Y Cyfarfod Llawn
Plenary
07/06/2023Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r sesiwn lawn o'r Senedd. Y cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd sydd gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sioned Williams.
1. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar strategaeth y Llywodraeth i wella’r amgylchfyd trefol yng Ngorllewin De Cymru? OQ59611
Diolch, Sioned. Rydym yn creu amgylcheddau trefol iachach drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi. Anogir seilwaith gwyrdd mewn cynigion am gymorth i greu lleoedd, gan wella bioamrywiaeth, ansawdd bywyd, wrth helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Rydym yn parhau i gefnogi'r gwaith o wella mannau gwyrdd cymunedol lle mae pobl yn byw ac yn gweithio drwy ein prosiectau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Diolch, Weinidog. Mae ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan yr Athro Ross Cameron o Brifysgol Sheffield yn tynnu sylw at bwysigrwydd amgylcheddol gerddi naturiol. Maent yn chwarae rhan hanfodol yn oeri ardaloedd trefol, yn amsugno glaw, ac felly'n lleihau'r perygl o fflachlifoedd, ac yn cynnig lloches sydd ei hangen yn fawr ar fywyd gwyllt. Mae'r adroddiad yn amlinellu rhai o dueddiadau cynllunio a chynnal a chadw gerddi sy'n niweidiol i'r amgylchedd trefol, ac un o'r rhain yw'r defnydd o laswellt artiffisial. Gwneir glaswellt artiffisial o blastig a deunyddiau synthetig eraill, sydd angen ei lanhau'n rheolaidd, er gwaethaf y canfyddiad nad oes angen gwaith cynnal a chadw arno, ac mae ganddo oes o wyth i 15 mlynedd, ac ar ôl hynny, gall fod yn heriol cael gwared arno mewn modd cynaliadwy. Yn ogystal â lleihau manteision gerddi naturiol, mae canlyniadau amgylcheddol eraill i ddefnyddio glaswellt artiffisial, megis amharu ar gynefin pryfed genwair a phryfed, a gall trwytholchi microplastigau niweidio bywyd gwyllt.
Ysgrifennais at Gyngor Abertawe, yn fy rhanbarth, am y mater hwn ar ôl clywed bod glaswellt artiffisial wedi'i ddefnyddio yng ngwaith adfywio'r ddinas. Fe wnaethant ateb gan ddweud na fyddai'r cyngor yn ei ddefnyddio ar dir cyhoeddus, hyd yn oed dros dro, wrth symud ymlaen. Felly, a wnewch chi ymrwymo, heddiw, Weinidog, i ddilyn esiampl dda Cyngor Abertawe drwy ymrwymo i wahardd glaswellt artiffisial mewn lleoedd sydd o dan reolaeth y Llywodraeth, ac eithrio caeau chwaraeon? Ac a wnewch chi hefyd ystyried cefnogi rhai o awgrymiadau'r Athro Cameron, megis darparu cymhellion ariannol i annog a gwobrwyo rheolaeth gynaliadwy ar erddi?
Diolch yn fawr, Sioned. Mae'n gwestiwn pwysig iawn am sawl rheswm. Mae glaswellt artiffisial yn cael effaith wael iawn ar gynaliadwyedd lleol nifer fawr o ardaloedd yng Nghymru. Fel y dywedoch chi, yn gwbl gywir, mae ffocws tymor byr ar y syniad fod angen llai o gynnal a chadw arno efallai, ond mewn gwirionedd, mae chwyn yn tyfu drwy laswellt artiffisial. Gall fod yn anodd iawn ei lanhau, os oes anifail wedi bod arno, ac mewn gwirionedd, mae adroddiadau o nifer o ffynonellau prifysgol yn peri cryn bryder gan eu bod yn dweud y gall glaswellt artiffisial fod yn wenwynig os yw plant yn chwarae arno ac ati. Felly, mewn gwirionedd, rwy'n credu'n wirioneddol fod arnom angen ymgyrch gwybodaeth i'r cyhoedd ynglŷn â pham nad yw'n ateb tymor byr effeithiol i bobl mewn gwirionedd. Rwy'n pryderu hefyd am y duedd i gael gwrychoedd a photiau artiffisial ac ati. Nid oes ond angen ichi edrych ar y rhain ar ôl un hydref o law i weld bod y lliw wedi llifo allan ohonynt ac i'r amgylchedd. Felly, credaf ei fod wir yn fater pwysig. Byddwn yn edrych ar ein holl ganllawiau ac yn gweithio gyda'n hawdurdodau lleol i sicrhau nad yw'n cael ei ddefnyddio mewn unrhyw le a ariennir yn gyhoeddus, ond rwy'n awyddus i gael tystiolaeth hefyd er mwyn (a), cynnal ymgyrch wybodaeth i'r cyhoedd ynglŷn â'r problemau gyda glaswellt artiffisial, a (b), archwilio a yw ein Bil cynhyrchion plastig untro, a gafodd gymeradwyaeth frenhinol—. Roeddwn yn y seremoni gymeradwyo ddydd Llun, a gobeithio ei fod ar ei ffordd atoch, os nad yw wedi cyrraedd yn barod, Lywydd. Mae hwnnw wedi rhoi'r gallu inni ychwanegu plastigau eraill i'w gwahardd, felly rwy'n awyddus iawn i fynd ati'n rhagweithiol i archwilio a oes modd ei wneud drwy'r llwybr hwnnw hefyd.
Yn 2007, heb yn wybod i lawer, pasiodd y byd garreg filltir hollbwysig, sef y pwynt lle roedd mwy o bobl am y tro cyntaf erioed yn byw mewn trefi a dinasoedd nag yng nghefn gwlad. Yng Nghymru, mae dwy ran o dair ohonom yn byw mewn ardaloedd trefol. Mae'n hanfodol, felly, ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i wella'r amgylchedd trefol. Mae hynny'n golygu nid yn unig mynd i'r afael â llygredd aer yn ein trefi a'n dinasoedd, neu'r arfer gwarthus o ddympio carthion i afonydd fel afon Tywi ac afon Ogwr, ond hefyd, gwella mynediad at fannau gwyrdd yn ein hardaloedd trefol. Weinidog, pa gamau rydych yn eu cymryd i amddiffyn mannau gwyrdd mewn ardaloedd trefol a sicrhau bod gan bob cymuned fynediad agored a chyfleus at fannau o'r fath?
Diolch yn fawr, Altaf. Mae'n bwynt pwysig iawn. Mae'n rhan flaenllaw o'n menter Trawsnewid Trefi, lle rydym yn ceisio creu seilwaith gwyrdd, fel y'i gelwir. Seilwaith gwyrdd yw lle mae rhwydwaith o nodweddion ac ardaloedd naturiol a lled-naturiol yn cyfrannu at amgylcheddau o ansawdd uchel, sy'n arbennig o bwysig mewn ardaloedd trefol ac ardaloedd o gwmpas trefi. Un o'r pethau na ymatebais iddynt yng nghwestiwn cychwynnol Sioned oedd y mater ynghylch cymhellion ariannol i annog pobl i gael gerddi cynaliadwy. Rydym yn awyddus iawn i sicrhau ei bod yn haws gwneud y peth iawn na'r peth anghywir, ledled Cymru. Mae fy nghyd-Aelod, Joyce Watson, wedi codi'r ffaith ar sawl achlysur yn y Senedd fod angen caniatâd cynllunio arnoch i balmantu dros yr ardal o flaen eich tŷ mewn amgylchedd trefol. Nid yw'n rheol sy'n cael ei gorfodi'n aml yng Nghymru, ond rydym wedi bod yn ysgrifennu at awdurdodau lleol yn rheolaidd i'w hatgoffa bod angen iddynt ystyried dŵr ffo mewn perthynas â hynny, gan fod hyn yn ymwneud â mwy na bioamrywiaeth yn unig; mae'n ymwneud â systemau dŵr cynaliadwy hefyd, felly mae'n bwysig iawn ar gyfer hynny.
Mae angen inni ddod o hyd i ffordd gymdeithasol gynhwysol o sicrhau bod gan bobl fynediad at fannau gwyrdd, nid yn unig os ydych yn ddigon ffodus i gael gardd—mae'n amlwg y dylech ddefnyddio honno yn y ffordd fwyaf cynaliadwy posibl—ond hefyd, mae angen inni sicrhau bod gan bawb mewn ardal drefol neu o gwmpas trefi fynediad parhaus at y math hwnnw o fan gwyrdd. Yn syml, ni allwch wneud hynny drwy gael ardaloedd sydd wedi'u palmantu, neu'n wir, wedi'u gorchuddio â glaswellt artiffisial—nid yw hynny'n cynhyrchu'r un ansawdd yn yr amgylchedd. Felly, mae angen inni edrych, fel y dywedais wrth Sioned, ar ystod o ymyriadau y gallwn eu gwneud, ac yn bersonol, byddwn yn edrych o ddifrif i weld a allem gynnal ymgyrch addysg i wneud i bobl ddeall y problemau, ac edrych wedyn i weld a allwn ei gynnwys mewn gwaharddiad.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gynlluniau’r Llywodraeth i wella cysylltiadau trafnidiaeth dros y Fenai? OQ59621
Diolch am y cwestiwn.
Rwyf wedi gofyn i gomisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru ystyried gwytnwch mynediad i ac o Ynys Môn yn ychwanegol at ei gylch gwaith gwreiddiol. Disgwylir i adroddiad interim y comisiwn gael ei gyhoeddi yr wythnos hon, gydag argymhellion terfynol i ddilyn yn yr hydref.
Diolch am yr ateb yna. Dwi'n edrych ymlaen i weld yr adroddiad yna. Mae yna ddwy bont, wrth gwrs, ar hyn o bryd. Mi fuaswn i'n licio gofyn am sicrwydd, yn gyntaf, y bydd popeth yn cael ei wneud i leihau'r trafferthion yn lleol wrth wneud y gwaith trwsio ar y Fenai. Mae yna oleuadau traffig rŵan; mi fuaswn i'n licio sicrwydd y bydd y cyfyngiadau am gyfnodau mor fyr â phosib.
Ond mae dwy. At yr ail bont—. Mi fyddwn i'n licio estyn fy nghydymdeimlad dwysaf at deulu'r dyn fu farw mewn damwain ar 23 Mai. Mae diogelwch, wrth gwrs, yn un o'r prif ddadleuon, ynghyd â gwytnwch, dros yr angen am drydedd bont. Beth ddigwyddodd yn yr achos yma—pont Britannia wedi ei chau am naw awr, pobl yn methu â chyrraedd Ysbyty Gwynedd, disgyblion ysgol yn methu â chyrraedd ar gyfer arholiadau TGAU a lefel A. Mae'n rhaid i ni ddatrys y sefyllfa o ran gwytnwch. Dwi wedi ysgrifennu at y Gweinidog, yn argymell, fel cam cychwynnol, er bod dal angen y drydedd bont, rhoi system zipper yn ei lle, lle mae yna rwystr yn cael ei osod, i ganiatáu dwy lôn o draffig i un cyfeiriad un bore, yna symud y rhwystr er mwyn cael llif traffig y ffordd arall gyda'r nos. A gaf i sicrwydd gan y Gweinidog fod gwaith yn cael ei wneud i edrych ar hynny yn ddifrifol?
Diolch. Hoffwn innau hefyd gydymdeimlo â theulu'r unigolyn a fu farw ar y bont.
Rydym yn sicr yn edrych ar y materion a nodwyd gan Rhun ap Iorwerth. Fel y gŵyr, rydym wedi gofyn i gomisiwn Burns edrych yn benodol ar hyn. Rydym hefyd wedi comisiynu astudiaeth i faterion gwytnwch a llif traffig ar bont Britannia, a'r effaith bosibl y bydd hyn yn ei chael ar gynllun y gerbytffordd. Fe wnaethom edrych yn benodol, fel yr awgrymodd, ar enghreifftiau'r system 'zipper' ar bont y Golden Gate, a phont Tamar. Ac mewn gwirionedd, rydym wedi bod mewn cysylltiad â'r cwmni, Tamar Crossings, a National Highways, sy'n gweithredu'r system draffig llanw a thrai ar bont Tamar a thwnnel Saltash yn Plymouth. Ac rydym wedi rhoi'r wybodaeth am draffig a'r wybodaeth weithredol rydym wedi'i chasglu i gomisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru er mwyn iddynt ei hystyried. Felly, rwy'n cytuno ag ef—credaf fod system 'zipper' yn edrych yn ddiddorol, ac o bosibl, yn ddefnyddiol iawn yng nghyd-destun Ynys Môn, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo.
Rwyf innau hefyd yn cydymdeimlo â'r teulu sydd mewn profedigaeth.
Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad yn 2007 ar gynigion a oedd yn cynnwys wyth opsiwn ar gyfer lleddfu tagfeydd traffig i ac o Ynys Môn, gan gynnwys pont newydd. Cyhoeddwyd adroddiadau yn 2008, 2009, 2011, a chyflwynwyd achos busnes strategol yn 2016, a ganfu y byddai'r cynllun yn diwallu anghenion lleol a chenedlaethol, gan gynnwys amseroedd teithio, dibynadwyedd a mynediad ar gyfer defnyddwyr ffordd nad ydynt yn defnyddio cerbydau. Mae'r angen hwn wedi'i ddwysáu gan y cyhoeddiad am borthladd rhydd Ynys Môn. Yn 2017, dywedodd y Prif Weinidog blaenorol wrthyf mai nod Llywodraeth Cymru oedd gweld trydedd bont dros y Fenai yn agor yn 2022. Yna, yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn rhoi'r gorau i fwy na 50 o brosiectau adeiladu ffyrdd, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer trydedd bont dros y Fenai. Mewn cynhadledd i'r wasg y mis diwethaf, fodd bynnag, dywedodd y Prif Weinidog fod 'trydedd bont dros y Fenai yn brosiect rydym yn parhau i'w archwilio.' Ddydd Gwener diwethaf, cyfarfûm eto ag AS Ynys Môn, Virginia Crosbie, a busnesau yn ardal Porthaethwy, a gododd faterion gyda ni a oedd yn cynnwys parcio a'r angen am drydedd bont dros y Fenai. Sut felly y byddwch yn ymgysylltu â hwy ynghylch hyn, wrth i Lywodraeth Cymru barhau i geisio penderfynu beth i'w wneud?
Wel, diolch am fynd â ni drwy hanes y bont a'r drafodaeth ynghylch beth i'w roi yn ei lle. Fel y gŵyr Mark Isherwood, fe wnaethom gyhoeddi ein hadolygiad ffyrdd a'n datganiad polisi diwygiedig ar ffyrdd, a gafodd ei groesawu ganddo i'r graddau ei fod yn berthnasol i'r llwybr coch yn sir y Fflint. Rydym wedi defnyddio'r un lens yn gyson wrth ystyried pob cynllun ffyrdd, nid y rhai y mae'n dymuno cael gwared arnynt yn unig, ond pob un ohonynt, ac rydym wedi ceisio cymhwyso'r rhesymeg honno'n gyson. Ac roedd hynny, fel y dywedodd, yn awgrymu nad oedd cyfiawnhad dros drydedd bont, ond nododd gyfres o ddewisiadau amgen eraill. A dyna pam fy mod wedi gofyn i gomisiwn Burns edrych o ddifrif ar hynny, yng nghyd-destun ei astudiaeth o ogledd Cymru yn gyfan, a oedd, yn wir, yn rhan o argymhellion adolygiad cysylltedd yr undeb gan Syr Peter Hendy, a gomisiynwyd gan ei Lywodraeth ef. Felly, credaf ei bod yn dda ein bod wedi gweithio gyda'n gilydd i ddatblygu'r argymhellion hynny. A phan gaiff yr adroddiad interim ei gyhoeddi yr wythnos hon, byddwn yn disgwyl y bydd yr holl randdeiliaid ledled gogledd Cymru yn ymgysylltu â'r comisiwn i fwydo eu syniadau i mewn, ac mae cyfle i'r holl Aelodau etholedig, a rhanddeiliaid eraill, wneud hynny.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae chwech o 20 afon fwyaf llygredig y DU yma yng Nghymru—afonydd Teifi, Wysg, Gwy, Tywi, Menai a Thaf. Nawr, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, llygredd carthion yw'r llygrydd mwyaf yn nyfroedd ymdrochi Cymru. Mae pobl leol ac ymwelwyr wedi bod yn heidio i'r dyfroedd yn ystod y tywydd gogoneddus hwn, a gwn eich bod yn gwbl ymwybodol o'ch cyfrifoldeb eich hun ac yn dymuno sicrhau eu bod yn ddiogel i bobl. Nawr, ers 2016, mae oddeutu 450,000 o ollyngiadau gorlifoedd storm wedi bod yng Nghymru. Ers 2016, nid yw CNC ond wedi anfon—ond wedi anfon, ac rwy'n dweud hynny'n amwys—350 o lythyrau rhybuddio at Dŵr Cymru, ond o ganlyniad i anfon 350 o lythyrau rhybuddio, dim ond chwe gwaith y mae Dŵr Cymru wedi cael eu herlyn. Nawr, ymddengys i mi fod hynny'n fethiant enfawr o ran gorfodaeth. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i asesu'n annibynnol a yw CNC wedi bod o ddifrif ynghylch eu cyfrifoldebau eu hunain a'u bod wedi bod yn gorfodi'n gywir?
Diolch yn fawr, Janet. Mae arnaf ofn fod eich cwestiwn yn cynnwys camddealltwriaeth sylfaenol iawn o'r gydberthynas rhwng llythyrau rhybuddio ac erlyniadau. Yn amlwg, bydd CNC yn erlyn rhywun nad ydynt yn cymryd y camau unioni cywir. Nid ydych yn erlyn rhywun sydd wedi gwneud rhywbeth ac yna'n cymryd y camau unioni cywir. Erlyn yw'r cam olaf pan nad oes ateb arall ar gael.
Ond os caf droi at y prif bwynt, sef y cwestiwn ynghylch yr hyn rydym yn mynd i'w wneud ynglŷn â gwella ansawdd dŵr yr afonydd—nad yw erlyn byth yn mynd i'w wneud; nid yw hynny ond yn gam olaf i rywun nad ydynt yn gwneud y peth iawn—yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau bod pobl yn gwneud y peth iawn. Rydych yn rhestru'r pethau sy'n digwydd yn ein hafonydd yn gyson, ond rydych bob amser yn anghofio sôn am ddefnydd tir a llygredd amaethyddol. Mae defnydd tir a llygredd amaethyddol yn gyfranwyr mawr at lygredd afonydd ledled Cymru. Nid oes pwynt ysgwyd eich pen, mae'n ffaith; mae'n fater o ddata. Mae'n gyfuniad o gyfres gyfan o bethau ym mhob afon yng Nghymru. Gallaf gynhyrchu, ac rwy'n hapus iawn i rannu gyda'r Senedd, Lywydd, y dadansoddiad o bob afon yng Nghymru a beth yw'r llygrwr mwyaf ym mhob afon yng Nghymru, ac yna'r raddfa gyfan o broblemau. Ond y pwynt yw nad oes ots. Mae'n rhaid inni ddatrys yr holl broblemau. Felly, fel y gwyddoch, rydym wedi bod yn cynnal cyfres o uwchgynadleddau ac yna grwpiau gorchwyl a gorffen yn dilyn yr uwchgynadleddau, lle mae pob sector wedi ceisio cael trefn arnynt eu hunain yn hytrach na thaflu bai ar y lleill.
Felly, mae'r Prif Weinidog wedi dweud yn glir iawn—ac fe wnaeth pob un o'r sectorau ymrwymo i hyn—mai'r hyn sy'n rhaid i chi ei wneud yw edrych i weld beth y gall eich sector ei wneud i wella ei broblemau'n cyfrannu at lygredd dŵr. Felly, wrth gwrs, mae hynny'n golygu y cwmnïau dŵr, ac rydym yng nghanol yr adolygiad pris dŵr y mae angen i Lywodraeth y DU roi sylw arbennig iddo, oherwydd ar hyn o bryd, mae'n dal i fynnu bod talwyr biliau yn talu am hynny, ac yn amlwg, dyna'r ffordd anghywir o wneud hyn. Ond wrth gwrs, mae'n rhaid inni wneud y buddsoddiad sydd ei angen arnom er mwyn i'n cronfeydd dŵr fod yn iawn am ystod eang o resymau—ac mae ansawdd dŵr yn un ohonynt. Ond mewn gwirionedd, rydym ar fin wynebu haf poeth iawn a sych iawn, felly rydym eisoes wedi paratoi ein timau sychder, er enghraifft.
Felly, mae'r rhain yn bethau cymhleth iawn. Mae'n llawer rhy syml dweud y byddai'r broblem wedi'i datrys dros nos pe bai CNC yn erlyn pawb y maent yn anfon llythyr rhybuddio atynt. Yn amlwg, nid yw hynny'n wir. Felly, byddwn yn dweud wrthych chi: ymgysylltwch â'r broses, ymgysylltwch â chyfranogiad gweithredol pob un o'r sectorau i gael trefn arnynt eu hunain, ac mae hynny'n cynnwys defnydd tir ac amaethyddiaeth; mae'n cynnwys dŵr; mae'n cynnwys adeiladwyr tai; mae'n cynnwys cynhyrchwyr bwyd; mae'n cynnwys pawb sy'n dibynnu ar ac yn cyfrannu at ansawdd ein dŵr yng Nghymru, oherwydd os nad yw pawb yn gwneud hyn, ni fyddwn yn cyrraedd lle rydym yn dymuno'i gyrraedd.
Diolch, ond credaf eich bod wedi methu ateb fy nghwestiwn: anfonwyd 350 o lythyrau rhybuddio at gwmnïau dŵr, felly, yn y pen draw, efallai yr hoffai'r Gweinidog ymhelaethu a dweud wrthyf faint o ffermwyr rydych wedi anfon llythyrau rhybuddio atynt mewn perthynas â llygredd.
Nawr, pan glywch fod bron i 0.5 miliwn o ollyngiadau wedi arwain at chwe erlyniad yn unig, ni all fod llawer o hyder yn eich cyfundrefn reoleiddio a gorfodi eich hun. Mewn gwirionedd, mae hon yn broblem a nododd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y llynedd, pan ddywedasom fod:
'rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru allu ymateb mewn modd amserol ac effeithiol i ddigwyddiadau llygredd, a rhaid iddo fod yn barod i gymryd camau gorfodi pan fydd achosion o dorri trwydded yn digwydd.'
Nid ydych yn dweud wrthyf mai dim ond chwe achos o dorri trwyddedau sydd wedi digwydd yng Nghymru. Mae hyd yn oed Dr Christian Dunn o Brifysgol Bangor wedi dweud y byddai newid y rheolau ynghylch llygredd carthion yn creu newid cyflym. Mae'n awyddus i benaethiaid cwmnïau dŵr wynebu ymchwiliadau troseddol os yw cwmni'n gyfrifol am ddympio carthion amrwd mewn afonydd a moroedd. Rwy'n cytuno â'r egwyddor o gamau gorfodi llymach os yw hynny'n arbed ein hafonydd. A ydych chi?
Wel, Janet, rwy'n credu efallai y gallech wrando ar yr ateb yn hytrach na dim ond darllen y cwestiwn sydd gennych o'ch blaen. Rwyf newydd ddweud wrthych beth rydym yn ei wneud yng Nghymru i fynd i'r afael ag ansawdd ein dŵr. Roedd yn eithaf syml. Felly, wrth gwrs, rwy'n poeni am hyn—fe wyddoch yn iawn fy mod. Ond rwy'n dweud wrthych nad dyna'r unig ateb—dim ond erlyn y cwmnïau dŵr. Nid ydych am imi erlyn pawb sydd wedi cyflawni trosedd llygredd yng Nghymru. Byddem yn ymrwymo llawer iawn o adnoddau i'r erlyniadau, ac ni fyddent yn cael fawr o effaith, os o gwbl, ar ansawdd y dŵr. Nid ydych yn bwydo mochyn drwy ei bwyso.
Felly, mae'n rhaid ichi fynd at achos sylfaenol y broblem. Achos sylfaenol y broblem yw bod pob un sector yng Nghymru yn cyfrannu rhywfaint at lygredd dŵr ac ansawdd dŵr. Mae'n rhaid i bob un sector yng Nghymru chwarae ei ran wrth unioni hynny. Mae hynny'n sicr yn cynnwys CNC a'r ddau gwmni dŵr, ond mae hefyd yn cynnwys yr holl ddefnyddwyr tir ar hyd glannau pob un o'n dalgylchoedd—pob un ohonynt. Felly, golyga hynny yr adeiladwyr tai, y cynghorau, y parciau, y ffermwyr—pob un ohonynt. Mae'n rhaid i bob un o'r bobl hynny chwarae eu rhan i leihau llygredd. Gallaf ddangos yr ystadegau i chi os hoffech, ond ar wahân i un afon yng Nghymru, y llygrwr mwyaf ar gyfer ein holl afonydd yw defnydd tir amaethyddol. Nid oes dianc rhag y ffaith honno—dyna'r data amrwd; ni ellir gwadu hynny.
Ond wrth gwrs, mae'n rhaid i'r cwmnïau dŵr chwarae eu rhan—wrth gwrs hynny. Ac fel y dywedais wrthych, rydym yng nghanol yr adolygiad pris dŵr. Mae'n rhaid iddynt allu talu er mwyn gallu chwarae eu rhan; mae'n rhaid iddynt allu buddsoddi i allu chwarae eu rhan, ac oni bai bod Llywodraeth y DU yn newid ei safbwynt ar sut olwg fydd ar y rhaglen fuddsoddi honno, ni fydd y cwmnïau dŵr yn gallu buddsoddi ar y lefel y dylent allu buddsoddi mewn unrhyw ran o'r DU. Oherwydd y cynllun presennol gan Lywodraeth y DU yw y bydd yr holl fuddsoddiad hwnnw'n mynd ar y biliau, a bydd y cwmnïau sy'n llygru ac sy'n talu difidendau—nad yw Dŵr Cymru yn ei wneud, wrth gwrs—yn dal i allu talu difidendau er nad ydynt wedi llwyddo i gyrraedd y sefyllfa yr hoffent fod ynddi. Felly, yn hytrach na chanolbwyntio ar y diben, ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi ar hynny—dylid erlyn pobl nad ydynt yn cael trefn arnynt eu hunain, ond mae arnom angen iddynt gael trefn arnynt eu hunain; rwy'n cytuno â hynny—mae angen i bobl gael trefn arnynt eu hunain. Ond yn hytrach na chanolbwyntio ar eu cosbi, mae angen ichi ganolbwyntio ar eu rhoi mewn sefyllfa lle gallant fynd i'r afael â'r llygredd ar y rheng flaen.
