Y Cyfarfod Llawn
Plenary
10/05/2023Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Natasha Asghar.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Chyngor Dinas Casnewydd ynglŷn â'i allu i ddarparu ei wasanaethau statudol? OQ59467
Rwy’n cyfarfod yn rheolaidd ag arweinwyr cynghorau, gyda'i gilydd ac yn unigol, i drafod ystod eang o faterion, gan gynnwys effaith yr heriau economaidd presennol ar ddarpariaeth gwasanaethau.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae casglu gwastraff yn wasanaeth statudol, ac ar hyn o bryd, mae’n destun siarad pwysig i bawb yng Nghasnewydd. Rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol iawn o gynllun cyngor y ddinas i gyflwyno casgliadau bin du bob tair wythnos. Mae'r penderfyniad hwn wedi achosi cryn dipyn o ddicter ymhlith trigolion ledled y ddinas, ac mae'n rhaid imi gyfaddef fy mod innau'n un ohonynt hefyd. Mae yna bryderon y bydd y newid hwn yn arwain at fwy o dipio anghyfreithlon, yn enwedig gan fod y biniau sydd gennym, yn wir, yn llawer rhy fach, ar ôl inni gael y biniau llai o faint ychydig flynyddoedd yn ôl yn unig. Mae'n gywilyddus fod pobl Casnewydd yn cael eu gorfodi i dderbyn y toriad aruthrol hwn i wasanaethau wrth i filiau'r dreth gyngor godi'n sylweddol ar yr un pryd. Mae cyngor Torfaen wedi bod yn ystyried cam tebyg, ond maent wedi gweld y goleuni, diolch byth, ac wedi cael gwared ar y cynlluniau. Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi y dylai Cyngor Dinas Casnewydd gael gwared ar y cynlluniau hyn, ac a wnewch chi alw arnynt i wneud hynny, gan y bydd bwrw ymlaen â hyn yn faich mawr iawn i’r trigolion?
Hoffwn ddweud mai mater i gyngor Casnewydd yw casglu gwastraff yng Nghasnewydd. Ond credaf fod yn rhaid ystyried y dewisiadau anodd y mae'n rhaid i lywodraeth leol eu gwneud yng nghyd-destun y sefyllfa bresennol lle mae awdurdodau lleol, yn amlwg, yn cael eu taro gan effeithiau chwyddiant, ond hefyd, wrth gwrs, yn gweld effaith cyni parhaus, sy'n cael effaith ar y cyllidebau sydd ar gael i awdurdodau lleol. Wedi dweud hynny, rydym wedi gwneud ein gorau glas yma yn Llywodraeth Cymru i roi’r setliad gorau posibl i lywodraeth leol. Bydd awdurdodau lleol ledled Cymru gyda'i gilydd yn cael £5.5 biliwn gan Lywodraeth Cymru mewn cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig i ddarparu eu gwasanaethau allweddol. Yng Nghasnewydd, byddant yn cael £289.5 miliwn drwy'r setliad llywodraeth leol i ddarparu eu gwasanaethau statudol ac anstatudol. Mae hynny'n gynnydd o 8.9 y cant ers y llynedd. Ond wedi dweud hynny, rwy'n deall bod hyn yn dal i olygu dewisiadau anodd iawn i arweinwyr.
Weinidog, mae addysg yn gyfrifoldeb statudol hanfodol sydd gan awdurdodau lleol—hanfodol i ddyfodol ein plant, ein cymunedau a’n gwledydd. Cyngor Dinas Casnewydd yw’r unig awdurdod lleol yn ne-ddwyrain Cymru heb unrhyw ysgol sy'n destun mesurau arbennig. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch cyngor y ddinas, yr athrawon, y cynorthwywyr addysgu, y penaethiaid a staff cymorth yr holl ysgolion am weithio mor galed dros ein plant, ein pobl ifanc a'n cymunedau?
Lywydd, rwyf bob amser wrth fy modd yn cydnabod gwaith da, felly rwy'n sicr yn ymuno â John Griffiths i longyfarch a dangos ein gwerthfawrogiad i’r cyngor, a hefyd i’r ysgolion, yr athrawon, a theulu ehangach yr ysgolion, a hefyd, wrth gwrs, i'r disgyblion eu hunain, sy'n ymdrechu bob dydd i gyflawni hyd eithaf eu gallu.
2. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i sicrhau bod y cyllid ar gyfer awdurdodau lleol yn cael ei ddosbarthu'n deg? OQ59483
Rwy’n sicrhau cyllid teg i bob awdurdod lleol yng Nghymru drwy flaenoriaethu gwasanaethau llywodraeth leol ac iechyd mewn penderfyniadau ar y gyllideb, a thrwy fformiwla ddosbarthu dryloyw a theg a gynhyrchir ar y cyd â’n partneriaid llywodraeth leol.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Dros gyfnod y gyllideb ddiwethaf, mae digon o ddadlau wedi bod ynghylch mater cyllid i awdurdodau lleol, gyda llawer ohonom yn dadlau bod angen gwneud rhywbeth i greu system decach a mwy cynaliadwy. Mae llawer yn teimlo nad yw'r system bresennol yn addas i'r diben mwyach. Fel y byddech yn cytuno, rwy'n siŵr, ar hyn o bryd, mae’r system wedi arwain at sefyllfa lle mae’n gwobrwyo rhai cynghorau i raddau llawer mwy nag eraill, gan ei gwneud hi'n bosibl i gronfeydd wrth gefn enfawr gronni tra bo cynghorau eraill yn ei chael hi'n anodd cyflawni eu swyddogaethau statudol. Mae'n amlwg fod rhywbeth o'i le pan welwn gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio yn cynyddu i £2.75 biliwn. Mae angen gwneud rhywbeth i ddatrys y broblem hon. Weinidog, a wnewch chi roi sicrwydd fod yr is-grŵp dosbarthu'n ymchwilio i'r mater, ac a ydych chi wedi siarad ag arweinwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ystyried dadansoddiad annibynnol o’r fformiwla gyllido cyn cylch cyllideb y flwyddyn nesaf? A yw Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar y pryderon a leisiwyd yn y Siambr hon, neu a ydym yn cael ein hanwybyddu?
Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am ei gwestiwn, ond carwn anghytuno â’r awgrym fod y fformiwla gyllido yn gwobrwyo rhai cynghorau mewn unrhyw ffordd, gan ei bod yn bendant yn wir nad oes tystiolaeth fod unrhyw awdurdod neu ardal ddaearyddol neu gymdeithasol benodol yng Nghymru o dan unrhyw anfantais oherwydd y fformiwla. A dweud y gwir, mae'r fformiwla'n ystyried gwasgariad a theneurwydd poblogaeth, yn ogystal ag amddifadedd. Felly, mae'n bendant—[Torri ar draws.] Lywydd, mae gennyf Aelod yn siarad yn fy nghlust drwy'r amser; mae'n anodd iawn canolbwyntio.
Ie, os gallwch geisio ei hanwybyddu, byddwn yn eich cynghori i wneud hynny.
Rwy'n gwneud fy ngorau y rhan fwyaf o'r amser. Mae'n anoddach heddiw. [Chwerthin.]
Dim byd personol i’r Aelod. [Chwerthin.]
Iawn. Felly, y pwynt rwy'n ceisio'i wneud am yr is-grŵp dosbarthu yw nad yw'r fformiwla yn ddigyfnewid. Mae'n esblygu'n gyson, a hyd yn oed yn y diweddariadau eleni, bu sawl newid. Er enghraifft, mae swyddogion yn edrych ar oblygiadau diweddaru'r mesurau gwasgariad a theneurwydd poblogaeth. Ar hyn o bryd, maent yn seiliedig ar y cyfrifiad blaenorol. Mae gennym wybodaeth o'r cyfrifiad newydd bellach, a fydd yn cael ei hymgorffori yn y fformiwla. Ac mewn gwirionedd, fel mater o drefn, yn flynyddol, mae'r is-grŵp dosbarthu'n ystyried ystod eang o ddata—caiff 72 y cant ohono ei ddiweddaru'n flynyddol. Mae hynny’n cynnwys pethau fel data poblogaeth, ond hefyd, pethau fel hyd ffyrdd, goleuadau stryd, llwyth achosion cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, ceisiadau cynllunio, safleoedd masnachu, a hyd yn oed nifer y llongau sy’n cyrraedd porthladdoedd. Felly, caiff ystod eang iawn o ddata ei hystyried, ac mae’r is-grŵp dosbarthu'n diweddaru hynny’n gyson.
Yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw bod gennym ddull gweithredu gwahanol yma i'r un dros y ffin yn Lloegr. Y dull gweithredu yn Lloegr fu torri gwerth y grant cynnal refeniw, ac mae hynny’n gorfodi cynghorau wedyn wrth gwrs i ddibynnu ar ardrethi busnes ac incwm y dreth gyngor heb adolygu adnoddau ac anghenion cymharol awdurdodau yn Lloegr. Ac mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi nodi, lle caiff asesiadau o anghenion eu defnyddio yn Lloegr, eu bod yn dibynnu ar ddata sy'n o leiaf 10 mlwydd oed, ac yn y rhan fwyaf o achosion, yn 20 mlwydd oed. Ac fel y dywedaf, caiff y mwyafrif helaeth o'n data ei ddiweddaru'n flynyddol.
Bydd pryderon bob amser nad yw cymorth Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol yn cael ei ddarparu’n deg. Ceir cred nad yw rhai awdurdodau lleol yn cael cyfran deg. Er, mae'n rhaid imi gyfaddef, nid oes unrhyw un wedi cwyno eu bod yn derbyn gormod. [Chwerthin.] A gaf fi ofyn i’r Gweinidog gyhoeddi’r asesiadau o wariant safonol a’r cyfrifiadau cyllid allanol cyfanredol—nid y cyfanswm terfynol yn unig ond y cyfrifiadau y mae’n rhaid eu bod gennych? A wnewch chi eu cyhoeddi, fel y gall pawb weld sut y cyrhaeddant y cyfanswm terfynol hwnnw, neu byddwn yn parhau i gael Aelodau, gan gynnwys Peter Fox, rwy'n dychmygu, yn dweud 'Rydym wedi cael ein trin yn annheg ym Mynwy'?
Felly, wrth gwrs, Mynwy a gafodd y cynnydd uchaf o’r holl awdurdodau lleol yn y flwyddyn ariannol hon, ac unwaith eto, mae hynny’n un o ffactorau’r fformiwla sydd ar waith i sicrhau cyllid teg ledled Cymru. Ond yn sicr, rwyf wedi ymrwymo i wella eglurder a thryloywder yr wybodaeth a gyhoeddwn. Felly, yn ogystal â’r adroddiad cyllid llywodraeth leol, sy'n cael ei osod gerbron y Senedd, ac sy’n nodi sail y cyfrifiadau, rydym hefyd yn cyhoeddi’r Llyfr Gwyrdd, ac o’r setliad presennol ymlaen, bydd y Llyfr Gwyrdd yn cael ei gyflwyno mewn fformat mwy hygyrch er mwyn gwneud yr wybodaeth yn gliriach i ddarllenwyr. Mae'n darparu gwybodaeth ynglŷn â sut y cyfrifir yr asesiad o wariant safonol, yn ogystal â darparu gwerthoedd y dangosydd a'r pwysoliadau a ddefnyddiwyd i gyfrifo pob un o'r 55 o asesiadau ar sail dangosydd ar gyfer gwasanaethau. Felly, rydym yn sicr yn bwrw ymlaen â'r gwaith ar yr agenda hon. Rwyf wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid yn ddiweddar ynglŷn â hynny, a gwn fod gan y Pwyllgor Cyllid gryn ddiddordeb yn y mater. Mae swyddogion yn cynnal sesiwn fel mater o drefn cyn y setliad llywodraeth leol ar gyfer y pwyllgor llywodraeth leol, ond rwyf wedi awgrymu, yn y dyfodol, y gallai fod yn rhywbeth y gallai fod gan y Pwyllgor Cyllid ddiddordeb mewn cymryd rhan ynddo hefyd. Ond fel y dywedaf, rwyf wedi ymrwymo i wella tryloywder y data a faint o ddata a ddarparwn yn gyson.
Mae Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf yn parhau i fod â rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, yn seiliedig ar fynegai amddifadedd lluosog Cymru. Mae gwahaniaethau sylweddol mewn disgwyliad oes rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig. Bu cynnydd dros y blynyddoedd diwethaf yn nifer y bobl dan 18 oed sy'n byw mewn tlodi parhaus. Mae mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yn gymaint o broblem yn y Cymoedd uchaf ag ydyw yng nghefn gwlad gorllewin a chanolbarth Cymru. Mae galw cynyddol am dai cymdeithasol, a chynnydd mewn ceisiadau digartrefedd. Ac mae rhai'n dal i wynebu heriau bod yn ddi-waith yn hirdymor, neu ddiffyg sgiliau cyflogaeth sylfaenol. Nawr, mae gan RhCT a Phen-y-bont ar Ogwr gamau ar waith i fynd i’r afael â’r problemau enbyd a dwfn hyn, sy'n deillio o gyfnod o ddad-ddiwydiannu Ceidwadol a chau pyllau glo yn ystod blynyddoedd Thatcher, ac maent wedi’u gwaethygu gan y cyni parhaus ers 2010. Mae angen inni gadw'r ffocws ar y cymunedau hyn. Felly, Weinidog, o ran dosbarthu cyllid yn deg i awdurdodau lleol, a wnewch chi sicrhau bod lefelau amddifadedd, a'r sialens o wrthdroi heriau sydd wedi bodoli ers cenedlaethau ac sy’n effeithio ar gynifer o bobl, yn adlewyrchu’r gwirioneddau hyn i'r cymunedau a’r unigolion hyn, a’r awdurdodau lleol a'r sefydliadau gwirfoddol y maent yn dibynnu arnynt?
Rwy’n gwbl ymrwymedig i sicrhau bod y fformiwla'n parhau i gydnabod y dangosyddion sy’n cydnabod yr anawsterau y mae cymunedau penodol yn eu hwynebu, a bydd hynny’n parhau i fod yn wir yn y dyfodol.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox.
Diolch, Lywydd. Fel y gwyddoch, Weinidog, mae cost eithriadol o uchel gofal plant yn gorfodi llawer o bobl yng Nghymru, yn enwedig menywod, allan o’r farchnad swyddi. Gwn fod llawer o bobl yng Nghymru yn hynod siomedig nad yw’r weinyddiaeth Lafur yma yn dilyn esiampl Llywodraeth Geidwadol y DU ac yn ehangu gofal plant i gynnwys pob plentyn naw mis oed a hŷn. Mae eich cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru yn cynnig cynllun llawer llai hael, ond mae hyd yn oed hwnnw i’w weld yn aros yn ei unfan. Mae'n destun pryder fod un o Weinidogion Llywodraeth Cymru wedi dweud fis diwethaf na fyddai eich polisi gofal plant blaenllaw yn digwydd os na ellir recriwtio mwy o weithwyr meithrin, a Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol am hynny. Weinidog, pa ymrwymiadau ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud er mwyn denu mwy o staff i’r sector gofal plant? A phryd y gall rhieni plant o dan dair oed ddisgwyl cael eu clywed?
Wel, hoffwn awgrymu bod hwn yn gwestiwn y dylid ei ofyn i'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am ofal plant, ond rwy’n fwy na pharod i ddarparu rhywfaint o wybodaeth bellach, yn enwedig yng nghyd-destun datganiad y gwanwyn. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gwario dros £100 miliwn y flwyddyn ar gyflawni ein hymrwymiad gofal plant uchelgeisiol iawn, sydd gennym fel rhan o’n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, ac o ganlyniad i hynny, nid oes angen i bobl ledled Cymru fod yn siomedig, oherwydd heddiw, mae ganddynt fynediad at gynnig gwell a mwy hael yma yng Nghymru nag sydd ar gael i bobl dros y ffin yn Lloegr. Yr hyn y mae Llywodraeth y DU wedi’i nodi yw'r targed terfynol y maent am ei gyrraedd ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf. Credaf fod Llywodraeth y DU yn nodi cynlluniau nad oes ganddi unrhyw fwriad o'u cyflawni mewn gwirionedd. A gadewch inni edrych ar ba mor araf y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu gwneud cynnydd. Felly, fel y dywedaf, rydym eisoes yn gwario £100 miliwn y flwyddyn ar ein haddewid gofal plant, sydd eisoes yn fwy hael, ond £12 miliwn yn unig o gyllid canlyniadol y mae Llywodraeth y DU wedi'i roi i ni yn y flwyddyn ariannol hon. Felly, mae hynny'n awgrymu nad yw Llywodraeth y DU ar unrhyw frys i wneud unrhyw gynnydd o gwbl ar ei haddewid penodol, a chredaf fod yn rhaid ystyried hynny hefyd. Rydym eisoes ymhell ar y blaen. Mae Llywodraeth y DU yn ceisio dal i fyny, ac rydym eisoes yn gwario llawer iawn mwy nag sydd gennym mewn cyllid canlyniadol. Yn amlwg, nid yw Llywodraeth y DU yn bwriadu symud yn gyflym iawn ar hyn.
Credaf fod y pwynt y mae’r Aelod yn ei godi ynglŷn â recriwtio i’r sector yn un gwirioneddol bwysig. Ac un o'r rhesymau pam y bydd Llywodraeth y DU mor araf yn cyflawni ei haddewid yw am ei bod yn cymryd amser hir i recriwtio pobl i'r sector, i sicrhau bod adeiladau'n briodol ar gyfer lleoliadau gofal plant ac yn y blaen. Felly, fel y dywedaf, credaf ein bod eisoes ymhell ar y blaen, a byddwn yn synnu’n fawr iawn pe baem yn gweld unrhyw gynnydd cyflym gan Lywodraeth y DU dros y ffin.
Weinidog, credaf fod llawer o rieni plant ifanc iawn yn anghytuno neu’n methu gweld neu wedi colli unrhyw obaith y gallai’r pethau hyn ddigwydd, ac mae’n amlwg yn friff cyllid, gan fod angen inni ddod o hyd arian i allu sicrhau digon o staff i gyflwyno hyn, ac rwy'n gobeithio bod strategaeth gydlynol ar waith i wneud hynny.
Weinidog, dro ar ôl tro, rydym wedi gweld yr effeithiau y mae blynyddoedd o danariannu gan Lafur wedi’u cael ar ein GIG. Fel y gwyddom, mae Llywodraeth Cymru'n cael £1.20 am bob £1 a werir ar iechyd yn Lloegr, ond yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru, dim ond £1.05 o hynny sy’n mynd i’r GIG yng Nghymru. Mae methiant i ariannu’r gwasanaeth cyhoeddus hanfodol hwn wedi gadael bron i chwarter ein cyd-Gymry ar restr aros y GIG ac wedi creu cryn dipyn o bryder. Gŵyr pob un ohonom fod rhestr hir o arbenigeddau mewn trafferthion yn ein GIG, megis clefyd yr ysgyfaint a thriniaeth canser arbenigol, sydd angen cyllid gan Lywodraeth Cymru ar frys i ddarparu’r gwasanaethau hanfodol y maent yn eu cynnig, ac rydym ni, fel cynrychiolwyr etholedig, yn clywed galwadau gan wahanol sefydliadau yn rheolaidd, fel y gwyddoch. Felly, Weinidog, yr hyn yr hoffwn ei wybod yw sut rydych yn dyrannu arian i'r gwasanaethau arbenigol gwahanol hyn. Sut rydych yn defnyddio’r cyfoeth o ddata iechyd yng Nghymru, y mae rhywfaint ohono ymysg y gorau yng Nghymru? A oes strategaeth feddylgar ar waith, neu a yw'n fater o bwy sy'n gweiddi uchaf?
Wel, Lywydd, unwaith eto, mae gennym gwestiwn y byddai'n well ei ofyn i'r Gweinidog iechyd yn ôl pob tebyg, gan mai ei chyfrifoldeb hi yw cyfeirio ei chyllideb at y gwasanaethau sy’n mynd i gael yr effaith fwyaf buddiol ar iechyd pobl Cymru. Ond ar y pwynt ynglŷn â Chymru’n cael mwy o arian y pen nag sy’n wir dros y ffin, wel, wrth gwrs, nid yw hynny’n wir ledled Lloegr gyfan, oherwydd, wrth gwrs, bydd yna ardaloedd yn Lloegr sydd angen lefelau uwch o gyllid gan fod ganddynt nodweddion tebyg i’r rheini sydd gennym yng Nghymru. A rhai o'r rhesymau pam fod gennym y cyllid ychwanegol hwnnw yw bod gennym batrwm anheddu gwasgaredig yma yng Nghymru ac mae ein demograffeg yn wahanol, ac mae'r ddau beth hynny, fel rydym wedi'i grybwyll yng nghyd-destun y setliad llywodraeth leol, yn cynyddu cost darparu gwasanaethau cyhoeddus.
Felly, mae 6.7 milltir o ffordd am bob 1,000 o bobl yng Nghymru, a 3.4 milltir yn Lloegr. Mae bron i ddwywaith cymaint o ffyrdd i ni eu cynnal fesul pen o’r boblogaeth yma yng Nghymru o gymharu â dros y ffin. Yn amlwg, mae hynny’n costio mwy i ni, ac mae poblogaeth wasgaredig yn golygu bod gennym nifer mwy o ysgolion llai o faint. Yn amlwg, mae darparu addysg yn costio mwy yng Nghymru. Ac fel y bydd fy nghyd-Aelodau’n gwybod, mae gennym boblogaeth hŷn yma yng Nghymru gyda lefelau uwch o salwch ac anabledd, ac yn anochel, wrth gwrs, mae cost darparu gofal i’r bobl hynny yn uwch yma na dros y ffin. Felly, mae rhesymau da a dilys pam y caiff Cymru ei hariannu yn y ffordd y caiff ei hariannu, ac rwy'n falch iawn fod y Prif Weinidog wedi gallu negodi hynny fel rhan o'n setliad pan oedd yn y rôl gyllid.
Diolch, Weinidog. Mater pwysig arall yw bod Cymru ar ei hôl hi o gymharu â llawer o weddill y Deyrnas Unedig gyda chymorth i fusnesau. Weinidog, mae pob un ohonom yn ymwybodol o'r ystadegau: mae busnesau yng Nghymru yn wynebu’r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain, tra bo gweithwyr yn cael y cyflog isaf yn y Deyrnas Unedig—£3,000 yn llai na’u cymheiriaid dros y ffin, sy'n syfrdanol.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi clywed llawer o sôn am yr hyn y gellid ei wneud i gefnogi busnesau ymhellach yng Nghymru, ond ychydig iawn sy'n cael ei gynnig. Mae'r ansicrwydd hwn yn peri pryder i fusnesau sydd angen sicrwydd a chysondeb. Maent angen gwybod bod Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi. Yn anffodus, nid yw'n teimlo felly ar hyn o bryd. Gallai’r ansicrwydd hwn, ynghyd â’r bygythiad sydd ar y ffordd ar ffurf trethi llechwraidd, megis y dreth dwristiaeth ar ein sector twristiaeth gwerthfawr, fod yn hynod niweidiol i’r tirlun busnes cyffredinol yng Nghymru, gyda llawer o fusnesau twristiaeth ar y ffin yn symud i Loegr. Weinidog, a ydych yn cytuno fod busnesau yng Nghymru angen gweld gweithredu, nid geiriau'n unig, er mwyn gallu meithrin amgylchedd busnes ar gyfer twf? A sut mae’r Gweinidog yn credu y bydd cynyddu beichiau ac ansicrwydd i fusnesau yn eu galluogi i dyfu a chyflawni eu potensial llawn?
Nid wyf yn siŵr o ble y daw’r ansicrwydd hwn gan fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ei chyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol hon ac fe’i cymeradwywyd eisoes gan y Senedd hon, felly ni ddylai fod unrhyw ansicrwydd, gan ein bod yn darparu lefel sylweddol a hael o gymorth i fusnesau.
Felly, mae gennym ein rhyddhad ardrethi manwerthu, hamdden a lletygarwch, sy’n darparu dros £140 miliwn o ryddhad ardrethi annomestig i fusnesau yn y sectorau hynny, a bydd talwyr ardrethi cymwys yma yn cael rhyddhad ardrethi annomestig o 75 y cant drwy gydol 2023-24. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn costio mwy i ni ei wneud yma yng Nghymru, oherwydd natur ein sylfaen drethu. Felly, dyna enghraifft, unwaith eto, o sut mae'n costio mwy inni gyflawni pethau yng Nghymru. Ond hoffwn ddweud na chawsom geiniog yn rhagor i gydnabod hynny gan Lywodraeth y DU.
Ac rydym wedi cyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi trosiannol yma, sy'n gynllun teg a syml. Ac unwaith eto, mae ein cynllun yma yn fwy addas ar gyfer y busnesau sydd gennym yma yng Nghymru—mae wedi cael ei groesawu'n fawr—felly, ni ddylai fod unrhyw ddryswch ynglŷn â hynny. Ac mae ein cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach parhaol ar waith eto eleni—nid yw'n mynd i unman, felly nid wyf yn gwybod pam y dylai fod unrhyw ddryswch yn hynny o beth.
Rydym wedi cyhoeddi rhaglen ddiwygio, ond unwaith eto, ymateb ydyw i bethau y mae busnesau'n dweud wrthym eu bod yn dymuno'u cael. Felly, roedd yr ymgynghoriad yn ymdrin ag ystod eang o newidiadau a argymhellwyd i'r system ardrethi annomestig, gan gynnwys prisiadau amlach—mae hynny'n rhywbeth y mae busnesau wedi galw amdano; y posibilrwydd o amrywio'r lluosydd; gwell llif gwybodaeth—mae'n rhaid bod hynny'n newyddion da; yn ogystal ag adolygu'r pecyn presennol o ryddhad ac eithriadau ar gyfer y dyfodol a mynd i'r afael â materion yn ymwneud â thwyll ac osgoi. Felly, mae'r rhain yn bethau rydym yn eu gwneud mewn partneriaeth â busnesau ledled Cymru ac ni ddylai fod unrhyw ddryswch ynglŷn â beth yw'r cynlluniau hynny, gan eu bod yn sicr yn cael eu datblygu mewn partneriaeth.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gweinidog, fe wnaeth y Senedd yn ddiweddar, wrth gwrs, uno tu ôl i gynnig Plaid Cymru i alw am i siâr deg o gyllid ddod i Gymru yn sgil gwariant ar HS2 yn Lloegr. Nawr, mae hwnna wedi arwain at arian ychwanegol i’r Alban; mae e wedi arwain at arian ychwanegol i Ogledd Iwerddon, ond wrth gwrs, mae Cymru yn cael ei thrin yn wahanol. Mae cefnogaeth unfrydol y Senedd yma yn dangos bod y teimlad yna o anghyfiawnder yn cael ei rannu ar draws y pleidiau yn y Siambr yma. A gaf i ofyn, felly, oherwydd goblygiadau cyllidol sylweddol hynny i ni yma yng Nghymru, pa achos ŷch chi wedi’i gyflwyno i Lywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn ceisio eu darbwyllo nhw i drin Cymru yn gyfartal â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig? Ac, a ydy Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno unrhyw fath o her ffurfiol yn erbyn y penderfyniad annheg yma gan Lywodraeth San Steffan?
Felly, rwyf wedi codi hyn ar sawl achlysur gyda nifer o Brif Ysgrifenyddion y Trysorlys dros y blynyddoedd a'r ffaith ei bod yn amlwg nad yw HS2 yn brosiect Cymru a Lloegr, ac mae’n mynd yn llai felly drwy’r amser, o ran yr uchelgeisiau ar gyfer HS2. Felly, rwyf wedi nodi hynny ynghyd â’r holl bryderon eraill sydd gennym am y modd y mae Llywodraeth y DU wedi esgeuluso'i chyfrifoldeb i fuddsoddi yn y rheilffyrdd yma yng Nghymru dros nifer o flynyddoedd.
Felly, mae’r trafodaethau hynny'n mynd rhagddynt, fel y dywedaf. Mae’n rhywbeth y byddwn yn parhau i fynd ar ei drywydd, wrth gwrs. Mae dadansoddiad Trysorlys Llywodraeth y DU ei hun yn dangos, mewn gwirionedd, y bydd yn arwain at anfantais i Gymru, yn enwedig de-orllewin Cymru, gan y bydd yn denu busnes a buddsoddiad o'r ardal honno, felly yn amlwg, mae’r holl ddadleuon yno, ac rwy’n falch fod gennym gonsensws trawsbleidiol ar y mater hwnnw yn y Senedd.
O ran cwyn ffurfiol, os mynnwch, gwn fod yr Aelod yn cyfeirio at y broses ddatrys anghydfodau rhynglywodraethol pan fo'r anghydfodau hynny'n codi, felly naddo, nid ydym wedi lansio proses ddatrys anghydfod ffurfiol eto. Yn amlwg, mae’r pethau hynny’n cymryd cryn dipyn o amser, ac mae gennym blât eithaf mawr o bethau i edrych arnynt o ran pa feysydd y byddem am godi’r anghydfod ffurfiol penodol hwnnw yn eu cylch, felly pan fyddwn yn gwneud hynny, credaf fod yn rhaid ei wneud mewn ffordd ystyriol, ac yn fy marn i, byddai'n rhaid inni gael yr eitem benodol honno y gallwn gael y mwyaf o fudd ohoni, o ran cyllid, ond hefyd o ran gosod cynsail ar gyfer y dyfodol.
Wel, byddwn yn awgrymu bod £5 biliwn yn werth proses hir, hyd yn oed os ydych chi braidd yn brysur ar hyn o bryd, gan y credaf mai dyna a ddywedoch chi, i bob pwrpas. Fe wyddoch fod gan ddatganiad polisi cyllido Trysorlys EF adran ar anghydfodau ac anghytundebau; tybed a fyddech yn ei defnyddio o gwbl? Fe sonioch chi am y prosesau datrys anghydfodau rydych wedi cytuno arnynt fel gweinyddiaethau datganoledig gyda Llywodraeth y DU neu’n unigol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU; pam eu bod yno, felly, oni bai eich bod yn fodlon eu defnyddio?
Mae yna gwestiwn hefyd ynglŷn ag a wnaeth y Llywodraeth ystyried adolygiad barnwrol ai peidio pan wnaed y penderfyniad gwreiddiol hwnnw, neu ar unrhyw gam arall ers hynny, ac os nad oes unrhyw un o’r rheini’n bosibl, neu os nad oes un o’r rheini'n briodol yn eich barn chi, beth mae hynny’n ei ddweud wrthym am y setliad datganoli, a beth mae hynny’n ei ddweud wrthym am y ffordd y caiff Cymru ei thrin o fewn y Deyrnas Unedig?
Lywydd, nid wyf am wneud unrhyw gyhoeddiadau ynglŷn ag unrhyw ddefnydd a wnawn o'r mecanwaith anghydfodau yn y sesiwn gwestiynau. Credaf fod hynny’n rhywbeth y bydd y Prif Weinidog, pan ddaw’r amser, am adrodd arno i’r Senedd. Ac nid yw'n wir fy mod yn rhy brysur; credaf fod hwnnw’n sylw braidd yn gellweirus ar ran yr Aelod y prynhawn yma. Yr hyn rwy'n ei ddweud yw bod nifer o bethau y credaf y byddai’r Aelod yn cytuno bod gennym achos dilys drostynt, ac mae’n bwysig inni fod yn strategol yn y ffordd rydym yn ymdrin â’r anghydfodau.
3. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfarfodydd aml-leoliad awdurdodau lleol? OQ59484
Gwnaf. Nid yw ein polisi wedi newid. Mae pob cyngor yn gyfrifol am sicrhau bod eu trefniadau ar gyfer cyfarfodydd yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol a nodir yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a'r rheoliadau a'r canllawiau cysylltiedig.
Diolch, Weinidog. Rwy'n sylweddoli bod awdurdodau lleol yn sefydliadau ymreolaethol, ond yn fy rhanbarth i, Bro Morgannwg, er enghraifft, un cyfarfod hybrid yn unig a gynhaliodd. Cynhelir pob cyfarfod fel arall ar Zoom neu Teams, neu ba bynnag gyfrifiaduron eraill y maent yn dewis eu defnyddio. Ni all hynny fod yn dderbyniol, Weinidog, pan fo awdurdod lleol, fel Caerdydd, er enghraifft, yn cynnig y model hybrid hwnnw, a Rhondda Cynon Taf, yr awdurdod lleol arall yn fy ardal i, yn cynnig y model hybrid. Onid yw’n bryd i’r Llywodraeth ystyried sicrhau bod awdurdodau lleol yn cynnig fformat hybrid, o leiaf, ar gyfer cyfarfodydd, fel bod y cyhoedd yn cael cyfle i ymgysylltu’n bersonol, a gall y cynghorwyr eu hunain, ers yr etholiad diwethaf, ddechrau meithrin perthynas â'u cyd-gynghorwyr, i greu democratiaeth addas yn ein neuaddau tref ledled Cymru?
Wel, nid yw’r ddeddfwriaeth ei hun, fel y gŵyr yr Aelod, yn ei gwneud yn ofynnol i gynnal cyfarfodydd mewn fformat penodol, ac fel y dywed, mater i bob awdurdod yw cytuno ar eu trefniadau eu hunain, gan gynnwys sut y gall aelodau gymryd rhan yn y trafodion hynny yn ddiogel. Rydym yn cynnal trafodaethau gydag awdurdodau lleol ynghylch gweithredu’r trefniadau sydd wedi datblygu ers COVID, a byddwn yn cael adolygiad o’r canllawiau a ddarparwn ar gyfer cyfarfodydd hybrid neu rithwir yn nes ymlaen eleni. Rwy’n deall y pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud. Credaf fod ffyrdd y tu allan i’r cyfarfodydd ffurfiol hynny i aelodau sefydlu’r cysylltiadau hyn, ac wrth gwrs, byddwn yn parhau i gael trafodaethau, gyda CLlLC ond gydag Un Llais Cymru hefyd, i sicrhau bod cynghorau’n gweithio o fewn y ddeddfwriaeth, ond hefyd eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt gennym ni. Rydym wedi bod yn gwneud llawer o waith gyda'r swyddog digidol llywodraeth leol, er enghraifft, i archwilio pa gymorth ychwanegol y gallai fod ei angen ar awdurdodau lleol yn y maes hwn. Ond mae arnaf ofn na chredaf fod gennyf ateb a fydd yn bodloni’r Aelod y prynhawn yma a'i awydd i ymbellhau oddi wrth gyfarfodydd ar-lein yn unig, oherwydd o ran y ddeddfwriaeth, nid oes safon aur nac un math o gyfarfod yn well nag unrhyw un arall ar gyfer cyflawni'r busnes.
4. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiwygio democratiaeth leol? OQ59471
Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn nodi fframwaith llywodraethu newydd ar gyfer ein cynghorau. Rwy’n gweithio gyda llywodraeth leol i roi’r ddeddfwriaeth hon ar waith ac yn darparu cyllid i gynyddu amrywiaeth, gwella llywodraethiant a chyflawni trawsnewidiad digidol.
Hoffwn ddiolch i’r Gweinidog am ei hateb. Mae'n hanfodol bwysig fod cymaint o bobl â phosibl yn sefyll mewn etholiadau lleol i gynyddu mynediad at ddemocratiaeth leol. Fodd bynnag, mae llawer o’r bobl sy’n sefyll yn wynebu llif o gamdriniaeth ar-lein, sy’n gwbl annerbyniol, ac mae menywod yn ei chael hi'n llawer gwaeth na dynion, ac nid oes unrhyw le i hyn yn ein cymdeithas. Felly, Weinidog, hoffwn wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod democratiaeth leol yn fwy hygyrch i bobl ac i atal ein gwleidyddion rhag cael eu cam-drin?
Fe ddechreuaf gyda'r pwynt ynglŷn â chamdriniaeth. Yn amlwg, mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom i dynnu sylw at ymddygiad annerbyniol a mabwysiadu ymagwedd dim goddefgarwch at fwlio ac aflonyddu o bob math. Felly, rhoddaf sicrwydd i’r Aelod ein bod yn gweithio’n agos gyda CLlLC ac Un Llais Cymru i hyrwyddo hyfforddiant ar y cod ymddygiad, a hefyd i weithredu’r newidiadau i'r fframwaith moesegol yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, sy’n gosod dyletswydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i hybu safonau ymddygiad uchel ac sy’n ei gwneud yn ofynnol i bwyllgorau safonau eu cefnogi yn y ddyletswydd hon ac i fod yn fwy rhagweithiol eu hunain wrth fynd i’r afael ag achosion o dorri'r cod a'u hatal. Dywedaf hynny oherwydd pan wnaethom gynnal arolwg o gynghorwyr, deallwn fod llawer o’r cynghorwyr hynny wedi dweud eu bod yn cael eu cam-drin gan gynghorwyr eraill, felly nid mater o gael eu cam-drin gan y cyhoedd yn unig, sydd hefyd yn broblem fawr, yw hyn. A dweud y gwir, mae angen inni edrych arno yn yr holl lefydd gwahanol. Felly, rydym yn gweithio gyda chynghorau drwy ein canllawiau statudol i sicrhau bod cynghorwyr yn gwybod ble y gallant fynd i gael cymorth os ydynt yn cael eu cam-drin, ac rydym yn gallu sicrhau bod cymorth ar gael ar gyfer hyfforddiant i ymdrin ag aflonyddu ac adeiladu eich gwytnwch personol eich hun.
Rydym yn gwneud llawer o waith hefyd i geisio sicrhau bod dod yn gynghorydd, naill ai ar lefel cyngor sir neu ar lefel cyngor tref a chymuned, yn haws i bobl ei wneud. Yn amlwg, mae gennym ein cronfa mynediad i swyddi etholedig, sydd wedi bod yn wirioneddol bwysig wrth helpu pobl i ddod yn gynghorwyr tref a chymuned am y tro cyntaf. Rydym yn ymrwymedig iawn i ymestyn y gronfa honno. Rydym hefyd wedi cyflwyno ein trefniadau rhannu swyddi. Mae gennym drefniadau gweithio hybrid, sef yr hyn rydym newydd fod yn sôn amdano, er enghraifft, ac rydym hefyd wedi cyflwyno rheolau newydd ynghylch absenoldeb teuluol, fel bod pobl sy'n mabwysiadu, er enghraifft, yn gallu cael amser i'w dreulio gyda'u plentyn mabwysiedig i feithrin y berthynas honno. Felly, rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn ystyried pob math o wahanol ffyrdd o sicrhau bod dod yn gynghorydd yn fwy deniadol i bobl, a phan fydd pobl yn gynghorwyr, i sicrhau bod hynny'n brofiad da iddynt.
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu cyllidebau rhanbarthol Llywodraeth Cymru yn ystod y Chweched Senedd? OQ59472
Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i fod wedi ymrwymo i roi cymorth teg i bob rhanbarth yng Nghymru. Rydym yn parhau i wneud buddsoddiadau ym maes iechyd, addysg, llywodraeth leol a datblygu economaidd rhanbarthol sy'n rhoi sylw i ystyriaethau rhanbarthol.
Diolch yn fawr am eich ymateb, Weinidog. Yn ystod pumed tymor y Senedd, wrth gwrs, cafwyd llawer o drafod cyn y pandemig COVID ynghylch sefydlu cyllidebau dangosol rhanbarthol, yn enwedig mewn perthynas â datblygu economaidd, iechyd a gofal ac addysg, a darpariaeth a gwasanaethau eraill. Pa fath o fformiwla a gafodd ei hystyried, ac a benderfynwyd ar fformiwla ar gyfer cyllidebu rhanbarthol, yn enwedig mewn perthynas â chyllid yn lle cyllid yr UE, ynglŷn â ble y dylid cyfeirio buddsoddiad?
Wel fe ddechreuaf drwy gydnabod y gwaith a wnaeth Ken Skates pan oedd yn gyfrifol am bortffolio'r economi yn y Senedd ddiwethaf, a arweiniodd at gamau gwirioneddol arwyddocaol ymlaen o ran sbarduno datblygu rhanbarthol yng Nghymru, ac mae ystyriaethau rhanbarthol yn parhau i fod yn un o nifer o ffactorau sydd dan ystyriaeth wrth ddyrannu cyllidebau.
Ond o safbwynt adran yr economi, cwblhaodd adolygiad manwl o fformiwla briodol i sicrhau cyllid teg i'r rhanbarthau mewn perthynas â datblygu economaidd, ac mae'r fformiwla honno'n defnyddio cyfuniad o ffigurau economaidd caled ochr yn ochr â phwysoliad ar gyfer ystyriaethau gofodol a chymdeithasol, megis lefelau cyflogaeth ac amddifadedd, lle a lleoliadau. Ac unwaith eto, un thema a welwyd yn y cwestiynau y prynhawn yma yw'r ffordd rydym yn cydnabod amddifadedd ac ystyriaethau gofodol hefyd. Felly, mae'r egwyddorion hynny'n cael eu cymhwyso ar draws gwariant y portffolio, ac mae modd dangos hynny mewn gwasanaethau fel Busnes Cymru, i sicrhau bod yna ranbartholi cyllidebol o fewn yr economi a'i fod yn gytbwys ac yn briodol. Felly, ar y sefyllfa ar ôl yr UE, rydym yn gweithio gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i adolygu ei ymagwedd at ddatblygu economaidd gyda Chymru i sicrhau bod gennym ddull cywir o ddyrannu cyllid sy'n wybodus ac wedi'i lywio gan ddata yn y dyfodol.
A gaf fi gefnogi Ken Skates am godi'r pwnc yma heddiw, gan fod nifer o fy nhrigolion yng ngogledd Cymru yn meddwl eu bod yn cael cam gan Lywodraeth Lafur Caerdydd? Weinidog, gallwch ddeall pam pan welwch rai o'r pethau y mae fy nhrigolion yn eu hwynebu yn y gogledd. Mae gennym drafnidiaeth gyhoeddus sydd heb ei ariannu'n ddigonol, gyda metro—mae tua £50 miliwn wedi'i ymrwymo i hynny, tra bo cannoedd ar gannoedd o filiynau o bunnoedd wedi'i ymrwymo i system metro yma yn ne Cymru. Mae bron bob buddsoddiad ffordd wedi'i ganslo yng ngogledd Cymru, tra bod cannoedd ar gannoedd o filiynau o bunnoedd wedi'u buddsoddi mewn ffyrdd yma yn ne Cymru eto. Mae gennym fwrdd iechyd sy'n ymddangos fel pe bai i mewn ac allan o fesurau arbennig ac mewn mesurau arbennig unwaith eto, ac ysbytai'n gwegian o dan y pwysau. Ac fel sydd eisoes wedi'i grybwyll heddiw, gwyddom fod Llywodraeth Cymru'n cael £1.20 i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus am bob £1 a werir yn Lloegr. Felly, ymddengys i mi fod y diffyg buddsoddiad yn fy ardal yn ddewis gwleidyddol.
Mae'n amlwg i mi fod angen symud mwy o bŵer o Fae Caerdydd i ogledd Cymru ac i'r rhanbarthau oherwydd rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno, Weinidog, nad yw gwir ddatganoli'n ymwneud â chrynhoi pwerau mewn un lle, ond eu cael mor agos at bobl gyffredin â phosibl. Felly, Weinidog, yn sgil y cwestiwn gan Ken Skates, a'r daith i lle rydym wedi'i gyrraedd hyd yma gyda chyllidebau rhanbarthol, a wnewch chi ymrwymo heddiw, i'r bobl rwy'n eu cynrychioli yng ngogledd Cymru, i sicrhau bod mwy o bŵer yn cael ei ddatganoli i'r rhanbarth a mwy o fewnbwn ar gyllidebau rhanbarthol?
Un syniad rhagorol, wrth gwrs, o ran y ffordd y bwriadwn ddatganoli pwerau fyddai rhoi gallu i awdurdodau lleol godi ardoll twristiaeth yn y cymunedau lle teimlant ei fod yn beth priodol iddynt ei wneud, a dyna un enghraifft yn unig o sut y byddem yn edrych ar ddatganoli pwerau.
Ond os edrychwn ar y fframweithiau economaidd rhanbarthol sydd wedi'u sefydlu, rwy'n credu eu bod yn bendant yn cydnabod y cyd-flaenoriaethau sy'n bodoli rhwng awdurdodau lleol a hefyd yn adeiladu ar y prosiectau awdurdodau traws-leol sy'n bodoli. Felly, yng ngogledd Cymru yn arbennig, rydym wedi cydweithio ochr yn ochr ag Uchelgais Gogledd Cymru a phartneriaid ehangach i gydgynllunio a chyflwyno'r fframwaith rhanbarthol ar gyfer gogledd Cymru, ac mae hwnnw'n nodi blaenoriaethau ar gyfer y rhanbarth, ac mae'n cael ei ystyried ar hyn o bryd gan bob un o'r awdurdodau lleol ar gyfer ei gymeradwyo gan bob un, ac mae gennym gefnogaeth i'r fframwaith.
Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cynllun cyflawni ar gyfer y blaenoriaethau a nodwyd yn y fframwaith, a byddant yn cydnabod ac yn adeiladu ar bartneriaethau a phrosiectau presennol, gan gynnwys cytundeb twf gogledd Cymru a strategaeth ynni gogledd Cymru, er mwyn sicrhau'r buddion economaidd mwyaf yno. Cafodd y gwaith hwnnw ei ohirio oherwydd bod awdurdodau lleol wedi gorfod defnyddio eu hadnoddau cyfyngedig i wneud cais am gyllid ffyniant bro a chronfa ffyniant gyffredin Llywodraeth y DU, ond mae'r gwaith hwnnw'n parhau nawr, ac wrth symud ymlaen, gall y fframwaith ddarparu sylfaen bwysig i gyd-bwyllgor corfforedig gogledd Cymru mewn perthynas â'i swyddogaethau llesiant economaidd. Felly, rwy'n gwybod y byddai Gweinidog yr Economi yn awyddus iawn i ddarparu unrhyw fanylion pellach am unrhyw un o'r eitemau hynny i'r Aelod.FootnoteLink
6. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar waith caffael sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i gefnogi awdurdodau lleol gyda'u costau ynni? OQ59490
Ie. Mae caffael ynni wedi datblygu'n dda ar draws llywodraeth leol. Mae 21 o awdurdodau lleol yn cymryd rhan mewn strategaethau prynu ymlaen llaw i leihau effaith anwadalrwydd y farchnad ar eu biliau ynni. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu gwasanaeth rheoli ynni ar gyfer dros 70 o sefydliadau sector cyhoeddus a thrydydd sector, gan gynnwys 16 awdurdod lleol.
Diolch, Weinidog. Wrth gwrs, mae pwysau ar awdurdodau lleol i leihau allyriadau cwmpas 3, sef allyriadau y maent yn gyfrifol amdanynt yn anuniongyrchol i fyny ac i lawr y gadwyn gyflenwi drwy’r nwyddau a’r gwasanaethau a brynwyd ganddynt. Wrth gwrs, mae cyllidebau’n dynn i lawer o awdurdodau lleol ar hyn o bryd a bydd yn her iddynt wneud dewisiadau ynghylch ynni yn y tymor hir a'r tymor byr. A yw’r dewisiadau hyn yn cael eu gadael i ddisgresiwn awdurdodau lleol yn unig, neu a yw Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau pellach neu gymorth gweithredol pellach yn y maes hwn?
Mae gennym wasanaeth caffael masnachol Llywodraeth Cymru, ac fel y dywedaf, mae hwnnw’n darparu gwasanaeth rheoli sy’n cynorthwyo 70 a mwy o gwsmeriaid ledled Cymru i gael y gwerth gorau am eu cyflenwad nwy a thrydan, ac mae’r rhan fwyaf o awdurdodau yn prynu eu hynni o fframwaith Gwasanaeth Masnachol y Goron, ac mae gan hwnnw strategaeth brynu ymlaen llaw sy’n golygu bod biliau misol cwsmeriaid yn cael eu diogelu rhag anwadalrwydd yn y prisiau byd-eang am fod yr ynni sydd ei angen ar gyfer ei gyflenwi yn 2023-24 wedi’i brynu ymlaen llaw. Felly, rwy’n meddwl bod rhai o’r strwythurau sydd gennym ar waith yn wirioneddol bwysig ac yn galluogi awdurdodau lleol i gael sicrwydd fod biliau’n symud ymlaen ar gyfer eu cynlluniau.
Rwy’n meddwl bod y pwynt a wnaed am wariant awdurdodau lleol a datgarboneiddio ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi, os mynnwch, yn y meysydd na allant eu rheoli’n uniongyrchol yn un pwysig iawn ac yn rhywbeth y mae’r panel datgarboneiddio wedi treulio llawer o amser yn ei ystyried, a rhywbeth y bydd pob awdurdod lleol yn ceisio mynd i’r afael ag ef yn eu cynlluniau datgarboneiddio hefyd. Felly, mae'n sicr yn rhywbeth sydd ar y radar ac yn rhywbeth y mae pob awdurdod lleol wrthi’n gweithio arno, ond yn yr un modd mae’n rhywbeth y mae'r panel datgarboneiddio yn ei ystyried mewn rhyw fath o ffordd strategol, gyda golwg ar ddarparu cymorth drwy Lywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu o’r fath. Ac wrth gwrs, fe fyddwch wedi gweld fod gennym rywfaint o gyllid penodol yn ein cyllideb ar gyfer awdurdodau lleol mewn perthynas â datgarboneiddio hefyd, felly mae'n ymdrech ar y cyd i raddau helaeth.
7. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar raglen gyfalaf 2023-24 Llywodraeth Cymru? OQ59463
Rwyf wedi dyrannu dros £8 biliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer y blynyddoedd ariannol 2022-23 i 2024-25, gan gynnwys dros £2.7 biliwn yn 2023-24. Bydd y cyllid hwn yn ei gwneud hi’n bosibl cyflawni amrywiaeth o ymrwymiadau’r rhaglen lywodraethu, gan gynnwys datgarboneiddio tai cymdeithasol Cymru, uwchraddio ein rhwydweithiau teithio cyhoeddus a theithio llesol, ac ymyriadau rheoli perygl llifogydd.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Mae cost adeiladu'n codi wrth i gost deunyddiau adeiladu a llafur godi. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y defnydd a ragwelir o’r model buddsoddi cydfuddiannol? Mae fy marn arno’n hysbys iawn: math ysgafn o fenter cyllid preifat ydyw. Er na fydd elfennau gwaethaf y mentrau cyllid preifat yn digwydd, megis peidio ag ariannu gwasanaethau meddal ac offer cyfalaf, a thaliadau fel £20 i newid bwlb golau, mae'n dal yn ddrud. A yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried defnyddio derbyniadau cyfalaf drwy werthu tir dros ben neu ddefnyddio gallu awdurdodau lleol i fenthyca er mwyn ariannu’r rhaglen gyfalaf?
