Y Cyfarfod Llawn
Plenary
08/06/2022Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda.
Eitem 1, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Buffy Williams.
Credaf eich bod wedi eich dadfudo yn awr.
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am lefelau tlodi tanwydd yn etholaeth Rhondda? OQ58137
Yn Rhondda Cynon Taf, mae 14,716 o aelwydydd wedi derbyn taliad o £200 gennym drwy gynllun cymorth tanwydd y gaeaf. Mae amcanestyniadau a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2022 yn awgrymu y gallai hyd at 45 y cant o holl aelwydydd Cymru fod mewn tlodi tanwydd ac y gallai hyd at 98 y cant o aelwydydd incwm is fod mewn tlodi tanwydd bellach.
Diolch, Weinidog. Gan gymryd yr amcangyfrifon tlodi tanwydd a fodelwyd yn 2021 a'u diwygio gan ddefnyddio prisiau tanwydd ar 1 Ebrill 2022, gallai hyd at 45 y cant neu 640,000 o aelwydydd fod mewn tlodi tanwydd yn dilyn y cynnydd yn y cap ar brisiau ynni, ac mae cynnydd mewn prisiau ynni'n debygol o gael effaith anghymesur ar aelwydydd incwm is. Roeddwn yn gweithio yn y trydydd sector cyn cael fy ethol i’r lle hwn, a gwelais â fy llygaid fy hun yr effeithiau dinistriol y mae tlodi tanwydd yn eu cael, ond rwyf hefyd yn ymwybodol o'r gwahaniaeth y gall elusennau a sefydliadau'r trydydd sector ei wneud. Felly, gyda'r wybodaeth hon, sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector gwirfoddol i ddiogelu'r teuluoedd sydd wedi'u taro galetaf gan yr argyfwng costau byw Torïaidd? A pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod teuluoedd yn cael y diogelwch sydd ei angen arnynt ar gyfer y cynnydd nesaf ym mhrisiau ynni y gaeaf hwn?
Wel, diolch yn fawr am eich cwestiwn, Buffy Williams. Mae’r trydydd sector wedi chwarae rhan bwysig, yn genedlaethol ac yn lleol, o ran mynd i’r afael â’r materion hyn ar ran y teuluoedd hynny—felly, y nifer o aelwydydd y maent yn gweithio gyda hwy sydd wedi'u taro galetaf gan yr argyfwng costau byw Torïaidd.
Nawr, gwnaethom gynnal uwchgynhadledd bord gron yn ôl ar 17 Chwefror gyda rhanddeiliaid allanol allweddol, gan gynnwys y trydydd sector, National Energy Action, Ymddiriedolaeth Trussell a Cyngor ar Bopeth, a buom yn archwilio beth arall y gellid ei wneud i gefnogi teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â'r argyfwng costau byw hwn. Cawsom un arall ar drechu tlodi bwyd. Ond yn hollbwysig, bydd ein grŵp cynghori ar dlodi tanwydd yn cyfarfod ar 13 Mehefin, a byddant yn rhoi cymorth i ni gan y sector gwirfoddol a'r sector ynni i gydgysylltu camau gweithredu i wella cydnerthedd aelwydydd cyn y gaeaf.
Weinidog, heb os, mae’r cynnydd yng nghost gyfanwerthol ynni yn gwthio llawer o aelwydydd ledled y wlad i mewn i dlodi tanwydd, a chroesawaf ymdrechion Llywodraeth y DU i gynorthwyo aelwydydd sy’n ei chael hi’n anodd drwy ddarparu gwerth £15 biliwn o gymorth, sy’n cynnwys ad-daliad biliau ynni o £400 i bob teulu yn yr hydref a gwerth £650 o daliadau ychwanegol ar gyfer wyth miliwn o gartrefi tlotaf y wlad.
Fel y gwyddoch, rheswm arall a all arwain at filiau ynni uchel yw aneffeithlonrwydd ynni ein cartrefi. Yng Nghymru, mae rhywfaint o’n stoc dai ymhlith y mwyaf aneffeithlon o ran ynni yn y DU, ac mae hyn yn ffactor sy’n cyfrannu’n sylweddol at dlodi tanwydd aelwydydd. O'r stoc dai domestig yn Rhondda Cynon Taf, mae gan 71 y cant o eiddo sgôr perfformiad ynni o D neu is. Os ydych yn canolbwyntio ar y Rhondda yn unig, mae'r ffigur hwn yn codi i 81 y cant. A dweud y gwir, dim ond 62 eiddo â sgôr A sydd i'w cael yn y Rhondda. Golyga hyn fod y rhan fwyaf o bobl yn y Rhondda yn mynd i deimlo effaith y cynnydd cyfanwerthol mewn prisiau yn anghymesur. Golyga hefyd ei bod yn annhebygol y bydd sgôr ynni'r cartrefi hyn wedi gwella'n sylweddol ymhen pum neu 10 mlynedd heb fuddsoddiad enfawr, sy'n eu gwneud yn agored i ergydion cynnydd pellach yn eu biliau. A ydych yn cytuno â mi, a llawer o Aelodau yn y Siambr hon, Weinidog, yn hytrach na gwario £100 miliwn ar 36 Aelod arall i'r Siambr hon, y byddai’n well pe bai'r Llywodraeth yn gwario’r arian hwnnw ar wella effeithlonrwydd ynni cartrefi pobl ac yn eu cynorthwyo i ddod allan o dlodi tanwydd, ac os nad ydych, a all y Gweinidog egluro pam fod 36 yn rhagor o Aelodau yn fwy o flaenoriaeth na chartrefi cynhesach?
Wel, mae’r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn am ynni cartref. Ers 2009-2010 hyd at ddiwedd mis Mawrth 2021, mae dros £394 miliwn wedi’i fuddsoddi i wella effeithlonrwydd ynni cartref drwy raglen Cartrefi Clyd, ac mae hynny wedi bod o fudd i fwy na 67,100 o aelwydydd incwm is, a hefyd, yn bwysig, cyngor ar effeithlonrwydd ynni, drwy raglen Cartrefi Clyd—mae 160,000 o bobl yn cael y cyngor hwnnw hefyd. Ac mae gennym bellach, wrth gwrs, ein rhaglen ymgynghori Cartrefi Clyd ar waith. Yr hyn sy'n hollbwysig yw ein bod yn buddsoddi mewn trechu tlodi tanwydd a thlodi bwyd, ac mewn gwirionedd, rydym wedi—. Er ein bod yn croesawu llawer o’r cyhoeddiadau a wnaed gan Lywodraeth y DU, maent yn gyhoeddiadau tymor byr, a’r hyn rydym wedi’i wneud, o ran buddsoddiad o £380 miliwn i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw a thlodi tanwydd a thlodi bwyd, yw parhau i ofyn i Lywodraeth y DU leihau biliau tanwydd cartrefi drwy gael gwared ar yr holl gostau polisi cymdeithasol ac amgylcheddol sydd ynghlwm wrth filiau ynni cartrefi a thalu am y costau hyn drwy drethiant cyffredinol. Mewn gwirionedd, cyfarfûm â darparwyr ynni bythefnos yn ôl, ac roedd llawer ohonynt yn galw am hynny, yn ogystal â chyflwyno cap is ar brisiau ar gyfer aelwydydd incwm isel er mwyn sicrhau y gallant dalu costau eu hanghenion ynni, yn awr ac yn y dyfodol. Ond pwynt allweddol arall, y gobeithiaf y byddai’r Aelod yn ymuno â mi i alw amdano, yw cynnydd yng nghyfraddau'r lwfans tai lleol a rhagor o gyllid ar gyfer taliadau disgresiwn at gostau tai, gan fod hyn hefyd yn un o effeithiau eraill yr argyfwng costau byw, o ran dyled a’r anhawster a’r perygl y bydd mwy o bobl yn ddigartref o ganlyniad i ôl-ddyledion rhent.
2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch sefydlu canolfan breswyl i fenywod yn Abertawe? OQ58122
Rwyf wedi ymgysylltu’n rheolaidd â Gweinidogion cyfiawnder Llywodraeth y DU, sy’n arwain ar y rhaglen waith bwysig hon, a byddaf yn parhau â’r dull cydweithredol hwn wrth i'r gwaith o ddatblygu'r ganolfan breswyl i fenywod fynd rhagddo.
Diolch, Weinidog. Yn amlwg, fe sonioch am y ganolfan breswyl i fenywod honno yn Abertawe, sydd i fod i agor, gobeithio, yn 2024. Ac er fy mod yn croesawu'r fenter newydd arloesol i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol troseddu lefel isel ymhlith menywod, a'r cydweithredu rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU wrth ddod â'r ganolfan i Abertawe, mae angen inni sicrhau bod hyn yn digwydd ar y cyd â'r gymuned leol yn Abertawe. Er bod pob un ohonom yn dymuno gweld yr unigolion dan sylw yn cael eu hadsefydlu, ceir rhywfaint o bryder ymhlith y trigolion y byddant yn cael eu cartrefu yn yr ardal hon gyda’r lleoliadau penodol hyn. Rwy'n falch o weld y bydd y ganolfan yn mynd i'r afael â'r ffactorau sylfaenol a chymhleth sydd ynghlwm wrth droseddu lefel isel, ond mae angen inni sicrhau bod y gymuned yn Abertawe yn gwbl gefnogol i'r syniad. Rydym ni fel Aelodau’n ymwybodol o bwysigrwydd y fenter nid yn unig i fenywod yn fy rhanbarth i, ond ledled Cymru, a’r hyn sydd ei angen arnom er mwyn i’r fenter hon lwyddo, y gyntaf o’i math, os mynnwch, yw cefnogaeth y gymuned leol. Heb y gefnogaeth gymunedol honno, ni fyddwn yn gweld manteision llawn y prosiect; ni fydd y ganolfan yn llwyddo heb y gefnogaeth honno. Felly, o ystyried ei bod yn fenter mor newydd, rwy'n ofni nad gwneud mwy o’r un peth o ran ymgysylltu statudol yw’r ffordd o wneud hyn, o bosibl—mae arnom angen mwy o ymgysylltu gan randdeiliaid ar bob lefel, i dynnu sylw at bwysigrwydd a manteision cynllun o'r fath. Felly, a gaf fi ofyn i’r Gweinidog ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid eraill i dynnu sylw at fanteision y cynllun ac i sicrhau bod y gymuned yn parhau i fod yn ganolog i'r prosiect, ac i ymrwymo i fynd y tu hwnt i’r gofynion ymgysylltu statudol i sicrhau bod y prosiect yn cael ei wireddu?
Diolch i Tom Giffard am ei gwestiwn, ac yn wir, am ei gefnogaeth i'r ganolfan breswyl arloesol hon i fenywod. Ac rwy’n siŵr y bydd yn ymuno â mi i groesawu’r ffaith bod Cymru’n arwain y ffordd. Mae hyn wedi digwydd o ganlyniad i bartneriaeth. Er mai cyfrifoldeb y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw hyn, rwyf wedi gwthio’n galed iawn i sicrhau bod canolfan breswyl i fenywod yn cael ei threialu yng Nghymru. Mewn gwirionedd, fy rhagflaenydd, Alun Davies, a ddechreuodd y trafodaethau hyn. Mae'n elfen allweddol o'r glasbrint ar gyfer cyfiawnder menywod, a gallaf roi sicrwydd i chi y cafwyd ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid. Mae gweithio mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, comisiynwyr heddlu a throseddu Cymru ac awdurdodau lleol wedi bod yn ganolog i’r gwaith hwn.
Ond unwaith eto, hoffwn achub ar y cyfle i ddatgan beth fydd y ganolfan breswyl i fenywod hon: dyma’r gyntaf yng Nghymru, ac mae’n beilot ar gyfer y DU. Bydd yn darparu llety i hyd at 12 o fenywod, gydag ystod eang o anghenion, fel y gallant aros yn agos at eu cartrefi a’u cymunedau. Bydd yn cynnig gwasanaethau sy’n mynd i’r afael ag achosion sylfaenol troseddu—er enghraifft, cymorth mewn perthynas â cham-drin domestig ac iechyd meddwl. Ac mae'n ganolfan breswyl i fenywod a fydd yn cefnogi menywod—menywod lleol—i gadw mewn cysylltiad â'u plant, eu teuluoedd, a chymunedau lleol, gan annog cyswllt ac ymweliadau fel y bo'n briodol. A bydd yn darparu canolfan gymunedol i fenywod fel opsiwn am y tro cyntaf yng Nghymru, gan gynnig cymorth ychwanegol yr elfen breswyl, a hefyd, yn bwysig iawn, o ran cyfraniadau cadarnhaol i'r gymuned leol a chyda'r gymuned leol, wrth iddynt symud i lety sefydlog. Felly, o ran y cyfleoedd a fydd yn deillio o hyn, y buddsoddiad a fydd yn digwydd a’r gweithio mewn partneriaeth, credaf y bydd hyn yn rhywbeth a fydd yn cael ei groesawu yn y gymuned yn Abertawe.
Diolch i Tom Giffard am ei gwestiwn, a diolch i'r Gweinidog am ei holl waith mewn perthynas â'r ganolfan werthfawr hon i fenywod yn Abertawe. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o fy mhryderon ei fod yn gynllun peilot pum mlynedd nad yw’n dechrau tan 2024 ar y cynharaf, ac y bydd ond yn gallu cefnogi 12 o fenywod fan bellaf yn ardal Abertawe. Fy mhryder i yw beth sy’n digwydd i'r menywod eraill yng Nghymru. Ni fydd y peilot yn dod i ben tan ddiwedd y degawd, bydd cyfnod o ddadansoddi wedyn, ac yn y cyfamser, bydd menywod Cymru yn cael eu hanfon ymhell oddi wrth eu teuluoedd i garchardai yn Lloegr. Beth allwch chi ei wneud, Weinidog, ar y cyd, mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU i gefnogi’r menywod hyn o Gymru?
Diolch yn fawr, Rhys ab Owen. Mae hwn yn gam mawr ymlaen, onid yw, y trawsnewidiad hwnnw. Ni all ddod yn rhy fuan yn fy marn i—mae 2024 yn teimlo ymhell i ffwrdd, ac ni allwn fod yn aros wedyn i weld sut y mae hyn yn gweithio. Mae'n cael ei gynllunio i sicrhau y bydd yn gweithio; bydd yn cynnig yr holl wasanaethau a ddisgrifiais. Ac mae angen inni ddechrau rhoi pwysau—diolch am y cwestiwn ac am wneud y pwynt—ar unwaith i ymestyn y ddarpariaeth hon, gan y credaf mai'r hyn a fydd mor bwysig am hyn yw ei fod yn fuddsoddiad yn y menywod a'u teuluoedd, ac yn y gymuned, gan y bydd yn gwella'u sgiliau, eu hiechyd a'u perthynas ag eraill, a byddant yn edrych ymlaen at eu rhagolygon wrth iddynt adael y ganolfan breswyl i fenywod. Ac mae'n sicr yn rhan o ddull y rhaglen fraenaru i fenywod.
Ond byddwn hefyd yn dweud bod hyn yn rhywbeth, o ran y ffordd anghyfiawn y caiff menywod eu trin yn y system cyfiawnder troseddol, lle—. Siaradais mewn uwchgynhadledd rithwir ddiwedd mis Mawrth, lle y clywais fod o leiaf 57 y cant o fenywod a ddaw i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol ar hyn o bryd yn ddioddefwyr cam-drin domestig. Mae 63 y cant o ferched a menywod ifanc sy'n bwrw dedfryd yn y gymuned wedi cael eu treisio neu wedi dioddef cam-drin domestig gan bartner mewn perthynas agos. Rwyf wedi cyfarfod â menywod mewn carchardai y tu allan i Gymru sydd yno, yn y bôn, oherwydd tlodi a chyni a cham-drin domestig. Ac yn y digwyddiad hwn, mae'n rhaid imi ddweud fy mod wedi clywed gan fenyw ifanc—a byddaf yn cyfarfod â hi, Ellie Anderson—a rannodd ei phrofiad o fod yn blentyn i fenyw a fu yn y carchar sawl gwaith. Magwyd Ellie yng Nghymru, ac roedd ei mam yn y carchar y tu allan i Gymru, a byddaf yn cyfarfod â hi cyn bo hir.
Felly, gyda’n gilydd, a chyda’ch cefnogaeth chi, byddwn yn pwyso i ehangu'r ddarpariaeth hon, nid yn unig ymhen pum mlynedd, ond cyn gynted â phosibl.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Wel, fel y clywsom, 13 diwrnod yn ôl, cyhoeddodd Llywodraeth y DU becyn cymorth costau byw newydd gwerth £15 biliwn wedi’i dargedu at filiynau o aelwydydd incwm isel, gan ddod â chyfanswm ei chymorth costau byw hyd yn hyn i £37 biliwn. Fel y clywsom yn gynharach, mae hyn yn cynnwys taliadau costau byw o £650 i bob aelwyd sy'n cael budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd, a dyblu gostyngiad mis Hydref i filiau ynni o £200 i £400, gan gael gwared ar y gofyniad i’w ad-dalu, rhywbeth y gwn eich bod chi wedi galw amdano hefyd. Mae hefyd yn cyflwyno taliad costau byw o £300 i bob aelwyd pensiynwr sy'n cael taliadau tanwydd y gaeaf; £150 o daliadau costau byw i bobl sy’n cael budd-daliadau anabledd, a £0.5 biliwn ychwanegol ar gyfer y gronfa gymorth i aelwydydd bresennol. Bydd y pecyn newydd hwn yn golygu y bydd yr aelwydydd ar yr incwm isaf yng Nghymru yn cael dros £1,000 o gymorth ychwanegol eleni. Bydd cyllid canlyniadol o £25 miliwn yn dod i Lywodraeth Cymru hefyd yn sgil ymestyn y gronfa gymorth i aelwydydd. Felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd yr holl gyllid hwn yn cael ei dargedu at yr aelwydydd sydd wedi'u taro galetaf gan y cynnydd mewn costau byw, y tu hwnt i'r cyhoeddiadau cyllid a wnaethoch cyn i'r cyllid ychwanegol hwn gael ei gyhoeddi?
Diolch i Mark Isherwood am ei gwestiwn. Fe wnaethom alw am y cyhoeddiad, a oedd i’w groesawu’n fawr, gan Ganghellor y Trysorlys ar 26 Mai. Fe wnaethom alw am gymorth ychwanegol i aelwydydd, ac yn wir, fe wnaethom alw am y ffaith nad yn unig y dylem gael y cyllid, ond y dylid ei dargedu’n glir at y rheini sydd fwyaf agored i niwed. Felly, mae'n galonogol iawn y bydd biliau cartrefi yn cael yr ad-daliad biliau ynni hwnnw o £400 ym mis Hydref. Fe wnaethom alw am iddo gael ei dalu fel grant yn hytrach na benthyciad. Roedd bob amser yn gwbl anghywir dweud y dylai fod yn fenthyciad y byddai'n rhaid ei ad-dalu. Felly, gwn fod Llywodraeth y DU wedi gwrando arnom, wedi gwrando ar Lywodraeth Cymru a galwadau o’r ochr hon i’r Siambr, am gamau gweithredu.
Rydym yn dal i fod wedi galw am weithredu gan Lywodraeth y DU ynglŷn â'r ffaith mai rhywbeth untro yw hyn, ac mae angen inni weld mwy o gymorth yn cael ei roi o hyd o ran, er enghraifft, y gostyngiad cartrefi cynnes, a gynlluniwyd ar hyn o bryd i fod yn £150. Felly, rydym wedi gwneud yr ymrwymiad hwnnw, fel y dywedwch, y £380 miliwn, ac rydym wedi cyflwyno cynllun cymorth tanwydd y gaeaf. Dyma lle rydym yn dysgu pa mor effeithiol y gall hynny fod a sut y gallwn ymestyn ein cronfa cymorth dewisol. Efallai ei fod yn gyfle i roi’r wybodaeth ddiweddaraf fod awdurdodau lleol, hyd at 30 Ebrill, wedi talu cymorth hanfodol i 166,049 o aelwydydd drwy gynllun cymorth tanwydd y gaeaf. Felly, byddwn yn edrych ar yr holl ffyrdd y gallwn gefnogi a dysgu o'n buddsoddiad nid yn unig o ran trechu tlodi tanwydd, ond trechu tlodi bwyd hefyd, gan gryfhau partneriaethau bwyd cymunedol yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o gredyd fforddiadwy.
Diolch. Wrth gwrs, rydym ninnau wedi galw am hynny, fel nifer fawr o ASau Ceidwadol, ynghyd ag ASau Llafur a phleidiau eraill hefyd. Gobeithiaf fod yr ateb hwnnw’n golygu y bydd yr holl arian hwnnw’n mynd i’r aelwydydd sydd wedi'u taro galetaf. Nid oedd yn hollol glir. Ond ar y cwestiwn penodol ynghylch tlodi tanwydd, gan fod fy nghwestiwn cyntaf yn fwy cyffredinol ynghylch tlodi tanwydd yng Nghymru, mae National Energy Action—NEA—yn amcangyfrif y bydd y cynnydd yn y cap ar brisiau o fis Ebrill ymlaen yn gwthio 100,000 o aelwydydd eraill yng Nghymru i mewn i dlodi tanwydd, gan ddod â'r cyfanswm i dros 280,000. Wrth eich holi yma ym mis Ionawr, cyfeiriais at gyhoeddi'r cynllun ymdopi â thywydd oer a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pobl sydd mewn perygl o fod yn byw mewn cartref oer. Gofynnais sut ydych chi'n ymateb i bryder ac adborth gan aelodau'r gynghrair tlodi tanwydd yr hoffent weld mwy o fanylion ar sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r sector iechyd i gyflawni amcanion y cynllun a chytuno ar yr hyn y gall y sector iechyd ei wneud i’w gefnogi. Pan ddaethoch i gyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni ar 14 Mawrth, a diolch i chi eto am ddod i’r cyfarfod hwnnw, gofynnais i chi sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithio gyda’r sector iechyd i gyflawni amcanion y cynllun a sefydlu rhwydweithiau atgyfeirio rhwng gweithredwyr iechyd a phartneriaid cynghori. Mewn ymateb, fe ofynnoch chi i'ch swyddogion drafod ymhellach gyda mi a'r grŵp trawsbleidiol sut y gallai Llywodraeth Cymru weithio gydag asiantaethau iechyd yn y modd hwn. Hyd yn hyn, nid wyf wedi clywed unrhyw beth. Felly, pryd y bydd hyn yn digwydd? A pha gamau sydd wedi'u cymryd hyd yn hyn?
Roeddwn yn ddiolchgar iawn am y cyfle i ddod i siarad, fel rwyf wedi'i wneud fwy nag unwaith, rwy’n credu, gyda'ch grŵp trawsbleidiol ar drechu tlodi tanwydd. Gwyddoch fod ein cynllun tlodi tanwydd yn ymrwymo i fuddsoddiad parhaus yn rhaglen Cartrefi Clyd, yn enwedig y gwaith o ddatblygu a chyhoeddi’r cynllun ymdopi â thywydd oer. Wrth gwrs, mae’r ffactor allweddol, o ran iechyd a llesiant, yn hollbwysig i hynny. Felly, roeddwn yn ddiolchgar am eich cwestiwn, ac am yr alwad arnom i edrych ar bartneriaeth â’r gwasanaeth iechyd. Yn wir, rwyf eisoes wedi codi hyn gyda'r Gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae hyn yn rhywbeth a fydd hefyd yn cael ei adlewyrchu yn y pwyllgor cynghori ar dlodi tanwydd y soniais amdano yn gynharach. Mae hyn yn rhoi cyfle inni fynd i'r afael â hyn wrth inni symud ymlaen nid yn unig â'n cynllun tlodi tanwydd, ond â'n rhaglen Cartrefi Clyd. Rwyf am ddweud hefyd fod hwn yn fater lle mae rhaglen Cartrefi Clyd wedi’i hanelu’n benodol at fynd i’r afael â’r gwendidau y mae pobl yn eu hwynebu o ran tlodi tanwydd. Ac roeddech yn llygad eich lle unwaith eto, Mark Isherwood, wrth ddweud wrthym eto yn y Siambr hon beth a wynebwn mewn perthynas â thlodi tanwydd o ganlyniad i’r argyfwng costau byw. Mae angen gwneud mwy o lawer. Mae angen mwy o gyllid arnom gan Lywodraeth y DU fel y gallwn wneud hyn—mynd i’r afael â phroblemau effeithlonrwydd ynni cartrefi, ond hefyd ymestyn y lwfansau a’r ad-daliadau y maent yn eu talu, fel y gallwn chwarae ein rhan yn effeithiol.
Diolch. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai eich swyddogion, fel y dywedoch chi, barhau i weithio gyda’r grŵp a minnau fel cadeirydd pan fydd y wybodaeth honno ganddynt.
Gan newid y pwnc, cyfeiriodd fy nghyd-Aelod, Tom Giffard, yn gynharach at ganolfannau preswyl i fenywod yng Nghymru. Cyhoeddwyd strategaeth troseddwyr benywaidd Llywodraeth y DU ym mis Mehefin 2018 er mwyn dargyfeirio troseddwyr benywaidd agored i niwed rhag dedfrydau byr o garchar lle bynnag y bo modd, buddsoddi mewn gwasanaethau cymunedol, a sefydlu pum canolfan breswyl beilot i fenywod, gan gynnwys un yng Nghymru. Fis diwethaf, fe ysgrifennoch chi at yr Aelodau i nodi eich bod wedi bod yn gweithio'n agos gyda Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU a chyhoeddi y byddai un o'r canolfannau hyn ger Abertawe yn ne Cymru. Yr wythnos wedyn, fe gyhoeddoch chi ddatganiad ysgrifenedig i’r Aelodau gyda’r wybodaeth ddiweddaraf ar gyflawniad y glasbrintiau ar gyfiawnder ieuenctid a chyfiawnder menywod. Gan gyfeirio at leoliad y ganolfan breswyl i fenywod yng Nghymru, fe ddywedoch chi y byddai hyn yn gwella bywydau menywod yng Nghymru, gan ddarparu dull mwy cyfannol, sy'n ystyriol o drawma, o ddarparu gwasanaethau i fenywod sy'n dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Yn bwysig, bydd hefyd yn caniatáu i fenywod aros yn agosach at adref a chynnal cysylltiadau teuluol hanfodol, yn enwedig gyda'u plant. Fodd bynnag, sut y bydd lleoli'r ganolfan hon yn Abertawe yn helpu troseddwyr benywaidd yng ngogledd, canolbarth a gorllewin Cymru i gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt yn nes at adref ac i gynnal eu cysylltiadau teuluol hollbwysig? Pa gamau rydych yn eu cymryd i gefnogi lleoli canolfan yn y gogledd yn y dyfodol?
Mae hwnnw’n bwynt difrifol iawn, ac mae'n dilyn y cwestiynau gan Tom Giffard a Rhys ab Owen, gan fod angen mwy nag un ganolfan breswyl i fenywod arnom. Mae’r pwyntiau allweddol, ac nid wyf am eu hailadrodd, o ran yr hyn y bydd y ganolfan hon yn ei wneud, yn ymwneud â gwasanaethu’r gymuned leol, gwasanaethu menywod lleol a’u teuluoedd yn eu cymuned leol. Mae hynny’n briodol ar gyfer y ffordd y mae’r canolfannau preswyl hyn i fenywod yn datblygu. Credaf fod gennyf gefnogaeth ddefnyddiol iawn gan y Ceidwadwyr Cymreig, dan eich arweiniad chi, Mark Isherwood, i bartneriaeth ac ymateb llawer cliriach gan Lywodraeth y DU a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder o ran y ffordd ymlaen. Credaf yn wir fod hyn yn dangos—. Hynny yw, mae eich rhwystredigaeth yn debyg i'n rhwystredigaeth ni, a phe bai gennym fwy o bwerau dros gyfiawnder, credaf y byddai modd inni symud ymlaen yn gyflymach a gallu cynnig canolfan i fenywod yng ngogledd Cymru. Byddaf yn sicr yn cefnogi eich galwad am ganolfan ar gyfer y gogledd, Mark Isherwood.
Llefarydd Plaid Cymru nawr. Peredur Owen Griffiths.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ychydig wythnosau yn ôl, ymwelais â banc bwyd Rhisga gyda fy nghyd-Aelod o Blaid Cymru, Delyth Jewell. Yno, clywsom am y galw cynyddol am eu gwasanaethau, nad yw'n fawr o syndod o ystyried yr argyfwng costau byw sy’n parhau ledled Cymru ac sy'n effeithio ar ein cymunedau. Ofnaf fod y galw ar fin mynd yn llawer uwch yn ein banciau bwyd ledled y wlad. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo gwirfoddoli yn y gymuned yn ogystal ag edrych ar atebion cymunedol i’r broblem hon, megis hybiau bwyd cymunedol? Gallai’r rhain ddarparu cynaliadwyedd i gymunedau lleol, darparu parseli bwyd, a bod yn ffynhonnell addysg amaethyddol.
Diolch yn fawr iawn. Rwy’n siŵr fod Aelodau ar draws y Siambr wedi bod yn ymweld ac wedi bod yn ymwybodol nid yn unig o'u banciau bwyd ond o rai o’r mentrau bwyd cymunedol, fel y pantrïoedd sydd wedi'u sefydlu, a’r berthynas â FareShare yn benodol o ran cael gafael ar fwyd o’n harchfarchnadoedd. Soniais am y ffaith inni gael uwchgynhadledd bord gron ar dlodi bwyd yn ogystal â’r argyfwng costau byw yn gyffredinol. Ers 2019, rydym wedi buddsoddi mwy na £14 miliwn er mwyn cefnogi a hybu banciau bwyd, ehangu partneriaethau bwyd cymunedol, datblygu hybiau cymunedol ac ehangu mentrau bwyd. Nid wyf yn siŵr a yw prosiect Big Bocs Bwyd yn gweithredu yn eich rhanbarth—credaf ei fod, yn ôl pob tebyg—prosiect a ddechreuodd yn ysgol Tregatwg yn y Barri ond sydd bellach yn weithredol drwy'r Cymoedd, ac yn wir, ledled Cymru. Mae honno’n enghraifft arloesol o ffyrdd y gallwn ddatblygu partneriaethau bwyd cymunedol ar y cyd ag ysgolion a chysylltu hynny â’r cwricwlwm ac opsiynau bwyd iach.
Diolch yn fawr. Rhywbeth arall y sylwais arno ar nifer o ymweliadau ledled y rhanbarth oedd proffil oedran rhai o’r gwirfoddolwyr allweddol sydd eu hangen i gynnal y lleoliadau a’r clybiau hyn. Mae llawer yn hŷn, a phrin fod unrhyw dystiolaeth o gynllunio ar gyfer olyniaeth, sy’n peri pryder ynghylch hyfywedd rhai o’r mentrau allweddol hyn yn ein cymunedau yn y blynyddoedd i ddod. A all Llywodraeth Cymru wneud mwy i greu strwythurau o amgylch gwirfoddoli anffurfiol? Gallai hyn hybu parhad gwasanaethau a fyddai wedyn, efallai, yn caniatáu i rai o wahanol gefndiroedd a phroffiliau oedran gymryd rhan.
Mae hwnnw'n gwestiwn dilys iawn, gan y gwyddom fod proffil oedran ein gwirfoddolwyr yn codi, ac mae'r pwysau ar eu bywydau hwythau, o ran yr argyfwng costau byw, yn sylweddol, felly rydym yn sicr yn edrych ar effaith tlodi bwyd a thanwydd ar bensiynwyr a phobl hŷn, gyda llawer ohonynt yn wirfoddolwyr.
Cadeiriais gyngor partneriaeth y trydydd sector yn ddiweddar, lle roedd yr argyfwng costau byw ar ein hagenda, ac mae llawer o’n sefydliadau gwirfoddol yn y trydydd sector, yn lleol ac yn genedlaethol, yn pryderu am yr effaith y mae'r argyfwng costau byw'n ei chael ar eu capasiti, ar eu seilwaith ac ar eu costau eu hunain. Ond maent yn deall ac yn cydnabod hyn wrth recriwtio a chadw gwirfoddolwyr a sicrhau y gallwn eu cefnogi drwy'r cyfnod anodd hwn. Dyma’r henoed gweithgar hefyd sydd am chwarae’r rhan honno, sydd â’r tosturi a’r parodrwydd hwnnw a’r awydd i helpu, ac mae llawer o enghreifftiau o bobl o'r fath, fel y byddwch wedi’i weld ymhlith y gwirfoddolwyr yn ein banciau bwyd.
3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'i chyd-Weinidogion ynghylch hyrwyddo hawliau pobl anabl? OQ58115
Rwy’n parhau i drafod ein hymrwymiad ar y cyd i gryfhau hawliau pobl anabl gyda fy nghyd-Weinidogion. Ategir ein gwaith gan y model cymdeithasol o anabledd, a sefydlwyd y tasglu hawliau pobl anabl i ymateb i adroddiad 'Drws ar Glo' er mwyn mynd i'r afael â'r rhwystrau a'r anghydraddoldebau y mae pobl anabl yn eu hwynebu.
Diolch, Weinidog. Hoffwn ddychwelyd at bwnc a godais yn ddiweddar mewn datganiad busnes yma yn y Siambr. Mae gormod o bobl anabl yn dal i wynebu anawsterau a gwahaniaethau yn y gweithle. Yn ôl yr ymchwil a gyhoeddwyd ym mis Ebrill y llynedd, mae 52.3 y cant o bobl anabl mewn gwaith; mae hyn yn cymharu ag 82 y cant o bobl nad ydynt yn anabl. Yng Nghymru, mae’r bwlch cyflog anabledd yn 18 y cant, sy'n ffigur syfrdanol, gyda menywod anabl yn cael eu heffeithio waethaf, gan ennill, ar gyfartaledd, 36 y cant yn llai na’u cymheiriaid nad ydynt yn anabl. A ydych yn cytuno â mi, Weinidog, y gall cyflogi gweithwyr anabl ddarparu manteision sylweddol i fusnesau yng Nghymru? Pa drafodaethau a gawsoch chi yn bersonol gyda’ch cyd-Aelodau yn y Llywodraeth ynglŷn â sut i annog cyflogwyr i beidio â diystyru gweithwyr medrus am fod ganddynt anabledd?
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Natasha Asghar, gan mai dyma nod allweddol ein hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl—mae gennym rwydwaith newydd sy'n helpu i godi ymwybyddiaeth ymhlith cyflogwyr o gyfleoedd gweithio hyblyg. Maent yn bobl anabl sy'n arwain y ffordd; maent wedi sefydlu rhwydwaith cryf o gyflogwyr, ond maent hefyd yn dangos y gellir newid agwedd cyflogwyr fel eu bod yn cydnabod manteision cyflogi pobl anabl. Ond hoffwn ddweud hefyd fy mod yn croesawu’r ffaith eich bod yn cydnabod y bwlch cyflog anabledd, ac felly, mae hynny'n un o’n cerrig milltir cenedlaethol. Rydym yn edrych ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, y bwlch cyflog hiliol a'r bwlch cyflog anabledd, ac mae honno'n garreg filltir genedlaethol yr ydym wedi cytuno arni ac y mae'r Senedd wedi cytuno arni. Ond hefyd, mae gennym bellach uned tystiolaeth cydraddoldeb anabledd fel rhan o'n huned tystiolaeth cydraddoldeb i edrych ar y materion hyn. Felly, byddwn yn edrych ar y mater yn ei gyfanrwydd, ac yn wir, mae hyn yn hollbwysig i'n contract economaidd gyda chyflogwyr.
Weinidog, rydych yn haeddu clod aruthrol am eich gwaith ar gyflwyno hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl yn nhymor blaenorol y Senedd; maent yn amhrisiadwy i filoedd lawer o bobl yma yng Nghymru. Beth yw eich asesiad o hawliau pobl anabl a llesiant pobl anabl ers 2010, o ganlyniad i fesurau Llywodraeth y DU? Yma yng Nghymru, pa fath o ddefnydd y credwch y gallwn ei wneud o bartneriaeth gymdeithasol, ac fel rydych wedi'i grybwyll, y contract economaidd, i ddarparu cymaint o gyfleoedd gwaith â phosibl i bobl sy’n wynebu rhwystrau sy’n anablu?
Diolch yn fawr iawn, Ken Skates, ac a gaf fi ddiolch ichi am y gefnogaeth a roesoch yn eich rôl flaenorol, nid yn unig i'r rhwydwaith o lysgenhadon cyflogaeth i'r anabl, gyda chefnogaeth Gweinidog yr Economi, ond hefyd am ddatblygu'r contract economaidd hollbwysig hwnnw, sydd, mewn gwirionedd, o ran y pedair colofn, yn cynnwys gwaith teg? Mae'n cynnwys y gofyniad i fusnes ddangos yr hyn y mae'n ei wneud i sicrhau gweithle cyfartal ac amrywiol. Felly, credaf ein bod ar y blaen yng Nghymru ar fabwysiadu'r mentrau polisi hyn. Ond byddwn hefyd yn dweud ein bod wedi cyhoeddi 'Gweithio’n ddoethach: strategaeth gweithio o bell i Gymru' yn gynharach eleni. Mae hyn yn ymwneud â gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol, gan nodi'r ffyrdd y gallwn annog gweithio o bell gyda'r sector cyhoeddus yn chwarae rôl arweiniol. Ond mae hyn yn rhoi mwy o gyfle a hefyd mwy o hyblygrwydd i rai pobl anabl—a menywod hefyd, a rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu—ond mae angen deialog dda a dibynadwy rhwng cyflogwr a gweithiwr. Felly, byddwn yn dweud bod partneriaeth gymdeithasol yn hanfodol i hynny.
4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y gyfradd chwyddiant bresennol ar bobl hŷn yng Nghymru? OQ58138
Dywed Age Cymru y bydd yr argyfwng costau byw yn cynyddu canran yr incwm net y mae pensiynwyr yn ei wario ar nwyddau a gwasanaethau hanfodol o 58 y cant yn 2021-22 i 73 y cant yn y flwyddyn ariannol hon. Mae pobl hŷn yn grŵp blaenoriaeth ar gyfer gwasanaethau’r gronfa gynghori sengl, a phobl hŷn yw 33 y cant o’r rhai sy’n gofyn am gyngor.
A gaf fi ddiolch ichi, Weinidog? Mae’r rhan fwyaf o bobl hŷn ar incwm sefydlog o bensiwn y wladwriaeth, pensiynau preifat a’r pensiwn atodol. Wrth i chwyddiant godi, ac ynni a bwyd yn arbennig yn bethau sy’n effeithio’n anghymesur ar bobl hŷn, a yw’r Gweinidog yn cytuno â mi fod angen cymorth ychwanegol a chynyddu'r pensiwn atodol, ac a wnaiff y Gweinidog bwyso ar Lywodraeth San Steffan i wneud taliad o’r fath? Hefyd, a oes cymorth pellach y gall Llywodraeth Cymru ei roi? Mae gennym broblem yn yr ystyr fod pensiynwyr a phobl hŷn eraill yn llai tebygol o ddefnyddio banciau bwyd na phobl iau, ac mae hynny’n golygu y bydd llawer ohonynt yn mynd heb fwyd.
Wel, Mike Hedges, rydych yn gwneud pwyntiau hollbwysig ac yn darparu tystiolaeth o'r rheswm pam y mae angen y cynnydd hwnnw arnom gan Lywodraeth y DU i bensiynau’r wladwriaeth. Nid yn unig y mae angen ychwanegu atynt, mae angen eu huwchraddio hefyd. Hynny yw, mae gennym y sefyllfa gyda'r holl fudd-daliadau ar ôl iddo gael ei uwchraddio 3.1 y cant ym mis Ebrill, ac eto, dyma ni gyda chyfraddau chwyddiant o 10 y cant ac maent yn codi. Felly, bydd diffyg ac effaith enfawr o ran tlodi tanwydd a bwyd, ac rydych yn gwneud pwynt hollbwysig ynglŷn â'r ffordd y gallai pobl hŷn fod mewn sefyllfa lle mae’n rhaid iddynt ddewis rhwng gwresogi neu fwyta y gwyddom o dystiolaeth ei bod yn realiti—realiti ofnadwy i fywydau pobl. Felly, rwy’n awyddus iawn i bob Aelod ar draws y Siambr gefnogi ein hymgyrch genedlaethol i annog defnydd o fudd-daliadau. Mae gennym weithgor sy'n edrych yn benodol ar hyrwyddo credyd pensiwn, ac mewn gwirionedd, mae hynny'n cynnwys swyddogion a rhanddeiliaid yr Adran Gwaith a Phensiynau, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ac Age Concern, felly bydd galw ar bensiynwyr i weithredu. Ond yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth lle rydym ni—. Mewn perthynas â mynd i’r afael â’r materion hyn—ac roedd yn ddefnyddiol iawn cyfarfod â’ch grŵp trawsbleidiol ddoe—mae costau byw bellach yn allweddol ar eu hagenda o ran cefnogi pobl hŷn.
Weinidog, mae cyhoeddiad diweddar y Canghellor o £25 miliwn ychwanegol i Gymru ar gyfer y gronfa gymorth i aelwydydd yn dystiolaeth bellach o’r ymrwymiad i gefnogi pobl hŷn drwy'r cyfnodau anodd sydd o’u blaenau, ochr yn ochr â’r taliad tanwydd y gaeaf ychwanegol a chymorth ariannol pellach i dalu costau ynni. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd pobl hŷn yn elwa o’r gronfa gymorth i aelwydydd yng Nghymru, a pha gamau pellach y byddwch yn eu cymryd i helpu i leihau biliau ar gyfer pobl hŷn? Diolch.
Diolch i chi, Altaf Hussain, ac rwyf newydd sôn am ffyrdd yr ydym yn canolbwyntio’n benodol ar anghenion pobl hŷn, yn enwedig gyda’r ymgyrch genedlaethol i annog pobl i fanteisio ar fudd-daliadau, ond hefyd drwy sicrhau, wrth imi gyfarfod â’r comisiynydd pobl hŷn, Age Cymru a grwpiau trawsbleidiol, ein bod yn ystyried profiad bywyd pobl hŷn ac yn rhannu hwnnw, nid yn unig gyda’r trydydd sector, ond gyda’r sefydliadau sydd â chyfrifoldeb mewn perthynas â darparu cyngor a chymorth a defnydd o'n cronfeydd.
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl gwasanaethau fel Cyngor ar Bopeth yn ystod yr argyfwng costau byw? OQ58132
Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hirsefydlog i gefnogi gwasanaethau cynghori felly gallwn fod yn hyderus fod rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn gallu cael gafael ar gyngor ar ddyledion a budd-daliadau lles. Mae'r gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn achubiaeth i lawer o bobl sy'n cael anhawster gyda'r argyfwng costau byw.
Diolch, Weinidog. Roeddwn yn arfer gweithio i Cyngor ar Bopeth, felly rwy'n cytuno'n llwyr â chi y byddant yn achubiaeth i filoedd o bobl yng Nghymru dros y misoedd nesaf. Nawr, mae llawer o bobl agored i niwed, wrth gwrs, angen cyngor wyneb yn wyneb, a hoffwn ofyn am eich sicrwydd fod cymorth yn cael ei roi i sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth i sicrhau y bydd cyngor wyneb yn wyneb yn parhau i fod ar gael i bawb sydd ei angen, ac nad ydym yn gweld gormod o ffocws yn cael ei roi ar gyngor sydd ar gael dros y ffôn neu’n ddigidol yn unig, oherwydd heb gyngor wyneb yn wyneb, bydd llawer o bobl heb wybod lle i droi am gymorth. Rwy’n arbennig o bryderus am gleientiaid sydd mewn dyled, oherwydd hwy yw’r rhai mwyaf tebygol o roi'r gorau iddi hanner ffordd drwy’r broses gynghori, ac os yw cynghorwyr ond wedi gorfod ymdrin ag achosion o bell, ni fyddant wedi sefydlu’r un berthynas, a chyda’r rhaglen Gofyn, hefyd, lle mae cleientiaid sydd â phroblemau dyled neu broblemau tai yn cael eu holi’n rheolaidd am gamdriniaeth—ni fydd hynny’n ddiogel nac yn bosibl os nad yw’r cyngor yn cael ei ddarparu wyneb yn wyneb. Felly, a wnewch chi roi sicrwydd i mi, os gwelwch yn dda, Weinidog, y bydd sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth yn cael eu cefnogi i barhau i gynnig y rhyngweithio wyneb yn wyneb hanfodol hwnnw â chleientiaid?
Diolch, Delyth Jewell. Mae eich rôl a'ch profiad o weithio yn Cyngor ar Bopeth yn werthfawr iawn, ac mae'n ddefnyddiol cael y ffocws penodol hwnnw ar sut y gallwn adfer ar ôl y pandemig a mynd yn ôl i weld cleientiaid wyneb yn wyneb, rhywbeth y gwyddom ei fod yn werthfawr iawn i bobl hŷn, ond hefyd i bobl a all fod ag anghenion a phroblemau cymhleth yn aml. Eleni, rwyf wedi sicrhau bod dros £13 miliwn ar gael ar gyfer gwasanaethau’r gronfa gynghori sengl fel y gall pobl gael y cymorth hwnnw. Rwy’n credu bod tystiolaeth yn dangos ei fod yn gwneud gwahaniaeth—fe soniaf fod gwasanaethau’r gronfa gynghori sengl, ers mis Ionawr y llynedd, wedi helpu 116,000 o bobl i ymdrin â dros 532,000 o broblemau lles cymdeithasol, ac mae hynny mewn gwirionedd wedi eu helpu i hawlio incwm ychwanegol o dros £67 miliwn a’u helpu i ddileu cyfanswm o £20 miliwn o ddyledion. Felly, mae cymorth i’r sector, a Cyngor ar Bopeth fel partner allweddol, yn hollbwysig, a byddwn yn edrych yn arbennig ar grwpiau blaenoriaeth allweddol yn eu gwaith a’u darpariaeth, gan gynnwys pobl hŷn, pobl anabl a phobl o gymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi cyn-filwyr yng Ngogledd Cymru? OQ58143
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i ddarparu cymorth i gyn-filwyr ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys ariannu swyddogion cysylltu â’r lluoedd arfog, buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl a chefnogi Diwrnod y Lluoedd Arfog yn Wrecsam ar 18 Mehefin.
Diolch i chi am eich ymateb, Ddirprwy Weinidog. Rhaid imi ddweud ei bod yn bleser eich gweld chi hefyd yn y salíwt ynnau yma ym Mae Caerdydd yr wythnos diwethaf, ac mae eich cefnogaeth i gyn-filwyr, rwy’n gwybod, yn cael ei werthfawrogi. Ond yn ddiweddar, cefais y pleser hefyd o gyfarfod â’r Lleng Brydeinig Frenhinol, ac fe wnaethant dynnu fy sylw at y ffaith eu bod eisiau ymestyn yr angen blaenoriaethol am dai i bum mlynedd ar gyfer y rhai sydd wedi gadael gwasanaeth milwrol, ac fel sy'n digwydd yn Lloegr, sicrhau y gall gwŷr a gwragedd a phartneriaid aelodau o’r lluoedd arfog yng Nghymru sydd wedi ysgaru neu wahanu gael cymorth tai ar yr un telerau â theuluoedd eraill y lluoedd arfog. Felly, yng ngoleuni hyn, Ddirprwy Weinidog, tybed pa ystyriaeth a roddwyd gennych i ymestyn yr angen blaenoriaethol am dai a pha drafodaethau a gawsoch gyda chynrychiolwyr cyn-filwyr i sicrhau bod eu pryderon pwysig yn cael sylw. Diolch.
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn ystyriol iawn. Gwn fod yr Aelod yn angerddol iawn ynglŷn â'r maes hwn a’i fod wedi ymrwymo i’w gefnogi yn ei rôl fel Aelod dros Ogledd Cymru, ac roedd yn hyfryd taro arnoch wrth imi ddod oddi ar HMS Severn. Cefais y fraint o fynd ar daith o'i chwmpas ar ôl y salíwt ynnau brenhinol ddydd Iau, er na fyddwn yn argymell i’r Aelodau ddod oddi ar long yn gwisgo sodlau uchel. [Chwerthin.] Roedd yn orchest ynddi’i hun.
I fod o ddifrif, ar y pwynt a wnaethoch—mae ein rhaglen lywodraethu yn nodi ein hymrwymiad i ddiwygio’r gyfraith dai a gweithredu argymhellion y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd i ddiwygio gwasanaethau digartrefedd yn sylfaenol er mwyn canolbwyntio ar atal ac ailgartrefu cyflym. Ac felly, bydd y diwygiad deddfwriaethol hwn yn ystyried pob angen blaenoriaethol er mwyn cyflawni'r newid trawsnewidiol i ailgartrefu cyflym, sy'n galw, yn amlwg, fel y gwyddoch, am atebion hirdymor i bawb sydd ag angen tai difrifol, ac nid yn unig y rhai yr ystyrir eu bod mewn categori angen blaenoriaethol. Felly, bydd hyn yn cynnwys ystyriaeth o anghenion ac ymgysylltiad ag amrywiaeth o grwpiau, gan gynnwys cymuned y lluoedd arfog yn ei hystyr ehangaf, oherwydd rydych yn codi'r pwynt ei fod yn ymwneud â mwy na'r bobl sydd wedi gwasanaethu eu hunain—mae'n ymwneud â’r rhwydweithiau teulu o'u cwmpas hefyd sydd wedi bod yn allweddol yn ystod y cyfnod pan oeddent yn gwasanaethu a phan oeddent yn gadael y lluoedd arfog hefyd. Felly, yn rhan o'r diwygio hwn, gallaf ddweud y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y pwyntiau a godwyd gennych chi a’r Lleng Brydeinig Frenhinol. Mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn rhan o’n grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog, felly byddaf yn ymrwymo i barhau i ymgysylltu â hwy yn rhan o hynny, a hefyd y rôl y mae swyddogion cysylltu â’r lluoedd arfog yn parhau i’w chwarae yn bwydo’r wybodaeth honno ar lawr gwlad i gefnogi cyn-filwyr mewn cymunedau ar draws gogledd Cymru a ledled y wlad hefyd.
7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth Cymru? OQ58136
Mae tua 2,000 o Wcreiniaid bellach wedi cyrraedd Cymru o dan gynllun Cartrefi i Wcráin. Noddwyd tua 500 o'r rhain gan Lywodraeth Cymru. Mae canllawiau ar gael i awdurdodau lleol a noddwyr yn ogystal â'n gwefan Noddfa ar gyfer Wcreiniaid. Mae ein canolfan gyswllt 24/7 a'n partneriaid yn y trydydd sector hefyd yn darparu cymorth.
Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n gwerthfawrogi eich diweddariad a'ch datganiad ysgrifenedig cynharach ar hyn hefyd, ond hoffwn dynnu eich sylw at y gefnogaeth a'r cymorth a gynigir i unigolion sydd wedi darparu eu heiddo fel rhan o raglen Cartrefi i Wcráin Llywodraeth Cymru. Ar ôl siarad â nifer o deuluoedd yn sir Benfro a sir Gaerfyrddin sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen hon, mae'n amlwg iawn fod fframwaith cymorth byr ar gael i'r rhai sy'n rhoi llety i deuluoedd o Wcráin. Mae tasgau o ddydd i ddydd megis helpu i agor cyfrifon banc, hebrwng teuluoedd i ac o apwyntiadau ysbyty a rhoi amser i helpu i hebrwng plant i'r ysgol i gyd yn golygu aberthu amser o'r gwaith. Yn wir, y realiti yw nad cynnig ystafell wely sbâr yn unig y mae'r rhai sy'n rhan o'r rhaglen Cartrefi i Wcráin, maent yn cynnig cyfle i ddod yn aelod integredig o'u teulu. O ystyried hyn a'ch datganiad ysgrifenedig heddiw yn disgrifio oedi i geisiadau newydd, a wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gymorth sydd ar gael y tu hwnt i'r taliad 'diolch' presennol o £350 y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i deuluoedd sy'n cynnal ac yn cefnogi ffoaduriaid o Wcráin? Diolch.
