Y Cyfarfod Llawn

Plenary

29/03/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma fydd y cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhun ap Iorwerth.

Tlodi

1. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am y camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i daclo tlodi ar Ynys Môn? OQ59349

Diolch yn fawr am eich cwestiwn. Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i atal tlodi a lleihau ei effaith ar ddinasyddion Ynys Môn a Chymru gyfan. Y flwyddyn ariannol hon, rydyn ni wedi darparu cymorth gwerth £1.6 biliwn, drwy raglenni i helpu teuluoedd sy’n wynebu caledi ac sy’n diogelu aelwydydd dan anfantais.

Diolch yn fawr iawn am yr ymateb yna. Rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n wynebu problemau tlodi difrifol ar draws llawer o Gymru. Yn 2017, mi wnaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol gyhoeddi mai Ynys Môn oedd yr ardal efo'r gwerth ychwanegol gros isaf ym Mhrydain. Y llynedd, roedd Caergybi'n cael ei henwi fel y lle efo'r incwm net isaf yng ngogledd Cymru. Ac rydyn ni'n gwybod, pan fyddwn ni'n wynebu argyfwng, argyfwng costau byw fel sydd gennym ni rŵan, mai'r bregus a'r mwyaf tlawd sy'n cael eu taro fwyaf. Rŵan, fis diwethaf, mi wnaeth adroddiad diweddaraf Sefydliad Bevan danlinellu eto bwysigrwydd help ariannol uniongyrchol gan lywodraethau. Dwi'n poeni ein bod ni'n gweld colli nifer o elfennau o help—Llywodraeth Prydain ddim yn rhoi digon o addewid o ran cymorth efo costau ynni, rhaglen cynllun cymorth tanwydd Cymru wedi dod i ben ym mis Chwefror. Rŵan, dwi'n nodi wrth gwrs yr arian ychwanegol ar gyfer y gronfa cymorth dewisol, y cynllun rhagorol i roi cinio ysgol am ddim er mwyn mynd i'r afael â theuluoedd sy'n byw mewn tlodi, ond a wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd y bydd popeth posib yn cael ei wneud gan y Llywodraeth i sicrhau bod cymorth yn cyrraedd ardaloedd fel Ynys Môn, sy'n wynebu problemau dyfnion iawn o ran tlodi?

Diolch yn fawr, Rhun ap Iorwerth. Wrth gwrs, mae hyn yn hollbwysig. Yn y cyfnod hwn o gostau byw heriol, nid yw'r rhagolygon yn dda i'r rheini a gaiff eu gwthio i dlodi, ac mae pobl yn wynebu penderfyniadau anhygoel o anodd. Fel y dywedwch, o ran y dyraniad cyllid gan Lywodraeth y DU—mae cymaint o'r pwerau a'r ysgogiadau gan Lywodraeth y DU, wrth gwrs—mae'r dyraniad cyllid rydym wedi'i gael yn annigonol i'n galluogi i ailadrodd llawer o'r cynlluniau a ddatblygwyd gennym. Ond rwy’n falch ein bod yn gallu parhau â'n cronfa cymorth dewisol a'i chynyddu'n sylweddol, a hefyd, fel y dywedwch, mae hynny o ganlyniad i ran o’n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, y ffaith bod gennym yr ymrwymiadau hynny ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd gyda chyflwyno'r prydau ysgol am ddim. A gaf fi ddweud hefyd ei bod yn bwysig iawn fod hynny'n ymestyn i ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau, a'u bod ar gael i blant dros wyliau ysgol y Pasg a'r Sulgwyn, a bod hyd at £9 miliwn ar gael at y diben hwnnw.

Nawr, roeddwn yn falch iawn o ymweld ag Ynys Môn yn ddiweddar, ac fe fyddwch yn gwybod fy mod yn falch iawn o agor Canolfan Glanhwfa yn Llangefni, gydag Ieuan Wyn Jones, cyn gyd-Aelod a chyn Ddirprwy Brif Weinidog, a chlywed eu bod, gyda’u partner, Age Cymru, yn darparu man cynnes, paned a chacen, a sgwrs, bob dydd Mawrth, a bod plant eisoes yn cymryd rhan. Y peth pwysig yw bod hwn yn £250,000 a ddyfarnwyd gan raglen cyfleusterau cymunedol Llywodraeth Cymru, a £50,000 arall a ddyfarnwyd y llynedd hefyd—felly, mae'n cyrraedd pob cenhedlaeth, fel y gwelais pan ymwelais â'r ganolfan y diwrnod hwnnw.

Weinidog, rwy’n siŵr y byddech yn cytuno mai’r ffordd orau, ac o bosibl, y ffordd fwyaf cynaliadwy o helpu i godi pobl allan o dlodi yw sicrhau bod swyddi o ansawdd da a busnesau yn ffynnu ar Ynys Môn i gefnogi’r swyddi hynny. A dyna pam fy mod mor falch o weld y newyddion diweddar—a groesawyd ddoe gan y Gweinidog hefyd—y bydd y porthladd rhydd a gyhoeddwyd ar gyfer Ynys Môn yn symud i'r cam nesaf, sy'n enghraifft o waith partneriaeth gwych ar draws llawer o grwpiau, yn enwedig rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, i wireddu hynny. Felly, Weinidog, tybed sut byddwch yn gweithio, yn eich rôl, gyda Gweinidog yr Economi i sicrhau bod pobl ar Ynys Môn yn gallu cael mynediad at y swyddi newydd hynny a ddaw yn sgil y porthladd rhydd?

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn pwysig, yn dilyn y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf. Yn amlwg, mae gennym genhadaeth economaidd gref i drawsnewid economi Cymru, a bydd hynny’n creu dyfodol cryfach ond tecach, yn ogystal â gwyrddach. Ond credaf y dylid cydnabod, fel y gwnaethoch, fod y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf yn ein galluogi i symud ymlaen i gam nesaf y broses, ac mae'n adeiladu ar y buddsoddiadau a'r partneriaethau sylweddol rydym wedi'u gwneud yn yr ardaloedd hyn dros nifer o flynyddoedd. A chredaf ei bod yn bwysig nid yn unig ein bod yn creu economi a marchnad lafur gryfach, ond ei fod yn helpu i fynd i'r afael â'r agenda tlodi ac yn lleihau tlodi mewn gwaith yng Nghymru. Ac mae a wnelo â'r ffordd y cafodd contract economaidd Llywodraeth Cymru ei gynnwys yn y prosbectws, sy'n gwneud ein porthladdoedd rhydd yn wahanol i borthladdoedd rhydd eraill yn Lloegr a'r Alban, ond gan flaenoriaethu anghenion cymdeithasol ac amgylcheddol.

13:35
Sancsiynau Lles

2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith sancsiynau lles ar hawlwyr? OQ59363

Diolch, Luke Fletcher. Mae dadansoddiad diweddar yn dangos tuedd bryderus yn y cynnydd mewn sancsiynau, sydd bron wedi dyblu ers y lefelau cyn y pandemig. Mae'r cyhoeddiad a wnaeth y Canghellor yn natganiad y gyllideb ar gryfhau'r drefn sancsiynau hefyd yn destun pryder. 

Diolch, Weinidog. Credaf y dylai pob un ohonom fod yn bryderus iawn ynglŷn â chynlluniau peilot diweddaraf yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Lloegr a’r Alban, sy’n gwneud presenoldeb wyneb yn wyneb am hyd at 10 diwrnod bob pythefnos yn orfodol i hawlwyr, gyda’r bygythiad o sancsiynau os nad yw hynny'n digwydd. Mae ardaloedd yn fy rhanbarth i yn gyson uchel ar fynegai amddifadedd lluosog Cymru, a phe bai’r cynigion hyn yn dod i Gymru—ac mae’n debygol iawn y gallai hynny ddigwydd—byddai hynny'n cosbi hawlwyr agored i niwed ac yn creu risg o'u gwthio i dlodi gwaeth. Mae'r rhain yn bobl a chanddynt gyfrifoldebau gofalu, pobl ag anableddau, a phobl heb lawer o opsiynau mewn perthynas â thrafnidiaeth gyhoeddus. Mewn ymateb i fy nghwestiwn diwethaf i chi, Weinidog, fe ddywedoch chi eich bod yn awyddus i ailedrych ar y syniad o gynnull y bwrdd cynghori rhyngweinidogol Llywodraeth y DU-Cymru ar nawdd cymdeithasol. A ydych chi'n dal i obeithio bwrw ymlaen â'r gwaith hwn, ac os felly, pa gamau a gymerir i wneud hynny?

Diolch yn fawr am eich cwestiwn.

Mae'n bwysig iawn ein bod yn cydnabod y dystiolaeth, a chynhaliwyd astudiaeth bum mlynedd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol o amodoldeb lles. Canfu fod sancsiynau fel arfer yn arwain at ganlyniadau gwael ac nad ydynt yn cymell pobl i gael gwaith. Cefnogais argymhellion gan y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus i ddweud y dylid atal sancsiynau, ac yn enwedig o dan amgylchiadau’r argyfwng costau byw hwn. Ac rwy’n cydnabod hefyd—a daeth hyn i'r amlwg yr wythnos diwethaf ar ôl cyhoeddiad y Canghellor—yr hyn y mae’r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant yn ei ddweud, fod cyhoeddiadau’r gyllideb yn fwy o ffon nag abwyd, gan eu bod yn defnyddio dulliau cosbol fel sancsiynau, yn gorfodi rhieni i gael swyddi â chyflogau isel, ac yn cael effaith ar bobl anabl. Felly, a gaf fi ddweud fy mod yn parhau i bwyso am sefydlu'r pwyllgor cynghori rhynglywodraethol hwnnw, ond hefyd i sicrhau bod hynny'n digwydd yng nghyd-destun y gwaith a wnawn ar ymchwilio i ddatganoli gweinyddu budd-daliadau yn unol â'n cytundeb cydweithio?

Gellir datrys y rhan fwyaf o sancsiynau, gan gynnwys credyd cynhwysol, yn gyflym drwy fod hawlwyr yn aildrefnu a mynychu eu hapwyntiad nesaf, ac os ceir gwybodaeth am reswm da, gellir gwrthdroi’r sancsiwn ac ad-dalu’r arian. Rwyf wedi cael sicrwydd fod taliadau caledi ar gael fel amddiffyniad drwy'r Adran Gwaith a Phensiynau, os gall hawlydd ddangos na allant ddiwallu eu hanghenion uniongyrchol oherwydd sancsiwn. A byddai'n esgeulus imi beidio â nodi bod cyllideb ddiweddaraf Llywodraeth y DU wedi gwneud newidiadau sylweddol i helpu hawlwyr, gan gynnwys rhieni, i ddychwelyd i'r gwaith, er enghraifft, drwy dalu costau gofal plant credyd cynhwysol ymlaen llaw, yn hytrach nag fel ôl-ddyledion, gan adael pobl mewn dyled. Fodd bynnag, er bod Llywodraeth y DU wedi ymestyn y ddarpariaeth o 30 awr o ofal plant yr wythnos am ddim i bob rhiant sy'n gweithio a chanddynt blant rhwng naw mis a phedair oed, rwy'n siomedig na fydd hyn yn digwydd yng Nghymru yn ôl eich Prif Weinidog. Felly, pa ymdrechion rydych yn eu gwneud i ymestyn y cynnig gofal plant am ddim fel y gall rhieni Cymru ddod oddi ar fudd-daliadau a chael dyfodol gwell?

Wel, rwyf eisoes wedi dyfynnu’r dystiolaeth gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a'r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus ynglŷn â sut mae sancsiynau’n arwain at ganlyniadau gwael yn hytrach na chymell pobl i gael gwaith. Yr hyn sydd ei angen arnom yw system nawdd cymdeithasol sy'n canolbwyntio llai ar gydymffurfiaeth, a mwy ar helpu pobl—helpu hawlwyr i gael gwaith. Yr hyn sydd ei angen arnom yw cymorth swyddi personol, nid sancsiynau. Dyma ble mae angen inni ddatblygu ein hymagwedd, a gofynnaf i’r Adran Gwaith a Phensiynau gyhoeddi eu hymchwil ar sancsiynau budd-daliadau fel y gallwn weld sut y gallant gyfiawnhau hynny.

Ond mae'n rhaid imi ddweud, o ystyried bod gennym gynnig gofal plant mwy hael, a chynnig gofal plant, gyda Dechrau'n Deg, sy'n llawer mwy hael i'r rheini sydd ei angen fwyaf hefyd, a rhieni'n dychwelyd i'r gwaith drwy addysg a hyfforddiant, nid yw hynny'n cael ei gynnig yng nghynnig gofal plant Llywodraeth y DU.

Ond gadewch imi fynd yn ôl at y sancsiynau. Mae’r ffaith y bydd yn ofynnol i brif ofalwyr plant mor ifanc â blwydd neu ddwy oed chwilio am waith hyd yn oed os oes un rhiant eisoes yn gweithio, ac unwaith eto, mae’r amodoldeb a’r sancsiynau’n berthnasol—. Mae'n anodd iawn i'r bobl fwyaf agored i niwed sy'n cael eu taro galetaf gan sancsiynau. A gaf fi roi’r dystiolaeth o Gymru i chi? Ledled y DU ac yng Nghymru, mae nifer cynyddol o unigolion yn ceisio cyngor gan Cyngor ar Bopeth mewn perthynas â’r gofynion amodoldeb amhriodol hyn, ac mewn gwirionedd, gellir gweld, yn ddiweddar, rhwng 2021 a 2022, y bu cynnydd o 20 y cant yn nifer y bobl ar gredyd cynhwysol sy'n gofyn am gymorth gyda materion yn ymwneud ag amodoldeb, ymrwymiadau hawlwyr a sancsiynau. Nid gwladwriaeth les yw hon. Credaf hefyd y bydd yn anodd iawn o ran yr effaith ar bobl anabl sy'n ceisio cael mynediad at gyflogaeth a budd-daliadau'r wladwriaeth.

13:40

Rwyf wedi fy siomi'n fawr wrth glywed am sancsiynau, yn hytrach na thosturi, gan mai dyna rydym yn sôn amdano yma. Ac rwy'n gobeithio na fydd yr unigolyn sy'n credu bod hyn yn iawn byth mewn angen ei hun, gan y bydd yn gwybod wedyn sut mae hynny'n teimlo. Ond y pwynt roeddwn am eich holi yn ei gylch, Weinidog, yw pa sgyrsiau a gawsoch chi i geisio addysgu’r Torïaid yn San Steffan am ddarparu gofal plant priodol am ddim am 48 wythnos, er enghraifft. Rydych eisoes wedi sôn ei fod yn cynnwys cyfleoedd addysg a hyfforddiant yng Nghymru i helpu'r unigolion hynny i addysgu eu hunain neu ddod o hyd i hyfforddiant ar gyfer y math cywir o gyflogaeth ar gyfer eu maes. Ac er ein bod yn eu clywed dro ar ôl tro yn ceisio honni'r hyn na allant ei honni, fod eu cynnig yn well na'n un ni, ychydig o dosturi yn lle sancsiwn arall sy'n dweud 'Ni allwch gael hyn oni bai eich bod yn gweithio, ond ni allwch ei gael i'ch helpu i gael swydd'—.

Diolch yn fawr iawn, Joyce Watson. Mae’n bwysig inni atgoffa ein cyd-Aelodau ymhlith y Ceidwadwyr Cymreig o'r hyn sy’n digwydd yng Nghymru mewn perthynas â gofal plant. Rydym eisoes yn buddsoddi'n helaeth i ehangu darpariaeth gofal plant a blynyddoedd cynnar i bob plentyn dwy oed yng Nghymru—ymrwymiad yn y cytundeb cydweithio. Rydym eisoes yn buddsoddi mwy na £100 miliwn y flwyddyn mewn gofal plant yng Nghymru. Mae ein cynnig gofal plant yn darparu 30 awr o ofal plant a ariennir yr wythnos am hyd at 48 wythnos y flwyddyn ar gyfer plant tair a phedair oed. Gall rhieni mewn hyfforddiant ac addysg gael cymorth gyda chostau gofal plant, ac rydym eisoes yn cyflwyno gofal plant o ansawdd uchel i blant dwy oed ledled Cymru drwy ein rhaglen Dechrau'n Deg. Ac mae gofal plant a ariennir yn cefnogi, fel y dywedodd Joyce Watson—mae'n cefnogi—rhagor o rieni i ddychwelyd i'r gwaith, ond nid gyda grym sancsiynau ac amodoldeb, sy'n gorfodi pobl, fel y dywedodd y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, i mewn i swyddi ar gyflogau is. Gallem dreulio gormod o amser ar hyn, ond ar hyn o bryd, mae Lloegr yn cynnig 30 awr o ofal plant i rieni sy'n gweithio am 38 wythnos y flwyddyn, 15 awr o ofal plant a ariennir ar gyfer rhai plant dwy a thair oed, ac wrth gwrs, ni fydd y newidiadau arfaethedig yn Lloegr yn dod i rym yn llawn am o leiaf ddwy flynedd arall.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Joel James. 

Diolch, Lywydd. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf gan Senedd Uganda ei bod bellach yn anghyfreithlon i hunan-adnabod fel LHDTC, ac yn drosedd i unigolion neu sefydliadau i hyd yn oed gefnogi hawliau LHDTC? Diolch.

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Rwy’n siŵr y bydd pawb yn y Siambr hon yn cytuno ei bod yn arswydus gweld nid yn unig yr adroddiadau ar gyflwyno'r Bil gwrth-gyfunrywioldeb yn Uganda yn ddiweddar, ond yr hyn a welwyd yn Senedd Uganda. Rhaid imi ddweud fy mod wedi teimlo'n sâl wrth feddwl am sefyllfa ac ofn pur y gymuned LHDTC+ yn Uganda. Ac mae Cymru'n cydsefyll yn gadarn iawn mewn undod â chymunedau LHDTC+ ym mhobman, a gwyddom fod pobl LHDTC+ Uganda yn dioddef, a bydd y Bil newydd hwn yn gwaethygu'r naratifau sydd eisoes yn wahaniaethol ac yn gwthio pobl i'r cyrion a'r rhethreg ffiaidd yn erbyn pobl hoyw, lesbiaidd a deurywiol sydd i'w gweld mewn gormod o gymunedau a gormod o wledydd ledled y byd.

Diolch am eich condemniad cryf, Ddirprwy Weinidog, ac mae fy ngrŵp a minnau'n rhannu'r teimladau rydych newydd eu mynegi yn llwyr. Fodd bynnag, o ystyried natur y Bil hwn a’r canlyniadau a fydd iddo, credaf ei bod yn gwbl briodol i’r Llywodraeth hon egluro nawr sut mae’n bwriadu diogelu'r bobl sy’n gwirfoddoli neu'n cymryd rhan mewn prosiectau a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn Uganda ac sy’n hunan-adnabod fel LHDTC, a Ddirprwy Weinidog, a ydych yn credu nawr y dylai’r sefydliadau Cymreig sy’n cael arian gan Lywodraeth Cymru barhau i anfon gwirfoddolwyr a staff i Uganda.

13:45

Mae gan bobl a Llywodraeth Cymru berthynas hirsefydlog â phobl a chymunedau yn nwyrain Uganda, fel y gŵyr yr Aelod, ac mae’n bwysig nodi'n glir nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw berthynas ffurfiol â Llywodraeth Uganda. Ac mae ein rhaglen Cymru ac Affrica, y gwn fod yr Aelod yn gyfarwydd â hi, yn gweithio mewn partneriaeth â phobl Uganda, ac nid Llywodraeth Uganda.

Ond mae'n codi rhai pwyntiau dilys iawn ynglŷn â diogelwch, nid yn unig diogelwch pobl LHDTC+ yn Uganda, ond hefyd diogelwch pobl sy'n teithio i'r wlad honno, ac yn amlwg, bydd cyngor yn cael ei ddarparu gan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu, y byddwn yn glynu wrtho'n agos iawn. Ac mae hyn yn rhywbeth rwyf fi a fy nghyfaill a’m cyd-Aelod, Jane Hutt, eisoes wedi trefnu i edrych arno i sicrhau bod y cymorth hwnnw ar waith, ac rydym yn ystyried y pethau hyn yn ofalus.

Diolch am eich eglurhad ar y mater hwn, Ddirprwy Weinidog ac fel rydych wedi nodi, gwelais rai o'r prosiectau yn Uganda fy hun yn ddiweddar, yn benodol y prosiectau sy'n ceisio helpu cymunedau drwy wella amaeth-goedwigaeth gynaliadwy. Ac roeddwn yn falch o weld sut maent hefyd yn helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. Ond ni waeth sut yr edrychwch ar y sefyllfa hon, mae’r achos yn glir bellach na all sefydliadau partner sy’n cael cyllid gan Lywodraeth Cymru rannu ein gwerthoedd yn gyhoeddus.

Yr wythnos diwethaf, rhyddhaodd y Prif Weinidog ddatganiad ysgrifenedig am ymweliadau tramor gweinidogol yn gysylltiedig â Dydd Gŵyl Dewi, lle ailbwysleisiodd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau mai Cymru yw’r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop tuag at bobl LHDTC+, ac rwy'n pryderu'n fawr fod hyn yn gwneud i Gymru edrych yn rhagrithiol. Mae’r Llywodraeth hon yn gwneud datganiadau ynglŷn â bod yn gyfeillgar tuag at bobl LHDTC, rydych yn condemnio Uganda, yn gwbl briodol, am eu safbwynt ynghylch pobl LHDTC, ond rydych yn berffaith hapus i dderbyn lletygarwch gan Qatar, gwlad sydd â’r gosb eithaf am gyfunrywioldeb, ac rydych yn berffaith hapus i wario arian ar gynnyrch yn Uganda, sy'n rhoi carchar am oes am gyfunrywioldeb ac sydd bellach wedi'i gwneud yn anghyfreithlon i hyd yn oed hunan-adnabod fel LHDTC. Felly, gyda hyn mewn golwg, Ddirprwy Weinidog, sut y gallwch gyfiawnhau’n foesol fod arian trethdalwyr Cymru yn cael ei wario, ni waeth pa mor ychydig, mewn gwlad sy'n arddel safbwynt cwbl groes i’n gwerthoedd fel cenedl? Diolch.