Rydym yn parhau i ddefnyddio’r egwyddor sefydledig o ddefnyddio’r math rhataf o gyllid yn gyntaf, sef cyfalaf traddodiadol, ac yna trown at fenthyca a mathau mwy arloesol o fuddsoddi ar ôl hynny, megis y model buddsoddi cydfuddiannol, pan fydd cyfalaf traddodiadol wedi’i ddihysbyddu ond lle mae gennym uchelgais o hyd i wneud mwy.
Felly, y cynllun model buddsoddi cydfuddiannol cyntaf lle cwblhawyd yr agweddau ariannol oedd deuoli adrannau 5 a 6 o ffordd Blaenau’r Cymoedd, sy’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd, a’r ddau gynllun nesaf lle cwblhawyd yr agweddau ariannol oedd ysgol gydol oes yn sir y Fflint a bwndel ysgolion cynradd yn Rhondda Cynon Taf, ac mae’r prosiectau hyn hefyd wrthi’n cael eu hadeiladu, a disgwylir mai Canolfan Ganser Felindre fydd y cynllun nesaf i fynd drwy’r broses o gwblhau’r agweddau ariannol. Ond mae'n bwysig iawn nodi ei bod yn annhebygol iawn y byddid wedi gallu bwrw ymlaen â’r prosiectau hyn oni bai am y model buddsoddi cydfuddiannol oherwydd ein bod mor brin o gyfalaf a bod ein cyllideb gyfalaf mor dynn. Felly, rydym yn gwneud y pethau hyn pan symudwn drwy'r mathau rhatach eraill hynny o ariannu. Ond o ran adrodd i’r Senedd, fe gofiwch inni ddarparu adroddiad cynhwysfawr ym mis Gorffennaf 2022, a’n bwriad yw diweddaru hwnnw maes o law.
O ran derbyniadau cyfalaf, yn rhan o'n strategaeth rheoli asedau, mae derbyniadau cyfalaf a gynlluniwyd o waredu a gwerthu asedau yn cael eu nodi yn ein cyllidebau cyhoeddedig, a chânt eu hystyried wrth osod ein cyllidebau. Ond os oes unrhyw gyfleoedd yn ystod y flwyddyn, pan ddaw derbyniad cyfalaf heb ei gynllunio i law, mae hynny'n rhywbeth rwy’n ei drafod gyda'r Gweinidog dan sylw, gan gofio cyd-destun y pwysau ar draws y Llywodraeth.
Ac yna, ar fenthyca awdurdodau lleol, mae awdurdodau lleol yn gwneud eu penderfyniadau eu hunain ar lefel a defnydd o fenthyca, ond mae'n rhywbeth y cawn drafodaethau yn ei gylch i weld sut y gallant ddefnyddio'r cyfleuster hwnnw i wneud mwy o'r pethau y gwn y byddem yn hoffi eu cydnabod, unwaith eto, fel blaenoriaethau ar y cyd â llywodraeth leol.
A gaf fi fynd ar drywydd pwynt Mike Hedges am fodelau buddsoddi cydfuddiannol, oherwydd fel y sonioch chi, rwy'n credu, Weinidog, maent yn chwarae rhan bwysig yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gyflawni pethau na fyddai wedi gallu eu gwneud fel arall o bosibl? Ac rwy’n tybio mai'r rheswm a'r cyd-destun dros godi hyn yw fy mod yn meddwl bod y darlun yn gallu bod yn eithaf dryslyd p'un a yw Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn cefnogi'r modelau buddsoddi cydfuddiannol hyn mewn gwirionedd. Ym maniffesto Plaid Cymru nodaf eu bod yn eu cefnogi, ond wedyn maent wedi bod yn arbennig o feirniadol pan gânt eu gweithredu—daw prosiect Blaenau'r Cymoedd i’r cof. Pwy a ŵyr? Efallai y bydd gan Blaid Cymru farn wahanol ar hynny yn yr ychydig fisoedd nesaf. Ond o ran y Blaid Lafur hefyd, clywsom gan Mike Hedges, a darllenais flog—blog diddorol iawn—gan fy nghyd-Aelod yma, Carolyn Thomas yn ddiweddar, a ddywedodd eu bod i bob pwrpas yn atgyfodi cyllid menter preifat. Felly, a gaf fi glywed yn glir iawn gennych chi, Weinidog, a yw Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r defnydd o'r modelau buddsoddi cydfuddiannol hyn fel mesur allweddol yn y gyfres o fesurau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen ac adeiladu a buddsoddi yn y rhaglen gyfalaf honno?
Rydym yn cefnogi’r model buddsoddi cydfuddiannol yn llwyr, ond fel y dywedaf, mae'n fodel y trown ato ar ôl inni ddihysbyddu'r holl fathau rhatach o gyfalaf, a'r hyn sydd orau gennym bob amser fyddai cael setliad cyfalaf gwell gan Lywodraeth y DU. Wrth ddatblygu’r model buddsoddi cydfuddiannol, rydym wedi gallu osgoi diffygion mentrau cyllid preifat traddodiadol drwy gael enwebiad Llywodraeth Cymru ar y bwrdd prosiectau, i sicrhau ein bod yn cael buddion cymunedol gwirioneddol gryf. Ac yn yr adroddiad cynhwysfawr y cyfeiriais ato a gyhoeddwyd y llynedd, bydd fy nghyd-Aelodau wedi gweld rhai o’r buddion hynny’n cael eu gwireddu ar ffurf prentisiaethau a'r math o safonau gwyrdd sydd eu hangen arnom yn y prosiectau hyn hefyd. Wedyn—. Nid fy lle i yw ateb dros Blaid Cymru, ac nid yw’r model buddsoddi cydfuddiannol yn rhan o’n cytundeb cydweithio.
Y cwestiwn nesaf fydd cwestiwn 8 gan John Griffiths.
8. Beth yw asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o arferion adennill dyledion mewn llywodraeth leol ar draws Cymru? OQ59478
Ceir arferion adennill amrywiol ar gyfer gwahanol fathau o ddyledion. Mewn perthynas â’r dreth gyngor, rydym wedi defnyddio’r pwerau sydd ar gael i ni i sicrhau bod y gwaith o gasglu ôl-ddyledion yn cael ei reoli mewn ffordd deg a sensitif. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi ymrwymo i weithredu protocol y dreth gyngor ar gyfer Cymru.
Weinidog, mae ymddygiad a thaliadau beilïaid yn aml yn ychwanegu at ddyled ac yn ei gwneud hi'n anos i bobl ad-dalu, ac yn aml maent yn teimlo wedi'u llethu gan y swm sy'n cael ei chreu drwy ychwanegu taliadau beilïaid, a galwadau afrealistig am ad-daliad. A fyddech chi'n cytuno bod gwneud mwy i atal dyled rhag digwydd yn y lle cyntaf, ac atal ychwanegu taliadau at y swm os yw'n digwydd, yn llawer mwy cynhyrchiol i unigolion ac awdurdodau lleol? Ac os nad yw hynny'n bosibl hyd yn oed, dylai fod amserlenni realistig ar gyfer ad-dalu. Ac a fyddech chi'n cytuno, Weinidog, y byddai'n well pe bai gan awdurdodau lleol safonau uchel ar gyfer defnyddio cwmnïau beilïaid penodol, asesu ymddygiad y cwmnïau hynny a hefyd p'un a ydynt wedi cofrestru gyda'r cynllun cofrestru gwirfoddol gyda'r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi ai peidio?
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn hwnnw, ac rwy'n bendant yn cytuno mai atal dyled rhag digwydd yn y lle cyntaf fyddai'r lle delfrydol i fod. A hoffwn gyfeirio'r Aelod, a phob cyd-Aelod, at y gwaith pwysig y mae'r gronfa gynghori sengl yn ei wneud wrth fod yn rhaff achub i bobl sy'n cael trafferth gyda'r argyfwng costau byw, ac ers mis Ionawr 2020 mae gwasanaethau wedi helpu 144,000 o bobl i ymdrin â dros 660,000 o broblemau lles cymdeithasol. Maent hefyd wedi helpu'r bobl hynny i hawlio gwerth £83 miliwn o incwm ychwanegol, a chafodd gwerth £23 miliwn o'u dyledion eu dileu, felly rwy'n credu bod hynny'n dangos yn glir beth yw gwerth y gwasanaeth hwnnw, a hoffwn annog unrhyw un sy'n ei chael hi'n anodd i ffonio a gweld pa gymorth a allai fod ar gael iddynt. Mae'r gwasanaeth yn gwybod yn iawn, pan fo pobl yn cael trafferth gyda dyled, ei bod hi'n debygol iawn nad dyna'r unig broblem y maent yn ceisio ymdopi â hi, felly gallant gael golwg ehangach ar amgylchiadau'r unigolyn yn y ffordd honno. A dylai defnydd o'r math hwnnw o gamau gorfodi ar gyfer dyled fod yn ddewis olaf bob amser, a dyna pam rwy'n falch iawn fod gennym ein protocol gyda llywodraeth leol, sy'n nodi hynny'n glir iawn ac yn nodi bod angen i gredydwyr gefnogi pobl sy'n cael trafferth gyda'u hymrwymiadau ariannol drwy eu helpu i gael y cyngor annibynnol hwnnw.
Felly, rwy'n credu bod llawer o waith da'n digwydd. Mae awdurdodau lleol yn gallu defnyddio'u cytundebau lefel gwasanaeth gydag awdurdodau gorfodi i sicrhau eu bod, er enghraifft, yn cysylltu eu hunain wrth y math o brosiect y mae John Griffiths wedi'i enwi. Rwy'n gwybod bod nifer o gynlluniau gwahanol allan yno ar gyfer beilïaid a swyddogion gorfodi, y gallant eu cefnogi i ddangos ffyrdd penodol o weithio y credaf y bydd awdurdodau'n awyddus iawn i'w harchwilio.
9. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi'i wneud o berfformiad awdurdodau lleol o'u dyletswyddau statudol? OQ59469
Rôl Swyddfa Archwilio Cymru, Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru yw asesu perfformiad awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael â materion sy'n codi pan fo hynny'n briodol.
Diolch, Weinidog. Gan mai chi yw'r Gweinidog cyllid, roeddwn yn meddwl y gallai fod gennych ddiddordeb yn y ffaith nad yw dyraniad y grant cyfalaf ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr wedi cael ei dynnu i lawr o gwbl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gan fod rheidrwydd ar bob awdurdod lleol i gwblhau asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr, sut mae'r Gweinidog yn asesu a yw pob awdurdod lleol yn cyflawni ar lenwi bylchau yn eu hasesiadau eu hunain i ddiwallu lefel yr angen am lety Sipsiwn a Theithwyr?
Felly, yn amlwg, rydym am sicrhau bod pob awdurdod lleol yn darparu safleoedd digonol ac addas yn ddiwylliannol i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ac fe welwch hynny drwy ein hymrwymiad clir yn ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'. Ar hyn o bryd, rydym yn adolygu pa mor drylwyr yw asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr. Mae cynigion ar gyfer safleoedd newydd, a hyd yn oed ar gyfer gwelliannau, yn aml yn gymhleth, ac fel y gwyddom i gyd, maent yn tueddu i greu lefel benodol o her, ond rydym yn pryderu'n fawr, mewn rhai achosion, nad oes digon o gynnydd yn cael ei wneud gan awdurdodau lleol i fynd i'r afael ag anghenion y gymuned.
Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn bwriadu trafod y rhwystrau i ddarparu safleoedd digonol gydag awdurdodau lleol yn ogystal â chynrychiolwyr o gymunedau Sipsiwn a Theithwyr, gan ddod â'r rheini at ei gilydd i geisio symud ymlaen ar fater pwysig iawn, ac un lle byddwn yn cytuno nad ydym yn gwneud cynnydd digonol mewn gwahanol rannau o Gymru. Yng nghyd-destun Caerdydd, rwy'n gwybod eu bod wrthi'n ystyried maint yr angen ac yn nodi lleiniau ar gyfer eu cynllun datblygu lleol newydd yn rhan o'u sylfaen dystiolaeth.
Ac yn olaf, cwestiwn 10, Rhun ap Iorwerth.
10. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cyllid cyfalaf sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i gynnal a chadw asedau cyhoeddus Cyngor Sir Ynys Môn? OQ59482
Mae'r setliad cyfalaf llywodraeth leol ar gyfer 2023-24 yn darparu £180 miliwn o gyllid cyfalaf heb ei neilltuo ar gyfer awdurdodau lleol Cymru, ac mae Cyngor Sir Ynys Môn yn derbyn £4.376 miliwn ohono. Yn ogystal, bydd y cyngor yn derbyn cymorth ar gyfer ei asedau cyhoeddus o'r £1 biliwn mewn grantiau cyfalaf penodol a nodwyd yn y gyllideb.
Diolch am yr ateb yna gan y Gweinidog. Dwi'n gwybod bod yna bryderon yn Ynys Môn, fel mewn awdurdodau lleol eraill, fod methiant i gael gafael ar arian cyfalaf yn peryglu cyflwr yr ystad yn gyffredinol. Mae angen parhau i fuddsoddi o hyd mewn cynnal a chadw adnoddau sydd yn bwysig ar gyfer llesiant pobl—adnoddau i ymarfer corff yn ddigonol, adnoddau i sicrhau bod pobl yn byw mewn tai cyngor o safon uchel, ac yn y blaen. Dwi wrth gwrs yn apelio ar y Llywodraeth i edrych eto ar sut mae rhyddhau mwy o arian cyfalaf i awdurdodau lleol, ond i adeiladu ar y cwestiwn yn gynharach gan Mike Hedges, pa waith sy'n cael ei wneud gan y Llywodraeth i chwilio am ffyrdd arloesol o ryddhau arian cyfalaf o fewn llywodraeth leol? Dydy cynlluniau fel MIM, hyd yn oed os ydyn nhw'n gallu gweithio, ddim yn mynd i fod yn addas i bopeth. Rydw i'n cytuno efo Mike Hedges fod angen gochel rhag peryglon MIM. Ond, lle mae'r arloesi mewn rhyddhau arian cwbl allweddol ar gyfer gwariant cyfalaf yn y dyfodol?
Rwy'n cytuno hefyd na fydd y model buddsoddi cydfuddiannol yn iawn ar gyfer pob math o brosiect. Un o'r rhesymau pam ei fod yn gweithio'n dda yng nghyd-destun ysgolion yw oherwydd bod gennych lif hir o brosiectau'n dod drwodd sydd wedi'u datblygu a'u cofnodi'n dda gryn dipyn o amser cyn i'r prosiectau ddigwydd. Felly, rwy'n meddwl ei fod yn gweithio i rai pethau ac yn sicr, nid i eraill.
Wrth gwrs, rydym yn cael trafodaethau gyda llywodraeth leol ynglŷn â sut y gallant ddefnyddio benthyciadau llywodraeth leol mewn ffordd fwy strategol efallai, fel y mae Mike Hedges wedi nodi. A oes ffyrdd y gallwn eu cefnogi gyda hynny? Fel y dywedais, rydym yn cael trafodaethau gyda llywodraeth leol ac maent ar y gweill ar hyn o bryd. Ond mae arnaf ofn nad oes gennyf yr wybodaeth fanwl ddiweddaraf y gallaf ei rhoi am nad yw'r trafodaethau hynny, fel y dywedaf, wedi canolbwyntio ar unrhyw beth penodol eto.
Diolch i'r Gweinidog.
Da iawn chi am gwblhau ac ateb yr holl gwestiynau ar y papur trefn ar eich cyfer heddiw.
Draw atoch chi nawr, Weinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru. A'r cwestiwn cyntaf, Andrew R.T. Davies.
1. Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i'r diwydiant amaethyddol? OQ59485
Diolch. O dan ein rhaglen newydd a ariennir yn y wlad hon, mae llu o gynlluniau newydd wedi agor ar gyfer ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir a busnesau bwyd. Mae'r pecyn cymorth hwn yn werth dros £227 miliwn i gefnogi amaethyddiaeth a'r economi wledig. Mae'n ychwanegol at y gefnogaeth sydd ar gael drwy raglenni megis Cyswllt Ffermio.
Rwy'n cyfeirio'r Aelodau at fy natganiad o fuddiant. Weinidog, un o'r prif bethau y mae angen buddsoddi ynddo yma yng Nghymru yw'r sector prosesu, fel bod y cynnyrch y mae ein prif gynhyrchwyr—h.y. ein ffermwyr—yn ei gynhyrchu yn cael cymaint â phosibl o werth wedi'i ychwanegu ato yma yng Nghymru, fel bod gwerth ychwanegol gros amaethyddiaeth yn codi yn gyffredinol. Rwyf wedi gofyn i chi sawl gwaith yn ystod eich cyfnod fel Gweinidog pa gynnydd go iawn a welsom ym maes prosesu yma yng Nghymru, a phrosesu llaeth a chig coch yn benodol. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynghylch lefel y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn y sectorau allweddol hynny, i ychwanegu gwerth at y cynnyrch sylfaenol hwnnw, ac yn y pen draw, i gynnal cymuned amaethyddol fywiog gan eu bod nhw'n cyflawni'r gwerth mwyaf posibl o'r cynnyrch y maent yn ei gynhyrchu?
Diolch. Wel, yn sicr rydym wedi rhoi cymorth penodol ar gyfer prosesu llaeth a chig yma yng Nghymru. Rwy'n meddwl yn arbennig am gynnyrch llaeth. Yng ngogledd-orllewin Cymru, rydym wedi rhoi cyllid sylweddol i mewn. Ni allaf roi'r union ffigur i chi, ond byddwn yn hapus iawn i ysgrifennu atoch ar hynny.
2. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i reoleiddio perchnogaeth cŵn yn well? OQ59479
Diolch. Mae hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae ein cod ymarfer ar gyfer lles cŵn yn amlinellu'r rhwymedigaethau ar berchnogion i gadw eu cŵn dan reolaeth. Mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys mesurau a fydd yn gwella safonau bridio a chadw cŵn yng Nghymru.
Weinidog, roedd adroddiad gan Lywodraeth Cymru yn 2018 yn amcangyfrif bod gan oddeutu un o bob tair aelwyd yng Nghymru gi, ac roedd eu hamcangyfrif yn dweud bod yna gyfanswm o oddeutu 600,000 o gŵn i gyd. Diolch byth, mae'r rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn gyfrifol, ond mae gormod ohonynt yn methu rheoli eu cŵn yn briodol. O ganlyniad, gwelwn ymosodiadau gan gŵn, sydd weithiau'n angheuol, ar blant, oedolion a'r henoed, yn ogystal ag ar gŵn eraill.
Ceir deddfwriaeth yn y DU wrth gwrs, megis Deddf Cŵn Peryglus 1991 a'r hyn a elwir yn 'ASBOs cŵn', yn ogystal â mesurau Llywodraeth Cymru y gwnaethoch chi eu crybwyll—ac rwy'n gwybod eich bod yn ystyried ailgyflwyno trwyddedau cŵn, Weinidog. Ond o ystyried y digwyddiadau a welwn yn gyson ledled Cymru yn anffodus, rwy'n credu bod ein cymunedau yn disgwyl mwy o weithredu, ac maent yn disgwyl hynny nawr, er mwyn cadw pobl yn ddiogel. Felly, beth arall allwch chi ei ddweud am yr hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud, Weinidog, i fynd i'r afael â'r pryderon gwirioneddol hyn yn ein cymunedau?
Diolch. Rydych yn llygad eich lle: rydym wedi gweld nifer o achosion yn ddiweddar o anafiadau a marwolaethau o ganlyniad i ymosodiadau gan gŵn ar bobl ar draws Cymru. Y brif ddeddfwriaeth, fel y nodwyd gennych, yw Deddf Cŵn Peryglus 1991. Credaf fod angen cryfhau honno. Rwyf wedi cyflwyno sylwadau'n flaenorol i'r Swyddfa Gartref ac i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, nid oedd ganddynt fwriad o adolygu'r Ddeddf ar y pryd. Rwyf yn y broses o ysgrifennu eto, oherwydd fel y dywedais ar ddechrau'r ateb hwn, rydym wedi gweld nifer o anafiadau a marwolaethau yn ddiweddar, ac rwy'n credu nad yw'r Ddeddf Cŵn Peryglus yn addas i'r diben. Yn sicr, mae'r timau troseddau cefn gwlad sydd gennym yma yng Nghymru—mynychais eu cynhadledd yn ddiweddar. Nid wyf yn credu bod yr heddlu'n meddwl bod y ddeddfwriaeth yn addas i'r diben ychwaith. Ceir deddfau eraill sy'n briodol o gyfnod cyn 1991 a chyn yr ugeinfed ganrif hyd yn oed. Felly, rwy'n credu bod angen inni edrych yn ofalus iawn, a byddwn yn hapus iawn i wneud hynny gyda Llywodraeth y DU.
Mae cŵn yn dod â llawer o bleser i nifer fawr o bobl, ond mae perchnogaeth gyfrifol yn rhywbeth rwy'n meddwl—. Fe ofynnoch chi beth yn benodol y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, ac rwy'n meddwl mai dyna lle gallwn gael yr effaith fwyaf hefyd, a sicrhau bod pobl yn deall bod hyd yn oed y cŵn tawelaf yn gallu ymateb mewn ffyrdd annisgwyl o bryd i'w gilydd. Felly, rwy'n credu bod perchnogaeth gyfrifol ar gŵn yn rhywbeth rydym ni'n ei wneud yn dda iawn fel Llywodraeth, a byddwn yn parhau i wneud hynny.
Rwy'n falch fod y pwnc hwn wedi'i godi y prynhawn yma, gan fod ymosodiadau gan gŵn yn achosi llawer o bryder i mi a nifer o bobl, ac yn amlwg, cŵn peryglus, fel rydym wedi trafod. Rwy'n credu bod hyn wedi arwain at chwe marwolaeth yn 2022, a chafodd bachgen ifanc yng Nghaerffili ei ladd flwyddyn neu ddwy yn ôl. Ond y thema gyffredin yn y fan hon yw eu bod i gyd yn perthyn i un brîd, sef y bwli Americanaidd. Nid oedd yn bodoli ym 1991 pan gafodd y Ddeddf Cŵn Peryglus ei hadolygu ddiwethaf, oherwydd cawsant eu bridio'n enetig drwy'r 1990au a'r 2000au, ac rydym mewn sefyllfa nawr lle mae gennym gi peryglus sydd i bob pwrpas heb ei reoleiddio. Oherwydd hynny, rwy'n falch eich bod wedi galw am adolygu Deddf Cŵn Peryglus 1991, ond yn benodol, beth allwn ni ei wneud ar bob lefel ddatganoledig i wneud yn siŵr fod Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu'r ffaith hon yn ddigonol yng Nghymru, yn enwedig mewn perthynas â chŵn wedi'u haddasu'n enetig nad oedd i'w gweld 32 o flynyddoedd yn ôl?
Diolch. Rwy'n credu eich bod wedi egluro'n dda iawn pam fod angen inni gael y ddeddf honno wedi'i hadolygu. Fel y dywedaf, mae'n fwy na'r ddeddf honno'n unig; rwy'n credu bod mathau eraill o ddeddfwriaeth cŵn wedi dyddio hefyd. Yn sicr, yn y trafodaethau a gefais gyda'n comisiynydd troseddau gwledig a bywyd gwyllt, gwelwyd bod angen edrych ar hyn yn gyfannol i sicrhau bod yr holl ddeddfau'n gwneud yr hyn rydym eisiau iddynt ei wneud.
Yn fy ateb cynharach, crybwyllais beth y gallwn ni ei wneud fel Llywodraeth Cymru. Rydym yn gwneud llawer iawn mewn perthynas â pherchnogaeth gyfrifol. Rwy'n credu i ni gael ffocws newydd ar hyn yn sgil y pandemig, lle gwelsom gynnydd sylweddol yn nifer yr aelwydydd sydd ag anifail anwes, a hynny nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU. Fel y dywedaf, maent yn rhoi llawer o lawenydd i lawer o bobl, onid ydynt, a chwmnïaeth a chefnogaeth, ac rwy'n credu mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yw gweithio gyda phobl i ddeall beth mae prynu anifail anwes yn ei olygu. Mae gennym sawl ymgyrch i sicrhau bod hynny'n digwydd. Hefyd, mae gennym ein hymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol, Aros, Atal, Amddiffyn, sy'n atgoffa darpar brynwyr o'r angen i wneud eu hymchwil cyn prynu anifail anwes. Unwaith eto, rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn gyda bridiau nad ydynt efallai'n gwybod llawer amdanynt, ac fe gyfeirioch chi at fridiau newydd hefyd.
Rwy'n credu hefyd y dylem annog pobl i fabwysiadu cŵn a chathod o ganolfannau achub. Rwy'n credu bod ein canolfannau achub wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y cŵn a'r cathod y bu'n rhaid iddynt eu derbyn. Unwaith eto, mae hynny i gyd yn rhan o berchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid anwes rydym yn ei hyrwyddo fel Llywodraeth.
Rwy'n adleisio sylwadau John yn gynharach. Efallai y cofiwch imi godi'r mater hwn gyda chi yr wythnos diwethaf, ynglŷn â'r trydydd ymosodiad difrifol gan gŵn ym Mhenyrheol mewn 18 mis. Nid yw deddfwriaeth San Steffan sydd ar waith ar gyfer diogelu'r cyhoedd rhag cŵn peryglus yn addas i'r diben ac mae angen deddf newydd yn ei lle yn fy marn i, neu o leiaf ei newid, ac fe awgrymoch chi yr wythnos diwethaf eich bod yn tueddu i gytuno â'r farn honno. Ond fe wnaethoch chi hefyd ychwanegu bod amryw o Ysgrifenyddion Cartref wedi anwybyddu eich ymdrechion i ohebu ar y mater. Er y gallai fod yn anodd cael sgyrsiau neu ddeialog ar y mater gyda chymheiriaid yn San Steffan, un peth y gallech ei wneud o bosibl yw codi ymwybyddiaeth o'r hyn sy'n dderbyniol a'r hyn nad yw'n dderbyniol mewn perthynas ag ymddygiad cŵn. Mae hefyd yn bwysig addysgu pobl am y sianeli priodol lle gallant leisio pryderon, a digwyddiadau ar lefel is hefyd lle nad oes angen ffonio 999. Yn eu ward, mae'r cynghorwyr Plaid Cymru ym Mhenyrheol wedi bod yn rhagweithiol ar y mater hwn, ac maent yn credu'n gryf fod angen strategaeth genedlaethol ac ymgyrch godi ymwybyddiaeth genedlaethol ar y mater, fel bod modd adnabod ac adrodd ar arwyddion cynnar am gŵn peryglus. A ydych chi'n cytuno, ac os felly, a wnewch chi ystyried cynnal ymgyrch o'r fath?
Diolch. Credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn. Mae'n hanfodol fod pobl yn gwybod ble i wneud cwynion ac ati, ac fe fyddwch yn gwybod am gynllun Llywodraeth Cymru a oedd gennym gyda'n hawdurdodau lleol ynghylch gorfodaeth. Rydym wedi rhoi cyllid i ddarparu hyfforddiant i sicrhau bod pob awdurdod lleol yn ymwybodol o'r hyn a ddisgwylir ganddynt, a beth arall y gallwn ei wneud i helpu'r cyhoedd yn gyffredinol hefyd. Yn dilyn ein trafodaeth yn y Siambr yr wythnos diwethaf—yn y datganiad busnes, rwy'n credu—fe ymrwymais, fel y dywedaf, i ysgrifennu eto at yr Ysgrifennydd Cartref—nid wyf wedi rhoi’r gorau iddi—ac at Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, oherwydd rwyf wedi codi'r mater gyda fy swyddogion cyfatebol yn DEFRA droeon dros y blynyddoedd. Gan ein bod, yn anffodus, wedi gweld y cynnydd hwn yn nifer yr ymosodiadau gan gŵn a marwolaethau, efallai y byddant yn deffro ac yn sylweddoli ei bod yn bryd edrych ar y ddeddfwriaeth hon sydd wedi dyddio'n aruthrol. Felly, rwy’n obeithiol, os byddwn yn ysgrifennu eto, y gallai rhywbeth ddigwydd. Ond fel Llywodraeth, fe allwn wneud mwy, ac rwy’n fwy na pharod i edrych ar unrhyw ymgyrchoedd y gallwn eu cynnal, naill ai ar ein pen ein hunain neu ar y cyd â’r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon, i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.
Diolch, Lywydd. Weinidog, bythefnos yn ôl, fe gyhoeddoch chi ddatganiad ysgrifenedig mewn perthynas â Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, a elwir hefyd yn rheoliadau parthau perygl nitradau, yn dilyn menter ar y cyd rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru. Yn y datganiad hwnnw, fe gyhoeddoch chi eich bod yn ymestyn y dyddiad gweithredu ar gyfer y terfyn blynyddol o 170 kg yr hectar o 30 Ebrill i 31 Hydref, yn ddiweddarach eleni. Er bod y gohiriad hwn i'w groesawu, fe'i cyhoeddwyd chwe diwrnod yn unig cyn y dyddiad roedd y rheoliadau i fod i ddod i rym. Dros y misoedd diwethaf, mae’r gymuned amaethyddol wedi mynd ati fel lladd nadroedd i geisio bodloni’r rheoliadau hyn, dim ond i gael gwybod ar yr unfed awr ar ddeg eich bod yn gohirio’r dyddiad cychwyn. Pam y gwnaed y penderfyniad hwn mor hwyr, pam nad yw pryderon y gymuned amaethyddol yn cael eu cydnabod, a pham ddim dilyn esiampl gwledydd eraill a chodi’r trothwy i 250 kg yr hectar fel nad ydych yn creu anfantais gystadleuol i amaeth yng Nghymru?
Wel, yn sicr, nid wyf yn cyfeirio atynt fel rheoliadau parthau perygl nitradau, gan nad dyna ydynt, felly byddai'n dda pe gallech ddefnyddio'r teitl cywir bob amser. Estynnais y dyddiad gweithredu ar gyfer un o fesurau'r rheoliadau rheoli llygredd amaethyddol er mwyn rhoi rhywfaint o sicrwydd i’r sector amaethyddol. Fel y gwyddoch, rwyf wedi'i ymestyn tan 31 Hydref. Y rheswm pam ei fod wedi cymryd amser, ac mae'n dal i gymryd mwy o amser, yw oherwydd yr ymatebion a gawsom i'r ymgynghoriad—mae'n bwysig iawn eu bod yn cael y lefel o sylw sydd ei hangen. Yn amlwg, mae llawer iawn o lobïo'n digwydd, ar y ddwy ochr. Ond yr hyn rwyf am ei wneud yw gwneud hyn yn iawn. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn ystyried yr holl faterion a godwyd mewn ymateb i’r ymgynghoriad yn llawn, ac yn rhoi amser i sicrhau ein bod yn gwneud y penderfyniad cywir, ar gyfer yr amgylchedd ac ar gyfer y sector amaethyddol.
Rwy’n ddiolchgar am eich ateb, Weinidog, ond fe faddeuwch i mi ac i Joe Bloggs am barhau i gyfeirio atynt fel parthau perygl nitradau pan fo adrannau 2, 3, 4, 5 a 7 o’r rheoliadau wedi'u codi’n uniongyrchol o'r rheoliadau parthau perygl nitradau. Ond rwy'n deall y pryderon ynghylch yr ymgynghoriadau, a'r ymdrechion sy'n cael eu gwneud i barchu'r atebion i'r ymgynghoriad hwnnw. Ond gan aros gydag amserlenni, fe fyddwch yn ymwybodol fod rheoliad 45 o gynigion y parthau perygl nitradau yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gynigion ar gyfer mesur amgen gael eu gwneud o fewn 18 mis ar ôl i'r rheoliadau ddod i rym. Os wyf yn iawn, rwy'n credu bod y terfyn amser hwnnw bellach wedi bod. Felly, yn ôl y safonau a bennwyd gennych chi a'r Llywodraeth hon, pe bai unrhyw gynnig amgen yn cael ei gyflwyno nawr, ni fyddech yn ei ystyried. Mae technoleg yn allweddol i wella ansawdd dŵr ledled Cymru—technoleg sy’n gwneud cynnydd, yn datblygu ac yn gwella drwy’r amser. Mae Prosiect Slyri Gelli Aur yn un enghraifft, ond mae'n bosibl na fydd atebion technolegol arloesol eraill yn gweld golau dydd bellach, diolch i'r ffaith bod y rheoliadau'n mynnu terfyn amser pendant. Gyda rheoliad 45 mewn du a gwyn, pa gymhelliant sydd yna i gwmni, neu dîm o academyddion, gyflwyno ateb amgen, os ydych chi'n mynnu bod terfyn amser wedi bod?
Rwyf wedi dweud y byddwn yn ystyried hynny. Ar y terfyn amser o 18 mis, mae'n debyg imi osod hwnnw arnaf fy hun. Credaf fy mod yn bod yn galed iawn arnaf fy hun, i sicrhau, pe bai unrhyw beth yn cael ei gyflwyno, y byddai'n rhaid i ni ei ystyried o fewn yr amser hwnnw. Nid ydym wedi gweld llawer mwy. Rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch am Gelli Aur, ac rwyf wedi bod yno, gyda Cefin Campbell, i gael golwg ar y prosiect. Rwyf wedi bod fwy nag unwaith, ac mae'n amlwg iawn fod cynnydd yn cael ei wneud, er nad mor gyflym ag y credaf y byddem yn dymuno'i weld. Ond yn sicr, rydym wedi annog pobl eraill i gyflwyno unrhyw syniadau. Rwyf wedi nodi'n glir iawn nad wyf am ymestyn yr amserlen eto o ddiwedd mis Hydref. Rwyf wedi dweud yn glir iawn wrth swyddogion fod angen inni edrych ar hyn fel mater o frys, a nodi ein hymateb i’r ymgynghoriad cyn gynted ag y gallwn, ac ymhell cyn y dyddiad gweithredu newydd y cyfeirioch chi ato, er mwyn rhoi’r sicrwydd hwnnw i bawb.
Mae hynny’n codi cwestiwn ynghylch pam fod rheoliad 45 mor angenrheidiol, os ydych yn dweud nawr yn y Siambr y byddwch yn edrych ar fesurau amgen yn y dyfodol os cânt eu cynnig. Dyna'r darn na allwn ei ddeall pan oeddem yn eich holi yn y pwyllgor. Rwy'n dal i fethu deall heddiw pam y mynnwyd cael rheoliad 45 yn y rheoliadau parthau perygl nitradau. Ond nid wyf yn ceisio gwrthwynebu er mwyn gwrthwynebu yma pan fyddaf yn herio'r rheoliadau hyn a'u haddasrwydd ar gyfer mynd i'r afael â phroblem—problem y mae pob un ohonom am iddi gael ei datrys. Mae angen atal llygredd dŵr o unrhyw ffynhonnell. Ond o ystyried y gohirio cyn gweithredu, yr anhyblygrwydd o ran derbyn ateb amgen, y problemau yn y system gynllunio wrth adeiladu cyfleusterau storio, heb sôn am gostau cynyddol deunyddiau, a dadansoddiad Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd Iwerddon, sydd wedi dangos bod bron i hanner y safleoedd o dan reoliadau parthau perygl nitradau yn dangos cynnydd mewn nitradau mewn gwirionedd, onid ymosodiad ar amaethyddiaeth Cymru yw’r polisi cyfan hwn mewn gwirionedd, a ffordd o ddadstocio ein cefn gwlad drwy'r drws cefn?
Dim o gwbl. Credaf ein bod wedi dweud yn glir iawn fel Llywodraeth—rydych yn llygad eich lle—fod angen atal pob ffurf ar lygredd, pob ffurf. A dyna pam fod y Prif Weinidog wedi cadeirio dwy uwchgynhadledd ar ansawdd dŵr, ynghyd â’r Gweinidog Newid Hinsawdd a minnau, gan ei fod yn ymwneud â mwy ag un sector yn unig; mae'n ymwneud â nifer o sectorau. Yr hyn roedd y Prif Weinidog ei eisiau, a’r hyn a ddigwyddodd, oedd bod amryw o sectorau wedi dod i’r uwchgynhadledd honno gydag atebion i’r problemau hyn a pha gamau y byddent yn eu cymryd. Nid y sector amaethyddiaeth yn unig; roedd llawer o sectorau eraill yno. Felly, mae dweud mai un sector yn unig sy'n cael ei feio'n gwbl anghywir.
Llefarydd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rôn i'n bryderus clywed yr wythnos diwethaf bod parthau gwarchod ffliw adar newydd wedi cael eu gorfodi o amgylch fferm bridio adar gêm fawr ym Mhowys. Mae hyn yn ddatblygiad gofidus, gan ystyried bod y Llywodraeth wedi codi'r gorchymyn cadw dofednod ac adar caeth o dan do ar 18 Ebrill. Mae'r niferoedd o adar sydd yn cael eu cofnodi yn dioddef o'r ffliw adar ar eu huchaf ar hyn o bryd, gyda tua 330 achos wedi'u cofnodi yn y Deyrnas Gyfunol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae dros hanner o'r achosion sydd wedi cael eu cofnodi yng Nghymru wedi cael eu cofnodi ym Mhowys, gyda ffermydd dofednod wedi'u taro'n arbennig o wael, a bron i 4 miliwn o adar wedi cael eu difa. Cafodd y gorchymyn gorfodol i gadw adar dan do ei gyflwyno ar ddechrau Rhagfyr y llynedd, cyn cael ei godi bedwar mis yn ddiweddarach. Hoffwn, felly, ddeall effeithlonrwydd y gorchymyn gorfodol ar ledaeniad yr haint ymysg adar Cymru. A wnaiff y Gweinidog amlinellu asesiad y Llywodraeth o effeithlonrwydd y mesurau yma? Os nad oes asesiad wedi cael ei wneud eto yn llawn, fe hoffwn wybod pryd bydd y wybodaeth ar gael, os gwelwch yn dda
Diolch. Fel y gwyddoch, rydym wedi gweld nifer sylweddol o achosion o ffliw adar yng Nghymru, a llawer mwy ar draws rhannau eraill o’r DU. Ers oddeutu 20 mis, nid ydym wedi cael unrhyw seibiant rhag hynny mewn gwirionedd. Fel y dywedoch chi, ar 18 Ebrill, fe wnaethom ddiddymu'r mesurau gorfodol ar gyfer cadw adar dan do, a gyflwynwyd gennyf ar 2 Rhagfyr, rwy'n credu. Gwneuthum hynny am mai'r cyngor a gefais gan y prif swyddog milfeddygol, a’r cyngor a gawsom o fannau eraill, oedd mai dyna’r peth iawn i’w wneud. Roedd gostyngiad yn y risg i ddofednod ac adar caeth. Ynghyd â hynny, mae’r parth atal ffliw adar yn dal i fod mewn grym ledled Cymru hyd nes y nodir yn wahanol. Credaf ei bod yn bwysig dweud hynny. Rydym hefyd yn annog ceidwaid adar i gadw at y mesurau bioddiogelwch gorfodol a chwblhau'r rhestr wirio hunanasesu bioddiogelwch orfodol, a gyflwynwyd gennym yn ôl ym mis Rhagfyr, ac sy'n ein helpu i fonitro effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y mesurau amrywiol a gyflwynir gennym. Soniais am barth atal ffliw adar Cymru gyfan. Rhoesom hwnnw ar waith yn ôl ganol mis Hydref, ac fel y dywedaf, mae'n dal i fod mewn grym. Ond mae gwaith monitro cyson yn mynd rhagddo nid yn unig yma yng Nghymru, ond ledled y DU wrth gwrs. Mae'r prif swyddog milfeddygol yn cyfarfod ag eraill yn rheolaidd—credaf eu bod yn dal i gyfarfod yn wythnosol—ynghylch yr achosion o ffliw adar rydym wedi'u gweld ledled y wlad.
Diolch i'r Gweinidog am yr ateb yna. Bydd y Gweinidog yn gwybod bod y niferoedd o achosion ffliw adar yn cynyddu yn ystod misoedd y gaeaf. Mae'r misoedd yma yn heriol iawn wrth drio atal lledaeniad yr haint, efo adar gwyllt, sef yr adar sydd yn fwyaf tebygol o gario'r haint, yn ymfudo dros fisoedd y gaeaf, ac felly'n debygol o gario'r i diroedd newydd. Oherwydd hyn, mae'n hanfodol bod camau bioddiogelwch yn cael eu cryfhau er mwyn atal lledaeniad yr haint. Mae llywodraethau cyfrifol yn sicrhau bod camau bioddiogelwch addas yn cael eu cyflwyno er mwyn paratoi am y risg, ond er mwyn sicrhau bod y camau yma'n effeithiol mae'n bwysig cefnogi ffermwyr dofednod a chiperiaid yn eu hydmrechion i weithredu'r camau angenrheidiol. Gall cefnogeth o'r fath fod yn hyfforddiant, yn ogystal â chamau ariannol ar gyfer darparu'r isadeiledd angenrheidiol, ac mae'r Llywodraeth yma, er tegwch, eisoes wedi cymryd rhai camau i'r perwyl yma dros y flwyddyn ddiwethaf a chefnogi'r diwydiant. Mae misoedd yr haf yma, felly, am fod yn greiddiol bwysig os am baratoi'n effeithiol ar gyfer beth all fod yn aeaf caled i'r sector. A gaf i, felly, ofyn i'r Gweinidog pa waith sydd ar y gweill neu'n cael ei gynllunio rŵan wrth baratoi am y posibilrwydd o ledaeniad ffliw adar y gaeaf yma?
Diolch. Rydych yn llygad eich lle; fel arfer, gwelwn y rhan fwyaf o achosion o ffliw adar yn ystod misoedd y gaeaf. Ond mewn gwirionedd, nid ydym wedi cael seibiant. Fe'i cawsom drwy gydol yr haf y llynedd, ac fel y dywedwch, mae angen inni baratoi. Mae gennym dasglu ffliw adar trawslywodraethol ar y cyd â'r diwydiant yn edrych ar frechu, er enghraifft, nawr, gan y credaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni edrych arno, ac a yw hynny'n dda ar gyfer y dyfodol. Yn amlwg, mae bioddiogelwch yn bwysig iawn. Mae gennym gofrestr o geidwaid adar yma yng Nghymru, ac roedd yn rhaid bod gennych 50 o adar i allu bod ar y gofrestr. Yr hyn rydym yn ei annog yw bod pawb yn cofrestru, hyd yn oed os mai dim ond un sydd gennych yn eich iard gefn, fel ein bod yn ymwybodol o'r sefyllfa ac yn gwybod sut y gallwn roi'r wybodaeth honno i chi cyn gynted â phosibl. Fe fyddwch yn gwybod am y gwaith rydym wedi'i wneud ar wahardd crynoadau adar. Yn anffodus, nid ydym wedi gweld adar yn Sioe Frenhinol Cymru a sioeau amaethyddol eraill, ond credaf fod hynny'n bwysig iawn, gan y gwyddom fod rhai rhywogaethau adar risg uwch lle mae'n rhaid inni gadw’r mesurau atal hynny ar waith.
Credaf fod gan bob un ohonom gyfrifoldeb i helpu i atal lledaeniad ffliw adar er mwyn diogelu iechyd holl adar Cymru—ein hadar cadw, ein heidiau cenedlaethol—ac wrth gwrs, ein sefyllfa fasnachu. Mae’n wirioneddol bwysig yn y cyswllt hwnnw. Felly, hoffwn annog pawb—. Mae'n gyfle da—a diolch am godi hyn heddiw—i ddweud wrth bawb ei bod yn bwysig iawn eu bod yn cydymffurfio â'r mesurau hyn. Rydym hefyd yn gweithio gydag asiantaethau iechyd y cyhoedd. Er bod y risg, o safbwynt iechyd y cyhoedd, yn parhau i fod yn isel tu hwnt wrth gwrs, mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda nhw. Hefyd, mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynghori ar risgiau ffliw adar. Mae’r risg yn isel tu hwnt o safbwynt diogelwch bwyd hefyd, ond yn amlwg, mae'n bodoli. Mae'n ymwneud â sicrhau eich bod yn coginio eich dofednod yn iawn ac yn coginio wyau'n iawn, er enghraifft.
3. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynglŷn â sicrhau bod ardal gogledd Cymru yn elwa o lwyddiant chwaraeon Cymru? OQ59477
Fel Gweinidog gogledd Cymru, rwy’n cael trafodaethau rheolaidd gyda fy holl gyd-Aelodau o’r Cabinet ar sut mae portffolios yn gweithio gyda’i gilydd. Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod gogledd Cymru yn elwa o'n holl lwyddiannau ym myd chwaraeon.
Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Weinidog. Y rheswm pam y gofynnaf y cwestiwn yw oherwydd y llwyddiant diweddar yn eich etholaeth, sef llwyddiant clwb pêl-droed Wrecsam i ennill y Gynghrair Genedlaethol a dychwelyd i’r gynghrair bêl-droed ar ôl absenoldeb o 15 mlynedd. Nid wyf yn esgus bod yn gefnogwr Wrecsam, ond gwn eu bod wedi cael rhai dyddiau tywyll yn ystod y cyfnod hwnnw, ac mae'n wych eu gweld yn llwyddo eto. Mae digon o fy etholwyr hefyd yn gefnogwyr Wrecsam, fel y gallwch ddychmygu, mae'n siŵr. Ond wrth edrych ar sut y gall y rhanbarth cyfan elwa o hyn, gyda'r buddsoddiad gan Ryan Reynolds a Rob McElhenney hefyd, a'r llwyddiant y maent yn ei gael yn Wrecsam, sut y credwch y gall y rhanbarth cyfan elwa o'r buddsoddiad hwnnw a chreu nid yn unig ardal o bencampwyr byd chwaraeon, ond rhanbarth o bencampwyr i gyd-fynd â hynny hefyd?
Diolch, a diolch am roi cyfle imi godi llwyddiant clwb pêl-droed Wrecsam unwaith eto—y dynion a’r menywod, ac wrth gwrs, y timau ieuenctid hefyd. Credaf ei bod yn bwysig iawn cofio bod y pedwar tîm wedi cael dyrchafiad eleni. Ond credaf eich bod yn gwneud pwynt da iawn—mae'n amlwg fod proffil y clwb a Wrecsam wedi'i adeiladu ar y llwyddiannau hyn ac ar nifer yr ymwelwyr o bob rhan o'r byd rydym yn eu cael yn Wrecsam. Anaml yr af i gêm gartref bellach lle nad oes cefnogwr Americanaidd yn dod atoch nad ydynt, yn ôl pob tebyg, erioed wedi bod yn Wrecsam o’r blaen ac nad oeddent, yn ôl pob tebyg, erioed wedi clywed am Wrecsam cyn y rhaglen ddogfen Welcome to Wrexham, a mewnbwn Ryan Reynolds a Rob McElhenney fel y dywedwch. Felly, credaf fod hyn yn bwysig nid yn unig i ogledd-ddwyrain Cymru, ond i ogledd Cymru i gyd. Ac rydych yn llygad eich lle—mae pobl o Ynys Môn, mae pobl o Landudno sy'n eistedd y tu ôl i mi yn y gemau pêl-droed, ac maent wedi bod yno ers sawl blwyddyn, gan gynnwys y dyddiau tywyll hynny.
Fe fyddwch yn ymwybodol o’r cyllid sylweddol sydd wedi’i ddarparu gan Lywodraeth Cymru i Borth Wrecsam, ac mae rhywfaint o’r arian hwnnw’n mynd tuag at ailddatblygu’r stadiwm i sicrhau y gallwn gael stadiwm lle gellir cynnal gemau rhyngwladol, gan nad yw hynny wedi bod yn bosibl ers blynyddoedd lawer. Yn blentyn, dyna ble roeddwn yn gwylio fy mhêl-droed rhyngwladol; ni fyddwn wedi gallu dod i Gaerdydd o gwbl. Felly, mae’n wirioneddol bwysig i ogledd Cymru fod gennym allu i gynnal gemau rhyngwladol yn stadiwm y Cae Ras.
4. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar brosiectau Llywodraeth Cymru i ddileu TB yng Nghymru? OQ59470
Gwneuthum ddatganiad llafar ym mis Mawrth, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y rhaglen dileu TB. Yn fy natganiad, nodais y cynnydd a wnaed, a lansiais ein cynllun cyflawni newydd, sy’n nodi camau gweithredu ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Hoffwn ddiolch i’r Gweinidog am ei hateb. Yn amlwg, mae un ffordd, y ffordd fwyaf effeithiol, o ymdrin â TB mewn gwartheg, sef rhaglen wedi’i thargedu i ddifa moch daear heintiedig ledled Cymru, ond mae hynny’n rhywbeth na wnaiff Llywodraeth Lafur Cymru hyd yn oed ei ystyried. Felly, hoffwn wybod ble rydych chi arni gyda'r rhaglen frechu, ac a oes rhagor o arian yn cael ei ddarparu ar gyfer y rhaglen honno? Gwn ein bod wedi cael y prosiect peilot y llynedd, ond hoffwn wybod a oes mwy o arian ar gael ar gyfer prosiect peilot eleni fel y gallwn ddechrau mynd i'r afael â TB ledled Cymru.
Diolch. Credaf ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol mewn perthynas â dileu TB. Rydych yn llygad eich lle—roedd ymrwymiad clir iawn yn y rhaglen lywodraethu i beidio â difa moch daear. Roedd hynny'n rhan o'r maniffesto y cefais i a fy mhlaid ein hethol arno ddwy flynedd yn ôl. Ac fel y dywedaf, rydym wedi gweld cynnydd cyson ac rydym yn parhau i adeiladu ar hynny.
