Naturiol Cymru. Felly, rydym ni'n buddsoddi yn ochr ymchwil hyn, ond rydym ni hefyd yn buddsoddi yn yr atebion ymarferol hynny y bydd eu hangen arnom ni yn y dyfodol i wneud yn siŵr, wrth i ni ddysgu mwy am natur y llygredd hwnnw, bod gennym ni bethau ymarferol y gallwn ni eu gwneud i liniaru'r effeithiau hynny a gwneud pobl sy'n byw yn agos atyn nhw'n hyderus eu bod nhw'n ddiogel yn gwneud hynny.
Prif Weinidog, gall mwyngloddiau metel segur fod yn berygl i iechyd y cyhoedd a'n dyfrffyrdd os nad ydyn nhw'n cael eu rheoli'n gywir. Ond, gyda'r gwaith rheoli ac adfer cywir, gall mwyngloddiau metel segur hefyd fod â photensial mawr fel ffocws ar gyfer cyfleoedd addysgol a thwristiaeth ledled Cymru. Mae llawer o'r mwyngloddiau segur hyn yn swatio mewn ardaloedd golygfaol, â llwybrau troed, llwybrau beicio a seilwaith twristiaeth datblygol arall sydd eisoes yno. Felly, byddai gen i ddiddordeb mewn gwybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i lanhau ac adfer ein mwyngloddiau metel segur ledled Cymru, a hefyd eu defnyddio wedyn i hyrwyddo ein gwahaniaethau hanesyddol a diwylliannol cyfoethog ledled Cymru gyfan.
Diolch i James Evans am hynna. Dirprwy Lywydd, fel y dywedais, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn canolbwyntio'r ymdrechion y gallan nhw eu gwneud, a'r cyllid sydd ganddyn nhw gan Lywodraeth Cymru, ar y 50 o fwyngloddiau metel segur sydd â'r capasiti mwyaf i wneud niwed i'r amgylchedd, ac mae'n rhaid mai dyna yw ein prif flaenoriaeth—mae'n rhaid iddi fod i wneud pethau i roi sylw i'r dreftadaeth ddiwydiannol faith honno sydd gennym ni yma yng Nghymru. Ac yn yr achos hwn, wrth gwrs, mae'r dreftadaeth honno yn mynd yn ôl ymhell y tu hwnt i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Pan gyfeiriais at fwyngloddiau aur Dolaucothi, wrth gwrs, cawsant eu cloddio gyntaf gan y Rhufeiniaid, ac mae'n debyg mai'r gwir amdani yw bod y Rhufeiniaid wedi dod ar eu traws oherwydd bod gwaith eisoes wedi cael ei wneud cyn iddyn nhw gyrraedd y rhan honno o orllewin Cymru. Mae mwyngloddiau Dolaucothi wedi bod yn atyniad i dwristiaid erioed, lle mae pobl yn dod i ddysgu rhan o'n treftadaeth o 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Felly, rwy'n cytuno â'r pwynt y mae'r Aelod wedi ei wneud—ein blaenoriaeth gyntaf yw gwneud popeth o fewn ein gallu o ran diogelwch, ond bydd cyfleoedd yn hynny i'r cymunedau hynny hefyd.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar sut mae Llywodraeth Cymru wedi hyrwyddo Cymru ledled y byd? OQ60889
Diolch i Joyce Watson, Dirprwy Lywydd, am y cwestiwn yna. Mae datganoli wedi rhoi llwyfan i ddod â Chymru i sylw'r byd. Mae ein henw da fel cenedl sy'n edrych tuag allan, sy'n ymgysylltiedig, sy'n hyderus yn ein hunaniaeth ein hunain, sy'n croesawu eraill yn talu ar ei ganfed dro ar ôl tro mewn cyfleoedd economaidd, cyfoethogi diwylliannol a dyfodol llwyddiannus i'n pobl ifanc.
Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Wrth i ni edrych yn ôl ar eich cyflawniadau niferus yn y swydd, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod y ffordd y mae eich Llywodraeth wedi meithrin perthnasoedd â gwledydd sy'n amrywio o Ffrainc i India, a'r Unol Daleithiau i Wlad Pwyl. A diolch i'r gwaith hwnnw, nid oes amheuaeth bod proffil Cymru yn codi yn y byd, gyda'r holl fanteision economaidd a diwylliannol a ddaw i'n cymunedau yn sgil hyn. Yn gynharach y mis hwn, roedd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn India, yn llofnodi cytundeb gyda Llywodraeth Kerala, a fydd yn dod â 250 o nyrsys a meddygon i Gymru, gan ddangos y gall ein gwasanaethau cyhoeddus elwa hefyd o'r cysylltiadau rhyngwladol hyn. Gan fyfyrio ar waith eich Llywodraeth, sut ydych chi'n gweld y cysylltiadau rhyngwladol allweddol hynny yn datblygu yn y dyfodol?
Diolch i Joyce Watson am hynna, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu bod amrywiaeth eang o resymau a chyfleoedd o ran pam rydym ni eisiau parhau i fuddsoddi mewn hyrwyddo Cymru dramor. Rydym ni wedi byw trwy gyfnodau anodd, o ran enw da, onid ydym ni? Beth bynnag yw ein barn ar Brexit, does dim amheuaeth ei fod yn cael ei ystyried mewn rhannau eraill o'r byd fel troi i mewn arnom ni ein hunain a throi i ffwrdd oddi wrth y byd, a chafodd COVID yr effaith o darfu ar lawer o'r cysylltiadau rhyngwladol hynny, pan nad oedd pobl yn gallu teithio a gweld ei gilydd mwyach yn y ffordd a fyddai wedi bod yn arfer i ni fel rheol. Dyna pam, fel Llywodraeth, yr ydym ni wedi rhoi cymaint o egni ac ymdrech i wneud yn siŵr ein bod ni'n parhau i fuddsoddi yn y cysylltiadau hynny sydd gennym ni gyda chynifer o hen ffrindiau. Roedd nifer ohonom ni yma yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yr wythnos diwethaf yn dathlu Dydd Sant Padrig, ac Iwerddon yw ein cymydog agosaf a hynaf ac mae gennym ni berthynas ardderchog gydag ynys Iwerddon gyfan. Ond, gyda Llydaw, mae ein cysylltiadau o ran iaith a diwylliant a hanes mor gryf, a braint oedd cael bod yng nghyfarfod cyntaf y Fforwm Celtaidd, a gynhaliwyd gan y Llywodraeth yn Llydaw, yn ôl ym mis Awst. Ac yna mae'r holl bethau eraill hynny yr ydym ni'n ceisio eu gwneud.
Blwyddyn Cymru yn India yw'r diweddaraf mewn cyfres o 'Cymru yn'. Pan ydych chi'n wlad fach ac mae gennych chi, yn y pen draw, adnoddau cyfyngedig, mae'n rhaid i chi dargedu eich ymdrech i geisio cael yr effaith fwyaf y gallwch chi. Ac mae blwyddyn Cymru yn India yn dod ar ôl ein profiad llwyddiannus o flwyddyn o Gymru yn yr Almaen, Cymru yng Nghanada, Cymru yn Ffrainc, sydd newydd ddod i ben gyda derbyniad gwych yn yr amgueddfa genedlaethol yma, lle gwnaethom ni ddathlu'r ffaith bod gennym ni gyfnewid o wrthrychau celfyddydol arwyddocaol dros ben rhwng ein hamgueddfa genedlaethol ni ac amgueddfa d'Orsay ym Mharis. O ran India, mae yna resymau penodol iawn y tu hwnt i rai cysylltiadau economaidd a chysylltiadau diwylliannol, oherwydd trwy Lywodraeth Kerala, mae gennym ni berthynas bellach a fydd yn ein helpu i wneud yn siŵr bod staff a all ddod i'n cynorthwyo ni yn ein gwasanaeth iechyd. Ond, Dirprwy Lywydd, i wneud y pwynt olaf hwn, i ni, bob amser, mae'r rhain yn berthnasoedd dwyochrog. I bawb sy'n dod i Gymru, rydym ni eisiau rhoi rhywbeth yn ôl. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael profiadau yma yng Nghymru a fydd yn eu paratoi'n dda ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol, boed hynny yma neu yn ôl gartref. Felly, wrth gwrs, rydym ni'n croesawu'r bobl hynny yma, ond rydym ni'n sicr eisiau ail-fuddsoddi ein hunain mewn gwneud yn siŵr bod ein partneriaid yn elwa, yn ogystal â'r budd yr ydym ni'n ei gael ein hunain.
Prif Weinidog, yn ystod eich cyfnod o bum mlynedd yn y swydd, rydych chi wedi codi ymwybyddiaeth o Gymru a phopeth sydd gennym ni i'w gynnig ar lwyfan rhyngwladol. Rwy'n gwybod ei fod yn cael ei gydnabod yn aml ar draws llawr y Siambr hon nad yw Cymru bob amser wedi cael ei chydnabod ar lwyfan rhyngwladol fel y dylai efallai, ac rydych chi wedi gweithio'n galed iawn i wella hyn. Ac rwy'n hyderus, ar draws pob plaid, ein bod ni'n ddiolchgar iawn am y gwaith yr ydych chi wedi ei wneud yn y maes hwn ac yr hoffwn ddiolch i chi amdano. Felly, gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, a fyddwch chi'n gobeithio gweld bod eich olynydd yn parhau i gryfhau'r cysylltiadau rhyngwladol cadarnhaol hyn a bod y ddelwedd o Gymru ar y llwyfan byd-eang yn datblygu ac yn ffynnu? A pha gyngor fyddech chi'n ei roi i helpu i alluogi hyn i ddigwydd, yn y dyfodol? Diolch.
Wel, diolch i Natasha Asghar am y cwestiwn hael iawn yna. Mae wedi bod yn fraint i mi allu atgyfnerthu a dyfnhau rhai o'r cysylltiadau hynny gyda'n cymdogion agosaf. Roeddwn i yn Silesia ym mis Ionawr, ac fe es i Silesia oherwydd bod perthynas mor ddwys rhwng cloddio glo yma yng Nghymru a chloddio glo yn y rhan honno o Wlad Pwyl yn mynd yn ôl flynyddoedd lawer iawn, ac wedi'i chadarnhau drwy ein hundebau llafur yma yng Nghymru. Fe es i yno, Dirprwy Lywydd, gan mai llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Cymru a Silesia oedd y tro cyntaf i ddogfen o'r math hwnnw gael ei llofnodi ar ran Cymru ers dros 600 o flynyddoedd. Braint oedd ail-ymrwymo yn 2024 i'r gwaith a wnaed gan fy rhagflaenydd, Rhodri Morgan, a daeth Marsial Silesia ar y pryd, Jan Olbrycht, yr holl ffordd o Frwsel i fod yno yn y seremoni lofnodi honno fel symbol o'i ymrwymiad i'r berthynas barhaus hon.
Mae fy olynydd wedi chwarae rhan weithgar dros ben o ran hyrwyddo Cymru dramor yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn rhan o friff yr economi, ac, wrth gwrs, mae cysylltiadau economaidd yn aml wrth wraidd y rheswm pam rydym ni'n buddsoddi yn hyn i gyd. Ond nid wyf i'n mynd i fod yn rhoi cyngor ar raddfa fawr i fy olynydd, ond byddwn yn dweud ein bod ni wedi creu llwyfan pwysig lle mae gan Gymru enw da yng ngweddill y byd, ac rwy'n gwbl sicr y bydd eisiau adeiladu ymhellach ar hynny er budd pobl Cymru.
Prif Weinidog, nid yw perthnasedd Cymru i'r byd yn ymwneud â hyrwyddo yn unig; fe'i penderfynir gan sut rydym ni'n siarad â'r byd, sut rydym ni'n cael ein cynrychioli'n rhyngwladol. Siawns ei bod yn anghynaliadwy i San Steffan ddweud y caiff Gweinidogion Cymru ddim ond mynychu cyfarfodydd cytundeb masnach a chydweithredu ond nid siarad, neu i swyddogion y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu fynnu bod yn bresennol mewn cyfarfodydd rhyngwladol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnal. Mae Cymru yn genedl ryngwladol falch. Nid ydym ni angen i rywun ddal ein llaw pan fyddwn ni'n siarad â'r byd, nac i un llaw gael ei dal y tu ôl i'n cefn. Efallai nad yw cysylltiadau rhyngwladol yn fater datganoledig, ond mae'n bwysig. Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i'ch olynydd i sicrhau nad yw Cymru'n genedl sy'n cael ei gweld ond nid ei chlywed, wrth sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed yn uchel ac yn glir yn yr holl ystafelloedd lle'r ydym ni'n haeddu bod?
Diolch i Delyth Jewell am y cwestiwn yna. Dylwn ragflaenu fy ateb, Dirprwy Lywydd, trwy ddweud ein bod ni wedi mwynhau erioed, ar lawr gwlad ac yn ymarferol, berthynas wych gyda'r swyddfa dramor a'i chyfleusterau mewn rhannau eraill o'r byd. Mae llawer o'n gweithwyr Llywodraeth Cymru mewn rhannau eraill o'r byd yn gweithio allan o lysgenadaethau sy'n llysgenadaethau y Deyrnas Unedig, ac rydym ni wedi bod yn hynod ffodus. Rwy'n credu mai rhan o'r rheswm pam roedd blwyddyn Cymru yn Ffrainc yn gymaint o lwyddiant—roedd ganddi Cwpan Rygbi'r Byd, wrth gwrs, fel ei chanolbwynt—yw ein bod ni mor lwcus o fod â'r Fonesig Menna Rawlings o'r Rhondda fel llysgennad y Deyrnas Unedig yn Ffrainc yn ystod y flwyddyn honno. Nid oes amheuaeth iddi fynd uwchlaw a thu hwnt i'r hyn y byddech chi'n ei ddisgwyl i wneud yn siŵr bod Cymru yn cael ei hyrwyddo a bod ein henw yn hysbys.
Ond mae'n rhaid i mi fod yn glir gyda Llywodraeth y DU, pan fydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn mynd dramor, rydym ni'n gwneud hynny ar ein telerau ni, nid eu telerau nhw. Os oes ganddyn nhw anhawster gyda hynny, yna byddwn ni'n datrys yr anhawster hwnnw, eto, mewn ffordd sy'n iawn i ni, yn hytrach nag unrhyw ymdeimlad o gael ein cyfarwyddo ganddyn nhw. Dirprwy Lywydd, fe wnes i droi i fyny ym Mrwsel unwaith i gael gwybod bod un o Weinidogion y Llywodraeth yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi penderfynu na ddylid fy nghaniatáu i deithio mewn car Llywodraeth y DU gan eu bod nhw'n ofni y gallwn i ddweud rhywbeth na fydden nhw'n ei hoffi. Wel, mi es i ar y metro; doedd hi wir ddim yn broblem anodd ei datrys. Fel y dywedais, pan fydd Gweinidogion Cymru dramor, rydym ni yno i hyrwyddo'r pethau sy'n bwysig i'r Siambr hon ac i'r polisïau yr ydym ni'n eu trafod yma. Yn ymarferol, mae bron bob amser wedi bod yn berthynas gefnogol iawn. Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n parhau. Os oes anawsterau, rydym ni'n eu datrys o'n plaid, wrth gwrs.
Hoffwn innau hefyd ddweud diolch am feithrin perthnasoedd â gwledydd eraill dros y blynyddoedd ac am eich ymweliadau diweddar ag India ac Iwerddon, a hefyd â Gwlad Belg ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi. Mae'r cwestiwn yn amserol gan fy mod i mewn digwyddiad Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad y DU yn San Steffan yr wythnos diwethaf. A dweud y gwir, cefais fy adnabod fel 'Carolyn Wales' am ychydig ddyddiau, a oedd yn fendigedig. Fe wnes i lawer o ffrindiau gyda chynrychiolwyr o bedwar ban byd, a oedd yn wirioneddol hyfryd, ac yn brofiad gwych iawn. Daeth tua 28 o aelodau i'n Senedd yr wythnos diwethaf ac roedden nhw'n hynod gadarnhaol am ein sefydliad a'r ffordd yr ydym ni'n ymddwyn ac yn gweithredu yma, a oedd yn wych i'w glywed. Fe wnaethon nhw wir fwynhau mynd i'ch etholaeth, Jenny, felly roeddwn i eisiau dweud diolch wrth bawb a oedd yn rhan o hynny. Roedd yn gadarnhaol iawn. A dweud y gwir, dywedodd un yn y sesiwn adborth mai rhan orau'r wythnos oedd dod i Gymru, i'n Senedd ni, sy'n wych, ac roeddwn i eisiau i bawb wybod hynny. Prif Weinidog, beth ydych chi'n ei obeithio fu eich etifeddiaeth o ran adeiladu Cymru? A ydych chi'n credu bod y cysylltiadau hyn â'r Senedd yn bwysig iawn, yn ogystal â'r rhai gyda'r Llywodraeth? Y bore yma, roeddwn i'n siarad gyda charfan o fyfyrwyr o Ffrainc, yn ceisio cofio fy Ffrangeg o'r ysgol, a oedd yn anodd iawn, ond pan siaradais yn araf roedd yn iawn. Felly, dim ond i ofyn am eich etifeddiaeth ar gyfer y dyfodol. Diolch.
A gaf i ddiolch i Carolyn Thomas am hynna? Mae'n hollol gywir i dynnu sylw at y ffaith bod cyd-Aelodau ym mhob rhan o'r Siambr hon sydd eu hunain yn cymryd rhan mewn gwaith rhyngwladol drwy eu haelodaeth o gyrff rhyng-seneddol neu fforymau eraill y mae gan Gymru lais ynddyn nhw. Nid cyfrifoldeb y Llywodraeth yn unig yw hwn; mae'n cael ei gyflawni ym mhob rhan o'r Siambr.
Dim ond i fyfyrio am eiliad ar yr hyn y mae Carolyn Thomas yn ei ddweud, rwyf i wedi siarad am ein perthynas ddwyochrog â rhanbarthau a chenhedloedd pwysig yng ngweddill y byd, ond rydym ni hefyd yn aelodau o gynghreiriau pwysig iawn. Mae ein haelodaeth o rwydwaith Ewropeaidd yr ieithoedd llai mor bwysig i ni. Rydym ni'n dysgu cymaint, ond mae gan Gymru enw mor gryf mewn rhannau eraill o'r byd am y ffordd yr ydym ni'n gwerthfawrogi ac yn meithrin ein hiaith. Yn aml, gofynnir i ni egluro rhai o'r ffyrdd yr ydym ni wedi gallu parhau i wneud yn siŵr bod y Gymraeg yn rhan mor fywiog o'n diwylliant a'n profiad beunyddiol.
Rydym ni'n rhan o Fenter Vanguard, menter fodern iawn sy'n edrych ar gyfleoedd economaidd mewn diwydiannau newydd ac sy'n dod i'r amlwg. Rydym ni'n rhan o Gynhadledd y Rhanbarthau Morwrol Ymylol, sydd wedi bod i Gymru yn ddiweddar—llawer iawn o ranbarthau pwysig yma yng Nghymru, yn y Senedd, yn edrych i weld yr hyn yr ydym ni'n ei wneud. Ac rwyf i wedi bod yn falch iawn fy hun erioed, Dirprwy Lywydd, o'n haelodaeth o'r Gynghrair Tu Hwnt i Olew a Nwy. Rydym ni'n un o aelodau sylfaenol hwnnw, ochr yn ochr â Denmarc, California ac eraill, sy'n dangos ein penderfyniad fel cenedl i gyflawni ein rhwymedigaethau mewn oes o newid yn yr hinsawdd i beidio â pharhau i fanteisio ar yr adnoddau cyfyngedig hynny yr ydym ni, mewn cyfnod llawer rhy fyr, wedi defnyddio llawer gormod ohonyn nhw er ein budd ein hunain ac er anfantais y rhai a fydd yn dod ar ein holau.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser eich cyfarch, Prif Weinidog, yn y sesiwn hon, eich cwestiynau i'r Prif Weinidog olaf fel Prif Weinidog. Er budd ein gwylwyr, sy'n ein gwylio ni gartref, byddwn yn cael cyfle mewn datganiad diweddarach y prynhawn yma i roi sylw i'ch ymddiswyddiad fel Prif Weinidog, a hwnnw fyddai'r man priodol i wneud y sylwadau.
Prif Weinidog, ddoe, clywsom y newyddion fod Tata Steel yn cau'r ffyrnau golosg ym Mhort Talbot. Mae hyn yn newyddion arbennig o ofidus sy'n dod o'r gwaith hwnnw, oherwydd y sicrwydd oedd y byddai'r ffyrnau golosg hyn yn aros ar agor tan yr haf ar y cynharaf. Yn y pen draw, mae hyn wedi codi cwestiwn ynghylch yr asedau eraill, a pha un a fyddan nhw'n bwrw ymlaen nawr â chau'r asedau hynny os bydd y ffyrnau golosg yn cael eu cau ddydd Mercher—h.y. yfory. A allwch chi hysbysu'r Siambr heddiw a ydych chi, fel Llywodraeth, wedi cael sgyrsiau gyda Tata i geisio sicrwydd ynghylch yr asedau eraill, na fydd yr amserlen y cytunwyd arni i ddirwyn pethau i ben ar y safle hwnnw yn symud ymlaen o dri mis nawr, ac y bydd yr amserlen ar gyfer yr asedau eraill yn aros yn weithredol? A fydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu'n ariannol at gyfleoedd ailhyfforddi ac at y bwrdd pontio, o gofio bod y newyddion hyn ddoe o bosibl wedi symud y cam o gau asedau ar safle Port Talbot ymlaen o dri mis?
Diolch i arweinydd yr wrthblaid am y cwestiynau pwysig yna. Edrychaf ymlaen at drafodaethau ar faterion eraill gydag ef yn ddiweddarach yn y prynhawn. Mae'r newyddion o Bort Talbot yn ddifrifol iawn ac yn anodd iawn i'r bobl hynny sydd eisoes yn wynebu dyfodol mor heriol. Mae arweinydd yr wrthblaid yn gofyn a ydym ni wedi siarad â Tata, ac, wrth gwrs, rydym ni wedi. Cafodd Gweinidog yr economi gyfarfod â rheolwyr uchaf oll y cwmni yr wythnos diwethaf, a siaradodd ddoe â phrif weithredwr Tata Steel UK. Yn y pen draw, rydym ni'n deall, ac mae'r undebau llafur yn deall, os oes materion diogelwch gweithredu hanfodol yn y fantol, bod yn rhaid iddyn nhw gael blaenoriaeth dros yr holl bethau eraill y mae gennym ni gymaint o bryder yn eu cylch. Mae gennym ni sicrwydd gan y cwmni na fydd cau'r ffyrnau yn effeithio ar linell amser cau'r ffwrnais chwyth gyntaf; mae disgwyl i honno gael ei chau erbyn diwedd mis Mehefin. Wrth gwrs, rydym ni'n dal i fod o'r farn, ochr yn ochr â'n cydweithwyr yn yr undebau llafur, y gellir cadw'r ffwrnais chwyth arall—ffwrnais chwyth Rhif 4—y tu hwnt i'r amser a nodwyd yn wreiddiol gan y cwmni. Rydym ni wedi gwneud yr holl ymdrechion y gallwn ni i berswadio'r cwmni o ran yr achos hwnnw, boed hynny ym Mumbai, pan oedd fy nghyd-Aelod Eluned Morgan yno, neu drwy'r cysylltiadau niferus yr ydym ni wedi eu cael gyda'r cwmni ei hun.
Roeddwn yn falch fy hun o gadarnhau, yn ystod y 24 awr ddiwethaf, rai cynigion y mae'r Gweinidog addysg wedi eu gwneud, a fydd yn cyfrannu at gyfleoedd newydd ar gyfer ailhyfforddi i bobl sydd yn y gwaith ar hyn o bryd, ac i bobl eraill sy'n byw yn yr ardal ehangach honno. Felly, bydd Llywodraeth Cymru yno. Bydd arian y tu ôl i'r cynlluniau sydd gennym ni a byddwn yn cyflwyno'r cynlluniau hynny yng ngoleuni'r hyn yr ydym ni wedi ei ddarganfod yn ystod y dyddiau diwethaf.
Diolch am yr ateb llawn iawn yna, Prif Weinidog. Rwy'n edrych ymlaen, gobeithio, at gael datganiad gan y Gweinidog addysg ar y cynigion hyn y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw yn y fan yna a'r arian y tu ôl i'r cynigion hynny, oherwydd rwy'n siŵr y bydd llawer eisiau deall sut y bydd hynny o fudd i'r gweithlu a'r cymunedau sy'n wynebu'r newyddion siomedig iawn hwn a gyhoeddwyd yn y diwrnod neu ddau ddiwethaf.
Yr ail beth sydd wedi llenwi eich cyfnod fel Prif Weinidog yw COVID. Gallwn ni edrych yn ôl ar safle Port Talbot a'r gwaith dur ac mae hwnnw wedi rhedeg ers blynyddoedd lawer, ond mae COVID, yn amlwg, yn benodol i'ch cyfnod chi fel Prif Weinidog a'r penderfyniadau anodd iawn y bu'n rhaid i chi eu gwneud, ynghyd â Gweinidogion eraill y Llywodraeth. Rydym ni wedi cael yr ymchwiliad COVID yma yng Nghymru dros y tair wythnos diwethaf ac mae llawer o wybodaeth wedi cael ei rhoi gerbron y cyhoedd, ond gyda'r un cwestiwn hwn, hoffwn ofyn hyn i chi: a ydym ni mewn gwell sefyllfa heddiw, o ystyried eich dealltwriaeth o'r parodrwydd y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi ar waith, pe baem ni'n wynebu digwyddiad tebyg i COVID yn y blynyddoedd i ddod, o'r gwersi y mae'r Llywodraeth wedi gallu eu dysgu a gobeithio darparu adnoddau yn unol â hynny? Rwy'n sylweddoli bod hynny'n anodd ei fesur, ond rwy'n credu mai'r hyn y bydd pobl yn cymryd rhywfaint o gysur ohono yw pe gallech chi, gyda'ch profiad, roi sicrwydd bod y Llywodraeth heddiw yn fwy parod i wynebu digwyddiad tebyg pe bai hynny'n digwydd yn y dyfodol agos-i-ganolig.
Rwy'n credu y gallaf roi sicrwydd diffuant iawn, pe bai rhywbeth tebyg yn digwydd yn y dyfodol, y byddem ni'n fwy parod. Rwy'n credu y byddai'r byd yn fwy parod, oherwydd roedd rhai o'r pethau hynny a oedd mor heriol yn ystod misoedd cynharaf y profiad COVID yn ymwneud â chadwyni cyflenwi byd-eang a sut y gwnaethom ni lywio ein ffordd yn y ffordd honno. Felly, rwy'n berffaith siŵr bod gwersi sydd eisoes wedi'u dysgu; bydd mwy o ganlyniad i'r ymchwiliad a bydd rhai o'r rheini yn ymwneud â pharodrwydd. Ond pe bai rhywbeth tebyg yn ein hwynebu, yna nid oes gen i unrhyw amheuaeth o gwbl y byddai'r system mewn sefyllfa well i ymateb.
Hoffwn wneud y pwynt ehangach hwn i arweinydd yr wrthblaid: mae bron yn gynhenid, mewn pandemig, na fydd fel yr hyn yr ydym ni newydd gael profiad ohono. Mae gan y byd rai ffyrdd hynod soffistigedig o nodi bygythiadau yr ydym ni'n ymwybodol ohonyn nhw. Mae yna rwydweithiau soffistigedig iawn ac adnoddau da i nodi bygythiadau i iechyd y cyhoedd yr ydym ni'n ymwybodol ohonyn nhw. Mae bron trwy ddiffiniad y bydd pandemig yn y dyfodol yn rhywbeth nad ydym yn ymwybodol ohono—dyna sut mae'n osgoi'r holl rwydi diogelwch hynny sydd eisoes ar waith. Felly, er fy mod i'n hyderus, pe bai'n fygythiad tebyg, y byddem ni'n fwy parod, mae angen i bob un ohonom ni fod yn effro i'r ffaith nad oedd unrhyw rybudd ymlaen llaw o ran digwyddiad o'r math a welsom yn COVID, ac nid oedd unrhyw un o'r rhwydi diogelwch hynny yn effeithiol yn ei erbyn, a bydd y bygythiad nesaf o'r math hwnnw yn cynnwys rhai o'r nodweddion hynny hefyd.
Yn olaf, Prif Weinidog, hwn fydd y tro olaf i mi godi i ofyn fy nhrydydd cwestiwn i chi fel Prif Weinidog. Rydym ni wedi cael rhai trafodaethau diddorol, rhai trafodaethau lliwgar a rhai trafodaethau angerddol, ond mae'r trafodaethau hynny, o'r ddwy ochr gobeithio, wedi bod o'r galon o ran yr angerdd yr ydym ni wedi ei roi ar lawr y Senedd yma yn ein credoau. Ac er efallai fod y credoau hynny yn wahanol, yn amlwg rydym ni'n eu dal yn agos iawn at ein calonnau ac rydym ni'n mynegi hynny yn y ffordd yr ydym ni'n ymgysylltu yn sesiwn holi'r Prif Weinidog. Pa gyngor, o'r profiad yr ydych chi wedi ei gael fel Prif Weinidog wrth baratoi ar gyfer cwestiynau'r Prif Weinidog a chymryd rhan yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, fyddech chi'n ei roi i'ch olynydd fel y gall yr un angerdd hwnnw a'r un argyhoeddiad hwnnw gael ei fynegi a bod y Senedd yn ei chyfanrwydd yn elwa o hynny?
Diolch yn fawr iawn i arweinydd yr wrthblaid am y cwestiwn yna. Mae gen i lawer o gydymdeimlad â'm holynydd o ran baich y cyngor yr hoffai i bobl iddo ei gael. Gadewch i mi ddweud, wrth agor, nad wyf i'n sicr erioed wedi amau'r ymrwymiad y mae arweinydd yr wrthblaid yn ei roi i'r gwaith anodd y mae'n rhaid iddo ei wneud, na'r ysgogiad sy'n sail i'r cwestiynau y mae'n eu gofyn i mi pan wyf i yma i geisio darparu atebion.
