Y Cyfarfod Llawn
Plenary
13/12/2022Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Luke Fletcher.
1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r pwysau ar wasanaethau atal digartrefedd dros gyfnod y Nadolig? OQ58891
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar ddigartrefedd yn parhau'n ddiwyro ar bob adeg o'r flwyddyn. Mae cyfanswm ein buddsoddiad mewn atal digartrefedd a chymorth tai dros £197 miliwn eleni, gan helpu i sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael heb y cymorth na'r llety sydd eu hangen arnyn nhw.
Diolch, Prif Weinidog. Nid yw wedi bod mor hir â hynny ers i wasanaethau digartrefedd wynebu senario hunllefus yn ystod y pandemig, a dyma nhw eto yn wynebu un arall. Hoffwn dynnu sylw at achos Keith, etholwr ym Maesteg, a gysylltodd yn ddiweddar am gymorth gan ei fod ef a'i wraig mewn sefyllfa o argyfwng ar ôl cael hysbysiad adran 21 yn ddiweddar, yr aeth ei ddyddiad terfyn heibio ym mis Tachwedd. Maen nhw bellach yn wynebu'r posibilrwydd o aeaf yn chwilio am lety sydd â mynediad i bobl anabl, gan ymdrin ag anghenion lluosog a chymhleth. Ond o ystyried difrifoldeb y sefyllfa bresennol, ac o ystyried bod tua 25,000 o eiddo gwag yma yng Nghymru, a yw hi bellach yn bryd cael cynllun gweithredu cenedlaethol gan y Llywodraeth ar eiddo gwag i helpu i atal achosion gofidus fel un Keith yn y dyfodol?
Wel, Llywydd, mae bod o dan fygythiad o fod yn ddigartref ar unrhyw adeg o'r flwyddyn yn straen aruthrol, fel y bydd unrhyw un yn y Siambr hon sy'n gwneud gwaith achos rheolaidd yn gwybod. Ond mae wynebu hynny dros gyfnod y Nadolig, pan ydych chi'n ofni efallai na fydd gwasanaethau ar gael, yn fwy heriol fyth, rwy'n siŵr, i unrhyw un. Ceir dwy agwedd ar hyn, Llywydd, wrth gwrs. Ceir y galw ar y naill ochr, ac mae'r galw yn y system wedi codi'n ddiwrthdro dros y flwyddyn galendr hon. Ym mis Ionawr, cyflwynodd 1,100 o bobl eu hunain i awdurdodau lleol fel rhai o dan fygythiad o fod yn ddigartref neu'n ddigartref mewn gwirionedd. Cododd i 1,200 ym mis Chwefror, i 1,300 ym mis Mawrth. Roedd yn 1,400 erbyn mis Awst, 1,500 ym mis Medi, ac rwy'n credu y bydd y gyfres nesaf o ffigurau yn dangos ei fod wedi codi i dros 1,600. Mae'r hwn yn ymchwydd enfawr i'r galw sy'n ei gwneud hi'n anoddach fyth i awdurdodau lleol gyflawni eu cyfrifoldebau, ac mae'n rhaid mai rhan o'r ateb i hynny yw cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy. Mae gennym ni ymrwymiad o 20,000 o gartrefi carbon isel i'w rhentu'n gymdeithasol yn ystod tymor y Senedd hon. Rydym ni'n gweithredu i fuddsoddi £65 miliwn mewn llety trosiannol, drwy gynnwys £30 miliwn o hynny yn yr ardal o Gymru a gynrychiolir gan Luke Fletcher, fel buddsoddiad o £30 miliwn mewn cynllun prydlesu i Gymru, ond, hefyd—ac mae'n bwynt pwysig y mae'r Aelod yn ei wneud—y buddsoddiad rydym ni'n ei wneud i gynorthwyo awdurdodau lleol i ddefnyddio tai gwag unwaith eto. A cheir rhai enghreifftiau arwyddocaol iawn o hynny ledled Cymru—un rhagorol yn sir Benfro a'r ardal a gynrychiolir gan ein cyd-Aelod Paul Davies, lle llwyddodd yr awdurdod lleol, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, i ddefnyddio nifer fawr o eiddo'r Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer y boblogaeth gyffredinol. Ac mae'r gwaith a wnaed yng nghymunedau'r Cymoedd, dan arweiniad fy nghyd-Weinidog Lee Waters, yn enghraifft arall o sut y gallwn ni, ochr yn ochr â'n hawdurdodau lleol, fuddsoddi mewn gwneud yn siŵr bod tai sydd fel arall yn sefyll yn wag yn cael eu defnyddio'n fuddiol.
A gaf i yn gyntaf oll ymuno â chi, Prif Weinidog, i roi clod i'r awdurdodau lleol hynny am y gwaith y maen nhw eisoes yn ei wneud i geisio atal digartrefedd, ond cydnabod yr her sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd, yn enwedig dros gyfnod y Nadolig hwn? Fel y gwyddom, mae tua 14,000 o bobl yng Nghymru mewn llety dros dro ar hyn o bryd, ac wrth gymryd tystiolaeth drwy'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn ddiweddar, fe wnaeth cynghorau ac arweinwyr cynghorau, gan gydnabod bod cyllid yn rhan o'r her honno—fel rydych chi wedi ei nodi eisoes—sôn am y diffyg cyflenwad tai y maen nhw'n ei gael yn arbennig o heriol ar hyn o bryd. Ac fe wnaethoch chi sôn am yr uchelgais i ddarparu'r 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel hynny, ond ceir rhwystrau ar hyn o bryd y mae datblygwyr yn eu hwynebu i ddarparu'r cartrefi hynny, ac mae un o'r rheini yn ymwneud â'r rheoliadau ffosffad. A cheir enghraifft yn fy rhanbarth i, y gogledd, lle mae tai cymdeithasol yn cael eu hadeiladu mewn cae ar ochr Lloegr o'r ffin, ac mewn cae ar ochr Cymru o'r ffin, ni ellir adeiladu'r tai hynny oherwydd y rheoliadau ffosffad sydd yno. Felly nid yw pobl yng Nghymru yn cael y tai wedi'u hadeiladu sydd eu hangen ar eu cyfer. Felly, tybed, Prif Weinidog, pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i gyflymu'r uchelgais hwn i ddarparu'r cartrefi hynny, yn hytrach nag ein bod ni'n sefyll yma eto, ymhen dwy a thair blynedd, yn sôn am yr her ddigartrefedd yr ydym yn ei hwynebu.
Wel, mae'r mater ffosffadau yn un go iawn, Llywydd. Llwyddais i gael cyfarfod gyda'r prif ffigyrau yn y maes hwn yn y Sioe Frenhinol yn gynharach eleni, ac mae cyfarfod dilynol gyda'r holl ffigyrau hynny wedi'i drefnu ar gyfer dechrau'r flwyddyn newydd. Mae hynny i wneud yn siŵr bod yr holl sefydliadau hynny sydd â rhan i'w chwarae i ddatrys y mater ffosffadau yn gallu gwneud hynny, ac nad oes neb yn treulio'u hamser yn pwyntio bys at rywun arall a dweud, 'Pe bai nhw ond yn gwneud rhywbeth, yna gellid datrys y broblem hon'. Nawr, roedd yr ysbryd yn y cyfarfod yn Llanelwedd yn llawer gwell na hynny; roeddwn i'n meddwl bod pobl wedi dod gyda'r bwriad gwirioneddol o ddatblygu'r pethau yr oedden nhw'n gyfrifol amdanyn nhw. Yr hyn na all yr ateb fod, Llywydd, yw caniatáu i adeiladu tai ddigwydd mewn mannau heb gynllun i wneud yn siŵr nad yw'r gwaith adeiladu tai hwnnw'n ychwanegu at y lefelau llygredd sydd eisoes yn ormodol mewn afonydd yng Nghymru. Mae'r argyfwng llygredd yr ydym yn ei wynebu mewn rhai rhannau o Gymru yn gwbl real, ac ni allwn wneud hynny'n waeth er mwyn gwneud rhywbeth arall yn well. Ond rydym ni'n gwybod os bydd pob sefydliad yn gwneud ei gyfraniad, ei bod hi'n bosibl parhau i ddatblygu tai newydd ar dir na fyddai ar gael at y diben hwnnw fel arall, ond mae'n dibynnu, fel y dywedais, ar gasglu'r holl wahanol gyfraniadau hynny ynghyd a goresgyn y rhwystrau presennol sy'n bodoli ac yn atal datblygiadau yr hoffem ni eu gweld yn mynd rhagddynt.
Prif Weinidog, tybed a oeddech chi wedi gwneud asesiad o ganlyniadau hanner blwyddyn Banc Datblygu Cymru, ac, yn benodol, ei fuddsoddiad mewn prosiectau tai, gan gynnwys y cynllun cymorth prydlesi, a fydd yn sicrhau eiddo hirdymor newydd i'w rhentu gan awdurdodau lleol, gan helpu wedyn i atal digartrefedd.
Llywydd, diolch i Ken Skates am y cwestiwn yna. Rwy'n cofio'n eglur iawn ymweliad a wnaeth ef a minnau â phencadlys Banc Datblygu Cymru yn Wrecsam, ac mae wedi bod yn un o lwyddiannau eithriadol y degawd diwethaf. Cyhoeddwyd y canlyniadau hanner blwyddyn, fel y dywedodd Ken Skates, yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Maen nhw'n dangos tuedd gref barhaus o fuddsoddiad uniongyrchol y mae'r banc yn gallu ei wneud, ond hefyd y ffordd y mae'r banc yn gallu rhoi ar waith ochr yn ochr ag ef fuddsoddiadau eraill o ffynonellau preifat. Un o'r meysydd lle mae'r banc wedi gallu defnyddio cyfalaf trafodion ariannol, er enghraifft, fel y dywedodd Ken Skates, fu yn y cynllun prydlesu. Nawr, mae'r cynllun prydlesu yn rhan bwysig iawn o gynyddu'r cyflenwad hwnnw o dai i'w rhentu y mae cyd-Aelodau eraill yma wedi sôn amdano y prynhawn yma. Mae'n caniatáu i awdurdodau lleol gymryd cyfrifoldeb am eiddo sydd fel arall yn y sector rhentu preifat, ac i fuddsoddi yng nghyflwr y cartrefi hynny fel y gellir eu gosod nid yn unig ar gyfer y byrdymor, ond ar gyfer y tymor canolig a'r hirdymor, gan ychwanegu at y cyflenwad o dai rhent cymdeithasol fforddiadwy yn yr ardaloedd hynny. Ac mae'r rhan y mae Banc Datblygu Cymru wedi ei chwarae o ran caniatáu i hynny ddigwydd wedi bod yn llinyn ychwanegol i'r bwa y mae'n eu defnyddio beth bynnag trwy Cymorth i Brynu a rhannau eraill o'r dirwedd dai, lle mae gweithredoedd y banc wedi bod yn bwysig iawn i gynnal y sector hwnnw yn ystod cyfnod heriol.
2. Sut fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio canlyniadau cyfrifiad 2021? OQ58867
Diolch i'r Aelod am hynna. Llywydd, mae canlyniadau o gyfrifiad 2021 wedi dechrau cael eu cyhoeddi, ond nid yw gwybodaeth allweddol, fel gwybodaeth am ddaliadaeth tai, wedi'i chyhoeddi eto. Bydd y darlun llawn yn cael ei ddefnyddio, er enghraifft, i gryfhau'r adroddiad 'Tueddiadau'r Dyfodol' nesaf, sy'n un o brif ofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Diolch. Nawr, yn ôl canlyniadau'r cyfrifiad diweddaraf yr ydym ni wedi eu gweld, dewisodd 55.2 y cant o bobl hunaniaeth Cymreig yn unig yng Nghymru yn 2021, ac mae hynny'n ostyngiad o 57.5 y cant yn 2011. Yn y cyfamser, dewisodd 18.5 y cant o bobl hunaniaeth Brydeinig yn unig, a oedd yn gynnydd o 16.9 y cant yn 2011. Fodd bynnag, cynyddodd nifer y bobl a ddewisodd hunaniaethau Cymreig a Phrydeinig hefyd i 8.1 y cant yn 2021, a oedd yn gynnydd o 7.1 y cant yn 2011. Nawr, mae hyn yn gwbl groes i'ch sylwadau yn y Pwyllgor Materion Cymreig, pan oedd yn ymddangos eich bod chi'n awgrymu, rhywsut, bod hunaniaeth Brydeinig yn gostwng a hunaniaeth Gymreig yn unig yn cynyddu. Mae'r cynnydd i nifer y bobl sydd â hunaniaeth genedlaethol Gymreig a Phrydeinig, a gofnodwyd gan y cyfrifiad diweddaraf dros y degawd diwethaf, yn dangos mewn gwirionedd y cryfder a'r hoffter sydd gan bobl o'n hundeb ganrifoedd oed. Mae pobl yn amlwg yn falch o fod yn Gymry ac yn Brydeinwyr, ac maen nhw eisiau gweld—
A allwn ni gyfeirio'r cwestiwn at y Prif Weinidog, yn hytrach nag at eich cyd-Aelodau ar eich meinciau eich hun? Felly, a gawn ni'r cwestiwn, os gwelwch yn dda, Janet Finch-Saunders?
—ac rydym ni eisiau gweld Cymru gref mewn Teyrnas Unedig gref. Prif Weinidog, a wnewch chi ei gwneud yn eglur i'ch cymrodyr llywodraethol draw ym Mhlaid Cymru bod pobl wedi cael digon o'u hymgyrch ddadunol dros annibyniaeth a'u bod nhw eisiau i ni ganolbwyntio ar y materion sy'n wirioneddol bwysig i bobl Cymru?
Edrychwch, mae'n ddrwg gen i—
A wnewch chi sefyll dros ein Teyrnas Unedig? [Torri ar draws.]
Wedi'i ddrafftio'n dda gan bwy bynnag wnaeth ei ddrafftio.
Wel, Llywydd, mae'r cwestiwn hunaniaeth yn y cyfrifiad yn un diddorol iawn, ac mae'r canlyniadau y mae'n eu dangos, yn fy marn i, yn sicr yn werth eu harchwilio'n briodol. Nawr, pam rydym ni'n gweld rhai o'r newidiadau y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw? Wel, rydym ni'n gwybod bod nifer y marwolaethau dros y degawd diwethaf yn fwy na nifer y genedigaethau a gafwyd yng Nghymru. Felly, mae'r twf ym mhoblogaeth Cymru yn dod yn llwyr o bobl nad ydyn nhw wedi bod yn byw yng Nghymru yn symud i mewn i Gymru. Cofnodwyd bod tair mil ar hugain yn fwy o bobl a anwyd yn Lloegr yn byw yng Nghymru yng nghyfrifiad 2021 nag yn 2011. Maen nhw wedi'u crynhoi'n drwm iawn, iawn mewn dau awdurdod lleol yng Nghymru: maen nhw'n byw yn sir y Fflint ac maen nhw'n byw yng Nghasnewydd. Mewn geiriau eraill, maen nhw'n byw yn agos at y ffin, ac maen nhw'n bobl y mae eu bywydau'n gyfnewidiol, yn byw mewn un lle, yn gweithio mewn lle arall, ac nid yw'n syndod, felly, eu bod nhw'n dod â'r synnwyr hwnnw o'u hunaniaeth gyda nhw. Rwy'n credu bod y ffigurau hynny'n haeddu trafodaeth ddifrifol. Byddwn i'n dweud eu bod nhw'n atgyfnerthu'r hyn y mae'r blaid hon—fy mhlaid i—wedi ei gredu erioed, mai'r hyn y mae pobl yng Nghymru yn elwa arno yw datganoli cryf, gyda gallu'r Senedd hon i wneud penderfyniadau ynghylch y pethau sy'n effeithio ar bobl yng Nghymru yn unig, ond yn cael budd hefyd o fod yn y Deyrnas Unedig. Dyna fu polisi fy mhlaid i erioed, ac rwy'n hapus iawn i'w atgyfnerthu eto y prynhawn yma.
Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ond mae canlyniadau’r sensws wedi achosi pryder. Mae enghraifft y Gymraeg wedi cynnig gobaith i ieithoedd lleiafrifol ar draws y byd ers blynyddoedd. Testun gobaith yw hi, ac, yng nghanol stŵr y siom am y ffigyrau hyn, hoffwn i ddeall sut bydd Llywodraeth Cymru yn llwyddo i gynnig gobaith newydd ac i weithredu arno. Dywedodd Raymond Williams,
'mae bod yn wirioneddol radical yn golygu gwneud gobaith yn bosibl, yn hytrach nag anobaith yn argyhoeddiadol'.
Mae’n rhaid i’r trobwynt hwn oleuo’r ffordd dywyll a throsi dyheadau da yn benderfyniad. Mae’n rhaid i’r hen iaith barhau. Sut byddwch chi’n sicrhau bod parhad yr iaith nid yn unig yn bosibl, ond yn anochel?
Wrth gwrs, dwi'n cytuno gyda beth ddywedodd Raymond Williams, a dyna pam, ar ôl gweld y ffigurau yn y cyfrifiad, rydym ni'n dal i fod yn hyderus am ddyfodol yr iaith yma yng Nghymru, a dyna'r peth pwysig. Dwi'n cydnabod beth ddywedodd Delyth Jewell am bobl yn colli hyder pan wnaethon nhw weld y ffigurau i ddechrau. Ond, ar ôl cael cyfle i ystyried beth sydd yn y sensws ac i weld y gymhariaeth rhwng beth sydd yn y cyfrifiad a beth sydd yn y ffigurau rŷn ni'n gweld bob blwyddyn, dwi'n meddwl bod rhywbeth pwysig i fynd ar ei ôl yn y fan yna. Dyna pam dwi wedi cael y cyfle i siarad gyda'r bobl sy'n gyfrifol am statistics ac yn y blaen yn Llywodraeth Cymru, ac, ar ôl gwneud hynny, dwi'n mynd i ysgrifennu at Syr Ian Diamond, sy'n cadeirio yr ONS, sy'n gyfrifol am y cyfrifiad, i ofyn iddyn nhw wneud darn o waith gyda ni i weld beth sydd y tu ôl i'r ffigurau a welsom ni yr wythnos diwethaf a'r ffigurau mae'r ONS wedi'u cyhoeddi flwyddyn ar ôl blwyddyn nawr lle rŷn ni'n gallu gweld twf yn nefnydd yr iaith Gymraeg. Trwy wneud hynny, dwi'n meddwl y gallwn ni gymryd rhai gwersi i weld beth yn fwy rŷn ni'n gallu ei wneud i roi hyder i bobl yma yng Nghymru i ddefnyddio’r iaith ac i ddatblygu defnydd o'r iaith a nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg i'r dyfodol.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. A gaf i, Llywydd, ddymuno Nadolig llawen iawn i chi a'r Prif Weinidog a'r holl Aelodau a blwyddyn newydd heddychlon a hapus, gobeithio?
Ddoe, Prif Weinidog, fe wnaeth y Gweinidog iechyd gyfarfod â'r Coleg Nyrsio Brenhinol ac undebau eraill ynghylch y streic sydd yn yr arfaeth ar gyfer dydd Iau yr wythnos hon a'r wythnos nesaf. Fel yr wyf i'n ei deall hi, ni wnaed unrhyw gynnig yn y cyfarfod hwnnw i geisio datrys y streic arfaethedig fel y gallai ysbytai weithredu a phobl gael yr apwyntiadau sydd eu hangen arnyn nhw. Pam na wnaed unrhyw gynnig i geisio datrys yr anghydfod hwn?
Does dim arian yng nghyllideb Llywodraeth Cymru gan ei Lywodraeth ef yn Llundain i ganiatáu i ni wneud gwell cynnig nag ariannu'n llawn, fel yr ydym ni wedi ei wneud, y dyfarniad cyflog a gynigiwyd gan y corff dyfarnu cyflogau annibynnol.
Prif Weinidog, mae'r ysgogiadau gennych chi i gynhyrchu mwy o arian mewn gwirionedd os ydych chi'n dewis defnyddio'r ysgogiadau hynny. Mae gennych chi arian ychwanegol yn dod yn y cyhoeddiad a wnaeth y Canghellor yn ei gyhoeddiad diweddar o £1.2 biliwn i'w gyflwyno dros y ddwy flynedd nesaf. Rydych chi wedi gwneud dewis gwleidyddol i beidio â datrys neu o leiaf ymgymryd â thrafodaethau ystyrlon drwy beidio â gwneud unrhyw gynnig o gwbl ddoe, fel y nododd ysgrifennydd cyffredinol y Coleg Nyrsio Brenhinol yn ei datganiad y bore yma.
Gallaf glywed aelodau eich meinciau cefn yn swnian ac yn cwyno; nhw yw'r rhai a wnaeth bwyso'r botwm mewn dadl dim ond pythefnos yn ôl i atal codiad cyflog i'r nyrsys er mwyn gallu talu costau byw. Mae'r gallu gennych chi i'w wneud, a wnewch chi ail-gydio yn y trafodaethau hynny a defnyddio'r ysgogiadau hynny i wneud cynnig ystyrlon i'r Coleg Nyrsio Brenhinol a phroffesiynau meddygol eraill i osgoi'r streic?
Mae arweinydd yr wrthblaid, Llywydd, yn hollol ddigywilydd—yn hollol ddigywilydd. Mae'n dod i lawr y Senedd yma pan wnaeth ei Lywodraeth ef yn San Steffan derfynu cyfarfod gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol ymhlith drwgdeimlad dim ond neithiwr, gan eu bod nhw wedi gwrthod, fel y dywedodd arweinydd y Coleg Nyrsio Brenhinol, rhoi'r un geiniog ar y bwrdd i gynyddu cyflogau nyrsys yn Lloegr, a fyddai wedi arwain, fel y maen nhw i gyd yn gwybod, at swm canlyniadol Barnett y gallem ni fod wedi ei ddefnyddio ar gyfer cyflogau yma yng Nghymru. Dyna'r unig ffordd y gallwn ni wneud gwell cynnig yma. Rydym ni wedi ein clymu'n llwyr gan y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud ar gyflogau gan ei Weinidogion yn San Steffan. Dyna lle y dylai fod yn lobïo. Y munud y mae ei Weinidogion yn barod i wneud gwell cynnig i nyrsys yn Lloegr, byddwn ni'n gallu gwneud y cynnig hwnnw yma yng Nghymru. Os yw ef o ddifrif—allaf i ddim dychmygu am funud y byddai—y dylem ni ddargyfeirio'r holl arian yr ydym ni wedi ei gael oddi wrth Lywodraeth y DU nid ar gyfer cyflogau ond i fuddsoddi yng ngwasanaeth y GIG, y dylem ni ddargyfeirio hwnnw i gyd o gynnal y gwasanaeth ac i gyflogau, dylai ddweud hynny'n eglur y prynhawn yma, oherwydd byddai gan bobl yng Nghymru ddiddordeb mewn clywed hynny.
Yr hyn sy'n ddigywilydd, Prif Weinidog, yw bod pobl ledled Cymru yn y sefyllfa aros waethaf o unrhyw GIG. Dim ond yr wythnos hon, bu'n rhaid i ni glywed am y mater yng Nghwmbrân lle cafodd dad-cu ei roi ar astell yng nghefn fan, gan na allai'r gwasanaeth ambiwlans ymateb i'r gri am gymorth gan y teulu hwnnw i fynd ag ef i'r ysbyty. Yr hyn sy'n Llywodraeth ddifrifol yw Llywodraeth ddifrifol sy'n ymdrin â'r materion hyn, ac yn rhoi rhywbeth ystyrlon ar y bwrdd i roi hwb i'r trafodaethau hynny. Y pwynt a wnes i chi yn fy sylwadau cyntaf oedd pam nad oedd unrhyw gynnig yn cael ei wneud gan eich Llywodraeth. Rwy'n deall ei bod hi'n sefyllfa anodd, rwy'n deall bod arian yn dynn, ond rydych chi'n sôn yn gyson am fod eisiau mwy o bwerau; mae gennych chi'r pwerau dros delerau ac amodau o fewn y GIG. Mae gennych chi'r ysgogiadau yn ariannol i godi mwy o refeniw os ydych chi'n dewis gwneud hynny. Rydych chi wedi dewis, drwy'r gyllideb hon yr ydych chi wedi ei chyflwyno heddiw, peidio â gwneud hynny, ond rydych chi wedi cael gwerth £1.2 biliwn o arian ychwanegol. Mae gennych chi gynnydd hefyd i'r cyllid o Gymru am bob £1 sy'n cael ei gwario yn Lloegr i £1.20 yng Nghymru. Rydych chi wedi gwneud penderfyniad gwleidyddol i gael y frwydr hon yma yng Nghymru, yn hytrach na defnyddio'r dulliau sydd ar gael i chi i'w datrys. Chi sy'n gyfrifol am hyn a neb arall, ac rwy'n erfyn arnoch chi i ddychwelyd i'r trafodaethau a datrys y mater hwn ar frys, fel nad ydym ni'n gweld yr anobaith a'r digalondid y mae pobl yn eu hwynebu wythnos ar ôl wythnos, gydag amseroedd aros hwy a straeon fel yr un rwyf i newydd ei hadrodd wrthych chi am y bobl yng Nghwmbrân y bu'n rhaid iddyn nhw ddibynnu ar astell a fan i fynd â'u tad-cu i'r ysbyty.
Wel, mae gen i ofn, Llywydd, nad yw gweiddi arnaf i'n celu am eiliad gwacter y pwyntiau y mae arweinydd yr wrthblaid wedi eu gwneud y prynhawn yma. Mae'n fy annog ar y naill law i ddefnyddio'r arian yr ydym ni wedi ei gael gan Lywodraeth y DU i dalu staff yn y GIG, heb gydnabod am eiliad, pe baem ni'n gwneud hynny, mae dim ond gwaethygu fyddai'r pwysau gwasanaeth a arweiniodd at y mathau o anawsterau y bu'n rhaid i'r gwasanaeth ambiwlans eu hwynebu y penwythnos hwn. Felly, byddai ei gynigion yn arwain at fwy o achosion fel yr un yng Nghwmbrân, gan y byddem ni wedi cymryd yr arian hwnnw yn ôl ei awgrym oddi wrth y gwasanaeth hwnnw, ac, yn hytrach, ei gyfrannu at gyflogau.
Y cynnig rydym ni wedi ei wneud yw'r cynnig a argymhellwyd gan y corff adolygu cyflogau annibynnol. Rydym ni wedi talu hwnnw'n llawn, ac rydym ni wedi trafod gyda'n cydweithwyr yn y mudiad undebau llafur i lunio'r cynnig hwnnw mewn ffordd sy'n golygu mewn gwirionedd y bydd nyrsys ar fandiau 1 i 4 yr 'Agenda ar gyfer Newid', sef bron i hanner y nyrsys yng Nghymru, yn cael codiad o 7.5 y cant yn eu cyflogau. Bydd nyrsys ar fand 1, y rhai sy'n derbyn y cyflogau isaf, yn cael codiad o 10.8 y cant yn eu cyflogau; byddan nhw'n cael mwy o gyflog nag unrhyw nyrs arall yn y swydd honno mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. A holl ddiben y trafodaethau a gafodd fy nghyd-Weinidog, Eluned Morgan, gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol ac eraill ddoe oedd edrych i weld a oes pethau y tu hwnt i gyflogau y gallwn ni eu gwneud i wneud y swyddi hynny yn fwy deniadol i bobl yma yng Nghymru.
Mae arweinydd yr wrthblaid yn dweud wrthyf i y gallem ni godi arian trwy godi trethi yma yng Nghymru. Mae wedi gwneud yr awgrym hwnnw i mi yn y gorffennol. Mae'n awgrym syfrdanol iddo ei wneud. O ganlyniad i'r penderfyniadau a wnaed yn natganiad yr hydref, mae'r trethi sy'n cael eu codi ar bobl yng Nghymru yn uwch nag y maen nhw wedi bod yn ystod y 70 mlynedd diwethaf. Nawr, ei gynnig ef yw y dylem ni drethu pobl yng Nghymru hyd yn oed yn fwy nag y mae lefelau uchaf erioed ei Lywodraeth eisoes wedi eu gorfodi arnyn nhw. A yw'n meddwl am eiliad bod hwnnw'n gynnig o ddifrif i'w wneud i Lywodraeth yma mewn Cymru—sydd, ar adeg pan nad yw pobl yn gallu prynu bwyd a ddim yn gallu fforddio talu am ynni, y dylem ni gymryd hyd yn oed mwy o arian allan o'u pocedi nag y mae ei Lywodraeth ef yn ei gymryd yn barod? Nid yw hwnnw'n ddewis y byddai Llywodraeth ddifrifol yn ei wneud yma yng Nghymru. A hyd yn oed pe baem ni'n gwneud hynny, sut mae'n dychmygu y byddai hynny'n caniatáu i ni wneud cynnig i weithwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a fyddai'n dod yn agos at gyfateb i lefel chwyddiant yn yr economi? Mae'n costio £100 miliwn i godi 1 y cant yn fwy ar gyflogau sector cyhoeddus yma yng Nghymru.
Llywydd, mae'r Llywodraeth hon yn eglur: mae gweithwyr rheng flaen yn y GIG ac mewn rhannau eraill o'r gwasanaeth cyhoeddus yn haeddu cael eu cyflogau wedi'u diogelu ac i beidio â'u gweld yn cael eu tanseilio gan lefelau chwyddiant o'r math yr ydym ni'n eu gweld heddiw. Yr unig ffordd y gall hynny ddigwydd—mae'n gwybod hyn; yn gwbl sicr mae pobl y tu allan yng Nghymru yn ei wybod—yw drwy Lywodraeth y DU sy'n barod i ariannu'r setliadau hynny yn Lloegr a chaniatáu i fformiwla Barnett ganiatáu i ni wneud hynny yng Nghymru. Bydd honno'n sgwrs ddifrifol, ac yn sgwrs wahanol iawn i'r un y mae wedi ei chynnig i ni y prynhawn yma.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Dros y dyddiau diwethaf, mae Ysgrifennydd iechyd yr wrthblaid Lafur yn San Steffan, Wes Streeting, wedi cyfeirio at gynnig y Coleg Nyrsio Brenhinol ac Unsain i ohirio streiciau, pe bai Ysgrifennydd iechyd y DU yn barod i drafod cyflogau. Mae hwnnw'n gynnig sy'n rhy dda i'w wrthod, ond dyna mae'r Torïaid yn ei wneud yn San Steffan, a dyna'r ydych chi'n ei wneud yng Nghymru. Fe wnaeth Steve Barclay gyfarfod â'r undebau a gwrthod trafod cyflogau; fe wnaeth Eluned Morgan gyfarfod â'r undebau a gwrthod trafod cyflogau. Ar gyfer Cymru: gweler Lloegr. Ac rydych chi'n dweud bod eich dwylo wedi'u clymu, ond sut, felly, y mae Llywodraeth yr Alban wedi gallu cyrraedd sefyllfa lle mae dau undeb iechyd wedi gohirio eu streiciau, ac eraill wedi eu hoedi tra eu bod yn aros am bleidlais newydd, gan eu bod nhw wedi dod i well cytundeb gyda'r gweithwyr hynny? Rydych chi eich hunain fel Llywodraeth, drwy Trafnidiaeth Cymru, wedi osgoi streic yn Trafnidiaeth Cymru. Pam? Oherwydd eich bod chi'n barod i drafod gwell cytundeb na'r hyn a gynigwyd i'r gweithwyr hynny yn Lloegr. Os gallwch chi ei wneud yn Trafnidiaeth Cymru, pam ddim yn y GIG?