Er fy mod yn croesawu diddordeb yr Aelod yn y maes hwn, nid wyf am dderbyn pregeth gan y Blaid Geidwadol ar gefnogaeth i'r gymuned LHDTC+. Ac yn amlwg, mae'n codi pryderon dilys iawn am y rôl rydym yn ei chwarae gyda'n hymgysylltiad diplomyddol a'n perthynas â gwledydd a sut rydym yn defnyddio ein dylanwad, lle mae gennym ddylanwad, ar gefnogaeth i'r gymuned LHDTC+ ym mhob rhan o'r byd. Ac rydych yn codi mater Qatar, ac mae'n rhan fawr iawn o'n cynllun gweithredu LHDTC+ i edrych ar y berthynas â gwledydd a'i hadolygu'n barhaus a sicrhau ein bod yn ei dadansoddi a'n bod yn gweithio mewn ffordd sydd nid yn unig yn ceisio dadlau dros y cymunedau hynny, ond yn gwneud hynny mewn ffordd nad yw'n gwneud eu sefyllfa'n waeth. Ac rwy’n cydnabod, er bod y rhain yn gwestiynau i Lywodraeth Cymru, rwy’n gobeithio y gallai Joel James, tra bu'n ymweld ag Uganda, fod wedi ystyried y materion hyn, yn enwedig pan gyfarfu â sefydliadau a'r athrofa Anglicanaidd yno.

Diolch, Lywydd. Weinidog, ddoe—neithiwr—bu ASau yn trafod Bil Mudo Anghyfreithlon Torïaid y DU, ac mae’n sicr yn anghyfreithlon, gan ei fod yn Fil y mae dwsinau o sefydliadau hawliau dynol ac arbenigwyr cyfreithiol wedi’i alw'n anghydnaws â’r cytuniadau hawliau dynol rhyngwladol y mae’r DU wedi'u llofnodi, gan gynnwys y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, confensiwn ffoaduriaid 1951 a Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol 1948.

Weinidog, nid oes unrhyw amheuaeth nad yw’r Bil gresynus hwn yn tanseilio nod Cymru i fod yn genedl noddfa a’n dymuniad i ehangu yn hytrach na chyfyngu ar hawliau ffoaduriaid a cheiswyr lloches i gael mynediad at wasanaethau. Pobl yw’r rhain, nid ‘problem’, fel y dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn ffiaidd, ar y cyfryngau cymdeithasol ddoe—nid rhai sy'n creu ‘anrhefn’, yn ei eiriau gwarthus ef, ond ein brodyr a'n chwiorydd, yn gofyn am ein cymorth. Pe bai gennym y pwerau, gallem sicrhau na fyddai’r Bil gwrth-ffoaduriaid annynol hwn yn berthnasol yng Nghymru. Gan nad yw hynny’n wir, yn anffodus, ddoe, cyflwynodd ASau Plaid Cymru welliant a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraethau’r DU a Chymru lunio canllawiau ar y cyd, yn nodi sut y gellid rhoi mesurau o dan y Ddeddf hon ar waith mewn ffordd sy’n gyson ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fod yn genedl noddfa, lle na chaniateir i ganllawiau gael eu cyhoeddi oni bai eu bod wedi'u cymeradwyo gan y Senedd hon. Roedd yn siomedig nad oedd unrhyw un o ASau Cymreig y Blaid Lafur ymhlith y rheini a arwyddodd y gwelliant. Weinidog, a ydych yn cytuno â Phlaid Cymru fod y Bil hwn yn sarhad ar werthoedd pobl Cymru, yn mynd yn gwbl groes i gytuniadau hawliau dynol rhyngwladol ac yn groes i uchelgais datganedig Cymru i fod yn genedl noddfa? Ac os felly, pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau, yn wahanol i deitl y Bil hwn, nad oes unrhyw un sy’n ceisio noddfa yng Nghymru yn anghyfreithlon?

13:50

Wel, diolch yn fawr, Sioned Williams, ac a gaf fi ddiolch o galon i chi am eich cwestiwn heddiw? Mae’r ffordd y mae'r Bil hwn yn gwneud ei ffordd—yn cael ei orfodi drwy’r Senedd, ei orfodi, heb graffu priodol, drwy’r Senedd—yn erchyll. Ac ysgrifennais at Robert Jenrick ar 14 Mawrth—rhannais fy llythyr—a dywedais yn y llythyr hwnnw na allwn gefnogi Bil y mae Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig wedi’i alw'n gyfystyr â gwaharddiad ar loches ac a fyddai’n mynd yn groes i'r confensiwn ffoaduriaid, a hefyd, yn bwysig—a chredaf fod yn rhaid trafod hyn pan fyddwn yn edrych ar hyn fel Senedd—mae'r Ysgrifennydd Cartref ei hun wedi datgan nad yw'n credu bod y Bil yn cydymffurfio â'r confensiwn hawliau dynol. Felly, mae’n Fil anghyfreithlon ynddo’i hun.

Fel y dywedwch, rydym yn ymdrechu i wneud Cymru yn genedl noddfa wirioneddol. Dywedais hyn wrth Robert Jenrick, fel y gwneuthum mewn perthynas â Deddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022 o'i flaen. Mae’n tanseilio’n llwyr ein gallu i roi polisïau ar waith i gyflawni hyn, ac yn fwyaf arbennig, byddwn yn dweud, o ran y Bil hwn, mewn perthynas â phlant a phobl ifanc. Ac ar y pwynt hwnnw, mae gennym ymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu i gynnal hawliau plant a phobl ifanc ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches. Rydym yn falch o fabwysiadu ymagwedd sy'n eu trin fel plant yn gyntaf a mudwyr yn ail ac sy'n cynnal buddiannau a hawliau plant.

Diolch, Weinidog. Hoffwn innau sôn am y digwyddiadau, y digwyddiadau gwarthus, yn Uganda. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi bod yn falch o weithio gyda Llywodraeth Cymru ar y cynllun gweithredu LHDTC+ i sicrhau mai Cymru yw’r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop tuag at bobl LHDTC, ond mae’r cynllun hefyd yn ymrwymo, wrth gwrs, i arddangos dyletswydd ryngwladol Cymru i ddangos arweiniad ar gydraddoldeb. Mae pobl sy’n hunan-adnabod yn Uganda, fel y clywsom, mewn perygl o orfod treulio'u bywydau yn y carchar, a gallent gael y gosb eithaf mewn rhai achosion, ar ôl i’r Senedd basio'r Bil newydd yr wythnos diwethaf. Mae’r Bil yn cael ei ddisgrifio fel un o’r enghreifftiau llymaf o ddeddfwriaeth wrth-hoyw yn Affrica. Yn ogystal â gwneud hunan-adnabod fel hoyw yn anghyfreithlon am y tro cyntaf, byddai gan ffrindiau, teuluoedd ac aelodau o'r gymuned ddyletswydd i roi gwybod i'r awdurdodau am unigolion sydd mewn perthynas â rhywun o'r un rhyw. Mae Amnesty wedi dweud:

'Bydd y ddeddfwriaeth hynod ormesol hon yn sefydliadu gwahaniaethu, casineb, a rhagfarn yn erbyn pobl LHDTRh… ac yn rhwystro gwaith pwysig cymdeithas sifil, gweithwyr iechyd cyhoeddus proffesiynol, ac arweinwyr cymunedol.'

Wrth gwrs, fe wyddom am—ac ydym newydd fod yn trafod—y cysylltiadau niferus sydd gan Lywodraeth Cymru ag Uganda drwy raglen Cymru ac Affrica, gan weithio mewn partneriaeth ar brosiectau a rhaglenni amrywiol. Felly, Weinidog, sut fydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y bobl sydd ynghlwm wrth y prosiectau hynny, a allai fod mewn perygl difrifol oherwydd y ddeddfwriaeth erchyll hon, yn cael eu hamddiffyn? Sut rydym yn mynd i’w diogelu, a sut rydych yn mynd i sicrhau bod rhaglen Cymru ac Affrica yn fwy cyffredinol yn gyson â’r ymrwymiadau rhyngwladol yn y cynllun gweithredu?

Wel, diolch hefyd, Sioned, am godi’r cwestiwn, ac yn amlwg, diolch i’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol am ymateb mor llawn ac mor glir i’r cwestiwn gan Joel James yn gynharach. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud ein datganiad yma heddiw, ac mae'n ddatganiad sy'n dod o bob rhan o'r Senedd. A chydnabod, unwaith eto, fel y mae’r Dirprwy Weinidog wedi’i ddweud, fod rhaglen Cymru ac Affrica yn gweithio mewn partneriaeth â phobl Uganda, ac nid y Llywodraeth. A dylwn ddweud ein bod wedi bod yn annog pobl sydd wedi mynd i Uganda i drafod y materion hyn, i drafod materion sy'n ymwneud â hawliau pobl LHDTC+, gyda'r rhai sy'n eu croesawu. Ac mewn gwirionedd, gallaf ddweud fy mod innau wedi eu trafod ag ymwelwyr o Uganda. Mae’n gyfle allweddol ac yn gyfrifoldeb i drafod y materion hyn. Yn amlwg, mae hyn er mwyn ceisio hybu gwell dealltwriaeth a goddefgarwch ac estyn llaw at bobl sy'n dymuno clywed gennym, gan gynnwys pobl LHDTC+ yn Uganda. Nawr, yn amlwg, rydym yn aros i weld y Bil hwn. Mae wedi'i drosglwyddo'n ôl i'r Arlywydd Museveni. Mae ganddo 30 diwrnod i gydsynio neu ei anfon yn ôl i'r Senedd gyda newidiadau. Credaf ei bod yn bwysig ei fod yn cael sylw heddiw, ac fel y dywedodd y Dirprwy Weinidog, ein bod nid yn unig yn edrych ar hyn yng nghyd-destun ein perthynas waith â chyrff anllywodraethol yn Uganda, ond hefyd yn cydnabod, mewn gwirionedd, fod yn rhaid inni sicrhau y darperir cyngor teithio hefyd, i rybuddio unrhyw un sy'n ymweld ynglŷn â'u hanghenion a'u hawliau, a'n bod yn ystyried hyn hefyd gyda'r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu.

13:55
Mesuryddion Rhagdalu

3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch gorfodi gosod mesuryddion rhagdalu? OQ59343

Diolch yn fawr iawn, Jack Sargeant. Ysgrifennais at Grant Shapps, Ysgrifennydd Gwladol yr Adran dros Ddiogelu Ffynonellau Ynni a Sero Net, ar 13 Mawrth. Galwais unwaith eto am gael gwared ar fesuryddion rhagdalu a osodwyd yn orfodol drwy'r broses warantau anniogel hon dros y chwe mis diwethaf.

Rwy’n ddiolchgar i’r Gweinidog am ei dealltwriaeth gyson o ddifrifoldeb y mater hwn a'i chefnogaeth gyson i’r rheini ar fesuryddion rhagdalu. Unwaith eto yr wythnos hon, datgelwyd methiannau Llywodraeth y DU ac Ofgem i fynd i’r afael â'r sgandal mesuryddion rhagdalu. Dangosodd ffigurau a gyhoeddwyd ddydd Llun mai tri chyflenwr yn unig—Scottish Power, Nwy Prydain ac Ovo—a oedd yn gyfrifol am osod 70 y cant o fesuryddion yn orfodol drwy warantau llys. Weinidog, rwyf wedi dweud wrth Ofgem dro ar ôl tro fod y broblem hon yn ymestyn y tu hwnt i Nwy Prydain yn unig. Roedd hynny'n amlwg i mi o ystyried nifer y gwarantau a pha mor gyflym y'u rhoddwyd. Ond yn hytrach na cheisio darganfod faint ohonynt a osodwyd a bwrw ati i amddiffyn cwsmeriaid, dywedasant mai fy lle i oedd profi hyn. Drwy oedi a gwrthod gwrando ar y dystiolaeth o’u blaenau, maent wedi gadael trigolion bregus yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig i wynebu risg wirioneddol. Fel rwyf wedi’i ddweud eisoes yn y Siambr hon, Weinidog, mae hyn yn fater lle mae bywyd yn y fantol.

Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod Pwyllgor Deisebau’r Senedd wedi cychwyn ymchwiliad seneddol yr wythnos hon, ac fel Cadeirydd y pwyllgor hwnnw rwy'n disgwyl i gadeirydd Ofgem a phrif weithredwr Ofgem, a swyddogion gweithredol y cyflenwyr hyn, fynychu sesiynau ac ateb cwestiynau gan aelodau'r pwyllgor. Weinidog, a wnewch chi fynegi fy rhwystredigaeth ynghylch maint y broblem a'r methiannau yn y sgyrsiau rydych chi'n eu cael gyda hwy? Ac a wnewch chi hefyd eu cyfarwyddo i ymgysylltu â'r ymchwiliad seneddol sydd ar y gweill?

Wel, diolch yn fawr iawn, Jack Sargeant, ac am eich arweinyddiaeth barhaus yn y maes hwn. Rydych yn sefyll yma fel cynrychiolydd etholedig, yn cynrychioli eich etholwyr, sy'n amlwg wedi ymateb i chi yn yr arolwg pwerus hwnnw, sy’n ddylanwadol, ac yn wir, bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd a minnau’n cyfarfod â’r prif weithredwr, Jonathan Brearley, yn yr ychydig wythnosau nesaf. Bryd hynny, byddwn ein dau'n mynegi ein pryderon unwaith eto ynglŷn â'r ffyrdd nad yw eich ymateb mewn cyfarfodydd ag Ofgem wedi'i drin gyda'r gydnabyddiaeth a'r parch priodol yn y gorffennol.

Ond unwaith eto, hoffwn i fy nghyd-Aelodau wybod beth sydd wedi digwydd, os caf ailadrodd yr hyn y mae Jack Sargeant wedi'i ddweud. Tri chwmni ynni yn unig—tri—sef Nwy Prydain, Scottish Power ac Ovo Energy, ac rwy’n eu henwi yma heddiw, sydd wedi gosod 70 y cant o'r mesuryddion gorfodol hynny. A dylid dweud bod nifer cyffredinol y mesuryddion gorfodol a osodwyd wedi cynyddu fwy na 40 y cant y llynedd, pan oedd biliau tanwydd yn codi i'r entrychion ac argyfwng tlodi tanwydd y gaeaf ar y gorwel. Scottish Power a osododd y nifer uchaf o fesuryddion rhagdalu o gymharu â nifer eu cwsmeriaid. Mae'n syfrdanol. Mae’n rhaid inni barhau, yn y Senedd hon, a chredaf ei bod yn bwysig fod gennym gefnogaeth gref ar draws y Senedd, i ddweud yn glir iawn nad ydym ni yng Nghymru yn mynd i oddef yr ymddygiad hwn, a byddwn yn dweud hyn yn glir iawn wrth Ofgem ac wrth Lywodraeth y DU, sydd â'r grym i wneud newidiadau yma. Ond a gaf fi ddweud fy mod yn croesawu’r Pwyllgor Deisebau, y pwyllgor trawsbleidiol, a gadeirir gan Jack Sargeant? Byddaf yn dweud—. Byddaf, gobeithio, yn rhoi tystiolaeth, a hefyd yn annog prif weithredwr a chadeirydd Ofgem i wneud hynny hefyd.

Yn eich datganiad ysgrifenedig ar yr argyfwng costau byw ac ynni ddoe, fe wnaethoch groesawu’r penderfyniad i gysoni taliadau’r rheini sy’n rhagdalu am eu hynni â thaliadau’r rheini sy’n talu drwy ddebyd uniongyrchol, a gyhoeddwyd yng nghyllideb Llywodraeth y DU, a'r estyniad i waharddiad Ofgem ar osod mesuryddion rhagdalu gorfodol. Fe ddywedoch chi hefyd:

'ei bod yn drueni bod angen ymchwiliad gan y wasg i dynnu sylw at [y] broblem'.

A wnewch chi gydnabod, felly, fod yr Ysgrifennydd busnes ar y pryd, Grant Shapps, y cyfeirioch chi ato, wedi ysgrifennu at y cyflenwyr ynni cyn i ymchwiliad y cyfryngau dynnu sylw at y mater, gan ddweud y dylent roi’r gorau i orfodi cwsmeriaid agored i niwed i gael mesuryddion rhagdalu? Ac o ystyried eich cyfeiriad at annhegwch arall y tâl sefydlog y mae cwsmeriaid ar fesuryddion rhagdalu'n ei wynebu, pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda Llywodraeth y DU ac Ofgem ers i Lywodraeth y DU ofyn i Ofgem adrodd yn ôl ar opsiynau ar gyfer rhoi diwedd ar y taliadau sefydlog uchaf y telir amdanynt gan ddefnyddwyr mesuryddion rhagdalu?

14:00

Diolch, Mark Isherwood. Yn amlwg, roedd rhai agweddau ar y gyllideb yr oeddem yn eu croesawu. Fe wnaethom ni alw amdanynt. Fe wnaethom ni alw am atal y codiad i £3,000. Fe wnaethom alw amdano. Fe wnaethom alw hefyd, o ran Ofgem, na ddylai'r gwaharddiad ar osod mesuryddion yn orfodol ddod i ben ddiwedd y mis hwn. Mae i fod i ddod i ben ddiwedd yr wythnos hon, ond fe ddylai barhau. Yn wir, rwy'n dweud y dylai barhau am gyfnod amhenodol, a gobeithio y byddech chi'n fy nghefnogi ar y pwynt hwnnw.

Rwy'n cyfarfod â chyflenwyr ynni yfory. Rwy'n cyfarfod â chyflenwyr ynni ac rwy'n gobeithio y bydd yn cynnwys y tri chyflenwr ynni y soniwyd amdanynt eisoes heddiw sydd wedi gosod y lefelau uchaf o fesuryddion yn orfodol. Byddaf yn dwyn y taliadau sefydlog i'w sylw. Wrth gwrs, mae Mike Hedges yn codi hyn ar bob achlysur, fel y gwnaeth yr wythnos diwethaf yn y ddadl Aelodau. Mater i'r cyflenwyr ynni, a hefyd i Lywodraeth y DU yw gweithredu ar hyn.

Onid yw'n rhwystredig fod yn rhaid inni aros i'r Torïaid yn San Steffan nad ydynt yn enwog am hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol weithredu ar hyn? Ond efallai fod hynny'n fwy o gwestiwn i'r Cwnsler Cyffredinol ar ddatganoli cyfiawnder.

Fel y dywedais yn nadl Jack yn ddiweddar, gosod mesuryddion rhagdalu yn orfodol yw un o'r sgandalau cyfoes mwyaf yn ein cymdeithas ar hyn o bryd. Mae wedi golygu bod teuluoedd yn oer, pensiynwyr yn eistedd yn y tywyllwch ac yn anochel, pobl yn marw. Mae'n symptomatig o'r ffordd y mae pobl nad ydynt yn gefnog yn cael eu trin yn y DU. Mae'r un ymagwedd ac arferion ecsploetiol i'w gweld gan lawer o gwmnïau beilïaid tuag at bobl mewn dyled. Gyda hynny mewn golwg, a all y Gweinidog egluro pa ddylanwad a phwerau sydd ganddi nid yn unig i fynd i'r afael â dioddefwyr yr arfer o osod mesuryddion rhagdalu yn orfodol, ond hefyd y rhai sydd wedi dioddef taliadau gormodol wedi'u gosod gan gwmnïau beilïaid? Rwy'n arbennig o awyddus i glywed am unrhyw ddiweddariadau ynghylch deialog gyda'r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi.

Diolch yn fawr, Peredur. Ddoe, cefais gyfarfod defnyddiol ac adeiladol iawn gyda'r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi. Yn dilyn cyfraniadau a sylwadau a wnaed yn y Siambr hon, roeddwn wedi cysylltu â'r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi ac wedi gofyn iddynt a allent chwarae rôl yn achredu'r rhai a oedd yn asiantaethau gorfodi ar gyfer cyfleustodau. Ac mae'n rhaid imi ddweud fy mod i'n falch iawn o glywed ganddynt, ac yn wir, cefais gyfarfod gyda Dŵr Cymru yn gynharach yr wythnos hon. Mae Dŵr Cymru yn gosod safon—gallwch ei gweld ar eu gwefan—yr amod safonol sydd wedi'i nodi nawr gan y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi. Mae wedi'i sefydlu fel bod yn rhaid trin y rhai sy'n destun camau gorfodi yn deg, a bydd yn darparu goruchwyliaeth annibynnol ar y diwydiant gorfodi, gan roi sylw arbennig i'r rhai sy'n cael trafferthion ariannol neu amgylchiadau eraill sy'n eu gwneud yn agored i niwed. Felly, mae Dŵr Cymru'n dweud bod 

'sefydliadau yr ydym yn gweithio gyda nhw... yn ei gwneud yn ofynnol i’r holl asiantaethau gorfodi sy’n gweithio ar ein rhan fod wedi’u hachredu gan y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi.'

Nawr, rwy'n credu bod hwnnw'n gam i'r cyfeiriad cywir a dywedodd y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi mai diolch i'r arweinyddiaeth yng Nghymru—y Llywodraeth a'r Senedd, byddwn i'n dweud—fod hynny, mewn gwirionedd, yn cael effaith o ran y cyfleustodau. Felly, rwy'n mynd i fod yn chwifio hyn yn wynebau, neu'n rhithiol, y cyflenwyr ynni ddydd Iau.

Gwirfoddoli

4. Pa gamau mae'r Gweinidog yn eu cymryd i hyrwyddo gwirfoddoli yng Ngorllewin De Cymru? OQ59350

Diolch yn fawr, Altaf Hussain. Fe ddof o hyd i'r ateb i'ch cwestiwn. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cydnabod pwysigrwydd y sector gwirfoddol yng Nghymru, ac rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod hefyd fod y sector gwirfoddol yng Nghymru yn eich rhanbarth chi wedi bod yn chwarae rhan allweddol. Mae'n edrych ar hyn mewn perthynas â'n rhwydwaith o gynghorau gwirfoddol sirol a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ac mae'r rhwydwaith hwnnw, wrth gwrs, yn cael ei ategu gan Gwirfoddoli Cymru, ein porth ar-lein rhad ac am ddim.

14:05

Diolch, Weinidog. Mynychais ddathliad canmlwyddiant yn is-adran Maesteg o Ambiwlans Sant Ioan Cymru. Roedd fy nghyd-Aelod Luke Fletcher yno hefyd. Is-adran Maesteg oedd yr uned Ambiwlans Sant Ioan gyntaf yng Nghymru, ac ers 100 mlynedd, mae plant a phobl ifanc o Faesteg a'r cyffiniau wedi dod yn gadetiaid Ambiwlans Sant Ioan Cymru. Mae'r cadetiaid yn darparu lle i ddysgu cymorth cyntaf, datblygu sgiliau arwain a chyfathrebu, a gwirfoddoli i helpu eraill. Maent yn darparu sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr i bobl ifanc ac yn eu helpu i ddod yn ddinasyddion gweithredol. Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch is-adran Maesteg, ac a wnewch chi weithio gyda'ch cyd-Aelod, y Gweinidog addysg i archwilio ffyrdd o hyrwyddo cyfleoedd cadetiaid Ambiwlans Sant Ioan Cymru i bobl ifanc?

