Y Cyfarfod Llawn
Plenary
14/11/2023Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cwestiynau i'r Prif Weinidog fydd yr eitem gyntaf ar yr agenda y prynhawn yma, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Darren Millar.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo treftadaeth ffydd Cymru? OQ60254
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo treftadaeth seiliedig ar ffydd drwy adnoddau, cyngor a grantiau a ddarperir gan Cadw a Croeso Cymru.
Diolch am yr ateb hwnnw, Prif Weinidog. Cwrddais â'r grŵp trawsbleidiol ar ffydd yr wythnos diwethaf, a gafodd drafodaeth eang ar y cwestiwn 'A yw Cymru'n gwneud digon i hyrwyddo, amddiffyn a dathlu ei threftadaeth ffydd?' Y casgliad a ddaethom iddo, ar ôl cyflwyniadau gan Nathan Abrams o Brifysgol Bangor am ei waith gyda'r gymuned Iddewig, a Christine Moore o Addoldai Cymru, oedd bod Cymru'n gwneud yn rhesymol ond y gallai wneud yn well, fel y rhan fwyaf o fy adroddiadau i yn yr ysgol mae'n debyg. [Chwerthin.]
Un o'r pethau maen nhw'n ei ddweud oedd yn heriol oedd cael gafael ar adnoddau, yn enwedig i'r enghreifftiau gwych hynny o gapeli yng Nghymru—capeli anghydffurfiol—a'u hanallu, weithiau, i ddenu'r adnoddau y gallen nhw fod eu hangen er mwyn gwneud yn siŵr eu bod mewn cyflwr gweddol. Nawr, fe wyddoch chi a minnau, mewn sawl rhan o Gymru, mai'r capeli hynny yw'r unig adeiladau cyhoeddus mewn rhai cymunedau. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn benodol i hyrwyddo'r enghreifftiau ardderchog hynny o gapeli Cymraeg ledled ein gwlad?
Wel, Llywydd, a gaf i ddiolch i Darren Millar am y cwestiwn pellach hwnnw, a dweud, am yr ail benwythnos yn olynol, y cafodd fy sylw ei dynnu gan y cwestiwn hwn ac fe es i edrych ar y gwahanol wefannau? Ac mae deunydd cwbl wych i'w gael yn dathlu popeth sydd wedi cael effaith mor ddwys ar ddiwylliant, hunaniaeth, hanes Cymru, trwy'r dreftadaeth ffydd yr ydym ni'n ei mwynhau yng Nghymru.
Mae darn bach o newyddion da o ran yr adnoddau—, fel y gwn y bydd Darren Millar yn ymwybodol, yn y ffaith y bydd yna brosiect newydd a noddir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Bydd yn cynnwys yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Bydd £1.9 miliwn ar gael ar ei gyfer, a bydd yn cael ei alw y rhaglen 'Cherish'. Mae swyddog cymorth penodol eisoes wedi'i benodi ar gyfer Cymru. Bydd tair rownd o geisiadau bob blwyddyn, ac mae'r rownd bresennol—y rownd gyntaf—ar agor ar hyn o bryd; mae ar agor tan 11 Rhagfyr. A bydd hynny'n adnodd newydd i ychwanegu at y gwaith gwych sydd eisoes yn cael ei wneud ar draws ystod eang o ffrydiau cyllido.
Mae'r rhaglen cyfleusterau cymunedol wedi bod yn rhaglen 20 mlynedd, gan ddod ag adeiladau nad oes ganddyn nhw ddefnydd ffydd bellach i ddefnydd buddiol i gymunedau, ond hefyd, fel yng Nghanolfan Afon Dyfrdwy yn y Fflint, er enghraifft, troi hen dafarn yn eglwys, a chyfleuster cymunedol wrth ei hochr.
Llywydd, tybed a wnewch chi roi cyfle i mi sôn am eiliad. Roedd un cofnod penodol ar wefan Addoldai Cymru, y cyfeiriwyd ato gan Darren Millar, y mwynheais ei ddarllen ac roeddwn i'n meddwl y dylwn i ei grybwyll y prynhawn yma. Chi oedd gen i yn fy meddwl, oherwydd dyma Yr Hen Gapel, mam eglwys 'black spot'—'smotyn du'—yr Undodiaid yng Ngheredigion a sir Gaerfyrddin, a dyma un o'r capeli sydd bellach dan ofal Addoldai Cymru. Roedd yn rhan o ddiwylliant Undodaidd radical mewn lleoliadau gwledig yng Nghymru, ac, yn arbennig, roedd yn alwad ac yn fan i bobl leol a oedd wedi cael eu herlid gan y tirfeddiannwr Torïaidd, John Lloyd [Chwerthin.] Roeddwn i'n gwybod y byddai hyn o ddiddordeb arbennig i'r person sy'n gofyn y cwestiwn hwn. Roedd yn ddrwgenwog am droi allan yn ystod y pedwar degau newynog. Trodd allan Anna Lloyd Jones, mam Frank Lloyd Wright, o'i chartref ar ei ystad am bleidleisio'r ffordd anghywir, ac, yn 1876, caeodd y capel yn gyfan gwbl, gan ddweud bod pleidleiswyr radical nad oeddynt yn Dorïaid wedi torri eu prydles trwy bleidleisio'r ffordd anghywir [Chwerthin.] Daeth tair mil o bobl yno y tu allan i'r capel y diwrnod canlynol i brotestio yn erbyn ei weithredoedd, ac mae hyn i gyd yn cael ei goffáu ar y wefan, gyda llawer iawn mwy. Mae'n rhan—mae'n rhan—o'n treftadaeth ffydd, ac rwy'n falch o allu ymateb i gwestiwn Darren Millar trwy ddangos bod rhai cyfleoedd newydd ar gyfer buddsoddi pellach i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar yr adeiladau hynny a'u cadw at y dyfodol.
Ac i'r rhai ohonoch sydd eisiau gwybod, Capel Llwynrhydowen yw e, ger Pont-siân—a viva Ceredigion radical [Chwerthin.] Mike Hedges.
Diolch, Llywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddweud bod llawer iawn o adeiladau mewn ardaloedd diwydiannol a oedd yn gapeli sydd wedi dod yn wag. Mae rhai wedi cael eu newid yn dda yn fflatiau braf iawn; eraill wedi eu gadael i ddadfeilio. Un o fy mhryderon—mae capeli bach yn cael eu trosi'n hawdd—yw'r rhai mawr, y rhai mawr iawn, y mae gennym nifer enfawr ohonynt ar draws y de. Beth sy'n digwydd iddyn nhw? Daeth chwiliad ar y we o hyd i 51 o amgueddfeydd yng Nghymru, sy'n cwmpasu amrywiaeth eang o feysydd, gan gynnwys glo, llechi a gwlân. Mae gan Gymru dreftadaeth aml-ffydd falch iawn. Mae gan o leiaf dair plaid yn y Siambr hon ddyled fawr o'u hamser cynnar i weithredoedd gweinidogion a phobl eraill o ffydd grefyddol. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried archwilio dichonoldeb amgueddfa aml-ffydd, yn seiliedig ar ein treftadaeth grefyddol?
Diolch i Mike Hedges am y cwestiwn yna. Rwy'n cydnabod yn fawr y pwynt y mae'n ei wneud ynglŷn â'r her o ran dod o hyd i ddefnydd buddiol ar gyfer rhai o'r adeiladau mawr iawn hynny a godwyd yng Nghymru, yn enwedig yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ar ei bwynt penodol am amgueddfa, rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod bod gan yr amgueddfa genedlaethol, Amgueddfa Cymru, a llawer iawn o amgueddfeydd lleol yng Nghymru, eitemau sy'n ymwneud â chrefyddau amrywiol ac addoldai yng Nghymru. Mae gan y llyfrgell genedlaethol gasgliad o ddeunydd archifol o gymunedau crefyddol ledled Cymru, sy'n cwmpasu blynyddoedd lawer. Yn wir, yn ystod fy ymchwiliadau ar gyfer y cwestiwn hwn, Llywydd, cefais fy hun hefyd ar wefan casgliad y werin, yr oedd ein cyd-Aelod Huw Lewis yn gyfrifol am ei sefydlu flynyddoedd lawer yn ôl, gan sicrhau bod llawer o'r casgliad sydd yno ar gael yn rhad ac am ddim ac yn electronig, gan ddangos ochr boblogaidd ein treftadaeth ffydd. Mae gennym raglen uchelgeisiol yn ystod tymor y Senedd hon o fuddsoddi mewn amgueddfa bêl-droed newydd yn Wrecsam, oriel gelf gyfoes, ac ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis. Ac er bod yr Aelod yn gwneud, ac rwy'n gwybod ei fod wedi gwneud o'r blaen, achos cryf dros amgueddfa sy'n ymroddedig i adrodd stori ffydd yng Nghymru, nid wyf yn credu y gallaf ddisgwyl y bydd yn cael ei hychwanegu at y rhestr o uchelgeisiau yr ydym eisoes yn eu cyflawni yn ystod tymor presennol y Senedd.
Pan fydd capel yn cau, mae'n aml yn golygu bod canolfan gymunedol bwysig yn cael ei cholli. Felly, Prif Weinidog, rwy'n gobeithio y byddwch yn cael amser i ymweld â hen gapel Hermon yn sir Benfro, a fydd yn cael bywyd newydd fel canolfan dreftadaeth, caffi, a fflatiau fforddiadwy. Mae hynny diolch i ymdrechion y bobl leol, yn enwedig Cris Tomos, a Planed, ac arian Llywodraeth Cymru. Ac mae hynny'n newyddion gwych. Ond, o ran hyrwyddo ein treftadaeth ffydd, a gaf i ofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo Llwybr Pererinion Wexford-Sir Benfro? Mae'n brosiect hynod uchelgeisiol a chyffrous, ac mae ganddo'r potensial i fod yn un o brif lwybrau pererindod Ewrop, gyda'r holl dwristiaeth a'r manteision economaidd a ddaw yn sgil hynny.
Diolch i Joyce Watson am y cwestiwn hwnnw, ac rwy'n llongyfarch yr holl bobl a fu'n rhan o'r prosiect y cyfeiriodd ato. Mae llwybr y pererinion yng ngogledd sir Benfro, sy'n cysylltu gogledd sir Benfro â Wexford yn Iwerddon, sy'n cysylltu Dewi Sant â Sant Aidan o Ferns yn Iwerddon, yn brosiect gwych. Mae dros 1,500 milltir o lwybrau pererinion yng Nghymru, ac maen nhw'n fwy poblogaidd heddiw nag y buon nhw ers blynyddoedd lawer. O ran twristiaeth a denu pobl i mewn, mae gennym nifer gyson o ymwelwyr o'r Almaen, yn arbennig, sy'n dod i Gymru oherwydd y llwybrau pererinion hynny ac sy'n cael eu denu ato oherwydd y diddordeb sydd ganddyn nhw gartref.
Dim ond cwpl o wythnosau yn ôl yr oedd gan ŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi sy'n dwyn ynghyd leisiau o Gymru ac o Iwerddon, bwyslais ar y llwybr pererinion honno a ffyrdd eraill y gallwn ni weithio, o bosibl, nid gydag Iwerddon yn unig, ond gyda Chernyw a Llydaw hefyd, i greu llwybrau newydd, gan dynnu ar ein hanes o oes y saint pan, yn rhyfeddol, yr oedd pobl o Gymru yn croesi'r cefnfor i fynd i rannau eraill o'r byd, gan ffurfio'r byd yr ydym ni ynddo heddiw. Felly, i'r rhai ohonoch chi nad ydych wedi bod i lwybr y pererinion yn sir Benfro, rwy'n ei argymell yn sicr, ac mae'n rhan o stori sy'n datblygu, ac rwy'n credu y bydd ganddi hyd yn oed yn fwy o ddiddordeb ynghlwm â hi yng Nghymru yn y dyfodol.
2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith penderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i beidio â chyhoeddi data arolwg y farchnad lafur ym mis Hydref? OQ60218
Wel, Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi codi pryderon am ansawdd data arolwg y gweithlu llafur i Gymru ers nifer o fisoedd. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol bellach wedi nodi cynllun ar gyfer gwelliannau, y mae'n gobeithio y bydd yn mynd i'r afael â'r materion hyn.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Yn ôl pob golwg, am y tro cyntaf erioed, fis diwethaf, methwyd â chyhoeddi data o arolwg gweithlu'r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Rwy'n rhannu pryderon a fynegwyd, er enghraifft, gan y Resolution Foundation y bydd hyn yn golygu na fydd gennym ddata dibynadwy ar ffurf y farchnad swyddi, a fydd yn amharu ar ein gallu i wneud penderfyniadau hanfodol ynghylch ein heconomi. Beth mae'r Prif Weinidog yn ei feddwl fydd effaith y penderfyniad hwn ar lunio polisïau yng Nghymru, ac a yw'n cytuno â'r sylwebyddion hynny sy'n dweud mai effaith penderfyniadau gwario y Torïaid ar gyllideb y Swyddfa Ystadegau Gwladol yw prif achos y broblem?
Wel, Llywydd, rwy'n credu bod y Financial Times yn ôl pob tebyg wedi crynhoi'r peth yn y ffordd orau pan ddywedodd yn syml bod ystadegau gwael yn arwain at benderfyniadau gwael. Ac mae brwydr y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ddarparu data gweithlu dibynadwy a rhai agweddau eraill ar ei gwaith yn ddiweddar yn fater sy'n peri pryder i lunwyr polisi. Mae'n rhaid i bwyllgor polisi ariannol Banc Lloegr bennu cyfraddau llog, ac mae'n gwneud hynny ar hyn o bryd, rwy'n credu, yn bennaf, mewn anwybodaeth o rai ffeithiau sylfaenol am economi'r DU—a yw'r economi yn tyfu ac, os ydyw, ar ba gyfradd, ac a yw diweithdra yn codi ac, os felly, pa mor gyflym.
Nawr, cyhoeddodd prif ystadegydd Llywodraeth Cymru flog ar 12 Medi, y diwrnod cyntaf yr oeddem ni yn ôl yn y Siambr hon ar ôl toriad yr haf, a nododd mai arolwg y gweithlu oedd prif ffynhonnell data'r farchnad lafur i Gymru, ond bod y ffigurau hynny wedi dod yn fwy anwadal, bod y penawdau niferoedd a thueddiadau wedi ymwahanu oddi wrth ei gilydd, a bod angen i ni yn awr ddibynnu ar ystod ehangach o ffynonellau.
Nawr, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, fel y dywedodd Vikki Howells, wedi cael ei heffeithio gan ostyngiadau yn ei chyllideb. Yn y cyfnod adolygu gwariant presennol, bu'n ofynnol iddi wneud arbedion gwerth 10 y cant o'i chyllideb sylfaenol. Ac nid yw'n syndod, mewn gwirionedd, ar adeg pan fo ganddi lai o arian i'w wario a mwy o her wrth gasglu data, ein bod yn y pen draw yn cael yr anawsterau a welsom yn ystod y mis diwethaf. Ond, mae gan yr anawsterau hyn, Llywydd, ganlyniadau yn y byd go iawn. Yn ogystal â methiant i gyhoeddi data arolwg y farchnad lafur, nid oes amcangyfrifon o'r boblogaeth wedi'u cyhoeddi chwaith. Maen nhw wedi eu haddo ac maen nhw wedi eu gohirio, ac yna cawson nhw eu gohirio eto. Nawr, mae fformiwla Barnett yn dibynnu ar ddata poblogaeth. Mae'r addasiad grant bloc, sy'n bwysicach o lawer i ni nawr nag yr oedd ychydig flynyddoedd yn ôl oherwydd ein cyfrifoldeb cyllidol, hefyd yn dibynnu ar amcangyfrifon cywir o'r boblogaeth. Nid ydym bellach yn disgwyl gweld yr amcangyfrifon hynny yr ochr hon i ddatganiad yr hydref. Nid oes amheuaeth o gwbl ei fod yn achosi ansicrwydd ychwanegol ac estynedig o ran pennu'r gyllideb—y pethau a fydd o ddiddordeb i'r Aelodau yn y Siambr hon—ar gyfer 2024-25, felly mae'n rhaid i ni obeithio y bydd y cynllun adfer y mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi'i gyhoeddi yn gweld ailddechrau'r broses o gyhoeddi'r setiau data sylfaenol bwysig hyn mewn modd mor amserol â phosibl.
Prif Weinidog, does dim amheuaeth bod yr oedi wrth gyhoeddi data arolwg y farchnad lafur yn cael effaith ar bolisi'r Llywodraeth, ac fe sonioch chi yn eich ateb cynharach y bydd yn rhaid i Lywodraethau ddibynnu ar wybodaeth arall. Os na fydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gallu cynhyrchu data economaidd mwy dibynadwy am beth amser, pa ddata economaidd arall y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei ddefnyddio i ddeall y darlun cenedlaethol yn well ac i fod yn sail i'w pholisïau economaidd yn y dyfodol?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig arall hwnnw. Bydd yn gwybod bod ystadegau'r farchnad lafur wedi eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol heddiw, ond mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ei hun yn dweud y dylid darllen y rhain ochr yn ochr â'r data arall y mae'n ei ddefnyddio. Er enghraifft, mae'n defnyddio data amser real o ffurflenni treth i amcangyfrif a yw nifer y bobl yn economi Cymru yn tyfu neu'n crebachu ai peidio. Mae'n dweud heddiw ei bod yn amcangyfrif bod gweithlu Cymru wedi tyfu tua 600 o bobl yn y mis diwethaf, gan ddefnyddio'r set arall honno o ddata sydd ar gael iddi. Bydd yr Aelod yn gwybod, rwy'n siŵr, hefyd, fod y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi cyhoeddi ei hadolygiad o'r anawsterau y mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi'u profi y bore yma hefyd, ac mae hi hefyd yn tynnu sylw at ffynonellau data eraill y gellir eu defnyddio tra bo'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn bwrw ymlaen â'i phrosiect trawsnewidiol—dyna maen nhw'n ei alw—fel y bydd gennym, rywbryd y flwyddyn nesaf, ddull diwygiedig o ymdrin ag ystadegau'r farchnad lafur a fydd yn eu gwneud mor ddibynadwy ag y mae angen iddynt fod. Yn y cyfamser, mae'r rhestr o ffynonellau data amgen yno yn y datganiad ystadegol heddiw, maen nhw yno ym mlog ein prif ystadegydd ein hunain, a bydd yn rhaid i ni ddibynnu ar y fasged ehangach honno o fesurau er mwyn gwneud y penderfyniadau y mae angen i ni eu gwneud.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch yn fawr, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, Prif Weinidog, gofynnais am y defnydd o WhatsApp o ran cyfathrebu o fewn Llywodraeth Cymru. Fe wnaethoch chi nodi yn ystod y sesiwn cwestiynau honno nad oedd gennych WhatsApp ar eich ffôn ac nad oeddech chi'n ei ddefnyddio. Ysgrifennais atoch ar ôl y sesiwn cwestiynau yr wythnos diwethaf. Nid wyf wedi derbyn ateb i'r llythyr hwnnw eto, er imi gael fy nghynnwys mewn gohebiaeth yr oeddech chi a'r Llywydd wedi ymgymryd â hi. A wnewch chi gadarnhau heddiw, ar y cyfle cyntaf ers i ni ymgynnull yma yng nghwestiynau'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, bod WhatsApp ar eich ffôn, a'ch bod yn ei ddefnyddio?
Yr ateb i'r ddau gwestiwn yw 'oes' ac 'ydw'.
Rwy'n ddiolchgar iawn am yr eglurhad hwnnw.
Y pwynt arall yr hoffwn i ei godi gyda chi yw polisi'r Llywodraeth. Yr wythnos diwethaf yn y sesiwn cwestiynau, galwodd Aelod Seneddol y Rhondda ac aelod Cabinet yr wrthblaid yn Llundain gweithredu'r cyfyngiadau cyflymder 20 mya yn 'boncyrs'. Ydych chi'n credu bod gweithredu—[Torri ar draws.] Gallaf glywed y meinciau Llafur yn dweud na wnaeth. Gofynnaf ichi ddarllen ei sylwadau, oherwydd dywedodd fod eu gweithredu yn boncyrs. A ydych chi'n credu bod hynny'n adlewyrchiad cywir o weithredu'r cyfyngiad cyflymder hwnnw y mae eich Llywodraeth chi wedi'i gyflwyno? Ac os ydych chi'n cytuno â'i asesiad ei fod yn boncyrs, beth ydych chi'n ei wneud am y peth?
Yn ffodus, mae gen i'r trawsgrifiad o'm blaen, felly gallaf eich sicrhau na ddywedodd beth mae arweinydd yr wrthblaid yn ei ddweud. Mewn gwirionedd, os ydych chi'n darllen yr hyn ddywedodd Mr Bryant, mae'n amlwg ei fod yn gefnogol i'r polisi. Dywed:
'Mae pawb yn credu, y tu allan i ysgol ac ysbyty, a chlinig, a fferyllydd ac mewn rhai ardaloedd preswyl y dylai fod yn 20 mya. Y peth yw, dyna bron bob ffordd yn y Rhondda.'
Felly, roedd yn gefnogol i'r polisi. Tynnodd sylw at y ffaith bod terfynau cyflymder, mewn rhai mannau, yn mynd o 20 mya i 30 mya, ac weithiau'n dychwelyd i 20 mya eto. Dyna'r union fath o fater y byddwn ni'n edrych arno wrth i ni adolygu'r polisi unwaith y byddwn wedi cael rhai misoedd pellach o'i weithredu yn ymarferol.
Mae gennych glyw dethol, Prif Weinidog. Dywedais fod yr hyn a ddywedodd yr Aelod dros y Rhondda yn ymwneud â gweithredu'r cynllun. Wnes i ddim dweud ei fod yn ymwneud â'r polisi. Rydym yn anghytuno am y polisi fel Ceidwadwyr a Llafur yn y Siambr hon. Dywedais wrthych chi fod yr Aelod dros y Rhondda wedi dweud bod gweithredu'r polisi yn boncyrs, ac, i fod yn onest, mae llawer o bobl ar hyd a lled Cymru yn credu ei fod yn boncyrs. Yr hyn a welsom hefyd ar Question Time yr wythnos diwethaf oedd aelod o'r gwasanaeth tân wrth gefn yn tynnu sylw at sut yr oedd e'n credu, yn drist, y gallai bywydau gael eu colli oherwydd anallu pobl i gyrraedd eu gorsafoedd tân ar amser i reoli peiriannau tân. Mae canlyniadau anfwriadol i'r polisi hwn, a dydw i ddim yn credu am un funud mai bwriad Llywodraeth Cymru oedd bod â phroblem o'r fath, atal diffoddwyr tân wrth gefn rhag mynd i'w gorsaf dân i fynd i argyfwng. Felly, a wnewch chi nodi pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i edrych ar y canlyniadau anfwriadol hyn y mae eich polisi wedi'u cyflwyno, fel nad ydym yn colli personél y gwasanaeth tân ac nad oes gennym achosion diangen o golli bywyd oherwydd polisi diffygiol y mae eich Llywodraeth chi wedi'i gyflwyno?
Llywydd, mae hwn yn bolisi a fydd yn achub bywydau pobl. Dyna'r dystiolaeth ddiamheuol sydd y tu ôl iddo. Dyma'r hyn sydd wedi digwydd mewn rhannau eraill o'r byd, ac, yn wir, mewn sawl man yn Lloegr lle mae ei blaid wrth y llyw a lle mae parthau 20 mya wedi'u cyflwyno. Rydym yn credu, dros 10 mlynedd, y gallai 100 o fywydau gael eu hachub—bywydau yn enwedig ymhlith plant, y gwyddom eu bod yn wynebu'r risg fwyaf pan fydd cerbydau'n gyrru'n rhy gyflym mewn ardaloedd preswyl. Dyna sail y polisi, dyna fydd ei effaith, ac mae gofyn i bobl yrru ychydig yn arafach mewn ardaloedd preswyl adeiledig, lle mae pobl i'w canfod a lle mae plant eisiau chwarae, yn bris bach i'w dalu er mwyn cael y canlyniadau hynny. Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo, wrth gwrs, i adolygu'r dystiolaeth o weithredu'r polisi, ac mae gwybodaeth ddiddorol eisoes yn dod i'r amlwg: mae dros 10 y cant o ffyrdd mewn un awdurdod lleol wedi'u heithrio o'r cyflymder rhagosodedig o 20 mya; mewn awdurdod lleol arall, mae'n llai na 0.5%. Mae amrywiaeth yn y ffordd y mae awdurdodau lleol wedi gweithredu'r polisi. Dyna pam mai casglu data, parhau i'w adolygu, sicrhau ei fod yn gwneud y gwaith yr ydym am iddo ei wneud, yn y ffordd iawn, yw'r union beth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Mae chwyrligwgan Cabinet Llywodraeth y DU wedi bod ar ei anterth eto. Prif Weinidog sydd, wrth amddiffyn Ysgrifennydd Cartref ymrannol am gyhyd, wedi colli ei gwmpawd moesol bellach ac wedi troi at bensaer cyni am iachawdwriaeth: cyni David Cameron. Gwnaeth ei doriadau dwfn, cofiwch, daro'r bobl dlotaf. Eto i gyd fe wnaeth unwaith alw gwrthwynebwyr ei doriadau cyni yn 'hunanol'. Un ffordd o sicrhau nad oes yn rhaid i deuluoedd ddewis rhwng gwresogi a bwyta dros y gaeaf fyddai cyflwyno tariff cymdeithasol newydd ar ynni. Mae rhywfaint o gefnogaeth i'r rhai sydd ar fudd-daliadau prawf modd, ond mae 6.3 miliwn o aelwydydd yn y DU mewn tlodi tanwydd; mae hynny'n gynnydd o 2 filiwn mewn dwy flynedd yn unig. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y dylai hyn fod yn flaenoriaeth nawr, ac y dylai fod yn flaenoriaeth i lywodraeth Lafur fyddai'n dod i mewn hefyd, pe bai hynny'n digwydd?
Mae Llywodraeth Cymru ar gof a chadw ers misoedd lawer iawn yn galw am dariffau cymdeithasol; mae yno yn y llythyrau a ysgrifennwyd gan fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Gweinidog cyllid. Bydd hi'n ysgrifennu, rwy'n credu, nawr, at ei hwythfed Prif Ysgrifennydd y Trysorlys. Roedd hynny'n un arall o anafusion y chwyrligwgan ddoe. Mae'n wirioneddol amhosibl cynnal busnes yn drefnus pan, dim llawer o amser ar ôl i chi gwrdd â rhywun—ac mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys yn ffigwr pwysig iawn yn Llywodraeth y DU o safbwynt Cymru—ac egluro wrtho y materion y mae angen iddo fynd i'r afael â nhw, mae wedi mynd a daw'r person nesaf trwy'r drws. Mae'r ffordd y mae hyn wedi'i wneud yn wirioneddol anhrefnus. Ond yn yr ohebiaeth honno, rydym wedi galw am dariffau cymdeithasol. Cwrddais ddoe ynghyd â chyd-Aelodau eraill gyda'r rheoleiddwyr—Ofgem, Ofwat, y lleill sydd â rhan bwysig i'w chwarae wrth sicrhau tariffau cymdeithasol. Mae darlun cymysg iawn allan yna. Mae rhai pethau eithaf arwyddocaol yn digwydd yn y diwydiant dŵr, er enghraifft, sydd i'w canmol, ond ar ben arall y sbectrwm, o ran y dyfeisiau electronig yr ydym ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw y dyddiau hyn i fyw ein bywydau, dim ond 5 y cant o ddefnyddwyr sy'n manteisio ar y tariffau cymdeithasol sydd yno yn y diwydiant hwnnw. Mae llawer iawn mwy i'w wneud, ac os gallem berswadio Llywodraeth y DU i fod yn bwrpasol wrth fynd ar ôl cyfundrefn tariff gymdeithasol briodol, yna y bobl yr ydym yn pryderu fwyaf amdanyn nhw fyddai'n cael y budd mwyaf.
Rwy'n cytuno'n llwyr bod anhrefn yn Llywodraeth Geidwadol y DU yn dal cymorth yn ôl o'r bobl sydd ei angen fwyaf. Ond mae'n rhaid i ni edrych ar ddiffyg gweithredu gan Lywodraeth Cymru hefyd. Ym mis Awst, dywedodd grŵp arbenigol Llywodraeth Cymru ar yr argyfwng costau byw fod argyfyngau yn mynnu gweithredu ar unwaith gan Lywodraethau. Dywedon nhw y bydd methiant i gymryd camau ataliol yn y tymor byr yn arwain at fwy o bobl yn dioddef caledi economaidd. Gwnaeth yr adroddiad 29 o argymhellion. Dri mis yn ddiweddarach, ychydig o symudiad yr ydym wedi'i weld gan Weinidogion Cymru, os o gwbl.