Wel, gadewch i mi wneud dau bwynt yn unig: rydym ni'n gwybod sut mae Llywodraeth yr Alban wedi gallu gwneud y cynnig hwnnw, ac mae'n benderfyniad i Lywodraeth yr Alban ei wneud. Maen nhw wedi ei wneud trwy gymryd £400 miliwn allan o'r GIG a throsglwyddo'r arian hwnnw i gyflogau. Nid yw hwnnw'n benderfyniad yr ydym ni wedi teimlo y gallwn ni ei wneud yma yng Nghymru. Ac o ran y cytundeb a sicrhawyd gan Trafnidiaeth Cymru, mae'n hunanariannu. Maen nhw wedi gallu cytuno ar newidiadau i arferion gwaith gyda'u gweithwyr sy'n golygu eu bod nhw'n gallu fforddio gwneud cynnig cyflog gwahanol, ac nid oes unrhyw gyfleoedd o'r fath yn bodoli yn y GIG.
Dydyn nhw ddim wedi cymryd £400 miliwn allan o'r GIG, maen nhw wedi ei fuddsoddi yng ngweithlu'r GIG ac wedi cydnabod, heb gynnal ysbryd y gweithlu hwnnw mewn gwirionedd, yna ni fyddai GIG, oherwydd, mewn gwirionedd, pwy sydd yno i'w ddarparu? Nawr, mae Rishi Sunak wedi dweud y byddai codiad cyflog yn unol â chwyddiant i holl weithwyr y sector cyhoeddus yn costio £28 biliwn; mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn nodi bod hwnnw'n ffigwr chwyddedig, gan nad yw'n cynnwys y cytundebau cyflog a gynigiwyd eisoes. Nawr, dywedodd Eluned Morgan yr wythnos diwethaf y byddai codiad cyflog yn unol â chwyddiant yn costio £900 miliwn yng Nghymru. Ond eto, mae hynny ar draws y sector cyhoeddus cyfan, nid yw'n cydnabod y £200 miliwn a mwy yr ydych chi eisoes wedi ei ymrwymo yn rhan o'ch cynnig presennol i staff GIG. Felly beth, Prif Weinidog, fyddai'n ei gymryd i ychwanegu at yr hyn yr ydych chi eisoes wedi ei gynnig i'r dyfarniad cyflog o 7.5 y cant sydd wedi atal y streiciau yn yr Alban? Tua £120 miliwn. A ydych chi'n dweud o ddifrif nad oes gennych chi unrhyw arian ar ôl yng nghronfa wrth gefn Cymru; nad oes unrhyw gyllid heb ei ddyrannu ar ôl, na allech chi ddefnyddio rhywfaint o'r £200 miliwn rydych chi'n ei wario'n flynyddol ar wasanaethau sector preifat yn y GIG, na allech chi wario'r arian hwnnw'n well ar staff sector cyhoeddus?
Wel, mae gen i ofn bod hwnna'n gwestiwn dryslyd tu hwnt, Llywydd. Llywodraeth yr Alban ei hun wnaeth gyhoeddi ffigurau a oedd yn dangos ei bod wedi cymryd £400 miliwn allan o gynlluniau yr oedd ganddi fel arall i'w gwario ar wasanaethau GIG a throsglwyddo hynny i gyflogau. Nawr, mae hwnnw'n benderfyniad cwbl ddilys iddyn nhw ei wneud. Ond ni wnaethon nhw ddod o hyd i £400 miliwn o arian newydd; fe wnaethon nhw ei gymryd allan o bethau, a dyna y mae'n rhaid iddo ei gydnabod. Fe wnaethon nhw ei gymryd allan o bethau yr oedden nhw wedi cynllunio i'r GIG eu gwneud: mwy o lawdriniaethau, mwy o gapasiti ambiwlans, mwy mewn buddsoddiad gofal sylfaenol—yr holl bethau y mae Aelodau Plaid Cymru yn eu hyrwyddo ar lawr y Siambr hon, wythnos ar ôl wythnos. Ac yn yr Alban, bydd llai o hynny, o ganlyniad i'r penderfyniadau y mae Llywodraeth yr Alban wedi eu gwneud. Ac, mae'n dweud wrthyf i y dylem ni eu dilyn nhw ac y dylem ni gymryd £120 miliwn allan o wasanaeth y GIG a'i ddefnyddio i ychwanegu at gyflogau gweithwyr. Wel, mae hynny'n iawn, gall wneud y ddadl honno; rydym ninnau wedi craffu ar y ddadl honno hefyd, ac rydym ni wedi penderfynu, o ystyried y straen a'r anawsterau yr ydym ni'n eu gweld yn y GIG bob dydd, lle'r ydym ni'n gweld yr angen o hyd i wella yn sgil COVID, gyda phobl yn aros am driniaethau y bydden nhw fel arall wedi eu cael, nid tynnu £120 miliwn allan o'r ymdrech honno a'i gyfrannu at gyflogau fyddai'r dewis y byddem ni'n ei wneud. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd llefarydd iechyd yr wrthblaid yn Lloegr; roedd yn gynnig rhy dda i'w wrthod. Mae'n destun siom enfawr, rwy'n credu, pan gafodd Steven Barclay gyfle i gyfarfod â'r Coleg Nyrsio Brenhinol, na ddaeth o hyd i ffordd o wneud gwell cynnig iddyn nhw, oherwydd byddem ni wedi cael y cyfle wedyn i wneud y gwell cynnig hwnnw yma yng Nghymru.
Rwy'n credu ei bod hi'n syfrdanol eich bod chi'n ymosod ar y Torïaid yn San Steffan pan ydych chi'n gwneud yn union yr un fath yng Nghymru trwy wrthod siarad am gyflogau gyda'r undebau. Rwy'n anghytuno'n athronyddol gyda'r Prif Weinidog: nid wyf i'n gweld bod buddsoddi mewn gwell cyflog ac amodau i'r gweithlu mewn gwirionedd yn dargyfeirio arian allan o'r GIG; mae'n fuddsoddiad yn nyfodol hirdymor, cynaliadwy'r GIG, oherwydd, heb y nyrsys hynny, y meddygon hynny a staff y GIG, pa ddyfodol sydd i'r gwasanaeth o gwbl?
Fe wnaethoch chi gyfeirio at y corff adolygu cyflogau annibynnol. Beth am, fel mae'r undebau yn galw arnoch chi i'w wneud—? Os nad ydych chi'n barod i gael trafodaethau wyneb yn wyneb ynghylch cyflogau, beth am droi at y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu a chael cyflafareddu annibynnol? Dyma'r hyn yr ydym ni wedi ei glywed gan y Blaid Lafur mewn anghydfodau undebau llafur eraill, ac eto dydych chi ddim yn barod i wneud fel rydych chi'n ei ddweud o ran eich gwerthoedd eich hun. Rydych chi eich hun wedi dweud bod yn rhaid dod ag unrhyw anghydfod i ben, yn y pen draw, drwy drafodaethau. Beth am gael y trafodaethau i osgoi'r streiciau yn hytrach na chael y streiciau'n parhau'r holl ffordd drwy'r gaeaf, gan ychwanegu poen at y boen yn yr argyfwng rydym ni eisoes yn ei wynebu? Siawns nad oes ffordd well ymlaen, Prif Weinidog.
Nid yw'r gwahaniaeth rhyngom ni yn athronyddol o gwbl, Llywydd; yn syml, mae'n ymarferol. Mae ef eisiau cymryd £120 miliwn allan o weithgarwch y mae'r GIG yng Nghymru wedi ymrwymo i'w gyflawni, a byddai'n defnyddio'r arian hwnnw i dalu pobl. Dewis ymarferol yw hwnnw; bu'n rhaid i'n dewis ni fod yn wahanol gan ein bod ni'n gweld y pwysau enfawr y mae'r GIG yn eu hwynebu bob dydd. Nawr, fe wnaf i ailadrodd yr hyn a ddywedais: daw pob anghydfod i ben yn y pen draw drwy drafodaethau. Rwy'n erfyn ar Lywodraeth San Steffan i drafod mewn ffordd sy'n caniatáu i ni yng Nghymru allu gwneud yr hyn y byddem ni'n dymuno ei wneud, sef gwneud yn siŵr bod y bobl sy'n darparu'r gwasanaethau rheng flaen hynny, y pethau rydym ni'n dibynnu arnyn nhw drwy'r amser, yn cael eu gwobrwyo'n briodol am eu gwasanaeth. Ond, heb y cyllid sydd ei angen arnom ni i allu gwneud hynny, mae'r syniad y gallwch chi freuddwydio i fodolaeth—ac fe'i breuddwydiwyd i fodolaeth ar ddwy ochr y Siambr y prynhawn yma—atebion hudolus sy'n dweud ein bod ni rywsut mewn sefyllfa yng Nghymru i wneud rhywbeth unigryw nad yw ar gael dros y ffin—. Trwy godi trethi, yn ôl y Torïaid—rhyfeddol, cwbl ryfeddol. 'Defnyddiwch y pwerau sydd gennych chi', rwy'n dal i glywed gan arweinydd yr wrthblaid, a'r pwerau sydd gennym ni, y mae'n cyfeirio atyn nhw, yw cymryd mwy o arian mewn trethi gan bobl yng Nghymru. Felly, mae'n fater o 'godi trethi' ar un ochr i'r Siambr, ac yn fater o 'dynnu arian oddi wrth wasanaethau yn y GIG' ar y llall. Mae'r Llywodraeth hon wedi gwneud ei phenderfyniad. Rydym ni'n cefnogi'r holl bobl hynny yr effeithiwyd mor ofnadwy ar eu bywydau gwaith gan ddegawd o gyni cyllidol a'r camreoli economaidd difrifol sydd wedi ein harwain at sefyllfa'r economi yn y DU heddiw. A phan fydd cyflogau teg ar gael drwy Lywodraeth y DU, yna byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n defnyddio unrhyw ran o'r arian hwnnw i hybu achos cyflogau teg yma yng Nghymru.
Cwestiwn 3, Joel James.
Mae'n ddrwg gennyf i am hynna—
Mae'n iawn.
—dipyn o gamweithrediad wardrob yn y fan yna, mae'n ddrwg gennyf i.
3. Pa fuddion sydd wedi dod i Gymru o ganlyniad i daith y Prif Weinidog i Qatar yn ystod Cwpan y Byd? OQ58862
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn, Llywydd. Fe wnaeth presenoldeb Llywodraeth Cymru yn Qatar ganiatáu i ni gynyddu ymwybyddiaeth o Gymru ar draws y byd a lleisio'r gwerthoedd sy'n bwysig i ni. Bydd manteision diwylliannol—[Torri ar draws.]
Mae'n ddrwg gennyf i, Prif Weinidog, rwy'n credu bod gennym ni broblem gyda'r dechnoleg ar gyfer Joel. Os yw'n iawn, Joel, fe wnaf i ohirio eich cwestiwn am y tro, ac efallai y gall rhywun edrych ar eich problem dechnolegol. Fe wnaf i ddychwelyd at eich cwestiwn. Rwyf am symud at gwestiwn 4, Peredur Owen Griffiths.
4. Sut mae'r Llywodraeth yn helpu i drechu tlodi yn Nwyrain De Cymru yn ystod yr argyfwng costau byw? OQ58896
Llywydd, mae dinasyddion yng Nghymru, gan gynnwys Dwyrain De Cymru, wedi elwa yn sgil mentrau fel y taliad costau byw o £150, y cynllun cymorth tanwydd a'n cronfa cymorth dewisol Cymru yn unig. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynorthwyo'r aelwydydd mwyaf agored i niwed drwy'r cyfnod anodd hwn.
Diolch, Prif Weinidog. Ddoe, roedd hi'n bedair blynedd ers i chi ddechrau ar eich swydd yn Brif Weinidog. Yn y cyfnod hwnnw, rydym ni wedi gweld gwelliant i sefyllfa rhai o'n cymunedau—. Nid ydym wedi gweld gwelliant—. Dydw i ddim hyd yn oed yn gallu darllen fy nghwestiwn, mae'n ddrwg gennyf i. Fe wnaf i ddechrau eto. [Chwerthin.] Ie. Yn y cyfnod hwnnw, nid ydym wedi gweld gwelliant i sefyllfa rhai o'n cymunedau tlotaf. A dweud y gwir, mae wedi gwaethygu'n fawr iawn i lawer, ac mae'n debyg y bydd yn dirywio hyd yn oed ymhellach. Wrth ymweld â phobl yn fy rhanbarth i, rwy'n gweld y dirywiad hwn yn uniongyrchol mewn llawer o gymunedau, y mae rhai ohonyn nhw'r cymunedau tlotaf yn y wlad. Mae'n wir mai San Steffan a system nad yw byth yn cydnabod nac yn blaenoriaethu Cymru sydd ar fai am lawer o hyn, ond rydych chi'n dal i ddal gafael ynddi beth bynnag. Ond mae pethau y gallwn ni eu gwneud yma yng Nghymru. Byddai strategaeth wrthdlodi yn ddechrau gwych. Prif Weinidog, pam nad ydych chi wedi rhoi un ar waith yn ystod pedair blynedd ddiwethaf eich arweinyddiaeth i gymryd lle'r strategaeth wrthdlodi a ddiddymwyd gan eich Llywodraeth yn 2017?
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â'r hyn mae'r Aelod yn ei ddweud am y cyfnod caled iawn y mae cynifer o gymunedau yma yng Nghymru yn ei wynebu, yn enwedig dros y gaeaf hwn. Nid yw'r cefndir cyffredinol mor llwm ag y byddai'n ei bortreadu. Atebais gwestiwn yn gynharach y prynhawn yma am y cyfrifiad, ac, os edrychwch chi ar rai o'r ffigurau yn y cyhoeddiadau diweddaraf o'r cyfrifiad, mae'n dangos bod amddifadedd aelwydydd wedi gostwng yn sylweddol yng Nghymru dros y degawd hwnnw. Mae'r cyfrifiad yn dadansoddi amddifadedd o'i gymharu â phedwar maes. Mae'n edrych ar gyflogaeth, addysg, iechyd ac anabledd, a thai. Yn 2011, fe wnaeth 61 y cant o holl aelwydydd Cymru ddioddef o leiaf un o'r pedwar dimensiwn hynny o amddifadedd. Erbyn 2021, roedd hynny wedi gostwng i 54 y cant, ac roedd y gostyngiadau mwyaf mewn rhannau o ranbarth yr Aelod ei hun. Roedd y gostyngiad mwyaf ym Mlaenau Gwent, er enghraifft. Felly, er fy mod i'n cytuno ag ef am yr heriau a wynebir nawr a thros y gaeaf hwn, nid wyf i'n credu ei bod hi'n deg portreadu'r cyfan o'r hyn sydd wedi digwydd, naill ai ers i mi ddod yn Brif Weinidog na chynt, fel methiant i gael effaith gadarnhaol, oherwydd dyna'n union y mae ffigurau'r cyfrifiad yn ei ddangos.
Ac o ran ei bwynt am strategaeth, fe wnaf i ailadrodd yr hyn yr wyf i wedi ei ddweud lawer gwaith bellach, Llywydd, mai'r hyn yr wyf i eisiau i'n cydweithwyr yn y gwasanaeth sifil a'r rhai rydym ni'n gweithio â nhw ganolbwyntio arnyn nhw yw'r camau ymarferol hynny sy'n gwneud gwahaniaeth ym mywydau dinasyddion Cymru. Nid yw ysgrifennu strategaethau yn rhywbeth sy'n mynd i roi bwyd ar fwrdd neb na helpu neb i dalu eu biliau tanwydd y gaeaf hwn. Byddwn yn cyhoeddi strategaeth tlodi plant ar ei newydd wedd y flwyddyn nesaf, ond, i mi, mewn argyfwng costau byw, beth wyf i'n ei gredu y dylai Llywodraeth Cymru ei wneud: ysgrifennu mwy o ddogfennau strategaeth neu ddarparu'r banc tanwydd i bob cymuned yng Nghymru; darparu taliad tanwydd y gaeaf, sy'n unigryw yma yng Nghymru; gwneud yn siŵr ein bod ni'n gallu buddsoddi yn y gronfa cymorth dewisol, sydd ar gael yma yng Nghymru yn unig? I mi, mae'n well canolbwyntio gweithredoedd pobl, yr egni sydd gennym ni, yr arian sydd gennym ni, yr amser sydd gennym ni ar gael, ar y pethau ymarferol hynny sy'n gwneud gwahaniaeth, a byddwn yn dod at strategaeth newydd pan fydd anawsterau uniongyrchol y gaeaf hwn wedi dechrau cilio.
Prif Weinidog, yn gyntaf, llongyfarchiadau ar y pedair blynedd, a hoffwn ofyn hefyd: amcangyfrifir bod hyd at 80,000 o bobl yn bensiynwyr tlotach yng Nghymru mewn gwirionedd ac ar eu colled o ran credyd pensiwn, sydd werth hyd at £65 yr wythnos ar gyfartaledd, o'i gymharu â'r rhai sy'n hawlio, a bod dros £200 miliwn yn mynd heb ei hawlio bob blwyddyn. Yn y de-ddwyrain, mae bron i 17,500 o bobl eisoes yn hawlio credyd pensiwn, ond amcangyfrifir nad yw tua chwarter y bobl a allai hawlio'r cymorth ychwanegol yn gwneud hynny. Mae gwaith ymchwil wedi dangos nad yw llawer o bobl yn hawlio gan nad ydyn nhw'n credu eu bod nhw'n gymwys, yn ogystal â'r ffaith eu bod nhw'n amharod i wneud hynny oherwydd yr embaras a'r stigma sy'n gysylltiedig ag ef. Mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi lansio ymgyrch newydd i hybu'r nifer sy'n manteisio ar gredyd pensiwn, yn rhan o'u pecyn o fesurau i gynorthwyo pobl â chostau byw. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r ymgyrch hon gan Lywodraeth Geidwadol y DU? A pha gamau ydych chi'n eu cymryd, ochr yn ochr â'r Gweinidogion yma, i wneud pobl hŷn yng Nghymru yn ymwybodol o'u hawliau i hawlio'r cymorth ychwanegol hwn y gallai fod ganddyn nhw hawl iddo, ac yn benodol y rhai nad y Gymraeg neu'r Saesneg yw eu hiaith gyntaf? Diolch.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna. Fel y bydd llawer o Aelodau o'r Senedd yn gwybod, fe wnaethom ni greu pwyllgor Cabinet newydd yn ôl ym mis Medi, sydd wedi cyfarfod bob wythnos yn ystod yr hydref hwn, i edrych ar fesurau costau byw. Ddoe, ymunodd Gweinidog y DU dros symudedd cymdeithasol â ni, ac roedd cyfle yno i drafod yr angen i wella'r nifer sy'n manteisio ar gredyd pensiwn am yr holl resymau y mae Natasha Asghar wedi'u crybwyll. Cawsom gyfle i siarad am y camau rydym ni'n eu cymryd fel Llywodraeth, gyda'n hymgyrchoedd manteisio a'n hymgyrch 'gwneud i bob cyswllt gyfrif' dros yr hydref hwn, a sut y gallwn ni ddod â'r camau rydym ni'n eu cymryd, ynghyd â'r cyhoeddusrwydd newydd y mae Llywodraeth y DU yn ei ddarparu o ran manteisio ar gredyd pensiwn, ynghyd, fel y gallwn ni gael yr effaith fwyaf posibl yma yng Nghymru. Mae credyd pensiwn yn fudd-dal mor bwysig, Llywydd, gan ei fod yn fudd-dal porth. Mae'n agor y drws i gynifer o bethau eraill y gall pobl eu cael, ac am y rheswm hwnnw rwy'n cytuno â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud. Bydd unrhyw beth y gallwn ni ei wneud, ar draws y Siambr, i wella'r nifer sy'n manteisio ar y budd-dal hwnnw yma yng Nghymru yn werth chweil o ran amser a gymerir a buddsoddiad a wneir.
Fe wnawn ni ddychwelyd nawr at gwestiwn 3, gan Joel James.
Diolch, Llywydd—mae'n wir ddrwg gennyf i am hynna.
3. Pa fuddion sydd wedi dod i Gymru o ganlyniad i daith y Prif Weinidog i Qatar yn ystod Cwpan y Byd? OQ58862
Llywydd, fe wnaeth presenoldeb Llywodraeth Cymru yn Qatar ganiatáu i ni gynyddu ymwybyddiaeth o Gymru ar draws y byd a lleisio'r gwerthoedd sy'n bwysig i ni. Bydd manteision diwylliannol ac economaidd ymhlith sgil-gynhyrchion yr ymgysylltu hwnnw.
Diolch, Prif Weinidog. Nid oes amheuaeth bod cwpan y byd wedi dod â manteision trwy gynyddu proffil pêl-droed Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, ac rwy'n credu y gallwn ni i gyd longyfarch tîm Cymru ar eu perfformiad ac edrych ymlaen at eu gweld nhw ryw ddydd—gobeithio—yn rownd derfynol cwpan y byd. Er ein llwyddiant, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno, gyda thristwch y cynhaliwyd y gystadleuaeth mewn gwlad sydd â hanes ofnadwy o ran hawliau dynol, yn enwedig o ran trin gweithwyr mudol a chyfreithiau ar gyfunrywioldeb. Rydych chi wedi cael eich beirniadu am fynd i gwpan y byd, ac nid wyf i eisiau trafod hynny nawr, ond rwy'n ofni, os na fydd camau dilynol, yna bydd y cyfle yn cael ei golli am byth i ddangos sut y gall amddiffyn hawliau gweithwyr a chael diwylliant cynhwysol helpu i wella bywyd pawb mewn gwirionedd. Roeddwn i wrth fy modd o glywed eich bod chi wedi cael y sgyrsiau hynny eisoes, ond, gyda hyn mewn golwg, ac o ystyried eich profiadau—y sgyrsiau rydych chi wedi eu cael a'r cysylltiadau rydych chi wedi eu creu yn Qatar—pa gamau dilynol ydych chi'n mynd i'w cymryd nawr gyda swyddogion yn Qatar i hyrwyddo'r gwerthoedd a'r hawliau rydym ni'n credu ynddyn nhw ac sy'n bwysig i ni yng Nghymru? Diolch.
Wel, Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach yna. Gadewch i mi roi dwy enghraifft iddo o ffyrdd y byddwn ni eisiau dilyn ein presenoldeb yng nghwpan y byd yn y meysydd y mae'n eu crybwyll. Felly, dywedais yn fy ateb gwreiddiol y byddai camau diwylliannol dilynol i'r ymweliad. Llwyddais i ymweld â'r Amgueddfa Celf Islamaidd tra roeddwn i yn Qatar. Mae'n amgueddfa ardderchog iawn, ac un o'r pethau mwyaf trawiadol amdani yw ei bod hi'n cael ei rhedeg, ar lefel uwch, bron yn gyfan gwbl gan fenywod, ac mae hynny heb os yn anarferol yn Qatar. Ond menyw yw cyfarwyddwr cyffredinol yr amgueddfa. Roedd ei dau ddirprwy yn fenywod. Ac rydym ni eisiau gwneud unrhyw beth y gallwn ni i annog y math yna o ddatblygiad. Felly, byddwn yn gwahodd grŵp o addysgwyr benywaidd ifanc sy'n rhan o'r gwasanaeth amgueddfeydd yn Qatar i ddod i Gymru yn ystod haf y flwyddyn nesaf, ac yna byddwn yn cael trefn gyfnewid o fenywod ifanc o Gymru yn ymweld â'r gwasanaeth amgueddfeydd yn Qatar. Ac mae honno'n enghraifft ymarferol o'r ffordd y gallwn ni ddefnyddio'r cysylltiadau yr ydym ni wedi eu creu a'r llwyfan sydd yno nawr er mwyn hyrwyddo rhai o'r canlyniadau dymunol y soniodd Joel James amdanyn nhw.
O ran hawliau gweithwyr, cefais gyfarfod cyn mynd i Qatar gyda'r Conffederasiwn Undebau Llafur Rhyngwladol a thra oeddwn yn Qatar, fe wnaeth fy nghyd-Weinidog Vaughan Gething gyfarfod gyda'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol. Dyna'r ddau sefydliad sydd wedi dod at ei gilydd ar lawr gwlad i geisio gwella hawliau gweithwyr yn y rhan honno o'r byd. Dywedodd y ddau wrthym ni fod cynnydd wedi cael ei wneud—dim digon, dim yn ddigon cyflym a chyda phryderon am y cynnydd hwnnw'n cael ei ymwreiddio pan nad yw llygaid y byd ar Qatar mwyach.
Un o'r ffyrdd, y ffyrdd ymarferol, y gallwn ni helpu i wneud i hynny ddigwydd yw trwy'r ganolfan gweithwyr mudol y mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac eraill yn ceisio gwneud yn siŵr ei bod yn sicr o fod yn Qatar ar ôl i gwpan y byd symud i ffwrdd. Byddwn yn eu cefnogi nhw yn hynny oherwydd er bod hawliau newydd wedi cael eu sefydlu, nid yw'r hawliau hynny'n berthnasol os nad yw pobl yn gwybod amdanyn nhw neu'n gwybod sut i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu gwireddu yn eu gweithleoedd eu hunain. Byddai canolfan gweithwyr mudol yn rhywle lle gallai gweithwyr sy'n dod i mewn, fynd iddo, gan fod yn sicr eu bod nhw'n cael yr holl hawliau newydd sy'n bodoli, gan wybod pa foddau gwneud iawn sy'n bodoli os nad yw'r hawliau newydd hynny'n cael eu gwireddu, a rhywle i fynd yn ôl iddo os oes angen cymorth pellach arnyn nhw yn y dyfodol. Dwy weithred ymarferol yn unig yw'r rhain, Llywydd, sy'n dilyn ymlaen o'r penderfyniad i fynd i gwpan y byd yn Qatar, mewn penderfyniad a oedd bob amser yn anodd ac wedi'i fantoli'n agos iawn, sy'n dangos y bydd datblygiadau gwirioneddol y byddwn yn parhau i allu cynorthwyo â nhw pan fydd cwpan y byd ei hun wedi dod i ben.
A gaf i ddiolch i Joel James am gyflwyno'r cwestiwn hwn, ac am ei gwestiwn atodol pwysig? Fel y mae Joel wedi dweud, rydym ni i gyd yn falch, onid ydym ni, o'n tîm cenedlaethol, y dynion a'r menywod, ac mae'r chwe blynedd diwethaf o gefnogi Cymru yn sicr wedi bod y gorau yn fy oes i, ac rwy'n siŵr bod hynny yr un fath i lawer o bobl eraill yma, er efallai fod fy oes i ychydig yn fyrrach nag eraill. [Chwerthin.] Ond nid ar ddamwain y digwyddodd y llwyddiant hwnnw, Llywydd. Dechreuodd gydag arwr fy mhlentyndod, Gary Speed, ac, wrth gwrs, yn nhîm menywod Cymru, Jayne Ludlow, ac mae'n parhau gyda'r rheolwyr presennol nawr a llywodraethu Noel Mooney. Ond mae'n rhaid i well cyfleusterau fod yn un gwaddol y cwpan y byd hwn, Prif Weinidog.
Rwy'n datgan buddiant, Llywydd: cafodd gêm fy nhîm lleol, Clwb Pêl-droed Nomads Cei Connah, yr wyf i'n llysgennad drosto, ei gohirio dros y penwythnos hwn ar lefel y Cymru Premier. Meddyliwch faint o gemau ar lawr gwlad a lefel plant oedd yr un fath. Ond, wrth i ni wynebu effaith cyni 2.0 gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi y bydd hyn yn cael effaith ar bêl-droed, ac a wnewch chi fanteisio ar bob cyfle i atgoffa Llywodraeth Dorïaidd y DU bod cyni yn cyfyngu ar uchelgais a datblygiad talent ym mhob rhan o fywyd, gan gynnwys pêl-droed?
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â Jack Sargeant. Mae'n rhaid mai un o waddolion llwyddiant Cymru i gyrraedd rownd derfynol cwpan y byd yw ysbrydoli'r genhedlaeth newydd honno o bobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon o bob math, ac os ydyn nhw'n mynd i wneud hynny, yna mae angen buddsoddi mewn cyfleusterau. Rydym ni'n gweithio ochr yn ochr â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, gyda buddsoddiad sylweddol drwy Chwaraeon Cymru, i fuddsoddi mewn pêl-droed ar lawr gwlad, ond hefyd i fuddsoddi mewn campau eraill yr ydym ni'n gwybod eu bod nhw'n llwyddo yma yng Nghymru.
Gall Jack Sargeant edrych ymlaen at flwyddyn arall o'n blaenau, Llywydd, pan fydd Cymru ar lwyfan y byd. Byddwn ni yn India ar gyfer rownd derfynol Cwpan y Byd Hoci FIH y Dynion, ac mae hynny'n beth enfawr. Mae hoci yn gamp enfawr yn India—bydd miliynau ar filiynau o bobl ar draws y byd yn gweld Cymru eto mewn rownd derfynol cwpan y byd. Bydd ein menywod yn rownd derfynol Cwpan Pêl-rwyd y Byd yn Ne Affrica yn ddiweddarach y flwyddyn nesaf, ac wrth gwrs y flwyddyn nesaf bydd Cwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc. Felly, mae Jack wedi bod yn fwy ffodus na rhai ohonom ni yn yr amser y mae wedi bod yn dilyn chwaraeon Cymru, ond y newyddion da yw bod llawer mwy i ddod, a dylai hynny—fel y dywedodd—fod yn ysbrydoliaeth i'r bobl ifanc hynny ledled Cymru i fuddsoddi eu hamser a'u hegni mewn difyrion yr ydym ni wedi gweld llwyddiant mor rhyfeddol i Gymru ynddyn nhw yn y cyfnod diweddar.
5. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatblygu economi Abertawe? OQ58857
Buddsoddi mewn seilwaith, sgiliau a busnesau newydd yw'r cynhwysion hanfodol yng nghamau'r Llywodraeth i ddatblygu ein heconomi. Mae rhaglen ardal ddigidol bargen ddinesig bae Abertawe, wedi'i hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru, yn enghraifft o sut rydym ni'n gweithio gyda'n gilydd i gefnogi datblygiad economaidd a thwf.
Ar 1 Rhagfyr, roeddwn i, ochr yn ochr â'r Prif Weinidog, yn agoriad swyddogol swyddfa Veeqo yn Technium 2, ar ôl i Amazon eu cymryd nhw drosodd—hanes o lwyddiant i ddod â swyddi cyflog uchel i Abertawe. Digwyddodd hyn yn rhannol o leiaf oherwydd y graddedigion sy'n cael eu cynhyrchu a chefnogaeth y prifysgolion lleol. Pa gymorth pellach all Llywodraeth Cymru ei roi i'r sector prifysgolion i ddatblygu rhagor o swyddi â chyflogau uchel yn Abertawe, ac a oes gan y Prif Weinidog unrhyw sylwadau ar rybudd Prifysgol Abertawe am effaith methiant Llywodraeth y DU i sicrhau cyfranogiad yn Horizon Ewrop? Pa effaith y mae hyn yn ei chael ar allu prifysgolion Cymru i gyfrannu at ddatblygiad economaidd lleol?
Llywydd, diolch i Mike Hedges. Roedd yn braf iawn bod yn Abertawe gydag ef ddechrau'r mis hwn, a chyfle i roi ar gof a chadw unwaith eto: llongyfarchiadau i Matt Warren, a sefydlodd Veeqo lai na 10 mlynedd yn ôl, ac sydd wedi ei wneud yn llwyddiant mor eithriadol. Yn ei gyfraniad yn y seremoni honno, canolbwyntiodd ar y manteision ansawdd bywyd a ddaw o fyw yn ardal Abertawe, ansawdd y gweithlu yr oedd wedi gallu ei recriwtio—yn enwedig lefel y sgiliau a ddatblygwyd gan bobl ifanc mewn prifysgolion yma yng Nghymru—a chanolbwyntiodd ar ansawdd y seilwaith sydd ar gael erbyn hyn yn y rhan honno o Abertawe. Ac mae'n hwb gwirioneddol i sector technoleg cynyddol y rhanbarth ein bod ni wedi gweld cymaint o lwyddiant mewn cwmni sydd bellach yn gweithredu ar y raddfa fyd-eang honno.
O ran ail ran cwestiwn Mike Hedges, nid oes amheuaeth bod ein prifysgolion yn wynebu cyfres o flaenwyntoedd pan ddaw hi'n fater o allu buddsoddi yn y mathau o fentrau newydd a datblygiad sgiliau a arweiniodd at lwyddiant Veeqo yn Abertawe. Rydym ni'n gwybod na fyddwn ni'n gallu rhoi y £135 miliwn i Brifysgol Abertawe, yn lle, gyda'r amcangyfrif mwyaf ceidwadol, y buddion y maen nhw wedi eu cael o arian Ewropeaidd yn y fframwaith aml-flynyddol saith mlynedd diwethaf. Mae Llywodraeth y DU wedi methu'n llwyr â rhoi'r sicrwydd absoliwt a gynigwyd i ni, na fyddai Cymru yr un geiniog yn waeth ei byd, ac nid yn unig nad yw'r swm o arian ar gael i Gymru, ond nid yw'r bobl a wnaeth elwa arno yn gallu elwa arno chwaith. Felly, er, yng Nghymru, bod Llywodraeth Cymru wedi gallu elwa ar hynny—dyna sut datblygwyd Busnes Cymru; dyna sut mae Banc Datblygu Cymru wedi cael rhywfaint o'i lwyddiant—nid yw ein prifysgolion, ein busnesau preifat na'r trydydd sector yn gallu manteisio o gwbl ar y cyllid is sydd ar gael i ni.
Ac ar yr un pryd, mae Prifysgol Abertawe yn arbennig wedi tynnu sylw at fethiant Llywodraeth y DU i ddod i gytundeb ynghylch cymryd rhan yn fersiwn nesaf rhaglen Horizon. Cafodd Gymru gyfran uwch o lawer o gyllid o Horizon na fyddai wedi bod gennym yr hawl iddo ar sail cyfran y boblogaeth, ac fe wnaeth Prifysgol Abertawe ei hun sicrhau €18 miliwn o gyllid UE gyda 51 o wahanol brosiectau Horizon dros gyfnod 2014 i 2020. Nawr does dim byd. Nid oes gennym ni gysylltiad â Horizon ac nid oes gennym ni unrhyw sicrwydd gan Lywodraeth y DU ynghylch unrhyw raglen olynol cynllun B, a does dim rhyfedd bod y brifysgol wedi datgan y rhybudd sydd ganddi am ddiswyddiadau a chwtogi yn yr union feysydd hynny lle mae datblygiad Veeqo yn dangos sut y gellir creu llwyddiant.
6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o sefydlu ysgol feddygol Bangor? OQ58870
Diolch yn fawr i Siân Gwenllian, Llywydd. Mae’r niferoedd derbyn wedi cael eu cytuno, ac mae’r cyllid wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer 140 o fyfyrwyr bob blwyddyn, pan fydd yr ysgol yn cyrraedd y capasiti uchaf. Cafodd llythyr o sicrwydd ei anfon at gydweithwyr y Cyngor Meddygol Cyffredinol ym mis Tachwedd i ganiatáu i Brifysgol Bangor barhau i fynd ymlaen drwy'r broses achredu.
 ninnau ar fin trafod cyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae'n dda cofio bod sefydlu ysgol feddygol ym Mangor wedi deillio o gytundeb cyllidebol a arwyddwyd rhwng Plaid Cymru a'ch Llywodraeth chi rai blynyddoedd yn ôl bellach, ymhell cyn y cytundeb cydweithio, a dweud y gwir. Ac felly, mae'n dda gweld yr ymrwymiad yma'n parhau i gael ei gefnogi a'r cynllun yn mynd o nerth i nerth. Mae Bangor yn prysur ddatblygu'n ganolfan hyfforddi meddygol a iechyd. Mae academi ddeintyddol newydd wedi agor yno, gan esgor ar bosibiliadau ar gyfer dysgu deintyddiaeth ym Mangor. Mae yna drafodaeth yn mynd ymlaen hefyd am astudio fferylliaeth yn y ddinas. Ydych chi, fel Llywodraeth, yn cefnogi creu hwb hyfforddiant iechyd ym Mangor fyddai'n cynnwys nid yn unig yr ysgol feddygol newydd, ond deintyddiaeth a fferylliaeth hefyd?
Diolch yn fawr i Siân Gwenllian, Llywydd. Dwi'n cytuno, mae yn dda i weld popeth rydym ni'n ei wneud gyda'n gilydd i sefydlu ysgol feddygol ym Mangor yn mynd ymlaen mewn ffordd lwyddiannus, ac, wrth gwrs, fel Aelod lleol, mae uchelgais gyda Siân Gwenllian i ddefnyddio'r llwyddiant yng nghyd-destun yr ysgol feddygol i wneud mwy yn y dyfodol. Dwi wedi gweld yr ymatebion mae Eluned Morgan wedi eu rhoi i'r cwestiynau ysgrifenedig mae Siân Gwenllian wedi eu rhoi i lawr. Mae hyn yn dangos bod y brifysgol ym Mangor wedi dechrau nawr rhoi gradd ym maes pharmacology, ac ar ôl hwnna bod posibiliadau i ddod ymlaen i ddatblygu gradd mewn pharmacy yn gallu dod hefyd.
Yn y maes deintyddol, mae'n braf i weld yr academi nawr yn agor ac yn dechrau rhoi gwasanaethau i bobl leol. Mae cyfleusterau yna yn barod i helpu pobl sy'n hyfforddi fel dental hygenists ym Mangor, ac i ddweud y gwir, fel dwi wedi esbonio mwy nac unwaith ar lawr y Cynulliad, yn fy marn i, y flaenoriaeth yn y maes deintyddol yw nid canolbwyntio jest ar hyfforddiant deintyddion ond ar y tîm o bobl sy'n gallu rhoi gwasanaethau yn y maes yna. Ac yn y dyfodol, y gobaith yw y bydd cyfleon i bobl ym Mangor i wneud mwy i'n helpu ni i ehangu'r bobl sy'n gallu rhoi gwasanaethau i bobl yn y maes yna.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ofal diwedd oes yng Nghymru? OQ58890
Llywydd, mae adolygiad Llywodraeth Cymru o ofal hosbis wedi arwain at gynnydd o £2.2 miliwn i gyllid hosbisau o'r flwyddyn ariannol hon ac ymlaen. Mae hynny'n cynnwys gwasanaeth gwych Gofal Hosbis Sefydliad Dewi Sant sy'n gwasanaethu ardal Casnewydd. Mae Cyfnod 2 yr adolygiad yn ystyried gwasanaethau gofal diwedd oes ehangach, gan gynnwys y rhai a ddarperir gan feysydd iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector.
Diolch, Prif Weinidog. Gall gofal lliniarol gynrychioli sbectrwm enfawr o wahanol emosiynau. Mae'n gyfnod hynod sensitif i bawb dan sylw, unigolion, teuluoedd a ffrindiau. I lawer, mae'r penderfyniad i symud i ofal lliniarol yn dod yn llawer, llawer rhy fuan. I eraill, gall fod yn rhyddhad a dderbynnir. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei sicrhau yw, pan fydd y sgyrsiau anodd hynny'n cael eu cynnal pan ddaw'r amser ar gyfer y penderfyniadau hynny, y rhoddir pob parch i'r unigolyn ac, yn bwysicaf oll, bod rhywun yn gwrando ar eu dymuniadau a'u dewisiadau a, chyn belled â phosibl, yn ei hwyluso. Gall gofal lliniarol da wneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd bywyd unigolyn, yn ogystal ag i'r rhai sy'n gofalu amdanyn nhw, gan eu helpu i fyw mor dda â phosibl a marw gydag urddas. Rwy'n croesawu gweledigaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal lliniarol yng Nghymru yn llawn. Sut bydd y cynlluniau hyn yn helpu i ddatblygu mwy o gydnerthedd a chyd-gynhyrchu o fewn gofal diwedd oes i sicrhau bod dewis cleifion yn flaenllaw?
Diolch i Jayne Bryant am yr hyn y dywedodd hi am y datganiad ansawdd gofal lliniarol, y rhoddodd fy nghyd-Aelod Eluned Morgan gyhoeddusrwydd iddo yn ddiweddar. Mae'n codi llawer o'r pwyntiau y mae'r Aelod newydd eu gwneud, Llywydd. Dydym ni ddim yn dda am siarad am y pethau hyn yn ein diwylliant ni. Mewn sawl ffordd, mae angen i'r sgyrsiau hynny ddechrau llawer yn gynt na phan fydd pobl yn wynebu'r penderfyniadau diwedd oes anhygoel o anodd hynny.
Roeddwn i'n gweithio'n agos ar un adeg gyda'r rhaglen Byw Nawr, dan arweiniad ein cyn-Aelod Hywel Francis. Roedd hynny i gyd yn ymwneud ag annog pobl i gael y sgyrsiau hynny cyn i chi gyrraedd y pwynt o angen eu cael, i wneud penderfyniadau uwch, fel yr ydych chi'n gallu'u gwneud yma yng Nghymru, gan adael i'r system wybod sut y byddech chi'n dymuno cael gofal pe baech chi'n cael eich hun o dan yr amgylchiadau hynny. Roedd yr ymdeimlad hwnnw bod honno'n sgwrs wirioneddol rhwng yr unigolyn, gyda hawliau, gydag uchelgeisiau ar gyfer ei fywyd ei hun, gyda phenderfyniadau y gall ef ei hun ymarfer, a'r system a fydd yn helpu i ofalu amdano, yn gwbl ganolog i'r fenter honno. Rwy'n siŵr, wrth i ni fwrw ymlaen gyda'r datblygiad diwedd oes ehangach hwnnw y gwnes i sôn amdano, y bydd y rhinweddau hynny'n cael eu cynnwys eto yn y sgyrsiau hynny.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Lesley Griffiths.
Mae un newid i'r busnes yr wythnos hon. Bydd Rheoliadau Ardrethi Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022 yn cael eu trafod yn syth wedi'r drafodaeth ar y datganiad drafft ar y gyllideb. Mae busnes drafft ar gyfer tair wythnos nesaf o dymor y gwanwyn wedi'i nodi yn y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad os gwelwch chi'n dda gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar oedi eto cyn cwblhau prosiect metro de Cymru? Un o brif amcanion prosiect metro de Cymru yw annog pobl i ddod oddi ar y ffyrdd ac, yn naturiol, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Ym mis Chwefror 2021, dywedodd prif weithredwr Trafnidiaeth Cymru y byddai oedi o ganlyniad i'r pandemig, a 2023 yn parhau i fod y dyddiad cwblhau. Ym mis Mai eleni, dywedodd Trafnidiaeth Cymru bod cost prosiect y Metro yn debygol o fod dros ei gyllideb o £734 miliwn yn sylweddol, a'r gorwariant yn debygol o fod yn ddegau o biliynau o bunnau. Bydd cwblhau'r prosiect yn cael ei symud nôl nawr i 2024. Fis diwethaf, cafodd oedi arall i'r gwaith uwchraddio ei gadarnhau, a'r 'rhan fwyaf' o'r gwaith yn cael ei orffen yn 2024, heb ddyddiad ar gyfer cwblhau'r prosiect yn llawn. Un o'r rhesymau a roddwyd am yr oedi pellach hwn oedd COVID, y dywedodd Trafnidiaeth Cymru yn gynharach na fyddai'n achosi mwy o oedi y tu hwnt i 2023. A gaf i ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog i ddweud pryd fydd y gwaith ar fetro'r de yn cael ei gwblhau yn derfynol, a beth yw'r amcangyfrif diweddaraf o gyfanswm cost prosiect blaenllaw Llywodraeth Cymru i gael pobl oddi ar y ffyrdd ac i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus o'r diwedd? Diolch.
Bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn hapus i wneud datganiad ysgrifenedig.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, ynglŷn â'r gefnogaeth sy'n cael ei roi i famau a theuluoedd sy'n colli eu babanod cyn 24 wythnos yng Nghymru. Ar hyn o bryd, nid yw menywod sy'n colli babanod cyn hynny yn derbyn tystysgrif geni. Ers mis Gorffennaf, yn Lloegr, mae menywod sy'n dioddef camesgoriad neu feichiogrwydd ectopig neu molar cyn y dyddiad hwnnw yn gallu cael tystysgrif, ac mae llawer o fenywod wedi siarad yn gyhoeddus am sut y gall hynny helpu gyda'r broses o alaru.
Nid yw tystysgrifau yn unig yn ddigon, wrth gwrs. Fel yr wyf i wedi'i godi o'r blaen, hoffwn i fod cefnogaeth arall yn cael ei roi i famau a theuluoedd yng Nghymru, fel cyfnod mamolaeth a thosturiol i'r rhai sy'n colli babanod yn gynharach yn eu bywydau bach. Ond byddai cyflwyno'r newid hwn yn ymwneud â thystysgrifau geni wir yn helpu cymaint o fenywod i ddygymod â'r golled maen nhw wedi'i dioddef, ac yn eu helpu i gofnodi a choffáu bywydau eu plant. Byddwn i'n croesawu datganiad ar hyn, os gwelwch yn dda.
Diolch. Roeddwn i'n darllen erthygl ddiddorol iawn ar y mater yma ddoe. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymwybodol, yn amlwg, o'r hyn sydd wedi digwydd yn Lloegr, ac yn ystyried camau eraill a allai fod yn angenrheidiol yma yng Nghymru. Rwy'n siŵr y bydd hi'n gwneud datganiad pan fydd hi wedi ystyried hynny.
A wnaiff Llywodraeth Cymru wneud datganiad ar effaith busnesau Airbnb ar y farchnad dai rhent? Er bod yna rai rheolaethau—byddwn i'n dadlau nad oes digon—ar ddatblygu tai amlfeddiannaeth, nid oes rheolaethau ar fusnesau Airbnb. Pa ddadansoddiad o effaith busnesau Airbnb ar y farchnad dai sydd wedi'i wneud, ac a yw'r Llywodraeth yn ystyried gosod terfyn ar nifer y busnesau Airbnb mewn unrhyw ardal, yn debyg i reolaethau'r sector Tai amlfeddiannaeth?
Yn ail, a wnaiff y Llywodraeth wneud datganiad ar y berthynas rhwng tai ac iechyd, rhywbeth yr oedd Llywodraeth Attlee yn ymwybodol iawn ohono? Rydym ni'n gwybod ers sawl blwyddyn bod anghysondeb mawr mewn disgwyliad oes iach yn dibynnu ar gyfoeth yr unigolyn, yn seiliedig ar yr ardal lle mae pobl yn byw. A yw'n syndod bod y rhai sy'n byw mewn cartrefi sych, cynnes, yn bwyta diet cytbwys, ac nad ydyn nhw'n treulio'u dyddiau'n poeni am wresogi eu cartrefi a bwydo eu teuluoedd yn byw bywydau hirach ac iachach?
Yn bendant, rwy'n cytuno â Mike Hedges. Yn amlwg, rydym ni'n credu y dylai pawb gael mynediad i gartref digonol, fforddiadwy. Mae hyn yn hanfodol i iechyd meddwl a chorfforol pobl, ac wrth gwrs eu lles hefyd. Bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod yn ariannu nifer o raglenni i gynyddu mynediad i'r cartrefi hynny, gan gynnwys cofnodi cyllid ar gyfer adeiladu tai cymdeithasol carbon isel i'w rhentu.
Byddwch chi'n ymwybodol hefyd bod y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru eisoes wedi cadarnhau eu hymrwymiad, fel rhan o'r cytundeb cydweithredu, i gyflwyno cynllun trwyddedau statudol ar gyfer pob llety ar gyfer ymwelwyr, a bydd ymgynghoriad ar gynigion yn cael ei lansio yn ddiweddarach yr wythnos hon. Yr hyn y bydd y cynllun hwnnw'n ei wneud yw ei gwneud hi'n ofynnol bod â thrwydded i weithredu llety ymwelwyr. Mae hynny'n cynnwys llety gwyliau tymor byr, a bydd yn amlwg yn helpu i godi safonau ar draws y diwydiant twristiaeth a gwella data sy'n cefnogi penderfyniadau cynllunio yn y dyfodol.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r cyhoeddiad bod Vivarail Ltd wedi mynd i'r wal. Fel y gwyddoch chi, mae cynlluniau i gynyddu'r gwasanaethau trên yn ardal ffiniau'r gogledd nawr yn cael eu hatal, wedi i'r cwmni, Vivarail Ltd, a oedd yn cyflenwi'r trenau hyn, fynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Byddwch chi'n cofio, nôl yn 2018 bod Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud y cytundeb gyda Vivarail i drenau wedi'u hadnewyddu wasanaethu trigolion ar y ffin, ac roedd hyn i fod i gael ei gyflawni yng nghanol 2019. Rydym ni nawr dair blynedd i lawr y lein ers i'r addewid hwnnw gael ei wneud, ac nid oes gan drigolion yr wyf i'n eu gwasanaethu yn sir Ddinbych, sir y Fflint a Wrecsam y gwasanaeth rheilffordd newydd hwnnw a gafodd ei addo iddyn nhw. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno, Trefnydd, ar gyfer eich trigolion chi, fel AS yn y gogledd nad yw'n sefyllfa dda i fod ynddi. Fel y gwyddom ni, mae Trafnidiaeth Cymru yn eiddo'n llwyr i Lywodraeth Cymru i gyflawni polisïau'r Llywodraeth hon. Rwy'n credu ei bod hi'n bryd dod â datganiad i'r Siambr yn egluro'r sefyllfa a phryd y bydd y trenau hynny'n cael eu cyflwyno i'r gogledd.
Mae'n wir bod nifer o gyfnodau o oedi siomedig wedi bod wrth ddod â'r trenau newydd hyn i wasanaeth. Maen nhw'n cynnwys yr angen i Trafnidiaeth Cymru sicrhau'n drwyadl eu bod yn ddiogel ac maen nhw'n ddibynadwy at ddefnydd teithwyr, yn dilyn rhai digwyddiadau yn ystod eu profion. Mae'n anffodus iawn bod Vivarail wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, ond yn amlwg nid Trafnidiaeth Cymru sydd ar fai am hynny. Maen nhw wedi buddsoddi'n sylweddol yn y trenau dosbarth 230 o Vivarail, ac maen nhw wedi cynllunio'r gwasanaethau ychwanegol ar y lein rhwng Wrecsam a Bidston ar ddefnyddio'r trenau hyn. Rwy'n ymwybodol bod Trafnidiaeth Cymru mewn cysylltiad â'r nifer bach eraill o weithredwyr trenau Vivarail, ac maen nhw'n mynd i fod yn trafod strategaeth tymor hirach ar rannau sbâr gyda nhw. Er hynny, rwy'n credu mai un o'r heriau mwyaf sylweddol mae Trafnidiaeth Cymru wedi'i chael, yw'r anrhefn a gafodd ei hachosi gan fethiant Llywodraeth y DU i ddatrys yr anghydfod diwydiannol gydag undebau'r rheilffyrdd. Os nad yw Trafnidiaeth Cymru'n gallu cael mynediad i'r traciau, nid ydyn nhw'n gallu profi'r trenau na hyfforddi eu gyrwyr ar y fflyd newydd. Felly, byddwn i wir yn annog Llywodraeth y DU i gamu i'r adwy a datrys yr anghydfodau hyn nawr.
Gaf i ofyn am ddiweddariad, os gwelwch yn dda, ynglŷn â'r adolygiad annibynnol o lifogydd, ac, yn benodol, sut y bydd Aelodau'n gallu cyflwyno tystiolaeth? Yn amlwg, mae hyn yn rhan o'r cytundeb cydweithio, a dwi'n gwybod bod gwaith yn mynd rhagddo, ond mae yna elfen bwysig o ran ein bod ni fel Aelodau etholedig yn gallu rhoi tystiolaeth. Mi fyddai cael eglurder ar hynna drwy ddatganiad ysgrifenedig neu lafar yn fuddiol dros ben. Diolch.
Diolch. Rwy'n cymryd bod y broses yn dal yr un fath i Aelodau allu rhoi'r dystiolaeth honno, ond fe wnaf gadarnhau hynny gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd.
Gaf i ofyn am ddatganiad ar y cynnydd sydd wedi'i wneud yn ystod y 12 mis diwethaf ar gyflwyno metro'r gogledd, ac awgrymu y byddai datganiad blynyddol o gymorth mawr i'r Aelodau? Rydw i hefyd yn gofyn am ddatganiad ynglŷn ag ariannu gwasanaethau bysiau, o ystyried bod gwasanaethau bysiau yn mynd i fod mor amlwg o ran darparu metro'r gogledd. Diolch.
Diolch. Gan fy mod i wedi ymrwymo'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i gyhoeddi datganiad ysgrifenedig am fetro'r de, rwy'n meddwl ei bod hi ond yn deg ei fod yn cyhoeddi un ar fetro'r gogledd hefyd.
Rwy'n galw am ddatganiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon i blant oed ysgol yng Nghymru, ac yn enwedig yn y gogledd. Enw un o'r tri parkrun iau yn y gogledd yw Prom Prestatyn, ac mae'n dioddef gan mai ychydig iawn o rai sy'n cymryd rhan ac mae perygl iddo gau. Mae digwyddiadau parkrun iau, sy'n cael eu cynnal gan wirfoddolwyr, yn ddigwyddiadau 2 km wythnosol cyfeillgar ac am ddim i blant rhwng 4 a 14 oed, i loncian, rhedeg neu gerdded bob bore Sul. Mae Parkrun Cymru yn awyddus iawn i helpu i hyrwyddo a thyfu'r digwyddiad hwn i fod yr un mor llwyddiannus â digwyddiadau parkrun iau eraill ledled Cymru. Mae parkrun eisoes wedi cael ei nodi yn fodel sy'n cyd-fynd â fframwaith rhagnodi cymdeithasol arfaethedig Llywodraeth Cymru drwy gymryd rhan a gwirfoddoli. Roedd arolwg chwaraeon ysgolion Chwaraeon Cymru 2022 yn nodi mai dim ond 39 y cant o ddisgyblion a oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon wedi'u trefnu y tu allan i'r cwricwlwm dair gwaith neu fwy yr wythnos, ond bod 93 y cant o ddisgyblion Cymru eisiau gwneud mwy o chwaraeon. Mae'n hanfodol felly ein bod ni'n tyfu gweithgareddau hygyrch, pleserus ac am ddim i blant, fel parkrun iau, ac rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y byddai modd cyflawni hyn. Diolch.
Diolch. Rwy'n ymwybodol iawn o ddigwyddiadau parkrun iau. Mae gen i un yn fy etholaeth fy hun, ac mae fy merch, sy'n gwneud parkrun, wedi fy ngorchymyn i wirfoddoli arno. Rwy'n credu ei bod yn ffordd dda o gael pobl ifanc i fod yn egnïol, ac yn sicr mae'r rhai yr wyf i wedi'u gweld yn Wrecsam wedi cael eu cefnogi'n dda iawn. Byddwch chi'n ymwybodol, yn ein hysgolion ni, fod Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, a'r Dirprwy Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros chwaraeon yn ariannu amrywiaeth sylweddol o chwaraeon i annog pobl ifanc. Yn amlwg, mae Parkrun, fel y dywedwch chi, yn sefydliad sydd wir yn cael ei gynnal gan wirfoddolwyr, ac nid ydw i'n ymwybodol o unrhyw gynlluniau i'w cefnogi.
Gweinidog, hoffwn i ofyn am ddatganiad am gefnogaeth i gyn-filwyr profion bomiau atomig, os gwelwch yn dda, gan fod 2022 yn nodi'r jiwbilî plwtoniwm, 70 mlynedd ers y profion bom atomig cyntaf yn y DU. Ers hynny, mae ugeiniau o'r bobl a gymerodd ran yn y profion hynny—cyn-filwyr, gwyddonwyr, pobl frodorol a'u teuluoedd—wedi dioddef yn anfesuradwy. Nid oes yr un o'r bobl hynny wedi cael y gydnabyddiaeth gywir am eu haberthau. Roedd llawer ohonyn nhw'n dod o Gymru. Mae LABRATS International yn galw am ymddiheuriad cenedlaethol, medal i gydnabod gwasanaeth ac aberth y cyn-filwyr hyn, cefnogaeth ariannol i gyn-filwyr a theuluoedd, rhaglen addysg ar y profion a'u heffeithiau, ac ymchwil i ddisgynyddion. Mae rhai o'r pethau hyn o fewn cymhwysedd y Senedd hon. Felly, a wnewch chi weithio gyda LABRATS a sefydliadau eraill i helpu i gyflawni'r nodau hyn? A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ar ba gamau yr ydych chi'n eu cymryd i gynorthwyo'r bobl hyn? Diolch.
Diolch. Rwy'n ymwybodol bod y Dirprwy Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gweithio'n agos iawn gyda gwasanaethau cyn-filwyr ledled Cymru ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud ag iechyd a thai, er enghraifft. Nid ydw i'n ymwybodol o unrhyw beth penodol am y grŵp o bobl yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw, ond yn sicr fe wnaf ofyn a oes unrhyw beth penodol y byddai modd ei wneud, ac, os felly, bydd datganiad.
Ledled Cymru, mae tua 90 o safleoedd cartrefi preswyl mewn parciau, sy'n gartref i dros 3,000 o aelwydydd. Dangosodd gwaith ymchwil a gafodd ei gyflawni ar ran Llywodraeth Cymru yn 2016, bod tystiolaeth o dlodi tanwydd ar y safleoedd hyn. Mae'n siŵr y bydd y sefyllfa hon wedi gwaethygu yn yr argyfwng costau byw presennol. Mae'r mwyafrif o drigolion y cartrefi mewn parciau'n oedrannus ac yn anghymesur o debygol o fod yn llai cyfoethog. Mae perchnogion y cartrefi mewn parciau yn cael cynyddu ffioedd am leiniau yn flynyddol gan gyfradd mynegai prisiau defnyddwyr, ac, yn sgil prifweinidogaeth drychinebus Liz Truss, a welodd gyfraddau chwyddiant yn mynd yn rhemp, mae ar hyn o bryd ar 11 y cant. Bydd cynnydd o 11 y cant mewn ffioedd am leiniau yn gwthio hyd yn oed mwy o breswylwyr cartrefi mewn parciau i dlodi'r gaeaf hwn. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â chynlluniau Llywodraeth Cymru i amddiffyn preswylwyr cartrefi mewn parciau rhag cynnydd o 11 y cant mewn ffioedd am leiniau, os yw hynny'n bosibl? Diolch.
Diolch. Nid ydym ni wedi cael gwybod na'n hysbysu bod deiliaid cartrefi mewn parciau wedi gweld cynnydd sylweddol mewn ffioedd am leiniau yma yng Nghymru, ond yn amlwg mae'n bwysig iawn ein bod ni'n monitro'r sefyllfa. Yn wahanol i Loegr, mae ffioedd am leiniau yma yn seiliedig ar y mynegai prisiau defnyddwyr ac nid y mynegai prisiau manwerthu, felly rwy'n credu mai dyna'r gwahaniaeth sylweddol. Ond, wrth gwrs, rydym ni'n cydnabod y pwyntiau yr ydych chi'n eu codi am gostau byw a'r cynnydd chwyddiant—mae'r ddau fynegai wedi cynyddu. Mae'r rheoliadau'n nodi bod tybiaeth, nid gofyniad pendant, bod y ffi am lain i gynyddu neu ostwng canran nad yw'n fwy nag unrhyw gynnydd neu ostyngiad yng nghanran y mynegai prisiau defnyddwyr.