Diolch yn fawr, Altaf, am ddod â newyddion i ni am y ganolfan wych hon ym Maesteg y buoch yn ymweld â hi gyda'ch cyd-Aelod. Os caf ddweud, mae'n esiampl ysbrydoledig, onid yw, o ysbryd gwirfoddoli ein plant a'n pobl ifanc. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig iawn yw bod ein gwirfoddoli'n pontio'r cenedlaethau'n dda, ac mae'n cael ei gefnogi, wrth gwrs, gan ein cynghorau gwirfoddol sirol yn y ffordd a ddisgrifiais. Ond hefyd byddwn yn edrych—ac yn sicr byddaf yn edrych gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg—ar ffyrdd y gallwn ddysgu o'r enghreifftiau hynny, yn arbennig. Rwyf am nodi bod hyn yn rhywbeth lle byddwch chi'n cydnabod bod plant a phobl ifanc yn camu ymlaen mewn cymaint o ffyrdd i gefnogi ei gilydd, aelodau hŷn o'u cymunedau, ond hefyd yn dysgu sgiliau, ac mae hynny'n hanfodol i'w datblygiad.

Weinidog, yn gynharach y mis hwn, roedd yn bleser eich croesawu i fy etholaeth i ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er mwyn i chi ymweld â siop wych Sussed Cymru ym Mhorthcawl fel rhan o Bythefnos Masnach Deg. Mae Sussed yn cael ei rhedeg yn llwyr gan wirfoddolwyr, ac mae'n siop model cydweithredol, sy'n cynnig ystod eang o gynhyrchion, gan gynnwys dillad, bwyd ac ategolion, a phob un ohonynt yn fasnach deg a chyfartal. Rwy'n gwybod eich bod chi a minnau wedi mwynhau prynu rhai o'r cynhyrchion hynny yn fawr. Un o'r cyfryw yw Jenipher's Coffi, sy'n cael ei gynhyrchu gan sefydliad cydweithredol masnach deg Affricanaidd a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Hyd yn hyn, mae Jenipher's Coffi wedi cefnogi 3,664 o ffermwyr a phlannu dros 25 miliwn o goed, i hyrwyddo gwaith tecach ac ymladd dros newid, ac rwy'n siŵr y bydd y Senedd yn ymuno â mi i ddweud bod hwnnw'n gynnydd rhyfeddol. Hefyd, roedd hi'n wych ein bod ni wedi cael Jenipher yma yn y Senedd yn ddiweddar hefyd i ddangos y coffi i bawb.

Ond nid y tu allan i Gymru'n unig y mae'n rhaid i fasnach deg ddigwydd. Yn 2008, Cymru oedd y genedl fasnach deg gyntaf yn y byd, ac ers hynny, dywedodd 83 y cant o ddefnyddwyr a holwyd gan Masnach Deg Cymru fod ganddynt ffydd mewn cynhyrchion masnach deg, ac mae 99 y cant arall wedi dweud eu bod am weld Cymru'n parhau i fod yn genedl masnach deg. Felly, Weinidog, tra bod masnach deg yn dod yn fwy a mwy cyffredin yng Nghymru, dim ond 34 o drefi masnach deg sydd ar ôl yng Nghymru allan o 63 ar y cychwyn. Er fy mod yn falch fod Porthcawl yn un o'r trefi sydd ar ôl, beth arall y gallwn ei wneud i hybu masnach deg ar draws Cymru, gwaith sy'n cael ei arwain yn bennaf gan ein gwirfoddolwyr, ymgyrchwyr ac aelodau cydweithredol gwych? Diolch.

Diolch yn fawr, Sarah Murphy. Pleser o'r mwyaf oedd ymweld â Sussed Cymru. A gaf fi annog Aelodau ar draws y Siambr hefyd i ymweld â'r siop fasnach deg wych hon ym Mhorthcawl, sy'n cael ei rhedeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr—yn ôl i'r cwestiwn blaenorol hefyd? Gwybod bod Sussed, y busnes masnach deg ym Mhorthcawl, wedi cael effaith enfawr ar y dref a'i gwneud yn dref masnach deg go iawn. Mae Margaret Minhinnick, sy'n un o'r bobl allweddol yn Sussed hefyd—rwy'n credu ei bod hi'n dweud wrthyf—naill ai wedi bod neu'n mynd i fod yn llywydd y siambr fasnach. Nawr, dyna'r math o ddylanwad sydd angen i ni ei gael i sicrhau bod masnach deg wedi'i gwreiddio yn ein trefi, oherwydd, mewn gwirionedd, mae gennym nifer o drefi masnach deg yng Nghymru, ond mae angen inni sicrhau ein bod yn symud ymlaen.

Rydym yn adnewyddu'r statws yn ffurfiol gyda Sefydliad Masnach Deg y DU, ac rydym yn parhau i ariannu Masnach Deg Cymru. Fe wneuthum gyhoeddi datganiad ar hyn ychydig wythnosau yn ôl. Ond nid wyf yn gwybod a yw cyd-Aelodau'n cofio ei bod yn bymtheg mlynedd ers i Gymru ddod yn genedl fasnach deg. Byddwn yn cael dathliadau yn ddiweddarach eleni ac fe fyddwn yn cyhoeddi meini prawf newydd a chryfach, ac rydym yn gweithio gyda'r Alban ar hyn, oherwydd rydym eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn gallu dysgu gyda'n gilydd, i gael mwy o bobl yng Nghymru i glywed am bwysigrwydd masnach deg. Yn wir, ddydd Gwener, rwy'n edrych ymlaen at feirniadu cystadleuaeth masnach deg y mae plant a phobl ifanc wedi'i chyflwyno, ar themâu masnach deg. Rwy'n edrych ymlaen at wneud hynny yn fy etholaeth ddydd Gwener.

14:10
Ffoaduriaid o Wcráin

5. Sut mae Llywodraeth Cymru'n helpu ffoaduriaid o Wcráin i geisio noddfa yng Nghymru? OQ59347

Diolch yn fawr, Ken Skates. Mae ein dull tîm Cymru wedi arwain at dros 6,500 o Wcreiniaid yn cael noddfa yng Nghymru. Rydym yn parhau i gefnogi gwesteion, gan eu helpu i symud ymlaen i lety mwy hirdymor a chael cymorth. Yn rhan o'n cyllideb 2023-24, rydym yn buddsoddi £40 miliwn pellach yn ein hymateb dyngarol.

Diolch, Weinidog. Mae hynny'n galonogol iawn i'w glywed, a byddaf yn cyfarfod â ffoaduriaid Wcreinaidd yn fy etholaeth ddydd Gwener. Rydym yn gwybod bod gwasanaethau lleol yn gwbl hanfodol er mwyn sicrhau bod ein gwesteion yn teimlo bod croeso iddynt a'u bod yn ddiogel yma yng Nghymru. Weinidog, roeddwn hefyd yn falch o weld yr arian ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i awdurdodau lleol i gyflawni'r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol hyn, gyda phecyn cyllid o £40 miliwn, gan gynnwys parhau â chludiant cyhoeddus am ddim wrth gwrs, ac mae hyn yn gwbl groes i benderfyniad siomedig Llywodraeth y DU i beidio â pharhau â chyllid tariffau i flwyddyn 2. A oes gennych chi unrhyw ddiweddariadau o gwbl gan Weinidogion Llywodraeth y DU sy'n rhoi eglurder ynglŷn â pha gyllid y byddant yn ei ddarparu nawr i gefnogi pobl Wcráin yma yng Nghymru?

Diolch yn fawr iawn, Ken Skates, ac mae'n bwysig ein bod wedi gwneud yr ymrwymiad hwnnw, sef y pecyn cyllid o £40 miliwn. Fe wnaethom yr ymrwymiad hwnnw mewn partneriaeth a thrwy ymgynghori â'n partneriaid awdurdod lleol, sydd wedi bod mor hanfodol, a'r trydydd sector, i ddarparu cymorth i ffoaduriaid Wcreinaidd yng Nghymru. Rydym yn disgwyl eglurder gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â chyllid. Maent wedi cyhoeddi cronfa atal digartrefedd gwerth £150 miliwn, ond nid ydym wedi clywed beth fydd y dyraniad i Gymru. Ond rwyf wedi ysgrifennu, gyda'r Cynghorydd Andrew Morgan, sy'n arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i ofyn am eglurder ar frys, oherwydd rydym eisiau cymorth ar gyfer symud ymlaen. Wrth gwrs, mae angen inni weld beth fydd ein cyfran, oherwydd mae Llywodraeth y DU wedi torri tariff integreiddio blwyddyn 2—byddwch wedi gweld hynny yn fy natganiad ysgrifenedig ym mis Rhagfyr. Felly, fe wnaethom golli £29 miliwn o ganlyniad i'r penderfyniad hwnnw yn unig.

Ond rwyf am ddweud fy mod yn falch ein bod wedi gwneud penderfyniad i ymestyn taliadau lletya i'r ail flwyddyn ar ôl cyrraedd ac i godi taliadau diolch i'r rhai sydd yn eu lletya i £500. Roedd hyn eto wedi cael ei dorri gan Lywodraeth y DU, yn yr ystyr fod ganddynt ffordd ddryslyd ymlaen gyda'r taliadau diolch hynny, peidio â'u rhoi i fwy o bobl, ond rydym ni'n mynd i wneud y taliad hwnnw. Ond rwyf mewn cysylltiad rheolaidd â Gweinidog Cartrefi i Wcráin y DU, Felicity Buchan, ac mae'n ddefnyddiol cael adborth gan y Senedd ar y cyfarfodydd hynny.

Y llynedd, croesawodd sir Ddinbych ffoaduriaid Wcreinaidd, a hoffwn ganmol fy etholwyr am eu haelioni tuag at Wcreiniaid. Ac rwy'n falch fod Ken Skates wedi codi'r cwestiwn hwn heddiw. Yn yr un modd, roeddwn yn falch fod Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol wedi cydweithio i chwarae ein rhan yn ymdrech y rhyfel. Ond mae rhai ffoaduriaid Wcreinaidd yn sir Ddinbych wedi penderfynu gadael yr ardal am rannau eraill o'r DU, oherwydd diffyg cysylltiadau trafnidiaeth a chyfleusterau da ar draws yr ardal, ac mae hynny'n ffaith, gan imi gyfarfod â rhai ohonynt yn ystod yr haf y llynedd. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud felly i sicrhau nad oes rhaid i ffoaduriaid o Wcráin ddod o hyd i rannau eraill o'r DU i fyw ynddynt?

Wel, rwy'n credu mai un o'r pwyntiau pwysicaf y byddwn i'n ei wneud yw ein bod wedi ymestyn y tocyn croeso—rydym wedi ymestyn tocynnau croeso y cynllun trafnidiaeth gyhoeddus tan 30 Mehefin eleni. Nid oes cynllun trafnidiaeth cymorth cyhoeddus o'r fath yn Lloegr, mae'n rhaid imi ddweud. Rwy'n dymuno'n dda i'r gwesteion Wcreinaidd sy'n amlwg yn mynd i fod yn symud ar draws Cymru, i Gymru a thu allan i Gymru, ond rwyf am ei gwneud yn glir i gyd-Aelodau, ac i chi ac i'r rhai rydych chi'n eu cynrychioli, fod gennym y tocyn croeso. Mae hwnnw wedi bod mor bwysig er mwyn i bobl allu cael gwaith a'u galluogi i symud o gwmpas, ac rwy'n gwybod ei fod wedi cael ei groesawu gan awdurdodau lleol ar draws Cymru.

Prynhawn da, Weinidog. I ddilyn y cwestiwn gan Gareth hefyd, fe wneuthum innau gyfarfod â gwesteion Wcreinaidd a'u lletywyr ym Mhowys yr wythnos diwethaf hefyd, yn Nhal-y-bont, ac un o'r problemau a nodwyd ganddynt oedd trafnidiaeth, yn enwedig mewn ardal wledig. Mae yna bryder ynghylch y pàs crwydro Cymru yn dod i ben ddiwedd Mehefin, felly fy nghwestiwn cyntaf yw: tybed a fyddech chi'n ystyried ymestyn hwnnw i ganiatáu iddynt barhau i gael cludiant bws am ddim. Ond roedd problem arall yn ymwneud â'u trwyddedau gyrru a'r gallu iddynt barhau i gadw'r trwyddedau gyrru hynny ar ôl blwyddyn o fod yn y DU. Y sefyllfa yw bod rhaid iddynt gael prawf gyrru'r DU ar ôl blwyddyn yma. Rwy'n siŵr y byddai llawer ohonom sy'n gyrru yn yr ystafell hon ar hyn o bryd yn arswydo wrth feddwl y  byddai'n rhaid i ni gael prawf gyrru yn y wlad hon. Felly, tybed a wnewch chi ystyried bod mewn cysylltiad â'ch cydweithwyr yn yr Adran Drafnidiaeth i weld a ellid ychwanegu Wcráin at y rhestr o wledydd lle gellir cyfnewid y drwydded yrru am drwydded yrru'r DU. Diolch yn fawr iawn.  

14:15

Diolch yn fawr, Jane Dodds. Mae'n ddefnyddiol cael yr adborth hwn gan Aelodau ar draws y Siambr gan westeion Wcreinaidd. Mae'r adborth am y tocyn croeso yn bwysig, oherwydd roedd yn anodd iawn cael yr estyniad hwnnw gyda chyllid cyfyngedig, ond mae'n ddefnyddiol ar gyfer adborth. Byddaf yn codi'r materion hyn ynghylch mynediad at drwyddedau gyrru'r DU gyda Llywodraeth y DU; yn amlwg, mae o fewn eu pwerau. Gallant ddefnyddio'u trwydded bresennol i yrru ar ffyrdd y DU, fel y dywedwch, am y 12 mis cyntaf, ond y tu hwnt i hyn, mae'n rhaid iddynt drosi eu trwydded Wcreinaidd neu gael prawf gyrru'r DU. Mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn ei godi gydag Adran Drafnidiaeth y DU, a byddaf yn dychwelyd at yr Aelodau. Rwy'n siŵr y bydd ein cyd-Aelodau ymhlith y Ceidwadwyr Cymreig yn dymuno codi hyn hefyd.

Roeddwn eisiau eich holi am drafferthion ffoaduriaid o Affganistan. Rydym newydd gael gwybod eu bod yn mynd i gael eu gorfodi i adael gwestai a symud i un cynnig o lety, neu fe fyddant ar y stryd. O ystyried eu bod wedi bod yma ers 18 mis ers tynnu'n ôl o Affganistan, mae yna bryder amlwg y bydd pobl mewn swyddi, bydd ganddynt blant yn yr ysgol. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn gallu sicrhau bod y bobl hyn yn cael cynigion tai addas i beidio ag amharu ar y cysylltiadau y maent eisoes wedi'u gwneud, a'u hatal rhag bod yn ddigartref? A yw Llywodraeth y DU wedi rhoi unrhyw wybodaeth i chi am arian i'w ryddhau i awdurdodau lleol, a fydd, yn sydyn iawn, â thon newydd enfawr o bobl yn dod yn ddigartref? 

Diolch yn fawr, Jenny Rathbone. Gallaf roi gwybod i'r Aelodau fod swyddogion yn Llywodraeth Cymru wedi cael galwad gan y Swyddfa Gartref a'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau brynhawn ddoe i siarad am eu cynlluniau, sydd bellach wedi'u cyhoeddi y prynhawn yma, i gau pob llety pontio i bobl o Affganistan. Gwnaed y datganiad gan Johnny Mercer, y Gweinidog materion cyn-filwyr, y prynhawn yma. Rydym yn ystyried ac yn amsugno'r wybodaeth honno, ond rydym yn deall y bydd yr holl lety pontio yn cau o fewn misoedd, a'i bod yn ymddangos y bydd tri mis o rybudd yn cael ei roi. Bydd yn rhaid aros i weld beth fydd hyn yn ei olygu o ran timau'r Swyddfa Gartref, yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a'r Adran Gwaith a Phensiynau yn ymweld â phob safle. 

Rydym yn rhagweld y bydd tua 400 o bobl yn cael eu heffeithio yng Nghymru. Rwyf eisoes wedi gofyn—ac rwy'n disgwyl galwad gan y Gweinidog—sut y byddai cyllid yn dod ar gael yng Nghymru. Nid yw'n eglur iawn. Rwy'n deall y gellid sianelu arian drwy awdurdodau lleol, ond nid yw hynny'n glir. Nid wyf wedi gweld datganiad eto. Felly, mae angen i ni gael mwy o syniad o beth fydd hyn yn ei olygu, ond rwy'n deall bod awdurdodau lleol Caerdydd a Bro Morgannwg a Phartneriaeth Ymfudo Strategol Cymru wedi cael gwybod yr wythnos diwethaf. 

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

6. A wnaiff y Gweinidog wneud ddatganiad am ariannu Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru? OQ59362

Caiff awdurdodau tân ac achub yng Nghymru eu hariannu drwy godi cyfraniadau ar eu hawdurdodau lleol cyfansoddol. Yr awdurdodau tân ac achub eu hunain sy'n pennu hyn, ac nid yw'n destun cyfyngiadau allanol. Nid yw Llywodraeth Cymru yn ariannu gwasanaethau tân ac achub yn uniongyrchol, ac nid yw awdurdodau tân ac achub yn derbyn arian craidd gan Lywodraeth Cymru.

Diolch ichi am yr esboniad yna. Wrth gwrs, mae setliad cyflogwyr y gwasanaethau tân drwy Gymru a Lloegr gyda'r FBU, undeb y diffoddwyr tân, am gynyddu'r diffyg cyllid yn yr awdurdod tân yn y gogledd i £2.4 miliwn. Mae'n anodd credu fod y cytundeb wedi ei wneud heb unrhyw arian ychwanegol ar y bwrdd gan Lywodraeth Llundain. Mi fydd pontio'r bwlch ariannol yna yn golygu un o ddau beth: un ai cyfyngu ar wasanaethau, neu gynyddu’r lefi ar drigolion—roeddech chi'n sôn amdano fe—sy’n dal, nifer ohonyn nhw, i wynebu yr argyfwng costau byw. Gallai'r lefi i drethdalwyr gynyddu 20 y cant yn yr achos yma, os nad oes cymorth canolog. Felly, gaf i ofyn pa fewnbwn mae Llywodraeth Cymru wedi ei gael i’r trafodaethau yma? Mae’n ymddangos bod awdurdodau tân yng Nghymru yn wynebu her enfawr oherwydd nad oes arian ar gael o Lywodraeth Llundain i gynnal cyflogau staff. Onid yw hyn yn ddadl unwaith eto dros ddatganoli cyfrifoldeb y gwasanaethau tan yn llwyr i Gymru?

14:20

Diolch i Llyr Gruffydd am ei gwestiwn. Yn amlwg, rydym yn falch fod cytundeb cyflog wedi'i gytuno ar gyfer diffoddwyr tân, ac wedi osgoi'r angen am weithredu diwydiannol, ond rwy'n cydnabod, fel y mae ef, fod hyn yn rhoi pwysau ariannol sylweddol pellach ar yr awdurdodau tân ac achub a'u hawdurdodau cyfansoddol hefyd. Mae hyn yn rhywbeth rwy'n ei drafod yn fanwl nid yn unig ag Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, ond gyda'r tri awdurdod ledled Cymru. Hefyd, yr wythnos diwethaf cyfarfûm â CLlLC i drafod effaith hynny. Rydym yn gweithio'n agos gydag Undeb y Brigadau Tân hefyd, oherwydd yn amlwg mae'r cyd-gyngor cenedlaethol yn gorff yr ydym yn ei gydnabod a'i barchu fel y cyngor trafod, ond rydym yn cydnabod bod hyn yn sicr yn rhoi pwysau pellach ar y gwasanaethau yng Nghymru. Rydym yn gweithio'n agos iawn i weld beth y gallem ei wneud yn y dyfodol i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â hynny.

Rwyf wedi cyfarfod â'ch cyd-Aelod Luke Fletcher i drafod problemau a heriau o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ac mae'r cynnig yno yn agored iawn i chi gael trafodaethau pellach yn dilyn ymlaen o heddiw am rai o'r heriau tymor canolig i fwy hirdymor sy'n wynebu awdurdod tân ac achub gogledd Cymru yn enwedig. Bydd y ddau ohonom yn gwybod yn iawn sut mae'r gwasanaeth tân wrth gefn yn chwarae rhan sylweddol ar draws gogledd Cymru hefyd.

Gwasanaethau Cyhoeddus i Bobl sydd wedi Colli eu Clyw

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus i bobl sydd wedi colli eu clyw? OQ59329

Diolch, Mike Hedges. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu gweithgor i ganolbwyntio ar fynediad at wasanaethau fel rhan o'r tasglu hawliau pobl anabl. Mae'r gweithgor hwn yn hanfodol i hyrwyddo mynediad at bob gwasanaeth yng Nghymru, gan gynnwys i bobl sydd wedi colli eu clyw.

Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb. Mae'r gymuned fyddar a thrwm eu clyw yn cynnwys rhai sy'n cael eu geni gyda cholled clyw a'r rhai sydd wedi colli eu clyw wrth iddynt fynd yn hŷn. Mae llawer o bobl fyddar yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) fel eu prif fodd o gyfathrebu. Nid yw gwasanaethau ffôn yn unig yn gweithio i bobl sydd wedi colli eu clyw. 

Diolch, Mark. Efallai y gellid trosglwyddo'r neges honno i feddygfeydd sy'n mynnu bod pobl yn ffonio pan fo'n amhosibl iddynt wneud hynny yn y bôn. Sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod y rhai sydd wedi colli eu clyw sy'n ymdrin â chyrff sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru naill ai'n ymdrin â rhywun sy'n defnyddio BSL neu â modd o ddefnyddio dehonglwr?

Diolch am y cwestiwn hwnnw ac am gwestiwn ategol arbennig o bwysig, yn ymwneud â sut y gall pobl ddefnyddio ein gwasanaethau. Byddaf yn sicr yn edrych ar hynny, Mike, o ran y rhai rydym yn eu hariannu i gyflawni ein hymrwymiad. Yn amlwg, mae'n ymrwymiad mewn perthynas â BSL. Mae gennym adroddiad newydd ddod drwodd o archwiliad Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain ar ddarpariaeth BSL yn Llywodraeth Cymru, gyda'r bwriad o lofnodi'r siarter BSL. Felly, mae hwn yn waith pwysig ar y cyd, ond mae'n adborth da i'w gynnwys yn hynny. 