Mae'r cynnydd araf wrth weithredu'r rhaglen Cartrefi Clyd newydd, y nodwyd gan y grŵp arbenigol ei fod mor bwysig, yn oedi uwchraddio effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi sy'n dlawd o ran tanwydd. Yn yr un modd, ni chyflwynwyd cynllun peilot ar gyfer teithio am ddim ar fysiau i bobl ifanc dan 16 oed. Heb ymestyn y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim i flynyddoedd 7 i 11 ar gyfer yr aelwydydd hynny sy'n derbyn credyd cynhwysol, byddwn yn parhau i weld disgyblion yn syrthio drwy'r rhwyd.
Os mai diffyg arian gan Lywodraeth y DU yw'r rhwystr, ac os yw'r arolygon barn i'w credu, a fyddai'r Prif Weinidog yr un mor feirniadol o Keir Starmer oherwydd ei benderfyniad ymddangosiadol i beidio â gwneud addewid ar gyllid teg i Gymru?
Rwy'n cydnabod ychydig o wrthdoriadau o'r cynllun pum pwynt yr wythnos hon. Ni fydd pob Aelod yma yn gwybod pan fo wythnos arall yn dod, daw cynllun pum pwynt arall gan Blaid Cymru. Rwyf wedi ei weld, serch hynny, ac rwy'n cydnabod rhai o'r gwrthdoriadau ohono yn yr hyn oedd gan arweinydd Plaid Cymru i'w ddweud.
Mae arweinydd Plaid Cymru ag obsesiwn â chael ei siomi gan Lywodraeth Lafur sydd heb gael ei hethol hyd yn oed. Dywedaf wrtho, fel rwy'n dweud lawer o wythnosau: beth fydd ef yn ei wneud i sicrhau bod gennym y Llywodraeth Lafur honno y mae ef mor awyddus i'w beirniadu? Gadewch i ni gael y Llywodraeth honno ac yna gadewch i ni weithio gyda hi i sicrhau y gallwn ni wneud rhai o'r pethau y byddai ef a minnau yn dymuno eu gweld dros bobl yng Nghymru.
Rwy'n falch bod y Prif Weinidog wedi cydnabod fy rhwystredigaeth â Keir Starmer. Rwy'n credu bod dadrithiad gwirioneddol â Llywodraeth Keir Starmer cyn iddi gael ei ffurfio hyd yn oed. Gwir y mater yw, er ei fod efallai'n beirniadu'r cynllun pum pwynt a gyflwynwyd gan Blaid Cymru, mae cynllun 29 pwynt wedi'i gyflwyno gan y grŵp arbenigol ar yr argyfwng costau byw nad yw Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'i weithredu.
Pan fydd y rhaglen Cartrefi Clyd newydd yn cael ei chyflwyno yn y pen draw, fel dwi'n gobeithio y bydd hi, mi fyddwn i yn licio gwybod os oes yna sicrwydd ar un pwynt yn benodol. Mi fyddwn i'n hoffi sicrwydd gan y Prif Weinidog y bydd y meini prawf ar gyfer pwy sy'n gymwys yn golygu y bydd pobl sy'n dioddef o rai o'r afiechydon mwyaf difrifol yn cael eu cynnwys. Yn ôl Marie Curie, dim ond cyflyrau anadlol, cylchrediad y gwaed ac iechyd meddwl cronig mae'r Llywodraeth wedi'u nodi fel rhai a fyddai'n gymwys ar gyfer y meini prawf llai llym ar gyfer cymhwyso. Risg hyn fyddai eithrio pobl sydd, er enghraifft, yn dioddef o glefyd motor niwron neu sydd yn dioddef o ganser. Er gwaethaf codi hyn efo'r Llywodraeth, dwi'n deall bod yna ddim ymateb wedi bod gan y Gweinidog eto i geisiadau yn gofyn am ychwanegu salwch terfynol at y rhestr o gyflyrau iechyd cymwys. A allaf ofyn a ydy'r Prif Weinidog yn fodlon gwneud yr ymrwymiad hwnnw heddiw?
Beth dwi yn gallu dweud, Llywydd, yw bod y Gweinidog yn dal i siarad gyda Marie Curie a phobl eraill sydd eisiau cael effaith ar ein rhaglen ni fel y Llywodraeth, a phan bydd y ddogfen yn cael ei chyhoeddi, bydd pobl yn gallu gweld effaith pobl tu fas o'r Llywodraeth, gyda'r syniadau maen nhw eisiau eu rhoi i ni. Rŷn ni'n dal i drafod. Bydd rhaid i arweinydd Plaid Cymru a phobl eraill aros tan bod y gwaith yma wedi cael ei gwblhau a bydd y ddogfen yn barod i gael ei chyhoeddi.
3. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i fusnesau o ran prosesau ar gyfer olyniaeth a chynllunio gwaddol? OQ60257
Diolch i Luke Fletcher am hynny, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymdrechion i sicrhau bod cwmnïau o Gymru yn aros yn nwylo Cymry. Mae cronfa olyniaeth rheoli Cymru, sydd werth £25 miliwn, a reolir gan Fanc Datblygu Cymru, yn un enghraifft o'r cymorth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru o ran olyniaeth a chynllunio gwaddol.
Diolch am yr ateb, Brif Weinidog.
Rydych chi'n sôn yn briodol, wrth gwrs, am gronfa olyniaeth rheoli Cymru gwerth £25 miliwn, sydd wedi cael llwyddiannau, i fod yn deg. Fodd bynnag, gellir dadlau bod y lefel bresennol o adnoddau sydd ar gael drwy Fanc Datblygu Cymru i hyrwyddo prosesau olyniaeth yn anghyfartal i raddfa'r her sy'n ein hwynebu o ran ein canol coll. Ar £25 miliwn, dim ond 1.32% o'r cyfanswm o £1.9 biliwn a reolir gan y banc datblygu ar hyn o bryd yw cronfa olyniaeth rheoli Cymru. Felly, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno, er mwyn cadw busnesau yng Nghymru a'u helpu i dyfu y tu hwnt i'r hyn a fyddai'n cael ei ystyried yn fusnes bach, yna mae angen cyfran fwy o'r £1.9 biliwn hwnnw ar y gronfa olyniaeth?
Llywydd, rwy'n diolch i Luke Fletcher am ei gydnabyddiaeth o'r llwyddiant y mae'r gronfa wedi'i gael. Ers ei sefydlu ar 20 Tachwedd 2018, mae'r gronfa wedi ariannu 199 o fuddsoddiadau olyniaeth gwerth dros £72.4 miliwn. Ac efallai y byddwch yn gofyn: sut y gall cronfa o £25 miliwn gefnogi buddsoddiadau o £72 miliwn? Wel, mae hynny oherwydd ei bod yn gronfa fenthyciadau ac yn gronfa a gylchredir, felly mae'r arian yn mynd allan ac mae'n dod yn ôl yn y ffordd y mae'r gronfa yn cael ei gweithredu. Hyd y gwn i—ac, wrth gwrs, cyhoeddodd Banc Datblygu Cymru ei adroddiad blynyddol diweddaraf yn ddiweddar—mae'r gronfa yn cael ei rheoli'n dda ac yn llwyddiannus. Mae mwy y gallem ei wneud bob amser pe bai gennym fwy o arian, ond yn y maes hwn, fel popeth arall, mae swm cyfyngedig o arian. Rydym yn dibynnu ar Fanc Datblygu Cymru i wneud llawer o bethau ar ein rhan mewn sawl maes, nid yn unig cynllunio olyniaeth ond ym maes tai ac mewn meysydd eraill hefyd, ac ar hyn o bryd, mae'r £25 miliwn sy'n mynd allan ac yn dod yn ôl ac yn ein galluogi i wneud rhagor o fuddsoddiadau yn gwneud y gwaith yr ydym wedi gofyn iddo ei wneud.
Prif Weinidog, mae cynllunio olyniaeth yn bwysig iawn, iawn i unrhyw sefydliad. Rwy'n siŵr y byddai llawer o'ch cyd-Aelodau mainc flaen ar eich ochr eich hun i'ch plaid wrth eu bodd yn gwybod eich cynlluniau olyniaeth eich hun ar gyfer pryd y byddwch yn penderfynu gadael y swydd. Ond yn ehangach na hynny, nododd adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru nad oedd busnesau yn ymwybodol o'r gwahanol opsiynau olyniaeth oedd ar gael iddynt, ac nad oedd llawer o fusnesau yn dechrau cynllunio olyniaeth ar gam digon cynnar yn eu bywyd busnes. Felly, Prif Weinidog, pa waith y mae Busnes Cymru wedi'i wneud ynghyd â Llywodraeth Cymru a'r banc datblygu i ymgysylltu â busnesau ynghylch yr opsiynau cynllunio olyniaeth sydd ar gael iddynt?
Wel, rwy'n cytuno bod tystiolaeth bod llawer o fusnesau yn ei gadael hi'n rhy hwyr i feddwl am gynllunio olyniaeth. Mae ganddyn nhw gyfrifoldeb hefyd. Mae Busnes Cymru a Busnes Cymdeithasol Cymru yn cynnig cyngor arbenigol i'r cwmnïau hynny sydd am greu eu dyfodol y tu hwnt i'r berchnogaeth y maent wedi'i mwynhau tra bo'r busnesau hynny wedi bod yn cael eu datblygu. Byddwn yn annog unrhyw un ohonyn nhw i sicrhau eu bod yn ymgysylltu â'r ffynonellau cymorth ac arweiniad sydd ar gael iddyn nhw, oherwydd maen nhw'n arbenigol eu natur ac mae ganddyn nhw fynediad at gronfeydd sylweddol iawn, fel yr ydym eisoes wedi'i glywed heddiw. Mae'r help yno. Mae cyfrifoldeb ar fusnesau eu hunain i fanteisio ar yr hyn sydd ar gael.
Mae angen yr olyniaeth fusnes a'r cynllunio gwaddol cryf yna arnom i dyfu a datblygu ein busnesau a grewyd eu hunain yng Nghymru, a gallai rhan o hynny fod gyda modelau perchnogaeth gweithwyr, fel y'u cefnogir gan y Blaid Gydweithredol ac yn wir o fewn ein rhaglen lywodraethu Llafur Cymru. Ond a fyddech chi, Prif Weinidog, yn cytuno â mi bod angen i ni hefyd adeiladu ar waddol buddsoddiad uniongyrchol tramor rhagorol, fel y dangosir gan y dros 50 mlynedd o fuddsoddiad bellach gan gwmnïau o Japan ym mhob un rhan o Gymru, ac rwy'n credu iddo ei drafod gyda'r llysgennad a gyda Rob Wilson, prif swyddog gweithredol Canolfan Dechnoleg Sony y DU, ar ei ymweliad â Sony Pencoed yr wythnos diwethaf?
Diolch i Huw Irranca-Davies am hynny. Diolch am yr hyn a ddywedodd am y record sydd gennym yng Nghymru. Atebais gwestiwn gan Luke Fletcher ar hyn dim ond wythnos neu ddwy yn ôl, lle gwnaethom ddathlu'r ffaith bod 66 o fusnesau sy'n eiddo i weithwyr ledled Cymru, ac mae'r nifer hwnnw'n cynyddu drwy'r amser. Felly, mae hynny'n fesur o lwyddiant wrth dyfu'r busnesau brodorol hynny, ond nid yw'n ddewis. Rwy'n credu mai dyna'r camgymeriad y mae rhai pobl yn ei wneud. Maen nhw'n cyflwyno'r pethau hyn fel pe gallech chi gael y naill neu'r llall, tra mai polisi Llywodraeth Cymru yw cefnogi perchnogaeth barhaus cwmnïau cynhenid Gymreig yng Nghymru ond ar yr un pryd croesawu buddsoddiad amyneddgar hirdymor o dramor yn economi Cymru, ac nid yw hynny'n fwy eglur yn unman, mewn gwirionedd, nag yn hanes 50 mlynedd buddsoddiad Japaneaidd. Rwy'n gwybod, fel yr Aelod lleol, bod Huw Irranca-Davies yno yn Sony, yr oedd yn bleser cael cwmni llysgennad Japan unwaith eto yng Nghymru. Mae wedi bod yn ymwelydd rheolaidd iawn â Chymru yn ystod ei gyfnod. Roeddem yno i ddathlu, Llywydd. Roeddem yno i ddathlu'r hanes hwnnw o fuddsoddiad parhaus yn economi Cymru, y mae miloedd lawer o swyddi'n dibynnu arno. Pan fydd gennych fuddsoddiad uniongyrchol tramor o'r math hwnnw, wedi ymrwymo i'r tymor hir, wedi ymrwymo i greu rhwydwaith o fusnesau, hunangynhaliol, gan edrych i'r dyfodol, yna mae hynny'n rhan mor bwysig o'n dyfodol economaidd â'r gwaith a wnawn i sicrhau y gall busnesau a anwyd yng Nghymru aros yn nwylo Cymry.
4. Pa drafodaethau sydd wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Rhondda Cynon Taf ynghylch penderfyniad y cyngor i breifateiddio y gwasanaethau gofal cartref oedd yn weddill o dan eu rheolaeth, heb edrych ar opsiynau amgen? OQ60255
Llywydd, mater i bob awdurdod lleol yw penderfynu’r ffordd orau o ddarparu neu drefnu gwasanaethau gofal i’w ddinasyddion, o fewn ei ddyletswyddau statudol. Nid oes angen i unrhyw awdurdod lleol gael caniatâd o Lywodraeth Cymru er mwyn gweithredu'r cyfrifoldebau sydd yn dod o dan ei fandad democrataidd.
Ond mewn llythyr agored i Lywodraeth Cymru, mae Unsain Cymru wedi codi nifer o bryderon am y penderfyniad i breifateiddio'r gyfran sy'n weddill o ofal cartref mewnol yn Rhondda Cynon Taf, yn gofyn i chi ymyrryd, gan honni bod y penderfyniad wedi'i wneud heb ymgynghori'n iawn gydag undebau llafur. Maen nhw'n pryderu am yr effaith bosibl ar allu'r cyngor i ymateb i fethiant darparwyr sector preifat yn y dyfodol, sydd wedi'i weld mewn mannau eraill yng Nghymru, a'r gwrth-ddweud canfyddedig gyda'r nod o ailgydbwyso'r Ddeddf gofal a chymorth, i symud y ddarpariaeth gofal tuag at y sector cyhoeddus. Felly, pwy sy'n iawn, Prif Weinidog: cyngor Rhondda Cynon Taf neu'r 1,500 o bobl leol sydd wedi llofnodi'r ddeiseb, gweithwyr gofal a'u hundebau, sy'n galw am roi gofal o flaen elw?
Llywydd, mater i gyngor Rhondda Cynon Taf yw ymgynghori â'i weithlu a gyda'i boblogaeth leol, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n sicrhau bod y lleisiau hynny'n cael eu clywed ac yn cael eu hystyried yn y penderfyniad y bydd yn rhaid i'r cyngor ei wneud. Rwyf wedi gweld y papur aeth i gabinet y cyngor. Mae'n 60 tudalen o hyd. Mae'n cynnwys asesiad manwl o'r effaith ar gydraddoldeb. Nid wyf yn credu ei fod yn cefnogi awgrym yr Aelod bod hwn rywsut yn newid na ystyriwyd gan yr awdurdod lleol. A, Llywydd, mae gan bob awdurdod lleol ddewisiadau i'w gwneud rhwng darpariaeth sector uniongyrchol ac annibynnol ym maes gofal cymdeithasol. Er enghraifft, mae Plaid Cymru Ceredigion yn preifateiddio ei holl ofal cartref hirdymor. Tra roeddwn i'n paratoi ar gyfer cwestiynau heddiw fe wnes i weld fideo da iawn—un ardderchog—sydd ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd. Fe'i gelwir yn 'Mae gofal cymdeithasol yn newid'. Mae'n nodi'r ffordd y mae'r cyngor yn dadlau'r achos dros symud i gontractio gydag un darparwr ym mhob un o'i 16 o ardaloedd, ac mae'n ei wneud, rwy'n credu, mewn ffordd argyhoeddiadol iawn.
Bydd cynigion Rhondda Cynon Taf yn gweld yr holl ofal cartref ailalluogi a chanolradd yn cael ei ddarparu'n fewnol. Bydd y 10 y cant o'r gofal hirdymor a ddarperir gan yr awdurdod lleol yn ymuno â'r 90 y cant o'r gofal hwnnw a ddarperir eisoes gan y sector annibynnol. Ni fydd unrhyw swyddi'n cael eu colli, ni fydd unrhyw newid yn lefel y gwasanaeth na'r gofal a ddarperir i breswylwyr. Llywydd, mae gofal cymdeithasol yn newid, o Wynedd i Rondda Cynon Taf, a byddai'n ddoeth i'r Aelod gydnabod y ffaith honno.
Prif Weinidog, fel y clywsom, mae trigolion sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf yn pryderu am y cyhoeddiad diweddar ynghylch gwasanaethau gofal cartref hirdymor yn y fwrdeistref sirol a sut y bydd yn cael ei allanoli. Mae'n anochel y bydd cael gwared ar yr holl wasanaethau gofal cartref hirdymor a ddarperir gan yr awdurdod lleol yn golygu y byddan nhw'n colli arbenigedd staff ac, yn y pen draw, y gallu gweithredol i redeg y gwasanaethau hyn pe bai'r awdurdod lleol yn penderfynu yn nes ymlaen i ddod â nhw yn ôl yn fewnol eto.
Rwy'n rhannu pryderon fy nghyd-Aelod am y diffyg proses ddyladwy ynghylch y sefyllfa hon, ac mae'n destun pryder hefyd i weld bod cyngor Rhondda Cynon Taf unwaith eto'n mynnu mai diffyg arian yw'r prif rym y tu ôl i wneud y penderfyniad hwn, er bod tua £220 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio ganddyn nhw, sydd, fel y byddwch chi heb amheuaeth yn cytuno, Prif Weinidog, yn swm sylweddol o arian. Gyda hyn mewn golwg, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod awdurdodau lleol yng Nghymru yn defnyddio'r cronfeydd wrth gefn sydd ar gael yn briodol cyn gweithredu camau atal costau fel hyn? Diolch.
Wel, rwy'n cytuno ei bod yn bwysig iawn bod awdurdodau lleol yn gwneud defnydd da o'u cronfeydd wrth gefn yn y cyfnod ariannol anodd iawn hwn, ac rwy'n credu bod y record yn dangos eu bod yn gwneud yn union hynny. Dydw i ddim yn deall y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud am ddiffyg proses ddyladwy. Mae'n dweud wrthyf ei fod yn poeni am ddiffyg proses ddyladwy. Beth yn union—pa broses ddyladwy, yn ei farn ef, na ddilynwyd gan awdurdod lleol sy'n mynd ag adroddiad i'w gabinet, yn cyhoeddi'r adroddiad hwnnw, yn sicrhau ei fod ar gael i'w undebau llafur a'i boblogaeth leol, a fydd yn gwneud yr holl newidiadau angenrheidiol y mae'n ceisio eu gwneud yn y cyngor llawn, ar benderfyniadau democrataidd y cyngor? Nid wyf yn hollol siŵr lle mae'r broses ddyladwy yn ddiffygiol o ran hynny i gyd. Nid wyf ychwaith yn cytuno ag ef ei bod yn anochel y bydd arbenigedd yn cael ei golli. Bydd pawb sy'n gweithio i RhCT ar hyn o bryd yn cael cynnig i gael eu trosglwyddo i unrhyw drefniadau newydd. A fy nealltwriaeth i o'r hyn y mae'r cyngor yn ei gynnig yw y bydd yn adlewyrchu'r newid sydd wedi ei greu yng Ngwynedd a lleoedd eraill—newid i'w ganmol—lle bydd gweithwyr, yn hytrach na bod â rhestr anhyblyg o dasgau, yn cael gwybod bod ganddyn nhw chwarter awr yn y fan yma a hanner awr yn y fan yna, ac mae'n rhaid iddyn nhw deithio o gwmpas er mwyn darparu gofal cartref. Bydd pobl yn gweithio mewn ardal, byddan nhw'n adnabod eu defnyddwyr, byddan nhw'n penderfynu faint o amser mae rhywun ei angen ar unrhyw ddiwrnod penodol.
Os ydyn ni'n bod yn eciwmenaidd yn hyn, Llywydd, yn ogystal â digwydd yng Ngwynedd, datblygwyd llawer o hyn yn sir Fynwy, dan weinyddiaeth Geidwadol, gyda model a ddatblygwyd ganddynt mewn rhan o'r sir yn y fan yna. Rwy'n credu bod y model hwnnw'n cael ei weithredu mewn rhannau eraill o Gymru. Rwy'n credu ei fod yn helpu i recriwtio, mae'n helpu i gadw staff, mae'n golygu bod pobl yn datblygu ffynonellau arbenigedd newydd ac yn cael mwy o foddhad o'u swydd, ac rwy'n gobeithio y bydd y buddion hynny ar gael i drigolion RhCT hefyd.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfraddau canser y geg yng Nghymru? OQ60239
Llywydd, byddaf mewn eiliad, os gallaf ddod o hyd iddo—. Dyma fi, rwy'n ymddiheuro am hynny. Llywydd, yn anffodus, er gwaethaf y ffaith ei fod yn glefyd y gellir ei atal i raddau helaeth, mae cyfraddau canser y geg wedi bod yn cynyddu yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae cysylltiad cryf rhwng canser y geg ag ysmygu ac yfed alcohol yn drwm, ac yn fwyaf aml mae'n cael ei brofi gan bobl rhwng 60 a 69 oed.
Diolch am yr ymateb.
Y mis hwn, Tachwedd, yw Mis Gweithredu ar Ganser y Geg lle rydym yn canolbwyntio, fel y dywedoch chi, yn drist, ar y cyfraddau cynyddol o ganser y geg a'r ffaryncs. Fel y dywedwch chi, mae canser y geg yn effeithio ar bawb o bob oed, ond yn anffodus, mae'n cynyddu'n sydyn mewn pobl rhwng 60 a 69 oed. Ac yn anffodus, mewn dynion mae'r gyfradd marwolaethau ddwywaith y gyfradd mewn menywod. Mae canfod yn gynnar yn bwysig iawn—cyfradd goroesi o 90 y cant ac mae'n gostwng i 50 y cant yn ddiweddarach. Mae adroddiad Age Cymru yn tynnu sylw at y pryderon ynghylch bod diffyg deintyddion y GIG ar gael i bobl hŷn a sut maen nhw'n cael trafferth gallu cael mynediad at y rheini ar gyfer archwiliadau arferol a allai ganfod canser y geg. Felly, unwaith eto, daw'r mater yn ôl i'n pryderon, y mae pawb wedi'u codi, gan gynnwys fy etholwyr, ynghylch mynediad at ddeintyddiaeth y GIG. A allech chi amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru, gan edrych ar gynyddu'r mynediad at ddeintyddion y GIG i bawb, ond yn enwedig i bobl hŷn? Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Jane Dodds am y cwestiwn, Llywydd.
Cefais y cyfle ddoe i drafod y cwestiwn gyda'r prif swyddog deintyddol yng Nghymru. Roeddwn i'n meddwl bod ei farn ar hyn yn ddiddorol iawn, oherwydd fe ddywedodd wrthyf nad oedd yn credu mai deintyddion o reidrwydd oedd y gwasanaeth rheng flaen gorau o ran canser y geg oherwydd bod canser y geg yn cynnwys tri math gwahanol o ganser—canser y gwefusau, canser y geg a chanser y gwddf—a dim ond y canol o'r tri hynny y mae deintyddion yn cael eu hyfforddi i'w hadnabod neu i adrodd arnynt i'r system.
Mae hefyd yn wir, dywedodd wrthyf, bod y bobl hynny yr ydym yn poeni fwyaf amdanynt, yn y ffordd y dywedodd Jane Dodds, ymhlith y bobl hynny sydd leiaf tebygol o ymweld â deintydd. Hyd yn oed pan fydd gofal deintyddol ar gael ar eu cyfer, nid ydynt yn dod ar gyfer triniaeth ddeintyddol. Felly, y gwasanaethau sydd yno er mwyn canfod yn gynnar—. Ac mae Jane Dodds yn hollol gywir. Mae 90 y cant yn goroesi os caiff ei ganfod yn gynnar a dim ond 50 y cant yw'r siawns o gael y canser hwnnw wedi'i wella os caiff ei ganfod yn ddiweddarach. Rhan yn unig o'r ateb yw dibynnu ar ddeintyddiaeth, er ei fod yn rhan bwysig o'r system i ymateb iddo.
O ran argaeledd, bydd yr Aelod yn gwybod bod gennym gontract deintyddol newydd yng Nghymru. Ers mis Ebrill 2022, mae mwy na 0.25 miliwn o gleifion newydd wedi derbyn cwrs llawn o driniaeth yma yng Nghymru. Hyd yma eleni, mae 44,000 o gleifion newydd wedi cael gofal brys drwy'r gwasanaeth deintyddol yng Nghymru. Ac mae byrddau iechyd bellach yn dweud bod ganddyn nhw fwy o apwyntiadau ar gael ar gyfer gofal brys nag y mae cleifion yn gofyn amdanyn nhw. Dyna ganlyniad llwyddiant y contract newydd, ac mae mwy i'w gael o'r contract hwnnw yn y dyfodol.
Yn y cyfamser, mae gwaith i'w wneud i gynyddu capasiti arferol ar gyfer gofal deintyddol y GIG. Mae'n cynnwys, fel yr wyf wedi ceisio cyflwyno'r achos lawer gwaith ar lawr y Senedd, amrywio'r gweithlu, fel nad oes gennym ddeintyddion yn gwneud pethau fel mater o drefn nad oes angen sgiliau rhywun sydd wedi'u hyfforddi dros bum mlynedd a mwy yn yr achosion mwyaf cymhleth i fod yn gwneud tasgau arferol y gall aelodau eraill o'r gweithlu deintyddol eu cyflawni'n glinigol yn llwyddiannus.
Yn yr haf, Llywydd, ymwelais â phractis deintyddol yn Abertawe gyda phennaeth deintyddol blaengar iawn yn gwneud yn union hynny. Maen nhw'n derbyn cannoedd o gleifion newydd oherwydd y ffordd y maen nhw bellach yn trefnu'r gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu. Mae mwy y gallwn ni ei wneud i wneud gwell defnydd o'n staff deintyddol presennol trwy eu hategu ag eraill a all helpu i wneud y rhannau arferol o ofal deintyddol, gan ryddhau deintyddion i wneud y pethau dim ond deintydd sy'n gallu eu gwneud.
Diolch Jane, am godi'r mater pwysig hwn. Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r gyfradd achosion o ganser y geg wedi cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn ers 2002. Y llynedd, bu farw dros 100 o bobl â chanser y geg. Dywed y BDA fod naw o bob 10 person yn goroesi canser y geg gyda diagnosis cynnar. Ond, gyda deintyddiaeth y GIG yn ddeilchion—wyddoch chi, er mwyn canfod canser, mae deintyddion yn bwysig. Yr ofn yw na fydd llawer o bobl yn cael diagnosis yn brydlon.
Rydyn ni i gyd yn gwybod mai ysmygu tybaco yw un o brif achosion canser y geg. Yn Araith y Brenin, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddeddfwriaeth i godi'r oedran y ceir gwerthu tybaco i bobl, gan sicrhau na ellir gwerthu sigaréts na chynhyrchion tybaco eraill yn gyfreithlon i unrhyw un sy'n 14 oed neu'n iau ar hyn o bryd. Mae'r Bil tybaco a fêps hefyd yn cynnwys mesurau i atal fepio ymhlith pobl ifanc a chynlluniau i ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu yn lleol. Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r cyhoeddiad hwn, ac a wnewch chi ymrwymo i gynyddu eich ymdrechion i roi'r gorau i ysmygu yng Nghymru, fel y galwyd amdano gan Cancer Research UK? Diolch.
Llywydd, heb os, mae'n wir bod modd atal llawer iawn o ganser y geg. Gellir ei atal drwy fod pobl yn rhoi'r gorau i ysmygu, drwy leihau faint o alcohol maen nhw'n ei yfed. A'r cynnydd cyflymaf mewn canser y geg mewn gwirionedd yw canser y gwddf ac mae hynny wedi'i gysylltu'n fwyaf uniongyrchol â heintiau HPV, a bydd gwella cyfraddau brechu HPV yng Nghymru yn fesur ataliol pwysig arall. Mae Cymru wedi bod yn rhan o ymgynghoriad pedair gwlad sydd y tu ôl i'r mesurau a amlinellwyd yn Araith y Brenin. Os oes mwy y gallwn ni ei wneud i leihau ysmygu yn y dyfodol ac i ymdrin â defnyddio e-sigaréts ymhlith pobl ifanc, oherwydd dyna ran arall yr ymgynghoriad hwnnw, yna bydd yn cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru.
