Y Cyfarfod Llawn

Plenary

22/03/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Prynhawn da, a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Siân Gwenllian.

Merched yn Gynghorwyr Sir

1. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r ymdrechion llwyddiannus sy'n mynd ymlaen yn Arfon a mannau eraill i ddenu mwy o ferched i fod yn gynghorwyr sir? OQ59302

Croesawaf y camau sy’n cael eu cymryd ledled Cymru i annog unigolion i ymgeisio am swyddi etholedig. Mae amrywiaeth yn sicrhau penderfyniadau gwell a mwy cynhwysol. Cyn etholiadau lleol 2027, mae'r gwaith i annog amrywiaeth yn cynnwys ymrwymiad y rhaglen lywodraethu i ymestyn y gronfa mynediad i swyddi etholedig.

Ers yr etholiad cyngor sir flwyddyn yn ôl, tua 35 y cant o gynghorwyr Cymru sy'n ferched. Yn Arfon, fe lwyddon ni i gynyddu nifer y merched a oedd yn sefyll dros Blaid Cymru o 21 y cant. Roedd hyn yn ganlyniad gwaith cwbl fwriadus gan rai ohonom ni, llawer o sgyrsiau o anogaeth, hyfforddiant, mentora, ac mae'r gefnogaeth wedi parhau dros y flwyddyn ddiwethaf iddyn nhw ers yr etholiad. Ond ydych chi'n cytuno bod angen mesurau statudol i greu'r gwir newid ar draws cynghorau Cymru er mwyn cyrraedd sefyllfa hafal? A pha waith sy'n mynd rhagddo o ran creu'r newid statudol sydd ei angen?

Mae ystod o waith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i geisio sicrhau bod gennym grŵp mwy amrywiol o bobl yn sefyll etholiadau, i gynghorau tref a chymuned, a chynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yn y dyfodol. Ac mae’r gwaith hwnnw'n cynnwys adolygu’r gronfa mynediad i swyddi etholedig, a fu’n llwyddiannus iawn yn cefnogi nifer o ymgeiswyr i ddod yn gynghorwyr tref a chymuned yn yr etholiadau diwethaf, ond yn edrych hefyd i weld sut y gellir ymestyn trefniadau rhannu swyddi, er enghraifft, i fwy o rolau o fewn cynghorau, i gydnabod pa mor bwysig yw hynny i ddod yn opsiwn mwy deniadol ar gyfer ystod ehangach o bobl. Gwyddom fod hynny’n arbennig o ddeniadol i fenywod a phobl a chanddynt gyfrifoldebau gofalu. Ac rydym hefyd wedi bod yn archwilio beth arall y gallwn ei wneud i ehangu mynediad at gyfarfodydd hybrid fel ffordd o weithio, sydd, unwaith eto, yn cefnogi grŵp mwy amrywiol o bobl. Ond o ran gwneud y pethau hynny'n statudol—mae'n debyg ein bod yn sôn am gwotâu rhywedd yma—credaf fod sgwrs i'w chael ynglŷn â hynny, ond nid yw'n un o'n cynigion allweddol ar hyn o bryd o ran diwygiadau, ond yn sicr, mae'n rhywbeth y dylem fod yn ei drafod. Rwy’n awyddus iawn i gael mwy o drafodaethau gyda Siân Gwenllian ynglŷn â'i syniadau yn y cyswllt hwnnw.

Rwyf wedi bod yn falch o gynnal a siarad yn nigwyddiadau Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal y Senedd yn 2022 a 2023, i ddathlu prosiect Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal, rhaglen fentora sy’n ceisio cynyddu amrywiaeth o gynrychiolaeth mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol yng Nghymru. Partneriaeth yw Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal rhwng Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, Stonewall Cymru, Anabledd Cymru, a Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru. Ac roeddwn yn falch o gymryd rhan hefyd yng nghyfarfod rhanbarthol gogledd Cymru o raglen Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal y mis diwethaf, yn swyddfa Autistic UK yn Llandudno, a chyfarfod a dod i wybod mwy am y rheini sy'n cael eu mentora yn y gogledd. Er mai menywod oedd y rhan fwyaf o’r rhai a fynychodd, roedd dynion a menywod hefyd yn nodi materion croestoriadol, gan gynnwys anabledd a rhywioldeb, a oedd yn cyfuno i greu rhwystrau iddynt. Pa gamau cadarnhaol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd gyda phobl i fynd i’r afael â hyn, felly, er mwyn cynyddu amrywiaeth cynrychiolaeth ym mywyd cyhoeddus a gwleidyddol Cymru?

Hoffwn ddechrau, mewn gwirionedd, drwy ymuno â Mark Isherwood i gydnabod pwysigrwydd cynlluniau mentora. Rwyf wedi bod yn fentor fy hun yn un o’r cynlluniau, a chanfûm fod hynny yr un mor werthfawr i mi ag i’r unigolyn y bûm yn eu mentora, felly byddwn yn sicr yn annog pob un o'm cyd-Aelodau i edrych ar gyfleoedd i gefnogi’r mathau hynny o gynlluniau. Un o'r pethau y buom yn eu gwneud yw ceisio ehangu ein sylfaen dystiolaeth, gan edrych ar nodweddion gwarchodedig, a gwnaethom gynnal arolwg o farn aelodau'r cyhoedd ynglŷn â'u canfyddiadau o'u cynghorwyr lleol, ond wedyn, hefyd, ein harolygon o'r ymgeiswyr. Ac mae'r arolygon hynny'n dangos bod diffyg amrywiaeth difrifol, ac yn rhoi rhyw fath o fewnwelediad i ni, mewn gwirionedd, ynglŷn â beth yw'r rhwystrau o ran caniatáu i bobl â nodweddion gwarchodedig—yn aml, un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig hynny—gymryd rhan lawn mewn democratiaeth leol. Felly, gan adeiladu ar y gwaith ymchwil hwnnw, rydym wedi gallu cynnal amrywiaeth o weithdai, lle gwnaethom wahodd aelodau etholedig, a chynrychiolwyr o ystod o sefydliadau sy'n cynrychioli nodweddion amrywiol, gwarchodedig, i sôn mewn mwy o fanylder am y rhwystrau sy'n atal pobl rhag cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth etholedig. A chredaf fod y gweithdai hynny wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Daethant i ben yn ddiweddar, felly rydym yn edrych bellach ar yr holl bethau a ddysgwyd o'r gweithdai hynny, er mwyn ceisio ein helpu i nodi'r camau nesaf yn yr agenda bwysig hon.

13:35
Amlosgfeydd

2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i roi mynediad i amlosgfeydd lleol? OQ59305

Mae awdurdodau lleol yn awdurdodau claddedigaethau ac yn gyfrifol am eu mynwentydd a'u hamlosgfeydd eu hunain. Mater i awdurdodau cynllunio lleol yw nodi safleoedd addas ar gyfer amlosgfeydd newydd. Byddai cynigion ar gyfer amlosgfeydd newydd yn destun cyfraith cynllunio a chyfraith amgylcheddol.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Nid oes unrhyw amlosgfa ym Mhowys. Mae llawer o fy etholwyr yn gorfod teithio i Loegr, ac mae rhan helaeth o fy etholwyr yn gorfod teithio dros awr i’r amlosgfa agosaf. Felly, yn amlwg, nid yw hyn yn ddelfrydol i deuluoedd neu ffrindiau sy’n galaru, nac yn gynaliadwy iawn, yn wir. Mae’r rhan fwyaf o amlosgfeydd yng Nghymru, wrth gwrs, yn eiddo i awdurdodau lleol ac yn cael eu rheoli ganddynt, ond rwy’n awyddus i wybod sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi naill ai awdurdod lleol neu fusnes preifat i adeiladu a darparu gwasanaethau amlosgi yn fy etholaeth. Ac rwy’n gofyn y cwestiwn yng nghyd-destun y ffaith y gwnaed cais yn fy etholaeth i yng ngogledd Powys gan ddatblygwr preifat i adeiladu amlosgfa. Fe’i cefnogwyd gan yr awdurdod lleol mewn egwyddor, a thrwy’r broses gynllunio hefyd, ond fe’i gwrthodwyd gan Lywodraeth Cymru ar ôl galwad i mewn. Felly, yr hyn rwy'n awyddus iawn i'w ddeall gennych chi, Weinidog, yw sut y gallwch gefnogi, a sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi, naill ai awdurdod lleol neu ddatblygwr preifat i adeiladu amlosgfa a darparu'r gwasanaethau hynny yn fy etholaeth i, gan nad yw datblygwr preifat yn mynd i wneud hynny oni bai eu bod yn fodlon eu bod yn agored i gyn lleied o risg â phosibl a bod ganddynt gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Felly, a wnewch chi roi cyngor i mi, efallai, ac i unrhyw ddatblygwr preifat sy'n awyddus i adeiladu amlosgfa yng ngogledd Powys, er mwyn cefnogi fy etholwyr?

Diolch i Russell George am godi’r mater hwn y prynhawn yma. Rwy'n ymwybodol o’r cais penodol y cyfeiria ato, a alwyd i mewn, ac a gafodd ei wrthod wedi hynny. Mae'r rhesymau am hynny wedi'u nodi yn y llythyr penderfyniad, a chan fod hawl gan yr ymgeisydd i herio’r penderfyniad yn yr Uchel Lys, ni ddywedaf fwy am y cais hwnnw heddiw. Ond rwy’n deall y cais mwy cyffredinol am wybodaeth, ac am wn i, y cyngor fyddai i’r busnes preifat sydd â diddordeb gael trafodaethau gyda’r awdurdod lleol yn y lle cyntaf, gan fod yr asesiad ar gyfer yr angen am amlosgfeydd yn cael ei arwain yn lleol, a bydd angen i awdurdodau cynllunio lleol ystyried amrywiaeth o ffactorau, megis amser gyrru, dalgylch y ddarpariaeth bresennol—mae Russell George wedi nodi rhai o’r heriau yn hynny o beth—capasiti’r ddarpariaeth bresennol, a phoblogaeth a demograffeg, ynghyd â datblygiadau tai a gynlluniwyd yn yr ardal. Ac yn amlwg, byddai'r awdurdod am ystyried safbwyntiau'r trigolion lleol hefyd. Mae canllawiau ar sefydlu amlosgfeydd, gan gynnwys bodloni’r gofynion o dan y ddeddfwriaeth, ar gael gan Ffederasiwn yr Awdurdodau Claddu ac Amlosgi, a gallai honno fod yn ffynhonnell arall o wybodaeth ddefnyddiol i’r unigolyn dan sylw, ac i Russell George.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands. 

Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Fel rwy’n siŵr y byddwch yn ei gofio, yn gynharach y mis hwn, ysgrifennais lythyr atoch ynghylch eithriadau i’r dreth gyngor, yn benodol mewn perthynas â’r rheoliadau 182 diwrnod ar gyfer busnesau llety hunanddarpar yng Nghymru. Yn y llythyr hwn, gofynnais am yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â pha eithriadau a wneir mewn perthynas â’r rheoliadau hynny, ac roeddwn yn falch o gael eich ymateb yn dilyn y memorandwm esboniadol a gyhoeddwyd ar 6 Mawrth. Weinidog, fe fyddwch yn gwybod y bydd y rheoliadau newydd hyn, gydag eithriadau mor gyfyngedig, yn golygu y bydd llawer o fusnesau hirsefydlog dilys yng Nghymru bellach yn talu miloedd o bunnoedd mewn trethi nad oeddent yn arfer gorfod eu talu, neu na fu'n rhaid iddynt gynllunio ar eu cyfer, gyda rhywfaint o hynny'n ôl-weithredol, gan wneud rhai o'r busnesau hyn yn anhyfyw. Felly, Weinidog, beth yw eich asesiad o hyn?

13:40

Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio nodi safbwynt lle rydym yn cydnabod y pwysau ar fusnesau, ond hefyd yn credu y dylai perchnogion eiddo fod yn gwneud cyfraniad rhesymol i’r cymunedau y mae’r eiddo hynny wedi’u lleoli ynddynt. Rydym wedi cydnabod bod peth eiddo hunanddarpar wedi'i gyfyngu gan amodau cynllunio, sy’n ei atal rhag cael ei feddiannu'n barhaol fel prif breswylfa, ac yn y rheoliadau, a osodwyd gennym ar 6 Mawrth ac a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2023, rydym yn cydnabod hynny o ran y meini prawf ar gyfer gosod ac uchafswm premiwm y dreth gyngor. Fodd bynnag, pan fo eithriadau statudol yn ddiffiniadwy mewn deddfwriaeth a lle byddent yn briodol yn yr holl amgylchiadau lle maent yn berthnasol, mae'n bwysig ein bod yn defnyddio hynny fel y fformat a’r sail ar gyfer gwneud ein penderfyniadau, gan fod yn credu bod amodau cynllunio yn bodloni’r gofynion hynny yn glir ac yn barhaol ac mae ganddynt eu sail ddeddfwriaethol eu hunain, a lle maent yn berthnasol, maent yn berthnasol mewn ffordd gyson. Felly, credaf fod honno'n sail briodol ar gyfer gwneud penderfyniadau. Gwn fod cyd-Aelodau wedi darparu rhestr hir o feysydd posibl eraill ar gyfer eithriadau, ac rydym wedi edrych ar bob un o’r rheini’n fanwl, ond credaf fod y rheoliadau fel y’u gosodwyd yn gosod ffordd rhesymol o symud ymlaen.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Fel rydych wedi'i amlinellu, mae'r prif eithriad a roddwyd ar waith mewn perthynas ag amodau cynllunio yn nodi mai dim ond fel llety gwyliau ac ati y gellir defnyddio eiddo. Ond rydych newydd nodi hefyd, yn eich ymateb, yr eithriadau eraill a geisiwyd gan y busnesau hyn yng Nghymru, ac yn benodol, roedd hyn yn cynnwys eithriad ar gyfer elusennau cofrestredig sy'n darparu seibiant i ofalwyr ac eiddo sy'n darparu ar gyfer pobl ag anghenion arbennig. Felly, yng ngoleuni hyn, Weinidog, a wnewch chi ailasesu premiymau'r dreth gyngor ac ystyried cyflwyno eithriad i’r rheini sy’n darparu gofal seibiant yng Nghymru?

Rydym wedi edrych ar yr achos a wnaed gennych chi a chan eraill o ran lle mae eiddo’n cael ei redeg gan elusen, a chredaf y bydd yr amgylchiadau’n dibynnu ar y sefyllfa benodol mewn perthynas â’r eiddo hwnnw. Bydd yr eithriad presennol neu'r eithriad newydd eisoes yn gymwys i rai, ac mewn achosion lle nad yw hynny'n wir, mae gan awdurdodau bwerau disgresiwn y gallant eu defnyddio. Gall natur llety elusennol amrywio, a byddai’n anodd diffinio categori penodol ar gyfer hyn, ond credaf fod yna achosion lle bydd awdurdodau lleol yn defnyddio'r canllawiau diwygiedig newydd y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i’w helpu i wneud y penderfyniadau hynny, pan fyddant yn credu bod yna achos gwirioneddol dros eithrio eiddo unigol, neu grŵp o eiddo neu gategori o eiddo yn lleol.

Diolch am eich ymateb unwaith eto, Weinidog. Rwy’n siŵr mai chi fyddai’r cyntaf i gydnabod pwysigrwydd y busnesau llety hunanddarpar hyn yn cefnogi ein cymunedau, o ran y swyddi y maent yn eu creu ac yn eu cynnal a’r gwahaniaeth y maent yn ei wneud i’w cymunedau, ac rwy’n siŵr y byddech hefyd yn cydnabod ac yn derbyn rhywfaint o’u pryderon ynglŷn â'r rheoliadau 182 diwrnod hyn y maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd, ac roedd nifer wedi gobeithio y byddai rhai eithriadau synhwyrol i’r premiymau, ond yn amlwg, nid yw hyn wedi digwydd, a chredaf fod angen ailadrodd hynny yma heddiw. Ond yng ngoleuni hyn, Weinidog, a wnewch chi ymrwymo heddiw i weithio'n agos gyda'r sector hynod bwysig hwn i sicrhau na fydd y busnesau dilys a gweithgar hyn yn cau, a fyddai o ganlyniad yn arwain at golli swyddi, ac felly'n effeithio ar ein cymunedau yma yng Nghymru?

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos iawn gyda'r sector twristiaeth, ac rydym yn gwrando'n ofalus iawn ar y sylwadau a wnânt ar ran eu haelodau. Credaf y bydd Sam Rowlands yn cydnabod ein bod yn ceisio sicrhau cydbwysedd yma rhwng cefnogi’r diwydiant twristiaeth a chaniatáu iddo ffynnu a'i gefnogi i ffynnu, ond gan gydnabod hefyd ar yr un pryd fod yna fater pwysig yn codi o ran eiddo sy’n cael ei danddefnyddio, yn enwedig yn rhai o’n cymunedau mwy gwledig ac arfordirol, lle mae llawer iawn o dwristiaeth ond diffyg cyfleoedd i unigolion lleol rentu neu brynu cartrefi. Felly, credaf ein bod yn ceisio sicrhau cydbwysedd mewn sefyllfa eithaf heriol.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Weinidog, mae fformiwla Barnett, yn rhy aml o lawer, yn cael ei defnyddio fel rheswm eithaf cyfleus, byddai rhai’n dweud, i Lywodraeth Cymru ohirio rhoi polisïau trawsnewidiol ar waith. Mae’r achos diweddaraf o hyn, efallai, yn ymwneud â chyflogau’r sector cyhoeddus yma yng Nghymru. Oherwydd gwyddom, yn aml iawn, fod y diffyg gweithredu yn Lloegr yn golygu bod Gweinidogion Cymru yn eistedd ar eu dwylo—byddwn yn dychmygu y byddech yn dweud eich bod, 'yn gorfod eistedd ar eich dwylo'. A ydych chi'n cytuno bod cyllideb ddiweddar Llywodraeth y DU a’r ffiasgo parhaus ynghylch cyllid HS2, a bellach, y penderfyniad hyd yn oed yn fwy hurt ar ddim cyllid canlyniadol i Gymru yn sgil y gwaith Northern Powerhouse Rail, unwaith eto wedi tanlinellu’r hyn y mae Plaid Cymru wedi dadlau drosto ers tro—fod angen inni newid o'r trefniadau presennol i fformiwla ariannu sy’n seiliedig ar anghenion, a ddarperir drwy swyddfa gyllid teg annibynnol, a fyddai â rhwymedigaeth gyfreithiol i sicrhau cydbwysedd economaidd tecach ar draws gwledydd a rhanbarthau’r DU, ac wedi'i rhwymo'n gyfreithiol i sicrhau bod arian cyhoeddus yn arwain at ganlyniadau cyfartal ledled y Deyrnas Unedig?

13:45

Byddwn yn dweud bod fformiwla Barnett a’r fframwaith cyllidol y cytunwyd arno gan y Prif Weinidog pan oedd yn y rôl hon gyda Llywodraeth y DU yn darparu rhai manteision i Gymru o ran y ffaith bod fformiwla Barnett yn cydnabod angen cymharol. Credaf fod hynny'n bwysig, ac mae'n sicr yn rhywbeth na fyddem am ymbellhau oddi wrtho. Lle ceir heriau—fel y nodwyd gan y Prif Weinidog yng nghwestiynau’r Prif Weinidog ddoe—credaf mai Llywodraeth y DU yw’r barnwr a’r rheithgor ar ddefnyddio fformiwla Barnett. Credaf mai dyna lle mae rhai o’r heriau gwirioneddol hynny’n codi, er enghraifft, dosbarthu HS2 yn brosiect Cymru a Lloegr pan fo'n amlwg nad yw hynny'n wir. Mae dadansoddiad Trysorlys EF ei hun yn awgrymu y bydd yn arwain at anfantais i dde-orllewin Cymru. Credaf fod yr holl bethau hynny'n ein harwain at y pwynt lle credaf ei bod yn bwysig edrych yn fwy annibynnol ar fformiwla Barnett a sut y caiff ei defnyddio. Rwy'n credu bod y gwaith rydym wedi'i wneud ar gysylltiadau rhynglywodraethol yn bwysig hefyd. Pan fydd yn bryd inni brofi rhywfaint o hyn drwy’r mecanwaith anghydfodau, rwy'n credu y bydd yn foment bwysig inni gyflwyno’r dadleuon hynny’n gwbl glir i Lywodraeth y DU, gan ddefnyddio’r broses rydym wedi cytuno arni.

Nid wyf yn siŵr a fyddai unrhyw un ohonom wrth ein boddau'n gorfod rhedeg drwy’r prosesau hynny a dweud y gwir, gan fod arnaf ofn ein bod yn gwybod efallai beth allai’r canlyniad fod. Ond dyna ni; nid awn i sôn am hynny.

A dweud y gwir, roedd yn swnio braidd fel pe baech yn gwneud esgusodion dros Barnett yn gynharach yn eich ateb, ond drwy sicrhau mai angen cymharol yw'r peth pwysicaf un yn y trefniant, fe wyddom y byddem wedyn yn gallu cyfeirio mwy o arian cyhoeddus i fynd i'r afael â rhai o’r heriau economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol sy’n ein hwynebu yma yng Nghymru. Byddai anghenion sy’n deillio o’n demograffeg sy’n heneiddio, er enghraifft, yn trosi wedyn yn gyllid cynyddol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Byddai cyfraddau cyflogaeth isel yn cymell mwy o wariant ar addysg a hyfforddiant. Byddai addasu i'r hinsawdd yn golygu y byddai angen cyllid wedyn ar gyfer mwy o fuddsoddiad mewn ynni gwyrdd. Heb ddiwygio o’r fath, bydd Cymru wedi'i chloi yn y cylch presennol lle rydym yn dibynnu ar Ganghellor y DU i wneud ymrwymiadau gwariant ar gyfer Lloegr cyn y gallwn weithredu wedyn yma yng Nghymru.

Pa ymrwymiad y gallwch chi ei roi, Weinidog, fel Gweinidog Llafur yma yng Nghymru, y byddai unrhyw Lywodraeth Lafur newydd yn y DU yn ailwampio setliad cyllid Cymru i sicrhau cydbwysedd economaidd tecach ar draws rhanbarthau a gwledydd y DU—rhywbeth, wrth gwrs, a fyddai'n eich grymuso’n ariannol fel Gweinidog cyllid Cymru i gyflawni ein blaenoriaethau yma yng Nghymru, yn hytrach, wrth gwrs, na gorfod aros, fel y mae'n rhaid inni wneud ar hyn o bryd, i Loegr weithredu cyn y gallwn wneud y buddsoddiad y mae cymaint o'i angen arnom yma yng Nghymru?

Rwy’n awyddus iawn i bwysleisio'r un ddadl i Lafur y DU ag y buom yn ei gwneud i Drysorlys EF o ran yr hyblygrwydd ariannol sydd ei angen ar Gymru. Nid yw ein pwerau benthyca yn addas i'r diben, mewn gwirionedd, yn yr ystyr fod gennym allu blynyddol mor gyfyngedig i fenthyca. Credaf fod angen mynd i’r afael â hynny, yn amlwg. Mae gwir angen mynd i’r afael â’r materion diwedd blwyddyn yn yr ystyr fod ein cyllideb yn aml yn newid yn hwyr iawn yn y flwyddyn a bod cyfyngiadau gwirioneddol ar gario drosodd, felly mae’n bosibl y gall hynny eich gorfodi i wneud penderfyniadau gwariant ar ddiwedd y flwyddyn sy'n wahanol i'r penderfyniadau y byddech yn eu gwneud, efallai, pe bai’r gallu gennych i gario’r cyllid hwnnw drosodd i’r flwyddyn ariannol nesaf. Unwaith eto, mae hwnnw'n beth syml y credaf y gallai Llywodraeth y DU ei wneud, a fyddai'n ddull synnwyr cyffredin o ymdrin â'r materion sy'n ein hwynebu. Yn amlwg, rydym yn cael cyfleoedd i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU. Ni chredaf y bydd yn gwneud cyhoeddiadau tameidiog. Fel y dywedodd Prif Weinidog Cymru ddoe, byddant yn amlwg yn ystyried llunio'r maniffesto ar gyfer yr etholiad nesaf. Yn sicr, ni chredaf mai dyma fyddai’r lle priodol imi wneud cyhoeddiadau ar ran Llafur y DU ynghylch yr hyn y byddent yn bwriadu ei wneud yn y dyfodol fel Llywodraeth y DU.

