Y Cyfarfod Llawn

Plenary

21/06/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 12:45 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Eitem ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru

Prynhawn da, bawb, a chroeso i'r Cyfarfod Llawn o'r Senedd a'r Senedd Ieuenctid ar y cyd.

Credaf ein bod newydd ostwng oedran cyfartalog y Siambr oddeutu 30 mlynedd. Diolch i’r holl bobl ifanc sy’n ymuno â ni heddiw i’n galluogi i wneud hynny. Hwn, wrth gwrs, yw'r tro cyntaf i'r Senedd Ieuenctid, sef yr ail Senedd Ieuenctid, sydd newydd ei hethol, eistedd gyda’r Senedd. [Cymeradwyaeth.]

Felly, mae ein Senedd Ieuenctid ni yn ei hail dymor, a braf yw bod yn dyst i'r berthynas sydd yn datblygu rhwng y Senedd Ieuenctid a'r Senedd, wrth i'r gwaith pwysig o gynrychioli buddiannau pobl ifanc Cymru fynd rhagddo.

Felly, heb oedi ymhellach, dwi'n mynd i ofyn i Ffion Williams agor y sesiwn. Ffion Williams yw Aelod etholaeth Gorllewin Caerdydd. Ffion Williams.

Diolch, Lywydd. Mae’n bleser bod yn y Senedd heddiw gyda’n sesiwn gyntaf ar y cyd rhwng Aelodau o’r Senedd a’r ail garfan o Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru.

Gwn fy mod i a’m cyd-Aelodau’n ddiolchgar am y cyfle i fod yma heddiw, ac rwy'n gobeithio y bydd y sesiwn yn werthfawr i Aelodau o’r Senedd ac i Senedd Ieuenctid Cymru wrth ddatblygu ein gwaith. Fel Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, mae wedi bod yn hynod galonogol gweld y cynnydd rydym wedi’i wneud yn ein his-bwyllgorau iechyd meddwl, yr amgylchedd, ac addysg. Dangosodd ein sesiwn yn y Senedd ym mis Tachwedd ein llwyddiant yn gwrando ar bobl ifanc ledled Cymru, gan roi sylw i'w barn i sicrhau bod pob llais yn cael ei gynrychioli. Yn ogystal â hynny, rwyf fi ac Aelodau eraill hefyd wedi elwa o sesiynau a phrofiadau blaenorol a rannwyd rhwng Senedd Ieuenctid Cymru ac Aelodau o’r Senedd i lywio a dylanwadu ar ein gwleidyddiaeth yma yng Nghymru.

Wrth gwrs, mae ein gwaith wedi adeiladu ar y sylfeini a osodwyd gan Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru, gyda pharhad yr is-bwyllgorau hyn a rhai themâu o fewn y pynciau hyn yn dyst i sut mae’r materion hyn yn dal i fod yn bwysig i bobl ifanc. Gobeithiwn y bydd sesiwn heddiw yn ysbrydoli'r Aelodau i ymgysylltu ymhellach â’r gwaith a wnawn ac i gefnogi ein hymdrechion fel Senedd Ieuenctid Cymru. Yn ein tro, rydym hefyd yn gobeithio, fel Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru, y byddwn yn dysgu sut mae’r Senedd yn ymateb i’r materion sy’n wynebu pobl ifanc, ac yn sicrhau ein bod yn cydnabod hyn yn ein gwaith. Diolch. [Cymeradwyaeth.]

Diolch yn fawr i Ffion Williams.

Nawr, mae gennym gynrychiolwyr yn siarad ar ran tri phwyllgor y Senedd Ieuenctid a sefydlwyd, ac i siarad, yn gyntaf oll, ar ran y pwyllgor addysg a'r cwricwlwm ysgol, Leaola Roberts-Biggs o etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy.

Diolch, Lywydd, a diolch am y cyfle i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y pwyllgor addysg a'r cwricwlwm gyda phob un ohonoch. Fel pwyllgor, canfuom fod y pynciau cyffredin roeddem am eu harchwilio yn cynnwys sgiliau bywyd, cyfleoedd allgyrsiol, cydraddoldeb a chynhwysiant, yn ogystal â’r systemau cymorth presennol sydd ar waith ar gyfer pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig.

Mae aelodau’r pwyllgor wedi cael cyfle i gyfarfod â chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru i ddysgu mwy am y Cwricwlwm newydd i Gymru, yn ogystal â'r ffaith bod llawer ohonom yn rhan o drafodaethau craff â Cymwysterau Cymru ynghylch cymwysterau pynciau newydd a’r newidiadau i’r ffordd y bydd rhai o’r pynciau'n cael eu hasesu bellach. Fel grŵp, mae gennym lawer o brofiadau gwahanol o system addysg Cymru, ac felly gobeithiwn ein bod wedi gallu ychwanegu gwerth sylweddol i’r trafodaethau hyn.

Yn ddiweddar, rydym wedi lansio ein hymgynghoriad ar y diwrnod ysgol, gyda’n prif ffocws ar sicrhau bod yr Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru yn deall a fyddai gwneud newidiadau i hyd ein diwrnod ysgol yn cael unrhyw effeithiau neu gydberthynas gadarnhaol ar wella llesiant myfyrwyr, eu hyder, mwy o gymorth i rai o gefndiroedd difreintiedig lwyddo yn eu man astudio, yn ogystal â mwy o sgiliau cymdeithasol a phersonol posibl, yn enwedig yn dilyn effeithiau pandemig COVID-19.

Yn rhan o’n hymgynghoriad, hoffem glywed nid yn unig gan fyfyrwyr, ond hefyd gan athrawon, rhieni a gwarcheidwaid er mwyn inni gael gwell syniad o sut y gallai hyn effeithio ar gyfran fwy o’n poblogaeth. Bydd yr ymgynghoriad yn adeiladu ar dreialon blaenorol Llywodraeth Cymru, lle mae gweithgareddau fel celfyddydau digidol, adrodd straeon a gweithgareddau antur awyr agored wedi cael eu cynnig yn ychwanegol at yr oriau ysgol presennol. Ar hyn o bryd, mae’r ymgynghoriad yn cael ei hyrwyddo ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol, drwy weithdai mewn ysgolion a grwpiau ieuenctid, yn ogystal â digwyddiadau cyhoeddus megis Sioe Frenhinol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol, ac eraill.

Edrychwn ymlaen at gyflwyno adroddiad dilynol yn y Siambr ym mis Tachwedd, a hoffem bwysleisio pwysigrwydd cymryd rhan ac annog cymaint o bobl ifanc â phosibl i wneud hynny, er mwyn sicrhau eu bod yn cael dweud eu dweud. [Cymeradwyaeth.]

Ac ar ran y pwyllgor iechyd meddwl a llesiant—.

Rwy’n bod yn hael iawn wrth ganiatáu cymeradwyaeth yn y Siambr y prynhawn yma. Gobeithio na fydd y Senedd yn parhau â hynny ar ôl i'r Senedd Ieuenctid gwblhau ein sesiwn.

Ocê, ar ran y pwyllgor iechyd meddwl a llesiant—

—y pwyllgor iechyd meddwl a llesiant, Harriet Wright-Nicholas o etholaeth Caerffili.

12:50

Diolch, Llywydd. Ers lansio ein hymgyrch, mae'r pwyllgor iechyd meddwl a lles wedi bod yn gweithio’n galed i godi ymwybyddiaeth o nifer o broblemau allweddol o fewn y gwasanaethau iechyd meddwl sydd ar gael i blant a phobl ifanc ledled Cymru.

Fe ddechreuasom ein hymchwil drwy gynnal arolwg o farn plant, pobl ifanc ac oedolion ynglŷn â'r gwasanaethau iechyd meddwl a lles presennol a’r darpariaethau sydd ar gael iddynt. Cawsom dros 3,500 o ymatebion, a chanfod, er gwaethaf gwaith caled Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru i geisio gwella darpariaethau, nad yw gwasanaethau iechyd meddwl yn ddigonol o hyd. Mewn gwirionedd, ychydig iawn o wahaniaeth, os o gwbl, a welsom o ran pa mor aml y mae pobl ifanc yn cael trafferthion gyda’u hiechyd meddwl o gymharu ag arolwg Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru, a gynhaliwyd yn 2020. Er gwaethaf y cynnydd mewn gwariant mewn ymgais i wella gwasanaethau, nid oes digon o newid wedi bod. Yn amlwg, mae angen ailwampio darpariaethau iechyd meddwl ar frys. Ar sail canlyniadau ein harolwg a thrafodaethau â phlant a phobl ifanc mewn nifer o leoliadau, fe wnaethom lunio ein hadroddiad, a oedd yn cynnwys ein canfyddiadau a’n hargymhellion ar gyfer gwelliannau i Lywodraeth Cymru.

Fis Tachwedd diwethaf, cawsom gyfle i gyfarfod â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y Senedd yn ein cyfarfod preswyl. Buom yn trafod yr adroddiad a'r argymhellion a wnaed gennym. Roedd ein hawgrymiadau allweddol yn cynnwys: un 'siop un stop' ganolog a chydnabyddedig ar gyfer gwybodaeth, adnoddau a chymorth; mwy o bwyslais ar sicrhau bod teuluoedd a ffrindiau'n cael cymorth i gefnogi pobl ifanc, gan gynnwys darparu hyfforddiant, gwybodaeth a deunyddiau i alluogi’r rhai y mae pobl ifanc yn ymddiried ynddynt i helpu’n well; rhaglenni hyfforddi ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n cefnogi ac yn gweithio gyda phobl ifanc. Y nod fyddai gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r heriau iechyd meddwl y mae pobl ifanc o wahanol gefndiroedd yn eu hwynebu, gan gynnwys pobl niwroamrywiol, pobl ag anableddau, aelodau o'r gymuned LHDTC+, pobl sy'n byw mewn tlodi, pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, a phobl ifanc o wahanol gefndiroedd ethnig. Yn olaf, fe wnaethom alw am well cymorth i bobl ifanc yn gynharach er mwyn lleihau’r pwysau ar wasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed.

Ers lansio’r adroddiad, mae aelodau’r pwyllgor wedi cymryd rhan mewn cyfleoedd i godi llais ar y mater, gan gynnwys mewn digwyddiadau fel Wonderfest gyda Platfform ar faes criced Morgannwg.

Hoffwn orffen drwy ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei hymateb ysgrifenedig i'r adroddiad, a’i chynnig i weithio gyda Senedd Ieuenctid Cymru dros y misoedd nesaf. Rydym wrthi ar hyn o bryd yn trefnu cyfarfod gyda'r Dirprwy Weinidog. Yn dilyn y cyfarfod, edrychwn ymlaen at weld rhai os nad pob un o’n hargymhellion yn cael eu gweithredu gan Lywodraeth Cymru. Diolch. [Cymeradwyaeth.]

Diolch yn fawr i Harriet. Felly, ar ran y pwyllgor amgylchedd a newid hinsawdd, nesaf, Harrison Williams.

Harrison Williams, yn cynrychioli Clybiau Bechgyn a Merched Cymru. Harrison.

Prynhawn da. Fy enw i yw Harrison Williams, ac rwy'n cynrychioli Clybiau Bechgyn a Merched Cymru. Heddiw, byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith pwyllgor yr hinsawdd a’r amgylchedd. Yn ystod ein cyfarfod yma ym mis Tachwedd, fel pwyllgor, cyfarfuom i helpu i benderfynu a oeddem am ganolbwyntio ar fioamrywiaeth, trafnidiaeth gyhoeddus neu ymgyrchoedd ysgol ac addysg. Ar ôl cyflwyniadau addysgiadol iawn a thrafodaethau ag arbenigwyr ar y materion hyn, yn y pen draw, fe benderfynasom ganolbwyntio ar drafnidiaeth gyhoeddus a theithio cynaliadwy. Fel pwyllgor, fe wnaethom y penderfyniad hwn oherwydd y materion a gyflwynwyd i ni, megis defnydd, dibynadwyedd, a chost trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, yn ogystal â’n dymuniad i annog mwy o bobl i deithio’n gynaliadwy.

Mae ein hymgynghoriad yn edrych ar y rhwystrau i drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol sy'n wynebu pobl ifanc, ac yn edrych ar beth arall y gellir ei wneud i deithio’n gynaliadwy. Mae’r ymgynghoriad yn cael ei gynnal drwy ein harolwg Ffyrdd Gwyrdd, sydd wedi casglu dros 1,000 o ymatebion drwy ei hyrwyddo mewn ysgolion, grwpiau ieuenctid a digwyddiadau fel Eisteddfod yr Urdd. Bydd yr arolwg yn weithredol tan ddiwedd mis Gorffennaf. Mae canfyddiadau cynnar yn awgrymu bod cost trafnidiaeth gyhoeddus yn ffactor pwysig i bobl ifanc wrth benderfynu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gyda’r rheini mewn ardaloedd gwledig yn tynnu sylw at faterion i ymwneud â dibynadwyedd ac amlder. Mae’r pwyllgor wedi bod yn arbennig o awyddus i ddeall y profiadau hyn mewn ardaloedd mwy gwledig a thlotach, a dyna pam ein bod wedi cynnal digwyddiadau grwpiau ffocws ac wedi siarad â phobl ifanc yn ein hardaloedd lleol i ddeall yr heriau y maent yn eu hwynebu. Yn ogystal â hynny, mae’r arolwg wedi dangos y bu cynnydd mewn teithiau car a cherdded ers y pandemig.

Yn ogystal â’r arolwg, mae digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd wedi chwarae rhan wych yn codi ymwybyddiaeth o fanteision teithio cynaliadwy a gadael i bobl ifanc fynegi eu barn ar y pwnc drwy stondinau gweithgareddau rhyngweithiol a defnyddio siaradwyr gwadd. Yn ddiweddar, rydym wedi cynnal digwyddiadau ym Mlaenau Ffestiniog, ac yn fwy lleol i mi, ym Mhontypridd, a fynychwyd gan lawer. Byddwn yn Sioe Frenhinol Cymru fis nesaf, ac rydym yn gwahodd unrhyw un a chanddynt diddordeb i ddod i ddweud eu dweud.

Bydd adroddiad pwyllgor yr amgylchedd yn cael ei gyhoeddi yn nhymor yr hydref, lle byddwn yn gallu nodi ein canfyddiadau llawn. Bydd hyn yn ein galluogi i weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â phroblemau presennol trafnidiaeth gyhoeddus ac i barhau i godi ymwybyddiaeth o deithio cynaliadwy.

I gloi, mae cael systemau teithio gwyrdd yn rhan hanfodol o ddyfodol cynaliadwy. Drwy leihau ein hôl troed carbon, hybu byw’n iachach, arbed arian a lleihau tagfeydd traffig, gallwn adeiladu dyfodol gwell nid yn unig i ni ein hunain, ond i genedlaethau’r dyfodol, a chyda’n gilydd, mae'n rhaid inni weithio i wneud opsiynau teithio gwyrdd yn fwy hygyrch a chyfleus i bawb. Diolch. [Cymeradwyaeth.]

12:55

Diolch yn fawr i chi i gyd, felly, am y cyfraniadau ar ran gwahanol bwyllgorau'r Senedd Ieuenctid. Awn ni ymlaen nawr i gael ymatebion byr oddi wrth y Prif Weinidog, arweinwyr y pleidiau, a hefyd Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Felly, yn gyntaf, y Prif Weinidog, Mark Drakeford.

Wel, Llywydd, prynhawn da a diolch yn fawr. Hoffwn i ddechrau drwy longyfarch holl Aelodau'r Senedd Ieuenctid ar eu hetholiad. Wythnos diwethaf, fe wnes i gwrdd gyda rhywun oedd wedi bod yn Aelod o'r Senedd gyntaf o bobl ifanc yma yng Nghymru. Dywedodd e wrthyf i fod y profiad wedi newid ei fywyd. Dwi'n gobeithio y bydd yr amser rydych chi'n rhoi a'r ymrwymiad rydych chi wedi'i ddangos yn cael ei wobrwyo mewn ffordd debyg. Mae'r gwaith rydych chi eisoes wedi'i gwblhau'n adlewyrchu'n gryf prif ofidion pobl ifanc yng Nghymru heddiw. Diolch am yr adroddiadau ar addysg a'r cwricwlwm. Bydd yr argymhellion yn eich gwaith ar iechyd meddwl a llesiant yn ddylanwadol ar draws Llywodraeth Cymru. Bydd yr arolwg presennol, sy'n archwilio'r hinsawdd a'r amgylchedd, yn sicrhau bod llais heriol pobl ifanc ar bynciau mwyaf dwys y dydd yn cael ei glywed yn glir ac effeithiol yng ngwaith y Senedd.

Diolch, bawb, am ymuno â ni heddiw. Gallwch fod yn sicr fod gennych holl gefnogaeth y Senedd yn y gwaith pwysig a wnewch nid yn unig ar ran pobl ifanc Cymru, ond ar ran Cymru gyfan. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr. Na, nid oes angen ichi gymeradwyo'r Prif Weinidog nac arweinwyr eich pleidiau, os nad oes ots gennych. Ymgais lew, Hefin David, ond dim diolch. [Chwerthin.]

Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Lywydd. Mae'n rhaid bod ad-drefnu ar y gweill neu rywbeth, gyda'r Aelodau ar y meinciau cefn yn cymeradwyo. [Chwerthin.]

Mae’n bleser pur cael bod yma am yr eildro i’r Senedd Ieuenctid bresennol hon ddod at ei gilydd yn yr Oriel, yn Siambr y Senedd, i gyfarfod, yn amlwg, ag Aelodau o'r Senedd. Rwyf wedi cael y pleser o gyfarfod â gwahanol seneddwyr ieuenctid—rwy'n edrych ar Ruben ar ochr arall y ddesg, ac er nad yw'n cefnogi fy mhlaid wleidyddol, yn ôl y logos y mae’n eu rhoi ar y cyfryngau cymdeithasol, mae wedi ymgysylltu’n agos â gwleidyddion ar draws y Siambr hon, boed yn wleidyddion Llafur, Plaid Cymru, neu ni ein hunain, a dod â ni i mewn i'r ysgolion i gyfarfod â myfyrwyr yn Ysgol Uwchradd Llanisien, ac rwy'n siŵr fod hynny wedi digwydd ar draws y Senedd Ieuenctid, ac yn amlwg, wedi agor y drysau i lawer o bobl weld beth mae Senedd Cymru yn ei wneud mewn gwirionedd, a'r cyfrifoldebau sydd gennym, a gobeithio y byddwch yn gallu llywio ein gwaith gyda'r adroddiadau rydych wedi'u gwneud.

Mae mor galonogol clywed y gwaith rydych wedi'i wneud ar y diwrnod ysgol yn arbennig, ac ar iechyd meddwl yn benodol. Heddiw, yn y Daily Telegraph, er enghraifft, mae adroddiad, wrth inni ddod allan o pandemig COVID, ar anhwylderau bwyta a sut mae hynny’n effeithio ar bobl ifanc a’r cymorth a’r gefnogaeth sydd angen eu darparu yn hynny o beth. Pa bobl well i lywio’r mesurau sydd angen eu rhoi ar waith na phobl ifanc eu hunain? A hefyd, wrth fyfyrio ar y diwrnod ysgol a'r newidiadau y gwn fod y Llywodraeth yn sôn am eu cyflwyno, mae'n galonogol gweld y ddeialog rhwng mainc y Llywodraeth a'r seneddwyr ieuenctid yn y gwaith rydych wedi'i wneud.

Felly, rwy'n dymuno'n dda i chi, a phob llwyddiant yn eich gwaith. Rwy’n deall bod gennych chwe mis arall o waith tan y daw’r tymor hwn i ben—rwy’n credu fy mod yn iawn yn dweud hynny, Lywydd, 2023—ac o’ch cyflwyniadau cychwynnol, rydych wedi nodi, yn amlwg, y bydd adroddiadau'n cael eu cyflwyno yn yr hydref, ac rwyf fi, yn sicr, a'm cyd-Aelodau ar feinciau’r Ceidwadwyr, rwy'n gwybod, wedi mwynhau gweithio gyda'n cyd-seneddwyr ieuenctid, ac edrychwn ymlaen at barhau â’r gwaith a’r gefnogaeth honno. Bydd hynny'n agor y drws, gobeithio, i lawer ohonoch sefyll mewn etholiadau, i gael eich ystyried gan yr etholwyr yn fwy cyffredinol, ni waeth ym mha blaid, gan fod democratiaeth yn ffynnu pan fydd pobl yn sefyll etholiadau ac yn cynnig y dewis, y dewis eang hwnnw i’r etholwyr, er mwyn i’w lleisiau gael eu clywed. Felly, rwy'n dymuno’n dda i bob un ohonoch yn eich gwaith parhaus, a diolch am roi eich amser i fod gyda ni yma heddiw.

13:00

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, ac mae hi yn fraint wirioneddol i mi gael bod yma yn gwrando arnoch chi ac yn dysgu gennych chi heddiw yma.

Dylwn ddweud ein bod ni fel oedolion yn tueddu i feddwl ein bod yn iau nag ydym, felly mae cael ein hamgylchynu, yn llythrennol, gan bobl ifanc, a phobl ifanc mor eithriadol o ddeallus, ychydig yn frawychus, felly peidiwch â bod yn rhy galed arnom, yw fy nghais.

Rŵan, er fy mod i ychydig bach yn hŷn na chi, mae gennym ni un peth sy'n gyffredin iawn, sef chwilfrydedd. Dwi newydd ddod yn arweinydd ar fy mhlaid i ac wedi fy nghyffroi am y posibiliadau sy'n dod o hynny, wrth greu Cymru well. Ac yn yr un modd, dwi'n gwybod y bydd eich llygaid chithau yn lled y pen ar agor, ie, i'r heriau, ond hefyd i'r cyfleoedd cyffrous sy'n dod o'n blaenau ni fel cenedl.

Hoffwn ddiolch i chi am y gwaith pwysig a wnewch a rhoi sicrwydd i chi fod eich blaenoriaethau, mewn cymaint o ffyrdd, yr un fath â'm blaenoriaethau i a'n blaenoriaethau ninnau hefyd. Ac mae eich cael chi yma heddiw yn fy atgoffa nad wyf fi a'm cyd-Aelodau o'r Senedd yma er ein mwyn ein hunain; rydym yma ar eich cyfer chi. Ym mhopeth a ddywedwn ac a wnawn, dylem ofyn y cwestiwn syml i ni'n hunain, 'A fyddwn yn gadael ein cenedl mewn lle gwell o ganlyniad i'n gweithredoedd?' Gwn fod pobl ifanc yn wynebu cymaint o heriau—trodd y pandemig addysg wyneb i waered. Pwy fyddai wedi meddwl y byddai'r ystafell fwyta, y gegin, yn dod yn ystafell ddosbarth? Ond fe ddangosoch chi wytnwch, gallu i ymaddasu ac awydd i ddysgu, ac mae eich gallu chi fel cenhedlaeth i oroesi'r storm yn rhywbeth y gallwn ddysgu ohono.

Dwi'n gwybod bod COVID wedi creu cymaint o heriau i chi, wrth inni drio cadw'n gilydd yn ddiogel—yr unigrwydd ddaeth o hynny. Mae peidio â chael ein ffrindiau agos o'n cwmpas ni yn rhywbeth sy'n anodd ac yn gallu bod yn heriol o ran iechyd meddwl. Ond mae'n glod mawr i chi eich bod chi wedi gwneud iechyd meddwl yn rhywbeth normal i siarad amdano fo—rhywbeth oedd yn rhy anodd i'n cenhedlaeth ni i siarad amdano fo yn y gorffennol.

Un o'r pryderon mwyaf sydd gennym ni fel byd, wrth gwrs, ydy newid hinsawdd. Fel dywedodd Greta Thunberg:

'Unwaith y byddwn yn dechrau gweithredu, mae gobaith ym mhob man.'

Ac efo gweithredu cyflym, yn sgil pwysau gan eich cenhedlaeth chi, mi allwn ni wneud y byd yma yn lle gwell. Yr her i ni yn fan hyn, wrth gwrs, ydy dangos ein bod ni yn clywed, yn gwrando ac yn barod i weithredu ar yr hyn rydym ni'n ei glywed gennych chi. Diolch am fod yma heddiw yma.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a gwych eich gweld chi i gyd yma heddiw.

Un peth yr hoffwn ei ddweud, yn y bôn: fi yw'r unig fenyw sy'n arweinydd plaid yng Nghymru, a fi yw'r unig fenyw sy'n arweinydd plaid ac nad yw'n rhannu rôl yn y DU gyfan, felly mae'n wych gweld yr holl fenywod ifanc hyn yma heddiw. Boed ichi barhau i mewn i fyd gwleidyddiaeth, gan fod arnom eich angen yn fwy nag erioed.

Diolch yn fawr iawn am ddod yma. Mae'ch gwaith chi ar iechyd meddwl wedi bod yn ardderchog, yn enwedig yn canolbwyntio ar lefydd gwledig, llefydd dwi'n eu cynrychioli, a phobl eraill hefyd. Dwi'n gobeithio mai hwn ydy dechrau eich rôl chi yn siapio Cymru a'r dyfodol. Mae angen syniadau newydd, wynebau newydd, a wynebau â phob amryw, i greu democratiaeth a bywyd dinesig bywiog a pherthnasol, a dwi'n gobeithio y byddwch chi yn rhan o wireddu hynny yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn am ddod.

Diolch yn fawr i arweinwyr y pleidiau. Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg sydd nesaf, Jayne Bryant.

Diolch, Lywydd, ac mae'n wirioneddol wych fod y ddwy Senedd yn eistedd yma heddiw. Mae'n fraint wirioneddol cael bod yma, a hoffwn ddiolch i'r Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru sydd wedi siarad y prynhawn yma ac i'r Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru am eu gwaith caled parhaus. Rydych yn sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed ar lefel uchaf y gwaith o lunio polisïau a gwneud penderfyniadau yng Nghymru.

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, rwy'n falch iawn o ddweud bod y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud gan y Senedd Ieuenctid hon wedi helpu i lywio ein syniadau a'n hargymhellion. Fe wnaethom fyfyrio ar ganfyddiadau 'Meddyliau Iau o Bwys' yn ein hadroddiad diweddar ar iechyd meddwl mewn addysg uwch, a byddwn yn parhau i feddwl am y canfyddiadau hyn mewn unrhyw waith a wnawn yn y dyfodol ar les emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc. Edrychaf ymlaen at ddarllen adroddiadau'r pwyllgor addysg a'r cwricwlwm ysgol, a phwyllgor yr hinsawdd a'r amgylchedd, ac rwy'n siŵr y bydd y ddau adroddiad yr un mor ddefnyddiol ag adroddiad y pwyllgor iechyd meddwl a llesiant.

Rydym wedi bod yn hynod lwcus i glywed yn uniongyrchol gan rai o Aelodau ein Senedd Ieuenctid ar ein pwyllgor. Yn fwyaf diweddar, rhoddodd Georgia Miggins dystiolaeth i ni a soniodd am ei phrofiadau yn yr ysgol ar gyfer ein hymchwiliad yn gofyn a yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg. Chwaraeodd Rosie Squires ran enfawr yn ein hymchwiliad i blant â phrofiad o fod mewn gofal; daeth i'r pwyllgor, chwaraeodd ran fawr yn ein digwyddiad rhanddeiliaid, ac mae wedi bod yn eiriolwr gwych dros blant â phrofiad o fod mewn gofal ledled Cymru. Roeddem yn edmygu angerdd a hyder Georgia a Rosie a'u syniadau am newid cadarnhaol, syniadau na fyddwn yn colli golwg arnynt.

Felly, diolch yn fawr. Diolch unwaith eto, i'r holl Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru am eu gwaith caled i sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed yn uchel ac yn glir ledled Cymru.

13:05

Diolch yn fawr iawn i Gadeirydd y pwyllgor. Felly, y rhan nesaf nawr fydd cyfres o gwestiynau gan yr Aelodau Senedd Ieuenctid i amrywiol Weinidogion Llywodraeth Cymru. Ac felly, mae'r set gyntaf o gwestiynau i gael ei hateb gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, a thri chwestiwn felly gan Jake Dillon, Ruben Kelman a Keira Bailey-Hughes. Y cwestiwn cyntaf, Jake Dillon.

Diolch. Sut fydd y Llywodraeth hon yn sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn cael ei addasu ar gyfer plant ag anawsterau dysgu ledled y wlad?

A dylwn fod wedi eich cyflwyno, Jake, fel yr Aelod dros Faldwyn, sir Drefaldwyn, ac fe'm hysgogwyd i wneud hynny gan fonllef Aelod arall sy'n cynrychioli etholaeth sir Drefaldwyn. Felly, diolch am eich cwestiwn.

Ruben Kelman nesaf, cwestiwn eto i'r Gweinidog.

Diolch, Lywydd. Ychydig iawn o gyfathrebu a gafwyd ynglŷn â'r cwricwlwm newydd. Yng ngeiriau athro rwy'n ei adnabod, dyma'r methiant mwyaf ym myd addysg ers datganoli.

Felly, Gweinidog, sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod y newidiadau cyffrous yma ddim yn fethiant llwyr?

A Reuben yn Aelod o'r Senedd Ieuenctid yn cynrychioli Gogledd Caerdydd. A Keira Bailey-Hughes, y cwestiwn nesaf i'r Gweinidog addysg. Keira Bailey-Hughes yn cynrychioli sefydliad partner Gisda, felly Keira.

Gorffennais ysgol flwyddyn yn ôl, ac nid oedd yn brofiad da i mi na llawer o fy ffrindiau LHDT+, yn enwedig i fy ffrindiau transgender. Roedd ysgol yn lle peryglus iddyn nhw. Roedd camwybodaeth ac anwybodaeth am bobl draws yn sicrhau hyn. Fy nghwestiwn i ydy: a allwn ddisgwyl gweld mwy o addysg i gefnogi agweddau iach tuag at lleiafrifoedd yn y cwricwlwm newydd, a sut olwg fydd ar hynny?

Diolch am y tri chwestiwn. Y Gweinidog nawr, felly, i ateb y tri ohonyn nhw. 

Diolch, Llywydd, a diolch i'r tri am y cwestiynau ar feysydd pwysig iawn. I ateb cwestiwn Jake—

—mae'n gwestiwn pwysig iawn rydych yn ei ofyn, Jake. Mae fframwaith y Cwricwlwm i Gymru wedi'i gynllunio i fod yn gynhwysol i bob dysgwr ac wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion pob dysgwr unigol yn yr ystafell ddosbarth. Felly, mae'n hanfodol, yn amlwg, ei fod yn diwallu anghenion dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol i'r un graddau â'u holl gyfoedion yn yr ysgol. Mae canllawiau'r fframwaith wedi'u dylunio gan athrawon ac arbenigwyr a chanddynt wybodaeth benodol am anghenion dysgu ychwanegol, fel eu bod yn cyfleu'r ystod o anghenion sydd gan bobl ifanc. Mae'r cod cynnydd, sy'n rhan sylfaenol o'r fframwaith ar gyfer y cwricwlwm newydd, yn nodi'r disgwyliadau ynghylch cynnydd i bob dysgwr, ac yna, mae ymyriadau a chymorth penodol ar gael os nad yw dysgwyr penodol yn gwneud y cynnydd y byddent hwy eu hunain yn dymuno ei wneud o bosibl. Felly, mae llawer o adnoddau ar gael i ysgolion hefyd ar hyn o bryd i sicrhau bod athrawon yn gallu cefnogi anghenion pob dysgwr unigol, gan gynnwys y rheini ag anghenion dysgu ychwanegol, yn amlwg. Ond mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar hynny fel Llywodraeth, fel y gallwn ddiwallu anghenion pob dysgwr unigol.

Ruben, eich cwestiwn—rydych yn llygad eich lle fod angen inni sicrhau bod gan athrawon y dulliau gweithredu sydd eu hangen arnynt i wneud y cwricwlwm yn llwyddiant. I roi rhywfaint o sicrwydd i chi, gobeithio, ar Hwb, mae ystod eang o adnoddau ar gael i gefnogi athrawon i gyflwyno'r cwricwlwm. Gwn fod Llanisien wedi bod yn gwneud hynny ers mis Medi y llynedd ar gyfer Blwyddyn 7. Yn amlwg, bydd hynny'n parhau dros y blynyddoedd nesaf. Byddwn yn gweithio gydag ysgolion i ddarganfod lle gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt, ac maent wedi sôn wrthym am rai meysydd, er enghraifft, ynghylch asesu a chynnydd, felly rydym yn darparu cymorth penodol mewn perthynas â hynny, ac mae gennym raglen dysgu proffesiynol sylweddol iawn rydym yn ei hariannu fel Llywodraeth, yn darparu arian i ysgolion fel y gall athrawon wario'r arian hwnnw i ddatblygu eu sgiliau mewn meysydd penodol yn y cwricwlwm. Mae yna fframwaith cenedlaethol. Mae'n Gwricwlwm i Gymru, felly mae'n cynnwys datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, sy'n dweud wrth athrawon beth sydd angen iddynt ei gynnwys yn y cwricwlwm. Ond holl bwynt y cwricwlwm, ochr yn ochr â fframwaith a disgwyliadau cenedlaethol cryf, yw ein bod yn ymddiried mewn athrawon i gynllunio a chyflwyno cwricwla sy'n gweithio i'w dysgwyr, yn eu cymunedau, yn eu hysgolion, ac felly rydym yn defnyddio'r rhwydwaith cenedlaethol ar draws y system ysgolion i wrando ar athrawon, i glywed pa gymorth arall sydd ei angen arnynt i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ddatblygu a chynllunio'r cwricwlwm ar gyfer eu hysgol.

Keira, mae eich pwynt yn wirioneddol bwysig. Rwyf wedi llwyr ymrwymo i sicrhau bod ein system ysgolion a'n cwricwlwm yn gwbl gynhwysol. Mae'r pwynt a wnewch am brofiad myfyrwyr traws yn bwysig iawn. Rydym yn gweithio ar ganllawiau ar hyn o bryd, y byddwn yn cynnal ymgynghoriad arnynt yn ystod y misoedd nesaf, i fynd i'r afael â nifer o'r pwyntiau a godwyd gennych. Rwy'n clywed gan bobl ifanc drwy'r amser fod arnynt angen y canllawiau ychwanegol y byddwn yn eu darparu i ysgolion. Rwy'n falch iawn fod gennym gwricwlwm a chwricwlwm addysg cydberthynas a rhywioldeb sy'n gwbl LHDTC+-gynhwysol. Mae hynny'n bwysig iawn i mi yn bersonol. Ond rydym hefyd am sicrhau bod profiadau pob unigolyn ifanc yn cael eu hadlewyrchu'n ôl arnynt, felly, fel y gwyddoch hefyd, ni yw'r rhan gyntaf o'r DU i wneud addysgu am brofiadau a hanesion pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn rhan o'r cwricwlwm, felly rwy'n falch iawn o'r gwaith rydym yn ei wneud yn y maes hwnnw. Mae pob un ohonom wedi ymrwymo i sicrhau bod ysgolion yn gwbl gynhwysol.

13:10

Diolch yn fawr i'r Gweinidog am yr ymateb. Mae'r cwestiwn nesaf i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Ella Kenny o Ddwyrain Abertawe—

—Dwyrain Abertawe, i ofyn y cwestiwn hwn.

Gyda chyflwyno'r Bil Trefn Gyhoeddus draconaidd, sy'n gwahardd grwpiau fel Gwrthryfel Difodiant rhag protestio'n effeithiol, a nwyon tŷ gwydr ar eu lefel uchaf ers 4.5 miliwn flynyddoedd, beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i sicrhau pontio radical i sero net, a sut maent yn bwriadu dwyn San Steffan i gyfrif wrth atal olew a nwy newydd?

Wel, diolch i Ella am ei chwestiwn, ac am ei heiriolaeth dros y mater hollbwysig hwn. Credaf ei bod yn bwysig dweud bod 60 y cant o'r allyriadau y mae angen inni eu torri erbyn 2050 yn nwylo Llywodraeth y DU a 40 y cant yn nwylo Llywodraeth Cymru. Mae angen inni sicrhau ein bod yn cyflawni ein toriad o 40 y cant. Gwyddom fod yn rhaid i ni, dros y 10 mlynedd nesaf, wneud toriadau mwy nag rydym wedi llwyddo eu gwneud dros y tri degawd diwethaf gyda'i gilydd. Mae hynny'n rhoi ymdeimlad i chi o'r ymdrech y bydd yn rhaid i ni ei gwneud i gyflawni'r targedau hanfodol hyn. Ac rydym yn gwneud llawer iawn. Mewn gwirionedd, mae Julie James—fy nghyd-Aelod—ym Mrwsel heddiw yn un o gyfarfodydd Cynghrair Dan2, rhwydwaith o ddinasoedd a rhanbarthau o bob cwr o'r byd sy'n gweithio ar lefel is-wladwriaethol i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud. Felly, credaf mai dyna'n union y dylem fod yn canolbwyntio arno, gyda'r ewyllys yn llawn gobaith, os mynnwch, o ran yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud.

Mae gan Lywodraeth y DU, wrth gwrs, ran bwysig i'w chwarae hefyd, ac mae'n deg dweud eu bod yn well am siarad nag am weithredu. Mae'r ffaith eu bod ar fin awdurdodi maes olew newydd sbon yn Rosebank, gyda 500 miliwn o gasgenni o olew i'w cymeradwyo, yn dangos diffyg cysylltiad â'r wyddoniaeth a barn y cyhoedd. Credaf fod hynny'n gam yn ôl. Nid yw'n rhy hwyr i Grant Shapps atal hyn, a gobeithio y bydd yn gwneud hynny. Mae Keir Starmer wedi dweud, os daw Llywodraeth Lafur, y byddai'n atal unrhyw ddrilio am olew ym môr y Gogledd, a dyna'r peth iawn i'w wneud. Mae gan y ddau ohonom gyfrifoldebau, nid yn unig i siarad, ond i weithredu.

Diolch i'r Dirprwy Weinidog. 

Tegan Skyrme sydd nesaf, i ofyn ei chwestiwn i'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, ac mae Tegan yn cynrychioli Anabledd Dysgu Cymru. Tegan.

13:15

Mae pawb angen mynediad at gymorth iechyd meddwl da. O fy mhrofiad fy hun, gwn fod pobl ag anableddau yn aml yn cael mwy o drafferth gyda'u hiechyd meddwl nag eraill oherwydd yr heriau y mae'n rhaid iddynt eu hwynebu, ond nid yw gwasanaethau iechyd meddwl bob amser yn hygyrch iddynt. Sut ydych chi'n bwriadu sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl yn hygyrch?

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Tegan. Mae'n bwysig iawn i mi fod pawb yn gallu cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt gan ein gwasanaethau iechyd meddwl ac nad oes rhwystrau i gael cymorth. Mae pob bwrdd iechyd yn gyfrifol am gynllunio gofal i ddiwallu anghenion pawb, ac mae hynny'n cynnwys sicrhau bod gwasanaethau'n hygyrch. Mewn gwirionedd, mae gan y GIG gyfrifoldeb cyfreithiol i wneud hyn o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, felly golyga hynny fod yn rhaid i wasanaethau wneud addasiadau i sicrhau bod yr holl anghenion mynediad a chyfathrebu yn cael eu diwallu. Rydym ni fel Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar, Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain a sefydliadau'r GIG i'n helpu i ddeall beth sydd angen i ni ei wneud yn well fel y gall pobl â nam ar y synhwyrau gael mynediad hawdd at ein gwasanaethau. Rwyf hefyd wedi gofyn am adolygiad o'n timau iechyd meddwl cymunedol i helpu i ddweud wrthym beth sydd angen ei newid i wneud y gwasanaethau hyn yn fwy hygyrch i bobl anabl. Gyda'n gilydd, bydd y rhain yn ein helpu i ddeall pa welliannau y mae angen i ni eu gwneud. Ond fy nod yw sicrhau bod mwy o ffyrdd o gael mynediad at gymorth fel y gall pobl ddewis y ffordd sy'n gweithio orau iddynt hwy. Efallai y bydd rhai pobl yn ei chael hi'n haws siarad wyneb yn wyneb neu ar y ffôn, efallai y bydd rhai pobl yn hoffi defnyddio eu cyfrifiadur neu neges destun.

Ddoe, lansiais y gwasanaeth '111 pwyso 2' newydd ar gyfer cymorth iechyd meddwl brys yng Nghymru, sy'n golygu y gall pobl, gan gynnwys plant a phobl ifanc, ddefnyddio'r gwasanaeth hwn ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos, gan gynnwys y penwythnos. Byddwn yn sicrhau y gall pobl ddefnyddio technoleg testun-i-lais a llais-i-destun i gael mynediad at y gwasanaeth, a bydd gennym gymorth fideo ar gyfer Iaith Arwyddion Prydain hefyd a hyfforddiant i staff mewn niwrowahaniaethau. Mae ein llinell gymorth 111 wedi'i chysylltu â'n llinell gymorth CALL, sydd newydd ehangu eu cynnig i gynnwys llinell wrando niwrowahanol fel y gall teuluoedd, rhieni a phobl ifanc drafod pryderon a dod o hyd i'r gwasanaethau cywir i'w cefnogi. Yr hyn yr hoffem ei weld yw gwasanaethau'n gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, a'r term am hynny yw'r dull 'dim drws anghywir'. Rydym yn ymdrechu'n galed iawn i gynllunio gwasanaethau fel y gall pawb gael gafael ar gymorth iechyd meddwl pan a ble mae arnynt ei angen, ac rydym wedi datblygu ein fframwaith NYTH i helpu gwasanaethau i gynllunio hynny.

Ein huchelgais yw sicrhau bod cymorth iechyd meddwl ar gael mewn ysgolion, mewn gofal, mewn cartrefi maeth, mewn gweithleoedd a hyd yn oed yn eich cartrefi eich hun, ac rydym am wneud hynny drwy roi'r hyfforddiant a'r cymorth sydd ei angen ar athrawon, gweithwyr cymdeithasol, rhieni a gofalwyr i gefnogi pobl ifanc. Rydym wedi gwneud dechrau da iawn, rydym eisoes yn cyflwyno hyn mewn ysgolion drwy ein dull ysgol gyfan, ac mae llesiant bellach yn rhan o ddysgu bob dydd yng Nghymru. Rydym yn cysylltu pob ysgol yng Nghymru â'u gwasanaeth iechyd meddwl lleol, a all ddod i'r ysgol a helpu i gefnogi pobl ifanc ac athrawon. Mae gennym hefyd gynllun y gweithlu ar gyfer iechyd meddwl, fel y gallwn hyfforddi staff arbenigol ac unrhyw un sydd ei angen, ac mae hynny'n cynnwys datblygu hyfforddiant i helpu pawb yng Nghymru i nodi arwyddion trawma fel y gallant helpu pan fydd rhywun wedi cael profiadau gwael iawn yn eu bywydau a all arwain at broblemau iechyd meddwl. Hefyd, mae gennym hyfforddiant i'n staff iechyd meddwl a gweithwyr eraill ar helpu pobl â gwahaniaethau niwrolegol fel y gallant drin yr unigolyn hwnnw mewn ffordd sy'n gweithio iddynt hwy.

Rwy'n deall, serch hynny, nad yw pethau'n berffaith a bod angen inni wneud mwy i wella mynediad i bawb. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar ein strategaeth newydd ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru, ac mae hynny'n rhoi cyfle inni ddweud beth fyddwn yn ei wneud nesaf i wella pethau. Mae sicrhau bod gwasanaethau'n hygyrch i bawb yn rhan bwysig iawn o hyn, a'r wythnos diwethaf, lansiwyd arolwg gennym fel bod pobl yn cael eu cyfle i'n helpu i feddwl sut i wella cymorth wrth symud ymlaen. Hoffwn annog pawb i gymryd rhan yn yr arolwg hwn, fel y gallwch ein helpu i feddwl sut y gallwn wella gwasanaethau iechyd meddwl i bawb. Rwy'n arbennig o awyddus i glywed gan blant a phobl ifanc. Diolch.

Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Bydd y gair olaf yn y sesiwn hon yn dod, ac fe ddylai ddod, gan Aelod o'r Senedd Ieuenctid, Ollie Mallin, sy'n cynrychioli Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.

13:20

Yn gyntaf oll, hoffwn ddweud ei bod yn anrhydedd sefyll yma heddiw yn yr ail sesiwn ar y cyd rhwng ein Seneddau. Rwyf wedi bod mor ffodus i sefyll ddwywaith yn y Siambr hon gyda'ch chi a'ch rhagflaenwyr.

Rhwng y sesiwn ddiwethaf a heddiw, mae Cymru wedi newid yn sylweddol. Rydym wedi wynebu pandemig byd-eang, sawl Prif Weinidog y DU, a bellach, argyfwng costau byw. Ond ni fu Cymru a'i phobl erioed yn gryfach nac mor unedig fel cenedl. Rwy'n siarad ar ran y Senedd Ieuenctid gyfan a minnau pan ddywedaf fy mod yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a gweddill y Senedd yn derbyn ein hargymhellion gan lawn fwriadu eu rhoi ar waith. Credaf fod y Senedd Ieuenctid yn un o'r ffynonellau gorau—os nad y gorau—sydd gan Lywodraeth Cymru i ddarganfod beth mae pobl ifanc Cymru ei eisiau, beth mae cenhedlaeth nesaf Cymru ei eisiau.

Hoffwn siarad am fy mhrofiad fel Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, i ddangos i chi pa mor bwysig yw rôl y Senedd Ieuenctid, a faint o effaith y mae'n ei chael, nid yn unig yng Nghymru, ond ar fy mywyd personol. Pan ymgeisiais am fy sedd gyntaf erioed ar Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru, dim ond 11 oed oeddwn i. Nid oedd gennyf lais, nid oedd gennyf blatfform, ond roedd gennyf syniadau, ac roeddwn yn awyddus i greu newid. Roeddwn yn gwybod am y trafferthion a wynebais i gael cymorth i fod yn ofalwr ifanc, ac roeddwn yn gwybod nad oedd hynny'n iawn. Roeddwn yn gwybod bod angen herio'r system, felly pan oeddwn yn 12 oed, rhoddodd Senedd Ieuenctid Cymru lwybr imi wneud hynny. A bellach, rwy'n 17 oed, ac mae gan Gymru ei cherdyn adnabod cenedlaethol ei hun i ofalwyr ifanc i'w helpu yn eu rolau.

Mae fy chwaer fach, sy'n ofalwr, yn naw oed. Mae ganddi fynediad at wasanaethau na chefais i ac na allwn wneud dim ond breuddwydio amdanynt pan oeddwn yr un oed â hi, ac i mi, dyna fy nhasg i wedi'i chyflawni. Rwyf wedi helpu un unigolyn, wedi gwneud gwahaniaeth i fywyd un unigolyn. Beth arall sy'n bwysig mewn gwirionedd? Felly, pan fyddaf yn myfyrio ar fy nghyfnod yn y Senedd, os gallaf i fel un Aelod wneud yr hyn rwyf wedi'i wneud a helpu'r bobl rwyf wedi'u helpu, dychmygwch beth y gall 60 ohonom ei wneud. Dychmygwch beth fydd y 60 nesaf, y 60 nesaf, ac yn y blaen, yn ei gyflawni. Fesul tipyn, rydym yn creu'r fersiwn orau bosibl o Gymru.

Fodd bynnag, dim ond hyn a hyn y gallwn ei wneud cyn bod angen eich help chi arnom. Felly, gofynnwn i chi dderbyn ein hargymhellion ac ystyried pob un ohonynt, cymryd camau ar bob un ohonynt. Daw'r argymhellion hyn yn syth gan bobl ifanc Cymru, felly rwy'n eich annog yma heddiw, lle mae calon Cymru'n curo, i wireddu'r argymhellion hyn.

Rwy'n ddigon ffodus o fod wedi gweld datblygiad y Senedd Ieuenctid ac i gael profiad uniongyrchol o'r effaith y gall ein lleisiau ei chael. Mae'r ffaith bod gennym ni fel cenedl Senedd ar y cyd yn y lle cyntaf yn dangos bod Cymru ar flaen y gad. Mae gennym bleidlais i bobl 16 oed, sy'n anhygoel, a chredaf ei bod mor bwysig ein bod yn parhau i symud ymlaen ac yn ymdrechu i fod yn well.

Yn olaf, diolch i'r Llywydd a'r Aelodau am ein croesawu i'r Siambr i siarad â chi heddiw. Mae'r gwaith y gallwn ei gyflawni os ydym yn gweithio gyda'n gilydd yn aruthrol.

Diolch am wrando. [Cymeradwyaeth.]

Ni chredaf y gallem fod wedi cael geiriau gwell i gloi ein sesiwn na'r geiriau rydym newydd glywed gennych chi, Ollie. Felly, diolch am hynny, a diolch am fod yn ysbrydoliaeth i'ch cyd-Aelodau fel seneddwyr ieuenctid, yn ogystal ag ysbrydoliaeth a her i ni fel Aelodau o'r Senedd. Gyda llaw, nid ydym wedi cael dici-bô yn y Siambr hon er pan oedd gennym Aelod o'r enw David Melding, ac rwy'n credu eich bod yn ein hatgoffa ohono heddiw gyda'ch geiriau hefyd.

Diolch i bob un ohonoch fel pobl ifanc sydd wedi ymuno â ni heddiw—y rhai ohonoch sydd wedi siarad, a'r rhai ohonoch sydd wedi bod yn bresennol yma gyda ni. Mae'n wych fod cymaint ohonoch wedi gwneud ymdrech i fod gyda ni heddiw, a rhai ohonoch chi hefyd ar Zoom. Diolch am yr holl waith a wnewch yn y Senedd a'r pwyllgorau, a'r gwaith y byddwch yn parhau i'w wneud gyda'r amser sy'n weddill gennych. Mae pob un ohonoch wedi bod yn gryno ac yn glir iawn gyda phopeth rydych wedi'i ddweud wrthym, a gobeithio y gall hynny barhau gyda'ch Senedd bartner yn yr hyn sy'n weddill heddiw.

Fe fyddwn ni nawr yn cymryd toriad byr, fel y gallwn wneud rhai newidiadau i'n hamgylchedd yma yn y Siambr, a byddwn yn ailymgynnull mewn tua 10 munud.

Diolch i chi i gyd am y blaenoriaethau ŷch chi fel pobl ifanc, Aelodau o'r Senedd Ieuenctid, wedi'u cyflwyno i ni y prynhawn yma. Mae eich blaenoriaethau chi nawr yn flaenoriaethau i ni hefyd, ac rŷn ni'n edrych ymlaen i gydweithio gyda chi i'r dyfodol hefyd. Diolch yn fawr i bawb. [Cymeradwyaeth.]

13:25

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 13:25.

13:35

Ailymgynullodd y Senedd am 13:35, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip

Gwnawn ni ailddechrau nawr. Yr eitem gyntaf nesaf ar ein agenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhys ab Owen. 

Noeth-chwilio Plant

1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r heddlu ac asiantaethau cyfiawnder troseddol ac ieuenctid eraill ynghylch dod â noeth-chwilio plant i ben, yn dilyn yr argymhelliad yn adroddiad Comisiynwyr Plant Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn? OQ59680

Diolch yn fawr am eich cwestiwn. 

Roeddwn yn bryderus iawn o glywed am yr adroddiad i noeth-chwilio plant, a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Plant Lloegr ar 27 Mawrth. Rwyf wedi trafod y mater hwn gyda'r comisiynydd heddlu a throseddu arweiniol yr wythnos hon i gael eglurhad ynghylch y sefyllfa yng Nghymru.

Diolch, Weinidog. Yr wythnos hon, codwyd mater stopio a chwilio gyda'r Ysgrifennydd Cartref, Suella Braverman, gan arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, ac unwaith eto roedd yn tynnu sylw at ddiffyg data penodol i Gymru—rhywbeth y clywn amdano'n aml iawn yn y Siambr hon—ar gyfraddau stopio a chwilio yn ôl poblogaeth. Weinidog, a ydych chi'n cefnogi argymhelliad y comisiynydd plant i gael gwared ar noeth-chwilio plant yng Nghymru?

Yr hyn sy'n bwysig nawr yw ein bod yn edrych ar raddfa a defnydd o noeth-chwilio. Rwyf wedi codi hyn gyda chomisiynydd yr heddlu a throseddu, fel y dywedais, ac rydym yn cydnabod y gallai noeth-chwilio fod yn hynod drawmatig i bobl ifanc, ac mae'n hanfodol ein bod yn cael gwybod gan yr heddlu beth yw'r data. Ac fel y dywedwch, mae hyn yn rhywbeth rydym yn poeni amdano.