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol? OQ59359

Diolch, Jayne. Ers i ni gyhoeddi ein cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol rydym wedi sefydlu ein strwythur llywodraethu, ac mae'r grŵp atebolrwydd allanol bellach yn weithredol i adolygu a monitro gweithrediad y cynllun a'r dull o adrodd ar y cynllun. Rwy'n cynnal uwchgynhadledd ym mis Mai i adolygu cynnydd a'r camau nesaf ar weithredu'r cynllun.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae'n braf clywed am y cynnydd ar hynny. Eleni mae'n 75 mlynedd ers i genhedlaeth Windrush gyrraedd y DU. Daeth llawer i Gymru a fy nhref enedigol, Casnewydd, a hyfryd oedd gweld yr arddangosfa 'Windrush Cymru—Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes' yn theatr Glan yr Afon Casnewydd yn gynharach yn y mis, fel rhan o'i thaith ledled y wlad. Roedd hi'n bleser clywed gan rai o'r rheini sy'n rhan o genhedlaeth Windrush ac sy'n arweinwyr yn ein cymunedau, fel Vernesta Cyril, bydwraig uchel ei pharch yng Nghasnewydd sydd wedi ymgyrchu'n angerddol dros gydraddoldeb ac yn erbyn hiliaeth ers blynyddoedd, ac sy'n parhau i wneud hynny. Mae cenhedlaeth Windrush a'u teuluoedd wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy a pharhaol i Gymru. Daethant i'r DU i ateb y galw am weithwyr wedi'r rhyfel ac maent yn haeddu cydnabyddiaeth. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo cenhedlaeth Windrush i nodi'r pen-blwydd arbennig hwn, a beth arall y gellir ei wneud i hyrwyddo cyfraniad pwysig hynafgwyr nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru?

14:25

Diolch yn fawr, Jayne Bryant. Fel y dywedwch, mae'n 75 mlynedd ers dyfodiad HMT Empire Windrush, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi gweithgareddau dathlu Windrush 75. Mae gennym gynllun grant Windrush 75 a fydd yn cael cyhoeddusrwydd yn fuan. Rydym wedi gweld yr arddangosfa 'Windrush Cymru—Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes'. Mae'n rhaid inni ddweud eto fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod gwaddol aruthrol cenhedlaeth Windrush—dynion a menywod o bob rhan o'r Gymanwlad a helpodd i adeiladu'r Gymru fodern a gwneud y wlad yn gartref iddynt.

Hefyd, mae'n bwysig cydnabod bod hyn yn rhan fawr o Hanes Pobl Ddu 365, nid mis Hanes Pobl Ddu yn unig—mae'n digwydd drwy gydol y flwyddyn. Rydym yn freintiedig iawn i gael cymaint o ddinasyddion y Gymanwlad yn rhan o'n cymunedau, ond gan gydnabod cyfraniadau rhai o'r hynafgwyr hynny yn benodol—i chi, Vernesta Cyril, a oedd yn fydwraig y flwyddyn yn 2006. Treuliodd flynyddoedd lawer yn herio gwahaniaethu ac yn hyrwyddo cydraddoldeb hiliol, ond fel bydwraig, mae'n rhaid imi ddweud eto, dros gyfnod o 30 mlynedd fe helpodd i eni dros 2,000 o fabanod ac enillodd deitl bydwraig y flwyddyn y DU, fel y dywedais, a dyfarnwyd OBE iddi am ei gwasanaethau.

Rwy'n credu y byddwn i gyd yn chwarae rhan yn nigwyddiadau Diwrnod Windrush. Mae'r cynlluniau grant allan i Aelodau glywed amdanynt. Byddaf hefyd yn pwyso am weithredu adroddiad Wendy Williams yn llawn. Roedd yn cael ei lastwreiddio gan yr Ysgrifennydd Cartref, o ran rhai o'r argymhellion hynny, ac mae'n rhaid inni sicrhau eleni fod yr argymhellion hynny'n cael eu cefnogi'n llawn gan Lywodraeth y DU—yn sicr ddigon, rydym ni'n eu cefnogi. 

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jenny Rathbone.

Negeseuon Casineb Hiliol

1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynglŷn ag unrhyw ddulliau cyfreithiol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru er mwyn atal hyrwyddo negeseuon casineb hiliol? OQ59356

Diolch am eich cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi diwedd ar hiliaeth, fel y dangosir drwy ein cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol, sydd â'r nod o adeiladu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030. Nid oes lle yng Nghymru i hiliaeth na chasineb a rhagfarn o unrhyw fath.

Yn ddiweddar mae'r heddlu ym Mro Morgannwg wedi gorfod ymdrin â chriw bach o bobl yn dod i'r ardal yn y gobaith o berswadio trigolion lleol fod lletya ffoaduriaid yn eu cymuned yn risg i'w llesiant mewn rhyw ffordd. Nid yw wedi gweithio; i'r gwrthwyneb, mae pobl Llanilltud Fawr, ar bob lefel o'r gymuned, wedi datgan yn uchel eu bod yn cefnogi Cymru fel cenedl noddfa.

Ond twyllwybodaeth yw ffordd y grŵp asgell dde eithafol hwn o weithredu wrth iddynt fynd ati i berswadio pobl eraill i ddod i mewn i Gymru a phrotestio am unrhyw beth sy'n ymwneud â ffoaduriaid. Maent wedi bod yn weithredol iawn yng ngogledd Lloegr yn lledaenu twyllwybodaeth i bobl gyffredin a oedd wedi meddwl bod hyn yn mynd i effeithio arnynt hwy mewn rhyw ffordd. Felly, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod y gyfraith yn erbyn casineb hiliol yn cael ei chynnal?

Yn gyntaf, a gaf fi gydnabod y gefnogaeth aruthrol a roddwyd gan y gymuned leol, yn y digwyddiadau y cyfeiriwch atynt ym Mro Morgannwg, wrth wrthwynebu'r unigolion asgell dde eithafol hynny—y bobl hiliol a ddaeth yno? Fe wnaeth safbwynt y clwb pêl-droed lleol gryn argraff arnaf, clwb sydd â nifer o ffoaduriaid yn chwarae iddynt mewn gwirionedd. Rwy'n credu ei bod yn glod i gymuned pan fo'n dod at ei gilydd i sefyll dros safonau a hawliau.

Yr hyn y byddwn yn ei ddweud, wrth gwrs, yw bod yna lawer o gamwybodaeth ac mae llawer o negeseua pur annymunol yn digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol. Wrth gwrs, mae casineb hiliol yn drosedd, ac ysgogi casineb hiliol hefyd, ac rwy'n credu lle mae negeseuon o'r fath yn ymddangos a allai gyfrannu at ysgogi'r mathau hynny o ddigwyddiadau neu ysgogi casineb hiliol, dylid rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath i'r heddlu neu i'r awdurdodau perthnasol.

Mae'n rhaid imi ddweud nad yw rhai o'r sylwadau a pheth o'r negeseua sydd wedi bod yn dod gan Lywodraeth y DU yn ddiweddar, a chwarae'r hyn y byddwn i'n ei alw'n 'gerdyn hil' er mantais wleidyddol, wedi bod o gymorth yn y sefyllfa hon ac yn fy marn i, mae wedi cyfrannu at y gamwybodaeth honno ac at dwf y grwpiau asgell dde eithafol hynny.

14:30
Diwygio Cyfansoddiadol

2. A fydd argymhellion terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn dylanwadu ar fewnbwn Llywodraeth Cymru i gynigion ar gyfer diwygio cyfansoddiadol yn y dyfodol? OQ59332

Diolch am y cwestiwn. Y gwir amdani yw wrth gwrs y bydd o—o, mae'n ddrwg gennyf. Credaf fod gwaith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn, ac fe fydd, yn gyfraniad hanfodol i'r trafodaethau sydd eisoes yn digwydd yma yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig.

Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Mae wedi fy nharo i ers tro fod rhai o'r cynigion mwyaf arloesol ar gyfer diwygiadau angenrheidiol i'r undeb yn dod o Gymru, yn hytrach nag o San Steffan a Whitehall ei hun. Ond boed hynny fel y bo, a fyddai'n cytuno â mi, os cyflwynir diwygiadau sy'n ceisio perthynas wahanol a pherthynas sy'n fwy modern rhwng gwledydd a rhanbarthau'r DU, y dylai pawb, nid yn unig y rhai ohonom yma yng Nghymru ond pawb yn San Steffan a mannau eraill ledled Lloegr, fanteisio ar y cyfle i ymgysylltu â chynigion o'r fath a allai gyflwyno undeb diwygiedig a chryfach mewn gwirionedd? Mae gan bob un ohonom farn wahanol yn y Siambr hon, ond mae'n sicr fod hynny'n hanfodol i unrhyw un sy'n credu nad yw'r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy.

Diolch. Rydych yn codi nifer o bwyntiau pwysig iawn. Mae'n debyg mai'r peth cyntaf y byddwn yn ei ddweud yw, tra bo'r drafodaeth ar ddiwygio cyfansoddiadol wedi datblygu'n dda yng Nghymru a'r Alban dros y ddau ddegawd diwethaf, ac yn wir yng Ngogledd Iwerddon, mae wedi bod braidd yn ddifywyd yn Lloegr, a'r hyn sy'n galonogol nawr yw'r ffaith bod yna gydnabyddiaeth o ba mor bwysig yw datganoli grym i rymuso pobl a chymunedau mewn gwirionedd, ac yn enwedig yn Lloegr.

Felly, mae'r sylwadau sydd wedi eu gwneud gan Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, mewn perthynas â gor-ganoli yn Llywodraeth San Steffan, a siarad am ddatganoli, a chomisiynu adroddiad Gordon Brown, yn hynod o bwysig. Oherwydd mae'r ddadl honno sy'n digwydd yn Lloegr yr un mor bwysig i ni hefyd, oherwydd mae'n gydnabyddiaeth o'r angen i gysoni'r strwythurau hynny a'u hail-gydbwyso. Mae ein comisiwn annibynnol ein hunain, wrth gwrs, yn ymwneud â'n barn am y math o ddyfodol rydym ei eisiau i Gymru, a sut y dylai'r berthynas honno newid—nid yw'n rhywbeth sy'n cael ei benderfynu yn rhywle arall. Ond wrth gwrs, ochr yn ochr â hynny mae adroddiad Gordon Brown, sydd hefyd yn cydnabod nifer o'r materion rydym yn ymwneud â hwy—sybsidiaredd a'n cydraddoldeb o ran pwerau o fewn yr Alban. Ac rwy'n credu mai'r pwynt pwysig a wnaed yn adroddiad Gordon Brown—ac mae Gordon Brown, wrth gwrs, wedi rhoi tystiolaeth i'r comisiwn annibynnol, fel y byddaf innau'n ei wneud, ac yn wir fel y bydd Gweinidogion eraill yn ei wneud maes o law mae'n siŵr—yw'r cyfeiriad at ymgysylltu adeiladol. Felly, mae'n ymwneud â chydnabod bod angen moderneiddio ein perthynas gyfansoddiadol, i sicrhau newid, ond hefyd fod yn rhaid iddo fod yn rhywbeth y ceir consensws yn ei gylch ymhlith y bobl yng ngwledydd a rhanbarthau'r DU gyfan.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.

Diolch, Lywydd. Mae 'Canllaw Sefydlu GIG Cymru ar gyfer Aelodau Bwrdd Annibynnol' Llywodraeth Cymru yn cynnwys:

'Y nod yw cael un set o werthoedd sy'n llywio sut rydym yn gweithio, sy'n newid diwylliant ac yn siapio'r ffordd rydym yn ymddwyn. Mae byw'r gwerthoedd hyn yn golygu bod yn ymreolaethol ac eto'n atebol, gan fod yn ddewr ac yn feiddgar a chreu diwylliant sy'n agored ac yn dryloyw...

'Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus weithredu er budd y cyhoedd yn unig.

'Rôl y Bwrdd yw... dal y Prif Weithredwr a’r uwch dîm rheoli yn atebol am eu perfformiad o ran cyflawni’r amcanion a’r targedau y cytunwyd arnynt drwy herio a chraffu pwrpasol'.

Ac

'Nid yw aelodau’r Bwrdd yn rhoi cyfarwyddyd i’r Prif Weithredwr nac i unrhyw aelod o staff ar faterion gweithredol ond maent yn gallu herio a chwestiynu'.

Yn y cyd-destun hwn, pa gyngor fel Cwnsler Cyffredinol y gwnaethoch chi ei roi i'r Gweinidog iechyd cyn iddi orfodi aelodau annibynnol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ymddiswyddo?

A gaf fi ddweud y dylai cwestiynau am benderfyniadau a wneir gan y Gweinidog iechyd mewn perthynas â'i swyddogaethau fel Gweinidog gael eu cyfeirio'n briodol at y Gweinidog hwnnw yn hytrach nag ataf fi?

Wel, pa gyngor y byddech chi yn ei roi i'r Gweinidog iechyd nawr, yng nghyd-destun y datganiad rwyf wedi ei gael gan holl gyn-aelodau annibynnol y bwrdd iechyd—pobl uchel eu parch yng ngogledd Cymru—sy'n datgan,

'Credwn ei bod yn mynd â gofal iechyd yng ngogledd Cymru yn ôl ddegawd'.

Ac mae'n cynnwys hyn,

"Mae pob Prif Swyddog Gweithredol wedi dweud wrthym nad oes modd rheoli'r tîm gweithredol, a gwnaed hynny'n waeth gan y ffaith bod cefnogaeth adnoddau dynol y gweithlu'n aneffeithiol. Felly, fe wnaethom ofyn am gyngor swyddogion Llywodraeth Cymru. Ar bob achlysur, fel gyda phob mater yn ymwneud â'r tîm gweithredol, mae'n rhaid inni gael cefnogaeth a chymeradwyaeth benodol gan Lywodraeth Cymru. Mae rhai swyddogion gweithredol sydd â bwriadau da wedi cael eu pardduo a'u tanseilio gan ymddygiad eu cydweithwyr, i'r graddau bod y tîm ei hun wedi mynd yn gamweithredol ac aneffeithiol fel grŵp. Dywed y Gweinidog ei bod yn dirprwyo'r gwaith o redeg y bwrdd iechyd i'r aelodau annibynnol. Mae hyn yn anghywir. Llywodraeth Cymru a'r tîm gweithredol sy'n rhedeg y bwrdd iechyd, ac nid yw'r bwrdd ond yn ôl-ystyriaeth ar adegau. A thrwy ei gweithredoedd, mae'r Gweinidog wedi dileu cof y sefydliad. Mae'r rhai a frwydrodd i weld y sefydliad yn dysgu o fethiannau'r gorffennol wedi cael eu disodli. Mae staff da yn gadael, ac mae'r rhai sy'n weddill yn ei chael hi'n anodd gwneud penderfyniadau sylfaenol hyd yn oed—

14:35

Bydd yn rhaid i mi eich atgoffa mai cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yw'r rhain. Rwy'n cael trafferth gweld i ba gyfeiriad rydych chi'n mynd gyda'r cwestiwn hwn, felly, os gallwch chi ddod at y cwestiwn. 

Rwy'n dadlau'n gryf fod y rhain yn faterion sy'n dod o fewn y briff—

Na, na. Yr hyn roeddwn yn ei ddweud yn y bôn yw fy mod angen clywed eich cwestiwn, ac ni allwn weld i ble roeddech chi'n mynd gydag ef. 

A byddwn yn ddiolchgar felly pe bai'r Cwnsler Cyffredinol yn gallu ateb y cwestiwn a ofynnais ar y dechrau: pa gyngor y byddai'n ei roi nawr i'r Gweinidog iechyd yng nghyd-destun y datganiad pryderus hwn?

Wel, fe wnaeth y Gweinidog iechyd ymateb i gwestiynau tebyg a ofynnwyd ddoe. Esboniodd y penderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud, a'r sail y gwnaed y penderfyniadau hynny arni. Mae'r rheini'n faterion i'r Gweinidog iechyd, a dylid eu cyfeirio at y Gweinidog iechyd. 

Wel, byddwn yn awgrymu ei fod yn mynd gam ymhellach na hynny. Ac mae hyn, mae'n rhaid imi ddweud, yn drewi o Lywodraeth anfoesegol, gyda'r Gweinidog yn dilyn ei rhagflaenwyr wrth geisio tawelu'r bobl sy'n dweud y gwir a cheisio claddu atebolrwydd. 

Fodd bynnag, gan symud ymlaen, mae fframwaith Windsor, a gytunwyd gan Brif Weinidog y DU a Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, yn disodli hen brotocol Gogledd Iwerddon, gan ddarparu fframwaith cyfansoddiadol cyfreithiol newydd ar gyfer y DU. Mae'n galluogi Prydain a Gogledd Iwerddon i fasnachu nwyddau'n rhwydd drwy gael gwared ar unrhyw synnwyr o ffin ym Môr Iwerddon ar gyfer nwyddau sy'n aros o fewn y DU. Bydd y nwyddau hyn yn teithio fel arfer drwy lôn werdd newydd, heb fiwrocratiaeth nac archwiliadau diangen, ac mae'r unig archwiliadau sy'n parhau wedi'u cynllunio i atal smyglo neu droseddu. Ac er mwyn rhoi amser i fusnesau ac unigolion baratoi, bydd gweithredu'r cytundeb yn cael ei gyflwyno'n raddol, gyda rhai o'r trefniadau ar gyfer symud nwyddau, bwyd-amaeth, anifeiliaid anwes a phlanhigion yn cael eu cyflwyno yn ddiweddarach eleni, a'r gweddill yn 2024. 

Mae'r rheoliadau hyn yn gosod amserlen newydd yn Neddf Gogledd Iwerddon 1998, sy'n gweithredu'r agweddau hynny ar fframwaith Windsor sy'n ymwneud â chynnwys sefydliadau cytundeb 1998, ac roedd pob plaid a gynrychiolir yma yn y Senedd yn cefnogi'r fframwaith yn San Steffan. 

O ystyried eich cyfrifoldeb dros gydlynu gwaith ar y fframweithiau cyffredin, a Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 o fewn Llywodraeth Cymru, pa gyngor rydych chi wedi ei roi i gyd-Aelodau yn y Cabinet i baratoi eu hadrannau ar gyfer y newidiadau hyn?

Wel, nid yw ein pryder mwyaf mewn perthynas â fframweithiau yn ymwneud â chytundeb Windsor mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod cytundeb Windsor yn rhywbeth rydym ni fel Llywodraeth yn ei groesawu. Rydym yn aros i weld sut yn union y bydd yn gweithredu, ond mae unrhyw beth sy'n hwyluso'r cysylltiadau economaidd, y fasnach economaidd, a hefyd ailsefydlu Llywodraeth Gogledd Iwerddon, yn bwysig iawn i ni. 

O ran y fframweithiau, nid yw'r her fwyaf i'r fframweithiau yn ymwneud â chytundeb Windsor, mae'n ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, a hefyd Bil cyfraith yr UE a ddargedwir. Mae gan Fil cyfraith yr UE a ddargedwir oblygiadau sylweddol iawn o hyd, i Ogledd Iwerddon, i Gymru, ac i weddill y Deyrnas Unedig. Dyna lle bydd fy ffocws dros yr wythnosau nesaf, ac wrth gwrs, fe wneuthum ddatganiad ar hynny ddoe yn ystod y drafodaeth ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac wrth gwrs, byddaf yn cyflwyno datganiadau pellach maes o law. 

Diolch, Lywydd. Wel, rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi croesawu fframwaith Windsor fel sail i ailsefydlu'r rhannu pŵer yng Ngogledd Iwerddon. Rydym hefyd yn glir ei fod yn codi nifer o gwestiynau i Gymru, cwestiynau nad ydym eto wedi cael atebion boddhaol iddynt. Fel rydym wedi'i drafod yn y Siambr hon, mae'n codi cwestiynau penodol ynghylch rheoleiddio llif masnach drwy borthladdoedd Cymru sy'n ymwneud ag Iwerddon. Mewn ymateb i gwestiwn a ofynnwyd gan un o fy nghyd-bleidwyr yn Nhŷ'r Cyffredin, mae Llywodraeth y DU wedi awgrymu y bydd y lôn werdd newydd a fydd yn cael ei chreu o dan y fframwaith yn berthnasol ar gyfer nwyddau sy'n teithio i Ogledd Iwerddon drwy Gaergybi a Dulyn. Nid wyf yn glir sut y gall hyn fod yn bosibl, pa rwymedigaethau rheoliadol newydd a allai ddeillio ohono a sut y byddai'n rhyngweithio â'r statws porthladd rhydd newydd a roddwyd i borthladdoedd yn sir Benfro ac Ynys Môn. A gaf fi ofyn pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith fframwaith Windsor ar Gymru? Ac yn benodol pa sgyrsiau a gafwyd gyda chymheiriaid Llywodraeth y DU ynghylch goblygiadau'r fframwaith i fynediad at y farchnad drwy borthladdoedd Cymru? Diolch.  

14:40

A gaf fi ddweud bod y rhan fwyaf o'r trafodaethau sy'n digwydd mewn perthynas â'r agweddau masnach hynny'n drafodaethau sydd wedi digwydd gyda Gweinidog yr Economi? Wrth gwrs, mae gennyf ddiddordeb cyffredinol ynghylch gweithrediad y fframweithiau. Ar hyn o bryd, mae'n dal i fod yn rhy gynnar i fod yn glir neu'n fanwl gywir ynglŷn â sut y byddant yn gweithio. Mae'n rhywbeth sy'n cael ei adolygu. Mae'n ddigon posibl y bydd yna broblemau sy'n peri pryder y bydd angen eu datrys. Mae'r rheini'n bennaf yn rhan o gyfrifoldeb portffolio Gweinidog yr Economi. Os oes materion cyfreithiol penodol, diau y bydd y Gweinidog yn ymgysylltu â mi mewn perthynas â'r rheini.

Mae'n debyg mai'r peth gorau y gallaf ei ddweud, wrth gwrs, yw'r pwynt a wneuthum yn y pwynt diwethaf: sef mai un o'r pryderon mwyaf sydd gennym yn deillio o hyn o hyd yw Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, ac i ba raddau y gallai danseilio neu ddiystyru'r fframweithiau, ac ynghyd â Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio), nad ydym yn gwybod beth fyddai'r canlyniadau hynny. Felly mae'n dal i fod yn amhendant ar hyn o bryd, ond wrth gwrs, mae'n rhywbeth sy'n cael blaenoriaeth uchel, mae'n rhywbeth rydym yn rhoi sylw agos iawn iddo, a byddwn yn gwneud datganiadau pellach i'r Senedd hon maes o law, wrth inni ddod i wybod mwy a deall mwy am y prosesau. 