6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru yn sgil Araith y Brenin yn ddiweddar? OQ60260
Llywydd, mae diffyg uchelgais a chynigion ymarferol yn Araith y Brenin i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu dinasyddion Cymru. O ran y Senedd hon, pryder allweddol fydd a yw Llywodraeth y DU yn parchu confensiwn Sewel yn y sesiwn hon o'r Senedd.
Diolch, Prif Weinidog. Mae anhrefn yn ôl yn Rhif 10—efallai na aeth i ffwrdd. Mae'n ymddangos bod gennym Lywodraeth San Steffan sy'n datod ar gyflymder o'r fath, nes bod Araith y Brenin, dim ond wythnos yn ôl, yn ymddangos fel hanner oes yn ôl. Ond ni ddylem ganiatáu i'r rhestr honno o gyfleoedd a gollwyd fynd heb sôn amdanyn nhw: methiant San Steffan i weithredu ar gost anghydraddoldeb; penderfyniad gwrthnysig y Torïaid i gondemnio cenedlaethau'r dyfodol i dlodi a llygredd trwy ddrilio am fwy o olew a nwy. Bydd effaith yr araith honno ar Gymru yn cael ei gweld wrth i bobl fod yn dlotach nag y mae angen iddyn nhw fod ac wrth i'n daear ni fod yn fwy budr nag y byddai fel arall; y cyfleoedd hynny a gollwyd i wneud bywyd yn well i bobl sy'n byw yma. Prif Weinidog, ni fydd unrhyw Lywodraeth yn San Steffan o unrhyw liw yn y dyfodol yn cyflawni rhaglen wedi'i theilwra a'i chynllunio i fynd i'r afael ag anghenion ein cenedl. Onid yw hi'n bryd i ni ddod â'r genedl anghyfartal hon i ben, sy'n ein clymu i ddyfodol a ysgrifennwyd gan ffigurau ynysig, pell ac a draethwyd gan Frenin ar orsedd?
Llywydd, rwy'n cytuno nad yw Araith y Brenin yn ddigonol i ymdrin â'r heriau a wynebir ledled y Deyrnas Unedig. Galwodd y Financial Times hi yn 'thin gruel', a 'damp squib'; dywedodd fod Araith y Brenin, drwy chwarae gwleidyddiaeth dros y pontio ynni, yn gwaethygu enw da y DU ymhellach fel arweinydd ar newid hinsawdd. Felly, mae llawer iawn ar goll o Araith honno y Brenin. Ble oedd y Bil iechyd meddwl, Llywydd, a addawyd i ni gyhyd ac y byddem wedi gallu ei ddefnyddio i wneud pethau da yma yng Nghymru? Dim byd ar yr economi, dim byd ar chwyddiant, dim byd ar y GIG, dim byd ar fewnfudo, chwaith. Araith y Brenin oedd hon ar gyfer Llywodraeth ar ddiwedd ei hoes, Llywodraeth sy'n gwybod bod ei hamser wedi dod i ben, Llywodraeth nad oes ganddi uchelgais i fod mewn Llywodraeth yn y dyfodol.
Ac o ran yr anhrefn y cyfeiriodd Delyth Jewell ato, os oedd erioed wedi mynd i ffwrdd, rydym wedi gweld, Llywydd, rydym wedi gweld yr awyrgylch aflednais, misogynistaidd, paranoiaidd a dreiddiodd i 10 Downing Street yn cael ei amddiffyn wythnos ar ôl wythnos yma ar lawr y Senedd yn ystod argyfwng COVID. Sawl wythnos ydw i'n cofio cael gwybod gan wleidyddion Ceidwadol yma y dylem ni ddilyn yr hyn oedd yn digwydd yn Lloegr? Wel, rydyn ni'n gwybod—rydyn ni'n gwybod—beth oedd yn digwydd yn Lloegr ac mae'n gwbl ddiesgus. Edrychaf ymlaen at glywed ymddiheuriad—edrychaf ymlaen at glywed ymddiheuriad gan wleidyddion Ceidwadol yn y fan yma ar y pethau rydyn ni wedi'u dysgu. [Torri ar draws.] Na, fyddwn ni ddim yn ei glywed. Fyddwn ni ddim yn ei glywed. Rydyn ni'n gwybod, oherwydd ei fod yn dal i amddiffyn y mathau o afledneistra, misogynistaidd—wel, mae'n rhannu'r misogynistiaeth, rydyn ni'n gwybod—y misogynistiaeth aflan a oedd yn nodweddiadol—[Torri ar draws.] Ie, rwy'n gwybod.
Andrew R.T. Davies a gododd—
Ie, ie. Edrychwch—
Rhowch chi gynnig arni nawr.
Andrew R.T. Davies, na. Na, na. Na. Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn dymuno ystyried y cyhuddiad uniongyrchol a wnaeth i arweinydd yr wrthblaid yn y fan yna. Dydw i ddim yn credu y bu unrhyw beth misogynistaidd yng nghyfraniad Andrew R.T. Davies heddiw.
Wel, rwy'n cytuno â hynny, Llywydd. Chlywais i ddim byd misogynistaidd heddiw.
Laura Anne Jones.
[Torri ar draws.] Ie, ie. Rwy'n ei weld drwy'r amser, Llywydd. Mae'n credu y gall ddweud unrhyw beth y mae'n dymuno am unrhyw un arall. Y funud—[Torri ar draws.] Y funud—y funud—y gwnewch chi dynnu sylw at ei record ei hun, mae ar ei draed yn cwyno amdano. [Torri ar draws.] Dyma ni, ie. Dyma ni. Gallaf i ddweud wrthych chi. [Torri ar draws.] Ie, ie.
Rwy'n mynd i ofyn i Laura Anne Jones nawr i fwrw ymlaen. Mae sylwadau misogynistaidd yn cael eu gwneud gan Aelodau yn y Siambr hon. Rwyf wedi bod yn destun i un ohonyn nhw fy hun heb fod yn hir iawn yn ôl.
Yn wir.
Laura Anne Jones.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yn Araith y Brenin yn ddiweddar, wrth gwrs, gwelsom Lywodraeth y DU yn ymrwymo i ddiwygio'r farchnad dai, gan ei gwneud yn rhatach ac yn haws i lesddeiliaid brynu eu rhydd-ddaliad. Maen nhw wedi diogelu dyfodol ein clybiau pêl-droed, y bydd llawer ohonoch chi'n hapus amdano, er budd ein cymunedau a'n cefnogwyr. Maen nhw wedi mynd i'r afael â gwrthsemitiaeth, lle gallai gwersi, wrth gwrs, gael eu dysgu gan eich plaid chi, a sicrhau bod yr Holocost yn cael ei gofio ledled ein Teyrnas Unedig, a hefyd sicrhau y bydd pobl yng Nghymru yn cael eu diogelu'n well rhag troseddu, ymddygiad gwrthgymdeithasol, terfysgaeth a mewnfudo anghyfreithlon. Prif Weinidog, y cwestiwn yr wyf i am ei ofyn i'r Llywodraeth Cymru hon: a wnaiff Llywodraeth Cymru ollwng ei phwyslais ar ddiwygio cyfansoddiadol ac ideoleg rhywedd, a chanolbwyntio ar gyfateb uchelgais Llywodraeth y DU yn y rhaglen ddiwygio hon mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i'r Senedd?
Llywydd, darllenodd yr Aelod gyfres hir o Filiau, dim ond un ohonyn nhw sydd â buddiant datganoledig, ac, ar yr un hwnnw, ar ddiwygio lesddaliadau, byddwn ni'n parhau i gael ein sgyrsiau â Llywodraeth y DU, oherwydd rwy'n credu ei bod yn well diwygio lesddaliadau ar sail Cymru a Lloegr. Rydym eto i ddysgu gan Lywodraeth y DU pryd y bydd y Bil hwnnw'n cael ei gyflwyno, ac, oni chaiff ei gyflwyno'n gyflym, yna mae'r siawns y bydd yn cwblhau ei broses seneddol cyn etholiad cyffredinol yn arbennig o fach. Felly, os hoffai'r Aelod ychwanegu ei llais at ein un ni wrth geisio sicrhau bod y Bil hwnnw'n cael ei gyflwyno mewn ffordd sy'n rhoi cyfle teg iddo gyrraedd y llyfr statud, bydd hynny'n ddefnyddiol iawn.
Alun Davies.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Llywydd. Rydyn ni'n clywed llawer iawn, Prif Weinidog, gan y Ceidwadwyr nad ydyn nhw'n hoffi gwleidyddion ychwanegol. Wel, fe wnaethon ni ddarganfod ddoe mai David Cameron, wrth gwrs, yw'r 117fed aelod newydd o Dŷ'r Arglwyddi ers yr etholiad cyffredinol diwethaf—117 o gronïau, rhoddwyr pleidiau a gwleidyddion aflwyddiannus wedi'u stwffio i mewn i Siambr lygredig ac anetholedig sy'n ceisio llywodraethu'r wlad hon. Prif Weinidog—[Torri ar draws.] Prif Weinidog, mae Siambr Tŷ'r Arglwyddi bellach yn fwy na phresidiwm Cyngres Genedlaethol Pobl Tsieina, ac nid yw'r un ohonyn nhw'n atebol i unrhyw un ohonom ni. A ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, bod adroddiad Gordon Brown yn dangos ffordd ymlaen lle gallwn ddiddymu Tŷ'r Arglwyddi a lle gallwn fod â Siambr sy'n cael ei hethol i gynrychioli pob un ohonom ni, hyd yn oed nhw? [Chwerthin.]
Llywydd, diolch i Alun Davies am hynny. Mae e'n iawn bod yr Arglwydd Cameron bellach yn chwyddo rhengoedd bythol gynyddol Tŷ'r Arglwyddi, a byddai adroddiad Gordon Brown, Llywydd, sy'n argymell Tŷ Arglwyddi llawer yn llai, gydag etholiadau uniongyrchol iddo, gyda chynrychiolaeth wedi ei gwarantu i'r cenhedloedd a'r rhanbarthau a thasg newydd o ran diogelu'r cyfansoddiad, gan gynnwys diogelu datganoli yma yng Nghymru, yn gwneud cynnig llawer gwell i Araith y Brenin nag unrhyw beth y gwelsom ni yr wythnos diwethaf.
7. Beth yw dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â mentrau cyllid preifat? OQ60214
Llywydd, roedd Llywodraeth Cymru yn feirniad cadarn o fathau blaenorol o gyllid preifat ac ni wnaeth ymgymryd ag unrhyw gynlluniau mentrau cyllid preifat newydd. O ganlyniad, rydym wedi ein hinswleiddio i raddau helaeth o'r canlyniadau cost refeniw uchel iawn y mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus eu talu yng ngwledydd eraill y DU.
Diolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb hwnnw. Yn y Senedd, rydyn ni'n parhau i fod ar ein dyled i Rhodri Morgan am beidio â dilyn San Steffan wrth ddefnyddio mentrau cyllid preifat i ariannu datblygiadau. Maen nhw wedi bod yn gostus i'r rhai hynny sydd wedi ymrwymo i'r contractau, ond yn broffidiol iawn i'r rhai sydd â'r contractau. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi model buddsoddi cydfuddiannol, sydd yn fenter cyllid preifat i bob pwrpas heb reoli cyfleusterau. A wnaiff Llywodraeth Cymru ailystyried defnyddio'r dull hwn o ariannu gwariant cyfalaf?
Wel, diolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd am y penderfyniadau hynny—15 mlynedd a mwy yn ôl erbyn hyn—oherwydd gallaf ddweud wrtho fod penderfyniad Llywodraeth Lafur bryd hynny i beidio ag ymuno â'r fenter cyllid preifat yn benderfyniad dewr a chafodd ei feirniadu'n hallt gan eraill ar y pryd. Dyna benderfyniad da y bu, mae'n ymddangos, oherwydd, mae'r rhannau hynny o'r Deyrnas Unedig a aeth ar raddfa fawr am y model mentrau cyllid preifat hwnnw bellach yn talu'r pris amdano. Rhybuddiodd Audit Scotland, yn yr Alban, y bydd yn rhaid i drethdalwyr yr Alban wynebu bil o £40 biliwn er mwyn ariannu gwerth £9 biliwn o brosiectau: gwerth £9 biliwn o asedau ac angen £40 biliwn i dalu amdanyn nhw. Dyna yr ydym ni wedi ei osgoi yma yng Nghymru. Yng ngwasanaeth iechyd Lloegr, mae yna ymddiriedolaethau sy'n colli miliynau a miliynau o bunnoedd o ofal cleifion bob blwyddyn dim ond i dalu'r llog ar y benthyciadau a gymerwyd ar ffurf cynlluniau mentrau cyllid preifat.
Yma yng Nghymru, mae gennym hierarchaeth yr ydym yn ei defnyddio o ran buddsoddi cyfalaf. Rydyn ni'n dechrau gyda'r arian rhataf bob amser, a dyna'r grant cyfalaf sy'n dod i Gymru yr ydyn ni'n ei ddefnyddio. Pan na fydd gennym arian grant ar ôl, rydyn ni'n defnyddio'r pwerau benthyca cyfalaf sydd gennym fel Llywodraeth Cymru. Pan fydd hwnnw'n dod i ben, rydyn ni wedi ariannu awdurdodau lleol ac eraill ag arian refeniw, fel y gallan nhw ddefnyddio eu capasiti benthyca. Pan fyddwn yn rhedeg allan o hwnnw, a dydyn ni'n dal ddim yn gallu gwneud y pethau sy'n hanfodol i Gymru, yna byddwn ni'n defnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol, oherwydd, er ei fod yn ddrutach na'r mathau eraill hynny o gyfalaf, mae'n dal i ddarparu model inni sy'n ein hamddiffyn rhag diffygion mentrau cyllid preifat, ac mae'n caniatáu inni barhau i fuddsoddi mewn ysgolion, mewn ysbytai, a mathau eraill o seilwaith cyhoeddus hanfodol nad ydym yn gallu eu hariannu mewn ffyrdd eraill.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, John Griffiths.
8. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol? OQ60256
Llywydd, cyd-gynhyrchwyd ein fframweithiau economaidd rhanbarthol gyda phartneriaid. Maen nhw'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar gytundeb. Maen nhw'n nodi dull a rennir yn seiliedig ar set gyffredin o flaenoriaethau economaidd, ac ymrwymiad i gydweithio i hybu cryfderau presennol a datgloi potensial newydd.
Prif Weinidog, diolch byth, mae'n ymddangos bod y DU mewn sefyllfa dda i gael Llywodraeth Lafur, mawr ei hangen, yn yr etholiad cyffredinol nesaf, gan alluogi partneriaeth â Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol yn y DU a Chymru. A fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno bod adroddiad Gordon Brown yn cynnig llwybr i ni i'r math o gynnydd y mae angen i ni ei weld yng Nghymru, gyda buddsoddiad sylweddol a chyllid ar gyfer rheilffyrdd a seilwaith arall, ynghyd â dur gwyrdd, gyda mwy o swyddi sector cyhoeddus y DU yn cael eu hailddosbarthu i Gymru, a chefnogaeth well i glystyrau economaidd, fel y diwydiant lled-ddargludyddion, a gafodd hwb yng Nghasnewydd yn ddiweddar, gyda Vishay yn caffael Nexperia?
Wel, yn gyntaf oll, Llywydd, a gaf i groesawu'r cyhoeddiad am y buddsoddiad hwnnw yn Nexperia, sy'n diogelu'r swyddi hynny a gafodd eu peryglu gan benderfyniad gan Lywodraeth y DU, y gwnaethon nhw wedyn gefnu ar ganlyniadau'r penderfyniad hwnnw, ond lle mae gennym bellach y posibilrwydd o fuddsoddiad newydd? Oherwydd, mae dyfodol y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yn y de-ddwyrain yn enghraifft ddisglair o'r hyn y gallwn ni ei gyflawni pan fydd gennym bolisïau rhanbarthol gwirioneddol yng Nghymru.
Nawr, cafodd adroddiad diweddar gan Brifysgol Harvard a Chronfa'r Brenin—Coleg y Brenin Llundain, mae'n ddrwg gen i—ei gymeradwyo gan y cyn-Brif Weinidogion Blair, Brown a John Major. A'r hyn a wnaeth yr adroddiad hwnnw oedd tynnu sylw at yr angen am bolisïau parhaus, polisïau parhaus nad ydynt yn cael eu hatal a'u newid gan Lywodraeth y DU cyn i chi ddod i arfer â'r polisïau diwethaf y dywedon nhw eu bod yn eu mabwysiadu. Ac yma yng Nghymru, wrth gwrs, edrychwn ymlaen, Llywydd, at ddyfodol lle ceir buddsoddiad gwirioneddol yn ein seilwaith. Mae'n syndod i unrhyw un sy'n edrych arno y bydd ein buddsoddiad cyfalaf yn y flwyddyn nesaf gan Lywodraeth y DU yn gostwng 8 y cant yng Nghymru, ar yr adeg pan fo ei angen yn fwy nag erioed o'r blaen. Ond mae defnyddio ein dull ni, y dull partneriaeth hwnnw, y dull hwnnw sy'n seiliedig ar y dystiolaeth y mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi'i darparu i ni, mae hynny'n rhoi'r parhad a'r sicrwydd hwnnw i ni o ran polisi, ac yna byddwn ni'n gwneud y defnydd gorau posibl o ba bynnag fuddsoddiad sydd ar gael i ni yng Nghymru, ac yn gwarantu bod economïau rhanbarthol, ym mhob rhan o Gymru, yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ffynnu.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae dau newid wedi bod i fusnes yr wythnos hon. Yn gyntaf, mae'r datganiad ar ofal sylfaenol wedi'i dynnu'n ôl. Yn ail, rwyf wedi ychwanegu dadl ar Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2023, y bydd angen atal Rheolau Sefydlog ar eu cyfer. Nodir y busnes drafft am y tair wythnos nesaf ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am gyfathrebu a thechnoleg yng Nghymru? Mae hyn ynghylch y seilwaith teleffoni symudol ledled y wlad. Rwy'n gwerthfawrogi nad yw telathrebu yn fater datganoledig, ond wrth gwrs mae'r system gynllunio wedi ei datganoli, ac mae llawer o'r seilwaith yn gofyn am weithredu ar y system gynllunio hefyd. Roedd adroddiad diweddar gan Vodafone, a ganfu fod Cymru yn un o'r pum rhan sy'n perfformio waethaf yn y Deyrnas Unedig, a hanner etholaethau Cymru heb fynediad digonol at dechnoleg 5G, yn benodol. Yn wir, roedd fy etholaeth fy hun yng Ngorllewin Clwyd yn y 4 y cant isaf o etholaethau ym Mhrydain ar y mynegai a ddatblygwyd, gyda 62 y cant o'r etholaeth heb fynediad 5G o gwbl. Ac mae hyn ar ben y ffaith bod yna ardaloedd heb signal ffonau symudol yn dal i fod mewn rhannau o fy etholaeth i—ac, heb os, eraill hefyd. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y mae'r cyhoedd eisiau i Lywodraethau Cymru a'r DU gydweithio arno er mwyn mynd i'r afael ag ef. Rwy'n credu bod rhai rhwystrau yn ein system gynllunio y dylid eu dileu er mwyn ei gwneud hi'n haws i gwmnïau telathrebu allu rhoi'r mathau o fastiau sydd eu hangen arnynt, a rhannu seilwaith mastiau. Tybed a allem gael datganiad ar hynny, os gwelwch yn dda.
Diolch. Wel, fel y dywedwch chi, mae mater cyfathrebu a band eang yn gyffredinol yn fater a gadwyd yn ôl, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU i sicrhau ein bod yn cael y cwmpas gorau. Yn fy etholaeth fy hun, mae yna ardaloedd lle na allwn ni hyd yn oed cael 4G, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, fel y dywedwch chi, fod gennym fynediad at 5G. Rwy'n credu eich bod yn iawn bod angen i'r gwaith cynllunio—. Mae angen i ni sicrhau bod y gwaith cynllunio yn cyd-fynd â'r holl gynlluniau yn gysylltiedig â hynny, ac fe wnaf basio eich pryderon i'r Gweinidog priodol.
Trefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog neu'r Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, ynglŷn â'r A470. Fe fyddwch chi'n ymwybodol bod yna ran o'r lôn ar gau ar y funud, rhwng Carno a Dolfach, a bod yna ddargyfeiriad o dros 70 milltir yn ei le. Y gobaith ydy y bydd y lôn yn ailagor, yn rhannol, yn hwyrach yr wythnos yma, ond mae hi'n lôn mor, mor bwysig, ac mi fydd angen buddsoddiad sylweddol er mwyn trwsio'r lôn, yn ôl adroddiadau lleol. Efallai ei bod hi'n od bod rhywun sy'n cynrychioli Canol De Cymru yn codi'r mater hwn, ond mae o'n rhywbeth y mae etholwyr ledled Cymru yn bryderus amdano fo, a hithau'n lôn mor, mor bwysig o ran cysylltu de a gogledd.
Diolch. Rwy'n credu eich bod yn cyfeirio at y cwymp, y tirlithriad ar yr A470. Mae gwaith dros dro wedi bod yno, sydd wedi parhau drwy'r penwythnos, a'r gobaith yw y bydd y rhan honno o'r ffordd yn agor ddiwedd yr wythnos hon. Rwy'n ymwybodol bod yr ardal hon wedi bod o dan signalau traffig ers o leiaf ddwy flynedd, serch hynny, tra bod gwaith hirdymor yn cael ei wneud, ac angen gwaith atgyweirio parhaol, ac mae'r gwaith adeiladu ar gyfer hynny wedi'i raglennu i ddigwydd yn 2024-25, felly mae hynny'n hirdymor. Ond rwy'n credu yn yr ardal yr ydych chi'n cyfeirio ati, mae'r gwaith hwnnw'n parhau heddiw i adfer y wal dros dro a gallu amddiffyn yr wyneb agored o dan y ffordd.
Rwy'n gofyn am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru. Mae'r cyntaf ar gadw primatiaid gan unigolion, ac rwy'n awyddus iawn i weld hyn yn cael ei wahardd yng Nghymru. Yr wythnos diwethaf, cafwyd hyd i marmoset yn sgrechian ac yn methu cerdded ar ôl i'w pherchnogion fethu â gofalu amdani'n iawn. Pan aeth y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid â'r marmoset at y milfeddyg, darganfuwyd bod ganddi glefyd esgyrn metabolig difrifol a bu'n rhaid rhoi'r marmoset wyneb gwyn i gysgu.
Mae'r ail ar ddatblygu'r diwydiant gwyddorau bywyd yng Nghymru. Yn ddiweddar, cynhyrchodd y grŵp trawsbleidiol ar ymchwil feddygol adroddiad ar sut mae ymchwil feddygol o fudd i bobl Cymru. Dylai'r datganiad rwy'n gofyn amdano amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu ymchwil feddygol o fewn datblygu economaidd, a sut y gall mwy o gydweithio ddigwydd rhwng y GIG, prifysgolion Cymru a diwydiant i dyfu'r diwydiant pwysig iawn hwn.
Diolch. Fel y gŵyr yr Aelod, mae Deddf Lles Anifeiliaid 2006 yn gosod dyletswydd gofal ar unrhyw un sy'n gyfrifol am unrhyw anifail i sicrhau ei les. Nid ydym yn gwybod faint o brimatiaid sy'n cael eu cadw yma yng Nghymru ac, fel y gŵyr yr Aelod, gweithiais yn agos iawn gyda Llywodraeth y DU ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir). Roedd yn ddrwg iawn gen i fod Llywodraeth y DU wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â hwnnw, ac mae hyn yn waith y byddwn ni'n parhau i edrych arno gyda swyddogion yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i weld beth allwn ni ei wneud i sicrhau bod y darn hwn o ddeddfwriaeth yn mynd yn ei flaen. Dylwn atgoffa pawb na all unrhyw berson gadw unrhyw anifail gwyllt peryglus, ac mae hynny'n cynnwys llawer o brimatiaid yn sicr, heb gael trwydded gan eu hawdurdod lleol yn gyntaf.
O ran gwyddorau bywyd, bydd yr Aelodau'n ymwybodol o gynllun cyflawni arloesi Llywodraeth Cymru, a lansiwyd, rwy'n credu, tua mis yn ôl, ac roedd hwnnw'n cynnwys ymrwymiad i ddatblygu datganiad polisi gwyddorau bywyd gyda chamau clir i gefnogi datblygiad y sector yng Nghymru i gefnogi iechyd a lles, economi, addysg a'r argyfyngau hinsawdd a natur. Rwy'n gwybod bod swyddogion yn ymgysylltu ar draws y sector ar hyn o bryd i helpu i ddeall yr heriau yn well ac, wrth gwrs, y cyfleoedd a'r blaenoriaethau ar draws y sector gwyddorau bywyd, yn ogystal â'r camau posibl i oresgyn heriau.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y prynhawn yma, gan fod etholwyr yn Nyffryn Clwyd wedi cysylltu â mi sy'n pryderu am argymhelliad y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar 3 Tachwedd na ddylid ariannu therapïau modwleiddwyr a ddefnyddir i drin ffibrosis systig ar y GIG mwyach? Mae'n rhaid i blant â ffibrosis systig gymryd nifer o feddyginiaethau, cael ffisiotherapi, weithiau sawl gwaith y dydd, profion gwaed, pelydrau-x ac ymweliadau ysbyty dim ond i aros yn iach. Mae gan eu rhieni faich gofal enfawr ac maen nhw'n gweithio'n galed i'w cadw cystal â phosibl, ond mae'r clefyd, heb driniaeth â'r modwleiddwyr hyn, yn ddirywiol ac yn drychinebus i gleifion.
Mae fy etholwyr wedi cael profiad uniongyrchol o'r effaith y mae hyn yn ei chael ar eu plant. Kaftrio yw'r mwyaf pwerus o'r triniaethau modwleiddwyr. Mae eisoes yn cael ei ragnodi i'r rhai â ffibrosis systig sy'n chwe oed neu'n hŷn, ac mae cleifion wedi gweld eu bywydau'n cael eu trawsnewid gan y cyffur. Fodd bynnag, mae'r newyddion gan NICE ddydd Gwener, 3 Tachwedd, wedi cwestiynu a fydd y GIG yn parhau i ariannu'r cyffur, felly efallai na fydd cleifion newydd yn gallu cael y therapïau hyn sy'n achub bywydau y mae eu cyfoedion hŷn wedi'u cael yn y blynyddoedd blaenorol. Felly, a gaf i ddatganiad gan y Llywodraeth mewn ymateb i'r broblem hon a pha gamau y mae'r Gweinidog iechyd yn eu cymryd i sicrhau bod plant sy'n byw gyda ffibrosis systig yn fy etholaeth i yn gallu parhau i gael mynediad at therapïau a thriniaethau pan fydd eu hangen fwyaf?
Wel, mae pob Llywodraeth yn dibynnu ar gyngor cyrff arfarnu annibynnol, ac mae hynny'n amlwg yn cynnwys NICE, er mwyn penderfynu ar y modd gorau o ddefnyddio adnoddau'r GIG. Rydych chi'n hollol iawn, cyflwynodd NICE ganllawiau drafft ar y defnydd o driniaethau ffibrosis systig. Roedd tair triniaeth—Kaftrio, Symkevi ac Orkambi—ac nid oeddent yn argymell defnyddio'r triniaethau hyn oherwydd bod yr amcangyfrifon cost-effeithiolrwydd yn sylweddol uwch na'r amrediad y mae NICE yn ei ystyried yn ddefnydd derbyniol o adnoddau. Fel y dywedais i, mae pob Llywodraeth yma yn dibynnu ar y cyngor hwnnw, ac nid yw penderfyniad gan NICE i beidio ag argymell defnyddio'r triniaethau hyn wrth symud ymlaen yn effeithio ar unrhyw un sy'n eu derbyn ar hyn o bryd.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad am y Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol ym Mhlas Menai yn fy etholaeth i, os gwelwch yn dda. Bron 18 mis yn ôl, mi wnes i godi pryderon wrth i reolaeth o'r ganolfan bwysig yma gael ei hallanoli. Ers hynny, dwi wedi bod yn tynnu sylw Chwaraeon Cymru a’r Dirprwy Weinidog dros chwaraeon at y pryderon sy’n cael eu lleisio’n lleol ers i Legacy Leisure gymryd drosodd. Mae’r rhain yn bryderon dilys am amodau gwaith a datblygiadau eraill, ond mae yna fater arall wedi codi yr wythnos yma wrth i glwb gwersi nofio lleol, Nofio Menai, gael gwybod na fydd pwll nofio Plas Menai ar gael iddyn nhw o Ionawr nesaf ymlaen. Mae Nofio Menai yn dweud nad oes yna ddim pwll nofio arall ar gael iddyn nhw'n lleol, a dwi'n gwybod bod yna restrau aros ar gyfer gwersi nofio yn y canolfannau hamdden yn lleol. Felly, plant fydd ar eu colled oherwydd hyn ac mi fydd yna leihad hefyd yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, sydd yn bwysig iawn yn yr ardal. Ac mi fydd yna gysylltiad hir rhwng y ganolfan a’r gymuned leol yn dod i ben, a hynny yn ddisymwth a heb eglurhad. Felly, dwi am gael diweddariad, os gwelwch yn dda.
