Y Cyfarfod Llawn
Plenary
14/03/2023Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso i'r Cyfarfod Llawn o'r Senedd. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Laura Anne Jones.
1. Pa ystyriaeth roddodd Llywodraeth Cymru i Fil diwygio cydnabod rhywedd yr Alban wrth greu'r 'Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru'? OQ59239
Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Roedd yr ymrwymiad i geisio pwerau datganoledig sy'n ymwneud â chydnabod rhywedd, ac i gefnogi ein cymunedau traws, wedi'i gynnwys yn ein rhaglen lywodraethu ac mae'n rhan o'r cytundeb cydweithio. Mae'r cynllun gweithredu LHDTC+ wedi cynnwys yr ymrwymiad hwn ers ei ddrafft cyntaf. Mae'r rhain yn bolisïau a wnaed yng Nghymru, nid yn yr Alban.
Prif Weinidog, fis diwethaf, fe wnaethoch chi ddatgan eich bwriad i gopïo Bil hunanddiffinio yr Alban wrth ryddhau eich cynllun gweithredu LHDTC+, sy'n bwriadu ei gwneud hi'n haws i ddynion biolegol fynd i mewn i fannau ar gyfer menywod yn unig, gwthio ideoleg rhywedd mewn ysgolion, ac annhegwch mewn chwaraeon. Prif Weinidog, roedd dicter mawr yn yr Alban ynghylch y Bil diwygio cydnabod rhywedd, gyda phleidleisio yn dangos yn gyson nad oedd y cyhoedd yn yr Alban yn cytuno â'r cam. Ac mae'n amlwg o'r farn gyhoeddus ar draws Cymru a'r DU fod pobl yn gweld pwysigrwydd gwarchod menywod a merched, a pham y byddai Bil o'r fath yn peryglu hynny. Ond eto, rydych chi'n dal i fwrw ymlaen â'ch cynlluniau. Wnaethoch chi ddysgu dim byd o'r llanast yn yr Alban? Byddai'r cam hwn i gopïo'r Alban dim ond yn gwadu ffaith fiolegol a thawelu lleiafrif bach yn eich plaid. Mae dynion a menywod ar hyd a lled y wlad yn wirioneddol bryderus ynghylch eich gweledigaeth unllygeidiog, ac maen nhw hefyd yn pryderu oherwydd i Ysgrifennydd Gwladol yr wrthblaid rannu delweddau yn uniongyrchol o'ch cynhadledd Llafur Cymru gan annog casineb yn erbyn y rhai sy'n sefyll dros fenywod a merched. Prif Weinidog, a ydych chi'n esgusodi eu hymddygiad, ac ydych chi o'r diwedd yn deall y pryder gwirioneddol ynghylch eich cynllun a'ch bwriad i gopïo Bil hunanddiffinio yr Alban?
Llywydd, mae pobl trawsryweddol sy'n mynd trwy'r broses o newid eu rhyw cyfreithiol yn haeddu ein parch, ein cefnogaeth a'n dealltwriaeth. Dyna ddywedodd Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol yr Alban ar lawr Tŷ'r Cyffredin wrth gyflwyno cynnig y Llywodraeth i rwystro'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd yn Yr Alban. Rwy'n credu y byddai'n fuddiol i'r Aelod gymryd yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd Gwladol yr Alban o ddifrif, a meddwl am yr hyn y mae hi wedi'i ddweud ar lawr y Senedd y prynhawn yma drwy'r lens honno.
Does dim byd yn yr hyn y mae'r Llywodraeth hon yn bwriadu ei wneud a fyddai'n haeddu'r disgrifiad y mae'r Aelod wedi'i gynnig i ni yma y prynhawn yma. Byddwn ni'n dilyn, fel y dywedais i yn fy ateb gwreiddiol, Llywydd, nid polisïau a ddatblygwyd mewn mannau eraill, ond polisïau y byddwn yn eu datblygu yma yng Nghymru—polisïau a oedd yn ein maniffesto, y cawsom ein hethol arnyn nhw, polisïau sydd wedi bod yno yn ein rhaglen lywodraethu ers dechrau tymor y Senedd hon, a pholisïau sydd wedi'u nodi'n fanylach yn y cynllun gweithredu LHDTC+, gyda'i 46 o gynigion polisi gwahanol. Mae'r rheini'n seiliedig ar yr ymdeimlad hwnnw o barch, cefnogaeth a dealltwriaeth, a phe byddai'r ddadl hon yn cael ei nodweddu'n fwy gan y rhinweddau hynny, byddai'n elwa o'r herwydd.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymateb y Llywodraeth i’r adolygiad ffyrdd? OQ59264
Diolch i Rhun ap Iorwerth, Llywydd. Cafodd ymateb y Llywodraeth ei roi gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd mewn datganiad i'r Senedd ar 14 Chwefror.
Yn syml iawn, be dwi'n gofyn i'r Prif Weinidog i'w wneud heddiw ydy cynnal adolygiad go iawn o'r penderfyniad i beidio bwrw ymlaen efo'r cynllun ar gyfer croesiad y Fenai. Dwi'n nodi bod comisiwn Burns wedi cael cais i edrych ar y gwahanol opsiynau. Dwi wedi cyflwyno dadl i'r comisiwn hwnnw dros atgyfodi'r cynllun. Wrth gwrs, yr adolygiad ffyrdd yn canolbwyntio ar yr amgylchedd yn bennaf oedd sail y cyhoeddiad, ond mae gen i gopi yn fan hyn o'r ymgynghoriad ar yr opsiynau ar gyfer pa fath a pha lwybr o bont i'w chodi, ac mae o'n dangos mai Llywodraeth Cymru ei hun wnaeth ddewis y cynllun a fyddai'n fwyaf niweidiol o ran effaith ar fioamrywiaeth a'r amgylchedd, ac a fyddai'n creu y mwyaf o gynnydd mewn traffig. Ac mae o'n dangos hefyd y byddai cynlluniau llai yn fwy cost-effeithiol, o bosib. Rhaid dweud mai rhywbeth symlach rôn i wedi ei ragweld—deuoli'r Britannia, i bob pwrpas, efo llwybrau teithio llesol.
Felly, dwi am i'r Prif Weinidog edrych eto ar yr anghenion craidd gwreiddiol am y croesiad a sut i'w delifro nhw, yr angen i wella diogelwch, gwella cyfleon teithio llesol, a'r hwb economaidd sy'n dod o gael croesiad mwy gwydn—ar gyfer delifro ar y porthladd rhydd, er enghraifft. Mae'r adolygiad ffyrdd ei hun yn dangos y byddai pont newydd yn delifro pob un o'r rhain. A rhan o'r gwaith, Llywydd, sydd eisiau ei wneud ar frys rŵan, ydy edrych eto ar sut y gellid delifro hynny yn y ffordd sy'n cael yr effaith leiaf negyddol ar yr amgylchedd. A wnaiff y Prif Weinidog gytuno i wneud hynny?
Wel, Llywydd, dwi'n cofio'r cyd-destun pan fu'r Prif Weinidog ar y pryd yn dweud ein bod ni'n mynd i fwrw ymlaen â'r drydedd bont dros y Fenai, achos fi oedd y Gweinidog dros gyllid ar y pryd, a'r cyd-destun oedd Wylfa B. A dwi'n cofio popeth roeddem ni'n ei drafod ar y pryd gyda'r cwmni a oedd yn gyfrifol am gynllun Wylfa B—a fyddai hi'n bosib tynnu arian i mewn at y drydedd bont, achos byddai lot mwy o geir yn mynd lan a lawr i Ynys Môn. Dwi'n cofio'r trafodaethau gyda'r National Grid hefyd, a'r awgrym gwreiddiol gan y National Grid oedd i greu twnnel dan y môr, ac roeddem ni'n trafod gyda nhw a fyddai hi'n bosib rhoi'r arian yna i helpu gyda chostau pont. So, mae'r cyd-destun wedi newid yn sylfaenol, onid yw e, achos dyw popeth oedd ar y bwrdd gydag Wylfa B ddim yna yn bresennol.
Ond beth allaf i ei ddweud heddiw wrth yr Aelod yw beth sydd yn y cynllun sydd gyda ni. Rŷn ni'n dweud ein bod ni eisiau gweld opsiynau am bontydd dros y Fenai mewn ffordd sy'n ein helpu ni yn yr ymdrech i greu sifft yn y ffordd y mae pobl yn teithio ar hyn o bryd. Rŷn ni wedi gofyn i'r Arglwydd Burns a'r comisiwn sy'n edrych i mewn i drafnidiaeth yng ngogledd Cymru i weld sut y gallwn ni wneud hynny ac i roi argymhellion i'r Llywodraeth. A hwnna yw'r ffordd rŷn ni eisiau bwrw ymlaen. Rŷn ni'n agored i beth bynnag y bydd yr Arglwydd Burns yn ei awgrymu, ac mae popeth a oedd yn yr adroddiad y mae Rhun ap Iorwerth wedi cyfeirio ato y prynhawn yma ar gael i'r Arglwydd Burns a'r comisiwn y mae e'n ei arwain.
Mae'r astudiaeth o ragamcaniadau traffig ffyrdd cenedlaethol 2022, a gyhoeddwyd gan Adran Drafnidiaeth y DU ym mis Ionawr, yn dangos y gallai traffig ffyrdd yng Nghymru a Lloegr gynyddu cymaint â 54 y cant rhwng 2025 a 2060, gyda chynnydd o 22 y cant o dan y senario graidd, a'r amcangyfrif mwyaf cymedrol yw cynnydd o 8 y cant. Er gwaethaf hyn, o dan yr holl ragamcaniadau, rhagamcanir y bydd allyriadau'n gostwng cymaint â 98 y cant wrth i fodurwyr symud tuag at gerbydau gwyrddach. Ond yn dilyn cyhoeddi adolygiad ffyrdd Cymru, fe wnaeth eich Llywodraeth stopio neu ddileu pob un ond 17 o 55 o brosiectau ffordd, gan gynnwys pob un ond un o 16 prosiect yn y gogledd. Er fy mod wedi gwrthwynebu'r llwybr coch yn sir y Fflint ers tro, roedd dirfawr angen nifer o'r prosiectau hyn, o'r gwaith ar groesfan y Fenai y cyfeiriwyd ato, i ddileu cynlluniau i uwchraddio'r A483 o amgylch Wrecsam. A dim ond ddoe, dywedodd arweinydd eu cyngor wrthyf fod hwn yn addewid oedd wedi ei dorri, a oedd eisoes wedi costio cannoedd o filoedd o bunnau iddyn nhw, a miliynau o bunnau i Lywodraeth Cymru. Pa gamau, os o gwbl, y byddwch chi felly yn eu cymryd nawr i sicrhau llesiant cenedlaethau'r dyfodol drwy gynllunio ymlaen llaw i ddiwallu'r anghenion a nodwyd yn yr astudiaeth o ragamcaniadau traffig ffyrdd 2022?
Wel, Llywydd, mae rhai pethau sylfaenol y mae angen i'r Aelod eu hystyried, yn enwedig pan fo'n cyfeirio at anghenion cenedlaethau'r dyfodol. Argyfwng ein hamser ni yw argyfwng newid hinsawdd, a chenedlaethau'r dyfodol hynny, os na weithredwn nawr, a fydd yn dioddef canlyniadau ein gweithredoedd pe baem ni'n gwrthod wynebu'r her honno. Yr adolygiad ffyrdd yw'r adolygiad o’r bôn i’r brig cyntaf o adeiladu ffyrdd Cymru ers sawl cenhedlaeth. Mae'n herio'r farn gyffredin ynghylch adeiladu ffyrdd, ond mae angen herio'r farn gyffredin honno oherwydd y farn gyffredin honno sydd wedi ein rhoi ni yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw. Mae'n rhaid i ni leihau ein hallyriadau carbon. Trafnidiaeth sy'n gyfrifol am 15% o gyfanswm ein hallyriadau yng Nghymru a dyma'r sector mwyaf ystyfnig o ran lleihau'r allyriadau hynny. Dyna pam mae'n rhaid i ni wynebu'r ffaith honno a chymryd y camau a fydd yn gadael y cenedlaethau hynny sydd i ddod mewn lle gwell nag y bydden nhw. Pe baem ni dim ond yn derbyn y ffigurau heriol iawn hynny a osododd Mark Isherwood wrth agor ei gwestiwn atodol, a ydym yn barod i weld dyfodol lle mae traffig yn parhau i dyfu yn y ffordd honno ac allyriadau yn parhau i dyfu ar yr un pryd? Wel, nid yw'r Llywodraeth hon yn barod i wneud hynny. Dyna pam y mae'r adolygiad ffyrdd gennym ni, a dyna pam, pan ddaw hi i gynlluniau fel y Fenai a Wrecsam, nid ydym yn dweud nad oes problem, nid ydym yn dweud nad oes angen i ni wneud rhywbeth; yn syml, rydyn ni'n dweud bod yn rhaid i gynlluniau'r dyfodol fod yn seiliedig ar ein cyfrifoldebau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd hwnnw, ac yn syml mae parhau ag atebion y gorffennol yn sicr o wneud y broblem honno'n waeth ac nid yn well.
Prif Weinidog, byddwch chi, wrth gwrs, yn ymwybodol o'r ffaith, ar gyfer unrhyw brosiectau na chawsant y golau gwyrdd gan yr adolygiad ffyrdd, y cyngor i awdurdodau lleol fu ewch yn ôl i'r bwrdd darlunio ac ystyried, yn unol â WelTAG 1, fesurau amgen i liniaru, er enghraifft, problemau diogelwch ar y ffyrdd lleol. Pa gymorth penodol gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu i awdurdodau lleol ynghylch hyn? Ac, yn bwysicaf oll, a oes yna unrhyw gynlluniau i ddiwygio'r meini prawf ar gyfer grant diogelwch ar y ffyrdd Llywodraeth Cymru, y mae'n rhaid darparu tystiolaeth ar ei gyfer i ddangos digwyddiadau traffig ffyrdd difrifol neu angheuol cyn y gall awdurdod lleol gael cymorth ariannol?
Wel, a gaf i ddiolch i Vikki Howells am gwestiwn amserol iawn. Llywydd, mae fframwaith diogelwch ar y ffyrdd ar gyfer Cymru yn dyddio yn ôl mor bell â 2013, ac er bu adolygiad hanner ffordd ohono yn 2018, nawr yw'r adeg pan fydd angen i ni gyflwyno strategaeth ddiogelwch ar y ffyrdd newydd, un a fydd yn alinio â 'Llwybr Newydd' a'r cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth. Ac oherwydd bod yr adolygiad ffyrdd yn ymwneud ag ail-flaenoriaethu'r buddsoddiad yr ydyn ni'n ei wneud ar ffyrdd, mae'n golygu y gall arian a allai fod wedi'i wario ar ffyrdd newydd gael ei ailflaenoriaethu i wella seilwaith ffyrdd presennol, ac, wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys diogelwch hefyd. Pan fydd y Gweinidog yn cyflwyno'r ddogfen diogelwch ar y ffyrdd newydd, yna bydd adolygu meini prawf grant yn cael eu datblygu ochr yn ochr â'r strategaeth newydd honno, ac rwy'n gwybod bod swyddogion y Gweinidog yn hapus iawn i drafod cynlluniau penodol gydag awdurdodau lleol yn y cyd-destun hwnnw.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch Llywydd. Gyda'ch caniatâd chi Llywydd, hoffwn gofnodi bod ein meddyliau a'n gweddïau gyda theulu'r dyn a gafodd ei ladd ddoe yn y drasiedi yn Abertawe, ac, hefyd, rwy'n falch o glywed bod dau o'r tri pherson a aeth i'r ysbyty bellach wedi cael eu rhyddhau, a diolch i'r gwasanaethau brys a'r ymatebwyr cyntaf a oedd yng nghanol yr hyn a oedd heb os yn olygfa apocalyptaidd pan gyrhaeddon nhw yno i ymdrin â chanlyniadau beth bynnag y bydd yr adroddiad yn penderfynu oedd yn gyfrifol am yr olygfa ddinistriol honno a welsom ar y newyddion neithiwr ac yn y papurau heddiw.
Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, fe alwodd un o'ch Gweinidogion y Coleg Nyrsio Brenhinol yn sefydliad 'hynod filwriaethus'. Dywedodd hefyd eu bod,
'yn benderfynol o gael brwydr',
a dydyn nhw ddim yn barod i drafod o ddifrif. Dyna ddyfyniad uniongyrchol. Ai dyna'ch argraff chi o'r RCN a'r anghydfod y maen nhw yn ei ganol gyda'ch Llywodraeth dros gyflog nyrsys?
Wel, Llywydd, a gaf i ddechrau drwy gytuno gyda'r hyn ddywedodd arweinydd yr wrthblaid am ddigwyddiadau yn Abertawe ddoe? Mae'n rhaid ei fod wedi bod yn brofiad hynod frawychus i eraill sy'n byw yn y cyffiniau. Ac mae arweinydd yr wrthblaid yn iawn, on'd yw e—rydyn ni'n disgwyl i'n gwasanaethau brys redeg tuag at leoedd sy'n llawn perygl y bydd pobl eraill yn dianc rhagddyn nhw, ac maen nhw'n hynod ddewr, ac roedd eu hymateb ddoe, diolch byth, yn effeithiol. Wrth gwrs, mae ein meddyliau gyda theulu'r unigolyn a gollodd ei fywyd, ac rydym yn falch o weld adferiad eraill a gafodd eu dal yn y digwyddiad brawychus hwnnw.
Cyn belled ag ail ran cwestiwn arweinydd yr wrthblaid, Prif Weinidog Cymru ydw i, nid sylwebydd ar yr hyn mae pobl eraill yn ei ddweud. Yr hyn y gallaf ei wneud yw bod yn glir ynghylch safbwynt Llywodraeth Cymru: rydym yn ymdrin â phob mater diwydiannol fel Llywodraeth ar sail partneriaeth gymdeithasol. Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn aelod hirsefydlog a gwerthfawr o'r trefniadau partneriaeth gymdeithasol sydd gennym ym maes iechyd, ac maen nhw yno heddiw yn yr ystafell yn trafod gyda chyflogwyr a Llywodraeth Cymru y ffyrdd o barhau i wella perfformiad ein gwasanaeth iechyd cenedlaethol a'r ffordd y gall y gweithwyr hynny yr ydym yn dibynnu arnyn nhw ynddo gael eu gwobrwyo'n briodol am y gwaith y maen nhw'n ei wneud.
Rwy'n falch eich bod wedi egluro beth yw barn y Llywodraeth ar yr hyn y mae'r RCN yn ei gynrychioli—dyna fy marn i—a hefyd rwy'n datgan buddiant gan fod gennyf aelodau o'r teulu sy'n aelodau o'r Coleg Nyrsio Brenhinol, corff proffesiynol ymroddedig o bobl sy'n gofalu amdanom ni pan fyddwn mewn angen mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol. Ond onid ydych chi'n credu y byddai'n briodol i Weinidog, Dirprwy Weinidog, ymddiheuro mewn gwirionedd am y sylwadau hynny sydd wedi peri loes i nyrsys o fewn y proffesiwn, nad ydynt eisiau bod ar streic, nad ydynt yn sefydliad milwriaethus ac nad ydynt eisiau brwydr? Maen nhw eisiau bwrw ymlaen â'r gwaith o edrych ar ôl y cleifion gyda gofal angerddol, dyna'r cwbl.
Dydw i erioed wedi bod yn ymwybodol o unrhyw weithwyr yn y sector cyhoeddus sydd eisiau bod ar streic. Llywydd, y gwir amdani yw bod aelodau'r RCN wedi cael eu gwthio i fynegi eu hymateb i ddegawd o gyni, ac yna chwyddiant ar garlam o ran yr arian y mae'n rhaid iddyn nhw fyw arno bob wythnos. Ac ni fyddwch byth yn dod o hyd i Weinidog Llywodraeth Cymru a fyddai'n dweud nad yw gweithwyr y sector cyhoeddus sy'n cael eu gwthio i weithredu fel yna yn haeddu cael eu parchu, ac maen nhw yn cael eu parchu yma yng Nghymru, ac maen nhw'n cael eu cynnwys, fel yr wyf i'n dweud, o fewn y trefniadau partneriaeth gymdeithasol. Bydd gennym gyfle yfory i bleidleisio ar y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Edrychaf ymlaen at gefnogaeth arweinydd yr wrthblaid a'i aelodau i hwnnw—. O, heddiw, mae'n ddrwg gennyf—yn nes ymlaen heddiw. Felly, rwy'n edrych ymlaen at ei gefnogaeth adeg hynny.
Mae llawer o bobl yn dweud pethau yng ngwres y foment. Rydw i wedi bod yn darllen yr hyn oedd yn cael ei ddweud rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg pan wnaethon nhw gystadlu â'i gilydd i feirniadu athrawon yn ystod cyfnod COVID. Rwy'n credu ei bod yn well rhoi pethau felly o'r neilltu. Rwyf wedi nodi safbwynt y Llywodraeth, sydd yn ddiamwys yn un o gynhwysiant, parch a dulliau ar y cyd o ddatrys problemau.
Prif Weinidog, fe ddywedoch chi nad oedd un o Weinidogion y Llywodraeth wedi dweud hynny ac nad yw'n ei gefnogi. Rhoddais ddyfyniad uniongyrchol i chi o'r hyn a ddywedodd y Dirprwy Weinidog. Mae hynny'n fater o ffaith. Mae'n fater o gofnod, a bydd pobl yn gweld beth ddywedodd y Gweinidog yng nghyd-destun y Coleg Nyrsio Brenhinol. Yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi bleidleisio gyda'r Ceidwadwyr—oedd yn braf iawn, diolch yn fawr iawn am bleidleisio gyda ni ar ein cynnig ynghylch yr adolygiad ffyrdd—am y diffyg ymgynghori, diffyg gallu'r panel adolygu ffyrdd i siarad â chymunedau, cynrychiolwyr cyhoeddus, busnesau, y trydydd sector. Doedd dim amwysedd yn yr hyn yr oeddech chi'n pleidleisio arno, ond eto rydych chi'n amlwg yn credu bod diffyg ymgysylltu wedi bod wrth lunio'r polisi pwysig hwn y mae'r Llywodraeth wedi ei gyflwyno. Os ydych chi'n credu bod diffyg ymgysylltu a deialog adeiladol i lunio'r polisi hwn, sut all pobl fod yn ffyddiog fod y polisi hwn yn bodloni gofynion craffu ac y bydd yn cyflawni eich dyheadau pan fyddwch yn pleidleisio yn erbyn y polisi, fel y gwnaethoch chi'r wythnos diwethaf?
Wel, Llywydd, rwy'n dychmygu bod unrhyw blaid sy'n rhoi cynnig ger bron y Senedd yn gwneud hynny gan obeithio y byddan nhw'n perswadio pobl eraill i'w gefnogi. Mae'n peri penbleth i mi fod arweinydd yr wrthblaid eisiau mynd i ddadl â rhywun am y ffaith ein bod ni wedi cefnogi'r cynnig a gyflwynodd. Nawr, gwn fod y—[Torri ar draws.] All e ddim cymryd 'ie' fel ateb, yn wir. Felly, mae'r sawl a arweiniodd yr adolygiad ffyrdd wedi ysgrifennu at holl Aelodau'r Senedd heddiw, Llywydd—efallai nad yw arweinydd yr wrthblaid wedi cael cyfle i ddal i fyny o ran hynny eto—yn nodi'r ymgysylltiad a gyflawnodd y panel adolygu ffyrdd, ac mae'n helaeth, ond hefyd gwahaniaethu—a wnaeth y Gweinidog, am wn i, wrth ateb y ddadl—gan nodi bod ymgysylltu â'r fath oedd yn briodol i'r panel adolygu ffyrdd. Ac yna bydd cyfleoedd pellach ar gyfer ymgynghori ac ymgysylltu â'r cyhoedd pan fydd cynlluniau penodol yn cael eu cyflwyno ar gyfer eu gweithredu. Mae hwnna'n fath gwahanol o ymgysylltu. Nid yw'n golygu nad oedd ymgysylltu ar ran y panel adolygu ffyrdd, fel y mae'r cadeirydd wedi nodi, a bydd, yn achos gwahanol agweddau'r adolygiad ffyrdd, cyfleoedd pellach, cyfleoedd statudol yn aml, i leisiau pobl gael eu clywed, i'w barn gael ei mynegi, ac felly i helpu i lunio polisi, mae'n siŵr yn y ffordd yr oedd arweinydd yr wrthblaid yn gobeithio ei fod yn ei wneud yr wythnos diwethaf pan gyflwynodd ei gynnig ar gyfer trafodaeth.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch yn fawr, Llywydd. Gaf innau, ar ran Plaid Cymru, hefyd ategu bod ein meddyliau ni i gyd, wrth gwrs, gyda'r teulu yn Nhreforys sydd wedi colli anwylyd yn y damwain erchyll ddoe, a hefyd gyda phawb arall sydd wedi'u heffeithio.