Diolch. Rydym angen eglurder ar frys ynghylch rheoleiddio masnach. Mater arall i Gymru, sy'n cael ei godi gan fframwaith Windsor, yw ddiffyg democrataidd. Yr wythnos diwethaf, cafodd brêc Stormont y fframwaith ei gymeradwyo gan Dŷ'r Cyffredin. Mae'n darparu ar gyfer yr hyn a allai arwain yn y bôn at feto unfrydol ar rai mathau o newid rheoleiddiol yng Ngogledd Iwerddon. Er y gellid dadlau bod Llywodraeth y DU bellach wedi gor-gywiro ar gyfer unrhyw ddiffyg democrataidd yng Ngogledd Iwerddon yn sgil protocol Gogledd Iwerddon, nid yw wedi dangos unrhyw bryder o gwbl am unrhyw ddiffyg o'r fath yng Nghymru, lle nad oes gan Lywodraeth Cymru rôl warchodedig wrth lywodraethu'r protocol. Mae hyn er gwaethaf yr effaith a gafodd yng Nghymru, gan gynnwys yr effaith ar fasnach drwy ein porthladdoedd. Nid yw fframwaith Windsor yn gwneud dim i fynd i'r afael â hyn.

Ymhellach, beth, os nad diffyg democrataidd, yw anallu Cymru i atal y mathau hyn o newidiadau ôl-Brexit i'w threfn reoleiddio sy'n debygol o ddeillio o Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir, ac sydd eisoes wedi deillio o Ddeddf y farchnad fewnol? A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi ein bod angen brêc Senedd ar reoliadau newydd yr UE, gan gynnwys amddiffyn mynediad Cymru at farchnadoedd Ewrop, ac os felly, a wnaiff amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau un?

Diolch am hynny. Rydym i fod i gael rhyw fath o frêc Senedd mewn perthynas â confensiwn Sewel, ond nid yw'n frêc effeithiol iawn ac nid oes ganddo unrhyw statws barnadwy. Mae arnaf ofn mai dim ond drwy ymhelaethu, i ryw raddau, ar rai o'r pwyntiau a wneuthum yn gynharach y gallaf ateb y cwestiynau a ofynnwch. Hynny yw, ar hyn o bryd, rydym yn dal i geisio asesu sut y byddai hyn yn gweithio, beth yw'r goblygiadau i'r fframweithiau cyffredin a goblygiad Bil cyfraith yr UE a ddargedwir.

Rydych chi'n llygad eich lle nad yw'r ymgysylltu wedi bod yn dda ar hyn. Rwy'n gwybod bod ymgysylltu pellach yn digwydd, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidogion yn ymgysylltu â'u cymheiriaid nawr ar y materion hyn ar bob cyfle sy'n codi. Yr unig beth defnyddiol y gallaf ei ddweud mewn gwirionedd yw bod y sefyllfa'n cael ei hadolygu'n agos iawn, a bydd datganiadau pellach yn cael eu cyflwyno wrth inni ddeall yn well beth sy'n digwydd a sut y bydd y rhain yn gweithio. Ac rwy'n credu bod hynny'n berthnasol i bawb sy'n cymryd rhan ynddo, ac wrth gwrs, rydym yn aros i weld beth fydd yn digwydd o ran safbwynt y DUP ar hynny a'r hyn a all ddigwydd wedyn o ran a fydd Llywodraeth ddatganoledig Gogledd Iwerddon yn cael ei hailsefydlu ai peidio.

14:45
Y Bil Mudo Anghyfreithlon

3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith eraill ynglŷn ag effaith Bil Mudo Anghyfreithlon Llywodraeth y DU ar gaethwasiaeth fodern a hawliau dynol yng Nghymru? OQ59348

Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn yn ei gwrthwynebiad i'r Bil creulon ac anghyfiawn hwn. Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r holl lwybrau sydd ar gael i ni i wrthwynebu'r Bil hwn ac yn benodol yr effaith y bydd yn ei chael ar gaethwasiaeth fodern a diogelu hawliau dynol.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Rwy'n bryderus iawn, fel eraill yn y Siambr hon, am yr effaith y bydd Bil Mudo Anghyfreithlon Llywodraeth y DU yn ei chael ar ymdrechion i frwydro yn erbyn caethwasiaeth ddynol ac amddiffyn hawliau dynol yng Nghymru os caiff ei basio yn San Steffan. Fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar fasnachu pobl, rwyf wedi gweld drosof fy hun sut mae caethwasiaeth fodern yn parhau i greu heriau enfawr yn ein cymunedau a'r effaith ddinistriol y mae'n ei chael ar y rhai sy'n cael eu dal ganddi. Rwyf wedi clywed y byddai'r Bil niweidiol a chreulon hwn yn tanseilio'r gwaith i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern ac yn atal goroeswyr rhag gallu rhoi gwybod am fasnachu pobl, ac yn bwysig, rhag cael cymorth. Yr wythnos diwethaf, ysgrifennodd cynghrair o fwy na 60 o sefydliadau, ac mae wedi'i grybwyll eisoes, yn cynnwys Sefydliad y Merched, Amnesty International UK, grŵp trawsbleidiol o Aelodau Seneddol ac academyddion at Brif Weinidog y DU i nodi eu pryderon a'u gwrthwynebiad dwfn i'r Bil hwn. A wnewch chi ymuno â mi a phawb sy'n sefyll dros ddioddefwyr caethwasiaeth fodern i annog y Llywodraeth i ddiddymu'r Bil echrydus hwn?

Diolch am y cwestiwn, ac unwaith eto, rwy'n cymeradwyo'r sylwadau a wnaed mewn perthynas â hyn gan fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn gynharach. Darparodd Llywodraeth y DU y Bil drafft ar gyfer Llywodraeth Cymru ar 6 Mawrth 2023, y prynhawn cyn iddo gael ei gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin. Yn siomedig, ni roddwyd unrhyw hysbysiad blaenorol ynglŷn â chynnwys y Bil.

Mae'n debyg y gallaf ateb y pwynt a godwyd gennych yn y ffordd orau drwy ddweud, oes, rwy'n credu bod yna fwyafrif clir yn y Senedd hon sy'n llwyr gefnogi a chymeradwyo'r sylwadau a wnaethoch. Y man cychwyn, wrth gwrs, yw nad yw'r Bil yn cydymffurfio â'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol ac mae bron yn sicr ei fod yn torri confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar ffoaduriaid. Mae'r rheini'n faterion o gryn arwyddocâd, oherwydd ni allwn ddychmygu pam y byddai unrhyw seneddwr yn cefnogi deddfwriaeth, neu'n cymeradwyo ddeddfwriaeth, sydd, i bob pwrpas, yn anghyfreithlon. Yn anffodus, rydym wedi gweld gormod o achlysuron ar lefel Llywodraeth y DU lle mae mwyafrif o Aelodau Seneddol wedi bod yn barod i gefnogi deddfwriaeth anghyfreithlon yn eu Senedd eu hunain. Mae hynny'n peri pryder dwfn.

Rwyf am gyfeirio at dri sylw a wnaed sy'n ymdrin â'r pwynt a godwyd gennych. Dywedodd Beth Gardiner-Smith, prif swyddog gweithredol Safe Passage International, sefydliad trydydd sector, 

'Nid yn unig y mae cynlluniau'r Llywodraeth yn amddifad o bob moesoldeb, maent yn gwbl anymarferol ac ni fyddant yn atal ffoaduriaid rhag peryglu eu bywydau i geisio diogelwch yma. Yr un dull aflwyddiannus ydyw',

a galwodd ar y Llywodraeth i

'ganolbwyntio ar agor llwybrau diogel i ffoaduriaid'. 

Mae hwnnw'n bwynt, wrth gwrs, a godwyd gan Weinidog yr wrthblaid heddiw, a ddoe yn wir, yn Nhŷ'r Cyffredin gan Yvette Cooper, a ddywedodd,

'Wedi 13 mlynedd o fethiant, mae ffigurau heddiw'n tanlinellu'r llanast dychrynllyd y mae'r Ceidwadwyr wedi'i wneud o'r system loches.'

Dywedodd

'Mae'r Swyddfa Gartref yn dal i wneud traean yn llai o benderfyniadau bob blwyddyn nag a wnâi saith mlynedd yn ôl ac maent wedi gadael i'r ôl-groniad godi 60% pellach i'r ffigur uchaf erioed...160,000'.

Mae anghymhwysedd San Steffan wedi arwain at ymateb difeddwl mewn gwirionedd, sef, unwaith eto, chwarae'r cerdyn hil. Os ydych yn credu bod y dyfyniadau hynny'n bleidiol ac yn annheg, wel, gadewch inni gyfeirio at yr hyn a ddywedodd Theresa May yn ddiweddar, cyn-Brif Weinidog Ceidwadol. Dywedodd,

'Fy ofn gyda'r Bil Mudo Anghyfreithlon hwn yw y bydd yn sathru ar y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern, gan amddifadu'r rhai sydd wedi cael eu hecsbloetio a'u caethiwo o gymorth, ac wrth wneud hynny, yn ei gwneud yn llawer anos i ddal ac atal y masnachwyr pobl a'r caethfeistri.'

Rwy'n credu bod yn rhaid i Lywodraeth y DU sylweddoli bod eu deddfwriaeth yn anghyfreithlon, ond rwyf hefyd yn credu bod yn rhaid iddynt gydnabod na fydd yn cyflawni'r hyn y mae'n cynnig ei gyflawni na'n datrys yr heriau y maent hwy wedi eu nodi. Mae'n rhaid i chi ofyn y cwestiwn, felly, yn wleidyddol: pam eu bod wedi codi'r Bil hwn yn y ffordd hon, gyda'r holl sylw sydd iddo yn y cyfryngau cymdeithasol? Yr unig gasgliad y gallaf ddod iddo yw eu bod yn chwarae cerdyn hil mewn cyfnod lle mae gennych Lywodraeth y DU sy'n chwysu oherwydd bod yna etholiad cyffredinol posibl ar y gorwel.

14:50
HS2 a Northern Powerhouse Rail

4. Pa gyngor mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch Llywodraeth y DU yn categoreiddio prosiectau HS2 a Northern Powerhouse Rail fel prosiectau Cymru a Lloegr? OQ59342

Wel rwy'n adleisio sylwadau Prif Weinidog Cymru a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd na ddylai Llywodraeth y DU ariannu Northern Powerhouse Rail yn yr un modd â HS2. Dylid categoreiddio Northern Powerhouse Rail fel prosiect i Loegr yn unig, gyda Chymru'n cael cyfran yn ôl poblogaeth o'r cyllid hwn.

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw. Mae'n amlwg, onid yw, fod y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan unwaith eto wedi twyllo Cymru, gan gategoreiddio prosiect arall ar gyfer Lloegr yn unig fel prosiect Cymru-Lloegr. Dylem fod wedi derbyn £6 biliwn—£6 biliwn—yn sgil prosiect HS2 a rhaglen Northern Powerhouse Rail. Gwnsler Cyffredinol, gallai hyn fod wedi chwyldroi rhwydwaith rheilffyrdd Cymru, ond yn hytrach, mae'n enghraifft arall o'r modd nad oes gan y Blaid Geidwadol yn San Steffan unrhyw ddiddordeb yng Nghymru. Gwnsler Cyffredinol, a ydych yn cytuno â mi fod yna un ffordd o sicrhau bod pobl Cymru yn cael yr hyn sy'n ddyledus iddynt: etholiad cyffredinol a Llywodraeth Lafur yn y DU dan arweiniad Keith Starmer?

Wel, rwy'n cytuno'n llwyr gyda'r pwynt olaf a wnaeth yr Aelod. Rwy'n siŵr nad yw'n synnu fy nghlywed yn dweud hynny. Mae £5 biliwn yn ddyledus i Gymru o ganlyniad i HS2. Mae £1 biliwn arall yn ddyledus i Gymru o ganlyniad i Northern Powerhouse Rail. Felly, mae awgrymu bod y prosiectau Seisnig hyn o fudd i Gymru yn nonsens llwyr. Byddai'r arian yn drawsnewidiol i rwydwaith trafnidiaeth Cymru. Mae angen i Lywodraeth y DU wneud y peth iawn a thalu'r arian. Rwy'n credu eu bod yn cam-drin fformiwla Barnett yma mewn gwirionedd. Gallaf ddweud bod y materion hyn yn cael eu codi ar bob cyfle a thrwy'r peiriannau rhynglywodraethol presennol, ac nid yw Llywodraeth Cymru wedi anghofio amdanynt. 

Mae'r Torïaid yn ceisio gwadu realiti daearyddol gyda HS2 a Northern Powerhouse Rail ac yn ceisio honni y dylai prosiectau Lloegr yn unig olygu Cymru hefyd rywsut. Rwy'n ddigalon nad yw Keir Starmer wedi rhoi sicrwydd i ni y byddai'n cywiro'r anghyfiawnder hwn ac yn ad-dalu'r biliynau sy'n ddyledus i Gymru, ond beth bynnag, yn sicr mae'r llanast anghyfiawn hwn yn codi o'r ffaith bod trefniadau dros gyllid canlyniadol yn ddarostyngedig i fympwy San Steffan. A ydych yn cytuno â mi, Gwnsler Cyffredinol, y dylem sicrhau bod fformiwla Barnett neu, yn llawer gwell, fformiwla arall decach, yn cael ei hymgorffori yn y gyfraith fel nad oes rhaid inni ddibynnu ar ryw egwyddor 'hen fois da' a gobeithio y bydd San Steffan yn gwneud yr hyn sy'n iawn o ran cyllid, oherwydd, fel mae'r bennod hon a nifer o benodau eraill wedi dangos i ni, nid yw San Steffan yn gwneud yr hyn sy'n iawn i Gymru?

Wel, rwy'n credu mai'r peth cyntaf i'w ddweud wrth gwrs yw bod Barnett, er ei holl feiau, yn fformiwla ailddosbarthol, ac nid ydym eisiau cael gwared ar fformiwla ailddosbarthol; rydym eisiau fformiwla decach ac un sydd â chanllawiau a rheolau clir ar gyfer sut y dylai weithredu. Ni all fod yn rhywbeth sy'n ddarostyngedig i fympwy gwleidyddol Llywodraeth benodol ar unrhyw adeg benodol. Felly, rwy'n credu eich bod yn hollol iawn fod angen fformiwla newydd, fformiwla wedi'i hadnewyddu, a fformiwla sydd â statws cyfansoddiadol clir yn y ffordd y caiff ei gweithredu a'r ffordd y dylai unrhyw anghydfod dros weithrediad y fformiwla honno weithredu. 

Tribiwnlysoedd Cymru

5. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ymateb diweddaraf Llywodraeth Cymru i adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar Dribiwnlysoedd Cymru? OQ59355

Wel, diolch yn fawr am y cwestiwn. Fel dywedais i yn y lle hwn yr wythnos diwethaf, rŷn ni wedi derbyn argymhellion Comisiwn y Gyfraith yn eu hanfod, ac rŷn ni wedi ymrwymo i ddiwygio. Byddwn ni'n cyhoeddi Papur Gwyn yn y misoedd nesaf ac yn deddfu er mwyn gwneud y newidiadau.

14:55

Diolch yn fawr iawn, Gwnsler Cyffredinol. Roeddwn i'n falch iawn i glywed y tribiwnlysoedd Cymreig yn cael eu trafod fan hyn yn y Senedd yr wythnos diwethaf. Dyma ran bwysig o’r system gyfiawnder sy’n aml iawn yn cael ei hanghofio, ac, wrth gwrs, rhan o’r system gyfiawnder sydd wedi’i datganoli yn barod i Gymru. Yr hyn rôn i am ofyn ichi, Gwnsler Cyffredinol, yw beth yw’r amserlen ar gyfer y Papur Gwyn, a phryd ŷch chi'n gobeithio y bydd y system tribiwnlysoedd unedig a system apêl y tribiwnlysoedd—sy'n mynd i fod yn hanesyddol iawn; y system apêl gyntaf yng Nghymru ers canrifoedd—pryd ŷch chi'n gobeithio y bydd rheini'n cael eu sefydlu? Diolch yn fawr.

Wel, diolch am y cwestiwn atodol. Byddwn yn gobeithio y bydd amserlen ar gyfer Papur Gwyn ar gael yn fuan. Yn amlwg, lle'r Prif Weinidog yw gwneud datganiadau ar gyhoeddi'r rhaglen ddeddfwriaethol. Wrth gwrs, yn y papur 'Sicrhau Cyfiawnder', rydym yn cyfeirio'n benodol iawn at ddiwygio'r tribiwnlys, ac wrth gwrs, bwriad Llywodraeth Cymru yw deddfu o fewn y tymor hwn er mwyn gweithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith, yn amlwg, ar ôl ymgynghoriad y Papur Gwyn. Felly, rydym yn llawn fwriadu gwneud hynny, y byddwn yn diwygio'r tribiwnlysoedd. Rwy'n credu y bydd yn ddiwygiad cyfreithiol cyffrous a hanesyddol, gyda llawer o gyfleoedd o ran sut y gallai fod yn sylfaen embryonig ar gyfer datblygu system gyfiawnder Cymru ymhellach, ac wrth gwrs, byddaf yn gwneud datganiadau pellach heb fod yn y dyfodol rhy bell.

Datganoli Cyfiawnder

6. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd wrth baratoi ar gyfer datganoli posibl rhai neu pob un o'r swyddogaethau cyfiawnder i Gymru? OQ59335

Mae gennym nifer o brosiectau'n cael eu sefydlu i feithrin ein dealltwriaeth o'r camau nesaf ymarferol tuag at ddatganoli'r swyddogaethau cyfiawnder y credwn fod yna bosibilrwydd da y cânt eu datblygu gan Lywodraeth y DU yn y dyfodol. Byddaf yn diweddaru'r Senedd ar ein cynnydd maes o law.

Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol.

Nawr, wrth gwrs, nid oedd comisiwn Gordon Brown yn mynd mor bell ag y byddwn i neu chi wedi'i ddymuno ar ddatganoli cyfiawnder, ond er hynny, mae'r gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid yn agweddau pwysig iawn ar y system gyfiawnder. Ar gyfer hynny, mae angen inni feithrin capasiti a gallu o fewn Llywodraeth Cymru ac yn y Senedd hon i ymdrin â'r materion hynny. Gwnsler Cyffredinol, ai dyma'r amser i sefydlu gweinyddiaeth gyfiawnder Gymreig ac i mi ddod i'r Senedd hon ymhen rhai misoedd a chyfeirio atoch fel Gweinidog cyfiawnder yn hytrach na Chwnsler Cyffredinol?

Wrth gwrs, rydych yn drysu dau faes yno: rôl y Cwnsler Cyffredinol, a rolau Gweinidog cyfiawnder wrth gwrs. Yn aml iawn, maent yn swyddogaethau ar wahân ac mae'r rheini'n amlwg yn bethau i'w hystyried. Nid oes amheuaeth y bydd datganoli cyfiawnder pellach yn digwydd yn fy marn i, gan ddechrau efallai gyda'r gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid. Mae plismona, i raddau helaeth, bron yn gweithredu fel swyddogaeth ddatganoledig; i ryw raddau, diffyg y fframwaith deddfwriaethol i alluogi'r cydlyniant a'r hegemoni'n briodol o ran yr holl ffactorau ar gyfer gweithredu sy'n ein dal yn ôl. Ond mae'r rheini'n feysydd sydd nid yn unig yn agor y drws i ddatganoli cyfiawnder, maent hefyd, wrth gwrs, yn darparu fframwaith ar gyfer newid llwyr yn y ffordd y mae ein gwasanaethau cyfunol sy'n cyfrannu at y system gyfiawnder yn gweithredu mewn gwirionedd.

Mae'r pwynt rydych yn ei wneud ynglŷn â chapasiti yn un pwysig. Rwy'n credu bod y rhain yn bethau difrifol iawn a fydd yn cael sylw gan y Senedd nesaf, ac rwy'n gobeithio y byddant yn cael sylw mewn deddfwriaethau sydd i ddod. Rwy'n credu bod angen cynyddu nifer Aelodau'r Senedd a maint y Llywodraeth i alluogi hynny i ddigwydd, ac wrth gwrs, roedd yn un o argymhellion comisiwn Thomas. Un o'r pethau a wnaethom, yn y cyfamser mae'n debyg, wrth inni symud tuag at y sefyllfa honno, yw fy mod yn gweithio'n agos iawn gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, felly rydym yn cyfuno'r ddwy elfen honno, bron fel swyddogaeth gyfiawnder embryonig. Ond yn y Senedd nesaf, a chyda diwygio'r Senedd a chynyddu maint y Senedd, rwy'n credu'n sicr y bydd argymhellion comisiwn Thomas ar greu adran a gweinyddiaeth gyfiawnder, i bob pwrpas, yn dwyn ffrwyth ar y cam hwnnw.

Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)

7. Pa asesiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r amddiffyniadau cyfreithiol y gall pobl Cymru eu colli o ganlyniad i Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) Llywodraeth y DU? OQ59338

15:00

Diolch am eich cwestiwn. Fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd, mae effaith bosibl y Bil ar safonau rheoleiddiol ac amddiffyniadau y mae pobl Cymru yn elwa ohonynt ar hyn o bryd, a hefyd ar y setliad datganoli a sefydlwyd yn ddemocrataidd, yn niweidiol iawn. Rydym wedi ailadrodd ein pryderon yn gyson ar lefel swyddogol a gweinidogol i Lywodraeth y DU.

Diolch am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Fel y byddwch yn gwybod, mae datrys yr argyfwng natur a diogelu bioamrywiaeth yn faterion sy'n uchel ar fy agenda, ac o dan Fil cyfraith yr UE a ddargedwir Llywodraeth y DU, mae disgwyl inni weld rheoliadau ynghylch cynefinoedd, sy'n darparu amddiffyniadau i fyd natur yn erbyn bygythiadau gan ddatblygiadau adeiladu a phrosiectau eraill, yn cael eu diddymu gan y Torïaid. Felly, Gwnsler Cyffredinol, pa gyngor a roddwyd gennych i Lywodraeth Cymru ynghylch amddiffyniadau cyfreithiol i fioamrywiaeth yng Nghymru o ganlyniad i'r methiant hwn yn sgil Brexit? Diolch.

