Y Cyfarfod Llawn

Plenary

18/10/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn hwn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders.

Diogelwch Adeiladau

1. A wnaiff y Prif Weinidog gyflymu'r broses o gyflwyno deddfwriaeth ar ddiogelwch adeiladau yng Nghymru? OQ58574

Llywydd, mae'r gwaith o ddiwygio deddfwriaeth diogelwch adeiladau eisoes wedi cychwyn ar ei daith drwy gymalau Cymru yn Neddf Diogelwch Adeiladau 2022. Ar hyn o bryd, mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar newidiadau deddfwriaethol ychwanegol, ac mae deddfwriaeth sylfaenol yn y maes hwn wedi'i chynllunio ar gyfer tymor y Senedd hon.

Diolch. Cwrddais â'r Welsh Cladiators yn ddiweddar, ac maen nhw'n teimlo'n anobeithiol iawn ynghylch yr hyn y maen nhw'n ei ystyried yn ddiffyg cynnydd yma yng Nghymru. Wrth gwrs, Prif Weinidog, fe fyddwch chi'n gwybod bod tua 163 o adeiladau ledled Cymru lle mae trigolion yn dal i fyw mewn ofn. Nawr, rwy'n gwerthfawrogi bod £375 miliwn wedi'i ddarparu i fynd i'r afael â rhai agweddau ar ddiogelwch adeiladau, ond mae rhai cwmnïau rheoli lesddaliadau yn atebol i dalu am y gwaith hwn ar hyn o bryd. Nawr, mae'n debyg, bod hyn yn gwbl groes i bolisi Llywodraeth Cymru. Ym mis Ebrill, cafodd Deddf Diogelwch Adeiladau Llywodraeth y DU Gydsyniad Brenhinol, ac, er enghraifft, mae adran 122 ac Atodlen 8 yn cynnwys amddiffyniadau i denantiaid mewn cysylltiad â chostau sy'n gysylltiedig â diffygion perthnasol ac yn gosod rhwymedigaethau ar landlordiaid. Nid yw amddiffyniadau lesddeiliaid o'r fath ar gael yng Nghymru am nad ydym wedi pasio Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru). Felly, a wnewch chi ganiatáu'r un amddiffyniadau i lesddeiliaid—yn amlwg, pan fydd unrhyw ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno—ag sydd ganddynt yn Lloegr, drwy efelychu adrannau 116 i 125 o'r Ddeddf Diogelwch Adeiladau? Diolch.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Bydd hi'n gwybod bod Deddf Diogelwch Adeiladau 2020 eisoes yn cynnwys sawl darpariaeth i ychwanegu at amddiffyniadau lesddeiliaid yma yng Nghymru. Felly, roeddem yn gallu sicrhau'r amddiffyniadau ychwanegol hynny drwy Ddeddf 2022. Cyflwynodd Llywodraeth y DU gyfres gyfan o welliannau hwyr iawn i'r Ddeddf—i'r Bil, fel yr oedd bryd hynny—nad oeddem yn gallu manteisio arnyn nhw, er gwaethaf ymdrechion sylweddol iawn gan y Gweinidog dan sylw i gael pwerau Cymreig yn y meysydd ychwanegol hynny. Golyga hyn y byddwn, pan gyflwynir ein deddfwriaeth ni ein hunain, yn ceisio sicrhau bod gennym ni'r system honno sydd ei hangen arnom ar waith ar gyfer diogelwch adeiladau yma yng Nghymru.

Mae'n bwysig, Llywydd, i wahanu dau fater. Mae yna bethau yr ydym yn eu gwneud yma a nawr i bobl a effeithiwyd eisoes yn yr adeiladau uchel hynny. Roedd Janet Finch-Saunders yn hollol gywir, Llywydd, i gyfeirio at y £275 miliwn a neilltuwyd i helpu pobl o dan yr amgylchiadau hynny. Bydd yr Aelodau yma yn gwybod ein bod ni wedi gofyn am ddatganiadau o ddiddordeb gan bobl a oedd eisiau i'r arolygon gael eu cynnal fel y gallem ni nodi'r ffordd orau y gellid darparu'r cymorth hwnnw. Roedd 261 o ddatganiadau o ddiddordeb, ac mae 163 o'r rheiny yn gofyn am arolygon mwy dwys er mwyn nodi lle mae'r namau. Rwy'n falch o allu dweud ein bod yn disgwyl i bob arolwg brys nawr gael ei gwblhau o fewn y pythefnos nesaf, ar yr amod bod gennym ni fynediad i'r adeiladau hynny. Ac un o'r rhesymau pam y bu oedi cyn cael rhai o'r arolygon ychwanegol, mwy ymwthiol hynny wedi'u cwblhau, yw oherwydd ein bod wedi profi anawsterau o ran caniatáu i syrfewyr gael mynediad i'r adeiladau er mwyn i'r gwaith hwnnw gael ei wneud. Rydym yn disgwyl, ym mhob achos brys y gellir datrys hynny o fewn y pythefnos nesaf, ac yna byddwn yn symud ymlaen i gwblhau'r arolygon yn yr adeiladau hynny lle mae'r materion yn cael eu hystyried yn llai difrifol ar hyn o bryd. Ac yna, yn y ddeddfwriaeth y byddwn ni'n ei chyflwyno o flaen y Senedd, byddwn ni'n creu trefn ar gyfer y dyfodol gyda llinellau clir o atebolrwydd, rheoleiddio cryfach a mwy cydlynol, a threfn gorfodi a sancsiynau sy'n gwneud yn siŵr, yn y dyfodol, bod y rhai sy'n gyfrifol am y broblem hefyd yn ysgwyddo costau unioni pethau.

Brif Weinidog, mae'r gallu gan y Senedd hon i basio deddfwriaeth frys a deddfwriaeth trwy weithdrefnau carlam. Enghraifft o'r ddeddfwriaeth frys oedd Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, a gweithdrefnau carlam i'r Bil plastig untro. Y ddadl a ddefnyddiwyd dros ddefnyddio proses y legislative consent motion ar gyfer diogelwch adeiladau oedd ei bod hi'n gynt na deddfu yma yn y Senedd. Ond, serch hynny, dros bum mlynedd a hanner ers Grenfell, mae nifer o bobl, sy'n byw nid nepell o'r lle hwn, yn dal i fyw mewn ofn yn eu cartrefi. Pam, felly, dyw'r Llywodraeth yma ddim yn defnyddio'r prosesau sydd gan y Senedd hon er mwyn dod â'r hunllef yma i ben i filoedd ar filoedd o bobl? 

13:35

Llywydd, mae'n bwysig, fel esboniais i, i gadw'r ddau beth ar wahân. Pan fyddwn ni'n siarad am ddeddfu, dydyn ni ddim yn siarad am beth rŷn ni'n ei wneud i bobl sydd yn y sefyllfa bresennol; rydym yn ymateb i hwnna drwy'r arian rŷn ni wedi ei roi ar y bwrdd a'r system sydd yn mynd ymlaen nawr. Dydy hwnna ddim yn dibynnu ar newid y gyfraith. Rŷn ni'n newid y gyfraith ar gyfer y dyfodol, i greu system newydd i helpu pobl i osgoi'r problemau mae rhai pobl yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Rŷn ni wedi cymryd pwerau, fe dywedais i. Dwi'n gwybod bod Plaid Cymru yn gwrthwynebu bob tro rŷn ni'n gwneud hynny. So rŷn ni wedi tynnu pwerau i Gymru, pan oedd cyfle i wneud e. Rŷn ni'n mynd i ddeddfu yn y tymor hwn, ac, yn y cyfamser, i bobl sy'n dioddef heddiw, achos problemau sydd wedi codi yn barod, rŷn ni'n delio gyda hwnna gyda'r arian a gyda'r gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd. 

Y Marchnadoedd Ariannol

2. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith y mae'r helbul diweddar yn y marchnadoedd ariannol yn ei chael ar Gymru? OQ58590

Llywydd, diolch i Ken Skates am y cwestiwn yna. Mae'r aflonyddwch diweddar ym marchnadoedd ariannol y DU, a datganiad cyllidol Llywodraeth y DU yn gatalydd, wedi cynyddu cost benthyca i'r Llywodraeth, busnesau a dinasyddion cyffredin. Bydd yn niweidio twf, yn gwaethygu'r cyllid cyhoeddus ac yn gwneud bywyd yn anoddach i fenthycwyr, gan gynnwys prynwyr tai.

Diolch. Wrth gwrs, mae'r pedwerydd Canghellor, yn yr un faint o fisoedd, bellach wedi claddu Trussonomics ac wedi gwneud tro pedol o ran y gyllideb fach gyfan fwy neu lai, ond, fel yr amlinelloch chi, bydd effeithiau llywio'r economi fel car bympar yn arwain at ganlyniadau dinistriol: trethi uwch, chwyddiant uwch, cyfraddau morgais uchel. Ydy hi'n deg bod pobl Cymru a phobl y DU yn cael eu trin fel testun arbrawf gan y Ceidwadwyr? 

Wel, Llywydd, wrth gwrs, nid yw'n deg ein bod ni i gyd wedi gorfod dioddef yr arbrawf aflwyddiannus—arbrawf aflwyddiannus a gymerodd lai na mis i ddymchwel o flaen ein llygaid. A'r rheswm y mae'n arbennig o annheg yw bod yr arbrawf wedi ei thynghedu i fethu o'r cychwyn cyntaf. Doedd dim angen dod i gysylltiad â realiti'r marchnadoedd i bobl ddeall hynny. Roedd dull gweithredu economaidd yn seiliedig ar ddamcaniaethau aflwyddiannus economeg o'r brig i lawr, yn dibynnu ar fenthyca heb ei gostio, bob tro yn mynd i fethu. Nawr, yn yr arbrawf aflwyddiannus hwnnw, fel y dywedais i, Llywydd, bydd pobl ar draws y Deyrnas Unedig nawr yn talu'r pris. Rhoddaf un enghraifft yn unig: oherwydd y cynnydd yn y gyfradd forgais yr ydym bellach yn ei gweld o ganlyniad i'r hyn sydd wedi digwydd, erbyn 2024, bydd pobl ar draws y Deyrnas Unedig wedi talu £26 biliwn mewn taliadau llog ychwanegol—£26 biliwn wedi'i dynnu allan o bocedi teuluoedd ledled y Deyrnas Unedig. Nawr, dim ond rhyw ychydig wythnosau yn ôl roedd Prif Weinidog y DU yn ceisio portreadu'r bobl hynny nad oedden nhw'n cytuno â'i syniadau aflwyddiannus fel pobl yn erbyn twf. Doedd hynny erioed, erioed yn wir, wrth gwrs, ond yr hyn sydd bellach yn sicr yw y bydd y dirwasgiad y dywed Banc Lloegr ein bod eisoes ynddo yn ddyfnach ac yn hirach nag y byddai wedi bod fel arall, oherwydd byddai'r £26 biliwn hwnnw, Llywydd, wedi bod ar gael i bobl ei wario mewn siopau, i'w ddefnyddio mewn lletygarwch, i wneud y pethau sy'n cadw'r economi i fynd. Ni fydd y £26 biliwn hwnnw ar ei ben ei hun yno bellach i gefnogi'r economi a'i thyfu ac yma yng Nghymru, yr adeg hon, y flwyddyn nesaf, bydd y person cyffredin â morgais yn talu £2,300 yn fwy y flwyddyn nag y byddai'n ei dalu pe bai cyfraddau llog wedi aros lle yr oedden nhw yn y chwarter presennol. Dyna faint yr arbrawf aflwyddiannus, a dim ond un enghraifft yw honno. 

13:40

Fel y mae'r Prif Weinidog yn ymwybodol ohono, mae buddsoddiadau ar sail rhwymedigaeth yn defnyddio'r ecwiti mewn cronfeydd pensiwn i fenthyg arian. Yna, defnyddir yr arian hwn a fenthycwyd i brynu giltiau, sydd yn eu tro yn darparu llog cyfradd sefydlog dros gyfnod penodol. Y risg fawr, fodd bynnag, yw hyn, os bydd cyfraddau llog yn codi'n gyflym ar giltiau, fel sydd wedi digwydd nawr, yna mae'n rhaid i gronfeydd pensiwn gaffael symiau mwy o sicrwydd cyfochrog i dalu am yr arian y maen nhw wedi'i fenthyg, sy'n eu harwain i werthu eu hasedau, gan gynnwys giltiau. Mae hyn yn broblematig pan nad oes prynwr, fel yn yr achos diweddar pan gyhoeddodd yr Unol Daleithiau bod $0.25 triliwn ar werth ychydig dros wythnos yn ôl, ac a ddenodd buddsoddwyr a fyddai fel arfer wedi prynu o farchnad y DU. Fel y cofia'r Prif Weinidog, yn ei gyllideb gyntaf yn 1997, ac er gwaethaf rhybuddion gan y diwydiant pensiwn, tynnodd Gordon Brown gredydau treth difidend pensiwn o gronfeydd pensiwn, ac mae'r canlyniadau'n cael eu teimlo hyd heddiw—[Torri ar draws.]

Bydd rhaid i ni wrando mewn rhywfaint o dawelwch, fel y gall y Prif Weinidog glywed y cwestiwn.

Diolch, Llywydd. Effeithiodd hyn yn sylweddol ar gyllid llawer o gronfeydd pensiwn ac yn y pen draw mae wedi arwain at y defnydd gor-ddibynnol o fuddsoddi ar sail rhwymedigaeth gan gynlluniau pensiwn mewn anobaith yn ceisio gwneud iawn am y diffygion y maen nhw wedi'u dioddef yn barhaus ers hynny. Mewn ymgais wyllt i godi refeniw, mae gwaddol ariannol Llywodraeth Lafur ddiwethaf y DU wedi gweld cronfeydd pensiwn yn ceisio benthyca gyda mwy a mwy o risg—[Torri ar draws.]

Gadewch i'r Aelod ddod at ei gwestiwn, ac rwy'n siŵr y bydd e' yn gyflym iawn, iawn.

Byddaf, y frawddeg olaf, Llywydd—strategaethau benthyca mwy peryglus, rhai ohonyn nhw gyda throsoledd cyllidol hyd at bedair gwaith y sicrwydd cyfochrog sydd ganddyn nhw. Prif Weinidog, yn sgil y polisi Llafur trychinebus hwn sy'n dal i achosi sgil effeithiau hyd heddiw, pa asesiad ariannol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddiogelwch cronfeydd pensiwn yng Nghymru sy'n defnyddio buddsoddiadau ar sail rhwymedigaeth? Diolch.

Wel, Llywydd, roedd yr Aelod yn haeddu gwell oddi wrth Aelodau blaenaf ei grŵp a ddylai fod wedi ei gynghori, cyn iddo sefyll, i beidio â chynnig cyfraniad o'r math yna ar lawr y Senedd. 'Bai Gordon Brown ac Unol Daleithiau America yw'r cyfan.' Wel, hyd yn oed mewn wythnos pan gynigwyd yr esboniadau mwyaf anghyffredin, dydw i ddim yn credu bod unrhyw un wedi ceisio dwyn perswâd arnom ni i gredu hynny. Diolch i'r Aelod am esbonio'r ffordd y mae'r farchnad gilt yn gweithio a'r effaith ar rwymedigaethau pensiwn. Rwy'n credu fy mod i wedi deall eisoes os oes gennych chi farchnad lle nad oes neb yn barod i brynu ynddi, yna mae gwerth y nwyddau yr ydych chi'n ceisio eu gwerthu yn anochel yn gostwng, a phan fydd hynny'n digwydd, mae'r person sy'n cael ei orfodi i werthu yn wynebu sefyllfa lom iawn. Dyna pam y gorfodwyd Banc Lloegr, wrth gwrs, i ymyrryd, gwario biliynau a biliynau yn fwy y bydd yn rhaid i ni nawr dalu amdano yn y dyfodol. Nid oedd gan y catalydd ar gyfer hynny ddim byd i'w wneud â'r hyn a ddywedodd Gordon Brown ym 1997, nac ychwaith â'r camau gweithredu a gymerwyd yn yr Unol Daleithiau. Dyma ganlyniad uniongyrchol a rhagweladwy gweithred ddi-hid Canghellor y Trysorlys ar y pryd a'r sawl a'i ddiswyddodd am gytuno â hi bryd hynny.

Roedd y fasged 'i mewn' ar y ddesg y mae Prif Weinidog y DU bellach yn cuddio oddi tani yn llawn i'r ymylon, ond yn hytrach na wynebu'r heriau economaidd gyda difrifoldeb, gwnaeth Truss ffafrio'r ffantasi o economeg o'r brig i lawr gyda thoriadau treth ar gyfer y cyfoethog. Mae hi wedi cael ei gorfodi i wyrdroi bron pob mesur, ond mae'r niwed i'r economi yma i aros. O ganlyniad uniongyrchol, fel rydym ni wedi clywed, mae fy etholwyr i'n wynebu biliau morgais yn codi'n sydyn, biliau ynni dirfawr o fis Ebrill a chyni pellach. Prif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na all amddiffyn pobl a gwasanaethau rhag holl rym gweithredoedd Llywodraeth y DU. Rwy'n deall hynny, ond hoffai nifer o fy etholwyr wybod pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i geisio eu diogelu dros y misoedd nesaf. Gan dybio y bydd naill ai Prif Weinidog y DU mewn enw'n unig neu'r Prif Weinidog go iawn, Jeremy Hunt, yn penderfynu cysylltu â chi yn y pen draw, pa neges fyddwch chi'n ei rhoi iddyn nhw, Prif Weinidog, ar ran pobl Cymru?

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig, ac rwyf eisiau ei ailadrodd eto y prynhawn 'ma, fel y gwnes i wythnos diwethaf, oherwydd mae hwn yn gyfnod hollol ddifrifol ym mywydau dinasyddion yng Nghymru. Mae cyllideb Llywodraeth Cymru eisoes yn werth, o ran pŵer prynu, £600 miliwn yn llai nag yr oedd ym mis Tachwedd y llynedd adeg yr adolygiad gwariant cynhwysfawr, ac mae'r Canghellor wedi dweud nad oes ganddo unrhyw fwriad o gwbl o wneud iawn am yr erydiad hwnnw yn y cyllidebau sydd ar gael i warchod dinasyddion a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. A nawr rydym ni'n gwybod bod toriadau ar ben hynny ar y ffordd.

Er y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio pob capasiti sydd gennym ni, pob punt yr ydym yn gallu ei defnyddio, pob partneriaeth yr ydym yn gallu dibynnu arni, i wneud yr hyn y gallwn ni i amddiffyn pobl yng Nghymru rhag effaith y toriadau hynny; bydd terfyn, yn syml, na allwn ni fynd y tu hwnt iddo. A bydd pobl yn gweld yn uniongyrchol ac yn anochel, nid yn unig oherwydd bod eu morgeisi bellach yn costio llawer iawn mwy, nid yn unig oherwydd y bydd yr amddiffyniad ynni a addawyd yr wythnos diwethaf a oedd i bara am ddwy flynedd bellach i bara am chwe mis yn unig, nid yn unig oherwydd y gallai'r budd-daliadau y maen nhw'n dibynnu arnyn nhw gael eu torri tra bod bonysau bancwyr heb unrhyw gyfyngiadau, ond fe fyddan nhw'n ei weld hefyd yn y gwasanaethau yr oedden nhw'n gallu dibynnu arnyn nhw hyd yma na fydd ar gael yn yr un ffordd, os bydd rhaid i ni dorri ein cyllideb ar y raddfa y mae rhai sylwebyddion yn darogan.

Llywydd, daeth y toriad mwyaf erioed yr oedd yn rhaid i ni ei wneud mewn un flwyddyn pan oedd George Osborne yn Ganghellor y Trysorlys. Bu'n rhaid i ni dorri 3 y cant o'n cyllideb, ac fe wnaethom ni hynny ar ôl 10 mlynedd pryd yr oedd ein cyllideb wedi tyfu bob un flwyddyn, flwyddyn ar ôl blwyddyn, twf mewn termau real, ac yna roedd yn rhaid i ni dorri 3 y cant. Roedd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, yr wythnos diwethaf, yn dweud y byddai toriad o 15 y cant—15 y cant—mewn gwariant cyhoeddus, a hyn bellach nid ar ôl degawd o dwf, ond ar ôl degawd o gyni hefyd. Ni all neb gymryd arnynt y gall pobl yng Nghymru gael lloches rhag ymosodiad chwyrn hynny, a dyna'r neges y byddaf yn ei chyfleu pryd bynnag y caf y cyfle—fel y gwnaeth fy nghyd-Aelod Rebecca Evans yn ei sgwrs â Phrif Ysgrifennydd diweddaraf y Trysorlys, y chweched un y mae wedi gorfod ymdrin ag ef yn ystod ei chyfnod yn Weinidog cyllid yma yn Llywodraeth Cymru.

13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.  

Diolch Llywydd. Dros y penwythnos, Prif Weinidog, cafwyd cyfres o achosion pan nad oedd ambiwlansys yn gallu cyrraedd digwyddiadau critigol. Roedd Ben Symons, sy'n 22 oed, yn gorwedd ar gae pêl-droed yng Nghefn Cribwr ag anaf difrifol i'w gefn. Dywedodd ei fam ar y pryd fod yr arhosiad yn warthus, pum awr, a bod y system wedi torri. Ydych chi'n cytuno â'i fam?

Llywydd, rwy'n cytuno bod gwasanaeth ambiwlans Cymru o dan bwysau enfawr. Fe fydd hi dan fwy o bwysau o lawer pan fydd ei blaid ef wedi gorffen torri cyllideb y gwasanaeth iechyd, fel mae Jeremy Hunt wedi dweud ei fod yn bwriadu gwneud. Ie, gallwch ochneidio a griddfan, ond mae'r cyfrifoldeb yn gorwedd lle mae'n gorwedd, ac mae pobl yn deall hynny hefyd. Ydy, mae'r system o dan bwysau enfawr; rydym ni'n gwybod ei fod o dan bwysau enfawr. Siaradais â rhywun a oedd yn y gêm lle digwyddodd y ddamwain honno, ac fe ddywedon nhw wrthyf, pan gyrhaeddodd gyrrwr yr ambiwlans, ei fod wedi sôn am y galwadau eraill a gafodd eisoes y diwrnod hwnnw, a oedd yn cynnwys nifer o alwadau 999 nad oedd angen ambiwlans o gwbl. Felly, mae'r system dan bwysau aruthrol o ganlyniad i alw dilys a galw a ddylai fod wedi mynd i ran wahanol o'r system.

Ond pan fydd yn gofyn ei gwestiwn nesaf i mi, gadewch iddo fyfyrio am eiliad ar beth fydd yn digwydd i wasanaethau ambiwlans yng Nghymru pan fyddwn ni'n wynebu'r toriadau. Toriadau i'r gwasanaeth iechyd: anghredadwy. [Torri ar draws.] Ond toriadau i iechyd—[Torri ar draws.] Edrychwch. Rwy’n gwybod, rwy'n gwybod. Rydych chi'n credu, drwy wneud sŵn mawr eich bod yn tynnu sylw pobl oddi ar eich cyfrifoldeb chi. Credwch chi fi, dydych chi ddim o gwbl.

Nid wyf i, yn wahanol i chi, Prif Weinidog, erioed wedi pleidleisio i dorri cyllideb iechyd. Fe wnaethoch chi, Prif Weinidog. Mae eich plaid wedi bod yn rhedeg y gwasanaeth iechyd yma, ac mae'r gwasanaeth ambiwlans yn rhan bwysig ohono, ers 23 o flynyddoedd. [Torri ar draws.]

Roedd digwyddiad arall ym Merthyr Tudful, pan gafodd claf ei adael ar y llawr ar ôl aros 15 awr—arhosiad o 15 awr—a dywedodd merch yr unigolyn—a dyfynnaf ei geiriau hi; nid fy ngeiriau i ydyn nhw, ei geiriau hi:

'Yng Nghymru rydym ni fel gwlad y trydydd byd o ran ein gofal iechyd... rwy'n siŵr y byddai Aneurin Bevan yn troi yn ei fedd.'

Nid fy ngeiriau i ydyn nhw, ond geiriau rhywun yr oedd ei thad yn rholian ar lawr am 15 awr. Rydych chi wedi bod yn gyfrifol am y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru ers 23 mlynedd. Fe wnaethoch chi bleidleisio i dorri'r gyllideb iechyd yma yng Nghymru. Gallwch daflu eich pen ysgrifennu i lawr, Prif Weinidog, ond chi sy'n gyfrifol. Beth ydych chi'n mynd i'w wneud yn ei gylch?

13:50

Llywydd, rwy'n deall y pwysau sydd ar y Blaid Geidwadol. Rwy'n deall pa mor anodd yw hi i arweinydd yr wrthblaid ddod yma a gofyn cwestiynau heddiw. Ond peidiwch â gadael iddo gredu, drwy weiddi arnaf i, y bydd yn perswadio unrhyw un y tu allan i'r Siambr hon fod ei gyfrifoldeb—dydw i ddim wedi clywed yr un gair ganddo erioed yn dweud ei fod yn cymryd cyfrifoldeb am weithredoedd ei Lywodraeth ef. Beth am glywed hynny ganddo y tro nesaf— 

Do, fe gefnogodd Liz Truss. Rydym ni'n gwybod hynny. Mae e'n rhannol gyfrifol am y llanast yr ydym ni ynddo. Gweiddi arnaf i am y trafferthion sydd yn y gwasanaeth ambiwlans, ac rwy'n cydnabod hynny, ac rydym ni'n gweithio'n galed iawn gyda phobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth ambiwlans i gael y gwasanaeth i'r sefyllfa lle mae angen iddo fod. Does dim ateb i hynny drwy weiddi arnaf i fel petai'r holl bethau sy'n iawn yn y ddadl hon yn perthyn iddo ef, rhywbeth yr ydym ni'n sicr yn gwybod nad yw'n wir, ac mae pawb arall ar fai. Rwy'n gwrthbrofi'n llwyr, ar ran y bobl hynny sy'n gweithio mor galed bob dydd yn ein gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ei fod yn cael ei ddisgrifio'n gywir yn y ffordd y gwnaeth ef ei ddisgrifio, pwy bynnag y mae'n ei ddyfynnu. Mae ein gwasanaeth iechyd yn gwneud gwyrthiau bob dydd ym mywydau pobl yma yng Nghymru, ac mae'n gwneud hynny oherwydd bod gennym bobl ymroddgar, meddygon, nyrsys ac eraill, a fydd wedi ei glywed yn disgrifio'r gwasanaeth y maen nhw'n ei ddarparu yn y ffordd y gwnaeth ef. Os yw'n credu bod hynny'n helpu o gwbl i wella'r gwasanaeth, i wneud i bobl ddod i mewn a gyrru'r ambiwlansys hynny a staffio'r adrannau damweiniau ac achosion brys hynny, rwy'n dweud wrtho nawr, nid yw'n helpu o gwbl.

Prif Weinidog, defnyddiais ddyfyniad uniongyrchol gan ferch Mr Keith Morris. Pwysau yw pan welwch chi rywun yr ydych chi'n ei garu yn rholio ar y llawr mewn poen ac mae'r gwasanaeth yr ydych chi'n chwilio amdano am gymorth yn cymryd 15 awr i gyrraedd. Dyna yw pwysau, Prif Weinidog.

Chi yw'r Prif Weinidog, dydych chi ddim wedi dweud unwaith mewn ymateb i fy nau gwestiwn beth yw'r ateb y mae'r Llywodraeth yn ei gynnig i dynnu'r pwysau hwn oddi ar y gwasanaeth ambiwlans a chaniatáu iddyn nhw fwrw ymlaen â'u gwaith, sy'n waith gwych pan fo'n gweithio'n gywir.

Nawr, mae hyn yn digwydd dro ar ôl tro. Gallwn fod wedi dyfynnu—[Torri ar draws.] Rwy'n clywed lleisiau ar eu heistedd. Rwy'n derbyn bod pwysau ar draws y Deyrnas Unedig, ond mae'r broblem yma yng Nghymru yn arbennig o acíwt. Yr hyn yr wyf eisiau i'r Siambr ddeall yma yw beth yw'r map ffordd gan Lywodraeth Cymru, wrth i ni fynd ymhellach i mewn i fisoedd y gaeaf, ar gyfer lleddfu'r problemau hyn, fel na fydd Aneurin Bevan yn troi yn ei fedd, a bod gan ein Llywodraeth, sy'n gyfrifol am y gwasanaeth iechyd, ateb i'r problemau y mae Mr Morris a theuluoedd eraill yn eu hwynebu yn ddyddiol.

Llywydd, presgripsiwn Llywodraeth Cymru yw buddsoddi mwy o arian yn y gwasanaeth ambiwlans, i fod â mwy o staff yn gweithio yn y gwasanaeth ambiwlans, i fod ag ystod ehangach o bobl sy'n gallu darparu'r gwasanaethau hynny ac i ambiwlansys wybod, pan fyddant yn cyrraedd ysbytai, y bydd yr ysbyty mewn sefyllfa i dderbyn y claf hwnnw fel y gall yr ambiwlans fynd yn ôl ar y ffordd eto yn amserol a gofalu am bobl eraill sy'n aros. Dyna bresgripsiwn Llywodraeth Cymru.

Beth mae pobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth—? Ac fel rwy'n dweud, byddan nhw wedi clywed y ffordd mae'r Aelod wedi disgrifio'r gwasanaeth y maen nhw'n ei ddarparu y prynhawn yma. Beth maen nhw'n ei wynebu? Maen nhw—[Torri ar draws.] Mae e' wedi dewis defnyddio'r iaith honno y prynhawn yma, ni wnaeth—[Torri ar draws.] Ac rydych chi wedi dewis defnyddio'r iaith honno yma y prynhawn 'ma. Beth mae'r bobl hynny'n ei wynebu? Maen nhw'n wynebu toriadau i'w cyflog oherwydd polisi eich Llywodraeth chi, a nawr maen nhw'n wynebu toriadau i'r cyllidebau fydd gan y gwasanaeth iechyd ei hun ar gael iddo. Mae'n frawychus. Mae'n hollol frawychus i mi eich bod chi'n credu y gallwch chi ddod yma y prynhawn yma, gyda'r llanast y mae eich plaid wedi'i wneud ynghylch cyllidebau'r wlad hon, i enw da'r wlad hon ledled y byd, a'ch bod chi'n addo i'r bobl hynny y bydd mwy i ddod—[Torri ar draws.] Ac rydych chi'n meddwl y gallwch chi ddod yma y prynhawn yma a hawlio rhyw fath o fantais foesol. Pa fath o fyd ydych chi'n perthyn iddo?