O ran paratoi, y cwbl y byddwn yn ei ddweud wrth fy olynydd yw y bydd yn cymryd, mae gen i ofn, oriau ac oriau o'i amser, oherwydd mae'n anochel os byddwch chi'n dod yma ac y gellir gofyn cwestiwn i chi, nid yn unig unrhyw gwestiwn ar y brîff yr ydych chi'n digwydd meddu arno, ond unrhyw gwestiwn ar unrhyw ran o Lywodraeth Cymru, mae pob un penwythnos ychydig fel paratoi ar gyfer arholiadau terfynol, a dweud y gwir, i'r rhai ohonoch chi sy'n cofio hynny. Rydych chi'n treulio'r penwythnos cyfan yn adolygu yn y gobaith eich bod chi wedi gweld y cwestiwn a allai godi, ac yn aml iawn nid ydych wedi ei weld o gwbl.
Pe bai gen i bwynt mwy difrifol i'w wneud ar gyfer y pwynt olaf a wnaeth arweinydd yr wrthblaid am ansawdd y drafodaeth yn y Senedd, pe bai gen i obaith ar gyfer y fforwm hwn a'r cwestiynau hyn, ein bod ni i gyd, dim ond weithiau, yn canolbwyntio ychydig yn fwy ar gynhyrchu golau yn hytrach na chynhyrchu gwres fyddai hwnnw. I'r nifer rhyfeddol o fawr o bobl sy'n ein gwylio ni yn y gwaith ac yn gwrando ar y pethau yr ydym ni'n siarad amdanyn nhw, rwy'n credu, yn y pen draw, mai'r rheswm y maen nhw'n gwneud hynny yw oherwydd eu bod nhw'n gobeithio dysgu rhywbeth am gymhlethdod y dadleuon sy'n ein hwynebu, ac i adael y trafodaethau hyn yn teimlo eu bod nhw'n fwy gwybodus am y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yma ar eu rhan. Bob nawr ac yn y man, rwy'n credu y gallai rhoi dim ond ychydig o ystyriaeth i'r ffaith y byddai taflu ychydig o oleuni ar y pynciau hynny, yn hytrach na chynhyrchu gwres o'u cwmpas, arwain i'r Senedd wneud ei gwaith yng ngolwg pobl Cymru mewn ffordd y bydden nhw wir yn ei gwerthfawrogi.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Byddwn yn cael cyfle i fyfyrio ar amser y Prif Weinidog yn y swydd yn nes ymlaen, ond am y tro, a gwn na fyddai'r Prif Weinidog yn disgwyl dim byd arall, mae'n fater o fusnes fel arfer.
Ddydd Gwener, cyn canlyniad arweinyddiaeth Llafur, cyhoeddodd y cyntaf o'r hyn rwy'n siŵr fydd yn sawl ffarwel. Honnodd yn ei neges Twitter mai'r Blaid Lafur yn unig—y Blaid Lafur yn unig—sydd â'r cysylltiad arbennig hwnnw â phobl Cymru. Nawr, rwy'n siŵr nad dyna ei fwriad, ond a wnaiff ef gynghori ei olynydd i fod yn ofalus am ddefnyddio'r math yna o iaith rhag ofn swnio fel bod Llafur yn cymryd yr etholwyr yn ganiataol? Ac onid yw Jeremy Miles yn iawn bod yn rhaid ennill ymddiriedaeth yn barhaus?
Rwyf i wedi siarad ar sawl llwyfan o fewn fy mhlaid fy hun, Llywydd, ac mae wedi bod yn fantra a ailadroddwyd gennyf i bobl sy'n neilltuo eu horiau hamdden i weithio i'r Blaid Lafur bod yn rhaid i ni ennill pob pleidlais sy'n dod ein ffordd. Dydyn ni byth yn cymryd yr un bleidlais yn ganiataol. Mae'n rhaid i ni bob amser fod mewn sgwrs barhaus gydag etholwyr Cymru am yr hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud a pham, rwy'n credu, mai ein gwerthoedd a'r pethau sy'n ein hysgogi ar yr ochr hon i'r Siambr yw'r pethau y mae pobl yng Nghymru yn uniaethu â nhw'n fwyaf rhwydd.
Ond siawns, Dirprwy Lywydd, mai hanes gwleidyddiaeth yn y Siambr hon yw plaid a fu, o gryn dipyn, â'r nifer fwyaf o seddi yn y Cynulliad ac yna'r Senedd, ond nad yw erioed wedi llywodraethu ar ei phen ei hun. Mae wedi gallu erioed, mewn gwahanol ffurfiau a chyda gwahanol bleidiau, ffurfio cynghreiriau blaengar lle gallwn ni weithio gyda'n gilydd yn yr achosion cyffredin hynny. Mae hynny'n syndod mawr i bobl y tu hwnt i Gymru, lle ystyrir bod gweithio gyda phlaid arall yn fethiant yn y system. Rwy'n credu ein bod ni wedi dangos yma bod gwleidyddiaeth flaengar aeddfed yn eich rhoi chi mewn sefyllfa lle'r ydych chi eisiau gweithio gydag eraill, ac rwy'n credu mai dyna fu hanes 25 mlynedd o ddatganoli.
Mae un peth y bydd y Prif Weinidog a minnau yn edrych arno mewn ffordd debyg, sef tranc y Blaid Geidwadol ar lefel y DU. Mae'r tranc maith hwnnw wedi ei gwneud hi'n eithaf clir, rwy'n credu, y bydd Llywodraeth Lafur yn y DU yn ddiweddarach eleni. Mae angen i ni wneud yn siŵr ei bod yn cael ei dwyn i gyfrif gan garfan gref o Aelodau Seneddol Plaid Cymru. Ond beth nesaf i Gymru felly? Mae'r Prif Weinidog wedi cyfaddef i mi sawl gwaith na all ddylanwadu ar Keir Starmer i wneud addewid ar gyllid teg, ac, na, nid wyf i'n ymddiheuro am godi'r mater hwnnw eto yn y sesiwn graffu olaf hon. Dywedodd y Prif Weinidog wrthyf i yr wythnos diwethaf na fyddai galwad ffôn ganddo ef i Keir Starmer o unrhyw bwys. Ond dywedir wrthym ni fod ei olynydd yn agosach at arweinydd y Blaid Lafur. Nawr, o ystyried hynny, a yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy mhryder dwfn nad yw ei olynydd wedi gallu cael yr addewid sylfaenol hwnnw ynghylch cyllid teg i'n cymunedau chwaith? Mae'n gwneud i chi feddwl tybed a oes gan Starmer unrhyw ddiddordeb mewn ennill cefnogaeth barhaus yng Nghymru o gwbl.
I fod yn glir, ar gyfer y cofnod, bydd cysylltiad gan Brif Weinidog Llafur Cymru ag arweinydd Plaid Lafur y DU bob amser yn ddylanwadol a bob amser o bwys. Yr hyn nad ydych chi eisiau ei wneud yw dibrisio pwysigrwydd y galwadau hynny trwy wneud yr hyn a awgrymodd arweinydd Plaid Cymru i mi yr wythnos diwethaf, na fyddai prin ddiwrnod yn mynd heibio pan nad oeddwn i ar y ffôn yn gofyn i Keir Starmer am rywbeth. Rwyf i wedi bod yn ofalus iawn erioed i wneud yn siŵr, yn y sgyrsiau niferus yr wyf i wedi eu cael gydag arweinydd plaid y DU, ei fod bob amser wedi bod am rywbeth sy'n hanfodol i fuddiannau Cymru yn y dyfodol, ac rwyf i wedi cael sgyrsiau gwresog a difyr iawn erioed—fel yr wyf i wedi eu cael dros y penwythnos diwethaf, a gwn y bydd Jeremy Miles a Vaughan Gething wedi eu cael—gydag arweinydd plaid y DU. Wrth gwrs, mae cyllid bob amser yn rhan o rai o'r sgyrsiau hynny. Rydym ni'n gwybod beth fydd y Llywodraeth Lafur newydd, os mai dyna beth yw hi i fod, yn ei etifeddu, ond rwy'n credu y bu gan Gordon Brown, sydd wedi cymryd diddordeb mor agos yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a lle mae ei adroddiad yn cynnig glasbrint mor bwysig ar gyfer Llywodraeth Lafur newydd, rai pethau diddorol iawn i'w dweud am y ffordd orau o lywio llifau ariannol drwy'r Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Mae hon yn ddadl fyw iawn, ac rwy'n gwbl sicr y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gyfrannwr cadarnhaol ac adeiladol iawn ati.
Mae yna ddywediad yn y Gymraeg:
'dyfal donc a dyrr y garreg'.
Y rheswm pam rwy'n gofyn y cwestiwn dro ar ôl tro yw oherwydd fy mod i eisiau i'r Prif Weinidog ddyfalbarhau, ac oherwydd bod gen i gymaint o barch at swydd y Prif Weinidog yr wyf i eisiau i'n Prif Weinidog fod yn defnyddio ei ddylanwad gymaint â phosibl.
Yn olaf, yn fy nghwestiwn craffu diwethaf i'r Prif Weinidog, hoffwn ofyn am graffu, ac mae'n gwybod fy mod i wedi bod yn feirniad cyson o'r hyn yr wyf i'n ei weld fel anhoffter ymddangosiadol Llywodraeth Cymru o graffu ar brydiau. Nawr, mae craffu yn golygu croesawu cwestiynau anodd, ac mae'n golygu derbyn cyfrifoldeb am weithredoedd. Nawr, iddo ef—ac ryw'n ymwybodol o bla alcohol a'r problemau y mae'n eu hachosi i'r GIG—nid yw'n fater o roi'r bai ar feddwon am anghynaliadwyedd ein gwasanaethau damweiniau ac achosion brys, ac i'w olynydd, yn sicr nid yw'n fater o gyhuddo newyddiadurwyr o beidio â bod o ddifrif pan fyddan nhw'n cwestiynu priodoldeb rhoddion i'w ymgyrch arweinyddiaeth. Nawr, rwy'n credu fy mod i'n ddiogel wrth ddweud bod sawl Aelod o'i feinciau cefn ei hun yn credu y dylai'r arian hwnnw gael ei dalu'n ôl; mae'n fater o gyfaddef i gamgymeriadau, fel y dywedais, ac ennill yr ymddiriedaeth honno. Gofynnaf i'r Prif Weinidog eto heddiw: a yw'n credu y dylai'r arian hwnnw gael ei ad-dalu? Ac rwy'n gwybod ei fod wedi dweud nad yw yn y busnes o roi cyngor mawreddog, ond o ystyried bod ymddiriedaeth wedi dod yn fater mor bwysig yn y trosglwyddiad o rym oddi wrtho ef i'w olynydd, pa gyngor fyddai'n ei roi iddo ar sut i ennill yr ymddiriedaeth honno?
Gadewch i mi ddweud hyn: cefais fy ethol i'r Senedd ar yr un diwrnod â'r Aelod dros Dde Caerdydd a Phenarth, ac rydym ni wedi cynrychioli rhannau o'r ddinas wych hon erioed. Cawsom ein rhoi ar y pwyllgor iechyd gyda'n gilydd yn y dyddiau cynnar iawn hynny. Rydym ni wedi gweithio gyda'n gilydd pan oeddwn i'n Weinidog iechyd a Vaughan Gething yn Ddirprwy Weinidog iechyd. Fe wnaethom ni weithio gyda'n gilydd mor agos ag y gallwch chi ddychmygu yn ystod dyddiau anodd hynny y pandemig. Rwyf i wedi ei weld yn gweithio; rwy'n gwybod sut berson gofalus ac ystyriol ydyw o ran gwneud penderfyniadau. Nid yw angen cyngor gennyf i ar hynny i gyd, ac edrychaf ymlaen yn fawr iawn at ei gefnogi ef a Llywodraeth Cymru o'r meinciau cefn.
3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfyngiadau terfyn cyflymder yng Nghymru? OQ60887
Gosodir terfynau cyflymder gan gynghorau ar gyfer ffyrdd lleol a Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnffyrdd. Mae terfyn cyflymder diofyn o 20 mya ar ffyrdd mewn ardaloedd adeiledig y cytunwyd arno gan y Senedd hon wedi arwain at yrwyr yn cydymffurfio a chyflymderau'n lleihau. Bydd hyn yn achub bywydau.
Diolch yn fawr iawn i'r Prif Weinidog am ei ateb ac rwy'n dymuno'n dda iddo yn bersonol ar beth bynnag ddaw nesaf, a diolch iddo am ei holl ymdrechion tra mae wedi bod yn y swydd. Gwn fod y Prif Weinidog wedi dweud yn gyhoeddus nad yw'n tueddu i fwynhau sesiynau holi'r Prif Weinidog, ond mae'n rhaid i mi ddweud, rwyf i wedi mwynhau o leiaf, ac rwy'n gobeithio ei fod wedi bod yn ddwyochrog yn seiliedig ar ein trafodaethau dros y tair blynedd diwethaf. A does dim un o'r trafodaethau hynny yr wyf i wedi ei mwynhau mwy na'r rhai ar 20 mya. Rydym ni'n gwybod, yr wythnos diwethaf, bod deiseb fwyaf erioed y Senedd yn erbyn y newidiadau wedi cau ychydig yn brin o 470,000 o lofnodion. Ac nid yw'n ddim syndod bod y polisi wedi bod yn amhoblogaidd iawn gyda'r cyhoedd, ac mae ffigurau'r Llywodraeth ei hun yn dweud y gallai'r niwed i'n heconomi fod hyd at £9 biliwn. Felly, yn ystod yr ychydig oriau diwethaf sydd gennych chi yn swydd y Prif Weinidog, a wnewch chi sicrhau mai eich penderfyniad olaf fydd eich un gorau a chael gwared ar y terfynau cyflymder 20 mya hyn?
Wel, Dirprwy Lywydd, rwy'n poeni weithiau am Mr Giffard. [Chwerthin.] Rwy'n credu ei fod yn haeddu rhywfaint o gyfarwyddyd gwell gan ei gydweithwyr nag y byddai'r cwestiwn hwn yn awgrymu sydd ar gael iddo. Llywydd, rwy'n eithriadol o falch o'r ffaith ein bod ni, yma yng Nghymru, ar flaen y gad o ran newid polisi a fydd yn digwydd ymhell y tu hwnt i Gymru. Rydym ni'n gwybod ei fod yn mynd i ddigwydd yn yr Alban, rydym ni'n gwybod ei fod yn digwydd yn Iwerddon, rydym ni'n gwybod bod miloedd ar filoedd o ffyrdd yn Lloegr sy'n 20 mya. A'r rheswm am hynny, a'r rheswm y dechreuodd ei ragflaenydd David Melding y ddadl ar y mater hwn yma ar lawr y Senedd, yw y bydd lleihau, dim ond o ryw fymryn bach, y cyflymder yr ydym ni'n gyrru mewn ardaloedd preswyl adeiledig yn achub bywydau pobl. Bydd yn achub miloedd ar filoedd o bobl rhag trawma cael eu hanafu'n ddifrifol ar ein ffyrdd. Mae'n rhoi'r ffyrdd hynny yn ôl i'r bobl sy'n byw arnyn nhw.
Ac rwyf i wedi dweud mewn cyfres o gyfweliadau, y bu'n rhaid i mi eu rhoi yn ystod y dyddiau diwethaf, os ydych chi yn y sefyllfa ffodus iawn yr wyf i wedi bod ynddi, yna eich cyfrifoldeb yw defnyddio'r cyfalaf gwleidyddol sydd gennych chi, i ddefnyddio'r cyfle sy'n dod eich ffordd—i beidio â gwneud y pethau hawdd, peidio â gwneud y pethau sy'n boddio penawdau poblyddwyr, ond gwneud y pethau sy'n gallu bod yn anodd, oherwydd mae newid bob amser yn her. Yma, yn y Llywodraeth hon, rydym ni bob amser yn benderfynol y byddwn ni'n gwneud y peth iawn, yn hytrach na'r peth sy'n gyfleus ac yn boblogaidd ar y pryd. Rwy'n credu bod terfynau cyflymder 20 mya eisoes yn newid meddyliau pobl; rwy'n credu y byddan nhw'n parhau i wneud hynny. A chyn hir iawn, byddwn ni i gyd yn edrych yn ôl ac yn gofyn i ni'n hunain beth oedd pwrpas y ffwdan, gan ein bod ni bellach yn gwneud rhywbeth gyda'n gilydd a fydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth ym mywydau pobl na fydden nhw fel arall yma o gwbl i ddweud wrthym ni amdano.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi lleoliadau cerddoriaeth fyw ac adloniant? OQ60892
Diolch i'r Aelod am hynna, Dirprwy Lywydd. Mae Cymru Greadigol yn gweithio gyda'r sector cerddoriaeth masnachol gan ddarparu cymorth ar gyfer lleoliadau llawr gwlad, mannau ymarfer, stiwdios recordio ac eraill. Mae hyn wedi cynnwys noddi digwyddiadau mewn lleoliadau yng Nghymru a chyllid uniongyrchol gwerth cyfanswm o dros £9 miliwn ers ei lansio yn 2020.
Diolch, Prif Weinidog. Mae lleoliadau cerddoriaeth fyw ac adloniant yn sefydliadau diwylliannol pwysig yn ein trefi a'n dinasoedd, ac nid oes yr un yn bwysicach nag un o oreuon y gorllewin, Neuadd y Frenhines yn Arberth. Nawr, er nad yw'n gyfrinach y bydd gennych chi ychydig mwy o amser rhydd ar eich dwylo yn fuan, Prif Weinidog, efallai mai'r hyn nad yw cyd-Aelodau yn y Siambr hon yn ymwybodol ohono yw eich bod chi wedi bod yn y gynulleidfa yn Neuadd y Frenhines yn Arberth mewn gwirionedd, yn gwylio—a chywirwch fi os wyf i'n anghywir—Calendar Girls. [Chwerthin.] Nawr, mae Neuadd y Frenhines yn Arberth wedi croesawu nifer o enwau mawr yn ei hanes 65 mlynedd, o Elton John i un o oreuon Cymru, Goldie Lookin Chain. Ac yn ôl yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth, mae lleoliadau adloniant byw yn cyfrannu ychydig dros £24 miliwn yn flynyddol i economi Cymru, ond gyda'r elw cyfartalog yn y sector yn 0.5 y cant yn unig, adroddodd llawer o leoliadau golled ariannol yn 2023. Felly, ynghyd â mwynhau perfformiadau o'r gynulleidfa, pa gymorth pellach y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i leoliadau fel Neuadd y Frenhines i sicrhau eu goroesiad? Diolch, Dirprwy Lywydd.
Wel, diolch i Sam Kurtz am y cwestiwn pwysig yna. Rwy'n credu bod angen i mi fod yn glir ei fod yn berfformiad byw o Calendar Girls, yn cynnwys artistiaid dewr iawn, roeddwn i'n teimlo. [Chwerthin.] Beth bynnag, nid dyna oedd fy unig ymweliad â'r neuadd, ac rwy'n gobeithio bod yno eto, wrth gwrs. Edrychwch, rwy'n rhannu llawer o'r hyn a ddywedodd Sam Kurtz yn y cwestiwn dilynol yna, Dirprwy Lywydd. Mae'n bwysig iawn bod gennym ni leoliadau cerddoriaeth fyw yma yng Nghymru. Mae'r diwydiant o dan bwysau; rydym ni'n gwybod hynny. Rhai o'r ffyrdd y byddwn ni'n ceisio parhau i'w gefnogi yw drwy ymgyrch yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth yn gofyn am ddull a arweinir gan y diwydiant o ychwanegu swm bach at bris tocyn mewn lleoliadau llwyddiannus i gael ei ailddosbarthu i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad. Mae'r Ymddiriedolaeth yn glir iawn ei bod eisiau iddo gael ei arwain gan y diwydiant, yn hytrach na menter gan y Llywodraeth, ac rydym ni wedi gweld enghraifft ddiweddar o hyn yng Nghymru, â digwyddiad yn Arena Abertawe ym mis Chwefror a gododd £10,000 sydd wedyn yn cael ei ddosbarthu i gefnogi'r lleoliadau llawr gwlad hynny. Er bod y diwydiant o dan bwysau, mae'n bwysig dweud bod mwy o leoliadau cerddoriaeth fyw newydd wedi agor yng Nghymru y llynedd nag a gaewyd, ac mae'n rhaid i ni gymryd rhywfaint o hyder o'r ffaith bod gennym ni sector mor fywiog ac ymroddedig yma yng Nghymru.
Yn gyntaf, hoffwn dynnu sylw at lwyddiant y Bunkhouse yn Abertawe o ran darparu cerddoriaeth fyw. Mae'r rhent ar gyfer lleoliadau cerddoriaeth wedi cynyddu 37.5 y cant ar gyfartaledd. Bydd gostyngiad yn y gyfradd llog ond yn arwain at gynnydd mawr pellach mewn rhenti. Dyma lle mae'r pwysau ar leoliadau cerddoriaeth yn dod—mae'n dod o'r rhenti sy'n cael eu codi. Rwy'n falch bod y Prif Weinidog yn cefnogi'r syniad o ardoll i'r sector ac rwy'n gobeithio y bydd yn gwneud popeth i sicrhau bod ei olynydd yn ychwanegu at y pwysau hefyd i gael yr ardoll honno hefyd, oherwydd mae'n hynod bwysig. Gall swm bach ar docyn olygu llawer iawn pan fydd degau o filoedd yn cael eu gwerthu er mwyn helpu lleoliadau llai o faint. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i longyfarch Arena Abertawe ar ychwanegu ardoll, ac a fydd yn dweud y byddai'n hoffi i'r holl leoliadau eraill sy'n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol a sectorau cyhoeddus eraill wneud yr un peth?
Wel, diolch yn fawr iawn i Mike Hedges am hynny. Yn bersonol, rwy'n cytuno'n eithaf cryf â'i bwynt cyntaf y gallwch chi weithiau, yn y maes hwn, feddwl eich bod chi'n gwneud rhywbeth sydd o fudd i'r lleoliad ei hun dim ond i ddarganfod mai'r cyfan rydych chi wedi'i wneud mewn gwirionedd yw rhoi arian ym mhocedi landlordiaid sy'n codi'r rhenti hynny ar y lleoliadau yn y lle cyntaf. Un o'r pethau sydd wedi digwydd yng Nghymru yn ddiweddar yw bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu set newydd o grwpiau rhanddeiliaid cerddoriaeth, ac un o'r materion ar yr agenda i'w drafod yn y grwpiau hynny yw'r syniad hwn o ardoll ledled y diwydiant. Nawr, ar hyn o bryd, rwy'n credu bod rhai arwyddion cynnar iawn bod y syniad hwnnw'n dechrau cydio. Yr hyn sydd ei angen arnom, serch hynny, yw dull mwy trefnus a chynhwysfawr o ymdrin â hyn nad yw'n dibynnu ar gymhelliant lleoliadau unigol i wneud y peth iawn. Mae angen dull mwy cynhwysfawr arnom fel bod y diwydiant yn gallu defnyddio'r adnoddau sy'n cael eu cynhyrchu ar raddau mawr iawn yn y diwydiant hwn yn well, bod rhan fach o'r adnoddau hynny'n cael ei hailgylchu i gefnogi cerddoriaeth fyw mewn lleoliadau cymunedol ac yn datblygu'r artistiaid a fydd yn artistiaid amlwg a llwyddiannus yn y dyfodol.
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wnaed i sicrhau diogelwch tomenni glo yn y Rhondda? OQ60861
Llywydd, hyd yma, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £16 miliwn i Rondda Cynon Taf drwy gynlluniau grant diogelwch tomenni glo, gan gynnwys dros £10 miliwn o gyllid ar gyfer adfer tomen Tylorstown. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod ein cymunedau glo yn ddiogel yn y Rhondda a ledled Cymru.
Diolch, Prif Weinidog. Roedd y golygfeydd ar draws y Rhondda yn ystod storm Dennis yn 2020 yn erchyll. Fe anfonodd fideos o'r tirlithriad yn Tylorstown donnau sioc o bryder ar draws ein holl gymunedau yn y Rhondda. Rwy'n cofio ymweld â'r safle yn Tylorstown a'r safle yn Wattstown gyda chi yn y gwynt a'r glaw cyn cael fy ethol i'r lle hwn. Hoffwn gofnodi 'diolch' twymgalon, ar ran trigolion y Rhondda, am flaenoriaethu diogelwch tomenni glo yn ystod eich cyfnod fel Prif Weinidog, am y miliynau ar filiynau o gyllid Llywodraeth Cymru i nodi, adolygu a, lle bo angen, adfer tomenni glo i sicrhau diogelwch ein preswylwyr. Pe bai'n cael ei adael i Lywodraeth y DU, byddem yn dal i aros am y cyllid hwnnw, felly diolch.
Rydyn ni mewn sefyllfa llawer gwell nawr, ond, fel erioed, mae yna waith i'w wneud o hyd. Felly, hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog un tro olaf pa mor bwysig yw hi fod diogelwch tomenni glo yn parhau i fod yn flaenoriaeth yn y dyfodol.
Wel, Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr iawn i Buffy Williams am y cwestiwn atodol hwnnw. Bydd unrhyw un sydd wedi cael ei fagu yn y mudiad Llafur ac unrhyw un sydd wedi cael ei fagu yn y Rhondda wedi'i siapio gan hanes mwyngloddio glo yng Nghymru. Dirprwy Lywydd, rwy'n cofio'n fyw fy mod i newydd fynd i'r ysgol uwchradd yng Nghaerfyrddin ac fe ddychwelais i adref ar brynhawn Hydref ac, wrth i mi ddod i mewn i'r tŷ, roeddwn i'n gwybod bod rhywbeth o'i le, oherwydd roedd y teledu ymlaen, a doedd y teledu byth ymlaen yr adeg honno o'r dydd yn fy nhŷ i. Y rheswm roedd y teledu ymlaen oedd bod golygfeydd o Aberfan eisoes yn cael eu dangos arno. A phan symudodd y domen honno yn Tylorstown ym mis Chwefror 2020, i unrhyw un a'i gwelodd ac yn sicr i unrhyw un a oedd yn byw gerllaw, daeth y cannoedd o filoedd o dunelli hynny o rwbel a symudodd i lawr ochr y mynydd i'r wyneb, unwaith eto, yr holl atgofion hynny a'r hanes gwerinol hwnnw o'r difrod a wnaed i Gymru ac i gymunedau Cymru gan y dreftadaeth ddiwydiannol honno.
Cyn diwedd y mis hwnnw ym mis Chwefror, roeddem wedi sefydlu grŵp a gadeiriwyd ar y cyd rhyngof fi ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, Simon Hart. Ac er ein bod wedi mynd ymlaen i gael gwahaniaethau barn, roeddwn i bob amser yn meddwl ei fod yn ddiffuant iawn yn ei ymateb uniongyrchol i'r digwyddiadau hynny a'i ddymuniad i fod yn rhan o ddatrysiad, oherwydd, yma yng Nghymru, dydy'r holl offer ddim ar gael i ni. Mae'r Awdurdod Glo, partner hanfodol wrth y bwrdd hwnnw, yn awdurdod annatganoledig. O ganlyniad i hynny i gyd, mae gennym ni raglen archwilio—350 o archwiliadau—o'r tomenni sy'n peri'r risg fwyaf yng Nghymru dros y gaeaf hwn yn unig. Mae gennym ni raglen fuddsoddi. Ac yno rwy'n cytuno, wrth gwrs, â'r hyn a ddywedodd Buffy Williams. Mae'n siom barhaus, er gwaethaf yr ymdrechion enfawr y mae Rebecca Evans wedi'u gwneud gyda Phrif Ysgrifenyddion olynol i'r Trysorlys, nad ydym wedi gallu perswadio Llywodraeth y DU i gynnig ei chyfraniad at adfer hanes sy'n rhagflaenu datganoli o ddegawdau. A nawr, wrth gwrs, bydd gennym ni raglen o weithredu deddfwriaethol. Gofynnir i mi weithiau beth rwy'n edifar amdano yn ystod yr amser y bûm yn Brif Weinidog, ac mae'n edifar gennyf fod profiad COVID wedi golygu nad ydym eto wedi cael y Bil diogelwch tomenni glo hwnnw o flaen y Senedd. Ond fe fydd yn dod. Bydd yn digwydd yn ystod tymor y Senedd hon. A bydd yn darparu fframwaith deddfwriaethol modern i sicrhau y bydd rheoleiddio ac archwilio pyllau glo segur a thomenni eraill yng Nghymru yn cael ei wneud mewn ffordd a fydd yn rhoi hyder i'r poblogaethau lleol hynny. Ac rwyf wedi bod, a bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i'r dasg honno.
Prif Weinidog, mae sicrhau diogelwch tomenni glo segur yn hollbwysig wrth ddiogelu ein cymunedau, nid yn unig yn y Rhondda ond ledled Cymru gyfan, ac rwy'n credu bod yn rhaid canmol Llywodraeth Cymru ar y camau y mae wedi'u cymryd. Fel y gwyddoch, mae llawer o'r tomenni glo segur hyn wedi dod yn noddfeydd i fywyd gwyllt, nid yn unig i anghenfil Maerdy a bwystfil Beddau a'u tebyg ond ar gyfer llawer o blanhigion ac anifeiliaid a ffyngau eraill. Yn anffodus, fel y gwyddoch i gyd, mae Cymru'n colli ei bioamrywiaeth ar raddfa ddigynsail, gydag un o bob chwe rhywogaeth bellach dan fygythiad o ddifodiant, ac mae pryderon wedi'u codi gyda mi am yr effaith amgylcheddol y gallai unrhyw waith adfer tomenni ei chael. Gyda hyn mewn golwg, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau'r effaith amgylcheddol wrth gynnal diogelwch y tomenni ar yr un pryd? Diolch.
Wel, diolch i Joel James am yr hyn a ddywedodd, Dirprwy Lywydd, ond mewn gwirionedd rwy'n credu bod adfer tomenni glo yn gyfle o ran bioamrywiaeth, yn yr un modd ag y gofynnodd James Evans i mi am y cyfleoedd sy'n deillio o adfer mwyngloddiau metel, felly rwy'n credu bod y gwaith sydd wedi mynd rhagddo yn Tylorstown, er enghraifft, yn enghraifft galonogol iawn o sut y gallwch chi adfer tomenni glo mewn ffordd sydd nid yn unig yn gwarchod bioamrywiaeth ond sy'n ei wella ar gyfer y dyfodol. Pan oeddwn i yno gydag arweinydd y cyngor, Andrew Morgan—ac fe ddylem ni fod yn talu teyrnged i'w arweinyddiaeth yn y maes hwn y prynhawn yma—yr hyn a welsom oedd dôl blodau gwyllt gwbl newydd yn cael ei chreu, yn cael ei chreu'n ofalus iawn trwy symud glaswellt o un rhan o'r safle i'r llall, a phenderfyniad y byddai'r miliynau o bunnoedd oedd yn cael eu gwario, am resymau diogelwch yn bennaf, yn dod â llawer o fanteision eraill i'r gymuned leol honno. Ac wrth i bobl weld hynny'n aeddfedu ac yn sefydlu ei hun uwchben Tylorstown yn y dyfodol, rwy'n credu y bydd pobl yn gweld nid yn unig y byddan nhw'n fwy diogel, ond bod eu dyfodol amgylcheddol wedi bod wrth wraidd y meddylfryd sy'n sail i'r ffordd y mae'r buddsoddiad hwnnw wedi'i wneud.