A gaf fi ddweud bod y pwyntiau rydych yn eu codi yn rhai pwysig iawn i'r trafodaethau sydd wedi digwydd, yn ddeddfwriaethol? I lawer o bobl, mae Bil cyfraith yr UE a ddargedwir Llywodraeth y DU yn swnio fel darn o ddeddfwriaeth dechnegol, ond mae'n llawer mwy peryglus mewn gwirionedd. Mae perygl y gallai gael gwared ar lawer o hawliau ac amddiffyniadau a enillwyd drwy waith caled, gan gynnwys, er enghraifft, absenoldeb rhieni, ond hefyd safonau bwyd a diogelu bywyd gwyllt, sef y pwynt rydych chi'n ei wneud, rwy'n credu. Mae ein cymdeithas, ein cymunedau, yn wynebu colli bioamrywiaeth ac ecosystemau'n methu, ac mae i hynny oblygiadau enfawr o ran ein cynaliadwyedd fel cymdeithas yn y dyfodol. Yr hyn y mae cyfraith yr UE a ddargedwir yn ei wneud yw—. Mae'r ddeddfwriaeth bresennol sydd gennym, cyfraith yr UE a ddargedwir, yn sail i nifer o'n hamddiffyniadau amgylcheddol sylfaenol ac amddiffyniadau eraill. Mae'n gwbl anghyfrifol fod y Bil sydd wedi'i gyflwyno, Bil cyfraith yr UE a ddargedwir, yn bygwth eu dileu, ac mae'n rhaid i unrhyw gynigion ar gyfer diwygio beidio â thanseilio'r amddiffyniad a roddir gan y rheoliadau hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i wneud popeth yn ein gallu i gadw a gwella safonau yn yr holl feysydd hynny.

Dyfodol Cyfansoddiadol Cymru

8. Sut mae'r Cwnsler Cyffredinol yn sicrhau bod y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn ymgysylltu'n briodol â'r cyhoedd fel rhan o'i waith o gyflwyno opsiynau ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru? OQ59352

Diolch am eich cwestiwn. Wrth gwrs, mae'r comisiwn yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru ac felly, mae sut maent yn ymgysylltu â'r cyhoedd ynghylch eu gwaith yn fater iddynt hwy benderfynu yn ei gylch.

Diolch am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Mae'n debyg, felly, y byddwn yn gofyn i chi beth yw eich asesiad o'r comisiwn annibynnol—neu'r comisiwn sy'n annibynnol yn ôl yr honiad—a sut y daeth i'w gasgliad mai'r unig dri opsiwn ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru yw mwy o ddatganoli, ffederaliaeth ac annibyniaeth. Hoffwn ofyn: beth am y safbwyntiau gwleidyddol eraill nad oedd y rhain yn eu cynnwys? Nawr, rydym yn gwybod bod arolygon yn dangos yn gyson fod y status quo yn opsiwn sy'n cael ei ffafrio, a bod 'diddymu' yr un mor boblogaidd ag annibyniaeth—ac nid wyf yn cytuno â'r naill opsiwn na'r llall, dylwn ychwanegu. Ond pa hygrededd y credwch a allai fod gan y comisiwn hwn pan fydd yn eithrio cymaint o safbwyntiau gwleidyddol eraill ledled Cymru? Os yw—. Os yw ei ymgynghoriad—. Os nad yw'r broses ymgynghori yn dangos bod ymgysylltiad digonol wedi bod ledled Cymru a'r farn gyhoeddus, beth yw eich asesiad o hynny?

Wel, diolch am y cwestiwn atodol. Ar yr ensyniad yn rhan gyntaf eich cwestiwn atodol, 'annibynnol yn ôl yr honiad', a gaf fi ddweud bod y comisiwn yn annibynnol? Mae ganddo gynrychiolwyr o bob lliw gwleidyddol yn ogystal â phobl nad ydynt yn perthyn i'r un lliw gwleidyddol o gwbl. Rwy'n credu ei bod yn gwbl amhriodol i ddweud 'annibynnol yn ôl yr honiad'. Mae'n annibynnol. Rhoddwyd y—[Torri ar draws.] Rhoddwyd statws annibynnol clir iddo ac mae'n anghywir i awgrymu fel arall. Nawr, yr hyn y byddwn yn ei ddweud ar eich sylwadau yw bod y comisiwn, wrth gwrs, wedi bod yn mynychu pob cynhadledd wleidyddol. Cafwyd cyfleoedd i ymgysylltu a chyfle i'r pwyntiau hyn gael eu gwneud gan bobl o bob lliw yn wleidyddol. Rwy'n deall eu bod wedi mynychu cynhadledd y blaid Geidwadol, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol, a'r Blaid Lafur yn wir, i siarad am y gwaith y maent yn ei wneud. Nid oedd rhwystr na chyfyngiad o gwbl ar unrhyw beth y gellid ei ofyn. Hoffwn ofyn i bob un Aelod o'r wrthblaid hefyd, os ydynt yn teimlo yr un fath â chi, y dylent gyflwyno eu sylwadau eu hunain. Nid wyf yn gwybod; nid wyf am ofyn nawr—. Efallai y dylai unrhyw un sydd wedi rhoi cyflwyniad i'r comisiwn godi eu dwylo. Nid wyf yn gweld unrhyw ddwylo'n codi. Tybed a yw eich plaid wedi cyflwyno sylwadau. Gobeithio bod eich plaid wedi cyflwyno sylwadau.

Ond y pwynt a godwch, a sut mae'n adlewyrchu'r holl safbwyntiau y dywedwch eu bod allan yno—mae'n agored i bobl gyflwyno unrhyw sylwadau, a bydd y rheini'n cael eu hystyried gan y comisiwn. Ond nid fy lle i na lle Llywodraeth Cymru yw dweud wrthynt sut i wneud eu gwaith. Fe wnaethom osod y canllawiau, fe wnaethom ddarparu'r fframwaith y maent yn gweithredu o'i fewn, a byddant yn adrodd maes o law.

Fe adawodd yr adroddiad interim argraff fawr arnaf oherwydd, yn eithaf aml, y gwendid gydag adroddiadau interim yw eu bod yn adroddiadau interim sydd, yn y bôn, yn dweud wrthych beth fydd casgliad eu hadroddiad terfynol. Wel, ni wnaeth hwn. Gadawodd ystod hollol eang o gyfleoedd yn agored ar sut y gellir gwella democratiaeth o fewn Cymru. A gaf fi ddweud bod yna gyfle go iawn o hyd i chi gyfrannu at hyn, i roi mewnbwn iddo? Mae'n rhywbeth sydd wedi'i sefydlu gan y Senedd hon, drwy ewyllys y Senedd hon, a gobeithio y gwnewch chi roi'r clod iddi am hynny a chymryd rhan lawn ynddo.

15:05
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

9. Sut mae'r Cwnsler Cyffredinol yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cydymffurfio â chyfraith a chonfensiynau rhyngwladol ar gydraddoldeb a hawliau dynol? OQ59333

Mae cydymffurfio â chonfensiynau cyfraith ryngwladol a hawliau dynol yn ganolog i bopeth a wnawn yng Nghymru. Nid ydym yn gweld y rhwymedigaethau hyn fel pethau ychwanegol dewisol, ond yn hytrach, rydym yn eu hystyried yn sylfaenol i weithrediad democratiaeth flaengar. Fel swyddog y gyfraith, rwy'n ystyried y rhwymedigaethau hyn yn ddifrifol iawn.

Rwy'n croesawu'r ymateb hwnnw, ac fe nodais ymateb cynharach y Cwnsler Cyffredinol i gwestiwn gan fy nghyd-Aelod, Joyce Watson, mewn perthynas â Bil Mudo anghyfreithlon Llywodraeth y DU, sydd â theitl addas. A gaf fi nodi pa mor rhyfedd o eironig yw hi fod Gweinidogion y DU yn tynnu sylw yn nheitl y Bil hwnnw at y ffaith bod llawer o awdurdodau rhyngwladol yn barnu bod y cynigion y maent yn eu cyflwyno yn anghyfreithlon drwy eu bod yn bygwth mynd yn groes i gyfraith a chonfensiynau rhyngwladol? Eto i gyd, nid dyma'r unig ddeddfwriaeth sy'n peri cyfyng-gyngor rhyfedd i Weinidogion y gwledydd datganoledig o gael eu gwahodd i fod yn rhan o'r swyddogaeth Weithredol, oherwydd cyfarwyddiadau gan Lywodraeth y DU, i gyflawni gweithredoedd anghyfreithlon. Sut mae'r Cwnsler Cyffredinol yn teimlo ynglŷn â hynny, a sut mae ei gyd-Aelodau yng Nghabinet Llywodraeth Cymru'n teimlo am orfod bwrw ymlaen â phethau sy'n torri cyfraith a chonfensiynau rhyngwladol?

Wel, diolch am y cwestiwn atodol. Yn anffodus, ar gymaint o achlysuron, rydym wedi gweld hyn yn digwydd, ac rydym wedi gorfod ei drafod a'i godi yn y Siambr hon. Fe'i gwnaethom yng nghyd-destun Bil Protocol Gogledd Iwerddon, a oedd yn amlwg yn anghyfreithlon, ac wrth gwrs, rydym wedi gweld yr holl bethau blaenorol a ddaeth i ben yn y Goruchaf Lys, lle cafodd anghyfreithlonrwydd yr hyn a oedd yn digwydd yn Llywodraeth San Steffan ei herio, a hynny'n briodol. Mewn gwirionedd, yr eironi yw mai ymateb Llywodraeth y DU i'r heriau hynny oedd, 'Wel, sut y gallwn gyfyngu felly ar weithrediad y Goruchaf Lys ei hun?' Ac rydym yn gweld yn rhyngwladol beth sy'n digwydd pan fydd Llywodraethau'n ceisio tanseilio annibyniaeth y farnwriaeth a gweithrediad rheolaeth y gyfraith.

Yr hyn y byddwn yn ei ddweud, o ran ein cyflawniad yn y Senedd hon, a'n rhwymedigaeth o dan adran 108 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, sy'n ein hatal rhag pasio unrhyw reoliadau neu ddeddfwriaeth nad yw'n cydymffurfio â'r rhwymedigaethau rhyngwladol hynny, yw mai ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn rhan o'i chyfraith ddomestig; mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn mabwysiadu egwyddorion nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig; mae hawliau plant wedi'u hymgorffori yng nghyfraith Cymru ym Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, a gallwn fynd ymlaen ac ymlaen, ac fe wyddom, o ran y ddeddfwriaeth a basiwyd yn y lle hwn, fod hynny'n ailadrodd ac yn cydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol.

A gaf fi ddweud mai'r hyn sy'n sylfaenol ofidus am y Bil mewnfudo a gyflwynwyd yn San Steffan, ac sy'n cael ei wthio drwy'r Senedd nawr, heb fawr iawn o ymgysylltiad priodol ac amser digonol i graffu arno, yw mai diben cael datganiad ar ei flaen yw i ddweud bod Deddf Hawliau Dynol 1998, y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, wedi cael ei hystyried a'i fod yn cydymffurfio â hwy, fod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio? Nid oes ffordd o osgoi hyn drwy ddweud, 'Wel, mewn gwirionedd, nid ydym yn credu ei fod yn cydymffurfio', ac ati. Rwy'n cwestiynu'n fawr a ddylid caniatáu cyflwyno deddfwriaeth os nad yw'n gallu cael datganiad gan swyddogion y gyfraith neu gan y Gweinidogion priodol i ddweud bod rhywbeth yn cydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol. Fel arall, rydych yn cyflwyno deddfwriaeth sy'n dweud i bob pwrpas, 'Mae'r ddeddfwriaeth hon yn anghyfreithlon yn ôl pob tebyg, ond er hynny, rydym yn mynd i'w phasio.' Beth mae hynny'n ei ddweud am ddemocratiaeth seneddol a rheolaeth y gyfraith? Rwy'n credu ei fod yn ddatblygiad sy'n peri pryder mawr yn San Steffan, ac yn rhywbeth y mae angen mynd i'r afael ag ef o ddifrif o ran statws cyfansoddiadol y ffordd yr ymdrinnir â'r pethau hyn.

15:10
RFA Sir Galahad

10. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion cyfraith Llywodraeth y DU ynglŷn â cheisiadau gan deuluoedd aelodau o'r lluoedd arfog yng Nghymru am ddadddosbarthu pob dogfen yn ymwneud ag ymchwiliad 1982 i suddo'r RFA Sir Galahad? OQ59341

Diolch am y cwestiwn penodol hwn. Mae materion amddiffyn a gweithredol yn dod o dan gyfrifoldeb Llywodraeth y DU, ond byddwn yn annog Llywodraeth y DU i ryddhau'r holl wybodaeth mewn perthynas â'r ymchwiliad.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw ac am annog Llywodraeth y DU i ryddhau'r dogfennau hynny. Mae ymgyrchwyr wedi cysylltu â mi ar ran y teuluoedd a gollodd anwyliaid, sydd eisiau ac sy'n haeddu atebion. A wnewch chi ddefnyddio'r dylanwad nid yn unig heddiw ar lawr y Senedd, ond yn y cyfarfodydd yr ydych yn eu cael gyda Llywodraeth y DU, i'w hannog eto i fod mor dryloyw â phosibl a hefyd i ymuno â mi i alw arnynt, pan fyddwch yn cyfarfod â'r swyddogion hynny, nid yn unig ar lawr y Senedd heddiw, ond pan fyddwch yn cyfarfod â Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth y DU, y dylent ryddhau'r holl ddogfennau sy'n gysylltiedig ag ymchwiliad 1982 i suddo'r Sir Galahad fel bod teuluoedd a gollodd anwyliaid a goroeswyr yn gallu cael yr atebion y maent eu heisiau'n fawr, ond y maent hefyd yn eu haeddu'n fawr? Diolch.

Wel, diolch am y cwestiwn atodol hwnnw. Anrhydedd fawr bob blwyddyn yw mynychu'r digwyddiad coffa ym mharc Ynysangharad mewn perthynas â'r Galahad. Mae'n ddigwyddiad teimladwy iawn, ac mae'n un y credaf ei fod yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn wrth inni gydnabod yn gynyddol beth yw gwir rôl personél y lluoedd arfog a'r aberth y mae unigolion yn ei gwneud, ac efallai fod digwyddiadau yn rhyngwladol yn gwneud hynny'n gliriach byth yn ein cof.

Rwy'n ymwybodol iawn fod swyddogion y Gwarchodlu Cymreig bellach wedi galw am ddigelu dogfennau'r Galahad, ac fel y dywedaf, nid yw'r rhain yn bethau sydd o fewn ein cyfrifoldebau datganoledig, ond rwy'n credu ein bod bob amser wedi cefnogi, fel gydag Orgreave a digwyddiadau eraill, Hillsborough ac yn y blaen, cymaint â phosibl o dryloywder, didwylledd ac atebolrwydd mewn perthynas â digwyddiadau. Roedd digwyddiadau'r Galahad ym 1982, gryn dipyn o amser yn ôl, a byddai'n rhaid cael rhesymau eithriadol iawn dros beidio â digelu dogfennau. Rwy'n credu y byddem yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi digelu'r dogfennau hynny fel y gall teuluoedd y rhai a gollodd eu bywydau fod yn fodlon eu bod yn deall yn iawn beth a ddigwyddodd a bod unrhyw gwestiynau sydd ganddynt yn cael eu hateb yn llawn.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Eitem 3, cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Bydd y cwestiwn cyntaf yn cael ei ateb gan y Llywydd. Heledd Fychan.

Ymweliadau gan Blant a Phobl Ifanc

1. Sut mae'r Comisiwn yn sicrhau cyfleoedd i blant a phobl ifanc ymweld â'r Senedd yn sgil y cynnydd mewn costau trafnidiaeth? OQ59365

Mae'r Comisiwn yn rhoi cyfle i ysgolion a cholegau o bob rhan o'r wlad i ddod i'r Senedd ar ymweliadau addysgol. Mae'r ymweliadau hyn gyda swyddog addysg yn ddwy awr o hyd, ac maent yn cynnwys taith a sesiwn addysgol yn Siambr Hywel. Mae cymhorthdal teithio o £1 y filltir ar gael os oes angen teithio dros 10 milltir i gyrraedd y Senedd. Mae'r cynllun ar waith ers dros 10 mlynedd, a chytunwyd ar y gyfradd uwch hon i ddenu ysgolion i ymweld â'r Senedd, ac mae'n uwch na'r ddarpariaeth safonol HMRC, wrth gwrs, sydd ond yn 40c y filltir.

15:15

Diolch yn fawr iawn am yr ymateb hwnnw, ac rydyn ni i gyd, dwi'n siŵr, wedi bod yn rhan o ymweliadau rhagorol a gweld faint o gyfleoedd gwych sydd yna i'n plant a'n pobl ifanc ni a faint maen nhw a ni'n elwa o'r ymweliadau hyn.

Un o'r pethau sydd wedi bod yn fy mhryderu, o siarad ag ysgolion yn fy rhanbarth, ac o feddwl mai Canol De Cymru ydy'r rhanbarth, ydy bod mwyfwy yn gweld bod cost bysus yn benodol yn golygu eu bod nhw efallai yn dod â senedd yr ysgol, sef criw llai, sydd felly'n ffitio mewn dau gar, yn hytrach na rhoi cyfle i bob disgybl fedru dod. Ac felly, eisiau gofyn ydw i: oes yna asesiad wedi cael ei wneud o ran effaith cynnydd y gost sydd wedi bod mewn bysus yn benodol er mwyn sicrhau bod yna gyfleodd a'n bod ni hefyd yn pwysleisio i awdurdodau lleol pa mor bwysig ydy'r ymweliadau hyn, fel bod pawb yn elwa, nid dim ond criwiau bach o blant a phobl ifanc?

Wel, mae hwnna'n bwynt teg iawn, wrth feddwl bod y gyfundrefn sydd gyda ni mewn lle ers 10 mlynedd, fel y dywedais i, gyda'r cymorthdal o £1 y filltir ar gyfer teithio. Ond, wrth gwrs, rŷn ni'n ymwybodol iawn yn ystod y flwyddyn, 18 mis diwethaf yma fod cost trafnidiaeth a llogi bysus yn enwedig wedi mynd yn uchel iawn ar gyfer pob math o ddigwyddiadau. Felly, gwnaf i gymryd y cwestiwn rŷch chi wedi'i ofyn a gwnaf i ofyn i swyddogion i edrych i weld a oes yna batrwm gwahanol, llai, fel rŷch chi'n sôn amdano, o bosib, grwpiau llai o nifer yn dod i'r Senedd yma o ganlyniad i gost trafnidiaeth, ac fe fydd yn rhaid inni edrych ar hynny, os ydy hynny'n batrwm rŷn ni'n ei weld sydd yn amddifadu plant, o bob rhan o Gymru, rhag dod i elwa ar y profiad o ymweld â ni. Felly, diolch am y cwestiwn a gwnawn ni edrych mewn iddo fe.

Rwy'n gwybod eich bod yn cytuno â mi, Lywydd, ei bod yn hanfodol i ddemocratiaeth Cymru fod y Senedd yn hyrwyddo ei hun i bobl Cymru, ac yn enwedig i blant a phobl ifanc. Ac yn sgil costau trafnidiaeth, tybed beth arall y gallai'r Comisiwn ei wneud i sicrhau bod y Senedd yn manteisio ar ddigwyddiadau mawr, pan fyddant yn digwydd, pan fydd pobl eisoes ym Mae Caerdydd, yn enwedig ar benwythnosau. Felly, er enghraifft, rwy'n gwybod y penwythnos diwethaf fod y bae yn llawn o bobl ar gyfer y ras 10 cilomedr, a oedd yn cynnwys ras hwyl i blant, ac mae'n debyg fod y Senedd ar gau. Felly, wrth edrych ymlaen at ddigwyddiadau mawr eraill—er enghraifft, gyda choroni'r Brenin a'r Frenhines Gydweddog ar y gorwel—a allwch chi gadarnhau y bydd y Senedd ar agor fel arfer ar gyfer y dydd Sadwrn a pha weithgareddau arbennig sy'n cael eu cynllunio i ddathlu'r coroni, ond hefyd i hyrwyddo ac ymgysylltu â theuluoedd dros y penwythnos hwnnw?

Wel, a gaf fi gadarnhau yn gyntaf oll fod y Comisiwn wedi gorfod cymryd y cam anffodus o orfod cau'r Senedd ar ddydd Sul oherwydd pwysau ariannol a'r alwad arnom gan Aelodau o bob rhan o'r Siambr, yn enwedig yn eich plaid chi, i edrych ar ostwng costau a gostyngiadau cyllidebol, ac felly, nid yw'r Senedd yn agored i'r cyhoedd ar ddydd Sul? Fe wyddoch, wrth gwrs, ein bod yn bwriadu lleihau ein cyllideb hyd yn oed ymhellach ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ac felly, mae goblygiadau i hynny hefyd.

Pan fyddwch yn gwneud y galwadau hyn arnom, rwy'n siŵr eich bod yn gwneud y galwadau, gan ddeall y bydd angen mwy o arian i'w cyflawni ac felly, rwy'n gobeithio, pan fyddwn yn edrych nesaf ar gyllideb y Comisiwn, wrth inni fynd ymlaen dros y chwe mis nesaf, y byddwch yn meddwl wrth graffu ar y gyllideb honno, y byddwch yn meddwl beth yr hoffech chi i'r Senedd ei wneud ar sail yr hyn y bydd yn ei gostio i'r Senedd wneud hynny hefyd. Ac rwy'n siŵr y byddwch yn ystyried eich dyhead chi, a fy nyhead innau hefyd, i fod ar agor saith diwrnod yr wythnos, ond mae i hynny oblygiadau o ran costau, a bydd angen inni gynyddu ein cyllideb er mwyn gwneud hynny.

Digwyddiadau ar Ystâd y Senedd

2. Sut mae'r Comisiwn yn symleiddio'r broses archebu ar gyfer cynnal digwyddiadau ar ystâd y Senedd? OQ59351

Mae'r Comisiwn yn adolygu’r broses archebu bresennol ar gyfer cynnal digwyddiadau a chyfarfodydd ar ystâd y Senedd, yn dilyn newidiadau yn nefnydd yr ystâd ar ôl y pandemig diweddar. Mae'r newidiadau fydd yn cael eu cyflwyno ar unwaith yn cynnwys diwygio'r ffurflen archebu i greu categorïau ar wahân ar gyfer archebu ystafelloedd a digwyddiadau ac i fedru prosesu ceisiadau'n gynt. Bydd y ffurflen newydd yma yn cael ei threialu a'i rhoi ar waith yn ystod tymor yr haf. Mi rydym hefyd yn ymgynghori i gasglu sylwadau Aelodau ar unrhyw newidiadau posib eraill i'r dyfodol.

