Y Cyfarfod Llawn
Plenary
03/05/2022Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod yma ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno trwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda.
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma, felly, yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Alun Daives.
1. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i gynorthwyo aelwydydd ym Mlaenau Gwent gyda'r argyfwng costau byw presennol? OQ57949
Llywydd, mae ein pecyn costau byw gwerth £380 miliwn yn rhoi arian yn ôl ym mhocedi aelwydydd ym Mlaenau Gwent ac yn helpu teuluoedd yno sydd mewn trafferthion oherwydd prisiau sy'n cynyddu yn gyflym. Rydym yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau brys, gan gynnwys cynyddu budd-daliadau a chymryd camau i leihau biliau tanwydd aelwydydd.
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Prif Weinidog, fe wnaethom ni ddeffro i'r newyddion y bore yma fod BP yn gwneud elw o £1 biliwn bob mis, elw o £1 biliwn ar adeg pan fo gormod o'r bobl yr ydym ni i gyd yn eu cynrychioli yn y lle hwn yn arswydo o weld eu bil tanwydd nesaf ac nad oes ganddyn nhw syniad sut y byddan nhw'n talu'r biliau hynny. Ond, ar yr un pryd, rydym ni hefyd yn gwybod, Prif Weinidog, fod biliau bwyd 6 y cant yn uwch o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Ac, rwy'n meddwl, mewn achos anarferol ac annodweddiadol o hunanymwybyddiaeth, fod Jacob Rees-Mogg wedi disgrifio'r rheolaethau ar y ffin, y galwodd ef amdanyn nhw, yn weithred o hunan-niweidio.
Nawr, Prif Weinidog, ynghyd â biliau tanwydd sy'n cynyddu, biliau bwyd sy'n cynyddu, mae gennym ni Lywodraeth y DU nad yw wir yn poeni am realiti'r argyfwng hwn sy'n wynebu pobl, a gwelsom hynny gan Brif Weinidog y DU y bore yma. A ydych chi'n cytuno â mi fod pobl ym Mlaenau Gwent, ac mewn mannau eraill yng Nghymru, yn wynebu storm berffaith o Lywodraeth y DU nad yw'n poeni amdanyn nhw, ac elw a gwerth cyfranddalwyr yn cael eu blaenoriaethu dros fywydau'r bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli?
Wel, Llywydd, mae Alun Davies yn gwneud cyfres o bwyntiau pwysig iawn yn y fan yna. Mae elw BP wedi mwy na dyblu yn ystod y tri mis diwethaf. Oherwydd effaith prisiau nwy ac olew cynyddol, mae cwmnïau cyflenwi ynni yn gwneud elw ychwanegol o £745 bob eiliad. Dychmygwch hynny. Mae Prif Weinidog y DU yn dweud bod yn rhaid iddyn nhw gadw'r holl arian hwnnw gan fod angen iddyn nhw fuddsoddi yn nyfodol y diwydiant. Ond beth mae BP yn ei wneud mewn gwirionedd? Fel y dywedodd Alun Davies, mae'n prynu cyfranddaliadau yn ôl ac mae'n talu dyledion. Nid yw'n gwneud dim o'r pethau y mae Prif Weinidog y DU yn dweud y mae angen iddo eu gwneud, a gellid defnyddio'r arian hwnnw i helpu'r teuluoedd hynny sy'n wynebu anawsterau bob un dydd. Yn yr amser yr wyf i wedi ei gymryd i ateb y cwestiwn hyd yn hyn, Llywydd, byddai hynny yn ddegau o deuluoedd yng Nghymru a fyddai'n cael cymorth gyda'u biliau.
Ac o ran y pwyntiau eraill a wnaeth yr Aelod, fe wnaeth arweinydd yr wrthblaid gamddeall yn llwyr y pwynt yr oedd yn ei wneud—mae'r cynnydd o 6 y cant i filiau bwyd yn y wlad hon yn deillio'n llwyr o effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd. Nid codi prisiau yn Ewrop 12 y cant yw effaith ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n hurt ei awgrymu hyd yn oed. Mae'r adroddiad yr oedd fy nghyfaill yn cyfeirio ato yn adroddiad sy'n dweud bod prisiau yn y wlad hon wedi codi 6 y cant oherwydd y costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â chynhyrchu bwyd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Efallai nad yw'n gyfforddus i'r Aelod ddeall hynny, ond dyna wnaeth yr adroddiad yr wythnos diwethaf ei ddangos.