Diolch, Prif Weinidog, am amlinellu'r cyfleoedd yn ogystal â'r bygythiadau a amlinellwyd gan y tomenni glo sy'n weddill yma yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod yn bwysig myfyrio ar y sylwadau rydych chi wedi'u gwneud yn barhaus ynglŷn â'r ffaith hynod siomedig na fydd Llywodraeth y DU yn cymryd cyfrifoldeb dros hyn. Mae wedi bod yn waddol yr ydym wedi'i hetifeddu, ac mae'n warth llwyr nad ydyn nhw'n sefyll i fyny, ysgwydd wrth ysgwydd, gyda ni yma yng Nghymru i sicrhau nad yw'r bygythiad hwn yno i'n cymunedau mwyach.
Ym mis Tachwedd fe wnaethoch chi ysgrifennu at holl Aelodau'r Senedd ac ASau yn yr hyn a ddylai fod wedi bod yn llythyr ar y cyd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y mater hwn. A gaf i ofyn, ers hynny, a oes unrhyw newid wedi bod gan Lywodraeth y DU? Fe allwn, wrth gwrs, obeithio er gwaethaf popeth yn hynny o beth. Ond hefyd, o edrych i'r rhai sy'n gobeithio ffurfio Llywodraeth nesaf y DU, eich cydweithwyr Llafur, a oes unrhyw symudiad neu ymrwymiad wedi bod fel y gallwn ni unioni'r cam hwn unwaith ac am byth, a sicrhau nad yw ein cymunedau'n dioddef mwyach oherwydd bod Llywodraeth y DU yn gwrthod wynebu eu cyfrifoldebau?
Wel, Dirprwy Lywydd, roeddwn i'n siomedig nad oedd Ysgrifennydd Gwladol presennol Cymru wedi llofnodi'r llythyr hwnnw. Roedd wedi cytuno i'w lofnodi ar y cyd, mewn cyfarfod a gawsom dim ond ychydig ddyddiau cyn i'r llythyr gael ei gyhoeddi, ac rwy'n credu y byddai ei ragflaenydd wedi gwneud hynny. Nawr, dro ar ôl tro, rwy'n gwybod bod y Gweinidog cyllid a Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r achos hwn i orymdaith hir o Weinidogion y DU. Dirprwy Lywydd, mae'r datganiad o egwyddorion cyllido yn gwbl glir ar y mater hwn. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ariannu rhwymedigaethau oherwydd gweithredoedd a ddigwyddodd cyn datganoli. A'r hyn yr ydym yn ei weld mewn oes o newid hinsawdd yw nad yw'r gwaith a wnaed mewn blynyddoedd blaenorol i sicrhau bod tomenni glo yn ddiogel yn ddigonol mwyach i wrthsefyll y digwyddiadau tywydd eithafol a welsom, fel y dywedodd Buffy Williams, yn y mis Chwefror hwnnw yn 2020.
Rydym wedi cyflwyno ein cais i Lywodraeth y DU, rwy'n credu, mewn ffordd hawddgar a chydweithredol. Dydyn ni ddim yn gofyn iddyn nhw dalu am bopeth sy'n digwydd yng Nghymru; rydyn ni'n gofyn iddyn nhw wneud yr un cyfraniad â ni, oherwydd mae hynny'n golygu y gallwn ni wneud mwy a'i wneud yn gyflymach. Mae'n destun siom barhaus i mi, o gael cyfle i ddangos pam mae aelodaeth o'r Deyrnas Unedig yn fuddiol i bobl sy'n byw yng Nghymru, nad yw Llywodraeth bresennol y DU wedi bod yn fodlon gwneud hynny.
6. Pa gyngor fydd y Prif Weinidog yn ei roi i'w olynydd i sicrhau y caiff pŵer ei drosglwyddo'n ddidrafferth ac y bydd y llywodraeth yn gweithredu'n effeithiol? OQ60863
Dirprwy Lywydd, meddyliais i am gyfeirio'r cwestiwn hwn at Liz Truss—[Chwerthin.]—ond, gan nad wyf wedi cael ateb, dywedaf mai fy nghyngor i fy olynydd yw bod yn feiddgar, defnyddio ei amser fel Prif Weinidog, fel y gwn y bydd yn ei wneud, i wneud y pethau uchelgeisiol, egnïol a phenderfynol hynny, ac i arwain Llywodraeth yn nhraddodiad radical gwych Llafur Cymru.
Diolch, Prif Weinidog. Er fy mod i'n gobeithio y bydd eich olynydd yn ymgymryd â rôl Prif Weinidog yn yr un modd tawel a chyson ag yr ydych chi wedi'i wneud, does dim gwadu bod gan y Prif Weinidog newydd fynydd i'w ddringo o ran mynd i'r afael â'r rhestrau aros enfawr yn ein GIG, sicrhau bod busnesau bach yn goroesi, a gweithio i adnewyddu'r berthynas rhwng ein cymunedau gwledig a threfol. Nawr, rydym bob amser wedi bod yn adeiladol yn ein gwrthwynebiad, ac mae fy thrigolion yn Aberconwy eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn cael ei chymryd i gyfeiriad a fydd nawr yn annog twf a chynaliadwyedd trwy stopio'r toriadau hyn i ryddhad ardrethi busnes, darparu 12,000 o gartrefi newydd yma, ymestyn y dyddiau ar gyfer gwersylloedd dros dro i 60 diwrnod, gweithio gyda ffermwyr i sefydlu cynllun ffermio nad yw'n peryglu diogelwch bwyd yng Nghymru, ac ymrwymo i refferendwm ar Fil diwygio'r Senedd. Mae yna gyfle go iawn i newid yma.
Felly, gofynnaf i'r Prif Weinidog: yn gwbl onest, a oes unrhyw awgrymiadau yr ydym wedi'u cyflwyno yn ystod eich daliadaeth, fel y Ceidwadwyr Cymreig, y byddech chi'n annog eich olynydd i'w mabwysiadu a'u rhoi ar waith? [Chwerthin.] Llongyfarchiadau, a phob lwc wrth symud ymlaen, Prif Weinidog.
Wel, Llywydd, yn ysbryd y prynhawn, rwy'n cofio mai'r digwyddiad cyntaf a fynychais fel Aelod o'r Senedd yn dilyn fy ethol oedd rhannu llwyfan gyda Janet Finch-Saunders. Mae'n rhaid mai ni oedd y ddau berson olaf allan o'r lifft, oherwydd anfonwyd y ddau ohonom i ymddangos ar lwyfan mewn cynhadledd gwasanaethau cymdeithasol ar fyr rybudd, a heb fawr o gyfle i feddwl am yr hyn y gallem ei ddweud pan gyrhaeddon ni yno.
Rwyf am fod yn adeiladol wrth ateb cwestiynau'r Aelodau, felly fe rhoddaf enghraifft iddi o'r rhestr y darllenodd hi allan, oherwydd rydyn ni wedi trafod meysydd gwersylla dros dro o'r blaen, a'r angen i sicrhau ein bod yn moderneiddio'r gyfraith, fel y mae fy nghyd-Aelod Julie James yn ystyried ei wneud o ran hawliau datblygu a ganiateir. Felly, dyna fater lle credaf y gallem ddweud ein bod ni wedi gwrando'n astud ar yr hyn y mae eraill wedi'i ddweud, wedi clywed yr Aelod dros Aberconwy yn eirioli dros y newid hwnnw. Ac er y byddwn ni'n ei wneud yn ofalus—oherwydd, fel rydyn ni wedi sôn o'r blaen, mae yna bobl sy'n byw yn lleol sydd hefyd â diddordebau y mae'n rhaid i ni eu hystyried—dyna enghraifft o rywbeth yr ydym wedi gallu gweithio arno gyda'n gilydd.
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi plant a phobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr? OQ60857
Diolch i Sarah Murphy, Llywydd. Ymhlith y nifer o ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi plant a phobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr yw drwy gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Mae pobl ifanc 16 ac 17 oed, diolch i'r Senedd hon, yn gallu pleidleisio mewn etholiadau yng Nghymru, gan greu dinasyddion hyderus, gwybodus ac ymroddedig yng Nghymru'r dyfodol.
Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog. Fel y mae llawer o fy nghyd-Aelodau wedi'i wneud heddiw, hoffwn gymryd ychydig gamau'n ôl i ganolbwyntio ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud dros y pum mlynedd diwethaf, yn enwedig i bobl ifanc a phlant ledled Cymru. Rydych eisoes wedi crybwyll, o dan eich arweinyddiaeth, ein bod wedi cyflwyno Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, a roddodd yr hawl i bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio am y tro cyntaf, ar lefel leol ac yn y Senedd. Cam enfawr ymlaen drwy ganiatáu i'r rhai a fydd yn cael eu heffeithio gan ein penderfyniadau gyfrannu at ein system. Ac rwy'n gwybod bod llawer o bobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl wedi cymryd rhan, ac rwy'n siŵr, Brif Weinidog, y byddwch chi'n ymuno â mi wrth ddweud fy mod i'n gobeithio y bydd llawer mwy yn pleidleisio eto yn 2026.
Hoffwn hefyd nodi Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020, a sicrhaodd fod pob math o gosb gorfforol tuag at blant yn anghyfreithlon. Dim mwy o fannau llwyd i bobl guddio y tu ôl iddyn nhw, dim mwy o amddiffyn cosb resymol, a dim mwy o niwed corfforol i'r rhai nad oes ganddyn nhw'r pŵer i amddiffyn eu hunain. Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i wneud hynny—newid gwirioneddol ryfeddol, a, gobeithio, rhywbeth y bydd gweddill y DU yn ei fabwysiadu hefyd.
Ac yna, yn olaf, hoffwn i grybwyll y cynllun peilot incwm sylfaenol, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru—
Na, mae angen i chi ofyn eich cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda.
—i gefnogi'r rhai sy'n gadael gofal ar ôl eu pen-blwydd yn ddeunaw oed. Y pethau hyn i gyd—rydyn ni wedi gwneud cymaint mewn pum mlynedd. Felly, pa gamau ydych chi'n credu y dylai Llywodraeth Cymru fod yn eu cymryd i gefnogi'r rhai sydd ein hangen ni yn y dyfodol hefyd? Diolch.
Wel, a gaf i ddiolch i Sarah Murphy am y cwestiwn hwnnw, Lywydd? Hoffwn ddiolch iddi am dynnu sylw at y camau a gymerwyd gennym fel Llywodraeth i ddiddymu'r amddiffyniad o gosb resymol. Pan edrychaf yn ôl dros yr amser rwyf wedi'i dreulio yn y Siambr hon, rwy'n credu ei fod yn un o'r adegau mwyaf balch i'r rhai ohonom sydd ar ben blaengar gwleidyddiaeth i fod wedi uno o'i gwmpas. Faint ydw i'n ei gofio am yr hyn a ddywedwyd wrthym ar y pryd? Roedd hyn i fod yn ddiwedd gwareiddiad fel yr oeddem yn ei wybod, byddai hawliau rhieni yn cael eu tanseilio, byddem yn colli etholiad. Pan ydych chi'n gwneud pethau blaengar, dydych chi byth yn eu gwneud heb frwydr. Ac mae wastad buddiannau breintiedig sy'n ceisio eich dal yn ôl. Fe gymerodd hi 20 mlynedd, o'r adeg y cafodd Christine Chapman, cyn-gydweithiwr i ni yma, a Julie Morgan, yn ei chyfnod yn Senedd San Steffan—20 mlynedd ers i'r syniad hwnnw gael ei gyflwyno iddo ddigwydd yma yng Nghymru. Mae Cymru yn lle gwell o ganlyniad i'r darn hwnnw o ddeddfwriaeth, ac mae plant yn cael eu diogelu'n well o ganlyniad.
Edrychaf ymlaen at weld y ddeddfwriaeth gofal cymdeithasol yn dod ymlaen i lawr y Senedd hon yn fuan ar ôl y Pasg, lle, ar yr ochr hon i'r Siambr, ac rwy'n gwybod bod eraill hefyd, yn benderfynol o ddileu mynd ar drywydd elw preifat mewn gwasanaethau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Bydd hynny'n gam pwysig arall ymlaen ar y daith y mae llawer ohonom ni yma wedi bod arni gyda'n gilydd.
Ac yn olaf, Mabon ap Gwynfor, cwestiwn 8.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gaf i gymryd y cyfle i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei wasanaeth hir i fywyd cyhoeddus yng Nghymru, gyda llaw, hefyd?
8. Pa drafodaethau y mae'r Llywodraeth wedi'u cael gyda sefydliadau cymorth brys a dyngarol ynghylch darparu cymorth i Gaza? OQ60884
Diolch yn fawr i Mabon ap Gwynfor. Llywydd, pan fydd Llywodraeth Cymru'n helpu i ddarparu cymorth brys, gwnawn hynny drwy waith y Pwyllgor Argyfyngau Brys. Os bydd y pwyllgor yn lansio apêl am gymorth i Gaza, byddwn i'n disgwyl i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol gymryd rhan ynddi.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna. Mi fydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r argyfwng anferthol sydd yn Gaza. Nid yn unig bod yna dros 30,000 o bobl wedi cael eu lladd, 70 y cant ohonyn nhw'n blant ac yn ferched, a hynny o ganlyniad i ryfel rhwng Israel a Hamas, ond, erbyn hyn, mae yna argyfwng dyngarol o'r math nad ydym ni wedi ei weld ers degawdau yn wynebu pobl Gaza. Mae yna 1.7 miliwn o bobl yna yn wynebu newyn anferthol. Dydyn ni ddim wedi gweld y math yma o ddigwyddiad ers degawdau, a'r unig ffordd i ddiwallu anghenion y bobl yna ydy cymryd nwyddau i mewn ar y tir. Ond yn anffodus, oherwydd y rhyfel, mae nifer o'r cyrff dyngarol yn methu â chyrraedd y bobl yna. Y sefydliad dyngarol mwyaf dylanwadol, fel rydych chi wedi sôn, ydy'r DEC, ond, yn anffodus, mae'r DEC yn methu â datgan yr angen i gynnal apêl oherwydd y rhyfel. Mae'n rhaid, felly, cael cadoediad er mwyn sicrhau bod y DEC yn medru cael apêl a chymryd nwyddau i mewn. Felly, fel eich gweithred olaf—neu un o'ch gweithredoedd olaf—fel Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno efo'r galwadau i gael cadoediad yn Gaza, a sicrhau bod y Llywodraeth yma, felly, yn mynd i gefnogi unrhyw apêl gan y DEC i gefnogi'r trueiniaid yno?
Llywydd, diolch yn fawr i Mabon ap Gwynfor. Rydyn ni'n dod i ben â chwestiwn pwysig dros ben i bobl dros y byd, a hefyd i bobl yma yng Nghymru sydd ag aelodau o'u teuluoedd yn Gaza ac sy'n becso bob dydd am beth sy'n mynd ymlaen yna. Wrth gwrs, rydyn ni eisiau gweld cadoediad i bopeth sy'n mynd ymlaen yna. Dyna'r rheswm, fel y mae Mabon ap Gwynfor wedi ei ddweud, pam nad yw'r pwyllgor yn gallu bod ar y tir yna, a heb fod ar y tir, dydyn ni ddim yn gallu dosbarthu'r cymorth y mae ei angen fwyaf arnynt. So, rydyn ni'n edrych ymlaen fel Llywodraeth—. Fel rydyn ni wedi cyfrannu at apêl pan oedd hi'n dechrau yng nghyd-destun Wcráin, neu Affganistan, neu Dwrci, neu Bacistan, rydyn ni wedi rhoi arian oddi wrth bobl yng Nghymru i helpu pobl ar y tir. Rydyn ni'n edrych ymlaen at wneud yr un peth yn Gaza, ac i'w wneud e mor gyflym ag sydd yn bosib.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Ac a gaf i ddweud diolch am eich cyfraniadau yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ers—? Cefais i fy ethol hefyd ar yr un diwrnod â chi, Brif Weinidog, a'ch olynydd, felly rwyf i wedi bod yn eistedd ar y meinciau cefn gyda chi, rwyf i wedi eistedd yn y Gadair yn eich holi chi fel Gweinidog, ac rwyf i wedi cael y fraint nawr o eistedd yn y Gadair hon a gwrando ar eich atebion yng nghwestiynau'r Prif Weinidog. Felly, diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr. [Cymeradwyaeth.]
Eitem 2 yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a galwaf ar y Trefnydd, Lesley Griffiths.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae nifer o newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad ymddiswyddo. Bydd y datganiadau ar y rhaglen buddsoddi mewn rheoli perygl llifogydd ac ailgydbwyso gofal a chymorth yn cael eu cyhoeddi fel datganiadau ysgrifenedig. Yn olaf, mae dadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel) wedi'i hychwanegu at yr agenda, yn amodol ar atal y Rheolau Sefydlog. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Dirprwy Lywydd, yr wythnos diwethaf, yn ystod y cwestiynau i'r Trefnydd, defnyddiais i ystadegau anghywir ynghylch nifer yr adroddiadau atal marwolaethau yn y dyfodol sydd wedi'u cyhoeddi o ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rwy'n ymddiheuro am y camgymeriad hwnnw ac rwy'n derbyn cyfrifoldeb llawn am y ffigurau y gwnes i eu defnyddio. Ond mae sylwedd y mater y gwnes i, ac yn wir, y gwnaeth Llyr Gruffydd, ei godi yn y Senedd yr wythnos diwethaf yn dal i sefyll, a hynny yw bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dal yn allanolyn o ran cyfran yr adroddiadau atal marwolaethau yn y dyfodol sy'n cael eu cyhoeddi o ran eu gwasanaethau. Yn 2023 roedd y bwrdd iechyd yn cyfrif am 64.7 y cant o adroddiadau atal marwolaethau yn y dyfodol Cymru a 16.2 y cant o atal adroddiadau marwolaethau yn y dyfodol ar draws Cymru a Lloegr gyfan. Rwy'n gwybod bod Aelodau eraill o'r gogledd yn pryderu am yr adroddiadau hyn a'u cynnwys, ac roeddwn i'n ddiolchgar i'r Trefnydd yr wythnos diwethaf am awgrymu y bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ysgrifennu ataf i ynglŷn â'r materion hynny.
Nawr, os caf i droi at fusnes yr wythnos hon, un o'r materion a godwyd gan etholwyr gyda mi yn ddiweddar, yw pryderon am y cynnydd sylweddol yng nghostau gwasanaethau deintyddol y GIG, a fydd yn dod i rym ar 1 Ebrill. Rwy'n gwybod bod Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru wedi'i alw'n 'ddigynsail' ac mae'n ymddangos bod y cynnydd yn amrywio hyd at 27.7 y cant ar gyfer triniaeth band 2. Nawr, yn amlwg, mae hynny'n swm sylweddol. Rydyn ni'n gwybod bod chwyddiant wedi bod yn mynd rhagddo ar lefelau sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond nid yw erioed wedi cyrraedd 27.7 y cant. A gaf i ofyn i Lywodraeth Cymru am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynghylch pam eu bod yn ystyried y math hwnnw o gynnydd yn briodol, yn enwedig o ystyried yr heriau costau byw y mae pobl wedi bod yn ymdopi â nhw yn ystod y blynyddoedd diwethaf? Diolch.
Diolch. Rwy'n gwerthfawrogi sylwadau'r Aelod am y cwestiwn y cododd gyda mi yr wythnos diwethaf, ac yn bendant, fe wnaf i sicrhau bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ysgrifennu atoch chi, oherwydd rwy'n credu bod y pwynt sylweddol y gwnaethoch chi yn dal i fod yn berthnasol iawn.
O ran gweithgarwch deintyddol, byddwch chi'n ymwybodol, erbyn hyn, fod gennym ni 92 y cant o weithgarwch deintyddol sydd wedi'i gomisiynu yn y gogledd yn gweithredu o dan y trefniadau diwygio newydd y mae'r Gweinidog wedi'u cyflwyno, gan alluogi dros 55,000 o gleifion newydd i fanteisio ar ofal deintyddol y GIG ers mis Ebrill 2022. Rwy'n ymwybodol, pan gafodd costau triniaeth ddeintyddol eu hystyried, mai'r bwriad oedd ceisio'u cadw mor isel â phosibl. Yn amlwg, nid yw taliadau deintyddol wedi codi yn y ffordd yr ydych chi'n cyfeirio ato, ond nid wyf i'n ymwybodol bod unrhyw beth arall, mewn gwirionedd, i'w ddweud cyn gweithredu'r taliadau deintyddol ar 1 Ebrill.
Daeth Paul Davies i’r Gadair.
Trefnydd, cafodd datganiad ysgrifenedig ei gyhoeddi'r wythnos diwethaf ar 'Teithio gan Ddysgwyr yng Nghymru dadansoddi a gwerthuso: adroddiad argymhellion Rhagfyr 2023'—hir disgwyliedig. Byddwch chi'n ymwybodol o faint o gwestiynau sydd wedi eu gofyn ar y mater hwn, ac eto datganiad ysgrifenedig, nid cyfle i ofyn cwestiynau i'r Gweinidog, yn enwedig o ystyried na fydd unrhyw newidiadau. Rydyn ni'n deall sefyllfa ariannol Llywodraeth Cymru, ond, siawns bod geiriau Comisiynydd Plant Cymru yn dweud y cyfan, am blant yn cael eu siomi gan y penderfyniad i beidio â newid cyfreithiau cludiant i'r ysgol. Mae llawer iawn o bryder ar bob lefel, o rieni i'r disgyblion eu hunain. Rydyn ni'n ymwybodol bod absenoldebau ysgol yn uchel ac un o'r materion a nodwyd oedd rhwystrau cost cludiant i'r ysgol. Felly, a gaf i ofyn, ble mae hyn yn mynd nawr? Ac a fydd cyfle i ni drafod yr adroddiad hwnnw yma yn ddigonol yn y Siambr, o gofio ei fod yn effeithio ar bawb yr ydyn ni'n eu cynrychioli yma yng Nghymru?
Diolch. Rwy'n gwerthfawrogi'ch sylwadau ynghylch nifer yr etholwyr, yn amlwg, i bob un ohonon ni y mae hyn yn ei effeithio arnom. Nid oedd amser cyn toriad y Pasg, yn anffodus, i gyflwyno hyn ym musnes y Llywodraeth, ond rwy'n siŵr y bydd modd ei ystyried yn dilyn toriad y Pasg.
Byddwn i'n croesawu'r wybodaeth ddiweddaraf ar lafar neu'n ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd o ran y newidiadau sy'n dod i mewn i reoliadau ailgylchu masnachol. Nawr bod dyddiad gweithredu 6 Ebrill yn agosáu'n gyflym, mae elusennau, yn benodol, yn cysylltu â fy swyddfa i ofyn pa gymorth—ariannol neu fel arall—a fydd yn cael ei ddarparu i'w helpu nhw i addasu, gan gynnwys cost biniau newydd amryfal a chreu'r lle i storio gwastraff ailgylchu. Mae YMCA Cwm Aber yn Abertridwr, er enghraifft, sy'n fenter gymdeithasol drwyddi draw, ac mae Tŷ Hafan, sydd â siop yng Nghaerffili, wedi cysylltu â mi am hyn, ac fe wnes i ymweld â'r ddau safle. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili hefyd wedi mynegi eu pryderon am yr effeithiau anfwriadol y gallai'r newidiadau hyn eu cael ar fusnesau bach a sefydliadau dan arweiniad gwirfoddolwyr. Felly, a gaf i ofyn am yr wybodaeth honno ar ba gymorth y byddai modd ei ddarparu, o bosibl, ar gyfer y mathau hynny o sefydliadau?
Diolch. Rydych chi'n hollol gywir—bydd y rheoliadau ailgylchu yn y gweithle yn dod i rym ar 6 Ebrill. Mae'r Gweinidog, yn amlwg, wedi gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol cyn gweithredu hyn. Yr hyn y bydd y rheoliadau yn ei wneud yw ei gwneud hi'n ofynnol i bob gweithle—ac mae hynny'n cynnwys busnesau, sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector—i wahanu eu deunyddiau ailgylchadwy allweddol ar gyfer ailgylchu. Rydyn ni wedi cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon i wella ansawdd a maint y deunydd ailgylchu y gallwn ni ei gasglu yma yng Nghymru. Fel y gwyddoch chi, mae gennym ni uchelgais i fod ar y brig yn y byd o ran ein cyfraddau ailgylchu. Rydyn ni'n gwybod y bydd hyn yn lleihau gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi a llosgi. Bydd hefyd yn lleihau ein hallyriadau carbon, wrth symud ymlaen, ac, rwy'n credu, yn cynrychioli cam allweddol ymlaen yn ymrwymiad Cymru i gyrraedd sefyllfa dim gwastraff a dim allyriadau carbon net erbyn 2050.
Weinidog, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynghylch pa drafodaethau y mae hi wedi'u cael gyda bwrdd iechyd Aneurin Bevan yng ngoleuni ail ddigwyddiad lle cafodd corff anghywir person marw ei ryddhau i deulu. Ceisiais i fy ngorau glas i gael atebion gan y Gweinidog iechyd yr wythnos diwethaf, Weinidog, drwy gyflwyno cwestiwn brys a chwestiwn amserol, ond yn anffodus cawson nhw eu gwrthod. Mae'r ddau ddigwyddiad hyn yn ddifrifol a gofidus iawn ac rwy'n meddwl am bawb dan sylw. Mae unwaith yn annerbyniol, Weinidog. Fodd bynnag, mae'r ffaith bod hwn wedi digwydd ddwywaith, yn fy marn i, yn hollol annerbyniol. Ac mae yna gwestiynau pwysicach y mae angen eu hateb o ran sut ar y ddaear y digwyddodd hyn hyd yn oed, nid unwaith ond ddwywaith. Ni ddylai unrhyw deulu orfod mynd trwy rywbeth fel hyn. Gweinidog, rwyf i wedi ysgrifennu at brif swyddog gweithredol y bwrdd iechyd yn mynnu atebion a'r wybodaeth ddiweddaraf—rwyf i hyd yn oed wedi cael ateb—ond mae'n amlwg bod angen gwneud mwy i sicrhau nad yw hyn byth yn cael ei ailadrodd. Rwy'n credu'n gryf mai'r ffordd orau o fynd at wraidd y digwyddiadau dinistriol hyn yw mynd trwy ymchwiliad annibynnol. Byddwn i'n gwerthfawrogi'n fawr iawn ddatganiad brys gan y Gweinidog iechyd yn amlinellu pa drafodaethau y mae hi wedi'u cael gyda'r bwrdd iechyd ynglŷn â'r mater hwn. Diolch.
Diolch. Yn sicr, rwy'n derbyn ei bod yn sefyllfa ofidus iawn. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, neu eu swyddogion hi, wedi siarad â'r bwrdd iechyd, sydd eisoes wedi cymryd camau i fynd i'r afael â'r achos, i atal digwyddiadau yn y dyfodol. Maen nhw hefyd wedi cynnal archwiliad, ac rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol ohono, ac rwy'n gobeithio'u bod nhw wedi mynd i'r afael â hynny yn eu gohebiaeth â chi. Rwy'n gwybod y bydd swyddogion y Gweinidog yn parhau i gyfarfod, a bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau maes o law.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Weinidog yr Economi i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa yn Tata Steel Port Talbot. Mae degau o filoedd o bobl yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli yn wynebu pryder o'r fath. Wrth i'r gweithwyr y mae Tata Steel yn eu cyflogi, eu teuluoedd a'r rhai yn y dref a'i chymunedau cyfagos edrych at y dyfodol, mae'r darlun yn un o ansicrwydd ofnadwy. Mae'r newyddion y gwnaethon ni ei glywed ddoe, sef y bydd y ffyrnau golosg yn y ffatri yn cau yfory—fisoedd yn gynt na'r disgwyl—dros bryderon am yr hyn y mae Tata wedi'i alw'n ei sefydlogrwydd gweithredol, wedi cael ei alw'n 'ergyd enfawr' gan undeb Community, ac mae Unite wedi dweud ei fod yn ganlyniad blynyddoedd o fradychu. Mae hyn yn debygol o effeithio ar ryw 200 o weithwyr ym Mhort Talbot. Er bod diogelwch gweithwyr, wrth gwrs, yn hollbwysig, mae hyn yn achosi pryder enfawr i bob gweithiwr wrth i'r ymgynghoriad barhau. Rwyf i wedi cael negeseuon torcalonnus gan fy etholwyr sydd eisiau gwybod sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio achub eu swyddi, achub ein dur ac achub dyfodol Port Talbot. Rydyn ni wedi cael rhywfaint o wybodaeth gan y Prif Weinidog yn gynharach, ond hoffwn i gael datganiad pwrpasol sy'n disgrifio'n union yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyflwyno'r achos i achub y swyddi hynny ac, yn bwysicach, sut y mae'n sicrhau bod y datblygiadau hynny'n cael eu cyfleu'n brydlon, yn uniongyrchol ac yn glir i'r rhai y mae hyn yn effeithio arnyn nhw.
Diolch. Rwy'n deall yn iawn y trallod y bydd y cyhoeddiad wedi'i achosi. Byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud yn gynharach fod Gweinidog yr Economi wedi siarad â phrif weithredwr Tata Steel UK ynglŷn â'r mater, a dim ond ddoe y cafodd wybod na fydd cau'r ffyrnau'n effeithio ar amserlen cau'r ffwrnais chwyth gyntaf—sef ffwrnais chwyth 5—y mae disgwyl iddi gau, yn amlwg, ddiwedd mis Mehefin. Unwaith eto, byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud ei fod wedi cymeradwyo rhywfaint o gyllid, ochr yn ochr â Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, o ran sgiliau a hyfforddiant, ac rwy'n gwybod y bydd Gweinidog yr Economi yn parhau i gael trafodaethau â Tata.