13:50
Staff Llywodraeth Leol

3. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog pobl dalentog i weithio mewn llywodraeth leol o ystyried effaith yr argyfwng costau byw? OQ59301

Mae awdurdodau lleol yn darparu eu gwasanaethau hanfodol drwy eu staff dawnus. Er bod pob awdurdod lleol yn gyfrifol am eu recriwtio eu hunain, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cymorth drwy raglenni arweinyddiaeth Academi Wales gan gynnwys rhaglen graddedigion gwasanaeth cyhoeddus Cymru, cyfrifon dysgu personol a’n rhaglen brentisiaethau ehangach.

Diolch, Weinidog. Rwyf bob amser yn falch o weld y gwaith y mae fy nghyngor lleol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn ei wneud i wella'r gymuned. Gyda chymhlethdodau Brexit yn achosi llwyth gwaith cynyddol, i'r gwaith o adfywio ein cymuned, i wrthsefyll yr argyfwng hinsawdd a natur, mae staff llywodraeth leol yn chwarae rhan hanfodol ym mywydau bob dydd pawb. Fodd bynnag, yn ôl ymchwil a wnaed gan yr Institute for Government, oedran cyfartalog gweision sifil ar draws y DU yw 44, ac er bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi lansio cynllun graddedigion—y mae rhai aelodau ohono yn yr oriel yma heddiw—Weinidog, mae hon yn broblem wirioneddol. Felly, o ystyried y llwyth gwaith cynyddol i lywodraeth leol, pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog pobl ifanc i lenwi swyddi gwag mewn llywodraeth leol, ac a wnaiff annog cynlluniau fel hyn ledled Cymru? Diolch.

Diolch yn fawr iawn am godi’r mater pwysig hwn y prynhawn yma. Rwy'n sicr yn ymuno â chi i gydnabod y rôl hanfodol y mae ein staff llywodraeth leol yn ei chwarae yn gwasanaethu eu cymunedau. Mae'n ddrwg iawn gennyf nad wyf yn gallu cyfarfod â graddedigion Pen-y-bont ar Ogwr yn bersonol y prynhawn yma, ond mae'n wych eu gweld yn y Senedd.

Credaf fod rhai pethau gwirioneddol bwysig y mae Pen-y-bont ar Ogwr yn eu gwneud gyda'r defnydd sylweddol o brentisiaethau. Gwn fod 144 ohonynt, ac mae hynny wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol ym maes TGCh, gofal cymdeithasol a rheoli adeiladu. Mae’r rheini i gyd yn feysydd lle mae angen inni fod yn annog pobl ddawnus i ddilyn gyrfa mewn llywodraeth leol. Fel y mae Pen-y-bont ar Ogwr yn ei wneud, credaf fod angen i bob awdurdod lleol feddwl sut y gallwn hyrwyddo manteision gweithio yn y sector cyhoeddus. Yn ogystal â chael cyfle i wneud cyfraniad cryf i'ch ardal leol, ceir cyfleoedd gwych hefyd o fewn awdurdodau lleol i gamu ymlaen yn eich gyrfa. Yn fy marn i, gorau po fwyaf y gallwn ei wneud i ddechrau cael pobl ifanc yn yr ysgol a’r coleg i ddechrau meddwl am yrfaoedd mewn llywodraeth leol, oherwydd fel y dywedwch, mae yna gyfleoedd gwych i'w cael, ac mae’n swydd lle gallwch wneud gwahaniaeth enfawr.

Ceir llawer o bobl mewn cymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol sydd ag ystod o sgiliau a fydd o fudd wrth ddarparu gwasanaethau awdurdodau lleol, megis sgiliau iaith a gwybodaeth helaeth am wahanol gymunedau diwylliannol. Weinidog, beth ddylai awdurdodau lleol ei wneud i wella cyfraddau cyflogaeth ymhlith y cymunedau hyn er mwyn adlewyrchu'r bobl y maent yn eu gwasanaethu yn well?

Credaf ei bod yn bwysig iawn fod awdurdodau lleol—a'r sector cyhoeddus yn fwy cyffredinol—yn manteisio ar gyfleoedd i geisio denu ystod lawer ehangach a mwy amrywiol o bobl i weithio yn eu sectorau. Gallant wneud hynny drwy, er enghraifft, sicrhau bod yr hysbysebion ar gyfer rolau yn cael eu gosod yn briodol mewn mannau lle mae pobl â nodweddion mwy amrywiol yn debygol o’u gweld, a dod o hyd i ffyrdd hefyd o wneud y broses gyfweld yn ffordd fwy croesawgar a chynhwysol o ddod o hyd i'ch staff newydd. Ac unwaith eto, rwy'n credu bod y cynlluniau mentora, y buom yn sôn amdanynt yn gynharach yng nghyd-destun rolau gwleidyddol, yn gyffrous a phwysig yng nghyd-destun y sector cyhoeddus hefyd. Dylai llawer mwy ddigwydd yn y gofod hwnnw, ond mae llawer y gallwn ei ddysgu o’r gwaith a wnawn ar wella amrywiaeth mewn democratiaeth, oherwydd mewn sawl ffordd, rwy'n credu mai dwy ochr i'r un geiniog ydynt.

Buddsoddiadau Tanwydd Ffosil

4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chydweithwyr llywodraeth leol i symud cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus oddi wrth fuddsoddiadau tanwydd ffosil? OQ59293

Rydym yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr. Bu partneriaeth pensiwn Cymru yn trafod datgarboneiddio pensiynau llywodraeth leol yng Nghyngor Partneriaeth Cymru ym mis Tachwedd. Yn dilyn eich cyfarfod gyda’r Prif Weinidog ym mis Ionawr, mae CLlLC wedi cytuno i gynnal digwyddiad ym mis Mai gydag arweinwyr a darparwyr pensiynau i drafod y camau nesaf.

13:55

Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Gweinidog am gadarnhad o’r cyfarfod hwnnw a’r sesiwn gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Bydd y Gweinidog yn gwybod bod Llywodraeth Cymru, yn 2021, wedi llunio’r cynllun ar gyfer datgarboneiddio ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru erbyn 2030, ac mae’n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni os bydd y sector cyhoeddus yn cydweithio ar allyriadau hinsawdd. Mewn ysbryd cydweithredol ac yn ysbryd y sesiwn ddatgarboneiddio gyda CLlLC, tybed a yw’r Gweinidog yn cytuno â mi fod cyfle yma i lunio strategaeth newydd ar y cyd i ddatgarboneiddio cronfa bensiwn sector cyhoeddus Cymru erbyn 2030.

Rwy'n cytuno'n llwyr mai cydweithio i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur yw’r unig ffordd y gallwn wneud y gwelliannau y mae’n rhaid eu gwneud. Mae gwir angen i’r system bensiwn gyfan ymateb i’r agenda hon. Mae’n wir, wrth gwrs, y gall awdurdodau pensiwn llywodraeth leol ddysgu oddi wrth ei gilydd ac ar draws y sector cyhoeddus yn fwy cyffredinol. Credaf y bydd y cyfarfod y gwn iddo gael ei gynnal, Jack, o ganlyniad i’r gwaith rydych chi wedi bod yn ei wneud yn bwysig ar gyfer rhannu’r wybodaeth honno.

Mae hefyd yn bwysig cydnabod bod perchnogion pensiynau eisoes wedi rhoi rhai camau ar waith i ddatgarboneiddio. Felly, mae'n bwysig cydnabod arferion da lle maent yn digwydd. Cyhoeddodd partneriaeth pensiwn llywodraeth leol Cymru fenter ddatgarboneiddio newydd ar draws £2.5 biliwn o’i buddsoddiadau ym mis Ebrill y llynedd. Ac unwaith eto, credaf fod cyfleoedd yno i archwilio’r arferion da hynny a gweld sut y gellir eu hehangu hyd yn oed ymhellach.

Rwy’n falch fod y pwnc hwn wedi’i godi'r prynhawn yma. Mae gennyf bryderon dybryd ynghylch datgarboneiddio cronfeydd pensiwn a sut y bydd hynny'n digwydd dros gyfnod parhaus o amser, gan fod llawer o bensiynau’r sector cyhoeddus yn dibynnu ar fuddsoddiadau mewn tanwydd ffosil. Os ydych yn chwilio am ddatganiad o ffaith, yn etholaeth yr Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy ei hun, yn sir y Fflint, fe wnaethant fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy a thechnoleg lân yn ôl yn 2008 a 2009. Felly, fe welsoch enghraifft berffaith yn ei etholaeth ei hun o sut mae cyngor yn gallu gweithio’n rhagweithiol i ddatgarboneiddio’r pensiynau eu hunain heb fod y fframwaith deddfwriaethol o reidrwydd ar waith i gefnogi hynny.

Ond mae’r cwestiwn penodol yr hoffwn ei ofyn ynglŷn â hyn, Weinidog, yn ymwneud â’r gweithwyr ar y cyflogau isaf, y mae rhai ohonynt yn cyfrannu i gronfa bensiwn Clwyd, sy’n berthnasol i fy etholaeth yn sir Ddinbych. Mewn perthynas â gweithredu, sut olwg fyddai ar hynny o ran amddiffyn y gweithwyr ar y cyflogau isaf fel nad ydym yn creu tlodi ymhlith y gweithwyr ar y cyflogau isaf sydd wedi cyfrannu'n ymroddedig i gronfeydd pensiwn ar hyd eu gyrfa waith ac sydd am gael eu gwobrwyo pan fyddant yn penderfynu ymddeol? Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi’r gweithwyr ar y cyflogau isaf yn sir Ddinbych yn hynny o beth? Diolch.

Byddai’r rhain yn faterion i aelodau’r bwrdd pensiynau a’r gronfa bensiwn eu hystyried mewn gwirionedd, o ran y buddsoddiadau y mae’r gronfa’n eu gwneud. Ond wedi dweud hynny, credaf y gall buddsoddiadau pensiwn gwyrdd fod yn fuddsoddiadau da iawn o ystyried y ffordd y mae’r farchnad ynni bresennol yn symud tuag at ffordd wyrddach a mwy cynaliadwy o ddarparu ynni ar gyfer y dyfodol. Gwn y bydd pob un o’r pethau hyn yn bethau y mae rheolwyr cynlluniau pensiwn ac yn y blaen yn eu trafod gyda’r bwrdd pensiynau. Nid penderfyniadau i Lywodraeth Cymru yw'r penderfyniadau buddsoddi penodol hynny, ond penderfyniadau i’r byrddau pensiynau eu hunain.

Y Fenter Cyllid Preifat

5. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o waddol ariannol y fenter cyllid preifat yng Nghymru? OQ59320

Bellach, mae 20 o gontractau mentrau cyllid preifat hanesyddol yn weddill yng Nghymru. Yn 2019, dechreuodd y Prif Weinidog adolygiad o gontractau mentrau cyllid preifat, gan annog awdurdodau contractio i ail-drafod neu derfynu contractau mentrau cyllid preifat lle roedd achos gwerth am arian dros wneud hynny. Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo.

Diolch. Mae hynny'n ddefnyddiol iawn. Mae dau o'r achosion rydych wedi'u nodi ym mwrdeistref Caerffili. Mae un yn gyfan gwbl o fewn fy etholaeth i, Ysgol Lewis Pengam, ac mae gan y llall gampws yn fy etholaeth i, sef Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, ac mae naw mlynedd ar ôl ar y contractau mentrau cyllid preifat 30 mlynedd gwreiddiol. Nid wyf yn credu y byddem wedi cael yr ysgolion hebddynt, ac maent yn ysgolion penigamp, ond mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn credu y gellid sicrhau manteision allweddol pe bai’r contract, sy’n ymwneud â darparu gwaith cynnal a chadw adeiladau, glanhau, arlwyo a gwasanaethau cynnal a chadw tiroedd yn cael ei derfynu'n gynnar, a disgwylir iddo gael ei drafod yng nghyfarfod llawn y cyngor ar 19 Ebrill. Felly, cyn hynny, roeddwn am ofyn i'r Gweinidog: pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, pe baent yn penderfynu terfynu'r contract menter cyllid preifat hwnnw'n gynnar?

14:00

Wel, mae'r awdurdodau'n parhau i adolygu eu contractau i benderfynu ar werth am arian, ac nid yw awdurdodau contractio sy'n cynnal adolygiadau i ail-drafod neu i derfynu contract angen cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru i ail-drafod na therfynu'r contract hwnnw. Ond mae Llywodraeth Cymru yn adolygu'r achos busnes, gan ein bod yn darparu rhywfaint o gost cymorth refeniw ar gyfer mentrau cyllid preifat. Ystyrir y ffrwd hon o gyllid fel rhan o'r achos gwerth am arian ar gyfer pwrs y wlad yn gyffredinol. Felly, yn achos Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, maent wedi cyflwyno achos busnes yn cynnig terfynu eu contract menter cyllid preifat yn wirfoddol ar gyfer y ddwy ysgol, fel y disgrifiwyd gennych, ac rwyf wedi cymeradwyo parhau â rhywfaint o gymorth refeniw ar gyfer gweddill cyfnod y byddai'r contract wedi bod yn weithredol pe bai'r fenter cyllid preifat yn parhau. Mater i Gaerffili nawr wrth gwrs yw gwneud y penderfyniad a yw'n dymuno terfynu'n wirfoddol ai peidio.

Weinidog, fel y gwyddoch, mae'r defnydd o fentrau cyllid preifat wedi bod yn ddadleuol a dweud y lleiaf. Fe fyddwch yn gwybod bod llawer o gynghorau wedi'u dal yng ngafael cynlluniau mentrau cyllid preifat gwenwynig, ac fel y gwyddom, Weinidog, yn ôl y cyfrif diwethaf, credaf fod 23 o brosiectau menter cyllid preifat gyda gwerth cyfalaf o £701 miliwn wedi'u noddi gan Lywodraeth Cymru, a bod pum prosiect wedi'u noddi gan Lywodraeth y DU. Weinidog, bydd yna adegau pan fydd mynediad at gyfalaf preifat yn hanfodol. Fodd bynnag, yn aml, gwerth gwael am arian a gynigir ganddynt ac maent yn creu baich o ddyled i sawl cenhedlaeth i ddod. Roeddwn i'n meddwl tybed pa wersi mae Llywodraeth Cymru wedi'u dysgu o brofiad o fentrau cyllid preifat. Pa waith mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu tryloywder a sicrhau bod trethdalwyr yn cael y gwerth gorau am arian wrth ymgysylltu â'r sector preifat?

Wel, fe ddywedaf fod Llywodraethau olynol yng Nghymru wedi osgoi peryglon contractau mentrau cyllid preifat yn gyson, ac o ganlyniad i'n dull o weithredu, mae'r rhwymedigaethau sy'n gysylltiedig â'r math hwn o gynllun yng Nghymru yn llai o lawer nag mewn rhannau eraill o'r DU. Er enghraifft, tua £40 y pen yw cost cynlluniau mentrau cyllid preifat yng Nghymru ar gyfartaledd, ac mae hynny oddeutu un rhan o bump o'r gost y pen drwy'r DU gyfan.

Yng Nghymru, rydym wedi ceisio datblygu math gwahanol o fodel, sef ein model buddsoddi cydfuddiannol wrth gwrs. Mae'n wahanol i'r mentrau cyllid preifat traddodiadol mewn nifer o ffyrdd. Er enghraifft, mae'n sicrhau bod rhaid i'r busnesau sy'n rhan o'r cynllun helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015; byddant angen darparu manteision cymunedol ymestynnol iawn, a cheir rhwymedïau am fethu cyflawni; bydd angen iddynt ymrwymo i god cyflogaeth moesegol Llywodraeth Cymru, a hefyd adeiladu gyda chynaliadwyedd hirdymor ac effeithlonrwydd amgylcheddol mewn cof hefyd.

Felly, rwy'n credu ein bod ni wedi gweld rhai enghreifftiau da iawn—yn ystod adeiladu'r A465, er enghraifft, lle gwelsom lawer o swyddi lleol newydd yn cael eu creu, llawer o gyflogaeth i bobl sydd wedi profi diweithdra hirdymor, neu sydd heb fod mewn gwaith, addysg neu hyfforddiant, er enghraifft, ac wrth gwrs, cafodd nifer o fentrau cymunedol eu cefnogi drwy'r rhaglen mentrau cymunedol a sefydlwyd yn rhan o hynny hefyd. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod ein bod wedi datblygu'r model buddsoddi cydfuddiannol, ond mae'n wahanol iawn i gynlluniau menter preifat traddodiadol.

Safle'r 2 Sisters Food Group

6. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi am gymorth ariannol ychwanegol i Gyngor Sir Ynys Môn yn sgil cyhoeddiad y 2 Sisters Food Group am gau ei safle yn Llangefni? OQ59316

Mae Gweinidog yr Economi, gan weithio gyda'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, yn ymgysylltu ar draws y Llywodraeth ac yn gweithio mewn partneriaeth â chyngor Ynys Môn drwy dasglu 2 Sisters. Mae ein ffocws cyfunol hyd yma wedi bod ar gefnogi gweithwyr yr effeithir arnynt a'r gymuned yn Llangefni a thu hwnt.

14:05

Diolch am yr ymateb yna. Mae angen ymateb o ran cyllid ychwanegol ar sawl lefel, wrth gwrs. Mae hon yn anferth o ergyd i ni yn Ynys Môn. Dwi, wrth gwrs, mewn cyswllt efo llawer o'r rheini sy'n colli eu gwaith wrth iddyn nhw wynebu dyfodol o ansicrwydd, a dwi'n gofyn am sicrwydd heddiw y bydd y Gweinidog yn edrych yn ffafriol ar unrhyw geisiadau am gefnogaeth i weithwyr a'u teuluoedd yn uniongyrchol, ac i greu cyfleon hyfforddiant a swyddi, ac yn y blaen.

Ac o ran y cyngor sir wedyn, mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i adnabod y meysydd fydd yn rhoi y mwyaf o alw arnyn nhw. Maen nhw'n edrych ar anghenion llesiant a chymdeithasol, anghenion tai, gwytnwch teuluoedd, ac yn y blaen. A'r pryder mawr ar y pwynt yma ydy na fydd hi'n amlwg beth ydy'r effaith tan ar ôl i'r ffatri gau. Felly, a gaf i ofyn, unwaith eto heddiw, ar y Llywodraeth i gydweithio yn agos iawn, iawn efo'r gymuned, ac efo'r cyngor sir yn benodol, a sicrhau cyllid digonol i wynebu yr heriau sy'n codi?

Hoffwn ddechrau drwy dawelu meddwl Rhun ap Iorwerth fod Gweinidog yr Economi yn gweithio'n agos iawn wir gyda'r cyngor ar y mater hwn, ac mae'r tasglu hefyd yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd i sefydlu ffordd ymlaen a hefyd i ddeall y goblygiadau ehangach y mae'r Aelod wedi cyfeirio atynt. Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol drwy raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru i Gyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd yn 2023-24 i ehangu gallu eu timau Cymunedau am Waith lleol, i gefnogi'r rhai sydd wedi colli eu gwaith o ganlyniad i gau'r ffatri yn Llangefni. Ac mae'r ddau dîm eisoes ar y safle, ochr yn ochr â Gyrfa Cymru a Chanolfan Byd Gwaith, i sicrhau bod staff 2 Sisters yn cael yr ystod lawn o gefnogaeth sydd ei angen arnynt i ddod o hyd i waith arall.

Gyda'r broses o gau'r ffatri wedi dechrau ar y cam nesaf erbyn hyn, mae ystyriaeth yn cael ei rhoi i opsiynau ar gyfer y safle yn y dyfodol, sy'n parhau gyda'i berchennog. Ochr yn ochr â'r awdurdod lleol, rydym yn ymgysylltu â hwy i sicrhau bod y safle pwysig a blaenllaw hwn yn gallu darparu cyfleoedd cyflogaeth lleol unwaith eto cyn gynted â phosibl. Hyd y gwn i, ni ddaeth cais i law am gyllid ar gyfer y safle hyd yma i Weinidog yr Economi, ac o ystyried bod ffocws y tasglu hyd yn hyn wedi bod ar yr unigolion yr effeithiwyd arnynt, ni wnaed cais ychwanegol am arian gan y cyngor ar hyn o bryd. Ond rwy'n derbyn ei bod yn ddyddiau cynnar o ran deall effaith lawn y cau.

A gaf fi gefnogi Rhun ap Iorwerth yn ei alwad am ddarparu'r cymorth priodol i'r awdurdod lleol yn Ynys Môn? Nodais yn eich ymateb yno, Weinidog, eich bod wedi nodi'n briodol yr amcan pwysig o ddarparu cefnogaeth i weithwyr safle 2 Sisters a hefyd i ail-sefydlu'r safle ar gyfer ei ddefnyddio rywbryd yn y dyfodol. Nodais hefyd, tua'r diwedd yno, eich bod wedi dweud nad oeddech wedi gweld unrhyw geisiadau pellach am gymorth gan yr awdurdod lleol. Ond tybed a wnewch chi ehangu ar unrhyw fathau eraill o gefnogaeth y gofynnwyd amdanynt gennych, a ydych chi wedi gweld y rheini, a beth allai'r opsiynau fod ar gyfer cefnogi'r gymuned o lefydd eraill, nid gan yr awdurdod lleol yn unig.

Cafodd y cais am gymorth ychwanegol, er enghraifft yr arian ychwanegol sydd wedi mynd drwy Cymunedau am Waith, ei wneud i Weinidog yr Economi. Felly, nid wyf wedi cael unrhyw geisiadau penodol am gyllid ychwanegol. Ond rwy'n gwybod bod cyfarfod wedi'i gynnal ar 15 Mawrth rhwng cyngor Môn, Swyddfa Cymru, Llywodraeth Cymru ac Amber Holdings sy'n berchen ar y safle, a bod y cyfarfod hwnnw wedi sicrhau cytundeb i ymgysylltu â rhanddeiliaid i gytuno ar ddefnydd o'r safle yn y dyfodol yn unol ag anghenion lleol, a hefyd i ymwneud â busnesau lleol i benderfynu ar y math o eiddo sydd ei angen yn y farchnad bresennol. Ac unwaith eto, byddai honno'n drafodaeth dan arweiniad Gweinidog yr Economi. Ond roeddwn i'n meddwl y gallai rhannu hynny fod o ddiddordeb i gyd-Aelodau y prynhawn yma hefyd.

Treth Cyngor

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am godiadau treth cyngor yng ngogledd Cymru? OQ59306

Materion i bob awdurdod lleol a'u haelodau etholedig yw'r cyfrifoldeb dros bennu cyllideb flynyddol y cyngor, a phenderfyniadau am dreth gyngor yn rhan o hynny.

Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n cydnabod mai aelodau awdurdodau lleol eu hunain sy'n gyfrifol am osod y dreth gyngor, ond fel y gwyddoch yng Nghonwy, mae trigolion lleol yno'n wynebu cynnydd aruthrol o 9.9 y cant yn eu biliau treth gyngor eleni, sef y cynnydd mwyaf yng Nghymru, ac un o'r mwyaf yng Nghymru a Lloegr gyfan. Ni fyddai cynnydd o'r fath yn cael ei ganiatáu pe bai'r awdurdod lleol hwnnw wedi cael yr un cyfle i gael cap wedi'i osod gennych chi yn rhan o'ch cyfrifoldeb fel Gweinidog llywodraeth leol. Ac wrth gwrs, yn Lloegr, ni allai trigolion yno sy'n wynebu cynnydd gormodol yn y dreth gyngor fod wedi gorfod eu hwynebu heb bleidlais 'ie' mewn refferendwm. A gaf fi ofyn i chi ystyried cyflwyno deddfwriaeth debyg yma yng Nghymru, fel bod modd i bobl, pan fydd pethau'n mynd o chwith gyda chynnydd sylweddol fel hyn ar adeg pan fo costau byw'n pwyso, gael cyfle i ddweud eu barn am eu treth gyngor yn lleol?