13:55

A gawn ni—? [Torri ar draws.] A gawn ni—? A gawn ni oedi am eiliad? Rwy'n deall bod y dadleuon a'r teimladau'n gryf iawn ynghylch y materion hyn a hynny o amrywiaeth o safbwyntiau, rwy'n deall pam y mae rhywfaint o weiddi yn digwydd, ond nid wyf am ganiatáu i neb wneud ystumiau a phwyntio at bobl eraill mewn dicter. A gawn ni gymryd eiliad i dawelu? Rwy'n gobeithio y bydd Adam Price yn cyfrannu at hynny pan fyddaf yn ei alw i ofyn ei gwestiynau.

Gallwch chi fod yn sicr o hynny.

Prif Weinidog, roedd troeon pedol Liz Truss yr wythnos hon mor niferus ac mor syfrdanol o gyflym nes dod yn birwét gwleidyddol. Ond nid hi oedd yr unig un, oedd hi? Dair wythnos yn ôl, dywedodd Keir Starmer na fyddai Llafur yn gwrthdroi'r toriad i'r gyfradd sylfaenol o dreth incwm, byddai'n beth anghywir i'w wneud. Nawr, y bore yma, dywedodd Canghellor yr wrthblaid fod Llafur yn cefnogi'r polisi i ddileu'r toriad. Felly, wrth gefnogi'r tro pedol Torïaidd, mae Llafur wedi gwneud un ei hun. Ond aeth ymlaen i ddweud hefyd na fyddai Llafur yn codi trethi mewn ymateb i'r argyfwng presennol, sy'n codi'r cwestiwn, onid yw, ynglŷn â lle y bydd Llywodraeth Lafur yn cael yr holl adnoddau angenrheidiol i amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus, i wneud rhywbeth ynghylch yr argyfwng yn y GIG yma yng Nghymru, drwy gyllid canlyniadol fformiwla Barnett, ac i dalu cyflog teilwng i weithwyr y sector cyhoeddus. Dywedodd Llafur ym 1997 eu bod nhw'n mynd i gadw at gynlluniau gwario'r Torïaid am y ddwy flynedd gyntaf, ac fe gawson nhw eu beirniadu'n briodol am wneud hynny. Sut mae cadw at gynlluniau treth y Torïaid yn well?

Wel, Llywydd, bydd y Llywodraeth Lafur nesaf yn etifeddu'r anawsterau sydd wedi eu creu yn ystod y tair wythnos diwethaf. Mae'r tair wythnos diwethaf wedi newid y cyd-destun y mae'n rhaid gwneud penderfyniadau ynddo. Clywais Ganghellor yr wrthblaid yn esbonio hynny'n gryf iawn ar y radio y bore yma. Ni ellir cynnal rhywbeth a oedd yn iawn dair wythnos yn ôl mwyach, o ystyried y cythrwfl a'r biliynau a'r biliynau o bunnau sydd wedi'u gwario nad ydyn nhw bellach ar gael i'r Llywodraeth nesaf a ddaw i mewn. Clywais hefyd Ganghellor yr wrthblaid yn esbonio sut y bydd Llywodraeth Lafur yn codi arian drwy dreth ffawdelw ar elw anghymedrol cwmnïau ynni, yn hytrach na gwneud fel y mae'r Llywodraeth bresennol yn ei wneud, gyda'i chynnig a gwtogwyd bellach o help i bobl â biliau ynni—byddan nhw'n cymryd arian gan bawb arall a'i basio i gwmnïau ynni i gynnal yr elw rhyfeddol hynny—ac y bydd yn gweithredu i ymdrin â threthdalwyr sydd â'u cartrefi parhaol y tu allan i'r DU hefyd i wneud yn siŵr eu bod nhw hefyd yn talu eu cyfran deg i'r Trysorlys, fel bod modd buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus mewn ffordd y bydd dim ond Llywodraeth Lafur yn ei addo ac yn ei gyflawni.

Ond ceidwadaeth gyllidol oedd y naws, onid e? Nid dyna'r math o wleidyddiaeth flaengar yr ydym ni eisiau ei gweld yn sgil newid Llywodraeth yn San Steffan.

Nawr, mewn ymateb i ddatganiad y Canghellor, galwodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yma ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio ei hysgogiadau treth yn decach. Ond a yw hynny'n ddull yr ydych chi fel Llywodraeth hefyd yn barod i'w ystyried yn galed? Dyna'r ymadrodd a ddefnyddiwyd gennych, Prif Weinidog, wrth ystyried a ddylid cynnal y gyfradd sylfaenol o 20c. Nawr, rwy'n derbyn bod y cyd-destun ar gyfer hynny wedi newid, ond fe allech chi, dan yr amodau newydd hyn o gyni yr ydym ar fin ei wynebu, geisio defnyddio eich ysgogiadau treth incwm eraill a chodi'r cyfraddau uwch ac ychwanegol, sy'n gyson â'r egwyddor y dylid gofyn i ysgwyddau mwy llydan gario'r baich mwyaf. Mae Sbaen, Llywodraeth sosialaidd, wedi cyflwyno treth gydsefyll; mae gan yr Almaen un eisoes. Yn y cyfnod anodd hwn, onid yw'n egwyddor y mae'n rhaid i ni yn awr ystyried ei gofleidio yma yng Nghymru?

Rwy'n cytuno â'r egwyddor, Llywydd, wrth gwrs mai'r rhai sydd â'r mwyaf ddylai gyfrannu fwyaf. Byddwn ni'n gwneud, fel yr eglurais i yr wythnos diwethaf—. Yr wythnos diwethaf, roedd yr Aelod yn fy annog i godi cyfraddau treth incwm yma yng Nghymru, a byddem yn edrych yn ffôl iawn heddiw pe byddem wedi dilyn ei gyngor bryd hynny, oherwydd, fel yr eglurais iddo, byddwn yn gwneud ein penderfyniadau pan fydd gennym y ffeithiau llawn sydd ar gael i ni, a newidiodd y ffeithiau ar dreth incwm yn sylweddol iawn yn ystod yr wythnos. Byddwn ni'n cyflwyno ein cyllideb i'r Senedd gan ddefnyddio'r prosesau sefydledig sydd gan y Senedd hon. Pan ddaw yn amser i ni osod y gyllideb, byddwn wedi mynd heibio 31 Hydref, gyda pha bynnag erchyllterau a fydd yn aros amdanom ni bryd hynny hefyd. Ac yn y broses honno, byddwn yn parhau i ystyried yr holl ysgogiadau sydd gennym ar gael i ni yma yng Nghymru, ond byddwn yn dod i benderfyniad ar y ffordd orau o ddefnyddio'r ysgogiadau hynny pan fydd y cyd-destun llawn ar gael i ni, yn hytrach na gwneud penderfyniadau wrth i ni fynd ymlaen, dim ond i ganfod bod y ddaear oddi tanom wedi newid yn y cyfamser.

14:00

Dyna yn union wnaeth y Blaid Lafur yn San Steffan, onid e? Beth allai treth gydsefyll ei wneud? Gallai ein helpu ni i fodloni gofynion rhesymol gweithwyr y sector cyhoeddus i wella cynnig cyflog Llywodraeth Cymru, y mae hyd yn oed undeb sy'n gysylltiedig â Llafur wedi ei alw'n ddilornus—y gweithwyr gwyrthiol, Prif Weinidog, yr ydych newydd gyfeirio atyn nhw yn y GIG. Fe allai ein helpu ni i leddfu rhywfaint o'r pwysau ar wasanaethau lleol yr ydym wedi dibynnu cymaint arnyn nhw yn ystod y pandemig. Gallai ein helpu ni i ehangu'r gwasanaeth prydau ysgol am ddim yn ysgolion uwchradd. Gallai ein helpu ni i roi'r cymhorthdal i drafnidiaeth gyhoeddus y mae hyd yn oed y mwyafrif Llafur ar y pwyllgor newid hinsawdd wedi'i gynnig. Gallai wneud y pethau hyn mewn gwahanol gyfrannau ac i wahanol raddau, yn dibynnu ar uchelgais eich Llywodraeth. Ond dywedaf hyn wrthych chi eto, Prif Weinidog—Prif Weinidog sosialaidd: onid yw'r egwyddor hon o gydsefyll yn rhywbeth y dylai eich Llywodraeth ei chofleidio? 

Llywydd, rwyf eisoes wedi cytuno ag arweinydd Plaid Cymru mai trethiant blaengar yw'r ffordd y dylem ariannu gwasanaethau cyhoeddus. Yr hyn na allaf gytuno ag ef arno o bosib yw bod codi trethi yn y ffordd yr awgrymodd yn ei gwestiwn cyntaf—. Oherwydd iddo ofyn i mi yn ei gwestiwn cyntaf, byddwch yn cofio, a ddylem ni godi'r ddwy gyfradd drethu ychwanegol yr ydym ni'n gallu eu haddasu yma yng Nghymru—nid y gyfradd sylfaenol, ond y ddwy gyfradd uwch arall. Bydden nhw'n dod â llai na degau o filiynau o bunnoedd i mewn pe baem ni'n eu codi. Does dim siawns o gwbl y bydden nhw'n dechrau talu am y rhestr hir honno o ddibenion y dywedodd y gellid defnyddio'r arian hynny wedyn ar eu cyfer. Dim ond—

'Breuddwyd gwrach' fyddai'r ffordd fwyaf caredig o'i ddisgrifio. Gallwch ddefnyddio'r ysgogiadau hynny, ac maen nhw'n dod â symiau cymedrol iawn, iawn o arian i mewn. Ac mae hynny'n cymryd yn ganiataol—sy'n eithaf arwrol, mewn gwirionedd—nad yw'r bobl y gofynnir iddyn nhw bellach dalu mwy o dreth yng Nghymru nag y bydden nhw'n gorfod ei thalu dros y ffin, yn trefnu eu materion mewn ffordd sy'n eu himiwneiddio rhag y perygl hwnnw. Gadewch i ni gymryd yn ganiataol am eiliad—ac ni fyddai llawer o economegwyr yn gwneud hynny—bod pobl yn aros lle maen nhw ac yn talu'r arian ychwanegol. Mae'n dod â, yn y cyd-destun yr ydym ni'n sôn amdano, llond dwrn o filiynau o bunnau i mewn, a does dim ffordd o gwbl y byddai'n ymestyn hyd yn oed at y diben cyntaf ar y rhestr hir iawn honno o ddibenion y mae arweinydd Plaid Cymru wedi awgrymu y prynhawn yma y bydden nhw'n talu amdanyn nhw.

Costau Ynni

3. Pa gymorth y mae'r Llywodraeth yn ei roi i helpu busnesau ym Meirionnydd yn wyneb y costau ynni? OQ58594

Mae cyfres o raglenni gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau ym Meirionnydd. Mae’r cynnydd eithriadol mewn costau egni yn golygu bod angen set hirdymor o atebion, a dim ond Llywodraeth y Deyrnas Unedig all eu darparu.

Diolch yn fawr iawn i’r Prif Weinidog am yr ateb hwnnw. Dwi yn derbyn bod yna fai sylweddol yma ar San Steffan, a bod yn rhaid iddyn nhw gamu i fyny a digolledu’r cwmnïau yma a sicrhau eu bod nhw yn parhau. Ond dyma roi rhai enghreifftiau i chi. Yn Nolgellau, rydyn ni wedi gweld Caffi’r Sgwar yn cau, y steakhouse yn cau, y deli yn cau. Mae’r Brondanw Arms yn Llanfrothen wedi cau. Mae Caffi Derfel ym Mhenrhyndeudraeth wedi cau. Dim ond rhai enghreifftiau o fusnesau yn fy etholaeth i ydy’r rhain, sydd wedi cau yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mae yna ragor yn ystyried cau rhwng rŵan a’r flwyddyn newydd.

Mae’r busnesau yma yn cau oherwydd y cyni mewn ynni. Mae un busnes yn dweud eu bod nhw wedi cael bil rŵan o £7,000 y mis i £70,000 y mis ar gyfer ynni. Mae’n gwbl, gwbl anghynaladwy. Ond, os ystyriwch chi Brondanw, er enghraifft, yn Llanfrothen, nepell o bwerdy hydro Maentwrog a Ffestiniog, mae’r rhain yn cynhyrchu sawl gigawat y flwyddyn, a’r ynni yna’n mynd allan o’r gymuned, nid er budd cymunedol, ond er budd pobl eraill. Felly, gan ystyried bod yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear drwy Magnox yn berchen ar bwerdy hydro Maentwrog, a ydych chi’n cytuno efo fi y dylid trosglwyddo’r adnodd yma i rym a gofalaeth cymunedol er mwyn i’r gymuned gael budd o’r pwerdai hydro yma?

14:05

Dwi’n cytuno gyda beth ddywedodd yr Aelod am bwysigrwydd egni cynaliadwy. Trwy greu system ar gyfer y dyfodol sy’n dibynnu ar egni cynaliadwy, gallwn ni weld dyfodol lle mae costau egni yn gallu bod yn fforddiadwy i fusnesau ac i bobl leol hefyd. Mae uchelgais gyda ni fel Llywodraeth i gynyddu’r canran o egni cynaliadwy sydd yn nwylo pobl leol. Rŷn ni wedi cynyddu nifer y rhaglenni ac mae yna enghreifftiau ledled Cymru lle mae hynny’n digwydd yn barod. Y mwyaf rŷn ni’n gallu ei wneud e fel yna, y mwyaf, dwi’n meddwl, y bydd pobl yn gallu gweld pwysigrwydd y polisi yna, ond hefyd y pethau mae’r polisi yn gallu eu gwneud yn eu bywydau nhw.

Gofal Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau

4. Pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar gyfer gofal meddygon teulu y tu allan i oriau? OQ58586

Diolch i Hefin David am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn gosod y fframwaith polisi ac yn darparu cyllid ar gyfer y gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau. Mae byrddau iechyd yn gyfrifol am roi'r gwasanaeth ar waith yn eu hardaloedd. 

O ran y pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans, a gafodd ei grybwyll gan arweinydd yr wrthblaid, nid yw mor syml â darparu mwy o staff yn y gwasanaeth ambiwlans yn unig—mwy o yrwyr ambiwlans, er enghraifft, neu barafeddygon. Nid yw'n mynd i ddatrys y broblem, yn rhannol oherwydd y ffaith, ymhellach i lawr y ffordd, bod gofal cymdeithasol yn wynebu argyfwng, y mae'r Prif Weinidog yn ei gydnabod, ac nad yw Llywodraeth y DU yn dangos unrhyw arwyddion o fynd i'r afael ag ef. Yn wir, maen nhw wedi cymryd camau yn ôl o hynny.

Un o'r prif faterion yr ydym ni wedi'i weld yn fy etholaeth i, a'r profiad y mae rhywun sy'n gweithio i mi wedi'i gael, sy'n filwr wrth gefn ac sy'n gweithio i'r ymddiriedolaeth ambiwlans, yw bod y pwysau yn aml iawn yn dod ar y gwasanaeth ambiwlans drwy ddiffyg cefnogaeth gofal meddygon teulu y tu allan i oriau. Yn ddiweddar cysylltodd teulu etholwr yn Senghennydd â ni a arhosodd dros 24 awr am ambiwlans ar ôl galw ei feddyg teulu yn gyntaf a ddywedodd wrtho i alw 999 oherwydd bod y feddygfa yn cau. Rydym yn teimlo bod hwn yn gyfle i ailedrych ar ofal meddygon teulu y tu allan i oriau. Fe gafodd driniaeth briodol yn y pen draw, ond fe allai hyn fod wedi cael ei osgoi drwy ymweliad meddyg teulu y tu allan i oriau, a fyddai wedyn yn golygu nad oedd angen galw am ambiwlans, a allai wedyn fod wedi cael ei ailgyfeirio at wasanaethau eraill. Eto, rwy'n gwybod nad yw Llywodraethu mor syml â dweud, 'Byddwn yn darparu mwy o ofal meddygon teulu allan o oriau', ond a wnaiff y Prif Weinidog edrych yn fanylach ar hyn, ac ystyried y pethau hynny sydd yn y gadwyn honno o ddigwyddiadau sy'n arwain at bwysau ar y gwasanaeth ambiwlans?

Llywydd, rwy'n credu bod Hefin David yn gwneud pwynt pwysig—sef na fydd ceisio mynd i'r afael â'r pwysau yn y system drwy ganolbwyntio ar un agwedd arni yn unig yn rhoi'r gwelliannau y mae angen i ni eu gweld. Mae llawer o'r pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans yn wir yn dod oherwydd bod rhannau eraill o'r system ei hun dan straen. Rwyf wedi ceisio egluro yn fy atebion cynharach mai un o'r rhesymau pam nad yw ambiwlansys yn cyrraedd pobl mor gyflym ag yr hoffem iddyn nhw wneud yw oherwydd eu bod yn aros i ryddhau cleifion i ysbytai na allant eu hunain ryddhau cleifion i ofal cymdeithasol. Rwy'n cytuno â Hefin David fod gan y gwasanaeth y tu allan i oriau ran bwysig iawn i'w chwarae yn hynny. Dyna pam yr ydym ni'n darparu mwy o fuddsoddiad—£20 miliwn yn fwy o fuddsoddiad yn y flwyddyn ariannol bresennol—i gynyddu capasiti mewn canolfannau gofal sylfaenol brys a gofal brys yr un diwrnod. Rydym ni'n arallgyfeirio'r gweithlu. Nid mater o feddygon y tu allan i oriau yn unig yw hyn—mae yna staff eraill sy'n gweithio yn y gwasanaeth hwnnw. Rydym ni'n ehangu'r gwasanaeth, gyda naw canolfan gofal sylfaenol brys bellach ar agor, dwy ohonyn nhw yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan. Maen nhw'n gweld 5,000 o gleifion y mis ar hyn o bryd, ac mae hynny'n 15 y cant o'r capasiti yn y system ar gyfer gwasanaethau y tu allan i oriau yn gyffredinol. Ac rydym ni'n recriwtio mwy o staff. Mae Aneurin Bevan, yr ardal y bydd Hefin David yn ei hadnabod orau, Llywydd, wedi hysbysebu'n ddiweddar am fwy o feddygon teulu cyflogedig. Maen nhw wedi penodi pedwar, efallai y bydd pedwar arall ar y ffordd ar ôl yr ymarfer recriwtio hwnnw, ac mae'r meddygon teulu cyflogedig newydd hynny i gyd â sesiynau y tu allan i oriau wedi'u cynnwys o fewn eu cynlluniau swyddi. Mae 33 mil o bobl yn defnyddio'r gwasanaeth tu allan i oriau bob mis yng Nghymru; mae 94 y cant o'r rheiny yn cael eu trin yn eu cartrefi eu hunain naill ai drwy ymweliad cartref, gan y cyngor a gânt, neu drwy fynd i ganolfan y tu allan i oriau ac yna cael eu hanfon adref. Felly, dim ond 6 y cant o'r holl alwadau sy'n cael eu trin gan y gwasanaeth y tu allan i oriau sy'n creu pwysau nes ymlaen ar y system ysbytai. Mae'r gwasanaeth y tu allan i oriau yn gwneud gwaith pwysig iawn. Mae angen i ni wneud mwy fel rhan o'r ymdrech gyffredinol i wella'r ffordd y gall rhannau cysylltiedig o'r gwasanaeth iechyd weithredu'n effeithiol gyda'i gilydd. 

14:10

Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Hefin David am godi'r cwestiwn hwn. Rwyf wedi ystyried popeth a ddywedoch chi, Prif Weinidog, yn eich ymateb iddo nawr. Adroddodd y bwrdd taliadau meddygon a deintyddion, corff annibynnol a sefydlwyd i gynghori Llywodraethau ar dâl meddygon a deintyddion, ym mis Gorffennaf eleni a chynghori y dylai meddygon teulu cyflogedig gael cynnydd o 4.5 y cant yn eu cyflog, wedi'i ôl-ddyddio i fis Ebrill 2022. Mae nifer fawr o'r meddygon teulu sy'n darparu gofal y tu allan i oriau i gleifion yng Nghymru yn feddygon teulu cyflogedig, yn hytrach na phartneriaid meddygon teulu. Rwy'n clywed adroddiadau gan Gymdeithas Feddygol Prydain (Cymru) fod rhai meddygon teulu cyflogedig yn Aneurin Bevan—ac, mewn gwirionedd, ym mhob rhan o fyrddau iechyd Cymru—eto i gael eu codiad cyflog wedi'i ôl-ddyddio'n llawn. Felly, Prif Weinidog, gan ei bod hi bellach dri mis ers adroddiad y bwrdd taliadau meddygon a deintyddion, a wnewch chi gadarnhau bod pob meddyg teulu cyflogedig sy'n gweithio yn Aneurin Bevan—ac, mewn gwirionedd, ar draws pob bwrdd iechyd yng Nghymru—bellach wedi derbyn y codiad cyflog llawn a'i fod wedi cael ei ôl-ddyddio i fis Ebrill? Diolch. 

Gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion y bwrdd taliadau meddygon a deintyddion, ac y bydd pawb sy'n gweithio yn GIG Cymru sydd dan sylw yn yr argymhellion hynny yn gwybod y byddant yn cael y codiadau a gynigiodd y bwrdd. Dydw i ddim mewn sefyllfa i wybod beth yw'r union drefniadau cyflog ar gyfer pob bwrdd iechyd ac i bob person sy'n gweithio iddyn nhw, ond rwy'n siŵr pe bai'r Aelod yn trafod ei phryderon gyda'r bwrdd iechyd, y byddan nhw'n gallu rhoi ateb iddi. 

Rhaglenni Sgrinio Cenedlaethol y GIG

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglenni sgrinio cenedlaethol y GIG ar sail poblogaeth ledled Cymru? OQ58554

Mae sgrinio poblogaeth yn gyfrifoldeb craidd iechyd y cyhoedd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu gwasanaethau sgrinio canser. Mae'n goruchwylio gwelliannau i raglenni, gan gynnwys yr estyniad diweddar yn y garfan oedran sy'n gymwys i gael gwasanaeth sgrinio'r coluddyn yng Nghymru.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Mae gennym raglen sgrinio ardderchog yng Nghymru. Rwy'n croesawu'r gostyngiad yn yr oedran ar gyfer sgrinio am ganser y coluddyn. Rwy'n credu'n gryf bod sgrinio yn bwysig, ond mae'n anffodus na all pobl gael amser i ffwrdd o'r gwaith i fynd i gael eu sgrinio. A fydd y Prif Weinidog yn cefnogi'r galw i bob un o'r staff a gyflogir yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gan Lywodraeth Cymru gael amser i fynd i apwyntiadau sgrinio? 

Rwy'n hapus iawn i gadarnhau i'r Aelod bod hawl gan bob person sy'n cael ei gyflogi'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru i gael amser i ffwrdd i fynd i apwyntiadau sgrinio. Byddwn i wedi meddwl y byddai'n fantais wirioneddol i unrhyw gyflogwr i wneud yn siŵr ei fod yn cefnogi ei staff i wneud hynny. Yr ased pwysicaf sydd gan unrhyw gyflogwr yw'r bobl sy'n gweithio i'r gwasanaeth hwnnw neu'r busnes hwnnw, a bydd y gwasanaethau sgrinio effeithiol iawn sydd gennym yma yng Nghymru yn helpu i gadw'r aelodau staff hynny yn heini ac yn iach ac yn eu galluogi nhw i fod mewn gwaith. Felly, rwy'n credu ei fod nid yn unig er budd yr unigolyn ond er budd y busnes hefyd. 

Os caf i, efallai, gyfeirio at yr hyn a ddywedodd Mike Hedges am ymestyn oedran sgrinio'r coluddyn, dim ond i roi un darlun o effeithiolrwydd y rhaglenni hynny. Os yw rhywun â chanser y coluddyn ac mae'r canser hwnnw’n cael ei ganfod yn sgil ymyrraeth frys yn eu bywydau oherwydd pethau eraill sydd wedi mynd o'i le, bydd pump o bob 10 o'r bobl hynny yn goroesi. Os yw rhywun yn cael diagnosis o ganser y coluddyn gan ei feddyg teulu, fe fydd saith o bob 10 o'r bobl hynny yn goroesi. Os cewch ddiagnosis o ganser y coluddyn o ganlyniad i sgrinio, bydd naw o bob 10 o bobl yn goroesi, ac mae hyn yn dangos, onid yw, gwir arwyddocâd y gwasanaethau sgrinio hynny. Ac rydym eisiau gwella'r nifer sy'n manteisio ar sgrinio'r coluddyn a gwasanaethau sgrinio eraill. Felly, mae er budd unigolion yn llwyr, ond mae er budd y bobl sy'n eu cyflogi nhw hefyd i wneud yn siŵr, pan welwch chi ffigurau goroesi o'r math yna, y dylai pobl gael eu rhyddhau pan fo angen eu rhyddhau oherwydd iddyn nhw gael eu gwahodd i gael y gwasanaeth sgrinio hwnnw.

14:15

Diolch Prif Weinidog, am y ffigurau yna. Prif Weinidog, yn gywilyddus, rydym yn llusgo y tu ôl i genhedloedd eraill sy'n cynnig gwasanaeth sgrinio canser y coluddyn i bobl 50 oed a hŷn. Mae hwn yn warth cenedlaethol. Mae pobl sy'n byw yn Yr Alban ac yn Lloegr yn cael cynnig gwasanaeth sgrinio canser y coluddyn, ac wedi cael hynny ers blynyddoedd. Mae'n gwbl anghredadwy nad ydych chi wedi ymestyn y rhaglen sgrinio i'r grŵp oedran hwnnw. Beth yw'r her yng Nghymru sy'n ymddangos yn benodol i Gymru, ac a fyddwch chi'n ymrwymo i gyflwyno estyniad i'r gwasanaethau i bobl dros 50 oed? Diolch.

Wel, Llywydd, mae arna i ofn nad ydw i'n adnabod y disgrifiad a gynigwyd gan yr Aelod. Fel y clywsoch chi Mike Hedges yn dweud, mae ystod oedran y bobl sy'n gymwys i gael sgrinio'r coluddyn yng Nghymru yn cael ei ymestyn, ac mae yna gynllun pwrpasol iawn i barhau i leihau'r oedran hwnnw ac, ar yr un pryd, i wneud y prawf ei hun yn fwy effeithiol o ran diagnosis. Mae sgrinio canser y coluddyn yng Nghymru, yn enwedig ers i'r prawf newydd, y prawf imiwnogemegol ar ysgarthion, gael ei gyflwyno yn Ionawr 2019, yn stori lwyddiannus. Rydym ni'n perswadio mwy o bobl i'w gymryd nag erioed o'r blaen. Mae'r canlyniadau y maen nhw'n eu cael yn fwy cywir nag y buon nhw erioed, ac o ganlyniad i ostwng yr ystod oedran, bydd 172,000 o bobl ychwanegol yn cael eu gwahodd i gael eu sgrinio rhwng mis Hydref, y mis hwn, a mis Medi'r flwyddyn nesaf. Rwy'n credu bod honno'n stori o lwyddiant, ac mae'n deyrnged i'r bobl ymroddedig iawn hynny sydd wedi gweithio mor galed i'w gwneud yn llwyddiant.

Ystad y GIG

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod gan Gonwy a Sir Ddinbych ystad GIG sy'n addas i'w diben? OQ58568

Llywydd, rydym ni'n mynd ati i fuddsoddi yn ystad y GIG ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys Conwy a sir Ddinbych, er gwaethaf y gostyngiadau parhaus mewn cyllidebau cyfalaf a ddarperir gan Lywodraeth y DU.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Pan oeddech chi'n Weinidog Iechyd nôl yn 2013, fe wnaethoch chi addo i bobl gogledd sir Ddinbych ac, yn wir, gogledd-ddwyrain Conwy yn fy etholaeth i, y byddai ysbyty cymunedol newydd, a fyddai'n cael ei adeiladu yn Y Rhyl, i gymryd lle y gwelyau wedi'u cau yn y Royal Alexandra yn Y Rhyl ac, yn wir, ysbyty cymunedol Prestatyn. Mae hi dros naw mlynedd ers eich cyhoeddiad, ac rydym ni dal heb ysbyty cymunedol yng ngogledd sir Ddinbych. Pryd all pobl yng ngogledd sir Ddinbych ac yng ngogledd-ddwyrain Conwy ddisgwyl gweld eich addewid chi, fel y Gweinidog Iechyd, nawr eich bod chi'n Brif Weinidog, yn cael ei wireddu?

Wel, Llywydd, roeddwn yn falch o gymeradwyo'r achos amlinellol strategol a gyflwynodd y bwrdd iechyd pan oeddwn i'n Weinidog Iechyd. Dywedodd y gallai'r cyfleuster newydd gael ei ddarparu ar gost o £22 miliwn. Erbyn i fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething gymeradwyo'r achos busnes amlinellol yn 2018, roedd y gost wedi codi i £40 miliwn. Dywed papurau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n adrodd yr achos busnes llawn ei fod wedi codi i £64 miliwn o bunnau bellach, a hynny ar ddiwedd 2020, felly gallwn fod yn hollol ffyddiog ei fod ymhell dros £64 miliwn. Felly, mae cost y cynllun wedi cynyddu i dros dair gwaith yr amcangyfrif gwreiddiol o'r gost. A wyddoch chi, mae'n anochel bod yn rhaid i gynllun sy'n cynyddu mewn costau yn y ffordd honno fynd drwy broses graffu drylwyr iawn gan Lywodraeth Cymru, ac rydym yn parhau i edrych ar y fersiwn ddiweddaraf o'r achos y mae'r bwrdd wedi'i ddarparu. Wrth i gostau fynd i fyny yn y ffordd yr wyf newydd eu hadrodd, mae'r cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn gostwng. Yn y flwyddyn bresennol, mae ein cyllideb gyfalaf 17.5 y cant yn is na'r hyn yr oedd yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf; bydd yn gostwng 2.9 y cant arall yn y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd yn gostwng 1.2 y cant o'r sylfaen is honno yn y flwyddyn ariannol nesaf, a bydd yn mynd i lawr eto yn y flwyddyn ar ôl hynny. Felly, mae'r costau'n mynd i fyny ar y naill law, ac mae'r arian sydd ar gael i dalu'r costau hynny yn mynd i lawr ar y llaw arall. Nid yw hynny'n sefyllfa hawdd ar gyfer bwrw ymlaen â llawer o gynlluniau angenrheidiol i fuddsoddi yn y GIG yng Nghymru.

14:20
Diwydiannau Dwys o ran Ynni

7. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i roi cymorth ychwanegol i ddiwydiannau dwys o ran ynni? OQ58595

Llywydd, mae Llywodraethau Ceidwadol olynol y DU wedi methu â chreu sefyllfa o chwarae teg i ddiwydiannau ynni-ddwys. Mae angen i'r Canghellor diweddaraf wneud hynny nawr. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu ein cefnogaeth drwy fuddsoddi mewn sgiliau, effeithlonrwydd ynni, ymchwil, arloesi, datgarboneiddio a dyfodol ynni adnewyddadwy i Gymru.

Diolch am yr ateb, Prif Weinidog.

