Y Cyfarfod Llawn
Plenary
07/06/2022Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da. Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno trwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi.
Cyn i ni ddechrau'r cyfarfod, a chyn i unrhyw un ohonoch chi geisio neidio i mewn fel y cyntaf i longyfarch tîm pêl-droed Cymru, gadewch i mi fod y person i wneud hynny ar ein rhan, a dweud wrth y tîm pêl-droed, a Chymdeithas Bêl-droed Cymru, pa mor falch yr ydym ni i gyd fel Senedd o'u llwyddiant aruthrol. [Cymeradwyaeth.] A gallaf ddweud wrth yr Aelodau fy mod i eisoes yn ystyried a oes gwrthdaro o ran amseru rhwng gemau a Chyfarfodydd Llawn er mwyn gweld sut y gallwn ni ddatrys hynny yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Felly, awn ni ymlaen i'r eitem gyntaf y prynhawn yma, sef y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Darren Millar.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am safbwynt Llywodraeth Cymru ar ddiwygio'r Senedd? OQ58152
Llywydd, bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio gweithredu casgliadau'r Senedd ar y mater hwn.
Diolch am yr ymateb yna. Wrth gwrs, mae casgliadau pwyllgor y Senedd yn cyd-fynd yn dda iawn â chasgliadau'r trafodaethau rhyngoch chi ac arweinydd Plaid Cymru. Ac, wrth gwrs, os caiff y casgliadau a'r argymhellion hynny eu gweithredu, hwn fydd yr ad-drefnu mwyaf sylweddol o etholiadau i'r Senedd ers ei sefydlu yn ôl ym 1999, gan ddileu'r system bresennol lle caiff 40 o Aelodau eu hethol ar sail y cyntaf i'r felin. Nawr, pan gyflwynwyd newidiadau mor sylweddol i systemau pleidleisio yn y gorffennol, fe'u gwnaed yn destun pleidlais gyhoeddus, er mwyn i'r cyhoedd gael lleisio eu barn drwy refferendwm. Yn ôl yn 2011, pan oedd cynnig i gael gwared ar y system y cyntaf i'r felin ar gyfer etholiadau San Steffan, rhoddodd Prif Weinidog y DU, David Cameron, y penderfyniad hwnnw, a hynny'n gwbl briodol, yn nwylo'r cyhoedd drwy refferendwm. O gofio nad oedd unrhyw gyfeiriad penodol at gynnydd i nifer yr Aelodau o'r Senedd ym maniffesto eich plaid ar gyfer etholiad diwethaf y Senedd, a ydych chi'n derbyn bod angen i'r cyhoedd gael leisio barn uniongyrchol ar y pecyn o gynigion sy'n cael ei gyflwyno gerbron y Senedd hon ac a fydd yn cael ei drafod yfory?
Llywydd, mae'r cyhoedd eisoes wedi lleisio eu barn. Fe wnaethon nhw ethol Aelodau i'r Senedd hon mewn niferoedd digonol i sicrhau, fel y dywedodd Darren Millar, y diwygiad mwyaf i'r Senedd ers ei sefydlu. Mae'r rheini ohonom ni a safodd ar faniffestos o blaid diwygio yn edrych ymlaen at gyflawni'r broses hon.
Wn i ddim beth roeddech chi'n ei wneud, Prif Weinidog, ym 1973; roeddwn i yn Ysgol Iau Dukestown yn Nhredegar. Dydw i ddim yn siŵr beth yr oedd Darren Millar yn ei wneud ym 1973, ond rwy'n siŵr nad oedd yn darllen adroddiad yr Arglwydd Kilbrandon, a ddywedodd bryd hynny bod Cymru angen Senedd o 100 o aelodau. Ers hynny, rydym ni wedi cael adroddiadau gan Ivor Richard, gan Laura McAllister, gan bawb sydd wedi edrych ar y materion hyn, ac maen nhw i gyd wedi dod i'r un casgliad. Ac eto, yn ystod y rhan fwyaf o oes Darren Millar, y cwbl mewn gwirionedd, nid yw'r amser erioed wedi bod yn iawn. Y gwir amdani yw eu bod nhw'n stwffio Tŷ'r Arglwyddi, fel y maen nhw eisoes wedi ei wneud heddiw, gydag Arglwyddi anetholedig. Maen nhw'n eu rhoi nhw yn syth yn Llywodraeth y DU heb unrhyw atebolrwydd democrataidd, ac maen nhw'n dod yma i ofyn am refferendwm, nid am eu bod nhw'n ei gredu—a dydw i ddim yn credu bod yr un ohonyn nhw'n credu'r nonsens y maen nhw'n ei siarad am y materion hyn—ond gan nad ydyn nhw'n hoffi democratiaeth Cymru. A ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog?
Wel, Llywydd, bob naw mis, mae Prif Weinidog y DU yn penodi mwy o bobl i Dŷ'r Arglwyddi nag yr ydym ni'n cynnig eu hychwanegu at aelodaeth y Senedd—bob naw mis. Ble mae'r refferendwm ar hynny, tybed?
Nawr, rwy'n cytuno yn llwyr â'r hyn y mae fy nghyd-Aelod Alun Davies wedi ei ddweud. Allwch chi ddim dod o hyd i adroddiad annibynnol ar y gynrychiolaeth sydd ei hangen ar bobl yng Nghymru er mwyn gwneud y penderfyniadau pwysig sy'n cael eu gwneud yma ar eu rhan sy'n credu bod 60 Aelod yn gwantwm digonol i gyflawni'r cyfrifoldebau hynny. Ac mae hynny yn mynd yn ôl i Kilbrandon ac mae'n mynd yn ôl ymhellach na Kilbrandon, hyd yn oed i'r 1950au ac adroddiadau ar yr hyn a elwid bryd hynny yn gyngor Cymru. Mae'r cyfle hwn gennym ni; nid yw'n dod yn aml. Mae wedi cymryd 20 mlynedd ers adolygiad Richard i ddod o hyd i adeg pan fo diwygio yn bosibl. Mae'n rhaid i ni fanteisio arno nawr, a bydd y pleidiau hynny yn y lle hwn sy'n benderfynol o wneud yn siŵr bod democratiaeth Cymru yn gallu cyflawni dros bobl yng Nghymru, rwy'n credu, yn dod at ei gilydd i gefnogi'r cynigion hyn ac eisiau eu gweld nhw'n llwyddo.
2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog mannau gwyrdd newydd yn ne-ddwyrain Cymru? OQ58154
Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae ein rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur wedi creu dros 300 o fannau gwyrdd ledled Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Mae 22 ohonyn nhw wedi cael eu datblygu yng Nghasnewydd, gan gynnwys y gwaith, y gwn y bydd yr Aelod yn gyfarwydd ag ef, a wnaed yn rhandiroedd cymunedol Pilgwenlli.
Diolch, Prif Weinidog. Ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, codais yn y Siambr hon gyflwr ofnadwy'r ffordd gywilyddus i unman yn fy etholaeth i—darn o dir sydd wedi cael ei ddifetha gan dipio anghyfreithlon ar raddfa ddiwydiannol, gyda 100 tunnell o sbwriel yn ymestyn cyn belled ag y gellir gweld. Rwyf i mor falch o ddweud ein bod ni wedi symud ymlaen ers hynny, yn dilyn gwaith gwych gan Gyngor Dinas Casnewydd a gwirfoddolwyr lleol. Mae'r tir bellach yn glir o'r sbwriel ac mewn gwirionedd yn cael ei adennill gan y gymuned. Drwy ymroddiad ac ymrwymiad y gwirfoddolwyr lleol hynny, yn enwedig yr ymgyrchwyr arbennig Sue Colwill, Caroline Antoniou a Helena Antoniou, maen nhw bellach yn gweddnewid y ffordd i unman i fod yn ffordd i natur. Maen nhw'n ymdrechu yn ddiflino i wella ffyrdd mynediad a llwybrau troed, gan weithio ochr yn ochr â'r cyngor a grwpiau cadwraeth, fel Buglife Cymru ac Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn, i droi'r ardal hon yn warchodfa natur y gall pawb ei mwynhau. Mae'r gweddnewid hwn yn ymgorffori cymaint o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i'w wneud o ran bioamrywiaeth, yr argyfwng hinsawdd a mannau gwyrdd, ond nid yw wedi bod yn broses hawdd o gwbl i'r rhai dan sylw. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu hwyluso'r broses pryd y gall cymunedau lleol adennill tir at ddefnydd gwyrdd, ac a wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi ar ymweliad â'r ffordd i natur, fel y gall weld drosto'i hun y gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud, ac i gyfarfod â'r gwirfoddolwyr ymroddedig hynny?
Llywydd, diolch i Jayne Bryant am hynna. Rwy'n cofio ei chyfraniad yr adeg honno, oherwydd, fel yr wyf i'n ei gofio, roedd yng nghyd-destun y pwerau newydd a oedd yn cael eu darparu i awdurdodau lleol i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon—cynigion a gyflwynwyd gan fy nghyd-Weinidog Lesley Griffiths. A gwn, wrth droi'r ffordd i unman yn ffordd i natur, fod y pwerau hynny wedi cael eu defnyddio gan gyngor Casnewydd a chan y gweithredwyr cymunedol lleol hynny sydd wedi gwneud cymaint i weddnewid yr hyn a oedd yn falltod arbennig ar dirwedd y rhan honno o Gasnewydd. Rwyf i wedi gweld lluniau yn ddiweddar fy hun a gyhoeddwyd gan grŵp y gwaith gweddnewid, yn dangos sut olwg oedd ar y lle cyn iddyn nhw ddechrau gweithio, gan ddangos y mannau gwyrdd gwych sy'n cael eu darparu nawr, tynnu sylw at y gwaith y mae'r cyngor yn ei wneud i ddarparu mwy o fynediad at y ffordd, fel y gall pobl ei mwynhau nawr. Byddwn yn falch iawn o ymuno â Jayne Bryant ar ymweliad â'r safle. Ac wrth feddwl am ei chwestiwn am sut y gallwn ni ei gwneud yn haws i bobl gymryd rhan yn y mathau hyn o weithgareddau yn y dyfodol, mae'n ymddangos i mi mai lle da iawn i ddechrau fyddai drwy ddysgu gan y bobl sydd wedi bod yn rhan o'r cynllun hwn, gan glywed ganddyn nhw am unrhyw rwystrau y gallen nhw fod wedi eu hwynebu, a syniadau a fydd ganddyn nhw ar gyfer sut y gellid gwella hynny yn y dyfodol. Ac edrychaf ymlaen at eu cyfarfod pan ellir trefnu'r ymweliad hwnnw.
Diolch i Jayne Bryant am godi'r mater hwn. Llywydd, er ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n creu mannau gwyrdd newydd i bobl eu mwynhau, mae hefyd yn bwysig ein bod ni'n diogelu ac yn gwella'r mannau gwyrdd presennol hefyd. Nawr, yn ôl ym mis Mawrth eleni, cyflwynwyd cynlluniau diwygiedig ar gyfer fferm solar fawr ar wastadeddau Gwent. Daeth hyn ar ôl i'r cynlluniau gwreiddiol gael eu gwrthod gan Lywodraeth Cymru, oherwydd eu heffaith bosibl ar yr ardal, sydd wrth gwrs yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Llywydd, rydym ni i gyd yn gwybod ein bod ni angen mwy o ffynonellau ynni adnewyddadwy dibynadwy, ond mae'n rhaid i hyn beidio â dod ar unrhyw gost, a dylai datblygiadau o'r fath, gymaint â phosibl, weithio gyda natur a'r amgylchedd yn hytrach na bod yn niweidiol iddyn nhw o bosibl. Prif Weinidog, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau nad yw datblygiadau a phrosiectau seilwaith newydd yn lleihau yn ddiangen faint o fannau gwyrdd sydd ar gael i gymunedau a pha mor hygyrch ydyn nhw? A pha ystyriaeth y mae Gweinidogion wedi ei rhoi i gryfhau rheolau cynllunio i sicrhau bod datblygiadau yn gyfranwyr net at yr amgylchedd naturiol?
Diolch i Peter Fox am y cwestiwn ychwanegol yna, Llywydd. Gwn fod ganddo arbenigedd ei hun; ef oedd arweinydd Cyngor Sir Fynwy pan greodd y cyngor fferm solar, cynllun yr oedd Llywodraeth Cymru yn falch iawn o'i gefnogi. Felly, gwn y bydd wedi gweld drosto'i hun y cydbwysedd y mae'n rhaid ei sicrhau rhwng datblygiadau ynni adnewyddadwy, sy'n gwbl angenrheidiol, a'u heffaith ar yr amgylchedd lleol.
Mae'n dda iawn, Llywydd, clywed llais ar feinciau'r Ceidwadwyr yma sy'n ceisio gwarchod amgylchedd gwastadeddau Gwent. Nid yw bob amser wedi bod yn bolisi gan y blaid honno, fel y gwyddom. Ond, fel yr ydych chi wedi gweld, a chyfeiriodd Peter Fox at yr enghraifft honno, pryd roedd datblygiad arfaethedig nad oedd y Gweinidog yn teimlo ei fod yn pwyso a mesur ei fanteision a'i anfanteision yn briodol, roedd yn barod i weithredu ac i atal y datblygiadau hynny rhag digwydd. Felly, rhoddaf sicrwydd i'r Aelod bod Llywodraeth Cymru bob amser yn parhau i bwyso a mesur y ffactorau niferus hynny, y rhesymau cadarnhaol pam y gellid rhoi sêl bendith i ddatblygiadau ynni adnewyddadwy a hefyd yr effaith y maen nhw'n ei chael ar yr amgylchedd lleol a'r angen i sicrhau'r cydbwysedd hwnnw ym mhob achos.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd, ac a gaf i ymuno â chi i longyfarch tîm pêl-droed Cymru a'r amlygrwydd mawr y bydd yn ei roi i Gymru fel gwlad ar y llwyfan pêl-droed rhyngwladol, a dymuno'n dda i'r tîm pan fydd y pencampwriaethau yn cyrraedd? Yn amlwg, gobeithio, gyda chynllunio, gallwch wneud yn siŵr nad oes unrhyw wrthdaro â busnes y Cyfarfod Llawn, yn enwedig ddiwedd mis Tachwedd.
Prif Weinidog, ddau benwythnos yn ôl, gwelsom anhrefn traffig ac anhrefn teithio yma yn y de gyda digwyddiad Ed Sheeran, a My Chemical Romance, sy'n grŵp, rwy'n deall, yn hytrach na noson allan yng Nghaerdydd ar fy rhan i. Er ein bod ni'n croesawu'r holl weithgarwch hwn yma yn y de, oherwydd bod Caerdydd wedi dod yn ddinas gyrchfan wirioneddol, ni ellir caniatáu i'r anhrefn traffig a theithio a welsom ni dros y penwythnos hwnnw barhau pan fydd digwyddiadau mawr yn cael eu cynnal yn y rhan hon o Gymru. Oherwydd mae'n digwydd mewn digwyddiadau chwaraeon, a nawr rydym ni wedi ei weld yn cael ei chwyddo yn amlwg iawn dros dri diwrnod cyngherddau Ed Sheeran. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud ynghylch pa gamau y mae angen eu cymryd i fynd i'r afael â'r tagfeydd traffig hyn fel na fyddwn ni'n gweld hyn yn digwydd eto?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, ac mae'n sicr yn wir fod torfeydd dau ddigwyddiad mawr yng Nghaerdydd a dechrau'r gwyliau hanner tymor wedi arwain at lawer iawn o draffig i gyd yn ceisio cyrraedd Caerdydd mewn cyfnod cyfyngedig. Pryd bynnag y bydd digwyddiad mawr yn y ddinas, mae tîm o bobl yn cyfarfod wedyn i adolygu'r profiad ac i weld beth arall y gellid ei wneud i naill ai liniaru effaith y traffig mawr hwnnw, neu i ddarparu gwasanaethau ychwanegol. Mae Trafnidiaeth Cymru wrthi'n benthyg dau drên gan Northern Trains ar hyn o bryd, yn ogystal â'r trenau CAF newydd y bwriedir iddyn nhw fod mewn gwasanaeth yr haf hwn, er mwyn caniatáu iddyn nhw ddarparu'r capasiti ychwanegol hwnnw pan fydd gennym ni ddigwyddiadau prysur a chyfuniad o wahanol ffactorau sy'n arwain at y math o oedi a welsom dros y penwythnos hwnnw.
Prif Weinidog, rwy'n falch eich bod chi wedi cyflwyno Trafnidiaeth Cymru, oherwydd un o'r prif feirniadaethau oedd y gallu i fynd ar drenau a rhoi gwybodaeth i bobl a oedd yn ciwio yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Mae honno yn un o swyddogaethau eithaf sylfaenol unrhyw weithrediad trafnidiaeth ac nid yw'n costio swm enfawr o arian. Mae'r llif gwybodaeth yn hanfodol i deithwyr ddeall pam maen nhw'n sownd yn y tagfeydd hynny. A ydych chi'n derbyn bod Trafnidiaeth Cymru, y tro hwn, wedi methu? Roeddem ni'n gwybod, yn amlwg, ei bod hi'n ddechrau gŵyl banc y gwanwyn, roeddem ni'n gwybod bod dau ddigwyddiad mawr yn cael eu cynnal, ac eto dylid bod wedi rhoi mwy o bwyslais ar gapasiti, ond hefyd ar roi gwybodaeth i bobl a oedd yn dod i'r ddinas, a gafodd brofiad gwael iawn a dweud y lleiaf, a chafodd y profiadau hyn eu chwyddo ar y cyfryngau darlledu dros benwythnos gŵyl y banc.
Llywydd, rwy'n gwahaniaethu rhwng y ddau bwynt y mae arweinydd yr wrthblaid wedi eu gwneud. Rwy'n credu, o ran capasiti, ei bod hi'n wirioneddol anodd disgwyl i gwmni trenau, ag asedau sefydlog a chronfa sefydlog o staff sy'n gallu darparu'r gwasanaethau hynny, droi'r tap ymlaen mewn ffordd fawr o amgylch unrhyw fath o ddigwyddiad, ac mae hynny yn arbennig o wir am wasanaethau trên. Yn syml, allwch chi ddim consurio trenau allan o'r awyr am ddiwrnod neu ddau; mae'n rhaid i chi allu eu fforddio nhw drwy gydol y flwyddyn, ac mae'n rhaid i chi fod â staff sy'n gymwys ac yn gallu darparu gwasanaeth diogel. Felly, rwy'n credu bod hynny yn her wirioneddol a dydw i ddim yn meddwl y gellir beirniadu Trafnidiaeth Cymru am eu hymdrechion i roi'r adnoddau a oedd ar gael iddyn nhw ar waith.
Mae'r hyn yr wyf i'n cytuno ag arweinydd yr wrthblaid yn ei gylch yn ymwneud â gwybodaeth. Mae unrhyw un sydd wedi bod yn sownd mewn unrhyw fath o ddigwyddiad traffig, boed hynny mewn maes awyr neu mewn gorsaf drenau, yn gwybod mai'r un peth sydd ei angen arnoch chi yw gwybodaeth dda am yr hyn sy'n digwydd. A hyd yn oed pan fydd yr wybodaeth honno yn anodd ac yn mynd i ddweud wrthych chi y bydd oedi neu y byddwch yn sownd neu beth bynnag, byddai'n well gennych chi wybod beth rydych chi'n ei wynebu, yn hytrach na theimlo nad oes neb yn gallu dweud wrthych chi beth sy'n digwydd o'ch cwmpas. Felly, mae hwnnw yn bwynt pwysig i Trafnidiaeth Cymru ei gymryd o'r digwyddiad hwnnw. Er nad wyf i'n disgwyl iddyn nhw allu dod o hyd i gapasiti o unman, rwyf i yn disgwyl, pan fydd digwyddiadau o'r math a welsom ni, bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i wneud yn siŵr bod pobl sy'n ceisio teithio yn cael eu hysbysu yn y modd gorau posibl.
Rwy'n derbyn y pwynt ynglŷn â chapasiti, Prif Weinidog, ond roedd yn achos pryd na wnaeth y trenau y bwriadwyd iddyn nhw redeg gyrraedd gorsaf Caerdydd Canolog mewn llawer o achosion. Felly, rwy'n derbyn na allwch chi gonsurio trenau allan o unman, ond ni wnaeth y trenau a oedd fod i redeg ymddangos hyd yn oed ar nosweithiau cyngherddau Ed Sheeran, a waethygodd y broblem pan gynhaliwyd y cyngerdd arall yn y brifddinas.
Ond fe welsom ni hefyd, dros dair noson, y porth i'r de-ddwyrain a'r de-orllewin, twneli Bryn-glas, yn gwneud eu tric arferol o roi 'ar gau ar gyfer busnes', oherwydd bod y traffig wedi pentyrru y tu hwnt i bont Hafren. Nawr, mae gennym ni wahaniaeth polisi yma, Prif Weinidog. Rwy'n credu y dylid adeiladu ffordd liniaru; dydych chi ddim. Rwy'n derbyn mai chi yw'r Llywodraeth a dyna eich penderfyniad, ac mae honno yn ddadl sydd wedi mynd heibio i ni erbyn hyn, ond yr hyn na ellir caniatáu iddo barhau, gan ein bod ni i gyd eisiau gweld prifddinas Caerdydd yn ddinas sy'n gallu sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda phrif ddinasoedd a chyrchfannau Ewrop, yw na ellir dod â thraffig i stop pan fydd digwyddiadau mawr yn digwydd. A ydych chi'n credu bod angen diwygio eich strategaeth drafnidiaeth, fel y gallwn ni ddarparu ar gyfer yr adegau galw brig hyn sy'n amlwg yn effeithio ar y diwydiant cludo nwyddau, yn effeithio ar bobl sy'n mynd ar wyliau a phobl sy'n byw eu bywydau bob dydd, oherwydd ni allwn ni gael yr arwydd 'ar gau ar gyfer busnes' dros y porth i dde Cymru?
Llywydd, bydd arweinydd yr wrthblaid, mi wn, yn deall, hyd yn oed pe bai penderfyniad wedi cael ei wneud i fwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4, na fyddai wedi gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl dros y penwythnos diwethaf, oherwydd byddai, hyd yn oed o heddiw ymlaen, bum mlynedd arall cyn y gellid agor ffordd o'r fath. Felly, nid yw'n ateb i'r broblem y mae wedi ei nodi. Daw'r ateb gwirioneddol drwy adolygiad cysylltedd yr undeb Llywodraeth y DU. Felly, yr hyn yr wyf i'n edrych ymlaen ato yw cam nesaf yr adolygiad hwnnw. Mae Llywodraeth y DU wedi darparu arian ar gyfer cam nesaf yr adolygiad, sef cam datblygu'r adolygiad. Bydd yn gwybod bod Syr Peter Hendy wedi dweud mai hwn oedd un o'r cynlluniau a oedd yn gweddu, yn fwy na bron unrhyw gynllun arall yr oedd wedi ei weld, o fewn y meini prawf a bennwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth a fyddai'n cynorthwyo teithio drwy wahanol wledydd cydrannol y Deyrnas Unedig. Ac, os gallwn gael yr adolygiad o gysylltedd yr undeb i roi'r buddsoddiad hwnnw yn yr ail reilffordd—y rheilffordd sydd yno ochr yn ochr â'r brif reilffordd bresennol—bydd hynny yn caniatáu i lawer mwy o wasanaethau gael eu rhedeg ar y rheilffyrdd rhwng y de ac ymlaen heibio Bryste i weddill Lloegr. Pe bai honno wedi bod ar gael dros y penwythnos diwethaf, yna rwy'n credu y byddai wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol sylweddol, ac edrychaf ymlaen at weld Llywodraeth y DU yn dod o hyd i'r arian i gyd-fynd â'r adroddiad y mae hi ei hun wedi ei gomisiynu.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch yn fawr iawn. Nos Sul yma, roedd rhai ohonom ni, fel y Llywydd, oedd â'r anrhydedd anhygoel i fod yno, ond hefyd y miliynau oedd yn gwylio ar y teledu, wedi gweld hanes yn cael ei ysgrifennu mewn gwirionedd, nid yn unig i bêl droed Cymru, ond, rwy'n credu, ar lefel ehangach i Gymru gyfan. Beth ŷch chi'n meddwl, Prif Weinidog, fydd gwaddol cyrraedd Cwpan y Byd, dim ond am yr eildro erioed, yn ei wneud o ran ein hyder ni fel cenedl? Ac onid yw hi'n profi, gyda'r math hwnnw o ymroddiad ac undod—undod y tîm, y staff, y cefnogwyr, gyda'i gilydd—ein bod ni'n gallu cyflawni unrhyw beth fel cenedl pan ŷn ni'n ffocysu ein meddyliau, ein traed ac efallai, yn achos Wayne Hennessey, ein dwylo arno hefyd? Onid yw Cymru nid yn unig yma o hyd, ond, o ran y genhedlaeth yma, yn barod ac yn hyderus y gallan nhw lwyddo ar unrhyw lwyfan, yn genedlaethol neu'n rhyngwladol?
Wel, diolch yn fawr i Adam Price am y cwestiwn, Llywydd. Braint oedd bod yn y stadiwm ar nos Sul ac roedd y teimlad yn y stadiwm mor gryf y tu ôl i dîm Cymru. Ond nid jest i dîm Cymru, y parch roedd pobl yn ei ddangos at bobl oedd yno i gefnogi Wcráin hefyd, roedd hwnna'n rhywbeth a oedd yn fy nharo i yn eistedd yno yn y stadiwm. Ble roeddwn ni'n eistedd ac o fy nghwmpas i, beth oedd pobl yn siarad amdano, Llywydd, oedd nid jest pêl-droed—wrth gwrs, roedd pêl-droed yn bwysig dros ben—ond beth oedd y tîm a llwyddiant y tîm yn ei ddweud am Gymru heddiw a'r hyder a oedd ganddyn nhw. Ac rŷn ni'n gwybod, dros y blynyddoedd, fel cenedl, rŷn ni wedi, ambell waith, cael diffyg hyder yn ein dyfodol ni, yn ein capasiti ni i wneud penderfyniadau ar bethau sy'n bwysig i bobl yng Nghymru. Ac rŷn ni wedi gweld dro ar ôl tro timau yn dod jest ar y ffin o fod ar y llwyfan ar lefel y byd, ac ar y foment olaf, roedd hwnna'n cwympo yn ôl. Dyna'r peth pwysig roedd pobl yn siarad amdano yn y stadiwm: y pêl-droed, wrth gwrs, ond y neges roedd y tîm a phopeth oedd yn digwydd yno yn ei rhoi i bobl, yn enwedig pobl ifanc, pobl sy'n tyfu lan yng Nghymru heddiw. Roedd pobl yn cyfeirio at y bobl ifanc yn y tîm, pobl sydd wedi dod drwyddo nawr ac yn chwarae i Gymru, a hwnna yw'r llwyfan sy'n bwysig i ni: llwyfan Cwpan y Byd wrth gwrs, ond llwyfan ehangach na hynny i adeiladu hyder pobl yma yng Nghymru am y dyfodol a beth allwn ni ei wneud pan ŷn ni'n gweithio gyda'n gilydd.
Rwy'n credu bod y ffaith, hyd yn oed ar yr achlysur tyngedfennol hwn, mai'r peth cyntaf a wnaeth chwaraewyr Cymru oedd cysuro chwaraewyr Wcráin a chymeradwyo cefnogwyr Wcráin, rwy'n credu ei fod yn crynhoi'r gorau o'n gwerthoedd Cymreig o dosturi a rhyngwladoldeb.