A dwi eisiau gwybod hefyd beth ydy'r berthynas rhwng Legacy Leisure, Parkwood Leisure, Swim Wales, Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru. Dwi yn credu erbyn hyn ei bod hi'n bryd i’r Dirprwy Weinidog ofyn am adolygiad llawn o’r sefyllfa cyn i fwy o broblemau ddod i'r wyneb.
Diolch i chi. Nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw ymgysylltiad a gafodd y Dirprwy Weinidog. Efallai y byddai hi'n well i Siân Gwenllian ysgrifennu ati hi'n uniongyrchol.
Fe hoffwn i adleisio galwadau am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn ag argymhelliad y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal i derfynu mynediad at Kaftrio a chyffuriau eraill yn y GIG i'r rhai sydd â ffeibrosis systig. Rwy'n teimlo bod angen datganiad i roi cyfle i'n hetholwyr ni godi eu lleisiau a chodi ymwybyddiaeth o'r newid hwn hefyd a allai effeithio ar gannoedd o blant a theuluoedd. Bydd yn effeithio ar lawer o deuluoedd eisoes, gan gynnwys y teulu Perkins a'u merch nhw, Delilah, sy'n hannu o Ben-y-bont ar Ogwr. Maen nhw'n dweud wrthyf i y gall y cyffuriau hyn gynyddu disgwyliad oes 30 hyd 50 mlynedd. Felly, mae'r ffaith fod NICE yn dweud ei bod hi'n rhy ddrud yn annerbyniol nid yn unig yn foesol ac yn foesegol, ond hefyd, pan fyddwch chi'n meddwl am y peth, nid yw'n gwneud synnwyr ariannol chwaith, oherwydd mae'r gost o drin pobl â ffeibrosis systig yn ddrud iawn hefyd, ac fe allan nhw fyw bywydau llawn a hyfryd iawn os gallan nhw gael y driniaeth hon.
Fe hoffwn i ofyn hefyd am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru am yr effaith y mae'r llygredd yn sgil gollyngiadau cyfreithlon i'n moroedd ni gan gwmnïau dŵr yn ei chael ar iechyd y cyhoedd. Wythnos diwethaf, roeddwn i'n bresennol mewn protest ar draeth Drenewydd yn Notais, a drefnwyd gan y Newton Buoyant Bluetits. Roedd tua 200 ohonom ni yno yn ymgyrchu i achub ein moroedd. Rwyf i wedi cwrdd â Dŵr Cymru, sy'n monitro effaith amgylcheddol y gollyngiadau hyn, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal profion bedair gwaith, fel arfer ym misoedd yr haf, i brofi ansawdd y dŵr, ond nid ydyn nhw'n rhoi ystyriaeth i'r effaith ar iechyd pobl. Nid yw hynny'n cael ei fonitro na'i recordio. Mae llawer o bobl wedi dod ataf i yn dweud bod heintiau arnyn nhw. Fe ddywedodd un fenyw wrthyf i ei bod hi bron iawn wedi colli ei llygad oherwydd yr hyn yr oedd ei meddyg teulu hi'n credu a allai fod yn haint a gafodd ei wedi gollyngiad i'r môr. Mae hyn yn cael effaith aruthrol ar ein heconomi, ar iechyd y cyhoedd, ac rwy'n gofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn benodol ar effaith y gollyngiadau hyn a llygredd i'n moroedd. Diolch.
Diolch i chi. Wel, fe glywsoch chi'r ateb sylweddol a roddais i Gareth Davies, sydd wedi gadael y Siambr, ond rwy'n siŵr eich bod chi wedi clywed fy ateb iddo ef.
O ran eich ail gwestiwn chi, fe fydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn rhoi datganiad ar ansawdd dŵr fis nesaf.
Prynhawn da, Trefnydd. A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, gyda'r cyntaf gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynglŷn â'r gefnogaeth barhaus sydd ar gael i'r ffoaduriaid hynny a ddadleolwyd gan ymosodiad anghyfreithlon Rwsia ar Wcráin? Ym mis Mai eleni, fe dderbyniodd pwyllgor Neuadd Henderson yn Nhalybont grant i nodi profiadau'r rhai fu'n rhan o raglen Powys i ailsefydlu pobl o Wcráin. Fe wnaethon nhw hyn drwy gyfrwng cyfraniadau llafar uniongyrchol i sicrhau eu bod nhw rhoi'r profiadau a gafodd ffoaduriaid sy'n cyrraedd Cymru ar gof a chadw. Fe glywson nhw'n uniongyrchol gan ffoaduriaid ynglŷn â'r cynnwrf sydyn a fu yn eu bywydau nhw, ond mae'r dyfodol yn peri gofid gwirioneddol, o ran y cyfleoedd a fydd ganddyn nhw i aros yng Nghymru, a fydd, yn anffodus, yn debyg o ddigwydd o ystyried y sefyllfa gyda'r rhyfel.
Ac mae'r ail ddatganiad ynglŷn â chau canolfan ymwelwyr dydd y Ganolfan Technoleg Amgen, y gwyddom ei fod yn peryglu 14 o fywydau. Mae llawer ohonom wedi ymweld â'r Ganolfan Technoleg Amgen ac yn wir—. Rwy'n gwybod bod Cefin Campbell, mewn gwirionedd, wythnos diwethaf, yn y datganiad 90 eiliad, wedi siarad am eu pen-blwydd yn 50 oed ac, yr wythnos nesaf, fe fyddwn ni'n rhoi te croeso iddyn nhw. Mae clywed y bydd y ganolfan arloesol hon nid yn unig yn colli staff yn peri gofid mawr, ond wedyn o bosibl, wrth symud ymlaen, fe ellid colli'r momentwm hwnnw sy'n ein hysgogi ni at ganfyddiad gwahanol o sut y gallwn ni ddefnyddio technolegau amgen. Felly, a gaf i ofyn i hwnnw fod yn ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Weinidog yr Economi? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn i chi. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod y straeon hynny'n cael eu rhoi ar gof a chadw yn y ffordd y gwnaethoch chi ei disgrifio hi. Fe wn i fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn parhau i weithio gyda llywodraeth leol a chyda'r trydydd sector i sicrhau ein bod ni'n cefnogi ac yn integreiddio dros 7,000 o westeion sydd wedi dod i Gymru o dan gynllun uwch-noddwyr Llywodraeth Cymru a'r rhai a gynhaliwyd yn unol â rhaglen Cartrefi i Wcráin. Fel gwyddoch chi, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y dull cyffredinol, ond fe wn i fod y Gweinidog yn gofyn am eglurder ar frys gan Lywodraeth y DU ynghylch y cynlluniau ar gyfer y tymor hwy.
Rydym ni'n falch iawn o weld y digwyddiad a fydd yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf. Rwy'n credu y bydd llawer ohonom wedi ymweld â'r Ganolfan Technoleg Amgen. Fe wn i fod Llywodraeth Cymru yn trafod gyda chynrychiolwyr o'r ganolfan i geisio gweithio gyda nhw i archwilio'r cymorth sydd ar gael, yn arbennig, fel rydych chi'n dweud, ar gyfer yr unigolion a'r teuluoedd hynny y bydd y penderfyniad hwn yn effeithio arnyn nhw. Rwy'n deall, er eu bod ni'n bwriadu cau'r ganolfan ymwelwyr, na fydd unrhyw un sydd wedi trefnu cynhadledd neu fynd ar ymweliad ymlaen llaw yn cael ei siomi.
Fe hoffwn i godi mater a godwyd yn barod heddiw, Gweinidog, ac fe fydd hyn yn ychwanegu at y cais hwnnw, sef mater ynglŷn â chwymp rhan o ffordd yr A470 ar y ffordd i Fachynlleth, ychydig y tu draw i Dalerddig, a ddigwyddodd nos Iau ddiwethaf. Nawr, mae hwn yn fater hirsefydlog. Fe fu goleuadau traffig ar y rhan hon o'r ffordd ers peth amser bellach. Fe ysgrifennais i at y Gweinidog dri mis yn ôl yn gofyn am waith ar y ffordd. Nawr, o ganlyniad i beidio â chynnal y gwaith hwnnw, fe chwalodd seiliau'r rhan honno o'r ffordd erbyn hyn ac mae'r ffordd wedi cau yn llwyr erbyn hyn. Felly, fe geir pryder sylweddol o ran y gwasanaethau brys, ac mae yna darfu difrifol oherwydd bod llawer o drigolion yn defnyddio lonydd llai erbyn hyn, nad ydyn nhw'n briodol, ac mae dargyfeiriad hirfaith ar waith. Nawr, mae hynny'n tarfu ar blant ysgol, gweithwyr post, gweithwyr iechyd proffesiynol, ac ati. Felly, yr hyn yr hoffwn ei wneud, Gweinidog, yw ychwanegu at gais heddiw a gofyn a allai'r Dirprwy Weinidog ysgrifennu at yr Aelodau perthnasol i gyd sy'n cynrychioli'r maes hwnnw, gan eu diweddaru nhw ynghylch yr ateb byrdymor—beth a fydd yn digwydd ar unwaith, pryd fydd y ffordd yn cael ei hailagor—a beth yw'r ateb hirdymor er mwyn i ni hysbysu'r trigolion sy'n byw yn yr ardal honno.
Diolch i chi. Wel, nid oes gennyf i fawr i'w ychwanegu at fy ateb i Heledd Fychan mewn gwirionedd. Rwy'n cytuno â chi bod y dargyfeiriad sydd ar waith yn un hirfaith ac y bydd yn effeithio ar lawer o bobl, felly dyna pam rydym ni'n anelu at ailagor y ffordd erbyn dydd Gwener yr wythnos hon. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn gwerthfawrogi ei bod hi'n sefyllfa weddol gymhleth ac, yn amlwg, mae diogelwch y cyhoedd o'r pwys mwyaf.
Trefnydd, gadawodd ein treftadaeth ddiwydiannol lawer o greithiau, o lygredd yn ein hafonydd hyd at glefydau anadlol, ac un safle llygredig o'r fath yw chwarel Tŷ Llwyd yn Ynysddu ym mwrdeistref sirol Caerffili, lle ceir pryder eang oherwydd y llygredd sy'n tarddu o hen safle diwydiannol. Rwy'n ddiolchgar i gynghorwyr sir Caerffili am adrodd am y broblem a welwyd heddiw oherwydd llifogydd ar y ffordd gyhoeddus rhwng Teras Pontgam a Theras Caerllwyn. Gyda'r glaw trwm neithiwr, roedd dŵr o liw oren, yn ôl llygad-dystion, yn rhedeg oddi ar y mynydd a'r chwarel ac i gwrs dŵr newydd, yn gorlifo'r ffordd. A allai datganiad ysgrifenedig, os gwelwch chi'n dda, nodi pa sicrwydd y gall Llywodraeth Cymru ei roi na fydd llygredd o hen safleoedd diwydiannol yn llifo i'n hafonydd ac i ardaloedd preswyl, ac a all y datganiad hwnnw nodi na ddylai cymunedau lleol orfod talu am lanhau'r safleoedd hyn lle ceir cymaint o bryder oherwydd llygredd?
Diolch i chi. Wel, nid wyf i'n ymwybodol o'r llifogydd yr oeddech chi'n cyfeirio atyn nhw, ond, ar bwynt ehangach, rydych chi siŵr o fod yn ymwybodol o'r gwaith adfer sylweddol a wnaeth Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth â llawer o awdurdodau lleol ynghylch hen weithfeydd mwyngloddio.
Trefnydd, a gawn ni ddatganiad gan Weinidog yr Economi neu'r Dirprwy Weinidog twristiaeth ar y rheol 28 diwrnod o ran meysydd gwersylla dros dro? Yn dilyn yr ymgynghoriad ar y ffordd ymlaen ynglŷn ag ymestyn hyn hyd at 56 diwrnod yn ystod rhan olaf y pandemig, a hynny ar gyfer helpu busnesau twristiaeth i godi ar eu traed unwaith eto, cafodd yr estyniad hwnnw ei groesawu yn fawr iawn ar y pryd, ond ni fu unrhyw eglurder ynghylch canlyniad yr ymgynghoriad hwnnw na'r amseru, nid oes unrhyw benderfyniadau eglur wedi cael eu gwneud. Ac ni waeth beth fydd canlyniad yr ymgynghoriad, na phenderfyniadau dilynol y Gweinidog, mae gweithredwyr twristiaeth yn Ogwr a ledled Cymru yn ysu am eglurder. Nawr, fe geir materion anodd iawn i'w datrys, wrth gwrs. Nid ydym ni'n dymuno gweld safleoedd gwersylla dros dro estynedig mewn lleoliadau anaddas, sy'n hagru harddwch cefn gwlad i bobl sy'n mynd i ymweld â'r lle, na llethu ardaloedd sensitif ar draul yr amgylchedd naturiol neu drigolion lleol. Ond, mewn rhai ardaloedd, ac fe fyddwn i'n dadlau bod hynny'n digwydd yn sicr, er enghraifft, mewn rhannau o Gymoedd y de, lle mae'r cynnig o ran twristiaeth yn parhau i fod yn gymharol eginol ac yn datblygu yn raddol, gyda llawer o gyfle i ddatblygu ymhellach, yna fe fyddai rhywfaint o hyblygrwydd yn fantais wirioneddol iawn. Felly, Trefnydd, yn dilyn gohebiaeth a anfonais i at y Gweinidog a chwestiynau a nodais i, mae'n rhaid i mi ofyn unwaith eto: a gawn ni ddatganiad i'n diweddaru ni ar amseriad y penderfyniad ar yr ymgynghoriad ar y rheol 28 diwrnod? Ac os na fydd y rheol 28 diwrnod yn cael ei hymestyn i ryddid llwyr 56 diwrnod, yna fe allai darn o waith gyda llywodraeth leol symleiddio'r weithdrefn ymgeisio ar gyfer gwersylloedd dros dro neu dymor estynedig mewn ardaloedd llai sensitif, fel y rhai sydd y tu allan i barciau cenedlaethol neu ardaloedd o ddynodiadau arwyddocaol, fod yn ffordd amgen ymlaen ddefnyddiol iawn.
Diolch i chi. Rwy'n ymwybodol bod y Gweinidog Newid Hinsawdd wedi clywed nifer o bryderon ynghylch ymestyn yr hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer gwersylloedd dros dro oddi wrth drigolion sy'n byw ar bwys safleoedd. Roedd hynny yn ystod gweithredu'r caniatâd 56 diwrnod yn dilyn y cyfyngiadau coronafeirws, ac mewn ymateb i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd ddechrau'r llynedd i gadw'r cyfnod estynedig. Felly, mae angen ystyried y mater ymhellach, ac mae hi'n ystyried a yw 60 diwrnod yn briodol, gan ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad a gawsom ni a phryd y byddwn yn gweithredu'r diwygiadau nesaf i hawliau datblygu a ganiateir. Nid yw'r set nesaf o newidiadau wedi cael eu trefnu eto, ond fe fyddaf i'n gofyn i'r Gweinidog ddiweddaru'r Aelodau bryd hynny.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar sicrhau treth gyngor decach. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad yma—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae ein rhaglen lywodraethu yn ein hymrwymo i ddiwygio'r dreth gyngor er mwyn ei gwneud yn decach, ac mae'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru yn datgan y nod hwnnw o'r newydd. Heddiw, rwy'n lansio ymgynghoriad cam 2, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith diweddaraf ni i ddarparu treth gyngor sy'n decach i bobl Cymru. Y llynedd, fe gynhaliais i ymgynghoriad cam 1 yn amlinellu rhaglen uchelgeisiol o ddiwygiadau i fod yn fan cychwyn tuag at system sy'n fwy cyfiawn. Fe ofynnwyd am farn ynglŷn â llunio strwythur diwygiedig i'r dreth gyngor sy'n llai atchweliadol ac yn ymrwymo i ddiweddariadau rheolaidd yn y dyfodol, a chynnal adolygiad o'r holl ddisgowntiau a gostyngiadau, yn ogystal â moderneiddio'r gwasanaeth i drethdalwyr a gwelliannau o ran tryloywder. Mae'r elfennau hyn o'r gwaith yn mynd rhagddynt nawr.
Gan droi yn gyntaf at greu strwythur newydd ar gyfer y dreth gyngor, mae'r dystiolaeth yn ddiamheuol: mae'r bandiau treth 20 mlynedd dros eu hamser erbyn hyn ac mae eu dyluniad nhw'n atchweliadol. Mae'r system yn fwy beichus ar bobl sy'n byw yn y tai rhataf. Roedd llawer o ymatebion i gam 1 yn cytuno y dylem ni weithredu. Roedd rhai pobl yn gofidio mai ystyr yr ymarfer hwn fyddai codi mwy o dreth ac y byddai chwyddiant prisiau eiddo a welwyd ers yr ailbrisiad diwethaf 20 mlynedd yn ôl yn golygu y byddai pob trethdalwr ar ei golled. I fod yn eglur, ni fyddai ein diwygiadau ni'n codi mwy o arian ar y cyfan. Fe fydd y diwygiadau yn codi'r un cyfanswm o arian, ond yn gwneud hynny mewn ffordd decach. Fe fyddai system decach yn un sy'n sicrhau bod y rhai sydd â'r fantais o fod ag eiddo drudfawr yn talu cyfraniad tecach at wasanaethau lleol. Rwy'n credu bod cytundeb cyffredin ar draws y Senedd fod hon yn uchelgais synhwyrol a theg, ac rwyf i wedi bod yn gweithio yn agos gyda'r Aelod dynodedig ynglŷn â hyn.
Yn fy niweddariad diwethaf i'r Senedd, ym mis Mai, fe ddywedais i fy mod i wedi gofyn i Asiantaeth y Swyddfa Brisio ddechrau paratoi ar gyfer ailbrisio tai—ymarfer a fyddai'n gwirio gwerth eiddo pawb at ddiben creu system dreth gyngor newydd. Rydym ni'n defnyddio'r wybodaeth honno erbyn hyn i leihau nifer y dulliau gweithredu y gallem ni eu defnyddio. Mae'r dewisiadau dichonadwy yn ddirifedi. Dyna pam y gweithiais i'n agos iawn hefyd gyda'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, corff adnabyddus o arbenigwyr ym maes trethiant a pholisi cyllidol. Fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Sefydliad Astudiaethau Cyllidol am ei gyfraniad manwl.
Rwyf i wedi bod yn eglur o ran yr angen i ymgysylltu yn rheolaidd â'r cyhoedd wrth i ni ymlwybro ar y daith hon, ac rwy'n nodi enghreifftiau heddiw o ffyrdd y gallem ni geisio rhannu'r baich mewn ffordd sy'n cynnig mwy o degwch. Fe allem ni anelu at wella'r mymryn lleiaf, gan ganolbwyntio ar sicrhau bod gwerthoedd tai yn gyfredol. Mae hwn yn ymarfer mawr ynddo'i hun. Fe fyddai'r dull hwn yn golygu ailbrisio tai a'u rhoi nhw mewn fersiwn mwy cyfoes o'r strwythur presennol. Fe fyddai'r canlyniadau yn gam bach tuag at degwch, gyda chyfleoedd i fynd ymhellach yn y cylchoedd ailbrisio yn y dyfodol.
Mae'r dull cymedrol o ddiwygio yn dangos y gallem ni gadw'r strwythur naw band a'i ddiweddaru, ond gan newid y cyfraddau treth a godir ar gyfer pob band hefyd, fel byddai biliau ar gyfer y bandiau is yn gostwng a biliau ar gyfer tai yn y bandiau uchaf yn codi. Fe fyddai hwn yn gam mwy tuag at degwch. Unwaith eto, fe fyddai cyfleoedd i fynd ymhellach eto mewn cylchoedd ailbrisio rheolaidd.
Yn y dull terfynol a amlinellir, fe allem ni ehangu manteision diwygio, gan wneud y system yn fwy blaengar eto, hyd yn oed. Yn hyn o beth, fe fyddai'n golygu cynnydd yn nifer y bandiau o naw i 12, gan ychwanegu tri band newydd: un band newydd i gynnwys y cartrefi â'r prisiau mwyaf rhesymol ar waelod y raddfa, a dau fand newydd ar y brig ar gyfer cartrefi gwerth dros £1.2 miliwn. Fe fyddai hyn hefyd yn ail-lunio'r bandiau fel nad ydyn nhw'n dal i ymdrin ag amodau economaidd 30 mlynedd yn ôl. Yn ogystal â bandiau newydd, fe fyddai maint y dreth y byddai aelwydydd yn ei dalu yn newid ym mhob band, gyda llawer llai yn cael ei dalu gan rai yn y bandiau isaf, a mwy yn cael ei dalu gan rai yn y tai drutaf. Y canlyniad fyddai cam pendant i gyfeiriad tegwch, gyda diwygiad sylweddol i strwythur y dreth. Fe all Aelodau gael gwybod rhagor am y dulliau posibl hyn, yn ogystal â systemau mwy radical, mewn adroddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a gyhoeddwyd yn gyfochrog â'n hymgynghoriad ni.
Mae ein hymgynghoriad ni'n glir ein bod ni wedi ystyried ond wedi diystyru wedyn system gyfrannol, gan ein bod ni o'r farn fod honno'n cyflwyno gormodedd o newid i rai trethdalwyr mewn cartrefi â phisiau uwch. Mae'r ymgynghoriad yn ymrwymo hefyd i ystyried dulliau i fynd i'r afael â lliniaru achosion posibl o wahanol ardaloedd yng Nghymru yr effeithir arnynt mewn ffyrdd amrywiol gan ddiwygio'r dreth gyngor, gyda rhagor o waith i'w wneud yn dilyn yr ymgynghoriad. Fe allai'r gwaith hwn gynnwys asesiad o'r effaith ofodol hefyd, mewn ardaloedd gwledig a threfol, ac mewn ardaloedd lleol lle mae'r crynodiad uchel o ail gartrefi wedi effeithio ar brisiau tai.
Pa benderfyniad bynnag y byddwn ni'n dod iddo yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, rwy'n dal at fy ymrwymiad i ystyried trefniadau rhyddhad trosiannol i gynyddu trethi fesul cam i aelwydydd dros gyfnod hwy o amser. Fe allem ni weithredu treth gyngor newydd, decach ym mis Ebrill 2025, gan wireddu'r buddion i'r rhai a fyddai'n gweld eu biliau yn gostwng yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Ond rwy'n gofyn hefyd am farn ynghylch a yw pobl yn credu y gallai dyddiadau diweddarach roi'r amser i ni ddatblygu'r system ymhellach, gan roi ystyriaeth i'r cyd-destun economaidd newidiol dros y flwyddyn ddiwethaf.
Rwyf i am droi nawr at ddiogelu tegwch y dreth gyngor at y dyfodol dros y tymor hwy—agwedd bwysig arall ar ein cynlluniau ni. Er bod yr ymgynghoriad a lansiwyd heddiw yn casglu safbwyntiau, rwyf i am gyflwyno Bil cyllid llywodraeth leol (Cymru) i roi diweddariadau rheolaidd i'r dreth gyngor yn y dyfodol ar sail statudol o 2030. Roedd hynny'n destun ymgynghoriad yng ngham 1 y llynedd, ac mae hwnnw'n gam pendant o ran cyflawni ein hymrwymiad ni. Fe fydd y Bil yn darparu'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer cylchoedd ailbrisio o bum mlynedd.
Mae ymgynghoriad heddiw yn nodi hefyd sut rydym ni'n bwriadu gwella mynediad i wybodaeth, codi ymwybyddiaeth pobl o swyddogaethau a chyfrifoldebau'r sefydliadau dan sylw, grymuso trethdalwyr, a moderneiddio apeliadau. Ni fydd unrhyw erydiad o ran hawliau trethdalwyr i apelio, gan fod honno'n agwedd sylfaenol ar degwch. Ond rwy'n bwriadu gwneud y system yn haws i lywio drwyddi ac yn fwy effeithlon.
Gan droi nawr at yr adolygiad o gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, sydd hefyd yn parhau, rwy'n falch fod y cynllun yn parhau i estyn cymorth ariannol i dros 260,000 o aelwydydd. Flwyddyn ar ôl blwyddyn nid yw yn digwydd yn ddamweiniol—gwaith penodol yw hwnnw gan awdurdodau lleol sy'n gweinyddu'r cynllun. Mae angen i ni sicrhau ei fod yn parhau i fod yn effeithiol, felly fy mwriad i yw cynnal ymgynghoriad technegol ar rai newidiadau cychwynnol, i wneud cymorth yn haws ei ddefnyddio ac yn symlach i'w weinyddu.
Yn olaf, mae'r ymgynghoriad a lansiais i heddiw yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaethom ni wrth adolygu'r holl ddisgowntiau, y diystyriadau, yr esemptiadau a'r premiymau. Rydym ni wedi mynd beth o'r ffordd drwy adolygu pob categori ar gyfer sicrhau bod y trefniadau yn parhau i fod yn berthnasol, a helpu i lunio system decach. Rydym ni wedi gweithio yn agos gyda llywodraeth leol, sefydliadau lleol a rhwydweithiau sy'n cynrychioli pobl Cymru, i roi ystyriaeth i bob un o'r 53 categori sydd ar waith ar hyn o bryd. O'r adolygiad lefel uchel cychwynnol, blaenoriaethwyd pedwar categori i'w hystyried yn yr ymgynghoriad hwn. Mae hynny'n cynnwys y disgownt un oedolyn, a elwir hefyd yn ddisgownt unigolyn sengl, er bod hwnnw'n gallu bod yn derm camarweiniol, gan fod y gefnogaeth yn fwy pellgyrhaeddol nag i bobl sengl yn unig. Mae'n rhoi disgownt o 25 y cant i dros 0.5 miliwn o gartrefi, gan wneud honno'n elfen sylweddol o'r dreth sy'n helpu i adlewyrchu'r gallu i dalu. Mae'r ymgynghoriad hwn yn cadarnhau nad oes gennym ni unrhyw gynlluniau i ddiddymu na lleihau'r disgownt hwn.
Mae'r ymgynghoriad yn nodi hefyd ein bwriad ni i gael gwared â'r disgownt statudol ar gyfer eiddo gwag a cheisio barn ar gynigion ar gyfer dau eithriad pellach, gan gynnwys cartrefi sy'n destun profiant, a theitl newydd ar gyfer y term hen ffasiwn 'nam meddyliol difrifol'. Fe fydd yr adolygiad yn parhau dros weddill y tymor seneddol hwn gyda'r bwriad o ddiwygio deddfwriaeth pan fo angen gan ddefnyddio'r pwerau yr ydym yn eu ceisio drwy Fil cyllid llywodraeth leol (Cymru).
Fe hoffwn i orffen y diweddariad heddiw drwy gydnabod bod diwygio'r dreth gyngor yn waith cymhleth a heriol iawn; mae angen ymdrech gydweithredol wirioneddol fawr. Rwy'n ddiolchgar i lywodraeth leol, arbenigwyr prisio, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a sefydliadau'r trydydd sector am eu cyfraniadau nhw. Rydym wedi trafod diwygio'r dreth gyngor nifer o weithiau ar lawr y Senedd hon, ac rwyf i wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar hyd y daith. Nid oes unrhyw amheuaeth y gallem ni drawsnewid y ffordd y mae trethdalwyr lleol yn cyfrannu at gymdeithas. Gyda lansiad yr ymgynghoriad hwn heddiw, rydym ni'n gweld cynnydd mawr. Rwy'n falch o drafod camau cyffrous nesaf y gwaith hwn gyda'r Aelodau, ac fe fyddaf i, wrth gwrs, yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad gyda gofal mawr.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi yn y fan hon heddiw, ac am hwyluso'r sesiwn friffio technegol ddoe hefyd, ac fe wn i fod nifer o gyd-Aelodau wedi gwerthfawrogi hynny'n sicr.
Rwy'n awyddus i ddod at y pwynt ehangach, i ddechrau'r cyfraniad, ynglŷn â pholisi treth Llywodraeth Cymru yn y tymor canolig a rhai o'r ysgogiadau sydd ynghlwm â hynny. Hyd yn hyn yn nhymor y Senedd hon, fe welsom ni gynigion yn dod ynglŷn â threth dwristiaeth, ac yn awr fe welwn ni ymgais i ddiwygio'r dreth gyngor, y mae'r ddau gynnig fel ei gilydd wedi cael eu rhoi yn raslon i gynghorau lleol ar gyfer wynebu'r penderfyniadau a'r effaith ar eu trigolion lleol. Rwy'n sicr yn croesawu clywed llais democratiaeth leol wrth wneud penderfyniadau, ond tybed beth yw eich amgyffrediad chi o gydbwyso hynny â pheidio â chael eich gweld yn ymwrthod â chyfrifoldeb o ran penderfyniadau ynglŷn â threthiant. Mae'r cyfrifoldebau hynny i gyd wedi cael eu trosglwyddo i'r awdurdodau lleol.