Mae lletygarwch a'r bragdai a'r bwytai bach, annibynnol hynny sy'n gweithredu o fewn y diwydiant hwnnw yn wynebu rhai o'r amgylchiadau mwyaf heriol. Mae llawer yn disgwyl na fyddant yn goroesi y tu hwnt i'r gaeaf. Er enghraifft, dywedodd perchennog Ristorante Vecchio ym Mhen-y-bont ar Ogwr wrth The Glamorgan Gazette sut mae ei filiau ynni wedi cynyddu i £8,000 y mis. Yn syml, mae prisiau ynni yn amhosibl eu fforddio, ac, i ddilyn cwestiwn Mabon, mae cost ynni yn un rhan o hyn, wrth gwrs, ond mae hyn hefyd yn ymwneud â sicrhau ein bod yn symud tuag at atebion ynni gwyrdd cyn gynted ag y gallwn ni, a fyddai'n helpu gyda'r costau cynyddol a'r ymgyrch tuag at sero net. Mae bragdai fel Bragdy Boss yn Abertawe wedi gwario'u harian wrth gefn yn ceisio goroesi'r flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Ychydig iawn, os o gwbl, o arian sydd ar gael ar gyfer buddsoddi cyfalaf mewn technoleg werdd. Felly, byddwn yn gofyn i'r Llywodraeth pa ystyriaeth y mae wedi'i rhoi i gyllid grant posibl i gwmpasu mentrau ynni gwyrdd ar gyfer busnesau annibynnol, fel offer solar ac optimeiddio foltedd, y gellid ei osod ar safleoedd y busnesau hyn, i helpu i'w diogelu nhw rhag cynnydd mewn prisiau.

Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â'r hyn y mae Luke Fletcher wedi'i ddweud am bwysigrwydd hirdymor bod â system wahanol o gyflenwi ynni. Bydd gan hynny gyfres arbennig o fanteision i'r diwydiannau ynni-ddwys hynny. Diolch iddo am dynnu sylw at y ffaith, yn ein trafodaethau am ddiwydiannau ynni-ddwys rydym ni'n tueddu i gael y ddadl wedi'i dominyddu gan y cwmnïau mawr iawn—y Tatas a Celsas y byd hwn. Ac roeddwn yn falch, Llywydd, o weld fod Prif Weinidog newydd y DU wedi cael cyfarfod ddiwedd Medi gyda phrif weithredwr Tata yn India. Fe wnes i ysgrifennu at y Prif Weinidog blaenorol, yn dilyn cyfarfodydd yr oedd Gweinidog yr economi a minnau wedi'u cael gydag uwch ffigyrau yn Tata, yn gofyn iddo gyflwyno cynllun y DU ar gyfer buddsoddi yn y diwydiant hwnnw. Atebodd gan ddweud y byddai hynny'n gyfrifoldeb ei olynydd. Wel, rwyf wedi ysgrifennu eto. Dydw i ddim wedi cael ateb, ond rwyf wedi ysgrifennu eto, ac roeddwn yn falch o weld bod y cyfarfod hwnnw wedi digwydd, oherwydd bod diwydiannau ynni-ddwys dan anfantais arbennig yn y Deyrnas Unedig, yn enwedig o'i gymharu â chystadleuwyr mewn mannau eraill.

Mae rhan Llywodraeth Cymru yn hyn yn anorfod ar ran wahanol o'r sbectrwm, ond rydym yn gweithio drwy Fanc Datblygu Cymru, drwy Busnes Cymru hefyd, i ddarparu cyngor ac weithiau cefnogaeth ariannol uniongyrchol i ddiwydiannau sydd â diddordeb mewn newid tanwydd, mewn mesurau effeithlonrwydd, ac mewn bod yn rhan o'r symudiad ehangach hwnnw o danwydd ffosil i ynni adnewyddadwy, y mae dyfodol Cymru, rwy'n credu, yn dibynnu arno.

Pwerau Benthyg

8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith argyfwng ariannol y DU ar ei chynlluniau presennol ar gyfer defnyddio ei phwerau benthyg? OQ58592

Llywydd, nid yw pwerau benthyca Llywodraeth Cymru wedi newid ers 2016. Dylid diweddaru ein terfynau benthyca blynyddol a chyfanredol nawr yn unol â chwyddiant dilynol, fel yr argymhellir gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid. Yn y cyfamser, mae cost refeniw benthyca wedi codi'n sydyn, wedi'i achosi gan y difrod a achoswyd gan Brif Weinidog y DU.

Diolch. O ran pwerau benthyca, roeddwn eisiau gofyn am eich myfyrdodau ar gyhoeddiad diweddaraf y Sefydliad Materion Cymreig, 'Fiscal Firepower: Effective Policy-Making in Wales', sy'n galw am ddiwygio pwerau benthyca Llywodraeth Cymru. Hefyd, o ystyried y ffaith hysbys iawn fod Prif Weinidog y DU yn gwrthod ymgysylltu â chi yn rhinwedd eich swydd yn Brif Weinidog Cymru, a bod y polisi drws troi yn ymddangos fel pe bai ar waith yn y Trysorlys, sut mae eich gweinyddiaeth yn ceisio ymgysylltu â Llywodraeth y DU i sicrhau bod gennym y pwerau ariannol sydd eu hangen arnom i ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus yr ydym i gyd yn dibynnu arnyn nhw?

14:25

Wel, Llywydd, roeddwn i'n falch bod yna alwad ffôn gan y Prif Ysgrifennydd i'r Trysorlys i'n Gweinidog Cyllid yn gynharach yr wythnos hon, yn egluro'r gyfres o newidiadau a gafodd eu gwneud gan y Canghellor i'r pethau yr oeddem ni'n cael gwybod y byddai'n digwydd dim ond yr wythnos diwethaf. Ac yr wyf i wedi cael gwybod bod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid—cyfarfod y Gweinidogion cyllid—sydd wedi'i gynllunio ar gyfer 20 Hydref, yn mynd i fynd yn ei flaen. Felly, rwy'n credu bod hynny'n arwydd da o ddull mwy cadarnhaol o ymgysylltu gan y tîm newydd yn y Trysorlys. Lle yr ydym ni'n gallu, byddwn ni, wrth gwrs, yn mynd ati i wneud yr achos yr ydym ni wedi'i wneud ers peth amser. Roeddwn i'n gyfrifol am drafod y fframwaith cyllidol gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ar y pryd, David Gauke. Ers hynny, mae'r arian yng nghyllideb Llywodraeth Cymru wedi cynyddu 40 y cant, ond mae'r holl ffigyrau a gafodd eu trafod yn 2016 wedi parhau i fod lle'r oedden nhw bryd hynny. Felly, cawson nhw eu cynllunio i alluogi Llywodraeth Cymru i ymdrin yn well â'r cyfrifoldebau cyllidol sydd ganddyn nhw—dyma'r terfyn benthyca blynyddol, dyma'r terfyn benthyca cyfanredol, dyma'r swm o arian y gallwn ni ei roi i mewn a'i dynnu o gronfa wrth gefn Cymru. Mae'r rhain yn bethau hollol ymarferol sydd wedi'u cynllunio i wneud y defnydd gorau o arian cyhoeddus, ac eto, rydym ni'n sownd wrth ffigyrau oedd yn iawn dros bum mlynedd yn ôl, ond yn sicr, nid ydyn nhw'n  iawn ar gyfer y gyllideb sydd gennym ni heddiw.

Mae cyhoeddiad Sefydliad Materion Cymreig yn tynnu sylw at hynny i gyd ac yn awgrymu sail wahanol ar gyfer benthyca Llywodraeth Cymru. Mae ein gallu i fenthyg wedi'i gapio'n flynyddol ac ar sail gyfanredol gan Lywodraeth y DU. Mae papur y Sefydliad Materion Cymreig yn awgrymu dull benthyca darbodus ar gyfer Llywodraeth Cymru, a fyddai'n golygu y byddem ni yn yr un lle â Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent—nid oes ganddo derfyn artiffisial ar faint o gyfalaf y gall ei fenthyg; mae'n rhaid iddo ddangos bod ei fenthyca yn fforddiadwy ac yn ddoeth, ac yna mae'n cael benthyg yr hyn y gall ei fforddio. Nid yw'n ymddangos yn synhwyrol bod y gallu hwnnw sydd yno i awdurdodau lleol ond yn cael ei wrthod i Lywodraeth Cymru, ac rydym ni'n mynd ati i gyflwyno'r achos dros ddiwygio, a byddwn ni'n ei wneud gyda'r set ddiweddaraf o Weinidogion yn y Trysorlys.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad—Lesley Griffiths.

Member
Lesley Griffiths 14:28:21
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Llywydd. Mae tri newid i'r busnes yr wythnos hon. Yn syth ar ôl y datganiad busnes hwn, bydd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn gwneud datganiad ar ymateb Llywodraeth Cymru i ddatganiad y Canghellor am y cynllun cyllidol tymor canolig. Yn ail, mae Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022 wedi cael eu tynnu'n ôl a'r ddadl wedi'i gohirio. Yn olaf, yn amodol ar gynnig i atal Rheolau Sefydlog, yfory byddwn ni'n trafod cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil prisiau ynni. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig. 

Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar adolygiad ffyrdd Llywodraeth Cymru? Fel y gwyddoch chi, mae moratoriwm ar lawer o brosiectau cyfalaf ledled Cymru ar hyn o bryd, gan gynnwys dau ar yr A494 yn fy etholaeth fy hun. Mae un ohonyn nhw'n ddarn o waith i ymdrin â'r pryderon ynghylch diogelwch priffyrdd ar droadau Maes Gamedd yng Ngwyddelwern, a'r llall ar gyffordd y Lôn Fawr yn Rhuthun. Mae'r rhain yn achosi llawer o ddamweiniau, a byddai modd osgoi llawer ohonyn nhw. Nid yw'n ymddangos bod unrhyw reswm o gwbl ynghylch pam y dylen nhw gael eu oedi mewn ffordd sy'n bryder ynghylch newid hinsawdd—mae'r rhain yn ymwneud â diogelwch, ac mae angen eu gwneud ac mae angen eu gweithredu. Pryd gawn ni ddatganiad er mwyn i ni allu gwybod bod rhai o'r cynlluniau hyn, sydd wedi cael eu gohirio am lawer rhy hir—yn achos Maes Gamedd, ymhell dros ddegawd—fel eu bod nhw'n gallu cael eu rhyddhau, a chamau'n cael eu cymryd i ymdrin â nhw, fel bod pobl yn gallu teithio'n ddiogel ar ein ffyrdd?

14:30

Diolch. Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar hyn o bryd yn edrych yn fanwl iawn ar yr adolygiad ffyrdd, sydd dan ystyriaeth gan Lywodraeth Cymru. Bydd yn cyflwyno datganiad, mae'n debyg, nawr, yn hanner nesaf y tymor presennol hwn.

Rwy'n siŵr y bydd y Trefnydd yn ymwybodol ar yr adeg hon, o weithredoedd ffiaidd penaethiaid y Post Brenhinol, sydd wedi suddo mor isel wrth fygwth colli swyddi mewn ymgais i dorri streicwyr. Gallaf i ddweud wrthych chi fod postmyn yn swyddfa ddosbarthu Pen-y-bont ar Ogwr yn dal eu tir, ac mae'r camau hyn gan y Post Brenhinol yn dangos pa mor daer ydyn nhw i beidio â dod i ddatrysiad teg gyda'u gweithwyr, a oedd allan ar y strydoedd ar anterth y cyfyngiadau symud, nid yn unig yn dosbarthu ein post, ond yn sicrhau elw enfawr i'r Post Brenhinol. Hoffwn i ofyn a fydd Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi datganiad i gefnogi streicwyr y Post Brenhinol a chondemnio gweithredoedd penaethiaid y Post Brenhinol yn y termau cryfaf.

Diolch. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi mynychu llinellau piced gyda, fel y dywedwch chi, ein postmyn a'n postfenywod sy'n gweithio'n galed iawn, a gyflawnodd wasanaeth mor bwysig yn ystod pandemig COVID-19, yn enwedig. Ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog mewn cysylltiad agos â'i chymheiriaid yn Llywodraeth y DU.

Gweinidog, rydym ni'n ymwybodol bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi camarwain pobl fel mater o drefn am ddyfodol ffrydiau ariannu'r Undeb Ewropeaidd, ac rydym ni'n ymwybodol o'r anwireddau sydd wedi'u dweud dros nifer o flynyddoedd i Weinidogion yma, i Aelodau yma, ac i bobl Cymru. Ond rydym ni hefyd yn gweld anallu Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod y misoedd diwethaf yn peryglu rhaglen Horizon. A byddai'n ddefnyddiol os gallai'r Llywodraeth roi datganiad i ni ar ddyfodol rhaglen Horizon a rhaglenni eraill sy'n darparu arian pwysig i brifysgolion ac i eraill o ran cyflawni ymchwil a rhaglenni cymorth eraill. Mae'n hanfodol cael hynny fel rhan o unrhyw raglen i gefnogi buddsoddiad yng Nghymru.

A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad ar blismona yng Nghymru? Gwnes i gwrdd â phrif gwnstabl Heddlu Gwent ddoe, a gwnaethom ni drafod y pwysau sy'n wynebu'r lluoedd heddlu ar hyn o bryd. Nawr, rydym ni ar ochr hon y Siambr yn cydnabod bod llawer o'r pwysau hyn yn cael eu hachosi gan doriadau gwariant o hyd ac o hyd a gafodd eu gorfodi ar yr heddlu gan y Torïaid yn Llundain. Ond, i'r cwnstabl cyffredin ar lawr gwlad, mae'r rhain yn faterion gwirioneddol sy'n wynebu ein holl gymunedau. Mae'n briodol ein bod ni'n darparu'r holl gyfleusterau a'r holl adnoddau sydd eu hangen ar yr heddlu, a byddai'n ddefnyddiol os gallem ni gael dadl ar blismona yng Nghymru, i ddod â'r materion hyn i sylw Llywodraeth y DU.

Diolch. O ran cyllid Horizon Europe, mae Llywodraeth Cymru, fel y gwyddoch chi, wedi gwthio'n gyson am gymryd rhan mewn rhaglenni fel Horizon Europe, ac yn sicr nid ydym ni wedi gweld yr addewidion a gafodd eu gwneud gan Lywodraeth y DU o ran cyllid yr UE a'r ffaith na fyddem ni'n colli ceiniog os byddem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Gwn fod Gweinidog yr Economi yn gweithio'n agos iawn gyda'n rhanddeiliaid yma i sicrhau'r cyllid gorau posibl o amgylch Horizon Europe.

Ac o ran plismona, yn amlwg, mae'n fater sydd wedi ei gadw'n ôl, ac rydym ni'n sicr wedi gweld y toriadau sylweddol i blismona dros y blynyddoedd. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cyfarfod yn rheolaidd â'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu a'r pedwar prif gwnstabl, ac rydym ni wedi ceisio llenwi bylchau, os mynnwch chi, y mae'r Swyddfa Gartref wedi'u creu, gyda swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu.

Gweinidog, cwrddais â rhai o staff gwych Cyngor Ffoaduriaid Cymru yng Nghasnewydd yn ddiweddar, ochr yn ochr â sawl ceisiwr lloches. Roedd yn gyfarfod hynod addysgiadol, ac fe wnaethom ni drafod amrywiaeth o faterion y mae'r sefydliad, ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn eu hwynebu. Un a wnaeth aros gyda fi yn arbennig oedd y cynllun tocynnau croeso, sy'n rhoi teithio diderfyn i bob ffoadur ar drenau a bysiau tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Mae'n fenter wych, ac mae ganddo fy nghefnogaeth lawn. Ond ar ôl siarad â'r cyngor ffoaduriaid, mae'n amlwg y gallai'r cynllun gael ei wella'n sylweddol.

Mae'n rhaid i ffoaduriaid naill ai ddangos trwydded preswylio biometrig, llythyr gan y Swyddfa Gartref, neu basbort, i gael mynd ar fws neu drên yng Nghymru. Mae'r rhain yn ddogfennau hynod o bwysig, rwy'n siŵr y gallwch chi gytuno, y mae'r ffoaduriaid yn gorfod eu cario o amgylch gyda nhw a'u dangos bob un tro y maen nhw eisiau mynd ar drafnidiaeth gyhoeddus. Yn anecdotaidd, rydw i wedi clywed bod rhai rhieni mewn gwirionedd yn poeni gormod am eu plant yn colli'r dogfennau hyn—fel y byddai rhywun. Ac i wneud pethau'n waeth, nid yw rhai gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru a bysus hyd yn oed yn cydnabod y tocyn croeso. Yn benodol, mae camddealltwriaeth o'r gwahanol fathau o statws ar drwyddedau preswyl biometreg. Mae'n achosi embaras mawr, ac mae'n rhwystro llawer o bobl rhag defnyddio'r cynllun. Siawns na all Llywodraeth Cymru weithio gyda'i phartneriaid i gyflwyno cerdyn arbennig a fyddai'n cael ei gydnabod yn gyffredinol gan yrwyr trenau a bysiau, yn hytrach na'u gorfodi i gario papurau pwysig. Yn anffodus, nid yw ceiswyr lloches yn gymwys i gael y tocyn croeso. Mae ceiswyr lloches yn byw ar £40 yr wythnos yn unig ac yn aml yn aros blynyddoedd i'w cais gael ei brosesu, ac rwy'n deall nad yw'n fater datganoledig, eto, drwy ymestyn y cynllun i gynnwys ceiswyr lloches, byddai'n eu galluogi i fynychu gwersi Saesneg, integreiddio yn y gymuned a'u galluogi i ddechrau gwirfoddoli. Rwy'n gwerthfawrogi efallai bod angen rhywfaint o waith traws-Lywodraethol ar hyn, ond byddwn i'n ddiolchgar iawn am ddatganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymdrin â'r pryderon yr ydw i newydd eu codi yn ymwneud â'r tocyn croeso yma yng Nghymru. Diolch. 

14:35

Wel, fel gydag unrhyw gynllun newydd, rwy'n credu bod gennych chi broblemau cychwynnol ac mae modd gwella pethau bob amser. Yn sicr, fe rannais i daith drên ddymunol iawn adref i Wrecsam ychydig fisoedd yn ôl gyda ffoadur a oedd yn hynod ddiolchgar am y cynllun ac a oedd ond yn teithio i Gaergybi ac yn ôl, dim ond i adael Caerdydd a chael blas ar y golygfeydd ar draws ein gwlad brydferth. Yn amlwg, mae ceiswyr lloches a lloches yn fater sydd wedi ei gadw'n ôl, ac rwy'n meddwl ei bod hi'n deg dweud fod Llywodraeth Cymru, wrth ddarparu'r cynllun yma, wedi gwneud rhywbeth sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr yn fy marn i. Nid ydw i'n credu ei fod yn deilwng o ddatganiad ar hyn o bryd, ond rwy'n derbyn y materion yr ydych chi wedi'u codi a allai wella'r cynllun, ac yn sicr fe wnaf i sicrhau bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn clywed yr hyn y dywedoch chi. 

Yr wythnos diwethaf, Trefnydd, cafodd ei gyhoeddi fod y Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo apêl gynllunio sy'n golygu y bydd bywyd chwarel Craig yr Hesg yn fy rhanbarth i, yn ogystal â'r ardal sy'n cael ei chloddio, yn cael ei hymestyn. Mae hyn er gwaethaf gwrthwynebiadau sylweddol yn lleol, a'r ffaith bod pwyllgor cynllunio cyngor Rhondda Cynon Taf wedi gwrthod y ddau gais. Carwn i, felly, ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y penderfyniad hwn, a hefyd eglurder ynghylch a fydd adolygiad o safbwynt Llywodraeth Cymru ar chwarelu cerrig mân, o ganlyniad i'r ymrwymiad i ymdrin â'r argyfwng hinsawdd, yn ogystal â'r Ddeddf aer glân hirddisgwyliedig y mae ei hangen yn fawr. 

Ni fyddai penderfyniad o'r fath yn briodol ar gyfer datganiad yn y Siambr. 

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i'r sylwadau a gafodd eu gwneud gan ysgrifennydd iechyd Llywodraeth y DU, Thérèse Coffey, ei bod wedi rhoi gwrthfiotigau presgripsiwn i ffrind? Mewn wythnos lle mae anallu'r Llywodraeth Dorïaidd gyda'r economi, yn gwbl briodol, yn cipio'r penawdau, roedd hefyd yn hynod bryderus clywed sylwadau di-hid Gweinidog Iechyd y DU ynghylch llacio dosbarthu gwrthfiotigau. Mewn ymateb i sylwadau Thérèse Coffey, dywedodd y BMA: 

'Mae rhannu meddyginiaethau rhagnodedig, yn enwedig gwrthfiotigau, nid yn unig yn beryglus o bosibl, ond hefyd yn erbyn y gyfraith, a byddem ni'n gofyn i'n Hysgrifennydd Iechyd ein cefnogi ni, yn hytrach, i annog arferion rhagnodi da a diogel.

'Mae gwrthfiotigau'n adnodd gwerthfawr a dylen nhw gael eu rhagnodi dim ond pan fo hynny'n gwbl angenrheidiol. Mae gorddefnyddio gwrthfiotigau yn peryglu eu gwneud yn llai effeithiol, ac yn gwneud rhai heintiau yn fwy anodd eu trin, sydd wedyn wir yn gallu cynyddu'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd wrth i gleifion barhau i fod yn sâl.'

Felly, byddwn i'n croesawu datganiad yn ymbellhau Llywodraeth Cymru o sylwadau Ysgrifennydd iechyd y DU, a diweddariad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau nad yw gwrthfiotigau'n cael eu gor-ragnodi a'u defnyddio'n ddiangen. 

Diolch. Wel, roedden nhw'n sicr yn sylwadau rhyfeddol, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, ac rwy'n meddwl eich bod chi'n gwneud pwynt da iawn, os nad oeddem ni'n gweld meysydd eraill o anallu yn Llywodraeth y DU yn cipio'r penawdau, mae'n siŵr y byddai hynny wedi cael llawer mwy o sylw. Mae'n fater pwysig iawn, ac rwy'n gwybod y byddai'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol eisiau ymbellhau'n llwyr oddi wrth y sylwadau hynny, ac, yn sicr, o fewn fy mhortffolio fy hun, mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn hanfodol bwysig o ran iechyd a lles anifeiliaid hefyd. 

Nododd y G7 bod ymwrthedd gwrthficrobaidd yn fygythiad mawr i iechyd byd-eang, ynghyd â phandemigau fel COVID-19 ac, wrth gwrs, yr argyfwng newid hinsawdd hefyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i'r camau gweithredu, yr uchelgeisiau a'r amcanion a gafodd eu nodi yng nghynllun gweithredu pum mlynedd y DU ar gyfer Ymwrthedd Gwrthficrobaidd 2019 i 2024, ac mae'r uchelgeisiau hyn yn cynnwys gostyngiad yn nefnydd gwrthficrobaidd mewn pobl o 15 y cant erbyn 2024. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn disgwyl yn llwyr i fyrddau iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre gadw at egwyddorion defnyddio gwrthfiotigau'n ddiogel. 

Digon yw digon. Mae preswylwyr Trefnant a Thremeirchion wedi cael llond bol, Trefnydd. Cafodd y bont ei dinistrio yn ystod storm Christoph yn 2021, a dydd Sadwrn mi wnaeth preswylwyr Trefnant a Thremeirchion brotestio am fod y bont yn cymryd mor hir i gael ei thrwsio. Rwyf wedi codi'r mater yma gyda chi a Chyngor Sir Ddinbych sawl gwaith ac mae'r bai i weld yn cael ei basio o'r naill i'r llall. A fyddai'r Gweinidog neu'r Dirprwy Weinidog yn gallu esbonio pryd fydd y bont yn cael ei thrwsio er lles preswylwyr a'r busnesau lleol, a hefyd i uno'r ddau bentref gyda'i gilydd unwaith eto?

14:40

Dim ond i ddweud wrthych chi yn union sut mae pethau ar hyn o bryd, sef gyda'r awdurdod lleol. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi derbyn cais ffurfiol am arian i ailosod pont Llannerch. Rwyf wedi gweld sylw yn y cyfryngau fy hun sydd wedi cynnwys datganiadau gan y cyngor i ddweud eu bod yn datblygu achos busnes cadarn i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru iddo gael ei asesu. Pan fydd yr achos busnes cadarn hwnnw wedi'i dderbyn gan Lywodraeth Cymru, yna'n amlwg y cam nesaf fydd trafodaethau gyda'r awdurdod lleol i weld lle y bydd hwnnw'n mynd. Ond, yn sicr, mae gyda'r awdurdod lleol ar hyn o bryd.

Hoffwn i ddatganiad brys gan Weinidog yr economi ar ôl y newyddion bod AMG Alpoco yng Nghaergybi wedi rhoi gwybod i'w staff bod 28 o swyddi yn mynd i gael eu colli yno erbyn diwedd Tachwedd. Mae'r llythyr a gafodd ei roi i staff ddoe yn dweud mai costau uwch, gan gynnwys costau ynni, sydd y tu ôl i benderfyniad y cwmni i ailstrwythuro. Mae hyn yn gyfystyr â mwy na hanner y gweithlu yn ffatri Caergybi. Afraid dweud, mae hyn yn ergyd fawr i bawb y gallai hyn effeithio arnyn nhw. A gaf i ofyn i Weinidog yr economi roi datganiad ysgrifenedig i ni gyda rhywfaint o frys, neu o leiaf ymateb i ni fel cynrychiolwyr lleol, yn egluro'r mesurau brys y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i gysylltu â'r cwmni i weld pa fesurau y byddai modd eu rhoi ar waith i'w helpu a gobeithio cyrraedd man lle gall y cwmni ailystyried ei gynlluniau? Mae gen i gwestiwn ar hyn—ar y costau sy'n wynebu busnesau—yn y sesiwn cwestiynau yfory, ond roeddwn i'n ystyried bod hyn o'r brys mwyaf a hoffwn i gael datganiad cyn gynted â phosibl. Diolch.

Wel, ni fyddwn ni'n gallu cael datganiad cyn eich cwestiynau yfory, felly rwy'n falch eich bod chi'n codi hynny'n uniongyrchol yfory gyda'r Gweinidog Economi. Rwy'n gwybod ei fod wedi bod yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda grwpiau busnes fel Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, er enghraifft, i drafod yr argyfwng sy'n amlwg yn bodoli ym maes ynni. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn fy nghyhoeddiad busnes y byddwn ni'n cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol fory ar y Bil Prisiau Ynni y mae Llywodraeth y DU yn ei gyflwyno fel deddfwriaeth frys. Gwn i, unwaith eto, fod y Gweinidog wedi bod yn cael trafodaethau yn uniongyrchol â nhw o ran hyn. 

Yr wythnos diwethaf, daeth cyngor Pen-y-bont ar Ogwr â'i ymgynghoriad cyhoeddus ar y bwriad i ehangu Coleg Penybont yng nghanol y dref i ben. Mae'r cynllun cyffrous hwn yn cynnwys prif adeilad gydag awditoriwm 200 sedd, gan ddarparu lleoliad ar gyfer adrannau sy'n cynnwys y celfyddydau perfformio, arlwyo, celfyddydau gweledol, busnes, cosmetoleg, gwallt a harddwch, anghenion dysgu ychwanegol a sgiliau byw'n annibynnol. Mae adeilad arall yn cynnwys ystafelloedd dosbarth a mannau addysgu ar gyfer cyrsiau y mae eu hangen yn fawr mewn gofal cymdeithasol ac iechyd a lles, er enghraifft. Mae hwn yn brosiect seilwaith mawr ac yn dangos y gwerth a ddaw gan golegau addysg fel sefydliadau angor allweddol wrth ddatblygu ein heconomïau a'n cymunedau. Mae angen cysylltu hyn i gyd mewn ffordd strategol i gynnwys cysylltiadau trafnidiaeth a datblygiadau sydd gan fusnesau presennol. A wnaiff y Gweinidog drefnu dadl ar bwysigrwydd y sefydliadau angori wrth gynnal a datblygu ein heconomi?

Wel, yn sicr mae'n swnio'n gynllun cyffrous iawn gan Gyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Yn amlwg, mae'n rhaid ystyried y ddarpariaeth ar gyfer trafnidiaeth i gyd pan fydd ceisiadau cynllunio'n cael eu gwneud, ond nid ydw i'n credu ei fod yn addas ar gyfer datganiad.

14:45

Trefnydd, nid oes gennyf i unrhyw amheuaeth y byddech chi'n cytuno bod cynnal Eurovision 2023 yn Lerpwl yn newyddion gwych i Gymru gyfan, ond yn arbennig i'r gogledd. Felly, byddwn i'n ddiolchgar iawn am ddatganiad gan y Llywodraeth ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu hyrwyddo'r gogledd a Chymru gyfan yn y digwyddiad y flwyddyn nesaf. Mae'n gyfle gwych, o gofio pa mor agos yr ydym ni'n gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid ar sail trawsffiniol, ac efallai y byddwn ni'n awgrymu bod Gweinidog Gogledd Cymru yn mynychu i hyrwyddo'r gogledd yn Eurovision 2023, ynghyd â swyddogion ardderchog o dimau'r economi, digwyddiadau mawr a thwristiaeth?

Mae'r Gweinidog addysg eisiau dod gyda fi hefyd. Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn. Mae'r cysylltiadau rhwng y gogledd, ac yn enwedig y gogledd-ddwyrain, a gogledd-orllewin Lloegr yn bwysig iawn, a gwyddom ni fod pobl yn teithio i Lerpwl ac, yn wir, Manceinion, ac ymhellach mae'n debyg, i weld digwyddiadau celfyddydol a diwylliant. Yn amlwg, mae cystadleuaeth yr Eurovision sy'n dod i Lerpwl yn bwysig iawn. Yn sicr, fe wnaf i ofyn i Ddirprwy Weinidog yr Economi, sydd â chyfrifoldeb dros ddiwylliant a'r celfyddydau, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Nid ydw i'n credu ei bod hi wedi cael y cyfle i gael trafodaethau eto, ond rwy'n siŵr y bydd hi'n gwneud.

Mae heddiw yn Ddiwrnod Atal Caethwasiaeth y DU, sy'n dod o fewn Wythnos Atal Caethwasiaeth, ac rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y mater pwysig hwn. Mae Diwrnod Atal Caethwasiaeth yn rhoi cyfle i godi ymwybyddiaeth o fasnachu pobl a chaethwasiaeth fodern, ac annog llywodraethau, awdurdodau lleol, cwmnïau, elusennau ac unigolion i wneud yr hyn y gallan nhw i ymdrin â'r broblem. Diolch i'r 17 o Aelodau yn y fan yma sydd hyd yma wedi llofnodi'r datganiad barn yr wyf i wedi ei gyflwyno ynglŷn â hyn, ac rwy'n annog yr Aelodau eraill i ychwanegu eu henwau hefyd.