Ac o ran safleoedd rheoli ffiniau—y trydydd pwynt a gododd yr Aelod—siawns nad dyna un o'r penderfyniadau mwyaf brawychus. Nawr, mae'r diwydiant amaeth—pwnc y dywedodd arweinydd yr wrthblaid wrthym ni yr wythnos diwethaf a oedd yn bwnc yr oedd yn gwybod am beth yr oedd yn sôn—yn un lle mae cynhyrchwyr yma yng Nghymru bellach yn wynebu cystadleuaeth gan gynhyrchwyr y tu allan heb unrhyw wiriadau o gwbl ar y nwyddau hynny sy'n dod i mewn i'r Undeb Ewropeaidd, tra bod yn rhaid i ffermwr yng Nghymru sy'n ceisio allforio i'r Undeb Ewropeaidd wynebu'r holl rwystrau ychwanegol sy'n dod o adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n beth rhyfeddol i Lywodraeth y DU ei wneud: honni eu bod nhw'n cymryd rheolaeth yn ôl dim ond i ganfod nad ydyn nhw'n cymryd rheolaeth yn ôl o gwbl.
Prif Weinidog, rwy'n siŵr y gallwch chi gytuno â mi y gall effaith ariannol diagnosis canser fod yn ddinistriol hyd yn oed mewn cyfnodau arferol, wrth i bobl wynebu incwm is a chostau byw uwch. Mae'r pandemig a'r costau byw cynyddol wedi gwaethygu'r sefyllfa, wrth i lawer o bobl orfod ymdopi â biliau ynni cynyddol, yn ogystal ag effaith ariannol eu diagnosis canser. Datgelodd gwaith ymchwil a wnaed gan Cymorth Canser Macmillan ddiwedd y llynedd fod 87 y cant o bobl â chanser yng Nghymru wedi dioddef rhyw fath o effaith ariannol o'u diagnosis, a bod 38 y cant wedi eu heffeithio'n ddifrifol yn ariannol. Prif Weinidog, pa gamau mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i wella camau cyfeirio a mynediad cyson at gyngor a chymorth ariannol i ddioddefwyr canser yng Nghymru? A pha ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i ddarparu cymorth ariannol uniongyrchol i'r dioddefwyr mwyaf agored i niwed i helpu'r rhai sydd mewn trafferthion oherwydd costau byw yma yng Nghymru? Diolch.
Wel, mae wedi bod yn barth di-eironi ers tro byd ar feinciau'r Ceidwadwyr yn y Senedd hon—[Chwerthin.] Llywydd, ni chlywais y geiriau 'Blaenau Gwent' unwaith yn y cwestiwn sydd newydd ei ofyn i mi, ac eto, hyd y gwelaf i, mae'r cwestiwn ar y papur trefn yn ymwneud â chostau byw ym Mlaenau Gwent. Bydd trigolion yno yn canfod bod 5,500 ohonyn nhw wedi cael £200 gan Lywodraeth Cymru bellach o ganlyniad i gynllun tanwydd y gaeaf, ac, ym mis Mawrth, cawsom 1,849 o geisiadau i'r gronfa cymorth dewisol, nad yw ar gael, wrth gwrs, dros y ffin, lle mae ei phlaid hi yn rheoli, ond wedi ei hategu gan £15 miliwn ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr bod y bobl hynny ym Mlaenau Gwent—a gallai rhai ohonyn nhw fod yn bobl sy'n wynebu diagnosis o ganser ac a fydd yn canfod nad yw'r system fudd-daliadau, a gododd 3.1 y cant yn unig, lle mae pobl yn wynebu codiadau chwyddiant o 7 y cant, yn eu trin nhw â'r cydymdeimlad a'r ddealltwriaeth y maen nhw'n eu haeddu—. Yng Nghymru, o leiaf, gallan nhw droi at y gronfa cymorth dewisol i'w cynorthwyo gyda'r rhwystrau ychwanegol y maen nhw'n eu hwynebu yn awr o ran rheoli canlyniad diagnosis o'r fath.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i wella bywydau pobl yn Rhondda? OQ57967
Llywydd, rydym yn gweithio yn agos gyda'r cyngor bwrdeistref mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd i wella bywydau pobl yn y Rhondda. I roi un enghraifft, mae dros 600 o blant yn y fwrdeistref yn manteisio ar gynnig gofal plant Llywodraeth Cymru bellach, gan adael mwy o arian ym mhocedi'r teuluoedd hynny sy'n gweithio'n galed.