Trefnydd, rwyf i wedi mynegi pryderon am ymddygiad cyflenwyr ynni a'r ffordd y mae eu hymddygiad yn niweidio preswylwyr ledled Cymru ar sawl achlysur yn y Senedd hon. Yn ddiweddar cysylltodd un etholwr â mi i ddweud bod mwy na £10,000 yn ormod wedi cael ei godi arno, a'i fod yn cael trafferth ei gael yn ôl. Mewn gwirionedd, roedd y cyflenwr yn gwrthod yn llwyr ei ad-dalu. Roedd y person dan straen ariannol difrifol, ac yn ei chael hi'n anodd talu biliau eraill, gan gynnwys ei forgais. Mae canlyniadau ariannol ac iechyd y gweithredoedd hyn yn ddifrifol. Dyma enghraifft arall eto ar restr hir o enghreifftiau ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig. Diolch byth, ar gyfer fy etholwr, gyda chymorth fy swyddfa i, mae'r cyflenwr ynni, erbyn hyn, wedi cytuno i ad-dalu'r arian sy'n ddyledus, ond a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru am y gwasanaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hariannu a sut y gallan nhw gynorthwyo preswylwyr sy'n cael eu hunain mewn sefyllfaoedd tebyg? Diolch.
Diolch. Wel, mae Ofgem yn nodi disgwyliadau clir iawn o'r ffordd y maen nhw'n disgwyl i gyflenwyr ynni drin eu cwsmeriaid, ac mae hynny'n cynnwys camau ar sut y gall yr angen i ddatrys unrhyw anghydfod biliau ddigwydd, ac os edrychwch chi ar wefan Ofgem, mae hynny'n cynnwys llawer o gamau ymarferol y gall cartrefi eu cymryd. Yr hyn y byddaf i'n ei wneud yw gofyn i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol godi'r enghraifft yr ydych chi wedi'i rhoi gydag Ofgem a gofyn am sicrwydd bod eu cyfundrefn reoleiddiol yn dwyn cyflenwyr ynni i gyfrif.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gennych chi fel Gweinidog materion gwledig, neu unrhyw Weinidog dros faterion gwledig yn y dyfodol? Rwyf i wedi ymweld â llawer o ffermydd yn yr etholaeth dros fisoedd lawer, ac mae llawer o'r rheini wedi arallgyfeirio i allu cynnal eu busnes trwy sefyllfaoedd heriol, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno ei bod yn bwysig annog arallgyfeirio yn y sector ffermio. Ond rydyn ni'n gwybod bod rownd olaf y cynllun arallgyfeirio amaethyddol wedi dod i ben ychydig fisoedd yn ôl, ac rwy'n gofyn am ddatganiad ynghylch a yw'r cyllid hwn yn mynd i gael ei barhau neu a fydd cynllun tebyg yn cymryd ei le yn y dyfodol agos. Diolch.
Diolch. Rwy'n cytuno ynghylch arallgyfeirio, ac rwy'n credu bod y sector amaethyddol wedi bod yn dda iawn am ddangos amryw o ffyrdd y mae eu busnesau wedi gallu arallgyfeirio, ac, fel yr ydych chi'n ei ddweud, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi rhywfaint o hyn trwy amrywiaeth o gynlluniau sydd wedi'u hagor a'u cau, ac yn anffodus nid oes un ar agor ar hyn o bryd, ond, yn amlwg, gallwn ni ystyried y cynllun buddsoddi gwledig ac os yw'n bosibl ceisio cyllid o fewn y cynllun hwnnw yn y dyfodol.
Fel yr ydyn ni eisoes wedi clywed, mae'r cyhoeddiad gan Tata o ran y ffyrnau golosg yn golygu colli 200 o swyddi, felly hoffwn i hefyd alw am ddatganiad, naill ai gan Weinidog yr economi neu'r Gweinidog addysg, yn seiliedig ar y wybodaeth yr ydyn ni wedi'i chael heddiw, i gael gwell dealltwriaeth o'r sgyrsiau hynny a ddigwyddodd â Tata yn y cyfnod cyn y penderfyniad hwn, yn ogystal â'r paratoadau sydd wedi'u gwneud, oherwydd ei fod yn haeddu, rwy'n credu, craffu. Mae ein Senedd wedi bod yn unedig yn yr angen i achub ein dur, a bydded i hynny barhau.
Hoffwn i hefyd adleisio galwad fy nghyd-Aelod Heledd Fychan am ddatganiad ar Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Nawr, rwyf i wedi bod yn codi pryderon ynghylch Mesur teithio dysgwyr ers 2021, a'r hyn y mae hynny'n ei olygu, yn y cyfamser, yw bod plant o bob oed yn cerdded dros awr, ymhob tywydd, ar hyd llwybrau peryglus, i gael eu haddysg. Nawr, os ydyn ni'n mynd i fod yn onest am y peth, mae'n fethiant gan y Llywodraeth i'r plant hynny y mae'n rhaid iddyn nhw deithio mor bell i gael eu haddysg. Mae'n haeddu mwy na datganiad ysgrifenedig, ac rwy'n gobeithio gweld un ar ôl y Pasg.
Wel, fel y dywedais i, rydyn ni wedi cyflwyno datganiad ysgrifenedig, ond mae'n rhywbeth y mae modd ei ystyried. O ran y cyllid y mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi'i gyflwyno, y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato, efallai y gallech chi ysgrifennu at y Gweinidog, neu efallai y gallai'r Gweinidog ysgrifennu atoch chi a rhoi copi o'r llythyr yn y llyfrgell.
Dau fater: rwy'n gobeithio ein bod ni i gyd—neu o leiaf y rhan fwyaf ohonom ni—wedi cael ein syfrdanu gan sylwadau Frank Hester yn erbyn yr Aelod Seneddol hirsefydlog, Diane Abbott. Wrth i ni baratoi ar gyfer ein Prif Weinidog du cyntaf, Diane Abbott sydd wedi gwneud y gwaith trwm i normaleiddio presenoldeb amrywiaeth o Aelodau etholedig yn ein Seneddau. Mae'r arian y mae Frank Hester wedi'i wneud wedi dod o'r gwasanaeth iechyd yn bennaf, ac rwy'n credu bod y rhan fwyaf o'r contractau hyn yng ngwasanaeth iechyd Lloegr, ond tybed a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog iechyd neu gan y Llywodraeth i egluro a oes gan y GIG yng Nghymru unrhyw gontractau gyda Phartneriaeth Phoenix.
Yn ail, o ystyried yr adroddiadau pryderus am safon glendid ffatri Kepak ym Merthyr—rwy'n gwerthfawrogi bod Consortiwm Manwerthu Cymru yn ymchwilio—a oes unrhyw beth y mae angen i Lywodraeth Cymru ei wneud, er mwyn sicrhau bod y rhai sy'n gyfrifol am lanhau'r offer yn cael digon o amser i wneud hynny, fel bod pobl sy'n prynu bwyd o amrywiaeth o archfarchnadoedd yn gallu bod yn hyderus nad yw'r cig sy'n cael ei bacio yno wedi cael ei halogi?
Diolch. Wel, yn sicr rwy'n cytuno â'r Aelod ynghylch y sylwadau echrydus gan Frank Hester. Rwy'n credu y byddai'n gwneud lles i bawb gofio, yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, fod dau Aelod Seneddol wedi cael eu llofruddio, ac rwy'n credu y dylai pawb wir gofio hynny yng ngoleuni'r sylwadau hynny. Fy nealltwriaeth i yw nad yw TPP yn gyflenwr unrhyw un o'r systemau meddygon teulu yma yng Nghymru; mae'n effeithio ar Loegr yn unig.
O ran eich cwestiwn ynghylch Kepak, mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn ymwybodol o'r materion sydd wedi'u codi yn ffatri Merthyr. Maen nhw'n ymchwilio ymhellach. Nid ydyn nhw'n petruso, gallaf sicrhau'r Aelod—nid yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn petruso—i gymryd camau brys i sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu hamddiffyn os ydyn nhw'n cael unrhyw bryderon neu unrhyw gwynion neu honiadau am sefydliad prosesu bwyd cymeradwy.
Weinidog busnes, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog addysg ynghylch pam mae e wedi penderfynu dileu, yn dawel fach, y grant o £1 miliwn sy'n helpu cofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer cynorthwywyr addysgu gyda chymhorthdal. Mae dileu cymhorthdal ar gofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer staff cymorth yn peri pryder. Mae'n arbed £20 i £30 i staff cymorth wrth gofrestru, gan ddibynnu ar nifer y bobl sy'n cofrestru. Ni wnaeth y Gweinidog ddweud wrth Cyngor y Gweithlu Addysg ei fod yn bendant yn torri'r cyllid, ac, ar ben hynny, ni wnaeth e ddweud wrth yr undebau hyd yn oed. Ar ôl siarad â nhw, nid oes neb i'w weld yn hapus gyda'r cyhoeddiad bod hyn wedi'i gyflwyno'n dawel. Rwy'n gweld ei bod hyd yn oed yn fwy anghrediniol, wrth gyflwyno'r cyhoeddiad yn llechwraidd ar wefan y Llywodraeth, honnodd mai dim ond o bryd i'w gilydd y mae'r Llywodraeth yn rhoi'r chymhorthdal, pan fo'r Llywodraeth, mewn gwirionedd, wedi gwneud hynny bob blwyddyn ers 2000. Gorfododd y Gweinidog Cyngor y Gweithlu Addysg i gornel i dalu am ddiffyg y £1 miliwn o'r cronfeydd wrth gefn eleni, ond os na chaiff yr arian ei adfer, bydd staff cymorth yn gweld eu cofrestriad yn codi o £15 i £46. Gweithwyr isafswm cyflog a rhan-amser yw'r rhain, Weinidog. Maen nhw'n haeddu cael y Gweinidog addysg i ddod i'r Siambr i esbonio'r toriad hwn. Diolch.
Diolch. Wel, yn amlwg, bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r sefyllfa anodd iawn yn y gyllideb y mae Llywodraeth Cymru ynddi. A hoffwn i eich cywiro chi, roedd y gweithlu a'r undebau yn ymwybodol iawn o ddyfodiad y gostyngiad hwn.
Trefnydd, hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth ar ddyfodol safle gwaith glo brig Ffos-y-frân ym Merthyr. Mae hi wedi bod yn amser ers i ni glywed unrhyw beth am y safle hwn. Mae trigolion wedi cael eu gadael â golygfa hyll sy'n gofyn am waith adfer i'w dychwelyd i'r cynefin hardd ac addas i fywyd gwyllt yr oedd y darn helaeth hwn o dir comin ar un adeg. Byddai'n annerbyniol i weithredwyr y safle gwaith glo gefni ar eu rhwymedigaethau cytundebol i adfer y tir ar ôl gwneud llawer iawn o elw dros oes y pwll glo brig hwn. Mae trigolion wedi gorfod dioddef gormod yn barod, ond, i roi halen yn y briw, roedd nifer o gerbydau 4x4 a beiciau sgramblo yn defnyddio'r tir ar gyfer ralïo dros y penwythnos. Mae preswylwyr wedi cysylltu â fy swyddfa i ac wedi darparu tystiolaeth ffotograffig o hynny. Rwy'n gobeithio eich bod chi'n cytuno â mi, ar ôl mwy na degawd a hanner, fod pobl yn yr ardal hon wedi gorfod dioddef gormod o sŵn a llygredd, heb i'r ardal gael ei throi'n gyrchfan ralïo 4x4.
Diolch. Wel, mae'n bwysig iawn fod diwedd wedi'i reoli ar lo yn golygu sicrhau bod ein pyllau glo yn cael eu cau'n ddiogel a'u hadfer â chydymdeimlad, ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y ffordd yr ydych chi'n ei ddisgrifio yn annerbyniol. Rwy'n gwybod bod swyddogion y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gweithio gyda'r awdurdod lleol, ac yn sicr, gwnaf i ofyn iddi sicrhau bod ei swyddogion yn dwyn hyn i sylw'r awdurdod lleol.
Ac yn olaf, Gareth Davies.
Diolch, Llywydd dros dro. Hoffwn i alw am ddatganiad gan y Llywodraeth ynglŷn â'r cynnydd sydd wedi'i gynllunio gan Gyngor Sir Ddinbych mewn ffioedd gofal cartref preswyl a nyrsio ar gyfer 2024-25, sy'n gyfystyr â thoriad o 8.8 y cant ar ôl i chwyddiant gael ei gynnwys. Mae hyn yn dilyn cyfres o benderfyniadau ystafell gefn ar ffioedd cartrefi gofal gan Gyngor Sir Ddinbych yn cael eu gosod yn rhy isel, gan adael drigolion agored i niwed â thrafferth i lenwi'r bwlch a gwthio cartrefi gofal i'r dibyn yn ariannol. Mae gan sir Ddinbych, gyda llaw, boblogaeth oedrannus uwch na'r cyfartaledd, ond mae'r awdurdod cyfagos, Conwy, yn cynyddu eu ffioedd 20 y cant. Mae hyn yn golygu y bydd bwlch ariannol o fwy na £9,000 rhwng person oedrannus mewn cartref gofal yn y Rhyl o'i gymharu â phreswylydd cartref gofal ym Mae Cinmel gyfagos. Cafodd Cyngor Conwy hefyd gynnydd llai mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru na Chyngor Sir Ddinbych, ond eto mae Cyngor Sir Ddinbych wedi dyfarnu bod preswylydd oedrannus â dementia yn y Rhyl werth £9,000 yn llai nag y maen nhw ym Mae Cinmel gyfagos. Mae cadeirydd Fforwm Gofal Cymru, Mario Kreft, wedi condemnio'r penderfyniad, gan ddweud bod
'sir Ddinbych yn dechrau o'r sail isaf bosibl gan eu bod yn talu'r ffioedd cartrefi gofal isaf yng Nghymru'
ac
'Nid yw'r cynnydd arfaethedig hwn yn mynd i ddod yn agos at ddatrys tanariannu cronig gofal cymdeithasol yn y sir'.
Hoffwn i'r Gweinidog wneud datganiad ynglŷn â'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau nad yw awdurdodau lleol fel Cyngor Sir Ddinbych yn gwneud penderfyniadau ariannol nad ydyn nhw'n atebol amdanyn nhw a fydd yn rhoi'r bobl fwyaf agored i niwed o dan anfantais gymharol i'r rhai sy'n byw o dan awdurdodau eraill.
Rydych chi'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru mewn ymgynghoriad ar hyn o bryd ynghylch cap ar ofal cymdeithasol, ac mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio yn agos iawn gyda'r awdurdodau lleol i gyd ynghylch y mater hwn. Ond, yn amlwg, mae gan bob awdurdod lleol hawl i bennu eu ffioedd eu hunain.
Diolch i'r Trefnydd.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar.
Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 3 ar ein hagenda, sef dadl ar adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig ac i arwain ei ddadl ddiwethaf fel Prif Weinidog. Mark Drakeford.
Cynnig NDM8522 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd yn cymeradwyo'r casgliadau a'r argymhellion yn Adroddiad Terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, ac yn nodi ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd dros dro. Chwarter canrif yn ôl i'r mis hwn, roedd rhai ohonom ni yn y Siambr hon yn rhan o'r ymdrech etholiadol ar gyfer Cynulliad cenedlaethol cyntaf Cymru. Roedd ethol y Cynulliad cyntaf yn nodi cyfnod newydd i Gymru. Am y tro cyntaf, roedd penderfyniadau am Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru gan Aelodau Cynulliad a etholwyd gan bobl Cymru, a 25 mlynedd yn ddiweddarach, camp fwyaf y rhai a ddaeth o'n blaenau ni yw bod datganoli yn rhan sefydlog o dirwedd cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig. Mae cenhedlaeth wedi tyfu lan yng Nghymru yn gwybod dim ond am ddatganoli. Nawr, mae'n rhaid ichi fod ymhell i mewn i'ch pedwardegau i fod wedi pleidleisio mewn etholiadau cyn i'r Cynulliad ddod i fodolaeth. Mae gwaith y Senedd hon yn rhan ddiwrthwynebiad o'r byd ehangach.
Mae ein taith ddatganoli wedi symud ymlaen yn sylweddol dros y 25 mlynedd hynny. Mae'r Senedd hon nawr yn codi treth, yn deddfu, wrth i Ddeddfau olynol i Gymru ymestyn y setliad datganoli. Aeth yr hyn a oedd yn Gynulliad yn Senedd erbyn hyn. Rydym ni'n dadlau nawr—ac, rwy'n credu, ar fin pasio—ynglŷn â diwygiadau sylweddol cyntaf i'n haelodaeth a'n system etholiadol ers ein sefydlu ni. Fe fydd y diwygio yn gwneud y Senedd hon yn wirioneddol gynrychioliadol o Gymru gyfoes, ac yn gallu ymateb yn briodol i'r holl newidiadau yn ein setliad datganoli. Mae mwyafrif amlwg a chynyddol o bobl yng Nghymru yn cefnogi datganoli ac yn dymuno ei weld yn cael ei ddatblygu ac yn ymwreiddio fwyfwy.
Yn anffodus, nid oes gan bawb y parch hwn at ddatganoli. Ers ethol Boris Johnson yn Brif Weinidog, mae gwendidau a diffygion ein setliad wedi cael eu dinoethi. Mae normau a chonfensiynau cyfansoddiadol wedi cael eu hanwybyddu o bryd i'w gilydd. Mae pwerau a chyllid wedi cael eu cipio yn ôl i Lundain, ac mae confensiwn Sewel wedi cael ei sathru dan draed. Dyma'r cefndir i sefydlu'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
Mae yna Aelodau yn y Siambr hon sydd wedi diystyru'r adroddiad yn flaenorol, ac mae'n siŵr y byddan nhw'n gwneud yr un fath heddiw, ond mae'r comisiwn yn ymgais ddifrifol i ystyried rhai o gwestiynau mwyaf difrifol ein hamser mewn ffordd ddifrifol. Cynhaliodd ei ymchwil eang ei hun yn seiliedig ar sgyrsiau gyda miloedd o bobl a'u hadborth nhw, ac mae'r sgyrsiau hynny'n dangos yn eglur pa mor ddeallus yw pobl o ran y ffordd y cafodd Cymru ei rhedeg a'r ffordd y caiff ei rhedeg a bod hynny ag effaith uniongyrchol ar eu blaenoriaethau nhw ac ar fywyd cymunedau ac unigolion yng Nghymru.
Mae Laura McAllister, un o gyd-gadeiryddion y comisiwn, wedi dadlau bod ymwahanu diwygio cyfansoddiadol â'r ddarpariaeth o bolisi cyhoeddus yn rhywbeth bwriadol, ac mae'n sicr ei fod yn rhywbeth sy'n celu arwyddocâd sail gyfansoddiadol y gwasanaethau cyhoeddus y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw yng Nghymru. Mae'r cyfansoddiad yn bwysig i bobl yng Nghymru. Nid yw'n tynnu sylw oddi wrth iechyd na thai nac addysg na thrafnidiaeth, ond y sylfeini sy'n cynnal y gwasanaethau hynny.
Cyhoeddodd y comisiwn annibynnol ei adroddiad terfynol wedi dwy flynedd o waith. Roedd sail y dystiolaeth y tynnodd y deunydd ohoni ar gyfer llywio ei gasgliadau yn eang ac argyhoeddiadol. Fe wnaethom ni ofyn i'r comisiwn ymestyn ymhellach na dim ond at rai a oedd yn rhan o'r ddadl eisoes, a chynnal sgwrs uniongyrchol gyda phobl Cymru yn fwy eang. Mae'r dystiolaeth a gafodd ei loffa o'r sgyrsiau hynny wedi sicrhau bod casgliadau'r comisiwn yn seiliedig ar wybodaeth a phrofiad y rhai y mae ein gweithredoedd ni yma yn y Senedd yn effeithio yn uniongyrchol arnyn nhw. Roedd yr agwedd drawsbleidiol ar ei waith yn gadernid sylweddol. Mae hynny'n cynnwys y gefnogaeth a ddarperir gan y Llywodraeth hon a Phlaid Cymru yn rhan o'n cytundeb cydweithio, yn ogystal ag aelodaeth y comisiwn ei hun, aelodaeth a dynnwyd o'r holl bleidiau a gynrychiolir yn y Senedd hon ac yn llawer ehangach fyth.
Rwy'n cofio, pan grëwyd y Cynulliad Cenedlaethol, bod yna lawer iawn o drafodaeth am y wleidyddiaeth amgen y byddem ni'n ei gweld yma yng Nghymru, y gwelwn ni arddull fwy ymgysylltiol a chydsyniol o wleidydda yn y sefydliad newydd hwn mewn llawer ffordd. Rwy'n credu bod unfrydedd casgliadau'r comisiwn yn dyst i sgiliau ei gyd-gadeiryddion, wrth gwrs, ond hefyd i'r ymagwedd amgen tuag at wleidyddiaeth y gwnaethom ni ei meithrin yma yng Nghymru.
Brynhawn heddiw, rwy'n dymuno nodi ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y comisiwn. Mae profiad y blynyddoedd diwethaf yn golygu ein bod ni'n gytûn o ran casgliadau cyffredinol y comisiwn na ellir cymryd ein setliad presennol ni'n ganiataol mwyach. Fe wnaethom ni gyflwyno ein hymateb cychwynnol i bob un o argymhellion y comisiwn gerbron y Senedd yr wythnos diwethaf, ac er na fydd pawb yn y Siambr hon yn cytuno â phob agwedd, siawns nad yw'r argymhellion cychwynnol hynny, sy'n ceisio grymuso democratiaeth yng Nghymru, yn rhai y gallwn ni i gyd eu cefnogi nhw. Roedd y comisiwn yn nodi'r bygythiadau i ddemocratiaeth gynrychioliadol a'r diffyg cynyddol a welir yn fyd-eang o ran yr ymddiriedaeth sydd gan bobl yn eu sefydliadau democrataidd. Mae ei gynigion yn ein helpu i ddefnyddio'r pŵer sydd gennym ni i wella ymwybyddiaeth ac addysgu dinasyddion, gan eu galluogi nhw i gymryd rhan yn fwy effeithiol yn y penderfyniadau hynny sy'n effeithio ar eu bywydau nhw, a thrwy hynny gyflwyno rhagor o gyfreithlondeb i'r penderfyniadau hynny a'u gwneud nhw'n fwy cadarn.
Mae'r set nesaf o argymhellion yn yr adroddiad yn ymwneud â diogelu a chryfhau'r setliad datganoli. Fel y dywedais i'n gynharach, bwriad confensiwn Sewel oedd bod yn gonglfaen i Deyrnas Unedig ddatganoledig sy'n gweithio, ac o'r herwydd fe gafodd ei barchu gan Lywodraethau olynol y DU, Llafur a Cheidwadol fel ei gilydd. Roedd yn ymgorffori parch at y Senedd hon, a sefydlwyd yn dilyn dau refferendwm yn gorff a etholwyd yn ddemocrataidd. Mae mandad Llywodraeth Cymru yn tarddu o blith ein hetholwyr ac yn atebol i'r Senedd hon wedi hynny.
Ond ar ôl 20 mlynedd o ddatganoli, ar ôl 2019, fe newidiodd y stori. Mae Llywodraeth y DU yn y cyfnod hwn wedi troi ei chefn ar gonfensiwn Sewel fel roedd hwnnw'n arfer gweithio. Dro ar ôl tro, mae ei pharodrwydd i ddiystyru bod y Senedd yn gwrthod ei chydsyniad a deddfu mewn meysydd sydd yn awdurdod datganoledig uniongyrchol pobl Cymru nid yn unig yn amharchu ein sefydliadau democrataidd ni, ond mae hynny'n amddifadu'r bobl a'n dewisodd ni o'r mandad sy'n eiddo i ni o'u herwydd nhw a neb arall. Nid yw hi'n syndod bod y comisiwn wedi gwneud ymwreiddio Sewel yn un o'i argymhellion allweddol. Mae'r rhain yn faterion difrifol iawn, yn enwedig felly i'r rhai ohonom ni, efallai, sy'n credu, fel minnau, mai â Theyrnas Unedig lwyddiannus y sicrheir dyfodol Cymru orau. Rwy'n gobeithio, yn y ddadl hon, y byddwn ni'n clywed cyfraniadau sy'n arddangos parodrwydd a gallu i fynd i'r afael â'r materion hyn gyda'r difrifoldeb angenrheidiol a haeddiannol.
Nod pedwar argymhelliad olaf yr adroddiad terfynol yw cryfhau a dyfnhau ein setliad cyfansoddiadol. Mae'n rhaid i'n huchelgais ar gyfer unrhyw bwerau estynedig i'r Senedd hon, a Llywodraeth Cymru, fod yn ymwneud â chaffael yr arfau i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus, a chryfhau ein heconomi a gwella llesiant Cymru. Rydym ni'n dadlau dros ddatganoli Ystad y Goron am ein bod ni o'r farn y bydd hynny'n cefnogi datblygiad y sector ynni adnewyddadwy newydd hanfodol hwnnw yn y môr Celtaidd, a'r cadwyni cyflenwi i'w gefnogi, gan ddod â'r swyddi newydd hynny, y sgiliau newydd a'r ffyniant i Gymru, gan barhau i fod yn ymrwymedig i'n nodau sero net. Rydym ni'n dadlau dros ddatganoli gweinyddu lles oherwydd ein bod nid dymuno bod â system fwy effeithiol ar gyfer cynorthwyo pobl, a pheidio â cheisio eu herlid yn ôl i waith. Ac mae'n rhaid i ni gymryd y camau cyntaf hynny tuag at ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol—nid yn ddigon pell, nid yn ddigon cyflym, fe wn i, ym marn llawer o'r Aelodau Llafur yn y Siambr hon, ond mae'n ddechrau hanfodol ar y daith bell y mae'r adroddiad yn dweud ei bod hi'n rhaid i ni ymrwymo iddi.
Dwi am gau fy nadl olaf yn y Senedd hon fel Prif Weinidog drwy ddiolch i'r cyd-gadeiryddion, Laura McAllister a Rowan Williams, a holl aelodau'r comisiwn, am yr adroddiad cynhwysfawr ac awdurdodol hwn. Mae hwn yn gyfraniad hanfodol i'n taith datganoli yng Nghymru. Rwy'n annog Aelodau i'w gymeradwyo, ac i gymeradwyo'r cynnig sydd o'n blaenau ni heddiw. Diolch yn fawr.
Mae'r Llywydd wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Mark Isherwood i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu 'cymeradwyo' a rhoi 'nodi' yn ei le.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch. Rwy'n cynnig gwelliant 1. Er bod y Ceidwadwyr Cymreig yn hapus bob amser i nodi adroddiad, ni allwn ni gymeradwyo'r adroddiad hwn. Er bod Llywodraethau Ceidwadol y DU wedi darparu pwerau deddfu, pwerau codi trethi a model pwerau a gadwyd yn ôl, gan droi'r fan hon yn Senedd gyflawn, rydym ni'n cydnabod bod datganoli mwy o bwerau, nawr neu yn y dyfodol rhagweladwy, yn ddiangen ac yn anniogel. Er na ddylai'r setliad cyfansoddiadol sy'n esblygu yn ein DU gael ei bennu gan bolisïau a phersonoliaethau dros dro gwahanol Lywodraethau ar unrhyw adeg arbennig, fe ddylai ac mae'n rhaid i hynny gael ei adeiladu ar y sylfeini cadarn a ddarperir gan ddemocratiaethau cynrychioliadol gyda rhwystrau a gwrthbwysau effeithiol.
Fodd bynnag, mae'r diffyg democrataidd yng Nghymru yn dal ei dir o hyd, gyda llawer fyth heb fod yn deall ym mha le y gwneir y penderfyniadau, pwy sy'n gyfrifol a faint o bŵer sydd gan Lywodraeth Cymru ar eu bywydau. Fel dywedodd un etholwr, 'Mae gweithgareddau Llywodraeth Cymru yn cael eu hanwybyddu gan ran fawr o'r boblogaeth, ac mae hyn yn fy mhryderu oherwydd fe allai Llywodraeth Cymru, oherwydd hynny, ddianc rhag unrhyw beth.' Nid yw'r etholwyr yn weithredol fel rhwystrau a gwrthbwysau. Mae hyn yn cynnal natur unochrog gwleidyddiaeth Cymru, gan ganiatáu i Lywodraeth Lafur Cymru 'y ni sy'n gwybod orau' osgoi atebolrwydd.
Ar gyfer bod yn effeithiol, y gofyniad cyntaf sydd ar unrhyw Lywodraeth yw bod yn ymwybodol y gellid ei throi hi allan, ond ar ôl 25 mlynedd mewn grym, nid yw'r Llywodraeth hon sy'n pasio cyfrifoldeb ar eraill yn credu erbyn hyn bod hynny'n berthnasol iddi hi. Rwy'n gobeithio y bydd deisebau torfol a phrotestiadau'r cyfnod diweddar yn newid hynny, ond oni bai a hyd nes y byddan nhw'n gwneud hynny, nid ydym ni'n gallu peryglu rhoi rhagor o bŵer yn ei dwylo hi. Mae adroddiad y comisiwn yn cadarnhau, pe byddai annibyniaeth yn digwydd, y byddai Cymru yn wynebu prinder cyllidol, sy'n golygu toriadau mawr am flynyddoedd lawer, ac o bosibl yn hwy na hynny, y byddai eu maint nhw'n ddibynnol ar y telerau a gafodd eu trafod, a fyddai'n cynnwys penderfyniadau ynghylch pensiynau'r wladwriaeth, cyfran o ddyraniad dyled y DU, pa arian cyfred y byddai Cymru yn ei ddefnyddio, amddiffyn milwrol a chynrychiolaeth dramor.
Mae gwendidau yn adroddiad y comisiwn yn cael eu datgelu gan ei ddatganiad ynglŷn â bod ei is-grŵp cyfiawnder a phlismona wedi cymryd adroddiad comisiwn Thomas yn fan cychwyn. Er hynny, pan ymwelais i ag uned troseddau cyfundrefnol rhanbarthol y gogledd-orllewin, cydweithrediad rhwng Heddlu Gogledd Cymru a phum llu yng ngogledd-orllewin Lloegr, yn gynnar yn 2020, fe glywsom ni fod y dystiolaeth a roddwyd i gomisiwn Thomas gan y prif gwnstabliaid a chomisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru wedi cael ei hanwybyddu i raddau helaeth yn adroddiad y comisiwn, a bod 95 y cant neu fwy o droseddau yng ngogledd Cymru yn lleol neu'n digwydd ar draws ffin, i'r dwyrain a'r gorllewin. Uwch swyddogion heddluoedd oedd y rhain; yn amlwg, ni allaf eu henwi nhw.