Mae hyn yn cydnabod bod dros 40 miliwn o bobl yn y byd heddiw, ac amcangyfrifir bod 136,000 o bobl ledled y DU, yn wynebu caethwasiaeth fodern. Mae hyn hefyd yn tynnu sylw at y safon Brydeinig newydd ar gaethwasiaeth fodern, a gafodd ei gyhoeddi gan Sefydliad Safonau Prydain—y cyntaf o'i fath yn y byd—ac yn annog Llywodraeth Cymru i helpu i godi ymwybyddiaeth o'r safon a hysbysebu ei fod yn rhad ac am ddim i holl fusnesau a sefydliadau Cymru. Mae'r safon yn rhoi canllawiau i sefydliadau ar gyfer ymdrin â'r risg o gaethwasiaeth fodern, gan gynnwys atal, adnabod, ymateb, adfer, lliniaru ac adrodd. Wrth siarad yn lansiad prosiect Cyngor ar Bopeth Conwy Mynd i'r Afael â Chaethwasiaeth Fodern mewn Amseroedd sy'n Newid yn Gyson ym mis Mawrth y llynedd, dywedais i, yn anffodus, mae caethwasiaeth fodern yn sefyllfa wirioneddol yn ein gwlad ac, er mwyn ymdrin â'r drosedd hon, mae angen partneriaethau arnom ni rhwng yr asiantaethau statudol a'r trydydd sector, i amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed, addysgu pob aelod o'r gymuned, cefnogi goroeswyr, a gweithio tuag at wneud Cymru'n fan mwy diogel lle nad yw troseddwyr yn gallu manteisio ar eraill. Rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn unol â hynny.

Diolch. Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn am y pethau erchyll yr ydym ni wedi'u gweld gyda chaethwasiaeth fodern yma yng Nghymru, ac rwy'n gwybod y byddai'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn hapus iawn i gyflwyno datganiad ysgrifenedig, ac mae hi hefyd yn awyddus iawn i roi cyhoeddusrwydd i'r safon ymhlith sefydliadau yma yng Nghymru.

3. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cymru i ddatganiad y Canghellor ar y cynllun ariannol tymor canolig

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan y Gweinidog cyllid ar ymateb Llywodraeth Cymru i ddatganiad y Canghellor ar y cynllun ariannol tymor canolig. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Rebecca Evans.

Diolch, Llywydd. Ddoe, fe wnaeth y Canghellor diweddaraf wyrdroi llawer o'r penderfyniadau diffygiol a di-hid a gafodd eu gwneud gan ei ragflaenydd a'r Prif Weinidog yn y gyllideb fach lai na mis yn ôl ac a oedd yn faes canolog o raglen dwf honedig y Prif Weinidog newydd. Cafodd datganiad y Canghellor newydd ddoe ei wneud cyn ei gynllun cyllidol tymor canolig ar 31 Hydref, lle y gwnaeth nodi y byddai'n cyhoeddi mesurau eraill i leihau gwariant cyhoeddus mewn cynllun wedi'i gostio gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllideb. Mae'r DU nawr mewn sefyllfa llawer gwaeth yn ariannol ac yn economaidd nag yr oedd cyn y gyllideb fach anffodus. Mae hyn yn anfaddeuol. O ganlyniad i'w gweithredoedd a'i phenderfyniadau ei hun, mae Llywodraeth y DU wedi creu anhrefn yn y marchnadoedd ariannol, sydd wedi arwain at gynyddu costau morgeisi a benthyca'r Llywodraeth, ac mae Banc Lloegr wedi cael ei orfodi i gymryd camau eithriadol i atal cwymp mewn cronfeydd pensiwn. 

A hyn i gyd tra bod cyllidebau aelwydydd yn cael eu gwasgu fwy fyth hyd yn oed a thwll enfawr wedi'i greu mewn cyllid cyhoeddus. Efallai fod y Canghellor newydd wedi dadwneud y rhan fwyaf o'r mesurau i dorri trethi a gyflwynwyd ar 23 Medi, a gafodd eu cynllunio, fel y gwyddom ni, i fod o fantais i'r cyfoethocaf, ond ni all ddadwneud y niwed y mae'r gyllideb fach wedi'i achosi. Gadewch i mi fod yn eglur y bydd pobl yng Nghymru yn talu am fethiannau Llywodraeth y DU gyda threthi uwch yn y dyfodol, biliau ynni uwch a thoriadau i'n gwasanaethau cyhoeddus.

Mae yna ryw ychydig rai wedi elwa llawer iawn o ganlyniad i aflonyddwch y farchnad ariannol yn dilyn y gyllideb fach drychinebus, ac fe fydd nifer fach o bobl yn parhau i elwa. Roedd tynnu'r cap ar fonysau bancwyr yn un o'r ychydig iawn o fesurau a achubwyd o goelcerth y Canghellor newydd. Yn anffodus, nid fy etholwyr i yw'r rhai sy'n elwa ar yr anhrefn a grëwyd gan y gyllideb fach, a dim ond cynyddu y mae eu problemau nhw ac maen nhw wedi'u gadael â thrafferthion i dalu eu morgeisi, gwresogi eu cartrefi a bwydo eu teuluoedd.

Mae hon yn Llywodraeth y DU sydd wedi dweud mai'r prif faes y mae hi'n canolbwyntio arno yw twf, ond eto ni fydd datganiad ddoe yn gwneud unrhyw beth i wella rhagolygon economaidd ein gwlad. Rwy'n methu â gweld sut y bydd unrhyw un o'r mesurau a gyhoeddwyd gan y Canghellor yn gwneud unrhyw beth heblaw am grebachu'r economi a dyfnhau'r dirwasgiad. Mae hyn yn llwyr i'r gwrthwyneb i'r cynllun twf honedig. Er i'r Canghellor nodi mai blaenoriaeth Llywodraeth y DU wrth wneud y penderfyniadau anodd sydd o'u blaenau nhw fydd y rhai mwyaf agored i niwed bob amser, nid yw ef wedi cynnig unrhyw beth i'w cefnogi nhw eto. Yn hytrach, mae ef wedi torri cymorth ynni yn gynamserol i ddegau o filiynau o aelwydydd, gan ychwanegu at y pryder ynglŷn â sut y bydd pobl yn talu eu biliau.

Mae Llywodraeth y DU wedi methu dro ar ôl tro i gymryd cyfleoedd i wella ein diogelwch ynni i'r dyfodol a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Os yw'r Llywodraeth hon o ddifrif ynglŷn ag ysgogi twf economaidd, mae'n rhaid iddi fod yn fwy uchelgeisiol o ran buddsoddi. Mae'n rhaid i'r Canghellor roi'r ysgogiad cyfalaf i fuddsoddi mewn ynni gwyrdd a datgarboneiddio. Ni ddylai geisio torri gwariant cyfalaf pan fyddwn ni'n wynebu toriadau o flwyddyn i flwyddyn i'n cyllideb gyfalaf ni drwy gydol y cyfnod hwn o adolygu gwariant.

Mae'r anhrefn sy'n amgylchynu camweinyddu Llywodraeth y DU o ran yr economi wedi tynnu sylw yn anffodus oddi wrth y materion gwirioneddol y mae pobl yn eu hwynebu nhw. Mae angen i Lywodraeth y DU ddiweddaru ei hymdrechion i helpu'r rhai sydd â'r angen mwyaf. Mae'n rhaid i'r Canghellor fanteisio ar y cyfle ar 31 o fis Hydref i ddarparu cefnogaeth bellach a anelir i helpu aelwydydd a busnesau sy'n ei chael hi fwyaf anodd yn yr argyfwng presennol, gan gynnwys pobl sy'n derbyn budd-daliadau. Llywodraeth y DU sydd â'r ysgogiadau cyllidol allweddol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran yr argyfwng costau byw. Mae'n rhaid iddi ddefnyddio ei hysgogiadau o ran treth mewn ffordd fwy cyfiawn, gan gynnwys treth ffawdelw ar enillion yn y sector ynni.

Rwy'n ofni bod datganiad y Canghellor ddoe yn argoeli cyfnod newydd o gyni. Hyd yn oed cyn unrhyw doriadau gwariant gydag ymarfer effeithlonrwydd arfaethedig y Canghellor, mae chwyddiant wedi erydu ein setliad cyllideb ddatganoledig ni'n sylweddol eisoes. Dros y cyfnod gwariant presennol o dair blynedd, fe fydd ein cyllideb ni werth hyd at £4 biliwn yn llai mewn termau real nag yr oedd pan gafodd ei sefydlu y llynedd. Fe fydd yn werth £1.5 biliwn yn llai hyd yn oed flwyddyn nesaf. Fe fydd penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn Whitehall o ran lle bydd y toriadau yn digwydd gyda gwariant cyhoeddus yn cael effaith wirioneddol ar ein cyllideb ni yng Nghymru. Wrth i ni, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill edrych eto ar ein cynlluniau gwariant ar gyfer y flwyddyn nesaf, rydym ni'n cael ein gorfodi i wneud cyfres hynod anodd o ddewisiadau. Er na allwn ni amddiffyn rhag holl effaith gweithredoedd Llywodraeth y DU, fe fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i helpu aelwydydd, gwasanaethau a busnesau trwy'r argyfwng cynyddol barhaus hwn o wneuthuriad Llywodraeth y DU. Yn y flwyddyn ariannol hon rydym ni'n buddsoddi £1.6 biliwn mewn cynlluniau sy'n rhoi cefnogaeth yn uniongyrchol i bobl, fel y taliad cymorth tanwydd gaeaf gwerth £200, ac ystod eang o raglenni a chynlluniau sy'n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl—cynlluniau fel y cynllun gostyngiadau treth cyngor, prydau ysgol am ddim a grant datblygu disgyblion, sy'n helpu teuluoedd gyda chostau anfon eu plant i'r ysgol.

Wrth edrych i'r dyfodol, fe fyddwn ni'n cyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru ar 13 o fis Rhagfyr ac, wrth wneud hynny, rydym ni am gynnig ymateb ystyriol a gofalus i'r argyfwng, gan ystyried y rhagolwg cyllidol llawn a ddarperir gan Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidol i roi cymaint o sicrwydd â phosibl i'n gwasanaethau cyhoeddus ni a'n partneriaid ni. Er bod ein hadnoddau yn gyfyngedig ac ni wnaiff cyhoeddiad ddoe unrhyw beth i leddfu'r sefyllfa sydd eisoes yn heriol sy'n wynebu Llywodraeth Cymru, ein blaenoriaeth ni fydd gwarchod y rhai mwyaf agored i niwed a chreu Cymru gryfach, tecach a gwyrddach sy'n diogelu lles ein cenedlaethau yn y dyfodol. Fe fyddwn yn gwybod mwy ar Galan Gaeaf pan fydd cynllun cyllidol tymor canolig y Canghellor a rhagolygon annibynnol y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidol yn cael eu cyhoeddi, ond rwy'n ofni bod yn rhaid i ni baratoi ein hunain nawr am bennod arall o'r sioe arswyd hon o ganlyniad i stiwardiaeth ddiofal Llywodraeth y DU o'r economi a chyllid cyhoeddus.

14:55

Diolch i chi, Gweinidog. Yn gyntaf, fe hoffwn i gydnabod nad yw'r wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai da iawn, a dweud y lleiaf. Ac rwy'n credu ein bod ni i gyd yn siomedig ein bod ni'n ein cael ein hunain—[Torri ar draws.]

Mae gennyf i ddiddordeb ac awydd mawr i glywed beth sydd gan yr Aelod i'w ddweud, felly a gawn ni ychydig mwy o dawelwch i glywed cynnwys yr hyn sy'n cael ei ddweud?

Diolch i chi, Llywydd. Fel y dywedais i, rwy'n credu ein bod ni i gyd yn siomedig ein bod ni'n ein cael ein hunain yn y sefyllfa hon. Rwy'n croesawu'r Canghellor newydd i'w swydd. Mae'n un sydd ag ystod eang o wybodaeth am beirianwaith y Llywodraeth ac mae'r profiad angenrheidiol ganddo i roi'r wlad yn ôl ar y trywydd iawn. Nid amseroedd arferol mo'r rhain ac, er nad yw digwyddiadau diweddar wedi bod o gymorth, mae honni y gallem ni ein hynysu ein hunain yn llwyr oddi wrth nifer o ergydion byd-eang sydd wedi ein herio ni mewn cymaint o ffyrdd yn gamgymeriad. Ond, Llywydd, fel y dywedais i yn gynharach, rwy'n ymwybodol iawn bod yr wythnosau diwethaf wedi bod, a dweud y lleiaf, yn siomedig. Er fy mod wedi amddiffyn rhai o'r cynigion a gyhoeddwyd yn flaenorol o bosibl, fe wnes i hynny yn y gred bod Llywodraeth y DU wedi modelu effeithiau ei chynlluniau ni, ac fe ddylai'r Llywodraeth fod wedi cyhoeddi'r holl wybodaeth a oedd ganddi wrth wneud ei chyhoeddiad gwreiddiol, ochr yn ochr â chynigion manwl am ei chynlluniau ariannol tymor hwy. Roedd y ffaith nad oedd hynny ar gael yn gamgymeriad. Ni ddylai hynny fod wedi digwydd, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y Canghellor wedi ymrwymo i ddilyn egwyddorion cyfrifoldeb cyllidol, fel llawer o gangellorion o'i flaen.

Llywydd, er fy mod yn dal i gredu mai twf economaidd yw'r ffordd orau allan o'r argyfwng hwn, yn y pen draw, yr hyn sydd ei angen arnom ni nawr yw sefydlogrwydd, ac mae'n rhaid i'r Canghellor newydd gyflawni hyn, ac mae'r ymateb i'w ddatganiad ddoe wedi helpu i dawelu ychydig ar y marchnadoedd. Rwy'n credu hefyd y bydd cyhoeddi'r cyngor cynghori economaidd newydd yn rhoi sefydlogrwydd a chyfeiriad pellach i bolisi cyllidol y DU. Roeddwn i'n falch o glywed bod y Gweinidog wedi siarad â'r prif ysgrifennydd, ac rwy'n gobeithio, mewn sgyrsiau yn y dyfodol, y bydd y Gweinidog yn codi'r posibilrwydd o weld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r cyngor i ailsefydlu'r gwaith traws-lywodraethol pwysig hwnnw, yn ogystal â cheisio cael gogwydd Cymreig ar y cyngor i adlewyrchu ein diddordebau cyffredin ni a'r ymagwedd economaidd sy'n benodol i Gymru. Rwy'n gobeithio y gellir rhoi sicrwydd ynglŷn â'r hyn fydd yn y rhagolygon cyllidebol yn dilyn y datganiad ariannol yn ddiweddarach yn y mis.

Rwyf i'n cytuno â'r Gweinidog hefyd am yr angen parhaus i gefnogi pobl, yn enwedig y rhai sy'n ei chael hi'n fwyaf anodd yn ystod y cyfnod cythryblus hwn, ac mae'n rhaid i Lywodraeth y DU wneud popeth y gall hi, fel y gwnaeth hi o'r blaen yn ystod COVID, a thu hwnt, i estyn y cymorth sydd ei angen ar bobl. Nawr, rwy'n dawel fy meddwl oherwydd sylwadau'r Canghellor y bydd ef bob amser yn canolbwyntio ar y rhai sydd â'r angen mwyaf, ond fe wn i bod yn rhaid i ninnau wneud ein rhan hefyd wrth sicrhau bod y Llywodraeth yn parhau i ganolbwyntio ar helpu'r rhai mwyaf agored i niwed, a dyna pam, heddiw, mae grŵp y Ceidwadwyr Cymreig wedi ysgrifennu at y Canghellor yn galw am uwchraddio budd-daliadau yn unol â chwyddiant.

Ond mae'n rhaid i mi ddweud, wrth i'r Gweinidog ddweud sut y bydd cyhoeddiadau'r Canghellor yn crebachu'r economi, mae'n rhaid i mi holi ai dim ond gwrthwynebu unrhyw beth y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud yw polisi Llywodraeth Cymru. Ychydig wythnosau yn ôl, roedden nhw'n dadlau yn erbyn y cynllun twf ac yn galw am ei ddiddymu. Nawr mae hi'n ymddangos eu bod nhw'n awgrymu bod gwrthdroi'r un cynllun yn atal twf, felly beth maen nhw'n ei gredu? Llywydd, yr hyn yr ydym ni'n aros i'w glywed o hyd—a datganiad ar ôl datganiad, rwy'n gofyn am hyn— yw beth yw cynlluniau'r Llywodraeth i gyflawni'r twf a'r ffyniant sydd eu hangen ar ein heconomi ni yng Nghymru? Os yw'r cynllun twf yn rhoi'r fath anghywir o dwf economaidd a bod diddymu'r cynllun yn atal twf, yna beth yn union y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wireddu posibiliadau llawn ein heconomi ni? Yn ddiweddar, fe ddywedodd y Prif Weinidog mewn cyfweliad fod angen buddsoddiad mewn seilwaith a buddsoddiad mewn cyfalaf dynol, ac rwy'n cytuno â hynny, ond sut mae hynny'n cysoni â rhai o'r cyfraddau busnes uchaf yn y DU, a'r gwaharddiad ar seilwaith ffyrdd newydd, a threth dwristiaeth nad yw'r diwydiant yn ei hoffi ar y cyfan, a diffyg adeiladu tai ledled y wlad, a Chymry yn ennill llai bob blwyddyn nag yng ngweddill y DU? Sut all y pethau hynny fod yn ffyrdd o sicrhau twf? Llywydd, mae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn anodd ac yn heriol, ond yr hyn y maen nhw wedi ei ddangos, i fynd i'r afael â'r anawsterau yr ydym yn eu hwynebu, yw bod angen i ni greu'r amodau ar gyfer twf. Diolch.

15:00

Diolch i lefarydd y Ceidwadwyr am y sylwadau hynny y prynhawn yma, ac rwy'n cytuno ag ef, nid yw'r rhain wedi bod yn wythnosau da iawn, a dweud y lleiaf, ac mae hi'n sicr yn siomedig. Rwy'n credu ei fod wedi gwneud y gorau y gallai yn y fan honno i anfon neges bendant at ei gydweithwyr yn San Steffan o ran asesiad y Ceidwadwyr Cymreig o'r traed moch a welsom ni yn San Steffan yn ddiweddar.

Ond rwyf i yn croesawu'r llythyr y bydd y Ceidwadwyr yn ei anfon i'r Canghellor diweddaraf ynglŷn â budd-daliadau—[Torri ar draws.] Mae wedi mynd, mae hynny'n ardderchog. Felly, gyda gobaith, fe fydd y Canghellor hwn yn cadw ei swydd yn ddigon hir i chi gael ateb, oherwydd ni chefais i un gan y diwethaf. Ond rwy'n credu bod hynny i'w groesawu o ran eich cefnogaeth chi i godi budd-daliadau yn unol â chwyddiant, ac mae hynny'n sicr i'w groesawu.

Roedd llawer o sylwadau yn y fan yna am dwf a sut mae Llywodraeth Cymru yn ystyried twf. Wel, fe grëwyd y comisiwn twf a sefydlwyd gan Ysgol Economeg Llundain i nodi ffyrdd o wella perfformiad twf dilewyrch y DU, ac fe dynnodd y comisiwn hwnnw sylw ei hun at bwysigrwydd hanfodol parhau i fuddsoddi yn y system addysg ac mewn sgiliau addasadwy a dysgu gydol oes. Roedd yn pwysleisio swyddogaeth allweddol seilwaith hefyd yn elfen hanfodol i dwf cynaliadwy, ac roedd yn dadlau o blaid cyfraddau uwch, ac nid is o fuddsoddiad mewn seilwaith ledled y DU. Mae hynny'n gwbl gyson â'r hyn y mae'r Prif Weinidog a fy nghydweithwyr eraill i'n sôn amdano bob amser ynglŷn â'n dealltwriaeth ni o dwf. Buddsoddi mewn pobl, buddsoddi mewn sgiliau a buddsoddi mewn seilwaith yw hwnnw. Rydym ni'n dymuno gweld, yn arbennig, fuddsoddi mewn seilwaith gwyrdd i'n harwain ni tuag at sero net ac i helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.

Hefyd, mae hi'n werth cofio bod dadansoddiad ar gyfer Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dangos swyddogaeth hanfodol cynnal buddsoddiad mewn seilwaith i ymateb i'r heriau o wella perfformiad economaidd ardaloedd sydd ar ei hôl hi a chyflawni sero net hefyd a sicrhau cydnerthedd o ran yr hinsawdd a gwell amgylchedd. Felly, eto, mae hyd yn oed y comisiwn seilwaith hwnnw'n gweld pethau fel y gwnawn ni yn Llywodraeth Cymru.

Roedd gweledigaeth Llywodraeth y DU ar gyfer twf yn ymddangos fel pe bai'n ymwneud â dim ond torri treth ar gyfer y rhai cyfoethocaf un, fel pe bai hynny'n mynd i fod y cymhelliant yr oedd ei angen arnynt, ac wedyn nid oes dim ar ôl o weledigaeth Llywodraeth y DU ar gyfer twf yn y cynllun presennol, ar wahân i'r ymrwymiad parhaus, fel rwyf i'n ei ddeall, i'r parthau buddsoddi. Eto i gyd, ychydig iawn o fanylion sydd gennym ni ynglŷn â sut olwg allai fod ar y parthau buddsoddi hynny. Rydym ni'n edrych ymlaen at drafodaethau pellach gyda Llywodraeth y DU ynghylch hynny.

Roedd yr Aelod yn cyfeirio hefyd at y drafodaeth a gefais i gyda'r Prif Ysgrifennydd i'r Trysorlys. Ddoe yr oedd hynny, ac fe wnes i hynny ochr yn ochr â fy nghymheiriaid yn yr Alban. Roedd honno'n sgwrs ddefnyddiol iawn, yn fy marn i, ond yr hyn sydd ei angen arnom ni mewn gwirionedd yw prif ysgrifennydd sydd yn ei gweld hi'n rhan wirioneddol o'i gyfrifoldebau craidd i fod â pherthynas fel hon gyda Llywodraeth Cymru a gyda'r Llywodraethau datganoledig eraill o ddydd i ddydd, a chael rhywun sydd â diddordeb gwirioneddol yng Nghymru, ar gyfer mynd i'r afael â'r pethau yr ydym ni'n ceisio gwneud cynnydd yn eu cylch gyda Llywodraeth y DU.

Hwn, fel dywedodd y Prif Weinidog, fydd y chweched Prif Ysgrifennydd i'r Trysorlys a welais yn fy amser i ac mae honno'n broblem, yn yr ystyr bod yn rhaid i chi ddechrau o'r dechrau bob tro yr ydych chi'n gweithio gyda Phrif Ysgrifennydd newydd i'r Trysorlys, oherwydd mae llawer o'r materion yr ydym ni'n ceisio symud ymlaen â nhw yn rhai manwl a chymhleth iawn. Mae'r materion sy'n ymwneud â chyllid yn lle'r cyllid oddi wrth yr UE a'r fformiwla a ddefnyddiodd Llywodraeth y DU i benderfynu ar y cyllid hwnnw, sy'n ein gadael £1 biliwn yn brin, mae angen i ni gael trafodaethau manwl am hynny. Mae angen i ni barhau â'r trafodaethau hynny yr ydym ni'n dechrau eu cael ynghylch hyblygrwydd cyllidol i Gymru. Felly, mae hi'n siomedig pan fydd yn rhaid i chi fynd yn ôl i'r dechrau un, dro ar ôl tro, gyda'r trafodaethau hyn. Felly, rwy'n gobeithio y bydd meithrin perthynas dda, newydd, gref gyda'r Prif Ysgrifennydd i'r Trysorlys diweddaraf yn dechrau mynd â ni i lawr y llwybr hwnnw hefyd. Rwy'n edrych ymlaen at barhau â'r berthynas honno.

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae'n rhaid imi ddweud bod y llanast hwn yn dangos unwaith eto y graddau yr ydym ni yma yng Nghymru ar drugaredd mympwyol Gweinidogion yn San Steffan. Mae hynny'n tanlinellu unwaith eto sut mae'r setliad datganoli presennol yn ein gadael ni'n ddirym yn ariannol o ran gallu gwarchod ein buddiannau, a diogelu'r bobl sy'n agored i niwed yn ein plith, rhag penderfyniadau niweidiol Llywodraeth y DU.

Yn ddiweddar, fe wnaethoch chi ddisgrifio bod yn rhan o'r undeb a bod â Llywodraeth y DU yno fel rhyw fath o bolisi yswiriant i Gymru, ond siawns bod yn rhaid i chi dderbyn erbyn hyn ei bod hi wedi bod ychydig yn fwy tebyg i faen melin am ein gyddfau ni yn ystod yr wythnosau diwethaf. Ac os nad yw digwyddiadau diweddar yn dadlau'r achos o blaid annibyniaeth, wel, siawns nad yw'n dadlau'r achos o blaid mwy o annibyniaeth gyllidol i Gymru: mwy o bwerau i ddiogelu ein pobl ni rhag yr enbydrwydd yr ydym ni'n ei deimlo eisoes ac mae'n siŵr y bydd hwnnw'n dwysáu yn ystod y misoedd nesaf.

Nawr, rydych chi'n dweud yn y datganiad mai Llywodraeth y DU sydd â'r ysgogiadau ariannol allweddol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn yr argyfwng costau byw, ac mae angen iddi ddefnyddio'r ysgogiadau hynny o ran trethiant mewn ffordd decach. Wel, pam fyddech chi'n caniatáu i'r Torïaid wneud eu gwaethaf, yn lle mynnu pwerau i chi wneud eich gorau i bobl Cymru? Fe wyddom ni, yn yr Alban, eu bod nhw'n gallu diwygio'r bandiau treth incwm hynny. Mae honno'n ffordd o gael gwell adlewyrchiad o allu pobl i dalu. Dyna'r lleiaf y gallwn ni ei ddisgwyl, rwy'n credu, yma yng Nghymru. Ond, os ewch chi â hynny i'r pegwn arall, os nad yw Llywodraeth y DU yn cyflwyno treth ffawdelw ar gwmnïau ynni, yna pam na allem ninnau fod â'r pwerau yma i wneud rhywbeth ynglŷn â hynny, yn lle gwneud dim ond cwyno mewn datganiad ysgrifenedig neu ddatganiad llafar?

Wedi dweud hynny, pwerau newydd, ie, iawn, mae hwnnw'n un peth, ond mae angen i ni ddefnyddio'r pwerau sydd gennym eisoes hefyd i'r effaith fwyaf posibl i amddiffyn y bobl fwyaf bregus rhag yr hyn sydd o'n blaenau ni. Gwnaeth y Prif Weinidog osgoi hyn unwaith eto yn gynharach, felly rwyf i am ofyn a fyddech chi'n cadarnhau bod amrywio cyfraddau Cymru o dreth incwm yn cael ei ystyried o ddifrif gan y Llywodraeth hon. Ac a wnewch chi ymuno â Phlaid Cymru i dderbyn ei bod hi'n ymddangos fel pe bai hi am fod yn angenrheidiol i weithredu fel hyn i, unwaith eto, liniaru rhai o'r toriadau dinistriol gan San Steffan sydd ar y gorwel?

Rydych chi'n iawn i feirniadu'r ffaith bod y pecyn cymorth ynni am gael ei gwtogi i chwe mis, oherwydd mae hynny'n rhoi ymyl clogwyn a phobl yn y tywyllwch o ran yr hyn a fydd yn digwydd ar ddiwedd y cyfnod hwnnw. Rwy'n deall eich bod chi wedi siarad, fel roeddech chi'n dweud, gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, ond pa gynlluniau sydd gennych chi i siarad â'r Canghellor ei hun mewn gwirionedd, i nodi nid yn unig yr achos o blaid rhagor o bwerau cyllidol i Gymru, ond i wneud yn siŵr ei fod e'n deall y goblygiadau i Gymru oherwydd ei gyhoeddiadau diweddar, a gwneud yn siŵr hefyd, cyn y datganiad ar ddiwedd y mis, ei fod yn deall pa oblygiadau a allai fod i ni yma yng Nghymru?

O ran ynni yn benodol, a fyddwch chi'n dadlau'r achos o blaid yr eiddo hynny sydd oddi ar y grid, yn arbennig, oherwydd mae hwnnw'n rhywbeth sy'n peri pryder enfawr? Fe wn i fod Ben Lake, fy nghyd-aelod o Blaid Cymru sydd yn San Steffan, wedi codi'r angen am gefnogaeth o ran olew a phobl sydd oddi ar y grid. Ni wnaeth y Canghellor ddiystyru hynny. Felly, yn eich trafodaethau chi gyda'r Canghellor, a fyddwch chi'n ailadrodd yr angen i estyn cefnogaeth i'r rhai nad ydyn nhw'n gallu cael gafael arno yn yr un ffordd â'r rhan fwyaf o bobl ar hyn o bryd?

Nawr, ddoe, roedd eich datganiad ysgrifenedig chi'n nodi nad oedd y Canghellor ddim i fod o unrhyw gysur i'r rhai mwyaf agored i niwed. Wel, fe allem ninnau roi'r un dyfarniad ar eich datganiad chithau heddiw. Nid oes unrhyw beth sy'n newydd yma; ambell i gyfeiriad annelwig at gynlluniau cymorth a gyhoeddwyd yn flaenorol. Roeddwn i'n gobeithio y byddech chi'n dod yma heddiw mewn gwirionedd gyda rhywbeth ychydig yn fwy pendant i'w ddweud wrthym ni. Ac rydych chi'n dweud bod angen i Lywodraeth y DU ganolbwyntio ei hymdrechion o'r newydd i helpu'r rhai sydd yn yr angen mwyaf. Wel, siawns nad yw hynny yr un mor wir i Lywodraeth Cymru hefyd, ac onid yw hi'n bryd i chi fod yn paratoi cyllideb frys yma yng Nghymru i ganolbwyntio o'r newydd ac ailddyrannu adnoddau i helpu'r mwyaf anghenus, fel y dywedwch chi, a gwneud hynny ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, wrth gwrs, a pheidio aros tan y flwyddyn nesaf?

Ac yn olaf, o ran cyllideb y flwyddyn nesaf, rydych chi wedi dweud hyn ddwywaith nawr, yn y datganiad ysgrifenedig diwethaf ddoe a'ch datganiad llafar chi heddiw, y bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei chyflwyno ar 13 o fis Rhagfyr. Fy nealltwriaeth i oedd mai'r cytundeb gwreiddiol oedd na fyddai hi'n ddim hwyrach na 13 o fis Rhagfyr, a bod y dyddiad hwnnw wedi cael ei ddewis, neu gael ei nodi, oherwydd ei fod o ran cyhoeddiad cyllidol disgwyliedig Llywodraeth y DU ym mis Tachwedd. O ystyried bod hwnnw am ddod yn gynt erbyn hyn, siawns eich bod chi mewn sefyllfa i gyhoeddi eich cyllideb ddrafft chi'n gynharach. Byddai hynny'n caniatáu mwy o graffu gan y Senedd hon, ac yn rhoi mwy o amser arweiniol hefyd i ddarparwyr y gwasanaethau cyhoeddus hynny yng Nghymru y bydd yn rhaid iddyn nhw wneud i bob ceiniog goch weithio mor galed â phosibl.