14:10

Nid yw Llywodraeth Cymru'n bwriadu cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth o'r fath, oherwydd credwn y byddai capio cyllideb awdurdod yn llyffethair difrifol ar gyfrifoldebau'r aelodau a etholir yn lleol. Rydym yn darparu hyblygrwydd i awdurdodau lleol, wrth gwrs, wrth osod eu cyllidebau a phenderfynu ar eu lefelau treth gyngor, ac mae hynny'n caniatáu iddynt ymateb i flaenoriaethau a phwysau lleol. Credwn fod honno'n nodwedd bwysig o ddemocratiaeth leol ac yn galluogi awdurdodau i fod yn atebol i'w trigolion. Yn amlwg, mae'r refferenda lleol hynny yn Lloegr yn gostus. Yn hytrach, rydym yn sianelu ein cyllid i reng flaen llywodraeth leol drwy'r setliad llywodraeth leol fel bod gan yr awdurdodau hyblygrwydd pellach i ddyrannu'r cyllid yn ôl eu blaenoriaethau lleol.

Mynd i'r Afael ag Effaith Tlodi

8. Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i ymyriadau cyllido sy'n galluogi cynghorau Cymru i fynd i'r afael ag effaith tlodi wrth baratoi cyllideb y Llywodraeth ar gyfer 2023-24?  OQ59287

Roedd cefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol drwy'r amseroedd caled hyn yn flaenoriaeth allweddol yng nghyllideb 2023-24. Rwyf wedi darparu £227 miliwn ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol, gan gynnwys cyllid ar gyfer ysgolion a gofal cymdeithasol, ochr yn ochr ag ymyriadau cymorth costau byw eraill a ariennir yn uniongyrchol, gan gynnwys £18.8 miliwn ar gyfer y gronfa cymorth dewisol.

Diolch, Weinidog. Roeddwn yn falch iawn o weld y byddai'r gyllideb ar gyfer y gronfa cymorth dewisol yn cynyddu bron £19 miliwn, ac y byddai gwerth arian parod y taliadau'n codi 11 y cant yn unol â chwyddiant. Mae'r newyddion wedi cael croeso cynnes iawn gan Sefydliad Bevan, er enghraifft, gan ein bod yn gwybod bod y gronfa cymorth dewisol yn cael ei defnyddio gan gynghorau fel achubiaeth i deuluoedd sy'n wynebu argyfwng. Gyda'n prif awdurdodau ar y rheng flaen yn ystod yr argyfwng costau byw, sut arall mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynghorau fel eu bod hwythau yn eu tro yn gallu cefnogi eu cymunedau lleol?

Mae Llywodraeth Cymru'n gweld mai'r peth pwysicaf y gallwn ei wneud i helpu awdurdodau lleol i gefnogi eu cymunedau drwy'r cyfnod anodd hwn yw darparu cymaint o gefnogaeth ag y gallwn drwy'r grant cymorth refeniw. Mae ein setliad ar gyfer 2023-24 yn gynnydd o £227 miliwn i'r dyraniadau dangosol a gyhoeddwyd yn y gyllideb ddiwethaf. Mae hynny, yn rhannol, yn deillio o'r ffaith ein bod wedi darparu mwy na'r cyllid canlyniadol a gawsom ar gyfer addysg a gofal cymdeithasol yn y datganiad blaenorol gan Lywodraeth y DU. Ac o ganlyniad i'r ymarfer ail-flaenoriaethu a gyflawnwyd gennym ar draws y Llywodraeth, llwyddwyd i ddarparu'r setliad mwy hael hwnnw. Rydym yn credu mai blaenoriaethu llywodraeth leol a sicrhau'r setliad gorau posibl yw'r ffordd orau o helpu awdurdodau lleol i helpu eu cymunedau lleol.

Mae cwestiwn 9 [OQ59298] wedi'i dynnu yn ôl, a dyw Jayne Bryant ddim yma i ofyn cwestiwn 10 [OQ59321]. Cwestiwn 11, felly—Mike Hedges.

Rhaglen Buddsoddi i Arbed

11. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen buddsoddi i arbed Llywodraeth Cymru? OQ59284

Ers ei chyflwyno yn 2009, mae'r rhaglen buddsoddi i arbed wedi cefnogi tua 200 o brosiectau gyda gwerth cyfanredol o oddeutu £200 miliwn. Yn fwyaf diweddar, mae wedi darparu cyllid ar gyfer tri phrosiect newydd, gan ein helpu i gyflawni ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal. 

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw? Rwy'n gwybod, ar un adeg, ei fod yn cael ei ddefnyddio gan Cyfoeth Naturiol Cymru i lenwi bylchau oherwydd cost yr uno. Ond yn gyffredinol, rwy'n credu bod buddsoddi i arbed yn beth da iawn, ac mae'n gyfle i helpu'r sector cyhoeddus yng Nghymru a chael cymaint ag y gallwn am yr hyn a wariwn. Y cwestiwn sydd gennyf yw hwn: sut mae sicrhau bod yr hyn sy'n gweithio ac sy'n cael ei weld yn gweithio mewn un lle yn cael ei rannu a'i ddilyn gan rannau eraill o'r sector cyhoeddus yng Nghymru, fel y gallwn i gyd elwa yn hytrach na chael rhai llwyddiannau achlysurol yn unig yn lle cael llwyddiannau ar draws y sector cyfan?

14:15

Gwnaeth Prifysgol Caerdydd waith gyda ni i geisio cael trafodaethau ledled y sector cyhoeddus lle defnyddiwyd y rhaglen buddsoddi i arbed, ac mae wedi'i defnyddio ledled Cymru mewn ystod o ffyrdd i ddeall beth oedd y rhwystrau i weithredu ac ehangu'r prosiectau da hynny a'r dysgu ledled Cymru fel y gellid gwneud y mathau hyn o ymyriadau heb fod angen y cyllid buddsoddi i arbed. Felly, rydym yn dal i ystyried y gwersi o hynny mewn gwirionedd, ac roedd yn ymwneud i raddau helaeth â sicrhau bod yna gyfleoedd i gydweithio a rhannu'r wybodaeth honno. Ond ar hyn o bryd rydym yn archwilio ac yn ystyried sut fydd y gronfa'n gweithredu yn y dyfodol, pa weithgareddau y dylai ganolbwyntio arnynt, a rhan o hynny fydd ystyried y gwersi am y rhwystrau i ehangu arferion da.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, a'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Janet Finch-Saunders.

Bargen Twf y Gogledd

1. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Gweinidog yr Economi ynglŷn â bargen twf y gogledd? OQ59294

Member
Lesley Griffiths 14:16:43
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda Gweinidog yr Economi am amrywiaeth o faterion yn ymwneud â gogledd Cymru, gan gynnwys bargen twf y gogledd. Yn is-bwyllgor diwethaf y Cabinet ar gyfer gogledd Cymru, rhoddodd Gweinidog yr Economi ddiweddariad economaidd ar gyfer y rhanbarth, gan gynnwys cynnydd y fargen twf.

Diolch. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno fod bargen twf y gogledd, a wnaed yn bosibl drwy gyllid gan Lywodraeth y DU, yn gyfle gwych ar gyfer buddsoddi a swyddi yng ngogledd Cymru. Gobeithio hefyd y byddwch yn cytuno y dylid annog busnesau lleol i wneud popeth yn eu gallu i wneud cais am gyllid yn rhan o'r fargen hon. Mae hyn yn cynnwys ein sector gwledig ac amaethyddol, sydd hefyd yn chwarae rôl yr un mor bwysig yn ysgogi twf economaidd. Mae Hedd Vaughan-Evans, pennaeth gweithrediadau Uchelgais Gogledd Cymru yn esbonio, 'Rydym eisiau clywed gan fusnesau a sefydliadau a all fodloni ein meini prawf cyllido a gweithio gyda ni i sicrhau'r manteision i'r rhanbarth o'r fargen twf. Mae ein gwefan yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol am gyllid a sut i ymgeisio.'

Nawr, y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 27 Mawrth 2023, ond nid oes gan lawer o fusnesau gwledig yr un faint o amser ac adnoddau ar gael i'w roi tuag at ddatblygu'r ceisiadau hyn, ac maent yn achosion busnes braidd yn gymhleth, sy'n hawdd i fusnesau llawer mwy o faint eu gwneud. Felly, beth allwch chi ei wneud, fel y Gweinidog, i gynyddu ymwybyddiaeth ymhlith busnesau gwledig o'r cyfleoedd ariannu hyn, a pha help sy'n cael ei ddarparu i fusnesau gwledig llai o faint i wneud y broses ymgeisio mor hawdd â phosibl? Diolch.

Rwy'n credu ei bod yn amlwg yn bwysig iawn fod y broses ymgeisio mor syml ac mor hawdd â phosibl, fel y dywedwch. Roeddwn yn ymwybodol fod y cyfnod ymgeisio ar gyfer cyfanswm o £30 miliwn i brosiectau newydd y fargen twf wedi agor ar 13 Chwefror am chwe wythnos, sy'n mynd â ni hyd at 27 Mawrth, rwy'n credu. Ac rwy'n gwybod bod gan Uchelgais Gogledd Cymru ddiddordeb arbennig mewn prosiectau trawsnewidiol sydd â buddsoddiad yn barod ac sy'n ategu amcanion y rhaglen ar gyfer bwyd-amaeth a thwristiaeth, ynghyd ag ynni carbon isel yn ogystal, a thir ac eiddo. Rwy'n credu bod y broses yn gadarn iawn, rwy'n credu ei bod yn deg iawn ac mae'n dryloyw iawn; rwy'n credu bod hynny'n hynod o bwysig. Rwy'n deall yr hyn a ddywedwch am yr amserlen, ond rwy'n credu bod y broses yn bwysig i'w gael yn iawn. Yn amlwg, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, nid Llywodraeth Cymru, sydd â'r cyfrifoldeb dros gyflawni'r cytundeb twf, ond rwy'n gwybod bod fy swyddogion yn cael cyfarfodydd â'r bwrdd, a byddaf yn bendant yn sicrhau bod y pwynt rydych chi'n ei wneud am yr amserlen fer i fusnesau bach yn cael ei godi.

Ychydig funudau yn ôl roeddwn i'n gofyn i'r Gweinidog cyllid am gefnogaeth i Ynys Môn yn sgil cau gwaith 2 Sisters Food Group. Mi all arian ychwanegol sy'n dod ar gael rŵan drwy'r bid twf fod yn fodd i roi cefnogaeth i'r sector bwyd yn Ynys Môn rŵan hefyd. Dwi'n eiddgar i weld a oes modd defnyddio'r arian hwnnw i ddelifro'r parc cynhyrchu bwyd—mae'r Gweinidog yn gwybod dwi wedi bod yn gwthio amdano fo ers blynyddoedd—a dwi yn gweld os oes modd, yn erbyn y cloc, creu cais ar gyfer sefydlu pentref bwyd Ynys Môn. Mae'r galw yno, mae Coleg Menai yn dweud eu bod nhw'n barod i'w gefnogi fo, yn gweithio efo'u canolfan dechnoleg bwyd nhw, a'r datblygiad sy'n mynd i fod yn digwydd yng Nglynllifon, sydd hefyd yn cynnwys elfen fwyd. Mi fuasai'n dda cael cefnogaeth y Gweinidog mewn egwyddor i fwrw ymlaen efo hynny, ac unrhyw gefnogaeth y gallai hi a'i swyddogion ei roi. Ond hefyd mi fyddwn i yn gwerthfawrogi addewid y gwnaiff hi bopeth y gall hi i sicrhau, yn sgil cau 2 Sisters, fod tyfu swyddi bwyd yn Ynys Môn wir yn flaenoriaeth. 

14:20

Diolch. Yn amlwg, rydym wedi cyfarfod o'r blaen ynglŷn â'ch cais am barc bwyd. Rwy'n ymweld â'r ganolfan technoleg bwyd yn Llangefni mewn gwirionedd—yn ystod toriad y Pasg, rwy'n credu—felly byddaf yn sicr yn gweld lle rydym arni mewn perthynas â hynny. 

O ran 2 Sisters, fel y dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, rwy'n gweithio'n agos iawn gyda Gweinidog yr Economi. Rwy'n meddwl mai—. Yn anffodus, rwy'n credu y gallem weld beth oedd i ddod pan gyhoeddwyd yr ymgynghoriad, ond mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth a allwn. Efallai eich bod yn ymwybodol fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi ymweld yn ddiweddar, ac fel y dywedaf, rwy'n ymweld â'r ganolfan dechnoleg ac ardaloedd eraill yn Llangefni yn ystod toriad y Pasg, felly byddaf yn sicr yn hapus i gael trafodaethau pellach gyda chi ynglŷn â hynny. 

Weinidog, un o'r prosiectau allweddol ym margen twf gogledd Cymru yw cefnogi'r gwaith yn y ganolfan brosesu signalau digidol ym Mhrifysgol Bangor, lle maent yn datblygu technoleg y genhedlaeth nesaf mewn cysylltedd digidol. Lywydd, ar y pwynt hwn fe wnaf ddatgan buddiant fel aelod di-dâl o fwrdd y prosiect yn y ganolfan brosesu signalau digidol. Weinidog, fe fyddwch yn gwybod fy mod am weld gogledd Cymru yn dod yn arloeswr byd-eang ym maes technoleg ddigidol, ac i wneud hyn, mae angen cydweithio da gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn ogystal â phartneriaid academaidd a diwydiannol. Weinidog, a wnewch chi roi diweddariad i'r Siambr heddiw ar y sgyrsiau mae swyddogion Llywodraeth Cymru, yn eich adran chi ac adran Gweinidog yr Economi, wedi'u cael gyda swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU am bwysigrwydd buddsoddi mewn prosiectau digidol yng ngogledd Cymru?  

Diolch. Felly, hwn mewn gwirionedd oedd y prosiect cyntaf i gael ei gyflawni o dan gytundeb twf y gogledd, fel y gwyddoch, felly rwy'n credu ei fod yn dangos yn glir y gwahaniaeth y gall buddsoddiad y fargen ei wneud yn yr ardal. Ac yn sicr, rwy'n rhannu eich uchelgais i weld gogledd Cymru—a phob rhan o Gymru mewn gwirionedd—yn dod yn arloeswr byd-eang ym maes technoleg ddigidol, ac rwy'n hapus iawn i hyrwyddo'r uchelgais hwnnw mewn unrhyw ymwneud rhyngof a Llywodraeth y DU. Ond rwy'n gwybod bod Gweinidog yr Economi, sy'n amlwg yn arwain ar hyn—. Cafwyd cyfarfod rhyngddo a Gweinidogion y DU a oedd yn canolbwyntio ar gysylltedd digidol, yn enwedig mewn perthynas â'r modd y mae Llywodraeth y DU yn darparu'r Prosiect Gigabit yng Nghymru. Felly, mae'r Gweinidog wedi gofyn am i'w swyddogion gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar hynny. 

Mannau Gwyrdd Cymunedol

2. A wnaiff y Gweinidog amlinellu strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu mannau gwyrdd cymunedol? OQ59280

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau mynediad i bawb at fannau gwyrdd yn agos at eu cartrefi. Rydym yn darparu hyn drwy raglenni, gan gynnwys Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, cyfleusterau cymunedol, cynllun cymunedau y dreth gwarediadau tirlenwi a grantiau gwella mynediad. Mae dros 1,400 o fannau gwyrdd wedi'u creu gan Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn unig.

Diolch. Weinidog, bron i dair blynedd yn ôl, fe wnaethoch sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen adferiad gwyrdd dan arweiniad cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn eu hadroddiad i chi, un o'u prif argymhellion oedd ail-ddychmygu ardaloedd trefol a mannau gwyrdd, gan greu mannau ar gyfer natur wrth gynllunio tirweddau trefol. Ceir llawer o enghreifftiau erchyll o ddatblygiad trefol heb fawr o feddwl am fannau gwyrdd ar gyfer hamdden a llesiant. Pa gamau penodol fyddwch chi'n eu cymryd yn ystod tymor y Senedd hon i fynd i'r afael â hyn yn eich polisïau cynllunio a datblygu? Mae pobl eisiau llefydd i fyw a mannau gwyrdd i'w mwynhau, ac nid dim ond adeiladau i eistedd ynddynt. 

Diolch. Rydym yn datblygu sawl prosiect yn ystod tymor y Llywodraeth hon. Soniais am un neu ddau ohonynt yn fy ateb agoriadol i chi; yn sicr, mae Llefydd Lleol ar gyfer Natur wedi bod yn hynod lwyddiannus, ac mae wedi cael derbyniad da iawn gan ein hetholwyr ledled Cymru. Ac rydym yn parhau i gefnogi ac ehangu gwaith gwerthfawr y rhaglen benodol honno, ac yn adeiladu ar ei llwyddiant. Rydym wedi dyrannu tua £10 miliwn i bob un o'r 22 awdurdod lleol a'r tri pharc cenedlaethol; mae £1.4 miliwn—rwy'n gwybod fod gennych ddiddordeb arbennig ym Mhen-y-bont ar Ogwr—wedi'i ddyrannu i brosiectau yn ardaloedd awdurdodau lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot i gefnogi'r gwaith o wella natur mannau gwyrdd cymunedol yma yng Nghymru. Mae yna gynlluniau eraill, yn amlwg—rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol iawn o'r rhaglen cyfleusterau cymunedol—ac rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig iawn yw bod cymunedau eu hunain yn perchnogi mannau gwyrdd.

14:25

Rwy'n cymeradwyo eich uchelgais yn llwyr, a hefyd uchelgais CNC, i ail-ddychmygu gofodau trefol. Mewn cyfnod lle mae iechyd meddwl pobl yn eithaf bregus, mae hyn yn bwysig iawn. Yn fy mhrofiad i, nid fandaliaid lleol yw'r broblem, ond pobl sy'n gweithredu ar gontractau torri gwair sydd, yn y bôn, yn torri coed a blodau y mae pobl wedi'u plannu i wneud i'w hardal eu hunain edrych yn brafiach. Tybed sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau bod pawb yn ymgysylltu â hyn, â phwysigrwydd ail-ddychmygu ein mannau gwyrdd trefol. Nid oes angen inni chwistrellu chwynladdwyr i ladd chwyn oherwydd mae hefyd yn lladd planhigion ac yn ychwanegu at y broblem ffosfforws. Felly, sut rydych chi'n meddwl y gallech chi sicrhau bod gennym ddull partneriaeth cyflawn mewn ardaloedd trefol gyda'n cymunedau a chyda'r holl wasanaethau sy'n cael eu darparu, fel ein bod i gyd yn teithio i'r un cyfeiriad ar hyn?

Diolch. Rwy'n credu eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, ac fe fyddwch yn ymwybodol o rai o'r ymgyrchoedd a gyflwynwyd gennym fel Llywodraeth. Felly, un ohonynt yw—. Mae Carolyn Thomas, ein cyd-Aelod, wedi bod yn gweithio i ddatblygu a hyrwyddo ymgyrch 'Iddyn Nhw', sy'n ymwneud â helpu cymunedau lleol i ddeall pwysigrwydd ymylon ffyrdd a mannau gwyrdd ar gyfer bywyd gwyllt, er enghraifft, yn ogystal â phlannu blodau gwyllt hefyd, yn amlwg. Felly, mae yna amrywiaeth o gynlluniau'n cael eu cyflwyno gennym. Mae gennym y cynllun 'Natur Wyllt', sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn hefyd yn fy marn i.

Weinidog, fel y dywedwch, mae grwpiau cymunedol yn gwneud gwaith da iawn yn gwyrddu ein cymunedau lleol, ac mae hyn yn hanfodol, onid yw, wrth fynd i'r afael â heriau newid hinsawdd, cysylltu pobl yn agosach â natur, a chael cefnogaeth boblogaidd i'r newid sydd ei angen arnom os ydym yn mynd i ymateb o ddifrif i heriau amgylcheddol y dyfodol? Rwy'n credu bod un enghraifft o hynny i'w gweld yn ardal Maendy yn Nwyrain Casnewydd. Ddydd Sadwrn, bydd y Prif Weinidog yn dod draw i agor safle Triongl, sy'n ymwneud â gwyrddu'r gymuned leol—mae yna gaffi cymunedol, mae yna le perfformio; mae gwaith da dros ben wedi'i wneud. Felly, Weinidog, a fyddwch chi'n parhau i edrych ar sut y gallwch chi gefnogi'r grwpiau cymunedol hyn ledled Cymru, gyda chasglu sbwriel, gyda phlannu, a chyda'u gweithgarwch gwyrdd?

Ie, diolch, ac yn sicr mae'n swnio'n brosiect gwych ym Maendy ac os yw'r Prif Weinidog yn mynychu ddydd Sadwrn, rwy'n siŵr y bydd y digwyddiad yn llwyddiannus iawn. Ond rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn eich bod chi'n gweithio gyda chymunedau ynglŷn â'r hyn y maent ei eisiau yn eu mannau agored a'u mannau gwyrdd, oherwydd wedyn rwy'n meddwl y cânt eu gwerthfawrogi fwy, a chânt eu parchu fwy hefyd. Felly, yn sicr, drwy weithio'n agos gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Newid Hinsawdd, byddwn yn bendant yn edrych ar beth arall y gallwn ei wneud ledled Cymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

Diolch, Lywydd. Fel Gweinidog gogledd Cymru, a wnewch chi ddweud wrthym sut mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau y bydd pobl ar draws rhanbarth y gogledd yn elwa o'r arian ychwanegol a gafodd ei gyhoeddi yng nghyllideb y Canghellor ar gyfer twf yr wythnos diwethaf?

Yn amlwg, bydd y penderfyniadau hynny'n cael eu gwneud ar draws y Cabinet, gyda'r Gweinidog cyllid. Fe fyddwch yn ymwybodol na chawsom gymaint o arian ag yr oeddem wedi'i obeithio efallai, ond mae'r penderfyniadau hynny'n cael eu gwneud ar sail drawslywodraethol. Yn amlwg, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am ogledd Cymru, byddaf yn sicrhau bod y gogledd yn parhau i gael ei chyfran deg.

Wel, mae arnaf ofn na roddodd yr ateb hwnnw lawer iawn o obaith i mi, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae £180 miliwn ychwanegol yn dod i Gymru, a hynny ar ben—ar ben—y £600 miliwn a gyhoeddwyd yn natganiad yr hydref y llynedd. Felly, dyna £780 miliwn, £0.75 biliwn ychwanegol, sydd gennych i'w wario yn y flwyddyn ariannol 2023-24. Ac mae gennym sefyllfa lle mae Llywodraeth y DU yn benderfynol o fuddsoddi ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, gan godi'r gwastad ym mhob cwr o'r wlad. Hoffwn pe bai gennym Lywodraeth Cymru sy'n benderfynol o godi'r gwastad ledled Cymru, oherwydd, yn anffodus, nid yw gogledd Cymru'n cael ei gyfran deg a chaiff ei adael ar ôl yn gyson.

Nawr, gwyddom nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i fuddsoddi'r arian ychwanegol er mwyn ymestyn y cynnig gofal plant am ddim i bob plentyn dan dair oed. Felly, a gaf fi ofyn i chi eto: beth ydych chi'n dadlau drosto yn y trafodaethau a gewch gyda chyd-Weinidogion o ran buddsoddi yng ngogledd Cymru? Rhowch eich rhestr siopa i mi.

14:30

Na. Byddaf yn trafod hynny gyda fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet, nid gydag Aelod o'r wrthblaid yma yn y Siambr. Fe welwch, os edrychwch, fod gogledd Cymru yn sicr yn cael cyfran deg, a byddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud dro ar ôl tro ddoe ein bod eisoes yn darparu llawer o'r cyfleusterau gofal plant a'r gofal a'r ddarpariaeth y mae Llywodraeth y DU ond yn siarad amdanynt ac yn gohirio gweithredu arnynt. Yn amlwg nid ydynt yn hyderus y byddant yno ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf, a dyna pam eu bod wedi dweud y byddant yn ei wneud yn 2025. Ac mewn perthynas â chodi'r gwastad, edrychwch ar draws y gogledd i weld faint o geisiadau aflwyddiannus a gafwyd i'r gronfa ffyniant bro. Felly, peidiwch â siarad am Lywodraeth y DU a'r gronfa ffyniant bro mewn perthynas â gogledd Cymru.