Diolch yn fawr am y cwestiwn a'r pwyntiau allweddol hynny, sydd, rwy'n siŵr, yn cael eu rhannu ar draws y Siambr o ran yr ymrwymiad enfawr—a gwneuthum y pwynt hwn yn fy natganiad—ymrwymiad enfawr y teuluoedd noddi hynny, sydd wedi agor eu cartrefi, fel y dywedais, a helpu pobl i gael eu cefnau atynt wrth iddynt ddechrau ar eu bywydau yng Nghymru. Gweithredoedd eithriadol o garedigrwydd yr ydym yn dra diolchgar amdanynt. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae awdurdodau lleol yn chwarae rôl allweddol hefyd yn cefnogi'r noddwyr ac yn ymgysylltu â hwy. Felly, mae dinasyddion Cymru'n chwarae rhan wych yn cefnogi ffoaduriaid o Wcráin. Mae gennym hefyd rwydwaith o fudiadau trydydd sector a grwpiau gwirfoddol sydd hefyd yn helpu ac yn cynorthwyo teuluoedd gyda'r cynlluniau hyn, ac rwy'n siŵr fod pobl ar draws y Siambr hefyd yn ymgysylltu ac yn rhoi pobl mewn cysylltiad â'i gilydd i ddarparu'r math hwnnw o gymorth.
Rwy'n credu bod ein gwefan, gwefan Noddfa Cymru, yn ddefnyddiol iawn. Mae'n rhoi cyngor ac arweiniad i noddwyr yn ogystal ag awdurdodau lleol, ac mae hefyd yn cyfeirio pobl at unrhyw gyfleoedd ariannu. Credaf ei bod yn anffodus iawn nad yw Llywodraeth y DU yn darparu'r cyllid sydd ei angen yn ddybryd ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i roi cefnogaeth briodol i bobl sy'n cyrraedd o dan y cynllun teuluoedd o Wcráin. Felly, rydym yn annog, rhaid imi ddweud—. Pan fyddaf yn cyfarfod â'r Gweinidog, yr Arglwydd Harrington, mae fy nghyfaill, Neil Gray, o'r Alban, y Gweinidog, a minnau'n annog Llywodraeth y DU i ddarparu, i'r teuluoedd hynny, gyda llawer ohonynt wedi dod, yn ogystal â'r ffigurau rwyf wedi'u rhoi, o dan y cynllun teuluoedd o Wcráin—. Rydym yn annog y dylent hwy hefyd gael cymorth oherwydd cânt eu cefnogi gan aelodau o'u teuluoedd heb unrhyw gymorth o gwbl. Ond rwyf am ddweud y gall unrhyw deulu sy'n dod gael gafael ar arian cyhoeddus, credyd cynhwysol, cymorth digartrefedd, prydau ysgol am ddim, yn ogystal â Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill a'r holl wasanaethau eraill sydd eu hangen arnynt.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Mabon ap Gwynfor.
8. Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael a thlodi tanwydd yn Nwyfor Meirionnydd? OQ58128
Mae ein rhaglen Cartrefi Clyd ar gyfer aelwydydd incwm is yn arbed £300 y flwyddyn ar gyfartaledd drwy wella effeithlonrwydd ynni. Mae aelwydydd oedran gweithio cymwys hefyd yn elwa ar daliad cymorth tanwydd y gaeaf o £200, ac mae taliad costau byw o £150 yn cael ei wneud i bob eiddo ym mandiau’r dreth gyngor A i D.
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am yr ateb yna. Wrth gwrs, mae'n dda clywed am y cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd i rai pobl. Mae'r cynnydd yn y cap ar brisiau ynni, wrth gwrs, yn mynd i fod yn heriol i bawb. Yn ôl yr elusen National Energy Action, fe allwn ni weld hyd at 45 y cant o bob aelwyd yng Nghymru yn dioddef tlodi tanwydd oherwydd codi'r cap. Mae hyn yn ffigur brawychus. Rydyn ni'n sôn am 614,000 o aelwydydd yng Nghymru.
Ond dwi am ganolbwyntio ar fesuryddion rhagdaliad, pre-payment meters, yn fy nghwestiwn i. Mae un o bob pump o gwsmeriaid trydan safonol yn talu drwy ragdaliad yng ngogledd Cymru, ac mae'r ffigur yna yn sicr am fod yn uwch yn Nwyfor Meirionnydd. Oherwydd bod y cap wedi codi ers mis Ebrill, mae cwsmeriaid sy'n talu drwy ragdaliad am weld eu costau cynyddu o £1,309 i £2,017 y flwyddyn. Yn amlach na pheidio, y rhain hefyd ydy'r bobl dlotaf yn ein cymdeithas. Mae angen mwy o gymorth na'r hyn rydych chi wedi sôn amdano eisoes ar y bobl sy'n talu drwy ragdaliad na phobl eraill. Mae pob cymorth ychwanegol o fudd, ond pa gymorth arall fedrwch chi ei gynnig i bobl sy'n talu drwy ragdaliad, a pha drafodaethau ydych chi'n eu cael efo landlordiaid, boed yn gymdeithasau tai neu'n breifat, er mwyn sicrhau nad ydy pobl yn mynd i mewn i dlodi tanwydd oherwydd y mesuryddion rhagdaliad yma?
Diolch yn fawr. Mae'n gwestiwn pwysig iawn. Rwy'n credu y byddwch yn cofio trafodaeth bwerus rhwng y Prif Weinidog a Ken Skates ychydig wythnosau'n ôl am effaith tlodi tanwydd, a'r ffaith y gallai pobl fod yn hunan-ddatgysylltu mesuryddion rhagdalu. Felly, rwy'n falch eich bod wedi tynnu ein sylw at hyn. Thema fy nghwestiynau heddiw oedd effaith costau byw a thlodi tanwydd—yr argyfwng costau byw a'r effaith a gaiff ar dlodi tanwydd. Felly, diolch ichi eto am rannu'r wybodaeth honno. Rydym wedi bod yn annog Ofgem i ddarparu'r wybodaeth am yr amcangyfrifon hunan-ddogni. Maent yn awgrymu mewn gwirionedd fod 34 y cant o aelwydydd mesuryddion deallus yn hunan-ddatgysylltu a bod 13 y cant yn dibynnu'n rheolaidd ar gredyd brys. Ond rwy'n credu ein bod i gyd yn gwybod am y rhai sy'n cael eu taro galetaf ac sydd hefyd yn talu mwy am fesuryddion rhagdalu. Nawr, mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn edrych arno, ac ymwelais â banc bwyd ym Mlaenau Gwent yn ddiweddar, lle mae ganddynt gynllun talebau tanwydd ar gyfer mesuryddion rhagdalu. Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu ac yn dilyn pob trywydd i allu cefnogi'r 200,000 o aelwydydd sydd â mesuryddion rhagdalu ar gyfer trydan a nwy.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhys ab Owen.
1. A yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal ymarfer cwmpasu i asesu faint o adnoddau ychwanegol y byddai angen i Drysorlys y DU eu darparu i gynnal system gyfiawnder ddatganoledig gynaliadwy a llwyddiannus yng Nghymru? OQ58120
Diolch am y cwestiwn. Gwnaethom nodi egwyddorion ar gyfer system gyfiawnder ddatganoledig yn ein cyhoeddiad diweddar, 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru'. Byddwn yn defnyddio hwn i gydgynhyrchu gweledigaeth o sut y gellir darparu cyfiawnder yn well, drwy sgyrsiau â'r rhai sydd ag arbenigedd yn y system gyfiawnder. Bydd ystyried adnoddau yn elfen bwysig o hynny.
Er gwaethaf trydariad diweddar Andrew R.T. Davies yn datgan na fydd y Ceidwadwyr Cymreig byth yn cefnogi datganoli cyfiawnder, dwi, a dwi'n gwybod chi, hefyd, Cwnsler Cyffredinol, yn cytuno gyda geiriau'r Arglwydd Thomas o Gwmgiedd—mae mater o bryd yn hytrach nag os yw datganoli cyfiawnder i'r lle hwn. A chyda pethau'n symud yn sydyn iawn yn San Steffan, fe all datganoli cyfiawnder ddigwydd yn gynt nag rŷn ni'n ei feddwl. I wneud hynny, bydd angen trosglwyddiad teg o arian, er, yn bersonol, dwi'n credu y byddai datganoli cyfiawnder i Gymru yn arbed arian i drethdalwyr. Ond ydy'r Llywodraeth yn gwybod—ac os nad ydyn nhw'n gwybod, pryd gwnawn nhw wybod—faint o arian sydd angen arnyn nhw o Drysorlys y Deyrnas Unedig?
Wel, diolch am eich cwestiwn atodol. Rwy'n sicr yn cytuno â chi ei bod yn siomedig fod datganiad wedi'i wneud yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol na fyddai cyfiawnder yn cael ei ddatganoli. Roedd hyn cyn iddynt hyd yn oed gael cyfle i ddarllen y ddogfen, a darllen y dadleuon a nodir yn y ddogfen honno. Credaf fod hwnnw'n ffordd siomedig iawn o fynd ati, oherwydd mae bob amser yn ymddangos i mi ei bod yn bwysig ystyried y dystiolaeth cyn ymateb yn ddifeddwl. Fel ag y mae, un o'r problemau, wrth gwrs, mewn perthynas â datganoli cyfiawnder yw bod rhai meysydd lle mae gwaith yn mynd rhagddo gyda Llywodraeth y DU. Ac wrth gwrs, fel y gwyddoch, mae gan Gomisiwn y Gyfraith gynigion mewn perthynas â thribiwnlysoedd, sy'n elfen bwysig o'n system gyfiawnder, a fydd yn destun deddfwriaeth maes o law.
Mae gwybod cost y system gyfiawnder yn gymhleth iawn mewn gwirionedd. Byddai'n dibynnu, rwy'n credu, ar drafodaethau gyda'r Llywodraeth, trafodaethau ynghylch trosglwyddo cyfrifoldebau, yr hyn a olygwn wrth gyfiawnder. Pan ystyriodd comisiwn Thomas hyn, pan edrychasant ar yr holl agweddau ar gyfiawnder, boed yn dribiwnlysoedd, yn feysydd cyfiawnder cymdeithasol yr ydym yn ymwneud â hwy, meysydd comisiynwyr yr heddlu a throseddu a'n cyfraniadau at blismona ac yn y blaen, gwyddom yr amcangyfrifwyd ei fod tua £442 miliwn. Felly, rydym eisoes yn gwario ac yn cyfrannu llawer iawn tuag at hynny.
O ystyried datblygiad cyfiawnder ac o ystyried sut y bydd y trafodaethau hynny'n datblygu maes o law—. Ac rwy'n cytuno â chi, hyd yn oed os nad yw'r Llywodraeth hon yn cytuno y dylid datganoli cyfiawnder, rwy'n weddol sicr y bydd ar agenda'r Llywodraeth nesaf i ystyried datganoli cyfiawnder, ac yn sicr bydd holl oblygiadau hynny'n cael eu hystyried.
2. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am erlyniadau mewn perthynas â physgota anghyfreithlon? OQ58126
Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Mae gorfodi deddfwriaeth pysgodfeydd yn hanfodol i gynaliadwyedd ein pysgodfeydd a diogelu'r amgylchedd morol. Er na allaf wneud sylwadau ar achosion penodol sy'n mynd rhagddynt rwy'n cadarnhau ein bod wedi erlyn pysgotwyr anghyfreithlon yn llwyddiannus dros y flwyddyn ddiwethaf.
Iawn. Diolch am yr ateb, Gwnsler Cyffredinol. Mae pysgota anghyfreithlon nid yn unig yn niweidiol i economi Cymru, mae hefyd yn gostus i'n hamgylcheddau arfordirol. Mae technegau pysgota heb eu rheoleiddio yn effeithio ar fioamrywiaeth a chynefinoedd morol, gan arwain at orbysgota, sy'n tanseilio ymdrechion i sicrhau stociau pysgod cynaliadwy. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â physgota anghyfreithlon yng ngogledd Cymru i ddiogelu ein stociau pysgod a'n harferion cynaliadwy yn y diwydiant? Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Mae'n faes gwaith pwysig a maes pwysig o gyfraith Cymru, ac wrth gwrs rwy'n goruchwylio'r erlyniadau yn y maes hwnnw. Bydd gorfanteisio ar ein pysgodfeydd yn arwain at bysgodfeydd anghynaliadwy, fel rydych wedi'i ddweud, a bydd yn arwain at niweidio ein pysgodfeydd a'n hamgylchedd morol. Felly, dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd unrhyw weithgareddau anghyfreithlon yn ei dyfroedd yn cael eu cosbi'n llym. Felly, mae gennym swyddogion gorfodi morol, sy'n parhau i sicrhau bod y pysgotwyr yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol sydd ar waith a bod camau priodol yn cael eu cymryd yn erbyn perchennog llong, capten neu bysgotwr sy'n mynd yn groes i'r ddeddfwriaeth honno. Ac fel Cwnsler Cyffredinol, rwyf o ddifrif ynghylch gorfodi rheoliadau pysgodfeydd. Byddwn yn argymell bod yr holl berchnogion llongau a physgotwyr sy'n gweithredu yn nyfroedd Cymru yn cydymffurfio â'r rheolau a'r rheoliadau perthnasol.
Ers 2021, gallaf ddweud wrthych fod 11 achos o dorri rheolau wedi cael eu harchwilio. Asesir ac ymdrinnir ag achosion drwy rybuddion swyddogol neu erlyniadau. Mae saith achos yn cael eu herlyn gan fy swyddfa ar hyn o bryd. Credaf y dylai'r erlyniadau a wnaed hyd yma fod yn rhybudd clir iawn i bysgotwyr fod Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â chosbi troseddau pysgota yng Nghymru, a byddaf innau fel Cwnsler Cyffredinol yn rhoi'r camau angenrheidiol ar waith i gynnal y cyfreithiau hynny.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Weinidog, gan fod y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd bellach wedi cyhoeddi ei adroddiad, a ydych wedi ystyried a oes gan y Senedd y pwerau i gyflawni argymhellion y pwyllgor?
Wel, y pwynt cyntaf y byddwn yn ei wneud yw y bydd dadl, wrth gwrs—credaf fod dwy awr wedi'u dyrannu ar gyfer hyn y prynhawn yma—ac rwy'n siŵr y bydd yr holl faterion sy'n ymwneud ag adroddiad y pwyllgor diben arbennig yn cael eu hystyried. Fy rôl i a rôl Llywodraeth Cymru, os bydd y Senedd yn derbyn y cynigion yn yr adroddiad hwnnw, yw ystyried y rheini'n fanwl ac yn ofalus ac edrych ar y ffordd orau o weithredu'r cynigion hynny mewn deddfwriaeth ymarferol a chadarn.
O gofio mai eich Prif Weinidog a ysgrifennodd y crynodeb gweithredol, i bob pwrpas, gydag arweinydd Plaid Cymru, byddwn wedi meddwl y byddech wedi gwneud ychydig o waith eisoes, a dweud y gwir, i ystyried a oedd gan y Senedd gymhwysedd i weithredu'r argymhellion hyn. Oherwydd, fel cyn-aelod o'r pwyllgor hwnnw, gallaf ddweud wrthych fod y cyngor cyfreithiol, yn ein trafodaethau, yn gwbl glir: mae'r maes cyfle cyfartal yn faes nad yw wedi'i ddatganoli; nid oes gan y Senedd bwerau i osod cwotâu rhywedd statudol i fynd i'r afael â gwahaniaethu yn erbyn menywod. Roedd y cyngor cyfreithiol hwnnw'n glir i ni, ac roedd yn dweud, i bob pwrpas, pe baem yn gweithredu i fynd i'r afael â gwahaniaethu neu driniaeth lai ffafriol i fenywod, y byddai'n sicr y tu hwnt i gymhwysedd y Senedd. Felly, ni waeth beth fo rhinweddau unrhyw gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â diffyg amrywiaeth yn y Senedd, a ydych yn derbyn, os bydd eich Llywodraeth yn bwrw ymlaen â chwotâu rhywedd statudol, y byddai mewn gwirionedd yn peryglu holl agenda ddiwygio'r Senedd, ac na fyddai'n llwyddo i'w chyflawni erbyn 2026?
Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw, ac rwy'n siŵr ei fod yn fater a fydd yn cael ei godi eto yn ddiweddarach y prynhawn yma. Hoffwn ddweud yn gyntaf, serch hynny, ynglŷn ag adroddiad y pwyllgor diben arbennig, nad wyf yn rhagdybio canlyniad y penderfyniad y prynhawn yma; mater i'r Senedd ydyw. Ac mae'n bwysig iawn mai'r Senedd sy'n gwneud unrhyw benderfyniad a wneir mewn perthynas â chynigion ar gyfer diwygio ac nid y Llywodraeth, ac mae'r gwahaniaeth hwnnw'n un eithriadol o bwysig. Mae'r holl faterion cyfreithiol a allai godi o ystyriaethau o'r hyn a dderbynnir gan y Senedd y prynhawn yma, os o gwbl, yn rhai a gaiff sylw mewn perthynas â'r gwaith o lunio deddfwriaeth i weithredu penderfyniadau neu argymhellion y Senedd.
Mae'n ddrwg gennyf, ni chlywais unrhyw eglurder yn eich ateb ynglŷn ag a ydych yn credu bod gan y Senedd gymhwysedd i allu cyflwyno cwotâu rhywedd ar hyn o bryd. Mae'n gwestiwn syml iawn. Gwn eich bod yn dal i gyfeirio at y ddadl a fydd yn cael ei chynnal ymhen dwy awr. Rwy'n tybio nad oes gennych ateb yn eich ymateb i'r ddadl honno ychwaith ar y mater hwn. Os oes gennych, efallai y gallaf bwyso arnoch ar y mater eto. A ydych yn derbyn nad oes gan y Senedd gymhwysedd ar hyn o bryd, oherwydd bod cyfle cyfartal wedi'i gadw'n ôl, i weithredu cwotâu rhywedd mewn gwirionedd, ac os byddwch yn bwrw ymlaen â deddfwriaeth—os bydd y Senedd yn bwrw ymlaen â deddfwriaeth—y gallai hynny beryglu holl agenda diwygio'r Senedd? Oherwydd os ydych yn derbyn hynny—ac o'r dystiolaeth a gawsom, nid yn unig gan ein cyfreithwyr ein hunain, ond gan bawb arall heblaw am un tyst unigol, roedd yn ymddangos i mi nad yw'r cymhwysedd hwnnw gennym—ac os byddwch yn bwrw ymlaen ar y sail hon byddwch yn peri i agenda diwygio'r Senedd fethu i bob pwrpas. Efallai mai dyna yw eich bwriad; nid wyf yn gwybod. Byddwn yn gobeithio nad dyna yw eich bwriad; byddwn yn gobeithio nad ydych am wastraffu amser pawb—[Torri ar draws.] [Anghlywadwy.]
Yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod—a dywedaf hyn yn rhinwedd dwy swydd; yn gyntaf, fel Gweinidog yn y Llywodraeth, ond hefyd yn rhinwedd fy nghyfrifoldebau swyddog y gyfraith fel Cwnsler Cyffredinol—yw y byddaf yn rhoi ystyriaeth fanwl iawn, a bydd y Llywodraeth yn gwneud yr un peth, i'r argymhellion a gyflwynir, a gaiff eu pasio gan y Senedd, ac y byddaf yn gweithio wedyn i weld sut y gellir llunio deddfwriaeth gadarn ac ymarferol i weithredu'r argymhellion gan y Senedd.
Mae arnaf ofn y bydd angen i ni gymryd seibiant technegol. Ar hyn o bryd, dim ond microffon y Gweinidog, fy un i a Carolyn Thomas sy'n gweithio. Nid oedd un Darren Millar yn gweithio, ond rwy'n dawel fy meddwl fod eich llais yn ddigon cryf i'w glywed yn y darllediad, ond efallai nad yw hynny'n wir am bob Aelod, felly yn anffodus, bydd angen inni gymryd seibiant technegol byr.
A yw hynny'n golygu bod yn rhaid inni wrando arno eto? [Chwerthin.]
Nac ydy.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 14:30.
Ailymgynullodd y Senedd am 14:59, gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.
A gaf fi groesawu pawb yn ôl? Diolch i'r tîm technegol am ddatrys y problemau. Gobeithio y gallwn barhau am weddill y prynhawn heb ragor o anawsterau. Symudwn ymlaen yn awr at gwestiynau llefarydd Plaid Cymru—Rhys ab Owen.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Fe fyddwch yn fwy ymwybodol nag unrhyw Aelod yma o'r garreg filltir enbyd a basiwyd dros y toriad hanner tymor o 100 diwrnod ers ymosodiad di-synnwyr Putin ar Wcráin a'i phobl. Fel swyddog y gyfraith yn Llywodraeth Cymru, pa waith a wnaethoch gyda swyddogion y gyfraith eraill ledled y Deyrnas Unedig i ymchwilio i'r troseddau rhyfel a'r erchyllterau hawliau dynol a gyflawnwyd yn erbyn pobl Wcráin gan Vladimir Putin?
Diolch am y cwestiwn hwnnw. Mae'n fater sy'n dod i'r amlwg ledled y byd yn awr—y comisiwn troseddau rhyfel ac ymchwiliadau gan y Llys Troseddau Rhyngwladol ac yn wir, gan y Cenhedloedd Unedig eu hunain. Mae'r dystiolaeth yn llethol iawn. Rwyf wedi cael cyfarfod gyda swyddogion y gyfraith—y Twrnai Cyffredinol, Arglwydd Adfocad yr Alban ac Adfocad Cyffredinol Gogledd Iwerddon—ac rydym wedi trafod y dull sy'n cael ei fabwysiadu o ran y gefnogaeth i'r ymchwiliadau. Mae'r ymchwiliadau, wrth gwrs, yn cael eu dwyn gerbron gan yr erlynydd cyffredinol yn Wcráin. Rwyf wedi awgrymu y byddai manteision i ddull sy'n cynnwys y pedwar swyddog y gyfraith o ran y gefnogaeth i'r gwaith. Rwy'n gwybod bod cynghorydd arbennig wedi'i benodi gan Lywodraeth y DU i gynorthwyo'r erlynydd cyffredinol yn Wcráin.
Wrth gwrs, cafwyd dau achos troseddau rhyfel eisoes yn erbyn unigolion, ac mae nifer fawr o rai eraill yn cael eu hymchwilio. Mae'r niferoedd yn y miloedd. Wrth gwrs, ceir cyfreithwyr y mae eu gwasanaethau hefyd yn cael eu cyfeirio at gefnogi'r ymchwiliadau hynny. Byddaf yn cysylltu â'r erlynydd cyffredinol fy hun ynghylch unrhyw waith a chymorth penodol y gallwn ei ddarparu o Gymru, boed yn foesol neu'n ymarferol o ran ymgysylltu ag aelodau o'r gymuned gyfreithiol yng Nghymru sydd ag arbenigedd yn y maes hwn. Mae hynny'n rhywbeth lle yr hoffwn weld maes penodol iawn o gefnogaeth Gymreig os ystyrir ei bod o fudd i'r gwaith pwysig sy'n digwydd—yn awr, yn ystod y rhyfel, ond yn yr un modd ar gyfer y blynyddoedd lawer ar ôl hynny fel sy'n anochel gyda'r mathau hyn o achosion.
Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol. Fe fyddwch yn ymwybodol fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cyhoeddi'n ddiweddar eu bod wedi prynu bloc swyddfa wrth ymyl yr Old Bailey am £111 miliwn. Fel bargyfreithiwr ifanc yn 2009, roedd pobl yn cwyno bryd hynny am gyflwr annigonol y ganolfan cyfiawnder sifil yng Nghaerdydd. Mae pobl wedi parhau i gwyno amdani ers hynny. Mewn gwirionedd, pan ymwelodd y Goruchaf Lys â Chaerdydd am y tro cyntaf, cafodd ei gynnal yn Nhŷ Hywel, sy'n codi llawer o gwestiynau eraill, yn hytrach nag yn y ganolfan cyfiawnder sifil. Ymateb y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw, 'Byddwn yn darparu ffynnon ddŵr ychwanegol a byddwn o'r diwedd yn trwsio'r lifft sydd wedi torri.' Y mae ychydig fel fflat Del Boy, yn hytrach na chanolfan cyfiawnder sifil. Felly, Gwnsler Cyffredinol, pryd y mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn mynd i fod o ddifrif ynglŷn â chyfiawnder yng Nghymru ac yn sicrhau canolfan cyfiawnder sifil sy'n gweddu i brifddinas fel Caerdydd?
Diolch am hynny. Nid oes amheuaeth o gwbl nad yw'r ganolfan cyfiawnder sifil yn addas i'r diben. Nid oes amheuaeth o gwbl ychwaith fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ymwybodol o hynny. Rwyf i a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cyfarfod â Dominic Raab, yr Arglwydd Ganghellor, a chodwyd y mater penodol hwn gydag ef. Fe'i codwyd gennym hefyd yn ystod cyfarfodydd ar sawl achlysur gyda'r Arglwydd Wolfson, a ymddiswyddodd wedi hynny—nid oherwydd y cwestiwn ond oherwydd materion eraill. Felly, maent yn ymwybodol iawn o'r pryderon. Hefyd, rwyf wedi'i gwneud yn glir iawn, rwy'n credu, mewn atebion i gwestiynau yn y Siambr hon ei bod yn gwbl annerbyniol fod prifddinas Caerdydd yn cael ei thrin fel hyn. Pe bai cyfiawnder yn cael ei ddatganoli, ni fyddem yn goddef cyfleusterau o'r fath, cyfleusterau sydd nid yn unig yn annigonol i ddefnyddwyr y llys—y dinasyddion, y cyfreithwyr, a'r farnwriaeth—ond nad ydynt ychwaith yn briodol o ran y ddelwedd yr ydym am ei chael o system gyfreithiol Cymru a'r ffordd yr ydym am weld yr economi gyfreithiol yng Nghymru yn tyfu.
Serch hynny, gallaf ddweud wrthych fy mod yn y broses o ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn benodol ar y pwynt hwn—mor rhyfedd yw hi, ar ôl cael gwybod nad oes digon o arian, fod miliynau o bunnoedd ar gael ar gyfer canolfan arall yn Llundain, tra bod y ganolfan cyfiawnder sifil yng Nghaerdydd yn cael ei hanwybyddu'n llwyr. Rwy'n falch o weld, wrth gwrs, fod rhywun wedi'i benodi yn lle yr Arglwydd Wolfson bellach. Y Gweinidog cyfiawnder newydd yw Syr Christopher Bellamy, a fu'n rhan o'r adolygiad diweddar o gymorth cyfreithiol wrth gwrs. Byddaf yn ceisio cael trafodaethau gydag ef ynghyd â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, lle bydd hyn hefyd yn un o'r eitemau ar yr agenda. Rhaid imi ddweud, un o'r pethau rwy'n meddwl amdanynt yw efallai y dylem gael ein cyfarfod wyneb yn wyneb nesaf yn y ganolfan cyfiawnder sifil.
3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith mewn perthynas â Bil Trefn Gyhoeddus Llywodraeth y DU? OQ58123
Diolch am y cwestiwn. Mae'r Bil Trefn Gyhoeddus yn cynnwys darpariaethau sy'n effeithio ar hawl pobl i brotestio. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i egluro i Lywodraeth y DU ei gwrthwynebiad i'r ymosodiad hwn ar hawliau domestig.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw. Nid wyf yn credu y gallai neb yn y Siambr hon wadu'n rhesymol fod protestio neu fudiadau protest wedi newid Cymru a'r Deyrnas Unedig er gwell. Rwy'n gwybod bod gennych chi eich hun, Gwnsler Cyffredinol, hanes o herio'r pwerus pan fydd angen gwneud hynny, gan gynnwys eich gwaith ysbrydoledig gydag eraill i herio erchyllterau apartheid yn Ne Affrica. Dylem i gyd boeni am gymhellion unrhyw Lywodraeth sy'n ceisio herio'r hawl i brotestio. Gwnsler Cyffredinol, i ba raddau y mae'r Bil hwn, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU, yn cyfyngu ar hawl pobl i brotestio, a beth yw eich asesiad o'i effaith ar ein democratiaeth?
Diolch am hynny. Rwy'n credu ei bod yn siomedig iawn, yn y Bil hwn, ei fod yn atgyfodi cyfres o gymalau a wrthodwyd yn Nhŷ'r Arglwyddi am yr union resymau y mae'r Aelod newydd eu nodi heddiw. Mae'r cynigion, yn fy marn i, yn ergyd sylweddol i'r hawl i brotestio ac yn ymosodiad uniongyrchol ar ddemocratiaeth a rhyddid mynegiant. Mae Llywodraeth Cymru yn gadarn ei gwrthwynebiad iddynt. Rwyf am wneud y pwynt—ac nid wyf yn ei wneud gyda thafod yn y boch o gwbl—fod yr hawl i brotestio, bod yr hawl i herio awdurdod mor sylfaenol i'n democratiaeth, ac efallai mai dim ond y dechrau yw hyn. Pan edrychwch ar y ffordd y mae deddfwriaeth debyg wedi'i chyflwyno yn Rwsia Putin, lle mae hyd yn oed sefyll gyda phlacard, neu hyd yn oed esgus dal un, yn gallu arwain at gosbau sydd bron yr un fath â'r hyn sy'n cael ei gynnig yn y ddeddfwriaeth benodol hon, mae hynny'n fygythiad i bob un ohonom, ac mae'n fygythiad i ddemocratiaeth. Ar ei ffurf bresennol, mae'r Bil wedi'i gadw'n ôl i Lywodraeth y DU, ac ni fyddwn yn gosod cynnig cydsyniad deddfwriaethol am y rheswm hwnnw. Fodd bynnag, os cyflwynir gwelliannau, byddwn yn dadansoddi'r rheini'n ofalus i sicrhau bod llais y Senedd yn cael ei glywed lle bynnag y bo'n berthnasol. Byddwn hefyd yn parhau fel Llywodraeth i wneud ein gwrthwynebiadau i'r Bil yn glir yn ein cysylltiadau â Llywodraeth y DU a swyddogion. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cyflwyno datganiad ysgrifenedig ddoe sy'n tynnu sylw at ein gwrthwynebiadau i gynigion yn y Bil hwnnw.
4. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i sicrhau cyfleusterau digonol ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru? OQ58119
Diolch am y cwestiwn. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan dribiwnlysoedd Cymru gyfleusterau digonol, yn awr ac yn y dyfodol, ac wrth inni fwrw ymlaen â'r broses o ddiwygio strwythur y tribiwnlysoedd datganoledig i greu system dribiwnlysoedd wedi'i moderneiddio ar gyfer Cymru.
Diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol. Mae’n deg dweud nad yw cyfleusterau ein tribiwnlysoedd Cymreig ddim yn ddigon da. Dwi'n cofio siarad ag un barnwr a hi'n dweud mai ei gorchwyl cyntaf hi bob dydd oedd symud y bordydd a'r cadeiriau er mwyn gwneud yn siŵr bod yr ystafell yn barod ar gyfer achos. Gyda'r brydles yn Oak House yng Nghasnewydd yn dirwyn i ben y flwyddyn nesaf—yr unig adeilad dynodedig i dribiwnlysoedd Cymru—beth yw cynlluniau'r Llywodraeth i sicrhau bod adeiladau a chyfleusterau addas ar gyfer ein tribiwnlysoedd?
Diolch yn fawr iawn. Rydych yn gwneud pwynt pwysig iawn, oherwydd wrth inni weithio ac edrych ar ddeddfu mewn perthynas ag argymhellion Comisiwn y Gyfraith ar ddiwygio tribiwnlysoedd, rhaid inni edrych ar nifer o faterion, ac un ohonynt wrth gwrs yw sicrhau annibyniaeth y farnwriaeth, ond hefyd sicrhau bod cyfleusterau tribiwnlys priodol ar gael i'w defnyddio, a chyda statws a chydnabyddiaeth briodol i bwysigrwydd y tribiwnlysoedd hynny.
Ar y pwynt a godwch ynglŷn ag Oak House, rwy'n cydnabod pwysigrwydd ystafell y tribiwnlys yn Oak House, oherwydd dyma'r unig gyfleuster tribiwnlys penodol sydd ar gael gennym i'r tribiwnlysoedd. Mae yna broblem wedi codi; mae'r landlord wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, ond mae ein hawliau fel tenantiaid yno yn aros yr un fath. Mae ein prydles i fod i ddod i ben, ond mae bwriad i'w hadnewyddu. Felly, credaf fod hwnnw'n fater a gaiff ei ddatrys. Ond rydych yn iawn ynghylch mater ehangach y ffordd yr edrychwn ar yr annibyniaeth yn y dyfodol a'r cyfleusterau yn y dyfodol. Pe bai gennym ganolfan cyfiawnder sifil newydd, gallai honno hyd yn oed fod yn adnodd ar gyfer hynny, ac efallai fod hynny'n un o'r pwyntiau yr hoffem eu gwneud maes o law.
Gwnsler Cyffredinol, prynhawn da. Hoffwn ofyn cwestiwn ynglŷn â pholisi Llywodraeth y DU ar y posibilrwydd o anfon ceiswyr lloches i Rwanda. Roeddwn yn awyddus iawn i ganolbwyntio ar blant sy'n cael eu hasesu'n anghywir fel oedolion. Rydym wedi clywed pryderon brawychus ar ben hynny, sef bod yr heddlu, meddygon a gorsafoedd heddlu yn cynnal rhywbeth a elwir yn brofion aeddfedrwydd rhywiol. Mae hyn yn peri pryder, ac rwy'n siŵr y byddech yn ymuno â mi i gondemnio'r ddau beth, oherwydd gallent olygu bod plant yn cael eu hasesu fel oedolion ac y gallent fod yn rhan o'r garfan honno sy'n cael ei hanfon i Rwanda. Gwnsler Cyffredinol, tybed a wnewch chi godi'r mater hwn gyda Llywodraeth y DU a mynegi eich pryderon ynglŷn â'r mater penodol hwn. Diolch yn fawr iawn.
Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Byddaf yn sicr yn gwneud hynny, ac rwy'n gwybod i sicrwydd bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi bod yn codi'r materion penodol hyn yn helaeth. Maent yn peri pryder. Rwy'n credu bod Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig wedi bod yn glir ynghylch ei barn fod y mesurau yn y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau, sy'n cynnwys anfon ceiswyr lloches i Rwanda i brosesu eu cais yno, yn groes i'r confensiwn ffoaduriaid. Rwy'n credu y derbynnir hefyd fod y dull dideimlad hwn yn tanseilio statws y DU yn y byd. Mae'n ofid mawr fod y Bil hwnnw bellach wedi cael Cydsyniad Brenhinol. Fel cenedl noddfa, mae'r materion hyn wedi'u codi. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi ysgrifennu at Kevin Foster, ar y cyd â Llywodraeth yr Alban, ar 19 Mai, i fynegi pryderon Llywodraeth Cymru am y cynigion ynghylch Rwanda, ac i ofyn am gyfarfod pedair gwlad i drafod y mater. Ni chafwyd ymateb i'r cais hyd yma, ond gwn y bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn parhau i fynd ar drywydd y pwynt. Mae'n amlwg ei bod wedi clywed y pwyntiau a godwyd gennych. Ar y dull o ymdrin â fisâu a mewnfudo ac yn y blaen, nid oes ond raid ichi edrych ar yr anawsterau a gafwyd gyda'r sefyllfa fisa mewn perthynas ag Wcráin, a chredaf fod hyn oll yn erydu enw da y DU yn rhyngwladol fel arweinydd byd-eang ym maes diogelu hawliau dynol.
Mae cwestiwn 5 [OQ58127] wedi'i dynnu'n ôl. Felly, cwestiwn 6, Mabon ap Gwynfor.
6. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith y bydd torri niferoedd Aelodau Seneddol Cymru yn Senedd y DU yn ei chael ar y broses o graffu ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru? OQ58131
Diolch am y cwestiwn. Mater i'r ddeddfwrfa honno yw penderfynu ar gyfansoddiad y ddeddfwrfa. Rhaid i Gymru gael ei chynrychioli'n llawn ac yn deg yn Nhŷ'r Cyffredin er mwyn sicrhau bod ei buddiannau mewn deddfwriaeth a gadwyd yn ôl—a lle bo'n briodol, deddfwriaeth wedi'i datganoli—yn cael eu hadlewyrchu'n briodol.
Diolch yn fawr iawn am yr ymateb. Mae gen i ryw syniad y bydd elfennau o'r drafodaeth yma yn cael eu gwyntyllu eto maes o law yn y Siambr yma, ond wrth ein bod ni'n gweld cwymp sylweddol yn y nifer o'n cynrychiolwyr ni yn San Steffan a, diolch byth, mwy o gyfrifoldebau yn dod drosodd i'r ddeddfwrfa hon, ydy'r Gweinidog yn cytuno felly bod angen mwy o Aelodau etholedig yma er mwyn craffu a sicrhau ein bod yn cael y ddeddfwriaeth orau posib i wasanaethu pobl Cymru, ac, mewn gwirionedd, nad refferendwm ar gynyddu faint o Aelodau sydd yn y Senedd yma sydd ei angen, ond yn hytrach, pan ddaw'r amser, refferendwm ar annibyniaeth i Gymru?
Wel, a gaf fi ddiolch ichi am y cwestiwn atodol a'r pwyntiau a godwch? Efallai y caf droi at y pwynt olaf yn gyntaf, hynny yw, mae'n ddiddorol, onid yw, fod y feirniadaeth yr eir ar ei thrywydd yn ymwneud â refferendwm. Mae fy marn i'n glir iawn, ac rwyf wedi gwirio ac mae maniffesto Llafur Cymru 2021, maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru 2021, maniffesto Plaid Cymru 2021, a maniffestos cyn hynny, rwy'n credu, yn rhoi mandad cryf iawn o ran diwygio. Pe bai refferendwm ar newid cyfansoddiadol fel y cyfryw, ac ar nifer yr Aelodau, mae'n ddiddorol iawn, onid yw, na fu refferendwm wrth benodi 84 o Arglwyddi newydd gan y Prif Weinidog presennol ers iddo ddod i rym heb fod yn hir yn ôl. Newidiadau i system bleidleisio meiri yn Lloegr i'w gwneud yn haws i'r Ceidwadwyr ennill seddi—ni chafwyd refferendwm ar hynny. Cyflwyno dulliau adnabod pleidleiswyr a chyfyngiadau eraill ar bleidleisio—ni chafwyd refferendwm ar hynny. Ac wrth gwrs, ni chafwyd refferendwm ar y gostyngiad yn nifer y seddi seneddol yng Nghymru—ni chafwyd refferendwm ar hynny. O leiaf mae gennym fandad a hawl i ddilyn y mandadau hynny y cawsom ein hethol arnynt.
Ond a gaf fi drafod y pwyntiau pwysig ar graffu? Mae rôl graffu deddfwrfa yn gwbl hanfodol i ddemocratiaeth iach, felly yn fy marn i mae cynyddu nifer yr Aelodau o'r Senedd yn adlewyrchu rôl a chyfrifoldebau'r Senedd, sydd wedi cynyddu'n sylweddol ers i'r sefydliad hwn agor ei ddrysau am y tro cyntaf ym 1999. Mae bellach yn Senedd. Mae ei chyfrifoldebau a'i swyddogaethau yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r rhai a fodolai pan gafodd ei sefydlu'n wreiddiol. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw bod gwerth democratiaeth yn rhywbeth y mae'n rhaid i bob un ohonom ei ystyried ein hunain, a phwysigrwydd hynny. Yn anffodus, gyda'r Ceidwadwyr, maent yn gwybod pris popeth, fel y dywedodd Aneurin Bevan, a gwerth dim byd. Ac rwy'n ystyried bod ein democratiaeth yn werthfawr iawn, ond rwy'n siŵr y bydd y pwyntiau hyn i gyd yn cael eu gwneud heb fod yn rhy hir.
7. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud ynghylch i ba raddau y mae Llywodraeth y DU yn glynu wrth egwyddorion confensiwn Sewel? OQ58124
Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth y DU, ar sawl achlysur, wedi dangos diffyg ystyriaeth annerbyniol o gonfensiwn Sewel. Rydym wedi mynegi ein pryderon ynglŷn â'r tramgwyddau hyn yn rymus a byddwn yn parhau i bwyso am roi'r confensiwn ar sail briodol.
Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Cytunaf â'r hyn yr ydych newydd ei ddweud. Roeddwn hefyd yn falch o glywed bod y Torïaid Cymreig wedi cefnu ar eu hymdrechion penderfynol i amddiffyn penderfyniad Llywodraeth y DU i atal cyllid sy'n gysylltiedig â HS2 i Gymru. Nawr, rydym yn gwybod onid ydym, Gwnsler Cyffredinol, fod y setliad presennol, fodd bynnag, yn dal i ganiatáu i Dorïaid y DU esgus bod rheilffordd rhwng Llundain a Manceinion o fudd i Gymru, felly nad oes angen cyllid. Safbwynt rhyfedd iawn i'w arddel. Gwnsler Cyffredinol, pa wahaniaeth y byddai codeiddio'r confensiwn yn ei wneud i'r safbwynt hwn sy'n amlwg yn fondigrybwyll?
Diolch ichi am y cwestiwn atodol hwnnw. Ar y pwynt olaf a wnaethoch am HS2, a gaf fi ddweud fy mod yn falch dros ben fod y Ceidwadwyr Cymreig bellach yn cytuno â'r pwynt a wnaethom y dylid cael cyllid? Rwy'n siŵr y gwrandewir ar eu dylanwad sylweddol yn San Steffan ac edrychwn ymlaen at weld y siec yn cyrraedd yn y dyfodol agos [Chwerthin.]
Ar gonfensiwn Sewel, mae hyn yn rhywbeth a godwyd gennyf fi a'r Prif Weinidog yng nghyfarfod cyntaf y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol. Fe wnaethom dynnu sylw'r pwyllgor at yr adroddiad gan Bwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi, yr adroddiad 'Respect and Co-operation: Building a Stronger Union for the 21st century', lle maent yn galw ar Lywodraethau'r Deyrnas Unedig i barchu confensiwn Sewel. Galwasom hefyd am godeiddio confensiwn Sewel a chryfhau mecanweithiau adrodd i'r Seneddau perthnasol. O ganlyniad, mae swyddogion o bob un o'r Llywodraethau wedi bod yn edrych ar gonfensiwn Sewel a'r egwyddorion ar gyfer gweithio yn y dyfodol, ac mae'r trafodaethau hynny'n parhau. Fel Llywodraeth, rydym yn parhau o'r farn mai gosod confensiwn Sewel ar sail statudol a thraddodadwy yw'r ffordd fwyaf priodol o hyd o ddiogelu'r setliad datganoli a diogelu'r Deyrnas Unedig, a byddwn yn parhau i bwysleisio'r pwynt hwn.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Mabon ap Gwynfor.
8. Pa asesiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Araith y Frenhines ar faterion sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd? OQ58129
Diolch am y cwestiwn. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar 13 Mai a oedd yn cynnwys fy nadansoddiad o raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU, ac yn benodol o ran lle mae'n debygol y byddai angen cydsyniad y Senedd.
Diolch yn fawr iawn am yr ymateb. Mae Araith y Frenhines yn sôn am ddeddfwriaeth am faterion sydd yn dod o dan gymhwysedd ein Senedd, megis y Bil addasu genetaidd, er enghraifft. Bydd hyn yn sicr yn golygu y gwelwn ni ragor o LCMs yma, ond fel yr ydym yn ei wybod o brofiad, mae trefn yr LCMs yn gwbl annigonol. Does gennym ni ddim amser i graffu, heb sôn am ymgynghori, a phob yn damaid, wrth i'r LCMs fynd heibio, mae Cymru'n colli ychydig yn fwy o'n grymoedd datganoledig, wrth i San Steffan gymryd y grym yma yn ôl damaid bach ar y tro. Pa gamau, felly, ydych chi'n eu cymryd i sicrhau, yn gyntaf, fod gennym ni ddigon o amser i graffu? Ac yn olaf, ydych chi'n cytuno y byddai'r drefn yn llawer gwell ac yn fwy taclus os byddai'r materion yma wedi cael eu datganoli yn llwyr i Gymru?
Diolch am y cwestiwn. Rwy'n credu fy mod yn cytuno â llawer o'r sylwadau. Mewn perthynas ag Araith y Frenhines, hynny yw, rydych yn iawn, mae nifer fawr o ddarnau o ddeddfwriaeth y mae'n rhaid inni eu hystyried, gyda rhai ohonynt yn effeithio ar feysydd datganoledig. Yn unol â'n Rheolau Sefydlog a'n rhwymedigaethau cyfansoddiadol ein hunain, rhaid inni ystyried y rheini a phenderfynu a fyddwn yn cytuno i gydsynio i'r ddeddfwriaeth honno ai peidio, ac mae hyn yn anochel yn arwain at brosesau trafod a negodi sy'n aml yn anodd iawn. Mae'n glir yn achos rhai meysydd p'un a ydynt wedi'u datganoli neu eu cadw'n ôl, efallai y bydd materion trawsffiniol yn codi yn achos rhai ohonynt ac yn y blaen. Felly, mae llawer o bethau'n codi. Un ohonynt, er enghraifft, fydd mater y Bil rhyddid yn sgil Brexit fel y'i gelwir a mater cyfreithiau a gedwir gan yr UE, ac wrth gwrs, yn yr achos hwnnw, rydym o leiaf wedi cael addewid y byddwn yn cael ein cynnwys yn y gwaith cynnar o lunio'r ddeddfwriaeth neu nodi'r materion sy'n berthnasol i Gymru.
Un o'r problemau o ran adnoddau, wrth gwrs, yw os mai dim ond diwrnod o rybudd a roddir i chi ynghylch darn o ddeddfwriaeth, mae'r gallu i'r Senedd hon ystyried y materion hynny'n briodol wedi'i gyfyngu'n helaeth. Mae'n broses gwbl annigonol, un sydd wedi cael ei cham-drin yn sylweddol, rwy'n credu. Cafwyd enghreifftiau lle y cafwyd gweithio cydweithredol a chynhyrchiol iawn, megis ar y fframweithiau cyffredin er enghraifft. Ond roedd Araith y Frenhines yn cynnwys nifer fawr o ddarnau o ddeddfwriaeth. Rwy'n credu mai'r pwynt sy'n codi yn y pen draw, er mwyn ymdrin â'r cyfrifoldebau hynny, yw bod arnom angen nifer digonol o Aelodau yn y Siambr hon sy'n gallu datblygu lefelau arbenigedd yn y meysydd hynny. Oherwydd mae'n ymwneud â mwy na'r gwaith yr ydym yn ei greu ein hunain mewn perthynas â'n rhaglen ddeddfwriaethol ni, mae hefyd yn ymwneud â'r ffordd y mae'n rhaid inni ymgysylltu â Seneddau eraill y DU, gan gynnwys Senedd San Steffan, mewn perthynas â'u deddfwriaeth hwy a'r effeithiau a gaiff honno ar Gymru.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
Eitem 3 sydd nesaf, cwestiynau i Gomisiwn y Senedd, a bydd holl gwestiynau y prynhawn yma yn cael eu hateb gan y Llywydd. Yr wyf wedi cytuno i grwpio cwestiwn 1 a chwestiwn 3. Cwestiwn 1, Jack Sargeant.
1. Pa gamau y mae'r Comisiwn wedi'u cymryd i ddadfuddsoddi pensiynau staff o danwydd ffosil? OQ58125
3. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i sicrhau bod pensiynau staff y Senedd a staff sy'n cefnogi aelodau yn cael eu datgarboneiddio? OQ58133
Mae cynllun pensiwn y staff cymorth yn cael ei redeg gan Aviva. Nid yw'r Comisiwn yn ymwneud â phenderfyniadau sut i fuddsoddi yr asedau. Mae penderfyniadau ar fuddsoddiadau pensiynau staff cymorth yn nwylo ymgynghorwyr buddsoddi arbenigol Aviva, sy'n ymgysylltu â chwmnïau ar faterion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu. Gall staff cymorth hefyd ddewis y cronfeydd i fuddsoddi ynddynt.
Mae cynllun pensiwn y gwasanaeth sifil, sydd ar gael i staff y Comisiwn, yn gynllun heb ei ariannu, ac felly nid oes ganddo asedau i'w buddsoddi. Telir buddion o refeniw treth yn hytrach nag o asedau a neilltuwyd i'w talu.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o fy ymgyrch i ddadfuddsoddi cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus o danwydd ffosil, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau a gefnogodd y cynnig, sy'n golygu y bydd Cymru'n arwain y ffordd yn y maes hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i Heledd Fychan am godi mater pensiynau ein staff cymorth ein hunain yn ystod y ddadl a gyflwynais ychydig wythnosau'n ôl.
Nawr, Lywydd, rwyf wedi siarad ag ychydig o staff cymorth sy'n awyddus iawn i leisio'u barn ar ddadfuddsoddi eu cronfa o danwydd ffosil, y rhai yn adeilad y Senedd yn ogystal â'r rhai yn ein swyddfeydd rhanbarthol ac etholaethol. Rwyf wedi clywed yr hyn a ddywedoch chi yn eich ymateb i fy nghwestiwn cychwynnol, nad gwaith y Comisiwn yw gwneud hynny, ond sut y gall y Comisiwn gefnogi ein staff cymorth i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed gan fuddsoddwyr eu cronfa bensiwn? Diolch.
Diolch am y cwestiwn atodol hwnnw, a deallaf fod gan y cynllun staff cymorth grŵp llywodraethiant sydd â staff arweiniol y Comisiwn ar gael i gynghori, ac felly, cysylltu â'r grŵp llywodraethiant hwnnw yw'r ffordd fwyaf priodol i staff etholaethol neu staff sy'n cefnogi Aelodau yma yn y Senedd godi unrhyw broblemau sydd ganddynt ynghylch y modd y caiff eu hasedau eu buddsoddi.
Diolch, Llywydd. Cwestiwn tebyg iawn, yn amlwg; mae Jack Sargeant a minnau'n mynd ar ôl yr un pwynt. Dwi'n meddwl mai'r pryder sydd gennym ni ydy bod yna ddim cefnogaeth ffurfiol, felly, a gweld a oedd yna rôl gan y Comisiwn i fod yn helpu’r aelodau staff hyn—. Yn sicr, o brofiad aelod o staff yn fy nhîm, mae o wedi gorfod ymgyrchu ar ei ben ei hun a ffeindio ei fod o'n gorfod gwneud lot fawr o hyn jest ar ei ben ei hun a bod yr holl wybodaeth ddim yn dryloyw chwaith o ran staff. Mae o hefyd yn anodd i ni fel Aelodau pan fo hi'n dod i recriwtio i fod yn medru rhoi'r wybodaeth honno i staff. Felly dim ond i ategu Jack Sargeant, a dweud y gwir: oes yna unrhyw beth y gall y Comisiwn fod yn ei wneud i bwysleisio bod angen edrych ar hyn a rhoi cefnogaeth i'r staff, yn lle ei fod o i fyny i bob unigolyn fynd ar ôl hyn?
Diolch hefyd am y cwestiwn yna, sy'n gofyn ynglŷn â thryloywder y wybodaeth yma i aelodau staff cymorth, ac fe wnaf i'n siŵr ein bod ni'n edrych eto ar argaeledd y wybodaeth yna o ble i chwilio am gymorth a chyngor ar bensiynau gan staff Aelodau. Fel soniais i, mae yna grŵp llywodraethu ar y cynllun pensiwn i staff cymorth yr Aelodau. Mae yna aelodau penodol o staff y Comisiwn ar gael i roi cyngor ar unrhyw fater yn ymwneud â hyn i staff cymorth. Mae cyfarwyddwr cyllid y Comisiwn a'r pennaeth pensiwn yn ddwy o'r rheini, ac felly mae'r wybodaeth yna gyda fi o'm blaen i ar y foment yma. Fe wnaf i'n siŵr, ar ôl y cwestiynau yma heddiw, fod y wybodaeth yna'n glir ac ar gael i holl aelodau staff cymorth yr Aelodau.
Yng nghynllun pensiwn yr Aelodau, gwneir penderfyniadau gan yr ymddiriedolwyr pensiwn yn dilyn cyngor proffesiynol. Y cynrychiolwyr presennol ar y bwrdd ymddiriedolwyr pensiwn yw Nick Ramsay a minnau, yn cynrychioli'r Aelodau, ac yn amlwg, byddwn yn hapus i ateb cwestiynau ar gynllun yr Aelodau gan unrhyw Aelod sy'n dymuno eu codi. Mae gan y Comisiwn ddau gynrychiolydd ar gynllun pensiwn yr Aelodau, ond ar hyn o bryd nid oes Comisiynydd yn yr un o'r swyddi hyn. A fyddai'r Comisiynwyr yn ystyried rhoi un o'u haelodau ar y cynllun pensiwn neu a fyddai'r Llywydd—a phan ysgrifennais hwn, nid oeddwn yn gwybod eich bod yn mynd i fod yn ei ateb, felly gallaf ofyn i chi'n uniongyrchol—a fyddai'r Llywydd, ar sail flynyddol, yn hoffi i mi ateb cwestiynau ar gynllun pensiwn yr Aelodau sydd, i bob pwrpas, yn gwestiynau i'r Comisiwn?