Byddai'r prif weithredwr, Noel Mooney, pe gallem ni ond botelu'r ynni Celtaidd hwnnw, yn fwy poblogaidd na Guinness. Dywedodd nad y gymdeithas bêl-droed yn unig ydyn nhw, maen nhw'n fudiad, ac mewn cymaint o ffyrdd, maen nhw'n ymgorffori gwerthoedd y Gymru yr ydym ni eisiau ei gweld: modern, dwyieithog, creadigol, cynhwysol. Felly, sut gallwn ni ddefnyddio Cwpan y Byd, gyda'i chynulleidfa fyd-eang ddigyffelyb, i gyfleu'r ddelwedd honno o Gymru? Mae gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru lawer ar eu plât, onid oes, yn enwedig ychydig o gemau y maen nhw eisiau eu hennill yr wythnos hon? Felly, a fydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu tîm gyda phobl o wahanol sectorau i fanteisio ar y cyfle gwych hwn i Gymru? Cynhaliodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu cyfarfod cyntaf i gynllunio ar gyfer Qatar am 9.00 p.m. nos Sul, ac un arall amser brecwast y bore wedyn. A allwn ni ddangos yr un synnwyr o frys ac ymrwymiad â nhw ar y lefel genedlaethol i fanteisio i'r eithaf ar y cyfle hwn?
Wel, Llywydd, hoffwn ddefnyddio'r agoriad y mae Adam Price wedi ei gynnig i dalu teyrnged eto i'r tîm o Wcráin a'u cefnogwyr yn y maes. Pan feddyliwch chi am gefndir y gêm honno, roedden nhw'n anhygoel o ymroddedig. Ni roddodd y tîm y gorau iddi ar unrhyw adeg, hyd at ddiwedd i'r gêm, ac fe allech chi weld faint yr oedd yn ei olygu iddyn nhw hefyd. Roeddwn i'n credu eu bod nhw'n glod llwyr i'w gwlad.
A dylem ni dalu rhywfaint o deyrnged i Gymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd, o dan arweinyddiaeth Noel Mooney. Mae'n sefydliad sydd wedi'i weddnewid. Y pethau y mae Adam Price newydd eu dweud am Gymdeithas Bêl-droed Cymru, ni fyddech chi bob amser wedi gallu dweud y pethau hynny amdani yn ystod ei hanes, allech chi? Ond, o dan ei phrif weithredwr newydd, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gweld ei hun yn chwarae mwy o ran ym mywyd cyhoeddus Cymru na dim ond rhedeg timau pêl-droed. A'r pethau y byddwch chi wedi ei glywed yn eu dweud—a chawsoch chi a minnau gyfle i drafod rhai o'r pethau hynny gydag ef nos Sul—rwy'n credu yn llwyr fod hynny yn dangos sefydliad sydd wedi uniaethu ag ysbryd yr oes, sy'n deall bod hon yn adeg iddyn nhw pryd gallan nhw helpu i ymgorffori cyfres o werthoedd pwysig am y math o Gymru y byddem ni i gyd yn dymuno ei gweld. Ac, wrth gwrs, byddwn ni, fel Llywodraeth, yn gweithio ochr yn ochr â nhw a chyda nhw i wneud yn siŵr ein bod ni'n manteisio i'r eithaf ar y cyfle y mae amlygiad Cymru ar y llwyfan cenedlaethol hwnnw—. Gêm gyntaf yn erbyn UDA—wyddoch chi, rwy'n siŵr fy mod i'n cofio'r Arlywydd Trump yn dweud pe bai Joe Biden yn ennill yr etholiad arlywyddol, y byddai UDA yn edrych fel Cymru yn y pen draw. Roeddwn i'n meddwl ei fod wedi chwarae rhan sylweddol ym muddugoliaeth Joe Biden yn yr etholiad hwnnw fy hun. [Chwerthin.] Ond nawr, cawn gyfle i ddangos i bobl ar draws UDA yn union yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig.
Mae pêl-droed wedi rhoi'r cyfle anhygoel hwn i Gymru. Mae potensial enfawr yma i ysbrydoli, i gysylltu pobl, i newid bywydau, i weddnewid cymunedau, i adeiladu'r genedl, ond mae'n rhaid i ni fuddsoddi, onid oes, i wneud y gorau o hynny. Bydd diddordeb enfawr mewn pêl-droed ymhlith bechgyn a merched—ac mae angen i ni gefnogi'r tîm menywod i gyrraedd Cwpan y Byd FIFA yn Awstralia a Seland Newydd y flwyddyn nesaf hefyd—ac mae angen i ni wneud y mwyaf o'r difidend chwaraeon hwn, sydd, wrth gwrs, yn ddifidend iechyd a llesiant, corfforol a meddyliol. Yn fy nhref enedigol fy hun, Rhydaman, y clwb pêl-droed sy'n ganolog i allgymorth llesiant meddyliol yn dilyn colled drasig un o aelodau ei dîm. Felly, sut ydym ni'n mynd i fuddsoddi, fel cenedl, yn y seilwaith ffisegol, yn seilwaith cymdeithasol clybiau, fel y gallwn ni wneud yn siŵr bod y Cwpan y Byd hwn yn gadael etifeddiaeth nid yn unig yn Qatar, gobeithio, o ran hawliau gweithwyr a dynol yno, ond hefyd ym mhob cymuned yng Nghymru ac am genedlaethau i ddod?
Wel, Llywydd, cyfeiriodd Adam Price at fater yn y fan yna na ddylem ni ei osgoi, a ddylem ni? Wyddoch chi, rydym ni wrth ein bodd y bydd Cymru yn cael ei chynrychioli yn Qatar, ond ni ddylem ni edrych y ffordd arall oddi wrth yr amheuon a fyddai gennym ni fel cenedl ynghylch rhai o'r materion hawliau dynol hynny yr ydym ni'n eu gweld yno. A phan oedd fy nghyd-Weinidog Vaughan Gething yn Qatar ym mis Mai, manteisiodd ar y cyfle, fel y nododd yn ei ddatganiad ysgrifenedig i'r Senedd, i godi'r materion hawliau dynol hynny yn uniongyrchol gydag awdurdodau Qatar yng nghyd-destun Cwpan y Byd, ac mae'n rhaid i ni, ein hunain, wneud yn siŵr nad yw'r cyfleoedd hynny yn cael eu methu tra bo llygaid y byd ar y wlad honno.
Yma, un o'r pethau sydd—. Wrth i mi eistedd wrth ymyl y prif weithredwr yn ystod y gêm, dyna ichi ŵr a oedd â siec o £3 miliwn yn y fantol ar sail canlyniad y gêm. Roedd yn gwybod pe bai Cymru yn mynd ymlaen i'r cam nesaf, yna rhan o'r ffordd y caiff Cwpan y Byd ei drefnu yw y byddai £3 miliwn yn cyrraedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a dywedodd wrthyf ei fod yn benderfynol y byddai £2 filiwn o'r £3 miliwn hwnnw yn cael ei fuddsoddi mewn pêl-droed llawr gwlad a chyfleusterau llawr gwlad yma yng Nghymru. Roedd yn gwbl bendant wrth ddweud wrthyf i, er mai'r hyn yr oeddem ni i gyd yn ei wylio, wrth gwrs, oedd y ffenestr siop pêl-droed honno yng Nghymru, yr hyn sy'n wirioneddol bwysig iddo ef ac i Gymdeithas Bêl-droed Cymru yw iechyd y gêm ar y lefel lawr gwlad honno. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru, drwy Chwaraeon Cymru, wedi buddsoddi £24 miliwn yn ddiweddar mewn cyfleusterau ar gyfer chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru. Rwy'n cytuno yn llwyr ag Adam Price mai'r hyn yr ydym ni'n gobeithio ei gael o'r math o sylw ac amlygiad a fydd yng Nghwpan y Byd yw ysbrydoliaeth i bobl ifanc fod allan yno yn chwarae pêl-droed eu hunain, neu'n cymryd rhan ym mha bynnag gamp y maen nhw'n canfod sy'n cyd-fynd â'u doniau a'u galluoedd, a bydd Llywodraeth Cymru yno yn ceisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n chwarae ein rhan i sicrhau'r cyfleoedd hynny.
3. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda chynghorau chwaraeon y DU ynghylch cynnwys pobl drawsryweddol mewn chwaraeon? OQ58150
Llywydd, sefydlwyd Chwaraeon Cymru drwy siarter frenhinol ar 4 Chwefror 1972. Ers 1999, y sefydliad hwnnw, yn hytrach na chyrff y DU, sydd wedi bod yn gyfrifol am bolisi cynhwysiant mewn chwaraeon yng Nghymru. Serch hynny, mae'r cyngor yn gweithio gyda sefydliadau chwaraeon eraill a, gyda'i gilydd, fe wnaethon nhw gyhoeddi cyngor ar y cyd ar gynhwysiant trawsryweddol mewn chwaraeon domestig ym mis Medi y llynedd.
Prif Weinidog, rwy'n teimlo bod angen bod yn eglur, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i mi ei gwneud yn eglur, nad yw diogelu hawliau menywod am eiliad yn golygu eich bod chi'n gwrthwynebu hawliau traws. Mae cystadleuwyr benywaidd yn haeddu'r un hawliau â chystadleuwyr gwrywaidd. Rydym ni i gyd yn gwybod am y manteision enfawr y gall chwaraeon eu cynnig, ac rydym ni i gyd, rwy'n siŵr, eisiau sicrhau y gall athletwyr traws gymryd rhan mewn chwaraeon. Ond yr hyn nad ydym ni ei eisiau yw sefyllfa pryd yr ydym ni'n ceisio bod mor gynhwysol ei fod yn niweidiol i grŵp penodol. Mae gennym ni sefyllfa pryd y mae athletwyr benywaidd mor ddigalon eu bod nhw'n tynnu allan o'u categorïau benywaidd eu hunain oherwydd eu bod nhw'n dweud bod gan fenywod traws sy'n cymryd rhan mewn categori benywaidd fantais y glasoed gwrywaidd. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn edrych ar ffyrdd y gallwn ni helpu i sicrhau bod pob athletwr yn gallu cystadlu, gan edrych ar ffyrdd y gallwn ni weithio gyda chyrff chwaraeon yn gyffredinol, ac yn edrych ar greu categori agored i sicrhau tegwch, cynwysoldeb a diogelwch yn gyffredinol. Rwy'n siŵr y byddwn ni'n cytuno'n anad dim ei bod hi'n hollbwysig ein bod ni'n sicrhau tegwch mewn chwaraeon. Mae'n hanfodol i chwaraeon. Prif Weinidog, a ydych chi'n credu y dylai athletwyr traws gystadlu mewn chwaraeon menywod? Sut bynnag yr ydych chi'n teimlo ynghylch y mater hwn, er mwyn ei ddatrys, mae'n hanfodol i ni allu diffinio menyw. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi wneud rhywbeth y mae llawer o wleidyddion Llafur eraill wedi methu â'i wneud hyd yn hyn, sef diffinio menyw?
Mae fy man cychwyn i yr un fath ag un Penny Mordaunt—Gweinidog y DU a oedd yn gyfrifol ar y pryd—a ddywedodd mai man cychwyn Llywodraeth y DU oedd bod menywod trawsryweddol yn fenywod. Dyna fy man cychwyn i yn y ddadl hon. Mae'n faes anodd lle mae pobl yn teimlo'n gryf iawn ar wahanol ochrau i ddadl, a dadl sy'n gwahanu pobl sy'n cytuno ar y rhan fwyaf o bethau eraill. Yr hyn a ddywedaf wrth yr Aelod, gyda mater a allai fod yn ymrannol o bosibl, yw mai cyfrifoldeb cynrychiolwyr etholedig yw peidio â sefyll ar sicrwydd eu hargyhoeddiadau eu hunain, ond yn hytrach gweithio'n galed i chwilio am gyfleoedd ar gyfer deialog, i ddod o hyd i ffyrdd o hyrwyddo dealltwriaeth yn hytrach na gwrthdaro, ac i ddangos parch yn hytrach na chwilio am reswm dros allgau. Nid wyf i'n deall y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud—y gallwch chi fod yn rhy gynhwysol. I mi, mae'n sicr mai cynwysoldeb yw'r hyn y dylem ni fod yn anelu ato yma. Y ffordd i ddatrys y materion heriol hynny y mae wedi eu nodi—ac nid oes gennyf i unrhyw wrthwynebiad o gwbl iddi eu nodi—yw peidio â thybio, oherwydd efallai fod gennym ni ein hunain farn gref, bod hynny yn caniatáu i ni fwrw amheuaeth ar ddiffuantrwydd y safbwyntiau a ddelir yn gryf gan bobl eraill. Dim ond trwy ddeialog a thrwy ddeall y gallwch chi ddod i gasgliad i'r mathau o gwestiynau y mae'r Aelod wedi eu codi.
Prynhawn da, Brif Weinidog.
4. Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi awdurdodau lleol gyda'r nifer cynyddol o blant sy'n destun cynllun amddiffyn plant? OQ58156
Rydym ni'n darparu arian ychwanegol i awdurdodau lleol i ddargyfeirio achosion yn ddiogel o'r gofrestr amddiffyn plant gan ddefnyddio gweithdrefnau a ddatblygwyd mewn partneriaeth â byrddau diogelu. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r byrddau partneriaeth rhanbarthol hynny, a chydag awdurdodau lleol eu hunain, i gryfhau a gwella arferion diogelu ledled Cymru.
Diolch, Prif Weinidog. Hoffwn fynegi yn gyntaf fy niolch i bawb sy'n gweithio ym maes gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol sydd wedi gweithio, ac sy'n parhau i weithio, yn ddiflino i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, yn enwedig drwy gydol y pandemig. Ond hoffwn godi eto yr angen, yn fy marn i, am ymchwiliad annibynnol yn dilyn marwolaeth ofnadwy, drasig Logan Mwangi, gan edrych ar ein gwasanaethau cymdeithasol i blant ledled Cymru. Mae hyn yn digwydd yn Lloegr, yn dilyn marwolaethau ofnadwy Arthur Labinjo-Hughes, a oedd yn chwech oed, a Star Hobson, a oedd yn flwydd oed. Mae awdur yr ymchwiliad annibynnol yn Lloegr wedi dweud y byddai methu â mynd i'r afael â phroblemau mawr mewn gwasanaethau i blant yn arwain at y nifer uchaf erioed o bobl ifanc mewn gofal. Fel y byddwch chi'n gwybod, mae mwy o blant mewn gofal yng Nghymru nag yn Lloegr neu'r Alban, ac mae plant yng Nghymru yn fwy tebygol o fynd i ofal na'u cymheiriaid yn Lloegr neu'r Alban. A gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, ystyried bod plant a theuluoedd yng Nghymru, a'r gweithlu, yn haeddu'r ystyriaeth fanwl a roddwyd yn yr Alban ac yn Lloegr drwy ymchwiliad annibynnol? Diolch yn fawr iawn.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna. Mae'n gwneud cyfres o bwyntiau sy'n sicr yn haeddu cael eu hystyried yn ofalus. Rwyf i wedi dweud droeon ar lawr y Senedd bod y gyfradd y mae plant yn cael eu cymryd oddi wrth eu teuluoedd yng Nghymru yn anghynaladwy a bod y bwlch rhwng y gyfradd y mae plant yng Nghymru yn cael eu cymryd i ofal cyhoeddus yn parhau i gyflymu oddi wrth y gyfradd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Y canlyniad yw, a dyma'r rheswm pam mae'n anghynaliadwy, bod awdurdodau lleol yn canfod bod yr holl arian sydd ganddyn nhw ar gyfer gwasanaethau plant yn cael ei ddefnyddio i ofalu am blant y mae ganddyn nhw gyfrifoldeb uniongyrchol amdanyn nhw bellach a does dim byd ar ôl i helpu teuluoedd trwy gyfnodau anodd pan allai ychydig o fuddsoddiad mewn gwaith ataliol fod wedi helpu'r teuluoedd hynny i aros gyda'i gilydd.
O ran mater penodol ymchwiliad arall, yn sicr nid wyf i'n credu mai dyma'r adeg i gomisiynu ymchwiliad o'r fath. Yn yr achos y tynnodd yr Aelod sylw ato o Ben-y-bont ar Ogwr, nid yw'r adolygiad achos difrifol wedi adrodd o hyd. Ceir achosion eraill yng Nghymru gerbron y llysoedd o hyd lle nad yw gwrandawiadau llys wedi'u dirwyn i ben eto. Felly, nid wyf i'n credu mai dyma'r adeg i wneud penderfyniad am ymchwiliad o'r math y mae Jane Dodds wedi ei argymell, ac rwy'n credu y byddai cwestiynau pwysig eraill y byddai angen i ni eu hystyried hefyd.
A ydym ni'n brin o gyngor, Llywydd? Yn 2018, cawsom yr adolygiad o'r argyfwng gofal yma yng Nghymru. Yn 2019, cawsom adroddiad 'Born into care Wales' Sefydliad Nuffield. Yn 2020, cawsom adroddiad y gweithgor cyfraith gyhoeddus ar y ffordd y gellir gwella achosion cyfraith gyhoeddus yng Nghymru. Y llynedd, cawsom adroddiad etifeddiaeth grŵp cynghori'r gweinidog ar wella canlyniadau i blant a gadeiriwyd gan David Melding, ac eleni rydym ni wedi parhau i dderbyn adroddiadau thematig Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar blant sy'n derbyn gofal. Nid yw hwn yn faes lle gallai unrhyw un ddadlau ein bod ni'n brin o gyngor annibynnol sydd wedi edrych ar draws yr holl dirwedd ymarfer yma yng Nghymru.
A ydym ni'n hyderus, Llywydd, ynghylch yr hyn y gallem ni ei ddysgu o'r ymdrech enfawr y byddai'n rhaid ei gwneud ar gyfer ymchwiliad o'r math a fyddai'n gwneud cyfiawnder â'r pwyntiau y mae Jane Dodds wedi eu codi? Rydym ni'n gwybod bod yn rhaid i ni fynd i'r afael â materion recriwtio a chadw staff yn y gweithlu hwn. Rydym ni'n gwybod bod yn rhaid i ni fuddsoddi mewn atal ac isgyfeirio yn y system. Rydym ni'n gwybod bod gweithio rhanbarthol yn elfen bwysig yn yr ateb i'r heriau y mae gwasanaethau plant yn eu hwynebu heddiw. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n ddyletswydd ar bobl sy'n dadlau dros ymchwiliad cyhoeddus i fynegi lle maen nhw'n credu y gellir canfod y bylchau yn ein gwybodaeth a lle maen nhw'n credu y byddem ni'n dysgu rhywbeth nad ydym ni eisoes yn ei wybod am yr her sy'n wynebu'r gwasanaethau hynny a'r atebion sydd eisoes wedi cael eu llunio i ymateb i'r heriau hynny.
Prif Weinidog, gwelsom gynnydd enfawr yn nifer y plant ar gofrestr amddiffyn hyd yn oed cyn y pandemig, felly Duw a ŵyr sut mae'r sefyllfa nawr mewn gwirionedd. Oherwydd rydym ni'n gwybod bod y gwasanaethau cymdeithasol o dan straen aruthrol, yn brin o staff ac yn gorweithio, dydyn ni wir ddim yn gwybod beth sy'n cael ei fethu neu pwy sy'n cael ei fethu. Rydym ni'n gwybod bod gofal cymdeithasol plant yng Nghymru mewn argyfwng. Nid fy ngeiriau i yw'r rheini, ond geiriau'r Athro Donald Forrester, cyfarwyddwr CASCADE ac arbenigwr yn y maes. Mae ef a llawer o gyd-Aelodau eraill, ochr yn ochr â ni yn y Siambr, yn galw am adolygiad brys o wasanaethau cymdeithasol plant. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi wrando nawr ar y cyngor a gwrando ar y galwadau am adolygiad annibynnol llawn o ofal cymdeithasol plant yng Nghymru, yn union fel y mae pob gwlad arall yn ei wneud? Mae Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyd yn ei wneud. Oherwydd allwn ni ddim parhau i gladdu ein pennau yn y tywod a gwneud dim tan fod plentyn arall yn marw o gamdriniaeth neu esgeulustod. Diolch.
Pe bai'r Aelod wedi bod yn gwrando ar fy ateb blaenorol, byddai wedi clywed yr ateb i'w gwestiwn. Os ydym ni'n mynd i gael ymchwiliad, yna byddai'n ddefnyddiol, oni fyddai, i sefydlu rhywfaint o gywirdeb sylfaenol yn y ffeithiau y mae pobl yn eu cyflwyno. Nid yw'n wir o gwbl, Llywydd, fel yr awgrymodd yr Aelod, bod nifer y plant ar gofrestrau amddiffyn plant yn cynyddu yng Nghymru yn y cyfnod cyn y pandemig. A dweud y gwir, y gwrthwyneb yw'r gwir mewn gwirionedd. Byddai'n helpu ychydig, oni fyddai, pe bai pobl yn mynd i'r drafferth i ganfod ychydig o ffeithiau sylfaenol cyn iddyn nhw gynnig eu barn i ni, oherwydd roedd y niferoedd yn lleihau, nid yn cynyddu. Dyna'r gwir amdani. Mae'r niferoedd wedi gwella ar ôl y pandemig i le'r oedden nhw cyn i'r pandemig ddechrau. Felly, pan gyfeiriodd Jane Dodds at y nifer gynyddol o blant sy'n destun cynllun amddiffyn plant, roedd yn cyfeirio at adferiad yn y niferoedd hynny. Nid yw'r nifer yn uwch heddiw na lle yr oedd cyn y pandemig. Felly, os ydym ni'n mynd i gael ymchwiliad, yna rwy'n meddwl y byddai ychydig mwy o olau ac ychydig yn llai o wres fwy na thebyg yn helpu i'w wneud yn ymarfer gwerth chweil.
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r cyfryngau i hyrwyddo newyddiaduraeth yng Nghymru? OQ58153
Diolch i John Griffiths am y cwestiwn yna, Llywydd. Ymhlith y camau a gymerwyd i hyrwyddo newyddiaduraeth yng Nghymru mae ymrwymiad i ddarparu cymorth ariannol i newyddiaduraeth sydd o ddiddordeb i'r cyhoedd. Bydd y cymorth hwnnw yn parhau dros dair blwyddyn ariannol, fel y cadarnhawyd yn y cytundeb cydweithredu.
Prif Weinidog, roedd hi'n ben-blwydd y South Wales Argus yn 130 oed yr wythnos diwethaf, papur sydd wedi'i wreiddio ers tro byd yn ein cymunedau lleol. Fel yn achos llawer o bobl leol, roedd y South Wales Argus bob amser yn fy nhŷ pan oeddwn i'n tyfu i fyny, ac mewn gwirionedd, yn fy arddegau cynnar, roeddwn i'n danfon y South Wales Argus ar fy meic fel bachgen papur. A nawr, wrth gwrs, fel Aelod o'r Senedd, mae'n dal yn sefydliad hanfodol i mi ymgysylltu ag ef. Prif Weinidog, mae'n amlwg yn bwysig dros ben i Gymru, i fywyd yng Nghymru, i'n cymunedau yma ac yn wir i'n democratiaeth sy'n datblygu bod gennym ni gyfryngau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol sy'n ffynnu yng Nghymru, gan helpu i roi gwybod i bobl beth sy'n digwydd, gan gynnwys eu hysbysu am bolisïau a gweithredoedd Llywodraeth Cymru a'u cynnwys yn ein democratiaeth. Rwy'n credu bod y pandemig wedi tynnu sylw at werth ein cyfryngau yng Nghymru pan oedd hi mor bwysig i bobl ddeall polisïau a mesurau penodol Llywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael â'r pandemig yn ein gwlad. Prif Weinidog, o gofio'r pwysigrwydd hwn, ac o gofio ein bod ni i gyd eisiau gweld cyfryngau sy'n ffynnu yng Nghymru, a wnewch chi addo i barhau i weithio gyda'r cyfryngau yn ein gwlad, gan gynnwys papurau newydd lleol, fel y gallan nhw barhau i gyflawni'r swyddogaeth hollbwysig hon ymhell i'r dyfodol?
Diolch i John Griffiths am hynna, Llywydd. Roeddwn i'n falch iawn o allu anfon neges o longyfarchiadau i'r South Wales Argus wythnos yn ôl ar ei ben-blwydd yn gant tri deg oed. Mae John Griffiths yn iawn, Llywydd, mae'r awydd am newyddion am Gymru a phenderfyniadau sy'n cael eu gwneud yng Nghymru heb amheuaeth wedi cael ei gynyddu gan brofiad y pandemig. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal dros 250 o gynadleddau i'r wasg yn ystod y cyfnod hwnnw, 200 ohonyn nhw wedi'u darlledu yn fyw gan y BBC, ac mae dros 50 o sefydliadau wedi cymryd rhan i ofyn cwestiynau i Weinidogion yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae John Griffiths yn iawn—aeth y rhychwant o ddiddordeb yng Nghymru o gwestiynau gan CNN ar gyfer cynulleidfa fyd-eang ar un pen i'r sbectrwm i gwestiynau gan y Caerphilly Observer a Llanelli Live ar ben arall y sbectrwm. Mae buddsoddi mewn newyddiaduraeth er budd y cyhoedd ar lawr gwlad yn bwysig iawn i greu llif o newyddiadurwyr ar gyfer y dyfodol.
Mae bob amser yn beth sydd braidd yn anodd, onid yw, i'r Llywodraeth fuddsoddi mewn newyddiaduraeth. Rwyf i bob amser yn cael fy atgoffa o'r hyn a ddywedodd y newyddiadurwr enwog o America H.L. Mencken—bod y berthynas rhwng newyddiadurwr a gwleidydd yr un fath â'r berthynas rhwng ci a pholyn lamp. Ac mae rheswm da dros hynny, onid oes? Rydym ni eisiau i newyddiadurwyr fod ar wahân i'r byd gwleidyddol. Mae ffordd, ac rydym ni'n dod o hyd i'r ffordd gywir, o wneud y mathau o fuddsoddiadau y soniodd John Griffiths amdanyn nhw er mwyn gallu buddsoddi yn y rheini ar lawr gwlad heb beryglu gallu newyddiadurwyr ac asiantaethau newyddion yma yng Nghymru mewn unrhyw ffordd i wneud y gwaith craffu a, phan fo angen, beirniadaeth y maen nhw'n ei gyflawni'n gwbl briodol.
Hoffwn yn fawr ategu sylwadau'r Aelod dros Ddwyrain Casnewydd—gall newyddiaduraeth Gymreig a newyddiaduraeth Gymraeg chwarae rhan hollbwysig wrth gyflwyno ein hiaith wych i gynulleidfa wirioneddol bwysig, yn enwedig yn ein cymunedau gwledig. Ar ôl dechrau fy ngyrfa broffesiynol fel newyddiadurwr yn gweithio i bapurau newydd lleol—ac nid wyf yn siŵr ai fi yw'r ci neu'r polyn lamp erbyn hyn—rwyf i wedi gweld yn uniongyrchol bwysigrwydd gwasanaeth adrodd ar ddemocratiaeth leol y BBC, asiantaeth newyddion gwasanaeth cyhoeddus wedi'i hariannu gan y BBC ac wedi'i darparu gan y sector newyddion lleol. Mae ei hadroddiadau'n ymchwilio i'n cymunedau ac yn sicrhau bod straeon lleol yn cael y sylw y maen nhw'n ei haeddu.
Fodd bynnag, nid yw'r gwasanaeth adrodd ar ddemocratiaeth leol yn ariannu unrhyw swyddi newyddiaduraeth cyfrwng Cymraeg llawn amser yn benodol, er bod straeon y mae gohebwyr adrodd ar ddemocratiaeth yn eu hysgrifennu yn cael eu rhannu â chyfryngau sydd wedi ymrwymo i fod yn rhan o'r cynllun partneriaeth newyddion lleol. Mae cofnodion yn dangos bod 21 o sefydliadau yn cyhoeddi mwy na 70 o deitlau unigol ar hyn o bryd ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru. O'r 70 hynny, dim ond un sy'n wasanaeth cyfrwng Cymraeg. O ystyried hyn, sut yr ydych chi, Prif Weinidog, yn annog sefydliadau newyddion Cymraeg i ymuno â chynllun partneriaeth newyddion lleol y BBC? Diolch, Llywydd.
Wel, a gaf i ddiolch i Sam Kurtz am hynna, oherwydd mae'n gwneud pwyntiau pwysig iawn ynghylch arwyddocâd newyddiaduraeth Gymraeg? Ac mae Llywodraeth Cymru, unwaith eto, yn buddsoddi'n uniongyrchol yn y maes hwn mewn ffordd sy'n cael ei chyfiawnhau gan yr elfen iaith ohoni. Felly, mae gan gyngor llyfrau Cymru gyllideb wedi'i neilltuo sy'n ariannu Golwg360, Corgi Cymru a sefydliadau newyddion eraill.