Rwyf wedi cyfarfod â'r comisiynydd plant i drafod y mater, ac rwyf wedi cael sicrwydd bod arweinwyr plismona yng Nghymru yn dod â data o bob heddlu yng Nghymru ynghyd, er mwyn sicrhau bod gennym ddarlun llawn o sut y defnyddir chwiliadau o'r fath, lle mae'r problemau, a lle mae angen i ni weithredu. Felly, bydd hynny'n rhoi darlun mwy cyflawn i ni na'r un sydd gennym ar hyn o bryd, a darlun o unrhyw anghymesuredd hefyd. Rwyf wedi pwysleisio bod angen cyflawni'r dasg hon ar frys, ac wedi gofyn am amserlen ragamcanol, ac rwyf wedi ysgrifennu at Gomisiynydd Plant Cymru i gadarnhau pa mor bwysig yw'r mater i ni, ac rwy'n hapus i adrodd yn ôl pan gawn y darlun data ar ba gamau priodol y dylid eu cymryd ynghylch yr arfer hwn. 

Y Sector Gwirfoddol yn Sir Drefaldwyn

2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector gwirfoddol yn sir Drefaldwyn? OQ59693

Diolch yn fawr, Russell George. Rwy'n neilltuo ychydig dros £7 miliwn y flwyddyn, tan fis Mawrth 2025, i Cefnogi Trydydd Sector Cymru; mae £346,463 o'r cyllid hwn yn mynd i Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys bob blwyddyn i helpu mudiadau gwirfoddol lleol gyda chodi arian, diogelu, gwirfoddoli a llywodraethu da.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Cyhoeddodd y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol adroddiad y llynedd a oedd yn amlinellu'r bygythiad seiber y mae elusennau o bob maint yn ei wynebu, ac rwy'n arbennig o bryderus am yr elusennau yn sir Drefaldwyn—elusennau llai nad oes ganddynt adnoddau i gryfhau eu seiberddiogelwch heb gymorth. Ac wrth gwrs, mae llawer o elusennau llai yn fwy tebygol o ddibynnu ar staff sy'n defnyddio TG personol, sy'n anos i'w ddiogelu a'i reoli na TG a ddefnyddir yn ganolog. 

Felly, Weinidog, a wnewch chi amlinellu yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu elusennau i fod yn fwy diogel? A'r arian a amlinellwyd gennych yn eich ymateb cyntaf—sut y gellir defnyddio hwnnw mewn perthynas â brwydro yn erbyn bygythiadau seiberddiogelwch i'r trydydd sector?

Wel, hoffwn ddiolch i'r Aelod am godi mater pwysig iawn i'r trydydd sector, nid yn unig yn eich etholaeth ym Mhowys a sir Drefaldwyn, ond hefyd dros Gymru gyfan. Ac yn aml yr elusennau llai sy'n cael eu dal gan hyn, am nad ydynt yn deall cyfrifoldebau diogelu a bygythiadau seiberddiogelwch. 

Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod wedi rhoi cymorth ychwanegol i Cefnogi Trydydd Sector Cymru, er mwyn mynd i'r afael â'r union faterion hyn. Bydd yn galluogi partneriaeth Newid, a arweinir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Canolfan Cydweithredol Cymru, a ProMo-Cymru, i barhau i gefnogi sgiliau digidol yn y sector gwirfoddol, a fydd yn helpu i ddechrau mynd i'r afael â hyn. Mae'n £1.2 miliwn dros y flwyddyn ariannol hon a'r tair blynedd ariannol nesaf. Ond bydd o fudd i'r sefydliadau gwirfoddol hynny a'r bobl agored i niwed y maent yn gweithio gyda nhw hefyd, y byddant yn dod ar eu traws mewn perthynas â'r materion hyn, ac yn sicr, mae hwn yn rhywbeth y byddaf yn ei godi yng nghyfarfod nesaf cyngor partneriaeth y trydydd sector.  

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Llefarwyr y pleidiau nesaf. Llefarydd y Ceidwadwyr, Altaf Hussain. 

Diolch, Lywydd. Weinidog, dros y penwythnos, fe wnaeth y brifddinas gynnal Pride Cymru llwyddiannus iawn unwaith eto—arwydd arall eto o ba mor bell rydym wedi dod gyda hawliau LHDT. Yn y digwyddiad, ailadroddodd y Prif Weinidog fwriad Llywodraeth Cymru i sicrhau mai Cymru fydd y genedl fwyaf cyfeillgar i LHDT yn Ewrop erbyn diwedd y degawd hwn—nod y mae fy mhlaid yn ei gefnogi'n llawn. Fodd bynnag, mae'n ymddangos nad yw realiti yn dal i fyny â'r rhethreg. Mae cyplau lesbiaidd yng Nghymru yn cael gwybod bod yn rhaid iddynt brofi anffrwythlondeb gyda 12 cylch aflwyddiannus o ffrwythloni mewngroth—dwbl y chwech gwreiddiol—cyn cael mynediad at ffrwythloni in vitro a ariennir gan y GIG. Nid yw pob bwrdd iechyd yn ariannu ffrwythloni mewngroth, felly, mae mynediad at ofal iechyd ffrwythlondeb y GIG yn anghyson ac yn ddibynnol ar ble mae unigolion sy'n ceisio gofal iechyd yn byw yng Nghymru. Weinidog, pam rydym yn trin cyplau o'r un rhyw yn wahanol i gyplau heterorywiol? Yn sicr, os ydym am sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar i LHDT yn Ewrop, gallem ddechrau drwy sicrhau mynediad cyfartal at ofal iechyd. Diolch. 

Diolch yn fawr am eich cwestiwn. 

Ac mae'n gwestiwn pwysig. Roeddwn eisiau dweud diolch am gydnabod y gefnogaeth wych a gafwyd, ac a gafodd ei arwain nid yn unig gan y Prif Weinidog, ond fy nghyd-Aelodau, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan a Jeremy Miles. Cafwyd cefnogaeth wych gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal ag o bob rhan o'r Senedd hon, yn y digwyddiad ddydd Sadwrn, a'r holl gefnogaeth i'r cynllun gweithredu LHDTC+, sydd, wrth gwrs, yn cael ei arwain gan fy nghyd-Aelod. Ond mae ein cefnogaeth i Blaid Cymru, yn ymestyn yn arbennig—. Rwy'n mynd i orymdaith yn fy etholaeth yn y Bont-faen ddydd Sadwrn. 

Rydych yn codi pwynt pwysig iawn, yn arbennig mewn perthynas â gofal iechyd, sef cyfrifoldeb fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac rydych yn cyfeirio at gynnig ymgynghoriad ar gyfer newidiadau. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn eich bod yn edrych ar ymgynghoriad Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ar y mater hwn. 

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yn sicr, mae gennym ffordd bell i fynd os ydym am greu Cymru fwy cyfartal. Yn sicr, nid yw'r sefyllfa'n cael ei helpu gan eithafwyr ar y chwith a'r dde sy'n ceisio hau rhaniad rhwng gwahanol grwpiau. Gwelsom hyn yn digwydd dros yr wythnos ddiwethaf, pan gynhaliodd San Steffan ddadl am ddiffiniad o 'ryw' yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Nid yw ymosodiadau ar y gymuned draws ac ar fenywod sy'n poeni am fannau un rhyw yn helpu neb nac yn gwneud dim i fynd i'r afael â phryderon y naill ochr na'r llall. Weinidog, nod eich cynllun gweithredu LHDTC+ yw mynd i'r afael â mater cydnabod rhywedd yma yng Nghymru. Pa gamau rydych chi'n eu cymryd i sicrhau y gallwn ni fabwysiadu dull pwyllog yma yng Nghymru, dull sy'n codi uwchlaw'r galw enwau a'r negeseuon sy'n bygwth lladd, dull heb y malais a'r gwenwyn? Sut y gallwn ni sicrhau bod hawliau pawb yn cael eu parchu?

Diolch yn fawr am eich cwestiwn. Ond mae'n rhaid i mi ddweud bod hawliau LHDTC+, gan gynnwys hawliau traws, yn hawliau dynol, ac mae'r cynllun gweithredu LHDTC+—. Rwy'n credu bod y miloedd o bobl a fynychodd ddydd Sadwrn, yn enwedig yn ein prifddinas, yn cydnabod yr hyn rydym yn ei wneud. Mae'n bwysig, ac fe wnaethoch chi ei gydnabod yn gynharach, ein bod wedi ymrwymo i sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop, a dyna pam rydym wedi datblygu cynllun gweithredu mor gadarn a thrawsbynciol, a pham ei fod yn cryfhau amddiffyniadau i bobl LHDTC+ ac yn hyrwyddo cydraddoldeb i bawb. Ond a gaf fi ddweud hefyd fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych ar effaith ein haddysg a'r ffyrdd pwysig y mae—? Heddiw, hyd yn oed yn ein Senedd Ieuenctid, llwyddodd y Gweinidog i ymateb i'r pwynt hwn. A dweud y gwir, mewn perthynas â'r cwricwlwm addysg cynhwysol i Gymru, addysg cydberthynas a rhywioldeb, rwy'n credu ein bod wedi gweld pa mor bwysig ydyw heddiw, pa mor bwysig oedd hi fod hwnnw wedi dechrau fis Medi diwethaf a bod ganddo rôl mor gadarnhaol ac amddiffynnol yn addysg dysgwyr. Fel y gwelsom heddiw, ein plant a'n pobl ifanc fydd yn dangos y ffordd ymlaen yn ein cwricwlwm dysgu.

13:45

Diolch yn fawr, Weinidog. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn taflu goleuni ar drafodaethau o'r fath a sicrhau nad ydynt yn mynd yn rhy danbaid. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth fynd i'r afael â chasineb, a dyna pam roeddwn wrth fy modd yn dysgu ddoe bod trefnwyr Gŵyl Glastonbury wedi penderfynu canslo dangosiad o'r rhaglen ddogfen, Oh, Jeremy Corbyn: The Big Lie. Mae'r ffilm yn honni ei bod yn adrodd hanes yr hyn a achosodd i brosiect Corbyn fethu. Dwy funud ar bymtheg i mewn, ar ôl cyflwyno tystiolaeth o ymgyrch a gyd-drefnwyd yn erbyn Corbyn, mae'r adroddwr, Alexei Sayle, yn gofyn: 'Ond os oedd hi'n ymgyrch a gyd-drefnwyd, pwy oedd y trefnwyr?' Yna, ceir cyfosodiad tawel yn dangos Bwrdd Dirprwyon Iddewig Prydain, y Mudiad Llafur Iddewig, Cyfeillion Llafur Israel, a'r Mudiad Eirioli dros Israel, gan ddefnyddio capsiynau a lluniau a fyddai'n wrthsemitiaeth amlwg pe baent yn cael eu siarad, a dyna pam y galwodd Bwrdd Dirprwyon Iddewig Prydain ar drefnwyr Glastonbury i ganslo'r dangosiad—

Rwy'n credu bod gan y Gweinidog lawer o gyfrifoldebau, ond mae'n debyg nad hi sy'n gyfrifol am yr hyn a ddangosir yn Glastonbury. Felly, bydd angen i chi ddod at eich cwestiwn.

Weinidog, a ydych chi'n cytuno nad oes lle yng Nghymru i'r ymgais hon i ailysgrifennu hanes a'i drosiadau gwrthsemitig cywilyddus, ac a wnewch chi ymuno â mi i alw ar bob lleoliad yng Nghymru i beidio â sgrinio'r ffilm atgas hon?

Lywydd, a gaf fi ddweud, a hefyd mae'n gyfle i atgoffa'r Aelod a'r Aelodau yn y Siambr, fod Llywodraeth Cymru, yn 2017, wedi mabwysiadu diffiniad gweithredol Cynghrair Rhyngwladol Cofio'r Holocost o wrthsemitiaeth yn llawn ac yn ddiamod?

Diolch, Llywydd. Prynhawn da, Weinidog. 

Mae Plaid Cymru yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi lansio strategaeth tlodi plant ddiwygiedig yr wythnos hon, rhywbeth rydym wedi bod yn galw amdano ers peth amser, ac mae'n wyth mlynedd ers cyhoeddi'r strategaeth ddiwethaf wrth gwrs. Mae data a gyhoeddwyd y mis hwn gan Brifysgol Loughborough yn dangos mai ychydig iawn o gynnydd a wnaed dros y cyfnod hwnnw. Rydym yn croesawu'r ffaith ei fod yn ailddatgan yr ymrwymiad mewn perthynas â mesurau fel cyflwyno'r rhaglen prydau ysgol am ddim, sy'n adlewyrchu gwaddol cadarnhaol ac adeiladol ein cytundeb cydweithio.

Rwyf hefyd yn falch o weld ymrwymiad i gyflymu'r gwaith o sefydlu system fudd-daliadau yng Nghymru. Fe wyddoch fy mod wedi dadlau'n gyson dros hyn ac wedi derbyn cefnogaeth y Senedd i'm galwad am Fil i sicrhau bod pob £1 o gymorth Cymreig yn mynd i'r boced cywir ar yr adeg gywir mor hawdd a chyflym â phosibl ac mewn ffordd gyson ledled Cymru. Felly, a fydd elfen statudol i ddarpariaeth awdurdodau lleol o'r taliadau cymorth hyn drwy'r system fudd-daliadau yng Nghymru i sicrhau hyn?

Gan droi at bumed blaenoriaeth y cynllun, ar alluogi cydweithredu, Weinidog, sut rydych yn rhagweld yr ymrwymiad i sefydlu a chefnogi dull cymunedau maes sy'n gweithio'n ymarferol? A fydd fframweithiau ychwanegol ar gyfer rhanddeiliaid perthnasol i sicrhau bod gwahanol elfennau'r cynllun yn cael eu cydlynu'n effeithiol?

Diolch yn fawr, Sioned Williams. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu lansio'r strategaeth tlodi plant ddiwygiedig ar gyfer Cymru. Mae bellach yn destun ymgynghoriad, felly edrychaf ymlaen at gael ymatebion manwl gennych chi eich hunain a Chymru wrth gwrs, ac yn enwedig gan blant a phobl ifanc, ar yr holl agweddau a godwyd gennych. 

Mae'n ymgynghoriad 12 wythnos a lansiwyd ddydd Llun, ac mae wedi'i seilio, o ran y ffordd rydym wedi'i ddatblygu, gyda chyfranogiad 3,000 o blant a phobl ifanc a theuluoedd a sefydliadau eisoes, i ddatblygu'r drafft o'r strategaeth ddiwygiedig ar gyfer tlodi plant. Felly, rwy'n credu eich bod yn iawn i ganolbwyntio ar y materion lle gallwn ni wneud y gwahaniaeth mwyaf. Dyma'r polisïau lle gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf, gan nodi meysydd blaenoriaeth, ac mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y pwyntiau rydych yn eu codi. O ran y polisi'n ymarferol, byddaf yn cyfarfod â Sefydliad Bevan yn fuan iawn, ac mewn gwirionedd, bydd Siân Gwenllian yn ymuno â mi, oherwydd mae'n ymwneud ag edrych ar ein hymrwymiadau yn y cytundeb cydweithio, ac edrych ar yr hyn y gallai hyn ei olygu mewn perthynas â'r gwaith o ddatblygu system fudd-daliadau yng Nghymru, sydd, wrth gwrs, yn hanfodol o ran mynd i'r afael â thlodi plant.

13:50

Diolch, Weinidog. Mae Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan wedi gwneud pwynt mwy cyffredinol am y cynllun—mae'n tynnu sylw at ddiffyg manylder yn y cynllun yn gyffredinol, ac yn cyfeirio at esiampl yr ymrwymiad, er enghraifft, ar gostau gofal plant a thrafnidiaeth, sydd ond yn dweud,

'canolbwyntio ar waith ar draws y llywodraeth i ddod o hyd i atebion fforddiadwy i gostau gofal plant a thrafnidiaeth i gael gwared ar rwystrau i waith a gwneud i waith dalu'.

Mae'n gofyn beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol ac a oes targed o ran faint o blant a ddylai gael mynediad at ofal plant am ddim neu ofal plant fforddiadwy yn y pum mlynedd nesaf. Pa rwystrau fydd Llywodraeth Cymru yn ceisio eu dileu er mwyn galluogi mwy o fynediad at drafnidiaeth fforddiadwy i blant? Pam nad oes targedau penodol yn y cynllun hwn, Weinidog?  

Wel, diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw, ac yn amlwg, rwy'n awyddus iawn i glywed a dysgu o'r hyn y mae Sefydliad Bevan—. Rwyf eisoes wedi ymateb i'r pwynt hwnnw, ond hefyd mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi ein helpu i symud ymlaen a'r materion allweddol a gyflwynwyd y mae angen inni fynd i'r afael â hwy. Felly, ie, ar ofal plant, lle mae gennym y cynnig gorau yng Nghymru, sydd wedi'i gyfoethogi gan gynnig estynedig Dechrau'n Deg ar gyfer gofal plant am ddim, sydd, wrth gwrs, yn estyn allan at y rhai mwyaf difreintiedig—. Ond hefyd, o edrych ar drafnidiaeth, mae'n bwysig, mewn gwirionedd, ein bod yn cydnabod bod y terfyn cyflymder o 20 mya yn ffactor pwysig mewn perthynas ag amddiffyn plant o ran mynd i'r afael â thlodi plant, ond hefyd edrych ar drafnidiaeth o ran mynediad at waith a chyfleoedd.

Credaf ei bod yn bwysig cydnabod y materion sy'n codi ynghylch y ffaith bod angen inni gydnabod bod yn rhaid inni gael canlyniadau o'r strategaeth tlodi plant hon. Nid oes gennym yr holl ysgogiadau angenrheidiol i sicrhau newid gwirioneddol yn lefelau tlodi plant yng Nghymru, a gobeithio y byddwch yn ymuno â ni, fel y gwyddoch, wrth inni alw ar Weinidogion y DU i wneud yr hyn sydd angen iddynt ei wneud i fynd i'r afael â thlodi plant—dileu'r cap budd-daliadau a'r terfyn dau blentyn a chynyddu'r lwfans tai lleol. Ond yr hyn rydym yn ei wneud yw edrych ar ffyrdd o ddatblygu fframwaith monitro—mae'n dweud hynny yn y strategaeth ddrafft—fel y gallwn gael atebolrwydd gwirioneddol, tryloyw am y pethau hynny nad oes gennym ni bwerau drostynt.

Trais ar Sail Rhywedd

3. A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran datblygu canllawiau i fynd i'r afael â phryderon am y berthynas rhwng rhannu data a pharodrwydd goroeswyr trais ar sail rhywedd i geisio cymorth? OQ59702

Diolch yn fawr, Sarah Murphy. Er nad yw mater rhannu data'r heddlu wedi'i ddatganoli, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda phartneriaid cyfiawnder troseddol drwy ein dull glasbrint o gyflawni'r strategaeth genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae hyn yn cynnwys ffocws ar rymuso goroeswyr i geisio diogelwch a chefnogaeth gyda'r hyder bod gwybodaeth am gleifion yn cael ei diogelu.

Diolch, Weinidog. Dychmygwch ddod i'r wlad hon a methu cael y gefnogaeth rydych ei hangen yn daer. Dychmygwch ddod i'r wlad hon a bod ofn estyn allan nid yn unig at yr heddlu, ond hefyd at asiantaethau sydd i fod i'ch amddiffyn rhag trais ar sail rhywedd. Dychmygwch ddod i'r wlad hon a chael eich curo, eich dyrnu a'ch cleisio. A phe byddech yn dweud wrth yr awdurdodau am y trais hwn, dychmygwch gael eich allgludo, heb eich plant, yn union fel y dywedodd y cyflawnwr fyddai'n digwydd pe baech yn rhoi gwybod am y trais. Yn anffodus, Weinidog, mae hyn yn llawer rhy gyffredin, fel yr amlygwyd yn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Trais ar sail rhywedd: Anghenion menywod mudol' y llynedd. Roeddwn yn falch o gymryd rhan yn yr ymchwiliad a gynhaliwyd gan y pwyllgor, a diolch i'r cadeirydd, Jenny Rathbone, am arwain ar y mater hwn.

Weinidog, roeddwn yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 13 o'r adroddiad mewn egwyddor, a oedd yn nodi y dylid sefydlu wal dân sy'n cyfyngu ar rannu data rhwng asiantaethau'r rhai sy'n ceisio cefnogaeth ar gyfer trais rhywiol a thrais ar sail rhywedd. Awgrymodd Elizabeth Jiménez-Yáñez o gynghrair Menywod Mudol Step Up y byddai wal dân nid yn unig yn arwain at y canlyniad cadarnhaol o ganiatáu i ddioddefwyr roi gwybod yn ddiogel, byddai hefyd yn tynnu'r baich oddi ar wasanaethau statudol, gan gynnwys yr heddlu, i orfod cymryd camau gweithredu sy'n gysylltiedig â mewnfudo. Felly, Weinidog, a allwch chi roi diweddariad penodol mewn perthynas ag argymhelliad 13 a sut y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu wal dân sy'n cyfyngu ar rannu data rhwng asiantaethau ar y rhai sy'n ceisio cymorth ar gyfer trais rhywiol a thrais ar sail rhywedd? Diolch.

Diolch yn fawr, Sarah Murphy, ac a gaf fi ddiolch i chi, nid yn unig am y cwestiwn pwerus hwn heddiw, ond hefyd am y rôl arweiniol rydych chi'n ei chwarae yn y Senedd hon, mae'n rhaid i mi ddweud, yn datblygu dealltwriaeth ac arbenigedd mewn cyfiawnder data? Rwy'n credu ein bod yn cydnabod hynny, ac rydym yn troi atoch chi, ac rydym yn dysgu gennych chi am y materion hyn gyda'ch cyfraniadau, yn enwedig ar y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, a'r ymchwiliad penodol hwn a gynhaliwyd gennych yn y pwyllgor a'r argymhelliad.

Nawr, mae'n bwysig ein bod yn cydnabod, fel y dywedais, y dylai diogelwch fod yn bwysicach na statws, yn bendant, o ran mewnfudo a chymorth. Mae'n rhaid inni amddiffyn a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr camdriniaeth; mae'n hollbwysig mai dyna yw'r flaenoriaeth gyntaf i bob gwasanaeth, gan gynnwys yr heddlu. Mae hyn yn rhywbeth rwy'n ei godi nawr ar fwrdd gweithredu cenedlaethol ein strategaeth, y strategaeth ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rydym wedi derbyn yr argymhelliad mewn egwyddor. Ni allwn gyfarwyddo'r heddlu nac awdurdodau eraill a gedwir yn ôl, ond rydym yn ystyried gyda nhw sut y gellir dileu rhwystrau i gael mynediad at wasanaethau a sut y gallwn ei wneud yn fecanwaith cyflawni ar gyfer ein strategaeth genedlaethol mewn gwirionedd.

13:55

Cwestiwn 4 sydd nesaf, ac mae cwestiwn 4 gan Carolyn Thomas.

Pobl sy'n ceisio Lloches

4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod tosturi yn cael ei gynnwys mewn systemau cymorth i bobl sy'n ceisio lloches yng Nghymru? OQ59708

Diolch yn fawr, Carolyn Thomas. Ein gweledigaeth ar gyfer Cymru yw bod yn genedl noddfa, gan ymgorffori tosturi fel egwyddor allweddol. Nod ein cynllun cenedl noddfa yw sicrhau bod pobl sy'n ceisio noddfa yn cael eu croesawu o'r diwrnod cyntaf y byddant yn cyrraedd Cymru, ac mae ein cefnogaeth yn cynnwys gwasanaethau cynghori, gwybodaeth am hawliau, a gwasanaethau integreiddio.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yn ddiweddar, ymwelais â gŵyl ddawns y byd yn Nhreffynnon, a oedd, yn rhannol, yn helpu ffoaduriaid sydd bellach wedi ymgartrefu yng ngogledd-ddwyrain Cymru i deimlo'u bod wedi'u cynnwys yn well ac i roi cyfle iddynt rannu eu diwylliant ag eraill. Mwynheais sgwrsio â ffoaduriaid o Affganistan ac Wcráin ynghyd â phobl garedig a theg o Gymru, Lloegr a Tsieina o gwmpas yr ardal sy'n credu mewn gobaith yn hytrach na chasineb. Mae maer yr Wyddgrug, y Cynghorydd Teresa Carberry, yn cynnal digwyddiad ddydd Gwener, ac mae hi wedi galw am fwy o dosturi ac empathi i ddathlu amrywiaeth, a dyma'r neges y credaf y dylai arweinwyr gwleidyddol fod yn ei rhannu. Mae'n fy nhristáu pan fyddaf yn clywed Gweinidogion Llywodraeth y DU yn annog ofn a chasineb tuag at geiswyr lloches yn gyson, mewn ymgais i apelio at y dde eithafol. Maent i gyd yn bobl wedi'r cyfan. Mae yna bobl dda a phobl ddrwg ym mhobman, felly nid wyf yn deall. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi fod hyn yn ei gwneud yn bwysicach fyth ein bod ni yma yng Nghymru yn parhau i dynnu sylw at y ffaith ein bod ni'n falch o fod yn genedl noddfa, ac yn ymroddedig i gefnogi'r rhai sy'n ceisio lloches? Diolch.

Wel, diolch yn fawr, Carolyn Thomas. Mae'n hollbwysig cydnabod y tosturi a ddangoswyd yng ngŵyl ddawns y byd yn Nhreffynnon, gyda'r fath integreiddio a'r fath dosturi, ac wrth gwrs, y fath fudd a deimlai'r gymuned gyfan o'r integreiddio hwnnw. Mae'n Wythnos y Ffoaduriaid, a'r thema yw tosturi, ac yn gynharach yr wythnos hon mynychais ysgol—ac rwy'n cyfarfod ag ysgolion eraill, ac mewn gwirionedd, mae digwyddiadau'n digwydd mewn ysgolion ledled Cymru—sy'n gweithio ar wreiddio hyn yn y cwricwlwm, ond mae trefi, cymunedau, cynghorau a phrifysgolion yn cofleidio'r genedl noddfa hefyd ac yn ymgysylltu â Dinas Noddfa, a oedd gyda ni ddoe pan wnaethom gyfarfod â Chyngor Ffoaduriaid Cymru. Mae'n ymwneud â bod Cymru'n lle tosturiol a chroesawgar i'r rhai sy'n ceisio noddfa, ac mae'n bwysig eich bod yn tynnu sylw heddiw, o'r gymuned honno yn eich etholaeth chi, yn eich rhanbarth, sef Gogledd Cymru, at y gefnogaeth sydd ar gael, gyda maer yr Wyddgrug hefyd yn chwarae ei rhan. Mae'n arweinyddiaeth, ac mae'n golygu y dylem i gyd chwarae ein rhan i ddarparu'r croeso cynnes hwnnw, a chydnabod ein bod yn cael ein cyfoethogi gan sgiliau a phrofiadau'r ceiswyr lloches sy'n dod yma, ac y gallwn ofalu amdanynt yng Nghymru.

Cwestiwn 5. Joel James. O, mae'n ddrwg gen i, sori—

—Drysais rhwng fy Sams yno. Roeddwn i'n chwilio am Sam Kurtz ond Sam Rowlands sydd gennyf i lawr yma mewn gwirionedd. Felly, fe ddrysais rhwng fy Sams. Ymddiheuriadau am hynny. Cwestiwn atodol—Sam Rowlands.

14:00

Ddim o gwbl, Lywydd, a diolch am y cyfle. Mae'n hyfryd clywed am ŵyl ddawns y byd Treffynnon. Yn anffodus, ni lwyddais i gyrraedd yno; nid wyf yn siŵr a fyddai Treffynnon wedi bod yn barod ar gyfer fy symudiadau dawns—[Chwerthin.]—ond diolch i Carolyn Thomas am godi'r pwynt pwysig heddiw.

Wrth gwrs, Weinidog, fe wyddoch fod gan y Deyrnas Unedig hanes o dderbyn a chroesawu'r rhai sy'n ceisio lloches o bob cwr o'r byd ers canrifoedd. Ym Mhrydain, wrth gwrs, rydym bob amser yn dangos croeso a thosturi. Os edrychwch yn ôl, yn yr unfed ganrif ar bymtheg, o'r Huguenotiaid Ffrengig, hyd heddiw gydag Wcreiniaid, Syriaid a phobl o Hong Kong yn ceisio lloches yng Nghymru, ac yn y DU gyfan, mae gennym freichiau agored a hafan i'r rhai sydd ei hangen.

Os caf ganolbwyntio ar fy rhanbarth i, Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol, rwy'n siŵr, o gynigion i westy gael ei ddefnyddio, yn Neuadd Llaneurgain, fel safle ar gyfer 400 o ffoaduriaid gwrywaidd sengl. Hoffwn wybod beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn, os gwelwch yn dda. 

Diolch yn fawr, Sam Rowlands, a diolch am gydnabod y genedl noddfa a'r gefnogaeth a'r croeso yng ngogledd Cymru, yn eich rhanbarth, a'r ffyrdd y mae awdurdodau lleol hefyd yn chwarae rhan mor hanfodol gyda'u cefnogaeth. Nawr, yn amlwg, dyma faes lle nad ydyw—polisi mudo—wedi'i ddatganoli i Gymru, ond rydym yn gweithio'n agos iawn ar y pwynt integreiddio â'r holl wasanaethau lleol rydym yn eu darparu. Rwy'n credu ei bod yn bwysig mai dyma lle mae dull tîm Cymru wedi bod mor llwyddiannus, nid yn unig o ran ein hymateb i ymateb dyngarol Wcráin, sy'n parhau wrth inni drafod yma yn y Senedd, ond cyn hynny, yr ymateb i adael Affganistan, lle rydym wedi cefnogi ffoaduriaid o Affganistan sy'n byw ledled Cymru, fel sydd wedi'i ddweud eisoes, a'r Syriaid sydd gyda ni ac sy'n gymaint o ran o'n cymunedau.

Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod mai cyfrifoldeb y Swyddfa Gartref yw hyn. Rydym yn pryderu am y ffyrdd nad yw'r Swyddfa Gartref yn ymgysylltu'n ddigonol â'n hawdurdodau lleol, yn enwedig mewn perthynas â chymorth a'r ymateb—yr ymateb amlasiantaethol. Rwy'n credu eich bod yn gwybod bod y safle penodol y sonioch chi amdano yn amodol ar ganiatâd cynllunio nawr. Ond yn wir, mae gennym fwrdd gweinidogol cenedl noddfa nawr, ac fe gyfarfu â Gweinidogion y bore yma, ac mae'n cynnwys cynrychiolwyr o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Felly, rydym yn gweithio ar ddull tîm Cymru i sicrhau y gallwn gynnig y gefnogaeth y gallwn ei rhoi, ond hefyd yn codi ein pryderon penodol gyda'r Swyddfa Gartref am y ffordd y maent yn defnyddio'r lleoliadau hyn yn amhriodol.

Nawr, byddwn i'n dweud, ac rwy'n credu ein bod wedi dweud hyn ddoe mewn perthynas â'r Bil Mudo Anghyfreithlon, rwy'n gofyn eto a allwch chi a'ch cyd-Aelodau godi'r materion hyn gyda Llywodraeth y DU. Nid wyf yn siarad am y Bil Mudo Anghyfreithlon ar y pwynt hwn; rwy'n dweud, 'A wnewch chi ymuno â ni i ddweud mai'r hyn y mae angen i Lywodraeth y DU ei wneud yw gwella'r cyfleuster prosesu ar gyfer ceisiadau lloches i'r rhai mewn angen?' Mae gan Bwyllgor Dethol Materion Cartref Tŷ'r Cyffredin ystod o argymhellion—a hynny'n drawsbleidiol—yn y maes hwn. Pe gallent wella'r ceisiadau lloches, byddai llai o angen i bobl orfod dod i aros mewn lleoliadau anaddas. Mae angen inni sicrhau y gellir eu cartrefu'n gyflym, fel oedd yn arfer digwydd, neu'n wir, y gall fod cytundebau dychwelyd effeithiol i'r rhai â cheisiadau annilys a phroses eithriadol i sicrhau lloches i'r rhai mewn angen arbennig.

Rwy'n gwneud y pwynt hwn heddiw, Lywydd, oherwydd mae'n rhywbeth y gallem uno yn ei gylch—galw am lwybrau diogel a chyfreithiol, a sicrhau y gallwn gael rhai o'r llwybrau diogel a chyfreithiol hynny, fel y dywedais ddoe, fel cynllun Dubs, a enwyd ar ôl yr Arglwydd Alf Dubs. Os gallwch ymuno â ni ar hynny—. Byddaf yn cyfarfod â'r Gweinidog mewnfudo, fel y gwnaeth llywodraeth leol yn ddiweddar, er mwyn sicrhau eglurder, ymgysylltu gwell a chodi pryderon am effaith safleoedd mawr ar integreiddio a chydlyniant.

14:05
Undebau Credyd

5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae undebau credyd yn cefnogi teuluoedd yng Nghymru? OQ59701

Diolch yn fawr, Joel James. Rydym yn gweithio'n agos gydag undebau credyd i ddarparu benthyciadau a chynilion moesegol, a ddarperir drwy 13 prosiect. Yn ogystal, rydym yn darparu £1.2 miliwn ar gyfer cynllun ehangu benthyciadau. Rwyf hefyd yn ymgysylltu'n rheolaidd â benthycwyr cyfrifol, er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud popeth yn eu gallu i gefnogi pobl drwy'r argyfwng costau byw.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Yn ôl eu gwefan, mae Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro, er yn gwerthu eu hunain fel sefydliad sydd, ac rwy'n dyfynnu,

'yn cynnig benthyciadau hyblyg ar delerau teg, gyda chyfraddau isel, dim ffioedd'

yn ymddangos fel pe baent yn cynnig cyfraddau llog eithaf syfrdanol ar fenthyciadau sy'n uwch na chyfraddau'r farchnad. Mewn gwirionedd, Weinidog, byddai benthyciad teuluol safonol o £1,000 yn arwain at gyfradd llog o 41.2 y cant, a byddai benthyciad teyrngarwch o £1,000 yn golygu bod rhywun yn talu 40.2 y cant mewn llog. Yn wir, roedd y rhan fwyaf o'r cyfraddau a gynigiwyd ganddynt ar fenthyciadau o symiau gwahanol gryn dipyn yn uwch nag y byddai rhywun yn ei gael gan fanc neu gymdeithas adeiladu. Ac er eu bod yn cynnig cyfraddau benthyg cystadleuol, mynediad cyfyngedig a geir at y rhain ac ni fyddant ar gael i lawer o bobl a fydd yn gwneud cais amdanynt. Rwy'n poeni'n fwy na dim y bydd Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro nawr yn derbyn budd-dal plant fel dull o dalu am fenthyciadau teuluol, a restrir ar gyfer gwisgoedd ysgol, tripiau, y Nadolig a gwyliau teulu. Felly, gellir defnyddio'r budd-dal sy'n cael ei dalu i deuluoedd i sicrhau bod plant yn cael eu bwydo a'u gwisgo'n briodol i dalu'r llog o 41.2 y cant ar fenthyciadau i'r undeb credyd. Sut bynnag yr edrychwch chi ar hyn, Weinidog, mae'n anghywir i deulu sy'n ei chael hi'n anodd ac sydd angen arian ar gyfer gwisgoedd ysgol dalu llog o 41.2 y cant, sy'n gyfradd llog nad yw'n annhebyg i gyfraddau llog y cwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog gwarthus. Gyda hyn mewn golwg, a ydych chi'n credu bod y gyfradd hon yn cosbi pobl am fod yn dlawd ac nad yw o fewn ethos nodau datganedig yr undeb credyd o delerau teg a chyfraddau isel? Diolch.

Wel, diolch am y cwestiwn. Rwy'n aelod balch iawn—dylwn ddatgan y buddiant hwnnw—o Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro, fel y mae cymaint o bobl eraill, a byddwn yn eich annog i ymweld ag Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro. Fe wnaethom ymweld ag undebau credyd ar ôl y Nadolig i'w llongyfarch ar y gwaith y maent yn ei wneud ac yn wir, i'w cefnogi fel benthycwyr moesegol, sy'n darparu mynediad at gredyd fforddiadwy, yn sefydlu hybiau cymunedol, ac yn gweithio gyda theuluoedd drwy gynllun cynilo'r ysgolion.

Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud ein bod wedi eu cefnogi gyda'r cynllun ehangu benthyciadau hwn. Felly, mae £1.2 miliwn wedi'i ddarparu i 10 undeb credyd ar gyfer y cynllun ehangu benthyciadau, ac mae'n caniatáu i bobl sydd â hanes credyd gwael gael mynediad at gredyd fforddiadwy. Hyd at fis Mawrth eleni, rhoddwyd bron i 1,700 o fenthyciadau drwy'r cynllun hwn, ac mae hynny'n parhau i gynyddu. Mae yna heriau ariannol yn wynebu aelwydydd ledled Cymru, ond mae'r undebau credyd ledled Cymru—ac rwyf wedi ymweld â llawer ohonynt, ac rwy'n annog yr Aelodau i wneud hynny, ar draws y Siambr—wedi croesawu'r cynllun penodol hwn i ehangu benthyciadau. A gadewch inni wynebu'r peth, ar gyfer cefnogi costau byw, rhoddwyd £1.2 miliwn i undebau credyd yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf i ehangu eu benthyca. Mae hwnnw wedi'i ailgylchu i mewn i'r flwyddyn ariannol hon, a'r sector undebau credyd moesegol sy'n denu ac yn gwasanaethu'r aelodau newydd hynod fregus yn ariannol hynny.

Ond a gaf fi hefyd achub ar y cyfle i ddweud bod mwy na 35 y cant o fenthycwyr undebau credyd yn rhieni sengl â phlant dibynnol? Maent yn darparu benthyciadau teuluol, lle caiff ad-daliadau eu didynnu'n awtomatig o daliadau budd-dal. Mae'n boblogaidd iawn—mae'n agor mynediad at gredyd fforddiadwy a chyda'r elfen gynilo, mae'n helpu rhieni i gynilo'n fwy rheolaidd. Maent yn ymwneud yn agos â'u haelodau, undebau credyd. Maent yn fforddiadwy, yn ddi-elw ac yn foesegol.

Ac yn olaf, a gaf fi ddweud ein bod hefyd yn ymuno â Fair4All Finance? Ac rydym yn ymuno â'r Alban—yr holl genhedloedd datganoledig, yn ogystal â Lloegr—rydym yn ymuno â nhw, a benthycwyr cyfrifol, i brofi cynllun benthyciad dim llog, ac rwy'n siŵr y bydd gan yr Aelod ddiddordeb ynddo. Felly, bydd undebau credyd yng Nghymru yn bartneriaid cyfeirio ar ei gyfer. Mae'n cael ei ddarparu gan Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru, Fair4All a Salad Money, a byddaf yn falch o adrodd ar sut mae'r peilot hwnnw'n mynd.

Allgáu Digidol

6. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i fynd i'r afael ag allgáu digidol? OQ59689

Mae ein rhaglen cynhwysiant digidol ac iechyd genedlaethol, Cymunedau Digidol Cymru, yn cefnogi sefydliadau ar draws pob cymuned a sector i helpu pobl i ymgysylltu â'r byd digidol. Mae strategaeth ddigidol Cymru yn ei gwneud yn glir fod yn rhaid parhau i ddarparu ffyrdd amgen i bobl na allant, neu sy'n dewis peidio â chael mynediad at wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru drwy ddulliau digidol, allu gwneud hynny.

14:10

Diolch am yr ymateb hwnnw, ac rwy'n falch iawn o'ch clywed yn dweud y dylai mynediad at wasanaethau mewn ffordd nad yw'n ddigidol fod ar gael. Gwyddom mai dim ond 41 y cant o'r rhai dros 75 oed sydd â sgiliau digidol, ac mae 32 y cant o bobl 75 oed a hŷn yn teimlo eu bod wedi'u hallgáu'n ddigidol. Ac yn anffodus, mae hyn yn arwain at broblemau i'r unigolion hynny allu cael mynediad at wasanaethau hanfodol, megis mynediad at fathodynnau glas. Mae ymchwil gan Age Cymru wedi dangos bod pobl hŷn, yn aml iawn, yn cael gwybod gan eu hawdurdodau lleol mai'r unig ffordd o wneud cais yw ar-lein. Pan fyddant yn gofyn am help am nad ydynt yn gallu gwneud cais ar-lein, dywedir wrthynt, 'Ni allwn gynnig unrhyw help', ac yn amlwg nid yw hynny'n ddigon da. Pa gamau y bwriadwch eu cymryd, fel y Dirprwy Weinidog â chyfrifoldeb am y mater hwn, i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni'r dyheadau rydych chi wedi'u gosod fel Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr fod ceisiadau am fathodynnau glas—ac unrhyw wasanaeth cyhoeddus arall, yn wir—ar gael i bobl nad ydynt yn gallu gwneud pethau fel ceisiadau ar-lein? 

A gaf fi ddiolch i Darren Millar am y cwestiwn? Rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth rydych wedi'i godi yn Siambr y Senedd hon o'r blaen, ac mae'n bendant yn rhywbeth rwy'n credu bod pob un ohonom yn rhannu pryderon yn ei gylch, na all pobl ddal i gael mynediad at wasanaethau bob amser, oherwydd fe wnaethoch chi dynnu sylw at ffigur o 32 y cant o bobl 75 oed a hŷn yng Nghymru nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd yn bersonol, neu bobl nad ydynt yn gwybod sut i'w ddefnyddio, neu rai nad ydynt yn teimlo'n hyderus yn ei ddefnyddio yn ogystal. Felly, byddaf yn sicr yn codi'r pwyntiau a wnaethoch yn benodol am fathodynnau glas, ond os oes unrhyw bryderon eraill, unrhyw achosion penodol yr hoffech ysgrifennu ataf fi neu Jane Hutt i'w codi, gallwn sicrhau ein bod yn mynd ar drywydd hynny yn ein sgyrsiau ac yn gweithredu hyn gyda chydweithwyr mewn llywodraeth leol a thu hwnt hefyd.

Rydym hefyd yn gwneud gwaith—rydym wedi comisiynu Prifysgol Lerpwl i wneud ymchwil ar ein rhan ar safon byw digidol gofynnol i Gymru. Felly, yn y bôn, adeiladu consensws i sefydliadau dinasyddion ystyried yr hyn y gallai fod angen iddynt wneud mwy ohono a'r ffordd y mae angen iddynt wneud pethau i gael y cynhwysiant digidol gofynnol, ond y byddai ganddynt y dewis arall hwnnw ar waith bob amser hefyd.  

Heddlu Cymunedol yn Sir Ddinbych

7. A wnaiff y Gweinidog amlinellu uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu darpariaeth heddlu cymunedol yn Sir Ddinbych? OQ59715

Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiogelwch cymunedol yng Nghymru. Un o ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu yw cynnal cyllid ar gyfer 500 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a chynnydd o 100 yn eu nifer dros dymor y Senedd hon. Ac ar hyn o bryd mae 34 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu wedi'u lleoli yn sir Ddinbych.

Diolch yn fawr iawn am eich ymateb, Weinidog, a'r rheswm pam rwyf am godi'r cwestiwn hwn y prynhawn yma yw fy mod wedi treulio tair shifft yn ddiweddar gyda thimau plismona lleol gogledd Cymru. Fe wneuthum ddwy shifft yn y Rhyl ac un yn Ninbych, ac un o'r themâu cyffredin sydd wedi cael eu cydnabod yw'r angen i wella presenoldeb plismona lleol ar y strydoedd i gynyddu gwelededd ac i fod yn rhwystr naturiol i droseddau yn ein trefi a'n pentrefi yn sir Ddinbych. Fel y sonioch chi yn eich ymateb cychwynnol, Weinidog, ym maniffesto etholiad Senedd Cymru 2021 y Blaid Lafur fe wnaethoch ymrwymo i gynyddu swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn eu cannoedd, a ddwy flynedd yn ddiweddarach, rydym yn dal i aros i weld tystiolaeth o'r addewid hwn ar y strydoedd. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y mater ac amserlen ar gyfer pryd y bydd y caiff y swyddogion hyn eu cyflwyno, neu ai dim ond rhagor o eiriau gwag gan y Blaid Lafur yng Nghymru oedd hyn? 

Rwy'n falch iawn eich bod wedi croesawu'r ffaith mai Llywodraeth Lafur Cymru sydd nid yn unig yn ariannu 500 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ond sydd hefyd yn sicrhau cynnydd o 100 yn eu nifer dros dymor y Senedd hon, ac mae hynny'n bwysig o ran yr amserlen—fe ddof at yr amserlen. Ond hefyd, a gaf fi gymryd o hynny y gallech chithau hefyd fod yn cynhesu at y ffaith ein bod yn teimlo mai datganoli plismona i Gymru fyddai'r ffordd fwyaf priodol ymlaen, fel y gallwn ddiwallu anghenion plismona yn y gymdogaeth ein cymunedau mewn gwirionedd? Ac rwy'n eich llongyfarch ar ymuno â thair shifft ar y strydoedd. Fe ymunais innau â shifft ar y strydoedd—reid o gwmpas, fel y maent yn ei galw—yn ddiweddar, a dysgu llawer o'r profiad hwnnw, fel y mae llawer o Aelodau'r Senedd wedi sôn dros gyfnod o amser. 

Felly, rydym yn darparu dros £22 miliwn o gyllid ar gyfer swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn y flwyddyn ariannol hon, er bod plismona wedi'i gadw'n ôl ar hyn o bryd, fel y dywedaf. Rydym eisiau ei ddatganoli. Mae gennym sefyllfa ariannol heriol iawn, a hynny oherwydd eich Llywodraeth chi a thoriadau a chyni ers 13 mlynedd. Ond mae gennych 34 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn sir Ddinbych—mae 23 swyddog cymorth cymunedol yr heddlu wedi'u lleoli yn Ninbych arfordirol ac Abergele, mae 11 arall wedi'u lleoli Ninbych wledig a Chonwy—ac mae'n cynnwys cymysgedd o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a ariennir gan Lywodraeth Cymru a chan yr heddlu. Rydym yn ariannu mwy na hanner cyfanswm y cyllid ar gyfer swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yng ngogledd Cymru yn 2023-24, a hynny drwy gytundeb â'r heddlu.

Yn olaf, Lywydd, rwyf am roi un enghraifft o brosiect pwysig iawn gan y tîm plismona yn y gymdogaeth yng ngogledd Cymru, ac fe fyddwch yn ymwybodol ohono, rwy'n siŵr, Aelodau gogledd Cymru. Mae'r tîm plismona yn y gymdogaeth wedi bod yn cefnogi prosiect Blossom and Bloom. Elusen yw hi sy'n cefnogi mamau ifanc yn yr ardal, ac mewn gwirionedd y tîm plismona yn y gymdogaeth lleol a helpodd gyda'r cais am gyllid i'r elusen hon barhau â'u gwaith. Mae hyn yn dangos sut mae swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn chwarae rhan mor hanfodol yn y gymuned, gan weithio gyda phobl ifanc, a chynnig sesiynau ffitrwydd i famau mewn campfa focsio leol. Gall un ohonoch hawlio'r prosiect hwn ar ryw bwynt, rwy'n siŵr. Ond hefyd, enillodd y gampfa focsio leol wobr yn seremoni gwobrau cymunedol comisiynwyr yr heddlu a throseddu, felly mae Cymru ar y map o ran y gefnogaeth a rown i'r swyddogion cymorth cymunedol pwysig hynny.

14:15
Masnachu Pobl

8. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chomisiynwyr heddlu a throseddu ynghylch mynd i'r afael â masnachu pobl yn ne Cymru? OQ59688

Er bod trosedd a chyfiawnder yn faterion a gadwyd yn ôl, rydym yn parhau i weithio ar y cyd â'r heddlu a phartneriaid perthnasol eraill ledled Cymru. Mae ein bwrdd partneriaeth plismona ar gyfer Cymru yn darparu cyfleoedd i drafod amrywiaeth o faterion, gan gynnwys masnachu pobl.

Ie, dyma un o'r pethau sy'n dod o fewn y rhwyg neu'r ymylon aneglur rhwng cymwyseddau datganoledig a chymwyseddau a gadwyd yn ôl, ond mae fy amser allan ar y stryd yn rheolaidd gyda'n heddlu lleol wedi tynnu sylw at broblem masnachu pobl, pobl fregus, i mewn i ffermio cyffuriau mewn eiddo preswyl neu wag yng nghymoedd de Cymru. Mae'n effeithio ar y cymunedau hynny, mae'n llyncu adnoddau'r heddlu, ac mae'n effeithio'n uniongyrchol ar unigolion bregus sy'n aml yn cael eu masnachu i'r sefyllfaoedd hyn, a'u hecsbloetio, a nhw yw'r rhai sy'n cael eu herlyn, ac mae'r troseddwyr mawr sy'n rhedeg y gweithredoedd yn dianc i weithredu o eiddo arall, ar ddiwrnod arall, gydag unigolyn arall sy'n cael ei ecsbloetio, ond yn dal i effeithio ar y cymunedau mwyaf difreintiedig lle ceir yr eiddo rhataf a'r mwyaf addas ar gyfer gweithredoedd troseddol fel hyn. 

Felly, pa drafodaethau y gall y Gweinidog eu cael gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu a'r prif gwnstabliaid ar hyn? A hyd nes y caiff plismona ei ddatganoli, fel y mae i Faer Llundain i bob pwrpas, pa drafodaethau y gellir eu cael gyda'r Ysgrifennydd Cartref hefyd, i ddod ag ecsbloetio unigolion a fasnachir a chymunedau difreintiedig i ben?

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Rydych yn iawn i godi'r effaith y mae'r math hwn o ymddygiad ffiaidd, masnachu pobl, yn ei chael nid yn unig ar yr unigolion bregus sy'n dioddef o'i herwydd, ond hefyd yr effaith ar gymunedau yn gyffredinol, a'r sgil-effaith, fel y dywedais, ar adnoddau i'n cydweithwyr yng ngwasanaethau'r heddlu hefyd.

Fel y dywedais o'r blaen, rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos iawn, er ei fod yn dod o fewn maes nad yw wedi'i ddatganoli, ond mae gennym adran gaethwasiaeth fodern o fewn Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r materion hyn hefyd. Byddwn yn sicr yn gwneud hynny drwy ein comisiynydd heddlu a throseddu arweiniol—Jeff Cuthbert ar hyn o bryd—ar gaethwasiaeth fodern, ynglŷn â sut y gallwn sicrhau ein bod yn gweithio mor agos ag y gallwn a chodi'r pryderon hynny gyda'n cymheiriaid yn Llywodraeth y DU. Yn amlwg, clywsom yn y lle hwn ddoe, ac rwy'n siŵr y byddwn yn clywed eto, y pryderon ynghylch y Bil Mudo Anghyfreithlon, ac mewn gwirionedd mae hwnnw'n gwneud pethau'n anos i bobl sy'n ddioddefwyr masnachu pobl, yn hytrach na cheisio eu cefnogi a mynd i'r afael â'r bobl sy'n ceisio ecsbloetio pobl fregus sy'n cael eu masnachu.

Felly, rydym wedi ymrwymo i barhau i weithio ar y cyd ac i fynd i'r afael â hyn gydag empathi a thosturi, a gweithio gyda'n cydweithwyr a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu i gefnogi cymunedau lleol ac ar yr angen am gydlyniant cymunedol hefyd, ar yr un pryd.

Strategaeth Tlodi Plant

9. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch mesurau trawsbynciol i'w cynnwys yn y strategaeth tlodi plant wedi'i diweddaru? OQ59710

Diolch yn fawr, Luke Fletcher. Cyfarfûm â Gweinidog yr Economi yn ddiweddar fel rhan o gyfres o gyfarfodydd dwyochrog ar fesurau trawsbynciol i'w cynnwys yn y strategaeth ddrafft ar dlodi plant. Agorwyd cyfnod o ymgynghori ar strategaeth ddrafft ddydd Llun yr wythnos hon wrth gwrs.

Diolch am yr ateb, Gweinidog.