Rydych yn llygad eich lle ynglŷn â brechlyn—gwnaed peth cynnydd sylweddol. Os gofynnwch i unrhyw academydd, maent bob amser yn dweud, 'Mae 10 mlynedd i ffwrdd, 10 mlynedd i ffwrdd', ond mae’n dod yn llawer agosach nawr; yn sicr, nid yw 10 mlynedd i ffwrdd. A chawsom rai prosiectau peilot. Yn anffodus, nid oedd unrhyw ffermydd yng Nghymru yn barod i gymryd rhan yn y prosiect hwnnw. Ac rydym newydd ddechrau'r ail gam nawr, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion weithio gyda rhai ffermydd yma yng Nghymru i weld a fyddent yn fodlon bod rhan o'r cynllun peilot hwnnw, ac rwy'n credu ein bod wedi nodi un neu ddwy o ffermydd a fydd yn cymryd rhan yn y cynlluniau peilot hynny, gobeithio. Ond yn sicr o'r cyfarfodydd diwethaf a gefais—yr haf diwethaf yn ôl pob tebyg—gydag academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth, maent yn obeithiol iawn y byddwn yn gweld brechlyn gwartheg cyn diwedd y degawd hwn yn sicr, ac ychydig yn nes at heddiw yn ôl pob tebyg.
5. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar reoleiddio sefydliadau lles anifeiliaid? OQ59489
Diolch. Mae ein cynllun iechyd a lles anifeiliaid yn manylu ar sut rydym yn cyflawni ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu. Mae hyn yn cynnwys datblygu model rheoleiddio cenedlaethol ar gyfer lles anifeiliaid, y byddwn yn ymgynghori arno yn ddiweddarach eleni.
Diolch am yr ateb, Gweinidog.
Lansiodd Llywodraeth Cymru ei chod ymarfer gwirfoddol ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid yn ôl yn 2020 wrth gwrs, ac roedd yn gam calonogol, ond mae ymchwil gan RSPCA Cymru yn awgrymu nad yw oddeutu hanner y sefydliadau lles anifeiliaid erioed wedi cyfeirio ato, a chanfuwyd hefyd nad oes unrhyw un o awdurdodau lleol Cymru yn hyrwyddo’r cod ymarfer ar eu gwefannau, sy'n destun pryder. Credaf fod hyn yn dangos bod angen rheoleiddio y tu hwnt i god ymarfer gwirfoddol. Gwyddom fod yna gynlluniau, wrth gwrs, i gyflwyno cofrestriad ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid yn y cynllun lles anifeiliaid. Mae'r cynllun ei hun yn awgrymu bod disgwyl i ddogfennau ymgynghori a blaenoriaethau gael eu cyhoeddi eleni. A allwch chi ddweud wrthym pryd eleni, ac a allwn ddisgwyl unrhyw gynlluniau yn y dyfodol i gyflwyno gofynion staffio llym, canllawiau ar rywogaethau penodol, a chyllid a hyfforddiant digonol ar gyfer 22 awdurdod lleol Cymru, gan y bydd angen iddynt gyflawni'r rheoliadau hyn eu hunain yn y pen draw?
Fel y dywedais yn fy ateb cynharach i chi, yn ddiweddarach eleni, felly mae'n debyg y bydd hynny cyn diwedd y flwyddyn galendr. Os dywedaf 'hydref', a yw hynny'n mynd i mewn i fis Tachwedd? Ond tua diwedd y flwyddyn yn ôl pob tebyg. Rwy'n bryderus iawn wrth glywed yr hyn a ddywedwch ynghylch awdurdodau lleol nad ydynt yn hyrwyddo'r cod ymarfer ar eu gwefan. Gyda'r gwaith rydym wedi'i wneud gydag awdurdodau lleol ar brosiectau gorfodaeth, er enghraifft, byddwn wedi meddwl efallai y byddai awdurdodau lleol yn cyfuno'r ddau beth ac yn meddwl am hyrwyddo'r codau ymarfer hynny ychydig yn well. Yn sicr, byddaf yn gofyn i swyddogion edrych ar hynny, oherwydd i mi, mae hynny'n beth syml iawn i'w wneud. Nid yw'n costio dim i'w wneud. Felly, credaf y dylem edrych ar wneud hynny cyn gynted ag y gallwn.
Mae ysgolion marchogaeth, lletywyr cathod, bridwyr cŵn a siopau anifeiliaid anwes oll yn ddarostyngedig i reoliadau yng Nghymru, ond nid yw hynny'n wir am sefydliadau neu lochesau lles anifeiliaid. Rhaid inni beidio â bychanu'r gwaith caled a wnânt, ond gall unrhyw un—yn llythrennol, unrhyw un—alw eu hunain yn ganolfan achub anifeiliaid neu loches anifeiliaid. Nid oes unrhyw broses arolygu nac unrhyw reoliadau. Felly, unwaith eto, ni chredaf fod y cod ymarfer gwirfoddol, fel y dywedodd Luke, wedi bod yn effeithiol mewn gwirionedd. Felly, mae’n dda clywed, Weinidog, eich bod yn ystyried cyflwyno mwy o reoliadau tuag at ddiwedd y flwyddyn, ac edrychaf ymlaen at hynny.
Diolch. Wel, ni chredaf ei fod wedi bod yn aneffeithiol. Credaf y dylem fod yn edrych ar fesurau gorfodol, serch hynny, ac ydw, rwy'n sicr yn gobeithio cynnal ymgynghoriad erbyn diwedd y flwyddyn. Credaf ei fod yn gyfle da i ddiolch iddynt. Mae llawer ohonynt, fel y dywedwch, yn gwneud gwaith caled iawn, yn diogelu cymaint o anifeiliaid, ac af yn ôl at yr hyn roeddwn yn ei ddweud—mae'n gyfle da i hyrwyddo mabwysiadu anifeiliaid anwes.
6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ffermwyr ym Mhreseli Sir Benfro? OQ59466
Derbyniodd ffermwyr ledled sir Benfro dros £18 miliwn drwy gynllun y taliad sylfaenol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae ein gwasanaeth Cyswllt Ffermio yn parhau i ddarparu cymorth a chyngor hollbwysig i 441 o fusnesau yn sir Benfro.
Rwy’n ddiolchgar am eich ateb, Weinidog. Mae’r wythnos nesaf yn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, a hoffwn gofnodi fy niolch i sefydliadau fel Sefydliad DPJ, Farming Community Network a’r Sefydliad Amaethyddol Llesiannol Brenhinol, sydd oll yn cefnogi pobl ym myd amaeth a chymunedau gwledig gyda phroblemau iechyd meddwl. Nawr, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, mae heriau fel TB buchol yn parhau i fod yn broblem fawr i ffermwyr yn fy etholaeth, ac roedd cynllun dileu TB newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-28 yn cydnabod lefelau uchel o heintiau mewn rhannau o sir Benfro lle mae nifer a mynychder achosion o TB ar lefel y fuches wedi gwaethygu yn erbyn y darlun sy'n gwella'n gyffredinol ledled Cymru. Weinidog, gwn eich bod yn cydnabod y gall ymdrin â TB buchol roi straen enfawr ar iechyd meddwl a lles ffermwyr, felly a wnewch chi ddweud wrthym pam nad yw eich cynllun dileu TB newydd yn cydnabod ac yn blaenoriaethu iechyd meddwl a lles ffermwyr, gan fod angen i Lywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i gefnogi ffermwyr sy’n gorfod ymdrin â’r clefyd ofnadwy hwn?
Wel, credaf fod angen inni gefnogi iechyd meddwl ffermwyr mewn perthynas ag amrywiaeth o faterion, felly rydym yn gwneud gwaith pwysig gyda grwpiau'r trydydd sector—ac fe sonioch chi am Sefydliad DPJ, y mae’r ddau ohonom yn gyfarwydd iawn ag ef—ynghyd ag elusennau eraill, megis Tir Dewi a Farming Community Network. Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â fy swyddog sy’n cysylltu â’r elusennau hynny, i weld pa gyllid pellach y gallem ddod o hyd iddo i’w cefnogi. Rwy’n cyfarfod yn rheolaidd â’r elusennau, ac yn sicr, yn ystod y pandemig COVID, roeddwn yn eu cyfarfod yn fisol yn ôl pob tebyg, gan eu bod yn gweld nifer cynyddol o alwadau i’r elusennau oherwydd amrywiaeth o broblemau a ddaeth yn sgil y pandemig COVID-19 hefyd. Felly, ni chredaf fod hyn yn ymwneud â TB yn unig, er fy mod yn llwyr gydnabod y trallod y mae'n ei achosi, ond credaf fod yna lawer o faterion sy'n golygu, weithiau, fod ffermwyr efallai'n teimlo'n fwy ynysig na rhannau eraill o'n cymunedau, lle mae'r elusennau hyn yno ar eu cyfer, a byddwn yn annog unrhyw un, os oes angen iddynt gael y cymorth hwnnw, i wneud hynny, gan fod yr elusennau’n cynnig ystod o gymorth nid yn unig i ffermwyr, ond i deuluoedd ffermio hefyd.
7. Pryd fydd adolygiad o'r cod ymarfer ar gyfer adar hela sy’n cael eu magu at bwrpas helwriaeth yn cael ei gynnal? OQ59488
Diolch. Bydd yr adolygiad o’n cod ymarfer yn parhau i fod wedi’i ohirio tra byddwn yn archwilio’r dystiolaeth ynglŷn â defnyddio cewyll ar gyfer bridio adar hela. Ni fydd unrhyw newidiadau'n cael eu gwneud i’r cod ymarfer, nac i ddeddfwriaeth lles, heb ymgynghori â rhanddeiliaid.
Diolch yn fawr iawn am eich ymateb. Mae lladd anifeiliaid at bwrpas helwriaeth yn rhywbeth rwy'n ei wrthwynebu, ac mae hynny'n cynnwys saethu unrhyw adar hefyd. Rwy'n sylweddoli y byddaf yn wahanol i lawer o bobl yma sy'n gwasanaethu'r un rhanbarth â mi. Mae llawer o bobl wedi dweud ei fod yn dod â llawer i'r economi. Wel, i mi, nid yw hynny'n ei wneud yn iawn. Nid yw lladd anifeiliaid er difyrrwch yn rhywbeth y byddwn i'n ei gefnogi. Ac felly, gyda bwriad datganedig Llywodraeth Cymru i gyfyngu ar y defnydd o gewyll ar gyfer anifeiliaid fferm, nid yw'n gwneud fawr o synnwyr fod y ddeddfwriaeth ar ei hôl hi ar gyfer adar hela. Nid yw’r cod ymarfer fel y mae yn cynghori yn erbyn defnyddio cewyll wedi’u cyfoethogi ar gyfer adar hela, dull gormesol a thrallodus, y dywedodd y pwyllgor lles anifeiliaid fferm ei fod yn annhebygol o ddiwallu anghenion yr adar. Yn fy rhanbarth i, mae gennym Bettws Hall, un o’r ffermydd adar hela mwyaf yn Ewrop, ac yn unol â safonau'r diwydiant, mae ganddi hyd at 90,000 o adar hela wedi’u caethiwo mewn cewyll at ddibenion bridio. Mae cyfle i Lywodraeth Cymru arwain y ffordd a gwneud safiad tosturiol yn erbyn bridio adar hela mewn cewyll. Felly, a yw’r Gweinidog yn cytuno bod yn rhaid i unrhyw ddiweddariad i’r cod ymarfer ar fagu adar hela at ddibenion helwriaeth gywiro’r amryfusedd hwn a helpu i weithio tuag at ddod â'r arfer didrugaredd hwn i ben? Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Mae'r cod ymarfer sydd gennym ar hyn o bryd ar les adar hela a fegir at ddibenion helwriaeth yn egluro beth sydd angen i unigolyn ei wneud i fodloni’r safonau gofal sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith, ac mae’n annog pawb sy’n gyfrifol am fagu adar hela i fabwysiadu’r safonau hwsmonaeth uchaf. Fel y gwyddoch, mae ein cynllun lles anifeiliaid yn cynnwys cam gweithredu i sefydlu cylch adolygu ar gyfer ein holl godau ymarfer, gyda diweddariadau wedi’u hamserlennu, hyd y bo modd, i adlewyrchu ein datblygiadau polisi. Felly, fel y dywedaf, yn anffodus, nid oes modd darparu amserlen ar hyn o bryd ar gyfer adolygu’r cod ymarfer ar les adar hela a fegir at ddibenion helwriaeth, ond rwyf wedi ymrwymo i gyfyngu ar y defnydd o gewyll ar gyfer anifeiliaid fferm, fel y sonioch chi. Rydym yn gweithio gyda gweinyddiaethau eraill y DU i edrych ar sut a ble y cânt eu defnyddio, ochr yn ochr ag effeithiau lles systemau presennol ac amgen. A dylwn ddweud, os oes gan unrhyw un unrhyw bryderon am safle penodol sy'n magu adar hela, dylid rhoi gwybod amdanynt i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion neu i'r awdurdod lleol perthnasol, ac mae hynny'n mynd yn ôl at gwestiwn Peredur Griffiths ynghylch sicrhau bod pobl yn gwybod i bwy y dylent roi gwybod am unrhyw beth.
Mae’n gymaint o drueni clywed Jane Dodds yn troi ei chefn ar yr holl bobl sy’n cael eu cyflogi yn y diwydiant saethu ar draws fy etholaeth ac ar draws y rhanbarth y mae’n ei gynrychioli. Weinidog, mae’r diwydiant saethu'n cyflogi miloedd o bobl. Mae hefyd o fudd enfawr i'r economi ac i gadwraeth. Felly, gyda’r adolygiad hwn, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud eu penderfyniad ar sail gwyddoniaeth a phobl yn hytrach na'r safbwyntiau ideolegol a ledaenir gan rai pobl.
Wel, mae ymgynghoriad CNC ar agor ar hyn o bryd. Daw i ben ar 20 Mehefin, ac mae hwnnw’n rhoi cyfle i unrhyw sydd â diddordeb i fynegi eu barn.
8. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chyd-aelodau'r Cabinet ynghylch y llinell drên rhwng Wrecsam a Bidston yng ngogledd Cymru? OQ59473
Diolch. Rwy'n trafod perfformiad a gwelliannau i gysylltiadau trafnidiaeth pwysig yng ngogledd Cymru yn rheolaidd gyda fy nghyd-Weinidogion. Rwy’n falch fod Trafnidiaeth Cymru wedi cyflwyno trenau dosbarth 230 newydd ar y rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston ac wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth bob hanner awr ar y rheilffordd yn ddiweddarach eleni.
Diolch, Weinidog. Rwy'n ddiolchgar am eich ateb. Mae teithwyr ar y rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston yn fwyfwy rhwystredig gyda'r defnydd rheolaidd o fysiau yn lle trenau ar y llwybr. Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi, ac rwyf eisoes wedi ysgrifennu at y Gweinidog sy’n gyfrifol am drafnidiaeth ynglŷn â’r mater hwn. A wnewch chi amlinellu’r cymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i Trafnidiaeth Cymru i ddatrys y mater a sicrhau bod y rheilffordd yn weithredol eto cyn gynted â phosibl?
Soniais fod Trafnidiaeth Cymru bellach wedi cyflwyno’r trenau newydd hyn. Bu'n rhaid iddynt dynnu nifer o drenau oddi ar y rheilffordd dros dro ar gyfer gwaith atgyweirio brys. Cafodd hynny effaith ddifrifol ar wasanaethau, ac yn anffodus, cafodd gwasanaethau ar y rheilffordd o Wrecsam i Bidston eu canslo, gan ddefnyddio bysiau yn lle trenau, fel y dywedwch. Ond credaf eu bod bellach wedi adfer y gwasanaeth bob awr ar y rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston yn llawn. Fel Llywodraeth hefyd, rydym yn awyddus iawn i weithio draw tuag at ogledd-orllewin Lloegr. Gwn fod Trafnidiaeth Cymru yn ymgysylltu’n rheolaidd â dinas-ranbarth Lerpwl; byddaf yn cyfarfod â’r maer, Steve Rotheram, yr wythnos nesaf, i weld sut y gellir cael gwell cysylltiadau rhwng ein dwy ardal, ac yn amlwg, rwy'n gweithio’n agos iawn gyda Merseyrail hefyd i sicrhau bod gwelliannau i deithwyr yno ar y rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston.
Yn olaf, cwestiwn 9, Carolyn Thomas.
9. Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi 'u cael gyda Chonsortiwm Manwerthu Cymru ynglŷn â lleihau'r ynni y mae manwerthwyr bwyd yn y gogledd yn ei ddefnyddio? OQ59491
Diolch. Mae'r adran polisi economaidd a gwaith teg yn cyfarfod â'r fforwm manwerthu fwy neu lai yn fisol i drafod ystod o faterion, gan gynnwys defnydd o ynni ac arbedion effeithlonrwydd. Mae'r cynllun gweithredu manwerthu yn gynnyrch gwaith y bartneriaeth, a chyhoeddir y cynllun ar 18 Mai.
Diolch. Yn dilyn cyhoeddi gweledigaeth strategol a rennir y consortiwm ar gyfer y sector manwerthu y llynedd, cyflwynodd cynrychiolwyr o Gyfeillion y Ddaear Cymru a minnau ein hymgyrch i'r grŵp yn galw ar y sector manwerthu i fabwysiadu dyddiad targed ar gyfer ôl-osod drysau ar oeryddion ac oergelloedd archfarchnadoedd. Os gwneir y newid hwn drwy Gymru gyfan, gallai arbed yr hyn sy'n cyfateb i ddefnydd ynni 50,000 o gartrefi, gan helpu i ostwng biliau tanwydd a lleihau allyriadau carbon. Weinidog, byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi gwybod pa gynnydd a wnaed gan y consortiwm manwerthu tuag at osod targed o'r fath, a pha gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chynnig i wireddu hyn. Rwy'n credu bod rhywfaint o arian cyfalaf ar gael y gallem ei ddefnyddio i fenthyg yn ei erbyn.
Diolch. Wel, mae'r cynllun y cyfeiriais ato'n cael ei lansio ar 18 Mai. Rwy'n gwybod bod drysau oergelloedd wedi'u cynnwys yn y bennod ar wytnwch yn y cynllun, a bydd hynny'n parhau i fod yn rhan o'r gwaith gyda'r consortiwm manwerthu i gyflawni ein hamcanion ar gyfer gwrthsefyll newid hinsawdd, er enghraifft. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i fusnesau sy'n ceisio lleihau eu hallyriadau carbon, rheoli costau ynni a chynyddu cystadleurwydd busnesau drwy fentrau fel y cynllun benthyciadau busnes gwyrdd, ac mae'r cynllun hwnnw'n cynnig cyllid cyfalaf, sydd ei angen ar fusnesau bach a chanolig eu maint yn aml er mwyn gwneud y penderfyniadau buddsoddi hynny.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, bydd y cwestiynau amserol. Mae'r cyntaf i'w ateb gan Weinidog yr Economi ac i'w ofyn gan Alun Davies.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol Tillery Valley Foods? TQ767
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae swyddogion o Lywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi bod yn ymgysylltu'n adeiladol â Tillery Valley Foods ers cryn dipyn o amser. Ein prif amcanion yw sicrhau dyfodol i'r gweithwyr, eu teuluoedd, ac yn ddelfrydol, cadw'r busnes yn weithredol. Fodd bynnag, er mwyn datblygu atebion gyda'r busnes, rydym angen gwybodaeth nad yw wedi bod ar gael yn rhwydd hyd yma. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i annog y busnes a'i randdeiliaid i weithio gyda ni i ystyried gyda'n gilydd pa opsiynau sydd ar gael i ddiogelu'r swyddi sydd yn y fantol.
Diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Dylwn ddiolch iddo hefyd am y ffordd y mae wedi arwain ymateb y Llywodraeth i'r materion sy'n ymwneud â Tillery Valley Foods ers misoedd lawer bellach. Rwy'n ddiolchgar i'w swyddogion am eu parodrwydd i weithio'n galed, bob awr o'r dydd, dros benwythnosau, i sicrhau bod y busnes hwn yn cael pob cefnogaeth sydd ei hangen arno i oroesi drwy'r cyfnod anodd hwn.
Mae Tillery Valley Foods yn un o gyflogwyr mwyaf Blaenau Gwent, ac mae'n gyflogwr enfawr yng nghymuned Cwmtyleri ac Abertyleri a'r rhan honno o gwm Ebwy Fach. Mae'n rhan o ecosystem fusnes na fydd yn hawdd ei hailadeiladu, ac wrth inni fynd drwy'r wythnosau a'r misoedd nesaf hyn, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog amlinellu sut mae'n credu y gall Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, barhau i ddarparu cefnogaeth i'r busnes a diogelu'r holl swyddi sy'n gysylltiedig â'r busnes hwnnw.
Ie. Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn dilynol. Fe ddylwn gydnabod bod hwn yn faes sy'n croesi rhwng dwy adran o'r Llywodraeth wrth gwrs, gan fod yr adran fwyd yn rhan o gyfrifoldeb fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, felly rydym wedi bod yn gweithio ar draws portffolios gwahanol i geisio cael atebion ac yna i geisio darparu'r ymateb cywir i wneud yr hyn mae'r Aelod yn ei ddweud, ynglŷn â bod eisiau cadw gwaith yn y rhan hon o Gymru. Rwy'n cydnabod yn llwyr yr hyn a ddywed: nid yw'r her o sicrhau cyflogaeth yn y rhan hon o Gymru yr un fath â phe bai yn un o'n tair dinas yn ne Cymru, dyweder; nid yw'r mynediad at gyflogaeth yr un fath.
Mae'r sefyllfa bresennol yn wirioneddol bryderus, ac rwy'n deall bod yn rhaid ei fod yn ofidus iawn i'r gweithlu a'r gymuned ehangach. Rydym wedi bod yn rhagweithiol gyda'r cyngor ers diwedd y llynedd—ac rwy'n cofio'r sgwrs a gefais yn uniongyrchol gyda'r Aelod bryd hynny—gan weithio gyda'r cyngor a'r busnes, ac fe wnaethom estyn allan yn rhagweithiol at gredydwyr a'r banc. Rydym hefyd wedi gweithio gyda Banc Datblygu Cymru i geisio deall a oes yna opsiynau amgen ar gyfer y dyfodol. Rydym yn parhau i archwilio'r opsiynau sydd ar gael i helpu i sicrhau dyfodol i'r busnes, ac rydym hefyd yn gorfod ystyried beth allai ddigwydd os nad yw hynny'n bosibl. Fe fyddwch yn ymwybodol fod yr hysbysiad gweinyddu wedi'i gyflwyno a'n bod bellach yn bwriadu gweithio gyda'r gweinyddwyr i ddeall beth y gallwn ei wneud yn gadarnhaol. Byddwn yn sefydlu tasglu gyda'r awdurdod lleol, a phan fydd y tasglu hwnnw wedi'i sefydlu, byddaf yn sicrhau bod yr Aelod, fel Aelod etholaeth, yn cael rhan briodol yn hynny. Byddwn yn ceisio dod â grŵp strategol at ei gilydd i ganolbwyntio gwaith ar yr hyn y gallwn ei wneud, i helpu i gydlynu gweithgarwch, gan ymdrin â'r cyngor a'r Adran Gwaith a Phensiynau, os oes angen, yn ogystal â Gyrfa Cymru, a Community yn wir—nid yr undeb cydnabyddedig ond undeb sydd ag aelodau ar y safle hefyd. Felly, byddwn yn paratoi cyfathrebiadau gyda'r gweithlu ac ar gyfer y gweithlu, i edrych ar opsiynau i ddiogelu swyddi, ac i sicrhau ein bod yn deall beth allai fod yn bosibl, os oes angen, gyda'n rhaglen ReAct+, ac eraill hefyd.
Dylwn ddweud ein bod ni, yn y gwaith a wnaethom, wedi ceisio edrych yn uniongyrchol ar gyfleoedd i'r busnes oroesi, nid edrych ar gadwyni cyflenwi GIG Cymru yn unig, ond hefyd ar broblemau llif arian y busnes sydd wedi arwain at y pwynt hwn, ond yn enwedig y gwaith a wnaethom gyda rhai o'n meysydd cyngor arbenigol sy'n edrych, er enghraifft, ar ddulliau parod ar gyfer buddsoddwyr. Mae hwnnw'n waith a wnaethom gyda Chanolfan Cydweithredol Cymru hefyd, i chwilio am ddewisiadau amgen. Hyd yn hyn, nid yw wedi gweithio, ond rwy'n parhau i ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud, ac rwy'n parhau i ganolbwyntio ar fod eisiau cael y busnes i ymgysylltu â ni mor agored ac mor adeiladol â phosibl, ac rydym yn barod i weithio gyda nhw, gyda'r holl ysgogiadau sydd gennym ar gael, ynghyd â phartneriaid. Ac fe wnaf yn siŵr fod yr Aelod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf. Os oes mwy y gallaf ei wneud, fe ysgrifennaf at yr Aelod gyda gwybodaeth bellach.
Weinidog, nid yn aml y gwnaf hyn, ond hoffwn gytuno â phopeth mae Alun Davies newydd ei ddweud. Mae'n gwbl hanfodol fod y Llywodraeth hon yn gwneud popeth yn ei phŵer i achub y swyddi a allai gael eu colli. Rydym yn siarad am Tillery foods, un o gyflogwyr mwyaf ardal Abertyleri, yn fy rhanbarth i. Rydym yn siarad am 310 o swyddi—mae'n nifer sylweddol o swyddi—a byddai'n golled enfawr iddynt. Fel Alun, rwyf innau hefyd yn cydnabod cymhlethdod yr achos hwn wrth gwrs, ac rwy'n cydnabod y gwaith rydych wedi'i wneud hyd yma, ond byddai'n dda pe gallech ddod yn ôl i'r Senedd a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am yr hyn sydd wedi'i wneud a beth yw eich cynlluniau, os oes gennych unrhyw gynlluniau gweithredu ar gyfer y dyfodol, ac unrhyw gynnydd a wnewch, os gallech roi'r wybodaeth honno, oherwydd difrifoldeb hyn i bobl fy rhanbarth. Diolch.
Diolch am y cwestiwn dilynol. Fel y dywedais wrth ateb Alun Davies, pan fynegodd ei bryder wrthym y llynedd, fe fuom yn ymgysylltu'n uniongyrchol hefyd â'r cyngor, a oedd wedi bod yn ymwneud â'r busnes, er mwyn deall beth allai ddigwydd. Roedd hynny'n gymharol hwyr yn y dydd. Rydym yn deall bod ganddynt heriau llif arian, ac ni allwn chwistrellu swm mawr o arian parod i mewn i'r busnes. A bydd yr Aelod yn deall bod yna her gyda sefyllfa'r gyllideb a bod eisiau sicrhau bod unrhyw chwistrelliad o arian parod yn sicrhau dyfodol i'r swyddi. Ond hefyd, deallwn fod naid sylweddol yng nghostau ynni a chwyddiant yn ehangach yn rhan o'r rheswm dros yr heriau sy'n wynebu'r cwmni. Felly, byddwn yn parhau i ymgysylltu â nhw, rydym yn parhau i fod eisiau iddynt ymgysylltu mor adeiladol ac mor agored â phosibl gyda ni, a byddwn yn parhau i weithio gyda'r cyngor. Ac rwy'n credu y dylwn wneud y pwynt eto: rwy'n credu bod y cyngor wedi bod yn wirioneddol gadarnhaol ac adeiladol ac eisiau dod o hyd i ateb i'r busnes hwn a'r swyddi mae'n eu darparu yn y cymunedau lleol. Mae hynny'n parhau i fod yn ffocws i ni, a chan fy mod mewn sefyllfa i ysgrifennu at yr Aelodau sydd â diddordeb, fe wnaf hynny. Ac fel rwy'n dweud, rwy'n arbennig o ddiolchgar am y ffordd adeiladol iawn mae'r Aelod dros Flaenau Gwent wedi cyflwyno'r achos, gan ddweud yn glir mai'r hyn sy'n bwysig iddo yw'r swyddi a'r teuluoedd yr effeithir arnynt yn uniongyrchol.
Diolch am yr wybodaeth ddiweddaraf, Weinidog. Rwyf innau hefyd am fynegi fy mhryderon difrifol am ddyfodol Tillery Valley Foods Ltd, ac fel y dywedodd Alun, mae'n un o'r cyflogwyr mwyaf a gorau a fu gennym yn yr ardal ehangach. Roedd un o weithwyr y cwmni, a gysylltodd â fy swyddfa, yn disgrifio gweithlu'r ffatri fel un teulu mawr hapus. Yn ogystal â mynegi eu tristwch mawr ynglŷn â'r hyn sydd wedi digwydd, roeddent yn dweud bod mwyafrif y gweithlu yn byw o fewn pellter cerdded i'r ffatri, a heb opsiwn i yrru i weithle arall. Felly, byddai cau'r ffatri hon yn arwain at ddyfodol llwm iawn i lawer o weithlu ymroddedig a hirsefydlog Tillery foods.
Rwy'n deall bod colli rhai cytundebau mawr wedi gwaethygu trafferthion ariannol y cwmni. Er bod rhan fawr o'u busnes yn dod o gyflenwi bwyd i GIG Lloegr, rwy'n deall hefyd nad yw'n ymddangos bod ganddynt yr un berthynas â GIG Cymru. Yn ogystal â chynnig help ariannol uniongyrchol, a oes unrhyw ffordd y gallwn gynyddu cyfleoedd caffael cyhoeddus i gwmnïau fel Tillery foods—polisi y mae Plaid Cymru wedi bod yn mynd ar ei drywydd ers nifer fawr o flynyddoedd bellach, i sicrhau bod arian cyhoeddus Cymru yn cylchdroi o amgylch yr economi leol? Diolch.
Dyna'n union y buom yn ei wneud, a chawsom sgyrsiau uniongyrchol fel Llywodraeth gyda'r cyngor a chyda Tillery Valley Foods, ac unwaith eto, y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud ynglŷn â'r atebion uniongyrchol sydd eu hangen arnom i sefyllfa ariannol y cwmni, y strwythur perchnogaeth, gan gynnwys perchnogaeth ar asedau, ac mae deall y gwerth yn y busnes a'r hyn y gallwn ei wneud, wedi bod yn allwedd—. Mae'n rhannol ein bod yn estyn allan at gredydwyr ac eraill i fod eisiau deall yn fanwl yr hyn a ddywedir wrthym, a'r hyn y gallwn ei wneud wedyn i geisio cynorthwyo'r busnes i gynnal ei weithgaredd ac i gadw'r swyddi.
Nawr, fel y dywedais mewn atebion cynharach—ac fel y dywedais yn yr ateb cyntaf i Alun Davies, rwy'n credu—rydym wedi edrych ar faterion caffael yn GIG Cymru, ond mae'n golygu bod angen inni ddeall o hyd i ba raddau y gallwn helpu'r cwmni i ymdrin â'i broblemau llif arian parod uniongyrchol neu p'un a allwn gael perchnogaeth sefydlog a strwythur buddsoddi, a ffrâm amser i'r holl bethau hynny allu digwydd. Ond rydym wedi bod yn edrych yn rhagweithiol ar bob un o'r meysydd hynny, gan gynnwys prosesau caffael GIG Cymru.
Rwyf am gyfleu rhywfaint o optimistiaeth ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud, ond mae'n rhaid cydbwyso hynny â'r realaeth nad ni sy'n rheoli'r cwmni ac mae angen i'r busnes weithio gyda ni i allu mapio dyfodol cynaliadwy ar gyfer y cannoedd o swyddi a theuluoedd sy'n ddibynnol arno.
Diolch i'r Gweinidog. Y cwestiwn nesaf, felly, i’w ateb gan y Gweinidog iechyd, ac mae i’w ofyn gan Darren Millar.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cyhoeddiad bod y crwner yn ymchwilio ymhellach i farwolaeth pedwar claf fasgwlar yn Ysbyty Glan Clwyd? TQ772
Cafodd y pedwar achos fasgwlaidd a nodwyd yng nghwestiwn yr Aelod eu cyfeirio at Grwner Ei Fawrhydi gan y bwrdd iechyd ei hun y llynedd fel rhan o broses ei banel adolygu ansawdd gwasanaethau fasgwlaidd. Mae hyn, rwy'n credu, yn dangos bod y bwrdd iechyd yn agored, ac er na allaf wneud sylw am achosion unigol, hoffwn hysbysu'r Aelod fod y bwrdd iechyd yn hynod ymwybodol o'r heriau sy'n gysylltiedig â gwasanaethau fasgwlaidd yn Ysbyty Glan Clwyd.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae'r cleifion a'u teuluoedd wedi talu pris uchel iawn am y llanast a wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o ganoli gwasanaethau fasgwlaidd yng ngogledd Cymru. Mae'n warth na chafodd y marwolaethau hyn eu cyfeirio at y crwner hyd nes y cynhaliwyd adolygiad allanol o'u cofnodion clinigol yn gynharach eleni, ac a bod yn onest, ni allaf ddychmygu'r gofid i anwyliaid yr unigolion hyn, o gofio bod y crwner wedi cadarnhau bellach ei bod hi'n briodol cynnal cwest. Bydd teuluoedd yn amlwg yn bryderus iawn, a bydd aelodau'r cyhoedd hefyd. Ac yn ddigon teg, bydd ganddynt lawer o gwestiynau y byddant eisiau i'r cwest eu hateb.
Nawr, mae'n amlwg na ddylai'r uwch-swyddogion gweithredol sy'n gyfrifol am wneud cam â chleifion a'u teuluoedd fynd heb eu cosbi, ac mae angen i'r bwrdd iechyd a'r GIG yng Nghymru yn ehangach ddysgu gwersi i atal pobl rhag cael niwed eto yn y dyfodol. Felly, a wnewch chi sicrhau bod hyn yn digwydd—fod y gwersi hynny'n cael eu dysgu? Ac o ystyried bod tair o'r marwolaethau hyn wedi digwydd yn fuan ar ôl i'r bwrdd iechyd gael ei dynnu o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020, a yw Llywodraeth Cymru ei hun yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am yr hyn sydd wedi digwydd?
Hoffwn sicrhau aelodau o'r cyhoedd yng ngogledd Cymru nad achosion diweddar yw'r rhain. Nawr, nid yw hynny'n ei wneud ronyn yn haws i'r teuluoedd hynny, ond y rheswm pam y daeth yr achosion hyn i'r amlwg yw oherwydd, yn dilyn yr ymchwiliad gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon, sef yr adroddiad a gomisiynwyd gan Betsi Cadwaladr wrth gwrs, ar ôl cyhoeddi'r adroddiad hwnnw yn 2023, penderfynodd y bwrdd iechyd eu bod am fynd ymhellach eto a'u bod am sefydlu eu panel ansawdd gwasanaethau fasgwlaidd eu hunain. Pan oeddent yn ymchwilio i'r 47 achos hynny, fe wnaethant sylweddoli bod yna bedwar achos a ddylai fod wedi cael eu cyfeirio at y crwner. Yn amlwg, ac yn ddealladwy, mae hynny'n peri gofid i'r teuluoedd, ac roeddwn yn falch iawn o weld bod y cyfarwyddwr meddygol wedi ymddiheuro wrth y teuluoedd hynny yn ôl ym mis Ionawr eleni. Yr hyn a wyddom yw bod 27 o argymhellion yn yr adroddiadau hynny, a gallaf eich sicrhau bod y bwrdd iechyd wedi rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r rheini.FootnoteLink
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Mae fy meddyliau i heddiw yma yn sicr efo teuluoedd y pedwar yma, a fydd yn gorfod ail-fyw cyfnod o alaru eto. Ond dwi, wrth gwrs, yn falch iawn bod y crwner wedi cynnig cyfle rŵan ar y risgiau cwbl annerbyniol y gwnaeth y cleifion orfod eu hwynebu ar ôl i wasanaethau gael eu canoli yn Ysbyty Glan Clwyd. Camgymeriad oedd y penderfyniad hwnnw—dwi’n gwbl grediniol o hynny. Doedd cyn-brif weithredwr a chyn-gyfarwyddwyr meddygol Betsi Cadwaladr ddim hyd yn oed yn gallu dweud wrthyf pam penderfynon nhw ganoli yn Ysbyty Glan Clwyd. Dwi’n cofio gofyn iddyn nhw, 'Pam Glan Clwyd?' Roedden nhw’n dweud, ‘O mi ddigwyddodd cyn ein hamser ni.’ Hyd yn oed os ydych chi yn credu mewn canoli, siawns mai yng nghanolfan rhagorol fasgwlar Ysbyty Gwynedd y dylai hynny fod wedi digwydd.
Un neu ddau o gwestiynau. Yn gyntaf, adroddir heddiw fod y crwner wedi dweud y byddai archwiliad yn cael ei gynnal o bob achos o natur debyg mewn perthynas â gwasanaethau fasgwlaidd. A wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym sut y bydd Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod yr archwiliad i'r achosion hynny'n gallu digwydd yn effeithiol ac yn amserol? Ac yn ail, a wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am yr hyn y mae hi'n ei feddwl yw cyflwr gwasanaethau fasgwlaidd ar draws y gogledd? Oherwydd mae yna bryder enfawr o hyd ac mae wedi cael ei gryfhau eto heddiw.
Diolch yn fawr. Wel, rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod yn dysgu'r gwersi o'r gorffennol. Gallaf roi sicrwydd i chi, fel y dywedais, fod y bwrdd iechyd o ddifrif ynglŷn â hyn. Fe wnaeth y panel ansawdd gwasanaethau fasgwlaidd 27 o argymhellion, ar ben y naw argymhelliad allweddol a wnaeth Coleg Brenhinol y Llawfeddygon. Nawr, y bwrdd iechyd sy'n gyfrifol am sicrhau diogelwch y gwasanaethau yn Betsi Cadwaladr. Roedd yn fater y gwn fy mod wedi'i godi gyda chadeirydd a swyddogion gweithredol y bwrdd yn fy nghyfarfod â nhw yr wythnos diwethaf, i wneud yn siŵr nad oeddent yn colli ffocws ar hyn. O ran sicrwydd, gallaf ddweud wrthych fod y gwasanaeth bellach yn sefydlog. Rydym mewn sefyllfa lle cafodd meddyg ymgynghorol newydd ei benodi yr wythnos hon, sy'n golygu bod yno hyd at naw meddyg ymgynghorol. Ceir arolygon rheolaidd o forâl a hyfforddiant staff. A cheir perthynas waith gref iawn rhwng y bwrdd iechyd a Lerpwl a Stoke o ran gwasanaethau fasgwlaidd.
Felly, mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud ar effeithiolrwydd llwybrau clinigol, llywodraethu clinigol, cydsyniad, atebolrwydd, gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gweithio mewn timau. Mae'r bwrdd iechyd yn gweithio drwy'r holl bethau hyn. Edrychwch, nid wyf yn meddwl ein bod wedi troi'r gornel eto, ac yn sicr, rwy'n gobeithio y bydd y bwrdd newydd yn sicrhau eu bod yn cadw ffocws ar hyn, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y gwneuthum ei bwysleisio iddynt yn ddiweddar.
Diolch i'r Gweinidog.
Nid oes datganiadau 90 eiliad heddiw.
Felly, eitem 5 yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar anymataliaeth. Galwaf ar Jenny Rathbonw i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8252 Jenny Rathbone, Joyce Watson, Altaf Hussain, Sioned Williams
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod anymataliaeth yn parhau i fod yn bwnc tabŵ i fenywod a dynion er ei bod yn fater iechyd cyhoeddus sylweddol;
b) bod dros 90 y cant o famau tro cyntaf yn profi trawma perineol yn ystod genedigaeth sy'n gallu arwain at broblemau anymataliaeth;
c) nad yw 75 y cant o fenywod yn gofyn am gymorth meddygol ar gyfer eu hanymataliaeth er ei bod yn effeithio ar ansawdd eu bywyd waeth pa mor ddifrifol ydyw;
d) bod dynion yn dioddef o anymataliaeth hefyd, yn arbennig yn ddiweddarach mewn bywyd ond mae'n broblem gudd i raddau helaeth.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth ar gyfer mynd i'r afael ag achosion a chanlyniadau anymataliaeth ac i godi ymwybyddiaeth o'r mater ymhlith y cyhoedd.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar ran y tri sy'n cyd-gyflwyno'r cynnig hwn a minnau, rwyf am ddiolch i Julie Cornish, llawfeddyg y colon a'r rhefr ym mwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro; Laura Price, ffisiotherapydd ym mwrdd iechyd Hywel Dda; ac Amy Marshall, claf arbenigol ar anymataliaeth, sy'n gwirfoddoli dros Triniaeth Deg i Fenywod Cymru, y gwnaeth eu cyflwyniadau i'r grŵp trawsbleidiol ar iechyd menywod ym mis Mawrth ein rhybuddio ynglŷn â maint her anymataliaeth a'r ymateb annigonol mewn perthynas â gofal iechyd darbodus, o ran atal ac ymyrraeth gynnar a'r rhestrau aros hir, a bylchau mewn gwasanaethau iechyd eilaidd.
Mae hon yn broblem sy'n effeithio ar fenywod a dynion ar draws Cymru ym mhob etholaeth a phob cymuned. Mae naw o bob 10 mam am y tro cyntaf yn profi trawma perineol yn ystod genedigaeth. Mae pedair o bob 10 menyw yn profi anymataliaeth wrinol ac mae dros un o bob 10 yn dioddef anymataliaeth ysgarthol. Ac nid problem menywod yn unig mohoni; mae tri o bob pum dyn dros 50 oed yn cael eu heffeithio gan broblemau'r prostad, ac angen gwneud dŵr yn aml, yn ogystal â phoen wrth wneud dŵr. Er gwaethaf y broblem gyffredin hon, mae'n bwnc tabŵ na siaredir amdano, pwnc y mae cymdeithas yn dewis ei anwybyddu i raddau helaeth, felly nid yw tri chwarter y menywod yr effeithir arnynt gan anymataliaeth yn gofyn am gymorth meddygol, ac ânt i drafferth i gelu eu hembaras.
Er imi gael dwy enedigaeth ddigymell drwy'r wain, gwn na allaf feddwl am neidio ar y trampolîn gyda fy wyrion, ac mae'n rhaid imi gynllunio'n rheolaidd lle gallaf fynd i'r toiled pan fyddaf allan. Mae Cyngor Caerdydd yn gwneud cyfraniad cymedrol gyda'i ganllaw toiledau defnyddiol, ond nid yw'n gynhwysfawr, a gallai'r sector manwerthu a thwristiaeth chwarae rhan lawer mwy yn helpu pobl i gyrraedd toiled lle bynnag y bônt. Faint o wirfoddolwyr ymroddedig a wahoddwyd i seremoni coroni'r Brenin na wnaeth ei mynychu pan wnaethant sylweddoli y byddent yn gaeth i'w seddi am bum awr heb allu mynd i'r toiled?
Nid problem pobl hŷn yn unig yw hon. Mae unrhyw un sy'n rhoi genedigaeth drwy ddiffiniad ym mlodau eu dyddiau, felly pam mae bron bob amser yn arwain at drawma perineol? Mae'r perinewm yn dal ein pledren, ein coluddyn a'n croth yn eu lle, felly mae'n rhan eithaf sylfaenol o anatomeg menywod, a daw dan lawer o straen pan fyddwch chi'n cario pwysau ychwanegol ffoetws sy'n tyfu. Pam fod 90 y cant o famau tro cyntaf yn cael rhwyg gradd gyntaf fan lleiaf, a bod 70 y cant angen pwythau i'r man o gwmpas y llwybr geni? Mae gwir angen inni roi cyngor a help i fenywod ar gyfer gofal perineol, cyn ac ar ôl yr enedigaeth. Nid wyf yn meddwl ei fod ar gael, ac mae hynny'n greulon. Nid oedd ar gael pan oeddwn i'n rhoi genedigaeth 30 a mwy o flynyddoedd yn ôl, ac rwy'n siŵr nad yw ar gael heddiw. Er enghraifft, gellid cynghori pobl i dylino eu perinewm gydag olew i wneud iddo ymestyn yn haws pan fo'r babi'n gwneud ei ffordd i lawr y llwybr geni, ac nid yw hyn yn digwydd hyd y gwn i.
Bob blwyddyn, mae miliynau o fenywod ledled y byd yn dioddef trawma i'r perinewm wrth roi genedigaeth, a hyd y gwn i, dim ond un wlad—Ffrainc—sydd wedi rhoi sylw difrifol yn gyson i'r mater hwn. Mae pob mam newydd yn cael 10 sesiwn cryfhau llawr y pelfis ar bresgripsiwn ar ôl iddi eni babi—felly, ymarferion llawr y pelfis wedi'u darparu gan ffisiotherapyddion neu fydwragedd wyth wythnos ar ôl yr enedigaeth, waeth beth yw'r symptomau. Mae'n gamsyniad cyffredin y bydd menywod sydd wedi cael toriad Cesaraidd yn rhydd o broblemau llawr y pelfis; nid yw hyn yn wir. Ac felly, mae pawb yn cael y gwasanaeth hwn. Cânt eu cynghori i fwyta bwyd nad yw'n achosi iddynt gael rhwymedd, sy'n amlwg yn achosi mwy o broblemau perineol. Ac ymarferion llawr y pelfis—nid yw dim ond dweud wrth bobl am eu gwneud yn gwneud iddo ddigwydd. Mae angen sesiynau grŵp lle mae pobl yn gorfod mynd allan i'w wneud, oherwydd nid yw'n rhywbeth—. Efallai ein bod i gyd wedi clywed amdano, ond nid ydym o reidrwydd yn ei wneud. Felly, nid wyf yn gwybod am unrhyw le arall lle mae hyn yn digwydd, er fy mod yn gwybod bod rhai darparwyr yn Awstralia y darllenais amdanynt yn gwbl ymwybodol o'r broblem. Ac mae'r manteision cost o wneud hyn yn enfawr o ran disgwyliad oes iach, rhyw di-boen, ac atal menywod oedran gweithio rhag rhoi'r gorau i'w gwaith.
Cymharwch y senario honno â phrofiad un o fy etholwyr, a brofodd anymataliaeth ddwbl yn dilyn dwy enedigaeth drawmatig, ac a dreuliodd 20 mlynedd yn ceisio cael triniaeth briodol na fyddai'n gwneud ei chyflwr yn waeth. Cafodd ei chynghori i gael triniaeth i symbylu'r nerf sacrol—ymyrraeth lefel isel o'i chymharu â llawdriniaeth—ond yn ôl yn 2014, roedd hyn yn galw am atgyfeiriad arbenigol y tu allan i'w hardal i Gaerwysg, pan nad oedd unrhyw driniaeth i symbylu'r nerf sacrol ar gael yng Nghymru o gwbl, a gwrthodwyd yr arian iddi ei wneud. Felly, ni chafodd y gwasanaeth roedd hi ei angen, a bu'n rhaid iddi roi'r gorau i'w swydd fel arweinydd addysg blynyddoedd cynnar ar ganol ei gyrfa. Faint o athrawon, meddygon, peirianwyr ag anymataliaeth a gollir i'n heconomi yn sgil gorfod rhoi'r gorau i'w gwaith neu wneud gwaith cyfyngedig gartref?
Yn y Senedd ddiwethaf, rwy'n cofio sut y bu'n rhaid i grŵp gweithredu Llywodraeth Cymru ar iechyd menywod ymdrin â chanlyniadau sgandal rhwyll y wain, gan fod nifer o fenywod wedi troi at fewnblaniadau rhwyll y wain mewn anobaith i ddatrys eu hanymataliaeth. Do, efallai ei fod wedi helpu rhai pobl, ond i'r rhan fwyaf fe arweiniodd at waethygu eu poen, ac mae wedi'i wahardd erbyn hyn. Dyna pryd y cyfarfûm â meddyg ymgynghorol y colon a'r rhefr, Julie Cornish, a oedd yn un o arbenigwyr grŵp gweithredu iechyd Cymru. Roedd hi wedi bod yn cynnig triniaeth i symbylu'r nerf sacrol fel mater o drefn pan oedd hi'n ymarfer yn Lloegr, ond dywedwyd wrthi na châi wneud hynny pan ddaeth i Gymru. Diolch i ddyfalbarhad Julie, rwy'n falch iawn ei bod hi bellach yn bennaeth ar wasanaeth iechyd y pelfis o'r radd flaenaf yn ysbyty cymunedol y Barri. Mae triniaeth i symbylu'r nerf sacrol ar gael i unrhyw un sydd ei hangen yng Nghaerdydd a'r Fro, ond gydag amseroedd aros o bedair blynedd ar gyfer anymataliaeth ysgarthol cyn unrhyw driniaeth, mae'n amlwg nad yw'r buddsoddiad yn ddigon i ateb y galw. Felly, cwestiwn i'r Gweinidog: pam nad yw triniaeth i symbylu'r nerf sacrol ar gael i fenywod ledled Cymru? Rydym ar ei hôl hi o gymharu â Lloegr, ac mae'n ymyrraeth lawer lai ymyrrol na llawdriniaeth neu ddyfrhau colonig.
Mae costau diffyg gweithredu yn enfawr, i'r unigolyn ac i'r gymdeithas gyfan. Ni allwch gadw swydd mewn gweithle lle maent yn amseru eich seibiant toiled, ac yn ogystal â hynny, mae unrhyw un sydd wedi cael babi yn gwybod pa mor ddrud yw cewynnau; dychmygwch fod rhaid i chi wisgo padiau mislif bob dydd o'r flwyddyn i gelu eich anymataliaeth. Mae'r gost yn anferth, a'r unigolyn sy'n ei thalu yn bennaf. Nododd Julie Cornish ei hun fod £233 miliwn yn cael ei wario gan y GIG i drin anymataliaeth wrinol, o'i gymharu â £178 miliwn a delir gan unigolion ag anymataliaeth.
Y rhai sy'n gofyn am gymorth meddygol yw'r rhai sy'n dioddef fwyaf, ac mae cymaint mwy y gallem ei wneud gyda mesurau ataliol, fel deiet ac ymarfer corff a ffisiotherapi, a chreu gweithle ac amgylchedd hamdden sy'n ymwybodol o anymataliaeth i alluogi'r rhai sy'n dioddef ohono i fyw bywyd mor normal â phosibl. Byddai hefyd yn lleihau'r risg o gwympo a thorri esgyrn ac yn lleihau'r baich ar ofalwyr sy'n gorfod ymdrin ag anymataliaeth. Mae absenoldeb gwasanaethau eilaidd ledled Cymru, yn enwedig llenwi'r bylchau yn y ddarpariaeth o driniaeth i symbylu'r nerf sacrol, yn creu cost i gymdeithas a hapusrwydd pobl sy'n llawer mwy na'r buddsoddiad sydd ei angen mewn atal ac ymyrraeth gynnar.