Rwy'n credu y bydd natur newidiol addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru mewn gwirionedd yn cefnogi adfywiad mewn gohebu cyfrwng Cymraeg yma yng Nghymru hefyd, wrth i bobl ifanc ddod allan o addysg Gymraeg gyda'r gallu i ddarllen yr iaith a chael gwybodaeth drwy'r iaith nad oedd efallai'n wir hyd yn oed 20 mlynedd yn ôl, ac felly y bydd rheidrwydd masnachol yn ogystal â diwylliannol i wneud hynny. Ac yn sicr mae'n rhan o'n cymhelliant i fod eisiau buddsoddi yn y meysydd hyn i sicrhau bod gennym ni ddyfodol o newyddiadurwyr ifanc, chwilfrydig, sy'n fedrus yn ddigidol ac sydd â dealltwriaeth gywir o ddatganoli ac sy'n gallu gweithredu'n llawn mewn amgylchedd gwirioneddol ddwyieithog.
6. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol integredig yn etholaeth Ogwr sy'n diwallu anghenion etholwyr sy'n dlawd o ran trafnidiaeth? OQ58117
A gaf i ddiolch i Huw Irranca-Davies, Llywydd? Ers dechrau pandemig COVID-19, rydym ni wedi gweithio'n agos gyda'r diwydiant bysiau i barhau i gynnal gwasanaethau, gan ddarparu £130 miliwn o gyllid ychwanegol i atal cymunedau rhag cael eu hynysu.
Ac mae'r cyllid hwnnw wedi helpu ond, hyd yn oed cyn y pandemig, cawsom ni ddegawd o gyni a oedd wedi effeithio ar awdurdodau lleol ac a oedd wedi effeithio ar doriadau mewn gwasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau bwysiau â chymhorthdal. Rydym ni'n edrych ymlaen at y diwygiadau a fydd yn rhoi rheolaeth yn ôl i bobl, rhaid i mi ddweud—cymunedau a rhanbarthau lleol—i gymryd rheolaeth dros wasanaethau bysiau cydgysylltiedig a thrafnidiaeth gyhoeddus ehangach yn eu hardaloedd. Ond mae fy nghwestiwn i yn ymwneud â'r presennol. Rydym ni'n troi at fentrau rhagorol fel cynlluniau bysiau Fflecsi—mae trafnidiaeth gymunedol yn gysylltiedig â rhai o'r rheini. Ond yr hyn nad ydym ni'n ei weld yw'r elfen gydgysylltiedig honno ar hyn o bryd. Felly, mae gennyf i gwestiwn uniongyrchol a gofynnaf i'r Prif Weinidog—ac rwy'n sylwi fod ei gyd-Aelod yma, y Gweinidog, yn eistedd wrth fy ymyl i—ac mae'n ymwneud ag a fyddai ef a'i Weinidog yn fodlon eistedd gyda mi a swyddogion o Ben-y-bont ar Ogwr hefyd i edrych ar sut y gallwn ni dynnu'r gorau o'r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd fel y gallwn ni gysylltu hyn, fel nad oes gennym ni ardaloedd pen bryn fel parc Maesteg, cymunedau anghysbell yn y Cymoedd, megis Pont-y-rhyl ac eraill, sydd wedi'u hynysu oherwydd y toriadau yr ydym ni wedi'u gweld yn ystod y degawd diwethaf a mwy, lle gallwn ni wneud yn siŵr bod pawb sydd eisiau gweld eu ffrindiau, sydd eisiau cyrraedd y siopau, y feddygfa ac yn y blaen yn gallu gwneud hynny. Beth allwn ni ei wneud y funud hon? A allwch chi ein helpu ni gyda hynny?
Wel, diolch i Huw Irranca-Davies am hynna, Llywydd. Mae'n iawn wrth ddweud mai'r ateb hirdymor—ac wrth ddweud 'hirdymor' rwy'n golygu yn ystod tymor y Senedd hon—yw'r diwygiad radical o wasanaethau bysiau y byddwn yn eu cyflwyno drwy'r Bil bysiau, i wrthdroi'r 30 mlynedd a mwy hynny o farchnadeiddio yn y diwydiant bysiau, sydd wedi gadael cymunedau o'r math y mae Huw Irranca-Davies wedi cyfeirio atyn nhw heb wasanaeth gan nad oes achos masnachol dros wneud hynny. Ac eto, caiff miloedd o bunnoedd o arian cyhoeddus ei roi i'r gwasanaeth bysiau bob blwyddyn yma yng Nghymru. Gobeithio nad wyf yn achub y blaen ar gyhoeddiad yr oedd fy nghyd-Aelod ar fin ei wneud, ond ar ben y £130 miliwn yr ydym ni wedi'i ddarparu i gynnal gwasanaethau bysiau yn ystod y pandemig, gwn i fod fy nghyd-Aelod wedi cytuno ar £43 miliwn arall i fynd ati i gynnal y gwasanaethau bysiau hynny dros weddill y flwyddyn galendr hon, ac mae hynny'n rhoi cyfle i wneud yr hyn y mae'r Aelod dros Ogwr wedi'i awgrymu. Gwn i fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn un o'r cynghorau hynny lle mae gostyngiadau mewn cyllid gan Lywodraeth y DU wedi cyfyngu ar eu gallu i gynnal y gwasanaethau cymunedol hynny, ond nawr, gydag awdurdod newydd wedi'i reoli gan Lafur ym Mhen-y-bont ar Ogwr, bydd yn adeg dda iawn i gyfarfod a thrafod gyda'r awdurdod lleol sut y gall y buddsoddiad hwnnw y byddwn ni'n ei ddarparu barhau i wneud gwahaniaeth i'r lleoedd y mae'r Aelod wedi tynnu sylw atyn nhw y prynhawn yma.
7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i wella gwasanaethau iechyd meddwl? OQ58134
Diolch i Heledd Fychan. Llywydd, rydym yn parhau i ddarparu cyllid sylweddol a pharhaus i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru. Yn ogystal â'i gyllid craidd ar gyfer iechyd meddwl, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cael £3.3 miliwn o gyllid rheolaidd ychwanegol ar gyfer gwasanaethau eleni, er mwyn buddsoddi mewn gwell darpariaeth iechyd meddwl.
Mae llawer o sgwrsio'n digwydd y tu ôl i'r Prif Weinidog. Gawn ni ychydig o dawelwch i'r Prif Weinidog, yn enwedig gan ei Aelodau ei hun. Heledd Fychan.
Diolch, Prif Weinidog. Byddwch yn ymwybodol, rwy'n siŵr, fod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cynnal adolygiad ar y funud sy'n canolbwyntio ar ac yn asesu ansawdd a diogelwch y trefniadau rhyddhau ar gyfer cleifion sy'n oedolion yn ôl i'r gymuned o unedau iechyd meddwl—cleifion mewnol o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Daw hyn yn sgil nifer o achosion trist sydd wedi cael sylw yn y wasg, megis achos Lowri Miller, a wnaeth farw y diwrnod yn dilyn cael ei rhyddhau o ofal iechyd meddwl yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. A hefyd, wrth gwrs, achos Zara Anne Radcliffe, a laddodd John Rees mewn siop ym Mhenygraig ym Mai 2020 tra'n dioddef o sgitsoffrenia, yr un diwrnod ag y ceisiodd ei thad erfyn ar y bwrdd iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i roddi cymorth iddi a mynd â hi i'r ysbyty.
Mae nifer o achosion cyffelyb o ran pobl yn marw ar ôl cael eu rhyddhau wedi dod mewn i fy swyddfa fel gwaith achos. A'r hyn sydd yn fy mhryderu ydy, yn dilyn yr adolygiad a fu yn 2019 gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru, fod 14 argymhelliad a wnaethpwyd adeg hynny yn parhau ar agor. Gwn hefyd am bobl sydd angen triniaethau brys yn cael gwybod nad oes capasiti o gwbl i wneud hyn, gydag arbenigwyr yn annog pobl i fynd yn breifat oherwydd, a dyma ddyfyniad y ces i fore yma gan glaf a ddywedwyd wrthi gan ddoctor—
'Nid yw'r GIG yn addas i'r diben ac mae pobl yn marw wrth aros am driniaeth.'
Doctor yn dweud wrth glaf i fynd yn breifat, ac yn dweud y geiriau hyn. Oes unrhyw ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r angen i roi Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg mewn mesurau arbennig, ac os nad oes ystyriaeth, a wnewch chi ymrwymo i edrych ar hyn ymhellach fel Llywodraeth?
Wel, mae system gyda ni yn barod, Llywydd. Pan ydym ni'n edrych i mewn i beth sy'n mynd ymlaen mewn unrhyw fwrdd ledled Cymru, mae tri o gyrff yn dod at ei gilydd i roi cyngor i'r Gweinidog. Maen nhw'n gallu rhoi cyngor ar y byrddau i gyd, neu maen nhw'n gallu dweud y bydd yn rhaid i ni roi mwy o gymorth i unrhyw fwrdd sy'n gweithio mewn unrhyw faes yn y maes iechyd. Dwi ddim wedi gweld dim byd gan y bobl sy'n dod at ei gilydd i'n cynghori ni i wneud beth oedd Heledd Fychan yn awgrymu.
Fel dywedais i, Llywydd, yn yr ateb gwreiddiol, rŷn ni fel Llywodraeth yn rhoi mwy o arian, ar ben popeth arall y mae'r bwrdd yn ei gael, a'r arian y mae'n ei gael i redeg system iechyd meddwl—£3.3 miliwn yn y flwyddyn hon, ac yn y flwyddyn nesaf, ac yn y flwyddyn ar ôl hyn hefyd—i fuddsoddi mewn gwell ddarpariaeth iechyd meddwl. A thrwy wneud hynny, rŷn ni wrth gwrs yn edrych i'r bwrdd wneud mwy, ac i roi a datblygu gwasanaethau yn y gymuned sy'n helpu pobl gyda phroblemau iechyd meddwl ac i jest eu helpu nhw i wneud popeth mae angen iddyn nhw ei wneud yn eu bywydau nhw bob dydd without the need—heb yr angen i gael mwy o wasanaethau y tu mewn i'r ysbytai.
Ac yn olaf cwestiwn 8, Siân Gwenllian.
8. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am ddyfodol canolfan awyr agored Plas Menai yn Arfon? OQ58141
Wel, diolch yn fawr i Siân Gwenllian. Llywydd, cyfrifoldeb Chwaraeon Cymru yw rheoli Plas Menai, y Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol. Yn y dyfodol dylid adeiladu ar enw da'r ganolfan, gan ddarparu gweithgareddau antur awyr agored ffyniannus drwy gydol y flwyddyn. Dylid sicrhau mwy o swyddi lleol a mwy o effaith ar yr economi leol drwy'r broses honno.
Dwi wedi codi pryderon am y newidiadau sydd ar y gweill ar gyfer Plas Menai efo Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon. Fe all y broses sy'n mynd rhagddi ar hyn o bryd arwain at breifateiddio'r ganolfan, ac mae pryder y byddai hynny'n cael effaith negyddol ar amodau gwaith y gweithwyr, y cyfleusterau sydd ar gael i bobl leol ac ar yr iaith Gymraeg. A wnewch chi ymuno efo fi yn gyrru neges glir i Chwaraeon Cymru yn dweud y dylid oedi'r holl broses sy'n mynd rhagddi ar y funud er mwyn cytuno ar ffordd ymlaen a fyddai'n gwella'r ganolfan ond a fyddai hefyd yn diogelu cyfraniad hollbwysig Plas Menai i'r gymuned a'r economi leol?
Wel, Llywydd, gadewch imi fod yn glir: nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi preifateiddio'r ased pwysig hwn. Rydym am weld y ganolfan yn datblygu yn y ffordd dwi wedi ei ddisgrifio, gan symud y tu hwnt i'r defnydd tymhorol sydd yn canolbwyntio yn bennaf ar weithgarwch dŵr. Wrth wneud hynny, rydw i a'r Gweinidog yn disgwyl i ddatblygiad gael ei drafod yn ofalus gyda'r gweithlu lleol a pherchnogaeth y ganolfan i'w chadw ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae gen i un newid i'r agenda heddiw. Yn hytrach na datganiad ar COVID-19, bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru am gonsortiwm Cymoedd y Dyfodol a'i gontract ynghylch gwaith i gwblhau gwelliannau i ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr A465? Ym mis Tachwedd 2020, cadarnhaodd eich Llywodraeth fod consortiwm Cymoedd y Dyfodol wedi cael y contract i fwrw ymlaen â gwelliannau i adrannau 5 a 6 o ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr A465, ar ôl iddo gael ei benodi'n gynigydd a ffefrir bum mis ynghynt. Mae'n cael ei adrodd nawr bod un o gyfarwyddwyr consortiwm Cymoedd y Dyfodol eisoes yn gyfarwyddwr cyllid Dawnus Construction, cwmni a chwalodd yn 2019, gyda dyledion o bron i £50 miliwn.
Yn ogystal â'r cannoedd o gontractwyr preifat o Gymru a ledled y DU yr effeithiwyd arnyn nhw pan chwalodd y cwmni, mae rhai cyrff sector cyhoeddus nawr ar eu colled, gan gynnwys Cyngor Sir Powys, a gollodd £1.3 miliwn, a'ch Llywodraeth eich hun, a gollodd £0.5 miliwn. Mae pryderon dilys wedi'u codi ynglŷn â'r penodiad hwn, sydd wedi arwain at rywun yn ymwneud ag un o'r methiannau corfforaethol mwyaf yng Nghymru nawr yn monitro gwariant miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus ar brosiect seilwaith mawr. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog am y broses benodi a arweiniodd at y sefyllfa hon er budd tryloywder ac atebolrwydd yma yng Nghymru? Diolch yn fawr, Gweinidog.
Wel, nid wyf i'n credu bod hyn yn ymwneud â diffyg tryloywder. Rwy'n ymwybodol bod gwybodaeth wedi'i chasglu drwy Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, ac nid wyf i'n credu y dylai hynny gael ei ystyried yn anhryloyw o gwbl. Yn amlwg, mae Gweinidogion Cymru wedi gweithio'n agos iawn ac wedi buddsoddi ecwiti drwy Fanc Datblygu Cymru yn yr A465, ac mae'r buddsoddiad yn brif gonglfaen, mewn gwirionedd, ein hymdrechion i sicrhau bod cynlluniau'n hyrwyddo budd y cyhoedd, yn enwedig cynlluniau model buddsoddi cydfuddiannol.
Rydym ni, Gweinidog, y mis hwn, yn nodi deugain mlynedd ers y rhyfel yn y Falklands. Ac mae'n bwysig, rwy'n credu, ein bod ni, fel Senedd, yn cydnabod cyfraniad milwyr o Gymru, yn ddynion ac yn fenywod, yn yr ymgyrch honno. Gwnes i gyfarfod yn ddiweddar â Llywodraeth ynysoedd y Falkland, ynghyd â'n cyd-Aelod Ceidwadol Darren Millar, a buom yn siarad yno am y cyfraniad a'r cysylltiadau rhwng ynysoedd y Falkland a Chymru. Bydd y Lleng Brydeinig yng Nglynebwy yn gosod torch i gofio'r rhai a gollwyd yn adennill y Falklands, ac rwy'n siŵr, mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru ac mewn mannau eraill, y bydd torchau eraill yn cael eu gosod i sicrhau nad ydym ni'n anghofio'r aberth a'r bobl a gollwyd yn helpu i adennill y Falklands.
A fyddai'n bosibl, Gweinidog, i'r Llywodraeth sicrhau bod gennym ni amser yma yn y lle hwn i gofio ymgyrch y Falklands, ac i nodi deugain mlynedd ers hynny? Rwy'n credu y bydd llawer ohonom ni eisiau ymuno â Gweinidogion ac eraill yn y gwasanaeth yn eglwys gadeiriol Llandaf, ond, ar yr un pryd, fel Senedd, mae'n bwysig i ni nodi'r pen-blwydd hwn a chofio aberth pobl a gollwyd.
Rwy'n credu fod Alun Davies yn codi pwynt pwysig iawn, ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid ledled sector y lluoedd arfog i nodi deugain mlynedd ers gwrthdaro'r Falklands, ac, wrth gwrs, yn cydnabod yr aberth a gafodd ei wneud gan lawer o bersonél y lluoedd arfog yng Nghymru. Gwn i—rwy'n credu mai dydd Sul diwethaf ydoedd—fod y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi cymryd rhan mewn taith feicio 40 mlynedd ers y Falklands. Dechreuodd hynny wrth gofeb y Falklands yng Ngerddi Alexandra yng Nghaerdydd, ac mae grŵp o gyn-filwyr yn gwneud eu ffordd ar feic, dros wyth diwrnod, i Aldershot, i dalu teyrnged i bawb a wasanaethodd yn y gwrthdaro.
Soniodd Alun Davies am y gwasanaeth a fydd yn cael ei gynnal yn eglwys gadeiriol Llandaf. Bydd y Prif Weinidog yn arwain gwasanaeth Falklands 40 Cymru yno, a gwn i, unwaith eto, y bydd y Dirprwy Weinidog yn bresennol yng ngwasanaeth Falklands 40 y Lleng Brydeinig Frenhinol yn y Goedardd Goffa Genedlaethol.
Yn fy etholaeth i, sef Wrecsam, mae gennym ni wasanaeth coffa ac aduniad y Gwarchodlu Cymreig i nodi Falklands 40, a gwn i y bydd torchau hefyd yn cael eu gosod ar ynysoedd y Falkland ar ran y Prif Weinidog yn ystod y gwasanaethau coffa sydd ar y gweill.
A gaf i alw am un datganiad, ar wasanaethau rheilffyrdd yn y gogledd-ddwyrain? Nid wyf i'n ymwybodol a ydych chi wedi darllen yn ein gwasg leol ddydd Sadwrn diwethaf, adroddiad am Gymdeithas Defnyddwyr Rheilffyrdd Wrecsam-Bidston yn dweud ei bod yn ymddangos nad yw Trafnidiaeth Cymru yn gallu darparu gwasanaeth dibynadwy i deithwyr, eu bod wedi gweithredu gwasanaeth wedi'i gwtogi ddydd Sadwrn diwethaf ar reilffordd y Gororau sy'n rhedeg o Wrecsam, Shotton a Bidston ymlaen i Gilgwri, gyda'r gwasanaeth arferol bob awr wedi'i leihau, gyda threnau uniongyrchol yn rhedeg bob dwy awr, a gwefan cynllunio teithiau Trafnidiaeth Cymru ei hun yn sôn dim am lai o wasanaethau y diwrnod hwnnw, a chymudwyr rheolaidd yn mynd i ddal eu trenau arferol yn darganfod nad ydyn nhw'n gweithredu.
Yn wir, cysylltodd cymdeithas y defnyddwyr â mi wedyn a dweud bod y gwasanaeth wedi'i gwtogi ar y lein ddydd Sul erbyn hyn, ac mae awgrym ar y cyfryngau cymdeithasol bod trenau dosbarth 150 o reilffyrdd Wrecsam-Bidston a Dyffryn Conwy wedi cael eu hadleoli i dde Cymru oherwydd y gêm bêl-droed yng Nghaerdydd. Dyfyniad: 'Mae gwasanaeth rheilffordd Wrecsam-Bidston yn parhau i gael ei ystyried yn y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu yn annibynadwy, ac nid yw'r rhan fwyaf o'r gwelliannau i wasanaethau sydd wedi'u haddo ers amser maith wedi'u gwireddu eto. Nid dyma'r math o wasanaeth y dylai eich etholwyr ei ddisgwyl gan Drafnidiaeth Cymru. Byddai unrhyw gymorth y gallech chi ei roi i geisio gwella gwybodaeth i deithwyr a dibynadwyedd gwasanaethau ar unwaith ac yn barhaus, drwy'r Senedd, yn cael ei werthfawrogi'n fawr.'
Felly, rwy'n galw am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, neu ei dirprwy, i egluro'r hyn a ddigwyddodd ac i ateb y pryderon sydd wedi'u codi gan gymdeithas defnyddwyr y rheilffyrdd ynglŷn â'r gwasanaeth y penwythnos diwethaf yn wynebu amgylchiadau o'r fath unwaith eto.
Diolch. Wel, byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud wrth ateb Andrew R.T. Davies fod rhywfaint o darfu wedi bod o ran Trafnidiaeth Cymru. A chytunaf i â'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog ynghylch diffyg gwybodaeth. Nid yw'n costio llawer i sicrhau bod gwybodaeth ar gael, ac rwy'n credu y bydd Trafnidiaeth Cymru yn dysgu o'r diffyg gwybodaeth a welodd teithwyr dros y penwythnos. Dylwn i ddweud mai Trafnidiaeth Cymru, nhw yw'r gweithredwr cyntaf—nhw yw'r unig weithredwr, mewn gwirionedd, yn y DU gyfan—i adfer eu lefel lawn o wasanaethau cyn COVID, ac rwy'n credu eu bod yn haeddu cydnabyddiaeth am wneud hynny. Ond, yn anffodus, rydym ni wedi gweld rhywfaint o darfu, nid yn unig yn y gogledd-ddwyrain, ond ar draws pob rhan o Gymru yn ystod y dyddiau diwethaf.
Prynhawn da, Trefnydd. I barhau â thrafnidiaeth fel thema, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â thrafodaethau ynghylch adnewyddu'r cyswllt awyr rhwng y gogledd a'r de? Rwy'n deall bod gwerth y cytundeb gydag Eastern Airways wedi dod i gyfanswm o bron i £3 miliwn rhwng 2018 a 2021; ac yn y diwedd, roedd y cymhorthdal tua £142 ar gyfer pob teithiwr yn 2019. Rwy'n ymwybodol y bydd y cytundeb am gyswllt awyr rhwng y gogledd a'r de yn cael ei adnewyddu yn 2023. Ac yn amlwg, mae'r cymhorthdal cyhoeddus yn dod ar ben ein hymrwymiad ni o ran newid hinsawdd a'r angen am ostyngiad mewn teithio awyr, yn enwedig teithiau awyr byr. Diolch. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Fe fydd yna ddatganiad gan Lywodraeth Cymru cyn toriad yr haf.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru'r prynhawn yma? Yn gyntaf, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddai'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyflwyno datganiad ar wasanaethau offthalmoleg, yn dilyn cynnydd yn y sylwadau a gefais i oddi wrth bobl sy'n aros â thaer angen am driniaeth. Mae rhai o'r rhain yn dioddef o ddirywiad macwlaidd gwlyb ac, er nad oes gwella ohono, mae modd ei drin wrth gwrs gyda phigiadau i'r llygaid er mwyn ceisio diogelu hynny o olwg sy'n weddill. Eto i gyd, mae'n rhaid rhoi'r pigiadau hyn, wrth gwrs, yn ddigon cynnar, ac, yn anffodus, nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n cymell y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno datganiad ar y mater cyn gynted â phosibl, gan ddweud wrthym ni pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nawr i fynd i'r afael â'r mater hwn.
Yn ail, a gaf i ofyn hefyd am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â'r cynlluniau i gyfyngu ar gyflymder cerbydau ledled Cymru? I ddechrau, fe ymrwymodd Llywodraeth Cymru i leihau'r terfyn cyflymder ar yr A40 yn Scleddau yn fy etholaeth i rywbryd yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Serch hynny, rwyf i wedi derbyn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig sy'n achos gofid am ei fod y cadarnhau y bydd dyraniadau cyfredol y gyllideb gyfalaf ar gyfer gweithrediadau'r rhwydwaith cefnffyrdd yn 2022-23 yn ei wneud yn ofynnol bod pob prosiect yn cael ei ailwerthuso. Nawr, fe godais i hynny gyda'r Gweinidog cyllid, ond ni wnaeth ef unrhyw sylwadau penodol ar y mater hwn. Ac felly, yn sgil y diffyg eglurder yn hyn o beth, a wnewch chi bwyso ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i gyflwyno datganiad ar gynlluniau i leihau cyflymder ledled Cymru, fel y gall Aelodau gael gwybod pryd yn union y bydd llawer o'r cynlluniau hyn yn digwydd nawr?
Diolch. Mewn ymateb i'ch cwestiwn cyntaf chi ynghylch gwasanaethau offthalmoleg—ac, yn arbennig, roeddech chi'n sôn am ddirywiad macwlaidd gwlyb—yn amlwg, mater i'r bwrdd iechyd yw sicrhau bod y triniaethau yn cael eu rhoi mewn da bryd. Rwy'n llwyr gydnabod pwysigrwydd hynny.
Fe wnaf yn sicr ofyn i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ysgrifennu atoch chi os oes ganddo unrhyw wybodaeth arall y gallai ef ei rhoi i chi yn ychwanegol i'r hyn sydd yn yr ateb i'ch cwestiwn ysgrifenedig.FootnoteLink
Gweinidog, fe hoffwn i godi mater yr amser y mae hi'n ei gymryd i dderbyn atebion oddi wrth Weinidogion o ran cael gohebiaeth yn ôl oddi wrth Aelodau'r Senedd pan fydd rhai wedi ysgrifennu atyn nhw. Mae rhai Gweinidogion yn ymateb yn gyflym iawn, ond nid yw Gweinidogion eraill yn gwneud felly, ac rwy'n rhoi esiampl y Gweinidog Newid Hinsawdd. Fe anfonais i ohebiaeth drwy e-bost ym mis Ionawr, ac nid wyf i eto wedi cael ateb, er gwaethaf anfon negeseuon e-bost ym misoedd Chwefror, Mawrth, Ebrill ac eto'r wythnos diwethaf. A gaf i ofyn, Gweinidog, beth, yn eich barn chi, yw amserlen resymol ar gyfer derbyn atebion gan Weinidogion i ohebiaeth gan Aelodau? Ac a gaf i ofyn hefyd, Gweinidog, a wnewch chi drafod y mater hwn gyda'ch cyd-Aelodau i sicrhau bod Gweinidogion wir yn anfon ymatebion mewn da bryd at Aelodau'r Siambr hon?
Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn, ac, yn amlwg, mae peidio â chael ateb o fis Ionawr yn annerbyniol. Hwn yw'r portffolio mwyaf, mae'n amlwg, yn y Llywodraeth; serch hynny, rwy'n derbyn eich pwynt chi'n llwyr, yn arbennig felly os ydych chi wedi mynd ar drywydd hynny. Yn bersonol—. Rwy'n credu mai 17 diwrnod gwaith yw'r ffigwr ar hyn o bryd, ac rwyf i o'r farn fod hynny'n weddol agos ati. Er hynny, rwy'n deall hefyd fod hyn yn ddibynnol ar ba mor fanwl a pha mor gymhleth y mae'n rhaid i rai o'r ymatebion fod, ac fe allai'r rhain gymryd ychydig mwy o amser. Ond rwy'n mynd yn ôl at yr hyn yr oeddwn i'n ei ddweud o'r blaen, sef y gallai nodyn byr i gadarnhau bod ateb ar y ffordd fod yn ddefnyddiol, yn fy marn i, ac felly fe wnaf yn sicr godi hyn, gyda fy nghyd-Weinidogion ond hefyd gyda'r Ysgrifennydd Parhaol.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf, felly, yw eitem 3, a hwnnw yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud y datganiad—Hannah Blythyn.
Diolch, Llywydd. Ar ran Llywodraeth Cymru, mae’n bleser gen i gyflwyno Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) i’r Senedd heddiw. Wrth wneud hynny, hoffwn i ddiolch i’n holl bartneriaid cymdeithasol—cyflogwyr yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, a’r undebau llafur yng Nghymru—am eu holl gyfraniadau at y gwaith o ddatblygu’r ddeddfwriaeth bwysig hon.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Mae'r Bil yn cyflawni ymrwymiad allweddol yn y rhaglen lywodraethu i roi sail statudol yng Nghymru i bartneriaeth gymdeithasol. Mae'n darparu ar gyfer fframwaith i wella llesiant pobl Cymru, yn cynnwys drwy wella gwasanaethau cyhoeddus a gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol, hyrwyddo gwaith teg, a chynnal caffael cyhoeddus sy'n arddangos cyfrifoldeb cymdeithasol.