15:05

Rwy'n ddiolchgar iawn am yr holl sylwadau hynny. Rwyf i am ddechrau lle y dechreuom ni'r tro diwethaf pan oeddem ni'n trafod cyllideb fach Llywodraeth y DU, a'r ffaith mai fy marn i yw nad y DU yw'r broblem, Llywodraeth y DU yw'r broblem, ac mae gennym ni gyfle i newid hynny. Rwy'n credu bod sefyllfa'r Prif Weinidog presennol yn gwbl anghynaladwy, yn fy marn i, yn enwedig oherwydd bod y gyflafan a ddilynodd hynny o'i gwneuthuriad hi ei hun, lawn cymaint â'r Canghellor, y gwnaeth hi ei ddiswyddo o'i waith.

Ond rwy'n credu bod y pwyntiau ehangach yn bwysig iawn o ran cael y sgwrs fwy eang honno am y pwerau sydd ar gael i ni yma yng Nghymru, a sut olwg fyddai ar gyfres well o bwerau. Rwy'n credu bod honno'n drafodaeth sy'n parhau. Mae hi'n gyfredol iawn. Mae'r Sefydliad Materion Cymreig yn gwneud gwaith hynod ddiddorol ar hyn o bryd mewn maes fel hwn, i geisio tynnu pobl eraill a lleisiau eraill i mewn i'r sgwrs honno, rhywbeth sydd wir i'w groesawu yn fy marn i.

O ran cyfraddau treth incwm Cymru, nid wyf i o'r farn bod y Prif Weinidog yn osgoi heddiw. Rwy'n credu ei fod ef wedi gwneud dim ond nodi yn onest, yn yr ystyr y bu ni'n eglur iawn ein bod ni â phroses sefydledig o ran cyfraddau treth incwm i Gymru, sy'n parhau pob un flwyddyn. A honno yw ystyried cyfraddau Cymru o'r dreth incwm, ac ystyried y gwaith y mae'n rhaid i gyfraddau treth incwm Cymru ei wneud wrth ariannu gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, ac yna fe gyhoeddwn ni'r penderfyniadau hynny ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft.

Dim ond i barhau â'r drafodaeth a oedd yn digwydd rhwng y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru yn gynharach heddiw, ynglŷn â chyfraddau treth incwm i Gymru, fe wn i fod rhywfaint o ddiddordeb yn y swm y gellid ei godi drwy gyfraddau uwch a chyfraddau ychwanegol, yn arbennig felly. Wel, fe fyddwn ni'n dechrau gyda'r gyfradd sylfaenol, a dyma'r ffigwr sy'n cael ei ddyfynnu'n aml iawn yn y Siambr: fe fyddai hynny'n codi tua £220 miliwn. Ond wedyn fe fyddai'r gyfradd uwch—a pe byddech chi'n codi un geiniog yw hyn—yn codi oddeutu £30 miliwn, ac yna dim ond £4 miliwn pe byddech chi'n codi'r gyfradd ychwanegol. Felly, rwy'n credu bod hynny'n ein helpu ni ychydig wrth roi rhyw gyd-destun defnyddiol, mewn gwirionedd, ar gyfer y mathau o benderfyniadau y bydd yn rhaid i ni eu gwneud, a'r mathau o ddewisiadau sydd ar gael i ni. Ond dim ond i fod yn gwbl onest: nid oes unrhyw benderfyniadau wedi eu gwneud. Rwy'n credu bod tro pedol Llywodraeth y DU ynglŷn â'r dreth incwm wedi newid y cyd-destun ar gyfer y penderfyniadau hynny erbyn hyn, ond fe fyddwn ni'n cynnal y trafodaethau hynny wrth i ni symud tuag at gyhoeddiad y gyllideb ddrafft ar 13 o fis Rhagfyr.

Fy mwriad yw aros gyda dyddiad y 13 o fis Rhagfyr, oherwydd mae hwnnw'n parchu'r protocol sydd gennym ni gyda'r Pwyllgor Cyllid. Ond hefyd, rwy'n credu bod yn rhaid i mi ddweud wrth bobl mai hon fydd y gyllideb anoddaf y gwnaethom ni ei phennu ers datganoli, yn yr ystyr ein bod ni'n edrych yn barod ar gyllideb sydd werth £1.5 biliwn yn llai'r flwyddyn nesaf. Mae hynny cyn unrhyw doriadau sy'n cael eu cyhoeddi naill ai ar 31 o fis Hydref neu mewn datganiad gwanwyn sydd ar ddod. Felly, fe fydd hon yn gyllideb lle rydym ni'n edrych eto ar ein rhaglen lywodraethu ni, rydym ni'n ailystyried ein blaenoriaethau ni ac yn y blaen. Mae hi'n bosibl y gallai hon fod yn gyllideb lle byddwn ni'n cael ein gorfodi i dorri prif grwpiau neu raglenni gwariant ac yn y blaen ynddi hi. Felly, rwyf i o'r farn fod hynny'n rheswm da pam mae angen amser i wneud y gwaith yna yn y Llywodraeth.

Mae hi'n wir yn aml ein bod ni'n cael ein gofyn i ganiatáu mwy o amser ar gyfer craffu nag ar gyfer paratoi'r gyllideb hyd yn oed. Fe hoffwn i ddisgrifio'r gwaith mawr sy'n digwydd wrth ddatblygu cyllideb, o ran y comisiynau hynny sy'n mynd allan i bob un o fy nghydweithwyr. Mae cyfres o gyfarfodydd dwyochrog gyda phob un o fy nghydweithwyr gweinidogol. Bydd eu hadrannau nhw i gyd yn edrych ar eu rhaglenni nhw ac yn ceisio ystyried beth a ellid ei wneud yn wahanol, lle mae'r pwysau, ac yn y blaen. Felly, mae'r pethau hyn yn cymryd wythnosau lawer i'w gwneud, a phan rydym ni'n ystyried cyllideb sy'n ymwneud â thoriadau yn hytrach na dyraniadau, mae hynny'n gwneud y dasg yn anoddach fyth. Felly, roeddwn i'n awyddus i ddweud wrth gydweithwyr mai hwnnw yw'r rheswm pam mae angen amser arnom ni i ymgymryd â'r gwaith hwn. [Torri ar draws.] Ac ydw, rwy'n cytuno bod y gwaith craffu yn bwysig iawn hefyd, ond mae'r amserlen yr ydym ni'n ei nodi yn parchu'r gwaith craffu hwnnw.

Felly, o ran y pwyntiau eraill a godwyd: ie, rwy'n sicr am fwrw ymlaen â'r pwyntiau penodol yr oeddech chi'n awyddus i'w codi gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chefnogaeth oddi ar y grid, er enghraifft, ac rwy'n rhannu'r pryderon am gyhoeddi dileu'r cap ynni o fis Ebrill. Rwy'n credu y bydd hynny ond yn achosi llawer o ofid i aelwydydd yng Nghymru nawr sydd angen mwy o sicrwydd i gynllunio ar gyfer y cyfnod sydd i ddod.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod nhw am sefydlu adolygiad o'r cymorth gydag ynni, ac fe fuom ni'n eglur iawn bod yn rhaid i'r adolygiad hwnnw ddechrau a gorffen yn gyflym iawn. Roedd Llywodraeth y DU, yn y cyfarfod ddoe, yn eithaf agored y gallwn ni fod yn rhan lawn o'r adolygiad hwnnw a bod â mewnbwn i'r adolygiad hwnnw. Y Trysorlys fydd yn ei arwain, ond rwy'n credu eu bod nhw—. O bosibl oherwydd mai dyma oedd ein cyfarfod cyntaf ni, fe wnaethon nhw ddechrau mewn ffordd golegaidd iawn, gan ddymuno bod yn agored a thryloyw. Felly, roeddwn i o'r farn ei bod hi'n ymddangos yn gyfle da i ni allu gweithio gyda'n gilydd i ddechrau o bosibl, ac fe fyddai hwnnw'n gyfle i ni nodi yn hollol yr hyn y mae ein hetholwyr ni'n ei deimlo o ganlyniad i'r sefyllfa bresennol, a'r diffyg sydd o ran gallu i fusnesau a gwasanaethau cyhoeddus gynllunio ymlaen llaw yn y sefyllfa hon hefyd.

15:15

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi'r prynhawn yma. Rwyf i am ddechrau drwy groesawu sylwadau llefarydd y Ceidwadwyr, mewn gwirionedd. Rwy'n gwybod pa mor anodd y gall y cyfraniadau hyn fod, ond roedd hi'n ymddangos eich bod chi'n llafurio tuag at edifeirwch. Rwy'n gobeithio y bydd yn gallu cwblhau'r daith dros yr wythnosau nesaf.

Fe wyddom ni y bydd methiant Llywodraeth y DU i reoli'r economi gyffredinol yn cael canlyniadau gwirioneddol, ac mae'r Gweinidog wedi amlinellu'r canlyniadau dinistriol i'n gwasanaethau cyhoeddus ni yn rhan o hynny. Eto i gyd, fe hoffwn i fynd i'r afael â materion eraill y prynhawn yma. Rydym ni'n gwybod hefyd fod gan gyllideb y DU, os mynnwch chi, dwll o £40 biliwn yn ei chanol oherwydd Brexit, a beth bynnag arall yr ydym ni'n ei wneud o ran gwneud penderfyniadau economaidd, oni bai ein bod ni'n gallu masnachu yn ddidramgwydd gyda'n cymdogion agosaf fe fydd ein heconomi ni'n siŵr o danberfformio drwy'r amser. Fe fyddwn i'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau edrych o ddifrif nawr ar y ffordd y byddwn ni'n cychwyn ar daith tuag at ailymuno â'r undeb tollau a'r farchnad sengl er mwyn sicrhau ein bod ni'n gallu ailddechrau gweithgarwch economaidd yn y wlad, ond hefyd, Gweinidog, eich bod chi'n arwain trafodaeth ar drethiant.

Rydych chi wedi ateb, roeddwn i'n meddwl, y cwestiynau a godwyd gan Blaid Cymru'r prynhawn yma'n fanwl iawn, ond mae angen dadl yng Nghymru, yn y lle hwn, ynghylch cyfraddau trethiant. Ni allwn ni ddarparu'r gwasanaethau y dymunwn eu darparu na llunio'r wlad yr ydym ni'n dymuno byw ynddi hi heb yr incwm angenrheidiol o drethiant ar gyfer gwneud hynny. Mae ein cyfraddau ni o drethiant, pa geiniog bynnag yma neu acw, yn sylweddol is na'r cyfraddau mewn economïau eraill o'r fath, ac mae hynny'n golygu y bydd ein gwasanaethau cyhoeddus ni bob amser wedi'u tanfuddsoddi mewn termau cymharol. Rwy'n gobeithio y gallwn ni ddechrau'r ddadl honno.

Yn rhan o'r ddadl honno—ac nid wyf i am drethu dim mwy ar amynedd y Llywydd—bydd angen dadl ynglŷn â'r pwerau ariannol sydd ar gael i'r lle hwn. Roedd y Prif Weinidog yn eglur iawn wrth ateb cwestiwn gan yr Aelod dros Gwm Cynon yn gynharach sef bod y pwerau benthyca sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ymhell o fod yn ddigonol—mewn gwirionedd, maen nhw'n gwbl anfoddhaol ac annigonol. Ond mae angen i ni edrych ar bwerau benthyg ymysg cyfres o bwerau eraill sydd ar gael i'r lle hwn ac i Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr holl offer sydd ar gael i ni sydd ei angen arnom ni i gyflawni nid yn unig ein huchelgeisiau i'r rhaglen lywodraethu, ond ar gyfer amddiffyn Cymru rhag anallu Llywodraeth Dorïaidd yn Llundain nad yw hi'n malio o gwbl amdanom ni na'n cenedl ni mewn gwirionedd.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiynau hynny. Mae Alun Davies yn gwbl gywir fod yna ganlyniadau gwirioneddol ym mywydau a gweithgarwch pobl o ganlyniad i benderfyniadau Llywodraeth y DU a'r anrhefn yn eu sgil nhw'n ddiweddar, yn bennaf, er enghraifft, gyda'r codiadau yng nghyfraddau morgais y cyfeiriodd y Prif Weinidog atyn nhw yn ei ddatganiad yn gynharach heddiw. Rwy'n llwyr gydnabod yr hyn a ddywedwyd am y twll yn y gyllideb oherwydd Brexit. Rwyf i o'r farn, fy hunan, fod COVID a'r argyfwng costau byw nawr yn cuddio'r effaith y mae Brexit yn ei gael ar yr economi. Yn anochel, fe fyddwn ni'n gweld niwed hirdymor i'r economi oherwydd Brexit yn unig, heb sôn am y materion eraill i gyd o ran y pandemig a chostau byw. Ni wnaf i ddim ond dweud wrth Alun Davies ein bod ni'n gytûn, fwy na thebyg, o ran y mater penodol hwn i raddau helaeth iawn ac felly rwy'n siŵr y byddwn ni'n cael trafodaethau pellach am hynny maes o law.

Rwy'n cytuno hefyd ynglŷn â'r angen i ni gynnal dadl ehangach ar drethiant. Hyd yn oed ers i mi fod yn y swydd hon, rwyf i wedi gweld newid mawr yn y duedd, mewn gwirionedd, o ran maint y diddordeb sydd yna ynglŷn â phwerau Llywodraeth Cymru i godi trethi, ond y rhan sydd gan drethiant yn fwy cyffredinol, ynglŷn ag annog ymddygiadau penodol, ond i godi arian i'r cyhoedd hefyd. Rwy'n credu bod y gwaith y mae'r Sefydliad Materion Cymreig, y gwnes i gyfeirio ato, wedi bod yn ei wneud yn ddefnyddiol iawn yn y maes hwn hefyd. Mae adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig yn rhoi ystyriaeth wirioneddol i bwerau benthyca, ac rwy'n credu ei fod yn dadlau'r achos o blaid benthyca darbodus, sy'n rhywbeth arall y byddem ni'n ei gefnogi yn frwd iawn. Ond wrth feddwl am yr effaith, ers y gyflafan wedi'r gyllideb fach, os edrychwn ni ar yr effaith a fu ar fenthyca'r Llywodraeth, fe fyddai £100 miliwn o fenthyca'r llynedd wedi costio £4.6 miliwn y flwyddyn i'w gynnal, tra byddai £100 miliwn o fenthyca yn costio £6.8 miliwn y flwyddyn i'w gynnal nawr. Dyna gynnydd o bron i 50 y cant. A thros y tymor benthyca, fe fyddem ni'n talu £69 miliwn mewn llog nawr o'i gymharu â dim ond £16 miliwn mewn llog y llynedd. Felly, dyna enghraifft arall o'r byd go iawn o hynny o'r effaith a achosodd yr anhrefn ar gyllidebau. 

15:20

Diolch. Pan oeddwn i'n gynghorydd yn gorfod ymdrin â 10 mlynedd o gyni a thoriadau, roeddem ni'n aml yn gofyn pa ddiben oedd yna i'r Llywodraeth bennu polisïau a'r Senedd bennu polisïau pan nad oedd y gyllideb na'r adnoddau gennym ni i'w cyflawni nhw mewn gwirionedd. Mae'r sefyllfa wedi gwaethygu llawer erbyn hyn oherwydd yr anrhefn a phwysau chwyddiant a ddaeth trwy gamau Llywodraeth y DU. Mae gan Gaerdydd fwlch o £53 miliwn sy'n rhaid ei wynebu. Mae Conwy, Wrecsam a sir y Fflint yn edrych ar fwlch ariannol o £26 miliwn, felly fe fydd yn rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau anodd iawn. Roedden nhw'n dweud pe bydden nhw'n rhoi'r gorau i gasglu unrhyw wastraff, ac yn torri pob trafnidiaeth gyhoeddus, pe bydden nhw'n rhoi'r gorau i dorri'r glaswellt mewn caeau chwarae ac yn cau'r pyllau nofio, er hynny i gyd, ni fyddai ganddyn nhw ddigon o arian i lenwi'r bwlch. Mae hi'n enbyd. Mae'r pwysau ynni iechyd yn £90 miliwn i £100 miliwn, fe ddysgais i wythnos diwethaf. Heb dorri gwasanaethau iechyd i ariannu'r bwlch hwnnw, pan fo angen codiad cyflog ar nyrsys, y rhestrau aros enfawr gennym ni, ac yn gynharach fe glywsom ni am amseroedd aros ambiwlansys—. Sut ydym ni am lenwi'r bwlch hwnnw? Nid oes unrhyw amcan gennyf i. Rwy'n gwybod eich bod chi'n deall, ond nid wyf i'n credu bod Llywodraeth y DU na Jeremy Hunt yn deall hyn. A'r broblem yw y bydd toriadau o'r fath yn rhoi pobl benben â'i gilydd hefyd, mewn gwasanaethau amrywiol, sy'n gwbl anghywir, pan fo angen mwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus, yn y bôn. 

Diolch i chi. Felly, Gweinidog, pa sylwadau ydych chi am eu rhoi mewn ymateb i Lywodraeth y DU o ran yr angen sydd arnom ni i gael buddsoddiad yn y gwasanaethau cyhoeddus? Mae 30 y cant o bobl yng Nghymru yn cael eu cyflogi mewn gwasanaethau cyhoeddus, ac mae eu hangen nhw arnoch chi i helpu'r sector preifat i dyfu. Diolch. 

Diolch yn fawr iawn i chi am godi hyn a rhoi darlun gwirioneddol gignoeth hefyd o'r heriau sy'n wynebu awdurdodau lleol, yn enwedig y rhai yr oeddech chi'n cyfeirio atyn nhw yn y gogledd. Fe gefais i gyfle yn ddiweddar i gyfarfod ag is-grŵp cyllid Cyngor Partneriaeth Cymru, a gyda phwyllgor gweithredol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd, i siarad am y pwysau sydd ar y gyllideb. Erbyn hyn mae gennym ni gyfres o gyfarfodydd bob pythefnos gydag arweinwyr yr awdurdodau lleol, ac yn y cyfarfodydd hynny rydym ni'n gallu trafod materion fel pwysau cyllidebol hefyd. Rwyf i wir yn gweld y cyfarfodydd hynny'n eithriadol o ddefnyddiol o ran gallu clywed beth yn union sy'n digwydd mewn awdurdodau lleol, a maint y bylchau ariannu maen nhw'n eu nodi.

Rwy'n credu ei bod hi'n heriol dros ben eleni, ond wrth edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf a'r flwyddyn wedyn, rwy'n credu mai'r blynyddoedd hynny sy'n fwyaf tebygol o fod yn cadw arweinwyr ar ddeffro drwy'r nos ar hyn o bryd. Dyma'r union her ag yr ydym ni'n ei hwynebu hi o ran effaith chwyddiant, a dyna pam mae'n rhaid i Lywodraeth y DU newid eu cwrs yn llwyr o ran y bygythiadau hyn i doriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus, oherwydd, fel rydych chi'n ei awgrymu, swyddi yw'r rhain, a gwasanaethau yw'r rhain yr ydym i ni gyd yn dibynnu arnyn nhw yn ein cymunedau. Nid yw awdurdodau lleol yn gwario symiau enfawr o arian ar bethau dibwys; maen nhw'n darparu addysg, maen nhw'n darparu gwasanaethau cymdeithasol, maen nhw'n ymdrin â gwastraff, ac yn y blaen.

Rwy'n credu bod y negeseuon hyn yn bwysig iawn, ac mae angen iddyn nhw anfon ateb i Lywodraeth y DU bod angen buddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus ni, yn hytrach na bod yn ystyried torri gwasanaethau cyhoeddus ar yr amser arbennig hwn, gyda'r holl oblygiadau a fydd gan hynny i swyddi, a'r cylch ofnadwy hwnnw wedyn pan allai pobl fod yn colli eu swyddi a mynd yn gynyddol ddibynnol ar wasanaethau, ac mae'r gwasanaethau hynny'n cael eu cwtogi eu hunain, ac yn y blaen. Fe allai honno fod yn droell annymunol iawn i ni. 

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Taith—Darparu rhaglen gyfnewid ryngwladol Cymru ar gyfer dysgu

Eitem 4 y prynhawn yma yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Taith—darparu rhaglen gyfnewid ryngwladol Cymru ar gyfer dysgu. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o allu rhoi diweddariad i'r Senedd heddiw ar y cynnydd wrth sefydlu ein rhaglen gyfnewid ryngwladol addysgol arloesol ni, sef Taith.

Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'n creu rhaglen newydd gwerth £65 milliwn i gymryd lle Erasmus+, a daeth yr ymrwymiad hwnnw'n rhan o'n rhaglen lywodraethu. Rwy'n falch o roi gwybod i'r Siambr heddiw fod yr addewid hwnnw'n prysur ddwyn ffrwyth, a'r dysgwyr cyntaf eisoes yn dechrau teimlo'r manteision.

Yn haeddiannol, roedd gyda ni yma yng Nghymru feddwl mawr o Erasmus+. Fel cenedl allblyg, mae gwerthoedd Erasmus o ran cydweithio a chyfnewid rhyngwladol yn cyd-fynd â'n hagwedd ni yma yng Nghymru. Roedd colli'r rhaglen yn ergyd fawr. Dyna pam roedd ymateb Llywodraeth Cymru yn bendant ac yn uchelgeisiol. Fe wnaeth hi anfon neges glir at ddysgwyr ac addysgwyr ein gwlad, ac at bartneriaid ledled y byd: mae Cymru ar agor, mae Cymru yn genedl allblyg ac mae Cymru yn croesawu manteision cyfnewid diwylliannol ac addysgol.

Mae Taith, y rhaglen rydyn ni nawr wedi'i datblygu, yn adlewyrchu'r uchelgais hwnnw a'r gwerthoedd hynny. Maen nhw'n cyd-fynd â'i gilydd. Mae'r rhaglen yn cefnogi dysgwyr a'u staff ar draws pob math o ddarparwyr addysg—rhai ffurfiol a rhai anffurfiol. Mae ymateb darparwyr Cymru wedi bod yn wych hyd yma, ac mi fyddaf yn rhoi manylion y llwybr cyntaf ichi nawr.

Cyn gwneud hynny, rwyf eisiau cydnabod gwaith tîm Taith, o gyflawni'r rhaglen yn gyflym iawn; mae bod â dysgwyr sy'n cael budd o Taith eisoes yn glod i'w hymrwymiad diflino. Bydd llawer o ddysgwyr a staff yn elwa o Taith eleni, a dros £13 miliwn ar gael i'r holl sectorau ar gyfer prosiectau eleni.

Cafodd Llwybr 1, sy'n canolbwyntio ar symudedd unigolion, ei lansio ym mis Chwefror eleni ac fe gaeodd ym mis Mai. Bu 46 o sefydliadau yn llwyddiannus yn eu ceisiadau, a dros 100 o ddarparwyr addysg yn rhan o'r broses. Mae'r prosiectau hynny'n mynd i ddod â chyfleoedd i dros 5,000 o staff a dysgwyr yng Nghymru. Maen nhw'n mynd i gael profiadau dysgu sy'n newid bywydau ledled y byd. Mae prosiectau wedi partneru gyda 75 o wledydd, gan gynnwys 28 yn Ewrop, wrth i ni geisio sicrhau bod ein partneriaethau yno'n parhau er gwaethaf colli Erasmus.

Hoffwn dynnu sylw'r Aelodau yn arbennig at yr ymateb gwych yr ydym wedi'i gael gan ddarparwyr addysg ieuenctid ac oedolion. Mae sefydliadau yn y sectorau hynny wir wedi codi i'r her o sicrhau bod y cyfleoedd i deithio a dysgu yn cael eu hymestyn i'w dysgwyr hefyd. Gall dysgu o ddiwylliannau eraill fod o fudd i ni i gyd, ond i ddysgwyr o gefndiroedd difreintiedig neu o grwpiau a dangynrychiolir, gall y profiadau hyn gael effeithiau dwys. Rwy'n falch o ddweud, hyd yn hyn, trwy greu rhaglen mewn partneriaeth â'r sectorau yng Nghymru, bod y galw am Taith gan addysg ieuenctid ac oedolion wedi bod yn fwy na hyd yn oed y galw am Erasmus, ac mae hynny'n llwyddiant yr ydym yn bwriadu ei ddatblygu yn y dyfodol.

Yn sôn am y dyfodol, gwnes i ddatgan ar 5 Hydref fod llwybr 2 Taith ar agor nawr i ymgeiswyr.

Bwriad y llwybr hwn yw darparu hyd yn oed mwy o gefnogaeth i brosiectau sydd â phwyslais mwy strategol. Er enghraifft, y themâu ar gyfer yr alwad eleni yw: datblygiadau ym myd addysg; amrywiaeth a chynhwysiant; a newid hinsawdd. Mae ceisiadau'n cau ar 1 Rhagfyr, felly mae amser o hyd i ddatblygu a chyflwyno ceisiadau. Mae 2 filiwn o bunnau ar gael ar gyfer y prosiectau hyn yn y sectorau ieuenctid, ysgolion, addysg oedolion, addysg bellach ac addysg alwedigaethol.

Rydym i gyd yn ymwybodol o'r heriau sy'n ein hwynebu yn y blynyddoedd nesaf, yn ddomestig ac yn rhyngwladol.

Rwy'n credu yn sicr bod gan addysg rôl allweddol yn ein hymateb i'r heriau hynny.

Gan fod ganddi agwedd uchelgeisiol at brosiectau rhyngwladol a phwyslais strategol, bydd Taith yn hwyluso dysgwyr ac addysgwyr i gymryd rôl weithredol wrth weithio gyda phartneriaid rhyngwladol a dysgu oddi wrthynt ar faterion sy'n effeithio arnom ni i gyd, fel newid hinsawdd. I ddatrys problemau byd-eang, mae angen dull byd-eang arnom, a bydd Taith yn ein helpu i gyflawni hynny.

Mae Taith wedi cael effaith dramor yn barod hefyd, ac wedi bod yn cyfleu'r neges bod Cymru yn wlad ryngwladol sy'n edrych am allan ledled y byd. Rydw i a'r Prif Weinidog wedi adlewyrchu pa mor aml y caiff Taith ei chodi yn ein trafodaethau gyda chymheiriaid rhyngwladol, a derbyniad mor frwdrydig y mae wedi'i chael.

Newydd ddechrau ydym ni, ac mae e eisoes yn agor drysau dramor.

Rwy'n edrych ymlaen at drafod sut all Taith helpu i agor hyd yn oed mwy o ddrysau yn Ewrop pan fyddaf yn ymweld â Brwsel i siarad ag ASEau ac eraill yr wythnos nesaf. Ac er bod gan Taith neges wych i'n partneriaid rhyngwladol, dim ond un rhan o'n cynnig addysg ryngwladol uchelgeisiol ydyw.

Mae ein rhaglen addysg ryngwladol, sy'n cael ei chyflwyno gan British Council Cymru, yn parhau i ddarparu gwahanol brosiectau sy'n rhoi gwybodaeth a sgiliau i'n pobl ifanc gyfrannu at gymdeithas fyd-eang. Er enghraifft, gwnaethom ymrwymiad hirdymor yn ddiweddar i barhau â chyfleoedd ysgolion a cholegau Cymru i ymgysylltu â menter Labordai Addysgu Byd-eang unigryw Sefydliad Technoleg Massachusetts. Mae'r rhaglen hon yn galluogi ysgolion cynradd ac uwchradd a cholegau addysg bellach ledled Cymru i ddefnyddio arbenigedd STEM gan hyfforddwyr o brifysgol gwyddoniaeth orau'r byd drwy leoliadau addysgu byr, effaith uchel a phrofiadau trochi diwylliannol.

Ac ar gyfer addysg uwch ac addysg bellach, mae trydydd cam prosiect Global Wales bellach yn mynd rhagddo. Bydd y prosiect hwn yn helpu i dyfu ac amrywio'r boblogaeth ryngwladol o fyfyrwyr yng Nghymru, a bydd yn hyrwyddo manteision cydweithio ac yn tyfu ein cysylltiadau â marchnadoedd allweddol yn Ewrop, India, Gogledd America a Fietnam.

Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yr un mor frwdfrydig â fi ynghylch cynnydd Taith a'i llwyddiant cynnar yn y flwyddyn gyntaf. Bydd hyn yn annog darparwyr addysg yn ein hardaloedd lleol i gymryd rhan yn y rhaglen os nad ydyn nhw wedi gwneud hynny eto. Rydyn ni'n datblygu rhaglen gyfnewid ryngwladol i bob dysgwr yng Nghymru. Mae gwaith gwych wedi ei wneud yn barod, ac mae mwy i ddod. Rwy'n edrych ymlaen at roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y cynnydd y flwyddyn nesaf.

15:30

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae rhaglenni cyfnewid dysgu yn gyfleoedd gwych i bobl ifanc. Ond gan roi'r ffaith eich bod chi wedi gwario miliynau a miliynau o'r neilltu—£65 miliwn, mewn gwirionedd—yn ailddyfeisio'r olwyn a chreu cynllun sydd ond ychydig yn wahanol i'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig, mae gen i gwestiynau ymarferol yr hoffwn i eu gofyn.

Fel rydych chi wedi'i ddweud, mae gan bob cam bwyslais gwahanol. Mae gan Lwybr 2 dair thema—datblygiadau ym maes addysg, amrywiaeth a chynhwysiant, a newid hinsawdd. Gan fod y cyllid ar sail o flwyddyn i flwyddyn, rwy'n rhagweld y gallai hyn beri anhawster i fyfyrwyr sy'n bwriadu astudio dramor, ond nad ydynt yn gwybod a fydd eu pwnc wedyn yn ffitio i themâu'r flwyddyn ganlynol. Felly, Gweinidog, sut fydd hyn yn gweithio i fyfyrwyr prifysgol sy'n dewis graddau lle maent yn astudio blwyddyn dramor, ac a fydd hyn yn achosi i fwy o fyfyrwyr optio allan a defnyddio'r cynllun Turing yn lle hynny, gyda'i amcanion sefydlog, ac a fyddai hyn yn arwain at unrhyw wastraff ariannol? Hefyd, fel y gwyddoch chi, gellir gwneud cais am gynllun Taith ochr yn ochr â chynllun Turing, ond, byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau lenwi dwy broses ymgeisio wahanol. Gall hyn, yn amlwg, gymryd llawer o amser a bod yn gostus. Gweinidog, pa ddulliau yr ydych chi'n eu rhoi ar waith i sicrhau, i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am Taith a Turing, fod y prosesau mor ddi-dor ac effeithlon â phosibl? Diolch.

Mae'r rhaglen yn hyblyg, ni fydd yn wastraffus, ac mae'n sylweddol well na Turing.