Trefnydd, rwy'n gofyn am ddatganiad gweinidogol gan y Dirprwy Weinidog Chwaraeon ar y cynigion gan weinyddiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghyngor Sir Powys i gau canolfannau hamdden a phyllau ar draws fy etholaeth dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd, ac o bosibl hyd at fis Ebrill a thu hwnt, heb ymgynghori â thrigolion lleol. Bydd hyn yn drychinebus i bobl yn fy etholaeth i ac ar draws Powys sy'n dibynnu ar ganolfannau hamdden i gefnogi eu hiechyd corfforol a meddyliol a hefyd i gadw ein plant ifanc yn egnïol. Felly, byddwn i'n croesawu datganiad gan y Llywodraeth yn amlinellu manteision canolfannau hamdden i'n cymunedau ni a pha gefnogaeth y gallai Llywodraeth Cymru ei rhoi i'w cadw ar agor, a hefyd i atgoffa awdurdodau lleol am eu rhwymedigaethau i ymgynghori â thrigolion ynghylch unrhyw newidiadau i gyfleusterau hamdden yn ein cymunedau.
Diolch. Rydym ni'n cydnabod bod ein holl awdurdodau lleol, yn union yr un fath â Llywodraeth Cymru, o dan anawsterau cyllidebol difrifol, ond mater i Gyngor Sir Powys yw'r mater yr ydych chi'n ei godi.
A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ar y gwasanaeth tân os gwelwch yn dda, Trefnydd? Fel llawer a welodd adroddiad ITN ar Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru neithiwr, roeddwn i wedi dychryn. Ni ddylai fod unrhyw le i gasineb at fenywod o fewn y gweithle, ond mae hyn yn arbennig o wir gyda gwasanaeth cyhoeddus fel y frigâd dân. Roeddwn i'n hynod siomedig i ddarganfod bod yr ymddygiad yma wedi'i ganfod yn y gwasanaeth tân ac nad oes camau wedi'u cymryd i fynd i'r afael â hwn. Rwy'n falch bod prif swyddog tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Huw Jakeway, wedi cyhoeddi adolygiad i'w diwylliant, prosesau disgyblu ac achosion hanesyddol. Rwy'n awyddus nawr i wybod, drwy ddatganiad, yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o'r sefyllfa a sut maen nhw'n bwriadu gweithredu er mwyn cefnogi'r prosesau i wneud gwasanaeth tân de Cymru yn lle diogel a chroesawgar i fenywod.
Diolch yn fawr iawn. Yn amlwg, rydym ni'n condemnio ymddygiad fel hyn yn gryf. Nid oes unrhyw le iddo yn y gwasanaeth tân ac achub, nac unman arall o ran hynny. Mae'n bwysig iawn eu bod yn wynebu'r sancsiynau llymaf posibl gan reolwyr. Roeddwn i'n falch iawn o weld Huw Jakeway yn cyhoeddi'r ymchwiliad annibynnol. Rwy'n ymwybodol bod y Dirprwy Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y bore yma wedi cyfarfod â chadeirydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Ac yn olaf, Mark Isherwood.
Diolch. Rwy'n galw am ddatganiad am gymorth i bobl ag anhwylderau bwyta yng Nghymru. Mae ymchwil, wedi dangos bod defnyddio labeli bwydlenni i gyfyngu ar galorïau yn gysylltiedig â gorfwyta mewn pyliau ymhlith menywod ac yn gysylltiedig â mwy o bryderon yn ymwneud â phwysau, mynd ar ddiet ac ymddygiad rheoli pwysau nad yw'n iach ymhlith menywod a dynion. Gwnaeth Beat, elusen anhwylderau bwyta'r Deyrnas Unedig, gyfarfod â Lynne Neagle AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, yr wythnos diwethaf i gyflwyno llythyr agored wedi'i lofnodi gan bron i 700 o bobl sy'n byw yng Nghymru ac sy'n annog Llywodraeth Cymru i ailystyried cyflwyno labelu calorïau gorfodol ar fwydlenni. Daw hyn yn sgil arolwg a gafodd ei gynnal ganddyn nhw a ofynnodd i'r rhai yng Nghymru sy'n byw ag anhwylderau bwyta neu y mae anhwylderau bwyta'n effeithio arnyn nhw i roi eu syniadau ar y cynnig, ac roedd 98 y cant o'r ymatebwyr yn credu y byddai labelu calorïau ar fwydlenni yn cael effaith negyddol ar y rhai sy'n byw gydag anhwylderau bwyta. Dywedodd un,
"Rydw i eisoes wedi bod yn dyst i'r ofn y mae hi'n ei deimlo wrth feddwl am wynebu calorïau ar fwydlenni a llithro yn ôl i grafangau anorecsia. Mae hyn yn fy nychryn i hefyd. Mae'r effaith niweidiol y gallai hyn ei gael ar bobl ag anhwylderau bwyta yn enfawr.'
Felly, mae angen i ni wybod os, a sut, y gall y Dirprwy Weinidog gyfiawnhau gweithredu deddfwriaeth a fyddai'n achosi niwed i'r rhai sy'n dioddef o anhwylderau bwyta a risg o ynysu'r rhai a allai eisoes deimlo'n ynysig o gymdeithas hyd yn oed yn fwy. Rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny.
Diolch. Rwy'n meddwl ei fod yn ymwneud â chydbwysedd. Rwy'n ymwybodol bod y Dirprwy Weinidog wedi cael y cyfarfod y cyfeiriodd yr Aelod ato ac mae'n ystyried ffordd ymlaen ar hyn o bryd.
Diolch i'r Trefnydd.
Eitem 3 y prynhawn yma yw datganiad gan Weinidog yr Economi ar y warant i bobl ifanc. Galwaf ar y Gweinidog, Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Fis diwethaf fe welwyd blwyddyn gyfan ers lansio'r warant i bobl ifanc yma yng Nghymru. Mae'r rhaglen allweddol hon ar gyfer ymrwymiad oddi wrth y llywodraeth yn rhoi cynnig o gefnogaeth i bobl dan 25 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, cefnogaeth i ddod o hyd i swydd, neu gefnogaeth i fynd yn hunangyflogedig. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd gwaith i'n pobl ifanc ni, ac rwy'n awyddus i bob unigolyn ifanc yng Nghymru allu manteisio ar yr hyn sy'n dod yn sgil gwaith da—nid yn unig y gwobrau ariannol, ond yr ymdeimlad o bwrpas a balchder sy'n dod yn sgil bod â swydd. Mae swm y dystiolaeth yn dweud wrthym ni hefyd y bydd yr ymyriadau yr ydym ni'n eu gwneud nawr yn helpu pobl ifanc i gadw swyddi sy'n talu yn well dros gyfnod eu hoes waith nhw.
Dirprwy Lywydd, rydym ni'n gwybod bod y pandemig wedi golygu bod llawer o bobl ifanc ar eu colled o ran profiad gwaith gwerthfawr a chyfleoedd am hyfforddiant yn gynnar iawn yn eu gyrfaoedd nhw. Mae cyflogwyr ar eu colled o ran recriwtio darpar weithwyr ac ar gyfleoedd i greu gweithlu newydd, sy'n fwy deinamig. Mae effaith y pandemig ar ein marchnad lafur ni'n parhau i ddatblygu, ond rydym ni'n eglur o ran yr angen i ddysgu gwersi wrth i ni symud ymlaen.
Yn sgil cyllideb 'fechan' drychinebus gyntaf Llywodraeth y DU, rhagolygon economaidd llwm gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a Banc Lloegr, a cholli cyllid disodli cyllid yr UE, rwy'n poeni mwy nag erioed am ragolygon cyflogaeth ein pobl ifanc ni. Ac mae'r dirwasgiad yn debygol o achosi mwy o ddiweithdra. Mae colli dros £1 biliwn o gyllid disodli cyllid yr UE yn golygu y bydd gan Lywodraeth Cymru lai o allu i atal colli swyddi neu ddarparu'r un gyfradd o gefnogaeth i'r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw. Mae llawer o fusnesau yn parhau i wynebu amodau masnachu heriol a achosir gan broblemau sylweddol gyda'r cytundeb masnach a chydweithredu â'r Undeb Ewropeaidd. Yn erbyn y cefndir hwn, a'r gyllideb sy'n llai mewn termau real sydd gan Lywodraeth Cymru, rwyf i wedi gweithio i flaenoriaethu'r warant i bobl ifanc cyn belled â phosibl i helpu i sicrhau rhagolygon y bobl ifanc sydd fwyaf mewn perygl yn y cyfnod ansicr hwn yr ydym ni'n ei wynebu. Mae'r warant i bobl ifanc yn tynnu ar bob rhaglen a darpariaeth ar draws y sector hyfforddiant, addysg a chyflogadwyedd i gyd-fynd ag anghenion cymhleth ac amrywiol pobl ifanc ledled Cymru. Ers i ni lansio'r warant i bobl ifanc, rydym ni wedi gweld dros 20,000 o ymyriadau yn cael eu darparu drwy ein gwasanaethau cyflogadwyedd yn unig, ac mae 11,000 o bobl ifanc wedi dechrau ar raglenni cyflogadwyedd sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Erbyn mis Ebrill eleni, roedd dros 18,600 o brentisiaethau pob oed wedi cychwyn eisoes ers dechrau tymor y Senedd hon.
Mae pobl ifanc wedi wynebu amgylchiadau eithriadol ac ansicrwydd mawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae defodau newid byd y mae llawer ohonom yn eu cymryd yn ganiataol wedi diflannu. Fe ddylem ni roi teyrnged i'r ffordd y mae cymaint o bobl ifanc wedi addasu i gynllunio ar gyfer eu dyfodol nhw, a chefnogi eu cyfoedion nhw, eu teuluoedd a'u cymunedau nhw. Mae'r profiad bywyd hwnnw'n rhywbeth y byddai llawer ohonom ni'n ei chael hi'n anodd ei amgyffred. Mae hyn yn ategu pam mae'n rhaid i ni wrando ar leisiau pobl ifanc i sicrhau bod y penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud yn cefnogi eu camau nesaf nhw. Fe fydd y profiadau hynny a'u camau nesaf nhw'n llywio ein gweithgarwch ni o ran busnes, diwylliant, iechyd, addysg ac yn ein cymdeithas yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog wedi dweud bod dros 60 y cant o bobl rhwng 16 a 25 oed yn mynegi eu pryderon am ddyfodol eu cenhedlaeth nhw, gydag un o bob tri yn poeni na fydd eu rhagolygon gwaith nhw fyth yn gwella wedi'r pandemig a'r argyfwng costau byw. Ar gyfer helpu i oresgyn y pryderon hyn, rydym ni'n parhau i redeg ein hymgyrch ni, sef Bydd Bositif, sy'n ceisio rhoi cyfarwyddyd a chefnogaeth gadarnhaol i bobl ifanc i'w galluogi nhw i ddechrau ar stori eu bywydau nhw, neu ei newid hi. Roedd yr ymgyrch yn ymateb i effaith pandemig COVID ac fe'i bwriadwyd hi i wrthsefyll digalondid y mae'r cefndir economaidd yn ei achosi yn rhan o'r trafodaethau ynghylch rhagolygon gwaith a'r heriau o ran iechyd meddwl y mae pobl ifanc yn agored iddyn nhw. Yn rhan o'r ymgyrch honno, cynhaliwyd digwyddiad gan Sgiliau Cymru ym mis Hydref a noddwyd gan Lywodraeth Cymru—y cyntaf ers y pandemig. Fe gefais i'r pleser o weld â fy llygaid fy hun yr ymateb cadarnhaol a oedd gan bobl ifanc wrth gyfarfod â chyflogwyr lleol a chenedlaethol a darparwyr addysg o ansawdd uchel wyneb yn wyneb, ar gyfer cael cyngor arbenigol am yrfaoedd a chael cymorth wrth gynllunio eu gyrfaoedd nhw. Eleni, cymerodd dros 5,000 o bobl ifanc a 45 o arddangoswyr ran yn ystod digwyddiad mwyaf Cymru ynghylch gyrfaoedd, hyfforddiant a phrentisiaeth.
Dirprwy Lywydd, mae'r sgwrs genedlaethol wedi bod wrth wraidd y warant i bobl ifanc, gan ddatblygu ein gallu ni i fod â dealltwriaeth well o'r materion y mae pobl ifanc yn eu hwynebu. Ar ddechrau'r flwyddyn y llynedd, fe wnaethom ni ein herio ein hunain i fynd i'r afael â'r dull o gyrraedd at bobl ifanc yn well, a sut i gyfathrebu mewn ffordd sy'n ennill ac yn cadw eu hymddiriedaeth nhw.
Rydym ni wedi canfod bod cenhedlaeth Z, fel y'i gelwir hi gan rai, yn fwy darbodus, difrifol ac ymwybodol o hinsawdd na'u rhagflaenwyr nhw, a bod addysg, cyflogaeth a'u rhagolygon yn y dyfodol yn flaenoriaethau pennaf iddyn nhw. Maen nhw'n fwy tebygol o ddathlu amrywiaeth, a chydbwyso eu hawydd nhw am gysylltiad cyson a'r dechnoleg ddiweddaraf gyda phryderon o ran preifatrwydd a diogelwch. Yn anffodus, mae hon yn genhedlaeth sy'n wynebu rhwystrau sylweddol hefyd o ran iechyd meddwl a hyder. Rydym ni'n gweld mwy o bobl ifanc nag erioed sy'n segur yn economaidd am resymau iechyd, nid yn unig yma yng Nghymru, ond ledled y DU. Yr hyn y gallwn ni fod yn sicr ohono yw bod ôl-effeithiau'r pandemig yn dechrau dod i'r amlwg. Dyna pam rydym ni'n canolbwyntio yn barhaus ar y rhai sydd fwyaf agored i niwed. Mae canolbwyntio ar y rhai nad ydyn nhw mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant yn hanfodol os ydym ni am fynd i'r afael â bygythiad o gynffon hir o ddiweithdra neu anweithgarwch economaidd mewn blynyddoedd i ddod. Rydym ni eisoes wedi gweithredu yn gadarn ar ffyrdd o wella ein hymwybyddiaeth ni o'r bobl ifanc hynny a allai fod â'r angen mwyaf o gefnogaeth ychwanegol. Fe fydd y fframwaith ymgysylltiad a chynnydd ieuenctid a gafodd ei hadnewyddu, a gyhoeddwyd ar y cyd gan Jeremy Miles, Lynne Neagle, Julie Morgan a minnau ym mis Medi â rhan allweddol wrth roi cefnogaeth neu ddarpariaeth briodol ar waith i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu nodi a'u cefnogi cyn iddyn nhw gyrraedd sefyllfa o gyfyng gyngor.
Mae Twf Swyddi Cymru yn cefnogi dros 3,000 o bobl ifanc yng Nghymru—Twf Swyddi Cymru+, fe ddylwn ddweud, Dirprwy Lywydd—gan roi cymorth i'w pontio nhw i'r farchnad lafur a chyflwyno gweithgareddau dal i fyny i ddysgwyr o ganlyniad i effaith COVID. Rydym ni wedi cysylltu ffyrdd o gael gafael ar y cynllun treialu incwm sylfaenol hefyd ac rydym ni'n ystyried cydweithio pellach i gynyddu'r pecyn o gefnogaeth i'r rhai sy'n wynebu anfanteision cymhleth. Mae dros 2,700 o bobl ifanc wedi cael cefnogaeth gan ein gwasanaeth rheng flaen ni sy'n cael ei arwain gan awdurdodau lleol, Cymunedau am Waith+. Mae hynny i fyny o 1,700 ers fy natganiad diwethaf. Mae hi'n galonogol gweld mwy o bobl ifanc yn ymgyflwyno i gael cymorth a hyfforddiant gwaith dwys personol yn eu cymunedau lleol.
I'r rhai sydd ag uchelgeisiau entrepreneuraidd, mewn ychydig dros dri mis mae'r grant cychwyn sydd gennym ni i bobl ifanc â 120 o gyfranogwyr yn barod, sy'n gweithio gyda chynghorwyr busnes i adolygu eu syniadau nhw ynglŷn â busnesau a'u helpu i ddatblygu eu cynlluniau busnes nhw i wneud cais am y grant. Ers hynny mae 75 o bobl ifanc, yn y cyfnod byr y mae'r grant wedi bod ar gael, a oedd yn ddi-waith o'r blaen, wedi cael grant i helpu i gychwyn eu busnesau nhw. Erbyn hyn, mae gan bob coleg addysg bellach yng Nghymru fiwro penodol o ran cyflogaeth a menter. Fe fyddan nhw ag enwau gwahanol mewn gwahanol golegau, ond maen nhw'n darparu ehangder o gymorth cyflogaeth a chyfleoedd i symleiddio'r broses o bontio o ddysgu i weithio.
Fe fyddwn ni'n parhau i ddathlu ein llwyddiant ni a hyrwyddo Cymru fel lle gwych i fyw a gweithio ynddo. Dyna pam roeddwn i mor falch o weld llwyddiannau Cymru yn rowndiau terfynol WorldSkills y DU yng Nghaerdydd fis diwethaf, lle, unwaith eto, Cymru oedd ar frig y bwrdd o arweinwyr o fewn y DU, gyda chyfanswm o 59 o unigolion wedi ennill gwobrau. Fel mae'r gyllideb ddrafft yn dangos heddiw, fe fydd Llywodraeth Cymru yn parhau i sefyll gyda, a sefyll dros, ein pobl ifanc ni. Yn wyneb y rhagolygon ariannol gwaethaf ers datganoli, rwy'n galw unwaith eto ar Lywodraeth y DU i wneud yr un peth. Mae cryfder ein heconomi ni'n dibynnu ar weithredu gyda'r gefnogaeth gywir nawr. Diolch i chi, Dirprwy Lywydd.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am yr wybodaeth ddiweddaraf am y warant i bobl ifanc y prynhawn yma? Mae rhywfaint o gynnydd wedi bod o ran sicrhau cyfleoedd i bobl ifanc, naill ai drwy addysg, hyfforddiant, cyflogaeth neu hunangyflogaeth, ac mae'r Gweinidog wedi amlygu rhai o'r arferion da sydd wedi ymsefydlu ers lansio'r cynllun fis Tachwedd y llynedd. Pan roddodd y Gweinidog ddatganiad ddiwethaf am y warant i bobl ifanc, bu ef yn onest iawn o ran rhai o'r rhwystrau ymarferol ynglŷn â chael pobl i gymryd rhan yn y gwasanaeth, ac mae datganiad heddiw yn dweud ychydig mwy wrthym ni am waith Twf Swyddi Cymru+ yn y maes hwn. Mae'r Gweinidog yn sôn hefyd am gydweithio pellach i gynyddu'r pecyn cymorth ar gyfer y rhai sy'n wynebu anfantais gymhleth, felly efallai y gwnaiff ef ymhelaethu ar y datganiad a dweud ychydig mwy wrthym ni am y gwaith sy'n cael ei wneud yn hyn o beth. Wrth gwrs, wrth i'r warant i bobl ifanc barhau i gyflawni mwy, mae hi'n hanfodol fod barn pobl ifanc ledled Cymru yn cael ei chlywed er mwyn i Lywodraeth Cymru gael cipolwg gwerthfawr ar ddarpariaeth y cynllun a gweld sut gefnogaeth sydd i bobl ifanc yn ymarferol.
Nawr, mae datganiad heddiw yn dweud bod Llywodraeth Cymru, ar ddechrau'r llynedd, wedi ei herio ei hun i fynd i'r afael â dulliau gwell o fynd at bobl ifanc a chyfathrebu mewn ffordd sy'n ennill ac yn cadw eu hymddiriedaeth nhw. Serch hynny, nid yw'r datganiad yn dweud wrthym ni sut mae Llywodraeth Cymru am fynd i'r afael â'r her honno, ac felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn dweud wrthym ni sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd at y bobl ifanc mewn ffordd well a chyfathrebu â nhw fel gall y warant i bobl ifanc addasu, dysgu gwersi a chyflwyno arfer da. Yn gynharach eleni, dywedodd y Gweinidog wrthym ni nad yw'r warant i bobl ifanc yn gynnig disymud, ac rwy'n falch o weld, o'r datganiad heddiw, ei fod yn esblygu ac yn archwilio ffyrdd newydd o gynnig cyfleoedd i bobl ifanc. Mae'r cynnig o ran addysg, wrth gwrs, yn rhan hanfodol o'r warant i bobl ifanc, ac mae datganiad heddiw yn dweud wrthym ni fod gan bob coleg addysg bellach yng Nghymru fiwro penodol ar gyfer cyflogaeth a menter erbyn hyn. Er fy mod i'n croesawu'r gweithredu o ran y colegau addysg bellach a darparwyr dysgu rwy'n parhau i bryderu am gyllid yn y dyfodol, yn enwedig gan fod llawer yn wynebu costau uwch o ran y ddarpariaeth. O ystyried pwysigrwydd y sector i lwyddiant y warant i bobl ifanc, efallai y gwnaiff roi ychydig mwy o wybodaeth i ni ynglŷn â maint arfaethedig yr adnoddau o ran cyllid a fydd ar gael i'r sector AB oddi wrth Lywodraeth Cymru.
Mae gweithio gyda busnesau yn rhan hanfodol o'r rhaglen, ac mae hi'n bwysig ein bod ni'n gweld rhagor eto o gyflogwyr yn cyfranogi o'r cynllun, felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni a yw nifer y busnesau sydd wedi ymgysylltu wedi cynyddu ers lansio'r warant i bobl ifanc y llynedd.
Nawr, mae'r grant dechrau busnes bobl ifanc yn cynnig hyd at £2,000 i helpu pobl ifanc i ddechrau eu busnesau eu hunain, ac rwy'n falch o weld y buddsoddiad hwn yn cael ei wneud, oherwydd fel gŵyr y Gweinidog, mae materion fel cael gafael ar gyllid a datblygu gwybodaeth a hyder mewn busnes yn aml yn rhwystrau i bobl ifanc sy'n dechrau busnesau. Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddai'r Gweinidog y rhoi ychydig mwy o wybodaeth i ni am faint sydd wedi cael y grant hwnnw, ac a yw'r grant ar gael ac yn mynd i bobl ledled Cymru. Er enghraifft, a oes mwy y gellir ei wneud i gyrraedd entrepreneuriaid ifanc yng ngefn gwlad, er enghraifft? A sut mae Llywodraeth Cymru am sicrhau bod ysgolion a darparwyr addysg yn hyrwyddo'r grant fel bydd pobl ifanc yn ymwybodol ohono?
Nawr, fe ellir mesur llwyddiant y warant i bobl ifanc nid yn unig yn ôl niferoedd y bobl ifanc sydd mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant erbyn hyn, ond o ran ei hamrywiaeth a'i chwmpawd hefyd, a chyda hynny mewn golwg, mae hi'n bwysig bod cyfleoedd ar gael i bobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, er enghraifft. Felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau nad yw oedolion ifanc ag anableddau ac anghenion ychwanegol yn cael eu gadael ar ôl.
Dirprwy Lywydd, mae hi'n hanfodol bod yr adnoddau sy'n cefnogi'r warant i bobl ifanc yn rhai digonol, ac mae datganiad heddiw yn ei gwneud hi'n eglur fod Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i'r warant i bobl ifanc cyn belled ag y gellir gwneud felly, ond nid ydym ni'n cael gwybod ym mha fodd. Felly efallai y gwnaiff y Gweinidog egluro sut yn union y mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu'r warant i bobl ifanc. A yw hyn yn golygu, felly, fod y gyllideb ar gyfer y warant i bobl ifanc yn cael ei chynyddu mewn gwirionedd?
Yn olaf, fe hoffwn i ddim ond cyffwrdd â datblygiad sgiliau gwyrdd a'r angen i sicrhau datblygiad fframweithiau a llwybrau prentisiaethau fel gall pobl ifanc fanteisio ar economi sgiliau gwyrdd y dyfodol. Mae datblygu perthynas gyda busnesau peirianneg, y sector ynni a'r diwydiant yn hanfodol ar gyfer datblygu piblinell o dalent i'r dyfodol, felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni hefyd sut mae Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygu sgiliau gwyrdd dan adain y warant i bobl ifanc fel y cawn ni ddysgu mwy ynglŷn â dulliau Llywodraeth Cymru o estyn cyfleoedd i bobl ifanc yn y maes hwn.
Felly, wrth gloi, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddiweddariad? Mae hi'n amlwg bod y warant i bobl ifanc yn estyn cyfleoedd y mae eu hangen nhw'n fawr ar bobl ifanc, ac mae hi'n hanfodol bod gwaith yn cael ei wneud i sicrhau bod y rhaglen yn parhau i fod yn effeithiol ac yn cefnogi cymaint o bobl â phosibl. Diolch.
Diolch am y gyfres o gwestiynau a sylwadau. Gadewch i mi droi at rai o'r pwyntiau a wnaethoch chi i ddechrau. O ran sut yr ydym ni'n deall treiddiad gwirioneddol y warant i bobl ifanc, a sut rydym ni'n ymdrin mewn gwirionedd ag ystod amrywiol o bobl ifanc, a'r cymhlethdodau, mae hynny oherwydd nifer o bethau. Felly, mae gan rai pobl ifanc lwybr llwyddiannus i waith, addysg neu hyfforddiant eisoes. Mae niferoedd mawr o bobl yn mynd i addysg ôl-16 heb angen unrhyw ymyrraeth ychwanegol—rhan o'n her ni yn hynny yw sut y gallwn ni helpu gydag ansawdd yr hyn y maen nhw'n ei ddewis, a sicrhau bod y dewisiadau yn rhai sy'n briodol ar eu cyfer nhw, a bod meddwl mwy agored ganddyn nhw o ran ystod eu dewisiadau nhw o yrfa. Mae'r gwaith hwnnw'n digwydd, mewn gwirionedd, yn gynharach yn eu haddysg. Pan ges i'r pleser yn ddiweddar o fod ger bron eich pwyllgor chi, roeddem ni'n trafod yr angen i ymyrryd yn gynt ar daith addysgol unigolion i wneud yn siŵr bod gan bobl ystod ehangach o ddewisiadau. Ceir llawer gormod o broffesiynau o hyd lle mae dynion a menywod—bechgyn a merched ifanc—yn gwneud dewisiadau gwahanol iawn ynglŷn â'r hyn y gallan nhw ei wneud. Ac mewn gwirionedd, fe geir llawer iawn o dalent na fanteisir arno. Felly, rydym ni o'r farn fod mwy y gallem ni ei wneud o ran mynd at bobl yn gynt.
O ran y bobl hynny yr ydym ni'n pryderu efallai na fydden nhw'n dilyn, os mynnwch chi, y llwybr traddodiadol sy'n—[Anghlywadwy.]—gan lawer o bobl, dyna pam mae'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud ynglŷn â'r fframwaith ymgysylltiad a chynnydd ieuenctid yn bwysig iawn; y cynharaf y dowch chi i wybod am bobl sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, y rhwyddaf yw hi i'w cefnogi nhw. Mae hynny ar sail amlasiantaeth, yn aml, hefyd. Ac yna gwneud yn siŵr, pan fyddwn ni'n ystyried y warant ei hun, byddwn yn deall y profiadau y maen nhw'n eu cael. Felly, yn y sgwrs genedlaethol, mae honno'n rhan bwysig iawn o ddeall bod gennych chi waith traddodiadol ar sail arolwg, a phobl sy'n fwy tebygol o lenwi arolygon, ond grŵp ffocws penodol hefyd, nid yn unig i fanylu, ond sy'n cynnwys rhai o'r grwpiau hynny sy'n llai tebygol o lenwi'r arolygon traddodiadol hynny. Felly, er enghraifft, pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, rhieni ifanc, pobl â phroblemau iechyd meddwl a phobl â niwroamrywiaeth—gan ymdrin â'ch pwynt chi eto ynglŷn â phobl sydd â gwahanol alluoedd ac anableddau.
Felly, rydym ni wedi bod yn gwneud hynny'n fwriadol i ddeall pwy ydym ni'n eu cyrraedd a beth allwn ni ei wneud i wella'r cynnig. Dyna'r cynnig ei hun a'ch pwynt chi ynglŷn â chyfathrebu, oherwydd efallai heblaw am un unigolyn y gallem glywed ganddo yn nes ymlaen, ni all y rhan fwyaf ohonom ni yn y fan hon honni bod yn ifanc erbyn hyn, yn wrthrychol. Ac mewn gwirionedd, mae'r ffordd mae pobl yn ystyried ac yn gweld y byd yn hollol wahanol, ac felly rydym ni'n gallu gofyn iddyn nhw a gwrando arnyn nhw ynglŷn â'r hyn sy'n gwneud gwahaniaeth, o ble y cân nhw eu gwybodaeth, a'u bod nhw'n ymwybodol o'r hyn mae'r warant yn ei gynnig ac yna sut maen nhw am fanteisio arni. Felly, mae'r biwro cyflogaeth a menter ar gyfer pobl mewn addysg bellach nad ydyn nhw'n ymadael i hyfforddiant pellach neu ganlyniad addysg cyflogaeth yn sgil hynny, ac mae sefydlu'r biwroau hynny, sy'n rhoi cyfleoedd i ddod â chyflogwyr a phobl ifanc at ei gilydd mewn lleoliad sy'n gyfarwydd iddyn nhw, yn bwysig iawn ar gyfer gallu gwneud hynny.
Felly, dyma un o'r enghreifftiau o'r cyfathrebu yr wyf i'n awyddus i'w gael, yn ogystal â gallu deall o ble mae pobl yn cael eu newyddion, barn a gwybodaeth. Mae'n rhaid i mi ddweud, pan oedd yr ymgyrch o'r enw 'Bydd bositif' gennyf i, nid oeddwn i'n siŵr a oeddwn i'n siarad am rywun a oedd yn 50 oed ac yn ceisio esgus fy mod i'n 15 oed unwaith eto, ond, mewn gwirionedd, roedd y dystiolaeth uniongyrchol a'r adborth yn dod oddi wrth bobl ifanc eu hunain. Felly, fe gefais i sicrwydd yn hynny o beth—bod hwn yn rhywbeth a fyddai'n gallu bod yn addas i'r bobl yr ydym ni'n ceisio eu cyrraedd hefyd, sy'n rhan o'r pwynt. Mae'n gofyn i chi fod, bob hyn a hyn, ychydig yn anghyfforddus, ond dyna'r holl bwynt o wneud hyn.