Roedd hi'n anrhydedd cael bod yn un o gyd-gyflwynwyr y ddadl hon heddiw. Yn anffodus, mae anymataliaeth yn parhau i fod yn rhywbeth y siaredir amdano o dan eich gwynt, os o gwbl. Mae Jenny wedi tynnu sylw at ba mor gyffredin yw anymataliaeth mewn menywod a'r effaith y gall ei chael, ond fel mae ein cynnig yn nodi, gall dynion ollwng hefyd—pedwar gair syml, ond o'u siarad, mae ganddynt bŵer i ymladd tabŵ sy'n effeithio ar fywydau cannoedd o filoedd o ddynion ledled y DU bob blwyddyn.
Amcangyfrifir bod gan un o bob tri dyn dros 65 oed broblem anymataliaeth, ac mae un o bob 25 dyn dros 40 oed yn profi problemau anymataliaeth bob blwyddyn. Eto i gyd, nid yw'n cael ei drafod ac nid oes unrhyw Lywodraeth, o unrhyw liw, wedi cymryd camau i fynd i'r afael â'r broblem. Ag ystyried ei bod yn broblem mor gyffredin, mae'n frawychus ei bod yn dal i fod yn destun cyfrinachedd a chywilydd. Mae'r GIG yn amcangyfrif bod rhwng 3 miliwn a 6 miliwn o bobl yn dioddef o ryw fath o anymataliaeth wrinol, ac mae cymaint â thraean o ddynion dros 65 oed yn dioddef ohono, fel y dywedais yn gynharach. Ond mae'n parhau i fod yn bwnc cudd, a thra bo'n aros yn y cysgod, mae llai o debygolrwydd y bydd unrhyw Lywodraeth yn gweithredu i wneud bywyd yn well i'r rhai sy'n dioddef o anymataliaeth wrinol.
Mae angen strategaeth glir i helpu i godi ymwybyddiaeth, a gwella diagnosis a llwybrau triniaeth, ac sydd hefyd yn helpu i fynd i'r afael â rhwystrau dyddiol sy'n wynebu pobl sy'n byw gydag anymataliaeth wrinol—rhwystrau fel prinder toiledau cyhoeddus. Mae'n syndod i mi ein bod yn dal i drafod argaeledd toiledau cyhoeddus. Pan gefais fy ethol i'r lle yma am y tro cyntaf yn 2015, rwy'n cofio Darren yn codi'r mater bob tro, wrth deithio o'r gogledd i'r de. Hefyd, rwy'n cofio gweithio gyda'r Senedd Pobl Hŷn a'u hymgyrch 'P am Pobl' i wella'r ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus. Eto i gyd, dyma ni, wyth mlynedd yn ddiweddarach, ac amcangyfrifir bod gennym oddeutu 40 y cant yn llai o doiledau cyhoeddus. Cafodd toiledau cyhoeddus ledled Cymru eu troi'n siopau, caffis, cartrefi a theatr hyd yn oed. Mae trenau sy'n cael eu rhedeg gan Lywodraeth Cymru'n cael gwared ar gyfleusterau toiled ar drenau, gan ei gwneud hi'n anos byth i bobl sy'n dioddef o anymataliaeth, ynghyd â phroblemau eraill y bledren a'r coluddyn, ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Ond hyd yn oed pan fo pobl sy'n dioddef o anymataliaeth wrinol yn cael hyd i doiled, mae'n annhebygol y dônt o hyd i gyfleusterau addas i ddiwallu eu hanghenion, yn enwedig i ddynion. Mae dynion sy'n dioddef o anymataliaeth wrinol wedi dweud eu bod yn osgoi mynd allan o gwbl am eu bod yn gwybod na fydd gan doiledau cyhoeddus le i gael gwared ar badiau anymataliaeth na chyfleusterau i ddynion ymolchi. Mae hyn yn aml yn gorfodi dynion i gario padiau wedi'u defnyddio gyda nhw neu ofyn i bartner eu rhoi yn eu bag, gan ychwanegu at yr embaras a'r ymdeimlad o gywilydd. Nid oes angen teimlo cywilydd nac embaras, ond yn anffodus, mae wedi mynd yn rhan annatod ohonom.
Mae angen inni newid ein hagwedd at anymataliaeth. Gobeithio mai'r ddadl hon fydd y catalydd i newid, gan godi ymwybyddiaeth o'r hyn sydd, wedi'r cyfan, yn anhwylder cyffredin, a gorfodi'r Llywodraeth i arwain drwy sicrhau bod pobl sy'n byw gydag anymataliaeth wrinol yn cael eu cefnogi'n llawn, ac annog y sectorau cyhoeddus a phreifat i wneud newidiadau syml, megis darparu biniau anymataliaeth ym mhob toiled dynion. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r ymgyrch hon dros newid drwy gefnogi ein cynnig ni heddiw. Diolch yn fawr.
Rwy’n falch o siarad yn y ddadl hon fel cyd-gyflwynydd y cynnig ac aelod o’r grŵp trawsbleidiol ar iechyd menywod. Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am gyflwyno’r ddadl hon, a hoffwn ddiolch hefyd i bawb a gyfrannodd at y grŵp trawsbleidiol am ddod â’r mater hwn i sylw’r Senedd.
Fel cymdeithas, rydym bellach yn siarad cymaint mwy am faterion a oedd yn arfer bod yn guddiedig, ond roedd adeg pan nad oedd genedigaeth, mislif, iechyd mislif a'r menopos ond yn cael eu trafod drwy sibrwd neu ddefnyddio lledneiseiriau, pan oedd menywod yn cael eu gwneud i deimlo bod yn rhaid iddynt guddio effeithiau corfforol y rhannau naturiol hyn o'u bywydau. Diolch byth, mae’r materion hyn, sy’n effeithio ar y boblogaeth gyfan, nid yn unig ar fenywod, ond hefyd, wrth gwrs, ar eu partneriaid, eu teuluoedd, eu ffrindiau a'u cydweithwyr bellach yn cael eu trafod i raddau llawer mwy, mewn gweithleoedd, mewn mannau fel y Siambr hon, mewn ysgolion a cholegau. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn beth da. Mae hefyd yn beth hanfodol, gan fod gormod o dabŵs o hyd rydym ni fel cymdeithas yn ei chael hi'n anodd siarad amdanynt: materion sy'n effeithio ar fenywod mewn ffordd unigryw, ond nid ar fenywod yn unig, materion sy'n cael effaith sylweddol ar fywyd menyw ond nad ydynt er hynny'n cael sylw digonol ac effeithiol mewn gofal iechyd neu addysg, materion fel anymataliaeth a'i achosion.
Pan roddais enedigaeth am y tro cyntaf, er fy mod yn gwybod amdano, nid oeddwn yn gwbl barod am y boen. Ond yr hyn na chefais fy mharatoi amdano o gwbl mewn unrhyw ffordd, gan unrhyw ddosbarth cynenedigol neu fydwraig, oedd y dreth gorfforol enfawr a thrallodus ar fy nghorff ar ôl rhoi genedigaeth, yn y dyddiau, yr wythnosau a'r misoedd ar ôl rhoi genedigaeth—y niwed a wnaeth i mi, yn benodol, fy ngallu i reoli fy mhledren. Roedd pesychu’n rhy galed a chwerthin yn rhy galed bellach yn broblem, ac roedd hyn yn syndod. Rwy'n cofio meddwl, 'Pam nad yw menywod yn siarad am hyn?' Ond yr hyn a oedd yn fwy ysgytwol, a thrallodus hefyd, oedd y ffaith na soniodd y meddyg a bwythodd fy mherinëwm ar ôl iddo rwygo erioed am hyn, na'r fydwraig a edrychodd ar y pwythau hynny, na'r ymwelydd iechyd, ac ni chefais fwy na gwên gydymdeimladol gan fy meddyg teulu pan soniais yn betrusgar am y mater pan oeddwn yn cael fy mhrofi am haint.
Ond roeddwn yn lwcus; fe wellodd fy nghorff. Fe wellodd yr anafiadau a gefais drwy roi genedigaeth yn dda, ac yn weddol gyflym, ac aeth fy rheolaeth o fy mhledren yn ôl bron â bod i normal. Ond nawr, yn fy 50au, rwy'n wynebu'r un broblem eto, ac mae symptomau'r menopos, er eu bod bellach yn cael eu trafod i raddau mwy, yn rhy aml yn cael eu cyfyngu i byliau o wres, chwysu gyda'r nos, meddwl pŵl. Nid oes digon o bobl yn ymwybodol o'r agweddau mwy tabŵ, megis gwendid y bledren ac anymataliaeth, ac nid ydynt yn cael eu trafod na'u trin yn ddigon aml o hyd. Ymddengys bod anymataliaeth yn dal i fod yn un o'r materion hynny y disgwylir i fenywod eu dioddef yn dawel. Cawn ein harwain i feddwl, felly, fod anymataliaeth wrinol yn rhan anochel o’r broses heneiddio, neu o roi genedigaeth.
Mae llawer o fy ffrindiau benywaidd sy'n anymataliol naill ai oherwydd niwed wrth roi genedigaeth neu oherwydd y menopos wedi dweud wrthyf eu bod yn methu rhedeg neu wneud ymarfer corff, ac yn cyfyngu ar eu gweithgareddau oherwydd eu hangen i fod yn agos at doiled, a na, nid ydynt erioed wedi cael cynnig unrhyw fath o gymorth na chefnogaeth. Nid oeddent yn disgwyl i hyn ddigwydd, sydd wedi ychwanegu at eu trallod, ac maent yn ei chael hi'n anodd sôn am y mater, gyda'r teulu, gyda chydweithwyr, hyd yn oed gyda phartneriaid.
Dyma'r sefyllfa. Er yr ystyrir anymataliaeth wrinol yn ganlyniad cyffredin i niwed wrth roi genedigaeth, mae'n rhaid inni gofio, fel y dywedodd Jenny, fod dros 90 y cant o famau sy'n rhoi genedigaeth am y tro cyntaf yn dioddef trawma i'r perinëwm. Fe’i gwnaed yn glir iawn i ni hefyd, yn y dystiolaeth a glywsom yn y grŵp trawsbleidiol, fod anymataliaeth hefyd yn effeithio ar bobl nad ydynt wedi rhoi genedigaeth. Felly, mae'n hollbwysig nad ydym yn cyfyngu gwell ymwybyddiaeth a chymorth i ofal cynenedigol ac ôl-enedigol yn unig, neu i'r rhai sy'n mynd drwy'r menopos, neu i'r henoed. Mae hwn yn fater iechyd sydd nid yn unig yn effeithio ar fywydau dydd i ddydd pobl; fel y clywsom, mae hefyd yn gostus, i'r cleifion eu hunain, ac i'r GIG.
Cyhoeddwyd datganiad ansawdd y Llywodraeth ar iechyd menywod a merched, sy’n disgrifio’r hyn y disgwylir i fyrddau iechyd ei gyflawni i sicrhau gwasanaethau iechyd o ansawdd da i gefnogi menywod a merched, fis Gorffennaf diwethaf. Mae’n rhestru anymataliaeth fel un o’r cyflyrau lle mae anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, a'r angen am wasanaethau sy’n gymwys o ran rhywiau y gallai fod eu hangen ar fenywod mewn ffordd wahanol i ddynion. Ond dangosodd y dystiolaeth a glywsom, gan arbenigwyr a menywod sy'n dioddef o anymataliaeth, ei bod yn amlwg nad yw menywod yn gwybod ar hyn o bryd nad yw'r mater hwn, er ei fod yn gyffredin, yn normal, a bod triniaeth effeithiol ar gael neu'n hygyrch iddynt. Nid oes unrhyw amheuaeth, fel rydym wedi'i glywed droeon yn y Siambr hon, fod rhagfarn ar sail rhywedd ac anghydraddoldeb o fewn y ddarpariaeth iechyd yn chwarae rhan sylweddol yn y sefyllfa hon, ac unwaith eto, mae’r loteri cod post o arbenigedd meddygol a darpariaeth triniaeth yn cyfrannu at y diffyg cymorth ledled Cymru i fenywod sy’n dioddef o anymataliaeth a’i heffeithiau gwanychol a thrallodus.
Mae’r cynnig sydd ger ein bron heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth ar gyfer mynd i’r afael ag achosion a chanlyniadau anymataliaeth, ac i godi ymwybyddiaeth o’r mater ymhlith y cyhoedd. Ni waeth pa mor ddifrifol, dywed clinigwyr wrthym fod hwn yn fater sy'n cael effaith ar ansawdd bywyd bob dydd pobl. Felly, rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi’r cynnig, i ddileu’r stigma sydd ynghlwm wrth broblem mor gyffredin ond difrifol, i greu llwybr symlach a hygyrch at driniaeth ym mhob rhan o Gymru, ac rwyf hefyd yn eich annog—
Sioned, rydych wedi mynd ymhell dros eich amser.
Dyma fy mrawddeg olaf, Ddirprwy Lywydd. Rwyf hefyd yn annog yr Aelodau i siarad am y mater gyda’ch etholwyr, gyda’ch teulu a’ch ffrindiau, i sicrhau bod menywod yn gwybod nad yw’n rhywbeth y mae’n rhaid iddynt ei ddioddef yn dawel.
Hoffwn ddiolch i chi, Jenny, am gyflwyno’r ddadl wirioneddol bwysig hon heddiw. Fel cyd-gyflwynydd ac aelod o’r grŵp trawsbleidiol ar iechyd menywod, rwy’n llwyr gefnogi trafodaethau ar bynciau fel anymataliaeth, sy’n cael eu hosgoi yn llawer rhy aml, am fod pobl yn teimlo embaras yn eu cylch. Mae hyn er gwaethaf y ffaith, fel y dywedwyd heddiw wrth gwrs, fod nifer sylweddol o bobl yn byw gydag anymataliaeth wrinol neu anymataliaeth y coluddyn, neu mewn rhai achosion, y ddau.
Rwyf am ganolbwyntio fy nghyfraniad heddiw ar anymataliaeth y coluddyn ar ôl rhoi genedigaeth. Gall anymataliaeth y coluddyn ddigwydd o ganlyniad i niwed i'r sffincter rhefrol yn ystod genedigaeth. Er y bydd gweithrediad y coluddyn yn gwella'n llwyr i'r rhan fwyaf o fenywod ar ôl i'r niwed gael ei gyweirio ar ôl rhoi genedigaeth, mae llawer o fenywod yn dal i gael problemau gydag anymataliaeth y coluddyn flynyddoedd yn ddiweddarach. Mae'n gymaint o dabŵ fel y gall gymryd cryn dipyn o amser i rai menywod ofyn am gymorth. Gall anymataliaeth y coluddyn effeithio'n ddifrifol ar fywydau'r rhai sy'n byw gyda'r cyflwr. Gall effeithio ar eu gallu i weithio, eu perthnasoedd a'u bywyd bob dydd.
Fis Hydref diwethaf, bûm mewn cyfarfod yng nghanolfan iechyd y pelfis yn y Barri, lle cefais y pleser o siarad â chyn-glaf ysbrydoledig sydd bellach yn wirfoddolwr ac yn eiriolwr. Roedd ganddi brofiad o anymataliaeth y coluddyn a achoswyd gan niwed difrifol ar ôl rhoi genedigaeth. Yn y cyfarfod, cefais y pleser hefyd o gyfarfod â Julie Cornish, llawfeddyg y colon a’r rhefr yn Ysbyty Athrofaol Cymru, ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn canser y colon a’r rhefr a llawfeddygaeth llawr y pelfis. Roedd Mrs Cornish hefyd yn bennaeth ar grŵp gorchwyl a gorffen Cymru ar anymataliaeth ysgarthol, a gyhoeddodd ei adroddiad yn 2019. Amlygwyd nifer o faterion yn y cyfarfod. Roedd un yn ymwneud â'r daflen 'Naw Mis a Mwy', sy'n cael ei roi i famau beichiog. Roeddent yn teimlo y dylid ei ddiweddaru i gynnwys rhywfaint o fanylion ynglŷn â beth i'w ddisgwyl o ran gweithrediad y coluddyn ar ôl rhoi genedigaeth a phryd a ble i geisio cymorth. Sylwais fod hyn hefyd wedi’i grybwyll yng ngrŵp gorchwyl a gorffen Cymru ar anymataliaeth ysgarthol yn 2019. Rwy’n awyddus i wybod, Weinidog, a yw hyn yn rhywbeth y gallech ystyried ei drafod gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, a gynhyrchodd y daflen honno, rwy'n credu.
Pwynt allweddol arall a nodwyd yn y cyfarfod hwnnw oedd diffyg addysg ynghylch yr hyn sy'n iawn ac yn normal o ran arferion ysgarthu. Fel y soniais, gallai rhai menywod fod wedi byw gyda symptomau ers blynyddoedd lawer cyn mynd at eu meddyg teulu. Efallai y bydd rhai menywod yn credu bod rhywfaint o anymataliaeth yn normal; ei fod yn ganlyniad arferol bod yn fenyw sydd wedi cael plentyn. Mae'n hanfodol fod gwybodaeth ar gael sy'n rhoi gwybod iddynt nad yw hyn yn normal, a bod cymorth ar gael. Mae hyn, wrth gwrs, yn berthnasol i unrhyw un sy'n dioddef o anymataliaeth y coluddyn, nid ar ôl rhoi genedigaeth yn unig. Gall y cymorth sydd ar gael gynnwys amrywiaeth o therapïau, gan gynnwys ffisiotherapi, cyngor ar ddeiet, a llawdriniaeth weithiau. Roedd sicrhau bod meddygon teulu'n gwbl ymwybodol o sut i gyfeirio cleifion at y gofal priodol yn bwynt allweddol arall. Felly, rwy’n awyddus i wybod pa waith sy’n mynd rhagddo i sicrhau bod hyn yn digwydd.
Cyn imi gloi fy nghyfraniad i'r ddadl hon, bu rhywfaint o sôn am gau toiledau cyhoeddus. Canlyniad cau toiledau cyhoeddus, ar gyfer pobl sydd angen y toiledau hynny mewn sefyllfaoedd brys, yw y gallem hefyd fod yn gorfodi pobl i wneud yr hyn a fyddai’n weithgarwch troseddol, pe baent yn cael damwain, ac mae gwneud dŵr yn gyhoeddus, wrth gwrs, yn drosedd. Felly, credaf fod angen inni edrych ar y mater hwn yn ei gyfanrwydd. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi’r cynnig. Mae’n hollbwysig, yn fy marn i, fod ymwybyddiaeth o bob mater sy'n ymwneud ag anymataliaeth, boed yn anymataliaeth wrinol neu anymataliaeth y coluddyn, yn codi, a bod pob unigolyn sy’n byw gyda'r cyflwr yn cael y driniaeth, y cymorth a’r gefnogaeth y maent yn eu haeddu.
Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Diolch i Jenny Rathbone am gyflwyno’r cynnig hwn, a byddaf yn pleidleisio drosto yn ddiweddarach y prynhawn yma neu heno. Credaf ei fod yn fater mor bwysig, ac roeddwn am rannu ychydig o fy nghefndir a'r rhesymau pam y penderfynais siarad yn y ddadl hon heddiw. Bûm yn gweithio i’r GIG am 11 mlynedd: roeddwn yn cefnogi cleientiaid ag anawsterau dysgu, ac roedd rhai ohonynt ag anymataliaeth ddwbl; roedd yr un peth yn wir ym maes iechyd meddwl; yna yn ddiweddarach, cyn imi gael fy ethol i'r Senedd, roeddwn yn gweithio ym maes ffisiotherapi ar y ward. Ac mae gennyf fab tair oed a baban 10 mis oed, felly rwyf wedi cael llawer o brofiad yn y maes hwn.
Mae dau beth y credaf y gallent fod yn ymarferol i helpu yn y ddadl hon ac sy'n ychwanegu at yr hyn a ddywedodd Altaf a’r hyn y mae Joyce wedi’i grybwyll hefyd, ynghylch toiledau cyhoeddus. Credaf mai'r hyn y gallwn ei wneud ymhellach yn yr achos hwnnw yw ehangu darpariaeth allweddi Radar. Ac os ydych yn meddwl, 'Duwcs, beth yw allwedd Radar?', wel mae'n allwedd gyffredinol a all wneud toiledau anabl a thoiledau cyhoeddus yn hygyrch ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos. Felly, os yw rhywun yn dioddef o anymataliaeth, gallant deimlo ychydig yn fwy sicr, os oes ganddynt allwedd Radar, y gellir diwallu eu hanghenion mewn modd mwy amserol. Cânt eu darparu fel arfer gan y gwasanaethau cymdeithasol neu therapi galwedigaethol, ond o ran pwnc y drafodaeth heddiw ynghylch iechyd menywod, credaf fod lle i ehangu'r ddarpariaeth i’r gymdeithas ehangach. Ni allaf weld unrhyw reswm pam na ellir gwneud hynny, gan ei fod yn ddull eithaf rhad ac yn ddull eithaf ymarferol o gyflawni rhai o'r nodau hynny.
Yn ail, hoffwn sôn am ddau fater a fyddai'n ddefnyddiol iawn i'r ddadl yn fy marn i, sef dyraniad padiau anymataliaeth mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, yn y lleoliad ei hun ac yn y cymunedau hefyd. Cânt eu hasesu ar sail angen, ond mae natur anymataliaeth ac arferion ysgarthu a throethi yn awgrymu nad oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un fath. Mae ein harferion toiled yn newid am lawer o resymau. Credaf y byddai'n ddefnyddiol pe bai gan ddefnyddwyr gwasanaethau well mynediad at badiau anymataliaeth os oes eu hangen arnynt, a gellir ymdrin â'r materion hynny mewn modd amserol ac mewn ffordd nad yw'n rhy gostus. Mae padiau anymataliaeth yn ddrud iawn, ond os gellir eu hasesu’n well ac ymgorffori rhai o’r gwirioneddau ynghylch anghenion toiled pobl a’r ffaith eu bod yn newid yn aml, credaf y gallai hynny fod yn rhywbeth y gellid ei gyflawni.
Rwyf am gloi fy sylwadau gyda hynny, gan fy mod ond eisiau codi’r ddau fater penodol hynny. A dywedaf eto fy mod yn falch o gefnogi'r cynnig hwn, a diolch i Jenny Rathbone am ddod â'r drafodaeth bwysig hon i'r Senedd heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn innau ddiolch i Jenny Rathbone am gyflwyno’r ddadl hon a defnyddio’r cyfle i dynnu sylw at fater nad oeddwn yn ymwybodol iawn ohono tan imi ddigwydd cyfarfod â rhywun ar y trên adref i'r gogledd. Roedd yna gwpl a ddaeth ar y trên o Gaerdydd, ac nid oeddent yn siŵr ai hwnnw oedd y trên cywir, felly fe ddechreuom sgwrs. Roeddent yn mynd i Gwmbrân, a dywedais wrthynt eu bod ar y trên iawn. Sylwais fod y dyn yn gwisgo broetsh canser y prostad. Roedd yn agored iawn am fyw gyda'r cyflwr, a dywedodd wrthyf fod yn rhaid iddo wisgo padiau, ond roedd yn lletchwith iawn iddo fynd i doiledau'r dynion yn yr orsaf gan nad oedd unrhyw finiau, a gofynnodd a allwn wneud rhywbeth am y peth. Roedd yn rhaid iddo gario'r pad budr o'r toiledau mewn bag a'i roi i'w wraig, a oedd yn gorfod ei gario yn ei bag llaw i doiled y menywod. Gofynnodd a ellid darparu biniau yn nhoiledau'r dynion mewn gorsafoedd rheilffordd. Dywedodd ei fod wedi gofyn, ond nad oedd unrhyw beth wedi digwydd, felly gofynnodd i mi fynd ar drywydd hynny ar eu rhan.
Mae'r GIG yn amcangyfrif bod oddeutu 6 miliwn o bobl ledled y DU yn dioddef gyda rhyw raddau o anymataliaeth. Codais y mater mewn grŵp ffocws trafnidiaeth a fynychais fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar drafnidiaeth gyhoeddus, a chafodd y mater ei ddwyn i sylw cyfarwyddwr gorsafoedd Trafnidiaeth Cymru gan Michelle Roles, rheolwr rhanddeiliaid Cymru. Roeddent yn cytuno ei fod yn rhywbeth y gallent ddarparu ar ei gyfer. Felly, fe wnaethant wahodd contractau, ac mae hyn yn cael ei dreialu mewn nifer o orsafoedd, gan gynnwys Caerdydd a Chaer. Yr wythnos diwethaf, cefais e-bost gan Prostate Cancer UK ynglŷn â'u hymgyrch Boys Need Bins, nad oeddwn wedi clywed amdani o’r blaen. Mae’r ymgyrch hon yn tynnu sylw at anghenion dynion anymataliol, a’r her ddyddiol a wynebant o ran dod o hyd i finiau i ddynion allu cael gwared ar eu heitemau.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cysylltu â Prostate Cancer UK yn dilyn ein sgwrs ac maent bellach wedi cael sgyrsiau am y biniau a ddarparwyd yng ngorsafoedd trenau Caer a Chaerdydd yn ddiweddar, o ganlyniad i’r mater a godwyd gennyf drwy’r etholwr. A nawr, gofynnwyd imi gefnogi'r ymgyrch ymhellach. Felly, diolch, Jenny, am gyflwyno’r ddadl hon. Yn anffodus, rwyf wedi colli gwybodaeth gyswllt y gŵr bonheddig, ond fe ganiataodd imi dynnu llun ohono a'i fathodyn, gan ei fod yn falch iawn o fod yn eiriolwr dros hyn. Rwy'n ei gymeradwyo am fod mor agored gyda mi ar y trên. Mae’n dangos pwysigrwydd y sgyrsiau annisgwyl a gawn gyda phobl yn y gymuned, ar drenau neu ble bynnag, a'n bod yn gallu gwneud gwahaniaeth, a dyna pam yr euthum i fyd gwleidyddiaeth yn y lle cyntaf. Mae'n dda cael canlyniad.
Nid oeddwn wedi bwriadu siarad yn y ddadl hon, ond teimlais reidrwydd i wneud hynny. Rydym yn ffodus yn y Senedd hon ein bod, dros y blynyddoedd, wedi cael nifer o Aelodau sy'n barod i siarad am eu profiadau personol. Rwy'n talu teyrnged heddiw i'r nifer o Aelodau sydd wedi sôn am y pethau mwyaf personol ac sydd wedi rhannu eu profiadau, ond ni allwn ganiatáu i hynny fod wedi digwydd er ei fwyn ei hun. Pan fydd pobl yn codi eu llais ac yn siarad am eu profiadau eu hunain, mae'n rhaid i hynny fod er mwyn ceisio sicrhau newid.
Gwn fod y Gweinidog iechyd yn rhywun sydd wedi gwneud ymdrech benderfynol yn bersonol i fynd i'r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu ym maes iechyd menywod yn benodol, er ein bod wedi'i gwneud yn glir y prynhawn yma nad ydym yn sôn am iechyd menywod yn unig. Felly, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddweud yn glir, o ystyried yr ysbryd trawsbleidiol—ysbryd trawsbleidiol pendant yr hyn a glywsom yn y Siambr y prynhawn yma—y byddwn yn cefnogi’r Llywodraeth i gymryd y camau angenrheidiol i wneud y newidiadau bach, weithiau, a'r newidiadau mwy bryd arall, a all wneud gwahaniaeth i fywydau pobl, fel Aelodau’r Senedd hon. Ond dim ond cynrychiolwyr ydym ni.
Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr. Rwy’n hynod ddiolchgar i’r Aelodau am gyflwyno’r ddadl hynod bwysig hon heddiw. Fel y mae cynifer wedi’i ddweud, mae anymataliaeth yn fater sy’n cael lefel anghymesur o isel o sylw, felly mae’n gwbl deilwng o amser a sylw'r Siambr hon heddiw.
Mae llawer o Aelodau wedi tanlinellu pa mor gyffredin yw’r mater hwn, sy'n effeithio ar un o bob pump o bobl yn y wlad. Ac wrth gwrs, fel y mae cynifer wedi'i ddweud, nid ar fenywod yn unig y mae'n effeithio, ond ar ddynion a menywod o bob oed, a phlant hefyd, ac mae eraill sy'n cael eu heffeithio ganddo hefyd. Ac eto, nid oes yr un ohonom yn siarad amdano. Mae'n dal i fod yn andros o bwnc tabŵ. Rydym wedi chwalu'r rhwystr ar y mislif, rydym wedi chwalu'r rhwystr ar y menopos; ni chredaf ein bod wedi dechrau'r ddadl hon yn iawn ac mae'n rhaid inni ddechrau arni. Os na wnawn unrhyw beth arall heddiw, rydym wedi dechrau’r ddadl hon o ddifrif, a hoffwn roi ymrwymiad heddiw gan y Llywodraeth y byddwn yn mynd â hyn allan i gymunedau—mae angen inni sicrhau bod pobl yn siarad am hyn. Mae'n rhaid iddo fod yn bwnc y mae pobl yn deall nad yw'n rhywbeth y dylent deimlo embaras yn ei gylch.
Yr enghraifft a roddwyd i ni oedd na fydd 75 y cant—fel yr awgrymoch chi, Jenny—o fenywod yn gofyn am gymorth meddygol ar gyfer eu hanymataliaeth, ni waeth pa mor ddifrifol yw'r cyflwr, er ei fod yn effeithio ar eu bywydau. Mae arnaf ofn hefyd fod y stigma ynghylch y mater hwn, sy'n gwneud cleifion yn betrusgar rhag ceisio cymorth meddygol, wedi gwaethygu yn ystod y pandemig—roedd pobl yn meddwl, 'Nid wyf am eu poeni nawr; rydym yn gwybod am y pwysau sydd arnynt'. Mae hynny’n golygu y bydd miloedd o bobl yng Nghymru yn dioddef yn dawel, ac o'r herwydd, gallent fod mewn perygl o gael sgil-heintiau, ac mae perygl gwirioneddol i’w hiechyd o ganlyniad.
Mae anymataliaeth yn hynod o wanychol i’r bobl y mae’n effeithio arnynt, o ran y cyfyngiadau corfforol a’r tarfu ar eu gwaith ac ar eu bywyd cymdeithasol, ond hefyd y dioddefaint meddyliol a’r ymdeimlad o gywilydd a diffyg urddas. Gwyddom fod cysylltiad hefyd rhwng anymataliaeth a dementia, a chyda phoblogaeth sy'n heneiddio, mae'n debygol y bydd nifer cynyddol o'n poblogaeth yn dioddef o'r heriau iechyd dwbl hyn. Felly, mae’r tabŵ a’r distawrwydd cymdeithasol ynghylch anymataliaeth yn gwaethygu’r peryglon, gan fod y diffyg sylw'n golygu nad yw pobl, i raddau helaeth, yn ymwybodol o sut i atal neu liniaru'r cyflwr. Am y rheswm hwnnw, mae ymwybyddiaeth gyhoeddus yn allweddol, ac mae'n elfen allweddol o’r cynnig heddiw yn fy marn i.
I unigolion sy’n cael diagnosis o broblemau ymataliaeth, rwy'n credu bod y gofal a ddarperir yng Nghymru yn weddol effeithiol ac yn cael ei ddarparu’n dda. Roedd gennym fforwm cenedlaethol a grëwyd yn 2006, ar ôl lansio llwybr Cymru gyfan ar gyfer y bledren a’r coluddyn, ac mae’r grŵp hwn wedi bod yn hollbwysig yn y gwaith o sefydlu dull safonedig yng Nghymru dros y 17 mlynedd diwethaf drwy gyhoeddi a diweddaru canllawiau cenedlaethol ar ddarparu gofal anymataliaeth a chynrychioli’r materion ar nifer o fyrddau cenedlaethol. Y broblem yw nad oes digon o bobl sydd angen cymorth yn ei geisio. Felly, mae’r cymorth yno, ond nid ydynt yn ei geisio.
Mae'r fforwm i fod i gyhoeddi ei ganllawiau diweddaraf ar arferion gorau ym mis Mehefin. Mae wedi ehangu ei gwmpas dros y blynyddoedd diwethaf i gynnwys plant ac oedolion i raddau mwy, gan gydnabod nad yw anymataliaeth yn gyflwr sy'n effeithio ar yr henoed yn unig. Mae’r fforwm wedi’i gryfhau dros y blynyddoedd diwethaf gan aelodaeth ychwanegol swyddog nyrsio dynodedig o dîm y prif swyddog nyrsio, gan ffurfio cyswllt parhaus rhwng y grŵp a Llywodraeth Cymru, sy'n berthynas werthfawr iawn yn fy marn i, a chredaf ei bod yn un sy'n unigryw i ni yn y Deyrnas Unedig. Mae’r dull safonedig o weithredu gofal ymataliaeth yng Nghymru yn seiliedig ar ganllawiau a llwybrau gofal clir, cynnwys cleifion yn eu cynlluniau gofal ymataliaeth eu hunain, hyfforddiant cyson cyn ac ar ôl cofrestru, a nyrsys a hyrwyddwyr ymataliaeth arbenigol ym mhob bwrdd iechyd.
Mae’r camau sy’n seiliedig ar dystiolaeth y gall pob un ohonom eu cymryd i atal anymataliaeth yn dra hysbys. Maent yn cynnwys cynnal pwysau iach; osgoi pethau llidus fel bwydydd asidig, caffein ac alcohol; bwyta mwy o ffeibr; peidio ag ysmygu; ymarfer corff yn rheolaidd; a gwneud ymarferion llawr y pelfis. Mae camau gweithredu i gefnogi pobl yn y meysydd hyn i'w gweld ar draws ystod o strategaethau presennol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys 'Pwysau Iach: Cymru Iach', rhaglen Cymru Actif ar gyfer pobl dros 60 oed, a byddant hefyd yn cael eu hadlewyrchu yn y cynllun iechyd menywod sydd ar y ffordd. Rwy'n falch iawn o gydnabod mai dyna oedd un o'r pethau a nodwyd gennym. Mae'n rhaid i hwn fod yn un o'r pethau lle ceir dealltwriaeth fod problem yn bodoli. Mae'n effeithio ar ddynion hefyd, ond mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r mater penodol mewn perthynas â menywod.
Soniodd llawer ohonoch fod argaeledd toiledau cyhoeddus yn allweddol wrth i’r boblogaeth fynd yn hŷn, a hoffwn longyfarch Carolyn ar ei hymgyrch. Mae hwnnw’n faes gwahanol o’r Llywodraeth, ond fe wnaf yn siŵr fy mod yn cysylltu â’r Gweinidog perthnasol ynghylch hynny. Diolch—[Torri ar draws.] Os hoffech chi, iawn.
Rwy’n llwyr gefnogi'r pwyntiau sy’n cael eu gwneud wrth gwrs, ond fe gyfeirioch chi at doiledau cyhoeddus. Fis Tachwedd diwethaf, arweiniais ddadl yma yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau darpariaeth toiledau Changing Places ym mhob sir yng Nghymru, a derbyniwyd y cynnig yn unfrydol. A wnewch chi ymgorffori hynny yn y camau gweithredu rydych yn eu hargymell?
Ni allaf wneud hynny gan nad fy maes i ydyw, ond fe wnaf ymrwymo i sicrhau fy mod yn cyfathrebu â’r Gweinidog perthnasol i weld pa weithgarwch dilynol sydd wedi digwydd o ganlyniad i’r ddadl honno.
Diolch, Jenny, am roi gwaith cartref i mi; rwyf bob amser yn falch o glywed Jenny'n siarad, gan fy mod bob amser yn dysgu rhywbeth newydd ganddi. Felly, rwyf am edrych ar fodel Ffrainc i weld beth maent yn ei wneud yno, os oes gwerth am arian—gadewch inni gael golwg ar hynny. Byddaf yn edrych hefyd ar driniaeth i symbylu'r nerf sacrol a'r hyn sy'n digwydd gyda hynny. Felly, diolch am hynny.
Joyce, yn digwydd bod, cefais fersiwn wedi’i diweddaru ddoe o daflen Iechyd Cyhoeddus Cymru ar feichiogrwydd, felly fe edrychaf i weld a yw hyn wedi'i gynnwys yno, ac os nad yw, fe ysgrifennaf at Iechyd Cyhoeddus Cymru i weld a ellir ei gynnwys yn eu fersiwn nesaf.
Tra bod ein gwaith iechyd cyhoeddus yn berthnasol i atal anymataliaeth—dyna'r gair Cymraeg am incontinence; so, gair newydd i chi i gyd—mae'r gwaith yma yr un mor berthnasol i nifer o gyflyrau iechyd eraill. Ond, serch hynny, o achos y tabŵ a'r tawelwch cymdeithasol rŷn ni wedi'i drafod heddiw, ni fydd y cyhoedd, efallai, yn ymwybodol ei fod hefyd yn berthnasol i anymataliaeth. O ystyried y strwythurau cenedlaethol sydd wedi'u sefydlu a'r gwaith helaeth sydd wedi'i wneud yn y maes yma, dwi ddim yn credu bod angen dogfen strategaeth unigol ar hyn o bryd, ond dwi yn cytuno â'r cynnig bod angen dull mwy strategol i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o anymataliaeth. Bydd cyfathrebu effeithiol am achosion a chanlyniadau anymataliaeth, a'r camau i'w hatal a'u rheoli, dwi'n meddwl, yn lleihau stigma cymdeithasol ac yn gwella iechyd y rhai sydd wedi bod yn dioddef yn dawel. Felly, dwi eisiau rhoi gwybod ichi heddiw y byddwn ni yn edrych ar sut y gallwn ni godi'r ymwybyddiaeth hynny. Felly, byddaf i'n gofyn i fy swyddogion i weithio gyda'r fforwm pledren a choluddyn Cymru, a'i grŵp rhanddeiliaid, i lunio opsiynau ar gyfer strategaeth ymwybyddiaeth iechyd cyhoeddus ar gyfer anymataliaeth. Byddaf i yn fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelodau, i roi'r diweddaraf iddyn nhw, wrth i hyn ddatblygu. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Jenny Rathbone i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn. Diolch i bawb ohonoch am eich cyfraniadau. Rwy'n credu ein bod wedi llwyddo i roi anymataliaeth ar y map, ac mae angen i hwn fod yn fater mor fawr ag urddas mislif, gan fod angen inni gael urddas anymataliaeth. Ac nid yw sicrhau bod gennym finiau ym mhob toiled dynion yn ogystal ag ym mhob toiled menywod yn llawer i ofyn amdano. Nid yw mor anodd â hynny. Cânt eu casglu o doiledau'r menywod beth bynnag, felly mae'n ymddangos i mi fod angen inni bwyso'n galed am hynny—mae honno i'w gweld yn fuddugoliaeth gynnar.
Rwy'n meddwl bod y broblem fwy gyda chau toiledau cyhoeddus am fod awdurdodau lleol wedi dioddef yn sgil toriadau cyllidebol, yn un lawer anos, a dyna pam y credaf fod rhaid inni gynnwys y gymdeithas ehangach, y diwydiant hamdden. Sut allwch chi gael eglwys heb doiled? Sut allwch chi wahodd pobl i fynychu gêm neu ddigwyddiad arall y mae pobl yn mynd iddynt heb nifer digonol o doiledau? Rhaid i hyn fod yn rhywbeth eithaf sylfaenol pan fyddwch yn gwneud cais am drwydded i gynnal gweithgaredd. Felly, rwy'n credu bod angen dull system gyfan yn hytrach na dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus sydd ond yn agored am ran o'r amser, tra bod yr economi nos ar agor ym mhobman, lle bynnag y bydd pobl yn mynd allan.
Roeddwn yn falch iawn fod Joyce wedi ymweld â chlinig iechyd y pelfis yn y Barri, ac mae'n swnio'n wych, ac mae'n bwysig iawn fod yna ganolfannau rhagoriaeth o'r fath ar gyfer y lefel hon o ofal, yn enwedig i bobl sydd ag anymataliaeth ysgarthol, oherwydd mae honno'n broblem mor anodd i ymdrin â hi, ac os gallwn gael 'Naw Mis a Mwy' wedi'i ddiweddaru, byddai hynny'n wych.FootnoteLink
Diolch am wneud y pwynt am yr allwedd Radar, Gareth. Ydy, mae'n un mater, ac yn sicr fe fyddai mewn lle tebyg i orsaf reilffordd, lle gallai pobl fod yn mynd yno ar bob awr o'r dydd, ac efallai na fyddant ar agor ar adegau anghymdeithasol. Ond rwy'n meddwl bod hwnnw'n ateb braidd yn anymarferol yn yr ystyr, yn lle hynny, pam na all tafarndai ganiatáu i unrhyw un ddefnyddio'r toiled? Nid yw'n llawer i'w ofyn. Felly, mae gwir angen—. Rwy'n credu bod Gareth wedi gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â'r ffaith nad oes padiau anymataliaeth ar gael pan fo pobl yn cael damweiniau. Ac rwy'n gwybod ei fod yn ddrytach na sicrhau bod cynnyrch mislif ar gael, sy'n gyffredin nawr yn ein hysgolion a lleoliadau cyhoeddus eraill, ond yn amlwg, mae yna bethau i weithio arnynt o ran urddas anymataliaeth, yn enwedig mewn llefydd fel ysbytai, lle mae pobl sydd â'r problemau hynny'n mynd. Ond rydych chi hefyd yn gwneud pwynt pwysig iawn am bobl ag anawsterau dysgu na fyddant byth yn gallu cael yr ymataliaeth a ddaw i'r rhan fwyaf o blant, felly diolch am hynny.
Diolch, Sioned, am rannu eich profiadau personol a phwysleisio pwysigrwydd addysgu menywod ynglŷn â'r hyn sy'n mynd i ddigwydd iddynt pan fyddant ar fin rhoi genedigaeth, oherwydd mae arnaf ofn fod llawer o fenywod yn meddwl naill ai ei fod yn hawdd iawn, neu mae'n rhywbeth a welsant ar y teledu, lle mae gennych fenyw mewn gwartholion—trychineb na ddylai byth ddigwydd. Ond mae angen llawer mwy o gefnogaeth ar fenywod pan fyddant yn rhoi genedigaeth, oherwydd bydd hynny'n arwain at ganlyniadau gwell, ac mae angen llawer mwy o ffisiotherapi i fenywod hefyd, ac rwy'n gwybod bod hynny'n rhywbeth na ellir ei wneud heb ymyrraeth gan y Gweinidog. Cawsom gyfraniad ardderchog gan yr aelod o'r adran ffisiotherapi yn Hywel Dda, sy'n arwain ar lawer o'r pethau hyn. Ond mae angen i bawb weithredu arferion da ar y lefel honno.
Rwy'n falch iawn eich bod yn mynd i edrych ar y model Ffrengig, oherwydd yn draddodiadol mae newyddiadurwyr Eingl-Sacsonaidd wedi troi eu trwynau ar y model Ffrengig, gan feddwl ei fod yn fater arwynebol. Nid yw'n fater arwynebol, gan mai'r camau a gymerir i gefnogi pobl pan fyddant yn ifanc yw'r hyn sy'n mynd i'w hatal rhag cael problemau llawer mwy difrifol wrth fynd yn hŷn. Felly, diolch yn fawr iawn am hynny, a diolch, Rhun, am eich cyfraniad chi hefyd. Rwy'n siŵr y gallwn olrhain ein cynnydd ar hyn yn y dyfodol, a siarad amdano'n amlach.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith, 'Adroddiad blynyddol ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru—2022-23', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Llyr Gruffydd.
Cynnig NDM8258 Llyr Gruffydd
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith: ‘Adroddiad blynyddol ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru—2022-23’ a osodwyd ar 2 Mawrth 2023.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, ac mae'n bleser gen i, wrth gwrs, i agor y ddadl yma ar adroddiad blynyddol cyntaf y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.
Fel y bydd Aelodau, dwi'n siŵr, yn gwybod, mi gafodd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ei sefydlu yn 2018 fel corff annibynnol, anstatudol a chynghorol i Weinidogion Cymru. Prif ddiben y Comisiwn oedd gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar anghenion seilwaith hirdymor Cymru dros gyfnod, yn wrieddiol, o bump i 80 o flynyddoedd. Nawr, mae’r cyfnod y mae’r adroddiad hwn yn ei gwmpasu hefyd yn nodi blwyddyn gyntaf y comisiwn seilwaith o dan arweiniad Dr David Clubb, a gafodd ei benodi’n gadeirydd newydd ym mis Medi 2021.
Fe gyfaddefodd Dr Clubb i'r pwyllgor fod yna ddau hanner i’r flwyddyn gyntaf hon. Ei ffocws cychwynnol oedd ar ddeall y briff, datblygu dull strategol ar gyfer y ffordd y mae’r comisiwn yn gweithredu, a sefydlu, wedyn, y broses ar gyfer recriwtio comisiynwyr newydd. Ar ôl eu penodi, wedyn, wrth gwrs, canolbwyntiodd y comisiynwyr newydd ar ddeall sut i gydweithio'n effeithiol.
Yn ôl Dr Clubb, un o'i gyflawniadau yn y flwyddyn gyntaf hon oedd sicrhau bod cylch gwaith y comisiwn yn cael ei ymestyn o 30 mlynedd i 80 mlynedd. Dywedodd wrthyn ni fod y newid hwn yn caniatáu i’r comisiwn ystyried effaith hirdymor seilwaith a newid hinsawdd, gan sicrhau gwell penderfyniadau a fydd o fudd i bobl Cymru am genedlaethau i ddod.
Yn ôl y cadeirydd, mae ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yr argyfwng hinsawdd, yr argyfwng ym myd natur, a’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yng nghylch gorchwyl y Comisiwn yn adlewyrchu ei ymrwymiad i sicrhau bod anghenion y bobl sydd fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau seilwaith.
Yn ystod ei flwyddyn gyntaf, fe wnaeth Dr Clubb hefyd ostwng nifer y comisiynwyr o 12 i wyth, a sefydlodd swydd dirprwy gadeirydd newydd. Fe ddywedodd y cadeirydd wrth y pwyllgor fod y comisiwn presennol yn cynnwys cyffredinolwyr—generalists—hynny yw, ddim yn arbenigwyr sectoraidd, ond yn aelodau sydd â setiau cyffredinol o sgiliau, sy’n medru canolbwyntio ar ddeall cymhlethdod, neu complexities, a bod yn ymatebol, wedyn, i ymgynghoriadau’r Llywodraeth ac ymgynghoriadau, wrth gwrs, o gyfeiriad y Senedd.
Gyda chyllideb o £400,000, mae cyllid wedi’i ddyrannu i’r comisiwn am y tro cyntaf, a rhoddodd y cadeirydd rai ymrwymiadau heriol inni ynghylch dangos gwerth am arian. Wrth inni barhau â’n gwaith craffu ar y comisiwn, mi fyddwn ni'n ymchwilio’n fanwl i sut y gall y comisiwn gyflawni ymrwymiad y cadeirydd y bydd argymhellion y comisiwn yn arbed mwy i gymdeithas Cymru na’r gyllideb a ddyrannwyd i’r comisiwn.
Roedden ni’n falch bod y comisiwn wedi dechrau datblygu perthynas gref â’r comisiwn cyfatebol ar lefel y Deyrnas Unedig, sef Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol y Deyrnas Unedig, wrth gwrs. Mae’r cydweithio hwn yn hanfodol ar gyfer dylanwadu ar fuddsoddiadau seilwaith y Deyrnas Unedig yng Nghymru a chydweithio ar seilwaith economaidd sydd ddim wedi cael ei ddatganoli.
Dros y tair blynedd nesaf, mae'r comisiwn yn bwriadu canolbwyntio ar themau penodol: ynni adnewyddadwy, llifogydd, a gwydnwch hinsawdd. Bydd y prosiectau hyn yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf enbyd sy’n wynebu Cymru heddiw ac yn rhoi arweiniad gwerthfawr, wrth gwrs, i Lywodraeth Cymru ynghylch datblygu seilwaith a phryderon amgylcheddol.
Nawr, mi fydd Aelodau wedi gweld nad yw'r adroddiad yma yn cynnwys argymhellion penodol ar gyfer y comisiwn. Ein teimlad ni, fel pwyllgor, oedd ei bod hi'n rhy gynnar i wneud hyn, ac nad oedd y pwyllgor eto mewn sefyllfa i wneud argymhellion ystyrlon i'r gyfundrefn newydd hon. Fodd bynnag, wrth gwrs, rŷn ni’n disgwyl y bydd pethau'n wahanol ar gyfer ein hadroddiad y flwyddyn nesaf, pan fydd gwaith y comisiwn wedi'i ddatblygu ac wedi aeddfedu. Felly, gyda hynny o sylawdau, edrychaf ymlaen at glywed sylwadau pellach gan Aelodau. Diolch.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth gwrs, fe wyddom mai prif bwrpas Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yw gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ynglŷn ag anghenion seilwaith hirdymor Cymru dros gyfnod o bump i 80 mlynedd. Ond un cwestiwn sydd gennyf yw: pa mor wirioneddol annibynnol yw'r cyngor hwn? Mae cadeirydd y comisiwn wedi'u penodi'n uniongyrchol gan y Dirprwy Weinidog. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ysgrifenyddiaeth. Ac mae llythyr cylch gwaith y comisiwn yn cynnig cymorth gan swyddogion Llywodraeth Cymru i gwmpasu gwaith y comisiwn ar ynni adnewyddadwy. Felly, mae'r dystiolaeth honno'n awgrymu na ellir ystyried y comisiwn yn gwbl annibynnol.