Diolch, Prif Weinidog. Ni fu'r cyferbyniad rhwng gweithredoedd y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan a Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur Cymru erioed mor eglur. Mae Prif Weinidog y DU wedi torri'r gyfraith, wedi diystyru rheolau COVID ac wedi gwastraffu biliynau ar gontractau i'w ffrindiau. Nid yw ei Lywodraeth yn fodlon cefnogi ymdrechion adfer tomenni glo yng Nghymru, ac mae wedi ein twyllo allan o £1 biliwn, ac ar ôl y cyfweliad trychinebus yna ar Good Morning Britain y bore yma, tybed beth ddaw nesaf. Ar y llaw arall, mae Llywodraeth Lafur Cymru, mewn partneriaeth â chyngor Rhondda Cynon Taf o dan arweiniad Llafur Cymru, wedi hen gychwyn ar adfer tomenni glo Tylerstown a Wattstown, ar ôl sicrhau'r buddsoddiad mwyaf erioed o ran atal llifogydd ac amddiffyn rhagddyn nhw, a bydd yn cyflawni 20 o addewidion â'r costau wedi eu cyfrifo yn llawn, gan gynnwys ariannu 10 swyddog cymorth cymunedol yr heddlu, taliad costau byw, prydau ysgol am ddim i blant ysgol gynradd, a bydd yn parhau i gynyddu nifer y cyfleusterau gofal ychwanegol i bobl hŷn. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai cynghorau dan arweiniad Llafur Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Lafur Cymru yw'r ffordd fwyaf effeithiol o wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl yn y Rhondda a ledled Cymru?
Wel, Llywydd, diolch i Buffy Williams am y pwyntiau pwysig iawn yna, ac rwy'n cymeradwyo cyngor Rhondda Cynon Taf am bopeth y mae wedi ei wneud i gynorthwyo ei drigolion yn ddiweddar ac eto yn awr gyda'r argyfwng costau byw. Darllenais gyda diddordeb y maniffesto y bydd y grŵp Llafur yn y cyngor hwnnw yn brwydro yr etholiad hwn ar ei sail: 10 swyddog cymorth cymunedol yr heddlu arall wedi eu talu o adnoddau'r cyngor ei hun, yn ychwanegol at y 100 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol yr ydym wedi eu darparu fel Llywodraeth Cymru; 10 o wardeiniaid cymunedol eraill; ehangu gwaith ieuenctid ar wahân; camau newydd i erlyn pobl sy'n tipio'n anghyfreithlon yn ardal y cyngor. Mae'n gyngor sy'n deall yn iawn y pethau sydd bwysicaf i bobl o'u drysau ffrynt eu hunain. Ac o ran y mater o'r argyfwng costau byw, rwy'n credu mai bwriad uniongyrchol y ffordd y mae'r cyngor wedi penderfynu defnyddio'r £2.3 miliwn mewn cyllid dewisol y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddarparu yw rhoi arian—nid geiriau gwresog, nid datganiadau o bryder, ond arian ym mhocedi'r bobl sydd ei angen fwyaf. Felly, RhCT heddiw, Llywydd, yw'r awdurdod lleol yng Nghymru sydd wedi dosbarthu mwy o'r taliadau £150 yr ydym yn eu darparu i deuluoedd nag unrhyw gyngor arall yng Nghymru—mae £8,241,750 wedi gadael coffrau'r cyngor ac mae bellach yn nwylo trigolion RhCT, ac mae hynny'n fwy nag unrhyw gyngor yng Nghymru. Mae naw cyngor yng Nghymru wedi dechrau darparu'r arian hwnnw yn uniongyrchol i'w trigolion ac, nid yw'n syndod i mi ac nid yw'n syndod i Buffy Williams, rwy'n siŵr, fod wyth o'r naw o awdurdodau hynny yn rhai a reolir gan Lafur, yn gwneud y pethau sydd bwysicaf. Bydd RhCT yn darparu £100 i bob deiliad tŷ ym mandiau E i F y dreth gyngor, bydd yn darparu £50 i bob teulu yn y fwrdeistref sydd â phlentyn oedran ysgol yn y teulu hwnnw. Nid yw'r pethau hyn yn dileu holl effaith yr argyfwng costau byw, ac ni ellir disgwyl iddyn nhw wneud iawn am fethiant Llywodraeth y DU i gymryd camau tebyg, ond, o fewn y cwmpas sydd gan y cyngor ei hun, mae'n dangos, fel y mae cynghorau Llafur ledled Cymru yn ei wneud bob dydd, ddealltwriaeth o'r problemau sy'n wynebu pobl ledled Cymru a phenderfyniad i ymateb yn gadarnhaol iddyn nhw.