Ac yna, ynglŷn â'ch pwynt chi ynghylch ymgysylltu â busnesau, mae hi'n anodd dweud yn union faint yw niferoedd y busnesau, oherwydd drwy'r holl warant, mae gennych chi fusnes yn ymgysylltu â gwahanol bwyntiau yn yr ysgol ac addysg bellach—er enghraifft, y biwro cyflogaeth—yn ogystal â'r rhai sy'n darparu cyfleoedd drwy Twf Swyddi Cymru+, er enghraifft. Rwyf i am geisio dod o hyd iddyn nhw, yn ein hadroddiad blynyddol ni, os oes yna ffordd well o geisio tynnu sylw at nifer y busnesau sy'n cael eu cynnwys; yn hytrach na dweud ei bod hi'n anodd, wrth ganfod ffordd o gyflwyno rhywbeth i chi sy'n ystyrlon, gan fy mod i'n bwriadu cyhoeddi adroddiad blynyddol yn y flwyddyn newydd. Ac o ran natur yr arlwy, rydym ni wedi gwrando ar yr hyn a ddywedodd pobl ifanc, ac rydym ni wedi newid ein rhaglen Twf Swyddi Cymru+. Mae honno wedi'u hanelu at bobl ifanc 16 i 18 oed erbyn hyn, ar sail y model hyfforddeiaeth blaenorol a'r hyn a ddigwyddodd yn flaenorol yn Twf Swyddi Cymru. Felly, rydym ni'n fwriadol yn gwneud newidiadau i'r cynnig ei hun.
O ran y grant rhwystrau, nid oes unrhyw wybodaeth gennyf i eto, ond byddaf i'n rhoi ystyriaeth i hyn wrth feddwl am nodweddion gwarchodedig, cefndir a daearyddiaeth pobl sy'n cyfranogi yn hyn, ond mae—. Wel, mae'r ffigyrau yr wyf i wedi dweud wrthych chi amdanyn nhw yn y misoedd cyntaf, felly ni fyddwn i'n disgwyl bod â barn, o reidrwydd, sy'n gwbl gynrychioliadol nawr, ond fe fyddaf i'n sicr yn ystyried sut y gallwn ni sicrhau bod yr wybodaeth honno ar gael.
Ac o ran dewisiadau cyllidol—rwy'n gweld bod y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn eistedd wrth fy ymyl—nid wyf i am fynd trwy'r dewisiadau i gyd gan y bydd hi'n eu rhoi nhw ger bron mewn mwy o fanylder, ond wrth flaenoriaethu'r warant i bobl ifanc a gwahanol rannau ohoni yn fy adran i, mae hynny wedi golygu ei bod hi'n rhaid i mi wneud dewisiadau anodd gyda rhannau eraill o'r gyllideb. Ac fe allai pob Gweinidog sefyll i siarad am y blaenoriaethau sydd ganddyn nhw a'r ffaith ein bod ni wedi gorfod talu am ein blaenoriaethau ni drwy wneud dewisiadau eraill mewn meysydd eraill. Nid yw hynny'n golygu nad yw'r pethau hynny o werth, dim ond os ydych chi'n dewis pethau sy'n fwy o flaenoriaethau i chi, mae'n rhaid i chi wneud dewisiadau eraill hefyd, oherwydd yn anffodus, nid oes £0.5 biliwn dros ben y mae'r Gweinidog cyllid yn ei gadw yn rhywle i'w daflu o gwmpas i'n cadw ni i gyd yn hapus. Felly, mae gennym ddewisiadau mawr, anodd iawn, ac fe fyddwch chi'n gweld rhai ohonyn nhw ym manylion yr hyn y bydd y Gweinidog cyllid yn ei ddweud wrth i ni gyrraedd y cam craffu mwy manwl yn y pwyllgor yn y flwyddyn newydd hefyd.
Ac o ran sgiliau gwyrdd, rwy'n bwriadu cyhoeddi cynllun gweithredu sero net a fydd yn ymdrin yn fras â'ch pwyntiau chi, a pha ran sydd i hynny yn y warant i bobl ifanc yn gynnar yn ystod 2023.
Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad.
Wrth gwrs, mae'r warant i bobl ifanc yn rhaglen bwysig i Gymru; rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud ein bod ni i gyd yn awyddus i weld hon yn llwyddo. Wedi'r cyfan, ni fyddwn ni'n cyrraedd ein nodau ynghylch sero net, er enghraifft, oni bai ein bod ni'n sicrhau bod y sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc ganddyn nhw yn economi'r dyfodol. Mae llawer, wrth gwrs, wedi newid ers iddi gael ei chyhoeddi gyntaf, serch hynny, mae yna gysondebau bob amser pan fo dirywiad economaidd. Un o'r rhain yw'r effaith hynny ar bobl ifanc.
Nawr, yn debyg iawn i Ymddiriedolaeth y Tywysog, canfu cynghrair End Child Poverty fod 97 y cant o bobl ifanc y buon nhw'n siarad â nhw, rhwng 16 a 25 oed, yn credu bod costau byw cynyddol yn broblem i bobl ifanc heddiw. Yn bryderus iawn, fe ddywedodd 77 y cant o'r ymatebwyr fod meddwl am y dyfodol a'r argyfwng costau byw yn poeni llawer arnyn nhw. Rwy'n siŵr y byddai nifer o Aelodau wedi cael tystiolaeth uniongyrchol gan fyfyrwyr UCM ar risiau'r Senedd heddiw, yn galw am well cefnogaeth i fyfyrwyr. Roedd un yn dweud wrthyf i nad oedd hi'n gallu fforddio defnyddio'r gawod; un arall yn dweud wrthyf i, ar ôl bod ar risiau'r Senedd, mai dim ond i dŷ oer y byddai hi'n dychwelyd. Mae yna ffigyrau pellach, wrth gwrs, 90 y cant o ddysgwyr yn dweud bod costau byw wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl; mae 42 y cant o ddysgwyr yn byw ar lai na £100 y mis ar ôl biliau; ond dim ond 7 y cant sy'n cytuno bod y Llywodraeth wedi gwneud digon.
Yn ogystal â hynny, mae ColegauCymru wedi lleisio pryderon am gynllun Twf Swyddi Cymru+, gan nad yw'r lwfans wedi cynyddu yn unol â chostau byw. Maen nhw'n poeni y gallai pobl ifanc fod yn dueddol o chwilio am waith mewn ardaloedd â sgiliau is yn lle hynny, lle byddai'r cynnig cyflog yn sylweddol fwy ac felly ni fyddan nhw'n cael y gefnogaeth na'r addysg y gallai eu cyfoedion fod yn manteisio arnyn nhw. Yn yr un cywair, fe welwn ni'r un mater yn codi gydag amharodrwydd Llywodraeth Cymru i gynyddu'r lwfans cynnal a chadw addysg i'r rhai sydd a'r angen mwyaf amdano yn yr argyfwng hwn. Mae hyn, wrth gwrs, yn cydblethu â'r warant i bobl ifanc. Felly, a fyddai'r Llywodraeth yn ystyried cynyddu lwfansau addysg, i sicrhau bod ein pobl ifanc ni'n gallu cael addysg a hyfforddiant, a'n bod ni'n sicrhau'r sgiliau a'r doniau gorau iddyn nhw, nid yn unig er eu mwyn eu hunain ond er mwyn y gymdeithas ehangach a'r economi?
Nawr, roedd y Sefydliad Symudedd Cymdeithasol yn mynegi tystiolaeth yn ddiweddar o ran bod bwlch cyflog o £6,700 rhwng dosbarthiadau cymdeithasol yn y DU. Mae hyn yn golygu bod gweithwyr proffesiynol dosbarth gweithiol i bob pwrpas yn gweithio am ddim bron ar un diwrnod ym mhob saith, o'i gymharu â'u cyfoedion dosbarth canol. Dim ond ehangu ymhellach a wna hynny pan fo'r gweithwyr proffesiynol dosbarth gweithiol hynny yn fenywod, neu o gefndir lleiafrif ethnig. Mae'n rhaid i bobl dosbarth gweithiol weithio yn sylweddol galetach i ennill yr hyn a roddir i eraill. Yn y cyfamser, dim ond rhagor o symudedd cymdeithasol cyfyngedig sydd wedi bod yn yr argyfwng costau byw a'r pandemig. Mae pobl ifanc o gefndiroedd dosbarth gweithiol yn llawer mwy tebygol o fod ag angen am y warant hon na'u cyfoedion dosbarth canol nhw ac, fel roedd ColegauCymru yn amlinellu, efallai eu bod nhw'n fwy tueddol o dderbyn cynigion cyflogaeth oherwydd y diffyg twf mewn lwfansau addysg. Felly, sut mae'r Gweinidog am sicrhau bod y gyflogaeth sy'n cael ei chynnig o fewn y cynllun yn cynnig cyflog teg, gan helpu i gau'r bwlch cyflog rhwng dosbarthiadau, a sicrhau nad yw'r rhai sydd dan anfantais eisoes yn cael eu denu i mewn i waith cyflog isel ac ansicr?
Ac yn olaf, roedd hi'n bwysig, wrth gwrs, fod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed o fewn yr asesiad effaith. Mae'r asesiad effaith yn nodi hefyd y bydd gwerthusiad annibynnol yn cael ei gynnal ar adegau allweddol yn natblygiad a chyflwyno'r warant, gan gynnwys adolygiad o gyllidebu ar sail rhyw, ac o gofio bod Oxfam Cymru a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru wedi canfod bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru wedi ehangu rhwng 2020 a 2022, a bod menywod yn parhau i wynebu anghyfartaledd ariannol ar sail rhyw o fewn gwaith yn economi Cymru, pryd gellir disgwyl yr adolygiad cyllidebu ar sail rhyw hwn o'r warant i bobl ifanc? A yw monitro'r warant wedi darparu unrhyw ddata dros dro hyd yn hyn o ran gwahaniaethau rhwng y rhywiau o fewn y cynllun neu a yw wedi datgelu unrhyw dueddiadau ynghylch gwahanu galwedigaethol ar sail rhyw? Fel dywedais i wrth agor fy nghyfraniad i, rydym ni i gyd yn awyddus i weld llwyddiant i'r cynllun hwn. Y peth pwysig yw ei fod yn cyrraedd y bobl sydd angen yr hwb ychwanegol yna ac nad yw pobl sy'n ei chael hi'n anodd o ganlyniad i'r argyfwng costau byw yn cael eu rhoi dan anfantais.
Diolch i chi. Ynglŷn â'ch pwynt chi o ran y niferoedd sy'n manteisio ar gyfleoedd rhwng y rhywiau, fe fyddaf i'n edrych ar hynny eto, ond rwy'n dymuno bod yn eglur am yr adolygiad cyllideb sydd gennym ni a chychwyn y warant mewn gwirionedd a'r ddealltwriaeth o ran ein cyfeiriad ni, oherwydd mewn rhai rhannau ohoni, fe fydd hynny'n eglur. Rydym ni'n casglu data eisoes, er enghraifft, am y rhai sy'n mynd i addysg bellach, maen nhw'n bethau rhwydd i'w casglu, yn ogystal â chasglu'r data ar, er enghraifft, y bobl hynny sy'n defnyddio cyfleoedd gwahanol—Twf Swyddi Cymru+, ReAct+ a rhaglenni cyflogadwyedd eraill—fe fydd data ar hynny gennym ni. Fe fydd gennym ni rywfaint o ddata hefyd a fydd yn rhoi dealltwriaeth am nifer o raglenni eraill.
Ond rwy'n awyddus i weld a ydym ni'n cyrraedd pobl, oherwydd dyna ran o ddiben cynnal sgwrs â phobl ifanc. Wyddoch chi, mae yna rieni ifanc sy'n famau a thadau, ond, mewn gwirionedd, rydym ni'n gwybod y ceir gwahaniaeth sylweddol yn aml o ran pethau fel costau gofal plant a beth mae hynny'n ei wneud i allu ymarferol pobl i gael cyfleoedd. Felly, fe fyddwn ni'n edrych nid yn unig ar bwy sy'n manteisio arnyn nhw, ond beth rydym ni'n ei wneud wedyn i geisio sicrhau bod cyfleoedd yn cael eu hehangu hefyd, i geisio sicrhau bod ymateb ystyrlon i'r pwynt yr wyf i'n deall y mae'r Aelod yn ei wneud.
Ynglŷn â'ch pwyntiau chi am yr argyfwng costau byw a phobl ifanc, rydym ni wedi clywed yn uniongyrchol iawn gan bobl ifanc, drwy'r sgwrs genedlaethol yr ydym wedi ei chael am y warant i bobl ifanc, ond drwy is-bwyllgor y Cabinet ar yr argyfwng costau byw hefyd. Fe glywsom ni ychydig wythnosau yn ôl gan bobl ifanc—ac fe wnes i'r pwynt hwn, rwy'n credu, yn y pwyllgor, pan oeddech chithau yno hefyd. Roedden nhw'n siarad yn uniongyrchol iawn am eu profiadau eu hunain, am effaith wirioneddol y newidiadau i reolau budd-daliadau, ac effaith wirioneddol yr argyfwng costau byw arnyn nhw eu hunain, a'r dewisiadau yr ydym ni'n clywed amdanyn nhw'n llawer rhy aml—y dewis rhwng gwresogi, bwyta, a'r hyn a wna hynny i'w llesiant corfforol nhw'n ogystal â'u hiechyd meddwl a'u llesiant hefyd yn fwy cyffredinol. Dyma sy'n cael ei gadarnhau ym mhob arolwg o bobl ifanc ledled Cymru a'r DU yn fwy eang: mae her sylweddol yn codi o ran iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc wedi'r pandemig, ac sy'n cael ei hatgyfnerthu gan heriau'r argyfwng costau byw. Yn sicr, dyna un o'r pethau yr ydym ni'n ceisio eu hystyried yn yr hyn a wnawn ni, oherwydd mae bod â chyflogaeth, addysg neu hyfforddiant yn nodwedd amddiffynnol i helpu i gefnogi iechyd meddwl da a llesiant i bobl ifanc. Mae hynny'n cyffwrdd wedyn â'ch pwynt chi hefyd ynglŷn â chyflog teg.
Ac, edrychwch chi, o ran Twf Swyddi Cymru+, nid ydym ni'n awgrymu mai'r arian yr ydym ni'n ei ddarparu yw'r unig arian a ddylai fod ar gael; cymhorthdal cyflog ydyw i helpu i'w gwneud hi'n fwy deniadol i bobl ifanc fod â chyfle ym myd gwaith, ac mae dros hanner y bobl sy'n cael mynediad i Twf Swyddi Cymru+ yn cael canlyniad cadarnhaol ar ddiwedd hynny, boed hynny'n waith neu hyfforddiant pellach, neu, yn wir, ystyried y cyfleoedd o ran hunan-gyflogaeth. Y newyddion da yw eu bod nhw, yn yr adolygiad cychwynnol gan Estyn, yn gadarnhaol ynglŷn ag effaith y rhaglen honno.
Ynglŷn â'ch pwynt chi am y rhaniad rhwng dosbarthiadau cymdeithasol o ran cyflogau proffesiynol, rhwng gweithwyr proffesiynol dosbarth gweithiol a rhai eraill, fe fyddai hi'n ddefnyddiol, rwy'n credu, i chi anfon nodyn ataf i, efallai, er mwyn i mi ymateb yn llawn iddo, oherwydd rwy'n awyddus i ddeall a yw'r pwynt yr ydych chi'n ei wneud yn ymwneud â pha mor hawdd yw dod o hyd i gyfleoedd, pan wyddom ni, i lawer o broffesiynau, pwy yr ydych yn ei adnbaod sy'n bwysig iawn—nid yn unig y graddau a gewch chi, ond pwy rydych chi'n ei adnabod er mwyn cael cyfle yn ymarferol, boed hwnnw'n brofiad gwaith neu'n gyfle ymarferol i ddechrau swydd hefyd—neu ai sôn yr ydych chi am ddechrau ennill cyflog yn dibynnu ar eich cefndir teuluol chi eich hunan, neu a ydych chi'n siarad am gynnydd trwy waith hefyd, oherwydd fe wn i, eto, o yrfa flaenorol yn ogystal â hon, fod y pethau hynny i gyd yn bwysig. Felly, fe fyddwn i'n dymuno deall pa bwynt yr ydych chi'n ei wneud cyn ymateb yn llawn i hwnnw.
Ac yn olaf, Jenny Rathbone.
Diolch yn fawr iawn, a llongyfarchiadau i'r 59 o bobl o Gymru a enillodd wobr WorldSkills—mae hynny'n wych. Rwyf am fynd i ddarllen amdanyn nhw, i weld am beth y gwnaethon nhw ennill.
Mae hi'n dda cael gwybod hefyd fod pobl ifanc yn fwy darbodus, difrifol ac yn ymwybodol o'r hinsawdd na'u rhagflaenwyr, ond maen nhw'n yn dod ar draws rhwystrau sylweddol hefyd, fel rydych chi'n dweud, o ran iechyd meddwl a hyder. O ran y gwaith yr ydych chi'n ei wneud i flaenoriaethu'r warant i bobl ifanc ar gyfer amddiffyn rhagolygon pobl ifanc sydd fwyaf mewn perygl, mae'r rhai sydd ag anableddau yn aml yn wynebu'r heriau mwyaf un o ran dod o hyd i gyflogaeth briodol. A wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni am waith Engage to Change i gydweddu anghenion mwy cymhleth pobl ifanc fel bydd urddas gwaith gan bob unigolyn ifanc? Oherwydd rwyf i o'r farn mai nhw yw'r rhai sydd fwyaf tebygol o fod yn ei chael hi'n anodd yng nghanol dirwasgiad.
Do. Rydym ni wedi gwneud gwaith uniongyrchol gydag Engage to Change; rwyf i fy hunan wedi cwrdd â nhw'n uniongyrchol hefyd ar gyfer deall beth arall y gallwn ni ei wneud. Rhan o'r pwynt yw, pan fyddwch chi'n edrych ar fynediad economaidd ar gyfer pobl anabl ym mhob ystod oedran, mae'n llawer mwy cyfyng nag i weddill y boblogaeth, felly dyma eto un o'r llinynnau yr oeddwn i'n ceisio ymateb iddyn nhw yn rhai o gwestiynau Paul Davies, ynghylch deall â phwy y mae angen i ni weithio a phwy y dylem ni wrando arnyn nhw i ddeall yr hyn y gallwn ni ei wneud yn fwy llwyddiannus a sicrhau bod cyflogwyr, darparwyr addysg a hyfforddiant—yn sicrhau bod eu darpariaeth nhw ar gael a'u bod yn chwilio yn rhagweithiol amdani, yn ogystal â pharu pobl â'r cyfleoedd sydd i'w cael. Fe welwch chi hynny'n rhedeg drwy'r gwahanol rannau o'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yn y warant. Fe fyddwn i'n annog yr Aelod ac unrhyw un arall, yn enwedig os oes ganddyn nhw etholwyr sy'n mynd drwy hyn, os oes ganddyn nhw brofiad da neu weddol o rai o'r rhaglenni hyn, i roi gwybod i mi, oherwydd mae'r adborth uniongyrchol yn aml yn ddefnyddiol o ran deall yr hyn sy'n gweithio, yn ogystal â'r sefydliadau yr ydym ni'n gweithio gyda nhw'n uniongyrchol i geisio sicrhau bod profiad bywyd yn llywio'r hyn yr ydym ni'n ei wneud gyda chyfathrebu a dylunio a chyflawni ein rhaglenni ni.
Ac ynghylch eich pwynt cyntaf chi, y byddaf i'n dod i ben gyda hwnnw, y 59 enillydd o Gymru yn rowndiau terfynol WorldSkills, sy'n cael eu cynnal ar y cyd ledled y DU; roedd y sesiynau yng Nghaerdydd yn rhan o hynny. Ac os yw'r Aelod yn ei chael hi'n anodd darganfod pwy yw'r enillwyr—rwy'n siŵr y bydd ganddi hi rai etholwyr sy'n enillwyr hefyd—yna fe fyddaf i'n hapus i'w helpu hi i ddod o hyd i'r wybodaeth i sicrhau eu bod nhw'n cael eu llongyfarch gan bob rhan o'r Siambr yn ogystal â'r Aelod ei hun.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 4 yw'r ddadl ar ddatganiad: cyllideb ddrafft 2023-24, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans.
Rwy'n falch o wneud datganiad ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24, a osodwyd y prynhawn yma. Mae hon yn gyllideb ddrafft sy'n wahanol i unrhyw un arall yr ydym ni wedi'i gosod ers dechrau datganoli. Mae wedi bod yn un o'r anoddaf a wnaethom ni erioed, gan adlewyrchu'r storm berffaith o bwysau economaidd a chyllidebol a wynebir yng Nghymru, ac nid ydym ni yn gyfrifol am unrhyw un ohonyn nhw.
Ychwanegwyd at broblemau degawd o gyni gan effeithiau parhaus a hirdymor Brexit, y pandemig a'n hadferiad ohono, canlyniadau economaidd a dyngarol y rhyfel yn Wcráin, a nawr argyfwng costau byw na welwyd ei debyg o'r blaen, sy'n effeithio ar bob agwedd ar fywyd bob dydd a busnes. Mae'r DU mewn dirwasgiad, mae chwyddiant ar ei uchaf ers 40 mlynedd, ac mae prisiau ynni'n codi'n aruthrol ar yr un pryd ag y mae safonau byw yn gostwng. Mae ein heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus yn fregus iawn a dydyn nhw ddim yn gallu gwrthsefyll mwy o ysgytwadau. Mae pobl a chymunedau ledled Cymru yn ymrafael bob dydd gyda'r her o ymdopi yn unig.
Nid yw ein setliad cyllid yn ddigon i ymdrin â'r holl bwysau eithriadol hyn, heb sôn am ein blaenoriaethau yn 2023-24. Hyd yn oed ar ôl y cyllid ychwanegol a gawsom yn natganiad yr hydref—£1.2 biliwn dros ddwy flynedd—mae ein setliad yn dal yn werth hyd at £3 biliwn yn llai mewn termau real, a hyd at £1 biliwn yn llai yn 2023-24. Ac yn union fel yr oedd y DU yn mynd i ddirwasgiad, fe wnaeth Llywodraeth y DU y penderfyniad anhygoel hwnnw i beidio â sicrhau bod mwy o gyllid cyfalaf ar gael i ysgogi ein heconomi. Mae'r DU yn mynd i mewn i ddirwasgiad mewn sefyllfa sy'n waeth na sefyllfa unrhyw un o economïau eraill y G7, a bydd ein cyllideb gyfalaf 8.1 y cant yn is mewn termau real, gan ddisgyn yn is na'r hyn sydd ei angen arnom i gyflawni ein cynlluniau uchelgeisiol.
Llywydd, ym mhroses y gyllideb hon, mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud penderfyniadau anodd iawn i sicrhau bod pob punt yr ydym wedi'i buddsoddi yn cael yr effaith gadarnhaol fwyaf. Mae cyllideb ddrafft 2023-24 yn adeiladu ar y cynlluniau gwariant dangosol a nodwyd gennym yn adolygiad gwariant tair blynedd Cymru y llynedd. Ym mhroses y gyllideb hon, mae pob Gweinidog wedi gweithio'n galed i ail gyfeirio cyllid o gynlluniau presennol i le y bydd yn cael yr effaith fwyaf. Ynghyd â chyllid refeniw ychwanegol a ddarperir drwy ddatganiad yr hydref, rydym wedi gwneud rhai dyraniadau ychwanegol, yn canolbwyntio ar dair prif flaenoriaeth: diogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen a'n huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol gymaint ag y gallwn ni; parhau i ddarparu cymorth i'r rhai yr effeithir arnyn nhw fwyaf gan yr argyfwng costau byw; a chefnogi ein heconomi drwy gyfnod o ddirwasgiad.
Gan gydnabod ein hymrwymiad i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen, mae hyn yn cynnwys £165 miliwn yn ychwanegol i GIG Cymru er mwyn helpu i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen. Mae £227 miliwn ychwanegol yn cael ei ddarparu i lywodraeth leol drwy'r setliad i helpu awdurdodau lleol ddiogelu'r ystod bwysig ac eang o wasanaethau y maen nhw'n eu darparu, gan gynnwys ariannu ysgolion yn uniongyrchol. O ganlyniad i'r penderfyniadau gwariant a wnaed mewn cysylltiad ag addysg yn Lloegr, cafodd Cymru gyllid canlyniadol o £117 miliwn y flwyddyn yn natganiad yr hydref. Trwy'r dewisiadau yr ydym ni wedi'u gwneud, mae hwn yn cael ei ddarparu'n llawn i lywodraeth leol. Byddwn ni hefyd yn darparu cyllid, drwy'r setliad llywodraeth leol a'r gyllideb iechyd, i barhau i ddarparu'r cyflog byw go iawn ym maes gofal cymdeithasol—buddsoddiad pwysig yn y bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a'r system iechyd a gofal ehangach. Bydd mwy o fanylion am y setliad llywodraeth leol dros dro ar gael yfory.
Mae Cymru yn falch o fod yn genedl noddfa sydd wedi croesawu miloedd o bobl sy'n ffoi rhag y gwrthdaro yn Wcráin. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi creu ac ariannu ein llwybr uwch-noddwr ein hunain, sydd wedi helpu bron i 3,000 o bobl i ddod i Gymru. Yn absenoldeb unrhyw gyllid cadarn gan Lywodraeth y DU am yr ail flwyddyn yn ei chynllun Cartrefi i'r Wcráin, byddwn yn parhau i ddarparu cyllid i gefnogi ein hymateb dyngarol, gan sicrhau bod pobl o Wcráin yng Nghymru yn cael croeso cynnes a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw yn ystod eu cyfnod yma. Mae'r gyllideb ddrafft yn cynnwys dyraniad o £40 miliwn yn 2023-24 a £20 miliwn ychwanegol yn 2024-25.
O'r holl heriau sy'n wynebu Cymru heddiw, yr argyfwng costau byw yw'r un sy'n brathu galetaf i'r rhan fwyaf o bobl. Mae'r gyllideb ddrafft yn rhoi £18.8 miliwn yn ychwanegol ar gyfer y gronfa cymorth dewisol, sy'n darparu achubiaeth i ddegau o filoedd o bobl sy'n wynebu caledi ariannol. Mae £10 miliwn yn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi mewn ymyriadau atal a lleddfu digartrefedd ledled Cymru.
Mae'r argyfwng y mae ein heconomi yn ei wynebu hefyd ar flaen ein meddyliau. Mae'r gyllideb ddrafft hon yn cynnwys £319 miliwn ar gyfer pecyn o gymorth trethi annomestig i fusnesau yn 2023-24, a £145 miliwn ychwanegol ar gyfer 2024-25. Rydym hefyd yn buddsoddi £18 miliwn ar gyfer rhaglenni cyflogadwyedd i gefnogi pobl mewn gwaith a helpu'r rhai hynny sydd heb waith gyda'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i fynd i mewn i fyd gwaith ac aros mewn gwaith.
Dyma gyllideb sy'n ceisio cydbwyso'r angen tymor byr i amddiffyn pobl yn wyneb yr argyfwng costau byw uniongyrchol gan hefyd sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i fod yn gynaliadwy yn y tymor hirach. Heddiw rydym yn sicrhau bod £40 miliwn yn ychwanegol ar gael i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus, gan helpu i greu system drafnidiaeth gynaliadwy a gwyrddach. Bydd grant cyfalaf o £20 miliwn yn helpu awdurdodau lleol i ddatgarboneiddio eu hadeiladau, gan adeiladu ar lwyddiant cynlluniau tebyg yn y sector cyhoeddus, fel y fferm solar yn Ysbyty Treforys yn Abertawe, sydd bellach yn cyflenwi chwarter anghenion pŵer yr ysbyty.
Yn ogystal â'n dyraniadau ariannol, mae manylion y cyfraddau arfaethedig ar gyfer trethi Cymru ar gyfer 2023-24 yn cael eu cyhoeddi yn rhan o'r gyllideb ddrafft hon. Ni fydd unrhyw newid i unrhyw un o'r cyfraddau presennol ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2023-24. Mae hyn yn golygu y bydd y tair cyfradd—y rhai sylfaenol, uwch ac ychwanegol—yn aros yn 10c yn y bunt. Bydd cyfraddau treth gwaredu tirlenwi'n cael eu cynyddu yn unol â rhagolwg chwyddiant y mynegai prisiau manwerthu, a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2023. Ni fydd newidiadau pellach i'r cyfraddau a bandiau ar gyfer prif gyfraddau treth trafodiadau tir preswyl yn dilyn y newidiadau hynny a gyflwynwyd ar 10 Hydref. Yn yr un modd, ni chynigir unrhyw newidiadau i gyfraddau treth uwch trafodiadau tir preswyl neu amhreswyl a gyflwynwyd ar 22 Rhagfyr 2020. Rwy'n cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar wahân heddiw yn nodi manylion ychwanegol am ein cynlluniau treth.
Rydym yn parhau i gyhoeddi cyfres helaeth o ddogfennau fel rhan o'n pecyn cyllideb ddrafft, gan alluogi lefel uchel o dryloywder ar gyfer aelodau'r Senedd, ein partneriaid gwasanaeth cyhoeddus, partneriaid cymdeithasol, y trydydd sector, ac yn wir bobl Cymru. Mae adroddiad ein prif economegydd a phiblinell prosiect strategaeth buddsoddi seilwaith Cymru yn rhan o'r pecyn hwn, a'r cyfan yn cael ei gyhoeddi heddiw ar wefan Llywodraeth Cymru a'i rannu â'r Senedd. Rwy'n arbennig o falch bod ein cynllun gwella cyllideb, a grëwyd gyda'r grŵp cynghori ar effaith a gwelliant y gyllideb yn cynnal ein hymrwymiad i ddarparu tryloywder ynghylch gwella prosesau cyllideb a threthi.
Rwy'n ddiolchgar iawn i fy nghydweithwyr yn y Cabinet am eu hymrwymiad a'u gwaith caled yn ystod y broses hon, ac rwyf am ddiolch hefyd i Siân Gwenllian, Aelod Dynodedig Arweiniol ar gyfer y Cytundeb Cydweithredu, am yr ymgysylltu parhaus a'r berthynas waith agos yn ystod y broses hon.