Diolch. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn anghytuno â'ch ateb. Nid fy mod heb wrando ar eich ateb, ond mae'n rhaid imi gytuno â Dr Christian Dunn. Nawr, boed hynny'n ddirwyon uwch neu'n euogfarnau troseddol, credaf ei bod yn amserol ystyried cryfhau'r rheoliadau presennol o ran sut mae cwmnïau dŵr yn gweithredu. Ni ddylai unrhyw un yma allu amddiffyn 0.5 miliwn o sefyllfaoedd. Mae angen camau pendant arnom sy'n profi bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio'i grym yn y frwydr yn erbyn carthion. Mae angen i Lywodraeth Cymru gael gwared ar y rhwystr rhag cynnydd. Nawr, fe wnaethoch addo adroddiad i ni, Weinidog, ar orlifoedd storm erbyn mis Mawrth 2023. Rwy'n iawn i ddweud ei bod bellach yn fis Mehefin. Dri mis yn ddiweddarach, rydym yn dal i aros. Pam, ac am faint eto?
Weinidog, er ichi ddiystyru'r ffaith y dylai cwmnïau dŵr wynebu cosbau llymach a mwy o erlyniadau, a wnewch chi o leiaf edrych ac adolygu'r ochr o CNC sy'n cyflawni'r camau gorfodi hyn, er mwyn gweld a oes unrhyw ddirwyon gorfodi wedi'u methu? Diolch.
Rwy'n fwy na pharod, Janet, i ddarparu rhestr i holl Aelodau'r Senedd o'r camau gorfodi a gymerwyd gan CNC. Rwy'n fwy na pharod i wneud hynny. Ond er mwyn ichi ddeall yr hyn rwy'n sôn amdano o ran y cyfraniad tuag at lygredd, mae'r rhestr gennyf yma. Felly, yn ôl dalgylch ACA: afon Cleddau Ddu, yn ôl canran, dŵr 11 y cant, defnydd tir gwledig 84 y cant, gorlifoedd storm 2 y cant, 2 y cant 'arall', er enghraifft; afon Cleddau Wen, dŵr 22 y cant, 65 y cant llygredd, gorlifoedd storm 5 y cant, 8 y cant arall; afon Dyfrdwy, 34, 48, 11; afon Teifi 66, 30—dyna'r un sy'n wahanol—3, 1; afon Wysg, 21, 67, 1, 11; afon Gwy, 23, 72, 2, 3. Felly, rydych yn cwyno am y peth anghywir.
[Anghlywadwy.]—mae hysbysiadau gorfodi wedi mynd allan i ffermwyr, felly. Atebwch y cwestiwn.
Nid oes angen trwydded ar ffermwyr, wrth gwrs, a dyna un o'r pethau rydym yn edrych arnynt ar hyn o bryd. Os yw eich plaid am awgrymu bod angen i bob defnyddiwr tir gael trwydded i roi pethau ar eu tir, cerwch amdani. Byddwn wrth fy modd pe bai un o'ch llefarwyr yn codi ac yn dweud wrthyf eich bod yn credu y dylai ffermwyr gael trwydded i roi pethau ar eu tir.
Fe ofynnais gwestiwn.
Ni ellir eu herlyn am nad oes angen trwydded arnynt, Janet.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Lywydd. Hoffwn eich holi, os gwelwch yn dda, am rai materion cenedlaethol y credaf eu bod yn codi o'r hyn sy'n digwydd ym mhwll glo Ffos-y-fran ym Merthyr Tudful. Ychydig wythnosau yn ôl, gwrthododd yr awdurdod lleol gais i bwll glo brig barhau i weithredu. Mae ymgyrchwyr, yn yr wythnosau ers hynny, wedi rhyddhau lluniau sy'n dangos yn ôl pob golwg fod y gwaith cloddio wedi parhau, a'r wythnos diwethaf, dywedodd yr awdurdod lleol fod hysbysiad gorfodi wedi'i roi i'r cwmni, yn dweud bod yn rhaid iddynt roi'r gorau i gloddio. Ond bydd hwnnw'n dod i rym ar y seithfed ar hugain o'r mis hwn, ac yna bydd gan y datblygwr 28 diwrnod arall i gydymffurfio, ac mae posibilrwydd o apêl. Felly, rwy'n credu bod o leiaf 56—. Wel, o'r adeg y rhoddwyd yr hysbysiad gorfodi, byddai isafswm o 56 diwrnod wedi bod lle gallai mwy o gloddio barhau ar ôl y dyddiad hwnnw. Nawr, rwy'n sylweddoli na allwch wneud sylw ar achosion unigol fel hwn, ond a gan gadw mewn cof yr hyn sydd wedi digwydd ym Merthyr Tudful, wnewch chi nodi p'un a ydych chi'n credu fod y system gynllunio sydd gennym yn addas i'r diben yn y cyd-destun hwnnw, lle gall awdurdod lleol wneud penderfyniad yn rhannol ar sail ymateb i'r argyfwng hinsawdd, ac y gall datblygwr ddod o hyd i gynifer o ffyrdd o anwybyddu neu osgoi'r penderfyniad hwnnw?
Ni allaf wneud sylwadau ar yr achos hwnnw. Mae'n achos parhaus, ac mewn gwirionedd, mae Gweinidogion Cymru yn barti yn yr achos. Felly, ni allaf wneud hynny.
Ond mae'n un o egwyddorion cyffredinol cyfraith gynllunio—ac mae'n anodd iawn newid hyn—os oes gennych drwydded fyw a'ch bod yn destun apêl, y gallwch barhau â'r gweithgarwch rydych yn apelio yn ei erbyn tra bo'r apêl yn mynd rhagddi. Mae hwnnw'n bwynt safonol mewn cyfraith gynllunio ledled y DU gyfan, hyd y gwn i—credaf ei fod yn wir yn yr Alban hefyd—ac am resymau amlwg. Oherwydd, os ydych yn adeiladu estyniad ar dŷ ac mae awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad gorfodi i chi ac rydych yn apelio yn ei erbyn, gallwch barhau i adeiladu'r estyniad hwnnw. Nid ydych yn gwybod beth yw'r sefyllfa tan i'r apêl ddod i ben a chael ei hegluro gan y llys. Nid yw'n gweithredu fel gwaharddeb, i bob pwrpas. Felly, dyna'r sefyllfa safonol.
Mae nifer o bethau rhwystredig eraill am y system gynllunio, ac rydym wrthi'n edrych arnynt. Rydym wedi llwyddo i'w newid ar gyfer rhai o'n rheoliadau adeiladu newydd, ond nid ar gyfer rhai hŷn. Er enghraifft, ar ôl ichi ddechrau adeiladu caniatâd cynllunio, gallwch barhau i'w adeiladu i'r un safon am 100 mlynedd. Rydym wedi llwyddo i newid hynny ar gyfer rheoliadau adeiladu newydd, ond nid ar gyfer rhai hŷn. Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud yw ceisio sicrhau bod gennych rywfaint o sicrwydd pan gewch ganiatâd cynllunio y gallwch adeiladu'r hyn rydych wedi cael caniatâd i'w adeiladu—oherwydd dyna'r broblem, ynte—ac yna, os yw'r rheolau'n newid dair blynedd yn ddiweddarach a'ch bod yn dechrau ar ddarn newydd o'r cynllunio, fod yn rhaid ichi gydymffurfio â'r rheoliadau newydd. Ond os ydych ddwy ran o dair o'r ffordd drwy'r broses o adeiladu tŷ, gallwch weld na allwch ei ôl-osod gan fod y rheolau wedi newid draean o'r ffordd i mewn. Felly, mae'n broblem. Rwy'n cytuno bod hynny'n broblem. Rydym yn archwilio nifer o ffyrdd ledled Cymru i weld a allwn symleiddio hynny a'i wneud yn gliriach, ond mae'n parhau i fod yn faes problemus.
Diolch, Weinidog. Tybed a ellid rhoi ystyriaeth i edrych, lle caiff penderfyniadau cynllunio eu gwneud yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd a natur, i weld a ellid gwneud unrhyw newid neu p'un a oes cynsail byd-eang i rywbeth o'r fath. Byddai'n ddiddorol gwybod.
Hoffwn ofyn i chi hefyd am adfer tir halogedig mewn achosion fel hyn—unwaith eto, nid yn benodol am yr achos hwn, ond yn deillio ohono. Mae wedi bod yn hysbys ers blynyddoedd yn yr achos hwn—unwaith eto, yr achos hwn ym Merthyr Tudful—fod y pwll glo'n mynd i gau, a chafwyd dealltwriaeth y dylai miliynau fod wedi'u neilltuo ar gyfer adfer y tir ac yn y blaen. Ar ôl unrhyw brosiect o'r fath, dylid darparu hyfforddiant a chyfnod pontio ar gyfer y gweithlu hefyd. Yn Ffos-y-fran, ceir cwestiynau pwysig ynglŷn ag a oes digon o arian ar ôl ar gyfer y gwaith adfer hwnnw. Fy nghwestiwn i chi yw, ar raddfa genedlaethol, yn gyntaf, os gwelwch yn dda, sut mae'r Llywodraeth yn blaenoriaethu datblygiad rhaglenni hyfforddi a fyddai'n galluogi gweithwyr mewn sectorau sy'n dibynnu ar danwydd ffosil i bontio i swyddi newydd, ac yn olaf, pa newidiadau y credwch y dylid eu gwneud—unwaith eto, i'r system gynllunio—i sicrhau bod datblygwyr yn cael eu gorfodi i unioni'r difrod a wneir i dir pan ddaw prosiectau mawr fel hwn i ben. Gwn fod hyn yn rhywbeth sy'n agos at eich calon. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Delyth. Mae nifer o bethau yno. Rydym newydd gyhoeddi, drwy adran Vaughan Gething, ond ar y cyd â minnau a fy nghyd-Aelod Jeremy Miles, y cynllun sgiliau sero net, sy'n cynnwys adrannau ar sut i fynd ati'n rhagweithiol i ailhyfforddi pobl sydd mewn diwydiannau y gwyddom ein bod yn dymuno dod â nhw i ben yn raddol, fel ein bod yn cael y pontio teg rydym yn sôn amdano. Nid ydym yn dymuno rhoi cymunedau cyfan allan o waith, fel y gwnaed yn y gorffennol, wrth i ddiwydiannau newid. Felly, rydym yn sicr yn edrych i weld sut y gallwn sicrhau bod rhaglenni hyfforddi a chyfleoedd ar waith. Rydym yn siarad yn gyson â'r cyrff seilwaith gwyrdd sy'n dod i mewn ynglŷn â sut y gallant fod yn sicr eu bod yn recriwtio pobl sy'n dod o hen ddiwydiannau ac yn y blaen. Felly, rydym yn sicr yn mynd ati'n rhagweithiol iawn i edrych ar hynny.
O ran adfer tir halogedig sy'n deillio o ddefnydd diwydiannol, yn anffodus, rydym yn aml yn rhwym i gontractau a lofnodwyd amser maith yn ôl pan oedd bywyd yn wahanol iawn. Unwaith eto, rwy'n ofalus iawn i beidio â gwneud sylw ar yr achos penodol, ond mae ystod o faterion—lle mae cyfleoedd wedi cael eu gwerthu, neu ble nad yw cyfrifon wedi'u cynnal, neu ble mae cyfryngau at ddibenion arbennig wedi mynd allan o fusnes, ac yn y blaen, lle nad yw bondiau cwmnïau mewn grym mwyach—y mae angen inni ddysgu oddi wrthynt. Ond mae'n eithriadol o anodd gwneud hynny'n ôl-weithredol. Gallwch ei wneud ar sail barhaus o hyn ymlaen, ond yn anffodus, roedd llawer o'r rheini'n bethau a gymeradwywyd yn y ganrif ddiwethaf, felly mae'n anodd iawn gweld sut y gallwch eu newid yn rhagweithiol ymlaen llaw.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lygredd yn Afon Tawe? OQ59590
Diolch yn fawr, Mike. Mae diogelu a gwella ein hamgylchedd dŵr yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Rydym yn gwella ansawdd dŵr drwy symud tuag at ddynodi dyfroedd ymdrochi mewndirol, cryfhau prosesau monitro ansawdd dŵr afonydd a thrwy sicrhau'r buddion mwyaf posibl i natur drwy systemau draenio cynaliadwy. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal prosiect yn afon Tawe i wella ansawdd dŵr, gan dargedu dalgylch cyfle bae Abertawe.
Diolch. Rwyf eisoes wedi codi problem carthion amrwd o safle trin gwastraff Trebanos. Mae'n debyg y bydd pobl yn falch o glywed nad wyf am wneud hynny eto heddiw. Ond rydym mewn cyfnod hir o dywydd sych, sy'n golygu bod lefelau dŵr yn anarferol o isel. O astudiaethau Americanaidd, gwyddom y gall ffosfforws gormodol mewn dŵr wyneb achosi twf sylweddol mewn planhigion dyfrol ac algâu. Gall hyn arwain at amrywiaeth o broblemau ansawdd dŵr, gan gynnwys crynodiadau isel o ocsigen tawdd, a all achosi i bysgod farw a niweidio bywyd dyfrol arall. Mae'r cysylltiad rhwng amaethyddiaeth, ffosfforws gormodol a thwf algâu gormodol mewn ecosystemau dŵr croyw yn dra hysbys. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fesur a lleihau lefelau ffosffad yn afon Tawe?
Diolch yn fawr iawn, Mike. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn monitro cyflwr afon Tawe o dan y rheoliadau cyfarwyddeb fframwaith dŵr. Mae statws ecolegol 'da' i'r data diweddaraf o afon Tawe ac rwy'n falch iawn o ddweud bod bae Abertawe hefyd wedi cael dosbarthiad ansawdd dŵr ymdrochi cyffredinol 'da' yn 2022 am y bedwaredd flwyddyn yn olynol. Ar y pwynt hwn, Lywydd, dylwn ddweud mai fy etholaeth i yw honno wrth gwrs.
Mae CNC yn gweithio'n agos gyda Dŵr Cymru a Chyngor Abertawe i hyrwyddo'r atebion seilwaith gwyrdd i leihau llygredd silt o safleoedd adeiladu, camgysylltiadau domestig, ac effaith ar ansawdd dŵr o dir halogedig. Byddant hefyd yn cynyddu capasiti'r brif system garthffosydd ac yn helpu i leihau'r gollyngiadau gorlif carthffosydd cyfun ar hyd basn afon Tawe, Mike. O'r 58 o asedau dŵr sy'n mynd i mewn i afon Tawe a'i llednentydd, mae 29 ohonynt yn mynd i fod yn destun ymchwiliad llawn o dan y fframwaith asesu gorlifoedd storm, cwblhawyd ymchwiliad ar saith ohonynt ac mae 22 i'w cwblhau yn ystod y cyfnod buddsoddi hwn, sef hyd at 2025 ac yna bydd cynllun arall ar gyfer y cyfnod ar ôl 2025. Rwy'n gwybod eich bod eisoes yn gwybod hynny. Ac rwy'n gwybod eich bod yn gwybod am y gwaith yn Nhrebanos hefyd.
Rydym eisoes wedi cryfhau'r grŵp gweithredu ar sychder ar gyfer Cymru. Mae'n ein hatgoffa'n amserol, Lywydd, er ein bod i gyd yn mwynhau'r tywydd hyfryd iawn a gawsom dros y pythefnos diwethaf, rwy'n siŵr y byddwch wedi sylwi bod y defnydd o ddŵr yn cynyddu yn ystod cyfnodau o'r fath, ac er inni fod yn lwcus iawn dros y gaeaf a bod y rhan fwyaf o'n cronfeydd dŵr wedi ail-lenwi'n llwyr neu bron iawn, nid yw'n cymryd llawer iawn iddynt fod yn ôl i'r cyflwr roeddent ynddo y llynedd. Mae'n debyg fod dwywaith na'r arfer o bosibilrwydd y cawn haf poeth iawn eleni. Er nad ydym ar hyn o bryd yn rhagweld cyfnodau sych hir i fynd gyda'r tywydd poeth hwnnw, mae'n atgoffa pobl yn amserol iawn fod gofalu am adnoddau dŵr yn rhywbeth y dylech ei wneud fel mater o drefn drwy'r amser, oherwydd fel arall bydd gennym broblemau difrifol, fel y mae Mike wedi'i amlinellu.
Rwy'n cytuno gyda chi, Weinidog, ac eraill yn y Siambr hon fod angen mynd i'r afael â llygredd afonydd, ac rwy'n cytuno â sylwadau'r Prif Weinidog na ellir datrys y broblem hon drwy un mesur yn unig. Mae gennyf ddiddordeb mawr yn y gwaith sydd wedi bod yn digwydd yn yr uwchgynadleddau rydych wedi bod yn eu cael, oherwydd rydych wedi dweud wrth y Siambr hon ar sawl achlysur fod mesurau wedi'u nodi i ymdrin â llygredd dŵr a sut y gallwn fynd i'r afael ag ef trwy fesurau naturiol ac yn y blaen. Hoffwn wybod a allech chi amlinellu pa fesurau ydynt a phryd y cânt eu gweithredu, oherwydd po gynharaf y gallwn wneud hynny, y cynharaf y gallwn lanhau ein hafonydd a dadflocio'r system gynllunio ledled Cymru.
Diolch yn fawr iawn. Mae'n anodd iawn gwneud hynny'n gyffredinol i Gymru oherwydd, yn amlwg, mae gan bob dalgylch set wahanol o atebion. Ond at ei gilydd, mae'r cynlluniau rheoli basn afon sydd gennym yng Nghymru yn cynnig mecanwaith inni allu nodi a blaenoriaethu camau gweithredu ar y dalgylch penodol. Yna mae gennym gyfres gyfan o weithgorau a chynlluniau gweithredu gan y grwpiau rheoli ansawdd afonydd yn well a'r byrddau rheoli maethynnau sy'n gweithio ar ein holl afonydd ardaloedd cadwraeth arbennig ledled Cymru. Mae gan bob un o'r rheini gynllun gweithredu, a gymeradwywyd yn yr uwchgynhadledd, i weithio ar ddalgylch penodol yr afon y maent yn edrych arni. Felly, mae'r camau hynny'n parhau.
Proses yr uwchgynadleddau yw cynnal uwchgynhadledd dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog tua dwywaith y flwyddyn. Nid yw'n union ddwywaith y flwyddyn, ond tua dwywaith y flwyddyn, yn cael ei gyd-gadeirio gennyf fi a Lesley Griffiths. Ac yna ceir grwpiau gweithredu unigol dan fy nghadeiryddiaeth i neu Lesley Griffiths neu gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru, ar sail barhaus, i sicrhau bod y cynllun gweithredu'n cael ei gadw'n ffres ac yn fyw a'n bod yn dysgu oddi wrth ein gilydd. Mae gennym hefyd system ar waith i sicrhau nad ydym yn ailddyfeisio'r olwyn, fel bod byrddau rheoli maethynnau yn deall yr hyn y mae pob un ohonynt yn ei wneud ac os oes ganddynt waith y gellir ei rannu rhwng pawb, ei fod yn cael ei rannu, ac yna down at ein gilydd yn yr uwchgynhadledd i sicrhau bod y gwersi'n cael eu dysgu ledled Cymru.
Fel y dywedais ar sawl achlysur, mae angen ymyriadau lluosog. Rydym yn newid ystum afonydd, er enghraifft, mewn rhai ardaloedd lle ceir llifoedd dŵr cyflymach, y tybid eu bod yn ateb y broblem ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif, ond sydd bellach wedi profi'n broblemus iawn. Mae gennym yr holl waith a wnawn ar orlifoedd carthffosiaeth cyfun, ac mae rhywfaint o'r gwaith adfer y soniais wrth Mike amdano ar y Tawe yn digwydd ar nifer o afonydd ledled Cymru. Ond mae'n rhaid inni fynd i'r afael â llygredd amaethyddol a defnydd tir, a llygredd adeiladwyr tai, felly mae gennym drefn systemau draenio cynaliadwy ar gyfer hynny. Un o'r problemau mawr sydd gennym yw ein bod ers blynyddoedd wedi caniatáu i dai gael eu hadeiladu heb gyfraniad priodol i'r rhwydwaith carthffosiaeth i fynd gyda'r tai hynny. Ac mae llawer o'n dinasoedd wedi'u hadeiladu ar rwydweithiau carthffosiaeth Fictoraidd nad ydynt yn addas i'r diben. Felly, wyddoch chi, nid oes ateb byr i'ch cwestiwn; rydym yn gweithio ar set gymhleth o gamau gweithredu ledled Cymru i fynd â ni i ble mae pawb ohonom eisiau bod.
Prynhawn da, Weinidog. Rwy'n nodi eich ymatebion i Janet Finch-Saunders, ac rwy'n credu bod cefnogaeth drawsbleidiol i'r safbwynt rydych chi a'r Prif Weinidog wedi'i gymryd, sef bod yr holl asiantaethau yn gyfrifol am lygredd afonydd; ni ddylem neilltuo un i'w geryddu. Ac rwy'n nodi bod y Prif Weinidog wedi dweud nad yw am glywed mai grŵp arall sydd ar fai, ac rwy'n credu bod cefnogaeth drawsbleidiol i hynny. Rwyf hefyd yn cytuno, ac rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf ohonom yn cytuno, ei fod yn ymwneud â gweithredu rhagweithiol yn ogystal â gweithredu adweithiol. Felly, tybed a gaf fi ofyn i chi—ac rwy'n sefyll yma yn fy het dun braidd—am yr adolygiad ar gyfer cyllid i CNC, oherwydd yn y pen draw, o ran ymatebion adweithiol, nhw sy'n gyfrifol, fel rwy'n deall. Rydym yn gwybod eu bod yn ei chael hi'n anodd, felly tybed a allech chi roi rhywfaint o wybodaeth i ni am yr arian a'r adolygiad sy'n digwydd ynghylch eu gallu i allu cyflawni hynny'n effeithiol. Diolch yn fawr iawn.
Yn sicr, Jane. Cwestiwn da iawn hefyd. Fe wnaethom adolygiad sylfaenol gyda CNC a oedd yn caniatáu iddynt roi costau uned i ni am y tro cyntaf erioed. Ac yn sgil costau'r uned, rydym wedi gallu gweithio gyda nhw i adeiladu'r hyn sy'n bosibl gyda pha lefel o gyllid yn gyffredinol. Rydym wedi gallu eu helpu i flaenoriaethu'r hyn y dylent ei flaenoriaethu, o ystyried yr amlen ariannu. Rydym newydd ddod drwy'r rownd gyllidebol waethaf a brofais erioed yn Llywodraeth Cymru, felly mae'n amlwg yn digwydd yn y cyd-destun hwnnw.
Ddoe, cefais y fraint o fod yn un o'r siaradwyr gwadd yn lansiad cynllun corfforaethol newydd CNC. Nid wyf yn dweud hyn yn ysgafn, Lywydd, oherwydd mae cynlluniau corfforaethol yn aml yn anodd eu darllen—rhywbeth rydych chi'n ei wneud gyda chalon drom yn hwyr yn y nos, rhywbeth sy'n rhaid i chi fynd drwyddo—ond o ddifrif, mae'n galonogol iawn. Hynny a'r cynllun corfforaethol newydd ar gyfer Bannau Brycheiniog, gobeithio, yw'r safon newydd ar gyfer cynlluniau corfforaethol. Os nad yw'r Aelodau wedi ei ddarllen, mae'n werth ei ddarllen. Mewn gwirionedd, mae'n gyffrous iawn; dechreuais gyda chalon drom a chanfod fy mod yn mwynhau ei ddarllen. Ac mae hynny oherwydd eu bod wedi ei wneud yn hollol wahanol; maent wedi rhoi eu gweledigaeth a'u cenhadaeth yn y canol ac yna wedi siarad am natur a phobl yn ffynnu gyda'i gilydd yr holl ffordd drwodd, ac maent wedi cysylltu pob un o'u gweithgareddau yn ôl at hynny mewn ffordd sydd, yn fy marn i, wedi rhoi tipyn o hwb a gobaith i'r sefydliad cyfan, yn hytrach na'r math o deimlad rhwystredig a oedd i'w deimlo o'r blaen, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr. Rwy'n credu bod hynny'n deillio o berthynas well gyda CNC, oherwydd y cydweithio a fu rhyngom. Mae CNC yn eiddo i Lywodraeth Cymru yn llwyr; nid ydym yn elynion, nhw yw ein braich sy'n cyflenwi. Ac rwy'n credu bod y berthynas newydd â nhw wedi gwneud gwahaniaeth go iawn. Felly, ar sail barhaus, byddwn yn parhau i adolygu lle maent yn rhoi eu hadnoddau a sut y gallwn fwydo mwy o adnoddau i mewn. Mae fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths newydd roi mwy o adnoddau i mewn ar gyfer monitro'r rheoliadau llygredd amaethyddol, er enghraifft. A chyda'n gilydd, rwy'n credu y gallwn gael ein set o flaenoriaethau wedi'u graddnodi yn y ffordd iawn.
Rydych chi wedi rhoi rhagolwg tywydd i ni ar gyfer yr haf a rhestr ddarllen ar gyfer yr haf nawr, Weinidog. [Chwerthin.]
Cwestiwn 4, Russell George.