Mae'r Bil yn sefydlu cyngor partneriaeth gymdeithasol i Gymru, sy'n dwyn ynghyd gynrychiolwyr y Llywodraeth, cyflogwyr a gweithwyr a enwebwyd gan Gyngres Undebau Llafur Cymru. Swyddogaeth y cyngor fydd cynnig gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru o ran dyletswyddau'r bartneriaeth gymdeithasol, yr ymgais i gyrraedd nod llesiant 'Cymru lewyrchus' gan gyrff cyhoeddus a'r dyletswyddau o ran caffael cyhoeddus sy'n arddangos cyfrifoldeb cymdeithasol. Mae'r ddeddfwriaeth yn darparu hefyd ar gyfer sefydlu is-grŵp caffael cyhoeddus o'r cyngor partneriaeth gymdeithasol.
Mae'r Bil yn rhoi dyletswydd newydd o ran partneriaeth gymdeithasol ar gyrff cyhoeddus penodol ac ar Weinidogion Cymru. Fe fydd hi'n ofynnol i rai cyrff cyhoeddus geisio consensws neu gyfaddawd gyda'u hundebau llafur cydnabyddedig, neu, os nad oes undeb llafur cydnabyddedig, gyda chynrychiolwyr eraill o'u staff, wrth bennu eu hamcanion o ran llesiant a chyflawni'r amcanion hynny o dan adran 3(2) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r ddyletswydd hon yn mynd y tu hwnt i ofyniad syml i ymgynghori. Yn ei sgil, rydym ni'n disgwyl i gyrff cyhoeddus ymgysylltu yn weithredol â'u hundebau llafur cydnabyddedig neu gynrychiolwyr staff eraill fel partneriaid gwirioneddol wrth bennu a chyflawni eu hamcanion o ran llesiant. Fe fydd yna ddyletswydd ar wahân ar Weinidogion Cymru i ymgynghori â phartneriaid cymdeithasol, cyflogwyr a chynrychiolwyr gweithwyr drwy'r cyngor partneriaeth gymdeithasol wrth gyflawni eu hamcanion o ran llesiant yn unol ag adran 3(2)(b) o Ddeddf 2015.
Mae'r Bil yn diwygio adran 4 Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol drwy ddisodli 'waith addas' gyda 'waith teg' o fewn nod cyfredol 'Cymru lewyrchus'. Nôl yn 2018, sefydlodd Llywodraeth Cymru y Comisiwn Gwaith Teg i wneud argymhellion o ran hyrwyddo ac annog gwaith teg. Roedd adroddiad y comisiwn, 'Gwaith Teg Cymru', a gyhoeddwyd yn 2019, yn argymell y dylai'r camau gweithredu gan gyrff cyhoeddus yn unol â Deddf 2015 gynnwys gwaith teg.
Mae'r Bil yn pennu dyletswydd hefyd o ran caffael cyhoeddus sy'n gyfrifol yn gymdeithasol. Caiff bron i £7 biliwn o arian cyhoeddus ei wario drwy gaffael yng Nghymru bob blwyddyn. Yn unol â'r ddyletswydd newydd, fe fydd hi'n ofynnol i gyrff cyhoeddus penodedig ystyried caffael cyhoeddus sy'n gyfrifol yn gymdeithasol wrth gaffael, a phennu amcanion o ran nodau llesiant, a chyhoeddi strategaeth gaffael hefyd. Fe fydd hi'n ofynnol i gyrff cyhoeddus gyflawni dyletswyddau wrth reoli contractau i sicrhau bod canlyniadau sy'n gyfrifol yn gymdeithasol yn cael eu ceisio drwy gadwyni cyflenwi. Yn olaf, mae'r Bil yn rhoi dyletswyddau ar y cyrff cyhoeddus perthnasol a Gweinidogion Cymru i adrodd o ran y ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol a'r ddyletswydd gaffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol.
Fel y dywedais i yn fy natganiad i'r Senedd ar 14 o fis Medi'r llynedd, mae'r Bil hwn wedi bod yn destun ymgynghoriad eang. Yn hollbwysig, fe gafodd hwn ei baratoi mewn cydweithrediad â'n partneriaid cymdeithasol ni hefyd. Drwy eu cymorth nhw, eu cyngor doeth nhw a'u her nhw o bryd i'w gilydd, rwy'n hyderus bod y Bil a gyflwynir i'r Senedd heddiw yn gam ymlaen sy'n uchelgeisiol ond yn ymarferol hefyd tuag at bartneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, a fydd yn cyfrannu yn sylweddol at gyflawni ein nodau llesiant ni.
Nid yw partneriaeth gymdeithasol yn newydd ac yn sicr nid yw hynny'n unigryw i Gymru. Er hynny, mae partneriaeth gymdeithasol wedi esblygu i fod yn ffordd Gymreig o weithio ac, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r ffordd hon o weithio wedi arddangos manteision eglur iawn i weithwyr, cyflogwyr a'r Llywodraeth fel ei gilydd, gan ein bod ni, gyda'n gilydd, wedi ceisio rheoli effaith pandemig COVID a chadw pobl Cymru yn ddiogel.
Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hirsefydlog i'r ffordd hon o weithio, ac rydym ni'n awyddus i ddiogelu partneriaeth gymdeithasol yn y dyfodol i sicrhau y gall cenedlaethau'r dyfodol elwa nid yn unig ar well llesiant, ond fod â gwasanaethau cyhoeddus cydnerth a chynaliadwy hefyd sy'n seiliedig ar ddull partneriaeth gymdeithasol. Bydd y fframwaith a sefydlir gan y Bil yn helpu partneriaid cymdeithasol i weithio gyda'i gilydd yn well i gyflawni'r nodau llesiant a gynhwysir yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.
Nod y Bil yw gwneud Cymru yn lle gwell, tecach a mwy llewyrchus i fyw a gweithio ynddo. Bwriad y mecanweithiau yn y Bil yw helpu i uno Llywodraeth, gweithwyr a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru mewn gweledigaeth gyffredin—sef Cymru lewyrchus, gydnerth, iachach a mwy cyfartal gyda chymunedau cydlynus, diwylliant bywiog, iaith Gymraeg ffyniannus, a Chymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang.
Mae'r Bil yn adeiladu ar hanes a llwyddiant helaeth gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru eisoes. Rwyf i wedi ymrwymo i barhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol wrth i'r ddeddfwriaeth hon fynd rhagddi, ac rwy'n edrych ymlaen at drafodaethau pellach gyda Phlaid Cymru, yn rhan o'r cytundeb cydweithredu, ynglŷn â'r ffordd i ni wneud yn fawr o effaith y ddeddfwriaeth newydd hon.
Wrth gloi, Dirprwy Lywydd, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gyfraniadau Aelodau'r Senedd heddiw ac wrth fwrw ymlaen â'r Bil Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).
Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad ac am gyflwyno'r Bil hwn. Er hynny, er gwaethaf eich ymdrechion, rwyf i o'r farn fod yna bwyntiau sylweddol sy'n codi problemau ynddo. Yn gyntaf, mae'r cyngor partneriaeth gymdeithasol a gynigir yn debygol o gydgrynhoi'r mecanweithiau partneriaeth gymdeithasol presennol ar sail statudol yn unig, gan gymeradwyo'r sefyllfa bresennol a diddymu'r ysgogiad i wella gwaith teg drwy gadwyni cyflenwi.
Yn ail, mae dyletswydd gyfreithiol ar gyrff cyhoeddus ar hyn o bryd i amddiffyn pobl rhag gwahaniaethu yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, ac felly'r hyn y bydd y Bil hwn yn ei wneud yw cynyddu'r baich sydd ar gyrff cyhoeddus o ran rheoleiddio. Ac fe fydd honno'n broblem, gan y bydd cyrff cyhoeddus yng Nghymru, yn ôl pob tebyg, yn mynd i drafferthion wrth weithredu'r rheoliadau ychwanegol. Rydym ni wedi clywed yn y Siambr hon fod 5 y cant o gyrff cyhoeddus yn parhau i fynegi nad ydyn nhw erioed wedi clywed am bolisi blaenllaw'r Llywodraeth hon sef Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae llawer mwy wedi cael trafferth wrth gyflawni ei gofynion hi. Felly, rwy'n gofyn i'r Dirprwy Weinidog pam mae'r Llywodraeth hon o'r farn y bydd y Bil hwn yn achosi gwelliant yng ngwaith caffael cyrff cyhoeddus, pan na all cyrff cyhoeddus, gyda chymorth y Llywodraeth hon a'r comisiynydd, weithredu'r holl reoliadau sydd wedi bod ar waith ers bron i 10 mlynedd.
Yn drydydd, rwyf i o'r farn nad oes yna ddigon o dystiolaeth fesuradwy y bydd y Bil hwn yn dod ag unrhyw fanteision sylweddol i waith teg mewn cadwyni cyflenwi, oherwydd fe gaiff ei seilio yn llwyr ar ffydd y bydd yna effaith gadarnhaol. Fel gwyddoch chi, Dirprwy Weinidog, ni ddaeth ymdrechion blaenorol i gynyddu effaith gymdeithasol caffael, fel prosiect cronfa gymdeithasol Ewrop, ag unrhyw dystiolaeth bendant o ganlyniadau cadarnhaol i economïau lleol nac o ran arferion gwaith teg. Dirprwy Lywydd, y sefyllfa orau y gall y Bil hwn obeithio amdani yw bod contractau caffael cyhoeddus yn sicrhau arferion gwaith teg yn y meysydd hynny lle caiff nwyddau a gwasanaethau eu caffael ar hyn o bryd, sy'n ymdrech weddol gyfyngedig o ystyried bod gan y cyrff cyhoeddus fodd i wneud felly eisoes, ac, ar y cyfan, maen nhw yn gwneud felly eisoes. At hynny, ni fydd y Bil hwn yn gallu mynd i'r afael ag arferion gwaith annheg mewn ardaloedd y tu allan i gadwyni cyflenwi cyhoeddus, sef lle mae angen y cymorth fwyaf.
Felly, tybed, Dirprwy Lywydd, beth yw diben gwirioneddol cyflwyno Bil fel hyn. Rwyf i o'r farn mai diben y Llywodraeth hon ar gyfer y Bil yw ar gyfer cynyddu grym yr undebau llafur drwy roi llais cyfartal iddyn nhw o ran contractau caffael cyhoeddus, sy'n sefyllfa beryglus i fod ynddi hi, oherwydd fe fydd hynny'n golygu y bydd undebau llafur yn gallu atal neu arafu caffael cyhoeddus nawr yn ôl eu mympwy a rhwystro cyrff cyhoeddus ac, i bob pwrpas, yn gallu dal cyrff cyhoeddus am bridwerth drwy atal ymgynghoriad ar gytundebau caffael hyd nes i'w gofynion gael eu bodloni. Fe fydd hyn yn heriol i gyrff cyhoeddus pan fo unrhyw anghydfod, gan y bydd gan undebau llafur fwy fyth o ddylanwad nawr i atal cyrff cyhoeddus rhag gwneud eu gwaith.
Ar bwynt arall, mae'n rhaid i ni gofio nad yw undebau llafur yn gwbl anllygredig. Fel gwyddom ni, mae Unite, cefnogwr mwyaf y Blaid Lafur, yn ymchwilio i weithwyr am lwgrwobrwyo, twyll a gwyngalchu arian, ac mae rhai o safleoedd Unite, gan gynnwys y pencadlys, wedi gweld nifer o heddluoedd yn mynd i mewn ac yn cipio tystiolaeth oherwydd ymchwiliadau cyfredol. Dirprwy Lywydd, nid gorddweud yw mynegi y gallai Bil y Llywodraeth hon weld swyddogion undebau llafur llwgr yn cael arian gan ddarpar gyflenwyr i ennill lleoedd ffafriol ar flaen y ciw ar gyfer contractau caffael cyhoeddus, yn ogystal â gallu bwlio a gorfodi cyflenwyr i fodloni eu gofynion penodol nhw eu hunain, gan roi cefnau cyflenwyr yn erbyn y wal gyda bygythiadau o golli contractau os nad ydyn nhw'n cydymffurfio. Fe allai hyn greu'r sefyllfa hyd yn oed o undebau llafur yn cael cyfraniadau hael at eu hymgyrchoedd nhw gan gwmnïau a fyddai'n awyddus i ennill cytundebau caffael cyhoeddus gwerthfawr.
Yn drydydd, gan y bydd yn rhaid i undebau llafur graffu ar gadwyni caffael cyhoeddus nawr, fe fydd hynny'n golygu y bydd angen mwy na dim ond taliadau am amser cyfleusterau. Bydd angen personél gyda'r hyfforddiant priodol ar yr undebau llafur, ac fe fydd angen talu yn iawn am eu hamser nhw, oherwydd, Dirprwy Weinidog, ni allwch chi ddim disgwyl i undebau llafur graffu ar waith teg ac arferion cyflog teg heb iddyn nhw gael cyflog teg yn gyfnewid am hynny. Felly, yn ddi-os, mae'n rhaid i undebau llafur gael arian cyhoeddus, ar ryw adeg, i gyflawni'r dyletswyddau hyn o ran rheoleiddio hyn. Ac, i'r Aelodau hynny o Blaid Cymru sydd am gefnogi'r Bil hwn, mae angen i chi fod yn ymwybodol iawn y bydd y Bil hwn yn y pen draw yn dodi arian cyhoeddus yng nghoffrau'r undebau llafur, a fydd yn rhoi mwy o arian i'r Blaid Lafur wedyn, sy'n sicr yn achos gwrthdaro buddiannau.
Yn sicr, Dirprwy Weinidog, mae hi'n amlwg iawn y byddai corff annibynnol sy'n gallu cyflogi'r bobl orau heb unrhyw ymlyniad gwleidyddol, a heb dalu cyfraniadau i'r Blaid Lafur, mewn sefyllfa well o lawer i graffu ar gytundebau i sicrhau cyflog teg ac amodau gwaith teg. Ac fe allai adrodd yn ôl i'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus ac fe ellid gwneud y penderfyniadau priodol wedyn. Rwyf i'n dadlau, o ystyried yr holl bwyntiau a wnes i, mai ychydig iawn o sail sydd yna i undebau llafur fod yn ymgymryd â'r swyddogaeth hon o ran y contractau caffael cyhoeddus. I gloi, fe hoffwn i ddweud bod sicrhau gwaith teg drwy'r cadwyni cyflenwi yn gam cadarnhaol tu hwnt. Serch hynny, mae'r gyfundrefn bresennol yn caniatáu hynny eisoes. Mae deddfwriaeth gan y Llywodraeth hon yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus eisoes i adolygu amodau gwaith priodol a chyflog teg drwy'r cadwyni cyflenwi. Felly, yn y pen draw, mae'r Bil hwn yn deillio o ddrwgdybiaeth y Llywodraeth hon o gyrff cyhoeddus a'u gallu nhw i adolygu eu cadwyni cyflenwi eu hunain yn effeithiol, yn ogystal ag awydd y Blaid Lafur i roi caffael cyhoeddus yng nghrafangau'r undebau llafur yng Nghymru. [Torri ar draws.]
Cyn i mi ofyn i'r Gweinidog ateb unrhyw gwestiynau a allai godi o hynny, cofiwch, os gwelwch chi'n dda, mai datganiad yw hwn ac nid dadl ar hyn o bryd. Mae cais gennyf i am bwynt o drefn gan Jack Sargeant.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i godi'r pwynt hwn o drefn, ac rwyf i am ofyn i lefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ystyried yr iaith a ddefnyddiodd yn ystod ei gyfraniad y prynhawn yma o ran yr undebau llafur ac undebau llafur Cymru, heb unrhyw dystiolaeth—sylwadau amharchus ac annymunol iawn ynghylch llygredd yn undebau llafur Cymru. A minnau'n aelod balch o undeb llafur yng Nghymru—dau ohonyn nhw, mewn gwirionedd—ac rwy'n siarad ar ran pobl Cymru, nid Aelodau'r Senedd yn unig, fe fyddwn i'n gofyn i'r Aelod dynnu'r hyn a ddywedodd yn ôl.
Nid wyf i'n siŵr ai pwynt o drefn yw hwnnw, ond rydych chi wedi dweud eich meddwl yn gwbl eglur nawr. Hannah Blythyn.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf i am wneud fy ngorau glas i fynd i'r afael â rhai o'r cyfraniadau mwy sylweddol a wnaeth yr Aelod yn y fan yna, o gofio bod hwn yn ddarn sylweddol a nodedig o ddeddfwriaeth, ac fe ddylid ei drin â dyledus barch. Eto i gyd, fe ddywedwn i, unwaith eto, fod yr Aelod, ar y gorau, yn camddeall bwriad y ddeddfwriaeth, yn enwedig y cynnwys felly, ac yn ceisio ei llurgunio hi'n fwriadol at ei ddibenion gwleidyddol ei hunan hefyd. Ac rwy'n estyn gwahoddiad, fel gwnawn ni i bob Aelod, i sesiwn friffio technegol pellach yn rhan o'r ddeddfwriaeth hon. Ac fe fyddwn i'n fwy na pharod i eistedd gyda'r Aelod fy hunan i fynd drwy'r ddeddfwriaeth yn fanwl i fynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau a wnaeth ef heddiw, i roi sicrwydd iddo ac i'w gwneud hi'n glir mai'r hyn a wnawn ni, mewn gwirionedd, yw rhoi'r un llais a'r un pwys—sicrhau mewn gwirionedd ein bod ni'n atgyfnerthu gwaith teg yng Nghymru.
O ran y pwynt a wnaeth yr Aelod tua'r diwedd, rwyf i wedi cymryd hynny i olygu, 'Peth rhagorol yw gwaith teg, ar yr amod nad yw'r gweithwyr yr effeithir arnyn nhw yn cael cyfle i'w lunio na bod ganddyn lais'. Felly, yr hyn y mae'r ddeddfwriaeth hon yn ceisio ei wneud yw ategu'r gwaith partneriaeth gymdeithasol hwnnw sydd gennym ni eisoes, i'w roi ar sail ffurfiol, ac, mewn gwirionedd, i roi'r dull gweithredu mwy cyson hwnnw o weithredu er mwyn gallu bod mor effeithiol ag y gallwn ni fod, a chryfhau hynny gyda sail ddeddfwriaethol, ond drwy'r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol sydd ar gyrff cyhoeddus hefyd. Ac mae yna lawer o gyflogwyr da, nid cyrff cyhoeddus yn unig, yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol eisoes, ac ystyr hyn yw cryfhau hynny a rhoi'r gefnogaeth a'r cyfle iddyn nhw wneud hynny hefyd.
O ran caffael, mae adolygiadau dilynol o gaffael yng Nghymru wedi dangos mewn gwirionedd fod angen i ni ddeddfu ar gyfer gwneud arfer da a gwneud cynnydd, a sicrhau canlyniadau llesiant drwy gaffael a bod â mwy o gysondeb wrth wneud felly. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn ymateb i'r adolygiadau hynny o ran sut mae angen i ni adeiladu ar hynny a gwella i'r dyfodol.
Un pwynt olaf yn unig i fynd ar drywydd yr hyn a ddywedodd yr Aelod, i fynd i'r afael â'r pwyntiau a wnaeth ef ynghylch cadwyni cyflenwi, mewn gwirionedd, mae'r dyletswyddau o ran rheoli contractau yn y ddeddfwriaeth hon yn ceisio atgyfnerthu hynny o ran y cadwyni cyflenwi, yn enwedig yn y sector adeiladu, er enghraifft, lle gwyddom ni fod heriau sylweddol i'w cael o ran y ffordd y mae'r sector yn gweithio yn ogystal â hyd a chymhlethdod y cadwyni cyflenwi, ac o ran sut rydym ni'n sicrhau ein bod ni'n cryfhau'r cod ymarfer statudol hefyd o ran rhoi unrhyw wasanaethau cyhoeddus ar gontract allanol.
Diolch yn fawr i chi am y wybodaeth ddiweddaraf heddiw, Gweinidog. Rydym ni'n croesawu rhai o'r elfennau sydd yn y drafft, ac yn edrych ymlaen at y cyfle i ddylanwadu ar ei effaith, fel y cyfeiriodd y Gweinidog yn ei datganiad.
Ers 2012, mae Plaid Cymru wedi galw yn gyson am fwy o gaffael cyhoeddus. Rydym ni'n awyddus i gynyddu cyfran y cytundebau â chwmnïau Cymru o 52 y cant hyd 75 y cant o'r gyllideb caffael cyhoeddus. Amcangyfrifir y byddai hyn yn creu 46,000 o swyddi ychwanegol, ac yn diogelu llawer o swyddi sydd yn economi Cymru ar hyn o bryd. Mae honno'n fantais bosibl a fyddai'n drawsnewidiol i'n heconomi leol ni, ein busnesau lleol ni a'n cymunedau lleol ni. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i yw: sut y gellir defnyddio'r Bil i hybu caffael cyhoeddus oddi wrth gwmnïau a busnesau yng Nghymru yn rhan o'r gefnogaeth i economi Cymru, er enghraifft drwy archwilio'r defnydd o dargedau?
Rwy'n nodi o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a gyhoeddwyd yn gynharach eleni y codwyd nifer o faterion gan bartneriaid allweddol sy'n peri pryder. Cododd Sefydliad Bevan nifer o bwyntiau pwysig yn ystod ei ymateb i'r ymgynghoriad, gan gynnwys yr angen i fynd i'r afael â chyd-destun ehangach y farchnad lafur y bydd y Bil partneriaeth gymdeithasol yn gweithredu ynddo. O ran gwaith teg, roedd yn mynegi bod y prosesau arfaethedig yn ymddangos yn feichus iawn a bod perygl y byddai'r prosesau yn defnyddio gormod o adnoddau—adnoddau y gellid eu cyfeirio'n well tuag at sicrhau newid ar lawr gwlad.
Fe gododd ymatebwyr ymgynghori fel Cyngres yr Undebau Llafur bryderon ynghylch eglurder diffiniad ac egwyddor partneriaeth gymdeithasol hefyd, ac fe awgrymodd y gellid cryfhau'r diffiniad i gydnabod, er ei bod hi'n bwysig i bartneriaid cymdeithasol gydnabod a pharchu buddiannau ei gilydd, ei bod hi'n bwysig hefyd fod mandadau ei gilydd a meysydd arbenigedd priodol yn cael eu cydnabod a'u parchu. Sut cafodd y pwyntiau hyn eu hymdrin â nhw ers cyhoeddiad yr ymatebion i'r ymgynghoriad, ac, yn benodol, sut cafodd hynny ei ymgorffori yn y Bil?
Mae pwyslais ar waith teg, neu, fel yr ydych newydd ei ddiffinio, gwaith addas, wedi mynd yn fwy amlwg fyth yn yr hinsawdd o amodau gwaith difrifol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn 2019 a 2020, fe welsom ni staff Prifysgol Caerdydd yn streicio oherwydd tâl ac amodau gwaith. Ym mis Medi 2021, ar ôl ymddygiad arwrol drwy gydol y pandemig, fe wthiodd gweithwyr yn y GIG yr undebau i gefnogi eu galwad nhw am godiad cyflog o 15 y cant. Fis Tachwedd diwethaf, fe streiciodd gyrwyr bysiau yn y Coed-duon, Bryn-mawr a Chwmbrân yn erbyn cyflogau isel a thoriadau i delerau ac amodau sylfaenol. A wnewch chi nodi sut y byddai'r Bil hwn wedi helpu gweithwyr yn y sefyllfaoedd hynny a'r hyn y mae'n ei olygu i grwpiau sy'n ystyried streicio?
Yn olaf, Dirprwy Weinidog, mae'r Llywodraeth hon wedi awgrymu sawl tro ei bod hi'n bwriadu mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd mewn ffordd gyfannol. Fe awgrymodd Cyngres yr Undebau Llafur y gellid ymrwymo i adferiad gwyrdd drwy'r Bil hwn drwy fynd i'r afael â materion yn ymwneud â llwybrau sgiliau. Fe ellid gwneud hynny drwy weithio gydag undebau ac eraill i nodi sut y gallai gweithwyr mewn sectorau yr effeithir arnyn nhw addasu eu sgiliau presennol, gan greu swyddi newydd hefyd i'r rhai sydd wedi colli eu swyddi yn ystod y pandemig. Fe allai hynny drawsnewid y diwydiant ôl-osod, er enghraifft. A yw'r Bil hwn yn gwneud rhywbeth i ymdrin â'r posibiliadau hyn? O ystyried ei fod yn ceisio cyd-fynd yn agos â Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, sut mae'r Bil yn bodloni llesiant amgylcheddol Cymru? Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad yn ogystal â'r ymrwymiad gan Blaid Cymru i weithio mewn ffordd ystyrlon gyda ni? Mae'r Bil hwn yn cynnig ffrwyno pŵer caffael cyhoeddus a'r manteision ehangach y gall hynny ei gynnig, oherwydd mae'r mesurau a amlinellir yn y Bil yn ceisio ysgogi pŵer pwrs y wlad i fynd ar drywydd, ac yn bwysicach na hynny, sicrhau canlyniadau sy'n fuddiol, yn ehangach, i'n cymunedau ni, i'n heconomi ni, a'n hamgylchedd ni. Mae'r ffordd yr ydym ni'n cyflawni ein gwaith caffael a chomisiynu, a pha mor drylwyr yr ydym ni'n gwneud hynny mewn gwirionedd—y trefniadau masnachol yn benodol, a'r cadwyni cyflenwi—yn cael effaith uniongyrchol ar waith teg, ond ar ganlyniadau eraill o ran llesiant hefyd, yng Nghymru a thu hwnt. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn cynnig cyfle i fynd ymhellach i gyflawni'r nodau llesiant hyn o ran caffael, a dyna pam rydym ni wedi dewis cynnwys y nodau llesiant ehangach hynny yn rhan o'r ddeddfwriaeth yn ogystal â gwaith teg yn syml.
Y dyletswyddau caffael hynny ynghylch cyfrannu at les amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol—. Ar wahân i'r dyletswyddau o ran rheoli contractau, nid yw'r Bil yn cynnwys unrhyw fanylion pellach am ddisgwyliadau yn y categorïau hyn, ac rwyf i o'r farn mai dyna pam mae cyfle gwirioneddol i'w gael yma i gydweithio i ddatblygu canllawiau statudol sy'n nodi sut y dylai cyrff cyhoeddus nodi'r amcanion caffael hynny sy'n gyfrifol yn gymdeithasol a'r hyn y dylid ei gynnwys yn y broses gaffael honno, megis mewn adroddiadau blynyddol ac, yn bwysig iawn, i wneud i'r data hynny i gynnwys y data y mae angen i ni fod yn eu casglu a'u hadrodd i gyflawni'r amcanion hynny yn fwy effeithiol fel y bu'r Aelod a'i gydweithwyr ar feinciau Plaid Cymru, fel roeddech chi'n sôn, yn eu codi ers 2012. Rydym ni wedi bod yn datblygu'r Bil hwn ers cymaint â hynny o amser, bron â bod, mae hi'n teimlo felly weithiau.
Ni feddyliais i erioed y byddwn i'n sefyll yn rhywle yn dweud bod caffael yn bwnc i ennyn cyffro, ond, mewn gwirionedd, mae'n gwneud hynny—. Rydych chi'n gwenu i gydnabod hynny nawr. Mae hwn yn ddarn fframwaith o ddeddfwriaeth, ond mae'n cynnig cyfleoedd enfawr o ran dangos yr hyn y gallwn ni ei wneud yma yng Nghymru, o ran ein pwyslais ni ar werth cymdeithasol posibl caffael a'r hyn y gallwn ni ei gyflawni nid yn unig ar gyfer sicrhau gwaith teg ond, fel rydych chi'n ei ddweud, y manteision ehangach hynny, er lles yr amgylchedd efallai neu, mewn gwirionedd, o ran ein cymunedau ni a sicrhau ein bod ni'n yn buddsoddi yn wirioneddol yn economi Cymru a'n cymunedau ni ledled y wlad.