Os wyf wedi eich deall yn iawn, rydych yn gwirfoddoli i ateb cwestiynau ar yr elfen pensiynau Aelodau—
Ydw.
—byddwn yn falch iawn pe baech chi'n ateb cwestiynau ar bensiynau yn hytrach na fy mod i'n gwneud, ac rwy'n credu y byddech yn llawer mwy gwybodus, yn amlwg, ac yn fwy hyddysg na fi yn y materion hyn. Rwy'n fwy na pharod i edrych ar hynny fel ffordd ymlaen a fyddai'n arwain, rwy'n tybio, at atebion mwy ystyrlon ar bensiynau na'r rhai y gallech fod wedi'u clywed eisoes y prynhawn yma.
2. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i sicrhau nad yw bwydydd sy'n cynnwys olew palmwydd anghynaliadwy yn cael eu gweini ar ystâd y Senedd? OQ58149
Mae manyleb contract arlwyo'r Comisiwn yn cynnwys amcanion cynaliadwyedd ac amgylcheddol. Mae gan y contractwr arlwyo achrediad ISO 14001, sy'n ymwneud â pherfformiad amgylcheddol gwell. Mae ganddynt hefyd achrediad efydd nod arlwyo Bwyd am Oes Cymdeithas y Pridd. Cymeradwyaeth annibynnol yw hon i fwyd iach, wedi'i baratoi'n ffres o ffynhonnell gynaliadwy. Nod y gwasanaeth arlwyo yw defnyddio cynhyrchion sy'n cynnwys olew palmwydd cynaliadwy yn unig. Nododd adolygiad diweddar o gyflenwadau arlwyo, gan gynnwys cynhwysion ar gyfer bwyd sy'n cael ei goginio ar y safle, un cynhwysyn ar gyfer cacennau a oedd yn cynnwys olew palmwydd nad oedd yn gynaliadwy. Ni fydd y cynhwysyn hwn yn cael ei ddefnyddio o hyn ymlaen. Ac er mwyn i bawb gael gwybod, sglodion siocled oedd y cynnyrch. [Chwerthin.]
Diolch. Mae'n wych clywed hynny—roedd yn ateb gwych. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i glywed gan ddisgyblion Ysgol Cystennin ym Mochdre ar sawl achlysur, ac mae eu hangerdd dros fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn ysbrydoledig. Gwnaeth y disgyblion gyflwyniad craff yn ystod Wythnos Newid Hinsawdd ynglŷn â'r effaith ddinistriol y mae olew palmwydd anghynaliadwy yn ei chael ar ein planed a’r bywyd gwyllt yr ydym yn rhannu'r blaned ag ef. Maent yn gweithio ochr yn ochr â Sw Caer ar fenter sydd wedi arwain at statws Caer fel unig ddinas olew palmwydd cynaliadwy y byd hyd yma. Ac Ysgol Cystennin yw'r ysgol a'r gymuned Gymraeg gyntaf i gymryd rhan yn y prosiect. Ac mae'n wych fod y Senedd eisoes yn gwneud hyn, ac nid oeddwn yn disgwyl hynny, felly mae'n wych. Oherwydd roeddwn yn mynd i ofyn—byddai'n hyfryd pe bai'r Senedd yn senedd gyntaf i fod yn rhan o'r prosiect hwn. Ond a wnaiff y Comisiwn gytuno i gyfarfod â’r disgyblion i glywed eu hangerdd dros hyn, ac er mwyn iddynt glywed gennych chi am yr hyn y mae’r Comisiwn eisoes yn ei wneud, sy’n wych?
Wel, gallaf gadarnhau y byddai Senedd sy'n defnyddio olew palmwydd o ffynonellau cynaliadwy yn fwy na pharod i gyfarfod â’r ysgol sy'n defnyddio olew palmwydd o ffynonellau cynaliadwy i drafod y mater hwn. Rwy’n siŵr y gallwn, fel Comisiwn, sicrhau ein bod yn gallu cyfarfod â chynrychiolwyr o’r ysgol, a diolch i chi am yr holl waith y maent yn ei wneud fel pobl ifanc i arwain y ffordd ar y materion hyn.
4. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gofal bugeiliol y mae'n ei gynnig i'w weithlu? OQ58130
Mae'r Comisiwn wedi ymrwymo i iechyd, diogelwch a lles y gweithlu. Darperir gofal bugeiliol yn unol â strategaeth iechyd a lles y Comisiwn. Mae enghreifftiau'n amrywio o gymorth iechyd galwedigaethol, codi ymwybyddiaeth, i dudalennau iechyd a lles penodol ar fewnrwyd y staff. Adolygir yr effaith yn rheolaidd. Dwi ar ddeall bod dros 90 y cant o staff y Comisiwn yn dweud bod eu rheolwr llinell yn ystyriol o’u lles.
Diolch yn fawr iawn i'r Llywydd am yr ateb hwnnw. Fel rydych chi'n gwybod, mae'r wlad yn wynebu cyfnod anodd iawn, wrth i gostau byw wasgu ar bobl, gan wthio pobl mewn i dlodi, ac, yn wir, tlodi enbyd. Bydd yna bwysau cynyddol ar staff i ymateb i nifer fawr o achosion, rhai yn achosion dirdynnol, gan ddod â phwysau emosiynol yn ei sgil. Ydy'r Comisiwn wedi paratoi am y senario yma, ac oes modd gwneud yn glir i bob un o'r staff ynghylch pa gymorth sydd ar gael i fynd i'r afael â'r heriau emosiynol, sydd yn debygol o gynyddu?
Diolch am y cwestiwn amserol iawn yna. Ac mae hyn yn agwedd newydd o waith y Comisiwn, wrth baratoi cyfeiriadau a chanllawiau ariannol, a fydd yn nodwedd o'r cymorth sydd ar gael gan y Comisiwn. Ac mae'r cymorth ar gyfer blaendaliadau cyflog a chymorth iechyd galwedigaethol ychwanegol bellach ar waith, er mwyn sicrhau bod y cymorth sy'n briodol i'r cyfnod yma dŷn ni'n byw drwyddo ar gael i'n staff ni oll—yn eich etholaethau chi, yn ogystal â'r staff sy'n gweithio yma yn y Senedd.
5. Pa drafodaethau y mae'r Comisiwn wedi'u cael i sicrhau mwy o lais i Gymru ar y Cynulliad Partneriaeth Seneddol: fforwm newydd yr UE a'r DU a sefydlwyd o dan y cytundeb masnach a chydweithredu? OQ58121
Rydych chi'n dod yn agosach, onid ydych? [Chwerthin.]
Yn ystod y Senedd ddiwethaf a’r Senedd bresennol, mae’r Comisiwn wedi cefnogi Aelodau i bwyso am rôl i ddeddfwrfeydd datganoledig yn y Cynulliad Partneriaeth Seneddol. Mae'r trafodaethau hyn wedi'u datblygu'n bennaf gan Gadeiryddion pwyllgorau, gyda chefnogaeth staff y Comisiwn. Yn dilyn hyn, y gwahoddwyd y Senedd i anfon dau arsylwr i gyfarfod cyntaf y Cynulliad Partneriaeth Seneddol ym mis Mai, a chawsom ein cynrychioli—yn dda, mae'n debyg—gan Alun Davies a Sam Kurtz. Ar 26 o Fai, cytunodd fforwm y Cadeiryddion y dylai ymgysylltiad â'r Cynulliad Partneriaeth Seneddol gysylltu'n agos â gwaith y pwyllgorau perthnasol. Bydd dirprwyaethau'r dyfodol yn cynnwys Cadeiryddion neu aelodau a enwebir o'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.
Diolch yn fawr, Llywydd. Ac rôn i'n falch iawn, yn sicr, o glywed i ddechrau fod Alun Davies a Sam Kurtz wedi cynrychioli'r Senedd hon gydag anrhydedd. Ond rŷn ni hefyd yn falch iawn o ddarllen eu llythyr nhw, wedi iddynt ein cynrychioli ni. Mae'n dda ein bod ni wedi cael ein cynrychioli, yn enwedig gan ddau mor barchus â'r ddau yma, ond, yn sicr, mae angen mwy na jest seen and not heard, ac mae'n rhaid ei bod hi'n anodd iawn i Alun Davies to be seen and not heard. Felly, dyw e ddim yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl bod cynrychiolwyr o'r lle yma yn methu cyfrannu at ddadleuon yn ymwneud â meysydd datganoledig. Felly, ydy'r Comisiwn yma wedi cyflwyno'r safbwynt yma i'r cynulliad, a phryd bydd y rheol yma yn newid?
Fel soniais i yn yr ateb gwreiddiol, hawliau arsylwi sydd gan gynrychiolwyr o'r Senedd ar hyn o bryd, ac mae gan hynny ei gyfyngiadau, fel mae'r Aelod wedi'i grybwyll. Fe fyddwn ni fel Comisiwn, a swyddogion y Comisiwn, yn barod iawn i weithio gyda'r Aelodau sy'n ein cynrychioli ni, a'r pwyllgorau rôn i'n sôn amdano, yn hyrwyddo unwaith eto hawliau ychwanegol i'n cynrychiolwyr ni fel Senedd, fel y gallwn ni chwarae rhan gwbl gyflawn yng ngwaith y cynulliad penodol yma.
Ac yn olaf, Alun Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac ydy, mae cael eich gweld yn hytrach na'ch clywed yn dipyn o anhawster. Ond roedd yn anoddach, wrth gwrs, i Ogledd Iwerddon, oherwydd yn y dadleuon hir yr adroddwyd arnynt yn y cyfryngau, ynglŷn â dyfodol Gogledd Iwerddon—lle siaradodd pobl o bob rhan o Ewrop, o bob rhan o'r Deyrnas Unedig—nid oedd unrhyw un yno i gynrychioli Gogledd Iwerddon. A chredaf fod hynny o ddifrif yn crisialu'r argyfwng sydd gennym yng nghynrychiolaeth y DU yn y materion hyn. Dylem dalu teyrnged i Syr Oliver Heald ac i Hilary Benn, cadeirydd ac is-gadeirydd dirprwyaeth y DU, a wnaeth eu gorau i sicrhau ein bod yn cael croeso mawr ac yn rhan o ddirprwyaeth y DU, ac rwy’n ddiolchgar i Syr Oliver yn arbennig, fel cadeirydd ac fel arweinydd dirprwyaeth y DU, am ei waith yn gwneud hynny.
Ond mae'n broblem wirioneddol pan nad yw Seneddau sydd â chapasiti, cymhwysedd a hawl i siarad ar faterion penodol yn cael eu cynrychioli pan fydd y materion hynny'n cael eu dadlau a'u trafod. A chredaf ei fod yn fater ehangach sy'n ymwneud â'r cynulliad seneddol yr ydym yn ei drafod y prynhawn yma. Roedd yn fater penodol, ond mae’n fater ehangach ynglŷn â strwythur y ffordd y mae’r Deyrnas Unedig yn gweithio, a byddwn yn ddiolchgar pe gallai’r Llywydd a Llywodraeth Cymru weithio gyda’i gilydd i edrych ar y materion hynny i sicrhau bod y lle hwn yn cael ei gynrychioli’n briodol fel aelodau llawn o ddirprwyaethau’r DU lle bo hynny’n briodol yn y dyfodol.
Wel, gallwch gael fy sicrwydd i fel Llywydd y byddwn yn fwy na balch o'n gweld yn aelodau llawn gyda hawliau siarad llawn ar lawer o’r sefydliadau partneriaeth yr ydym yn ymwneud â hwy fel Senedd. Roedd Alun Davies a minnau'n Weinidogion amaeth yn yr Undeb Ewropeaidd. Hilary Benn, mewn gwirionedd, oedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amaethyddiaeth pan oeddwn i'n Weinidog amaeth. Hyd yn oed bryd hynny, roedd materion yn codi mewn perthynas â hawliau siarad i Weinidogion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r materion hynny’n parhau hyd heddiw, ac ar draws y Siambr, ni waeth beth fo’n gwahaniaethau gwleidyddol, rwy’n siŵr ein bod yn credu ei bod yn iawn, lle y ceir meysydd y mae Aelodau o’r Senedd a Gweinidogion yn gyfrifol amdanynt yma, fod gan y bobl sy'n ein cynrychioli hawl i siarad a gwneud y sylwadau sydd angen eu gwneud ar ran pobl Cymru.
Diolch, Llywydd.
Symudwn ymlaen nawr i'r cwestiynau amserol, a bydd y cwestiwn cyntaf y prynhawn yma yn cael ei ateb gan y Gweinidog Newid Hinsawdd. Rhys ab Owen.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i amddiffyn rhentwyr ar ôl gohirio gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016? TQ632
Bydd y Ddeddf rhentu cartrefi yn cryfhau hawliau tenantiaid yn sylweddol. Gwnaed y gohiriad byr mewn ymateb i’r pwysau digynsail sy’n wynebu landlordiaid cymdeithasol. Mae gennym lu o fesurau ar waith i gefnogi rhentwyr, a bydd hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Diolch yn fawr, Weinidog. Yn dilyn y datganiad ysgrifenedig a wnaed dros y toriad, pan gyhoeddwyd yr oedi byr, mae etholwyr wedi cysylltu â mi i fynegi eu pryderon ynglŷn â'r mater. Rwyf innau hefyd yn pryderu ynghylch y rheini sy'n meddwl eu bod eisoes wedi'u diogelu, ac roeddent yn pryderu bod yr oedi i'w weld yn datrys pryderon landlordiaid, yn hytrach na diogelu rhentwyr. Cafodd y Ddeddf hon—mae angen inni atgoffa ein hunain—ei phasio fisoedd cyn refferendwm Brexit, ar ddechrau mis Ionawr 2016. Ym mis Hydref 2019, tynnodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru sylw at yr oedi hir cyn i’r Ddeddf ddod yn weithredol, a nododd hynny fel enghraifft o ddiffyg arweiniad ac atebolrwydd gan Lywodraeth Cymru ym maes cyfiawnder. Felly, sut y byddech yn ymateb i bryderon rhentwyr, Weinidog? Ac a ydych yn cytuno â thrydariad Aelod Llafur o’r meinciau cefn fod angen ymchwiliad i’r chwe blynedd o oedi cyn i'r Ddeddf hon ddod yn weithredol?
Diolch. Mae hyn, wrth gwrs, yn rhan o’r cytundeb cydweithio. Anaml iawn y gwelwn ddiwygiadau mawr o’r math y mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yn eu gwneud, ac yn erbyn cefndir o bwysau cwbl ddigynsail, rydym am wneud popeth a allwn i sicrhau bod landlordiaid cymdeithasol yn enwedig yn cael digon o amser i wneud y paratoadau angenrheidiol i gydymffurfio â gofynion y Ddeddf a chael pethau'n iawn ar gyfer eu tenantiaid. Rydym yn deall, wrth gwrs, fod yr oedi'n peri rhwystredigaeth, ac rwy’n rhannu’r rhwystredigaeth honno, fel y nodais yn fy natganiad ysgrifenedig. Fodd bynnag, rwy’n llwyr gydnabod bod paratoi contractau meddiannaeth newydd a sicrhau bod y eiddo’n bodloni’r safonau addasrwydd a amlinellir yn y ddeddfwriaeth yn gryn dipyn o waith, yn enwedig i’n landlordiaid cymdeithasol, sy’n gyfrifol am lawer o adeiladau a thenantiaid.
Rwy’n arbennig o bryderus ynghylch effaith gohirio’r Ddeddf ar denantiaid preifat. Roedd yr adroddiad y llynedd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar ddyled a’r pandemig yn unfrydol ynghylch yr angen i osgoi unrhyw fwlch rhwng diwedd y rheoliadau dros dro presennol, sydd wedi diogelu tenantiaid yn ystod y cyfyngiadau symud COVID, a'r adeg y daw'r Ddeddf rhentu cartrefi i rym. Felly, mae gohirio gweithredu'r Ddeddf yn gadael bwlch enfawr yn yr amddiffyniadau hynny, a chan mai yn fy etholaeth i y mae’r gyfran fwyaf o aelwydydd rhent preifat yng Nghymru, rwy’n wirioneddol bryderus am y llu o achosion o droi allan a allai ddigwydd yn sgil y gohirio. Felly, mae landlordiaid wedi cael chwe blynedd i baratoi ar gyfer y Ddeddf rhentu cartrefi, fel y nodwyd eisoes gan ein cyd-Aelod, Rhys ab Owen, ond pa sylwadau a gawsoch gan denantiaid? A pha gynlluniau sydd gennych i ailgyflwyno'r gwaharddiad ar droi pobl allan heb fai gyda rhybudd o lai na chwe mis hyd nes y gallwn roi'r Ddeddf rhentu cartrefi ar waith?
Diolch, Jenny. Felly, yn amlwg, mae'n destun gofid ein bod wedi gorfod cymryd y cam hwn, ond rydym mewn cyfnod digynsail. Yn benodol, mae landlordiaid cymdeithasol ledled Cymru yn ein helpu gydag argyfwng ffoaduriaid Wcráin, ac mae gennym nifer fawr o achosion o ddigartrefedd ledled Cymru y bydd yn rhaid inni ymdrin â hwy ar yr un pryd. Nid yw landlordiaid wedi cael chwe blynedd i roi’r Ddeddf ar waith. Pasiwyd y Ddeddf chwe blynedd yn ôl, ond o ran y rheoliadau a oedd yn gysylltiedig â'r Ddeddf, nid yw pob un o’r rheini'n weithredol ar hyn o bryd; bydd pob un ohonynt yn weithredol erbyn diwedd tymor y Senedd hon. Y rheoliadau hynny sy’n nodi ffurf a chynnwys y contractau meddiannaeth, er enghraifft, ac yn gwbl briodol, rhoesom chwe mis i landlordiaid rhwng pasio’r rheini a rhoi’r Ddeddf ar waith.
Ni allai unrhyw un fod yn fwy siomedig na minnau na fu modd inni sicrhau bod amddiffyniadau'r rheoliadau COVID yn parhau'n ddi-dor i mewn i'r Ddeddf hon, a gwnaethom ymdrechu'n galed iawn i wneud hynny, ac ni fu'n bosibl. Ond hoffwn roi sicrwydd i'r Aelod nad oes unrhyw fudd i landlordiaid droi tenant allan yn awr a chychwyn contract meddiannaeth newydd, oherwydd byddent yn cael eu dal gan y Ddeddf pan ddaw i rym wrth gwrs. Felly, mae'n anodd iawn deall pam y byddent yn gwneud hynny, oni bai eu bod am ddod allan o'r sector rhentu preifat yn gyfan gwbl, am eu bod am feddiannu'r tŷ eu hunain neu am eu bod am ei werthu, ac os felly, byddent yn gwneud hynny beth bynnag, yn annibynnol ar weithrediad y Ddeddf.
Rydym yn gweithio’n galed iawn gyda Shelter Cymru i sicrhau bod ein holl rentwyr yn cael y cyngor cywir. Rydym yn rhoi grant o £1,491,847 i Shelter Cymru bob blwyddyn i dalu am wasanaethau cyngor a gwybodaeth yn y maes tai, gwasanaeth atal digartrefedd cynnar, gwasanaeth ymwybyddiaeth LHDT+ a Daliwch Sylw. Rydym hefyd wedi darparu cyllid ychwanegol i Cyngor ar Bopeth ar gyfer cyflwyno llinell gymorth dyledion ar gyfer y sector rhentu preifat, lle y gall tenantiaid siarad â chynghorwyr annibynnol, hyfforddedig a all eu helpu i gynyddu eu hincwm, eu cynorthwyo i hawlio budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt, a chynnal asesiad o fforddiadwyedd i helpu gydag ôl-ddyledion rhent neu ddyledion eraill y cartref.
Rwyf hefyd, wrth gwrs, wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i gwyno am eu bod, yn llechwraidd yn ôl pob golwg, wedi rhewi’r lwfans tai lleol, sy’n lleihau faint o arian y mae pobl ar gredyd cynhwysol yn y sector rhentu preifat yn ei gael tuag at eu costau tai. Rydym yn gweithio'n galed iawn gyda nifer o gynghorau a landlordiaid cymdeithasol i sicrhau ein bod yn derbyn unrhyw eiddo gan landlord sector preifat sy'n barod i'w drosglwyddo i ni yn hirdymor yn unol â'n strategaeth lesio.
Felly, er na allai unrhyw un fod yn fwy rhwystredig na mi ynglŷn â’r angen i wneud hyn, rwy’n derbyn yn llwyr fod y landlordiaid cymdeithasol yn enwedig yn ei chael hi’n anodd rhoi hyn ar waith wrth iddynt ein cynorthwyo, yn fwyaf arbennig, gydag argyfwng ffoaduriaid Wcráin ar hyn o bryd. O dan yr amgylchiadau hynny, fe wnaethom gytuno, yn gyndyn, i ohirio gweithredu'r Ddeddf.
Mae'n llawer rhy amlwg fod senario wedi'i chreu lle y ceir bwlch yn y diogelwch rhag troi allan heb fai rhwng y rheoliadau brys COVID a'r amddiffyniad a gynigir gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, sydd bellach wedi'i gohirio, fel y clywsom, tan ddiwedd 2022, gan gynnig hyd yn oed mwy o amser i landlordiaid preifat diegwyddor droi tenantiaid allan cyn iddynt gael eu clymu i gontractau newydd o dan y Ddeddf. Mae angen diogelwch ar denantiaid yn awr yn fwy nag erioed, yn enwedig gyda'r cynnydd mewn rhenti a'r argyfwng costau byw. Mae gwaith achos Shelter Cymru yn cynnwys deirgwaith yn fwy o achosion o droi allan heb fai ar hyn o bryd na'r niferoedd yr oeddent yn eu gweld cyn y pandemig. Mae bron bob un ohonynt bellach yn cynnwys cyfnod rhybudd o ddau fis, sy'n gadael fawr iawn o amser ar gyfer atal digartrefedd. Mae nifer yn pryderu y bydd yr ansicrwydd hwn yn parhau tan fis Rhagfyr. Mae llawer o landlordiaid yn gwerthu eu heiddo oherwydd prisiau tai uchel a'r ansicrwydd economaidd sydd o'u blaenau, sy'n golygu bod gohirio'r Ddeddf rhentu cartrefi wedi'i amseru'n wael iawn yn wir ar gyfer gwasanaethau digartrefedd. Nid yw'r cyflenwad o dai cymdeithasol yn agos at fodloni'r galw, mae rhestrau aros yn enfawr ac mae tenantiaid yn wynebu bygythiadau difrifol. Felly, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu amddiffyn tenantiaid rhag cael eu troi allan hyd nes y bydd y Ddeddf rhentu cartrefi ar waith o'r diwedd, a sut y maent yn bwriadu sicrhau bod y cyflenwad o dai cymdeithasol yn bodloni'r galw, a hynny ar fyrder?
Diolch, Mabon. Credaf imi ateb rhan sylweddol o hynny yn fy ateb i Jenny Rathbone. Rydym yn ariannu ystod eang o asiantaethau cynghori, yn fwy penodol, Shelter Cymru, i roi cyngor a chymorth i denantiaid sydd mewn sefyllfa lle y gallent fod yn cael eu troi allan. Rydym hefyd yn darparu cryn dipyn o gymorth grant wrth gwrs, gan gynnwys cymorth grant i denantiaid yr effeithiwyd arnynt gan ôl-ddyledion rhent o ganlyniad i bandemig COVID-19, ac mae’r mandad hwnnw’n parhau i fod ar waith. Rydym hefyd mewn sefyllfa lle rydym yn cynorthwyo nifer o gynghorau, yn arbennig, a landlordiaid cymdeithasol i gymryd meddiant ar eiddo sector rhentu preifat lle bo hynny'n briodol.
Dywed Mabon ap Gwynfor fod nifer o landlordiaid yn gwerthu eu heiddo. Nid oes unrhyw dystiolaeth o hynny yn y cofrestriadau o landlordiaid sector preifat. Mae gennym nifer o landlordiaid sector preifat yn dod oddi ar gofrestr Rhentu Doeth Cymru, ond mae gennym nifer cyfartal yn ymuno. Rydym yn cadw llygad barcud ar hynny am ein bod yn cael clywed yn gyson fod y sector rhentu preifat yn crebachu o ganlyniad i ymyriadau amrywiol a wnaethom, gan gynnwys y Ddeddf rhentu cartrefi, os caf ddweud, ond mewn gwirionedd, nid oes unrhyw dystiolaeth wirioneddol o hynny ar hyn o bryd.
Rwy’n ymwybodol iawn fod tenantiaid yn wynebu rhenti cynyddol, fodd bynnag, yn enwedig mewn ardaloedd lle y ceir galw mawr fel canol Caerdydd, fel y nododd Jenny Rathbone yn glir, ac yn wir yng nghanol fy etholaeth fy hun, yn Abertawe. Rydym yn ymwybodol iawn o hynny ac fel y dywedais, rydym wedi gwneud nifer o sylwadau ar y lwfans tai lleol, ac rydym yn parhau i ymdrechu i sicrhau bod landlordiaid yn ymwybodol o’n cynlluniau lesio i roi incwm gwarantedig iddynt os ydynt yn barod i roi eu tŷ i ni am gyfnod o amser er mwyn inni sicrhau ei fod yn cyrraedd y safon. Felly, rydym yn gwneud nifer o drefniadau eisoes i ddiogelu rhentwyr, mae’n parhau i fod yn flaenoriaeth uchel iawn i’r Llywodraeth, ac wrth gwrs, rydym yn awyddus i roi’r Ddeddf rhentu cartrefi ar waith cyn gynted â phosibl.
Fodd bynnag, rydym am ei rhoi ar waith mewn ffordd sy’n rhoi sicrwydd i rentwyr pan fydd yn weithredol, ac er mwyn iddynt ddeall beth yn union yw eu hawliau a’r hyn y mae ganddynt hawl iddo. Mae hwn yn newid seismig i'r cydbwysedd grym rhwng landlordiaid a thenantiaid, ac yn sicr, rydym yn awyddus i wneud hyn yn iawn ar ran y tenantiaid hynny er mwyn rhoi'r amddiffyniad y bydd y Ddeddf yn ei gynnig, ac rydym am wneud hynny'n drefnus er mwyn sicrhau bod y Ddeddf yn gynaliadwy yn fwy hirdymor.
Hoffwn ddiolch i Rhys ab Owen am gyflwyno’r cwestiwn amserol hwn gan y credaf ei fod yn fater gwirioneddol bwysig. Rwy’n siomedig iawn, ond nid wyf am ddweud fy mod yn synnu, fod dyddiad gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 wedi’i ohirio. A wnaiff y Gweinidog gynhyrchu cod gwirfoddol gan gynnwys gweithredu cap rhenti nes y bydd y Ddeddf yn weithredol? Mae gan landlordiaid preifat fuddiant ariannol mewn troi pobl allan, gan gynyddu’r rhent wedyn ar gyfer y tenant nesaf, ac mae hynny’n digwydd yn amlach o lawer nag y byddai llawer ohonom yn hoffi ei weld.
Diolch, Mike. Felly, un o'r pethau amlwg y bydd y Ddeddf rhentu cartrefi yn ei wneud pan gaiff ei gweithredu yw rhoi nifer o fesurau ar waith yn erbyn achosion dialgar o droi allan o'r math yr ydych newydd ei ddisgrifio. Ar hyn o bryd, nid oes gan rentwyr amddiffyniad rhag hynny, ac nid oes ganddynt amddiffyniad ychwaith rhag rhai o'r agweddau eraill ar y Ddeddf. Rwy’n dal i fod mor rhwystredig â phawb arall nad ydym wedi gallu rhoi’r Ddeddf ar waith mor gyflym ag yr hoffem. Bydd Aelodau—Aelodau sydd wedi gwasanaethu am gyfnod hwy yn enwedig—yn cofio inni gael cryn drafferth mewn perthynas â diweddaru systemau TG y llysoedd, a’n rhwystrodd rhag pennu dyddiad gweithredu. Mae'r broblem honno wedi’i datrys yn llwyddiannus, ond mae’n un o’r rhai mwyaf arwyddocaol a manwl a basiwyd gan y Senedd erioed.
Mae natur radical y Ddeddf hefyd wedi golygu y bu angen edrych drwy’r holl ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth yn drylwyr er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei gweithredu mor ddidrafferth â phosibl. Er enghraifft, mae angen gwneud newidiadau i Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 mewn perthynas â thrin tenantiaeth mewn achos o wahanu, sy'n amlwg yn galw am ddadansoddiad gofalus er mwyn sicrhau canlyniad teg i'r ddwy ochr. Ceir nifer o ddarpariaethau cymhleth iawn o’r fath y mae angen inni fod yn sicr yn eu cylch cyn gweithredu, ac mae gennym un gyfran o reoliadau ar ôl i fynd drwyddynt.
Diolch i'r Gweinidog. Y cwestiwn amserol nesaf yw'r un i'w ateb gan y Gweinidog iechyd ac i'w ofyn gan Jayne Bryant.
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y newyddion y bydd y grŵp sy'n berchen ar Ganolfan Ganser Rutherford yng Nghasnewydd yn cael ei ddiddymu? TQ633
Gallaf gadarnhau bod rhiant-gwmni canolfan ganser Rutherford yng Nghasnewydd wedi cofnodi ansolfedd, ac o ganlyniad, mae'r ganolfan yn debygol o gau yn ddiweddarach yr wythnos hon. Mae'r GIG yng Nghymru yn sicrhau bod cleifion sydd wedi dechrau eu triniaeth yn gallu cwblhau eu triniaeth.FootnoteLink
Diolch am eich ateb, Weinidog. Canolfan ganser Rutherford yng Nghasnewydd oedd y gyntaf yn y DU i gynnig therapi pelydr proton egni uchel, cyfleuster preifat o’r radd flaenaf sydd hefyd yn trin cleifion y GIG. Mae’r cwmni wedi nodi nifer o resymau dros benodi datodwr, ond bydd colli’r cyfleuster hwn yma yng Nghymru yn drueni mawr. Mae’r cyfleuster yn darparu gwasanaethau diagnosteg canser a thriniaeth canser ar adeg pan fo angen y staff a’r offer arnom i glirio’r ôl-groniad o gleifion canser cyn gynted â phosibl. A wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd i mi na fydd unrhyw un o gleifion gwasanaethau'r GIG a gomisiynir yn lleol yn cael eu peryglu gan benderfyniad y cwmni i benodi’r datodwr? Ac er fy mod yn sylweddoli y bydd proses ar waith er mwyn dod o hyd i brynwr newydd, a wnaiff Llywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i ystyried yr achos busnes dros ddefnyddio'r ganolfan hon i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o gleifion canser, fel canolfan ddiagnostig yn y lle cyntaf, ond o bosibl, o ran triniaeth canser hefyd?
Diolch yn fawr iawn, ac yn amlwg, mae’r newyddion hwn yn hynod o drist i’r staff yng Nghasnewydd a’r cleifion sy’n cael triniaeth yno, ac wrth gwrs, i’r economi leol. Nawr, ein blaenoriaeth, yn gyntaf oll, oedd sicrhau bod pobl sydd hanner ffordd drwy eu triniaeth yn gallu parhau â'u therapi, boed yn gleifion GIG neu breifat, gan mai diogelwch cleifion yw ein prif bryder wrth gwrs. Diolch byth, mae nifer y cleifion na fyddant wedi gorffen eu triniaeth erbyn i’r ganolfan gau yn fach iawn. Ni allaf ddweud faint yn union o gleifion yr effeithir arnynt oherwydd, a dweud y gwir, mae’r nifer mor fach, efallai y byddai’n hawdd canfod pwy ydynt. Ond y pwynt pwysig yw bod y GIG yn ailatgyfeirio unrhyw gleifion os cawsant eu hatgyfeirio yno, ac rydym hefyd yn gofalu am gleifion preifat sydd wedi dechrau triniaeth radiotherapi ond heb ei chwblhau. Ac o ran dyfodol y ganolfan yng Nghasnewydd, mae'r GIG yng Nghymru yn ystyried opsiynau i wneud defnydd o'r cyfleuster, ond mae arnaf ofn na allaf wneud sylwadau pellach ar hyn o bryd.
Peredur Owen—. Natatsha Asghar yn gyntaf. Natatsha Asghar.
Diolch, Lywydd. Weinidog, fel y mae fy nghyd-Aelod newydd ei grybwyll, mae’r newyddion y bydd canolfan ganser Rutherford yng Nghasnewydd yn cau yn siomedig iawn, a bydd yn peri cryn bryder i ddioddefwyr canser yng Nghymru. Mae pob un ohonom yn ymwybodol o fanteision therapi pelydr proton, sy'n lladd celloedd canser gan ddefnyddio technoleg sganio pelydr pensil ac sy'n caniatáu i driniaeth gael ei darparu ar union siâp y man a dargedir, ac yn wahanol i radiotherapi confensiynol, mae'r targedu manwl yn arbed meinwe iach y tu hwnt i'r tiwmor ei hun. Mae grŵp Rutherford Health wedi dweud bod pandemig y coronafeirws wedi effeithio'n andwyol ar eu busnes, gyda phobl yn wynebu oedi cyn cael diagnosis o ganser, ac oedi cyn cael eu hatgyfeirio am driniaeth yn y pen draw. Mewn ymgais i liniaru hyn, mae'r cwmni'n dweud iddynt wneud sawl cynnig i'r GIG, ac er iddynt sicrhau rhai contractau, nid oeddent yn ddigon i arbed y cwmni rhag datodiad.
Felly, Weinidog, a gaf fi ofyn: pryd y daethoch yn ymwybodol gyntaf o'r problemau ariannol a oedd yn bygwth hyfywedd canolfan ganser Rutherford? Yn ail, pa gamau a gymerwyd gennych i gynyddu nifer y cleifion canser a atgyfeiriwyd i’r ganolfan am driniaeth i ddiogelu buddsoddiad Llywodraeth Cymru o £10 miliwn yn y busnes ei hun? Ac yn olaf, a wnewch chi ymrwymo—ac rwy'n ymddiheuro am ailadrodd yr hyn y mae fy nghyd-Aelod o Orllewin Casnewydd newydd ei ddweud—i wneud popeth yn eich gallu i geisio dod o hyd i gwmni i ymgymryd â'r gwaith o redeg y ganolfan i sicrhau bod therapi pelydr proton yn parhau i fod ar gael yng Nghymru er budd dioddefwyr canser Cymru? Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Wel, mae hwn yn fater y tynnwyd fy sylw ato sawl wythnos yn ôl, felly yn amlwg, rydym wedi bod yn dilyn y mater yn agos iawn a chyda’r pryder mwyaf ar ran y bobl sy’n cael eu triniaeth yno. Mae therapi pelydr proton, fel y mae'r ddau siaradwr wedi nodi'n glir, yn ddull arbenigol iawn o drin canser. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad i ymyrryd i brynu'r cyfleuster. Yn amlwg, mae'n hynod arbenigol, a'r rheswm ein bod yn gwneud hyn yw nad ydym o'r farn ei fod er budd y cyhoedd. Yn syml, nid oes gennym y sylfaen boblogaeth i gynnal hynny.
Felly, byddwn yn cadw llygad ar y sefyllfa, wrth gwrs. Mae gan y cwmni bum prif ganolfan. Mae pedair o’r canolfannau hyn y tu allan i Gymru, felly yn amlwg, byddai wedi bod yn anodd inni gamu i mewn pan fo problemau mwy o lawer ynghlwm wrth hyn nag achub cangen Rutherford yng Nghymru yn unig.
Adleisiaf rai o’r cwestiynau gan Jayne Bryant a Natasha Asghar, ac roeddwn innau'n bryderus iawn wrth glywed y newyddion am hyn y bore yma. Hoffwn i'r Gweinidog roi gwybod i'r Senedd faint o ddiwydrwydd dyladwy a wnaed cyn i'r swm sylweddol o £10 miliwn gael ei fuddsoddi. Onid oedd y Llywodraeth yn ymwybodol o’r hyn a ddisgrifiwyd mewn datganiad gan Schroder UK Public Private Trust fel ‘strategaeth ehangu ddiffygiol’ gan y cwmni o’r flwyddyn y gwnaed y buddsoddiad? Ac a ydych yn credu bod unrhyw obaith y gellir adfer rhywfaint o'r arian cyhoeddus a'i ailddefnyddio ym maes triniaeth canser yma yng Nghymru?
Diolch yn fawr. Wel, gwnaed y buddsoddiad yn Rutherford gan reolwr cronfa a oedd yn gweithredu o dan gontract i Fanc Datblygu Cymru, ac yn amlwg, mae hynny hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru. Felly, o ran diwydrwydd dyladwy, eu cyfrifoldeb hwy fyddai hynny. Mae’r gronfa'n gronfa bortffolio, ac wrth gwrs, mae risgiau uchel ynghlwm wrth rai buddsoddiadau, ac wrth gwrs, ni allwn ddisgwyl i bob un ohonynt lwyddo. Cyrhaeddodd y gronfa ei charreg filltir gyntaf yn 2019, ac fe ddarparodd bron i £20 miliwn i Fanc Datblygu Cymru.
Diolch i'r Gweinidog.
Y datganiadau 90 eiliad yw'r eitem nesaf, ac mae'r datganiad cyntaf gan Jenny Rathbone.
Heddiw, mae'n ddeugain mlynedd er pan fu farw'r nifer mwyaf o bobl mewn un digwyddiad yn rhyfel y Falklands. Roedd y rhan fwyaf o'r 48 a laddwyd a'r dros 150 a anafwyd o ganlyniad i fomio'r Sir Galahad yn aelodau o'r Gwarchodlu Cymreig. Ac yn wahanol i'r ymladd agos a ddigwyddodd mewn brwydrau fel brwydr Goose Green, digwyddodd y colledion ar fwrdd y llong a oedd wedi'i hangori ym mae Fitzroy o flaen ein llygaid, ac rwy'n siŵr y bydd y rheini sy'n ddigon hen yn dal i allu cofio'r digwyddiad ar ein sgriniau teledu.
Roedd y Gwarchodlu Cymreig wedi cael eu cludo dan lenni'r nos i ochr arall yr ynys i ddod â hwy yn nes at yr ymosodiad nesaf ar Port Stanley, ond erbyn iddynt gyrraedd bae Fitzroy, roedd hi'n olau dydd. Ac roedd yn ddiwrnod braf a chlir. Roeddent yn gallu gweld, ac roeddent i'w gweld am filltiroedd, gan gynnwys gan filwyr yr Ariannin a oedd yn meddiannu'r bryniau uwch eu pennau. Roeddent yn darged hawdd i awyrlu'r Ariannin. Roedd eu dyfodiad yn annisgwyl ac roedd swyddogion y Gwarchodlu Cymreig yn mynnu cael eu cludo ymhellach i fyny'r arfordir i gildraeth Bluff, i ymuno â gweddill bataliwn y Gwarchodlu Cymreig a oedd yno eisoes. Ond tybiai'r arbenigwyr a oedd yn bresennol fod hynny'n llawer rhy beryglus, ac felly, wrth iddynt aros am ragor o orchmynion, gorffennodd yr un cwch glanio a oedd ar gael yn y bae ddadlwytho llong arall yn llawn o arfau cyn dechrau dod â’r bobl ar y Sir Galahad i'r lan. Chwe awr ar ôl i'r Sir Galahad gyrraedd, digwyddodd y trychineb, a dim ond arwriaeth y rheini ar yr hofrenyddion a hedfanodd i mewn i'r mwg du, ymdrechion y meddygon a'r criw i achub y rhai a anafwyd, a lwyddodd i atal mwy fyth o fywydau rhag cael eu colli.
Mae angen arweiniad da, logisteg da, lwc dda yn ogystal â dewrder i ennill brwydrau milwrol, ac yn anffodus mae'r drasiedi hon yn dangos pa mor hawdd y gallai canlyniad y Falklands fod wedi mynd y ffordd arall.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Fel y gŵyr y rhan fwyaf o'r Aelodau yn y Siambr hon, yr wythnos hon yw Wythnos Ddathlu Bwyd a Ffermio Cymru NFU Cymru, dathliad gwych o amaethyddiaeth Cymru, ein cynnyrch byd-enwog a chryfderau sy'n ystyriol o'r hinsawdd. Ffermio yw conglfaen diwydiant bwyd a diod Cymru sy'n werth £7.5 biliwn, ac sy'n cyflogi dros 229,000 o weithwyr gan gyfrannu miliynau o bunnoedd i economi Cymru o flwyddyn i flwyddyn.
Mae ein bwyd a'n cynnyrch gwych wedi cyrraedd pob cwr o'r byd. O gig oen morfa heli Gŵyr i datws cynnar sir Benfro a godir â llaw ac sydd wedi ennill gwobrau lu, mae ein ffermwyr yn gweithio 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn i roi bwyd o'r radd flaenaf o Gymru ar ein byrddau. Mae'r wythnos hon yn gyfle perffaith i bob un ohonom roi eiliad i ddiolch i'n ffermwyr gweithgar am bopeth a wnânt. Ein ffermwyr yw ceidwaid naturiol ein tir, ac maent yn arwain ar safonau lles anifeiliaid mawr eu bri, a datblygu mentrau sy'n ystyriol o'r hinsawdd i ddiogelu ein planed, ac mae ein cymuned amaethyddol yn gwneud cymaint i ddiogelu ac ymgorffori ein hiaith a'n diwylliant Cymreig gwych.
A chyda hynny, Ddirprwy Lywydd, y cyfan rwy'n ei ofyn yw i'r Aelodau ymuno â mi i achub ar y cyfle a dweud, 'Diolch yn fawr iawn' wrth ein ffermwyr i gydnabod eu hymrwymiad diysgog a'u cyfraniadau hanfodol i Gymru. Diolch.
Nesaf yw'r cynnig i ethol Aelod i bwyllgor, a galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Darren Millar.
Cynnig NDM8021 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14:
1. Yn ethol James Evans (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn lle Peter Fox (Ceidwadwyr Cymreig).
Cynigiwyd y cynnig.
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Darren Millar.
Eitem 6 y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd, 'Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Huw Irranca-Davies.
Cynnig NDM8014 Huw Irranca-Davies
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd, 'Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru’.
2. Yn cymeradwyo’r cyfarwyddiadau polisi a argymhellir ynghylch deddfwriaeth i ddiwygio’r Senedd mewn digon o amser ar gyfer etholiadau nesaf y Senedd yn 2026.
3. Yn nodi bod yr adroddiad hefyd yn galw ar y Senedd i drafod nifer o faterion sy’n gysylltiedig â diwygio’r Senedd.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn gyntaf, hoffwn ddweud cymaint o fraint oedd cael gwahoddiad i gadeirio'r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd. Mae hefyd wedi bod yn bleser mawr cadeirio pwyllgor lle mae'r aelodau unigol—Jane Dodds yn cynrychioli'r Democratiaid Rhyddfrydol; Jayne Bryant ar ran Llafur; Siân Gwenllian ar ran Plaid Cymru; a, hyd nes inni ei golli yn yr ychydig wythnosau olaf, Darren Millar i'r Ceidwadwyr hefyd, a diolchwn iddo am ei gyfraniadau meddylgar niferus i drafodaethau'r pwyllgor dros y saith mis diwethaf; ynghyd ag Elin Jones mewn rôl arsylwi—wedi astudio'r dystiolaeth a gwrando ar safbwyntiau ei gilydd, wedi canfod tir cyffredin yn aml a sefydlu meysydd o arlliwiau neu anghytundeb llawn ar adegau eraill tra'n cadw parch at safbwyntiau ei gilydd, a pharch at bwysigrwydd y gwaith y gofynnwyd inni ei gyflawni gan y Senedd. Ar ran y pwyllgor cyfan, hoffwn ddiolch hefyd i'r tîm integredig o swyddogion sydd wedi darparu gwasanaeth rhagorol inni. Ni ellid bod wedi cyflawni ein tasg heb gefnogaeth anweledig y gweision cyhoeddus nodedig hyn. Hoffem ddiolch hefyd i’r rheini a ymgysylltodd â’r pwyllgor, sydd wedi ein herio ac sydd wedi rhannu eu syniadau, eu tystiolaeth a’u profiad â ni.
Os na chymeraf ymyriadau y tro hwn, Ddirprwy Lywydd, rwy'n gwneud hynny o gwrteisi i'r hyn y tybiaf y bydd yn nifer fawr o siaradwyr sydd am gyfrannu heddiw, nid o amarch at y rhai sydd eisiau gwneud ymyriad.
Dechreuwyd ar ein gwaith yr hydref diwethaf, ac rydym bellach wedi cyflawni ein tasg, a roddwyd inni gennych chi, y Senedd, i gyflwyno argymhellion ar gyfarwyddiadau polisi ar gyfer Bil Llywodraeth Cymru ar ddiwygio'r Senedd erbyn diwedd mis Mai 2022. Caiff ein pwyllgor ei ddiddymu yn dilyn y ddadl hon yn y Cyfarfod Llawn ar ein hadroddiad terfynol. Felly, mae ein hamser yn prysur ddod i ben.
Mae adroddiad ein pwyllgor yn nodi pecyn integredig o gynigion ar gyfer Senedd gryfach i gynrychioli pobl Cymru yn well, a chynllun i'n helpu i wireddu hynny. Credwn y gall ein cynigion ennyn cefnogaeth o leiaf y 40 Aelod sy'n angenrheidiol ar gyfer uwchfwyafrif yma yn y Senedd hon. Fel y dywedwn yn yr adroddiad, credwn yn gryf fod y diwygiadau hyn yn hanfodol a'u bod yn gyraeddadwy cyn 2026, ond i wneud hynny, ni allwn betruso nac oedi.
Heddiw, gallwn ni yn y Siambr hon ddewis anfon neges glir i'r Llywodraeth fod yna gonsensws yn awr y dylem symud ymlaen. Wrth gyflwyno'r adroddiad hwn, rwyf fi ac aelodau'r pwyllgor yn ymwybodol ein bod yn wir yn sefyll ar ysgwyddau cewri, ac nid dim ond un neu ddau gawr ychwaith: y diweddar Arglwydd Richard, Syr Paul Silk, yr Athro Laura McAllister ac aelodau'r panel arbenigol annibynnol, cyn Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd, Dawn Bowden, ein Haelod Senedd ein hunain, i enwi ond ychydig. Ac fel y clywsom mewn trafodaethau ddoe yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog, mae penseiri a chynheiliaid Senedd gryfach a llais cryfach i bobl Cymru yn mynd yn ôl ymhellach fyth i'n hanes.
Ac eto, mae hanes datganoli'n llawn o adroddiadau a geisiai symud stori datganoli yn ei blaen, symud y Senedd hon yn ei blaen. Yn fwyaf diweddar, pwysodd adroddiad ein pwyllgor ar y sylfeini a sefydlwyd gan y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol, a'r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd, ond ni wnaethom geisio ailadrodd y dystiolaeth a gasglwyd yn flaenorol drwy eu hymgynghoriad cyhoeddus a'u trafodaethau arbenigol. Ni chafodd yr un o'r adroddiadau a'r ymchwiliadau mwy diweddar hynny yr effaith uniongyrchol y byddai eu hawduron wedi dymuno iddynt ei chael, ond maent wedi bod o fudd i ni.
Heddiw, wrth drafod adroddiad ein pwyllgor, 'Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru', cawn funud mewn amser yn ogystal, munud mewn cenhedlaeth o bosibl, lle y gallwn ddewis symud ymlaen a chyfarwyddo'r Llywodraeth i gyflwyno cynigion deddfwriaethol. Felly, edrychwn ymlaen at glywed Aelodau'n mynegi eu barn ar y cynigion heddiw, a bydd yr Aelodau yn gwbl briodol eisiau mynegi eu barn eu hunain ar eu hoff system, neu eu system ddelfrydol hyd yn oed, a'r ffordd orau ymlaen yn eu barn hwy.
Wrth wneud hynny, byddwn yn awgrymu bod dau bwynt yn haeddu eich ystyriaeth. Yn gyntaf, ni cheir un pecyn perffaith digymysg o ddiwygio etholiadol a fydd yn bodloni pawb. Ac eto, ceir rhai systemau, neu gyfuniadau o systemau, a allai geisio cyflawni nifer o amcanion mewn ffordd well, megis gwahanol fynegiadau o gymesuredd, symlrwydd, amrywiaeth, ac yn y blaen. Yn ail, ac yn anochel, yr amcan a nodwyd gan ein pwyllgor oedd dod o hyd i argymhellion y mae'n rhaid iddynt hefyd ennill cefnogaeth ar draws y Senedd gyfan—yr uwchfwyafrif hwnnw y clywir amdano mewn mythau a chwedlau—nid ceisio sicrhau rhyw weledigaeth o berffeithrwydd, a thrwy hynny aberthu ymarferoldeb a gallu i'w gyflawni erbyn 2026.
Gadewch imi droi at flociau adeiladu allweddol ein pecyn o ddiwygiadau, sef maint, system etholiadol, ffiniau, mesurau cydraddoldeb rhwng y rhywiau, gan gydnabod bod y materion hyn wedi'u plethu'n anorfod; maent yn hybu ac yn dylanwadu ar ei gilydd. Yn gyntaf, ar faint, rydym wedi dod i'r casgliad, fel pob corff aruchel a'n rhagflaenodd, nad yw'r Senedd wedi'i phweru'n ddigonol i wneud y gwaith y gofynnir iddi ei wneud. Yn fyr, nid oes digon ohonom ni ar y meinciau cefn i wneud ein gwaith yn effeithiol ar gyfer dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Mae ein pŵer craffu wedi'i gyfyngu. Nid yw ein gallu i arbenigo, i ymchwilio'n ddyfnach, i herio'n galetach, yn ddigon cryf yn ôl pob cymharydd cenedlaethol a rhyngwladol; nid oes digon ohonom.
Mae hyn yn ymwneud â chydnabod bod Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau hollbwysig sy'n effeithio ar fywydau miliynau o bobl yng Nghymru, yn rheoli cyllideb o bron i £20 biliwn, a bod angen craffu ar y penderfyniadau hynny a'u herio yn y modd mwyaf effeithiol. Rydym yn argymell, felly, y dylid cynyddu maint y Senedd i 96, nifer y dylid ei nodi mewn deddfwriaeth sylfaenol. Byddai'n sicrhau bod Cymru'n dilyn yn fras y lefelau sydd eisoes ar waith yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, er y byddent yn dal i fod, er gwybodaeth, yn is na rhai o'r cymaryddion rhyngwladol. Nid yw'n rhif hud, ond mae wedi'i glymu'n annatod wrth y pecyn ehangach o ddiwygiadau, ac yn hollbwysig, bydd hefyd yn ein galluogi i wneud cynnig cydlynol ar gyfer diwygio y gellir ei gyflawni erbyn 2026.
Gadewch imi wneud y pwynt, os methwn fanteisio ar y cyfle hwn i arfogi ein Senedd yng Nghymru, y Senedd hon, â'r capasiti i gyflawni'r cyfrifoldebau ychwanegol sydd gennym yn awr—y pwerau deddfu sylfaenol, y pwerau amrywio trethi a benthyca; y beichiau deddfwriaethol, polisi a rhyngseneddol ychwanegol a pharhaus a roddwyd arnom mewn senario ôl-Brexit; yr ymwybyddiaeth gynyddol o'n cyfrifoldebau ymhlith y cyhoedd, yn enwedig oherwydd y pandemig; a'r potensial hwnnw, nad yw'n afrealistig, o gyfrifoldebau ychwanegol yn y dyfodol—nid sefyll yn ein hunfan yn unig y byddwn yn ei wneud, byddwn yn mynd wysg ein cefnau fel Senedd, a byddwn yn peri i'r Senedd hon fethu.
Mae ein pecyn o ddiwygiadau hefyd yn cynnwys newidiadau i'r system etholiadol ei hun. Mae'n bosibl fod y system Aelodau cymysg hybrid sydd gennym ar hyn o bryd wedi cyflawni ei diben i ddechrau, ond nid yw'n addas i'r diben yn awr nac ar gyfer y dyfodol; mae'n gymhleth i'r cyhoedd, mae'n arwain at ddau fath o Aelod ac yn y blaen. Bydd ein cynigion ar gyfer system gynrychiolaeth gyfrannol gan ddefnyddio rhestrau caeedig, yn gymesur â'r system bresennol fan lleiaf, neu'n well na hi; mae'n fath o bleidleisio sy'n gyfarwydd i bleidleiswyr ac mae'n hawdd ei ddeall, gan ei bod yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd yn rhan o system etholiadol bresennol y Senedd.