Yna mae'r ail bwynt ehangach yn ymdrin â'r mandad ar gyfer cyflawni diwygio'r dreth gyngor. Roeddech chi'n dweud yn eich datganiad chi nawr fod llawer o ymatebion i gam 1 yn cytuno y dylem ni weithredu. Wrth edrych ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw o gam 1, mewn gwirionedd, pan ofynnwyd i bobl, 'A ydych chi o'r farn y dylid ailbrisio'r dreth gyngor yn 2025?', fe ddywedodd y mwyafrif o bobl 'nac ydym'. Pan ofynnwyd i bobl, 'A ydych chi o'r farn y dylid ailbrisio'r dreth gyngor yn aml?' Fe atebodd y mwyafrif helaeth o bobl 'nac ydym'. Felly, er bod eich geiriau chi'n cael eu dewis yn ofalus pan oeddech chi'n dweud bod llawer o ymatebion yn cytuno y dylem ni weithredu, yn sicr nid honno oedd barn y mwyafrif o bobl yn yr ymgynghoriad.
Gan ddod ymlaen at y datganiad penodol a wnaethoch chi nawr ar ddiwygio'r dreth gyngor, un o'r heriau mwyaf, wrth gwrs yw un i unigolion sy'n gyfoethog o ran asedau ond yn dlawd o ran arian parod, sydd, yn aml, fel roeddech chi'n ei nodi yn eich datganiad, yn effeithio ar rai o bobl oedrannus Cymru, gweddwon efallai, sy'n byw ar eu pennau eu hunain yn y cartref teuluol sydd wedi bod yn drigfan iddyn nhw ers degawdau. Rwy'n sicr yn croesawu'r cyhoeddiad heddiw ynglŷn â'r ymrwymiad i barhau â'r disgownt unigolyn sengl, ond fe hoffwn i gael gwybod sut rydych chi'n rhagweld y bydd unigolion fel hyn yn cael eu diogelu a'u cefnogi ymhellach trwy unrhyw ddiwygiadau yr ymgynghorir arnyn nhw yma heddiw.
Yn ail, Gweinidog, roeddech chi'n dweud nad eich bwriad chi o gwbl yw codi mwy o refeniw gydag unrhyw un o'r diwygiadau hyn. Mae hi'n ymddangos yn ymdrech fawr i'w gwneud heb weld mwy o arian yn cael ei godi ar ei diwedd hi, felly tybed pa sgyrsiau a gawsoch chi gydag arweinwyr cyngor ar y pwynt penodol hwn, yn enwedig gan fod y cynghorau, fel gwyddoch chi, yn brin o arian parod ar hyn o bryd yn sicr o ran darparu'r gwasanaethau hynny, a beth yw eu teimlad nhw ynghylch parhau ag un o fesurau Llywodraeth Cymru y bydd hi'n rhaid iddyn nhw ymdrin ag ef ond na fydd yn golygu unrhyw newid o ran eu refeniw nhw. Ac, wrth gwrs, fe fydd goblygiadau unrhyw ddiwygio yn cael effaith wahanol ar wahanol awdurdodau lleol ledled Cymru. Felly, tybed ar ba awdurdodau lleol yn eich barn chi y bydd y diwygio yr ymgynghorir arno yn effeithio fwyaf.
Yn gysylltiedig â hyn, wrth gwrs, y mae un o'r materion hirhoedlog a godais i nifer o weithiau yn y Siambr hon, sef y fformiwla ar gyfer ariannu llywodraeth leol. Mae honno'n aml ag effaith, mae hi'n ymddangos, ar ardaloedd yr wyf i'n eu cynrychioli yn y gogledd, ond ar gynghorau gwledig hefyd sy'n ymgodymu â'r fformiwla ariannol. Nid yw hi'n ymddangos bod hyn yn gweithio o'u plaid nhw. Felly, Gweinidog, a wnewch chi a'ch swyddogion wneud popeth yn eich gallu i sicrhau bod y rhannau hyn o'r wlad yn cael eu hystyried yn y prosesau hyn ar gyfer ymgynghori, ac wrth gwrs, y byddwch chi'n ymrwymo i wrando ar eu barn nhw?
O ran dogfen y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a gyhoeddwyd yn gynharach, maen nhw'n cydnabod y bydd rhai ar eu hennill ac eraill ar eu colled bob amser gydag unrhyw newidiadau sy'n digwydd, felly tybed a wnewch chi amlinellu eich barn chi yma heddiw hefyd ynglŷn â phwy allai fod ar eu colled o ran y cynigion yr ymgynghorir arnyn nhw. Oherwydd fe wyddom ni y gallai hyd at oddeutu 450,000 o gartrefi ledled Cymru weld lefelau eu treth gyngor yn codi yn ôl y cynigion a amlinellir. Rydych chi wedi dweud o'r blaen fod tosturi wrth galon eich ystyriaethau chi ynglŷn â materion cyllid. Fe hoffwn i ddeall sut mae codi mwy o dreth ar 450,000 o bobl yn cyd-fynd â'r tosturi yr ydych chi'n ei deimlo ar eu rhan nhw gyda'r ymgynghoriad hwn. Fe allaf i hefyd ddeall pam, efallai, eich bod chi'n ystyried oedi o ran rhoi unrhyw ddiwygio ar waith, oherwydd, yn amlwg, ni fydd llawer o bobl sy'n gweithio yn galed, mae'n debyg, yn falch ofnadwy o orfod talu mwy o dreth gyngor o ganlyniad i'r diwygio hwn.
Fy nghais olaf yw eich atgoffa chi o'ch geiriau olaf, mewn gwirionedd, yn eich datganiad eiliad yn ôl, pan oeddech chi'n dweud, ac rwy'n dyfynnu, y byddwch chi'n
'ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad gyda gofal mawr.'
Fe wn i am achosion diweddar ynglŷn ag ymgynghoriad yn ymwneud â threthi lle roedd pobl yn teimlo bod neb yn gwrando arnyn nhw. Roeddem ni'n nodi, ynghylch y diwygiad 182 diwrnod ar gyfer llety gwyliau, bod 97 y cant o'r rhai yr ymgynghorwyd â nhw wedi ymateb i ddweud eu bod nhw o'r farn na ddylai hynny fynd yn ei flaen, ond ni wrandawyd arnyn nhw. Felly, fy nghais olaf i ynglŷn â hyn, Dirprwy Lywydd, yw, Gweinidog, eich bod chi'n gwneud yn siŵr y byddwch chi'n gwrando ar yr ymatebion hynny i'r ymgynghoriad, a'ch bod chi'n dangos eich bod chi'n gwrando arnyn nhw hefyd. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am y cwestiynau hyn. Mae'n debyg mai dechrau a wnaf i drwy ddim ond dychwelyd at y rheswm yr ydym ni'n ystyried diwygio'r dreth gyngor, a hwnnw yw am mai treth atchweliadol yw hi, y mae'r baich yn cael ei roi i raddau mwy ar y bobl hynny sydd â lleiaf o fodd i'w fforddio. Mae gennym ni system yma sydd dros 20 mlwydd oed ac sydd wedi dyddio, ac felly rwy'n credu bod rheidrwydd arnom ni'n foesol, mewn gwirionedd, i fynd i'r afael â rhywfaint o'r atchweliad hwnnw ac ymateb hefyd i'r ffaith fod gennym ni system sydd wedi dyddio cymaint. Y ni yw'r unig ran o'r DU sydd wedi cynnal ailbrisio yn ystod yr unfed ganrif ar hugain, ond serch hynny, rydym ni'n parhau i ddefnyddio data sydd wedi dyddio 20 mlynedd. Mae'r darlun yn gymhleth, ac rwy'n falch fod y briffio technegol wedi bod yn ddefnyddiol. Rwy'n gwybod y bydd adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'n dogfen ymgynghori ni, yn ddefnyddiol iawn i bobl sy'n dymuno mynd i fwy o fanylder ar gyfer deall yr effeithiau gofodol, er enghraifft, ac edrych ar effeithiau gwahanol rhai o'r dulliau posibl yr ydym ni'n eu rhoi nhw gerbron pobl.
O ran y gwaith gyda llywodraeth leol, yn fy marn i, mae hwnnw'n adlewyrchu peth o'r cymhlethdod yn hyn o beth, oherwydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy'n dodi'r tai yn y bandiau, Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r bandiau a'r gwahaniaethau cenedlaethol gyda chyfraddau'r dreth rhwng y bandiau, ond yna, wrth gwrs, mater i bob awdurdod lleol yw pennu'r taliadau, gan gymryd lleoliad y tŷ band D hwnnw yn yr ardal leol i ystyriaeth. Felly, fel rydych chi'n dweud, mae hi'n sefyllfa gymhleth iawn, a dyna pam rydym ni wedi bod yn gweithio mor agos â llywodraeth leol dros gyfnod maith ofnadwy. Roeddwn i'n synied yn gynharach fod y gwaith hwn wedi bod yn mynd rhagddo ers blynyddoedd mawr. Fe ddeuthum i'r swydd yn 2018, a hyd yn oed bryd hynny, roeddem ni eisoes wedi rhoi cyfran o'r gwaith hwn ar y gweill, gyda'r gwaith a roddodd y Gweinidog cyllid blaenorol, y Prif Weinidog nawr, ar waith ynglŷn â chyfran o'r ymchwil a gomisiynwyd ganddo ef yn y maes hwn.
Rwy'n credu bod y pwynt ynglŷn â disgowntiau ac esemptiadau yn un pwysig iawn, oherwydd rydym ni'n deall bod rhai pobl yn gyfoethog o ran asedau ond nid oes ganddyn nhw arian sylweddol wrth law. A dyna un o'r rhesymau pam rydym ni mor eglur nad ydym ni am wneud unrhyw newidiadau i'r disgownt unigolyn sengl, er enghraifft. Fe fydd hynny'n cefnogi tua 0.5 miliwn o aelwydydd ac yn sicr yn helpu rhai o'r aelwydydd hynny y gwnaethoch chi eu disgrifio, megis cynllun disgowntiau'r dreth gyngor, wrth gwrs. Mae hwnnw yn ei le i gefnogi pobl a allai fod yn ei chael hi'n anodd talu eu treth gyngor fel arall. Ac fe wyddom ni nad yw llawer yn manteisio'n llawn ar hwnnw ar hyn o bryd. Felly, mae unrhyw beth y gallwn ni ei wneud gyda'n gilydd i sicrhau bod pobl yn hawlio'r hyn y mae ganddyn nhw hawl i'w gael yn bwysig iawn. Ac fe ddywedais i hefyd y byddwn ni'n awyddus dros ben i ystyried rhyddhad trosiannol. Rwy'n credu mai un o'r pethau a ddysgwyd gennym ni oddi wrth yr ailbrisio blaenorol, a ddigwyddodd yn 2005, oedd efallai ein bod ni wedi bod yn rhy hwyr yn y broses cyn ystyried cymorth trosiannol. Ond fe wnawn ni hynny'r tro hwn cyn dechrau, gan ystyried hynny yn y cam cynnar hwn fel ein bod ni'n gwneud hynny'n iawn pe byddai angen mewn cynllun yn y dyfodol.
Fe fydd yna wahaniaethau. Mae newidiadau yn yr awdurdodau lleol ledled Cymru—. Fe welsom ni rai ardaloedd yng Nghymru lle mae gwerth tai wedi cynyddu llawer mwy o gymharu ag ardaloedd eraill ledled Cymru, ac am y rheswm hwnnw yr wyf i'n ystyried hefyd pa gymorth trosiannol y gallai fod yn angenrheidiol i'r awdurdodau lleol yn ogystal â rheoli unrhyw newidiadau yn y maes hwnnw. Ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo drwy rai o'r is-grwpiau technegol sydd gennym ni sy'n ymwneud â llywodraeth leol a chydag arbenigwyr eraill yn y maes hefyd.
Yn sicr, fe fyddwn ni'n gwrando ar yr ymgynghoriad. Rwy'n teimlo ac yn gofidio bod hwn yn faes sy'n barod am ddrygioni gwleidyddol, rwy'n ofni, am ei fod yn un mor dechnegol, ac mor gymhleth yn y ffordd a nododd Sam Rowlands ar ddechrau ei gwestiynau. Felly, mae angen i ni fod yn eglur tu hwnt gyda phobl mai amcan cyffredinol hyn yw nid i godi rhagor o arian ar bobl drwy gyfrwng y dreth gyngor. Yr hyn sydd ei angen i ni ei wneud yw codi'r arian hwnnw, yr un swm, mewn ffordd sy'n decach ledled draws Cymru. Ac rwyf i o'r farn pe byddem ni'n sefyll yn ôl oddi wrtho ac yn edrych ar y darlun mwy eang, rwy'n credu bod hwn yn rhywbeth y byddai hi'n anodd dadlau yn ei erbyn, yn yr ystyr bod y system wedi dyddio a'i bod hi'n golygu cymaint o annhegwch i'r teuluoedd tlotaf ledled Cymru.
Diolch i'r Gweinidog heddiw am ei datganiad ar gam nesaf y rhaglen waith hon. Mae Plaid Cymru wedi bod yn eglur ers cryn amser fod y dreth gyngor ar ei gwedd bresennol yn system atchweliadol a hen ffasiwn sy'n effeithio yn anghymesur ar aelwydydd tlotach. Aeth 20 mlynedd heibio ers y tro diwethaf i fandiau'r dreth gyngor gael eu hailbrisio yng Nghymru, ac yn ystod y cyfnod hwn roedd y gwahaniaeth mewn gwerthoedd rhwng eiddo ym mand A ac eiddo ym mand I o leiaf 9.5 gwaith. Nid yw gwahaniaeth o ran cyfraddau'r dreth yn ddim ond 3.5 gwaith. Yn wir, rwyf i wedi ymgyrchu ar annhegwch strwythurol y dreth gyngor yn fy rhanbarth i ers blynyddoedd lawer, ac rwy'n falch iawn y byddwn ni, diolch i'r cytundeb cydweithio â Llywodraeth Cymru, yn cyflawni'r diwygiadau hyn, sydd, fel mae adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid heddiw yn gywir i'w bwysleisio, wedi bod yn hir yn dod ac mae hwn yn syniad da iawn heb unrhyw amheuaeth. Fe fydd yn sicrhau dosbarthiad tecach o faich treth ac yn cynnig rhyddhad mawr i aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd trwy'r amser oherwydd yr argyfwng costau byw parhaus.
Fel clywsom ni'r wythnos diwethaf gan nifer o arbenigwyr yng nghynhadledd dreth Llywodraeth Cymru, mae hwn yn gam cyntaf hanfodol tuag at lunio cyfundrefn dreth sy'n adlewyrchu anghenion ac amgylchiadau pobl Cymru mewn ffordd well. Yn hyn o beth, y peth cyfiawn yw yr ymgynghorir ar y dewisiadau posibl ar gyfer ailgynllunio'r system dreth gyngor nawr, ac fe fyddwn i'n annog cymaint o bobl â phosibl i fynegi barn. Fel nododd y Gweinidog eisoes, diwygiad niwtral o ran y gost yw hwn. Ni chafodd ei gynllunio i gynyddu'r refeniw sydd ar gael ac fe gaiff ei saernïo yn unig o ddyhead i greu system fwy blaengar ar gyfer ariannu gwasanaethau lleol hanfodol.
Rwy'n croesawu hefyd yr uchelgais i sicrhau nad yw cynnydd ym mhrisiau tai—a fydd, wedi'r cyfan, wedi digwydd gyda'r mwyafrif helaeth o dai yng Nghymru ers yr ailbrisio blaenorol o drethi yn 2003—o reidrwydd yn arwain at filiau mwy. Yn wir, fel nodwyd yn yr enghreifftiau yn adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a gyhoeddwyd heddiw, yn ôl rhai patrymau lle gwelwn ni fandiau treth newydd yn cael eu creu, y gallai tua 70 y cant o aelwydydd yng Nghymru naill ai weld dim newid o gwbl yn eu biliau neu unrhyw ostyngiad, gyda thua 30 y cant yn talu mwy, fel byddai'n addas i'r rhai sydd â'r gallu mwyaf i dalu. Tybed, Gweinidog, a wnewch chi fanylu ychydig mwy ar gyd-destun yr agwedd hon ar y rhaglen. Pa sicrwydd allwch chi ei roi i aelwydydd sydd wedi gweld cynnydd mawr yng ngwerth eu tai dros y ddau ddegawd diwethaf na fyddan nhw'n wynebu codiad sylweddol sydyn yn eu biliau nhw? Pa waith a gafodd ei wneud i sicrhau bod y diwygiad yn cael ei gyflwyno mewn ffordd sy'n lleihau'r amhariad posibl ar y ffordd y mae cartrefi yn rheoli eu cyllidebau ar hyn o bryd?
Rydych chi'n cydnabod hefyd y bydd effaith y rhaglen ddiwygio hon ag effeithiau amrywiol mewn gwahanol rannau o'r wlad, yn naturiol felly. Rhywbeth y mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn briodol yn ei nodi yn faes y dylid ei flaenoriaethu mewn gwaith i ddod yw'r effaith ar gymunedau cefn gwlad, lle mae nifer o aelwydydd yn gefnog o ran eiddo ond yn dlawd o ran incwm, yn enwedig yn y sector ffermio. A gaf i ofyn sut y bydd hyn yn cael ei ystyried yn nyluniad y model terfynol? Sut fyddwch chi'n sicrhau na fydd y diwygiadau yn golygu anfantais anghymesur i gymunedau cefn gwlad? A gaf i ofyn hefyd a fydd rhagor o waith yn cael ei wneud i ddeall y cysylltiad rhwng gwerthoedd cynyddol tai a mwyafrifoedd ail gartrefi mewn rhai ardaloedd?
Rwy'n croesawu'r ymrwymiad hefyd i ddal ati i archwilio'r potensial ar gyfer treth gwerth tir leol fel uchelgais hirdymor. Er ein bod ni'n amlwg yn gefnogol iawn i'r mesurau sydd gerbron, rydym ni'n cytuno yn fawr y dylid ystyried hynny fel dechrau'r daith yn hytrach na'r gyrchfan derfynol, ac fe fyddwn ni'n parhau i ddadlau dros ddiwygiadau pellach ar ben y system hon a ddiwygiwyd ar gyfer y dreth gyngor. Fel pob amser, mae hi'n hanfodol i ddiwygiadau o'r math hwn gael eu hategu gan y dystiolaeth fwyaf cadarn a chyfredol. Ar y sail hon, a chan edrych ymlaen at ymchwil yn y dyfodol ar gyfer diwygiadau pellach i drethi, beth yw eich asesiad chi o'r systemau data perthnasol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd? A ydych chi'n cytuno mai un ffordd o rymuso hyn fyddai atgyfnerthu swyddogaethau cyrff, fel Asiantaeth y Swyddfa Brisio yng Nghymru, gyda gallu i gynhyrchu a dadansoddi data penodol i Gymru? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau yna. Rwy'n credu i chi nodi pwynt cwbl hanfodol sef fod angen gwirioneddol i ni weithio'n galed i gyfleu i bobl yng Nghymru, oherwydd bod gwerth eich tŷ neu eich eiddo wedi cynyddu ers yr ailbrisiad diwethaf 20 mlynedd yn ôl, nid yw hynny o reidrwydd yn golygu y byddwch chi'n gweld cynnydd yn eich biliau chi. Yr hyn sy'n bwysig yw sefyllfa gymharol yr eiddo hwnnw o gymharu â phob eiddo domestig arall yng Nghymru, ac rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn, a'r mwyaf y gallwn ni i gyd ei wneud i dawelu meddyliau pobl ynglŷn â'r ffaith honno—â'r ffaith nad ydym ni'n ceisio codi mwy o arian yn gyffredinol yma, a bod hyn yn ymwneud â thegwch. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn.
Rwy'n ddiolchgar i chi am dynnu sylw at y ffigurau hynny gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid. Maen nhw wedi gwneud gwaith pwysig iawn wrth edrych ar ein diwygiad bychan iawn, y diwygiad cymedrol a'r dull o gynnal diwygiad estynedig, ac mewn gwirionedd, yn ôl y dull i ddiwygio cyn lleied â phosibl, fe fyddai wyth o bob 10 aelwyd yn gweld gostyngiad yn y dreth gyngor neu newid bychan iawn oherwydd y model arbennig hwnnw. Gyda mwy o fanylder, o ran y dull hwnnw â newid bychan iawn, fe fyddai hwnnw'n golygu y byddai 18 y cant o aelwydydd yn gweld cynnydd, y byddai 22% yn gweld gostyngiad, a byddai 60 y cant yn gweld newid bychan iawn. Ac yna, os byddwn ni'n symud ymlaen at y dull o ddiwygio cymedrol, fe fyddai saith o bob 10 aelwyd yn gweld gostyngiad neu newid bychan iawn. Felly, yn fwy manwl eto, fe fyddai hynny'n golygu 26 y cant o aelwydydd yn gweld cynnydd, fe fyddai 41 y cant o aelwydydd yn gweld gostyngiad, ac fe fyddai 33 y cant yn gweld newid bychan iawn. Ac yna, dim ond i gwblhau'r darlun, ar gyfer y dull o gynnal diwygiad estynedig, unwaith eto, fe fyddai saith o bob 10 aelwyd yn gweld gostyngiad yn eu biliau neu newid bychan iawn, ond yn fwy manwl eto, 28 y cant o aelwydydd a fyddai'n gweld cynnydd, 40 y cant o aelwydydd a fyddai'n gweld gostyngiad a 32% a fyddai'n gweld newid bychan iawn.
Rwy'n argymell adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn wirioneddol i gyd-Aelodau. Ni a wnaeth gomisiynu'r adroddiad, ond adroddiad annibynnol y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ydyw, ac rwy'n credu ein bod ni wedi gweld cyfran o waith defnyddiol iawn gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid. Ond mae'n rhoi rhagflas i chi, mewn gwirionedd, o niferoedd yr aelwydydd a fyddai'n gweld gostyngiad yn eu biliau o dan y tair ffordd ymlaen sy'n ddichonadwy yn hyn o beth.
Nid oes unrhyw beth yr ydym ni'n ei gynnig heddiw yn diystyru newid mwy arwyddocaol neu wahanol yn y dyfodol, ac felly o ran y dreth gwerth tir leol, er enghraifft, rydym ni'n parhau i archwilio'r posibiliadau ar gyfer cael honno yn lle'r dreth gyngor a chyfraddau annomestig, gan adeiladu ar ganfyddiadau asesiad technegol manwl gan Brifysgol Bangor, a gynhaliwyd yn ystod tymor y Senedd flaenorol. Ac fe fyddwn ni'n defnyddio ystod eang o arbenigedd i ddatblygu dealltwriaeth eglur o'r hyn a fyddai newid mor sylweddol yn ei olygu i Gymru, a sut y gallai hynny weithio yn ymarferol. Fe fydd y dadansoddiad yn cynnwys y map ffordd posibl hwnnw ar gyfer gweithredu. Felly, rwy'n credu fod y gwaith hwnnw'n bwysig iawn. Yn y lle cyntaf, fe allai hwnnw fod yn rhywbeth y byddech chi'n ei ystyried yn faes sy'n fwy priodol ar gyfer ardrethi annomestig, a symud ymlaen at y dreth gyngor wedyn, o bosibl. Ond mae'r gwaith hwnnw'n bendant yn rhywbeth yr ydym ni'n bwriadu mynd ar ei ôl fel ein bod ni i gyd yn gallu gweld sut olwg allai fod ar wahanol fodelau yn y dyfodol.
Rydym ni'n archwilio rhai cynlluniau eraill o ran trethiant ar gyfer y dreth gyngor, er enghraifft system heb ei bandio neu gynlluniau hybrid. Fe allai rhai o'r rhain fod yn rhagflaenwyr synhwyrol i'r dreth gwerth tir leol honno'n ogystal â hynny. Felly, rwyf i am gynnig sicrwydd i gydweithwyr, er ein bod yn ymdrechu yn galed iawn i ddiwygio'r dreth gyngor, ein bod ni hefyd yn ystyried sut wedd allai fod ar wahanol fodelau yn y dyfodol, gan gydnabod y dyhead gwirioneddol a fu yn y Senedd i ni ystyried y modelau eraill hynny. Ac yna fe hoffwn i gyfeirio unwaith eto at y pwyntiau hynny a wnes i ynglŷn â chymorth trosiannol i aelwydydd a allai fod yn gweld cynnydd yn eu biliau nhw. Mae honno'n rhan bwysig iawn o'n cynllun ni hefyd, yn ogystal â'r disgowntiau a'r esemptiadau yr ydym ni'n eu hadolygu ar hyn o bryd. Fel soniais i yn fy sylwadau agoriadol, fe geir 53 o wahanol gategorïau. Mae gennym ni weithgor sy'n gwneud ei ffordd drwy'r rhain ac yn archwilio a oes unrhyw newidiadau y mae angen eu gwneud, neu, yn wir, unrhyw grwpiau y mae angen eu hychwanegu nhw at y rhestr honno hefyd.
Ac yna gair byr yn olaf am y systemau data—pwynt sy'n wirioneddol bwysig, ac unwaith eto, mae hwnnw'n rhywbeth yr wyf i'n ei drafod yn aml iawn gyda chydweithwyr yn Awdurdod Cyllid Cymru o ran eu gallu nhw o ran data, ond yna, hefyd, gyda Data Cymru, a'r hyn maen nhw'n ei wneud, gan ystyried y ffordd orau y gallwn ni gyfuno rhywfaint o'r gwaith y mae Data Cymru yn ei gynhyrchu, er enghraifft, gyda'r agenda ddigidol, yr agenda i wella llywodraeth leol—. Rwy'n credu bod digonedd i fynd i'r afael ag ef yn y maes hwnnw.
Rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Fe wyddom ni fod angen ailbrisiadau sy'n fwy rheolaidd. Nid yw pob 20 mlynedd yn dderbyniol. Fe wyddom ni ddau beth arall. Mae'r cyfoethogion yn ffafrio treth incwm leol, oherwydd fe fyddai honno'n arbed arian iddyn nhw drwy gyfrwng nifer o gynlluniau i ostwng treth a feistrolwyd ganddyn nhw. Ond fe wyddom ni hefyd fod y rhai sy'n lleiaf abl i dalu yn gwario cyfran uwch o'u hincwm ar y dreth gyngor yn ôl y drefn bresennol. Mae rhywun sy'n byw mewn eiddo sydd werth £100,000 yn talu tua phum gwaith cymaint o dreth gyngor, o gymharu â gwerth yr eiddo, â rhywun sy'n byw mewn eiddo sydd werth £1 miliwn. Nid yw tŷ gwerth £420,000 ond yn talu dwywaith cymaint â thŷ gwerth £120,000. I mi, mae hyn yn sylfaenol annheg, gan nad yw'r taliad yn gymesur â gwerth yr eiddo. A gwerth yr eiddo yw'r dangosydd gorau sy'n hysbys i mi o ran cyfoeth unigolion.
Tri chwestiwn: pam nad oes ond dau fand ychwanegol ar y brig; pam na ellid cael band newydd fesul £500,000 dros ben y band uchaf arfaethedig? Yn ail, pam ddylai pobl sengl yn y band G ac uwch presennol gael disgownt person sengl? A beth fyddai'r anfantais o ddefnyddio gwerthoedd gwirioneddol yn hytrach na bandiau?
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiynau yna ac yn arbennig am y gydnabyddiaeth ar y dechrau nad defnyddio data sydd dros 20 oed yw'r sefyllfa ddelfrydol i fod ynddi hi wrth weinyddu neu ddatblygu trethiant. Felly, rwy'n cytuno yn llwyr â'r pwynt hwnnw, ac rwy'n gobeithio y bydd cyd-Aelodau yn falch o wybod y bydd rhan o'r Bil cyllid llywodraeth leol (Cymru) yr wyf i'n bwriadu ei gyflwyno i'r Senedd yn ystyried cynnal yr ailbrisiadau hyn yn fwy aml ac ar gylch pum mlynedd, gan ddechrau yn 2030.
O ran y pwynt ynglŷn â bod treth ar eiddo yn rhywbeth sy'n sefydlog. Fel dywedodd Mike Hedges, gwerth eiddo yw'r mynegydd gorau sydd gennym ni o gyfoeth. Wrth gwrs, nid yw'r dreth gyngor yn ymwneud ag eiddo yn unig. Mae honno'n ymwneud â'r eiddo a'r unigolyn neu'r bobl sy'n byw yn yr eiddo hwnnw hefyd. Felly, mae'r eiddo yn rhan o hyn, ond yna pan fyddwch chi'n cymryd y bobl i ystyriaeth, mae'n rhaid i chi ystyried y disgowntiau, yr esemptiadau, y diystyriadau ac ati. Felly, cyfuniad yw hwn o'r ddau beth yn gweithio gyda'i gilydd.