Beth am edrych ar y dystiolaeth? Gadewch inni edrych ar drafnidiaeth—gadewch inni edrych ar drafnidiaeth: rydych yn buddsoddi £800 miliwn mewn system metro yn ne Cymru; a £50 miliwn pitw ar gyfer metro gogledd Cymru. Beth am gael golwg ar y maes awyr rydych yn buddsoddi £250 miliwn ynddo, yn ne Cymru; hyd yn hyn—hyd yn hyn—nid yw gogledd Cymru wedi cael dim. Yr adolygiad ffyrdd: fe wnaethoch ganslo prosiectau ledled rhanbarth gogledd Cymru, ac yn dal ati i adeiladu ffordd ddeuol newydd sbon yn y de. Mae'r dystiolaeth yn siarad drosti ei hun, Weinidog. A'r hyn y mae pobl y gogledd yn ei ddisgwyl gan Weinidog gogledd Cymru yw rhywun sy'n fodlon brwydro am fuddsoddiad, datrys yr argyfwng ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, datrys yr argyfwng ym maes deintyddiaeth y GIG, helpu pobl i gael troed ar yr ysgol dai, rhewi eu trethi cyngor, lle maent yn cynyddu y tu hwnt i gyfraddau afresymol, a chyflwyno'r cynlluniau gwella ffyrdd y mae pobl eisiau eu gweld. Dyma'r math o flaenoriaethau y byddwn yn disgwyl eu gweld ar eich rhestr siopa. Felly, a wnewch chi eu mabwysiadu?

Felly, fel rydych wedi'i ddweud eich hun, cawsom £180 miliwn ychwanegol. Roeddwn yn ceisio adio'r holl arian y credwch y dylid ei wario yng ngogledd Cymru yn fy mhen, a chredwch fi, mae'r cyfanswm yn llawer mwy na £180 miliwn. Rydym yn cael £1 filiwn o gyllid cyfalaf y flwyddyn nesaf—[Torri ar draws.]—£1 filiwn. Os edrychwch—[Torri ar draws.] A ydych chi eisiau gwrando?

Gadewch i'r Gweinidog ateb y cwestiynau, os gwelwch yn dda.

Rydych yn gwybod cystal â minnau faint o arian fyddai ei angen i godi ein hystad yn Betsi Cadwaladr i'r safon rydym i gyd ei heisiau. Nid wyf yn gwybod amdanoch chi, ond rwy'n defnyddio'r GIG, ac rwy'n cael gofal iechyd rhagorol gan Betsi Cadwaladr. Os ydych chi'n defnyddio gofal iechyd preifat, eich dewis chi yw hynny. [Torri ar draws.]

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae gwlân Cymru yn gynnyrch cynaliadwy, aml bwrpas, ac yn dda yn amgylcheddol. Mae yna alw cynyddol am gynnyrch eco-gyfeillgar, ac mae gwlân Cymru'n berffaith i ateb y galw yma. Fel mae'r Gweinidog yn ei wybod, mae gan ffermwyr Cymru ymrwymiad diysgog i sicrhau amaeth cynaliadwy, ac wrth gwrs, gall gwlân Cymru chwarae rhan bwysig wrth i'r sector geisio byw i fyny i'w ymrwymiad amgylcheddol uchelgeisiol. Ond er y rhinweddau yma, mae prisiau rhyngwladol gwlân wedi dod o dan bwysau, wrth i brisiau uchel ynni arwain at golli busnes, a hyder y prynwyr yn disgyn, sydd yn ei dro'n creu amgylchiadau anodd i ddarparwyr deunydd crai megis gwlân. A wnaiff y Gweinidog felly ymrwymo i wneud pob dim i gynorthwyo'r sector, ac i'r Llywodraeth ddangos arweiniad, yn cynnwys drwy ddefnyddio grym caffael, gan nodi'r angen i ddefnyddio gwlân Cymreig ym mhrosiectau'r Llywodraeth, megis defnyddio carpedi gwlân Cymreig mewn cynlluniau adeiladu a thrafnidiaeth? Er enghraifft, faint o wlân Cymreig sydd ar garpedi cerbydau Trafnidiaeth Cymru? Diolch yn fawr iawn.

Diolch. Rwy'n credu eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, ac rwy'n sicr wedi ymrwymo i wneud popeth a allaf. Rwy'n credu fy mod yn cyfarfod yn flynyddol, mae'n debyg, gyda phrif weithredwr cyngor Gwlân Prydain, a byddaf yn cyfarfod â hwy eto yn ystod yr wythnosau nesaf, rwy'n credu. Ac yn sicr, mae'n dda iawn clywed eu syniadau ar gyfer defnyddio gwlân. Felly, er enghraifft, un o'r syniadau a godwyd gyda mi oedd y gellid ei ddefnyddio i insiwleiddio, ond mewn gwirionedd, pan siaradwch â chyngor Gwlân Prydain, roeddent yn dweud nad yw hynny'n ddefnydd gorau ohono. Ond y pwynt a wnaethoch ynglŷn â thrafnidiaeth—felly, mewn seddi ar drafnidiaeth—yn sicr cefais drafodaethau gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, gan ein bod yn caffael y trenau newydd, i weld faint o wlân y gellid ei ddefnyddio ar gyfer y seddi. Yn amlwg, cefais drafodaethau gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd hefyd, ac mae hi'n awyddus iawn i ddefnyddio mwy o wlân. Felly, byddaf yn sicr yn parhau â'r sgyrsiau hynny, a byddaf yn hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod.

Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am yr ateb yna. Dwi am fynd ymlaen rŵan, os caf i, at goedwigaeth. Mae tua 15 y cant o Gymru wedi'i orchuddio efo coedwigaeth o wahanol fathau, sef tua 316,000 hectar yma. Mae'r coed yma yn wahanol drwyddi draw, o wahanol rywogaethau a gwahanol fathau o orchudd, yn goed unigol, coedlannau bychan neu fforestydd mawr. Ond yr un peth sydd yn gyffredin ydy bod coedwig sy'n cael ei reoli yn gwneud yn well na rhai sydd ddim yn cael eu rheoli. Pa un ai bod y rheoli yma ar gyfer coed adeiladu neu ffeibr, bioamrywiaeth neu gynefinoedd, rheoli llifogydd neu hamdden, bydd angen trwydded torri coed er mwyn sicrhau eu bod nhw'n cael eu rheoli ar ryw bwynt neu'i gilydd.

Mae'r Bil amaeth newydd, fel ag y mae o'n blaenau ni ar hyn o bryd, yn mynd i newid yn sylweddol ar y system drwyddedu hynny. Dwi felly am wahodd y Gweinidog i osod allan ei gweledigaeth ar gyfer rheoli coed a fforestydd yng Nghymru.

14:35

Diolch. Rydych yn llygad eich lle, mae rhan o'r Bil amaethyddol—ac yn amlwg, mae gennym Gyfnod 2 yfory—yn cynnwys pwerau newydd i ganiatáu i amodau amgylcheddol gael eu hychwanegu at drwyddedau torri coed, ac i ddiwygio, atal neu ddirymu unrhyw drwyddedau sydd eisoes wedi'u caniatáu. Mae'n rhaid imi edrych yn ofalus iawn ar yr elfen goedwigaeth, fel sy'n aml yn digwydd pan fyddwch yn dechrau deddfwriaeth. Wrth ichi fynd drwy'r gwahanol gyfnodau, efallai y bydd angen ichi edrych ar ddarparu mwy o eglurder yn y ddeddfwriaeth wrth symud ymlaen. Ac yn sicr byddaf yn ceisio cael darpariaeth fanylach yng Nghyfnod 3.

Anifeiliaid Domestig

3. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella lles anifeiliaid domestig yng Nghwm Cynon? OQ59286

Mae blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer lles anifeiliaid wedi'u nodi yng nghynllun lles anifeiliaid Cymru. Mae'r cynllun yn cynnwys amserlen ar gyfer cyflawni camau allweddol pedwar ymrwymiad lles anifeiliaid ein rhaglen lywodraethu, ochr yn ochr â'n gwaith arfaethedig arall.

Diolch, Weinidog. Mae bron i ddwy flynedd wedi bod ers i ni gyflwyno rheoliadau cyfraith Lucy, sef y gwaharddiad ar werthu cathod a chŵn gan drydydd partïon yma yng Nghymru. Roedd hwn yn gam mor bwysig ymlaen o ran lles anifeiliaid domestig. Felly, hoffwn ofyn: sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio i fonitro'r rheoliadau hynny, ac i sicrhau bod eu darpariaethau'n cael eu gorfodi, a sut mae'n cynnwys hyn yn ei gwaith ehangach ar les anifeiliaid?

Diolch. Rwy'n ymwybodol, yn amlwg, fod cyfraith Lucy yn cyrraedd pen-blwydd pwysig fis nesaf, ac roedd Lucy, y tarfgi yr enwyd y ddeddfwriaeth ar ei hôl, yn dod o fferm yma yng Nghymru. Ond nid yw'r ddeddfwriaeth honno ond yn berthnasol i Loegr. Fel y gwyddoch, mae ein deddfwriaeth ni, sef Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021, yn mynd gam ymhellach, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n dangos ac yn adlewyrchu fy ymrwymiad cryf i les cŵn—pob anifail yma yng Nghymru mewn gwirionedd—ac mae fy swyddogion yn monitro'r rheoliadau hynny'n ofalus iawn. 

Rwy'n derbyn, wrth gwrs, nad yw'r rheoliadau hynny'n mynd i'r afael â'r holl broblemau sydd gennym yn gysylltiedig â masnachu cŵn bach, a dyna pam ein bod yn cyflwyno mesurau pellach. Wrth inni edrych ar y ddeddfwriaeth honno, ac wrth inni ei monitro, rydym yn edrych ar fesurau eraill i'w cyflwyno er mwyn sicrhau bod gennym safonau lles uchel ar gyfer ein bridwyr cŵn yma yng Nghymru. 

Weinidog, fel y byddwch yn gwybod, mae prynu anifeiliaid domestig fel anifeiliaid anwes ar-lein yn beryglus iawn, ac yn anffodus, nid oes llawer o fesurau diogelu ar waith a all atal prynwyr rhag prynu, yn ddiarwybod iddynt, anifeiliaid sydd wedi eu bridio mewn ffermydd cŵn bach, a'u cadw mewn amodau erchyll. Yn ogystal, ceir problem gyda chŵn peryglus, sydd â hanes hysbys o ymosod ar bobl, yn cael eu hysbysebu a'u gwerthu ar-lein, sydd wedi arwain, yn drasig, at ymosodiadau erchyll, ac angheuol mewn rhai achosion. 

Weinidog, ffaith arall drist yw bod rhai cŵn yn cael eu hysbysebu fel rhai sydd 'am ddim i gartref da', ac mae'n bosibl y bydd y cŵn hyn, sy'n cael eu rhoi i bobl sydd i'w gweld yn bobl dda, yn mynd i ddwylo ymladdwyr cŵn anghyfreithlon, sy'n defnyddio'r cŵn hyn a gafwyd am ddim fel abwyd i hyfforddi cŵn ymladd. Rwy'n credu—ac rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yma yn cytuno â mi—na allwn barhau fel hyn a chaniatáu i anifeiliaid sy'n cael eu cam-drin gael eu masnachu mor hawdd. Mae angen mesurau llawer llymach arnom mewn perthynas â gwerthu a hysbysebu ar-lein.

Yn ystod ein toriad ym mis Ebrill, bydd Justice for Reggie, elusen a sefydlwyd i ymgyrchu dros reoliadau llawer llymach ar gyfer gwerthu ar-lein a bridio anifeiliaid domestig, yn cynnal eu Hwythnos Ymwybyddiaeth o Werthu Anifeiliaid Anwes Ar-lein. A chyda hyn mewn golwg, Weinidog—ac rwy'n ymwybodol o'ch sylwadau i fy nghyd-Aelod Vikki—pa ymrwymiadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i dynhau'r rheoliadau mewn perthynas â unigolion a busnesau sy'n gwerthu anifeiliaid domestig ar-lein yng Nghymru? Diolch. 

Diolch. Wel, fel y dywedais wrth Vikki Howells, mae ein deddfwriaeth yn mynd gam ymhellach na'r ddeddfwriaeth yn Lloegr. Er hynny, rwy'n credu eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, oherwydd rydym yn gwybod, yn anffodus, fod pobl yn dal i brynu eu hanifeiliaid anwes ar-lein, ac mae ein deddfwriaeth yn golygu na ddylai rhywun brynu anifail anwes yn unman heblaw lle cafodd yr anifail anwes hwnnw ei fridio. Felly, mae'n rhywbeth rydym yn parhau i'w fonitro ac rydym yn gwneud popeth a allwn o fewn y pwerau sydd gennym. Rwyf hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i gryfhau ei deddfwriaeth mewn perthynas â chŵn, yn enwedig cŵn peryglus, oherwydd nid wyf yn credu ei bod yn addas i'r diben, ond nid ydynt wedi bod yn hapus i wneud hynny hyd yma. 

14:40
Diogelu Gwenyn

4. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddiogelu gwenyn? OQ59303

Rydym yn cydnabod y gostyngiad pryderus mewn peillwyr. Nod ein cynllun gweithredu ar gyfer pryfed peillio, y cyntaf o'i fath yn y byd, yw darparu cynefinoedd amrywiol, cysylltiedig gyda llawer o flodau er mwyn sicrhau poblogaethau iach o beillwyr. Yng Ngwent, mae Natur Wyllt yn newid y ffordd y caiff ymylon ffyrdd a pharciau eu cynnal a'u cadw er mwyn sicrhau eu bod o fudd i beillwyr.

Diolch. Weinidog, gofynnais pa gamau sy'n cael eu cymryd i ddiogelu ein peillwyr hollbwysig oherwydd ymddangosiad bygythiad newydd, ac rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol ohono, sef cacynen Asia. Mae'r rhywogaeth oresgynnol hon yn ysglyfaethu gwenyn mêl brodorol ac o ganlyniad, mae'n achosi pryder difrifol, gan fod nifer o achosion wedi'u cofnodi yn ne Lloegr. Gydag adroddiadau'n cofnodi dirywiad amcangyfrifedig o 23 y cant yn niferoedd gwenyn mêl yng Nghymru, mae angen inni fod yn wyliadwrus o'r bygythiad newydd hwn. Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi dweud ei bod yn gwbl hanfodol fod unrhyw un sy'n gweld cacynen Asia yn rhoi gwybod cyn gynted â phosibl er mwyn gallu gweithredu'n gyflym. Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn cydweithio'n agos â Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r bygythiad hwn. A wnewch chi amlinellu pa gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i atal y bygythiad hwn rhag gwaethygu?

Yn sicr, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda DEFRA. Nid wyf yn ymwybodol fod unrhyw un wedi gweld cacynen Asia yng Nghymru, ac nid wyf yn ymwybodol fod unrhyw un wedi gweld un yn Lloegr ers cryn dipyn o amser mewn gwirionedd—yn sicr, nid eleni. Ond pan fo rhywun yn gweld un, yn amlwg mae ein swyddogion yn gweithio'n agos iawn ac maent yn mynd i'r afael â'r mater yn gyflym iawn hefyd, ac nid yw'n rhywbeth rydym eisiau ei weld yng Nghymru. Nid yw'n rhywbeth rwy'n ei drafod yn aml gyda DEFRA, ond fel rwy'n dweud mae swyddogion yn gweithio'n agos iawn i sicrhau, os oes rhywun yn gweld un, fod camau gweithredu'n cael eu cymryd.

Rasio Milgwn

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar yr ymgynghoriad sydd i ddod ar ddyfodol rasio milgwn yng Nghymru? OQ59319

Diolch. Fel y nodwyd yn fanwl yn y ddadl ar 8 Mawrth, byddaf yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar rasio milgwn yn ddiweddarach eleni. Bydd yr ymgynghoriad yn casglu tystiolaeth ar fanteision ac effeithiau deddfu a gwahardd rasio milgwn yng Nghymru.

O sgyrsiau preifat a chyhoeddus, bydd y Gweinidog yn gwybod fy mod yn llwyr gefnogi ymgynghoriad Llywodraeth Cymru. Yng nghyfarfod Pwyllgor yr Economi, Masnach, a Materion Gwledig yr wythnos diwethaf, gofynnais i chi am ymrwymiad, pe bai'r ymgynghoriad sydd ar y ffordd gan Lywodraeth Cymru yn argymell unrhyw beth sy'n achosi cyfyngu ar rasio milgwn yng Nghymru, y byddai stadiwm milgwn Valley yn fy etholaeth yn Ystrad Mynach yn cael ei ystyried, ac y byddech yn cael sgyrsiau gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar sut fyddai llifogydd, o ganlyniad i'r penderfyniad i gau'r trac, yn cael eu lliniaru. Rydym yn poeni am ganlyniad llifogydd yno, pe bai hynny'n digwydd. Felly, a fyddech chi'n barod i gael y sgyrsiau hynny gyda'ch cyd-Weinidogion a nodi cymorth posibl gan Lywodraeth Cymru drwy Cyfoeth Naturiol Cymru, ac wrth i bethau fynd rhagddynt, i gyfarfod â mi, ar y safle o bosibl, i drafod rhai o'r pryderon sydd gennyf ar ran y bobl sy'n byw yn Ystrad Mynach? 

Diolch. Wel, fel y dywedais yr wythnos diwethaf yn ystod y sesiwn graffu yn y pwyllgor, rwy'n hapus iawn i siarad â'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac rwy'n siŵr y byddai hi'n hapus iawn i siarad â chi hefyd, pe bai unrhyw newidiadau i ddefnydd tir yn y dyfodol yn debygol o waethygu risg llifogydd i unrhyw gartrefi neu fusnesau sy'n bodoli eisoes yn eich etholaeth. Rwy'n credu y gallai fod ychydig yn gynamserol ar hyn o bryd, ond rwy'n siŵr, maes o law, pe bai'n angenrheidiol, byddai'n hapus i wneud hynny hefyd. Rwy'n credu bod llawer o ystyriaethau gwahanol ar waith yma. Nid wyf am achub y blaen ar unrhyw ganlyniad i'r ymgynghoriad na dyfodol y trac rasio.

Weinidog, mae trac rasio Valley yn fy etholaeth wedi nodi'n glir y bydd yn gwneud cais am drwydded Bwrdd Milgwn Prydain. Nawr, efallai eich bod eisiau gwahardd rasio milgwn, efallai ddim, ond dyma'r broblem. Rydym i gyd eisiau safon uwch o les anifeiliaid, ond rhaid gofyn y cwestiwn: sut y gallwn weithio gyda'r diwydiant wrth symud ymlaen? Mae gan Fwrdd Milgwn Prydain nifer o ofynion llym o ran lles anifeiliaid, gan gynnwys monitro milgwn o'r adeg pan fyddant yn gŵn bach, i'r adeg pan fyddant yn cael eu cludo i rasys, i'r adeg ar ôl iddynt orffen rasio. Rwy'n falch iawn o glywed am y miliynau o bunnoedd y mae Bwrdd Milgwn Prydain wedi'u darparu i elusennau lles anifeiliaid er mwyn sicrhau bod milgwn sydd wedi gorffen rasio yn cael eu gosod mewn cartrefi cariadus.

Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol o ddeddfwriaeth wael ym maes lles anifeiliaid, felly ni fydd yn syndod i chi fod bwlch mawr arall yng nghyfraith lles anifeiliaid Cymru. Yn y bôn, nid ydym wedi mabwysiadu Rheoliadau Lles Milgwn Rasio 2010. Nawr, mae'r rheoliadau hyn yn helpu awdurdodau lleol i ddiddymu neu atal trwyddedau rasio milgwn, ac maent hefyd yn nodi'r amodau ar gyfer anghymhwyso trwyddedau. Ar ben hynny, er mwyn cael trwydded, rhaid i filfeddyg fod yn bresennol cyn a thrwy gydol y ras, rhaid i amodau cytiau fod o safon uchel, mae'n ofynnol i osod microsglodion mewn cŵn, yn ogystal â chadw cofnodion am filgwn sy'n cymryd rhan mewn rasys a chofnodi anafiadau. Rwy'n credu y byddai'n gam hawdd iawn i Lywodraeth Cymru fabwysiadu a gweithredu'r rheoliadau hyn yma yng Nghymru. Felly, Weinidog, a ydych chi'n barod i weithio gyda Bwrdd Milgwn Prydain i sicrhau bod lles anifeiliaid yn brif flaenoriaeth, neu, yn anffodus, a fydd hon yn sefyllfa, i bob pwrpas, lle bydd gennym forthwyl i dorri cneuen yn y maes sensitif hwn wrth symud ymlaen?

14:45

Wel, fel rwy'n dweud, nid wyf am achub y blaen ar yr ymgynghoriad y byddaf yn ei lansio yn ddiweddarach eleni. Rwyf wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o Fwrdd Milgwn Prydain. Rwyf wedi cyfarfod â sefydliadau lles eraill, ac rwyf wedi cyfarfod â pherchennog stadiwm Valley i drafod materion lles a chynlluniau ar gyfer safle Valley. Fel y dywedwch, nid yw'r safle ar hyn o bryd yn cyrraedd safonau Bwrdd Milgwn Prydain. 

Rwy'n falch fy mod wedi dilyn fy nghyd-Aelod Natasha Asghar oherwydd rwyf eisiau ei gwneud yn glir fy mod innau hefyd wedi cyfarfod â Bwrdd Milgwn Prydain. Gadewch imi ddweud dau beth wrthych y mae Bwrdd Milgwn Prydain wedi cadarnhau iddynt eu gwneud, ac nid wyf yn credu y byddech yn eu hystyried yn safonau lles anifeiliaid uchel. Yn gyntaf, ar drac Bwrdd Milgwn Prydain yn Harlow y llynedd, gwyddom fod milgwn wedi cael eu rasio mewn tymheredd o 32 gradd canradd, pan oedd yr RSPCA wedi dweud wrth berchnogion anifeiliaid anwes domestig gadw eu cŵn dan do. Ac eto roedd rasio milgwn yn parhau ar drac Bwrdd Milgwn Prydain.

Yr ail broblem yw nad yw Bwrdd Milgwn Prydain ond yn cynnig bond ailgartrefu i'r cartrefi cŵn nad ydynt yn gwneud sylw ar rasio milgwn. Felly, maent yn cyfyngu eu cyllid i gartrefi cŵn—ac rwy'n eu galw'n gartrefi cŵn. Nid canolfannau ailgartrefu mohonynt. Rhaid iddynt fynd oddi yno i gartref. Mae 67 y cant o'r cartrefi o dan Fwrdd Milgwn Prydain—. Mae'n ddrwg gennyf, nid yw Bwrdd Milgwn Prydain ond yn ailgartrefu 67 y cant o'u cŵn drwy gartrefi cŵn. Felly, mewn gwirionedd, mae gan Fwrdd Milgwn Prydain lawer o gwestiynau i'w hateb, a byddwn wrth fy modd yn cael sgwrs gyda chi, Natasha. Ond fy mhwynt i yw—

Rwy'n credu bod y Gweinidog yn cael ei anwybyddu'n llwyr yn y drafodaeth hon. [Chwerthin.]

Rwy'n gwybod. Mae'n ddrwg gennyf. Ni allwn ymwrthod, Lywydd.

Fy mhwynt i chi, Weinidog, yw: gan droi'n ôl at drac rasio Valley, y mae Hefin wedi tynnu sylw ato, rwy'n deall—ac rwy'n gobeithio y byddech chi'n cytuno â hyn—pe bai rasio milgwn yn cael ei wahardd ar drac rasio Valley, ni fyddem ond yn edrych ar gyfnod o 9-12 mis lle byddai angen symud cŵn oddi yno i gael eu hailgartrefu. Felly, ni fyddai'r cau posibl—ac rwy'n gwybod na allwch chi wneud sylw ar y gwaharddiad—yn cael effaith hirdymor ar y cŵn o'r cartref hwnnw. Rwy'n gwybod na allwch wneud sylw ar y mater, ond rwy'n siŵr y byddech yn ystyried hynny.