Mewn gwirionedd, dim ond un cyfeiriad sydd yng nghomisiwn Thomas at unrhyw droseddu trawsffiniol, a hynny yng nghyd-destun llinellau cyffuriau, a'r ateb y mae'n ei gynnig yw cydweithio ar draws y pedwar llu yng Nghymru, ond nid oes unrhyw gyfeiriad at heddluoedd dros y ffin. Yn y byd go iawn, er enghraifft, fe ymunodd Heddlu Gogledd Cymru â Heddlu Swydd Gaer a Heddlu Trafnidiaeth Prydain i dargedu troseddwyr trawsffiniol yn rhan o Operation Crossbow fis Mawrth diwethaf. Yn ystod y mis hwn, fe welodd Project Medusa, a ariannwyd gan y Swyddfa Gartref, weithrediadau ar y cyd rhwng heddluoedd Glannau Mersi, Gogledd Cymru a Swydd Gaer i fynd i'r afael â gwerthu cyffuriau a chamfanteisio troseddol ar bobl ifanc.
Fel mae'r adroddiad ddoe, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, 'Paratoi ar gyfer Datganoli Plismona yng Nghymru', yn ei dyfynnu, roedd
'adroddiad Thomas yn sôn am y rhwyg rhwng cyrff datganoledig a chyrff annatganoledig, ac rwy'n credu os edrychwch chi ar rywfaint o'r gwaith rydyn ni wedi'i wneud...does gennym ni ddim'.
Mae hefyd yn adrodd bod pryder
'y gallai'r agosrwydd...at Weinidogion Cymru arwain at sefyllfaoedd a allai fygwth egwyddor annibyniaeth weithredol'.
At hynny, o ystyried bod Ysgrifennydd Cymru'r wrthblaid, y Blaid Lafur, wedi gwrthod galwadau i Lywodraeth Cymru fod â rheolaeth dros blismona a chyfiawnder troseddol oedolion, a bod cadeirydd Comisiwn Llafur ar Ddyfodol y DU, Gordon Brown, ddeuddydd yn ôl wedi cilio oddi wrth gefnogi system gyfiawnder Cymru i'w rhedeg o Gaerdydd, mae'n rhaid i ni ofyn pam mae Llywodraeth Cymru yn neilltuo cymaint o amser ac adnoddau i ddatganoli'r materion hyn pan yw hi'n torri cyllidebau allweddol mewn mannau eraill. Yn fwriadol efallai, mae mynd ar drywydd pwerau'r dyfodol yn orffwyll yn tynnu sylw oddi wrth y materion sy'n bwysig i bobl Cymru.
Er bod rhai agweddau diddorol ar yr adroddiad hwn y bydd angen eu hystyried eto, ac fe gyfeiriodd y Prif Weinidog at rai o'r rhain, ni fydd gwaith y comisiwn yn peri i ambiwlansys gyrraedd yn gynt o gwbl, nac yn staffio ein hysgolion yn briodol nac yn cefnogi busnesau Cymru. Yn hytrach na hynny, fe ddylai Gweinidogion Llafur Cymru a'u partneriaid ym Mhlaid Cymru fod yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â rhestrau aros annerbyniol, ar wella canlyniadau addysgol ac ar gyflogau gwell i bobl yng Nghymru, sydd â rhai o'r cyflogau isaf yn y DU, ar ôl y chwarter canrif hwnnw y soniodd y Prif Weinidog amdano. Diolch yn fawr.
Dwi eisiau rhoi ar gofnod unwaith eto fy nghroeso i i waith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Mae o wedi bod yn drobwynt, dwi'n reit glir am hynny, ar ein taith gyfansoddiadol. Dwi'n falch iawn o allu ailadrodd hynny heddiw, a diolch i'r comisiwn am ei waith. Dwi hefyd am ddiolch i'r Prif Weinidog am y cydweithio sydd wedi bod rhyngom ni ar hyn. Efallai nad ydyn ni'n gytûn ar beth ddylai fod yn ben draw ein taith gyfansoddiadol—dwi'n erfyn arno fo a Llafur, eto, i fod yn fwy uchelgeisiol ar gyfer Cymru. Beth mae'r adroddiad yn ei ddweud am annibyniaeth? Wel, mae o'n rhoi'r gallu yna inni fod yn fwy uchelgeisiol. Ond mae yna sylweddoliad yma o bwysigrwydd cael y sgyrsiau yma am ein dyfodol cyfansoddiadol ni, ac mae hynny'n rhywbeth dwi'n ei groesawu.
Pan gafodd adroddiad terfynol y comisiwn ei gyhoeddi ym mis Ionawr, mi wnes i ddweud bod yn rhaid inni weithio'n galed ac yn gyflym i ddechrau'r broses o weithredu'r argymhellion; dyna y peth lleiaf sydd angen i ni ei wneud er mwyn amddiffyn a chryfhau democratiaeth Gymreig. Mi oedd yr adroddiad ei hun yn berffaith glir o ran y brys i fynd ar drywydd hyn, a dwi'n falch bod gennym ni rŵan ymateb ffurfiol gan y Llywodraeth. Mae o'n dweud wrthym ni lle ydyn ni arni ychydig bach yn fwy clir, o ran bod yn barod i ddechrau ar y gwaith o weithredu.
Eto, dwi eisiau pwysleisio, fel gwnaeth y Prif Weinidog, y cytundeb trawsbleidiol sydd yna fan hyn—y cytundeb trawsbleidiol a gafodd ei gyrraedd gan y comisiwn fod y status quo yn anghynaliadwy a bod angen newid sylfaenol. Mae yna gytundeb hefyd fod rhaid i'r gwaith sydd wedi cael ei ddechrau gan y comisiwn barhau, a dŷn ni wedi sicrhau y bydd rhaglen waith yn dilyn ymlaen o'r comisiwn cyfansoddiadol.
Ond dwi'n meddwl bod yn rhaid inni rŵan wybod yn fuan sut strwythur fydd i hwnnw. Dwi wedi dweud yn barod y buaswn i am i gomisiwn cenedlaethol sefydlog gael ei greu, ond gaf i ofyn, tybed, am ragor o fanylion gan y Prif Weinidog am sut y gallai'r strwythurau perthnasol edrych? Hefyd, mae'r Llywodraeth wedi awgrymu y bydd rhagor o fanylion am y rhaglen waith yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni. A allaf i ofyn am fwy o eglurder o ran yr amserlen? Pryd yn benodol y gallwn ni ddisgwyl sefydliad olynydd y comisiwn?
Nawr, roedd y Llywodraeth yn pwysleisio y byddai sicrhau rhai agweddau penodol ar y diwygiadau a amlinellwyd gan y comisiwn yn gofyn trafodaeth gyda Llywodraeth y DU. Pob lwc gyda hynny gyda'r Llywodraeth Geidwadol bresennol. Wrth gwrs, roedd Mark Isherwood yn crybwyll y diffyg democrataidd; yr hyn a welsom ni yw'r diffyg parch cynyddol dros y blynyddoedd diwethaf yn cynyddu oherwydd ddiffyg parch tuag at ddemocratiaeth Cymru. Mae ef yn sôn am ddod â mwy o bwerau i bobl Cymru fel pe byddai hynny'n beth drwg. Mae ef yn ddigon hapus i ganolbwyntio grym yn nwylo Llywodraeth y DU sy'n rhemp o ffrindgarwch. Mae ef yn sôn am ei ddiffyg dealltwriaeth ynghylch sut y gallech chi o bosibl fod â heddluoedd yn gweithio yn drawsffiniol. Fe fyddai Mark Isherwood ac eraill tebyg iddo ef yn mynd i dop y caets pan glywan nhw am Europol ac Interpol.
Ond mae yna elfennau yn yr hyn y mae angen i ni ei symud ymlaen y bydd gofyn eu trafod gyda Llywodraeth y DU: y cysylltiadau rhynglywodraethol eu hunain; yr ymosodiad ar gonfensiwn Sewel, amddiffyniad hwnnw; a chyfyngiadau ariannol hefyd. Nawr, yn ymarferol, o ystyried ein sefyllfa ni o ran y Llywodraeth bresennol yn San Steffan ac amseriad tebygol yr etholiad cyffredinol, ni fydd trafodaethau yn gallu digwydd tan ar ôl yr etholiad hwnnw. Mae hi'n anodd anghytuno nad oes llawer o ddiben agor trafodaethau nawr gyda'r Llywodraeth Dorïaidd sy'n mynd i'r gwellt. Ond rwyf i am awgrymu efallai y gallai ac y dylai'r trafodaethau angenrheidiol fod wedi dechrau eisoes gyda'r hyn a allai fod yn Llywodraeth Lafur newydd y DU. Pa warantau a gafwyd gan Keir Starmer y bydd y diwygiadau angenrheidiol yn cael eu cyflawni, a beth fydd yr amserlen?
Nawr, mae argymhellion y comisiwn ar ddatganoli cyfiawnder a phlismona yn mynd ymhellach na'r hyn a oedd ar gael yn adroddiadau Comisiwn Brown ar brawf a chyfiawnder ieuenctid. Rwy'n nodi bod y Prif Weinidog newydd sydd ar ddod wedi arwyddo ei fod yntau, hefyd, yn ystyried y rhain yn enillion rhwydd. Ond fe fyddwn i'n pwysleisio bod gan ddull bratiog o ddatganoli pwerau cyfiawnder y potensial i wneud ymylon datganoli yn fwy garw. Ac, wrth gwrs, mae aelodau allweddol mainc flaen Llafur yn San Steffan wedi diystyru unrhyw ddatganoli pellach yn y maes hwn o gwbl. A yw'r Prif Weinidog presennol wedi gallu perswadio Ysgrifennydd Gwladol yr wrthblaid dros Gymru presennol ynglŷn â'r achos dros ddatganoli cyfiawnder? Ac os felly, pa mor hyderus yw ef y gellir cyflawni datganoli cyfiawnder a phlismona yn gyfan gwbl?
Nawr, ar draws llawer o ymatebion y Llywodraeth i argymhellion y comisiwn, gan gynnwys ar ddatganoli Ystad y Goron, ar ddarlledu, ar seilwaith rheilffyrdd, mae'r manylion yn weddol brin o hyd. Ond ar un o'i gyfleoedd olaf i siarad yn swydd y Prif Weinidog, rwy'n gofyn iddo ef ymhelaethu ychydig ar hynny'r prynhawn yma, pe gallai.
Ac yn olaf, o'r hyn a ddysgodd ef o waith y comisiwn—ac yn sicr fe ddysgais i lawer iawn—pa amserlen a fyddai ef yn ei disgwyl ar gyfer cyflawni'r camau nesaf o ran grymuso ein democratiaeth? Deg argymhelliad y Comisiwn yw'r swm lleiaf un, ac mae angen eglurhad pellach arnom ni ar fyrder ynghylch sut a phryd y byddan nhw'n cael eu cyflawni.
Fel eraill y prynhawn yma, fe hoffwn i ddiolch i'r comisiwn am eu gwaith. Fe hoffwn i ddiolch i'r cyd-gadeiryddion a'r staff a gefnogodd hwnnw, a phawb a gymerodd ran yng ngwaith y comisiwn. Fe hoffwn i ddiolch hefyd i'r Prif Weinidog am y ffordd y mae ef wedi mynd ar ôl polisi cyfansoddiadol dros ei gyfnod ef yn y swydd. Fe geir y bobl hynny, wrth gwrs, sy'n troi eu trwynau ar gyfraith gyfansoddiadol a gwleidyddiaeth gyfansoddiadol. Fe ddywedan nhw wrthych chi nad yw'n bwysig, ac na chafodd erioed mo'i thrafod yn y dafarn leol nac mewn unrhyw dafarn arall. Wel, i'r bobl hynny, gadewch i mi ddweud hyn wrthych chi: mae angen i chi ddarllen ysgrifeniadau Aneurin Bevan. Nid trwy ddamwain y mae pennod gyntaf In Place of Fear yn ymdrin â chyfraith gyfansoddiadol. Grym yw ystyr y cyfan. Yr holl ystyr oedd lleoliad grym gwleidyddol, boed hynny yn Bedwellty House, Tŷ'r Cyffredin, neu ar fyrddau cyfarwyddwyr Dinas Llundain. Oherwydd roedd Aneurin yn deall, oni bai eich bod chi'n gallu defnyddio grym gwleidyddol, yna ni fyddwch chi fyth bythoedd yn gallu newid amgylchiadau'r bobl yr ydych chi'n ceisio eu cynrychioli nhw. A grym gwleidyddol y dylai cyfansoddiad ei ddisgrifio—ym mha le y mae'n preswylio, sut y caiff ei gadw a sut y caiff ei ymarfer. Ac mae gennyf i dri phwynt yr hoffwn i eu gwneud yn y ddadl hon y prynhawn yma.
Rydym ni'n nesáu at gyfnod o newid, yn y Deyrnas Unedig gyda newid Llywodraeth yma, ond gydag etholiadau yn cael eu cynnal ar gyfandir Ewrop hefyd ar gyfer Senedd nesaf Ewrop. Mae safle Cymru a sut y caiff Cymru ei chynrychioli yn sefydliadau'r UE yn mynd i fod o fewn cyrraedd dros y blynyddoedd nesaf, ac rwy'n gobeithio y bydd gan Lywodraeth Cymru, yn ystod y ddwy flynedd nesaf, ran lawn yn yr adolygiad o'r cytundeb masnach a chydweithredu ac yn sicrhau bod sefydliadau Cymru yn cael eu cynrychioli yn sefydliadau Ewrop.
Nawr, mae yna ddau faes arall yr wyf i o'r farn fod angen i ni eu trin a'u trafod nhw. Mae'r adroddiad ac ymateb y Llywodraeth yn canolbwyntio ar y meysydd polisi swyddogaethol hynny y dylid naill ai eu dal neu eu cadw yn ein Senedd genedlaethol yma. Rwy'n gobeithio y gallwn ni wneud mwy na hynny. Roedd y pwyntiau a wnaeth y Prif Weinidog wrth agor y ddadl hon yn gwbl sylfaenol ynglŷn â'r ffordd y cafodd Confensiwn Sewel ei chwalu gan Ddeddfau olynol gan Lywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig. Mae confensiwn Sewel a'r ffordd y mae ein Seneddau a'n Llywodraethau yn gweithio gyda'i gilydd wedi cael eu golchi i ffwrdd yn llwyr i ebargofiant bron iawn nid yn unig trwy waith Boris Johnson, ond drwy waith Seneddau olynol y DU dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae angen i ni fynd ychydig ymhellach. Wrth i mi ystyried sut y byddwn ni'n ailsefydlu strwythur democrataidd yn y Deyrnas Unedig, rwy'n edrych yn ôl at fis Rhagfyr 1931 a Statud San Steffan, pan roddodd Senedd San Steffan, yn wirfoddol ac ar y cyd â'r arglwyddiaethau a oedd yn bodoli yn yr ymerodraeth Brydeinig ar y pryd, yr holl bwerau gweddilliol o'r Senedd honno i Seneddau'r arglwyddiaethau hynny. Mae hon yn sefyllfa wahanol, ond mae'r egwyddor yn bwysig. Yr hyn a ddywedodd adran 4 o Statud San Steffan oedd:
'Ni fydd unrhyw Ddeddf Seneddol y Deyrnas Unedig a basiwyd ar ôl cychwyn y Ddeddf hon yn rhychwantu, neu y bernir ei bod yn rhychwantu, Dominiwn fel rhan o gyfraith y Dominiwn hwnnw, oni ddatgenir yn benodol yn y Ddeddf honno bod y Dominiwn hwnnw wedi gofyn am ei ddeddfiad, ac wedi cydsynio iddo.'
Eglur iawn, iawn. Datganiad eglur na fyddai Senedd San Steffan fyth yn deddfu heb gydsyniad y Senedd, naill ai yn y fan hon neu yn rhywle arall. Ac mae angen i ni sicrhau y bydd gennym ni strwythur democrataidd, statud newydd o San Steffan, perthynas ddemocrataidd newydd rhwng San Steffan a ninnau i sicrhau ein bod ni'n gallu gweithio gyda'n gilydd heb unrhyw wrthdaro o'r math a welsom ni yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Ond mae angen strwythurau ariannol arnom ni hefyd ar gyfer sicrhau cyfiawnder ledled y Deyrnas Unedig. Ac mae hyn yn rhywbeth sydd wedi llethu ein perthynas ni ers dechrau datganoli. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod bod Barnett wedi gweld ei ddyddiau gorau, ond rydym ni hefyd wedi gweld penderfyniadau yn cael eu gwneud dro ar ôl tro sydd wedi effeithio yn andwyol ar Gymru, ac ar bwy yr ydym ni'n apelio i wyrdroi'r penderfyniadau hynny? Y Trysorlys—sef yr union sefydliad a wnaeth y penderfyniadau hynny yn y lle cyntaf. Ac nid rhywbeth sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf yn unig mo hyn; rydym ni'n cofio beth a ddigwyddodd gydag ariannu'r Gemau Olympaidd hefyd. Rwy'n edrych tuag Awstralia am ysbrydoliaeth nawr. Mae Comisiwn Grantiau'r Gymanwlad yn Awstralia yn sicrhau bod yr hyn maen nhw'n ei alw yn 'gydraddoli cyllidol llorweddol' ar draws taleithiau Awstralia yn sicrhau y gall pob Awstraliad, ble bynnag y maen nhw'n byw, ddisgwyl cyfradd gyffelyb o wasanaethau oddi wrth y Llywodraeth wladol a ffederal. Dyna'r hyn y dylem ninnau ei gael yma. Nid yw hi'n ormod i ddisgwyl y gall rhywun sy'n byw yng Nghymru ddisgwyl bod â'r un ansawdd bywyd ac argaeledd gwasanaethau â rhywun sy'n byw yn Surrey neu yn rhywle arall. Nid yw hi'n ymddangos i mi mai rhywbeth chwerthinllyd yw hynny, sy'n rhy radical ac yn amhosibl ei gyflawni. Hynny ddylai fod y peth lleiaf yr ydym yn ei geisio, ac mae angen i ni lunio, yn fy marn i, Llywydd dros dro, ragor o strwythurau i'r DU—[Torri ar draws.]
—sy'n strwythurau a rennir yn y DU, yn hytrach na strwythurau i'r DU sydd dan reolaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn unig. Mae'n ddrwg gen i, roeddwn i ar fin gorffen.
Yr argymhelliad cyntaf, sy'n canolbwyntio ar arloesi democrataidd, yw, i mi, yr un pwysicaf i gyd, oherwydd mae hynny'n gwbl ganolog i ganiatáu ffyniant unrhyw ddemocratiaeth, ac yn wir, yn y byd heddiw, iddi oroesi, i bob golwg. Mae'n rhaid iddi addasu trwy'r amser. Rhaid iddi newid i aros yn berthnasol ac yn gynrychioliadol. Yn wir, wrth ymateb i ddatganiad cynharach, roedd Sioned Williams yn dyfynnu Eleanor Roosevelt, rwy'n credu—nid yw democratiaeth fyth yn rhywbeth terfynol; nid yw'r frwydr dros ddemocratiaeth fyth yn gorffen. A dyna galon, mewn gwirionedd, holl hanes diwygio democrataidd a chyfansoddiadol.
Mae'r adroddiad yn rhoi ystyr arbennig i hynny yn yr amser presennol i ni, oherwydd, er ein bod ni ar fin dechrau ar rai newidiadau trawsnewidiol tu hwnt yn ein democratiaeth yng Nghymru o ran y system bleidleisio, maint y Senedd ac, yn gwbl allweddol, cydbwysedd a chynrychiolaeth y rhywiau yn yr ystyr fwy eang, mewn rhai ffyrdd, hyd yn oed gyda'r newidiadau hynny, os edrychwch chi ar y ffordd yr ydym ni'n ymwneud â gwleidyddiaeth nawr o'i gymharu â dechrau'r ugeinfed ganrif a diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, nid yw hynny wedi newid cymaint â chymaint, onid yw e'? Sef y bydd pobl, bob rhyw bedair neu bum mlynedd, yn cyflwyno maniffesto gerbron etholwyr, yn cael mandad ac yna'n gwneud penderfyniadau ar ran pobl eraill. Ac mae hi'n ymddangos bod rhywbeth sy'n anghydnaws â diwylliant modern a chymdeithas gyfoes yn hynny, pan yw pobl yn awyddus i gyfranogi yn uniongyrchol a bod â rhan yn y broses o wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau nhw. Ac mae her yn hyn, y mae'r comisiwn yn ei nodi ar ein cyfer ni, sef sut y byddwn ni'n ail-lunio democratiaeth, lle nad un grŵp yn unig sy'n darparu'r atebion i gyd, ond ein bod ni'n cynorthwyo'r gymdeithas i fframio cwestiynau a chynnwys y dinasyddion eu hunain wrth ddarparu rhai o'r atebion hynny, a'n bod ni'n gwrando lawn cymaint â darlithio, a'n bod ni'n gwneud ein penderfyniadau dan arweiniad y sgwrs gymdeithasol, y drafodaeth gymdeithasol, a'r gwahanol ffyrdd y gellir gwneud hynny'n effeithiol.
Rwy'n credu bod swyddogaeth i ni yn y Senedd, ac, yn wir, yr awgrym yn yr argymhelliad yw bod angen i ni weld ffyrdd y gallwn gyflwyno'r arloesedd democrataidd hwn yn ein gwaith ni yma nawr. Ac mae angen i ni edrych y tu allan hefyd—gwaith rhagorol The Democracy Box, y Talking Shops. Beth am greu, fel awgrymodd y rhain, hybiau democrataidd ledled Cymru ym mhob un o'r 16 etholaeth newydd hyn—mannau yn y byd go iawn, ond ffynonellau o wybodaeth ar-lein hefyd—gan ddefnyddio grym hanesion i gyfleu'r hyn yw pwrpas democratiaeth i'n dinasyddion ni mewn gwirionedd?
Ac roedd y Prif Weinidog yn cyfeirio at waith grŵp cynghori'r Cynulliad Cenedlaethol ym 1998. Rwy'n credu bod angen rhywbeth fel hyn arnom ni nawr. Rwyf i o'r farn, mewn gwirionedd, fod creu'r Senedd newydd hon, os caf ei rhoi hi felly, yn gyfle gwych i ni ddweud, 'Sut olwg sydd am fod ar y wleidyddiaeth newydd, fel roeddem ni'n ei galw hi bryd hynny, nawr? Beth allai hyn ei olygu i ni heddiw?' Ac nid wyf i'n credu y dylem ni aros am y seithfed Senedd. Rwyf i bob amser wedi bod yn unigolyn sydd ar frys. Rwy'n credu bod rhywfaint o waith nawr, yn ystod y ddwy flynedd sydd yn weddill, hyd yn oed gyda'r Prif Weinidog yn cyfrannu o'r meinciau cefn o bosibl, i baratoi ein hunain i fanteisio hyd yr eithaf ar y cyfle gwych hwn sydd gennym ni, gan weithio yn drawsbleidiol, gan gynnwys y grwpiau yn y Senedd nad argyhoeddir nhw gan ddiwygio'r Senedd ond y mae angen iddyn nhw fod yn rhan o'r drafodaeth ynglŷn â'r ffordd i ni wneud yn fawr o'r effaith gadarnhaol.
Ac a gaf i ddweud wrth ddiweddu, yn arbennig felly heddiw o bob diwrnod: rwy'n credu bod rhywbeth rhyfedd am ddiwygio democrataidd, onid oes, rhyw fath o wrth-ddweud hyfryd, oherwydd, mewn rhai ffyrdd, dyma ymgais i wneud rhywbeth newydd drwy'r amser, ond gan roi ffurf newydd ar werthoedd oesol? A phan fyddwn ni'n meddwl am ein democratiaeth ein hunain yma, yr ymdeimlad hwnnw o'r gwirionedd nad yw'n meiddio ynganu ei enw, ond y dylid ei ynganu yn fwy mynych, sef fod yr hyn sy'n ein huno ni'n aml yn llawer pwysicach, yn llawer mwy parhaol, na'r hyn sy'n ein rhannu ni. Fel dywedodd rhywun wrth Saunders Lewis un tro, Prif Weinidog, mae hi wedi bod yn bleser anghytuno â chi, yn yr ystyr orau. Nid ydym ni wedi cytuno—. Rydym ni wedi anghytuno lawer gwaith, ond fe fydd yr anghytundebau yn cael eu hanghofio yn aml. Yr hyn sy'n para yw'r hyn yr ydych chi'n ei feithrin gyda'ch gilydd. Ac fe hoffwn eich canmol chi am ymarweddiad eich gwleidyddiaeth—yn chwilio bob amser am dir cyffredin er lles pawb.
Ac fe hoffwn i orffen, oherwydd eich bod chi a minnau yn rhannu hoffter o'r hyn a arferai gael ei alw yn farddoniaeth Eingl-Gymreig—gweithiau Cymreig yn Saesneg—trwy ddyfynnu un o'ch hoff feirdd chi, sy'n crisialu, o bosibl—. Weithiau, mae gwleidyddiaeth yn fympwyol, onid yw, yn cael ei chwythu gan bob gwynt, yn canolbwyntio ar y pryderon dyddiol ac ati, ond, mewn gwirionedd, yn ei hanfod, ystyr hyn yw gadael gwaddol. Ac rydych chi'n gadael gwaddol grymus ar eich ôl, Prif Weinidog. Felly, fe hoffwn i orffen gyda'r geiriau hyn gan Vernon Watkins:
'Mae bywyd yn newid, yn torri, gwasgaru. Nid oes hwylraff. / Mae amser yn teyrnasu; ac eto y mae teyrnas gariad ym mhob eiliad, / Nid yw ei dinasyddion yn heneiddio yng ngolwg ei gilydd. / Mewn cyfnod o dywyllwch adferir patrwm bywyd / Gan ddynion sy'n gwneud i ddarfodedigrwydd ymddangos yn rhith.'
Diolch yn fawr iawn i chi, Brif Weinidog.
Gaf fi ddechrau fy nghyfraniad i’r ddadl drwy nodi fy niolch i’r comisiwn, a hefyd nodi pa mor bwysig yw eu gwaith ar gyfer archwilio'r modd y gellid sicrhau bod strwythurau ein llywodraethiant, ein democratiaeth a'n cymdeithas yn cynnig y dyfodol gorau posibl i'n dinasyddion? I fi, mae gwir bwysigrwydd y gwaith yma yn deillio o’r ffaith ei fod e wedi’i wreiddio mewn dros 15,000 o ymgysylltiadau â phobl ledled Cymru, gan gynnwys â phobl sy’n aml yn cael eu heithrio o ddadleuon cyfansoddiadol. A'r hyn y mae'r ymgysylltiadau hyn â Chymry o bob math yn ei ddangos yw bod pobl yn poeni am gwestiynau cyfansoddiadol, yn deall eu cysylltiad â’r materion bara menyn sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd, ac yn gwybod bod angen dybryd am newid.
Oherwydd mae'n ddrwg gennyf i, Andrew R.T. Davies, ond nid rhywbeth i ddiddori ystadegwyr yn unig yw'r cyfansoddiad, mewn gwirionedd, mae ar gyfer pob un ohonom. Ac ni all fod unrhyw beth pwysicach i'r Llywodraeth, i'r Senedd hon, na gwrando ar y rhai yr ydym ni'n eu cynrychioli nhw, ar leisiau'r dinasyddion a gymerodd ran yn y sgwrs genedlaethol wirioneddol hon ynglŷn â'r ffordd y maen nhw'n gweld dyfodol ein cenedl. A'r gair 'brys', fel nododd Rhun, yw'r gair tyngedfennol yn hyn; ni allwn fforddio oedi yn hwy nag y gwnaethom eisoes gyda rhoi argymhellion y Comisiwn ar waith.
Y fi yw llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol, ac nid oes llawer o feysydd eraill sy'n fwy hanfodol i fywydau pobl na hwnnw. Y materion yr wyf i'n siarad amdanyn nhw yw'r rhai sy'n effeithio ar bobl yn uniongyrchol, ar y bobl fwyaf agored i niwed, o ddydd i ddydd yn ein cenedl. Ond pan fyddaf i'n holi'r Llywodraeth ynglŷn â mesurau yn erbyn tlodi, ynglŷn â'i gallu hi i ymgorffori deddfwriaeth hawliau dynol, ynglŷn â sut y gall hi sicrhau tegwch a chydraddoldeb, pa mor aml y byddwn ni'n clywed bod yr ysgogiadau, y pwerau, y posibilrwydd o newid y tu hwnt i'n gafael? A pholisi ac ymarfer rhwystredig yw'r rhain, sy'n amddifadu ein dinasyddion ni o gyfleoedd ac sy'n llesteirio'r momentwm am newid. Rydym ni ar y meinciau hyn yn gwbl eglur mai argymhellion y comisiwn yw'r isafswm lleiaf un sy'n angenrheidiol i ategu unrhyw uchelgais y gallai fod gennym ni ar gyfer meithrin cymdeithas fwy cyfiawn yn gymdeithasol ac amddiffyn ac atgyfnerthu ein democratiaeth yng Nghymru, y strwythur sy'n caniatáu clywed y lleisiau hynny'n uchel ac yn hyglyw.
Rwyf i am ddal ar y cyfle yn y ddadl hon i bwysleisio mai annibyniaeth yw'r unig ffordd yn y pen draw a fydd yn amddiffyn yn erbyn y rhai a garai ddistrywio democratiaeth Cymru yn llwyr, cyflawni'r gyfres lawn o bwerau sydd eu hangen arnom i drawsnewid ffyniant economaidd Cymru a sicrhau tegwch gwirioneddol i'w phobl. Rwy'n atgoffa'r Llywodraeth heddiw ei bod wedi ymrwymo eisoes i fynd ymhellach nag a amlinellir yn ei hymateb i adroddiad y comisiwn. Fe gawsom ni ymrwymiadau blaenorol gan y Llywodraeth, er enghraifft, ynghylch datganoli lles. A gaf i gymryd y bydd y gwaith ynglŷn â hyn yn parhau? Ac a gaf i bwysleisio unwaith eto'r angen ar frys—fel amlinellwyd gan Sefydliad Bevan ac eraill—ar gyfer llunio system fudd-daliadau a wnaed yng Nghymru, un sy'n ymateb i'r heriau cymdeithasol ac economaidd penodol sy'n ein hwynebu ni a'r gwerthoedd sydd gennym ni?