Diolch am y datganiad, Weinidog. Un o nodau Taith, fel y sonioch chi, yw gwella mynediad i'r cyfleon rhyngwladol a'r symudedd y mae'n eu cynnig i bob dysgwr a myfyriwr, gan gynnwys pobl ag anableddau, anghenion dysgu ychwanegol, grwpiau sydd wedi eu tan-gynrychioli ac o gefndiroedd o amddifadedd ac o dan anfantais. Felly, hoffwn wybod sut mae hyn yn cael ei fesur cyn belled. A yw'r niferoedd hyn yn cael eu monitro a'u mesur o fewn hefyd y gwahanol leoliadau addysg, o ran addysg uwch, addysg bellach, ysgolion a gwasanaethau ieuenctid? Ac, os felly, beth yw'r gyfradd o fewn y rhai sydd wedi elwa o gyfleon Taith—ydy'r targedau yn cael eu cyrraedd yn hynny o beth?

Wrth greu rhaglen gyfnewid ryngwladol ar gyfer dysgu i Gymru, mae'n wir y cafodd neges gref ei hanfon i bartneriaid rhyngwladol am ein cenedl bod ein sefydliadau addysg a Chymru'n parhau i edrych yn allanol ac yn rhyngwladol, er i Brexit ein tynnu o nifer o'r rhaglenni gwerthfawr a oedd yn ein cynorthwyo i wneud hynny, a'n bod fel cenedl yn deall ac yn arddel gwerth meithrin a chynnal partneriaethau rhyngwladol yn y gymuned addysgiadol ehangach. Mae yna ofid, fodd bynnag, bod costau uwch, yn sgil y sefyllfa economaidd sydd ohoni, a'r diffyg cydbwysedd presennol sydd yn y rhaglen, o ran y gymhareb 10:3 o symudedd mewnol ac allanol, yn mynd i effeithio ar allu sefydliadau i greu partneriaethau hyfyw a chynhyrchiol. Pa ystyriaeth sydd wedi cael ei roi i effaith hyn? Ydy hyn yn rhywbeth hefyd sy'n cael ei fonitro? Oes yna angen i gynyddu'r cyfraddau mewnol ac allanol er mwyn sicrhau symudedd? Ac, yn benodol, o ran myfyrwyr addysg uwch sy'n hanu o Gymru, ydy'r nifer hwnnw'n cael ei fesur, ac felly, beth yw'r gyfradd? 

Yn olaf, ar wefan Taith mae'r datganiad canlynol:

'Mae astudio, gwirfoddoli neu fynd ar leoliad gwaith dramor yn ehangu gorwelion pobl, yn ehangu eu sgiliau, ac yn dod â buddion i gymunedau a sefydliadau yma yng Nghymru.'

A fedrwch chi roi gwybod i ni, Weinidog, sut y mae'r rhaglen yn cynnig cyfleon i ddysgwyr hynod alwedigaethol, sydd ddim yn dilyn cwrs gradd neu mewn ysgol neu goleg? A ydych chi'n fodlon nad oes bwlch o ran darparu cyfleon i bob math o brentisiaid? Diolch. 

15:35

Wel, diolch i'r Aelod am gwestiynau pwysig iawn. Felly, ar y pwynt cyntaf y gwnaeth hi wneud o ran y buddsoddiad, rwy'n credu, pan ŷch chi'n gweld y pwysau sydd ar deuluoedd nawr, mae'r cyfleoedd sy'n gallu newid a darparu gorwelion newydd i bobl ifanc yn dod yn sgil y buddsoddiad yma, hyd yn oed yn fwy pwysig nawr nag yr oedden nhw hyd yn oed yn y cyfnod cyn hynny. O ran y pwyslais ar sicrhau ei fod e'n gynhwysol, yn y ffordd ehangach mae'r Aelod yn sôn, mae hynny'n elfen bwysig. Mae un o elfennau'r ail lwybr, yn benodol, rwy'n credu, wedi'i ffocysu ar sicrhau bod y ddarpariaeth yn cynnig amrywiaeth ac yn gwbl gynhwysol. Ond mae'r thema honno yn ymestyn drwy gynllun sylfaenol Taith beth bynnag, ac yn sicrhau ei fod e ar agor i bob math o ddysgwyr, nid jest rhai sy'n mynd i brifysgol, ond i addysg bellach a hefyd gwasanaethau ieuenctid. Felly, byddwn ni'n mesur cyrhaeddiad y cynllun i sicrhau ei fod e'n cyrraedd y nod hwnnw.

O ran y pwynt gwnaeth yr Aelod am y 30 y cant sy'n dibynnu ar symudedd i mewn i Gymru, mae hynny'n cydnabod bod yr elfen honno, yn aml iawn, yn dwyn arian wrth ffynhonnell y wlad lle mae'r dysgwyr neu'r staff yn symud oddi wrthyn nhw, ac felly, dyw e ddim yn ofynnol i bob partneriaeth sicrhau bod hynny'n elfen. Felly, mae'r gyfradd honno—30 y cant—yn cydnabod bod ffynhonnell arall yn aml iawn yn dod i'r elfen honno o'r cynllun. 

Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog hefyd am ei ddatganiad y prynhawn yma. Rwy'n croesawu hyn yn fawr gan Lywodraeth Cymru, ac rwy'n siŵr y cewch chi groeso cynnes iawn ym Mrwsel hefyd. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi ei godi gyda mi nifer o weithiau, pan wyf wedi bod yn ymweld â Brwsel dros y misoedd diwethaf, ac mae croeso enfawr gan sefydliadau'r UE bod Cymru yn parhau i fod yn ymgysylltu'n llawn, ac yn sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael yr un cyfle i deithio ac i ymweld ac i astudio dramor ac ar draws ein cyfandir, yn y ffordd y gwnaeth eu rhieni, ac ni fedrwn ni dynnu hynny oddi ar bobl.

Ond a allwch chi hefyd fy sicrhau bod y cyfle hwn yn ymestyn i bawb ar draws yr holl leoliadau gwahanol ac ar draws gwahanol ddaearyddau a demograffeg? Mae gen i ddiddordeb arbennig yn yr hyn yr oedd gan y Gweinidog i'w ddweud am addysg bellach ac am wasanaethau ieuenctid, oherwydd rwyf eisiau sicrhau bod pawb, pob person ifanc rwy'n ei gynrychioli ym Mlaenau Gwent, yn cael yr un cyfle i gymryd rhan yn y cynlluniau hyn, a'r un cyfle i fwynhau'r teithio a'r astudio rhyngwladol, ac i ddysgu yn yr un modd ag y gwnaethom ni rai blynyddoedd yn ôl. 

Diolch i Alun Davies am y gyfres bwysig honno o gwestiynau. Rwy'n rhannu'r uchelgais gydag ef i wneud yn siŵr bod pob rhan o'n system addysg a'r holl gymunedau yn gallu elwa o'r cynllun uchelgeisiol iawn yma. Un o'r elfennau mwyaf cyffrous ynddo, rwy'n credu, fu'r berthynas sydd wedi ei datblygu a'i sefydlu rhwng ysgolion ac ysgolion mewn gwledydd eraill. Dirprwy Lywydd, a gaf i ofyn a fyddai'r Aelodau gyferbyn yn ymestyn yr un cwrteisi ag â gânt gan Aelodau eraill yn ystod y ddadl hon? 

A wnaiff yr Aelodau, os gwelwch yn dda, ganiatáu i'r Gweinidog orffen ei gyfraniad? 

Felly, mae ysgolion yng Nghymru wedi bod yn sefydlu symudedd i Wlad Belg, i Bangladesh, i Ganada ac i Golombia a chreu'r rhwydwaith hwnnw ar lefel ysgol, lle byddai'r pwyslais, yn flaenorol, wedi bod ar lefel addysg uwch yn bennaf.

Gofynnodd i mi gadarnhau bod hyn ar gael i bob rhan o'r sector addysg. Rwy'n credu bod llai o geisiadau gan y sector addysg bellach nag efallai y byddwn i wedi hoffi eu gweld yn yr alwad gyntaf, ac felly, rydym newydd agor ail Lwybr 1, sy'n benodol i'r sectorau addysg bellach ac addysg a hyfforddiant galwedigaethol, er mwyn rhoi ail gyfle iddyn nhw allu gwneud cais. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld ymgysylltiad cadarnhaol gan golegau yn yr ail alwad; rwy'n ffyddiog y gwelwn ni hynny. Rydym wedi cael trafodaethau cadarnhaol gyda Colegau Cymru a thîm Taith i sicrhau eu bod yn ymgysylltu â cholegau ledled Cymru i'w cefnogi yn eu ceisiadau. Rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn teimlo ei bod yn bwysig iawn sicrhau bod pob dysgwr ym mhob sector yn cael y cyfleoedd gorau posibl.

15:40
5. Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) a (Coronafeirws) (Dirymu) 2022

Eitem 5 heddiw yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) a (Coronafeirws) (Dirymu) 2022. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig—Julie Morgan.

Cynnig NDM8099 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) a (Coronafeirws) (Dirymu) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Medi 2022

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n cynnig y cynnig.

Mae pwrpas y rheoliadau hyn yn ddeublyg. Yn gyntaf, i ddirymu'r diwygiadau cyfyngedig sy'n gysylltiedig â coronafeirws a wnaed i ofynion ar ddarparwyr rhai gwasanaethau rheoleiddiedig, a ddaeth i rym ym mis Mehefin 2020. Nod y rhain oedd symleiddio'r gwaith o sefydlu a chefnogi darpariaeth gofal cymdeithasol brys i oedolion, pe bai angen hyn, oherwydd lledaeniad y coronafeirws. Roedden nhw hefyd yn symleiddio gwiriadau cyn cyflogi ar gyfer gweithwyr gofal preswyl a gofal cartref newydd i oedolion, gan gydnabod efallai na fyddai'n rhesymol ymarferol i gael yr holl wybodaeth yn y ffurf benodedig dan amodau pandemig. Ynghyd â'r eithriadau a'r hawddfreintiau hyn roedd canllawiau i gynorthwyo eu dehongliad, egluro sut y gallent weithio'n ymarferol, ac atgyfnerthu bod yr holl ofynion eraill ar ddarparwyr yn parhau i fod mewn grym. I gymhwyso trylwyredd a goruchwyliaeth briodol, roedd gan y gwelliannau fesurau diogelu yn rhan ohonynt neu'n cyd-fynd â'r rhwymedigaethau presennol i sicrhau darpariaeth ddiogel o ofal a chefnogaeth.

Cefnogir dirymu'r gwelliannau hyn ar 31 Hydref gan fwyafrif clir a sylweddol o'r ymatebwyr i'n hymgynghoriad diweddar. Rwy'n ddiolchgar i'r rhai hynny wnaeth gydnabod eu defnydd cyfyngedig yn ymarferol, gan ddangos yr ymdrechion anhygoel a wnaed i gynnal gwasanaethau a safonau mewn ymateb i'r pandemig. Gwnaed pwyntiau hefyd, yn ddealladwy, am yr angen i fod yn barod i ymateb cyn gynted â phosibl i'r angen posibl i adfer y newidiadau hyn. Rydym ni'n parhau i fonitro sefyllfa iechyd y cyhoedd a'i heffeithiau'n fanwl ar y sector, a phe baem ni'n gweld dychwelyd i fesurau rhybudd ac amddiffyniadau cyfreithiol dwysach, bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried yn brydlon a oes angen unrhyw ymateb deddfwriaethol i gefnogi darparwyr gwasanaethau rheoleiddiedig, gan ddefnyddio'r wybodaeth o ddefnyddio'r hawddfreintiau hyn.

Ail bwrpas y rheoliadau sydd o'n blaenau heddiw yw egluro'r disgrifiad o safleoedd categori C o fewn rheoliad 49 o'r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoledig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) 2017. Bwriad y gwelliant hwn yw sicrhau, pan fo darparwr gwasanaeth yn gwneud cais i Arolygiaeth Gofal Cymru i ddefnyddio adeiladau gwag ar hyn o bryd ar gyfer darparu gwasanaethau llety mewn achosion lle'r oedd y safle hwnnw wedi'i gofrestru'n flaenorol o dan unrhyw ddeddfiad perthnasol fel man lle darparwyd gofal preswyl, yna rhaid i'r safle hwnnw fodloni gofynion ychwanegol a gymhwyswyd i safle newydd. Byddai'r newid hwn yn dod i rym o 1 Tachwedd. Bwriad yr eglurhad hwn fod categori C yn cynnwys safle a gofrestrwyd yn flaenorol o dan unrhyw ddeddfiad perthnasol, nid yn unig Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, yw cefnogi ein polisi hirsefydlog i ysgogi gwelliannau yn yr ystad adeiledig a ddefnyddir ar gyfer darparu cartrefi gofal, llety diogel a gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd.

Dwi'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynnig.

Nid oes unrhyw siaradwyr eraill ar yr eitem hon.

Dirprwy Weinidog, ydych chi eisiau ychwanegu unrhyw beth arall? Na.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu?

Ni chlywaf wrthwynebiadau. 

Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

15:45

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Rheoliadau Digartrefedd (Angen Blaenoriaethol a Bwriadoldeb) (Cymru) 2022

Eitem 6, Rheoliadau Digartrefedd (Angen Blaenoriaethol a Bwriadoldeb) (Cymru) 2022. Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig—Julie James.

Cynnig NDM8096 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Digartrefedd (Angen Blaenoriaethol a Bwriadoldeb) (Cymru) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Medi 2022

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd aelodau'n ymwybodol o'r gwaith aruthrol a wnaed ers dechrau'r pandemig, sy'n parhau heddiw, i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael allan yn ein hagwedd at ddigartrefedd. Drwy ganllawiau statudol, fe wnaethom ni, ynghyd ag awdurdodau lleol, sicrhau bod y rhai a oedd yn profi digartrefedd yn cael cymorth a llety, gan sicrhau ymateb cyfannol i'r argyfwng iechyd cyhoeddus. Roedd hyn yn taflu goleuni ar raddfa digartrefedd a oedd gynt yn guddiedig ledled Cymru. Erbyn hyn mae gennym well dealltwriaeth o'r niferoedd o bobl sy'n profi digartrefedd.

Mae'n bosib bod y pandemig wedi tawelu am y tro, ond nid yw'r angen am gymorth a thai i unigolion sy'n profi digartrefedd wedi tawelu o gwbwl. Cyn ein diwygio eang arfaethedig mewn deddfwriaeth digartrefedd, rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn croesawu ac yn cefnogi'r gwelliant deddfwriaethol dros dro hwn, ac yn ei gydnabod fel cam hanfodol i ddileu digartrefedd yng Nghymru. Bydd Rheoliadau Digartrefedd (Angen Blaenoriaethol a Bwriadoldeb) (Cymru) 2022 yn diwygio Deddf Tai (Cymru) 2014, sy'n golygu y cydnabyddir person sy'n ddigartref ar y stryd a pherson y disgwylir iddo'n rhesymol i breswylio ag ef fel person sydd ag angen blaenoriaethol am gymorth a llety. I'w roi mewn iaith blaen, mae person sy'n cysgu ar y stryd yn berson sydd angen llety â blaenoriaeth. Bydd y rheoliad hwn hefyd yn gweithredu i ddiwygio Rheoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) (Cymru) 2015, sy'n darparu ar gyfer categorïau penodedig o bersonau y gall awdurdod lleol ddewis rhoi sylw iddynt drwy wneud penderfyniad ynghylch a ydynt yn fwriadol ddigartref. Bydd hyn yn adlewyrchu'r categorïau angen blaenoriaethol presennol ac yn cynnwys y bobl hynny sy'n ddigartref ar y stryd.

Wrth gamu allan o'r pandemig, mae'n rhaid i ni gydnabod effeithiau'r argyfwng costau byw presennol a'r risg y bydd mwy o bobl yn ddigartref ac yn colli eu llety. Mae angen y ddeddfwriaeth hon ar hyn o bryd, yn fwy nag erioed, i sicrhau ein bod yn cynnal y dull gweithredu a gymerwyd drwy gydol y pandemig. Rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn croesawu'r gwelliant angenrheidiol hwn i'r ddeddfwriaeth ac yn cefnogi'r cynnig a gyflwynir yma heddiw. Diolch.

Diolch i’r Gweinidog am y cyhoeddiad yma, un rydym ni yn y blaid yma yn ei groesawu. Mae’n sicr yn gam i’r cyfeiriad cywir er mwyn cael gwared ar angen blaenoriaethol yn llwyr.

Dwi am ofyn, i gychwyn, am eglurhad, os gwelwch yn dda, ynghylch pobl sydd eisoes mewn llety dros dro. Rydych chi'n dweud yn eich datganiad, a dwi am ddyfynnu:

'Fodd bynnag, wrth lacio cyfyngiadau ar iechyd y cyhoedd ac agweddau cysylltiedig y cyhoedd mae'n bosibl y bydd y rhai a oedd yn gudd cyn y pandemig, fel pobl yn syrffio soffas, yn dychwelyd o gael eu cefnogi gan awdurdodau lleol a phartneriaid, i ddibynnu yn hytrach ar rwydweithiau cymdeithasol i ddarparu rhywle y gallant fyw. O ystyried yr ansicrwydd hwn mae'n anodd penderfynu a fydd newidiadau pellach sylweddol. O ganlyniad, rydym o'r farn y bydd y boblogaeth graidd ddigartref yn parhau i fod yn lefel gymharol sefydlog am y tro.'

Rŵan, fedrwch chi egluro beth mae hyn yn ei olygu, os gwelwch yn dda? Ai dweud ydych chi y bydd pobl sydd mewn llety dros dro yn gadael y lletyau hyn ac yn mynd i soffa syrffio yn lle? Ynteu ydych chi’n dweud bod awdurdodau lleol am geisio troi pobl allan sydd ddim mewn risg o gysgu ar y stryd? Ynteu a fedrwch chi gadarnhau yn ddiamod na fydd pobl mewn llety dros dro yn cael eu troi allan i sefyllfa o ansicrwydd oherwydd y categori angen blaenoriaethol newydd yr ydych yn ei gyflwyno? Oherwydd, tra ein bod ni'n cefnogi cyflwyno'r rheoliadau yma fel cam i’r cyfeiriad cywir, y gwir ydy fod iddyn nhw ganlyniadau anfwriadol—unintended consequences. Rydych chi, i bob pwrpas, yn ailgyflwyno polisi angen blaenoriaethol unwaith eto. Y perig ydy y gall hyn arwain at rai awdurdodau lleol yn adolygu achosion o bobl sydd eisoes mewn llety dros dro ac o bosib yn dirwyn eu cyfrifoldebau i ben i rai sydd ddim yn cael eu hystyried i fod mewn risg o gysgu allan—rough-sleeping. Felly, rwy’n siŵr eich bod yn gwerthfawrogi pam rydym ni yn gofyn am eglurhad am hyn, os gwelwch yn dda.

Ar ben hynny, bydd hyn yn rhoi disgwyliad parhaol ar lywodraeth leol. Yn ystod anterth pandemig COVID, derbyniodd awdurdodau lleol arian ategol, fel y grant adfer COVID, i'w helpu i gyflawni'r disgwyliadau newydd a osodwyd arnynt, fel y niferoedd enfawr o bobl a oedd angen llety dros dro. Ers hynny mae'r arian yma wedi dod i ben, ond eto mae'r dyletswyddau'n parhau. Mae awdurdodau lleol yn gweiddi am gymorth; maen nhw'n dweud wrthym yn syml nad oes ganddyn nhw'r adnoddau i gyflawni'r dyletswyddau hyn, ond does dim byd yn y datganiad heddiw am gyllid i'w galluogi i gyflawni'r dyletswyddau hyn. Felly, a all y Gweinidog ddweud wrthym pa gyllid fydd ar gael i awdurdodau lleol er mwyn iddynt gyflawni'r uchelgeisiau hyn a nodir yn y rheoliadau?

Yn olaf, fel y soniais yn gynharach, mae gan y rheoliadau hyn ganlyniadau anfwriadol, a allai arwain at fwy o bobl yn canfod eu hunain yn syrffio soffas neu'n ddigartref—nid cysgu ar y stryd, efallai, ond yn sicr yn byw mewn llety cyfyng gyda theulu a ffrindiau estynedig. Mae hyn yn risg go iawn ac yn un yr ydych chi'n amlwg yn fodlon ag ef, ac rwy'n deall hynny—dyna beth yw pwrpas gwleidyddiaeth ac mae'n rhaid i chi wneud penderfyniad yn seiliedig ar deilyngdod. Dyna pam rydym yn croesawu'r camau hyn heddiw. Ond a all y Gweinidog ddatrys y broblem amhosibl hon o pam mae'r Llywodraeth yn hapus i weithredu'r polisi hwn, gyda'r risg real iawn o ganlyniadau anfwriadol, ond eto'n amharod i rewi rhenti a gwahardd troi allan, sydd â risgiau tebyg a chanlyniadau anfwriadol? Diolch.

15:50

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn am y cyfraniad hwnnw, Mabon. Nid datganiad yw hwn, dim ond i ddweud—rydyn ni'n cyflwyno'r rheoliadau heddiw—felly, yn amlwg, nid yw'n cynnwys nifer fawr o'r eitemau eraill o'i gwmpas yr ydych chi wedi gofyn cwestiynau arnyn nhw. Serch hynny, byddaf ond yn eu cwmpasu. Felly, os na fyddwn ni'n gwneud hyn heddiw, yna, cyn trawsnewid cyfraith digartrefedd yn ei chyfanrwydd, rydym yn bwriadu ei wneud yn nhymor y Senedd hon, ond sydd, yn amlwg, yn drawsnewidiad mawr yn y ffordd yr ydym yn gwneud pethau, yna bydd awdurdodau lleol yn dychwelyd i'r sefyllfa cyn y pandemig lle byddant yn mynd yn ôl i'r rhestr bresennol o angen a bwriadoldeb blaenoriaethol. Pwrpas y rheoliad hwn heddiw yw parhau â'r dull 'pawb i mewn'. Rydym yn gweithio'n galed iawn gydag awdurdodau lleol i wneud yn siŵr bod y bobl sydd wedi cwympo allan o ddull gweithredu 'pawb i mewn' hefyd yn cael gwasanaeth. Ond peidiwch â chamgymryd: mae'r mater yma'n ymwneud ag atal a gwasanaeth parhaus. Felly, nid yw'n fwriad o gwbl i bobl sydd mewn llety dros dro ar hyn o bryd ddisgyn allan o'r llety dros dro hwnnw, dod yn ddigartref a gorfod mynd yn ôl i mewn eto. Rydym yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol i sicrhau nad dyna sy'n cael ei ddeall, a hefyd i wneud yn siŵr, pan fo hynny'n bosib, bod awdurdodau lleol yn cael eu cynnwys mewn gwaith ataliol ac nid yn dweud wrth bobl am fynd i ffwrdd a dod yn ôl 56 diwrnod cyn y byddan nhw'n ddigartref ac yn y blaen. Rwy'n deall yn iawn y pwysau arnyn nhw. Rydym wedi rhoi £10 miliwn ychwanegol iddynt ledled y 22 awdurdod lleol yn barod, a £6 miliwn ychwanegol ar gyfer taliadau dewisol. Felly, rydyn ni'n gweithio gyda nhw.

Un o'r rhesymau ein bod ni'n ceisio gwneud teilyngdod allan o orfod gwneud hyn mewn camau yw un o'r pethau y mae'r dogfennau cysylltiedig â'r rheoliadau hyn yn eu nodi—y memorandwm esboniadol ac asesiadau effaith, Mabon—yw, yn amlwg, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol o ganlyniad i'r cam dros dro hwn i ddeall y gost ac i wneud yn siŵr, pan fyddwn yn cyflwyno'r ddeddfwriaeth ddigartrefedd, y byddwn yn gallu cael yr holl wybodaeth am ariannu hynny y tu mewn i'r darn hwnnw o ddeddfwriaeth, a fydd, yn amlwg, yn ddarn mawr iawn o ddeddfwriaeth, gan ddiwygio'r broses yn llwyr. Felly, dydw i ddim yn gwadu'r ffaith mai ateb dros dro yw hwn i system nad yw'n gweithio, ond mae'n ateb dros dro angenrheidiol i wneud yn siŵr nad yw'r rhai mwyaf agored i niwed yn cwympo allan o'r system yn gyfan gwbl ac mae'n galluogi'r awdurdodau lleol i barhau i gyd-fynd â'n 'pawb i mewn'. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn i'r awdurdodau lleol—maen nhw wedi gweithio'n galed iawn gyda ni; rwyf wedi cael nifer o gyfarfodydd gyda nhw dros y dyddiau diwethaf i siarad am y materion hyn.

Mae hwn yn fater hollol ar wahân i'r mater rhent. Rwy'n deall y pwynt mae'r Aelod yn ei wneud yn llwyr, ond mae gennym system gymhleth iawn gyda rhentu, ac nid yw wedi'i gynllunio mewn unrhyw ffordd i gyffwrdd â hynny, naill ai mewn rhentu cymdeithasol neu mewn rhentu sector preifat—mae hyn yn ymwneud yn llwyr ag ymateb digartrefedd awdurdodau lleol. Felly, er fy mod i'n deall pam eich bod chi'n casglu'r ddau at ei gilydd, yn amlwg, dydw i ddim yn mynd i ateb y cwestiynau penodol hynny heddiw; rwy'n fwy na pharod i barhau â'r drafodaeth honno mewn mannau eraill.

Felly, dim ond i orffen trwy ddweud fy mod i wir yn diolch i chi, Mabon, am eich cyfraniad heddiw. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig gwneud yn siŵr bod awdurdodau lleol yn deall goblygiadau hyn. Ond mae yna angen amlwg am y rheoliadau yma am y cyfnod dros dro, a byddan nhw'n cefnogi pobl sy'n ddigartref ar y stryd yng Nghymru, felly rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn eu cefnogi. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf wedi clywed gwrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Gorchymyn y Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 3) 2022

Eitem 7 yw Gorchymyn y Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 3) 2022. Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig. Julie James.

Cynnig NDM8100 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 3) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Medi 2022

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Rwy'n falch o allu cyflwyno'r Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 3) 2022, sy'n gwneud mân ddiwygiadau i Orchymyn y Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020. Effaith y gwelliannau hyn yw cynnwys hediadau o Brydain Fawr i'r Swistir yng nghwmpas cynllun masnachu allyriadau'r DU o fis Ionawr 2023. Mae hyn yn helpu i lenwi bwlch yng nghwmpas UK ETS ers ymadawiad y DU â'r UE. Mae hefyd yn cyflawni ein hymrwymiad yn ymateb Llywodraeth 2020 i ddyfodol ymgynghoriad prisio carbon y DU i wneud hyn. Mae'r Gorchymyn yn dod â hediadau o Brydain Fawr i'r Swistir o fewn y diffiniad o weithgaredd hedfan, yn cynnwys Cymru, Lloegr a'r Alban mewn graddau tiriogaethol, yn caniatáu ceisiadau am ddyrannu lwfansau am ddim ar sail gweithgaredd hedfan hanesyddol, ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i reoleiddwyr ail-lunio hawliau ar gyfer dyrannu lwfansau am ddim yng ngoleuni'r categori newydd o weithgaredd hedfan hanesyddol. Gofynnwyd am gyngor gan y pwyllgor newid hinsawdd ar y cynnig a oedd yn rhan o'r Gorchymyn. Drwy roi gwell sylw i weithgareddau gan gynllun masnachu allyriadau y DU, byddwn ni'n gallu sicrhau'r canlyniadau amgylcheddol a ragwelwyd yn well gan y cynllun. Rwyf eisiau cynnig fy niolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am graffu ar y Gorchymyn, ac rwy'n cymeradwyo'r cynnig i'r Siambr. Diolch.

15:55

Nid oes unrhyw siaradwyr eraill. Weinidog, a ydych am ychwanegu unrhyw beth arall?

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Unwaith eto, nid wyf wedi clywed gwrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022
9. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2021-22

Felly, symudwn ymlaen at eitem 9.

Ac—. O. Esgusodwch fi, Gweinidog, ydych chi'n siarad dros y Llywodraeth? A, iawn. Roedden ni o dan yr argraff y byddai'r Gweinidog addysg yn siarad.

Eitem 9, dadl ar adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2021-22. Galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt, i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8094 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2021-22.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gael y cyfle hwn i arwain y ddadl bwysig hon gyda'r Aelodau ar adroddiad blynyddol y comisiynydd plant ar gyfer 2021-22. Mae adroddiad blynyddol y comisiynydd yn rhoi sylw annibynnol blynyddol ar anghenion plant a'u hawliau, ac yn sicrhau ein bod ni’n cynnal pwyslais cyfunol arnyn nhw. Mae'r adroddiad hwn yn gyfle i ni fyfyrio ar y cynnydd ac i ystyried sut y gallwn ni barhau i wneud gwelliannau i fywydau plant a phobl ifanc Cymru.

Hoffwn ddechrau drwy groesawu ein Comisiynydd Plant newydd i Gymru, sef Rocío Cifuentes, a ddechreuodd ei chyfnod yn y swydd ym mis Ebrill eleni. Rwyf i wedi cwrdd â'r comisiynydd newydd ar sawl achlysur ers ei phenodi, ac rwy'n croesawu ei hymrwymiad a'i hymroddiad i gynnal hawliau plant ers dechrau ar y rôl bwysig hon. Mae hi wedi defnyddio'r cyfnod cychwynnol hwn i gwrdd â phlant a phobl ifanc ledled Cymru, ac rwy'n edrych ymlaen at weld canlyniad ei hymarfer ymgysylltu ar raddfa fawr, Gobeithion i Gymru, a fydd yn galluogi plant a phobl ifanc i leisio eu barn ac i ddylanwadu ar ei chynllun gwaith tair blynedd.

Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r cyn-gomisiynydd, yr Athro Sally Holland, am yr holl waith y mae hi wedi ei wneud dros blant a phobl ifanc. Mae'r adroddiad hwn yn adlewyrchu ei blwyddyn olaf yn y swydd, fel y cyn-gomisiynydd.

Mae'r comisiynydd yn tynnu sylw yn gywir yn ei chyflwyniad at effaith pandemig COVID-19, a nawr yr argyfwng costau byw, ar blant a phobl ifanc a'u teuluoedd, a hoffwn roi sicrwydd i Aelodau y byddwn ni fel Llywodraeth yn parhau i wneud popeth o fewn ein pwerau i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a gwella canlyniadau ar gyfer pob plentyn yng Nghymru. Rhaid i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi plant fod yn flaenoriaeth glir a pharhaus i'r Llywodraeth hon o hyd, ac mi fydd, gan fod hyn yn sail i gymaint o gyfleoedd bywyd, canlyniadau a rhagolygon ein pobl ifanc yn y dyfodol.