Diolch. Wel, fel rwy'n dweud, ni allaf achub y blaen ar unrhyw ymgynghoriad, ond yn sicr, o'r trafodaethau a gefais—. Soniais yn fy ateb i Natasha Asghar fy mod wedi cyfarfod â chynrychiolwyr nifer o sefydliadau lles ar ystod o faterion. Yn amlwg, mae cartrefu cŵn yn rhywbeth y mae gennyf ddiddordeb arbennig ynddo. Yn amlwg, nid yw 9-12 mis yn llawer iawn o amser. Rwy'n ddiolchgar iawn am yr holl waith y mae ein sefydliadau lles anifeiliaid yn ei wneud yng Nghymru.

Uned Mamau a Babanod i'r Gogledd

6. Pa drafodaethau mae’r Gweinidog wedi'u cynnal gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am uned mamau a babanod i’r gogledd a fyddai'n gwasanaethu pobl Arfon? OQ59297

Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau penodol gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn ag uned mamau a babanod i bobl Arfon. Wrth gwrs, rwy'n ymwybodol o'r cynlluniau i wella mynediad at ddarpariaeth arbenigol uned mamau a babanod i'r bobl sy'n byw yng ngogledd Cymru.

Yn ôl datganiad diweddar gan y bwrdd iechyd lleol, maen nhw’n gweithio efo NHS England i ddarparu uned yng Nghaer, gyda dau wely ynddi ar gyfer mamau o bob rhan o’r gogledd. Dwi’n deall mai yn Ysbyty’r Countess of Chester y bydd yr uned yma. A fedrwch chi gadarnhau hynny?

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd y llynedd gan y Comisiwn Ansawdd Gofal, nodwyd fod gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty’r Countess of Chester yn annigonol, a bod diffyg staff a chyfarpar yn broblemau a oedd angen sylw, ynghyd â phroblemau arweinyddiaeth yn yr ymddiriedolaeth. A ydych chi’n meddwl bod sefydlu dau wely dros y ffin yn Lloegr ar gyfer mamau fyddai angen teithio yn bell, a hynny mewn ysbyty sydd â track record gwael o ran mamolaeth, yn gynllun doeth a synhwyrol yn eich barn chi fel Gweinidog y gogledd?

14:50

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod yna fynediad i'r babanod hyn at y gofal gorau sydd ar gael, a fy nealltwriaeth i yw bod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedi cynnal asesiad o'r galw yn y gogledd ac wedi dod i'r casgliad fod angen ariannu dau wely mewn uned mamau a babanod, ac o fewn eu cynlluniau, daethant i'r casgliad mai'r dull mwyaf priodol o ddarparu hyn oedd drwy weithio ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a GIG Lloegr er mwyn datblygu cynlluniau ar gyfer yr uned a rennir.

A gaf fi groesawu'r cwestiwn gan Siân Gwenllian a rhoi clod iddi hefyd am ei dyfalbarhad ar y mater hynod bwysig hwn i bobl y gogledd? Hoffwn ehangu ar y cwestiwn a ofynnwyd eisoes, Weinidog, fel Gweinidog gogledd Cymru ac fel Aelod yn y rhanbarth hefyd wrth gwrs, tybed pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd anghenion penodol pobl gogledd Cymru, boed yn ymwneud ag iaith neu'n ymwneud â'r pellter y mae'n rhaid ei deithio i gael mynediad at y gwasanaethau hyn, yn enwedig o ystyried breuder posibl y bobl sydd angen cael mynediad at y gwasanaethau hyn—. Tybed pa sicrwydd y gallwch chi ei roi y bydd y ddarpariaeth arfaethedig yn addas ar gyfer pobl gogledd Cymru.

Mae'n hanfodol fod y ddarpariaeth arfaethedig yn cyd-fynd â'r hyn y byddem ei eisiau ar gyfer ein hetholwyr ar draws gogledd Cymru. Fy nealltwriaeth i o'r gwaith a gyflawnodd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yw mai dyma'r ffordd orau o gynnig darpariaeth. Rwy'n cytuno â'r hyn rydych yn ei ddweud am yr iaith; mae'n bwysig iawn fod hynny'n rhan o'r ystyriaeth. Ond rwy'n credu bod rhaid i ni fod yn bragmatig iawn yma a dweud na allwn gael unedau mamau a babanod ym mhob ysbyty, yn anffodus. Nid oes gennym gapasiti na gallu i wneud hynny. Yr hyn rwyf ei eisiau i fy etholwyr, gan eich bod wedi gofyn i mi'n benodol, ac fel Gweinidog gogledd Cymru, yw i'n babanod gael y mynediad gorau yn y ffordd orau sy'n bosibl, ac rwy'n credu mai'r ffordd o sicrhau hynny yw drwy gael uned arbenigol.

Prosiect Down to Earth

7. Pa asesiad mae’r Gweinidog wedi gwneud o effeithiolrwydd gwariant y gronfa datblygu gwledig ar y prosiect Down to Earth? OQ59296

Diolch. Mae disgwyl i brosiect Down to Earth, sy'n cael ei ariannu drwy'r rhaglen datblygu gwledig, gyflwyno'r cais terfynol ym mis Mehefin 2023. Mae gofyn i'r prosiect benodi asesydd annibynnol i adrodd ar yr effaith a'r canlyniadau a gyflawnwyd, a fydd yn cael eu hasesu cyn i'r hawliad terfynol gael ei dalu a chyn i'r prosiect ddod i ben.

Diolch yn fawr, Trefnydd. Mae nifer o etholwyr o ardal yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd wedi cysylltu â fi ynglŷn â phrosiect Down to Earth. Beth maen nhw eisiau gwybod a beth dwi eisiau gwybod hefyd yw a all y Gweinidog esbonio pam mae arian gwledig yn cael ei ddefnyddio i adeiladu ar un o fannau gwyrdd y brifddinas, yng ngogledd y brifddinas, a sut mae ardal drefol fel ein prifddinas yn gymwys i arian y gronfa datblygu gwledig. Diolch yn fawr.

Fe fyddwch yn ymwybodol fod meini prawf llym iawn o gwmpas yr arian hwn. Mae'r prosiect Down to Earth yn cael ei ariannu drwy gydweithrediad cynlluniau LEADER a rhaglen datblygu gwledig yr UE, ac yn sicr mae'n gallu gwneud hynny. Rydych yn ymwybodol iawn, rwy'n siŵr, o'r hyn y bydd y prosiect yn gweithio arno—dau gynllun penodol. Mae prosiectau'r rhaglen datblygu gwledig yn ddarostyngedig i amodau arbennig, ac fel y dywedais, bydd hyn yn cael ei asesu. Mae'n rhaid iddo gael ei asesu gan asesydd allanol annibynnol o fewn chwe mis i ddyddiad cychwyn y prosiect. Nid oes unrhyw bryderon wedi cael eu dwyn i fy sylw. Os oes gennych unrhyw beth yr hoffech ei godi gyda mi, ysgrifennwch ataf os gwelwch yn dda.

Weinidog, mae sicrhau bod gwariant y rhaglen datblygu gwledig yn cael ei ddyrannu a'i ddarparu'n effeithiol yn allweddol i sicrhau ei fod yn cynnig gwerth am arian, gan gefnogi datblygiad cymunedau gwledig ar yr un pryd. Yng nghyfarfod diweddaraf y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig, fe ddywedoch chi na fyddwch chi'n sefydlu bwrdd cynghori ar ddatblygu gwledig mwyach i gynghori ar gynnwys a darpariaeth y rhaglen cymorth gwledig ddomestig. Rwyf am bwysleisio pwysigrwydd trefniadau adrodd ar gyfer cyllid datblygu gwledig newydd i sicrhau tryloywder ac atebolrwydd er mwyn sicrhau monitro effeithiol, yn enwedig o gofio adroddiad damniol Archwilydd Cyffredinol Cymru fod cyllid y rhaglen datblygu gwledig wedi'i ddyrannu gan Lywodraeth Cymru drwy daliadau uniongyrchol heb unrhyw gystadleuaeth. Felly, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r ymrwymiadau, dyraniadau cyllidebol, a'r mesurau arfaethedig, a gwariant ar gyfer pob un o'r blynyddoedd ariannol yn y cyfnod pontio? Diolch.

Wel, cafodd yr adroddiad y cyfeiriwch ato ei gyflawni flynyddoedd lawer yn ôl, ac rydym yn sicr wedi dysgu gwersi, ac nid oes unrhyw feirniadaeth wedi bod ers hynny, a gallaf eich sicrhau y bydd hynny'n cael ei roi ar waith. Y rheswm pam y dywedais nad wyf am sefydlu bwrdd mwyach yw oherwydd nad ydym yn ceisio disodli'r rhaglen datblygu gwledig yn y ffordd y mae'n gweithredu ar hyn o bryd, ac rydym yn canolbwyntio'n helaeth ar gyflwyno'r cynllun ffermio cynaliadwy.

14:55
Bridio Cathod

8. A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i reoleiddio bridio cathod? OQ59300

Mae ein cynllun lles anifeiliaid i Gymru yn manylu ar sut y byddwn yn cyflawni ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu. Rydym yn bwriadu cynnal adolygiad o Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 a bydd hynny'n cynnwys ystyriaeth i ehangu'r cwmpas i gynnwys cathod.

Bendigedig. Yn ddiweddar, cyfarfu fy nghyd-Aelod, Huw Irranca-Davies, yr Aelod o'r Senedd dros Ogwr, a minnau â Cats Protection yn eu canolfan fabwysiadu ym Mhen-y-bont ar Ogwr i drafod y gwaith a wnânt ar wella lles cathod yng Nghymru a ledled y DU. Yn ôl adroddiad diweddaraf Cats Protection sef 'Cats and Their Stats', mae perchnogaeth cathod pedigri yng Nghymru ar gynnydd, gyda 25 y cant o'r cathod a gafodd eu prynu y llynedd yn fridiau pedigri. Er y gall llawer o fridiau cathod pedigri fyw bywydau iach, mae na rai bridiau eithafol gyda diffygion geni genetig sy'n gallu arwain at fywyd poenus iawn i'r gath. Er enghraifft, bydd cathod sydd â wynebau gwastad iawn, fel cathod Persia, yn cael trafferth gyda phroblemau anadlu drwy gydol eu bywydau, neu gathod Scottish Fold, y mae eu gwerthiant bellach wedi'i wahardd yn yr Alban, sy'n dioddef o ddiffygion cartilag difrifol. Yn wahanol i gŵn, nid yw bridio cathod yn cael ei reoleiddio ar hyn o bryd, felly a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad yn y cyfamser i reoleiddio cathod yn yr un modd ag y mae'n rheoleiddio cŵn yng Nghymru? Diolch.

Diolch. Wel, fel y soniais, bydd yr adolygiad o'r rheoliadau bridio cŵn yn cael ei ehangu i weld a oes unrhyw rywogaethau eraill—ac yn sicr byddai cathod yn rhan o hynny—a fyddai'n elwa o gael eu cynnwys yn y rheoliadau, oherwydd rwy'n credu ein bod wedi'i weld gyda chŵn, onid ydym? Fe gyfeirioch chi at y bridiau eithafol, ac yn anffodus, fel y dywedwch, rydym yn ei weld gyda chathod hefyd. Roeddwn yn ymwybodol o'ch ymweliad; fe welais eich lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i wella lles cathod yng Nghymru.

Fel perchennog cathod fy hun, rwy'n falch iawn fod Sarah Murphy wedi cyflwyno'r cwestiwn hwn, ac fe groesewais y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cyfraith Lucy 18 mis yn ôl i geisio gwahardd gwerthiant cathod a chŵn o dan chwe mis oed gan drydydd partïon. Ar ôl darllen eich memorandwm esboniadol i Reoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021—teitl bachog—roedd yn ddiddorol gweld eich bod wedi dweud bod y rheoliadau wedi'u drafftio fel cam cyntaf i sicrhau bod lles cŵn bach a chathod bach yng Nghymru sy'n cael eu bridio a'u gwerthu i drydydd partïon ar hyn o bryd yn cael ei wella'n sylweddol. Fodd bynnag, fel y byddwch yn ymwybodol, Weinidog, mae bridwyr cathod a chŵn yn ddarostyngedig i gynllun trwyddedu sy'n cael ei orfodi drwy awdurdodau lleol. Nodaf hefyd eich bod wedi darparu canllawiau statudol i awdurdodau lleol ar y rheoliadau ochr yn ochr â chreu system Cymru gyfan ar gyfer hyfforddi swyddogion gorfodi awdurdodau lleol. Felly, faint o waith rydych wedi'i wneud ar asesu effeithiolrwydd cyfraith Lucy yng Nghymru, ac i ba raddau y mae swyddogion gorfodi a thrwyddedu yn ei chymhwyso ar lefel awdurdod lleol, a beth yw'r cam nesaf i amddiffyn lles cathod?

Diolch. Yn amlwg, ni chlywodd yr Aelod fy ateb i Vikki Howells—ni wnaethom gyflwyno cyfraith Lucy yma yng Nghymru; deddfwriaeth Lloegr yn unig yw honno. Aethom y tu hwnt i hynny; fe wnaethom gyflwyno Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021, ac fel y dywedais, maent yn mynd ymhellach na chyfraith Lucy.

Mae'r pwynt rydych yn ei wneud ynglŷn â phrosiect gorfodi yr awdurdodau lleol yn un perthnasol iawn yn fy marn i. Yr hyn a wnaethom fel Llywodraeth oedd neilltuo cyllid ar gyfer prosiect tair blynedd i sicrhau bod gan arolygwyr ein hawdurdodau lleol yr holl offer angenrheidiol i allu cynnal ymweliadau â safleoedd bridio cŵn a sicrhau eu bod yn gwybod yn iawn am beth y chwilient a sicrhau y gallent fwrw ymlaen â'r newidiadau sylweddol. Ac yn sicr mae'r prosiect wedi cael cryn dipyn o gydnabyddiaeth, ac rwyf newydd ymestyn y prosiect am dair blynedd arall.

Adfywio Economi Cefn Gwlad

9. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar ymdrechion y Llywodraeth i adfywio economi cefn gwlad? OQ59312

Mae cymorth datblygu gwledig yn y dyfodol yn canolbwyntio ar gyflawni ymrwymiadau craidd ein rhaglen lywodraethu. Rwyf eisoes wedi cyhoeddi pecyn cymorth drwy fy nghynlluniau buddsoddi gwledig, sy'n werth dros £200 miliwn, i gefnogi'r economi wledig a'n hamgylchedd naturiol. 

Diolch i chi am hynny. Y cwestiwn dwi'n ei ofyn yn sylfaenol fan hyn yw pwy sy’n gyrru y gwaith yna o adfywio economi cefn gwlad. Ble mae'r focal point sy'n tynnu beth sy'n teimlo fel plethora o gyrff a phrosiectau a rhaglenni a strategaethau at ei gilydd i fod yn un pecyn strategol, cydlynol? Ble mae'r strategaeth ehangach a phwy sy'n gyfrifol am hynny? Oherwydd, 'slawer dydd, wrth gwrs, mi fyddai Bwrdd Datblygu Cymru Wledig wedi bod yn llenwi peth o'r vacuum yna dwi'n teimlo sy'n bodoli erbyn hyn. Y cwestiwn dwi eisiau ei ofyn, felly, yw a ydych chi'n meddwl bod yr amser wedi dod i ni edrych ar greu rhyw fath o endid neu ryw fath o gyfrwng fydd yn gyfrifol am yrru'r agenda yna ymlaen, oherwydd, ar hyn o bryd, mae'n teimlo jest fel cyfres o nifer o raglenni digyswllt sydd ddim yn tynnu i'r un cyfeiriad.

15:00

Ni chredaf eu bod yn ddigyswllt o gwbl. Gyda’r cynlluniau buddsoddi gwledig, rwyf wedi bod yn awyddus iawn i’n rhanddeiliaid weithio’n agos iawn gyda ni, a’u bod yn dweud wrthym beth maent ei eisiau. Er enghraifft, credaf fod gennym dri chynllun a oedd yn ymwneud yn benodol â garddwriaeth, gan mai dyna'r hyn y dywedwyd wrthyf roedd pobl ei eisiau. Wrth gwrs, gallwch ddweud yn ôl nifer y cynigion a gewch gyda chynlluniau penodol pa mor boblogaidd ydynt ac a oes angen ichi roi rhagor o arian tuag at hynny. Fel y dywedais yn fy ateb i Sam Kurtz, nid oes gennym fwrdd datblygu gwledig mwyach. Roedd yn rhywbeth roeddwn wedi’i ystyried, ond mae fy ffocws bellach ar gyflwyno’r cynllun ffermio cynaliadwy a’r newid i’r cynllun ffermio cynaliadwy yn 2025.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau amserol. Un cwestiwn sydd y prynhawn yma, i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Mae'r cwestiwn i'w ofyn gan Jack Sargeant. 

Northern Powerhouse Rail

1. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru a gaiff penderfyniad Llywodraeth y DU i gategoreiddio Northern Powerhouse Rail fel prosiect Cymru a Lloegr? TQ746

Diolch am eich cwestiwn. Dylai Llywodraeth y DU gategoreiddio Northern Powerhouse Rail fel prosiect i Loegr yn unig, gyda Chymru’n cael cyfran sy'n cyfateb i'r boblogaeth o’r cyllid hwn. Byddai’n gwbl annerbyniol pe bai Llywodraeth y DU yn trin y cyllid ar gyfer y prosiect hwn yn yr un modd ag y mae’n trin cyllid ar gyfer HS2.

Rwy’n ddiolchgar i’r Dirprwy Weinidog am ei ateb, ac rwy’n cytuno â’r hyn a ddywedodd. Fel pe na bai’n ddigon drwg eisoes i Gymru fod Cymru wedi cael ei hamddifadu o'r £5 biliwn o gyllid canlyniadol y mae gennym hawl iddo yn sgil HS2, awgrymir bellach fod Torïaid y DU yn ein hamddifadu o £1 biliwn o gyllid canlyniadol pellach yn sgil rhaglen Northern Powerhouse Rail, gan ei labelu'n brosiect Cymru a Lloegr. Dyna i chi £6 biliwn o bunnoedd sy'n ddyledus i ni bellach. Lywydd, nid wyf yn siŵr a hoffai Aelodau o’r wrthblaid yma yn y Senedd ddarparu map i Brif Weinidog y DU, gan ei bod yn amlwg nad yw’r Torïaid yn San Steffan hyd yn oed yn deall ble mae Cymru, heb sôn am ddeall anghenion pobl Cymru. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi ei bod yn bryd cael gwared ar y Llywodraeth Dorïaidd ddiffygiol hon, mae’n bryd cael etholiad cyffredinol yn y DU, ac mae’n bryd ethol Llywodraeth Lafur ar gyfer y DU, a fydd yn gweithio ar y cyd â Llywodraeth Lafur Cymru i ddarparu’r cyllid seilwaith sydd ei angen arnom ac sy'n ddyledus i ni?

Diolch. Rwy’n cytuno â’r dadansoddiad, yn amlwg. I’r rhai sy’n gwrando sydd heb mor gyfarwydd â fy nghyd-Aelodau ynghylch y ffordd y mae hyn yn gweithio, pan gyhoeddir prosiect mewn maes sydd wedi'i ddatganoli'n llwyr yn Lloegr, byddem yn disgwyl cael cyfran sy'n cyfateb i'r boblogaeth o’r cyllid hwnnw. Felly, pan gyhoeddir prosiect gwerth £100 biliwn fel HS2, byddem yn disgwyl cael cyfran o 5 y cant o hynny, sef oddeutu £5 biliwn, pe bai ond yn gymwys yn Lloegr. Os caiff ei gategoreiddio fel prosiect sydd o fudd i Gymru a Lloegr, ni fyddwn yn cael unrhyw gyllid. Mae'r Trysorlys yn ymestyn pob hygrededd drwy ddweud bod HS2 o fudd i Gymru, er nad oes ganddo un filltir o drac yng Nghymru ac y mae ei achos busnes ei hun yn dangos ei fod yn mynd â channoedd o filiynau allan o economi de Cymru. Mae'n amlwg nad yw hynny'n wir, ac yn sicr, ar ôl torri'r cysylltiad â Crewe, mae unrhyw achos tila a oedd ganddynt wedi dymchwel. Mae'n ddiarhebol. Fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, mae’r ffaith y gall y Trysorlys, yn fympwyol, ar chwiw, benderfynu sut y caiff y cyllid hwn ei ddyrannu yn dangos bod y ffordd rydym yn ymdrin â chyllid o fewn y setliad datganoli yn amlwg ddiffygiol.

Cafwyd awgrymiadau y bydd prosiect Northern Powerhouse Rail yn cael ei gategoreiddio yn yr un modd. Nid yw hynny’n gwbl glir eto. Mae dau opsiwn ar gael i Lywodraeth y DU: gallent ei gategoreiddio fel prosiect Northern Powerhouse Rail, ac os felly, byddem yn disgwyl cael cyfran Barnett am ei fod yn gynllun i Loegr yn unig; neu gallent ei ddosbarthu fel prosiect Network Rail, a fyddai y tu hwnt i'r cyllid canlyniadol Barnett ac ni fyddem yn cael ceiniog. Nid ydym wedi gallu sefydlu pa un o’r rhain sy’n mynd i ddigwydd. Ond mae'r ffaith ei fod yn niwlog ac yn aneglur ynddi ei hun yn rhan o'r broblem. Cyfarfûm â’r rheoleiddiwr y bore yma, Swyddfa'r Rheilffyrdd a'r Ffyrdd, ac mae’n amlwg ym mhob rhan o’r setliad rheilffyrdd fod y penderfyniadau’n cael eu gwneud drwy ganolbwyntio ar Loegr, a ninnau wedyn yn cael y briwsion o’r penderfyniad hwnnw. Nid yw ein hanghenion na’n dyheadau na’n targedau i newid dulliau teithio'n cael eu hystyried pan wneir penderfyniadau ar wariant rheilffyrdd ledled y DU. Felly, dyma enghraifft arall eto o system ddiffygiol y mae angen ei diwygio. Ac os yw'r Trysorlys yn ddigon ffôl i wneud yr un peth gyda phrosiect Northern Powerhouse Rail ag y maent wedi'i wneud gyda phrosiect HS2, byddant yn parhau i wanhau'r achos dros Deyrnas Unedig sy'n rhannu, oherwydd yn amlwg, nid ydynt yn rhannu, ac mae cyfle ganddynt i unioni'r sefyllfa nawr.

15:05

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Ar yr ochr hon i'r meinciau, ein dealltwriaeth ni yw nad oes penderfyniad wedi'i wneud eto ynghylch categoreiddio Northern Powerhouse Rail yn brosiect Cymru a Lloegr. Mae cwestiwn amserol heddiw'n cyfeirio at y rheilffyrdd, ond mae'r stori fwyaf ynglŷn â rheilffyrdd yn y newyddion heddiw yn ymwneud â chyhoeddiad Trafnidiaeth Cymru y bydd yn rhaid i gymudwyr sy’n teithio rhwng Pontypridd a Threherbert yn Rhondda Cynon Taf ddefnyddio gwasanaeth bws yn lle trenau o ddiwedd mis Ebrill tan ddechrau 2024. Bydd hyn yn achosi problemau enfawr i bobl sy'n ceisio byw eu bywydau bob dydd a chyrraedd y gwaith. Mae hyn oll yn digwydd tra bo Llywodraeth Cymru yn ceisio dod â cheir oddi ar y ffordd gyda'r adolygiad ffyrdd ac yn torri cymorth i fysiau. [Torri ar draws.] Mae ganddo bwynt. Wrth gwrs ein bod yn cefnogi gwelliannau i'r seilwaith rheilffyrdd, ond hoffwn ofyn i chi heddiw, Weinidog, pam y gwnaed y cyhoeddiad hwn ar fyr rybudd—[Torri ar draws.]

A all y rheini ar y meinciau cefn roi cyfle i'r siaradwr? Ni allaf ei chlywed. Rwy'n siŵr y bydd y siaradwr yn sicrhau y bydd yn canolbwyntio ar Northern Powerhouse Rail.