Mae'r newidiadau i'r system etholiadol, a'r cynnydd yn aelodaeth y Senedd, yn ei dro, yn rhoi cyfle inni ystyried mesurau i sicrhau bod y Senedd yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru yn well, gan reoli'r risgiau cymhwysedd deddfwriaethol ar yr un pryd. Felly, rydym yn cynnig y dylid cyflwyno cwotâu rhywedd deddfwriaethol a mesurau eraill i hyrwyddo a sefydlu gwell cydraddoldeb ac amrywiaeth yn aelodaeth ein Senedd yn hirdymor. Gallwn fod yn falch o'n hanes mewn perthynas â rhywedd, ond ni allwn fod yn fodlon. Rhaid inni gymryd y cam nesaf yn awr i sicrhau mai ni fydd y wlad gyntaf yn y DU i ymgorffori cydbwysedd rhwng y rhywiau yn ddeddfwriaethol yn ein Senedd. Y tu hwnt i'r cynigion deddfwriaethol uniongyrchol, mae ein hadroddiad hefyd yn argymell camau gweithredu ar amrywiaeth ehangach hefyd.
Ar y ffiniau a'r mecanwaith adolygu ffiniau y bydd ei angen yn awr, roedd ardaloedd etholiadol cyfartal yn un o alwadau mawr gwrthryfel y Siartwyr yng Nghasnewydd ym 1839. Roeddent yn iawn, ac eto mae ein ffiniau presennol yn gwarantu pleidleisiau anghyfartal. Mae ffiniau etholiadol ein Senedd hefyd yn anhyblyg bellach, heb unrhyw fecanwaith i'w hadolygu. Nid dyma'r ffordd i gynnal democratiaeth. Felly, rhaid inni gymryd y cam hwn i lunio comisiwn ffiniau annibynnol a all bennu ffiniau Cymru yn unol ag anghenion Cymru ei hun, gan ddarparu'r pwerau i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol presennol Cymru, ond bod hwnnw'n cael ei ailenwi a'i ailgyfansoddi i adlewyrchu ei swyddogaethau newydd. Mae'r cynigion hyn yn ein galluogi i sefydlu etholaethau mwy cyfartal ac aml-Aelod cyn 2026, yn seiliedig ar baru etholaethau newydd San Steffan.
Gan edrych ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau heddiw, gadewch imi gloi drwy ddweud bod yr adroddiad hwn ymhell o ddiwedd y daith i ddiwygio'r Senedd. Bydd angen mynd i'r afael â Bil Llywodraeth Cymru i sicrhau bod newid yn digwydd yn ddi-oed. Yna, bydd gennym gyfleoedd pellach i graffu ar y ddeddfwriaeth honno. Ond, heddiw, rhaid inni gymryd y cam cyntaf.
Heddiw, gallwn anfon mandad clir at Lywodraeth Cymru i gyflwyno'r ddeddfwriaeth sydd ei hangen ac i nodi llwybr clir ar gyfer diwygio ein Senedd. Gallwn ddewis rhoi llais cryfach i bobl Cymru a chynnwys cydraddoldeb ac amrywiaeth cynrychiolaeth wrth wraidd y Senedd hon, lle mae'r pleidleisiau'n fwy cyfartal. Gallwn lunio Senedd sy'n addas ar gyfer heddiw ac sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Mae'r achos dros newid yn fater brys; mae'n hanfodol, ac mae modd ei gyflawni cyn 2026. Ddirprwy Lywydd, edrychaf ymlaen at glywed gan Aelodau eraill.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Galwaf ar Darren Millar i gynnig gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd yn ei enw ei hun.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu at y datganiad sefyllfa ar ddiwygio'r Senedd gan Lywodraeth Cymru ar 10 Mai 2022 a oedd yn tanseilio annibyniaeth a gwaith y pwyllgor.
Gwelliant 2—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at y ffaith na fyddai'r system bleidleisio a gynigir gan y pwyllgor yn caniatáu i bleidleiswyr bleidleisio dros ymgeisydd unigol o'u dewis.
Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Gadeirydd y pwyllgor am ei eiriau caredig am fy nghyfranogiad ynddo. Cynigiaf y gwelliannau, sydd wedi'u cyflwyno yn fy enw i, ac ni fydd yn syndod o gwbl i neb yn y Siambr hon y byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynnig sydd ger ein bron heddiw, oherwydd ni allwn gefnogi, ar feinciau'r Ceidwadwyr Cymreig, cynnydd yn nifer yr Aelodau o'r Senedd, a diwygiad sylweddol i'r newid yn y ffordd y caiff Aelodau'r Senedd hon eu hethol, heb i bobl Cymru gael dweud eu barn yn glir. Rwyf wedi'i ddweud droeon o'r blaen ac fe'i dywedaf eto—rwyf wedi'i ddweud yn gynharach heddiw—mae ar Gymru angen mwy o feddygon, deintyddion, nyrsys ac athrawon, nid mwy o wleidyddion, ac mae arnom angen Llywodraeth Cymru sy'n canolbwyntio'n llwyr ar fynd i'r afael â'r problemau dwys sydd gennym yn ein gwasanaeth iechyd, ein system addysg a'n heconomi, ar helpu pobl gyda'r heriau costau byw y maent yn eu hwynebu, ar gefnogi busnesau wrth iddynt ymadfer yn sgil y pandemig, ac ar helpu pobl i gael mynediad at yr apwyntiadau meddygol sydd eu hangen arnynt. [Torri ar draws.] Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad.
Credaf fod y Cadeirydd yn hael iawn am eich ymyriadau niferus, rwy'n credu mai dyna a ddywedodd, yn y pwyllgor. Mae'r rheini ohonom sydd wedi bod yn aelodau o bwyllgorau gyda chi wedi arfer â'ch ymyriadau yn y materion hyn, wrth gwrs. Sawl gwaith y gwnaethoch chi ddadlau o blaid refferendwm?
Mae mater refferendwm yn dod ar ddiwedd y trafodaethau a'r ystyriaethau, onid yw? Ac rydym ar y pwynt lle mae argymhellion wedi'u gwneud gan y pwyllgor, a phan edrychwch ar y newidiadau sylweddol sydd wedi'u hargymell, dyna pryd y mae'n rhaid ichi dderbyn nad yw'r cyhoedd yng Nghymru wedi cael dweud eu barn.
Nawr, rydym yn cydnabod bod mwyafrif yn y Siambr hon o blaid diwygio'r Senedd. Rydym wedi bod yn ddigon gonest i dderbyn mai dyna'r sefyllfa, ac ar y sail honno y cymerasom ran yn nhrafodion y pwyllgor hwn, ac ar y sail honno y cefais fy mhenodi i'r pwyllgor hwnnw er mwyn cynrychioli'r Ceidwadwyr. Cymerasom ran yn y broses honno oherwydd dywedwyd wrthym fod cyfle gwirioneddol i siapio ei waith, i siapio'r argymhellion a fyddai'n deillio ohono. Ond daeth yn gwbl glir i mi, ar 10 Mai, yn dilyn cyhoeddi datganiad gan y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru, a gyhoeddwyd i'r wasg yn gyntaf cyn iddo gael ei ddosbarthu i Aelodau'r Senedd hon, yn gwbl amharchus, ein bod wedi camymddiried yn y broses honno, oherwydd roedd y casgliadau yn yr adroddiad ger ein bron yr un peth i bob pwrpas â'r cyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru. Yn y cytundeb gweithredol, nid ydynt ond yn ailddweud, i bob pwrpas, y rhestr o geisiadau a galwadau a wnaed yn y fargen ystafell gefn byglyd a wnaeth arweinydd Plaid Cymru gyda'r Prif Weinidog.
Gofynnaf i bawb yn y Siambr hon: beth ar y ddaear yw diben sefydlu pwyllgorau yn y Senedd hon, penodi Aelodau, penodi clercod, penodi ymchwilwyr a chynghorwyr cyfreithiol, casglu tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig gan bobl, ystyried y dystiolaeth honno'n ofalus, rhoi cnawd ar rai syniadau, ac yna methu cwblhau ei waith oherwydd bod y tir yn cael ei dynnu o dan eich traed ar ddiwedd y broses? Oherwydd dyna a ddigwyddodd, ac roedd yr ymddygiad hwnnw'n warthus a dweud y gwir. Roedd yn amharchus i'r pwyllgor, yn sarhad ar y sefydliad hwn, ac mewn gwirionedd, mae ymddygiad y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru yn tanseilio'r union Senedd y maent yn dweud eu bod eisiau ei chryfhau. Beth ar y ddaear yw pwynt hynny?
Nawr, rydym i gyd yn gwybod, yn y Siambr hon, nad yw'r mwyafrif llethol o aelodau'r cyhoedd yn cefnogi cynnydd ym maint y Senedd. Dyna pam eich bod yn arswydo cymaint rhag cael refferendwm ar y mater hwn. Pe baech yn credu mewn gwirionedd y byddai'r cyhoedd yn cefnogi'r pecyn hwn o ddiwygiadau, byddech yn rhoi'r dewis i'r bobl ac yn caniatáu iddynt ddweud eu barn. Nid oedd y Blaid Lafur yn ddigon dewr i nodi ei syniadau yn ei maniffesto hyd yn oed. Fe ddarllenaf y dyfyniad ar ddiwygio'r Senedd yn eich maniffesto i chi, i'ch atgoffa, oherwydd gwn na wnaeth y rhan fwyaf ohonoch, mae'n debyg, ddarllen eich maniffesto eich hun. Roedd yn dweud hyn—. Roedd yn dweud hyn ac rwyf am ddyfynnu. Mae ar dudalen 64. Dyma a ddywedodd:
'Byddwn yn adeiladu ar waith Pwyllgor y Senedd ar ddiwygio etholiadol... ac yn datblygu cynigion i wella cynrychiolaeth pobl Cymru yn eu Senedd.'
Nid oedd yn dweud unrhyw beth, dim byd o gwbl, am fwy o Aelodau. Nid oedd yn dweud unrhyw beth o gwbl am ddileu'r system bleidleisio. Dim byd o gwbl am gwotâu rhywedd. Ac nid oedd unrhyw gyfeiriad o gwbl at ddileu'r cyfle i aelodau'r cyhoedd bleidleisio dros ymgeisydd unigol o'u dewis.
Nawr, o leiaf roedd maniffesto Plaid Cymru yn fwy gonest. A bod yn deg â Phlaid Cymru—. A chymerodd amser hir imi ddod o hyd i'r cyfeiriad, gyda llaw, yn eich maniffesto sydd oddeutu 100 tudalen o hyd. Gallaf ddweud wrthych ei fod yn ddeunydd darllen da iawn ar gyfer pobl sy'n methu cysgu. Cyrhaeddais y dudalen o'r diwedd, tudalen 117, ac roedd yn dweud hyn:
'Byddwn ni’n gweithredu argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, yn benodol',
meddai,
'yn benodol ar y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy, cwotâu rhywedd, ac ehangu’r Senedd.'
Felly, roedd rhywfaint o sôn o leiaf am ehangu'r Senedd a chwotâu rhywedd, ond wrth gwrs, maent wedi rhoi'r gorau i'w haddewid i gyflwyno, yn arbennig, pleidlais sengl drosglwyddadwy—y cyfeiriad penodol hwn yr oeddent yn teimlo'n gryf iawn yn ei gylch yn yr adroddiad penodol hwnnw. Felly, os nad oedd pobl a bleidleisiodd dros Lafur yn pleidleisio o blaid y cynigion yn adroddiad y pwyllgor heddiw am na chyfeiriwyd atynt, ac os oedd ymrwymiad maniffesto Plaid Cymru yn wahanol iawn o ran y system bleidleisio i'r hyn a oedd yn y fargen—y fargen ystafell gefn, yn y coridorau pŵer tywyll y mae Adam Price yn hoffi treulio'i amser ynddynt—os oedd y fargen a wnaed yn wahanol iawn, nid oes unrhyw fandad cyhoeddus o gwbl i gyflwyno'r newidiadau hyn. Rwy'n sylweddoli y gallai fod gennych farn wahanol, a dyna pam y dywedais, 'Rhowch y dewis i'r cyhoedd.' Rydym yn barod i brofi'r cyhoedd ac os bydd y cyhoedd yn pleidleisio drosto, byddwn yn ei gefnogi 100 y cant, yn union fel y gwnaethom gyda Brexit, oherwydd rydym yn parchu democratiaeth, yn wahanol i chi.
Felly, gadewch inni edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol o ran y gallu i newid y system bleidleisio. Wrth gwrs, rhoddodd Llywodraeth y DU, Jenny Rathbone—gallaf weld eich bod yn talu sylw mawr—rhoddodd Llywodraeth y DU, Jenny Rathbone, gyfle i bobl Cymru a'r DU gyfan bleidleisio ar gynigion i newid y system bleidleisio, i gael gwared ar y system cyntaf i'r felin a chyflwyno'r system pleidlais amgen ar gyfer etholiadau. [Torri ar draws.] Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad. A hoffech wneud ymyriad? [Torri ar draws.] Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad. Dewch.
A yw'n ymwybodol o'r nifer a bleidleisiodd? Beth oedd y nifer a bleidleisiodd ar gyfer y refferendwm hwnnw ar y bleidlais amgen?
Nid oes gennyf nodyn o'r nifer a bleidleisiodd.
Pedwar deg dau y cant.
Ond mae gennyf nodyn o—[Torri ar draws.]—mae gennyf nodyn o'r canlyniad, a gwrthododd dwy ran o dair o bobl Cymru gael gwared ar y system cyntaf i'r felin. Gwrthododd dwy ran o dair o'r bobl a bleidleisiodd y syniad hwnnw, a dyna pam y mae'n rhaid iddynt gael cyfle i bleidleisio a dweud a ydynt am wrthod y system cyntaf i'r felin yma yn y Senedd. Oherwydd mae'r gallu i bobl bleidleisio dros unigolyn, nid plaid yn unig, yn bwysig iawn, a dyna pam fod y systemau rhestrau caeedig hyn yn amhriodol a dweud y gwir. Mae yna ffyrdd eraill—mae yna ffyrdd eraill—gan ragdybio eich bod am gyflwyno system sy'n seiliedig ar restr, a buom yn archwilio'r rhain yn y pwyllgor. Buom yn archwilio'r rhain yn y pwyllgor. Os ydych am gyflwyno system sy'n seiliedig ar restr, beth am gyflwyno system hyblyg sy'n seiliedig ar restr? Mae cyfeiriad bychan ato yn yr adroddiad. Nid oes esboniad pam y diystyrwyd y system honno. Fe ddywedaf wrthych pam y'i diystyrwyd, am nad dyna'r fargen a gafodd ei tharo rhwng y ddau unigolyn a oedd i'w gweld yn cyfarwyddo aelodau eu pleidiau ar y ffordd y bydd y pethau hyn yn gweithio. Nid yw'n system dda ar gyfer democratiaeth; mae rhestrau hyblyg yn caniatáu i bobl bleidleisio dros blaid neu unigolyn. Maent yn llawer gwell.
Mae gennym bryderon hefyd ynglŷn â'r argymhelliad yn yr adroddiad hwn ar gyfer cwotâu rhywedd, ac mae gennyf bryderon am ddau reswm: (1) gallai ddifetha eich Bil yn llwyr, oherwydd gallai fod—. Yn wir, dywedwyd wrthym—y cyngor cyfreithiol i ni oedd y byddai gallu deddfu ar gyfer cwotâu rhywedd y tu hwnt i gymhwysedd y Senedd. Dyna un rheswm pam na ddylai hynny fod yn rhan o unrhyw becyn o ddiwygiadau, oherwydd mae cyfle cyfartal yn fater a gadwyd yn ôl yn llwyr i Senedd y DU. Yr ail reswm pam nad ydym yn cefnogi nac yn hybu cwotâu rhywedd yw eu bod yn hyrwyddo un agwedd ar amrywiaeth dros un arall. Nid yw'n mynd i'r afael â materion amrywiaeth—[Torri ar draws.] Nid yw'n mynd i'r afael â materion—. Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad. A hoffech chi wneud ymyriad? [Torri ar draws.] A hoffech chi wneud ymyriad? Iawn.
Felly, pe na bai cwotâu rhywedd gorfodol yn ein Bil, a fyddai'r Blaid Geidwadol yn ystyried dilyn esiampl y Blaid Lafur yng Nghymru, a chael cydbwysedd rhwng y rhywiau ers sefydlu'r Senedd?
Mae'r Blaid Geidwadol yn feritocratiaeth. Credwn—[Torri ar draws.] Credwn—[Torri ar draws.]
Hoffwn glywed diwedd cyfraniad yr Aelod, ac mae'n ymwybodol o'r amser hefyd.
Credwn—[Torri ar draws.] Rwyf wedi derbyn nifer o ymyriadau.
Rwy'n ymwybodol o'r ymyriadau, Darren.
Credwn y dylid dewis pobl fel ymgeiswyr nid oherwydd eu rhywedd, na'u hil, na'u crefydd, na'u hanabledd, ond oherwydd eu cryfderau a'u rhinweddau fel ymgeiswyr. Dyna ein cred gadarn. A gofynnaf y cwestiwn hefyd: pam fod angen inni gymryd unrhyw gamau yn hynny o beth o ystyried bod y Senedd wedi cael cynrychiolaeth 50:50—[Torri ar draws.]—cynrychiolaeth 50:50 mewn gwirionedd?
Hoffwn i'r Aelodau fod ychydig yn dawelach, os gwelwch yn dda. Rwy'n hoffi gwrando ar y cyfraniadau. Mae gennym ddadl hir iawn a llawer o Aelodau sy'n dymuno siarad. Po hiraf y byddwch yn gwneud y fath sŵn, y lleiaf o Aelodau a fydd yn gallu siarad.
Rhaid inni gofio bod y system bresennol o etholiadau wedi sicrhau cynrychiolaeth o 50:50 ar sail rhywedd yn y Senedd hon yn y gorffennol. Ac ar y sail honno, nid oes gwir angen cymryd y camau penodol hyn. Felly, pam ar y ddaear y byddai'r Llywodraeth hon yng Nghymru eisiau dechrau ar daith a ddaw i ben yn y Goruchaf Lys ar sail bresennol y setliad datganoli? Oherwydd dyna lle y daw i ben, a gallai lwyr ddifetha unrhyw waith ar ddiwygio'r Senedd yn y dyfodol.
Felly, i grynhoi, rwyf eisiau dweud hyn: nid oes mandad cyhoeddus ar gyfer y newidiadau hyn. Mae'r costau ariannol yn debygol o fod yn sylweddol iawn. Bydd yr argymhellion yn cyfyngu ar ddewis y cyhoedd mewn etholiadau ac yn torri'r atebolrwydd uniongyrchol rhwng unigolion a enwir a'u hetholwyr. Bydd yn gyfystyr â hawlio pŵer gan bleidiau gwleidyddol, oherwydd, yn y pen draw, bydd yr ymgeiswyr yn fwy atebol iddynt hwy oherwydd eu safle ar y rhestr na'r cyhoedd yr ydym ni i fod yma i'w gwasanaethu. Ac mae arnaf ofn y bydd y cynigion hyn yn gosod un agwedd ar amrywiaeth yn erbyn un arall. Ac am y rhesymau hyn, rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio yn erbyn y cynnig ac i gefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i.
Mae'r Senedd hon yn iau na phob un o'i Haelodau etholedig. Ond yn y cyfnod byr yma, mae'r sefydliad yma wedi datblygu yn anhygoel. Rŷn ni'n anghofio bod y Cynulliad cyntaf gyda llai o gyfrifoldebau cyllidol na chynghorau cymunedol. Diolch byth, rŷn ni wedi symud ymlaen o fodelau cynnar y Senedd hon a welodd Weinidogion yn eistedd ar bwyllgorau. Ac eto, er gwaethaf hynny i gyd, mae'r Senedd yn parhau i fod yn llai nag wyth o'n hawdurdodau lleol. Mae gan Gyngor Caerdydd, er enghraifft, 79 aelod—19 o aelodau'n fwy na'n Senedd genedlaethol.
Neu gadewch i mi ei ddweud mewn ffordd wahanol. Mae dros ddwywaith cymaint o Aelodau Seneddol Torïaidd wedi colli hyder yn y Prif Weinidog nag sydd o Aelodau'r Senedd yn eistedd yma.
Nid yw'r Arglwydd Thomas o Gwmgïedd byth yn cyfeirio at y setliad datganoli yng Nghymru am nad yw erioed wedi'i setlo. Rydym wedi cael o leiaf pedwar fersiwn gwahanol. Dim ond dau beth sy'n barhaus yn hanes datganoli yng Nghymru. Mae un yn eistedd wrth fy ymyl: presenoldeb parhaus pedwar o fy nghyd-Aelodau uchel eu parch. Lywydd, pe baech wedi gwasanaethu ym mhob iteriad o Senedd Gwlad yr Iâ, byddech dros 1,000 oed erbyn hyn. Yr elfen barhaus arall, wrth gwrs, yw maint y Senedd. Er y datblygiad o fod yn llywodraeth leol estynedig i fod yn Senedd fodern fel sydd gennym heddiw, rydym wedi gweld y Senedd yn aros yn union yr un faint. Gallwn ddod â'r holl adroddiadau a grybwyllodd Huw Irranca-Davies i'r Siambr hon, yr adroddiadau sydd wedi dangos yr angen am fwy o Aelodau er mwyn sicrhau craffu priodol, ond ni fyddwn yn gallu eu cario i gyd i mewn, byddent yn rhy drwm i mi. Ond maent i gyd yn gytûn fod angen Senedd fwy i wneud bywyd yn anos i bobl ar y meinciau hynny—i graffu ar Lywodraeth Cymru yn fwy effeithiol ac yn fwy effeithlon.
Nawr, mae rhai pobl wedi beirniadu fy mhlaid nad yw'r cynigion hyn yn mynd yn ddigon pell, ac maent yn iawn—nid ydynt yn mynd yn ddigon pell. Byddai'n well gennym gael system bleidlais sengl drosglwyddadwy. Fodd bynnag, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies—[Torri ar draws.] Na, nid wyf am dderbyn ymyriad; bydd gennych ddigon o amser i siarad. Fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, mae hwn yn waith sy'n mynd rhagddo, fel y mae hanes datganoli yng Nghymru wedi bod o'r dechrau.
Mae gallu system rhestrau caeedig i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn gam rhagorol ymlaen. Ein Senedd oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau ac edrychaf ymlaen at weld hynny'n digwydd eto yn y Senedd nesaf. A chlywaf y Ceidwadwyr yn siarad yn erbyn cwotâu rhywedd—o edrych ar y meinciau hynny, tybed pam eu bod yn erbyn cwotâu rhywedd. Ac er nad yw'r diwygiadau'n mynd mor bell ag yr hoffem weithiau o bosibl, mae angen cyfaddawdu i symud pethau yn eu blaenau. Os yw'r Aelodau'n cofio—wel, gall rhai ohonom gofio; efallai na all Luke Fletcher gofio—yn ôl ym 1997, roedd Plaid Cymru eisiau mynd yn llawer pellach na'r cynigion a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Lafur Newydd, ond roeddem yn barod i gyfaddawdu, oherwydd roedd yn rhaid inni gydnabod bod pobl Cymru wedi pleidleisio dros bedwar Aelod Plaid Cymru yn hytrach na'r 40—ni lwyddodd Alun Davies ar ein rhan yng Nghwm Cynon yn yr etholiad hwnnw. [Chwerthin.]
Mae'n werth atgoffa fy ffrindiau ar y meinciau gyferbyn o ambell ffaith hanesyddol. Cafodd y Ceidwadwyr eu dileu oddi ar y map etholiadol yn 1997—y tro cyntaf ers y landslide Rhyddfrydol yn 1906. Dyddiau da, yntefe, Jane Dodds? Ni lwyddodd y Torïaid i gael comeback yn San Steffan tan wyth mlynedd yn ddiweddarach, yn 2005, a chymorth mawr i'r comeback hynny oedd yr Aelodau Torïaidd a chawsant eu hethol yn y ddau etholiad Cynulliad cyntaf yn 1999 a 2003. A bryd hynny, croesawodd y Ceidwadwyr eu Cymreictod a'i natur unigryw ac roedden nhw'n cefnogi datganoli trwy air ond hefyd trwy eu gweithredoedd.
Yn ddiweddar, dywedodd Andrew R.T. Davies yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol fod angen iddynt wisgo’r crys coch yng Nghymru. Wel, Andrew, byddai cefnogi Senedd gryfach yn ddechrau da i hynny.
Cyn hir, byddwn yn colli 20 y cant o'n cynrychiolwyr yn San Steffan. Nôl yn 2016, gwnaeth un o fy rhagflaenwyr, y Ceidwadwr David Melding, lansio pamffled ar y cyfle i greu rhagor o Aelodau Cynulliad trwy dorri nifer yr Aelodau Seneddol yn San Steffan.
Roedd yr adroddiad yn dadlau, oherwydd toriad yn nifer yr Aelodau yn San Steffan, y gallem gynyddu ein niferoedd yma heb gael effaith negyddol ar bwrs y wlad. Aeth yr Athro Russell Deacon yn ei flaen a dywedodd, fel un o awduron yr adroddiad, fod bonws posibl yn hyn yn sgil Brexit—y creadur gwirioneddol brin hwnnw nad ydych wedi gallu dod o hyd iddo eto—bonws yn sgil Brexit, y gallai colli Aelodau o Senedd Ewrop ddarparu pont gyllidol i sicrhau mwy o Aelodau o’r Senedd. Mae'n siomedig felly nad yw'r Ceidwadwyr, y mae'n rhaid eu bod yn clywed 'bonws Brexit' a 'chodi'r gwastad' yn eu cwsg bellach, yn cefnogi bonws Brexit posibl yma a fyddai wir yn gwneud gwahaniaeth. Pe baem yn disgrifio buddion ariannol craffu mewn sylltau a ffyrlingau, efallai y byddech yn deall.
Os ydyn ni am drafod yn fanylach y gost wleidyddol, efallai y gall y Ceidwadwyr gael gair gyda'u ffrind nhw y Prif Weinidog—wel, y Prif Weinidog am nawr beth bynnag—Boris Johnson. Fel clywon ni, dros 80 o apwyntiadau i Dŷ'r Arglwyddi, a rhai ohonynt yn erbyn cyngor y comisiwn penodiadau—dyna beth sydd gyda ni yn San Steffan.
Rŷn ni i gyd yn gwybod bod rôl craffu'r ddeddfwrfa yn hynod bwysig i ddemocratiaeth iach. Dwi'n hoff iawn o eiriau doeth Sir Paul Silk:
'Rhaid wrth graffu da i gael deddfwriaeth dda, ac mae deddfwriaeth dda yn talu amdani ei hun.'
Mae angen Senedd gyda'r adnoddau priodol i graffu—i graffu ar dros £17 biliwn o wariant bob blwyddyn, i graffu ar ddeddfwriaeth sylweddol, a chynnal ymchwiliadau sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl Cymru.
Mae hyn yn fater o godi’r gwastad yn y Senedd fel ei bod yn addas ar gyfer y Gymru fodern, hyderus, hunanlywodraethol sydd ohoni. Bydd y rhif 96 yn ddiogel rhag y dyfodol, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies. Er bod Andrew R.T. Davies yn cyhoeddi’n berfformiadol y bydd y Ceidwadwyr Cymreig bob amser—bob amser—yn gwrthwynebu datganoli cyfiawnder, gwyddom y bydd ei benaethiaid yn Llundain bob amser yn fwy na pharod i benderfynu'n wahanol. Yn wir, roedd Boris Johnson, pan oedd yn faer Llundain, am i fwy o bwerau dros gyfiawnder troseddol gael eu datganoli iddo.
Roedd yn siomedig clywed y sylwadau am refferendwm oddi ar feinciau’r Ceidwadwyr. Onid ydynt wedi clywed am offeryn democrataidd arall, offeryn democrataidd sydd wedi cael cryn dipyn o ddefnydd dros y blynyddoedd—etholiadau, y blwch pleidleisio? Ac yn etholiad diwethaf y Senedd, roedd y mwyafrif llethol o’r cyhoedd yng Nghymru yn cefnogi pleidiau a oedd yn dymuno cael Senedd fwy a chryfach. Mae Andrew yn honni bod ei blaid yn sefyll dros ddemocratiaeth. Wel, credaf ei bod yn rhyfedd iawn fod sefyll dros ddemocratiaeth yn golygu cyfyngu ar nifer yr Aelodau etholedig, cyfyngu ar faint o graffu a gawn yn y lle hwn ac atal Senedd fwy cynrychioliadol. Mae hynny'n rhywbeth newydd i mi.
Nid yw'r hyn sy'n cael ei gynnig heddiw yn berffaith, ond dyw natur datganoli yng Nghymru ers 1997 ddim wedi bod yn berffaith. Yn 1997, roedd rhai yn y Democratiaid Rhyddfrydol, ac ym mhlaid fi fy hun, yn dadlau doedd yr hyn a oedd yn cael ei gynnig gan Lafur ddim yn ddigon da a ddylen ni ddim cefnogi hynny, tra'r oedd eraill yn dweud, 'Wel, fe wnawn ni afael yn hyn, y cynnig amherffaith hwn, trwy obeithio ei fireinio ac adeiladu arno.'
Wrth edrych yn ôl, yr ail grŵp a oedd yn gywir—diolch byth, rhoddodd Dafydd Wigley a Richard Livsey eu grym llwyr y tu ôl i’r cynnig teneuaf, ond un a oedd, o fewn ychydig flynyddoedd, wedi adeiladu’r Senedd hon.
Pe bai ein cenedl wedi pleidleisio yn erbyn datganoli am yr eildro, byddem wedi treulio’r ddau ddegawd diwethaf yn ddi-lais ac ar yr ymylon, heb allu mynd i’r afael â’r pandemig mewn ffordd a oedd yn canolbwyntio ar y gymuned, heb allu cymryd camau i amddiffyn ein dinasyddion mwyaf agored i niwed, a heb allu gwrthsefyll grym llawn y broses ddigyswllt, ddrud a thrychinebus o breifateiddio gwasanaethau cyhoeddus y mae ein cyfeillion yn Lloegr wedi’i dioddef. Y wers felly i bob un ohonom, os ydym am i'n gwlad wneud cynnydd, hyd yn oed os nad yw hynny ar ffurf y camau mawr yr ydym am eu cymryd, yw bod angen inni achub ar y cyfleoedd hynny. Oherwydd a ydym yn dymuno cael Senedd sy'n rhy fach? Ac os mai 'nac ydym' yw'r ateb, os ydym am weld Senedd Cymru sy'n fwy blaengar, yn fwy cyfrannol, yn fwy amrywiol, mae gennym gyfle heddiw i gymryd cam mawr tuag at hynny. O'm rhan fy hun, er gwaethaf amherffeithrwydd adroddiad Huw Irranca, yn y cynigion newydd, rwy'n edrych ymlaen ac mae'n fraint gennyf bleidleisio dros Senedd newydd ar gyfer yfory, yn hytrach nag aros yn yr hen Senedd annigonol sydd gennym heddiw. Diolch yn fawr.
Ym 1997, roedd fy mam yn un o gynrychiolwyr gogledd Cymru yng ngrŵp cynghori’r Cynulliad Cenedlaethol. Soniodd bryd hynny—ac rwy'n cyfaddef nad oeddwn yn talu llawer o sylw—am bwysigrwydd gwir ddemocratiaeth i Gymru. Felly, 25 mlynedd yn ddiweddarach, rwy’n sefyll yma i ddweud mai nawr yw’r amser inni adnewyddu’r weledigaeth honno ar gyfer gwir ddemocratiaeth i Gymru; democratiaeth sy’n gysylltiedig â’r bobl, sy’n gallu gwneud y gwaith yr ydym angen iddi ei wneud ac sy’n adlewyrchu’r boblogaeth. Ni allwn fforddio aros yn ein hunfan. Felly, hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog am ei weledigaeth a'i egni yn gwneud i hyn ddigwydd, ac rwy'n ddiolchgar o fod wedi cael cyfle i gymryd rhan yn y broses drawsbleidiol hon. Diolch, hefyd, i Huw Irranca-Davies am arwain y pwyllgor, i fy nghyd-Aelodau o'r Senedd, i staff y Comisiwn ac i sefydliadau allanol, y gwn fod rhai ohonynt yn yr oriel heddiw, am eu cyngor a’u cefnogaeth.
Gŵyr pob un ohonoch pa feysydd yr oeddwn yn cytuno ac yn anghytuno yn eu cylch. Yn gyntaf, y meysydd yr oeddwn yn cytuno yn eu cylch. Rwy’n falch o weld yr angen i gynyddu maint y Senedd. Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi galw ers tro am Senedd fwy, wedi’i hethol drwy system bleidleisio decach ac sy’n sicrhau mwy o amrywiaeth, atebolrwydd a thryloywder. Y ffaith amdani yw, os ydym am sicrhau bod y Senedd yn gwneud ei gwaith yn craffu ar ddeddfwriaeth a gwariant cyhoeddus, mae angen capasiti ar y Senedd a’r Aelodau i wneud cyfiawnder â hynny, yn enwedig o ystyried y newid sylweddol yn y tirlun dros y blynyddoedd diwethaf.
Yn ail, rwy'n falch fod y pwyllgor wedi gallu mynd i'r afael â mater cynrychiolaeth y rhywiau. Mae angen inni ymgorffori mesurau cau'r bwlch yn y ddeddfwriaeth i sicrhau nad ydym yn colli rhagor o dir. Mae hyn hefyd yn rhoi cyfle inni wneud cynnydd ar faterion cydraddoldeb eraill.
Nawr, y meysydd yr oeddwn yn anghytuno yn eu cylch. Fel y mae adroddiad y pwyllgor yn ei nodi'n glir, roeddwn yn anghytuno â'r rhan fwyaf o'r Aelodau mewn dau faes, gan gynnwys y ffiniau a ffefrir a’r system bleidleisio. A dyma lle rwyf hefyd yn awyddus i ddysgu mwy gan y Cwnsler Cyffredinol, a fydd yn ymateb, rwy'n credu, ynglŷn ag amseriad y cyhoeddiad gan Blaid Cymru a Llafur. Ar y bore yr oedd y pwyllgor i fod i gyfarfod, roeddwn yn drist iawn ac yn siomedig fod datganiad i’r wasg wedi’i wneud gyda chynnig cwbl newydd ar ffiniau a ffefrir nad oedd erioed wedi cael ei drafod, ac yn ôl pob tebyg, y system bleidleisio arfaethedig y cytunwyd arni. Roedd hyn o ddifrif yn tanseilio’r gwaith trawsbleidiol sy'n bwysig iawn i mi ac yr oeddwn, hyd hynny, yn teimlo’n freintiedig iawn i fod yn rhan ohono. Ac rwy’n cydnabod y teimlad y tu ôl i welliant y Ceidwadwyr. Rwy'n talu teyrnged i Darren Millar am aros ar y pwyllgor tan 10 Mai. Diolch, Darren. Diolch yn fawr iawn. Gwnaeth y cyhoeddiad dirybudd gan Blaid Cymru a Llafur anghymwynas â’r pwyllgor. Fe ragfarnodd y ddadl yma heddiw a’r broses ddeddfwriaethol a fydd yn ei dilyn. Mae'n edrych fel bradychiad ac mae'n teimlo fel bradychiad. Roedd gwneud cyhoeddiad cyn i’r pwyllgor gyhoeddi ei adroddiad, a ffafrio cynigion sydd mor wahanol i’r hyn y mae’r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym, yn gam siomedig iawn.
Ond gadewch imi ganolbwyntio ar y ddau faes rwy'n anghytuno yn eu cylch: yn gyntaf, ffiniau. Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd adolygiad o’r ffiniau yn cael ei gynnal. Fodd bynnag, yn fy marn i, ychydig iawn o synnwyr y mae dewis defnyddio a pharu ffiniau seneddol y DU yn ei wneud o safbwynt pleidleiswyr. Ac mae’n rhaid imi ddweud, rwy’n synnu bod Llafur Cymru a Phlaid Cymru am weld ffiniau a orfodir gan San Steffan ar waith wrth lunio ein democratiaeth yng Nghymru. Barn Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yw y dylai etholaethau fod yn seiliedig ar awdurdodau lleol, sy’n gwneud synnwyr i bobl yng Nghymru, a gallant uniaethu â’r rheini.
Jane, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Rydych yn dweud eu bod yn ffiniau a orfodir gan San Steffan, ond wrth gwrs, maent yn ganlyniad i waith y Comisiwn Ffiniau i Gymru. Nid ydynt yn cael eu gorfodi gan unrhyw un; maent wedi'u cynllunio i gynrychioli pobl, ac mae'n gwneud mwy o synnwyr defnyddio ffiniau a fydd yn dod, neu a fyddai'n dod, yn ddealladwy, na phennu set arall heb unrhyw reswm amlwg.
Diolch am eich ymyriad, a fy ymateb i hynny yw bod pobl yng Nghymru yn gyfarwydd iawn â'u hawdurdod lleol, a dyna oedd y pwyllgor wedi bod yn ei ystyried hyd yn hyn. Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar hynny. Nid oedd unrhyw sôn o gwbl am y cynnig i gyflwyno ffiniau etholaethau San Steffan.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
[Anghlywadwy.]
O, mae'n ddrwg gennyf. Roeddwn yn meddwl mai 10 munud oedd—
Na, nid oes gan yr Aelod 10 munud, ond mae'n cael caniatâd i barhau ychydig yn hirach nag arfer. Ond dim mwy o ymyriadau, mae'n ddrwg gennyf.
Mae'r mater arall yr oeddwn yn anghytuno â'r rhan fwyaf o'r pwyllgor yn ei gylch yn ymwneud â’r system etholiadol. Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi dadlau ers tro y dylid cynnal etholiadau gan ddefnyddio system y bleidlais sengl drosglwyddadwy, gan roi grym a dewis ystyrlon i bleidleiswyr, dod â rheolaeth pleidiau drwy etholiadau rhestrau caeedig i ben, a sicrhau bod Aelodau’n fwy atebol i’w hetholwyr nag i’w pleidiau. Ystyriodd y pwyllgor sawl system etholiadol, gan gynnwys D'Hondt a Sainte-Laguë. Canfu casgliadau'r panel arbenigol, a ystyriwyd yn fanwl gan y pwyllgor, ac rwy’n dyfynnu,
'yn gyffredinol, [fod] fformiwla etholiadol D'Hondt yn arwain at ganlyniadau sy'n llai cyfrannol na fformiwla Sainte-Laguë, ac weithiau'n llai cyfrannol na'r system bresennol.'
Cau'r dyfyniad. Mae'r cynnig ger ein bron yn rhoi'r grym i bleidiau yn hytrach na phleidleiswyr, a'r hyn sy'n peri pryder i mi yw'r llwybr gwahanol iawn yr ydym yn ei ddilyn o gymharu â'r hyn a gynigiwyd gan y panel arbenigol a phwyllgor y Senedd ar ddiwygio. Argymhellodd y ddau, ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael, sut i gyflawni egwyddorion diwygio clir iawn—model gwahanol iawn i’r un a gynigir gan Lafur a Phlaid Cymru. Felly, mae'n rhaid imi gwestiynu'r rhesymeg dros fynd i gyfeiriad gwahanol iawn i'r dystiolaeth, a Gwnsler Cyffredinol, hoffwn ofyn i chi roi rhesymau clir pam y gwrthodwyd argymhellion blaenorol y panel arbenigol.
Byddaf yn gorffen yn y man. Byddwn yn annog Llafur a Phlaid Cymru i edrych eto ar y dull etholiadol a gwneud darpariaethau, o leiaf, ar gyfer rhestrau hyblyg i roi mwy o ddewis i bleidleiswyr. Nid technegolaeth y cynigion yn unig sy'n peri pryder i mi: dyma ein cyfle i greu gwleidyddiaeth newydd sy'n gydgynghorol, yn gyfrannol ac yn amrywiol, ac sydd wedi’i llywio gan atebolrwydd a thryloywder.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n cefnogi'r egwyddor sy'n sail i ddiwygio. Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a minnau wedi ymrwymo i sicrhau Senedd a all gefnogi democratiaeth fywiog, Cymru hunanlywodraethol hyderus a Chymru lewyrchus heddiw ac yn y dyfodol. Mae gennyf amheuon ynghylch y manylion, ac rwy'n gobeithio y gall y Senedd gydweithio—gadewch inni ddychwelyd at y cydweithio trawsbleidiol gwirioneddol hwnnw sydd mor bwysig i mi—ac adeiladu ar y cynigion cynnar hyn a’u haddasu ar y cyd i sicrhau bod y diwygiadau hyn o ddifrif yn sicrhau democratiaeth real i Gymru, fel y byddai fy mam wedi'i hoffi. Diolch yn fawr iawn.
Er eglurder i'r Aelodau, rhoddais hyblygrwydd i’r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, gan ei bod yn arweinydd un o’r pleidiau a gynrychiolir yn y Senedd hon. Nid yw Aelodau eraill yn yr un sefyllfa, felly, rwy'n disgwyl iddynt gadw at eu pum munud, os gwelwch yn dda. Jenny Rathbone.
Diolch yn fawr iawn. Ni chredaf fod peidio â gwneud unrhyw newidiadau yn opsiwn, yn anad dim, fel yr amlinellwyd eisoes gan Rhys ab Owen, am nad oes gennym ddigon o Aelodau i wneud penderfyniadau priodol ac addas ynghylch craffu. Roeddwn yn arfer bod yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, felly nid oeddwn byth yn brin o enghreifftiau gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o bethau a oedd wedi mynd o chwith ac y gallent fod wedi elwa o well craffu ar gam cynharach. Credaf ei bod yn gwbl glir fod penderfyniadau gwael yn costio, a'r enghraifft berffaith o hynny yw'r castiau mewn perthynas â ffordd liniaru’r M4. Cafodd Aelodau o’r Senedd ddigonedd o gyfleoedd i graffu ar benderfyniad y Prif Weinidog ar y pryd yn 2014 i ddefnyddio pwerau benthyca newydd nid i adeiladu mwy o gartrefi, ysbytai neu ysgolion, ond i roi cynnig arall ar fynd i’r afael â thagfeydd drwy adeiladu ffordd liniaru’r M4—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, mewn munud, ond nid ar hyn o bryd. Nid yw meinciau’r Torïaid byth yn ymatal rhag ein hatgoffa o’r miliynau a gafodd eu gwario ar geisio adfer y llain ddrud hon o ffordd arfaethedig, dan eich arweiniad chi—
Mae'n ddrwg gennyf, fe ddywedoch chi fod y cyn-Brif Weinidog yn awyddus i fenthyca'r holl arian, i bob pwrpas, er mwyn adeiladu ffordd liniaru'r M4. Wrth gwrs, y Prif Weinidog presennol oedd y Gweinidog cyllid ar y pryd; ef oedd yr un a arwyddodd y llythyrau yn gofyn am i'r arian hwnnw gael ei ddarparu ar gyfer ffordd.
Iawn. Rwy’n siŵr y gall y Gweinidog cyllid siarad drosto’i hun. Ond nid oeddwn yn y Senedd yn 2014—
Oeddech, rwy'n cofio.
Wel, roeddwn yn y Senedd yn—. Nid oeddwn yn y Senedd flaenorol, yn y drydedd Senedd, ond nid wyf yn ymwybodol o unrhyw graffu priodol gan Andrew Davies neu Ieuan Wyn Jones ar benderfyniadau i gymeradwyo ac i ddileu cynlluniau, ac ni allaf gofio unrhyw graffu priodol ar y penderfyniad i wario £1 biliwn ac yna £1.5 biliwn ac yna'r hyn a fyddai’n sicr wedi codi i £2 biliwn erbyn y bedwaredd Senedd. Gallaf weld cyfeiriad byr ato mewn adroddiad gan y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â’r gyllideb, ond nid oedd unrhyw beth sylweddol iawn ynglŷn ag a oedd hon yn ffordd addas o wario £2 biliwn. O edrych yn ôl, onid ydym yn lwcus ein bod wedi gwneud penderfyniad yn 2019 i beidio â bwrw ymlaen â’r ffordd hon? Oherwydd yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd, byddai pob un ohonom yn edrych yn gwbl wirion o fod wedi gwario arian ar brosiect mor ddiwerth, pan fydd yn rhaid inni leihau ein hallyriadau o gerbydau, nid eu cynyddu.
Felly, mae maint y Senedd yn rhy fach, ac mae'n rhywbeth y mae Llafur Cymru—fel y mae Darren Millar yn rhoi sylw iddo o hyd—eisoes wedi pleidleisio arno, yn 2019 ac yn gynharach eleni, mewn perthynas â chynyddu maint y Senedd. Mae gennyf rai pryderon ynghylch y dull o bleidleisio, gan y credaf y gallai peiriannau'r pleidiau ddefnyddio rhestrau caeedig i gael gwared ar aelodau o’r garfan letchwith, ac aelodau o’r garfan letchwith yw’r craffwyr gorau, gan eu bod yn barod i feddwl y tu allan i'r bocs a chwestiynu rhesymeg daliadau hirsefydlog a allai fod wedi dyddio.
Felly, mae'r bleidlais sengl drosglwyddadwy yn opsiwn eithaf deniadol i mi, gan ei bod yn galluogi pleidleiswyr i fwrw eu pleidlais dros ymgeisydd teilwng nad oes gobaith ganddynt o gael eu hethol, o bosibl, ond heb deimlo y byddai'n wastraff pleidlais, gan y gallant gael ail ddewis wedyn ar gyfer unigolyn y credant y byddent yn hoffi ei gael fel eu dewis gorau ond un. Felly, hoffwn holi Cadeirydd y pwyllgor. Wrth drafod cyfyngiadau'r bleidlais sengl drosglwyddadwy, mae brawddeg i'w gweld ar dudalen 29 yn yr adroddiad yn nodi mai’r cyfyngiadau oedd:
'[y] gellir dadlau y gallai hyn arwain at anghydbwysedd yn ffocws yr Aelodau ar faterion etholaethol ar draul elfennau eraill o’u rolau.'
Wel, yn fy marn i, mae canolbwyntio ar anghenion fy etholwyr yn hanfodol er mwyn gwneud pob agwedd ar fy swydd, ac mae’n rhaid imi gyfaddef bod hynny'n un o'r heriau sydd ynghlwm o reidrwydd wrth orfod cael etholaethau mwy o faint er mwyn gwneud i unrhyw system gynrychiolaeth gyfrannol weithio, gan fod yn rhaid i chi—. Yn amlwg, os ydych yn mynd i ddosrannu ar sail y gyfran o'r bleidlais, bydd angen ichi gael etholaethau â mwy nag un Aelod. Ond credaf fod ffyrdd o ddatrys hynny a ffyrdd y gall pobl gytuno ymysg ei gilydd, ar ôl iddynt gael eu hethol, fod Aelod A yn mynd i ganolbwyntio ar ogledd yr ardal ac Aelod B yn mynd i ganolbwyntio ar dde’r ardal. Felly, credaf fod ffyrdd o ddatrys y broblem honno. Ond rwy'n cydnabod nad y bleidlais sengl drosglwyddadwy yw'r opsiwn a ffefrir gan lawer o bobl, a gwn fod safbwyntiau eraill o'i phlaid ac yn ei herbyn.
Jenny, a wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Credaf fod y syniad o gael refferendwm ar y dull o ethol yn gwbl chwerthinllyd, gan y cofiaf bobl yn gofyn i mi yn 2011, 'Sut y dylwn bleidleisio yn y refferendwm hwn?’, gan nad oedd syniad ganddynt beth oedd yn cael ei drafod.
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda, gan fod gennyf lawer o siaradwyr, ac mae'r amser wedi mynd?
Iawn, diolch.
Natasha Asghar.
Dof yn ôl rywdro arall.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Llais cryfach i bobl Cymru. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd unrhyw un yma yn anghytuno â’r awydd, a chymeradwyaf waith caled pawb a oedd ar y pwyllgor. Ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth hefyd fod eich calon yn y lle iawn. Fodd bynnag, credaf fod y cynnig yn adroddiad y pwyllgor diben arbennig yn ddiffygiol iawn ac y gallai atal yr union nodau y mae’n ceisio’u cyflawni.
Gadewch imi ddweud yn gwbl glir wrth bob un ohonoch heddiw, fel menyw a greodd hanes yma yng Nghymru y llynedd, fy mod o ddifrif yn dymuno gweld Senedd mor amrywiol a chynhwysol â phosibl, ac ni chredaf y gall unrhyw un ddeall faint rwy'n breuddwydio, heb swnio fel Martin Luther King, am weld Senedd â mwy o fenywod, mwy o bobl o liw, mwy o aelodau o’r gymuned LHDTPC, a mwy o bobl anabl yn eistedd yma yn ein plith bob dydd. Ac rwyf o ddifrif yn gwerthfawrogi awydd y Senedd am gynhwysiant ac amrywiaeth. Fodd bynnag, yn fy marn i gallai cyflwyno cwota rhywedd arwain at fwy o fenywod ar draul grwpiau lleiafrifol eraill a fyddai’n gwneud cyfraniad amhrisiadwy, rwy’n siŵr, i gyfansoddiad Senedd nesaf Cymru. Fel person o liw, hoffwn rannu rhywbeth pwysig iawn gyda phob un ohonoch heddiw: ni ddylai'r ymgais i sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau byth fod ar draul amrywiaeth a chydraddoldeb gwirioneddol.
Rwy’n falch o’r ffaith mai fi yw’r fenyw o liw gyntaf i gael ei hethol yma i Senedd Cymru, ond ni chyrhaeddais yma i sefyll yn eich plith heddiw oherwydd lliw fy nghroen. Mae'n fraint i mi bob dydd fy mod wedi cyrraedd yma yn ôl fy nheilyngdod fy hun a thrwy gystadleuaeth gyfartal ag ymgeiswyr Ceidwadol gweithgar a galluog iawn. Dim cydbwysedd rhwng y rhywiau, dim rhestr fer menywod yn unig, dim gwahaniaethu cadarnhaol. Mae angen i bobl Cymru fod yn argyhoeddedig nad yw Aelodau o’r Senedd hon yma am eu bod yn ‘ticio pob blwch’ neu’n cyflawni rhyw gwota artiffisial.
Nid oes unrhyw sicrwydd fod cwotâu rhywedd o'r fath neu wahaniaethu cadarnhaol hyd yn oed yn gyfreithiol. Ym mis Mawrth eleni, adroddodd yr Huffington Post fod y Blaid Lafur yn rhoi'r gorau i ddefnyddio rhestrau byr menywod yn unig i ddewis ymgeiswyr ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol y byddai parhau i’w defnyddio ar gyfer seddi San Steffan yn anghyfreithlon. Yn 2018, cymerwyd camau cyfreithiol gan grŵp o aelodau’r Blaid Lafur dros newidiadau arfaethedig i bolisi’r blaid ar gynnwys pobl sy’n hunan-adnabod fel menywod traws yn ffurfiol ar restrau byr menywod yn unig. Mae pŵer Senedd Cymru i ddeddfu mewn meysydd penodol eisoes wedi’i brofi yn y Goruchaf Lys gyda thri Bil yn y gorffennol. Gallai unrhyw her gyfreithiol i’r cynnig hwn achosi oedi sylweddol a golygu na fyddai ar waith ar gyfer etholiadau Senedd Cymru yn 2026.
Mae'r newidiadau arfaethedig yn honni eu bod yn cryfhau Senedd Cymru ac yn cynrychioli pobl Cymru yn well. Ond sut y gall hyn fod yn wir pan fydd yn cael ei orfodi? Mae’r adroddiad yn argymell y dylai fod 16 o etholaethau’r Senedd, gyda phob un yn ethol chwe Aelod o'r Senedd drwy system rhestr gaeedig gyfrannol. Ni allaf weld o gwbl sut y mae hyn yn darparu llais cryf a gwell cynrychiolaeth. Ar ôl darllen llawer o bapurau a gwrando ar ddadleuon di-ri ar hyn, mae hyn yn ddigon i fy nrysu. Mae'r system bleidleisio newydd hon yn cael gwared ar atebolrwydd uniongyrchol cynrychiolwyr etholedig i'w pleidleiswyr ac yn cynyddu grym pleidiau gwleidyddol i orfodi ymgeiswyr ar bobl leol.