Ynglŷn â'r pwyntiau ehangach yn ymwneud â phartneriaeth gymdeithasol yn gyffredinol, rydym ni wedi ceisio diffinio, ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth, yr hyn yr ydym ni'n ei olygu mewn gwirionedd pan soniwn ni am bartneriaeth gymdeithasol, ac mae hynny'n cydweithio ag agenda gyffredin i ddarparu manteision i'r ddwy ochr er budd pob un, ond ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth—. Mae'r ddeddfwriaeth yn arwyddocaol, ond un rhan o'r broses yw honno, ac ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth hon rydym ni'n cynnal adolygiad o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol ar draws y Llywodraeth a thu hwnt, i roi mwy o eglurder a chysondeb i ni, a chydnabod gallu'r partneriaid hefyd i fod yn rhan o'r broses hon, i sicrhau ein bod ni'n ymgysylltu yn well ac yn cysylltu yn well drwy'r cwbl. Rydym ni'n amlwg wedi bod yn gweithio yn agos iawn gyda phartneriaid fel TUC Cymru i dywys pethau ymlaen ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth arwyddocaol hon a phartneriaid eraill ymysg cynrychiolwyr y cyflogwyr hefyd, i wneud yn siŵr y caiff hynny ei wneud mewn ffordd sy'n annog y buddion yr ydym ni'n dymuno eu gweld yn fwy eang, ac fe fyddwn i'n croesawu sgyrsiau gyda chydweithwyr yn y Siambr ynglŷn â'r ffordd i ni wneud hynny a bod â rhan yn hynny wrth i ni gyflwyno pethau law yn llaw â'r ddeddfwriaeth bwysig hon.
Rwyf i'n croesawu'r datganiad gan y Gweinidog yn fawr iawn. Mae caffael yn un o'r dulliau mwyaf pwerus sydd gan Lywodraeth Cymru wrth benderfynu ar y math o Gymru y byddwn ni'n ei gael. Mae rhaglen gaffael fawr iawn, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru, ond gan y sector cyhoeddus cyfan a ariennir gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys iechyd a llywodraeth leol. Rwyf i, fel llawer o Aelodau yn y fan hon, yn taer wrthwynebu'r defnydd o ddiswyddo ac ailgyflogi, cytundebau sy'n cymryd mantais ar bobl, a thalu llai na'r cyflog byw gwirioneddol. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddefnyddio caffael i allgau cwmnïau sy'n diswyddo ac ailgyflogi wedyn, yn talu llai na'r cyflog byw gwirioneddol, ac yn defnyddio cytundebau sy'n cymryd mantais ar bobl o holl gontractau Llywodraeth Cymru a'r cyrff a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac yn ogystal â hynny hefyd, ac yn bwysicach, yr is-gontractau? Ni ddylai neb sy'n cael dimai o arian gan drethdalwyr Cymru fod yn rhedeg cwmnïau sy'n cymryd mantais ar y gweithwyr sy'n gwneud y gwaith er eu mwyn nhw.
Diolch i Mike Hedges am ei gyfraniad ef. Fe wn i fod hynny'n rhywbeth—. Roeddech chi'n arddangos hynny nawr, ond fe wn i fod hwnnw'n rhywbeth y gwnaethoch chi ei godi dro ar ôl tro, ac, fel minnau a llawer o rai eraill yn y Siambr hon a thu hwnt, rydych chi'n angerddol iawn ynghylch sut yr ydym ni'n defnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael i ni yng Nghymru i wneud gwahaniaeth o ran gwaith teg. Wrth gwrs, mae gwaith teg yn cwmpasu meysydd datganoledig a meysydd nad ydyn nhw felly, sy'n effeithio ar yr hyn y gallwn ni ei wneud a'n dulliau ni o wneud hynny. Rwy'n egluro bod y Bil hwn yn un sy'n parchu ac yn cydnabod yr hyn y gallwn ei wneud yn y lle hwn.
Hwn, mewn gwirionedd, yw'r darn cyntaf o ddeddfwriaeth yn ymwneud â chaffael y gwnaethom ni ei ddatblygu yng Nghymru, felly fe fydd yn ein galluogi ni i roi'r arfer da presennol a chaffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol ar sail statudol ond fe fydd yn ein rhoi mewn sefyllfa hefyd i atgyfnerthu hynny. Wrth i mi fynd yn ôl at yr hyn a ddywedais i ar ôl cyfraniadau blaenorol, mae'r canllawiau statudol sy'n gweithio ar hynny'n ystyried nid yn unig gwaith teg, ond yr amcanion llesiant ehangach hefyd, i daro'r cydbwysedd cywir o ran pethau fel yr economi sylfaenol a gwaith teg, i sicrhau ein bod ni'n cefnogi'r cyrff cyhoeddus hynny hefyd, ac yn symleiddio'r broses ar eu cyfer nhw yn y lle cyntaf, ond gan sicrhau ein bod ni'n gwneud pethau yn briodol o ran y gwerth cymdeithasol yr ydym ni'n awyddus i'w feithrin. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo yn llwyr i ddefnyddio pob cyfrwng sydd ar gael i ni wrth gyflawni hynny.
Dim ond ar y pwynt y mae Mike Hedges yn ei wneud ynghylch is-gontractio a chadwyni cyflenwi, un o'r rhesymau pam, yn y lle cyntaf fel hyn, mae'r ddeddfwriaeth yn ceisio deddfu ar wyneb y Bil ynghylch y sector adeiladu yn benodol yw oherwydd, fel y dywedais i, fe wyddom ni y bydd Aelodau yn y Siambr hon sydd wedi bod â rhan yn y codau ymarfer hynny y gwnaethom ni eu rhoi ar waith yn flaenorol neu i ni ymgyrchu drostyn nhw o'r tu allan, o ran cyflogaeth foesol mewn cadwyni cyflenwi neu gyfleoedd cyflogaeth ambarél, y gwyddom ni eu bod yn rhywbeth sydd, yn anffodus, wedi bod yn rhy gyffredin o lawer yn y sector adeiladu. Felly, mae'r ddeddfwriaeth hon ynglŷn â chaffael a rheoli contractau yn ceisio gwneud rhywfaint i fynd i'r afael â hynny, a mynd i'r afael hefyd â sut y mae hynny'n treiddio ar hyd y gadwyn gyflenwi, yn ogystal â hynny.
Gweinidog, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at graffu ar y Bil hwn yng Nghyfnod 1 yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Rwyf i o'r farn ei fod yn Fil cyffrous iawn.
Roeddwn i'n awyddus i ystyried yr agweddau ar gaffael cyhoeddus, a'r dyletswyddau sydd gan gyrff cyhoeddus a Gweinidogion Cymru i adrodd o ran caffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol yn arbennig. Fe hoffwn i holi pam mai dim ond caffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol yn unig, oherwydd mae'n amlwg nad yw Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ymwneud â chyfrifoldeb cymdeithasol yn unig. Ac wrth i gyrff cyhoeddus baratoi i fuddsoddi miliynau lawer o bunnoedd, a hynny'n gwbl briodol, yn yr ymarfer o roi bwyd iach i blant wrth i ni gyflwyno'r rhaglen prydau ysgol am ddim i bawb, pa swyddogaeth sydd gan y Bil hwn o ran sicrhau bod y caffael ychwanegol penodol hwn yn cryfhau Cymru lewyrchus, gydlynus a chydnerth, sy'n hanfodol i amcanion sylfaenol yr economi, yn ogystal â gwneud cyfraniad pwysig i Gymru iachach, wrth gwrs?
A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am ei chyfraniad hi? Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y gwaith y byddwch chi'n ei wneud. Rwy'n croesawu'r hyn a wnewch ni ar y pwyllgor i graffu ar y ddeddfwriaeth hon, a hynny'n gwbl briodol, ond i weithio gyda ni hefyd wrth i ni ei datblygu hi a symud pethau yn eu blaenau, ac rwy'n croesawu eich cyfraniadau chi'n fawr o ran cydnabod y gwerth y gallai'r ddeddfwriaeth hon ei gynnig, ac mae yna unigolyn arall yn y Siambr heddiw sydd â brwdfrydedd ynglŷn â chaffael hefyd.
Dim ond i geisio egluro'r pwynt yr ydych chi'n ei wneud ynghylch pwysigrwydd caffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol: mewn gwirionedd, mae'r Bil yn nodi dyletswyddau ar y cyrff cyhoeddus fel y nodir nhw, y cyfeirir atyn nhw'n 'awdurdodau contractio', felly'r enw yw 'caffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol', ond mae'n sicrhau, pan wneir y caffael, y rhoddir ystyriaeth i les cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol, ac fe nodwyd dyletswyddau pellach o ran rheoli contractau a thryloywder. Felly, fel dywedais i o'r blaen, dyna pam mae hwnnw'n gaffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol ac am lesiant a gwaith teg yr ydym ni'n sôn, ond mae'n mynd ymhellach na hynny, gan nodi'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod yn hynny o beth. Felly, bydd y gwaith yn ymwneud â'r canllawiau statudol ynghylch sut y gallwn ni weithio gydag Aelodau, gweithio gyda chydweithwyr o bob rhan o'r Siambr a gyda'n partneriaid cymdeithasol i sicrhau ein bod ni'n taro'r cydbwysedd cywir o ran priod le'r gwerth cymdeithasol hwnnw a sut y gallwn ni gefnogi'r cyrff cyhoeddus hynny i sicrhau ein bod ni'n cyflawni'r hyn y mae angen i ni ei gyflawni. Ond caffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol yw—. Rwy'n siŵr ei fod yn bwnc y gallwn ni ei drafod ymhellach pan fyddwn ni yn y pwyllgor, ond o ran yr Aelod ei hun hefyd, pe byddai hynny'n ddefnyddiol, rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu i roi eglurhad pellach o ran yr hyn y byddai hynny'n ei gwmpasu, a bwriad hynny hefyd.
Ac yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am y datganiad heddiw, Dirprwy Weinidog, ac rwy'n dymuno datgysylltu fy hunan yn llwyr oddi wrth sylwadau Joel James a'i safbwynt gwrthwynebus ef o ran yr undebau llafur, gan eu cyhuddo nhw â phob math o ddatganiadau heb unrhyw sail. Rwyf i'n aelod balch o undeb llafur fy hunan.
Felly, rwy'n croesawu'r Bil hwn. Dyma elfen allweddol o ymgyrch ehangach i wneud gwaith yng Nghymru yn llawer tecach, ac mae hwn yn ymyriad amserol hefyd, wrth i drethi'r Torïaid, toriadau mewn budd-daliadau a chamreoli economaidd erydu cyflogau a phensiynau yn gynyddol ym mhobman. Ac fel pob amser, mae'r model adeiladol o bartneriaeth gymdeithasol yma yng Nghymru yn gwbl groes i ddull gwrthdrawiadol aflwyddiannus y Torïaid. Ar hyn o bryd maen nhw'n ymladd gyda gweithwyr rheilffordd fel maen nhw wedi gwneud gydag athrawon a meddygon iau yn y gorffennol.
Felly, fy nghwestiwn i chi, Dirprwy Weinidog, yw hwn: pan fyddwn ni'n sôn am gaffael a phartneriaethau cymdeithasol, fel gwnewch chi yma, ein bod ni'n ymgysylltu yn llawn â phawb a hefyd, fe hoffwn i atgyfnerthu'r cwestiwn a ofynnodd Mike Hedges yn gynharach, sef bod unrhyw un sy'n elwa ar arian cyhoeddus yng Nghymru i ofalu am ei staff, ond yn bwysicach na hynny, ein bod ni'n cadw'r rhan fwyaf o'r arian hwnnw yma yng Nghymru hefyd. Diolch i chi.
A gaf i ddiolch i Joyce Watson am y cyfraniad? Rwy'n gwybod mai rhywbeth yw hwn yr ydych chi wedi bod yn ymwneud yn benodol ag ef yn y gorffennol, yn arbennig felly yn y sector adeiladu hefyd, o ran mynd i'r afael ag arferion gwaith anghyfiawn ac annheg, ac fe wn i eich bod chi wedi gweithio gyda'ch cydweithwyr a minnau o ran sut i fwrw ymlaen â chodau ymarfer yn hyn o beth. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn ceisio cryfhau'r gwaith sydd wedi cael ei wneud o'r blaen gan, am y tro cyntaf, ddeddfu ynghylch caffael a sut yr ydym ni nid yn cryfhau caffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol yn unig, ond yn mynd yn ôl at yr hyn y gwnaethom ni ei ddweud yn flaenorol ynglŷn â defnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael i ni, gan gydnabod cyfyngiadau'r setliad datganoli presennol, a defnyddio pŵer pwrs y wlad i ysgogi, yn arbennig yn y sectorau hynny fel adeiladu ac yn fwy cyffredinol hefyd o ran caffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol, sy'n crynhoi gwaith teg yn rhan o hynny.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.
Mae eitem 4 ar yr agenda wedi ei thynnu yn ôl.
Felly, symudwn ymlaen i eitem 5, datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: diweddariad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn dilyn pryderon parhaus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, y codwyd llawer ohonyn nhw yn y Siambr hon, fe ofynnais i i brif weithredwr GIG Cymru gynnal cyfarfod teirochrog neilltuol ar 26 o fis Mai yn rhan o fframwaith dwysáu GIG Cymru. Mae'r sefyllfa yn Betsi yn annerbyniol ac mae angen gwaith ac ymdrech ddifrifol arni i'w hadfer. Nid yw'r gwasanaethau cystal ag y dylen nhw fod, ac rydym ni'n benderfynol o wella'r sefyllfa i'r miloedd o bobl yn y gogledd sy'n ddibynnol ar y gwasanaethau hyn.
Yn dilyn y cyfarfod teirochrog rhwng Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru, mae prif weithredwr y GIG wedi argymell y dylid ymestyn statws ymyriad wedi'i dargedu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y tu hwnt i faterion iechyd meddwl a llywodraethu hyd at gynnwys Ysbyty Glan Clwyd, gan ganolbwyntio yn benodol ar y gwasanaeth fasgwlaidd a'r adran achosion brys yn Ysbyty Glan Clwyd, ac rwyf innau wedi derbyn y cyngor hwnnw. Nid oedden nhw'n awgrymu ein bod yn rhoi Betsi yn ôl mewn mesurau arbennig.
Felly, fe fyddwn ni'n sicrhau y bydd yr arbenigedd newydd clinigol ac ymarferol allanol ychwanegol sylweddol yn cael ei roi ar waith i sicrhau ein bod ni'n gweld newid cynaliadwy a gwelliannau yn ansawdd y gwasanaeth yn ymsefydlu. Fel hyn, fe fyddwn ni'n gwneud gwelliannau gyda'r bwrdd iechyd yn hytrach nag amharu ar y bwrdd iechyd. Fe wnaethpwyd y penderfyniad yn unol â'r fframwaith uwchgyfeirio ac mae'n adlewyrchu pryderon difrifol am yr arweinyddiaeth, y llywodraethu a'r cynnydd sydd wedi nodweddu Ysbyty Glan Clwyd. Mae fy mhenderfyniad i wedi cael ei fynegi i gadeirydd y bwrdd iechyd.
Yn gyntaf, gadewch i mi ymdrin â mater llywodraethu, arwain a goruchwylio Ysbyty Glan Clwyd. Mae hi'n amlwg fod yr heriau sy'n wynebu Ysbyty Glan Clwyd ar hyn o bryd yn gofyn am ymyriad penodol i gefnogi newid diwylliannol a hyrwyddo arweinyddiaeth ar bob lefel. Rwyf i yn cyfarwyddo Gwelliant Cymru felly, y gwasanaeth gwella i GIG Cymru, i weithio gyda'r bwrdd iechyd i ddod ag arbenigedd datblygu clinigol a sefydliadol allanol i'r ysbyty. Nod Gwelliant Cymru yw cefnogi'r gwaith o greu cyfundrefn iechyd a gofal o'r ansawdd gorau i Gymru, fel y bydd pawb yn gallu cael gofal sy'n ddiogel, effeithiol ac effeithlon yn y lle a'r amser priodol. Fe hoffwn i bwysleisio nad yw hyn yn adlewyrchu o gwbl ar waith caled y staff yn Ysbyty Glan Clwyd, ond mae gwir angen y ffynhonnell hon o gymorth a chefnogaeth allanol i ymgorffori'r newid sydd ei angen ar fyrder, ac mae angen i ni wneud hyn yn gyflym.
Yn ail, mae gwasanaethau fasgwlaidd wedi cael cyfnod heriol ers i'r gwasanaeth gael ei ganoli. Nid yw hynny'n golygu mai camgymeriad oedd y penderfyniad i ganoli. Yn dilyn cyfres o bryderon a godwyd gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, mae'r bwrdd iechyd wedi ymateb yn gyflym ac mae cynnydd wedi bod mewn nifer o feysydd, ond mae'r gwasanaeth yn parhau i fod yn fregus. Bu rhai digwyddiadau difrifol dros y misoedd diwethaf ac nid yw manteision newidiadau diweddar wedi dod i'r amlwg eto. Penodwyd arweinydd clinigol newydd ond nid yw wedi dechrau yn ei swydd eto. Fe fydd fy swyddogion i'n parhau i fonitro gweithrediad y cynllun gweithredu o leiaf ddwywaith y mis.
Yn drydydd, fe gafodd adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd ei ddynodi yn wasanaeth y mae angen ei ddiwygio yn sylweddol gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Rydym ni wedi sicrhau bod £3 miliwn ar gael i'r bwrdd iechyd ar gyfer y chwe nod lleol ar gyfer y rhaglen gofal brys a gofal argyfwng. Rwyf i wedi cyfarwyddo arweinwyr clinigol o'r rhaglen genedlaethol i weithio yn agos gyda'r bwrdd iechyd i fynd i'r afael â'r pryderon a nodwyd gan AGIC.
Yn bedwerydd, iechyd meddwl. Mae'r gwasanaeth hwn, yn ddi-os, mewn sefyllfa lawer gwell na'r un a aeth i fesurau arbennig. Ond, er y cynnydd sydd wedi bod, mae yna lawer mwy i'w wneud eto, yn enwedig o ran newid diwylliant, ac fe fydd hynny'n cymryd amser. Yn dilyn trafodaethau gyda'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, rwyf i'n gofyn i'r bwrdd iechyd symud yn gyflym i sicrhau bod tîm arweinyddiaeth parhaol ar waith, a datblygu cynllun recriwtio cadarn i leihau nifer y swyddi gwag a'r defnydd o staff dros dro. Mae'n rhaid i ni wneud hwn yn wasanaeth sy'n gynaliadwy. Rwyf i wedi gofyn i swyddogion Llywodraeth Cymru gomisiynu asesiad annibynnol o gynaliadwyedd y cynnydd sydd wedi bod yn unol â'r adolygiadau iechyd meddwl amrywiol dros y blynyddoedd diwethaf, ac fe arweinir goruchwyliaeth weinidogol o'r trefniadau hyn gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.
Yn olaf, mae wedi dod yn amlwg mai systemau adweithiol, ar y cyfan, sydd gan y bwrdd iechyd ar hyn o bryd. Mae adolygiadau allanol wedi tynnu sylw at fylchau sylweddol mewn elfennau sylfaenol o'r safonau gwasanaethau clinigol. Mae hyn yn cynnwys cadw cofnodion, rheoli digwyddiadau, gweithio fel tîm, adrodd ar bryderon, arweinyddiaeth a morâl. Mae llawer o brosesau yn eu lle, ond does dim digon o gapasiti ynddynt a dŷn nhw ddim yn ddigon eang i gynnig sicrwydd yn y meysydd hyn ar draws y system gyfan. Mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd ddod yn sefydliad sy'n gallu gwella ei hun, gyda staff clinigol sydd â'r sgiliau i gynnal gwelliant parhaus wrth eu gwaith o ddydd i ddydd. Rhaid i'r pwyslais hwn fod yn amlwg drwy'r sefydliad cyfan, o'r ward i'r bwrdd.
Dwi'n gofyn i'r bwrdd iechyd wneud y pethau canlynol: adolygu eu trefniadau presennol o ran llywodraethiant, archwilio ac effeithiolrwydd a gweithio gyda Gwelliant Cymru i fuddsoddi mewn rhaglen addysg a chymorth a fydd yn cael ei rhoi ar waith yn gyflym er mwyn gwella sgiliau. Dwi hefyd wedi gofyn i'r bwrdd iechyd sicrhau bod penodiad ar lefel uwch yn cael ei wneud i swydd cyfarwyddwr diogelwch a gwella. Bydd yr unigolyn hwn yn cefnogi'r cyfarwyddwr gweithredol nyrsio newydd i sicrhau bod gwelliannau a threfniadau llywodraethiant ar y cyd yn cael eu rhoi ar waith ar draws y bwrdd iechyd. Ar ben hyn, mae'n rhaid i'r bwrdd wneud yn well wrth feithrin a chynnal cysylltiad â'i staff a'r cyhoedd. Mae nifer o bryderon wedi cael eu codi am les y gweithlu, achosion o aflonyddu, bwlio a staff yn teimlo na allant godi eu llais. Mae'n rhaid i'r bwrdd adeiladu ar y gwaith sydd ar y gweill yn barod o ran datblygu sefydliadol, a rhaid iddo wneud hynny'n gyflym. Gan gadw mewn cof pa mor ddifrifol ac eithriadol yw'r trefniadau uwchgyfeirio hyn, fe fyddant yn cael eu monitro'n agos a'u hadolygu'n fuan er mwyn sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud. Bydd cyfarfod tair-ochr arall yn cael ei gynnal cyn diwedd mis Hydref eleni.
Dirprwy Lywydd, mae hon yn gyfres helaeth a phellgyrhaeddol o ymrwymiadau wedi'u targedu ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Byddwn yn cadw golwg cyson a chadarn ar y rhain dros y misoedd nesaf. Rhaid imi bwysleisio bod gwaith gwych yn cael ei wneud mewn ambell i fan ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Yr hyn sydd ei angen nawr yw bod yr ansawdd hwnnw'n cael ei ailadrodd ar draws y system gyfan, a hynny'n fwyaf penodol yn Ysbyty Glan Clwyd. Ond yn bwysicach fyth, mae hon yn gyfres o drefniadau a fydd yn cefnogi'r bwrdd iechyd ar ei daith i barhau i wella, fel y gall pobl y gogledd fod yn falch o'u gwasanaeth iechyd lleol. Diolch.
Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad, er bod yn rhaid i mi ddweud fy mod i wedi cael fy siomi gan eich diffyg cwrteisi i Aelodau'r Senedd sydd â diddordeb uniongyrchol yn yr ysbyty yr oedd eich datganiad chi'n cyfeirio ato. Fel gwyddoch chi, rwyf i wedi dangos diddordeb mawr yn y gwasanaethau yn Ysbyty Glan Clwyd am flynyddoedd maith ac eto, nid ydych chi wedi dangos cymaint o gwrteisi hyd yn oed â fy mriffio i cyn eich datganiad chi'r prynhawn yma, nac estyn cyfle o unrhyw fath i Aelodau eraill sy'n cynrychioli'r ysbyty hwnnw gael eu briffio yn uniongyrchol ychwaith.
Rydych chi'n dweud mai ymyriad wedi'i dargedu yw hwn, ond ni allai dim fod ymhellach o'r gwir na hynny. Dull gwasgarog yw'r un sydd gennych chi ar hyn o bryd yn y gogledd. Rydym ni eisoes wedi anelu ymyrraeth ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, ar gyfer strategaeth, cynllunio a pherfformiad, ar gyfer arweinyddiaeth, gan gynnwys llywodraethu, trawsnewid a diwylliant, ac ar gyfer ymgysylltu oherwydd yr ymgysylltiad gwan â chleifion, y cyhoedd, staff a rhanddeiliaid. Ac eto, heddiw, fe wnaethoch chi gyhoeddi rhagor o ymyriadau wedi'u targedu, yn Ysbyty Glan Clwyd y tro hwn o ran ei arweinyddiaeth, sydd eisoes mewn ymyriadau wedi'u targedu, fe ddywedir wrthym ni, ei wasanaethau iechyd meddwl, sydd eisoes mewn ymyriadau wedi'u targedu, neu felly dywedir wrthym ni, ac, wrth gwrs, ei wasanaethau fasgwlaidd erbyn hyn ac yn yr adran achosion brys. Mae'n rhaid i mi ddweud ei bod hi'n hen bryd i ni fod â'r ymyriadau sydd eu hangen ar y rhain.
Mae rhai agweddau ar y gwasanaethau hyn, rydych chi'n dweud eich bod chi'n eu rhoi nhw mewn ymyriadau wedi'u targedu nawr, wedi bod mewn mesurau arbennig neu ymyriadau wedi'u targedu ers saith mlynedd—saith mlynedd hirfaith. Yn wir, mae hi'n saith mlynedd yr wythnos hon ers i wasanaethau iechyd meddwl fod mewn mesurau arbennig. Yr wythnos hon. Mae'r un peth yn wir am y materion o ran arweinyddiaeth. Ac eto, dro ar ôl tro, mae gennym ni Weinidogion yma, gan gynnwys eich rhagflaenwyr chi, sy'n dod i ddweud, 'Rydym ni'n benderfynol o newid pethau. Rydym ni'n benderfynol o gael llawer mwy o siâp ar bethau. Mae angen i ni symud pethau ymlaen, ar gyflymder. Mae'n ymddangos bod y gair hwnnw, 'cyflymder', yn gwneud gwahaniaeth yn eich datganiadau gweinidogol chi, onid ydyw? Wel, y gwir amdani yw nad yw'n gwneud dim o'r fath. Pryd mae ymyriad wedi'i dargedu ar nifer mor eang o bethau yn mynd yn fesurau arbennig mewn gwirionedd? Oherwydd, nid ydw i'n gwybod, ac nid wyf i o'r farn fod hynny'n eglur iawn i'r cyhoedd chwaith. Roeddech chi'n dweud pe na byddai gwelliant i'w weld o ran y gwasanaethau fasgwlaidd ymhen tri mis, y byddai'r bwrdd iechyd yn wynebu canlyniadau. Wel, os mai dyma'r unig ganlyniad y maen nhw'n ei wynebu, sef label o ymyriad wedi'i dargedu unwaith eto, nid wyf i'n credu bod ganddyn nhw lawer i bryderu yn ei gylch, a dweud y gwir, oherwydd fe wyddom ni nad yw ymyriad wedi'i dargedu yn gweithio. Nid yw hynny wedi gweithio am saith mlynedd, fel y dywedais i eisoes.
Os yw arweinyddiaeth y bwrdd iechyd yn gwbl analluog i wneud gwelliannau, pam na wnewch chi symud yr arweinyddiaeth honno ymlaen? Pam rydych chi' dweud bod angen inni benodi cyfarwyddwr gweithredol arall nawr, ar gost enfawr i'r trethdalwr, ar gyfer diogelwch a gwelliant y tro hwn? Pam na all y tîm gweithredol â chyflogau uchel sydd eisoes ar waith yn y bwrdd iechyd gyflawni'r gwelliannau y maen nhw'n cael eu cyflogi i'w cyflawni? Eu gwaith nhw ydyw hwnnw. Ac os nad ydyn nhw'n barod, beth am fynd i rywle arall, oherwydd nid oes eu heisiau nhw arnom ni yn y gogledd. Rydym ni'n dymuno cael tîm sy'n gweithio, sy'n cyflawni'r gwelliannau a addawyd i ni. Gan fod pobl yn cael eu siomi, mae cleifion yn cael eu siomi, mae'r staff yn cael eu siomi gan yr amgylchedd gwaith ofnadwy y mae llawer ohonyn nhw'n gorfod gweithio ynddo, o ganlyniad i'r bwrdd iechyd camweithredol hwn yr ydych chi yn Llywodraeth Cymru wedi methu â'i newid drwy gydol y cyfnod maith hwn.