Mae tlodi tanwydd yn parhau, yn anfaddeuol, i fod yn fater hanfodol a chronig yng Nghymru. Mae ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol yn cynnig rhan o'r ateb, ond, fel nododd y comisiwn, mae hyn yn cael ei ddal yn ôl gan delerau'r setliad datganoli cyfredol. Mae'r comisiwn wedi argymell creu grŵp arbenigol i oruchwylio diwygiadau perthnasol a fyddai'n caniatáu i Gymru wneud y mwyaf o gynhyrchiant ynni adnewyddadwy yn lleol. Felly, a gaf i ofyn, os gwelwch yn dda, am amserlen ar gyfer sefydlu'r grŵp hwn? Mae Ystad y Goron yn allweddol hefyd wrth ddiwygio ynni yng Nghymru, ac mae hyn yn rhywbeth y mae'r darpar Prif Weinidog wedi ei bwysleisio fel blaenoriaeth bersonol iddo ef. Felly, a gaf i ofyn, felly, pa warantau a sicrhawyd oddi wrth fainc flaen Llafur y DU yn hyn o beth? Pryd fydd Llywodraeth Lafur sy'n dod i mewn yn datganoli Ystad y Goron i Gymru, sut wedd fydd ar y datganoli hwnnw, a sut fydd y Llywodraeth yn sicrhau ei bod yn cael mwy o degwch i Gymru?
Mae meysydd eraill yr ydym ni'n gobeithio gweld llawer mwy o fanylion amdanyn nhw, yn fuan iawn—cyllid teg, datganoli cyfiawnder a phlismona a seilwaith y rheilffyrdd. Felly, er fy mod i'n croesawu ymateb y Llywodraeth i argymhellion y comisiwn heddiw, rwyf i am orffen trwy atgoffa'r Prif Weinidog a'r Prif Weinidog nesaf nad dyma ddiwedd y mater, yn hytrach, y dechrau yw hwn.
Mae rhaid cofio geiriau proffwydol yr arweinydd hawliau sifil mawr A. Philip Randolph:
'Nid yw cyfiawnder fyth yn cael ei roi; cael ei hawlio y mae.'
Ac fe hoffwn i adleisio geiriau'r awdur a'r actifydd Audre Lorde hefyd,
'Ni wnaiff cyfarpar y meistr fyth ddymchwel tŷ'r meistr.'
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
A galwaf ar y Prif Weinidog i ymateb i'r ddadl.
Wel, Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr. Diolch yn fawr i bob un sydd wedi cyfrannu at y ddadl.
Mae hon wedi bod yn drafodaeth ddiddorol iawn i wrando arni. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan. Dim ond un cyfraniad a glywsom ni o feinciau'r Ceidwadwyr. Ni fyddwch chi'n synnu fawr fy mod i wedi fy siomi gan hynny. Roedd hi'n ofid i mi na allai Mark Isherwood na'i gydweithwyr groesawu'r adroddiad. Mae hwn yn adroddiad gan gomisiwn yr oedd cynrychiolydd o'r Ceidwadwyr yn eistedd arno ac yn cyfranogi mewn ffordd fywiog ac ymroddedig. Fe gefais i fy synnu o glywed y gair 'anniogel' yn cael ei ddodi ar gasgliadau'r adroddiad.
Ni ellir amddiffyn y sefyllfa bresennol, ni waeth pa mor galed mae'r Ceidwadwyr yn ceisio gwneud hynny. Edrychwch ar y setliad cyfansoddiadol sydd gennym ni. Yn nhymor y Senedd hon, mae Llywodraeth y DU wedi cymryd dyfodol cwrt tennis Cymru yn ôl i'w dwylo ei hunain. Nawr, dyna bwnc mawr i'w drafod â'r cyhoedd, ond, wrth iddyn nhw fod mor benderfynol o danseilio'r setliad, mae dyfodol cwrt tennis Cymru yn cael ei benderfynu yn Whitehall erbyn hyn, yn hytrach nag yng Nghymru. Mae Deddf 2017 yn golygu ein bod ni, yn y Siambr hon, yn gyfrifol am y ffyrdd, am y rheilffyrdd, am feicio, ond fe gawn ni ein rhwystro yn benodol rhag bod â rheolaeth ar hofrenfad Cymru. Nawr—[Torri ar draws.] Wel, rwy'n gweld gorymdeithiau yn digwydd ar hyd a lled Cymru. [Chwerthin.] Ond mae hurtrwydd y setliad presennol yn golygu na ellir ei amddiffyn yn y ffordd y ceisiodd Mark Isherwood wneud hynny.
Mae'n ddrwg gen i glywed yr hen ystrydeb honno'n cael ei llefaru unwaith eto ynglŷn â natur unochrog gwleidyddiaeth Cymru. Mae yna ateb syml iawn i honno, onid oes? A mater i'r Blaid Geidwadol yng Nghymru yn unig yw ceisio bod yn well am ennill etholiadau, oherwydd nid am ein bod ni wedi ennill mewn raffl yw'r rheswm pam mae Llafur wedi bod mewn grym am y 25 mlynedd diwethaf, fel rwy'n dweud, nid oherwydd ein bod ni wedi ennill hynny mewn raffl, ond am ein bod ni wedi dwyn perswâd ar bobl yng Nghymru i bleidleisio dros hynny. Wrth gwrs, fe gymeraf i—.
A ydych chi'n cydnabod hyd yn oed yn eich Cabinet chi fod gennych chi Aelodau a etholwyd gyda llai na 40 y cant o'r nifer a oedd â phleidlais yn etholiad cyffredinol diwethaf Cymru? Mae hwnnw'n ddiffyg uniongyrchol. [Torri ar draws.] Mae pobl ledled Cymru—[Torri ar draws.]—pobl ledled Cymru, ar ôl 25 mlynedd yn dal—
Rhowch gyfle i Mark Isherwood siarad.
—yn teimlo eu bod wedi'u datgyweddu o'r broses ac yn anneallus ynghylch sut y dylai atebolrwydd fod yn gweithredu yn y sefyllfa hon mewn gwirionedd.
Wel, pe byddai'r Aelod yn cyflwyno cynnig i wahardd unrhyw gynghorydd yng Nghymru a etholwyd ar sail mwyafrif cymharol o dan ganran benodol, fe fyddem ni'n gallu gwrando arno, ond, wrth gwrs, ni fydd yn gwneud hynny, am ei fod ef yn dadlau yn anghywir ynghylch natur ein democratiaeth ni. Wrth gwrs, mae'r adroddiad, fel dywedodd llawer o gyd-Aelodau eraill, yn ymdrin â chryfhau democratiaeth yng Nghymru, ac rydym ni'n sicr yn dymuno gweld hynny. Ond un o'r ffyrdd y gellid cryfhau gwleidyddiaeth Cymru a'r dadleuon a geir yma fyddai bod â gwrthblaid sy'n wir yn cynnig gwrthwynebiad credadwy i'r cyhoedd yng Nghymru, ac yn sicr iawn nid ydyn nhw'n cynnig dim o'r fath.
A gaf i droi am eiliad at y pwyntiau a gododd Rhun ap Iorwerth? Rwy'n cytuno yn llwyr ag ef. Yn rhy aml, mae dadleuon ar y materion hyn yng Nghymru wedi bod yn brin o ran y dystiolaeth. Dyna pam mae'r adroddiad hwn mor bwysig, oherwydd mae'n crynhoi'r dystiolaeth gredadwy ac eang i ategu'r dadleuon y mae'n eu cyflwyno. Mae'n dweud, fel dywedodd ef, na ellir cynnal y sefyllfa gyfredol. Mae yna arian yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf i ni fwrw ymlaen â'r argymhellion hynny ar ddechrau'r adroddiad sy'n sôn am gryfhau'r ffordd y gall democratiaeth weithredu yma yng Nghymru, gyda ffurf ddeallusol o ddemocratiaeth a fydd yn caniatáu i ni ymgysylltu â phobl yn ein dadl, nid ffurf o ddemocratiaeth fel ffon fesur, pan ydych chi'n gofyn i bobl ar ddiwrnod arbennig beth maen nhw'n ei feddwl, ond pan fyddwn ni'n ymgysylltu â nhw yng nghymhlethdod y ddadl. Dyna a wnaeth y comisiwn. Fe aethon nhw allan, nid oedden nhw dim ond yn rhoi darn o bapur i bobl a dweud wrthyn nhw, 'Rhowch yr ateb i ni', ond fe gafwyd trafodaeth a po fwyaf yr aeth y drafodaeth i'r manylion, y mwyaf defnyddiol a diddorol yr aeth y syniadau hynny.
Nid ydym ni'n cefnogi ymagwedd dameidiog o ymdrin â chyfiawnder troseddol, rydym ni'n awyddus i fynd ar daith hyd at ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol, ond un a fydd yn caniatáu i'r Senedd amsugno'r cyfrifoldebau hynny mewn ffordd drefnus, ac yn caniatáu i'r bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth hwnnw weld bod llwybr i'w deithio, ond heb fwriadu ymgymryd â phopeth ar unwaith ac am byth ar y diwrnod cyntaf.
Fe wnes i fwynhau cyfraniad Alun Davies yn fawr, fel pob amser, Llywydd. Ni allaf i ymateb i bopeth a ddywedodd ef, ond fe atgoffodd ni o un o ffigyrau amlycaf gwleidyddiaeth Cymru'r ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain, oherwydd Elystan Morgan oedd yr un yn a fu'n dadlau yn gyson bod statws dominiwm yn ddewis ar gyfer datganoli yng Nghymru na chafodd ei archwilio yn llawn, ac y dylid ei roi yn ôl ar y bwrdd. Roeddwn i'n credu mai rhywbeth defnyddiol iawn oedd i Alun ein hatgoffa ni o'r ddadl honno'r prynhawn yma.
Mae gan adroddiad Gordon Brown, Dirprwy Lywydd, lawer o bethau defnyddiol i'w dweud am egwyddor gydraddoli a'r ffordd y dylid dosbarthu adnoddau ledled y Deyrnas Unedig mewn ffordd a fyddai'n warant i bob dinesydd y bydd rhai hawliau sylfaenol o ran dinasyddiaeth yn dod i'w meddiant o ganlyniad i'w haelodaeth o'r Deyrnas Unedig.
Fe hoffwn i ddiolch i Adam Price, Dirprwy Lywydd, am y cyfraniad a wnaeth i'r ddadl ehangach am natur ein democratiaeth ni. Mae ef yn gywir, wrth gwrs, ynglŷn â diwygio'r Senedd, cam yw hwnnw sydd wedi dianc o ddwylo'r Senedd ers 20 mlynedd, ond nid dyma ddiwedd y ddadl ynghylch sut y byddwn ni'n adfywio democratiaeth yma yng Nghymru, gan ei ailddyfeisio trwy arloesi, a'i gwneud yn berthnasol, yn gynrychioliadol ac yn addas i'r fath o genedl y carem ni i Gymru fod. Fe fyddai hi'n dda gennyf i pe byddai dyfyniadau gwell ar gael i mi, fel dyfynnodd Aelodau ar y meinciau'r prynhawn yma, ond roedd hi'n braf iawn cael clywed Vernon Watkins yn cael ei ddyfynnu unwaith eto ar lawr y Senedd hon.
Rwy'n ymddiheuro i'r Aelodau hynny nad wyf i wedi gallu cyfeirio atyn nhw, ond ar gyfer crynhoi, mae'r comisiwn cyfansoddiadol yng Nghymru wedi rhoi gwasanaeth enfawr i ni. Mae wedi rhoi gwasanaeth i ni o ran difrifoldeb y gwaith a wnaeth, dyfnder ei ymgysylltiad gyda dinasyddion Cymru, a'r ffaith ei fod wedi ein gadael gyda dim ond 10 argymhelliad i'w dwyn i'r dyfodol. Pa mor aml y mae fy nghalon i wedi suddo yma i weld adroddiad pwyllgor arall yn frith o 70 neu 80 o argymhellion, a bron pob un ohonyn nhw'n sicr o beidio byth â chael ei ddilyn oherwydd eu bod mor lluosog. Dim ond 10 sydd yma. Mae hynny'n golygu y gellir dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, ac rydym ni wedi dechrau ar y daith honno. Fel dywedais i, neilltuwyd yr arian ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae yna gamau ymarferol y byddwn ni'n eu cymryd, yn enwedig ynglŷn â'r argymhellion cynnar hynny, ac yna fe allwn ni ddefnyddio gweddill yr adroddiad yn sylfaen ar gyfer y cam nesaf ar daith y mae llawer ohonom ni wedi bod yn rhan ohoni am y 25 mlynedd diwethaf. Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y gwelliant? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu?
Gwrthwynebu.
Rwy'n holi ynglŷn â'r gwelliant a gyflwynodd y Blaid Geidwadol. [Chwerthin.]
Dim ond gwneud yn siŵr yr oeddwn i eich bod chi'n gwybod beth ddywedais i. [Chwerthin.]
Felly, a oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad.
Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 4 heddiw yw datganiad gan y Prif Weinidog: datganiad ymddiswyddo. Galwaf ar Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford. [Cymeradwyaeth.]
Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr. Yn hwyrach heno, byddaf yn cyflwyno fy ymddiswyddiad fel Prif Weinidog Cymru i'r Brenin. Wrth i fi wneud y datganiad olaf hwn i'r Senedd, byddaf wedi bod yn siarad bron yn barhaus y prynhawn yma ers i'r sesiwn ddechrau am 1.30 p.m.. Byddaf i wedi ymateb i fy FMQs diwethaf, ac wedi agor a chau fy nadl olaf fel Prif Weinidog.
Dirprwy Lywydd, y cyngor i unrhyw berfformiwr yw eu gadael nhw eisiau mwy bob amser. [Chwerthin.] Ar ôl y prynhawn yma, bydd pawb yn y fan yma yn edrych ymlaen at glywed tipyn bach llai gen i, rwy'n siŵr o hynny.
Ychydig cyn y Nadolig yn 2018 oedd hi, serch hynny, pan siaradais i yn gyntaf yn y Siambr hon fel Prif Weinidog. Bryd hynny, roeddem ni'n dal i fod yng ngafael cadarn cyni, ond yn sicr roedd yn amhosibl rhagweld y cyflwr o argyfwng parhaus yr oeddem ni ar fin mynd iddo. Yn 2019, roeddem ni'n delio â'r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb, ac yna realiti bargen Brexit wael iawn. Wrth i 2020 wawrio, cafodd Cymru ei distrywio, fel y clywsom y prynhawn yma, gan stormydd Ciara a Dennis, i'w dilyn mor gyflym gan y pandemig, a gymerodd fywydau cymaint o bobl. Erbyn 2022, roeddem ni'n wynebu rhyfel yn Wcráin, rhyfel ar ein ffiniau ni yma yn Ewrop, ac erbyn 2023, rydyn ni wedi bod yn ymgodymu â'r argyfwng costau byw a gwrthdaro yn y dwyrain canol sy'n parhau i ddominyddu ein meddyliau i mewn i 2024.
Mae'r ansefydlogrwydd yr ydym wedi'i weld dramor wedi ei gyfateb gan ansefydlogrwydd gwleidyddol yn agosach at adref. Yn y pum mlynedd yr wyf i wedi bod yn Brif Weinidog, rwyf wedi gweithio gyda phedwar Prif Weinidog, pum Canghellor y Trysorlys, chwe Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn ac rwyf wedi colli cyfrif ar y gwahanol Weinidogion ymhellach i lawr y llinell reoli yr ydym wedi gorfod delio â nhw fel tîm gweinidogol.
Mae newidiadau wedi digwydd yma hefyd. Rwyf wedi ateb cwestiynau gan chwe gwahanol arweinydd pleidiau dros y pum mlynedd diwethaf, ac mae fy nhymor wedi cynnwys etholiad Senedd a datblygu cytundeb cydweithredu sy'n unigryw i'n hamgylchiadau ni yma yng Nghymru.
Fy nod drwy gydol y broses, fel Prif Weinidog, oedd defnyddio'r mandad a sicrhaodd fy mhlaid a fy Llywodraeth i gadw'r addewidion a wnaethom i bobl ledled Cymru, ac i wneud hynny gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 bob amser fel ein hegwyddor arweiniol. Mae hynny wedi golygu bod yn barod i wneud y pethau sy'n anodd heddiw, oherwydd rydyn ni'n gwybod y bydd y manteision ym mywydau'r cenedlaethau i ddod.
Os ydych chi'n bwriadu bod yn Llywodraeth radical sy'n diwygio, yna mae'n rhaid i chi fod yn barod am wrthsafiad, fel rydyn ni wedi ei glywed y prynhawn yma. Ni enillwyd unrhyw dir erioed heb frwydr dros achos blaengar, hyd yn oed pan fo'r achos dros newid mor glir neu amcan y newid hwnnw mor ymddangosiadol ddiniwed, oherwydd mewn gwleidyddiaeth byddwch bob amser yn wynebu buddiannau breintiedig, rhai ohonynt yn ddiniwed, eraill yn benderfynol o beidio ag ildio eu sefyllfaoedd eu hunain o rym a braint.
Mae hynny wedi bod yn nodwedd o fy holl amser fel Prif Weinidog. Y penderfyniad mawr cyntaf a wynebais oedd a ddylid bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4 ai peidio. Y penderfyniad hawdd fyddai dweud, 'Ewch amdani.' Roedd y lleisiau pwerus yng Nghymru yn barod i'w gefnogi. Fy mhenderfyniad i, wedi treulio llawer iawn o ddyddiau'n darllen ac yn meddwl amdano, oedd nad oedd hynny er lles hirdymor Cymru. Hyd yn oed yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf hyn, y dadleuon yr ydym wedi bod yn eu cael ynghylch diwygio'r dreth gyngor, diwygio'r flwyddyn ysgol a dileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal, bydd pob un o'r rheini'n cael eu gwrthwynebu. Rydyn ni'n gwybod hynny. Ond os ydych chi yn ceisio bod yn flaengar ac os ydych chi eisiau defnyddio'r cyfle sy'n dod eich ffordd, eich gwaith chi yw cadw at y pethau rydych chi'n credu fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf heddiw, wrth gwrs, ond yn enwedig i'r cenedlaethau sydd o'n blaenau.
Llywydd, wrth i fy nghyfnod fel Prif Weinidog ddod i ben, rwy'n edrych ymlaen at barhau i chwarae fy rhan o'r meinciau cefn, i gefnogi'r Prif Weinidog newydd a Llywodraeth Cymru, ac i weithio gydag eraill i weld sut mae credoau a gwerthoedd y traddodiad radical Cymreig gwych—rwy'n sosialydd fy hun, rwyf bob amser wedi bod a byddaf bob amser. Ond y gwaith yw gweld sut y gallwn ni barhau i wneud y traddodiad hwnnw yn berthnasol i natur Cymru heddiw.
Yn hwn, fy natganiad olaf fel Prif Weinidog, Dirprwy Lywydd, wrth gwrs mae yna ddiolch sydd angen ei gynnig i gymaint o bobl. Diolch i bawb sy'n gweithio i helpu i gadw Gweinidogion ar eu traed ac yn eu lle, y gweision sifil y mae gennym y fraint o weithio gyda nhw bob dydd, y tîm o gynghorwyr arbennig sy'n gwneud cymaint i'n helpu i sicrhau bod y mandad sydd gennym yn cael ei drosi yn gamau gweithredol. A diolch i chi i gyd yn y Siambr hefyd.
I mi, yn bersonol, y 12 mis diwethaf fu'r anoddaf a'r tristaf yn fy mywyd, ac ni fydd pobl yn gweld y tu hwnt i'r Siambr y gweithredoedd bach caredig hynny sy'n digwydd bob dydd, gan bobl ym mhob rhan o'r Siambr hon, sy'n helpu rhywun i ddod drwy'r cyfnod anodd iawn, iawn hwnnw. Rydym yn dadlau, fel y dywedodd arweinydd yr wrthblaid, yn egnïol a chydag argyhoeddiad ein credoau ein hunain, ond fel bodau dynol, yn y Siambr hon, rydym bob amser, rwy'n credu, ymhlith ffrindiau, ymhlith pobl sy'n deall gofynion y swyddi a wnawn a'r pethau bach sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth i chi.
Diolch yn bennaf oll, serch hynny, i'r bobl ledled Cymru. Gofynnwyd i mi sawl gwaith yn ddiweddar am fy atgofion mwyaf parhaus o fy nghyfnod fel Prif Weinidog yn y miloedd lawer o gyfarfyddiadau, a'r hyn sy'n ymddangos weithiau fel cannoedd ar filoedd o ffotograffau sy'n cael eu tynnu y dyddiau hyn ble bynnag yr ewch chi. Y prynhawn yma, ac i orffen, roeddwn i eisiau cynnig dim ond un o'r atgofion niferus hynny.
Yn 2021, yn nyfnderoedd y pandemig, es i i ddigwyddiad yn Aberfan i gofio eto am ddigwyddiadau bron i 60 mlynedd yn ôl. Safom y tu allan yn y glaw trwm, tra bod Esgob June Llandaf yn gweddïo am fywydau'r plant a'r oedolion hynny a gollwyd. Eisteddais wedyn yn y neuadd drws nesaf i Syr Mansel Aylward, un o'r gweision cyhoeddus gwych a gynhyrchwyd gan Gymru. Dywedodd wrthyf sut, fel myfyriwr meddygol ifanc o Ferthyr, yr oedd wedi mynd i Aberfan y prynhawn hwnnw i helpu yn yr ymdrech achub. Profiad mor drawmatig nad fu modd iddo, am ddegawdau, allu dweud wrth hyd yn oed aelodau agosaf ei deulu ei fod wedi bod yno ar y diwrnod hwnnw.
A'r hyn rwy'n ei gofio fwyaf oedd cael fy nghyflwyno i ddwy fenyw, y ddwy erbyn hynny ymhell ymlaen mewn bywyd, a chael gwybod, fel pobl ifanc yn eu 20au, bod y ddwy wedi bod yn athrawon, yn bresennol yn yr ysgol ar y diwrnod ofnadwy hwnnw pan gollodd dros 100 o blant ysgol gynradd eu bywydau. Ac yn y foment honno, y foment ryfeddol honno, fel roeddwn i'n siarad yn uniongyrchol â nhw, roeddwn i wir yn teimlo ein hanes, hanes Cymru yn adleisio o'r blynyddoedd hynny. Yr ymdeimlad hwnnw o undod a dioddefaint, bod yn benderfynol o beidio byth ag anghofio'r hyn sydd wedi ein gwneud yr hyn yr ydym ni heddiw, yr ymdeimlad hwnnw, fel y gwnaeth cymaint o bobl ar y diwrnod hwnnw ym 1966, o ddyletswydd gofal, nid yn unig i'n ffrindiau a'n cymdogion, ond i bobl na fyddwn ni byth yn eu hadnabod ac na fyddwn ni byth yn cwrdd â nhw, ond lle yn ddwfn yn y profiad Cymreig, y deallwn ni fod eu tynged ynghlwm â'n tynged ni, a bod dyfodol unrhyw un ohonom ni ynghlwm yn nyfodol pob un ohonom.
Yno y diwrnod hwnnw, roeddem yn benderfynol o beidio byth ag anghofio'r hyn sydd wedi ein gwneud yr hyn yr ydym heddiw, ond yr un mor benderfynol o fyw yn y byd sydd ohoni, gan ofalu am y bobl y mae angen ymdrech ar y cyd y Llywodraeth fwyaf, gan wybod y byddwn ni gyda'n gilydd bob amser yn gwneud mwy nag y gallwn ni fyth ei wneud ar wahân. Dyma gryfderau mawr y genedl yr ydym ni. Maen nhw wedi fy nghynnal i yn ystod yr adegau anoddaf a wynebwyd gennym dros y cyfnod hwnnw. Rwy'n ddiolchgar i'r holl bobl hynny sy'n helpu, rwy'n ddiolchgar i'r holl gyd-Aelodau yma, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r bobl yr ydym yn ddigon ffodus i'w gwasanaethu. [Cymeradwyaeth.]
Prif Weinidog, fe wnaethoch chi grynhoi yn y fan yna pam rydych chi mor llwyddiannus mewn etholiadau, er tegwch. Fe wnaethoch chi grynhoi'ch gallu i gydymdeimlo â chymunedau ar hyd a lled Cymru, ac un o'r trychinebau eiconig sydd wedi effeithio ar y wlad hon yn ystod y 50 mlynedd diwethaf, Aberfan. Mae'r teimlad a fynegwyd gennych yn eich datganiad ymddiswyddiad yn y fan yna wedi nodi'r nodweddion cryf o wasanaeth cyhoeddus yr ydych wedi'u cynnwys nid yn unig yn rôl Prif Weinidog Cymru, yr oedd eich datganiad yn ymdrin ag ef, ond hefyd y rolau allweddol rydych chi wedi'u cyflawni ar y daith ddatganoli dros y 25 mlynedd diwethaf: fel uwch ymgynghorydd i'r diweddar Brif Weinidog Rhodri Morgan, yn eich rôl fel AS—rwy'n credu eich bod yn arfer eistedd yng nghadair Peter Fox pan ddaethoch chi yma gyntaf; dydw i ddim yn siŵr a allai fod rhywfaint o symud o gwmpas yn digwydd yn y dyddiau nesaf, ond gallai hynny ddod yn amlwg—ac yna, yn amlwg, fel Gweinidog mewn cyfres o bortffolios, ac yna, yn y pen draw, i rôl y Prif Weinidog.
Fe wnaethoch chi gyffwrdd ar y pwynt ynglŷn â phryd y gwnaethoch chi ymgymryd â rôl Prif Weinidog Cymru yn 2018 pan oedd y Senedd hon newydd gael ei tharo gan ei thrychineb fwyaf a chanlyniad y drasiedi honno—colli ein ffrind annwyl iawn Carl Sargeant. Mae'n hyfryd gweld ei fab yn cymryd ei sedd yma ac yn gwneud gwaith mor wych. Fe lwyddoch chi i uno gyda'ch gilydd nid yn unig y Blaid Lafur a'r grŵp Llafur yma, ond y Senedd yn ei chyfanrwydd—neu'r Cynulliad fel yr oedd bryd hynny. Roedd honno'n adeg bwysig o arweinyddiaeth y dylem ni i gyd fod yn ddiolchgar iawn amdani. Oherwydd, roedd y rhai hynny ohonom a oedd yma ar y pryd wir yn teimlo'r boen a ddaeth yn sgil y drasiedi honno yn ein plith ni ac a effeithiodd arnom ni i gyd, ond hefyd maint yr effaith ar y teulu Sargeant a'r golled yr oeddent yn ei theimlo.
Ac yna, yn amlwg, cawsom y pandemig COVID, a gyffyrddodd â phob cornel o Gymru a phob dinesydd ar draws y genedl gyfan hon o'n gwlad ni, ac, yn wir, y byd. Yn amlwg, ar feysydd polisi, roeddem ni'n anghytuno—dyna natur gwleidyddiaeth a sefyll yn y Siambr drafod hon; byddai'n anghywir cytuno ar bopeth—ond fe ddangosoch chi yr arweinyddiaeth gadarn honno mewn ffordd gadarnhaol, a roddodd gyfarwyddyd a swyddogaeth i'r Llywodraeth ac i gymdeithas sifil i'n cael trwy'r argyfwng hwnnw, ac, yn y pen draw, dod allan y pen arall. Rwy'n siŵr y bydd eich cyd-Weinidogion yn y Cabinet yn cofio, ac eraill, y gallai fod yna ddyddiau pan allai fod diwrnodau pan oeddech chi'n meddwl, 'A fyddwn ni byth yn dod allan y pen arall o hyn?', oherwydd roedd pethau'n digwydd i gymdeithas ac i'n gwlad nad oedd yr un ohonom erioed wedi meddwl y byddem wedi'u gweld yn ystod ein hoes. Diolch i chi am yr arweiniad hwnnw. Ac fel y dywedais i, nid yw hynny'n dweud fy mod i'n cytuno â phopeth a wnaethoch chi, ond roedd yr arweinyddiaeth a ddangosoch chi fudd i'r wlad hon wrth ddod trwy rai o'i horiau tywyllaf.
Ac yna fe gawson ni'r argyfwng yn Wcráin, y gwnaethoch chi gyffwrdd arno, a'r Senedd newydd ar ôl yr etholiad y gwnaethoch chi ei ennill. Fel y dywedoch chi yn y ddadl flaenorol yr ydym ni newydd ei chael ar newid cyfansoddiadol, mae angen i ni ddechrau ennill etholiadau, mae angen i'r Ceidwadwyr Cymreig wneud hynny; mae'n ffaith syml. Un o'r pethau y gallaf ei gofio yn etholiad 2021 oedd pan oeddech chi, Adam Price a minnau yn gwneud dadl yr arweinwyr yn stiwdio ITV dros y ffordd. Roeddem ni i gyd yn ein ciwbicl plastig bach ein hunain—roeddwn i yn y canol, roeddech chi ar fy ochr chwith ac roedd Adam ar fy ochr dde—ac roedden ni'n gorfod cnocio ar ochrau'r paneli i roi effaith i'r ddadl oedd yn mynd rhagddi. Dyna'r byd yr oeddem ni'n byw ynddo ar y pryd. Mae'n fyd na fydd y rhai a gollodd eu bywydau byth yn ei anghofio, ond bydd y rhai a ddaeth drwyddo eisiau ailadeiladu ac ail-ymgynnull ac ailfywiogi'r wlad wych hon sydd gennym, Cymru, sy'n rhan mor bwysig o'n bywydau ni i gyd.
Mae'n deyrnged i'ch gwasanaeth cyhoeddus eich bod wedi dod ag ymroddiad a phroffesiynoldeb o'r fath i rôl y Prif Weinidog, sydd wedi ennyn y parch hwnnw gan arweinwyr ar draws y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Pan fyddaf yn mynd adref ar nos Fawrth ac yn dweud wrth y teulu, 'Welsoch chi gwestiynau'r Prif Weinidog heddiw—sut aeth e?', wel, naw gwaith allan o 10 rydyn ni'n cael ein hepgor am y snwcer neu'r bowls lawnt neu weithiau'r darts, ac rwy'n cael yr ymateb, 'Weles i ddim ohono fe', ond yr adegau eraill pan fyddan nhw wedi ei weld, maen nhw'n gwneud y pwynt am yr angerdd, yr argyhoeddiad a'r ymroddiad y gallan nhw ei weld gennych chi fel Prif Weinidog, ond yn wir gweision cyhoeddus eraill a gwleidyddion eraill yn yr adeilad hwn. Ac un o'r pethau yr wyf yn ei weld mor annifyr mewn gwleidyddiaeth gyfoes yw—. Mae pobl yn cofio'r adeg honno pan gawsoch chi a fi y cyfnewid tanllyd hwnnw, ac maen nhw'n dweud, 'Mae'n rhaid eich bod chi wir yn casáu eich gilydd.' Mae 'casineb' yn air ofnadwy. Mae'n air gwirioneddol wenwynig, heintus mewn ffordd negyddol. Nid casineb yw hynny. Angerdd yw hynny, argyhoeddiad yw hynny. Dyna beth ddylai gwleidyddiaeth fod amdano, a dyna beth rydych chi wedi'i roi i rôl y Prif Weinidog.