Rwy'n sefyll yma heddiw ac yn dadlau yn erbyn yr honiad fod mandad yn bodoli ar gyfer y cynigion hyn. Rwy’n siŵr nad fi yw’r unig Aelod o’r Senedd y mae eu mewnflwch yn llawn o e-byst gan etholwyr yn mynegi eu pryderon a’u gwrthwynebiad i’r cynnydd yn nifer yr Aelodau yma yn Senedd Cymru wrth symud ymlaen, pan fyddai’n well o lawer gan y cyhoedd pe bai arian yn cael ei wario ar ofal iechyd, ffyrdd, seilwaith ac addysg. Felly, dywedaf wrth Lywodraeth Cymru heddiw: os ydych mor sicr y bydd y cynigion hyn yn gwasanaethu pobl Cymru yn well, rhowch lais cryfach iddynt. Os ydych yn sicr na fyddwch yn hyrwyddo un agwedd ar amrywiaeth dros rai eraill, os ydych o ddifrif yn sefyll o fy mlaen ac yn credu bod pobl Cymru yn fodlon i hyd at £100 miliwn gael ei wario ar fwy o wleidyddion dros y pum mlynedd nesaf, gofynnwch y cwestiwn hwnnw i'r bobl mewn refferendwm. Senedd y bobl yw hon, felly gadewch i bobl Cymru benderfynu.
Dwi'n falch iawn i gyfrannu i’r ddadl hollbwysig hon fel aelod o’r pwyllgor diben arbennig fu’n gweithio ar yr adroddiad sydd yn destun ein trafodaeth ni heddiw yma. Gwaith y pwyllgor oedd edrych ar gasgliadau adroddiadau blaenorol ar ddiwygio seneddol ac yna gwneud argymhellion ar gyfer cyfarwyddiadau polisi ar gyfer deddfwriaeth gan y Llywodraeth i ddiwygio’r Senedd. Yn gefnlen i hyn oedd y cytundeb cydweithio rhwng fy mhlaid i a Llywodraeth Cymru, sydd wedi cytuno i greu Senedd sydd yn fwy cydnaws â’n democratiaeth fodern.
Nos Sul, ces i'r fraint anhygoel o weld tîm pêl-droed cenedlaethol dynion Cymru yn cyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd. Roedd y chwaraewyr a’r dorf fel un—yn hyderus, yn gyffrous, yn edrych ymlaen yn eiddgar at beth ddaw i’r dyfodol. Mae heddiw hefyd yn ddiwrnod pwysig yn hanes ein cenedl ni. Dyma gyfle i’r Senedd roi sêl bendith i argymhellion y pwyllgor a chymryd y cam cyntaf ar y daith i greu Senedd fwy a Senedd gydradd. Byddai hynny yn gam cyffrous ymlaen o safbwynt twf ein democratiaeth, o safbwynt creu cenedl sydd â hyder yn ei dyfodol ei hun, cenedl sy’n mynd yn fwy a mwy awyddus i gydio yn yr awenau er lles pawb sydd yn byw yma.
Mae’n Senedd ni wedi cymryd camau breision ymlaen dros yr 20 mlynedd diwethaf, gyda’r pwerau wedi cynyddu’n sylweddol o ran creu deddfwriaeth a gosod trethi. Y cam synhwyrol nesaf ydy i gynyddu maint y Senedd a’n symud ni’n agosach at faint Seneddau eraill tebyg ar draws y byd. Does dim dwywaith yn fy meddwl i fod y cyfnod COVID wedi argyhoeddi pobl Cymru o werth cael Senedd gref sy’n gallu torri ei chwys ei hun o ran polisïau pwysig, a chafwyd cefnogaeth i ddull gofalus Llywodraeth etholedig pobl Cymru o ddelio efo’r argyfwng iechyd a sylweddoliad bod ein Senedd ni yn hollbwysig. Roedd yna fwy a mwy o etholwyr yn troi atom ni fel Aelodau o’r Senedd am gymorth a gwybodaeth yn ystod y pandemig, wrth i fwy a mwy o bobl sylweddoli—rhai ohonyn nhw am y tro cyntaf—fod gan Senedd Cymru bwerau neilltuol a’n bod ni yn eu defnyddio mewn ffordd wahanol a gwell na’r Senedd yn San Steffan. Mae hynny yn creu cefnlen newydd ar gyfer y diwygio sydd ar droed, a bydd pobl yn croesawu’r symudiad tuag at Senedd fwy, Senedd gref, gyda digon o seneddwyr i graffu a herio a dal Llywodraeth ein gwlad i gyfrif ar y materion sydd o bwys ym mywydau ein dinasyddion ni.
Mi wnes i sôn fod heddiw yn ddiwrnod cyffrous i’n cenedl ni. Dwi yn hynod, hynod o gyffrous ynglŷn â’r argymhelliad ynglŷn â chreu cwotâu rhywedd mandadol fel rhan integredig o’n system etholiadol ni. Mae creu cydraddoldeb rhywedd wedi bod yn un o fy mlaenoriaethau gwleidyddol i ar draws y blynyddoedd, a dyma un o’r rhesymau pam wnes i benderfynu ceisio bod yn Aelod o’r Senedd chwe blynedd yn ôl, oherwydd fy mod yn grediniol bod angen llawer mwy o ferched mewn llefydd dylanwadol mewn bywyd cyhoeddus. A dwi hefyd yn grediniol na fedrwn ni ddim cyrraedd cydraddoldeb rhywedd ar y cyflymder sydd ei angen heb ymyrraeth uniongyrchol a heb fecanweithiau penodol i sicrhau cyfartaledd.
Ers rhai blynyddoedd bellach, dwi wedi bod yn cadeirio grŵp trawsbleidiol menywod y Senedd. Dros y misoedd diwethaf, mae'r grŵp wedi bod yn gwneud yr achos dros gwotâu rhywedd. Rydym wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd gydag arbenigwyr o bob cwr o'r byd, ac mae’r dystiolaeth yn dangos yn glir fod creu cwotâu yn ffordd effeithiol o gynyddu cynrychiolaeth menywod yn gyflym. Dwi am dalu teyrnged i’r holl fudiadau sydd wedi mynychu ein cyfarfodydd ni ac wedi ymgyrchu'n frwd dros gwotâu. Bellach mae yna gefnogaeth yma yn y Senedd gan y tair plaid i'r cysyniad o gwotâu rhywedd, a dwi'n hynod, hynod o falch efo hynny. [Torri ar draws.] Does yna ddim amser ar ôl, rŵan.
Wrth basio’r cynnig yma heddiw, mae'r pwyllgor yn trosglwyddo'r camau nesaf ar y daith i'r Llywodraeth. Mae gwaith y pwyllgor ar ben, ac mae’n diolch ni'n fawr i’r tîm fu'n gweithio mor ddiwyd efo ni. Rŵan, mae angen gwaith dwys a chyflym er mwyn dod â’r cyfan i fwcl mewn pryd ar gyfer etholiadau nesaf y Senedd. Bydd yna gyfle i wyntyllu ac i fireinio wrth i'r ddeddfwriaeth fydd ar ei thaith. Heddiw, beth am inni ymfalchïo ein bod ni'n cychwyn siwrnai hanesyddol yn ystod oes y Senedd hon, i greu Senedd gref a chydradd. Mae'n rhaid inni gydio'n eiddgar yn y cyfle arbennig hwn, peidio colli’r cyfle a chreu’r newid pwysig, a hynny er mwyn pobl Cymru.
Mae wedi bod yn daith anodd i gyrraedd y pwynt hwn, a chredaf efallai fod yr amser a roddir i'r ddadl hon a nifer y bobl sy'n siarad ynddi'n codi'r hyn sydd mewn gwirionedd, fel y dywedodd Siân Gwenllian, yn ymagwedd synhwyrol uwchlaw lefel y sylw y mae'r cyhoedd yn gyffredinol yn ei roi iddo. Nid wyf yn credu bod pobl yn gyffredinol yn teimlo mor gryf â hynny am drefniadau Senedd. Mae Tŷ'r Cyffredin yn newid ei gyfansoddiad yn rheolaidd, mae gan Dŷ'r Arglwyddi 771 o Aelodau, sydd tua 571 yn ormod yn ôl pob tebyg, ac mae'n siŵr fod y ddadl hon heddiw yn hirach na'r angen. Efallai y dylwn eistedd yn awr, ond rwyf am wneud fy mhwynt. [Chwerthin.] Roeddwn yn meddwl y byddai hynny'n mynd i lawr yn dda yn y Siambr.
Rwyf am wneud fy mhwynt, serch hynny. Roeddwn yn meddwl mai'r araith gryfaf a glywais hyd yma oedd un Jane Dodds, a rhoddodd bersbectif cryf iawn fel aelod o'r pwyllgor. Roedd yn rhyfedd iawn fod y Llywodraeth a Phlaid Cymru wedi cyflwyno eu barn ar yr adeg y gwnaethant hynny. Credaf y byddai wedi bod yn well, mewn gwirionedd, i'r Llywodraeth a Phlaid Cymru fod wedi nodi eu barn lawer yn gynharach, ar y dechrau. Credaf mai rhan o'r broblem yw ei bod wedi cymryd llawer gormod o amser i Blaid Cymru gyrraedd y cytundeb cydweithio. Saith mis ar ôl yr etholiad, cyhoeddwyd y cytundeb cydweithio. Roedd hynny'n llawer rhy hir. Pe baent o ddifrif ynghylch diwygio'r Senedd yn y lle cyntaf, rwy'n credu y byddent wedi cael y cytundeb cydweithio hwnnw'n weithredol o fewn mis i'r etholiad fan lleiaf. Felly, credaf fod peth cyfrifoldeb arnynt hwy am danseilio'r pwyllgor heddiw. Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad—[Torri ar draws.] Nid ydynt am ei glywed, ond dyna'r gwir. Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â safbwynt Darren Millar, ond ni fyddwn yn pleidleisio o blaid y gwelliant gan ei fod wedi ymddiswyddo o'r pwyllgor. Pe bai wedi aros ar y pwyllgor, gallai fod wedi aros yno i wneud y pwynt, fel y gwnaeth Jane Dodds.
Mewn perthynas â refferenda, rwyf wedi dadlau ers tro byd o blaid diwygio'r Siambr hon, rwyf wedi dadlau ers tro byd o blaid mwy o Aelodau, gwneuthum hynny cyn etholiad y Senedd, ac rwyf hefyd wedi dadlau yn erbyn refferenda. Credaf mai methiant democratiaeth yw refferenda. Dim ond 42 y cant o bobl a bleidleisiodd yn y refferendwm ar y bleidlais amgen yn 2011. Nid oedd pobl yn teimlo'n rhan o hynny. Y rheswm y gwnaethant bleidleisio yn erbyn, a'r rheswm y pleidleisiais i yn erbyn y bleidlais amgen, oedd oherwydd Nick Clegg, yn hytrach nag unrhyw beth i'w wneud â'r bleidlais amgen. Mae'n ddrwg gennyf, Jane, ond pleidleisio yn erbyn Nick Clegg a wneuthum ar y pryd, yr un fath â fy nghyd-Aelod o Flaenau Gwent. [Torri ar draws.] Fe wnaf dderbyn ymyriad. Mae'n ymddangos mai dim ond munud a ddefnyddiais hyd yma.
Wrth gwrs, credaf y dylem i gyd atgoffa ein hunain mai refferendwm a sefydlodd y lle hwn. Ni allwch lywodraethu heb refferenda pan fydd gennych newid cyfansoddiadol sylweddol. Cawsom refferenda ar bwerau pellach. Ymgyrchais dros bwerau pellach i'r Senedd hon yn ôl yn 2011. Pan fydd gennych newid, rhaid ichi gael refferenda i'r cyhoedd gael rhoi eu barn.
Penderfyniad a allai fod wedi mynd y naill ffordd neu'r llall oedd cael refferendwm ar gyfer y lle hwn. Nid oedd sicrwydd o gwbl y byddai refferendwm ar gyfer y lle hwn. Fe ddigwyddodd am fod Tony Blair a Ron Davies wedi cael sgwrs. Nid wyf yn credu bod angen inni fod wedi cael refferendwm. Roedd y Llywodraeth Lafur newydd gael ei hethol gyda mwyafrif enfawr, roedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi'r Senedd, roedd Plaid Cymru yn cefnogi'r Senedd, beth oedd pwynt cael refferendwm yn 1997? Nid oeddwn yn ei gefnogi bryd hynny ac nid wyf yn cefnogi refferenda yn awr. Methiant democratiaeth ydynt. Pam na chawsom refferendwm ar gyfer swyddi'r comisiynwyr heddlu a throseddu? Pam na chawsom refferendwm ar gyfer system y bleidlais drosglwyddadwy a ddefnyddiwyd ar eu cyfer? Ni chawsom rai am nad oeddem eu hangen, ac nid oes angen refferendwm ar gyfer hyn.
Mae unrhyw ddadleuon sydd gennych yn erbyn diwygio deddfwrfa, yn seiliedig ar y dadleuon a gyflwynwyd gan Darren Millar heddiw, ac yn enwedig mewn perthynas â galw am refferendwm, yn cael eu tanseilio'n ddybryd gan gefnogaeth i Dŷ'r Arglwyddi. Mae Tŷ'r Arglwyddi yn sefydliad—[Torri ar draws.] Nid wyf yn mynd i roi ymyriad arall i chi. Mae Tŷ'r Arglwyddi yn sefydliad sy'n tyfu'n barhaus, ac mae'n bryd ei ddiwygio. Pe baech yn cael gwared ar 571—[Torri ar draws.] Na, nid wyf yn rhoi ymyriad arall i chi. Pe baech yn cael gwared ar 571 o arglwyddi, ac yn eu hethol yn uniongyrchol, byddai gennych ddigon o le i 36 Aelod arall. Rydych eisoes wedi cael gwared ar Aelodau Seneddol o Gymru. Mae hynny'n rhoi digon o le ichi gael mwy o Aelodau o'r Senedd. Rydych chi wedi cael gwared ar Aelodau Senedd Ewrop o Gymru. Mae hynny'n rhoi digon o le ichi gael mwy o Aelodau o'r Senedd. Felly, nid wyf yn credu bod hwnnw'n safbwynt teg i'w arddel.
Os caf droi at ddau bwynt Jane Dodds, ar y bleidlais sengl drosglwyddadwy, rwy'n cytuno â hi. Credaf ei bod yn iawn, byddai'r bleidlais sengl drosglwyddadwy yn well, ond os ydych am wneud hynny, nid wyf yn credu y byddai modd cyflawni hynny erbyn 2026, a bod yn onest. Rwy'n credu mai'r hyn sydd gennym yma yw cyfaddawd. Rwy'n gwybod bod pobl ar y meinciau hyn y siaradais â hwy'n breifat yn cyfaddawdu ar eu credoau. Rwy'n tybio bod llawer draw acw'n cyfaddawdu. Mae'r Ceidwadwyr yn amharod i gyfaddawdu yma, sy'n anffodus. Os ydym am gyflawni hyn erbyn 2026, rhaid inni bleidleisio o blaid yr adroddiad hwn heddiw. Byddai'n well gennyf weld pleidlais sengl drosglwyddadwy. Fodd bynnag, nid wyf yn poeni cymaint am fater y ffiniau, oherwydd mae hwnnw eisoes, fel y dywedodd Alun Davies yn ei ymyriad, wedi bod drwy broses comisiwn ffiniau.
Fy mhwynt olaf, os yw craffu i gael ei wella, yr hyn sydd ei angen arnom yw i'r gwleidyddion yn y Siambr hon graffu'n iawn ar y Llywodraeth hon. Mae hynny'n golygu dod i mewn i'r Siambr, nid gydag araith a ysgrifennwyd gan gynghorydd 24 awr ynghynt, ond dod i mewn yma a siarad am y ddadl. Ond mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol inni gael cymdeithas ddinesig, cylch cyhoeddus, sy'n herio'r Llywodraeth hefyd, ac mae arnom angen cefnogaeth ar gyfer hynny. [Torri ar draws.] Ddirprwy Lywydd, a gaf fi dderbyn yr ymyriad?
Mae eich amser ar ben.
Byddwn wedi'i gymryd, ond nid wyf yn cael gwneud hynny.
Nid yw hyn ond cam tuag at ddemocratiaeth aeddfed a synhwyrol sy'n craffu'n dda ar y Llywodraeth. Nid yw'n ddadleuol a dylai fynd yn ei flaen.
Er gwybodaeth i'r Aelodau, yn anffodus cafodd y cloc ei ailosod ar ôl iddo ddechrau, ac felly fe gafodd amser ychwanegol. James Evans. [Torri ar draws.]
Efallai na fyddwch yn hoffi clywed yr hyn sydd gennyf i'w ddweud, ond rwy'n siŵr y bydd rhai o bobl Cymru yn ei hoffi.
Wel, wel, wel. Mae bron i flwyddyn wedi bod ers y diwrnod y sefais yn y Siambr hon a thraddodi araith yn erbyn galwadau Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, bryd hynny, am fwy o bwerau i'r Senedd hon. Nawr, rydym yn ôl yma eto yn trafod cael mwy o wleidyddion. Nid oes ryfedd fod pobl yn meddwl bod gwleidyddion wedi colli cysylltiad â'r cyhoedd. Felly, peidiwch â cheisio esgus eich bod yn mynd yn ôl i'ch etholaethau mewn gwirionedd ac yn clywed cefnogaeth i'r cynnig hurt hwn, fod pobl yn canu ac yn dawnsio ar y strydoedd ac yn dweud mai'r ffordd i ddatrys problemau Cymru yw drwy gael mwy o wleidyddion. [Torri ar draws.] Na, ddim eto.
Dros yr wythnos ddiwethaf, bûm o gwmpas pob cornel o Frycheiniog a Sir Faesyfed, a chefais fy llethu gan sylwadau gan fy etholwyr sydd wedi'u cythruddo gan y cynigion hyn a'r gost enfawr sy'n gysylltiedig ag ehangu'r Senedd hon, pan na all pobl yn fy etholaeth gael gafael ar ddeintydd am 12 mis. Ar adeg o argyfwng costau byw, pan fo Gweinidogion yma'n beirniadu pawb ar yr ochr hon i'r Siambr yn rheolaidd am ddweud ei fod yn ddewis rhwng gwresogi a bwyta, yn awr rydych am fynd i wario miliynau o arian trethdalwyr y gellid ei wario i helpu pobl ar ethol 36 yn fwy o wleidyddion, yn ogystal â'r arian ychwanegol ar gyfer staff cymorth, a'r arian ychwanegol ar gyfer staff y Comisiwn, treuliau Aelodau, newidiadau strwythurol i'r Siambr hon a Thŷ Hywel, i gyd oherwydd eich bod chi ac academyddion a melinau trafod asgell chwith yn meddwl nad oes gennym ddigon o adnoddau. Nid yw eich esgusodion dros ehangu gwleidyddol yn dal dŵr.
Rydych yn dweud bod angen mwy o gynrychiolaeth ar bobl Cymru er mwyn gallu cyflawni pethau. Gadewch inni weld faint o gynrychiolaeth y byddwn yn ei chael yng Nghymru: 32 o Aelodau Seneddol cyflogedig, 96 o Aelodau o'r Senedd cyflogedig, 1,242 o gynghorwyr sir cyflogedig, un peth nad yw'r Blaid Lafur erioed wedi gallu ymdopi ag ef. Rwy'n siŵr y byddai'n well gan bobl ar y strydoedd y tu allan i'r fan hon weld Llywodraeth y dydd yn bwrw ymlaen â'i phriod waith, yn trwsio'r GIG sy'n chwalu yng Nghymru, yn helpu i adeiladu'r economi a darparu addysg ragorol i'n plant; dyna'r hyn y mae'r cyhoedd yn talu amdano a dyna y mae'r cyhoedd yn ei haeddu.
Gadewch inni fod yn glir iawn: rwy'n Gymro balch tu hwnt. Rwy'n caru fy ngwlad ac rwy'n caru democratiaeth; mae'n un peth y credaf sy'n ein huno yn y Siambr hon o bryd i'w gilydd. Credaf y dylai'r cyhoedd gael dweud eu barn ynglŷn â diwygiadau mewn refferendwm ar nifer y gwleidyddion yn y lle hwn. Mae pob newid cyfansoddiadol mawr i'r Senedd a Chymru wedi'i wneud drwy bleidlais gyhoeddus, ac mae gan y bobl hawl i ddweud eu barn am y newidiadau hyn.
Os ydych o ddifrif yn credu bod gennych gefnogaeth y cyhoedd yng Nghymru i'r newidiadau hyn, gadewch inni gael refferendwm. Mae'r cytundeb ystafell gefn llechwraidd a luniwyd rhwng y Prif Weinidog ac Adam Price yn mynd yn groes i bopeth y mae'r glymblaid sosialaidd hon yn honni eu bod yn sefyll drosto. Maent yn dweud ei fod yn flaengar; nid yw hynny'n wir—mae'n cau'r drws ar faes o ddewis gwleidyddol ehangach, fel y dywedodd Jane Dodds. Rydych chi'n dweud ei fod yn gyfartal; nid yw'n gyfartal—nid yw'n cydnabod pawb o bob amrywiaeth. Ac rydych chi'n dweud ei fod yn deg; nid yw'n deg—mae'n gwneud Aelodau o'r Senedd yma'n weision i bleidiau gwleidyddol ac undebau ac nid i'r bobl, ac mae hynny'n sylfaenol anghywir.
Dywedwch wrth Suzy Davies.
Na, diolch.
Fe ddywedwch fod y cyhoedd wedi pleidleisio dros hyn yn eich maniffestos, ond nid oes dim yn eich maniffestos i ddweud y byddwn yn cael 96 yn fwy o Aelodau. Daeth Plaid Cymru yn drydydd yn yr etholiad diwethaf—nid yn gyntaf, nid yn ail, ond yn drydydd—felly nid wyf yn credu bod gan neb ar yr ochr honno i'r Siambr fandad ar gyfer newid. Rydym ni ar y meinciau hyn yn ymddiried yn y cyhoedd i wneud penderfyniadau mawr. Credwn mewn grymuso pobl Cymru, a chredwn fod y cyhoedd yn dymuno ac yn haeddu cael llais ar y materion hyn. Felly, dywedaf wrth Lafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, 'Tynnwch y gwlân cotwm allan o'ch clustiau, rhowch y gorau i guddio y tu ôl i'r soffa a gadewch inni gael refferendwm'.
Gadewch imi ddechrau drwy ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor, aelodau yn y gorffennol a'r presennol, a staff y Comisiwn a weithiodd i lunio'r adroddiad a'r argymhellion ar gyfer heddiw. Diolch hefyd i'r panel arbenigol o dan gadeiryddiaeth Laura McAllister, a gomisiynwyd bum mlynedd yn ôl gan Gomisiwn y Senedd i gyflwyno argymhellion ar ddiwygio'r Senedd. Mae un o'r argymhellion hynny eisoes wedi'i ddeddfu i alluogi pobl ifanc 16 a 17 oed i bleidleisio yn 2021, a bydd gweddill yr argymhellion yn gyffredinol yn cymryd cam mawr ymlaen heddiw os caiff y cynnig hwn ei gymeradwyo. Os bu adroddiad erioed na fu'n gorwedd yn segur ar silff yn hel llwch, mae'n ddigon posibl mai adroddiad panel arbenigol Laura McAllister yw hwnnw.
Dyna ran o hanes byr y rheswm pam ein bod yma'n cael y ddadl hon heddiw, ond wrth gwrs, mae yna hanes hirach hefyd. Weithiau, rydym yn gwneud y camgymeriad fod datganoli—ein Senedd—yn perthyn i ni'n llwyr, y genhedlaeth sy'n rhychwantu dosbarth '99, fi a Jane Hutt yn 1,000 oed yng Ngwlad yr Iâ, a dosbarth '21, ond mae'n perthyn i gynifer o'n rhagflaenwyr gwleidyddol ac i'n holynwyr hefyd, o ddosbarth 2026 i ddosbarth 3026 a thu hwnt.
Nid yw datganoli ychwaith yn perthyn i un traddodiad gwleidyddol yng Nghymru, ond i lawer o draddodiadau gwleidyddol; i'r rhagflaenwyr hynny, o S.O. Davies, Jim Griffiths ac Elystan Morgan, i Megan Lloyd George, i Gwynfor Evans ac i fy ewythr Jack—J.B. Evans—Ceidwadwr ar hyd ei oes o sir Gaerfyrddin, ymgeisydd ac asiant seneddol, ac o blaid datganoli. Ef yn unig a oedd yn gyfrifol am roi sticer 'Ie dros Gymru' i mi yn 12 oed i'w wisgo ar fy ngwisg ysgol ym mis Mawrth 1979.
Roedd y ddadl wleidyddol ar ddatganoli yn rhychwantu'r ugeinfed ganrif ar ei hyd, ond nid datganoli democrataidd oedd man cychwyn gwirioneddol datganoli ym 1999; datganoli gweinyddol oedd ei sylfeini cyntaf. Cefais fy atgoffa o bwysigrwydd hyn wrth wrando ar yr Arglwydd John Morris ychydig wythnosau yn ôl yn y Senedd yn siarad am Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru ym 1964, Jim Griffiths—penodiad mor bwysig gan Lywodraeth Lafur newydd y DU ar y pryd, ond a ragflaenwyd gan benodi Gweinidog cyntaf y Swyddfa Gartref dros Faterion Cymreig gan Lywodraeth Geidwadol ym 1951, a hynny ynddo'i hun yn dilyn creu bwrdd addysg Cymru ym 1907 gan y Llywodraeth Ryddfrydol. Roedd pwerau gweithredol yr Ysgrifennydd Gwladol ym 1964 wedi'u cyfyngu'n wreiddiol i gyfrifoldeb dros dai, llywodraeth leol a ffyrdd. Yn ystod y 10 mlynedd nesaf, ychwanegwyd cyfrifoldebau dros iechyd ac addysg, amaethyddiaeth a'r amgylchedd—meysydd cyfrifoldeb a ddaeth yn y pen draw yn gyfrifoldebau democrataidd y Cynulliad etholedig cyntaf hwnnw ym 1999.
Yn y Siambr hon, rydym wedi clywed heddiw, rydym yn gyfarwydd â'r hyn sydd wedi digwydd ers 1999: cynyddu a throsglwyddo pwerau a chyfrifoldebau sylweddol gan Lywodraethau olynol yn y DU o San Steffan i Gymru. Ni fyddem yma heddiw yn trafod diwygio'r Senedd oni bai am drosglwyddo'r cyfrifoldeb dros etholiadau'r Senedd gan Lywodraeth Geidwadol y DU drwy Ddeddf Cymru 2017 o San Steffan i'r Senedd hon. Pam, felly, y bu imi deithio ar hyd llwybr hanes datganoli? Wel, mae'n ein hatgoffa i gyd ein bod wedi cyrraedd y pwynt hwn heddiw oherwydd amryw byd o weithredoedd a phenderfyniadau gan bobl o wahanol liwiau gwleidyddol dros ganrif a mwy. Ac yn awr, yn nhrydydd degawd yr unfed ganrif ar hugain, rydym yn wynebu'r cwestiwn a ydym o'r diwedd am roi'r arfau i'n Senedd wneud y gwaith yn iawn, gyda'n set bresennol o bwerau, a chyda'r arfau i ymgymryd â mwy o bwerau, os a phan gânt eu datganoli neu eu mynnu.
Mae pob dadansoddiad annibynnol a gomisiynwyd o'n Senedd wedi dod i'r casgliad nad oes gennym ddigon o adnoddau o ran nifer yr Aelodau etholedig i wneud y gwaith o ddwyn Llywodraeth i gyfrif ac i graffu ar ddeddfwriaeth a chyllidebau a'u pasio. Dylai aelodau seneddau ym mhobman yn y byd gael amser i ddatblygu arbenigedd gwirioneddol mewn meysydd pwnc, er mwyn gallu craffu'n fforensig ar benderfyniadau gweinidogol, a gallu ymchwilio a dysgu am gynigion polisi gwych i'w cyflwyno yma yng Nghymru. Ond mae'r rhan fwyaf ohonoch dan bwysau enfawr gan lwyth y gwaith o ddydd i ddydd yma. Fel Llywydd, rwy'n gwylio pob un ohonoch—y 58 ohonoch—yn arweinwyr pleidiau, Gweinidogion Llywodraeth, meincwyr cefn yn eistedd ar ddau neu dri phwyllgor, yn cadeirio pwyllgorau, llefarwyr yn cyflwyno nifer o areithiau a chwestiynau yn y Cyfarfod Llawn bob wythnos, yn cadeirio ac yn mynychu grwpiau trawsbleidiol, yn ogystal â'ch holl waith etholaeth, a chaf fy atgoffa o'r ffaith, yn adroddiad panel arbenigol Laura McAllister, lle y dywedodd nad yw 115 o ASau yn San Steffan yn eistedd ar unrhyw bwyllgor nac yn cyflawni unrhyw rôl ychwanegol yn y Llywodraeth na'r wrthblaid. Nid oes gan neb y moethusrwydd hwnnw yma, ac ni fyddent yn ei gael ychwaith mewn Senedd 96 Aelod.
Gallwn barhau a gwneud ein gorau glas fel 60 Aelod, neu gallwn rymuso'r genhedlaeth nesaf o wleidyddion Cymru yn iawn—a rhai ohonoch chi yw'r gwleidyddion hynny—i gael y Senedd y mae pobl Cymru yn ei haeddu o'r diwedd.
Yn gyntaf, hoffwn gofnodi fy niolch i Huw Irranca-Davies, fel Cadeirydd y pwyllgor hwn, a phob un o fy nghyd-aelodau eraill o'r pwyllgor. Roedd ein trafodaethau yn y pwyllgor yn gadarnhaol ac yn adeiladol, ac rwy'n ddiolchgar i'r amrywiaeth o sefydliadau ac arbenigwyr a ddaeth i roi tystiolaeth i ni, ac am waith y panel arbenigol a'r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd yn y Senedd flaenorol.
Nid ein gwaith ar y pwyllgor hwn oedd dechrau'r daith, fel y dywedodd Huw eisoes, ac roedd yn ddefnyddiol iawn gallu adeiladu ar y dystiolaeth a'r ymdrechion yr oedd eraill eisoes wedi'u gwneud. Mae'r argymhellion yn ein hadroddiad yn bellgyrhaeddol ac yn arwyddocaol. Mae'n iawn bwrw ymlaen arnynt ar sail cytundeb trawsbleidiol. Nid oes amheuaeth na fu'n rhaid cyfaddawdu, ond dyma'r math o wleidyddiaeth aeddfed y mae pobl Cymru wedi dod i'w disgwyl.
Ar faint y Senedd, mae hyn wedi bod yn destun dadl a thrafodaeth ers 20 mlynedd. Gwyddom i gyd fod y sefydliad hwn wedi newid yn eithriadol ers sefydlu'r Cynulliad ym 1999. Felly, mae'n iawn ein bod o'r diwedd yn cymryd camau i sicrhau bod y Senedd mewn sefyllfa briodol i wneud y gwaith.
Ceir amrywiaeth o safbwyntiau bob amser ar systemau pleidleisio, ond mae'r cynnig ar gyfer system sy'n deg ac yn gymesur. Bydd yn sicrhau bod pob Aelod o'r Senedd yn cael ei ethol gyda'r un mandad, ac mae'n galluogi pleidiau i weithredu ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau drwy greu rhestrau ymgeiswyr 'am yn ail'. Mae hwn yn gam y mae Llafur Cymru yn ei gymryd ar hyn o bryd ac mae wedi bod yn ffordd bwysig o sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau ymhlith ein Haelodau o'r Senedd.
Roedd gweithredu i sicrhau amrywiaeth y Senedd hon yn rhan bwysig o drafodaethau'r pwyllgor. Mae'n hanfodol fod y Senedd yn wirioneddol gynrychioliadol o Gymru, ac mae'r pwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion i hyrwyddo'r amcan pwysig hwn, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld hyn yn datblygu. Ceir nifer o oblygiadau manwl y bydd angen i Lywodraeth Cymru a'r Senedd eu hystyried. Yn wir, mae llawer o waith i'w wneud o hyd. Ond mae hon yn foment ddiffiniol yn ein hanes, ac os penderfynwn, byddwn yn sicrhau, beth bynnag a wynebwn yn y dyfodol, fod ein Senedd wedi'i harfogi yn y ffordd orau bosibl i weithio dros bobl Cymru ac i'w gwasanaethu.
Un o bob pump ar restr aros yng Nghymru; mwy na 10,000 o bobl yn aros 12 awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys; mae ein system addysg yn gwneud cam â phlant, gyda sgoriau Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr ar waelod tabl cynghrair y DU; treth dwristiaeth ar y gorwel, i gosbi busnesau ar ôl iddynt ddioddef colledion aruthrol dros y pedair blynedd diwethaf; ystadegau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n dangos mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU sydd wedi gweld ei heconomi'n crebachu; a methu cefnogi'r genhedlaeth nesaf o berchnogion cartrefi drwy adeiladu cartrefi newydd. Ond eto, dyma ni y prynhawn yma, yn siarad amdanom ni ein hunain. Byddai'n well gan Lafur a Phlaid Cymru wario £100 miliwn i gynyddu maint y lle hwn nag ar flaenoriaethau pobl Cymru. Yn hytrach na chanolbwyntio ar recriwtio mwy o feddygon, nyrsys, athrawon a deintyddion, mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o osgoi craffu gan refferendwm ac yn lle hynny, maent yn cuddio y tu ôl i gefnogaeth eu cyfeillion cenedlaetholgar. Byddai'n well ganddynt weld mwy o'u ffrindiau'n cael eu hethol i'r lle hwn o dan yr esgus y byddai'n craffu'n well ar Lywodraeth Cymru, ond pan ddaw'n fater o graffu, ac ymchwiliad COVID sy'n benodol i Gymru, nid oedd gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mewn craffu o gwbl. Ond rydym i gyd yn gwybod heddiw beth yw'r gwir reswm pam ein bod yn sôn am y cynigion hyn: mwy o swyddi i'r bechgyn i'r Blaid Lafur, a sicrhau Llywodraeth Lafur yma ym Mae Caerdydd ymhell i'r dyfodol.
Clywsom gan Darren Millar yn gynharach am faniffesto Llafur, a chlywsom nad oedd sôn ynddo'n uniongyrchol am y ffaith y byddai cynnydd ym maint y Senedd hon. Tybed pam y digwyddodd hynny. Y rheswm oedd bod y Blaid Lafur yn gwybod y byddai dewis mwy o wleidyddion tra bod pobl wedi bod yn gwneud eu gorau dros ein GIG yn ystod pandemig COVID yn sicr o gael pobl i godi eu clustiau.
Oes, mae dadl dros ddiwygio'r Senedd—fel y'i cyflwynwyd mor niwlog yn eich maniffestos a gafodd y nifer fwyaf o bleidleisiau i chi—ond mae arnaf ofn mai'r hyn nad oedd yn y maniffesto oedd y costau, nifer y gwleidyddion, y system bleidleisio a fyddai'n dilyn yn y cyhoeddiad rhwng y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru. Dyna pam y dylid cynnal pleidlais gyhoeddus ar y newid cyfansoddiadol sylweddol hwn. Ond gwyddom i gyd—mae pob un ohonom yn gwybod—fod gan Lafur a Phlaid Cymru hanes ofnadwy pan ddaw'n fater o ymddiried ym mhobl Cymru drwy ofyn iddynt beth yw eu barn. Mae'r amser a dreuliodd y ddwy blaid yn y lle hwn yn ceisio rhwystro Brexit ar ôl i bobl Cymru bleidleisio drosto yn ddigon o dystiolaeth o hynny. Ac yn y gorffennol cafodd unrhyw newid cyfansoddiadol mor arwyddocaol â hwn, a lle y cynigir newid i'r system bleidleisio, ei wneud yn destun pleidlais gyhoeddus. Edrychwch ar y refferendwm ar y bleidlais amgen yn 2011; mae'r cynsail hwnnw eisoes yn glir. Mae angen inni ddangos i bobl Cymru ein bod yn ymddiried ynddynt hwy i wneud y penderfyniadau hyn ac nid rhyw gartél clyd ym Mae Caerdydd sy'n ein llusgo tuag at annibyniaeth drwy'r drws cefn. Oherwydd efallai mai dyna fyddai'r canlyniad yma: dywedodd Plaid Cymru yn eu datganiad eu hunain ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl llofnodi'r cytundeb cydweithio mai dyma oedd eu nod. Fe wnaethant ddweud y byddai diwygio'r Senedd yn darparu Senedd sy'n addas ar gyfer Cymru annibynnol. Gwyddom nad dyna y mae pobl Cymru am ei gael. Dyna pam y mae angen inni ei roi i bleidlais.
Nid lle gwleidyddion yn y Senedd yw penderfynu a ddylid cynyddu ein niferoedd ai peidio; byddai hynny fel tyrcwn yn pleidleisio i ganslo'r Nadolig. Ond i'r rheini ohonom sy'n credu, ar ei gorau, y gall y Senedd fod yn lle gwirioneddol dda, lle sydd â'r potensial i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl Cymru, mae angen inni sicrhau bod pobl Cymru, ar bob cam posibl, yn gwybod bod y Senedd hon yn eiddo iddynt hwy yn llawer mwy nag y mae'n eiddo i ni. Os yw'r Senedd hon yn credu mewn datganoli, mae angen cydsyniad y bobl y mae'n eu gwasanaethu i gryfhau'r achos hwnnw pan wneir newidiadau mor sylweddol â hyn. Mae'r ateb y byddant yn ei roi inni'n bwysig, a dylem weithredu ar y canlyniad, beth bynnag y bo, ond nid yw mor bwysig â'n bod ni'n gofyn y cwestiwn hwnnw yn y lle cyntaf, oherwydd os yw'r lle hwn o ddifrif yn mynd i gynrychioli ac adlewyrchu pobl Cymru yn yr holl ffyrdd yr ydym wedi'u clywed heddiw, hwynt-hwy a ddylai wneud y penderfyniad hwnnw. Nid ein lle ni yw dweud wrth bobl Cymru beth sydd orau iddynt. Hwy a ddylai ddweud hynny wrthym ni. Hwy sy'n rhoi ein mandad i ni a byddem yn ffyliaid i anghofio hynny.
Yn syml, dylai'r Senedd adlewyrchu'r Gymru y mae'n ei gwasanaethu. Rhaid i'w Haelodau, y rhai sy'n siarad dros eu cymunedau yn y lle hwn, sy'n craffu ar effaith polisi a deddfwriaeth a'r ffordd y caiff ein cenedl ei llywodraethu, fod yn gynrychioliadol o'r cymunedau hynny. Ar hyn o bryd, dim ond 26 o'r 60 sy'n eistedd yn y Siambr hon sy'n fenywod, er bod hanner poblogaeth Cymru—dros hanner poblogaeth Cymru—yn fenywod. Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro dros gwotâu rhywedd fel un dull y gallwn ei ddefnyddio i greu Senedd sy'n wirioneddol gynrychioliadol o bobl Cymru. Ac mae argymhelliad y pwyllgor ar gyfer cwotâu rhywedd statudol, gan mai dyma'r dull gorau o hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd ymhlith Aelodau etholedig, o fewn pob plaid, felly i'w groesawu'n fawr.
Felly, pam y mae cwotâu rhywedd yn gam angenrheidiol? Sut y byddant yn effeithiol? Wel, bydd cwotâu rhywedd yn rhoi ateb cyflym a syml i'r ffaith na ellir ei chyfiawnhau nad yw menywod wedi'u cynrychioli'n ddigonol, neu y gallent fod heb eu cynrychioli'n ddigonol, mewn gwleidyddiaeth etholedig. Dengys ymchwil ryngwladol mai hwy yw'r offeryn unigol mwyaf effeithiol ar gyfer cyflymu cynrychiolaeth menywod mewn cyrff etholedig ar gyfer Llywodraeth, ac fe'u defnyddir yn fyd-eang gan dros 100 o wledydd. Fe'u cefnogir gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Gwahaniaethu yn erbyn Menywod, ac wrth gwrs, canfyddiadau'r panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad. Felly, y cwestiwn, mewn gwirionedd, yw: pam nad ydym yn gwneud hyn eisoes, os ydym yn credu mewn cydraddoldeb?
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na, rydych wedi cael digon o gyfle i roi eich barn y prynhawn yma, Darren. Wel, mae yna rai sy'n credu bod pethau—[Torri ar draws.] Mae yna rai sy'n credu bod pethau eisoes yn deg—
Nid oes gennym y pwerau.
—nad yw'r anghydraddoldeb strwythurol hwnnw, a drafodwyd gennym yn yr union Siambr hon ddoe, yn bodoli, er bod adroddiad ar ôl adroddiad yn cyfeirio at y gwrthwyneb, ac mae cyfansoddiad y Senedd hon yn profi hynny y tu hwnt i amheuaeth. Mae yna rai sy'n teimlo nad oes angen mesurau statudol arnom i sicrhau gwell cynrychiolaeth. Wedi'r cyfan, fe wnaethom ymffrostio'n falch am ein cyflawniadau cynnar o ran cydbwysedd rhwng y rhywiau a chanmol ein hunain am arwain y ffordd. Ond pan edrychwn o amgylch y Siambr hon, gallwn weld bod mesurau gwirfoddol gan y pleidiau, neu ymddiried mewn lwc, wedi profi'n aneffeithiol hyd yma ar gyfer cynnal cydbwysedd neu ysbrydoli amrywiaeth pellach. Yn rhyngwladol, mae effaith cwotâu rhywedd yn bellgyrhaeddol ac yn aml yn cael effeithiau cadarnhaol, anuniongyrchol, gyda grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu grymuso i gamu i'r byd gwleidyddol. Dyna pam y mae angen, fel y mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru yn ei roi, ymgorffori cydraddoldeb rhywiol yn ein system etholiadol drwy ddeddfwriaeth. Ac mae'r ffordd y deddfir ar gyfer unrhyw gwota yn bwysig. Dylai'r Bil ddatgan bod yn rhaid i o leiaf 50 y cant o ymgeiswyr fod yn fenywod. Diben y cwota yw rhoi llawr isaf i gynrychiolaeth menywod, llawr na ddylai ddisgyn oddi tano, yn hytrach na rhoi terfyn uchaf arno.
Ac yna, wrth gwrs, fel y clywsom y prynhawn yma, ceir y ddadl 'person gorau ar gyfer y swydd' yn erbyn pob math o wahaniaethu cadarnhaol. Ddirprwy Lywydd, gall cwotâu ein helpu i symud tuag at feritocratiaeth go iawn, yn hytrach na bod yn rhwystr iddi. Ceir rhagfarn a rhwystrau cymdeithasol sy'n atal rhagor o fenywod rhag dod yn wleidyddion, rhag bod yn yr ystafell lle y gwneir penderfyniadau am eu bywydau sydd ond yn arwain at fwy o anghydraddoldeb strwythurol. Mae hyn hefyd yn wir am bobl anabl, pobl dduon, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, a phobl o'r gymuned LHDTC+.
Mae'n wir nad yw cwotâu rhywedd yn ddigon ar eu pen eu hunain i sicrhau'r gynrychiolaeth gyfartal ac amrywiol y gellid ei sicrhau ar gyfer ein Senedd, ac mae Plaid Cymru yn cefnogi argymhelliad y pwyllgor y dylid gwneud rhagor o waith ar gwotâu amrywiaeth, ar wahân i rywedd. Dylid gwneud hyn yn gyflym, a byddwn wedi hoffi gweld amserlenni ynghlwm wrth yr argymhelliad hwnnw. Fodd bynnag, dim ond y dechrau yw diwygio'r dull o ethol. Er mwyn sicrhau bod y Senedd yn adlewyrchu'n llawn y gymdeithas y mae'n ei chynrychioli, rhaid i'r Senedd fod yn weithle sy'n gweithio i fenywod. Dylid symud ymlaen ar fyrder ar argymhellion 13 a 14 o'r adroddiad, sy'n cyfeirio at y gwaith pellach sydd ei angen er mwyn galluogi rhannu swyddi, oherwydd fel y dywed y pwyllgor, gallai rhannu swyddi
'alluogi mwy o amrywiaeth o ymgeiswyr i sefyll etholiad, gan gynnwys y rhai sydd â chyfrifoldebau teuluol a chyfrifoldebau gofalu; y rhai ag anableddau; a’r rhai sydd wedi’u lleoli’n ddaearyddol ymhellach i ffwrdd o’r Senedd.'
A wnaiff yr Aelod ddod i ben yn awr, os gwelwch yn dda?
Unwaith eto, mae arnom angen amserlenni ar gyfer y gwaith hollbwysig hwn. Rhaid peidio â'i ysgubo o'r neilltu. Mae gweithio hybrid hefyd yn elfen allweddol o arfer y gweithle, ac yn anffodus, nid yw'n cael ei grybwyll yn adroddiad y pwyllgor. Felly, hoffwn glywed a fyddai'r Llywodraeth yn ystyried mynd i'r afael â hyn fel rhan o ddiwygio'r Senedd.
A wnewch chi ddod i ben, oherwydd mae gennyf lawer o Aelodau sydd am siarad?
Gwnaf. Rwy'n gobeithio mai dim ond cam cyntaf o lawer yw hwn tuag at Senedd sy'n adlewyrchu ac yn cynrychioli'r dinasyddion y mae'n eu gwasanaethu. Fel y dywedodd Mary Wollstonecraft, 'Heddiw yw'r dechrau bob amser.' Rwy'n falch o weld heddiw'n gwawrio.
Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged, fel y mae eraill wedi'i wneud, i'r pwyllgor, i Huw a'i gyd-Aelodau, i Mark Drakeford am ei arweinyddiaeth a'r ffordd y mae wedi gyrru hyn yn ei flaen, gan weithio mewn partneriaeth ag Adam Price a Phlaid Cymru, a thalu teyrnged hefyd i bawb a ymgyrchodd dros senedd i Gymru am gynifer o flynyddoedd—cenedlaethau a oedd â hynny'n nod, fel delfryd, oherwydd eu bod am i bobl Cymru gael y llais cryf hwnnw ac roeddent am i bobl Cymru gael eu gwasanaethu gan senedd gref i gynrychioli eu buddiannau a gofalu am y buddiannau hynny. Mae'n hanes mor hir, ac i bobl fel fi sydd wedi dod ato'n fwy diweddar gyda'r ymgyrch 'Ie dros Gymru' a ragflaenodd y Cynulliad y cefais gymaint o fraint yn dod yn Aelod ohono yn yr etholiad cyntaf hwnnw, fel y gwnaeth eraill sydd yma yn y Siambr heddiw—roeddem yn freintiedig, ac rydym wedi bod yn freintiedig i weld y sefydliad hwn yn tyfu ac yn datblygu. Ac rydym wedi gwneud hynny, rydym wedi tyfu, ac mae dyfnder ac ehangder pwerau'r Cynulliad, sydd bellach yn Senedd, wedi bod yn drawiadol iawn dros gyfnod datganoli. Ond ni chafwyd cynnydd mewn capasiti ac adnoddau i alluogi'r gwaith hwnnw, y gwaith mwy hwnnw, i'w wneud mor effeithiol ag y mae angen ei wneud, a dyna'r pwynt, onid e? Mae'n ymwneud â phwerau at ddiben, nid pwerau er mwyn cael y pwerau hynny, ond pwerau i sicrhau gwell i bobl Cymru.
A hoffwn ddweud hefyd, Ddirprwy Lywydd, fy mod yn credu, o safbwynt Llafur a Llafur Cymru, ein bod yn haeddu rhywfaint o glod—fe fyddwn yn dweud hynny, oni fyddwn i—ond mewn gwirionedd, mae'r Blaid Lafur a Llafur Cymru wedi symud yn bell ar ddatganoli, ac rwy'n credu bod pobl Cymru wedi dod gyda ni ar y daith honno hefyd. A Llafur a gafodd y cyfle a'r pŵer i gyflawni ac rwyf mor falch o ddweud bod yr her honno wedi'i derbyn a'n bod wedi cyflawni, a chredaf fod gennym stori gadarnhaol iawn i'w hadrodd. Ac fel y dywedaf, rydym wedi datblygu yng Nghymru ar y daith honno, fel plaid wleidyddol, fel mudiad Llafur.
Rydym yn ceisio cyflawni'r pwerau sydd gennym ar hyn o bryd, y pwerau cynyddol a datblygedig a ddisgrifiais, gyda llai o Aelodau na rhai cynghorau sir. Nid yw'n ymarferol craffu ar ddeddfwriaeth a pholisi'n iawn, a chael cronfa ddigon mawr o dalent, yn Weinidogion, yn aelodau o'r meinciau cefn, yn Gadeiryddion pwyllgorau. Gwyddom i gyd mai po fwyaf y byddwch yn ehangu'r gronfa a'r mwyaf amrywiol yw hi, gorau oll yw'r cyflawniad, gorau oll fydd y perfformiad a fydd yn deillio o hynny. Nid yw hynny'n feirniadaeth ar neb yma—wrth gwrs nad ydyw—dim ond cydnabod y realiti, ac mae angen yr amrywiaeth honno arnom. Ac mae'n rhaid imi ddweud, mae'n ddigalon gweld a dweud y gwir, o safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig, sut y byddant yn parhau i gael eu gadael ar ôl gan hanes, gan hanes modern yng Nghymru. Mae Cymru'n datblygu, mae Cymru'n symud ymlaen; mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cael eu gadael ar ôl. Ac edrychwch ar y meinciau draw yno—wyddoch chi, mae gwrthwynebu mesurau i wella cynrychiolaeth menywod, er enghraifft, dros hanner poblogaeth y wlad hon—. Ac edrychwn ar y meinciau draw yno—. Mae'n wych gweld Natasha yma, ond mae'n amlwg bod prinder cynrychiolaeth, prinder amrywiaeth. [Torri ar draws.] Andrew.
Rwyf wedi clywed yr amrywiaeth yn cael ei ofyn i mi. Rwy'n troi ac yn edrych ar yr amrywiaeth ar feinciau cefn y Ceidwadwyr, ac mae'n rhaid imi ddweud, mae dau Aelod benywaidd sydd ar y fainc flaen yma yn sâl heddiw ac maent wedi cael caniatâd i fod yn absennol am eu bod yn sâl. Felly, pan edrychwch ar eich meinciau eich hun, ble mae'r amrywiaeth o leiafrifoedd ethnig? Ble maent? Ble, John?
Mae cynnydd pellach i'w wneud, Andrew, ond dewch, os edrychwch ar yr amrywiaeth ar feinciau Llafur yn awr a thrwy gydol hanes datganoli a'i gymharu â'ch meinciau chi yn awr ac o'r blaen, nid oes cymhariaeth o gwbl. [Torri ar draws.] Darren, nid oes diben dadlau'r pwynt, edrychwch ar eich perfformiad eich hun a'ch plaid, eich sefydliadau a'ch strwythurau chi eich hun.
Ddirprwy Lywydd, gwn mai dim ond pum munud a gawn, felly gadewch imi ddweud eto fod a wnelo hyn â gwell strategaeth, gwell polisi a chyflawni'n well dros bobl Cymru. Mae'n ymwneud â chanlyniadau gwell. Mae gwaith enfawr i'w wneud. Credaf y gallwn fod yn llawer mwy radical—yn llawer mwy radical—yng Nghymru. Credaf fod angen inni fod, credaf y gallwn fod, ond mae arnom angen yr adnodd i wneud hynny, a bydd y cam pellach y byddwn yn ei gymryd heddiw, ac adeiladu ar yr hyn a fydd, gobeithio, yn bleidlais dros gymeradwyo'r cam nesaf o'r broses o ddiwygio'r Senedd heddiw, yn rhoi cyfleoedd newydd inni fod y grym a'r corff radical, arloesol a all gyflawni'n briodol ar gyfer ein pobl yng Nghymru.
Nid yw'n syndod y prynhawn yma na allaf gefnogi ehangu'r Senedd, ac felly byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cynnig sydd ger ein bron heno; nid yw'n brynhawn bellach, yw hi?