Prif Weinidog, mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf un o'r balansau banc mwyaf—os nad y mwyaf—o unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru, gyda swm syfrdanol o £171.3 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio, i lawr rhyw fymryn o'r £208 miliwn yr oedd ganddo yn flaenorol. Er gwaethaf y cronfeydd wrth gefn enfawr hyn, mae cyngor Rhondda Cynon Taf yn pledio tlodi yn barhaus, a gallaf dystio i hyn o sefyllfa o gryn awdurdod ar ôl gwasanaethu fel cynghorydd bwrdeistref sirol arno am bron i'r 15 mlynedd diwethaf. Llywydd, i'w roi ar gofnod, rwy'n dal yn gynghorydd yno am o leiaf ychydig ddyddiau eto. Mae gan RhCT un o'r cyfraddau treth gyngor uchaf o blith unrhyw awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig gyfan, sydd, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno, Prif Weinidog, yn sarhad i holl dalwyr y dreth gyngor yn y Rhondda. Mae cyngor Rhondda Cynon Taf hyd yn oed yn ddigon digywilydd i godi'r dreth gyngor eto eleni, gan ofyn i drigolion dalu mwy a mwy, hyd yn oed pan fo gan y cyngor gronfeydd wrth gefn mor enfawr—[Torri ar draws.] Prif Weinidog, sut mae—
Mae angen i mi gael rhywfaint o dawelwch fel y gallwn ni i gyd glywed y cwestiwn. Parhewch â'r cwestiwn os gwelwch yn dda.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, sut mae'r Llywodraeth Cymru hon yn helpu bywydau rhai o bobl dlotaf Cymru drwy ganiatáu i gyngor Rhondda Cynon Taf dan arweiniad Llafur wasgu mwy a mwy o dreth gyngor ganddyn nhw pan nad ydyn nhw'n gallu ei fforddio a phan fo'n ymddangos y gall y cyngor eistedd ar gronfeydd wrth gefn mor sylweddol? Diolch.
Llywydd, gadewch i ni gynnig ychydig o ffeithiau. Mae gan gyngor Rhondda Cynon Taf £8.5 miliwn yn ei gronfa wrth gefn gyffredinol. Mae hynny yn 1 y cant o'i alldro GRE y llynedd. Fel yr esboniais ar lawr y Senedd yr wythnos diwethaf, mae awdurdodau lleol yn cadw cyfalaf wrth gefn oherwydd bod ganddyn nhw biblinell o brosiectau, boed hynny'n adeiladu ysgolion, boed hynny'n adfer priffyrdd, ac, yn achos Rhondda Cynon Taf, er mwyn ymdrin ag effaith newid yn yr hinsawdd ar ddiogelwch tomenni glo yn yr ardal honno. Efallai nad yw'n peri unrhyw bryder i Geidwadwyr yn y Siambr hon—yn sicr nid yw'n destun pryder i Geidwadwyr yn San Steffan, gan eu bod nhw wedi methu â rhoi unrhyw gymorth ar ei gyfer—ond mae diogelwch tomenni glo mewn gwirionedd yn bwysig i'r awdurdod lleol yn Rhondda Cynon Taf, oherwydd bod yn rhaid iddo ymdrin ddydd ar ôl dydd â'r pryderon y mae pobl yn yr awdurdod lleol yn eu hwynebu pan fyddan nhw'n gweld effaith tywydd eithafol yn eu hardaloedd lleol.
Felly, rwy'n cymeradwyo'r cyngor am yr hyn y mae'n ei wneud. Rwy'n ei gymeradwyo ar y ffordd y mae'n gofalu am ei gyllid, y ffordd y mae'n barod i gynllunio ar gyfer y dyfodol, y ffordd y mae'n edrych i'r tymor hir. Ni fydd yr un o'r nodweddion hynny yn rhai a rennir gan unrhyw weinyddiaeth sy'n debygol o gael ei ffurfio byth gan yr wrthblaid, unwaith eto, yn y Siambr yma.
Rwy'n credu y gwnaf i alw ar Heledd Fychan yn awr, mae'n debyg am y drydedd a'r olaf o'r dadleuon yn ymgyrch etholiadol Rhondda Cynon Taf. [Chwerthin.] Heledd Fychan.
Diolch, Llywydd. Jest rhag ofn bod neb yn sylweddoli bod yna etholiad, hoffwn ddatgan fy mod, tan yr etholiad, yn gynghorydd ar gyngor Rhondda Cynon Taf.