Yn dilyn cyhoeddi ystadegau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer mis Mehefin yn dangos patrwm o ostyngiad yng nghyfraddau cyflogaeth a gweithgarwch economaidd Cymru, gofynnais i Weinidog yr Economi yr wythnos diwethaf p'un a oes angen asesiad llawer mwy gonest o gyflwr economi Cymru. Nawr, mae adroddiad cynnydd 2022 ar y strategaeth tlodi plant yn cyfeirio at y ffaith bod plant mewn mwy o berygl o fod yn byw mewn tlodi mewn aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd cael gwaith. Ond wrth gwrs, rydym wedi cael senario ers cryn dipyn o amser lle mae'r posibilrwydd o dlodi mewn gwaith wedi cael ei ymestyn yn ddramatig i nifer cynyddol o aelwydydd yng Nghymru. Credaf fod y strategaeth tlodi plant newydd yn gyfle gwirioneddol i weithredu mesurau uchelgeisiol i newid hyn. Felly, yng ngoleuni ffigurau diweddar y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a oes unrhyw adnoddau ychwanegol yn cael eu dyrannu i hyn a pha syniadau ffres sy'n cael eu cynhyrchu rhwng eich swyddogion chi a swyddogion Gweinidog yr Economi i fynd i'r afael â'r broblem hirsefydlog hon yma yng Nghymru?

14:20

Diolch yn fawr am y sylwadau pwysig iawn hynny ac yn eich cwestiwn, am y myfyrdodau ar y cyfleoedd sydd gennym nawr gyda'r strategaeth tlodi plant ddrafft hon, yr anogaf yr Aelodau i ymgynghori yn eu hetholaethau yn ei chylch, ac ymgynghori ynghylch y cyfleoedd y mae'r strategaeth yn eu cynnig inni, er mai cyfyngedig yw ein pwerau mewn perthynas â threthiant a budd-daliadau. Ond rwy'n credu mai'r pwynt allweddol am y strategaeth yw ei bod yn drawslywodraethol ac wrth gwrs, cymeradwyodd holl aelodau'r Cabinet y strategaeth ddrafft ar gyfer yr ymgynghoriad 12 wythnos.

Mae'n ymwneud â chefnogi llwybrau allan o dlodi. Roeddech yn canolbwyntio yn y ffigurau cyflogaeth ar anweithgarwch economaidd, er i'r Prif Weinidog egluro bod darlun o gyfle yma hefyd, o ran economi Cymru. Ond mae'n ymwneud â llwybrau allan o dlodi drwy'r blynyddoedd cynnar, addysg, cyflogaeth, cyflogaeth a sgiliau, ac mae'r cynllun cyflogadwyedd a sgiliau yn hanfodol i hynny, ac roedd hwnnw'n bwynt allweddol yn fy nhrafodaethau gyda Gweinidog yr Economi.

Ond mae'n ymwneud â sut y gallwn gryfhau dull Llywodraeth Cymru o integreiddio polisi a chyllid er mwyn galluogi cydweithredu mwy hirdymor. Mae'n waith gwrthdlodi rhanbarthol, lleol a gweithio gyda'n partneriaid i greu Cymru lle gall pob plentyn, person ifanc a theulu ffynnu.

3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Jenny Rathbone.

Profiad Pobl Ifanc o'r System Lysoedd

1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Chymdeithas yr Ynadon ynghylch profiad pobl ifanc o'r system lysoedd? OQ59712

Diolch am eich cwestiwn. Nid wyf wedi cael trafodaethau gyda Chymdeithas yr Ynadon ar y mater hyd yma. Fodd bynnag, ar ein cais ni, mae grŵp cynghori academaidd Cymru ar gyfiawnder ieuenctid wrthi'n adolygu'r cyfleoedd sy'n codi o ddatganoli cyfiawnder ieuenctid. Mae gweithrediad y llysoedd ieuenctid yn rhan o'r adolygiad hwnnw, ac mae ymgynghori'n digwydd gydag ynadon.

Diolch am hynny, Weinidog. Efallai y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol fod adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, o'r enw '60%—Rhoi llais iddyn nhw', i fod i gael ei gyhoeddi a'i drafod yn y Senedd yr wythnos nesaf, a'i fod yn tynnu sylw at y ffaith bod gan o leiaf 60 y cant o bobl ifanc sy'n dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder ieuenctid anawsterau lleferydd ac iaith a mathau eraill o anawsterau cyfathrebu.

Yn ystod ein hymchwiliad, clywsom am yr arferion gorau a sefydlwyd gan ardaloedd cyfiawnder ieuenctid Castell-nedd Port Talbot a bae Abertawe a'r gwahaniaeth y mae hynny wedi'i wneud, i gael pobl sy'n arbenigwyr cyfathrebu i gefnogi pobl ifanc fel bod eu lleisiau'n cael eu clywed yn iawn ac yn bwysicach, fel eu bod nhw'n deall y broses y maent wedi dod yn rhan ohoni. Tybed a fydd y mater pwysig hwn yn codi yn y sgyrsiau a gewch gydag ynadon, a pha ddylanwad sydd gan ynadon ar sicrhau ansawdd y cymorth sydd ei angen i sicrhau nad oes camweinyddu cyfiawnder yn digwydd mewn perthynas â phobl ifanc nad ydynt yn deall beth sy'n digwydd.

Diolch am eich cwestiwn atodol ac rwy'n croesawu'r adroddiad yn fawr. Nid yw'n briodol i mi ymateb i'r adroddiad hwnnw, oherwydd yn amlwg fe fydd yn destun dadl yn y Siambr a hefyd yn mynd ger bron y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, rwy'n deall. Ond yr hyn y mae'n ei amlygu yw bod nifer o bobl ifanc sy'n dod i gysylltiad â'r system gyfiawnder yn aml yn dod o gefndiroedd anodd iawn, ac yn aml mae ganddynt gyfran uchel o anghenion dysgu ychwanegol, ac mae'r rheini wedi'u nodi yn yr adroddiad penodol hwnnw.

Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw bod gennym ddull amlasiantaethol sydd, yn fy marn i, yn dargyfeirio llawer o bobl ifanc o'r system gyfiawnder yng Nghymru, ac mae hynny wedi cael effaith sylweddol iawn ar leihau nifer yr achosion sy'n mynd ger bron y llysoedd ieuenctid. Ond yr hyn ydyw yw cydnabyddiaeth mai'r ffordd briodol o ymdrin â llawer o'r materion hynny sy'n codi yw cadw pobl ifanc allan o'r system cyfiawnder troseddol, ac ymgysylltu â'r holl asiantaethau, y mae'r mwyafrif llethol ohonynt wedi'u datganoli, mewn ffordd sy'n fwy o ymateb datrys problemau. Ac er ein bod yn rhoi ystyriaeth bellach i argymhellion Comisiwn y Gyfraith o ran diwygio tribiwnlysoedd, rwy'n sicr yn meddwl tybed a oes rôl o fewn system dribiwnlysoedd ddiwygiedig lle, er enghraifft, mae gennych broblem iechyd meddwl eisoes, lle mae gennych yr arbenigedd mewn perthynas ag anghenion dysgu, ac yn ddiamau ar ryw adeg o ran gwaharddiadau, y bydd hwn yn faes priodol lle byddai'r arbenigedd hwnnw'n elwa o fewn system dribiwnlysoedd ddiwygiedig.

14:25
Deddf Trefn Gyhoeddus 2023

2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynghylch yr effaith a gaiff y gwelliannau a wnaed i Ddeddf Trefn Gyhoeddus 2023 ar Gymru? OQ59717

Diolch am eich cwestiwn. Mae'r diwygiadau i Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986 yn ymwneud â materion a gadwyd yn ôl, ac ni wnaeth Llywodraeth y DU ein hysbysu o'u bwriad i roi rhagor o bwerau eto i'r heddlu mewn perthynas â phrotestiadau. Mae'n hanfodol fod gan bobl hawl i fynegi pryderon yn rhydd, ac mewn ffordd ddiogel a heddychlon.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb, ac a gaf fi gytuno'n llwyr â'r sylwadau a wnaeth? Yn etholiadau diwethaf y Senedd, mae'n wir fod niferoedd mwy nag erioed o bobl Cymru wedi cefnogi Llafur Cymru. Fe wnaethant gefnogi'r Prif Weinidog beiddgar Mark Drakeford ac fe wnaethant gefnogi maniffesto beiddgar a oedd yn cynnwys mynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli plismona.

Gwnsler Cyffredinol, gan fod y Ddeddf Trefn Gyhoeddus yn rhoi mwy o bwerau i'r heddlu, pa drafodaethau pellach a gawsoch gyda swyddogion y gyfraith yn San Steffan, i sicrhau bod y system gyfiawnder gyfan yng Nghymru yn adlewyrchu blaenoriaethau pobl Cymru mewn gwirionedd?

Mae ein pryderon am y newidiadau a wnaed wedi'u gwneud yn dda, mewn trafodaethau ac mewn gohebiaeth. Fel y gwyddom, mae plismona'n fater a gadwyd yn ôl, ac fel rwyf eisoes wedi'i ddweud, ni chawsom ein cynnwys. Mae Deddf Trefn Gyhoeddus 2023 yn cynnwys pwerau y credwn eu bod yn rhy eang, ac rwy'n credu bod y rhuthr i gychwyn y ddeddfwriaeth cyn coroni'r Brenin wedi arwain at ormod o gyfrifoldeb ar yr heddlu i geisio gwneud synnwyr o ddeddfwriaeth sydd wedi'i drafftio'n wael.

Mae hefyd yn bwysig nodi yn rhan o hynny mai un o'r rhesymau sy'n sail i'n pryderon yw oherwydd bod y cynigion hyn wedi cael eu trafod yn Nhŷ'r Arglwyddi yn flaenorol, ac fe wnaethant hwy bleidleisio yn erbyn diwygiadau tebyg yn ystod taith Deddf Trefn Gyhoeddus 2023 mewn gwirionedd. Felly, defnyddio is-ddeddfwriaeth i osgoi'r Senedd yw hyn bellach mewn gwirionedd.

Mae nifer o sylwebaethau wedi bod, ac nid yw'r cyfan wedi dod o ochr Llafur. Dywedodd David Davis, cyn-Aelod o'r Cabinet:

'Mae yna broblem ynglŷn â beth sy'n gyfreithlon ac rwy'n credu ein bod wedi colli golwg ar hynny.'

Dywedodd,

'Y gwir amdani yw bod gennych ddarn o gyfraith, sy'n dod yn gyfraith, a saith diwrnod yn ddiweddarach mae'n rhaid i Gomisiynydd y Met ymddiheuro i bobl y mae wedi'u harestio'n anghywir o dan y gyfraith honno.'

Gofynnodd,

'Mae'n dweud bod rhywbeth o'i le, onid yw?'

Dywedodd Syr Charles Walker, AS Ceidwadol arall:

'Rwy'n meddwl bod y Bil Trefn Gyhoeddus, y gwelsom blismona protestiadau dros benwythnos y Coroni—rwy'n anghytuno'n llwyr â fy mhlaid ar hynny... Yn bwysicach fyth, pan oeddem yn troseddoli protestiadau yn ystod y cyfyngiadau symud Covid, fe wneuthum rybuddio i lle byddai'r cyfan yn arwain.'

Mae ein gwrthwynebiad yn glir. Mae ein gallu i ddylanwadu ar hynny oherwydd ei fod yn fater a gadwyd yn ôl yn gyfyngedig, ond wrth gwrs, rydym yn ymgysylltu â chyrff plismona a chyrff eraill yn ein cymunedau, ac rydym yn gobeithio bod yna ddull cyfrifol o weithredu deddfwriaeth anffodus sydd wedi'i drafftio'n wael a orfodwyd arnom heb unrhyw awydd i'w hystyried yn briodol, a heb y manteision o wneud hynny.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Llefarydd y Ceidwadwyr nawr i ofyn cwestiwn, Mark Isherwood.

Diolch, Lywydd. Mewn erthygl yn The Law Society Gazette ar 27 Ionawr ar gyfeiriad polisi cyfiawnder Llywodraeth Cymru yn y dyfodol, rydych chi'n dweud bod agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer sector y gyfraith a chyfreithiol yn cynnwys tendr i asesu'r angen am brentisiaethau cyfreithwyr yng Nghymru. Mae'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr, y rheoleiddiwr gwasanaethau cyfreithiol mwyaf yng Nghymru a Lloegr, sy'n cwmpasu tua 90 y cant o'r farchnad a reoleiddir ac yn goruchwylio mwy na 4,000 o gyfreithwyr a 400 o gwmnïau cyfreithiol yng Nghymru, yn hyrwyddo prentisiaethau cyfreithwyr fel dewis arall yn lle'r llwybr cymwysterau traddodiadol drwy'r brifysgol i ymgeiswyr sydd am ennill cyflog wrth iddynt ddysgu. Maent hefyd yn nodi bod modd i ddarpar gyfreithwyr gymhwyso yn Lloegr drwy brentisiaeth cyfreithiwr eisoes, proses sydd fel arfer yn cymryd pump i chwe blynedd i'w chwblhau. Pam, felly, eich bod chi ond yn asesu'r angen am hyn yng Nghymru, pan fo eisoes yn weithredol yn Lloegr, gan agor cyfleoedd i bobl na fyddent fel arall yn ymuno â'r proffesiwn i wneud hynny, a helpu angen y proffesiwn am newydd-ddyfodiaid?

14:30

Diolch. Mae’n gwestiwn da. Yr ateb iddo, mewn gwirionedd, yw oherwydd nad wyf yn credu bod yr hyn a roddwyd ar waith yn Lloegr wedi cael ei ystyried yn dda iawn. Rydym am gefnogi mynediad at y proffesiwn cyfreithiol, rydym am gefnogi mwy o symudedd cymdeithasol ac amrywiaeth, ond yr hyn nad ydym am ei wneud yw ariannu prentisiaethau cyfreithiol sydd, yn y bôn, yn disodli’r cyllid y mae cwmnïau cyfreithiol eisoes yn ei wario ar hynny. Nid yw hynny'n symud unrhyw beth yn ei flaen, mewn gwirionedd—mae'n rhoi bonws a hwb i gwmnïau cyfreithiol yn yr hyn y maent eisoes yn ei wneud. Felly, y dull gweithredu rydym wedi'i fabwysiadu yw hyn: rydym wedi mabwysiadu cymorth ar lefel y gweithredwr cyfreithiol o ran cynorthwyo'r rhai sy'n dod i mewn i hynny. Yr hyn rydym am ei ddeall yw sut y gallwn gefnogi prentisiaethau yn y proffesiwn cyfreithiol sy'n mynd i'r meysydd lle rydym am gael mwy o gyfreithwyr, lle mae angen mwy o gyfreithwyr arnom, yn enwedig i'r anialdiroedd cyngor, a sut rydym hefyd yn gwneud hynny mewn ffordd lle rydym yn sicr mai’r bobl rydym yn eu cefnogi yw’r rhai na fyddent fel arfer yn cael y cymorth hwnnw gan gwmnïau cyfreithiol presennol yng Nghymru. Nid yw cyflawni'r amcanion hynny'n dasg hawdd, ond mae'n rhywbeth rydym wedi bod yn meddwl amdano. Rydym am i’r ymchwil hwnnw gael ei gwblhau, er mwyn rhoi dealltwriaeth bellach i ni o’r ffordd orau o ddefnyddio arian cyhoeddus, yn gyntaf er mwyn cefnogi’r proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru, ond hefyd i’w gefnogi yn y mannau penodol hynny yn ein cymunedau sydd angen yr arbenigedd a'r cyngor cyfreithiol hwnnw fwyaf.

Gobeithio eich bod yn ymgynghori â'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr ynghylch yr agweddau ymarferol y maent eisoes wedi sôn amdanynt mewn perthynas â hyn.

Sut rydych chi'n ymateb i bryder a godwyd gyda mi gan fargyfreithiwr a Chwnsler y Brenin a dynnodd fy sylw at erthygl yn y The Law Society Gazette ar 27 Ionawr? Ei bryder oedd y gallai’r drafodaeth bresennol sbarduno datblygiad cynyddrannol lle mae diwygio cyfraith trosedd a chyfiawnder yng Nghymru yn arwain, yn y pen draw, at sefyllfa lle mae cyfraith sifil Cymru yn cael ei gwahanu oddi wrth gyfraith sifil Lloegr. Ychwanegodd, er nad oedd comisiwn Thomas yn 2019 yn argymell hyn—ac yn ddi-os, byddai’r Cwnsler Cyffredinol yn dweud nad oedd unrhyw fwriad i'w wneud—byddai rhesymeg newid cyfiawnder a chyfraith trosedd, ynghyd â chyflymder allbwn deddfwriaethol gan Lywodraeth Cymru ar faterion datganoledig, yn arwain at ddwy system gyfreithiol. Byddai hyn yn dod â chyfraith bresennol Cymru a Lloegr, sydd wedi bodoli ers bron i 500 mlynedd, i ben, a fyddai 'yn drychinebus i economi a ffyniant Cymru, ac i'r rhan fwyaf o bobl Cymru'.

Diolch. Credaf fod y cwestiwn yn un rydym wedi'i drafod ar sawl achlysur, ac yn parhau i'w drafod. Fy ymgysylltiad â’r proffesiwn cyfreithiol a sefydliadau cyfreithiol yw ei gwneud yn gwbl glir nad ydym yn sôn am ddiwygiadau sy’n arwain at greu unrhyw rwystrau. Ond ceir anomaleddau amlwg, hyd yn oed os cymerwn yr un awdurdodaethol fel un enghraifft yn unig. Byddwch yn cofio inni gael Bil yn 2016, rwy’n credu, ac wrth gwrs, mae’n faes y mae Cymdeithas y Cyfreithwyr eu hunain yn ymdrin ag ef ar hyn o bryd. Felly, er enghraifft, os oes gennych gyfraith ar addysg a gyflwynir gan Senedd y DU, daw’n gyfraith ar addysg i Gymru a Lloegr, er mai dim ond i Loegr y mae’n berthnasol. Os oes gennym gyfraith ar addysg yng Nghymru, daw’n gyfraith addysg (Cymru). Mae'n amlwg fod anomaledd yn hynny, onid oes? Dylai unrhyw ddeddfwriaeth sy’n dod o Senedd y DU ac sydd ond yn berthnasol i Loegr nodi’n glir ei bod yn dod o Loegr, fel bod pobl yn gwybod lle mae’r gyfraith honno’n berthnasol a beth yw’r awdurdodaeth.

Nid oes unrhyw anhawster o gwbl yn y cysyniad, pan fydd llys yn eistedd yng Nghymru, ei fod yn rhan o awdurdodaeth Cymru, ond pan fydd yn eistedd yn Lloegr, mae'n rhan o awdurdodaeth Lloegr. Mae cyfreithiau Cymru a Lloegr a chyfreithiau sy'n benodol i Gymru yn unig ac sy’n berthnasol yng Nghymru yn amlwg yn ffurfio rhan o awdurdodaeth Cymru, ac mae’r un peth yn berthnasol i Loegr. Ni chredaf fod y rheini'n gysyniadau anodd. Credaf mai'r diddordeb sylfaenol sydd gennym yw nad oes unrhyw rwystrau o ran y farnwriaeth, nad oes unrhyw rwystrau o ran y cyfreithwyr. Yr hyn sy'n bwysig, serch hynny, wrth gwrs, wrth hyfforddi cyfreithwyr, wrth hyfforddi barnwyr, ac wrth hyfforddi'r rheini sy'n gweithio yn y proffesiwn cyfreithiol, yw y ceir dealltwriaeth fod gwahaniaethau'n bodoli. Daw’r gwahaniaeth hwnnw nid yn unig o’r hyn a wnawn yng Nghymru; daw'r gwahaniaeth hwnnw hefyd o’r hyn y mae Senedd y DU yn ei wneud yn Lloegr. Nid yw’n achosi problemau ac anawsterau mawr o ran awdurdodaeth yng Ngogledd Iwerddon nac o ran awdurdodaeth yn yr Alban, ac ni ddylai achosi problemau yng Nghymru ychwaith.

14:35

Dywedodd yr uwch fargyfreithiwr a Chwnsler y Brenin y cyfeiriais ato, a wnaeth ei sylwadau'n ddiweddar iawn, y byddai diwedd cyfraith bresennol Cymru a Lloegr yn 'drychinebus mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, mae cyfraith bresennol Cymru a Lloegr wedi bod, ac yn parhau i fod, yn safon aur ledled y byd ar gyfer contractau masnachol a chysylltiadau busnes, ond byddai bodolaeth, neu hyd yn oed y syniad o awdurdodaeth wahanol yng Nghymru yn cael effaith hynod niweidiol ar fuddsoddiad yng Nghymru gan fusnesau yn Lloegr neu dramor, gan ychwanegu’n sylweddol at y gost o wneud busnes o ddydd i ddydd. Mae’n dod yn broblem ddifrifol mewn anghydfodau, nid yn unig oherwydd y gost, ond hefyd oherwydd ansicrwydd y canlyniadau—pa gyfraith sy’n berthnasol i ba ran o’r trafodiad, beth sy’n digwydd lle ceir gwrthdaro. Byddai hyn yn creu mynyddoedd o waith i gyfreithwyr, a byddai pawb arall ar eu colled. Yr ail broblem fawr, yn gryno, yw'r un i bobl sy’n byw ar y naill ochr neu'r llall i’r ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac sydd efallai’n byw yn Lloegr ac yn gweithio yng Nghymru, neu fel arall. Byddai eu bywydau bob dydd yn ddarostyngedig i ddwy set o ddeddfau.' Sut, felly, rydych chi'n ymateb i bryderon o’r fath sy’n cael eu codi gan uwch gyfreithwyr sy’n datgan, ac rwy’n dyfynnu eto, fod 'hwn yn fater pwysig gan y byddai dwy awdurdodaeth yn broblem enfawr’?

A gaf fi ddweud, yn gyntaf, mewn perthynas â mwyafrif helaeth y cyfreithwyr yr ymdriniais â hwy, y mae llawer ohonynt yn ymarfer yn Lloegr yn unig, er bod rhai wedi ymarfer yng Nghymru a Lloegr, a rhai'n ymarfer yng Nghymru yn unig hefyd, nad oes yr un ohonynt yn ystyried hyn yn broblem? Mae llawer ohonynt yn gadarnhaol iawn am rai o’r diwygiadau a’r newidiadau sy’n digwydd. Maent hefyd yn cydnabod y rhesymeg absoliwt, lle mae gennych fwy nag un senedd yn pasio deddf, yna, yn amlwg, mae gennych awdurdodaeth i’r ddeddfwriaeth honno ddigwydd.

Rwy'n synhwyro rhyw fath o baranoia am y cysyniad o Gymru a Lloegr. Cafodd ei adlewyrchu gan Ysgrifenyddion Gwladol blaenorol Cymru yn Llywodraeth y DU, ond credaf ei fod yn ddi-sail; ni chredaf fod unrhyw dystiolaeth dros hynny. Mae'n ymddangos yn fater syml iawn i mi, lle mae gennych ddeddfau sy'n berthnasol yng Nghymru, sy'n cael eu pasio gan y Senedd hon, wel, yn amlwg, nid yn unig y dylent gael eu clywed yng Nghymru, ond maent yn dod yn rhan o awdurdodaeth Gymreig. A'r un peth, bob tro y bydd Lloegr yn pasio deddfwriaeth sydd ond yn berthnasol i Loegr—ac mae cryn dipyn o hynny'n digwydd ar yr ochr honno—ble mae'r broblem? Mae cyfreithwyr yn addasu i'r hyn sy'n gyfraith. Mae angen iddynt ddeall beth yw'r gyfraith. Mae angen i'r barnwyr wneud hynny. Bron nad rhyw fath o rithlun hanesyddol yw awdurdodaeth Cymru a Lloegr. Roedd yn cynrychioli sefyllfa lle nad oedd ond un senedd. Credaf efallai fod angen i’ch cyfaill dderbyn y ffaith bod gennym bedair senedd yn pasio deddfwriaeth yn y DU, a bod deddfwriaeth yn creu ei hawdurdodaeth gyfreithiol ei hun.

Diolch, Lywydd. Gwnsler Cyffredinol, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban bapur ar ddatganoli ers refferendwm Brexit, yn rhoi crynodeb taclus o’r ffordd y mae datganoli wedi’i ddadwneud yn raddol ers 2016. Mae’r papur yn peri cryn bryder. Credaf y byddai'n werth i Lywodraeth Cymru ymrwymo i gynhyrchu papur tebyg. Rwy’n sicr y byddai’n dod i gasgliad tebyg, sef na all fod gwir hunanlywodraeth o dan setliad datganoli sy’n cadw goruchafiaeth San Steffan. Amlygwyd goruchafiaeth San Steffan yn gadarn yn nefnydd Llywodraeth y DU o adran 35 o Ddeddf yr Alban 1998 i rwystro Bil cydnabod rhywedd yr Alban.

Cafodd ei adlewyrchu hefyd yn y dadleuon diweddar ynghylch cynllun dychwelyd ernes arfaethedig yr Alban. Fel y gŵyr y Gweinidog, mae’r cynllun wedi’i rwystro i bob pwrpas wrth i Weinidogion y DU arfer eu pŵer o dan Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020. Yn benodol, mae Llywodraeth yr Alban wedi’i gwahardd rhag cynnwys cynhyrchion gwydr yn y cynllun, penderfyniad a ddylai fod yn benderfyniad iddynt hwy ac nid i San Steffan. A gaf fi ofyn i’r Gweinidog a yw’n credu bod y DU yn undeb o diriogaethau cydradd, ac os felly, onid yw’r gred hon yn cael ei thanseilio gan y math hwn o orgyrraedd yn San Steffan? Mae Llywodraeth Cymru wedi mynnu bod cynlluniau i ddatblygu ei chynllun dychwelyd ernes ei hun, yn cynnwys gwydr, yn parhau i fod ar y gweill. A all y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau hyn, ac yn fwyaf arbennig, am drafodaethau yn eu cylch gyda Llywodraeth y DU yng ngoleuni’r penderfyniad ar gynllun yr Alban? Diolch.

14:40

Yn gyntaf, diolch am eich cwestiwn. Ydw, rwy’n ymwybodol o bapur yr Alban. Rwyf wedi ei ddarllen. Mae'n 38 tudalen. Ni chredaf ei fod yn ychwanegu unrhyw beth pellach at yr hyn a wyddom am safbwynt Llywodraeth yr Alban. Mae gan Lywodraeth yr Alban eu mandad eu hunain, ac maent yn amlwg yn mynd ar drywydd hynny. Rydym wedi cynhyrchu ein papurau ein hunain ar y ffordd y credwn y dylai dyfodol y DU edrych, 'Diwygio ein Hundeb’. Y safbwynt rydym wedi’i fabwysiadu’n gyson yw ein bod yn ystyried y DU yn undeb gwirfoddol o bedair gwlad, ond o fewn hynny, fod ganddi nifer sylweddol o gamweithrediadau cyfansoddiadol. Yn hytrach na'n bod ni'n cynhyrchu papurau—. Credaf y byddai hynny’n amhriodol iawn pan fo gennym ein comisiwn annibynnol ein hunain sy’n gwneud cryn dipyn o waith. Rhoddais dystiolaeth iddo yn ddiweddar, ac mae Gweinidogion eraill a llawer o gyrff a Gweinidogion eraill o bob rhan o’r DU a mannau eraill wedi gwneud hynny hefyd. Credaf y bydd yn cynhyrchu ei adroddiad oddeutu diwedd y flwyddyn, ac edrychaf ymlaen yn fawr at ddarllen yr adroddiad hwnnw. Ymddengys i mi mai dyna’r corff a fydd yn dylanwadu ar y ddadl a geir yn y Siambr hon ar ddiwygiadau cyfansoddiadol.

Serch hynny, mae’r pwynt a godwch am y cynllun dychwelyd ernes yn un dilys iawn. Cytunwyd o fewn y fframweithiau cyffredin fod cytundeb rhwng Cymru, yr Alban a Llywodraeth y DU ynghylch yr angen am gynllun o’r fath. Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ar gyflymder gwahanol, ac mae wedi mynd yn eithaf pell yn yr Alban. Dim ond yn rhannol y mae’r cais am eithriad o dan Ddeddf y farchnad fewnol wedi’i roi, ac ymddengys i mi mai’r hyn sydd wedi digwydd yw bod Gweinidogion Lloegr, gan ddefnyddio deddfwriaeth y DU, wedi tarfu ar yr hyn a oedd yn gytundeb cydweithredol ar faes polisi amgylcheddol pwysig. Yr hyn sydd gennych mewn gwirionedd yw Gweinidogion y DU sydd bellach, yn y bôn, yn tanseilio’r ymdrechion cydweithredol hynny—y gwaith ar y cyd a oedd yn sail i’r fframweithiau cyffredin, a sefydlwyd er mwyn sicrhau trafodaeth gydlynol rhwng y cenhedloedd ac o fewn gwahanol gyfrifoldebau datganoledig y farchnad fewnol ar ôl inni adael.

Credaf fod Deddf y farchnad fewnol yn gyfeiliornus. Mae tynnu allan a’r ymdrechion i ddefnyddio’r farchnad fewnol yn y ffordd hon yn hynod anffodus yn fy marn i. Ein safbwynt ni yw nad ydym yn credu bod Deddf y farchnad fewnol yn drech na'n cymhwysedd datganoledig ein hunain. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein polisi ein hunain ac yn gweithio i'r cyfeiriad penodol hwnnw. Ond yn amlwg, ceir buddiannau cyffredin ar draws y DU gyfan, mae rhyw fath o bolisi yn hyn y gall pawb ei gefnogi, a chredaf ei bod yn anffodus iawn fod Llywodraeth y DU ar ran Lloegr i bob pwrpas, wedi dod yn allanolyn yn y broses hon.

Diolch am eich ymateb, er bod yn rhaid imi ddweud fy mod yn dal i fod yn bryderus iawn ynghylch yr hyn y gallai penderfyniad Llywodraeth y DU ar gynllun dychwelyd ernes yr Alban ei olygu ar gyfer datblygu cynllun cyfatebol yma yng Nghymru. Yn ogystal, rwy'n bryderus ynghylch y broses a ddefnyddiwyd i wneud y penderfyniad a’r hyn y mae hynny'n ei ddweud wrthym am amwysedd Deddf y farchnad fewnol, ac rydych wedi mynegi rhai o’r pryderon hynny yn eich ateb. Datgelodd gohebiaeth rhwng Llywodraethau’r Alban a’r DU fod Gweinidogion y DU yn ddryslyd, a hyd yn oed yn gwrth-ddweud eu hunain, ynghylch y broses ar gyfer gwneud cais am eithriadau o Ddeddf y farchnad fewnol, proses a amlinellwyd gan Lywodraeth y DU ei hun mewn datganiad gweinidogol ym mis Rhagfyr 2021. Mae'n ymddangos ei bod wedi bod yn ofynnol i Lywodraeth yr Alban gymryd llawer o gamau ychwanegol annisgwyl i gael penderfyniad ar y cynllun dychwelyd ernes. Ychwanegodd hyn at yr oedi cyn i Weinidogion Llywodraeth y DU wneud a chyhoeddi penderfyniad o’r fath. Mae Llywodraeth Cymru wedi codi pryderon fod hyn yn golygu ychwanegiad ad hoc o gamau pellach at y broses o geisio eithriad o Ddeddf marchnad fewnol y DU. A gaf fi ofyn pa sicrwydd y mae’r Gweinidog wedi’i gael na fydd Llywodraeth y DU yn gwneud unrhyw newidiadau pellach i’r broses fframweithiau cyffredin y mae pob ochr wedi cytuno arni? A yw'n cytuno â mi fod y bennod hon, yn y pen draw, yn datgelu camweithrediad difrifol o ran cysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU? Ac yn olaf, a yw hefyd yn cytuno â mi fod yr adroddiadau yr wythnos hon fod arweinyddiaeth Llafur y DU wedi ceryddu Llywodraeth Cymru dro ar ôl tro am gyfeirio at y DU fel undeb o bedair gwlad wedi datgelu nad yw'r camweithrediad hwn yn debygol o wella gyda Llywodraeth wahanol yn San Steffan? Diolch.

14:45

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

I ateb y gwgli olaf a roesoch i mi ar ddiwedd eich cyfraniad, gallaf ddweud wrthych nad wyf wedi cael fy ngheryddu gan unrhyw un. Rwyf wedi datgan hynny ar bob cyfle a gaf, boed ar lefel y DU, lefel Lloegr neu beth bynnag, a byddaf yn ei ddatgan ger bron cynhadledd gyfreithiol bwysig yr wythnos nesaf. Byddaf hefyd yn gwneud y pwynt eto ar y safbwynt fod y DU yn undeb o genhedloedd, ac mae'n rhaid bod hynny'n wir, gan fod gennych bedair Senedd yn pasio deddfwriaeth, ac yn gyfansoddiadol, efallai fod gennym gamweithrediadau ac nad yw pethau wedi dal i fyny eto, ond dyna fy safbwynt. Nid yw wedi cael ei herio ar unrhyw lefel arbennig mewn gwirionedd. Nid wyf wedi gweld unrhyw ddadl ddilys sy'n yn herio hynny ychwaith.

Ar y pwynt a godwyd gennych ynglŷn â’r Alban a’r cynllun ernes y cyfeirioch chi ato, ydy, mae’n tanseilio rhyng-gysylltiadau o fewn y DU, ac ydy, mae’n gyrru ceffyl a throl drwy fframweithiau cyffredin, oherwydd o fewn y fframweithiau cyffredin, cytunwyd y ceid cytundeb gwirfoddol y byddai tystiolaeth yn cael ei gosod lle roedd angen eithriad ac y byddai hynny’n cael ei bennu drwy gytundeb rhwng pawb a oedd yn cymryd rhan o fewn y fframweithiau cyffredin, a Llywodraeth y DU, yn gweithredu ar ran Lloegr, a helpodd i newid hynny mewn gwirionedd. Yn y bôn, maent wedi newid eu safbwynt. Pam eu bod wedi newid eu safbwynt, mae'n siŵr y cawn wybod ar ryw gam beth sydd wedi rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i newid y safbwynt penodol hwnnw, ond cawn ein gadael gyda hynny, ac ydy, mae'n achosi camweithrediad, ac ydym, rydym yn codi hynny ar bob cyfle. Rydym yn codi hynny mewn gohebiaeth, ac yng nghyfarfod y pwyllgor sefydlog rhyngweinidogol a fynychais ychydig wythnosau’n ôl, codwyd yr union fater hwn a phryderon ynghylch methiant Llywodraeth y DU i gefnogi’r eithriad, neu i wneud penderfyniad ar yr eithriad. Rydym wedi cael penderfyniad bellach, ac mae'n un anfoddhaol.

Polisi Cyfansoddiadol Llywodraeth Cymru

3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael am fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a ddarperir gan Brexit ar gyfer polisi cyfansoddiadol Llywodraeth Cymru? OQ59716

Gallai fod yn ateb byr. Dylai ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd fod wedi arwain at fwy o gymhwysedd datganoledig. Yn hytrach, mae cyfyngiadau deddfwriaethol annerbyniol Llywodraeth y DU ar y sefydliadau datganoledig wrth iddi fynd yn groes i gonfensiwn Sewel dro ar ôl tro yn bygwth setliad cyfansoddiadol Cymru, ac yn rhoi straen ar y Deyrnas Unedig.

Diolch am eich ymateb, Gwnsler Cyffredinol, a’r rheswm pam rwyf am ofyn y cwestiwn hwn heddiw yw am ein bod ni, ddydd Gwener, yn dathlu saith mlynedd ers i bobl y Rhyl, Prestatyn, Dyffryn Clwyd, sir Ddinbych, gogledd Cymru, Cymru a’r DU bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd a’n rhoi ar lwybr annibynnol oddi wrth yr anhrefn cyfansoddiadol biwrocrataidd a oedd wedi bod yn ein dal yn ôl ers y 1970au.

Nawr, yr hyn y mae pobl Cymru wedi’i weld yw ymwrthodiad ideolegol gan bobl ar y meinciau hynny y pleidleisiodd eu hetholwyr dros adael yr UE, gan gynnwys yn Alun a Glannau Dyfrdwy a Blaenau Gwent. Er i’w hetholwyr eu hunain bleidleisio i’r gwrthwyneb yn 2016 wrth bleidleisio dros Brexit, rhoesant gynnig ar bob dull yn y blynyddoedd canlynol i atal eu hetholwyr eu hunain rhag elwa ar fanteision gadael yr UE a gwneud y mwyaf o’r potensial i economi Cymru. Ddoe ddiwethaf, roedd Andrew R.T. Davies yn holi’r Prif Weinidog am y ffaith mai Cymru sydd â’r ffigurau cyflogaeth gwaethaf, a’r gwir amdani yw bod Llywodraeth Cymru yn methu sicrhau manteision Brexit i’r bobl a bleidleisiodd drosto. Felly, Gwnsler Cyffredinol, saith mlynedd ers Brexit, a wnewch chi amlinellu'r trafodaethau rydych chi a'ch Llywodraeth wedi'u cael gyda Gweinidogion a swyddogion y DU ac Ewrop ar liniaru ffigurau diweithdra a sicrhau bod economi Cymru yn elwa o Brexit?

Wel, a gaf fi eich cyfeirio at yr ymateb i’r materion penodol hynny a roddodd y Prif Weinidog ddoe, ac ar y datblygiadau a’r cynnydd a wnaed o ran y sefyllfa gyflogaeth yng Nghymru? A gaf fi ddweud hefyd, wrth inni agosáu at y garreg filltir honno ymhen wythnos arall, mae'n debyg na allaf wneud yn well na chyfeirio'r Aelod at y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, sy'n dweud wrthyf y byddwn yn dathlu—mae hyn yn eu hadroddiad—gostyngiad o 4 y cant mewn cynhyrchiant o ganlyniad i Brexit, a gostyngiad o 15 y cant mewn allforion o ganlyniad i Brexit, ond y gallwn ddathlu llawer o gytundebau masnach newydd â gwledydd y tu allan i’r UE, ond na fydd y rhain yn cael effaith economaidd berthnasol gan eu bod, ar y cyfan, yn dyblygu cytundebau'r UE a oedd yn bodoli eisoes? Ond gallaf hefyd gyfeirio at yr un budd, ac wrth gwrs, daw'r un budd gan y cefnogwr Brexit Ceidwadol, Peter Bone, sy'n crynhoi manteision Brexit. Meddai, 'Mae'n rhaid inni ddechrau sôn am fanteision Brexit’, fel y mae’r Aelod yn ei wneud nawr. Dywedodd fod llawer wedi bod, hyd yn oed rhai bach—y £50 oddi ar yswiriant moduro—ond nad ydym yn sôn digon amdanynt. Y ffaith amdani yw nad yw’r £50 hwnnw oddi ar yswiriant moduron yn ddim i’w wneud â Brexit mewn gwirionedd, ond serch hynny, mae’n sicr yn rhywbeth y mae’n teimlo ei bod yn bwysig tynnu sylw ato, hyd yn oed os nad yw’n wir. Ond mae'n debyg fod hynny'n wir am y rhan fwyaf o'r dadleuon o blaid Brexit.

Yr hyn rydym yn ei gydnabod, wrth gwrs, ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, yw bod llawer o newidiadau a phwysau ar ein heconomi. Rydym yn cydnabod yr angen am gyffredinedd mewn rhai meysydd polisi a hyd yn oed cysondeb a safonau gofynnol—ac un o’r safbwyntiau yw—[Anghlywadwy.]—cynnal safonau—i wneud popeth yn ein gallu, mewn gwirionedd, i amddiffyn cyflogaeth rhag effaith Brexit a’r hyn rydym yn ei weld eisoes, sef trosglwyddo swyddi i’r Undeb Ewropeaidd o’r DU, a hefyd y gostyngiad mewn masnach drwy Gymru o ganlyniad i Brexit hefyd.

14:50
Y Nifer sy'n Pleidleisio

4. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r nifer sy'n pleidleisio yng Nghymru? OQ59707

Diolch am eich cwestiwn. Mae'r nifer sy'n pleidleisio yn is nag y byddem am iddo fod. Ar ôl etholfreinio mwy o bobl nag erioed i gymryd rhan mewn etholiadau datganoledig, rydym bellach yn gweithio i annog cyfranogiad, fel yr amlinellwyd yn ein Papur Gwyn ar weinyddu a diwygio etholiadol a phrosiectau wedi'u targedu i ysgogi ymgysylltiad.

Diolch am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Credaf nad yw 15 y cant o’r bobl sy’n gymwys i fod ar y gofrestr etholiadol wedi cofrestru i bleidleisio, a gwn eich bod yn cytuno â mi, Gwnsler Cyffredinol, ei fod 15 y cant yn ormod. Ond nid dyma'r unig her sy'n ein hwynebu i wella cyfranogiad democrataidd. Am y tro cyntaf, fis diwethaf, roedd yn ofynnol i bleidleiswyr yn Lloegr ddod â dull adnabod ffotograffig i orsafoedd pleidleisio, ac mae hyn wedi cael effaith sylweddol. Er enghraifft, yn Hull, dim ond un o bob pum pleidleisiwr cymwys a arferodd eu hawl ddemocrataidd. Rwy'n ddiolchgar fod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau na fydd angen dull adnabod ar gyfer etholiadau'r Senedd ac etholiadau lleol yng Nghymru, ond bydd hyn yn dal i effeithio ar bleidleiswyr Cymru yn ystod yr etholiad cyffredinol nesaf. Felly, a gaf fi ofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog pobl yng Nghymru i gofrestru i bleidleisio, ac yn dilyn yr etholiadau lleol yn Lloegr, pa sylwadau rydych wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU yn galw am dro pedol ar ddull adnabod i bleidleiswyr? A chredaf fod Rees-Mogg wedi dweud bod ad-drefnu tueddol y Llywodraeth Dorïaidd wedi cael effaith negyddol arnynt eu hunain mewn gwirionedd.

Diolch am eich cwestiwn. Os caf wneud un pwynt, wrth gwrs, pleidleisiodd y nifer uchaf erioed yn etholiadau’r Senedd yn 2021, gyda’r etholfraint ehangach o bleidleiswyr cymwys. Fodd bynnag, nid yw'n ddigon uchel o hyd, ac mae gwaith pwysig i'w wneud o hyd yn fy marn i, ar draws yr holl etholiadau a gynhelir ledled Cymru a ledled y DU, gan fod cyfranogiad yn allweddol i sefydlogrwydd a chryfder ein democratiaeth. Mae gennym grant ymgysylltu â democratiaeth o £300,000 y flwyddyn, y mae £260,000 ohono wedi’i ddyrannu ar gyfer 2023-24 i 12 i brosiectau gwahanol gyda'r nod o ymgysylltu â chymunedau a’u cefnogi i ddod yn ddinasyddion gweithredol.

Rwyf wedi gwneud y pwynt yn glir iawn yn y gorffennol ynghylch gwrthwynebiad Llywodraeth Cymru i ddulliau adnabod pleidleiswyr a'r rhesymau dros hynny. Maent yn hysbys, mae pobl yn eu deall. Yr amcangyfrif a welwn yw bod oddeutu 9,000 o bobl wedi eu gwrthod yn ystod etholiadau llywodraeth leol Lloegr. Ond mae yna waith ar y gweill. Mynychais grŵp rhyngweinidogol ar etholiadau yn ddiweddar. Un o ddibenion y grŵp hwnnw yw edrych ar y buddiant cyffredin sydd gan bob un ohonom mewn rheoli etholiadau, er bod gwahanol safbwyntiau'n bodoli. Felly, roedd yn gyfarfod cadarnhaol iawn i'r diben hwnnw, ac rydym yn cydnabod y gwahaniaeth barn sydd gennym. Mae Llywodraeth y DU yn cynnal ei hasesiad ei hun o effaith dulliau adnabod pleidleiswyr, felly rydym yn aros am hynny. Rydym hefyd yn aros am waith y Comisiwn Etholiadol, a fydd yn cyhoeddi eu canfyddiadau cychwynnol yn ddiweddarach y mis hwn, a byddwn yn asesu effaith hynny ymhellach wedyn.

Diolch i’r Cwnsler Cyffredinol am ei gydnabyddiaeth o rai o’r pryderon ynghylch y nifer sy’n pleidleisio yn etholiadau’r Senedd. Yn wir, fel y gŵyr y Cwnsler Cyffredinol, yn etholiad cyffredinol diwethaf y DU, y ganran a bleidleisiodd yng Nghymru oedd 66.6 y cant, ac yn etholiad diwethaf y Senedd, y ganran a bleidleisiodd oedd 46.6 y cant—20 pwynt canran yn is mewn etholiadau ar gyfer y lle hwn nag ar gyfer Senedd y DU. Mae'n rhaid imi ddweud, teimlwn fod awgrym Carolyn Thomas yn un dewr, fod sylwadau a wnaed o'r lle hwn neu gan Lywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU ynghylch cyngor ar etholiadau, efallai, pan fo'r nifer sy'n pleidleisio 20 y cant yn uwch yn yr etholiadau ar gyfer y lle hwnnw nag yn yr etholiadau ar gyfer y lle hwn. Rwy'n cytuno â’r Cwnsler Cyffredinol ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn gweld nifer uwch yn pleidleisio mewn etholiadau ar gyfer y lle hwn, gan mai dyna sy’n rhoi cyfiawnhad, nid yn unig i'r Llywodraeth yma, ond i ni fel seneddwyr yn Senedd Cymru.

Felly, Gwnsler Cyffredinol, fe wnaethoch sylwadau ar rai o’r camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau'r ymgysylltiad cynyddol hwnnw yn etholiadau’r Senedd. A wnewch chi nodi pa weithred unigol, yn eich barn chi, a allai wneud y gwahaniaeth mwyaf i'r nifer sy'n pleidleisio?

14:55

Credaf fod y gwahaniaeth mwyaf yn y cynnydd a gofrestrodd. Gwelodd y rhai a fanteisiodd ar y cynnig o gefnogaeth i swyddogion cymorth cofrestru etholiadol gynnydd sylweddol, bron yn ddiwahân, yn nifer y cofrestriadau. Credaf fod hynny’n bwysig; ni chafodd y rhai na wnaeth hynny y budd a ddaeth yn sgil hynny. Credaf fod hynny’n arwyddocaol.

Credaf mai'r hyn sy'n bwysicach, yn ôl pob tebyg, yw ein bod, wrth gwrs, yn edrych ar fater diwygio etholiadol a materion fel cofrestru awtomatig, ac wrth gwrs, fe fyddwch yn ymwybodol o'r mathau o ymgynghoriadau ynghylch y diwygiadau penodol hynny. Credaf fod nifer o bethau’n bwysig. Er bod cofrestru awtomatig yn sicrhau nad yw hynny'n gorfodi pobl i bleidleisio, mae'n golygu bod rhwymedigaeth felly ar y pleidiau gwleidyddol a’r sefydliadau democrataidd ledled Cymru i roi cymhelliad i bobl bleidleisio. Mae'n rhaid imi ddweud, fy marn bersonol i yw nad wyf yn credu bod y system bleidleisio sydd gennym, system bleidleisio'r cyntaf i'r felin, yn creu hinsawdd lle gall pobl deimlo bod pob pleidlais yn ddefnyddiol. Felly, mae llawer o waith i'w wneud, ond credaf fod llawer o'r gwaith hwnnw'n dibynnu arnom ni fel gwleidyddion a'n pleidiau gwleidyddol i ddangos bod pleidleisio'n gwneud gwahaniaeth yn y ffordd rydym yn ymgysylltu â phobl, yn enwedig y rhai sy'n teimlo eu bod wedi eu datgysylltu oddi wrth hynny.

Diwygio'r Senedd

5. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion ac amserlen Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio'r Senedd? OQ59679

Diolch am eich cwestiwn. Rydym yn parhau i wneud cynnydd da ar drosi argymhellion y pwyllgor diben arbennig ar ddiwygio’r Senedd yn ddarpariaethau deddfwriaethol. Fel rhan o’r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, edrychaf ymlaen at gyflwyno deddfwriaeth gyda'r bwriad o weld newidiadau'n dod i rym ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2026.

Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Mae atebolrwydd yn bwysig iawn, ac ym mis Chwefror 2023, fe wnaeth y Prif Weinidog gamarwain y Senedd pan honnodd ei fod ef ac eraill wedi cael eu cynghori gan yr archwilydd cyffredinol i dynnu bwrdd Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig cyn etholiadau’r Senedd yn 2021. Ymddengys nad oedd hyn yn wir; fe gamarweiniodd y Senedd.

Yr wythnos diwethaf, dywedodd y Gweinidog iechyd wrth y Senedd fod cyfrifwyr fforensig o ymgynghoriaeth Ernst & Young wedi cael cais i edrych ar gyfrifon y corff ar gyngor Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, dywedodd dau uwch swyddog o un o gyrff y GIG wrth y BBC nad oedd gan Lywodraeth Cymru ran yn y mater, gyda’r Gweinidog iechyd yn cyfaddef yn ddiweddarach na chafwyd sgwrs uniongyrchol ar y mater: fe wnaeth hi gamarwain y Senedd. Pan fydd Gweinidogion yn camarwain gwleidyddion mewn seneddau eraill, mae’r meinciau Llafur yma yn ei alw’n warth, yn llygredigaeth, ac y dylai’r bobl hynny gael eu diswyddo. Felly, wrth ddiwygio’r Senedd, mae’n bwysig inni edrych yn ôl ar sicrhau ein bod yn gwella tryloywder ac atebolrwydd. Felly, Gwnsler Cyffredinol, a wnaiff Llywodraeth Lafur Cymru gefnogi ymdrech i sefydlu pwyllgor breintiau yn y Senedd fel bod y rhai sy’n camarwain, yn llesteirio, neu'n atal gwaith y Senedd yn cael eu dwyn i gyfrif am eu gweithredoedd, ac yn cael cosb fesuradwy?

Wel, a gaf fi ddweud yn gyntaf nad yw'n ymddangos i mi fod y cwestiwn atodol yn ymwneud â mater diwygio'r Senedd mewn gwirionedd? A gaf fi ddweud, ar y pwynt a godwyd gennych ynglŷn â phwyllgor breintiau, mai mater i’r Senedd yw hwnnw? Nid yw’n fater i’r Llywodraeth; nid yw’n fater i mi o ran fy nghyfrifoldebau i. Ac a gaf fi ddweud pa mor siomedig oedd gweld, yn San Steffan, adroddiad pwysig gan y pwyllgor breintiau yno, faint—[Torri ar draws.]—faint o'r—[Torri ar draws.]—faint o'r Aelodau Seneddol Ceidwadol a wrthododd gymryd rhan yn hynny? Ond nid mater i mi yw hwn, nid yw'n fater i Lywodraeth Cymru; mae’n fater i’w godi fel mater o bolisi’r Senedd. Nid yw'n iawn i'r Llywodraeth fod yn sefydlu'r rhain; mater i'r Senedd ei hun yw gwneud hynny.

15:00

Fe gymeraf y pwynt o drefn ar ddiwedd cwestiynau'r Cwnsler Cyffredinol. 

Cwestiwn 6. John Griffiths.

Trefniadau Gweithio

6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd y trefniadau gweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU? OQ59718

Diolch am eich cwestiwn. Mae'r adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol yn darparu sylfaen gadarn i gefnogi gweithio rhynglywodraethol, ond mae ei effaith yn parhau i gael ei thanseilio gan ddiffyg parch Llywodraeth y DU tuag at yr egwyddorion a'r dull gweithredu a nodir yn yr adolygiad ac at ddatganoli yn ehangach.

Gwnsler Cyffredinol, ddiwedd y llynedd, dywedodd Prif Weinidog Cymru fod Llywodraethau'r DU wedi dilyn Confensiwn Sewel ers bron i 20 mlynedd er mwyn sicrhau nad yw cynigion deddfwriaethol Llywodraeth y DU a allai ymyrryd mewn meysydd datganoledig yng Nghymru ond yn bwrw ymlaen gyda chydsyniad y Senedd, ond nid yw Llywodraethau Torïaidd diweddar y DU wedi parchu'r confensiwn ac mae hyn yn golygu bod y setliad datganoli mewn 'lle anodd iawn'. Gwnsler Cyffredinol, yng ngoleuni'r sylwadau hynny gan y Prif Weinidog a phwysigrwydd y materion hyn i ddyfodol cyfansoddiadol Cymru a'r DU, beth yw eich asesiad cyfredol o'r sefyllfa o dan Lywodraeth bresennol y DU?

Wel, a gaf fi ddweud mai dim ond yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf y gwelsom yr hyn sy'n gyfres fawr o enghreifftiau o dorri confensiwn Sewel? Awgrymir o bryd i'w gilydd, wrth gwrs, mai dim ond materion cyfansoddiadol yn gysylltiedig â Brexit yw'r rhain i gyd, ond yn amlwg nid yw hynny'n wir, fel y gwelsom yn ddiweddar gyda'r Bil ffyniant bro, fel y gwelsom gyda'r Bil Ynni a nifer o ddeddfau eraill.