Llywydd, dyma gyllideb ddrafft a wneir mewn cyfnod caled ar gyfer cyfnod caled. Mae'n adlewyrchu cyfyngiadau ein setliad cyllid ond nid diffyg uchelgais. Mae'n cadw ein hymrwymiad i flaenoriaethu'r mwyaf agored i niwed, a gwasanaethau cyhoeddus, wrth barhau i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach i bawb.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad, yn ogystal â diolch i chi a'ch swyddogion am gyfarfod â mi yn gynharach i drafod cynigion y gyllideb? Roeddwn i'n credu ei fod o gymorth mawr, ac rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog a minnau barhau i gydweithio drwy broses y gyllideb, yn enwedig i ystyried rhai o'r pethau ychwanegol y byddwn ni ar yr ochr hon yn dymuno eu gweld yn cael eu cynnwys yn y gyllideb derfynol y flwyddyn nesaf.
Llywydd, nid wyf yn amau bod hwn yn gyfnod anodd i Lywodraeth Cymru wrth iddi geisio cynllunio ei chyllideb, ac mae hwn yn rhywbeth y cyfeiriwyd ato gan y Gweinidog yn ei datganiad. Rwy'n gwybod y bydd yr heriau hyn yn cael effeithiau cyllidebol yn y tymor canolig o leiaf, a bod hyn yn golygu bod penderfyniadau anodd o'n blaenau.
Ond yr hyn sydd angen i ni ei weld gan Lywodraeth Cymru yw cyllideb sy'n cyflawni, oherwydd ni ellir defnyddio'r anawsterau presennol fel esgus dros beidio â mynd i'r afael â'r materion strwythurol sy'n ein hwynebu ni yma yng Nghymru. Mae blaenoriaethau pobl, a fy mlaenoriaethau i, yn cynnwys dadflocio'r system gofal cymdeithasol, mynd i'r afael ag amseroedd aros o fewn GIG Cymru, buddsoddi mewn cynghorau a gwasanaethau cyhoeddus a rhoi hwb i'n heconomi, cefnogi ein hysgolion a phobl ifanc, ac, yn bwysig hefyd, helpu teuluoedd gyda'r argyfwng costau byw. Dydw i ddim am eiliad yn awgrymu bod unrhyw un o'r heriau hyn yn hawdd; maen nhw i gyd yn bethau y mae angen i ni fynd i'r afael â nhw dros y tymor hirach. Ond roedd llawer ohonyn nhw'n bodoli cyn y problemau economaidd presennol, a chyn y pandemig hefyd. Maen nhw newydd gael eu gwaethygu gan yr heriau yr ydym ni wedi'u hwynebu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Llywydd, hoffwn yn awr droi fy sylw at rai o'r blaenoriaethau hynny y soniais amdanyn nhw yn gynharach. Mae mawr angen y pecyn cymorth i fusnesau a gyhoeddwyd yn y gyllideb, ac fe ddaw ar adeg o bwysau sylweddol o ganlyniad i bethau fel chwyddiant a chostau ynni. Rwy'n croesawu'n benodol y cynnydd yn y cynllun rhyddhad i fusnesau cymwys yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch i 75 y cant. Mae hyn nawr yn cyfateb i'r gefnogaeth a gynigir i fusnesau o'r fath yn Lloegr, a gafodd ei gyhoeddi yn natganiad yr hydref yn ddiweddar. Ond er fy mod yn croesawu'r cyhoeddiadau hyn, rhaid iddyn nhw hefyd beidio â thynnu oddi ar y ddadl y mae angen ei chael, a dyna sut rydym yn cydbwyso'n effeithiol yr angen i drethu busnes i helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus tra ein bod yn darparu amgylchedd sy'n annog twf.
Gweinidog, ydych chi'n ffyddiog y bydd eich diwygiad arfaethedig o drethi annomestig, fel y cyhoeddwyd eisoes, yn annog creu a thyfu busnes mewn gwirionedd, neu a oes risg y bydd dim ond yn dablan ar yr ymylon? Ac oni ddylem fod yn edrych ar ddiwygiadau mwy sylfaenol tra bod rhewi ardrethi annomestig ar waith, megis lleihau'r lluosydd ar gyfer busnesau bach yn y tymor hwy, neu ddefnyddio dull graddedig ar gyfer ardrethi annomestig ar gyfer busnesau newydd, fel y gallwn annog arloesedd ac entrepreneuriaeth fel ffordd o ysgogi economi Cymru ymhellach?
Gan droi at lywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus, mae mawr angen y cynnydd mewn cyllid i gynghorau dros y ddwy flynedd nesaf, ond yr hyn sy'n bwysig yw nad ydym yn gweld arian ychwanegol yn mynd i gronfeydd wrth gefn y cyngor, ond eu bod yn cael eu defnyddio i gefnogi gwasanaethau a thrigolion, yn ogystal â datgloi'r cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio, sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd i helpu'r rhai sydd fwyaf mewn angen. Rydym yn gwybod bod cynghorau yn wynebu pwysau costau. Dyma'r amser iddyn nhw ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael iddyn nhw, oherwydd yr hyn sy'n amlwg yw nad oes gan drethdalwyr y capasiti i dalu mwy ar gyfer y dreth gyngor nag y maen nhw ar hyn o bryd. Eto i gyd, mae Cyngor Dinas Casnewydd er enghraifft yn awgrymu y gallan nhw gynyddu treth y cyngor 9.5 y cant y flwyddyn nesaf. Ac rwy'n siŵr bod eraill yn edrych ar ffigyrau tebyg, sy'n gwbl annheg o ystyried yr hinsawdd ariannol sydd ohoni.
Gweinidog, pa asesiad ydych chi wedi'i wneud o ddigonolrwydd yr arian wrth ymdrin â'r pwysau y mae cynghorau yn eu hwynebu? A pha drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol am bwysigrwydd cefnogi teuluoedd trwy gadw'r dreth gyngor mor isel â phosib? Hefyd, ni wnaeth eich datganiad gyfeirio at bwysau cyllidebol o ganlyniad i godiadau cyflog yn y sector cyhoeddus. Felly, a wnewch chi amlinellu a fydd disgwyl i gynghorau dalu am hyn drwy'r arian yr ydych chi wedi'i gyhoeddi heddiw, sy'n golygu y bydd llai o gymorth ar gael i wasanaethau cyhoeddus?
Gan droi at ofal cymdeithasol, credaf ein bod i gyd yn croesawu'r codiad i sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn parhau i gael y cyflog byw gwirioneddol uwch, ond nodaf na fydd gweithwyr yn cael hwn tan fis Mehefin 2023. Felly, yn sgil y pwysau costau byw presennol, yn ogystal â materion recriwtio a chadw o fewn y sector, tybed a ellid cyflwyno hyn er mwyn llenwi swyddi gwag yn gynt, yn ogystal â sicrhau bod staff ac aelodau gofal cymdeithasol yn cael y cymorth y maen nhw'n ei haeddu.
Fodd bynnag, er fy mod yn croesawu'r cyhoeddiad hwn, mae'n ymddangos fel pe bai'n cael ei ariannu drwy'r setliad llywodraeth leol a chyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol presennol. Felly, mae'r cyfan yn dal i fod yn dipyn o guddio a chelu. Er gwaethaf y prif ffigur o £70 miliwn, nid arian newydd mohono mewn gwirionedd, sy'n golygu y bydd llai ar gael ar gyfer gwasanaethau rheng flaen. Ac, felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod sut y bydd hyn yn cael ei ariannu mewn gwirionedd. A fydd portffolios llywodraeth leol ac iechyd yn rhannu'r baich yn gyfartal, neu a fydd un portffolio yn ariannu cyfran fwy?
O ran gofal iechyd, mae'r GIG yng Nghymru yn amlwg yn wynebu nifer o heriau ar hyn o bryd. Mae'n hanfodol ei bod yn cael y cymorth sydd ei angen arno. Felly, er bod y £165 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau rheng flaen yn gam cadarnhaol, mae lefel y manylion yn siomedig ynghylch sut y bydd hyn yn cael ei ddyrannu. Er enghraifft, pa newidiadau trawsnewidiol y byddech chi'n disgwyl eu gweld fel bod modd symud mwy o bobl o welyau ysbyty y mae mawr eu hangen i gyfleusterau gofal mwy priodol, a sut yr eir i'r afael â phrinder staff yn ein hysbytai i sicrhau bod ysbytai'n cyflawni lefelau staffio diogel, fel y gallwn wario'n well y miliynau o bunnoedd sy'n cael ei wario ar staff asiantaeth ar hyn o bryd? Ac felly, Gweinidog, rwy'n credu y byddem i gyd yn gwerthfawrogi mwy o wybodaeth yn eich ymateb chi am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG a'r sectorau gofal cymdeithasol.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dyrannu £3 miliwn i ymchwiliad COVID-19 y DU. Onid yw'r Gweinidog yn credu y byddai'r arian yma wedi cael ei wario'n well ar ymchwiliad penodol i Gymru yn lle hynny, er mwyn i ni ddysgu mwy am yr hyn a wnaethom ni'n dda yma yng Nghymru, a beth allen ni ei wneud yn well?
Yn olaf, Llywydd, hoffwn sôn am yr argyfwng costau byw. Rwy'n gwerthfawrogi bod mwy o arian wedi'i ddyrannu i'r gronfa cymorth dewisol, ond hoffwn ofyn a yw hyn yn golygu y bydd y meini prawf cymhwysedd yn cael eu hehangu, fel y gall mwy o bobl gael mynediad i'r cynllun, yn enwedig y rhai nad ydyn nhw'n derbyn budd-daliadau ond yn cael eu hunain mewn trafferthion. Ac yn y cyfnod anodd hwn, bydd nifer o bobl ledled Cymru yn meddwl tybed a allai'r £800,000 a ddyrannwyd i ddiwygio'r Senedd gael ei wario'n well ar ddarparu cymorth costau byw ychwanegol. Ac ynghylch y pwynt hwnnw, mae angen rhywfaint o eglurder, oherwydd mae'n ymddangos bod ymrwymiad yn nhabl y llinell wariant yn y gyllideb o £2.2 miliwn, sy'n wahanol i'r hyn a ddywedir yn y naratif hwn sef £800,000.
I grynhoi, rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y datganiad cyllideb heddiw, ac rwy'n ailddatgan yr hyn a ddywedais yn gynharach: mae'n rhaid i hon fod ac mae angen iddi fod yn gyllideb sy'n cyflawni. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos bod ganddi gynllun i wario'r arian mewn ffordd sy'n mynd i'r afael yn ariannol â'r problemau hirsefydlog yr ydym yn eu hwynebu yng Nghymru, yn ogystal ag ymateb i'r problemau yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Diolch.
Go brin fod swyddi anoddach ar hyn o bryd mewn gwleidyddiaeth na bod yn Weinidog cyllid, mewn unrhyw Lywodraeth yn y byd, felly rwy'n credu bod Rebecca Evans yn haeddu'n dealltwriaeth ni yn hynny o beth. Gan ei bod hi, fel pob Gweinidog cyllid, yn wynebu heriau cymhleth, anodd, cyfnewidiadau sydd wir wrth wraidd unrhyw broses o osod cyllideb, wedi ei gwneud yn anoddach wrth gwrs ar hyn o bryd oherwydd y cyd-destun byd-eang. Rydym yn wynebu'r drindod erchyll, onid ydym, y rhyfel yn Wcráin a'i effaith, yr argyfwng ynni, ac, wrth gwrs, problemau yn sgil y pandemig. A daw hynny, yn y DU ac yng nghyd-destun Cymru, wrth gwrs, ar gefn degawd a mwy a gollwyd oherwydd cyni. Ac o ganlyniad i hynny, mae ein cymdeithas, ein gwasanaethau cyhoeddus, pob rhan o'n cenedl, mewn gwirionedd, yn ymdrin â sefyllfa lle mae gennym y gwrthwyneb i gydnerthedd—mae gennym freuder, mae gennym fregusrwydd. Ceir y synnwyr bod pethau'n torri—systemau, gwasanaethau, ac ati—oherwydd y pwysau parhaus a chronnus ar bobl sy'n gweithio yn y gwasanaethau hynny ac ar y bobl sy'n dibynnu arnyn nhw.
Ac wrth gwrs, mae cyd-destun byd-eang yma hefyd, ond gall gwleidyddion wneud sefyllfaoedd anodd yn well drwy'r dewisiadau y maen nhw'n eu gwneud, neu gallan nhw wneud sefyllfaoedd anodd hyd yn oed yn waeth, ac, yn anffodus, rydym ni wedi cael yr olaf dro ar ôl tro gan y Llywodraeth Geidwadol—yr amlycaf ohonyn nhw i gyd yn ddiweddar oedd y gyllideb fach o uffern, wnaeth yrru sefyllfa a oedd eisoes yn enbyd o ran cyllid cyhoeddus bron trwy'r llawr, neu'n llythrennol drwy'r llawr ar un adeg. Dyna'r gwaddol sydd gennym ni a dyna'r hyn y mae'n rhaid i ni ymdrin ag ef, ac mae'r argyfwng yr ydym ni'n ei wynebu, mewn sawl ffordd, yn argyfwng a achoswyd gan San Steffan—mae'n argyfwng San Steffan. Rwy'n credu bod hynny'n hollol wir, a dylem ni eu dwyn i gyfrif am hynny.
Rydym ni i raddau helaeth, wrth gwrs, wedi ein llyffetheirio, onid ydym ni, yn y siaced gaeth ariannol a gwleidyddol hon yr ydym ni fel sefydliad datganoledig o fewn y wladwriaeth anghyfartal iawn hon. Mae'n eironig ei bod yn cael ei galw'n 'Deyrnas Unedig' oherwydd yn sicr nid yw'n unedig nac yn gyfartal mewn unrhyw ystyr wleidyddol nac economaidd. Ac rydym ni'n wynebu anallu—cyfyngiadau—o ran ein meysydd o hunanlywodraeth yn yr amgylchfyd ariannol hefyd: y gallu i fenthyg yn hyblyg. Does gennym ni ddim hyd yn oed yr un pwerau â'r Alban o ran y gallu i osod bandiau a throthwy o ran y pwerau treth incwm. Felly, mae yna lawer, llawer o resymau pam y dylem ni ddal San Steffan i gyfrif am y sefyllfa ofnadwy yr ydym ni ynddi, ond nid yw'r ffaith ein bod ni'n gyfyngedig o ran ein pŵer yn golygu ein bod ni'n gwbl ddi-rym, wrth gwrs. Mae gennym y sefydliad hwn nawr—y Senedd, fel ein senedd etholedig—ac mae gennym Lywodraeth ein hunain, ac mae'n rhaid i ni fod mor greadigol ac ystwyth ag y gallwn fod o fewn y cyfyngiadau yr wyf wedi cyfeirio atyn nhw.
O ran y sefyllfa sy'n ein hwynebu, wrth gwrs, mae llawer o'r pwysau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu hefyd yr un pwysau y mae llywodraeth leol eu hunain yn mynd i'w hwynebu, fel y cyfeiriwyd ato eisoes. A byddai'n ddefnyddiol, rwy'n credu, pe baem yn cael rhyw synnwyr oddi wrth y Llywodraeth o ran yr hyn yr ydych chi'n ei gredu nawr—. Yn amlwg fe welwn ni fanylion setliad llywodraeth leol maes o law. Beth yw cwantwm y bwlch ariannu y mae llywodraeth leol yn ei wynebu yn dilyn cyhoeddi'r gyllideb ddrafft? Rydym wedi gweld gwahanol awdurdodau lleol yn dyfynnu ffigyrau gwahanol, onid ydym ni, yn ystod y dyddiau diwethaf. Rhondda Cynon Taf—. Mae pennaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru—yr arweinydd—yn cyfeirio, rwy'n credu, dim ond y bore yma at fwlch yn y gyllideb o £47 miliwn, ac mae hynny'n cael ei ailadrodd gan awdurdodau ledled Cymru, ac rydych chi'n adio'r symiau ac rydych chi'n cael ffigur sylweddol iawn, iawn yn wir. Felly, byddai'n ddefnyddiol cael, yn sicr, gydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru y bydd y bwlch ariannu yn parhau. Ac mae'r awdurdodau lleol hynny'n mynd i wynebu her wrth wneud penderfyniadau ariannol anodd iawn eu hunain, onid ydyn nhw, rhwng torri gwasanaethau neu gynyddu treth y cyngor, o bosib gyda ffigyrau dwbl, fel y cyfeiriodd Peter Fox atyn nhw mewn rhai achosion, neu i wneud y ddau beth mewn sawl achos hefyd mae'n debyg.
I ba raddau mae'r Llywodraeth, yn y cyd-destun hwnnw, wedi edrych ar bethau y gall eu gwneud i helpu llywodraeth leol, er enghraifft, codi rhai o'r pwysau gwariant y gallen nhw fod yn eu hwynebu? Mae rhai awdurdodau lleol wedi sôn wrthyf er enghraifft, am yr arian y mae'n rhaid iddyn nhw ei basio ymlaen i'r cyd-bwyllgorau corfforaethol newydd. Yn amlwg, nid ydym yn gefnogwyr brwd o'r cyd-bwyllgorau corfforaethol ar yr ochr yma, ond nid dyna'r rheswm fy mod i'n ei godi yn y cyd-destun hwn. Gohirio rhai o'r ymrwymiadau ariannol angenrheidiol hyn er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd—. Thema gyson gan lywodraeth leol yw, pe bai ond modd rhoi mwy o hyblygrwydd iddyn nhw o ran rhai o'r grantiau a gynigir iddyn nhw. Hyd yn oed i'r graddau y gallech eu bwndelu i gyd gyda'i gilydd mewn grant cyffredinol a chaniatáu mwy o hyblygrwydd iddyn nhw dros amser i gyflawni'r un ymrwymiadau, o ran y nodau polisi cenedlaethol, ond caniatáu i lywodraeth leol ystwytho ychydig tra eu bod o dan y pwysau ariannol y maen nhw'n eu hwynebu.
Rydym ni wedi dadlau'r achos ein bod yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru ei hun ystyried defnyddio'r pwerau treth incwm sydd ganddi. Rydym yn sylweddoli nad yw hyn yn ddewis di-gost nac yn ddewis di-boen; mae ganddo ei anawsterau ei hun. Ond rydym ni mewn cyfnod o argyfwng, ac fe wnaethom ni ymgyrchu dros y pwerau treth incwm hynny am reswm, oni wnaethom ni, er mwyn i ni allu manteisio arnyn nhw ar adegau yn union fel hon. Ac mae'n fy nharo i, pan ydym ni'n siarad am y dreth gyngor, er enghraifft, mae'n sicr yn wir fod y pwerau treth incwm, hyd yn oed o ystyried y cyfyngiadau sydd arnom—nid ydym yn cael creu bandiau newydd a newid y trothwyon—hyd yn oed wedyn maen nhw'n llawer mwy blaengar na'r dreth gyngor, sef y dreth fwyaf atchweliadol. Mae'n amlwg ein bod ni'n cydweithio drwy'r cytundeb cydweithredu i ddiwygio'r dreth gyngor, er mwyn ei gwneud yn decach ac i roi system drethu lawer tecach yn ei lle yn gyffredinol, ond, gan ein bod ni yma, onid oes yna ddadl, yn hytrach na defnyddio'r dreth gyngor fel un o'r prif fecanweithiau er mwyn codi refeniw ychwanegol newydd yng Nghymru, mewn gwirionedd, dylem ni fod yn edrych ar ddefnydd blaengar o'r pŵer treth incwm?
Trethi busnes: yn amlwg mae pwysau aruthrol hefyd ar fentrau bach a chanolig ledled Cymru, ac mae'n hollol gywir rhoi cymorth ychwanegol yna. Rwy'n codi'r cwestiwn y mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi ei godi, sef: ai dyma'r unig ffordd neu'r ffordd orau y gellid darparu'r cymorth hwnnw? A ellid ei ddarparu mewn ffordd fwy hyblyg, wedi'i dargedu, yn hytrach na defnyddio cymhorthdal cyfradd busnes yn unig?
O ran eich cyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf, byddai'n ddefnyddiol iawn, gan fynd yn ôl at thema cwestiynau'r Prif Weinidog heddiw, pe gallech roi gwybod i ni beth yw eich rhagdybiaeth o ran cyflog yn y sector cyhoeddus. Mae Llywodraeth y DU wedi rhagdybio 3 y cant, rwy'n credu, ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Beth yw rhagdybiaeth Llywodraeth Cymru o ran cyflog yn y sector cyhoeddus? Oherwydd os yw mor isel â hynny, bydd hynny'n arwain at sefyllfa lle byddwn bron yn anochel yn wynebu anghydfod y flwyddyn nesaf eto oherwydd bydd yn is na'r lefel chwyddiant a ragwelir.
Rwy'n sylwi ar yr arian ychwanegol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, ac mae croeso mawr i hwnnw. Tybed a ydych chi'n gallu rhannu â ni ar hyn o bryd—ac ymddiheuriadau os ydw i wedi colli hyn yn barod—beth yw'r penderfyniad o ran codiadau mewn prisiau tocynnau trên y flwyddyn nesaf ac a yw rhan o'r arian ychwanegol hwnnw'n mynd i gael ei ddefnyddio er mwyn cyfyngu ar y cynnydd mewn prisiau tocynnau trên o dan lefel bresennol y CPI, sef yr hyn rwy'n credu y byddai'n codi fel arfer.
Yng nghyd-destun y cytundeb cydweithredu, rydym yn falch o weld bod yr ymrwymiadau wedi'u diogelu fel rhan o hynny. Edrychwn ymlaen nawr, rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol, fel y nodir yn y cytundeb cydweithredu, at ddod â dylanwad ehangach ar gyllideb Cymru, a byddwn ni'n ceisio parhau â'r sgwrs mewn cysylltiad â'r themâu niferus a godais yn fy araith y prynhawn yma.
Mae'n amlwg nad yw Llywodraeth y DU wedi rhoi cyllid digonol i Gymru i ymdrin â'r pwysau presennol. Rwy'n gwerthfawrogi bod Gweinidogion Cymru wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn yn ystod proses y gyllideb. Roedd yna gyllid cychwynnol i Gymru o £1.2 biliwn dros ddwy flynedd yn natganiad yr hydref. Daeth dros hanner hwn o benderfyniad a wnaed ynglŷn â pholisi ardrethi annomestig yn Lloegr, sydd wedi ei efelychu yng Nghymru. Hyd yn oed wedi'r cyllid ychwanegol yn natganiad yr hydref, mae ein setliad yn dal werth hyd at £1 biliwn yn llai y flwyddyn nesaf mewn termau real. Rwy'n cytuno â'r Gweinidog; y blaenoriaethau allweddol o reidrwydd yw amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen, gan barhau i ddarparu cymorth i'r rhai yr effeithir arnyn nhw fwyaf gan yr argyfwng costau byw, a chefnogi ein heconomi drwy gyfnod o ddirwasgiad.
Rwy'n croesawu'r ymrwymiad a wnaed yn flaenorol gan Peter Fox i gynhyrchu cyllideb Geidwadol. Dim ond i'ch atgoffa, Peter, bod angen dangos y gostyngiad mewn treth y mae eich plaid wedi awgrymu ar y llinell wariant. Fel arfer rwy'n gofyn i Blaid Cymru yn y cyfnod hwn i lunio cyllideb annibynnol ddangosol ar gyfer Cymru. Er nad ydym wedi cael honno, rydym wedi cael dau awgrym gan Blaid Cymru. Un yw rhoi'r gorau i ariannu pensiwn ymddeol y wladwriaeth, a'r llall yw peidio â thalu cyfran Cymru o'r ddyled genedlaethol. Pe byddai torri'n rhydd yn rhyddhau gwledydd o'u cyfran o ddyled genedlaethol, byddai gennym fyd o ficrowladwriaethau.
Wrth edrych ar y gyllideb, ar drethiant, hoffwn yn ideolegol weld cynnydd o 45 y cant i 50 y cant ar gyfer unigolion incwm uwch. Dylai'r rhai sydd â mwy o arian dalu mwy—mae 45 y cant yn isel iawn i bobl gyfoethog iawn. Ond byddai dim ond yn cymryd ychydig dros 11 y cant i fod yn drethdalwyr yn Lloegr yn hytrach na Chymru a'r cynnydd y codi dim arian o gwbl. Pe bai hynny'n codi i 15 y cant, byddem mewn gwirionedd yn cymryd llai o arian. Y broblem sydd gennym ni yw ein ffin â Lloegr. Mae gan lawer o bobl sy'n gyfoethog iawn dai ar bob ochr y ffin, ac weithiau maen nhw'n gwneud penderfyniad ynglŷn â lle fydd eu prif breswylfa. Pe byddem ni'n ychwanegu 5 y cant, does dim llawer ohonyn nhw'n mynd i ddewis Cymru ar gyfer eu prif breswylfa.
Rwy'n croesawu'r arian ychwanegol i lywodraeth leol. Er mor bwysig yw addysg a gwasanaethau cymdeithasol, mae llywodraeth leol yn llawer iawn mwy na hynny. Mae addysg yn sbardun economaidd allweddol. Po fwyaf addysgedig yw'r gweithlu, y mwyaf yw eu cyflog. Os edrychwch chi ar economïau llwyddiannus ledled y byd, nid ydyn nhw'n talu cymorthdaliadau; yr hyn maen nhw'n ei wneud yw darparu addysg o ansawdd da, sy'n golygu bod gweithlu hynod addysgedig a medrus. Fel arfer, trafodir gofal cymdeithasol yn nhermau oedi wrth drosglwyddo cleifion allan o'r ysbyty. Gall gofal cymdeithasol o ansawdd da hefyd atal pobl rhag gorfod mynd i'r ysbyty. Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol. Byddwn yn mynd ymhellach a dychwelyd at y drefn lle mae gofal cymdeithasol yn cael ei staffio gan staff sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan awdurdodau lleol.
Mae gennym ni, wrth gwrs, ddifidend Brexit. Does dim rhaid i ni wneud taliadau fferm sylfaenol mwyach. Does dim rhaid dilyn y cynllun taliadau sylfaenol, sef cynllun yr Undeb Ewropeaidd, bellach. Roedden nhw'n cael eu talu fesul hectar o dir cymwys a oedd yn cael ei ddefnyddio i ffermio. Does dim angen i Lywodraeth Cymru ei dalu mwyach, a bydd hynny'n rhyddhau arian i dalu am godiadau cyflog i'r rhai yn y gwasanaeth iechyd. Er y byddwn i'n ei ddiddymu, rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru ei gapio. Er y byddwn yn ei gapio ar lefel y credyd cynhwysol, oherwydd dyna mae'r llywodraeth yn San Steffan a'r Ceidwadwyr yn ei ddweud sy'n ddigon i bobl fyw arno, nid wyf yn disgwyl i'r Llywodraeth fynd mor bell â hynny, ond rwy'n gofyn am gap. I'r bobl hynny sydd â ffermydd mawr iawn, dylem ni beidio â stwffio'u pocedi ag aur mwyach.
Mae'r dadleuon hyn fel arfer yn troi o gwmpas cynyddu a lleihau gwariant ac nid ydyn nhw'n ymwneud â chanlyniadau. Mae gennym broblemau strwythurol yng Nghymru, ac mae angen mynd i'r afael â nhw. Mae yna gred ar draws y Siambr bod sefydliadau mwy yn darparu gwell gwasanaethau, er gwaethaf enghreifftiau gwasanaeth ambiwlans Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru a bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Yn hytrach na chynhyrchu sefydliadau mwy a mwy, mae angen i ni ailstrwythuro sefydliadau i'r maint cywir. Maes y gellid ei thorri i ddarparu'r arian yw Cymorth i Brynu; i bob pwrpas, y cyfan mae'n ei wneud yw helpu i chwyddo prisiau tai. Dydw i ddim yn credu bod parthau menter yn gost-effeithiol a dylid eu hailystyried. Nid yw defnyddio arian i ddod â ffatrïoedd cangen i Gymru wedi gweithio. Rydym ni wedi gweld nifer ohonyn nhw'n dod, ac rydym ni wedi gweld y rhan fwyaf ohonyn nhw'n mynd. Os ydym yn defnyddio arian ar gyfer datblygu economaidd, yna gwell defnydd fyddai cefnogi cwmnïau newydd.
Mae llywodraethau'n hoffi deddfu, a byddai'r gwrthbleidiau yn hoffi deddfu. Rwy'n gofyn i flaenoriaeth gael ei rhoi i feysydd megis lles anifeiliaid, gweithredu ar rasio milgwn—deddfwriaeth sy'n costio ychydig iawn o arian.
Yn olaf, ar wariant cyfalaf, gallai tir nad yw'n cael ei ddefnyddio gael ei werthu i gynhyrchu derbyniadau cyfalaf, fel y mae cynghorau ar draws Cymru yn ei wneud. Bydd pob person sydd wedi arwain cyngor yn yr ystafell hon yn gwybod bod ganddyn nhw dir nad oedd ei angen arnyn nhw, nad oedd yn cael ei ddefnyddio, ac roedden nhw wedyn yn ei werthu ac yn defnyddio'r arian hwnnw i wella lle roedden nhw'n byw. Yr hyn sydd gennym yw bancio tir gan Lywodraeth Cymru, a gan y gwasanaeth iechyd yn enwedig, mewn ardaloedd lle gallai gwerthu'r tir hwnnw yn sicr wneud llawer o les i economi Cymru. Yn olaf, rwy'n credu bod y Llywodraeth yn symud i'r cyfeiriad cywir, ond hoffwn weld mwy o bethau'n cael eu gwneud.
Wrth gwrs, dylai cyllideb Cymru fod ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru'n torri ei brethyn, am ei blaenoriaethau gwariant, ond wrth wrando ar y ffeirio geiriau rhwng y Prif Weinidog ac arweinydd yr wrthblaid y bore 'ma, mae'n rhaid i mi ofyn i mi fy hun pam yr ydym yn cael y ddadl hon. Yn rhy aml, rwy'n meddwl tybed pam y mae Llywodraeth Cymru'n gyson yn pwyntio ei bys at San Steffan yn hytrach nag ymdrin â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Dylai hyn fod ynghylch blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, a dyna ddylai byrdwn y ddadl hon fod. Doeddwn i ddim yn gallu dilyn rhesymeg y Prif Weinidog yn gynharach heddiw. Mae'n ymddangos ei fod eisiau i Lywodraeth y DU godi trethi er mwyn i Gymru gael mwy o gyllid, ond yna mae'n dadlau na fydd yn codi trethi yng Nghymru am eu bod yn rhy uchel. Ni allwn ei chael hi'r ddwy ffordd, ac mae'n ymddangos i mi mai'r hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei ddweud i bob pwrpas yw nad yw'n barod i wneud penderfyniadau o fewn ei gymhwysedd.