Rydych chi'n sôn am y gwasanaethau brys yng Nglan Clwyd y mae angen ymyriad arnyn nhw—ac mae angen hynny—ond beth am fannau eraill yn y gogledd? Beth am lawr y ffordd yn Ysbyty Maelor Wrecsam? Mae perfformiad yr ysbyty hwnnw wedi bod yn waeth mewn gwirionedd dros y 12 mis diwethaf. Mewn wyth o'r 12 mis diwethaf maen nhw wedi dangos ffigurau gwaeth nag Ysbyty Glan Clwyd o ran perfformiad, felly pam rydych chi wedi gadael hynny allan o'r dull hwn o ymyriad wedi'i dargedu? Rydych chi'n sôn am ddiwylliant o fwlio, rydych chi'n sôn am staff nad oes neb yn gwrando arnyn nhw, rydych chi'n sôn am ddiwylliant o ofn. Fe glywsom ni adroddiadau am y sefyllfa yn Ysbyty Gwynedd, gyda staff yn y fan honno'n cwyno am y pethau hynny ychydig wythnosau yn ôl. Pam nad yw'r ysbyty hwnnw'n cael ei roi mewn ymyriad wedi'i dargedu ar gyfer y materion hynny? Nid yw hynny'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl.
Rydych chi'n dweud wrthym ni nawr eich bod chi am weithio gyda'r bwrdd iechyd, yn hytrach na gweithio i'r bwrdd iechyd, ar gyfer datrys y problemau hyn, ac rydych chi wedi penodi Gwelliant Cymru yn rhyw farchog gwyn sydd am ddod i mewn ar gefn ei geffyl a throi'r sefyllfa hon o gwmpas. Pam ar y ddaear nad ydych chi wedi defnyddio Gwelliant Cymru o'r blaen? Mae'r sefydliad hwn wedi bod ar waith ers blynyddoedd, ac eto nid ydych chi wedi ei ddefnyddio tan heddiw. Pam nad ydych chi'n defnyddio'r arbenigwyr sydd ar gael yn allanol i newid y sefyllfa? Beth am alw'r Coleg Meddygaeth Frys Brenhinol i mewn i drawsnewid yr adrannau achosion brys yn y gogledd? Beth am alw ar y coleg brenhinol a luniodd yr adroddiadau ar y gwasanaethau fasgwlaidd i ddod i mewn a throi'r sefyllfa honno o gwmpas? Gan mai y nhw sy'n deall orau, debyg iawn, yn fy marn i. Rwy'n dod at fy sylwadau olaf nawr, Dirprwy Lywydd.
Rydych chi'n dweud eich bod chi'n awyddus i gael gwelliant cyflym, ac yn dweud y bydd y sefyllfa hon yn cael ei monitro a'i hadolygu yn ofalus, ac eto rydych chi wedi dweud na fydd y cyfarfod teirochrog nesaf yn cael ei gynnal tan ddiwedd mis Hydref. Nid yw hynny'n swnio fel sefydliad sydd am wneud gwelliannau sylweddol ar gyflymder, os ydych chi'n barod i aros tan ddiwedd mis Hydref am gyfarfod teirochrog arall. Gweinidog, nid oes gennyf i unrhyw hyder o gwbl y bydd Llywodraeth Cymru wrth dargedu ymyriadau yn y meysydd ychwanegol hyn, ar ben yr ymyriad arall a dargedir, yn gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl yn y bwrdd iechyd hwn. Mae angen i ni roi hwb i'r arweinyddiaeth bresennol sydd wedi siomi pobl cyhyd. Dyna'r unig ffordd o ysgogi'r newid diwylliannol sylweddol—
Rwyf i wedi bod yn hael wrth yr Aelod.
—sydd ei angen arnom. Mae angen y gweithredu hwnnw arnom ni nawr, cyn gynted â phosibl.
Diolch yn fawr. Fe wnes i, wrth gwrs, gynnig sesiwn friffio i'ch cynrychiolydd gwleidyddol ar y pwyllgor iechyd, ac yr wyf i'n siŵr ei fod wedi dweud wrthych chi beth yr oedd yr wybodaeth honno'n ei gynnwys.
Nid oes dim byd gwasgarog ynghylch y dull gweithredu hwn. Roedd gennym ni fesurau ffurfiol o ran iechyd meddwl a llywodraethu, a nawr rydym ni'n anelu'r ymyriad ychwanegol hwn at yr ardal lle mae'r pryder mwyaf gennym ni, sef adrannau fasgwlaidd ac achosion brys Ysbyty Glan Clwyd. Ni allwch chi ei chael hi bob ffordd; ni allwch chi ddweud wrthyf i mewn un anadl ei fod yn wasgarog a nawr yr ydych chi eisiau i mi ledaenu'r dull gweithredu hwnnw i Wrecsam Maelor a phobman arall. Ni allwch chi ei chael hi ddwy ffordd. Rwy'n credu mai dyma'r ffordd gywir i fynd. Mae hyn wedi cael ei nodi gan y grŵp teirochrog i asesu lle y gallwn ni wneud y gwahaniaeth mwyaf mewn cyfnod byr o amser.
Mae gwahaniaeth nawr o ran Gwelliant Cymru. Rydych chi'n hollol gywir, roedd yn gwestiwn y gofynnais i: pam na wnaethom ni ddod â nhw i mewn o'r blaen? Y rheswm am hynny oedd nad oedden nhw'n bodoli tan 2019. Cawsom ni'r mater bach hwn o COVID yn y canol a ddaeth â llawer o bethau i ben yn ystod y cyfnod hwnnw. Roedd y dull gweithredu, o ran Gwelliant Cymru, yn seiliedig ar 1000 o Fywydau. Mae'r hyn sydd gennym ni nawr yn ganolbwynt gwahanol iawn i'r sefydliad, a dyna pam y bydd pethau'n wahanol y tro hwn.
Ar ben hynny, wrth gwrs, rydym ni wedi rhoi adnoddau ychwanegol sylweddol ar waith, £297 miliwn tan 2024. Rydym ni, wrth gwrs, wedi cael trafodaethau manwl gyda'r cadeirydd a'r prif weithredwr o ran sut y gallwn ni wella'r sefyllfa mewn ffordd ymarferol a gwneud hynny'n gyflym. Pan ddywedwch chi na fyddwn ni'n gwneud unrhyw beth tan fis Hydref, pe baech wedi gwrando'n ofalus ar y datganiad, roedd yn amlwg iawn y byddem ni'n asesu pethau bob pythefnos o safbwynt Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod ni'n gweld gwelliannau'n rheolaidd. Bydd wedyn gyfle i ddod ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i mewn eto i weld a yw'r ymyrraeth honno wedi gwneud unrhyw wahaniaeth erbyn diwedd mis Hydref.
Diolch am y datganiad. Dwi'n ofni, dim ots sut ydych chi'n edrych ar hyn, nad ydy amseru hyn heddiw ddim yn adlewyrchu'n dda ar Lywodraeth Cymru. A dweud y gwir, mae o'n dangos unwaith eto gymaint o ddiffyg dealltwriaeth a diffyg gwerthfawrogiad sydd yna yn Llywodraeth Cymru ynglŷn â difrifoldeb y sefyllfa ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.
Mae hwn yn ymateb gwan iawn i sefyllfa eithriadol o ddifrifol, mae arnaf i ofn—ymestyn ymyrraeth wedi'i thargedu, yn hytrach na mynd i'r afael o ddifri â phroblem sy'n achosi cymaint o ofid i staff a chleifion ar draws y gogledd. Ymestyn ymyrraeth wedi'i thargedu—pam gorffen yn y fan yna pan fod cynifer o broblemau ar draws Betsi Cadwaladr? Y problemau yr wyf i wedi'u dwyn i'ch sylw ymhlith nyrsys yn Ysbyty Gwynedd a'r ofnau ynghylch bwlio a bygythiadau ac amodau gwaith nad ydyn nhw'n ddigon da o ran cadw'r staff, eu gwybodaeth a'u profiad—pam na wnewch chi gynnwys Ysbyty Gwynedd?
Ac o ran yr amseru, p'un ydyw? A yw hyn yn enghraifft arall eto o Lywodraeth Cymru yn gweithredu ar yr unfed awr ar ddeg i geisio lliniaru dadl yn y Senedd a phleidlais a allai fod yn anodd, gan weithredu oherwydd bod yn rhaid iddyn nhw geisio osgoi embaras? Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud hyn drwy'r amser. Mae'n Llywodraeth sy'n llusgo'i thraed. Ynteu ai'r Gweinidog a fethodd mewn gwirionedd â deall difrifoldeb adroddiad ar ôl adroddiad—yr adroddiad damniol hwnnw ar y gwasanaeth fasgwlaidd yn benodol—a phenderfynodd hi weld sut y byddai pethau'n mynd am dri mis arall cyn penderfynu ar y cam nesaf ac a oedd angen gweithredu, pan oedd yn eithaf amlwg bod angen ymyrraeth arall arnom ni? Methodd y Llywodraeth â gweithredu mewn ffordd a oedd yn adlewyrchu brys y sefyllfa.
Mae'r Gweinidog yn dweud bod yna bocedi o ragoriaeth o fewn Betsi Cadwaladr. Oes, mae yna. Mi ysgrifennais i at y prif weithredwr a'r cadeirydd yn ddiweddar yn dilyn cyhoeddi ffigurau ar ganser yn dangos bod yna waith da yn digwydd yn y gogledd. Rydyn ni yn deall hynny. Mae'r Gweinidog, dwi'n gwybod, yn eiddgar inni gadw mewn golwg yr angen i gefnogi staff drwy hyn oll. Allaf i ddim cytuno mwy. Heb staff, does yna ddim NHS. Yn yr adrannau yna sy'n wynebu yr heriau mawr, mae yna staff dŷn ni angen eu cadw, a dŷn ni yn cofio amdanyn nhw heddiw, ac yn diolch am eu gwaith nhw. Ond staff ydy llawer o'r rheini sy'n codi pryderon efo ni am wasanaethau iechyd yn y gogledd. Staff oedd yn codi pryderon am golli gwasanaethau fasgiwlar o Fangor. Heddiw, er gwaethaf yr adroddiad damniol hwnnw, mae'r Gweinidog yn dal i fynnu bod y penderfyniad i ganoli gwasanaethau wedi bod yr un cywir. Wel, os oedd o, pam ddim canoli yn Ysbyty Gwynedd lle'r oedd yna ganolfan o ragoriaeth? Ar wasanaethau iechyd meddwl, staff sydd wedi bod yn disgrifio wrthyf i ac Aelodau eraill, dro ar ôl tro, pam fod gwasanaethau iechyd meddwl ddim yn barod i ddod allan o fesurau arbennig go iawn pan benderfynodd y Llywodraeth wneud hynny yn gynamserol cyn yr etholiad diwethaf.
Felly, dŷn ni yn gwrando ar staff, dŷn ni yn parchu staff, dŷn ni yn ystyried y gefnogaeth sydd ei angen i staff. Ond ydy'r Gweinidog yn derbyn y bydd llawer o'r staff hynny yn gweld bod yna lawer gormod o oedi wedi bod cyn cymryd y camau yma heddiw, a bod y camau yn annigonol? Ac yn absenoldeb, mewn difri, unrhyw awgrym yn y datganiad yma o sut fydd mesur a ydy pethau'n gwella ai peidio, ydy hi'n derbyn ein bod ni'n dal heb weledigaeth o sut fyddai Betsi Cadwaladr llwyddiannus, gynaliadwy yn gweithio? A dyna pam y byddwn ni ar y meinciau yma, yn y ddadl yfory, yn dadlau bod eisiau edrych yn onest ar y posibilrwydd o aildrefnu gofal iechyd yn y gogledd. Mae'r cynlluniau yma yn wan, dwi'n ofni. Dwi'n gobeithio, er mwyn staff a chleifion, y gwnan nhw wahaniaeth, y gall y cynlluniau yma wneud gwahaniaeth. Ond mae hi'n sefyllfa ddifrifol sydd angen plan B yn barod i fynd.
Rwy'n ymwybodol iawn o ddifrifoldeb y sefyllfa, ac mae'n amlwg bod y sefyllfa yn Betsi, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny yr ydym ni wedi tynnu sylw atyn nhw, yn annerbyniol. Mae hyn yn rhywbeth y gwnes i'n glir iawn i'r prif weithredwr a'r cadeirydd pan wnes i gyfarfod â nhw yr wythnos diwethaf. A gaf i fod yn gwbl glir bod y datganiad hwn wedi'i glustnodi cyn unrhyw awgrym o ddadl gan yr wrthblaid ar y mater hwn? Roedd yn bwysig iawn i mi—[Torri ar draws.] Roedd yn bwysig i mi—[Torri ar draws.] Roedd yn bwysig i mi siarad â'r cadeirydd a'r prif weithredwr wyneb yn wyneb, a dyna pam yr oedd angen y cyfle arnaf i fynd i wneud hynny o'u blaenau yr wythnos diwethaf. Felly, rwy'n falch fy mod wedi gallu gwneud hynny, i fynd drwy fanylion yr hyn yr oeddem ni'n ei gynnig.
Roedd y tri mis y gwnaethom ni eu defnyddio i roi amser i ni asesu pa ymyraethau yn union oedd yn angenrheidiol nid yn unig yn caniatáu i ni gydnabod difrifoldeb y sefyllfa, ond hefyd i sicrhau bod gennym ni raglen weithredu glir y gallem ni ei rhoi ar waith. Nid wyf i yn y busnes o roi label ar rywbeth a pheidio â chael dilyniant ar gyfer y label honno. A dyna pam y mae'n gwbl glir i mi mai gwneud cyhoeddiad y bydd estyniad i'r ymyrraeth wedi'i dargedu, gyda rhaglen weithredu glir i weithredu ochr yn ochr â hynny, yw'r ffordd gywir i fynd.
O ran y staff, rwyf i wedi bod yn siarad â chynrychiolwyr undebau iechyd yn y dyddiau diwethaf. Yn sicr, maen nhw wedi bod yn anghyfforddus mewn rhai sefyllfaoedd pryd cawsant eu symud o le i le, ond mae rhai o'r undebau'n dweud wrthyf i nad ydyn nhw, mewn gwirionedd, yn cydnabod rhai o'r materion sydd wedi'u hamlygu. Felly, byddwn i'n awgrymu, os oes problemau, eu bod hefyd yn siarad â'r undebau am y materion hynny gan nad ydyn nhw'n clywed rhai o'r pethau sy'n cael eu clywed gan Aelodau yma.
Mae hefyd yn bwysig i ni sicrhau ein bod ni'n canolbwyntio ar y staff yn y sefydliad. Y staff yw asgwrn cefn unrhyw welliannau yr ydym ni'n debygol o'u gweld yma. Dyna pam yr ydym ni wedi dweud y byddwn ni'n sefyll gyda'r staff ac yn gwneud unrhyw ymyraethau gyda'r staff yn hytrach na gwneud pethau iddyn nhw. Dyna'r unig ffordd y byddwn ni'n cael newid cynaliadwy.
Rwyf i wedi cael cais am bwynt o drefn. Darren Millar.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i fynegi fy mhryder ynghylch sylw a wnaeth y Gweinidog yn awgrymu bod y datganiad hwn wedi'i gynllunio ers nifer o wythnosau? Rwy'n aelod o'r Pwyllgor Busnes. Mae'r Pwyllgor Busnes yn edrych ar y flaenraglen waith bob tro y byddwn ni'n cyfarfod. Ni chawsom ni wybod am unrhyw newidiadau tan heddiw o ran y datganiad hwn; ni chafodd ei gytuno arno tan heddiw. Cafodd papurau eu dosbarthu i'r Pwyllgor Busnes ddoe, gan gadarnhau'r newid hwn. Mae hynny'n awgrymu i mi y gallai'r Gweinidog fod wedi camarwain y Senedd yn anfwriadol.
Diolch i chi am y pwynt o drefn yna. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ystyried pryd yr oedd y Llywodraeth wedi penderfynu y byddai'n cyflwyno datganiad o'r fath. Efallai fod hynny'n fater yn hytrach na'r datganiad busnes yn unig.
Cyn i ni symud ymlaen at—
Os nad oes ots gennych chi, hoffwn i ymateb i hynna.
Gweinidog, fe wnaf i mewn eiliad. Ond cyn i ni symud ymlaen, a gaf i atgoffa'r holl gyfranwyr eraill o'r amserlen, os gwelwch yn dda? Rydym ni eisoes wedi defnyddio cyfran fawr o'n hamser, felly a wnaiff pawb gadw at eu hamserlenni, os gwelwch yn dda? Gweinidog.
Os nad oes ots gennych, hoffwn ymateb i hynna. Mae hwn yn ddatganiad yr ydym ni wedi bod yn ei baratoi. Yn amlwg, nid oeddwn i eisiau rhoi hynny ar unrhyw agenda nes i mi gael cyfle i siarad â chadeirydd a phrif weithredwr y bwrdd iechyd, a digwyddodd hynny yr wythnos diwethaf. Ac ers hynny, rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn ers y cyfarfod hwnnw ddydd Mawrth diwethaf i roi'r mesurau hyn ar waith. Felly, rydym ni wedi bod yn gweithio ar hyn. Efallai eich bod chi wedi sylwi, Darren, fod gŵyl banc pedwar diwrnod wedi bod, mewn gwirionedd, felly efallai fod hynny'n rhan o'r rheswm pam nad ydych chi wedi clywed dim amdano. [Torri ar draws.]
Mae'r Gweinidog wedi rhoi ei hymateb—[Torri ar draws.] Mae'r Gweinidog wedi rhoi ei hymateb, a symudwn ni ymlaen nawr at y person nesaf. Janet Finch-Saunders.
Diolch. Er fy mod i'n diolch i chi am y datganiad, Gweinidog, hoffwn i ddiolch yn fwy i fy nghyd-Aelodau Darren Millar a Rhun ap Iorwerth am eich herio chi ar y datganiad hwn, oherwydd mae'n rhy annigonol o lawer. Rwyf i wedi bod yma 11 mlynedd, a chyn hynny, roedd gennyf i gysylltiadau, yn mynd yn ôl dros y blynyddoedd, â bwrdd iechyd Betsi, o dan y diweddar Mary Burrows, pan oedd hi'n brif weithredwr. Ac rydym ni wedi cael prif weithredwyr di-rif ers hynny, rydym ni wedi cael cadeiryddion di-rif, ac rydym wedi cael sawl Gweinidog iechyd, ac eto, y broblem sylfaenol sydd gennym ni yma yw bod y bwrdd iechyd hwn yn mynd tuag yn ôl. Nid wyf yn credu bod unrhyw welliannau ar ddod.
Rwyf i, fel Aelodau eraill, wedi cynnal nifer o gyfarfodydd gyda'r prif weithredwr, y dirprwy brif weithredwr, ac wedi gwrando ar sawl datganiad yma ers cael fy ethol gyntaf yn 2011. Mae'r ymatebion i faterion gwaith achos difrifol yn druenus—
Mae angen i chi ofyn y cwestiwn. Gofynnais i'r Aelodau fod yn gryno.
Oes, rwy'n gwybod. Mae'n rhaid i mi fod yn onest, mae pethau mor wael, Dirprwy Lywydd—
Janet, mae llawer o bobl eisiau siarad.
Fe wnaf i ddod ato. Ond mae'n ffaith, ac mae Plaid Cymru wedi'i godi, nid yw'r model presennol yn gweithio. Gofynnais i chi bythefnos yn ôl, Gweinidog, a allem ni gael cyfarfod o Aelodau'r gogledd, chi, y cadeirydd a'r prif weithredwr, ac yna gallem ni gael trafodaethau llawn a diffuant. A wnewch chi gytuno'n awr i'r cyfarfod hwnnw, os gwelwch yn dda? Dyna'r cyfan sydd gennyf i'w ofyn.
Ydw, rwy'n hapus i gael y cyfarfod hwnnw.
Wel, os oes angen prawf, mae'r datganiad yma, yn fy marn i, yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn mynd rownd a rownd mewn cylchoedd ar Betsi Cadwaladr. Rŷch chi'n tincro gyda'r symptomau yn lle mynd i'r afael yn fwy sylfaenol â'r salwch sy'n llethu gwasanaethau ar draws y gogledd.
Sawl gwaith ydym ni wedi bod yma o'r blaen o ran Betsi Cadwaladr, Gweinidog? Sawl gwaith y mae'n rhaid i ni ddod yma, ac, a dweud y gwir, gwrando ar eich datganiadau torri a gludo am ymyraethau mwy penodol, mwy o gyfarwyddwyr newydd, mwy o gyfarfodydd teirochrog? Rydych chi fel record wedi torri. Mae'n ddatganiad yr ydych chi a'ch rhagflaenwyr wedi'i wneud ar wahanol ffurfiau dro ar ôl tro, fis ar ôl mis, am y rhan fwyaf o'r degawd diwethaf. Mae gweithwyr rheng flaen yn y gogledd yn gwneud gwaith arwrol, ond mae eu Llywodraeth yn poeni am fanion wrth i ni wynebu argyfwng. A wnewch chi dderbyn bod yr amser wedi dod nawr i ystyried yn fwy sylfaenol sut y caiff gwasanaethau eu cyflunio ledled y gogledd? Ac, edrychwch, os y casgliad yw mai'r model presennol hwn yw'r gorau y gallwn ni fod, yna boed felly—fe wnaf i dderbyn hynny. Ond tan i chi fel Llywodraeth gychwyn y drafodaeth honno, yna bydd yn rhaid i chi gael eich llusgo'n ôl i'r Siambr hon fis ar ôl mis, i roi mwy o'r un esgusodion a mwy o'r un rwtsh i ni.
Rwy'n credu y byddai ad-drefnu ar hyn o bryd yn gostus, byddai'n tynnu sylw oddi wrth y materion pwysig sy'n ymwneud â gofal wedi'i gynllunio, byddai'n dargyfeirio adnoddau, ac mae fy ffocws ar hyn o bryd ar ofal cleifion. Nid oes dim byd wedi'i 'dorri a'i gludo' ynghylch y datganiad hwn; gallaf i eich sicrhau chi fy mod i wedi treulio llawer o amser yn gweithio arno. Rwy'n credu y byddaf i'n parhau i ganolbwyntio, fel y gwnaiff y bwrdd, rwy'n siŵr, ar sicrhau ein bod ni'n gwneud y gorau dros bobl y gogledd, ac nid ad-drefnu costus yw'r ateb.
Diolch am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog. Y gwirionedd trist yw, yr oedd Ysbyty Glan Clwyd, yn ôl yn yr 1980au a'r 1990au, yn un o'r ysbytai a oedd yn perfformio orau nid yn unig yng Nghymru ond yn y DU, felly mae'n drist gweld sut y daeth tro ar fyd, a dweud y lleiaf.
Dim ond ychydig o gwestiynau sydd gennyf i y prynhawn yma. A ydych chi'n credu'n ddiffuant y gall y mesurau hyn yr ydych chi wedi'u hamlinellu sicrhau gwelliannau'n gyflym ac mewn modd amserol? A pha gymorth ychwanegol fydd ar gael i fy etholwyr sy'n gweithio yn YGC? Wedi'r cyfan, nid methiant y staff sy'n gweithio ar y rheng flaen yw hyn, mae'n fethiant o ran arweinyddiaeth—gormod o reolwyr canol a biwrocratiaid. A ydych chi'n ffyddiog y gall yr arweinyddiaeth ddarparu gwasanaethau mwy diogel a gwell? Ac fel y dywedwch chi yn eich datganiad, mae pryderon ynghylch morâl a llesiant y gweithlu, felly pa gamau ydych chi'n eu cymryd i fonitro llesiant y staff sy'n gweithio yn YGC a pha offerynnau ydych chi'n mynd i'w defnyddio i fesur hynny dros gyfnod parhaus o amser? Ac a fydd staff YGC yn cael cynnig mesurau adrodd allanol nes bydd y diwylliant o fewn y bwrdd iechyd yn gwella? Ac, yn olaf, Gweinidog, rydych chi wedi gofyn i'r bwrdd iechyd greu cyfarwyddwr diogelwch a gwella newydd. O ystyried y materion recriwtio sy'n wynebu'r bwrdd, pryd ydych chi'n rhagweld y bydd y swydd yn cael ei llenwi a sut y bydd y cyfarwyddwr newydd yn gallu sbarduno'r gwelliannau hyn y mae wir eu hangen? Diolch.
Diolch yn fawr. Mae rhai pethau, Gareth, yr wyf i'n disgwyl iddyn nhw wella'n gyflym iawn. Rwy'n credu bod rhai gwelliannau eisoes wedi digwydd o ran y gwasanaeth fasgwlaidd. Bydd eraill a fydd yn cymryd mwy o amser. Mae'r newid diwylliannol sy'n angenrheidiol o fewn y sefydliad—y ffaith ei fod yn derbyn bod angen iddo fod yn sefydliad sy'n gwella ei hun—yn rhywbeth na fydd yn bosibl ei newid dros nos, ond mae'n rhywbeth yr wyf i'n disgwyl gweld gwelliannau ynddo. Mae'r mater y gwnaethoch chi gyfeirio ato o ran penodi cyfarwyddwr newydd ar gyfer gwella yn rhywbeth y gwnaethom ni ei drafod gyda'r prif weithredwr a'r cadeirydd ddydd Mawrth diwethaf, ac maen nhw nawr wedi mynd i ffwrdd i ystyried sut yn union y byddai hynny'n gweithio o fewn y sefydliad gweithredol sydd ganddyn nhw eisoes.
Ac yn olaf, Sam Rowlands.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw. Cyn i mi fynd i hanfodion fy sylwadau, hoffwn i gael rhywfaint o eglurder gan y Gweinidog ynghylch y datganiad bod defnyddio Gwelliant Cymru dim ond wedi bod yn bosibl oherwydd iddo gael ei gyflwyno yn 2019. Deallais i fod yr ymgyrch 1000 o Fywydau, sef yr enw blaenorol, wedi bod o gwmpas ers cryn amser, felly efallai y gallech chi ymateb i hynny mewn eiliad.
Fel y dywedwch chi yn eich datganiad, Gweinidog, mae'r sefyllfa ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn annerbyniol ac mae angen gwaith ac ymdrech sylweddol arno. Mae hynny wedi'i ysgrifennu, mewn ffordd, fel ei fod yn newyddion newydd, ond rydym ni wedi bod yn dweud hyn ers blynyddoedd, fel y mae Aelodau eisoes wedi'i ddweud. Rydych chi'n hollol gywir yn tynnu sylw at y ffaith bod llawer o'r materion wedi'u codi yn y Siambr hon gan Aelodau o bob plaid, a'r rheswm dros hyn yw ein bod ni'n cynrychioli trigolion, weithiau ein teulu ein hunain, ein ffrindiau ein hunain, ein hanwyliaid, sy'n dal i gael eu siomi gan y diffyg mynediad hwn at wasanaethau iechyd o safon yn y gogledd, sef eich cyfrifoldeb chi a chyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yn y pen draw. Fy mhryder i yw y bydd llawer o fy nhrigolion yn meddwl mai dim ond siarad yn unig o gyfeiriad Llywodraeth Cymru sydd o ran gweld gwelliannau. Felly, rwyf i eisiau gwybod, Gweinidog, sut y byddwch chi'n bersonol yn cael sicrwydd y bydd y gwelliannau hyn yn digwydd ac y bydd pobl y gogledd yn gweld y gwelliannau radical y mae angen i ni eu gweld?
Diolch yn fawr. Yn gyntaf oll, o ran Gwelliant Cymru, rydych chi'n hollol gywir mai sefydliad a ganolbwyntiodd o'r blaen ar y rhaglen 1000 o Fywydau ydoedd, sef rhaglen ddiogelwch i gefnogi byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yn eu hymdrechion i leihau niwed, gwastraff ac amrywiadau mewn gofal iechyd yng Nghymru. Roedd hynny'n cynnwys gwaith ar ddileu briwiau pwyso a gafwyd yn yr ysbyty, asesu cleifion ar gyfer risg o thrombosis gwythiennau dwfn, a sicrhau bod rhestr wirio llawfeddygaeth fwy diogel Sefydliad Iechyd y Byd yn cael ei gweithredu ym mhob theatr lawfeddygol. Nawr, yr hyn nad oedd yn ei wneud yw'r dull gweithredu ehangach hwn yr ydym ni'n sôn amdano nawr, a dyna a newidiodd yn 2019 pan gafodd Gwelliant Cymru ei ddatblygu ar ei ffurf bresennol.