Prif Weinidog, unwaith eto, mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod ailddosbarthu HS2 fel prosiect i Loegr yn unig, gan ddwyn £5 biliwn mewn cyllid canlyniadol Barnett oddi wrth Gymru a allai fod yn drawsnewidiol i'n seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus. Mae hynny er bod dadansoddiad Llywodraeth y DU eu hunain yn dangos ei fod yn fwy tebygol o niweidio Cymru na darparu unrhyw fudd. A fyddwch chi'n galw ar unrhyw weinyddiaeth Lafur yn y dyfodol i unioni'r cam hwnnw?
Llywydd, rwy'n credu ei bod yn dir cyffredin ar draws pob plaid ar lawr y Senedd bod HS2 wedi'i ddosbarthu yn anghywir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac y dylid ei ddosbarthu, fel yn yr Alban, ar y sail bod yna gyllid canlyniadol Barnett. Dyna bolisi'r Llywodraeth hon. rwyf wedi mynegi'r peth sawl gwaith yma.
Dim ond ar y pwynt penodol, Prif Weinidog—oherwydd bod hyn yn eithaf pwysig, on'd yw e—ai hynny fydd eich safbwynt wedyn pe bai gweinyddiaeth Lafur yn San Steffan? A fyddwch chi'n gwneud y pwynt hwnnw'n rymus iawn i weinyddiaeth Lafur yn y dyfodol, nid yn unig i roi ei siâr i Gymru o unrhyw wariant yn y dyfodol, ond hefyd i roi'r £1 biliwn rydyn ni wedi'i golli'n barod drwy'r gwariant cam 1 gwerth £20 biliwn a ddigwyddodd eisoes? Nawr, roedd yn braf clywed arweinydd Plaid Lafur y DU yn ymrwymo i ddychwelyd pwerau dros gronfeydd strwythurol yn ôl i Gymru, ond a allwch chi ddweud a ydych yn disgwyl unrhyw weinyddiaeth Lafur yn y dyfodol hefyd i anrhydeddu'r ymrwymiad na fyddai Cymru yn derbyn ceiniog yn llai nag y byddai wedi'i dderbyn o dan y cyfnod rhaglennu 2020 i 2027 ar gyfer cronfeydd Ewrop? Felly, rhwng 2024 a 2027, byddai hynny'n golygu £1 biliwn yn ychwanegol o gyllid i Gymru ar ben hynny, wrth gwrs, y £1 biliwn rydych chi wedi'i nodi fel Llywodraeth yr ydym wedi'i golli rhwng 2021 a 2025.
Llywydd, roedd y cyhoeddiad a wnaeth Syr Keir Starmer dros y penwythnos yn un i'w groesawu'n fawr, sef pe bai Llywodraeth Lafur mewn grym ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf, bydd y pwerau a'r cyllid a dynnwyd i ffwrdd o Gymru yn cael eu hadfer i Gymru, fel y bydd penderfyniadau ar y penderfyniadau datblygu economaidd rhanbarthol pwysig iawn hynny yn cael eu gwneud yma yn y Senedd hon. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio mor galed ag y gallaf i wneud yn siŵr ein bod yn cael y cyfle hwnnw yma yng Nghymru.
Mae'n anochel y bydd yn rhaid i Lywodraeth Lafur wrth ddod i rym wneud penderfyniadau gwario anodd, o ystyried yr amgylchiadau economaidd y bydd yn eu hetifeddu. Byddwn ni yno, wrth gwrs, yn gweithio ochr yn ochr â'n cyd-Aelodau Llafur, pe baen nhw yn y sefyllfa honno, i fanteisio i'r eithaf ar yr arian sydd i'w dynnu i lawr ar gyfer Cymru.
Felly, os ydw i'n deall y Prif Weinidog yn iawn, dydych chi ddim yn gallu dweud y byddai gweinyddiaeth Lafur yn y dyfodol yn ymrwymo i'r un lefel o gyllid ag y byddem ni wedi'i gael o dan gronfeydd Ewropeaidd, a dydych chi ddim yn gallu dweud y byddwn ni'n cael cyllid canlyniadol Barnett.
Mewn cysylltiad â datganoli pwerau, dywedodd arweinydd y Blaid Lafur y bydd yn aros am gyhoeddi'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Nawr, o ystyried ei statws allweddol, yn seiliedig ar y datganiad hwnnw wrth ffurfio polisi'r Blaid Lafur ar gyfer yr etholiad nesaf, a allwch chi ddweud a fyddwch yn nodi yn eich cyflwyniadau pellach i'r comisiwn y pwerau yr ydych chi fel Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru yn ceisio eu datganoli? A fyddan nhw'n dal i gynnwys meysydd fel plismona a chyfiawnder, neu yn wir gydnabyddiaeth rhywedd, pan fo uwch-ffigyrau'r Blaid Lafur yn San Steffan wedi mynegi gwrthwynebiad neu amheuaeth, ac ni chawsant eu cynnwys yn adroddiad comisiwn Brown? Pwy fydd â'r gair olaf? A fydd y penderfyniad yn cael ei wneud yng Nghymru, i'ch dyfynnu o gyfnod cynharach, neu a fydd yn cael ei wneud yn San Steffan, ac, os yr ail sydd wir, onid ydych chi'n datganoli'r llyfr rheolau gan adael y pŵer lle bu erioed?
Llywydd, cefais gyfle i drafod gwaith adolygiad McAllister-Williams gyda Keir Starmer. Cyfeiriodd ato'n benodol yn yr araith a wnaeth i gynhadledd y Blaid Lafur, ac fe'm calonogwyd yn fawr gan y ffaith ei fod yn benderfynol o ddangos parch priodol tuag at waith y comisiwn Cymreig hwnnw, gan aros am ei argymhellion cyn penderfynu ar bolisïau a fydd yn mynd i mewn i faniffesto'r Blaid Lafur. Mae hynny'n newyddion da iawn i Gymru, yn enwedig o gofio safon y gwaith y mae comisiwn Williams-McAllister yn ei wneud.
Nid yw polisïau Llywodraeth Lafur Cymru wedi newid o ran cyfiawnder a chydnabod rhywedd. Credwn i adolygiad Thomas ddod i'r casgliad, mewn unrhyw ystyr synhwyrol, bod dadl o blaid datganoli cyfiawnder i Gymru. Credwn fod natur awdurdodol ei ddadansoddiad a'i argymhellion yn golygu bod yr achos hwnnw'n cael ei wneud, a byddwn yn parhau i ddadlau dros hwnnw.
Mae'n rhaid i weithredu'r polisi hwnnw ddechrau yn rhywle, ac mae adroddiad Gordon Brown yn awgrymu y dylai ddechrau gyda chyfiawnder ieuenctid a gyda'r gwasanaeth prawf, a byddai'r rheiny'n gamau cyntaf pwysig iawn, iawn. Y camau cyntaf yn aml yw'r camau anoddaf oll ar daith, ac, o ran cydnabod rhywedd, rydym yn parhau i gydgeisio nawr, gyda Llywodraeth bresennol y DU, ddatganoli'r pwerau hynny yma i Gymru. Does dim rheswm pam na fyddai pwerau yr ydym yn eu ceisio o dan un set o amgylchiadau yn bwerau y byddem yn parhau i'w ceisio o dan rai eraill.
Mae'r ffordd y mae penderfyniadau'n cael eu gwneud o'r diwedd mewn maniffesto gan y Blaid Lafur, sy'n cwmpasu'r Deyrnas Unedig gyfan ac a fydd â llawer, llawer o flaenoriaethau sy'n cystadlu â'i gilydd ar gyfer Llywodraeth Lafur tymor cyntaf yn dod i rym, yn adnabyddus. Bydd lleisiau o Gymru yn yr ystafell pan ymgymerir â phroses y maniffesto hwnnw, a byddan nhw'n dadlau dros y mathau o bolisïau y mae arweinydd Plaid Cymru wedi'u hailadrodd y prynhawn yma.
3. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i ddarparu cyfleusterau chwaraeon modern ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OQ59252
Llywydd, gan ddefnyddio cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, bydd Chwaraeon Cymru yn cefnogi 20 o brosiectau ledled Powys yn y flwyddyn ariannol bresennol drwy Gronfa Cymru Actif. Mae hyn yn ychwanegol at brosiectau cyfalaf megis y trac pwmp newydd ger Tal-y-bont ar Wysg a rhoi wyneb newydd ar y trac athletau yng Nghanolfan Hamdden Aberhonddu.
Hoffwn ddiolch i chi, Prif Weinidog, am eich ateb. Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fuddsoddiad o £12.6 miliwn mewn cyfleusterau ar lawr gwlad yng Nghymru, gyda phrosiectau unigol o fuddsoddi wedi'u cyfarwyddo gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru. Rwyf yma heddiw i gefnogi'r alwad am fwy o fuddsoddiad ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Mae'r canolbarth ar ei cholled o ran arian parod y mae mawr ei angen yn ffrydiau cyllido Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfleusterau chwaraeon. Roedd Powys yn hanner isaf holl awdurdodau lleol Cymru, ac yn bennaf mae hynny oherwydd nifer y boblogaeth. Ond nid wyf yma i feirniadu yn unig, oherwydd mae gennyf i ateb ar gyfer ble gellid gwario'r arian hwnnw o bosib. Mae angen uwchraddio cyfleusterau yn Rhaeadr yn fy etholaeth i yn daer, er mwyn rhoi cae o safon uchel iddyn nhw a all gynhyrchu sêr chwaraeon Cymru'r dyfodol. Felly, Prif Weinidog, rwy'n gwybod nad oes gennych chi unrhyw ddylanwad uniongyrchol dros yr arian hwnnw, ond eich presenoldeb—. Os byddech chi'n dweud ar gof a chadw y dylai Cymdeithas Bêl-droed Cymru edrych o ddifri ar gynigion Rhaeadr, rwy'n hollol siŵr y byddai eich dylanwad yn mynd yn bell i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu cael y buddsoddiad yna sydd ei angen yn amlwg ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed.
Wel, y ffordd orau un, Llywydd, fyddai pe na bai Llywodraeth y DU wedi defnyddio pwerau Deddf y farchnad fewnol yn uniongyrchol i ariannu Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Dyna arian a ddylai fod yma yng Nghymru, gyda phenderfyniadau yn ei gylch yn cael eu gwneud yma yng Nghymru. Yna, byddwn i'n gallu helpu'r Aelod yn llawer mwy uniongyrchol.
Byddwch yn cofio'r dadleuon yn Nhŷ'r Cyffredin—ac yn enwedig yn Nhŷ'r Arglwyddi—pan oedd yn rhaid i Weinidogion Llywodraeth y DU esbonio bod pwerau Deddf y farchnad fewnol yn angenrheidiol dim ond i ymyrryd yn y materion mwyaf difrifol, pan oedd penderfyniadau economaidd hynod bwysig yn y fantol, a dyna pam roedden nhw'n cael eu gwneud. Wel, o fewn ychydig fisoedd, roedden nhw'n cael eu defnyddio nid yn unig i ariannu Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ymdrin â chaeau pêl-droed yng Nghymru, ond mae Llywodraeth y DU wedi cymryd dyfodol cyrtiau tenis Cymru hefyd i'w dwylo eu hunain. Nawr, mae yna fater o arwyddocâd economaidd dwys. Yr hyn y mae'n ei ddweud wrthych yw na fwriadwyd erioed i Ddeddf y farchnad fewnol gael ei defnyddio yn y ffordd yr awgrymodd y Gweinidogion hynny. Fe'i cynlluniwyd bob amser er mwyn i Lywodraeth y DU allu gweithredu eu hoff brosiectau, gan gymryd penderfyniadau a chyllid oddi ar Gymru.
Dau ddarn o newyddion da, serch hynny, i James Evans: yn gyntaf oll, bydd Cronfa Cymru Actif ar agor eto ym mis Ebrill, ac o gofio bod 20 o brosiectau gwahanol yn cael eu hariannu yn etholaeth yr Aelod yn y flwyddyn ariannol bresennol, rwy'n credu y bydd hynny'n newyddion da, gobeithio, i'r prosiectau hynny ym Mhowys. Ac o ran y cynllun penodol y mae'r Aelod wedi'i grybwyll y prynhawn yma, rwy'n eithaf sicr y bydd yn cael ei gymryd o ddifrif gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru a hynny ar yr amod y gall roi ei hun o fewn meini prawf y cynllun, ac rwy'n siŵr y bydd pobl yn gweithio'n galed i wneud hynny, rwy'n eithaf sicr y bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn rhoi ystyriaeth briodol a difrifol iddo.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Gan gadw at thema cwestiwn James Evans ynghylch cyfleusterau chwaraeon roeddwn eisiau canolbwyntio ar byllau nofio. Mae llawer ohonom, rwy'n siŵr, wedi dysgu nofio mewn pyllau nofio, yn llythrennol yn rhoi sgiliau achub bywyd i ni, ac rydym yn gwybod bod pyllau nofio yn hanfodol ar gyfer iechyd meddwl, iechyd corfforol ac yn enwedig ar gyfer pobl ag anableddau. Ar hyn o bryd, rydym yn deall nad oes unrhyw gamau gan Lywodraeth Geidwadol y DU i helpu gyda biliau ar gyfer eiddo amhreswyl, felly tybed beth allai Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu awdurdodau lleol sy'n ei chael hi'n anodd iawn gyda biliau i gynhesu ein pyllau nofio, drwy edrych, rwy'n credu, ar Gyngor Sir Dyfnaint a'u harloesedd gyda boeler digidol. Tybed a oes opsiynau i ni ystyried ffyrdd arloesol o sicrhau bod ein pyllau nofio, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel Powys, yn aros ar agor. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Jane Dodds am hynna. Rwy'n gwybod bod y sector hamdden, nid dim ond yng Nghymru, ond dros y ffin hefyd, yn siomedig fod pyllau nofio wedi cael eu heithrio o ran cymorth o dan gynllun disgownt newydd Bil Ynni Llywodraeth y DU. Os ydych chi'n rhedeg amgueddfa, byddwch chi'n cael cymorth gan y cynllun hwnnw, ond os ydych chi'n rhedeg lle sy'n ynni-ddwys fel canolfan hamdden, ac yn enwedig pwll nofio, yna ni fyddwch yn cael unrhyw gymorth o gwbl. Mae hynny'n ymddangos yn wrthnysig, on'd yw e, o ystyried ein bod yn gwybod mai'r rhan ddrutaf o unrhyw ganolfan hamdden yw'r pwll nofio ei hun. Felly, byddwn yn gobeithio gweld yn natganiad y gwanwyn yfory ryw newid synhwyrol i'r cyfeiriad hwnnw, fel y bydd canolfannau hamdden a'r awdurdodau lleol sy'n eu cefnogi yn gallu talu'r costau hynny yn y ffordd honno.
Mae enghraifft Dyfnaint yn un ddiddorol, onid yw, oherwydd mae'n datrys y broblem mewn ffordd wahanol. Nid yw'n ceisio talu'r biliau uwch yn unig, mae'n ceisio dod o hyd i ffynonellau ynni newydd y gellir eu defnyddio. Mae llawer iawn o enghreifftiau yma yng Nghymru lle mae gennych chi ddiwydiannau sy'n creu llawer iawn o wres, lle mae'r gwres hwnnw yn syml wedi'i wasgaru i'r awyr, a lle, pe byddai'r agosatrwydd daearyddol yn ddigon addas, gallech geisio ailddefnyddio'r gwres hwnnw mewn ffordd sy'n darparu nid yn unig ar gyfer pyllau nofio, ond mewn cynlluniau gwresogi ardal ac ati. Mae llawer o feddwl yn cael ei roi, mewn sawl rhan o Gymru, i'r ffordd honno o arloesi ac arbrofi i ddod o hyd i ffyrdd gwell o gynhesu'r cyfleusterau lleol pwysig iawn hynny i'r dyfodol.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r diwydiant ynni adnewyddadwy? OQ59277
Diolch i Sam Kurtz am hynna. Mae cefnogi'r gadwyn gyflenwi, cydlynu buddsoddiad mewn gridiau a seilwaith porthladdoedd, a sefydlu datblygwr adnewyddadwy dan berchnogaeth gyhoeddus yn rhai o'r camau yr ydym yn eu cymryd i gefnogi'r diwydiant ynni adnewyddadwy yng Nghymru.
Ddoe, cefais y pleser o fod yn bresennol mewn cyfarfod bord gron gyda chlwstwr diwydiannol De Cymru wrth iddynt lansio eu cynllun datgarboneiddio. Tra oeddwn yn y cyfarfod, roeddwn yn falch iawn o gael dangos trydariad o'ch cyfrif Twitter, Prif Weinidog, yn dathlu rhoi caniatâd ar gyfer prosiect Erebus Blue Gem Wind oddi ar arfordir de sir Benfro. Bydd gwynt arnofiol ar y môr, y fenter ar y cyd rhwng Total a Simply Blue Energy, yn gosod Cymru yn gadarn ar lwybr i sero net.
Yn yr un drafodaeth ford gron, dywedwyd y byddai porthladd rhydd Celtaidd yn rhoi hwb anferth i daith y diwydiant at sero net gan hefyd sicrhau a chreu miloedd o swyddi ychwanegol. Ond gyda chyhoeddiad ar fin digwydd, rwy'n dymuno troi a chanolbwyntio ychydig ar rywbeth arall.
Felly, er mwyn cyflawni ein huchelgais sero net, mae'n rhaid i'r diwydiant ddefnyddio hydrogen glas mewn modd cyfyngedig a thymor byr. Trwy optimeiddio creu hydrogen glas y gallwn ddarparu carreg sarn hanfodol i'r diwydiant tuag at sero net, a hebddo, mae perygl i ni fethu. Felly, o ystyried hyn, pa sicrwydd y gall Llywodraeth Cymru ei roi i randdeiliaid bod hydrogen glas, fel rhywbeth i bontio, yn llwybr i sero net y mae'r Llywodraeth hon yn fodlon ei gefnogi? Diolch.
Wel, Llywydd, diolch i Sam Kurtz am y cwestiynau ychwanegol yna. Diolch iddo am dynnu sylw at y ffaith bod cais fferm wynt Erebus wedi'i gymeradwyo nawr drwy'r holl brosesau yma yng Nghymru. Mae'n ddatblygiad pwysig iawn ac yn un sy'n dangos ein bod wedi gallu defnyddio'r broses ymgeisio symlach ac effeithiol sydd gennym nawr yng Nghymru i gyrraedd y canlyniad hwnnw, gan, ar yr un pryd sicrhau bod amddiffyniadau priodol a chadarn i'r amgylchedd bregus iawn hwnnw sef y môr sy'n ein hamgylchynu.
Ni wnaf ddweud dim byd ynghylch y porthladd rhydd; roedd yr Aelod yn hollol iawn ynghylch hynny, Llywydd.
O ran hydrogen glas a hydrogen gwyrdd, rydym eisiau cael safle lle mae hydrogen gwyrdd yn cael ei ddefnyddio yma yng Nghymru ar y raddfa y bydd ei angen arnom ar gyfer y dyfodol. Ydyn ni'n gweld unrhyw ran ar gyfer hydrogen glas yn y ffordd bontio honno? Wel, ydym. Ond rydym eisiau iddo fod mor gyfyngedig ag y gall fod, ac yn amlwg iawn yn y dull carreg sarn y mae Sam Kurtz wedi'i nodi y prynhawn yma. Mae ganddo ran i'w chwarae, ond nid dyma'r gyrchfan ar ein cyfer ni.
Brif Weinidog, petai yna awdurdod lleol sydd â’u cronfeydd pensiwn wedi'u buddsoddi mewn cwmni datblygu ynni penodol yn derbyn cais gan y cwmni hwnnw i wneud datblygiad yn eu hardal nhw, a ydych chi'n teimlo y byddai yna wrthdaro buddiannau mewn sefyllfa fel yna? Oherwydd yn amlwg, petai cynllun, prosiect neu isadeiledd lle mae’r awdurdod lleol yn rhan o’r penderfyniad yn cael mynd yn ei flaen, mi fyddai hynny’n dod â budd i gronfeydd pensiwn yr awdurdod lleol yna. Oes yna risg ynglŷn â pha mor ddiduedd fyddai'r broses yna yn eich barn chi?
Wel, dwi ddim wedi cael cyfle i ddeall y pwynt penodol y mae Llyr Gruffydd wedi’i wneud, Llywydd, so byddai’n well i fi ystyried beth fydd ar y Record y prynhawn yma. Rŷn ni eisiau—. Dwi wedi cael cyfarfod gyda Jack Sargeant jest wythnosau yn ôl i weld sut allwn ni alluogi awdurdodau lleol gyda'r cronfa bensiwn i fuddsoddi mewn pethau sy’n mynd i fod yn rhan o’r tymor hir yma yng Nghymru.
So, yn gyffredinol, dwi'n meddwl ei fod yn rhywbeth pwysig i dynnu’r arian yna mewn i’r seilwaith a phethau eraill, fel yn y maes egni cynaliadwy. Ond, ar y pwynt penodol, well i fi ystyried beth mae'r Aelod wedi'i ddweud a dod nôl ato fe.
Roeddwn innau hefyd yng nghyfarfod clwstwr diwydiannol y de a gynhaliwyd yn Stadiwm y Mileniwm yn fy etholaeth, ac roedd yn gyfarfod diddorol iawn gyda llawer o bobl hynod bwysig yno.
Fodd bynnag, rwyf eisiau gofyn am lwybr ychydig yn wahanol i gyflawni sero net, sef y galw cynyddol am ynni adnewyddadwy yn ein cartrefi. Mae 40% o dai yng Nghymru dan berchnogaeth lwyr, heb forgais, naill ai'r bobl sy'n byw ynddyn nhw neu'r landlordiaid sy'n eu rhentu. Felly, pa strategaeth mae'r Llywodraeth yn ei defnyddio i apelio atynt i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy nawr, i wneud y peth iawn ar gyfer yr hinsawdd, trwsio'r tyllau yn eu pocedi, a chynyddu gwerth eu heiddo? Does dim byd gwell i roi hwb i'r galw am fesurau ôl-osod yn y sector tai preifat?
Wel, Llywydd, rwy'n sicr yn cytuno gyda'r pwynt cyffredinol y mae Jenny Rathbone yn ei wneud. Bydd hi'n gwybod ei fod yn ddarlun dryslyd y mae deiliad tŷ unigol yn ei wynebu yn yr ardal hon, oherwydd bod dadl barhaus ac weithiau braidd yn begynol ynghylch yr hyn y dylai dyfodol gwresogi domestig fod. Ar y naill law, mae yna arbrofion yn digwydd ac rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar hynny, am y rhan y gallai hydrogen ei chwarae yn hynny, ac eto mae tystiolaeth hefyd sy'n awgrymu na fydd gan hydrogen ddefnydd eang mewn gwresogi domestig, a bod y ddadl honno yn oedi rhai penderfyniadau ynghylch y grid nwy ac ynghylch trydaneiddio. Yr hyn rwy'n credu sy'n glir yw y bydd ei angen arnom ni—ac rydyn ni'n ariannu, yn wir, fel Llywodraeth—gynlluniau ynni ardal leol a fydd yn mynd i lawr i asesiad lefel stryd fesul stryd, fel y bydd gwell gwybodaeth i ddeiliaid tai ynghylch pa atebion gwresogi fydd yn gweithio orau iddyn nhw.
Bydd ardaloedd lle bydd pympiau gwres yn cynnig ateb, a rhai ardaloedd lle y efallai—ac rwy'n credu ei fod yn bendant yn farc cwestiwn, ond efallai—bydd atebion hybrid sydd agosaf at ffynonellau hydrogen hefyd â rhan i'w chwarae. Bwriad y Gweinidog yw cyhoeddi'r ymgynghoriad ar strategaeth wres, a fydd yn tynnu ar hyn i gyd ac yn ceisio helpu i ddatrys rhai o'r dadleuon hynny fel y bydd gan y defnyddiwr unigol syniad cliriach o'r hyn y gallant ei wneud yn y ffordd fwyaf effeithiol yn eu heiddo penodol, bydd ganddynt gefndir polisi llai dryslyd i dynnu arno ac yna gallant fwrw ymlaen a gwneud y buddsoddiadau y mae Jenny Rathbone wedi cyfeirio atyn nhw.
5. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gyfyngu ar faint o amser y mae ambiwlansys yn cael eu gorfodi i aros mewn ciwiau y tu allan i ysbytai? OQ59276
Llywydd, rydym wedi darparu cyllid ychwanegol, wedi sefydlu rhaglen wella genedlaethol a mwy o staffio yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Pan fo byrddau iechyd yn cymryd camau system gyfan ar y cyd, mae canlyniadau clir eisoes yn cael eu gweld o ran lleihau amseroedd aros ambiwlansys y tu allan i ysbytai.
Diolch am hwnna.
Ar ôl aros am ambiwlans am oriau, pan fo pobl yn cyrraedd yr ysbyty, yn aml does dim gwelyau sbâr, felly maen nhw'n gorfod aros y tu allan am fwy o oriau. Yn ddiweddar, cafodd mam oedrannus un o fy etholwyr ei chadw mewn ambiwlans am 15 awr ar ôl iddi ddioddef cwymp. Rwy'n pryderu bod ambiwlansys yn cael eu defnyddio i bob pwrpas fel ystafelloedd aros. Er hynny, rwyf eisiau gofyn i chi'n benodol, am yr effaith y mae cymaint o ambiwlansys sy'n aros heb ddiffodd yr injan yn ei chael ar lefelau llygredd aer y tu allan i'n hysbytai, ardaloedd lle mae pobl eisoes yn wael iawn ac maen nhw bellach yn anadlu aer llygredig.
Fis diwethaf, rwy'n gwybod bod y Gweinidog iechyd wedi cyhoeddi y byddai pwyntiau gwefru y tu allan i bob adran frys. Mae BMA Cymru wedi croesawu'r cynllun hwnnw, ond does dim llawer o fanylion eto ynghylch o ble fydd yr arian yn dod a phryd, a hefyd ar uwchraddio ambiwlansys i gerbydau trydan. Allech chi roi mwy o fanylion am hynny, os gwelwch yn dda, ac a allech chi hefyd ddweud sut y bydd y Llywodraeth yn monitro ansawdd aer y tu allan i ysbytai yn y cyfamser, oherwydd os yw ambiwlansys yn cael eu defnyddio fel ystafelloedd aros, ni ddylem fod yn cadw cleifion sy'n aros mewn amgylcheddau a fydd yn eu gwneud yn salach?
Wel, Llywydd, yr ateb sylfaenol yw peidio â chael ambiwlansys yn aros fel yna, ac er bod y sefyllfa yn y gwasanaeth iechyd yn parhau i fod yn heriol iawn, mae rhywfaint o newyddion da yn y maes hwn. Drwy gymryd agwedd system gyfan y cyfeiriais ato yn fy ateb gwreiddiol, llwyddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, drwy weithio gyda'r gwasanaeth ambiwlans, i sicrhau gostyngiad o 50 y cant yn nifer yr oriau ambiwlans a gollwyd wrth drosglwyddo yn Ysbyty Athrofaol Cymru rhwng Ionawr eleni ac Ionawr y llynedd. Ac mae'r gwersi sydd yno i'w dysgu o'r arbrawf llwyddiannus hwnnw yn cael eu lledaenu i rannau eraill o Gymru bellach. Felly, mi fydd Delyth Jewell, rwy'n gwybod, â diddordeb yn yr hyn sy'n digwydd yn y de-ddwyrain ac ers dechrau'r mis hwn, mae model llif diogel newydd ar waith yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, gan dynnu ar y gwaith sydd wedi bod yn llwyddiannus yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Y ffordd i wella ansawdd aer yw peidio â chael ambiwlansys yn aros i'r graddau y buon nhw. Pan fo rhaid iddyn nhw aros, fe ddylen nhw fod yn gerbydau trydan, nid cerbydau petrol, a dyna pam y cyhoeddodd y Gweinidog y byddwn ni'n gwella'r seilwaith wrth ddrws ffrynt yr ysbyty, fel ei bod hi'n haws i ambiwlansys weithredu yn y ffordd honno. Mae buddsoddiad sylweddol iawn eisoes gan Lywodraeth Cymru i wella fflyd gwasanaethau ambiwlans Cymru yn y ffordd honno. Fe ddaw'r arian ar gyfer y pwyntiau gwefru o gyllideb y Gweinidog ei hun, ac mae hi wedi nodi hynny, ac rwy'n siŵr y bydd gwybodaeth bellach y bydd hi'n gallu ei rhannu gydag Aelodau wrth i'r cynllun hwnnw ddatblygu.
Rwy'n sylwi bod Cymru a Lloegr wedi bod ag amseroedd ymateb ambiwlansys tebyg iawn o ran yr argyfyngau mwyaf difrifol ym mis Ionawr. Ond fe nodais fod ambiwlansys yn Lloegr 20 munud yn gynt yn cyrraedd eu cleifion categori 2 na'r rhai yng Nghymru o ran cyrraedd galwadau oren cleifion. Fe wrandawais ar eich ateb chi i Delyth Jewell, ac mae'n hollol iawn i ddysgu gwersi o rai rhannau o Gymru lle ceir profiad da ac efelychu hynny mewn rhannau eraill o Gymru, gan chwilio ble mae'r arfer gorau. Ond tybed pa arfer gorau y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu ei fabwysiadu o GIG Lloegr i gyrraedd y cleifion hynny'n gynt, yn enwedig mewn cysylltiad ag oedi wrth drosglwyddo gofal, wrth gwrs.
Fy man cychwyn, Llywydd, yw bob amser, lle ceir gwersi i'w dysgu, tu mewn neu y tu allan i Gymru, yna wrth gwrs byddem eisiau eu dysgu. O fy mhrofiad hir o'r mathau hyn o drafodaethau—a does gennyf i ddim byd o fy mlaen i—yr hyn y byddwn i'n tybio yw y bydd diffiniadau gwahanol o'r hyn sy'n cael ei nodi gan ymateb categori 2, felly rydyn ni'n cyfri pethau gwahanol, ac wrth gwrs rydyn ni'n eu cyfrif mewn daearyddiaeth wahanol hefyd, oherwydd bod cyfran uwch o Gymru yn cael ei ddosbarthu fel ardaloedd gwledig, gyda'r heriau a ddaw yn sgil hynny, o'u cymharu â rhai dros y ffin.
Ond gallaf sicrhau'r Aelod bod y bobl sy'n gweithio yn ein gwasanaethau ambiwlans bob amser mewn cysylltiad â phobl sy'n rhedeg gwasanaethau ambiwlans yn Lloegr, yn rhannol oherwydd ei bod yn ffin fân-dyllog. Mae'r Gweinidog ei hun wedi ymrwymo i wneud hynny, a cheir dysgu i'r ddau gyfeiriad. Ni oedd y rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig i gytuno ar y ffordd bresennol y mae perfformiad y gwasanaeth ambiwlans yn cael ei fesur. Mabwysiadwyd honno wedyn yn Lloegr. A hynny oherwydd bod deialog, bob amser, rhwng gweithwyr proffesiynol a swyddogion yn gobeithio gweld lle mae yna bethau y gellir eu dysgu oddi wrth ei gilydd.
6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran cyflwyno'r siarter gofalwyr di-dâl? OQ59273
Mae'r adroddiad blynyddol cyntaf ar weithredu'r strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl, gan gynnwys y siarter, yn cael ei gyhoeddi heddiw. Mae'n cynnwys ystod o gamau ymarferol—y cynllun seibiant byr a'r grant cymorth gofalwyr, er enghraifft—i gefnogi gofalwyr di-dâl.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog, am hynna. Mae hawl i ofalwyr di-dâl gael asesiad i ganfod pa gymorth sydd ei angen arnynt, os o gwbl, yn un o brif egwyddorion siarter gofalwyr di-dâl. Mae gwaith ymchwil gan y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor yn dangos bellach fod un o bob pedwar gofalwr clefyd niwronau motor ledled Cymru naill ai wedi cael asesiad gofalwyr neu yn y broses o gael un. Mae'r asesiadau hyn yn gwbl hanfodol ar gyfer asesu amrywiaeth o gymorth, a does dim rhaid dweud bod ein gofalwyr clefyd niwronau motor di-dâl, ac yn wir bob gofalwr, yn gwneud gwaith anhygoel. Tybed, Prif Weinidog, pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod pob gofalwr di-dâl yn cael mynediad i'r asesiadau hynny?
Rwy'n cytuno â Peter Fox fod yr hawl a sefydlwyd yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 bod gan ofalwyr di-dâl hawl i asesiad—mae'n hawl cyfreithiol sydd ganddyn nhw ac nad yw'n rhywbeth sy'n gras a ffafr gan unrhyw un arall—yn hawl bwysig iawn a sefydlwyd yn y Senedd hon. Mae'r strategaeth a'r cyllid sydd y tu ôl iddi yno i wneud yn siŵr bod yr hawl yna'n gallu bod yn realiti. Mae nifer o wahanol ffyrdd y gallwn ddatblygu'r agenda honno. Bydd cofrestr gofalwyr di-dâl, yr ydym wedi ymrwymo iddi, yn gwneud yn siŵr bod gennym ffordd fwy uniongyrchol o hysbysu gofalwyr di-dâl yng Nghymru am eu hawliau, i roi cyngor iddynt ynghylch sut y gallant wneud yr hawliau hynny yn realiti. Mae gwaith yn digwydd ar hyn o bryd i weld sut y gallwn ddefnyddio rhai ffynonellau data presennol i boblogi cofrestr gofalwyr di-dâl. Ond yr allwedd go iawn iddo fydd pan fyddwn yn gallu cael hunan-gofrestru. Dydyn ni ddim yno'n llwyr eto, ond rydyn ni'n obeithiol y bydd rhai o'r problemau technegol y mae'n rhaid eu datrys cyn y bydd pobl yn gallu rhoi eu henwau eu hunain ar y gofrestr ac yna cael y llif gwybodaeth hwnnw a gwneud yr hawliau hynny yn realiti—. Ein gobaith yw y byddwn yn gallu cyflawni hynny yn ystod y flwyddyn galendr nesaf.
7. Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod gweithwyr meddygol proffesiynol yn deall yr anawsterau y mae llawer o gleifion yn eu hwynebu yn dilyn defnyddio rhwyll mewn llawdriniaethau? OQ59241
Rhaid i fyrddau iechyd ddefnyddio canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar ddefnyddio rhwyll er mwyn rhoi dewisiadau triniaeth addas i gleifion. Dylai cynlluniau gofal adlewyrchu dewisiadau ar sail gwybodaeth, wedi'u cyd-gynhyrchu rhwng clinigwyr a chleifion.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ateb? Mae'r ymgyrchydd ysbrydoledig ac yn un o fy etholwyr, Maxine Cooper, sy'n byw yng Nghei Connah wedi cysylltu â mi. Stori Maxine yw iddi gael ei gadael yn anabl yn dilyn mewnblaniad rhwyll lawfeddygol, ac ers hynny mae wedi gweithio'n ddiflino i godi proffil pobl sydd wedi dioddef, a hefyd i gefnogi eraill. Prif Weinidog, rwy'n llwyr gefnogi Maxine yn ei gwaith i rymuso'r rhai sydd wedi dioddef gyda rhwyll i sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed, ac mae hyn yn cynnwys hyfforddiant ar gyfer gweithwyr meddygol rheng flaen. A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi i gyfle i bobl fel Maxine allu hysbysu'r gweithwyr proffesiynol hyn trwy eu prosesau hyfforddi?
Diolch i Jack Sargeant am ei ddiddordeb parhaus yn y pwnc hwn. Gwn ei fod wedi cyfeirio o'r blaen at waith ei etholwr a'r gwaith ymgyrchu y mae hi wedi'i wneud, a'i fod wedi cael sicrwydd gan y Gweinidog Iechyd ar y pryd ein bod yn disgwyl, ac yn wir wedi gweld, gostyngiad sylweddol yn nifer y gweithdrefnau rhwyll y wain sy'n cael eu cyflawni yng Nghymru. Er nad oes gwaharddiad llwyr arnyn nhw, dim ond pan fo dewis clir yn seiliedig ar wybodaeth yn cael ei wneud gan y claf y mae'r gweithdrefnau hynny'n mynd rhagddynt. Dyna pam y mae'r pwyntiau y mae Jack Sargeant wedi'u gwneud y prynhawn yma mor bwysig, Llywydd—mae'n rhaid inni fod mor glir ag y gallwn fod wrth ein clinigwyr bod rhaid i'r penderfyniadau hyn fod yn benderfyniadau ar y cyd sy'n cael eu hysgogi gan y dewisiadau yn seiliedig ar wybodaeth y mae menywod eu hunain yn eu gwneud.
Er mwyn i hynny ddigwydd, rydyn ni wedi bod yn gwneud dau beth ers i Jack ofyn ei gwestiynau blaenorol ar y materion hyn. Yn gyntaf yw sicrhau bod cyfleoedd hyfforddi newydd i'r rhai sydd â'r arbenigedd clinigol angenrheidiol, a sicrhau hefyd bod dull tîm amlddisgyblaethol iawn o weithredu'r canllawiau NICE hynny. Felly, rydyn ni'n gwneud yn siŵr bod y gymuned glinigol yn fwy hyddysg, ac rydyn ni wedi bod yn gweithio'n agos gyda defnyddwyr gwasanaethau a chynrychiolwyr cleifion, sy'n cynnwys grŵp Goroeswyr Rhwyll Cymru a Thriniaeth Deg i Fenywod Cymru. Mae'r Gweinidog yn bwriadu cyhoeddi strategaeth iechyd menywod i Gymru, a bydd y strategaeth honno'n cyfleu, yn ehangach, yr egwyddorion pwysig iawn hynny o sicrhau bod llais y claf, yn seiliedig ar wybodaeth ac yn awdurdodol, yn ysgogi'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud ochr yn ochr â nhw.
8. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r modd o gael gafael ar ddeintyddiaeth y GIG yng Ngorllewin Clwyd? OQ59250
Diolch i Darren Millar am hynna, Llywydd. Mae diwygio contractau, cymhellion ariannol, buddsoddiad ychwanegol ac arallgyfeirio'r proffesiwn ymhlith y camau sy'n cael eu cymryd i wella mynediad i etholwyr yr Aelod.
Rwy'n gwerthfawrogi'r ateb yna. Rwy'n gwybod bod yna ddatganiad ar y mater hwn yn ddiweddarach, ond 16 mlynedd yn ôl pan ddes i'n Aelod o'r Senedd am y tro cyntaf, roedd pobl yn gallu cael mynediad at ddau archwiliad GIG y flwyddyn, ac roedd y rhan fwyaf o bobl yn fy etholaeth yn gallu cofrestru gyda deintydd y GIG lleol heb unrhyw broblemau. Un mlynedd ar bymtheg yn ddiweddarach mae'n ymddangos bod deintyddiaeth y GIG, yn enwedig yn y gogledd, yn disgyn dros glogwyn. Rwy'n clywed yr un math o bryderon yn cael eu codi gan bobl eraill yn y Siambr hon hefyd. Rydym bellach wedi mynd i lawr i system lle nad yw'r rhan fwyaf o bobl ond yn cael archwiliad bob 12 mis ac, yn ogystal â hynny, pan fydd pobl yn newid cartref, nid ydynt yn gallu cofrestru gyda deintydd GIG lleol. Mae gennyf i etholwyr sy'n gorfod mynd i'r Alban er mwyn derbyn eu triniaeth ddeintyddol GIG am nad ydyn nhw'n gallu cofrestru yn fy etholaeth. Mae un practis unigol yn fy etholaeth sy'n caniatáu i bobl ychwanegu eu henwau at restr i gofrestru ar gyfer deintyddiaeth y GIG, a byddwch yn aros am ddwy flynedd er mwyn dod oddi ar y rhestr honno ac i mewn i'r practis deintyddol hwnnw. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod chi'n ceisio gweithredu, ond mae gennyf i ofn nad yw'n ddigon cyflym, ac yn amlwg nid yw'n cael yr effaith y mae pobl yn disgwyl ei gweld. Felly, a gaf i ofyn i chi, ar ran fy etholwyr yng Nghonwy a Sir Ddinbych, pryd fyddan nhw'n gallu cael y math o ofal GIG gan ddeintydd sydd ei angen arnyn nhw?
Un o'r ffyrdd y bydd etholwyr yn etholaeth yr Aelod yn cael y gwasanaeth hwnnw yw pan fydd deintyddion mewn ffordd drylwyr yn cyflawni canllawiau NICE. Gofyniad NICE ers 2004 yw na ddylai pobl fyth gael eu galw'n ôl ddwywaith y flwyddyn am archwiliad pan nad oes rheswm clinigol dros wneud hynny. Dywedodd canllawiau NICE amser maith yn ôl bod galw nôl bob dwy flynedd yn ddigonol i lawer iawn o gleifion.
Yr hyn y mae'r contract newydd yn ei wneud yw cyfnewid achosion o alw pobl yn ôl am archwiliadau rheolaidd pan nad oes achos clinigol dros wneud hynny am wasanaethau i gleifion newydd. Er fy mod yn gwerthfawrogi ei bod yn dal yn heriol mewn rhai rhannau o Gymru i gleifion allu cofrestru, mewn gwirionedd, mae gan Betsi Cadwaladr y nifer uchaf o gleifion newydd a welwyd yn y 10 mis diwethaf o gymharu ag unrhyw fwrdd iechyd yng Nghymru. Ar draws y bwrdd iechyd, yn ystod 10 mis cyntaf y cytundeb newydd, mae dros 26,600 o gleifion newydd wedi eu gweld ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Cynorthwyir hynny'n rhannol, wrth gwrs, gan academi ddeintyddol newydd Bangor, a fydd, erbyn yr hydref hwn, pan fydd yn gweithredu'n llawn, yn cynnig apwyntiadau i hyd at 15,000 o gleifion newydd yn y rhan honno o Gymru.
Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw cydnabod y gwaith caled iawn y mae ein contractwyr deintyddol yn ei wneud ym mhob rhan o Gymru. Mae angen i ni weithio ochr yn ochr â nhw i weithredu'r contract newydd, i wneud yn siŵr bod y metrigau yr ydym yn eu defnyddio yn tynnu ar brofiad y flwyddyn gyntaf i gael y metrigau hynny'n iawn, ond bod y metrigau'n canolbwyntio'n iawn nid ar waith troi dolen, sef y ffordd yr oedd yr hen unedau o gontract gweithgaredd deintyddol yn annog pobl i gyflawni eu hymarfer, ond gwaith wedi'i haenu'n glinigol briodol. Dylai pobl sydd angen cael eu gweld yn fwy rheolaidd gael eu gweld yn fwy rheolaidd; yn sicr ni ddylai'r bobl hynny nad ydynt angen cael eu gweld bob chwe mis gael eu galw'n ôl ar y sail honno. Bydd hynny'n rhyddhau mwy o amser i gleifion newydd gael eu gweld. Rydyn ni'n gweld hynny'n digwydd yn barod. Mae mwy y gallwn ei wneud yn y ffordd honno, a bydd hynny'n helpu trigolion etholaeth yr Aelod.
Diolch yn fawr iawn i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae dau newid i'r busnes yr wythnos hon. Mae'r ddadl cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) wedi'i gohirio tan yr wythnos nesaf. Yn yr un modd, mae'r drafodaeth ar Reoliadau Gwastraff Deunydd Pacio (Casglu a Chofnodi Data) (Cymru) 2023 hefyd wedi'i gohirio. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
A gaf i ofyn i chi, Trefnydd, am ddatganiad gennych chi'ch hun yn rhinwedd eich swydd yn Weinidog materion gwledig ynghylch brech y gwiwerod? Mae problemau enfawr gyda brech y gwiwerod; mae'n effeithio ar lawer o wiwerod coch, ein gwiwerod brodorol, yn Yr Alban, ac rwy'n pryderu'n fawr bod yn rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu er mwyn atal achosion yn y fan yma. Bu achosion, wrth gwrs, ar Ynys Môn ychydig flynyddoedd yn ôl yn 2020 a 2021, ac fe gafodd 70 y cant i 80 y cant o boblogaeth y gwiwerod coch ei ddileu. Ar hyn o bryd mae deiseb wedi ei gosod gerbron y Pwyllgor Deisebau yn y Senedd. Mae tua 8,000 o bobl wedi llofnodi'r ddeiseb honno yn galw ar Lywodraeth Cymru i ryddhau rhai adnoddau er mwyn gallu buddsoddi yn natblygiad brechlyn ar gyfer brech y gwiwerod. Rydyn ni'n gwybod bod gennym ymchwilwyr rhagorol yma yng Nghymru a allai helpu i gyflawni'r nod hwnnw, a fyddai'n gam enfawr ymlaen i'n gwiwerod coch brodorol. Felly, a gaf i ofyn i chi, gan mai fi yw hyrwyddwr y wiwer goch yn y Senedd hon, a wnaiff Llywodraeth Cymru gymryd rhai camau yn y maes hwn, ac a fydd datganiad yn dod yn fuan?
Yn sicr byddwn ni'n cymryd camau, ac rydyn ni wedi parhau i gymryd camau ers dechrau'r achosion ar Ynys Môn y cyfeirioch chi atyn nhw. Rwy'n credu, bryd hynny, gwnaethom ni gynnig pot bach o arian i weld beth y gellid ei ddysgu o hynny. Yn amlwg, byddaf yn aros am ganlyniad y ddeiseb—yn amlwg, mae nifer sylweddol o bobl wedi ei llofnodi—a pha un a fydd honno'n dod ymlaen ar gyfer dadl. Ond mae hefyd ar y rhestr o—. Byddwch chi'n ymwybodol bod y prif swyddog milfeddygol newydd, Richard Irvine, wedi dechrau ddoe. Fe wnes i ei gyfarfod am gyfnod byr, ond rydyn ni'n mynd i gael golwg ar lawer o faterion penodol. Yn amlwg, mae'n dod ag arbenigedd gwahanol i'r rôl hefyd, ond mae'n sicr yn rhywbeth y byddwn ni'n edrych arno.
Hoffwn alw am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Llywodraeth yn ailymrwymo safbwynt Cymru ar groesawu ffoaduriaid. Mae'r rhethreg hyll a pheryglus sydd wedi'i defnyddio yn San Steffan am atal y llwybrau y mae pobl sy'n anobeithio yn cael eu gorfodi i'w defnyddio oherwydd mai cychod ar draws y sianel yw'r unig opsiwn sydd ar gael iddyn nhw pan fydd yr holl lwybrau cyfreithiol sydd ar gael wedi'u dileu—maen nhw wedi eu torri i ffwrdd—mae'n niweidio enw da Cymru yn rhyngwladol drwy fod wedi ein cysylltu â hyn. Byddwn yn cofnodi fy siom bod rhai ASau Ceidwadol, a rhai ASau Llafur hefyd, wedi rhannu postiadau ar-lein gydag iaith sy'n trin ffoaduriaid fel problem i'w datrys yn hytrach na phobl i'w cynorthwyo.
Nawr, rydyn ni yng Nghymru, rydyn ni'n falch o fod yn genedl noddfa. A allai datganiad nodi beth all y Llywodraeth hon ei wneud i wrthsefyll y difrod sy'n cael ei wneud i'n henw da ar y llwyfan rhyngwladol? Oherwydd, does bosib, nad yw'n bryd i ni atal caniatáu i Gymru gael ei baeddu drwy gysylltiad â'r creulondeb a'r dideimladrwydd sy'n dod o'r Swyddfa Gartref.
Diolch. Wel, rydyn ni'n falch iawn o fod yn genedl noddfa, ac, fel y gwyddoch chi, mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi ysgrifennu at y Gweinidog mewnfudo i ddatgan yn ddigamsyniol ein bod yn gwrthwynebu'r Bil mudo cyfreithiol, a bod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn debygol o fod yn ofynnol, wrth gwrs. A nododd y Gweinidog hefyd asesiad Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig y byddai'r Bil yn torri confensiwn y ffoaduriaid, ac, wrth gwrs, ni allai'r Ysgrifennydd Cartref ei hun sicrhau unrhyw un ei fod yn cydymffurfio â'r confensiwn hawliau dynol.