4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o fanteision amgylcheddol saethu anifeiliaid hela? OQ59591
Diolch yn fawr, Russell. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi saethu anifeiliaid neu adar byw fel gweithgaredd hamdden. Fodd bynnag, rydym yn deall yn iawn fod angen rheoli rhywogaethau penodol weithiau at ddibenion rheoli bywyd gwyllt, er enghraifft i atal niwed difrifol i safleoedd neu rywogaethau sensitif.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Ychydig wythnosau yn ôl yn ystod dadl fer fy nghyd-Aelod James Evans ar saethu a chadwraeth, ymyrrais arnoch i ofyn cwestiwn syml i chi ac fe wnaethoch chi ddweud wrthyf y byddech yn ateb fy nghwestiwn yn ddiweddarach yn eich cyfraniad. Yna fe aethoch ymlaen i beidio ag ateb fy nghwestiwn a gwrthod cymryd ail ymyriad. Felly, rwy'n gobeithio nawr y gallaf ofyn yr un cwestiwn i chi eto. Felly, ydw, wrth gwrs, rwy'n ymwybodol o ymatebion i fy nghyd-Aelodau ac eraill pan ydych chi wedi amlinellu nad ydych chi ac nad yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi gweithgareddau sy'n gysylltiedig â saethu. Fodd bynnag, gwn fod nifer o ddigwyddiadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi nifer o sioeau amaethyddol sy'n gysylltiedig â saethu anifeiliaid hela, felly mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cefnogaeth ariannol i ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â saethu anifeiliaid hela. Felly, a gaf fi ofyn am rywfaint o eglurhad ar beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar gefnogaeth ariannol i digwyddiadau sy'n gysylltiedig â saethu anifeiliaid hela?
Rydym yn darparu cefnogaeth i'r diwydiant helgig, sy'n ddiwydiant pwysig yng Nghymru a'r amgylchedd gwledig, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi hynny ers rhai blynyddoedd. Fy marn bersonol i, a barn cryn dipyn o bobl yng Nghymru rwy'n credu, yw bod gwahaniaeth mawr rhwng gorfod lladd rhywbeth am eich bod eisiau ei fwyta neu ei roi yn y gadwyn fwyd a chael rhyw bleser neu weithgaredd hamdden o wneud hynny. Rwy'n meddwl bod llinell eithaf clir rhwng y ddau beth, a dyna'r gwahaniaeth roeddwn i'n ei ddarlunio, Russell. Felly, yn bersonol, nid wyf yn credu bod gwylio rhywun yn mwynhau lladd rhywbeth yn fuddiol. Os oes raid i chi ei ladd, am wahanol resymau, dylech wneud hynny gyda chalon drom, a dyna yw fy safbwynt i ar hyn o bryd. Nid yw hynny'n golygu nad ydym yn cefnogi diwydiant helgig yng Nghymru; wrth gwrs ein bod. Wrth gwrs, rydym yn cefnogi nifer fawr o ddiwydiannau cig, sy'n galw am ladd anifeiliaid er mwyn bodoli, ond credwn y dylid lladd yr anifeiliaid hynny mor gyflym ac mor drugarog â phosibl, ac nid oherwydd eich bod yn mwynhau eich hun.
Mae cwestiwn 5 [OQ59618] wedi'i dynnu'n ôl. Cwestiwn 6, Tom Giffard.
6. Pa ffactorau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried wrth gyfrifo targedau adeiladu tai? OQ59606
Diolch yn fawr, Tom. Cyfrifoldeb pob awdurdod cynllunio lleol yw asesu'r angen am dai yn eu hardal. ac yn seiliedig ar y dystiolaeth hon, sefydlu gofyniad tai o fewn eu cynllun datblygu lleol.
Diolch am eich ateb, Weinidog, ac fe fyddwch yn gwybod, rwy'n siŵr, y bydd angen adeiladu rhwng 6,200 ac 8,300 o anheddau ychwanegol bob blwyddyn i ateb y galw presennol am dai. Ond gyda phrinder cyflenwad sylweddol yn y farchnad yn hanesyddol, mae'n codi'r cwestiwn a yw'r targed hwnnw'n ddigon uchelgeisiol yn y lle cyntaf. Er hynny, mae rhai cynghorau'n dal i fethu cyrraedd y targedau adeiladu tai hyn yn gyson. Er enghraifft, addawodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn eu CDLl y byddent yn adeiladu 505 o gartrefi y flwyddyn, ond ers cyhoeddi'r CDLl hwnnw, maent wedi methu cyrraedd y targed un waith, a'r llynedd, dim ond eu hanner y llwyddwyd i'w hadeiladu. Ac rydym yn gwybod beth yw canlyniadau diffyg gweithredu o'r fath, Weinidog: mae prinder cyflenwad yn y farchnad yn cynyddu cost cartrefi newydd i bobl, yn enwedig pobl iau, sydd eu hangen yn fawr, pobl iau sydd am ddechrau eu bywydau a chael troed ar yr ysgol dai. Ond i mi, nid yw'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn creu llawer o ganlyniadau i gynghorau nad ydynt yn bodloni'r rhwymedigaethau CDLl a nodwyd ganddynt yn y lle cyntaf, felly pa gamau a gymerwyd gennych yn erbyn cynghorau sy'n methu cyrraedd y targedau CDLl hynny'n gyson, lle maent yn anfodlon neu'n methu gwneud hynny, a pha ystyriaeth a roddwyd gennych i annog cynghorau, os ydynt yn cyrraedd diwedd y broses CDLl a'u bod heb gyrraedd y targed a nodwyd ganddynt, er mwyn eu gorfodi i roi hyd yn oed mwy o dai yn eu CDLl nesaf? Diolch.
Diolch yn fawr, Tom. Rydym yn cyflawni set eithaf cymhleth o ymyriadau. Mae amcangyfrif y CDLl ar gyfer tai ar gyfer pob math o dŷ, wrth gwrs, tai defnydd cyfunol. Felly, rydym yn ei rannu yn ôl yr hyn rydym yn ei ariannu—felly, tai ar gyfer rhent cymdeithasol a rhai tai fforddiadwy a defnydd cymysg yw'r tai rydym yn eu hariannu—a thai sy'n cael eu cyflwyno gan y sector preifat, gyda rhai o'r rheini hefyd, wrth gwrs, yn dod yn dai cymdeithasol neu dai fforddiadwy.
Fe gynhaliwyd ymarfer gyda phob awdurdod lleol yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf—neu dair efallai; nid wyf yn cofio'n iawn, ond dros y blynyddoedd diwethaf—lle'r aethom drwy'r tir a ddyrannwyd ar gyfer tai ym mhob CDLl a gofyn pam nad oedd yn bosibl ei ddwyn ymlaen, oherwydd mewn rhai CDLlau roedd tir wedi'i ddyrannu nad oedd wedi cael ei ddwyn ymlaen ers blynyddoedd lawer, a daeth yn amlwg mai tir oedd hwn nad oedd byth yn mynd i fod yn addas ar gyfer tai. Mewn mannau lle gwelsom fod y tir yn addas ar gyfer tai ond bod rhwystrau'n bodoli—felly, fod tir yn halogedig, neu fod yna broblemau mynediad penodol ac ati—rhoesom ddau gynllun grant ar waith: felly, y cyllid safleoedd segur a'r—ni allaf gofio'r llall—yr un tir halogedig—nid yw'n cael ei alw'n hynny, ond dyna beth yw ei bwrpas—yn y bôn i ddadrisgio rhywfaint o'r tir er mwyn gallu ei ddwyn ymlaen.
Ond rydym hefyd wedi bod yn gweithio—. Oherwydd y broblem ffosffadau yng Nghymru, mae gennym nifer fawr o geisiadau cynllunio yn methu symud ymlaen oherwydd y broblem ffosffadau. Rydym wedi bod yn gweithio gyda'r adeiladwyr tai yng Nghymru, a chydag awdurdodau lleol sydd wedi'u heffeithio—nid wyf yn credu bod Pen-y-bont ar Ogwr yn un o'r rheini, ond beth bynnag, cryn dipyn o awdurdodau yng Nghymru—i ddarganfod sut y gallwn ddwyn y safleoedd hynny ymlaen gydag atebion penodol i'r mathau hynny o broblemau ar y safleoedd hynny. Ac yna rydym yn gofyn i'r awdurdodau lleol ailedrych ar eu CDLlau ac ail-wneud eu dyraniad asesiad tai lleol os credwn nad yw'n gweithio yn y ffordd y dylai. Felly, rydym yn cyflawni nifer o ymyriadau gwahanol i gynorthwyo'r awdurdod lleol i sicrhau bod ganddo'r dyraniadau cywir yn ei dir mewn ffordd sy'n gynaliadwy ac sy'n ein galluogi i ddwyn y rhain ymlaen.
Wedyn, y peth olaf yw ein bod wedi bod yn gweithio gyda'r Llywodraeth ganolog dros gyfnod y Senedd hon i geisio cyflwyno treth ar dir gwag. Mae hynny wedi profi'n llawer mwy problemus nag y gobeithiem, oherwydd roeddem wedi gobeithio gallu sicrhau nad oedd pobl yn bancio tir, ac fel bod safleoedd a ddyrannwyd ar gyfer CDLlau yn mynd rhagddynt mewn gwirionedd, yn hytrach na bod tir yn cael ei fancio yn erbyn prisiau uwch.
7. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran gwella diogelwch ar y ffyrdd yng ngogledd Sir Ddinbych? OQ59602
Diolch. Fel y gŵyr yr Aelod, mae Cyngor Sir Ddinbych, fel yr awdurdod priffyrdd, yn gyfrifol am ddiogelwch ar y ffyrdd yn eu sir. Ers 2019, rydym wedi darparu dros £1 filiwn o gyllid diogelwch ffyrdd iddynt. Eleni, bydd eu cyllid yn cynnwys dros £197,000 i weithredu'r terfyn cyflymder 20 mya diofyn newydd—y cynllun diogelwch ffyrdd mwyaf mewn cenhedlaeth.
Diolch yn fawr iawn am eich ymateb y prynhawn yma, Ddirprwy Weinidog. Y rheswm rwy'n gofyn y cwestiwn yw oherwydd fy mod eisiau codi mater y B5119, ac os ydych chi'n meddwl, 'Wel, beth yw'r B5119?', caiff ei hadnabod yn lleol fel y 'dizzy bends', a ffordd gul yw hi sy'n cysylltu'r Rhyl a Phrestatyn. Mae'r ardal wedi gweld cryn dipyn o ddatblygiadau tai dros y 25, 30 mlynedd diwethaf, ond nid yw'r ffordd ei hun wedi'i datblygu ers dyddiau ceffyl a chert, yn anffodus. Felly, o ganlyniad i'r datblygiad, yn amlwg o ganlyniad i hynny, rydym wedi gweld cynnydd yn y traffig sy'n defnyddio'r B5119. Fel Llywodraeth Cymru, gwn eich bod wedi ymrwymo i wahardd adeiladu ffyrdd o dan yr adolygiad ffyrdd, ond rwyf am wahaniaethu rhwng adeiladu ffyrdd a diogelwch ffyrdd, a pha drafodaethau y gallech eu cael gyda Chyngor Sir Ddinbych i wneud gwelliannau diogelwch a lledu'r ffordd yn bosibl ar gyfer y B5119, gan ein bod, dros y blynyddoedd diwethaf, wedi gweld cynnydd yn nifer y digwyddiadau a ddaeth yn agos at fod yn ddamweiniau difrifol, a marwolaeth a ddigwyddodd y llynedd, yn anffodus. Felly, ar ran fy etholwyr, a gaf fi ofyn i chi ynglŷn â'r posibilrwydd o edrych ar wella diogelwch ffordd y 'dizzy bends', fel rydym yn ei galw'n lleol?
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. Bob tro y clywaf feinciau'r Ceidwadwyr yn camddisgrifio ein polisi, rwy'n cael pwl o bendro hefyd. I fod yn glir, am y pymthegfed tro, nid ydym yn gwahardd adeiladu ffyrdd. Rydym yn adeiladu ffyrdd newydd nawr, byddwn yn parhau i adeiladu ffyrdd newydd, rydym wedi cytuno â Chyngor Gwynedd i adeiladu ffordd newydd yn Llanbedr. Felly, rwy'n sylweddoli ei fod yn fater bach braf iddynt ei roi ar gyfryngau cymdeithasol, ond mae'n hollol anghywir. Nid oes gan yr Aelod unrhyw gywilydd ei fod yn stribedu'r camargraffiadau hyn dro ar ôl tro. Nid yw'n wir. I fod yn glir iawn, o'r gorau? Nid ydym yn gwahardd ffyrdd newydd. Felly, rwy'n gobeithio bod pawb yn deall hynny nawr.
Rydym yn cymhwyso polisi ffyrdd newydd yn seiliedig ar yr adolygiad ffyrdd annibynnol, ac mewn achosion o ddiogelwch ar y ffyrdd, mae'n dweud bod angen inni fynd trwy broses, ac un o'r pethau cyntaf y dylem ei wneud, cyn edrych ar newidiadau seilwaith fel lledu ffyrdd, mae'n dweud, neu gynyddu cyflymder ar ffyrdd, yw y dylem edrych ar dorri cyflymder ffyrdd fel cam cyntaf i wneud ffyrdd yn fwy diogel ac i leihau'r tebygolrwydd o ddamweiniau.
Nawr, rwy'n credu mai cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw'r ffordd hon, ac mae angen iddo drafod pryderon ynghylch diogelwch gyda nhw, ac fe allant hwy wneud cais i ni yn y ffordd arferol, o fewn ein fframwaith polisi ffyrdd newydd, nad yw'n cynnwys gwahardd ffyrdd newydd.
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut fydd cynlluniau datblygu strategol y dyfodol yn effeithio ar broses cynlluniau datblygu lleol yng Ngogledd Cymru? OQ59612
Diolch am y cwestiwn, Llyr.
Mae dyletswydd ar awdurdodau cynllunio lleol i baratoi cynllun datblygu lleol, fel y nodir yn Neddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004. Ar ôl mabwysiadu cynllun datblygu strategol gan gyd-bwyllgor corfforedig, bydd gofyn i awdurdodau cynllunio lleol yn yr ardal honno baratoi CDLl llai manwl.
Ie, diolch am hynny, oherwydd mae llawer o bobl yn gofyn sut y gallai pethau fod yn wahanol mewn senario yn y dyfodol. Oherwydd fe fyddwch yn gwybod am y cyfyngder presennol yn Wrecsam, lle mae cyngor Wrecsam bellach mewn sefyllfa lle mae consortiwm o ddatblygwyr wedi cyhoeddi her gyfreithiol yn erbyn y cyngor am bleidleisio i beidio â mabwysiadu ei CDLl. Nawr, bydd y cyngor yn pleidleisio eto yr wythnos nesaf i weld a ddylid gwrthdroi'r penderfyniad cynharach hwnnw oherwydd y bygythiad nawr y gallai barnwr orfodi'r CDLl arnynt yn erbyn dymuniadau cynrychiolwyr a etholwyd yn ddemocrataidd, a beth mae hynny'n ei ddweud am y cysyniad o ddemocratiaeth leol, nid wyf yn siŵr. A wnewch chi dderbyn bod y llanast hwn wedi bod yn cyniwair ers amser hir? Rwyf wedi ei godi—fe wneuthum ei godi nôl yn 2012 pan wrthododd Llywodraeth Cymru a'r arolygiaeth gynllunio am y tro cyntaf, neu pan wnaethant fynnu bod y cyngor yn cyflwyno ail CDLl. Rwy'n dod yn ôl eto at bwynt a grybwyllwyd yn gynharach mewn perthynas â niferoedd tai; fe'u gorfodwyd i chwyddo nifer y tai yn y CDLl. Nawr, mae'r rheini'n hollol groes i realiti. Mae poblogaeth Wrecsam yn gostwng, nid yn cynyddu, ac i lawer o bobl leol, yn yr amgylchiadau presennol, maent yn teimlo bod Llywodraeth Cymru, yr arolygiaeth gynllunio, yn gweithio law yn llaw â datblygwyr eiddo mawr i orfodi'r tai hyn ar gymuned nad yw'n dymuno eu cael. Felly, a wnewch chi dderbyn rhywfaint o gyfrifoldeb am y llanast hwn? Ac yn bwysicach fyth, yng ngoleuni'r hyn sy'n dod gyda CDLl llai manwl ac ati, a wnewch chi weithio gyda'r cyngor i geisio datrys y sefyllfa hon, yn hytrach na'r hyn sy'n teimlo fel caniatáu i ddatblygwyr gael eu ffordd?
Llyr, hoffwn yn fawr iawn gael trafodaeth gyda chi ynglŷn â ble rydym arni gyda CDLl Wrecsam, ond rwy'n ofni, Lywydd, ein bod yng nghanol cyfres o brosesau adolygiadau barnwrol y mae Llywodraeth Cymru yn barti iddynt. Felly, rwy'n ofni na allaf ei drafod ar lawr y Senedd. Ond os yw'r Aelod am ofyn am sgwrs breifat gyda mi, rwy'n fwy na pharod i wneud hynny. Er hynny, rwy'n dweud hyn, Llyr: nid wyf yn credu bod eich disgrifiad o'r hyn sydd wedi digwydd yn Wrecsam yn gwbl deg, a hoffwn yn fawr iawn gael cyfle i gael trafodaeth iawn gyda chi yn ei gylch.
Ac yn olaf cwestiwn 9. Cefin Campbell.
9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ59604
Diolch. Mae Trafnidiaeth Cymru yn bwrw ymlaen â gwaith o dan y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ar gysylltiadau trafnidiaeth rhwng gogledd a de Cymru, gan gynnwys coridorau teithio ar arfordir gorllewin Cymru, ar system drafnidiaeth integredig ar gyfer gogledd-orllewin Cymru, ac ar ein datblygiadau metro.
Diolch yn fawr iawn. Rydw i am ganolbwyntio’n benodol ar station Sanclêr yn sir Gaerfyrddin, ond mi ddof i yn ôl at hynny mewn eiliad. Mi fyddwn ni i gyd yn y Siambr yma yn deall, wrth gwrs, bwysigrwydd datblygu rheilffyrdd yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, er mwyn cysylltu pobl â’r ardaloedd gwledig yma. Mae’n bwysig am nifer o resymau, wrth gwrs, ac rydyn ni wedi eich clywed chi’n sôn am hynny sawl gwaith.
Mae’n mynd i annog pobl i ddefnyddio llai o geir os gallwn ni uwchraddio ein gorsafoedd ni yn yr ardaloedd yma a datblygu mwy o reilffyrdd. Mae hefyd yn ymateb i’r agenda argyfwng newid hinsawdd. Hefyd, mae’n mynd i fod yn hwb i’r economi leol, gan gynnwys twristiaeth, wrth gwrs, ac yn annog mwy o deithio llesol. Felly, o safbwynt gorsaf Sanclêr yn benodol, dwi’n deall bod yna amcangyfrif o’r costau wedi digwydd, a bod tua hanner y costau hynny wedi cael eu cyfrannu yn barod gan adran drafnidiaeth San Steffan. Felly, mae yna fwlch ar ôl, o ryw £6 miliwn, yn ôl beth rydw i’n ei ddeall. Felly, beth yw’r diweddaraf—os gallwch chi rannu hynny gyda ni—o ran cyfraniad Llywodraeth Cymru i gwrdd â’r costau yma, er mwyn sicrhau bod gorsaf ffit i bwrpas gyda ni yn Sanclêr?
Diolch. Wel, fel y dywedodd yr Aelod, mae Llywodraeth Cymru eisiau gweld gorsaf yn Sanclêr fel rhan o'r broses o uwchraddio ein system drafnidiaeth gyhoeddus gyffredinol, am y rhesymau a nododd yn glir iawn. Mae hefyd yn iawn fod costau cynnig Sanclêr wedi cynyddu'n sylweddol, fel pob prosiect seilwaith yn wir, ac mae ein cyllideb gyfalaf ar yr un pryd wedi'i thorri 8 y cant mewn termau real gan y Llywodraeth Geidwadol fel rhan o'r cyni ariannol y maent yn dewis mynd ar ei drywydd. Felly, mae yna fwlch, fel y dywedoch chi.
Rydym mewn trafodaethau gyda bwrdd iechyd Hywel Dda, yn rhan o'u cynlluniau ar gyfer ysbyty newydd yng ngorllewin Cymru. Gallai gorsaf yn Sanclêr fod yn rhan bwysig o hynny, a sut y ceisiwn gynnwys hynny yng nghynlluniau a chyllideb yr ysbyty hwnnw—. Ond yn y tymor byr, mae gennym fwlch ariannol heb ffordd glir iawn o fynd i'r afael ag ef. Mae'r rhain yn sgyrsiau sydd ar y gweill gyda Network Rail a Llywodraeth y DU .
Diolch i'r Dirprwy Weinidog a'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Peredur Owen Griffiths.
1. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth ar waith i hybu addysg cyfrwng Cymraeg? OQ59616
Mae hybu addysg cyfrwng Cymraeg yn greiddiol i’n strategaeth 'Cymraeg 2050'. Rwyf wedi cytuno cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yr holl awdurdodau lleol i gefnogi’r gwaith hwn. Rŷn ni’n gweithredu cynllun gweithlu Cymraeg uchelgeisiol ac yn ariannu gwaith partneriaid a phrosiectau amrywiol i gefnogi gweithgarwch hybu ledled y wlad.
Diolch yn fawr am yr ateb yna. Rydw i’n gobeithio bod data cyfrifiad 2021, yn ogystal â’r rhybuddion a roddwyd yn y pwyllgor diwylliant a’r Gymraeg yn ddiweddar, yn symbyliad i weithredu o ran addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a dysgu’r iaith Gymraeg. Does dim digon o athrawon cyfrwng Cymraeg ac athrawon i ddysgu’r Gymraeg yn dod i mewn i weithio yn ein hysgolion a’n colegau. Ar ben hynny, mae nifer y siaradwyr Cymraeg yn dirywio, yn ôl ffigurau’r cyfrifiad. Yn anffodus, mae’r duedd ar i lawr yn arbennig o amlwg ymhlith pobl ifanc yn fy rhanbarth i, yn enwedig ym Mlaenau Gwent. Heb os, bydd y targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn anoddach i'w gyrraedd neu yn cael ei fethu heb gamau radical a mwy uchelgeisiol. Weinidog, ydych chi'n cydnabod bod y sefyllfa yn bryderus fel ag y mae ar hyn o bryd ac ydych chi'n hyderus y gellir troi cornel i weld pethau yn gwella? Hefyd, sut ydych chi'n bwriadu mynd i'r afael, yn benodol yn ne-ddwyrain Cymru, â'r prinder difrifol o athrawon cyfrwng Cymraeg a'r athrawon sy'n dysgu Cymraeg sy'n bodoli mewn addysg gynradd ac uwchradd? Diolch.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae'r ffigurau yn y cyfrifiad, wrth gwrs, yn dangos gostyngiad mewn rhai grwpiau oedran, ond fel mae'r Aelod yn gwybod, rŷn ni hefyd wedi bod yn edrych ar ddata trwy'r arolwg cenedlaethol sydd yn dangos, am y tro cyntaf erioed, yn yr un cyfnod gynnydd yn y rhifau. Felly, mae'n rhaid mynd i waith i edrych ar beth mae'r data o'r ddwy ffynhonnell yn ei ddweud wrthyn ni. Rŷn ni wedi cytuno gyda'r ystadegydd cenedlaethol swyddogol fod cynllun gwaith yn mynd i'r afael â hynny. Mae'n bwysig iawn bod gennym ni ddata dibynadwy fel Llywodraeth, ac sydd yn deall y cyd-destun. Felly, mae'r gwaith yna'n waith pwysig iawn.
Ond roeddwn i'n siomedig, wrth gwrs, yng nghanlyniadau'r cyfrifiad, er efallai fod esboniad ehangach iddyn nhw. Rwyf i yn ffyddiog bod gennym ni gynllun da er mwyn cyrraedd y nod, sydd yn nod heriol, fel mae'r Aelod yn cydnabod, yn nod uchelgeisiol yn sicr. Mae rhifau athrawon, wrth gwrs, yn gwbl greiddiol i lwyddiant strategaeth addysg Gymraeg. Mae cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg yn hanfodol os ŷn ni eisiau gweld mwy o ddysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae gennym ni gynllun 10 mlynedd, a diolch i'r holl bartneriaid a rhanddeiliaid sydd wedi cydweithio gyda ni ar hynny, gyda llawer o gamau creadigol yn hynny.
Mae'r Aelod yn iawn i ddweud bod ardaloedd o fewn ei rhanbarth ef yn ardaloedd lle mae'r gostyngiad yn ymddangos, o leiaf, fel ei fod e ar ei waethaf, felly mae gwaith penodol i'w wneud yn hynny o beth. Rŷn ni'n falch fy mod i wedi gallu cymeradwyo cyllid ar gyfer pencampwr hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg rhanbarthol newydd i weithio yn benodol yn ne-ddwyrain Cymru. Mae hwn yn gydweithrediad rhwng yr awdurdodau lleol a'r mentrau iaith, ac os bydd hynny'n llwyddiannus, byddwn ni'n edrych i ehangu hynny yn genedlaethol.
Weinidog, weithiau mae yn teimlo fel ein bod ni'n syrthio i'r fagl o feddwl bod y Gymraeg ar fin marw pan, mewn gwirionedd, fo'r ffigurau a gyhoeddwyd gan bapur newydd The Scotsman yn dangos bod dros 15 gwaith yn fwy o siaradwyr Cymraeg nag sydd o siaradwyr Gaeleg yr Alban, ac mae gan Gymru tua hanner poblogaeth yr Alban. Felly, mae gwir angen i ni fod yn fwy optimistaidd am yr iaith a'i dyfodol, yn enwedig wrth i ni symud tuag at Cymraeg 2050. Gyda hyn mewn golwg, sut mae Llywodraeth Cymru yn edrych i fod yn fwy cadarnhaol ac optimistaidd yn ei hiaith ei hun wrth iddi geisio annog mwy o athrawon i ymuno â'r gweithlu ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg? Diolch.