Confensiwn Sewel yw'r olew yn yr injan gyfansoddiadol mewn gwirionedd; dyna sy'n galluogi'r Llywodraethau i gydweithio â hyder ac ymddiriedaeth. Felly, mae'r toriadau'n rhywbeth rwyf wedi'i godi ar bob cyfle ar y lefel ryngweinidogol, a rhywbeth y mae'r Prif Weinidog wedi'i godi, a Gweinidogion eraill. Rydym yn ei godi'n gyson mewn perthynas â deddfwriaeth Llywodraeth y DU sy'n dod drwodd, lle mae angen cydsyniad deddfwriaethol.

I mi, yr her go iawn yw bod angen ailddiffinio Sewel; mae angen ei godio ac mae angen rhyw fath o draddodadwyedd, a dyna pam rwy'n croesawu'r argymhellion a nodwyd yn adroddiad Gordon Brown, y bydd y Llywodraeth Lafur nesaf yn cyflwyno diwygiadau a fydd yn galw am derfyn cyfansoddiadol i Senedd y DU allu diystyru deddfwriaeth ddatganoledig, neu dorri confensiwn Sewel yn y bôn. Rwy'n credu y byddai rhyw gam i'r cyfeiriad hwnnw yn gam sylweddol ymlaen. Rwy'n credu ei bod yn debygol y bydd angen ffordd fwy meddylgar a mwy hirdymor, yn y pen draw, o adfer y berthynas rhwng pedair gwlad y DU a natur cysylltiadau rhynglywodraethol.

Mae gennym strwythur a allai weithio, ond mae'n strwythur sy'n ddibynnol i raddau helaeth ar ymddiriedaeth ac ewyllys da. Yn anffodus, gyda Llywodraeth y DU, yn y meysydd hyn ar hyn o bryd, mae ymddiriedaeth ac ewyllys da yn bethau prin iawn. 

Systemau Adnabod Pleidleiswyr a Systemau Cofrestru

7. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith y caiff y gwahaniaeth rhwng systemau adnabod pleidleiswyr a systemau cofrestru yn etholiadau cyffredinol y DU ac etholiadau yng Nghymru ar ymddygiad pleidleiswyr? OQ59690

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i bleidleisio cynhwysol a hygyrch yn etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol, ac mae eisiau annog cyfranogiad yn hytrach na'i gyfyngu. Dyna pam nad ydym yn cefnogi dull adnabod pleidleiswyr a pham ein bod eisiau cyflwyno cofrestru awtomatig ar gyfer pob etholwr llywodraeth leol yng Nghymru.

Wel, mae'r pleidleiswyr yng Nghymru yn graff iawn ac yn ddeallus iawn yn eu dewisiadau bob amser, a byddant yn gallu dod o hyd i ffordd drwy'r sefyllfa ddryslyd hon. Ond mae perygl gwirioneddol o ddryswch wrth iddynt symud o etholiad cyffredinol ar lefel y DU, lle mae'r holl dystiolaeth yn dangos yn glir fod pleidleiswyr wedi'u hatal—roedd yna fathau o ddulliau adnabod pleidleiswyr nad oedd modd eu defnyddio, gan gynnwys, mae'n rhaid imi ddweud, llun adnabod y GIG nad oedd modd ei ddefnyddio neu lun adnabod pobl ifanc nad oedd modd ei defnyddio—a dull Cymreig o bleidleisio mewn etholiadau lleol ac etholiadau'r Senedd sydd wedi'i gynllunio i ymestyn yr etholfraint a sicrhau ei bod ar gael yn ehangach i bobl, gan barhau i gynnal diogelwch ein hetholiadau. Felly, rwy'n deall, Gwnsler Cyffredinol, y bydd adolygiad yn cael ei gynnal nawr ar lefel y DU o sut aeth pethau. Wel, rwy'n credu bod pawb a gafodd wybod, gan gynnwys aseswyr annibynnol yr etholiad, wedi datgan eu barn yn glir yn barod: cafodd y bleidlais ei hatal, cafodd pobl eu troi ymaith; aeth pobl i bleidleisio ac ni chawsant eu gadael i mewn. Felly, a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno ei barn ei hun iddynt, naill ai yn ei chyfarfodydd rhyngweinidogol neu'n rhan o'r adolygiad hwnnw, mai'r ffordd i osgoi dryswch i bleidleiswyr mewn gwirionedd yw cael gwared ar yr hyn y maent yn ei wneud yn y DU a dilyn esiampl Cymru?

15:05

A gaf fi ddiolch i chi? A'r pwynt rydych chi'n ei wneud, wrth gwrs, yw bod yr agweddau hynny ar Ddeddf Etholiadau Llywodraeth y DU 2022 yn enghraifft arall o Lywodraeth y DU yn dargyfeirio o'r consensws blaenorol ynghylch fformat etholiadau. Mae wedi arwain at ddargyfeirio, oherwydd, yn amlwg, nid oedd yr Alban a Chymru yn barod i gyd-fynd â'r newidiadau penodol hynny, gan fod ganddynt gyfeiriad gwahanol. Byddwn yn dweud bod ein dull gweithredu yng Nghymru yn un sy'n ceisio moderneiddio'r system etholiadol, i ddefnyddio technoleg a'r gallu i sicrhau cymaint â phosibl o gynhwysiant a hygyrchedd.

Ond a gaf fi ddweud, i gyfeirio, fel y gwneuthum yn gynharach, at gyfarfod y grŵp rhyngweinidogol a gynhaliwyd heb fod yn hir yn ôl—y cyntaf o'r rhain ar etholiadau—fod trafodaeth onest iawn wedi bod rhwng yr holl bleidiau am y gwahaniaethau sydd gennym? Rydym yn cydnabod bod y gwahaniaethau hynny yno. Rwy'n credu bod cred gyffredin fod yn rhaid inni wneud i'r system weithio i bawb, na allwn ganiatáu i newid mewn un etholiad gael effaith andwyol ar y lleill, a bod yn rhaid inni edrych ar y ffyrdd y mae ein systemau'n gweithredu gyda'n gilydd, y ffordd rydym yn osgoi dryswch, ac mae hynny'n dibynnu, i raddau, rwy'n credu, ar y math o gyfathrebu, a'r esboniadau, sydd gennym pan fo etholiadau'n digwydd mewn gwirionedd. Felly, mae gwaith pellach yn cael ei wneud ar hynny.

Byddwn yn ystyried adolygiad Llywodraeth y DU ei hun yn ofalus iawn, ac yn wir, adolygiadau'r Comisiwn Etholiadol, pan fyddant yn cael eu cynnal, ac yn sicr bydd trafodaethau pellach yn y Siambr hon ar y materion hyn hefyd. Oherwydd mae diwygio'n anochel o fewn ein system yng Nghymru; rydym am fwrw ymlaen â moderneiddio, cynwysoldeb a hygyrchedd, ond mae'n rhaid inni sicrhau ein bod hefyd yn cydweithio â Llywodraeth y DU i sicrhau bod y meysydd cyffredin hynny sydd gennym o ran gweinyddu etholiadau yn gweithio er budd pawb.

Trefniadau Awdurdodaeth

8. Pa ystyriaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i rhoi i'r angen am gywirdeb ac eglurder yn y termau a ddefnyddir i ddisgrifio trefniadau awdurdodaeth yn y dyfodol? OQ59681

Diolch am eich cwestiwn. Mae cywirdeb ac eglurder yn hanfodol i bob agwedd ar y gyfraith, gan gynnwys trefniadau awdurdodaethol yn y dyfodol. Nid yw terminoleg gyfredol awdurdodaeth Cymru a Lloegr yn adlewyrchu'r realiti fod y gyfraith yma, yn amlwg, yn wahanol.

Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol. Fel y nodwyd gennych, mae ansicrwydd bob amser yn beth drwg o fewn system gyfiawnder, ac fel y nodwyd gan Mark Isherwood yn gynharach yn y sesiwn gwestiynau hon, bydd unrhyw awgrym o ddatganoli cyfiawnder yn peri pryder i rai o fewn proffesiwn y gyfraith yng Nghymru a Lloegr. Mae'n bwysig iawn, felly, ein bod yn glir ac yn gywir yn y termau a ddefnyddir pan fyddwn yn trafod unrhyw drefniadau awdurdodaethol yn y dyfodol. Pa drafodaethau rydych chi'n eu cael felly, Gwnsler Cyffredinol, gyda'r proffesiynau cyfreithiol, ac ysgolion y gyfraith hefyd, i wneud yn siŵr fod Cymru'n parhau i fod yn lle deniadol i ymarfer y gyfraith?

Diolch am y sylwadau pwysig hynny. A gaf fi ddweud, rwyf wedi bod yn cael llawer o drafodaethau mewn llawer o fforymau cyfreithiol ym meysydd cyfiawnder, cyfiawnder cymdeithasol, hygyrchedd a datganoli cyfiawnder? Mae mater awdurdodaeth yn un sy'n codi'n aml, ac wrth gwrs, fel y gwyddoch, cafodd y mater hwn ei godi a'i nodi ar ffurf ddrafft, mewn gwirionedd, yn y Bil Llywodraeth a Chyfreithiau yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2017, a oedd yn ymwneud â'r eglurhad. Nid oedd yn ymwneud â datganoli cyfiawnder mewn gwirionedd, roedd yn ymwneud yn unig â sefydlu cydnabyddiaeth o'r awdurdodaethau cyfreithiol sy'n bodoli'n ymarferol, neu'n bodoli mewn realiti, er nad yw arferion a phrosesau a gweithrediad gweinyddiaeth y gyfraith o reidrwydd yn adlewyrchu hynny.

A gaf fi ddweud hefyd fy mod wedi bod yn ymwneud â Chymdeithas y Gyfraith, ac mae wedi bod yn ymwneud cadarnhaol ac adeiladol iawn? Ac rwy'n croesawu gwaith diweddar Cymdeithas y Gyfraith ar y mater hwn, ac roeddwn yn falch o nodi eu bod yn cymeradwyo papur 'Awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân ar gyfer Cymru' yr wythnos diwethaf. Felly, o fewn y proffesiynau cyfreithiol, rwy'n credu bod cydnabyddiaeth gynyddol o hynny a phwysigrwydd hynny. Mae hefyd, fodd bynnag, yr un mor bwysig o ran yr hyfforddiant ac o ran ysgolion y gyfraith. Wrth gwrs, nid yw pawb yn dod i mewn i'r proffesiwn drwy ysgolion y gyfraith, ond rydym yn falch iawn, er enghraifft, o waith yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr a'r gofyniad penodol i fyfyrwyr orfod dysgu am gyfraith Cymru. Ac wrth gwrs, dylent orfod gwneud hynny, yn union fel y dylai myfyriwr y gyfraith yng Nghymru orfod dysgu am gyfraith Lloegr, ac mewn gwirionedd, mae'n ofynnol iddynt ddysgu am gyfraith Lloegr. 

Felly, fel y dywedais yn gynharach, mewn rhai o'r cwestiynau cynharach, nid yw'r rhain yn bethau cymhleth nac anodd eu deall. Wedi inni gydnabod y ffaith, gyda phedair Senedd, fod pedair awdurdodaeth yn cael ei chreu i bob pwrpas, efallai fod yr awdurdodaethau hynny'n gorgyffwrdd a bod yna gyffredinedd. Mae'n bosibl y bydd rhwystrau mewn rhai meysydd, ond rhwng Cymru a Lloegr, nid ydym yn gweld yr angen am unrhyw rwystrau. Ond rydych chi'n llygad eich lle: rwy'n credu mai addysg, hyfforddiant ac eglurder yw'r tair elfen allweddol. 

15:10

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol. Pwynt o drefn, a galwaf ar Alun Davies i godi'r pwynt o drefn. 

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Yn ystod y cwestiynau, fe wnaeth yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed nifer o honiadau difrifol yn erbyn Gweinidogion, gan ddweud bod y Gweinidog iechyd a'r Prif Weinidog wedi camarwain y Siambr hon yn fwriadol. Roeddwn yn sicr yn bresennol yn y Siambr pan gododd prif chwip y Ceidwadwyr rai materion gyda'r Gweinidog iechyd, ac yna fe gywirodd y cofnod. Rwy'n credu bod y Prif Weinidog hefyd wedi egluro sylwadau a wnaeth yma lle bu rhyw anghydfod, ond rwy'n cydnabod bod rhai o'i sylwadau'n parhau i gael eu herio gan eraill. Ond mae'n annerbyniol, wrth gwrs, pan fo Aelod yn sôn am gamarwain y Siambr ei fod yntau ei hun yn camarwain y Siambr. 

Diolch i chi am y pwynt o drefn hwnnw ac fe fyddaf yn ystyried y cyfraniad a gofnodwyd, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelod hefyd yn ystyried y cyfraniad a gofnodwyd. A bydd y ddau ohonom yn ystyried cywirdeb y digwyddiadau a nodwyd yn y cyfraniad hwnnw, a byddaf yn edrych yn ofalus ar hynny. 

4. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Eitem 4 y prynhawn yma yw cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Ac, yn gyntaf, Heledd Fychan. 

Yr Anghydfod Llafur gydag Undeb y PCS

1. Pa gamau y mae'r Comisiwn wedi'u cymryd i ddatrys yr anghydfod llafur gydag undeb y PCS? OQ59703

Mae undeb y PCS ar hyn o bryd yn gweithredu’n ddiwydiannol mewn perthynas â’u hawliad cyflog i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae’r hawliad cyflog yn ymestyn i gynllun pensiwn gwasanaeth sifil y Deyrnas Unedig, i gytundeb sicrwydd swydd arfaethedig ac i delerau cynllun iawndal gwasanaeth sifil y Deyrnas Unedig. Er bod aelodau PCS y Comisiwn wedi pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol, mae’r sail dros y gweithredu hwn yn ymwneud yn gyfan gwbl â chynlluniau gwasanaeth sifil y Deyrnas Unedig, sef materion sydd y tu hwnt i gylch gwaith y Comisiwn. 

Diolch i chi, Llywydd, ac mi wnaethoch chi ymateb ar 25 Ionawr hefyd yn cadarnhau does yna ddim anghytundeb penodol gyda staff yma'n lleol, felly dwi yn deall o ran yr elfen efo'r Deyrnas Unedig. 

Ond rwy'n deall, ers hynny, fod undeb y gwasanaethau cyhoeddus a masnachol wedi ysgrifennu atoch yn nodi sut mae hwn yn fater y mae gan y Comisiynwyr rywfaint o reolaeth leol drosto, ond hefyd sut y dylai'r Comisiwn, fel cyflogwr gwasanaeth cyhoeddus, fod yn defnyddio ei bŵer bargeinio gyda Swyddfa'r Cabinet i ddatrys y materion hyn, nid yn unig ar gyfer y staff sy'n ein cefnogi yn y lle hwn, ond ar gyfer y gwasanaethau sifil a chyhoeddus ehangach. A wnewch chi ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sut mae Comisiynwyr wedi cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i geisio datrys materion ehangach yr anghydfod? A pha fesurau lliniaru lleol sydd wedi'u rhoi ar waith i osgoi unrhyw gynnydd yn yr anghydfod a allai gael mwy o effaith ar fusnes y Senedd?  

Diolch am y cwestiwn atodol. Fe dderbyniwyd llythyr gan undeb PCS i'r perwyl rŷch chi'n ei gyflwyno fanna. Hyd yn hyn, dyw'r Comisiwn heb ymyrryd yn uniongyrchol â Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar y mater yma. Fy marn i ar y cyfan yw taw mater i'r pleidiau gwleidyddol yn y lle yma sydd â chynrychiolwyr ar y Comisiwn yw i ddwyn pwysau, os ydyn nhw yn credu yn hynny fel pleidiau gwleidyddol, ar y materion yma drwy'r ffyrdd sydd yn berthnasol iddyn nhw. Nid mater i'r Comisiwn yw ymyrryd yn uniongyrchol gyda Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Dim ond i ychwanegu unwaith eto, felly, taw anghydfod gyda Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yw'r anghydfod yma gyda PCS. Mae ein cydweithredu ni, gobeithio, fel Comisiwn, gydag undeb y PCS a gyda'n staff ni yn gyffredinol yn un sydd yn gweithio mewn ffordd barchus ac mewn ffordd sydd yn gallu adweithio i'r sefyllfa ariannol bresennol mae nifer o'n gweithwyr ni yn ffeindio eu hunain ynddi. Ac, wrth gwrs, rŷn ni wedi ymateb yn hynny o beth drwy ddarparu rhywfaint o gefnogaeth i'r gweithwyr hynny drwy daliad uniongyrchol yn ystod y flwyddyn ariannol diwethaf, a drwy ystod o fesurau sydd ar gael i'n gweithwyr ni sydd yn wynebu problemau difrifol yn eu bywydau bob dydd oherwydd yr argyfwng costau byw.

15:15

Rwy'n cadeirio grŵp trawsbleidiol undeb y gwasanaethau cyhoeddus a masnachol yn y Senedd. Mae'r Senedd yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn gyflogwr da, a hynny am reswm da, ac rwy'n siŵr fod y rhan fwyaf o'r Aelodau, os nad pob Aelod yma, yn falch iawn ein bod yn ystyried ein hunain, ac yn cael ein hystyried gan eraill, yn gyflogwr da iawn. Hoffwn gysylltu fy hun â'r cwestiynau a godwyd gan Heledd Fychan, ac fe fyddwch yn ddiolchgar na fyddaf yn eu hailadrodd. Yr hyn rwyf am ei ofyn, fodd bynnag, yw pa drafodaethau a gafodd y Comisiwn gyda PCS i drafod pryderon PCS ac i weithio tuag at ddatrys yr anghydfod hwn.

Wel, nid wyf yn gyfarwydd â'r trafodaethau hynny fel cadeirydd y Comisiwn. Maent yn cael eu cynnal gan y staff sy'n gyfrifol o fewn y Comisiwn am gynnal trafodaethau ar unrhyw fater y mae PCS yn ei gyflwyno fel undeb llafur o fewn ein strwythurau yma, i drafod yr anghydfod presennol, ie, ond hefyd sut rydym yn paratoi ein hunain ar gyfer trafodaethau pellach yn y dyfodol ar gyflog a thelerau ac amodau i'n staff yma. I ailadrodd y pwynt y mae Heledd Fychan a Mike Hedges wedi'i wneud, cawn ein gwasanaethu yn y lle hwn gan staff rhagorol sy'n mynd y tu hwnt i'r disgwyl yn aml, yn enwedig yn ystod y cyfnodau arbennig o heriol a gawsom. Rydym yn gobeithio y gallwn ymateb i anghenion ein staff pan fyddant yn codi, ac y gallwn wneud hynny mewn ffordd barchus gyda'n partneriaid undebau llafur yn enwedig.

Y Bwrdd Taliadau Annibynnol

2. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Comisiwn wedi'u cael gyda bwrdd taliadau annibynnol y Senedd? OQ59697

Mae’r Comisiynwyr wedi cael dau lythyr gan y bwrdd taliadau annibynnol yn ddiweddar. Roedd y llythyr cyntaf yn tynnu sylw at ymgynghoriad cyfredol y bwrdd ynghylch newidiadau arfaethedig i’r penderfyniad ar gyflogau a lwfansau'r Aelodau ar gyfer 2023-24. Cytunodd y Comisiwn i ymateb i’r ymgynghoriad i dynnu sylw at y goblygiadau i broses gyllidebu’r Comisiwn. Roedd yr ail lythyr yn nodi cais gan y bwrdd i gyfrannu at ddeialog gyda’r Comisiwn ynghylch sut y caiff cymorth ei ddarparu i’r Aelodau yn y dyfodol i gyflawni’u dyletswyddau drwy wasanaethau’r Comisiwn a phenderfyniad y bwrdd.

Trafododd y Comisiynwyr arwyddocâd gwarchod uniondeb y ddau gorff, gan bwysleisio pwysigrwydd peidio â chreu dryswch ynglŷn â’u rolau perthynol a gwarchod y rhaniad rhwng y ddau gorff.

Diolch am yr ateb hwnnw, Lywydd. Yn fy marn i, nid yw'r bwrdd taliadau'n addas i'r diben, ac a dweud y gwir nid oes iddo le yn y sefydliad hwn mwyach. Nid yw'r bwrdd taliadau yn atebol i unrhyw un, sy'n golygu y gallant wneud fel y mynnant heb fod yn ddarostyngedig i graffu priodol. Nid yw'r bwrdd yn gweithredu mewn modd teg ac mae rhestr hir o resymau pam fy mod yn ei wrthwynebu'n llwyr, ond nid oes gennyf ddigon o amser i fynd trwy bob un ohonynt heddiw. Rwy'n credu'n gryf y dylai'r bwrdd taliadau gael ei ddiddymu ac y dylid sefydlu corff arall yn ei le. Er enghraifft, mae gan Senedd y DU yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol ar waith, ac yn seiliedig ar sgyrsiau a gefais gyda seneddwyr o bob plaid wahanol yma, maent wedi cael derbyniad eithaf da. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod a fydd y Comisiwn yn ystyried disodli'r bwrdd taliadau yn y dyfodol o bosibl, ac a oes unrhyw drafodaethau wedi bod ynglŷn â hyn, oherwydd yn sicr mae diffyg atebolrwydd y bwrdd i unrhyw un neu unrhyw beth yn annemocrataidd ac yn codi cwestiynau difrifol yn Senedd Cymru wrth symud ymlaen.

Rwy'n gwybod nad oeddech chi yma yn 2010, Natasha Asghar. Roedd rhai ohonom yma pan wnaethom basio Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010, a sefydlodd annibyniaeth y bwrdd rhag unrhyw ddylanwad gan y Senedd neu Gomisiwn y Senedd wrth arfer ei swyddogaethau. Roeddwn i yma cyn 2010, ac arweiniodd diffyg annibyniaeth Aelodau'r Senedd yma ar y pryd rhag gwneud penderfyniadau ar ein cyflogau ein hunain a'r adnoddau a oedd ar gael i ni at sefyllfaoedd anodd iawn o ran ein hatebolrwydd ein hunain i'n hetholwyr. Hoffwn annog yr Aelod i fod yn ofalus am yr hyn rydych yn ei ddymuno yma. Mae'r annibyniaeth rhwng y bwrdd taliadau a ni fel Senedd yn rhywbeth i'w warchod. Nid ydym eisiau dychwelyd i sefyllfa lle mae'r Aelodau yma'n pleidleisio ar ein cyflogau ein hunain ac yn gyfrifol am benderfyniadau sy'n rhoi adnoddau at ein defnydd neu beidio.

Mae'n ymddangos bod eich sgyrsiau gydag Aelodau Seneddol am yr hyn sydd ar waith mewn Seneddau eraill yn groes i rai o'r sgyrsiau rwy'n eu cael gydag Aelodau Seneddol ynglŷn â sut y cânt eu gwasanaethu hefyd. Felly, o ran yr annibyniaeth, a'r ffaith bod y bwrdd taliadau'n gorff statudol, nid oes angen imi ddweud wrth Aelod yn y lle hwn beth fyddai hynny'n ei olygu. Byddai angen deddfwriaeth newydd arnom. Nid mater i ni yn unig yw codi a dweud nad yw'n addas i'r diben; byddai angen deddfwriaeth newydd arnom pe bai hynny'n digwydd.

Yr hyn y byddwn yn ei ddweud, serch hynny, mewn ffordd fwy adeiladol, yw bod y materion hyn—deddfwriaeth newydd hyd yn oed—bob amser yn agored i gael y ddadl honno. Yng nghyd-destun diwygio'r Senedd, ac wrth inni baratoi ar gyfer 2026 a thu hwnt, rwy'n credu ei bod yn iawn cael trafodaeth ehangach am y rolau a'r cyfrifoldebau y gall y Senedd a chorff fel y bwrdd taliadau eu cael yn y dyfodol. Felly, yn hynny o beth, yn fwy hirdymor, rwy'n credu y byddai'r sgwrs honno'n cael ei chroesawu, hyd yn oed gan y bwrdd taliadau ei hun yn ogystal â'r Senedd.

15:20
Ymgysylltiad y Senedd â'r Cyhoedd

3. Pa gamau y bydd y Comisiwn yn eu cymryd i wella ymgysylltiad y Senedd â'r cyhoedd yng Nghymru? OQ59698

Mae ymgysylltu â phobl Cymru yn un o dair blaenoriaeth strategol y Comisiwn. Rydym wedi sefydlu systemau newydd ar gyfer mesur cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith ar wella dealltwriaeth y cyhoedd o’r Senedd. Ddwy flynedd yn ôl, fe wnaethom gomisiynu'r Athro Diana Stirbu o Brifysgol Fetropolitan Llundain i gynnal asesiad allanol o sut rydym yn ymgysylltu â’r cyhoedd. Rydym nawr yn rhoi ei hargymhellion ar waith. Mae hyn yn cynnwys datblygu dulliau ymgysylltu ar-lein newydd i alluogi’r cyhoedd i gyfrannu at ymchwiliadau pwyllgorau’r Senedd mewn ffyrdd newydd gan ddefnyddio dulliau digidol yn arbennig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n credu bod y sesiwn ar y cyd a gynhaliwyd yn gynharach rhwng y Senedd a Senedd Ieuenctid Cymru yn arddangosiad pwerus iawn o ba mor ddiddorol, pwysig a chalonogol yw hi i'r Senedd ymgysylltu â'n pobl ifanc. Rwy'n gwybod bod ein tîm addysg yn y Senedd yn gwneud gwaith gwych gydag ysgolion a cholegau ledled Cymru, gan gynyddu'r ymgysylltiad hwnnw, unwaith eto, rhwng democratiaeth Gymreig a'n pobl ifanc. Rwyf wedi mwynhau mynychu sesiynau yn Nwyrain Casnewydd, yn fwyaf diweddar yn Ysgol Gynradd Llyswyry. Lywydd, mae'n galonogol iawn clywed bod gwaith wedi digwydd, ac y bydd gwaith yn digwydd, i edrych ar sut rydym yn cynyddu ac yn cryfhau ein hymgysylltiad â'r cyhoedd yng Nghymru, ac rwy'n sicr yn credu bod unrhyw beth arall y gallwn ei wneud i ymgysylltu â'n pobl ifanc, yn ogystal â'r boblogaeth gyffredinol ledled Cymru, yn gwbl amhrisiadwy. Tybed a allech chi ddweud ychydig mwy am eich syniadau eich hun am y materion hyn. 

Diolch am yr holl sylwadau a arweiniodd at eich cwestiwn. Rwy'n credu bod y sesiwn gyda'n Senedd Ieuenctid y prynhawn yma yn brofiad calonogol, yn heriol i Lywodraeth Cymru a Gweinidogion, yn heriol i ni fel Aelodau hefyd i feddwl sut y gellir adlewyrchu blaenoriaethau ein Senedd Ieuenctid yn y gwaith a wnawn yn y Siambr hon ac yn ein pwyllgorau. Mae pobl ifanc Cymru, sy'n cael eu cynrychioli yn eu Senedd Ieuenctid, yn llais clir ac yn her i ni fel Aelodau.

Dylem adlewyrchu hynny yn y gwaith a wnawn, fel rydych wedi'i amlinellu yn eich etholaeth, ac fel rydym i gyd yn ei wneud yn ein hetholaethau, a chael cyswllt uniongyrchol â phobl ifanc yn eu hamgylchedd ysgol ac yn y gymuned ehangach. Mae hwnnw'n faes gwaith y mae angen inni barhau i'w wella'n uniongyrchol fel Senedd hefyd, a darparu cymaint ag sy'n bosibl o gyfleoedd gwych i bobl ifanc weld ein gwaith yn uniongyrchol yma yn y Senedd, ond mae angen inni hefyd allu cael cyswllt uniongyrchol â phobl ifanc yn eu cymunedau eu hunain drwy blatfformau digidol y dyddiau hyn.

Felly, fel rydych chi wedi herio, John, mae mwy i'w wneud; mae gwaith da eisoes ar y gweill, ond mae mwy i'w wneud bob amser, ac mae mwy o bobl ifanc i gael trafodaethau uniongyrchol â nhw. Ac fel pwynt rydych wedi'i wneud yn y gorffennol yn y Siambr hon, mae angen inni sicrhau fel Comisiwn ac fel Aelodau etholedig nad ydym bob amser yn mynd at yr un bobl ifanc; ein bod yn mynd at bobl ifanc wahanol yn hytrach na'r un rhai bob tro, neu o ysgolion, hyd yn oed, sy'n wahanol i'r rhai sydd â'r berthynas honno gyda ni, a'n bod yn parhau â'n hymdrechion i gyrraedd pob cymuned a phob person ifanc yng Nghymru.

15:25
Diwygio Etholiadol

4. Pa baratoadau sy'n cael eu gwneud gan y Comisiwn ar gyfer diwygio etholiadol y Senedd erbyn 2026? OQ59691

7. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei rôl o ran diwygio'r Senedd? OQ59696

Dirprwy Lywydd, dwi'n deall eich bod chi wedi cytuno i grwpio'r cwestiwn yma a chwestiwn Rhif 7 hefyd.

Mae Comisiwn y Senedd yn paratoi mewn pedair ffordd tuag at y gwaith yma. Yn gyntaf, mae’n paratoi i gefnogi gwaith craffu ar ddeddfwriaeth diwygio’r Senedd. Mae’n hanfodol bod y Senedd yn cael y cymorth fydd ei angen arni i wneud gwaith craffu trylwyr ar ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru ar ddiwygio’r Senedd, pan ddaw.

Yn ail, mae Comisiwn y Senedd, fel rhanddeiliad blaenllaw, yn paratoi i gynorthwyo’r Senedd a’i phwyllgorau wrth iddynt ystyried deddfwriaeth diwygio’r Senedd, er enghraifft, os bydd un o’r pwyllgorau’n gwahodd Comisiwn y Senedd i gyfrannu at ei waith sgrwtini ar unrhyw ddeddfwriaeth. Ar hyn o bryd, mae’r Comisiwn yn ymateb i geisiadau Llywodraeth Cymru am wybodaeth am amcangyfrif o’r costau i Gomisiwn y Senedd a allai ddeillio o ddeddfwriaeth diwygio’r Senedd. 

Ac yn drydydd, rhaid i’r Comisiwn baratoi ar gyfer y newid sy'n bosib hefyd. Heb achub y blaen ar benderfyniadau’r Senedd ynghylch diwygio’r Senedd, mae’r newid arfaethedig mor fawr fel y bu’n rhaid i Gomisiwn y Senedd fynd ati i baratoi ar gyfer y posibilrwydd mewn ffordd ddarbodus. 

Ac yn olaf, os bydd y Senedd yn deddfu ar ddiwygio’r Senedd, yna bydd angen i’r Comisiwn, mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, helpu i gyfleu unrhyw newidiadau etholiadol i’r cyhoedd yn glir cyn etholiad y Senedd yn 2026.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw, ac rwy'n falch iawn o weld bod paratoadau synhwyrol yn cael eu gwneud ar draws ystod o feysydd, oherwydd yn sicr, mae'n ymwneud â mwy na'r addasiadau ffisegol y bydd angen eu gwneud yn unig, o ran y gefnogaeth i Senedd fwy, o ran yr Aelodau a'r gefnogaeth sy'n aml yn anweledig i lawer o'r cyhoedd. Ond gallai hefyd fod yn agweddau sy'n ymwneud ag ailwampio mewnol pethau fel y Rheolau Sefydlog, y ffordd o wneud busnes, nifer y Comisiynwyr, ac ati, y ffordd rydym yn gweithredu yn Siambr y Senedd hon. Felly, rwy'n falch o weld hynny'n mynd rhagddo.

A fydd y Comisiwn hefyd yn rhoi ystyriaeth i sut y gwnawn hyn, fel rydym wedi ymdrechu'n galed iawn dros y blynyddoedd i'w wneud, gan ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio'n gryf ar werth am arian hefyd? Nid yw democratiaeth yn rhad ac am ddim; mae'n rhaid inni wario arian i sicrhau atebolrwydd da, tryloywder da a democratiaeth dda. Ond nid ydym eisiau gweld y gwariant gormodol a welsom mewn mannau eraill yn y DU, oherwydd, er ei bod yn hyfryd cael fy ngrwpio gyda Tom ar y cwestiwn hwn, efallai fod ganddo safbwynt gwahanol, a byddai'n dda gweld, er enghraifft, rhywfaint o'r arian sydd wedi cael ei wario ar ehangu'r ail siambr yn Senedd y DU yn cael ei gyfeirio atom ni, oherwydd gallem wneud llawer gyda'r arian hwnnw.

Fel yr amlinellais yn fy ateb gwreiddiol, ac fel y gwnaethoch chi ehangu arno yn eich cyfraniad, Huw Irranca-Davies, ceir cymaint o agweddau ar y gwaith hwn. Mae rhywfaint o'r gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd wrth baratoi ar gyfer ac wrth ymateb i'r cais gan Lywodraeth Cymru i ddarparu costau'r ddeddfwriaeth a fydd yn cael eu cyflwyno yn y ffordd arferol. Wrth inni symud i gyfnod craffu ar y ddeddfwriaeth hon, pan gaiff ei chyflwyno, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd yr Aelodau ar draws y rhaniadau gwleidyddol yma yn craffu'n fanwl ar y costau hynny a'r cyllid y bwriadwn neu yr argymhellwn ei wario ar ddiwygio'r Senedd .

Fel Cadeirydd y Comisiwn sydd hefyd yn Gardi, byddaf yn sicrhau hefyd fod y costau hynny'n darparu'r gwerth am arian i bobl Cymru y mae democratiaeth yn ei gwneud yn ofynnol inni ei wneud. Felly, mae hwn yn faes a fydd yn agored i bobl Cymru i wylio'r hyn a wnawn a'r hyn a benderfynwn, ac yn y cyd-destun hwnnw, rwy'n edrych ymlaen at gyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio'r Senedd. Mae'n teimlo braidd fel pe baem yn ymlid cysgodion ar hyn o bryd, ond rydym yn aros am y diwrnod pan welwn rywfaint o'r manylion mewn perthynas â hyn i gyd. Fe ddaw'r diwrnod hwnnw, ac fe fydd gan y Senedd hon ei safbwynt.

15:30

Lywydd, a gaf fi yn gyntaf fynd ar drywydd eich pwynt olaf ar gostau, i wybod pryd yn union y rhagwelwch y byddant ar gael, ac er tryloywder ac at ddibenion craffu, a fydd y costau hynny ar gael i holl Aelodau'r Senedd, a hefyd i gael dealltwriaeth o sut y gallai'r costau fod wedi'u cyfrif?

Ond y cwestiwn roeddwn i eisiau ei ofyn—. Cyfeiriodd Huw at y mwynhad a gefais ef a minnau yn eistedd ar y fainc hon gyda'n gilydd; rwyf wedi mwynhau'r ychydig fisoedd diwethaf yn eistedd yma ar fainc Llafur, yn enwedig y sgyrsiau niferus a gefais gyda fy ffrind Carolyn Thomas hefyd. Un o'r rhesymau pam rwy'n eistedd yma, yn amlwg, yw adeiladwaith ffisegol y Siambr hon. Fe fyddech chi wedi cael eich ethol yn y Senedd gyntaf un, a chredaf fod y Senedd bryd hynny i fod yn Senedd fodern iawn—mae adeiladwaith ffisegol yr adeilad hwn yn awgrymu hynny. Ond yn amlwg, yr hyn sydd i gyfrif am y rheswm ffisegol pam fod 15 sedd draw acw, er enghraifft, yw nifer y cyfrifiaduron sydd yn y Siambr hon. Felly, a wnaiff y Comisiwn ystyried a yw hynny'n dal i fod yn ofyniad modern? Mae llawer ohonom yn defnyddio gliniaduron ac iPads ac yn y blaen yn y Siambr hon i wneud peth o'r gwaith na fyddai wedi cael ei ragweld efallai pan gafodd y Senedd ei hun ei hadeiladu. Gallwch fynd â hynny allan o'r Siambr hon hefyd—pethau fel ystafell gynhadledd y wasg. Yn ystod fy nwy flynedd, nid wyf yn credu ein bod wedi cael cynhadledd i'r wasg. Felly, a fydd y Comisiwn yn edrych i weld a yw'r hyn a fwriadwyd efallai fel rhywbeth modern iawn pan agorwyd yr adeilad yn dal i fod fodern iawn ac yn flaengar heddiw, neu a fydd yn amgueddfa, os mynnwch, i ganol y 2000au?

Mae'r amgueddfa drws nesaf, yn Nhŷ Hywel. 

I ateb y cwestiwn byrfyfyr a ofynnwyd gennych ar y dechrau, wrth gwrs bydd costau'r ddeddfwriaeth yn destun craffu pan fydd y ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno gan Lywodraeth Cymru, a byddant yn mynd drwy'r prosesau craffu arferol yma yn y Senedd hon, fel y byddant mewn ymgynghoriad cyhoeddus hefyd, fel rhan o'r craffu deddfwriaethol. Mae gennym ddatganiad deddfwriaethol yr wythnos nesaf gan y Prif Weinidog. Pwy a ŵyr, efallai y cawn ni syniad bryd hynny pa bryd y gallwn ddisgwyl i Lywodraeth Cymru gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon.

Rwy'n cofio cyd-Aelod i mi, Steffan Lewis, yn sefyll ar y meinciau hyn i annog yn un o'i gyfraniadau cynharaf yn y lle hwn i'r cyfrifiaduron hyn gael eu tynnu allan, ac y dylem ganolbwyntio ar y ddadl a oedd yn mynd rhagddi yn hytrach na'r hyn a oedd ar y cyfrifiadur o'n blaenau, ac mae hynny'n dal yn fy meddwl hyd heddiw. Cofiwch chi, weithiau, fe anghofiais ei alw, am nad oedd wedi gallu cael y neges ataf yn y Gadair, oherwydd y problemau gyda hynny. Ond fel y dywedwch, mae sut y cynlluniwn y Siambr, os oes gennym 96 neu fwy o Aelodau—. Na, mae'n ddrwg gennyf, mae angen i mi ail-ddweud hynny; nid oeddwn yn golygu mwy na 96 o Aelodau, rwy'n golygu mwy na 60 Aelod ar gyfer Senedd 2026. Bydd sut rydym yn ei chynllunio yn fater y gallwn ei drafod, ac mae'n ddigon posibl y bydd y ffonau hyn yn ddigon i bob un ohonom erbyn hynny ac na fydd angen y sgriniau cyfrifiadurol sydd gennym o'n blaenau, a bydd hynny'n rhoi mwy o hyblygrwydd i ni o ran sut y gallwn ehangu'r Siambr i fodloni gofynion Senedd 2026.

Ymweliadau â'r Senedd

5. Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o effaith costau cynyddol ar allu plant ysgol i ymweld â'r Senedd? OQ59706

Mae swyddogion y Senedd wrthi’n adolygu cynllun cymhorthdal teithio y Senedd, sydd ar gael i ysgolion a cholegau sy’n cymryd rhan mewn sesiynau addysg yn y Senedd. Bydd yr adolygiad yma yn ystyried y cynnydd mewn costau y mae ysgolion a cholegau’n ei wynebu yn erbyn gwerth presennol ein cynnig, a chyfleoedd i flaenoriaethu grwpiau o ardaloedd tlotach.

Diolch am yr ymateb, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy gofnodi fy niolch i'r Comisiwn, a'r tîm ymgysylltu yn benodol, am y gwaith gwych y maent yn ei wneud gydag ysgolion ledled Cymru, i gyrraedd plant a'u haddysgu am ddemocratiaeth a'r Senedd. Rwy'n credu eu bod yn gwneud gwaith gwych mewn ysgolion, ac yn dod â phlant yma hefyd. Mae'r dewis i'w wneud yn rhithwir neu yn y cnawd yn dda iawn. Rhan bwysig o hynny yw ymweliadau ysgolion â'r lle hwn, yn enwedig i blant o ogledd Cymru ddod yma ac i weld Caerdydd hefyd, a'r Senedd a'i lleoliad. Mae'r cymhorthdal teithio yn hanfodol er mwyn sicrhau y gallant gyrraedd yma. Rwy'n gwybod bod costau cludiant ysgol wedi cynyddu 40 y cant, felly rwy'n gobeithio, wrth symud ymlaen, y caiff hynny ei ystyried, ac rwy'n ddiolchgar am eich ymateb. Diolch yn fawr iawn. 

15:35

Fel y dywedais yn fy ymateb, Carolyn Thomas, mae'r costau sy'n gysylltiedig ag ysgolion yn gallu ymweld â Chaerdydd a'n Senedd wedi newid yn eithaf sylweddol—dros y 12 mis diwethaf, hyd yn oed. Mae angen inni ystyried sut rydym yn adlewyrchu hynny yn y cynnig a wnawn i ysgolion i'w galluogi i ddod i'r Senedd. Felly, rydym yn adolygu hynny ar hyn o bryd, a bydd yn ystyried y pwyntiau rydych chi ac Aelodau eraill wedi'u gwneud yn y Siambr dros y sesiynau diwethaf, wrth inni feddwl sut i hyrwyddo'r Senedd i blant ysgol a cholegau ledled Cymru a sicrhau nad oes neb, yn unman, yn cael eu hatal rhag ymweld â'r lle hwn gan y gost o wneud hynny. 

Contractwyr Allanol

6. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am gynlluniau i ddod â gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd gan gontractwyr allanol yn fewnol? OQ59682

Ar hyn o bryd mae'r Comisiwn yn allanoli pedwar gwasanaeth arbenigol nad ydynt yn rhai craidd, sef rheoli cyfleusterau, arlwyo, glanhau a darlledu. Mae'r Comisiwn yn ystyried yn benodol yr opsiwn o ddod â'r gwasanaethau hyn yn fewnol pan gaiff contractau eu hadnewyddu. Nododd ein hasesiad diweddaraf o ddod â gwasanaethau'n fewnol y byddai'n arwain, wrth gwrs, at gynnydd sylweddol mewn costau ac adnoddau. Fodd bynnag, rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i archwilio ac asesu opsiynau mewnol yn gadarnhaol wrth i gontractau presennol ddod i ben.

Diolch i'r Comisiynydd am ei ateb, ac rwy'n ddiolchgar am y sylwadau a wnaeth. Fel rwy'n siŵr ei fod yn gwybod, ac fel mae'r Aelodau'n gwybod, mynegwyd pryderon am delerau ac amodau staff sy'n gweithio mewn gwasanaethau ar gontract allanol o fewn y Senedd. Mae hyn, ynghyd â phryderon ynghylch achosion unigol, wedi arwain at foicotio'r ffreutur gan staff cymorth, sydd, dylwn gofnodi, Ddirprwy Lywydd, yn gyd-aelodau o Unite the Union. Rwy'n credu bod gan y Llywodraeth hefyd gysylltiad â'r cwmni dan sylw. Ddirprwy Lywydd, mae'n amlwg i mi na ddylai pobl sy'n gweithio ochr yn ochr â'i gilydd yn yr un adeilad yn y Senedd wynebu gwahaniaethau enfawr o ran y ffordd y cânt eu trin. I'w roi'n syml, mae'n anghywir fod rhai aelodau o staff yn cael eu hamddifadu o daliadau costau byw. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Comisiynydd wneud sylw pellach ar sut y gellid cyflawni cydraddoldeb o ran amodau, a darparu amserlen efallai ar gyfer pryd y gallem weld hynny'n digwydd. 

A gaf fi ddweud yn gyntaf oll fy mod yn credu y dylid trin pob aelod o staff, boed yn staff Comisiwn, staff cymorth Aelodau neu'n staff dan gontract, i gyd yn gyfartal ac yn deg, yn unol â'r agenda parch ac urddas yn y gwaith, a chyda gwaith teg?

O ran y broses y byddwn yn ei dilyn, a'r amserlen, y peth cyntaf y dylwn ei ddweud yw bod y trefniadau sydd ar waith ar hyn o bryd ar gyfer contractau yr un fath â'r hyn a gychwynnwyd yn ôl yn 1999. Ac felly, wrth ddod â gwasanaethau'n fewnol, rydym yn ystyried rhywbeth nad yw wedi'i wneud o'r blaen, a dyna pam mae archwiliad trylwyr o'r costau a'r amserlenni yn cael ei gychwyn. 

Rwy'n credu ei bod yn deg dweud, ac eithrio'r contract darlledu, y byddai angen adnoddau ariannol a dynol eithaf sylweddol ar bob gwasanaeth arall. Rydym wedi ei gyfrifo, yn ein hasesiad diweddaraf, fel ychydig o dan £1 filiwn o ofyniad ariannol ychwanegol bob blwyddyn ariannol ar gyfer dod â 47 o staff cyfwerth ag amser llawn i mewn a chost creu staff o fewn y Comisiwn i allu rheoli'r gwasanaethau a fyddai'n dod yn fewnol. Dyna'r llinell uchaf ar gyfer yr uchafswm a amcangyfrifir gennym. Wrth gwrs, mae yna opsiynau eraill; ni fyddai angen o reidrwydd inni ystyried dod â'r holl wasanaethau i mewn ar yr un pryd.

Y contract cyntaf sydd ar fin cael ei adnewyddu yw'r contract arlwyo, sydd i fod i gael ei adnewyddu ym mis Medi 2024. Mae hynny oherwydd ein bod wedi cytuno ar gontract byrrach yn ôl yn 2022 gydag opsiynau i'w ymestyn am ddwy flynedd sengl. Felly, dyna'r cytundeb cyntaf. Dechreuodd y contract glanhau ym mis Chwefror 2020, ac mae i ddod i ben ym mis Chwefror 2025. Felly, mae'r holl opsiynau'n cael eu harchwilio, gan gynnwys yr opsiwn symlach a mwy uniongyrchol o ddod â staff yn fewnol a chynnal contractau penodol yn allanol. Felly, mae'r holl opsiynau'n cael eu harchwilio.

Er ein bod yn gwneud hyn, mae hefyd yn bwysig dweud na fyddai'r broses yn syml o ran amserlen. Rydym yn amcangyfrif y gallai gymryd rhwng 12 a 18 mis i gynllunio ar gyfer newid mor sylweddol. Fodd bynnag, yn y cyfamser, credaf ei bod yn bwysig pwysleisio, o ganlyniad i ddeialog sy'n digwydd rhwng Comisiwn y Senedd a chwmnïau contractwyr, fod llawer o staff yn cael cynnig telerau ac amodau gwell uwchlaw'r cyfartaledd y mae'r cwmnïau hynny'n eu cynnig i'w gweithwyr. Fodd bynnag, byddwn yn annog unrhyw weithwyr mewn gwasanaethau dan gontract, os oes ganddynt bryderon, y dylent godi'r pryderon hynny gyda'u rheolwyr llinell yn gyntaf oll, oherwydd, fel y dywedaf, mae'n gwbl hanfodol fod pawb sy'n gweithio ar ein hystad yn cael eu trin yn gyfartal ac yn deg. 

15:40

Cafodd cwestiwn 7 ei grwpio gyda chwestiwn 4, felly cwestiwn 8, James Evans. 

Hyfforddiant CPR a Diffibriliwr

8. Sut mae'r Comisiwn yn hyrwyddo hyfforddiant CPR a diffibriliwr i Aelodau o'r Senedd a staff Comisiwn y Senedd? OQ59678

Mae’r Comisiwn yn darparu ystod o gefnogaeth cymorth cyntaf, sy’n cynnwys diffibrilwyr symudol. Mae’r Comisiwn hefyd yn darparu ystod o hyfforddiant cymorth cyntaf sy’n cynnwys rhoi CPR a defnyddio diffibrilwyr. Er mwyn codi ymwybyddiaeth o weithdrefnau ar y safle, bydd y Comisiwn yn darparu sesiynau galw heibio ym Mae Caerdydd dros doriad yr haf a thymor yr hydref ac yn darparu sesiynau hyfforddi byr a fydd yn ymdrin â CPR. Bydd y sesiynau ar agor i Aelodau o’r Senedd, staff cymorth, staff y Comisiwn, a chontractwyr ar y safle.  

Diolch. Hoffwn ddiolch i'r Llywydd am yr ymateb hwnnw. Wrth imi fynd am fy archwiliad pwysedd gwaed gyda fy nghyd-Aelod Jack Sargeant, dychrynais wrth weld yr hyn a ddywedai fy mhwysedd gwaed, a bod angen imi wneud ychydig bach llai. Ond mewn gwirionedd fe wnaeth imi ofyn cwestiynau gonest i mi fy hun, pe bai Aelod yn mynd i fod yma, neu aelod o staff y Comisiwn, yn hwyr y nos, eu bod yn cael gwybod yn union ble mae diffibrilwyr ar yr ystad a sut i'w defnyddio, oherwydd os oes angen help neu sylw meddygol ar Aelod neu aelod o staff yma, nid ydym am fod mewn sefyllfa lle nad oes unrhyw Aelod nac unrhyw berson arall yma yn gallu cael mynediad at y cyfarpar hwnnw. Rwy'n ddiolchgar iawn am eich ymateb, Lywydd.  

Ac os caf sicrhau hefyd fod yr Aelodau'n ymwybodol, a bod aelodau staff yn ymwybodol, mewn unrhyw achos, y dylid ffonio 6333 mewn argyfwng cymorth cyntaf ac y byddent yn sicr o gael sylw swyddogion cymorth cyntaf ar y safle sydd wedi cael hyfforddiant, cymorth sy'n cael ei ddarparu gan ein swyddogion diogelwch 24 awr ar hyn o bryd. Maent wedi cael hyfforddiant i ddarparu'r gwasanaeth hwnnw. Fel rydych chi wedi nodi, wrth gwrs, efallai y bydd angen i Aelodau ac aelodau staff fod yma ar bob adeg o'r dydd neu'r nos, ac mae ein tîm diogelwch hefyd yma 24 awr ac wedi'u hyfforddi er mwyn darparu'r gwasanaeth i ni. Gobeithio na fydd neb ei angen. 

Gwastraff Bwyd ar Ystâd y Senedd

9. Pa gynnydd y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o ran lleihau faint o wastraff bwyd a gynhyrchir ar ystâd y Senedd eleni o'i gymharu â'r cyfnod cymharol y llynedd? OQ59711

Diolch. Diolch i'r Aelod am ofyn y cwestiwn i mi. Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, mae'r tunelli o wastraff bwyd a gasglwyd o ystad y Senedd wedi cynyddu, ond mae'n dal i fod yn llai na hanner y ffigurau cyn y pandemig. Mae'r rhesymau dros y cynnydd diweddar yn amrywio, ond yn bennaf oherwydd defnydd cynyddol o'r ystad, gyda mwy o staff yn dod i'r swyddfa a nifer y digwyddiadau a gynhelir yma'n dyblu o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. 

Rydym yn gweithio'n agos gyda'r contractwr arlwyo i sicrhau cyn lleied â phosibl o wastraff bwyd. Yn wir, mae cegin y contractwr yn cynhyrchu llai na thraean o wastraff cwmni masnachol. Mae gwastraff bwyd ar yr ystad yn cael ei gynhyrchu hefyd gan giniawau staff ac ymwelwyr ac nid yw'n rhywbeth y mae gennym reolaeth drosto. Mae'r contractwr arlwyo'n gweithio gyda threfnwyr digwyddiadau i leihau gwastraff bwyd. Mae'r rhan fwyaf o brydau bwffe yn cael eu trefnu gan bartïon allanol ac yn gyfreithiol nid oes modd i fwyd sy'n weddill ar ddiwedd y rhain gael ei roi i sefydliadau eraill.

Diolch am hynny. Gan fod y Comisiynydd hefyd yn aelod o'r pwyllgor newid hinsawdd gyda mi, fe fyddwch yn ymwybodol fod adroddiad cynnydd diweddaraf y Pwyllgor Newid Hinsawdd ar Gymru i gyflawni ein targedau yn 'Tu hwnt i Ailgylchu' yn ein hatgoffa o'n targed i sicrhau gostyngiad o draean i'r holl wastraff bwyd ledled Cymru erbyn 2030. Ac felly, hoffwn herio'r Comisiynydd i ddatgelu sut rydych chi'n meddwl y gallwn ni ddweud wrth weddill Cymru beth i'w wneud os nad ydym yn ei wneud ein hunain, a beth y credwch chi fod angen ei roi ar waith i leihau ein gwastraff bwyd.

15:45

Diolch. Hoffwn ddweud fy mod yn falch o fod yn aelod o'r pwyllgor newid hinsawdd. Ond cefais fy magu hefyd i beidio â gwastraffu, a phan feddyliwn am blant sy'n byw mewn tlodi, ni fyddwn yn gyffyrddus wrth feddwl y byddem yn gwastraffu unrhyw fwyd ychwanegol yma, Jenny, felly rwy'n ddiolchgar iawn i chi am ofyn y cwestiwn.