Roedd testun y ffeirio geiriau y bore 'ma rhwng Andrew R.T. Davies a'r Prif Weinidog yn ymwneud â chyflog nyrsys. Wel, cafodd £133 miliwn ei wario ar nyrsys asiantaeth yn y flwyddyn ariannol 2021-22. Pe bai Llywodraethau dilynol Cymru, sy'n cael eu harwain gan Lafur, wedi rheoli'r gweithlu'n well, gallai'r cyllid hwnnw, pe bai Llywodraeth Cymru'n dewis hynny, gael ei wario ar godi cyflog nyrsys. Roedd Andrew R.T. Davies yn gwneud y pwynt y bore 'ma am y dulliau gweithredu sydd gan Lywodraeth Cymru i godi cyflog nyrsys, y gallu sydd ganddi i wneud hynny, ond mi fyddwn i hefyd yn pwyntio at yr 20 mlynedd diwethaf hefyd. Mae 'na benderfyniadau sydd wedi eu gwneud yma, oherwydd y gweithlu gwael o fewn GIG Cymru, sy'n golygu nad oes gan gyllideb iechyd Cymru y capasiti i godi cyflog nyrsys, y gallai fod wedi bod yn bosibl pe bai wedi gwneud penderfyniadau'n well. Fedrwch chi ddim pwyntio bys at San Steffan pan ddaw at reoli gweithlu GIG Cymru.
Mae'r Gweinidog iechyd hefyd yn aml yn gwneud y pwynt ynghylch cyllid cyfalaf—diffyg cyllid cyfalaf ar gyfer ysbytai neu ganolfannau llawfeddygol rhanbarthol. Diffyg cyllid cyfalaf yw e, pan godais y cwestiynau hynny o'r blaen. Ond mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r ôl-groniad o fewn GIG Cymru gyda rhywfaint o frys. Mae'n rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru yn ei chyllideb eleni. Mae gennym ddegau o filoedd o bobl yn dioddef mewn poen ledled Cymru, yn aros am dros ddwy flynedd am driniaeth, ac mae'r ffigur hwnnw bron wedi cael ei ddileu yn Lloegr. O ran gwariant cyfalaf, byddwn yn gofyn i'r Gweinidog cyllid: a yw Gweinidogion Cabinet eraill yn gwneud achosion gwell na'r Gweinidog Iechyd am wariant cyfalaf o fewn eu portffolio? Heb os nac oni bai mae'n rhaid i iechyd fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, er mwyn lleihau'r ôl-groniad o ran amseroedd. Dywedwch wrthym beth sydd yn y gyllideb ar gyfer darparu canolfannau llawfeddygol rhanbarthol. Ac eto, dim pwyntio bys at Lywodraeth San Steffan yma: rydym ni'n gwybod, am bob £1 sy'n cael ei wario yn Lloegr ar iechyd, fod yna gyllid canlyniadol Barnett o £1.20. Mae gan Loegr 91 o ganolfannau llawfeddygol a mwy ar y ffordd, a does gennych chi ddim un.
Byddwn yn gofyn i Lywodraeth Cymru a'r Gweinidog cyllid nodi yn y gyllideb hon: beth ydych chi'n mynd i'w wneud i gefnogi lleihau'r amseroedd aros yng Nghymru, o ran y rhai sy'n aros mewn poen am fwy na dwy flynedd? Beth ydych chi'n ei wneud i leihau'r ôl-groniad a chefnogi GIG Cymru yn y gyllideb hon?
Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n colli fy llais, dwi'n meddwl. Allwn ni ddim gorbwysleisio arwyddocâd y datganiad yma. Mae cyhoeddi’r gyllideb yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn yn seneddol bob amser, wrth reswm, ond mae’r arwyddocâd yn fwy fyth eleni, wrth i Lywodraeth Cymru orfod cyllido yng nghyd-destun sefyllfa economaidd enbyd o anodd. Dwi’n cyd-fynd efo’r Gweinidog cyllid yn ei beirniadaeth hi o’r llanast economaidd sydd wedi bod yn gymaint o nodwedd o Lywodraeth Geidwadol y DU. Mae wedi ein gadael ni’n dlotach, onid ydy hi, mewn cymaint o ffyrdd, efo’r tlotaf yn cario’r mwyaf o’r baich, ac mae wedi gadael coffrau cyhoeddus yn llawer gwacach nag y dylen nhw fod.
Ond er y cyfrifoldeb amlwg hwnnw ar Whitehall, all Llywodraeth Cymru ddim cuddio y tu ôl i hynny yn llwyr, chwaith. Dyma’r sefyllfa yr ydym ni ynddi hi, y cardiau wedi cael eu delio i ni fel hyn, a gwaith Llywodraeth sydd heb ei Thrysorlys sofran ei hun, yn anffodus, ydy blaenoriaethu o fewn y ffiniau gwariant sydd ganddi hi. Pan fo’r ffiniau hynny wedi cael eu gosod mor afresymol o dynn, mae’r gwaith o gyllido yn mynd yn anoddach. Dwi’n cydnabod hynny, wrth gwrs, ond dyna ydy’r her.
Mi allwn i dreulio amser yn peintio senario arall lle byddai gan Gymru annibynnol ei gallu cyllidol a ffisgal ei hun, ond at ddiwrnod arall mae hynny. Beth ydyn ni’n gorfod dibynnu arno fo rŵan ydy arloesi, meddwl ffres, gwneud pethau'n wahanol. Pan ydyn ni’n wynebu streic gan nyrsys, streic gan weithwyr ambiwlans, ill dau wedi cyrraedd pen eu tennyn—nid rŵan, ond ar ôl blynyddoedd o ddiffyg cefnogaeth ariannol a fel arall—mae'n rhaid gwthio ffiniau beth sydd yn bosib. Mae'n rhaid edrych ar y bil yna o £133 miliwn am nyrsys asiantaeth, a meddwl sut mae tynnu hwnnw i lawr fel bod y gyllideb yma heddiw ond yn gorfod dod o hyd i ychydig ddegau o filiynau i wneud cynnig cyflog gwell i nyrsys er mwyn, ie, osgoi streic, rhywbeth yr ydym ni i gyd a bob nyrs eisiau ei osgoi, ond yn fwy na hynny, dangos y gwerthfawrogiad sydd ei angen ei ddangos i nyrsys ac sy’n buddsoddi ym morâl y gweithlu.
Mae’r diffyg morâl yna, y niferoedd sy’n gadael nyrsio yn llawer, llawer rhy gynnar, yn rhan fawr iawn o beth sy’n gwneud yr NHS yn anghynaliadwy, ac anghynaladwy fydd o hefyd os ydyn ni’n parhau i weld y lefelau o afiechyd ac anghydraddoldebau iechyd rydyn ni’n eu profi yng Nghymru flwyddyn ar ôl blwyddyn, degawd ar ôl degawd. Ydy, mae cyd-destun y gyllideb yma yn hynod, hynod o anodd, ond dydy hi ddim wastad wedi bod felly. Mae’r Gweinidog yn peintio darlun o hon yn benodol eleni fel cyllideb ddigynsail, cyllideb argyfwng, bron, lle gwarchod gwasanaethau rheng flaen ydy’r flaenoriaeth. Wrth gwrs bod yna elfen anochel i hynny, ond dro ar ôl tro, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu â newid cyfeiriad, wedi methu ag arloesi, yn benodol—rhywbeth sy'n golygu llawer iawn i mi—methu â buddsoddi mewn trawsnewid gwasanaethau, buddsoddiad go-iawn—go iawn rŵan—yn yr agenda ataliol, yn cadw ni'n iach, taclo anghydraddoldebau o ddifrif. A heb wneud hynny, yn ôl yn fan hyn fyddwn ni, yn ôl yn y sefyllfa yma dro ar ôl tro, a phan fo'r sefyllfa ariannol yn dynn, fel ag y mae hi rŵan, mae'r gost yna o fethu â thrawsnewid iechyd y wlad yn mynd yn fwy a mwy o fwrn, fel mae hi rŵan.
Wrth gwrs bod ysbytai'n llawn, wrth gwrs bod rhesi o ambiwlansys yn aros y tu allan i'r ysbytai hynny. Wrth gwrs bod gwasanaethau cymdeithasol yn gwegian. Efallai rhyw ddiwrnod y cawn ni gyllideb sydd yn trio torri'r cylch dieflig yna yn hytrach na gorfod delio efo'r aciwt. Nid hon ydy'r gyllideb honno, dwi’n ofni. Oes, mae yna lanast economaidd, ac ydy, mae'r llanast hwnnw gan y Ceidwadwyr yn sail i'r cyd-destun anodd a'r sefyllfa fyd-eang ehangach. Ond dyna pam bod arloesi gan Lywodraeth Cymru yn bwysicach nag erioed.
Rwy'n cytuno ag asesiad Adam Price o'ch swydd, Gweinidog. Yn sicr, dyma'r swydd olaf yn y byd y byddwn i eisiau ei gwneud, ac rwy'n diolch o galon am eich gwaith ac ymgysylltiad chi a'ch swyddogion hefyd, yn sicr â mi: diolch yn fawr.
Mae'n teimlo, yn y dadleuon hyn, fel ei bod bob amser yn demtasiwn i wneud rhestr hir o bethau yr ydym eu heisiau, ac rwyf hefyd yn credu ei bod yn bwysig edrych yn ôl ar yr hyn sydd wedi'i ariannu—yn fy marn i, polisïau blaengar iawn: incwm sylfaenol cyffredinol i bobl sy'n gadael gofal, ac ymrwymiad parhaus i incwm sylfaenol cyffredinol ar gyfer pontio; cwmni ynni dan berchnogaeth gyhoeddus; adolygiad o'n ffyrdd gyda phwyslais o bosib ar symud i gynyddu ein trafnidiaeth gyhoeddus; gwahardd plastig untro. Mae'r rhain yn bolisïau pwysig iawn, blaengar sydd angen eu hariannu, ac mae yna eraill, fe wn i. Ac rwyf am grybwyll hefyd fy mod yn gobeithio am waharddiad ar rasio milgwn, na fydd, gobeithio, yn costio llawer i ni.
Ond rwy'n credu ei bod hi mor bwysig ein bod ni hefyd yn defnyddio'r amser hwn i feddwl am sut allwn ni edrych ar y dyfodol yn y cyfnod yma o argyfwng, fel rydym ni wedi clywed. Mae'n gyfnod hollol eithriadol, ac mae angen i ni feddwl ynghylch sut y gallwn ganolbwyntio ar y mwyaf anghenus yn ein cymdeithas. Mae'n ddiddorol clywed gan Mike Hedges ei fod yn gwybod am ffermwyr â phocedi yn llawn aur. Byddwn i wrth fy modd yn cael fy nghyflwyno iddyn nhw, os gwelwch yn dda. [Chwerthin.] Ond o ddifrif, hoffwn wneud pwynt, mewn gwirionedd, mae'r rhan fwyaf o'r ffermwyr rwy'n eu hadnabod yn ei chael hi'n anodd—maen nhw'n ei chael hi'n anodd iawn—ac mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud yn siŵr ein bod ni'n parhau i'w cefnogi.
Mae'r gyllideb yr ydw i wedi'i gweld hyd yma, ac rwy'n gwybod bod mwy o fanylion i ddod, i mi—ac rwy'n anghytuno'n llwyr â Peter Fox yma—yn canolbwyntio ar gyflawni. Mae gennym ni gyllid ar gyfer gwasanaethau digartrefedd wedi cynyddu; mae gennym ni gyllid i groesawu ffoaduriaid Wcreinaidd, a ddylai gael ei ariannu gan Lywodraeth y DU; cymorth trethi busnes; cynnydd yn y gronfa cymorth dewisol ar gyfer ein tlotaf; a chyllid i'n hawdurdodau lleol—mae angen mwy arnyn nhw, maen nhw wir yn wynebu toriadau difrifol a dewisiadau anodd iawn—ac mae'r cynnydd yn y cyllid i'n gweithwyr gofal.
Ond ni fyddwch chi'n synnu o wybod fy mod i am orffen gyda'r her absoliwt yn ein gwasanaethau iechyd. Rydym ni wedi clywed llawer am y streic y bydd nyrsys yn ei chynnal. Rwy'n deall bod bydwragedd bellach wedi gwneud penderfyniad i streicio hefyd. Mae'n gyfnod anodd iawn, iawn, ac felly, byddwn i'n ymuno gyda Phlaid Cymru yma i'ch annog i edrych ar ein pwerau codi trethi. Er enghraifft, hoffwn weld rhywfaint o fodelu ynghylch sut y gallwn edrych ar y bandiau treth uchaf a beth allai hynny ei gyflawni ar gyfer eich cyllideb yng Nghymru. Mae'n hawdd iawn i ni ddweud, 'Gwariwch yr arian,' ond mae angen bod yn sicr bod hynny'n cael ei ariannu. Felly, wrth symud ymlaen, edrychaf ymlaen at barhau i gwrdd â chi, Gweinidog. Rwy'n gobeithio ein bod yn gallu parhau â'r trafodaethau iach iawn, ac rwy'n edrych ymlaen at y manylion y gwn y byddant yn dod yn fuan mewn cysylltiad â rhai o'r meysydd allweddol hynny. Diolch yn fawr iawn.
Cyfraniadau diddorol ar draws y Siambr. Rwy'n cytuno â Jane Dodds bod angen i ni hefyd edrych yn ôl ar rai o'r pethau a gyflawnwyd gennym, a hoffwn roi gwybod i Lee Waters fod comisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol llawn canmoliaeth i'r adolygiad ffyrdd radical yn y sesiwn a gawsom ddoe yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Mae angen i ni feddwl y tu allan i'r bocs os ydym ni'n mynd i gyflawni yn wyneb yr heriau sydd gennym ni gyda llai o arian.
Roeddwn i eisiau gwneud sylw ar yr hyn a ddywedodd Rebecca Evans—bod gennym ni £3 biliwn yn llai yn gyffredinol, ac mae hynny £1 biliwn yn llai ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod yn 2023-24. Ydy hynny'n golygu y bydd gennym ni £2 biliwn yn llai yn ein cyllideb ar gyfer 2024-25, o dan yr amgylchiadau presennol sy'n hysbys, oherwydd, yn amlwg, mae hynny'n ei gwneud hi'n fwy heriol fyth i edrych ymlaen at y flwyddyn ganlynol? Ac yn sicr, dyma'r ffordd y mae Cyngor Caerdydd yn ymdrin â'i heriau gan fod eleni yn anodd iawn, ond rwy'n siŵr y byddan nhw'n teimlo rhyddhad anferth o glywed am y miliynau ychwanegol sy'n mynd i gael eu rhoi yn y setliad llywodraeth leol. Ond yr hyn maen nhw'n ei ddweud yw bod y sefyllfa ariannol y flwyddyn nesaf, y flwyddyn ganlynol, 2024-25, yn wirioneddol frawychus. Felly, mae angen i ni gyd feddwl sut rydym ni'n mynd i fynd trwy'r ddwy flynedd nesaf a, gobeithio, gweld newid trywydd ar ôl hynny.
Rwy'n cytuno â rhywfaint o'r hyn y mae Mike Hedges yn ei ddweud, ac nid am y llu o ffermwyr â miliynau yn eu pocedi, nad yw'n wir o gwbl. Rwy'n gobeithio bod y cynllun ffermio cynaliadwy yn mynd i ymdrin â ffermwyr sy'n llygru'r dirwedd—ni allwn dderbyn hynny; ni allwn dalu pobl i lygru ein hafonydd. Ond rwy'n ffyddiog y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn sicrhau diogelwch ein bwyd, sy'n gwbl hanfodol.
Rwyf eisiau codi'r pwynt hwn am 'na i fancio tir' gan fyrddau iechyd—yn hollol gywir—neu gan unrhyw gyrff cyhoeddus eraill, ond mae'n rhaid i ni fod yn rhagofalus na fydd angen i ni brynu'r tir hwnnw yn ôl am bris llawer uwch oherwydd rhai anghenion yn y dyfodol. Felly, rwy'n credu mai'r hyn sydd angen i ni ei wneud yw, yn unol â 'Cymru'r Dyfodol', mae gwir angen i ni feddwl yn galed iawn, iawn am beth fydd ei angen arnom, yn sicr dros y pum mlynedd nesaf, o ran datblygu gwasanaethau yn y dyfodol, er mwyn sicrhau nad yw'r tir yr ydym yn ei reoli ar hyn o bryd yn cael ei roi i ffwrdd pan fyddwn efallai ei angen arnom, er enghraifft, ar gyfer tai fforddiadwy.
Rwy'n croesawu'r cynnydd o bron i £19 miliwn yn y gronfa cymorth dewisol, oherwydd mae honno'n gwbl hanfodol i'r rhai hynny pan fydd eu peiriant golchi yn torri i lawr. Os nad oes ganddyn nhw unrhyw adnoddau, os ydyn nhw'n ei chael hi'n anodd hyd yn oed prynu'r bwyd a thalu eu biliau, dydyn nhw byth yn mynd i gael yr arian i brynu peiriant golchi newydd, ac, hebddo, os oes gennych chi blant ifanc, mae'n drychineb llwyr. Ond fe allai fod yn rhywbeth mor sylfaenol â chael gwely i blentyn gysgu arno yn hytrach na chysgu ar y llawr, neu flanced drydan i gadw person oedrannus yn gynnes. Mae'r rhain yn bethau pwysig iawn, iawn. Canmolaf hefyd y £10 miliwn yn fwy i'r digartref. Roedd y Prif Weinidog eisoes wedi dweud wrthym am y cynnydd, y cynnydd bob mis yn y niferoedd sy'n cael eu taflu allan o'u cartrefi. Fe wnes i ymweld â fflatiau un ystafell hunangynhwysol Cyngor Caerdydd, sydd wedi'u datblygu yn Adamsdown i ddarparu dros 100 o unedau i bobl sydd wedi bod yn ddigartref yn y gorffennol. Ac, yn y tywydd hwn, mae'n hollol frawychus meddwl am unrhyw un yn cysgu tu allan. Ond, yn anffodus, mae hon yn broblem gynyddol, ac felly mae angen i ni adeiladu mwy o dai cyngor, a dweud y gwir, oherwydd fel arall, ni fyddwn ni byth yn mynd i'r afael â'r niferoedd sydd wir angen cartrefi newydd.
Rwy'n croesawu'r grant cyfalaf o £20 miliwn i helpu awdurdodau lleol i ddatgarboneiddio, oherwydd eu bod nhw i fod—ein nod yw eu bod i gyd yn datgarboneiddio eu hadeiladau erbyn 2030. Felly mae angen amlygu mwy o brosiectau fel y ffermydd solar yn Ysbyty Treforys fel bod eraill yn gweithio allan sut maen nhw'n mynd i fuddsoddi er mwyn arbed ar eu biliau ynni. Pa adnoddau, felly, fydd yn cael eu defnyddio i ledaenu'r gair hwnnw, a pha wobr y gallwn ni hefyd ei chynnig i berchnogion cartrefi? Mae 40% o dai yn eiddo pobl sy'n berchen arnyn nhw'n llwyr. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i roi i amrywio maint y dreth trafodiadau gwerth tir er mwyn gwobrwyo'r rhai sy'n datgarboneiddio eu cartrefi, a fydd o fudd i genedlaethau'r dyfodol pan fyddan nhw'n symud ymlaen?
Diolch am eich datganiad drafft ar y gyllideb, Gweinidog. Bydd fy mhwyslais i, o ystyried fy mhortffolio cysgodol, wrth gwrs, ar addysg, a gallaf dim ond gwneud sylw ar yr hyn sydd gennyf o fy mlaen i.
Fis diwethaf, gwelsom ddatganiad hydref Llywodraeth y DU yn rhoi pobl ifanc ar flaen eu hagenda, gyda chynnydd yn y cyllid ar gyfer addysg. Galwais am gynnydd tebyg yng Nghymru yr wythnos wedi i ddatganiad yr hydref gael ei gyhoeddi, felly, i ddechrau, roeddwn yn falch iawn o glywed y byddai cynnydd cyfatebol yng Nghymru, mae'n debyg. Fodd bynnag, ar ôl darllen ymhellach, nid oedd yn glir i mi, Gweinidog, a yw'r ffigur o £117 miliwn a gawsoch gan Lywodraeth y DU fel cyllid canlyniadol yn sgil y cynnydd yng nghyllideb addysg Lloegr, wedi'i gynnwys gyda chyllideb llywodraeth leol a'i fod yn rhan o'r ffigur o £227 miliwn yn eich datganiad, neu, a oedd y £117 miliwn yn ffigur ar wahân, sydd mewn gwirionedd yn ychwanegol at y £227 miliwn a gyhoeddwyd ar gyfer llywodraeth leol. Felly, byddai rhywfaint o eglurder ar hynny yn cael ei werthfawrogi'n fawr.
Os yw'r ffigwr o £117 miliwn yn y gyllideb i mewn gyda'r £227 miliwn i lywodraeth leol, ac nid yw'r £117 miliwn ychwanegol yn cael ei glustnodi'n benodol ar gyfer addysg, yna yn amlwg, mae hyn yn codi rhai pryderon. Ni fydd yr arian—y £117 miliwn—a fwriedir ar gyfer addysg o reidrwydd yn mynd i fyd addysg, o ystyried yr holl bwysau ychwanegol ar ein hawdurdodau lleol. Gan y gallai arian o bosibl gael ei wario mewn mannau eraill, wrth gwrs, a pheidio mynd i'r man lle mae ei angen yn ddirfawr mewn addysg rheng flaen, ac ar adeg pan fo cyllidebau ysgolion wedi'u hymestyn i'r eithaf gyda llawer o bwysau ychwanegol ar addysg yng Nghymru, Dim ond £20 miliwn yr ydych chi wedi'i gyhoeddi, mewn gwirionedd, sydd i fynd i addysg yn uniongyrchol yn eich datganiad cyllideb ddrafft. Hefyd, ydy'r £227 miliwn neu'r £117 miliwn a gyhoeddwyd heddiw yn cynnwys arian ar gyfer codiadau cyflog athrawon, neu a fydd hynny'n dod allan o bot arall o arian?
Yn olaf, Gweinidog, a fyddech chi'n gallu rhoi dadansoddiad o'r ffigyrau £227 miliwn a £117 miliwn hynny, a gyhoeddwyd heddiw, oherwydd rwy'n gobeithio y bydd hynny'n mynd rhywfaint o'r ffordd i leddfu'r pryderon sy'n amlwg yn cael eu codi gan y datganiad hwn heddiw? Ond mae'n hanfodol bwysig bod y cyllid mewn addysg yn cyrraedd lle mae ei angen fwyaf ar y rheng flaen, fel y gall helpu i leddfu'r pwysau difrifol hynny y mae ysgolion yn eu hwynebu ar hyn o bryd, ac, wrth gwrs, i ariannu'r cyfarwyddebau niferus a roddwyd arnyn nhw gan Lywodraeth Cymru.
Llwyddodd Llywodraeth y DU i ymateb i'r pwysau presennol gan gyhoeddi arian ychwanegol i addysg, sy'n mynd yn uniongyrchol i addysg. Yng Nghymru, rydych chi dim ond wedi llwyddo i gyhoeddi, fel y dywedais i, £20 miliwn i fynd i addysg yn uniongyrchol. Nid yw'n sicr y bydd y gweddill yn mynd i fyd addysg. Mae'n ymddangos, unwaith eto, bod y datganiad drafft ar gyfer y gyllideb yn golygu bod addysg yng Nghymru ar ei cholled.
Dwi am ddechrau fy nghyfraniad drwy sôn am dai. Ddydd Sadwrn oedd Diwrnod Hawliau Dynol y byd, ac mae’n rhaid inni sicrhau bod gan bawb yng Nghymru do uwch eu pennau. Mi oeddwn i’n falch, felly, o glywed y Gweinidog Newid Hinsawdd, mewn ymateb i gwestiwn gen i rai wythnosau yn ôl, yn dweud yn ddiamwys:
'Hoffwn pe bai’r hawl i gartref digonol yn fwy na syniad yn unig, ac yn hawl y gellir ei gorfodi i unigolyn'.
Dyma gydnabyddiaeth bod angen cynyddu’r stoc tai. Felly, mae’n rhaid inni weld buddsoddiad difrifol i mewn i dai cyhoeddus.
Yn ôl ymchwil a gomisiynwyd gan Tai Pawb, Shelter Cymru a'r Sefydliad Tai Siartredig Cymru byddai cyflwyno'r hawl i gartref digonol yn creu arbedion sylweddol i'r pwrs cyhoeddus. Yn wir, nododd y dadansoddiad annibynnol fuddion i'r pwrs cyhoeddus gwerth £11.5 biliwn, o'u cymharu â chostau cyffredinol o £5 biliwn dros gyfnod o 30 mlynedd. Rhagamcanir y gallai'r manteision hynny ddechrau gorbwyso costau ar ôl dim ond chwe blynedd. Byddai'n arbed £5.5 biliwn o ran gwella llesiant, £2 biliwn o gyllidebau cynghorau lleol, £1 biliwn i'r GIG, £1 biliwn i'r system cyfiawnder troseddol, a byddai'n cynhyrchu £1 biliwn mewn gweithgarwch economaidd ychwanegol.
Trwy fuddsoddi mewn cartrefi digonol i bawb, drwy wario ar dai cymdeithasol a fforddiadwy yng Nghymru, gallech wneud arbedion hanfodol ac arwyddocaol yn y tymor hir. Felly heddiw, hoffwn annog Llywodraeth Cymru i feddwl yn wahanol am benderfyniadau gwario. Mae cynnydd bach yn y grant tai cymdeithasol i'w groesawu, ond mae angen i ni weld llawer mwy yn mynd i'r pot hwn os ydym am gyflawni ein huchelgeisiau. Mae'n siomedig hefyd gweld cyllid i sicrhau tai o ansawdd yn gostwng tua 7.5 y cant o gymharu â'r gyllideb ddangosol wreiddiol ym mis Chwefror, ar ben y wasgfa a ddaeth yn sgil chwyddiant enfawr yn y sector tai. Sut allwch chi obeithio cyflawni eich uchelgeisiau ar draws y bwrdd os nad ydych chi'n ariannu'r mwyaf sylfaenol o hanfodion, tai? Yn y tymor byr, mae hefyd yn siomedig nad ydym wedi gweld unrhyw gynnydd yn y grant cymorth tai. Rydym ni wedi clywed bod y Llywodraeth hon yn gwneud llawer o sŵn, yn briodol, am fethiant Llywodraeth y DU i gynyddu'r lwfans tai lleol, ond mae'r cwynion hyn fel geiriau gwag iawn pan welwn fod y Llywodraeth hon yn rhoi setliad gwastad, toriad mewn termau real, ar gyfer y grant cymorth tai yma. Mae hyn yn rhywbeth y gallwn ei wneud yma yng Nghymru, a dylem ni fod yn ei wneud.
Nodaf fod y gyllideb ar gyfer diogelwch adeiladau wedi'i thorri o £9.5 miliwn i £6 miliwn, sef traean, ac rwy'n cwestiynu a yw hynny'n benderfyniad doeth, ac a yw'n werth y risg a'r niwed i enw da am yr hyn sydd, yn y cynllun mawr yn swm bach.
Dwi hefyd am wneud ple ar ran ein pysgotwyr morol a busnesau bwyd mor. Mewn cyflwyniad i'r grŵp trawsbleidiol newydd ar bysgodfeydd a dyframaeth, mi gawson ni ddarlun trychinebus o’r sector yma, efo faint o bysgod sy’n cael ei glanio yn disgyn, incwm yn disgyn a llai o swyddi. Mae yna botensial aruthrol i'r sector, ond mae’r sector ar fin mynd i ddifancoll heb gefnogaeth sylweddol o du ein Llywodraeth. Dwi’n pledio arnoch chi i wneud buddsoddiad er mwyn sicrhau parhad y diwydiannau yn y sector yma.
Yn olaf, os caf i sôn am amaeth, dwi’n nodi bod bron i £9 miliwn yn llai yn cael ei wario ar raglen economaidd a chynaliadwy gwledig. Mewn cyfnod o ansicrwydd, wrth i ffermwyr orfod addasu i’r Ddeddf amaeth newydd, yr hyn sydd ei hangen arnyn nhw ydy sicrwydd a chefnogaeth er mwyn medru addasu yn llwyddiannus. Felly, a gawn ni’r sicrwydd hwnnw fod yna fuddsoddiad am fod y sector er mwyn galluogi ffermwyr Cymru i addasu mewn da bryd? Diolch yn fawr iawn.
Huw Irranca-Davies.
Dim o gwbl, diolch.
Nid yw fel chi i wrthod cyfle fel hwn.
Dwi’n siarad y prynhawn yma, ond yn nes ymlaen.
Yn iawn. Ymddiheuriadau. Gareth Davies.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru, yn gyntaf, am wrando ar alwadau'r Ceidwadwyr Cymreig i gynyddu cyflogau ein gofalwyr cymdeithasol gweithgar ledled Cymru. Mae wedi bod yn amser hir yn dod, ond rydym wedi cyrraedd yno o'r diwedd, felly da iawn ti. Ac mae'n hen bryd iddyn nhw gael eu gwobrwyo am eu hymrwymiad a'u hymroddiad i gefnogi eraill. Ond mae'r diwydiant yn cael trafferthion gyda chyfres o broblemau nad yw cynnydd mewn cyflog yn gallu eu datrys, yn anffodus. Er bod cefnogaeth bellach i weithwyr gofal cymdeithasol yn gam cywir ymlaen, mae'n rhaid i'r Llywodraeth ganolbwyntio ar gadw gweithwyr gofal.