Felly, yr hyn sydd ger ein bron heno yw cynllun ar gyfer mwy o wleidyddion, nid cynllun ar gyfer gwell democratiaeth. Ac rydym yn Senedd ifanc, a phrin fod y paent yn sych ar y waliau i nodi ein newid o Gynulliad Cenedlaethol Cymru i Senedd Cymru, ac eto yma gofynnir inni chwyddo nifer y gwleidyddion dros 50 y cant. I ba ddiben? Pam fod arnom angen Senedd fwy? Nid wyf wedi fy argyhoeddi bod arnom angen Senedd fwy, ac nid yw'r mwyafrif llethol o'r cyhoedd yng Nghymru wedi'u hargyhoeddi ychwaith.
Ychydig dros ddegawd yn ôl, yn 2011, gofynnwyd i'r cyhoedd yng Nghymru ddatganoli mwy o bwerau i Gymru, mwy o bwerau er mwyn ein galluogi i ddeddfu, i wella bywydau dinasyddion Cymru. Wedi'r cyfan, dyna bwrpas y lle hwn. Darllenaf y disgrifiad o'r Senedd sy'n cael lle blaenllaw ar ein gwefan:
'Senedd Cymru yw'r corff sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl.
Mae’r Senedd, fel y’i gelwir, yn deddfu ar gyfer Cymru, yn cytuno ar drethi yng Nghymru, ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.'
Mae yno mewn du a gwyn. Rydym yma i gynrychioli buddiannau ein dinasyddion a'n cenedl. Sut y mae creu 36 o wleidyddion eraill yn cynrychioli buddiannau pobl ein cenedl wych? Byddwn yn dadlau'n gryf nad yw hynny'n wir. A wnaiff cael rhagor o Aelodau fynd i'r afael â chyflwr gwarthus y GIG, torri rhestrau aros, sicrhau bod fy etholwyr yn cael cyfarfodydd wyneb yn wyneb â'u meddyg teulu? Na wnaiff, ac ni fydd ychwaith yn gwneud unrhyw beth i wella cysylltiadau trafnidiaeth, tyfu'r economi, mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw byd-eang na gwella cyflawniad addysgol.
Mae ein cenedl yn wynebu problemau gwirioneddol ac mae angen inni ganolbwyntio ar ddarparu atebion, ar sicrhau gwelliannau gwirioneddol i fywydau ein hetholwyr, nid trafod cyfansoddiad y Siambr hon. Mae arnom angen mwy o wleidyddiaeth, nid mwy o wleidyddion. Methodd y lle hwn sicrhau gwelliannau i fywydau pobl, a dywedwyd wrth y cyhoedd fod angen mwy o bwerau arno. Cafwyd mwy o bwerau, ond ni welwyd gwelliannau. Nawr dywedir wrthym fod arnom angen mwy o Aelodau o'r Senedd, ac nid yw'n dal dŵr, nid i mi nac i fy etholwyr yn Nyffryn Clwyd. Mae angen inni gerdded cyn y gallwn redeg. Rhaid inni gyflawni'r addewidion a wnaethom i'n hetholwyr cyn inni hyd yn oed ystyried ehangu'r Senedd hon. Pan fydd gennym Lywodraeth sy'n llywodraethu yn hytrach na gweithredu fel gwrthblaid, a gwrthbleidiau sy'n dwyn y Llywodraeth i gyfrif yn hytrach na cherdded yn ei chysgod, efallai y byddwn yn cyflawni addewid y lle hwn. Pan fyddwn yn cyflawni'r compact a wnaed gyda dinasyddion Cymru yn 1997 a 2011, efallai y gallwn drafod unrhyw ehangu, ar yr amod mai dyna yw ewyllys datganedig pobl Cymru. Diolch yn fawr iawn.
Nid oeddwn am ddechrau gyda hyn, ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod wedi fy nhristáu a fy mlino gan beth o'r dicter ffug a glywaf gan rai o'r cyfranwyr yn y ddadl hon, lle maent yn grwgnach ynglŷn â chynyddu maint y Senedd a'r gost a ddaw yn sgil hynny. Nid yw'r gwleidyddion hynny'n poeni dim pan fydd Prif Weinidog Prydain yn chwyddo rhengoedd Tŷ'r Arglwyddi yn helaeth. Ni cheir galwadau am refferendwm yno, wrth gwrs. A chynrychiolwyr anetholedig yw'r rheini wrth gwrs—
Llyr, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na wnaf, mae'n ddrwg gennyf, oherwydd mae pobl wedi cael eu cyfle i gyfrannu. Nid ydynt wedi'u hethol ac wrth gwrs, penodir llawer ohonynt yn erbyn argymhelliad a chyngor y comisiynydd penodiadau. Wel, pwy oedd yn rhefru am swyddi i'r bechgyn bum munud yn ôl? Pwy oedd yn rhefru am fargeinion ystafell gefn a choridorau tywyll? A phan ddaw'n fater o gost, gwyddom fod Tŷ'r Arglwyddi yn costio £15 miliwn y flwyddyn i drethdalwyr mewn lwfansau dyddiol yn unig. Nid wyf yn eich clywed yn gofyn 'Faint o feddygon a nyrsys yw hynny?'. Wyddoch chi, mae'r gwaith o adnewyddu Palas San Steffan yn mynd i fod yn y biliynau—mae rhai ffigurau'n dweud hyd at £18 biliwn. Deunaw biliwn o bunnoedd. Mae hynny'n ddeunaw mil o filiynau o bunnoedd. Ac nid yw hynny'n eich poeni, ond eto, pan soniwn am gryfhau democratiaeth Cymru, 'O, na. Na, na, na. Ni allwn gael hynny, mae'n costio gormod. Mae arnom angen refferendwm.' Dewch wir. Mae eich rhagrith yn troi fy stumog yn llwyr.
Iawn, rwy'n mynd i ddweud yr hyn roeddwn i fod i'w ddweud yn awr.
Dwi jest eisiau ehangu ar y pwynt roedd y Llywydd, a dweud y gwir, yn ei wneud ynglŷn â chapasiti a diffyg capasiti yn y Senedd. Byddwch chi'n gwybod fy mod i'n cadeirio pwyllgor yn y Senedd, Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith. Mae remit y pwyllgor yna yn eang iawn, fel mae'r teitl yn awgrymu. Rŷn ni'n sôn am yr amgylchedd, rŷn ni'n sôn am newid hinsawdd—sy'n agenda allweddol i ni fel ag y mae ar hyn o bryd—mae ynni yn dod i mewn iddi, 'retrofit-o' tai, mae'r system gynllunio, mae cynllunio gofodol ar y tir ac ar y môr. O safbwynt isadeiledd, rŷn ni'n sôn am drafnidiaeth, pob agwedd o drafnidiaeth. Rŷn ni'n sôn am reilffyrdd, am fysiau, am ffyrdd. Rŷn ni'n sôn hefyd am gysylltedd megis band eang ac yn y blaen. Mae gyda chi sawl pwyllgor yn San Steffan ac mewn Seneddau eraill yn y byd yma i ddelio â'r rheini, ond mae'r rheini i gyd yn dod o fewn remit un pwyllgor, a chwech Aelod sydd ar y pwyllgor yna. Chwech Aelod sydd yn gorfod cael y dyfnder gwybodaeth a deallusrwydd o safbwynt y meysydd yna i gyd i wneud eu gwaith yn effeithiol. Ychwanegwch chi at hynny y ffaith bod y rhan fwyaf o aelodau'r pwyllgor yna yn eistedd ar bwyllgorau eraill hefyd. Dyna'r math o issues capasiti sydd gennym ni. Dwi yn ogystal yn lefarydd fy mhlaid ar gyllid a llywodraeth leol, cyfrifoldeb ychwanegol eto, heb sôn, wrth gwrs, am y gwaith rŷn ni i gyd yn ei wneud yn ein hetholaethau o safbwynt gwaith achos yn cynrychioli ein hetholwyr ac yn y blaen ac yn y blaen. Ac mae hynny—. Rŷn ni'n gwybod hyn, ond mae'n bwysig bod pobl yn clywed hyn.
Dyna ichi jest gipolwg ar y problemau capasiti sydd gennym ni erbyn hyn, ac mae hynny yn cael effaith ar ein gallu ni i graffu yn y dyfnder ac yn y manylder y dylem ni ei wneud ar bolisïau, ar ddeddfwriaeth ac yn y blaen. Felly pan fo pobl yn sôn am gost, ie, gallwn ni ei alw fe'n gost, ond gallwn ni hefyd ei alw fe'n fuddsoddiad. Mi fyddai fe'n fuddsoddiad mewn capasiti a fyddai'n golygu wedyn, wrth gwrs, fod y polisïau, y rheoliadau, y ddeddfwriaeth sy'n cael eu craffu a'u pasio yn y Senedd yma yn fwy effeithiol, yn fwy effeithlon, a chyda llai o ganlyniadau annisgwyl—unintended consequences—fyddai, wrth gwrs, yn golygu llai o gostau ychwanegol nad oedd modd eu rhagweld nhw yn y pen draw. Felly, dwi'n gweld hwn fel buddsoddiad, nid cost. Yn fwy na hynny, wrth gwrs, mae e'n fuddsoddiad sydd yn dod ag elfennau positif eraill, megis ehangu cynrychiolaeth i sicrhau bod yna fwy o gydbwysedd a mwy o amrywiaeth ymhlith y rhai sydd yn cynrychioli yn y Senedd yma.
Nawr, nid am fy mod am weld mwy o wleidyddion rwy'n cefnogi Aelodau ychwanegol, ond rhaid i bawb ohonom dderbyn bod arnom angen mwy o gapasiti i ymdrin â'r pwerau a'r cyfrifoldebau cynyddol sydd gennym. Mae'n gwneud synnwyr fod pwerau datganoledig ychwanegol a phwerau deddfu ychwanegol a phwerau ychwanegol i amrywio trethi yn golygu y bydd mwy o bwysau ar y capasiti presennol, ac os na chynyddwch y capasiti i ymdrin â hynny, yr hyn a wnewch yw lleihau gallu'r Senedd i ddefnyddio'r pwerau hynny'n effeithiol. Nid wyf am weld Senedd wedi'i lleihau. Nid wyf am gael Senedd sy'n llai abl i fanteisio i'r eithaf ar ei photensial i wella bywydau pobl Cymru. Rwyf am gael Senedd sydd mor effeithiol ag y gall fod ac sy'n gwneud popeth yn ei gallu i graffu ar y Llywodraeth, wrth iddi gyflawni ei chyfrifoldebau deddfwriaethol a chyllidol ac wrth gwrs, yn ei gallu i fynegi lleisiau pobl Cymru yn eu holl amrywiaeth. Felly, llai o'r dicter ffug—cefnogwch y cynigion hyn, am mai dyna'r ffordd o wneud i hynny i gyd ddigwydd.
Yn ôl fy nghyfrifiadau, rydym yn dod yn agos at ddiwedd yr amser. Mae gennyf dri siaradwr ar ôl. Bwriadaf alw ar y tri siaradwr i gael dadl lawn ar yr adroddiad hwn, felly rwy'n ymddiheuro os awn dros yr amser, ond dyna yw fy mwriad. Alun Davies.
Rwy'n ddiolchgar ichi, Ddirprwy Lywydd ac fel eraill y prynhawn yma, hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy ddiolch i holl aelodau'r pwyllgor a edrychodd ar hyn a diolch i Huw Irranca-Davies am ei arweinyddiaeth ar y pwyllgor hwnnw. Byddwn hyd yn oed yn diolch i Darren Millar. Rwy'n derbyn iddo gael ei roi mewn sefyllfa anodd, ond gwn ei fod hefyd wedi ceisio cyfaddawd ar y materion hyn dros y cyfnod y bu'n gwasanaethu fel aelod o'r pwyllgor hwnnw, ac mewn dadleuon sydd weithiau'n eithaf pigog, credaf y dylem bob amser geisio cydnabod y cyfraniad a wneir gan Aelodau y byddwn yn anghytuno â hwy.
Fel eraill, rwyf innau hefyd yn cyfaddawdu yn fy nghefnogaeth i'r cynigion hyn. Mae Aelodau sy'n fy adnabod yn gwybod y byddai'n well gennyf gael pleidlais sengl drosglwyddadwy. Dim ond y Blaid Lafur sy'n gallu cael dadl lle mae 87 y cant o'i chynrychiolwyr yn pleidleisio o blaid rhywbeth a'r cynnig hwnnw'n colli. Bydd y rhan fwyaf o aelodau'r Blaid Lafur yn cefnogi pleidlais sengl drosglwyddadwy, yn fy marn i. Pleidleisiodd y mwyafrif—y mwyafrif llethol—o'n cynhadledd yn Brighton y llynedd o blaid pleidlais sengl drosglwyddadwy. Dyna yw barn y rhan fwyaf o aelodau'r blaid, a hoffwn pe baem yn symud ymlaen gyda'r system honno ar gyfer y cynnig hwn.
Gadewch imi ddweud hyn: rwyf innau hefyd, unwaith eto, fel Darren, wedi cael trafferth gyda mater rhestrau agored a chaeedig. Cefais fy syfrdanu gan Aelodau Ceidwadol rhanbarthol sy'n dadlau dros y mater hwn, oherwydd cawsant i gyd eu hethol ar restrau caeedig. Nid oedd yn ymddangos eu bod yn deall hynny. Mae'n dipyn o beth, mewn gwirionedd: nid ydych yn deall y system y cawsoch eich ethol oddi tani hyd yn oed. Ond rwyf wedi cael trafferth gyda hyn, a gadewch imi ddweud hyn, gadewch imi ddweud hyn—. Maent hefyd yn cael eu hethol o dan D'Hondt gyda llaw—nid ydych yn deall hynny ychwaith.
Ond gadewch imi ddweud hyn, gadewch imi ddweud hyn, ac rwy'n credu bod Mark Drakeford wedi dweud hyn yn glir iawn, ac roedd yn siarad amdanaf fi pan oedd yn ei ddweud, ond mae'n fater o'r pen a'r galon gyda mi hefyd, oherwydd rwy'n credu—ac rwy'n credu bod Sioned Williams wedi siarad am hyn yn argyhoeddiadol iawn yn ei chyfraniad—fod arnom angen Senedd sy'n gwneud mwy na gwneud y gwaith yn unig, Senedd sy'n siarad dros y genedl a'r wlad, ac mae hynny'n golygu Senedd lle nad yw amrywiaeth a rhywedd yn digwydd drwy ddamwain neu oherwydd bod un blaid wleidyddol yn penderfynu bod yn rhaid iddynt ddigwydd, ond ei fod yn rhan o DNA pwy a beth ydym ni. A chefais fy argyhoeddi ynghylch rhestrau caeedig oherwydd credaf mai dyma'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod gennym y cydbwysedd rhwng y rhywiau a'r amrywiaeth sy'n gwneud ein Senedd yn wirioneddol gynrychioliadol o'n cenedl. Fe wnaf ildio.
Pan oeddem yn ystyried y materion hyn fel pwyllgor, roedd yn wir y gallai rhestrau hyblyg ganiatáu ar gyfer creu rhestrau ymgeiswyr 'am yn ail' gan barhau i gynnig y cyswllt atebolrwydd uniongyrchol hwnnw. Felly, gallech ddal i gael cwotâu rhywedd os mai dyna oedd pobl am eu cael, ond gallech hefyd gael cyfle i roi cyswllt uniongyrchol rhwng unigolyn a'i etholwyr. Onid ydych yn credu bod honno'n system well na rhestrau caeedig?
Edrychwch, dywedais ar ddechrau fy nghyfraniad fy mod innau hefyd yn cyfaddawdu wrth gefnogi hyn, a dyna'r cyfaddawd rwy'n ei wneud.
Y rheswm pam fod hyn yn bwysig, a dyma'r rheswm pam fy mod wedi fy syfrdanu gan ymateb y Ceidwadwyr iddo, yw bod hyn yn ymwneud â dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Nawr, dysgodd pob un ohonom yn y Siambr ar ddechrau'r Senedd hon fod y Ceidwadwyr wedi rhoi'r gorau i unrhyw esgus o fod eisiau bod mewn Llywodraeth, ond yn awr rydym yn dysgu eu bod yn rhoi'r gorau i fod yn wrthblaid hefyd. Nid mater i'r Llywodraeth yw cael ei dwyn i gyfrif, ni yn y Siambr hon sy'n dwyn y Llywodraeth i gyfrif, a'r hyn y mae'r diwygiadau hyn yn ei wneud yw grymuso'r wrthblaid a'r meinciau cefn, ac eto nid yw'r brif wrthblaid eisiau hynny. Mae'n syfrdanol, mae'n syfrdanol, ac mae'n rhywbeth y mae angen ichi feddwl o ddifrif yn ei gylch. Oherwydd gadewch imi ddweud hyn, gadewch imi ddweud hyn wrthych, mae'n bwysig ein bod yn gallu craffu ar y Llywodraeth ac yn ei wneud yn effeithiol, ac mae hynny'n golygu bod angen diwylliant o graffu ac nid y niferoedd yn unig i gyflawni'r gwaith craffu hwnnw. Ac nid yw hynny gennym ar hyn o bryd ac nid yw eich ymagwedd at y ddadl hon yn mynd i gyflawni hynny ychwaith.
Wyddoch chi, clywais Geidwadwyr yn dadlau y prynhawn yma nad ydym am roi pŵer i bleidiau benderfynu pwy sy'n sefyll a beth sy'n cael ei wneud yma, ond maent i gyd wedi rhoi'r un araith. Nawr, beth bynnag yw eich barn am y cyfraniadau a wnawn yma oddi ar feinciau cefn Llafur a chan Blaid Cymru a Jane Dodds fel y Democrat Rhyddfrydol, rydym o leiaf wedi ysgrifennu ein hareithiau ac rydym wedi dod yma gan feddwl am y materion hyn. Yr hyn rydych chi wedi'i wneud yw darllen yr areithiau—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na, rwyf wedi gwrando gormod arnoch—yw darllen yr areithiau a ysgrifennwyd ar eich rhan. Ac fe dderbyniodd Darren Millar yn ei gyflwyniad nad oedd yn meddwl am refferendwm mewn gwirionedd. Nid oedd wedi meddwl ei fod yn bwysig nes i'r Ysgrifennydd Gwladol ddweud wrtho ei fod yn bwysig. A gadewch imi ddweud hyn, a gadewch imi ddweud hyn wrth gloi—
Gallaf weld yr amser. Nid yw'r Ceidwadwyr erioed wedi cydnabod mandad democrataidd pobl Cymru. Pan fydd pobl Cymru—[Torri ar draws.] Pan fydd pobl Cymru—[Torri ar draws.] Pan fydd pobl Cymru—[Torri ar draws.] Pan fydd pobl Cymru—[Torri ar draws.] Fe wnaf barhau, mae'r microffon yn gweithio yn awr.
Rwyf am ei glywed yn gorffen er mwyn inni gael siaradwyr eraill i mewn.
Pan bleidleisiodd pobl Cymru dros ddatganoli ym mis Medi 1997, pleidleisiodd y Blaid Geidwadol yn Senedd San Steffan yn erbyn y ddeddfwriaeth ym mis Rhagfyr 1997, ac mae angen ichi gofio hynny. Ac fe wnaeth pobl Cymru ethol Llywodraeth a Senedd hefyd a oedd wedi ymrwymo i ddiwygio. Gallwch naill ai ddod ar hyd y llwybr gyda ni a sicrhau ein bod yn cytuno ar y diwygiad hwnnw ar draws y Siambr gyfan—
Alun, mae angen ichi orffen yn awr.
—sef yr hyn yr hoffwn ei weld, neu mae arnaf ofn eich bod ar y llwybr tuag at fod yn amherthnasol.
Hoffwn fynegi fy siom lwyr ynghylch cynigion Llafur Cymru a Phlaid Cymru i gynyddu nifer yr Aelodau o'r Senedd yn y lle hwn, ac rwyf am wneud hynny am dri phrif reswm.
Yn gyntaf, rhaid eich bod yn ymwybodol iawn nad yw Llywodraeth y DU yn mynd i gynyddu cyllideb Llywodraeth Cymru i adlewyrchu'r cynnydd yn nifer yr Aelodau, felly yr hyn y mae Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn ei gynnig yw tynnu tua £100 miliwn allan o'r arian sydd ar gael ar gyfer gofal iechyd, o'r arian sydd ar gael ar gyfer addysg, ac o'r arian sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau llawer mwy hanfodol, i dalu—a gadewch inni fod yn onest—am fwy o wleidyddion. Mae'n anhygoel mai ymateb y Llywodraeth hon i'r safonau addysg gwaethaf yn y DU, y cyflogau isaf i bobl ym mhob sector o'i gymharu â gweddill y DU—a hyd yn oed cyn COVID, roedd bron i chwarter poblogaeth Cymru yn byw mewn tlodi—yw mynd â £100 miliwn oddi ar y bobl hyn fel y gall y lle hwn, mae'n debyg, siarad mwy ynglŷn â sut y gallant geisio eu helpu.
Yn ail, rwy'n arswydo na fyddai'r Prif Weinidog hyd yn oed yn ystyried rhoi llais i bobl Cymru ar y mater hwn. Ddoe, dywedodd y Prif Weinidog, mewn ymateb i fy nghyd-Aelod, Darren Millar, fod pobl Cymru wedi dewis hyn pan wnaethant bleidleisio yn etholiadau diwethaf y Senedd, ond nid yw hyn yn wir. Nid oedd sôn o gwbl ym maniffesto Llafur Cymru, a gadewch inni fod yn onest, nid oedd hyn yn cael ei drafod yn eang hyd yn oed yn ystod yr ymgyrch ar garreg y drws. Mae angen i'r Llywodraeth hon wynebu—
Joel, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Pa mor hir—? Na, mae'n ddrwg gennyf. Ewch ymlaen.
Byddwch yn fyr, oherwydd rydym yn mynd dros yr amser.
Rwyf wedi gwrando gyda diddordeb, fel y gwnaf bob amser, ar yr Aelodau Ceidwadol, ond a gaf fi ofyn, os mai eich barn chi yw nad yw'n ddilys cyflwyno newid i'r system etholiadol heb refferendwm, pam na chyflwynodd eich Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan y cymal hwnnw yn Neddf Cymru 2017? Yr hyn a wnaethoch oedd dweud ei fod yn amodol ar ddwy ran o dair o'r Aelodau o'r Senedd hon yn pleidleisio o blaid. Pam na wnaethoch chi hynny bryd hynny, os yw'n egwyddor mor bwysig yn awr?
Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Mae arnaf ofn ei fod yn gwestiwn i'w ofyn i Lywodraeth y DU yn San Steffan yn hytrach nag i mi.
Mae angen i'r Llywodraeth hon wynebu realiti. Er y gallai adroddiad 50 oed, fel y crybwyllwyd ddoe, fod wedi argymell dau i dri Aelod i bob etholaeth seneddol, nid yw hynny'n golygu ei fod yn iawn. Nid yw'n golygu ei fod yn iawn bryd hynny, ac yn sicr nid yw'n golygu ei fod yn iawn yn awr. Dywedodd fy nghyd-Aelod, Alun Davies, ddoe, a heddiw yn y Siambr hon, nad oedd gan y Ceidwadwyr ddiddordeb mewn democratiaeth Gymreig. Hoffwn atgoffa'r Aelod mai o dan Lywodraeth Geidwadol y crëwyd y Gweinidog dros Faterion Cymreig, y crëwyd Gweinidog Gwladol Cymru, y crëwyd Uwch-Bwyllgor Cymreig Tŷ'r Cyffredin, y crëwyd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, ac y crëwyd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, a oedd yn ddeddf hanesyddol? Yn wir—
A wnewch chi dderbyn ymyriad gennyf fi?
Na, mae'n ddrwg gennyf—
Fe wnaethoch chi fy enwi.
Nid oes raid i chi dderbyn yr ymyriad os nad ydych yn dymuno gwneud hynny.
Mae'n ddrwg gennyf. Yn wir, mae bron bob ffurf bwysig ar ddatganoli pŵer, ac eithrio refferenda 1979 a 1997, a phob ffurf ar ddatganoli gwasanaethau canolog i Gymru wedi dod gan Lywodraethau Ceidwadol yn San Steffan. Felly, hoffwn ddiolch i'r Aelod os gall ymatal rhag lledaenu camwybodaeth Trumpaidd o'r fath yn ei sylwadau yn y dyfodol.
Yn olaf, hoffwn ddweud hyn: mae'r cynnydd yn nifer yr Aelodau yn y lle hwn wedi'i ganoli'n llwyr ar y ffaith bod y Llywodraeth hon yn credu na wneir digon o graffu arni, fel y trafodwyd yn y ddadl hon. Ond a gaf fi atgoffa'r Llywodraeth, a'r rhai sydd am gefnogi'r cynigion hyn, ein bod bob amser yn sefyll yma'n dweud wrthych pa mor wael yr ydych yn gwneud eich gwaith? Mae eich comisiynwyr yn ysgrifennu adroddiad ar ôl adroddiad yn dweud wrthych eich bod yn methu. Felly, pam y credwch y bydd cael 36 Aelod arall i gymryd eu tro i ddweud wrthych beth y mae pawb arall yma eisoes yn ei ddweud wrthych yn mynd i newid hynny? Diolch, Ddirprwy Lywydd.
A'r aelod olaf o'r meinciau cefn, Peter Fox.
Diolch yn fawr iawn am ganiatáu i bawb gyfrannu, Ddirprwy Lywydd—rwy'n ei werthfawrogi. Ac Alun, byddaf yn sôn am ddemocratiaeth fel Ceidwadwr ar y meinciau cefn hyn, a'r cysylltiad rhwng cynrychiolydd etholedig ac etholwr yw'r cysylltiad sy'n gwneud i ddemocratiaeth dicio, oherwydd mae democratiaeth yn gweithredu drwy fod cynrychiolwyr etholedig yn cael eu dwyn i gyfrif. Mae ein gweithredoedd, ein geiriau, ein cyflawniadau, yn cael eu craffu'n briodol gan y rhai a gynrychiolwn. Mae hyn yn ein galluogi i feithrin cysylltiad a pherthynas ag etholwyr. Mae llawer o Aelodau yn y Siambr, rwy'n siŵr, yn mwynhau cysylltiad â'u hetholwyr, ac ni ellir tanbrisio'r cysylltiad hwnnw, oherwydd mae'n golygu bod etholwyr yn gwybod pwy yw eu cynrychiolydd, maent yn gwybod at bwy i fynd, maent yn gwybod pwy i siarad â hwy ar adegau o galedi ac angen. Ond mae arnaf ofn y bydd diwygiadau Llafur a Phlaid Cymru a'r pwyllgor yn chwalu hynny.
Rydym bellach mewn sefyllfa ansicr lle y gallai ardaloedd gwahanol yng Nghymru heb unrhyw gysylltiad o gwbl gael eu taflu at ei gilydd heb fawr o feddwl. Er enghraifft, mae perygl gwirioneddol y gallai etholwyr yn etholaeth Dwyrain De Cymru ar hyn o bryd ddod o dan ganolbarth Cymru yn y pen draw, ac fel arall. Sut ar y ddaear y mae hynny'n gwneud synnwyr? Yr ateb yw nad yw'n gwneud synnwyr. Ac mae senario o'r fath yn gwbl anghywir a digyfiawnhad beth bynnag.
Mae sir Fynwy, sir Benfro, Abertawe, Cymoedd de Cymru a llawer o ardaloedd eraill yng Nghymru yn ymfalchïo'n briodol yn eu natur unigryw, natur unigryw sy'n gwbl ddealladwy ac yn hollbwysig i'r rhai sy'n byw yn yr ardaloedd hynny. Felly, pwy ydym ni i newid rhywbeth mor werthfawr â hynny? Mae digon o ddryswch fel y mae ynghylch y gwahaniaethau yn ffiniau awdurdodau lleol o'u cymharu â ffiniau'r Senedd a Senedd y DU—
Peter, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mae'n ddrwg gennyf. Gwnaf, Jenny.
Onid yw’n wir fod hanner y bobl ar eich meinciau chi yn gynrychiolwyr etholaethau a hanner yn Aelodau rhestr? Felly, er fy mod yn cymeradwyo rhinweddau’r cyswllt etholaethol, mae hanner eich Aelodau chi eisoes yn Aelodau rhestr.
Wel, gadewch inni beidio â cholli hanner arall yr Aelodau etholaeth, felly, Jenny. Dyna rwy’n sôn amdano: democratiaeth.
Fel y dywedais, mae digon o ddryswch eisoes ynghylch y ffiniau. Pe bai’r cynlluniau hyn yn cael eu rhoi ar waith ar eu gwedd bresennol, credaf y bydd lefel y dryswch a’r pryder a achosir yn enfawr. Mae pobl Cymru, sydd wedi rhoi pob un ohonom yma, mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, yn haeddu gwybod y gwir, nid cael eu cadw yn y tywyllwch. Maent yn haeddu hawl i ddweud eu barn.
Rwy’n credu bod y cynlluniau hefyd yn achosi pryder difrifol arall i mi: lle y daw’r diwygio i ben? A yw’r cyhoeddiad hwn yn rhagflaenu rhywbeth mwy sinistr—Alun Davies—fel ad-drefnu ein hawdurdodau lleol hanfodol gan Lywodraeth Cymru? Fel cyn-arweinydd cyngor, gwn pa mor bwysig yw ein hawdurdodau lleol a’u hunaniaeth i’n dinasyddion. Bydd unrhyw ad-drefnu o ganlyniad i newidiadau comisiwn ffiniau yn y dyfodol yn dileu atebolrwydd lleol, hunaniaeth leol a sofraniaeth leol, pethau sydd mor werthfawr i’n cymunedau lleol. Felly, er lles ein democratiaeth, rhaid cyhoeddi unrhyw newidiadau damcaniaethol i ffiniau neu ad-drefnu pellach i bobl Cymru ar unwaith. Efallai na fydd y pwyllgor yn gwybod beth yw’r cynlluniau hynny ar gyfer y dyfodol, ond rwy’n siŵr bod y Llywodraeth a Phlaid Cymru yn gwybod yn iawn. Felly, rwy’n cefnogi’r gwelliannau. Diolch.
Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Cadeirydd ac aelodau'r pwyllgor a staff y pwyllgor am eu gwaith caled wrth lunio'r adroddiad cynhwysfawr hwn. Mae cyhoeddi'r adroddiad hwn yn gam pwysig ar y daith i greu Senedd sy'n adlewyrchu amrywiaeth pobl Cymru ac sydd â'r adnoddau priodol i gyflawni ei chyfrifoldebau polisi, deddfwriaethol ac ariannol yn llawn.
Mae'r cytundeb cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn ymrwymo'r ddau bartner i gydweithio i ddiwygio'r Senedd. Atgyfnerthwyd yr ymrwymiad hwn yn ddiweddar gan y datganiad safbwynt a gyhoeddwyd ar y cyd gan y Prif Weinidog ac Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, i gefnogi gwaith y pwyllgor diben arbennig.
Ddirprwy Lywydd, mae’r ffaith bod yr adroddiad wedi’i gytuno gan aelodau Llafur Cymru, Plaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru o’r pwyllgor yn adlewyrchu’r gefnogaeth drawsbleidiol sydd wedi’i sefydlu dros weithredu i ddiwygio’r Senedd. Lywydd, mae’n hanfodol ein bod yn buddsoddi yn ein prosesau democrataidd a’n sefydliadau. Bydd buddsoddi yn y sefydliad hwn yn gwella’r ffordd y caiff Cymru ei llywodraethu, yn gwella’r craffu a throsolwg ar fusnes Llywodraeth Cymru ac yn arwain at bolisi mwy effeithiol, gwariant mwy effeithlon a deddfwriaeth well. Os na weithredwn yn awr, mae perygl na fydd ein deddfwrfa’n gallu parhau i gyflawni’n effeithiol dros bobl Cymru.
Hoffwn droi at rai o'r argymhellion penodol a wnaed gan y pwyllgor, yn enwedig ar faint, system etholiadol a mesurau i gefnogi amrywiaeth. Rwy’n croesawu argymhelliad y pwyllgor ar gyfer 96 o Aelodau. Nid yw’r syniad o Senedd fwy yn un newydd ac mae wedi’i argymell gan gomisiwn Richard yn 2004 a’r panel arbenigol annibynnol yn 2017. Yn eu hadroddiad yn 2017, argymhellodd y panel arbenigol annibynnol ar ddiwygio’r Cynulliad y dylai’r sefydliad gynyddu yn ei faint i sicrhau bod ganddo ddigon o gapasiti i gyflawni ei gyfrifoldebau polisi, deddfwriaethol a chraffu ariannol, ac y gall Aelodau hefyd ymgymryd â’u swyddogaethau cynrychioliadol a gwleidyddol, eu rolau ymgyrchu a rolau eraill.
Y Senedd hon yw’r leiaf o’r holl ddeddfwrfeydd datganoledig ac mae ganddi’r un nifer o Aelodau ag a oedd ganddi ym 1999 pan grëwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ers hynny, mae Cymru wedi cael pwerau newydd, gan gynnwys pwerau deddfu sylfaenol a phwerau i godi trethi. Mewn cymhariaeth, mae gan Senedd yr Alban 129 o Aelodau ac mae gan Gynulliad Gogledd Iwerddon 90 o Aelodau. Felly, er mwyn cynyddu maint y Senedd, bydd angen diwygio system etholiadol y Senedd. Mae cryfderau a gwendidau’n perthyn i wahanol systemau etholiadol, ac nid oes un ateb delfrydol a all gyflawni pob amcan. Fodd bynnag, roedd mwyafrif y pwyllgor o blaid cyflwyno system gyfrannol â rhestrau caeedig.
Rwyf hefyd yn croesawu argymhellion y pwyllgor sy’n ymwneud â chyflwyno cwotâu rhywedd, a’i argymhelliad o ran casglu a chyhoeddi data amrywiaeth, a strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant. Mae gan argymhellion o’r fath botensial i arwain at newid gwirioneddol a gweladwy yma ar lawr y Senedd. Pwy na fyddai eisiau Senedd sy'n wirioneddol gynrychioliadol o bobl Cymru? Mae gwella cydraddoldeb ac amrywiaeth a sicrhau cydbwysedd derbyniol rhwng y rhywiau yn rhan allweddol o hynny. Mae ein hanes o ran cydraddoldeb yn y Senedd yn well nag y gallai llawer o Seneddau eraill ei honni, ond mae llawer mwy i’w wneud o hyd.
Argymhelliad y pwyllgor diben arbennig—
Weinidog, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Mae'n ymwneud â chwotâu rhywedd. A ydych yn derbyn nad oes gan y Senedd bwerau i ddeddfu ym maes cyfle cyfartal ar hyn o bryd, ac na allwn gyflwyno cwotâu rhywedd ar y sail honno?
Y sicrwydd a roddaf i’r Senedd hon yw y byddaf yn gweithio i greu deddfwriaeth sy’n rhoi argymhellion y Senedd hon ar waith, ac y bydd y ddeddfwriaeth honno’n gadarn ac yn gymwys.
Mae argymhelliad y pwyllgor diben arbennig ar gyfer cwotâu rhywedd yn adleisio llawer o’r hyn y mae paneli a phwyllgorau arbenigol annibynnol blaenorol wedi bod yn galw amdano, a dadleuwyd dro ar ôl tro fod gan gwotâu rhywedd, wedi’u hintegreiddio o fewn y system etholiadol, botensial i wneud gwahaniaeth go iawn. Fe gyfeiriaf at y ffigurau hynny. Os edrychwn o gwmpas y Senedd hon ar y dasg sydd o’n blaenau, os edrychwn ar yr Aelodau Llafur, mae 60 y cant yn fenywod. Soniaf am hynny oherwydd fe ddywedwyd yn gynharach mai swyddi i’r bechgyn yw hyn i gyd. Wel, mae 60 y cant o’r Aelodau Llafur yn fenywod. Mae 30 y cant o Aelodau Plaid Cymru yn fenywod, mae 18 y cant o’r Torïaid yn fenywod. Os trowch y ffigur hwnnw o gwmpas, mae 82 y cant o’r ochr honno yn wrywaidd. Mae'n debyg mai'r Democratiaid Rhyddfrydol yw'r esiampl orau, gyda 100 y cant o’u Haelodau’n fenywod. [Torri ar draws.] Efallai y daw hynny â’i her ei hun. Rwyf eisoes wedi cyfeirio at faterion yn ymwneud ag amrywiaeth.
Yn olaf—. [Torri ar draws.] Wel, fel rhywun sy’n aelod o leiafrif ethnig, rwy’n meddwl ei bod hi braidd yn amhriodol eich bod yn gwneud y sylw hwnnw wrthyf fi. Yn olaf, rwy’n croesawu’r amserlen heriol a argymhellwyd gan y pwyllgor ar gyfer gweithredu diwygiadau’r Senedd mewn pryd ar gyfer etholiadau nesaf y Senedd yn 2026. Mae’r pwyllgor hefyd yn cydnabod y gallai hyn olygu y bydd angen cyflwyno rhai agweddau ar sail dros dro.
Ni fydd y Llywodraeth yn cefnogi’r naill na’r llall o’r gwelliannau a gyflwynwyd. Mae gennym bob ffydd yn y broses a ddilynir gan y pwyllgor diben arbennig, ac rydym yn cefnogi pob un o’i argymhellion. Mae’n rhesymol disgwyl y bydd safbwyntiau gwahanol ar fanylion y ffordd orau o fwrw ymlaen â’r pecyn hwn o ddiwygiadau, ond mae yna gonsensws fod angen creu Senedd sy’n addas i’r diben ar fyrder. Hefyd, mae yna fandad clir a diymwad ar gyfer diwygio. Mae’r achos dros ddiwygio’r Senedd wedi’i dderbyn gan Blaid Lafur Cymru, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Phlaid Cymru, ac wedi’i gynnwys ym maniffestos pob un o’r tair plaid. Bydd gan bob plaid ei phrosesau mewnol ei hun ar gyfer cytuno ar y pecyn diwygio hwn. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol y bydd fy mhlaid fy hun yn cyflwyno’r cynigion i gynhadledd adalw yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae ein cefnogaeth, fel Plaid Lafur y Senedd, felly yn amodol ar gytundeb ein cynhadledd.
Os caiff argymhellion y pwyllgor diben arbennig eu cymeradwyo heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn barod i baratoi a chyflwyno Bil i roi’r argymhellion hyn ar waith. Drwy graffu ar y Bil hwnnw, bydd cyfle i bob Aelod gyfrannu at greu Senedd sy’n adlewyrchiad gwirioneddol o’r bobl sy’n byw yma yng Nghymru. Fel rhan o hynny, wrth gwrs, bydd cyfle i graffu’n ofalus ar unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â’r pecyn diwygio hwn. Rwy’n bwriadu cyhoeddi ymateb ffurfiol Llywodraeth Cymru i argymhellion y pwyllgor yn yr wythnosau nesaf.
Wrth gloi, hoffwn ddiolch unwaith eto i’r pwyllgor am gynhyrchu eu hadroddiad. Mae hwn yn ddiwrnod pwysig i’r sefydliad hwn ac yn gam arwyddocaol tuag at ddatblygu democratiaeth gryfach, fwy hyderus a mwy modern yma yng Nghymru. Diolch, Ddirprwy Llywydd.
Galwaf ar Huw Irranca-Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Llywydd. Mae’n bleser dilyn sylwadau cytbwys ac adeiladol y Cwnsler Cyffredinol, ond a gaf fi hefyd ddiolch i bob Aelod sydd wedi cyfrannu heddiw, waeth beth yw’r farn a’r safbwyntiau gwahanol? Mae wedi bod yn ddadl fywiog—dadleuol ar adegau ac angerddol bob amser—a chredaf mai dyna yw pwrpas y lle hwn. Rwy'n meddwl ei bod yn debygol y gwelwn fwy o'r diwygiadau y soniwn amdanynt heddiw yn cael eu cyflawni, os dewiswn fwrw ymlaen â hwy.
Rwyf eisoes wedi disgrifio'r dasg a osodwyd i ni, Ddirprwy Lywydd, fel un hynod o syml a chythreulig o gymhleth. Y peth hynod o syml yw llunio cynllun iwtopaidd o'r hyn y gallwn fwrw ymlaen ag ef; y darn cythreulig o gymhleth yw cael rhywbeth a fyddai’n arwain at uwchfwyafrif yn y Senedd hon, sydd, fel y nododd arweinydd Plaid Cymru, wedi’i nodi yn Neddf Cymru 2017, a roddodd bŵer inni wneud yn union hyn—heb fod yn amodol ar refferendwm ac yn y blaen, ond inni wneud y swyddi y cawn ein talu i’w gwneud: mesur yr hyn y credwn sy'n gydbwysedd rhwng buddiannau Cymru a’r bobl y cawn ein hanfon yma i’w cynrychioli, a gwneud y penderfyniadau anodd hynny.
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar hynny?
Nid yw'n debyg fod gennyf amser, Alun, mae arnaf ofn, yn anffodus—rwy'n ymddiheuro'n llaes i'r Aelodau am hyn.
Rydym wedi clywed yn gyson gan Aelodau Ceidwadol, ac yn gyson a chlir hefyd gan eu harweinyddiaeth hyd yn oed tra oedd y pwyllgor yn eistedd, mae'n rhaid i mi ddweud: dim mwy o Aelodau ac ati. Mae wedi cael ei ailadrodd drosodd a throsodd, a dyma ni heddiw.
Yr hyn a grybwyllwyd heddiw hefyd, yn ddiddorol, oedd sylwadau yn erbyn gwahaniaethu cadarnhaol. Ond dyna fel y mae—mae hwnnw’n bwynt yr anghytunir yn ei gylch. Mae hyn yn gryf iawn o ran mesurau y bydd angen eu cymryd, gan gynnwys mesurau deddfwriaethol yma.
Rhaid imi ddweud bod y dadleuon yn erbyn mwy o wleidyddion wedi'u gwneud er gwaethaf y dystiolaeth dros yr hyn y mae hynny’n ei wneud i graffu gwell, ac fe drof at rai o’r rheini mewn eiliad. Gan y rhai a oedd â safbwyntiau gwahanol o ran cefnogaeth i hyn heddiw, rwy’n croesawu’r gefnogaeth gref a glywsom yn amlwg heddiw. Oes, mae yna wahanol safbwyntiau ar siâp, ffurf, cywair, manylion ac yn y blaen—rwy'n deall hynny i gyd—ac felly y dylai fod. Mae gennyf fy marn bersonol fy hun, yr ymdrechais yn galed i osgoi ei chynnwys yn yr adroddiad hwn a’i dal yn ôl; un diwrnod, fe gaf ei lleisio. Ond rwy’n meddwl bod hwn yn gam mawr ymlaen o ran ansawdd y craffu yma. Silk ei hun a ddywedodd na allwch dorri corneli ar graffu mewn gwirionedd; mae angen y nifer cywir o Aelodau arnoch. Yn syml, hoffwn ddweud wrth fy nghyd-Aelodau ar y meinciau fy mod wedi dod i’r lle hwn oherwydd fy mod yn credu’n gryf yn y lle hwn ac rwy’n credu yn y llais y mae’n ei roi i bobl Cymru. Ond nid ydym yn ei wneud yn ddigon da. Bûm yn aelod, yn llywyddu dros ac yn cadeirio pwyllgor yn San Steffan a oedd yn cynnwys 17 o aelodau. Dyna’r unig un y bûm yn aelod ohono; nid oedd yn rhaid imi wneud dim byd arall—un pwyllgor. Roedd gennyf y mwyaf gwyrdd o blith yr Aelodau Ceidwadol—ar y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol—y rhai mwyaf gwyrdd, yn ymosod ar y Llywodraeth. Roedd gennyf y mwyaf amheus ynghylch newid hinsawdd yn ymosod ar y Llywodraeth. Roedd yna 17 o aelodau—roedd yno rebeliaid ac roedd yno unigolion di-flewyn ar dafod. Nid oes gennym gapasiti i wneud yr archwiliadau dyfnach hynny, y craffu caled hwnnw, a dyna yw'r rheswm dros hyn i gyd.
Felly, rwyf am ddweud yn syml, os bydd hyn yn pasio heddiw, byddwch yn adeiladol a chymerwch ran ynddo, oherwydd yr hyn y mae’n ei olygu mewn gwirionedd, fel y gwnaethom enwi'r adroddiad, yw llais cryfach i bobl Cymru. Nid yw'n ymwneud â mwy o wleidyddion; mae'n ymwneud â dwyn y criw hwn i gyfrif, gan bob un ohonom—gan bob un ohonom.
Gadewch imi droi yn fyr iawn, Ddirprwy Lywydd, at rai o’r pwyntiau manwl. Yn gyntaf, ar gosteffeithiolrwydd, rydym yn ymdrin â chyllideb o £20 biliwn yma—mae Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny. Mae angen craffu’n effeithiol ar hynny. Fel y crybwyllais eisoes, comisiwn Silk ei hun a ddywedodd fod craffu da yn golygu deddfwriaeth dda. Mae deddfwriaeth dda yn talu amdani’i hun— pwynt a wnaed gan Aelodau eraill.
Codwyd y cwestiwn ynglŷn â chysylltu ein hunain â ffiniau San Steffan. Rwy'n derbyn bod modelau eraill wedi'u cynnig hefyd. Ond os caf droi eich sylw at baragraff 232, sy’n dweud,
'Fel y nodwyd yn flaenorol, er ein bod wedi argymell y dylai etholaethau’r Senedd gael eu halinio i ddechrau ag etholaethau Senedd y DU, ni ddylent fod yn gysylltiedig yn awtomatig â hwy'—
—am byth a diwrnod.
'Byddai hyn yn golygu y gallai gwyro oddi wrth etholaethau’r DU ddigwydd mewn adolygiadau llawn yn y dyfodol.'
Ac rydym wedi sefydlu cyrff adolygu o fewn hyn. Mae'n floc adeiladu i fynd â ni hyd at 2026.
Ar y math o system bleidleisio, byddai hyn yn dweud, hyd yn oed gyda’r gwahaniaethau barn, byddai hyn o'r diwedd yn ein gweld yn symud oddi wrth y system etholiadol aelodau cymysg a feirniadwyd yn fawr tuag at system gyfrannol a ddefnyddir yn eang mewn democratiaethau modern, er gwaethaf yr holl feirniadu a glywsom. Bydd yn rhoi diwedd ar gael dau ddosbarth o Aelodau o’r Senedd, ac yn osgoi’r dryswch ynghylch yr angen am ddau bapur pleidleisio gwahanol ar gyfer dau Aelod gwahanol. Ac fel y dywedwn yn yr adroddiad, mae hefyd yn system sy'n gydnaws iawn â mesurau i annog cydraddoldeb rhwng y rhywiau.
Ar gymhwysedd deddfwriaethol, y pwynt a godwyd gan fy nghyd-Aelod, y Cwnsler Cyffredinol, os caf gyfeirio’r Aelodau at baragraffau 152 i 158 yn benodol, lle mae’n ymdrin â’r mater hwn ac yn arwain at argymhelliad 17, sy’n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru lunio’r cynigion hyn i leihau’r risg o her lwyddiannus. A cheir safbwyntiau gwahanol ar fater cymhwysedd a'r hyder yn ei gylch, ond rydym wedi clywed, Darren, ar y pwyllgor—rydym wedi clywed mewn tystiolaeth i'r pwyllgor—fod gan rai o'r rhai a roddodd dystiolaeth hyder mawr yn y mater cymhwysedd. Ond yr hyn y mae'n rhaid ei brofi yn awr yw'r ffordd y mae'r Llywodraeth yn ei lunio mewn gwirionedd. Ac rydym wedi cael llawer o drafod ynghylch y math o system bleidleisio.
Yn olaf, ar y mater refferendwm—pwynt olaf ymhlith llawer a ddaeth allan, ac ni allaf ymdrin â phob un ohonynt—datganolodd Deddf Senedd y DU yn 2017, a ddrafftiwyd gan Lywodraeth y DU, bwerau i’r Senedd hon mewn perthynas â’i maint a’i threfniadau etholiadol. O dan y Ddeddf honno, mae unrhyw ddiwygiadau o’r fath yn bwnc gwarchodedig. Maent yn galw am uwchfwyafrif—dwy ran o dair o Aelodau’r Senedd hon—i bleidleisio o blaid ar y cam deddfwriaethol terfynol er mwyn i unrhyw ddiwygiadau o’r fath gael eu pasio. Yn y pen draw, hwn oedd y mecanwaith diogelu a ddewiswyd gan Lywodraeth y DU, ac mae’r pwyllgor yn cytuno ac yn dweud ei fod yn ddigonol.
Ac yn olaf, ar fater Llafur Cymru—rwy'n tynnu fy het fel Cadeirydd y pwyllgor am eiliad—un peth nad yw wedi'i grybwyll yw ein bod wedi cymeradwyo'r cynnydd yn nifer yr Aelodau sawl cynhadledd yn ôl, nid yn y maniffesto diwethaf. Fe ddigwyddodd sawl cynhadledd yn ôl. [Torri ar draws.] Am nad ydych yn aelod. Rwyf wedi dweud wrthych; fe anfonaf y cerdyn aelodaeth atoch a gallwch ddod i'n cynadleddau.
Yn olaf, rwyf wedi dweud y cyfan sydd angen imi ei ddweud. Mae Aelodau eraill wedi dweud y cyfan sydd angen iddynt ei ddweud eisoes. Mae yna wahaniaethau barn. Hyd yn oed ymhlith y rhai sy'n cefnogi'r diwygiadau hyn, hoffent weld gwahanol fathau o ddiwygiadau; rydym yn deall hynny. Mae hwn yn gam pwysig heddiw, fodd bynnag, a dof yn ôl at y pwynt a wneuthum yn fy sylwadau agoriadol. I bob un ohonom, gan gynnwys y rhai sydd wedi siarad i wrthwynebu heddiw, os methwn gymryd y cam hwn heddiw efallai na chawn gyfle arall am genhedlaeth arall, ac nid sefyll yn ein hunfan y byddwn yn ei wneud; byddwn yn mynd wysg ein cefnau fel sefydliad democrataidd. Byddai ein pwyllgor yn dadlau’n gryf na allwn ganiatáu i hynny ddigwydd. Felly diolch eto i bawb a roddodd dystiolaeth i ni, aelodau’r pwyllgor, y tîm gwych a’n cefnogodd, a hefyd am y cyfraniadau heddiw, rwy’n eich annog yn gryf: cefnogwch y cynnig hwn, rhowch lais cryfach i bobl Cymru yn y Senedd hon.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Clywais wrthwynebiad, felly gohiriaf bob pleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Siân Gwenllian.
Eitem 7 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Galwaf ar Sam Rowlands i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8015 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chyflawni'r gwelliannau a addawyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
2. Yn credu bod y penderfyniad i symud y bwrdd iechyd o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020 yn amhriodol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod trefn mesurau arbennig ddiwygiedig i roi'r arweiniad a'r adnoddau sydd eu hangen ar y bwrdd iechyd i fynd i'r afael â methiannau, a darparu'r gofal iechyd o ansawdd uchel y mae pobl Gogledd Cymru yn ei haeddu.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar, heddiw, am allu cyflwyno ein cynnig gan y Ceidwadwyr Cymreig ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Nawr, pan osodwyd Betsi mewn mesurau arbennig ym mis Mehefin 2015, ni fyddai neb wedi credu ein bod, saith mlynedd yn ddiweddarach, yn dal i drafod methiannau difrifol yn y bwrdd iechyd. Fel y gwyddom, mae Betsi yn gwasanaethu tua chwarter poblogaeth Cymru, a hwy sydd wedi cael cam, dro ar ôl tro, ac maent yn ddig ac yn rhwystredig, a hynny'n briodol. Rydym ni yn y Siambr hon hefyd wedi blino ar yr un hen dangyflawni a'r un hen esgusodion.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Cyn imi symud ymlaen at brofiad cleifion, rwyf am gofnodi fy niolch i'r staff gwych yn Betsi, a nodi hefyd fod fy mrawd a fy chwaer ill dau yn nyrsys yn y GIG. Pan fyddaf yn siarad â staff—boed yn feddygon, nyrsys, bydwragedd, staff cymorth, staff gweinyddol—mae’r stori bob amser yr un fath: maent yn gwneud eu gorau glas, ddydd ar ôl dydd, ond nid ydynt yn cael eu cefnogi gan y Llywodraeth hon, Llywodraeth nad yw wedi cymryd y camau llym y mae angen inni eu gweld yng ngogledd Cymru. Er enghraifft, mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi dweud:
'Nid oes digon o bobl ar y rota. Rhaid dewis rhwng mynd i'r clinig neu adael i feddygon dibrofiad iawn wneud gwaith llanw ar ward ar eu pen eu hunain.'