Rwy'n optimist wrth reddf, felly'n cytuno â beth mae'r Aelod newydd ei ddweud. Mae'n bwysig, rwyf i'n credu, er ein bod ni'n trafod yn aml yr heriau sy'n wynebu recriwtio, er enghraifft, ein bod ni hefyd yn dathlu'r cyfraniad mae athrawon yn gallu ei wneud a'r galw sydd angen arnom ni ar gyfer athrawon i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn annog pobl i ddod i mewn i'r proffesiwn, gan fod dysgu yn un o'r proffesiynau prin hynny lle gallwch chi gael effaith sylweddol iawn ar gwrs bywyd cannoedd a miloedd o bobl, efallai, ac annog mwy a mwy o bobl i ddysgu'r Gymraeg.
2. Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd i hyrwyddo teithio llesol mewn ysgolion? OQ59598
Mae ei gwneud hi'n bosib i fwy o blant gerdded a mynd ar sgwter neu feic i’r ysgol yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru, ac rŷn ni’n gweithio’n agos ar draws adrannau a chyda phartneriaid eraill i gyflawni’r amcan hwn.
Diolch, Weinidog. Ymwelais yn ddiweddar ag Ysgol Gynradd Pencoed—enghraifft arall o'r buddsoddiad mwyaf erioed mewn ysgolion yn Ogwr, a ledled Cymru, yn wir. Wrth imi gyrraedd, gwelais 30 neu fwy o feiciau a sgwteri yn y storfa bob tywydd o flaen yr ysgol. Eglurodd y pennaeth, Mr Raymond, fod staff a llywodraethwyr yr ysgol yn gweithio gyda rhieni a'r plant i annog cerdded, beicio a sgwtera i'r ysgol. Mae hyn yn digwydd yn amlach nawr, diolch i fuddsoddiad enfawr Llywodraeth Cymru mewn llwybrau diogel i'r ysgol a chyfleusterau teithio llesol mewn ysgolion hefyd. Ond mae angen inni wneud mwy. Mae angen inni gael pob ysgol yn gwneud mwy o hyn, ac mae angen i'n holl blant, ac athrawon a llywodraethwyr a rhieni, fod yn rhan ohono. Felly, wrth inni ddathlu canfed Wythnos Genedlaethol y Beic, sy'n nodi canrif o ddathlu beicio bob dydd i bawb, pa neges fydd y Gweinidog yn ei hanfon i ysgolion ledled Cymru, a pha gamau mwy ymarferol y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd fel bod ein disgyblion yn cael y manteision i'w hiechyd, y manteision lles, mae llai o congestion ar ein ffyrdd oherwydd school runs, ac mae'n haer yn lanach i bawb?
Diolch i Huw Irranca-Davies am y cyfle i allu annog ein hysgolion ni ar draws Cymru i wneud popeth y gallan nhw i annog, nid jest disgyblion, ond fel mae e'n ei ddweud mor bwysig yn ei gwestiwn, staff ysgol hefyd, llywodraethwyr, a'r gymuned ehangach hefyd, wrth eu bod nhw'n ymwneud â'r ysgol, i ddefnyddio ffyrdd amgen o allu cyrraedd yr ysgol. A gaf i ddiolch iddo fe am y gwaith y mae e wedi ei wneud fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar hyn o beth hefyd, sydd wedi ysgogi llawer o'r pethau sydd gyda ni mewn golwg—buddsoddiad mewn i ysgolion yn fwyfwy dibynnol ar gael cynlluniau active travel o'r math y mae e'n sôn amdanyn nhw, ond hefyd adnoddau newydd ar Hwb i gefnogi ysgolion a chymuned ysgolion i allu gwneud popeth y gallan nhw yn y ffordd y mae e'n ei ddweud yn ei gwestiwn, a'r buddsoddiad gwych, rwy'n credu, yng nghynllun School Streets, sy'n gwneud gwahaniaeth sylweddol, dwi'n gobeithio, er mwyn ei gwneud hi'n haws i ysgolion ddenu trafnidiaeth llesol i'r ysgol? A gaf i hefyd ddiolch iddo fe am ein hatgoffa ni ei bod hi'n Wythnos y Beic? Byddaf i'n seiclo i'r gwaith yfory, er mwyn dathlu'r wythnos honno.
Weinidog, er bod croeso i unrhyw ymgais i annog teithio llesol gan ddisgyblion ysgol, mae’n rhaid inni hefyd fynd i’r afael â’r ffaith, yn aml iawn, nad yw llwybrau teithio llesol diogel yn bodoli i lawer o blant. Rwy'n aml wedi codi’r ffaith, yn fy mhentref fy hun, Pen-y-fai, mai ychydig iawn o lwybrau teithio llesol diogel sydd gennym. Mae gennym broblem hefyd lle nad oes sicrwydd y bydd disgyblion sy’n byw o fewn pellter cerdded neu feicio i ysgol yn cael eu derbyn i’r ysgol honno, gyda’r ysgol a ddynodwyd ar eu cyfer yn aml yn anaddas ar gyfer teithio llesol i blant iau. Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar draws adrannau, mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol, i sicrhau bod teithio llesol yn opsiwn ymarferol i’n disgyblion ysgol?
Cyfeiriaf Altaf Hussain at yr ateb rwyf newydd ei roi i Huw Irranca-Davies, sy'n nodi’r camau rydym yn eu cymryd. Ar y cwestiwn am lwybrau i'r ysgol a'i gwneud yn hawdd i bobl allu cerdded, beicio a sgwtera i gyrraedd lleoliad ffisegol yr ysgol, rydym yn annog awdurdodau lleol—gofynnodd imi beth a wnawn gydag awdurdodau lleol—i gyflwyno Strydoedd Ysgolion, rhywbeth rwyf newydd ei grybwyll yn fy ateb i Huw Irranca-Davies. Ac maent yn ymwneud â chau ffyrdd o amgylch ysgolion ar ddechrau ac ar ddiwedd y diwrnod ysgol, er mwyn gwella amodau ar gyfer cerdded a beicio a sgwtera, lleihau llygredd aer, yn amlwg, gwella diogelwch ffyrdd, hefyd yn amlwg. Fe wnaethom ariannu awdurdodau i gyflwyno cynlluniau i wneud hyn; mae 13 o awdurdodau wedi cael cyllid i wneud hynny, ac rydym wedi buddsoddi bron i £5 miliwn yn y cynlluniau hynny. Rwy’n meddwl ei fod yn ddatblygiad cyffrous iawn, i’w gwneud mor hawdd â phosibl i bobl gyrraedd yr ysgol gan ddefnyddio opsiynau teithio llesol.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf—Laura Anne Jones.
Diolch, Lywydd. Weinidog, rwyf am ofyn ichi am argyfwng sy’n ymddangos fel pe bai’n gudd yn ein hysgolion yng Nghymru. Mae miloedd o achosion o drais mewn ysgolion cynradd a channoedd o achosion mewn ysgolion uwchradd wedi'u cofnodi yng Nghymru. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Prifysgol Roehampton yn Llundain adroddiad ar drais tuag at gynorthwywyr addysgu a chynorthwywyr dosbarth yn ysgolion prif ffrwd y DU. Canfu’r adroddiad fod 53 y cant o athrawon a chynorthwywyr addysgu wedi profi trais corfforol mewn blwyddyn, a bod 60 y cant wedi profi cam-drin geiriol. Ar ôl cyflwyno ceisiadau rhyddid gwybodaeth i holl gynghorau Cymru, llwyddodd fy swyddfa a minnau i ddod o hyd i’r canlyniadau yng Nghymru; fodd bynnag, ni fu hynny'n bosibl yn achos rhai cynghorau. Weinidog, ers 2018-19, mae 3,872 o ddigwyddiadau treisgar, y gwyddom amdanynt, wedi’u cofnodi yn ein hysgolion ledled Cymru, ac nid yw hyn yn cynnwys cam-drin geiriol. Fy nghwestiwn i chi yw: pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi mynd i’r afael â’r mater hwn ac wedi caniatáu iddo waethygu yn y ffordd hon?
Bydd hi’n gwybod o’i gwaith ar y pwyllgor fod y Llywodraeth wedi bod yn gweithio gydag undebau athrawon mewn perthynas â’r union gwestiwn hwn, ac mae’n gwestiwn pwysig. Yr hyn nad yw wedi bod yn gwbl glir yw maint y broblem. Mae ganddi rai ffigurau yno, ond fel y mae’n nodi ei hun, nid yw’n gwbl glir mai dyna’r darlun llawn, na bod yr hyn sy’n cael ei adrodd yn adlewyrchu’r cyd-destun hefyd. Cefais gyfarfod ddoe lle trafodais ag undebau athrawon, gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gydag awdurdodau lleol, yr hyn y gallwn ei wneud i ddeall maint y broblem—. Fe fydd hi'n cofio o'r ohebiaeth a dderbyniodd y pwyllgor gan Unsain fod ganddynt arolwg a ddangosodd fod gan 41 y cant o'u haelodau rywfaint o brofiad ar draws ystod o ymddygiadau. Ac nid oedd hyn wedi cael ei drafod yn flaenorol yn y fforwm partneriaeth ysgolion, felly, gofynnais iddo gael ei ddwyn ymlaen. Cawsom drafodaeth dda a chadarnhaol ddoe. Mae rhai themâu’n dod i’r amlwg ynghylch pam y gallai fod cynnydd yn y niferoedd, ac yn sicr mae tuedd i ddangos cynnydd. Yr hyn nad yw’n glir eto yw’r union resymau pam, a’i union faint, ond rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i ddeall hynny a gwneud yn siŵr fod cymorth yno i athrawon, os nad yw yno eisoes.
Diolch, Weinidog, ac rwy’n falch fod rhywbeth yn dechrau cael ei wneud yn ei gylch o’r diwedd, oherwydd gyda Chymru eisoes yn profi argyfwng gyda niferoedd athrawon a achoswyd gan Lywodraeth Cymru, diolch i ymdrechion di-fflach Llywodraethau olynol yng Nghymru, mae’n amlwg i mi fod trais yn mynd i wthio pobl oddi wrth y proffesiwn. Weinidog, yn lle dod â’r mater i’r amlwg, mae eich Llywodraeth wedi caniatáu iddo waethygu’n dawel yn y cefndir ers degawdau bellach. I wneud hyn yn waeth yng Nghymru, nid oes gennym unrhyw safon adrodd—fel rwy'n siŵr y byddwch yn gwybod o'ch cyfarfod ddoe—na gofyniad i adrodd am gamdriniaeth neu drais yn yr ystafell ddosbarth. Felly, Weinidog, mae mwy i’r ystadegau hyn a ddarllenais i chi nag a welir, ac mae’r darlun gwirioneddol, fel y dywedoch chi nawr, yn llawer iawn gwaeth yn ôl pob tebyg. Felly, pam nad yw'r Llywodraeth wedi cyflwyno safon adrodd ledled Cymru, a pham nad oes gofyniad hyd yma i adrodd am achosion o drais, hyd yn oed, yn yr ystafell ddosbarth?
Wel, maent yn cael eu hadrodd; y cwestiwn yw sut maent yn cael eu hadrodd, ac yn sicr, bydd yna enghreifftiau lle na chânt eu hadrodd. Felly, rwy’n amlwg yn derbyn hynny. Mae hynny’n nodwedd o ofynion adrodd yn gyffredinol mewn cyd-destunau eraill hefyd. Yr hyn y mae angen inni ei ddeall yw beth yw maint y broblem a pham ei fod yn digwydd. Mae pwysau arbennig ar ysgolion ar hyn o bryd, yn rhannol oherwydd yr ymateb i COVID, ac mae yna heriau ymddygiad wedi codi o ganlyniad i hynny, heb os. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw cydweithio â’n partneriaid i ddeall y broblem yn ei chyfanrwydd, fel y gallwn ymateb yn llawn bryd hynny, ac yn amlwg dyna rydym yn ei wneud, fel y soniais.
Diolch, Weinidog. Rwy'n gwybod eich bod bob amser yn awyddus imi ddod â syniadau i'r Senedd i'ch helpu, felly dyma ni. Fe ddywedoch chi yma, nawr, fod angen inni ddeall maint y broblem. Felly, pam na wnewch chi gynnal uwchgynhadledd genedlaethol ar drais mewn ysgolion, ac yn ail, cyhoeddi canllawiau newydd i athrawon, staff ac arweinwyr ysgol; (3) diwygio gweithdrefnau gwahardd, fel bod pobl sy'n cael eu gwahardd wedyn yn mynd ymlaen i gael y cymorth sydd ei angen arnynt; (4) sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer ymyriadau ystyrlon i gefnogi dioddefwyr a chyflawnwyr trais, a (5) creu llinell gymorth genedlaethol i gefnogi athrawon a staff sy'n ofni adrodd am drais ac aflonyddwch. Felly, Weinidog, a wnewch chi gytuno i edrych ar yr awgrymiadau a wnaed gennyf heddiw, ac yn olaf, rhoi'r sylw y mae'n ei haeddu i’r mater? Mae ein myfyrwyr yn haeddu gwell, ac mae ein hathrawon yn haeddu gwell. Diolch.
Wel, diolch i’r Aelod am ddod ag awgrymiadau cadarnhaol i’r drafodaeth; rwy’n croesawu’n llwyr y cywair newydd yn ei chyfraniad. Felly, yr hyn y byddwn yn ei wneud yw gweithio ar hyn gyda'n partneriaid, sy'n arbenigwyr yn y maes—felly, gyda'n partneriaid yn yr undebau athrawon, gyda'n partneriaid yn yr awdurdodau addysg lleol, a chydag arbenigwyr eraill, i ddeall y pwyntiau a wneuthum yn fy atebion blaenorol i’r Aelod yn gynharach. Mae’n fater pwysig, ac mae pob un ohonom eisiau deall, gyda’n gilydd, beth sy’n digwydd a pham, fel y gallwn gael ymateb gwybodus i hynny.
Gwnaeth bwynt penodol am waharddiadau. Fe fydd hi'n gwybod fy mod, yn gynharach yn yr wythnos, wedi cyhoeddi'r canllawiau presenoldeb ar gyfer ymgynghoriad. Ochr yn ochr â hynny, mae gwaith eisoes yn digwydd mewn perthynas â gwaharddiadau i adnewyddu’r canllawiau hynny, a bydd yn cwmpasu rhai o’r pwyntiau y mae hi wedi’u gwneud heddiw. Felly, mae’r gwaith hwnnw eisoes ar y gweill, a byddaf yn hapus iawn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd am y gwaith hwnnw maes o law.
Llefarydd Plaid Cymru nawr—Sioned Williams.
Diolch, Llywydd. Prynhawn da, Gweinidog. Mae data HESA ar gyfer 2021-22, a gafodd ei ryddhau yn ddiweddar, yn dangos sector addysg uwch yng Nghymru sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â chostau cynyddol. Mae diwedd y flwyddyn academaidd hon wedi'i ddominyddu gan bryderon am brisiau ynni a chwyddiant cynyddol, gweithredu diwydiannol dros gyflogau a phensiynau, pryderon ynghylch caledi myfyrwyr, ac mae gwerth y cap ffioedd cartref yng Nghymru yn gostwng yn gyflym felly, a’r sector wedi bod yn gorfod torri gwariant a gwneud arbedion yn wyneb rhewi’r ffioedd ers nifer o flynyddoedd. Canlyniad anorfod hyn yw bod staff yn wynebu gorfod gwneud mwy heb y cynnydd cymesur mewn cyflog nag adnoddau. Dim ond trwy gynyddu incwm trwy recriwtio y gall darparwyr gadw’u capasiti presennol nhw, ond heb y gallu i fuddsoddi er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiad o ansawdd da, mae’n gylch dieflig.
All y Gweinidog, felly, amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r bwlch incwm gwariant pryderus yma sy’n cael ei arddangos yn y ffigurau HESA ar gyfer prifysgolion Cymru? Sut ŷch chi’n mynd i gefnogi sefydliadau addysg uwch yng Nghymru i’r dyfodol yn sgil hyn?
A, Llywydd, dylwn i fod wedi datgan diddordeb bod fy ngŵr yn gyflogedig gan Brifysgol Abertawe.
Wel, dwi ddim yn gwybod os oedd yr Aelod yn fy meirniadu i am beidio â chynyddu ffioedd, ond dwi ddim yn bwriadu cynyddu ffioedd. Mae’n gyfnod anodd i fyfyrwyr ar hyn o bryd, ac felly rwy’n sicr bod angen cefnogi sefydliadau, ond mae hefyd eisiau sicrhau nad yw myfyrwyr yn talu hefyd yn ychwanegol. Felly, mae cyllideb eleni i’r sector dros ryw £212 miliwn i’r sector, felly mae'n gyllideb sylweddol iawn. Rŷn ni wedi gwneud ein gorau glas i sicrhau, o fewn y pwysau aruthrol sydd ar gyllideb Llywodraeth Cymru, ein bod ni’n parhau i flaenoriaethu buddsoddi mewn sefydliadau addysg uwch, a dyna beth rŷn ni wedi’i wneud eleni. Dwi ddim am eiliad yn tanystyru’r pwyntiau y mae’r Aelod yn eu gwneud; maen nhw’n bwyntiau pwysig. Mae pwysau ar sefydliadau, fel sydd ar bob rhan arall o’n gwasanaethau ni a’n cymdeithas a’n heconomi ni. Dwi mewn trafodaeth gyson gyda’r is-gangellorion ar hyn o bryd i weld beth yw goblygiadau, beth yw implications, hyn, a beth mwy y gallwn ni ei wneud ar y cyd i weithredu efallai mewn ffyrdd gwahanol, er mwyn cydnabod bod y pwysau ariannol gyda ni yn bwysau real iawn, ac mae’r trafodaethau hynny wedi bod yn rhai creadigol a chalonogol ac yn mynd i barhau.
Diolch. Mae strategaeth gwaith ieuenctid y Llywodraeth yn datgan yn glir pa mor bwysig yw rôl gwaith ieuenctid i Gymru, i hyrwyddo ac annog cyfleoedd ar gyfer pob person ifanc, er mwyn iddynt allu cyflawni’r potensial i fod yn unigolion sydd wedi’u grymuso, ac fel aelodau o grwpiau a’r gymuned, a thrwy hynny wella eu cyfleoedd bywyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi yn y strategaeth hon ac mae ei bwrdd gweithredu ar waith ieuenctid wedi ymrwymo i hyrwyddo gwaith ieuenctid fel proffesiwn ac fel gyrfa. Mae’n destun pryder a siom felly fod prifysgol Wrecsam wedi cael gwared ar ei rhaglen israddedig ar waith ieuenctid a chymunedol yn swyddogol, ac o ganlyniad i hyn, nid oes llwybr cydlynol bellach o’r cymhwyster cymorth gwaith ieuenctid lefel 3 i gymhwyster proffesiynol yng ngogledd a chanolbarth Cymru; darpariaeth MA yn unig fydd yn parhau. Mae pryder eang am hyn yn y sector; mae'r MA, meddent, yn anaddas i lawer o'r ymgeiswyr israddedig posibl sy'n dod i fyny trwy waith yn eu cymunedau lleol. Mae graddedigion o Wrecsam gan amlaf yn mynd ymlaen i ymarfer yng ngogledd Cymru ac mae hyfforddiant mewn mannau eraill yn creu risg y byddant yn aros yn ne Cymru, neu yn rhywle arall yn y DU hyd yn oed, ac yna hefyd, wrth gwrs, yn methu manteisio ar gyfleoedd cyfrwng Cymraeg lleol ar draws y rhanbarth. Felly, a fyddech cystal ag amlinellu pa drafodaethau a gawsoch gyda phrifysgol Wrecsam ynglŷn â chael gwared ar y rhaglen israddedig hon, a pha asesiad a wnaed gan y Llywodraeth o sut mae ei dileu yn effeithio ar nifer yr israddedigion sy’n mynd ymlaen i ymarfer gwaith ieuenctid a chymunedol proffesiynol yng ngogledd a chanolbarth Cymru?
Wel, mae’r Aelod yn iawn i nodi bod cefnogi a chryfhau’r ddarpariaeth gwaith ieuenctid ledled Cymru yn flaenoriaeth i mi fel Gweinidog, ond mae hefyd yn flaenoriaeth drawslywodraethol. Mae’n rhan o’n rhaglen lywodraethu, ac mae a wnelo hynny â nifer o bethau. Mae'n ymwneud â cheisio adolygu'r strwythur ariannu ar gyfer darpariaeth gwaith ieuenctid ledled Cymru, sy'n amrywio mewn gwahanol rannau o Gymru, rwy'n credu. Rydym hefyd wedi gwneud ymrwymiadau ariannol sylweddol i’r sector. Mae gwaith y bwrdd gweithredu yn wirioneddol werthfawr, ac yn parhau i helpu i arwain y ffordd drwy’r diwygiadau y ceisiwn eu cyflawni, ac rydym hefyd—fel y bydd yr Aelod yn gwybod—yn edrych ar y sail ddeddfwriaethol ar gyfer y ddarpariaeth o wasanaethau gwaith ieuenctid ledled Cymru. Nid wyf wedi cael trafodaethau mewn perthynas â’r cwrs israddedig penodol y mae’n cyfeirio ato yn ei chwestiwn. Yn amlwg, mater i brifysgolion fel sefydliadau ymreolaethol eu hunain yw darparu cyrsiau, ond fe geisiaf ddarganfod mwy mewn perthynas â’r cwrs penodol hwnnw, ac rwy’n hapus iawn i ysgrifennu at yr Aelod yn sgil hynny.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio asiantaethau i ddarparu cynorthwywyr addysgu mewn ysgolion? OQ59593
Gwnaf yn wir. Fel sy'n wir am bob mater staffio, wrth gwrs, ysgolion sy'n gyfrifol am benderfynu sut i recriwtio cynorthwywyr addysgu. Bydd eu penderfyniadau nhw yn wahanol yn ôl anghenion unigol yr ysgol a'i dysgwyr. Gall ysgolion gyflogi staff cyflenwi yn uniongyrchol neu drwy eu hawdurdod lleol neu asiantaeth gyflogi.
Ym mis Chwefror 2022, fe wnaethoch gyhoeddi eich bod yn creu grŵp llywio dysgu proffesiynol i gynorthwywyr addysgu er mwyn datblygu adnoddau pellach ar gyfer arweinwyr a llywodraethwyr ysgolion ar ddefnyddio cynorthwywyr addysgu. Deallaf fod y grŵp llywio wedi bod yn ystyried isafswm gofynion mynediad ar gyfer cynorthwywyr addysgu fel rhan o’i waith—os gallwch gadarnhau hynny. Ac fe dynnodd etholwr fy sylw at y ffaith bod rhai asiantaethau yn hysbysebu swyddi cynorthwywyr addysgu mewn ysgolion ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol nad ydynt yn galw am unrhyw gymwysterau o gwbl, ac rydym ychydig yn bryderus ynglŷn â hynny. A wnewch chi roi sylwadau ar hyn os gwelwch yn dda a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y grŵp llywio ar fater isafswm y gofynion mynediad, a phryd mae’r grŵp llywio’n debygol o adrodd ar y mater hwnnw?
Cawsom drafodaeth ddoe mewn gwirionedd, yn y cyfarfod y cyfeiriais ato mewn perthynas â'r cynnydd sy'n cael ei wneud gan y grŵp hwnnw, ac mae cynorthwywyr addysgu yn ganolog iddo ac yn arwain rhai agweddau arno, sydd, yn fy marn i, yn nodwedd wirioneddol bwysig ohono. Mae wedi bod yn edrych ar ystod o agweddau. Mae defnydd yn un agwedd, a thelerau ac amodau yn fwy eang, a sut y gallwn safoni dull o recriwtio, cyflogi a defnyddio rhwng y gwahanol awdurdodau lleol yng Nghymru, ac fel y gofynnodd yr Aelod yn ei gwestiwn, rhan sylweddol o’r gwaith yw gwella dysgu proffesiynol a hyfforddiant ar gyfer cynorthwywyr addysgu. Mae gan gynorthwywyr addysgu bellach yr un hawl ag athrawon i’r hawl dysgu proffesiynol cenedlaethol, ac mae’r cyllid sydd ar gael i ysgolion i gefnogi dysgu proffesiynol bellach yn ystyried nifer y cynorthwywyr addysgu ar gofrestr yr ysgol, yn ogystal â nifer yr athrawon. Felly, rwy'n credu bod newid amlwg yn y cymorth a ddarperir i gynorthwywyr addysgu o safbwynt dysgu proffesiynol. Mae’r grŵp hefyd yn edrych ar gwestiynau’n ymwneud â chymwysterau, fel y gŵyr yr Aelod. Mae gennym eisoes raglen hyfforddi trwy lwybr dysgu cynorthwywyr addysgu, sy’n darparu modd i gynorthwywyr addysgu gamu ymlaen yn eu gyrfa. Mae un o'r ystyriaethau'n ymwneud â chymwysterau proffesiynol yn ehangach. Mae arnaf ofn nad wyf yn cofio dyddiad yr adroddiad ar yr agwedd honno, ond rwy'n hapus i ddarparu'r wybodaeth benodol honno ar wahân i'r Aelod. Fe fydd yn cofio imi roi diweddariad i’r Senedd am waith grŵp gweithredu’r gweithlu yn ehangach ychydig fisoedd yn ôl, a byddaf yn ceisio gwneud hynny o bryd i’w gilydd dros y misoedd nesaf hefyd.