Cysylltodd perchennog cartref gofal â mi yn ddiweddar i fynegi ei rhwystredigaeth ynghylch sut mae staff sydd wedi rhoi gwasanaeth ymroddedig i breswylwyr dros gyfnod hir yn gadael i chwilio am gyflogaeth newydd oherwydd nad ydyn nhw bellach eisiau gweithio yn y sector gofal—ac amodau gwaith, oriau sy'n ofynnol iddyn nhw eu gweithio, ac mae cyflogau i gyd wedi bod yn ffactorau yn y rheswm pam y maen nhw'n gadael. Yn yr un modd, mae'r defnydd parhaus o staff asiantaeth, fel y crybwyllwyd yn gynharach yn y ddadl, wedi golygu nad yw'r diwydiant yn gallu gweithredu mor broffesiynol ag y dylai, ac, fel y gwelsom ni yn ddiweddar, mae wedi dangos diffygion sylweddol yn y gofal a ddarperir. Bydd mwy o gyflog yn dechrau lliniaru rhai o'r problemau, ond mae'n gyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i annog gofalwyr i beidio â gweithio i asiantaeth, ond i edrych ar ofal fel gyrfa gwerth chweil sy'n rhoi boddhad.
Rwy'n credu'n gryf nad oes digon yn cael ei wneud i argyhoeddi pobl ifanc bod gofal yn alwedigaeth am oes, ac nid swydd yn unig sy'n dilyn cymwysterau Safon Uwch neu BTEC yn yr ysgol. Felly, mae'r gyllideb hon yn dangos yr ymdriniwyd ag un broblem, ond mae gwraidd y broblem yn dechrau mewn ysgolion, ac rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw gofal yn cael ei weld fel swydd yn unig. Yn yr un modd, dylid gwthio'r ffaith ei bod yn yrfa sydd â sawl llwybr ar gyfer symud ymlaen gyda chyfleoedd hyfforddi pellach os yw staff yn dymuno dilyn y dewisiadau hynny. Rydych chi'n fy nghlywed i'n aml yn mynd ymlaen am y ffaith y bûm i'n gweithio yn y GIG am 11 mlynedd, ac mae hynny'n wir; cyn hynny roeddwn i'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, ac roedd pryder mawr ymhlith llawer o staff, yn enwedig y rhai oedd yn dyheu am gael dyrchafiad yn eu maes gwaith, a dilyniant gyrfa, ac roedden nhw'n teimlo eu bod nhw'n taro nenfwd gwydr oherwydd nad oedd y cyfleoedd hyfforddi ar gael yn fewnol. Felly, hoffwn i'r Gweinidog fynd i'r afael â hynny wrth ymateb i'r ddadl: pa agwedd o'r gyllideb hon o ran gofal cymdeithasol fydd yn ymgorffori rhai o'r anghenion hyfforddi hynny sydd eu hangen yn y sector, fel bod y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael y gofal a'r driniaeth orau y maen nhw'n ei haeddu gan bobl sy'n teimlo eu bod yn cael boddhad o'r gyrfaoedd hynny? Diolch yn fawr iawn.
Mae'r gyllideb ddrafft yn cael ei llunio mewn cyfnod sydd gyda'r mwyaf heriol mewn cof diweddar i Lywodraeth Cymru, ac rwy'n croesawu'r ffordd mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ddarparu cymorth drwy gydol yr argyfwng costau byw i'r rhai sydd fwyaf anghenus, er gwaethaf bod yn hualau San Steffan yn rhy aml. I fod yn gyson, rydw i'n mynd i wneud apêl am adsefydlu cyllid cydnerthedd priffyrdd i gynghorau allu cynnal ein rhwydwaith. Ni allwn ni barhau i ariannu llwybrau neu ffyrdd dynodedig newydd pan fydd angen i ni gynnal ein rhwydwaith presennol o ffyrdd, palmentydd a phontydd sy'n dirywio'n gyflym. Maen nhw hefyd yn cael eu defnyddio ar gyfer teithio llesol, ar gyfer cerdded, beicio, bysiau, yn ogystal â cherbydau modur.
Mae'n rhaid i ni fod yn onest am y realiti mae'r Senedd yn ei wynebu, y realiti mae ein hawdurdodau lleol yn ei wynebu, a'r realiti y mae ein trigolion yn ei wynebu. Mae 22 mlynedd o gyni wedi gwanhau gwead y wlad hon, gan wneud Cymru a'r DU yn dlotach, gan effeithio ar wasanaethau cyhoeddus, iechyd, trafnidiaeth, tai, lles, cyllidebau awdurdodau lleol, y celfyddydau a diwylliant. Arweiniwyd pob un fel ŵyn i'r lladdfa, pob un i'w aberthu ar allor cyni. Roedd hyn, dywedwyd wrthym ni gan San Steffan, yn bris gwerth ei dalu er mwyn adfer hygrededd economaidd. Roedd y Llywodraeth Dorïaidd yn telynegu am sut y byddai eu polisi gwastrodi i sylfeini ein cymdeithas yn llwyddo i ddod â'r ddyled i lawr, heblaw iddo fethu'n drychinebus, hyd yn oed wrth eu mesurau eu hunain. Mae dyled fel canran o gynnyrch mewnwladol crynswth bellach ar ei gyfradd uchaf ers dros 60 mlynedd.
Mae'n amhosib dianc o ganlyniadau'r 12 mlynedd diwethaf: y cwymp gwaethaf mewn safonau byw ers i gofnodion ddechrau; toriadau cyflog real i weithwyr, y GIG ar ymyl y dibyn, a gweithlu sector cyhoeddus digalon; marchnad dai allan o reolaeth yn llwyr; a mwy o fanciau bwyd na changhennau o McDonalds. Mae'n wirioneddol deilwng o gywilydd tragwyddol ac yn cael ei gynnal un yn unig gan dactegau rhannu a rheoli, a gynlluniwyd i roi gweithiwr yn erbyn gweithiwr, diwydiant yn erbyn diwydiant, a pherson yn erbyn person. Ond, yn wyneb hynny, mae'n rhaid i ni weld gobaith o undod cynyddol gweithwyr ac undebau ledled y wlad hon, wedi eu gorfodi i streicio i amddiffyn eu tâl a'u hamodau gwaith.
Fe wnaeth Llywodraeth y DU wastraffu ei blynyddoedd o gyfraddau llog isel yn gyfan gwbl ac yn llwyr. Yn hytrach na thorri, gallent a dylent fod wedi buddsoddi yn y sylfeini hynny—mewn rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus wedi'i wladoli, mewn tai cymdeithasol newydd, mewn gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi'u hariannu'n iawn, ac mewn bargen newydd werdd. Mae'n anllythrennog economaidd i wneud fel arall. Mae sawl math o wariant cyhoeddus yn dychwelyd llawer mwy o werth economaidd yn y pen draw nag y maen nhw'n ei gostio i ddechrau. A siarad yn drosiadol, fe gafodd Llywodraeth y DU gyfle i drwsio'r to tra bod yr haul yn tywynnu. Yn hytrach, yn syml, fe wnaethon nhw rwygo hyd yn oed mwy o deils.
Mae'n rhaid i ni fod yn onest yma yng Nghymru am fethu yn rhy aml â bod wedi gwneud y buddsoddiadau hynny ein hunain. A siarad yn gymharol, yn y bôn, nid oes gennym ni unrhyw allu sylweddol i fenthyg i fuddsoddi oherwydd cyfyngiadau benthyca a osodwyd yn San Steffan. O wrthod rhoi ceiniog o gyllid HS2 i Gymru a bygwth diystyru Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth undebau llafur, yn y Siambr hon cawn brofiad uniongyrchol o'r modd y caiff Cymru fargen wael gan Lywodraeth y DU yr ymddengys nad oes ganddi broblem o gwbl gyda thanseilio'r undeb.
Yn wahanol i Lywodraeth y DU, a wnaeth ddewis i beidio â benthyg i fuddsoddi, gwarafunir y dewis hwnnw i Lywodraeth Cymru hyd yn oed. Y ffaith yw, heb bwerau benthyg darbodus, bydd Cymru'n parhau i lusgo ar ei hôl hi, ac fe fyddwn ni'n parhau i fod yn fethedig yn ein gallu ein hunain i fuddsoddi yn nyfodol ein cenedl. Felly, waeth inni heb â gobeithio am newid Llywodraeth yn San Steffan yn unig; rhaid i ni gofleidio pob cyfle sydd gennym ni yma yng Nghymru i arwain, ond mae angen yr offer arnom ni i allu arwain yn iawn, a dyna pam mae benthyca darbodus mor bwysig.
Yn hynny o beth, rwy'n gobeithio, yn y dyfodol, y gallwn ni ddefnyddio'r broses o osod cyllidebau fel modd o adeiladu ymgyrch drawsbleidiol yn y Senedd ar gyfer pwerau benthyca darbodus Cymreig, ochr yn ochr ag achos wedi'i ddiweddaru gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y pwerau hynny. Ac rwyf am i Gymru wneud y mwyaf o'i gallu i saernïo ein dyfodol unigryw ein hunain, dan arweiniad Llywodraeth sydd â'r pŵer ariannol i wneud newid trawsnewidiol sy'n gwella safonau byw i bawb, a gadewch i ni adeiladu Cymru werddach a thecach sy'n addas ar gyfer heriau ein dyfodol. Diolch.
Diolch, Weinidog. Hoffwn adleisio llawer o'r sylwadau. Nid yw yn benderfyniad hawdd, ac, mewn sawl ffordd, mae'n gyllideb drist iawn. Rydych chi'n edrych arno ac yn meddwl am y penderfyniadau anodd y mae'n rhaid eu gwneud, ond hefyd o wybod, i lawer o bobl, nad yw'n mynd i wneud gwahaniaeth enfawr i'w bywydau.
Ysgrifennodd rhywun ata i yr wythnos hon: 'Does dim byd yn gwella; mae popeth yn gwaethygu o ddydd i ddydd. Nid yw hyd yn oed rhai o'r cyfraniadau a gefais yn gwneud unrhyw wahaniaeth. Beth fydd yn newid i mi a pha addewidion allwch chi eu gwneud?' Wel, mae'n anodd dros ben, oherwydd, hyd yn oed o edrych ar y gyllideb hon, nid yw'r cwestiynau a ofynnir yn mynd i gael eu datrys nac yn mynd i gael sylw. Mae rhai pethau, wrth gwrs, a fydd o fantais, ond, ar y cyfan, mae ein dwylo ni yn dal wedi'u clymu. Ac rwyf yn gobeithio, er ein bod ni'n pwysleisio'r problemau oherwydd blaenoriaethu Llywodraeth y DU—a'r blaenoriaethau anghywir, byddwn i'n dweud, o ran Llywodraeth y DU—rwy'n gobeithio y gwneir y sylwadau hynny nawr i Lywodraeth wrthblaid Lafur y DU, oherwydd, yn amlwg, nhw, os ydyn nhw'n llwyddiannus yn yr etholiad cyffredinol nesaf, fydd Llywodraeth y DU, a byddai angen i ni weld hynny'n cael sylw eto yma yng Nghymru, fel ein bod yn gallu ystyried yma a chael ein hariannu'n iawn am rai o'r pethau nad ydym ni ar hyn o bryd. Mae'r holl gelwyddau hynny—ac roedden nhw'n gelwyddau—yn ystod ymgyrch Brexit ynghylch faint o gyllid fyddai'n dod i Gymru—wel, ble mae'r arian hwnnw nawr, oherwydd yn sicr nid yw ein cymunedau'n elwa o'r addewidion hynny a wnaed?
Hoffwn adleisio dim ond rhai o'r sylwadau o ran tâl athrawon. Yn allweddol, rydym ni'n gwybod bod cyflog athrawon yn fater dadleuol a'u bod yn dal ddim yn hapus ac yn cynnal pleidlais ar hyn o bryd. Wel, mae arian yn y gyllideb o ran cadw, gyda'r rhaglen recriwtio, adfer a chodi safonau, sydd i'w groesawu wrth gwrs. Ond rydym ni'n gwybod ein bod ni'n colli athrawon yn y pum mlynedd gyntaf yn y proffesiwn. Rydym ni'n gwybod, ac wedi cael gwybod yn gyson, bod cyflog yn fater gwirioneddol, felly sut fydd y gyllideb hon yn mynd i'r afael â hynny?
Rydw i hefyd yn croesawu'r cyhoeddiad am drafnidiaeth gyhoeddus. Ydy hyn yn mynd i fod yn benodol i bobl ifanc? Rydym ni wedi gweld fod cost trafnidiaeth yn rhwystr i gyrraedd ysgolion neu weithgareddau allgyrsiol, felly a gaiff peth o hyn ei ddyrannu'n benodol i gefnogi ein pobl ifanc?
Rwy'n edrych ymlaen at graffu'n fanylach ar y gyllideb, ond o edrych ar y rhifau sydd wedi'u rhyddhau nawr, gwelaf, o ran diwylliant a chwaraeon yn benodol, bod yna rai toriadau i'r cyllidebau hynny. Dim ond pendroni oeddwn i—. O ran edrych yn benodol yn y fan yna, mae hynny'n gyfran eithaf bach o'r gyllideb ond yn gwneud gwahaniaeth enfawr o ran yr hyn mae'r sefydliadau hynny'n gallu ei wneud. Ac yn dilyn thema fy nghyd-Aelod Rhun ap Iorwerth o ran atal, mae gan lawer o'r cyfleusterau chwaraeon a diwylliannol ar agwedd les honno. Felly, mae mynd i'r afael â gordewdra, er enghraifft, yn hanfodol iawn o ran cymryd rhan. O ran iechyd meddwl, mae nifer o raglenni eraill—rydym ni wedi gweld y rhestr aros am CAMHS ac yn y blaen—ond mae budd rhai o'r gweithgareddau chwaraeon a diwylliannol yr un mor fawr.
Ac rwyf yn poeni o weld y toriadau hynny, yn enwedig pan fyddwn yn gwybod, wrth edrych ar gyllideb Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd, rydym ni wedi cael gwybod yn gyson, fel pwyllgor diwylliant, o'r cynnydd costau hwnnw o ran cynnal y gwasanaethau sydd yna ar hyn o bryd. Felly, fe hoffwn i weld sut mae'r penderfyniadau wedi'u mesur yn erbyn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r nodau llesiant, rheini i gyd, oherwydd mae hi'n dal i raddau helaeth iawn, yn fy meddwl i, yn gyllideb sydd mewn adrannau yn hytrach nag un sydd mewn gwirionedd yn dod â Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn fyw o ran meddwl, yn draws-Lywodraethol, beth fyddai effaith rhai toriadau wedyn ar ganlyniadau, er enghraifft, iechyd.
Y peth allweddol arall i bwysleisio yn amlwg yw croesawu'r cyflwyno prydau ysgol am ddim a pharhau â hynny fel rhan o'n cytundeb cydweithio. Soniais fod y gyllideb yn un trist mewn sawl ffordd, oherwydd rydym ni'n siarad am helpu pobl dim ond i allu diwallu eu hanghenion sylfaenol—i allu cael pryd cynnes o leiaf unwaith y dydd; gallu cael cartref cynnes. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid dyrannu cymaint o arian gyda'r gronfa cymorth dewisol—ie, mae croeso iddo, ond, unwaith eto, mae'n adlewyrchiad trasig iawn o'n cymdeithas. Mae'n dangos y bydd angen penderfyniadau anodd, ond, o ran yr arian sydd yno, rwyf yn gobeithio y byddwn ni'n gallu cydweithio, fel nad ymateb i'r angen brys yn unig y bydd, ond hefyd yn buddsoddi yn y dyfodol ac atal, oherwydd rwy'n credu bod Cymru fwy cyfartal a thecach yn bosib. Rwy'n credu bod gan y gyllideb hon ryw elfen o hynny, ond mae cymaint mwy y mae angen i ni fod yn ei wneud gyda'n gilydd ac nid dim ond beio San Steffan; mae yna benderfyniadau y gellir eu gwneud yma yng Nghymru sydd angen eu gwneud.
Oherwydd y byddaf yn siarad am eiddo, fe wna i ddatgan buddiant o ran perchnogaeth eiddo.
Rwy'n credu ei bod hi'n debyg o fod yn un o'r cyllidebau anoddaf i ni gyd yr ydym ni, fel Aelodau yma, wedi ei hwynebu. Dydw i ddim wedi clywed rhyw lawer am y ddwy flynedd a mwy ofnadwy yr aethom drwyddyn nhw o'r pandemig. Wrth i bawb ladd ar Lywodraeth y DU, ni allwn ni anghofio am yr oddeutu £8.5 biliwn a ddaeth i Gymru, rwy'n credu. Pan fydd pobl yn siarad am gyni, pan fyddwch chi'n meddwl ac yn ystyried nifer y busnesau a gafodd gefnogaeth gan Lywodraeth y DU gyda chynlluniau ffyrlo, ac yna pwy fyddai wedi meddwl, yn union fel roedden ni'n dod allan o'r cyfnod tywyll hwnnw—ac, mewn rhai ffyrdd, mae'r pandemig yn dal i effeithio ar aelodau o'n staff, ac, yn ei dro, yn effeithio ar ein heconomi—ond, pwy fyddai wedi meddwl wedyn y rhyfel yn Wcráin, rhyfel yr oedden ni'n meddwl y gwelsom ni ei diwedd ar ôl yr ail ryfel byd, na fydden ni'n gweld rhyfel yn Ewrop eto? Felly, rhowch hyn at ei gilydd gyda'r ffaith bod ein hargyfwng ynni a'r pwysau prisiau bwyd a phopeth, ac nid wyf yn gwybod sut y gallai unrhyw un erioed fod wedi amcangyfrif y byddai hon yn gyllideb hawdd, naill ai i Lywodraeth y DU nac yn wir i Lywodraeth Cymru, ond mae'n rhaid i ni roi hyn mewn persbectif, ac nid yw parhau i ladd ar Lywodraeth y DU yn mynd i'w ddatrys mewn gwirionedd, yn fy marn i.
Mae'n rhaid i ni gofio hefyd mai arian trethdalwyr yw hwn—trethdalwyr sy'n gweithio'n galed. Nid arian Llywodraeth Cymru yw hwn; mae'n perthyn i'r trethdalwyr, ac eto, yn y cyfnod hwn o argyfwng a'r argyfwng costau byw hwn a'r digartrefedd fel dim yr wyf erioed wedi'i adnabod o'r blaen yng Nghymru, gwelwn gwmni ynni gwladol Cymru, Ynni Cymru, ac rydym yn siarad am £814,000 ar sefydlu cwmni ac yna —[Torri ar draws.]
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Gwnaf, mae'n ddrwg gennyf, Jack.
Diolch, Janet. Dim ond cyfeirio'n ôl at eich datganiad am arian trethdalwyr, tybed a ydych chi'n cytuno â mi fod y sgandal cyfarpar diogelu personol yn San Steffan, lle roedden nhw'n gwastraffu arian trethdalwyr a'i roi i'w cyfeillion yn Nhŷ'r Arglwyddi, ydych chi'n cytuno â mi bod hynny'n warth gwirioneddol, ac y gellid bod wedi gwario hwnnw'n well yn y DU ac yng Nghymru?
Ar ddiwedd y dydd, Jack, roeddem ni'n wynebu argyfwng enfawr. Roedd rhaid i ni amddiffyn—[Torri ar draws.] Jack, roedd rhaid inni amddiffyn—. Mae'n deg dweud nad oedd ar Lywodraeth y DU ond eisiau amddiffyn y rhai mwyaf bregus wrth ymdrin â'r pandemig. Sut fyddech chi wedi ei wneud yn wahanol? [Torri ar draws.] Do, ond wnaethoch chi ddim—[Torri ar draws.] Wnaethoch chi ddim—[Torri ar draws.]
Caniatewch i Janet Finch-Saunders barhau. A allwn ni ganiatáu i Janet Finch-Saunders barhau?
Diolch, Llywydd. Rwy'n gwybod ei bod hi'n Nadolig bron, ac rwy'n gwybod ei bod hi'n dymor pantomeim, ond mae'r gyllideb hon mewn gwirionedd yn fater difrifol iawn.
Nawr, os oes arnom ni eisiau annog cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru, dylem fod yn grymuso busnesau lleol i gyflawni hynny. Gallai Llywodraeth Cymru wneud hyn trwy ailgyflwyno'r rhyddhad ardrethi busnes y gwnaethoch chi ei dileu o'n cynlluniau pŵer hydro sydd dan berchnogaeth breifat. Mae hynny'n golygu na fyddai'n rhaid i gynlluniau ynni dŵr preifat ystyried cau; byddai'n gwneud Cymru'n lleoliad llawer mwy apelgar i gynhyrchu pŵer adnewyddadwy.
Mae angen cynllun datblygu morol i Gymru, sydd eisoes wedi'i gymeradwyo gan y Senedd trwy fy nghynnig deddfwriaethol fy hun. Yn amlwg, mae angen gwneud mwy. Unwaith eto, o adroddiad y Pwyllgor Cyllid, nododd rhai rhanddeiliaid y diffyg cynnydd mewn adferiad morol, ac awydd i weld hyn yn cael ei weithredu a'i ehangu.
Mae angen i ni hefyd fod yn rhoi arweiniad ar greu cartrefi carbon isel. Bydd gan yr Alban gymdogaeth hydrogen erbyn 2023, a Lloegr pentref hydrogen erbyn 2025. Does gennym ni ddim ymrwymiad o'r fath yma. Eisoes, mae gan Gateshead, yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, gartrefi hydrogen. Rydym ni mor bell ar ei hôl hi, a dyma'r math o fentrau sydd eu hangen arnom ni. Mae angen i ni weld addewid clir i gefnogi hydrogen yn y gyllideb hon, neu bydd Cymru'n disgyn ymhellach fyth y tu ôl i Brydain.
Bellach, gan aros ar y mater o dai, mae graddfa digartrefedd yng Nghymru, a adlewyrchir yn y nifer enfawr o bobl mewn llety brys neu lety dros dro, yn rhoi pwysau dybryd ar ein holl wasanaethau ac ar ein staff sy'n gyfrifol am eu darparu. Nawr, roedd hon yn thema gyson o adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb ddrafft. Nodwyd y bu digartrefedd, yn ôl un rhanddeiliaid, yn her enfawr, a chanfuwyd bwlch ariannol o £1 miliwn. Maen nhw hefyd yn ymrafael gyda gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, ac yn ceisio cymryd rhan yn y cyfnod pontio arfaethedig i ailgartrefu'n gyflym. Rydym ni wedi dweud hyn gymaint o weithiau ar y meinciau hyn; mae'n arwain at gynnydd mawr mewn hysbysiadau troi allan a'r galw am lety dros dro, gan arwain at gyllidebau awdurdodau lleol ar gyfer digartrefedd, fel y rhai yn fy awdurdod lleol fy hun, yn cynyddu'n gyflym.
Os na fydd darparwyr cymorth tai yn gallu cynnal eu darpariaeth gwasanaeth, ni fydd yr effaith negyddol yn gyfyngedig i ddigartrefedd, ond hefyd yn effeithio ar wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol, a chyfiawnder troseddol. Mae Cartrefi Cymunedol Cymru wedi dweud bod angen mwy o adnoddau arnyn nhw i ailhyfforddi a recriwtio mwy o staff, ehangu'r ddarpariaeth, a chynnal y gwaith o ddarparu'r gwasanaethau hollbwysig yma. Mae ymchwil a gynhaliwyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd wedi dangos bod gwasanaethau digartrefedd a thai cymorth yn darparu manteision sylweddol i wasanaethau cyhoeddus eraill, gydag arbediad net o £1.40 ar gyfer pob £1 a fuddsoddwyd yn y grant cymorth tai. Ond mae pwysau ariannol ar wasanaethau tai brys yn waeth oherwydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) Llywodraeth Lafur Cymru. Mae'n gwneud gwaith pawb yn fwy trafferthus. Dylid atal y Ddeddf hon ar unwaith, a byddai hyn yn y pen draw yn lleihau'r pwysau ar gyllidebau tai, awdurdodau lleol ac iechyd.
Yn amlwg, mae angen i Lywodraeth Cymru asesu ei blaenoriaethau. Gydag angen bod yn gyfrifol yn gyllidol, byddai'n well i'r wladwriaeth wneud ambell beth yn dda na gwneud llawer o bethau'n ddrwg. Bydd y gyllideb hon yn brawf arall a ydych chi wir yn mynd i'r afael â'r argyfwng tai a hinsawdd yn effeithiol. Rwy'n teimlo y byddwch chi'n methu, ond gadewch i mi ddweud ar ran yr holl bobl hynny sy'n dod i'm swyddfa am gymorth—a gobeithio y byddwn ni'n ceisio eu helpu, ond allwn ni ddim peri i dai ymddangos—os gwelwch yn dda, Llywodraeth Cymru, pob un ohonoch chi fel Gweinidogion y Cabinet, mae gennych chi ddyletswydd i bobl Cymru i adeiladu'r tai a dod â'r tai gwag sydd ar gael yn ôl i ddefnydd. Rhowch y gorau i ganolbwyntio ar ail gartrefi a phethau felly. Mae gwir angen i chi ddechrau llunio cynllun, a beth sy'n fwy, yr hyn sydd ei angen yma yn y Llywodraeth hon yw cynllun strategol tai cymdeithasol ar rent, oherwydd nid wyf erioed yn fy myw wedi gweld y diffyg uchelgais wrth ddarparu'r cartrefi y mae mawr eu hangen ar gyfer y rhai sydd angen tai cymdeithasol. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad heddiw ar y gyllideb ddrafft. Rwy'n casglu fy mod i tua diwedd y ddadl hon heddiw mae'n siŵr, ac mae yna dipyn o gyfraniadau wedi bod, a gwrando ar nifer o'r cyfraniadau, byddech chi'n meddwl y bydden ni'n byw mewn cyfnod a lle sy'n go enbyd. Ond fe hoffwn i ein hatgoffa ni gyd ein bod ni, mae'n debyg, yn byw yn un o'r cyfnodau gorau yn yr hil ddynol i fod yn fyw, ac yn un o'r gwledydd gorau ar y ddaear. Ar hyn o bryd, rydym ni'n byw mewn cyfnod lle mae pobl yn byw bywydau hirach ac iachach nag erioed o'r blaen. Mae gennym ni ryddid democratiaeth a chyfraith yn y wlad hon sy'n caniatáu inni gael y math hwn o ddadl gadarn, i anghytuno, ond hefyd i gyd-dynnu. Rydym ni'n byw mewn gwlad o gyfleoedd gwych, o fenter, o fusnes, o bron iawn cyflogaeth lawn ar hyn o bryd ar draws y Deyrnas Unedig—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn sicr, byddwn i wrth fy modd yn clywed yr ymyriad.
Hoffwn ofyn i chi am ba wlad rydych chi'n siarad amdani mewn gwirionedd—[Torri ar draws.] Ond ydych chi'n cydnabod y bu disgwyliad oes yn gostwng am y tro cyntaf ers llawer, llawer cenhedlaeth?
Rydym ni'n byw mewn lle ac amser lle mae'n well bod yn fyw nag erioed o'r blaen, ac rydym ni wedi clywed cyfraniadau heddiw sy'n ymddangos mor negyddol am y wlad hon. Mae'n eithaf digalon. Mae gennym ni system les sydd yn un o'r rhai mwyaf cefnogol yn y byd, ac rydym ni'n cymryd camau breision tuag at fod yn wlad werdd a chynaliadwy ar draws y Deyrnas Unedig ac yma yng Nghymru. Ac wrth gwrs, mae rhannau o'r datganiad cyllideb yma heddiw yr wyf i'n anghytuno'n llwyr â nhw, a byddwn i eisiau gweld pethau'n hollol wahanol, ond rwy'n obeithiol am ddyfodol y Deyrnas Unedig a lle Cymru o fewn y Deyrnas Unedig hefyd. Dim ond eisiau gwneud y sylw hwnnw, Llywydd, oherwydd roeddwn i'n mynd yn eithaf digalon yn gwrando ar gyfraniadau o bob rhan o'r Siambr y prynhawn yma.
Ond, Llywydd, ni fyddwch yn synnu ac ni fydd y Gweinidog yn synnu y bydd craidd fy nghyfraniad heddiw mewn perthynas â llywodraeth leol a'n cynghorau gwych sydd ar flaen y gad o ran darparu'r gwasanaethau lleol hynod bwysig hyn y mae ein cymunedau yn dibynnu arnynt. Gweinidog, rwy'n sylweddoli ei bod yn gyllideb a wnaed yn ystod cyfnod heriol, fel y mynegwyd, ac rydych chi wedi gwneud cyhoeddiad croesawus o £227 miliwn ychwanegol i'w ddarparu i lywodraeth leol drwy'r setliad. Rydych chi hefyd wedi dweud heddiw y caiff y cyllid ei ddarparu i roi'r cyflog byw gwirioneddol ym maes gofal cymdeithasol. Roeddwn i eisiau bod yn glir ai £227 miliwn yw'r arian rydych chi'n sôn amdano i ddarparu'r cyflog byw gwirioneddol hwnnw neu a oes arian ychwanegol i alluogi awdurdodau lleol i wneud hynny.
Mae yna ambell beth arall yr hoffwn i eglurder yn eu cylch, os nad oes ots gennych chi, hefyd. Yn amlwg, caiff cyfran fawr o'r cynnydd hwn o ran y setliad llywodraeth leol ei ddefnyddio ar gyfer y cynnydd mewn costau staffio hynny. Felly, tybed yn eich meddwl chi, pa gyfran o'r £227 miliwn hwnnw rydych chi'n disgwyl i alluogi awdurdodau lleol i oroesi a gweithredu yn ôl yr arfer a pha gyfran o'r arian hwnnw rydych chi'n meddwl y bydd cynghorau'n gallu ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau ychwanegol yn ein cymunedau.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Byddwn i'n croesawu ymyrraeth. Dim problem o gwbl.
Diolch yn fawr iawn. Fe wnaethoch chi sôn am £227 miliwn ar gyfer llywodraeth leol, ond wrth gwrs dyna i chi'r cynllun benthyciadau £31 biliwn gan y Llywodraeth a gafodd ei drosglwyddo'n ôl. Aethon nhw ddim ar drywydd hynny, fe daflon nhw ein harian i ffwrdd. Maen nhw'n hollol ddiofal gydag arian cyhoeddus. Ac mae hynny ar ben y sgandal cyfarpar diogelu personol gwerth £200 miliwn. Felly, mae hynny'n gwneud cyfanswm o £31.2 biliwn ar y ddwy eitem hynny yn unig, lle rydych chi mewn gwirionedd wedi methu fel Llywodraeth Dorïaidd i fod yn geidwaid y pwrs cyhoeddus.