Diolch i chi hefyd am y caredigrwydd a ddangosoch i mi pan wnaethoch chi ysgrifennu'n bersonol ataf yn ystod fy salwch. Gwerthfawrogwyd y caredigrwydd hwnnw'n fawr ac roedd yn golygu llawer i mi ar y pryd. Rwy'n diolch i chi yn ddiffuant am yr hyn yr ydych chi wedi'i wneud fel Prif Weinidog. Rwy'n dymuno'n dda i chi yn eich ymddeoliad, ac yn arbennig, ni fyddwch yn gadael y llwyfan yn ystod y ddwy flynedd nesaf felly rwy'n siŵr y byddwn yn parhau i gael tipyn o gyfnewid ar draws y Siambr hon. Aeth eich rhagflaenydd, Rhodri Morgan, i'r meinciau cefn ac roedd yn adleisio ei deimladau hyd at y diwedd un, ac rwy'n siŵr y gwelwn ni hynny gyda chi. Ond diolch ar ran y Ceidwadwyr Cymreig am yr hyn yr ydych chi wedi'i wneud, i mi'n bersonol ond hefyd dros Cymru ein gwlad a dros y sefydliad hwn a'r Senedd hon. Diolch yn fawr, Prif Weinidog. [Cymeradwyaeth.]
Pan fydd unrhyw gyfnod gwleidyddol o bwys yn dod i ben, mae o wastad yn werth mynd yn ôl i edrych ar lle ddechreuon ni. Mi ges i fy atgoffa yr wythnos yma o beth gafodd ei ddweud yn ystod yr ornest am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn 2018. Mewn cyfweliad efo'r BBC, mi ddywedodd yr ymgeisydd ar y pryd, Mark Drakeford:
'Cefais fy magu yn y Cynulliad, yn swyddfa Rhodri Morgan pan oedd yn Brif Weinidog. Yn yr ystyr hwnnw, roeddwn i eisiau dweud wrth bobl fy mod i'n gwybod sut beth yw bod yn Brif Weinidog, o'r tu mewn.' Nawr, wrth iddo edrych yn ôl, gan wybod yn uniongyrchol, rwy'n gobeithio y bu y cyfan yr oedd am iddo fod. Nid oes amheuaeth y bydd symud o ymgynghorydd i brif benderfynwyr wedi dod â llawer o heriau annisgwyl a baich llawer mwy o gyfrifoldeb, ac, wrth gwrs, amlygrwydd a chraffu cyhoeddus.
Rydyn ni'n gwybod y trosiadau: rydyn ni wedi cyfnewid ergydion, rydyn ni wedi croesi cleddyfau. Ond rwyf wedi bod yn ffodus hefyd i ddod i adnabod y Prif Weinidog drwy—ar adegau, anodd, ond bob amser yn adeiladol—gydweithio hefyd. Yn y cyfnod hwnnw rwyf wedi gweld drosof fy hun yr hyn rwy'n hollol siŵr ein bod ni i gyd wedi dod i'w werthfawrogi: y bu, heb os, yn was cyhoeddus ymroddedig, yn Brif Weinidog difrifol ar gyfer adeg difrifol. Roedd y byd pan gymerodd yr awenau yn wahanol iawn, ac mae'n siŵr bod ei gyfeiriad teithio wedi'i ddargyfeirio rywfaint gan bandemig COVID. Mae'r heriau niferus sy'n wynebu Cymru cyn y pandemig yn parhau.
Bydd ei olynydd yn ymgymryd â heriau sylweddol ym maes iechyd, yr economi, addysg—heriau rwy'n gobeithio y bydd yn ymrwymo iddyn nhw heb wrthdyniad. Rwy'n dal i bryderu nad yw gwersi COVID wedi gallu cael eu dysgu'n llawn. Ond yn y dyddiau anodd hynny, hyd yn oed pan oedd penderfyniadau y gallwn ni eu cwestiynu, arweiniodd Mark Gymru gydag empathi, gofal a charedigrwydd, mewn cyferbyniad llwyr â llywodraethau'r DU, gan ddangos y rhinweddau personol yr ydym yn gofyn amdanyn nhw gan y rhai sy'n ceisio am y swydd uchaf. Yn 2021, enillodd fandad i lywodraethu, ond nid mwyafrif, atgof arall bod yr angen am weithio trawsbleidiol wedi bod yn nodwedd o ddatganoli o'r cychwyn cyntaf, nid dim ond ei gyfnod yn y swydd.
Dwi’n falch iawn o’r hyn mae fy mhlaid i a’i Lywodraeth o wedi'i gyflawni efo’n gilydd—Senedd gryfach ar y ffordd, a pholisïau beiddgar fydd yn newid bywydau er gwell i'r rhai wnaeth ein hethol ni i gyd i'r lle yma. Ac i'r perwyl hwnnw, dwi'n sicr ein bod ni yn gytûn mai dyna ydy hanfod gwleidyddiaeth. Mae ambell sgwrs digon anodd wedi bod rhyngom ni—minnau’n ysgwyd fy mhen fan hyn, yntau’n fflicio’r ffeil fan draw—ond yn gwbl ddiffuant. Mi hoffwn i ddiolch am y parch sydd wedi bod yno, nid yn unig yn ystod ei gyfnod o fel Prif Weinidog, ond drwy gydol yr amser yr ydym ni wedi bod yn y Siambr yma efo’n gilydd.
Fel y dywedais i, buodd y Prif Weinidog a minnau'n cyfnewid geiriau eithaf cadarn yn y Siambr hon. Fel rhywun sy'n dwlu ar gaws fy hun, rwy'n gobeithio bod y cyfnewidiadau hynny wedi bod yn llai hallt na'i gaws Caerffili annwyl, ond maen nhw wedi bod yn gyfnewidiadau gonest, yn adlewyrchu ein blaenoriaethau gwahanol, llwyfannau polisi a'n gweledigaeth ar gyfer Cymru. Ar adeg o heriau gwleidyddol a'r adfyd personol dyfnaf, daeth Mark â meddylgarwch a gras da i fywyd cyhoeddus, ar adeg pan oedd angen rhinweddau o'r fath fwyaf. Rwy'n gwybod y bydd yn parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr a chraff, yn y Siambr hon a thu hwnt. A dydych chi byth yn gwybod, os yw Ken Skates yn barod amdani, efallai y bydd hyd yn oed rhywfaint o amser sbâr ar gyfer ffilm James Bond arall. Ond pe bawn i'n gallu gorffen trwy roi sbin cadarnhaol ar eich geiriau eich hun, Mark, rwy'n dymuno'r gorau i chi wrth i chi deimlo'r gwynt ar eich wyneb ac yn yr awyr o'ch cwmpas, ac i'r haul ddisgleirio ar eich haf yng Ngerddi Soffia.
Gan bawb o grŵp Plaid Cymru, dymuniadau gorau. [Cymeradwyaeth.]
Nid wyf wedi eich adnabod ac nid wyf wedi gweithio gyda chi cyhyd ag arweinwyr eraill yn y Senedd, ond mae'n fraint ac yn anrhydedd mawr i mi allu dweud ychydig eiriau yma y prynhawn yma ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Fe wnaethom ni gyfarfod am y tro cyntaf pan roddoch chi hanner awr o'ch amser i mi ym Mharc Cathays pan ddes i yn arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ac fe wnes i fynd i mewn i'r swydd honno gyda llawer iawn o anesmwythder a phryder. Mae'n debyg fy mod i'n meddwl, 'Beth ar y ddaear wnawn ni siarad amdano?' Dechreuom ni siarad am ein cefndir—fi fel gweithiwr cymdeithasol, chi fel swyddog prawf—ac yna fe wnaethom ni fynd ymlaen i incwm sylfaenol cyffredinol, yr ydym ni'n angerddol amdano ac yr ydym yn ymrwymo iddo. Rydyn ni'n gweld ei rinweddau trawsnewidiol, nid yn unig yma yng Nghymru, ond ymhellach i ffwrdd.
A wyddoch chi beth? Roeddwn i bron yn sgipio allan o Barc Cathays. Roeddwn i mor hapus i ddod o hyd i rywun a oedd nid yn unig yn gwybod am incwm sylfaenol cyffredinol, ond eisiau iddo ddigwydd, mewn gwirionedd. A dyna beth rydych chi wedi'i wneud. Rydych chi wedi gwneud iddo ddigwydd i'n pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Rydych chi wedi newid eu bywydau er gwell. Ynghyd â'ch cyd-Aelod Jane Hutt rydych chi wedi bod mor ymrwymedig i weld un o'r grwpiau mwyaf agored i niwed o bobl yr ydym yn gyfrifol amdanynt yn cael pethau wedi'u newid yn eu bywydau. Mae eich angerdd a'ch ymrwymiad i'n pobl ifanc, yn enwedig ein pobl ifanc â phrofiad o ofal, wedi bod mor amlwg, ac rwy'n diolch i chi am hynny. Rwy'n gwybod bod llawer ohonom wedi cael y cyfle i siarad â'r bobl ifanc hynny ar y cynllun peilot, i ddysgu sut mae eu bywydau wedi newid mor ddramatig. Rydych chi wedi cario hynny drwodd, ac mae hynny wedi bod yn rhinwedd go iawn yr ydw i wedi'i weld. Rwy'n diolch i chi am hynny.
Rwy'n gwybod nad yw pethau wedi bod yn hawdd dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae COVID, rwy'n siŵr, wedi cael effaith ofnadwy, ac roedd mor llawn straen, nid yn unig i chi, ond rwy'n gwybod i'ch cyd-Aelodau hefyd. Er efallai y byddwn ni'n anghytuno ar rai elfennau a materion o fewn hynny, rwy'n gwybod eich bod chi wedi arwain y wlad hon i le yr wyf i'n meddwl oedd yn well na rhai gwledydd eraill, ac mewn gwirionedd, siaradais i â rhai pobl yn fy nghymuned ar y pryd, ac yn rhyfeddol, rhai ohonyn nhw, y byddwn i wedi meddwl nad oedden nhw o'ch plaid wleidyddol chi, a ddywedodd wrthyf, 'Rwyf mor falch fy mod yn byw yng Nghymru. Rwyf mor falch bod gen i Mark Drakeford'—nad oedden nhw fwy na thebyg wedi ei gydnabod yn Brif Weinidog o'r blaen—'fel ein harweinydd.' Roedd hynny'n gymaint o rinwedd. Ac rwy'n gwybod, yn ystod COVID, y bu gennych chi, yn Weinidog addysg, Kirsty Williams, ac mae gen i ychydig o eiriau ganddi o'r bore yma:
'Roedd Mark yn wrthwynebydd caled, ond y gorau o blith cydweithwyr, i mewn ac allan o'r Llywodraeth.'
Roedd Kirsty eisiau i mi basio ei diolch a'i pharch i chi.
Rwyf eisiau gorffen drwy ddweud stori fer wrthych o'r adeg y cefais fy ethol. Roeddwn i wedi cael llawer o alwadau ffôn gan newyddiadurwyr a oedd wedi gweithio allan y fathemateg, a dywedon nhw, 'Ydych chi wedi cael galwad ffôn gan Mark Drakeford eto?', ac fe wnes i ddiflasu cymaint ar y ceisiadau hyn nes i mi fathu ymadrodd a ddaeth yn strapline rwy'n credu, sef 'Na, dydw i ddim wedi cael cais ffrind gan Mark Drakeford ar Facebook', ond, a dweud y gwir, doedd dim angen cais ffrind arnaf i, oherwydd sut rydych chi wedi bod gyda mi, sut rydych chi wedi bod gyda mi yn bersonol, mor barchus, mor garedig, mor hael, mor gyfeillgar, estyn allan ataf, yn dweud pethau wrthyf i pan oedd datblygiadau ac angen clir i gyfathrebu â mi—rydych chi wedi fy ffonio i, rydych chi wedi cwrdd â mi, ac roeddwn i'n gwerthfawrogi hynny'n fawr. Rwy'n falch fy mod wedi bod yn y Senedd hon gyda chi fel arweinydd. Rydych wedi codi'r safon o ran eich dadleuon, o ran deallusrwydd, o ran her, ac rwy'n dymuno'r gorau i chi ar gyfer y dyfodol.
Pob bendith, a phob dymuniad i chi i'r dyfodol. Diolch yn fawr iawn. [Cymeradwyaeth.]
Ac yn olaf, Vikki Howells.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n fraint wirioneddol cael gwneud y cyfraniad hwn ar ran grŵp Llafur Cymru i nodi diwrnod olaf cyfnod Mark Drakeford fel Prif Weinidog Cymru.
Ar y cyfan, bydd Mark yn cael ei gofio am byth am y ffordd dawel a gonest y bu'n ein tywys ni a Chymru drwy'r cyfnod tywyllaf hwnnw yn ystod y pandemig, am y penderfyniadau ystyriol a wnaeth i lywio Cymru drwy'r ddwy flynedd ofnadwy hynny, am ei ffordd sefydlog a'i ddull a oedd yn tawelu meddyliau wrth iddo ein diweddaru am gyflwr y feirws, ac egluro'n ofalus y canllawiau a'r cyfyngiadau diweddaraf i gadw Cymru'n ddiogel.
Efallai mai'r pandemig oedd adeg ddiffiniol ei bum mlynedd fel Prif Weinidog, ac yn sicr fe wnaeth hynny Mark yr arweinydd mwyaf poblogaidd yn y DU, ond nid dyma'r unig foment sy'n sefyll allan. Arweiniodd Mark ein plaid at fuddugoliaeth hanesyddol yn etholiad Senedd 2021, gan ddychwelyd 30 sedd i Lafur Cymru yn y Siambr hon, y mwyafrif ohonynt yn Aelodau benywaidd. Flwyddyn yn ddiweddarach, arweiniodd ni at ganlyniad gwych yn yr etholiadau llywodraeth leol, canlyniadau yr ydym yn gobeithio y gallwn adeiladu arnynt yn yr etholiad cyffredinol eleni.
O dan arweinyddiaeth Mark, ac yn erbyn cefndir cythrwfl yn y DU a thu hwnt, mae wedi cyflawni'r addewidion a wnaethom i bobl ledled Cymru. Mae hynny'n cynnwys ymestyn gofal plant i blant dwy oed a rhieni mewn hyfforddiant ac addysg, dod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o weithio'n wahanol i sicrhau newid. Mwynheais ein hymweliad ychydig wythnosau yn ôl gyda Dawn Bowden i weld cynnydd o ran deuoli'r A465, prosiect sy'n cynnig manteision diogelwch economaidd ac amgylcheddol sylweddol i'r rhanbarth, a gwnaed hwnnw'n bosibl, Prif Weinidog, dim ond diolch i fodel ariannu a ddyfeisiwyd gennych chi yn bersonol. Rydym hefyd wedi pasio 21 o Ddeddfau, gan gynnwys dod â'r amddiffyniad cosb resymol i ben, gwahardd defnyddio maglau creulon a diangen, a diwygio mawr ei angen ar gyfer pobl sy'n rhentu.
Diolch i chi, Prif Weinidog, am eich gwasanaeth, ac am bopeth rydych chi wedi'i gyflawni dros bobl Cymru. [Cymeradwyaeth.]
Y Prif Weinidog i ymateb.
Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr. Beth alla i ei ddweud, mewn gwirionedd? Dim ond 'diolch' i bawb am haelioni'r hyn rydych chi wedi'i ddweud, ac am ei natur deimladwy. Diolch am ein hatgoffa ni o ffrindiau eraill. Cefais y fraint enfawr o gael y profiad hwnnw o 10 mlynedd yn gweithio ochr yn ochr â Rhodri Morgan, ac rwy'n credu bod cymaint o'r hyn rydw i wedi'i ddysgu, os ydw i wedi dysgu unrhyw beth, am grefft wladwriaeth yn dod o eistedd yno a'i wylio yn gweithio. Rwy'n meddwl amdano lawer iawn ar ddydd Mawrth oherwydd, yn wahanol i fi, sy'n gorfod treulio oriau hir ar benwythnosau yn gwneud yn siŵr fy mod i mor barod ag y gallaf fod ar gyfer y cyfarfyddiadau yma, byddai Rhodri yn cychwyn fore Mawrth yn y bôn. A byddem ni'n ymgynnull yn ei swyddfa, a byddai'n mynd drwy'r cwestiynau a byddai'n dweud wrthyf i, 'Nawr, mae angen mwy arnaf ar hyn ac mae angen mwy ar hynna', a fy ngwaith i wedyn oedd mynd allan i'r swyddfa allanol a ffonio pobl yn Cathays i ddarganfod, wrth gwrs, nad oedd neb byth yn Cathays: roedden nhw ar wyliau, roedden nhw i ffwrdd o'r gwaith, roedden nhw ar gwrs, roedden nhw wedi gadael y wlad—doedden nhw byth yno pan oeddech chi angen iddyn nhw ateb y cwestiwn. Felly, byddwn yn llusgo fy hun yn ôl i mewn yno yn ddiweddarach yn y bore i geisio cynnig iddo yr wybodaeth y gallwn i. Ac rwyf wedi dweud wrth rai ohonoch chi y stori hon o'r blaen, am sut, hyd yn oed pan fyddwch chi y mwyaf parod y gallwch chi fod, natur y cwestiynau yw y gallwch chi bob amser gael eich synnu. Ac mae'n debyg fy mod i'n dal wedi fy nghreithio gan y foment y cefais fy anfon i mewn i ddweud wrth Rhodri, am 1.10 p.m. brynhawn dydd Mawrth, bod y BBC yn adrodd stori am grŵp o weision sifil a oedd wedi eu canfod mewn sawna yn Llanymddyfri, ar yr hyn yr oedd y BBC yn ei alw'n 'ymarfer bondio'. [Chwerthin.] Rwy'n cerdded i'r lifft gydag ef, yn ceisio gweithio allan yr hyn y gallai ei ddweud wrth, fel yr oedd ef, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ar y pryd, am yr hyn yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn gwario arian ar ymarferion o'r math hwnnw. Felly, diolch i chi am fy atgoffa ac am ein hatgoffa ni i gyd o'r cawr hwnnw o wleidyddiaeth Cymru.
Roeddwn yn eistedd yn y cefn yn y fan yna, fel y dywedodd Andrew R.T; roeddwn i'n eistedd drws nesaf i Gwyn Price, cyd-Aelod gwych. Dim ond wythnos diwethaf, yn ystod wythnos Gŵyl Cheltenham, roeddwn i'n meddwl am Gwyn, oherwydd gwnaeth diddordeb arbennig Gwyn mewn pwy oedd wedi ennill y 3.45 yn Market Rasen ein cadw ni i fynd ar lawer brynhawn dydd Mercher hir, yn eistedd yno gyda'n gilydd. Ac, Andrew, diolch am gofio Carl Sargeant, a oedd yn rhan mor fawr o'n bywydau. Gallaf ei glywed nawr, fel y byddech yn codi ar eich traed, pan oedd y Llywydd wedi galw arweinydd yr wrthblaid, a, 'Paul Davies'—gallaf ei glywed yn ei ddweud, gallaf ei glywed yn ei ddweud nawr. Roedd yn rhan enfawr o'n bywydau, y rhai hynny ohonom oedd yn ei adnabod, ac rydych chi'n iawn, fe gafodd effaith ddofn ar y rhai hynny ohonom ni a oedd yma bryd hynny.
Rydyn ni wedi clywed llawer am COVID ac, wrth gwrs, bydd y pum mlynedd rydw i wedi'u treulio yn gwneud y swydd hon bob amser yn cael eu cofio fel cyfnod COVID. Rwy'n gobeithio y gwnaethom ni, fel y dywedodd Jane rwy'n credu, arwain ffordd drwy COVID a oedd yn gwneud i bobl yng Nghymru deimlo eu bod yn cael eu cadw'n ddiogel, bod ganddyn nhw Lywodraeth a oedd yn benderfynol o ofalu amdanyn nhw, hyd yn oed yn yr amseroedd tywyll iawn hynny, eu buddiannau nhw oedd bob amser ym meddyliau pobl yma. Ar gyfer yr ymchwiliad COVID, Dirprwy Lywydd, bu'n rhaid i mi ailddarllen cryn dipyn o'r dadleuon a gynhaliwyd gennym ar lawr y Senedd yma, ac nid yw'n brofiad hawdd, mewn rhai ffyrdd. Darllenais y ddadl ar 24 Mawrth, y diwrnod ar ôl i ni fynd i'r cyfyngiadau symud—ychydig iawn o bobl a oedd yn y Siambr oherwydd natur yr adeg honno, ac mae'r teimlad o ofn yn gwbl amlwg. Gallwch chi ei deimlo yn y cyfraniadau a wnaeth pobl ac, mewn rhai ffyrdd, rydyn ni wedi anghofio i raddau pa mor ofnus oedd pobl, cymaint oedd yr ymdeimlad hwnnw o fod yn ddiogel yng Nghymru o bwys gwirioneddol i bobl.
A gaf i orffen gydag ychydig o feddyliau y mae pobl wedi'u cynnig am garedigrwydd a natur gwleidyddiaeth? Byddwn yn ffonio fy mam o bryd i'w gilydd ar ôl cwestiynau'r Prif Weinidog, a byddai'n dweud wrthyf i ar y ffôn, 'O, welais i ti ar y teledu heddiw', a byddwn i'n dweud wrthi hi, 'Oedd e'n iawn?', a byddai hi'n dweud, 'O, doeddwn i ddim yn gwrando.' [Chwerthin.] Fel pe na bai erioed wedi ei tharo hi y gallai hi aros i wrando. Mewn rhai ffyrdd, mae angen i ni gael ein hatgoffa o hynny, on'd oes e? Rydyn ni'n mynd ynghlwm iawn i'r dadleuon a gawn ni, ac rydych chi'n camu y tu allan i'r adeilad ac mae pobl yn mynd o gwmpas eu bywydau cyffredin. Efallai eu bod nhw'n ein gweld ni ond dydyn nhw ddim bob amser yn gwrando, mae hynny'n sicr.
Ac, Andrew, fe wnaethoch chi sôn am garedigrwydd a'r ffaith nad yw pobl yn gwybod, y tu hwnt i natur gwleidyddiaeth, ein bod ni'n adnabod ein gilydd mewn gwahanol ffyrdd. Dydw i ddim wedi anghofio eich gweld chi yn croesi ar draws pedair lôn o draffig ar Heol y Bont-faen tua 11 o'r gloch ar fore etholiad poeth, pan oeddech chi'n gyrru, mae'n debyg, allan rhywle i'r Fro, a daethoch chi ar draws y traffig i ddweud wrthyf, 'Pob lwc gyda'r etholiad yma heddiw.' Ac roeddwn i'n meddwl ar y pryd bod hynny'n crynhoi rhywbeth am natur ein gwleidyddiaeth, er ein bod ni ynghlwm yn ffyrnig â'n gwerthoedd ein hunain a'n credoau ac yn barod i ddadlau amdanyn nhw yma yn angerddol, ar y lefel bersonol honno rydyn ni'n byw ychydig o'r ymdeimlad hwnnw o wleidyddiaeth garedig, addfwyn yr hoffem ei gweld yn fwy nodweddiadol o'r byd rydyn ni'n byw ynddo.
Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fod yn niwsans i chi i gyd o'r meinciau cefn, ac eithrio'r Prif Weinidog, wrth gwrs, y byddaf ond yn ei drin â'r parch dyfnaf. [Chwerthin.] Ond rydw i'n mynd i fod yma ac rwy'n edrych ymlaen at fod gyda chi i gyd a defnyddio rhyddid y meinciau cefn ar gyfer rhai o'r cyfraniadau mwy dychmygus hynny, yr ydych chi, pan fyddwch chi'n gwneud y swydd hon, wedi eich rhwystro ryw ychydig rhag eu cynnig.
Diolch yn fawr. Diolch o galon i chi gyd. [Cymeradwyaeth.]
Roeddwn i'n mynd i ddiolch iddo am ei ddiwydrwydd a'i ymrwymiad. Ro'n i hefyd yn mynd i ofyn iddo beidio â bod yn drafferth i Gadeiryddion pan fydd e ar y meinciau cefn hefyd, ond dyna ni.
Byddwn yn awr yn cymryd egwyl o bum munud cyn trafodion Cyfnod 3.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:28.
Ailymgynullodd y Senedd am 16:40, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.
Croeso nôl. Eitem 5 heddiw yw Cyfnod 3 y Bil Seilwaith (Cymru).
Mae'r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud â Rhan 1—prosiectau seilwaith arwyddocaol: Ynni. Y prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 34. Rwy'n galw ar Delyth Jewell i gynnig a siarad am y gwelliant a gwelliannau eraill yn y grŵp hwnnw—Delyth Jewell.
Cynigiwyd gwelliant 34 (Delyth Jewell).
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddweud ar y dechrau fy mod yn sylweddoli nad yw'r ddadl hon yn digwydd mewn gwactod? Efallai mai hwn fydd y darn olaf o ddeddfwriaeth lle byddaf yn annerch cyfansoddiad presennol y Cabinet. Os felly, hoffwn ganmol y Gweinidog am ei hymdrechion nid yn unig gyda'r Bil hwn, ond am sut mae hi wedi gweithio gyda mi yn y rôl hon erioed. Mae ei dull cydweithredol wedi bod yn allweddol wrth lunio'r ddeddfwriaeth hon. Mae ei hymroddiad i weithio gyda ni ar welliannau hanfodol yn tanlinellu ein hymrwymiad cyffredin i fynd i'r afael â materion dybryd ein hoes. Rwy'n gobeithio nad dyma'r tro olaf ac y bydd yn dal yn y swydd hon i weld y ddeddfwriaeth hon yn mynd trwodd.
Wrth wraidd y Bil hwn mae dau anghenraid: hwyluso cyflawni prosiectau seilwaith mawr yn amserol ac effeithiol a sicrhau ein bod yn cyflawni ein nodau allyriadau sero net. Er ein bod yn hyrwyddo'r cynnydd hwn tuag at ddyfodol cynaliadwy, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud hynny gydag ymrwymiad diwyro i gydbwyso anghenion ein hinsawdd â gwarchod ein byd naturiol. Rhaid i ni fod yn wyliadwrus o weithredoedd sy'n blaenoriaethu hwylustod ar draul bioamrywiaeth ac uniondeb ecolegol. Ni ddylai cyflymu adeiladu datblygiadau ar raddfa fawr, boed yn welliannau i'r grid neu ffermydd solar, ddigwydd ar draul ein cynefinoedd naturiol gwerthfawr. Ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod unrhyw ddatblygiad yn cyd-fynd ag egwyddorion stiwardiaeth amgylcheddol a thwf cynaliadwy. Dyna rai o'r tensiynau sy'n gynhenid yn y ddeddfwriaeth hon.
Ar ben hynny, mae'n hanfodol bod y ddeddfwriaeth hon yn adlewyrchu lleisiau a phryderon amrywiol ein cymunedau. Rydym wedi dilyn gwelliannau yn ddiflino ac wedi eirioli dros newidiadau i ddemocrateiddio'r system gynllunio, gan ei gwneud yn fwy hygyrch ac ymatebol i anghenion ein hetholwyr, gan rymuso cymunedau i gymryd rhan weithredol mewn prosesau gwneud penderfyniadau i sicrhau bod mentrau datblygu nid yn unig yn effeithiol, Dirprwy Lywydd, ond hefyd yn adlewyrchu gwerthoedd a dyheadau lleol.
Rwy'n siarad am welliannau 34 a 35, a gyflwynwyd yn fy enw yn y grŵp hwn, a'r gwelliannau canlyniadol iddynt. Pwrpas y gwelliannau hyn yw ysgogi trafodaeth ar gryfhau'r canllawiau polisi presennol a'r dull sy'n ymwneud â pherchnogaeth gymunedol a pherchnogaeth leol. Nawr, mae awgrym gan y Sefydliad Materion Cymreig y dylid sicrhau rhwng 5 y cant a 33 y cant o berchnogaeth gymunedol neu leol ar gyfer y prosiectau hyn. Ar hyn o bryd mae targed ar gyfer perchnogaeth gymunedol, felly dadleuwyd y byddai nodi canran o berchnogaeth gymunedol a lleol mewn deddfwriaeth yn cryfhau'r polisi hwn, a hynny oherwydd, ar hyn o bryd, efallai fod rhai datblygwyr yn ceisio camddefnyddio'r system yn sinigaidd trwy sefydlu canolfannau lleol yng Nghymru i fodloni'r gofynion.
Nawr, rydym wedi penderfynu gwrthod y dull hwn oherwydd byddai'n golygu y byddai trefn y prosiect seilwaith arwyddocaol yn darparu ar gyfer nifer mwy o lawer o brosiectau cynhyrchu ynni ar raddfa lai. Nawr, gall y prosiectau 5 MW i 49 MW hyn hefyd ddod yn anhyfyw i ddatblygwyr fwrw ymlaen â nhw oherwydd gofynion y broses prosiectau seilwaith arwyddocaol, SIP. Efallai y bydd nifer o ganlyniadau anfwriadol yn deillio o'r dull hwn nad ydym yn gwybod amdanynt. Felly, Dirprwy Lywydd, rydym wedi dewis diwygio pwerau rheoleiddio i bennu canran o berchnogaeth leol neu gymunedol mewn is-ddeddfwriaeth. Byddai hyn, gobeithio, yn caniatáu i'r Llywodraeth gytuno i egwyddor y gwelliannau heb y risg bod y ganran benodedig yn rhywbeth na allant gytuno iddo.
Gellid cryfhau'r diffiniad o berchnogaeth leol hefyd. Ar hyn o bryd, rydyn ni'n gweld cwmnïau mawr sydd â mwyafrif o gyfranddalwyr y tu allan i Gymru—y tu allan i'r DU—yn cofrestru busnes yng Nghaerdydd, fel rydw i wedi'i ddweud, i fodloni'r gofynion sydd ar waith ar hyn o bryd. Efallai y dylai lleiafswm o 51 y cant fod yn eiddo i bersonau sy'n byw yng Nghymru neu gyrff corfforaethol sydd wedi'u sefydlu yng Nghymru. Byddai hyn hefyd yn berthnasol i bobl sydd â rheolaeth sylweddol, os ydynt yn bodoli. Effaith ddymunol y gwelliant fyddai cynyddu perchnogaeth gymunedol a pherchenogaeth leol ar gynlluniau ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Mae'n cefnogi cadw cyfoeth o fewn cymunedau lleol yng Nghymru. Mae hefyd yn galluogi cymunedau Cymru i elwa'n ystyrlon ar y newid i sero net.