Fodd bynnag, rydym ni hefyd yn glir mai Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y prif ddulliau ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant—pwerau dros y system dreth a lles— ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y comisiynydd yn codi'r pryderon hyn gyda Llywodraeth y DU. Mae angen i bob lefel o Lywodraeth weithio gyda'i gilydd os ydyn ni'n mynd i gefnogi plant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn ystod yr argyfwng digynsail hwn.

Mae'r adroddiad blynyddol yn gyfle i'r comisiynydd dynnu sylw at waith y sefydliad, a hoffwn dynnu sylw'r Aelodau at waith parhaus y comisiynydd wrth gefnogi cyrff cyhoeddus i ddilyn dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau plant. Mae rhoi plant a phobl ifanc wrth wraidd ein gwasanaethau cyhoeddus mor bwysig, ac rwy'n croesawu ymrwymiad swyddfa'r comisiynydd i ddarparu'r gefnogaeth hon. Mae'r swyddfa wedi datblygu 'Y Ffordd Gywir: Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant yng Nghymru', sef canllaw ymarferol i helpu sefydliadau i roi hawliau plant wrth wraidd yr holl benderfyniadau cynllunio a darpariaeth gwasanaethau. Mae'r pum ffordd o weithio, gwreiddio hawliau plant, cydraddoldeb a pheidio â chamwahaniaethu, grymuso plant, hwyluso cyfranogiad ystyrlon a strwythurau atebolrwydd clir yn darparu fframwaith clir a chefnogol.

Rydym ni, fel sefydliad, dan arweiniad fy nghydweithiwr Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi defnyddio'r egwyddorion hyn wrth ddatblygu ein cynllun hawliau plant ein hunain, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr y llynedd, ond hoffwn hefyd ddiolch i'r comisiynydd a'i staff am yr holl waith a wnaethant i eirioli dros blant a phobl ifanc wrth i ni ddod allan o'r pandemig. Enghraifft o hyn oedd datblygiad rhaglen Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru, a gynhaliwyd am y tro cyntaf haf diwethaf. Gan gydweithio gyda'r Urdd a Chwaraeon Cymru, llwyddodd y comisiynydd i ddod â nifer o bartneriaid allweddol ynghyd ar gyfer cyfres o drafodaethau bwrdd crwn gyda Llywodraeth Cymru i edrych ar y ffordd orau i gefnogi adferiad ein plant a'n pobl ifanc a rhoi cyfle i'r partneriaid hynny glywed gan blant a phobl ifanc eu hunain am yr hyn oedd yn bwysig iddyn nhw. Fe wnaeth hyn, wedyn, gyfrannu at ddatblygiad ein rhaglen Haf o Hwyl, a oedd yn darparu gweithgareddau rhad ac am ddim ar gyfer datblygiad a lles plant a phobl ifanc ledled Cymru. Fe wnaethom ddarparu dros 67,000 o gyfleoedd i blant a phobl ifanc a gallwn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw trwy'r Gaeaf Llesiant dilynol. Ac yn ystod yr Haf o Hwyl eleni hefyd fe wnaethom ni ddarparu bwyd yn ogystal â gweithgareddau rhad ac am ddim.

Gan droi at yr argymhellion yn yr adroddiad blynyddol, mae'r comisiynydd wedi cyflwyno 16 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, ac mae'r rhain yn dod o dan bedair thema: safon byw digonol; amgylchedd teuluol a gofal amgen; amddiffyniad rhag ecsbloetio a thrais; ac addysg, dinasyddiaeth a gweithgareddau diwylliannol. Mae'r argymhellion hyn yn ymdrin â materion pwysig ym mhob rhan o'r Llywodraeth, gan gynnwys mynd i'r afael â thlodi plant, eiriolaeth iechyd, plant a phobl ifanc mewn gofal ac yn gadael gofal, amddiffyn plant a chyfiawnder, addysg, iechyd meddwl, trafnidiaeth a theithio i ddysgwyr. Rwy'n croesawu'r argymhellion yn yr adroddiad. Rwy'n derbyn hefyd nad yw cynnydd mewn rhai meysydd wedi bod fel y byddem wedi'i hoffi oherwydd pwysau'r pandemig ar adnoddau. Ond, ni fyddaf yn trafod manylion ymateb Llywodraeth Cymru heddiw. Bydd Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad blynyddol y comisiynydd erbyn 30 Tachwedd.

Mae heddiw yn gyfle i'r Aelodau fynegi eu barn ar adroddiad y comisiynydd a rhoi sylwadau ar y meysydd mae'r comisiynydd wedi eu codi. Rydym ni’n edrych ymlaen at glywed barn Aelodau a byddwn yn ystyried y safbwyntiau hyn wrth i ni baratoi ein hymateb swyddogol. Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, rwy’n edrych ymlaen at y ddadl bwysig hon ar adroddiad y comisiynydd plant a'n cynnydd o ran cefnogi hawliau plant yng Nghymru. Mae rôl annibynnol y comisiynydd yn hollbwysig er mwyn dwyn y Llywodraeth i gyfrif, a byddwn yn parhau i weithio gyda'i swyddfa er budd holl blant a phobl ifanc Cymru. Diolch.

16:00

Diolch, Gweinidog, ond rhaid i mi gyfaddef fy mod i wedi fy synnu braidd gan y diffyg sylwedd yn yr adroddiad hwn. Mae'n drwm iawn ar ystadegau swyddfa'r comisiynydd ac yn cynnwys rhai manylion amherthnasol, fel trafodaethau ynghylch podlediadau sy'n dod â hud a chwerthin i'r swyddfa. Byddwn i, a llawer yma rydw i’n credu, wedi gobeithio y byddai'r adroddiad blynyddol hwn, yn enwedig gan mai hwn oedd yr olaf o gyfnod y comisiynydd blaenorol, wedi rhoi trosolwg cynhwysfawr o'r gwaith sydd i'w wneud o hyd a rhai argymhellion wirioneddol heriol i Lywodraeth Cymru. Er bod yr argymhellion a gynigir yn sicr yn deilwng, rwy'n credu bod y comisiynydd wedi colli cyfle yma i fod wedi gwthio llawer caletach ac i adrodd pa dystiolaeth maen nhw wedi’i darparu a pha heriau maen nhw wedi’u gosod i Lywodraeth Cymru.

Er enghraifft, yn y rhan 'sut rydyn ni'n dylanwadu' yn yr adran mynd i’r afael â thlodi plant, mae'r comisiynydd yn dweud eu bod wedi ysgrifennu llythyrau at wahanol Ysgrifenyddion Gwladol yn gofyn am gyfarfodydd, ond heb gael unrhyw lythyrau cydnabyddiaeth bod eu llythyrau wedi cael eu derbyn. Mae hyn yn ein harwain i ofyn pam nad yw swyddfa'r comisiynydd erioed wedi mynd ar ôl y cyfarfodydd hyn ymhellach, erioed wedi olrhain cydnabyddiaeth y llythyrau hyn, ac erioed wedi taro ar ddrysau'r Llywodraeth i gael eu clywed.

Mae'r comisiynydd hefyd yn disgrifio eu bod yn arsylwyr y grŵp pwyslais ar incwm, nad oes ganddo, yn ddiddorol, bwyslais na ffrwd waith penodol sy'n gysylltiedig â mynd i'r afael â thlodi plant, ac nid oes strategaeth na chynllun gweithredu cyfredol ar fynd i'r afael â thlodi plant, er gwaethaf galwadau dros ar ôl tro am bwyslais penodol ar y maes pwysig hwn. Rwy'n credu bod hyn yn ddiffyg cynnydd eithaf pryderus, o ystyried mai Cymru sydd â'r lefelau uchaf o dlodi plant o bob cenedl yn y DU, ac un o bob tri o blant bellach yn byw mewn tlodi, ac mae’n dangos yn benodol fod swyddfa'r comisiynydd plant naill ai'n gwbl ddi-rym i roi effaith sylweddol yn y maes hwn, neu nad yw'n herio Llywodraeth Cymru a'r DU o ddifrif yn hyn o beth. Yn syml, mae swyddfa'r comisiynydd wedi cwblhau'r ymarfer ticio blychau o ymddangos fel pe bai'n helpu i ddelio â thlodi plant drwy anfon llythyrau a gofyn am gyfarfodydd, ond yn y pen draw wedyn dydyn nhw heb fynd ar drywydd nac olrhain hyn ymhellach. Felly, rwy’n gofyn i'r Gweinidog: wrth symud ymlaen, pa ddisgwyliadau sydd gennych chi y bydd y comisiynydd plant newydd wir yn mynd i'r afael â'r broblem hon? Nid yw ysgrifennu llythyrau heb hyd yn oed gael ymateb yn mynd i fod yn ddigon da.

Gweithwyr o Gymru sydd â'r cyflogau isaf yn y DU ym mhob un diwydiant, sy'n golygu nad oes gan gartrefi o reidrwydd yr un cydnerthedd ariannol â'u cymheiriaid yn y DU. Mae'r taliadau budd-dal mae gan rai pobl yr hawl iddyn nhw werth mwy na'r cyflog y gallan nhw ei dderbyn o weithio'n llawn amser, hyd yn oed os ydyn nhw'n cael eu talu'n uwch na'r cyflog byw cenedlaethol. Ac yn y pen draw, dyma un o achosion sylfaenol tlodi plant ar raddfa eang. Gyda hyn mewn golwg, mae'n rhaid i gomisiynydd plant Cymru wthio llawer yn galetach a chael gwell dealltwriaeth o'r achosion pennaf o dlodi plant yng Nghymru.

Gan droi at lysgenhadon cymunedol, sy'n cael eu crybwyll yn yr adroddiad, mae'r cynllun yn amlwg yn un sydd â photensial mawr o ran ymgysylltu ehangach, yn enwedig gyda grwpiau sy'n anodd eu cyrraedd fel arfer. Ond heblaw am un digwyddiad ar-lein a gynhaliwyd gyda gofalwyr ifanc yn y gogledd, y pellaf i'r gogledd mae’r comisiynydd wedi llwyddo i ymweld yw Merthyr Tudful, a meddwl ydw i tybed pam. Siawns nad oes grwpiau cymunedol ymhellach i'r gogledd a fyddai wedi croesawu rhywfaint o ymgysylltu â'r comisiynydd plant a'i swyddfa. Nid oes sôn naill ai yn ‘Gyda’n Gilydd!' na'r rhaglen llysgenhadon ysgolion am ddosbarthiad daearyddol y cyfranogwyr, ac felly hoffwn bwysleisio i'r Gweinidog fod angen peth ymrwymiad gan y comisiynydd bod ei swyddfa yn mynd ati i ymgysylltu â phob rhan o Gymru yn weithredol ac nid mynd i ardaloedd sy'n hawdd eu cyrraedd o'r brif swyddfa yn unig. Mae'r pwynt hwn hefyd yn seinio’n glir gyda lefel yr ymchwiliadau a'r gefnogaeth sydd wedi'i gynnig hefyd. O'r 604 o achosion eleni, cofnodwyd fod traean ohonynt yn dod o Gaerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe, a byddai wedi bod yn ddefnyddiol gwybod beth oedd y dosbarthiad llawn ledled Cymru, oherwydd byddai'n helpu i nodi ardaloedd lle mae angen mwy o amlygrwydd i’r comisiynydd.

O ran sylwadau'r comisiynydd mewn perthynas â'r rhai oedd wedi gadael gofal, mae'r comisiynydd wedi nodi bod angen i bob person sy'n gadael gofal fod â chynghorydd personol penodedig, a dywedodd er bod cyllid ar gael, nad yw'r newid statudol i wreiddio'r ddarpariaeth hon wedi dod i rym, ac na fydd y newid deddfwriaethol i wneud i hyn ddigwydd, wedi’i amserlennu’n wreiddiol ar gyfer 2022-23, yn digwydd tan 2024 ar y cynharaf bellach. O ystyried bod Llywodraeth Cymru'n gwario £20 miliwn ar dreialu incwm sylfaenol cyffredinol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal, pam nad yw'r Llywodraeth hon yn gallu sicrhau bod gan bob person sy'n gadael gofal fynediad at gynghorydd personol? Hoffwn herio Llywodraeth Cymru ymhellach a gofyn p’un a yw'r rhai sy'n optio mewn i’r treial incwm sylfaenol cyffredinol yn mynd i gael cynghorydd personol penodol ai peidio, oherwydd mae'n mynd i fod yn ddull cefnogi a fydd yn hanfodol i rai, yn enwedig gan eu bod nhw’n cael £20,000 y flwyddyn i'w wario.

Yn olaf, rwyf i am godi pwynt ar y lefelau uchel o waharddiadau tymor penodol ar gyfer plant tair i saith mlwydd oed yn y cyfnod sylfaen. Rwy'n gwerthfawrogi bod y data rhwng 2017-18, ond mae'n ymddangos i mi fod bron i 80,000 diwrnod o ddysgu yn cael eu colli i waharddiadau yng Nghymru, ac mae hyn yn ymddangos yn rhy uchel, yn enwedig o ystyried ei bod yn debygol bod rhai o'r un plant yn cael eu gwahardd dro ar ôl tro. Gyda hyn mewn golwg, hoffwn herio'r Llywodraeth a'r comisiynydd ar y pwynt hwn. Mae'r ffaith i hyn fod yn syndod i'r comisiynydd, a'u bod yn adrodd amdano bum mlynedd yn ddiweddarach, yn dangos yn glir nad yw swyddfa'r comisiynydd yn cadw llygad digon agos ar y mathau hyn o ystadegau.

16:05

Diolch. Wrth gloi, rwy'n ymwybodol gyda phopeth rydw i newydd ei ddweud, hoffwn er gwaethaf popeth ddiolch i'r comisiynydd plant blaenorol a'i swyddfa am y gwaith maen nhw wedi'i wneud. Rwy'n gwybod fy mod i wedi tynnu sylw at sawl methiant heb sôn am lawer o bethau cadarnhaol, ond nid wyf erioed wedi amau awydd y comisiynydd i gael y gorau i blant Cymru. Diolch.

16:10

A gaf i adleisio'r geiriau sydd eisoes wedi’u mynegi o ran diolch i Sally Holland am ei chyfnod o dros saith mlynedd? Rwy'n credu bod ei darlith ymadael, hefyd, yn rhywbeth i nifer ohonom ni gnoi cil drosto, gan fyfyrio ar yr heriau yr oedd hi'n credu oedd yn dal i wynebu cymaint o blant a phobl ifanc. Hoffwn hefyd groesawu'r comisiynydd plant newydd, sydd wedi dangos yn barod yn ei rôl y bydd hi'n dilyn yn ôl troed Sally ac yn blaenoriaethu lleisiau plant a phobl ifanc Cymru.

Rwy'n credu ei fod yn dangos yn yr adroddiad hwn beth yw gwerth cael rôl allweddol y comisiynydd i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y gynrychiolaeth honno, ond eu bod nhw’n cael cynnig y cyfleoedd hynny fel bod eu lleisiau uniongyrchol eu hunain yn cael eu clywed. Rwy’n meddwl mai un o'r pethau rydw i wedi myfyrio arno, wrth ddarllen yr adroddiad, oedd y ffaith bod cymaint o blant a phobl ifanc wedi cymryd rhan—miloedd ar filoedd o'r lleisiau yna wedi’u clywed ac wedi cael gwrandawiad—a hefyd yr hyfforddiant o ran hawliau plant, o godi ymwybyddiaeth ac ymwybyddiaeth barhaus, achos mae'n her barhaus, i sicrhau ein bod ni'n parchu ac yn gwrando ar leisiau plant a phobl ifanc. Rydym ni wedi gweld gwerth hynny yn ein gwaith ein hunain drwy bwyllgorau'r Senedd, ac rwy'n credu ei bod hi'n glir o'r adroddiad y rôl werthfawr mae swyddfa'r comisiynydd plant yn ei chwarae wrth ddarparu tystiolaeth a'n herio ni fel gwleidyddion ar rai o'n penderfyniadau hefyd. Hir y parhaed hynny, oherwydd mae'n bwysig bod hynny'n dylanwadu ar bolisi.

Rwy'n credu mai'r un peth i fyfyrio arno o ran rhai o'r heriau a sut rydyn ni'n ymateb—fe wnes i eich clywed chi, Gweinidog, yn amlwg, yn cyfeirio at ddulliau dylanwadu’r DU a rhai o bethau nad ydyn nhw o fewn ein rheolaeth, na allwn ni newid, ond os ydyn ni'n canolbwyntio'n benodol ar yr argymhellion yn yr adroddiad ynghylch tlodi plant, yn amlwg, rhywbeth a gafodd ei hyrwyddo hefyd dros dymor saith mlynedd Sally Holland fel comisiynydd—. Bydd llawer ohonom ni’n cofio'r targed hwnnw o ddileu tlodi plant erbyn 2020, a chael gwared ar hwnnw wedyn yn 2016. Byddwn yn adleisio galwadau'r comisiynydd plant i sicrhau bod y cynllun hwnnw ar waith. Rydw i’n meddwl bod peidio â chael y cynllun penodol yna gyda thargedau, fel ein bod ni'n gallu mesur cynnydd, yn rhywbeth sy'n ddiffygiol ar hyn o bryd, ac mae'n eithaf syfrdanol nad oes cynllun gweithredu penodol ar fynd i'r afael â thlodi plant. Mae gennym ni nifer o fesurau—pethau yr ydym ni’n hynod falch ohonynt ym Mhlaid Cymru yr ydym ni wedi gallu eu sicrhau, wrth gwrs, drwy'r cytundeb cydweithredu rhwng y ddwy blaid; pethau, fel y pwysleisiwyd yn yr adroddiad, megis ymestyn prydau ysgol am ddim ac ehangu gofal plant. Ond mae angen i ni fynd y tu hwnt i hynny, ac rwy’n credu, gyda phopeth sydd yn dod o ran y toriadau pellach rydyn ni am eu gweld gydag awdurdodau lleol a phopeth, mae yna risg gwirioneddol fod y sefyllfa am waethygu os nad oes gennym ni gynllun i fynd i'r afael â hyn a hefyd os nad ydyn ni'n monitro effaith ein holl bolisïau, a monitro lle gallwn ni wneud gwahaniaeth, o ystyried ein bod ni’n gwybod y bydd y pwysau'n cynyddu.

Y maes arall yr hoffwn i ganolbwyntio arno yw'r adran ar addysg yn y cartref a'r argymhellion penodol yno, sy’n dweud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd gyhoeddi cynllun gwerthuso ar gyfer gweithredu canllawiau statudol newydd ochr yn ochr â'r canllawiau hynny. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ymwybodol o bryderon sydd wedi eu codi gyda nifer ohonom o ran addysg yn y cartref. Er bod Plaid Cymru wedi cytuno gyda bwriad y cynigion, sef sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn cael addysg addas, rydym ni’n dal i gredu nad yw'r canllawiau hynny, neu’r canllawiau drafft ar hyn o bryd, yn gwahaniaethu rhwng y rhai sydd wedi dewis addysgu eu plant yn y cartref ac yn teimlo eu bod nhw’n mynd i gael eu monitro neu eu drwgdybio, mewn cyferbyniad â'r plant hynny nad ydyn nhw’n derbyn unrhyw fath o addysg ar hyn o bryd. Rwy'n credu bod rhai pethau sy’n cael eu codi yma fel pryderon yr hoffwn i i Lywodraeth Cymru fod yn mynd i'r afael â nhw.

Ond rwy'n credu mai'r un peth sy'n glir iawn yma yw bod effeithiau COVID, fel sy’n cael ei egluro yn yr adroddiad, wedi bod yn helaeth ar ein plant a'n pobl ifanc a byddant yn parhau i fod felly. Bydd yr argyfwng costau byw hefyd yn effeithio'n anghymesur ar ein plant a'n pobl ifanc. Felly, y pwynt yr hoffwn i ei bwysleisio, wrth gloi, Gweinidog, yw: a allwn ni sicrhau bod cynllun gweithredu tlodi plant, fel sy'n cael ei hyrwyddo gan y comisiynydd plant a'r adroddiad hwn, ar waith, fel ein bod ni’n gallu gwneud y newidiadau hynny mae ein plant a'n pobl ifanc eu hangen mor daer? Diolch.

16:15

Mae adroddiadau blynyddol bob amser yn ôl-weithredol, ond mae'r adroddiad blynyddol hwn hyd yn oed yn fwy ôl-weithredol nag arfer, oherwydd, wrth gwrs, eleni, mae'r comisiynydd presennol yn adrodd ar waith ei rhagflaenydd. Gyda hynny mewn golwg, hoffwn ddiolch i Sally Holland, unwaith eto, am bopeth a wnaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy gydol ei chyfnod, a llongyfarchiadau, unwaith eto, i Rocio Cifuentes ar ei phenodiad. Gobeithio eich bod chi wedi ymgartrefu yn dda, comisiynydd.

Nôl ym mis Rhagfyr 2021, cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wrandawiad cyn penodi gyda Ms Cifuentes. Fe wnaethom ei hannog hi a'i swyddfa i fyfyrio ar ambell beth wrth iddyn nhw gynllunio a chyflawni eu gwaith, gan gynnwys sut maen nhw'n sicrhau eu bod nhw’n ymgysylltu â phlant a phobl ifanc ledled Cymru gyfan, a sut maen nhw'n gwerthuso effaith eu gwaith fel ei bod hi'n glir sut mae'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a phobl ifanc o ddydd i ddydd. Fe ddown ni’n ôl at y themâu hynny pan fyddwn ni’n craffu ar y comisiynydd ar ei hadroddiad blynyddol ar 17 Tachwedd.

Y tu allan i graffu ar yr adroddiad blynyddol, rydym ni’n manteisio ar arbenigedd y comisiynydd i lywio ein gwaith craffu. Felly, mae gen i ddiddordeb arbennig yng ngherdyn adroddiad y comisiynydd yn ei hadroddiad blynyddol. Mae'r cerdyn adroddiad yn nodi barn y comisiynydd am gynnydd Llywodraeth Cymru yn erbyn materion polisi allweddol. Mae'r materion polisi canlynol yn atseinio'n arbennig o gryf gyda'n gwaith ni.

Y cyntaf yw mynd i'r afael â thlodi plant. Rwy'n cytuno, rydym ni ar fin profi argyfwng costau byw ac, fel pwyllgor, rydym ni wedi cytuno i ganolbwyntio ar effaith negyddol anfantais ar ganlyniadau i blant a phobl ifanc. Ychydig dros flwyddyn sydd wedi bod ers i'n pwyllgor gael ei ffurfio, ond mae eisoes yn boenus o glir faint o'r heriau mae ein plant yn eu hwynebu sy’n deillio o dlodi. Fel mae’r comisiynydd yn ei gynghori, byddwn yn rhoi sylw manwl i strategaeth tlodi plant Llywodraeth Cymru, sydd i fod i gael ei chyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn.

Yr ail yw pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Fel y comisiynydd, cawsom ein hannog gan yr ymrwymiad yn rhaglen lywodraethu i:

'Ystyried cyfleoedd radical i ddiwygio’r gwasanaethau presennol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac yn gadael gofal.'

Yn anffodus, rydym ni hefyd yn cytuno â'r comisiynydd bod cynnydd ar y gwaith pwysig hwn wedi bod yn rhy araf. Mae angen tryloywder ynglŷn â beth mae'r ymrwymiad hwn yn ei olygu yn ymarferol. Yn ddiweddar rydym ni wedi lansio ymgynghoriad yn gofyn i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, rhieni biolegol, rhanddeiliaid ac academyddion sut maen nhw'n credu y dylai diwygiadau radical edrych. Beth fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i fywydau pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal? Ein gobaith yw y bydd yr ymchwiliad hwn yn cefnogi ymrwymiad y Llywodraeth, sydd i’w groesawu, i archwilio a gweithredu'r diwygiad radical mae plant a phobl ifanc ei angen.

Ac yn olaf, iechyd meddwl ysgol gyfan: rydym ni wedi clywed pryderon am iechyd meddwl ein dysgwyr dro ar ôl tro drwy gydol ein gwaith, fel effaith o aflonyddu rhywiol ymysg dysgwyr, fel achos o absenoldeb disgyblion, a thu hwnt i addysg statudol i addysg uwch. Rydym ni’n cytuno â'r comisiynydd bod ysgolion yn lleoliad delfrydol i gefnogi plant gyda'u hiechyd meddwl, ac yn croesawu cynnydd Llywodraeth Cymru y mae'r comisiynydd wedi ei gydnabod yn ei hadroddiad. Byddwn yn parhau i wneud yr hyn y gallwn ni i sicrhau bod y Llywodraeth yn adeiladu ar y cynnydd hwnnw i ddarparu'r cymorth iechyd meddwl mae ein plant yn ei haeddu.

Mae llawer mwy o feysydd polisi hanfodol bwysig yn yr adroddiad hwn, a dim digon o amser i'w trafod i gyd. Ond rwy'n annog holl Aelodau'r Senedd, y rhai sydd yn y Llywodraeth a'r tu allan iddi, i ddarllen yr adroddiad hwn a defnyddio canfyddiadau'r comisiynydd i lywio eu gwaith. P'un a yw plant yn rhan benodol o bortffolio cylch gwaith neu weinidogaethol eich pwyllgor ai peidio, mae dyletswydd gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ystyried eu hawliau ym mhob penderfyniad mae'n ei wneud. Mae'r adroddiad hwn yn berthnasol i bob un ohonom ni.

Ac i’r comisiynydd ei hun, rwy’n edrych ymlaen at drafod ei hadroddiad yn fanylach ar 17 Tachwedd, ac adeiladu ar y berthynas gadarnhaol rhwng ei chomisiynwyr rhagflaenol a'n pwyllgorau rhagflaenol wrth fynd ar drywydd ein pwrpas cyffredin: gwella bywydau plant a phobl ifanc Cymru. Diolch.

Hoffwn innau hefyd ymuno â nifer o bobl eraill i ddiolch i'r cyn-gomisiynydd plant, Dr Sally Holland, am ei harweinyddiaeth fel y comisiynydd wrth hybu a diogelu hawliau plant a phobl ifanc Cymru. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar blant a theuluoedd a phlant dan ein gofal, rydw i eisiau defnyddio fy amser byr i ganolbwyntio ar blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal.

Ers 2003, mae nifer y plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal wedi bron â dyblu, ac yn y degawd diwethaf, mae wedi codi mwy na chwarter. Rwy'n poeni'n benodol am ddarpariaeth gwasanaethau eiriolaeth annibynnol i blant a phobl ifanc mewn gofal preswyl. Rydym ni’n gwybod, o ganlyniad i'r dull cenedlaethol o ymdrin ag eiriolaeth statudol, sydd ar waith ers Gorffennaf 2017, fod plant a phobl ifanc sy’n cael eu gosod yng ngofal preswyl yr awdurdodau lleol yn gallu cael eiriolaeth annibynnol. Ond mae'r ddarpariaeth honno yn cyfrif am lai a llai o gyfanswm cyfran y llety.

Ym mis Mawrth 2019, dim ond 23 allan o gyfanswm o 178 o gartrefi plant oedd yn cael eu darparu gan awdurdodau lleol. Yn ôl tystiolaeth Tros Gynnal Plant, dim ond 22 o'r tua 155 o gartrefi annibynnol oedd yn darparu eiriolaeth annibynnol mewn gwirionedd. Mae hyn yn bryder gwirioneddol i mi ac, rwy'n siŵr, i lawer o rai eraill, Gweinidog. Dylai fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i bob cartref preswyl, beth bynnag fo'i statws o ran cofrestru, ddarparu gwasanaeth eiriolaeth ymweld annibynnol, fel amddiffyniad ychwanegol, gan sicrhau bod gan bob plentyn neu berson ifanc eiriolwr personol y gallant gyfathrebu'n agored ag ef, a hynny heb boeni.

Mae llawer ohonom ni, naill ai'n broffesiynol neu mewn capasiti arall, wedi cwrdd â phobl ifanc sydd mewn gofal neu sydd â phrofiad o ofal. Mae'r trawma a'r profiadau maen nhw'n mynd drwyddyn nhw, o ran dod i ofal, yna o ran eu lleoliadau, yn golygu eu bod nhw wir yn teimlo'n ddi-lais. Mae gwasanaethau eiriolaeth annibynnol yn hanfodol i sicrhau bod ganddyn nhw’r llais hwnnw. Felly, byddai'n ddiddorol clywed mwy ar y mater hwn mewn ymateb i'r ddadl, wrth ymestyn y gofyniad hwn i'r sector annibynnol, a chryfhau'r model cenedlaethol presennol ar gyfer lleoliadau awdurdodau lleol.

Y mater arall yr hoffwn i dynnu sylw ato yw'r defnydd o leoliadau nad ydyn nhw’n cael eu rheoleiddio. Mae adroddiad y comisiynydd yn tynnu sylw at bryderon gyda'r defnydd eang o leoliadau nad ydyn nhw’n cael eu rheoleiddio. Rwy'n gwerthfawrogi'n llwyr fod y rhain yn aml yn codi o argyfyngau a lleoliadau yn chwalu, ac ar ôl bod yn weithiwr cymdeithasol am flynyddoedd lawer, rwy'n ymwybodol o’r sefyllfa. Ond mae pryder gwirioneddol gydag ansawdd a safonau'r llety. Gall hyn amrywio o leoliadau 'Pan fydda i’n Barod', hyd at hosteli a llety gwely a brecwast, ac mae'r olaf o’r rhain yn gwbl amhriodol. Er bod rhai lleoliadau cefnogol ardderchog, mae rhai pobl ifanc yn fregus iawn os ydyn nhw’n byw mewn llety gwael gyda chefnogaeth gyfyngedig.

Rwy'n deall bod hyn yn cael ei ystyried fel rhan o'r gwaith o ran tynnu elw o'r sector, ac ar wella ystod ac argaeledd lleoliadau, yn enwedig i'r rhai sydd ag anghenion mwy cymhleth. Rwy'n cefnogi hyn, ac rwy'n falch iawn bod hyn yn rhan o'r rhaglen lywodraethu. Mae'r comisiynydd, yn ei hadroddiad, yn gwneud argymhellion clir iawn am gwmpas y gwaith sydd angen ei wneud, ac rwy'n gobeithio y gallwch chi ymateb, Gweinidog, i'r argymhelliad hwnnw yn y ddadl hon.

Yn olaf, fel mae eraill wedi’i wneud, a gaf ddymuno'r gorau i'r comisiynydd newydd, Rocio Cifuentes, am ei chyfnod yn y swydd? Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda hi. Mae llawer iawn o waith i'w wneud i'n plant er mwyn creu dyfodol mwy disglair. Mae pandemig COVID—ei effaith uniongyrchol ar fywydau plant a phobl ifanc, a'r penderfyniadau ynghylch sut y gwnaeth Cymru ymateb i'r pandemig—yn amlygu pa mor bwysig yw hyrwyddwr annibynnol i blant a phobl ifanc. Diolch yn fawr iawn.