Mae’r staff rheng flaen yn ein hysbytai yn parhau i wneud eu gorau o dan amgylchiadau anodd bob dydd. Weinidog, rwy’n eich annog i roi’r cymorth sydd ei angen arnynt i wneud eu gwaith yn dda.
Ac yn fy nghyfraniad heddiw, Lywydd, hoffwn ganolbwyntio ar dri mater sydd, yn fy marn i, yn llywio'r ddadl heddiw, a'r cyntaf yw profiad y claf. Y ffaith amdani yw bod diffyg cymorth gan y Llywodraeth yn golygu na all y bwrdd iechyd ddarparu gwasanaethau’n briodol. Mae unrhyw un sydd wedi ymweld â lleoliadau gofal iechyd yn fy rhanbarth yng ngogledd Cymru ac wedi eistedd gyda chleifion yn gwybod pa mor ddrwg y gall pethau fod.
Mae amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth yng ngogledd Cymru ymhlith y gwaethaf ar draws y wlad. Mae un o bob pedwar claf yn aros dros flwyddyn am driniaeth, gyda 18,000 o gleifion yn aros mwy na dwy flynedd. Fe soniaf am achos un etholwr, Mrs Jones, yn fy rhanbarth; mae Mrs Jones wedi bod yn aros am glun newydd ers mwy na blwyddyn. Yn yr amser hwnnw, nid yw’r bwrdd iechyd wedi cyfathrebu fawr ddim gyda hi a dros y flwyddyn, mae Mrs Jones wedi dioddef poen sylweddol. Mae hi wedi gorfod rhoi'r gorau i yrru, mae hi'n gaeth i’w chartref mewn poen. Pe bai Gweinidogion iechyd blaenorol wedi mynd i'r afael â'r mater, ni fyddai Mrs Jones yn y sefyllfa y mae ynddi yn awr.
Yn ail, hoffwn ganolbwyntio ar amseroedd aros ambiwlansys ac adrannau damweiniau ac achosion brys. Nid yw perfformiad ystafelloedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys gogledd Cymru yn ddigon da. Ym mis Ebrill 2022, cofnododd Betsi yr amseroedd aros gwaethaf ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru, gydag ychydig dros hanner y cleifion yn cael eu gweld o fewn pedair awr. Ac mae'r stori hyd yn oed yn waeth mewn ysbytai penodol, yn Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam, lle mae’r ffigurau’n is na 35 y cant o gleifion yn cael eu gweld o fewn pedair awr, a 40 y cant yn ysbyty Maelor, gydag un o bob pump o gleifion—gwrandewch ar hyn; un o bob pum claf—yn gorfod aros am fwy na 12 awr. Deuddeg awr yn yr adran damweiniau ac achosion brys; mae hynny yn argyfwng. Deuddeg awr.
Ac mae’r methiant i ymdrin â’r pwysau ar ein hadrannau damweiniau ac achosion brys yn gosod pwysau ychwanegol sylweddol ar ein gwasanaethau ambiwlans. Ym mis Ebrill 2017, byddai 79 y cant o ambiwlansys yn cyrraedd o fewn wyth munud ar gyfer galwadau coch pwysig. Bum mlynedd yn ddiweddarach, yn 2022, ar ôl blynyddoedd o fesurau arbennig ac ymyrraeth gan y Llywodraeth hon, mae'r ffigur hwnnw bellach yn 46 y cant, sefyllfa lawer iawn gwaeth nag yn 2017. Ac mae'r rhain yn bobl go iawn, y bobl sy’n aros am yr ambiwlansys hynny, pobl sydd angen sylw meddygol mewn argyfwng.
Rhoddaf enghraifft arall, achos etholwr arall. Cysylltodd y Parchedig John Morgan o Fae Cinmel â’n swyddfa yng ngogledd Cymru yr wythnos diwethaf i rannu ei brofiad. Yn y bore bach am 3 a.m., cafodd y Parchedig Morgan boenau yn ei frest a ffoniodd i alw am ambiwlans. Chwe awr yn ddiweddarach, cyrhaeddodd un, ac aeth ag ef i aros y tu allan i'r adran damweiniau ac achosion brys ac arhosodd y tu allan i'r adran honno am chwe awr arall. Yna cafodd ei roi ar droli yn yr adran damweiniau ac achosion brys, lle y cafodd ei anwybyddu. Er ei fod yn ddiabetig, ni chynigiwyd bwyd iddo. Ar ôl noson ddi-gwsg mewn adran damweiniau ac achosion brys oer heb flanced na gobennydd, aeth i'r ystafell ymolchi, ond canfu nad oedd dŵr yn dod o'r tap ar gyfer ymolchi. Yna gadawyd y Parchedig Morgan i aros cyn cael ei feddyginiaeth. Ar ôl cael ei adael heb ddim byd ond diod ers amser cinio, penderfynodd ryddhau ei hun am 5 p.m. Yn ei eiriau ei hun, dywedodd y Parchedig Morgan ei fod yn teimlo bod yr amodau yn yr adran damweiniau ac achosion brys yn annynol; byddai'n well ganddo farw gartref ar ei ben ei hun na mynd yn ôl i'r ysbyty. Aelodau, mae’r Parchedig Morgan yn 70 oed ac yn gyn-filwr a wasanaethodd yn yr Awyrlu am 25 mlynedd. Mae profiadau fel un y Parchedig Morgan yn gwbl annerbyniol ond yn anffodus, yn llawer rhy gyffredin.
Gallwn fynd ymlaen i sôn am lond llaw o fethiannau yn Betsi: mae gwasanaethau fasgwlaidd yn draed moch, mae mynediad at wasanaethau deintyddol yn loteri, mae meddygfeydd meddygon teulu yn dod â chontractau â’r bwrdd iechyd i ben. Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau’n sôn am y pethau hyn heddiw yn y ddadl. Lywydd, y peth i mi sy’n crynhoi methiant Llywodraeth Cymru i wella pethau yn Betsi yw perfformiad y gwasanaethau iechyd meddwl, ac rwyf am orffen gyda hynny heddiw.
Mor ddiweddar â mis Ebrill, datgelodd Y Byd ar Bedwar ar S4C fod cleifion yn cael eu hamddifadu o driniaeth cleifion mewnol—eu hamddifadu o’r triniaethau cleifion mewnol yr oeddent eu hangen. Mae staff yn ofni dod i’r gwaith, ac yn rhy ofnus i godi llais. Mae hyn yn awgrymu na fu unrhyw gynnydd o gwbl ers y mesurau arbennig yn 2015. Mae bron yn anghredadwy fod y bwrdd iechyd a oedd yn gyfrifol am sgandal Tawel Fan yn dal i fod heb ddysgu gwersi. Mae'n amlwg i mi fod tynnu Betsi allan o'r mesurau arbennig hynny yn benderfyniad anghywir, a fisoedd yn unig cyn etholiad y Senedd, roedd yn sicr yn benderfyniad gwleidyddol. Mae’n bryd gwrthdroi’r penderfyniad gwleidyddol a wnaed gan eich rhagflaenydd, Weinidog, a chymryd y camau radical sydd angen inni eu gweld.
Wrth gloi, mae pethau wedi bod yn wael yn Betsi ers llawer gormod o amser, a Llywodraeth Lafur Cymru sydd ar fai. Treuliodd y cyn gapteniaid Drakeford a Gething ormod o amser yn aildrefnu cadeiriau haul ar y dec a dim digon o amser yn trefnu’r cychod achub, gyda’r Gweinidog presennol yn cael ei gwneud yn gapten ar y Titanic ar ôl iddi dorri yn ei hanner. Gyda Llafur Cymru yn methu darparu gwasanaethau iechyd digonol i bobl Cymru, rwy’n awgrymu ei bod yn bryd rhoi rhybudd iechyd ar y Llywodraeth hon. Gall y sgil-effeithiau gynnwys un o bob pump o bobl ar restrau aros, 10,000 o bobl yn aros am fwy na 12 awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, dros 70,000 o bobl yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth, 42 y cant o gleifion canser nad ydynt yn dechrau triniaeth o fewn dau fis, a gobaith 50:50 o gael ambiwlans o fewn yr amser sydd ei angen arnoch. Mae'n bryd newid, ac mae'n bryd cael atebion newydd. Weinidog, rwy’n eich annog i wneud yr hyn na allai eich rhagflaenwyr ei wneud, a mynd i’r afael â’r problemau yn Betsi ar unwaith ac am byth. Diolch yn fawr iawn.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.
Gwelliant 1—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am gomisiynu adolygiad annibynnol i ystyried manteision posibl disodli Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr â strwythurau newydd i ddarparu gofal iechyd yn y gogledd, oherwydd ei broblemau cronig.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n falch o allu cynnig y gwelliant hwn yn ffurfiol. Rydyn ni wedi bod yma o'r blaen, onid ydym? Rydyn ni wedi bod yma gymaint o weithiau o'r blaen, ac mae o'n fy nhristáu i. Does yna ddim beirniadaeth o staff yma; yn wir, yn wyneb yr holl gwestiynau am y bwrdd iechyd, mae angen gwneud mwy i'w cefnogi nhw. Rydyn ni'n diolch ichi am eich gwasanaeth diflino, ac mae hynny'n mynd am staff rheng flaen, clinigol a'r rheini sy'n rheoli ac sy'n rhannu ein pryderon ni. Ond mae'n gwelliant ni heddiw yn dweud hyn, i bob pwrpas: ydyn ni'n gofyn iddyn nhw gyflawni yr amhosib? Dwi'n siarad ar ran Plaid Cymru heddiw, ond rydyn ni i gyd, fel trigolion y gogledd, yn siarad fel defnyddwyr gwasanaethau Betsi. Rydyn ni'n siarad fel rhieni, fel plant i rieni oedrannus efallai, rydyn ni'n siarad fel rhai sy'n adnabod ac yn ffrindiau i staff ymroddedig, ac rydyn ni i gyd wedi cael llond bol ar fethiant Llywodraeth Cymru i ddatrys pethau yn y gogledd.
Ddoe, cyhoeddwyd cyfres o ymyriadau rhy wan a rhy hwyr gan Lywodraeth Cymru—Llywodraeth Cymru sydd wedi methu mynd i’r afael â phroblemau Betsi Cadwaladr dro ar ôl tro. Cyhoeddwyd y gyfres o ymyriadau mewn ymateb i ragor o adroddiadau damniol—adroddiadau eithriadol o ddamniol. Ond ble mae'r adroddiad nesaf? Mae profiad yn dweud wrthym efallai nad yw'n bell iawn.
Sefydlwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ym mis Hydref 2009, y mwyaf o fyrddau iechyd newydd Cymru, yn ddaearyddol ac o ran poblogaeth. Mae'n fwrdd iechyd cymhleth. Ond ychydig dros bum mlynedd yn ddiweddarach, cafodd ei wneud yn destun mesurau arbennig. Wrth inni symud i mewn i’r 2020au, canfu’r bwrdd ei fod wedi bod yn destun mesurau arbennig am oddeutu hanner ei fodolaeth. Ar ôl pum mlynedd a mwy o fesurau arbennig, nid yw'r mesurau hynny'n arbennig mwyach. Maent yn dod yn sefyllfa arferol. Rwyf fi a llawer ohonom yn cwestiynu pa mor barod ydoedd i gael ei dynnu allan o drefn mesurau arbennig bryd hynny, yn gyfleus iawn wrth nesu at yr etholiad diwethaf. Ond hyd yn oed bryd hynny, symud i lefel is arall o ymyrraeth wedi'i thargedu a wnaed, lefel a gafodd ei hestyn ddoe, er nad oedd, fel y dywedais, yn mynd yn ddigon pell. Ceir ymyrraeth barhaus ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl—nid yw’n syndod ar ôl sgandalau Hergest, Tawel Fan, atal adroddiad Holden. Mae gwasanaethau fasgwlaidd yn Ysbyty Glan Clwyd o dan drefn ymyrraeth wedi'i thargedu. Pam ar y ddaear y cymerodd gymaint o amser i’r Gweinidog, a arhosodd am dri mis i weld a fyddai rhywbeth yn digwydd? Roedd hyd yn oed cipolwg ar yr adroddiad damniol a gyhoeddwyd ym mis Chwefror yn dweud wrthych fod angen gweithredu ar frys.
Mae adroddiad beirniadol arall yn arwain at osod adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd dan drefn mesurau arbennig. Wrth gwrs, cafwyd beirniadaeth o wasanaethau mewn mannau eraill nad ydynt wedi'u cynnwys mewn ymyriadau wedi'u targedu. Mae adroddiad gan yr ombwdsmon yn dweud bod Betsi Cadwaladr wedi achosi anghyfiawnder i wyth claf canser y prostad ar ôl methu monitro eu gofal a'u triniaeth yn briodol. Codais bryderon yn ddiweddar ynglŷn ag achosion o fygwth neu fwlio nyrsys yn Ysbyty Gwynedd; nyrsys yn cael eu symud o'u meysydd arbenigedd, pryderon a sbardunodd adolygiad ar unwaith. Ac wrth gwrs, clywaf bryderon rheolaidd am gleifion a staff sy'n poeni bod gwasanaethau yn anghynaliadwy. Roeddwn yn trafod achos etholwr y bore yma. Cafodd ei mab ffit, ni allai gael ambiwlans, ni allai ganmol digon ar staff wrth iddynt drin ei mab yn y coridor yn y adran argyfwng tra bod 13 ambiwlans yn aros y tu allan—rwy'n credu ei fod yn 14 ddoe yn ôl meddyg. Ai problemau Betsi Cadwaladr yw'r rhain neu broblemau ehangach y GIG? Welwch chi, y broblem sydd gennym yw bod gennym ddiffyg hyder sylfaenol mai'r bwrdd iechyd trafferthus hwn yw'r ffordd orau o ddarparu gofal iechyd yng ngogledd Cymru. Ac mae'r diffyg hyder yn gwaethygu gyda phob adroddiad. Yn y pen draw, mae'n ymwneud â diogelwch cleifion. Mae staff yn gadael, mae recriwtio'n anodd, mae cleifion yn cwyno.
Weinidog, fe fyddwch wedi gweld yr un ffigurau ag a welais i, sy'n dangos Betsi'n mynd o niferoedd cwynion is na'r cyfartaledd yn 2012 i ddwywaith y cyfartaledd yn 2017. A byddwch wedi gweld ffigurau'r system adrodd a dysgu genedlaethol a gesglir gan eich uned gyflawni eich hun, sy'n dangos bod Betsi, ers 2007, wedi cofnodi mwy o ddigwyddiadau difrifol a bron cymaint o farwolaethau â gweddill Cymru gyda'i gilydd. Mae rhywbeth o'i le, ac mae arnaf ofn fod yn rhaid inni fod yn barod i feddwl y tu allan i'r bocs i geisio datrys pethau. Mae ein gwelliant yn galw am gomisiynu adolygiad annibynnol i ystyried manteision posibl cael strwythurau newydd yn lle Betsi Cadwaladr i ddarparu gofal iechyd yn y gogledd. Mae'r Llywodraeth hon wedi rhoi cynnig ar fesurau arbennig ac mae wedi methu. Mae'n rhoi cynnig ar ychydig o ymyriadau wedi'u targedu, ac fel y dywedais ddoe, rwy'n gobeithio y gallant wneud gwahaniaeth, ond gadewch inni o leiaf chwilio am ddewis arall. Ein dyletswydd i bobl gogledd Cymru yw cael y sgwrs honno ar sut y gallem ddod â gofal iechyd yn ôl yn nes at y bobl.
Russell George.
Diolch yn fawr, Lywydd. Nid oeddwn yn disgwyl cael fy ngalw y funud hon. Diolch, Darren Millar, am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Ers i fwrdd Betsi gael ei dynnu allan o drefn mesurau arbennig yn sydyn yn 2020—ac roedd yn sydyn, fel y nododd Rhun ap Iorwerth—gan y Gweinidog iechyd ar y pryd, Vaughan Gething, mae methiannau sylweddol wedi parhau i ddigwydd wrth gwrs, gan amrywio o wasanaethau iechyd meddwl i wasanaethau fasgwlaidd ac adrannau achosion brys ar draws y bwrdd. I mi, camgymeriadau mynych sydd wedi parhau ers 2015 yw'r hyn a drafodwn yma. Byddai gennyf fwy o ddealltwriaeth pe bai'r rhain yn fethiannau newydd, ond maent yn fethiannau sydd wedi'u hailadrodd dros y saith mlynedd diwethaf a chredaf mai dyna'r rhwystredigaeth a glywch yn y Siambr heddiw, rhwystredigaeth yr ydych wedi'i chlywed ers peth amser, Weinidog.
Mae cyfathrebu'n wael—cafwyd ambell enghraifft yng nghyfraniad Sam Rowlands—a diffyg camau uwchgyfeirio i staff allu gwyntyllu eu pryderon. Dro ar ôl tro, tynnodd adolygiadau annibynnol sylw at gamgymeriadau parhaus sy'n arwain at risg i ddiogelwch cleifion a hyd yn oed at farwolaethau. Fel y trafodwyd ddoe, rydym yn gyfarwydd iawn, wrth gwrs, ag adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd—nid yw amseroedd aros wedi gwella ers cyhoeddi'r adroddiad. Rydych wedi clywed enghreifftiau penodol gan Aelodau ar draws y Siambr hon droeon—gwrandewais ar enghreifftiau Sam Rowlands, yn benodol, hefyd—ac yn aml iawn, gellir dweud, 'Wel, dim ond enghreifftiau unigol yw'r rhain', ond nid yw hynny'n wir, wrth gwrs. Gwyddom fod dau o bob tri chlaf yn aros mwy na phedair awr—mae hynny'n gwbl annerbyniol. A bod yn deg, mae'r Gweinidog wedi derbyn bod hynny'n annerbyniol, ond mae'r methiannau'n dal i ddigwydd, a'r hyn nad yw'r Gweinidog yn ei wneud yw gosod y bwrdd dan drefn mesurau arbennig. Mae hyn yn parhau dros saith mlynedd o fesurau arbennig ac ymyriadau wedi'u targedu ac mae hyn yn parhau i fod yn wir. Mae'n werth dweud, wrth gwrs, nad adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd yn unig sy'n methu, mae Maelor Wrecsam hefyd yn methu—60 y cant o gleifion yn aros dros bedair awr yno.
Nawr, gwrandewais ar y datganiad ddoe a'r Aelodau'n gofyn cwestiynau a'r Gweinidog yn ymateb—ni ofynnais unrhyw gwestiynau fy hun; gwrandewais yn ofalus ar y cwestiynau a'r ymatebion. Mae'r Gweinidog am symud yn gyflym a gwella gwasanaethau, ac mae hynny i gyd yn dda i'w glywed, ond mae cynigion y Gweinidog yn awgrymu fel arall yn ôl yr hyn a welaf. Ni fydd y grŵp teiran yn cyfarfod—a gallaf weld y Gweinidog yn edrych ar hyn—y mis nesaf, na'r haf hwn, nid tan fis Hydref. Nawr, do, clywais eich ymateb i hyn ddoe, Weinidog, ond bedwar i bum mis i ffwrdd, nid yw hynny'n dangos unrhyw fath o frys. Nawr, dywedodd y Gweinidog ddoe, 'O, bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal bob pythefnos', ond mae staff a chleifion yn crefu am gefnogaeth gyflymach a mwy pendant. Pa gamau a gymerir bob pythefnos? Beth fydd lefel y tryloywder yn y cyfarfodydd sy'n digwydd bob pythefnos i fonitro—? Pa fath o fonitro a fydd yn digwydd yn y cyfarfodydd hynny bob pythefnos? Felly, bydd gennyf ddiddordeb mewn gweld a fydd y Gweinidog, yn ei hymateb, yn rhoi sylw i rai o'r materion hynny.
Nawr, mae tri o'r pedwar mater y mae'r Gweinidog yn eu hamlinellu—arweinyddiaeth, llywodraethu, gwasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau brys—maent yn cael eu hadlewyrchu mewn gwasanaethau ysbyty eraill ar draws y bwrdd. Soniais o'r blaen am adran achosion brys Ysbyty Maelor Wrecsam, ond soniais hefyd am uned iechyd meddwl Ablett yn Ysbyty Gwynedd. Hefyd, yn yr achos penodol hwnnw, yn anffodus, gwelsom un claf yn cyflawni hunanladdiad. A'r mis diwethaf, mynegodd crwner cynorthwyol dwyrain gogledd Cymru y pryderon difrifol ynghylch ymchwiliadau'r bwrdd iechyd i farwolaeth y claf. Nawr, byddai gennyf rywfaint o gydymdeimlad, mewn gwirionedd—bu gennyf rywfaint o gydymdeimlad yn y gorffennol—gyda barn gref y Gweinidog nad dyma'r amser i ad-drefnu, ond mae degawd o reolaeth wael iawn wedi mynd heibio a saith mlynedd o drefn mesurau arbennig neu ymyrraeth wedi'i thargedu. Nid oes a wnelo hyn â'r pandemig; mae hyn wedi bod yn digwydd ers dros ddegawd. Ac i mi, mae'n rhaid i mi ddod i'r casgliad, os nad nawr yw'r amser i ailedrych ar sefydliad neu i ailedrych ar sut y caiff gwasanaethau eu darparu, pryd yw'r amser i wneud hynny? Felly, mae pobl yn y gogledd, cleifion yn y gogledd, ond hefyd staff yn y gogledd, yn haeddu gwasanaeth iechyd o safon, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau heddiw ar draws y Siambr yn cefnogi ein cynnig a gwelliant Plaid Cymru yn y cynnig hwn heddiw hefyd.
Nid oes amheuaeth mai'r ddarpariaeth iechyd yw'r mater unigol mwyaf sy'n peri pryder i bobl yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd, a hynny o gryn dipyn. Ac er y byddai'r mwyafrif llethol o bobl yn y rhanbarth yn sicr yn cymeradwyo ymdrechion rhyfeddol a diflino'r gweithlu gofal iechyd, mae cryn bryder ynghylch y modd y caiff gwasanaethau eu darparu a chanlyniadau.
Nawr, mae cynnig y Ceidwadwyr yn gweld cyfres wahanol o fesurau arbennig fel yr ateb i fethiannau'r bwrdd iechyd. Mae gwelliant Plaid Cymru yn cynnig ad-drefnu fel yr ateb. Rwyf wedi ystyried y ddau yn wirioneddol ofalus, ac rwy'n teimlo bod y ddau'n haeddu eu harchwilio ymhellach ac ymateb meddwl agored gan y Llywodraeth hefyd. Ond gallaf ddeall yr ymateb tebygol i'r ddau, nad dyma'r amser iawn i ad-drefnu, a bod gennym broses sefydledig ar gyfer gosod gwasanaethau penodol a byrddau cyfan dan drefn mesurau arbennig. Ac felly, wrth ystyried y cynnig heddiw, a gwelliant Plaid Cymru, a'r datganiad ddoe yn ogystal, hoffwn wneud yr awgrymiadau canlynol: yn gyntaf, dylid cynnal rhyw fath o adolygiad o'r gwirionedd—gydag adolygiad annibynnol ac awdurdodol—i edrych yn drwyadl ar y broses mesurau arbennig fel ffordd o sicrhau gwelliant. Os canfyddir bod trefniadau goruchwylio mesurau arbennig yn ddiffygiol mewn unrhyw ffordd, gadewch inni fwrw ati i'w diwygio. Yn ail, dylid cynnal asesiad gwirioneddol annibynnol o effeithiau gwirioneddol a thebygol ad-drefnu ar ganlyniadau gwasanaethau yn y tymor byr. Gadewch inni agor ein llygaid i'r canlyniadau tymor byr tebygol cyn archwilio manteision hirdymor ad-drefnu. Dylid penderfynu a ddylid cychwyn ar daith o'r fath ar sail manteision hirdymor posibl, ynghyd â'r effaith debygol yn y tymor byr ar wasanaethau a chanlyniadau. Yn drydydd, byddwn yn argymell sefydlu, yn ddi-oed, i fod yn onest, panel y bobl yn y gogledd, i ymchwilio i'r heriau a'r holl atebion posibl—heb gyfyngiadau, heb ofn, heb ffiniau. Credaf y gallai panel y bobl gynnig barn wrthrychol, wybodus, anwleidyddol wedi'i harwain gan ddinasyddion o'r hyn sydd angen ei newid. Ac yn bedwerydd, gadewch inni wella cyfathrebu a thryloywder, sefydlu dangosfwrdd data ar-lein hygyrch ar gyfer y saith ardal bwrdd iechyd, fel y gall y cyhoedd weld sut y mae eu gwasanaethau'n cymharu â rhannau eraill o Gymru o ran canlyniadau.
Nawr, byddaf yn cefnogi'r Llywodraeth heddiw, ond ni allwn fod yn ôl yma eto ymhen chwech neu 12 mis yn cael yr un ddadl. Carwn erfyn ar y Gweinidog i ystyried pob awgrym adeiladol, megis y rhai a gynigiais, er mwyn adfer hyder y cyhoedd mewn gwasanaethau iechyd yn y gogledd ac adfer—
A gaf fi dorri ar draws Ken Skates am eiliad? A wnewch chi dderbyn cais am ymyriad gan Rhun ap Iorwerth?
Gwnaf, wrth gwrs.
Diolch yn fawr am dderbyn yr ymyriad, ac a gaf fi ddiolch ichi hefyd am wneud y gyfres honno o awgrymiadau adeiladol iawn? Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn yr ail o'r rheini, sydd i'w weld yn adlewyrchu yn union y math o sgwrs y gofynnwn amdani ynglŷn â sut y gallai ad-drefnu weithio a'r manteision a allai ddeillio o hynny. A wnewch chi gadarnhau eich bod yn bwriadu cefnogi'r gwelliant hwnnw gennym heddiw?
Mewn gwirionedd, Rhun, mae'n agos iawn, ond credaf, yn gyntaf oll, mai'r hyn y mae angen inni ei wneud yw edrych ar effaith ad-drefnu yn y tymor byr. Mae Betsi Cadwaladr yn wynebu ôl-groniad enfawr ar hyn o bryd, byddai angen inni ddeall cyn inni adolygu ac arfarnu manteision posibl ad-drefnu yn hirdymor—. Credaf fod angen inni gael gwybod beth y gallai'r effaith fod yn y tymor byr o ran y modd y caiff gwasanaethau eu darparu, amseroedd aros a chanlyniadau. Felly, maent yn ddau adolygiad gwahanol, mae arnaf ofn, a chredaf y dylai'r adolygiad cyntaf asesu beth fyddai'r effaith yn y tymor byr o ran canlyniadau darparu gwasanaethau. Pe canfyddid bod yr effeithiau tymor byr hynny'n fach iawn yn wir, byddwn yn awgrymu symud ymlaen gyda'r ail adolygiad, yr adolygiad a argymhellir gennych chi yn eich gwelliant heddiw. Rwy'n gobeithio bod hynny'n egluro fy safbwynt a fy argymhellion.
Gwn fod Gweinidogion bob amser yn cael eu cynghori nad dyma'r amser iawn i ad-drefnu unrhyw sefydliad, waeth beth fo'r amser a'r digwyddiadau ar y pryd, ac mae Gweinidogion yn aml yn cael eu llethu gan lais y sefydliad sy'n wynebu ad-drefnu. Ond faint o lais y claf sy'n torri drwodd mewn gwirionedd? Credaf y gallai panel y bobl, i adrodd yn uniongyrchol i Weinidogion, sicrhau bod atebion yn y dyfodol, waeth beth y bônt, yn cael cefnogaeth y bobl a wasanaethwn.
Gan ein bod yn sôn am lais y dinesydd, rwyf wedi cyflwyno datganiad barn heddiw y byddwn yn gwahodd pob Aelod i'w gefnogi. Mae'n ddatganiad sy'n galw am i'r corff llais dinasyddion ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol gael ei bencadlys yng ngogledd Cymru. Yn fy marn i, mae'n hanfodol fod y corff hwnnw wedi'i leoli yn y gogledd, lle mae gennym y boblogaeth fwyaf o dan un bwrdd iechyd, a gellid dadlau, yr her fwyaf a wynebir gan unrhyw un o'n saith bwrdd iechyd.
Yn olaf, a gaf fi ofyn i'r is-bwyllgor Cabinet dros ogledd Cymru, dan gadeiryddiaeth fy nghyfaill a fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, barhau i roi ystyriaeth ganolog i faterion iechyd yn y gogledd, a bod barn rhanddeiliaid allweddol, megis ein chwe arweinydd awdurdod lleol, yn cael ei hystyried yn llawn drwy'r is-bwyllgor Cabinet hwnnw? Diolch.
Yn anffodus, mae gofal iechyd yn Nyffryn Clwyd, yn llanastr gwirioneddol ac mae wedi bod felly ers blynyddoedd lawer bellach, wrth i Lywodraethau Llafur olynol fethu cael rheolaeth ar faterion recriwtio. Nid oes ond raid ichi edrych ar wefan Betsi Cadwaladr. Rwy'n credu, ar hyn o bryd, fod yno oddeutu saith neu wyth tudalen o swyddi gwag, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt, a bod yn onest, yn staff rheng flaen sy'n gwneud y newid i fywydau pobl o ddydd i ddydd. Rydym yn dda iawn am greu rheolwyr a biwrocratiaeth yn y GIG, ond yn wael iawn am roi staff ar y rheng flaen.
Roedd Ysbyty Glan Clwyd, fel y dywedais ddoe, yn arfer bod yn un o'r ysbytai gorau yn y Deyrnas Unedig yn yr 1980au a'r 1990au, nes i Lywodraeth Cymru gael eu dwylo arno. Nawr mae angen arbenigedd datblygu allanol, clinigol a sefydliadol ar yr ysbyty er mwyn darparu amgylchedd gwaith diogel a thriniaethau diogel i fy etholwyr.
Nid yw'r problemau sy'n wynebu gofal iechyd yn Nyffryn Clwyd yn newydd, maent wedi bodoli ers ad-drefnu trychinebus Jane Hutt bron i 20 mlynedd yn ôl, ac ad-drefnu Edwina Hart yn 2009. Mae wedi peri i lawer o bobl gwestiynu a oedd creu awdurdod iechyd mwyaf Cymru yn ffordd synhwyrol o fynd ati, ac i ofyn a yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn addas i'r diben. Wedi'r cyfan, mae'r bwrdd wedi bod angen rhyw fath o ymyrraeth gan y Llywodraeth am y rhan fwyaf o'i fodolaeth. Treuliodd bum mlynedd dan drefn mesurau arbennig cyn iddo gael ei dynnu allan o ymyrraeth uniongyrchol gan y Llywodraeth ychydig cyn yr etholiad diwethaf, fel y nododd Sam Rowlands wrth agor y ddadl, gweithred o gyfleustra gwleidyddol yn hytrach nag arwydd fod popeth yn hyfryd ar y brig. Gwn o brofiad personol nad oedd hynny'n wir, gan fy mod wedi gweithio i Betsi Cadwaladr am 11 mlynedd, rhwng 2010 a 2021, pan gefais fy ethol i'r Senedd. Roeddwn yn gweithio yn Ysbyty Glan Clwyd am lawer o'r blynyddoedd hynny, ac mae llawer o fy ffrindiau'n dal i weithio yno. Roeddem yn gwybod bod pethau wedi mynd o'i le ar y brig, ac eto, er gwaethaf y diwylliant a'r arweinyddiaeth wael, parhaodd ein cleifion i gael gofal rhagorol. Ond roedd llai a llai o bobl am ddod i weithio i'r hyn yr oeddent yn ei ystyried yn fwrdd iechyd a oedd yn methu, oherwydd os ydych yn ceisio camu ymlaen yn eich gyrfa, nid yw'n edrych yn dda iawn ar y CV os ydych wedi cael eich cyflogi gan fwrdd iechyd sy'n methu ers sawl blwyddyn. Felly, dyfnhaodd y problemau wrth i lai a llai o staff weithio ar y rheng flaen, a daeth y pwysau ar staff i fod yn annioddefol ac yn anghynaliadwy. A dyna pryd y mae diogelwch cleifion yn dechrau dioddef go iawn.
Mae fy mag post yn orlawn o broblemau yn Ysbyty Glan Clwyd ac fel y dywedais o'r blaen, Weinidog, mae croeso mawr unrhyw bryd i chi ddod i fy swyddfa i weld fy mewnflwch a gweld beth rwy'n ymdrin ag ef bob dydd, ac rwy'n siŵr bod Darren yng Ngorllewin Clwyd a Sam Rowlands, Mark Isherwood, Janet Finch-Saunders i gyd yn cael yr un profiad, ac Aelodau eraill o bleidiau eraill yn ogystal. Un o'r achosion diweddaraf a gefais oedd etholwr a gafodd gwymp gartref ychydig cyn 10.00 a.m. Fe'u cynghorwyd gan y rhai sy'n ateb galwadau ambiwlans i aros ar y llawr oer tan i ambiwlans gyrraedd, er eu bod yn dweud y byddai'r ambiwlans yn cymryd awr i gyrraedd. Cyrhaeddodd ambiwlans am 3.30 yn y prynhawn, ond nid oedd ei gyfarpar codi cleifion yn gweithio. Cyrhaeddodd ambiwlans arall awr yn ddiweddarach. Dywedodd parafeddygon, er nad oeddent yn amau bod asgwrn wedi'i dorri ac nad oedd yn gwaedu, fod ei phwysedd gwaed a'i siwgr gwaed bellach mor isel fel y byddai angen iddi fynd i'r ysbyty ar ôl cymaint o amser ar y llawr. Ar ôl cyrraedd yr ysbyty, aeth chwe awr arall heibio cyn ei derbyn i Ysbyty Glan Clwyd. Symudwyd y claf i ward yr uned feddygol acíwt yn y pen draw. Yn y diwedd, cafodd y teulu alwad dridiau'n hwyr yn dweud wrthynt am ddod i'r ysbyty'n gyflym. Fe wnaethant gyrraedd yn rhy hwyr—roedd yr aelod o'u teulu wedi marw. Felly, nid oedd yn fawr o syndod i mi pan ryddhawyd adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Roedd yn dal i fod yn frawychus. Mae'r llinell fwyaf damniol yn yr adroddiad yn cyfeirio at graidd y broblem—roedd arweinwyr yr adran wedi ceisio codi pryderon ynghylch materion yn ymwneud â diogelwch cleifion, ond ni wrandawyd ac ni weithredwyd ar y rhain.
Mae'r pysgodyn yn pydru o'r pen, ac mae'r drewdod o Betsi yn llethol. Mae arnom angen newid ar y brig a hynny ar frys, a dim ond aildrefnu'r cadeiriau haul ar y Titanic yw'r mesurau a amlinellwyd gan y Gweinidog ddoe. Mae arnom angen dull gweithredu newydd, nid mwy o'r un peth, a dyna pam y byddaf yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru heddiw, ac rwy'n annog fy nghyd-Aelodau i wneud yr un peth. Diolch yn fawr iawn.
Rwyf wedi ymatal rhag gwneud sylw am y pryderon a godwyd hyd yma, ac rwyf bob amser yn wyliadwrus ynghylch trafod diwygio byrddau iechyd, yn enwedig o gofio'r tarfu sylweddol y byddai ad-drefnu'n ei gael yn sgil COVID-19. Mae Betsi yn un o dri bwrdd iechyd yn ein rhanbarth, ac er fy mod yn cael gwaith achos gan y byrddau iechyd eraill, rhaid dweud bod y rhai o ardal Betsi yn ddifrifol iawn yn fy marn i. Dyma un a gefais ddoe yn unig. Dywedodd Mr Jones, 'Roedd fy nghyflwr yn un brys. Ar ôl saith mis ers cael fy atgyfeirio gan y meddyg teulu am apwyntiad brys, nid wyf wedi clywed dim o hyd ac nid oes blaengynllun. Yn bersonol, nid oes gennyf unrhyw hyder o gwbl yn Betsi.'
Nid oes byth amser da i ad-drefnu. Nid oes byth sefyllfaoedd nac amodau cywir ar gyfer adolygiad enfawr. Ond gwaetha'r modd, mae'n teimlo i mi mai dyma'r unig adeg, oherwydd, fel y dywedwyd, pryd yw'r amser iawn? Rwyf wedi clywed hynny dro ar ôl tro yma yn y Siambr hon, a dyna pam fy mod wedi bod yn amharod i wneud sylwadau, ond wrth gynrychioli barn a phrofiadau'r bobl rwy'n eu cynrychioli—a gwn eich bod chi'n gwneud hynny hefyd, Weinidog iechyd, ac eraill—rwy'n teimlo na ellir eu hanwybyddu mwyach.
Rwyf am gofnodi fy niolch i chi, Weinidog, oherwydd gwn eich bod wedi ymroi i'r mater hwn, a darllenais eich datganiad ddoe yn fanwl. Hoffwn gofnodi fy niolch yn ogystal i staff Betsi Cadwaladr—y staff a'r cleifion sy'n cael cam ar hyn o bryd. Mae staff wedi bod yn gweithio'n galed mewn amgylchiadau anodd ac mae'n bwysig ein bod yn cael sgwrs agored a gonest am y methiannau a'r hyn sy'n rhaid ei wneud i roi hyder i'r staff a'r cyhoedd y mae pawb ohonom yn eu cynrychioli. Felly, byddaf yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru a'r cynnig pan gaiff ei ddiwygio. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i'r Ceidwadwyr am ddod â'r ddadl yma gerbron, dadl sy'n hynod o bwysig. Nôl yn 2013, fe wnes i, Mark Jones ac ymgyrchwyr o Flaenau Ffestiniog, Prestatyn, Llangollen a Fflint sefydlu cynghrair iechyd gogledd Cymru er mwyn gwrthwynebu'r newidiadau oedd yn cael eu gorfodi ar bobl y gogledd yn erbyn ein hewyllys. Roedd y cyfan yn cael ei gyflwyno bryd hynny o dan y pennawd, 'Mae Gofal Iechyd yng Ngogledd Cymru yn Newid'. Do, fe newidiodd ein gwasanaethau iechyd, ond nid er gwell. Dwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd y bwrdd ei roi mewn mesurau arbennig.
Yn y naw mlynedd ers hynny, mae'r bwrdd wedi cael pedwar prif weithredwr gwahanol. Yn wir, mae Betsi Cadwaladr yn medru herio unrhyw glwb yn y Premier League am hirhoedledd eu rheolwyr. Yr hyn yr ydyn ni'n ei weld ydy model ddinesig o ddarparu gwasanaethau iechyd yn cael ei orfodi ar ardal wledig, heb ystyriaeth o fath yn y byd am anghenion cymunedau ynysig a diarffordd. Pam ddylai pobl ardal Dysynni, er enghraifft, weld eu meddygon yn gadael, eu deintyddfa yn cau a'u fferyllfa yn cau? Pam ddylai fy etholwyr i yn Nwyfor Meirionnydd orfod cael dim ond dwy nyrs gymunedol ar alw mewn ardal mor anferthol yn y nos, efo un achlysur lle'r oedden nhw'n gorfod mynd o Dywyn yn ne'r sir i Forfa Nefyn yn y gogledd mewn un alwad? Pam ddylai dynes 82 oed orfod aros 13 awr mewn A&E cyn cael sylw, heb fwyd na diod, heb sôn am y problemau fasgwlar, urology, iechyd meddwl, yr holl yma rydyn ni'n ymwybodol ohonyn nhw?
Ond rwy'n drist i ddweud, yn ogystal â'r holl broblemau unigol y mae pawb ohonom yn ymwybodol ohonynt, rwy'n siŵr, ychydig iawn o ffydd sydd gennyf hefyd yn yr ystadegau a'r data a'r wybodaeth a ddarperir gan y bwrdd iechyd. Er enghraifft, rhoddodd y bwrdd iechyd wybod i'r ombwdsmon fod llenni â chlymiadau wedi'u tynnu yn 2010, ond gwyddom am gleifion a geisiodd dagu eu hunain yno wedi'r dyddiad hwnnw, ac fe'u tynnwyd yn 2018. Felly, cafodd pobl eu camarwain gan eu bwrdd iechyd. Yn eu hadroddiadau blynyddol eu hunain ers 2012, mae Betsi Cadwaladr wedi dweud wrth y bwrdd eu bod wedi cael 1,021 o atgyfeiriadau i'r ombwdsmon. Ond mewn ymateb rhyddid gwybodaeth yr wythnos diwethaf, cadarnhaodd yr ombwdsmon mai'r ffigur cywir oedd 1,579—500 yn fwy nag y maent wedi'i ddatgan yn gyhoeddus. Ond yn fwyaf damniol, rhaid i'r Gweinidog egluro wrthym hefyd pam fod Betsi Cadwaladr wedi cofnodi mwy o ddigwyddiadau diogelwch cleifion difrifol bob blwyddyn na gweddill Cymru gyda'i gilydd, a bod mwy o farwolaethau wedi'u cofnodi yn yr un bwrdd iechyd hwn na gweddill Cymru gyda'i gilydd. Yn ôl y system adrodd a dysgu genedlaethol, cofnodwyd 239 o ddigwyddiadau difrifol a chofnodwyd 12 o farwolaethau rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Medi 2021, tra bod y ffigurau ar gyfer gweddill Cymru gyfan yn 113 o ddigwyddiadau difrifol ac wyth marwolaeth.
Yn olaf, clywsom ddoe nad dyma'r amser ar gyfer ad-drefnu costus. Mae arnaf ofn fod honno'n farn naïf ac anwybodus. Os bydd ad-drefnu'n gwella'r canlyniadau iechyd i bobl gogledd Cymru, dylid ei ystyried. A faint yn fwy o arian y mae'r Llywodraeth wedi gorfod ei wario ar Betsi Cadwaladr oherwydd mesurau arbennig ac ymyrraeth wedi'i thargedu ers 2015? Mae arnom angen datrys hyn yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.
Mae'n ofidus iawn fod Llywodraeth Cymru wedi methu cyflawni'r gwelliannau a addawyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a bod Gweinidogion iechyd olynol, dymor ar ôl tymor, wedi methu mynd i'r afael â phroblemau difrifol yn ymwneud â'r bwrdd iechyd a godwyd gennyf fi ac eraill ar ran etholwyr. Byddai'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn methu gwneud ei dyletswydd os yw'n gwrthod ein galwad heddiw arni i osod trefn mesurau arbennig ddiwygiedig er mwyn rhoi'r arweiniad a'r adnoddau angenrheidiol i'r bwrdd iechyd allu mynd i'r afael â methiannau a darparu'r gofal iechyd o ansawdd uchel y mae pobl gogledd Cymru yn ei haeddu. Wrth ddweud hyn, nodaf fod y drefn mesurau arbennig a gyflwynwyd yn Lloegr yn sgil adolygiad Keogh yn galw am ymyrraeth gan dîm allanol i wneud y gwelliannau angenrheidiol.
At hynny, mae datganiad y Gweinidog ddoe mai dim ond i gynnwys Ysbyty Glan Clwyd y mae angen ymestyn ymyriadau newydd wedi'u targedu yn cael ei wrthbrofi gan fy ngwaith achos yn yr etholaeth, a'i herio gan y dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus. Ar ôl i'r bwrdd iechyd ddod i'r pwyllgor ar 9 Mawrth, fel Cadeirydd y pwyllgor ysgrifennais at eu prif weithredwr a'u cadeirydd ynghylch pryderon yr Aelodau am rai o'r ymatebion yr oeddent wedi'u darparu, ac yn gofyn am eglurder ar rai pwyntiau. Fel y dywedodd ein llythyr, yn gyffredinol nid oedd yn ymddangos bod cynllun gweithredu cadarn ar gael ar gyfer sicrhau'r gwelliannau sy'n ofynnol o fewn y bwrdd iechyd, dim ymdeimlad o faint y problemau, na brys i fynd i'r afael â'r rhain. Ni ddarparwyd unrhyw eglurder ynghylch beth yw'r meysydd blaenoriaeth ar gyfer y bwrdd, ac nid oedd y dystiolaeth yn ddigon manwl, nac yn cynnwys amserlenni penodol, yn enwedig mewn perthynas â thrawsnewid gwasanaethau fasgwlaidd ac iechyd meddwl. Cawsom ein siomi nad oedd y weithrediaeth yn cymryd cyfrifoldeb am y problemau yn y bwrdd. Roedd llawer o gyfeiriadau at yr hyn y mae staff ar draws y sefydliad yn ei wneud, yn hytrach na'r hyn y mae uwch-reolwyr yn ei wneud i bennu cyfeiriad strategol a chymryd cyfrifoldeb.
Ar wasanaethau iechyd meddwl, gofynnodd ein llythyr iddynt ddarparu ymateb manwl ynglŷn â'r modd y maent yn bwriadu mynd i'r afael â phroblemau yn y maes hwn, gydag amserlenni ar gyfer gweithredu, a rhoi manylion i ni am eu hamcanion a'u blaenoriaethau, a sut y maent yn mesur perfformiad yn erbyn y rhain, gan gynnwys unrhyw weithgarwch meincnodi i gymharu perfformiad y bwrdd â byrddau iechyd tebyg. Er bod eu hymateb yn 235 tudalen o hyd, dywedais yng nghyfarfod y pwyllgor ar 25 Mai fod y llythyr yn nodi bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cymeradwyo ei gynllun tymor canolig integredig am y tair blynedd nesaf; mae hefyd yn nodi bod y bwrdd iechyd wedi ymgysylltu â chymorth allanol i roi darlun diduedd o'u gwaith casglu tystiolaeth ac asesu cynnydd, ond ni ddarparwyd unrhyw fanylion pellach. Nid yw'r blaenoriaethau arfaethedig a nodwyd yn cynnwys gwasanaethau iechyd meddwl, ond maent yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth gyffredinol am y gwaith sydd ar y gweill yn y maes hwn. Nid yw'r cynllun yn sôn am wasanaethau damweiniau ac achosion brys. Mae'r llythyr a'r cynllun yn nodi bod yn rhaid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wneud arbedion o £105 miliwn dros y tair blynedd nesaf. Nid yw'r llythyr a'r cynllun yn manylu ar sut y cyflawnir yr arbedion hyn, er bod set eang o gyfleoedd ar gyfer arbed arian wedi'u rhestru mewn meysydd fel gofal wedi'i gynllunio, gofal heb ei drefnu, iechyd meddwl ac eraill. Ac o ran gwasanaethau iechyd meddwl, mae llawer o'r meysydd hyn sy'n peri pryder yn dal heb eu datrys, er gwaethaf argymhellion a chasgliadau a wnaed mewn gwahanol adroddiadau dros y degawd diwethaf, gan gynnwys adroddiadau Holden, Ockenden, y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
Rydym hefyd yn pryderu am bresenoldeb parhaus swyddogion gweithredol a rheolwyr yn y bwrdd iechyd a oedd yn gysylltiedig â chasgliadau'r adroddiadau hyn, ac am eu gallu i gyflawni'r newid mewnol sydd ei angen. Fel y dywedodd un o drigolion gogledd Cymru wrthyf mewn e-bost ddydd Sadwrn diwethaf, 'Rhaid mynd ati mewn ffordd glir a thryloyw i gael gwared ar y rheolwyr Teflon hynny nad aethpwyd i'r afael â'r modd y byddent yn bwlio staff.'
Mae llawer o feysydd difrifol eraill yn peri pryder, gan gynnwys data strôc diweddar sy'n dangos mai dim ond graddau cyffredinol D ac E a sgoriodd yr unedau strôc yng ngogledd Cymru ar dderbyn cleifion i unedau strôc, ar raddfa o A i E; achos ar ôl achos yn sir y Fflint o blant â chyflyrau niwroamrywiol yn cael eu hamddifadu o ddiagnosis gan wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, gyda rhianta gwael yn cael ei feio yn lle hynny, a theuluoedd yn cael eu gwthio i argyfwng—un arall ddoe ddiwethaf—a honiadau difrifol nad yw'r bwrdd iechyd wedi bod yn adrodd yn gywir am y cwynion yn ei erbyn, ac am nifer a difrifoldeb digwyddiadau diogelwch cleifion adroddadwy yn genedlaethol a adroddwyd i'r bwrdd iechyd.
Mae'n fwy na chlir fod y penderfyniad i symud y bwrdd iechyd o drefn mesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020 yn amhriodol, a bod cwestiynau difrifol angen eu hateb.
A gaf fi ddechrau drwy ddweud fy mod yn cefnogi'r argymhellion a wnaeth Ken Skates yn gynharach? Roeddwn i'n meddwl eu bod yn dda iawn. Rwy'n croesawu'r ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud: hyfforddi nyrsys newydd, darparu bwrsariaethau, adeiladu ysgol feddygol newydd ym Mangor, ceisio goresgyn y prinder staff y mae Brexit a'r pandemig wedi'u creu, gan gynnwys cymhlethdodau gyda cheisiadau am fisa. Ac mae croeso mawr i'r ymyriadau. Mae angen inni gadw ein staff da presennol—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
—ac adeiladu gweithlu sefydlog os ydym am adeiladu sefydliad sy'n gallu hunanwella.
Yr adborth a gefais gan weithwyr iechyd proffesiynol yw bod morâl yn isel, eu bod wedi blino, a bod cylch dieflig lle mae'r rhai presennol, cyn gynted ag y caiff mwy o staff eu recriwtio, yn gadael oherwydd yr oriau hir a'r pwysau. Mae hyn yn digwydd dro ar ôl tro ar draws sawl maes cyflogaeth lle y disgwylir yn gynyddol i bobl weithio oriau hwy a shifftiau afrealistig dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf—rwy'n meddwl am y pump i 10 mlynedd diwethaf, mewn gwirionedd—lle mae cynhyrchiant ac effeithlonrwydd wedi bod yn gyrru'r gweithlu mewn ras i'r gwaelod. Ac yn awr, yn dilyn Brexit a'r pandemig, mae pobl yn ailwerthuso eu bywydau ac yn dweud, 'Digon yw digon', ledled y DU.
Hyd nes yr eir i'r afael ag oriau gwaith a chyflogau, rwy'n poeni nad yn y GIG yn unig y byddwn yn parhau i gael problemau, ond hefyd yn y sector gofal iechyd cymdeithasol, sydd bron iawn â chyrraedd y pen—ac mae'r rhain yn cydgysylltu. Nid yma yng Nghymru yn unig y mae hyn yn digwydd ond hefyd yn y DU. Weinidog, a gaf fi ofyn pa sgyrsiau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU i ariannu'r sector cyhoeddus yn briodol, yn dilyn blynyddoedd o doriadau o dan y cyni ariannol, a sicrhau bod cyllid digonol ar gael i ariannu cyflogau ac amodau gwaith gweddus i'r rheini yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol?
Lle bu gwelliant, megis ym maes iechyd meddwl, gwelsom ei fod yn eithriadol o fregus, oherwydd ni cheir ymrwymiad hirdymor gan y bobl sydd wedi gyrru'r newid hwnnw. Mae cadw staff yn broblem enfawr. Gwn am uwch-glinigwyr sydd wedi ymrwymo i'r GIG, sydd wedi ymrwymo i Betsi, ond nad ydynt yn gallu ymrwymo'r oriau yr hoffent eu rhoi oherwydd y goblygiadau treth pensiwn a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU. Yn y bôn, mae angen treth deg ar gyflogeion—mae'n ddrwg gennyf, cyflog teg—amodau gwaith hyblyg a datblygiad proffesiynol parhaus, er eu hiechyd a'u lles eu hunain. Rydym yn gweld hyn ar draws y DU.
Mae angen i'r gweithlu gael eu clywed a gwybod bod rhywun yn gwrando arnynt. Yn fy marn fach i, o'r hyn a glywais gan staff, nid wyf yn credu y bydd rhoi Betsi Cadwaladr dan drefn mesurau arbennig yn gwella'r sefyllfa, lle mae morâl yn isel a lle mae'r bwrdd iechyd yn ymdrechu'n daer i recriwtio ac ailhyfforddi. Rwy'n croesawu'r penderfyniad i ymyrryd mewn ffordd sy'n gweithio, ochr yn ochr â staff Betsi, i feithrin capasiti a gallu, i adeiladu timau sy'n cyflawni yn y tymor byr ac yn hirdymor. Fodd bynnag, byddai ymyriadau wedi'u targedu gyda mesurau diffiniol ac amserlenni, fel eu bod yn gwybod bod yn rhaid gwneud gwelliannau mewn modd amserol y tro hwn, i'w croesawu'n fawr.