Felly, mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gweithio'n agos iawn ar y mater hwn. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni i gyd fod yn ofalus iawn, on'd oes, o'r iaith yr ydyn ni'n ei defnyddio, ac, unwaith eto, byddwch chi wedi clywed Gweinidogion y DU yn honni eu bod wedi rhoi cynnig ar bopeth arall, felly mae'r Bil hwn bellach yn angenrheidiol. Rydyn ni yn credu bod hynny'n anwiredd.
Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar dai cydweithredol. Mae tai cydweithredol yn boblogaidd mewn mannau mor amrywiol â Sgandinafia ac Efrog Newydd, ond mae wedi methu â dod yn ffurf safonol o lety yng Nghymru. Nid llety i bobl dlawd yn unig mohono; roedd John Lennon yn byw yn adeilad Dakota, oedd yn llety cydweithredol. Cafodd yr asiantaeth ddatblygu, Cwmpas, co-op y wlad, a'r sector tai dan arweiniad y gymuned eu cefnogi yn 2022 i gynyddu nifer yr eiddo tai cydweithredol yng Nghymru. A gaf i ofyn am ddiweddariad ar y cynnydd?
Hoffwn ofyn hefyd am ddatganiad ar faterion cladin i gynnwys cefnogaeth i ddatblygiadau lle nad yw'r datblygwr yn bodoli mwyach, dyddiad pan ddisgwylir i'r cytundeb gael ei lofnodi, a phryd disgwylir i'r gwaith adfer i eiddo fel Altamar ddechrau.
Diolch. Ar eich ail gwestiwn ynglŷn â chladin, bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn sicr yn gwneud cyhoeddiad yn y dyfodol agos iawn ynglŷn â hynny, a'r dyddiad y bydd y cytundeb yn cael ei arwyddo.
Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn am dai cydweithredol. Mae tai cydweithredol ei hun yn bwysig iawn, a doeddwn i ddim yn gwybod hynny am John Lennon, felly mae hynny'n rhywbeth rwyf wedi'i ddysgu heddiw. Rydyn ni'n gwybod mai un o'r ffyrdd gorau o gynyddu'r ddarpariaeth yw rhoi cymorth i'r rhai hynny sydd â diddordeb mewn tai cydweithredol neu dai dan arweiniad y gymuned. Ac mae gennym gyllid drwy Cwmpas—fe gyfeirioch chi at Cwmpas, a oedd, yn amlwg, yn flaenorol yn Ganolfan Cydweithredol Cymru. Bwriad hwnnw yn sicr yw darparu'r gefnogaeth honno, ac rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru'n darparu £180,000 eleni, ac am y ddwy flynedd nesaf, i gefnogi grwpiau tai sy'n cael eu harwain gan y gymuned yng Nghymru.
Rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cyllid am newidiadau i'r premiymau treth gyngor o 1 Ebrill, ac, yn benodol, yr eithriadau i'r ardoll arfaethedig o 300 y cant o'r dreth gyngor ar eiddo gwag ac ail gartrefi. Er y bydd gan gynghorau bŵer dewisol eang i benderfynu a ddylid codi premiwm, dangosodd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ar y mater hwn fod y mwyafrif o'r ymatebwyr eisiau bod â mwy o eithriadau na'r rheini a restrwyd. Yn benodol, roedd hyn yn cynnwys eithriad ar gyfer elusennau cofrestredig sy'n darparu gofal seibiant i ofalwyr. Doedd ymatebwyr ddim eisiau i hyn fod yn bŵer dewisol i awdurdodau lleol.
Nawr, er gwaethaf trafodaethau gyda Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon i ystyried eithriadau yn yr achosion hyn, ychydig iawn o symud sydd wedi bod yn y maes hwn. Fel yr amlinellwyd gan y Gweinidog cyllid mewn datganiad ysgrifenedig ar yr ymgynghoriad, yr unig newid a wnaed i'r ddeddfwriaeth ddrafft oedd sicrhau bod eiddo nad oes ganddynt gyfnod o amser a bennir yn eu hamodau cynllunio llety gwyliau wedi'u heithrio rhag talu'r premiwm.
Trefnydd, efallai fod hwn yn fater a allai fod wedi ei fethu gan y Gweinidog cyllid, ond mae'r darparwyr hyn yn cefnogi gwasanaeth gwerthfawr a hanfodol. Felly, pa drafodaethau y mae'r Gweinidog cyllid wedi'u cael gyda Gweinidogion a rhanddeiliaid eraill Llywodraeth Cymru ynghylch yr eithriadau hyn? Pa resymau sydd y tu ôl i'w phenderfyniad i beidio â'u hymestyn? A yw'r Gweinidog cyllid wedi cael sicrwydd gan awdurdodau lleol na fyddan nhw'n defnyddio eu pwerau dewisol i drethu'r rhai hynny sy'n darparu gofal seibiant ar bremiwm o 300 y cant? Ac, yn bwysicaf oll, pa ddadansoddiad sydd wedi'i wneud i ddod i'r penderfyniad hwn? Byddai diweddariad i'r Siambr, a'r cyfle i drafod a chael dadl ar y materion hyn ymhellach yn cael eu gwerthfawrogi.
Wel, rwy'n credu, gyda pharch, eich bod chi'n gofyn y cwestiynau hynny i'r Gweinidog anghywir. Rwy'n credu mai'r peth gorau fyddai i chi ysgrifennu at y Gweinidog cyllid. Rwy'n clywed yr hyn rydych chi'n ei ddweud am ddatganiad, ond fe wnaethoch chi ofyn cyfres o gwestiynau yn y fan yna na allaf i, yn amlwg, eu hateb o gwbl. Rwy'n ymwybodol bod y Gweinidog wedi ein diweddaru ni—rwy'n meddwl, mewn datganiad llafar, ond efallai mai datganiad ysgrifenedig y byddai wedi bod—os oes unrhyw beth y tu hwnt i'r datganiad hwnnw nad yw wedi cael ei ateb, fe ofynnaf iddi gyflwyno datganiad ysgrifenedig.
Trefnydd, hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd, yn ymateb i'r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a'u hadolygiad o gleifion yn cael eu rhyddhau o wardiau iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Amlygwyd risgiau sylweddol, ac maen nhw'n parhau, a hoffwn ofyn am sicrwydd gan y Gweinidog ei bod hi a'i swyddogion yn monitro'r sefyllfa ac yn cefnogi'r bwrdd iechyd i roi ar waith y gwelliannau sydd eu hangen.
Yn ail, fel y byddwch chi'n ymwybodol, mae rhyddhau gwastraff dynol i'n hafonydd a'n moroedd yn broblem fawr. A'r wythnos diwethaf ym Mhontypridd, fe welsom ni lwyth o garthion heb eu trin yn pwmpio i mewn i afon Taf, ar ôl i bibell dorri. Mae llawer o Aelodau wedi codi materion ynghylch hyn yn y Senedd, ac, fel y cofiwn ni, rhoddodd y Gweinidog Newid Hinsawdd ddatganiad am ansawdd dŵr i'r Senedd fis Tachwedd diwethaf. Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog, yn diweddaru'r Senedd ar unrhyw drafodaethau sydd wedi digwydd wedi hynny gyda chwmnïau dŵr ynglŷn â'r mater hwn, gan y dywedodd bod uwchgynhadledd arall ar lygredd afonydd i fod i gael ei chynnal ym mis Chwefror 2023.
Diolch. O ran adolygiad AGIC o ansawdd trefniadau rhyddhau o unedau cleifion mewnol iechyd meddwl oedolion yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gallaf eich sicrhau bod uned gyflawni'r GIG yn darparu cymorth i'r bwrdd iechyd, ac mae swyddogion y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn monitro'r cynnydd trwy ein trefniadau ymyrraeth wedi ei thargedu gyda'r bwrdd iechyd. Ac wrth gwrs, mae'r Gweinidog yn disgwyl i'r bwrdd iechyd flaenoriaethu cynllun o waith i weithredu'r argymhellion o'r adroddiad yr ydych wedi cyfeirio ato mewn ymateb i ganfyddiadau'r adolygiad.
O ran eich ail fater, rwy'n ymwybodol bod y bibell bellach wedi cael ei thrwsio. Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn cyfarfod yn rheolaidd gyda'r cwmnïau dŵr am amrywiaeth o drafodaethau. Mewn gwirionedd, cynhaliwyd yr ail uwchgynhadledd ffosffad ddydd Mercher diwethaf—roedd wedi'i gohirio o fis Chwefror. Cadeiriwyd hi gan y Prif Weinidog, ac roeddwn i a'r Gweinidog Newid Hinsawdd yno, ac, yn amlwg, cynrychiolwyd y byrddau iechyd hefyd—mae'n ddrwg gen i, y byrddau dŵr, mae'n ddrwg gen i, cynrychiolwyd y cwmnïau dŵr hefyd. Rwy'n dangos fy oedran. [Chwerthin.]
Hoffwn gysylltu fy hun â'r pryderon a fynegwyd gan Heledd Fychan. Oherwydd darllenais heddiw fod carthion yn cael eu rhyddhau i afon Taf, a phwy sydd eisiau bod â thoiled yn datblygu y tu allan i'n hadeilad? Felly, mae hyn yn bryder difrifol iawn, y mae angen i ni fynd ar ei drywydd mewn mannau eraill.
Trefnydd, tybed a allwn ni gael diweddariad ar y trafodaethau yr oedd penaethiaid archfarchnadoedd i fod i gael gyda Gweinidog Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Mark Spencer, a grybwyllwyd gennych yr wythnos diwethaf, ar sut rydym yn gwella'r prinder cyflenwadau llysiau a ffrwythau i fwydo ein cenedl. Beth, os rhywbeth, wnaethoch chi ddysgu o'r cyfarfod rhyng-weinidogol yr oeddech yn ei gynnal yr wythnos diwethaf, rwy'n credu? Yn benodol, rwyf eisiau archwilio sut mae'n bosibl bod tyfwyr ffrwythau yng Nghaint yn gorfod tynnu'r coed o'r ddaear yn eu perllannau, fel rydyn ni'n siarad, oherwydd bod yr archfarchnadoedd yn gwrthod talu digon iddyn nhw i hyd yn oed dalu eu costau, heb sôn am wneud elw i gadw'r busnes yn gynaliadwy. Ac yn eich rôl chi fel Gweinidog Materion Gwledig, sut ydyn ni'n mynd i ddefnyddio Bil Amaethyddiaeth (Cymru) i wneud yn siŵr nad yw'r math yma o ladrad agored yn digwydd yn ein gwlad ni?
Diolch. Wel, fedra i ddim cofio ble roeddwn i pan gyfeiriais i at hyn, ond yn sicr cyfeiriais at y cyfarfod a gynhaliwyd gan y Gweinidog bwyd a ffermio yn Llywodraeth y DU gydag archfarchnadoedd. Yn amlwg, rwy'n cwrdd gyda manwerthwyr, gyda phroseswyr a gyda ffermwyr ynghylch cyflenwad bwyd, ond gwnaeth y Gweinidog yn Llywodraeth y DU gynnal math o uwchgynhadledd archfarchnadoedd, na wnaeth, yn anffodus, wahodd Gweinidogion y gweinyddiaethau datganoledig iddi, ac rwy'n credu bod hynny'n drueni. Felly codais hyn gydag ef yn y grŵp rhyng-weinidogol, fel y dywedwch chi, ac yn y bôn dywedodd nad yr archfarchnadoedd sydd ar fai. Fe wnes i geisio egluro am y contractau, oherwydd rwy'n credu bod y pwynt yna'n bwysig iawn. Nawr, dydw i ddim yn gwybod beth sy'n digwydd yng Nghaint, ond rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn—bod angen i ni sicrhau bod y contractau hynny'n gwbl deg. Ac roedd yn ddiddorol iawn ar y pryd, pan oedden ni'n gweld prinder ffrwythau a llysiau yn ein harchfarchnadoedd nad oedden ni'n gweld hynny yn y siopau ffrwythau a llysiau.
O ran eich cwestiwn ynghylch y Bil amaeth, yn amlwg, mae hynny'n gosod rheolaeth tir cynaliadwy fel fframwaith ar gyfer ein polisi amaethyddol yn y dyfodol, ac yn amlwg rydym yn agosáu at Gyfnod 2 y Bil amaeth yr wythnos nesaf. A'r hyn y gallwn ni ei wneud i helpu, yn amlwg, yw sicrhau y bydd unrhyw bolisi a chymorth i ffermio yn y dyfodol yn gwobrwyo ffermwyr, yn amlwg, nid dim ond mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, ond hefyd am gynhyrchu'r bwyd cynaliadwy hwnnw.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Weinidog yr Economi ar ba waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu ein tafarndai yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn iddyn nhw? Rwyf wedi gweld nifer o dafarndai yn cau yn fy etholaeth i, sydd yn drueni mawr i'r teuluoedd hynny sy'n ymwneud â hynny. Rwy'n gwybod bod llawer o'r ysgogiadau gan Lywodraeth y DU, ond rwy'n credu y byddai'n ddiddorol iawn clywed beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ein tafarndai a'n diwydiant lletygarwch yn ystod yr argyfwng costau byw.
Gwnaeth Gweinidog yr Economi a minnau gwrdd â chryn dipyn o gynrychiolwyr o'r diwydiant tafarndai, mewn gwirionedd, ym mragdy Brains, heb fod mor hir â hynny yn ôl, ychydig cyn y Nadolig mae'n debyg—cwpl o fisoedd yn ôl—i drafod yr hyn y gallem ni ei wneud fel Llywodraeth i gefnogi. Byddwch yn ymwybodol bod gennym amryw o gynlluniau a lefelau o gymorth hefyd. Rydych chi'n iawn: Llywodraeth y DU sydd â llawer o'r ysgogiadau hynny, ac rwy'n siŵr bod Gweinidog yr Economi yn cael trafodaethau gyda'i swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU ar y mater hwn hefyd.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd, os gwelwch yn dda, ynghylch sicrwydd tenantiaeth i bartneriaethau meddygon teulu? Mae hyn yn dod yn sgil cyhoeddiad bod landlord meddygfa Porthmadog wedi rhoi cais cynllunio ymlaen i droi'r adeilad yn fflatiau. Bydd hyn yn golygu y bydd yn rhaid i'r feddygfa, o bosibl, gau, gan nad oes yna unlle arall ar ei chyfer hi yn y dref ar hyn o bryd. Mae'n ymddangos yn rhyfedd i fi bod gwasanaeth mor bwysig â meddygfa deuluol yn medu cael ei lluchio allan heb unrhyw sicrwydd, gan achosi pryder anferthol i'r cleifion. Felly, buaswn i'n ddiolchgar i gael datganiad ynghylch y sefyllfa yma, os gwelwch yn dda.
Yn ail, a gaf i ddatganiad gennych chi fel y Gweinidog amgylcheddol—gwledig, mae'n flin gen i—ynghylch beth ddaeth allan o'r cyfarfod ffosffadau yr wythnos diwethaf? A gawn ni ddiweddariad brys a buan ynghylch hynny, os gwelwch yn dda?
Bydd y diweddariad ar yr uwchgynhadledd ffosffadau yn dod drwy ddatganiad ysgrifenedig gan y Prif Weinidog, ac nid gennyf fi. O ran eich cwestiwn ynglŷn â'r feddygfa yn eich etholaeth, byddwn i'n meddwl, gan ei fod yn fater mor benodol, y byddai'n well i chi ysgrifennu at y Gweinidog iechyd yn uniongyrchol.
Hoffwn gael dau ddatganiad, y cyntaf ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu—NPCC—a ryddhawyd heddiw, a ddywedodd fod naw o bob 10 cwyn am drais yn erbyn menywod a merched gan swyddogion heddlu yng Nghymru a Lloegr wedi eu gollwng dros gyfnod o chwe mis. Ond, o'r achosion a ddatryswyd, dim ond 13 o'r swyddogion hynny gafodd eu diswyddo, yn ôl y data gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, ac fe gafodd dwy ran o dair o'r cwynion cyhoeddus eu categoreiddio yn rhai defnydd o rym. Yn yr achosion hyn, roedd cwynion gan fenywod yn ymwneud â'r defnydd o rym wrth gael eu rhoi mewn cyffion, ac roedd rhai o'r rheiny'n gwynion o ymosod yn rhywiol. Mae'n amlwg na allwn ni fynd ymlaen fel hyn, Gweinidog. Mae'n rhaid gwneud rhywbeth.
Mae'r ail ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yr hoffwn yn ymwneud â pha drafodaethau, os o gwbl, rydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â Boris Johnson yn enwebu ei dad, Stanley Johnson, i gael ei urddo'n farchog. Honnir i Stanley Johnson ddyrnu ei gyn-wraig, y diweddar Charlotte Wahl, mor galed yn ystod eu priodas gyntaf nes iddo dorri ei thrwyn. Mae wedi dweud bod cefnogwyr wedi dweud ei fod yn ddigwyddiad 'untro', fel petai hynny'n iawn. Mae Charlotte Wahl, ar y llaw arall, wedi dweud iddo ei tharo droeon a disgrifiodd eu priodas fel un 'dychrynllyd', 'ofnadwy'. Yr hyn sy'n fy mhoeni i a'r rhan fwyaf o bobl yw'r neges y gallai'r marchog arfaethedig ei rhoi i gyflawnwyr eraill cam-drin domestig ei bod yn iawn i gam-drin eich cymar, ac i'r dioddefwyr a'u teuluoedd bod yr hyn y maen nhw'n ei ddioddef yn dderbyniol, efallai hyd yn oed yn ddibwys. Mae hyn yn peryglu troi'r agenda am yn ôl, tra bod y Llywodraeth hon a'r Aelodau yn y fan yma yn ceisio symud yr agenda yn ei blaen.
Diolch. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn ymwybodol iawn bod y data newydd gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu yn tynnu sylw at yr hyn a ddywedoch chi, Joyce Watson—bod naw o bob 10 cwyn gan aelodau'r cyhoedd wedi arwain at beidio â chymryd camau yn erbyn swyddogion heddlu a staff a oedd wedi cael eu cyhuddo o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac roedd y data hwnnw wedi ei seilio ar fis Mawrth 2022, ac roedd yn gyfnod o tua chwe mis. Yn amlwg, mae plismona yn fater a gedwir yn ôl a chyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyw, ond, fel y gwyddoch chi, fel Llywodraeth, ac yn sicr mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn cymryd y mater o ymddygiad yr heddlu o ddifrif, yn enwedig gan fod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol wrth gwrs yn fater sydd wedi'i ddatganoli yma ac yn un yr ydym yn gweithio'n agos iawn gyda'n cydweithwyr yn yr heddlu arno. Cadeiriodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Fwrdd Partneriaeth Plismona Cymru ychydig cyn y Nadolig ac, yno, trafodwyd y mater o ffydd mewn plismona, a chytunwyd mewn gwirionedd ei fod yn fater mor bwysig y byddai'n eitem sefydlog ar bob agenda'r bwrdd partneriaeth hwnnw.
O ran eich ail bwynt, fel y dywedwch chi, fel Llywodraeth, rydym ni wedi ymrwymo'n fawr i gymryd camau i fynd i'r afael â cham-drin domestig. Mae gennym linell gymorth Byw Heb Ofn—mae honno ar gael i unrhyw un sydd angen siarad â rhywun am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig neu drais rhywiol. Dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw drafodaethau penodol ynglŷn â'r anrhydedd y gwnaethoch chi gyfeirio ato. Unwaith eto, mae'r holl bolisi a'r broses anrhydeddau yn fater a gedwir yn ôl yn llwyr a chyfrifoldeb Swyddfa Cabinet y DU ydyw, ond, eto, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, os yw hi wedi cael unrhyw drafodaethau, yn diweddaru'r Aelod, ond dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw rai.
Dau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Hoffwn ddatgan buddiant ar yr un cyntaf, gan fod hyn yn effeithio ar berthynas, fodd bynnag, mae hefyd yn effeithio ar nifer fawr o fy etholwyr. Felly, hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar asesiadau cyn llawdriniaeth. Yn gynharach yn y mis, ysgrifennodd bwrdd Betsi ataf, gan ddweud, 'Mae cydweithwyr wedi cadarnhau unwaith y bydd claf wedi pasio'r POAC, nod y bwrdd iechyd yw trefnu llawdriniaeth ar ei gyfer o fewn 16 wythnos i ddyddiad y POAC.' Nawr, mae hyn wedi cynyddu, hyd y gwn i—rwy'n credu bod y Gweinidog bron â chytuno yn y fan yna—oherwydd roedd yn arfer bod yn chwe wythnos, ond erbyn hyn, mae pedwar mis yn sylweddol hirach nag yr oedd yn arfer bod. Mae gan wefan bwrdd Betsi rywfaint o wybodaeth am asesiadau cyn llawdriniaeth, ond nid wyf wedi gallu dod o hyd i unrhyw wybodaeth gyhoeddus am eu hamserlenni ar gyfer asesiadau o'r fath, nac, yn wir, sut mae'r canllawiau meddygol yn dylanwadu ar y rhain. Mae'r Ganolfan Gofal Amdriniaethol a gyhoeddwyd ym Mehefin 2021 yn nodi:
'Dylai'r holl wasanaethau amdriniaethol fod â system ar gyfer gwyliadwriaeth glinigol weithredol ar gyfer cleifion ar restrau aros, yn enwedig y rhai hynny sydd wedi bod ar restrau am fwy na 3 mis ar gyfer llawdriniaeth P3 neu P4.'
Felly, rwy'n bryderus iawn bod bwrdd Betsi wedi ymestyn yr amserlenni i hyd at 16 wythnos ar adeg pan nad oes safon clir ar gyfer Cymru gyfan. Felly, er budd diogelwch cleifion, byddwn yn ddiolchgar pe bai modd gwneud datganiad.
O, ac wedyn—
Na, mae'n iawn. Rydych chi eisoes ymhell dros amser, ac mae gen i—
Yr ail un—
Ie. Gallwch chi wneud hwnnw yr wythnos nesaf, Janet. Rydych chi ymhell dros amser.
Diolch. Doeddwn i ddim yn ymwybodol o'r newid o chwe wythnos i 16 wythnos, ac fel y dywedwch chi, byddwn i wedi meddwl y byddai yna safon Cymru gyfan. Felly, fe wnaf yn sicr ofyn i'r Gweinidog iechyd edrych ar yr hyn yr ydych chi newydd ei gyflwyno, oherwydd rwy'n credu y byddai angen esboniad pe byddai wedi mynd o chwe wythnos i 16 wythnos ar gyfer asesiadau cyn llawdriniaeth, oherwydd, yn amlwg, os bydd rhywun yn cael asesiad cyn llawdriniaeth, yna gallai ei iechyd newid yn sylweddol yn yr amser hwnnw. Dydw i ddim yn ymwybodol os oes safon i Gymru gyfan, ond byddwn i wedi meddwl y byddai yna, felly fe wnaf yn sicr ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gael golwg ar hynny.
Hoffwn ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr economi, yn rhoi eglurhad o'r broses a ddilynir—yn fuan, gobeithio—i gyhoeddi rhoi statws porthladd rhydd i borthladd neu borthladdoedd yng Nghymru, penderfyniad a wnaed ar y cyd, wrth gwrs, gan Lywodraethau'r DU a Chymru. A hoffwn roi ar y cofnod, unwaith eto, fy niolch i gyngor Môn a Stena am lunio cais cryf iawn, iawn sydd â buddiannau pobl Môn yn ganolog iddo. Ac nid yw wedi bod yn broses hawdd cyrraedd y pwynt hwn—yr ymladd am statws ariannu cyfartal gyda Lloegr; doedd £26 miliwn am borthladd rhydd yn Lloegr ac £8 miliwn i Gymru ddim yn ymddangos yn deg—ond rwy'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am gyflwyno'r achos hwnnw i Lywodraeth y DU, ac am ofyn am y sicrwydd hynny ynghylch hawliau gweithwyr a rheoliadau amgylcheddol. A bydd angen llawer iawn o fonitro o hyd, ond, gyda'r sicrwydd ar waith, roedd gennym y sylfeini cadarn y gellid adeiladu cais cadarn arnynt. Gallwn, gobeithio, gyda'r statws, symud ymlaen at adeiladu ar ein statws fel ynys fasnachu. Cais cymunedol yw hwn i helpu cymuned sydd wedi dioddef ergyd ar ôl ergyd o gau Anglesey Aluminium a Rehau ac effaith Brexit y blynyddoedd diwethaf ac, wrth gwrs, y cyhoeddiad diweddaraf dinistriol ynghylch ffatri Two Sisters yn Llangefni. Felly, byddai eglurder i'w groesawu'n fawr.