Fel y dywedaf, mae yna rai pethau cadarnhaol. Mae ymwybyddiaeth aelodau staff o gyfleusterau gwaredu o amgylch yr ystad yn gwella. Mae cownteri yn y bwyty yn cynnwys llai o fwyd tuag at ddiwedd amser cinio yn hytrach nag ailgyflenwi'r cownter cyfan ar gyfer llai o giniawyr. Mae'n rhaid imi fod yn onest; i unrhyw un yn y byd busnes sy'n cynhyrchu bwyd nawr, ar gyfer y lle hwn neu unrhyw le, gyda chost bwyd a phrisiau bwyd yn codi, mae'n bwysicach nag erioed fod hyn yn cael ei wneud. Caiff llysiau ffres eu hailddefnyddio i wneud cawl. Mae cynllunio bwydlenni yn sicrhau y gellir defnyddio unrhyw gynhwysion heb eu coginio i wneud prydau eraill. O ran y lletygarwch, caiff bwydlenni bwffe a gynigir eu cyfrifo fesul y pen er mwyn osgoi gwastraff, a bydd bwyd nad yw'n cael ei ddefnyddio, fel bisgedi, yn aml yn cael ei ailddefnyddio lle mae rheolau iechyd a diogelwch yn caniatáu. Darperir cadi bwyd mewn ceginau ar draws Tŷ Hywel ar gyfer casglu pilion ffrwythau a llysiau, bagiau te a bwydydd eraill i atal unrhyw wastraff bwyd rhag mynd i safle tirlenwi.

Er fy mod yn y swydd hon fel y Comisiynydd, yn y maes hwn, gallaf eich sicrhau fy mod lawn mor awyddus â chi mae'n debyg i sicrhau nad ydym yn gweld unrhyw fwyd yn mynd yn wastraff y tu hwnt i'r hyn sy'n rhesymol yn ymarferol. Bydd yna adegau, oherwydd ambell—. Weithiau, rwy'n gweld derbyniadau lle mae llawer o fwyd ar ôl, ac ar adegau eraill, ychydig iawn o fwyd sydd ar ôl, felly mae'n ymwneud â'r contractwyr yn gweithio gyda ni hefyd. Diolch.

5. Cwestiynau Amserol

Eitem 5 y prynhawn yma yw'r cwestiynau amserol, a bydd y cwestiwn cyntaf gan Andrew R.T. Davies.

1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o 61 o fanwerthwyr diodydd sy'n gweithredu yng Nghymru yn ysgrifennu llythyr agored at Lywodraeth Cymru yn galw am eithrio gwydr o'i gynllun dychwelyd ernes yn unol â gweddill y DU? TQ800

Diolch. Rydym yn croesawu ymgysylltiad y manwerthwyr diodydd wrth ddatblygu'r cynllun dychwelyd ernes, a byddwn yn gweithio gyda nhw i gyflwyno cynllun llwyddiannus ac effeithiol.

Diolch am yr ymateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. A ydych yn cydnabod y pryderon gwirioneddol y mae'r busnesau hyn, 61 ohonynt, wedi'u lleisio i Lywodraeth Cymru ynghylch y cymhlethdod, yr anfantais fasnachol, a'r hyn y maent yn ei ddweud ac y mae eraill wedi cyflwyno sylwadau yn ei gylch yw na cheir yr effaith angenrheidiol ar dargedau ailgylchu ac mewn gwirionedd, y cymhlethdod ailgylchu y gallai'r cynllun dychwelyd ernes ei wynebu drwy gynnwys gwydr?

Ar hyn o bryd, mae gennym gyfraddau ailgylchu da, rhywbeth rwy'n cymeradwyo Llywodraeth Cymru yn ei gylch, ac mae gennym ailgylchu da wrth ymyl y ffordd hefyd, ond mae angen rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r pryderon a godwyd gan fusnesau ar y rheng flaen sy'n cyflogi ac yn creu cyfoeth mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru, ac yn fwyaf arbennig, yn seiliedig ar y sylwadau a wnaeth y Prif Weinidog ddoe ynghylch adennill costau, os bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fwrw ymlaen ar hyd y llwybr o gynnwys gwydr yn y cynllun dychwelyd ernes, a wnaiff Llywodraeth Cymru sicrhau bod arian ar gael fel y gellir eu digolledu am y mesurau ychwanegol y mae'n rhaid iddynt eu rhoi ar waith a'r peiriannau a'r hyfforddiant ychwanegol y bydd yn rhaid iddynt eu cael, oherwydd nododd y Prif Weinidog y dylai hynny fod yn flaenoriaeth i unrhyw Lywodraeth sy'n cyflwyno diwygiadau rheoliadol mewn unrhyw faes y mae'n gyfrifol amdano?

Wel,

'Bydd Cynllun Dychwelyd Ernes yr Alban yn helpu i fynd i’r afael â phla sbwriel poteli gwydr mewn cymunedau, gan y bydd cynnwys gwydr yn arwain at ailgylchu 53,000 tunnell ychwanegol o gynwysyddion. Byddai’n wych gweld cymaint o hwb i ailgylchu yma yng Nghymru hefyd'.

Dyna ddyfyniad gan Janet Finch-Saunders, sydd wedi dadlau'n gyson o blaid cynnwys gwydr yn y cynllun dychwelyd ernes. Ac er tegwch i Janet Finch-Saunders, roedd hynny ym maniffesto'r Ceidwadwyr yn etholiad 2019, a dyma oedd y sail y gwnaethom ymgynghori â'r cyhoedd, ar y cyd â Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Gogledd Iwerddon arni o'r dechrau, a dyna pam ei fod yn sail i'n cynigion ni.

Nawr, rwyf wedi gweld Andrew R.T. Davies yn dweud ar y cyfryngau cymdeithasol fod Llywodraeth Cymru yn ceisio bod yn wahanol er mwyn bod yn wahanol drwy fwrw ymlaen ag ailgylchu gwydr pan fo Lloegr wedi penderfynu yn hwyr yn y dydd i beidio â gwneud hynny, a'r gwrthwyneb sy'n wir. Yr eithriad yn hyn o beth yw Llywodraeth Lloegr, sydd wedi penderfynu, yn wyneb pwysau gan y diwydiant—. Ac rwy'n cydnabod y dyfyniadau y mae'n eu gwneud, oherwydd daw'r dyfyniadau hynny'n uniongyrchol gan grwpiau lobïo'r busnesau mawr; mae'n adleisio safbwyntiau nad ydynt yn gyson â maniffesto'r Ceidwadwyr, nad ydynt yn gyson â Janet Finch-Saunders a chefnogaeth arall gan y Ceidwadwyr ac nid yw'n gyson â'r ymgynghoriad a wnaethom ar y cyd gyda phob ewyllys da gyda Llywodraeth y DU. Roedd 86 y cant o bobl pan wnaethom ymgynghori, ac fe wnaethom ymgynghori ddwywaith, yn cefnogi cynnwys gwydr. Mae'n gwneud y cynllun yn fwy effeithlon; mae'n ei wneud yn symlach; mae'n dod ag arbedion sylweddol; bydd yn lleihau sbwriel a bydd yn lleihau allyriadau carbon. Bydd hefyd yn creu buddion o fwy na £126 miliwn os yw'r cyfan yn cael ei wneud gyda'i gilydd.

Drwy hepgor gwydr, mae'n ei gwneud yn anfantais i gynhyrchwyr plastig ac alwminiwm—nid wyf yn siŵr a yw wedi cael unrhyw sylwadau gan eu grwpiau lobïo nhw. Ond mae'n penderfynu neilltuo un sector yn erbyn y lleill am ryw reswm. A hefyd, o ran yr effaith ar sbwriel, oherwydd mae'r dystiolaeth yn dangos y byddwn yn gweld gostyngiad o rhwng 60 ac 80 y cant mewn sbwriel diodydd drwy gynnwys gwydr yn y cynllun ernes. Felly, nid wyf yn credu bod ei safbwynt yn gyson â maniffestos y Ceidwadwyr; nid yw'n gyson â phenderfyniadau'r Senedd hon; nid yw'n gyson â'r ymgynghoriad cyhoeddus, ac nid yw'n gyson â'i gefnogaeth honedig i leihau allyriadau. Oherwydd fel y dywedasom wrth y Senedd Ieuenctid yn gynharach, er mwyn lleihau allyriadau—ac roedd yn awyddus i wrando ar yr hyn a oedd ganddynt i'w ddweud—. Maent yn dweud wrthym yn glir iawn: mae'n rhaid inni gyrraedd sero net erbyn 2050. Nid oes unrhyw ddiben cymeradwyo hynny mewn egwyddor, os yw'n gwrthwynebu bob tro y byddwn yn cyflwyno cam ymarferol i wneud hynny.

15:50

Mae'r pwyntiau roeddech chi'n eu gwneud, Dirprwy Weinidog, yn bwerus. Yn lle edrych dim ond ar beth sy'n digwydd gyda'r Llywodraeth yn Lloegr, roeddwn i eisiau gofyn ichi beth dŷch chi wedi'i ddysgu o'r profiadau mewn rhanbarthau neu wledydd eraill sydd wedi llwyddo i fewnblannu cynllun dychwelyd ernes sydd yn cynnwys gwydr—pa wersi; pa fewnwelediad sydd yn cael ei gynnig? Achos os ydym ni'n gallu astudio achosion llwyddiannus, byddwch chi fel Llywodraeth, a byddwn ni fel gwlad, yn gallu elwa o'r wybodaeth werthfawr yna sydd yn cael ei ddefnyddio i weld sut byddai hyn yn gallu gweithio, fel dŷch chi wedi'i ddweud, fel ein bod ni'n gallu mynd i'r afael â'r creisis sydd yn ein hwynebu ni i gyd. A dwi'n meddwl bod y cyhoedd eisiau inni wneud rhywbeth sydd yn weledol ac sydd yn mynd i fod yn effeithlon ac yn effeithiol. Felly, buaswn i wir yn hoffi gwybod beth ydych chi wedi'i ddysgu wrth wledydd eraill sydd wedi gwneud hyn neu sydd yn gobeithio gwneud hyn gyda chynlluniau.

Diolch, ac mae'r Aelod yn gwneud pwynt cryf. Mae cynnwys gwydr yn arferol mewn cynlluniau ledled y byd, ac mae hynny'n dangos ei bod yn ffordd lawer mwy effeithiol o'i wneud. Trwy fabwysiadu ymagwedd gynhwysfawr, mae'n llawer cliriach i'r defnyddiwr, mae'n haws i'r diwydiant wybod lle mae'n sefyll ac mae'n lleihau allyriadau'n well. Nid ydym am gyrraedd sefyllfa lle rydym yn ailgylchu pethau drwy'r amser yn hytrach na'u hailddefnyddio, oherwydd bob tro y byddwn yn ei wasgu, a'i ailgynhesu, mae cryn dipyn o garbon ymgorfforedig yn y broses honno. Felly, mae gallu ailddefnyddio pethau drwy eu golchi yn ffordd lawer mwy cynaliadwy o weithredu.

Ac ar y dystiolaeth ryngwladol, mae effeithiau eraill y peth hefyd yn ddiddorol. Felly, roedd papur gan Cadwch Gymru'n Daclus ar sbwriel cynwysyddion diodydd yn cyfeirio at astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd yn ymchwilio i gymharu ymosodiadau poteli a gwydr rhwng Helsinki a Chaerdydd, ac mae gan Helsinki boblogaeth ddwywaith maint Caerdydd. Ac yn 2003, nododd yr astudiaeth honno fod 133 o ymosodiadau cysylltiedig â photeli yng Nghaerdydd, a dim ond un yn Helsinki, sydd â gwydr yn eu cynllun dychwelyd ernes. Felly, ceir nifer o fanteision o gynnwys gwydr yn y cynllun, sy'n mynd ymhell y tu hwnt i'r bwriad gwreiddiol. Rwy'n ofni bod hyn wedi'i golli yn y ddadl. Ac fel y dywedais, mae'r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi trin Llywodraeth yr Alban yn hyn o beth, a cheisio difetha cynllun, yn siomedig iawn. Maent wedi gwario swm sylweddol o arian, ac mae'n rhy hwyr bellach i dynnu'n ôl ohono, gan dybio ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd ar nod cyffredin, fel y cytunwyd yn barhaus. Ac mae'r ffaith eu bod yn tynnu'r plwg ar y funud olaf yn amharchus iawn, ac yn tanseilio'r setliad datganoli. A dyma'r math o beth sy'n tanio cwynion lleol am yr undeb. Felly, mae angen iddynt feddwl yn ofalus iawn ynglŷn â pharhau i ymddwyn fel hyn.

15:55

Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Nawr, yr ail gwestiwn amserol gan Jenny Rathbone.

Windrush

2. Yn sgil datgeliadau diweddar, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch faint o aelodau o genhedlaeth Windrush o Gymru ag afiechyd cronig a meddyliol a gafodd eu halltudio? TQ801

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn, Jenny Rathbone. Rydym yn chwilio am ffigurau penodol i Gymru ar yr anghyfiawnder hanesyddol hwn a ddatgelwyd gan y BBC, ac rydym yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod cenhedlaeth Windrush yn cael y parch, y cyfiawnder a'r iawndal y maent yn ei haeddu, ac i weithredu argymhellion 'Adolygiad Gwersi a Ddysgwyd Windrush' yn llawn.

Mae'r BBC wedi datgelu bod o leiaf 411 o bobl â salwch meddwl wedi cael eu hallgludo rhwng y 1950au a dechrau'r 1970au, ond am fod y cofnodion sydd gan Lywodraeth y DU yn llai na chynhwysfawr, gallai gynnwys llawer mwy o ddinasyddion Prydeinig o genhedlaeth Windrush. Felly, mae arbenigwyr yn tynnu sylw at  ffaith y gallai dychwelyd dinasyddion Prydain i wlad lle cawsant eu geni fod wedi bod yn anghyfreithlon gan ei bod yn annhebygol iawn y byddai llawer o'r unigolion hyn wedi bod yn ddigon iach i fod â'r gallu meddyliol i gydsynio i gael eu hanfon i wlad lle nad oedd gwasanaethau iechyd meddwl yn bodoli i raddau helaeth.

Gan ei fod yn golygu gwahanu pobl sâl oddi wrth eu hanwyliaid, gan gynnwys plant dibynnol y cafodd rhai ohonynt eu derbyn i ofal o ganlyniad i absenoldeb eu rhiant, mae'r syniad y byddai pob un o'r unigolion hyn wedi mynegi dymuniad i ddychwelyd yn anodd iawn ei gredu. Ar y pryd, cwynodd uchel gomisiynydd Jamaica wrth Lywodraeth Prydain fod ysbytai'r DU yn gofyn am ddychwelyd pobl i'w mamwlad yn bennaf ar sail pwysau ar welyau neu wasanaethau ysbyty eraill. Dyma'r datgeliad cywilyddus diweddaraf ynglŷn â sut y cafodd cenhedlaeth Windrush ei thrin, a'r methiant parhaus i'w digolledu am y ffordd y cafodd eu hawliau dynol eu hanwybyddu a'u cam-drin yn llwyr.

Pa rôl y gall Llywodraeth Cymru ei chwarae neu a chwaraewyd ganddi i helpu Llywodraeth y DU i nodi teuluoedd yng Nghymru sy'n dioddef yr anghyfiawnder hwn, i'w hysbysu o'r hyn a ddigwyddodd i'w hanwyliaid a allgludwyd? Oni bai ein bod yn dysgu gwersi o hanes, rydym wedi ein tynghedu i'w ailadrodd. Felly, a ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar sefydlu ymchwiliad cyhoeddus ffurfiol i ddysgu gwersi o'r bennod gywilyddus hon o'n hanes ôl-drefedigaethol?

Diolch, Jenny Rathbone, ac fel y dywedais mewn ymateb i'ch cwestiwn pwysig iawn heddiw, ar drothwy'r dydd pan fyddwn yn nodi Windrush 75 yma yn y Senedd—mae'n ddigwyddiad sy'n cael ei noddi gan y Comisiynydd Joyce Watson, a bydd y Llywydd, y Prif Weinidog a llawer ohonom yn bresennol—mae'r datguddiadau hyn gan y BBC yn hynod ofidus, ac felly, byddwn yn galw ar Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r anghyfiawnderau hyn ac i unioni'r camweddau sy'n wynebu pobl cenhedlaeth Windrush.

Byddwn yn gwneud yr hyn a allwn o safbwynt Llywodraeth Cymru. Yn amlwg, bydd y data wedi'i gadw gan Lywodraeth y DU. Ond fel y dywedais, daw hyn ochr yn ochr â'n galwad beth bynnag ar Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r anghyfiawnderau ac i gyflawni nodau'r adroddiad gwersi a ddysgwyd gan Wendy Williams. Rwy'n pryderu'n fawr, mewn gwirionedd, fod yr Ysgrifennydd Cartref wedi dweud na fydd yn gweithredu'r holl argymhellion o adroddiad gwersi a ddysgwyd Windrush. Ac yn bwysig iawn, roedd un o'r argymhellion hynny'n ymwneud â digwyddiadau cymodi. Mae cymaint rydym bob amser yn ei ddysgu pan fyddwn yn cyfarfod â'n hynafgwyr Windrush, ac rydym yn cyfarfod â hynafgwyr Windrush blaenllaw yfory yma yn y Senedd, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n rhoi cyfle i ddysgu gwersi eraill. Ond a gaf fi ddweud y byddwn ni, yfory, yn talu teyrnged i'r cyfraniadau a wnaed i Gymru gan genhedlaeth Windrush a'u disgynyddion a'r holl gymunedau mudol eraill a ddaeth yma o'u blaenau ac ar eu holau?

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rwy'n ddiolchgar i Jenny Rathbone am godi'r cwestiwn pwysig hwn, ond nid wyf yn credu, Weinidog, eich bod wedi cyffwrdd â chraidd yr hyn y pwysodd Jenny arnoch yn ei gylch, sef pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i geisio datgelu'r anghyfiawnder i deuluoedd Cymru yn y llanast hwn a'r anghyfiawnder difrifol hwn rhwng 1958 a 1970, fel bod modd efallai o safbwynt—. Ac nid bai Llywodraeth Cymru yw hyn, mae'n fater hanesyddol, ond mae gennych goridorau a llwybrau y gallwch fynd ar hyd-ddynt i geisio tynnu'r wybodaeth honno allan fel y gallwn fod mewn sefyllfa i gynorthwyo'r teuluoedd sy'n dal i ddioddef yn sgil yr anghyfiawnder hwn, sy'n dal i fod ag anwyliaid wedi'u dal yn y sgandal hon. Gwyddom o waith ymchwiliol y BBC y gallai tua 400 o deuluoedd fod wedi'u heffeithio gan y broses o ddychwelyd y bobl hyn i'w mamwlad. Felly, a wnewch chi roi ymrwymiad mewn ymateb i'r cwestiwn y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i nodi'r rhai yr effeithir arnynt yma yng Nghymru, ac a wnewch chi ymrwymo i adrodd yn ôl i Senedd Cymru pan nodir yr enwau hynny fel y gallwn ddeall yn union pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i'r teuluoedd y mae'r anghyfiawnder hwn wedi effeithio arnynt, sy'n anghyfiawnder hanesyddol rhwng 1958 a 1970?

16:00

Wel, rwy'n ddiolchgar eich bod yn cydnabod bod hwn yn anghyfiawnder hanesyddol, Andrew R.T. Davies. Mae'n anghyfiawnder hanesyddol, ac wrth inni edrych ar yr hyn sydd wedi'i ddatgelu yn yr adroddiad hwn, wrth i'r BBC ddod o hyd i ddogfennau yn yr Archifau Gwladol sy'n datgelu graddfa'r polisi—. Ac roedd yn bolisi—roedd yn bolisi Llywodraeth y DU ar y pryd, cyn datganoli. Ond wrth gwrs, fel y dywedais, byddwn nid yn unig yn galw ar Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r anghyfiawnderau hyn, byddwn hefyd yn gwneud ein gorau glas i gefnogi'r dinasyddion yr effeithiwyd arnynt.

Fel arweinydd yr wrthblaid, rwy'n gobeithio y gwnewch chi ymuno â ni, ac Aelodau eraill ar draws y Siambr, rwy’n siŵr, i alw ar Lywodraeth y DU i roi argymhellion yr adolygiad o'r gwersi a ddysgwyd yn sgil Windrush ar waith yn llawn. Mae'n bwysig iawn ein bod yn cael yr alwad honno ar draws y Siambr heddiw yn fy marn i. Roedd yn flin iawn gennyf glywed y gallai’r Swyddfa Gartref fod yn dirwyn eu huned Windrush i ben, er enghraifft; roedd hynny yn y penawdau yr wythnos hon. Felly, a gawn ni sefyll gyda'n gilydd ar hyn? Byddwn yn chwarae ein rhan, ond mae’n rhaid i Lywodraeth y DU gymryd yr awenau ac unioni'r camweddau hyn.

Bydd Plaid Cymru, yn sicr, yn cefnogi’r galwadau hynny ac yn ymuno â chi yn y galwadau hynny i fynd i’r afael â’r anghyfiawnderau hanesyddol hyn. Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am gyflwyno’r cwestiwn pwysig hwn. Yfory, byddaf yn ymuno â Chymdeithas Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig Castell-nedd Port Talbot a llyfrgelloedd Castell-nedd Port Talbot ar ddiwrnod arbennig i anrhydeddu a dathlu gwaddol cenhedlaeth Windrush a’r cyfraniadau arwyddocaol y maent hwy a’u disgynyddion wedi’u gwneud i fy rhanbarth. Roeddwn yn falch o glywed hefyd fod celli wedi’i phlannu yng Nghastell-nedd i goffáu 75 mlynedd, a hoffwn ddiolch i Coed Cadw am helpu i hwyluso’r gwaith o greu celli Windrush gyda hynafgwyr Windrush ym Mrynau, y prosiect creu coetir mwyaf erioed i'w gynnal gan elusen yng Nghymru.

Felly, oes, mae'n rhaid inni ddysgu o’r gorffennol, Weinidog, ac mae'n rhaid inni fynd i’r afael â’r anghyfiawnderau hanesyddol hyn, ac o ystyried y ddadl a gawsom ddoe a’r iaith anghyfrifol a ddefnyddiwyd gan rai gwleidyddion Ceidwadol wrth drafod mewnfudo, pa ddulliau gweithredu sydd ar gael i ni yng Nghymru i wrthsefyll yr agweddau trefedigaethol a senoffobig a arweiniodd at y modd creulon y cafodd pobl cenhedlaeth Windrush eu trin, yn cynnwys allgludo rhai ohonynt yn erbyn eu hewyllys, a beth arall y gallwn ei wneud yng Nghymru, Weinidog, i hyrwyddo cyfraniad pwysig hynafgwyr Windrush nawr ac yn y dyfodol?

Wel, diolch yn fawr—diolch yn fawr iawn, Sioned Williams, am eich cefnogaeth i genhedlaeth Windrush a hefyd am eich cefnogaeth i rai o'r digwyddiadau niferus sy'n cael eu cynnal yng Nghymru, ledled Cymru gyfan. Gobeithio y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn eu mynychu. Rydym wedi sicrhau bod cyllid ar gael—a gwneuthum y pwynt hwn yn fy natganiad yr wythnos diwethaf am Wythnos y Ffoaduriaid—rydym wedi sicrhau bod cyllid ar gael. Mae cyllid wedi'i ddarparu i brosiectau ledled Cymru; yn amlwg, rydych chi'n mynychu un ohonynt. Mae gennym ddigwyddiad pwysig yfory yma yn y Senedd, fel y dywedais, lle byddwn yn clywed mwy gan hynafgwyr Windrush, a gwaddol eu cyfraniadau yma—Vernesta Cyril OBE, cyn-fydwraig—cyfraniadau rhyfeddol hynafgwyr Windrush, ac rwy'n siŵr y bydd y boen a'r gwahaniaethu a wynebwyd ganddynt yn codi, gyda hynny bellach wedi'i amlygu gan y datgeliad diweddaraf hwn o anghyfiawnder hanesyddol. Nid dyna oedd yr unig anghyfiawnder hanesyddol: teuluoedd yn cael eu rhwygo, ac yn colli eu rhieni o ganlyniad i'r polisi hwn sydd wedi'i ddatgelu. Felly, byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod gwaddol cenhedlaeth Windrush—. Mewn gwirionedd, mae ffilm yn cael ei chreu; rydym wedi comisiynu ffilm am genhedlaeth Windrush a'i gwaddol, a byddwn wedyn yn gallu sicrhau bod hyn yn estyn allan, i ddangos yr hyn y mae cenhedlaeth Windrush wedi’i gyflawni a’i gefnogi yn y GIG, yn yr economi, mewn busnesau, mewn addysg, ym mhob agwedd ar fywyd, a gadewch inni ddathlu hynafgwyr Windrush a chenhedlaeth Windrush yma yng Nghymru yfory.

16:05

Diolch i'r Gweinidog. Y cwestiwn olaf amserol y prynhawn yma yw'r un gan Altaf Hussain.

Diogelwch Dŵr

3. Pa gamau uniongyrchol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i weithio gydag ysgolion i addysgu pobl ifanc am ddiogelwch dŵr yn dilyn y boddi trasig ger pier Aberafan nos Lun? TQ802

Rwy'n cydymdeimlo'n llwyr gyda’r teulu, y ffrindiau a’r gymuned yr effeithiwyd arnynt gan y drasiedi hon. Rydym yn gweithredu argymhellion y Pwyllgor Deisebau ar gyfraith Mark Allen, a ategir gan y strategaeth atal boddi. Bydd y strategaeth yn galluogi pobl i fod yn fwy diogel yn, ar ac o gwmpas dŵr. Mae'n hyrwyddo ac yn annog dull cyson o weithredu addysg, ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad diogelwch dŵr.

Diolch, Weinidog. Hoffwn innau gydymdeimlo â theulu a ffrindiau David a phawb yn Ysgol Uwchradd Gatholig Joseff Sant ym Mhort Talbot. Mae’n drasiedi ni waeth pryd y bydd rhywun yn colli ei fywyd, ond yn fwy felly i un mor ifanc. Roedd gan y dyn ifanc hwn ei fywyd cyfan o’i flaen wrth iddo ddathlu diwedd ei arholiadau gyda'i ffrindiau, pan ddigwyddodd y drasiedi hon. Yn anffodus, pan ydym yn ifanc, rydym yn credu ein bod yn anorchfygol ac nid ydym yn talu fawr ddim sylw, os o gwbl, i'r arwyddion sy'n ein rhybuddio am beryglon. Mae pier Aberafan dan waharddiad am resymau da iawn, ond mae'r dŵr mor ddeniadol fel y bydd pobl yn anwybyddu'r rhybuddion. Weinidog, wrth i’n hafau ddod yn boethach ac yn boethach, mae ein crynofeydd dŵr yn dod yn fwyfwy deniadol i bobl ifanc. Y llynedd, cawsom bobl yn boddi mewn pyllau ac mewn afonydd, a nawr, mae gennym yr achos trasig hwn. Beth arall y gallwn ei wneud i gyfleu’r neges i bobl ifanc mewn ysgolion a thu hwnt ynglŷn â pheryglon nofio mewn dyfrffyrdd nad ydynt yn cael eu patrolio?

Wel, mae hwn yn bwnc difrifol iawn, ac rwy’n cydymdeimlo ag unrhyw un yr effeithiwyd arnynt gan achosion o foddi yng Nghymru—yr achos hwn, neu achosion eraill yn wir. Fel y noda Altaf Hussain yn ei gwestiwn, mae gormod o ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â dŵr yn digwydd yng Nghymru ac mewn mannau eraill o hyd, gan gynnwys marwolaethau sy'n gysylltiedig â dŵr. Mae gweithredu’r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar gyfraith Mark Allen yn flaenoriaeth allweddol i ni fel Llywodraeth, gan y bydd yn gwella’r strategaeth atal boddi, a gyhoeddwyd gennym yn 2020, gan Diogelwch Dŵr Cymru.

Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yng Nghymru mewn gweithgareddau awyr agored. Mae mannau awyr agored yn bwysig i’n hiechyd corfforol a meddyliol, ac rydym yn cefnogi gweithgareddau dŵr ac yn annog pawb i fwynhau dŵr mewn ffordd ddiogel. Fel cyd-ddigwyddiad ofnadwy, Lywydd, mae’r wythnos hon hefyd yn nodi Wythnos Atal Boddi’r Gymdeithas Frenhinol Achub Bywydau, un o ymgyrchoedd diogelwch dŵr yr haf mwyaf y DU ac Iwerddon, mewn gwirionedd, ac felly efallai yr hoffai'r Aelodau ymweld â gwefan y Gymdeithas Frenhinol Achub Bywydau a rhannu gwybodaeth am yr ymgyrch honno gyda'u hetholwyr ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol amrywiol.

O’n safbwynt ni, rydym yn anelu i godi ymwybyddiaeth o broffil nofio a diogelwch dŵr yn ehangach yn ein cwricwlwm ysgol, gan weithio gyda Diogelwch Dŵr Cymru i sicrhau bod rhaglen addysg a diogelwch dŵr gydlynol yn ein hysgolion, yn cael ei darparu o oed ifanc. Afraid dweud pa mor bwysig yw hi fod dysgwyr yn gallu cadw’n ddiogel mewn dŵr ac o’i gwmpas, ac mae’r canllawiau statudol ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, y mae’n rhaid i bob ysgol eu hystyried wrth gwrs, fel y gŵyr yr Aelod, yn pwysleisio bod gweithgarwch corfforol mewn dŵr yn bwysig ar gyfer datblygu iechyd a lles corfforol, ac felly mae nofio, yn yr ystyr hwnnw, yn ddewis clir ac amlwg i ysgolion. Ond mae'n ymwneud hefyd â deall risgiau gwneud hynny a gallu rheoli'r risgiau hynny, gan gynnwys mewn perthynas â sgiliau achub bywyd a chymorth cyntaf.

A gaf fi ymuno â’r Gweinidog ac Altaf Hussain a chydymdeimlo â theulu David a’i ffrindiau, ac â’r gymuned ehangach yn etholaeth Aberafan? Mae hwn yn ddigwyddiad trasig. Gŵr ifanc a oedd yn dathlu diwedd ei arholiadau, yn edrych ymlaen at y dyfodol o’i flaen, ac yn anffodus, bu farw o ganlyniad i ddigwyddiad nad ydym wedi darganfod y manylion llawn amdano eto. A gaf fi hefyd ganmol Ysgol Uwchradd Gatholig Joseff Sant, sydd wedi rhoi cymorth ar waith i’r disgyblion, ffrindiau David ac eraill yn y gymuned sy’n dioddef o ganlyniad i’r digwyddiad hwn? Mae’r gefnogaeth honno’n mynd i fod yn bwysig, Weinidog. Pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda’ch cyd-Aelodau yn y Cabinet am y systemau cymorth sydd ar waith pan fydd digwyddiadau fel hyn yn digwydd? Gallwn addysgu pobl am ddŵr agored, am beryglon dŵr agored, gallwn ddangos iddynt, mewn gwirionedd, nad yw'r un peth â phwll nofio—mae llawer o heriau annisgwyl enfawr mewn dŵr agored—ond yn anffodus, mae damweiniau'n digwydd, ac mae angen inni sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi, nid yn unig disgyblion yr ysgol, neu’r teuluoedd a ffrindiau, neu’r gymuned, ond hefyd y gweithwyr brys sy’n mynychu’r digwyddiadau hyn, gan fod rhai ohonynt yn dioddef yn ofnadwy hefyd o ganlyniad i fynychu'r digwyddiadau hyn.

Felly, a allwch chi ddweud wrthym pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda'ch cyd-Aelodau i roi'r pethau hynny ar waith? A phan soniwch am hyfforddi a datblygu mewn perthynas â dŵr agored—fe sonioch chi am weithgareddau awyr agored—ar gyfer unrhyw weithgaredd awyr agored sy’n cynnwys gweithgareddau dŵr, a wnewch chi sicrhau bod yr hyfforddiant priodol yn cael ei ddarparu, a bod pobl ifanc yn ymwybodol o’r peryglon? Rwyf wedi clywed am ormod o achlysuron pan fydd bechgyn wedi mynd i gronfeydd dŵr—gallaf ddweud wrthych lle maent—neu afonydd, gan ei fod yn rhywbeth—. Mae arnynt eisiau oeri. Mae arnynt eisiau seibiant. Mae arnynt eisiau ychydig o hwyl. Ond mae peryglon yno nad ydym yn talu sylw iddynt, ac yn anffodus, dyma un o’r digwyddiadau lle mae’r perygl hwnnw wedi arwain at sefyllfa erchyll.

16:10

Diolch i David Rees am ei gwestiwn atodol ac rwy’n cytuno â’i sylwadau am yr ysgol hefyd, a’r gwaith y maent yn ei wneud i gefnogi eu pobl ifanc a’u teuluoedd. Mae’r ymwybyddiaeth o berygl y cyfeiriodd ati yn ei gwestiwn yn greiddiol i’r canllawiau statudol ar gefnogi ein dysgwyr i ddeall sut i nodi'r risgiau, a’r ffordd orau i ymateb iddynt a’u rheoli mewn ffordd sy’n gwarchod eu diogelwch. Felly, mae hynny’n rhan o’r canllawiau y cyfeiriais atynt yn gynharach.

Gofynnodd am waith trawslywodraethol yn y maes hwn. Cyfarfûm â Dawn Bowden yn ddiweddar mewn perthynas â rhai o’r heriau y mae ysgolion yn eu hwynebu wrth ddarparu gwersi nofio i ddysgwyr, sydd, am wahanol resymau, yn fwy heriol heddiw nag yn y gorffennol o bosibl. Ac rydym yn trafod beth yw'r ffordd orau y gallwn gefnogi ysgolion gyda hyn, mewn cydweithrediad â Nofio Cymru. Bydd hefyd yn gwybod am y gwaith a wnaf gyda fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant mewn perthynas â’r cymorth ar lefel ysgol i lesiant disgyblion, a bydd y gwaith hwnnw'n ymateb i amgylchiadau fel hyn. Mae’r cyllid a ddarparwn drwy ffrwd ariannu'r dull ysgol gyfan yn galluogi ysgolion i wneud penderfyniadau ynghylch y ffordd orau o gefnogi eu disgyblion gyda chwnsela ac ati mewn sefyllfa fel hon.

Rwy’n ymwybodol fod Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynnig gwasanaethau cwnsela ychwanegol i ddisgyblion a staff yn yr ysgol, ac yn ôl yr angen, byddant yn edrych ar ddarparu cymorth i ysgolion a chymunedau eraill yn yr ardal yr effeithiwyd arni gan y digwyddiad ofnadwy hwn. Yna, gall plant a staff y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt ofyn am hynny drwy'r ysgol neu drwy'r awdurdod lleol.

6. Datganiadau 90 Eiliad

Ac felly, yr eitem nesaf fydd y datganiadau 90 eiliad. Y datganiad cyntaf y prynhawn yma gan Tom Giffard. 

Diolch yn fawr iawn, Lywydd, ac rwy’n falch iawn o fod yma heddiw i ddathlu cyflawniad hanesyddol tîm Cymru yng Nghwpan Dartiau’r Byd y PDC 2023. Fel y gwyddoch, cododd chwaraewyr ein tîm, Gerwyn Price a Jonny Clayton, y tlws yn Frankfurt ddydd Sul diwethaf ar ôl buddugoliaeth syfrdanol o 10-2 dros yr Alban yn y rownd derfynol. Fe wnaethant ddangos sgìl, hyder a gwaith tîm anhygoel drwy gydol y gystadleuaeth, gan guro rhai o dimau gorau’r byd, gan gynnwys Lloegr, Sweden a Gwlad Belg. Mae hon yn foment falch i Gymru ac i ddartiau fel camp. Credaf ein bod bob amser wedi bod yn angerddol am ddartiau yn ein gwlad, ac mae ein tîm bob amser wedi ysbrydoli cenhedlaeth newydd o gefnogwyr a chwaraewyr gyda'u perfformiad. Maent hefyd wedi dangos i’r byd fod Cymru'n genedl o bencampwyr, sy'n gallu cystadlu ac ennill ar y lefel uchaf, a hoffwn longyfarch Gerwyn a Jonny ar ran Senedd Cymru a’r genedl gyfan. Rydych wedi gwneud pob un ohonom yn falch, ac mae pob un ohonom yn ddiolchgar am eich ymroddiad a'ch dawn. Rydych yn llysgenhadon go iawn dros Gymru a thros ddartiau.

Hoffwn ddiolch hefyd i drefnwyr, swyddogion a chefnogwyr y digwyddiad a'i gwnaeth yn bosibl ac yn llwyddiant. Mae Cwpan Dartiau'r Byd yn gyfle gwych i arddangos amrywiaeth, cyffro a chyfeillgarwch y gamp hon. Mae'n dod â phobl ynghyd o wahanol wledydd a diwylliannau sydd wedi'u huno gan gariad at ddartiau. Gobeithio y bydd pob un ohonoch yn mwynhau'r dathlu ac yn ymuno â mi wrth inni ddathlu ein harwyr Cymreig. Hir oes i Gymru, a hir oes i ddartiau.

Ac efallai eich bod yn credu bod hwnnw'n ddiweddglo rhyfedd i araith, Lywydd, ond gallaf ddatgan buddiant a dweud mai dyna oedd yr araith gyntaf, rwy'n credu, a wnaed yn y Siambr hon wedi'i hysgrifennu gan ChatGPT.

16:15

Diolch am hynny, ie, yn wir.

Llongyfarchiadau i dîm Cymru ar yr ennill yna. Samuel Kurtz nesaf.

Diolch, Lywydd. Mae’r wythnos hon yn nodi ail Wythnos Bwyd a Ffermio Cymru NFU Cymru, cydnabyddiaeth a dathliad blynyddol o gynnyrch byd-enwog Cymru, cynhyrchiant sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd a’r miliynau o bunnoedd a gyfrannir i economi Cymru gan ein diwydiant amaethyddol flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Ffermio yw'r edefyn arian sy'n rhedeg drwy wead hunaniaeth genedlaethol Cymru. Mae amaethyddiaeth Cymru nid yn unig yn rhan hanfodol o’n heconomi, mae’n rhan o’n diwylliant cyfoethog hefyd ac yn gwarchod ein hiaith a’n harddwch amgylcheddol. Ffermio yng Nghymru yw sylfaen sector bwyd Cymru, sy'n werth £7.9 biliwn, gyda 53,000 o'r 239,000 o bobl a gyflogir ar draws sector bwyd a diod Cymru yn cael eu cyflogi ar ffermydd Cymru. Mae'r ffermwyr hyn nid yn unig yn gweithio drwy gydol y flwyddyn i gynhyrchu bwyd o'r radd flaenaf ac yn gweithredu dulliau bridio soffistigedig sy'n seiliedig ar genedlaethau o brofiad, maent hefyd yn arloesi gyda chynlluniau newid hinsawdd byd-eang, a amlygir yn eu hymrwymiad i dargedau megis cyrraedd sero net erbyn 2040. Y ffermwyr a'r teuluoedd hyn, felly, sy’n gwarchod y tir, yn dathlu safonau lles anifeiliaid ac sy'n rhoi bwyd Cymreig o’r ansawdd uchaf ar ein byrddau yn gyson.

O datws sir Benfro, sydd wedi ennill sawl gwobr, i gig oen morfa heli Gŵyr, mae gennym lu o bobl a chynnyrch i’w dathlu yr wythnos hon. Gyda hyn mewn golwg, Lywydd, mae’r wythnos hon o weithgareddau i hyrwyddo popeth sy’n wych am fwyd a ffermio Cymru yn gyfle perffaith inni ddod ynghyd a rhoi eiliad i ddiolch i’n ffermwyr am eu gwaith caled parhaus, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, ac am roi cymaint i sicrhau bod y Gymru wledig yn ffynnu. Diolch.

Yn gynharach eleni, ar 8 Mawrth, dathlodd senotaff Aberdâr ei ganmlwyddiant. Cafodd y senotaff ei ddadorchuddio yn Sgwâr Fictoria yng nghanol y dref gerbron tyrfa o oddeutu 20,000 o bobl ym 1923. Cafodd ei gynllunio gan Francis Morley o Durham a'i gynhyrchu gan Dalbeattie Granite Works yn Dumfries, a'i fodelu ar y senotaff yn Whitehall. Costiodd oddeutu £1,200, sy'n cyfateb i £87,000 ym mhrisiau heddiw—swm aruthrol, y talwyd amdano'n bennaf drwy'r gronfa cofebion rhyfel a chyfraniadau cyhoeddus. I ddechrau, roedd yn coffáu’r 800 o bobl leol a gollodd eu bywydau wrth wasanaethu yn y rhyfel byd cyntaf. Mae bellach yn coffáu’r meirw ym mhob rhyfel lle bu farw milwyr Prydain wrth ymladd. Fel y cyfryw, mae’n ganolbwynt i’r gymuned leol bob blwyddyn ar Sul y Cofio.

Bydd dathliad o ganmlwyddiant y senotaff yn cael ei gynnal yn Aberdâr drwy gydol mis Mehefin. Un elfen arbennig o'r dathliad yw'r arddangosfa yn eglwys Sant Elfan, a fydd yno am fis cyfan. Mae'n werth ymweld â hi. Ddydd Sul, bydd gorymdaith a seremoni arbennig iawn yn cael ei chynnal wrth y senotaff. Yna, bydd cyngerdd rhad ac am ddim yn Sgwâr y Llyfrgell, gyda pherfformiadau gan Gôr Meibion Cwm-bach, côr Lleisiau Cwmdâr, côr menywod Dare To Sing, a Band Tylorstown. Rwy'n gobeithio y bydd llawer o bobl yn ymuno â ni ar gyfer yr hyn a fydd yn ddigwyddiad cofiadwy iawn. Bydd eu henwau'n byw am byth.

7. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod—Bil dyletswydd ddinesig i bleidleisio
8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol—Deintyddiaeth

Mae hynny'n dod â ni at eitem 8, a hon yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ddeintyddiaeth. Cadeirydd y Pwyllgor, felly, i gyflwyno'r ddadl. Russell George. 

Cynnig NDM8299 Russell George

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, 'Deintyddiaeth', a osodwyd ar 15 Chwefror 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig ar y papur trefn heddiw yn fy enw i.

Mae’n bleser mawr gennyf agor y ddadl y prynhawn yma ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ddeintyddiaeth, a diolch i’r Gweinidog am ei hymateb i’r argymhellion a wnaed yn ein hadroddiad.

Gwn fod mynediad at ddeintyddiaeth y GIG yn fater sydd wedi bod yn rhan flaenllaw o waith achos yr Aelodau ac yn fater sy’n cael ei godi’n aml yn y Siambr hon. Nid yw'n teimlo fel llawer o wythnosau ers imi fod ar fy nhraed ddiwethaf mewn dadl yn siarad am ddeintyddiaeth. Rwyf wedi siarad o’r blaen am system ddwy haen, lle mae’r rhai sy’n gallu fforddio talu am driniaeth breifat yn gwneud hynny. Gwn y bydd y Gweinidog yn dweud bod system ddeintyddol breifat wedi bod ar gael erioed i'r rhai sy'n dewis ei defnyddio neu sy'n gallu fforddio gwneud hynny. Mewn un ffordd, wrth gwrs, rwy’n derbyn bod y Gweinidog yn iawn. Y gwahaniaeth nawr yw nad yw hyn yn ymwneud â phobl yn dewis cael triniaeth ddeintyddol breifat am eu bod yn gallu ei fforddio; mae'n ymwneud â phobl yn cael mynediad at driniaeth ddeintyddol breifat am nad oes ganddynt unrhyw opsiwn arall. I ormod o bobl, nid yw triniaeth ddeintyddol yn fater o ddewis mwyach, mae'n fater o anghenraid.

Nawr, dywedodd Rhian Davies o Rydaman wrthym nad oedd ei mab wedi gweld deintydd yn y pum mlynedd ers i’r ddeintyddfa GIG leol gau, a dywedodd fod y llythyr i ddweud wrthi fod y practis yn cau yn cynnig tri opsiwn ar gyfer practisau eraill. Roedd un o’r rheini 40 milltir i ffwrdd, felly dywedodd

'Rydym yn deulu o bedwar ac nid wyf eisiau mynd yn breifat, ond nid oes dewis gennyf.'

O rywfaint o fy ngwaith achos fy hun, gwn nad yw 40 milltir yn llawer o gymharu â'r pellter y byddai’n rhaid i lawer o fy etholwyr deithio er mwyn cael triniaeth GIG.

Yr hyn sy'n peri mwy fyth o bryder yw bod yna drydedd haen a haen gynyddol bellach hefyd: y rheini na allant gael deintydd GIG, ond na allant fforddio talu am driniaeth breifat. Nid oes ganddynt unrhyw ddarpariaeth o gwbl heblaw gwasanaethau deintyddol brys wrth gwrs.

Clywsom hefyd gan deulu ym Mhowys a oedd wedi bod yn ceisio cael mynediad at ddeintydd GIG ers chwe blynedd. Cafodd un o'r plant ddamwain a malu ei dant, wedyn nid oedd dewis ganddynt heblaw cysylltu â 111 i gael triniaeth ddeintyddol frys. Yn anffodus, nid yw hon yn stori anghyffredin, ac mae’r pwysau costau byw yn debygol o waethygu'r broblem.

Mae’n siomedig fod y gymuned ddeintyddol yn teimlo bod diffyg ymgynghori a gwybodaeth cyn ailddechrau'r rhaglen i ddiwygio’r contract deintyddol. Dywedwyd wrthym fod y diffyg rhybudd wedi peri cryn bryder i ddeintyddion nad oedd ganddynt fawr o amser i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch derbyn cynnig y contract ai peidio.

Mae’r Gweinidog, wrth gwrs, yn derbyn bod y cynnig i amrywio'r contract ar gyfer 2022-23 wedi’i gyhoeddi’n hwyrach nag y byddai wedi'i ddymuno oherwydd amgylchiadau eithriadol pandemig COVID-19. Fodd bynnag, wrth symud ymlaen, rwy’n sicr yn credu, ac mae’r pwyllgor yn credu, y dylai Llywodraeth Cymru, oni bai bod yr amgylchiadau’n eithriadol, sicrhau bod y broses ymgynghori ynghylch newidiadau posibl i’r contract deintyddol yn cael ei chynnal o leiaf chwe mis cyn y bwriedir cyflwyno’r diwygiadau.

Credaf fod hwn yn fater gwirioneddol bwysig: canfu ein hymchwiliad nad oes darlun clir o nifer y bobl sy'n aros am driniaeth ddeintyddol. Felly, nid oes darlun clir o'r bobl sy'n aros am driniaeth ddeintyddol. Os ydym am fynd i’r afael o ddifrif ag anghydraddoldebau mynediad at wasanaethau deintyddiaeth y GIG, mae’n rhaid inni dargedu adnoddau yn y mannau lle mae’r angen mwyaf. Mae’n hynod o anodd gwneud hyn, os nad yn amhosibl, os nad oes gennym syniad faint o bobl sy’n aros i weld ddeintydd GIG. Credaf ei bod hefyd yn annerbyniol, ar ôl i bobl gael eu rhoi ar restr aros, y gallent fod yn aros hyd at 26 mis cyn cael apwyntiad.

Mewn tystiolaeth lafar, nododd y Gweinidog rai o’r anawsterau sydd ynghlwm wrth greu rhestr aros i Gymru gyfan. Rwy’n falch, felly, fod y Gweinidog wedi gallu derbyn yr argymhelliad hwn a bod trafodaethau eisoes yn mynd rhagddynt gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru i ystyried y cynllun ar gyfer rhestr aros ddeintyddol Cymru gyfan. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai’r Gweinidog egluro amserlen y gwaith hwn.

Mae data'n thema sy'n codi dro ar ôl tro yn ein holl waith ar y pwyllgor iechyd. Bob tro y byddwn yn sôn am ddiffyg data, rwy'n credu bod Jack Sargeant a minnau'n edrych ar draws yr ystafell bwyllgora ar ein gilydd, gan fod y thema hon yn codi dro ar ôl tro. Nid oedd yr ymchwiliad hwn yn eithriad yn hynny o beth ychwaith. Cesglir data ar nifer y cleifion sy'n derbyn triniaeth ddeintyddol GIG yn unig. Felly, mae’n anodd gwybod faint o angen heb ei ddiwallu a geir yn y boblogaeth gan na wyddom faint o bobl sy'n ceisio triniaeth breifat, neu sy'n cael gofal mewn argyfwng yn unig.

Clywsom hefyd fod 14 o systemau meddalwedd gwahanol yn cael eu defnyddio mewn practisau ledled Cymru ar hyn o bryd, a galwodd ein hargymhelliad 6 ar Lywodraeth Cymru i roi cynllun clir ac amserlenni ar gyfer sut y bydd yn cyflwyno un system feddalwedd i’w defnyddio gan holl ddeintyddion Cymru. Ac er i'r argymhelliad hwn gael ei wrthod, rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo, mewn gwirionedd, i gynnal dadansoddiad o'r opsiynau o ran ei ymarferoldeb erbyn diwedd tymor yr haf 2023. Faint yw hynny? Dair wythnos i ffwrdd. Credaf fod pob un ohonom yn cyfri'r dyddiau. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai’r Gweinidog gadarnhau y bydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor am ganlyniad hyn maes o law.

Ni ddylid diystyru effaith negyddol y pandemig ar y gweithlu deintyddol, a hoffwn ddiolch, ar ran y pwyllgor, i’r gweithlu yn hynny o beth. Er ein bod wedi cael sicrwydd fod gwasanaethau ar waith i helpu gyda llesiant corfforol a meddyliol y gweithlu, fel pwyllgor rydym yn pryderu am y pwysau ar y gweithlu sy’n golygu bod y gwasanaethau hyn mor angenrheidiol. Felly, rydym am weld yr amodau gwaith a'r amodau gwasanaeth cywir ar waith i gefnogi iechyd meddwl a lles y gweithlu deintyddol.

Ac er bod cyhoeddiad ffurfiol cynllun y gweithlu wedi’i ohirio o’r gwanwyn tan fis Gorffennaf 2023, y mis nesaf, byddwn yn croesawu sicrwydd y Gweinidog y bydd yn adlewyrchu’r newid yn y dyheadau o ran yr angen am fwy o gymysgedd sgiliau o fewn y gweithlu, fel y nodir yn ein hadroddiad.

Clywsom hefyd sut y gallai gwneud mwy o ddefnydd o’r tîm gofal deintyddol ehangach gael effaith enfawr ar y gwaith o fynd i’r afael ag anawsterau i gael mynediad at driniaeth ddeintyddol GIG. Dywedwyd wrthym y byddai angen newidiadau i ddeddfwriaeth i alluogi therapyddion deintyddol i gael rhif perfformiwr, felly fe wnaethom argymell y dylai hyn ddigwydd fel mater o frys. Felly, roeddwn yn falch fod ymateb y Gweinidog i hyn yn mynd y tu hwnt i’r hyn y gallai ein hargymhelliad fod wedi gobeithio amdano. Ond yn dilyn cyhoeddiad gan GIG Lloegr y bydd therapyddion deintyddol a hylenyddion bellach yn cael cychwyn a chwblhau cyrsiau o driniaeth, mae cyngor cyfreithiol wedi cadarnhau y gellir efelychu hyn yng Nghymru, ac nad oes angen newidiadau deddfwriaethol mwyach. Felly, rwy'n siŵr fod y Gweinidog yn falch o hynny hefyd. Ond byddwn yn ddiolchgar pe gallai’r Gweinidog gadarnhau bod therapyddion bellach yn trin cleifion ag anghenion lefel is, gan ryddhau deintyddion, wrth gwrs, i ganolbwyntio ar gleifion ag anghenion mwy cymhleth.

Ac yn olaf, hoffwn sôn am gyllid. Mae cyllidebau deintyddiaeth wedi cael eu capio ers tipyn go lew o amser. Felly, o ystyried y diffyg mynediad at ddeintyddiaeth GIG, effaith yr argyfwng costau byw, a’r anghydraddoldebau cynyddol o ran mynediad at wasanaethau, dylai Llywodraeth Cymru—rydym ni, fel pwyllgor, yn credu—adolygu i weld a yw’r lefelau ariannu presennol yn ddigonol i’r gwasanaeth gyflawni’r hyn y mae angen iddo’i gyflawni er mwyn lleihau’r ôl-groniad. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud asesiad o'r lefelau ariannu sydd eu hangen pan fydd y rhestr aros ganolog yn ei lle. Felly, credaf fod hynny'n angenrheidiol ac i'w groesawu.