Rydych chi'n hollol gywir, Sam, i ganolbwyntio ar yr angen i wella'r gwasanaethau sy'n cael trafferthion. Dyna'n union yr ydym ni'n ceisio'i wneud â'r dull hwn. Byddaf i'n goruchwylio hyn yn bersonol, gan gael fy nghyfarfodydd rheolaidd, fel y gwnes i eto y bore yma, ddoe. Yr wythnos diwethaf, cefais i gyfarfod gyda'r cadeirydd. Cefais i gyfarfod arall gyda chadeirydd Betsi y bore yma. Felly, mae deialog barhaus yn digwydd rhyngof fi a chadeirydd y bwrdd iechyd. Yn amlwg, bydd fy swyddogion i'n gwneud yr un peth ar lefel weithredol, a gallaf i eich sicrhau y byddaf i'n ymyrryd yn bersonol i sicrhau eu bod yn cadw ar y trywydd iawn.
Hoffwn i ddweud un peth arall, a hynny yw: gadewch i ni wneud yn siŵr bod pobl yn ymwybodol bod degau o filoedd o bobl yn llythrennol yn cael eu gweld yn fisol ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr sydd mewn gwirionedd yn cael gofal da—
Wel, byddai'n dda gennyf i pe bydden nhw'n dod i fy ngweld i yn fy swyddfa.
Wel dydyn nhw ddim, a dyna'r pwynt. A dyna'r pwynt. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nad ydym yn colli golwg ar y ffaith bod yna bobl, mewn gwirionedd, sy'n fodlon ar y gefnogaeth a'r gwasanaeth y maen nhw yn eu cael yn Betsi.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 6 prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, mynd i'r afael â hiliaeth sefydliadol a systemig, 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', a galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fis Hydref diwethaf, cymeradwyodd y Senedd gyfan gynnig i gefnogi'n llwyr y frwydr fyd-eang i ddileu hiliaeth ac ideoleg hiliol ac ymdrechu tuag at Gymru fwy cyfartal, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol systemig a strwythurol. Yn dilyn ein hymgynghoriad y llynedd, rydym wedi parhau i gyd-ddylunio gyda phobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ledled Cymru y camau y mae'n rhaid i ni eu cymryd i fynd i'r afael â hiliaeth sefydliadol a systemig. Felly, rwy'n falch o fod yn cyhoeddi heddiw 'Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'. Wrth ei wraidd mae gweledigaeth gyffredin i greu cenedl wrth-hiliol erbyn 2030, lle mae pawb yn cael eu trin fel dinasyddion cyfartal ac yn gallu ffynnu a llwyddo.
Mae'r cynllun yn nodi'r nodau a'r camau y byddwn yn eu cymryd dros y 24 mis nesaf, gan ymdrin â phob agwedd ar fywyd cyhoeddus sy'n llywio ac yn dylanwadu ar brofiad a chyfleoedd bywyd pobl o leiafrifoedd ethnig. Rydym eisiau sicrhau ein bod yn parhau i gerdded yn esgidiau pobl sydd â phrofiad bywyd, a bod profiadau unigolion a chymunedau yn parhau i lunio ein ffordd o feddwl a'r penderfyniadau a wnawn. Datblygwyd y cynllun gennym drwy gynnwys pobl a chymunedau ac mewn cydweithrediad â sefydliadau ar draws pob rhan o Gymru, a bydd hyn yn parhau wrth i ni symud tuag at ei weithredu.
Er mwyn rhoi'r ffydd angenrheidiol a pharhaus bod y cynllun hwn yn cael ei weithredu, bydd grŵp atebolrwydd yn cael ei sefydlu, dan arweiniad yr Athro Emmanuel Ogbonna, o Brifysgol Caerdydd, a Dr Andrew Goodall, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru. Bydd yn cynnwys pobl o leiafrifoedd ethnig yn bennaf, a chaiff ei gryfhau ymhellach drwy gynnwys arbenigwyr sydd â phrofiad bywyd o hiliaeth, a bydd yn elwa ar dystiolaeth a mewnwelediad a gydlynir o'n huned gwahaniaethau ar sail hil a sefydlwyd yn ddiweddar.
Roeddem yn gwybod bod angen i ni lunio'r nodau a'r camau gweithredu gyda phobl o leiafrifoedd ethnig, felly gwnaethom sicrhau bod gwerthfawrogi profiad bywyd yn un o'r gwerthoedd sy'n sail i'r ffordd y gwnaethom ddatblygu'r cynllun. Ac, yn gwbl briodol, gofynnwyd i ni hefyd gofleidio gwerthoedd dull gweithredu sy'n seiliedig ar hawliau a bod yn agored ac yn dryloyw. Mae disgwyliadau pobl o leiafrifoedd ethnig yn glir: maen nhw eisiau gweld gweithredu sy'n gwneud gwahaniaeth ystyrlon i'w bywydau. Mae dull gwrth-hiliol yn newid sylfaenol y mae angen i ni ei fabwysiadu. Mae mabwysiadu dull gwrth-hiliol yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru, gwasanaethau cyhoeddus a ninnau i gyd fod yn rhagweithiol wrth nodi a mynd i'r afael â hiliaeth systemig ym mhob agwedd ar sut mae Cymru'n gweithio. Mae angen i ni edrych ar sut y caiff hiliaeth ei chynnwys yn ein polisïau, ein rheolau ffurfiol ac anffurfiol, a'r ffordd yr ydym yn gweithio ac yn cynnwys pobl yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw, ac yna gwneud rhywbeth yn ei gylch.
Bydd y cynllun hwn yn chwarae rhan bwysig wrth greu Cymru unedig a thecach i bawb. Mae hwn yn ymrwymiad sydd wrth wraidd y cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, gan rannu penderfyniad i fynd i'r afael â hiliaeth sefydliadol a systemig yn awr, gan fod hiliaeth yn nodwedd niweidiol o brofiad bywyd pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae'r cytundeb gyda Phlaid Cymru hefyd yn ein hymrwymo i sicrhau bod elfennau cyfiawnder y cynllun gweithredu mor gadarn â phosibl ac yn mynd i'r afael â'r materion hyn gyda'r heddlu a'r llysoedd. Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid o'r bwrdd cyfiawnder troseddol yng Nghymru i ddatblygu a sefydlu'n llawn ddull gwrth-hiliol ar y cyd o ymdrin â chyfiawnder troseddol yng Nghymru. Rhaid i ni hefyd sicrhau nad yw'r profiad o hiliaeth yn cael ei drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol. Ni ddylid dal unrhyw un yn ôl na'i adael ar ôl.
Rhoddodd llawer o bobl eu hamser gwerthfawr a'u profiadau i lunio'r cynllun. Yn gynharach heddiw, ymunais â'r Prif Weinidog am foment gyda rhanddeiliaid i ddiolch i bawb am eu cyfraniad i'r gwaith hwn. Rwyf innau, gyda llawer ohonoch, eisiau cydnabod parodrwydd pobl o leiafrifoedd ethnig i ymestyn eu hymddiriedaeth i sicrhau'r posibilrwydd o newid ac i ddarparu eu harweinyddiaeth a rhannu eu profiadau bywyd i helpu i wneud y cynllun hwn yr hyn ydyw.
Hoffwn gofnodi fy niolch i'r Athro Ogbonna a'r Ysgrifennydd Parhaol fel cyd-gadeiryddion y grŵp llywio am y gwaith hwn ac i holl aelodau'r grŵp llywio sydd wedi helpu i lunio ac arwain y gwaith hwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Roedd haelioni'r cyfraniadau hynny a'r hyn yr oedd pobl yn barod i'w rannu'n rhydd i sicrhau newid, yn ysbrydoledig.
Drwy'r cynllun hwn, rydym yn amlygu'r cyfraniad y bydd y Llywodraeth hon yn ei wneud i fynd i'r afael â hiliaeth systemig a sefydliadol. Er mwyn cyflawni'r nod llesiant mwy cyfartal i Gymru a chenedl wrth-hiliol erbyn 2030, bydd angen ymdrech ar y cyd. Bydd gwelliannau gwirioneddol yn deillio o newid o fewn gwasanaethau cyhoeddus ac yn y rhai sydd mewn swyddi â phŵer.
Rydym yn gwneud hyn gan gydnabod yr arweinyddiaeth aruthrol o fewn y cymunedau lleiafrifoedd ethnig a'r arweinyddiaeth ar bob lefel—fel unigolion, fel arweinwyr gwleidyddol, fel gweithredwyr cymunedol, fel academyddion ac fel arweinwyr sefydliadau. Mae pobl o leiafrifoedd ethnig, ers cenedlaethau, wedi cyfrannu at bob agwedd ar ein heconomi, addysg, gofal cymdeithasol, a threftadaeth ddiwylliannol a chwaraeon, i enwi dim ond ychydig.
Gweithiodd arweinwyr a gweithredwyr gweledigaethol fel Betty Campbell gydag angerdd i fod yn enghraifft dda i weddill y byd o sut y gallwn fyw gyda'n gilydd ni waeth o ble yr ydym yn dod neu liw ein croen. Mae gwaith arloesol yr Athro Charlotte Williams yn golygu bod dysgu am dreftadaeth ddiwylliannol ac amrywiaeth ethnig Cymru bellach yn elfen orfodol o'n cwricwlwm cenedlaethol.
Ni fyddai llawer o'n gwasanaethau allweddol, fel ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, yn bosibl heb i bobl o leiafrifoedd ethnig weithio ynddyn nhw, ac yn ystod COVID-19 byddem wedi bod ar goll heb y gweithlu hwn.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu'r arweinyddiaeth, ein hadnoddau a'n dylanwad i fynd i'r afael â hiliaeth systemig a sefydliadol yng Nghymru. Mae hwn yn gynllun Llywodraeth gyfan, gydag ymrwymiadau a chamau gweithredu ar draws portffolios Gweinidogion ac o fewn gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru. Adlewyrchir hyn yn y datganiadau a wnaed heddiw gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip, gan fwrw ymlaen â chamau gweithredu allweddol o fewn y cynllun gwrth-hiliol.
Rydym yn gofyn i bawb weithio gyda ni i greu Cymru wrth-hiliol, Cymru lle gallwn i gyd fod yn falch o berthyn ac y bydd pob un ohonom yn ffynnu ynddi.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Er gwaethaf ymdrechion blaenorol Llywodraeth Cymru i ddileu hiliaeth yng Nghymru, mae nifer y troseddau casineb â chymhelliant hiliol ar gynnydd. Amcangyfrifir bod gan 65 y cant o droseddau casineb gymhelliant hiliol. Mae'r mathau hyn o ffeithiau wedi arwain rhai i ystyried Cymru fel y wlad fwyaf hiliol yn y Deyrnas Unedig. Mae llawer o bobl ifanc o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn credu bod hiliaeth dim ond yn rhan o fywyd arferol iddyn nhw ac na fydd unrhyw gynllun gan y Llywodraeth yn atal yr hiliaeth a gânt.
Mae hyn yn wirioneddol drist. Canfu adroddiad gan y BBC ar hiliaeth yng Nghymru nad yw pobl ifanc yn gyffredinol bob amser yn teimlo'n ddiogel pan fyddan nhw'n gadael eu cartrefi, gan ofni yr hyn a allai ddigwydd iddyn nhw. Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru yn cael eu tanseilio gan amharodrwydd yr heddlu yng Nghymru a Lloegr i gydnabod hiliaeth sefydliadol o fewn eu sefydliadau. Mae hyn er gwaethaf cwynion am leiafrifoedd ethnig ifanc yn dioddef anafiadau yn ystod eu cyfnod yn nalfa'r heddlu.
Yn aml, gall y berthynas ag asiantaethau gorfodi a gwasanaethau ar lawr gwlad ddylanwadu'n fawr ar ymddiriedaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys polisïau'r Llywodraeth. Er bod y cymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cyfrif am tua 6 y cant o boblogaeth Cymru, dim ond 3 y cant o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig sy'n cael eu penodi i swyddi cyhoeddus. O fewn y farchnad swyddi gyffredinol, enillodd cyflogeion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig 7.5 y cant yn llai na'u cymheiriaid gwyn. Gall yr holl faterion hyn greu goblygiadau mawr i iechyd meddwl a chorfforol pobl o bob oed o leiafrifoedd ethnig. Mae'r syniad o hunan-werth a derbyn yn bethau yr ydym i gyd eisiau eu cael. I leiafrifoedd ethnig, mae'r ofnau hyn weithiau'n realiti trist.
Fy nghwestiwn i'r Gweinidog yw: mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymdrechion blaenorol i roi terfyn ar hiliaeth a gwahaniaethu yng Nghymru; gyda'u rhaglen newydd, a all y Gweinidog amlinellu'r hyn y maen nhw wedi'i wneud yn wahanol i baratoi cynllun i fynd i'r afael â'r problemau y maen nhw wedi methu â'u datrys o'r blaen? Diolch.
Wel, diolch yn fawr iawn, Altaf Hussain, am eich cyfraniad a'ch cwestiynau. Dechreuais fy natganiad drwy gyfeirio mewn gwirionedd at y ddadl honno a gynhaliwyd gennym y llynedd, pan wnaethom ni, y Senedd gyfan—. Yn wir, rwy'n cofio siarad â Darren Millar am y cynnig yr oeddem ni i gyd yn cytuno arno, bob plaid, fel y gwnaethom ni y flwyddyn flaenorol. Fe wnaethom ni gefnogi'r cynnig hwnnw'n llwyr i ymuno yn y frwydr i ddileu hiliaeth ac ymdrechu tuag at Gymru fwy cyfartal. Ac rwy'n credu y bydd y cynllun hwn yn ein helpu i gyflawni hyn mewn gwirionedd. Ni allwn gael dadl bob blwyddyn heb y math o newid yr ydych chi'n gwybod ac yr ydym ni'n gwybod bod rhaid i ni fynd i'r afael ag ef o ran yr hiliaeth sy'n difetha bywydau pobl yng Nghymru. A dyna pam yr ydym wedi bod yn glir iawn mai 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' yw hwn ac mae ganddo gyfres gadarn o gamau gweithredu i'n helpu ni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymru.
Nawr, mae hwn yn fater o arweinyddiaeth; mae'n fater o gynrychiolaeth. Y bore yma cawsom 300 o bobl yn ymuno â'n lansiad rhithwir ac roedd pobl yn cytuno, er enghraifft, â'r ymgyrch dim goddefgarwch o ran hiliaeth, a arweiniwyd gan Gyngor Hil Cymru a TUC Cymru. Roedd pobl o bob rhan o Gymru yno. Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol Gogledd Cymru—yr Athro Robert Moore—wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sicrhau bod gennym ddull Cymru gyfan o ymdrin â hyn, yn ogystal â'r holl sefydliadau cymunedol a ariannwyd gennym, gyda'r mentoriaid cymunedol ym mhob rhan o Gymru a gyfrannodd mewn gwirionedd at sicrhau bod y camau hyn, y nodau hyn, yn rhan o'r cynllun. Fe'i datblygwyd ar y cyd, ynghyd â phobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ac, os cawn hyn yn iawn, yna gallwn ddod yn wirioneddol wrth-hiliol.
Rhaid i ni gael gwared ar bolisïau, systemau, strwythurau a phrosesau sy'n arwain at ganlyniadau gwahanol iawn i bobl o leiafrifoedd ethnig. Rwyf eisoes wedi sôn am y ffaith bod gennym gyfraniad cyfoethog gan bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn ein cymdeithas, a gellir ei deimlo ym mhobman, ym mhob agwedd ar fywyd, ond nid oes digon wedi'i wneud i sicrhau bod pawb yn gallu chwarae eu rhan, a chael y cyfle hwnnw a'r hyder hwnnw nad ydyn nhw'n mynd i wynebu rhwystrau wrth iddyn nhw dyfu, wrth fynd drwy'r ysgol, addysg, cyfleoedd. Mae'n bwysig bod gennym y nodau a'r canlyniadau hynny.
Rwy'n credu eich bod wedi cyfeirio mewn gwirionedd at faterion sy'n ymwneud â throseddu a chyfiawnder. Nawr, nid yw'r rhain wedi'u datganoli. Rwy'n cyd-gadeirio'r bwrdd partneriaeth plismona gyda'r Prif Weinidog, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, mewn gwirionedd, ein bod yn gweithio gyda'n gilydd, o ran materion sydd wedi'u datganoli a heb eu datganoli, ein bod yn ceisio mynd i'r afael â hyn, oherwydd bydd cynllun gweithredu gwrth-hiliol cyfiawnder troseddol yng Nghymru, ochr yn ochr â'n cynllun gweithredu gwrth-hiliol ni, yn hollbwysig o ran sicrhau bod ein partneriaid ym maes cyfiawnder troseddol—. Ac, wrth gwrs, byddai'n well gennym pe baem yn gyfrifol am gyfiawnder, ac yn mynd ar drywydd yr achos—ac, yn wir, am blismona, fel, nid eich plaid chi, fel y cefnogodd y Siambr hon ychydig wythnosau'n ôl. Ond rwy'n credu, pan gyhoeddir hyn, y byddwch yn croesawu, rwy'n siŵr, y cynllun gweithredu gwrth-hiliol cyfiawnder troseddol, oherwydd y comisiynwyr heddlu a throseddu a'r prif gwnstabliaid hynny sydd wedi cytuno i fabwysiadu'r dull hwn, a'r hyn yr hoffen nhw ei weld yw un dull gweithredu gwasanaeth cyhoeddus o hyrwyddo cydraddoldeb hiliol ledled Cymru.
Rwyf eisiau dweud, o ran troseddau casineb, ein bod yn ariannu canolfan cymorth casineb Cymru. Mae'n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru—cymorth 24/7, eiriolaeth a chyngor, a hefyd dyma'r gwasanaeth cyntaf yn y DU i gynnig gwasanaeth troseddau casineb cenedlaethol sy'n ystyriol o blant a phobl ifanc. Ac, wrth gwrs, mae'r ymgyrch, mewn gwirionedd, yn rhan o'n hymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru, yr ydym wedi edrych arni, ac mae'n mynd i'n helpu i nodi lle mae angen i ni fynd i'r afael â phroblemau. Tynnodd yr ymgyrch sylw at effaith negyddol iawn troseddau casineb ar ddioddefwyr yn eu bywydau eu hunain, a chyfeiriodd hefyd at y gwylwyr nad ydyn nhw mewn gwirionedd yn tynnu sylw at hiliaeth yr ydym i gyd yn gwybod amdani. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn gweld bod troseddau casineb hiliol yn cael eu cofnodi yng Nghymru, a bod ein hystadegau troseddau casineb cenedlaethol wedi dangos cynnydd, ond mae hefyd yn tynnu sylw at pam y mae angen ein gwaith yn y maes hwn, a dyna pam mae ein prosiect troseddau casineb mewn ysgolion mor bwysig, a'n rhaglen cydlyniant cymunedol hefyd. Felly, dyma lle yr ydym yn teimlo y bydd Cymru'n arwain y ffordd gyda'n cynllun gweithredu gwrth-hiliol, ac rydym eisiau i chi fod yn rhan o hyn, ac rwy'n siŵr y byddwch chi.
Mae'n ffaith drist, onid yw hi, ei bod wedi cymryd pandemig byd-eang a mudiad a ddaeth i fodolaeth yn dilyn llofruddiaeth erchyll yn yr Unol Daleithiau, sef un George Floyd, i agor llygaid llawer yng Nghymru i wirionedd amlwg anghydraddoldeb hiliol a'i ganlyniadau dinistriol yn rhy aml o lawer—gwirionedd y mae miloedd o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru yn ei fyw, profiad bob dydd o fyw gyda rhagfarn, gydag anfantais, gydag ofn. Mae cymaint o adroddiadau, cymaint o ymchwil, y mae llawer ohonom wedi'u dyfynnu yma mewn nifer o ddadleuon, wedi dangos y gwirionedd hwn ac wedi dangos pam nad oedd dull gweithredu a gweithredu strategaethau blaenorol yn ddigonol.
Mae'n sicr bod amcanion y cynllun gweithredu gwrth-hiliol i'w croesawu, ac mae Plaid Cymru yn falch o fod wedi bod yn rhan o'r gwaith o lunio'r cynllun drwy ein cytundeb cydweithredu â'r Llywodraeth. Roedd clywed yr Athro Ogbonna yn siarad am ddull arloesol y cynllun yn y lansiad y bore yma yn foment na fyddaf yn ei anghofio. Roedd yn egluro potensial Cymru fel cenedl i arwain yn annibynnol fel hyn ym maes cyfiawnder cymdeithasol. Mae'r pwyslais cadarn yn y cynllun ar yr angen i fynd i'r afael â hiliaeth strwythurol a sefydliadol yn hanfodol os ydym am weld newid gwirioneddol a hirsefydlog—yr hiliaeth sefydliadol o fewn sefydliadau a systemau cymdeithasol trosfwaol sy'n arwain at ganlyniadau annheg ac sy'n ymestyn y tu hwnt i'r rhagfarn y gellir ei nodi a'i dileu yn haws.
Rwy'n croesawu'r gydnabyddiaeth yn y cynllun fod yn rhaid i ni wneud pethau'n wahanol os ydym ni eisiau gweld canlyniadau gwahanol, a'r angen i osod nodau, eu hadolygu a'u monitro'n well er mwyn sicrhau camau hyblyg, cadarn a sylweddol a fydd yn cael effaith wirioneddol ar fywydau pobl. O ystyried bod gweithredu wedi'i nodi fel methiant mawr mewn strategaethau yn y gorffennol, beth fydd yn sicrhau atebolrwydd a thryloywder o ran mesurau a nodau'r cynllun? A wnaiff y Gweinidog sicrhau bod adborth y grŵp atebolrwydd allanol, er enghraifft, yn cael ei wneud yn gyhoeddus mewn adroddiadau rheolaidd i'r Senedd? Sut y bydd lleisiau pobl gyffredin, cymunedau cyffredin, yn parhau i gael eu clywed nawr bod y cynllun hwn bellach wedi'i gyhoeddi?
Erbyn 2030 nod y cynllun yw i'n cenedl fod yn rhydd o'r casineb hwnnw sy'n creithio, yn gormesu ac yn oedi breuddwydion. Rhaid i ni gydnabod nad yw'n ddigon i sicrhau bod yr hiliaeth strwythurol sy'n bodoli yn ein cymdeithas yn cael ei dileu; rhaid i ni ei hatal rhag ymwreiddio yn y lle cyntaf. Ac mae'n dechrau, rwy'n credu, gyda'n dinasyddion ieuengaf, sy'n cynrychioli ein dyfodol.
Mae'r angen i adrodd am ddigwyddiadau hiliol ac aflonyddu mewn ysgolion a cholegau drwy gasglu data cryfach i'w groesawu'n fawr, felly. Ond hoffwn ddeall pam y bydd hyn yn cymryd tan flwyddyn i fis Medi nesaf i newid. Mae'r achos ofnadwy a brawychus diweddar o fwlio hiliol Raheem Bailey wedi dangos yr angen dybryd i ni fynd i'r afael â'r broblem hon yn ein hysgolion, a heb adrodd yn ddigonol rydym yn mynd i'r afael â'r mater hwn yn ddall. Felly, beth mae'r cynllun yn ei ddweud wrth bobl ifanc a allent gael eu clwyfo a'u dychryn am oes gan y profiadau ofnadwy hyn, na allant aros am effeithiau'r cwricwlwm newydd i addysgu a goleuo eu cyfoedion, a gyda thros flwyddyn i fynd cyn i'r systemau ysgol gyfan gael eu rhoi ar waith i ddechrau'r broses a all sicrhau newid systemig go iawn?
Un o'r mesurau i sicrhau bod addysg bellach a dysgu oedolion cyson o ansawdd uchel ar waith i ddiwallu anghenion mewnfudwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches yw comisiynu adolygiad o'r polisi Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill. O ystyried bod y cynllun yn cydnabod yr angen i ddileu'r rhwystrau rhag addysg cyfrwng Cymraeg i bobl o leiafrifoedd ethnig, a ddylai hwn hefyd gynnwys gwersi Cymraeg am ddim?
Mae'r nod o gynyddu nifer y bobl o leiafrifoedd ethnig mewn swyddi cyhoeddus a swyddi etholedig hefyd yn un sy'n hanfodol er mwyn sicrhau sefydliadau a systemau gwrth-hiliol. Mae'r cynllun yn cynnwys mesur i ehangu mynediad i gronfa swyddi etholedig ar gyfer yr etholiadau llywodraeth leol nesaf yn 2027. Felly, pam nad yw'r cynllun yn cynnwys mesurau i gynyddu amrywiaeth a chynrychiolaeth ethnig fel rhan o'r mesurau i ddiwygio'r Senedd sydd ar y gweill, ac a wnaiff y Llywodraeth ddadlau o blaid gwneud hyn ar gyfer etholiadau nesaf y Senedd?
Yn olaf, mae'r cynllun, a hynny'n briodol, yn rhoi pwyslais mawr ar y system cyfiawnder troseddol fel maes lle mae anghyfiawnder hiliol o ran ei driniaeth o bobl o leiafrifoedd ethnig, a'r canlyniadau. Gwyddom hyn yn rhannol oherwydd ymchwil Canolfan Llywodraethiant Cymru ac eraill. Felly, a wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ba waith ymchwil ychwanegol sydd ei angen i sicrhau bod y cynllun yn cyflawni'r camau gofynnol y dylid eu cymryd yn unol â nodau'r cynllun a'r ymrwymiad yn y cytundeb cydweithredu?
Mae'r cynllun yn nodi
'dim ond pan fyddwn yn llwyr gyfrifol am oruchwylio’r system gyfiawnder yng Nghymru y gallwn gysoni sut mae’n gweithredu ag anghenion a blaenoriaethau cymunedau ethnig lleiafrifol Cymru.... mai datganoli’r heddlu a’r system gyfiawnder yw’r ffordd fwyaf cynaliadwy o greu system gyfiawnder sy’n wrth-hiliol ac yn diwallu anghenion amrywiol pobl yng Nghymru yn llawn.'
Yn sicr dyma yw nod y cynllun yn y pen draw. Yng ngeiriau Coretta Scott King,
'Does dim ots pa mor gryf yw eich barn. Os nad ydych yn defnyddio'ch pŵer ar gyfer newid cadarnhaol, rydych yn wir yn rhan o'r broblem.'
Er mwyn mynd i'r afael yn wirioneddol â'r casineb a'r anghyfiawnder sy'n poeni, yn llesteirio ac yn cywilyddio ein cymdeithas, a'r systemau sy'n caniatáu hyn, rhaid i ni fod yn unedig wrth ddefnyddio'r pŵer sydd gennym i gymryd y pŵer sydd ei angen arnom. Diolch.
Diolch i chi am ddatganiadau mor bwerus, sydd yn wir yn dangos cryfder y broses o ddod at ein gilydd yn ein cytundeb cydweithredu, am bwysigrwydd cryfder, y credaf y gallai ddod o bob rhan o'r Siambr hon, ond rhaid ei gyflawni o ganlyniad i'n hymrwymiad ar y cyd a rhannu ein nodau a'n gwerthoedd yn y cytundeb cydweithredu. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ei fod yn cael ei fynegi a'i fod yn glir i'r cyhoedd fel ymrwymiad proffil uchel, 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', yn ein rhaglen lywodraethu a'r cytundeb cydweithredu. Rwy'n falch ein bod wedi cael trafodaethau cynhyrchiol, rydych wedi cael cyfle i adolygu 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', ac mewn gwirionedd rydych chi wedi dylanwadu ar y ffaith bod troseddu a chyfiawnder yn cael sylw arbennig. Rwyf wedi ymateb i rai o'r pwyntiau hynny, o ran ein penderfyniad i—. Er nad yw wedi'i ddatganoli, rydym yn symud ymlaen gyda'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, comisiwn Thomas, ond hefyd mae'r adroddiad a lofnodwyd ar y cyd yn ddiweddar gan y Cwnsler Cyffredinol a minnau, ac rydym yn bwrw ymlaen â hyn o ran y cyfleoedd sydd gennym i ddylanwadu ar y system gyfiawnder yng Nghymru.