Diolch i chi. Yn amlwg, penderfyniad i Weinidog yr Economi fydd hwn, a fydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd gyda datganiad maes o law.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Joyce Watson.
1. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd? OQ59269
Mae gennym ni nifer o gynlluniau sy'n rhoi cymorth ymarferol ac ariannol ar gyfer dechrau defnyddio cartrefi gwag unwaith eto. Ym mis Ionawr, fe gyhoeddais i gynllun grant cenedlaethol cartrefi gwag o £50 miliwn, sy'n agored i geisiadau nawr, i ychwanegu eto at y mesurau hyn.
Diolch i chi, Gweinidog, ac rwy'n hynod o falch y bydd pob un o'r awdurdodau lleol yn fy rhanbarth yn cymryd rhan yn y cynllun hwn, ac mae Gwynedd yn derbyn ceisiadau eisoes. Mae gwir angen amdano. Ac a gaf i ofyn, a ydych chi wedi cael cyfle i ddarllen adroddiad diweddaraf Sefydliad Bevan ynglŷn â'r farchnad rhentu preifat yng Nghymru a oedd yn canfod mai dim ond 32 eiddo a hysbysebwyd ledled Cymru a oedd ar gael ar gyfraddau lwfans tai lleol, ac mai 1.2 y cant o'r farchnad rhent a oedd ar gael ar gyfraddau lwfans tai lleol, ac nid oes gan 16 awdurdod lleol unrhyw eiddo o gwbl ar gael ar gyfraddau lwfans tai lleol? Felly, mae hi'n amlwg fod angen hwn i dynnu'r tai hynny yn ôl i'r farchnad, ac rwy'n tybio eich bod chi'n edrych ymlaen, fel minnau ac eraill, yng nghyllideb yfory a fydd yn cyd-fynd â'n buddsoddiad ni mewn tai fforddiadwy ar gyfer gallu cyflawni ar gyfer y cymunedau hyn sydd dan ofal pob un ohonom ni?
Ie. Diolch yn fawr i chi, Joyce Watson, am y cwestiwn amserol iawn yna. Fel y gwn y gwyddoch chwithau, Joyce, mae cartrefi gwag yn falltod llwyr ac yn achosi anhwylustod yn ein cymunedau ni. Maen nhw'n denu ymddygiad gwrthgymdeithasol, maen nhw'n achosi problemau iechyd amgylcheddol, maen nhw'n cyfrannu at ymdeimlad cyffredinol o ddirywiad yn y gymdogaeth, ac ymdeimlad nad oes neb yn poeni am y stryd arbennig honno mewn gwirionedd na'r gymdogaeth fechan arbennig honno chwaith. Ac mae hynny wir yn achosi rhwystredigaeth fawr pan fo'r cyflenwad tai mor wan hefyd. Mae hi'n drueni gwirioneddol a dyna symptom arall o'r farchnad dai gwbl gyfeiliornus sydd gennym ni sef bod hyn yn gallu digwydd.
Felly, fel dywedais i, rydyn ni wedi dyrannu £50 miliwn yn ystod y ddwy flynedd nesaf i sicrhau bod hyd at 2,000 o dai sydd wedi bod yn wag yn yr hirdymor ledled Cymru yn cael eu defnyddio unwaith eto trwy ein cynllun cenedlaethol o grantiau cartrefi gwag. A dim ond i ddweud, er bod y niferoedd yn amrywio—tua 22,000, er enghraifft, o gartrefi gwag—mae hi'n anodd iawn mewn gwirionedd gwahaniaethu rhwng y cartrefi hynny sydd, er enghraifft, yn cael eu marchnata ar werth neu'n wag am resymau eraill, pobl mewn—. Wyddoch chi, fe geir amrywiaeth o bethau. Felly mae gennym ni grant penodol iawn ar gyfer cartrefi sy'n wag ac y bydd yn rhaid gwneud gwaith i'w hadnewyddu nhw i'w defnyddio nhw unwaith eto mewn ffordd fuddiol, ac mae hwnnw'n ategu ein cynllun presennol ni, yn cynnwys Cynllun Prydlesu Cymru.
Rwy'n gwbl ymwybodol o adroddiad Bevan sy'n nodi bwlch cynyddol rhwng cyfraddau lwfansau tai lleol a rhenti tai preifat yng Nghymru. Fel gwyddoch chi, ni chafodd lwfansau tai lleol eu datganoli—oni fyddai hi felly. Rwyf i wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU dro ar ôl tro yn galw am weithredu ar fyrder ac ar unwaith i fynd i'r afael â hyn, a dim ond i ddweud wrth gyd-Aelodau gyferbyn â mi, yr wyf i'n gwybod nad ydyn nhw'n ddidostur, mae hyn bellach islaw—[Torri ar draws.] Mae hyn yn waeth na Deddf y Tlodion. Mae hyn yn waeth na'r sefyllfa dan Ddeddf y Tlodion. Nid yw hi'n dderbyniol na allwch chi ganfod un eiddo mewn 16 ardal ledled Cymru ar gyfraddau lwfans tai lleol. Mae angen dybryd i fynd i'r afael â hyn. Mae hi'n broblem fawr iawn. Nid pwynt gwleidyddol mohono; mae hi'n broblem wirioneddol fawr. Ac nid yw hi'n gwneud unrhyw synnwyr yn economaidd. Oherwydd y gost i awdurdodau lleol yn sgil digartrefedd pan na all pobl breswylio yn y sector rhentu preifat oherwydd bod y lwfans tai lleol wedi ei rewi yn yr amser digynsail hwn o chwyddiant a chynyddu rhenti, mae swm yr arian sy'n mynd allan o bwrs y wlad ar lefel yr awdurdodau lleol yn llawer mwy na'r swm a fyddai'n mynd i mewn ar lefel lwfans tai lleol. Felly, mae hi'n peri dryswch i mi fod y gyfradd wedi ei rhewi—mae wir yn peri dryswch i mi—ac rwy'n galw ar Lywodraeth y DU yn daer iawn i adolygu'r sefyllfa honno, oherwydd mae'n galongaled ac yn achosi dioddefaint gwirioneddol. Mae'n ein hatal ni hefyd rhag helpu landlordiaid da iawn sy'n awyddus i lunio'r cynllun hwn gyda ni rhag ymuno â'r cynllun, oherwydd mae'r cyfraddau lwfansau tai lleol mor isel nawr fel nad yw hi'n werth eu hamser nhw i wneud felly.
Felly, dim ond ar gyfer egluro'r hyn yr ydym ni'n ei wneud, cyfradd y lwfans tai lleol yw'r hyn yr ydym ni'n ei dalu i landlordiaid sy'n ymuno â'r cynllun. Mae'n hynny'n parhau i fod yn werthfawr, ac fe ddylai landlordiaid barhau i ystyried hynny, oherwydd mae honno'n gwarantu'r incwm bob wythnos, bob mis, ac nid oes raid i chi ddioddef lleoedd gwag a throsiant a chanran yn mynd i wasanaethau rheoli ac ati. Felly, mae hi'n dal i fod yn werth ystyried hyn, ond po isaf y bydd cyfradd lwfans tai lleol yn gostwng, yr anoddaf yw ceisio marchnata ar y pwynt hwnnw. Fe wnaethom ni gynnydd cadarnhaol. Mae nifer o awdurdodau lleol wedi mynd tu hwnt i'w nodau cychwynnol ar gyfer blwyddyn 1. Newyddion cadarnhaol yw bod Casnewydd newydd fynegi diddordeb i fod yn unfed awdurdod lleol ar bymtheg i ymuno â'r cynllun. Ond fe fyddai cynnydd yng nghyfradd lwfans tai lleol hyd at gyfradd briodol o wir gymorth.
Gweinidog, mae gennym ni galon draw yn y fan hon, ac rydym ni'n clywed yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud, ond gwaith Llywodraeth Cymru yw hwn. Mae tai yn fater a ddatganolwyd yn gyfan gwbl, ac fel dywedodd fy nghyd-Aelodau, mae 22,000 o gartrefi ledled Cymru yn wag. Felly, rydyn ni o'r farn ei bod hi'n hen bryd i Lywodraeth Cymru fod â strategaeth newydd, ar ei newydd wedd o ran sut i ddefnyddio unwaith eto'r tai hynny'n sy'n wag. Pan oeddwn i'n gynghorydd sir ym Mhowys, roedd nifer y bobl a oedd yn aros am gartrefi yn ddirifedi. Dim ond 5,000 o dai a wnaethom ni eu hadeiladu'r llynedd drwy Gymru gyfan. Felly, onid ydych chi'n cytuno â mi, Gweinidog, ei bod hi'n hen bryd i Lywodraeth Cymru gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am ddefnyddio unwaith eto'r tai hyn sy'n wag ac adeiladu mwy o gartrefi er mwyn i ni allu rhoi cartrefi y mae pawb mewn gwirionedd yn haeddu eu cael yma yng Nghymru i'r bobl hynny yng Nghymru sydd ar restrau aros am dai?
Wel, wyddoch chi—'ochenaid', fel maen nhw'n dweud ar ddechrau'r peth—ni chafodd hyn ei ddatganoli yn gyfan gwbl. Ni chafodd y lwfans tai lleol ei ddatganoli.
Fe ddatganolwyd tai, Gweinidog.
Fe wnaethoch chi ddechrau gydag ymadrodd nad oedd yn gwbl gywir, oherwydd nid yw lwfans tai lleol wedi cael ei ddatganoli—[Torri ar draws.] Ni chafodd ei ddatganoli. Os ydych chi'n hoffi hynny neu beidio, ni chafodd ei ddatganoli. Felly, rydym ni wedi cael ein llyffetheirio o ran yr hyn y gallwn ni ei wneud, ac mae'r polisi hwnnw'n achosi digartrefedd, oherwydd ni all pobl aros mewn llety y maen nhw'n ei rentu oherwydd na allan nhw fforddio hynny oherwydd nid yw'r lwfans tai lleol yn ddigon hael. Mae'n llai na'r hyn a oedd ar gael gyda deddfau'r tlodion. Mae'n rhaid i chi dderbyn rhywfaint o gyfrifoldeb am hyn.
Nawr, fe wnaethom ni lawer o bethau. Rydym ni wedi gwneud llawer o bethau yma yng Nghymru ac ar ôl i'r Torïaid weld synnwyr o'r diwedd a thynnu'r capiau oddi ar gyfrifon refeniw tai, a diddymu'r cyfyngiadau ar gyfrifon refeniw tai, dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl—ac fe gymerodd hi 40 mlynedd i chi ddod yn effro i hynny mewn gwirionedd—rydym ni wedi cynyddu hyn fwyfwy ers hynny. Does dim dianc rhag y wers hanes hon. Nid ydych chi'n hoffi hyn. Fe wnaethoch chi ofyn y cwestiwn i mi, a dyma'r ateb. Nid ydych chi'n hoffi hyn am nid ydych chi'n hoff o gywirdeb mewn atebion. Felly, yr ateb yw: rydym ni wedi gwneud popeth sydd wedi bod yn bosibl ei wneud gyda'n pwerau datganoledig ni, ond rydym ni, fel bob amser, wedi cael ein llyffetheirio gan Lywodraeth Dorïaidd gibddall a chwbl ddidostur.
2. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar effaith arllwysiad carthion ar ansawdd y dŵr yn Llyn Padarn? OQ59245
Diolch, Siân Gwenllian. Llyn Padarn yw unig ddŵr mewndirol a ddynodwyd ar gyfer ymdrochi ynddo yng Nghymru sydd wedi ennill ei le yn y dosbarthiad uchaf sef 'ardderchog' gyda chysondeb. Am iddo gael ei ddynodi yn ddŵr i ymdrochi ynddo, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gosod rheolaethau rheoleiddiol caeth ar bob gollyngiad, gan gynnwys gorlifoedd tywydd mawr, a leolir gerllaw.
Mae etholwyr wedi cysylltu efo fi yn bryderus am eu bod nhw wedi darganfod planhigyn ymledol yn tyfu yn Llyn Padarn yn Llanberis, ac maen nhw’n grediniol bod arllwysiad carthion i’r dŵr yn bwydo’r tyfiant. Mae yna arbenigwr wedi cadarnhau mai planhigyn o’r enw lagarosiphon sydd yn y llyn—rhywbeth sy’n enw newydd i mi, ond dyna mae’r arbenigwr yn dweud ydy o. Mae’r planhigion yma wedi creu problemau mewn llynnoedd yn Iwerddon, mae’n debyg. Hoffwn i sicrwydd bod eich Llywodraeth chi yn ymwybodol o’r broblem, a allai, wrth gwrs, gael effaith niweidiol ar fioamrywiaeth y llyn arbennig yma, a hoffwn sicrwydd eich bod chi’n gweithio'n agos efo asiantaethau er mwyn gweithredu’n briodol.
Siŵr iawn, Siân, ac fe fyddaf i'n sicr yn gofyn i CNC wirio unwaith eto, oherwydd rydym ni'n falch iawn o'r ffaith fod gan Lyn Padarn y dynodiad hwn, ac yn sicr fe fyddaf i'n gofyn iddyn nhw wneud felly. Rydym ni'n ymwybodol—nid wyf i'n gallu ynganu enw'r peth hyd yn oed—lagarosiphon, fel rwy'n credu y caiff ei alw. Ffugalaw crych, beth bynnag, ar lafar gwlad, sy'n rhywogaeth anfrodorol oresgynnol iawn sy'n cael ei chategoreiddio fel rhywogaeth o bryder arbennig. Mae hwn yn fygythiad sylweddol i rywogaethau brodorol, ac rydych chi'n hollol iawn bod angen i ni wirio a sicrhau bod hynny'n gywir, ac rwyf i am sicrhau na fydd hynny'n digwydd eto.
Mewn gwirionedd, fe lansiwyd strategaeth rhywogaethau goresgynnol Prydain Fawr fis diwethaf, ac mae honno'n rhoi fframwaith strategol ar gyfer camau y gallwn ni eu cymryd, ochr yn ochr â llywodraethau eraill y DU, cyrff statudol, a rhanddeiliaid allweddol. Felly, mae hi'n amserol iawn i'r strategaeth fod ar waith erbyn hyn, Siân, ac yn siŵr iawn fe fyddaf i'n sicrhau bod CNC yn ymwybodol o'r pryderon ac yn cynnal arolygiad arall.
A gaf i gefnogi'r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn heddiw ynglŷn ag effaith rhyddhau carthion ar ansawdd y dŵr yn Llyn Padarn? Ond wrth gwrs, Gweinidog, dim ond brig mynydd iâ budr iawn yw hwn. Oherwydd fe wyddom ni, ar ddiwedd y llynedd, roedd ffigurau a ddatgelwyd gennym ni'n canfod, o'r 184 o bibellau carthion a weithredir gan Dŵr Cymru heb drwydded ar gyrsiau'r afonydd yng Nghymru, mai dim ond un cais a gyflwynwyd i CNC, sy'n golygu bod 183 o bibellau carthion yng Nghymru yn gweithio heb eu trwyddedu, ac maen nhw'n gollwng gwastraff i'n dyfrffyrdd, fe wyddom ni fod hynny wedi digwydd ddegau o filoedd o droeon, o ran y gollyngiadau fel hyn i'n dyfrffyrdd ni. Felly, yng ngoleuni hyn, Gweinidog, pa sicrwydd a wnewch chi ei roi i mi a fy nhrigolion eich bod chi'n cymryd y mater hwn o ollwng carthion yn ddifrifol, fel bod pobl yn gallu mwynhau lleoedd fel Llyn Padarn am flynyddoedd i ddod?
Wrth gwrs, rydyn ni'n eu cymryd nhw'n eithriadol o ddifrifol, ac mae nifer o edefynnau yn gwau trwy eich cwestiwn chi, ac, yn wir, yn un Siân draw fan acw, Sam Rowlands. Gyda'r perygl o brofi amynedd y Llywydd, oherwydd mae hwnnw'n ateb cymhleth iawn, rydyn ni yn y broses o gytuno ar gyfres o feini prawf ar gyfer mecanwaith i adolygu prisiau ar gyfer yr awdurdodau dŵr yng Nghymru, oherwydd mae angen i ni sicrhau bod y biliau yn fforddiadwy, ond bod yr arian ar gael hefyd ar gyfer buddsoddi i uwchraddio'r systemau amrywiol ledled Cymru, gan gynnwys gorlif carthffosydd cyfunol a nifer fawr o asedau eraill y mae angen eu huwchraddio nhw, ac felly mae angen i ni fod â'r mecanwaith priodol yn hyn o beth.
Yn y cyfamser, ynglŷn â Llyn Padarn yn benodol, mae'r asedau yn lleol yn cynnwys dwy orsaf bwmpio a gorlif storm. Mae gwaith trin carthion Llanberis yn gollwng elifion terfynol eilaidd wedi eu trin i Afon y Bala, sy'n llifo i Lyn Padarn. Mae dosio cemegol a hidlo tywod yn y gwaith trin carthion yn rhoi triniaeth ychwanegol, gan gael gwared ar faethynnau gormodol o'r elifion cyn eu gollwng nhw.
Rydyn ni wedi buddsoddi dros £5 miliwn—mae'n ddrwg gen i, mae Dŵr Cymru wedi buddsoddi dros £5 miliwn—i wella gwaith Llanberis. Roedd y gwaith yn cynnwys cynyddu'r gallu i ymdrin â stormydd a sgrinio a chyfyngiadau pellach o ran ffosfforws. Rwy'n siŵr y gwyddoch chi ein bod eisiau dechrau'r broses o ddynodi mwy o ddyfroedd mewndirol ar gyfer nofio gwyllt, ac fe ddylwn ddatgan fy niddordeb arferol, oherwydd rwyf i'n hoff iawn o bethau o'r fath. Ac felly rydyn ni'n awyddus i'r system hon weithio. Rydyn ni'n awyddus i'r system y mae CNC yn ei defnyddio i reoli'r ansawdd yno gyda gofal mawr fod yn gweithio. Wrth gwrs, fe fydd hynny'n caniatáu i bobl ymdrochi mewn dyfroedd mewndirol, ond fe fydd yn gwella ansawdd y dŵr hefyd yn gyffredinol yn yr afonydd. Fe wnaeth fy nghyd-Weinidog, y Trefnydd, amlinellu'r broses hon yn yr uwchgynhadledd ffosffad yr wythnos diwethaf, ac fe fydd yna ddatganiad ysgrifenedig maes o law, yn nodi'r camau a ddaeth yn dilyn yr uwchgynhadledd.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Llywydd. Bu pum mlynedd a naw mis ers Grenfell erbyn hyn. Am 2,099 o ddiwrnodau, mae cannoedd o drigolion Cymru wedi bod yn byw mewn ofn o ran diogelwch eu heiddo eu hunain, a pherygl o dân. Rhwng 2017-18 a 2021-22, cafwyd 1,323 o danau mewn blociau o fflatiau a adeiladwyd yn wreiddiol i'r diben hwnnw, a 514 o danau mewn adeiladau a gafodd eu haddasu i fod yn fflatiau.
Nawr, mae'n rhaid eich bod chi'n gwybod am y Welsh Cladiators a'u hymgyrch nhw i ennill cydnabyddiaeth i'r angen am gymorth ar unwaith gan y Llywodraeth hon yng Nghymru. Nawr, wythnos diwethaf, fe glywsom ni, i fod yn deg, y byddwch chi'n gwneud datganiad cyn yr haf. Er hynny, Gweinidog, mae canlyniadau hyn mor ddifrifol, a'r materion y mae'r bobl hyn yn eu hwynebu, felly rwy'n gofyn, gyda phob diffuantrwydd, a fyddech chi'n gwneud hynny'n gynt?
Rydyn ni'n disgwyl yn eiddgar i chi gyflwyno cyfran o ddeddfwriaeth gerbron. Rydyn ni'n sylweddoli nad Llywodraeth Cymru yn unig sy'n gyfrifol am y datrysiad hwn. Yn syml, mae llawer o hyn yn ymwneud â'r ffaith bod rhai datblygwyr yn gwrthod derbyn eu cyfrifoldebau eu hunain. Felly, mae'n debyg, i mi—. Fe gawsom ni'r cyfarfod ar 1 o fis Mawrth; roedd cynulleidfa niferus iawn. Ers hynny, rwyf i wedi clywed nifer o bryderon ac enghreifftiau brawychus iawn am rai o'r problemau y mae pobl sy'n byw yn yr anheddau hyn yn eu hwynebu. Bob dydd y caiff y gwaith adfer ei ddal yn ei ôl, mae hynny'n ychwanegu at y costau, o ran yswiriant, costau rheoli.
Mae rhywun yn gwneud arian fel mwg yn rhywle, mae'n rhaid i mi ddweud, a hynny ar draul y rhai hyn sy'n dioddef colledion. Felly, rydyn ni'n awyddus iawn i weld amddiffyniad i'r dioddefwyr hyn, ac rwyf i wedi gwrando arnoch chi'n siarad dro ar ôl tro am y cymhlethdodau ynglŷn â'r mater. Pa gamau a ydych chi am eu cymryd o ran y datblygwyr hynny nad ydyn nhw, yn syml, wedi dechrau ymrwymo a derbyn eu cyfrifoldebau a llofnodi, mewn gwirionedd, y cytundeb i ddatblygwyr y gwnaethoch chi ei gyflwyno? Diolch i chi.
Felly, Janet, rydyn ni wedi ailadrodd hyn nifer o weithiau, onid ydym ni? Mae maint y broblem yn wahanol iawn yng Nghymru, ac mae ein hymagwedd yn wahanol iawn. Fe wnaethom ni nodi 15 adeilad uchel gyda chladin deunydd cyfansawdd alwminiwm yn dilyn Grenfell; tri yn y sector cymdeithasol a 12 yn y sector preifat. Cafodd y tri adeilad yn y sector cymdeithasol eu cyweirio ar unwaith a rhoddwyd cefnogaeth o £3 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Ymdriniwyd â'r 12 cynllun yn y sector preifat gan y sector preifat. Mae'r rhain i gyd naill ai wedi cael eu cwblhau neu yn y broses o gael eu cwblhau ar hyn o bryd ar gost y datblygwyr. Mae hynny oherwydd ein hymyrraeth ni yn y lle cyntaf.
Rydyn ni'n ymwybodol hefyd, trwy ein proses mynegi diddordeb, o un adeilad arall sydd dros 11m o uchder a allai fod â chladin ACM, ac mae ein hymgynghorwyr ni'n cynnal profion ychwanegol ar hyn o bryd i gadarnhau a yw hynny'n wir cyn gynted â phosibl. Os felly, wrth gwrs, fe fydd yn cael ei ddodi yn yr un broses ar gyfer cyweirio. Felly, fe fuom ni'n gweithredu ar gyflymder mawr ynglŷn â'r cladin.
Fodd bynnag, rwyf i wedi bod yn eglur iawn hefyd nad cladin yw'r unig broblem, ac fe wn eich bod chi'n ymwybodol o hynny. Felly, yn anffodus, mae gan nifer fawr o'r adeiladau hyn nifer fawr o broblemau amrywiol, ac mae gan bob adeilad gyfres wahanol o'r problemau hynny. Felly, ni allwch chi gynnig yr un datrysiad i bawb; mae cyfres wahanol o faterion ynglŷn â phob adeilad. Mae gan rai ohonyn nhw broblemau gydag adrannu, mae gan rai ohonyn nhw broblemau gyda'r sylweddau sy'n dal y cladin yn ei le, mae gan rai ohonyn nhw broblemau gydag atal tân. Mae yna fyrdd o broblemau amrywiol. Felly, fel dywedais i sawl tro o'r blaen—rwy'n hapus iawn i ailadrodd hynny—rydyn ni yn y broses o gynnal yr arolygiadau. Maen nhw wedi gorffen bron iawn; dim ond rhyw ychydig sydd ar ôl eto. Mae'r rhai ar ôl naill ai oherwydd ein bod ni wedi cael problem gyda'r asiant rheoli o ran caniatâd gan y rhydd-ddeiliaid i gynnal yr arolwg ymwthiol, neu, mewn cwpl o achosion, rydym ni wedi cael problemau oherwydd ein bod ni wedi gorfod cau tramwyfa draffig fawr ar gyfer cael mynediad i'r adeilad, ac, yn amlwg, mae hi'n cymryd peth amser i roi'r gorchmynion traffig ar waith ac ati. Ond, heblaw am hynny, maen nhw yn eu lle i raddau helaeth.