Dywedodd y Gweinidog yn y datganiad ddoe fod y corff teiran wedi argymell peidio â rhoi'r bwrdd iechyd dan drefn mesurau arbennig ac y byddai adolygiad ym mis Hydref, ac y bydd yn cadw llygad ar gynnydd bob pythefnos. A wnaiff y Gweinidog ddweud wrthyf beth fydd y sbardun ar gyfer ymyrryd? Sut y bydd Llywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd yn rhoi gwybod i staff a phreswylwyr beth yw'r ymyriadau, er mwyn rhoi rhywfaint o sicrwydd bod rhywbeth yn digwydd yn awr? Clywais fod cyfathrebu'n wael. Mae angen i'r staff gael eu grymuso, eu gwerthfawrogi a'u clywed. Felly, sut y bydd cyfathrebu'n gwella?
Er mwyn ymdrin â'r ôl-groniad o lawdriniaethau dewisol, dywedir wrthyf fod angen buddsoddi cyfalaf. Mae angen hyn hefyd er mwyn denu gweithwyr proffesiynol arbenigol newydd. Mae arnom angen cyfleusterau modern gyda thechnoleg fodern. Rwy'n ymwybodol fod gostyngiad o 11 y cant mewn cyllid cyfalaf dros y tair blynedd nesaf gan Lywodraeth y DU. Sut y bydd hyn yn effeithio ar allu i ymdrin â'r ôl-groniad? A wnewch chi ateb hynny, os gwelwch yn dda? Gofynnir imi ai'r broblem yw bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn rhy fawr. Mae'r arweinyddiaeth yn cyfaddef eu bod yn sefydliad mawr a chymhleth. Fy ymateb i hynny yw ei fod, ydy, yn rhy fawr, ond pan ofynnaf i weithwyr iechyd proffesiynol—yn y sector gofal iechyd cymdeithasol hefyd—dywedant wrthyf y byddai ad-drefnu o'r fath yn ymyriad costus ar hyn o bryd, ac mae angen i'w holl adnoddau cyfyngedig ganolbwyntio ar adeiladu'r gweithlu a'r cyfleusterau presennol.
Nid yw symud pobl o gwmpas yn newid diwylliant ynddo'i hun. Beth bynnag y bo'r strwythur bron, mae angen inni gydnabod bod yn rhaid i'r gwaith o newid diwylliant ar bob lefel fod yn flaenoriaeth. Roeddent yn dweud wrthyf hefyd fod yna feysydd lle mae gwasanaethau'n dda, megis gofal mamolaeth a gofal canser, ac mae'n annheg rhagdybio bod pob maes yn wael. Clywaf hefyd am elfennau o ragoriaeth gan fy etholwyr, ac anogaf bawb yma heddiw i ddathlu'r rhagoriaeth honno lle rydym yn ei gweld. Ni ddylem osgoi craffu na beirniadaeth adeiladol lle mae'n haeddiannol, ond yn yr un modd, dylem ddathlu'r hyn sy'n dda.
Mae angen inni geisio bachu ar bob cyfle i ddenu, ac yn benodol i gadw, staff da a chaniatáu iddynt wneud eu swyddi, ac rydym yn ffodus mewn rhai ffyrdd, yma yng Nghymru, fod yna graffu ac atebolrwydd cyhoeddus, yn wahanol i Loegr, lle bydd ymddiriedolaethau'n cau gwasanaethau fel y maent wedi'i wneud gydag adran ddamweiniau ac achosion brys—
Rwy'n credu y bydd yn rhaid i chi ddod â'ch cyfraniad i ben yn awr.
Iawn, diolch. Hoffwn orffen drwy ddiolch i'r holl staff sydd wedi gweithio'n galed iawn yn ystod y pandemig ac sy'n parhau i wneud hynny yn awr. Diolch yn fawr iawn.
Fel yr Aelod dros Arfon, sy'n cynnwys Ysbyty Gwynedd wrth gwrs, dwi wedi bod yn bur bryderus am y bwrdd iechyd ers tro, ac mae arnaf ofn na fydd y cyhoeddiad ddoe yn ein symud ymlaen at ddyddiau gwell. Dros y blynyddoedd, mae etholwyr wedi tynnu sylw at eu pryderon, rhai ohonyn nhw yn ymwneud efo colli gwasanaethau o Ysbyty Gwynedd. Bu'n rhaid inni ymladd bygythiad i'r gwasanaethau mamolaeth. Fe wnaed yr achos dros gadw ac adeiladu ar y gwasanaeth fasgiwlar, ond fe'i symudwyd i'r dwyrain, gan chwalu uned o ansawdd rhagorol, ac rydyn ni'n gyfarwydd iawn efo canlyniadau damniol ac ysgytwol y penderfyniad hwnnw ar gyfer holl gleifion y gogledd. Codwyd pryderon difrifol iawn am uned iechyd meddwl Hergest, ond ceisiwyd claddu adroddiad Holden.
Mae'r pryderon yma i gyd wedi dod i'm sylw i yn bennaf drwy staff bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, y gweithlu ardderchog sydd gennym ni, a'r bobl sy'n brwydro yn erbyn yr heriau sylweddol yn ddyddiol. Dwi'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu gwaith, ond dwi'n ddiolchgar hefyd i'r rhai hynny ohonyn nhw sydd wedi dod â'u pryderon nhw ymlaen. Drwyddyn nhw rydym ni'n gallu dod i ddeall gwir natur y problemau.
Mae'r staff wedi dod ataf fi eto yn ddiweddar am resymau eraill. Dwi wedi derbyn cwynion am ddiwylliant o fwlio yn Ysbyty Gwynedd—cwynion difrifol iawn—a dwi yn falch bod Rhun ap Iorwerth wedi bod yn mynd ar ôl hyn hefyd ac wedi sicrhau adolygiad o'r sefyllfa.
Bob tro mae aelod o staff yn dod ataf fi, mae hi neu fo yn pwysleisio nad ydw i fod i grybwyll eu henwau nhw wrth drafod â'r bwrdd iechyd. Ers blynyddoedd, mae yna ddiwylliant o guddio materion dan y carped; o ddiffyg tryloywder; o greu ofn ymhlith staff sydd am siarad allan, ac, yn anffodus, mae hyn yn mynd yn waeth yn hytrach na gwella, er gwaetha'r holl ymyriadau sydd wedi bod dros y blynyddoedd o du Llywodraeth Cymru. Dydy'r cyhoeddiad ddoe ddim am wella'r diwylliant yna, ac mae'r diwylliant yna wrth wraidd llawer o'r problemau.
Mae'r sefydliad angen newid drwyddo draw er mwyn gyrru'r newid anferth sydd ei angen. Mae angen gweithredu brys ar draws y sefydliad i greu diwylliant agored, sydd yn croesawu mewnbwn staff, nid un sy'n ceisio eu tawelu nhw, ac yn sicr, mae angen meddwl o ddifrif a ydy'r model presennol yn ffit i bwrpas. A dyna bwrpas ein gwelliant ni, a dwi'n falch o gael cefnogaeth trawsbleidiol yn y Siambr yma iddo fo. Felly, dwi yn erfyn arnoch chi i feddwl o ddifrif am yr awgrym yma rydyn ni'n rhoi gerbron efo'n gilydd heddiw yma. Dwi'n erfyn arnoch chi i droi pob carreg—pob carreg—i greu gwelliant. Gwrandewch ar beth mae'r staff rheng flaen yn ei ddweud. A, plis, a wnewch chi gydnabod, yn ddiamod, fod y sefyllfa yn un ddifrifol iawn, iawn?
Y Gweinidog iechyd nawr i gyfrannu i'r ddadl. Eluned Morgan.
Diolch yn fawr. Ddoe, rhoddais ddatganiad llafar ynghylch statws uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, lle y dywedais fy mod wedi cael a derbyn cyngor gan swyddogion Llywodraeth Cymru y dylid ymestyn trefniadau ymyrraeth wedi'i thargedu yn y bwrdd iechyd i gynnwys gwasanaethau yn Ysbyty Glan Clwyd.
Hoffwn i jest ei gwneud hi'n hollol glir fy mod i yn derbyn bod y sefyllfa yn un ddifrifol, a dyna pam rŷn ni'n cymryd y camau yma.
Cefais fy nghyhuddo ddoe o wthio datganiad i mewn yn fwriadol i danseilio'r ddadl heddiw, a hoffwn eich sicrhau nad oedd hynny'n wir. Ar brynhawn 26 Mai, cynhaliwyd y cyfarfod teiran. Ddydd Gwener 27 Mai, cefais fy mriffio ar yr argymhellion. Ddydd Llun 30 Mai, am 2.25 p.m., comisiynwyd fy natganiad llafar gan swyddogion arweiniol. Ac am 5 p.m. y prynhawn hwnnw, cyhoeddwyd y cynnig ar gyfer dadl y Ceidwadwyr. Cefais gyfarfod â chadeirydd a phrif weithredwr Betsi, ynghyd â phrif weithredwr GIG Cymru, ddydd Mercher, 1 Mehefin, ac rwy'n ymddiheuro imi awgrymu ddoe mai dydd Mawrth oedd hynny. Ac wrth gwrs, fe wnaethom hysbysu agenda'r Cyfarfod Llawn ar 1 Mehefin y byddai pethau'n newid o ran yr agenda. Ddoe, felly, oedd y cyfle cyntaf imi ddod ag argymhellion y pwyllgor teiran i'r Senedd.
Nawr, mae'r penderfyniad, fel y dywedais ddoe, yn adlewyrchu pryderon difrifol ac eithriadol iawn am yr arweinyddiaeth, y trefniadau llywodraethu a chynnydd, yn enwedig yng Nglan Clwyd, gan gynnwys y gwasanaeth fasgwlaidd ac yn yr adran achosion brys. A hoffwn ei gwneud yn gwbl glir fod profiadau fel yr un y cyfeirir ato—y Parchedig Jones, er enghraifft—yn gwbl annerbyniol. Mae'r enghraifft a roddwyd gan Gareth—unwaith eto, mae'r holl bethau hyn yn annerbyniol, a dyna pam ein bod yn rhoi'r mesurau hyn ar waith. Mae gennyf bryderon difrifol hefyd am yr honiadau o fwlio ac aflonyddu ymhlith staff a nodwyd gan Siân Gwenllian ac eraill. Nid yw hyn wedi'i anwybyddu wrth ehangu'r ymyrraeth wedi'i thargedu, ac rwyf wedi cyfarwyddo'r bwrdd iechyd i adolygu eu dull o ymgysylltu â staff, er mwyn sicrhau yr eir i'r afael â'r materion hyn fel rhan o'u prosesau uwchgyfeirio presennol ar gyfer ymyrraeth wedi'i thargedu. A Carolyn, rydych chi'n llygad eich lle fod angen i lais y staff gael ei glywed.
Nawr, wrth wneud y penderfyniad hwn, ystyriais a ddylid uwchgyfeirio'r bwrdd iechyd i fesurau arbennig ai peidio. Rwyf wedi penderfynu nad yw mesurau arbennig yn briodol ar hyn o bryd, a'r rheswm am hyn yw bod y bwrdd a'r prif weithredwr wedi tynnu sylw at eu penderfyniad i wneud cynnydd, ac wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'n pryderon, ac eisoes wedi dechrau gwneud hynny. Rwyf hefyd yn ymwybodol o'r effaith a gafodd y statws mesurau arbennig yn flaenorol ar allu'r bwrdd iechyd i recriwtio a chadw staff—mater y mae llawer ohonoch wedi tynnu sylw ato heddiw—a phwysigrwydd gallu denu'r bobl iawn i'r sefydliad.
Cafodd mesurau arbennig effaith negyddol ar ddiwylliant y sefydliad, gan eu bod yn dibynnu ar eraill i wneud penderfyniadau allweddol, yn hytrach na bod y bwrdd iechyd yn datblygu eu hatebion eu hunain. Ac er ein bod ni a'r bwrdd iechyd yn cydnabod bod methiannau sylweddol a difrifol yn bodoli, mae'n bwysig meithrin hyder a chefnogi'r sefydliad i fod yn fwy uchelgeisiol, ac i edrych ymlaen at ddyfodol gwell. Mae'n bwysig ein bod yn cefnogi'r bwrdd iechyd i barhau ar ei daith wella, ac i hyrwyddo diwylliant agored, lle mae problemau'n cael eu cydnabod a'u harchwilio, ac rydym am hyrwyddo dysgu. Ni fydd dynodiad mesurau arbennig yn cyflawni hynny. Ond wrth gwrs, os nad ydym yn gweld gwelliant, mae hynny'n dal ar y bwrdd fel opsiwn.
Beth fydd y sbardun ar gyfer hynny? Un enghraifft, er enghraifft, yw methu gweithredu'r cynllun gweithredu ar gyfer y gwasanaeth fasgwlaidd, ac felly, adeiladu ar y rhaglen bresennol ar gyfer ymyrraeth wedi'i thargedu, fel y disgrifiwyd yn fy natganiad ddoe. A Russell, rwy'n dweud wrthych y byddaf yn monitro. Rwy'n monitro'r cynllun gweithredu ar gyfer y gwasanaeth fasgwlaidd yn barod bob pythefnos a byddwn yn edrych am effaith Gwelliant Cymru a'r gwahaniaeth y gall ei wneud i adrannau damweiniau ac achosion brys.
Ac rwyf am fod yn glir nad oes gennyf unrhyw fwriad i ailstrwythuro gwasanaethau ysbytai yng ngogledd Cymru, ac fe ddywedaf wrthych pam. A Ken, fe ofynnoch chi beth fyddai effaith hyn yn y tymor byr. Byddai'n gostus, byddai'n tynnu sylw oddi ar y gwaith sy'n mynd rhagddo ar wella gwasanaethau, ac ni fyddai ynddo'i hun yn mynd i'r afael â'r heriau y mae'r bwrdd iechyd yn eu hwynebu, gan gynnwys y rhestrau aros hir. Mae'n hanfodol ein bod yn cefnogi'r bwrdd iechyd i fwrw ymlaen â thrawsnewid a pheidio â chynnal gwaith ailstrwythuro aflonyddgar sy'n dargyfeirio adnoddau oddi wrth ofal cleifion. Credaf ei bod yn bwysig inni gydnabod ein bod yn gwrando ar leisiau cleifion, ac rwyf hefyd yn cael llawer o negeseuon e-bost, gallaf eich sicrhau, gan bobl yn Betsi, ac nid ydynt yn dweud, 'Ad-drefnwch os gwelwch yn dda', maent yn dweud, 'Rhowch lawdriniaeth clun i mi yn gynt', 'Helpwch fi gyda fy nhriniaeth canser', 'Gwnewch yn siŵr y gallaf weld meddyg teulu yn gyflymach'. Rwy'n credu mai un pwynt yr hoffwn ei wneud, a hynny mewn ymateb i bwynt Ken, yw bod angen mwy o dryloywder ynghylch y gwelliannau sy'n cael eu gwneud ac rwyf eisoes wedi gofyn i'r bwrdd iechyd weithredu ar hynny.
Ddoe, fe wnes i esbonio yr ymyriadau difrifol a sylweddol sydd yn cael eu gwneud, ac fe wnaf i ddim ailadrodd hynny eto. Mae gwelliannau sylweddol wedi bod ar draws y bwrdd iechyd dros y saith mlynedd diwethaf ac mae'r sefydliad yn un sylfaenol wahanol i'r un a gafodd ei roi dan fesurau arbennig. Mae'r tîm gweithredol wedi'i adnewyddu, gan gynnwys prif weithredwr a chyfarwyddwr meddygol newydd, ymhlith eraill. Mae'r ffordd y mae'r bwrdd iechyd yn ymgysylltu â staff, partneriaid a'r cyhoedd yn dangos bod yna fwy o aeddfedrwydd a bod yna effeithlonrwydd cynyddol. Gall hynny bellach gefnogi eu gwaith i weithredu'r strategaeth tymor hir ar gyfer gwasanaethau clinigol, integredig a thrawsnewid gwasanaethau sy'n gysylltiedig â hynny.
Mae'r bwrdd iechyd wedi dangos y gallu i ysgogi gwelliant sy'n galluogi tynnu gwasanaethau allan o fesurau arbennig. Mae'r gwasanaethau mamolaeth a'r gwasanaethau tu allan i oriau wedi cyflawni'r cynnydd yma ac maen nhw bellach yn rhan o ymgyrch wella barhaus y bwrdd ei hun.
Rhaid inni gofio bod dros 19,000 o aelodau staff yn gofalu am boblogaeth y gogledd bob dydd ac, i'r mwyafrif, mae'r gofal yn dda, boed hynny yn y feddygfa, mewn clinigau cleifion allanol, yn y gymuned neu yn yr ysbyty. Er bod y sefydliad bellach o dan lefel uwch o ymyrraeth wedi'i thargedu, hoffwn i sicrhau'r cleifion a'r cymunedau sy'n cael eu gwasanaethu gan y bwrdd iechyd, a'r staff sy'n gweithio ynddi, y bydd gwasanaethau a gweithgareddau o ddydd i ddydd yn parhau fel arfer. Er hynny, mae meysydd sylweddol o bryder i'r bwrdd rhoi sylw gofalus iddynt, a byddaf i'n gwneud yn siŵr eu bod nhw’n cael eu monitro.
Darren Millar nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Lywydd. Nid yw Betsi yn gweithio. Rydych wedi'i glywed dro ar ôl tro yn y Siambr hon dros nifer o flynyddoedd bellach. Mae cleifion yn cael cam. Mae diogelwch cleifion yn cael ei beryglu. Mae rhai cleifion wedi cael niwed; mae eraill wedi marw hyd yn oed o ganlyniad i'r hyn sydd wedi digwydd yn y bwrdd iechyd.
Gwyddom fod amgylchedd gwaith staff yn annerbyniol. Mae'r staff o dan bwysau aruthrol. Ceir prinder sylweddol o staff nyrsio yn enwedig yn y bwrdd iechyd, ac yn wir nid yw rhai swyddi meddygon ymgynghorol wedi'u llenwi. Ac mae'r pwysau'n arwain at gamgymeriadau. A dyna pam ein bod yn y sefyllfa yr ydym ynddi. Gwyddom fod staff hefyd wedi cael eu hannog i beidio â chodi llais pan fydd ganddynt bryderon. Pan fyddant yn siarad ac yn lleisio pryderon, gwyddom eu bod wedi cael eu hanwybyddu. Dyna a ddywedodd adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i bob pwrpas am y sefyllfa yn yr adran achosion brys. A gwyddom fod bygwth a bwlio staff wedi digwydd, nid yn unig yn Ysbyty Gwynedd, ond ym mhob ysbyty ar draws y bwrdd iechyd cyfan a dweud y gwir ac yn y rhan fwyaf o'r adrannau—ni fyddwn yn dweud pob un, ond yn sicr yn y rhan fwyaf.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cynllunio'r gweithlu wedi bod ers 20 mlynedd wrth gwrs. Nid yw'r pwysau yn ddim byd newydd yn ein hysbytai. Mae wedi bod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru ers 20 mlynedd. Felly, nid Brexit na fisâu sy'n achosi'r problemau hyn mewn gwirionedd; methiant i gynllunio ar gyfer y gweithlu'n effeithiol ydyw ac i hyfforddi digon o bobl i ymgymryd â'r proffesiynau iechyd pwysig hyn.
Nid yw'n ymwneud yn unig â chyllid ychwaith. Mae'r gwasanaeth iechyd dros y ffin yn Lloegr yn perfformio'n well i bob golwg. Mae'n anodd cymharu'n uniongyrchol, ond mae'n ymddangos ei fod yn perfformio'n well mewn adrannau achosion brys ac mewn agweddau eraill ar ofal—amseroedd aros—ac mae'n gwario llai o arian y claf er mwyn cyrraedd yno. Rydym yn gwario mwy o arian y claf ac mae'n ymddangos bod gennym wasanaethau gwaeth ac mae'n loteri cod post yng Nghymru wrth gwrs, oherwydd nid yw pobman, diolch byth, gyn waethed â bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr o ran y gwasanaethau sy'n cael eu darparu.
Ond oherwydd nad oes a wnelo hyn ag arian, a'i fod yn rhywbeth i'w wneud â chynllunio'r gweithlu, a'n bod yn gwybod bod gennym y problemau hyn, dyna pam fy mod wedi fy siomi braidd gan eich ymateb, Weinidog. Faint yn rhagor o adroddiadau y bydd yn rhaid inni eu cael cyn i Lywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd ddeall bod Betsi wedi torri? Rwyf bob amser wedi amddiffyn safbwynt Llywodraeth Cymru, ers blynyddoedd lawer, mai'r peth olaf y mae ar y bwrdd iechyd ei angen yn y gogledd yw ad-drefnu. Rwyf wedi amddiffyn hynny. Bellach nid wyf yn argyhoeddedig fod hynny'n gynaliadwy. Credaf efallai mai dyma'r ateb cywir, a dyna pam ein bod yn barod i gefnogi gwelliant Plaid Cymru heddiw, a dweud, 'Gadewch inni gael person annibynnol i edrych ar y strwythurau i weld a ydynt yn iawn,' oherwydd os yw hynny'n rhan o'r broblem, rwyf am iddo gael ei ddatrys.
Bu fy nhad-yng-nghyfraith yn ddigon anffodus i dorri gwddf asgwrn y forddwyd; cafodd doriad i wddf asgwrn y forddwyd—ei glun—wythnos neu ddwy yn ôl. Roedd yn yr adran damweiniau ac achosion brys am 15 awr. Oni bai bod fy ngwraig gydag ef, ac roedd hyn ar ôl chwe awr yn aros am ambiwlans, ni fyddai wedi cael cynnig unrhyw ddiodydd, unrhyw fwyd. Roedd yn ddryslyd. Yn ystod oriau'r nos, roedd mewn ystafell glinigol olau, a heb wely i allu bod yn gyfforddus. Ac roedd hyn ar ôl i adroddiad AGIC gael ei gyhoeddi, ac ar ôl inni gael sesiynau briffio fel Aelodau lleol o'r Senedd fod y gwasanaethau'n gwella ac nad oedd y mathau hynny o brofiadau'n digwydd mwyach. Felly, rwy'n edmygu eich hyder—yr hyder sydd gennych yn y tîm arwain yno. Fe ddywedoch chi mai un o'r rhesymau pam nad oeddech wedi'i roi dan drefn mesurau arbennig yr wythnos hon oedd oherwydd eich bod wedi cael sicrwydd gan y bwrdd a'r prif weithredwr eu bod yn benderfynol ac wedi ymrwymo i wneud y newidiadau angenrheidiol i wella pethau. Rwyf wedi eu clywed i gyd o'r blaen. Fe'u clywais y diwrnod cyn i fy nhad-yng-nghyfraith fynd i mewn i'r adran achosion brys a chael ei brofiad ofnadwy, a dim ond un o nifer o enghreifftiau a glywsoch heddiw yw ef.
Mae gennym hefyd ddrws troi o arweinyddiaeth yn y bwrdd iechyd hwnnw. Nid yw'n sefydlog. Nid yw'n sefydlog o gwbl. Rydym wedi cael yr holl brif weithredwyr gwahanol hyn, hanner dwsin o gyfarwyddwyr cyllid, cyfarwyddwyr meddygol lu hefyd, ac nid yw'n ymddangos ei fod yn cyflawni'r newid, y newid diwylliant o fewn y sefydliad, oherwydd yn anffodus, Weinidog, mae rhai pobl yno o hyd mewn swyddi allweddol uwch a ddylai fynd ac nid ydynt wedi gwneud hynny.
Nawr, heddiw, yr hyn sydd gennych yn y Siambr yw mwyafrif y bobl sy'n cynrychioli etholaethau'r gogledd a fydd yn pleidleisio dros adolygiad, ac a fydd yn pleidleisio dros becyn diwygiedig o fesurau arbennig—nid y mesurau arbennig a oedd gennym o'r blaen, oherwydd nid oeddent yn gweithio, ac nid yr ymyrraeth wedi'i thargedu a oedd gennym o'r blaen, am nad yw hynny wedi gweithio ychwaith. A phan fydd saith mlynedd wedi mynd heibio, ac mae'n saith mlynedd yr wythnos hon ers i fesurau arbennig gael eu gosod ar bethau fel iechyd meddwl ac arweinyddiaeth a llywodraethu, pan fydd saith mlynedd wedi mynd heibio, mae'n rhaid i chi feddwl, 'A ydym yn gwneud y pethau iawn yma?' ac nid wyf yn meddwl ein bod. Ac os oes gennych fwyafrif o Aelodau yn y Siambr hon o ogledd Cymru yn dweud wrthych, yn erfyn arnoch, 'Os gwelwch yn dda, er mwyn popeth, mae angen inni ddatrys y broblem hon yn awr am fod pobl yn marw ac yn cael niwed, a theuluoedd yn colli anwyliaid, a staff wedi ymlâdd ac yn cael problemau iechyd meddwl oherwydd y sefyllfa yn Betsi,' rwy'n erfyn arnoch i ystyried yn ddiffuant a gofalus.
Gwn eich bod yn ddiffuant yn eich awydd i yrru'r newid hwn yn ei flaen—rwy'n credu hynny o ddifrif a gwn fod eich Dirprwy Weinidog iechyd meddwl eisiau hynny hefyd—ond rwy'n erfyn arnoch. Gwelais ddigon o ddagrau, gwelais ddigon o anwyliaid mewn profedigaeth, gwelais ddigon o adroddiadau gan y crwner yn dweud na ddylai'r peth hwn fod wedi digwydd ac na ddylai'r peth arall fod wedi digwydd, gwelais ddigon o adroddiadau ombwdsmon i fy narbwyllo nad yw'n gweithio. Nid yw'n iawn. Felly, gadewch inni gael yr adolygiad annibynnol o'r strwythurau. Gadewch inni sicrhau ein bod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd a bod y staff yn cael gwybod am y newidiadau y bydd angen eu gwneud, a gadewch inni gael rhaglen mesurau arbennig sy'n gweithio. Gadewch inni gael gwared ar y bobl sy'n gyfrifol am y diwylliant gwaelodol yn y sefydliad, y bobl nad ydynt erioed wedi gadael ac sydd wedi bod o gwmpas drwy gydol yr amser, a gadewch inni gael hyn yn iawn er mwyn y boblogaeth yng ngogledd Cymru a'r etholwyr rwy'n eu gwasanaethu.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe fyddaf i'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Nawr fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr i baratoi ar gyfer y bleidlais yna yn dechnegol.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 19:19.
Ailymgynullodd y Senedd am 19:25, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Cynhelir y bleidlais gyntaf ar eitem 6. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 14, dim yn ymatal, 40 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi'i wrthod.
Eitem 6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 14, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 15, dim yn ymatal, 39 yn erbyn. Mae gwelliant 2 wedi'i wrthod.
Eitem 6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 15, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Huw Irranca-Davies. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 40, dim yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
Eitem 6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd. Cynnig: O blaid: 40, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Nesaf, pleidleisiwn ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os caiff y cynnig ei wrthod, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 14, roedd 13 yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig -Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 27, Ymatal: 13
Gwrthodwyd y cynnig
Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 27, dim yn ymatal, yn erbyn 27. Fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiaf fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, o blaid 27, dim yn ymatal, a 28 yn erbyn, ac mae'r gwelliant wedi'i wrthod.
Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 27, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Gan nad yw'r Senedd wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio, nac wedi derbyn y gwelliant ar gyfer y cynnig, caiff y cynnig, felly, ei wrthod. A daw hynny â'r pleidleisio i ben am heddiw.
Symudaf yn awr i'r ddadl fer, a galwaf ar Joel James i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo.
Ac os oes Aelodau'n gadael, gwnewch hynny'n dawel. Joel.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn gadarnhau fy mod wedi cytuno i roi munud yr un i fy nghyd-Aelodau, Altaf Hussain a Russell George. Fel y gŵyr llawer yma, mae byddardod a'r problemau sy'n wynebu'r gymuned fyddar yn agos iawn at fy nghalon, ac roeddwn am fanteisio ar y cyfle—
Joel, cyn i chi barhau, os gwnewch chi gadarnhau: Altaf Hussain a Russell George.
Ie, munud yr un.
Fel y gŵyr llawer yma, mae byddardod a'r problemau sy'n wynebu'r gymuned fyddar yn agos iawn at fy nghalon. Roeddwn am achub ar y cyfle yn fy nadl fer gyntaf i dynnu sylw at rai o'r materion hyn. Byddaf yn ymdrin â thri phrif bwynt, sef yr effaith a gaiff colled clyw mewn cyflogaeth, Deddf Iaith Arwyddion Prydain 2022, ac anallu ymarferwyr awdioleg preifat i wneud gwaith GIG a goblygiadau hyn i restrau aros a'r effaith ddilynol ar iechyd a lles pobl. Rwyf am ganolbwyntio ar y pwyntiau hyn oherwydd credaf fod angen i'r Llywodraeth ddeall y gymuned fyddar ehangach yn well ac yn fwy greddfol, yn enwedig yr agweddau cudd ar golli clyw a sut y mae hyn yn cael effaith ddofn ar fywydau pobl.
O ran cyflogaeth, gwyddom fod o leiaf 4.4 miliwn o bobl o oedran gweithio yn y DU â cholled clyw. Gwyddom hefyd fod y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y rhai sydd â cholled clyw yn llawer is o'i chymharu â phobl heb unrhyw broblemau iechyd neu anabledd hirdymor, sef 65 y cant a 79 y cant yn y drefn honno. Ar gyfartaledd, telir o leiaf £2,000 yn llai y flwyddyn i bobl sydd â cholled clyw na'r boblogaeth gyffredinol, sy'n golygu y gall rhai sydd â cholled clyw ddisgwyl ennill gryn dipyn yn llai yn ystod eu hoes, sy'n cael effaith ganlyniadol o ran darparu ar gyfer eu teuluoedd a mwynhau'r un ffordd o fyw â phobl heb unrhyw broblemau iechyd hirdymor. Canfu arolwg diweddar o bobl â cholled clyw gan y Gymdeithas Frenhinol i Bobl Fyddar fod y rhai â cholled clyw yn wynebu amgylchedd gwaith caletach, a theimlai'r mwyafrif nad oeddent wedi cael cyfle cyfartal, nad oeddent yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu bod yn teimlo eu bod wedi'u heithrio o sgyrsiau gyda chydweithwyr, eu bod yn unig yn y gwaith, eu bod wedi cael eu gadael allan o ddigwyddiadau cymdeithasol, a'u bod wedi profi bwlio neu angharedigrwydd yn y gwaith oherwydd eu cyflwr. Mae'r materion hyn sy'n ymwneud ag allgáu a diffyg cefnogaeth yn andwyol yn y tymor hir.
Ar gamu ymlaen mewn gyrfa, dywedodd y mwyafrif—60 y cant—o'r ymatebwyr nad oeddent wedi cael cyfleoedd i gamu ymlaen yn eu gyrfa, gyda nifer o bobl yn nodi bod diffyg modelau rôl byddar yn y gwaith yn rhwystr allweddol. Yn anffodus, er gwaethaf nifer o raglenni Llywodraeth a grëwyd i ddileu effaith anabledd o'r farchnad swyddi, ceir ymdeimlad yn y gymuned fyddar fod llawer o enghreifftiau o hyd o anhawster i gael gafael ar y math cywir o gymorth, ac weithiau i gael gafael ar unrhyw gymorth o gwbl. Y dystiolaeth fwyaf amlwg fod rhaglenni'r Llywodraeth yn aneffeithiol oedd bod y rhai sy'n fyddar neu sydd â cholled clyw difrifol yn dal i gael eu hystyried yn weithwyr drud oherwydd y cyfyngiad ar y swyddogaethau y gallant eu cyflawni a'r cymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt.
Mae hyn i gyd yn paentio darlun trist i bobl yn y byd gwaith sy'n dioddef o golled clyw, yn fwy felly oherwydd bod llawer o hyn yn gudd. Mae'n amlwg fod yna lawer o bobl nad ydynt yn teimlo eu bod yn gallu integreiddio i fywyd gwaith yn llawn, a gall hynny, fel y gwyddom, fod yn ffactor pwysig yn hunaniaeth a boddhad bywyd pobl. Roedd diffyg cefnogaeth, diffyg darpariaeth o addasiadau rhesymol ac ar adegau, diffyg hyblygrwydd bron yn llwyr, yn broblem i'r holl gyfranogwyr, yn enwedig gweithwyr llaw neu weithwyr crefftus, sy'n golygu bod llawer o bobl yn teimlo, er gwaethaf eu hymdrechion gorau, na allant wneud eu gwaith hyd eithaf eu gallu.
Rhaid inni hefyd fod yn ymwybodol o agwedd gudd arall, sef y teimlad sydd gan rai sydd â cholled clyw mewn gwaith fod y gallu iddynt aros mewn gwaith a chadw eu swydd y tu hwnt i'w rheolaeth, waeth beth fo'u perfformiad gwaith, ac yn y pen draw mai mater i'r rhai sy'n eu goruchwylio yn eu rôl yw hynny. At hynny, ceir teimlad fod cyflogwyr yn ystyried bod pobl sy'n fyddar neu sydd â cholled clyw yn faich o ran iechyd a diogelwch. I'r rhai a oedd wedi gweithio ers dros 10 i 15 mlynedd, roedd y rheoliadau iechyd a diogelwch presennol yn cyfyngu ar eu gwaith, mewn cyferbyniad llwyr ag amodau gwaith y gorffennol. Yn eithaf pryderus, roedd yna deimlad y byddai'n anodd iawn dod o hyd i waith mewn mannau eraill oherwydd eu colled clyw, a bod rhaid iddynt dderbyn eu hamodau gwaith presennol neu wynebu diweithdra. Yn anffodus, mae sefyllfa pobl fyddar ddi-waith hyd yn oed yn waeth. Gan nad ydynt yn gallu defnyddio'r ffôn, mae bron bob cyswllt â darpar gyflogwyr yn digwydd drwy ohebiaeth ysgrifenedig. Yn aml iawn, gall dod o hyd i ddehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer cyfweliadau fod yn heriol.
Daw hyn â mi at fy ail bwynt, Deddf BSL. Roeddwn i, fel llawer o rai eraill, yn falch iawn o weld bod Bil BSL Llywodraeth y DU wedi cael Cydsyniad Brenhinol ddiwedd mis Ebrill eleni, gan ddod i rym fel Deddf Iaith Arwyddion Prydain 2022. I'r rhai sy'n anghyfarwydd â'r Ddeddf, ceir cydnabyddiaeth yn awr i Iaith Arwyddion Prydain fel iaith swyddogol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Er bod hon yn garreg filltir enfawr i bobl fyddar, nid yw'r sefyllfa gystal ag y dylai fod yn y gwledydd datganoledig. Yn Lloegr, mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol adrodd ar hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL gan adrannau gweinidogol y Llywodraeth, a rhaid cyhoeddi canllawiau mewn perthynas â BSL, sy'n nodi sut y mae'n rhaid i adrannau'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus ddiwallu anghenion pobl fyddar yn y DU. Yn seiliedig ar y nodau hynny, dylai'r Ddeddf wella mynediad at ddehonglwyr, yn ogystal â gwella ymwybyddiaeth gyffredinol, a helpu i ddatblygu addysg BSL. Dylai hefyd helpu i wella mynediad at gyflogaeth i bobl fyddar. Oherwydd y setliad datganoli, nid yw Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ddarostyngedig i ddyletswydd adrodd y Ddeddf, ac felly mater i Weinidogion Llywodraeth Cymru yma yn gyfan gwbl yw i ba raddau y gwelwn y budd hwn yng Nghymru. Yn hyn o beth, credaf fod angen i Lywodraeth Cymru gydnabod y Ddeddf yn ei chyfanrwydd, a chyflawni ei dyletswyddau adrodd llawn, a byddwn yn gobeithio y byddai pob Aelod yma yn y Siambr yn annog Llywodraeth Cymru i fabwysiadu'r ymagwedd hon.
Yn fy mhwynt olaf, rwyf am drafod gwasanaethau awdioleg yng Nghymru, a'r rôl a'r effaith bosibl y gall ymarferwyr awdioleg preifat eu cael. Ceir angen digynsail i glirio ôl-groniadau awdioleg yng Nghymru. Mae gan fwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro bron i 1,500 o bobl yn aros am driniaeth, gyda dros 800 wedi aros 14 mis neu fwy am wasanaethau awdioleg y GIG. Mae 5,000 yn rhagor yn aros ledled Cymru am driniaeth fawr ei hangen i allu clywed yn dda eto, ac mae'r ffigurau hyn wedi cynyddu ers y pandemig. Mae'r rhestr aros benodol hon yn arwyddocaol. Er y gellir dweud nad yw colled clyw yn bygwth bywyd yn uniongyrchol, mae'n cael effaith enfawr ar fywydau'r rhai sy'n dioddef, yn enwedig gan fod colled clyw sy'n gysylltiedig ag oedran yn gyffredin iawn yng Nghymru, gydag 1 y cant o'r boblogaeth am bob blwyddyn o oedran yn dioddef—hynny yw, 70 y cant o bobl 70 oed ac 80 y cant o bobl 80 oed ac ati.
Mae effaith colli clyw sy'n gysylltiedig ag oedran yn mynd ymhell y tu hwnt i fethu clywed yn dda. Mae'n arwain, yn drasig, at ynysu cymdeithasol, unigrwydd, salwch meddwl, dementia, ac mae'r cyflyrau hyn wedyn yn arwain at broblemau iechyd eraill. Nid yw aros mwy na 14 mis am asesiad a chymhorthion clyw yn fater dibwys os ydych yn 80 oed gyda dirywiad gwybyddol cynyddol. Mae'n eich rhoi mewn sefyllfa fregus iawn, ac mae'n siŵr fod hynny'n wirioneddol frawychus iddynt. Ceir tystiolaeth gref i ddangos bod nam bach ar y clyw yn dyblu'r risg o ddatblygu dementia, mae colled clyw cymedrol yn arwain at dair gwaith y risg, a cholled clyw difrifol yn cynyddu'r risg bum gwaith. Amcangyfrifir mai colled clyw sydd i gyfrif am 8 y cant o achosion o ddementia, yn ogystal â phroblemau iechyd hirdymor eraill. Dros gyfnod o 10 mlynedd, mae gan bobl sydd â cholled clyw risg 47 y cant yn uwch o orfod mynd i'r ysbyty oherwydd y risg uwch o gwympiadau ac iselder. Yr hyn sy'n sefyll allan ymhellach yw y gellir atal gweithrediad gwybyddol rhag dirywio os ceir diagnosis amserol felly mae'r rhestr aros 14 mis i gael mynediad at wasanaethau awdioleg yn niweidio pobl, heb amheuaeth.
Holais y Prif Weinidog am y pwynt hwn yn ddiweddar, ac er fy mod yn croesawu ei ymateb fod angen cynyddu capasiti gofal sylfaenol, credaf fod y dull un llwybr hwn yn un cibddall, yn anad dim am ei bod yn mynd i gymryd cryn dipyn o amser i gynyddu capasiti gofal sylfaenol mewn GIG sydd eisoes dan bwysau, ond hefyd am fod awdiolegwyr cymunedol sefydledig ar gael i ni, awdiolegwyr y mae cleifion yn eu hoffi ac y profwyd eu bod yn ddiogel, yn glinigol effeithiol, ac y canfuwyd eu bod yn darparu gwerth da am arian yn Iwerddon, Lloegr ac mewn mannau eraill, ac maent ar gael ar bron bob stryd fawr yng Nghymru. Rhaid inni gofio bod gennym lawer o gleifion dros 70 oed sy'n awyddus iawn i gael mynediad at wasanaethau. Ni allant aros am y broses hir o gael pob bwrdd iechyd i gyflawni cynlluniau peilot a recriwtio'n uniongyrchol i'r gwasanaeth, ac yna gorfod clirio'r rhestrau aros sy'n dal i dyfu, sy'n sefyllfa a brofais yn ddiweddar gan fy mod newydd gael fy symud oddi ar y rhestr cleifion allanol yr oeddwn arni am ei bod wedi tyfu'n rhy hir.
Yr hyn sy'n fwy hurt ynghylch dull o weithredu'r Llywodraeth hon yw'r ffaith eu bod eisoes yn defnyddio optometryddion preifat, fferyllwyr, deintyddion a meddygon teulu yng Nghymru i helpu i ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol y GIG. Felly, mae'r Llywodraeth hon, heb unrhyw dystiolaeth ategol, yn trin gwasanaethau awdioleg yn wahanol ac yn gwrthod mynediad cyflym i gleifion yng Nghymru at y gwasanaeth hwn. Efallai nad yw'r Aelodau yma'n ymwybodol, ond yn yr archwiliad diweddaraf o wasanaethau awdioleg yng Nghymru, a gynhaliwyd, efallai y dylwn ychwanegu, cyn COVID-19, methodd pob bwrdd iechyd yng Nghymru gydymffurfio â'r gofyniad i gysylltu â phob claf cymorth clyw bob tair blynedd i gynnig apwyntiad ailasesu. Methodd pob bwrdd iechyd y meini prawf hyn yn 2017 hefyd. Dim ond pump o naw gwasanaeth a gyrhaeddodd neu a ragorodd ar y targed cydymffurfio ar gyfer pob safon unigol. Felly, cyn COVID, roeddem eisoes yn gweld nad oedd cleifion yn cael y gwasanaethau awdioleg y maent yn eu haeddu, ac mae'r sefyllfa hon yn gwaethygu.
Mae nifer y bobl sydd â cholled clyw yn cynyddu. Mae amcangyfrifon yn awgrymu y bydd tua 15.6 miliwn o bobl yn y DU â cholled clyw erbyn 2035—mae hynny'n un o bob pump o'r boblogaeth, o'i gymharu ag un o bob chwech o bobl ar hyn o bryd. Erbyn 2030, bydd colled clyw ymhlith oedolion yn un o'r 10 clefyd uchaf yn y DU, yn uwch na chataractau a diabetes, fel y'i mesurir yn ôl blynyddoedd bywyd a addaswyd o achos anabledd. Yn rhwystredig, mae agwedd y Llywodraeth hon at broblemau gyda gwasanaethau awdioleg yn rhyfedd ar y gorau ac yn achosi niwed bwriadol ar ei waethaf, yn enwedig am fod ateb parod ar gael ar ffurf awdiolegwyr cymunedol ar y stryd fawr. Mae GIG Cymru eisoes yn comisiynu optometreg gofal sylfaenol ac mae byrddau iechyd yn comisiynu gwasanaethau cymunedol ar gyfer iechyd llygaid, felly pam y mae'r Llywodraeth hon yn trin awdioleg yn wahanol ac nad yw'n mabwysiadu'r un dull o weithredu? Rwy'n gobeithio bod hwn yn safbwynt y bydd y Gweinidog yn rhoi sylw iddo. Diolch, Lywydd, a diolch i bawb am roi o'ch amser i wrando.
Diolch am y ddadl hon, Joel, ac am roi munud i mi—efallai y cymeraf fwy. Mewn llawer o achosion, mae pobl sydd â cholled clyw yn gorfod aros llawer mwy am apwyntiad gyda'u meddyg teulu. Mae llawer o feddygfeydd meddygon teulu yn methu cynnig apwyntiadau ar yr un diwrnod am nad oes ganddynt staff sy'n ddehonglwyr hyfforddedig neu sy'n gallu defnyddio iaith arwyddion. Gallai cleifion aros pythefnos neu fwy wrth iddynt aros i ddehonglwr gael ei drefnu. Mae hwn yn gyfnod hir i rywun agored i niwed sydd angen gweld ei feddyg. Mewn grŵp trawsbleidiol, disgrifiodd unigolyn â cholled clyw sut y cawsant eu torri i ffwrdd yn ystod galwad 111, am ei bod wedi cymryd cymaint o amser i ddod o hyd i rywun a allai gyfathrebu â hwy dros y ffôn. Pe bai hon yn alwad 999, gallai hynny fod wedi bod yn drychinebus. Mae angen i Lywodraeth Cymru dynhau rheoliadau ar gyfer cymhorthion clyw dros y cownter, gan y gallai defnyddwyr gael eu hynysu ymhellach a cholli mwy o'u clyw o ganlyniad i chwyddo'r sain yn ormodol. Mae angen i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn gwasanaethau colled clyw fel bod pawb yn cael triniaeth gyfartal. Yn y pen draw, gallai hyn achub bywydau. Diolch.
A gaf fi ddiolch i fy nghyd-Aelod, Joel James, am ei gyfraniad ac am roi eiliad o'i amser i minnau hefyd? Yng Nghymru, gwasanaethau'r GIG mewn ysbytai yn unig sy'n darparu gwasanaethau colled clyw. Gwyddom hefyd fod lefel amseroedd aros i rai cleifion yn annerbyniol o faith, gan orfodi cleifion naill ai i fynd yn breifat, neu os na allant ei fforddio, i ddioddef neu fethu gwybod lle i droi. Pan fyddaf yn mynd am fy apwyntiad i gael prawf golwg, rwyf hefyd yn cael cynnig prawf clyw, yn Specsavers yn y Drenewydd. Maent yn cynnig prawf clyw a hefyd—[Torri ar draws.] Dau am bris un—yn hollol. Ond mae fy nghyd-Aelod, Joel James, wedi tynnu sylw at hyn a hoffwn ddweud wrthych, Weinidog, fod cyfle yma i arbed arian i'r GIG, i wella mynediad at wasanaethau a hefyd i dynnu'r pwysau oddi ar y GIG, a hynny drwy gomisiynu darparwyr gwasanaethau cymunedol presennol yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau'r GIG gan ddefnyddio model sy'n seiliedig ar optometreg gofal sylfaenol presennol yng Nghymru. Mae optometryddion yn chwarae rhan enfawr wrth gwrs, yn lleihau'r baich ar wasanaethau gofal sylfaenol meddygon teulu a'r GIG yn ei gyfanrwydd yng Nghymru, felly gofynnaf i'r Gweinidog ystyried hyn fel model tebyg ar gyfer gwasanaethau colled clyw y GIG yng Nghymru.
Galwaf yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr. Hoffwn dalu teyrnged i Joel am ddod â'r mater hwn i sylw'r Senedd. Rwyf hefyd am dalu teyrnged i grŵp y Torïaid, oherwydd mae'n hyfryd gweld y ffordd y mae pawb ohonoch yn cefnogi eich gilydd yn y dadleuon byr hyn. Mae'n esiampl go iawn i'r gweddill ohonom, felly da iawn chi. Fe fyddwch yn falch o glywed bod fy araith 15 tudalen bellach wedi'i thorri i bump. [Chwerthin.]
Mae rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd dros dymor y Senedd hon i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl drwy ymrwymiad a rennir i sicrhau bod pawb yn cyrraedd eu potensial. Ac mae hynny'n cynnwys, wrth gwrs, pobl fyddar neu sy'n byw gyda nam ar eu clyw. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gall bod yn fyddar neu fod â nam ar y clyw effeithio'n negyddol ar lefelau cyfathrebu weithiau, fel y nododd Joel. Gall hyn olygu bod pobl yn teimlo'n ynysig, wedi eu gwahanu oddi wrth y byd o'u cwmpas ac yn teimlo'n isel eu hysbryd. Gall rhwystrau bob dydd o ran gwasanaethau cyhoeddus, trafnidiaeth, iechyd, gofal cymdeithasol, adloniant a hamdden eu dal yn ôl. Mae ymyrraeth a diagnosis cynnar yn hollbwysig i iechyd a lles yr unigolion hyn.
Mae Cymru yn arwain y ffordd ar ddatblygu a darparu gofal iechyd clyw, drwy ein cynllun clyw, 'Fframwaith Gweithredu ar gyfer Cymru, 2017-2020: fframwaith gofal a chymorth integredig i bobl sy'n F/fyddar neu sy'n byw â cholled clyw'. Dyma'r cyntaf yn y DU, ac mae ein fframwaith gweithredu yn amlinellu'r ailgynllunio gwasanaethau sydd ei angen i ddiwallu anghenion poblogaeth Cymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Mae'r fframwaith gweithredu wedi'i ymestyn hyd at 2023, i gydnabod yr heriau sy'n parhau gyda'r gwaith sydd eto i'w wneud, er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i atal problemau clust. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod pobl yn cael eu diagnosis a'u trin yn brydlon a'u bod yn cael y gofal a'r cymorth cyfathrebu parhaus sydd ei angen arnynt.
Mae pobl sy'n fyddar neu sy'n byw gyda nam ar eu clyw heb ei reoli neu heb gael diagnosis o golled clyw a dementia, neu broblemau iechyd meddwl, yn fwy tebygol o fod angen gofal a chymorth os ydynt yn mynd i gyrraedd eu potensial llawn o ran cyflogaeth ac addysg, ac yn gymdeithasol. Nod y fframwaith gweithredu yw dilyn cwrs bywyd o sgrinio babanod newydd-anedig a phlant i oedolion a phobl hŷn, er mwyn sicrhau bod gwasanaethau priodol yn cael eu datblygu a bod unigolion yn cael eu cyfeirio at y gwasanaethau hynny pan fo'u hangen.
Yn yr amser sydd gennyf heddiw, ni allaf wneud cyfiawnder â'r ystod o bolisïau sydd ar y gweill i fynd i'r afael â materion cudd sy'n effeithio ar bobl fyddar a'r rhai sy'n byw gyda nam ar eu clyw, ond tynnaf sylw at ambell faes gweithgarwch. Hoffwn ddweud y byddaf yn ymchwilio i'r cyfleoedd i weld a oes unrhyw gyfle inni weithio gyda'r sector preifat i ehangu a chyflymu'r broses. Ni ellir gwella colled clyw, ond gellir lliniaru ei effeithiau negyddol drwy gymhorthion clyw ac offer a chymorth gan weithwyr proffesiynol amlasiantaethol. Ym mis Ebrill, cyhoeddais ein rhaglen ar gyfer trawsnewid a moderneiddio gofal ysbyty wedi'i gynllunio a lleihau rhestrau aros. Yn bwysig, mae'r cynllun yn dangos sut i drawsnewid gwasanaethau yn y gymuned i gynnig gwahanol opsiynau a luniwyd i gefnogi unigolion. Dyma fydd ein ffordd allweddol o fynd i'r afael â'r mater o hyd.
Mae'n wych fod y DU wedi cydnabod BSL. Wrth gwrs, mae hynny'n dilyn yr enghraifft a osodwyd gennym yn ôl yn 2004, pan wnaethom gydnabod BSL yn ffurfiol fel iaith ynddi'i hun. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cyfathrebu hygyrch, a ni oedd y Llywodraeth gyntaf yn y DU i sicrhau bod ein cynadleddau i'r wasg COVID-19 yn cynnwys presenoldeb dehonglwr BSL.
Mae safonau Cymru gyfan yn rhoi arweiniad i staff y gwasanaeth iechyd ar sut i sicrhau bod anghenion cleifion am gymorth o ran gwybodaeth a chyfathrebu yn cael eu diwallu, ac mae hynny'n cynnwys BSL. Mae disgwyl i bob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth roi trefniadau ar waith i gyflawni'r safonau er mwyn sicrhau bod yr holl wasanaethau ar gael yn hygyrch, gan gynnwys ar gyfer y gymuned fyddar.
Byddwch yn cofio fis Rhagfyr diwethaf, yn ystod yr wythnos pan oedden ni yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau, fod Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, wedi gwneud datganiad yn y Senedd, yn tynnu sylw at y ffordd mae'r pandemig COVID wedi cael effaith wael iawn ar bobl anabl. Roedd y diffyg cydraddoldeb sy'n bodoli'n barod wedi cyfrannu at hynny, a chafodd y diffyg cydraddoldeb hwnnw ei ddwysáu yn ystod y pandemig. Roedd yr adroddiad 'Drws ar Glo' yn canolbwyntio ar yr annhegwch amlwg mae pobl anabl yn ei wynebu, ac yn tynnu sylw at y rhwystrau i bobl fyddar, sydd wedi ysgogi Llywodraeth Cymru i sefydlu tasglu hawliau anabledd.
I gloi, dwi'n credu y gallwn fod yn gytûn bod ystod eang o weithgaredd ar y gweill i fynd i'r afael â'r materion cudd sy'n effeithio ar bobl fyddar, a'r rhai sy'n byw gyda cholli clyw. Er hynny, mae mwy i ddod, a byddaf yn parhau i groesawu atebion arloesol pellach i gefnogi'r dinasyddion hyn yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Diolch, Weinidog, a diolch, bawb. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:50.