Nawr, mae'r Cadeirydd wedi egluro bod nifer o grwpiau cynghori yng Nghymru yn cael eu hariannu neu eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru yn yr un modd, ond nid oes cyfiawnhad dros gymharu. Mae'n dangos bod y comisiwn yn rhan o broblem ehangach sydd gennym gyda grwpiau a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Ni allwn ddisgwyl i unrhyw Weinidog wybod popeth, felly mae'n deg gofyn am gyngor arbenigol. Fodd bynnag, nid dyma'n hollol rydym yn edrych arno yma. Rydych chi'n talu £400,000 y flwyddyn am argymhellion gan gomisiwn sy'n cynnwys pobl nad ydynt yn arbenigwyr sectoraidd hyd yn oed. Mae'r cadeirydd wedi dweud wrthym, ac rwy'n dyfynnu:
'rydym yn fwy cyffredinolaidd, ac roedd hynny'n fwriadol'.
Ddirprwy Lywydd, nid yw er budd gorau Cymru. Mae i Lywodraeth Cymru gael cyngor ar ynni adnewyddadwy gan arbenigwyr yn y sector, neu gyngor ar lifogydd gan arbenigwyr yn y sector, neu gyngor ar gynnal sgwrs genedlaethol ar risgiau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd gan arbenigwyr cyfathrebu—. Nid comisiwn o gyffredinolwyr yw'r arbenigwyr hynny.
Mewn gwirionedd, yn y flwyddyn y mae'n gwario £225,000 ar brosiect ynni adnewyddadwy, gwelir penodi Mace Consult i weithio ar sicrhau cymaint â phosibl o gydfanteision yn sgil Cymru gynaliadwy 2050 a rheoli unrhyw densiynau sy'n codi o hynny; y Ganolfan Ynni Cynaliadwy, y Ganolfan Dechnoleg Amgen a Dulas i weithio ar ymgysylltu cymunedol yng nghanolbarth Cymru; ac Arup i weithio ar seilwaith a strategaeth sero net—ymgynghorwyr ymchwil.
Mae'r comisiwn yn penodi ymgynghorwyr ymchwil i wneud y gwaith ar ei ran. Mae'r comisiwn yn cyflawni un prosiect bob blwyddyn—un sydd i fod i ganolbwyntio ar nodi materion hanfodol sydd angen i seilwaith yng Nghymru fynd i'r afael â nhw yn hirdymor. Mae seilwaith yn llawer mwy na llifogydd a newid hinsawdd; mae'n cynnwys cludiant, gwasanaethau iechyd, ysgolion, systemau carthion a llawer mwy.
Gallai unrhyw sefydliad busnes neu etholwyr edrych ar y comisiwn, a dylent ofyn: faint o werth am arian mae'r comisiwn hwn yn ei ddarparu mewn gwirionedd, er budd Llywodraeth Cymru, er ein budd ni fel Aelodau o'r Senedd, ac yn wir, i bobl Cymru? Diolch.
Os caf wneud ychydig o sylwadau, a mynd ar drywydd rhai o'r sylwadau a wnaeth ein Cadeirydd ardderchog ar hyn. Mae'n adroddiad byr iawn, nid yw'n cynnwys unrhyw argymhellion o'i fewn, oherwydd nid oeddem yn teimlo—. Gwaith sydd ar y gweill ydyw i raddau helaeth iawn, ond cawsom sesiwn werthfawr gyda'r comisiynydd ger ein bron i ddeall rhai o'r newidiadau y mae ef a'i dîm eisoes yn eu rhoi ar waith, a byddaf yn gwneud sylwadau ar hynny yn y man, a chyfeiriad y comisiwn yn y dyfodol hefyd.
Ond cyn i mi ddechrau'n iawn, os caf fynd ar drywydd y pwyntiau a wnaeth fy nghyd-aelod o'r pwyllgor Janet Finch-Saunders ar annibyniaeth, oherwydd mae'r adroddiad yn ei grybwyll. Mae'r comisiwn, fel sawl sefydliad, yn derbyn arian gan Lywodraeth Cymru. Wel, roeddwn yn arfer bod yn Weinidog a dalai am holl weithgarwch Natural England. Nid oedd Natural England yn cilio rhag anelu beirniadaeth ataf fi oherwydd fy mhenderfyniadau, yn DEFRA ar y pryd a Llywodraeth y DU gyfan. Mewn gwirionedd, cawsant eu sefydlu i wneud hynny, felly nid yw'r ffaith bod y comisiwn hwn neu asiantaethau eraill yn cael eu hariannu gan y Llywodraeth yn arwain at y casgliad fod yn rhaid iddynt wneud yr hyn rydym ni eisiau iddynt ei wneud. Yn wir, mae'n hollol i'r gwrthwyneb, ac rwy'n nodi, Janet, os caf ddweud, nad yw'r hyn rydych chi newydd ei ddweud yn cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad na'r dystiolaeth a glywsom—yr adroddiad y gwnaeth pawb ohonom ei gymeradwyo—felly, nid wyf am i bobl feddwl bod yr hyn rydych chi newydd ei ddweud yn adlewyrchu'r adroddiad y mae fy enw i arno ac y mae eich enw chi arno hefyd.
Ond os caf fynd ymlaen ychydig yma, un neu ddau o bethau rwy'n eu croesawu'n fawr yn y newidiadau mae'r comisiynydd eisoes wedi'u gwneud. Fe ymrwymodd i'r syniad ei fod am weld newid yng nghyfansoddiad y comisiynwyr, a'i fod am weld mwy o amrywiaeth. Yn wir, mae hynny wedi'i gyflawni. Bellach mae 50 y cant o'i aelodau'n fenywod, ond mae mwy o amrywiaeth yn beth da. Hefyd, fe wnaeth newidiadau fel nad yw'n rhy anhylaw. Mae wedi cyfyngu ar y nifer ac wedi edrych am gymysgedd o bobl seilwaith mwy traddodiadol ynghyd â rhai pobl sydd, fel y nododd ef, yn meddwl y tu allan i'r bocs. Rwy'n meddwl bod hynny i'w groesawu'n fawr iawn, oherwydd, fel y dywedodd y Cadeirydd, ac fel y clywsom mewn tystiolaeth, mae yna newid eithaf dramatig yn y meddylfryd yma, i feddwl ymlaen nawr am 80 mlynedd. Nawr, y perygl mawr gyda hynny, wrth gwrs, yw bod 80 mlynedd yn gyfystyr â byth; fe fydd pethau'n newid. Ond roedd ei gyfiawnhad dros hynny'n eithaf diddorol. Nid yw am gael ei dynnu i mewn yn uniongyrchol i'r pethau roedd Janet yn eu dweud, am faterion cynllunio unigol ac yn y blaen. Yr hyn y mae ef eisiau meddwl amdano yw, 'Wel, sut genedl, gwlad, math o le rydym eisiau bod, nid mewn 10 mlynedd neu 15 neu 20 mlynedd, ond yn y tymor hir iawn?' Y risg gyda hynny, wrth gwrs, yw bod hynny'n gyfystyr â byth. Y wir fantais o wneud hynny yw ei bod hi hyd yn oed yn fwy o her i'r Llywodraeth o ran sut rydym yn gwneud trafnidiaeth a chynllunio a'r holl ddarpariaeth lesiant a hynny i gyd. Mae'n edrych yn llawer iawn pellach.
Ond pan ddaw'n ôl ger ein bron y flwyddyn nesaf, byddwn yn chwilio am fwy o gig ar yr asgwrn, yn enwedig yn y tri maes y gwyddom yn barod eu bod yn mynd i ganolbwyntio arnynt, sef ynni adnewyddadwy ar hyn o bryd. Mae'n rhaid imi ddweud, rwy'n croesawu'r ffocws yn fawr, y tri pheth sy'n sail i hynny, felly edrych ar sut rydych chi'n sicrhau'r cydfanteision mwyaf posibl ac yn rheoli tensiynau sy'n codi o ddod yn Gymru adnewyddadwy—yn sicr y materion ynglŷn â sut rydych chi'n ymdrin â'r cymunedau lleol ac yn y blaen, ac ymgysylltu â nhw ac yn y blaen ac yn y blaen. Dyna'r ail bwynt, yn enwedig ymgysylltu cymunedol yng nghanolbarth Cymru a sut mae hyn yn cyfrannu at strategaeth seilwaith sero net.
Wrth edrych i'r dyfodol, y flwyddyn nesaf bydd yn canolbwyntio ar lifogydd, ac unwaith eto, rhan o hynny yw'r ymgysylltu, ac mewn gwirionedd sut i ymgysylltu â chymunedau fel nad ydych chi ond yn dweud wrthynt, 'Wel, dyma'r heriau a dyma lle bydd gennym—. Ni allwn amddiffyn pob cymuned rhag pob digwyddiad posibl wrth inni wynebu newid hinsawdd, ond rydym eisiau rhoi'r pecyn cymorth fel y gallwn weithio gyda'r cymunedau hynny ac yn y blaen.' Felly, unwaith eto, edrychwn ymlaen at ei gael yn ôl ger ein bron i archwilio hynny ymhellach ymhen blwyddyn, a thu hwnt i hynny, gwrthsefyll newid hinsawdd a'r hyn mae'n ei alw'n 'risg dirfodol' hefyd.
Nawr, yn olaf, fy mhwynt ar hyn—mae'n waith sy'n mynd rhagddo i raddau helaeth, ond mae wedi dangos yn gadarn mai ei rôl yw edrych ar y duedd hirdymor a'r math o ddull y bydd yn ei fabwysiadu i herio'r Llywodraeth, nid bod yn ddibynnol ar y Llywodraeth ac ymgreinio i'r Llywodraeth, ond herio'r Llywodraeth yn gadarn yng nghyd-destun Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, yn gadarn o fewn yr argyfyngau hinsawdd natur a bod o ddifrif ynghylch ein rhwymedigaeth nid yn unig i'r genhedlaeth hon, ond cenedlaethau'r dyfodol hefyd. Mae'n gwneud y pwynt, ac rwy'n ei groesawu, pan fo'n dweud nad yw bob amser wedi bod mor ganmoliaethus ynghylch Llywodraeth Cymru, ond mewn gwirionedd, mae'n dweud,
'rwy’n credu bod pethau'n digwydd nawr sy'n cael eu hystyried yn radical o fewn ystyr yn y DU'.
Mae hynny'n beth da i'w glywed gan rywun nad yw'n draddodiadol, yn hanesyddol, wedi bod ofn pwyntio bys at Lywodraeth Cymru am fod yn rhy swil.
Hoffwn ddechrau drwy ddweud fy mod yn croesawu'r adroddiad blynyddol hwn ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru. Mae wedi bod oddeutu blwyddyn, fel y dywedoch chi, Llyr, ers i Dr David Clubb gymryd yr awenau fel Cadeirydd, ac mae'n amlwg fod llawer eisoes wedi'i gyflawni. Hoffwn ddiolch hefyd i'r comisiynwyr eraill, Dr Jenifer Baxter, Helen Armstrong, Stephen Brooks, Aleena Khan, Dr Eurgain Powell, Eluned Parrott a Nick Tune am eich ymrwymiad i'r gwaith hanfodol hwn a'ch cyfoeth enfawr o brofiad rydym yn ffodus iawn i'w gael, fel y dywedoch chi, Huw Irranca-Davies.
Rwy'n falch o weld y ffocws ar frwydro yn erbyn yr argyfyngau hinsawdd a natur sy'n ein hwynebu fel cymdeithas a chymuned fyd-eang, ac rwy'n croesawu pwyslais yr adroddiad fod yn rhaid i Gymru gyrraedd ei tharged sero net gan weithio gyda chymunedau lleol hefyd er mwyn sicrhau bod eu pryderon yn cael sylw priodol. Fel y nodwyd yn yr adroddiad, gwthiodd y comisiwn i gael cwmpas ei waith wedi'i ymestyn o 30 mlynedd i 80 mlynedd, ac nid wyf yn siŵr sut mae dweud hyn hyd yn oed—gweledigaeth ar gyfer dwy fil a chant? Nid wyf yn gwybod, a yw hynny wedi'i benderfynu? Gweledigaeth dwy fil a chant? Sy'n swnio'n eithaf rhyfedd, gan ein bod i gyd yn debygol o fod wedi mynd erbyn hynny, ond dyma'r penderfyniadau strategol—[Torri ar draws.] Iawn, bydd Alun yn dal i fod yma. Ond dyma'r penderfyniadau strategol, blaengar sydd angen i ni eu hystyried, ac rwy'n falch eich bod wedi sicrhau'r newid hwn. Mae'n gadarnhaol gweld mai un prosiect ar gyfer y dyfodol fydd lliniaru perygl llifogydd a chasglu ymchwil i gynorthwyo'r comisiwn i ddarparu argymhellion ar gyfer gwella cadernid seilwaith Cymru i wrthsefyll llifogydd erbyn 2050. Fel yr Aelod o'r Senedd dros Ben-y-bont ar Ogwr, rwy'n gwybod o lygad y ffynnon pa mor hanfodol yw'r cynllunio hwn. Ym Mhorthcawl, yn fy etholaeth, rydym yn ffodus i fod wedi cael £6.4 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i amddiffyn Porthcawl rhag llifogydd ac unrhyw gynnydd posibl yn lefel y môr. Mae'n mynd i gadw mwy na 500 o gartrefi a dros 170 o fusnesau'n ddiogel fel rhan o'r rhaglen rheoli risg arfordirol. Mae angen inni weld hynny'n cael sylw a gwaith ar atal a pharatoi ledled Cymru.
Ac yn olaf, hoffwn ddiolch i'r comisiwn seilwaith cenedlaethol am wneud y gwaith a wnânt mor hygyrch â phosibl i'r cyhoedd drwy eich gwefan, gan ddangos arloesedd o ran tryloywder, llywodraethiant a defnyddio meddalwedd ffynhonnell agored i ennyn diddordeb pobl mewn pynciau heriol; er enghraifft, eich gwaith ymgysylltu ar yr adolygiad ffyrdd, a oedd yn arbennig o boblogaidd ac a ddenodd lawer o bobl at eich gwefan.
Hoffwn ganmol y comisiwn hefyd ar ddefnyddio ap negeseua ffynhonnell agored sy'n caniatáu i'r comisiynwyr gyfathrebu'n fynych iawn y tu allan i gyfarfodydd. Rwy'n siŵr y bydd Aelodau o bob rhan o'r Siambr yn cytuno bod gwaith comisiynau a phwyllgorau'n digwydd yn rhy aml y tu allan i'w lleoliadau swyddogol, a dyna pam rwy'n croesawu ap negeseua ffynhonnell agored sy'n caniatáu mwy o dryloywder rhwng y rhai sydd mewn grym a'r rhai nad ydynt. Rwy'n gefnogol iawn i feddalwedd rhad ac am ddim a ffynhonnell agored, ac rwy'n credu bod y wefan yn arddangos arferion da drwy gynnal darpariaeth o wybodaeth gan barchu preifatrwydd defnyddwyr ar yr un pryd, heb ddefnyddio cwcis na chasglu unrhyw ddata defnyddwyr, drwy beidio ag ymgorffori unrhyw ffrydiau masnachol neu offer eraill sy'n caniatáu i drydydd partïon olrhain ymwelwyr, yn ogystal â bod ymwelwyr â'r safle yn cael mynediad at yr un ddadansoddeg â Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru. Credaf y dylai hyn fod yn arfer safonol ar gyfer cynnwys dinasyddion ac ymgysylltu â nhw, ac mae'n amlwg o ganfyddiadau'r adroddiad blynyddol hwn fod defnyddio'r dechnoleg ffynhonnell agored hon wedi caniatáu ar gyfer llif llawer mwy o wybodaeth o gymharu â sefydliadau traddodiadol, ac rwy'n credu y gellir dysgu llawer o'r dull hwn. Mae croesawu a hyrwyddo arloesedd, cydweithrediad a thryloywder yng Nghomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, a'i blethu drwy bob agwedd ar wneud penderfyniadau yng Nghymru, gan gynnwys materion digidol, yn hanfodol, ac rwy'n credu bod hyn hefyd yn cael ei ddangos yn yr adroddiad. Yn bersonol, rwy'n awyddus iawn i weld beth fydd y comisiwn yn ei wneud nesaf. Diolch.
Roeddwn yn falch iawn o ddarllen y newidiadau a wnaed i gylch gwaith y comisiwn gan y Cadeirydd i ymgorffori Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur, yn ogystal â'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Calonogol hefyd oedd darllen y gydnabyddiaeth yn y cyflwyniad i'r adroddiad gan y cadeirydd a'r dirprwy gadeirydd sy'n tynnu sylw at yr effaith y mae gweithgareddau dynol wedi'i chael ar ein hecosystemau heb ystyriaeth ddigonol i genedlaethau'r dyfodol.
Rwy'n falch fod y Cadeirydd wedi dweud ei fod eisiau gwella cyfathrebu a phroffil cyhoeddus, fel bod pobl allan yno'n gwybod am y comisiwn a'u bod yn gallu cynrychioli eu materion, ac rwy'n ddiolchgar ei fod wedi dod i'r Siambr heddiw, a fy mod wedi clywed mwy amdano hefyd, felly rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr.
Rwy'n gobeithio y gall y comisiwn ddylanwadu ar fuddsoddiadau seilwaith cenedlaethol y DU yng Nghymru, gan nad yw Cymru, hyd yma, wedi cael cyllid canlyniadol o HS2, Northern Powerhouse, na chyllid seilwaith band eang, y gellid ei ddefnyddio i gyflwyno technolegau megis consortiwm Bangor ar gyfer ffibr, ac roeddwn yn meddwl tybed sut y byddai'n cysylltu â'r prosiectau hynny sydd bron yn barod i ddechrau. Hefyd, yng ngogledd Cymru, ceir blaenoriaeth i gyllid rheilffyrdd; mae ceisiadau am gyllid ffyniant bro ar gyfer cludo nwyddau yn Hanson Cement ac i adeiladu gorsaf ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy wedi cael eu gwrthod ddwywaith, felly roeddwn yn meddwl tybed sut y byddent yn cysylltu ac yn gwybod am yr holl gynlluniau hynny hefyd. Ac nid oes cyllid ar gyfer adnewyddu asedau mawr, ac mae croesfan pont Afon Dyfrdwy yr A494 mewn angen dybryd hefyd. Rwy'n credu y byddai cael mwy o eglurhad ynglŷn â sut mae'r comisiwn yn ymwneud â chyrff seilwaith eraill o fudd, a byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Dirprwy Weinidog nodi sut y bydd y comisiwn yn cysylltu â Chomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru, dan arweiniad yr Arglwydd Burns, yn ogystal â'r adolygiad ffyrdd a'r adolygiad o asedau mawr.
Ni cheir unrhyw sôn mewn unrhyw ddogfen am y rhwydwaith lleol, sef y rhan fwyaf o'r rhwydwaith. Mae hawliau tramwy cyhoeddus, palmentydd a phontydd ffyrdd i gyd yn cael eu cynnal gan awdurdodau lleol, gydag ôl-groniad o £1.6 biliwn, yn ôl arolwg gan Gymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru 2020, ac mae busnesau bach hefyd o anghenraid yn ddibynnol ar seilwaith Cymru ac yn enwedig trafnidiaeth ar y ffyrdd, felly mae seilwaith dibynadwy, wedi'i gynnal a'i gadw'n dda ledled Cymru gyfan yn fater allweddol i BBaCh ac economi ehangach Cymru. Mae'r priffyrdd hyn hefyd yn rhan o drafnidiaeth gyhoeddus, gan eu bod yn cael eu defnyddio gan fysiau, beicwyr a cherddwyr yn ogystal â cheir. Rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol fod y ffyrdd hyn yn cael cymaint o sylw ag unrhyw ran arall o'n seilwaith yma yng Nghymru gan eu bod yn cysylltu pobl, yn ogystal â band eang a'r seilwaith mawr hefyd.
Heddiw, clywais eu bod yn mynd i edrych ar un pwnc ar y tro, felly newid hinsawdd ac yna edrych ar lifogydd, felly sut y byddant yn edrych ar yr holl agweddau eraill hyn hefyd? A yw hynny i gyd yn digwydd yn y cefndir tra byddant yn canolbwyntio ar bethau eraill bob blwyddyn? Felly, hoffwn wybod mwy am hynny hefyd, os yn bosibl. Diolch.
Rwy'n croesawu'r adroddiad hwn, ac rwy'n croesawu'r meddylfryd hirdymor yn fawr, oherwydd bydd yr hyn rydym yn ei adeiladu neu nad ydym yn ei adeiladu heddiw, sut rydym yn adeiladu pethau, yn effeithio ar y bobl sy'n dod ar ein holau, i fynd ar drywydd y sylw a wnaed na fyddem yma pan gaiff y strwythurau hynny eu hadeiladu. Nid wyf yn credu bod Christopher Wren o gwmpas mwyach ychwaith o ran hynny. Felly, mae'n rhoi syniad o hirhoedledd strwythurau a adewir ar ôl gennym. Felly, ar lifogydd, ac rwy'n mynd i ganolbwyntio ar lifogydd, nid yw'r seilwaith y gallai fod ei angen mewn gwirionedd yn strwythur caled o gwbl o reidrwydd, ond fe glywsom gan y Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur—a chi wnaeth gynnal eu digwyddiad yr wythnos diwethaf, Huw—am ddefnyddio tir yn y ffordd gywir i atal dŵr ffo yn y lle cyntaf. Mae'n ymwneud ag arferion ffermio, lle nad ydych yn dinistrio'r pridd yn y fath fodd fel bod y cyfan yn glanio yn y môr, ac—rwy'n siŵr y bydd rhai ohonoch wedi gweld y fideos neithiwr—yn afon Gwy. Felly, mae'n ymwneud â'r holl bethau hynny gyda'i gilydd, Weinidog, a sut rydych chi'n gweithio mewn partneriaeth i atal y pethau y gellir eu hatal, yn hytrach na dim ond canolbwyntio ar strwythurau caled. Rwy'n falch iawn o weld yr ymgysylltu cymunedol yng nghanolbarth Cymru yma, oherwydd rwy'n siŵr ei fod wedi croesi eich desg, fel y mae wedi croesi fy un i, Weinidog, fod angen edrych i weld a ydym yn gosod fferm wynt ar draws yr ardal honno ai peidio, a sut rydym yn gwneud hynny. Mae'r ymgysylltu cymunedol ynglŷn â symud ymlaen yn hollbwysig. Dyna'r pethau roeddwn eisiau eu dweud yn arbennig, ac rwy'n edrych ymlaen at yr adroddiad nesaf, ond rwy'n cefnogi'r weledigaeth hirdymor yn llwyr.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau a gyfrannodd at y drafodaeth ystyriol ar yr adroddiad cynnydd ar waith y comisiwn seilwaith. Rwy'n meddwl ei bod hi'n deg dweud mai'r thema gyffredinol yw croeso gofalus, ac rwy'n meddwl bod hwnnw'n ymateb doeth. Mae'r arwyddion cynnar yn galonogol, ond wrth gwrs, wrth ei flas mae profi pwdin, ac rwy'n meddwl bod y comisiwn yn ymwybodol iawn o hynny, ac rwy'n falch o glywed sylwadau cadarnhaol Huw Irranca-Davies a Llyr Gruffydd ar y gwaith cynnar a'r gwaith ymgysylltu a'r dystiolaeth a roddwyd gan y comisiwn a'u hadroddiad ar eu gwaith.
Hoffwn sôn, os caf, am feirniadaeth Janet Finch-Saunders, gan y credaf ei bod yn deilwng o drafodaeth briodol. Credaf fod rhywfaint ohoni'n deg, a rhywfaint nad yw'n deg. Felly, ei chwestiwn cyntaf yw: pa mor annibynnol yw’r comisiwn? Ei thystiolaeth oedd ei bod yn credu ei fod yn grŵp a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, sy'n ffordd ryfedd o'i gategoreiddio yn fy marn i, fod y cadeirydd yn cael ei benodi’n uniongyrchol, a'r comisiwn yn cael cymorth gan swyddogion Llywodraeth Cymru a’r ysgrifenyddiaeth. Wel, mae rhywfaint o hyn yn bragmatig. Yn syml, nid oes gennym gyllideb ar gyfer sefydliad mawr annibynnol gyda'i arbenigwyr ei hun, ei ysgrifenyddiaeth ei hun, a chreu corff hyd braich arall. Nid oes gennym adnoddau i wneud hynny. Felly, ffordd bragmatig ymlaen yw sefydlu rhyw fath o grŵp cynghori a defnyddio swyddogion Llywodraeth Cymru, a chael cymorth arbenigol allanol i gefnogi hynny yn ôl yr angen. Credaf mai dyna’r dull gweithredu cywir, o ystyried yr adnoddau sydd gennym, ac yn aml, rwy'n credu bod yr hyn a ddywed Janet Finch-Saunders wedi’i ysgaru rywsut oddi wrth setliad y gyllideb.
Ar y cwestiwn ynglŷn ag annibyniaeth y cadeirydd, penodais Dr David Clubb yn uniongyrchol am ddau reswm. Un oedd cyflymder. Roeddwn am i’r comisiwn hwn gael ei sefydlu a bod ar waith ac yn edrych ar yr heriau hirdymor sy’n ein hwynebu. Ac yn ail, fe wneuthum hynny am fy mod yn gwybod ei fod yn feirniad gyda barn annibynnol, nid yn unig ar Lywodraeth Cymru, ond yn gyffredinol, mae'n rhywun y credaf ei fod, drwy gyfres o swyddi, wedi ennill parch ar draws sbectrwm y pleidiau gwleidyddol a chymdeithas sifil fel rhywun sy'n ddeallus, yn arbenigwr, ac yn barod i wthio a herio, a dyna'n union roeddwn yn chwilio amdano. Felly, nid oeddwn yn gweld pwynt cynnal cystadleuaeth agored hir pan oeddwn o'r farn fod gennym, yn David Clubb, rywun a fyddai’n rhoi amser caled i ni a heb fod ofn gwneud hynny. Credaf fod hynny’n hanfodol bwysig. A hoffwn ddweud wrth Janet Finch-Saunders, pe bai'n mynd i'r drafferth i edrych ar y penodiadau uniongyrchol rwyf wedi’u gwneud ers dod yn Weinidog, rwy'n gyson wedi penodi pobl sy’n mynd i fod yn anodd ac yn heriol. Credaf fod hynny’n hollbwysig, yn anad dim oherwydd peth o’r gwaith craffu gwael a gawn gan yr wrthblaid yn y Siambr hon. Yr wrthblaid Geidwadol, dylwn egluro ar gyfer y cofnod.
Credaf fod y feirniadaeth o'r ffaith eu bod yn cyflogi arbenigwyr a'u bod hwy eu hunain yn gyffredinolwyr—rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt teg. Mae'n safbwynt. Mae nifer o fodelau ar gael. Rwyf wedi egluro'r rhesymau pragmatig am hynny. Dyma fodel y mae’r comisiwn ei hun wedi gwneud penderfyniad yn ei gylch. Credaf fod iddo'i rinweddau, ond rwy’n parchu’r ffaith ei bod hi'n arddel safbwynt gwahanol.
Credaf fod pwyntiau Sarah Murphy ynghylch tryloywder ac arloesedd wrth ymgysylltu wedi'u gwneud yn dda iawn, ac mae'n cysylltu â phwynt Huw Irranca-Davies ynglŷn â'r gwaith y mae'r comisiwn wedi dweud y byddant yn ei wneud ym mlwyddyn 3 ar sgwrs gyda'r cyhoedd, yn enwedig mewn ardaloedd sy’n wynebu erydu arfordirol, ynglŷn â beth yw’r dyfodol i’r cymunedau hynny. A chredaf fod hyn yn rhywbeth y mae CNC a’r swyddfa archwilio wedi galw amdano yn y gorffennol, ac rwy'n credu bod hon yn sgwrs anodd iawn i’w chael gyda chymunedau sydd dan fygythiad, ac mae'n dangos gwerth cael y comisiwn seilwaith hwn, i chwarae rôl brocer, rôl canolwr gonest, os mynnwch, i adeiladu sgwrs y gellir ymddiried ynddi â dinasyddion ynglŷn â rhai o'r dewisiadau sy'n ein hwynebu.
Roeddwn yn awyddus i ailffocysu’r comisiwn seilwaith, yn enwedig o amgylch themâu sy'n ymwneud â newid hinsawdd. Rydym wedi cael ein sefydlu fel adran i sicrhau mai newid hinsawdd yw prif egwyddor drefniadol y Llywodraeth. Gwyddom ein bod yn wynebu heriau sylweddol i'n seilwaith presennol yn sgil yr allyriadau sydd eisoes yn ddiwrthdro. Credaf ei bod yn edrych yn fwyfwy annhebygol ein bod yn mynd i aros o fewn terfynau diogel newid hinsawdd, a'n bod yn edrych ar rywle rhwng newid hinsawdd 'peryglus' a 'thrychinebus', yn seiliedig ar derminoleg y Cenhedloedd Unedig, ac mae'r seilwaith sydd gennym yn amlwg yn agored iawn i niwed, ac mae angen i'r seilwaith rydym yn buddsoddi ynddo ar hyn o bryd fod yn addas i'r diben er mwyn addasu i'r heriau sy'n ein hwynebu, a'u lliniaru. Felly, roeddwn am roi cylch gwaith clir iawn iddo ganolbwyntio ar hynny.
Ac i ymateb i bryderon Carolyn Thomas, yn amlwg, ni allant edrych ar bob un darn o seilwaith sydd gennym. Nid dyna yw eu gwaith; gwaith y Llywodraeth yw hynny. Eu gwaith nhw yw sganio'r gorwel a rhoi cyngor ar rai o'r materion rydym yn eu hwynebu, a'u herio. Felly, ydy, wrth gwrs, mae hi'n iawn, mae yna broblemau gyda ffyrdd lleol, ond mae yna lawer o broblemau'n ein hwynebu gyda seilwaith, ac ni chredaf ei bod yn rhesymol disgwyl i'r comisiwn ystyried popeth. Maent wedi dewis eu blaenoriaethau, maent wedi cytuno arnynt gyda ni, rydym wedi ymgorffori'r ffocws ar lifogydd fel rhan o'r cytundeb cydweithio, sy'n rhywbeth roeddem yn fwy na pharod i'w wneud, rwy'n credu—awgrym synhwyrol iawn. Felly, credaf fod ganddynt olwg strategol, hirdymor, a bydd rhywfaint o'r gwaith yn llywio Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru a’r adolygiad ffyrdd. Un o'r pethau y maent wedi'u gwneud yn dda yn barod yn fy marn i yw arloesi drwy gynhyrchu blogiau. Felly, nid aros am adroddiadau mawr yn unig; fe wnaethant gyhoeddi blog a oedd yn werth ei ddarllen ar yr adolygiad ffyrdd er enghraifft, ac yn sicr, nid oeddent yn bod yn rhy garedig. Yn sicr, roedd yna her yno, fel y byddech yn iawn i'w ddisgwyl.
Felly, fel y dywedaf, mae eu perfformiad hyd yn hyn yn gyson galonogol, ac mae Joyce Watson yn llygad ei lle fod angen i atebion sy'n seiliedig ar natur fod yn rhan o'r cymysgedd y maent yn edrych arno. Felly, credaf fod asesiad y pwyllgor a'r Aelodau fod, 'Popeth yn iawn hyd yma', yn un teg, a gwn y bydd y comisiwn yn awyddus i werthuso eu hunain yn feirniadol wrth i’w hamser fynd yn ei flaen. Diolch.
Galwaf ar Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb am drafodaeth fuddiol iawn, yn fy marn i. Mi wnaf innau hefyd gychwyn gyda sylwadau agoriadol ynglŷn â chwestiynu annibyniaeth y comisiwn. Dyw sefyllfa'r cadeirydd a'r comisiwn yn ddim gwahanol i lawer iawn o gyrff cyhoeddus yng Nghymru, ac mae gennym ni i gyd farn ynglŷn â pha mor addas yw hynny, wrth gwrs. Ond, o ran integriti'r cadeirydd ei hunan, o'm hadnabyddiaeth i ohono fe, mae e'n rhywun sydd, dwi'n hyderus, yn mynd i gynnig her i'r Llywodraeth. Mae ei gefndir e'n awgrymu hynny. Mi gawsom ni hefyd sesiwn cyn penodi; doedd dim rheidrwydd ar y Llywodraeth i gynnig hynny i ni fel pwyllgor, ond fe wnaethom ni dderbyn, felly roedd yna gyfle yn fanna hefyd i fynd i'r afael â rhai o'r materion yma. Ond, fel mae pawb yn cydnabod, amser a ddengys, dwi'n credu, onid ife? Mi fydd yna graffu pellach yn digwydd dros y blynyddoedd sydd i ddod, a 'thrwy eu gweithredoedd yr adnabyddir hwy', onid ife? Ydy plant yr ysgol Sul yn gallu cadarnhau bod hynny'n adnod ddilys? Felly, cawn ni weld beth ddaw, ond dwi, yn sicr, yn siarad fel Cadeirydd, yn hyderus bod yn rhaid i ni ochel, wrth gwrs, ond mae hynny'r un mor ddilys yn y cyd-destun yma ag yw e ym mhob cyd-destun arall o safbwynt apwyntiadau cyhoeddus yng Nghymru.
Ac ar y pwynt o generalists, neu gyffredinolwyr, mae yna aelodau o gefndiroedd amrywiol wedi'u penodi, ac mi esboniodd y cadeirydd yn ei dystiolaeth wrthym ni fel pwyllgor y rationale ynglŷn â chael pobl a fyddai'n cael eu hystyried, efallai, fel cyfranogwyr seilwaith traddodiadol yn ogystal â phobl sy'n dod â safbwynt ychydig llai traddodiadol, ond wastad yn gallu tynnu arbenigwyr i mewn, wrth gwrs, lle bod angen gwneud hynny.
Mae Huw Irranca-Davies, wrth gwrs, yn iawn: y tymor hir yw hwn. Edrych y tu hwnt i heddiw; edrych y tu hwnt i'r seicl etholiadol—'horizon scanning' oedd y term a ddefnyddiodd y Dirprwy Weinidog—ac mae hynny'n mynd law yn llaw wedyn gyda'r rhaglen waith eglur ar gyfer y tymor mwy immediate. Mae'r tri prif ffocws yn y flwyddyn gyntaf ar ynni adnewyddadwy. Ac mae yna fylchau, onid oes e, o ran cyd-fuddiannau, o ran rheoli tensiynau ac ymgysylltu cymunedol. Mae'n mewnflychau ni, dwi'n siŵr, fel Aelodau, yn adlewyrchu llawer o hynny. Felly, mae yna gyfraniad pwysig i'w wneud yn y space yna.
Aelodau eraill wedyn—Sarah Murphy, Carolyn Thomas, Joyce Watson—yn sôn am isadeiledd arfordirol; isadeiledd ffyrdd; rheilffyrdd; pontydd; trafnidiaeth gyhoeddus; llifogydd. Ac mae hwnna, wrth gwrs, yn sydyn iawn yn ein hatgoffa ni wedyn pa mor eang y gallai remit y comisiwn yma fod, a'r angen i ffocysu ac i ganolbwyntio. Ac mae ffocws yn bwysig, ac mae perthynas a chydberthynas a chydweithio gyda chyrff eraill yn hanfodol wedyn i sicrhau, yn lle bod y comisiwn yn gwneud pob dim, eu bod nhw'n defnyddio'r arbenigedd, yn defnyddio'r wybodaeth sydd ganddyn nhw i gynorthwyo, i ddylanwadu, ac i weithio gydag ystod ehangach o gyrff. Mae hynny'n ychwanegu gwerth, ac mae'n sicrhau bod pawb sydd yn chwarae ac yn weithgar yn y maes yma'n cadw eu golygon ar y dyfodol—y futureproofing yma, sydd weithiau'n mynd yn angof pan ŷn ni ym merw penderfyniadau dydd i ddydd.
Mae'n bwysig—a dwi'n diolch i Joyce Watson am ein hatgoffa ni—nad seilwaith caled yn unig rŷn ni'n sôn amdano fe yn fan hyn. Mae yna dueddiad i ni fynd at hynny, onid oes e? 'Concrit yw'r ateb.' Nid dyna'r ateb, wrth gwrs. Hynny yw, os ydyn ni eisiau edrych ar atebion mwy cynaliadwy, mwy fforddiadwy, yn aml iawn, a mwy cydnerth yn y tymor hir, yna rŷn ni'n edrych ar bethau, yng nghyd-destun llifogydd, fel gorlifdiroedd, mawnydd, plannu coed ac yn y blaen, ac mae hwnna eto yn dangos y newid mindset sydd angen i'r comisiwn gyfrannu at ei gyflawni dros y tymor hirach. Mae'r Bil cydsynio seilwaith ar ei ffordd. Rŷn ni'n gobeithio'n fawr y bydd y comisiwn yn chwarae rhan wrth i ni, mae'n debyg, o bosib, fel pwyllgor, fod yn craffu y Bil yma.
Ond mae yn ddyddiau cynnar, Dirprwy Lywydd, i gloi. Ein rôl ni fel pwyllgor yw parhau i graffu ar y gwaith, parhau i ofyn y cwestiynau mae Aelodau wedi bod yn eu gofyn yn y ddadl yma, ac, wrth gwrs, mi fydd yna ddyletswydd arnom ni fel pwyllgor, ac arnom ni fel Senedd hefyd wedyn, i graffu ac asesu y cynnydd yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 7 heddiw yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau, 'O Bump i Bedwar? P-06-1247 Cefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Jack Sargeant.
Cynnig NDM8257 Jack Sargeant
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘O Bump i Bedwar? P-06-1247 Cefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2023.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n falch iawn o gael y cyfle i arwain y ddadl hon heddiw ac i siarad am adroddiad y Pwyllgor Deisebau sy'n edrych ar dreialon wythnos waith pedwar diwrnod.
Daw’r adroddiad yn dilyn deiseb a gyflwynwyd gan Mark Hooper o 4 Day Week Cymru. Mae’r ddeiseb yn galw am dreialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru er mwyn archwilio ei heffaith ac i weld a ellid ystyried hyn fel trywydd posibl yn y dyfodol. Roedd yr adroddiad yn adeiladu ar y gwaith sy'n mynd rhagddo gan fusnesau ac ymgyrchwyr sydd wedi cynnal a chefnogi treialon. Er bod y ddeiseb hon yn galw’n benodol am dreial sector cyhoeddus, y sector preifat sydd wedi cynnal y fflam dros wythnos waith pedwar diwrnod mewn gwirionedd, gyda threialon eisoes yn mynd rhagddynt mewn cwmnïau ledled y DU. Ddirprwy Lywydd, cawsom dystiolaeth gan ymgyrch 4 Day Week, sydd wedi cefnogi'r treialon sector preifat a thrydydd sector hynny, a’r ffaith amlwg oedd bod wythnos waith pedwar diwrnod wedi cael effaith gadarnhaol ar gynhyrchiant.
Nawr, mae’n bwysig, yn enwedig i lunwyr polisi, ein bod yn ymdrin ag unrhyw bwnc gyda meddwl agored a gwrando ar y dystiolaeth sydd o’n blaenau. Mae llawer o sectorau ar draws y Deyrnas Unedig yn dweud yr un peth: mae cadw a recriwtio staff yn broblem wirioneddol. Ni ellir anwybyddu hyn ac ni all gwthio gweithwyr i weithio mwy o oriau am gyflogau llai mewn termau real fod yn ateb. Fy marn i, Ddirprwy Lywydd, yw y dylem fod yn ddigon dewr ac yn ddigon beiddgar i ddilyn y dystiolaeth a bod yn rhan o’r ymdrechion cynyddol i ddechrau treialu wythnos waith pedwar diwrnod. Nid oes gennym yr holl ysgogiadau i wneud hyn, ond gallwn gynnal treial sector cyhoeddus i helpu i hybu'r sgwrs hon.
Ar y pwynt hwn, Ddirprwy Lywydd, hoffwn sôn nad ydym fel pwyllgor trawsbleidiol wedi gallu cytuno ar gonsensws trawsbleidiol y tro hwn, ond rydym wedi cynnwys barn leiafrifol yr Aelod Ceidwadol Joel James yn ein hadroddiad. Ac rwy’n ddiolchgar i Joel am godi’r pryderon hynny yn ystod ein hymchwiliad, ac rwy’n siŵr y byddwn yn clywed mwy yn ystod ei gyfraniad heddiw. Ond fel myfyriwr hanes, Ddirprwy Lywydd, roeddwn o'r farn eu bod yn hynod o debyg i bryderon y rheini a oedd yn gwrthwynebu cyflwyno wythnos waith bum diwrnod a gwyliau â thâl, i enwi rhai pethau'n unig. Efallai fod y tebygrwydd hwn yn rhywbeth y dylai’r rheini sy’n gwrthwynebu treialon wythnos waith pedwar diwrnod fyfyrio arno, a hoffwn eu hannog i ymgysylltu â'r cwmnïau a’r cyflogwyr sector preifat sydd wedi cynnal treialon llwyddiannus ledled y Deyrnas Unedig. Ddirprwy Lywydd, mae llesiant pobl Cymru bob amser, ac fe ddylai fod bob amser, yn flaenoriaeth i ni fel Aelodau o’r Senedd.
Yn ystod ein hymchwiliad, clywsom hefyd sut y treialodd Gwlad yr Iâ ostyngiad mewn amser gweithio yn ôl yn 2015, a disgrifiwyd y canlyniadau fel llwyddiant ysgubol. Ynghyd â gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a lles meddyliol gwell, mae lleihau nifer y diwrnodau yn y gwaith hefyd yn lleihau llygredd aer ac allyriadau carbon ac yn cyfrannu at ein hymateb i newid hinsawdd. Hefyd, gall hwyluso rhannu gofal plant a gwell cydraddoldeb rhwng y rhywiau i fenywod, sy'n draddodiadol yn ymgymryd â mwy o gyfrifoldebau gofal plant mewn teuluoedd.
Ddirprwy Lywydd, fel pwyllgor, fe wnaethom argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynnal cynllun peilot, gan gysylltu â sefydliadau sydd wedi cynnal cynlluniau peilot i leihau oriau gwaith ac sydd wedi eu rhoi ar waith ar gyfer eu staff eu hunain. Mae hwn yn gam beiddgar, ond yn un na ddylem ei ofni. Mae'r byd gwaith yn newid, ac er bod newid yn anodd weithiau, nid yw'r ffaith bod rhywbeth yn anodd yn rheswm dros beidio â'i wneud. Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol i’n hargymhellion ac yn gweithio gyda chyngor partneriaeth y gweithlu i ystyried y mater dan sylw.
Dyma’r ffordd gywir o fynd ati, Ddirprwy Lywydd. Rydym wedi cychwyn ar fodel partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, a dylem ei ddefnyddio i drafod hyn ac unrhyw newidiadau eraill i’r ffordd rydym yn gweithio. Mae angen herio ein diwylliant a'n harferion gwaith presennol ac archwilio ffyrdd newydd o wella cynhyrchiant ac ansawdd bywyd ein gweithlu. Ni allwn wynebu’r dyfodol gan ddweud ein bod yn amharod i newid ac i ymateb i heriau’r farchnad lafur.
Edrychaf ymlaen yn fawr at glywed cyfraniadau Aelodau eraill y prynhawn yma, gan y pwyllgor a’r Senedd, ac wrth gwrs, ymateb y Gweinidog. Mae momentwm y newid hwn yn cynyddu, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y byd, o Wlad yr Iâ i Seland Newydd. Yr wythnos diwethaf, galwodd y Seneddwr Bernie Sanders am wythnos waith 32 awr yn yr Unol Daleithiau.
Ddirprwy Lywydd, ni all Cymru fod ar ei hôl hi, a dylai fod yn ddigon beiddgar i newid. Rwy’n falch iawn fod Llywodraeth Cymru yn mynd â hyn at gyngor y gweithlu, ac edrychaf ymlaen at weld ei gynnydd. Diolch yn fawr iawn.
I ddechrau, rwy’n ei chael hi'n anodd iawn cyfiawnhau bwrw ymlaen â’r cynllun peilot hwn, gan na allaf weld pam y dylid gwario degau o filiynau o bunnoedd o arian cyhoeddus, o bosibl, ar rywbeth nad oes gan Lywodraeth Cymru gymhwysedd deddfwriaethol i’w roi ar waith yn llwyr. Fel y gŵyr pob un ohonom, mae rhai heriau mawr iawn yn ein hwynebu yma yng Nghymru sydd, yn fy marn i, yn flaenoriaethau llawer pwysicach i wario arian cyhoeddus arnynt. A ydym o ddifrif am wario’r arian hwn ar helpu ychydig o bobl ddethol pan ddylem fod yn edrych ar wella cyrhaeddiad addysgol, gwella mynediad at apwyntiadau ysbyty, deintyddion a meddygon teulu, a gwella canlyniadau cyflogaeth? Yn wir, Ddirprwy Lywydd, dau o’r materion mawr i drigolion sy’n byw yn fy rhanbarth i yw ansawdd aer a salwch cronig, ac mae gwario arian ar brosiectau anwes fel hyn, pan fo gennym gymaint o anghenion dybryd eraill, yn chwerthinllyd, ac a dweud y gwir, yn esgeuluso dyletswydd.
Yn ychwanegol at hynny, pe bai wythnos waith pedwar diwrnod yn cael ei rhoi ar waith heb dorri cyflogau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru byddai’n godiad cyflog o 20 y cant i draean o’r boblogaeth sydd mewn gwaith yng Nghymru ar draul gweddill y boblogaeth sy'n gweithio yn y sector preifat, sy'n cynhyrchu’r arian i dalu am wasanaethau cyhoeddus. Mae hyn yn annheg iawn, a byddai hefyd yn creu amgylchedd gwaith dwy haen, lle byddai cwmnïau preifat—busnesau bach a chanolig yn bennaf nad ydynt yn gallu fforddio cynnig oriau gwaith tebyg i'r rhain—yn ei chael hi’n anghymesur o anodd recriwtio a chadw staff.
Gallaf weld sut y gall gweithio llai o oriau fod yn gadarnhaol i iechyd a llesiant personol rhai pobl, ond mae’r syniad o orfodi wythnos waith pedwar diwrnod llym yn hynod gyfyngol, gan na ellir ei chyflwyno ar draws pob sector heb gyflogi rhagor o staff i gadw'r un lefel o wasanaethau cyhoeddus. Byddai’r gost i bwrs y wlad, fel y dywedwyd eisoes, yn wirioneddol enfawr. Mae astudiaethau wedi dangos, lle mae wythnosau gwaith pedwar diwrnod wedi’u rhoi ar waith, fod y gostyngiad o 20 y cant yn argaeledd gwasanaethau cyhoeddus yn achosi mwy o ddrwg nag o les i weddill y boblogaeth. Yn fy marn i, mae cefnogwyr yr wythnos waith pedwar diwrnod yn ddall i agweddau negyddol trefn o'r fath gan mai dim ond y pethau hynod o gadarnhaol y gallant eu gweld.
Mae'n rhaid inni gofio bod yr wythnos waith pedwar diwrnod wedi'i threialu'n helaeth, ac er ei bod wedi gweithio i rai, yn sicr, nid yw wedi gweithio i bawb. Yn wir, credaf y gallwn dreulio’r holl amser a neilltuwyd ar gyfer y ddadl hon yn egluro pam mae cyflwyno treial wythnos waith pedwar diwrnod nid yn unig yn annoeth, ond nad yw’n cyflawni’r canlyniadau y mae’n eu honni, a dyfynnu astudiaethau o bob rhan o'r byd, gan gynnwys Japan, Gwlad Belg, yr Unol Daleithiau, lle mae'r treialon hyn wedi methu'n llwyr. Ond yn anffodus, Ddirprwy Lywydd, dim ond pum munud sydd gennyf.
Mae llawer o bobl wedi canfod bod yr ymdrech i gwblhau’r un faint o waith mewn pedwar diwrnod yn lle pump wedi arwain at ostyngiad sylweddol mewn gwaith tîm a chydweithio, gan fod gweithwyr yn canolbwyntio ar gyflawni eu tasgau mewn llai o amser, ac mae wedi gwneud llwythi gwaith yn anos yn gyffredinol. Ar ben hynny, bydd pobl iau sy'n dechrau yn eu gyrfaoedd yn cael llawer llai o gyfleoedd i rwydweithio â'u cydweithwyr ac i ddod i adnabod y bobl a fydd yn allweddol yn eu gyrfaoedd. Mae hyn yn niweidio eu potensial ar gyfer eu dyfodol. Caiff hyn ei waethygu gan y nifer enfawr o weithwyr sector cyhoeddus sy'n dal i weithio gartref.
Diolch am ildio. Tybed beth fyddai eich barn am Sony Pencoed. Nid yw Sony Pencoed yn gweithredu wythnos waith pedwar diwrnod—maent yn gweithredu wythnos waith pedwar diwrnod a hanner. Maent yn gorffen yn gynnar ar ddydd Gwener, ac maent wedi gwneud hynny ers blynyddoedd am eu bod wedi gweld y cynnydd mewn cynhyrchiant a'r atyniad o ran recriwtio pobl ifanc. A ydych yn credu eu bod yn colli rhywbeth yma?
Fy marn i erioed yw, os yw'r sector preifat am wneud hyn, mae ganddynt berffaith hawl i wneud hynny, ond os yw'n dod o bwrs y wlad, credaf fod blaenoriaethau pwysicach y dylem fod yn gwario ein harian arnynt.
Er y gall colli’r sgiliau meddal hynny ymddangos yn bwynt dibwys i rai pobl, maent yn hanfodol i weithwyr mewn llawer o ddiwydiannau mewn gwirionedd. Mae'n amlwg i mi fod gan yr ymgyrch hon dros oriau byrrach ar raddfa eang lawer o anfanteision posibl sy'n cael eu hanwybyddu.
Yn ychwanegol at hynny, mae dwy agwedd ar y cyfiawnhad dros gyflwyno wythnos waith pedwar diwrnod yn eithaf rhyfedd yn fy marn i—yn gyntaf, y dylid ei chyflwyno gan y byddai niferoedd uchel o weithwyr yn cefnogi newid o’r fath. Dadl ffug yw hon. Pwy yn eu iawn bwyll na fyddai'n derbyn gostyngiad yn eu horiau gwaith am yr un cyflog? Yn y pen draw, mae hon yn ddadl annilys i gyfiawnhau wythnos waith pedwar diwrnod.