Ac felly nid yw'r tri dull posibl y gwnaethom ni eu cyflwyno yn y ddogfen ymgynghori yn ddim amgen na thri dull sy'n bosibl. Roeddem ni'n dweud y byddem ni'n croesawu yn fawr ffyrdd posibl eraill o godi'r dreth gyngor mewn ffordd decach. Felly, fe allai'r mathau hynny o syniadau y gwnaeth Mike Hedges eu cyflwyno fore heddiw fod yn rhan o'r ymateb ymgynghori hwnnw, heb os, y gwn i y byddai ef yn awyddus i'w gyflwyno. Pan oeddem ni'n ystyried niferoedd y bandiau ychwanegol ar y pen uchaf, roeddem ni'n edrych ar niferoedd y tai, mewn gwirionedd, a fyddai'n cael eu cynnwys yn y rhain. Felly, mae'n debyg, pan ewch chi y tu hwnt i'r tŷ gwerth £1.6 miliwn hwnnw, mae'r niferoedd a allent gael eu cynnwys yn y bandiau hynny yn lleihau'n gynyddol.
Ond rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gael unrhyw sylwadau ac awgrymiadau gan gyd-Aelodau ynghylch ffyrdd amgen. Oherwydd, fel dywedais i, yr hyn sydd gennym ni yn y ddogfen ymgynghori yw enghreifftiau. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi nodi sut y gallai'r enghreifftiau hynny edrych mewn termau gwirioneddol. Ond, wrth gwrs, rydym ni'n agored i unrhyw syniad.
Ac yn olaf, Sioned Williams.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ar hyn o bryd mae'r dreth gyngor yn annheg ac mae taer angen ei diwygio hi. Rwy'n credu bod hwn yn gam cyntaf hanesyddol ar y ffordd at system fwy blaengar, ac fe ddylai ddod â buddion amlwg i'r aelwydydd mwyaf agored i niwed yng Nghymru.
Fel clywsom ni, mae hwn yn ddarn cymhleth o waith y bydd angen iddo adlewyrchu ystod o ffactorau cyn ei weithrediad terfynol, ac fe ddylai hynny gynnwys mynd i'r afael â'r cyfraddau annerbyniol o ddyled treth gyngor a sicrhau bod pawb sydd ag angen cymorth gyda'u biliau yn ei gael. Un mater sydd yn haeddu ystyriaeth wirioneddol yw bod angen gwella cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, oherwydd, yn anffodus, ar ei wedd bresennol, nid yw'r meini prawf cymhwyster bob amser yn cefnogi pawb ar incwm isel i fodloni eu hatebolrwydd o ran y dreth gyngor.
Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog amlinellu sut y bydd gwelliannau i'r cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn sicrhau y gall gefnogi pawb sydd ar incwm isel yn benodol, gan ystyried sut mae'n rhyngweithio, efallai, â'r system credyd cynhwysol? Canlyniad anffodus i'r diffygion yn y cynllun presennol fu gwaethygu problemau o ran dyled ac ansicrwydd ariannol. Fe welsom ni ymchwil gan Gyngor ar Bopeth Cymru a oedd yn dangos mai ôl-ddyledion treth gyngor yw'r broblem fwyaf cyffredin o ran dyled sy'n wynebu pobl Cymru. Felly, a allech chi egluro sut y bydd y rhaglen ddiwygio hon yn ceisio mynd i'r afael â'r berthynas, hefyd, rhwng casglu'r dreth gyngor a dyled?
Rwy'n ddiolchgar iawn am y sylwadau hynny. Ac o ran gwella cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, wel mae hynny'n rhan o'n dull ehangach. Bydd ymgynghoriad penodol, mwy technegol ar ffyrdd y gallwn wella'r cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, ond byddaf yn rhoi enghraifft i chi o'n math o feddwl. Felly, cyfeiriodd yr Aelod at y ffaith bod gan bobl sy'n cael credyd cynhwysol hawl yn aml i gael budd-daliadau eraill, ond nad ydynt yn sylweddoli bod yn rhaid iddynt wneud cais am gynllun lleihau taliad treth cyngor, ac nad yw'n hawl awtomatig. Gwyddom fod rhai awdurdodau lleol yn cymryd agwedd lle maen nhw'n sylwi bod pobl yn derbyn credyd cynhwysol ac yna eu bod yn rhagweithiol o ran ceisio sicrhau bod y bobl hynny hefyd yn cael mynediad at y cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor os oes ganddynt hawl i'w gael. Felly, rydym yn edrych ar ffyrdd y gallwn o bosibl wneud y cais yn fwy awtomatig, os mynnwch, i geisio sicrhau nad yw pobl yn syrthio trwy'r bwlch hwnnw dim ond oherwydd nad ydyn nhw'n sylweddoli ei fod yn beth arall y mae'n rhaid iddyn nhw wneud cais amdano. Felly, dyna'r math o beth yr ydym ni'n ei ystyried ar hyn o bryd. Mae gennym grŵp gyda llywodraeth leol, sy'n edrych ar ffyrdd y gallwn wneud y system honno'n fwy llyfn ac yn symlach i bobl. Felly, mae hynny'n rhan bwysig o hyn hefyd.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig cofio pa mor bell yr ydym wedi dod ar ein taith o ddiwygio'r dreth gyngor beth bynnag. Felly, rydyn ni wedi gwneud pethau sydd—. Rydym wedi arwain y ffordd yn y DU, nid lleiaf gyda'r ailbrisiad, ond gan feddwl hefyd am y gwaith yr ydym wedi'i wneud i sicrhau nad oes rhaid i ymadawyr gofal hyd at 25 oed dalu'r dreth gyngor, y gwaith yr ydym wedi'i wneud i sicrhau nad yw peidio â thalu'r dreth gyngor yn drosedd, oherwydd ni ddylai brwydro fod yn drosedd, a'r holl waith arall yr ydym wedi bod yn ceisio arwain y ffordd arno, yn enwedig o ran y fframwaith sydd gennym ar waith gyda llywodraeth leol o ran casglu dyledion. Felly, pan fydd pobl yn cael eu hunain mewn ôl-ddyledion, dylai llywodraeth leol fod yn cymryd y dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn hwnnw gyda'r person, yn y lle cyntaf yn darganfod beth sy'n digwydd, a ydyn nhw'n gallu hawlio budd-daliadau nad ydyn nhw'n eu hawlio ar hyn o bryd, a oes angen mwy o gefnogaeth ar aelwydydd, a oes angen adolygiad lles arnyn nhw ac yn y blaen. Felly, dylai fod yn canolbwyntio'n fwy ar yr unigolyn yn hytrach nag anfon y beilïaid i mewn, os mynnwch chi, yn y lle cyntaf. Felly, rwy'n credu bod y math hwnnw o waith, y math o ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn fwyaf ac yn ddull gwybodus, yn bendant yn rhywbeth arall y gallwn fod yn falch iawn ohono yng Nghymru.
Ond rwyf—. Clywais chi'n dweud 'ac yn olaf', felly fy erfyniad olaf i gydweithwyr yw rhannu gwybodaeth mor eang ag y gallwch chi gyda'ch etholwyr ynghylch diwygio'r dreth gyngor, oherwydd os yw etholwyr yn credu y gallai hyn fod yn rhywbeth y bydden nhw'n elwa ohono, os ydyn nhw yn y ganran honno a fydd yn gweld eu biliau yn gostwng, yna rydym am glywed ganddyn nhw hefyd.
Diolch i'r Gweinidog.
Mae eitem 4 wedi'i thynnu yn ôl.
Felly, symudwn ymlaen at eitem 5, datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, diweddariad ar y gwerthusiad o’r cod ymarfer awtistiaeth a niwrowahaniaeth. A galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan.
Diolch. A diolch yn fawr am y cyfle i roi gwybod i'r Aelodau am ein gwaith i gyflawni ymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu i wella gwasanaethau a chymorth i bobl niwroamrwyiol.
Gan fod y cod ymarfer statudol ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth wedi'i weithredu ym mis Medi 2021, roeddwn yn credu ei bod yn amserol cynnal gwerthusiad annibynnol o'r cod. Bydd y gwerthusiad yn cael ei gynnal mewn dau gam. Bydd y cam cyntaf yn adolygu i ba raddau y mae'r dyletswyddau yn y cod yn cael eu cyflawni gan y gwasanaethau awtistiaeth presennol ac yn nodi argymhellion ar gyfer gwelliannau. Bydd yr ail gam, sy'n dechrau yn haf 2024, yn edrych ar sut mae gwasanaethau wedi gweithredu'r gwelliannau a nodwyd o gam 1, a bydd hefyd yn edrych ar ganlyniadau i bobl niwrowahanol sy'n derbyn gwasanaethau.
Cyhoeddwyd adroddiad cryno ar gam cyntaf y gwerthusiad ar 9 Tachwedd, ac mae'r darn pwysig hwn o waith wedi tynnu fy sylw bod gweithredu'r cod yn ein galluogi i adeiladu ar gyd-destun gwasanaeth sydd eisoes yn gwella. Yn arbennig o amlwg yw'r dylanwad sylweddol y mae'r cod wedi'i gael ar godi ymwybyddiaeth a hyfforddiant mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hwn yn ddechrau cadarnhaol i'r hyn rydyn ni'n gwybod sy'n daith llawer hirach.
Mae'r adroddiad cryno yn dangos bod cyflwyno'r cod wedi tynnu sylw ac wedi annog ymholiadau am feysydd nad ydyn nhw eto wedi cael digon o sylw gan y grwpiau strategol rhanbarthol, megis asesiad diagnostig mewn gwasanaethau iechyd meddwl oedolion a gwasanaethau anabledd dysgu. Er mwyn cefnogi rhanbarthau i fynd i'r afael â hyn, rydym ar hyn o bryd yn gweithio gyda Choleg Brenhinol y Seiciatryddion i ddatblygu fframwaith gweithredol ac arweiniad i glinigwyr.
Mae'r argymhellion yn yr adroddiad yn ddeublyg. Yn gyntaf, maen nhw'n canolbwyntio ar ddatblygu dull strategol trosfwaol o wella gwasanaethau awtistiaeth ar lefel ranbarthol. Yn ail, maen nhw'n nodi camau penodol i wella cydymffurfiaeth mewn perthynas â dyletswyddau unigol. Mae hyn yn cynnwys cryfhau rôl grwpiau strategol awtistiaeth a'r hyrwyddwr awtistiaeth, yn ogystal â datblygu gwell dealltwriaeth o anghenion y gymuned awtistig trwy ddefnyddio offer cynllunio'n well, fel asesiad anghenion y boblogaeth. Mae'r gwerthusiad yn mynd ymlaen i nodi galluogwyr a rhwystrau ehangach sydd wedi cefnogi neu rwystro gweithrediad y cod. Gallwn ddysgu o'r rhain i gefnogi gwasanaethau yn well wrth symud ymlaen, tra hefyd yn sicrhau bod y canfyddiadau'n sail i'r gwaith o gyflawni ein rhaglen gwella gwasanaethau niwrowahaniaeth.
Mae'r gefnogaeth barhaus a ddarparwyd gan y tîm niwrowahaniaeth cenedlaethol, a elwid gynt yn dîm awtistiaeth cenedlaethol, hefyd wedi bod yn amhrisiadwy wrth ysgogi gweithrediad y cod. Yn ogystal â phenodi aelod o staff sy'n uniongyrchol gyfrifol am gefnogi byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i ddeall y gofynion a nodir yn y cod, maen nhw hefyd wedi datblygu fframwaith hyfforddiant cenedlaethol, modiwlau e-ddysgu a gwybodaeth ac adnoddau ar gyfer rhieni, gofalwyr, plant, pobl ifanc ac oedolion. Maen nhw hefyd wedi bod yn allweddol wrth godi ymwybyddiaeth, hyfforddi ac uwchsgilio cyflogwyr a'r gweithlu ehangach ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a gwasanaethau cymunedol.
Mae cyfeiriad yn yr adroddiad at ymgysylltu'n adeiladol â meysydd polisi prif ffrwd eraill, megis addysg, cyflogaeth, iechyd meddwl a thai, a sut mae'r rhain yn debygol o wella'r effeithiau ar fywydau pobl a chefnogi'r dull system gyfan. Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y dull cadarnhaol iawn sydd wedi'i sefydlu gydag aliniad y rhaglen wella gwasanaethau niwrowahaniaeth a'r fframwaith NEST / NYTH. Cyflawnwyd hyn drwy arweinwyr polisi sy'n cydweithio ar wasanaethau a chyfathrebu â nhw a gweledigaeth glir o sut mae fframwaith NYTH yn cynnwys plant niwrowahanol a'u teuluoedd.
Mae'r rhaglen wella niwrowahaniaeth wedi bod yn ganolog wrth wneud newidiadau i'r ffordd y darperir gwasanaethau, yn unol â'r cod. Trwy ryddhau'r arian drwy'r byrddau partneriaeth rhanbarthol, mae wedi annog gwasanaethau i gyd-symud yn agosach tuag at gyflawni'r dyletswyddau a nodir yn y cod. Mae'r cyllid wedi dod â chapasiti ychwanegol ar draws y system, gan gynyddu mynediad at wasanaethau diagnostig, gan alluogi datblygu gwybodaeth, adnoddau a darparu cymorth i bobl a'u teuluoedd wrth iddynt aros, a lleihau'r brys am ddiagnosis. Mae'r gwerthusiad hwn wedi bod yn addysgiadol iawn, ac mae wedi darparu cyfeiriad clir a chamau gweithredu penodol i Lywodraeth Cymru a byrddau partneriaeth rhanbarthol eu gweithredu. Ac rwy'n falch iawn o ddweud ein bod eisoes yn ymgysylltu â chyrff proffesiynol cydnabyddedig i gefnogi gweithredu'r argymhellion, a byddwn yn parhau i ysgogi'r newid trawsnewidiol sydd ei angen yn fawr iawn ar gyfer pobl niwrowahanol a'u teuluoedd.
Hoffwn hefyd gymryd y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi amdano'r llinell wrando.
Fel y gwyddoch chi, trwy ymgysylltu'n uniongyrchol â phobl niwrowahanol, eu rhieni a'u gofalwyr, codwyd absenoldeb mynediad prydlon at gyngor a chymorth priodol fel bwlch brys yr oedd angen mynd i'r afael ag ef. Gofynnais i swyddogion archwilio a fyddai datblygu gwasanaeth llinell gymorth yng Nghymru ar gyfer pobl â chyflyrau niwrowahanol a'u rhieni a'u gofalwyr yn helpu i fynd i'r afael â bylchau yn y ddarpariaeth, fel rhan o nifer o welliannau i gynyddu cefnogaeth i deuluoedd. Felly, ym mis Ebrill, fe ddechreuon ni beilot chwe mis o linell wrando niwrowahaniaeth fel estyniad i linell gymorth iechyd meddwl CALL. Dim ond yn ddiweddar y mae wedi dod i ben, ddiwedd mis Hydref, a bydd adroddiad ar y peilot ar gael ym mis Rhagfyr.
Mae canfyddiadau cychwynnol y peilot yn dangos bod angen gwasanaeth mynediad o bell sydd ar gael y tu allan i oriau gwaith craidd. Dangosodd cymhariaeth â'r un cyfnod chwe mis y llynedd, Ebrill i Hydref, y bu cynnydd o 132 i 255 ar gyfer galwadau sy'n gysylltiedig ag awtistiaeth ac o 95 i 183 ar gyfer anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, cynnydd o tua 52 y cant ar gyfer pob cyflwr. Fodd bynnag, rydym wedi dysgu o gynnwys y galwadau bod gwir angen i'r gwasanaeth fod yn fwy cydnaws â llinell gymorth na llinell wrando. Beth mae hyn yn ei olygu yw, yn hytrach na chynnig lle cyfrinachol i siarad yn unig, mae angen i ni gynnig gwasanaeth a all hefyd gynnig cymorth ymarferol, cyngor a gwneud atgyfeiriadau priodol. Rydym felly yn dysgu o'r peilot ac yn edrych ar atebion eraill i ddatblygu llinell gymorth, yn hytrach na llinell wrando.
Bydd y ddau adroddiad rwyf wedi cyfeirio atynt ar gael cyn diwedd y flwyddyn.
Diolch yn fawr iawn.
Wel, er nad yw awtistiaeth yn fater iechyd meddwl nac yn anabledd dysgu, mae pobl ag awtistiaeth yn disgyn rhwng dwy stôl, gan nad oes unman arall i fynd. Fe wnes i arwain dadl Aelod unigol yma yn 2015, a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Awtistiaeth i Gymru. Pleidleisiodd yr aelodau o blaid. Ym mis Hydref 2016, arweiniais ddadl yn cydnabod angen deddfwriaeth benodol ar gyfer awtistiaeth ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Bil awtistiaeth (Cymru) yn ystod pumed tymor y Cynulliad. Fe wnaeth ei drechu ar linellau'r pleidiau achosi trallod enfawr i'r gymuned awtistiaeth yng Nghymru. Yn dilyn hynny, cyflwynodd fy nghyd-Aelod, Paul Davies, Fil Awtistiaeth i sicrhau bod gan awtistiaeth hunaniaeth statudol briodol yng Nghymru a bod gwasanaethau i bobl ag awtistiaeth yn diwallu eu hanghenion gwirioneddol. Fel y dywedais i ar y pryd:
'Mae yna bryderon difrifol na fydd diweddariad Llywodraeth Cymru o’r strategaeth yn ddigon cadarn i wneud y newidiadau rydym i gyd am eu gweld oni bai ei fod wedi’i gefnogi gan ddeddfwriaeth.'
A
'Byddai gosod dyletswyddau penodol ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn arwain at fwy o eglurder ynglŷn â’r gofal a’r cymorth y gall pobl ag awtistiaeth eu disgwyl.'
Cafodd Bil Paul Davies ei drechu. Yn hytrach, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ddatblygu cod ymarfer statudol, gan atgyfnerthu dyletswyddau presennol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 fel dewis arall yn lle Bil awtistiaeth ar wahân. Yn y cod ymarfer a ddilynodd, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi gwneud yn siŵr bod
'gofynion monitro a phwerau adfer cryf sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i gymryd camau i ymyrryd os nad yw gwasanaethau’n cyrraedd safonau boddhaol.'
Gweinidog, a yw hyn erioed wedi digwydd ers hynny ac, os felly, pa newidiadau a ddeilliodd a sut y gwnaeth Gweinidogion sicrhau bod pobl awtistig a'u gofalwyr yn cymryd rhan ac y gwrandewir arnyn nhw mewn ffordd a oedd yn diwallu eu hanghenion cyfathrebu, synhwyraidd a phrosesu eu hunain?
Yn ôl y cod ymarfer, mae ar gyfer, ymhlith eraill, pobl awtistig, gan gynnwys y rhai â chyflyrau cyd-bresennol eraill, darparwyr gofal cymdeithasol a chymorth iechyd i bobl awtistig a'u teuluoedd a/neu ofalwyr, a chomisiynwyr a phobl sydd â rôl strategol wrth asesu a chynllunio gwasanaethau lleol ar gyfer pobl awtistig a'u teuluoedd a/neu ofalwyr. Fodd bynnag, pan fyddaf yn ymgymryd â gwaith achos etholwyr, sy'n ddyddiol y dyddiau hyn, ar ran pobl ag awtistiaeth a chyflyrau niwroddatblygiadol gydol oes eraill, mae'r darparwyr a'r comisiynwyr sy'n rhedeg y sioe naill ai'n methu â chydnabod y cod ymarfer sy'n bodoli hyd nes y caiff ei atgoffa neu yn hawlio eu bod yn cydymffurfio ag ef. Gweinidog, pam felly mae'r niferoedd mawr o bobl awtistig a'u teuluoedd neu ofalwyr sy'n cysylltu â mi bron bob amser yn dweud wrthyf eu bod wedi cael eu hanwybyddu, eu niweidio a'u beio?
Yn gynharach eleni, mynychais asesiad gofal a chymorth, ar gais etholwr, lle'r oedd ymddygiad swyddogion y cyngor wedi achosi pwl awtistig yn y fam, nad yw'r un peth â stranc wrth golli tymer ac nid ymddygiad drwg neu wael, ond sy'n digwydd pan fydd person yn cael ei orlethu'n llwyr. Sut ydych chi'n ymateb i'r llythyr a anfonwyd wedyn gan brif swyddog gwasanaethau cymdeithasol y cyngor, gan gyhuddo'r fam o ymosodiad geiriol a phennu sut y byddai cyswllt yn y dyfodol yn cael ei reoli?
Sut ydych chi'n ymateb i honiadau a gefais fod pobl awtistig ifanc yng Nghymru yn dal i gael eu hanfon i sefydliadau iechyd meddwl y tu allan i Gymru, a bu farw un ohonyn nhw, er enghraifft, mewn gofal sefydliadol fis Tachwedd diwethaf? Sut ydych chi'n ymateb i rieni plant awtistig, y mae eu plant wedi cael eu rhannu o ganlyniad i leoliadau yn chwalu a methiant darpariaeth awdurdodau lleol, a ddywedodd wrth Hefin David a minnau fis diwethaf bod ein gallu i ddeall maint y broblem hon a'i monitro yn cael ei gyfyngu gan y diffyg data cyfredol sydd ar gael?
Fis diwethaf, efallai y byddwch yn cofio fy mod wedi cael dadl fer yma ar fai rhieni a phroffil osgoi galw patholegol awtistiaeth, a oedd yn disgrifio profiad personol rhieni sy'n destun craffu a bai camarweiniol gan eu hawdurdodau lleol priodol, mewn perthynas â chyflwyniadau awtistig eu plant. Sut ydych chi'n ymateb i'r achosion a fanylais bryd hynny, gan gynnwys mam o sir y Fflint a ddywedodd:
'Ymddengys mai diwylliant sir y Fflint yw bwlio, erledigaeth a chelu pryderon diogelu difrifol a bygythiadau i symud plant er mwyn gagio'r rhieni sy'n cwyno'?
Mae honiadau tebyg yn cael eu gwneud wrthyf bob dydd gan deuluoedd yno. A sut ydych chi'n ymateb i'r datganiad gan gydlynydd cyngor addysg a phontio at gyfer Cymru y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, yng nghyfarfod grŵp awtistiaeth trawsbleidiol fis Ionawr, bod y gwasanaeth yn derbyn y nifer uchaf o alwadau o sir y Fflint, ac yna Caerdydd; neu wrth y fam o Wrecsam a ddywedodd:
'mae staff yr uned anghenion dysgu ychwanegol sydd i fod i gefnogi ein mab blwyddyn 11 yn gwneud y gwrthwyneb yn llwyr'
ac yr oedd ei dribiwnlys addysg y mis hwn?
Mark, allwch chi orffen nawr, os gwelwch yn dda?
Yn olaf, rydych chi'n cyfeirio at y llinell wrando a'r llinell gymorth niwrowahaniaeth, a all fod yn gadarnhaol i lawer o bobl. Ond sut ydych chi'n darparu ar gyfer anghenion pobl na allant ddefnyddio'r ffôn neu, wrth wneud hynny, yn cael trafferth prosesu gwybodaeth a gyflewyd dros y ffôn, waeth beth yw'r deallusrwydd uchel sydd gan y rhan fwyaf ohonyn nhw, ac y byddai angen iddyn nhw gyfathrebu mewn ffyrdd eraill, unwaith y bydd y darparwyr gwasanaeth wedi cymryd yr amser i sefydlu pa ddulliau cyfathrebu sy'n gweithio iddynt? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Mark, am yr holl bwyntiau hynny, a hoffwn dalu teyrnged i'r holl waith rydych chi wedi'i wneud ar gyfer a gyda phobl â niwrowahaniaeth. Rwy'n gwybod ei fod yn fater yr ydych wedi siarad yn gyson amdano yn y Siambr hon, ac yr ydych wedi ymgyrchu'n gyson yn ei gylch. Felly, hoffwn ddechrau drwy gydnabod y swm enfawr o waith rydych chi'n ei wneud ar hynny.
Roeddech yn cyfeirio at y Bil awtistiaeth a ddaeth gerbron y Siambr hon, a drechwyd. Un o'r rhesymau pam na chafodd y Bil hwnnw ei ddatblygu oedd ei fod yn canolbwyntio'n benodol ar awtistiaeth, ac rydym am estyn allan at bob cyflwr niwrowahanol. Mae'r tîm awtistiaeth cenedlaethol bellach wedi dod yn dîm niwrowahanol, ac rydym yn cynnwys ADHD, ac rydym yn cynnwys Tourette's. Rydym yn ei wneud yn dîm sy'n gweithio ar gyfer yr holl gyflyrau niwrowahaniaeth. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn sicrhau ein bod yn rhoi'r cyfle i bawb sydd â'r cyflyrau hynny, a'u teuluoedd, weld bod y tîm yn gweithio i bawb. Dyna'r ffordd yr ydym wedi symud ymlaen. Rydym wedi newid y tîm hwnnw, ac rydym bellach yn estyn allan at grŵp llawer ehangach.
Rwy'n gwybod eich bod wedi codi materion yr achosion sy'n cael eu dwyn atoch chi. Fel y gwyddoch chi, fel Gweinidog y Llywodraeth, ni allaf ymyrryd yn yr achosion unigol hyn, ond mae'n ddrwg iawn gennyf am unrhyw ofid a achoswyd i'ch etholwyr. Fe wnaethoch chi hefyd sôn am y ddadl a gawsom y diwrnod o'r blaen, a'r mater o bobl yn teimlo eu bod yn cael eu beio am y cyflwr a allai fod gan eu plant. Yn amlwg, ni ddylid beio neb am ba gyflwr bynnag sydd gan eu plentyn. Ond, fel y dywedais i, ni allaf wneud sylw ar yr achosion unigol hynny. Rwy'n falch bod ganddyn nhw chi i fynd ato, i fynd â'r achosion atoch chi, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n gallu cael rhai ymatebion boddhaol.
O ran y llinell wrando, mae hynny wedi bod, fel rwy'n ei ddweud, yn beilot chwe mis, ac rydyn ni wedi penderfynu bod angen rhywbeth mwy na llinell wrando. Mae angen rhywfaint o ymateb arnom lle gallwn gyfeirio pobl mewn gwirionedd, ac yn hytrach na chyfeirio pobl i rhywle, mae gennym arbenigwyr ar y llinell a fyddai'n gallu helpu pobl pan fo ei angen arnynt. Felly, rydym bellach yn edrych ar hynny. Ond rwy'n sicr yn derbyn y pwynt na fydd pawb yn defnyddio llinell gymorth oherwydd yr anhawster gyda chyfathrebu a chefnogaeth, ac mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn sicr yn ei ystyried yn ystod cam nesaf y datblygiad. Felly, diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am y cyhoeddiad yma. Dwi'n croesawu'r datganiad yma heddiw gan y Dirprwy Weinidog. Yn wir, mae unrhyw gyhoeddiad cadarnhaol yn y maes yma i'w groesawu.
Am gyfnod hir, roedd niwroamrywiaeth yn un o'r materion iechyd cudd yna nad oedd yn derbyn y sylw na’r gefnogaeth angenrheidiol. Mae'r ffaith bod ein hymwybyddiaeth a'n dealltwriaeth o'r cyflwr wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf yn gam mawr ymlaen, a dwi'n gobeithio y bydd y cynnydd yma'n parhau dros y blynyddoedd nesaf er mwyn sicrhau bod polisïau i gefnogi unigolion efo niwroamrywiaeth yn cael eu cynllunio mor effeithiol â phosib.
Fel dwi wedi sôn yn gyson yn y Siambr yma erbyn hyn, mae'n hollbwysig bod yr agenda ataliol yn ganolbwynt i bolisïau iechyd er mwyn i ni wella gwytnwch ein gwasanaethau iechyd er mwyn ymdopi efo heriau'r degawdau sydd o'n blaenau. Ac elfen allweddol o hyn ydy ehangu ein gallu i adnabod, ymateb ac addasu i gyflwr fel niwroamrywiaeth yn gynnar ac yn sydyn. Yn anffodus, fel yr amlygwyd yn yr adroddiad diweddar gan Gomisiynydd Plant Cymru, mae'r amseroedd aros ar gyfer diagnosis i bobl gyda niwroamrywiaeth yn parhau i fod yn llawer rhy hir, ac mae'r diffyg capasiti amlwg yn ein gwasanaethau iechyd ar draws Cymru er mwyn medru mynd i’r afael â'r rhestrau aros yma yn broblem. Er enghraifft, mae'r data diweddaraf yn dangos am bob dau blentyn neu oedolyn sy'n cael eu cyfeirio at asesiad niwroamrywiaeth, dim ond un sy'n derbyn diagnosis, felly mae'r capasiti yn ddim ond hanner y galw.