A gaf fi ddiolch i Hefin David am gyflwyno’r cwestiwn hwn? Fel cyn gynorthwyydd addysgu asiantaeth fy hun, fel y gŵyr y Gweinidog, rwy’n arbennig o falch eich bod wedi cyflwyno hyn heddiw. Os gwnaiff y Gweinidog ganiatáu imi fynd ar daith fer a chyflym ar hyd llwybr atgofion, Weinidog, fe fyddwch wedi gweld amser hapus iawn i mi, ond roeddwn am dynnu eich sylw at un enghraifft yn arbennig heddiw. Yn amlwg, fel cynorthwyydd addysgu a gyflogid gan asiantaeth, cawn fy nhalu ar gyfradd ddyddiol, ac ar un diwrnod penodol, fe wnaeth hi fwrw eira ac roedd y pennaeth wedi barnu ei bod yn anniogel ac felly, fe wnaeth anfon y plant adref amser cinio. Roedd hynny'n golygu mai dim ond hanner diwrnod o dâl a gefais y diwrnod hwnnw, a oedd yn effeithio ar gyllidebau wythnosol ac ystyriaethau eraill, yn amlwg, ac roedd gennyf yr un costau teithio i ac o’r ysgol ar y diwrnod hwnnw. Yn amlwg, rwy’n deall nad oes gennych bwerau dros gyfraith cyflogaeth, ond mae gennych bwerau dros ganllawiau y gallwch eu rhoi i benaethiaid ac arweinwyr ysgolion wrth wneud penderfyniadau fel hynny. Felly, a gaf fi ofyn pa gamau a roddwyd ar waith gennych yn y maes hwn i sicrhau na fydd yn rhaid i unrhyw gynorthwywyr addysgu eraill yn y dyfodol gael yr un profiad â mi, yr holl flynyddoedd hynny yn ôl?
Mae’r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn, ac yn fwy pwerus felly am ei fod wedi’i seilio ar ei brofiad ei hun ohono, wrth gwrs. Mae'n iawn i ddweud nad oes gennyf bwerau uniongyrchol mewn perthynas â hynny, ond y rheswm pam y lansiais y rhaglen waith hon dros flwyddyn yn ôl yw oherwydd straeon fel yr un y mae'r Aelod newydd ei roi a phrofiadau o ymarfer sy'n amrywio rhwng ysgolion ac yn sicr rhwng awdurdodau addysg lleol hefyd. Pwynt y gwaith yw arwain at ganllawiau mewn perthynas â llawer o’r cwestiynau hynny, cwestiynau’n ymwneud â thelerau ac amodau, cynnydd gyrfaol, ond hefyd cwestiynau y credaf y byddant yn darparu sylfaen inni allu symud ymlaen ar fater tâl hefyd, sy’n hollbwysig, o brofiad pob cynorthwyydd addysgu unigol, ond hefyd i wneud yn siŵr fod gennym weithlu o gynorthwywyr addysgu i wneud y gwaith gwych y maent yn ei wneud yn ein hysgolion.
4. Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gefnogi ysgolion sy'n dymuno cynnal clybiau gwyliau? OQ59595
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i dyfu rhaglen gwella gwyliau'r haf ac mae £4.85 miliwn wedi'i ddyrannu i'r rhaglen ar gyfer eleni. Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau yn gweithio'n agos i sicrhau cysondeb rhwng rhaglen gwella gwyliau'r haf a'r rhaglen wyliau Gwaith Chwarae, sy'n cael ei rhedeg gan ddarparwyr chwarae a gofal plant.
Rwy'n ddiolchgar am yr ateb hwnnw, Weinidog, ac am y gefnogaeth rydych yn ei chynnig i ysgolion. Mae gan Ysgol Pen Coch yn sir y Fflint uchelgais fel ysgol i redeg clwb gwyliau hefyd, ond fel ysgol, maent yn wynebu heriau ychwanegol. Gyda'r hyn rydych wedi'i ddweud, tybed a oes unrhyw gefnogaeth ychwanegol y gallai Llywodraeth Cymru ei darparu i ysgolion, fel Ysgol Pen Coch, i sicrhau darpariaeth o glybiau gwyliau. Ac a wnewch chi ofyn naill ai i'ch swyddogion yn yr adran addysg neu i swyddogion y Dirprwy Weinidog yn yr adran iechyd a gwasanaethau cymdeithasol edrych ar achos penodol Ysgol Pen Coch. Ac os gallant adrodd yn ôl i mi ar hynny hefyd, byddai hynny'n wych.
Rwy'n hapus i wneud hynny, Lywydd. Yn gyffredinol, lle mae gan ysgol ddiddordeb mewn rhedeg clwb gwyliau, byddant yn cysylltu â'u hawdurdod lleol yn y lle cyntaf, ac yna gall awdurdodau lleol eu rhoi mewn cysylltiad â darparwyr eraill a allai fod â diddordeb mewn cydweithio â nhw. O ran y rhaglen gwella gwyliau'r haf, Bwyd a Hwyl, byddaf yn gwneud yn siŵr fod fy swyddogion yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau bod gan yr ysgol unrhyw wybodaeth sydd ei hangen arni er mwyn gallu bwrw ymlaen â hynny.
Mae etholwyr wedi cysylltu â minnau hefyd ynglŷn ag Ysgol Pen Coch, sef yr unig ysgol gynradd a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer plant anabl yn sir y Fflint, lle mae gan lawer o'r disgyblion awtistiaeth a chyflyrau cysylltiedig neu anghenion cymhleth, a lle byddai clwb gwyliau yn gwneud gwahaniaeth enfawr i les disgyblion a'u teuluoedd. Fodd bynnag, fel y clywsom, yn wahanol i ysgolion eraill yn y sir, nid oes gan yr ysgol hon ddarpariaeth clwb gwyliau, lle byddai hyn yn llawer drutach na mewn ysgol brif ffrwd yn ôl yr hyn y mae etholwyr yn ei ddweud wrthyf, ac nid oes ganddynt arian ac arbenigedd, gan adael rhieni a llywodraethwyr i'w weithredu, sy'n afrealistig. Ac fel maent yn ei ddweud, mae plant mewn ysgolion arbennig yn cael eu trin yn wahanol i blant mewn ysgolion prif ffrwd, pan fo angen rhagor o ddarpariaeth ar gyfer eu hymddygiad a'u gwelliannau, ac angen ei hasesu. Felly, pa ofyniad penodol, os o gwbl, sy'n bodoli ar gyfer darpariaeth o'r fath mewn ysgolion cynradd yn gyffredinol, ac mewn ysgolion cynradd arbenigol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn enwedig?
Wel, rwy'n gobeithio y bydd yr ateb a roddais i Jack Sargeant yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r Aelod y byddaf yn gofyn i fy swyddogion weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gefnogi ysgolion yn benodol, i ddeall beth yw'r rhwystrau arbennig a'r ffordd orau o fynd i'r afael â nhw ar lefel ysgolion.
5. Pa gynnydd sydd wedi ei wneud ar ddarparu cyfloedd trochi yn y Gymraeg i ddysgwyr oed ysgol yng Nghanol De Cymru? OQ59588
Rwyf wedi ymrwymo £6.6 miliwn dros weddill cyfnod y Senedd hon i ehangu darpariaethau trochi hwyr ar draws Cymru. Mae bron £1 filiwn yn cael ei buddsoddi dros gyfnod o dair blynedd i sefydlu darpariaethau newydd yn siroedd Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg, ac i ehangu yn sylweddol y ddarpariaeth sydd yng Nghaerdydd.
Diolch yn fawr iawn. Dwi'n gwybod ein bod ni yn hollol gytûn o ran gwerth trochi. Rydyn ni i gyd wedi adlewyrchu’n flaenorol gweld pobl o Wcráin, er enghraifft, wedi manteisio ar hynny a dod yn hollol rugl yn y Gymraeg. Ond eto, mae yna amrywiaethau mawr ar y funud yn fy rhanbarth fy hun. Er enghraifft, ym Mro Morgannwg, diolch i'r buddsoddiad gan y Llywodraeth, mae'n bosib i blentyn fod am 12 wythnos mewn ysgol, o ddydd Llun i ddydd Iau, lle mae’r profiad yn Rhondda Cynon Taf ar y funud ydy efallai awr y diwrnod, sy'n wahaniaeth mawr. Felly, beth hoffwn weld ydy sut ydyn ni'n sicrhau bod trochi, a throchi gwirioneddol felly, er mwyn i blant a phobl ifanc gael y cyfle i fedru’r Gymraeg—. Sut ydyn ni'n sicrhau nad loteri cod post mo’r profiad hwnnw, a’n bod ni'n gallu rhoi’r un math o gynnig, boed ichi fod ym Mro Morgannwg, Caerdydd neu Rhondda Cynon Taf, sef y tair ardal o ran awdurdodau lleol yn fy rhanbarth i?
Wel, y newyddion calonogol yw bod pob awdurdod wedi rhoi cynnig i mewn am ran o'r gyllideb hon, ac mae rhywfaint wedi'i ddyrannu i bob awdurdod. Ond y gwir plaen amdani yw bod pob rhan o Gymru mewn lle gwahanol yn eu siwrne o ran gallu darparu trochi hwyr. Mae rhai awdurdodau wedi bod yn gwneud hyn am ddegawdau, yn arloesi, ac mae eraill yn dilyn eu hesiampl nhw. Felly, dwi ddim yn credu ei bod hi'n realistig heddiw i ddisgwyl bod y ddarpariaeth yn gyson ym mhob rhan o Gymru, yn anffodus, ond beth hoffwn i weld fel rhan o'r darpariaethau yn y Bil—rŷn ni wedi bod yn ymgynghori ar hyn fel rhan o'r Papur Gwyn gyda Phlaid Cymru, fel mae'r Aelod yn gwybod—yw beth allwn ni wneud i sicrhau, ym mhob awdurdod lleol, fod trochi hwyr ar gael a bod awdurdodau'n hybu'n rhagweithiol fanteision hynny fel bod yr argaeledd yn amlycach i bobl a'r ddarpariaeth yn fwy cyson dros amser.
Weinidog, fel pe bai wedi amseru hynny'n berffaith, mae'r Cadeirydd newydd ddod i mewn o'r pwyllgor diwylliant, y Gymraeg a chwaraeon, gan eu bod newydd gyhoeddi adroddiad ar allu ysgolion i gynnig addysg Gymraeg sy'n caniatáu i'r iaith ffynnu yn ein lleoliadau ysgol, ac mae rhan o'r adroddiad hwnnw'n nodi'r gallu i athrawon gymryd cyfnod sabothol i feithrin eu sgiliau Cymraeg. Y ffigur yr amcangyfrifir y byddai ei angen yw oddeutu 17,000 o athrawon ledled Cymru i ymuno â'r rhaglen sabothol honno. A yw hwn yn ffigur rydych chi'n ei gydnabod? Ac os yw'n ffigur y mae'r Llywodraeth yn ei gydnabod, pa ymdrechion rydych chi'n eu gwneud i hyrwyddo'r gallu i athrawon fanteisio ar y cyfleoedd hyfforddi hynny ac yn y pen draw, i gynyddu'r gallu i'r Gymraeg gael ei derbyn naill ai mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, neu mewn ysgolion Cymraeg wrth gwrs?
Wel, mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig ar y diwedd yno nad yw'n ymwneud ag athrawon yn y sector cyfrwng Cymraeg yn unig; mae hefyd yn ymwneud ag athrawon sy'n addysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Rwy'n credu bod angen inni fod yn glir fod amrywiaeth o anghenion ar draws y system. Nid wyf yn derbyn mai'r unig ffordd o sicrhau ein bod yn cyrraedd y targed hwnnw yw drwy'r cynllun sabothol, er fy mod yn derbyn ei fod yn gyfraniad sylweddol i'r cynnydd rydym am ei wneud, ond ni fydd yn gweithio yn yr holl amgylchiadau, ac yn sicr nid dyma'r unig ffordd o wneud y cynnydd hwnnw. Mae ein hymrwymiad i'r cynllun sabothol yn gwbl glir; rydym wedi parhau'r cyllid ar ei gyfer, a byddaf yn ceisio gwneud hynny, yn amlwg, yn y blynyddoedd i ddod hefyd. Pan ewch i weld—. Rwyf wedi cael cyfle i fynd i siarad â dosbarthiadau o athrawon, yn yr ysgolion cynradd yn gyffredinol, sydd wedi profi'r cyfle nid yn unig i ddysgu Cymraeg ac i addysgu drwy'r Gymraeg, ond yr ymagwedd honno tuag at addysgeg drwy gyfrwng y Gymraeg y maent yn ei dysgu. Mae'n hollol ddiddorol ei weld yn digwydd, ac mae'n amlwg yn ffordd lwyddiannus iawn o allu cynyddu'r niferoedd sy'n gallu addysgu'r Gymraeg. Ond fel rwy'n dweud, dim ond un o'r ffyrdd o wneud hynny yw hi.
Mae cwestiwn 6 [OQ59606] wedi'i dynnu'n ôl. Cwestiwn 7, Tom Giffard.
7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod dysgwyr yn derbyn addysg Gymraeg o safon? OQ59605
Rŷn ni'n gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i'w cefnogi nhw yn gweithredu cynlluniau Cymraeg mewn addysg i sicrhau bod dysgwyr yng Nghymru â mynediad hafal i addysg cyfrwng Cymraeg o safon, ac mae gennym ni gynlluniau ar waith i sicrhau bod hynny'n digwydd.
Diolch i chi am eich ateb, Gweinidog. Dwi'n gwybod eich bod chi'n cytuno gyda fi am bwysigrwydd addysg cyfrwng Cymraeg dda ym mhob cyfnod o fywyd. Byddwch yn ymwybodol o adroddiad Estyn o fis Tachwedd ar ddysgu oedolion mewn partneriaeth gymunedol yn Abertawe a amlygodd nad yw Cymraeg a diwylliant Cymru wedi'u hymgorffori yn y cwricwlwm yn Abertawe, a bod ychydig iawn o ddysgwyr yn ymarfer, defnyddio neu ddatblygu eu medrau Cymraeg fel rhan o'r ddarpariaeth, ac nad yw'r bartneriaeth yn arfarnu cyfraddau deilliant dysgwyr na chyrchfannau ar ddiwedd y cyfnod astudio. Rwy'n gwybod eich bod chi'n ymwybodol o bwysigrwydd cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, ond nid ydym ni'n mynd i gyrraedd y targed hynny oni bai bod hyn yn cael ei gymryd o ddifrif ledled y wlad, a hefyd yn Abertawe. Felly, pa gamau ydych chi wedi'u cymryd o ganlyniad i'r adroddiad hynny i sicrhau bod oedolion a phawb yn gallu siarad Cymraeg yn y ffordd maen nhw'n moyn?
Wel, mae'n bwysig i sicrhau bod ysgolion yn cael eu cefnogi gydag adnoddau a darpariaethau i allu diwallu anghenion y cwricwlwm, ac, fel mae'r Aelod yn gwybod, mae pob ysgol nawr sy'n dysgu'r cwricwlwm yn dysgu rhywfaint drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae hynny'n digwydd am y tro cyntaf, felly mae hynny'n galonogol iawn. Beth rŷn ni eisiau ei weld fel rhan o'n cynlluniau—ac mae hyn yn y Papur Gwyn hefyd—yw bod mwy a mwy o gynnydd a mwy a mwy o ddarpariaeth ym mhob ysgol o ran addysg cyfrwng Cymraeg. Felly, mae hynny'n heriol, wrth gwrs, i allu cyflawni hynny, ond mae'n bwysig bod gennym ni'r nod uchelgeisiol hwnnw fel bod gan bob rhan o'r system y nod cyffredin hwnnw i'w wneud. Mae hynny'n cynnwys y rheini sydd â'u swyddogaeth i gefnogi ysgolion, yn cynnwys y consortia, y gwasanaethau gwella safonau ysgolion ac ati. Ac rŷn ni ar fin diwygio rhyw elfennau o sut rŷn ni'n ariannu darpariaeth i wella safonau addysg yn y Gymraeg, felly byddaf i yn gwneud datganiad maes o law ynglŷn â'r cynlluniau newydd rheini.
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau absenoldeb ysgol? OQ59620
Rydym wedi buddsoddi £2.5 miliwn yn y gwasanaeth lles addysg eleni, er mwyn galluogi'r gwasanaeth i ddarparu cymorth cynharach, cyn i faterion waethygu, a chymorth mwy dwys i ddysgwyr â lefelau absenoldeb uchel. Yn ogystal, mae ymgynghoriad ar y gweill ers dechrau'r wythnos hon ar ganllawiau presenoldeb drafft i gefnogi ysgolion a rhieni i wella presenoldeb dysgwyr.
Rwyf wedi siarad â chi sawl gwaith ynglŷn â hyn, ac rydym wedi clywed amdano yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Yn amlwg, mae nifer o resymau pam fod lefelau mor uchel o absenoldeb, ond un o'r ffactorau sy'n cyfrannu yw diffyg cludiant i'r ysgol a chost cludiant i'r ysgol. Tybed a allech chi wneud ychydig o sylwadau ar hynny, os gwelwch yn dda?
Wel, fel y gŵyr yr Aelod, mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn darparu safonau gofynnol penodol ar gyfer gofynion trafnidiaeth, ac mae adolygiad o hynny ar y gweill ar hyn o bryd. Bydd yr Aelod yn gwybod hefyd am y gwaith y mae'r Dirprwy Weinidog yn ei wneud mewn perthynas â gwasanaethau bysiau yn fwy eang, er enghraifft, sydd wedi bod yn heriol iawn, yn amlwg, ac sydd wedi peri cryn bryder yng nghyd-destun cludiant i'r ysgol yn benodol, a gwn y bydd ganddo fwy i'w ddweud am hynny cyn bo hir.
9. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi cynnal am gyllid ysgolion yng Nghaerdydd? OQ59613
Wel, yn enwedig mewn cyfnod sy'n heriol yn ariannol, mae'n hollbwysig defnyddio pob sianel cyfathrebu ac ymgysylltu yn hyn o beth. Rwy’n trafod yn agos gyda llywodraeth leol ar faterion cyllidebol ac yn cwrdd ag arweinwyr, drwy'r is-grŵp cyllid a grwpiau eraill, fel y bo'n briodol. Rwyf hefyd yn ymweld ag ysgolion er mwyn clywed drosof i fy hun am brofiadau penaethiaid o ran cyllid.
Diolch, Weinidog. Darllenais i â diddordeb mawr yn ddiweddar am eich ymweliad ag Ysgol Mynydd Bychan a'r gwaith arloesol maen nhw'n ei wneud yna i ddatblygu diddordeb yng ngwleidyddiaeth Cymru fel rhan o'r cwricwlwm newydd. Mae nifer ohonom ni wedi cael cyfle i groesawu Ysgol Mynydd Bychan, ar sawl achlysur, i'r Senedd. Wrth gwrs, un o brif hanfodion sicrhau arfer dda yw cyllideb ddigonol. Yn ôl y sôn, mae tua 50 o ysgolion Caerdydd yn gweithredu bellach ar ddiffyg yn eu cyllideb. Pa gefnogaeth ymarferol ŷch chi'n gallu ei rhoi i sicrhau bod ysgolion yn gwella eu sefyllfa ariannol? Diolch yn fawr.
Mae'r Aelod yn gwybod bod y system sydd gennym ni yng Nghymru yn seiliedig ar y ffaith mai cynghorau lleol sydd yn ariannu ysgolion yn uniongyrchol. Ond, er mwyn darparu'r gefnogaeth ariannol i sicrhau bod hynny'n bosib, wrth gwrs mae Llywodraeth Cymru, llynedd, wedi cynyddu'r gyllideb i gynghorau lleol yn sylweddol, ac roedd hynny'n wir y flwyddyn gynt hefyd. Wrth gwrs, mae'r pwysau ar gyllideb ysgolion a chyllideb cynghorau ac ar gyllideb Llywodraeth Cymru yn hysbys i bawb erbyn hyn. Beth rŷn ni wedi'i wneud fel Llywodraeth yw sicrhau, pan gafwyd arian Barnett yn ddiweddar yn sgil penderfyniadau yn San Steffan—penderfyniadau cwbl annigonol, gyda llaw—gwnaethom ni sicrhau bod yr arian hynny yn mynd yn syth i gynghorau lleol i ddarparu ar gyfer ysgolion.
Beth rwyf wedi gallu ei wneud yn fy nghyllideb i, sydd hefyd yn cael ei defnyddio yn rhannol i ariannu ysgolion, yw sicrhau bod yr elfennau sydd o fewn fy nghyllideb, hynny yw, y PDG a'r arian sydd yn mynd i ysgolion i ddelio ag effeithiau COVID, sydd yn dal yn real yn ein hysgolion ni, naill ai wedi aros ar yr un lefel neu wedi cynyddu. Byddwn i'n hoffi bod gennym ni fel Llywodraeth fwy o gyllideb i allu gwario ar wasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol. Yr unig ffordd o wneud hwnna yw sicrhau Llywodraeth wahanol yn San Steffan, sy'n barod i fuddsoddi ar draws y Deyrnas Gyfunol, a bod gennym ni arian, wedyn, i allu buddsoddi ymhellach yn ein hysgolion ni. Ond, yn y cyfamser, rŷn ni'n gwbl ymrwymedig i wneud y penderfyniadau mwyaf blaengar gallwn ni fel Llywodraeth, gyda'r gyllideb honno, ac i wario pob ceiniog gallwn ni ar ein hysgolion ni.
Fel anrheg pen-blwydd i chi, Vikki Howells, rwyf wedi cyrraedd cwestiwn 10. Cwestiwn 10. [Chwerthin.]
Diolch, Lywydd.
10. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant i fyfyrwyr a staff yn y sector addysg bellach? OQ59589
A gaf i ddymuno pen-blwydd hapus i'r Aelod hefyd? Ers 2019, mae dros £17 miliwn wedi'i ddyrannu i'r sector addysg bellach i ariannu cynlluniau a phrosiectau i gefnogi iechyd meddwl a lles dysgwyr a staff. Yn 2023-24, bydd buddsoddiad pellach o £4 miliwn yn cael ei ddyrannu'n uniongyrchol i sefydliadau addysg bellach i barhau i ddarparu'r cymorth sydd ei angen arnynt.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn cynllunio ymgyrch gyfathrebu i godi ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth cymorth iechyd meddwl dros y ffôn arloesol, '111 Dewis 2'. Pa drafodaethau rydych chi wedi'u cael gyda chyd-Aelodau yn y Llywodraeth ynglŷn â datblygu adnoddau a all dargedu myfyrwyr a staff yn benodol yn y system addysg, fel eu bod yn ymwybodol o'r gwasanaeth siop un stop uniongyrchol y mae '111 Dewis 2' yn ei ddarparu?
Mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn. Diolch i Vikki Howells am ei godi. Yn ddiweddar, roeddwn mewn coleg addysg bellach yng ngogledd Cymru pan wnaethom gyhoeddi'r buddsoddiad pellach, ac mae'n amlwg i mi fod colegau'n mynd ati'n gyson ac yn greadigol iawn i chwilio am ffyrdd newydd o dynnu sylw eu dysgwyr at y cymorth y maent yn ei ddarparu, weithiau'n lleol, weithiau'n genedlaethol. Mae'r gwasanaeth '111 Dewis 2', wrth gwrs, yn wasanaeth pob oed, ac mae ar gael i bawb ar gyfer cymorth a chyngor iechyd meddwl brys, ac mae hyn yn cynnwys myfyrwyr mewn addysg bellach ac addysg uwch.
Felly, i ateb cwestiwn yr Aelod, bydd fy swyddogion yn gweithio gyda'r sector i godi ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth, ac yn bwysig, i sicrhau y defnyddir dull integredig, fel ei fod wedi'i integreiddio â'r ystod lawn o gymorth sydd ar gael i fyfyrwyr, sy'n cynnwys gwasanaethau cwnsela mewn colegau a phrosiectau arbenigol fel SilverCloud a Kooth Student. Credaf fod colegau wedi datblygu arbenigedd sylweddol yn teilwra cymorth llesiant i anghenion penodol eu myfyrwyr, ac maent wedi gweithio'n gydweithredol iawn â'i gilydd i gynhyrchu corff sylweddol iawn o adnoddau a deunydd dysgu proffesiynol i staff hefyd dros y blynyddoedd diwethaf.
Dylwn ddweud bod y grŵp cynghori ar iechyd meddwl mewn addysg bellach ac addysg uwch, sy'n cael ei gadeirio gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, hefyd yn ystyried y ffordd orau o sicrhau dull cydlynol o gefnogi lles myfyrwyr, ac mae hynny'n cynnwys cyfathrebu'r ystod o gymorth i sefydliadau ac i'r myfyrwyr eu hunain.
Yn olaf, cwestiwn 11, Sioned Williams.
11. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â chost y diwrnod ysgol? OQ59610
Mae ein grant hanfodion ysgol wedi gwneud gwahaniaeth mawr i lawer o deuluoedd incwm is ledled Cymru, gan helpu i leihau’r pryder ynghylch prynu gwisg a chyfarpar ysgol. Mae cyllid o £13.6 miliwn wedi ei ddarparu ar gyfer y grant hwn yn 2023-24.
Diolch, Weinidog. Rŷm ni wedi bod yn clywed mwy am brosiectau i ailddefnyddio gwisgoedd ysgol yn ddiweddar. Bu pedwar disgybl o Ysgol Maesteg yn cwrdd â'r Brenin ar ôl ennill gwobr gan y Prince's Trust am eu prosiect yn ailgylchu a chyfnewid gwisgoedd ysgol am ddim. Ond fe wnaeth arolwg a gomisiynwyd gan My Nametags ffeindio bod 1.4 miliwn o eitemau gwisg ysgol gwisgadwy yn cael eu taflu bob blwyddyn, gydag 81 y cant o rieni wastad yn prynu gwisgoedd ysgol newydd sbon, a hanner y rhai a holwyd yn dweud doedden nhw ddim eisiau i'w plant nhw wisgo dillad oedd wedi cael eu gwisgo o'r blaen.
Mae etholwr i mi, Laura Santiago, sy'n is-gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymraeg Trebannws, wedi bod mewn cysylltiad ynglŷn â siop gwisg ysgol ail law y mae hi a'i hysgol yn rhedeg, lle rŷch chi'n gallu prynu eitemau gwisg ysgol ar gyfer rhodd ariannol bach o'ch dewis, a'r holl elw yn mynd nôl i'r ysgol. Mae Laura yn dweud bod y fenter yn fodd o sicrhau nid yn unig bod gwisgoedd ysgol o ansawdd da ar gael i bawb am gost bach, ond mae hefyd yn cael effaith gadarnhaol, wrth gwrs, ar yr amgylchedd. Fodd bynnag, mae'n credu bod angen mwy o gefnogaeth ar gyfer y modd yma o brynu gwisg ysgol er mwyn lleihau costau a gwastraff. O ystyried dyhead y Llywodraeth i leihau costau'r diwrnod ysgol, a fyddech chi'n fodlon ystyried sefydlu ymgyrch genedlaethol i hyrwyddo a normaleiddio siopau gwisg ysgol fel hyn, fel bod rhieni ym mhob rhan o Gymru yn gallu fforddio gwisg ysgol a hefyd leihau gwastraff?