Felly, diolch, Lywydd. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau’r Aelodau y prynhawn yma.

16:25

Diolch yn fawr iawn i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol am gynnal yr ymchwiliad yma i gyflwr deintyddiaeth yng Nghymru, ac mae’r adroddiad yn amlinellu’n glir fod deintyddiaeth mewn sefyllfa argyfyngus, yn arbennig efallai mewn ardaloedd gwledig, gyda phrinder apwyntiadau, diffyg gweithlu digonol, a chytundebau NHS yn cael eu rhoi nôl i’r bwrdd iechyd.

Ac fel efallai pob Aelod yn y Siambr, dwi'n aml yn clywed am fwy o etholwyr sydd nawr heb ddeintydd NHS am y tro cyntaf yn eu bywydau—ac mae hynny'n cynnwys fi—neu etholwyr sydd wedi bod yn aros am flynyddoedd ar restr aros, a dwi'n pryderu'n arbennig am ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, lle nad oes unrhyw ddeintydd bellach yn fodlon cymryd oedolion ymlaen ar eu rhestrau.

A jest i ychwanegu at y broblem, fel y dywedodd Russell George, dŷn ni ddim wir yn deall maint y broblem o ran y rhestrau aros NHS. Dwi'n falch iawn bod y Llywodraeth wedi derbyn un o argymhellion y pwyllgor fod angen inni greu'r rhestr ganolog yma a bod angen i’r byrddau iechyd i fynd ati i gyflwyno’r data yna i’r Llywodraeth, achos heb y data, mae’n anodd cynllunio ar gyfer y dyfodol—anodd gwybod ble i gomisiynu gwasanaethau a ble mae angen recriwtio yn benodol o ran y bylchau. Felly, gaf i ofyn i'r Gweinidog beth yw’r diweddaraf am y dasg o greu rhestrau?

Dwi hefyd yn poeni am y diffygion o ran y bylchau yn y gweithlu mewn rhai ardaloedd sydd yn amharu ar y gallu i gael apwyntiadau NHS. Mae’r Llywodraeth, dwi'n gwybod, wedi cyflwyno cynllun i geisio mynd i’r afael â hyn, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig, ond rwy’n amau a fydd hyn efallai ar ei ben ei hun yn mynd yn ddigon pell. Dwi'n credu bod y Llywodraeth wedi cydnabod, yn ei hymateb i’r adroddiad, fod myfyrwyr sydd yn astudio mewn rhyw fan yn dueddol o aros yn yr ardal ble maen nhw wedi cael eu hyfforddiant. Felly, mewn cyfarfod yr wythnos diwethaf gyda bwrdd iechyd Hywel Dda, fe ofynnais y cwestiwn iddyn nhw a fyddai modd ystyried y posibilrwydd o sefydlu ysgol ddeintyddiaeth rhywle yng ngorllewin Cymru. Felly, Weinidog, i orffen y darn bach yma wrthyf i, a fyddech chi'n barod i gynnal trafodaethau gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn ystyried sefydlu ysgol ddeintyddol yn y gorllewin i gwrdd â’r heriau penodol sy'n wynebu ardaloedd gwledig? Diolch.

16:30

Dyma enghraifft lle mae pwyllgorau'n gweithio'n dda: archwilio maes sydd angen ei graffu'n fanwl a chael trafodaeth gyhoeddus yn ei gylch. Fel llawer o Aelodau eraill, rwy'n cael nifer fawr o ymholiadau ynghylch mynediad at ddeintyddion, yn enwedig pan fo practis deintyddol lleol yn rhoi'r gorau i weld cleifion GIG, yn aml heb unrhyw rybudd. Mae'n siomedig fod adroddiad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd ar ddeintyddiaeth wedi rhybuddio na ellir targedu cefnogaeth yn y lle iawn i fynd i'r afael â'r ôl-groniad gan nad oes darlun clir o faint o bobl sy'n aros i weld deintydd GIG ar hyn o bryd.

Er bod COVID-19 yn sicr o fod wedi cael effaith ddifrifol ar fynediad at ddeintyddiaeth y GIG, canfu'r adroddiad fod problemau hirsefydlog cyn y pandemig—a hynny, os caf ddweud, cyn i'r Gweinidog presennol ddod i'r swydd. Rydym yn siarad â'r Gweinidog presennol sydd wedi etifeddu hyn ynghyd ag ystod eang o broblemau eraill. Mae problemau o ran cael deintydd GIG. Mae nifer y practisau deintyddol yn lleihau, ac mewn rhai achosion, yn terfynu eu contractau GIG, gan gynnwys ar gyfer plant. Hoffwn i, ynghyd â llawer o bobl eraill, weld deintyddiaeth y GIG ar gael i bawb sydd ei eisiau, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi ar hynny.

Mae deintyddion sy'n gwneud gwaith GIG wedi ymrwymo i egwyddorion y gwasanaeth iechyd gwladol. Roedd y materion a godwyd gan y deintyddion y cyfarfûm â nhw yn cynnwys y contract newydd a'r ffaith bod deintyddion wedi ymrwymo i'r contract heb y manylion, a ddaeth yn amlwg yn ddiweddarach. Blwyddyn ddysgu oedd hon i fod, ond nid yw'n ymddangos bod hynny wedi digwydd. Roedd y drafodaeth ar y cynnig ar ddeintyddiaeth ar 25 Mai yn ymddangos fel pe bai'n tynnu sylw at rywfaint o ddryswch ynghylch sut y diffinnir claf newydd. Mae un o fesuriadau presennol y rhaglen ddiwygio yn ymwneud yn benodol â beth yw'r diffiniad hwn. Os yw claf yn symud i bractis arall, ymddengys eu bod yn cael eu dangos fel claf newydd pan fyddant yn ymuno â'r practis newydd, hyd yn oed os oeddent yn glaf GIG yn y practis blaenorol.

Rwy'n cefnogi argymhelliad Llywodraeth Cymru i sicrhau na ddylai'r ymgynghoriad ar newid posibl i'r contract deintyddol ddigwydd o fewn chwe mis i'r adeg y daw'r diwygiadau i rym, heblaw mewn amgylchiadau eithriadol. Mae angen i negodiadau wrando ar Gymdeithas Ddeintyddol Prydain—nid gosod contract. Mae angen cyngor ar y Gweinidog gan bobl sydd naill ai wrthi'n gweithio, neu sydd wedi gweithio, fel deintyddion GIG yn y gymuned, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Weithiau rydym yn rhoi bai ar y Gweinidog, ond nid yw peth o'r cyngor y mae'r Gweinidog yn ei gael o fudd.

Enw'r system gontractau ddiweddaraf, a gyflwynwyd yn 2019, yw diwygio'r contract—wrth gwrs, bob tro y clywaf y termau 'diwygio' neu 'foderneiddio', rwy'n mynd yn chwys oer drosof—unwaith eto, digwyddodd hyn cyn i'r Gweinidog ddod i'w swydd. O dan y system, telir deintyddion am gyfres o unedau o weithgarwch deintyddol bob blwyddyn, sef 25 y cant o werth eu contract, gyda dangosyddion perfformiad allweddol eraill yn ffurfio'r 75 y cant arall, gyda'r pwyslais ar ofal ataliol a chanlyniadau i gleifion, sy'n dda, ond mae adfachu wedi creu pryderon enfawr i bractisau deintyddol.

Mae yna ddryswch hefyd yn y gweithlu deintyddol lleol ynglŷn â sut mae'r metrigau'n gweithio—o ble y deilliant a pha dystiolaeth a geir o'u dilysrwydd. Mewn rhai achosion, mae'n amhosibl i rai practisau gyflawni rhai o'r metrigau. Er enghraifft, mae nifer targed y cleifion hanesyddol sydd i'w gweld mewn blwyddyn gontract yn seiliedig ar ganran o werth y contract. Mewn rhai practisau, mae nifer y cleifion hanesyddol yn is na'r targed, ac felly mae'n amhosibl ei gyflawni. Mae deintyddion yn awgrymu rhai atebion: contractau deintyddol a delir ar yr un gyfradd am bob eitem o driniaeth a ddarparir ganddynt, cynllun y pen wedi'i bwysoli—fe gofiwch mai dyna oedd yn arfer bod gennym—ac y dylid gwobrwyo deintyddion am weld cleifion risg uwch yn fwy rheolaidd a darparu triniaethau mwy cymhleth, sy'n cymryd mwy o amser.

Cafwyd llwyddiant gyda diogelu dannedd plant, a hynny drwy'r Cynllun Gwên. Pan ymwelais ag ysgol cyn COVID a gofynnodd plentyn 10 oed yn St Thomas i mi, 'Beth yw llenwad?', i rywun fel fi sydd â mwy o amalgam mercwri yn fy ngheg nag unrhyw beth arall, roedd hwnnw'n llwyddiant ysgubol, ac rwy'n credu bod hwnnw wedi bod yn llwyddiant. Ond mae hynny, wrth gwrs, yn dyddio'n ôl i ddyddiau Edwina Hart. Mae'n ymddangos bod gennym fwlch yn y canol. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y Cynllun Gwên yn cael ei adfer i lefelau cyn y pandemig cyn gynted â phosibl.

Mae yna ffordd arall o wella iechyd deintyddol, sef fflworid yn y dŵr, fel y nododd y pwyllgor. Rwy'n cytuno â'r pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu ymchwil i'r gwerth i iechyd y cyhoedd ac agweddau tuag at gyflwyno fflworid i'r system ddŵr gyhoeddus yng Nghymru ac ymrwymo i gyhoeddi canfyddiadau'r ymchwil. Mae atal bob amser yn well na thrin.

Mae yna brinder deintyddion cymwys yn gwneud gwaith deintyddol y GIG yng Nghymru. Mae'n debyg mai dyna'r rheswm pam ein bod yn cael y drafodaeth hon heddiw. Mae hyn, i mi, yn dangos bod angen ysgol ddeintyddol newydd yng Nghymru, ac rwyf wedi awgrymu Prifysgol Abertawe fel safle posibl yn y gorffennol, er fy mod yn siŵr y bydd pobl o'r gogledd yn awgrymu Bangor. Mae'n hollbwysig cael canolfan addysgu ddeintyddol arall yn fuan, ar safle lle mae gennym ysgol feddygol eisoes, ac os daw Bangor neu Abertawe yn gyntaf, daw'r llall yn ail.

Yn olaf, yn dilyn Brexit byddwn wedi colli nifer fawr o ddeintyddion o dde a dwyrain Ewrop, gan gynnwys yn y practis deintyddol rwy'n mynd iddo. Beth sy'n cael ei wneud i ganiatáu i ddeintyddion cymwys o'r tu allan i'r UE ymarfer yng Nghymru?

16:35

Dwi'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu heddiw.

Mae mynediad at ddeintyddiaeth yn fater y gwn ei fod yn ffurfio'r rhan fwyaf o fewnflychau gwaith achos ein Haelodau, ac rwyf wedi siarad am y mater o'r blaen. Rhaid imi longyfarch y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar eu hadroddiad manwl, a ddarllenais gyda llawer o ddiddordeb, a nodaf yr argymhellion a wnaeth y pwyllgor a'r ymatebion a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru. Manteisiais hefyd ar y cyfle i ailddarllen y llythyr a dderbyniais ym mis Chwefror eleni gan bwyllgor deintyddol lleol Dyfed-Powys. Mae yna ychydig o bwyntiau yr hoffwn eu trafod.

Yn gyntaf, mae argymhellion 1 a 2 yr adroddiad yn trafod yr angen am gyfnod ymgynghori digonol ar y contract newydd, yn ogystal â sicrhau bod y cydbwysedd cywir o apwyntiadau cleifion yn cael eu gosod a'u monitro, a dyma'r union bwyntiau a godwyd gyda mi gan y pwyllgor deintyddol lleol. Roeddent yn teimlo eu bod wedi wynebu, 'wltimatwm' i fwrw ymlaen â'r diwygiadau contract ym mis Mawrth 2020, er gwaethaf pryderon—a dyfynnaf eto—'am dargedau a fyddai'n cael eu gosod.' Roeddent yn dweud, 'Nid oedd tystiolaeth ar gael ar y pryd i ddangos sut y cafodd targedau contract eu creu, ac roeddem yn dal i aros am y dystiolaeth hon.' Y peth mwyaf pryderus oedd y farn, er gwaethaf y ffaith yr ymgynghorwyd â hwy, nad ystyriwyd yr adborth gan ddeintyddion mewn perthynas â'r contract newydd.

Mae argymhelliad 10 yn cyfeirio at yr angen i greu mwy o leoedd hyfforddi, yn benodol yn yr achos hwn drwy agor ysgol ddeintyddol yng ngogledd Cymru. Mae'r deintyddion sydd wedi siarad â mi yn cydnabod yr angen i sicrhau bod mwy o leoedd hyfforddi ar gael i alluogi'r proffesiwn i dyfu, a hoffwn glywed barn y Gweinidog ynglŷn ag a ellid ystyried sefydlu ysgol ddeintyddol yng ngorllewin Cymru hefyd, ochr yn ochr ag ysgol ddeintyddol gogledd Cymru. Fel gyda llawer o rolau yn y maes meddygol, mae cyfleoedd cyflogaeth parhaol yn haws i'w llenwi'n agosach at lle mae'r myfyrwyr wedi hyfforddi, ac os oes carfannau rheolaidd o fyfyrwyr yn graddio yng ngorllewin Cymru, mae mwy o obaith y caiff y llefydd hynny eu llenwi.

A fyddech chi'n cytuno bod angen inni ei gael yn agos at ysgol feddygol, neu mewn ysgol feddygol, oherwydd y manteision i bobl sy'n gweithio rhwng y ddau?

Rwy'n credu bod hwn yn gyfle hollol realistig. Rwy'n nodi bod fy mwrdd iechyd yn fwrdd iechyd prifysgol, ac mae gan orllewin Cymru nifer o lefydd gwag yn y maes deintyddol, ond yn bendant mae yna ystyriaeth a chryfder mewn cael y gwasanaethau hynny a'r hyfforddiant hwnnw mor agos at ei gilydd â phosibl.

Yn olaf, gan symud ymlaen, Weinidog, hoffwn ofyn am rywfaint o eglurhad ar y sylw a wnaed gan Brif Weinidog Cymru i'r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan mewn perthynas â deintyddiaeth. Rwy'n dyfynnu'r Prif Weinidog:

'Un o'r pethau y byddem yn hapus i'w harchwilio gyda gweddill y Deyrnas Unedig yw'r ffordd y daeth ein contract deintyddol newydd i rym ym mis Ebrill eleni, gan arwain at filoedd yn fwy o apwyntiadau GIG ar gyfer cleifion deintyddol, gan gynnwys yn ardal Hywel Dda, lle rwy'n credu bod bron i 10,000 yn rhagor o apwyntiadau ar gael o ganlyniad i'r contract newydd.'

O ystyried galwad briffio bwrdd iechyd Hywel Dda yr wythnos diwethaf, ymddengys nad oedd arweinyddiaeth Hywel Dda yn cydnabod y dadansoddiad hwn. Byddwn yn ddiolchgar pe gellid cynnig sicrwydd fod tystiolaeth y Prif Weinidog yn adlewyrchiad cywir o'r sefyllfa, a hoffwn weld dadansoddiad o sut mae'r apwyntiadau ychwanegol hyn yn rhannu ar draws rhanbarth y bwrdd iechyd. Mae'n hanfodol fod y contract deintyddol newydd yn gwrando ar bobl ar lawr gwlad, er mwyn sicrhau ei fod yn darparu ar gyfer cleifion ar hyd a lled Cymru. Mae'n bwysig fod mynediad at ddeintyddiaeth yn gwella, a bod y Gweinidog, a Llywodraeth Cymru, yn llwyr sylweddoli difrifoldeb y sefyllfa rydym ynddi ar hyn o bryd, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth eu bod yn deall difrifoldeb y sefyllfa.

Mae adroddiad y pwyllgor yn mynd rywfaint o'r ffordd tuag at fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, ond mae bellach yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector i sicrhau bod newid yn digwydd a bod mynediad yn gwella. Diolch, Lywydd. 

16:40

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma ar fater mor bwysig ac amserol sy'n wynebu'r mwyafrif o bobl yng Nghymru. Fel aelod o'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, hoffwn ddechrau fy sylwadau drwy ddiolch i bawb sydd wedi rhoi tystiolaeth i'r adroddiad deintyddol, a holl glercod, ymchwilwyr a staff y pwyllgor am ddod â'r cyfan at ei gilydd ar lefel weithredol. 

Mae llawer o drafodaethau i'w cael ynghylch deintyddiaeth a diffyg triniaeth gyflym, effeithiol ar gyfer problemau deintyddol yn y GIG, sydd wedi lleihau yn anffodus ers pandemig COVID-19 a chyn hynny. Mae'n un o'r pynciau mwyaf a godwyd gan etholwyr Dyffryn Clwyd, sy'n cysylltu'n rheolaidd â mi ynglŷn â'r diffyg mynediad at driniaeth yng ngwasanaethau deintyddol y GIG, yn enwedig canghennau Mydentist ym Mhractis Deintyddol Elwy yn y Rhyl ac ar y stryd fawr ym Mhrestatyn. Ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw iechyd y geg, gan ei fod yn cyfrannu at gymaint o fanteision iechyd ac esthetig, a hyd yn oed manteision canlyniadol i'r galon ac organau mawr eraill yn y corff. 

Un elfen o'r ddadl bellgyrhaeddol hon yr hoffwn ganolbwyntio arni heddiw, ac a glywsom mewn tystiolaeth yn y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yw'r contract GIG a gynigir i ddeintyddion gan Lywodraeth Cymru. Yr hyn rydym wedi'i glywed mewn tystiolaeth yw'r ffaith nad yw contract y GIG yn gallu cystadlu â chynnig y sector preifat. Ac o ystyried hyn gyda'r ffaith bod deintyddion yn y GIG yn ddarostyngedig i fwy o fiwrocratiaeth a rheolaeth ganol, mae'n methu cystadlu â'r sector preifat sy'n cynnig tâl gwell, telerau ac amodau gwell a llai o benaethiaid. I unrhyw un call, mae'n amlwg pam eu bod yn dewis dilyn gyrfa yn y sector preifat. 

Mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i gydnabod y realiti hwn, ac edrych ar sut mae contract y GIG yn cael ei greu, a sut y gall gystadlu orau gyda'r sector preifat i sicrhau bod gyrfaoedd ym maes deintyddiaeth y GIG yn cystadlu â'r sector preifat, ac yn annog darpar ddeintyddion i ddilyn gyrfa yn y sector cyhoeddus, neu hyd yn oed helpu i symud gweithwyr proffesiynol yn y sector preifat, a allai fod wedi eu denu i'r sector preifat mewn blynyddoedd a fu, yn ôl i mewn i'r GIG.

Gadewch inni ganolbwyntio ar realiti gwleidyddol hyn am eiliad. Mae gennym Lywodraeth Lafur wrth y llyw yng Nghymru, ac mae hynny wedi bod yn wir ers dechrau datganoli yng Nghymru ym 1997 ac etholiadau cyntaf y Cynulliad ers 1999. Un o egwyddorion sylfaenol Aneurin Bevan, a chreu'r GIG ym 1948, oedd creu parch cydradd rhwng practisau iechyd a deintyddiaeth a'r sector preifat a fyddai'n rhoi cyfle i bob dyn, menyw a phlentyn gael mynediad at ofal iechyd o ansawdd uchel yn rhad ac am ddim pan fo angen. Cafodd hyn ei danseilio amser maith yn ôl gan Lywodraeth Lafur y DU o dan Tony Blair, a addawodd ym 1999 y byddai gan bob person yn y DU fynediad at ddeintydd GIG, a gorfod cyfaddef, chwe blynedd yn ddiweddarach, yn 2005, nad oedd dim y gallai ei wneud am y peth a chyfaddefodd ei fod wedi methu yn ei weledigaeth flaenorol.

Yn 2006, ail-ysgrifennodd Llywodraeth Lafur y DU gontract y GIG. O dan yr hen system, câi deintyddion eu talu am y gwaith a wnaent, ac o dan y system newydd, câi ffi sefydlog o tua £80,000 y flwyddyn ei thalu iddynt am gyflawni hyn a hyn o unedau o weithgarwch deintyddol. Mae arnaf ofn fod y dull hwn o weithredu gan Blair wedi methu'n llwyr, a chafodd ei gondemnio gan rai o'i Aelodau Seneddol mwyaf ffyddlon ar y pryd hyd yn oed. Go brin ei bod yn enghraifft ddisglair o'r Blaid Lafur yn cyflawni egwyddorion sylfaenol 1948. Yr hyn rydym yn dechrau ei weld, mewn cyd-destun datganoledig, yw Llywodraeth Cymru yn ailadrodd camgymeriadau a wnaed 20 mlynedd yn ôl, oherwydd mae tystiolaeth yn awgrymu nad cyhuddiad gwleidyddol yn unig yw hyn, ond un a gefnogir gan dystiolaeth gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn yr hyn y mae gweithwyr proffesiynol yn dweud iddo ddigwydd o ganlyniad i bolisi Llywodraeth. 

Mae gennyf funud ar ôl, ond rwyf am gloi fy sylwadau drwy annog y Gweinidog i adolygu contract y GIG a gweithio mewn ffordd sydd o fudd i gleifion yng Nghymru yn hytrach na gwneud yr un camgymeriadau gwleidyddol ag a wnaed flynyddoedd yn ôl. Diolch.

16:45

Fel rhywun nad yw'n aelod o'r pwyllgor, rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad am hyn. Rwy'n croesawu'r adroddiad heddiw'n fawr, Lywydd, a hoffwn ddiolch i glercod y pwyllgor a'r Cadeirydd am weithio mor galed ar yr adroddiad hwn ac am eu hymrwymiad i hyn. Wrth gwrs, rwy'n cytuno â phopeth y mae Cadeirydd y pwyllgor newydd ei ddweud.

Fel y dywed yr adroddiad, cafodd y pandemig COVID-19 effaith ddifrifol ar fynediad at wasanaethau deintyddol, ac mae hyn yn rhywbeth rwy'n ei gydnabod yn fy rhanbarth yn ne-ddwyrain Cymru. Mae'r adroddiad yn nodi'n briodol ei fod wedi creu ôl-groniad o gleifion sydd angen gofal a thriniaeth ddeintyddol. Rwy'n cydnabod llawer o'r hyn sydd wedi'i ddweud yn yr adroddiad hwn, ac rwy'n rhannu'r pryderon difrifol ynglŷn â chontractau deintyddol yn fy rhanbarth innau hefyd.

Wrth siarad ag etholwr sydd wedi bod yn berchen ar bractis deintyddol ers degawd, nododd rai materion amlwg. Dywedodd fod y contract yn iawn pan oedd yn cael ei gyflwyno'n araf; roedd y cam profi'n caniatáu i ymarferwyr addasu. Ar ôl iddo gael ei orfodi drwodd ar ôl COVID, mae'r perchennog bellach yn wynebu'r posibilrwydd y caiff degau o filoedd o bunnoedd eu hadfachu gan Lywodraeth Cymru am beidio â chyrraedd y targedau, er eu bod ar y trywydd cywir i gyrraedd y targed. Deillia hyn o gost y practis am orfod gweithio am ddim. Ochr yn ochr â hyn, dywedodd fod prosesau olrhain data yn anghywir ac yn ddiffygiol, ac rwy'n falch fod yr adroddiad wedi cydnabod hyn ac wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried un rhestr aros ganolog ledled Cymru, a bod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw.

Er eu bod yn gweld 400 o gleifion newydd, dywedodd fy etholwr mai dim ond 200 sy'n ymddangos ar y system, gan mai dim ond ar ôl cwblhau'r driniaeth lawn y gallant fewnbynnu'r data, ond eto mae'r targedau ar gyfer niferoedd cleifion yn golygu nad oes digon o apwyntiadau i weld cleifion presennol, rhai newydd, a chwblhau'r driniaeth i gleifion sy'n dod yno am y tro cyntaf ac sydd angen apwyntiadau lluosog. Dywedodd y byddai tua 90 y cant o gleifion angen apwyntiadau lluosog, ac nid yw'r system newydd ond yn cyfnewid un ymarfer trin ffigurau am un arall; nid yw'n ystyried bod rhai cleifion yn nerfus iawn, neu heb weld deintydd ers blynyddoedd. Mae hyn yn golygu, wrth gwrs, y gall apwyntiadau un unigolyn gymryd dwywaith cymaint o amser ag apwyntiad unigolyn arall.

Rwy'n falch fod yr adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio a yw'r lefelau presennol o gyllid yn ddigonol i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o gleifion. Mae'r cyllid hwn, wrth gwrs, yn allweddol, fel y dywedwyd eisoes, ac mae ei angen yn fwy nag erioed os ydym am fynd i'r afael o ddifrif â'r argyfwng deintyddol yng Nghymru a'r diffyg mynediad y mae fy etholwyr yn ei ddisgrifio i mi. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gwrando ar argymhellion allweddol yr adroddiad hwn, ac yn ystyried difrifoldeb y sefyllfa y mae gwasanaethau deintyddol ledled Cymru yn ei hwynebu. Diolch.

Rwyf am wneud cyfraniad byr i'r ddadl bwysig hon ar ddyfodol deintyddiaeth y GIG. Yn anffodus, mae nifer o fy etholwyr wedi cael llythyrau yn ystod y misoedd diwethaf yn dweud nad yw eu practis deintyddol bellach yn mynd i weld cleifion GIG. Mae hynny wedi digwydd yn Rhuthun, ym Mhractis Deintyddol Rhuthun, lle mae 9,000 o gleifion wedi cael y llythyrau hynny, ac mae hefyd wedi digwydd yr wythnos diwethaf ym Mhractis Deintyddol White Gables ym Mae Colwyn, gyda miloedd yn rhagor o bobl yn cael eu siomi, a naill ai'n gorfod talu'n breifat am driniaeth y bydd rhai ohonynt prin yn gallu ei fforddio, neu beidio â chael deintydd o gwbl a gorfod dibynnu ar y gwasanaeth deintyddol brys. Yn amlwg, dyma ddechrau ecsodus, i bob golwg, o ddeintyddion GIG yn gadael deintyddiaeth GIG mewn ffordd nad ydym wedi'i gweld ers blynyddoedd lawer.

Wrth gwrs, mae'r proffesiwn deintyddol, Cymdeithas Ddeintyddol Prydain, wedi rhybuddio y byddai hyn yn digwydd o ganlyniad i'r rhaglen ofnadwy o ddiwygio a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, rhaglen roedd pawb wedi gobeithio y byddai'n arwain at ddenu mwy o bobl i broffesiwn deintyddiaeth y GIG, mwy o bobl yn cael mwy o ddiogelwch gyda'u contractau fel y gallent weld mwy o gleifion. Nid yw'n ymddangos bod hynny wedi digwydd. Mae'r Gweinidog wedi cael ei rybuddio dro ar ôl tro fod y rhaglen honno bellach yn methu a bod angen ei hailwampio. Rwyf eisiau eich annog chi, Weinidog, i ailfeddwl a gweithio gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain i lunio dull gwahanol a newydd o wneud y contract, fel y gallwn gael cynnig deintyddiaeth GIG mwy cynaliadwy ledled Cymru y gall cleifion elwa ohono. Ac yn y cyfamser, Weinidog, mae'n gwbl hanfodol fod gennym wasanaeth deintyddol brys sy'n gweithio ac sy'n hawdd i bobl gael mynediad ato. Nid yw'n gweithio yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd; mae yna bobl sy'n cysylltu'n rheolaidd â fy swyddfa etholaethol, sy'n dweud wrthyf eu bod yn wynebu rhwystrau a heriau enfawr wrth geisio cael mynediad at wasanaethau deintyddol sydd eu hangen arnynt. Maent naill ai'n cael eu cynghori i fynd at ddeintydd a thalu'n breifat, ac mae llawer ohonynt yn methu gwneud hynny, neu eistedd mewn poen, ac aros nes eu bod yn cyrraedd y trothwy lle maent yn gymwys i gael rhywfaint o driniaeth frys. Nid yw hynny'n ddigon da. Mae'n rhaid inni sicrhau bod gennym system sy'n canolbwyntio'n well ar fynd i'r afael ag anghenion pobl, a sicrhau y gallwn gael canolfannau y gall pobl fynd iddynt a chael mynediad at driniaeth ddeintyddol frys pan fydd ei hangen arnynt. Nid yw'r mynediad hwnnw ar gael yn ddigon hawdd iddynt ar hyn o bryd.

16:50

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyfrannu nawr—Eluned Morgan.

Diolch yn fawr. Cyn i mi ymateb, hoffwn gofnodi fy meddyliau a fy mhryderon am yr holl bobl sydd wedi bod yn rhan o'r digwyddiad difrifol iawn yn ysbyty Llwynhelyg heddiw. Hoffwn ddiolch i'r holl wasanaethau sy'n helpu i ymateb ar gymaint o frys.

Hefyd, hoffwn gofnodi fy niolch i'r pwyllgor am yr adroddiad ar eu hymchwiliad i ddeintyddiaeth yng Nghymru. Fel pob Aelod o'r Senedd, rwyf wedi derbyn llawer o negeseuon e-bost gan etholwyr pryderus ynglŷn â mynediad at ddeintyddiaeth yn enwedig. Mae llawer i'w wneud i ddatrys problem mynediad at ddeintyddiaeth y GIG, ond rydym yn gweithio ar greu ateb cynaliadwy hirdymor sy'n cynnwys bwrw ymlaen â'r mwyafrif o'r argymhellion a wnaed yn adroddiad y pwyllgor. Ond mae'n rhaid imi ddweud wrthych nad oes ateb cyflym mewn perthynas â deintyddiaeth, ac er mwyn inni ddatrys y sefyllfa, bydd yn costio llawer iawn o arian sy'n anodd iawn dod o hyd iddo ar hyn o bryd. Nawr, ni allaf wneud cyfiawnder o ran ymateb i'r adroddiad mewn ychydig funudau, felly byddaf yn rhoi ymateb ysgrifenedig i'r llythyr a gefais gan Gadeirydd y pwyllgor, er mwyn ymhelaethu ar rai o'r atebion heddiw.

Mae peth blagur gwyrdd i'w weld serch hynny, a hoffwn roi rhywfaint o amser heddiw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd rydym wedi'i wneud gyda rhai o'r argymhellion rydych chi fel pwyllgor wedi'u gwneud ers imi roi fy ymateb ysgrifenedig i adroddiad mis Chwefror. Felly, yn gyntaf oll, ar y cymysgedd sgiliau, roedd hyn ar ein radar cyn ymchwiliad y pwyllgor, a bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed yn dweud o'r blaen fod yn rhaid inni wneud gwell defnydd o sgiliau'r tîm deintyddol cyfan. Er mwyn hwyluso hyn, rydym eisoes wedi dadflocio'r mater rheoleiddiol a oedd yn atal hylenwyr a therapyddion deintyddol yn y gorffennol rhag darparu triniaeth yn annibynnol, heb fod angen i ddeintydd awdurdodi'r driniaeth, neu, i ddefnyddio'r term technegol, 'agor a chau triniaeth GIG'. Felly, mae hyn wedi'i wneud nawr heb fod angen rhoi rhif perfformiwr i'r aelodau hyn o'r tîm deintyddol, ac wrth inni symud ymlaen i ddatblygu contract deintyddol newydd, mae angen inni sicrhau ei fod yn darparu'r fframwaith cywir i annog a galluogi cymysgedd sgiliau o fewn timau deintyddol y GIG.

Ar lefel ehangach, roedd y pwyllgor yn cydnabod yr anhawster i recriwtio pobl i ardaloedd gwledig—ac mae llawer o bobl wedi cyffwrdd â'r mater hwnnw yn benodol—ac i fynd i'r afael â'r mater penodol hwnnw, felly, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi llunio cynnig gwell, sy'n anelu at annog hyfforddeion deintyddol y dyfodol i gwblhau eu blwyddyn sylfaen mewn practisau deintyddol ar hyd a lled cefn gwlad Cymru, yn hytrach nag yn yr ardaloedd trefol mwy poblogaidd. Felly, yn ogystal â chodiad cyflog o £5,000, bydd deintyddion sy'n manteisio ar y cynnig hefyd yn cael cefnogaeth academaidd a lles gwell drwy gydol y rhaglen, a gobeithio y bydd hyn yn helpu i gynyddu mynediad at ofal GIG i bobl leol yng nghefn gwlad Cymru.

Ar hyn o bryd mae AaGIC hefyd yn datblygu cynllun gweithlu ar gyfer deintyddiaeth a fydd yn canolbwyntio, nid yn unig ar dyfu'r gweithlu, ond ar ei gadw hefyd. Nawr, yn gynharach eleni, cyhoeddais gynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer y gweithlu—roedd yn rhaid i hwnnw ddod yn gyntaf, felly fe wnaethom aros i hwnnw gael ei gyhoeddi yn gyntaf. Mae hwn yn ymrwymo i gyflawni cynllun gweithlu strategol ar gyfer deintyddiaeth erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Rwy'n sylweddoli nad yw hynny'n cyd-fynd ag argymhellion y pwyllgor o ran cyflymder, ond rwy'n credu bod yn rhaid inni wneud hyn yn iawn, ac mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn rhoi amser i wrando ar aelodau presennol y proffesiwn, ynghyd ag aelodau'r dyfodol, ynglŷn â'r hyn a fyddai'n gweithio a beth fyddai'n eu hannog i aros yn y GIG. A hefyd, mae yna seilwaith y mae angen inni feddwl amdano. Mae llawer o bobl wedi sôn am agor ysgolion deintyddol, ac yn y blaen; ni allwch wneud hynny dros nos—mae angen ichi weithio ar y pethau hynny gyda phrifysgolion, gydag addysg bellach. Felly, rwy'n credu ei fod yn cymryd mwy o amser na'r hyn y mae'r pwyllgor wedi'i roi i ni.

Felly, mae AaGIC yn gweithio gydag israddedigion presennol i ddeall beth maent ei eisiau ar gyfer eu gyrfa mewn deintyddiaeth GIG yn y dyfodol, a'r hyn a fyddai'n eu hannog i aros yng Nghymru. A gadewch inni beidio ag anghofio ein bod eisoes wedi buddsoddi swm enfawr o arian yn y bobl hyn, ac rwy'n credu, ar ryw bwynt, fod yn rhaid inni feddwl am amodoldeb—os ydym wedi gwario cymaint o arian yn hyfforddi pobl, lle mae ein had-daliad ni, o ran yr hyn rydym wedi'i roi i mewn, fel trethdalwyr, i'r bobl hyn? Ac mae honno'n sgwrs rwy'n ei chael nawr gyda fy swyddogion, ac mae angen sgwrs lawer ehangach ar hynny yn fy marn i.

Rwy'n credu mai'r safbwyntiau byd go iawn hyn fydd yn ein helpu i ddatblygu strategaeth ar gyfer y gweithlu sy'n mynd i wneud gwahaniaeth. Mae'n amlwg fod angen inni hyfforddi mwy o ddeintyddion a gweithwyr proffesiynol gofal deintyddol, ac rydym yn edrych ar hynny'n agos iawn ar hyn o bryd. At ei gilydd rwy'n cefnogi ysgol ddeintyddol newydd, ond rwy'n credu bod hwnnw'n ddatblygiad hirdymor. Bydd angen buddsoddiad sylweddol, ac ar hyn o bryd, rydym yn brin iawn o arian. Yn y cyfamser, rydym yn archwilio gyda Phrifysgol Caerdydd sut y gallwn gynyddu nifer y lleoedd israddedig ar gyfer deintyddiaeth a therapi deintyddol o fewn y cyfleusterau hyfforddi presennol, ac rydym yn obeithiol—

16:55

Mae'r hyn rydych chi newydd ei ddweud am y capasiti i gynyddu lleoedd hyfforddi yn hynod ddiddorol, oherwydd credaf mai un o themâu ein dadleuon ar bob mater yn ymwneud ag iechyd dros yr 16 mlynedd y bûm yma yw'r gweithlu a'r anallu i hyfforddi gweithlu. Ac os edrychwn yn ôl ar 75 mlynedd o'r gwasanaeth iechyd gwladol, rydym yn gyson wedi methu hyfforddi gweithlu—bob amser roedd rhaid ichi ddod â phobl i mewn a oedd wedi hyfforddi dramor i gynnal a chefnogi ein holl weithgarwch iechyd. A fyddai'n bosibl i'r Llywodraeth arwain dadl ar y materion hyn, fel y gallwn ystyried, fel Senedd, sut y gallwn fuddsoddi mewn gweithlu, a sut y byddem yn talu am hynny? Oherwydd rwy'n credu y byddai'r gwrthbleidiau hefyd yn gwerthfawrogi'r cyfle i gael y sgwrs am yr angen i flaenoriaethu hyfforddi gweithlu proffesiynol i gynnal gwasanaethau iechyd ar gyfer y dyfodol.

Diolch yn fawr. Wel, wrth gwrs, rydym yn hyfforddi mwy o bobl nag erioed o'r blaen. Rydym yn gwario £280 miliwn y flwyddyn ar hyfforddi pobl, felly rydym eisoes yn y system. Rwy'n awyddus i weld beth arall y gallwn ei wneud i sicrhau ein bod yn cael enillion ar y buddsoddiad hwnnw. Felly, mae gennym gynllun gweithlu—ac yn Lloegr, nid wyf yn credu eu bod wedi cael cynllun gweithlu ers 2003. Felly, mae gennym gynllun gweithlu. Mae gennym strategaeth erbyn hyn, mae gennym gynllun gweithredu ar gyfer y gweithlu erbyn hyn. Felly, mae hyn i gyd yn datblygu i sicrhau ein bod yn edrych ar hynny. Felly, mewn gwirionedd, mae gennym lawer o bethau ar waith. Gallem wneud llawer mwy pe bai gennym lawer mwy o arian, ond rwy'n credu bod rhai materion ehangach y mae angen inni siarad amdanynt, o ran, os ydym yn rhoi cymaint â hynny i mewn, a ydym yn hollol siŵr ein bod yn cael yr hyn rydym ei eisiau ohono, ac a ydynt yn aros gyda ni ar ôl i ni eu hyfforddi? Felly, rwy'n derbyn hynny, ac mae'n sicr yn rhywbeth rwyf wedi gofyn i fy swyddogion wneud ychydig mwy o waith arno.

Roedd un arall o'r argymhellion yn ymwneud ag adfer y gwasanaeth Cynllun Gwên mewn ysgolion. Dŷn ni'n gwybod bod y gwasanaeth yma wedi cael effaith bositif iawn ar iechyd deintyddol plant hyd at saith oed ers iddo gael ei sefydlu 13 blynedd yn ôl—a diolch i Mike am godi hynny. Mae'r adroddiad blynyddol ar gyfer y llynedd yn cael ei baratoi ar hyn o bryd, a dŷn ni'n hyderus y bydd camau sylweddol tuag at adferiad wedi cael eu cymryd. Fe wnaf i rannu'r adroddiad â'r Aelodau pan fydd hwnnw ar gael.

Fe ddywedais i yn fy natganiad ychydig fisoedd yn ôl mai'r grŵp oedran rŷm ni'n awyddus i ganolbwyntio arno nesaf yw plant oedran uwchradd. Mae hyn yn gyson ag un arall o argymhellion y pwyllgor. Dyma'r oed ffurfiannol pan fydd plant yn dechrau gwneud dewisiadau mwy annibynnol am yr hyn maen nhw yn ei fwyta ac yn ei yfed. Nes ymlaen y mis yma, bydd uned ddeintyddol symudol yn cael ei threialu ar safle Ysgol y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog. Dros nifer o wythnosau, bydd pob plentyn yn yr ysgol yn cael cyfle i gael archwiliad dannedd a chyngor ar sut i gadw'r geg a'r dannedd yn iach, a chael eu cyfeirio ymlaen at unrhyw driniaeth sydd ei hangen. Mae hwn yn ddatblygiad dwi'n meddwl sy'n gyffrous iawn, a bydd yn cael ei gloriannu yn llawn i ddeall y budd i'r grŵp oedran penodol yma cyn symud ymlaen i gyflwyno'r ddarpariaeth yma yn fwy eang. 

Gallaf gadarnhau hefyd ein bod ni wedi dechrau'r broses a fydd yn arwain at drafodaeth ffurfiol am gontract ddeintyddol newydd. Mae'r mandad tair rhan sy'n nodi'r holl eitemau mae Llywodraeth Cymru, yr NHS a Chymdeithas Ddeintyddol Prydain yn dymuno eu trafod yn mynd drwy'r camau cymeradwyo. Nawr, dwi'n gwybod bydd hwn yn gyfnod heriol mewn mannau, ond dwi'n hyderus y bydd y broses negodi ei hun yn rhoi mecanwaith tryloyw i sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng anghenion a dymuniadau pawb sy'n cymryd rhan. Mae hefyd yn rhoi'r cyfle i nodi a chael gwared ar unrhyw faich gweinyddol neu ddyblygu sy'n gysylltiedig â darparu deintyddiaeth yr NHS, yn unol ag argymhelliad y pwyllgor.

Nawr, rydych chi hefyd wedi sôn bod chi eisiau gweld data. Felly, mae angen inni godi'r data, sydd yn dod i mewn i'r pwysau gweinyddol yma. Felly, mae'n rhaid inni gael y balans yn iawn. Yn anochel, mae llawer o'r argymhellion yn yr adroddiad yn gysylltiedig â'r trafodaethau ar gyfer y cytundeb newydd. Dwi yn meddwl bod rhaid inni fynd ati i'w newid hi rhywfaint. Dwi wrthi yn ceisio siarad gyda deintyddion ar lawr gwlad jest i gael gwell syniad oddi wrthyn nhw sut maen nhw'n teimlo ar hyn o bryd. Dyma'r sylfaen, dwi'n meddwl, ar gyfer darparu gwasanaethau deintyddol gofal sylfaenol, ac, unwaith bydd hwn yn ei le, bydd e'n troi, dwi'n gobeithio, yn sail gadarn i fynd i'r afael â diwygio deintyddol ehangach sy'n ganolog i lawer o argymhellion y pwyllgor. 

Dwi'n cydnabod bod llawer i'w wneud i wella mynediad at ddeintyddiaeth yr NHS; mae'n un o fy mlaenoriaethau pennaf i. Byddaf i'n rhoi diweddariad rheolaidd i'r Aelodau ar y cynnydd ac ar y gwaith rŷm ni wedi ei wneud. Mae lot fawr i'w wneud. Byddem ni'n gallu gwneud lot mwy pe byddai mwy o arian gennym ni, ac mae hwnna yn broblem i ni. Mae sawl person wedi sôn am y ffaith bod problemau costau byw gyda lot o bobl ar hyn o bryd. Y ffaith yw yng Nghymru, ar gyfer band 3, mae angen talu £203. Yn Lloegr, mae angen talu £306. Felly, mae faint rŷm ni'n ei godi ar bobl i gael y driniaeth yn yr NHS lot yn llai yn fan hyn, a dwi yn meddwl bod hi'n werth dweud mai dim ond am dair blynedd roedd deintyddiaeth ar gael am ddim yn y wlad yma, o 1948 i 1951. Felly, dyw hi ddim wedi bod am ddim yn y wlad yma ers 1951, er bod gyda ni, wrth gwrs, ffordd yn y wlad yma o sicrhau bod y bobl sydd wirioneddol ddim yn gallu talu yn cael yr help sydd ei angen, a doedd 311,000 o bobl ddim wedi talu am y driniaeth llynedd o'r 1.3 miliwn a oedd wedi derbyn gwasanaeth gan yr NHS. 

17:00

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth imi wrando’n astud ar y Gweinidog, gallaf ddweud bod Janet Finch-Saunders, fy nghyd-Aelod wrth fy ymyl, yn pasio losinen i mi, felly meddyliais na ddylwn ei rhoi yn fy ngheg wrth ymateb i’r ddadl hon y prynhawn yma. [Chwerthin.] Ond a gaf fi ddiolch i’r Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl hon, a diolch hefyd i dîm y pwyllgor, y tîm ymchwil, y tîm integredig ehangach a thîm allgymorth y Senedd am eu gwaith?

Rwy'n cytuno â barn Cefin Campbell am y ffaith bod deintyddion mewn sefyllfa anodd iawn yng nghefn gwlad Cymru. Roeddwn yn gwybod nad oedd gan Bowys unrhyw ddeintydd GIG a oedd yn fodlon derbyn oedolion ar eu rhestrau aros; ni wyddwn fod hynny’n wir ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru i gyd, sy'n ardal lawer ehangach. Ond soniodd Cefin hefyd am bryderon ynglŷn â'r gweithlu, fel y gwnaeth eraill. Yna, roedd mater yn ymwneud â'r ysgol a chyfleusterau hyfforddi. Credaf fod gorllewin Cymru wedi achub y blaen wrth ofyn am hynny. Credaf fod Cefin wedi crybwyll hynny, a gwnaeth Sam Kurtz hefyd, a soniodd Mike Hedges am Abertawe, a waeth i minnau ofyn am un yng nghanolbarth Cymru hefyd. Ond na, rwy’n gwerthfawrogi ymateb y Gweinidog a'r wybodaeth ddiweddaraf yn ei hymateb ynglŷn â’r ysgol yng ngogledd Cymru yn ei chyfraniad.

Soniodd Mike am ddeintyddion yn ymrwymo i’r contract heb gael gwybodaeth glir yn ei gylch, ac wrth gwrs, roedd gennym argymhelliad ynghylch y pwynt hwnnw. Nodais fod Mike wedi dweud y byddai’n hoffi pe bai deintydd GIG ar gael i bawb, a chredaf y byddem wedi meddwl mai dyna’r norm ychydig flynyddoedd yn ôl. A bellach, dyna rydym yn gofyn amdano—dim ond hynny. Dylai hynny, wrth gwrs, fod yn ofyniad sylfaenol.

A thynnodd Sam Kurtz sylw at yr ymgynghoriad annigonol ar ddiwygio deintyddol, a nododd Gareth Davies yr un peth hefyd o ran y contract GIG yn methu cystadlu â’r sector preifat, gyda Laura Anne Jones yn gwneud pwyntiau tebyg yn hynny o beth. Dechreuodd Darren Millar drwy ddweud ei fod yn mynd i wneud cyfraniad byr ac yna aeth ymlaen am bum munud a hanner, ond roedd Darren hefyd yn gwneud pwyntiau tebyg, a rhai heriol hefyd, gan wneud yr her briodol honno i weithio gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain, wrth gwrs, ar ddiwygio yn y dyfodol hefyd, a sicrhau bod digon o amser.

Er bod COVID-19 wedi cael effaith ddifrifol ar ddeintyddiaeth y GIG yn anochel, credaf ei bod yn amlwg fod problemau hirsefydlog yn bodoli cyn y pandemig, pwynt a godwyd gan Mike Hedges a Laura Anne Jones hefyd. Ond os ydym o ddifrif am fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau mewn deintyddiaeth yn y GIG a gwella canlyniadau deintyddol i bobl ledled Cymru, mae angen inni gael mwy o ddata wedi'i ddadgyfuno. Rwy’n falch fod y Gweinidog wedi mynd ar drywydd hynny yn ddiweddarach yn ei chyfraniad, oherwydd heb ddata o’r fath, ni allwn nodi’r rhwystrau sy’n effeithio ar rai grwpiau nac asesu a yw’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn mynd i gael yr effaith rydym am ei gweld. Felly, diolch, Weinidog. Fe fyddwch wedi derbyn y llythyr gennym ychydig ddyddiau yn ôl. Roeddem am anfon hwnnw atoch cyn y ddadl, a diolch am fynd ar drywydd rhai o’r pwyntiau, ond rwy’n ddiolchgar eich bod yn mynd i ymateb ymhellach i ni hefyd.

Wrth gwrs, rwy’n cytuno nad oes ateb cyflym i lawer o’r materion a nodwyd gennym yn yr adroddiad a rhai o’r materion a nodwyd mewn perthynas â deintyddiaeth, ond wrth gwrs, credaf mai rhan o’r mater yw cynllun y gweithlu, y dywedoch chi y byddai ar gael erbyn diwedd y flwyddyn. Felly, diolch i’r Gweinidog am ei hymateb yn hynny o beth hefyd. Ond diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

17:05

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Dadl Plaid Cymru: Datganoli cyfiawnder a phlismona

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.

Eitem 9, dadl Plaid Cymru, datganoli cyfiawnder a phlismona. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8300 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi, dros chwarter canrif ers datganoli, fod Cymru yn parhau i fod yr unig wlad ddatganoledig heb ei system gyfreithiol a'i phwerau dros ei lluoedd heddlu, er nad oes sail resymol dros hyn.

2. Yn credu:

a) y dylid datganoli pwerau dros gyfiawnder a phlismona yn llawn i Gymru; a

b) y gall sefydlu system gyfreithiol benodol yng Nghymru a gwneud heddluoedd Cymru yn gwbl atebol i'r Senedd fod yn gamau hanfodol ar hyd y ffordd i annibyniaeth.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol am bwerau dros gyfiawnder a phlismona.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac mae'n bleser gen i agor dadl Plaid Cymru y prynhawn yma, fy nadl gyntaf i fel arweinydd. Dwi'n falch bod y ddadl gyntaf dan fy arweinyddiaeth i ar fater sydd mor greiddiol o bwysig. Mae cyfiawnder yn fater sydd yn greiddiol i'n bywydau bob dydd ni. Mae'n effeithio ar ein cymunedau ni, ar ein dinasyddion ni, mewn cymaint o ffyrdd, ac mae'n ymwneud â thegwch, mae'n ymwneud â ni'n dyfeisio ein ffawd ein hunain. Yn sylfaenol, dim ond drwy sicrhau bod Cymru yn cael y grymoedd angenrheidiol y byddwn ni'n llwyddo i adeiladu cenedl decach, wyrddach, mwy ffyniannus ac uchelgeisiol.

Nid 'rhywbeth braf i'w gael' yw datganoli cyfiawnder a phlismona. Credaf fod hyn yn hanfodol, a chredaf ei bod yn niweidiol nad oes gennym y cyfrifoldebau hyn. Rwyf am ddechrau y prynhawn yma gyda geiriau arbenigwr academaidd blaenllaw ym maes cyfiawnder, Dr Rob Jones. Ei gasgliad syfrdanol wrth gyd-ysgrifennu The Welsh Criminal Justice System oedd:

'Ar lawer o fesurau allweddol, fe welwn fod y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru’n perfformio hyd yn oed yn waeth na’r un yn Lloegr, gwlad sy’n haeddu cael ei hadnabod ymhlith y perfformwyr gwaethaf yng ngorllewin Ewrop. Gwelwn gyfraddau uwch o droseddau treisgar, data sy'n peri pryder ar hil yn y system drwyddi draw, cyfraddau carcharu sy'n uwch nag yn Lloegr, a chyfran uwch o’r boblogaeth sy'n ddarostyngedig i ryw fath o oruchwyliaeth brawf.'

Wrth i Aelodau ar draws y Siambr ystyried y cyfraniadau heddiw a gwneud eu cyfraniadau eu hunain, rwy'n annog pawb i ofyn iddynt eu hunain, 'Sut y gall hyn fod yn dderbyniol?' Er bod Llywodraeth y DU yn rhoi polisïau ar waith sy’n ceisio mynd i’r afael â materion a all fod yn gyffredin yn Lloegr, ni all fod yn iawn—ni all byth fod yn dderbyniol—i ni yng Nghymru orfod etifeddu atebion honedig nad ydynt yn gweithio i ni yma yng Nghymru.

Nawr, cyn imi droi at y diben, yr angen ymarferol i ddatganoli'r system gyfiawnder, hoffwn ddweud ychydig eiriau am y wleidyddiaeth. Ymrwymodd maniffesto Llafur Cymru 2021 i fynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona, fel y'i nodwyd gan gomisiwn Thomas, ond serch hynny, yn y Siambr hon ddoe ddiwethaf, cymeradwyodd y Prif Weinidog gynnig gwahanol iawn a ddeilliodd o waith cyn-Brif Weinidog y DU, Gordon Brown, sef y byddai Llywodraeth Lafur yn San Steffan ond yn datganoli pwerau dros y gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid yn unig i’r Senedd.