Yn ail, ceir y syniad y bydd y cynnydd mewn cynhyrchiant yn y bôn yn caniatáu i weithwyr leihau eu horiau, ond mae cymaint o wahanol ffyrdd o fesur cynhyrchiant yn dibynnu ar y math o waith y mae pobl yn ei wneud fel nad oes unrhyw fodd o safoni ar draws y gweithle, felly ni fydd treial yn cynhyrchu unrhyw ddata ystyrlon a chywir y gellid ei allosod ar draws pob sector. Yr hyn rwy'n ei olygu yma yw y byddai cynhyrchiant athro'n cael ei fesur yn wahanol i gynhyrchiant nyrs, a byddai hynny'n cael ei fesur yn wahanol i weithiwr cyngor sy'n prosesu ceisiadau am swyddi, er enghraifft—ac yn y blaen.
Yn ogystal, ceir llawer o ffactorau allanol hefyd sy'n effeithio ar gynhyrchiant na all sefydliad eu rheoli, sy'n golygu y gallai cynhyrchiant gweithlu o 90 y cant un wythnos yn hawdd edrych fel cynhyrchiant o 60 y cant yr wythnos nesaf. Testun pryder arall i mi yw bod cynhyrchiant uwch am gyfnodau hir hefyd yn arwain at orflinder a phobl yn cael llai o fwynhad o'u swyddi. Rydym wedi gweld hyn yn y GIG gyda phandemig COVID; nid yw'r ymdrech hon i weithio pobl yn galetach am gyfnodau byrrach yn arwain at fywyd gwaith iach.
Rwy'n ymwybodol o'r amser, Ddirprwy Lywydd, felly rwyf am ddirwyn i ben. Er y byddaf i a fy ngrŵp yn nodi’r adroddiad heddiw, rwy'n credu mai’r hyn sydd ei angen arnom yn ein gweithlu yw hyblygrwydd ychwanegol i weithwyr drwy gydol y diwrnod gwaith i’w helpu i gydbwyso anghenion teulu ac iechyd yn well ac i wneud gwaith a’r amgylchedd gwaith yn elfen fwy cadarnhaol ym mywydau pobl. Diolch.
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i’r clercod am lunio'r adroddiad, i’r Cadeirydd am ei waith diwyd yn cadeirio ein sesiynau tystiolaeth, yn ogystal ag i'r deisebydd, Mark Hooper, y gwn ei fod yn teimlo'n wirioneddol angerddol am y mater penodol hwn.
Bu nifer o newidiadau ac ystyriaethau dros y blynyddoedd diwethaf ynghylch pam fod angen inni ailfeddwl am y byd gwaith. COVID, wrth gwrs, oedd y dylanwad mwyaf, ond hyd yn oed ar ôl y pandemig, rydym yn gweld heriau'n dod i'r amlwg yn sgil awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial. Mae'r rhain yn newidiadau sy'n dod, maent yn mynd i ddigwydd, felly mae'n bwysig ein bod yn ailfeddwl am ein diwrnod heddiw, ac mae'n bwysig fod pawb yn elwa o'r newidiadau hyn i'r gweithle, nid yn unig y cwmnïau a fydd yn elwa o gostau llafur is yn y pen draw, ar draul y gweithwyr. Gwn fod gorfod meddwl am ffordd wahanol o wneud busnes yn gysyniad brawychus, ond nododd y Cadeirydd nad yw gwneud rhywbeth anodd yn rheswm dros beidio â gwneud rhywbeth, a hoffwn ychwanegu at hynny nad yw gwneud rhywbeth sy'n codi ofn yn rheswm dros beidio â gwneud rhywbeth. Gadewch inni fod yn glir: ni ddylai unrhyw newid i wythnos waith pedwar diwrnod olygu gostyngiad mewn cyflog neu hawliau yn y gweithle.
Mae manteision newid i wythnos waith pedwar diwrnod yn dod yn fwyfwy amlwg. Nid yw’n syndod yn hyn o beth fod y model wedi dod yn fwyfwy poblogaidd ers i Blaid Cymru arwain dadl ar y mater yn ôl ym mis Medi 2021. Er enghraifft, clywsom am Wlad yr Iâ—wel, yng Ngwlad yr Iâ, yn dilyn treial cenedlaethol rhwng 2015 a 2019, mae bron i 90 y cant o'r boblogaeth sy'n gweithio bellach yn gweithio llai o oriau neu wedi gwneud addasiadau eraill. Cafwyd canlyniadau cadarnhaol tebyg mewn treial gyda 12 cwmni yn Iwerddon yn 2022. Mae naw o'r 12 cwmni wedi ymrwymo i barhau ag amserlen wythnos waith pedwar diwrnod, tra bo gan y tri arall gynlluniau dros dro i wneud yr un peth.
Yn y DU, arweiniodd treial diweddar o’r wythnos waith pedwar diwrnod, a oedd yn cynnwys 2,900 o gyflogwyr mewn ystod eang o sectorau, at weld 91 y cant o’r sefydliadau a gymerodd ran yn dewis parhau â’r trefniadau, a chynnydd cyfartalog o 35 y cant mewn refeniw. Roedd yr adborth gan weithwyr hefyd yn cadarnhau'r manteision llesiant a all ddeillio o fodel yr wythnos waith pedwar diwrnod. Nododd y rhai a holwyd yn rhan o'r cynllun yn Iwerddon leihad sylweddol mewn straen, blinder, gorflinder a gwrthdaro rhwng teulu a gwaith.
Diolch am dderbyn yr ymyriad. Credaf ichi gyfeirio at dreial Gwlad yr Iâ, ond treial y DU hefyd. Ond gyda threial y DU, fe wyddoch fod y cwmnïau hynny—. Fe sonioch chi fod yna ystod eang o gwmnïau. Rwy'n brysio i ychwanegu nad wyf o reidrwydd yn credu ei bod yn ystod eang. Roedd pob un ohonynt mewn meysydd cyflogaeth tebyg, sef gwasanaethau ariannol, diwydiannau TG. Onid ydych yn rhagweld bod yna broblem, felly, gyda chyflwyno hynny i gwmnïau eraill—mentrau bach a chanolig eu maint? Gyda model Gwlad yr Iâ, nid oedd hwnnw o reidrwydd ar gyfer wythnos waith pedwar diwrnod. Roedd hwnnw ar gyfer dod â'u horiau'n unol â gweddill Ewrop. Felly, credaf fod problem gyda defnyddio'r treial hwnnw fel enghraifft o dreial wythnos waith pedwar diwrnod.
Diolch am eich ymyriad, Joel. Rydym yn gofyn am gynllun peilot yma am yr union reswm a nodwch. Rydym yn gofyn am gynllun peilot yn y sector cyhoeddus. Mae angen gwneud rhagor o waith hefyd ar gynllun peilot mewn sectorau eraill hefyd, yn y sector preifat. Bydd yr heriau'n glir iawn wrth i'r cynlluniau peilot hyn gael eu cyflwyno. Fel y dywedais, ydy, mae newid i rywbeth nad ydym wedi arfer ag ef yn gysyniad sy'n codi ofn. Ond unwaith eto, drwy’r cynlluniau peilot, gallwn ddeall ai dyma’r ffordd gywir ymlaen i ni ai peidio. Rwy'n tueddu i gredu mai dyma'r ffordd gywir.
Nododd y rhai a holwyd yn y cynllun yn Iwerddon ostyngiadau sylweddol mewn straen, blinder, gorflinder, gwrthdaro rhwng teulu a gwaith. Hefyd, fe wnaethant nodi cynnydd mewn cwsg cyfartalog, o 7 awr y nos i 7.72 awr y nos. Efallai nad yw hynny’n swnio fel cynnydd enfawr, ond credaf y byddai llawer ohonom yn y Siambr hon yn gwerthfawrogi 0.72 awr ychwanegol o gwsg. Treuliwyd mwy o amser yn ymgymryd â hobïau, gan gynnwys ymarfer corff, a mwy o awydd i ymddwyn mewn ffordd ecogyfeillgar. Dangosodd treial y DU fanteision posibl o ran cadw staff, gyda 50 y cant o weithwyr yn nodi y byddent yn llai tebygol o roi’r gorau i’w swyddi pe bai wythnos waith pedwar diwrnod ar waith yn barhaol. Ac ar gynhyrchiant, gwelwyd gwelliant o 49 y cant ar draws yr holl weithwyr.
Mae’r achos dros gyflwyno cynllun peilot yma yng Nghymru yn un aruthrol o gryf, ac rydym yn llwyr gefnogi argymhellion y Pwyllgor Deisebau i Lywodraeth Cymru yn hyn o beth. Gobeithiwn y gall cynllun peilot yn y sector cyhoeddus lywio mentrau mwy cynhwysfawr, a all ymestyn i’r sector preifat yn y dyfodol. Credaf ei bod yn addawol fod y Llywodraeth yn mynd i archwilio’r posibilrwydd o gynllun peilot drwy gyngor y gweithlu, ac yn gwbl briodol felly. Mae'n bwysig fod undebau llafur yn llywio'r prosiect penodol hwn, ond mae angen i'r gwaith ddigwydd yn gynt.
Rwyf am gloi, Ddirprwy Lywydd, drwy ailadrodd yr alwad am gynllun peilot ar sector cyhoeddus, ond hefyd, hoffwn weld ymdrech benodol gennym yma yn y Senedd i edrych ar ein swyddfeydd ein hunain. Rwyf wrthi'n archwilio’r cyfle i dreialu wythnos waith pedwar diwrnod yn fy swyddfa, a byddwn yn croesawu cefnogaeth yr Aelodau i wneud hynny yma heddiw hefyd.
Mewn erthygl i Nation.Cymru cyn fy ethol, dywedais y dylem ystyried y Gymru newydd rydyn ni ei heisiau ar ôl y clo mawr a sut y mae modd inni greu cymdeithas decach. Mae nifer yn sôn yn aml am ragdybiaeth John Maynard Keynes yn ôl yn y 1930au y byddem yn gweithio llawer llai o oriau erbyn y flwyddyn 2000 oherwydd technoleg. Ond, gwnaeth hynny ddim digwydd. Digwyddodd tan y 1970au, ond yna daeth i stop yn sydyn. Yn wir, ar ôl COVID-19, mae’n debyg bod nifer o bobl yn gweithio mwy o oriau nag yr oeddent cyn hynny.
Yn ystod y pandemig, daeth yr hyn a arferai gael ei ystyried yn unigryw yn norm, a daeth yr hyn a arferai gael ei ystyried yn gyffredin yn anghyffredin. Mae hanes wedi dangos bod pethau yr ystyrir eu bod y tu hwnt i amgyffred yn gallu dod yn status quo yn gyflym. Mae'n rhaid inni fanteisio ar y cyfle hwn, yn 2023, i ystyried a thrafod yr hyn a oedd i weld yn amhosibl ar ddechrau 2020. Dyma pam y credaf fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddatblygu cynllun peilot i leihau oriau gwaith o fewn y sector cyhoeddus datganoledig, heb leihau cyflogau gweithwyr. Nid yw hwn yn gysyniad chwyldroadol, er gwaethaf yr hyn y mae eraill ar draws y Siambr yn ei deimlo ac yn ei ddweud. Yr wythnos hon, cafodd pawb ledled y DU wythnos waith pedwar diwrnod. Yr unig adegau nad yw’r Torïaid wedi cwyno am wythnos waith pedwar diwrnod yw pan fydd gennym ddathliadau brenhinol. Wel, os yw'n ddigon da ar gyfer hynny, pam nad yw'n ddigon da ar gyfer pob wythnos?
Mae’r Torïaid wedi gwrthwynebu llawer o welliannau rydym bellach yn eu cymryd yn gwbl ganiataol. Fe wnaethant wrthwynebu ymestyn y bleidlais i’r dosbarth gweithiol, fe wnaethant wrthwynebu penwythnosau, gwyliau banc, yr isafswm cyflog, ac maent bellach yn ceisio cyfyngu ar yr hawl i streicio ar ôl cyfyngu eisoes ar yr hawl i bleidleisio yn Lloegr. Felly, nid yw’n syndod fod y Ceidwadwyr yn gwrthwynebu’r dull synnwyr cyffredin hwn o weithredu. Fodd bynnag, mae’n drueni mawr fod Llywodraeth Cymru, yn eu hymateb i’r ddeiseb a ddechreuwyd gan y Cynghorydd Mark Hooper, wedi dweud nad oes ganddynt unrhyw gynlluniau i ddatblygu cynllun peilot. Byddai'r cynllun peilot hwn yn cynnwys gostwng yr wythnos waith hiraf a ganiateir o 48 awr i 32 awr.
Weinidog, a yw’n bryd meddwl am y mater hwn mewn ffordd wahanol bellach? Meddyliwch am y gwahaniaeth a fyddai rhyngoch a Gweinidogion Ceidwadol yn San Steffan, sydd, yn ôl y wasg asgell dde heddiw, eisiau ailwampio cyfarwyddeb oriau gwaith yr UE sy’n cyfyngu llawer o weithwyr i 48 awr yr wythnos ar gyfartaledd.
Mae adroddiad lleiafrifol y pwyllgor yn dadlau nad oes gan y Senedd gymhwysedd i ddeddfu yn y maes hwn. Dwi’n synnu yn fawr i glywed hynny. Ac, ydy’r Gweinidog wedi derbyn cyngor cyfreithiol ynglŷn â’r mater yma? Dywed yr adroddiad lleiafrifol hyn:
‘Nid yw’r dadleuon dros yr wythnos waith pedwar diwrnod wedi’u cefnogi gan ddigon o ddata ymchwil ar wella cynhyrchiant’.
Wel, heb beilot, sut mae modd sicrhau y data hynny? Beth sydd i’w golli i ddechrau peilot bychan? Rwy’n methu deall y ddadl yn erbyn dechrau peilot bychan y byddai’n creu rhaniadau ac anghyfiawnder o fewn ein cymdeithas—dwi ddim yn deall y ddadl yna. Ac fel y gwnaeth Cadeirydd y pwyllgor awgrymu wrth agor y ddadl, gellir yn rhwydd defnyddio yr un ddadl yna yn erbyn penwythnosau ac yn erbyn gŵyl y banc.
Fel y dywedodd Luke Fletcher—roedd y panel y gwnaeth ei swyddfa fe drefnu nôl ym mis Mawrth yn hynod ddiddorol, ac roedd yr ystadegau gyda Dr David Frayne o Brifysgol Caergrawnt yn syfrdanol. Dangosodd y canlyniadau fod 56 o'r 61 cwmni a gymerodd ran wedi parhau gyda'r wythnos pedwar diwrnod—92 y cant o gwmnïau. Mae’r wythnos pedwar diwrnod yn gallu gweithio ymhob sector, gan gynnwys y sector gofal, lle mae angen gofal 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos. Yn wir, gall wythnos pedwar diwrnod wneud ambell i sector yn llawer mwy deniadol nag yw ar hyn o bryd.
I ddychwelyd at y sector cyhoeddus, mewn treial diweddar yng Nghyngor Dosbarth De Swydd Gaergrawnt gwelwyd bod y perfformiad wedi cael ei gynnal dros gyfnod o dri mis y treial. Mae data'r arolwg hefyd wedi dangos bod y treial wedi bod yn hynod o gadarnhaol i staff. Os gall y sector cyhoeddus ei wneud yn Ne Swydd Gaergrawnt, cyngor dosbarth sydd â llawer llai o rym na'r Senedd, pam ddim Cymru?
Nid yw'r status quo yn gynaliadwy ar gyfer gwella cynhyrchiant nac i ddatrys yr argyfwng recriwtio a phroblemau cadw staff mewn sawl sector yng Nghymru. Yn wir, cawn ein hatgoffa'n aml o'r problemau hyn gan gyd-Aelodau Ceidwadol yn y Siambr. Beth am gefnogi treial bach i weld a all wythnos waith pedwar diwrnod fod yn rhan o'r ateb felly?
Paratôdd y gweithwyr yng Nglyn Ebwy y ffordd ar gyfer y GIG ac ysbrydoli Aneurin Bevan. Ni wnaethant aros am gynllun peilot yn rhywle arall. Robert Owen o'r Drenewydd a ddechreuodd y mudiad cydweithredol—
Rhys, mae'n rhaid i chi orffen yn awr, os gwelwch yn dda.
—nid arhosodd yntau i weld a lwyddodd eraill yn gyntaf. Ac mae'r un peth yn wir am Lloyd George a Jim Griffiths. Nid yw'r hyn rydym ni fel pwyllgor yn ei awgrymu yn radical, cynllun peilot ydyw, treial—treial a fydd yn siŵr o sbarduno llawer mwy o ddadleuon, ond a fyddai, fan lleiaf, yn rhoi'r data y mae'r Torïaid yn gofyn amdano. Diolch yn fawr.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Ddirprwy Lywydd. Mae hi bob amser yn bleser dilyn Rhys ab Owen, a'r dadleuon roedd yn eu gwneud. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig—nid wyf yn aml yn cyfrannu at lawer o'r dadleuon hyn ar brynhawn Mercher—ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn defnyddio'r cyfle hwn i rannu rhywfaint o brofiad ac i rannu'r hyn rydym wedi'i weld yn ein bywydau a'r profiad a gyfrannwn i'r pethau hyn. Ac un o'r pethau a welais i, wrth fyw drwy'r pandemig a'r newidiadau a welsom i'r ffordd rydym yn gweithio, yw bod y dyfodol yn mynd i fod yn wahanol iawn i'r gorffennol, ac mae angen inni fod yn llawer mwy hyblyg a llawer mwy creadigol yn y ffordd yr awn i'r afael â'r heriau newydd hyn.
Fe wrandewais ar Joel James yn siarad yn ei sylwadau yn gynharach. Roeddwn yn meddwl ei fod yn mynd i ddod â'i araith i ben drwy wrthwynebu Deddf ffatrïoedd 1833, oherwydd roedd fel pe bai'n gwrthwynebu pob deddfwriaeth flaengar a welsom yn ystod y blynyddoedd diwethaf sy'n gwella bywydau pobl. Wyddoch chi beth—nid wyf yn gwybod pa brofiad sydd gennych chi, Joel—ond bûm yn uwch-reolwr mewn busnesau, bûm yn uwch-reolwr mewn cyrff cyhoeddus ac rwyf wedi rhedeg fy musnes fy hun, ac rwyf wedi gorfod recriwtio pobl, ac rwyf wedi gorfod dangos pam y dylent weithio i mi a chyda mi yn hytrach na gweithio iddynt hwy, neu ein cystadleuwyr. Rwyf wedi gorfod dangos sut y gallwn adeiladu busnes a rhedeg busnes. Nid wyf yn gwybod pa brofiad sydd gennych chi, ond gadewch imi ddweud hyn wrthych: yr adnodd pwysicaf sydd gan unrhyw fusnes yw'r bobl y mae'n eu cyflogi, yr wybodaeth y maent yn ei chaffael a'r cynhyrchiant y maent yn ei ddarparu. A phan oeddwn yn recriwtio pobl—yn y byd go iawn, Joel—pan fyddaf yn hysbysebu ac yn gofyn i bobl weithio gyda fi, i fi a chyflogi pobl, yr hyn y ceisiaf ei wneud yw llunio pecyn i roi cyfle iddynt wneud yr hyn y dymunant ei wneud yn ogystal â chyflawni ar gyfer y busnes rydym yn ei redeg. A'r hyn y mae hynny'n ei ddweud wrthyf yw bod y pecyn rydych chi'n ei roi at ei gilydd—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, ond caniatewch i mi orffen y frawddeg.
Bydd y pecyn rydych chi'n ei roi at ei gilydd heddiw bob amser yn cynnwys hyblygrwydd, bydd bob amser yn cynnwys gweithio hybrid a bydd bob amser yn cynnwys potensial i bobl fyw eu bywydau eu hunain yn y ffordd y maent yn dewis, yn ogystal â chyfrannu tuag at y busnes.
Diolch, Alun. Rwy'n ddiolchgar i chi am ildio. Rwy'n credu mai'r hyn rydym yn siarad amdano yma yw cynllun peilot ar gyfer wythnos waith pedwar diwrnod o fewn y sector cyhoeddus—dyna rydym yn siarad amdano. A ydych chi'n sylweddoli bod llawer o weithwyr sector cyhoeddus ar oriau hyblyg a weithiau, gellir cyflawni'r oriau rydych chi'n dadlau drostynt o dan y cynllun oriau hyblyg presennol a gynigir gan lawer o awdurdodau lleol? Ac wrth gwrs, rydych chi'n gyn-Weinidog ar yr adran honno.
Wel, wrth gwrs rwy'n gwybod bod y sector cyhoeddus yn gweithredu oriau hyblyg—rwyf wedi'i wneud fy hun. Mae'r pwyslais i mi yn y ddadl hon ar hyblygrwydd, yn lle dweud, 'Yn hytrach nag wythnos waith pum diwrnod, fe fyddwch yn gwneud wythnos waith pedwar diwrnod', er enghraifft. Yn sicr, rwy'n adnabod llawer o bobl—llawer o etholwyr i mi—y byddai'n well ganddynt weithio oriau byrrach am bum diwrnod yr wythnos er mwyn codi plant o'r ysgol, er enghraifft. Ac mae'r math hwnnw o hyblygrwydd yn eu galluogi i fyw eu bywydau yn ogystal â chyfrannu tuag at fusnes.
Felly, i mi, nid ar wythnos waith pedwar diwrnod ddogmatig y mae'r pwyslais, ond ar lefel o hyblygrwydd sy'n galluogi pobl i wneud y dewisiadau y maent angen eu gwneud i fyw'r bywydau y maent yn eu dewis o fewn strwythurau rhedeg busnes a galluogi'r busnes hwnnw i weithredu. Ac a bod yn onest, rwy'n credu mai un o'r prif bethau nad yw Llywodraethau Llafur olynol yma, yn ogystal â Llywodraethau Ceidwadol mewn mannau eraill, wedi mynd i'r afael â nhw yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw cynhyrchiant. Cynhyrchiant yw'r argyfwng mwyaf sy'n wynebu economi Cymru ar hyn o bryd, yr un fath â dros y ffin yn Lloegr. Ac wrth fynd i'r afael â materion cynhyrchiant, rwy'n credu bod angen inni fod yn llawer mwy creadigol, ac mae dod i'r ddadl hon y prynhawn yma a dweud, 'Nid ydym yn mynd i wneud unrhyw beth i symud y ddadl hon yn ei blaen ar wahân i ailddatgan profiad cenedlaethau'r gorffennol', yn ymateb annigonol i'r heriau sy'n ein hwynebu a'r cyfleoedd sydd gennym.
Rwyf eisiau gweld pwyslais ar y math o gymdeithas rydym ei heisiau hefyd—cymdeithas—. Yr wythnos diwethaf, roedd y Ceidwadwyr yn siarad am bwysigrwydd gwirfoddoli, pwysigrwydd pobl yn rhoi'n ôl i'w cymunedau, pwysigrwydd treulio amser yn rhan o gymuned. Wel, wrth gwrs, ni allwch wneud hynny oni bai bod gennych amser i'w wneud, a thrwy greu amser i'w wneud, rydych yn galluogi pobl i fyw mewn ffyrdd gwahanol a chyfrannu mwy, ond rydych yn cydnabod hefyd nad yw wythnos waith pedwar diwrnod yn addas i bawb, i bob busnes, i bob cyflogai ac i bob gweithiwr. Felly, yr hyn sydd angen inni ei wneud, a dyma rwyf eisiau ei weld—[Torri ar draws.] Os gwnaiff y Dirprwy Lywydd ganiatáu—
Mae amser yr Aelod ar ben eisoes. Rwyf wedi caniatáu ychydig o hyblygrwydd oherwydd yr ymyriad cyntaf. Felly, mae'n ddrwg gennyf, Joel.
O'r gorau. Byddwn wedi derbyn yr ymyriad—mae'n ddrwg gennyf. Ond y pwynt yr hoffwn ei wneud i gloi yw ein bod wedi gweld chwyldro mewn arferion gwaith dros y tair neu bedair blynedd diwethaf. Rwy'n credu bod angen inni fuddsoddi mewn rhyw fath o ymateb creadigol i'r heriau y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol, ac ni wireddir yr ymateb creadigol i ymateb i'r heriau hynny drwy ddatgan rhagfarn o lle roeddem ddegawdau'n ôl yn y 1950au. Mae angen inni fod yn llawer mwy creadigol wrth ymateb i lle rydym yn mynd yn y dyfodol nag y bu'r Ceidwadwyr yn y ddadl hon, felly cyfraniad siomedig iawn.
Mae'n drueni fod Alun Davies yn siomedig; efallai y bydd yn fwy siomedig byth erbyn i mi orffen. Ond hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am—[Torri ar draws.] Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am yr adroddiad. Fel arfer rwy'n cytuno â Jack Sargeant ar nifer o faterion, ond mae arnaf ofn fy mod yn meddwl ei fod ymhell ohoni braidd ar hyn, gan nad wyf yn cefnogi wythnos waith pedwar diwrnod.
Fe wnaeth Joel James dynnu sylw at rai o'r pwyntiau hyn yn gynharach yn y ddadl. Pe bai hyn yn mynd yn ehangach na chynllun peilot sector cyhoeddus yn unig, ni fyddai rhai sectorau'n gallu gweithredu. Ceir problemau enfawr gyda chadw a recriwtio staff ar draws y diwydiannau; fe ddewisaf adeiladu fel un ohonynt. Mae'r diwydiant hwnnw o dan bwysau aruthrol i gael mwy o bobl i mewn, ond pe bai'n mynd ymhellach na chynllun peilot, nid wyf yn credu y byddai gweithredu wythnos waith pedwar diwrnod yn mynd i'r afael â'r broblem honno. Mae angen inni weld y Llywodraeth yn bod yn fwy hyblyg er mwyn dod â mwy o bobl i mewn i'r gweithlu—rwy'n gweld Gweinidog yr Economi yma—drwy gynnig mwy o gyfleoedd i bobl ifanc fynd i wahanol sectorau, i hybu cyflogaeth a chyfleoedd, a chyfleoedd addysgol i bobl hefyd. Dyna sut mae mynd i'r afael â heriau'r gweithlu. Nid ydych yn mynd i'r afael â nhw drwy wneud yr wythnos waith yn fyrrach a rhoi mwy o bwysau ar y staff sydd yno'n barod.
Pe bai hyn yn digwydd yn y sector cyhoeddus, rwy'n credu y byddai ein GIG yn ei chael hi'n anodd. Rydym wedi clywed Aelodau o bob rhan o'r Siambr, gan y Democratiaid Rhyddfrydol, gennyf fi ac eraill, yn dweud am bobl yn cael apwyntiad deintydd. Pe bai deintyddion yn gorfod gweithredu wythnos waith pedwar diwrnod, byddai'n golygu bod llai a llai o bobl yn cael eu gweld. Mae gennym bobl ar restrau aros sy'n methu cael llawdriniaethau, felly byddai gennym lai o lawdriniaethau'n cael eu gwneud pe bai'r GIG yn gweithredu wythnos waith pedwar diwrnod. A hefyd, beth am apwyntiadau meddyg teulu? Ni allwch gael apwyntiad meddyg teulu yng Nghymru. Byddwn yn gweld llai fyth o fynediad at y gwasanaethau cyhoeddus hanfodol sydd eu hangen arnom, ac rwy'n eich gweld yn cilwenu, Alun, ond dyna yw cyflwr y wlad dan Lafur Cymru. Rydych am edrych ar ein hysgolion; byddech yn cyflwyno wythnos waith pedwar diwrnod mewn ysgolion. Collodd ein plant ddigon o amser yn ystod y pandemig drwy beidio â bod yn yr ystafell ddosbarth, ac ni allwn weld wythnos waith pedwar diwrnod gyda'n hathrawon; mae angen ein pobl ifanc yn yr ystafelloedd dosbarth, yn dysgu'r sgiliau a fydd yn eu helpu i gael gwaith, heb weithredu wythnos waith pedwar diwrnod. Culni meddwl yw hynny. Byddai'r diwydiant lletygarwch yn ei chael hi'n anodd iawn. Mae'n ymddangos bod gan y Llywodraeth Lafur yng Nghymru broblem gyda'r sector lletygarwch. Mae'n ymddangos eu bod yn eu trethu i farwolaeth ac yn cyflwyno rheolau a rheoliadau i'w brifo, a byddai wythnos waith pedwar diwrnod yn gwneud yn union yr un fath, ac i ddiwydiant sy'n ei chael hi'n anodd, nid wyf yn credu bod creu mwy o rwystrau pan fo angen help arno yn gyfle i wneud hynny. Ond—
James, a ydych chi'n fodlon derbyn ymyriad?
Fe dderbyniaf ymyriad gennych chi, Mabon—pam lai?
Rydych chi'n siarad am drethu'r sector lletygarwch. A ydych chi'n meddwl bod y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi codi a chynyddu TAW wedi helpu'r sector lletygarwch?
Rwyf i yn Senedd Cymru, Mabon, lle rydych chi'n eithaf hoff ohono, ac rwy'n hoffi siarad am faterion Cymreig, yn wahanol i Lywodraeth Cymru a chithau, sy'n treulio mwy o amser yn siarad am faterion ar ben draw'r M4. Mae'n hen bryd ichi ddechrau craffu ar y Llywodraeth hon sydd o'ch blaen, yn hytrach na'r un sydd i fyny yn San Steffan.
Mae TAW yng Nghymru hefyd.
Beth bynnag, hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am yr holl waith a wnaethant. Nid wyf yn cytuno ag unrhyw beth sy'n cael ei argymell yn yr adroddiad hwn, ond fel y dywedais, bydd ein grŵp yn ei gefnogi ac yn ei nodi, ond nid ydym yn cefnogi wythnos waith pedwar diwrnod. Rwyf am ganmol Joel James am sefyll dros y busnesau yno, a'r bobl nad ydynt yn cefnogi'r polisi gwirion, sosialaidd hwn.
Diolch i'r pwyllgor am ddod â'r ddadl yma ger bron y prynhawn yma.
Mae'n wych cael cyfle i siarad yn y ddadl hon am bwnc sy'n agos at fy nghalon. Yr haf diwethaf, diolch i'r ffaith bod ffrind Luke Fletcher yn priodi ac yntau'n gorfod mynychu'r briodas, cefais fynychu cynhadledd ar ei ran yn Valencia, a ariannwyd gan Lywodraeth leol Valencia, ar rinweddau wythnos waith pedwar diwrnod. Roedd y dystiolaeth, a gasglwyd o enghreifftiau lleol yn Valencia yn ogystal ag o wledydd eraill fel Gwlad yr Iâ, fel y clywsom yn gynharach, yn glir ac yn rymus. Nid oedd gennyf unrhyw amheuaeth fod wythnos waith pedwar diwrnod yn sefyllfa lle roedd pawb ar eu hennill. Arweiniai at fwy o foddhad staff, mwy o gynhyrchiant, a llesiant gwell. Fe wnaeth i mi resynu at y diffyg enghreifftiau o fy rhan i o'r byd.
Rwy'n falch o ddweud, yn y cyfamser, fy mod wedi gallu ymweld â gweithle lle mae treial ar y gweill ar hyn o bryd. Dechreuodd Cartrefi Cymoedd Merthyr eu treial beth amser yn ôl, ac yn ddiweddar cafodd y treial ei ymestyn i gasglu data mwy cadarn dros gyfnod hwy o amser. Yr arwyddion cynnar yw bod y treial, yn gyffredinol, wedi bod yn brofiad cadarnhaol i staff a thenantiaid fel ei gilydd. Mae staff wedi cael eu grymuso i wneud mwy o benderfyniadau ar y defnydd gorau o'u hamser, ac arweiniodd hyn at fwy o effeithlonrwydd yn y gweithle, i'r swyddfa a'r rhai sy'n gweithio oriau gwaith.
Rwyf am adleisio fy nghefnogaeth i'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Deisebau felly, a datgan fy ngobaith y gall Llywodraeth Cymru ymateb mewn modd cadarnhaol, gan ddal i fyny â rhai o'n cymheiriaid rhyngwladol, sydd rai blynyddoedd o'n blaenau.
Weinidog, mae gennyf un cwestiwn: a ydych chi'n cytuno nad yw cynhyrchiant yr un peth â phresenoldeb? A dyna yw hanfod wythnos waith pedwar diwrnod.
Fel y clywsom, dyfeisiwyd yr wythnos waith pum diwrnod ganrif yn ôl gan y Ford Motor Company ym 1926. Ar y pryd, roedd symud i wythnos waith pum diwrnod o wythnos waith saith diwrnod yn cael ei weld fel delfryd loerig a fyddai'n effeithio'n negyddol ar gynhyrchiant. Wel, ni wnaeth hynny. Ganrif yn ddiweddarach rydym yn cael yr un ddadl nawr am bethau mae angen inni eu hystyried yn bwysig yn ein bywydau, oherwydd nid cynhyrchiant a gwneud arian yw popeth. Nid yw cynhyrchiant a gwneud arian yn ymwneud â hapusrwydd o reidrwydd. Mae hapusrwydd yn ymwneud â threulio amser gyda theulu a ffrindiau. Mae'n ymwneud ag ymddiried yn ein gilydd. Mae'n ymwneud â chydweithio. Mae'n ymwneud â llesiant. Ac mewn sawl ffordd, rwy'n credu mai dyma sut mae Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru yn gweld pethau, a dyna pam rwy'n gobeithio y gwelwn gynllun peilot ar gyfer wythnos waith pedwar diwrnod.
Rwy'n croesawu'r adroddiad. Diolch i'r Pwyllgor Deisebau amdano. Mae'n nodi'r gefnogaeth i wythnos waith pedwar diwrnod yn glir, neu lai o oriau, a chanlyniadau treial mwyaf y byd hefyd, fel y clywsom yn y dystiolaeth. Mae'r ffaith bod 56 o'r 61 cwmni a gymerodd ran yn nhreial y DU wedi ymestyn y trefniadau newydd neu hyd yn oed wedi eu gwneud yn barhaol yn dangos pa mor boblogaidd ydyw. Ac mae'n bwysig chwalu mythau hefyd. Nid gwaith swyddfa ar batrwm 9 tan 5 yn unig yw hyn. Ymhlith y cwmnïau a gymerodd ran yn y treialon, roedd cwmnïau lletygarwch, gwasanaethau gofal a gofal iechyd. Felly, mae'n gallu gweithio ym mhob man ac yn unrhyw le. A diolch i fy nghyd-Aelod, James Evans, am sôn am y gwaith a wneuthum ar ddeintyddiaeth. Roeddech chi'n garedig iawn; diolch yn fawr iawn. Ond ceir llawer o ddeintyddion nad ydynt yn gweithio pum diwrnod yr wythnos hyd yn oed. Mae llawer ohonynt yn gweithio am lawer llai o ddiwrnodau, ac mae'n siŵr ei fod yn ymwneud â chynyddu'r gronfa o bobl yn y sector hwnnw—yn cynnwys sectorau iechyd eraill hefyd—drwy bethau deniadol y gallant edrych arnynt a meddwl, 'Fe hoffwn fynd i weithio yno oherwydd eu bod yn cynnig hyn fel cymhelliant i mi fynd', gan gynnwys yr wythnos waith pedwar diwrnod.
Yng Nghaerdydd, mae casglwyr sbwriel bellach yn gweithio wythnos waith pedwar diwrnod. Felly, mae'n bwysig chwalu'r myth mai ychydig o bobl a gaiff fudd ohono. Ac mae'r achos wedi'i wneud yn dda pan edrychwn ar fyd gwaith a'r cynlluniau peilot sydd wedi digwydd. Gwelwn y lefelau uchaf erioed o salwch, straen a gorflinder. Yn anffodus, mae llawer o bobl yn gweithio oriau hirach, gyda mwy o straen, a mwy o salwch sy'n gysylltiedig â gwaith, ac nid dyma yw diben hyn. Ei ddiben wrth gwrs yw lleihau'r rheini. Ac roeddwn yn falch o weld a chlywed sôn am Gyngor Dosbarth De Swydd Gaergrawnt, sef y sefydliad sector cyhoeddus cyntaf i'w gyflwyno. Hoffwn atgoffa pawb bod Cyngor Dosbarth De Swydd Gaergrawnt yn gyngor dan arweiniad y Democratiaid Rhyddfrydol, felly rydym yn arwain y ffordd yn y Democratiaid Rhyddfrydol, gyda ffordd flaengar—[Torri ar draws.]—gyda ffordd flaengar o weithio, sy'n edrych nid yn unig ar ymestyn y cynllun peilot, ond ar ei wneud yn fwy parhaol a'i gyflwyno i sectorau eraill yn y cyngor dosbarth hefyd.
Felly, peidiwn â bod yn ofnus, gadewch inni fod yn flaengar. Gadewch inni weld. Rwy'n apelio ar fy nghyd-Aelodau ar draws y Siambr: beth yw'r broblem gyda gweld a all y cynllun peilot hwn weithio, oherwydd dyna'r cyfan yw hyn? Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn ddiolch i Jack a'r Pwyllgor Deisebau am ddod â'r ddadl bwysig hon i'r Senedd heddiw. Ar un adeg, roedd yr wythnos waith gyfartalog yn 37 awr yr wythnos, a dros amser, cododd i 42 awr, yna 47 awr yr wythnos. A dros y 12 mlynedd diwethaf, mae'r ras i'r gwaelod wedi parhau, yn y sector cyhoeddus a phreifat, gan wthio am gynhyrchiant pellach a gwasgu pob diferyn o'n gweithwyr. Rwy'n ymwybodol fod gan rai pobl gytundebau 60 a 72 awr yn y proffesiwn iechyd, a dywedodd nyrsys wrthyf eu bod yn gwneud shifftiau 12 awr, rai ohonynt yn shifftiau dydd, eraill yn shifftiau nos, yn yr un wythnos, heb unrhyw gysondeb na hyblygrwydd, ac mae hyn oll yn effeithio'n negyddol ar eu hiechyd ac ar eu patrymau cysgu a cheisio ymdopi â gofal plant. Mae'r Post Brenhinol wedi newid swyddi dosbarthu post fel bod rowndiau wedi'u hymestyn i 13 milltir y dydd ar gyfartaledd, heb ychwanegu unrhyw amser ychwanegol, contract isafswm oriau, gyda goramser yn ennyn gwg, a thâl salwch heb fod yn digwydd yn awtomatig mwyach ond yn cael ei herio. Nid oes ryfedd eu bod yn gadael yn eu heidiau. Mae ffrind i'r teulu, swyddog heddlu yn Lloegr, wedi ymddeol o'r swydd oherwydd y shifftiau 12 awr. Roeddent yn ddyddiau 14 awr pan oedd hi'n cynnwys gyrru i'r gwaith ac oddi yno, ac roedd yn effeithio ar ei hiechyd meddwl.
Mae'r streiciau wedi ymwneud â mwy na thâl yn unig, maent wedi ymwneud yn bennaf ag amodau gwaith ac oriau gwaith, sydd i gyd wedi bod yn rhan o'r ras i'r gwaelod i wella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd a chadw prisiau'n isel, ond am ba bris i iechyd? Ac nid yw'n gweithio. Mae'n methu. Mae pobl bellach yn ymddeol yn eu 50au oherwydd, yn ystod COVID, cawsant amser i ailystyried a sylweddoli eu bod wedi cael digon. Ac mae'r DU bellach yn wlad sy'n gweithio rhai o'r oriau hiraf yn Ewrop, ond yn llusgo ar ei hôl hi gyda chynhyrchiant ac yn methu rhoi llesiant gweithwyr yn gyntaf. Mae angen i hyn newid. Mae'n amlwg nad yw'n gweithio. Rydym yn colli pobl o'r sector cyhoeddus, felly mae angen inni gael newid. Mae angen inni wneud swyddi'n fwy deniadol, fel dywedodd Jane Dodds yn gynharach.
Y llynedd, dangosodd treial wythnos waith pedwar diwrnod y DU fod llesiant gweithwyr wedi gwella'n sylweddol, gyda lefelau gorflinder yn gostwng 71 y cant. Cafodd cynhyrchiant a pherfformiad busnesau ei gynnal neu ei wella, a gwellodd lefelau cadw swyddi 57 y cant. Yn sir y Fflint, mae staff gwasanaethau stryd yn gwneud wythnos waith pedwar diwrnod ac yn ystod COVID, aeth yn wythnos waith tri diwrnod mewn gwirionedd. Er gwaethaf COVID, roedd lefelau presenoldeb yn uchel, gostyngodd lefelau salwch, a chyfyngwyd ar y defnydd o staff asiantaethau. Fel arfer, maent yn dibynnu'n helaeth ar asiantaethau oherwydd salwch ac effeithiau ar eu hiechyd o wneud rowndiau 12 awr—[Anghlywadwy.]—mae'n ddrwg gennyf. Felly, yn ariannol, roedd yn gwneud synnwyr i dorri o bedwar diwrnod i dri diwrnod yr wythnos hyd yn oed. Felly, byddwn yn cefnogi treial wythnos waith pedwar diwrnod yn y sector cyhoeddus, a byddai'n hyfryd ei weld yn y sector preifat hefyd. Byddwn yn cefnogi llai o oriau gwaith am yr un tâl hefyd. Wedi'r cyfan, mae gweithlu hapusach yn weithlu mwy cynhyrchiol, sydd wedyn yn cael effaith ar deuluoedd, iechyd a'r gymdeithas yn gyffredinol, ac mae angen iddo newid. Diolch.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Cymdeithasol, Hannah Blythyn.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi’n croesawu’r ddadl yma ac yn diolch i Aelodau am eu cyfraniad.
Rwyf hefyd yn ddiolchgar i fy nghyd-Aelod a fy nghymydog etholaethol Jack Sargeant a'r Pwyllgor Deisebau y mae'n ei gadeirio, am eu diddordeb ystyriol yn y mater hwn, eu hadroddiad gwybodus a'r argymhellion a wnaed gan y rhan fwyaf o'r pwyllgor. Mae fy ymateb i'r argymhellion hynny wedi'i gyhoeddi gan y pwyllgor, felly bydd y Dirprwy Lywydd a nifer o rai eraill yma'n falch o glywed na fyddaf yn ailadrodd ymateb y Llywodraeth i bob argymhelliad yn fanwl yn yr amser cyfyngedig sydd gennyf heddiw.
Er hynny, yr hyn rwyf eisiau ei wneud yw pwysleisio pwysigrwydd partneriaeth gymdeithasol i lywio ein hymagwedd tuag at unrhyw gynllun peilot ar wythnos waith pedwar diwrnod yma yng Nghymru. Mae'r ddadl hon yn digwydd yn ystod ail wythnos fyrrach mewn pythefnos. Yr wythnos diwethaf fe wnaethom nodi Calan Mai, cydnabyddiaeth ryngwladol a dathliad o amodau gwaith gwell. Yn wir, helpodd gweithwyr i ennill y penwythnos hwnnw y mae llawer ohonom bellach yn ei gymryd yn ganiataol, a dylai gweithwyr, drwy eu hundebau llafur, fod yn ganolog mewn unrhyw newidiadau i arferion gwaith yn y dyfodol. Dyna pam, gyda chytundeb cyngor partneriaeth y gweithlu, ein bod wedi sefydlu gweithgor o'r cyngor hwnnw. Gofynnwyd i'r gweithgor archwilio gwaith ar yr wythnos waith pedwar diwrnod mewn partneriaeth gymdeithasol, ac mae'n dod â chynrychiolwyr o'r Llywodraeth, cyflogwyr yn ein gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, ac undebau llafur ynghyd. Rwy'n credu mai Luke Fletcher a ddywedodd fod angen i hyn ddigwydd yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, ac rwy'n falch o adrodd bod y grŵp wedi cyfarfod am y tro cyntaf ar 26 Ebrill ac rwy'n credu eu bod wedi cael cyfarfod cynhyrchiol iawn, a bydd yn cyfarfod eto yn ddiweddarach y mis hwn.
Byddwn ar fai yn gwneud unrhyw benderfyniadau polisi ar sail cynllun peilot a fyddai i bob pwrpas yn achub y blaen ar waith y grŵp, ond soniodd Jack Sargeant, yn ei sylwadau agoriadol, am bwysigrwydd cadw meddwl agored ar faterion fel hyn, a hoffwn sicrhau bod gennym feddwl agored go iawn ar y mater hwn ac fe gawn ein harwain gan waith y grŵp.
A wnaiff y Gweinidog ildio ar y pwynt hwnnw?
Gwnaf.
Un o'r pethau y mae'r bartneriaeth gymdeithasol yn edrych arno wrth gwrs, a'r fframwaith caffael cyffredinol sydd gennym yng Nghymru, yw cyflogaeth foesegol a chyfrifol y tu hwnt i'r hyn a geir yn y sector cyhoeddus, ond y rhai sy'n masnachu â'r sector cyhoeddus ac sydd yn y gadwyn gyflenwi. Tybed a fyddai hi'n annog y grŵp hwnnw i edrych ar botensial y sefydliadau sector preifat hynny a fyddai eisiau ei wneud, o fewn fframwaith galluogi, oherwydd byddem eisiau gweld pobl ag ymagwedd flaengar tuag at y gweithlu a chynhyrchiant.
Yn bendant. Pan fyddwn yn siarad am waith teg yng Nghymru, mae hynny'n cwmpasu ystod o ffactorau, a gwelais fy nghyd-Aelod Gweinidog yr Economi yn gwrando ar eich cyfraniad gyda diddordeb mawr nawr, ac rwy'n siŵr ei fod yn rhywbeth y gallwn ei archwilio ymhellach fel Llywodraeth. Ond os caf ailadrodd, mae cyngor partneriaeth y gweithlu yn canolbwyntio'n fawr ar y sector cyhoeddus, ond yn amlwg, mae yna gyfleoedd eraill wrth inni symud ymlaen. Ni fyddwn am achub y blaen ar unrhyw ran o waith y cyngor partneriaeth gymdeithasol, ond efallai mai dyna'r math o beth y byddent am ei archwilio fel rhan o edrych ar ddyfodol gwaith teg ac arferion gweithio yng Nghymru yn rhan o hynny.
O ran y cynllun peilot rydym yn edrych arno a gwaith grŵp partneriaeth y gweithlu, rwy'n cydnabod yn sicr fod cyd-Aelodau yn y Siambr am ein gweld yn symud yn gyflym i sefydlu cynllun peilot, ond rydym wedi ymrwymo'n fawr i'r ffordd hon o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, ac rwy'n gwybod bod yr Aelodau yma'n cytuno ei bod hi'n hanfodol fod gan bartneriaid lais ar faterion fel yr wythnos waith pedwar diwrnod, o ystyried yr hyn y gallai ei olygu i'n gwasanaethau cyhoeddus a'r rhai sy'n gweithio'n galed o ddydd i ddydd i ddarparu'r gwasanaethau hynny.
Felly, y bwriad yw i'r gweithgor adrodd ei ganfyddiadau i gyngor partneriaeth y gweithlu cyn diwedd eleni, ond rwy'n cydnabod lefel y diddordeb yn y mater hwn i lawer iawn o Aelodau'r Senedd, ac yn wir i bartïon a sefydliadau eraill sydd â diddordeb y tu allan i'r lle hwn. Felly, dyna pam rwyf am ymrwymo heddiw i barhau i weithio'n agos iawn gydag Aelodau, a hefyd i wneud datganiad ysgrifenedig cyn toriad yr haf. Y gobaith yw y bydd hyn yn rhoi diweddariad ar gynnydd gwaith y gweithgor, ac ochr yn ochr â'r datganiad ysgrifenedig hwnnw, byddaf yn cyhoeddi cylch gorchwyl ac aelodaeth y grŵp yn y gobaith y bydd yr Aelodau'n croesawu'r tryloywder hwnnw a'r ddeialog a'r mewnbwn parhaus i waith y grŵp.
Yn olaf, rwyf am ei gwneud yn glir na fydd wythnos waith pedwar diwrnod yn cael ei orfodi ar gyflogwyr a gweithwyr mewn unrhyw fodd. Credwn mewn partneriaeth gymdeithasol a llais cyfartal i gyflogwyr a gweithwyr wrth ddylanwadu ar y penderfyniadau allweddol hyn. Yn yr un modd, er nad oes cynlluniau peilot yn yr arfaeth ar unwaith yng Nghymru wrth gwrs, ni ddylid cymryd ei fod wedi'i ddiystyru, ond mae'n rhywbeth a fydd yn galw'n briodol am gonsensws ac ymrwymiad cyfunol i symud i'r cyfeiriad hwnnw. Felly, i wneud hyn, bydd angen i'r gweithgor ystyried y cyfleoedd, y risgiau, y rhwystrau i gynllun peilot wythnos waith pedwar diwrnod, a gallai hyn gynnwys materion yn ymwneud â chynhyrchiant, ond llesiant hefyd, unrhyw ganlyniadau anfwriadol posibl, ond hefyd beth mae hynny'n ei olygu i rolau ac adnoddau wrth symud ymlaen, ac felly bydd ymchwilio'n ddwfn iawn i'r materion hyn yn allweddol i'r grŵp sy'n gwneud argymhellion ar ddichonoldeb ac addasrwydd cynllun peilot wythnos waith pedwar diwrnod mewn gwasanaeth neu wasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.
Wrth gloi, rwy'n ymrwymo eto i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd am y gwaith pwysig hwn wrth iddo ddatblygu, ac unwaith eto, rwyf am gofnodi fy niolch i Jack Sargeant fel Cadeirydd, i'r Pwyllgor Deisebau ac i'r deisebydd, Mark Hooper, am eu gwaith ac i bawb a roddodd dystiolaeth i ymchwiliad y pwyllgor. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Jack Sargeant i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau, ac yn enwedig i'r Gweinidog am ei hymateb? Rwy'n credu fy mod yn siarad dros y rhan fwyaf o'r Siambr pan ddywedaf fy mod wedi fy nghalonogi gan y gwaith y mae'r Gweinidog yn ei wneud, yn enwedig gyda chyngor partneriaeth y gweithlu, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed eu casgliadau yn ddiweddarach eleni, ond byddaf hefyd yn aros gyda diddordeb am y datganiad ysgrifenedig, ac rwy'n croesawu'n fawr y tryloywder y mae'r Gweinidog wedi cytuno i'w weithredu heddiw.