Wel, mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig, a llongyfarchiadau i Laura Santiago am y gwaith mae hi'n ei wneud yn ysgol Trebannws. Mae arfer dda iawn yn digwydd mewn llawer iawn o ysgolion yng Nghymru—dyna glywsom ni pan wnaethom ni ymgynghori ar y canllawiau gwisg ysgol yn ddiweddar. Roedd ymateb cryf iawn o blaid sicrhau bod ysgolion yn gwneud mwy a mwy o ran cyfnewidfeydd a siopau gwisgoedd ail law, o ran fforddiadwyedd, ond hefyd, fel mae'r Aelod yn ei ddweud, cynaliadwyedd. Mae hefyd yn gyfle gwych i adlewyrchu ethos yr ysgol. Yn aml iawn y disgyblion sy'n fwyaf brwdfrydig dros fod yn rhan o hyn, ac mae hynny'n beth calonogol iawn, rwy'n credu.
O ran sicrhau bod hyn yn cael ei ledaenu ar draws Cymru, dyna yn union pam rŷn ni wedi newid y canllawiau gwisg ysgol fel ei bod hi nawr yn ofynnol i ysgolion wneud hynny, a byddwn ni'n disgwyl i bob corff llywodraethol edrych ar hynny nawr, a sicrhau eu bod nhw'n dodi trefniadau yn eu lle.
Diolch yn fawr i'r Gweinidog.
Does yna ddim cwestiynau amserol heddiw.
Ond mae yna ddau ddatganiad 90 eiliad, y cyntaf gan Vikki Howells.
Diolch, Lywydd. Roedd Tyrone O'Sullivan yn un o gewri'r mudiad Llafur, yr undebau llafur a'r mudiad cydweithredol. Roedd ei angerdd a'i optimistiaeth dros ein Cymoedd yn amlwg. Pan oedd yn ysgrifennydd cangen leol Undeb Cenedlaethol y Glowyr, arweiniodd Tyrone bryniant pwll glo'r Tower gan y gweithwyr, sef y pwll dwfn olaf yng Nghymru. Dyma'r pwll glo lle bu'n gweithio ar hyd ei oes, y pwll glo a hawliodd fywyd ei dad. Pan gaeodd Llywodraeth y DU y pwll ym 1994, cyfunodd y 239 o weithwyr eu tâl dileu swydd, a phrynu pwll glo'r Tower. Hon oedd y frwydr olaf yn hanes y gwrthdaro rhwng glowyr de Cymru a San Steffan, brwydr y chwaraeodd Tyrone ran lawn ynddi, brwydr lle'r arweiniodd y glowyr i fuddugoliaeth—buddugoliaeth a gadwodd y pwll ar agor, yn cyflogi pobl leol, yn rhoi arian i'r economi leol. Yn wir, roedd pwll glo'r Tower yn un o'r cyflogwyr mwyaf yng Nghwm Cynon pan gaeodd 13 mlynedd yn ddiweddarach. Wedyn, gwireddodd Tyrone ei freuddwyd o agor atyniad weiren wib i dwristiaid ar y safle.
Mae'n deg dweud bod Tyrone wedi breuddwydio'n fawr ac wedi cyflawni llawer. Yn anffodus, bu farw ar 28 Mai. Fel llawer o bobl, rwy'n falch o fod wedi gweithio gyda Tyrone a'i alw'n ffrind. Rwy'n cydymdeimlo'n fawr â'i wraig, Elaine, ei deulu a phawb a gafodd eu cyffwrdd a'u hysbrydoli ganddo. Gorffwys mewn hedd, Tyrone; byddwn yn sicrhau bod dy waddol yn parhau.
Roedd yr Arglwydd John Morris o Aberafan nid yn unig yn ffigwr enfawr ym mywyd gwleidyddol Cymru, roedd hefyd yn eiriolwr cryf dros Gymru a'i hiaith.
Lywydd, yn eich teyrnged iddo ddoe, fe dynnoch chi sylw at y ffordd y lluniodd ei fagwraeth gynnar yn Aberteifi ei farn wleidyddol a'i berthynas gref â'r byd amaeth yng Nghymru. Yn dilyn ei astudiaethau i ddod yn gyfreithiwr, daeth yn ffigur dylanwadol yn y gwaith o sefydlu Undeb Amaethwyr Cymru, ac nid anghofiodd y rôl bwysig y mae amaethyddiaeth yn ei chwarae ym mywyd Cymru ac economi Cymru. Symudodd ymlaen wedyn i fyd gwleidyddiaeth, ac ar 8 Hydref 1959, cafodd ei ethol yn AS dros fy etholaeth enedigol yn Aberafan, a pharhaodd yn AS i ni am bron i 42 mlynedd. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei deyrnged, yn ystod y cyfnod hwnnw, gwasanaethodd John yn y Llywodraeth yn y 1960au, 1970au a'r 1990au, o dan dri Phrif Weinidog Llafur gwahanol—Harold Wilson, James Callaghan a Tony Blair.
Ni ddylem ychwaith golli golwg ar ei gynnydd yn ei broffesiwn cyfreithiol i fod yn Gwnsler y Frenhines, gan ennill cryn barch ymhlith ei gyfoedion. Ond ar ôl gadael Tŷ'r Cyffredin, fe'i gwnaed yn Farwn Morris o Aberafan, a pharhaodd â'i rôl weithredol yn Nhŷ'r Arglwyddi hyd ei farwolaeth yr wythnos hon. Bydd nifer yma yn cofio ei ymweliad â'r Senedd a'i araith i goffáu Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru, Jim Griffiths.
Nawr, drwy gydol ei yrfa wleidyddol, roedd bob amser yn credu mewn datganoli llywodraeth, gan nodi ar fwy nag un achlysur nad oedd pobl Whitehall bob amser yn gwybod beth oedd orau i Gymru. Fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, cyflwynodd y refferendwm cyntaf ar ddatganoli yn y 1970au, ond ni chafodd ei ddigalonni pan fethodd hynny sicrhau'r pleidleisiau, a pharhaodd i weithio dros ddatganoli. Heb os, roedd yn ffigwr hollbwysig yn hanes sefydlu Senedd Cymru, ac mae pob un ohonom yn eistedd yma heddiw o ganlyniad i'r ymrwymiad hwnnw.
Lywydd, ar yr achlysur hwn, nid yw 90 eiliad yn caniatáu imi wneud cyfiawnder â gyrfa a chyfraniadau nodedig John Morris i fywyd Cymru, ond mae pob un ohonom wedi elwa o'i gredoau a'i weithredoedd, ac rwy'n siŵr fod ein meddyliau heddiw gyda'i wraig Margaret a'i deulu.
Diolch i chi, John, am bopeth rydych chi wedi'i wneud dros Gymru.
Diolch yn fawr am y ddwy deyrnged yna.
Eitem 5 yw'r eitem nesaf. Yr eitem hynny yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar 'Strategaeth a chynllun gweithredu seilwaith gwefru cerbydau trydan Llywodraeth Cymru'. Dwi'n galw ar Heledd Fychan i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8281 Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Strategaeth a chynllun gweithredu seilwaith gwefru cerbydau trydan Llywodraeth Cymru’, a osodwyd ar 28 Mawrth 2023.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd, ac mae'n bleser gen i agor y ddadl hon heddiw, yn enwedig a finnau'n Gadeirydd dros dro ar y pwyllgor, ond yn lwcus o fod wedi bod yn rhan o sesiwn dystiolaeth ar y pwnc hwn. Hoffwn ddiolch o galon i'r holl randdeiliaid hynny a gyfrannodd at waith y pwyllgor, yn ogystal ag aelodau’r pwyllgor ac, wrth gwrs, y swyddogion sy'n cynorthwyo ein gwaith ni.
Mae ein hadroddiad ar strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo cerbydau trydan wedi datgelu diffyg cynnydd siomedig, enghreifftiau o dorri addewidion, a diffyg uchelgais, sy'n destun pryder. Rydyn ni’n credu bod angen gweithredu ar frys i ymdrin â'r materion hyn a rhoi Cymru nôl ar y trywydd iawn.
Yn gynharach heddiw, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog y bydd £15 miliwn ar gael i helpu awdurdodau lleol i gynyddu nifer y cyfleusterau gwefru. Wrth gwrs, rydym yn croesawu'r cyhoeddiad hwn. Ond mae problemau yn y maes polisi hwn sy'n mynd y tu hwnt i gyllid. Roedd ein gwaith ni yn canolbwyntio ar strategaeth gwefru cerbydau trydan Llywodraeth Cymru a’r cynllun gweithredu cysylltiedig, a gyhoeddwyd yn 2021. Ac fel pwyllgor, roedden ni’n siomedig bod Llywodraeth Cymru, ddwy flynedd ar ôl cyhoeddi cynllun gweithredu 2021, wedi methu â hyd yn oed dechrau bwrw ymlaen â sawl cam allweddol.
Rwy’n ddiolchgar i’r Dirprwy Weinidog am ei ymateb i’n hadroddiad. Yn ôl ei arfer, mae wedi ymgysylltu â gwaith y pwyllgor yn adeiladol ac yn gadarnhaol. Er fy mod yn siomedig ei fod wedi gwrthod pedwar o'n 21 o argymhellion, dylai amseriad y cyhoeddiad cyllido ychydig oriau yn ôl dawelu unrhyw un sy'n amau effaith bosibl pwyllgorau'r Senedd, a phwysigrwydd gwaith craffu o'r fath.
Mi ddechreuaf drwy sôn am y strategaeth cerbydau trydan ei hun. Mae’r Dirprwy Weinidog yn dweud bod £26 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn seilwaith gwefru ar hyd a lled Cymru ers cyhoeddi’r strategaeth, a bod hyn wedi arwain at gynnydd o 1,500, bron, yn nifer y pwyntiau gwefru cyhoeddus sydd ar gael, sef cynnydd o 120 y cant.
Mae'r ymateb hwn yn rhoi'r argraff bod hyn yn arwydd o gynnydd da, ond gwyddom nad yw hynny'n wir. Dim ond yr wythnos hon, yn ei adroddiad damniol, cyfeiriodd adroddiad y UK Climate Change Committee yn benodol at seilwaith gwefru EV, gan ddweud nad yw datblygu seilwaith yn digwydd yn ddigon cyflym i gefnogi'r newid i gerbydau trydan. Mae'n amlwg, felly, nad dim ond ein pwyllgor ni sy'n pryderu am y diffyg cynnydd.
Mae’r strategaeth yn nodi y bydd angen cynyddu nifer y mannau gwefru cyflym i fod rhwng 30,000 a 50,000 erbyn 2030. Hynny yw, bydd angen 10 gwaith mwy o wefrwyr yn ystod y saith mlynedd nesaf. Ond ni chafodd y pwyllgor ei ddarbwyllo y bydd y strategaeth na’r cynllun gweithredu yn gallu sicrhau y bydd hynny’n digwydd.
Y weledigaeth yn y strategaeth yw y bydd pawb sy'n defnyddio ceir a faniau trydan yng Nghymru yn hyderus, erbyn 2025, y bydd seilwaith gwefru cerbydau trydan ar gael iddyn nhw pan fydd arnyn nhw ei angen. Wel, dim ond dwy flynedd sydd ar ôl i gyrraedd y targed hwnnw, a dywedodd nifer o randdeiliaid fod llawer iawn i'w wneud yn ystod y cyfnod byr hwn. Ac er gwaethaf y buddsoddiad a wnaed hyd yma, tynnodd gyrwyr cerbydau trydan sylw at broblemau fel prinder mannau gwefru, gwefrwyr diffygiol, a phrinder gwybodaeth am y gwefrwyr.
Ein hargymhelliad cyntaf oedd y dylai Llywodraeth Cymru ailedrych ar y strategaeth gwefru cerbydau trydan yng ngoleuni’r newid ym mhatrymau’r defnydd o gerbydau trydan a’r twf mewn cerbydau trydan masnachol. Mae’r Gweinidog wedi gwrthod hyn oherwydd ei fod wedi’i argyhoeddi bod y strategaeth yn ddigon hyblyg i adlewyrchu’r newidiadau yn y modd y caiff cerbydau trydan eu defnyddio. Ond Ddirprwy Weinidog, byddwn yn gweld a oedd yn iawn i chi fod mor hyderus â hyn pan fyddwn ni'n cyrraedd dyddiad y targed yn 2025.
Mi symudaf rŵan at y cynllun gweithredu. Dwi'n meddwl ei bod yn deg dweud ein bod wedi ein synnu at y diffyg cynnydd o ran hyn. Mae'r cynllun gweithredu yn cynnwys naw o gamau gweithredu; dwy flynedd yn ddiweddarach, does dim cynnydd amlwg i'w weld yn achos pump ohonyn nhw, ac mae targedau a therfynau amser wedi'u methu yn barod.
Roedden ni wedi ein synnu nad oedd eglurhad dros beidio â chwblhau’r camau hyn. Mewn sawl achos, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ystyried a ddylai fwrw ymlaen â chamau penodol, neu'n ystyried sut y dylai wneud hynny, a hynny fisoedd ar ôl y terfyn amser ar gyfer eu cwblhau. I’r pwyllgor, mae'r diffyg cynnydd yn tanseilio hygrededd y cynllun gweithredu ac yn bwrw amheuaeth ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru iddo.
Ac o ystyried y diffyg cynnydd truenus o ran y cynllun gweithredu, un o gyhoeddiadau mwyaf syfrdanol y Dirprwy Weinidog oedd hwnnw’n ymwneud â pharatoi cynllun arall, sef y cynllun cyflawni y tro hwn, yn hytrach na chynllun gweithredu.
Mae’r Dirprwy Weinidog wedi cynnwys fersiwn o’r cynllun cyflawni manwl hwn gyda’i ymateb, ac mae o'n gam mawr ymlaen o ran manylder a’r camau clir y mae angen eu cymryd i fod ag unrhyw obaith o wireddu’r weledigaeth yn y strategaeth cerbydau trydan. Mae’n sicr yn gam i'r cyfeiriad iawn. Ond ar ôl ychydig o flynyddoedd o lusgo traed, a ellid dweud bod y Dirprwy Weinidog felly wedi dod o hyd i’r ail gêr o’r diwedd?
Yn olaf, fe drof at rai argymhellion penodol. Mae’r Dirprwy Weinidog wedi gwrthod argymhelliad 12, sef y dylai Llywodraeth Cymru esbonio pam na chafodd y grŵp cysylltiadau ei sefydlu er iddynt ymrwymo i wneud hynny o dan gam 2 yn y cynllun gweithredu. Drwy beidio ag esbonio, mae’r Llywodraeth yn llwyddo i wneud dim ond un peth, sef tanseilio hygrededd y cynllun gweithredu. Dwi’n amau mai pwysau ar adnoddau a blaenoriaethau ydy’r rheswm, ond, os felly, dylai’r Dirprwy Weinidog ddweud hynny gan nad ydy o’n afresymol i’r pwyllgor ofyn am atebion yn y cyswllt hwn.
Cafodd argymhelliad 17 ei wrthod hefyd. Roedd yn gofyn i Lywodraeth Cymru egluro pam na chafodd gweithgor gweithredwyr mannau gwefru ei sefydlu yn 2021, fel roedd wedi ymrwymo iddo o dan gam 6 yn y cynllun gweithredu. Mae’r Dirprwy Weinidog yn dweud yn ei ymateb fod Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru wedi cytuno na ddylai’r grŵp gael ei sefydlu nes bod y cynllun cyflawni hwn ar waith. Wel, does dim esgus go iawn am hyn, Ddirprwy Weinidog, oherwydd y Llywodraeth sydd wedi penderfynu ar y camau gweithredu a’r terfynau amser ar gyfer eu cwblhau. Pa ddiben, felly, cael camau gweithredu a therfynau amser mewn cynllun gweithredu os nad oes gennych chi unrhyw fwriad i gadw atyn nhw? Allwch chi o leiaf egluro i’r Senedd pam mae hyn wedi digwydd?
Mi wnaf i gloi'r agoriad i'r ddadl hon gyda hynny o sylwadau. Dwi'n edrych ymlaen i glywed y cyfraniadau eraill ac ymateb y Dirprwy Weinidog. Diolch am y cyfle i wneud hynny heddiw.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Erbyn mis Ionawr 2023, nifer y mannau gwefru a osodwyd am bob 100,000 o drigolion yng Nghymru oedd 47, 69 yn Yr Alban, a 1,311 yn Llundain. Mae'r ffigurau hynny'n siarad drostynt eu hunain—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, Weinidog, ond rydych yn methu yn hyn o beth. Rwyf yma i graffu arnoch a'ch herio, felly byddwch yn gwrtais a gadewch imi orffen, os gwelwch yn dda. Rydych yn methu cyflawni a sbarduno'r gwaith o gyflwyno mannau gwefru cerbydau trydan yn gyflym yng Nghymru. Fel y nododd Heledd Fychan yn graff, nid yw'n syndod fod y pwyllgor yn pryderu y gallai'r strategaeth fethu cyflawni ei gweledigaeth y bydd holl ddefnyddwyr ceir a faniau trydan yng Nghymru yn hyderus erbyn 2025 y gallant gael mynediad at seilwaith gwefru cerbydau trydan pan fydd ei angen arnynt ac yn y lleoedd y bydd ei angen arnynt. Mae cynllun ar gyfer un neu ddau fan gwefru chwim 50 kW bob 20 milltir ar y rhwydwaith ffyrdd strategol bellach yn annigonol.
Bu Olly Craughan, o grŵp DPD, yn trafod diffyg ystyriaeth y strategaeth i gerbydau masnachol. Mae grŵp DPD yn datgarboneiddio eu fflyd ar fyrder, ac mae ganddynt bron i 3,000 o gerbydau trydan ledled y DU. Mae'n amlwg fod angen i'r strategaeth hon gwmpasu defnydd masnachol, ond rydych wedi gwrthod argymhelliad 1, ac yn nodi'n unig fod cynllun ar gyfer cerbydau cludo nwyddau'n cael ei ddatblygu. Mae Logistics UK wedi mynegi eu siom, yn enwedig gan eu bod wedi canfod bod 62 y cant o weithredwyr faniau'n bwriadu datgarboneiddio eu fflydoedd o faniau erbyn 2030. Felly, byddai'n fuddiol i ni ac i fusnesau sy'n gweithredu yng Nghymru pe gallech roi dyddiad yma heddiw ar gyfer cyhoeddi'r cynllun ar gyfer cerbydau cludo nwyddau a nodi pa newidiadau y byddwch yn eu cyflawni.
Mae Logistics UK hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith bod defnyddio cerbydau trydan masnachol yn golygu ehangu cyfleusterau gwefru mewn depos, ac eto, mae traean o'r cwmnïau a gafodd eu cyfweld wedi nodi seilwaith y cyflenwad pŵer fel un o'u heriau mwyaf rhag gallu gwefru mewn depos. Nododd rhai gweithredwyr gostau amcangyfrifedig gan eu gweithredwr rhwydwaith ynni o dros £1 filiwn i uwchraddio eu cyflenwad ynni i alluogi gwefru. Felly, a wnewch chi egluro, Ddirprwy Weinidog, sut ydych chi'n mynd i ddarparu dull teg a chyfartal o ariannu cysylltiadau trydan i alluogi depos i ehangu eu cyfleusterau gwefru?
Mae CLlLC wedi tynnu sylw at y ffaith nad yw materion cydraddoldeb, er eu bod yn cael eu crybwyll yn y strategaeth, yn cael eu harchwilio'n ddigon manwl. Dywedodd Dr Neil Lewis nad oes gan 40 y cant o bobl le i barcio oddi ar y ffordd, sy'n ei gwneud yn anodd iddynt allu gwefru eu cerbydau trydan ar gyfradd fforddiadwy. Yn 2020, pwysais ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i sut y gallai gefnogi'r gwaith o droi polion lamp cyhoeddus yn fannau gwefru ceir trydan. Mae'n digwydd ledled y Deyrnas Unedig; maent yn defnyddio mannau gwefru ceir trydan. Dair blynedd yn ddiweddarach, ac mae'n warthus mai dim ond un uned gwefru polyn lamp a geir yng Nghymru gyfan. O gofio bod o leiaf 7,000 i'w cael yn Llundain eisoes, nid oes gan y Llywodraeth Lafur unrhyw esgus o gwbl dros ddiffyg darpariaeth o'r fath yma. Byddai eglurder ynglŷn â pha gamau rydych yn eu cymryd ar hyn o bryd i fynd i'r afael â'r argyfwng i'w groesawu, oherwydd fel y saif pethau, yn sicr nid wyf i'n argyhoeddedig eich bod yn cadw at eich ymrwymiad eich hun mewn ymateb i argymhelliad 3 fod cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol yn cael eu hystyried.
Hoffwn dynnu sylw hefyd at ddatganiad pwysig iawn yn yr adroddiad hwn. Ni chyflawnwyd pump o'r naw cam gweithredu yn ôl yr amserlenni yn y cynllun gweithredu, ond eto, ni roddir esboniad pam na chafodd y camau gweithredu eu cyflawni ar amser. Mae'r diffyg cynnydd yn gyffredinol yn tanseilio hygrededd eich cynllun gweithredu, ac yn codi cwestiwn ynglŷn ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r mater.
Mewn ymateb i argymhelliad 6, rydych yn dadlau'r pwynt yn anghywir, mewn gwirionedd. Grŵp cysylltiadau i adrodd ym mlwyddyn ariannol 2021: nis cyflawnwyd. Rhwydwaith o orsafoedd gwefru ledled Cymru bob tua 20 milltir ar draws y rhwydwaith ffyrdd strategol erbyn 2025: nis cyflawnwyd. Adolygu polisi a rheoliadau erbyn 2022 a gwneud diweddariadau lle bo’n briodol, i gefnogi’r defnydd o gerbydau trydan: nis cyflawnwyd. Sefydlu gweithgor gweithredwyr mannau gwefru yn 2021: nis cyflawnwyd.
Rydych wedi gwrthod argymhelliad 7 y dylai Llywodraeth Cymru gyflawni ei hymrwymiad i adolygu’r dangosyddion perfformiad allweddol yn flynyddol, ond eglurwch pam.
Rwyf am gloi ar nodyn cadarnhaol. Rwy'n croesawu'r nodiadau y dylai diwygiadau drafft i reoliadau adeiladu fod ar y ffordd ac y bydd y rhain yn ei gwneud yn orfodol i ddarparu mannau gwefru cerbydau trydan ar gyfer pob annedd newydd sydd â lle parcio cysylltiedig. Ond Weinidog, mae gennych ffordd bell iawn i fynd i droi geiriau'n weithredoedd, a chredaf ein bod ni fel Senedd yn gofyn am hynny yma heddiw. Diolch.
Ni fyddwch yn synnu y bydd gennyf safbwynt ychydig yn wahanol yn y ddadl hon, gan fy mod yn cytuno'n llwyr â Llywodraeth Cymru y dylai'r sector preifat ddarparu'r rhan fwyaf o'r seilwaith gwefru cerbydau trydan. Nid yw Llywodraeth Cymru yn rhedeg gorsafoedd petrol, felly pam y dylent redeg mannau gwefru cerbydau trydan? Credaf fod hyn yn rhywbeth sylfaenol iawn. Mae angen i'r sector preifat gamu i'r adwy, ac mae llawer o ffyrdd—.
Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Rwy'n derbyn y pwynt a wnewch fod angen i'r sector preifat gamu i'r adwy. Yn wir, ymddengys eu bod wedi gwneud hynny mewn sawl ffordd, er mwyn llenwi peth o'r bwlch y mae Llywodraeth Cymru wedi'i adael. Ond onid ydych yn cytuno, os yw Llywodraeth Cymru wedi cael degau o filiynau o bunnoedd i gyflwyno mannau gwefru cerbydau trydan, fod y nifer pitw o fannau gwefru cerbydau trydan a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn gwbl annerbyniol?
Nac ydw. Rwy'n cytuno bod y sector preifat wedi gosod mannau gwefru trydan, ac maent wedi gwneud hynny am resymau masnachol cwbl ddilys, sef am eu bod am i bobl ymweld â'u safle, ac felly maent yn eu gwneud yn ddeniadol i bobl sy'n berchen ar gerbydau trydan. Mae archfarchnadoedd, er enghraifft, wedi dechrau gosod mannau gwefru cerbydau trydan. Rwy'n synnu nad yw llawer o'r gwestai ar hyd peth o'r anialwch gwefru cerbydau trydan—ar hyd yr A470 er enghraifft—wedi manteisio ar y cyfle i annog mwy o yrwyr i aros a bwyta yn eu gwestai tra byddant yn gwefru eu cerbyd. Mae hynny'n anesboniadwy i mi, boed yn westy, yn dafarn, neu'n fwyty, nad ydych wedi achub ar y cyfle hwn i gynyddu eich cyfleoedd masnachol. Credaf fod angen defnyddio'r arian a allai fod wedi dod gan Lywodraeth y DU ar wahanol bethau, ac rwy'n cefnogi'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud hyn.