Mae’n ganlyniad siomedig, a dweud y lleiaf, i gyfraniad Llafur i’r ddadl ar ddatganoli rhagor o bwerau. Rwy'n croesawu'r ffaith ein bod yn rhwyfo gyda’n gilydd i’r un cyfeiriad, ond mawredd, mae’n peri rhwystredigaeth i mi pan fydd un yn rhwyfo’n gynt na’r llall. Y canlyniad yw eich bod yn troi mewn cylchoedd yn y pen draw, onid ydych? Mae’r briwsion cyfansoddiadol a gynigir yn wahanol iawn i’r hyn a addawyd gan ragflaenydd y Prif Weinidog, a ddywedodd, wrth basio Deddf Cymru yn 2017, na fyddai ein setliad datganoli presennol byth yn sefydlog heb ymgysylltiad ar faterion sylfaenol cyfiawnder ac awdurdodaeth.

A gaf fi annog Llywodraeth Cymru i fod mor uchelgeisiol â ninnau ar y meinciau hyn dros Gymru ar y mater penodol hwn? Ailadroddaf yr hyn a ddywedais ddoe: os na wnewch chi ofyn, ni wnewch chi gael. Oes, mae angen sicrhau bod darpar Brif Weinidog y DU, Keir Starmer, yn cadw at ymrwymiadau blaenorol a wnaed gan Lafur eu hunain, ond mae’n rhaid gofyn y cwestiynau ffurfiol i Weinidogion presennol y DU. Darllenais gyda chryn siom yr ateb a roddwyd i gwestiwn ysgrifenedig fy nghyfaill, yr Arglwydd Wigley, yn Nhŷ’r Arglwyddi, a ddatgelodd, yn ôl y Gweinidog, nad yw Llywodraeth Cymru wedi gofyn yn ffurfiol am drosglwyddo pwerau cyfiawnder a phlismona.

Nawr, clywais yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yma yn y Siambr ddoe, nad yw'n wir nad yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio dylanwadu ar bolisi ar ddatganoli cyfiawnder, a gwn fod trafodaethau ar ddeddfu elfennau o gomisiwn Thomas wedi bod yn mynd rhagddynt, a rhoddodd y Prif Weinidog ddisgrifiad ddoe o rai o’r camau a gymerwyd. Ond gadewch imi ddweud hyn wrth y Cwnsler Cyffredinol heddiw: peidiwch â rhoi rheswm i Weinidogion Ceidwadol yn San Steffan ddweud na wnaed cais ffurfiol am ddatganoli plismona a chyfiawnder. A gadewch imi ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol heddiw: ysgrifennwch at Lywodraeth y DU i wneud y cais ffurfiol hwnnw am ddatganoli pwerau dros blismona a chyfiawnder yn llawn, a phan gyhoeddir y llythyr hwnnw yma yng Nghymru, byddaf yn falch iawn o'i gymeradwyo, ac yna, os daw Keir Starmer yn Brif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig, byddwn yn sicrhau ei fod yn cadw at ei air ac yn gwireddu'r cais a wnaed gan y Cwnsler Cyffredinol yn enw Llywodraeth Cymru ac yn enw’r Senedd.

Heb amheuaeth, mae cyfiawnder yn un o sylfeini'r broses o lunio polisi. Mae'n caniatáu i Lywodraethau reoli diogelwch eu pobl. Mae'n hanfodol er mwyn caniatáu i lunwyr polisi ddatblygu'r math o gymunedau y maent yn dymuno eu cael, ac wrth wneud hynny, i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau sy'n amharu ar y weledigaeth honno. Heb bwerau dros gyfiawnder, mae rhwyg yn datblygu, lle mae gan Weinidogion Cymru gyfrifoldeb dros feysydd sy’n cysylltu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol â chyfiawnder a phlismona. Fel y dywedodd yr Arglwydd Thomas yn glir pan gwblhaodd ei waith manwl—ac rydym yn ddiolchgar iddo am ei ymrwymiad i hyn—mae pobl yng Nghymru, meddai, yn cael eu hesgeuluso gan y system yn ei chyflwr presennol.

Nid wyf yn credu y byddai llawer o bobl yn anghytuno, gobeithio, fod y ffordd y mae cyfrifoldebau wedi'u rhannu ar hyn o bryd rhwng San Steffan a Chaerdydd wedi creu cymhlethdod, dryswch ac anghydlyniaeth mewn sawl ffordd ym maes cyfiawnder a phlismona yng Nghymru. Ac nid yn unig ei fod yn gymhleth mewn ffordd fiwrocrataidd; mae'n cymhlethu bywydau pobl ac yn cael effaith andwyol ar fywydau pobl. Mae’n creu anawsterau ymarferol, mae’n effeithio ar fynediad at gyfiawnder, mae’n effeithio’n anghymesur ar fynediad at gyfiawnder i’r rhai sy’n dioddef yn sgil yr anghydraddoldebau sydd mor gyffredin yn ein cymdeithas. Rydym wedi gweld toriadau i gymorth cyfreithiol, mwy o bobl yn cynrychioli eu hunain yn y llys, gorddibyniaeth ar garcharu o gymharu ag adsefydlu, diffyg cyfleusterau i fenywod, a gor-gynrychiolaeth o bobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol o fewn y system cyfiawnder troseddol. Mae’r rhain yn bethau rwyf am ein gweld ni yng Nghymru yn gallu eu datrys. Maent yn ganlyniadau i benderfyniadau a wnaed mewn mannau eraill ond a roddir ar waith yma, boed ein bod yn hoffi hynny ai peidio.

Mae’r Cwnsler Cyffredinol a minnau'n cytuno ar yr egwyddorion sy’n ymwneud â phlismona, yn sicr. Y prynhawn yma, roeddwn yn darllen geiriau’r Cwnsler Cyffredinol ei hun yn gynharach eleni. Mae'n

'rhesymegol, mae'n gwneud synnwyr',

meddai am ddatganoli plismona, ac, yn ôl ym mis Chwefror, dywedodd fod pob comisiynydd heddlu a throseddu etholedig, yn cytuno y dylai ddigwydd;

'Rwy'n credu un diwrnod y bydd yn digwydd.'

Wel, gadewch inni weld hyn yn digwydd ynghynt. Dylai fod yr un mor rhwystredig â minnau ynghylch y negeseuon a ddaw gan arweinyddiaeth y Blaid Lafur o dan Keir Starmer. Mae angen inni weld hyn yn digwydd.

Dwi'n falch iawn ein bod ni wedi gallu dod â'r ddadl yma ar lawr y Senedd y prynhawn ma. Dwi'n edrych ymlaen at glywed y cyfraniadau o bob ochr y Siambr. Dwi hefyd yn edrych ymlaen, wrth gwrs, i glywed ymateb y Cwnsler Cyffredinol, a dwi wir yn gobeithio y bydd y drafodaeth yma yn sbarduno rhywbeth o fewn Llywodraeth Cymru i fod eisiau cyflymu eu gweithredu ar yr hyn maen nhw'n ei ddweud yn eu maniffestos ac mor aml yn gyhoeddus. Ond gallwn ni ddim gadael i eiriau fod yn eiriau yn unig; y gweithredu sydd yn bwysig. Os ydy pob un wlad arall normal yn y byd sydd efo pwerau deddfu a rheolaeth dros bolisi cyfiawnder a phlismona yn ei chymryd hi'n ganiataol mai felly y dylai hi fod, pa reswm sydd yna i Gymru fod yn wahanol? A faint o ddifrod sy'n digwydd i Gymru a dinasyddion Cymru drwy beidio â chael y pwerau yna? Ystyriwch y ddau gwestiwn yna. Ac onid ydy atebion y ddau gwestiwn sylfaenol yna yn arwain yn naturiol at y casgliad mai datganoli cyfiawnder ydy'r unig ateb synhwyrol? 

17:15

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. 

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu popeth ar ôl is-bwynt 2(a) a rhoi yn ei le:

y gall sefydlu system gyfreithiol benodol yng Nghymru a gwneud heddluoedd Cymru yn gwbl atebol i'r Senedd fod yn gamau hanfodol i sicrhau bod modd darparu cyfiawnder a phlismona yn well er budd pobl Cymru; a

bod y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru wedi nodi'n glir pam y dylid datganoli pwerau dros gyfiawnder yn llawn a sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol yng Nghymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i fynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli plismona a chyfiawnder ac i baratoi ar ei gyfer.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

Rwy'n croesawu cyfraniad arweinydd newydd Plaid Cymru yn fawr, a hoffwn ei longyfarch ar gael ei ethol yr wythnos diwethaf a dymuno pob dymuniad da iddo ar gyfer y dyfodol yn y rôl honno. 

Mae datganoli plismona a chyfiawnder troseddol yn rhywbeth rydym wedi'i drafod yma ar sawl achlysur, ac mae'n bosibl dod o hyd i'r papur sigaréts annelwig o wahaniaeth rhwng meinciau Plaid Cymru a'r meinciau Llafur ar y mater hwn. Yn hytrach na cheisio gwneud hynny, fy nghyngor i fyddai ceisio undod a cheisio cytundeb ar y materion hyn, yn hytrach na cheisio ymraniad, gan fod hwn yn argyfwng. Mae'n argyfwng parhaus yn ein gwlad. Nid cysyniad academaidd na haniaethol mohono, rhywbeth i gyfreithwyr siarad amdano yn hwyr y nos, rhywbeth i anoracs cyfansoddiadol siarad amdano pan fyddant wedi mynd yn brin o bob cysyniad haniaethol arall i sgwrsio yn ei gylch. Mae hwn yn argyfwng sy'n effeithio ar bobl yn y wlad hon heddiw, yfory, yr wythnos nesaf, y mis nesaf, y flwyddyn nesaf, a menywod, rwy'n credu, sy'n dioddef waethaf yn sgil methiant y system hon.

Mae gweinyddu cyfiawnder troseddol a phlismona yng Nghymru wedi torri. Mae wedi'i dorri—yn strwythurol—gan system na chafodd erioed mo'i chynllunio i weithio yng nghyd-destun hunanlywodraeth ddemocrataidd yng Nghymru. Dylem gydnabod hynny. Yr hyn y byddwn i'n ceisio'i wneud, a—. Rwyf wedi clywed y ddadl hon, ac yn aml iawn mae arnaf ofn ein bod yn cael dadleuon diffrwyth iawn ar brynhawn Mercher ynglŷn â'r mater hwn. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd Mark Isherwood yn ymuno â'r ddadl mewn ychydig funudau a bydd yn dyfynnu araith a wnaeth yn 2018 neu 2017 a bydd yn dyfynnu ei araith eto o 2020 lle mae'n rhestru'r troseddau a gyflawnwyd gan bobl o Lannau Mersi neu rywle arall yng ngogledd Cymru. Mae'n iawn ac yn briodol ein bod yn trafod y materion hyn, Mark, ond mae'n rhaid inni gael trafodaeth fwy deallus hefyd.

Os edrychwch ar blismona ar draws y Deyrnas Unedig, er enghraifft, mae wedi'i ddatganoli ym mhob gweinyddiaeth yn y Deyrnas Unedig, ac mae wedi'i ddatganoli mewn dinasoedd yn Lloegr, fel Manceinion a Llundain. Nid oes neb yn awgrymu bod y lleoedd hyn yn ynysoedd o drosedd heb unrhyw berthynas â lleoedd eraill. Nid oes neb yn awgrymu nad oes gan heddluoedd yng Nghymru unrhyw berthynas â heddluoedd dros y ffin nac mewn mannau eraill. Nid oes neb yn awgrymu nad ydym yn siarad â'n gilydd, nad ydym yn gweithio gyda'n gilydd. Nid oes neb yn awgrymu ein bod yn creu rhyw fath o len haearn ar draws ein ffiniau ac yn atal heddweision yma rhag siarad â chydweithwyr mewn mannau eraill. Nid oes neb yn awgrymu'r pethau hyn. Mae angen cydnabod y rhagdybiaethau bwriadol gyfeiliornus a gyflwynir i ddadlau'r achos yn erbyn datganoli am yr hyn ydynt.

Rwy'n credu yma fod y Ceidwadwyr, a rhai pobl o fewn y Blaid Lafur a dweud y gwir, yn camgymryd yn sylfaenol beth mae hyn yn ei olygu. Rwyf am weld Teyrnas Unedig gref ac rwyf am weld Teyrnas Unedig sefydlog, ac mae'n debyg fod y ffurf anghymesur ar ddatganoli a oedd gennym yn y Deyrnas Unedig yn ôl yn y 1990au yn adlewyrchu dymuniadau pobl Cymru'n deg ym 1999, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod hynny. Ond nid yw'r hyn a adlewyrchai ein barn 25 mlynedd yn ôl yn adlewyrchu ein barn ynghylch strwythur llywodraeth heddiw, ac mae angen i lywodraeth symud ac mae angen i'r cyfansoddiad symud i gydnabod hynny. Yr hyn y mae hynny'n ei olygu yw bod datganoli cymesur, yn sicr ar ynys Prydain rhwng Cymru, yr Alban a gweddill y DU—a Lloegr—yn bwysig o ran strwythur y Deyrnas Unedig a galluogi'r Deyrnas Unedig i gael y llywodraethiant sydd ei angen arnom i gyd.

Mae hwn yn bwynt rwyf am ei wneud i'n cyd-Aelodau Ceidwadol: camgymeriad yw drysu rhwng unoliaetholdeb a chanoliaetholdeb. Pe byddech chi wedi gwrando ar ddadl yn Nhŷ'r Cyffredin beth amser yn ôl, roedd gennych rai o unoliaethwyr ffyrnicaf Gogledd Iwerddon yn dadlau dros ddatganoli plismona a chyfiawnder i Gymru oherwydd eu bod yn cydnabod bod undeb cryf yn undeb lle mae gan bob rhan gyfansoddol o'r undeb hwnnw strwythurau tebyg a phwerau tebyg ar gael iddo, am fod hynny'n creu sefydlogrwydd o fewn yr undeb. Os oes gennych chi'r AS dros Strangford neu lle bynnag yn dadlau dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona, gallwch fod yn eithaf sicr nad ydynt yn ei wneud oherwydd bod Sinn Fein yn ei gefnogi hefyd. Gallwch fod yn eithaf sicr hefyd eu bod yn deall pwysigrwydd datganoli'r materion hyn i'r undeb yn y dyfodol.

Yr hyn rwy'n gobeithio y gallwn ei wneud—a hoffwn glywed ymateb y Cwnsler Cyffredinol i hyn—gan fod y Bil Dioddefwyr a Charcharorion ger bron y Senedd yn Llundain ar hyn o bryd: beth yw barn Llywodraeth Cymru ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol yma? Mae'n ymddangos i mi y dylid deddfu llawer o gynnwys y Bil hwnnw yma ac y dylai adlewyrchu blaenoriaethau'r lle hwn a Llywodraeth Cymru, ac nid Llywodraeth yn Llundain nad yw'n cydnabod pwysigrwydd y materion hyn i bobl yma yng Nghymru a'r strwythurau sy'n bodoli yng Nghymru er mwyn cyflawni polisi—

17:20

Fe ddof â fy sylwadau i ben. Felly, er lles y bobl sy'n rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn y wlad hon, sydd ar hyn o bryd yn cael eu gwasanaethu mor wael gan gyfiawnder troseddol a phlismona, hoffwn ofyn i bob Aelod yn y Siambr bleidleisio dros hyn—i bleidleisio dros hyn oherwydd bydd yn cryfhau'r Deyrnas Unedig, ond bydd hefyd yn dechrau creu cydlyniant o ran polisi, cydlyniant o ran strwythur sy'n golygu y gallwn fynd i weithio ar ran y bobl sydd angen y gwaith hwn yn fwy nag eraill. Diolch.

Arweinydd newydd Plaid Cymru—llongyfarchiadau; yr un hen ddadleuon yn cael eu hailgylchu eto fyth a'r un siarad rhodresgar gan Alun Davies. Felly, fe wnaf innau ailgylchu fy nadleuon i ddangos bod yr alwad hon yn herio realiti. Wrth gwrs, Cymru yw'r unig wlad ddatganoledig o hyd heb ei system gyfreithiol a'i phwerau ei hun dros ei lluoedd heddlu, gan adlewyrchu'r sail resymegol dros hyn. Y ffordd orau o gydlynu materion plismona arbenigol fel gwrthderfysgaeth yw ar lefel y DU. Ymhellach, mae plismona yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn fater datganoledig, ond am resymau'n ymwneud â daearyddiaeth a phoblogaeth, mae'r sefyllfa yng Nghymru yn hollol wahanol. Cyn cyflwyno rheolaeth uniongyrchol ym 1972, yr hen Senedd Stormont oedd â chyfrifoldeb am blismona a chyfiawnder yng Ngogledd Iwerddon, a chadwodd Llywodraethau olynol y DU ymrwymiad i ail-ddatganoli plismona a chyfiawnder pan oedd amgylchiadau'n iawn i wneud hynny. Ymhellach, caiff Prydain a Gogledd Iwerddon eu gwahanu gan ddarn mawr o fôr. Mewn cyferbyniad, mae 48 y cant o bobl yng Nghymru yn byw o fewn 25 milltir i'r ffin â Lloegr, a 90 y cant ohonynt o fewn 50 milltir. Mewn cyferbyniad pellach, dim ond 5 y cant o boblogaeth gyfunol—

17:25

Ar ôl imi orffen y frawddeg. Dim ond 5 y cant o boblogaeth gyfunol yr Alban a Lloegr sy'n byw o fewn 50 milltir i'r ffin rhwng y gwledydd hynny.

Er mor ddiddorol yw'r ystadegau, beth yw'r gwahaniaeth rhwng Manceinion, felly, a gweddill Lloegr, a sut mae plismona wedi'i ddatganoli'n fwy ym Manceinion?

Mae gan y maer ym Manceinion, fel mewn mannau eraill, yr un pwerau â chomisiynydd yr heddlu a throseddu. A ydych chi'n galw am ganoli hynny yn Llywodraeth Cymru ac i'n comisiynwyr heddlu a throseddu rhanbarthol gael eu diddymu? Oherwydd dyna sut mae'n swnio. Er gwaethaf hyn, un cyfeiriad yn unig y mae adroddiad Thomas yn ei wneud at fater allweddol troseddolrwydd trawsffiniol, yng nghyd-destun llinellau cyffuriau, a'r unig ateb y mae'n ei gynnig yw cydweithio ar draws pedwar llu Cymru mewn cydweithrediad ag asiantaethau eraill, heb unrhyw gyfeiriad at gydweithio sefydledig â phartneriaid cyfagos ar draws y ffin trosedd a chyfiawnder anweledig â Lloegr. Ac er fy mod wedi gofyn dro ar ôl tro i Weinidogion Llywodraeth Cymru a fyddant yn comisiynu gwaith i unioni'r diffyg hwn, maent bob amser wedi osgoi a dargyfeirio yn enw tystiolaeth a arweinir gan bolisi.

Fel y dysgais pan ymwelais â Titan, Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol y Gogledd-orllewin, cydweithrediad rhwng Heddlu Gogledd Cymru a phum llu yng ngogledd-orllewin Lloegr, mae holl gynlluniau brys gogledd Cymru yn cael eu gwneud gyda gogledd-orllewin Lloegr. Mae 95 y cant neu fwy o droseddau yng ngogledd Cymru yn lleol neu'n gweithredu ar draws y ffin, o'r dwyrain i'r gorllewin. Nid oes gan Heddlu Gogledd Cymru unrhyw weithgarwch sylweddol yn gweithio ar sail Cymru gyfan ac anwybyddwyd y dystiolaeth a roddwyd i gomisiwn Thomas i raddau helaeth yn adroddiad y comisiwn.

Wrth sôn am ei hadroddiad 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru' y llynedd, disgrifiodd Llywodraeth Cymru bolisi cyfiawnder penodol i Gymru

'yn seiliedig ar atal drwy fynd i’r afael â heriau cymdeithasol ac adsefydlu',

a chyferbynnu hyn â dull sy'n canolbwyntio'n fwy ar gosbi, meddai, gan Lywodraeth y DU. Drwy wneud hynny, yn gyfleus iawn, fe anwybyddodd yr holl dystiolaeth i'r gwrthwyneb, pan fo Llywodraeth y DU wedi datgan dro ar ôl tro ei bod yn ffafrio polisi sy'n seiliedig ar atal trwy fynd i'r afael â heriau cymdeithasol ac adsefydlu. Anwybyddodd 'Bapur Gwyn Strategaeth Carchardai' Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU ar adsefydlu troseddwyr a lleihau troseddu, ei strategaeth ddioddefwyr i gysoni cefnogaeth i ddioddefwyr â natur newidiol troseddau, a'i gynllun datrys problemau gwerth £300 miliwn dros dair blynedd i gynorthwyo pob cyngor ledled Cymru a Lloegr i ddal ac atal troseddu ieuenctid yn gynharach nag erioed, a helpu i atal y plant a'r bobl ifanc hyn rhag bwrw ymlaen i droseddu pellach, mwy difrifol.

Ar ben hynny, Llywodraeth y DU a gyhoeddodd strategaeth troseddwyr benywaidd i ddargyfeirio troseddwyr benywaidd bregus i ffwrdd o ddedfrydau byr o garchar lle bynnag y bo modd, buddsoddi mewn gwasanaethau cymunedol a threialu pum canolfan breswyl i fenywod, gan gynnwys un yng Nghymru. Fodd bynnag, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yma a ysgrifennodd wedyn at yr Aelodau, gan ddweud ei bod wedi bod yn gweithio'n agos gyda Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU ac yn datgan ei bod wedi cyhoeddi y byddai un o'r canolfannau hyn ger Abertawe yn ne Cymru. Wrth gwrs, fe wrthododd pwyllgor cynllunio Abertawe hyn wedyn.

Mae pwerau comisiynwyr heddlu a throseddu gan feiri etholedig Llundain, Manceinion Fwyaf a Gorllewin Swydd Efrog, a dylent aros gyda chomisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru a pheidio â chael eu canoli yn Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU yn cydnabod bod datganoli wedi newid cyd-destun deddfwriaethol a pholisi plismona a chyfiawnder troseddol yng Nghymru, ac mae eisoes wedi sefydlu math o ddatganoli gweinyddol drwy swyddfeydd, unedau neu gyfarwyddiaethau Cymreig yn seiliedig ar gydweithrediad, gan gynnwys Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yng Nghymru, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru a Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF Cymru. Nid oes a wnelo datganoli neu beidio â datganoli â pholisïau a phersonoliaethau dros dro gwahanol lywodraethau ar bwynt penodol mewn amser. Mae polisïau pleidiau a pholisïau, personoliaethau a phleidiau llywodraeth mewn unrhyw ardal ddaearyddol yn newid dros amser.

17:30

Fe ddof i ben. Ac ni ddylid caniatáu i ddymuniad Plaid Cymru i rannu ac ansefydlogi, nac awydd aflwyddiannus a rheolaethol Llywodraeth Lafur Cymru i fachu mwy fyth o bŵer, dynnu ein sylw oddi wrth wir anghenion Prydeinwyr ar ddwy ochr y ffin rhwng dwyrain a gorllewin, yng Nghymru a Lloegr.

Nid afreoleidd-dra cyfansoddiadol yn unig yw sefyllfa anarferol Cymru fel cenedl ddatganoledig heb system gyfreithiol ei hun; mae iddo ganlyniadau dwys a niweidiol i ansawdd cyfiawnder a phlismona. Mae'r gost o fod ynghlwm wrth system farnwrol Cymru a Lloegr, sy'n canolbwyntio'n anochel ar wneud penderfyniadau yn San Steffan, wedi'i dangos yn glir dros y 13 mlynedd diwethaf o gyni Torïaidd.

Gadewch inni ddechrau gyda mynediad at gyfiawnder, sef un o'r materion allweddol a gafodd sylw yng nghomisiwn Thomas. Mae toriadau i gyllideb yr adran gyfiawnder yn Whitehall wedi arwain at leihad trychinebus yn y ddarpariaeth o gymorth cyfreithiol ar draws Cymru a Lloegr. Yn wir, mae Cymdeithas y Gyfraith wedi mynd â'r Llywodraeth i'r llys yn ddiweddar am fethu cynnal argymhelliad yr Adolygiad Annibynnol o Gymorth Cyfreithiol Troseddol i gynyddu ffioedd cymorth cyfreithiol o leiaf 15 y cant. Er enghraifft, rhwng 2012 a 2022, roedd nifer y swyddogion a oedd yn darparu cymorth ymgyfreitha yng Nghymru wedi gostwng o 175 i 106; o 180 i 122 ar gyfer eiriolwyr; o 248 i 160 ar gyfer cwmnïau cyfreithwyr; ac o 54 i 29 ar gyfer sefydliadau di-elw. Caiff y sefyllfa ei gwaethygu gan y ffaith bod y gweithlu cyfreithiol yng Nghymru hefyd yn un sy'n heneiddio. O'r herwydd, mae'n anochel y byddwn yn gweld mwy o grebachu yn y ddarpariaeth o wasanaethau cyfreithiol dros y blynyddoedd i ddod. Yng ngogledd Cymru, mae 48 y cant o gyfreithwyr ar ddyletswydd droseddol dros 50 oed; 49 y cant yn ne Cymru, 62 y cant yng ngorllewin Cymru a 64 y cant yng nghanolbarth Cymru.

Canlyniad arall i doriadau i'r gyllideb gyfiawnder yn San Steffan fu ymddangosiad yr anialwch cyngor fel y'i gelwir—ardaloedd lle na cheir fawr o ddarpariaeth canolfannau cyngor cyfreithiol ar faterion fel gofal cymunedol, lles, addysg a mewnfudo. Yn hyn o beth, mae tirwedd gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru yn arbennig o ddiffrwyth. Mae ffigurau diweddaraf Cymdeithas y Gyfraith yn dangos nad oes gan 18 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru unrhyw ganolfan cymorth cyfreithiol ar gyfer gofal cymunedol; nid oes gan 20 o'r 22 ganolfan cymorth cyfreithiol ar gyfer addysg, ac nid oes gan 21 o'r 22 ganolfan cymorth cyfreithiol ar gyfer lles. O ystyried y ffaith bod canolfannau o'r fath yn aml yn achubiaeth i aelwydydd tlotach y byddai cyngor cyfreithiol yn rhy ddrud iddynt fel arall, mae anialwch gwirioneddol Cymru yn hyn o beth yn creu perygl o ymgorffori anghydraddoldebau presennol o fewn y system gyfiawnder.

Mae effaith cyni ar blismona wedi bod yn ddifrifol hefyd. Nid yw nifer y swyddogion heddlu cyfwerth ag amser llawn yng Nghymru ond newydd wella i'r lefel roedd arni yn 2010, ar ôl blynyddoedd o danariannu. Yn y cyfamser, mae nifer swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yng Nghymru a Lloegr ar ei lefel isaf ers 2006. Dylem ystyried hefyd i ba raddau y mae penderfyniadau yn San Steffan yn gosod pwysau enfawr ar gyllidebau heddluoedd. Mae'r pedwar heddlu yng Nghymru yn gorfod gwneud arbedion effeithlonrwydd dros y blynyddoedd nesaf, gyda Heddlu De Cymru—

Gadewch imi orffen y frawddeg hon. Mae'r holl heddluoedd yng Nghymru yn gorfod gwneud arbedion effeithlonrwydd dros y blynyddoedd nesaf, gyda Heddlu De Cymru ar hyn o bryd yn wynebu diffyg o £20 miliwn yn ei gyllideb. Ie, Mark.

A wnewch chi gydnabod y ffaith bod cyllideb cyni Alistair Darling yng ngwanwyn 2010 wedi cyflwyno toriadau i'r heddlu a barodd tan 2015, am iddo eu dyddio hyd at 2015, a bod cyllidebau heddlu wedi bod yn codi ers 2015?

Ond Llafur a Thori ydyw: yr un hen stori, felly, dyna ni.

Mae elfen praesept yr heddlu o drethi cyngor hefyd wedi cynyddu'n sylweddol eleni er mwyn gwrthweithio toriadau i gyllid canolog. Yng Ngwent, mae'n 6.78 y cant, ac yn Nyfed-Powys, 7.75 y cant. Felly, mae gennym senario cywilyddus lle mae pobl Cymru yn gorfod rhoi mwy o'u harian prin yng nghanol argyfwng costau byw i wneud iawn am ganoli penderfyniadau gwario yn nwylo rhai sydd ag obsesiwn am ideoleg cyni yn San Steffan. Dangosodd arolwg diweddar hefyd fod 97 y cant o swyddogion heddlu gogledd Cymru yn credu bod eu triniaeth gan y Llywodraeth yn ddiweddar, yn enwedig mewn perthynas â chyllid, wedi niweidio eu morâl.

Efallai na ddylem gael ein synnu gan y ffordd y mae'r Torïaid yn diystyru gwerth cyfiawnder. Wedi'r cyfan, mae plaid cyfraith a threfn fel y mae'n galw ei hun wedi gwneud torri rheolau yn modus operandi iddi hi ei hun yn ddiweddar. Ond mae'n annerbyniol fod pobl Cymru'n cael eu gorfodi i ddioddef safonau sy'n dirywio oherwydd y trefniadau cyfansoddiadol ideolegol sy'n bodoli yma ar hyn o bryd mewn perthynas â chyfiawnder a phlismona. Gallwn wneud yn well, ac rwy'n hyderus o hynny, os cawn gyfle. Diolch yn fawr.

17:35

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rydym yn cael y trafodaethau hyn yn eithaf rheolaidd am ddatganoli plismona a'r system cyfiawnder troseddol. Rwy'n gwybod, oherwydd fe arweiniais rai ohonynt. Ym Mhrydain, rydym wedi cael datganoli tameidiog, ond yn UDA, yr Almaen, a'r rhan fwyaf o wledydd eraill, mae meysydd cyfrifoldeb naill ai'n cael eu datganoli neu eu cadw'n ganolog. Er enghraifft, yn UDA, mae gan California ac Efrog Newydd yr un meysydd cyfrifoldeb â Montana a New Jersey. Mae gennym ddatganoli anghymesur, ac fel y mae Sbaen wedi'i ddarganfod, mae hynny'n arwain at broblemau. Gyda datganoli, mae gennym y ddwy eithafiaeth: Plaid Cymru'n credu y gallant ennill mwy a mwy o bwerau tuag at ymwahanu; a'r gwrth-ddatganolwyr, yn bennaf yn y Blaid Geidwadol, yn credu y dylid gwrthwynebu pob cynnig ar ddatganoli pellach.

Mae'n rhaid gwneud achos dros ddatganoli pob pŵer ychwanegol, sy'n golygu bod y pwerau sydd wedi'u datganoli i Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a meiri Lloegr yn amrywio'n sylweddol. Mae plismona wedi'i ddatganoli i'r Alban a Gogledd Iwerddon, a dim ond edrych ar hanes Gogledd Iwerddon sy'n rhaid inni ei wneud i sylweddoli bod hwnnw'n gam mawr iawn, i ddatganoli plismona i Ogledd Iwerddon. Cymru yw'r eithriad. Ym Manceinion Fwyaf a Gorllewin Swydd Efrog, mae pwerau'r comisiynydd heddlu a throseddu wedi cael eu cyfuno yn rôl y maer. Pam y dylai'r Alban, Gogledd Iwerddon, Manceinion Fwyaf a Gorllewin Swydd Efrog gael plismona wedi'i ddatganoli, ac nid Cymru?

Mae llawer o'r ysgogiadau sy'n effeithio ar lefelau troseddu eisoes wedi'u datganoli i Gymru: diogelwch cymunedol, addysg, hyfforddiant, swyddi, gwasanaeth iechyd meddwl, triniaeth alcohol a chyffuriau, tai, cymunedau iach a llawer mwy—yn ogystal â gwasanaethau eraill. Mae mynd i'r afael â throseddu a lleihau troseddu ac aildroseddu yn golygu bod angen i'r heddlu weithio gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill, sydd eisoes yn gweithredu ar wahanol lefelau ledled Cymru. Er enghraifft, mae angen ymyrraeth yr heddlu i gefnogi'r rhai â chyflyrau iechyd meddwl, cyn iddynt gyrraedd pwynt argyfwng ac ar ôl hynny, a phan fyddant wedi mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol mae hynny'n aml yn golygu gweithio gyda GIG Cymru a byrddau iechyd lleol. Pe bai pwerau plismona wedi'u datganoli, byddai'n caniatáu llawer mwy o gyswllt rhwng y ddau wasanaeth yn lleol a chan Weinidogion a gweision sifil ar lefel strategol yng Nghymru, yn hytrach na rhwng Cymru a San Steffan.

Mae potensial ar gyfer model Cymreig llwyddiannus, a all adeiladu ar gryfder datganoli heb ein torri i ffwrdd o'r Deyrnas Unedig. Nid wyf yn credu y dylai datganoli'r heddlu gynnwys yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, diogelwch cenedlaethol a gwrthderfysgaeth; dylent barhau ar lefel Brydeinig. Yn amlwg, mae angen i gydweithredu mewn plismona ymestyn nid yn unig i ynysoedd Prydain, ond hefyd i Ewrop a thu hwnt. Gwyddom nad yw trosedd a therfysgaeth yn cydnabod ffiniau, ac mae angen mesurau cydlynol arnom i sicrhau na all troseddwyr osgoi cyhuddiadau drwy ffoi dramor.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos eu cefnogaeth drwy fuddsoddi mewn swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ychwanegol, ac mae llawer ohonom yn cydnabod y gwaith da iawn y mae'r swyddogion cymorth cymunedol hyn yn ei wneud yn ein cymunedau. Yn amlwg, mae angen eithrio diogelwch cenedlaethol, fel y dywedais: mae angen gwneud ysbïo a therfysgaeth ar sail Brydeinig fan lleiaf. Mae angen i'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, asiantaeth sy'n ymladd troseddau, gyfeirio pwysau llawn y gyfraith at dorri nifer y troseddau difrifol a chyfundrefnol. Yr hyn y mae'n ei adael yw'r plismona o ddydd i ddydd a gyflawnir gan bedwar heddlu Cymru. Nid yw heddluoedd yn gweithio ar eu pen eu hunain. Maent yn gweithio'n agos gyda'r gwasanaethau tân ac ambiwlans, sydd ill dau wedi'u datganoli. Pan fyddwch yn ffonio 999, ni fydd neb yn gofyn i chi a ydych am gael gwasanaeth datganoledig neu heb ei ddatganoli.

Dadl arall o blaid datganoli plismona yw'r gallu i gysylltu plismona'n well â gwasanaethau datganoledig eraill, megis cymorth i ddioddefwyr, cam-drin domestig a'r gwasanaeth iechyd. Gyda phlismona wedi'i ddatganoli i'r Alban a Gogledd Iwerddon, mae'n anghyson nad yw wedi'i ddatganoli yng Nghymru. Wrth edrych ar gyfandir Ewrop a Gogledd America, mae Cymru'n ymddangos fel eithriad ar draws y rhan fwyaf o'r byd democrataidd. Heblaw am reoli diogelwch cenedlaethol a throseddau difrifol, mae plismona'n cael ei gyflawni gan heddluoedd rhanbarthol neu leol. Mae gorfodi'r gyfraith yn yr Almaen yn digwydd o fewn yr 16 talaith ffederal. Mae plismona yn UDA yn digwydd drwy asiantaethau ffederal, megis y Swyddfa Ymchwilio Ffederal, FBI, sy'n gyfarwydd i bobl sy'n gwylio rhaglenni teledu Americanaidd, ond mae asiantaethau taleithiol fel patrol priffyrdd a phlismona lleol yn cael eu gwneud yn lleol. Yr hyn sydd gan y rhain yn gyffredin yw bod plismona lleol yn lleol, ac ymdrinnir â throseddau mawr a diogelwch cenedlaethol ar lefel genedlaethol.

Credaf mai'r ffordd ymlaen yw datganoli'r rhan fwyaf o blismona i'r Senedd, ond i gadw Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol y DU a'r gwasanaethau diogelwch cenedlaethol yn ganolog. Cofiwch fod dinasoedd mawr Prydain wedi plismona eu hunain hyd at 1960. Roedd gennym bwyllgorau'r heddlu—roeddent hwy'n cael ei wneud. Pan gawsant eu gwladoli gan y Llywodraeth Geidwadol yn y 1950au, cafodd rheolaeth pwyllgorau heddlu lleol ei throsglwyddo i'r Swyddfa Gartref, a olygodd ein bod wedi colli llawer iawn o reolaeth leol. Ac rwy'n gwybod am awdurdodau heddlu—roeddwn i'n gwasanaethu ar un—ond nid oeddent yn agos at fod mor effeithiol â phwyllgorau'r heddlu.

Dylem adfer yr hawl i blismona ein hunain a dychwelyd plismona lleol i Lywodraeth Cymru. Os gallant ei wneud yng Ngogledd Iwerddon, gyda'r hanes y maent wedi'i weld yng Ngogledd Iwerddon, ac anghydfodau a phobl yn saethu at yr heddlu, ac ati, am resymau gwleidyddol, nid oes unrhyw reswm pam na allwn ei gael yng Nghymru. 

17:40

Dwi o blaid datganoli cyfiawnder. Dwi'n grediniol y bydd yn gwella'r system gyfiawnder i bobl yng Nghymru. Dyna oedd barn bendant y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Roedd yr Arglwydd Thomas yn erbyn galw'r comisiwn yn 'gomisiwn Thomas', oherwydd roedd e eisiau pwysleisio arbenigedd yr holl gomisiynwyr. Roedd y comisiwn yn ffodus iawn i gael ei gadeirio gan y cyn brif ustus, ond roedd y comisiwn hefyd yn cynnwys arbenigwyr rhyngwladol ym maes cyfraith gyfansoddiadol, carchardai, y gwasanaeth prawf, y proffesiwn cyfreithiol a phlismona. Cafwyd arbenigedd hefyd wrth ddrafftio'r adroddiad oddi wrth arbenigwyr ym maes dioddefwyr a hawliau dynol. Doedd y comisiynwyr ddim yn aelodau typical o fyrddau yng Nghymru. Doedden nhw ddim ychwaith yn ceisio gwthio rhyw agenda penodol. Doedden nhw ddim yn mouthpiece i Lywodraeth Cymru. Mae'r adroddiad yn feirniadol iawn o Lywodraeth Cymru mewn sawl man. Doedd dim cymhelliad ideolegol gyda'r comisiwn yma. Nid comisiwn o genedlaetholwyr oedd y rhain o gwbl. 

Fe wnaeth y comisiwn cyfiawnder argymell datganoli wedi iddyn nhw bwyso a mesur yn ofalus y dystiolaeth yn fanwl: 205 darn o dystiolaeth ysgrifenedig, 46 o sesiynau tystiolaeth lafar, ac 87 o sesiynau ymgysylltu; adroddiad gan arbenigwyr, wedi'i seilio ar dystiolaeth fanwl. Mae'n anhygoel, felly, fod y blaid Dorïaidd, a chymaint o fewn grŵp Llafur San Steffan, yn fodlon diystyru’r adroddiad. 

Mae'n amlwg nad yw'r Farwnes Bloomfield, yn ei hateb i'r Arglwydd Wigley yn dweud na chafwyd unrhyw achos darbwyllol sy'n dangos y byddai cyfiawnder yn gwella o gael ei ddatganoli i Gymru, wedi darllen yr adroddiad o gwbl. 

Maen nhw'n diystyru datganoli ar sail ideolegol, sy'n rhyfedd iawn, oherwydd mae Lord Hunt yn dweud, yn 1990, y gwnaeth e a Ken Clarke gytuno y byddai plismona yn cael ei ddatganoli i Swyddfa Cymru bryd hynny, ond ei fod e wedi cael ei rwystro gan bureaucracy yn Whitehall. Roedd ymateb Sir Robert Buckland yn dweud y cyfan wrth iddo dderbyn yr adroddiad—dim dadleuon cryf yn erbyn, jest bod awdurdod Cymru a Lloegr wedi gweithio ers canrifoedd, a dyna ni, i barhau. Wel, fel rŷn ni wedi clywed yn barod, dyw hynny jest ddim yn wir. 

Fel dywedodd Alun Davies a Mike Hedges, dwi'n methu gweld rhesymeg unrhyw unoliaethwr sy'n proffesu o fod o blaid datganoli i wrthwynebu datganoli cyfiawnder. Byddai'n creu system gymesur ledled Prydain. Dylai hynny arwain at drefn datganoli gliriach, ac arwain at lai o gecru rhwng llywodraethau, a byddai o gymorth i ddelio â phroblemau'r jagged edge, ac yn llawer haws i egluro egwyddorion ar sail gweinyddu cyfiawnder ledled y Deyrnas Unedig. Dyw'r system bresennol jest ddim yn gwneud sens. 

Ac rŷn ni'n gweld y problemau hynny. Rŷn ni'n gweld y diffyg atebolrwydd. Er enghraifft, dim ond traean o gyllideb yr heddlu yng Nghymru sy'n dod o San Steffan. Daw'r gweddill i gyd o Gymru. Ac yn 2017-18, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol oedd yn gyfrifol am bron i 40 y cant o gyllideb y system gyfiawnder yng Nghymru, a hynny ddim yn cynnwys gwariant ar Wasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd Cymru o fewn cyfraith deuluol, ddim yn cynnwys timau troseddwyr ifanc, nac addysg a gofal cymdeithasol mewn carchardai yng Nghymru. Mae'r diffyg atebolrwydd yn glir i'r gwariant sylweddol yma. 

Rwy'n cofio swyddogion Whitehall yn herio'r honiad mai Cymru oedd â'r boblogaeth carchardai fwyaf fesul y pen yng ngorllewin Ewrop. Pan ofynnwyd iddynt gefnogi eu honiad, fe wnaethant ddweud bod Guernsey yn waeth. Nawr, gyda phob parch i Guernsey, mae ei phoblogaeth yn llai na phoblogaeth Ynys Môn, ac mae'n anodd iawn cymharu nifer y boblogaeth carchardai fesul 100,000 ar ynys sydd ond â phoblogaeth o 64,000. Y gwir amdani, pan ffurfir polisi yn Whitehall, yw nad yw Cymru hyd yn oed ar y radar, heb sôn am y ffaith bod gan Gymru ei setliad datganoli ei hun. Dylem roi map o Gymru wrth fynedfa'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i'w hatgoffa am ein bodolaeth.

Rwy'n cytuno â'r Prif Weinidog y bydd datganoli prawf a chyfiawnder ieuenctid yn gam cyntaf cyffrous, ond gwrthodwyd datganoli cyfiawnder yn dameidiog gan adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru; dim ond symud y rhwyg ychydig i'r ochr a wnâi hynny. Rwy'n annog fy nghyd-Aelodau Ceidwadol a'r rhai o fewn y Blaid Lafur yn Senedd y DU i ddarllen yr adroddiad, i roi ideoleg ddall i'r naill ochr ac i edrych yn ofalus ar y dystiolaeth. Mae'r dystiolaeth yn dangos yn glir fod angen datganoli cyfiawnder, ac mae'n fater o pryd, nid os. 

Gadewch inni ddangos yn glir heddiw i San Steffan, i lywodraeth Lafur yn y dyfodol, o bosib, mai barn mwyafrif mawr y Senedd hon yw y dylid datganoli cyfiawnder. Diolch yn fawr. 

17:45

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yma. I'r rhai ohonom ni sydd wedi gwneud y dadleuon o ran pa mor angenrheidiol yw hyn, mae'n un peth ein bod ni'n dweud hyn dro ar ôl tro; mae'n adeg rŵan i weithredu. A dyna oedd her Rhun: sut ydym ni'n sicrhau nad geiriau gwag mo'r rhain bellach? Oherwydd y bobl sydd yn dioddef pan does gennym ni ddim mo'r grym yma yng Nghymru ydy'n cymunedau ni, a'n rheidrwydd ni yma yn y Senedd ydy sicrhau'r gorau i'r cymunedau hynny.

Mi glywsom ni gan Peredur effaith polisïau llymder ar yr heddlu yn benodol. Rydyn ni hefyd yn gwybod, o ran polisïau llymder, y straen aruthrol mae hyn wedi'i roi ar yr heddlu'n benodol—y toriadau i wasanaethau iechyd, ac yn arbennig gwasanaethau iechyd meddwl, er enghraifft—a faint o amser yr heddlu a PCSOs sy'n mynd i ymdrin efo achosion gan fod y gwasanaethau angenrheidiol yna ddim ar gael. 

O ddydd i ddydd, rwy'n gweld yn y dref lle rwy'n byw, Pontypridd, y gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan swyddogion yr heddlu a swyddogion cymorth cymunedol y heddlu i wneud ein tref yn lle gwell i fyw, wrth iddynt fynd y tu hwnt i'r galw i helpu'r gymuned trwy nifer o fentrau, ond yn yr un modd rwy'n gwybod eu bod dan bwysau, ac o'i roi'n syml, mae'n rhaid iddynt geisio llenwi'r bylchau sy'n cael eu gadael ar ôl gan wasanaethau fel clybiau ieuenctid. Maent yn treulio cymaint o amser oherwydd eu bod yn ceisio gweithio gyda system nad yw'n gweithio yn sylfaenol.

Gwelwn y dirywiad mewn cyfraddau troseddu fel symptom o hyn: cyfanswm troseddau a gofnodwyd yng Nghymru ddiwedd mis Rhagfyr 2022 oedd 275,233, i fyny bron 25,000 o'r flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn golygu bod cyfradd y troseddau yng Nghymru ar hyn o bryd yn 88.6 fesul 1,000 o bobl—y lefel uchaf ers i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol gasglu data am y tro cyntaf yn 2015. Mae'n amlwg fod hyn yn rhan o duedd fwy hirdymor. Mae cyfraddau troseddu wedi codi bob blwyddyn yng Nghymru ers 2013, ac eithrio 2020, ac ar wahân i fyrgleriaethau a throseddau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, bu cynnydd ym mhob categori troseddol yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda chynnydd sylweddol mewn lladradau, sef 33 y cant, dwyn beiciau ar 19 y cant, a dwyn o siopau ar 31 y cant, yn fwyaf arbennig.

Yn anecdotaidd, rwy'n gwybod, o siarad â swyddogion heddlu a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu fod y cysylltiad rhwng yr argyfwng costau byw a'r ystadegau hynny yn rhywbeth sy'n peri pryder enfawr. Mae'r ffaith ein bod ni'n troseddoli pobl am na allant fforddio pethau sylfaenol fel bwyd yn bryder nawr. Mae'r ffaith eu bod yn cael eu troseddoli am rai o'r penderfyniadau gwleidyddol sydd wedi arwain at y sefyllfa honno yn rhywbeth y dylem fyfyrio arno. Mae cyfradd troseddau treisgar yng Nghymru hefyd yn uwch na chyfartaledd y DU, sef 37.7 y cant fesul 1,000 o bobl, o'i gymharu â 35.8 yn flaenorol.

Ar y cam hwn, mae'n werth myfyrio ar y sefyllfa yn yr Alban, lle mae cyfiawnder a phlismona wedi'u datganoli'n llawn. Dros y degawd diwethaf, mae troseddau a gofnodwyd yn yr Alban wedi gostwng at ei gilydd, ac ar hyn o bryd mae ar ei lefel isaf ers 1974. Ar ben hynny, roedd y gyfradd troseddu yn yr Alban ddiwedd mis Rhagfyr y llynedd oddeutu 52 fesul 1,000 o bobl. Mae'n werth deall ac archwilio ymhellach sut y gall gwahanol ddulliau gweithredu wneud gwahaniaeth, a sicrhau, pan fydd gennym y pwerau yma yng Nghymru—oherwydd rwy'n argyhoeddedig mai mater o pan fyddant gennym ydyw, yn hytrach nag os—bydd ein dull gweithredu yn un pwrpasol ar gyfer yr heriau sy'n ein hwynebu. Wedi'r cyfan, mae gennym system cyfiawnder troseddol sy'n gwneud cam â gormod o bobl. Mae gormod o Lywodraethau'r DU wedi ffafrio carcharu llawdrwm yn hytrach nag adsefydlu, sydd wedi'i bwysoli'n anghymesur yn erbyn rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed sy'n byw yma yng Nghymru heddiw.

Ym mis Rhagfyr y llynedd, roedd y gyfran o'r boblogaeth yng Nghymru a oedd yn y carchar yn 5,154, neu 165.9 fesul 100,000 o boblogaeth Cymru. Mae'n un o'r cyfraddau uchaf yn Ewrop. Rydym yn gweld bod ein carchardai dan ormod o bwysau. Os edrychwn ar garchar Caerdydd, er enghraifft, mae'n orlawn: 138 y cant; Abertawe, 155 y cant. Ddeng mlynedd ar hugain ar ôl llofruddiaeth Stephen Lawrence, a ddatgelodd gymaint o hiliaeth sefydliadol a geid o fewn yr heddlu, gwelwn broblemau enfawr, gyda 27 y cant o garcharorion yng Nghymru a Lloegr yn 2022 yn nodi eu bod yn lleiafrifol ethnig, o'i gymharu â 13 y cant o'r boblogaeth gyffredinol. Rydym wedi gweld honiadau o gasineb at fenywod a hiliaeth yn Heddlu Gwent nad ydynt o bell ffordd yn achosion ynysig nac eithriadol ledled Cymru a Lloegr yn anffodus. Gallwn wneud cymaint yn well yma yng Nghymru—system sy'n gweithio i bobl ac sy'n dod o hyd i atebion. Ni allwn ganiatáu i Lywodraeth Geidwadol na Llywodraeth Lafur, os daw un ar ôl yr etholiad nesaf, barhau i wneud cam â'n cymunedau. Rwy'n gobeithio y gallwn weithio gyda'n gilydd fel Senedd nawr i fynnu'r pwerau hyn yn llawn.

17:50

Rwyf am gefnogi'r egwyddor y dylid datganoli pwerau ar gyfiawnder a phlismona i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd ar drywydd yr achos hwnnw a pharatoi ar gyfer datganoli'r heddlu a chyfiawnder.

Mae pawb ohonom yma wedi gweld canlyniadau 13 mlynedd hir o fethiant Torïaidd—hyd yn oed ar y fainc honno, ni allant fod yn ddall i hynny. Maent wedi gweld esgeulustod, cyni, anghydraddoldeb, annhegwch, a system gyfreithiol sydd wedi torri o ganlyniad i'w polisïau. System aflwyddiannus, lle nad oes ond 1.3 y cant o achosion o drais rhywiol yn cael eu herlyn bellach; system doredig sydd wedi creu sgandalau fel Hillsborough, a brwydr 27 mlynedd dros gyfiawnder oherwydd absenoldeb cymorth cyfreithiol i gefnogi teuluoedd a dioddefwyr y drasiedi honno wrth iddynt geisio sicrhau llais iddynt eu hunain yn y system gyfiawnder, a'u galwad nawr am gyfraith Hillsborough, a hynny'n gwbl briodol.

Yn yr 11 mlynedd ers Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012, rydym wedi gweld system gyfreithiol ddwy haen yn datblygu, gyda thorri cymorth cyfreithiol, ac amddifadu llawer o bobl Cymru o gyfiawnder. Mae mynediad at gyfiawnder a'r hawl i gyngor, cynrychiolaeth a chefnogaeth yn hawl ddynol sylfaenol. Mae'r cysylltiad rhwng cyfiawnder, mynediad at gyfiawnder a'n gwasanaethau cyhoeddus craidd yn allweddol i fynd i'r afael â thlodi, anfantais gymdeithasol ac anghydraddoldeb, a soniwyd am hynny nawr. Canfu comisiwn Thomas—mae'n ddrwg gennyf am ei alw'n gomisiwn Thomas—fod gwariant y pen ar gymorth cyfreithiol troseddol yn £11.50 yng Nghymru, o'i gymharu â £15 y pen yn Lloegr. Felly, pe bai'n cael ei ddatganoli a'n bod yn cael ein cyfran deg o gyllid, rwy'n cytuno'n llwyr y gallem ariannu cymorth cyfreithiol yn well. Byddem yn creu ein gwasanaeth cymorth a chyngor cyfreithiol Cymreig ein hunain, i wasanaethu pobl Cymru a darparu'r mynediad at gyfiawnder rydym i gyd yn credu ynddo.

Mae unigolion sy'n wynebu erlyniad troseddol a charchar yn ofni y gallai cost ariannol amddiffyn eu hunain eu gwneud yn fethdalwyr, hyd yn oed os ydynt yn llwyddiannus. Gall hyn olygu bod pobl—ac mae wedi golygu bod pobl—yn pledio'n euog i droseddau nad ydynt wedi'u cyflawni er mwyn diogelu eu cartrefi a'u hasedau ar gyfer gweddill eu teulu. Mewn achosion o drais rhywiol, mae'r amser cymedrig rhwng trosedd a chwblhau achos bellach dros ddwy flynedd a hanner, gyda dim ond 1.3 y cant o achosion yn cael eu herlyn. Mae'r oedi enfawr yn arwain at roi hyder i droseddwyr sy'n peryglu erlyniadau, a chanlyniadau dinistriol i'r dioddefwyr hynny—sefyllfa gywilyddus sydd, yn gwbl onest, yn fwy cydnaws â'r bedwaredd ganrif ar bymtheg na'r unfed ganrif ar hugain.