Rwy'n ceisio cyffwrdd ar gymaint o sylwadau ag y gallaf yn yr amser sydd gennyf, Lywydd. Joel James: rwy'n deall—efallai nad oes gennyf rifau'r loteri, Lywydd, ond fe ragwelais yn eithaf da beth fyddai cyfraniad yr Aelod—rwy'n deall yn iawn fod ganddo farn wahanol. Efallai nad wyf yn deall y rhesymeg sy'n sail iddi ac nad wyf yn cytuno â hi, ond diolch i Joel am ei gydweithrediad cyson fel aelod o'n pwyllgor. Er tegwch i Joel, mae bob amser yn mynegi ei bwyntiau.
Luke Fletcher, a grybwyllodd yr heriau sydd o'n blaenau gydag awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial—heriau real iawn, ac os nad ydym yn cofleidio'r heriau sydd o'n blaenau, byddwn ar ei hôl hi. Rwy'n edrych ar fy etholaeth, Alun a Glannau Dyfrdwy, sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf yn sgil awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial. Mae'n rhaid i ni fod yn effro iawn i hynny.
Diolch yn fawr iawn i Jane Dodds, Carolyn Thomas, Peredur Owen Griffiths, ac rwy'n meddwl bod Huw Irranca a Mabon hefyd wedi gwneud ymyriadau yn y ddadl hon. A chywair y cyfraniadau hynny, rwy'n meddwl, oedd, 'Pam ddim? Pam ddim cynnal treial sector cyhoeddus?' Mae Conffederasiwn Diwydiant Prydain wedi dweud hynny mewn gwirionedd, ac mae'n dda iawn clywed hynny gan y CBI.
Gan symud ymlaen. James. James, James, James, James, James. Adeiladu. Rwyf am nodi'r pwynt—. Ac mewn gwirionedd, James, nid wyf yn anghytuno â chi pan ddywedwch y dylem chwilio am fwy o gyfleoedd byd gwaith, yn enwedig i'n pobl ifanc. Nid wyf yn anghytuno. Mae honno'n broblem sy'n ein hwynebu. Yr hyn rwy'n ei ystyried ar wahân i hynny yw nad wyf yn credu bod cyflwyno wythnos waith pedwar diwrnod yn rhwystr i gyflwyno cyfleoedd i aelodau. Gallai rhywun ddadlau mai fel arall yn llwyr y mae pethau mewn gwirionedd, ac yn sicr maent yn ddau beth a allai weithio mewn partneriaeth â'i gilydd. Ond ar eich pwynt am adeiladu, James—ac fe wnaf ei anfon atoch ar ôl y ddadl—mae blog gan gyfarwyddwr Autodesk Construction Solutions, Amanda Fennell, lle mae'n dweud, yn y blog:
'rydym ar drobwynt i newid canfyddiadau o'r diwydiant. Nawr, yr unig gwestiwn yw pryd, nid sut.'
A chyfeirio at wythnos waith pedwar diwrnod y mae hi, felly rwy'n meddwl y byddai'n ddiddorol i chi.
Rwy'n gallu gweld ein bod yn brin o amser, Ddirprwy Lywydd, ond rwyf am orffen gyda'r ddau gyfraniad gan Alun a Rhys. Mae hyn yn ymwneud â'r cyfle o'n blaenau ni, mae'n ymwneud â phobl. Fe soniodd y cyn-Weinidog wrthym am ei brofiadau gan ddweud mai'r adnodd pwysicaf i fusnes yw ei bobl. Wel, mae hwn yn fater a allai fod o fudd i fywydau llawer o weithwyr yng Nghymru, i lawer o bobl yng Nghymru mewn mwy o ffyrdd nag y gallwn ddychmygu, a byddwn yn annog pawb yma i gadw llesiant ein cyhoedd wrth galon yr hyn rydym yn ei wneud a chofleidio'r newid o'n blaenau. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.
Eitem 8 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar dwristiaeth. Galwaf ar Tom Giffard i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8259 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod 15-23 Mai yn Wythnos Twristiaeth Cymru 2023.
2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol a wneir i gymdeithas Cymru gan y sector twristiaeth.
3. Yn gresynu nad yw'r diwydiant twristiaeth wedi gwella o hyd i'r lefelau yr oedd cyn y pandemig.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) dathlu cryfder Cymru fel cyrchfan o'r radd flaenaf ar gyfer twristiaid;
b) annog mwynderau a chyfleusterau twristiaeth i gael eu darparu a'u gwella yng Nghymru;
c) cefnogi darparwyr llety hunanddarpar drwy ddiddymu'r trothwy deiliadaeth 182 diwrnod;
d) rhoi'r gorau i gynigion niweidiol ar gyfer treth dwristiaeth yng Nghymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn ichi, Ddirprwy Lywydd, ac mae'n anrhydedd wirioneddol ac yn bleser pur cael agor dadl y Ceidwadwyr Cymreig cyn Wythnos Twristiaeth Cymru, oherwydd i mi'n bersonol ac i fy mhlaid, mae twristiaeth yn rhywbeth rydym yn hynod angerddol yn ei gylch yma yng Nghymru.
Fe wyddom am y cyfraniad economaidd enfawr y mae'n ei wneud i'n gwlad. Fe wyddom fod un o bob saith swydd yng Nghymru yn dibynnu ar y diwydiant twristiaeth. Rydym hefyd yn gwybod mai dyma sy'n creu 17 y cant o'n cynnyrch domestig gros. Ond mae'r hyn y gallwn ei ddweud yn ychwanegol at hynny bron yn bwysicach: nid wyf yn credu bod yna unrhyw le yng Nghymru na allwch fynd iddo a methu cael diwrnod gwych. Rwy'n credu bod gan bob cornel fach o'n gwlad fendigedig rywbeth cadarnhaol a gwych i'w gynnig i rywun sy'n dod yma am y tro cyntaf neu bethau ar garreg ein drws ni, yn wir, na fyddwn erioed wedi'u profi o'r blaen. Oherwydd yn y pen draw, twristiaid ydym ninnau hefyd, ac rydym mor eithriadol o lwcus i fyw yng Nghymru a chael y cyfleoedd hynny, cael yr adnoddau hynny ar garreg ein drws.
Ond rwy'n tybio mai pwynt ein cynnig heddiw yw dweud, 'A allem wneud mwy? A allem wneud mwy i werthu ein hunain nid yn unig i'r byd, ond a allem wneud mwy i werthu ein hunain o fewn y Deyrnas Unedig?' A'r peth a wnaeth fy nharo'n fwy nag unrhyw ystadegyn arall a ddarllenais wrth edrych ar dwristiaeth, yw bod 1 filiwn o bobl wedi ymweld â Chymru yn y flwyddyn cyn y pandemig o'i gymharu â 3.5 miliwn o bobl a ymwelodd â'r Alban. Nawr, nid wyf yn gwybod am neb yn y Siambr hon, ond byddwn i'n dadlau bod gennym ni lawn cymaint os nad mwy i'w gynnig na'r Alban. Ond mae'n gwestiwn ynghylch marchnata a sut rydym yn marchnata ein hunain, sut mae gwerthu ein hunain i'r byd.
Rwy'n credu mai'r dull pwysicaf o wneud hynny yw drwy Croeso Cymru, drwy gangen hyrwyddo Llywodraeth Cymru ar gyfer twristiaeth. Ac rwy'n falch fod y Senedd, cyn y toriad, wedi pleidleisio dros fy nghynnig deddfwriaethol gan Aelod i wneud Croeso Cymru—neu i alw ar Lywodraeth Cymru i wneud Croeso Cymru—yn annibynnol ar y Llywodraeth. Ac mae yna reswm dros hynny, oherwydd mae'n digwydd yn yr Alban, mae'n digwydd yn Lloegr, mae'n digwydd mewn rhannau eraill o'r byd. Oherwydd, er cystal yw bwriad Gweinidogion a gweision sifil ym Mae Caerdydd, ni fyddant byth yn deall y ffordd y mae'r diwydiant twristiaeth yn gweithio na'r bobl sy'n ymwneud â'r diwydiant bob dydd, yn ogystal â'r bobl sy'n angerddol iawn yn ei gylch ac eisiau ei weld yn llwyddo.
Ac mae'n ymwneud â marchnata. Pwy a ŵyr yn well sut i farchnata popeth sydd gan Gymru i'w gynnig na'r bobl sy'n llythrennol yn rhan o hyn bob dydd? Dyna'r bobl rydym ni, fel Ceidwadwyr Cymreig, am eu gweld yn gyrru Croeso Cymru yn ei flaen, yn gyrru ein marchnata yn ei flaen a'r ffordd yr edrychwn ar ein hunain yn rhyngwladol ac ar draws y byd.
Rydym wedi siarad am amlygrwydd hefyd. Rwy'n meddwl mai un o'r enghreifftiau mwyaf gweladwy, am wn i, o bolisi Llywodraeth Cymru a welsom dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, a blynyddoedd hyd yn oed, yw cyflwyno treth dwristiaeth yma yng Nghymru. Dywedodd VisitEngland, oherwydd ei annibyniaeth ar y Llywodraeth, na fyddai'r dreth dwristiaeth yn gam da, yn syniad da i'r economi yno. Oherwydd ei fod wedi'i gyfyngu o fewn Llywodraeth Cymru, nid yw Croeso Cymru'n gallu gwneud hynny. Nid yw'n gallu dadlau dros y sector twristiaeth oherwydd yn amlwg, mae yna gystadleuaeth naturiol yn mynd i fod rhwng polisi Llywodraeth y dydd a'r economi dwristiaeth—mae yna densiwn naturiol yno. Felly, yr hyn rydym am ei weld yw Croeso Cymru a fydd yn dadlau dros hynny.
Ond awn yn ôl at amlygrwydd: pa neges y mae hynny'n ei hanfon? Pa neges y mae hynny'n ei hanfon nid yn unig i bobl o fewn y DU, ond pobl mewn mannau eraill, ein bod ni'n gweld twristiaeth yng Nghymru fel rhywbeth i'w drethu, nid i'w wella? Nid yw'n sgrechian 'Croeso i Gymru'. Ac mewn gwirionedd, yr hyn y mae'n ei wneud yw annog pobl rydym eisiau iddynt ddod i Gymru i beidio â gwneud hynny. Yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, rwy'n derbyn yn llwyr fod yna bocedi sy'n ei chael hi'n anodd gyda llawer o dwristiaid ar ddiwrnodau penodol o'r flwyddyn—rwy'n deall hynny. Ond bydd llawer o'r twristiaid hynny'n bobl sy'n dod am y dydd, nid am nifer o ddyddiau ac yn aros dros nos. Ond yr hyn a wyddom yw y bydd y bobl sy'n aros dros nos yn gwario hyd at 14 gwaith yn fwy yn yr economi leol na'r bobl sydd ond yn dod am y dydd. Ac yn anffodus, cynigion Llywodraeth Cymru yw trethu'r bobl hynny'n benodol—yr union bobl rydym eisiau iddynt dod i wario arian mewn busnesau lleol a chyfrannu at yr economi leol.
Gwyddom hefyd ein bod yn byw drwy argyfwng costau byw ar hyn o bryd wrth gwrs, a bydd pobl yn gwneud dewisiadau'n seiliedig ar y swm y maent yn meddwl y bydd yn ei gostio. Nid ydym yn siŵr lle fydd y dreth dwristiaeth yn cael ei gosod, ond rydym yn amcangyfrif y gallai fod oddeutu £70 am daith i deulu o bedwar. Felly, os ydych chi'n gwneud penderfyniad, 'A ydw i'n mynd i Borthcawl eleni, neu a ydw i'n mynd i Weston-super-Mare?', mae'r dreth ychwanegol honno'n newid y cydbwysedd rhwng un a'r llall. A'r hyn a wyddom hefyd yw bod trethi twristiaeth, lle cawsant eu cyflwyno mewn mannau eraill, wedi'u cynllunio'n benodol i atal twristiaeth mewn rhai achosion: edrychwch ar Fenis, edrychwch ar Costa del Sol. Wel, fe gyflwynodd Fenis y dreth oherwydd gor-dwristiaeth; edrychodd Costa del Sol ar dreth dwristiaeth, a meddwl y byddai'n niweidiol i'w heconomi dwristiaeth, felly fe wnaethant benderfynu peidio â bwrw ymlaen â hi.
Yr un math o ddadl, yr un peth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddweud sydd o blaid treth dwristiaeth yw'r syniad y bydd wedi'i neilltuo rywsut a'i wario ar dwristiaeth a gwella'r cynnig twristiaeth mewn ardal leol. Ond nid wyf wedi gweld—rwy'n hapus iawn os yw'r Gweinidog am egluro hyn yn ei sylwadau ar y diwedd—sut y bydd hynny'n gweithio'n ymarferol. Rwyf wedi bod yn gynghorydd, ac mae llawer ohonom yma wedi bod yn gynghorwyr, ac fe fyddwn yn gwybod bod unrhyw ffrwd refeniw ychwanegol yn aml yn cael ei hamsugno a'i gwario mewn meysydd blaenoriaeth eraill. Yn anffodus, ofnaf mai dyna'n union fydd cyflwyno treth dwristiaeth yn ei wneud. Rydym wedi clywed gan Adam Price—roeddwn yn mynd i ddweud, 'arweinydd Plaid Cymru'; efallai na ddylwn—yn y gorffennol, yn dweud y byddai am ei wario ar brydau ysgol am ddim. Nod teilwng iawn, ond nid dyna'r diben a nodwyd ar gyfer cyflwyno'r dreth dwristiaeth.
Ac yn olaf, rydym wedi siarad hefyd am y trothwy 182 diwrnod. Rwy'n ymwybodol o'r amser, felly fe af drwy hyn yn gyflym iawn. Ond efallai fod hyn yn effeithio mwy ar y sector twristiaeth yma yng Nghymru na'r dreth dwristiaeth ei hun mewn gwirionedd, oherwydd pan fydd pobl yn dod i Gymru, ac yn enwedig pan fyddant yn aros mewn ardaloedd gwledig, fe wyddom nad oes Premier Inn mawr, neu Travelodge mawr yng nghefn gwlad sir Benfro na chefn gwlad Powys, felly byddant yn aros mewn llety gwyliau hunanddarpar.
Ymwelais ag un y penwythnos diwethaf, yn Rhosili, ar waelod penrhyn Gŵyr. A dywedodd y gweithredwr, sydd wedi bod yn ei wneud ers dros 20 mlynedd, 'Gallai'r cyfyngiadau newydd hyn olygu y bydd rhaid imi gau fy musnes.' Dywedodd, 'Mae'r bobl sy'n dod i aros yn fy llety gwyliau yn dod i wario arian yn y bwyty lleol, maent yn ymweld â'r dafarn leol, maent yn cefnogi busnesau lleol, maent yn prynu eu bwyd o'r siop leol.' Mae'r holl bethau hyn yn cadw'r economi leol honno'n hyfyw yn enwedig ar draws misoedd y gaeaf, pan nad yw mor hyfyw'n economaidd o bosibl. Maent yn cadw'r gwasanaethau a'r busnesau y mae pobl yn dibynnu arnynt ar agor drwy gydol y flwyddyn. Ac yn anffodus, yr hyn a welais gyda'r cynnig 182 diwrnod hwn gan Lywodraeth Cymru oedd tystiolaeth o'r cyfeiriad rydym yn teithio iddo.
Oherwydd yn union drws nesaf i'r llety gwyliau hunanddarpar hwn, roedd yna ail gartref. Ac rydym yn gwybod bod problemau gydag ail gartrefi yng Nghymru, ond yr hyn a ddywedodd oedd, 'Os byddaf yn gwerthu fy musnes, fel y gallai fod rhaid imi ei wneud, rwy'n gwybod y bydd rhywun arall yn prynu hwn, oherwydd mae'n ardal lle mae galw mawr am ail gartrefi, ac ni chânt eu perswadio i beidio â phrynu gan y syniad o dalu premiwm treth gyngor.' Os oes ganddynt arian i dalu am gartref ychwanegol, ni fydd dwywaith neu draean ychwanegol ar ben bil y dreth cyngor yn effeithio arnynt o gwbl. Felly, yn y pen draw mae'n bosibl mai'r hyn a wnaiff y polisi hwn, drwy fynd ar ôl llety gwyliau hunanddarpar dilys a chyfreithlon, yw cynyddu perchnogaeth ar ail gartrefi yma yng Nghymru. A dyna'r paradocs, dyna lle mae'r tensiwn sy'n sail i'r broblem, ac yn anffodus mae'n densiwn sy'n deillio o ddrysu rhwng tai a thwristiaeth. Rydych chi wedi mynd i'r afael â thwristiaeth er mwyn datrys problem tai. Rydym ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn dweud, os ydych chi eisiau datrys problem tai, mae angen i chi adeiladu mwy o dai yn y lle cyntaf.
Felly, rydym yn gobeithio—[Torri ar draws.] Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn dweud bod hynny'n athrylithgar. Rwy'n siŵr y byddai'n cytuno gydag adeiladu mwy o dai. Mae ei adran yn methu gwneud hynny. Ond y rheswm pam mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno'r ddadl heddiw yw oherwydd bod gennym weledigaeth gadarnhaol ar gyfer twristiaeth. Rydym yn gwybod bod twristiaeth yn rhywbeth sy'n rhan annatod o'n heconomi yng Nghymru. Rydym yn gwybod bod twristiaeth yn rhywbeth i'w ddathlu, ac yn bwysicaf oll, mae'n rhywbeth i'w warchod a'i hyrwyddo, ac nid ei drethu. Diolch.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.
Cynnig y gwelliant yn ffurfiol yn enw Lesley Griffiths.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu popeth ar ôl 4b a rhoi yn ei le bwyntiau newydd:
Yn cefnogi diffiniad Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig o ddatblygiad twristiaeth gynaliadwy.
Yn nodi Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 a basiwyd gan y Senedd ym mis Gorffennaf, a gyflwynwyd fel rhan o ymrwymiad ehangach i fynd i’r afael â materion ail gartrefi a thai anfforddiadwy y mae llawer o gymunedau yng Nghymru yn eu hwynebu.
Yn croesawu’r pwerau a’r canllawiau dewisol ar y dreth gyngor ac ail gartrefi. sydd ar gael i awdurdodau lleol, i leihau neu ddileu’r gofyniad i dalu naill ai’r gyfradd premiwm neu gyfradd safonol y dreth gyngor neu’r ddau.
Yn cydnabod bod ardollau ymwelwyr yn gyffredin ar draws y byd, a’u bod yn cael eu defnyddio er budd twristiaid, busnesau a chymunedau lleol, gan helpu i wneud twristiaeth yn gynaliadwy ac yn llwyddiannus.
Yn croesawu’r ymrwymiad i roi’r pŵer i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr os ydynt yn dymuno gwneud hynny, yn amodol ar ymgynghoriad.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Lywydd, mae twristiaeth yn bwysig iawn i Gymru. Mae'n gwneud cyfraniad sylweddol i'n heconomi, ac wrth gwrs, mae o ddiddordeb mawr i'n hardaloedd arfordirol a gwledig. Ac wrth gwrs, fel y clywsom eisoes yn yr agoriad i'r ddadl, mae gennym gymaint o fanteision yma yng Nghymru ar gyfer denu twristiaid a chael diwydiant twristiaeth cryf. Mae ein harddwch naturiol, ein treftadaeth a'n diwylliant yn atyniadau gwych, ac os edrychwn ar bopeth sydd gennym i'w gynnig yma yn ein gwlad, fe ddylem fod yn uchelgeisiol iawn dros dwristiaeth yng Nghymru. Dylem roi camau ar waith i wneud yn siŵr fod twristiaeth yn gwneud cyfraniad hyd yn oed yn fwy i'n heconomi, i'n hardaloedd arfordirol a gwledig, a'n bod yn cael y cydbwysedd yn iawn gyda thwristiaeth gynaliadwy, sydd o fudd i'r ardal leol gan ddenu chyfoeth, cyfleoedd gwaith, a chyfleoedd gwaith o ansawdd sy'n gwella'n barhaus, gobeithio, gan ddeall ar yr un pryd rywfaint o'r pwysau a ddaw yn ei sgil ar gymunedau lleol. Os ydym am fod yn uchelgeisiol dros dwristiaeth a'n sector twristiaeth yng Nghymru, Lywydd, dylem fod eisiau tyfu a datblygu ein cynnig twristiaeth. Ac os gwnawn ni hynny, byddwn yn gwella'r ansawdd sydd ar gael a'r refeniw sy'n deillio o'r diwydiant. Dylem ddarparu mwy o gefnogaeth i weithredwyr twristiaeth, a dylem fwrw iddi i gynyddu nifer ac ansawdd y swyddi yn ogystal â'r cyfoeth sy'n bodoli yn ein hardaloedd twristiaeth mwy poblogaidd yn arbennig.
Felly, os edrychwn ar y buddsoddiad sydd ei angen, ac os ydym yn uchelgeisiol gyda'r buddsoddiad hwnnw, Lywydd, rhaid inni edrych i weld o ble y daw'r adnoddau, a byddwn i'n dweud mai ardoll ymwelwyr yw'r ateb amlwg. Byddai'n cynhyrchu arian ar gyfer buddsoddi yn y cynnyrch twristiaeth hwnnw, yn union fel y mae'n ei wneud mewn cymaint o wledydd eraill ar draws Ewrop ac ar draws y byd. Mae tâl bychan wedi'i luosi â miliynau o ymwelwyr yn flynyddol yn creu adnodd gwerthfawr iawn i fuddsoddi yn y cynnyrch twristiaeth, ac yn sicrhau bod cynnyrch gwell yn deillio o'r buddsoddiad hwnnw yn ei dro, gan ddenu mwy o ymwelwyr sy'n talu'r ardoll i alluogi mwy fyth o fuddsoddiad. Mae'n creu cylch rhinweddol, Lywydd. Mae gwledydd dirifedi'n sylweddoli hynny ac yn sicrhau bod eu diwydiannau twristiaeth yn elwa o ardoll. Yma yng Nghymru dylem sicrhau nad yw twristiaeth yn colli'r buddion hyn, ac yn bendant, dylem gyflwyno ardoll i ddarparu'r dwristiaeth honno, cynyddu ansawdd y cynnyrch, a datblygu ein cynnig yma yng Nghymru.
Mae'n braf iawn gallu cyfrannu at y ddadl heddiw wrth gwrs, ac rwy'n ddiolchgar i Tom Giffard am agor. Mae yna un neu ddau o bethau rwyf am inni eu hystyried yn fy nghyfraniad heddiw. Y cyntaf yw effaith gadarnhaol twristiaeth yn ein cymunedau lleol, felly'r microystyriaethau efallai, ac yna, ar raddfa ehangach, pwysigrwydd twristiaeth i Gymru y tu hwnt i'n glannau a'r tu hwnt i'n ffiniau.
Yn gyntaf, ar yr hwb y mae'r fasnach dwristiaeth yn ei roi i ardaloedd gwledig—ac mae'r ardaloedd hynny'n elwa'n fawr o dwristiaeth gan ein hymwelwyr sy'n dod i mewn i Gymru—mae'n bwysig iawn cofio bod y sector twristiaeth yn aml wedi'i wreiddio yn ein cymunedau gwledig. Daw pobl i'n hardaloedd gwledig oherwydd prydferthwch byd natur a'r golygfeydd. Clywn yn aml am rai o'r peryglon a'r problemau sy'n gysylltiedig â swyddi a thwf economaidd yn rhai o'n cymunedau gwledig, ond twristiaeth sy'n gallu darparu cymaint o'r swyddi a'r twf economaidd. Mae twristiaeth yn sicr yn helpu'r cymunedau hyn. Mae'n eu cryfhau. Mae pobl mewn ardaloedd gwledig yn darparu profiadau gwyliau ac atyniadau ardderchog a dylid annog ymwelwyr yn gryf i ymweld â'r ardaloedd hyn. Wrth gwrs, mae'r cynnig gwledig yn un unigryw. Rydym wedi gweld hyn drwy ymgyrchoedd blaenorol Croeso Cymru, gyda themâu fel Blwyddyn Antur yn 2016 a Blwyddyn y Môr yn 2018, a oedd yn canolbwyntio ar asedau ein hardaloedd anhrefol ledled y wlad.
Ond yn fwy cyffredinol, y tu hwnt i'n cymunedau a'r buddion y mae twristiaeth yn eu darparu i'n cymunedau, credaf fod twristiaeth yng Nghymru yn darparu rôl ehangach i ni o ran ein hymdeimlad o genedl a'r hyn y gallwn ei ddarparu fel cipolwg ar Gymru ar draws y byd, oherwydd mae Cymru, yn ôl unrhyw fesur, yn lle arbennig. A byddwn yn dadlau bod gogledd Cymru yn enwedig yn un o'r llefydd mwyaf arbennig o ran yr economi ymwelwyr. Gall harddwch naturiol ein tir gystadlu â'r mannau gorau yn Ewrop ac mae ein hanes hir a'n straeon wedi gadael eu hôl ledled Cymru ar ffurf cestyll godidog hefyd. Fe fyddwn i'n dadlau efallai mai un o'r rhai gorau yw castell Conwy, a gwblhawyd yn 1287. Mae UNESCO yn ei alw'n enghraifft orau Ewrop o bensaernïaeth filwrol ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg a dechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae'n rhywle lle rydych chi'n teimlo saith canrif o hanes Cymru ym mhob cam, o Edward I i Owain Glyndŵr i ryfel cartref Lloegr. Wrth gwrs, mae gennyf ragfarn o blaid y rhanbarth gorau yng Nghymru—gogledd Cymru—ond mae gennym y lleoliadau hyn ledled y wlad, llefydd a safleoedd na all gwledydd eraill ond breuddwydio amdanynt. Mae'r stori hon i gyd yn rhan o allforio Cymru i'r byd. Pan ydym yn denu pobl o bob cwr o'r Deyrnas Unedig ac o bob rhan o'r byd, byddant yn mynd yn ôl adref ac yn lledaenu'r gair am beth yw Cymru a beth y gall fod. Ac rydym yn gwybod bod gwariant ymwelwyr rhyngwladol yn werth oddeutu £500 miliwn y flwyddyn yng Nghymru. Mae'n rhan bwysig iawn o'n heconomi.
Felly, ymunwch â mi am eiliad, a dychmygwch grŵp o dwristiaid Americanaidd. Efallai eu bod wedi gwylio'r rhaglen ddogfen am Glwb Pêl-droed Wrecsam ac wedi penderfynu ymweld â gogledd-ddwyrain Cymru er mwyn gweld beth yw'r holl ffws. Maent wedi cael peint yn nhafarn y Turf ac maent yn symud ar draws gweddill Cymru. Mae'r opsiynau'n ddiddiwedd o ran yr hyn y gallent ddewis ei wneud. Fe fyddant yn ymweld â Pharc Cenedlaethol Eryri efallai, yn gweld harddwch naturiol syfrdanol ar Reilffordd yr Wyddfa, byddant yn ymweld â phentref Portmeirion ac yn tynnu hunluniau Instagram yn y pentref yno, a byddant yn crwydro o amgylch tir caer ganoloesol castell Conwy yng nghanol cylch haearn Edward I, a adeiladwyd hanner mileniwm cyn y chwyldro yn America. Mae'n rhan anhygoel o'n cynnig i ymwelwyr. Heb os, mae'r profiad yn arbennig ac mae'n rhywbeth y dylai pawb yma ei werthfawrogi a'i gefnogi gymaint â phosibl. Ond yr hyn sy'n siomedig yw bod polisïau Llywodraeth Cymru tuag at y sector twristiaeth yn dangos nad yw'r gefnogaeth hon yn ganolog i'w meddylfryd.
Rydym eisoes wedi clywed y prynhawn yma y bydd y dreth dwristiaeth a'r trethi newydd cosbol ar lety gwyliau nad ydynt yn cyrraedd trothwy newydd mympwyol Llafur yn rhoi straen enfawr ar y diwydiant. Rydym yn gwybod ei fod yn rhoi straen enfawr ar iechyd meddwl y bobl sy'n cynnal y diwydiant. Ac nid behemothiaid corfforaethol mawr yw'r rhain; pobl gyffredin ydynt sydd â ffermdy bach neu estyniad a gynigiant i dwristiaid ac ymwelwyr sydd eisiau ymweld â Chymru a gwario arian yn ein heconomi a chefnogi ein cymunedau. Nid nhw yw'r gelyn. Nhw sy'n cynnal yr un o bob saith swydd yng Nghymru sy'n ddibynnol ar y sector twristiaeth. Felly heddiw, rwy'n galw ar y Senedd i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig, i gefnogi ein diwydiant twristiaeth, i gefnogi ein cymunedau ac i gefnogi creu swyddi. Diolch yn fawr iawn.
Dwi'n falch o gael cyfrannu i'r ddadl yma. Mae'n hollol gywir ein bod ni'n nodi pwysigrwydd Wythnos Twristiaeth Cymru. Mae twristiaeth yn gyfrannwr pwysig i economi Cymru; does dim gwahaniaeth barn rhyngon ni yn hyn o beth. Fodd bynnag, er y gallwn ni gefnogi'n llwyr pum pwynt cyntaf y cynnig yma, rydyn ni'n anghytuno ag unrhyw symudiad oddi wrth y mesurau diweddar a gyflwynwyd fel rhan o'r cytundeb cydweithredu i ddatblygu model twristiaeth mwy cynaliadwy yma yng Nghymru. Ni ddylai twristiaeth yng Nghymru fod ar draul ein cymunedau lleol. Y gwir amdani ydy ein bod ni ar hyn o bryd yn rhy gaeth i fodel echdynnol o dwristiaeth, sy'n blaenoriaethu buddiannau allanol dros rai cymunedau lleol.
Gadewch inni ystyried yr elfen dai yn y cynnig. Roeddwn i'n annerch tyrfa o 1,500 o bobl yng Nghaernarfon ddydd Llun oedd yn gweld eu cymunedau'n gwacáu oherwydd bod cymaint o dai gwyliau ynddyn nhw, a phobl ifanc yn benodol yn dioddef ac yn gorfod gadael eu cymunedau. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod dros 24,000 o ail gartrefi yng Nghymru, gydag 11 y cant o stoc tai Gwynedd yn dai haf a dros 9 y cant o stoc tai sir Benfro yn dai haf, yn ogystal â 22,500 o dai gwag hefyd, sydd yn cyfrannu at gynnydd sylweddol mewn prisiau tai yma yng Nghymru.
Fel plaid, felly, rydyn ni'n falch iawn ein bod ni wedi chwarae rhan mewn dod â chamau i mewn er mwyn dechrau datrys yr argyfwng yma. Mae'n dda gweld, ble mae Cymru yn arwain, mae Lloegr, o dan weinyddiaeth y Ceidwadwyr, yn dilyn. Mae Cernyw o dan y Ceidwadwyr am ddyblu eu treth cyngor ar ail gartrefi, ac mae Michael Gove am ddod â rheolau newydd ar letyau gwyliau tymor byr megis Airbnb i mewn i rym. Hwyrach y cawn ni glywed y Ceidwadwyr yn cwyno am Michael Gove yn ystod y ddadl yma.
O ran ardreth twristiaeth, mae'r syniad yn syml: bydd hyn yn ein galluogi i ailfuddsoddi yn ein cymunedau gan gryfhau'r seilwaith sy'n cefnogi’r diwydiant heb fod yn rhwystr i ddenu ymwelwyr. Mewn cyfnod pan yw awdurdodau lleol ar draws Cymru yn dioddef pwysau cyllidol anferthol, mae'n anodd dadlau yn erbyn codi ffi fechan a all gael effaith fawr ar p'un ai a fydd pobl yn parhau i allu mwynhau yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig sawl degawd yn ddiweddarach.
Mae hybu twristiaeth yn gofyn am fuddsoddiad mewn seilwaith newydd a gwasanaethau lleol. Gallai ardoll helpu ariannu'r buddsoddiad cynyddol hwn. O gael ei weinyddu'n lleol, gellid defnyddio'r ardoll yn y tymor byr ar gyfer hyfforddi a mynd i'r afael â'r prinder staff yn y sector lletygarwch, a rhaid mai'r dyhead hirdymor ydy sicrhau bod twristiaeth yn ategu yn hytrach na chyfaddawdu cymunedau lleol.
Mae treth dwristiaeth yn gyffredin mewn gwledydd ar draws y byd i gyd. Mi fues i yn Lisbon yn yr hydref a gorfod talu ffi dwristaidd yno. Doedd gen i ddim cwyn o gwbl, ac fe wnes i a'r teulu fwynhau yn arw. Edrychwch ar y Swistir ble mae gan y cantonau a hyd yn oed y trefi yno y gallu i godi eu hardoll gwahanol eu hunain. Mae'r un peth yn wir yng Nghanada. Yng Nghanada, roedd y sector lletygarwch yn galw yno am gyflwyno levy twristaidd. New Brunswick oedd un o'r olaf, a dyma ddywedodd y sector dwristaidd yn New Brunswick nôl yn 2016:
'New Brunswick yw un o'r awdurdodaethau olaf yng Ngogledd America heb y gallu i greu treth westy. Rydym yn gadael doleri marchnata ar y bwrdd a fyddai'n tyfu'r diwydiant twristiaeth o'r tu mewn. Gallem wella marchnata, gwella'r ffordd rydym yn datblygu cynnyrch twristiaeth, gwella twf gwyliau, gwella digwyddiadau twristiaeth chwaraeon'.
Dyna oedden nhw'n ei weld o gyflwyno ardoll twristiaeth yno. Mae nifer y gwesteion gwesty wedi cynyddu yno bron i draean o 7.1 miliwn yn 2013 i dros 9 miliwn yn 2019, a hynny ar ôl cyflwyno levy o'r fath. Mae'n anodd felly dadlau yn erbyn codi ffi fechan a allai gael effaith fawr ar ba un ai bydd pobl yn dal i allu mwynhau'r hyn sydd gennym ni i'w gynnig yma yng Nghymru. Mi fydd gofyn i bawb wneud cyfraniad bach drwy ardoll twristiaeth yn ffurfio un rhan yn unig o ymdrech lawer ehangach i helpu sicrhau y gallwn ni barhau i groesawu'r byd i Gymru yn ddiogel ac yn gynaliadwy.
Yn olaf, mae'n werth nodi'r pwynt roedd Tom wedi ei wneud ynghynt am lety hunanddarpar. Rydyn ni wedi gweld cynnydd anferthol yn y sector yna dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig trwy Airbnb. Dyna sydd yn tanseilio'r sector, a dyna sydd yn achosi trafferth, ond dwi yn cydnabod bod angen inni weld cynnydd yn y serviced accommodation. Ddaru Sam sôn am Wrecsam ynghynt. Dwi ddim yn gwybod os ydy pobl yn ymwybodol, ond mi ddaeth miloedd o bobl i ardal Wrecsam i weld y gêm yn ddiweddar, a nhwythau, oherwydd y diffyg yn y serviced accommodation, yn gorfod aros yn Lerpwl a Manceinion, oherwydd bod yna ddiffyg yma yng Nghymru. Felly, mae’n rhaid inni weld buddsoddi ar y lefel yna. Diolch yn fawr iawn ichi am wrando, a gobeithio y gwnewch chi gefnogi’r gwelliant a gwrthod y cynnig.
Mae twristiaeth, y sector lletygarwch, a'r sector manwerthu ar ein strydoedd mawr yn chwarae rhan bwysig iawn yma yng Nghymru. Yn wir, twristiaeth yw asgwrn cefn Aberconwy. Ar wahân i'r sector cyhoeddus, y trydydd sector, twristiaeth yw un o'r diwydiannau mwyaf cynhyrchiol erbyn hyn; dyma'r unig ddiwydiant go iawn sydd gennym. Mae'r sector yn werth dros £900 miliwn y flwyddyn i economi sir Conwy.
Gan gydweithio â Twristiaeth Gogledd Cymru y llynedd, a Go North Wales, cynhaliais adolygiad o effaith bosibl treth dwristiaeth ar ddiwydiannau lletygarwch a thwristiaeth Aberconwy. Mae gennyf adroddiad ffurfiol, felly mae'r cyfan yno gyda thystiolaeth i'w gefnogi, ac roedd y canlyniadau'n glir: byddai codi treth ychwanegol ar sector sy'n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru'n mynd yn groes i bolisi yn y rhan fwyaf o wledydd eraill Ewrop. Maent hwy wedi mynd ati'n weithredol i geisio torri treth dwristiaeth er mwyn ysgogi twf twristiaeth, refeniw treth, cynnyrch domestig gros, a chyflogaeth. Ar draws Ewrop wrth gwrs, codir TAW o oddeutu 5 i 7 y cant ar dwristiaeth, o gymharu ag 20 y cant yng Nghymru. Yng ngogledd Cymru, roedd tua 22 miliwn o ymwelwyr dydd a 3.7 miliwn o ymwelwyr dros nos; y dystiolaeth yw bod ymwelwyr dros nos yn gwario £187 ar gyfartaledd, ac ymwelwyr dydd yn gwario £31. Ond maent i gyd yn bwysig iawn i ni. Mae gan Sbaen a Ffrainc bedwar tymor twristiaeth; mae gan Gymru 1.5 tymor. Roedd Sbaen yn cael 300 diwrnod o haul y flwyddyn; mae Cymru'n cael 60 diwrnod ar gyfartaledd. Mae Cymru'n cael cyfanswm o oddeutu 34 miliwn o ymwelwyr dros nos; mae Ffrainc a Sbaen yn cael 433 miliwn a 471 miliwn.
Roeddwn yn bryderus—. Mwynheais gyfraniad Mabon, a phan oedd yn dweud pa mor bwysig yw twristiaeth, roeddwn yn aros amdano. Roeddwn yn meddwl y byddai'n dweud 'ond' neu 'fodd bynnag'; wel, heddiw, 'fodd bynnag' a gawsom. Rwy'n cael llond bol ar Blaid Cymru yn eu hymdrechion i'w guddio fel ffordd o geisio datrys y broblem dai. Mae'n ymddangos eu bod wedi targedu perchnogion ail gartrefi a phobl sy'n ymweld. Ar fwy nag un achlysur, gofynnwyd i mi, 'Pam nad yw Plaid Cymru'n hoffi ymwelwyr o Loegr?' Ac rwy'n dweud, 'Wel, bydd rhaid i chi ofyn iddynt hwy.' Rydym ni'n gwerthfawrogi ymwelwyr o unrhyw le. Os oes unrhyw un yn edrych ar y rhaglen ar gyfer Go North Wales, mae gennym gastell Conwy bellach wedi gefeillio â Japan. Mae gennym sawl prosiect gefeillio trefi. Mae'n bwysig tu hwnt. Wrth gwrs, mae twristiaeth yn unrhyw le'n ddibynnol iawn ar y tywydd, yn enwedig felly yma yng Nghymru rhwng mis Ebrill a mis Hydref. Mae'n costio mwy, fodd bynnag, i gael trên o Lundain i ogledd Cymru na hedfan i Sbaen. Mae'r sector yn glir fod ymwelwyr domestig yn fwy tebygol o ddewis Sbaen neu Ffrainc os caiff treth ei chyflwyno. Felly, ni allaf ddeall pam mae'r cytundeb hwn—. Rwy'n anghofio o hyd, a meddwl mai clymblaid ydyw, ond y cytundeb cydweithio. Cam gwag yw ceisio datrys problem dai a'i gysylltu â hyn, oherwydd ceir teimlad eich bod yn wrth-fusnes, yn wrth-dwristiaeth, ac yn wrth-Seisnig, ac nid yw hynny'n rhoi argraff dda o Gymru.
Janet Finch-Saunders, a ydych chi'n derbyn ymyriad gan Cefin Campbell?
Wrth gwrs.
Diolch yn fawr, Janet. Rwy'n meddwl tybed a ydych chi'n credu bod yr ardoll ymwelwyr ym Manceinion yn wrth-Seisnig, neu ai dim ond yng Nghymru y mae'n wrth-Seisnig?
I fod yn onest, cefais fy ethol i gynrychioli'r bobl yng Nghymru yma yn y Senedd, a dyna rwy'n ei wneud yma. Felly, i fod yn onest, nid yw beth bynnag sy'n cael ei benderfynu ym Manceinion neu Luton neu Gernyw yn berthnasol i'r ddadl yma heddiw.
Yn 2014, wrth gwrs, fe gofiwn yma am Blaid Cymru a Llafur yn bod yn wrth-dwristiaeth pan wnaethant ddympio miloedd o dunelli o gerrig chwarel anferth a heb eu profi ar Draeth y Gogledd. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd—nid gyda Phlaid Cymru a Llafur—gyda'r gymuned, ac mae miloedd ar filoedd o ddeisebau'n dod i mewn, oherwydd nid oes gennym draeth tywodlyd mwyach. Mae cymaint o ymwelwyr yn gwerthfawrogi Aberconwy a Llandudno, a'r hyn y maent yn ei wneud i'r economi a'r swyddi y maent yn eu darparu—. Yn ogystal â Phlaid Cymru'n bod yn negyddol tuag at dwristiaeth, cefais fy siomi'n fawr gan dystiolaeth a gasglwyd yr wythnos diwethaf yn y pwyllgor newid hinsawdd, pan ddaeth yr undebau i drafod Tata Steel, a chlywed un o'r undebau'n dweud bod y rheini sy'n gweithio yn y sectorau twristiaeth a manwerthu mewn rolau 'ecsbloetiol'. Drwy'r cadeirydd, llwyddais i ofyn iddynt gywiro'r cofnod, oherwydd mae'n rhaid inni fod yn ofalus iawn—mae'r rhain yn swyddi da iawn ac nid wyf am wrando ar neb yn bychanu swyddi twristiaeth neu'r sector manwerthu ar unrhyw adeg, ac yn sicr nid undebau sy'n cefnogi Llafur.
Ym mhopeth a ddywedais, a'r gwaith a wnaethom yma, gallwn brofi y byddai'r dreth dwristiaeth yn gam gwag. Ar ryw bwynt, daw'n bryd i Lafur Cymru a Phlaid Cymru werthfawrogi'r diwydiant hwn fel y mae'n haeddu cael ei werthfawrogi, a gwerthfawrogi'r gweithwyr sy'n gweithio mor galed i gynrychioli Cymru. Nhw yw wyneb y diwydiant twristiaeth, ac fe hoffwn i, beth bynnag, ddiolch i bob un ohonynt. Diolch.
[Anghlywadwy.]—cyfraniad gwych nad wyf yn gwybod yn iawn sut i'w ddilyn. Cefais Alun Davies yn y ddadl ddiwethaf a Janet yn yr un hon—rwy'n freintiedig iawn heddiw. Ond mae'n anrhydedd cael cymryd rhan yn y ddadl y mae grŵp y Ceidwadwyr Cymreig wedi'i chyflwyno ar dwristiaeth, gan fod twristiaeth yn ganolog i fy nghymuned. Mae llawer o bobl yn heidio o bob cwr o'r byd, ac mae'n ddrwg gennyf, Sam Rowlands, ond rhan orau'r byd yw fy nghymuned i. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd, a oes gyda ni broblem?
Rwy'n credu bod eich meicroffon wedi'i ddiffodd.
Iawn, o'r gorau. Dyma ni'n mynd. Symud o gwmpas—newid ystafelloedd.
Ie, y gymuned orau yw Brycheiniog a Maesyfed, Sam, mae'n ddrwg gennyf, a chanolbarth Cymru, felly rydych chi'n cyfeiliorni braidd wrth siarad am ogledd Cymru. Mae llawer o bobl yn heidio o bob cwr o'r byd i ymweld â fy rhan i o'r byd. Dônt i weld Gŵyl y Gelli, y Sioe Frenhinol, gwyliau cerddorol penodol, gwyliau bwyd, a chefn gwlad sy'n un o brif drysorau Cymru, sef Bannau Brycheiniog—rhan enwog a gwych o'r byd. Ac rwy'n falch o'i alw'n 'Brecon Beacons', rhywle rydym i gyd yn ei garu ac yn ei drysori yn y Siambr hon.
Fel mae eraill wedi dweud, twristiaeth sydd i gyfrif am 17 y cant o gynnyrch domestig gros Cymru, ac mae 137,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector twristiaeth yng Nghymru. Felly, nid wyf yn deall pam mae Llywodraeth Cymru, Plaid Cymru a'r unig Ddemocrat Rhyddfrydol, nad yw yn y Siambr, yn cefnogi trethi twristiaeth—treth ar fusnesau twristiaeth dilys, hefyd, gan mai nhw yw asgwrn cefn ein heconomi yng nghefn gwlad Cymru. Mae'n hen bryd i ni gael Llywodraeth yma ym Mae Caerdydd sy'n cefnogi ein sector twristiaeth ac nad yw'n ei esgeuluso a'i ddefnyddio fel rhyw fath o goeden arian ar gyfer prosiectau sosialaidd. Yr hyn sydd ei angen arnom yw llywodraeth sy'n cefnogi twristiaeth, sy'n blaenoriaethu busnesau, sy'n blaenoriaethu swyddi ac yn buddsoddi yn ein sector twristiaeth, oherwydd dyna sut rydych chi'n datblygu diwydiannau i ddod yn well ac yn fwy proffidiol, nid drwy eu defnyddio, fel y dywedais, fel coeden arian ar gyfer prosiectau.
Fel y dywedais, mae twristiaeth yn cyflogi cannoedd o bobl ar draws fy etholaeth, ac rwy'n falch iawn o'r rhan y mae twristiaeth yn ei chwarae ym Mrycheiniog a Maesyfed. Rwy'n mynd i grynhoi, gan nad wyf yn credu y gallaf ddilyn y siaradwr blaenorol a dal ati am gymaint o amser. Mae twristiaeth yn rhan gwbl ryfeddol o'r hyn a wnawn yma yng Nghymru. Mae'n rhan o wead Cymru, a dyna pam ei bod hi'n hen bryd i'r Llywodraeth yma ei chefnogi yn lle ei defnyddio i ariannu ei phrosiectau ideolegol sosialaidd.
Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden.
Diolch, Lywydd. Rwy'n sicr yn ddiolchgar i'r Aelodau am gyfrannu at y ddadl heddiw. Ond Lywydd, rwy'n mynd i ganolbwyntio fy ymateb yn nhrefn gwelliant y Llywodraeth i'r cynnig, ac fe ddechreuaf drwy sôn am Wythnos Twristiaeth Cymru. Byddaf yn siarad yn y derbyniad blynyddol a gynhelir yn y Senedd yr wythnos nesaf. Mynychais y digwyddiad y llynedd ac roedd yn gyfle amhrisiadwy i gyfarfod â nifer o gynrychiolwyr y diwydiant, ac mae Croeso Cymru unwaith eto yn falch o gefnogi'r digwyddiad hwnnw. Wrth gwrs, rwyf hefyd yn cyfarfod â chynrychiolwyr y sector drwy gydol y flwyddyn, ac efallai y byddwch yn gwybod bod Cynghrair Twristiaeth Cymru a rhanddeiliaid eraill y diwydiant yn rhan o'r fforwm economi ymwelwyr rwy'n ei gadeirio.
Ond gadewch i mi ddechrau, Lywydd, drwy gytuno gyda Tom Giffard ynglŷn â gwerth y sector twristiaeth fel rhan o economi ymwelwyr Cymru, sy'n cael ei chydnabod fel blaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae'r gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth honno'n glir yn strategaeth dwristiaeth Croeso Cymru, 'Croeso i Gymru: Blaenoriaethau i'r economi ymwelwyr yn 2020-2025'. Mae'r strategaeth honno, a gyhoeddwyd ychydig cyn y cyfyngiadau symud cyntaf yn 2020, yn nodi—ac rwy'n credu mai dyma'r pwynt roeddech chi'n ei wneud, Tom—fod mwy na degfed ran o weithlu Cymru yn 2019 yn cael eu cyflogi mewn diwydiannau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth, gyda gwariant yn cyrraedd mwy na £6 biliwn. Ac mae'n debyg mai dyna pa mor bell rwy'n mynd i fynd i gytuno ag unrhyw un o gyfraniadau'r Ceidwadwyr y prynhawn yma.
Nawr, fel sawl cyrchfan ledled y DU a'r byd ehangach, mae twristiaeth wrth gwrs yn dal i adfer o effaith y pandemig, ac er eu bod bellach yn weithredol ac wedi bod ers peth amser, rydym yn deall bod elfennau eraill, fel y cynnydd mewn costau ynni, wedi rhoi pwysau ar fasnach o ddydd i ddydd a'r ddarpariaeth. Nawr, er bod prif farchnad ymwelwyr Cymru yn ddomestig, mae ein hymwelwyr rhyngwladol hefyd yn werthfawr iawn i ni, ac edrychwn ymlaen at Gwpan Rygbi'r Byd fel rhan o Gymru yn Ffrainc yn 2023, a chynllunio ein presenoldeb yn y cnawd ac yn rhithwir, yn sgil llwyddiant Cwpan y Byd FIFA yn Qatar. Ac i fynd i'r afael â her Sam Rowlands, y flaenoriaeth eleni yw gwneud popeth yn ein gallu i annog ymwelwyr rhyngwladol i ddewis Cymru am y tro cyntaf neu i ddychwelyd, a gwneir hynny, wrth gwrs, drwy ddathlu a gweiddi'n uchel nid yn unig am ein cyrchfannau o'r radd flaenaf, ond ein busnesau gwych hefyd, oherwydd mae dyfnder ac ehangder cynnyrch o safon uchel yng Nghymru, o lety ac atyniadau i fwydydd a gwyliau, yn rhywbeth rydym yn ei hyrwyddo'n hyderus ar lwyfan y byd.
Un peth eithriadol o bwysig y mae Croeso Cymru yn ceisio ei gyfleu mewn gweithgarwch hyrwyddo yw'r croeso a'r diwylliant unigryw a geir yn ein gwlad. Mae'n helpu, dros yr wythnos diwethaf wrth gwrs, ac mae Mabon wedi crybwyll hyn yn barod, fod un enghraifft wych ar y llwyfan rhyngwladol hwnnw wedi'i fynegi gan gynhesrwydd dathliadau Clwb Pêl-droed Wrecsam. Bydd marchnad ymwelwyr yr Unol Daleithiau yn un bwysig i ni eleni, a bydd y miliynau a wyliodd y gyfres Welcome to Wrexham a dilyn y stori ar y cyfryngau cymdeithasol yn llawer mwy ymwybodol o Gymru o ganlyniad. A bydd Croeso Cymru yn ceisio manteisio i'r eithaf ar y cyfle hwnnw, i annog ymwelwyr i ddechrau cynllunio'u taith ac i brofi Cymru drostynt eu hunain.