Diolch. Hoffwn ofyn i chi heddiw, Weinidog, pam y gwnaed y cyhoeddiad hwn ar fyr rybudd, a pha asesiad rydych chi a Trafnidiaeth Cymru wedi’i wneud o’r tarfu a’r anghyfleustra y bydd hyn yn ei achosi? Rydych yn sôn am y berthynas rhwng San Steffan, ond hoffwn wybod beth yn union rydych chi'n ei wneud i adeiladu’r berthynas â San Steffan os ydych am weld newid. Ni allwch feio San Steffan am bopeth, Weinidog. Rydych yn mynd i orfod gwneud rhywbeth eich hun i geisio sicrhau bod anghenion pobl Cymru yn cael eu cyfleu i'n swyddogion cyfatebol yn San Steffan hefyd.

Ddirprwy Lywydd, mae hwnnw'n ymateb gwael. Cyfarfûm â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn ystod yr wythnosau diwethaf, a dweud y gwir, ac rwyf wedi ymrwymo i berthynas adeiladol ag ef, fel y mae ein swyddogion. Nid oes a wnelo hyn ag adeiladu perthynas adeiladol â San Steffan. Mae a wnelo â’r DU yn cydnabod anghenion Cymru ac anghenion seilwaith Cymru. Roeddwn yn credu bod ei phlaid wedi newid ei meddwl a’u bod yn ein cefnogi mewn achos trawsbleidiol i sicrhau cyllid i Gymru yn sgil HS2. Yn anffodus, mae Natasha Asghar fel pe bai’n methu peidio ceisio sgorio pwyntiau pitw yn hytrach na chanolbwyntio ar y darlun mawr.

Ar y pwynt y gwrthodwyd ei chwestiwn amserol yn ei gylch ond y mae hi wedi ceisio'i ofyn beth bynnag, ar y penderfyniad i gau’r rheilffordd ar gyfer uwchraddio’r metro, mae hon yn enghraifft o fuddsoddiad gan Lywodraeth Lafur Cymru o seilwaith modern o'n cyllid ni ein hunain i greu system fetro fodern ar gyfer Caerdydd a’r Cymoedd. Mae’n mynd i olygu newid seilwaith trawsnewidiol ar ben uchaf y Cymoedd, a fydd, er mawr anghyfleustra i’r cwsmeriaid, yn golygu cau dros dro, er mwyn darparu gwasanaeth llawer gwell. Os oes ganddi gyngor peirianyddol ar sut y gallwn drawsnewid rheilffordd yn llwyr gan ei chadw ar agor ar yr un pryd, rwy’n glustiau i gyd.

Diolch, Jack, am ofyn y cwestiwn hwn.

Roeddem yn gwybod nad oedd gan Lywodraeth y DU gwmpawd moesol, ond ymddengys bod yr ychydig ddyddiau diwethaf yn awgrymu nad ydynt hyd yn oed yn berchen ar gwmpawd. Nid ydynt yn talu sylw i ffiniau moesegol; mae'r un peth yn wir, ymddengys, am wirioneddau daearyddol hefyd. Ni ellir categoreiddio Northern Powerhouse Rail fel prosiect i Gymru a Lloegr. Byddai'n ychwanegu sarhad ar anaf ariannol ffiasgo HS2. Byddai’n costio £1 biliwn amcangyfrifedig i Gymru, fel y clywsom, yn ychwanegol at y siec o £5 biliwn sy’n ddyledus i ni yn sgil HS2. Ni fydd Cymru’n elwa o’r prosiectau hyn; celwydd yw awgrymu fel arall. A gaf fi ofyn i chi, Weinidog—ac rwy'n derbyn yr hyn rydych eisoes wedi'i ddweud yma—pa sgyrsiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael hyd yma gyda Llywodraeth y DU ynghylch y posibilrwydd o gategoreiddio'r prosiect hwn yn brosiect Cymru a Lloegr? Ac os nad ydynt yn barod i ymateb, a fyddech cystal â'u hatgoffa, os gwelwch yn dda, lle mae ffiniau Cymru yn dechrau ac yn gorffen?

Diolch. Fel y soniais, rydym wedi bod mewn cysylltiad â’r Trysorlys, sy’n dweud wrthym fod hyn yn rhan o’r cynllun rheilffyrdd integredig a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2021. Mae’n parhau i fod yn aneglur a fydd hwnnw’n cael ei weinyddu drwy Network Rail neu brosiect Northern Powerhouse Rail. Fel y soniais, mae'r canlyniadau i ni yn dibynnu ar y diffiniad mympwyol hwnnw, nad ydynt yn teimlo bod angen ei egluro nac ymhelaethu arno. Credaf fod hynny’n rhan o’r broblem sydd gennym; nid oes gennym system ddatganoli cyllidol ac eglurder a thryloywder ynglŷn â sut y gwneir penderfyniadau sy’n effeithio ar y DU. Fel y mae’r Prif Weinidog wedi'i nodi dro ar ôl tro, dylai Trysorlys y DU fod ar gyfer y DU, ond mewn gwirionedd, mae’n cael ei drin gan y Llywodraeth yn Llundain fel Trysorlys i Loegr, ac mae’n rhaid inni fodloni ar hynny. Mae'n amlwg nad yw'n sefyllfa gynaliadwy nac yn un y gellir ei hamddiffyn. Rwy'n drist iawn nad yw'r Ceidwadwyr yng Nghymru yn gweld hynny, a'u bod yn hytrach, yn ceisio amddiffyn yr anamddiffynadwy unwaith eto.

15:10

Rwy’n ddiolchgar, Ddirprwy Lywydd. Eironi aruthrol safbwynt y Ceidwadwyr ar hyn, wrth gwrs, yw mai’r rheswm pam fod rheilffordd y Rhondda yn cael ei chau yw am ei bod yn ddarn o seilwaith o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg y mae angen ei newid yn yr unfed ganrif ar hugain. Ers canrif, nid yw’r rheilffordd honno wedi cael y buddsoddiad sydd ei angen arni. Os rhywbeth, mae’n gondemniad o bolisi Llywodraeth y DU mewn perthynas â Chymru. Mae'r ffaith bod y rheilffordd wedi'i chau yn ymateb i'r ffordd y caiff y materion hyn eu trin ar hyn o bryd. Mae’r Gweinidog yn llygad ei le yn ei ddadansoddiad a’i ddull o weithredu. [Torri ar draws.] Rwy'n croesawu tröedigaeth yr Aelod dros Orllewin Clwyd i’r materion hyn hefyd. Fe'i croesawn yn fawr. Rwy'n gobeithio y bydd yn fwy perswadiol gydag aelodau ei blaid yn Llundain nag y bu gyda’i gyd-Aelodau ar y meinciau cefn. Edrychwn ymlaen at weld hynny.

Ond a gaf fi ofyn i chi, Weinidog, wrth fwrw ymlaen â hyn—? Oherwydd gallwn ailadrodd y dadleuon. Mae pob un ohonom yn deall y dadleuon. Mae Llywodraeth anonest y DU yn rhoi ei dwylo ym mhocedi pobl Cymru er mwyn ariannu prosiectau hoff eu Gweinidogion eu hunain a’u gerddi cefn eu hunain. Nid dyma'r ffordd i lywodraethu'r wlad. A wnaiff y Gweinidog geisio mynd â’r mater drwy’r weithdrefn anghydfodau yn y trefniadau rhynglywodraethol i sicrhau bod hyn yn digwydd yn gyhoeddus fel y gall Gweinidogion y DU gyfiawnhau pam fod Cymru bellach yn rhan o Swydd Efrog, a chyfiawnhau pam nad yw Cymru'n cael y buddsoddiad sydd ei angen arni? A gallwn weld a yw'r weithdrefn anghydfodau hon yn gweithio er budd Cymru, neu a yw wedi'i gogwyddo er budd prosiectau hoff yn Lloegr.

Credaf fod cyfle i Lywodraeth y DU bwyso a mesur y dadleuon yma. Yn sicr, mae rôl i'r ASau Ceidwadol a etholwyd yng Nghymru gyflwyno'r achos yn y Trysorlys er mwyn sicrhau nad yw'r byddardod yn parhau. Oherwydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, nid ymddengys bod y penderfyniad wedi'i wneud yn derfynol. Os ydyw, yna'n sicr, nid ydynt yn dweud wrthym. Ond gadewch inni gymryd eu gair nad oes penderfyniad terfynol wedi'i wneud eto. Dyma gyfle i unioni'r sefyllfa, i beidio ag ailadrodd camgymeriadau HS2, ac i sicrhau ein bod yn cael cyllid canlyniadol Barnett ar gyfer y buddsoddiad rhwng dinasoedd a threfi yng ngogledd Lloegr. Ni all unrhyw un ddadlau o ddifrif fod hyn o unrhyw fudd i Gymru. Mae’r penderfyniad i atal HS2 hyd at Crewe yn dirymu safbwynt Ysgrifennydd Gwladol Cymru, sy’n dadlau bod HS2 o fudd i Gymru oherwydd y cysylltedd rhwng gogledd Cymru a Crewe. Nid yw hwnnw bellach yn safbwynt y gellir ei ddadlau'n gredadwy, ac nid oes dadl gredadwy i amddiffyn yr adroddiadau eu bod yn mynd i wneud yr un camgymeriad ddwywaith. Dyma gyfle i ASau Ceidwadol Cymru ddangos eu bod yn poeni am fuddiannau Cymru, i sicrhau nad yw’r Trysorlys yn ailadrodd eu camgymeriad.

Rwyf wedi derbyn cais munud olaf i ofyn cwestiwn atodol ar y cwestiwn amserol. Darren Millar.

Mae gennych gefnogaeth lwyr ar y meinciau hyn i gyllid canlyniadol ddod i Gymru yn sgil prosiect HS2 a phrosiect Northern Powerhouse. Dyna ein safbwynt ni, ac mae hynny’n glir iawn. A gaf fi ofyn beth a wnewch chi i sicrhau cyfran deg o fuddsoddiad ledled Cymru, ac nid yn y de yn unig, o'ch cyllideb drafnidiaeth? Cawsom drafodaeth yn gynharach yn y Siambr am y ffaith bod £800 miliwn yn cael ei wario yn y de ar fetro de Cymru o gymharu â £50 miliwn yn y gogledd. Gwyddom eich bod yn gwario ffortiwn ar ffordd Blaenau’r Cymoedd, yn gwbl briodol, gan fod angen gwneud, ac eto, rydych yn gohirio ac yn dileu prosiectau yn y gogledd. Pryd y cawn ni y cyllid canlyniadol y mae cymaint o'i angen arnom yn y gogledd?

Rwy'n derbyn bod Darren Millar wedi ymrwymo i’w naratif ymrannol o geisio gosod gwahanol rannau o Gymru yn erbyn ei gilydd. Mae arnaf ofn nad yw'r ffeithiau'n cefnogi ei safbwynt. Rydym yn gwario buddsoddiad sy'n cyfateb yn fras i gyfrannau poblogaeth ledled Cymru. Fe wnaethom ddadansoddiad o hyn rai blynyddoedd yn ôl, a chanfod bod y gogledd yn cael cyfran deg.

O ran yr adolygiad ffyrdd, gŵyr hefyd fod cynlluniau wedi eu haddasu neu eu gohirio ledled Cymru, ac mae’n anghofio sôn am y ffaith bod prosiect yr M4 yn y de wedi’i ganslo cyn i’r adolygiad ffyrdd ddechrau. Gwn na fydd hynny'n ei atal rhag canu ei gân, gan ei fod yn credu ei bod yn swnio'n dda i'w etholwyr, ond mae arnaf ofn nad yw'n seiliedig ar realiti. Mae ganddo gyfle i ymgysylltu, fel y credaf ei fod wedi dechrau gwneud, â chomisiwn Burns ar gyfer y gogledd, a fydd yn nodi rhaglen waith a rhaglen fuddsoddi y bydd angen iddi ddod gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y cyd i sicrhau bod gan ogledd Cymru system drafnidiaeth gyhoeddus fodern sydd cystal â’r gorau yn y wlad. Rhaid i hynny ddod gan y ddwy Lywodraeth, ac rwy'n gobeithio y bydd yn cefnogi hynny hefyd.

15:15
4. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem 4 yw'r datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad cyntaf heddiw gan Luke Fletcher.

'Un Fodrwy i'w rheoli nhw i gyd / Un Fodrwy i ddod o hyd iddyn nhw / Un Fodrwy i ddod â nhw ynghyd ac yn y tywyllwch yn eu rhwymo / Yn Nhir Mordor lle mae'r Cysgodion yn gorwedd.'

Ddirprwy Lywydd, er nad wyf wedi darllen yr adnod lawn, bydd adnod y Fodrwy yn cael ei darllen gan lawer o bobl, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y byd ddydd Sadwrn wrth i bobl ddathlu Diwrnod Darllen Tolkien. Pam 25 Mawrth? Dyma'r dyddiad a ddewiswyd ar gyfer dinistrio'r fodrwy, gan gwblhau taith Frodo. Mae Diwrnod Darllen Tolkien wedi’i drefnu gan Gymdeithas Tolkien ers 2003 fel ffordd o ddathlu a hyrwyddo bywyd a gwaith J.R.R. Tolkien drwy ddarllen hoff ddarnau.

Roedd gan Tolkien ddealltwriaeth ddofn a chariad at y Gymraeg, a chwaraeodd yr iaith ran allweddol yn dylanwadu ar enwau pobl a lleoedd yn y canol-fyd. Un o'r enghreifftiau mwyaf adnabyddus o ddylanwad yr iaith, gellir dadlau, oedd ar un o ieithoedd yr Ellyllon, Sindarin, yn arbennig ei system rifo ramadegol a'i threigladau.

Dywedodd Tolkien,

'Cyfansoddwyd enwau pobl a lleoedd yn y stori hon yn bennaf ar batrymau a fodelwyd yn fwriadol ar rai'r Gymraeg…. Efallai fod yr elfen hon yn y chwedl wedi rhoi mwy o bleser i fwy o ddarllenwyr nag unrhyw beth arall ynddi.'

Felly, boed ein bod yn teithio o Bag End i Erebor neu o Hobbiton i Mordor a'r Cracks of Doom—

—dydd Sadwrn yma, dylem ni gofio dylanwad ein hiaith ar rai o'r storïau mwyaf enwog yn y byd.

Rwyf am gloi drwy rannu fy hoff ddarn. Daw ar ôl i Gandalf a Frodo ddod o hyd i'r fodrwy.

'"Well gen i na fyddai'n rhaid iddo ddigwydd yn fy amser i," meddai Frodo. "A finnau," meddai Gandalf, "a phawb sy'n byw i weld y fath adegau. Ond nid yw iddyn nhw ei benderfynu. Y cyfan sydd gennym ni i'w benderfynu yw beth i wneud gyda'r amser a roddwyd i ni."'

Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Ddoe oedd Diwrnod Syndrom Down y Byd, diwrnod a ddewiswyd i dynnu sylw at yr heriau y mae pobl sy'n byw gyda syndrom Down yn dal i'w hwynebu. Dewiswyd yr unfed ar hugain o Fawrth yn benodol i ddangos pa mor unigryw yw trisomedd yr unfed cromosom ar hugain, sy'n achosi syndrom Down.

Mae Diwrnod Syndrom Down y Byd yn codi ymwybyddiaeth fyd-eang, ac wedi'i gydnabod yn swyddogol gan y Cenhedloedd Unedig am yr 11 mlynedd diwethaf i dynnu sylw at y ffaith bod pobl â syndrom Down, ledled y byd, yn cael eu trin yn wael; gwrthodir addysg o safon iddynt; gwrthodir gofal iechyd da iddynt; nid ydynt yn cael cyfle i weithio ac i ennill eu harian eu hunain; nid ydynt yn cael gwneud penderfyniadau am eu bywydau eu hunain; nid yw eu lleisiau'n cael eu clywed.

Rydym yn gwneud cynnydd yma yn y DU, ond nid yw lleisiau’r oddeutu 42,000 o bobl sy’n byw gyda syndrom Down yng Nghymru a Lloegr yn cael eu clywed yn ddigon uchel. Thema ymwybyddiaeth eleni yw 'gyda ni, nid ar ein cyfer'. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn galw am gyfranogiad llawn ac effeithiol i bobl ag anableddau, ond mae llawer o sefydliadau yn eithrio pobl â syndrom Down rhag cymryd rhan yn eu gwaith. Maent yn gwneud penderfyniadau ar eu cyfer, nid gyda hwy. Yma yng Nghymru, rwy'n gobeithio y gallwn wneud yn well. Diolch yn fawr.

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Mesuryddion rhagdalu a gwasanaethau cyngor ynni

Eitem 5 sydd nesaf, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21: mesuryddion rhagdalu a gwasanaethau cyngor ynni. Galwaf ar Jack Sargeant i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8219 Jack Sargeant

Cefnogwyd gan Alun Davies, Carolyn Thomas, Delyth Jewell, Heledd Fychan, Jane Dodds, Jayne Bryant, Joyce Watson, Llyr Gruffydd, Luke Fletcher, Mike Hedges, Peredur Owen Griffiths, Rhianon Passmore, Rhys ab Owen, Sarah Murphy, Sioned Williams, Vikki Howells

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu:

a) ei fod yn sgandal genedlaethol bod 600,000 o bobl wedi cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu yn 2022 oherwydd na allent fforddio eu biliau ynni;

b) bod rheoleiddiwr ynni Ofgem wedi methu â diogelu aelwydydd bregus drwy ganiatáu i gyflenwyr ynni osgoi gwiriadau priodol;

c) y dylai'r rhai sy'n cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu gael eu digolledu'n briodol gan gyflenwyr ynni a'u newid yn ôl yn rhad ac am ddim. 

2. Yn nodi:

a) y cafodd cyflenwad ynni 3.2 miliwn o bobl ei dorri y llynedd oherwydd eu bod wedi rhedeg allan o gredyd ar eu mesuryddion rhagdalu;

b) y gallai biliau ynni cyfartalog cartrefi godi hyd yn oed ymhellach, gan roi baich ychwanegol ar aelwydydd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd oherwydd yr argyfwng costau byw. 

3. Yn cydnabod cynllun peilot ynni yn y cartref 2021-22 Llywodraeth Cymru, a oedd yn rhoi cyngor rhagweithiol a chefnogaeth allgymorth i bobl a oedd, neu a oedd mewn perygl o fod, mewn tlodi tanwydd. 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwasanaeth cyngor ynni yn y cartref ledled Cymru i sicrhau bod pob cartref yn gallu cael y cymorth a'r cyngor sydd eu hangen arnynt.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.

Mae’r cynnig hwn yn benllanw misoedd o ymgyrchu. Ers yr hydref y llynedd, rwyf wedi bod yn galw am waharddiad ar osod mesuryddion rhagdalu gorfodol. Roedd hyn am fod cwsmeriaid ar fesuryddion rhagdalu yn cael eu gorfodi i dalu mwy am eu trydan, ond hefyd oherwydd y dystiolaeth gynyddol drwy gydol y flwyddyn fod pobl yn cael eu gorfodi i newid i fesuryddion rhagdalu ar raddfa ddigynsail.

Yn hwyr y llynedd, ysgrifennodd y newyddiadurwr a'r ymgyrchydd, Dean Kirby, o bapur newydd The i stori yn disgrifio eistedd mewn llys lle cyhoeddwyd bron i 400 o warantau i osod mesuryddion rhagdalu gorfodol mewn llai na thri munud—400 o warantau mewn llai na thri munud. Ddirprwy Lywydd, yn sydyn, roedd popeth yn gwneud synnwyr: cafodd mesuryddion 600,000 o bobl eu newid y llynedd yn unig, gyda dim ond 72 o'r gwarantau hyn yn cael eu gwrthod, a'r cynnydd o fis i fis yn nifer y bobl a oedd cael eu gorfodi i newid. Datgelodd stori Dean y rheswm y tu ôl i'r niferoedd hyn. Nid oedd unrhyw archwiliadau o gwbl yn cael eu cynnal i weld a oedd unrhyw un o'r bobl hyn yn agored i niwed. Fel yr eglurodd Dean, ni ddarllenwyd eu henwau hyd yn oed ar y diwrnod hwnnw yn y llys.

Ddirprwy Lywydd, gadewch inni fod yn glir ynghylch yr hyn sydd i fod i ddigwydd: dylai cyflenwyr ynni roi cyfle i unrhyw un sy'n ystyried eu hunain yn agored i niwed wrthod mesurydd rhagdalu. Yn lle hynny, roedd Ofgem yn caniatáu i'r cyflenwyr ynni eu hunain ddiffinio’r hyn yw unigolyn agored i niwed, a manteisiwyd ar hyn gyda chanlyniadau trychinebus. Roedd Llywodraeth y DU ac Ofgem yn cysgu wrth y llyw, ac er bod yr ystadegau rwyf wedi’u nodi eisoes wedi'u gwneud yn gyhoeddus, ni wnaethant unrhyw beth. Nid nes i The Times ddatgelu asiantau a oedd yn gweithio ar ran Nwy Prydain yn torri'r rheolau ar gamera y gwnaeth y rheolydd, Ofgem, gyfaddef unrhyw gamweddau. Dylai unrhyw reoleiddiwr a welodd y cynnydd aruthrol hwn yn nifer y gwarantau a gyhoeddwyd y llynedd, gan gynnwys dros 20,000 ohonynt mewn un llys yn Abertawe, fod wedi gweithredu. Ac mae hyd yn oed y moratoriwm presennol ar osod mesuryddion rhagdalu yn digwydd yn wirfoddol, yn syml oherwydd y fideos Nwy Prydain hynny.

Nawr, Ddirprwy Lywydd, nodaf alwad genedlaethol ddiweddar Ofgem am dystiolaeth ar fesuryddion rhagdalu, ond mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn rhannu pryder gwirioneddol ynglŷn ag a fydd y rheini sydd eisoes wedi cael cymaint o gam gan y rheoleiddiwr yn ymgysylltu â'r broses honno. Ym mis Chwefror, lansiais fy arolwg fy hun i gasglu tystiolaeth, ac roedd hyn oherwydd, ar y pryd, dywedodd Ofgem wrthyf yn y cyfarfod a gefais gyda hwy nad oedd unrhyw dystiolaeth i'w chael o gamweddau y tu allan i Nwy Prydain, er bod yr ystadegau’n profi fel arall. Ac roedd yr ymatebion a gefais, Ddirprwy Lywydd, yn fy adroddiad, 'A National Scandal: The true cost of pre-pay meters' yn anodd iawn i'w darllen. Maent yn darlunio'n glir pa mor anodd yw bywyd ar fesurydd rhagdalu i gynifer o deuluoedd. Dywedodd un ymateb, a dyfynnaf,

'Mae fy ngŵr yn gyn-filwr yn y fyddin gyda fferau wedi'u hadlunio, anhwylder straen wedi trawma a llawer mwy o broblemau iechyd'.

Aethant ymlaen i ychwanegu,

'Ar un achlysur, roeddwn yn teimlo cymaint o gywilydd yn gorfod ffonio i ofyn a allent roi credyd ar fy mesuryddion, y gwnaethant ei gymryd yn ôl cyn gynted ag yr oedd gennyf arian i'w roi ar y mesuryddion, gan fy rhoi yn ôl yn y man cychwyn yn y bôn. Ni wneuthum eu ffonio wedyn, ac yn lle hynny, bu'n rhaid imi wneud heb'.

Ddirprwy Lywydd, ym Mhrydain yn yr unfed ganrif ar hugain, sut rydym yn gwneud y fath gam â'r rheini sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog i'r fath raddau nes eu bod yn cael eu gadael yn y tywyllwch ac yn yr oerfel yn eu cartrefi eu hunain? Mae'r gŵr hwn yn arwr rhyfel. Peryglodd ei fywyd dros bob un ohonom, ac eto, yn ei awr gyfyng, mae'r system wedi gwneud cam mawr ag ef.

Cafodd mesurydd pâr arall, ill dau'n derbyn taliadau annibyniaeth personol, a chanddynt dri o blant ifanc, ei newid gan eu cwmni ynni ym mis Ionawr. Roeddent yn dweud hyn,

'Roeddem yn teimlo ein bod wedi cael ein bwlio i gael mesurydd rhagdalu gan eu bod wedi rhoi llawer o ddyled i ni allan o unman na allem fforddio'i thalu. Ar hyn o bryd, rydym yn talu £10 y dydd am drydan yn unig, ac rydym yn ei chael hi'n anodd yn ariannol'.