Felly, gwyddom o'r dystiolaeth a gawsom fod y strategaeth i gyflawni'r dyhead erbyn 2025, y gall pob defnyddiwr car a fan drydan fod yn hyderus o gael mynediad amserol at fan gwefru cerbyd trydan, yn heriol ac yn uchelgeisiol, ond yn bragmatig. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu cadarnhau yn eich ymateb, Ddirprwy Weinidog, eich bod yn credu bod yr uchelgais hwnnw'n dal yn bosibl. Oherwydd credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn ymdrechu i annog y rheini sy'n gallu fforddio newid i gerbydau trydan wneud hynny pan fyddant yn newid eu cerbyd yn y modd arferol. Oherwydd yn amlwg, mae hynny oll yn cefnogi'r ymdrech i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Hoffwn ganolbwyntio yn fy sylwadau sy'n weddill ar y materion mwy heriol sy'n ymwneud â pharcio ar y stryd mewn ardaloedd adeiledig, y gwn ei fod wedi'i nodi fel un o'r ddwy flaenoriaeth yn rhaglen y seilwaith gwefru cerbydau trydan. Felly, nid oes lle i barcio oddi ar y stryd yng nghartrefi o leiaf hanner fy etholwyr. Mae ganddynt ardd fechan o flaen y tŷ, neu mae eu tŷ'n agor allan yn syth i'r stryd, heb ddigon o le i fin sbwriel, o bosibl, heb sôn am barcio car yno. Ac yn amlwg, mae angen inni osgoi canlyniad negyddol lle mae pawb sydd â gardd flaen yn ei phalmantu, gyda'r holl ganlyniadau cysylltiedig o ran draenio cynaliadwy a drafodwyd gennym yn gynharach yn y cwestiynau newid hinsawdd. Felly, mae llawer o'r tai yng Nghanol Caerdydd yn dai teras, yn debyg i lawer o eiddo yn y Cymoedd, lle nad oes ganddynt, yn llythrennol, unrhyw le sy'n ddigon mawr. A'r hyn nad wyf am ei weld yw llwyth o bileri newydd ar balmentydd, a fydd yn beryglus i bobl â phramiau, i bobl â nam ar eu golwg.
Mae angen inni gael ffordd wahanol o edrych ar hyn, yng nghyd-destun y ffaith bod angen i bob un ohonom ystyried a oes gwir angen cerbyd preifat arnom ai peidio, yn hytrach na llogi cerbyd o glwb ceir pan fo angen inni ddefnyddio un. Ac yn amlwg, yng nghyd-destun amgylchedd trefol fel Caerdydd, mae honno'n ystyriaeth sylweddol a phwysig. Felly, hoffwn wybod pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag awdurdodau lleol fel Caerdydd ynglŷn â sut y gallwn strwythuro ein mannau gwefru cerbydau trydan i fod yn llawer mwy cyfeillgar i bobl allu chwarae ar y stryd, yn hytrach na chael yr holl gerbydau hyn yn llenwi'r stryd, a chael mannau gwefru cerbydau trydan canolog dros nos—efallai mewn mannau parcio i fusnesau masnachol, lle nad oes angen iddynt eu defnyddio dros nos am eu bod ar gau; gallent eu cynnig i glwb o bobl leol, er mwyn eu galluogi i wneud hynny yno. Mae'n ymwneud â defnyddio mannau trefol yn effeithiol, heb achosi canlyniadau negyddol i eraill. Ac ymddengys i mi fod honno'n her eithaf mawr yn yr amgylchedd trefol, ac yn un sy'n haeddu llawer mwy o drafod arni.
Hoffwn i ddiolch i'r tîm pwyllgor, i'n Cadeirydd, a'n Cadeirydd dros-dro am eu gwaith.
Fel dŷn ni wedi ei glywed yn barod, gyda’r angen i symud tuag at gludiant cynaliadwy yn dod yn bwnc o bwys byd-eang, mae mabwysiadu cerbydau trydan yn gyfle hollbwysig i leihau allyriadau carbon a sicrhau dyfodol gwyrddach. Nawr, dylen ni fod yng Nghymru mewn sefyllfa dda i arwain y ffordd o ran datblygu seilwaith cynhwysfawr o gerbydau trydan, ond, fel dŷn ni wedi ei glywed yn barod, mae'r realiti yn siomedig. Mae adroddiad y pwyllgor yn nodi’r diffygion difrifol o ran yr isadeiledd, fel sydd wedi cael ei grybwyll. Ar hyn o bryd, mae gan Gymru’r nifer isaf o ddyfeisiadau gwefru cyhoeddus a dyfeisiau cyflym neu uwch-gyflym o’r boblogaeth ym Mhrydain Fawr—gwnaf i ddim ailadrodd y ffigurau hynny. Ond mae’n amlwg, wedi dwy flynedd ers cyhoeddiad y cynllun gweithredu ar y pwnc yma yn 2021, tan heddiw, buaswn i wedi dweud, yn sicr, nad oedd cynnydd boddhaol wedi digwydd gan Lywodraeth Cymru ar sawl cam allweddol, ac mae yna dal nifer o bethau sydd angen cael eu gwneud. Mae'r newyddion heddiw am fuddsoddiad pellach o £15 miliwn yn rywbeth positif; mae hynna'n rywbeth, yn sicr, i'w groesawu. Mae angen cynllun clir er mwyn caniatáu bod hyn yn arwain at ganlyniadau clir er mwyn osgoi ailadrodd unrhyw gamgymeriadau sydd wedi digwydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf. A dwi'n siŵr bydd pawb yn y Siambr yma yn cytuno bod difrifwch yr argyfwng hinsawdd sydd yn ein wynebu ni nawr yn golygu nad oes gennym ni amser ar gyfer oedi pellach. Er mwyn cychwyn ar y daith hon, mae'n hanfodol bod yna gydweithredu a chyd-gysylltu effeithiol rhwng rhanddeiliaid perthnasol. Mae angen i Lywodraeth Cymru, i awdurdodau lleol, fel dŷn ni wedi clywed, ac asiantaethau trafnidiaeth weithio law yn llaw, gyda'r sector breifat hefyd, i greu is-adeiledd cynhwysfawr, tra bod angen cydweithio agos gyda'r darparwyr egni, er mwyn asesu capasiti perthnasol y grid.
Nawr, fel dŷn ni wedi clywed, mae partneriaid preifat yn mynd i fod yn rhywbeth eithriadol o bwysig yn hyn, megis drwy gynnig—. Ac efallai y dylen ni fod yn meddwl am annog partneriaid cyhoeddus preifat yn sgil hyn trwy gynnig argymhellion ariannol fel grantiau, credydau treth, gan fanteisio ar arbenigedd cyllid ac adnoddau'r ddau sector.
Mae angen hefyd asesu trylwyr ar ofynion y seilwaith gwefru. Rhaid inni ddadansoddi tirwedd a nodi lleoliadau addas ar gyfer gorsafoedd gwefru cerbydau trydan, yn seiliedig ar nifer o ffactorau megis dwysedd poblogaeth, fel mae Jenny newydd fod yn sôn amdano fe, coridorau trafnidiaeth, canolfannau trefol, ardaloedd preswyl, gweithleoedd, canolfannau manwerthu, mannau twristiaeth—mae yna gymaint o ffactorau sydd angen cael eu hystyried. Yn ogystal â hyn, mae'n hollbwysig bod darpariaeth gorsafoedd gwefru cyflym yr un mor amlwg ar draws ardaloedd gwledig ag y maent mewn ardaloedd dinesig. Ar ben hynny, dylai'r gorsafoedd gwefru hyn gael eu gosod mewn llefydd sydd wedi cael eu goleuo'n dda, gan flaenoriaethu hwylustod a diogelwch. Mae hwnna'n rhywbeth hollbwysig.
Rhaid i ni fod yn glir o ran y mathau o orsafoedd gwefru sydd eu hangen, gan ystyried y twf a ragwelir mewn cerbydau trydan yng Nghymru. Dylai hynny gynnwys cymysgedd o ddulliau i godi tâl, megis gorsafoedd codi tâl cyflym, gwefrwyr cyrchfan, a dulliau addas i godi tâl mewn mannau preswyl.
Nawr, dylai'r Llywodraeth gymryd rôl proactif, wrth gwrs, wrth annog defnyddio cerbydau trydan. Ar hyn o bryd, dim ond 0.17 y cant o'r holl gerbydau yng Nghymru sy'n drydanol, ac mae'n dangos pa mor angenrheidiol mae e i weld cynnydd sylweddol. Byddai cyflwyno cymhellion ariannol, eto fel grantiau credydau treth i unigolion, ar gyfer busnesau—. Mae cymaint o bethau sydd angen digwydd ar y cyd, ac mae angen rhoi hwb i'r nod hyn.
Nawr, dwi'n ymwybodol o amser, felly mi wnaf ddweud yn olaf am y cyd-destun o ba mor hollbwysig yw e ein bod ni yn gweithredu ar hyn. Rai wythnosau yn ôl, gwnaeth adroddiad diweddaraf y World Meteorological Organisation danlinellu bod y blaned yn beryglus o agos i gynhesu uwchben y targed o 1.5 gradd Celsius o fewn y degawd presennol. Dydy'r argyfwng hinsawdd ddim yn rhywbeth ar y gorwel bellach; mae yma nawr, ac mae'n effeithio ar ein bywydau gyda phob dydd sydd yn pasio. Felly, mae angen i ni gael system sydd ddim dim ond yn meddwl am y sector trafnidiaeth gyhoeddus—mae hwnna'n rhywbeth sy'n mynd i fod yn hollbwysig—ond gyda'r ffyrdd rydym ni'n byw ein bywydau, rhaid i hyn fod yn rhywbeth hollbwysig. A chyda hynny, Dirprwy Lywydd, mi wnaf i orffen. Diolch.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon, ac a gaf fi ddechrau drwy ddiolch i gyd-aelodau ar y pwyllgor am eu gwaith, ar y cyd â phob un ohonom, yn cymryd tystiolaeth, a hefyd, i'r rhai a roddodd dystiolaeth, ac i'n Cadeirydd hefyd, ac i'n tîm clercio a'r ymchwilwyr? Ac mae'n adroddiad deifiol, ond mae wedi bod yn ddiddorol gweld y gwahanol ddulliau o ymdrin â hynny. Mae rhai wedi defnyddio'r adroddiad deifiol i roi cic dda i'r Llywodraeth, fel y byddech yn ei ddisgwyl mae'n debyg—Janet. [Chwerthin.] Mae eraill wedi cymryd ei fod yn dweud 'Wel, arhoswch eiliad, gadewch inni edrych ar ble mae cydbwysedd y cyfrifoldebau hefyd, a phwy sy'n tynnu eu pwysau ar hyn'.
A gaf fi ddechrau fy nghyfraniad drwy ddweud rhywbeth nad wyf yn meddwl ei fod wedi cael ei ddweud heddiw? Nid yw cerbydau trydan, yn ddomestig, yn mynd i fod—. Rydym yn canolbwyntio ar fannau gwefru cerbydau trydan heddiw, ond nid yw ceir trydan, cerbydau trydan yn mynd i fod yn ateb i bawb. Mae goblygiadau cyfiawnder cymdeithasol go iawn yma gyda chyflwyno mannau gwefru cerbydau trydan, fforddiadwyedd technoleg cerbydau trydan, cynaliadwyedd cerbydau trydan eu hunain a'r effeithiau carbon a hynny i gyd. Ond gadewch inni roi hynny ar un ochr am eiliad a chanolbwyntio ar gerbydau trydan.
Rwy'n credu bod y pwynt wedi'i wneud yn dda yn ymateb y Llywodraeth i'r 21 argymhelliad sydd gennym, y derbyniwyd pob un ond pedwar ohonynt yn llawn. Mae'n adroddiad deifiol. Byddwn i'n dweud bod y Llywodraeth wedi ymateb yn dda, ar y cyfan. Gallaf ganolbwyntio'n llwyr ar y pedwar, a byddaf yn troi atynt mewn eiliad, ond mae derbyn mwyafrif yr argymhellion yn dangos, rwy'n credu, yn groes i'r hyn rydym wedi'i glywed hyd yma gan rai o'r cyfranwyr, fod y Llywodraeth o ddifrif ynghylch yr adroddiad hwn, Llyr, ac effaith yr adroddiad hwn a'r alwad ar y Llywodraeth. Ond mae'r adroddiad hefyd yn gwneud yn glir—. Mae ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad yn dweud yn glir fod yn rhaid i hyn ymwneud yn bennaf â'r sector preifat yn camu i'r adwy. Mater i'r Llywodraeth yw helpu i adeiladu fframwaith a'i helpu i fynd i'r afael â methiannau'r farchnad. Felly, yn hynny o beth, cyn imi droi at fanylion yr argymhellion yn yr adroddiad, rwy'n croesawu, nid yn unig ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad, ond hefyd y cyhoeddiad, fel roedd Delyth yn ei ddweud, o'r £15 miliwn ychwanegol ar gyfer mannau gwefru cerbydau trydan yng Nghymru, ac rwyf wedi edrych ar fanylion peth o hyn hefyd.
Mae'n ddiddorol iawn, oherwydd nid oes gennyf gerbyd trydan, ond pe bawn i'n cael un, byddai'r rhan fwyaf o'r teithiau, neu deithiau fy ngwraig, yn ôl ac ymlaen i'r gwaith o ddydd i ddydd, o fewn cwmpas o 50 milltir, os hynny, pe baem yn gwneud hynny. Ond mewn gwirionedd, rydym yn mynd ar deithiau yr holl ffordd i ogledd a de Cymru ac yn y blaen. Mae'n wych gweld, ym manylion y cyhoeddiadau a wnaed, fod buddsoddiad sylweddol yng nghanolbarth Cymru, yng ngorllewin Cymru, yng ngogledd Cymru, yn y rhannau lle mae angen inni wneud y cysylltedd hwn. Yr hyn sydd ei angen arnom nawr yw gweithredwyr preifat ac awdurdodau cyhoeddus ac eraill i ddefnyddio hyn a darparu'r mannau gwefru trydan fel nad oes raid i neb boeni amdano mwyach.
Ac nid oes cyferbyniad uniongyrchol â Llundain a de ddwyrain Lloegr, gyda llaw, lle mae'r bobl hyfryd i lawr yno, ar y cyfan, mewn amgylchedd hynod drefol. Mae gan rai ohonynt lwyth o incwm gwario ac maent yn prynu ac yn gyrru cerbydau trydan. Pob lwc iddynt. Nid yw'r un peth, mae'n rhaid i mi ddweud; mae'n rhaid inni ddod o hyd i rywbeth sy'n gweithio i Gymru, ond mae'r buddsoddiad yma o fewn y £15 miliwn hwn wedi'i wasgaru ledled Cymru. Mae gennyf gwestiwn neu ddau ar hynny. Hoffwn dynnu sylw at fy ardal fy hun am eiliad. Mae'n dda gweld arian yn mynd i lefydd fel Rhondda Cynon Taf ac yn y blaen. Mae hefyd yn sôn am arian y tu hwnt i Gaerdydd ac ardal ranbarthol Caerdydd. Hoffwn wybod a yw hynny'n cynnwys holl ardaloedd yr awdurdodau lleol yn ardal ehangach Caerdydd fel ei fod yn cysylltu â Chastell-nedd, Abertawe, a rhannau pellach o Gymru ac yn y blaen.
Fe sonioch chi hefyd yn eich datganiad, gyda llaw, am y tasglu sector preifat. Rwy'n croesawu hynny. Byddwn yn falch o glywed unrhyw fanylion pellach am hynny, oherwydd credaf fod y cwestiwn am y sector preifat yn camu i'r adwy yn galw am ymyrraeth y Llywodraeth i helpu i sbarduno hynny, ond rwy'n credu bod eu tynnu at ei gilydd a dweud, 'Iawn, sut y gwnawn ni hyn gyda'n gilydd?'—ychydig fel band eang mewn ffordd. 'Ble gallwn ni helpu fel Llywodraeth, ond ble rydych chi'n mynd i gamu i'r adwy a gwneud hyn, oherwydd fe fyddwch chi'n elwa yn y pen draw?' Wrth wneud hynny, a gaf fi awgrymu mai un aelod o'r tasglu y gallech fod eisiau edrych arno yw cynrychiolydd busnes Cymreig cynhenid sy'n tyfu'n gyflym o'r enw Clenergy EV sydd wedi'i leoli yn fy etholaeth i? Rwy'n credu eu bod bellach yn drydydd o ran twf ac arweinyddiaeth yn fyd-eang gyda chymwysiadau meddalwedd fel y gall pobl gysylltu fflydoedd. Gall y sector cyhoeddus ac unigolion gysylltu lle gallant wefru—mewn ysbytai, mewn cyfleusterau gwefru preifat, yng nghartref rhywun, yn ogystal â'r rhai annibynnol hyn sy'n ymsefydlu.
Rwy'n brin o amser. Mae pedwar argymhelliad yn y fan hon rydych wedi'u gwrthod, Weinidog. Nodaf fod dau ohonynt yn ymwneud yn benodol ag amserlen. Byddai'n ddefnyddiol gwybod pam mae'r amserlen wedi llithro ar y ddau beth hynny. Ar yr argymhelliad cyntaf, argymhelliad 1, a wrthodwyd gennych, byddai'n dda gwybod, oherwydd rydym wedi cael sylwadau gan y sector masnachol am yr hyn sy'n mynd i ddigwydd gyda'r rhwydwaith ar eu cyfer nhw. Felly, ymateb i'w pryderon nad aeth yr adroddiad yn ddigon pell i ateb eu pryderon, ond ni wnaeth ymateb y Llywodraeth ychwaith; wel, sut rydym am ymateb i'r sector masnachol, sector y fflyd, i hyrwyddo'r mannau gwefru cerbydau trydan hyn? Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.
Nodwyd eisoes fod gan Gymru lai o fannau gwefru chwim o'i gymharu â gweddill y DU, a'r nifer isaf o ddyfeisiau gwefru cyhoeddus fesul poblogaeth ym Mhrydain. Mae'n debyg, felly, ei bod hi'n beth da nad yw Rowan Atkinson yn byw yma yng Nghymru, neu efallai y byddai'n teimlo bod y chwyldro cerbydau trydan wedi gwneud cam gwaeth fyth ag ef.
Ddirprwy Weinidog, mae Ffederasiwn y Busnesau Bach yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ailedrych ar y strategaeth cerbydau trydan. Maent yn credu bod angen i'r nod fod yn gliriach; mae angen amserlenni clir a chefnogaeth i fusnesau. Fel Aelodau eraill, mae gennyf ddiddordeb mewn gweld sut mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â'r sector preifat ar y mater hwn.
Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad y dylai Gweinidogion roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y rhaglen datgarboneiddio trafnidiaeth, a fydd yn cefnogi datgarboneiddio bysiau a thacsis a cherbydau hurio preifat. A wnewch chi nodi pa drafodaethau a gawsoch gyda Bws Caerdydd i newid i fflyd sero net?
Rwyf hefyd yn croesawu'r cyhoeddiad heddiw o £900,000 dros y ddwy flynedd nesaf i Gyngor Caerdydd i gyflwyno seilwaith gwefru cerbydau trydan a gwefru chwim yn Ffordd Lamby ar gyfer 12 cerbyd trydan casglu sbwriel. Ond beth am gynghorau eraill yn fy rhanbarth i—Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf? Pa gamau y maent hwy'n eu cymryd?
Ar draws y rhanbarth, pa mor sicr yw'r Gweinidog y bydd arian gan Lywodraeth Cymru yn sicrhau bod y seilwaith gwefru trydan cywir ar gael mewn safleoedd strategol, fel cyfleusterau parcio a theithio? Ac roeddwn yn hoff o syniad Jenny Rathbone o ddefnyddio mannau mawr sy'n wag am gyfnodau hirach.
Rwy'n gwybod bod rhai datblygwyr ac adeiladwyr yn fy rhanbarth yn edrych ar gynnwys pympiau gwres, paneli solar a mannau gwefru trydan ym mhob tŷ a adeiladir o'r newydd. Rwy'n croesawu hynny, ac rwy'n croesawu'r ymgynghoriad rydych chi wedi'i grybwyll yr haf hwn ar ddiwygio'r rheoliadau adeiladu i'w gwneud yn orfodol iddynt gynnwys mannau gwefru cerbydau trydan. A wnewch chi ddarparu amserlen ar gyfer cwblhau'r ymgynghoriad hwnnw, ac a wnewch chi ystyried deddfwriaeth i wneud mannau gwefru cerbydau trydan yn orfodol wrth adeiladu tai newydd?
Fel y soniodd Jenny Rathbone, adeiladwyd llawer o dai yn fy rhanbarth i, gan gynnwys fy un i, ymhell dros 100 mlynedd yn ôl ac nid oes ganddynt ardd flaen. Rwyf wedi codi'r mater gyda chi yn y gorffennol ar ran etholwyr. Mae pobl sy'n byw mewn tai teras, y mae eu mynediad i lonydd yn anodd, yn teimlo y byddai'r anawsterau o wefru cerbyd trydan yn rhy afresymol. Gwelais yn ddiweddar fod Octopus Energy ar hyn o bryd yn cynnig tâl economi dros nos o 10c y kWh, ynghyd â thâl sefydlog o 52c y dydd fesul aelwyd. Ond yn Rhondda Cynon Taf, yr argymhellion ar gyfer tâl oedd 35c y kWh pan fydd y gorsafoedd gwefru cyhoeddus ar waith. Mae'n deg dweud, fel y soniodd Huw Irranca-Davies, fod problem go iawn yma ynghylch gwahaniaethu yn erbyn trigolion tai teras ac anghymell aelodau o'r gymuned rhag defnyddio cerbydau trydan. Mae'n rhaid inni sicrhau nad oes bwlch gwefru cerbydau trydan o ganlyniad i ble mae pobl yn byw. Ddirprwy Weinidog, efallai y gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi am y gwaith sy'n cael ei wneud i ddarparu mannau gwefru ar gyfer tai teras, fel sydd wedi'i dreialu yn swydd Rhydychen. Diolch yn fawr.
A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith am gynhyrchu'r adroddiad diddorol a llawn gwybodaeth hwn? Gobeithio y bydd yr adroddiad yn canu larymau i Lywodraeth Cymru a'n bod yn gweld gweithredu ystyrlon o'r diwedd, yn hytrach na'r geiriau cynnes arferol. Dro ar ôl tro, fe glywn Weinidogion yn y lle hwn yn honni eu bod yn rhan o'r Llywodraeth werdd, ac eto mae'r adroddiad hwn yn profi fel arall. Mae gan Lywodraeth Cymru record wirioneddol frawychus ar ddarparu mannau gwefru cerbydau trydan, fel mae llawer o fy nghyd-Aelodau o bob platfform gwahanol yma wedi bod yn ei ddweud.
Nawr, hoffi hynny neu beidio, rydym yn mynd i weld mwy o gerbydau trydan ar ein ffyrdd yn y dyfodol, yn enwedig yng ngoleuni gwaharddiad Llywodraeth y DU ar werthu ceir petrol a diesel. Felly, mae'n gwbl hanfodol fod gan yrwyr fynediad at fannau gwefru. Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun gweithredu i gynyddu'r nifer sy'n defnyddio cerbydau trydan yng Nghymru. Pa mor dda y gweithiodd hynny? Oherwydd nodaf fod y pwyllgor wedi mynd ar drywydd y ffaith bod y Llywodraeth wedi methu dechrau gwneud cynnydd ar nifer o gamau allweddol. Un o amcanion Llywodraeth Cymru yw:
'Erbyn 2025, bydd pawb sy’n defnyddio ceir a faniau trydan yng Nghymru yn hyderus y gallant gael at seilwaith gwefru cerbydau trydan ar yr adeg ac yn y man lle y mae arnynt ei angen.'
Fel llawer ohonoch, gwelais gyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw eu bod yn mynd i fuddsoddi £15 miliwn mewn gwefru cerbydau trydan, a gallai swnio fel llawer o arian, sy'n wych ac i'w groesawu'n fawr. Fodd bynnag, ar ôl mynd ar Google tra oeddem yn eistedd yma yn gynharach, mae man gwefru'n costio rhwng £1,000 a £1,500 a TAW ar gyfartaledd. Nawr, os nad ydych chi'n ystyried gosod neu unrhyw un o'r taliadau eraill a allai fod ynghlwm wrth ei gysylltu ac yn y blaen, rydym yn dal i fod yn sôn am lai na 10,000 o fannau gwefru, ac mae hynny'n eithaf chwerthinllyd yn fy marn i. Mae'n ymddangos bod Gweinidogion Llafur â'u pennau yn y cymylau os nad ydynt yn agos at daro'r garreg filltir honno.
Fe wnes i dderbyn un gan eich cyd-Aelod.
Ewch amdani, Jenny.
Rwy'n credu bod yn rhaid inni feddwl yn wahanol am hyn, oherwydd nid yw cerbydau'n mynd i gael eu defnyddio trwy'r amser, bob dydd o'r wythnos. Ac felly mae'n rhaid newid agweddau, trwy rannu mannau gwefru cerbydau trydan fel bod—. Dim ond unwaith yr wythnos y byddai angen i'r rhan fwyaf o bobl wefru, ac felly nid oes angen ichi annibennu'r amgylchedd gyda gormod o fannau gwefru cerbydau trydan. Ac felly gallai cymunedau rannu'r gost o £1,500 rhyngddynt i osod man gwefru cerbydau trydan—ni fyddai hynny'n ormod o her. Os oes ganddynt gar, gallant fforddio hynny.
Wrth gwrs, rwy'n deall eich pwynt, Jenny, ond o gofio fy mod wedi ymdrin â llawer o bobl sy'n gyrru ceir at ddibenion cymudo, ar gyfer apwyntiadau ysbyty, pobl sydd ag anableddau, sydd angen gallu gyrru eu ceir, hyd yn oed wedyn—. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi, mae angen inni gael mwy o fannau gwefru, ni waeth sut y gwneir hynny. Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod Darren Millar wedi gofyn y cwestiwn yn gynharach, ac ni chafodd hwnnw ei ateb ychwaith ac fe gafodd ei ddiystyru braidd, lle gofynnodd—. Mae arian wedi cael ei roi gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru—ble mae wedi mynd? I ble mae'n mynd? Pam nad yw hwnnw wedi'i wario ar fannau gwefru cerbydau trydan? [Torri ar draws.] Rwyf eisiau gorffen fy mhwynt. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru ei hun, bydd angen 30,000 i 50,000 o fannau gwefru chwim ychwanegol ar Gymru erbyn 2030. Nawr, yn ôl fy nghyfrif i, fel y soniais nawr, ni fydd £15 miliwn yn dod yn agos at gyrraedd y ffigur hwnnw. Felly, a yw Llywodraeth Cymru yn hyderus y bydd yn cyrraedd y targed a osododd? Hoffwn wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud ar frys i wella'r ddarpariaeth o fannau gwefru cerbydau trydan yng Nghymru, yn enwedig yng ngoleuni'r adroddiad hwn, oherwydd i mi, mae'n ymddangos fel pe bai Gweinidogion wedi treulio'r blynyddoedd diwethaf yn eistedd ar eu dwylo.