Byddwn yn gofyn i'r Gweinidog, wrth ymateb, os felly—. Oherwydd rwy'n gwybod, pan gawsom drafodaethau ar hyn yng Nghyfnod 2, fod y Gweinidog wedi tynnu sylw at y ffaith mai deddfwriaeth broses yw'r ddeddfwriaeth hon ac nid deddfwriaeth bolisi. Os oes darpariaethau galluogi eraill i'w cyflwyno, byddwn yn croesawu clywed am hynny. Rwy'n cymeradwyo gwaith Adam Price yn y maes hwn hefyd. Bydd yn siarad am rai o'r gwelliannau eraill yn y grŵp hwn, ac edrychaf ymlaen yn fawr at glywed gan Aelodau eraill am y gwelliannau yn y grŵp hwn. Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn hefyd achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o ddatblygu'r ddeddfwriaeth hon hyd yn hyn: wrth gwrs, yn benodol, Gweinidog, chi am eich cydweithrediad ac, yn wir, am dderbyn rhai o'n gwelliannau, eich swyddogion a'r rhai sy'n rhoi tystiolaeth, ac o'n hochr ni, Mostyn Jones, Molly Skates ac wrth gwrs, mae Katie Wyatt wedi bod yn help mawr. Mae eu cyngor defnyddiol wedi cael ei werthfawrogi'n fawr ac wedi hwyluso'r hyn a fu'n ymdrech sylweddol gan grŵp y Ceidwadwyr Cymreig i gryfhau'r ddeddfwriaeth hon.
Yn wir, yn ystod Cyfnodau 2 a 3, rwyf wedi cyflwyno 125 o welliannau. Mae'r swmp hwnnw'n ganlyniad i'r ffaith nad yw'r Bil yn cyflawni'r broses symlach ac unedig orau bosibl a grymuso cymunedau i ddeall ac ymgysylltu'n well. Yn anhygoel, roedd gan y Bil gwreiddiol 35 o achosion lle byddai darpariaethau manwl yn cael eu cynnwys mewn rheoliadau, ac rydym yn disgwyl gweld mwy yn cael eu hychwanegu heddiw, oherwydd mae gwelliant 35 Delyth yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygiadau ddangos eu bod wedi bodloni'r gofyniad perchnogaeth leol gofynnol. Mae'n welliant diddorol iawn, ond y broblem yw bod y diffiniad o berchnogaeth leol i'w nodi yn y rheoliadau.
Fel yr amlygodd fy nghyd-Aelod, Joel James, yng Nghyfnod 2, rwy'n credu'n wirioneddol y byddai'r Bil hwn yn fwy tebygol o gyflawni ei nod pe bai'r holl adrannau sydd angen is-ddeddfwriaeth yn cael eu rhoi allan i ymgynghoriad ac yna diwygio'r Bil ar sail yr ymatebion hynny. Dylem ystyried beth fyddai'n digwydd pe na bai gan brosiect ynni berchnogaeth leol. Mae'n debygol y byddai'r penderfyniad yn aros gyda'r awdurdod lleol, sy'n broblem oherwydd eu heriau eu hunain wrth benderfynu ar geisiadau o'r fath. Wrth gwrs, byddai cyfle i drigolion lleol ofyn i Weinidogion Cymru alw'r cais i mewn, felly yn y pendraw byddai'n gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru.
Problem arall yw, yn absenoldeb diffiniad o berchnogaeth leol, nid ydym yn gwybod beth fyddai'r effaith ar gwmnïau mawr sy'n buddsoddi yn sector ynni Cymru. A fyddai RWE, EDF Renewables neu Bute Energy yn cael eu dosbarthu fel rhai lleol? Os na fyddent, a fyddai hynny'n atal eu buddsoddiad a'r gofynion yn dod yn rhwystr rhag i Gymru gyflawni ei photensial ynni? Yn ystod Cyfnod 2, dywedodd Plaid Cymru fod y gwelliant yn canolbwyntio'n fwriadol ar brosiectau cynhyrchu trydan oherwydd dyna yw canolbwynt y ddadl ar bolisi a'r ffocws ynghylch y cwestiwn o berchnogaeth leol ar hyn o bryd. Dylai'r Bil hwn fod yn addas, nid yn unig ar gyfer y presennol, ond ar gyfer y dyfodol hefyd. Felly, credaf fod cyfyngu'r gwelliant i ynni yn wendid. Ar y sail nad ydym yn gwybod beth yw ystyr 'lleol', byddwn yn pleidleisio yn erbyn 34, 35 a 38 heddiw.
Mae gwelliant 4 yn deillio o'r pryderon a godwyd gan Grŵp Cymunedol Llanarthne a'r Cylch yn erbyn Peilonau. Fe wnaethant dynnu sylw at eithrio rhai mathau o linellau trydan uwchben ac o dan y ddaear o ddiffiniadau'r Bil. Rwy'n cydnabod, pe byddem yn dod â thanddaearu ceblau trydan yn eu cyfanrwydd i'r drefn hon, y gallem gynyddu cylchoedd cynllunio lle maent yn ddatblygiadau a ganiateir ar hyn o bryd. Serch hynny, nid wyf yn amau y bydd yna achosion lle dylid dod â'r datblygiad, sy'n cynnwys tanddaearu, o dan y drefn newydd hon.
Yn olaf, mynegodd Grŵp Cymunedol Llanarthne a'r Cylch yn erbyn Peilonau ansicrwydd ynghylch pam y cafodd rhai folteddau llinellau trydan eu cynnwys neu eu hepgor, a sut y gallai hyn effeithio ar yr amcan cyffredinol o symleiddio'r broses ymgeisio ac, o ganlyniad, mae gwelliant 5 yn hepgor 132 kW. Fel y gwyddoch chi, nid yw'r gwelliant yn tynnu'r Bil o gymhwysedd y Senedd, ond byddai'n ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr gyfeirio at Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. O gofio bod cymaint o'r Bil hwn yn gadael manylder i is-ddeddfwriaeth, nid wyf yn gweld pam y dylai fod gwrthwynebiad i welliant a fyddai'n golygu bod angen dealltwriaeth o ddeddfwriaeth arall hefyd. Diolch.
Fel roedd Delyth Jewell wedi'i ddweud ar y dechrau, mae gwelliannau 34, 35 a 38 yn ceisio rhoi mwy o fin, a dweud y gwir, mwy o allu i sicrhau bod polisi presennol y Llywodraeth yn cael ei wireddu. Ers 2020, mae'r Llywodraeth wedi dweud eu bod nhw am weld pob project sydd yn generadu trydan yng Nghymru â chyfran o berchnogaeth leol. Felly, dyna'r polisi ar hyn o bryd. Y drafferth yw, fel a dweud y gwir y mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, NICW, yn pwyntio mas yn eu hadroddiad diweddaraf nhw ar ynni adnewyddol, does yna ddim pwerau ar hyn o bryd i sicrhau bod y nod yna yn cael ei wireddu.
Mae yna wledydd eraill lle mae'r hyn mae'r gwelliant yma yn ei awgrymu yn cael ei roi mewn deddfwriaeth. Felly, yn Nenmarc, er enghraifft, mae'n rhaid i bob project sydd yn generadu trydan gynnig cyfran o berchnogaeth leol i drigolion lleol. Dwi'n credu ei fod yn 20 y cant yn achos Denmarc. Mae'r un math o drefniant yn bodoli mewn rhannau o Wlad Belg yn ogystal.
Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, yn eu hargymhellion nhw, yn awgrymu dylai'r isafswm cyffredinol fod ar lefel o 20 y cant, fel yn Nenmarc, ond maen nhw yn awgrymu ar gyfer y math hwn o broject, sydd yn mynd i fynd trwy'r broses fwy chwim o ran cynllunio, y dylai fod yna drothwy mwy ar gyfer hynny. Hynny yw, er mwyn i chi fanteisio, felly, ar broses gyflymach, dylai fod trothwy o 40 y cant, gydag 20 y cant ar gyfer trigolion lleol sy'n byw yn agos i'r project dan sylw ac wedi hynny 20 y cant ychwanegol o ran diffiniad mwy eang o ran perchnogaeth leol, yn cynnwys, er enghraifft, awdurdodau lleol.
Dwi'n credu bod y manylion hynny yn esbonio'r rheswm pam ŷn ni'n awgrymu trwy'r gwelliant yma y dylid datblygu ymhellach yr union fanylion o ran sut mae'r cynnig yn mynd i gael ei wneud a beth yw'r diffiniad o ran 'perchnogaeth leol', oherwydd, yn amlwg, mae angen cael trafodaeth ehangach ynglŷn â hynny.
Rwy'n credu bod y Gweinidog, yn ei sylwadau yn y pwyllgor, yn bendant iawn mai Bil proses nid Bil polisi oedd hwn, ac rwy'n siŵr y byddwn yn dychwelyd i'r ddadl honno yn fuan. Rwy'n meddwl tybed a oes ffordd bosibl ymlaen yma, oherwydd gwn fod y Gweinidog yn cydymdeimlo'n fawr â'r nod. Ac rwy'n siomedig iawn o glywed nad yw'r Ceidwadwyr yn cefnogi'r egwyddor o berchnogaeth leol yma, pan glywaf bobl sy'n aelodau o'r Blaid Geidwadol yn dweud na allwn ni gael sefyllfa lle mae cwmnïau sydd dan berchnogaeth allanol yn manteisio ar adnoddau naturiol Cymru. Wel, dyma ateb polisi i'r union broblem honno, ac eto rydych chi'n dweud nad ydych chi'n ei gefnogi.
Gyda llaw, mae'n debyg y dylwn i fod wedi gwneud hyn ar ddechrau fy sylwadau, ond dylwn ddatgan buddiant, Dirprwy Lywydd, gan fy mod yn byw yn nyffryn Tywi ac mae yna brosiect penodol sy'n fyw yn ein meddyliau yn cael ei gynnig ar gyfer dyffryn Tywi ar hyn o bryd. Ond dyma ddatrysiad.
Ffordd bosibl ymlaen i weithredu neu gyflawni nod y polisi sydd gan y Llywodraeth ers pedair blynedd bellach fyddai gwneud yr hyn y mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn ei awgrymu, sef peidio â'i wneud yma drwy'r gwelliant hwn, ond mewn gwirionedd cyflwyno Bil ar wahân ar ynni adnewyddadwy a fyddai'n cynnwys, wedyn, fel yn Nenmarc, fel yn rhai o daleithiau Gwlad Belg, gofyniad gorfodol i bob datblygiad sy'n cynhyrchu trydan fod â lleiafswm o ran cyfran o berchnogaeth leol, a gynigir yn y ffyrdd yr wyf wedi'u disgrifio.
Yn wir, gallai'r Bil hwnnw hefyd fynd i'r afael â meysydd eraill, oni allai, y mae'r sector cymunedol o fewn ynni adnewyddadwy wedi bod yn galw amdanynt, i roi'r pŵer i brosiectau sy'n eiddo i'r gymuned i ddarparu trydan i'r grid mewn gwirionedd, i fod yn rhan o'r cyflenwad lleol. Felly, byddai hynny'n ein galluogi i ddechrau creu systemau ynni clyfar, systemau ynni lleol, mewn perchnogaeth leol, wedi'u gwreiddio'n lleol, lle byddai'r budd yn cael ei gyflawni a'i gynnal ar gyfer y trigolion lleol hynny.
Felly, efallai fod ffyrdd eraill y gallwn gyflawni'r nod, ond nid yw'r system bresennol, y polisi presennol, Dirprwy Lywydd, yn gweithio. Nid yw'r system wirfoddol yn gweithio i'r graddau y byddem yn dymuno, oherwydd mae digon o enghreifftiau o brosiectau presennol neu brosiectau ar y gweill, nad oes ganddynt elfennau sylweddol o berchnogaeth leol. Ac un o ganlyniadau hynny yw ei fod yn amlwg yn arwain at wrthwynebiad i ynni adnewyddadwy, oherwydd bod pobl yn gweld hanes yn ailadrodd ei hun: adnoddau naturiol gwych Cymru unwaith eto yn cael eu hecsbloetio, nid er budd dinasyddion yng Nghymru, ond yn aml—fel sy'n digwydd—cwmnïau dan berchnogaeth allanol, gyda'r holl elw hwnnw'n gadael Cymru. Ac mae hynny'n golygu, mewn gwirionedd, y byddwn wedyn yn wynebu brwydr galed iawn o ran y dasg hollol angenrheidiol o ddatgarboneiddio.
Mae digon o dystiolaeth yn rhyngwladol mai perchnogaeth gymunedol yw un o'r ffyrdd gorau posibl o gyflymu'r llwybr tuag at ddatgarboneiddio, oherwydd yna mae dinasyddion yn ymwneud â'r broses ac maen nhw'n ei chefnogi. Felly, byddaf yn gwrando â diddordeb ar yr hyn sydd gan y Gweinidog i'w ddweud, ond a yw'r Gweinidog yn barod i ymrwymo i gyflwyno Bil, fel yr awgrymwyd gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC), a fyddai yn y bôn â'r hyn yr ydym yn ceisio'i gyflawni yn y gwelliant hwn wrth wraidd y Bil hwnnw?
O ran gwelliant 4, sy'n creu rhyw fath o gydraddoldeb o ran caniatáu cynnwys tanddaearu llinellau trydan fel prosiectau seilwaith arwyddocaol, clywais yr hyn a ddywedodd y Gweinidog yn ystod y pwyllgor o ran hawliau datblygu a ganiateir, ond rwy'n credu ei bod yn iawn o ran llinellau tanddaearol ar raddfa fawr, ac rwy'n credu mai'r farn o fewn grŵp Plaid Cymru yw y byddai'n gliriach cael hyn o fewn y Bil. Rwy'n sylweddoli y gall y Gweinidog, drwy adran 22, ychwanegu categorïau ato, ond credaf mai'r peth iawn i'w wneud yw cefnogi hynny.
O ran gwelliant 5, a'r sgwrs ddiweddaraf a gefais gyda grŵp Llanarthne, rwy'n deall diben y gwelliant, Janet, ond rwy'n credu efallai nad y geiriad yw'r un cywir. Gan fy mod yn credu bod achos dros gynnwys 66kV o fewn y diffiniad SIP 66—mae fy ngwybodaeth peirianneg drydanol yn cael ei phrofi yma—a 33 kV, o bosib, fel SIPS. Rwy'n credu pan fyddwch chi'n mynd i lawr i lefel 11 kV ar bolion pren, yna mewn gwirionedd efallai eich bod chi'n ei gwneud hi'n eithaf anodd i brosiectau nad ydyn nhw wir angen y llwybr hwn. Felly, rwy'n deall yr hyn rydych chi'n ceisio'i gyflawni, ond ar y sail honno, rwy'n credu y byddai'n well o bosib petai'r Gweinidog yn ymrwymo i ystyried a oes achos dros gynnwys y folteddau mwy canolig hynny gan ddefnyddio'r adran 22—rwy'n credu, os ydw i'n gywir, Gweinidog—pwerau. Felly, efallai, Gweinidog, pe gallech chi fynd i'r afael â hynny yn eich sylwadau. Diolch yn fawr.
Galwaf ar y Gweinidog.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf eisiau dechrau drwy groesawu'r cyfle i drafod y gwelliannau hyn i'r Bil Seilwaith (Cymru) heddiw, a dechrau drwy fynegi fy niolch i'r holl Aelodau am graffu ar y Bil hwn, ac yn enwedig yr Aelodau hynny sydd wedi cyflwyno gwelliannau i'r Bil ac sydd wedi gweithio gyda ni i gyflwyno gwelliannau i'r Bil hefyd.
Rwyf eisiau rhoi ar y cofnod fy sicrwydd i'r Aelodau fy mod wedi ystyried yn ofalus bob gwelliant a gyflwynwyd, ac nid yw'n bosibl cefnogi'r holl welliannau, ond credaf fod nifer o gyfleoedd lle gellir adlewyrchu'r bwriad y tu ôl i'r gwelliannau yn yr is-ddeddfwriaeth wrth symud ymlaen. Ac rwy'n siŵr y bydd y Llywodraeth yn awyddus iawn i weithio gyda phobl ar yr is-ddeddfwriaeth honno i sicrhau bod y nodau a rennir hynny'n cael eu hadlewyrchu yno.
Rwy'n mynd i siarad am welliannau 34, 35 a 38 gyda'i gilydd, gan fod yr holl welliannau yn ymwneud â gofynion perchnogaeth leol ar gyfer prosiectau cynhyrchu ynni. Byddai gwelliant 35 yn darparu bod yn rhaid i orsafoedd cynhyrchu trydan o fewn 2(1)(a) i (d) o'r Bil ddangos eu bod yn bodloni'r gofynion ar gyfer perchnogaeth leol, a byddai'r diffiniad ohono wedi'i gynnwys mewn rheoliadau. Mae'r gwelliant yn cynnwys y rheidrwydd i reoliadau osod rheolau ar gyfer gwneud cynigion o berchnogaeth leol, ac mae gwelliannau 34 a 38 yn ganlyniadol i hynny.
Mae arnaf ofn nad wyf yn cefnogi'r gwelliannau, ond rwy'n hapus i gefnogi gwelliant 32, a gyflwynwyd gan Delyth Jewell, sydd, er nad yw'n rhan o'r grŵp hwn, rwy'n credu yn cyflawni'r un amcan mewn ffordd fwy priodol. Fel y rhagwelwyd gan Adam Price, nid wyf yn cefnogi gwelliannau 34 a 35, gan fod gofynion perchnogaeth leol yn faterion polisi. Ac rwyf ond eisiau dweud, Dirprwy Lywydd—rwy'n mynd i fod yn dweud hyn yn aml drwy'r Bil—mai Bil ar gyfer trefn a'r broses o gydsynio seilwaith yw hwn ac nad yw'n ymwneud o gwbl â chynnwys polisïau a ddefnyddir i wneud penderfyniadau ar y cydsyniadau seilwaith hynny. Caiff materion polisi eu heithrio'n fwriadol o'r Bil felly beth bynnag yw polisi unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol, mae hyn yn parhau i fod yn broses addas. Byddai cynnwys ymrwymiadau polisi ar wyneb y Bil hwn yn newid hynny'n llwyr a byddai'n golygu y byddem yn debygol o wynebu deddfwriaeth sylfaenol ychwanegol er mwyn newid proses yn unig, yr ydym wedi ceisio ei hosgoi. Felly, mae hyn yn ymwneud â diogelu proses y Bil yn y dyfodol beth bynnag fo'r polisi.
Rwy'n credu bod ein polisi yn glir. Rydym yn cefnogi llawer o waith drwy Ynni Cymru a Trydan Gwyrdd Cymru i annog perchnogaeth leol yn y gymuned. Rydym yn credu mai dyma'r dull cywir o gydbwyso'r gofyniad i gadw gwerth yng Nghymru, ond i symud ymlaen â graddfa datblygiad adnewyddadwy newydd sydd ei angen arnom. Rwy'n fwy na pharod i siarad am bolisi, ond ni ddylai'r polisi fod mewn Bil am broses. Rwy'n credu bod gan y gwelliannau fwriadau cadarnhaol, ond nid wyf yn credu mai dyma'r mecanwaith priodol i gyflwyno'r bwriad hwnnw. Rwyf hefyd wedi sôn fy mod yn gefnogol i welliant 32, sydd, yn fy marn i, yn cyflawni'r un nod â gwelliannau 34, 35 a 38 heb ganlyniadau anfwriadol deddfu ar gyfer polisi yn y Bil hwn.
Rwyf am sôn yn fyr am welliant 32 yma i nodi pam yr wyf yn credu ei fod yn ateb gwell. Er nad yw'n rhan o'r grŵp hwn, mae'n ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr nodi eu cynigion ar gyfer budd cymunedol yn ystod y cyfnod ymgynghori cyn gwneud cais, ac i ddatblygwyr ddangos sut y maent wedi ystyried y cynigion hynny. Bydd yr adroddiad ymgynghori cyn gwneud cais yn sicrhau bod ymgeiswyr yn dilyn y broses a nodir yn ein canllawiau perchnogaeth leol ac yn ystyried buddion cymunedol o'r cychwyn cyntaf. Bydd hefyd yn ei gwneud yn glir i'r cyhoedd sut y mae'r broses honno wedi'i chynnal a pha ystyriaeth sydd wedi'i chymryd o'u barn. Rwy'n credu mai dyma'r dull gorau o ofyn i ymgeiswyr ddangos eu bod wedi archwilio'r opsiwn o berchnogaeth leol mewn ffordd ystyrlon yn unol â'r canllawiau cyfredol. Mae hefyd yn berthnasol i bob prosiect ac yn sicrhau bod materion polisi y tu allan i'r Bil.
Mae problem ynghylch y broses beth bynnag, fel y gwnaethom drafod yn helaeth iawn yn y pwyllgor, ond dim ond i'w hailadrodd yma—a gwnaeth Janet grybwyll ychydig ohoni—byddai'n golygu yn syml nad oedd prosiectau nad oeddent yn cyrraedd trothwy'r berchnogaeth leol yn rhan o'r broses hon; nid yw'n eu hatal rhag dod ymlaen. Ac rwy'n credu, mewn gwirionedd, y byddai archwilio pwynt polisi lle gallem eu hannog i beidio â dod ymlaen o gwbl yn ffordd well ymlaen. Beth fyddai'n digwydd yma mewn gwirionedd—a chredaf i Janet grybwyll hyn yn benodol—yw y byddai'r cais nad oedd yn cynnwys beth bynnag oedd y trothwy perchnogaeth leol yn mynd i'r awdurdod lleol, mae'n debyg na fyddai gan yr awdurdod lleol y sgiliau i'w wneud yn iawn, ac mewn gwirionedd mae'n debyg y byddent yn cael eu dwyn i'r llys am beidio â phenderfynu ar y cais. Felly, rwy'n credu y byddech o bosibl yn sefydlu cylch negyddol a oedd yn anfwriadol. Ond rwyf yn deall bwriad y gwelliant ac rwy'n ei ffafrio'n fawr. Rwy'n credu y bydd cyfnodau priodol i gyflwyno hwnnw mewn ffordd nad oes ganddo'r canlyniad dolen anfwriadol hwnnw, y credaf y byddai'n digwydd yn yr achos hwn.
O ran gwelliant 4, byddai'r gwelliant yn golygu bod ceblau trydan tanddaearol yn ddarostyngedig i gydsyniad o dan y Bil, ac nid wyf yn cefnogi'r gwelliant hwn. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' eisoes yn datgan mai'r sefyllfa a ffefrir gennym yw, lle bo hynny'n bosibl, y dylid tanddaearu llinellau pŵer newydd i leihau'r effaith weledol. Rydym yn cefnogi'r polisi hwnnw gan ei bod yn aml yn wir fod llinellau trydan tanddaearol yn ddatblygiad a ganiateir. Sylwaf hefyd fod technoleg adeiladu llinellau tanddaearol yn datblygu drwy'r amser, sy'n golygu ei fod yn llai aflonyddol nag yr oedd ar un adeg. Fel rwy'n siŵr fod pawb yn y Siambr yn ymwybodol iawn, mae polisi cynllunio yn cael ei adolygu'n barhaol ac mae'n hyblyg i newidiadau pellach.
Ar hyn o bryd rydym yn bwriadu cynnull grŵp annibynnol i edrych ar y dystiolaeth ar danddaearu ac i ddatblygu egwyddorion ehangach ar gyfer seilwaith grid newydd yng Nghymru. Bydd y gwaith hwn yn parhau i lywio ein polisi cynllunio. Yn wir, fel y mae pawb yn y Siambr, rwy'n credu, yn gwybod, bu datblygiad diweddar ar broses gweithredwr y system drydan, a fydd yn golygu bod hyn yn flaenllaw iawn ym meddwl unrhyw Lywodraeth.
Rwy'n credu y byddai dod â cheblau tanddaearol i'r drefn yn y ffordd a gynigiwyd yn golygu y gallai costau tanddaearu ceblau gynyddu mewn gwirionedd ac y gallent leihau'r tebygolrwydd y bydd y dull yn cael ei ddefnyddio, sydd ychydig yn wrthgynhyrchiol. Credwn ei fod yn ddigon clir ynghylch ceblau trydan tanddaearol yn barod a gallai diwygio'r Bil i gynnwys hyn arwain at ganlyniadau anfwriadol. Mae'r mater yn ymwneud â'r trothwy, fel y dywedodd Adam Price. Byddai'n ymwneud â pha hyd o geblau tanddaearol y credwn y dylid ei gynnwys. Nid yw hynny'n bosibl yma. Ac, ar hyn o bryd, pe byddech chi eisiau cebl trydan tanddaearol o'r palmant i'ch tŷ, er enghraifft, byddai'n ddatblygiad a ganiateir; nid ydym am ddod â hynny i mewn i'r drefn gynllunio yn anfwriadol. Felly, rwy'n fwy na pharod i weithio ar y rheoliadau wrth symud ymlaen, ond rwy'n credu y dylem wrthod y gwelliant fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd—gwelliant 4 yw hwnnw.
Mae gwelliant 5 yn dileu'r cyfeiriad at seilwaith trydan sy'n dod o dan y Bil y mae'n ofynnol iddo gael foltedd enwol o 132 kV. Nid oes unrhyw effaith gyfreithiol i'r newid hwn, ac mae'n gwneud y drafftio'n llai eglur. Nid wyf yn cefnogi'r newid. Dim ond ar gyfer llinellau 132 kV y mae gan y Senedd gymhwysedd. Byddai dileu'r geiriau yn gwneud y Bil yn llai eglur, gan y byddai angen i'r darllenydd ddarllen y Bil a Deddf Llywodraeth Cymru 2006 i ddeall y prosiectau sy'n dod o dan y Bil. Felly, ni fyddai'n newid dim, ond byddai'n golygu y byddai'n rhaid iddynt edrych ar Ddeddf wahanol i weld beth oedd yn cael ei drafod. Credwn fod hynny'n lleihau mynediad at gyfraith Cymru, ac felly rydym yn galw ar Aelodau i wrthod y gwelliant. Felly, i fod yn glir, Dirprwy Lywydd, galwaf ar Aelodau i wrthod gwelliannau 34, 4, 5, 35 a 38 yn y grŵp hwn. Diolch.
Galwaf ar Delyth Jewell i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl yma.
Diolch, Janet, am ddweud bod un o'n gwelliannau yn 'ddiddorol iawn'. Fel y gwyddoch chi, mae'n well gennym ni fod pethau ar wyneb y Bil. Rwy'n gobeithio fy mod eisoes wedi nodi pam yn yr achos hwn y gwnaethom gymryd y cyfeiriad penodol hwn. Mae'r gwelliannau yn fy enw i yn y grŵp hwn yn ymgais i ddechrau sgwrs, fel roeddwn i wedi dweud. Rhaid diogelu'r egwyddor o berchnogaeth leol.
Siaradodd Adam am yr ysgogiad tu ôl i'r gwelliannau hyn, ac fel mae NICW wedi pwyntio mas, does dim modd sicrhau bod y polisi sydd gan y Llywodraeth yn cael ei wireddu. Felly, sialens, mewn ffordd, neu gyfle, ydy'r rhain i wireddu'r egwyddor yna.
Dylid manteisio ar bob cyfle i helpu ac i rymuso ein cymunedau. Ni ddylid ecsbloetio ein tirweddau a'n cymunedau eu hunain. Ni allwn ganiatáu i hanes gael ei ailadrodd na gadael i hanesion gorffennol Cymru gael eu llusgo i'w dyfodol. Rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd y Gweinidog am geisio ymdrin â'r egwyddorion hyn mewn is-ddeddfwriaeth. Byddwn yn dal i bwyso, am lawer o'r rhesymau yr oedd Adam wedi eu nodi hefyd, am ddeddfwriaeth sylfaenol yma. Dyna'r hyn y mae comisiwn seilwaith cenedlaethol Cymru wedi'i ddweud hefyd. Oni bai fy mod wedi camddeall y Gweinidog, nid wyf yn credu bod hynny'n cael ei gynnig yn benodol yn y dyfodol agos, felly byddwn yn dal i wthio'r rhain i bleidlais, ond byddem wrth gwrs yn croesawu'r cyfle i ddilyn yr egwyddorion hyn ymhellach gyda'r Llywodraeth. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau a'r Gweinidog am eu sylwadau. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 34? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.]
Mae un, ac felly byddwn yn bwrw ymlaen i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais.
O blaid 11, neb yn ymatal, 41 yn erbyn.
Felly, mae'r gwelliant wedi methu.
Gwelliant 34: O blaid: 11, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Janet Finch-Saunders, gwelliant 4, ydych chi'n cynnig?
Cynigiwyd gwelliant 4 (Janet Finch-Saunders).
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.]
Ie. Gadewch i ni fynd i bleidlais, os gwelwch yn dda. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais.
O blaid 25, neb yn ymatal, 27 yn erbyn.
Felly, mae gwelliant 4 yn methu.
Gwelliant 4: O blaid: 25, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Janet, gwelliant 5.
Cynigiwyd gwelliant 5 (Janet Finch-Saunders).
Rwy'n cynnig.
A oes gwrthwynebiad i welliant 5? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly, rydym yn symud i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, 11 yn ymatal, a 27 yn erbyn, felly mae gwelliant 5 yn methu.
Gwelliant 5: O blaid: 14, Yn erbyn: 27, Ymatal: 11
Gwrthodwyd y gwelliant
Delyth, gwelliant 35.
Cynigiwyd gwelliant 35 (Delyth Jewell).
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 35? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.]
Felly fe wnawn ni symud i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais.
O blaid 11, neb yn ymatal, 41 yn erbyn.
Felly, mae gwelliant 35 yn methu, felly hefyd gwelliant 38.
Gwelliant 35: O blaid: 11, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Methodd gwelliant 38.
Symudwn yn awr at grŵp 2, Rhan 1—prosiectau seilwaith arwyddocaol, gwelliannau eraill. Y prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 6, ac rwy'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig a siarad am y prif welliant a gwelliannau eraill yn y grŵp.
Cynigiwyd gwelliant 6 (Janet Finch-Saunders).