Pan fydd yr ymwelwyr hynny'n cyrraedd, mae'n hanfodol fod eu profiad hefyd yn cynnwys amwynderau a chyfleusterau twristaidd o ansawdd da. Un o'n cynlluniau yw y Pethau Pwysig, a dyna'n union y mae'n ei gynnig, gan fuddsoddi yn yr elfennau sylfaenol sy'n hanfodol i fwynhad cyrchfan—gwelliannau seilwaith a allai fod yn fach eu maint ond yn fawr eu heffaith, megis cyfleusterau newid cynhwysol ac opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy sydd o fudd nid yn unig i ymwelwyr, ond i gymunedau.
Gan droi nawr at y polisi 182 diwrnod, nid yw darpariaethau llety gwyliau tymor byr yng Nghymru yn cael eu rheoleiddio yn yr un modd â gwestai, nac ychwaith fel llety preswyl. Bydd y trothwyon newydd yn sicrhau na fydd eiddo hunanddarpar yn cael ei ystyried yn annomestig oni bai ei fod yn cael ei ddefnyddio at ddibenion busnes am y rhan fwyaf o'r flwyddyn, ac felly'n gwneud cyfraniad sylweddol i'r economi leol. Pan na fydd y trothwyon hyn yn cael eu cyrraedd, bydd eiddo'n cael ei gategoreiddio'n eiddo domestig a bydd y dreth gyngor yn daladwy ar ei gyfer. Pan fo'r awdurdod lleol wedi penderfynu defnyddio premiwm ail gartrefi, bydd y perchennog hefyd yn gorfod talu'r tâl ychwanegol, oni bai bod eu heiddo'n gymwys ar gyfer eithriad. Wrth gwrs, mater i bob awdurdod lleol yw penderfynu a ddylid cymhwyso premiymau ar ail gartrefi a thai sy'n wag yn hirdymor, ac ar ba lefel. Ni fydd y premiwm uchaf yn cael ei gymhwyso'n awtomatig o 1 Ebrill 2023. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod peth eiddo hunanddarpar wedi'i gyfyngu gan amodau cynllunio, gan atal meddiannaeth barhaol fel prif breswylfa rhywun, felly rydym wedi ymestyn yr eithriadau i bremiwm y cyngor i gynnwys eiddo gydag amod cynllunio sy'n pennu na ellir defnyddio'r eiddo heblaw fel llety gwyliau, neu sy'n atal meddiannaeth barhaol fel unig neu brif breswylfa rhywun.
Mae'r farchnad rentu llety gwyliau wedi trawsnewid yn llwyr mewn sawl rhan o'r byd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae llywodraethau ym mhobman yn archwilio'r ffordd orau o gydbwyso'r effaith y mae hyn yn ei chael ar gymunedau. Mae sicrhau cymunedau ffyniannus lle mae pobl yn teimlo'n gadarnhaol ynglŷn â chynllunio eu dyfodol yn nes at adref yn uchelgais rwy'n gobeithio ein bod yn ei rhannu ar draws y Siambr. Rydym yn gwneud hynny oherwydd ein bod yn gwybod bod y rheini'n gymunedau sy'n creu cymeriad lle, ac yn pennu'r diwylliant y mae ymwelwyr yn ei brofi. Mae'n rhaid inni gydnabod bod cyflawni'r nod hwnnw'n galw am gydbwysedd lle mae cyfleoedd yn cael eu rhannu a lle nad oes un grŵp buddiant yn cael ennill ar draul cymuned sy'n cael ei dal yn ôl, boed hynny'n fwriadol ai peidio.
Gan droi nawr at yr ardoll ymwelwyr, fe gyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ddatganiad ysgrifenedig ym mis Mawrth, yn amlinellu'r camau nesaf yn natblygiad cynigion yr ardoll ymwelwyr ar gyfer Cymru. Ac rwy'n gwybod nad yw rhai yn y Siambr hon o blaid yr egwyddor o ardoll ymwelwyr, ond rwy'n anghytuno, ac rwy'n credu bod ein cynigion yn gam cadarnhaol ymlaen tuag at ein huchelgeisiau ar gyfer twristiaeth gynaliadwy. Ac rwyf am atgoffa'r Siambr unwaith eto fod hwn yn fater a gafodd ei gynnwys yn ein maniffesto, ac fe wnaethom ennill etholiad. Nawr, yn wahanol i eraill yn y Siambr hon, rydym yn tueddu i gadw ein haddewidion maniffesto, a dyna rydym yn ei wneud. Ond gadewch imi egluro pwynt pwysig yn gyntaf, ac rwy'n gwybod bod cyd-Weinidogion eraill wedi'i wneud sawl gwaith. Yn groes i'r hyn a ddywedwyd, prin yw'r dystiolaeth i awgrymu bod ardollau ymwelwyr yn cael effaith negyddol lle cânt eu defnyddio. Maent yn gyffredin ar draws y byd, ac fe'u defnyddir mewn llawer o wledydd, gan gynnwys Ffrainc, yr Almaen, Gwlad Groeg, yr Iseldiroedd, a llawer iawn o fannau eraill. Ac yn wir, fe wyddom fod Manceinion yn Lloegr newydd gyhoeddi eu bod yn cyflwyno ardoll ymwelwyr o'r fath, fel y dywedodd Cefin eisoes. Nawr, mae'r ardollau hyn yn cael eu darparu er budd yr ardaloedd lleol sy'n dewis eu defnyddio.
Bydd llawer ohonom yma heddiw wedi talu taliadau tebyg wrth deithio dramor. Rhan fach iawn o wariant ymwelwyr yw ardollau ymwelwyr, ond yn yr un modd maent yn gyfraniad pwysig i ardaloedd lleol i helpu i gynnal a chefnogi'r cynnig twristiaeth. Ac nid wyf yn siŵr o gwbl, Tom, o ble y cawsoch chi'r ffigurau ar yr hyn y gallai'r ardoll dwristiaeth ei gostio yng Nghymru, gan nad oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud ynglŷn â hynny eto, ac rydym yn parhau i ymgynghori. Mae'n hysbys—[Torri ar draws.]
A ydych chi'n derbyn ymyriad?
Mae'n ddrwg gennyf. Mae'n ddrwg gennyf, Andrew.
Diolch, Weinidog. Rydym yn anghytuno ar yr ardoll ymwelwyr, ac mae hynny'n ddigon teg; dyna yw dadl wleidyddol. Ond mae pryderon gan y sector twristiaeth efallai na fyddai'r ardoll hon, o'i chyflwyno, yn cael ei defnyddio ar gyfer gwelliannau twristiaeth penodol yn ardaloedd y gwahanol gynghorau. Rydym wedi'i gael gan eich partneriaid cytundeb cydweithio—mae eu harweinydd, Adam Price, wedi'i gofnodi a darllediad cyhoeddus wedi'i wneud—y gellid defnyddio'r arian i dalu am brydau ysgol am ddim. Felly, a wnewch chi gadarnhau'n bendant y byddai'r arian hwn yn cael ei neilltuo, er gwaethaf y gwahaniaethau gwleidyddol sydd rhyngom, ac mai ar welliannau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth mewn ardaloedd lleol yn unig y gellir ei ddefnyddio?
Yn sicr, dyna'r cyfeiriad teithio rydym yn edrych arno, ac mae Gweinidogion â'u bryd ar edrych ar neilltuo'r ardoll ymwelwyr at y dibenion hynny. Ac fe ddywedaf pam—oherwydd mae'n hysbys fod yna gostau cyhoeddus yn gysylltiedig â thwristiaeth. Nid yw cael ymwelwyr i gyfrannu tuag at y costau hynny'n ddadleuol yn fy marn i. Mae'n deg, ac mae ein hymchwil ni'n dangos bod y rhan fwyaf o bobl yn cytuno â hynny, mewn egwyddor. Felly, ein bwriad gyda'r ardoll ymwelwyr yw darparu adnodd ar gyfer cyrchfannau i helpu i ariannu a chynnal gwasanaethau a seilwaith lleol hanfodol sy'n rhan annatod o brofiad ymwelwyr. Ac fel y dywedais, neilltuo arian yw un o'r pethau rydym yn eu hystyried er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd.
Nawr, yn olaf, bydd y pwerau rydym yn eu hargymell yn rhai dewisol, i rymuso awdurdodau lleol i farnu drostynt eu hunain ac i benderfynu beth sydd orau i'w cymunedau. Ceir proses ofalus ac ystyriol ar gyfer pasio deddfwriaeth drwy'r Senedd hon, o fewn tymor y Llywodraeth hon, ac yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Senedd hon, bydd yn flynyddoedd lawer cyn y daw'r ardoll i rym mewn gwirionedd. A byddai'r gwaith o'i chyflwyno yn dilyn proses o ymgynghori a gwneud penderfyniadau'n lleol.
Lywydd, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi ein gwelliant, ac yn ymuno â ni i ddathlu Wythnos Twristiaeth Cymru 2023, i godi ymwybyddiaeth o werth twristiaeth i'r economi a chymdeithas, a dathlu Cymru fel cyrchfan o'r radd flaenaf i dwristiaid.
Samuel Kurtz nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd, ac rwy'n falch iawn o allu cloi'r ddadl heddiw ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, oherwydd yr wythnos nesaf byddwn yn dathlu Wythnos Twristiaeth Cymru. Am gyfle da i ni sefyll a dadlau dros wychder twristiaeth yma yng Nghymru.
Wrth agor y ddadl, siaradodd Tom Giffard yn angerddol. Mae wedi dadlau'n angerddol dros y diwydiant twristiaeth yma yng Nghymru, gan siarad am yr un o bob saith swydd, y cynnyrch domestig gros o 17 y cant y mae'r fasnach dwristiaeth a'r diwydiant yn ei greu i Gymru, a defnyddiodd yr ymadrodd a ddyfynnais: 'twristiaid ydym ni'. Ie, twristiaid ydym ninnau hefyd yma yng Nghymru. Gallwn fynd i rannau eraill o Gymru, gallwn fynd i rywle roedd Sam Rowlands yn dadlau drosto, gogledd Cymru, i brofi'r gwychder sydd yno, neu ddod i orllewin Cymru hyd yn oed, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, i weld y gorau go iawn o'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig.
Ond mae Tom eisoes wedi crybwyll a siarad yn helaeth am annibyniaeth neu annibyniaeth bosibl Croeso Cymru, a'r manteision a allai ddod yn sgil hynny, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sydd angen ei archwilio ac edrych ymhellach arno er mwyn deall yn union beth yw'r manteision y gellir eu gwasgu o gael Croeso Cymru annibynnol, a beth y gall hynny ei wneud i wella'r cynnig twristiaeth yma yng Nghymru.
A rhywbeth arall y soniodd Tom amdano, y credwn ei fod yn ffigur eithaf syfrdanol, oedd bod pobl sy'n aros dros nos yn gwario 14 gwaith yn fwy nag ymwelwyr dydd. Dyna'r bobl go iawn sy'n dod i mewn i'n cymunedau, sy'n gwario arian yn ein siopau bara lleol, yn ein siopau cigydd, ac sy'n mynd ar y tripiau cychod allan ar arfordir sir Benfro—nhw yw'r bobl sy'n gwario'r arian, gan gefnogi'r swyddi sy'n rhan annatod o ddiwydiant Cymru, wedi'u cefnogi gan y diwydiant twristiaeth.
Unwaith eto, fe wnaeth Tom gydnabod y broblem gydag ail gartrefi, a oedd yn thema yng nghyfraniad Mabon hefyd, ac fe wnaeth y Dirprwy Weinidog y pwynt yma yn ogystal. Nid ydym yn anghydweld ar y meinciau hyn fod yna broblem gyda denu pobl i ardaloedd poblogaidd. Rwy'n cynrychioli rhan o'r byd lle mae hynny'n hollol wir. Mae gennym broblemau. Fodd bynnag, nid yw'r cynigion a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynigion a fydd yn datrys problem poblogrwydd ardaloedd penodol, ac rwy'n credu mai dyna lle rydym yn anghydweld ar ein meinciau mewn gwirionedd—nid ynglŷn â'r broblem, ond ynglŷn â'r ateb i'r broblem.
Cyfrannodd John Griffiths ar Zoom, gan siarad am gydbwysedd—gadewch inni gael y cydbwysedd yn iawn. Wel, fe fyddwn i'n dadlau eto fod y cydbwysedd wedi gogwyddo'n rhy bell y ffordd arall gan gynigion Llywodraeth Cymru, gan roi rhaff fwy anodd am wddf diwydiannau twristiaeth yma yng Nghymru. Rydym eisiau twristiaeth gynaliadwy, ydym, rydym eisiau elwa o dwristiaeth, ydym, ond unwaith eto, rwy'n dod yn ôl at y pwynt na fyddai beth mae Llywodraeth Cymru wedi'i gyflwyno'n gwneud yr hyn mae'n ei ddweud.
Siaradodd Sam Rowlands am y micro a'r macro a themâu Blwyddyn y Môr, Blwyddyn Antur, ffyrdd y gall Cymru farchnata ei hun a dangos ei hun i'r holl fyd a beth yw'r manteision o ddod i ymweld â Chymru a gwario arian y mae pobl wedi gweithio'n galed amdano yn ein gwlad, a'r hwb a all ddod yn sgil hynny. Rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Gan ddod yn ôl at bwynt Tom am wariant yn yr Alban neu nifer yr ymwelwyr â'r Alban, mae diaspora Cymru gymaint yn llai, rydym ar ein colled o gymharu â'n cefndryd Celtaidd yn yr Alban ac Iwerddon. Dylem fod yn adeiladu brand Cymru ar draws y moroedd, gan ddenu ymwelwyr tramor i'n gwlad.
Ac fe wnaeth Sam bwynt perthnasol iawn wrth gloi ei araith am yr effeithiau iechyd meddwl y mae'r newidiadau hyn yn eu cael ar bobl gyffredin. Mae busnesau teuluol, gydag un neu ddau o weithwyr, lle mae'r perchennog yn ysgrifennydd, yn lanhawr, yn bobydd, yn bopeth o fewn y busnes hwnnw, yn gorfod dadansoddi'r wybodaeth hon nawr a pha effaith y bydd y newidiadau'n ei chael ar eu busnes. Ac mae hynny'n rhywbeth y maent yn poeni'n fawr amdano.
Mabon, wrth glywed gan Mabon—
—pwysigrwydd twristiaeth. Yn hollol, mae honno'n thema gyffredin gan bob un ohonom yma. Rwy'n credu ei bod yn wych fod yna gytundeb unfrydol ynghylch pwysigrwydd twristiaeth, ond mae'r pwynt a wnaethoch hefyd ynghylch twristiaeth ecsploetiol—nid oes neb eisiau gweld hyn. Nid oes neb eisiau gweld cymunedau'n cael eu mygu a'u llethu gan bobl yn dod i mewn ac yn bod yn ecsploetiol. Ond unwaith eto, rwy'n dod yn ôl at y pwynt na fydd y polisïau sy'n cael eu cyflwyno gan eich plaid, drwy ei chytundeb cydweithio â Llywodraeth Cymru, yn esgor ar y newidiadau rydych chi eu heisiau mor daer. Oherwydd os edrychwn ar ail gartrefi er enghraifft, mae yna anallu i wahaniaethu rhwng uned gwyliau hunanddarpar ac ail gartref. Mae busnes cyfreithlon, sy'n dod â phobl i mewn i'r gymuned, ac eiddo sy'n wag am ormod o wythnosau'r flwyddyn—mae gallu gwahaniaethu rhwng y ddwy ran honno ar goll yn y polisi rydych chi'n ei drafod, oherwydd rwy'n siarad â gwerthwyr tai yn sir Benfro ac yn sir Gaerfyrddin lle mae eiddo'n mynd ar y farchnad bellach oherwydd y newid i'r rheolau. Pwy sy'n mynd i'w brynu? Pobl â phocedi dwfn sy'n gallu fforddio talu'r gordal treth gyngor, nid prynwyr tro cyntaf, nid pobl sydd eisiau camu ar yr ysgol eiddo, felly mae'n methu ar elfen graidd o'r hyn rydych chi'n adeiladu'r polisi hwn arno, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae'r cyhoedd yn dechrau ei weld ar y pwynt hwn.
Gan symud ymlaen at Janet Finch-Saunders, wel, roedd ei chyfraniad hi'n siarad drosto'i hun, onid oedd, gyfeillion? Aberconwy: £900 miliwn yn dod i'r economi leol drwy dwristiaeth i Aberconwy, ac mae Janet yn ddadleuwr balch ac angerddol dros dwristiaeth yn ei rhan hi o'r byd, a hir y parhaed hynny. Ond rhywbeth arall y siaradodd amdano oedd gwerth y gweithwyr—y rhai sy'n gweithio yn ein sector twristiaeth a lletygarwch, y gwaith gwych y maent hwy'n ei wneud. Yn rhy aml—[Torri ar draws.]
Am gyflog isel.
Wel, yn rhy aml, Mike—. Mae hwn yn bwynt da, Mike: yn rhy aml, mae'n cael ei weld fel dim ond swydd fach di-nod. Gadewch inni droi swyddi twristiaeth a lletygarwch yn yrfaoedd. Gadewch inni fuddsoddi yn y sectorau hynny i'w gwneud yn wirioneddol hyfyw—i allu dweud 'Rwy'n falch o weithio yn y diwydiant twristiaeth', 'Rwy'n falch o weithio yn y diwydiant lletygarwch, oherwydd mae'n yrfa yn hytrach na dim ond swydd'. [Torri ar draws.] Rwy'n hapus iawn i ildio i Mabon.
Rwyt ti'n gywir: mae eisiau i ni weld buddsoddiad yn y sector. Dwyt ti ddim yn cytuno, felly, drwy godi lefi twristiaeth, gallwn ni ddefnyddio'r pres yna i fuddsoddi a gwella'r sector?
Wel, y ffaith yw, o beth mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i ddweud yn union nawr, dydy'r sector ddim yn mynd i ring-fence-o yr arian yna i gael y buddsoddiad i mewn i'r swyddi.
Iawn, rydych chi'n edrych—[Torri ar draws.] Ie, fe ddywedodd y Dirprwy Weinidog eu bod yn edrych, a dyna'r cyfeiriad teithio, ond pan fo arweinydd Plaid Cymru wedi codi a dweud y gallai fod rhywbeth i ariannu prydau ysgol am ddim, a bod hynny'n rhan o'r cytundeb cydweithio, mae'n anodd iawn i ni ddeall, ac i'r sector ei hun ddeall y trywydd o ran lle mae hyn yn mynd.
Weinidog, i gloi, rwy'n ymwybodol fod fy amserydd wedi troi'n goch ac nid wyf am roi prawf ar amynedd y Llywydd, felly rwyf am ddod i ben. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn deall ac yn cofio, fel y dywedodd y Dirprwy Weinidog yn gywir, fod y sector twristiaeth yn adfer ar ôl y pandemig. Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach wedi datgan yn hollol glir,
'nid dyma'r amser i godi'r posibilrwydd o fwy o gostau a threthi ar ddiwydiant Cymreig allweddol sy'n arbennig o fregus ar hyn o bryd'.
Mae'r sector yn dweud hynny. Mae'r rhanddeiliaid sy'n cynrychioli'r sector yn dweud hynny. Pan gaiff tystiolaeth ei chyflwyno, mae'n siomedig iawn fod y dystiolaeth honno'n cael ei hanwybyddu er budd Llywodraeth Cymru a'u partneriaid cydweithio. Gyda hynny, Lywydd, hoffwn annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig y prynhawn yma. Diolch.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw un yn gwrthwynebu hynny? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, gwnawn ni ohirio hyn tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Nawr yw'r cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, awn ni'n syth at y bleidlais. Felly, mae'r unig bleidlais y prynhawn yma ar yr eitem olaf yna, sef eitem 8, ar ddadl y Ceidwadwyr ar dwristiaeth. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, ac mae 36 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Mae'n ddrwg gennyf, mae yna lawer o seibiau y prynhawn yma. Mae'n ddrwg gennyf am hynny. Nid yw'n cael ei wneud er effaith ddramatig; rhaid bod rhywbeth yn tynnu fy sylw. [Chwerthin.]
Felly, mae'r cynnig wedi ei—. Cau'r bleidlais, ac mae'r cynnig wedi'i wrthod: o blaid 15, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, ydy, mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Twristiaeth. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 15, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Gwelliant 1 fydd y bleidlais nesaf. Mae gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 36, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Sy'n arwain ni at y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM8259 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod 15 – 23 Mai yn Wythnos Twristiaeth Cymru 2023.
2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol a wneir i gymdeithas Cymru gan y sector twristiaeth.
3. Yn gresynu nad yw'r diwydiant twristiaeth wedi gwella o hyd i'r lefelau yr oedd cyn y pandemig.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) dathlu cryfder Cymru fel cyrchfan o'r radd flaenaf ar gyfer twristiaid;
b) annog mwynderau a chyfleusterau twristiaeth i gael eu darparu a'u gwella yng Nghymru;
5. Yn cefnogi diffiniad Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig o ddatblygiad twristiaeth gynaliadwy.
6. Yn nodi Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 a basiwyd gan y Senedd ym mis Gorffennaf, a gyflwynwyd fel rhan o ymrwymiad ehangach i fynd i’r afael â materion ail gartrefi a thai anfforddiadwy y mae llawer o gymunedau yng Nghymru yn eu hwynebu.
7. Yn croesawu’r pwerau a’r canllawiau dewisol ar y dreth gyngor ac ail gartrefi. sydd ar gael i awdurdodau lleol, i leihau neu ddileu’r gofyniad i dalu naill ai’r gyfradd premiwm neu gyfradd safonol y dreth gyngor neu’r ddau.
8. Yn cydnabod bod ardollau ymwelwyr yn gyffredin ar draws y byd, a’u bod yn cael eu defnyddio er budd twristiaid, busnesau a chymunedau lleol, gan helpu i wneud twristiaeth yn gynaliadwy ac yn llwyddiannus.
9. Yn croesawu’r ymrwymiad i roi’r pŵer i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr os ydynt yn dymuno gwneud hynny, yn amodol ar ymgynghoriad.
Mae'r bleidlais yma ar y cynnig wedi'i ddiwygio. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 15 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi ei dderbyn.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymraeg - Twristiaeth. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 36, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Dyna ddiwedd ar y pleidleisio, ond dim dyna ddiwedd ar y gwaith, oherwydd mae'r ddadl fer yn dilyn nesaf.
Mae'r ddadl fer y prynhawn yma yn enw Huw Irranca-Davies, felly'n galw ar Huw Irranca-Davies i gyflwyno'r cynnig yn ei enw e.
Diolch, Lywydd, ac i gadarnhau, rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Joyce Watson ac i Cefin Campbell yn y ddadl hon.
Felly, mae'r ddadl heddiw'n mynd i'r afael â phwysigrwydd mawr eogiaid i gydbwysedd ecolegol a chynaliadwyedd afonydd ledled Cymru, a ledled y DU hefyd yn wir. Mae'r eog, brenin y pysgod yn chwedloniaeth Cymru, hen bysgodyn doeth fel y sonnir amdano yn y Mabinogi, ac a helpodd Culhwch i ryddhau Mabon, yn rhan o hanes a diwylliant Cymru, ond rydym yn wynebu dyfodol lle gallai'r eog fod yn ddim mwy nag enw ar bapur, stori, cof pell; mae angen inni osgoi hynny.
Mae'n rhaid inni fel Aelodau, fel Cymry, weithio i sicrhau dyfodol llaw yn llaw, neu law yn esgyll efo eog.
Mae adroddiad diweddar gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar 'Nodi a nodweddu poblogaethau bach o eogiaid i gefnogi eu cadwraeth a'u rheolaeth' yn frawychus. Mae'n dweud bod y rhywogaeth dan fygythiad go iawn yma yng Nghymru. Gyda llaw, mae'r adroddiad yn hynod fanwl, yn fanylach nag y gallaf ei drafod heddiw, ond ewch ar-lein ac edrychwch arno. Mae'n frawychus.
Mae'r adroddiad hwn, ac eraill, yn edrych ar yr hyn a elwir yn 'ddirywiad catastroffig' poblogaethau o eogiaid a sewiniaid ledled Cymru, ac mae'n ystyried p'un a fyddant yn mynd yn ddifrifol o fach a phryd fydd hynny'n digwydd a'r hyn sydd ei angen i gefnogi eu cadwraeth a'u rheolaeth. Mae 'difrifol o fach', gyda llaw, y tu hwnt i lefelau adfer cynaliadwy. Mae'r adroddiad yn cadarnhau bod eogiaid dan fygythiad, nid yn unig yng Nghymru, ond drwy'r rhan fwyaf o'u gwasgariad, ac mae'n awgrymu y gallai eogiaid ddiflannu'n llwyr o afonydd Cymru o fewn yr ychydig ddegawdau nesaf. Mae stociau o eogiaid yn y mwyafrif helaeth o afonydd Cymru, a Lloegr hefyd, yn llawer is na'r terfynau cadwraeth ar hyn o bryd. Roedd lefelau dyddodi wyau yn afonydd Cymru ar eu hisaf yn hanesyddol ers 20 mlynedd yn ystod 2021, gyda hanner yr afonydd ar ddim ond 20 y cant o'u terfynau cadwraeth. Mae'r Sefydliad Rheoli Pysgodfeydd, sy'n cynrychioli rheolwyr pysgodfeydd proffesiynol ledled y DU, wedi dweud yn glir hefyd ei bod yn argyfwng ar yr eog a'i fod yn agos at ddiflannu, ac maent wedi ysgrifennu at holl Weinidogion pysgodfeydd y DU i alw am weithredu ar frys. Ac ni ddylem anghofio bod gwerth economaidd i'r eog hefyd. Amcangyfrifir ei fod oddeutu £100 miliwn ledled y DU ac Iwerddon, felly mae'n anghenraid economaidd hefyd i sicrhau bod rhywogaethau'n ffynnu ac yn goroesi am flynyddoedd lawer i ddod.
Nawr, mae CNC a'r Sefydliad Rheoli Pysgodfeydd wedi nodi achosion a ffactorau sydd ar waith yn argyfwng yr eog. Mae ffactorau sy'n cyfrannu yn cynnwys pethau fel newid hinsawdd—mae'n ffactor pwysig; tymheredd uchel dŵr a phatrymau llif sy'n newid, gan gynnwys llifogydd a sychder; rhwystrau ffisegol i fudo o gynefinoedd silio a magu—argaeau a choredau a chwlfertau ac yn y blaen; dirywiad cynefinoedd—drwy gloddio afonydd, colli llystyfiant oddi ar y lan, siltio graean silio, ac mae'r rhestr yn parhau. Felly, fe wyddom beth sydd angen i ni ei wneud. Felly, mae angen cynllun radical ar gyfer eogiaid, a sewiniaid yn wir, ac mae'n gwbl angenrheidiol—yn angenrheidiol ar frys—er mwyn gwarchod y rhywogaethau hyn. Rhaid blaenoriaethu'r cynllun a mesur y canlyniadau, nid ar lefel Gymreig yn unig, ond ar lefel y DU hefyd, ac yn wir, mae llawer o'n hafonydd yn llifo ar draws y ffiniau. Ac mae'n rhaid ei weithredu'n gyflym iawn, gan nad yw amser o'n plaid.
Mae'n rhaid inni ddeall y dulliau a'r rhesymau dros ddirywiad poblogaethau, gan gynnwys p'un a yw'n digwydd yn gyson neu'n anghyson neu drwy gyfuniad o ffactorau, a bydd llawer o'r arbenigwyr yn y maes yn dweud bod angen edrych arno fesul afon. Mae rhai o'r astudiaethau'n dangos, er enghraifft, fod cydamseriad rhannol yn awgrymu bod eogiaid a sewiniaid yn ymateb i gymysgedd o ffactorau a rennir, megis dylanwadau sy'n cael eu gyrru gan yr hinsawdd a phwysau sy'n benodol i ddalgylch lleol. Ac ar ben hynny, mae'n bwysig amgyffred y broses o adfer poblogaethau grwpiau llai a phenderfynu a yw adferiad yn fwy tebygol rhwng poblogaethau o fewn metaboblogaeth. A gall ffactorau megis patrymau gwasgariad, dynameg tarddiad-suddfan, sy'n gallu effeithio ar gyfraddau atgenhedlu, ddylanwadu ar hyn.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Mae'r ymchwil bresennol yn priodoli tua 40 y cant o'r lleihad yng ngoroesiad eogiaid i effeithiau dŵr croyw, felly mae'n rhaid inni wneud yr hyn a allwn i flaenoriaethu ein gweithredoedd ar yr elfen hon. A nodwn y cyswllt â blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru—felly, er enghraifft, ymrwymiad y Prif Weinidog ar ffosffadau ac ansawdd dŵr, sydd i'w groesawu. Bydd hynny'n helpu, os caiff ei gyflawni. Ac mae'n rhaid inni gydnabod effaith sylweddol llygredd amaethyddol ar ein hafonydd a phoblogaethau eog a sewin. Ac mae angen inni weithio gyda lefel uchel o uchelgais gyda'n ffermwyr; mae'n mynd i fod yn anodd newid, ond efallai'n wir fod rhai o'r atebion yn hyn ar lefel Llywodraeth Cymru, megis bwrw ymlaen gyda ffermwyr ar yr ymateb i effaith taenu gweddillion treuliad anaerobig o safleoedd treulio anaerobig.
Ar hyn o bryd caiff y gwaith o adfer afonydd yng Nghymru ei rwystro gan y mecanweithiau y mae sefydliadau fel Afonydd Cymru a chyrff eraill y trydydd sector yn eu defnyddio ar gyfer cyflawni eu gweithredoedd ar lawr gwlad. Felly, er bod croeso mawr iddynt, mae rhaglenni ariannu wedi'u cyfyngu, ac mae'n rhan o'r cyfyngiadau ehangach ar gyllidebau cyhoeddus a diffyg gallu i edrych y tu hwnt i un flwyddyn. Un o'r prif ffynonellau cyllid yw'r arian dyrannu strategol gan Lywodraeth Cymru, a ryddheir gan CNC. Ond mae'n seiliedig ar gyllid blwyddyn, ac mae Afonydd Cymru wedi gweithio'n galed i ddadlau dros ei ymestyn yn rhaglen aml-flwyddyn; fe lwyddasant i'w gael i fyny i 18 mis. Ond nid yw'n caniatáu blaenoriaethu'r cynlluniau hwy sydd eu hangen arnom yn hirdymor.
Nawr, rwy'n sylwi bod y Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cyfarfod â Sefydliad Gwy ac Wysg a Phrifysgol Abertawe yn ddiweddar i weld rhai o'r cynlluniau a ariennir o dan y gronfa rhwydweithiau natur. Rwy'n deall bod yr ymweliad a gweld y gwaith ar lawr gwlad wedi gwneud argraff fawr ar y Gweinidog. Ac rwy'n hapus i weld bod arian wedi'i ddyrannu ar gyfer prosiectau i helpu i atal dirywiad bywyd gwyllt ac eogiaid Cymru. Dywedodd y Gweinidog:
'Tra bod yn rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i warchod eogiaid gwyllt gwerthfawr—bydd afonydd iach, sy'n llifo'n rhydd, o fudd i les corfforol a meddyliol pawb'—
pob un ohonom—gan gynnwys ein
'lles corfforol a meddyliol.'
Aeth ymlaen i ddweud:
'Mae poblogaeth lewyrchus o eogiaid yn dyst i afon lân ac ocsigenedig lle gall rhywogaethau eraill ffynnu ac y gall twristiaeth ffynnu. P'un a ydych chi'n hoffi ymdrochi',
meddai,
'neu roi eich traed yn y dŵr, yn gwylio adar, yn bysgotwr neu'n mynd ar geufad—mae afon iach yn golygu profiad cefn gwlad sy’n fwy pleserus.'
Rwy'n cytuno'n llwyr. Geiriau'r Gweinidog yw'r rheini. Ni allaf ddatgan diddordeb fel rhywun sy'n pysgota, ond rwy'n badlwr brwd, ond nid yn ymdrochwr, yn bendant—nid yn y dyfroedd oer. Ond mae'n gysur gweld bod Llywodraeth Cymru a'r Gweinidog yn gweld y darlun ehangach—ei fod o fudd nid yn unig i eogiaid yn y presennol ac yn y dyfodol, ond i bob un ohonom ni hefyd.
Ond unwaith eto, mae angen i Brifysgol Abertawe, a oedd yn rhan o hyn, wneud cais am estyniadau i'r gronfa honno er mwyn hwyluso'r gwaith. Ac roedd y gwaith hefyd wedi'i gyfyngu i afonydd dynodedig, pan fo pob un o'n hafonydd yn hanfodol i adfer goroesiad eogiaid mewn gwirionedd. Ac mae'n rhaid inni wneud prosesau trwyddedu a chydsynio ar gyfer adfer afonydd yn symlach ac yn gynt, fel y gall sefydliadau gyflawni o fewn amserlenni grantiau, sy'n fyr. Felly, byddai rhaglen gyflawni hirach, bum mlynedd wedi'i chydlynu yn well na dim ar gyfer rhoi hwb mawr i adferiad eogiaid. Ac mae angen cynllun dalgylch dŵr ar gyfer pob afon yng Nghymru hefyd, gan ddechrau gyda'r dirywiad yn afonydd yr ardaloedd cadwraeth arbennig—byddai hynny'n ddechrau da iawn. A dylai hyn gydnabod pob effaith, o bob sector, a phawb yn gweithio gyda'i gilydd, mewn un cynllun wedi'i gydlynu ar gyfer adferiad.
Nawr, er nad yw'n amhosibl i boblogaethau eogiaid adfer—nid yw'n amhosibl; mae hanes poblogaethau eogiaid yn dangos y gallant adfer o fod yn boblogaethau bach, neu o fod bron â diflannu, pan gaiff y ffactorau cyfyngol hynny'n eu dileu—po hwyaf y bydd y poblogaethau hyn yn parhau o dan eu terfynau cadwraeth, fel y maent nawr, mae'n llawer llai tebygol y byddant yn adfer. Ac rwy'n cyfeirio'n ôl at bwynt blaenorol a wnaed: roedd lefelau dyddodi wyau yn afonydd Cymru ar isafbwynt hanesyddol ers 20 mlynedd yn ystod 2021. Felly, er mor bosibl yw adferiad, mae'n edrych yn fwyfwy annhebygol os nad yw pethau'n newid yn gyflym, a heb weithredu brys ar unwaith. Gallai fod mor agos ag 20 i 30 mlynedd, yn ôl rhai o'r dadansoddiadau, cyn i'r eog ddiflannu'n llwyr o afonydd Cymru. Ni allwn adael i hyn ddigwydd.
Mae monitro'n bwysig—monitro maint y boblogaeth a statws cadwraeth poblogaethau eogiaid a sewiniaid. Bydd angen dull cynhwysfawr o weithredu. Ceir cyfyngiadau i ddata daliadau gwialen. Mae angen ei ddehongli'n ofalus iawn hefyd. Gall dulliau genetig ddarparu asesiadau annibynnol o niferoedd a statws cadwraeth, ond dylai monitro ystyried ansawdd cynefinoedd, cysylltedd ffrydiau ac amrywiaeth genetig yn ogystal.
Er mwyn gwarchod poblogaethau pysgod mae angen rhoi sawl mesur pwysig ar waith. Mae'n hanfodol adfer cynefin a gwella ansawdd amgylcheddol er mwyn caniatáu ar gyfer bridio naturiol a magu gleisiaid o ansawdd uchel, gan fod eu maint yn effeithio'n sylweddol ar eu goroesiad yn ddiweddarach. A dylai'r gwaith adfer hwn fod yn rhan o ymdrech barhaus, beth bynnag yw statws cadwraeth y poblogaethau. Mae gwneud y mwyaf o'r cysylltedd naturiol rhwng afonydd a chael gwared ar rwystrau a wnaed gan bobl yn hanfodol er mwyn caniatáu mynediad i bysgod llawndwf at gynefin silio ac i alluogi gleisiaid i fudo i'r môr, ac mae angen diogelu'r stoc silio rhag achosion marwolaeth ychwanegol y tu hwnt i achosion naturiol. Dim ond ar ôl ymchwilio'n drylwyr i achosion dirywiad y boblogaeth a'r canlyniadau posibl y dylid cefnogi magu artiffisial. A gellir ystyried bancio genynnau fel mesur cadwraeth dewis olaf, gan ystyried y ffactorau sy'n arwain at ddod yn agos at ddiflannu a realiti newid hinsawdd byd-eang hirdymor. Felly, drwy weithredu'r strategaethau niferus hyn gallwn weithio tuag at warchod ein poblogaethau pysgod a'u cynaliadwyedd.
Nawr, rwy'n ymwybodol fod rhai sefydliadau pysgota yn credu y dylai CNC ailystyried ei bolisi presennol ar stocio eogiaid ifanc. Nawr, rwy'n credu bod rhesymau da dros y polisi cyfredol hwn, ond dylem fod yn cynllunio nawr ar gyfer y senario gwaethaf, ac a allai stocio fod yn opsiwn pe bai hynny'n digwydd, a phryd i wneud hynny. Fodd bynnag, rhaid rhoi'r flaenoriaeth gyntaf i nodi a datrys y nifer o bethau sydd eisoes yn effeithio ar boblogaethau eogiaid gwyllt a fyddai hefyd yn effeithio ar bysgod stoc, pe bai'n cael ei ganiatáu.
Felly, mae'r ddadl heddiw, gobeithio, yn tynnu sylw at y sefyllfa argyfyngus sy'n wynebu'r boblogaeth eogiaid yng Nghymru a ledled y DU. Mae'r adroddiad gan CNC yn dangos yn glir fod y rhywogaeth o dan fygythiad tyngedfennol. Fe all ddiflannu'n llwyr o afonydd Cymru os na weithredir yn ystod y degawdau nesaf. Mae'r Sefydliad Rheoli Pysgodfeydd wedi seinio'r larwm ar yr argyfwng a'r ffaith bod eogiaid yn agos at ddiflannu. Mae'n amlwg fod angen cynllun radical ar frys, un sydd nid yn unig yn cael ei flaenoriaethu, ond hefyd yn cael ei fesur a'i fonitro ar lefel Cymru a'r DU. Mae'r ddadl hefyd wedi tynnu sylw at y ffactorau lluosog sydd wedi cyfrannu at yr argyfwng hwn, gan gynnwys newid hinsawdd, rhwystrau ffisegol i fudo, dirywiad cynefinoedd a llygredd amaethyddol, a ffynonellau eraill o lygredd. Er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn, mae angen inni flaenoriaethu'r effeithiau ar ddŵr croyw, gan nodi'r cyswllt â blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru yn arbennig.
Felly, i gloi, mae'n amlwg fod angen gweithredu ar frys i fynd i'r afael â'r argyfwng sy'n wynebu'r boblogaeth eogiaid yng Nghymru a ledled y DU. Fe all, ac fe ddylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu rôl arweiniol i sicrhau bod y boblogaeth eogiaid yn ffynnu ac yn goroesi am flynyddoedd a chenedlaethau i ddod yma yng Nghymru. Dylwn hefyd nodi, gyda llaw, y digwyddiad eog a sewin a gynhaliwyd gan Cefin a minnau y llynedd yma yn y Senedd, a arweiniodd at sgwrs dda ac adeiladol, a amlygai rai o'r heriau hyn a ffyrdd o ddatrys y sefyllfa. Mae gennym ddigwyddiad arall yn ddiweddarach eleni, a hoffwn ddweud wrth yr Aelodau am gadw'r dyddiad yn rhydd yn eich dyddiadur.
Gadewch inni weithredu nawr, Ddirprwy Lywydd, i sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau harddwch a hanes brenin y pysgod yn afonydd Cymru.
Gad inni sicrhau Cymru lân, Cymru sy'n ffynnu i'n plant ni a'u plant nhw. Diolch.
Diolch, Huw, am gyflwyno'r ddadl bwysig ac amserol hon. Mae eogiaid yn wynebu brwydr anodd mewn mwy nag un ffordd. Mae Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi £11 miliwn i atal dirywiad bywyd gwyllt, gan gynnwys yr eog gwyllt, fel y dywedwch, ac rwy'n siŵr y byddwn yn clywed mwy am hynny yn y dyfodol. Rwy'n sicr yn edrych ymlaen at weld y gwelliant i afon Cleddau Ddu ac afon Cleddau Wen, afon Wysg, afon Tawe ac afon Teifi, a chael gwared ar y rhwystrau ffisegol ar hyd y llwybrau mudo hollbwysig hynny. Mae'r adroddiad newydd a grybwyllwyd gennych ar boblogaeth eogiaid a gomisiynwyd gan CNC yn nodi'n fanwl iawn—ac rydych chi wedi egluro hynny—pam mae'n rhaid inni weithredu nawr a pham mae'n rhaid inni weithredu'n bendant. Mae iechyd afonydd yn parhau i fod yn hollbwysig, yn enwedig o gofio bod cyfraddau'r eogiaid sy'n goroesi yn y môr oddeutu un rhan o bump o'r hyn oeddent 50 mlynedd yn ôl. Mewn geiriau eraill, mae angen i'n hafonydd gynnal mwy o bysgod, nid llai.
Ar hyn o bryd, fel y gwyddom, dim ond 40 y cant o'n hafonydd sydd mewn statws ecolegol da. Dyna pam, fel y dywedais yma yn y Siambr—fe wnaethoch chi sôn amdano nawr—mae'n rhaid inni gyrraedd y targedau rheoli maetholion hynny ac mae'n rhaid inni gael y rheini'n iawn. Os ydym yn parhau i oedi'r terfyn fferm gyfan o 170 kg nitrogen yr hectar, ni wnawn ni byth gyrraedd ein nodau amgylcheddol. Rydym wedi gweld y cynnydd y gellir ei wneud pan fydd pawb yn tynnu gyda'i gilydd gydag uwchgynhadledd y Prif Weinidog ar lygredd afonydd yn y Sioe Frenhinol y llynedd a'r uwchgynhadledd ffosfforws yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Rhaid inni barhau ag ymdrech tîm Cymru. Felly, hoffwn annog yr Aelodau o bob plaid i gefnogi hyn wrth symud ymlaen.
Rwy'n ddiolchgar i Huw am ganiatáu munud o'i amser dynodedig i mi. Ac fel hyrwyddwr rhywogaethau y sewin, brithyll y môr, hoffwn adleisio'r alwad am gynllun radical, wedi'i fesur i ddiogelu ein stociau pysgod dŵr croyw. Ond yn wahanol i'r eog, sy'n marw ar ôl iddynt silio, mae sewiniaid fel arfer yn mudo dro ar ôl tro rhwng y môr a'n hafonydd, ac er mawr syndod, gallant fyw am gyfnod hir sy'n golygu mewn gwirionedd eu bod yn dychwelyd i silio cymaint â 10 gwaith yn ystod eu hoes. Felly, er ei fod wedi'i restru'n swyddogol fel rhywogaeth dan ddim bygythiad, mae cynaliadwyedd stociau sewin yn afonydd Cymru yn sicr yn peri pryder, a gallaf siarad o fy mhrofiad fy hun, a minnau'n byw ger afon Tywi ac yn bysgotwr brwd ar afon Tywi, ac rwyf wedi gweld y stociau hyn yn dirywio dros y blynyddoedd diwethaf. Ond yn wir, o asesiad CNC o 33 o brif afonydd brithyllod y môr, aseswyd bod 88 y cant o stociau 'mewn perygl' neu 'yn debygol o fod mewn perygl', gyda 12 y cant 'yn debygol o beidio â bod mewn perygl'. Felly, mae'n amlwg y bydd llawer o'r mesurau adfer a nodwyd eisoes gan Huw i warchod a gwella poblogaethau eogiaid, o ymladd newid hinsawdd i lygredd afonydd a mynd i'r afael â'r rhwystrau i fudo, o fudd i'r sewin hefyd, sy'n mudo'n llawer amlach yn ystod ei oes, fel y nodais. Felly, gadewch inni wneud yr hyn a allwn i ddiogelu'r rhywogaethau eiconig hyn fel nad ydynt dan fygythiad mwyach. A byddaf yn gweithio gyda Huw yn sicr, fel dau hyrwyddwr rhywogaeth, i gyflawni hynny. Diolch yn fawr.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i ymateb i'r ddadl—Lee Waters.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n wych clywed gan ddau hyrwyddwr rhywogaeth, un y sewin ac un yr eog, i lywio'r ddadl hon, ac yn amlwg, mae thema gref yng nghyfraniadau'r tri siaradwr heddiw am y bygythiad i nifer o rywogaethau, i'n cynefin a bioamrywiaeth yn yr ecosystem hon. Mae'r eog, fel y nododd Huw Irranca mor eglur, dan fygythiad clir ac rydym yn gweithio'n galed gydag ystod o bartneriaid i wneud yr hyn a allwn. Yng Nghymru, rydym eisoes wedi dod â physgodfeydd dal a lladd i ben ar gyfer eogiaid, gan gyflwyno dal a rhyddhau ym mhob un o'n hafonydd, ac mae angen camau nawr i fynd y tu hwnt i fesurau pysgodfeydd. I gydnabod hyn, ar gais Lesley Griffiths, datblygodd Cyfoeth Naturiol Cymru gynllun gweithredu Cymru ar gyfer yr eog a brithyll y môr, sy'n nodi'r camau y byddai CNC yn eu cymryd a oedd yn ehangach na rheoli pysgodfeydd i fynd i'r afael â'r dirywiad yn niferoedd eogiaid a sewiniaid. Ac fel y dywedwyd, mae angen inni ystyried manteision lluosog y camau a gyflawnwn. Bydd afonydd iach sy'n llifo'n rhydd o fudd nid yn unig i eogiaid ond i rywogaethau eraill ac i'n rhywogaeth ein hunain, i'n lles corfforol a meddyliol, a dyna pam mae diogelu a gwella ein hamgylchedd dŵr yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon.
Mae ein rhaglen lywodraethu yn ein hymrwymo i wella ansawdd dŵr drwy ddechrau dynodi dyfroedd mewndirol ar gyfer hamdden a chryfhau monitro ansawdd dŵr afonydd. Rydym wedi darparu bron £9 miliwn ar gyfer gwelliannau ansawdd dŵr, gan gael gwared ar rwystrau i bysgod sy'n mudo a gwaith adfer ar fwyngloddiau metel ledled Cymru, ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu £40 miliwn o gyllid ychwanegol rhwng 2022 a 2025 i fynd i'r afael â phroblemau ansawdd dŵr, yn cynnwys cyllid ar gyfer byrddau rheoli maetholion, a sefydlwyd i fynd i'r afael â heriau dalgylchoedd afonydd mewn ardaloedd cadwraeth arbennig. Ac rydym wedi rhoi camau ar waith, wrth gwrs, i leihau gollyngiadau o orlifoedd. Mae hyn yn cynnwys gwneud SDCau—systemau draenio cynaliadwy—yn orfodol ar bron bob datblygiad adeiladu newydd a bydd hyn yn helpu i leddfu'r pwysau ar y rhwydwaith drwy ailgyfeirio ac arafu'r cyflymder y mae dŵr wyneb yn mynd i mewn i'r system garthffosiaeth. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau mai fel dewis olaf y defnyddir gorlifoedd stormydd. Ac rydym yn gweithio i fynd i'r afael â'r nifer o resymau dros lygredd afonydd yng Nghymru, o lygredd amaethyddol, lle rydym wedi cyflwyno rheoliadau newydd i helpu i reoli maetholion, a hefyd yn parhau i ddarparu cymorth ariannol ar gyfer mynd i'r afael â mater mwyngloddiau segur, lle rydym ar flaen y gad yn datblygu atebion arloesol, ac mewn gwirionedd, rydym yn cynnal cynhadledd y Gymdeithas Ryngwladol Dŵr Mwyngloddiau yr haf hwn i arddangos yr atebion hyn. Mae lleihau effeithiau o orlifoedd stormydd yn flaenoriaeth ac mae angen dull traws-sectoraidd o edrych ar hyn, ac rydym yn gwneud cynnydd.
Felly, rwy'n credu ein bod i gyd yn cytuno na ddylid edrych ar gyflwr stociau eogiaid ar wahân i'r argyfwng natur ehangach, ac rydym yn cydnabod effaith colli bioamrywiaeth a chwymp ecosystemau. Yn wir, mae fy nghyd-Aelod Julie James wedi arwain ymarfer at wraidd y mater ar sut y gallwn gyrraedd ein targedau 30x30 ar hyn. Yn rhan o hyn, rydym yn darparu £7 miliwn eleni drwy elfen y gronfa rhwydweithiau natur ar gyfer prosiectau ar raddfa fawr dros naw prosiect, gyda dau ohonynt yn brosiectau ar raddfa fawr i adfer bioamrywiaeth dŵr croyw yn nalgylch afon Irfon yng nghanolbarth Cymru ac afon Ddawan yn ne Cymru, gan weithio gyda'r Loteri Genedlaethol ac CNC, a gweithredu dull cydgysylltiedig. Fel y soniodd Huw yn gynharach, yn ddiweddar ymwelodd Julie James â'r prosiect i ailgysylltu afonydd eogiaid Cymru sy'n helpu i ailgynllunio rhwystrau er mwyn helpu pysgod i symud yn rhydd i fyny ac i lawr yr afon, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, ac mae'n gweithio i wrthsefyll darnio cynefinoedd afon drwy dynnu neu liniaru effaith rhwystrau afonydd mewn pump afon, gan adfer 141 km o gynefin afon darniog.
Felly, rwy'n credu ein bod i gyd yn gytûn fod hyn yn achos pryder gwirioneddol. Rydym yn cydnabod bod yr ymyriadau sydd eu hangen yn drawsbynciol ac yn canolbwyntio ar fwy na'r afonydd eu hunain yn unig, er ein bod yn gweld datblygiadau pwysig yno. Os ydym am i Gymru allu trosglwyddo'r trysor diwylliannol ac amgylcheddol hwn i genedlaethau'r dyfodol, mae angen inni weithredu'n gyflym fel tîm i fynd i'r afael â'r argyfyngau hyn. Diolch.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog a diolch, pawb. Daw hynny a thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:47.