Diolch, Lywydd. Diolch am eich ateb. Rwy'n hapus iawn gyda'ch ateb, Lywydd. Fy mhryder yw, mae yna anhawster mawr i mi a fy swyddfa pan fyddwn yn ceisio cynnal digwyddiad yn y Senedd. Felly, yn aml, rwy'n cael gwybod bod oedi o chwe mis cyn bod modd trefnu unrhyw ddigwyddiad, ac ar adegau eraill rwy'n cael gwybod, 'Ni allwn ganiatáu'r dyddiad hwnnw am ei fod yn rhy bell i'r dyfodol.' Ond byddwn yn gwerthfawrogi ffordd lawer symlach i ASau a'u swyddfeydd allu cadw lle yn ystafelloedd cyfarfod y Senedd. Byddai'n ddefnyddiol gweld beth sydd ar gael, fel y gallwn edrych ein hunain a gwneud penderfyniadau, a'r ffordd honno, byddai'n ffordd lawer mwy didrafferth; mae'n ymddangos ei bod yn ffordd eithaf biwrocrataidd ar hyn o bryd. Ond rwy'n gobeithio y bydd modd symud ymlaen gyda'r newidiadau y sonioch chi amdanynt, Lywydd. Diolch yn fawr.

15:20

Rydym yn ymwybodol fod yna rwystredigaeth gyda'r system ar hyn o bryd ynghylch argaeledd ystafelloedd a chadw lle yn yr ystafelloedd hynny. Ac yng ngoleuni'r newidiadau sylweddol yn y modd y mae digwyddiadau a chyfarfodydd yn digwydd ac am barhau yn y dyfodol o ganlyniad i COVID, yn enwedig cyfarfodydd hybrid neu gyfarfodydd rhithiol yn rhan o'r hyn y gallwn ei gynnig nawr, yn ogystal â chyfarfodydd ar y safle, rydym yn cynnal ymarfer ymgynghori gydag Aelodau i wneud yn siŵr ein bod yn ateb dyheadau'r Aelodau am yr hyn y maent am ei weld yn digwydd ar yr ystad. Felly, gobeithio y bydd pawb yn ymgysylltu â'n swyddogion i weld beth sy'n bosibl a beth y gellir ei wneud i gyd-fynd â'r gwaith y mae'r Aelodau am ei wneud ar yr ystad.

A hefyd, y pwynt a wnaethoch yn eich cwestiwn i'w gwneud ychydig yn fwy agored i Aelodau a'u staff weld beth sydd eisoes wedi'i drefnu, ac a allwn barhau â'r syniad o wasanaeth cadw lle ar-lein ar gyfer rhai rhannau o'n hystad er mwyn dileu peth o'r rhwystredigaeth, ac i wneud y cyfan ychydig yn fwy effeithlon yn y dyfodol.

Cwestiwn 3, Joyce Watson. Jack Sargeant, sori. [Chwerthin.]

Joyce sy'n ateb. 

Endometriosis

3. Sut mae Comisiwn y Senedd yn cefnogi staff sy'n dioddef ag endometriosis? OQ59340

Diolch am eich cwestiwn, Jack. Mae Comisiwn y Senedd yn parhau i roi blaenoriaeth i iechyd corfforol a meddyliol ei staff—esgusodwch fi—gyda strategaeth lesiant ar waith sy'n amlinellu—esgusodwch fi—sut rydym yn cefnogi hyn.

A gaf fi ddiolch i Joyce Watson am yr ateb hwnnw? A gaf fi hefyd ddiolch i Joyce Watson am ei chefnogaeth gyson i'r rhai sy'n dioddef o endometriosis a chyflyrau eraill, ac am bopeth a wnewch fel Comisiwn i hyrwyddo cydraddoldeb menywod? Hoffwn gofnodi fy niolch hefyd, Ddirprwy Lywydd, i'r ymgyrchydd Beth Hales, sydd wedi cyflwyno deiseb i'r Senedd, am ei gwaith diflino a'i hymgyrchu ysbrydoledig yn y maes hwn. Mae'n Fis Gweithredu ar Endometriosis, ac fel cyflogwr, mae'n rhaid i'r Senedd fod yn fwy ymwybodol o endometriosis a chael rhagor o ddealltwriaeth o'r effaith ar weithwyr. A gaf fi ofyn ichi, Gomisiynydd, a wnewch chi geisio ymgysylltu â'r cynllun cyflogaeth endometriosis-gyfeillgar, a dod yn achrededig o dan y cynllun hwnnw o bosibl? Ac a wnewch chi edrych ymhellach hefyd ar beth arall y gall y Senedd ei wneud, ac y gall y Comisiwn ei wneud, i gefnogi staff sy'n dioddef gyda chyflyrau eraill?

Iawn, rwy'n gallu siarad nawr.

Mae gennym system ar waith lle rydym wedi hyrwyddo lles corfforol a meddyliol yn y gorffennol gydag ymgyrchoedd, ac un o'r ymgyrchoedd hynny oedd Mis Ymwybyddiaeth Endometriosis y llynedd. Rydym yn cyfathrebu â staff ac yn cynnwys blog i staff yn rhannu profiadau personol o weithio gydag endometriosis, a thudalen we fewnol sy'n darparu gwybodaeth a chefnogaeth benodol i'r rhai sy'n dioddef o endometriosis. Ac rydym yn gwybod bod 10 y cant o fenywod yn dioddef ac yn cael eu heffeithio gan y cyflwr hwnnw.

Ar eich cwestiwn ehangach ynglŷn ag a fyddwn yn dod yn hyrwyddwyr, rwy'n credu bod y Senedd yn eithaf da am hyrwyddo lles ei gweithlu, ond os bydd Endometriosis UK am gysylltu â ni, neu unrhyw gymdeithas arall, i helpu i'n goleuo er mwyn gwneud bywyd yn haws i bobl sydd â chyflyrau sy'n effeithio arnynt yn y gweithle, neu yn yr un modd, os oes unrhyw un yn y gweithle eisiau rhoi gwybod i ni lle gallwn wella, rydym bob amser yn agored i hynny.

15:25

Fel y dywedoch chi, Joyce, mae gan 10 y cant o fenywod endometriosis, ac roeddwn yn meddwl am hyn pan oeddwn ar yr orymdaith ddydd Sul, a sut y gallem gael trafodaethau ynghylch iechyd mislif gydag Aelodau benywaidd y Senedd a staff, oherwydd ceir llawer o bobl nad ydynt yn deall pam eu bod yn dioddef y ffordd y maent yn ei ddioddef gyda'u mislif, oherwydd nad yw pobl sy'n gweithio yma heddiw wedi cael budd o'r addysg cydberthynas a rhywioldeb rydym yn ei chyflwyno i bobl ifanc erbyn hyn. 

Rwy'n meddwl bod hwnnw'n bwynt teg, Jenny. Mae gennym lawer o wybodaeth, ond mae ar wahanol gyfnodau o fywydau menywod yn aml iawn. Nid endometriosis yn unig, ond y menopos, ffactorau eraill i wahanol bobl. Felly, rwy'n meddwl y byddai cynyddu'r wybodaeth honno lle gallwn—boed yn osod poster yn rhywle—yn beth da, a byddem yn agored i hynny.

Polisi Caffael

4. A wnaiff y Comisiwn roi diweddariad ynghylch y polisi caffael ar gyfer deunydd ar ystâd y Senedd? OQ59367

Mae polisi caffael y Comisiwn yn cyd-fynd ag egwyddorion datganiad polisi caffael Cymru. O ran prynu deunyddiau, bob tro y byddwn yn caffael nwyddau gwerth dros £25,000, byddwn yn cynnal asesiad risg cynaliadwyedd. Mae'r asesiad hwn yn ystyried prif effeithiau cylch bywyd y deunyddiau a brynwn.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Llywydd. Wythnos diwethaf, fe wnes i ofyn cwestiwn i’r Gweinidog amaeth ynghylch defnyddio grym caffael y Llywodraeth i ddefnyddio gwlân Cymru, er enghraifft mewn carpedi yn ein cerbydau trafnidiaeth gyhoeddus. Yn yr un modd, pa ystyriaeth mae’r Comisiwn wedi’i rhoi i sicrhau bod gwlân Cymru yn cael ei ddefnyddio ar ystâd y Senedd, a bod polisi caffael yn nodi’r angen am wlân Cymru, er enghraifft, yn y ffabrig sydd i’w weld ar lawr y Siambr yma, neu ar hyd waliau’r Siambr yma, yn enwedig pan fyddwn ni’n gweld y Siambr yn ymestyn yn fwy o faint? Diolch.

Ie, dwi’n ymwybodol o’ch cefnogaeth ar gyfer y deunydd pwysig hynny, sef gwlân yng Nghymru. Dwi’n rhannu eich uchelgais chi ar gyfer y deunydd cynaliadwy iawn hynny. Dwi’n meddwl ein bod ni yn neunawfed blwyddyn y Siambr yma, ac mae’r gwlân sydd ar y welydd ac ar y llawr wedi para mor hir â hynny, sy’n dangos, wrth gwrs, pa mor dda yw’r cynnyrch yna. Fel y sonioch chi, fe fydd yna gyfnod, os bydd deddfwriaeth yn mynnu hynny, pan fydd angen ymestyn y Siambr yma ac, o bosibl, bryd hynny bydd angen rhoi ystyriaeth i weld a fydd y gwlân yn para ac angen cael ei brynu o’r newydd ar gyfer y Siambr yma. Ac os byddwn ni’n prynu gwlân bryd hynny, yna dwi’n gobeithio y bydd yn lliw mwy diddorol na’r llwyd yma a benderfynwyd arno 18 mlynedd yn ôl.

Cerbydau Trydan

5. A yw'r cynllun aberthu cyflog ar gyfer cerbydau trydan wedi cael ei gyflwyno ar gyfer staff cymorth Aelodau o'r Senedd a staff y Senedd? OQ59331

Ydy, rwy'n falch iawn o gadarnhau bod y cynllun wedi cael ei gymeradwyo'n ffurfiol ac wedi ei lansio heddiw. Mae rhagor o fanylion ar gael ar y safle mewnrwyd, a bydd gweminar ar gyfer Aelodau a staff yfory. Yn syth ar ôl toriad y Pasg, byddwn hefyd yn cynnal digwyddiad ar y safle, ac yn amlwg, mae'r cynllun hwn yn cyflawni'r ymrwymiad a wnaethom yn ein strategaeth carbon niwtral i helpu i wneud cerbydau trydan yn fwy fforddiadwy. Byddant ar gael ar gyfer Aelodau, staff Aelodau a staff y Comisiwn, a bydd ystod dda o gerbydau ar gyfer yr holl raddfeydd cyflog.

Mae'n rhaid imi ddweud bod hynny wedi mynd â fy ngwynt yn llwyr. Nawr, byddaf yn disgwyl bob tro y byddaf yn gofyn cwestiwn yn y Senedd i fynnu rhywbeth, y byddai'n cael ei ddarparu ar unwaith. Felly, Weinidogion, cymerwch sylw o hynny. 

Ond o ddifrif, a gaf fi ddiolch i Ken a'r Comisiynwyr a'r holl staff am y gwaith y tu ôl i'r llenni sydd wedi'i wneud ar hyn? Ac os caf ofyn nawr am ymgysylltu gweithredol ag aelodau staff, yn enwedig aelodau staff ASau. Rydych wedi sôn am y gweminarau a'r gwaith ymgysylltu arall a fydd yn digwydd yn ystod ac ar ôl y toriad, nid yn unig i hyrwyddo manteision y cynllun o ran y nifer sy'n defnyddio cerbydau trydan, ond hefyd y rôl bwysig y gall hyn ei chwarae yn eu helpu i chwarae eu rhan fach eu hunain i wrthsefyll newid hinsawdd ac i wella ansawdd aer. A fydd yna ymgysylltu gweithredol ar hynny, Ken?

15:30

Diolch, Huw. Dylid dweud, ar-lein, ar dudalennau'r fewnrwyd, fod gwybodaeth eithaf cynhwysfawr ar gael i'r holl weithwyr, boed yn aelodau o staff y Comisiwn neu'r Aelodau eu hunain. Mae gwybodaeth hefyd gan y darparwr gwasanaeth am yr holl gerbydau sydd ar gael. Gan fod cymaint o alw am geir trydan, dylwn nodi y bydd angen amynedd ar gyfer rhai o’r cerbydau mwy egsotig a phoblogaidd, megis yr Audi e-tron. Mae cerbydau mwy diymhongar a hyfryd ar gael mewn ychydig wythnosau, fel y Funky Cat. Carwn annog pawb i edrych ar yr hyn sydd ar gael. Bydd y cynllun yn hynod bwysig wrth inni geisio annog pobl i newid i gerbydau hybrid a thrydan, ac mae ychwanegu cerbydau hybrid i'r cynnig yn helpu i ddarparu ar gyfer pobl nad ydynt o bosibl yn gallu gosod pwyntiau gwefru trydan yn eu cartrefi. Felly, rydym yn ceisio apelio at bawb, ni waeth beth fo'u hincwm neu eu hamgylchiadau gartref. Ac fel rhan o'r weminar yfory, a'r digwyddiad ar ôl toriad y Pasg, gallaf addo i chi, Huw, a'r holl Aelodau, y byddwn yn ymgysylltu'n frwd â phawb.

Twyllwybodaeth

6. Pa gamau mae'r Comisiwn wedi'u cymryd i atal lledaenu twyllwybodaeth ar ystâd y Senedd? OQ59358

Mae gan y Comisiwn reolau caeth mewn perthynas â defnyddio ystâd y Senedd. Caiff pob digwyddiad ei adolygu i sicrhau eu bod yn bodloni ein gofynion, sy'n cynnwys atal gweithgareddau sy'n cael eu hystyried yn wahaniaethol neu'n dramgwyddus. Mae gan ein tîm cyfathrebu offer i fonitro'r cyfryngau a'r cyfryngau cymdeithasol i adnabod twyllwybodaeth am y Senedd. Mae'r cynnydd mewn twyllwybodaeth yn risg, a dwi'n credu, fel Aelodau, bod gan bob un ohonom gyfrifoldeb i helpu i'w atal rhag lledaenu, yn ein Senedd ac yn ein cymunedau.

Diolch, Lywydd. Fe fyddwch yn cofio, rwy’n siŵr, ichi gynnal digwyddiad yn y Neuadd ar Ddydd Gŵyl Dewi i ddathlu’r cyfraniad a wnaed gan bobl sydd wedi dewis galw Cymru yn gartref, gan gynnwys pobl a oedd wedi ffoi rhag Natsïaeth pan oeddent yn blant, ac a oedd yn amlwg wedi mwynhau gweddill eu bywydau yng Nghymru. Ar yr un pryd, roedd rhywun y tu allan i ffenestri'r Neuadd yn hyrwyddo twyllwybodaeth am addysg cydberthynas a rhywioldeb, a oedd yn anffodus iawn mewn pob math o ffyrdd. Nid oedd unrhyw beth y gallai unrhyw un fod wedi'i wneud ynglŷn â'r peth ar y pryd, ond nid oedd yn dda o gwbl. Mae'n debyg y dylai'r porthorion fod wedi ymyrryd i ryw raddau ond gallaf ddeall yr anhawster o sicrhau na chawn ein gweld fel sefydliad sy'n atal gwybodaeth yr ydym yn anghytuno â hi.

Ar fater ehangach, mae gan GB News, y barnwyd eu bod wedi torri canllawiau Ofcom ynghylch brechlynnau COVID, lawer o eitemau sy’n darlledu twyllwybodaeth neu safbwyntiau atgas, ac mae’r sianel yn cael ei darlledu ar ein setiau teledu mewnol ar hyn o bryd. Tybed a roddwyd unrhyw ystyriaeth i ba mor briodol yw hi i sianel a allai barhau i ledaenu twyllwybodaeth gael ei darlledu drwy ein systemau i'n staff a'n Haelodau.

Ar ran gyntaf eich cwestiwn, roeddwn yno, a gwelais â'm llygaid fy hun y protestwyr y tu allan yn manteisio ar y ffaith mai ffenestri yw ein waliau, ac yn sicrhau bod y rhai ohonom a oedd yn eistedd y tu mewn yn gallu darllen eu placardiau. Dyna fantais ac yn anfantais ein hadeilad. Yn y foment honno, ni chredaf y gellid nac y dylid bod wedi gwneud unrhyw beth, er nad oedd yn sefyllfa arbennig o gyfforddus yn y Senedd ar y pryd.

Os caf ddod at eich ail bwynt, mae'n rhywbeth nad wyf wedi meddwl amdano o gwbl. Bydd angen imi ystyried y mater a godwyd gennych am GB News fel sianel newyddion—rwy'n credu mai sianel newyddion yw hi—sy'n cael ei darlledu yn y Senedd. Nid wyf am wneud unrhyw sylwadau ar y mater, gan nad wyf wedi rhoi unrhyw ystyriaeth iddo, ond fe wnaf ei ystyried gan eich bod wedi'i godi.

15:35
Epilepsi Ffotosensitif

7. Sut mae ystâd y Senedd yn darparu ar gyfer pobl ag epilepsi ffotosensitif? OQ59354

Diolch am eich cwestiwn. Rydym yn ymdrechu i fod yn Senedd sy'n hygyrch i bawb sy'n gweithio ar ein hystad neu'n ymweld â hi. Bu cynllunwyr adeilad y Senedd yn gweithio’n agos gyda grwpiau hygyrchedd i bobl anabl er mwyn sicrhau bod yr adeilad yn cydymffurfio â’r arferion gorau ar gyfer hygyrchedd. Cynhelir asesiadau risg iechyd a diogelwch cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau ar y safle, ar gyfer staff sy'n defnyddio monitorau a sgriniau cyfrifiaduron, ac fel rhan greiddiol o asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer gwelliannau a gwaith ailwampio ar draws yr ystad.

Diolch. Drwy raglen Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal, rwy'n mentora ymgyrchydd gwych yn fy rhanbarth, Becci Smart, o bentref Coytrahen ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae Becci wedi trefnu digwyddiad rwy’n ei noddi yn adeilad y Pierhead fis nesaf i godi ymwybyddiaeth o anhwylderau cyn mislif, ac mae hefyd yn ymgyrchydd ers amser maith ar faterion epilepsi, cyflwr y mae hi ei hun yn byw gydag ef. Diben rhaglen Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal yw chwalu rhwystrau rhag cyfranogiad democrataidd, a gwella amrywiaeth cynrychiolaeth. Mae'n rhaid, felly, i ystad y Senedd ei hun chwarae ei rhan os yw’r Comisiwn yn cefnogi’r nodau hyn.

Mae gan Becci epilepsi ffotosensitif, sy'n golygu y gall gael trawiadau a achosir gan oleuadau sy'n fflachio. Er mwyn sicrhau mynediad cyfartal i adeiladau i bobl fel Becci, mae angen defnyddio goleuadau panel LED mewn adeiladau fel y Senedd, yn hytrach na mathau eraill o oleuadau, gan y gall eu fflachiadau achosi problemau hefyd i rai pobl awtistig a phobl sy'n cael meigryn. Gallai Comisiwn y Senedd helpu drwy sicrhau bod unrhyw oleuadau diffygiol yn cael eu diffodd cyn gynted ag y nodir nam, er mwyn sicrhau iechyd parhaus aelodau o'r cyhoedd sy’n ymweld sy’n agored i niwed, a gosod rhai newydd yn eu lle cyn gynted â phosibl, a sicrhau hefyd nad oes unrhyw fideo sy’n cael ei greu neu ei ariannu gan Gomisiwn y Senedd yn cynnwys delweddau sy'n fflachio.

A wnaiff Comisiwn y Senedd ymrwymo i roi’r camau hyn ar waith, ac ymgysylltu ag ymgyrchwyr epilepsi fel Becci i weld pa fesurau ychwanegol y gellir eu rhoi ar waith i wneud ystad y Senedd yn fwy cynhwysol?

Diolch yn fawr iawn. Mae unrhyw beth y gallwn ei wneud, ac unrhyw wybodaeth y gallwn ei chael i’n helpu i gefnogi ac annog y bobl hynny’n well, ni waeth pa gyflyrau sydd ganddynt, a rhannu’r wybodaeth honno gyda ni o fudd i ni, ac i'w groesawu'n fawr. Mae'r rhan fwyaf o'r goleuadau yn y Senedd yn oleuadau LED ar y nenfwd, ac mae'r adran reoli ystadau a chyfleusterau wrthi'n archwilio opsiynau i gael gwared ar y fflworolau stribed olaf yn ardal ddiogelwch y Senedd, ac ym mhrif neuadd y Pierhead, sef pwynt eich cwestiwn. Byddaf yn cael sgyrsiau, ac os gallwn gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r digwyddiad hwnnw a hwyluso’r newid hwnnw, byddwn yn sicr yn gwneud hynny. Nid oes gennym unrhyw oleuadau sy'n fflachio neu oleuadau strôb na phatrymau geometrig, ac nid oes gennym unrhyw oleuadau Nadolig, na goleuadau dros gyfnodau gŵyl, sy'n fflachio. Rydym yn defnyddio monitorau a setiau teledu sgrin fflat. Felly, rydym yn gwneud llawer iawn o waith yn y maes hwn, ond os oes mwy y gallwn ei wneud, rydym yn croesawu'r sgyrsiau hynny wrth gwrs, ac fe weithiaf gyda chi i'r perwyl hwnnw.

4. Cwestiynau Amserol

Eitem 4 y prynhawn yma yw'r cwestiynau amserol a galwaf yn awr ar Gareth Davies i ofyn ei gwestiwn amserol.

Adran Achosion Brys Ysbyty Glan Clwyd

1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar yr adran frys yn Ysbyty Glan Clwyd? TQ757

Mae adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn nodi gwaith caled ac ymrwymiad staff adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd, a bu rhai gwelliannau calonogol yn dilyn yr arolygiad blaenorol. Fodd bynnag, mae’n siomedig iawn nad yw llawer o’r materion wedi’u datrys yn llawn o hyd.