Rwy'n credu bod y pwysigrwydd, mewn gwirionedd, eich bod yn canolbwyntio ar nifer o feysydd polisi yn hollbwysig, ond rhaid iddo ymwneud ag arweinyddiaeth. Gwnaethom benderfynu, o ganlyniad i'r ymgynghoriad—ymgynghoriad helaeth—nad yw gweithredu ar gydraddoldeb hiliol yn ddigon; rhaid ei nodi'n glir iawn fel cynllun gweithredu gwrth-hiliol. Rhaid i bobl gofleidio a chydnabod, fel y gwnawn ni yn y Llywodraeth, yr hiliaeth sefydliadol a systemig sydd mewn gwirionedd yn dal pobl yn ôl ac sy'n effeithio ar bob munud o bob diwrnod o'u bywydau. Rydym wedi dysgu hyn o weithio gyda'r bobl yr ydym wedi gweithio gyda nhw o ran y grŵp llywio, fforwm hil Cymru, yr wyf wedi bod yn gweithio gydag ef ers blynyddoedd lawer, a alwodd am i hyn fod yn gynllun gweithredu—nid strategaeth arall, ond yn gynllun gyda'r nodau a'r camau hynny i'w datblygu.
Felly, mae arweinyddiaeth o fewn Llywodraeth Cymru ac ar draws y sector cyhoeddus yn hanfodol, a dim goddefgarwch o ran hiliaeth ledled y sector cyhoeddus. A hefyd, dim ond dwy flynedd a hanner yn ôl, lansiwyd y strategaeth amrywiaeth a chydraddoldeb ar gyfer ein penodiadau cyhoeddus. Ei henw oedd, 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru'. Gwyddom fod gennym lawer i'w wneud i adlewyrchu Cymru wrth redeg Cymru, ond os gallwn weld y newid hwnnw erbyn 2030—. Mae gennym bŵer dros hyn, gallwn wneud y newidiadau hynny, ond mae angen nodau a chamau gweithredu arnoch i wneud hyn. Mae angen i ni ddileu'r rhwystrau ac mae angen i ni ddefnyddio'r holl ddulliau sydd gennym ni.
Mae llawer o faterion yn ymwneud ag addysg, a gwn y bydd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn sôn amdanyn nhw ac yn ymateb iddyn nhw yn ei ddatganiad. Ond, mae gennym lythyrau cylch gwaith, mae gennym drefniadau ariannol, ac, yn bwysig, fel y dywedoch chi, mae gennym grŵp atebolrwydd newydd—byddwch wedi clywed am hwnnw y bore yma. Mae'r Athro Emmanuel Ogbonna, a helpodd i gyrraedd y pwynt hwn, gan gyd-gadeirio â'r Ysgrifennydd Parhaol, wedi'i gwneud yn glir o'r dechrau bod angen yr atebolrwydd hwnnw arnom. Mae arnom angen grŵp atebolrwydd newydd, a gallaf eich sicrhau chi y byddaf yn sicrhau ein bod yn rhoi adborth i'r Senedd. Gwn y byddan nhw eisiau rhoi adborth, rwy'n siŵr, i bwyllgorau ac i'r Senedd yn ogystal â beth yw eu disgwyliadau.
Byddwn yn cymryd camau i fynd i'r afael â hiliaeth o ran monitro camau gweithredu'n flynyddol drwy'r grŵp atebolrwydd, ond nid i ni yn unig y bydd yn gwneud hynny. Mewn gwirionedd, dywedodd rhywun y bore yma—dywedodd un o'r siaradwyr—fod hyn yn ymwneud ag atebolrwydd cymunedol hefyd; mae'n ymwneud ag atebolrwydd yr holl gyrff sector cyhoeddus hynny, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys yr holl gyrff statudol, ond hefyd mae'n ymwneud â busnes. Felly, bydd cadeiryddion cyrff cyhoeddus yn cael eu pwyso i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yn rhagweithiol, gan gynnwys amcan perfformiad sy'n ymwneud â gwrth-hiliaeth.
Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig iawn edrych ar rai o'r materion ehangach hynny yr ydych yn eu codi. Er enghraifft, o ran y ganolfan troseddau casineb a chymorth i ddioddefwyr, rwyf eisoes wedi'i chrybwyll, o ran plant a phobl ifanc, fod gennym bellach dîm newydd sy'n gweithio i fynd i'r afael â throseddau casineb.
O ran diwygio'r Senedd, rwy'n falch iawn y gallwn ddysgu o hynny o ran adroddiad y pwyllgor diben arbennig y byddwn yn ei drafod yfory, oherwydd yr argymhelliad hwnnw y dylid cynnal ymchwiliad pellach i rinweddau a goblygiadau cwotâu, er enghraifft, ar gyfer nodweddion ar wahân i ryw. Mae gennym lawer i'w ddysgu, ond gallem arwain y ffordd yn y DU, a gallwn yn sicr helpu i arwain y ffordd o ran edrych ar y materion hyn, a gwn fod cefnogaeth gref i hynny. Llywodraeth leol: nawr rydym wedi mynd drwy'r etholiadau, byddaf yn cwrdd â phob arweinydd llywodraeth leol yn fuan iawn i siarad am y cynllun gweithredu gwrth-hiliol.
Un o'r argymhellion a ddaeth—yn olaf, Dirprwy Lywydd—o'r adroddiad economaidd-gymdeithasol ar effaith coronafeirws ar bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig oedd bod arnom angen uned gwahaniaethau hiliol yn Llywodraeth Cymru. Wel, mae gennym un nawr. Fe'i sefydlwyd ac mae'n rhan o uned tystiolaeth cydraddoldeb, ond mae problem ynglŷn â data, yn enwedig data a gedwir gan Lywodraeth y DU. Felly, mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi gwneud rhywfaint o waith arloesol, yn enwedig dan arweiniad Robert Jones, sydd mewn gwirionedd wedi amlygu effaith anghymesur cyfiawnder troseddol, yn enwedig ar bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a menywod. Wel, rydym yn mynd i fynd i'r afael â hynny, unwaith eto, drwy gydweithio. Fe wnaethom gyfarfod ychydig wythnosau'n ôl i siarad am y ffyrdd y gallwn ni gydweithio â Chanolfan Llywodraethiant Cymru a'r uned dystiolaeth cydraddoldeb, hil ac anabledd. Ac ymrwymiad i rannu elfen gyfiawnder cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol, fel rhan o'n cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, ac i ddechrau sgwrs yn awr am sut y gallwn gydweithio, ac, yn wir, edrych ar ymchwil arall a fydd o gymorth i hyn.
Felly, mae eich ymrwymiad, mae eich cefnogaeth yn hollbwysig i ni gael hyn yn iawn, ond byddwch wedi clywed a gweld y bore yma y bydd disgwyliadau, a rhaid i'r disgwyliad arnom fel Llywodraeth fod yn bwynt allweddol. A gwn y byddwch yn ein dwyn ni i gyfrif, rhaid i'r bobl sydd â phrofiad bywyd o hiliaeth ein dwyn ni i gyfrif, a dyna'r hyn y mae angen i ni ei gyflawni yn y cynllun gweithredu gwrth-hiliol.
Ac yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n falch iawn o gael cyfle i siarad am y datganiad heddiw, ac rwy'n ei groesawu'n fawr. Os ydym ni am edrych ar—ac mae'r cynllun hwn yn—rhoi terfyn ar hiliaeth sefydliadol a hiliaeth systemig, yna mae'n amlwg bod yn rhaid i ni fynd i'r afael â'r sefydliadau hynny lle yr ydym yn canfod yr achosion. Wrth gwrs, bydd hynny mewn addysg a bydd ym maes iechyd hefyd. Rydym wedi gweld yr anghydraddoldeb o fewn y system iechyd menywod a gyflwynwyd o dan COVID, sydd eisoes wedi'i grybwyll nawr.
Ac mae'n rhaid i ni edrych ar chwaraeon. Gwyddom i gyd, o ran pêl-droed, fod chwaraewyr du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn arwyr pan fyddant yn sgorio, ond pan fyddant yn methu cic gosb neu rywbeth, mae'r cam-drin hiliol y maen nhw yn ei ddioddef wedyn yn warthus. Felly, rhaid i ni edrych ar y pethau cadarnhaol a'r cyfraniad a wneir. Rhaid i ni newid y naratif a rhaid i ni, yn ddi-os, symud ymlaen gyda hynny ar bob lefel. Rhaid i ni newid meddyliau, yn fy marn i, drwy newid y naratif, ac mae'r naratif yn rhy aml o lawer, yn un o fod yn negyddol yn hytrach na bod yn gadarnhaol. Felly, rwy'n croesawu hwn yn fawr.
Caf fy atgoffa yma heddiw ein bod yn siarad am, 'Fi, chi, arall'; mae angen i ni ddechrau siarad—
Mae angen i chi ofyn cwestiwn.
—am 'ni', a dyna bob un ohonom.
Diolch yn fawr, Joyce Watson. Rydych wedi'i egluro mor glir—mae hyn yn ymwneud â rhoi terfyn ar hiliaeth sefydliadol. Felly, rhaid i ni edrych ar y sefydliadau hynny, gan gynnwys ein rhai ni, a mynd i'r afael â hynny. Fe'i gadawaf i'r Dirprwy Weinidog, a fydd, rwy'n siŵr, yn mynd i'r afael â'r cwestiynau, yn enwedig yn ei phortffolio ynghylch chwaraeon, a'r Gweinidog addysg ar addysg. Roeddem ni o'r farn y byddai'n dda cael sawl datganiad. Nid mater i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn unig yw hwn; yn wir, gallai pob Gweinidog fod yn sefyll ac yn gwneud datganiad heddiw, oherwydd mae'n berthnasol i bob Gweinidog, ac fe welwch hynny yn y cynllun gweithredu.
Ond, yn gyflym o ran iechyd, rwyf eisoes wedi sôn am gyfraniad, swyddogaeth a phrofiad y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol o ran y rhan y maen nhw'n ei chwarae, nid yn unig yn y pandemig ond bob amser yn ein gwasanaeth iechyd. Maen nhw wedi amlygu i ni'r annhegwch yn y gweithlu, dro ar ôl tro gan gydnabod nad ydyn nhw bob amser wedi cael eu cydnabod a chael chwarae teg yma o ran eu cyfleoedd. Felly, mae'n dda bod y Gweinidog iechyd yn sefydlu grŵp anghydraddoldebau iechyd y GIG. Mae hyn yn mynd i fanteisio'n benodol ar brofiadau bywyd i nodi'r rhwystrau y mae pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wedi'u profi wrth geisio cael mynediad at wasanaethau iechyd. Ac, yn amlwg, mae'r rhain yn faterion yr ydym wedi bod yn eu trafod o ran mynediad i iechyd menywod—mae hyn yn groestoriadol iawn—o ran y cynllun gweithredu gwrth-hiliol.
Mae angen i ni sicrhau bod gennym arweinyddiaeth ac addysg gwrth-hiliaeth yn GIG Cymru ar bob lefel ac ym mhob bwrdd, a rhaid i ni—mae'n mynd yn ôl at ddata—ategu hyn gyda chasglu data fel bod gennym sylfaen dystiolaeth ar gyfer ein cynnydd.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 7 sydd nesaf, sef datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, diweddariad ar ddiwylliant a threftadaeth: hanes, diwylliant a threftadaeth pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Dawn Bowden.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol am ei datganiad am gyhoeddi 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'. O fy rhan i, rwyf wedi ymrwymo i gyflawni'r nodau a'r camau gweithredu a nodir ar gyfer diwylliant, treftadaeth a chwaraeon, sy'n canolbwyntio ar themâu arweinyddiaeth, ariannu, dathlu amrywiaeth ddiwylliannol, y naratif hanesyddol a dysgu am ein hamrywiaeth ddiwylliannol. Mae'r camau uchelgeisiol o dan y meysydd allweddol hyn yn cael eu llywio gan brofiad bywyd; eu nod yw bod yn drawsnewidiol, gan sicrhau newid amlwg ac arwain at ganlyniadau cyfartal i bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
Mae gennym ddiwylliant a threftadaeth gyfoethog ac amrywiol yng Nghymru. Mae ein rhaglen lywodraethu yn ymrwymo i gynrychioli ac adlewyrchu hanes pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn briodol, gyda'r nod o sicrhau bod eu cyfraniad anfesuradwy yn cael ei gydnabod, ac i alluogi mynediad a chyfranogiad cyfartal. Bydd hyn yn gwella canlyniadau i bawb a bydd yn adlewyrchu ac yn hyrwyddo Cymru amlddiwylliannol, fywiog ac amrywiol yn well, sy'n hanfodol i gyflawni ein gweledigaeth o Gymru wirioneddol wrth-hiliol.
Mae'r gwaith o gyflawni'r newid hwn eisoes wedi dechrau. Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gwnaethom waith paratoi cychwynnol, gan fuddsoddi bron i £350,000 gyda sefydliadau gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru a Chyngor Hil Cymru. Mae ein sefydliadau cenedlaethol yn chwarae rhan hollbwysig wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a chyflawni Cymru wrth-hiliol. Mae hwn yn amcan a rennir ar gyfer yr holl gyrff a noddir yn fy mhortffolio, ac mae cefnogi'r cynllun gweithredu yn un y gellir ei gyflawni yn eu llythyrau cylch gwaith newydd.
Rwyf wedi mynegi fy nymuniad i'n cyrff diwylliannol a noddir gydweithio i gynyddu eu heffaith yn y maes hwn. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru wedi cyd-gynhyrchu cynllun gweithredu ehangu ymgysylltu, gyda chamau gweithredu, bellach wedi'u hymgorffori yng nghynlluniau cydraddoldeb gweithredol a strategol y ddau sefydliad. Mae Casgliad y Werin Cymru, partneriaeth ffederal rhwng Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, wedi cyhoeddi siarter ar gyfer datrefidigaethu'r casgliad.
Wrth gwrs, er bod cydweithio rhwng sefydliadau yn bwysig, mae cydweithio a chyd-gynhyrchu gyda'r cymunedau lleiafrifoedd ethnig eu hunain yn hanfodol i ddatblygu'r gwaith hwn a gweithredu newid a fydd yn cael effaith wirioneddol. Rwy'n falch o weld ein sefydliadau'n canolbwyntio ar hyn; er enghraifft, mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cynnal adolygiad mawr o'i raglen gweithwyr cyswllt y celfyddydau, ac wedi recriwtio swyddogion cyswllt newydd gyda phrofiad bywyd o amrywiaeth ddiwylliannol ac ethnig, yn ogystal ag asiant ar gyfer newid.
O ganlyniad, mae newid diwylliannol eisoes yn digwydd mewn trafodaethau mewn cyfarfodydd ariannu, gyda chynnydd yn nifer y ceisiadau llwyddiannus sy'n targedu cymunedau ac artistiaid amrywiol. Mae Amgueddfa Cymru a'r Llyfrgell Genedlaethol yn penodi ar gyfer swyddi gan ganolbwyntio ar ymgysylltu â phobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae'r Llyfrgell Genedlaethol a Chyngor Archifau a Chofnodion Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi creu pecyn cymorth i alluogi'r sector i ymgysylltu'n well â chymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
Darparwyd cyllid gennym i Gyngor Hil Cymru i gynnal prosiect treialu i ddatblygu ei raglen Hanes Pobl Dduon Cymru, gan gynnwys cofnodi straeon ledled Cymru. Arweiniodd chwech o bobl ddiwylliannol amrywiol, pob un ag arbenigedd hanes pobl dduon a phrofiad ymgysylltu cymunedol dibynadwy, ddatblygiad rhwydweithiau Hanes Pobl Dduon Cymru mewn gwahanol rannau o Gymru. Bûm yn lansiad Hanes Pobl Dduon Cymru 365 ym mis Hydref y llynedd a gwelais drosof fy hun arddangosfa bwerus Windrush Cymru.
Gwneuthum ddatganiad ym mis Ionawr i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynt yr archwiliad o goffáu, ac rwy'n falch o ddweud bod y gwaith hwn wedi bod yn parhau'n gyflym. Mae Cadw yn paratoi canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill i'w cefnogi i wneud penderfyniadau am goffáu cyhoeddus—yn hanesyddol ac yn y dyfodol. Mae'r gwaith o ddatblygu'r canllawiau wedi'i lywio gan gyfres o weithdai gydag ystod eang o randdeiliaid. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar ddrafft yn ddiweddarach eleni. Mae Cadw hefyd wedi bod yn gweithio i wella ei wefan, gan gydnabod ystod fwy amrywiol o straeon sy'n cyfrannu at hanes Cymru. Mae wedi gweithio mewn partneriaeth â sawl sefydliad i greu cynnwys, gan gynnwys straeon treftadaeth personol ac ymatebion creadigol i goffáu pobl o dreftadaeth Ddu yng Nghymru. Bydd y cynnwys newydd ar gael o ganol mis Mehefin.
Mae gan ein sectorau diwylliannol lleol ran hanfodol i'w chwarae hefyd. Mae dros 100 o amgueddfeydd lleol ledled y wlad, i gyd yn gweithio ar lawr gwlad. Y llynedd, cymerodd 41 o amgueddfeydd ran yn y rhaglen hyfforddiant a chymorth arloesol a ariannwyd gennym—y cyntaf o'i math yn y DU. Roedd hyn yn cynnwys gweithdai yn edrych ar gasgliadau o safbwyntiau newydd, er mwyn gallu adrodd straeon sy'n gysylltiedig â chaethwasiaeth a'r ymerodraeth o safbwynt lleol. Roedd yr adborth gan gyfranogwyr yn gadarnhaol dros ben, gyda llawer yn dweud eu bod wedi cael y ddealltwriaeth, yr wybodaeth a'r hyder i wneud newid.
Ers i'r rhaglen ddod i ben, gwyddom fod llawer wedi dod o hyd i gysylltiadau newydd yn eu casgliadau ac yn dechrau ail-ddehongli eu harddangosfeydd. Rwy'n falch o'r cynnydd sylweddol yr ydym eisoes wedi'i wneud, ac edrychaf ymlaen at ein cynnydd parhaus wrth i ni gyflawni ein nodau a'n camau gweithredu yn y cynllun gweithredu ac ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu. Ategir hyn gan gyllid pellach o £4.25 miliwn dros y tair blynedd nesaf, drwy lansio cynllun grant newydd arloesol. Ymdrinnir â thri maes penodol: ein cyrff cenedlaethol a noddir; proses grantiau gystadleuol ar draws ein sectorau, ac rwy'n falch o ddweud y byddwn yn ei lansio yn ystod yr wythnosau nesaf; a chronfa wedi'i neilltuo'n benodol ar gyfer sefydliadau ar lawr gwlad, yr ydym yn eu datblygu ar hyn o bryd i'w lansio yn ddiweddarach eleni.
Rydym hefyd yn paratoi i recriwtio mentoriaid cymunedol i weithio gyda fy swyddogion dros y flwyddyn nesaf. Byddant yn cynnig cyngor beirniadol ar gyfer cyflawni'r cynllun gweithredu, yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu'r cynllun grant a sefydlu grŵp cynghori ar brofiad bywyd sy'n benodol i'r sector. Gyda'n gilydd, ac ar lefel genedlaethol, leol ac ar lawr gwlad, byddwn yn parhau i sicrhau newid ystyrlon i bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ledled Cymru ac yn cymryd camau hanfodol i wireddu ein gweledigaeth o Gymru wrth-hiliol.
A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad y prynhawn yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw hi fod ein sector diwylliannol a'n sector treftadaeth mor groesawgar â phosibl i gynifer o bobl ag sy'n bosibl? Mae'n bwysig bod y gwaith y soniodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol amdano a'r adolygiad hwnnw'n cael eu gwneud, ac rwy'n falch o'i weld yn digwydd yn eich portffolio hefyd, oherwydd fel y dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, nid ei chyfrifoldeb hi fel y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn unig ydyw, ond rhywbeth sy'n torri ar draws Llywodraeth Cymru, felly rwy'n falch o weld y darn hwn o waith yn digwydd. Rwyf hefyd yn ddiolchgar o glywed o'ch datganiad am y newid diwylliannol hwnnw y sonioch amdano mewn sefydliadau sy'n digwydd, a chredaf fod hynny i'w groesawu'n fawr hefyd.
A gaf i hefyd ddechrau drwy groesawu'r £4.2 miliwn o gyllid ychwanegol a gyhoeddwyd ar gyfer y tair blynedd nesaf, a fydd yn rhoi cyllid i sefydliadau ar lawr gwlad? Rwy'n gobeithio y bydd yn sicrhau newid, gan adeiladu ar ein diwylliant a'n treftadaeth gyfoethog ac amrywiol yng Nghymru. Fodd bynnag, rydych hefyd yn sôn am gynllun grant newydd sy'n cyplysu hyn, felly byddwn yn ddiolchgar am ragor o fanylion am hyn a tybed a wnewch chi roi'r disgwyliadau clir sef yr hyn y byddech yn ei ddisgwyl gan y sefydliadau hynny. Beth fydd ffurf llwyddiant yn eich barn chi? Pa fetrig y gallwn ei ddefnyddio i'ch dal yn atebol i sicrhau bod y cyllid newydd hwn yn darparu gwerth am arian? Hoffwn ganolbwyntio hefyd ar rai o'r pwyntiau yn y 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynharach heddiw gan ei fod yn ymwneud â'ch portffolio. O dan yr adran diwylliant, treftadaeth a chwaraeon, mae'n nodi mai un o'r nodau yw
'Adolygu a datrefedigaethu ein mannau a’n casgliadau cyhoeddus drwy ymdrin yn briodol â’r ffordd y caiff pobl a digwyddiadau â chysylltiadau hanesyddol hysbys â chaethwasiaeth a threfedigaethedd eu coffáu, gan gydnabod y niwed a wnaed yn sgil eu gweithredoedd ac ail-lunio’r ffordd y caiff eu hetifeddiaeth ei chyflwyno er mwyn cydnabod hyn yn llawn.'
Cytunaf â hynny, a'r hyn sy'n bwysig yma yn fy marn i yw bod y cyhoedd yn gyffredinol yn cytuno â hynny hefyd. Rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno â theimlad y rhan honno o'r cynllun, ond yr hyn sydd ar goll yn y datganiad, rwy'n teimlo, yw diffyg pendantrwydd ynghylch lle mae'r llinell honno'n cael ei thynnu. Mae'n llinell sy'n wahanol yn dibynnu ar eich safbwynt chi, ac mae'n ddadl fyw sy'n digwydd drwy'r amser. Rydym wedi gweld rhai pobl yn dweud bod ffigyrau sydd â chysylltiadau tenau efallai ar y gorau â'r fasnach mewn caethweision yn cael eu llusgo i'r ddadl hon flynyddoedd ar ôl iddyn nhw farw. Rwyf wedi gweld rhai sylwebwyr yn sôn am Winston Churchill yn y math hwn o gyd-destun, a gobeithio y byddem ni'n dau yn cytuno nad bwriad y cynnig hwn yw hynny. Mae hyn, yn fy marn i, yn ymwneud ag atebolrwydd ynghylch pwy fydd yn gwneud penderfyniadau o'r fath a pha safbwyntiau y byddan nhw yn eu hystyried, oherwydd gwyddom, fel y dywedais i, y gall y safbwyntiau hynny fod yn wahanol ac nid ydym eisiau i bobl sy'n cytuno â theimlad y cynllun gweithredu anghytuno â chanlyniad yr hyn a gyflawnir ganddo mewn gwirionedd.
Enghraifft dda fyddai penderfyniad Amgueddfa Cymru ychydig fisoedd yn ôl i adolygu atgynhyrchiad o'r locomotif cyntaf i gael ei bweru gan stêm yng Nghymru gan Richard Trevithick yn sgil honiadau ei fod yn gysylltiedig â'r fasnach mewn caethweision. Cyfaddefodd swyddogion yn yr amgueddfa nad oedd unrhyw gysylltiadau uniongyrchol rhwng locomotif Trevithick a'r fasnach mewn caethweision, ond dywedon nhw fod y defnydd o'r ddyfais wedi'i wreiddio mewn gwladychiaeth a hiliaeth. Mae adolygiad yn iawn, ond mae angen i ni fod yn ofalus ynghylch lle yr ydym yn amlygu'r gwahaniaethau hynny am ein gorffennol i sicrhau na chaiff pobl eu dileu o'n gorffennol dim ond am eu bod yn bodoli yn y gorffennol. Felly, byddai dealltwriaeth o'r math hwnnw o drothwy yn eithaf pwysig, rwy'n credu.
Mae'r cynllun gweithredu hefyd yn datgan y bydd yn
Nodi adnodd penodol wedi’i neilltuo i gefnogi gweithgareddau diwylliannol, creadigol a chwaraeon ar lawr gwlad ymhlith grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, a hyrwyddo hyn i annog ceisiadau, gan ystyried anfanteision croestoriadol a materion penodol yn ymwneud ag ieithoedd cymunedol.'
A allwch chi, Dirprwy Weinidog, gadarnhau sut yn union y bydd hynny'n gweithio? Faint fydd yn y pot hwn? Nid oedd yn glir iawn o'ch datganiad a fyddai hyn yn rhan o'r cyllid newydd a gyhoeddwyd yn eich datganiad neu a yw hyn yn elfen ar wahân o gyllid eto.
Pwynt arall yr hoffwn ei grybwyll oedd un o'ch gweithredoedd i weithio gyda chymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i nodi a chodi rhwystrau rhag cael mynediad at gasgliadau treftadaeth a diwylliannol. O ystyried hyn, pa asesiad effaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar y mathau o ffyrdd y mae cymunedau amrywiol yn wynebu rhwystrau rhag cael mynediad i safleoedd treftadaeth, ac a wnewch chi rannu'r canfyddiadau â'r Senedd? Pwynt arall i'w nodi yn y cynllun gweithredu oedd gofyn i Chwaraeon Cymru a'i bartneriaid gynyddu cyfranogiad menywod a merched o grwpiau amrywiol mewn ffyrdd egnïol o fyw, gan ystyried anfanteision croestoriadol, ieithoedd a'r grwpiau mwyaf difreintiedig. Sut y byddwch yn mesur y cynnydd hwnnw, Dirprwy Weinidog? Ac, unwaith eto, beth fydd ffurf llwyddiant, a hefyd pa dargedau gwirioneddol y byddwch yn eu gosod, wrth weithio gyda rhanddeiliaid?
Sonioch chi hefyd am dros 100 o'r amgueddfeydd lleol ledled y wlad—disgwylir iddyn nhw chwarae rhan eithaf mawr, mewn gwirionedd, mewn llawer o'r cynlluniau hyn, megis y siarter ar gyfer datrefidigaethu'r casgliad. Mae'n hanfodol ein bod yn cael hynny'n iawn hefyd. Efallai nad yw llawer sy'n ymwneud ag amgueddfeydd lleol o reidrwydd yn dod i gysylltiad rheolaidd â strwythurau Llywodraeth Cymru, ac mae llawer sy'n gysylltiedig yn wirfoddolwyr. Felly, sut ydych chi'n sicrhau nad ydym yn rhoi gwaith biwrocrataidd anfwriadol, ychwanegol ar ben eu gwaith gwirfoddoli hanfodol mewn amgueddfeydd lleol ledled Cymru, ac yn gweithio allan ffyrdd y gallwn barhau i ddenu a gwella profiadau gwirfoddoli yn ein hamgueddfeydd? A sut hefyd y byddwch yn sicrhau bod dealltwriaeth gyson o fewn grwpiau fel hyn, fel na fydd gennym wahanol amgueddfeydd yn dehongli hyn mewn ffyrdd gwahanol?
Ac yn olaf, un o'r pethau cyntaf a ddywedoch chi oedd y profiad bywyd, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn. Nid oes un profiad amrywiol. Felly, sut ydych chi'n defnyddio'r strategaeth hon i sicrhau bod lluosogrwydd yn cael ei gydnabod a'i gyfrif yn y strategaeth hon? Diolch yn fawr iawn.