Er nad yw cyfiawnder wedi'i ddatganoli, ac er nad oes adnoddau ar ei gyfer i helpu'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd cael cymorth cyfreithiol, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi camau ar waith i gefnogi pobl, a'r llynedd, fe wnaeth sicrhau bod mwy na £10 miliwn o gyllid ar gael i wasanaethau'r gronfa gynghori sengl yng Nghymru. Rwy'n cytuno â'r Gweinidog y dylid datganoli pwerau dros gyfiawnder, ac y dylid sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol yng Nghymru. Hefyd, mae'n rhaid imi wrthwynebu'r hyn y mae'r Torïaid yn ei ddadlau—na fyddai heddlu yn Lloegr, rywsut, yn gwybod ble mae'r llinell, neu na fyddai heddlu Cymreig yn gwybod ble mae'r ffiniau rhwng Cymru a Lloegr. Rwy'n siŵr eu bod yn llwyddo'n berffaith i wybod lle mae'r Alban yn gorffen a Lloegr yn dechrau, neu lle mae Lloegr yn gorffen a'r Alban yn dechrau. A dweud y gwir, os na fyddai rhywun yn gallu tynnu llinell ar fap neu ei ddeall, tybed a ddylent fod yn yr heddlu o gwbl.

17:55

Mae'r angen brys i ddatganoli pwerau dros gyfiawnder nid yn unig yn fater o egwyddor; fel y clywsom eisoes, mae angen gwneud hynny er mwyn sicrhau mwy o degwch i'n pobl, i helpu pobl pan fyddant ar eu mwyaf bregus. Rydym eisoes wedi clywed am hiliaeth sefydliadol mewn rhannau o'n system gyfiawnder bresennol; hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau ar y ffyrdd y mae ein system bresennol nid yn unig yn gwneud cam â menywod, ond yn gwaethygu eu trawma.

Gwn fod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi edrych ar hyn, ac wedi canfod diffyg cynnydd pryderus ers gwaith y Farwnes Corston yn y maes 16 mlynedd yn ôl. Mae'r pwyllgor wedi tynnu sylw at ba mor wrthgynhyrchiol yw dedfrydau byr o garchar i droseddwyr benywaidd—unwaith eto, daw hyn o'n system bresennol—gan nodi tystiolaeth gan yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai fod 60 y cant o'r dedfrydau carchar a roddwyd i fenywod yng Nghymru yn 2021 am gyfnodau llai na chwe mis. Bydd y rhain yn aml ar gyfer mân droseddau. Mae menywod yn fwy tebygol o fod yn brif ofalwyr plant, sy'n golygu y bydd eu carchariad yn peryglu eu teuluoedd. Ni fydd neb yn y teuluoedd hynny'n dod allan ohoni heb eu hanafu gan y profiad o wahanu, colled a thrawma—byddant yn cael eu rhwygo ar wahân.

Ni all carchariad o chwe mis—unwaith eto, daw hyn o'r system bresennol—gael ei gymell gan unrhyw obaith o adsefydlu person o fewn y gymdeithas, neu o'u hannog i newid eu ffyrdd. Mae'n gosb, wedi'i rhoi i bobl sy'n aml yn troseddu am resymau cymhleth—ymdeimlad o anobaith oherwydd diofalwch neu gam-drin neu'r ffaith nad yw gwasanaethau cymorth wedi bod yno i'w cael ar lwybr gwell, neu'n wir yr argyfwng costau byw. Gellid osgoi cymaint o fân droseddau pe baem yn buddsoddi mewn gofalu am bobl yn hytrach na'u troseddoli. Ac mae'n fater o adnoddau yn ogystal â gwneud yr hyn sy'n iawn. Mae carchariadau byr yn llawer mwy tebygol yn ystadegol o arwain at aildroseddu. Mae elusen Women in Prison wedi canfod bod dros 70 y cant o fenywod sy'n cael eu rhyddhau ar ôl dedfrydau o lai na 12 mis o garchar yn aildroseddu o fewn blwyddyn, sy'n golygu nad oes neb yn dysgu unrhyw beth o'r profiad—mae'n gwneud pethau'n waeth, dyna i gyd, ac yn sefydlu cylch o ddiofalwch, cefnu a beio.

Mae'r system hon yn gwneud cam gwael â menywod sydd wedi goroesi troseddau hefyd. Mae ystadegau Llywodraeth y DU yn dangos mai dim ond 1.9—. Rydym wedi clywed yr ystadegau dirdynnol ynglŷn â chyn lleied o'r achosion o drais rhywiol a gofnodwyd sy'n arwain at euogfarn. Mae bron i 70 y cant o oroeswyr trais rhywiol yn tynnu'n ôl o ymchwiliadau oherwydd eu bod wedi colli ffydd yn y system. Fel y mae'r Comisiynydd Cam-drin Domestig wedi canfod, mae'n system sy'n ail-drawmateiddio goroeswyr trais oherwydd diffyg cefnogaeth mewn llysoedd teulu a llysoedd troseddol. Rwy'n gwybod o fy mhrofiad o weithio gyda goroeswyr stelcian a rheolaeth drwy orfodaeth am yr effaith ddinistriol, ysgytwol y gall yr ail-drawmateiddio hwnnw ei chael—y cylch o ddiofalwch unwaith eto.

Ddirprwy Lywydd, ni fydd datganoli cyfiawnder ynddo'i hun yn arwain yn  awtomatig at newid, ond bydd trosglwyddo'r pwerau hynny, os caiff ei wneud gyda gwaith ar lawr gwlad, drwy fuddsoddi mewn gwasanaethau cymdeithasol, llochesau, hyfforddiant i'r heddlu, ac integreiddio'r gwasanaethau hyn yn fwy effeithiol, yn dechrau golygu y bydd llai o fenywod yn cwympo drwy'r bylchau mawr yn ein system. Rwy'n gwybod bod y grŵp trawsbleidiol ar fenywod wedi edrych ar hyn hefyd. Gall ddechrau ail-gydbwyso’r fantol, ac yn lle meddwl am gyfiawnder fel system gosbi, gall olygu ei bod yn system ar gyfer trugaredd yn lle hynny. Trugaredd yw'r hyn sydd mor aml ar goll o'n system gyfiawnder—y rhinwedd nad yw byth dan straen, fel y mae Portia yn ein hatgoffa, ac sy'n gallu tymheru cyfiawnder. Ac yn ogystal â thrugaredd, efallai y gallwn anelu i fod yn gymdeithas lle ceir dyhead am les cyffredinol, lle mae'r cyfrifoldeb am lesiant pobl eraill yn gonglfaen i'r ffordd rydym yn byw ein bywydau. Dyna sut y cawn gyfiawnder go iawn, oherwydd fel y dywedodd Helen Keller,

'Hyd nes y llenwir y mwyafrif mawr o bobl â'r ymdeimlad o gyfrifoldeb dros les ei gilydd, ni fydd modd sicrhau cyfiawnder cymdeithasol'.

Felly, gadewch inni roi'r dulliau i ni ein hunain wneud y buddsoddiad hwnnw yn ein cyd-ddinasyddion, i wneud y dewisiadau a fydd yn gwneud ein cymdeithas yn lle llai diofal, yn lle mwy diogel, ac yn fwy na dim, yn lle trugarog. 

18:00

Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, Mick Antoniw. 

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon? Rwy'n croesawu'r cyfle i drafod ac ystyried y materion hyn. Yn amlwg, rwy'n llongyfarch Rhun ar ei araith fawr gyntaf ar y mater hwn fel arweinydd Plaid Cymru, ac rwy'n tybio mai hon fydd yr araith gyntaf o lawer wrth i'r broses hon barhau. A gaf fi ddweud hefyd, o ran yr holl gyfraniadau sydd wedi cael eu gwneud heddiw, fy mod yn croesawu ehangder y rhain am eu bod yn codi cymaint o'r gwahanol agweddau ar y system gyfiawnder sydd wedi ein harwain at y farn o ran pam ei bod yn bwysig datganoli cyfiawnder? Ni allaf gyfeirio at bob un ohonynt ac nid wyf am ymateb i ddau ohonynt. Yr wythnos nesaf, rwy'n credu, byddaf yn annerch cyfarfod o Sefydliad Bevan, ac wrth gwrs, rwy'n gobeithio mynd ymhelaethu ymhellach yno ar y materion sy'n ymwneud â chydraddoldeb, cyfiawnder, cyfiawnder cymdeithasol a chysylltu'r rheini.    

Felly, heddiw, wrth ymateb i'r ddadl hon, mewn modd barnwrol da, rwy'n gobeithio troedio'r tir uchel yn foesol ac ymdrin â hanfod datganoli cyfiawnder. Rwy'n credu bod y rhan fwyaf ohonom yn y Siambr hon ar draws pob plaid yn cydnabod bod llawer o gytundeb ar yr angen i ddiwygio, moderneiddio a gwella'r modd y caiff cyfiawnder ei gweinyddu yng Nghymru. Wedi'r cyfan, a oes unrhyw un yn y Senedd hon nad ydynt am weld system gyfiawnder fwy trugarog, mwy effeithiol, tecach a hygyrch, ac un sy'n seiliedig ar dystiolaeth, fel y dylai pob agwedd ar gyfiawnder fod? System datrys problemau sy'n cael ei llywio gan drawma, sy'n gysylltiedig â gwasanaethau cyhoeddus eraill, ac sy'n canolbwyntio ar leihau troseddu, lleihau aildroseddu a diogelu'r cyhoedd. 

Lywydd, credwn mai prif amcan diwygio a datganoli cyfiawnder yw ei bod yn broses naturiol o ddatganoli sy'n ei gwneud hi'n bosibl cydlynu cyfiawnder â gwasanaethau cyhoeddus datganoledig eraill yn well, a gall arwain at system gyfiawnder well a thecach. Rwy'n cydnabod bod gan Aelodau Plaid Cymru gymhelliant ychwanegol yn hyn, ond ein barn ni yw nad oes gan ddatganoli cyfiawnder unrhyw beth i'w wneud ag annibyniaeth: mae'n ymwneud yn syml ac yn ddiamwys â darparu cyfiawnder yn well. Dyma ffocws Llywodraeth Cymru, ac mae'r rhesymeg sy'n sail i'r broses hon, nid yn unig yn berthnasol i Gymru, lle mae cymaint o'n gwasanaethau datganoledig wedi'u plethu'n synergyddol o fewn y system gyfiawnder, ond hefyd i ranbarthau Lloegr y credaf y byddent hefyd yn croesawu rhai o'r diwygiadau rydym yn sôn amdanynt, ac yn wir, yn paratoi ar gyfer eu gweithredu.  

Mae dros dair blynedd wedi bod ers i'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru argymell y dylid datganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru ac y dylai polisi lleihau troseddau gael ei bennu yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod materion cyfiawnder yn cael eu hintegreiddio o fewn yr un fframwaith polisi a deddfwriaethol ag iechyd, llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus a chymdeithasol eraill. Felly, mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn glir: rydym yn cefnogi casgliadau'r comisiwn ac rydym wedi ymrwymo i fynd ar drywydd datganoli plismona a chyfiawnder. Ni allwn alinio'r ddarpariaeth ag anghenion a blaenoriaethau pobl a chymunedau Cymru hyd nes y bydd gennym drosolwg llawn o'r system gyfiawnder yng Nghymru. 

Rwy'n falch o glywed am eich ymrwymiad i ddatganoli plismona a chyfiawnder—mae hynny'n wych. A yw hynny'n wir am eich arweinydd, Keir Starmer, yn Llundain?

18:05

Mae Keir Starmer wedi rhoi ymrwymiad o gefnogaeth i adroddiad Gordon Brown. Mae adroddiad Gordon Brown yn ei gwneud yn gwbl glir nad oes pwerau sydd, er enghraifft, yn yr Alban na all Cymru eu cael hefyd. Yr hyn a wnaeth, a oedd yn bwysig iawn yn fy marn i, oedd ildio'n benodol i farn y comisiwn annibynnol ar ddyfodol Cymru, a fydd yn cynhyrchu ei adroddiad, a dywedodd y dylid ymgysylltu'n adeiladol â'r argymhellion ar ôl hynny. Rwy'n credu mai dyna'r ffordd gywir ymlaen.

Wrth gwrs, fel y dywedwch, ceir yr elfen gyfansoddiadol. Y Senedd yw'r unig Senedd y gwyddom amdani yn y byd cyfraith gyffredin sy'n gallu deddfu heb yr awdurdodaeth i orfodi ei chyfreithiau ei hun. Felly, mae'r cynnig yn sôn yn benodol am ddatganoli plismona, ac rydym yn cytuno, wrth gwrs, fod hon yn elfen bwysig o'r datganoli sydd ei angen—fe wnaeth nid yn unig y comisiwn cyfiawnder, ond Silk cyn hynny, argymell datganoli plismona. Rwy'n gwneud y pwynt yma: mae'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu etholedig yng Nghymru, y rhai sydd â mandad democrataidd ac a etholwyd gan bobl Cymru, yn cefnogi'r achos dros ddatganoli plismona. Fe wneuthum yr achos yn gryf dros ddatganoli plismona pan ymddangosais gerbron y comisiwn ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru dan gadeiryddiaeth Laura McAllister a Rowan Williams, ac wrth gwrs rydym yn aros gyda diddordeb mawr i weld beth fydd barn y comisiwn.

Nid yw ein gwrthwynebiad i'r rhan o'r cynnig gan Blaid Cymru yn deillio o'r gwahaniaeth ynglŷn â lle rydym yn gobeithio ei gyrraedd o ran datganoli cyfiawnder. Mae'r gwahaniaeth yn ymwneud â sut rydym yn cyrraedd yno a pham, ac er fy mod yn cytuno bod angen inni sefydlu awdurdodaeth Gymreig neilltuol yn ffurfiol a bod angen i blismona yng Nghymru fod yn gwbl atebol i'r Senedd, camgymeriad difrifol fyddai ceisio cysylltu hyn â safbwynt Plaid Cymru ar annibyniaeth. Nid yw'n rhyw fath o gam tuag at annibyniaeth, mae'n ymwneud â darparu cyfiawnder yn well. Synnwyr cyffredin yw sicrhau bod y gyfraith sy'n berthnasol yng Nghymru yn cael ei chydnabod yn ffurfiol fel cyfraith Cymru, yn union fel y dylid galw'r gyfraith sy'n berthnasol i Loegr yn gyfraith Lloegr. Myth yw'r syniad fod y gyfraith yr un fath ar draws tiriogaeth Cymru a Lloegr. Nid yw'r safbwynt hen ffasiwn hwnnw'n adlewyrchu realiti bellach, felly bydd cydnabod lle mae cyfreithiau'n berthnasol yn cael effaith fuddiol ar eglurder a hygyrchedd y gyfraith, nid yn unig i Gymru, ond hefyd i Loegr.

Yr ail reswm pam ein bod yn gofyn am welliant yw oherwydd nad ydym yn cydnabod yr honiad fod angen rhyw fath o broses ffurfiol i alw am ddatganoli cyfiawnder. Nid oes proses benodol ar gyfer y pethau hyn. Nid oes unrhyw eiriau swyn a fydd, os cânt eu dweud yn gywir wrth Lywodraeth y DU, yn newid safbwynt Llywodraeth bresennol y DU. Mae eu pennau yn y tywod, nid ydynt yn gweld synnwyr. Er mwyn sicrhau newid, mae angen newid Llywodraeth y DU ac ethol Llywodraeth Lafur.

Mae yna awgrym yn y cynnig hefyd, rywsut, nad ydym erioed wedi gofyn am ddatganoli cyfiawnder. Mae hynny braidd yn rhyfedd a dweud y gwir. Mae'r Llywodraeth hon wedi galw'n agored, yn gyson ac yn barhaus am ddatganoli cyfiawnder. 

Newydd weld memyn Plaid Cymru ar Twitter yn gynharach a oedd yn dweud y gwrthwyneb i hynny. Felly, rydych chi'n awgrymu mai anwiredd yw hynny.

Wel, rwy'n credu bod y Prif Weinidog wedi'i wneud yn glir ddoe, a chredaf ei fod yn amlwg i bawb yma, mai sylw gan Weinidog Ceidwadol yn Nhŷ’r Arglwyddi oedd hwnnw a'i fod yn gwbl ddi-sail ac yn gwbl anghywir. 

Diolch yn fawr iawn am dderbyn ymyriad er mwyn imi allu cyflwyno'r achos a wneuthum o'r blaen. Roedd hwn yn ateb ysgrifenedig. Efallai na fyddwch yn credu ei fod yn ateb ysgrifenedig sy'n adlewyrchu'r gwir, ond peidiwch â rhoi'r esgus iddynt. Ysgrifennwch lythyr. Ysgrifennwch lythyr heno: 'Iawn, os ydych chi'n dweud nad ydym wedi gofyn yn ffurfiol, rydym yn gwneud hynny drwy'r llythyr hwn', a byddaf yn fwy na pharod i'w gefnogi. 

Gallaf eich sicrhau, drwy gydol yr holl waith sy'n mynd rhagddo o ran trafodaethau pan fo gwelliannau a chynigion yn mynd drwy Dŷ'r Arglwyddi, yn enwedig, mae'r safbwyntiau hynny'n cael eu gwneud yn glir iawn.

Mae goblygiad y cysyniad nad ydym erioed wedi gofyn amdano, fel y dywedais, braidd yn rhyfedd, oherwydd rydym wedi galw'n barhaus am ddatganoli cyfiawnder. Fe wnaethom ni sefydlu'r comisiwn annibynnol ar gyfiawnder ac yn fwy diweddar fe wnaethom sefydlu'r comisiwn annibynnol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Yn syth ar ôl etholiad cyffredinol 2019, ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru at Brif Weinidog y DU yn cyflwyno'r achos unwaith eto dros ddatganoli cyfiawnder a chyllid teg ar gyfer cyfiawnder. Rydym wedi gwneud ein safbwynt, a safbwynt y Senedd hon, yn glir dro ar ôl tro, gyda nifer o Arglwydd Gangellorion dros y blynyddoedd ers i gomisiwn Thomas gael ei gyhoeddi. Mae'n siomedig iawn fod Llywodraeth y DU wedi anwybyddu'r mandad sydd gennym ar gyfer hyn gan bobl Cymru a'r modd y maent wedi diystyru'r system gyfiawnder ers dros 13 mlynedd, nid yn unig yng Nghymru ond yn y DU gyfan. Nid yw'r system gyfiawnder erioed wedi bod mewn cyflwr mwy enbyd o ganlyniad i 13 mlynedd o doriadau ac esgeulustod Torïaidd. 

I gloi, ein blaenoriaeth yw gweithredu adeiladol. Bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod eisoes wedi croesawu cydnabyddiaeth comisiwn Brown nad oes rheswm mewn egwyddor pam na ellir datganoli materion sydd wedi'u datganoli yn yr Alban i Gymru, gan gynnwys cyfiawnder a phlismona. Mae comisiwn Brown yn argymell dechrau'r broses o ddatganoli cyfiawnder drwy ddatganoli gwasanaethau prawf a chyfiawnder ieuenctid, er eu bod yn dweud yn glir mai mater i bobl Cymru, drwy'r Senedd hon, yw penderfynu beth fydd dyfodol cyfansoddiadol Cymru. 

Gallaf ddweud wrth y Senedd hon, gyda newid ar fin digwydd yn y Llywodraeth, nad gwneud achos syml dros ddatganoli cyfiawnder yn unig a wnawn, ond fel Llywodraeth, rydym bellach yn paratoi ar gyfer datganoli gwasanaethau prawf a chyfiawnder ieuenctid, ac ar gyfer datganoli plismona wedyn. Cawn weld beth fydd yr argymhellion pellach gan y comisiwn cyfansoddiadol pan fydd yn adrodd yn ddiweddarach eleni. Ar 25 Ebrill eleni, cyhoeddais ddatganiad ar y cyd gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip yn amlinellu ein gwaith, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd eto yr wythnos nesaf. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

18:10

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn am bob cyfraniad ac i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ymateb o heddiw. Oes, mae yna lawer iawn o gytuno rhyngom ni yn y Siambr yma. Rydyn ni wedi clywed dadleuon mor gryf, onid ydyn ni, y prynhawn yma gan Peredur Owen Griffiths, Heledd Fychan, Alun Davies, Joyce Watson—geiriau cryf iawn—a Delyth Jewell yn egluro difrifoldeb bod heb y pwerau yma rydyn ni'n chwilio amdanyn nhw dros gyfiawnder a thros yr heddlu.

Do, mi ddywedwyd flynyddoedd maith yn ôl erbyn hyn mai proses, nid digwyddiad oedd datganoli, ac mi oedd yna elfen o fod angen rhywfaint o amynedd wrth inni gychwyn ar y daith ddemocrataidd yma fel gwlad. Ond, mae hi 10 mlynedd erbyn hyn ers ail adroddiad Silk, neu bron iawn yn 10 mlynedd ers i ail adroddiad Silk nodi bod angen datganoli'r heddlu, ac rydyn ni'n dal i aros. Mae'r rhwystredigaeth yn naturiol yn tyfu, ac mae methiant i wella bywydau pobl yn mynd yn rhywbeth ddylai ein gwneud ni, fel Senedd ac fel gwleidyddion unigol, yn fwy a mwy diamynedd. 

Rwy'n ddiolchgar i Mark Isherwood am fy llongyfarch o'r galon ar fy rôl newydd. 'Same old chestnuts', meddai. Gadewch imi ddweud wrthych sut olwg sydd ar ei gnau castan ef. [Chwerthin.] Maent yn edrych yn hen; maent yn edrych fel pe baent yn wynebu am yn ôl. A bod yn onest, roedd yn swnio fel rhywun nad oedd yn credu mewn datganoli nac yng nghydlyniaeth Cymru. Dywedodd fod Plaid Cymru yn rhannu ac yn ansefydlogi. Rhannu, pan oedd ei araith gyfan yn seiliedig ar rannu gogledd a de Cymru. Ansefydlogi—mae clywed Ceidwadwr yn cyhuddo eraill o ansefydlogi yn dangos diffyg hunanymwybyddiaeth ar raddfa anferthol.

Gadewch inni ganolbwyntio ar pam ein bod yn siarad am ddatganoli cyfiawnder a phlismona heddiw, a'r angen i wneud hynny er mwyn gwella bywydau pobl yng Nghymru ac i fynd i'r afael â rhai o'r anghydraddoldebau sydd, fel y soniais yn gynharach, wedi arwain at anghysondebau mawr o ran mynediad at gyfiawnder ac yn y blaen—[Torri ar draws.] Ar bob cyfrif.

Mae eich cyd-Aelodau wedi cyfeirio at ddatganoli mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig sawl gwaith. Nid wyf am ailadrodd y dadleuon a wneuthum eto, ond a ydych chi'n ymwybodol fod gan yr Alban lai o heddweision nawr nag a fu ganddi ers 2008, fod nifer swyddogion yr heddlu yng Ngogledd Iwerddon wedi gostwng 7 y cant a bod naw o bob 10 o fenywod o Gymru sy'n cael eu rhyddhau o garchar Eastwood Park i wasanaethau datganoledig yng Nghymru yn mynd ymlaen i aildroseddu, o'i gymharu â dim ond un o bob 10 yn Lloegr, sy'n cael eu rhyddhau i wasanaethau yno?

Ar y ddau bwynt hwnnw, oni fyddai'n wych pe baem yn rhedeg y gwasanaeth carchardai a'r system gyfiawnder yma yng Nghymru, fel y gallwn unioni'r rheini? Ac rwy'n siŵr fod y rheini'n bwyntiau siarad mawr y gwnaethoch gyfeirio atynt yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban. Oni fyddwn innau wrth fy modd yn gallu cael y drafodaeth honno ar yr hyn sy'n digwydd gyda phlismona yng Nghymru? Ar hyn o bryd nid ydym yn gallu gwneud hynny, oherwydd dywedir wrthym fod y system bresennol yn gweithio'n iawn. Nid wyf yn credu ei bod. 

Yn fy ngweledigaeth bositif i o Gymru annibynnol, wrth gwrs, fyddai ddim angen cael y drafodaeth yma, achos mae gan bob gwlad normal ei system garchardai a'i system heddlu a'i system gyfiawnder ei hun. Mae'n teimlo'n od gorfod datgan rhywbeth sydd mor, mor amlwg. A dwi'n gwybod bod gen i waith argyhoeddi mwy o bobl o bendraw'r daith gyfansoddiadol honno, ond mae hi'n daith rydym ni arni ni. Nid salami slicing ydy hyn, Mike, a dwi'n siomedig braidd yn y sylwadau yna, achos dŷn ni yn sôn am rywbeth sydd yn gwbl, gwbl greiddiol i'n dyfodol ni fel cenedl. 

Clywsom y Cwnsler Cyffredinol yn dweud nad oes gan hyn unrhyw beth i'w wneud ag annibyniaeth. Rwy'n cytuno bod angen y pwerau hyn arnom nawr, p'un a ydym yn annibynnol neu beidio—mae angen y pwerau hyn arnom ar unwaith—ond bydd yn rhan allweddol o greu'r ymdeimlad o fod yn genedl normal rwyf eisiau ei weld mor daer ar gyfer dyfodol Cymru. Ond boed yn ymwneud â newid cyfansoddiadol ac annibyniaeth, neu'n ymwneud â'r mater penodol o ddatganoli cyfiawnder a phlismona, gadewch inni atgoffa ein hunain nad ydym yn ei wneud oherwydd ein bod eisiau newid cyfansoddiadol er ei fwyn ei hun, ond oherwydd ein bod yn rhoi cynlluniau a chynigion ar waith a fyddai'n gwella pethau i bobl yng Nghymru. Dyna sydd wrth wraidd yr hyn rydym yn sôn amdano. 

I gloi, rwyf am ymateb i sylwadau'r Cwnsler Cyffredinol yn benodol. Wrth gwrs, mae'n iawn i ddweud bod yna lawer rydym yn cytuno arno. Ond y realiti gwleidyddol, wrth gwrs, yw bod ei ddyheadau ef, ac rwy'n credu eu bod yn ddilys ac rwy'n credu eu bod yn cyd-fynd â fy nyheadau i mewn sawl ffordd, yn groes i ddyheadau arweinydd ei blaid ei hun. A pha ddatganiadau bynnag y mae wedi'u gwneud yn ddiweddar yn cynnig geiriau cynnes mewn ymateb i adroddiad gan Gordon Brown, geiriau cynnes yn unig ydynt hyd nes y byddant yn dod yn addewidion gan Lywodraeth Lafur sy'n dod i mewn. Ac rwy'n gobeithio y bydd y Cwnsler Cyffredinol ei hun eisiau dal Prif Weinidog sy'n dod i mewn at ei air, fel rwyf innau'n dymuno ei wneud. 

Geiriau olaf, mewn ymateb i Alun Davies: rwy'n ddiolchgar iawn am ei sylwadau. Dywedodd ein bod yn wynebu argyfwng. 'Mae hwn yn argyfwng', meddai. Galwodd arnom i weithio gyda'n gilydd. Rwyf am eich atgoffa bod gwelliant y Llywodraeth heddiw yn galw am ddileu'r cymal:

'Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol am bwerau dros gyfiawnder a phlismona.'

Rwy'n derbyn eich bod yn credu bod cais eisoes wedi'i wneud. Gwnewch y cais eto. Os na ofynnwch, ni chewch.   

18:15

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.  

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Cyn i ni symud at y cyfnod pleidleisio—

Hoffwn ymateb i'r pwynt o drefn a godwyd gan yr Aelod dros Flaenau Gwent yn gynharach y prynhawn yma. Rwyf wedi adolygu'r trawsgrifiad y prynhawn yma, ac yn gyntaf, rwy'n teimlo bod angen pwysleisio i'r holl Aelodau fod yn rhaid iddynt fod yn ystyriol iawn o'r defnydd o eiriau fel 'camarwain' a 'chamarweiniol' yn eu cyfraniadau. A phan nad yw'n gymwys, mae bob amser yn rhoi'r argraff o fod yn fwriadol, ac rwy'n siŵr nad oedd yn fwriadol. Rwyf wedi dod i'r casgliad, felly, fod yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, yn ystod ei gwestiwn i'r Cwnsler Cyffredinol, wedi dweud bod y Prif Weinidog a'r Gweinidog iechyd wedi camarwain y Senedd heb gydnabod bod y Prif Weinidog wedi egluro ei sylwadau a bod y Gweinidog iechyd wedi cywiro'r cofnod pan dynnwyd ei sylw at yr anghywirdeb. Rwy'n siŵr fod yr Aelod wedi anghofio gwneud hynny'n anfwriadol, a bydd yn cytuno y dylai'r cofnod gydnabod y pwyntiau hyn nawr. Rwy'n gweld bod yr Aelod yn nodio, felly rwy'n gweld ei fod yn cytuno â hynny. Felly, mae wedi'i gofnodi. Diolch.

Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth at y cyfnod pleidleisio. 

10. Cyfnod Pleidleisio

Reit, bydd y bleidlais gyntaf heddiw ar eitem 9, dadl Plaid Cymru. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

18:20

Eitem 9. Dadl Plaid Cymru. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 10, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, o blaid 25, neb yn ymatal, yn erbyn 26. Mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

Eitem 9. Dadl Plaid Cymru. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 25, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Gan nad yw'r Senedd wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio nac wedi derbyn y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig, caiff y cynnig felly ei wrthod. Mae hynny'n gorffen pleidleisiau heddiw.

11. Dadl Fer: Ail-bwrpasu cyffuriau i drin clefydau prin

Symudwn yn awr i'r ddadl fer, a galwaf ar Joel James i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganodd.

A wnaiff y rhai sy'n gadael wneud hynny'n dawel os gwelwch yn dda. Joel James.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Clefyd prin yw un sy'n cael ei gategoreiddio fel un sy'n effeithio ar lai nag un o bob 2,000 o bobl, ac yn anffodus, mae llawer o'r cyflyrau prin hyn yn mynd heb eu canfod am flynyddoedd. Y rheswm am hyn yw bod amrywiaeth eang o symptomau'n gysylltiedig â nhw, symptomau sy'n aml yn ymddangos fel pe na bai unrhyw gysylltiad rhyngddynt, ac er y gall clefydau prin fod yn bethau prin yn unigol, gyda'i gilydd maent yn gyffredin, gydag un o bob 17 o bobl yn cael eu heffeithio gan glefyd prin ar ryw adeg yn eu bywydau. Er bod rhai'n gallu parhau fel arfer am fod eu symptomau'n gymharol ysgafn, mae'r rhan fwyaf o ddioddefwyr yn wynebu bywydau anodd a chyfyngedig iawn.

Er enghraifft, edrychwch ar y rhai sy'n dioddef o epidermolysis bullosa neu EB, cyflwr genetig prin sy'n achosi pothelli croen, y cyfeirir ato'n aml fel croen glöyn byw am ei fod mor fregus. Mae'r clefyd prin hwn yn achosi i'r croen bothellu a rhwygo gyda'r cyffyrddiad lleiaf. Mae'n achosi poen gydol oes ofnadwy a gall gael effaith ddinistriol ar les corfforol a meddyliol dioddefwyr. Mewn llawer o achosion, yn ogystal â'r cyflwr ei hun, rhaid i ddioddefwyr ddioddef sawl awr o rwymo a dadrwymo dyddiol i'r rhannau yr effeithir arnynt fwyaf, sy'n hynod boenus, gan fod y croen yn cael ei rwygo ymaith gyda'r rhwymyn. Ar ei ffurf fwyaf difrifol, mae EB hefyd yn effeithio ar y llygaid, lle mae amrantu'n arwain at boen dwys, a'r organau mewnol, lle mae bwyta ac yfed yn achosi problemau difrifol, ac mae angen gofal iechyd helaeth ar hyn oll.

Mae llawer o bobl sy'n dioddef afiechydon prin fel EB hefyd yn treulio eu bywydau yng nghysgod eu cyflyrau. Hynny yw, mae'n effeithio ar sawl agwedd ar eu bywydau, yn eu hatal neu'n eu cyfyngu rhag cymdeithasu, rhag ffurfio perthnasoedd a rhag gallu gweithio neu deithio. Mae data arolwg wedi dangos bod 60 y cant o oedolion â chlefyd prin wedi dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd cadw swydd gyflogedig, sy'n golygu, ar ben eu cyflyrau iechyd, fod yn rhaid iddynt hefyd boeni am arian neu golli eu swydd o bosibl, a methu dod o hyd i un arall. Ar ben hynny, yn ystod plentyndod y bydd bron i 70 y cant o glefydau prin yn dechrau, sy'n golygu bod plant sydd â'r clefydau hyn yn aml yn cael eu hamddifadu o'u plentyndod hefyd.

Yn anffodus, ni cheir triniaeth drwyddedig ar gyfer 95 y cant o glefydau prin, sy'n golygu nid yn unig fod cleifion yn gorfod ymdopi â chanlyniadau dinistriol y cyflyrau hyn, mae'n rhaid iddynt fyw gyda'r wybodaeth hefyd fod yr unig driniaeth y gallant ddisgwyl ei chael wedi'i chyfyngu i ymdrin â'u symptomau, yn hytrach na'r clefyd ei hun. Gall y daith tuag at ddiagnosis fod yn hir a gall ymddangos yn aneffeithlon. Wrth aros am ddiagnosis, mae'n bosibl na fydd gofal addas ar gael i gleifion a'u teuluoedd yn anffodus. Gall cael diagnosis o unrhyw glefyd fod yn anodd iawn, a phan nad oes llawer o wybodaeth am y clefyd a chymhlethdod nifer o gyflyrau prin, mae'n aml yn heriol iawn i'w reoli, gan arwain at ddryswch ac ynysigrwydd pellach i'r dioddefwr. Yn aml caiff hyn ei waethygu gan y ffaith na fydd meddygon sy'n ceisio eu trin wedi clywed am y clefyd, o bosibl, ac felly, mewn llawer o achosion, nid oes dull cydgysylltiedig o drefnu gwasanaethau iechyd. Rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno bod hyn yn gwbl frawychus i'r rhai sy'n dioddef, i feddwl na fydd y boen y gallech fod yn ei dioddef a'r symptomau sy'n parhau byth yn mynd i ddiflannu a bod y dyfodol rydych chi'n ei wynebu yn un lle mae'n bosibl iawn na fydd triniaeth feddygol ar gael i chi o gwbl.

A daw hyn â mi at bwynt y ddadl hon: rwyf eisiau codi ymwybyddiaeth o'r ffaith bod nifer syfrdanol o gyffuriau i'w cael sydd eisoes wedi pasio'r holl dreialon clinigol, wedi cyrraedd y farchnad ac sydd â'r potensial i drin miloedd o glefydau prin, ond nid ydym yn dyrannu digon o adnoddau i astudio sut y gellir addasu'r cyffuriau presennol hyn at ddibenion gwahanol. Er bod nifer o gyffuriau llwyddiannus wedi cael eu hail-bwrpasu ar gyfer clefydau prin—megis sirolimus i drin syndrom lymffosytig awto-imiwn, ALPS, a nitisinone, y cyffur trwyddedig cyntaf ar gyfer trin alcaptonwria, ar ôl cael eu defnyddio'n flaenorol ar gyfer tyrosinemia math 1—cawsant eu darganfod drwy hap yn bennaf.

Mae addasu cyffuriau ar gyfer clefydau prin yn senario lle mae pawb yn ennill. Nid yn unig mae'r amserlen yn fyrrach o lawer ar gyfer datblygu cyffuriau a chostau datblygu'n is am fod llai o risg y byddant yn methu mewn treialon clinigol, maent hefyd yn cynnig posibilrwydd o driniaethau sy'n newid bywyd, sy'n lleddfu'n sylweddol neu'n gwella iechyd, heb fod angen aros degawdau cyn y gellir datblygu cyffur penodol ar gyfer eu cyflwr nhw. Rwy'n cydnabod bod cynlluniau Llywodraeth Cymru sydd eisoes ar waith, gan gynnwys cynllun gweithredu afiechydon prin Cymru 2022-2026, a'r gronfa triniaethau newydd gwerth £80 miliwn, wedi cynyddu mynediad at feddyginiaethau newydd arloesol yng Nghymru yn sylweddol, yn enwedig i ddioddefwyr ffibrosis systig a chlefydau Fabry, Gaucher a Batten. Rwyf hefyd yn ymwybodol o fframwaith afiechydon prin y DU, ac fel rhan o hyn yng Nghymru mae gennym y caffis genomig, a drefnir gan Barc Geneteg Cymru, sy'n gyfleoedd anffurfiol lle gall unigolion gyfarfod ag eraill a darganfod mwy am y datblygiadau newydd mewn meddygaeth genomig yng Nghymru. Mae gennym hefyd fenter seinfwrdd cleifion a'r cyhoedd dan arweiniad Partneriaeth Genomeg Cymru, GPW, sy'n helpu cleifion ac aelodau'r cyhoedd sydd â phrofiadau personol neu deuluol o glefydau prin. Fodd bynnag, wedi dweud hynny, ac er ei fod yn teimlo fel pe bai llawer yn digwydd, mae cymaint â 175,000 o ddioddefwyr clefydau prin yng Nghymru a fyddai, heb os, yn dadlau nad oes digon yn cael ei wneud, yn enwedig gan eu bod yn gwybod y gallai fod cyffuriau eisoes yn bodoli a allai leddfu'n sylweddol neu hyd yn oed wella eu cyflwr.

Mae yna resymau mawr pam y dylem fod yn buddsoddi yn hyn. Nid yn unig y byddem yn gallu gwella ansawdd bywyd pobl sy'n dioddef o glefydau prin yn sylweddol, gallwn hefyd leihau faint o ofal sy'n rhaid i deulu a gwasanaethau cymdeithasol ei ddarparu. Ac nid yw hyn yn beth bach o bell ffordd: mae rhai clefydau prin, fel EB, fel y crybwyllais, yn caethiwo'r rhai sy'n dioddef a'r rhai sy'n gofalu amdanynt. Yn aml iawn, mae dioddefwyr yn gorfod teithio'n bell i gael triniaeth, sy'n cael effaith enfawr ar gyllid y teuluoedd, yn gorfod dod o hyd i ofal plant ar gyfer plant eraill efallai, yn gorfod cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith, yn ogystal â thalu costau teithio, ac mae'n iawn ein bod yn defnyddio'r wybodaeth a'r cyffuriau sydd gennym eisoes hyd eithaf ein gallu—hyd eithaf ein gallu.

Mae'n rhaid inni gofio ei bod yn hynod anodd ac yn annhebygol y byddai cyffuriau newydd yn cael eu datblygu ar gyfer nifer o'r 7,000 a mwy o glefydau prin sydd gennym. Yn gyntaf, prin yw'r cymhellion i gwmnïau wario symiau enfawr o arian ar ddatblygu cyffuriau a mynd ar drywydd trwyddedau ar gyfer poblogaeth mor fach o gleifion. Yn ail, mae'n rhaid i'r cyrff asesu technoleg iechyd, megis Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru a'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, sy'n gwneud y penderfyniadau ar gomisiynu a phrynu'r cyffuriau hyn, gydbwyso'r angen am driniaeth ar gyfer pob claf yn erbyn adnoddau penodedig, ac o ystyried nad yw'n agos mor gosteffeithiol i ddatblygu cyffuriau newydd ar gyfer y cleifion hyn, mae'n annhebygol y bydd llawer o gleifion byth yn eu cael.

Er nad dyma'r rheswm pennaf dros fuddsoddi mewn ailbwrpasu cyffuriau, mae arbedion ariannol enfawr i'w gwneud i'r GIG hefyd. Mae'r gyllideb bresennol ar gyfer gwasanaethau arbenigol sy'n trin y cleifion hyn oddeutu 10 y cant o wariant y GIG ar hyn o bryd. Er enghraifft, mae rhywun sydd ag EB difrifol yn costio tua £46,000 y flwyddyn i'r GIG, a bydd rhyddhau rhai o'r adnoddau hynny, heb os, yn helpu'r GIG i ddarparu gwell gwasanaethau mewn mannau eraill. Mae gwaith ymchwil yng Ngholeg y Brenin, Llundain, wedi canfod, pan gafodd rhai cyffuriau eu hail-bwrpasu ar gyfer dioddefwyr EB, fod un o'r cyffuriau hyn wedi gwella clwyfau'n sylweddol, a lleihau'r ysfa i gosi 60 y cant, gan leihau'r amser rhwymo niweidiol dyddiol yn sylweddol. Canfuwyd hefyd fod hyn yn lleihau'r straen ar y teulu sy'n cefnogi'r claf, a'r amser oedd ei angen i ofalu amdanynt. Yn ei dro, arbedodd hyn amser ac arian i'r GIG, gan nad oedd angen cymaint o apwyntiadau cleifion allanol na chymaint o gyflenwadau meddygol. At hynny, adroddodd astudiaethau gan Ysgol Economeg a Gwyddor Wleidyddol Llundain yn 2016 a 2022 fod clefydau prin, fel EB unwaith eto, yn cael effaith economaidd ehangach, wrth i rieni ac aelodau'r teulu leihau eu cyfranogiad yn y farchnad lafur oherwydd eu bod yn gofalu'n anffurfiol am eu hanwyliaid. Hefyd, datgelodd yr un astudiaeth pa mor gyffredin oedd symptomau seicolegol a seiciatrig ymhlith y rhai ag EB a'u teuluoedd, a oedd yn ychwanegu costau ychwanegol sylweddol yn gysylltiedig â'r angen am ddarpariaeth iechyd meddwl.

Mae yna ymdrechion aruthrol yn cael eu gwneud gan elusennau clefydau prin, fel DEBRA a Beacon, i enwi dau yn unig, sydd wedi gwneud llawer iawn i gynrychioli llais y claf, i rymuso'r teimlad o gymuned ymhlith dioddefwyr a dod o hyd i iachâd ar gyfer y clefydau hyn, ac mae hyn wedi bod yn hanfodol i helpu i ddeall llawer o'r cyflyrau. Mae DEBRA, er enghraifft, y mae'r Cymro Simon Weston CBE yn llywydd arno, yn arwain y ffordd o ran helpu i ddangos manteision codi arian ar gyfer treialon clinigol i brofi cyffuriau presennol ar gyfer EB, ac ar hyn o bryd mae'r elusen yn ceisio codi £5 miliwn ar gyfer profion clinigol. Efallai eich bod wedi gweld, yn y newyddion, yr ymdrechion gan y cyn bêl-droediwr gwych—ac un o arwyr Lerpwl, gallwn ychwanegu—Graeme Souness, sydd wedi codi dros £1 filiwn tuag at hyn drwy nofio'r Sianel yn ddiweddar. Ond i gloi, rwy'n teimlo na ddylem orfodi elusennau ac unigolion i wneud hyn i gyd ar eu pen eu hunain. Mae gennym ddyletswydd i helpu i sicrhau bod cleifion a'u teuluoedd ledled Cymru yn cael yr un gofal cyson, eu bod yn cael cyfle i gael gafael ar gyffuriau, ni waeth beth yw eu cyflwr, a'u bod yn cymryd rhan lawn yn y broses o ddeall eu cyflwr.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y DU yn cyfarfod ag elusennau i drafod y posibilrwydd o ddarparu cyllid ar gyfer treialon clinigol i ail-bwrpasu cyffuriau. Rwy'n awyddus i wybod a fydd y Gweinidog iechyd yn cefnogi'r achos hwn drwy ysgrifennu at ei swyddog cyfatebol yn Llywodraeth y DU. Rwyf hefyd yn awyddus i wybod pa gymorth penodol a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o glefydau prin, nid yn unig ymhlith y cyhoedd yng Nghymru, ond ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hefyd. Ac o ystyried y nifer uchel o bobl yng Nghymru a fydd yn cael eu heffeithio gan glefyd prin ar ryw adeg yn eu bywydau, rwyf hefyd yn awyddus i wybod pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i ddeall y llwybrau clinigol sydd eu hangen yn well, a sut maent yn bwriadu gwella'r broses o gasglu data pobl sydd â chlefydau prin, y gofal sydd ei angen arnynt a'r manteision o ail-bwrpasu cyffuriau ar eu cyfer. Diolch.

18:30

Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl.

Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i'r Aelod dros Ganol De Cymru am godi'r mater pwysig hwn. Hoffwn sicrhau'r Aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella bywydau'r rhai sydd â chlefydau prin. Gall afiechydon prin gyfyngu ar fywyd a bygwth bywyd, ac maent yn effeithio'n anghymesur ar blant, fel y nodwch. Ar ben hyn, gall cleifion a'u teuluoedd wynebu oes o ofal cymhleth. Ac rwy'n credu bod yr enghraifft a roesoch ar y dechrau'n gwneud i bawb ohonom sylweddoli pa mor bwysig yw dod o hyd i driniaethau i bobl sydd â chyflyrau mor wanychol.

Felly, mae'n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i helpu pobl sy'n wynebu diagnosis o glefyd prin. Ac un maes pwysig sy'n cael ei ystyried yw ail-bwrpasu meddyginiaethau sy'n bodoli'n barod i drin cyflyrau heblaw'r rhai y cawsant eu trwyddedu'n wreiddiol ar eu cyfer. Mae ail-bwrpasu meddyginiaethau'n cymryd llawer llai o amser nag y byddai dod â meddyginiaeth hollol newydd ar y farchnad, ac yn ystod y pandemig, fe wnaeth ail-bwrpasu meddyginiaethau i'w defnyddio fel triniaethau ar gyfer COVID ein helpu i reoli pobl â'r heintiau mwyaf difrifol ac achub bywydau, yn llythrennol.

Gelwir defnydd o'r fath ar feddyginiaeth, lle profwyd effeithiolrwydd clinigol ar gyfer un cyflwr ond lle nad yw'r feddyginiaeth wedi'i thrwyddedu ar gyfer cyflwr newydd y gobeithiwn ei drin, yn 'ddefnydd all-drwydded'. Mae defnydd all-drwydded yn gyffredin yn y GIG. Mae ail-bwrpasu meddyginiaethau fel hyn yn digwydd bob dydd mewn ysbytai ac mewn gofal sylfaenol. Yng Nghymru, mae gennym brosesau ar waith i gefnogi mabwysiadu meddyginiaethau all-drwydded yn rheolaidd lle caiff ei gefnogi gan dystiolaeth. Mae'r broses hon yn dibynnu ar gyngor gan ein grwpiau cynghori arbenigol, gan gynnwys Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru, sy'n rhoi cyngor ar bob mater sy'n ymwneud â phresgripsiynu a meddyginiaethau.

Pan ddefnyddir meddyginiaethau yn all-drwydded, nid ydynt yn addas ar gyfer ein dull arferol o bennu eu gwerth i'r GIG. Gall hyn fod oherwydd eu bod yn cael eu defnyddio mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn neu oherwydd nad oes data treialon clinigol ar gael i gefnogi trwyddedu meddyginiaethau ar gyfer y cyflyrau newydd. Nawr, er mwyn cefnogi'r defnydd gorau posibl o'r mathau hyn o feddyginiaethau, fe wnaethom ddatblygu proses Meddyginiaethau Cymru'n Un. Enghraifft o feddyginiaeth sydd ar gael drwy broses Cymru'n Un yw rituximab ar gyfer trin clefyd yr ysgyfaint interstitiaidd ffibrotig, cyflwr sy'n achosi creithio ac anystwythder yr ysgyfaint, sy'n ei gwneud hi'n anodd anadlu. Mae gan nifer fach o bobl yng Nghymru y clefyd ysgyfaint hwn, nad yw'n ymateb i driniaeth gonfensiynol. Nid yw ar gael fel mater o drefn yn Lloegr. Fodd bynnag, yng Nghymru, roeddem o'r farn fod yna angen heb ei ddiwallu a nodwyd carfan o gleifion a allai elwa o rituximab. Felly aseswyd y feddyginiaeth hon trwy broses Cymru'n Un, ac mae bellach ar gael fel mater o drefn yn GIG Cymru i helpu i wella bywydau pobl sy'n byw gyda chlefyd yr ysgyfaint interstitaidd ffibrotig.

Wrth gefnogi cleifion drwy sicrhau cyngor cyson a mynediad at feddyginiaethau at ddefnydd all-drwydded—mae ganddynt rôl i'w chwarae yn rheoli rhai afiechydon—mae yna botensial i ail-bwrpasu fynd ymhellach. Ond mae ail-bwrpasu ar hyn o bryd yn dibynnu ar ddata arsylwadol a gesglir dros nifer o flynyddoedd o ddefnydd o feddyginiaeth y gallwn weld ohono fod y feddyginiaeth yn driniaeth effeithiol. Wrth bresgripsiynu meddyginiaeth yn y modd hwn, mae clinigydd yn cymryd cyfrifoldeb llawn am unrhyw risgiau sy'n gysylltiedig â thriniaeth, heb y sicrwydd o ddiogelwch ac effeithiolrwydd a ddarperir gan awdurdodiad marchnata a roddir gan reoleiddwyr meddyginiaethau fel yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd.

Yn anffodus, heb hap-dreialon wedi'u rheoli, does dim modd gwarantu y bydd triniaeth wedi ei hailbwrpasu yn gweithio'n effeithiol, ac felly dyw MHRA ddim yn gallu rhoi trwydded. I helpu i lenwi'r bwlch mewn tystiolaeth, cafodd y rhaglen ailbwrpasu meddyginiaethau y Deyrnas Unedig ei sefydlu yn 2019. Mae hwn yn bartneriaeth amlasiantaeth rhwng yr NHS, NICE, y sefydliad ymchwil gofal cymdeithasol ac iechyd, a'r MHRA.

Nod y rhaglen yw chwilio am gyfleoedd i gryfhau'r sefyllfa o ran meddyginiaethau heb eu trwyddedu, neu off-label, sy'n cael eu defnyddio'n gyffredin yn yr NHS neu sy'n debygol o gael eu defnyddio—hynny yw, cryfhau o ran tystiolaeth trwyddedu, cyflenwad a bod yn gost-effeithiol. Mae yna botensial yn sicr i roi trwyddedau newydd yn gyflymach ar gyfer meddyginiaethau arloesol sydd wedi cael eu hailbwrpasu drwy gynllun llwybr trwyddedu a mynediad arloesol yr MHRA y mae Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan yn bartner iddo.

Dwi'n croesawu ymdrechion i gefnogi ailbwrpasu drwy weithio gyda chynhyrchwyr sydd eisiau trwyddedu meddyginiaethau ar gyfer indications newydd. Pan fydd NICE neu'r Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan yn trwyddedu ac yn argymell meddyginiaethau, byddwn ni'n sicrhau eu bod nhw ar gael yn gyflym. Mae ein cronfa triniaethau newydd, sy'n hynod o lwyddiannus, yn sicrhau bod meddyginiaethau arloesol newydd ar gael i bawb yng Nghymru.

Pan fydd meddyginiaethau wedi'u hailbwrpasu yn cael eu hargymell drwy ein proses Cymru'n Un, neu yn cael trwydded gan MHRA maes o law, bydd yr NHS yng Nghymru hefyd yn gwneud yn siŵr eu bod nhw ar gael fel mater o drefn. Fel dywedais i yn gynharach, mae ailbwrpasu yn gallu bod yn elfen arbennig o bwysig wrth drin clefydau mwy prin, ond dim ond un cam yw e ymysg nifer o gamau y mae angen eu cymryd i ymdrin ag anghenion cleifion sydd â chyflyrau mwy prin.

Ym mis Mehefin y llynedd, cafodd gynllun gweithredu clefydau prin Cymru ei gyhoeddi. Mae hwn yn nodi nifer o flaenoriaethau sy'n anelu at wella hygyrchedd ac ansawdd y gofal sy'n cael ei roi i unigolion. Mae'r grŵp gweithredu clefydau prin yn gweithio tuag at gyflawni'r amcanion hyn ac, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, maen nhw wedi gwneud cynnydd ar bob un o'u blaenoriaethau.

I gloi, dwi'n gobeithio fy mod i wedi dangos nid yn unig ein hymrwymiad i wella'r sefyllfa i bobl yng Nghymru sy'n byw gyda chlefydau prin, ond hefyd y trefniadau cadarn rŷn ni wedi eu rhoi ar waith i asesu meddyginiaethau at ddibenion eraill. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.

18:35

Daeth y cyfarfod i ben am 18:39.