Rwy’n gwerthfawrogi eich ymateb y prynhawn yma, Weinidog, a hoffwn ddiolch i’r Llywydd am dderbyn fy nghwestiwn amserol y bore yma. Rwy’n falch iawn iddo gael ei dderbyn, gan fy mod wedi darllen adroddiad AGIC ar wasanaethau brys yn Ysbyty Glan Clwyd heddiw, ac rwyf wedi fy synnu. Rwy'n synnu mai dyma'r trydydd arolygiad o fewn cyfnod o 12 mis, a phrin yw'r dystiolaeth a welwn o unrhyw gynnydd ar yr argymhellion a ddarparwyd gan yr arolygiaeth. Gadewch imi nodi'n glir nad ymosodiad yw hwn ar y gweithwyr ar y rheng flaen yn yr adran, sy'n gweithio ymhell y tu hwnt i'w disgrifiadau swydd, ond diffodd tanau a wnânt, ymateb i ddigwyddiadau wrth iddynt godi, a chrynodiad uchel o gleifion sy'n ddifrifol wael, salwch staff a diffyg lle yn yr adran i ymarfer yn ddiogel. Ond pam fod staff gartref yn sâl? Ceir tystiolaeth dda fod staff gartref yn sâl am eu bod wedi'u gorweithio, o dan straen, wedi ymlâdd ac yn mynd yn sâl, ac mae'n gylch dieflig gyda'r mater heb ei ddatrys. Canlyniad hynny yw gorfod cyflogi staff asiantaeth drwy'r amser, sydd wedyn yn costio ffortiwn.

Fel y crybwyllais wrthych sawl gwaith o’r blaen yn y Siambr hon, Weinidog, mae pobl Dyffryn Clwyd, sir Ddinbych, Conwy, sir y Fflint a ledled y gogledd wedi cael digon o newyddion drwg ar ôl newyddion drwg yn y bwrdd iechyd hwn, ac maent wedi blino ar flynyddoedd a blynyddoedd o ddiffyg gweithredu a thaflu bai a diffyg atebolrwydd. Pan gyfunwch hyn â’r newyddion diweddar fod bwrdd Betsi Cadwaladr wedi ei wneud yn destun mesurau arbennig unwaith eto yn ystod y mis diwethaf, gyda chadeirydd y bwrdd ac aelodau annibynnol wedi eu gorfodi gennych i ymddiswyddo, yn hytrach na'r swyddogion gweithredol, prin y gallwch feio fy etholwyr am deimlo fel hyn. Ond hoffwn fod yn adeiladol gyda chi heddiw, Weinidog. Gan eich bod bellach wedi goroesi’r bleidlais o ddiffyg hyder yr wythnos diwethaf, ac wedi cael cefnogaeth a mandad gan y Prif Weinidog, rwyf am ichi ddod o hyd i ffordd allan o’r sefyllfa rydym yn ei hwynebu ar hyn o bryd yn y gogledd, a datrys rhai o’r problemau cronig hyn ym mwrdd Betsi Cadwaladr. Bydd hynny’n helpu pawb: fy etholwyr, cleifion, staff a’r diwylliant cyffredinol o fewn y bwrdd.

Mae gennyf rai cwestiynau yn fy nghwestiwn atodol yr hoffwn eu gofyn i chi y prynhawn yma os caf, Weinidog. Pa gyfathrebu rydych wedi’i wneud gyda chadeirydd newydd bwrdd Betsi Cadwaladr hyd yn hyn ynglŷn â’r mater hwn yn Ysbyty Glan Clwyd? A ydych chi'n fodlon fod ei nodau a’i amcanion ef a’r bwrdd newydd yn cyfateb i anghenion y problemau yn yr adran achosion brys? Rwy’n ymwybodol eich bod yn anfodlon eich hun â maint strwythurol presennol yr adran achosion brys—[Torri ar draws.]

15:40

Mae gennych un cwestiwn, i bob pwrpas, nid llwyth o gwestiynau, felly a fyddech cystal â chadw pethau mor fyr â phosibl, iawn?

Iawn. Rwy'n ymwybodol o'r materion strwythurol sydd gennych gyda'r adran, felly pa drafodaethau a gawsoch gyda'r tîm ystadau i wneud y mwyaf o'r capasiti hwnnw a chreu amgylchedd gwaith diogel i'r holl staff a chleifion?

Gyda’r problemau salwch staff yn yr adran, pa gyswllt rydych wedi’i gael gyda’r swyddogion gweithredol a’r adrannau gweithredol unigol i wella problemau a diwylliant staff yn y bwrdd? Efallai y byddwch yn dweud nad yw'r gallu i gyflawni hyn yn eich dwylo chi, ond gadewch inni gofio, Weinidog, fod y bwrdd iechyd bellach o dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru, felly mae mynd i’r afael â rhai o’r materion mewnol hyn yn rhan o'ch cylch gwaith chi a’ch adran, ac mae cysylltu â'r holl adrannau perthnasol yn hanfodol er mwyn mynd i'r afael â'r broblem hon.

Pa asesiad y mae’r Gweinidog yn ei wneud o’r system frysbennu fewnol yn yr adran achosion brys i ystyried trawiadau ar y galon, strôc a sepsis, sy'n galw am driniaeth gyflym, yn hytrach nag amseroedd aros o hyd at ddwy awr? Pa lwybrau clinigol cymeradwy posibl a nodwyd gennych, mewn egwyddor ac yn ymarferol, wrth ymweld â safleoedd ysbytai, y gellid eu rhoi ar waith fel ateb i’r broblem hon? Ac yn olaf, Weinidog, a ydych chi wir yn credu—[Torri ar draws.]

Mae'n rhaid caniatáu i’r Aelod ofyn ei gwestiwn, ac fe fydd yn gorffen gyda'r cwestiwn hwn.

Diolch yn fawr iawn. A ydych chi wir yn credu bod gan yr adran achosion brys yn Ysbyty Glan Clwyd botensial, yn hirdymor, i wella a bod mewn sefyllfa yn y dyfodol i leihau amseroedd aros a bod yn wasanaeth dibynadwy i gleifion yng ngogledd Cymru yn y dyfodol?

Rwy’n derbyn eu bod yn gwestiynau technegol, Weinidog, ond rwy'n gobeithio eu bod hefyd o gymorth i chi lunio syniadau i wella’r sefyllfa, gan fy mod wedi cael fy ethol gan fy etholwyr ar y sail y byddai'r sgiliau technegol a gefais yn fy amser yn y GIG yn effeithiol ac yn ddylanwadol i Weinidogion. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Yn amlwg, nid wyf yn fodlon ar y cynnydd a wnaed yn Ysbyty Glan Clwyd, ac yn amlwg, cefais olwg ar yr adroddiad hwn cyn i mi eu gwneud yn destun mesurau arbennig. Roeddwn yn bryderus iawn, ac roedd yn un o nifer o ffactorau a achosodd imi weithredu fel y gwneuthum.

Mae staffio'n broblem wirioneddol. Nid yw’n broblem yn Ysbyty Glan Clwyd yn unig; mae'n broblem ledled y byd. Roeddwn mewn cynhadledd yn Nenmarc yn ddiweddar, ac roedd y gynhadledd gyfan yn ymwneud â pha mor anodd yw recriwtio pobl i’r gwasanaeth iechyd. Rwyf wedi bod yn siarad, heddiw, â chyfarwyddwr meddygol bwrdd Betsi Cadwaladr am ba gyfleoedd sydd ar gael i wella cyfleusterau staffio a recriwtio mwy o bobl i fwrdd Betsi Cadwaladr, ond yn benodol, i weld beth arall y gallwn ei wneud mewn perthynas â darparu cymorth ychwanegol yn Ysbyty Glan Clwyd.

Fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi uwchraddio statws y cyfleuster penodol hwn o ymyrraeth wedi'i thargedu i fesurau arbennig; mae hynny'n golygu, yn amlwg, gyda'r mesurau arbennig, y byddwn yn dod yn fwy cyfarwyddiadol. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod pobl yn deall nad yw hynny’n golygu ein bod yn rhedeg y bwrdd iechyd. Felly, mae’n wirioneddol bwysig fod pobl yn deall mai’r cadeirydd a’r prif weithredwr sy’n dal i fod yn gyfrifol am redeg y bwrdd iechyd; nid fi sy'n rhedeg y bwrdd iechyd. Mae'n bwysig iawn fod pobl yn deall mai'r hyn rydym yno i'w wneud yw sicrhau ein bod yn eu cefnogi a'n bod yn dod yn gyfarwyddiadol ynghylch ein disgwyliadau.

Credaf ei bod yn bwysig iawn inni geisio sicrhau bod pobl yn deall bod y rhan fwyaf o bobl sy’n cael gofal, hyd yn oed yn yr adran achosion brys hon, yn dal i gael gofal da a phrofiad da, ond mae gormod o bobl nad ydynt yn cael y profiad da hwnnw. Un o'r pethau rwyf wedi bod yn awyddus iawn i'w gwneud yw sicrhau ein bod yn rhoi mwy o gymorth i ofal brys a gofal argyfwng, a dyna pam ein bod wedi clustnodi £25 miliwn ledled Cymru. Ond yn ogystal â hynny, gwnaed dyraniad penodol o £418,000 i adrannau brys ym mwrdd Betsi Cadwaladr, oherwydd fy mod yn deall nad yw hyn yn mynd i ddiflannu yn yr ystyr fod y galw'n gyson. Yn amlwg, mae gennym lawer o waith i'w wneud ar lif cleifion, ond rwyf am i bobl gael amser mwy dymunol wrth aros nag y maent yn ei gael ar hyn o bryd, a dyna pam ein bod yn rhoi hyblygrwydd a chymorth ychwanegol i'r cyfalaf a’r seilwaith mewn adrannau achosion brys.

Yn amlwg, mae llawer o waith i'w wneud ar ddiwylliant staff mewn perthynas â'r hyn sy'n digwydd yn yr adran achosion brys. Rwy'n siŵr fod yno lawer iawn o bobl alluog; mae yno bobl sy'n gweithio'n galed iawn. Ond hefyd, credaf ei bod yn bwysig nodi bod yr adroddiad hwn yn awgrymu nad oedd rhai o’r staff bob amser yn garedig ac yn gwrtais tuag at gleifion, ac mae'n rhaid inni sicrhau bod gennym ymagwedd dim goddefgarwch mewn perthynas â hynny. Mae’n amlwg fod angen i bethau newid mewn perthynas â'r diwylliant yn Ysbyty Glan Clwyd, ac yn enwedig yn yr adran achosion brys. Y tro hwn, rwy'n gobeithio y bydd y bwrdd iechyd yn rhoi sylw i’r adroddiad ac na fyddwn yn gweld adroddiad gwael arall gan AGIC.

15:45

Dyma ni eto, onid e—adroddiad damniol arall. Rydyn ni'n sôn am archwiliad oedd wedi rhoi adran frys Ysbyty Glan Clwyd ym mis Mai y llynedd o dan y dynodiad o fod yn wasanaeth o fod yn wasanaeth sydd angen ei wella yn sylweddol. Gadewch inni fod yn glir: dyma ydy'r haen uchaf o gonsyrn sy'n gallu cael ei godi. Ni allai dim byd fod yn fwy o ysgytwad, siawns, i Lywodraeth weithredu i sicrhau bod pethau yn gwella yn sylweddol.

Mi allwn ni edrych ar yr ochr bositif, a nodi bod yr adroddiad diweddaraf yma, ar ôl yr archwiliad diweddaraf, yn dweud bod pethau wedi gwella rhywfaint erbyn hynny, ond beth rydyn ni'n ei ddarllen, mae gen i ofn, ydy—a dwi'n dyfynnu—mai 'mân welliannau' ydy'r gwelliannau hynny. Rwy'n gobeithio fy mod i'n dyfynnu'r Gweinidog yn iawn pan ddywedodd hi: 

'[nad] yw llawer o’r materion wedi’u datrys yn llawn o hyd'.

Wel, nid ddim wedi cael eu datrys yn llawn mae'r materion yma; mân welliannau sydd wedi bod o gwbl. Mae un frawddeg sydd yn fy nharo i, sef, 'Bu'n rhaid i arolygwyr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru roi cymorth i un claf oedd angen help ond lle doedd yr un aelod o staff i'w gweld'. Pa mor ofnadwy ydy hynny—bod arolygwyr nid yn unig yno yn gallu gweld y diffygion, ond eu bod nhw'n gorfod camu i mewn i helpu? Mae o'n frawychus. 

Drwy'r cyfan, mae'r staff yn cael eu canmol, ac rydyn ni, fel Senedd yma heddiw, yn gallu canmol y staff. Mae eu perthynas nhw efo rheolwyr lleol yn cael ei chanmol hefyd; mae'n werth nodi hynny. Y broblem, a'r hyn rydyn ni'n gorfod gofyn eto heddiw ydy cwestiynau o'r uwch reolwyr hynny—y pwyllgor gweithredol—llawer ohonyn nhw sydd â'u diffyg dealltwriaeth nhw, rwy'n meddwl, o broblemau Betsi Cadwaladr yn deillio o'r ffaith eu bod nhw'n bell yn gorfforol, yn ogystal ag o ran lefel deallusrwydd o'r problemau ac o sefyllfa Betsi Cadwaladr—llawer ohonyn nhw yn swyddogion interim wrth gwrs. Rŵan, y cwestiwn ydy: pam bod y Llywodraeth wedi gadael i bethau lithro ymlaen mor hir? Copi ydy hwn o adroddiad o naw mis ynghynt. Os mai rhoi y bwrdd mewn mesurau arbennig oedd yr ateb, pam aros naw mis? Ond, rŵan eich bod chi, fel Llywodraeth, â gafael ar y bwrdd drwy'r mesurau arbennig yma, pa gamau sy'n mynd i gael eu cymryd i wneud yn siŵr bod y problemau o ran y staffio yn cael eu datrys—bod yna olwg o'r newydd ar sut i fynd i'r afael â phroblemau rotas y staff ac ati?

Yn anffodus, beth sydd gennym ni fan hyn ydy bwrdd sydd wedi dangos dro ar ôl tro ei fod o wedi torri a Llywodraeth sydd yn methu mynd i'r afael â'r sefyllfa trwy gymryd y camau dewr—cymryd y camau pellgyrhaeddol o roi dechrau o'r newydd inni yn Betsi Cadwaladr. Gall y Gweinidog ddim defnyddio cost fel esgus i beidio ag ad-drefnu oherwydd mae wedi costio mwy i drio rhoi trefn ar bethau a methu, a gall y Gweinidog ddim defnyddio fel esgus y ffaith y byddai hynny'n disruptive. Does yna ddim byd mwy disruptive na'r diffyg hyder yma—y diffyg ffydd sydd gan bobl a staff Betsi Cadwaladr rŵan yn y gallu i droi pethau rownd. Gadewch inni gael ddechrau ffres. A wnaiff y Gweinidog gytuno, neu gytuno i'n cwestiwn ni eto heddiw yma i roi cynllun B at ei gilydd achos mae gen i ofn fod hyder pobl yn plan A—cario ymlaen efo Betsi—wedi hen orffen?

15:50

Wel, dwi'n meddwl bod y Llywodraeth wedi gweithredu—rŷn ni wedi camu i mewn; rŷn ni wedi rhoi cyfle i'r bwrdd i weithredu, a beth welsom ni oedd ddim y math o welliannau y byddem ni'n disgwyl eu gweld. Dyw'r adroddiad yma ddim yn dderbyniol. Mae'r adroddiad yn canmol y staff i raddau. Mae rhai ohonyn nhw yn feirniadol o rai o'r staff ac mae'n bwysig ein bod ni'n cadw llygad ar hynny achos mae hwnna'n rhan o'r diwylliant sydd rhaid newid, yn arbennig yn Ysbyty Glan Clwyd. Dwi'n cytuno bod angen inni edrych ar beth yw rôl yr uwch reolwyr yn fan hyn a dwi'n gwybod bod y cadeirydd newydd yn edrych i mewn i'r pethau yma.

O ran staffio, dwi'n falch o ddweud eu bod nhw nawr mewn sefyllfa lle mae dau consultant newydd yn yr adran, felly mae e lan i'r full complement o ran beth sy'n ddisgwyliedig mewn emergency department. Hefyd, rŷn ni wedi gweld recruitment ar gyfer bands 4, 2 a 5, a nawr beth sy'n digwydd yw bod sesiynau misol yn digwydd lle mae rheolwyr yn gwrando ar y gofidion sydd gan staff ac yn gwneud yn siŵr bod gyda staff gyfle i ddweud beth sydd yn eu poeni nhw.

Rhannaf y syndod at y ffaith bod gennym adroddiad arall eto fyth ger ein bron sy’n ailadrodd llawer o’r un pryderon ag a welsom ddwywaith o’r blaen. Nodaf fod yr arolygiad hwn gan AGIC wedi'i gynnal ym mis Tachwedd y llynedd. Pam ar y ddaear ei bod wedi cymryd cymaint o fisoedd i’r adroddiadau hyn weld golau dydd? Ac mae'n ddigon posibl y bydd y Gweinidog yn dweud bod gwelliannau wedi bod, ac yn wir, ymddengys bod rhai gwelliannau wedi digwydd, yn sicr o ran cadw cofnodion, ond fe wyddom, o'n bagiau post ein hunain, fel Aelodau lleol o'r Senedd, fod problemau enfawr yn yr adran achosion brys honno o hyd. Yr wythnos hon, cysylltodd etholwr â mi i ddweud bod eu gŵr wedi'i gludo i Ysbyty Glan Clwyd mewn ambiwlans mewn cyflwr difrifol, ac na chafodd ei weld gan feddyg, i gael ei archwilio, am 28 awr—dros ddiwrnod. Mae hynny’n amlwg yn annerbyniol, ac o bosibl, wedi rhoi’r gŵr hwnnw mewn perygl difrifol o niwed.

Nid yw'r sefyllfa'n gwella o safbwynt y cleifion. Ymddengys ei bod ond yn gwaethygu. Hoffwn weld y gwelliannau hyn yn cael eu rhoi ar waith. Mae’n amlwg iawn yn yr adroddiad nad oedd y staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, a, dyfynnaf o’r adroddiad,

'[nid] oeddent yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan uwch-reolwyr y bwrdd iechyd.'

Rhain yw'r uwch-reolwyr rydych chi, Weinidog, wedi caniatáu iddynt gadw eu swyddi. Pryd y bydd gennym GIG atebol fel bod pobl fel hyn, sy'n methu datrys problemau hirsefydlog yn yr adran achosion brys—pryd y cânt eu diswyddo? Mae angen inni gael gwared arnynt. Ni fyddwn yn gweld gwelliannau cyn iddynt adael. Mae'n annerbyniol ac mae fy etholwyr ac eraill yn y gogledd yn haeddu llawer gwell na hyn.

Diolch yn fawr iawn. Yn amlwg, nid fy adroddiad i yw hwn i'w gyhoeddi, ond adroddiad AGIC, a hwy yw'r bobl sy'n pennu'r amserlen ar gyfer hynny. Edrychwch, rwy’n cydnabod bod problemau difrifol iawn o hyd, yn enwedig mewn perthynas ag Ysbyty Glan Clwyd, ac yn enwedig mewn perthynas â’r adran achosion brys. Dyna pam fy mod wedi cael trafodaethau difrifol gyda'r cyfarwyddwr meddygol i ofyn beth yn union sy'n cael ei roi ar waith. Wrth gwrs ei bod yn annerbyniol os nad yw rhywun yn gweld meddyg am gymaint o amser. Mae brysbennu, wrth gwrs, yn bwysig iawn, ond mae yna adegau pan fydd brysbennu'n cymryd gormod o amser hefyd.

Mae’n ddiddorol i mi ei bod yn ymddangos bod problem benodol yma gyda’r adran achosion brys yn Ysbyty Glan Clwyd, gan imi ymweld â’r adran achosion brys yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn ddiweddar, ac roedd i'w gweld yn llawer mwy trefnus a than reolaeth, roeddent yn gwybod beth oeddent yn ei wneud, ac roedd mewn sefyllfa lawer gwell. Felly, un o'r pethau y credaf y dylem eu hannog yw dysgu arferion gorau gan yr adrannau brys eraill sy'n gweithio'n well ym mwrdd Betsi Cadwaladr.

Nid wyf yn gwybod sawl gwaith y gallaf ddweud hyn: nid oes gennyf allu i ddiswyddo pobl nad wyf yn eu cyflogi. Ni allaf ddiswyddo swyddogion gweithredol, a chredaf ei bod yn bwysig iawn fod pobl yn deall y bydd y cadeirydd yn amlwg yn edrych ar yr hyn sydd angen ei wneud yn y maes hwn, a gwn ei fod yn edrych o ddifrif ar hynny.

15:55
5. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Bydd Gemau Trawsblaniadau’r Byd yn cael eu cynnal am y pedwerydd tro ar hugain fis nesaf yn Perth, Awstralia. Ers cynnal y gemau cyntaf yn Portsmouth ym 1978, maent wedi cael eu cynnal ledled y byd, yn ddathliad o'r rhodd o ail gyfle i fyw, yn arddangosiad o lwyddiant llawdriniaethau trawsblannu, a hyrwyddo'r angen i godi ymwybyddiaeth o roi organau a meinweoedd, ac yn ysbrydoliaeth i dderbynwyr trawsblaniadau, rhoddwyr, teuluoedd a chefnogwyr.

Mae'r rhaglen saith diwrnod yn cymysgu chwaraeon heriol a llai heriol gyda digwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol. Eleni, bydd 2,500 o gystadleuwyr o dros 60 o wledydd yn cymryd rhan, gan gynnwys Cerys O'Connell, merch 14 oed ysbrydoledig o Aberpennar. Pan oedd yn bedair oed, cafodd Cerys ddiagnosis o anemia aplastig difrifol. Yr unig driniaeth ar gyfer y cyflwr hwn, a all fod yn angheuol, oedd trawsblaniad mêr esgyrn. Yn ffodus, roedd gwaed ei chwaer Megan yn cydweddu, ac yn dilyn cemotherapi dwys, cafodd Cerys ei thrawsblaniad yn 2013.

Nid yw hyn wedi atal Cerys rhag bod yn nofiwr cystadleuol brwd. Ar ôl ennill tair medal aur a medal arian dros Gymru yng Ngemau Trawsblaniadau Prydain y llynedd, cafodd Cerys ei dewis yn rhan o dîm Prydain. Roedd angen i Cerys godi arian i dalu am gost ei thaith, ac rwy'n falch o ddweud iddi chwalu ei tharged JustGiving, diolch i haelioni pawb a gyfrannodd. Pob lwc i Cerys a thîm Prydain.