Mae eu sefyllfa, Ddirprwy Lywydd, mor anodd bellach fel eu bod wedi cael eu gorfodi i fenthyg arian gan deulu i ychwanegu at eu mesurydd. Yn drist iawn, mynegodd nifer o ymatebwyr eraill eu bod hwythau hefyd wedi gorfod benthyca arian er mwyn cadw'r golau ymlaen. Mae’r effaith y mae mesuryddion rhagdalu yn ei chael ar iechyd y rheini sy’n cael eu gorfodi i fyw gyda hwy mor syfrdanol o glir yn yr adroddiad hwn. Gosodwyd mesurydd rhagdalu gorfodol yng nghartref un unigolyn sydd ag arthritis difrifol ddiwedd y llynedd. Esboniodd unigolyn arall sut maent yn rhedeg allan o gredyd yn rheolaidd ar eu mesurydd nwy, a bod y cyfnodau estynedig o oerfel wedi gwaethygu eu hasthma yn sylweddol.

Fel rwyf wedi'i ddweud yn y Siambr hon ar sawl achlysur, Ddirprwy Lywydd, mae hwn yn fater o fywyd a marwolaeth. Dywedodd un ymatebydd i’r arolwg, er eu bod yn ddibynnol ar ddyfais feddygol sy’n rhaid ei chysylltu ynglŷn â’r prif gyflenwad, eu bod wedi’u rhoi ar fesurydd rhagdalu. Bob dydd, maent yn gorfod gwneud y dewis i gyfyngu ar eu defnydd o ynni fel y gallant fod yn sicr y gallant ddefnyddio eu dyfais feddygol. A allwch chi ddychmygu'r straen a'r pryder y mae'n rhaid bod hyn yn ei achosi i'r teulu hwn? Mae’n wirioneddol dorcalonnus fod teuluoedd ledled y Deyrnas Unedig yn gorfod byw fel hyn.

Ddirprwy Lywydd, yn anffodus, nid yw'n syndod fod llawer o'r rheini a ymatebodd i fy arolwg wedi mynegi sut mae eu hiechyd meddwl wedi dioddef o ganlyniad uniongyrchol i'w mesurydd rhagdalu. Mae'r gorbryder hwn wedi'i waethygu gan y ffordd y cawsant eu trin gan eu cyflenwyr ynni. Bydd y Gweinidog yn cofio imi dynnu sylw yn ddiweddar at achos mam a fu'n aros ar y ffôn am dros awr, yn eistedd yn y tywyllwch, yn eistedd yn yr oerfel, ar ôl i’w mesurydd rhagdalu roi’r gorau i weithio. Pan gafodd ei chysylltu o’r diwedd ac esbonio bod angen cymorth arnynt, a bod eu mab chwech oed yn amlwg yn ofidus iawn, yn bryderus iawn, yn crio gartref yn y tywyllwch, yn yr oerfel, yr unig beth a wnaeth yr unigolyn ar ben arall y ffôn oedd chwerthin, a rhoi'r ffôn i lawr. Mae'r peth yn gwbl warthus, Ddirprwy Lywydd.

Mae pob un o'r bobl hyn sydd wedi ymateb i fy arolwg, pob un o'r bobl hyn rydym wedi'u disgrifio yn yr ystadegau hyn, wedi cael cam gan eu cyflenwr ynni. Maent wedi cael cam gan Ofgem, ac maent wedi cael cam gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Hoffwn ddweud yn gwbl glir, Ddirprwy Lywydd, nad oes gennyf unrhyw ffydd yn Ofgem o gwbl, ond mae rôl glir i Lywodraeth y DU ddeddfu. Bydd fy nghyd-Aelodau’n cofio, ar ddiwedd y 1990au, y cydnabuwyd na ddylid caniatáu i gwmnïau preifat dorri cyflenwad dŵr pobl. Mae ynni, hefyd, Ddirprwy Lywydd, yn fater o fywyd neu farwolaeth. Dylem wneud yr un peth a deddfu i atal cwmnïau rhag torri cyflenwadau ynni pobl, ac mae hyn yn cynnwys torri cyflenwadau ynni pobl am fod eu mesurydd rhagdalu wedi rhedeg allan o gredyd.

Ddirprwy Lywydd, yn y cyfamser yma yng Nghymru, mae angen inni edrych ar gyflwyno'r cynllun peilot cyngor ynni domestig yn y cartref ar raddfa fwy i sicrhau bod pobl yn cael eu grymuso â mynediad at y cyngor gorau posibl. Ac mae angen inni edrych ar ba bwerau sydd gennym i atal landlordiaid rhag gallu gorfodi tenantiaid i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu hefyd. Ddirprwy Lywydd, i gloi, hoffwn ddweud hyn: mae pobl wedi cael cam mawr gan y rhai sydd i fod i’w hamddiffyn yn y farchnad ynni. Rwy'n gobeithio y gwelwn ddiwedd ar y sgandal genedlaethol hon, ac rwy'n gobeithio y daw i ben cyn bo hir. Diolch.

15:25

Yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf sydd ar gael gan y rheolydd ynni, Ofgem, roedd oddeutu 4.1 miliwn o gwsmeriaid trydan a 3.3 miliwn o gwsmeriaid nwy ar fesurydd rhagdalu ym Mhrydain yn 2020, gyda nifer gyfrannol fwy o aelwydydd yng Nghymru yn defnyddio mesuryddion rhagdalu nag yn Lloegr. Cymru sydd â’r gyfran uchaf o fesuryddion rhagdalu nwy o gymharu â gwledydd eraill Prydain, ac maent yn aml yn cael eu defnyddio gan rai o’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, fel y clywsom, pobl sydd ar incwm isel ac sydd eisoes mewn dyled i’w cyflenwyr. Ynys Môn sydd â'r lefel uchaf o fesuryddion rhagdalu yng Nghymru, gyda bron i 29 y cant, ac yna Gwynedd, gyda bron i 22 y cant.

Er gwaethaf ymdrech unedig gan Ofgem yn 2020, gan gynnwys cyflwyno amodau trwydded newydd i gyflenwyr ar gyfer nodi cwsmeriaid agored i niwed, cynnig credyd brys a chredyd oriau cyfeillgar, ac ystyried gallu cwsmeriaid i dalu wrth sefydlu cynlluniau ad-dalu dyledion, gwaethygodd yr argyfwng prisiau ynni byd-eang ddifrifoldeb y sefyllfa, gyda nifer y mesuryddion rhagdalu sydd ar waith ledled y DU yn cynyddu. Ym mis Ionawr, cyn i ymchwiliad The Times ddatgelu bod Nwy Prydain yn anfon casglwyr dyledion fel mater o drefn i dorri i mewn i gartrefi cwsmeriaid a gosod mesuryddion rhagdalu gorfodol, hyd yn oed pan oeddent yn gwybod eu bod yn eithriadol o agored i niwed, ysgrifennodd Ysgrifennydd busnes y DU ar y pryd at y cyflenwyr ynni, gan nodi y dylent roi'r gorau i orfodi cwsmeriaid sy'n agored i niwed i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu, ac y dylent wneud mwy o ymdrech i helpu'r rheini sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau. Galwodd am gyhoeddi ymchwiliad diweddar y cyflenwyr ynni i gwsmeriaid agored i niwed ar unwaith, a rhyddhau data ar geisiadau roedd cyflenwyr wedi eu gwneud i osod mesuryddion gorfodol.

Ym mis Chwefror, gofynnodd Ofgem i gwmnïau ynni roi'r gorau i osod mesuryddion rhagdalu gorfodol, a gorchmynnodd yr Arglwydd Ustus Edis i lysoedd ynadon yng Nghymru a Lloegr roi'r gorau ar unwaith i awdurdodi gwarantau i gwmnïau ynni osod mesuryddion rhagdalu gorfodol. Ar yr un diwrnod, cyfarfu Gweinidog ynni’r DU ar y pryd â phennaeth Ofgem a dweud wrtho fod Llywodraeth y DU yn disgwyl camau gweithredu cryf ar unwaith pan na fydd cyflenwyr yn cyflawni eu rhwymedigaethau. Mae gwaharddiad dros dro Ofgem ar osod mesuryddion rhagdalu gorfodol yn cynnwys atal gosod mesuryddion drwy warant, atal newid mesuryddion clyfar i fesuryddion rhagdalu o bell heb gytundeb penodol y cwsmer, a rhoi’r gorau i geisiadau newydd i’r llys am warantau gosod oni bai bod amheuaeth o ddwyn.

Yn ystod cyllideb Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Canghellor, o 1 Gorffennaf, y bydd taliadau ynni rhagdalu'n cael eu cysoni ar gyfer cwsmeriaid sy’n talu drwy ddebyd uniongyrchol ar sail barhaol. Mae Climate Cymru wedi mynegi pryder nad yw hyn yn effeithio ar y taliadau sefydlog, sef yr hyn sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o gost uwch mesuryddion rhagdalu. Yn y cyd-destun hwn, mae Llywodraeth y DU wedi gofyn i Ofgem adrodd yn ôl ar opsiynau ar gyfer atal y taliadau sefydlog uwch y mae defnyddwyr mesuryddion rhagdalu yn eu talu. Ym Mhwyllgor Dethol Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Senedd y DU ar 14 Mawrth, cadarnhaodd Ofgem fod pob cyflenwr bellach yn ymestyn yr ataliad ar osod mesuryddion rhagdalu gorfodol y tu hwnt i 1 Ebrill, ac na fydd yn cael ei godi hyd nes bod Ofgem yn fodlon fod cyflenwyr yn gweithredu'n unol â chod ymarfer newydd.

Mae National Energy Action, NEA, o’r farn fod angen sicrhau ar unwaith hefyd fod y camau gorfodi'n gryf, gan gynnwys gwrthdroi gosodiadau na ddylid bod wedi'u gwneud a digolledu’r aelwydydd yr effeithir arnynt, er mwyn cryfhau amddiffyniadau ac amodau trwyddedau, a chael adolygiad sylfaenol o fesuryddion rhagdalu, lleihau nifer y mesuryddion rhagdalu traddodiadol a ddefnyddir a mynd i'r afael â dyledion. Cred NEA y dylid hyrwyddo a darparu mesurau effeithlonrwydd ynni ochr yn ochr â chyngor a chymorth uniongyrchol annibynnol i aelwydydd agored i niwed sydd mewn tlodi tanwydd neu sydd mewn perygl o fod mewn tlodi tanwydd ar wella effeithlonrwydd ynni'r cartref, gwneud y gorau o incwm a rheoli neu leihau costau ynni a chael mynediad at y cymorth ehangach sydd ar gael yn y farchnad ynni.

Mae blwyddyn wedi bod ers i Lywodraeth Cymru ymgynghori ar iteriad nesaf ei rhaglen Cartrefi Clyd, ac mae angen inni gyflymu’r gwaith o wella effeithlonrwydd ynni cartrefi sydd mewn tlodi tanwydd ar fyrder. Hoffai NEA a Chynghrair Tlodi Tanwydd Cymru weld Llywodraeth Cymru yn nodi amserlen ar gyfer sicrhau bod y cynllun nesaf sy’n cael ei arwain gan y galw yn weithredol cyn y gaeaf, gan ganolbwyntio ar y rhai gwaethaf yn gyntaf—y rheini ar yr incwm isaf, sy’n byw yn y cartrefi lleiaf effeithlon—a defnyddio dull priodol aml-fesur, 'ffabrig yn gyntaf'. Anfonodd etholwr e-bost ataf, yn dweud mai bwriad mesuryddion rhagdalu oedd atal pobl rhag mynd i ôl-ddyledion, ac mai’r broblem yma yw bod y cwmnïau cyfleustodau’n codi cyfradd uwch ar y bobl sy’n defnyddio mesuryddion rhagdalu, a bod angen i hynny newid. Ni ellir cyfiawnhau cosbi rhywun am dalu ymlaen llaw a chosbi rhywun am fod ar incwm isel. Byddwn yn falch o gefnogi’r cynnig hwn yn unol â hynny.

15:30

Rwy'n croesawu'r ddadl hon. Rwy'n llwyr gefnogi dadl y cynnig ei bod yn sgandal genedlaethol fod 600,000 o bobl wedi cael eu gorfodi ar fesuryddion rhagdalu oherwydd na allent fforddio eu biliau ynni, ond tra bo dosbarthu a chyflenwi nwy a thrydan a diogelu defnyddwyr yn faterion a gadwyd yn ôl, rwyf am nodi hefyd na fyddwn byth yn gallu bod yn gwbl hyderus y gallwn amddiffyn ein dinasyddion rhag y math hwn o weithredu niweidiol a chywilyddus hyd nes bod pwerau dros y materion hyn wedi'u datganoli i Gymru. Nid yw'r gwaharddiad dros dro presennol ar osod mesuryddion rhagdalu yn ddiwedd ar bethau, a hyd yma, nid yw'r cod ymarfer y siaradodd Mark Isherwood amdano i gyflenwyr yn orfodol yn gyfreithiol.

Fel mae'r cynnig yn gwneud yn glir, mae tlodi tanwydd ar lefelau difrifol yng Nghymru, a gallai ddyfnhau ymhellach byth. Mae'r rhai sydd wedi cael eu gorfodi i fynd ar fesuryddion rhagdalu fel arfer yn ei chael hi'n anodd nid yn unig gyda chostau byw, ond hefyd gyda dyledion. Yr ymchwiliad pwyllgor cyntaf yr oeddwn yn rhan ohono ar ôl cael fy ethol oedd yr un a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn hydref 2021 ar ddyled a'r pandemig. Fel yn achos argyfwng COVID, bydd dyled lethol yn sicr yn un o ganlyniadau erchyll yr argyfwng costau byw hwn, gan ddwysáu canfyddiadau pryderus yr adroddiad hwnnw, a gyhoeddwyd fel yr oedd prisiau ynni'n dechrau codi. 

Yn ogystal â sicrhau iawndal priodol gan gyflenwyr ynni i'r rhai a orfodwyd i fynd ar fesuryddion rhagdalu, mae National Energy Action yn iawn i alw ar Lywodraeth y DU hefyd i ariannu amnest dyledion, gan ddefnyddio'r cyllid a ddaeth ar gael efallai yn sgil y cwymp diweddar mewn prisiau cyfanwerthu. Mae'r cynnig hefyd yn nodi'r angen i sicrhau cyngor a chymorth i'r rhai sydd mewn perygl o wynebu tlodi tanwydd, ac mae croeso mawr i hynny, ond mae'n rhaid cael mesurau effeithlonrwydd ynni i gyd-fynd â hynny i helpu i atal tlodi tanwydd yn y lle cyntaf. Drwy gwestiwn ysgrifenedig yn y Siambr hon, a chyda fy nghyd-aelodau o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ceisiais gael eglurder ynghylch y llinell amser ar gyfer pryd y bydd yr iteriad nesaf o raglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn weithredol—nid wedi'i gaffael, ond yn weithredol. Fel y dywedodd Mark Isherwood, rhaid inni gyflymu'r gwaith o wella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi lle mae pobl yn byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru. Yr hyn a gawsom hyd yma, gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yw ymrwymiad y bydd cynllun newydd, cenedlaethol sy'n cael ei arwain gan y galw, ac sy'n canolbwyntio ar gartrefi mewn tlodi tanwydd, yn cael ei gaffael erbyn diwedd y flwyddyn, ac na fyddai bwlch yn y ddarpariaeth rhwng y rhaglenni newydd a'r rhaglenni presennol. 

Felly, hoffwn ofyn eto, Weinidog: pryd fydd y cynllun sy'n cael ei arwain gan y galw, sy'n canolbwyntio ar y rhai ar yr incwm isaf, sy'n byw yn y cartrefi lleiaf effeithlon, yn weithredol? Atebwch yn glir, gan fy mod yn gobeithio y bydd pob Aelod a'r Gweinidog yn cytuno ei bod yn hanfodol fod y rhai sy'n wynebu'r caledi mwyaf yn cael eu helpu cyn gynted â phosibl i fyw mewn cartrefi cynhesach ac iachach cyn i'r gaeaf nesaf wthio pobl i ddyled fwy niweidiol byth a nosweithiau hyd yn oed yn dywyllach ac oerach. 

15:35

Mae'n ddrud iawn i fod yn dlawd; mae bron bopeth yn costio mwy. Pe bawn i wedi bod yn cael y drafodaeth hon tua 20 mlynedd yn ôl, byddwn wedi dweud bod popeth yn costio mwy, ond cyrhaeddodd y siopau disgownt Almaenig, felly nid yw popeth yn costio mwy, ond ychydig iawn o bethau sydd heb fod yn costio mwy i bobl dlawd. Mae'n gwneud synnwyr busnes da i'r cyflenwyr ynni gael mesuryddion rhagdalu. Maent yn cael incwm gwarantedig am yr ynni sy'n cael ei ddefnyddio. Nid ydynt yn datgysylltu pobl, oherwydd maent yn datgysylltu eu hunain. Mae Cyngor ar Bopeth wedi darganfod yn y DU bod dros 2 filiwn o bobl yn cael eu datgysylltu o leiaf unwaith y mis, a bod tua un o bob pum cwsmer ar fesurydd rhagdalu a ddatgysylltwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi treulio o leiaf 24 awr heb nwy na thrydan. Dim ystyriaeth i'r rhai sydd heb ynni.

Mae'n amlwg fod datgysylltu o ganlyniad i brinder credyd yn effeithio'n rheolaidd ar fywydau'r rhai sy'n byw gyda mesuryddion rhagdalu. Ni allwn ganiatáu i system barhau os yw'n arwain at beryglu bywydau pobl fregus am eu bod yn wynebu cael eu datgysylltu'n gyson. Mae'n effeithio'n anghymesur ar yr henoed, y rhai sy'n agored i niwed a phobl â phlant ifanc. Gall oedolion hŷn golli gwres y corff yn gyflym, yn llawer cyflymach na phan oeddent yn ifanc. Gall newidiadau yn eich corff sy'n dod gyda heneiddio ei gwneud hi'n anodd ichi fod yn ymwybodol eich bod yn mynd yn oer. Gall oerfel mawr droi'n broblem beryglus—cyn i berson hŷn wybod beth sy'n digwydd hyd yn oed, mae hypothermia'n dechrau. 

I blant sy'n byw mewn cartref oer, maent mewn mwy o berygl o asthma, heintiau anadlol, datblygiad arafach a risg uwch o anabledd, problemau iechyd meddwl, yn ogystal â lefelau isel o hunan-barch a hyder, cyrhaeddiad addysgol gwael, maeth gwael ac anafiadau. Rydym yn gwneud llawer o bethau yn siarad am blant a rhoi cyfle iddynt mewn bywyd—mae dechrau bywyd mewn cartref oer yn eich rhoi dan anfantais enfawr. 

Os ydych chi ar dariff sy'n cynnwys taliadau sefydlog, bydd yn rhaid i chi eu talu bob amser, ni waeth a ydych chi'n defnyddio ynni ai peidio mewn gwirionedd. Mae bod heb arian ar gyfer y mesurydd rhagdalu yn golygu bod heb ynni. Beth mae bod heb ynni'n ei olygu mewn gwirionedd? Mae'n golygu bod heb olau. Mae'n golygu bod heb wres. Mae'n golygu bod heb deledu. Mae'n golygu bod heb ddŵr poeth i ymolchi neu olchi eich dillad, dim peiriant golchi, dim bwyd na diod poeth, dim cwcer na meicrodon, dim oergell na rhewgell, a dychwelyd i godi a mynd i'r gwely yn dibynnu ar y golau y tu allan. Mae hwn yn fyd ymhell y tu hwnt i fywyd Aelodau'r Senedd, ond dyma fywyd llawer o'n hetholwyr. 

Yna ceir creulondeb ychwanegol taliadau sefydlog. Rhaid talu taliad ar ddiwrnodau pan na allwch fforddio defnyddio unrhyw ynni, ffioedd sy'n cael eu codi os nad ydych wedi defnyddio unrhyw ynni o gwbl. O fis Ebrill 2023, bydd cwsmeriaid yn y DU yn talu tâl sefydlog cyfartalog o tua 53c y dydd am drydan, a 29c y dydd am nwy. Felly, os yw rhywun heb nwy, mae hynny'n golygu, os nad ydynt yn defnyddio unrhyw ynni am dridiau, sefyllfa nad yw'n anarferol, byddant yn gwneud taliad ar eu mesurydd rhagdalu ac yn syth mae'r arian sydd ar gael yn gostwng dros £1.50 cyn iddynt dalu tâl am eu defnydd. 

Dywedodd etholwr wrthyf ei bod yn costio dros £2.50 i wresogi dysglaid o gawl. Roedd yn rhaid imi egluro bod hynny'n cynnwys y taliadau sefydlog yn bennaf. Yn yr enghraifft hon, mae rhagdaliad o £10 yn gweld dros ei chwarter yn mynd ar daliadau sefydlog ar ddiwrnodau pan na ddefnyddir unrhyw ynni. Rwy'n credu bod hynny'n hollol anghywir, ac mae'n brifo'r bobl dlotaf yn fawr. Rwy'n gwybod fy mod yn rhygnu ymlaen am hyn, ac rwy'n siŵr fod pobl yn cael llond bol arnaf yn rhygnu ymlaen am y peth, ond mae gwir angen gwneud rhywbeth amdano. Pe baent ond wedi cynnau'r golau, byddent yn dal i fod wedi defnyddio eu £1.50. Hefyd, pan fydd wedi rhedeg allan, mae'n rhaid i chi ailosod y boeler, sydd, gyda boeler hŷn, yn gallu cymryd sawl ymgais i'w ailosod. Hoffwn ychwanegu y dylid diddymu taliadau sefydlog. Os nad oes modd eu diddymu, dylid eu hychwanegu at y tariff. Os na fydd cwmnïau ynni'n diddymu ac yn talu'r gost o'u helw hwy, dylid ei ychwanegu at y costau, fel nad yw'r rhai ohonom sydd ag ynni bob dydd, sef pawb yn yr ystafell hon, yn cael eu sybsideiddio i bob pwrpas gan bobl na allant fforddio ynni bob dydd. Mae'n rhaid inni roi'r gorau i daliadau sefydlog ar ddiwrnodau pan nad oes unrhyw ynni'n cael ei ddefnyddio ac mae'n rhaid i honno fod yn flaenoriaeth gyntaf. Mae'n brifo pobl, mae'n niweidio cynnydd plant, mae'n peryglu bywydau pobl oedrannus. 

Gyda'r cyflenwad ynni, rydym wedi symud o fonopoli gwladol i oligopoli, lle mae'r elw'n fawr a'r defnyddiwr yn talu. Er y byddwn yn hoffi gweld ynni'n cael ei gymryd yn ôl i ddwylo cyhoeddus, i'r rhai sy'n cofio'r hysbysebion, 'It is now—tell Sid', dylai fod bellach yn, 'Dywedwch wrth Sid ei fod yn mynd i gael ei orfodi ar fesurydd rhagdalu ac fe fydd yn mynd heb ynni am ddyddiau.'  

15:40

Os ydych chi'n dlawd, mae bywyd yn eich erbyn yn llwyr. Nid oes gennych unrhyw obaith o gael debyd uniongyrchol i dalu'ch biliau, mae'n rhaid ichi ddioddef tâl sefydlog uwch, a nawr fe wyddom am sgandal y mesuryddion rhagdalu. Rydym yn defnyddio'r gair 'sgandal' yma gryn dipyn, ond mae'n sgandal go iawn, yn sgandal gywilyddus, sydd ond wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar, a dim ond nawr y gweithredwyd yn ei chylch. Os ydych chi'n gyfranddaliwr Centrica, perchennog Nwy Prydain, nid oes gennych unrhyw broblem gyda thalu eich bil nwy nac unrhyw filiau o gwbl. Gadewch inni atgoffa ein hunain ynglŷn â'r hyn a wnaeth Centrica y llynedd. Fe wnaethant £3.3 biliwn o elw, deirgwaith y £1 biliwn a wnaethant y flwyddyn flaenorol, ac fe wyddom beth a wnaethant. Fe wnaethant orfodi eu ffordd i mewn i gartrefi pobl er mwyn gosod mesuryddion rhagdalu. Rydym yn gwybod hefyd y gallai Llywodraeth y DU fod wedi gwneud mwy yn gynt, ac rwy'n falch eu bod wedi dod allan o'r diwedd, ond fel y gwyddom, mae hyn yn mynd i gymryd peth amser.