Mae adroddiad y comisiynydd plant yn pwysleisio, felly, yr angen i greu cymdeithas 'dim drws anghywir' ar gyfer niwroamrywiaeth, er mwyn mynd i’r afael â'r diffyg capasiti yma. Mewn termau gweithredol, mae hyn yn golygu sicrhau bod mudiadau cyhoeddus yn medru darparu eu gwasanaethau mewn ffordd sydd ddim yn anfanteisiol i bobl sydd â niwroamrywiaeth. Mae'n dda, felly, gweld adolygiad diweddar y 'Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth', a thra bod yna gynnydd wedi bod mewn rhai ardaloedd, mae'n amlwg bod yna gryn bellter i fynd er mwyn cyflawni'r uchelgais o gymdeithas 'dim drws anghywir'. Un o'r elfennau mwyaf siomedig o'r adroddiad yw'r diffyg hyder yng ngallu gwasanaethau iechyd meddwl oedolion i gydymffurfio â'r cod, sy'n adlewyrchiad o'r ffaith nad yw gwasanaethau niwroamrywiaeth yn ddigon holistaidd nac integredig.
Mae'n amlwg bod ansawdd sgiliau a hyfforddiant yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, ac, yn wir, yn y sector addysg am hynny, yn rhwystr sylweddol yn y cyd-destun yma. Beth felly ydy strategaeth y Llywodraeth er mwyn ymateb i hyn, a beth yw dealltwriaeth y Dirprwy Weinidog o'r gapiau mwyaf amlwg ar hyn o bryd o ran sgiliau yn y sector cyhoeddus, er mwyn cael gwasanaethau mwy integredig a gwell dealltwriaeth o gyflyrau niwroamrywiol?
Mae hefyd yn glir bod angen adolygiad parhaol o'r cod er mwyn i'w impact ymdreiddio a gwreiddio trwy bob rhan o'n cymdeithas. Ac un ffordd effeithiol o gyflawni hyn fyddai sicrhau bod pobl sydd â phrofiad byw o niwroamrywiaeth yn teimlo fel bod ganddyn nhw fewnbwn clir yn y broses o fireinio'r cod. Mae estyn allan a gwrando ar bobl sy'n byw efo niwroamrywiaeth yn hollbwysig. Mae'r data o'r llinell gwrando, felly, i'w groesawu. Allai'r Dirprwy Weinidog, felly, esbonio sut mae'r wybodaeth yma am fwydo i mewn i ddatblygu polisïau niwroamrywiol y Llywodraeth yn edrych ymlaen at y dyfodol?
Dwi am ofyn hefyd am ddiweddariad am raglen gwelliant gwasanaethau niwroamrywiaeth y Llywodraeth. Nôl ym mis Chwefror, clywsom fod yna £12 miliwn wedi'i fuddsoddi er mwyn gweithredu'r rhaglen dros y tair blynedd nesaf. Sut mae'r arian yma yn cael ei wario yn benodol, a sut fydd adolygiad y cod ymarfer yn effeithio ar sut mae'r adnoddau yn cael eu dosbarthu? Yn olaf, sut mae'r gwaith ailgyllido a gyhoeddwyd ar 17 Hydref am effeithio ar y gwariant yma? I ba raddau y mae chwyddiant dros y flwyddyn ariannol yma am danseilio uchelgais y Llywodraeth gyda'r rhaglen? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn, Mabon, am y sylwadau hynny, llawer ohonyn nhw yr wyf yn cytuno â nhw. Rwy'n credu mai un o'r pwyntiau a wnaethoch chi tuag at ddiwedd eich sylwadau oedd pa mor bwysig oedd hi fod pobl â chyflyrau niwrowahanol yn cymryd rhan, ein bod yn gwrando arnyn nhw a'u bod yn cael cyfle i siarad. Rwy'n cael fy nghynghori'n gryf gan y grŵp cynghori gweinidogol yr ydym wedi'i sefydlu, ac mae tri pherson â chyflyrau niwrowahanol yn ei gadeirio, ac maen nhw'n arwain y grŵp. Mae'r grŵp yn gynrychioliadol iawn o bobl sy'n ymwneud â'r sector, ac mae hyn yn bwysig iawn, rwy'n credu, bod gennym y lleisiau hynny yma yng nghanol y Llywodraeth, sy'n fy nghynghori i beth i'w wneud.
Hefyd, pan wnes i ymgymryd â'r rôl hon ac ers hynny, rydw i wedi cael cyfres o gyfarfodydd rheolaidd gyda theuluoedd, yn arbennig, sy'n ymwneud â magu eu plant sydd â chyflyrau niwrowahanol. Mewn gwirionedd, mae gwrando arnyn nhw wedi arwain y ffordd o ran yr hyn rydyn ni'n ei wneud mewn gwirionedd a'r hyn rydyn ni'n bwriadu ei wneud. Oherwydd yr hyn roedden nhw'n ei ddweud yw bod gennym ni'r fenter llinell wrando hon, oherwydd roedden nhw'n dweud mai'r hyn oedd ei angen arnyn nhw oedd rhywle i fynd am help a chefnogaeth, oherwydd un o'r adegau anoddaf yw aros am ddiagnosis. Rwy'n credu, fel y dywedoch chi, nad yw hanner y plant yn cael diagnosis mewn gwirionedd, oherwydd ni fernir bod angen diagnosis arnynt. Ond yn ystod y cyfnod hwnnw o aros mae cyfnod o straen enfawr ar y teuluoedd, a daeth hyn i'r amlwg mor gryf fel bod yn rhaid i ni roi rhywfaint o gefnogaeth yno ar y cam hwnnw. Felly, dyma un o'r pethau roedden ni'n ei wneud, y llinell wrando, y gwaith rydyn ni'n ei wneud ar draws ysgolion, y gwaith rydyn ni'n ei wneud i roi cefnogaeth yn y gymuned. Mae'r rhain yn bethau yr ydym yn ymrwymedig iawn i'w gwneud.
O ran y sgiliau, yr hyfforddiant a'r codi ymwybyddiaeth, byddwn i'n dweud mai dyna rai o'r pethau rydyn ni wedi bod yn gwneud cynnydd da arnyn nhw drwy'r cod. Mae'r holl awdurdodau lleol wedi derbyn hyfforddiant er mwyn cydnabod awtistiaeth, ac rydym yn symud ymlaen â hyfforddiant o ran cyfathrebu ac awtistiaeth. Felly, mae'r pethau hynny, rwy'n credu, yn hynod bwysig, a hefyd, fel y dywedais i, rydym wedi gweithio'n galed iawn ar godi ymwybyddiaeth. Bu cynnydd, ond mae'r cynnydd wedi arwain at fwy o alw, oherwydd mae cymaint mwy o ymwybyddiaeth bellach o'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd a llawer mwy o ymwybyddiaeth, ac mae llawer o oedolion yn nodi eu hunain fel oedolion a fethwyd pan yn blant. Felly, mewn gwirionedd, mae galw enfawr.
Roeddech chi'n cyfeirio at y rhestrau aros, ac mae'r rhestr aros i blant yn llawer rhy uchel, yn bendant. Nid wyf yn hapus o gwbl â'r ffaith bod y rhestr aros mor uchel, ond mae'r arian y gwnaethoch chi gyfeirio ato, mae swm sylweddol o'r arian hwnnw wedi mynd i mewn i'r byrddau partneriaeth rhanbarthol er mwyn darparu modd o helpu gyda'r rhestrau aros a hefyd i roi cymorth i'r cymunedau a'r teuluoedd. Un o'r enghreifftiau y byddwn i'n eu defnyddio yw yng Nghaerdydd a'r Fro, ac maen nhw wedi sefydlu cynllun o gysylltwyr, ac mae'r cysylltwyr yn gweithio'n benodol gyda theuluoedd lle mae yna blentyn y maen nhw'n credu sydd ag awtistiaeth, neu ADHD, neu Tourette's, ac maen nhw'n gweithio i'w cysylltu â'r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw. Felly, mae llawer o wahanol ddulliau yr ydym yn eu defnyddio i helpu teuluoedd yn y sefyllfa hon, ond, fel y dywedais i ar y dechrau, rydyn ni ar daith ac rydyn ni mewn gwirionedd ar ddechrau'r daith.
Ychydig iawn yn y Siambr hon fydd â mwy o barch at waith Mark Isherwood tuag at bobl niwrowahanol na mi, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gydag ef yn y dyfodol ar y materion a gododd heddiw. Un peth sydd angen i mi ei ddweud yw nad penderfyniad gwleidyddol ar fy rhan i oedd y bleidlais ar y Ddeddf awtistiaeth. Rwy'n teimlo mai hon oedd y Ddeddf anghywir ar yr adeg anghywir, ac fel aelod o'r gymuned awtistig y mae'n ei chynrychioli, nid wyf yn credu y byddai wedi ein cynorthwyo yn y ffordd y mae'n credu y gallai fod wedi ei wneud. Rwy'n credu mai ymgymeriadau mwy cymhleth y Dirprwy Weinidog, gwrando ar bobl nad ydynt yn bleidiau gwleidyddol ond sy'n aelodau o'r gymuned mewn gwirionedd, yw'r ffordd gywir ymlaen.
Mae Mabon ap Gwynfor wedi codi rhai pryderon go iawn am 'dim drws anghywir', sef yr hyn yr oeddwn i eisiau ei godi hefyd. Mae symud i linell gymorth yn swnio fel y peth iawn i'w wneud, ond rwy'n dal i weld y dirwedd wedi'i datgysylltu rhwng addysg ac iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Yn sicr, dyna oedd fy mhrofiad i. Felly, a all y Dirprwy Weinidog amlinellu sut y bydd argymhellion y comisiynydd plant yn llywio cam 2 o werthusiad y cod? Beth arall y gall hi ei wneud i gysylltu'r gwasanaethau gwahanol hynny? Ac a all hi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni hefyd am y gwaith yn nyfodol y grŵp cynghori gweinidogol?
Diolch yn fawr iawn, Hefin, am y cyfraniad hwnnw, a diolch hefyd am y gwaith rwy'n gwybod eich bod yn ei wneud yn y maes hwn. Rwy'n credu bod datgysylltiad rhwng addysg ac iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ac un o'r ffyrdd rydym yn mynd i'r afael â hynny yw galluogi pobl o fewn y gwasanaeth addysg i ddod yn ymwybodol a chael eu hyfforddi i gydnabod cyflyrau niwrowahanol a gallu ymateb iddynt. Ac wrth gwrs, o fewn yr ysgolion eu hunain, mae'r bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth addysg bellach yn cymryd rhan, mewn rhai meysydd, o ran cydnabod a gwneud diagnosis o'r plant yn yr ysgolion. Rwy'n credu po fwyaf y gallwn ei wneud i ddod â'r rheini at ei gilydd, yn sicr dylem wneud hynny.
Byddwn yn cael ail gam y gwerthusiad. Bydd y cam cyntaf yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr, yna bydd yr ail gam tua diwedd y flwyddyn nesaf, a byddwn yn sicr yn edrych ar y canfyddiadau hynny ac yn penderfynu sut rydym yn bwrw ymlaen â'r strategaeth. Fel y gwyddoch, rydym wedi rhoi £12 miliwn yn y strategaeth wella, ac wrth gwrs, fel y soniodd rhywun arall, mae chwyddiant a'r holl faterion eraill hyn yn amlwg yn effeithio ar hynny, ond rydym yn gwneud ein gorau glas gyda'r arian hwnnw i wella pethau.
Ar y grŵp cynghori gweinidogol, fel y dywedais i, rwy'n gwerthfawrogi'r grŵp cynghori gweinidogol hwnnw gymaint oherwydd yr arweinwyr yno, sy'n wych—rwy'n credu efallai eich bod chi'n adnabod rhai ohonyn nhw—ac rwy'n dibynnu'n fawr ar yr hyn maen nhw'n ei ddweud. Yn eu cyfarfodydd hyd yn hyn, rwy'n credu eu bod wedi bod yn gwyro fel grŵp mewn gwirionedd, a nawr rydyn ni'n gofyn iddyn nhw ddod atom gyda sut maen nhw'n meddwl bod gwasanaeth da yn edrych. Felly, dyma eu tasg nesaf yn y grŵp. Rwy'n aros iddynt ddechrau'r dasg honno a dod atom gyda model y byddwn wedyn yn edrych arno, oherwydd rwy'n credu, fel y dywedwch chi, mai'r ffordd i fwrw ymlaen â hyn yw gweithio gyda phobl sydd â'r profiad byw eu hunain neu'r profiadau byw o fagu plant. Rwy'n gwybod bod llawer o deuluoedd wir yn cael trafferth, ac mae oedolion yn cael trafferth hefyd, ac rwy'n credu ein bod yn gwella pethau, ond dim ond y dechrau ydyw ar hyn o bryd.
Diolch i’r Dirprwy Weinidog am y diweddariad heddiw. Un o’r pethau dwi ddim wedi gallu gweld yn eich datganiad chi nac yn y ddogfennaeth ydy unrhyw gyfeiriad at y Gymraeg. Mae’r cod ymarfer yn nodi:
'Pan gyfeirir at wybodaeth, asesiadau a chymorth yn y Cod hwn, dylai’r rhain fod ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.'
Yn amlwg, mae yna gydnabyddiaeth gan nifer o arbenigwyr o ran y pwysigrwydd bod asesiadau o’r fath yma yn digwydd yn iaith gyntaf y person, a dydy hynny ddim wedi bod yn digwydd.
Eisoes, mae yna drafodaeth wedi bod o ran rhestrau aros am ddiagnosis, ond gall plentyn Cymraeg eu hiaith fod yn aros am gyfnod hyd yn oed yn hirach na rhai sydd yn Saesneg eu hiaith—er enghraifft, o gyfnod allweddol 1, yn aros tan gyfnod allweddol 3 neu fwy am ddiagnosis, o chwe oed i 12 oed. Felly, pa gynnydd sydd wedi’i wneud o ran sicrhau bod y gwasanaethau a'r ddarpariaeth a'r asesiadau hyn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, ac ydy'r buddsoddiad hwnnw’n dal i sicrhau cynnydd yn y maes yma?
Diolch i chi, Heledd, am godi'r pwynt pwysig iawn hwnnw. Mae'r Gymraeg yn flaenoriaeth o fewn y rhaglen wella ac rydym yn cynnal darnau penodol o waith o fewn y cynllun gweithredu pum mlynedd, 'Mwy na geiriau'. Rydym yn ceisio deall gallu'r gweithlu i ddarparu gwasanaethau niwrowahanol ac asesiadau diagnostig yn Gymraeg, ac rydym yn gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru i gefnogi'r gwaith hwn. Mae uned gyflenwi'r GIG wedi manteisio ar y defnydd o'r Gymraeg ac offer fel rhan o'u gwaith archwiliad dwfn. Rydym hefyd yn edrych ar ymchwil a chamau ymchwilio o amgylch y broses a'r gofynion sydd eu hangen i gyfieithu offer diagnostig, ac mae hynny'n cael ei wneud hefyd. Felly, rydym yn cydnabod y mater, mae gennym gyfres o gamau gweithredu yr ydym yn eu cymryd, ond rwy'n cydnabod yn llwyr bod cael asesiad a diagnosis drwy gyfrwng y Gymraeg yn cymryd mwy o amser, ac nid yw'n iawn ei fod yn gwneud hynny.
Yn olaf, Alun Davies.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar hefyd i'r Dirprwy Weinidog am ddatganiad llawn iawn y prynhawn yma, ac rwy'n ddiolchgar hefyd am y ffordd y mae hi wedi cyflwyno'r datganiad hwn ac egluro sut mae gwasanaethau'n cael eu darparu ar sail ranbarthol ac yn fwy lleol. Ar gyfer bwrdeistref fel Blaenau Gwent, lle nad oes gennym ganolfan boblogaeth sylweddol, mae hyn yn golygu bod llawer o wasanaethau'n cael eu darparu o'r tu allan i'r fwrdeistref sirol. Pan fydd pobl wedi cael eu pen-blwydd yn bedair ar bymtheg oed a phan fyddwn yn cael y newid o fyd addysg i fyd oedolion, mae nifer o wasanaethau'n cael eu darparu yn rhanbarthol ac o rywle arall. Mae hyn yn gwneud trafnidiaeth yn fwy hanfodol er mwyn i bobl gael mynediad at y gwasanaethau hynny. Un o'r pethau rwy'n clywed amdanyn nhw gan etholwyr yn rheolaidd yw diffyg trafnidiaeth, sy'n golygu bod rhieni'n cael eu rhoi dan bwysau ychwanegol—pwysau anghynaladwy weithiau—sy'n golygu nad oes gan bobl y gallu i gael mynediad at y gwasanaethau hyn mewn gwirionedd. Beth gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod y gwasanaethau nid yn unig yn cael eu darparu i bobl, ond bod pobl yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau hynny?
Diolch i Alun Davies am gwestiwn pwysig iawn unwaith eto. Mae'n iawn ein bod ni'n gweithio mewn rhanbarthau ac mae llawer o'r cyllid rydyn ni'n ei roi yn mynd i fyrddau partneriaeth rhanbarthol er mwyn sicrhau bod yr atebion yn cael eu cyflawni'n rhanbarthol. Mae'n golygu bod lledaeniad daearyddol ehangach i bobl ifanc deithio. Un o'r pryderon a gyflwynwyd i mi yw'r ffaith nad yw trafnidiaeth benodol a oedd yn aml ar gael cyn y pandemig wedi ailymddangos ers y pandemig. Dyma un o'r materion rwy'n ymdrin â nhw mewn gwirionedd, oherwydd mewn rhai canolfannau, roedd bysiau rheolaidd yn cael eu darparu gan yr awdurdod lleol, ond nid ydynt wedi'u haildrefnu, ac mae hynny'n rhywbeth, fel y dywedaf, yr wyf yn ymwneud ag ef ar hyn o bryd. Ond o ran y mater hwn, mae hefyd yn ymwneud â mater trafnidiaeth yn gyffredinol, onid ydyw, o ran faint o fysiau sydd ar gael, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig efallai. Rwy'n credu ei bod yn rhan bwysig o bolisi trafnidiaeth ein bod yn ystyried anghenion pobl sy'n niwroamrywiol ac sy'n gorfod teithio. Felly, diolch i chi am godi'r mater hwnnw, sy'n rhywbeth y byddaf yn sicr yn ei ystyried wrth i ni symud ymlaen.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.
Eitem 6 yw'r datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar ddata ar leoliadau tomenni glo. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Julie James.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd heddiw ynghylch cyhoeddi lleoliadau tomenni glo segur. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol ers i'r Prif Weinidog sefydlu'r tasglu diogelwch tomenni glo ar ôl y tirlithriad yn Tylorstown ym mis Chwefror 2020. Un o'n prif amcanion oedd mynd i'r afael â'r bwlch mewn gwybodaeth am nifer a lleoliad tomenni glo segur ledled Cymru. Fe wnaethom ni gomisiynu'r Awdurdod Glo i fapio'r tomenni hyn, a hoffwn ddiolch i'r Awdurdod Glo, awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru am eu cymorth a'u cefnogaeth wrth baratoi'r data ar gyfer ei gyhoeddi. Mae wedi bod yn ymdrech enfawr i nodi, cofnodi a chategoreiddio'r holl domenni glo segur yng Nghymru yn un gronfa ddata ganolog, nad oedd yn bodoli o'r blaen.
Ym mis Hydref 2021, cyhoeddais nifer y tomenni fesul awdurdod lleol. Mae'r set ddata hon wedi galluogi'r tasglu i flaenoriaethu archwiliadau a gwaith cynnal a chadw ar y tomenni categori C a D. Mae gwybodaeth am domenni eisoes wedi'i rhannu gydag awdurdodau lleol a fforymau cydnerthedd lleol i gynorthwyo'r gwaith o ddatblygu cynlluniau parodrwydd ar gyfer argyfwng lle bo angen ar gyfer y tomenni â sgôr uwch. Fodd bynnag, gan fod cyhoeddi lleoliadau'r tomenni yn ymwneud â data personol ac eiddo unigol, roedd yn hanfodol bod gennym lefel uchel o gyfrinachedd yn yr wybodaeth am ffiniau cyn ei bod ar gael i'r cyhoedd. Bu'n rhaid i ni fynd i'r afael â thirwedd perchnogaeth tomenni glo hynod gymhleth a chynnal ymarfer sicrwydd ansawdd hir ynghylch y data.
Mae heddiw yn garreg filltir bwysig, gan fy mod wedi cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru y nifer diweddaraf o domenni ledled Cymru, ac, yn bwysig, hefyd lleoliadau pob un o'r 350 o domenni categori C a D yng Nghymru. Mae categori tomen yn seiliedig ar nifer o bethau. Ar gyfer y datganiad data hwn, rydym wedi canolbwyntio ar domenni categori C a D, gan eu bod yn fwy tebygol o fod angen archwiliadau cyson, fel y gallwn nodi a chynnal unrhyw waith cynnal a chadw pan fo angen. Nid yw'n golygu eu bod yn anniogel, ond gallant fod yn fwy o faint ac yn fwy tebygol o fod yn agosach at gymunedau neu seilwaith mawr. Mae'r gwaith hwn yn brosiect byw i raddau helaeth, a byddwn yn parhau i sicrhau ymhellach yr wybodaeth am leoliad y categorïau tomenni sy'n weddill, a gallwn ddisgwyl addasiadau pellach wrth i'r gwaith fynd rhagddo.
Rydym bellach wedi ysgrifennu at dros 1,500 o dirfeddianwyr a bron i 600 o feddianwyr eiddo ledled Cymru, i'w hysbysu eu bod yn debygol o fod â thomen lo segur gyfan neu ran ohoni ar eu tir. Cyn i mi fynd ymhellach, rwyf am ei gwneud yn glir nad yw cyhoeddiad heddiw yn golygu bod problem nawr mewn cysylltiad ag unrhyw domen lo segur benodol. Ar ôl mwy na thair blynedd ers tirlithriad Tylorstown, mae rhaglen benodol gan Lywodraeth Cymru ar waith i archwilio a chynnal y tomenni glo segur hyn yn rheolaidd, ac rydym yn gwybod llawer mwy am y tomenni hyn nag yr oeddem o'r blaen. Y cyfan yr ydym yn ei ofyn i berchnogion a meddianwyr cartrefi yw iddynt ganiatáu mynediad i'w tir i gynrychiolwyr o'r Awdurdod Glo neu'r awdurdod lleol i gynnal archwiliadau neu waith cynnal a chadw, pan fydd ei angen.
Fodd bynnag, rwy'n ymwybodol efallai mai dyma'r tro cyntaf y bydd llawer o bobl yn ymwybodol o fodolaeth tomen lo, neu ran o domen lo, ar eu heiddo, a bydd gan unigolion a chymunedau, yn gwbl briodol, gwestiynau. Rydym yn darparu pecyn o wybodaeth ategol ar gyfer perchnogion a deiliaid tomenni glo segur, cymunedau ehangach y meysydd glo, y cyhoedd a chynrychiolwyr lleol gan gynnwys Aelodau yn y Senedd hon. Mae gennym dudalen we bwrpasol ar wefan Llywodraeth Cymru, a byddwn hefyd yn cynnal sesiynau galw heibio cyhoeddus mewn cymunedau yr effeithir arnynt ledled Cymru dros yr wythnosau nesaf. Mae digwyddiadau ar-lein hefyd ar gael i'r rhai na allant ddod i'r sesiynau galw heibio.
Mae pob partner y tasglu yn cydweithio ar drefn arolygu a chynnal a chadw, sy'n helpu pob un ohonom i gymryd y camau mwyaf effeithiol i gadw cymunedau'n ddiogel. Mae'r holl domenni categori C a D wedi'u harchwilio. Rydym wedi comisiynu'r Awdurdod Glo i archwilio holl domenni glo categori C unwaith y flwyddyn, a thomenni glo categori D ddwywaith y flwyddyn. Rydym hefyd wedi comisiynu'r Awdurdod Glo i ddechrau archwilio tomenni categori B.
Mae'r arolygiadau rheolaidd yn ein helpu i fonitro unrhyw waith cynnal a chadw y gallai fod ei angen, ac rydym wedi sicrhau bod £44.4 miliwn ar gael i awdurdodau lleol i wneud gwaith ar domenni cyhoeddus a phreifat. Mae rhan o'r cyllid hwn wrth gwrs wedi helpu i gefnogi gwaith adweirio tomen Tylorstown. Pan ymwelodd y Prif Weinidog â'r gwaith yn gynharach yr haf hwn, gwnaeth y cynnydd a wnaed argraff fawr arno. Ers i'r gwaith adweirio ddechrau, mae bron i 400,000 tunnell o falurion wedi'u symud o'r domen, gan gynnwys bron i 60,000 tunnell o'r afon. Mae'r malurion sydd wedi'u tynnu yn cael eu defnyddio i greu dôl bywyd gwyllt. Rydym hefyd yn cynnal rhaglen eang o dreialon technoleg ar rai o'n tomenni glo categori C a D i bennu eu haddasrwydd wrth gyfrannu at reoli tomenni glo segur yn ddiogel ac yn effeithiol. Bydd canlyniadau'r treialon yn llywio technoleg hirdymor a strategaeth fonitro trefn reoli'r dyfodol.
Ond, Dirprwy Lywydd, nid yw ein gwaith yn dod i ben yn y fan honno. Yn ein rhaglen lywodraethu, rydym hefyd wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth yn ystod tymor y Senedd hon. Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod pobl sy'n byw ac yn gweithio ger tomenni glo yn teimlo'n ddiogel nawr ac yn y dyfodol. Ac mae ein cynigion ar gyfer trefn newydd yn bwriadu cyflawni hynny drwy osod trefn hirdymor, addas i'r diben ar waith ar gyfer diogelwch tomen segur. Bydd hon yn cael ei harwain gan gorff cyhoeddus newydd sy'n canolbwyntio ar y gwaith hwn yn unig. Roedd y Prif Weinidog yn cynnwys y Bil tomenni segur yn ei ddatganiad deddfwriaethol yn haf 2023, ac edrychaf ymlaen at hynt y Bil pan gaiff ei gyflwyno i'r Senedd y flwyddyn nesaf. Diolch.
Diolch yn fawr, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i chi am y cyfarfod a gawsom yr wythnos diwethaf i drafod rhyddhau'r set ddata bwysig iawn hon. Mae'r golygfeydd pryderus a welsom yn Tylorstown yn 2020 yn ein hatgoffa o waddol ac effaith ein gorffennol diwydiannol, ac rwy'n llwyr gefnogi'r camau a gymerwyd gennych chi a Llywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael â'r mater hwn, gan ddechrau trwy fapio'r holl safleoedd tomenni glo yng Nghymru. Mae'n caniatáu ar gyfer data mwy cyson ac mae'n caniatáu i bawb sy'n gysylltiedig gael mynediad at yr un wybodaeth berthnasol a gweithio tuag at yr un egwyddorion, sydd wrth gwrs yn hanfodol ar gyfer cyflawni canlyniadau, wrth symud ymlaen. Fel chithau yn eich datganiad heddiw, rwyf hefyd am achub ar y cyfle hwn i dawelu meddyliau trigolion, yn enwedig y rhai sy'n darganfod y gallent fod yn byw wrth ymyl tomen lo, drwy ddweud wrthynt i beidio â phoeni, ac nad yw'r rhestr hon yn golygu bod problem ar hyn o bryd ynghylch unrhyw un o'r tomenni ar y rhestr.
Mewn sesiwn friffio dechnegol y bore yma, rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi fy synnu o glywed nad yw rhai perchnogion yn ymwybodol bod ganddynt domenni glo segur ar eu tir, ac mae hyn yn dangos cymhlethdod y dasg o'n blaenau. Yn y sesiwn friffio, dywedwyd wrthym hefyd nad oes gan oddeutu 6 y cant o'r holl domenni glo segur berchennog wedi'i ddiffinio'n glir neu heb unrhyw wybodaeth perchnogaeth ar gael. A chyda hyn mewn golwg, Gweinidog, mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod pa gamau y gellid eu cymryd o ran monitro a chynnal y safleoedd hyn pan fydd hyn yn wir. A chaniateir mynediad i'r safle fel petai? Ac a fydd angen cynnal a chadw angenrheidiol yn awtomatig? Neu a oes unrhyw gyfraith sy'n eich atal rhag gwneud hyn?
Hefyd, Gweinidog, a oes unrhyw hawl gan berchnogion a allai fod wedi cael gwybod bod tomen lo segur ar eu tir i herio'r canfyddiad hwnnw? Fel y gallwch werthfawrogi yn ddiau, mae'n ddigon posibl y bydd problemau cyfreithiol neu yswiriant yn wynebu perchnogion os ydynt wedi cael eu nodi, ar gam, yn berchnogion cyfreithiol safle, a gallai hyn achosi problemau sylweddol pe baent yn ceisio gwerthu eu tir yn nes ymlaen. O ystyried cymhlethdod a nifer uchel y perchnogion sy'n rhannu tomenni glo segur, rwy'n rhagweld y gallai'r data hwn, yn ddealladwy, achosi problemau i rai pobl.