Rwyf i am wneud cyhoeddiad ynglŷn â'r adeiladau a elwir yn amddifad cyn bo hir. Mae gennym ni gynllun i ymdrin â'r rhain. Nid wyf i am roi rhaghysbysiad o hynny, ond rwy'n gobeithio gallu gwneud y cyhoeddiad hwnnw'n fuan iawn nawr, er mwyn i ni allu dechrau ar y gwaith cyweirio yn yr adeiladau hynny, sydd, dim ond ar gyfer esbonio'r enw, yn adeiladau lle mae pawb a ddylai fod yn gwneud y gwaith naill ai wedi mynd yn fethdalwyr neu wedi mynd o'r golwg, neu, am resymau cymhleth iawn, nad oes unrhyw un y gallwn ni ei ddal yn gyfrifol am hynny.
Ar ben hynny, mae gennym ni 11 o ddatblygwyr sydd wedi llofnodi ein cytundeb, ac rydym ni'n disgwyl iddyn nhw lofnodi ein dogfennau cyfreithiol ni'n fuan iawn. Mae yna un neu ddau sydd heb lofnodi'r cytundeb nac wedi dod ymlaen. Rwyf wedi bod yn eglur iawn gyda'r rhain y byddwn ni'n gweithredu yn llym iawn yn eu herbyn nhw. Fe fyddwn ni'n gweithredu yn union yn yr un ffordd â Lloegr ar gyfer eu hatal nhw rhag unrhyw ddefnydd buddiol o ganiatâd cynllunio sydd yn eu meddiant nhw a'u rhwystro nhw rhag gwneud unrhyw waith yn y sector cyhoeddus, ac fe fydd hynny'n golygu, i bob pwrpas, na allan nhw weithio oni bai eu bod nhw'n dwyn yr adeiladau y maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw i'r cyflwr priodol.
Y darn olaf o hyn, a dyma—. Mae fy nghalon i'n gwaedu dros y bobl hyn, ond mae cynllun i'w gael gennym ni a wnaiff brynu fflat i rywun sydd mewn sefyllfa anodd iawn. Mae nifer o bobl wedi ysgrifennu ataf yn dweud eu bod nhw mewn sefyllfa o'r fath, felly rydym ni wedi eu hannog nhw i fynd drwy'r broses honno. Mae nifer o'r rhain yn mynd drwodd gennym ni nawr, ac rydym ni'n awyddus iawn i fod yn dosturiol â phobl sy'n dymuno symud ymlaen gyda'u bywydau. Rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn hefyd gyda chwmnïau yswiriant a chyda benthycwyr i sicrhau nad yw'r ffurflenni ES1W—rwy'n drysu'r drefn bob amser—yn golygu na all pobl werthu. Felly, mae yna lawer iawn o waith wedi mynd ymlaen yn y maes hwn.
Ond mae hi'n wahanol yma yng Nghymru, oherwydd y raddfa wahanol a bod y farchnad ar raddfa wahanol, felly nid oes gennym rai o'r ysgogiadau sydd gan Lywodraeth y DU. Hefyd, rydym ni wedi ymagweddu ychydig bach yn wahanol. Felly, nid wyf i'n credu y dylai'r lesddeiliaid eu hunain orfod cymryd camau cyfreithiol, ac rwy'n gwybod eu bod nhw'n awyddus i mi weithredu'r darpariaethau sy'n caniatáu iddyn nhw wneud felly, ond nid yw camau cyfreithiol yn foddion at bob clwyf. Nid yw'r ffaith eich bod chi'n cymryd camau cyfreithiol yn golygu y bydd gennych chi ddatrysiad sydyn ac effeithiol, ac mae yna adeiladau cyfagos fan hyn sydd mewn sefyllfa o ymgyfreitha, ac mae hi'n hollol amlwg nad yw hwnnw'n ddatrysiad effeithiol.
Lluniwyd ein dogfennau ni mewn dull ychydig yn wahanol. Pan fydd y datblygwyr yn llofnodi'r dogfennau gyda ni, Llywodraeth Cymru fyddai'n mynd â nhw i'r llys. Ni fydd yn ysgwyddo'r baich a'r cyfrifoldeb cyfreithiol am hynny. Rwy'n credu mai hynny sy'n iawn, oherwydd nid wyf i'n credu y dylai'r lesddeiliaid chwarae loteri, i ryw raddau, ymgyfreitha, na'r costau cyfreithiol sy'n mynd gyda hynny. Felly, nid wyf i'n ymddiheuro am i hynny gael ei wneud yn wahanol yma yng Nghymru. Rwy'n llwyr ddeall y rhwystredigaeth sydd gan y bobl dan sylw, ond yn y diwedd rwy'n credu y bydd ein system ni'n gweithio iddyn nhw. A'r peth olaf, wrth gwrs, rydyn ni wedi gwneud hyn bob amser ar gyfer adeiladau dros 11m, ac nid 18m, yma yng Nghymru, ac felly mae mwy ohonyn nhw'n cael eu dal yn ein system ni nag a fyddai'r achos pe byddem ni'n dilyn safbwynt Lloegr.
Diolch i chi. Rwy'n credu mai dyna'r swm mwyaf o wybodaeth a glywsom ni hyd yma o ran yr hyn sydd wedi cael ei wneud a'r hyn y mae angen ei wneud eto.
Un o'r materion a gododd yn y cyfarfod a gynhaliais i oedd cost yr arolygon hyn. Roedd un wraig—ac nid oedd ganddi hi unrhyw reswm o gwbl i'n camarwain ni—yn egluro bod ganddi hi ddau eiddo fel hyn, ac roedd hi'n aros am ad-daliad o £75,000 gan Lywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, ac wedi bod yn aros amdano ers cryn amser; bron i flwyddyn, rwy'n meddwl iddi hi ddweud. Ac fe ges i sioc ofnadwy, achos mae hynny'n arian mawr i'w dalu allan am arolwg yr oedd hi wedi cael addewid y byddai hi'n cael ad-daliad gan Lywodraeth Cymru. Pe byddech chi'n dymuno i mi gyflwyno'r rhain yn unigol i chi, rwy'n hapus i wneud felly.
Ond un peth a wnaeth fy nharo i—y cyflwynwyd 17 cais am ad-daliad ffioedd arolwg i chi ers mis Hydref. Dim ond pump o unigolion cyfrifol neu asiantaethau rheoli cyfrifol sydd wedi cael llythyrau cynnig. Felly, unwaith eto, mae rhai yn dioddef colledion ariannol ar hyn o bryd nes bydd y taliadau hyn yn eu pocedi nhw.
Mater arall a godwyd gyda mi yw eich bod wedi cael £375 miliwn gan Lywodraeth y DU. A wnewch chi ddweud wrth y Siambr hon heddiw—? Hynny yw, dyna—. Sut y cawsoch chi hwnnw—. Ond dyna'r ffigur; rydych chi wedi defnyddio'r ffigur hwnnw eich hun hyd yn oed.
Do. [Anghlywadwy.]
Ie, felly dywedwch wrthym ni sut rydych chi'n ei wario, faint o'r £375 miliwn hwnnw sydd ar ôl, ac a fyddwch chi'n anrhydeddu'r arolygon hynny fel bydd y dioddefwyr hyn mewn gwirionedd—? Maen nhw'n ceisio datrys y mater hwn eu hunain. Diolch i chi.
Iawn. Y £375 miliwn yw'r arian mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi yn y gronfa diogelwch adeiladau. Nid yw'n gyllid canlyniadol ac nid yw'n uniongyrchol oddi wrth Lywodraeth y DU; felly, dim ond i fod yn eglur iawn am hynny. Pe byddem ni'n dibynnu ar arian canlyniadol oddi wrth Lywodraeth y DU, ni fyddai gennym ni unrhyw beth tebyg i'r swm hwnnw o arian—dim byd tebyg iddo.
O ran ad-dalu, rydym ni'n golygu rhoi ad-daliadau am arolygon pan fo'r arolygon wedi cael eu gwneud yn briodol—eu bod nhw wedi cael eu tendro yn briodol; ac nad ydyn nhw wedi cael eu gwneud gan berthynas teuluol na ffrind; a bod yr holl gydrannau cywir ynddyn nhw ac y gallwn ni ddibynnu ar y gwaith arolygu hwnnw ac nid gwastraff arian mohono. Nid wyf i'n ymddiheuro am yr oedi, Janet. Arian cyhoeddus yw'r hyn yr ydym ni'n siarad amdano; mae'n rhaid i ni fynd drwy'r broses o wneud yn siŵr, wrth ad-dalu'r arian hwnnw, fod yr arolwg sydd wedi cael ei gynnal yn rhywbeth y gallwn ni ddibynnu arno a gwneud defnydd ohono, ac mae arnaf i ofn bod hynny'n cymryd rhywfaint o amser. Ond rwy'n awyddus iawn wir nad yw pobl sydd wedi gwneud y peth iawn yn cael eu rhoi o dan anfantais am wneud hynny.
Rydyn ni'n edrych ar wariant arall a ysgwyddwyd gan y lesddeiliaid i weld a oes unrhyw beth y gallwn ei wneud i'w ad-dalu. Nid wyf i'n addo gwneud hynny, oherwydd mae'n rhaid i hynny gydymffurfio â'r safonau i gyd ar gyfer gwario arian cyhoeddus, ac fe fyddech chi'n disgwyl i mi gydymffurfio â'r safonau hynny, ond, os gallwn ni ddod o hyd i ffordd o ad-dalu pobl sydd ar eu colled yn ariannol, fe wnawn ni. Ni allaf addo y byddwn ni'n gallu ad-dalu'r cyfan, ac mae hon yn sefyllfa nad yw'n ymwneud â phwrs y wlad chwaith. Felly, mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud hynny.
Os ydych chi'n dymuno ysgrifennu ataf i gydag enghreifftiau unigol, gwnewch hynny ar bob cyfrif, ac fe allaf innau edrych i mewn iddyn nhw i chi. Yn amlwg, ni allaf i wneud sylw ar enghreifftiau unigol ar lawr y Senedd, ond, unwaith eto, mae hon yn broses y mae'n rhaid mynd drwyddi ar gyfer cydymffurfio â'n dyletswyddau ymddiriedol ein hunain. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i. Mae fy oriawr i'n yn cymryd rhan yn y sioe nawr. [Chwerthin.] Nid yw fy oriawr i'n deall yr ymadrodd 'dyletswydd ymddiriedol', rwy'n meddwl bod hynny'n gwbl eglur. [Chwerthin.] Felly, Janet, mae hyn yn cymryd peth amser, ac fe wn i fod hynny'n achosi rhwystredigaeth, ond rwy'n siŵr y byddwn ni'n cyrraedd y fan yn y diwedd.
Diolch i chi. Ac yna, un mater arall a gododd oedd yr arian y gwnaethoch chi ei wario ar dai cymdeithasol cofrestredig, felly £8.7 miliwn, a £1.9 miliwn a roddwyd i Gymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd. Rwy'n deall bod dau floc yn y bae fan yma lle mae'r rhai sy'n cael y gwaith cyweirio yn eiddo i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, a bod yn rhaid i'r perchnogion eiddo preifat sefyll a gweld y gwaith hwn yn mynd rhagddo. Siawns na ddylid bod â chydbwysedd yn hyn o beth, nad yw'r arian hwn yn mynd i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn unig. Mae'r unigolion hyn i gyd, yn unigol, yn rhoi cyfanswm o gryn dipyn o arian, ond rwy'n teimlo nad ydyn nhw'n cael eu cyfrif mor bwysig gan Lywodraeth Cymru â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. A fyddwch chi'n ceisio adfachu unrhyw arian gan y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig hynny sydd wedi elwa ar eich ymyrraeth? A sut ydych chi am brofi mewn gwirionedd i mi a'r Siambr hon y byddwch chi'r Gweinidog yn cymhwyso unrhyw broses, unrhyw fenter, gyda chyfiawnder fel bod y perchnogion eiddo preifat unigol hynny'n teimlo eu bod yn cael eu hystyried yr un mor bwysig? Diolch i chi.
Felly, Janet, yn amlwg iawn, mae yna wahaniaeth enfawr rhwng tenantiaid mewn adeilad cymdeithasol a thenantiaid mewn adeilad dan berchnogaeth breifat. Mae yna wahaniaeth eglur ac amlwg, yn enwedig oherwydd nad oes gan y bobl mewn adeilad cymdeithasol unrhyw ecwiti ynddo. Nid buddsoddiad yw hwn; nid yw'n fuddsoddiad preifat iddyn nhw, dim ond cartref ydyw ac maen nhw'n ei rentu oddi wrth landlord cymdeithasol. Yn ogystal â hynny, nid yw'r cymhlethdodau o ran pwy yn union sy'n gyfrifol am yr adeilad hwnnw yn bodoli pan fo'r landlord cymdeithasol â chyfrifoldeb. Mae hi'n eglur iawn ac yn amlwg pwy sy'n gyfrifol am y peth, felly mae hi'n llawer symlach. Hefyd, mae gan y Llywodraeth ddyletswydd bwysig iawn i denantiaid cymdeithasol. Felly, mae yna wahaniaeth eglur ac amlwg rhwng y ddwy sefyllfa.
Yr hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud yw ceisio mynd mor gyflym â phosibl gan warchod ecwiti'r bobl yn yr adeilad. Mae gennyf i lawer o gydymdeimlad â'r bobl sydd wedi buddsoddi yn y fflatiau hyn, ond gadewch i ni fod yn eglur, buddsoddiad yw hwnnw, oherwydd y ffordd mae'r farchnad dai yn gweithio ym Mhrydain yw, yn aml iawn, eich eiddo yw eich cartref chi hefyd a'ch buddsoddiad mwyaf yn ogystal â hynny. Mae hynny'n wir i mi a'r un mor wir i nifer fawr o deuluoedd eraill. Felly, mae gen i lawer o gydymdeimlad â hynny. Nid beirniadaeth mo hon, ond mae'n golygu gwahaniaeth pendant iawn rhwng pobl sy'n buddsoddi mewn tai a thenantiaid tai cymdeithasol, sydd yn amlwg heb unrhyw ecwiti yn yr eiddo maen nhw'n byw ynddo. Maen nhw'n dibynnu ar eu landlord cymdeithasol i'w cadw nhw'n ddiogel mewn cartref sy'n weddus. Felly, mae hi'n sefyllfa wahanol iawn. A dyna, yn amlwg iawn, sy'n digwydd.
Ond, rydym ni'n gweithredu ar garlam i sicrhau y gallwn ni gyweirio'r holl adeiladau sydd ag angen hynny, gan weithio gyda'r datblygwyr i sicrhau bod y datblygwyr yn gwneud eu cyfran lawn o'r hyn y maen nhw'n gyfrifol amdano, ond gan fynd mor gyflym ag y gallwn ni hefyd i sicrhau bod y datblygwyr yn gweithredu, ac yn gweithredu ar fyrder, a bod y gwaith yn cael ei wneud i ni hyd at safon uchel, ac mae'r Llywodraeth yn goruchwylio'r gwaith erbyn hyn i wneud yn siŵr bod y safon uchel honno'n bresennol. Ac os nad yw'r datblygwyr yn gwneud yr hyn y dylen nhw'r tro hwn, yna Llywodraeth Cymru fydd deiliad y cytundeb a nyni fydd y rhai a fydd yn cymryd camau cyfreithiol yn eu herbyn nhw wedyn ac nid y lesddeiliaid unigol, a fyddai'n gwneud dim ond arwain at ymgyfreitha mwy cymhleth eto ac oedi, mae arnaf i ofn, fel gwelsom ni pan ddechreuwyd ymgyfreitha.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Mae ein byd naturiol ni'n werthfawr ac er mwyn i ni ddeall pa mor bwysig yw hi ein bod ni'n ei amddiffyn, mae'n rhaid i ni ddeall yn gyntaf pa mor fawr yw'r bygythiad iddo mewn gwirionedd. Mae cryn ofid wedi bod oherwydd yr adroddiadau na fydd y BBC yn darlledu pennod o gyfres newydd Syr David Attenborough ar fywyd gwyllt Prydain, oherwydd perygl o feirniadaeth, meddir. Trwy gyd-ddigwyddiad, wythnos diwethaf, fe ysgrifennodd 300 o sefydliadau o bob rhan o Gymru at y Prif Weinidog, yn galw am gyflwyno deddfwriaeth amgylcheddol a addawyd ar frys pan wnaeth y Senedd hon ddatgan argyfwng natur. Rydyn ni'n gwybod bod cymaint o'n harddwch naturiol ni yng Nghymru ar fin mynd ar ddifancoll. Nawr, Gweinidog, fe fyddwn i'n dadlau bod yr adroddiadau nad yw'r rhaglen am gael ei darlledu yn awgrymu i ba raddau y mae buddiannau breintiedig rhai pobl mewn grym yn rhwystro newid cadarnhaol. Felly, yn y cyd-destun newydd, mwy argyfyngus hwnnw, a fyddech chi'n cytuno i roi amserlen i ni o ran pryd y gellid cyflwyno'r ddeddfwriaeth honno, os gwelwch chi'n dda?
Ie, felly, Delyth, mae arnaf i ofn mod i am roi ateb i chi yr ydych wedi ei gael sawl gwaith o'r blaen. Nid oeddwn i'n gwybod am raglen y BBC. Os yw hynny'n wir, mae hynny'n warthus, ac mae gwir angen i'r BBC ystyried pa neges y mae'n ei chyhoeddi, os mai dyna'r hyn y mae'n ei wneud.
Mae hi ar iPlayer.
Mae hi ar iPlayer, ydy hi? Da iawn. Reit.
A gaf i godi pwynt o drefn, Llywydd?
Na, nid oes angen pwynt o drefn arnaf i ar ganol cwestiynau.
Nid yw hynny'n wir. Mae neges drydar gan y BBC yn dweud mai anwiredd yw hynny. Dyna i gyd.
Iawn. Mae angen i mi ddwyn popeth yn ôl i drefn yma. Ond, diolch am yr eglurhad gan Sam a Huw fel ei gilydd.
I ateb y cwestiwn gwirioneddol, Llywydd, sef o ran amseriad y nodau llywodraethu amgylcheddol a bioamrywiaeth, fe fyddwn ni'n cyflwyno'r rhain cyn gynted ag y gallwn ni. Rwy'n deall y brys yn llwyr. Ond, er mwyn bod yn hollol eglur, Delyth, nid ydym ni'n aros i'r ddeddfwriaeth fod ar waith cyn gwneud unrhyw beth. Rwyf i'n gwbl ymrwymedig i amcanion 30x30. Mae hynny'n rhoi saith mlynedd a thipyn i ni gyrraedd lle mae angen i ni fod. Yn amlwg, pe byddem ni'n aros i'r ddeddfwriaeth fynd drwodd fe fyddem ni'n ei chael hi'n anodd iawn. Felly, rydyn ni'n gweithio ar gyflymder eisoes. Rydyn ni wedi cynnal ymchwiliad a dadansoddiad trylwyr o ran bioamrywiaeth, rwyf i wedi gwneud nifer o bethau'r wythnos hon, ac fe fyddai'r Llywydd yn grac iawn gyda mi pe byddwn i'n dechrau eu rhestru nhw, ond coeliwch chi fi ein bod ni'n gweithio ar gyflymder. Fe fyddwn ni'n cyflwyno'r ddeddfwriaeth honno. Rwy'n awyddus i'r ddeddfwriaeth honno fod yn gadarn. Rwy'n awyddus i'r asiantaeth fod â digon o allu i'n dal ni, neu unrhyw Lywodraethau olynol, yn gyfrifol, ac rwy'n awyddus i'r nodau o ran bioamrywiaeth fod yn ystyrlon a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar lawr gwlad. Felly, rydyn ni'n gweithio ar garlam i wneud hyn i gyd cyn y ddeddfwriaeth. Fe fyddaf i'n ei chyflwyno cyn gynted ag y gallwn, ond mae angen i ni wneud pethau yn y ffordd gywir hefyd, ac rwy'n dymuno, fel rydych chwithau, rwy'n gwybod, iddi fod yn ddeddfwriaeth gadarn ac egnïol.
Diolch i Sam am bwyntio hynna mas am rywbeth sydd wedi bod ar Twitter hefyd, ond fe wnaf i ddod yn ôl at hynna mewn munud.
Mae e'n galonogol fod y plymio dwfn neu'r deep-dive ar fioamrywiaeth yn ymrwymo i ddod â deddfwriaeth sy'n cynnwys targedau cyffredinol i adfer natur, a hefyd darpariaeth ar lywodraethiant amgylcheddol, ac i wneud hynny mor fuan ag sy'n bosibl yn y tymor yma o'r Senedd, ac rwy'n cymryd beth roeddech chi newydd ei ddweud. Mae hefyd yn ymrwymo, wrth gwrs, i gyfres o dargedau statudol mwy penodol ar adfer natur a fydd yn chwarae rhan mewn sicrhau bod Cymru yn chwarae rhan yn y fframwaith bioamrywiaeth byd-eang sydd yn bodoli.
Ydych chi'n cytuno, ac rwy'n cymryd mewn i ystyriaeth beth rydych chi newydd ei ddweud o ran eich bod chi'n methu rhoi timetable penodol i ni, ond ydych chi'n cytuno bod brys yn sgil efallai'r penderfyniad, efallai—? Ie, fel roedd Sam Kurtz newydd bwyntio mas, dim ots os oedd hwn yn benderfyniad a oedd wedi cael ei wneud yn barod gan ddarlledwr, mae yna rai pobl yn meddwl bod penderfyniad wedi cael ei wneud i beidio darlledu rhaglen oedd yn sôn am ba mor fregus a beth sydd ar fai am ba mor fregus ydy ein system naturiol ni yng Nghymru, a dim ots os oedd hynny achos pwysau gan y Llywodraeth—mae'n debyg nawr taw nid dyna oedd e—neu achos bod y cyhoedd efallai ddim mewn lle i eisiau clywed hynny yn yr un ffordd, dim ots beth yw'r pwynt pan oedd hynny wedi digwydd, ydych chi'n cytuno bod angen i ni fod yn gwneud cymaint mwy i fynd â'r cyhoedd gyda ni, i ni i gyd i ddeall pam? Dŷn ni'n sôn am climate emergency, nature emergency, ond rwy'n poeni weithiau ein bod ni'n colli'r syniad o ba mor fregus ydy'r sefyllfa yma. Dŷn ni wedi gweld beth oedd ar ein sgriniau ni dros y weekend. Bydd hynny'n cael ei golli, ac mae'n rhaid i'r cyhoedd ddeall hynny. Beth ydych chi'n meddwl mae Llywodraeth Cymru yn gallu ei wneud i atgyfnerthu ba mor argyfyngus ydy ein sefyllfa ni ar gyfer y byd naturiol yng Nghymru?
Ie. Delyth, rwy'n rhannu eich pryder chi yn hyn o beth. Mewn gwirionedd, mae rhaglenni David Attenborough wedi gwneud llawer iawn dros y blynyddoedd, onid ydyn nhw, i godi ymwybyddiaeth o fregusrwydd y byd naturiol. Ni welais i ond pennod gyntaf y gyfres dan sylw, ond bobl bach, mae'n eithafol o ddirdynnol, ac yn brydferth iawn hefyd. Mae'n gwneud i chi sylweddoli, fel dywedais i pan ddes i nôl o COP15, pan welwch chi harddwch y byd naturiol ac ystyried faint o rywogaethau sy'n darfod ochr yn ochr â hynny, mae hynny wir yn gwneud i chi sylweddoli pa mor fregus yw'r blaned yr ydym ni'n byw arni mewn gwirionedd.