16:20

Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad heddiw trwy ddiolch i'r comisiynydd plant newydd a'i thîm am eu gwaith yn cynhyrchu'r adroddiad cynhwysfawr hwn. Hoffwn hefyd ymuno â chydweithwyr o bob rhan o'r Siambr i gynnig fy niolch i'r Athro Sally Holland am bopeth a gyflawnodd yn ystod ei chyfnod yn y swydd.

Roedd Sally yn hyrwyddwr cadarn dros hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Cefais gyfle i ymuno â hi ar ymweliad â Cynon Valley Organic Adventures yn fy etholaeth i y llynedd. Roedd hyn ar gyfer eu cinio mawr yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr, ac roedd yn gyfle gwych i Sally siarad â rhai o'r bobl ifanc y bu Janis a'i thîm yn gweithio gyda nhw. Diolch i Sally am gymryd yr amser i ymweld. Rwy'n gwybod bod hwn yn faes y bydd hi'n parhau i wneud cyfraniad sylweddol ynddo.

Gan droi at yr adroddiad blynyddol, rwyf eisiau canolbwyntio ar ambell faes allweddol—yn gyntaf, yr adrannau sy'n ymwneud â mynd i'r afael â thlodi plant. Gwyddom i gyd, wrth gwrs, mai dyma un o'r materion mwyaf sylfaenol sy'n wynebu ein cymdeithas. Mae'r data a ddyfynnir yn yr adroddiad ar faint yr her yn ddigon sobreiddiol. Fodd bynnag, mae ffigyrau diweddaraf Canolfan Ymchwil Polisi Cymdeithasol Prifysgol Loughborough yn awgrymu bod nifer y plant mewn tlodi yng Nghymru wedi cynyddu hyd yn oed y tu hwnt i hyn. Rydym hefyd yn gwybod bod hyn yn debygol o fod wedi gwaethygu ymhellach gan y pwysau costau byw digynsail. Yng nghyd-destun y ffeithiau hyn, rwyf wir wedi fy syfrdanu a fy mrawychu gan y diffyg ymgysylltu â'r comisiynydd plant o Lywodraeth y DU. Mae'r adroddiad yn nodi sawl achlysur lle gwrthododd aelodau Cabinet y DU gyfarfod â'r comisiynydd plant, neu hyd yn oed ateb gohebiaeth. Gan fod un o'r rhai hynny a fethodd ag ymateb, yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau ar y pryd, yn Ddirprwy Brif Weinidog ar hyn o bryd, nid yw'n argoeli'n dda i weinyddiaeth Truss yn yr her allweddol o fynd i'r afael â thlodi plant.

Rwy'n nodi, mewn cyferbyniad, weithredoedd Llywodraeth Cymru, y mae'r comisiynydd plant wedi eu croesawu. Mae polisïau fel cyflwyno prydau ysgol am ddim cyffredinol, darparu brecwast ysgol am ddim, cynnig gofal plant estynedig, Dechrau'n Deg a grant datblygu disgyblion gwell i helpu gyda chost y diwrnod ysgol i gyd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. O fy ymgysylltiad â'r prosiect yn fy etholaeth i, rwyf hefyd eisiau sôn am y clybiau bwyd a hwyl sy'n darparu buddion o'r fath i'r teuluoedd hynny sy'n gymwys i gymryd rhan. Mae'r gweithredoedd hyn a mwy yn dangos ymrwymiad Gweinidogion Cymru i ddileu tlodi plant. Wedi dweud hynny, rwy'n cydymdeimlo â sylwadau'r comisiynydd ynghylch y cynllun gweithredu tlodi plant. Os caiff ei dderbyn, gallai hynny arwain at ddarn o waith gwirioneddol gryf sy'n sicrhau pwyslais manwl di-baid gan bob un ohonom ni ar roi'r dechrau gorau posibl i bob plentyn yng Nghymru.

Rydw i hefyd yn cydymdeimlo ag argymhelliad y comisiynydd ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc o dan 18 oed yng Nghymru. Yn ddiweddar, cynhaliais ddigwyddiad ar gyfer Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru a'r Grŵp Gweithredu Tlodi Plant yma yn y Senedd. Roedd hwn i nodi lansiad y canllaw byr 'Taclo Tlodi Plant gyda'n Gilydd' i ysgolion. Roedd cryn dipyn o blant a phobl ifanc o ysgolion Cymru yn bresennol, a'r peth mawr yr oedden nhw'n gofyn amdano oedd y dylen nhw allu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus am ddim. Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn awyddus iawn i newid arferion ac annog mwy o ddefnydd o fysiau a threnau. Rwy'n gwerthfawrogi bod arian yn dynn, ond gallai bodloni'r argymhelliad hwn, hyd yn oed o ran y cynllun treialu y gofynnwyd amdano, fynd ymhell i annog arferion gydol oes rhagorol o ddefnydd trafnidiaeth gyhoeddus.

Yn olaf, yr adran ynghylch iechyd meddwl ysgol gyfan a chymorth lles. Fel cyn-athrawes, fel mam i ferch yn ei harddegau, ac o sach bost fy etholaeth, rwy'n gwybod bod y gwaith hwn yn gwbl angenrheidiol. Mae'r comisiynydd yn canmol yn briodol yr ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud—mae hynny o ran y dull gweithredu ei hun a darparu cyllid fel y gall gael ei weithredu'n iawn. Pan fydd ein plant a'n pobl ifanc o dan y fath bwysau, dylem ni gynnig dim llai iddyn nhw. Edrychaf ymlaen at gyflwyno hyn yn gyflym ac yn effeithiol ledled Cymru ar frys. Diolch, Dirprwy Lywydd.

16:25

A gaf i ddiolch hefyd i'r Gweinidog am y datganiad? Ac a gaf i ddiolch hefyd i'r comisiynydd presennol am ei gwaith hyd yma, yn ogystal â'i rhagflaenydd, yr Athro Sally Holland?

Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd i ni i gyd, ac yn arbennig, plant a phobl ifanc, sydd wedi gorfod profi amharu sylweddol ar eu bywydau a'u datblygiad. Felly, mae'n bwysig i ni yn y Senedd ofyn i ni'n hunain yn barhaus sut rydym ni'n gweithio i greu dyfodol gwell i bobl ifanc, a rhoi'r arfau maen nhw eu hangen iddyn nhw. Rwy'n mawr obeithio bod pob corff cyhoeddus a haen o lywodraeth o bob cwr o'r DU yn ymgysylltu'n llawn, ac yn parhau i ymgysylltu, â'r gwaith hwn. Mae rôl a gwaith adrodd y comisiynydd plant yn sylfaenol i daflu goleuni ar feysydd sydd angen eu gwella, ac rwy'n canmol y comisiynydd ar ei hadroddiad. Yn bersonol, roeddwn i'n credu ei fod yn glir, yn gryno ac yn hawdd ei ddefnyddio.

Dirprwy Lywydd, mae'r materion sy'n wynebu ein plant a'n pobl ifanc wedi parhau am lawer rhy hir, ac mewn llawer o achosion mae'r materion sy’n cael eu crybwyll yn yr adroddiad yn waeth mewn ardaloedd gwledig, fel yn fy etholaeth i yn Nhrefynwy. Meddyliwch am gludiant: bydd pobl ifanc yn aml yn profi rhwystrau rhag manteisio ar gyfleoedd addysg, hamdden neu gyflogaeth oherwydd argaeledd a chost trafnidiaeth gyhoeddus. Nid oes darpariaeth fel y byddech chi'n ei chael yng Nghasnewydd neu Gaerdydd, er enghraifft. Nawr, Gweinidog, a ydych chi'n gweithio gyda'ch cydweithwyr yn y Cabinet i sicrhau bod anghenion pobl ifanc yn cael eu diwallu'n llawn yn eich strategaeth drafnidiaeth, 'Llwybr Newydd', yn ogystal â'ch Bil bws sydd ar ddod? 

Mae'r adroddiad hefyd yn sôn am sawl peth yn ymwneud â hygyrchedd gwasanaethau ac eiriolaeth ar gyfer amrywiaeth o bobl ifanc. Eto, mae'r rhain yn bethau nad ydynt o reidrwydd yn hawdd eu cael mewn ardaloedd gwledig mawr, sy'n gallu effeithio ar sut mae pobl ifanc yn ymgysylltu â nhw ac yn derbyn cefnogaeth. Sut mae'r Llywodraeth yn gweithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau i sicrhau bod gwasanaethau'n gwbl hygyrch? Ac ydy gwasanaethau'n cael eu hyrwyddo'n ddigonol fel bod pobl ifanc yn gwybod beth sydd ar gael iddyn nhw a sut i i’w gael?

Yn olaf, a gaf i hefyd roi fy nghefnogaeth lawn y tu ôl i argymhelliad y comisiynydd ar gyfer strategaeth benodol ar sut i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru, yn enwedig o ystyried y cyd-destun presennol yr ydym ni’n canfod ein hunain ynddo? Ac ar y pwynt hwn, mae'n rhaid i mi fynegi fy siom unwaith eto bod swyddfa'r comisiynydd yn ei chael hi'n anodd cael y lefel o ymgysylltu â Llywodraeth y DU a oedd yn haeddiannol, ac ar sawl lefel. Nid yw hyn yn ddigon da ac mae'n rhaid iddo newid. Nawr, efallai nad oes gan Lywodraeth Cymru yr holl ddulliau dylanwadu y mae'n dadlau sydd eu hangen arni, ond yn sicr mae ganddi lawer yn barod, ac mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o ddefnyddio’r pwerau a’r mentrau sydd gennym ni yn well. A gaf i ofyn, Gweinidog, a fydd y Llywodraeth yn ystyried pa mor dda mae ei pholisïau presennol yn gweithio i leddfu achosion a chanlyniadau tlodi plant, a ph’un a ellir hyrwyddo dysgu o'r fath i helpu i lywio'r strategaeth newydd sydd i fod i ddigwydd yn ddiweddarach eleni? Diolch.

16:30

Hoffwn ddefnyddio'r cyfle hwn i ddiolch i Gomisiynydd Plant Cymru am yr adroddiad hwn, a chroesawu'r comisiynydd newydd, Rocio Cifuentes, i'w rôl. Rwy'n edrych ymlaen at weld y gwaith mae Rocio'n ei gyflawni drwy ymgysylltu â phobl ifanc, gan wneud Cymru'r lle gorau i dyfu i fyny fel person ifanc. Mae'n wych gweld sut mae Comisiynydd Plant Cymru wedi ymgysylltu â grwpiau dan arweiniad ieuenctid yn fy nghymuned fy hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae'r adroddiad yn sôn am ymgysylltu â chlwb ieuenctid cynhwysol Pen-y-bont ar Ogwr ac YMCA Pen-y-bont ar Ogwr, ac rydw i wedi gweithio gyda phobl ifanc yn y clybiau i ddatblygu adnoddau a deunyddiau sy'n berthnasol i'w hanghenion, ac anghenion plant a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu.

Mae'r adroddiad hefyd yn sôn am Brosiect Pleidlais a welodd pobl ifanc 16 mlwydd oed yn pleidleisio am y tro cyntaf yn ein hetholiadau llywodraeth leol diweddar. Roedd modd i fyfyrwyr Ysgol Gyfun Cynffig yn fy etholaeth i gymryd rhan mewn cynllun treialu a oedd yn caniatáu iddyn nhw bleidleisio yn yr ysgol dros dridiau. Roedd hi’n wych eu gweld nhw’n cynrychioli lleisiau pleidleiswyr ifanc yn The Guardian, lle roedden nhw'n siarad am ba mor bwysig oedd hi iddyn nhw allu pleidleisio ac am ffyrdd o wneud pleidleisio'n fwy hygyrch.

Mae'r adroddiad hefyd yn sôn am y gwaith mae'r comisiynydd yn ei wneud o ran yr adolygiad teithio gan ddysgwyr. Rwyf wedi cwrdd â'r comisiynydd blaenorol ynglŷn â'r mater hwn, a disgyblion yng Nghorneli sy'n ymgyrchu dros wella mynediad i drafnidiaeth ysgol. Mae'r newid mewn meini prawf tair milltir i ddwy filltir ar gyfer mynediad at bàs bws wedi effeithio'n fawr ar y bobl ifanc yn cyrraedd ac yn gadael yr ysgol, gan gynnwys eu hiechyd meddwl a'r nifer sy’n chwarae offerynnau cerdd. Y gaeaf hwn, bydd plant mor ifanc ag 11 mlwydd oed yn cerdded i'r ysgol yn y glaw ac yna'n eistedd mewn dillad gwlyb socian drwy'r dydd. Fel y dywed yr adroddiad, mae hwn yn fater sy'n cael effaith ar ddisgyblion ledled Cymru, ac rwy'n cytuno gyda'r adroddiad bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru nodi amserlenni yn glir a gyda brys i sicrhau newid cadarnhaol erbyn diwedd tymor y Senedd, a rhaid i farn pobl ifanc gyfrannu at gam nesaf y gwaith hwnnw.

Mae'r adroddiad yn archwilio'r dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl, ac rwyf i wedi siarad â'r comisiynydd am fy mhrofiadau fy hun o anorecsia ar ôl rhannu yma yn y Siambr. Felly mae'n wych clywed am TERMS, prosiect monitro o bell wedi'i alluogi gan dechnoleg mewn ysgolion gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion sydd wedi'i gyd-gynllunio gyda disgyblion Ysgol Gyfun Brynteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle mae'r prosiect nawr yn cael ei dreialu. Daeth y prosiect hwn yn dilyn gofyn yn uniongyrchol i ddisgyblion pa faes o iechyd meddwl yr oedden nhw am ei archwilio. Cafodd anhwylderau bwyta ei godi fel y maes allweddol yr oedden nhw am gael mwy o ymchwil mewn cysylltiad ag ef.

Ac yna, yn olaf, hoffwn dynnu sylw at gydnabod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn—yr offer sy'n sail i bob polisi a deddfwriaeth sy'n effeithio ar bobl ifanc. Ers cael fy ethol, rydw i wedi bod yn gweithio gyda chynghorau ysgol a chyngor ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â Pippa King o Biometrics in schools a Jen Persson o Defend Digital Me, ar y defnydd cynyddol o ddata biometreg sy'n cael ei gasglu a'i ddefnyddio mewn ysgolion. Yn 2021, cefais wybod am ysgolion lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cyflwyno technoleg i gasglu a defnyddio olion bysedd plant ar gyfer prydau bwyd amser cinio. Mae technolegau oedd yn cael eu defnyddio unwaith gan asiantaethau cudd-wybodaeth y wladwriaeth bellach yn cael eu defnyddio ar ein plant ar gyfer trafodiadau ariannol. Fe wnaeth llythyrau caniatâd a anfonwyd at rieni fframio'r defnydd o gasglu data olion bysedd fel rhywbeth mwy diogel i blant, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi diweddaru canllawiau, gan egluro mai mater i'r plentyn bob amser yw gwneud y penderfyniad ar roi eu data ai peidio. Ond wrth siarad â phobl ifanc yn fy nghymuned i, dydyn nhw ddim yn ymwybodol o hyn, ac maen nhw'n meddwl mai mater i'w rhieni yw hynny.

Yn y bôn, pan fydd gan rywun gyfrinair, mae'n rhywbeth y gallwch chi ei newid neu ei ailosod; mae ôl bys yn rhywbeth yr ydych chi—mae'n rhan ohonoch chi. Pan fydd y data hwnnw'n cael ei beryglu, mae'n cael ei beryglu am oes. Ac nid yw'r technolegau hyn ychwaith yn ddiogel rhag gollyngiadau ac ecsbloetio data, yn union fel y gwelsom mewn ysgolion ledled Cymru gydag apiau ieuenctid—yr ap o’r Unol Daleithiau, Seesaw—pan gafodd ei system ei hacio ac anfonwyd delweddau o natur rywiol i blant. Mae Erthygl 16 o'r CCUHP yn dweud bod gan bob person ifanc yr hawl i breifatrwydd, ac eto, yr hyn rydyn ni'n ei weld yw bod technolegau ymwthiol yn cael eu cyflwyno mewn ysgolion a heb y wybodaeth i bobl ifanc ddeall pwy sy'n casglu eu data personol a sut mae'n cael ei ddefnyddio nawr ac yn y dyfodol. Felly, byddwn yn croesawu'r cyfle felly i drafod y pryderon hyn a godwyd gyda mi gan bobl ifanc, gyda'r comisiynydd, ac effaith bosibl technolegau digidol sy'n cael eu defnyddio mewn lleoliadau addysgol ledled Cymru. Diolch.

16:35

Rwyf i am ddiolch hefyd i'r comisiynydd plant sy'n gadael a chroesawu'r un newydd. Ddoe, wrth gwrs, roedd hi’n Ddiwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Tlodi. Wrth gwrs, fe wnaeth Llywodraeth y DU ddathlu hynny drwy ddychwelyd i lymder a'r polisi trychinebus hwnnw a wnaeth drosglwyddo ein gwlad i ddegawd goll o dwf isel, gwasanaethau cyhoeddus nad ydynt yn cael eu hariannu’n ddigonol ac anghydraddoldeb cynyddol. Fodd bynnag, o dan lywodraeth Lafur ddiwethaf y DU, roedd tlodi plant yn gostwng. Ac rwy'n canolbwyntio'n arbennig ar dlodi plant, oherwydd plant yn dod allan o dlodi fydd yn eu gweld nhw'n cael bywydau gwell, gwell cyfleoedd, gwell siawns, a gwell mynediad at y pethau hynny fydd yn gwella eu hamgylchiadau, fel gwres, fel bwyd ac fel dillad da. Felly, rwyf i yn credu, pan fyddwn ni'n siarad am benderfyniadau anodd a pholisïau ariannol, fod angen i ni feddwl sut mae'r penderfyniadau anodd hynny yn edrych ar gyfer rhai aelwydydd—fel ailddefnyddio cewynnau budr, dyfrio llaeth fformiwla, a babi'n cysgu mewn drôr a phlentyn saith oed mewn cot teithio oherwydd nad ydych chi'n gallu fforddio gwely. Dyna'r hyn rydych chi'n ei alw'n benderfyniadau anodd mae teuluoedd yn eu gwneud nawr ym Mhrydain heddiw. Maen nhw'n deillio o adroddiad gan yr elusen Little Village, sy'n rhedeg dros 200 o fanciau babanod ledled y DU. Banciau bwyd, banciau cynnes a banciau babanod—mae'r Torïaid yn gwneud llawer iawn o fancio mewn argyfwng. Ac mae hynny'n cael ei roi yng nghyd-destun yr hyn rydyn ni'n ei drafod heddiw.

Mae llawer iawn yma sydd wedi symud ymlaen a llawer y gallwn ni ei ddathlu, llongyfarch a chanmol, ond yr her i'r comisiynydd newydd wrth symud ymlaen, fel mae’r adroddiad yn ei nodi, yw helpu i fynd i’r afael â thlodi, ac ymateb i’r tlodi hwnnw rwyf i newydd ei amlinellu, ac rwy’n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno polisïau, fel yr Haf o Hwyl estynedig, sydd yn yr adroddiad hwnnw, prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd—sy’n wirioneddol hanfodol nawr yn ystod yr amser hwn—a'r cynnig gofal plant estynedig, fel y gall rhieni fynd allan i weithio ac ennill rhywfaint o arian a hefyd cael rhywfaint o urddas. Ac mae'r cynllun treialu incwm sylfaenol ar gyfer pobl ifanc sy'n gadael gofal a gafodd ei grybwyll yn gynharach yn gam cadarnhaol. Maen nhw'n cael eu priodoli i’r gred bod pawb yn elwa pan fyddwn ni'n buddsoddi mewn plant a'u teuluoedd, nid pan fyddwn ni'n dwyn dechrau teg a chyfleoedd oddi ar bobl ifanc.

Rydw i eisiau canolbwyntio ar blant mewn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal. Rwyf am ganolbwyntio'n benodol ar y siarter rhianta corfforaethol, ac mae wedi cael ei argymell gan y comisiynydd bod angen i ni symud i ddeddfwriaeth. Rwy'n credu ei bod yn hynod bwysig bod pob Aelod etholedig yn deall—nid yma, ond ar bob lefel, awdurdod lleol hefyd—mai nhw yw rhiant corfforaethol y plentyn sy'n derbyn gofal, ac nad yw'n wir y gallant ddadlwytho eu hymrwymiadau oherwydd bod y plentyn hwnnw allan o'r sir neu, mewn rhai achosion, achosion hynod o brin, allan o'r wlad. Yr hyn rwy'n credu mae angen i ni ganolbwyntio arno yw pwy sy'n bwydo—. Beth yw'r strwythur a'r mecanwaith ar gyfer bwydo anghenion penodol y person ifanc hwnnw sydd mewn gofal preswyl yn ôl? Beth sy'n digwydd i'r adroddiadau hynny, os oes unrhyw rai—ac ni welais i unrhyw rai pan oeddwn i'n gynghorydd, ond efallai fod pethau wedi symud ymlaen—a phwy sy'n eirioli ar ran y plentyn hwnnw, oherwydd mae eiriolaeth ar ran y plentyn hwnnw yn hynod bwysig? Ac, wrth gwrs, yr hyn rydyn ni wedi'i weld yw proffidioldeb cynyddol sy’n gysylltiedig yn fwy diweddar â chwmnïau sy'n gwneud arian allan o gyni'r plant hynny, sydd yn warthus i mi, mae'n rhaid i mi ddweud. Ac, yn enwedig yn sir Benfro, mae gennym ni dipyn o leoliadau derbyn gofal. Nid wyf yn awgrymu bod y bobl benodol hynny yn elwa'n anghymesur, ond rydym ni’n gwybod bod adroddiadau wedi bod lle mae pobl yn elwa'n anghymesur wrth redeg nifer o fannau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Felly, mae hwnnw’n faes, rwy’n credu, sydd angen pwyslais penodol. Rydyn ni'n sôn am les y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Diolch.

16:40

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch, bawb. Diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu i'r ddadl hon ar adroddiad blynyddol y comisiynydd plant. Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth barhaus i gadw hawliau plant mor uchel ar agenda Llywodraeth Cymru. Felly, diolch i aelodau o bob rhan o'r Siambr am eich cydnabyddiaeth o waith yr Athro Sally Holland a'r rôl a'r dylanwad pwysig a gafodd ar hawliau plant yn ystod ei chyfnod yn y swydd. A, diolch hefyd am eich croeso i'r comisiynydd plant newydd, Rocio Cifuentes, ac am gydnabod ei thîm hi hefyd, a'r gwaith maen nhw wedi'i wneud gyda'r cyn-gomisiynydd plant. Mae'r geiriau o'r un newydd yn yr adroddiad wir yn dangos annibyniaeth a chryfder y swydd hon. Swydd, mewn gwirionedd, y mae'n rhaid i mi ddweud, amser maith yn ôl, mai fi oedd y Gweinidog a benododd y comisiynydd plant cyntaf mewn gwirionedd, ac fe ddaeth hynny allan o gydnabyddiaeth bod angen Comisiynydd Plant annibynnol i Gymru, a dyna sydd gennym ni.

Felly, diolch i chi am eich holl sylwadau, sy'n ddefnyddiol iawn o ran myfyrio ar yr argymhellion—argymhellion eang ar draws Llywodraeth Cymru gyfan. Ni allaf ateb y pwyntiau i gyd o ran yr holl argymhellion, ond byddaf yn canolbwyntio ar rai a godwyd amlaf.

A gaf i ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg, Jayne Bryant, am fyfyrio ar eich disgwyliadau, eich myfyrdodau o'r hyn rydych chi wedi'i obeithio y gallai'r comisiynydd plant newydd ei gyflawni yn ei chyfnod yn y swydd wrth i ni symud i gyfnod heriol iawn, ond hefyd y ffaith y byddwch chi hefyd yn ymgysylltu â'r comisiynydd plant, fel y gwnaethoch chi gyda'r un blaenorol, o ran ei hadroddiad blynyddol? Wrth gwrs, mae’r comisiynydd plant yn rhywun sy'n cael dylanwad ar bob un ohonom ni, o ran Gweinidogion ond hefyd ar bwyllgorau hefyd.

Jane Dodds, mae mor dda, gyda'ch profiad penodol, ond hefyd am eich bod yn gadeirydd grŵp trawsbleidiol plant a theuluoedd ac yn dod â'r ddealltwriaeth a'r profiad agos hynny i'r rôl honno. Fel y dywedais i, rydych chi wedi nodi nifer o faterion pwysig yn y ddadl, yn enwedig hefyd canolbwyntio ar y materion sy’n codi mae'n rhaid i ni eu hwynebu, ac, yn wir, mae'r comisiynydd plant yn myfyrio arnynt, gyda'r argyfwng costau byw. Rydyn ni eisiau ailddatgan fel Llywodraeth ein bod ni'n deall yr effeithiau dwys y mae'n eu cael ac y bydd yn parhau i'w cael ar blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae'n hollbwysig ein bod ni’n eu cefnogi nhw a'u hawliau, ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi plant a phobl ifanc Cymru. Mae hynny'n golygu ein bod ni’n cymryd cyfrifoldeb yn ogystal â'i gwneud yn glir ein bod ni hefyd yn galw ar y rhai sydd â'r pwerau a'r dulliau dylanwadu i gymryd cyfrifoldeb hefyd.

Felly, rwy'n credu ei bod hi’n bwysig iawn cydnabod bod y comisiynydd plant newydd mewn gwirionedd yn ymgymryd â'r ymgysylltiad ar raddfa fawr hon, y gobeithion ar gyfer Cymru, fel y dywedais i, ac, mewn gwirionedd, dros y tri mis diwethaf, mae wedi ymgysylltu â dros 11,000 o blant a phobl ifanc, ac wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol o ran estyn allan at bobl ifanc a'r rhai sydd yn aml wedi cael eu tan-wasanaethu—pobl ifanc, pobl ifanc anabl, ond hefyd sicrhau bod fersiynau gwahaniaethol, dolenni gwe, a ffyrdd y gall pobl ifanc a phlant ymgysylltu, fel y gall hynny lywio eu gwaith.

Nawr, wrth edrych ar rai o'r pwyntiau sydd wedi eu codi gan Aelodau, o ran yr amser sydd gen i, cymorth i bobl ifanc sy'n gadael gofal—yn hanfodol bwysig—yw cyfrifoldeb y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, sydd yma gyda ni heddiw. Ac i ddweud, wrth gwrs, rydym ni’n parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi'r rhai sy'n gadael gofal i dyfu’n oedolion ac i gael annibyniaeth, ac rydym ni’n adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud i wella canlyniadau i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Ac mae hyn yn hanfodol bwysig o ran yr ymateb a ddaw gan Lywodraeth Cymru o ran yr argymhellion, ond gan edrych yn arbennig ar y materion hanfodol hynny, er enghraifft yr ymrwymiad i roi'r hawl statudol i'r rheiny sy'n gadael gofal i gael cynghorydd personol hyd at pan fyddan nhw’n 25 mlwydd oed. Mae'r rhain yn ymrwymiadau ac, yn amlwg, argymhellion a fydd yn cael ymateb clir iawn gan Lywodraeth Cymru a gan y Gweinidog sy'n gyfrifol. Ond, yn yr un modd, mae hynny'n berthnasol i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn yr argymhellion yno, ac mae cryfhau rôl cyrff cyhoeddus fel rhieni corfforaethol, fel sydd wedi ei godi, yn ymrwymiad allweddol ar gyfer yr ail dymor hwn, a bod gwaith hefyd yn cael ei ddatblygu.

Ond rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig edrych ar y gwaith arloesol yr ydym ni’n ei wneud. Cafodd y cynllun treialu incwm sylfaenol ei grybwyll ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal. Hwnnw yw’r polisi gofod cywir, sy'n mynd i gynnig cymorth ariannol rheolaidd, diamod i bobl ifanc, ond gyda chefnogaeth annibynnol, o ran eu cyfranogiad. Ac a gaf i ddweud ein bod ni’n gweithio'n agos iawn gyda thimau gadael gofal o bob cwr o Gymru i ddeall eu rôl yn well yn y broses o adael gofal? Ond mae'n dda iawn adrodd i'r Aelodau bod y nifer sy'n cymryd rhan yn y cynllun treialu hyd yma wedi bod yn dda, a byddwn ni’n gweithio gyda derbynwyr yr incwm sylfaenol a rhanddeiliaid eraill i fonitro cynnydd y cynllun treialu.

Iechyd meddwl a chymorth lles ysgol gyfan—yn hanfodol bwysig—gyda'r argymhelliad, a'r pwynt am yr argymhelliad yw ei fod mewn gwirionedd yn ychwanegu pwysau at y gwaith sydd eisoes yn cael ei ddatblygu, a hefyd yn edrych ar addysg yn y cartref o ran symud ymlaen â gwaith yn y maes hwn ac wrth gwrs, disgwyl rhoi cynigion ar waith. A bydd ymateb i hyn i gyd, wrth gwrs, yn adroddiad y Llywodraeth.

Yn olaf, rwyf am ddod at fy maes cyfrifoldeb i, sy'n ymestyn ar draws Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, sef mynd i'r afael â thlodi plant. Mae'n argymhelliad mor bwysig gyda ni heddiw, gyda'r holl drafod a dadlau a chyfraniadau sydd wedi'u gwneud. Ac er mwyn tawelu meddyliau'r Aelodau bod yr ymgynghoriad ar ddatblygu strategaeth tlodi plant newydd Llywodraeth Cymru ar y gweill, sy’n ystyried yr argyfwng costau byw dyfnach a'i effaith ar y rhai sydd â'r angen mwyaf. Ac mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod—ac rwy'n diolch i Peter am gydnabod—nad yw'r diffyg ymateb gan Lywodraeth y DU yn dda, nac ydy, o ran y sylwadau sydd wedi eu gwneud i'r Ysgrifennydd Gwladol Gwaith a Phensiynau? Ond rwy'n credu yr hoffwn i ddweud fy mod i eisoes hefyd wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol—yr Ysgrifennydd Gwladol Gwaith a Phensiynau newydd—yr wythnos diwethaf a gofyn am union yr un pethau â'r comisiynydd plant. Fe wnes i ofyn am gynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant, ond hefyd gofyn am roi diwedd ar y cyfyngiad dau blentyn, a chynyddu’r credyd cynhwysol o £25. Dyma lle gallwn ni uno i gefnogi a chroesawu'r ffaith bod y neges gref honno yn dod drwodd gan y comisiynydd plant annibynnol ac yn dod drwodd o'r Senedd hon heddiw a Llywodraeth Cymru.

Felly, yn olaf, Dirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eich cyfraniadau i'r ddadl heddiw, a bydd ein hymateb yn cael ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog ar 30 Tachwedd. Bydd holl sylwadau'r Aelodau yn cyfrannu at yr ymateb hwnnw.

16:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf wedi clywed gwrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Rydym bellach wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ond, gan nad oes rhagor o bleidleisiau y prynhawn yma, byddwn yn awr yn dod â busnes heddiw i ben. 

Daeth y cyfarfod i ben am 16:49.