Yn eich datganiad heddiw, gwnaethoch sôn yn benodol am y safleoedd categori C a D, ac y bydd y safleoedd hyn nawr yn cael eu hadolygu unwaith a dwywaith y flwyddyn yn y drefn honno. Rwy'n ymwybodol nad yw safleoedd C a D o reidrwydd yn golygu eu bod yn achosi'r risg waethaf. Mae gennyf i ddiddordeb mewn cael gwybod pa mor aml y bydd y safleoedd A a B yn cael eu monitro, a beth yw'r posibilrwydd y bydd safleoedd yn newid categori? Pa mor debygol fydd hi y gallai safle categori B symud naill ai i gategori C neu D? Gofynnaf hyn, Gweinidog, oherwydd rwyf eisiau gwybod beth yw'r posibilrwydd y gallai safleoedd eraill sydd wedi'u hasesu fel risg isel fynd yn broblemus yn y dyfodol.
Fel y sonioch chi, dyrannwyd £44.4 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer cynnal a chadw tomenni glo am dair blynedd, gyda'r disgwyliad y bydd yr holl arian hwn yn cael ei wario ar wneud llawer o'r tomenni glo segur yn ddiogel yn ystod y cyfnod hwn. Pa ddisgwyliadau ariannol sydd gennych yn awr o ran cyllid pellach fydd ei angen? A ydych yn disgwyl i'r £44.4 miliwn fod yn ddigon i wneud pob tomen glo categori C a D yn ddiogel o ran adeiledd, ac felly dim ond symiau bach o gyllid fydd ei angen i'w hadolygu'n barhaus, neu a ydych chi'n disgwyl y bydd angen cyllid mawr o hyd wrth symud ymlaen?
Yn olaf, yn eich datganiad, rydych wedi gwneud sylwadau penodol ynghylch y gwaith sy'n cael ei wneud ar domen Tylorstown ynghylch adweirio malurion a chreu dolydd bywyd gwyllt. Rwy'n ddiolchgar i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am ganiatáu i mi ymweld â'r gwaith hwn sy'n cael ei wneud, ond rwy'n awyddus i wybod pa gamau sydd wedi'u cymryd i ddiogelu a hyd yn oed hyrwyddo'r fioamrywiaeth benodol sydd i'w chael ar domenni glo yng Nghymru yn unig. Rwy'n ymwybodol, fel y mae pawb yma, fod diogelwch y cyhoedd yn hollbwysig, ond fel y gwyddoch, Gweinidog, mae tomenni glo segur a safleoedd rwbel pyllau glo wedi dod yn gyfoethog o ran bioamrywiaeth, gyda fflora a ffawna nodweddiadol nad ydynt i'w gweld mewn mannau eraill sy'n cynnwys llawer o rywogaethau prin ac unigryw, megis y glöyn byw y gwibiwr llwyd, y wenynen durio gefngoch a fy ffefrynnau personol, bwystfil Beddau a miltroediaid anferth Maerdy Mae llawer o'r rhain yn cael eu hystyried yn flaenoriaethau cadwraeth ac maent mewn perygl o ddiflannu os nad yw gwaith adweirio yn eu hystyried nhw. Felly, gyda hyn mewn golwg, sut ydych chi'n rhagweld y defnyddir y set ddata newydd hon sy'n cael ei rhyddhau i fapio a diogelu'r fioamrywiaeth honno? Diolch.
Diolch yn fawr, Joel. Felly, mae 'na gyfres o gwestiynau yn y fan yna, ac mae llawer ohonyn nhw'n cael eu hateb ar y wefan, ond fe af drwyddyn nhw'n fyr. Felly, rwyf eisiau ymdrin ag ychydig o faterion, serch hynny. Rwy'n deall eich bod chi'n ei ofyn y ffordd arall i fyny, ond rydyn ni wedi cael sgyrsiau gyda Chymdeithas Yswirwyr Prydain, gyda UK Finance a'r benthycwyr, a chyda Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, ac nid ydym yn credu bod unrhyw broblem yswiriant na gwerthiant yn codi yn sgil cael eich nodi yn un sydd â thomen lo fel rhan o gwrtil eich adeilad. Felly, rydym yn sicr eisiau i bobl fod yn siŵr eu bod yn rhan o'r drefn neu nad ydynt yn rhan ohoni, felly os yw pobl yn meddwl bod problem ynghylch y mapio, mae yna ffordd berffaith resymol o gwestiynu hynny a sicrhau ei fod yn cael ei wirio. Ond un o'r rhesymau pam ein bod yn hapus i gyhoeddi'r data hwn heddiw yw ein bod wedi sicrhau ansawdd hyn, oherwydd roedd yn eithaf clir nad oedd y data mor ddibynadwy ag y byddem wedi hoffi iddo fod tan nawr. Ac mae wedi cymryd nifer o flynyddoedd i gyrraedd y pwynt hwn i sicrhau ansawdd. Ond mae system ar gael os ydych chi'n credu eich bod chi wedi cael eich nodi ar gam, neu'n wir fel arall—os ydych chi'n credu y dylech chi fod wedi cael eich nodi, mae methodoleg ar gyfer hynny ar y wefan.
O ran hygrededd y dosbarthiad, rydym wedi cael trefn arolygu ers peth amser bellach. Rydym wedi talu tua £3 miliwn i'r Awdurdod Glo i wneud y gwaith hwn i ni. Y tomenni C a D yw'r categorïau risg uwch, a thrwy 'risg uwch' rydym yn golygu bod angen mwy o drefnau arolygu i sicrhau uniondeb y domen; nid ydym yn credu eu bod yn risg uniongyrchol nawr i'r cyhoedd. Mae'n bwysig gwneud y gwahaniaeth hwnnw. Byddwn yn symud ymlaen, fel y dywedais, i'r tomenni categori A, B, ac R, ond rydym eisoes wedi cynnal arolygiad rhagarweiniol o'r hyn a wyddom, ac rydym yn hapus iawn fod y nodweddu yn gadarn. Felly, mae tomenni categori A a B â llai o risg, yn yr ystyr bod angen llawer llai o arolygu a chynnal a chadw arnynt er mwyn sicrhau eu bod yn parhau yn ddiogel ac nad ydynt yn debygol o lithro na gwneud unrhyw beth arall. Felly, mae hon, Dirprwy Lywydd, yn neges i sicrhau pobl bod y trefnau arolygu yno ac mai'r cyfan sydd angen iddynt ei wneud yw sicrhau, os gofynnir iddynt, eu bod yn caniatáu mynediad er mwyn gwaith archwilio ar eu tir. Dim ond troedfedd o ddarn olaf tomen lo fydd gan lawer o bobl ar waelod eu gardd gefn, felly nid yw hwn yn rhywbeth i boeni amdano.
Ac yna o ran y pwynt cyffredinol, fydd hi ddim yn syndod i unrhyw un sy'n byw yn ardaloedd treftadaeth cyfoethog Cymoedd y De bod tomenni glo yn eu cyffiniau. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw un sy'n prynu tŷ yn unrhyw un o'r ardaloedd y daw fy nheulu ohonynt yn rhyfeddu o ddarganfod bod pwll glo wedi bod gerllaw. Yn wir, roedd fy nhad yn gweithio mewn un lle rydw i'n byw. Felly, nid yw hyn yn syndod mawr i bobl, ond gallai fod yn syndod bod ganddynt ychydig bach ohono yn eu gardd gefn, neu efallai eu bod yn credu bod ganddyn nhw un, ac mewn gwirionedd mae'r map yn dangos nad oes ganddyn nhw un. Ond os ydych chi'n cyfeirio'ch etholwyr at y wefan, mae'n glir iawn sut mae mynd ati i gwestiynu os nad ydych chi'n hapus â'r wybodaeth. Ond, bydd y rhan fwyaf o bobl wedi derbyn llythyr yn dweud wrthynt am eu hamgylchiadau unigol yn syth.
Ac yna mae'r darn olaf yn ddarn pwysig iawn am y fioamrywiaeth. Gwyddom yn iawn fod llawer ohonynt wedi eu naturioli. Rhan o'r drefn cynnal a chadw ac arolygu yw sicrhau ein bod yn cadw'r agweddau treftadaeth a'r agweddau bioamrywiaeth, a lle mae'n rhaid symud malurion, fel y gwelsoch yn yr enghraifft yn Tylorstown, mae'n cael ei ddefnyddio'n effeithiol iawn i wneud yn siŵr y gallwn greu rhywbeth da allan ohono.
Diolch i'r Gweinidog.
Diolch yn fawr iawn am y datganiad a hefyd am y briff technegol rydych chi wedi'i ddarparu. Roedd yn ddefnyddiol iawn. Nawr, rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau a wnaed bod tawelu meddwl y cyhoedd yn hanfodol bwysig yn hyn o beth. Wrth gwrs, yn y dyfodol, gallai rhai o'r tomenni hyn beri bygythiad, a dyna pam y mae mor bwysig bod y gwaith hwn ar y gweill, i sicrhau bod hynny i gyd yn cael ei ddadansoddi a bod pobl yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am hynny. Nawr, mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb i unioni gwaddol eu hesgeulustod yma yng Nghymru, ac fel rwy'n deall, maen nhw wedi gwrthod talu tuag at hyn. Byddem yn ailddatgan bod yn rhaid diogelu cymunedau, wrth gwrs, bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru chwarae ei rhan i sicrhau bod hyn yn digwydd, ond mae'n rhaid i San Steffan dalu tuag at hyn.
Mae gennyf rai cwestiynau penodol, Gweinidog. Mae'r £44.4 miliwn sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i gynghorau lleol wneud y gwaith hwn, tomenni cyhoeddus a phreifat, i'w groesawu'n fawr. Byddwn i'n gofyn beth fydd yn digwydd ar ôl i'r arian yna ddod i ben, felly, yn y blynyddoedd 2024-25. Nawr, mae tomenni glo, wrth gwrs, yn waddol hanes diwydiannol y wlad—sy'n rhagflaenu datganoli. Mae angen i Lywodraeth y DU, fel y dywedais, ysgwyddo rhai o'r costau hyn, yn enwedig, rwy'n credu, y costau tymor hwy o wneud y tomenni glo hynny, a allai beri risg yn y dyfodol, yn ddiogel, gan ein bod yn gwybod bod gan fwy o law, sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd, y potensial i ansefydlogi'r tomenni hyn ymhellach. Nawr, nid wyf eisiau poeni pobl; rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn sicrhau pobl ein bod yn siarad am bethau a allai ddigwydd ac mae angen i ni sicrhau na fydden nhw'n digwydd yn y dyfodol, ond mae astudiaethau wedi awgrymu y gellid gweld cynnydd o 5 y cant mewn glaw yn ystod y gaeafau yn rhannau deheuol Cymru erbyn y 2050au. Felly, nid mater o ddiogelwch yn unig yw hwn, mae'n fater o gyfiawnder hanesyddol, cymdeithasol a hinsawdd.
Fe wnaeth Llywodraeth y DU elwa ar fuddion y diwydiant glo. Fe rwygodd gyfoeth o'n cymunedau ac yna fe wnaeth eu dad-ddiwydiannu heb gynllun ar gyfer y dyfodol, gan adael i'n cymunedau ddioddef. Felly, dim ond gwaethygu'r mater hwn y bydd risgiau newid hinsawdd. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data lleoliad holl domenni glo categori C a D yng Nghymru, ac rwy'n credu bod y map rhyngweithiol yn syniad da iawn. Nawr, rydych chi eisoes wedi nodi, Gweinidog, fod hwn yn fater o sensitifrwydd mawr; y bydd gan lawer o bobl bryderon, yn arbennig, fel y crybwyllwyd eisoes, os bydd pobl yn canfod am y tro cyntaf eu bod yn byw yn agos neu eu bod yn gweithredu busnes yng nghysgod tomen lo. Nawr, rwy'n falch iawn o glywed am y cyfathrebu sydd wedi digwydd â pherchnogion, â meddianwyr, ynghyd â'r ymgysylltu â'r gymuned ar-lein ac wyneb yn wyneb sydd yno i dawelu meddyliau pobl. Rwy'n deall bod hynny wedi bod yn digwydd yn fy rhanbarth i, mewn ardaloedd gan gynnwys Merthyr, Caerffili, Blaenau Gwent a Thorfaen. Ac mae'n rhaid i ni ddeall, wrth gwrs, pam y mae pobl yn poeni, oherwydd mae eisoes wedi codi. Fe sonioch chi'ch hun, Gweinidog, am dirlithriad Tylorstown yn 2020—dyna pam y cyflwynodd Plaid ddadl yn y Senedd hon, gan alw am ryddhau manylion lleoliadau'r tomenni hyn, ac, unwaith eto, rwy'n croesawu'r ffaith fod hynny wedi digwydd. Rwy'n edrych ymlaen at y ddeddfwriaeth sydd i ddod hefyd. Ond yn y cyfamser, pa neges, os gwelwch yn dda, allech chi ei rhoi i'r bobl sy'n byw ger y tomenni glo yma, pobl a fydd yn bryderus? Pa neges o sicrwydd hoffech chi ei chyfleu i fy etholwyr, ac a allech chi amlinellu ymhellach, os gwelwch yn dda, pa gymorth fydd yn cael ei gynnig iddyn nhw'n faterol ac yn seicolegol? Oherwydd mae pobl o Ferthyr ac o Fedwas, mewn gwirionedd, wedi cysylltu â mi, dros y blynyddoedd diwethaf ar adegau gwahanol, i sôn am eu pryderon. Byddai'n ddefnyddiol iawn, rwy'n credu, yn ogystal â'r cyfathrebu ar-lein hwn, pe gellid ailadrodd neges glir gennych chi, er mwyn tawelu meddwl pobl ynghylch y sefyllfa.
Nawr, yn olaf, oherwydd fy mod i'n ymwybodol o'r amser, rwyf eisoes wedi sôn am y mater o gostau adfer. Nawr, byddwn yn gwerthfawrogi pe gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni, Gweinidog, am unrhyw sgyrsiau rydych chi wedi'u cael gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynglŷn â gwneud y tomenni hyn yn ddiogel. Hoffwn bwysleisio fy siom bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi penderfynu peidio ag ychwanegu ei enw at lythyr diweddar eich Llywodraeth, fel y cytunwyd a'i gofnodi yn uwchgynhadledd y tomenni glo. Pa neges mae hynny'n ei anfon? Nid cwestiwn rhethregol yn unig yw hynny, Gweinidog; byddwn yn croesawu eich sylwadau mewn gwirionedd. Felly, i orffen, byddwn i'n croesawu canfod beth fydd yn digwydd ar ôl i'r £44.4 miliwn ar gyfer costau glanhau a chlirio—pan fydd hwnnw wedi ei ddefnyddio i gyd—pa gynllun sydd yna ar gyfer y dyfodol. A allwch dawelu ein meddwl ni, os gwelwch yn dda, er bod pwysau sylweddol ar gyllidebau Llywodraeth Cymru, y bydd hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'ch Llywodraeth? Diolch.
Diolch, Delyth. Ie, yn hollol. Felly, bu trafodaeth barhaus. Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi cyd-gadeirio'r uwchgynhadledd diogelwch tomenni glo ers cryn amser. Rydw i wedi mynychu rwy'n credu pob un ohonyn nhw, ond yn sicr y mwyafrif ohonyn nhw, ac mae wedi bod yn ymdrech ar y cyd, yn gwbl briodol. Mae ein safbwynt yn eithaf syml, mewn gwirionedd. Rydym yn gofyn am ddau beth: hoffem gael £20 miliwn ychwanegol ar gyfer y drefn arolygu a chynnal a chadw, ac rwy'n gobeithio siarad ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn y dyfodol agos iawn am ei gymorth i gael yr arian hwnnw wedi'i ddatganoli i Gymru gan y Trysorlys, ar gyfer y drefn benodol yr ydym yn sôn amdani yma. Ond mae yna fater llawer mwy hirdymor ynglŷn â'r gwaith adweirio. Felly, i wahaniaethu beth rydyn ni'n sôn amdano, y drefn arolygu a chynnal a chadw ac yna'r gwaith adweirio.
Mae'r gwaith adfer yn enfawr, ac ni allem dalu am hynny allan o'n cyllideb ddatganoledig, ac, fel y dywedoch chi yn gywir, Delyth, mae hon yn dreftadaeth gorffennol tanwydd ffosil y Deyrnas Unedig. Mae'n rhywbeth sy'n ragflaenu datganoli. Mae'n rhywbeth y dylai Llywodraeth y DU gymryd cyfrifoldeb drosto, neu o leiaf rannu'r cyfrifoldeb drosto, ac mae'r Prif Weinidog wedi parhau i wneud y pwynt hwnnw, fel y gwnes i, fel y mae fy nghyd-Weinidog, Rebecca Evans. Rydym yn parhau i wneud y pwynt nad yw'n gwneud synnwyr i ddweud y byddai diwydiant a oedd â phresenoldeb llawer mwy yma yng Nghymru a oedd o fudd i'r DU gyfan—ac y gallech ddadlau o fudd i rannau o dde-ddwyrain Lloegr yn llawer mwy nag a oedd o fudd i bobl yma yng Nghymru—yn cael ei ariannu gan y Llywodraeth ddatganoledig. Hynny yw, nid yw hynny'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl. Felly, mae hynny'n barhad o'r sgwrs honno, ond rydym yn gofyn nawr am gyfnod arolygu a chynnal a chadw. Felly, roeddwn eisiau gwneud y gwahaniaeth yna.
O ran y rhaglen barhaus, byddwch i gyd yn ymwybodol ein bod wedi ymrwymo, yn ein rhaglen lywodraethu, i gyflwyno deddfwriaeth yn ystod tymor y Senedd hon i ymdrin â gwaddol canrifoedd o gloddio a sicrhau diogelwch tomenni glo. Felly, trefnwyd i'r Bil tomenni segur gael ei gyflwyno i'r Senedd y flwyddyn nesaf. Mae hwnnw'n ceisio ymgorffori mewn deddfwriaeth y drefn reoleiddio hirdymor, gynaliadwy, addas i'r diben, gan adeiladu ar yr un sydd gennym nawr gyda'r Awdurdod Glo. A bydd yn creu, gobeithio, pan fydd y Senedd, gobeithio, yn ei gymeradwyo, gorff cyhoeddus y bydd yn canolbwyntio'n llwyr ar y gwaith hwn. Fel rhan o'r asesiad effaith ariannol a rheoleiddiol ar gyfer y Bil hwnnw, byddwn wrth gwrs yn rhoi'r cyllid ar waith, a bydd y Senedd yn gallu craffu ar wirionedd hwnnw, a byddwch yn gallu chwilota i sicrhau bod y swm cywir o arian gennym ar waith ar gyfer hynny. Felly, os hoffech chi, dyma'r cyllid rhwng nawr a phryd y daw'r Bil yn gyfraith, ac yna pan ddaw yn gyfraith, byddwn yn gallu cyllido drwy'r awdurdod goruchwylio. Felly, mae'n debyg bod honna'n ffordd hirwyntog o ddweud, 'Ie, yn sicr, byddwn yn parhau i'w ariannu', ond byddwn yn parhau i'w ariannu yn y ffordd statudol honno fel ei fod yn cael ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Felly, rwy'n falch iawn o wneud hynny. Ac yna, o ran y cyfathrebu, mae'n bwysig iawn, fel y dywedoch, yn briodol, Delyth, i egluro'r hyn yr ydym wedi'i wneud yma. Felly, yr hyn yr ydym wedi'i wneud yma yw rhoi sicrwydd ansawdd i ddata a oedd eisoes ar gael i'r cyhoedd yr oeddem yn gwybod nad oedd â sicrwydd ansawdd. Felly, roedd yn gamarweiniol iawn mewn rhannau, a'r hyn yr ydym wedi'i wneud yw ein bod wedi mynd trwy hynny gyda chrib mân gyda'r Awdurdod Glo a chyda'r awdurdodau lleol yr effeithiwyd arnynt i sicrhau ein bod yn llawer, llawer mwy ffyddiog bod hwn yn gywir. Felly, pan ydyn ni nawr yn dweud wrth bobl ei fod yn rhan o'u cwrtil nhw, rydyn ni'n llawer mwy sicr bod hynny'n gywir. Nid yw hynny'n golygu efallai na fydd rhywun yn canfod ein bod wedi gwneud camgymeriad bach, ond rydym yn llawer hapusach yn ei gylch.
Ac yna dim ond i bwysleisio eu bod yn domenni risg uwch oherwydd eu maint a/neu agosrwydd at leoliadau preswyl neu drefi neu seilwaith hanfodol, nid oherwydd bod mwy o berygl i rywbeth digwydd iddynt. Rwy'n credu ei bod mor bwysig cyfleu hynny. Felly, maen nhw'n risg uwch oherwydd pe bai rhywbeth yn digwydd, byddai'n cael effaith fawr, ond mae'r 'pe' yn anhebygol, oherwydd rydyn ni wedi rhoi'r cyfundrefnau arolygu a chynnal a chadw ar waith i wneud y 'pe' yn llai tebygol. Ac yna, pan fo rhywbeth yn digwydd, fel yn achos tomen Tylorstown, rydym wedi egluro pwy sy'n gyfrifol am hynny, beth ddylai'r ymateb fod i sicrhau bod pawb yn gweithio gyda'i gilydd, a bydd y Bil sydd i ddod yn egluro hynny hyd yn oed yn well.
Felly, nid wyf yn credu bod angen i unrhyw un boeni am hyn. Dylai hyn, os rhywbeth, roi sicrwydd ein bod yn gwybod ble mae'r tomenni, rydym yn eu harchwilio, mae trefn cynnal a chadw ac rydym yn treialu cyfres gyfan o bethau a fydd yn cadw pobl yn llawer mwy diogel nag yr oedden nhw o'r blaen.
I barhau o'r fan honno, Gweinidog, rwy'n credu mai'r peth mwyaf effeithiol y gallai Aelod etholedig ei wneud yw cwestiynu gwaith y bobl hynny sy'n gyfrifol am gadw tomenni yn ddiogel. Rwyf wedi cael cyfarfodydd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ac rwy'n falch o ddweud—dim ond croesgyfeirio eich cyhoeddiad heddiw gyda'r rhestr a wnaeth cyngor Caerffili yn gyhoeddus—yn bennaf ei fod yn gydamserol ac yn cydnabod y tomenni hynny. Mae un domen yn symud o gategori B i D1, a byddaf yn gofyn i'r cyngor am eu trefn arolygu, ond rwyf wedi cael cryn sicrwydd gan gyngor Caerffili ynglŷn â'u trefn arolygu, yn enwedig o ran tomenni Bedwas. Rwy'n credu mai'r peth mwyaf defnyddiol y gallwn ei wneud yw cadw llygad ar hynny, peidio â mynd at domenni penodol a thynnu lluniau ar y tomenni a'u cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol. Rwy'n credu bod angen i ni fod yn ofalus iawn wrth wneud pethau fel hyn. Rwy'n credu mai'r hyn sydd angen i ni ei wneud yw sicrhau bod y tomenni yn cael eu monitro'n effeithiol.
Byddai'r gost adfer ar gyfer adfer un domen yn fy etholaeth i yn ddegau o filiynau, rhwng £30 miliwn a £40 miliwn. Yr wythnos diwethaf, nododd y Prif Weinidog nad oedd gan Lywodraeth Cymru unrhyw wrthwynebiad i ddarparwyr preifat fod yn rhan o waith adfer tomenni glo, ar yr amod bod y broses gynllunio briodol yn cael ei dilyn. Gallaf roi enghraifft i'r Gweinidog o ble mae hynny wedi digwydd yn Six Bells yn Abertyleri—cwmni preifat wedi'i adfer ar gost gyhoeddus isel iawn, iawn. A all y Gweinidog gadarnhau bod hyn yn wir, ac y gall yr arbenigedd technegol y gall darparwyr preifat ei gynnig gynorthwyo Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i gyflawni eu hamcanion, yn enwedig lle mae'n anodd cael gafael ar y cyllid cyhoeddus hwnnw yn y tymor byr?
Ie, diolch, Hefin. Rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth rydych chi wedi'i ddweud yna. O ran y dosbarthiad, mae hwn yn ddosbarthiad technegol a wneir gan y peirianwyr sydd ag arbenigedd yn y mater hwn, a'r hyn y mae'n ei wneud yn effeithiol yw ei fod yn penderfynu faint o arolygiadau y flwyddyn bydd tomen benodol yn ei chael. Felly mae C yn cael un archwiliad y flwyddyn ac mae D yn cael dau archwiliad y flwyddyn. Ond, yn amlwg, os bydd unrhyw fater yn cael ei adrodd, yna byddai arolygiad yn dilyn ar unwaith. Felly, dyma'r drefn arolygu reolaidd, ac yna daw'r rhaglen gynnal a chadw allan o'r drefn arolygu honno ac mae'n cael ei gweithredu a'i goruchwylio, a dyna'r drefn ledled Cymru. Os yw tomen wedi newid categori, mae hynny oherwydd bod peiriannydd wedi rhoi ei farn ar y domen honno, ac rydych chi'n hollol iawn i ofyn i'r awdurdod lleol ynghylch hynny; nhw fydd â'r arbenigwyr o ran sut mae'r categoreiddio hwnnw wedi digwydd. Mae'r Awdurdod Glo yn rhoi sicrwydd ansawdd fel bod pawb yn hapus, ac yna ar ôl i'r Bil, gobeithio, basio drwy'r Senedd, bydd yr awdurdod goruchwylio yn gallu gwneud hynny. Ac yn amlwg, bydd ganddo arbenigedd er mwyn gwneud hynny.
O'm safbwynt i, rydym yn croesawu adfer o unrhyw ffynhonnell cyn belled â'i fod yn adweiriad sy'n cael ei gymeradwyo gan y drefn arolygu a chynnal a chadw ac yn cynnal y gwaith adfer mewn ffordd sy'n addas. Mae'r sgwrs a gawsoch chi a minnau am yr un sydd gennych mewn golwg yn swnio'n wych i mi, ac rwy'n siŵr ei fod yn cyd-fynd â'r meini prawf hynny. Yr hyn yr ydym eisiau ei wneud yw sicrhau bod canlyniad unrhyw waith adfer yn gweddu i'r ardal, yn diogelu unrhyw fioamrywiaeth sydd yno ac yn gweithio er budd y bobl, ac roedd y cynllun a amlinellwyd gennych i mi, Hefin, yn swnio fel petai'n gwneud yr holl bethau hynny. Yn amlwg, rydym yn croesawu mewnbwn gan unrhyw ffynhonnell sy'n gallu sicrhau'r canlyniad gorau i'n cymunedau.
Diolch, Gweinidog, am y datganiad heddiw, ond hefyd am gyhoeddi'r data. Rwyf hefyd eisiau pwysleisio'r hyn a ddywedoch chi—y 'pe'. Ond, yn amlwg, rydyn ni i gyd—. Pan welsom luniau Tylorstown, rwy'n siŵr bod ias wedi mynd i lawr cefn pob un ohonom ni, ac roedd yn atgof o erchyllterau'r gorffennol, ond hefyd y risg a berir gan esgeulustod Llywodraeth y DU. Ac rwy'n credu ein bod ni'n iawn i gondemnio Llywodraeth y DU, ac rwy'n credu ei fod yn anghyfrifol a dylem ni i gyd fod yn flin eu bod nhw'n chwarae gwleidyddiaeth dros rywbeth y mae mor hanfodol ein bod ni'n ei wneud yn iawn.
Mae'r cwestiwn yr hoffwn ei ofyn yn dilyn yr un llwybr â phwynt Delyth Jewell o ran digwyddiadau tywydd mwy eithafol; yn amlwg, roedd tomen Tylorstown yn enghraifft o hynny. Hyd yn oed neithiwr yn y Cymoedd, roeddech chi'n gallu gweld bod pobl yn cynhyrfu, yn poeni nid yn unig am lifogydd, ond hefyd yr effaith, o bosib, ar domenni. Felly, pan fydd digwyddiadau tywydd eithafol, sy'n dod yn fwy aml, a allwch chi roi'r ymrwymiad hwnnw nad dwywaith y flwyddyn yn unig y byddai'r tomenni hynny sydd fwyaf mewn perygl neu sydd agosaf at boblogaethau yn cael eu harchwilio fel y gellir sicrhau pobl heddiw bod yr wybodaeth honno yna, ond hefyd y bydd gweithredu yn ei sgil?
Ie, yn hollol, Heledd; mae'n bwynt da iawn. Felly, yr hyn rwy'n sôn amdano yw'r drefn arolygu a chynnal a chadw arferol rheolaidd, heb fod yn gysylltiedig ag unrhyw ddigwyddiad, dim ond digwydd yn gwbl reolaidd, gan sicrhau bod popeth ar y domen fel y dylai fod, ac mae'r system cynnal a chadw yn gweithio fel y dylai fod, ac nid oes dim wedi digwydd a fyddai'n golygu bod angen i'r peiriannydd newid y drefn c