Rwy'n cefnogi'r hyn a ddywedodd yr Aelod Plaid Cymru dros dde-ddwyrain Cymru yn gynharach, fod yn rhaid i Weinidogion feddwl yn fwy arloesol a chymell cyflwyno mannau gwefru cerbydau trydan yn gyflymach, gyda mwy o ffocws ar ehangu'r ddarpariaeth mewn cymunedau gwledig yng Nghymru. Yn bersonol, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddai mwy o bobl yn defnyddio cerbydau trydan, ond ar hyn o bryd, ni allant wneud hynny am nad yw'n ymarferol. Mae angen i hyn newid, Ddirprwy Lywydd, ac mae angen iddo newid yn gyflym.
A galwaf ar Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau a'r pwyllgor am eu gwaith yn cynhyrchu'r adroddiad. Rwy'n croesawu'r her a'r craffu gan y pwyllgor, yn ein sesiynau tystiolaeth lafar ac yn yr adroddiad heddiw. A byddwn yn croesawu rôl barhaus iddynt yn ein dwyn i gyfrif. Rwy'n credu eu bod yn darparu swyddogaeth bwysig iawn. Ac rydym wedi derbyn y mwyafrif llethol o'r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor ac rydym yn cyflawni'r rhain.
Fy hun, nid wyf yn cefnogi rhoi 'derbyn mewn egwyddor' pan nad ydym yn cytuno â rhywbeth, a hynny er mwyn osgoi bod yn amwys. Byddai'n llawer gwell gennyf ddweud, 'Nid ydym yn cytuno' a nodi'r rhesymau pam. A dyna pam, ar bedwar o'r argymhellion, fy mod wedi nodi nad ydym yn eu derbyn, ac e af i'r afael â'r rhain yn eu tro nawr.
Mae argymhelliad 1 yn gofyn i Lywodraeth Cymru ailedrych ar ein strategaeth gwefru cerbydau trydan. Nawr, rydym yn hyderus fod y strategaeth, a ddatblygwyd i ystyried newid cyflym mewn technoleg a defnydd, yn parhau i fod yn ddilys. Mae'r egwyddorion a'r fframwaith yn parhau'n ddilys ac nid oes angen ailedrych arnynt.
Mae argymhelliad 7 yn gofyn i Lywodraeth Cymru ymrwymo i adolygu a chyhoeddi'r dangosyddion perfformiad allweddol yn flynyddol. Yn hytrach, rydym yn bwriadu adolygu a chyhoeddi'r dangosyddion perfformiad allweddol ar bwyntiau strategol mewn amser—nid i rythm mympwyol, ond pan fyddwn yn ystyried cyfnodau allweddol y rhaglen gyflawni ac argaeledd adnoddau. A gwnaed sylw am effaith adnoddau, ac wrth gwrs, mae'n ffaith, pan fo'n cyllidebau'n cael eu cwtogi a phan fo nifer y gweision sifil sydd gennym yn cael ei gadw'n isel oherwydd cyni, yn anochel mae terfyn ar yr hyn y gallwn ei wneud ar unrhyw adeg. Ac mae hynny'n effeithio ar ein holl weithredoedd. A byddwn wedi meddwl, o sylwadau Aelodau Plaid Cymru, y byddai cael Aelodau yn eu grŵp sy'n gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru fel Aelodau dynodedig, yn golygu eu bod yn gwybod beth yw realiti gwaith y Llywodraeth a'r adnoddau tynn sydd ar gael a'r penderfyniadau sy'n rhaid eu gwneud. Ac nid oes diben gwadu'r ffaith bod hynny wedi cael rhywfaint o effaith ar ein gallu i gyflawni hyn.
Ond yn fwy na hynny, rwy'n credu ein bod wedi penderfynu camu ac oedi yn ein dadansoddiad—yn hytrach na chwistrellu arian yn ddiwahân, ein bod yn edrych ar ble mae'r farchnad yn cynllunio i wasanaethu, dadansoddi a mapio hynny, ac edrych lle gallai'r Llywodraeth ymyrryd yn y ffordd orau. Felly, trwy arolygu'r dirwedd yn gyntaf a chynyddu'r gwariant wedyn, credaf fod hwnnw'n ddull llawer gwell o weithredu na'r dull y mae'r pwyllgor i'w weld yn ein ceryddu yn ei gylch.
Weinidog, a wnewch chi ildio ar y pwynt hwnnw?
Rwy'n hapus i ildio i Huw.
Gyda'r dull y mae'r Gweinidog yn awgrymu ei fod yn ei gymryd, pan ddown at waith y tasglu a thrafod gyda nhw, rwy'n meddwl tybed ai dyna'r adeg y bydd yn gallu egluro i'r Senedd beth fyddai'r adnoddau hynny'n eu caniatáu mewn pwyntiau adolygu strategol o daro'r dangosyddion perfformiad allweddol? Rwy'n deall yr hyn rydych chi'n ei ddweud am, 'Oedi. Gweithio gyda'r sector'—mae'n rhaid inni fynnu bod y sector preifat yn camu i'r adwy ar hyn—ond mae'n rhaid cael pwynt lle rydych chi'n dod yn ôl i'r Senedd a dweud, 'Mae gennym ddealltwriaeth gliriach nawr o ba bryd rydym yn mynd i fynd am hyn.'
Wel, gadewch imi ddod at hynny. Gadewch imi fynd i'r afael ag argymhellion 12 a 17 yn gyntaf, sy'n gofyn i Lywodraeth Cymru sefydlu'r grŵp cysylltiadau a'r gweithgor gweithredwyr mannau gwefru o fewn wythnosau. Nawr, rydym wrthi'n sefydlu'r ddau grŵp. Fodd bynnag, credwn ei bod yn hanfodol ein bod yn rhoi amser i ddatblygu rhaglen gyflawni gadarn cyn ein hymgysylltiad ffurfiol â gweithredwyr rhwydweithiau dosbarthu a gweithredwyr mannau gwefru. Felly, nid ydym yn mynd i fod yn gwneud hynny o fewn wythnosau, ond fe fyddwn yn ei wneud yn fuan, a dyna pam nad wyf wedi derbyn yr argymhellion hynny.
Rydym wedi dysgu llawer o'n dull o ymdrin â band eang, ac os ewch yn ôl at y dadleuon a gawsom ar fand eang, rydym wedi penderfynu ar ddull o'r tu allan i mewn ar gyfer band eang. Felly, yn hytrach nag edrych ar ble bydd y farchnad i bob pwrpas yn ateb y galw yn ei hawl ei hun, mewn cytrefi trefol poblog, yn hytrach na gorwasanaethu'r marchnadoedd hynny trwy roi cyllid y Llywodraeth i mewn, i mewn i fand eang, fe wnaethom benderfynu targedu'r ardaloedd y byddai'r farchnad yn eu gwasanaethu arafaf, ac mae'r sefyllfa honno wedi gweithio'n dda, ac rwy'n credu y dylem ddilyn yr un dull o weithredu gyda mannau gwefru trydan, oherwydd, fel y mae Huw Irranca a Jenny Rathbone wedi ategu, rôl i'r sector preifat yw hon yn bennaf, gyda Llywodraeth Cymru yn ymyrryd lle ceir methiant yn y farchnad neu lle mae'r farchnad yn araf i ymateb. Credaf mai dyna'r defnydd gorau o arian cyhoeddus ac mae'n adlewyrchu'r ffaith nad oes gennym yr ystod lawn o bwerau yn y maes hwn.
Nawr, y datganiad a wnaeth y pwyllgor, yr ychwanegwyd ato mewn ffordd braidd yn ffôl gan rai sylwadau yn y wasg a chan Aelodau, yw bod
'Llywodraeth Cymru wedi methu’n llwyr â chyflawni llawer o’r Camau Gweithredu yn y Cynllun Gweithredu a chan y diffyg cynnydd tuag at gyflawni eraill.'
Nawr, rwy'n credu bod hwnnw'n werthusiad annheg o'r gwaith a'r canlyniadau rydym wedi'u cyflawni hyd yma. Nawr, am y rheswm hwn, rwy'n croesawu'r cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd a wnaethom, ac ni ddylem golli golwg ar ba mor gymhleth a drud yw'r maes gwaith hwn. Mae ein dadansoddiad ariannol yn awgrymu y bydd angen buddsoddi cyfanswm o dros £350 miliwn o gost gyfalaf i osod digon o fannau gwefru ar lwybrau ac mewn cyrchfannau erbyn 2040. Nawr, o ystyried maint yr her, fel y dywedaf, rydym yn disgwyl i'r rhan fwyaf o hyn gael ei gyflawni gan y sector preifat, a'n rôl ni yw camu i mewn i helpu hynny, i gael gwared ar rwystrau ac edrych ar lle gallwn sicrhau bod cymorth wedi'i dargedu ar gael. Felly, rwyf wedi penderfynu dysgu eto o brofiad darparu'r band eang, lle argymhellodd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol ychydig flynyddoedd yn ôl ein bod yn creu tasglu i chwalu rhwystrau er mwyn i fand eang weithio gyda'r gweithredwyr preifat i nodi lle byddai'n ddefnyddiol i'r Llywodraeth weithredu.
Felly, rydym yn mynd i wneud yr un peth gyda mannau gwefru trydan; rydym yn mynd i sefydlu tasglu sector preifat a fydd yn ein helpu i ymgysylltu â'r farchnad, chwalu unrhyw rwystrau i fuddsoddiad a chyflymu'r broses o gyflwyno seilwaith gwefru. Nawr, gallai hynny gynnwys ymyrraeth ariannol, ond mae'r un mor debygol o gynnwys materion yn ymwneud â chynllunio neu ystyfnigrwydd gwahanol sefydliadau i ymateb mewn modd amserol. Felly, rwy'n credu y bydd hynny'n cael ei groesawu gan y sector fel rhywbeth ymarferol y gallwn ei wneud i ddatgloi buddsoddiad y sector preifat, oherwydd, fel y soniodd Huw a Jenny, mae yna awydd yn y farchnad ar sail fasnachol i fuddsoddi yn hyn, a'n gwaith ni yw ysgogi hynny yng Nghymru yn hytrach na cheisio ei ddyblygu.
Nawr, ers cyhoeddi'r strategaeth, rydym wedi canolbwyntio ein hadnoddau ar ddwy flaenoriaeth allweddol. Yn gyntaf, darparu seilwaith gwefru sylfaenol ledled Cymru sy'n rhoi hyder i ddefnyddwyr y gallant deithio ar draws ein gwlad heb ofni mynd yn brin o drydan. Nawr, gofynnodd Darren Millar sut roeddem wedi gwario'r arian y gallasom ei dynnu i lawr. Rhwng 2020 a 2022, rydym wedi darparu £26 miliwn o arian cerbydau allyriadau isel iawn, neu ULEV fel y'i gelwir, i awdurdodau lleol, i osod seilwaith gwefru ledled Cymru, ac eleni rydym wedi cymeradwyo cyfanswm o £15 miliwn o gyllid ar gyfer cyflwyno seilwaith gwefru cerbydau trydan, ac mae hynny'n cynnwys £8.9 miliwn ar gyfer awdurdodau lleol. Fe wnaethom dreial cychwynnol yn gofyn i Trafnidiaeth Cymru ein helpu i gyflwyno'r seilwaith a daethom i'r casgliad, mewn gwirionedd, fod awdurdodau lleol mewn sefyllfa well o lawer i chwarae'r rôl honno, ac rydym bellach wedi penderfynu adlewyrchu hynny mewn ffordd hael yn ein penderfyniadau cyllido.
Felly, rydym wedi gwario'r arian yn dda ac mae yna seilwaith i'w ddangos amdano. Mae wedi profi'n gymhleth iawn mewn rhai achosion ac yn araf ac yn rhwystredig iawn. Felly, yn achos y Rhyl, yn ardal Darren Millar, mae yna sgwâr gwefru braf iawn, yr ymwelais ag ef, ond gohiriwyd hynny yn fawr oherwydd yr angen i greu is-orsaf ychwanegol, a mynediad i'r grid, costau adeiladu cynyddol ac yn y blaen. Felly, nid yw hyn yn syml, ond rwy'n credu ein bod yn gwneud cynnydd da.
Ac roedd ein hail ffocws ar ddatblygu offer a chynlluniau a fydd yn helpu awdurdodau lleol i gyflymu'r broses o gyflwyno eu rhwydwaith. Byddwn yn cwblhau'r gwaith o osod 19 man gwefru chwim o leiaf bob 25 milltir ar draws Cymru a'r rhwydwaith ffyrdd strategol eleni—mae hynny ddwy flynedd ar y blaen i darged y cynllun gweithredu. Mae'n gam mawr ymlaen at gyflawni ein gweledigaeth, ac mae'n wahanol iawn i'r hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders, fod y ffigurau'n siarad drostynt eu hunain. Ac fe geisiodd Natasha Asghar ddisgrifio hyn fel record wirioneddol frawychus. Rwy'n ofni nad yw'r ffeithiau'n cadarnhau'r rhagfarnau hynny.
Gofynnodd Jenny Rathbone am sicrwydd na fyddem yn creu annibendod i amgylchedd palmentydd trwy gael seilwaith gwefru ar balmentydd. Rwy'n cytuno'n llwyr, a dyna pam mae'r safonau cenedlaethol rydym ar fin eu cyhoeddi yn ei gwneud yn glir nad yw hynny'n dderbyniol. Ac i wneud yn siŵr fod y safonau hynny'n gywir gennym, fe'u rhannais ag ysgrifenyddiaeth y grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol, eu cael nhw i adolygu'r ddogfen, maent wedi gwneud nifer o welliannau, ac rydym wedi'u derbyn, felly rwy'n gobeithio bod hynny'n ateb—
Ddirprwy Weinidog, mae angen i chi ddod i ben nawr.
—y pryder hwnnw.
Rwy'n ofni nad wyf wedi gallu mynd i'r afael â'r holl bwyntiau. Gadewch imi ddweud yn syml i gloi: mae llawer wedi'i wneud. Ar hyn o bryd, mae gennym fwy na’n cyfran y pen o fannau gwefru ar gyfer nifer y bobl yng Nghymru sy’n berchen ar gerbydau trydan, ac wrth i hynny gynyddu, fel y dymunwn iddo ei wneud, bydd ein darpariaeth hefyd yn cynyddu. Ond bydd yn cynyddu mewn ffordd strategol, oherwydd rydym wedi mynd i’r drafferth o wneud y gwaith paratoi, o osod y sylfaen, o sefydlu cysylltiadau yn y sector preifat a gwneud hyn mewn ffordd bwyllog a darbodus. Ac rwy'n mawr obeithio y bydd y pwyllgor yn cadw llygad ar ein cynnydd ac yn parhau i'n herio, a chyda'n gilydd, fe gyrhaeddwn y lle iawn. Diolch.
Galwaf ar Heledd Fychan i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Dirprwy Weinidog am yr ymateb ac i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl hon.
Yn bendant, mae’r rôl barhaus yn rhywbeth y bydd y pwyllgor yn sicr yn ei groesawu, a bydd y pwyllgor yn edrych eto ar hyn yn ystod tymor y Senedd. Ac yn amlwg, fel y soniais ar y dechrau, mae’r ffaith inni weld y cyhoeddiad heddiw yn brawf o bwysigrwydd craffu.
Roeddwn yn bryderus ynglŷn ag ymateb y Dirprwy Weinidog ar ddangosyddion perfformiad allweddol ac yn y blaen, a’r diffyg ymrwymiad i ddyddiad pendant, oherwydd, at ddibenion craffu, mae’n ddefnyddiol inni wybod pryd y disgwylir y rheini, fel ein bod yn gallu monitro cynnydd, felly ni fyddwn yn derbyn y pwynt hwnnw, yn bersonol.
Rwy’n meddwl bod Huw Irranca wedi gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â chyfiawnder cymdeithasol, oherwydd, yn amlwg, i nifer o’n hetholwyr, nid ydynt hyd yn oed yn berchen ar geir, heb sôn am gerbydau trydan. Nid yw hynny'n mynd i fod yn fforddiadwy, a dyna pam y bu cymaint o bwyslais mewn dadleuon blaenorol ar drafnidiaeth gyhoeddus ac yn y blaen. Felly, rwy'n derbyn eich pwynt ar hynny, ac mae wedi'i wneud yn dda iawn.
Ac o ran y seilwaith, a grybwyllwyd gan lawer o Aelodau—Jenny, Delyth a Rhys ab Owen—o ran yr heriau gyda thai teras, er enghraifft. Mae yna heriau enfawr, a Jenny, roeddech yn llygad eich lle wrth sôn am beryglon baglu—. Eisoes, gall parcio ar balmentydd fod yn her enfawr; os crëwch fwy o beryglon baglu, yna i'r henoed, pobl sy'n agored i niwed, y rhai sydd â nam ar eu golwg, mae'n her enfawr, a gwelwn y rheini mewn llawer iawn o gymunedau ar hyn o bryd, lle mae pobl yn ceisio gwneud y newid hwnnw.
Ond y gwir amdani ar hyn o bryd yw bod llawer o’r bobl sy’n gwneud y newid yn ei chael hi’n anodd gyda’r seilwaith sydd yno, o beidio â chael y sicrwydd y byddant yn gallu mynd o ogledd i dde Cymru ac ati, ar y teithiau hynny. Clywsom am lawer o bobl yn ansicr y byddent yn cyrraedd Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri yr wythnos diwethaf gyda cherbydau trydan. Felly, mae her yno i wneud yn siŵr fod y seilwaith, hyd yn oed pan fydd yn bodoli, yn gweithio, sy’n rhywbeth a glywsom hefyd fel tystiolaeth drwy’r gwaith hwn.
Delyth, fe sonioch chi am bwysigrwydd diogelwch—
—bod diogelwch yn eithriadol o bwysig hefyd, oherwydd mae nifer o'r gofodau cyhoeddus hyn efallai heb eu goleuo'n dda. Ac yn sicr, mae'n rhaid i ni fod yn gwneud hyn yn ddiogel i bawb os ydyn ni'n mynd o ran hynny.
Soniodd Natasha a Janet am rai o’r rhwystrau ar hyn o bryd a rhai o’r heriau, a diolch i chi am eich cyfraniadau hefyd.
Ond yn sicr, mi hoffwn i fod yn cydnabod bod gan y sector preifat, wrth gwrs, ran allweddol o ran y gwaith o osod mannau gwefru, ac mae hynny yn glir yn yr adroddiad. Ond rhaid i Lywodraeth Cymru beidio ag esgeuluso ei rôl arweinyddol bwysig ychwaith o ran hyn. Mae angen gwella'r perfformiad, ac mae nifer o randdeiliaid allweddol yn teimlo eu bod yn cael eu gadael yn y niwl, ac maen nhw'n aros yn eiddgar am unrhyw arwydd o gynnydd pendant. Ac fel roeddwn i'n sôn wrth ddechrau hyn, mae'r UK Climate Change Committee yn ei adroddiad cynnydd wedi dweud bod angen cyflymiad pendant ac arwyddocaol os yw Llywodraeth Cymru am gyrraedd y targedau erbyn 2025—targedau'r Llywodraeth ei hun.
Mi oeddwn i'n siomedig o glywed y Dirprwy Weinidog yn sôn am y cytundeb cydweithio oherwydd adroddiad pwyllgor ydy hwn, a chyfrannu fel aelodau trawsbleidiol o bwyllgor oeddem ni. Ac mae hwn yn adroddiad sydd yn sôn am ac yn craffu o ran targedau'r Llywodraeth ei hun. Mi ydw i'n gwerthfawrogi eich bod chi wedi amlinellu'r gwaith pwysig fydd gan y pwyllgor o barhau i gydweithio a chraffu ar y maes hwn. Mae o o ddiddordeb mawr i'n hetholwyr ni ac mae o'n bwysig o ran ein hymateb ni i'r argyfwng hinsawdd.
Hoffwn orffen hefyd drwy ddiolch i Llyr Gruffydd am ei rôl o fel Cadeirydd y pwyllgor tra roedd yr adroddiad hwn yn mynd rhagddo. Yn amlwg, dwi'n siŵr byddai Llyr efo lot fawr o bethau i'w dweud pe byddai wedi cyfrannu heddiw, ond diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu, ac mi fyddwn ni'n derbyn eich her chi, Weinidog, i barhau i graffu a pharhau i wthio'r Llywodraeth ar y mater hwn.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.
Eitem 6 yw dadl gyntaf y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma: arferion cyfrifyddu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a galwaf ar Gareth Davies i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8282 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu y dylid cyhoeddi adroddiad fforensig Ernst & Young o faterion cyfrifeg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn llawn ac y dylai fod yn y parth cyhoeddus.
2. Yn galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyhoeddi adroddiad Ernst & Young.
3. Yn gofyn, o ystyried canfyddiadau Ernst & Young, fod adolygiad ehangach ac annibynnol yn cael ei ystyried i roi sicrwydd:
a) nad yw'r arferion a nodwyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn digwydd mewn sefydliadau GIG eraill yng Nghymru; a
b) nad oedd arferion tebyg wedi effeithio ar flynyddoedd ariannol cyn y rhai a adolygwyd gan Ernst & Young.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac rwy’n falch o agor y ddadl hon y prynhawn yma a gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Ond rydym yma eto, onid ydym? Yma yn Siambr y Senedd hon eto, yn tynnu sylw at fethiant arall a sgandal arall yn ymwneud â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Fe wnaethom godi yn y Siambr hon yn ddiweddar i drafod dychwelyd at fesurau arbennig, yr adroddiad damniol ar wasanaethau fasgwlaidd, ac yn aml, rydym yn trafod methiant Llywodraeth Cymru i leihau amseroedd aros yn adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Glan Clwyd, rhyddhau cleifion o'r ysbyty yn ddiogel, a’r methiant i adeiladu ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych yn y Rhyl, a lleihau amseroedd aros i gleifion ar draws gogledd Cymru wrth gwrs.
Ond yn ogystal â hyn, mae'n ymddangos ein bod wedi mynd i dir newydd eto wrth ddysgu am y twyll eang honedig ar ran y personél uchaf y mae'r bwrdd yn eu cyflogi. Ond sut y gwnaethom ddysgu am hyn? A gawsom ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar lawr y Senedd hon y cawsoch eich ethol iddi? Na, wrth gwrs na chawsom. Bu'n rhaid inni gael gwybod am y newyddion ar ôl i adroddiad Ernst & Young gael ei ddatgelu'n answyddogol i'r wasg, ac nid ydym eto wedi gweld yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi'n llawn a manylion y methiannau cyfrifyddu yr honnir iddynt ddigwydd.
Nawr, gadewch inni roi ychydig o bersbectif i hyn. Y bobl yr honnir eu bod wedi cyflawni ymddygiad twyllodrus yw rhai o’r bobl sy’n cael y cyflogau uchaf yn y wlad, gyda chyflog y prif weithredwr yn £250,000 y flwyddyn a’r cyfarwyddwr cyllid yn ennill £150,000 y flwyddyn. Mae’n iawn os ydych chi'n ddigon ffodus, onid yw? Ond mae’r unigolion hyn yn ennill mwy na Phrif Weinidog Cymru, a Phrif Weinidog y DU hyd yn oed, a’u prif rôl a’u swyddogaeth yw bod yn geidwaid a gwarcheidwaid y pwrs cyhoeddus, a gwneud penderfyniadau craff a phwyllog er lles gorau trethdalwyr. Wel, 'Beth ddigwyddodd gyda hynny?', gofynnaf.
Rwyf i a’r Ceidwadwyr Cymreig am wybod ers pryd y mae Llywodraeth Cymru wedi gwybod am hyn, pam na roddwyd camau ar waith ar y pryd, pam na chafwyd datganiad i Siambr y Senedd hon gan y Gweinidog iechyd yn hysbysu’r Aelodau o’r newyddion, gan mai drwy erthygl gan Guy Adams yn y Daily Mail y cafodd y rhan fwyaf ohonom wybod am hyn. Go brin fod hynny'n hysbyseb wych i safbwynt Llywodraeth Cymru ar ddemocratiaeth ar ran pobl gogledd Cymru, gan nad yw’n ymddangos eich bod yn mwynhau trafod y materion y mae’r rhan fwyaf o bobl gogledd Cymru yn bryderus yn eu cylch. Oherwydd mae’r bobl yn yr ardal honno’n bryderus am berfformiad cyffredinol y bwrdd iechyd, a’i fethiannau parhaus dros y degawd diwethaf.
Bywydau pobl yw hyn yn y bôn, a’r hyn sydd ei angen ar bobl gogledd Cymru yw unigolion cymwys sydd o ddifrif ynglŷn â'u hanghenion. Ac mae arnaf ofn fod y sgandal ddiweddaraf yn dystiolaeth bellach fod y bwrdd iechyd a’r Llywodraeth Lafur wedi gwneud cam â phobl gogledd Cymru. Beth fyddai Aneurin Bevan neu hyd yn oed Betsi Cadwaladr ei hun yn ei feddwl pe gallent weld hyn i gyd yn digwydd?
Rwyf wedi cadw fy sylwadau yn eithaf byr oherwydd amser y ddadl, ond terfynaf fy sylwadau drwy annog Llywodraeth Cymru a Betsi Cadwaladr i gyhoeddi adroddiad Ernst & Young yn ei gyfanrwydd i bobl gogledd Cymru, fel y gallwn weld hyd a lled yr hyn sydd wedi digwydd yma, fel y gallwn ddechrau unioni’r difrod ac adfer uniondeb y bwrdd iechyd a hyder y cyhoedd ynddo, os oes unrhyw ran ohono ar ôl i'w adfer. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig heb ei ddiwygio heno. Diolch.