Dyna pam roeddwn i mor benderfynol o gyd-fynd â'r nodau hynny, a dyna pam rydyn ni mor benderfynol o wneud hyn yn iawn. Mae hi'n bwysig gwneud pethau yn iawn. Rydyn ni hefyd—. Rwyf i am ddweud rhywbeth sydd braidd yn ddadleuol, ond sy'n hollol wir. Rydyn ni'n gwybod oddi wrth ddeddfwriaeth arall sydd wedi mynd trwy'r lle hwn mai dim ond y cam cyntaf yw mynd â'r ddeddfwriaeth drwodd mewn gwirionedd. Rwyf eisiau i hyn fod yn weithredol. Rwyf eisiau i'r ddeddfwriaeth fynd drwodd, ac yna rwy'n awyddus i ni allu gwneud hyn ar unwaith mewn gwirionedd. Nid wyf i'n dymuno treulio pum mlynedd er mwyn ei gweithredu, felly mae angen i ni wneud pethau yn iawn. Os yw hynny'n golygu ychydig o arafu cyn ei chyflwyniad oherwydd ein bod ni'n ei chael hi'n iawn wedyn, nid wyf i'n ymesgusodi o gwbl am hynny. Rwy'n credu bod honno'n wers yr ydym ni wedi ei dysgu.
Rydyn ni ar fin cychwyn ar raglen newid ymddygiad, a fydd yn helpu pobl i ddilyn y llwybrau sero net a natur gadarnhaol gyda ni. Rydyn ni allan i ymgynghoriad ar hyn o bryd. Byddwn yn gwneud llawer o waith—. Mae fy nghyd-Weinidog yn y fan hon, Jeremy Miles, wedi bod yn gwneud llawer o waith mewn ysgolion gyda'r prosiect Eco-Ysgolion ac yn y blaen, oherwydd mae ein pobl ifanc ni'n genhadon gwirioneddol ar gyfer hyn. Ond rwy'n cytuno â chi. Mae angen i ni ddwyn y cyhoedd gyda ni. Mae angen i ni wrthsefyll peth o'r wybodaeth gamarweiniol sy'n bod, ac mae angen i ni weithio ar gyflymder gyda phob sector yn y gymdeithas neu ni fyddwn ni—. Mae hwn yn argyfwng dirfodol. Ni allwn ni wneud hyn ar ein pennau ein hunain. Mae'n rhaid i ni wneud hyn gyda phawb arall.
3. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ59268
Diolch. Rydym yn anelu at wella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yn ne-orllewin Cymru. Yn ddiweddar, rydym wedi buddsoddi mewn addasu gwasanaeth T1 TrawsCymru fel ei fod yn defnyddio fflyd drydan, ac rydym yn gweithio ar gynllun peilot arloesol sy’n defnyddio hydrogen, a fydd yn cael ei weithredu yn y rhanbarth.
Diolch yn fawr am yr ymateb, Ddirprwy Weinidog.
Rwy'n siŵr, Dirprwy Weinidog, eich bod chi'n ymwybodol o fy mrwdfrydedd dros orsaf reilffordd newydd Sanclêr yn fy etholaeth i yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Mae'r gefnogaeth yn y gymuned i'r prosiect hwn yn anhygoel. Ond mae pryder gan Gyngor Sir Gaerfyrddin am ddiffygion o ran ffynonellau cyllido posibl. Fe ysgrifennais i atoch chi, Dirprwy Weinidog, ar 20 o fis Ionawr i godi'r pryderon hyn. Er hynny, ni chefais unrhyw ateb hyd yma. Dirprwy Weinidog, mae pobl leol yn dymuno gweld trafnidiaeth gyhoeddus sy'n fwy hygyrch ac mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £5 miliwn i'r prosiect hwn, ond eto nid yw hi'n ymddangos bod llawer o gynnydd yn digwydd ar lawr gwlad. Felly, yn hytrach na diffyg ateb i fy ngohebiaeth, pa sicrwydd a rowch chi i'm hetholwyr a minnau fod Llywodraeth Cymru yn parhau i fwriadu cael gorsaf drenau newydd yn Sanclêr? A gyda pha amserlen y gallan nhw ddisgwyl iddi gael ei chyflawni? Diolch, Llywydd.
Diolch i chi. Wel, rwy'n gobeithio na chollwyd y llythyr yn y post, ond fe wnaethom ni ateb cwestiwn ysgrifenedig oddi wrthych chi ar yr union bwnc hwn, ac roedd yr ateb yn y llythyr hwnnw'n gyfan gwbl yr un fath â'r un a roddwyd i chi ynglŷn â'r cwestiwn ysgrifenedig, sef y dylai'r gwaith fod wedi ei gwblhau yn fuan ac fe fydd yn rhoi dyluniad amlinellol a chostau disgwyliedig yr adeiladu, ar gyfer llywio'r camau nesaf a'r amserlen i'r rhaglen o ran yr orsaf newydd hon. Ond fel nododd Sam Kurtz yn gywir felly, mae'r gost wedi cynyddu, fel sydd wedi digwydd gyda phob prosiect seilwaith yn y wlad. Erbyn hyn fe geir bwlch sydd wedi dyblu, sy'n amlwg yn rhoi her i ni mewn cyfnod o ostyngiad yn ein cyllidebau cyfalaf ni oddi wrth Lywodraeth y DU sydd yn 8 y cant mewn termau gwirioneddol. Felly, fe geir canlyniadau i'r toriadau gan Lywodraeth y DU i'r blaenoriaethau sydd gan yr Aelod ac sydd gennym ninnau. Felly, fe fydd hi'n rhaid i ni geisio gweithio drwy hynny.
Rydyn ni'n ymwybodol, yn amlwg, mai yn Sanclêr y mae un o'r safleoedd y mae bwrdd iechyd Hywel Dda yn ymgynghori yn eu cylch ar gyfer ysbyty newydd i'r gorllewin, ac mae hynny'n rhan annatod o'n meddylfryd ni, felly fe fyddwn ni'n gwylio'r broses honno'n ofalus iawn. Yn waelodol, wrth gwrs, seilwaith rheilffyrdd yw hwn, ac nid yw seilwaith rheilffyrdd yn fater a ddatganolwyd. Fe ddylai Llywodraeth y DU fod yn ariannu seilwaith rheilffyrdd yn llawn, ac efallai y gallwn ni weithio gyda'n gilydd i gyflwyno sylwadau iddyn nhw ar gyfer ein helpu ni gydag unrhyw brinder ariannol.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau gostyngiad mewn sbwriel a thipio anghyfreithlon yng Nghanol De Cymru? OQ59255
Mae gan gyrff sydd â dyletswydd gan gynnwys awdurdodau lleol, gyfrifoldeb am reoli sbwriel a thipio anghyfreithlon yn eu hardaloedd arbennig nhw. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Cadwch Gymru'n Daclus a Thaclo Tipio Cymru i gefnogi gwelliannau mewn ansawdd amgylcheddol lleol ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau â phartneriaid, gwaith gorfodi a hyrwyddo newid ymddygiad.
Diolch, Weinidog. Fel byddwch yn ymwybodol, mae problem enbyd o ran ysbwriel a thipio anghyfreithlon, a gwyddom oll am yr effaith niweidiol mae hyn yn ei gael, nid yn unig ar harddwch ein cymunedau, ond hefyd o ran natur a bywyd gwyllt. Mae gennym ni oll, wrth gwrs, ran i’w chwarae a hoffwn ddiolch i’r miloedd o bobl ledled y wlad sydd yn mynd ati’n gyson i godi ysbwriel yn eu cymunedau fel gwirfoddolwyr, ym mhob tywydd, a chwarae eu rhan fel dinasyddion cydwybodol.
Ond mae yna rai mannau sydd rhy beryglus i wirfoddolwyr fynd ati i godi ysbwriel, megis wrth ochr lonydd prysur a hefyd traciau trên, ac eto mae problem ddifrifol o ran hyn mewn nifer o ardaloedd. Rwyf yn derbyn cwynion rheolaidd am ysbwriel gan bobl sy’n dal trên o’r Cymoedd i Gaerdydd, a rhai sy’n teithio ar ffyrdd yn fy rhanbarth, megis yr A470, yr M4 a’r A4232. Pryd gallwn ddisgwyl cyhoeddi cynllun terfynol y Llywodraeth i fynd i’r afael ag ysbwriel a thipio anghyfreithlon, a sut bydd hyn yn gwella’r broblem?
Diolch, Heledd. Mae'r un pryderon gennyf innau hefyd. Mewn gwirionedd, cyn i mi gael eich cwestiwn chi, fe godais i fy nghanfyddiad personol gyda fy swyddogion bod maint y sbwriel sydd ar hyd ffyrdd a'r rheilffyrdd wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rwy'n credu bod nifer o resymau am hyn, ac rydyn ni'n eu hystyried. Felly, rwy'n awyddus iawn i rymuso gallu'r awdurdodau lleol i weithredu yn hynny o beth, y ddeubeth, mewn gwirionedd, sef y camau ôl-weithredol i godi sbwriel, ond mewn gwirionedd y rhaglenni newid ymddygiad ac addysg i bobl er mwyn deall gwir effaith taflu potel allan o ffenestr eich car neu beth bynnag arall y gallai fod. Ceir problem hefyd gyda'r ffordd y mae rhai contractwyr gwastraff yn casglu sgipiau heb rwyd briodol ar eu pennau nhw ac ati, a'r gwynt yn chwythu'r sbwriel i bobman wedyn. Felly, roeddwn i eisoes yn annibynnol—ac rwy'n fwy na pharod i adnewyddu hyn—wedi gofyn am adolygiad o sut mae'r system honno'n gweithio, sut rydym ni'n ei hariannu hi, a pha ddyletswyddau sy'n berthnasol. Ni sydd â'r cyfrifoldeb am rywfaint o'r rhwydwaith cefnffyrdd, ond rydyn ni'n dirprwyo hynny i awdurdodau lleol, ac rwyf i wedi gofyn am adolygiad o hynny hefyd.
Felly, rwy'n pryderu fel chithau, ac roeddwn i wedi dechrau'r broses eisoes, ond rwy'n hapus iawn i'w bywiogi hi unwaith eto, o ran ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud. Ond rwy'n credu bod problem fawr o ran newid ymddygiad yn hyn o beth. Mae gwir angen i bobl ddeall beth sy'n digwydd pan fyddan nhw'n taflu sbwriel, beth sy'n digwydd i'r plastig y maen nhw'n ei adael ar ochr y ffordd. Nid yr un botel honno'n unigol, ond yr hyn sy'n digwydd wrth i honno drwytholchi i'r amgylchedd yn y tymor hwy. Felly, fel dywedais i, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Jeremy Miles, gyda'r fenter Eco-Ysgolion, i argyhoeddi pobl o effaith eu hymddygiad personol, ac ystyr hyn i raddau helaeth iawn fydd gwthio cymdeithasol, onid e, er mwyn gwneud ymddygiad o'r fath yn gwbl annerbyniol.
Ni allwn i gytuno mwy â'r teimladau a fynegwyd gennych chi a'r holwr blaenorol am faint y sbwriel sydd i'w weld wrth briffyrdd a rheilffyrdd, yn arbennig yng Nghanol De Cymru. Ar y ffordd gyswllt sy'n cychwyn o Groes Cwrlwys, mae yna wely yno ar fin y ffordd sydd wedi bod yno ers tair wythnos. Mae tua 12 o fagiau bin du yn y gilfan agosaf yno hefyd, ac mae'r rheini wedi bod yno am o leiaf 10 diwrnod. Ym Mro Morgannwg, wrth dafarn yr Aubrey Arms, mae llwyth o fagiau bin du ar ymyl y palmant yno, sydd newydd eu gadael. Rwy'n gwerthfawrogi nad ar y Llywodraeth y mae'r bai am hyn; rwy'n gwneud fy ngorau i weld bai ar y Llywodraeth am y rhan fwyaf o bethau, ond er tegwch, nid ar y Llywodraeth y mae'r bai am hyn. Mater cymdeithasol yw hwn.
Mae addysg yn un o'r ysgogiadau y gallwn ni eu defnyddio. A wnewch chi gadarnhau pa un a yw awdurdodau lleol wedi cyflwyno unrhyw syniadau, gydag awgrymiadau i chi, Gweinidog, i'w galluogi nhw i fynd â phobl sy'n gadael sbwriel yng nghefn gwlad, ac ar hyd ein ffyrdd a'n rheilffyrdd—? Oherwydd yr enghreifftiau yr wyf i newydd eu rhoi i chi, ysbwriel masnachol oedd y rheini. Nid taflu'r botel drwy'r ffenestr, sy'n beth atgas ynddo'i hun; oedd hynny ond rhywun yn fwriadol yn taflu sbwriel a oedd naill ai'n wastraff masnachol neu'n wastraff cartref cyffredinol sy'n effeithio llawer iawn ar ardal a ddylai fod yn ddihalog, yn lân, ac yn hysbyseb dda i'n prifddinas hyfryd ni, Caerdydd, ac, yn wir, i gefn gwlad hyfryd Bro Morgannwg.
Yn hollol, Andrew. Yn amlwg, mater i'r awdurdod lleol yw hwn, ac rwy'n gobeithio eich bod chi wedi rhoi gwybod iddyn nhw am hyn. Mewn gwirionedd, rwyf fy hun wedi codi'r slipffordd, fel y'i gelwir, gyda Chyngor Caerdydd, mewn cyfarfod gyda'r arweinydd yn ddiweddar. Rydyn ni'n gwneud nifer o bethau. Mae gennym ni Taclo Tipio Cymru, er enghraifft, yn gweithio mewn partneriaeth ar hyn o bryd gyda Rhondda Cynon Taf i ddal tipwyr anghyfreithlon, gan ddefnyddio gwyliadwriaeth ar dir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a Cadwch Gymru'n Daclus, drwy'r prosiect Caru Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn gweithio gyda grwpiau amgylchedd lleol a'r heddlu i roi sylw arbennig i fannau lle mae problem gyda sbwriel a achosir gan ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac erlyn y bobl gyfrifol wedyn.
Rwy'n awyddus iawn i dynnu sylw at yr erlyniadau, oherwydd rwy'n credu bod effaith ataliol i hynny. Os ydych chi'n agor y bagiau du, yn aml fe allwn ni ganfod pwy sy'n gyfrifol, a'u holrhain drwy'r sbwriel. Rydyn ni wedi bod yn annog awdurdodau lleol i wneud hynny; mae gennym ni gynllun gweithredu i wneud hynny. Fel rwy'n dweud, rydyn ni'n gwneud ymdrech o ran newid ymddygiad pobl. Mae newid ymddygiad fel hyn yn berthnasol i fusnesau hefyd. Nid y rhai sy'n tipio yn unig, ond, mewn gwirionedd y busnesau sydd wedi gofyn am daflu eu sbwriel yn y ffordd honno. Felly, fe geir rhaglenni ar gyfer newid ymddygiad o ran gwastraff masnachol a busnesau hefyd.
Fe fydd yna fwy o hynny wrth i ni gyflwyno'r nodau ailgylchu newydd i fusnesau ac ati, oherwydd mae hwnnw'n ailgylchu gwerthfawr; nid dim ond sbwriel mohono. Mae hwn yn ddeunydd gwerthfawr y gallwn ni ei ddefnyddio yn rhan o'n hymdrech ni o ran yr economi gylchol, am ein bod ni wedi dechrau denu ailbroseswyr gwirioneddol ddifrifol yma i Gymru, oherwydd y deunyddiau eildro gwerth uchel sydd gennym ni. Mae'r deunydd hwnnw, yn fy marn i, yn fwy na dim ond sbwriel hyll; mewn gwirionedd, mae'n ddeunydd crai sy'n mynd yn wastraff y gellir ei ddefnyddio eto. Mae angen i ni hysbysu'r cyhoedd am yr ymagwedd honno, ond mae angen hefyd i ni erlyn y bobl hynny sy'n gwneud y pethau yr ydych chi newydd sôn amdanyn nhw, oherwydd ni allwn i gytuno mwy—mae'n hyll ac yn amgylcheddol beryglus hefyd, ac mae angen i ni amlygu'r pwynt arbennig hwnnw.
5. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer morlyn llanw Bae Abertawe? OQ59237
Diolch, Mike Hedges. Ar hyn o bryd ni chynigiwyd unrhyw brosiectau sector cyhoeddus i adeiladu morlyn llanw ym mae Abertawe. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud cyhoeddiad ynglŷn â'r her o ran y morlyn llanw yng nghynhadledd Ynni Morol Cymru, a gynhelir yn Abertawe, ar 22 o fis Mawrth.
A gaf i groesawu'r ateb hwnnw? Pan wrthodwyd morlyn llanw Abertawe gan Lywodraeth Geidwadol San Steffan, roedd prisiau nwy yn isel, ac roedd y Llywodraeth yn disgwyl y bydden nhw'n aros yn isel am byth. Fel rydyn ni i gyd yn gwybod, roedden nhw'n anghywir yn hynny o beth. Fe wyddom ni fod ynni'r llanw yn ddibynadwy ac yn gallu diwallu rhai o'n hanghenion ynni ni. Fe wyddom ni hefyd nad yw'n golygu datgomisiynu costus ac nid yw ei oes yn fyr. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i argyhoeddi San Steffan y dylid comisiynu'r ynni glân, diogel hwn, sy'n gystadleuol o ran costau erbyn hyn, ac y dylid ei gomisiynu ar unwaith?
Diolch yn fawr i chi, Mike. Rwy'n cytuno yn llwyr â'r farn yn eich cwestiwn chi. Nid wyf i am gael fy nhemtio i gyhoeddi cyhoeddiad y Prif Weinidog ar 22 o fis Mawrth o flaen llaw, ond mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ynni llanw yn gyfan gwbl fel modd i gyflawni ein nodau sero net, yn ogystal â'i ddarpariaeth o fuddion economaidd a chymdeithasol. Fel roeddech chi'n dweud, mae'n darparu ynni glân a dibynadwy, ac rydym ni wedi gwneud rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth i wneud Cymru yn ganolfan fyd-eang ar gyfer y technolegau sy'n dod i'r amlwg ynglŷn ag ynni'r llanw. Mae pris cyfanwerthu nwy sy'n cynyddu fwyfwy, ac fe waethygwyd hynny gan ryfel Rwsia yn Wcráin, wedi hoelio sylw pobl at yr angen am bontio cyflym i ynni adnewyddadwy. Mae hynny wedi effeithio ar bris nwy a pha mor hawdd yw cael gafael arno hefyd. Yn amlwg, yr hyn sydd ei angen arnom ni yw ffynhonnell o ynni glân, dibynadwy a diogel, ac mae honno gennym hyn mewn llawnder ar hyd ein glannau ni.
A gaf i ddiolch i Mike Hedges am gyflwyno'r cwestiwn hwn, a chytuno ag ef hefyd, nid o ran ei asesiad ef o Lywodraeth y DU, ond ar fanteision ynni'r llanw, yn enwedig ym mae Abertawe? Gan fod y tri ohonom ni, rwy'n credu, yn falch o fod yn cynrychioli dinas Abertawe—y ddinas orau ar y ddaear yn fy marn i—rydyn ni'n gwybod am y manteision y gallai'r morlyn arfaethedig, prosiect Eden Las, eu cynnig i'n dinas. Ond mae hi'n bwysig cofio nad morlyn llanw yn unig mohono: fe geir ffatri batris uwch-dechnoleg yn rhan o brosiect Eden Las, ac arae solar arnofiol, storfa ddata, a chartrefi i 5,000 o bobl ar lan y môr, yn ogystal â chartrefi arnofiol a chanolfan ymchwil. Ond o ystyried maint y prosiect a'r cyffro y gall hynny ei ennyn yn ninas Abertawe, nid wyf i wedi clywed llawer oddi wrth Lywodraeth Cymru. Rwy'n gwerthfawrogi mai o'r sector preifat y daw'r buddsoddiad yn bennaf, ond nid wyf i wedi clywed llawer oddi wrth Lywodraeth Cymru o ran y cymorth ymarferol yr ydych chi wedi bod yn ei roi. A wnewch chi ddarlunio pa gymorth pendant y mae eich adran chi'n ei roi—i sicrhau bod rhwymedigaethau cynllunio yn cael eu bodloni, er enghraifft, a chadw at—yn ogystal ag a oes unrhyw drafodaeth wedi bod o gwbl am anghenion o ran cyllid cyhoeddus ar unrhyw amser yn ystod y broses, er mwyn i ni fwrw'r maen i'r wal gyda'r prosiect hwnnw o'r diwedd?
Nid yw'r prosiect wedi gofyn am unrhyw gefnogaeth gan y Llywodraeth hyd yma. Rydyn ni wedi ei gwneud hi'n glir i'r prosiect, pe bydden nhw eisiau trafod unrhyw gefnogaeth bosibl gyda ni, ein bod ni'n hapus i wneud hynny. Ond ar hyn o bryd, nid ydyn nhw wedi gofyn am y gefnogaeth honno. Os ydyn nhw eisiau'r gefnogaeth honno, yna byddwn i'n fwy na pharod i drafod y peth gyda nhw. Wrth gwrs, rydyn ni wedi trafod gyda Chyngor Abertawe, a chynghorau eraill yr effeithir arnyn nhw—oherwydd nid dyma'r unig le yng Nghymru y gallai morlyn llanw fynd—lawer gwaith, beth allai'r rhwymedigaethau cynllunio fod. Rwy'n falch iawn o weld bod Llywodraeth y DU wedi caniatáu, yn rownd 4 o'r contract ar gyfer gwahaniaeth diwethaf, ynni llanw i gael ei gynnwys, ac ar hyn o bryd rydyn ni'n eu lobïo nhw'n galed i sicrhau bod hynny'n aros, oherwydd mae hynny'n llwybr i'r farchnad ar gyfer y rhan fwyaf o dechnolegau llanw sy'n dod i'r amlwg, gan gynnwys morlynnoedd llanw. Mae Llywodraeth y DU, rwy'n credu, wir wedi colli cyfle—ac rwy'n credu bod eich meinciau chi'n cytuno â ni—pan na wnaethon nhw ariannu'r prosiect diwethaf ym mae Abertawe, felly rydyn ni wedi bod yn eu hannog nhw i wneud iawn am hynny, a sicrhau bod y rownd contract ar gyfer gwahaniaeth yn cynnwys technolegau llanw o bob math, fel y bydd modd dod â'r prosiectau hynny i'r farchnad.
6. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i helpu elusennau sy'n darparu gwasanaethau cymorth tai a digartrefedd? OQ59248
Diolch, Peter Fox. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol a darparwyr trydydd sector i gynorthwyo pobl ag anghenion tai. Rydyn ni wedi darparu dros £207 miliwn ar gyfer gwasanaethau cymorth tai a digartrefedd yn y flwyddyn ariannol hon yn unig, gan gefnogi awdurdodau lleol a darparwyr trydydd sector i ddarparu gwasanaethau rheng flaen i atal a lleddfu digartrefedd.
Diolch. Fel y gwyddoch chi, mae mwy na 60,000 o bobl ledled Cymru yn dibynnu ar y grant cymorth tai ar hyn o bryd, sy'n darparu cymorth mawr ei angen i'r rhai sy'n wynebu problemau cymdeithasol. Nid yw'n syndod bod penderfyniad eich Llywodraeth chi yn ei chyllideb derfynol i dorri'r grant hwn mewn termau real wedi dod â phryderon enfawr drwy'r trydydd sector. Un o'r sefydliadau pryderus hynny yw elusen Pobl. Gwnaethon nhw rybuddio Llywodraeth Cymru yn flaenorol ei bod hi'n hanfodol bod yr arian grant yn cael ei gynyddu oherwydd bod digartrefedd a gwasanaethau cymorth tai eisoes yn wynebu cynnydd o 10.1 y cant mewn costau eleni. Ond oherwydd y toriad termau real i'r grant, maen nhw wedi dweud wrthyf i fod rhai gwasanaethau tai hanfodol a gwasanaethau digartrefedd bellach o dan fygythiad. Gweinidog, ydych chi'n cytuno â mi mai camgymeriad oedd peidio â chynyddu cyllid ar gyfer y grant, a beth fydd eich Llywodraeth yn ei wneud nawr i leddfu pryderon difrifol y trydydd sector?
Diolch, Peter. I gefnogi ein huchelgais i ddod â digartrefedd i ben, fel y dywedais i, rydyn ni eisoes yn buddsoddi dros £207 miliwn mewn gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai yn y flwyddyn ariannol hon yn unig. Ein prif grant atal digartrefedd yw'r grant cymorth tai, sy'n cael ei ddarparu i awdurdodau lleol. Yn 2021-22, cafodd hwn ei gynyddu £40 miliwn, sy'n gynnydd o dros 30 y cant, i £166.763 miliwn. Ar gyfer 2023-24, rydyn ni wedi gallu cynnal y cynnydd hwnnw yng nghyllideb y grant cymorth tai, felly mae'n parhau i fod yn £166.763 miliwn, er gwaethaf y sefyllfa gyllidebol eithriadol o anodd rydyn ni'n ei hwynebu ar hyn o bryd. Rydyn ni hefyd wedi codi cyllid ar gyfer y mwyafrif helaeth o brosiectau sy'n cael eu hariannu gan y grant atal digartrefedd o 6 y cant yn 2023-24. Rydyn ni'n cydnabod y pwysau ar wasanaethau digartrefedd, felly bydd y gyllideb atal digartrefedd hefyd yn cynyddu £15 miliwn yn 2023-24, sy'n £10 miliwn yn fwy nag y cynlluniwyd yn flaenorol.