Bydd y cynlluniau rheibus hyn yn parhau, ac rwy'n falch iawn o allu cefnogi'r cynnig hwn heddiw a chlywed gan Lywodraeth Cymru beth maent yn mynd i'w wneud. Mae'n iawn fod cwmnïau ynni sydd wedi cronni biliynau dros y flwyddyn ddiwethaf, tra bod llawer o bobl wedi wynebu diflastod llwyr wrth orfod datgysylltu gwres o'u cartrefi, peidio â chael oergelloedd, peidio â chael unrhyw beth i gynhesu eu cartrefi—. Dyna'r bobl sydd angen iawndal ac ad-daliad nawr.

Mae ffigyrau'r swyddfa ystadegau gwladol yn dangos bod 41 y cant o bobl ar fesuryddion rhagdalu wedi'i chael hi'n anodd aros yn gyfforddus gynnes. Felly, mae angen inni wneud mwy am hynny hefyd, ac rwy'n dilyn yr hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod Sioned Williams wrth ofyn y cwestiwn i'r Gweinidog, os caf, ynghylch effeithlonrwydd ynni a phryd y cawn weld dechrau gweithredu rhaglen Cartrefi Clyd yng Nghymru. Rydym wedi bod yn aros ers peth amser, ac ni allwn fforddio aros mwy. Bydd y gaeaf nesaf gyda ni heb fod yn hir, a'r ddealltwriaeth yw—nid wyf yn economegydd, ond y ddealltwriaeth yw—y bydd sefyllfa ariannol pobl dlawd y flwyddyn nesaf hyd yn oed yn waeth—allwch chi ddychmygu—nag y mae eleni. Mae'n rhaid inni gyflymu datblygiad y rhaglen Cartrefi Clyd. Yn ôl fy nghyfrifiadau fy hun, os edrychwn ar insiwleiddio, byddai'n cymryd 135 o flynyddoedd i insiwleiddio holl gartrefi Cymru sy'n dlawd o ran tanwydd, ar sail perfformiad y cynllun yn 2020-21. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn glywed yn fuan iawn y bydd y rhaglen yn cyflymu, ond hefyd y byddwn yn dysgu o'r rhaglen flaenorol ynglŷn â sut y gallwn gyrraedd a thargedu'r cartrefi sy'n dlawd o ran tanwydd. Byddai buddsoddi cyflym yn ein cartrefi o fudd i bawb sy'n dlawd o ran tanwydd yn ogystal â sicrhau ein bod yn mynd i'r afael, yn rhannol, â'r argyfwng hinsawdd.

Rwy'n croesawu'r cyfle i gefnogi'r cynllun hwn a gyflwynwyd gan Jack Sargeant. Diolch yn fawr, Jack, rydych chi'n dadlau dros bobl sydd mewn amgylchiadau anodd, ac rwy'n falch o allu cefnogi'r cynnig hwn. Rwy'n gobeithio y cawn glywed gan y Gweinidog pa gamau y byddwn yn eu cymryd er mwyn mynd i'r afael, nid yn unig â'r mater y mae Jack wedi'i godi yn ei gynnig, ond â mater y rhaglen Cartrefi Clyd hefyd. Diolch yn fawr iawn.

15:45

Mae llawer o bwyntiau gwych wedi'u gwneud yn y ddadl hon yn barod. Mae natur wrthnysig mesuryddion rhagdalu mewn sawl ffordd yn ddangoseb berffaith o wleidyddiaeth ddideimlad San Steffan a'r farchnad ynni anonest y cawn ein llethu ganddi yn y DU. Sut y cyraeddasom y sefyllfa hon, lle eid i mewn i gartrefi pobl heb ganiatâd ar raddfa ddiwydiannol i osod mesuryddion rhagdalu yn erbyn eu dymuniadau? I ychwanegu at y sarhad, byddai'r rhai ar fesuryddion rhagdalu yn talu llawer mwy am eu nwy a'u trydan yn y pen draw na rhywun sy'n talu drwy ddebyd uniongyrchol. Mae hyn yn golygu y byddai miliwnydd yn talu llai fesul uned o nwy a thrydan nag y mae rhywun sy'n cael budd-daliadau, sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Sut yn y byd oedd hynny'n gyfreithlon?

Mae teuluoedd wedi bod yn oer y gaeaf hwn oherwydd y sgandal yma. Mae pobl hŷn wedi eistedd yn y tywyllwch oherwydd y sgandal yma. Mae pobl wedi marw oherwydd y sgandal yma. Mae hyn i gyd wedi bod yn digwydd tra bo'r cwmnïau ynni wedi bod yn gwneud elw digynsail, elw a wnaed ar draul pobl mewn gofid. Dyma un o'r enghreifftiau mwyaf brawychus o annhegwch o blith nifer y gallwn eu gweld yn y DU heddiw. Mae'n iawn ein bod yn trafod y mater hwn yn y Senedd heddiw, ac rwy'n canmol Jack am ddod â'r ddadl hon i'r Siambr ac am ei waith ymgyrchu diflino ar y pwnc. Mae Plaid Cymru yn ei gefnogi'n llwyr wrth iddo roi sylw i'r anghyfiawnder y caniatawyd iddo barhau yn llawer rhy hir yn y sector ynni.

Er fy mod yn cefnogi cynigion Jack, rwy'n credu bod yna ddadl ehangach i'w chael am y ffordd y caiff pobl mewn dyled eu trin. Yn gynharach eleni, cyfarfûm â'r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi, sy'n darparu goruchwyliaeth annibynnol ar feilïaid, ac fe wnaethant rannu straeon arswyd am y taliadau a godir ar bobl mewn dyled. Rwyf wedi sôn am yr achos hwn o'r blaen, ond mae'n werth ei ailadrodd. Cefais enghraifft o fenyw sy'n byw mewn tŷ cymdeithasol yng Nghasnewydd ac sy'n derbyn credyd cynhwysol a thaliadau annibyniaeth personol. Bu'n destun achos gorfodi yn yr Uchel Lys ar ran credydwr cyfleustodau. Gofynnodd i'r cwmni casglu dyledion a gâi drefnu cynllun rhandaliad, ond gwrthododd y cwmni gan fynnu eu bod yn ymweld â hi i weld a oedd ganddi unrhyw asedau y gallent eu hadfeddiannu. Yn ogystal â'r tâl o £75 a ychwanegwyd at ei dyled oherwydd y cam o'r orfodaeth a gynhaliwyd dros y ffôn, golygai hyn fod £190 arall wedi ei ychwanegu at ei dyled am yr ymweliad. Pe na bai wedi bod gartref adeg yr ymweliad cyntaf, byddai ail ymweliad wedi arwain at ychwanegu ffi gorfodi cam 2 yr Uchel Lys o £495.

Mae'r ffordd y mae pobl mewn dyled yn cael eu trin gan gwmnïau beilïaid yn ymdebygu i'r ffordd y mae pobl yn cael eu trin drwy gael mesuryddion rhagdalu wedi'u gorfodi arnynt gan gwmnïau ynni. Rwy'n falch o glywed bod Llywodraeth Cymru bellach yn ymgysylltu â'r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi, a byddwn yn croesawu'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny. Gobeithio y gall y cyfarfodydd hyn arwain at fwy o reoleiddio er mwyn gwahardd cwmnïau diegwyddor rhag manteisio ar bobl mewn tlodi a pheri iddynt fynd i fwy fyth o dlodi. Diolch yn fawr.

Mae'n sgandal lwyr, onid yw, fod dros hanner ein hynni bellach yn cael ei gynhyrchu gan ynni adnewyddadwy, ond eto rydym yn dal i drin pobl dlawd yn y ffordd hon? Mae'r system ynni wedi torri'n llwyr.

Roeddwn eisiau canolbwyntio ar ba mor effeithiol yw'r dull o gael taliadau i bobl. Felly, siaradais ag Ofgem, a wnaeth fy sicrhau bod cwmnïau'n ychwanegu credyd yn awtomatig, lle bo'n bosibl, os oes gan gwsmeriaid fesurydd rhagdalu clyfar—os yw'n gweithio'n iawn. Dylai ychwanegu'r £45 yr wythnos yn awtomatig at falans credyd yr aelwyd. Os yw'r mesurydd yn ddiffygiol, dywedir wrthyf fod aelwydydd yn cael cod drwy neges destun neu e-bost, fel y gallant ei ddefnyddio i ychwanegu at eu credyd ar-lein. Fel dewis olaf, caiff taleb ei hanfon at y cwsmer drwy'r post, ac fe ddof yn ôl at pam mai dewis olaf yw hynny.

Os oes gan aelwyd fesurydd rhagdalu traddodiadol, maent naill ai'n cael credyd pan fyddant yn gwneud taliad atodol yn eu man talu arferol—ac mae'n dda gweld faint yn union o wybodaeth mae cwmnïau ynni'n ei gadw am unigolion; nid yw Sarah Murphy yn yr ystafell ar hyn o bryd, ond mae hwn yn fater diogelu data pwysig—neu byddant yn cael taleb drwy'r post fel dewis olaf. A'r rheswm pam rwy'n disgrifio hyn fel dewis olaf yw bod gennym lawer iawn o dystiolaeth fod pobl sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol yn rhoi'r gorau i agor y post—dyna'r ffordd y maent yn ymdopi. Felly, maent yn meddwl fod pob llythyr nad yw'n dod gan eu hwyres yn mynd i fod yn fil arall am arian nad oes ganddynt. Felly, ni fyddant byth yn cael gwybod am y daleb y mae ei gwir angen arnynt i'w helpu i dalu am wres.

Nawr, nid oes gwybodaeth ar gael hyd yma am y dadansoddiad cost a budd o wahanol ddulliau o ddarparu cymorth, ond mae'n amlwg fod llawer o waith i'w wneud. Felly, er enghraifft, yng Nghanol Caerdydd, rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr y llynedd, dylai bron i 105,000 o aelwydydd fod wedi cael eu harian, ond i 2,000 ohonynt, ni chafodd ei ddarparu. Felly, ni chafodd 2,000 y taliadau yr oedd ganddynt hawl i'w cael, a dyna'r taliad a gafodd Boris Johnson a phawb arall yn yr ystafell hon—ni chafodd 2,000 o'r bobl dlotaf mo'r arian hwnnw. Beth yw'r esboniad am hynny? Ac yn yr un modd, er bod talebau wedi'u rhoi i 6,800 o aelwydydd, ychydig dros 4,000 o aelwydydd a ddefnyddiodd y talebau hynny; ni wnaeth 1,600 o bobl mo'u cael. Ni wnaeth neb guro ar y drws a dweud, 'A gawsoch chi'r daleb, neu a ddylem roi un newydd i chi?'

Mae'r rhain yn faterion pwysig iawn, a diolch byth, ar ben hynny, mae gennym ystadegau talebau tanwydd Llywodraeth Cymru yn ogystal i'w hystyried, oherwydd cafodd y £200 a roddwyd gan Lywodraeth Cymru ei dargedu at y rhai a oedd ei angen yn hytrach nag i rai a allai fforddio talu. Ac mae'r Sefydliad Banc Tanwydd wedi gweld cynnydd enfawr yn nifer y sefydliadau sydd bellach yn cysylltu â hwy. Fe wnaethant gyhoeddi dros 17,000 o dalebau i gefnogi pobl nad oeddent yn gallu fforddio ychwanegu at eu mesurydd rhagdalu; 44,000 o bobl, gyda dros 40 y cant yn blant—y plant na allai fforddio cael bath neu bryd poeth neu ddarllen llyfr cyn iddynt fynd i'r gwely. Rwy'n credu mai'r ystadegyn pryderus i mi yw mai dim ond 148 o aelwydydd a gafodd help i brynu tanwydd oddi ar y grid. Beth mae awdurdodau lleol mewn ardaloedd lle mae llawer o'r anheddau oddi ar y grid yn ei wneud i sicrhau bod pobl, a ddylai fod yn cael yr help hwnnw, yn ei gael?

Felly, rwy'n credu bod hyn i gyd yn dweud wrthym fod angen inni—. Yn union fel y mae angen inni reoleiddio awdurdodau lleol sy'n defnyddio beilïaid heb eu rheoleiddio i gasglu dyledion treth gyngor, mae'n amlwg fod angen inni reoleiddio cyflenwyr ynni sy'n defnyddio beilïaid heb drwydded i dorri i mewn i gartrefi pobl. Mae'n rhaid rhoi dannedd rheoleiddiol i'r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi i orfodi hynny ac a dweud y gwir, mae angen gosod mesurau rheoli ar y cwmnïau ynni yn yr un ffordd ag y gwaherddir cwmnïau dŵr rhag torri cyflenwad dŵr pobl. Mae angen inni sicrhau bod lleiafswm o ynni'n cael ei ddarparu i bob cartref yn y wlad hon—fel y dywedaf, y pumed neu'r chweched economi fwyaf yn y byd.

15:50

Diolch, Jack, am gynnig y ddadl bwysig hon sy'n ymwneud â mater sy'n effeithio ar gymaint o bobl yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau bob dydd o'r flwyddyn. Ac nid wyf am ailadrodd y pwyntiau a godwyd, ond rwy'n credu ei fod yn ymwneud â'r cysylltiad personol hwnnw: rydym i gyd wedi cael pobl yn dod atom sy'n ei chael hi'n anodd; rydym i gyd yn gwybod am sefydliadau sy'n ceisio darparu cymorth ac nad ydynt yn gallu ateb y galw. Ac rwy'n credu yn y cyfnod cynt, lle'r oedd Cyngor ar Bopeth ac yn y blaen yn gallu cynnig atebion ynglŷn â sut y gallech leihau eich costau ynni ac yn y blaen, rydym ar bwynt nawr lle nad yw hanfodion yn fforddiadwy mwyach, ac nid mater o allu addasu mymryn yma ac acw yn unig ydyw. Fel y clywsom eisoes mewn cyfraniadau eraill, mae prisiau ynni wedi codi allan o reolaeth, a sgandal lwyr yw gweld y cwmnïau hyn yn gwneud symiau enfawr o elw, tra gwyddom—fel y mae eraill wedi sôn—fod pobl yn marw oherwydd nad ydynt yn gallu fforddio cynhesu eu cartrefi. Dyna'r realiti yma yng Nghymru heddiw.

Mae'n hawdd inni ddod i arfer â rhai o'r ystadegau hyn, ond mae'n rhaid inni ofyn i'n hunain: pam fod gennym gyfraddau marwolaeth uwch yma yng Nghymru ar hyn o bryd? Beth yw'r rhesymau am hynny? Pam ein bod yn gweld cynnydd mewn tlodi plant? Mae'r rhain i gyd yn gysylltiedig. Felly, rwy'n credu, i ni—. Rwy'n cofio gwneud fy TGAU hanes, ac edrych yn ôl ar pan glywoch chi mor ofnadwy oedd pethau yn Oes Fictoria ac yn y blaen. Wel, mae'r straeon a glywn nawr yr un mor ddrwg. Mae pobl yn marw oherwydd na allant fforddio hanfodion. Mae hyn, i mi, yn rhywbeth y mae angen inni edrych arno fel cymdeithas.

Yn amlwg, mae yna broblem benodol gyda mesuryddion rhagdalu, a'r ffaith eu bod wedi'u gosod drwy orfodaeth, a bod pobl yn cael eu datgysylltu. Ond yn y bôn, mae prisiau ynni'n rhy uchel, ac nid yw pobl yn gallu fforddio'r pethau sylfaenol, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni fynd i'r afael ag ef. Rwy'n meddwl bod Sioned Williams yn berffaith gywir i ddweud bod angen inni gael pŵer dros bŵer yma yng Nghymru. Mae angen inni allu sicrhau bod hanfodion yn fforddiadwy. Mae yna bethau y gallwn alw amdanynt gan Lywodraeth y DU, ond yn y pen draw, mae yna atebion yma yng Nghymru, ac ar hynny y dylem ganolbwyntio yn y tymor hir.

Rwy'n credu bod mater cynlluniau Cartrefi Clyd—rwy'n sicr yn adleisio'r galwadau hynny. Ond roeddwn eisiau rhannu gyda chi beth mae hyn yn ei olygu ar hyn o bryd i bobl sy'n byw yng Nghanol De Cymru. Ym mis Ionawr, cynhaliais ddigwyddiad costau byw, lle roedd sefydliadau'n dweud wrthyf am y rhai y maent wedi gallu eu helpu—unigolion—drwy dalebau banc tanwydd, ond bod y galw'n eithriadol, ac roedd sut roeddent yn mynd i barhau i ateb y galw hwnnw yn destun pryder.

Roeddent yn dweud wrthyf am bobl a oedd yn dod atynt a oedd wedi bod yn dwyn, a hynny er mwyn gallu talu costau ynni; pobl a oedd wedi dychwelyd at ddelio cyffuriau er mwyn gallu talu am ynni. Dyma'r realiti yn ein cymunedau nawr, fod pobl yn gorfod gwneud pethau eithafol, a bod pobl yn dewis gwneud pethau eithafol ddim ond er mwyn cynhesu eu cartrefi. Rwy'n pryderu'n fawr am y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas sy'n mynd heb—y rhai sy'n penderfynu, 'Nid wyf yn mynd i allu fforddio unrhyw beth. Nid wyf am ofyn i unrhyw un am help.' Felly, nid ydynt yn cael y cymorth sydd ar gael hyd yn oed.

Mater arall yr hoffwn ganolbwyntio arno, yng nghyd-destun mesuryddion rhagdalu, yw pa mor anodd y gall fod i brynu ynni, hyd yn oed os oes gennych arian. Rydym wedi cael enghreifftiau o swyddfeydd post yn cau mewn cymunedau, llefydd sy'n aml yn cael eu defnyddio fel mannau ar gyfer prynu ynni, sy'n golygu bod rhaid i bobl deithio ymhellach, ychydig filltiroedd weithiau efallai, i allu prynu ynni. Fe wyddom pa mor aml y mae'n rhaid ichi brynu ynni oherwydd y costau. Nid yw rhai siopau wedyn ond yn cymryd arian parod, ond ni cheir peiriant arian, neu nid yw'n gweithio. Golyga hynny wedyn fod rhaid ichi gerdded, milltiroedd efallai, yn ôl i'ch cartref, ar ôl methu prynu ynni. Byddwn yn trafod bysiau yn nes ymlaen. Mewn rhai cymunedau, os nad oes gennych fynediad at fysiau, ac os nad ydynt yn rhedeg yn aml neu'n dod o gwbl, sut mae prynu ynni wedyn? Felly, rwy'n credu bod yna broblem sylfaenol gyda hygyrchedd hefyd.

Mae credyd brys yn amrywio o gwmni i gwmni. Weithiau, mater i landlord i raddau helaeth yw a ydynt yn gosod mesurydd clyfar, sy'n golygu nad yw credyd brys ar gael bob amser os nad oes gennych fesurydd clyfar. Mae cymaint o anawsterau pan fyddwch chi'n cael eich datgysylltu yn ystod y nos neu ar benwythnosau, pan fydd siopau ar gau, ac nid ydych yn gallu cael y cymorth brys y dywedir wrthym ei fod ar gael, ond nad ydyw ar gael mewn gwirionedd.

Hoffwn sôn yn fyr am urddas mislif hefyd. Rwy'n meddwl am y ffaith ein bod yn ymdrechu fel cenedl i fod yn genedl urddas mislif, ond mae methu defnyddio dŵr cynnes a methu ymolchi yn cael effaith anghymesur. Ac rwyf wedi clywed rhai cyd-Aelodau'n sôn am amser bath—fod rhieni'n gorfod dogni amser bath, ac yn y blaen. Mae'r rhain yn broblemau real iawn, ac mae angen atebion brys arnom. Felly, diolch i chi am godi hyn, Jack, ond nawr mae angen inni weithredu fel Senedd a sicrhau bod y newidiadau hynny'n digwydd, fel nad yw pobl yn dioddef, yn marw neu'n methu gwneud y pethau sylfaenol rydym ni'n eu cymryd yn ganiataol.

15:55

Fel un sy'n cael ei enwi fel cefnogwr yn y ddadl Aelodau hon, rwyf am gofnodi gwaith Jack Sargeant yn codi'r mater allweddol hwn, fel y dywedodd nifer, yn y lle hwn a thu hwnt. Ac fel y mae llawer wedi dweud heddiw, y sâl a'r anabl a'r henoed a'r ifanc sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan y mater hwn. Dyma yw canlyniad gosod elw'n uwch na phobl, a dyma wyneb afiach preifateiddio heb ei reoleiddio, gyda pherchnogion ynni sy'n biliwnyddion yn sathru ar y rhai mwyaf bregus ac agored i niwed. Mae amcangyfrifon yn awgrymu y gallai hyd at 45 y cant o holl aelwydydd Cymru fod mewn tlodi tanwydd nawr yn sgil prisiau ynni uwch ac effeithiau cyllidebol o ganlyniad i hynny.

Fe wnaeth y datguddiadau brawychus yn The Times fis diwethaf ddatgelu hinsawdd o ofn, fel y nododd llawer o Aelodau'r Senedd hon heddiw, gyda phobl yn methu talu eu biliau tanwydd, casglwyr dyledion yn cael eu gollwng yn rhydd, fel y dywedodd Jane Dodds ac eraill, a mesuryddion rhagdalu'n cael eu gosod drwy orfodaeth. Ond mae graddau'r broblem hon a'i hanfoesoldeb—fe ddefnyddiaf y gair cryf hwnnw, oherwydd mae'n anfoesoldeb—mor ddwfn. Mae fy etholwyr, fel y dywedodd Sioned hefyd, yn dweud hyn wrthyf yn wythnosol. Mae tua 200,000 o aelwydydd yng Nghymru yn defnyddio mesuryddion rhagdalu ar gyfer eu prif gyflenwad nwy a thrydan, ac mae 45 y cant o denantiaid tai cymdeithasol yn defnyddio mesuryddion rhagdalu.

Rwyf am ddiolch i Jack yma am yr ymgyrch hon, ac rwyf hefyd yn croesawu gwaith Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, sydd wedi galw'n gyhoeddus ar Ofgem i ymestyn y gwaharddiad ar osod mesuryddion rhagdalu yn orfodol y tu hwnt i ddiwedd mis Mawrth. Mae'n rhaid i ni, fel y dywed Mike Hedges, roi'r gorau i daliadau sefydlog. Yn wir, gyda'i gilydd, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n gryf yn ei hymateb unedig, gyda £90 miliwn i ddarparu cymorth i aelwydydd sy'n agored i niwed i dalu costau ynni cynyddol, gan gynnwys cynllun cymorth tanwydd gwerth £200 ar ben taliadau cymorth tanwydd Llywodraeth y DU. Daeth yr arian o feysydd blaenoriaeth eraill Llywodraeth Cymru. Ac ymhellach, er mwyn diwallu'r angen, mae Gweinidogion cyfiawnder cymdeithasol wedi sicrhau £18.8 miliwn ychwanegol yn y gyllideb ddrafft, gan gynyddu cyfanswm y gronfa cymorth dewisol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon i £38.5 miliwn.

Ond mae'n destun tristwch fod angen hyn heddiw, fel y mae eraill wedi sôn, mewn gwlad G7 lle rydym ni, y DU, ar y gwaelod. Mae'n hanfodol fod Llywodraeth y DU bellach yn camu i'r adwy a defnyddio'r adnoddau sydd ar gael iddynt ar gyfer pobl mewn tlodi tanwydd yng Nghymru sydd oll wedi'u gwneud yn dlotach gan bob un o weithredoedd canlyniadol y Llywodraeth ddideimlad hon yn y DU. Gwn y bydd y Gweinidog yn parhau i lobïo Llywodraeth y DU, Ofgem a chyflenwyr ynni i wneud eu dyletswydd o'r diwedd a chyflawni eu rhwymedigaethau moesol i'r tlotaf mewn cymdeithas, ond yn anffodus, hyd nes y cawn Lywodraeth Lafur yn San Steffan, i weithio gyda ni, Senedd Cymru, bydd hon yn alwad sy'n parhau i ddisgyn ar glustiau byddar wrth i bobl gyffredin barhau i rewi. 'Cywilydd ar Ofgem', meddaf, a 'Chywilydd ar Lywodraeth y DU.'

16:00