Rydyn ni'n wynebu problem ddigyffelyb, on'd ydyn ni, gyda'r chwyddiant. Mae'r chwyddiant yn achosi problem wirioneddol allan yna, ond mae hefyd yn achosi problem wirioneddol fan hyn. Mae'r arian yr ydyn ni wedi'i gael yn mynd yn llai pell, ac mae'r arian sydd ganddyn nhw yn mynd yn llai pell. Felly rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda'n hawdurdodau lleol i wneud yn siŵr bod modd cynnal gwasanaethau. Rydyn ni ar hyn o bryd yn cynnal ymgyrch recriwtio i wasanaethau cynghori ar dai. Rydw i wir yn talu teyrnged i'r staff, sydd wedi gweithio'n ddiflino drwy gydol y pandemig ac wir wedi camu i'r adwy; rwy'n falch o'r hyn mae Cymru wedi ei gyflawni. Ond mae sefyllfa o ran y gyllideb eleni wedi bod yn ofnadwy—dyma'r waethaf i mi ei gweld erioed, ac rydw i wedi bod yn Weinidog yn y fan yma ers amser maith nawr. Nid yw hi wedi bod yn bosibl gwneud popeth yr oedden ni wedi bod eisiau'i wneud. Ond rydyn ni wedi llwyddo i gynnal cynnydd digynsail yn y gyllideb honno, ac rydyn ni wedi cynyddu'r gyllideb atal digartrefedd, fel y dywedais, i £15 miliwn yn barod. Rwy'n cydymdeimlo'n fawr â'r sector, rwy'n talu teyrnged i'r gwaith maen nhw'n ei wneud, ond mae'r sefyllfa o ran y gyllideb eleni wedi bod yn anodd iawn.
7. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i leihau lefelau digartrefedd yn Nwyrain De Cymru? OQ59271
Diolch, Natasha Asghar. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi diwedd ar ddigartrefedd ar draws holl ranbarthau Cymru ac mae wedi buddsoddi dros £207 miliwn mewn gwasanaethau cymorth digartrefedd a thai, yn ogystal â'r lefel uchaf erioed sef £300 miliwn mewn tai cymdeithasol yn y flwyddyn ariannol hon yn unig. Mae hyn yn cynnwys dros £67 miliwn yn y grant tai cymdeithasol ar gyfer awdurdodau yn Nwyrain De Cymru.
Diolch am yr ateb hwnnw, Gweinidog. Mae nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghymru wedi tyfu i 116, ac yn bryderus, mae nifer fawr o'r rhain—53, mewn gwirionedd—yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru. Mae gwasanaethau digartrefedd o dan bwysau aruthrol, fel y soniodd fy nghydweithiwr Peter Fox, gyda 93 y cant yn dweud eu bod yn hynod bryderus neu'n bryderus iawn am eu gallu i barhau i ddarparu gwasanaethau os nad oes cynnydd i'r grant cymorth tai. Mae darparwyr gwasanaethau a chomisiynwyr awdurdodau lleol yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd ynghylch gwneud toriadau a diswyddo staff. Dim ond yr wythnos diwethaf, gwnaeth nifer o bobl o fy rhanbarth i sydd â phrofiad o ddigartrefedd ymweld â'r Senedd gan siarad yn angerddol dros yr angen am wasanaethau o ansawdd uchel i helpu pobl allan o ddigartrefedd yn y pen draw. Felly, Gweinidog, a wnewch chi roi'r sicrwydd i mi a'r sefydliadau sy'n gweithio i leihau digartrefedd y bydd y grant cymorth tai yn cael arian ychwanegol os oes symiau canlyniadol i Gymru yn sgil datganiad y gwanwyn? Diolch.
Diolch, Natasha. Rwyf newydd nodi cryn dipyn o'r hyn yr ydyn ni eisoes wedi'i wneud mewn ymateb i Peter Fox, ond, yn ogystal â hynny, rydyn ni wedi dyrannu dros £67.496 miliwn i awdurdodau lleol yn Nwyrain De Cymru drwy'r rhaglen grant tai cymdeithasol. Rydyn ni hefyd wedi sefydlu'r rhaglen gyfalaf llety trosiannol gwerth £89 miliwn i gynyddu llety tymor hir o ansawdd da i gefnogi pawb sydd angen tai. Yn Nwyrain De Cymru, rydyn ni wedi darparu £14.925 miliwn i awdurdodau lleol i gefnogi 192 o gartrefi ar gyfer llety dros dro o dan yr amgylchiadau hynny. Rydyn ni hefyd wedi rhoi £10 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol i awdurdodau lleol yn ystod y flwyddyn i gefnogi darparu llety dros dro i ychwanegu at y £10 miliwn presennol yr oedden ni eisoes wedi'i ddyrannu, wrth i ni symud tuag at ddull gweithredu ailgartrefu cyflym.
Ond fe wnaf i ddweud, Natasha, rwy'n gobeithio'n fawr, o'r holl fesurau yr ydyn ni'n gobeithio amdanyn nhw yn y gyllideb, bod cynnydd i'r lwfans tai lleol yno, oherwydd dyna sy'n ysgogi llawer o'r broblem sydd gennym ni. Mae'n swm mawr o arian fel pennawd, ond o ran yr arian mae'n ei arbed, yr holl arian yma yr wyf i'n ei nodi yma byddai'n ei arbed, oherwydd byddai'n galluogi pobl i aros yn y cartrefi sector rhentu preifat y maen nhw wedi bod ynddyn nhw'n eithaf hir mewn rhai achosion. Felly, mewn gwirionedd, os oes un peth y byddwn i'n galw amdano yn y gyllideb, cynnydd yn y lwfans tai lleol fyddai hwnnw, fel yr wyf wedi'i wneud yn glir iawn.
Cwestiwn 8, yn olaf. Mark Isherwood.
8. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru o ran ailstocio coedwigaeth a choetir? OQ59243
Diolch, Mark Isherwood. Mae angen i ni gynyddu gorchudd coed yng Nghymru. Fel arfer mae'n rhaid ailblannu coetir sy'n cael ei dorri i lawr fel amod i'r drwydded dorri. Pan fo rhesymau da dros beidio â gwneud hynny, gwneir iawn am golli gorchudd coed yn rhywle arall fel arfer.
Diolch. Mae cefnogaeth eang i gynlluniau ar gyfer coedwig genedlaethol i Gymru, sef rhwydwaith enfawr o goed a choedwigoedd ar draws y genedl sy'n agored i bawb gael eu harchwilio a'u mwynhau. Fodd bynnag, mae coetiroedd yn parhau i gael eu gweld fel nwydd cyhoeddus hyd yn oed pan fydd yn darparu cynefin delfrydol i brif ysglyfaethwyr sy'n ysglyfaethu nythod a chywion, sef y prif beth sy'n achosi, er enghraifft, methiant y gylfinir i fridio. Pa gamau penodol, felly, ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod targed Llywodraeth Cymru ar gyfer plannu coetiroedd yng Nghymru yn ystyried hyn ymhellach, sy'n ganolog i adferiad natur? Hefyd, sut ydych chi'n mynd i ymdrin â phryderon a godwyd gyda mi gan etholwr o sir y Fflint fod eich cynllun Fy Nghoeden, Ein Coedwig yn gweld coed yn cael eu plannu'n rhy agos at ei gilydd gydag ychydig iawn, os o gwbl, o le iddyn nhw ddatblygu'n iawn, ac, yn olaf, gan Gymdeithas Tir a Busnes Cymru y dylai plannu coed newydd fod ar y cyd â strategaeth iechyd coed i gefnogi'r rhai hynny sy'n rheoli coetiroedd wrth gael gwared yn brydlon ar goed sydd wedi'u heintio a phlannu rhai newydd yn eu lle, er mwyn lleihau lledaeniad yr afiechyd, pan fo gennym ni argyfwng o ran ynn a llarwydd a phroblemau yn dod i'r amlwg o ran derw? Diolch yn fawr.
Diolch, Mark. Rwy'n talu teyrnged i'ch ymdrechion ar ran y gylfinir. Rydych chi'n gwybod fy mod i wedi dod i gyfarfodydd rhaglen amddiffyn y gylfinir. Rwy'n falch iawn o weld ein bod ni'n gweithio ochr yn ochr â nhw. Gwnaf i ond dweud, a dywedais i hyn dros y penwythnos wrth nifer o grwpiau y siaradais i â nhw, ein bod ni'n defnyddio'r goeden fel symbol eiconig o'r hyn yr ydyn ni'n ceisio ei wneud wrth ddal carbon ac mewn gwaith cadarnhaol o ran natur, yn yr un ffordd ag y mae'r World Wildlife Fund yn defnyddio'r panda. Nid oes neb yn meddwl bod y World Wildlife Fund, felly, yn credu y dylai pandas fod ym mhob cwr o'r blaned, ac nid ydyn ni'n meddwl y dylai coed fod ymhob man yng nghefn gwlad. Mae'n symbol eiconig. Rydych chi'n gwybod cystal â mi ein bod ni'n adfer llawer iawn o fawndir naturiol. Yn amlwg, ni ddylai hynny fod yn goedwig. Ni ddylai dolydd agored sy'n llawn rhywogaethau fod yn goedwigoedd. Er hynny, lle y dylai coedwigoedd fod, rydyn ni ar ei hôl hi'n druenus, felly mae angen i ni ailgyflenwi, ac mae angen i ni ailgyflenwi'n gyflym, ond y goeden gywir yn y lle cywir.
O ran menter Fy Nghoeden, Ein Coedwig, mae pob coeden yn dod gyda rhaglen i'ch helpu chi i ddeall sut a ble i'w phlannu a sut olwg ddylai fod arni ar wahanol gamau; mae cyfoeth o arbenigedd ar gael trwy Coed Cymru i helpu pobl, ac wrth gwrs, byddwn ni hefyd yn plannu eich coeden rhywle arall ar eich rhan os nad ydych chi'n ddigon ffodus i fod â gardd sy'n addas i'w derbyn. Mae hi wedi bod yn rhaglen boblogaidd iawn.
Rydw i hefyd wedi plannu coed drwy fenter yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol mewn ysgolion yn fy ardal i, a byddwn i'n annog pob un ohonoch chi i gymryd rhan yn hynny. Maen nhw'n goed blodau, ac maen nhw'n dod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad i'r plant sy'n llawn cyffro i wneud hynny—â diddordeb mawr yn fy sgwrs â nhw ynghylch gyrfa mewn coedwigaeth yn y dyfodol. Felly, rydyn ni'n gwneud llawer o'r pethau iawn yma.
Nid ydw i eisiau dwyn perswâd ar bobl i beidio â phlannu coed yn eu gerddi, ond mae'n dod gyda chynllun ar gyfer sut i wneud hynny—mae'n dod gyda chyfarwyddiadau, fel petai. Rwy'n annog pobl i fynd draw i'w hybiau tra'u bod nhw'n agored a chasglu coeden a'i rhoi i'ch ysgol leol, os ydych chi eisiau, oherwydd mae'n rhan bwysig iawn o ailgysylltu ein poblogaeth â'r amgylchedd naturiol, ond mae'n golygu'r goeden gywir yn y lle cywir. Os ewch chi draw i un o'r hybiau, bydd y bobl sy'n dosbarthu'r coed yn cael sgwrs hir â chi ynghylch ble'r ydych chi eisiau rhoi'r goeden a pha fath o goeden fydd yn fwyaf addas ar gyfer eich darn o dir neu'ch gardd chi.
Byddwn i wrth fy modd â Chymru'n llawn pandas, mae'n rhaid i mi ddweud. Gallech chi fod yn hyrwyddwr pandas bryd hynny, Darren Millar, i ddod â ni—[Chwerthin.] Iawn, iawn. Diolch yn fawr i'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog.
Awn ni ymlaen nawr at Weinidog y Gymraeg ac Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf i Jeremy Miles gan Heledd Fychan.
1. Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi dysgwyr yng Nghanol De Cymru gyda chost y diwrnod ysgol? OQ59256
Mae ein grant hanfodion ysgol wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i nifer o deuluoedd incwm isel ar draws Cymru, gan helpu i leihau'r pryder ynghylch prynu gwisg ysgol ac offer, er enghraifft. Bydd cyllid o £13.6 miliwn ar gael yn 2023-24.
Diolch, Weinidog. Fel rydych chi wedi amlinellu, yn amlwg, mae yna nifer o bethau wedi helpu teuluoedd. Gwnaethoch chi sôn am leihau'r pryder, ond mae'r pryder hefyd yn parhau, oherwydd y gwir amdani ydy bod nifer o deuluoedd yn dal i gael trafferth fforddio'r hanfodion i ddysgwyr sydd ynghlwm â chost y diwrnod ysgol. Mi wnaethoch chi gyfeirio at wisg ysgol, ond er eich bod chi wedi newid y canllawiau ar y mater, mae nifer o ysgolion yn parhau i fynnu logo ar wisg ysgol a phethau megis blaser—pethau sydd yn ychwanegu'n sylweddol at gost gwisg ysgol. A gyda chostau hefyd yn cynyddu, rydyn ni yn gwybod gan deuluoedd bod y grant sydd ar gael ddim yn ddigonol, a hwythau gyda chymaint o gostau ychwanegol.
Mater arall, wrth gwrs, ydy cost tripiau ysgol neu'r pethau ychwanegol sydd yn cyfoethogi profiadau dysgwyr. Yn aml, mae hyn yn amrywio'n fawr o ysgol i ysgol, yn dibynnu os ydy rhieni yn gallu codi arian ac ati, gan olygu bod nifer o'n dysgwyr mwyaf bregus ni'n colli allan, efallai, ar brofiadau megis mynd ar drip i'r theatr ac ati os nad ydy'r ysgol yn gallu fforddio talu ar eu rhan. Felly, gaf i ofyn, felly, beth yn fwy mae'r Llywodraeth yn bwriadu gwneud i sicrhau nad oes unrhyw ddysgwr yn colli allan ar ddiwrnod o addysg neu weithgareddau sy'n cyfoethogi eu haddysg oherwydd sefyllfa economaidd eu haelwyd?
Wel, mae'r Aelod yn sôn am bethau pwysig iawn, wrth gwrs, ac mae'n gwybod ein bod ni'n cydweld gyda hi pa mor bwysig mae e i sicrhau bod yr ysgol yn hygyrch i blant o bob amgylchiadau. Mae'r grant hanfodion ysgol wedi gwneud cyfraniad sylweddol i hynny, ac ynghyd â hynny, rŷn ni wrthi'n lansio ymgyrch er mwyn marchnata argaeledd y cynllun hwnnw i sicrhau bod pob un person sy'n cymhwyso ar ei gyfer e yn cynnig am hynny. Wrth gwrs, un o'r heriau wrth ledaenu prydiau bwyd am ddim mewn ysgolion cynradd yw bod dim cynnig pryd am ddim bellach mewn ysgol gynradd. Felly, mae'n bwysig ein bod ni, ar yr un pryd, yn cyfathrebu argaeledd y cynllun arall, ac mae ymgyrch gyfathrebu wrthi'n gwneud hynny ar hyn o bryd ac yn dangos rhyw gynnydd.
Ynghyd â hynny, fel gwnaeth hi sôn, rŷn ni bod yn ymgynghori ar newid canllawiau o ran gwisg ysgol; dyw'r canllawiau newydd ddim, fel mae'n digwydd, wedi cael eu cyhoeddi eto, ond rwy'n bwriadu gwneud hynny yn yr wythnosau nesaf. Mae wir yn bwysig ein bod ni'n sicrhau bod pob corff llywodraethol yn edrych o ddifrif ar hyn. Mae'r rhan fwyaf yn gweld hyn yn flaenoriaeth bwysig, wrth gwrs, beth bynnag. Mae canllawiau pwysig ar gael i ysgolion gan Plant yng Nghymru sydd yn esbonio i brif athrawon ac i gyrff llywodraethol sut i fynd ati i sicrhau nad yw costau ysgol yn rhwystr i allu ymwneud gyda bywyd yr ysgol yn ehangach, ac yn argymell hynny i bob ysgol, i sicrhau eu bod nhw'n gwneud popeth y gallan nhw i gadw costau mor isel â phosib.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Gallwch chi a fi drafod rhinweddau'r polisi cinio ysgol am ddim y mae'r Llywodraeth wedi'i gyflwyno, ond yr hyn sy'n bwysig yw deall sut mae awdurdodau lleol ac ysgolion yn arbennig wedi eu cefnogi wrth gyflwyno'r polisi hwn. Mae'n amlwg bod Cyngor Bro Morgannwg, sef yr ardal o ble rwy'n dod, wedi gorfod ariannu rhywfaint o'r gwariant cyfalaf o ryw £250,000 eu hunain—gwnaethon nhw ymateb i gais Rhyddid Gwybodaeth y gwnes i ei gyflwyno iddyn nhw. Pa asesiad y mae'r adran wedi'i wneud o ran gwariant cyfalaf y bu'n rhaid i awdurdodau lleol ei wneud yn ardal Canol De Cymru i weithredu'r polisi hwn? Ac, o ystyried y costau gorwario y mae rhai awdurdodau yn eu hwynebu gyda hyn, a yw'r Llywodraeth yn mynd i wneud yn iawn am y diffygion, yn arbennig i Gyngor Bro Morgannwg, sydd, fel y dywedais i, yn £250,000 o arian cyfalaf y maen nhw wedi gorfod ei ddefnyddio a allai fod wedi'i wario mewn mannau eraill?
Mae'r Aelod yn dweud y gallwn ni 'drafod rhinweddau' y peth; gadewch i ni fod yn glir, dydy e ddim eisiau i ni fod yn ei wneud. [Torri ar draws.] Dydy e ddim eisiau i ni fod yn bwydo pob plentyn yn yr ysgol gynradd, felly dyna'r safbwynt mae ei blaid yn ei gymryd yn sicr. Felly, nid oes dadl am rinweddau'r peth; mae'n eithaf clir beth yw ei safbwynt ef arno, felly gadewch i ni gael hynny ar y cofnod.
Mae cronfa sylweddol sydd wedi'i buddsoddi i gyflawni hyn yn effeithiol. Mae rhan o honno'n gyfalaf—mae'n gweithredu ar gyllideb gwerth £60 miliwn ar hyn o bryd—ac mae rhan ohoni'n refeniw, yn gweithredu ar ryw £260 miliwn dros y cyfnod. Mae'r gwaith wedi'i wneud gyda phob awdurdod lleol i nodi eu hanghenion ac mae wedi'i dyrannu ar y sail honno. Rydw i eisiau talu teyrnged i Gyngor Bro Morgannwg, a chynghorau ledled Cymru, am ba mor anhygoel o gyflym, mewn gwirionedd, maen nhw wedi gallu defnyddio'r cyfalaf hwnnw a chyflwyno'r cynllun. Pan gafodd cynigion tebyg eu hystyried, er enghraifft, yn yr Alban, yn ddealladwy, efallai, roedd y cyfnod rhwng cychwyn y polisi a'i gyflwyno mewn ysgolion tua dwywaith y cyfnod y bu modd i ni ei wneud yng Nghymru. Mae hynny, i raddau helaeth, wedi digwydd oherwydd ymrwymiad awdurdodau lleol ledled Cymru. Ac, mewn gwirionedd, rydyn ni wedi bod yn ystyried yn ofalus sut yr ydyn ni'n cyflwyno—a byddwn ni'n gwneud rhai cyhoeddiadau eto yn ystod yr wythnosau nesaf ynghylch yr ail flwyddyn—ac mae hynny'n ymateb i'r heriau gwirioneddol sydd wrth roi ar waith rhai o'r newidiadau cyfalaf sydd eu hangen ar lawr gwlad—i addasu ceginau ac yn y blaen. Mae'r darlun hwnnw'n amrywio'n ledled Cymru, wrth gwrs, ond mae'r cyllid wedi cael ei rannu yn deg mewn ffordd sy'n adlewyrchu anghenion awdurdodau, a diolch iddyn nhw am eu holl waith.
2. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o'r effaith y mae costau byw cynyddol yn ei gael ar gynlluniau ar gyfer ysgolion yr 21ain ganrif? OQ59244
Rydyn ni'n cydnabod bod ysgolion a cholegau'n chwarae rhan allweddol wrth gefnogi ein cymunedau lleol. Mae'n hanfodol bod buddsoddi yn ein hystad addysg drwy ein rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu yn ysgogi arbed ynni, yn lleihau pwysau refeniw, ac yn gwella mynediad at y cyfleusterau pwysig hyn.
Diolch. Mae'r manteision y mae ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn eu rhoi i'n disgyblion a'n hathrawon yn enfawr. Rydyn ni'n ffodus yn y Rhondda bod gennym ni dair ysgol yr unfed ganrif ar hugain wedi'u cynllunio: un ar gyfer Llyn y Forwyn, a fydd yn cael ei chwblhau yn ystod y ddwy flynedd nesaf; un ar gyfer ysgol gynradd Penrhys; ac un ar gyfer Ysgol Gyfun Cwm Rhondda. Nawr, Gweinidog, rwy'n gwybod eich bod chi wedi ymweld ag Ysgol Gyfun Cwm Rhondda a'ch bod chi'n deall yr heriau sy'n wynebu'r ysgol ar y safle presennol. Mae cymuned yr ysgol yno yn ysu am gyfleusterau newydd. Ond rwy'n deall hefyd, oherwydd yr anrhefn yn San Steffan, fod y sefyllfa ariannol sy'n ein hwynebu ni ers cyhoeddiad cychwynnol ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, yn dra gwahanol. Gweinidog, pa sicrwydd y gallwch chi ei roi, os o gwbl, y bydd cynlluniau ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn y dyfodol yn dechrau ac yn cael eu cwblhau yr un mor gyflym â phrosiectau ysgolion blaenorol yr unfed ganrif ar hugain?
Diolch i Buffy Williams—ac mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn—ac rwy'n diolch iddi hefyd am fy ngwahodd i ymweld ag Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, a diolch i Mr Spanswick a'r staff am y croeso cynnes iawn y rhoddon nhw i mi pan fu modd i mi ymweld, ac fe welais i, wrth gwrs, drosof fy hun, y cyfleusterau yn yr ysgol yn y fan yna a'r gwaith pwysig y maen nhw'n ei wneud. Mae'r rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu wrth gwrs yn wynebu'r un pwysau—pwysau chwyddiant, cynnydd mewn costau adeiladu, cynnydd mewn costau llafur, fel unrhyw agwedd arall ar fuddsoddiad y Llywodraeth neu, yn wir, buddsoddiad llywodraeth leol. Er mwyn ceisio gwneud ein rhan ni i wneud iawn am hynny, ac i wneud yn siŵr nad yw prosiectau'n cael eu hoedi'n ormodol yn y ffordd y mae Buffy Williams yn dweud yn ei chwestiwn, mae'r gyllideb honno wedi cael ei chynyddu 33 y cant yn ystod y ddwy flynedd ariannol nesaf, yn rhannol i gefnogi ein system dreigl newydd ar gyfer cyflawni—felly mae'n rhaglen llawer mwy ystwyth a hyblyg nag y bu yn y gorffennol—i ymateb i allu rhai awdurdodau i symud yn gynt ac i eraill allu addasu eu cynlluniau. Ond bydd yr arian hwnnw hefyd yn cefnogi pwysau costau ychwanegol yn y diwydiant adeiladu. A bydd hi, am wn i, wedi gweld y cyhoeddiad y gwnes i ddiwedd wythnos diwethaf o £60 miliwn arall—£50 miliwn i ysgolion a £10 miliwn i golegau—i gefnogi cynnal a chadw cyfalaf, ond gan flaenoriaethu gwaith effeithlonrwydd ynni ar draws ein hystad ysgolion a cholegau yng Nghymru, sy'n amlwg yn rhan bwysig iawn o'n cynllun Cymru Sero Net hefyd.