Prif Weinidog, y gwir amdani yw mai gwaethygu mae sefyllfa nifer o drigolion Rhondda Cynon Taf yn hytrach na gwella. Mae mwy o bobl yn gorfod troi at fanciau bwyd am gefnogaeth, mwy o blant yn byw mewn tlodi a'r marwolaethau o COVID wedi bod ymysg yr uchaf ym Mhrydain. Mae nifer o adroddiadau i lifogydd 2020 yn dal heb gael eu cyhoeddi. Mae'n amlwg felly nad yw'r hyn mae'r Llywodraeth a'r cyngor wedi bod yn ei wneud yn ddigonol. Mae gennym lu o sefydliadau gwirfoddol a thrydydd sector gweithgar ledled y sir sydd yn gwneud gwaith pwysig a sydd â llu o syniadau o ran sut i wella bywydau trigolion Rhondda Cynon Taf, ond eto sy'n dweud wrthyf dro ar ôl tro nad ydynt yn cael eu cynnwys pan fydd cynlluniau yn cael eu datblygu. Sut mae Llywodraeth Cymru am sicrhau bod eu harbenigedd a'u lleisiau hwy am gael eu cynnwys a helpu i lywio'r newidiadau sydd dirfawr eu hangen?
Rydym ni wedi clywed slogan Plaid Cymru traddodiadol iawn yma y prynhawn yma. Mae'n ymddangos mai eu neges ar garreg y drws yn RhCT yw, 'Pleidleisiwch dros Blaid Cymru yn Rhondda Cynon Taf. Onid yw'n ofnadwy?' Nid oes ganddyn nhw air da i'w ddweud am y lleoedd y maen nhw'n ceisio eu cynrychioli, ac maen nhw wrthi eto yma y prynhawn yma. Y cwbl maen nhw'n ei wneud yw difrïo'r lleoedd maen nhw'n ceisio eu perswadio i bleidleisio drostyn nhw. Fe wnaethon nhw roi cynnig arni y llynedd, a does bosib nad ydyn nhw wedi gweld y canlyniad, ac rwy'n llwyr ddisgwyl y bydd pobl yn Rhondda Cynon Taf yn rhoi'r un dyfarniad ar y math hwnnw o ymgyrchu eto eleni.
Cyn i ni symud ymlaen at y cwestiynau gan arweinwyr yr wrthblaid, hoffwn i fanteisio ar y cyfle i groesawu i'n horiel gyhoeddus a'n Siambr yma yn Senedd Cymru, Llefarydd Senedd Daleithiol y Western Cape yn Ne Affrica a'i ddirprwyaeth, dan ei arweiniad ef. Rwy'n gwybod y bydd yr Aelodau yn awyddus i ymuno â mi i groesawu'r Llefarydd Mngasela a'i ddirprwyaeth i'r Senedd. [Cymeradwyaeth.] Croeso ichi, ac rwy'n gobeithio y cewch chi amser addysgiadol a diddorol yma yn Senedd Cymru ac yng Nghymru. Rwy'n amau eich bod chi wedi dysgu cryn dipyn nad oeddech chi'n disgwyl ei ddysgu am etholiad Rhondda Cynon Taf yn y cyfraniad diwethaf yna. [Chwerthin.]
Symudwn ymlaen yn awr at gwestiynau arweinwyr y gwrthbleidiau, ac Andrew R.T. Davies i ofyn ei rai ef.
Diolch, Llywydd. Ble mae Hefin David pan fydd ei angen arnoch chi, yn enwedig ar y ddau gwestiwn cyntaf?
Prif Weinidog, pa farn mae Llywodraeth Cymru wedi ei ffurfio yng ngoleuni'r dyfarniad llys diweddar ynghylch rhyddhau cleifion o ysbytai i gartrefi gofal?
Llywydd, roedd achos yr Uchel Lys yn achos nad oedd yn ymwneud â Llywodraeth Cymru; roedd yn achos a ddygwyd yn erbyn awdurdodau yn Lloegr. Serch hynny, byddwn yn astudio'r dyfarniad yn ofalus ac yn ymateb iddo yn y dystiolaeth y byddwn yn ei chyflwyno i'r ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r profiad o'r coronafeirws ledled y Deyrnas Unedig.
Prif Weinidog, fe wnaethoch chi fabwysiadu'r un polisïau â Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig, y cyfeiriodd dyfarniad y llys atyn nhw, ynghylch rhyddhau cleifion i gartrefi gofal heb gynnal profion. Fe wnaethoch chi ddweud, ar adeg y newid polisi yn Lloegr, na allech chi weld unrhyw werth mewn profi cleifion a oedd yn cael eu trosglwyddo o ysbytai i gartrefi gofal, ac, yn wir, dywedodd eich Gweinidog iechyd ar y pryd nad oedd yn deall y rhesymeg y tu ôl iddo. Yn syfrdanol, dywedodd yr un Gweinidog hefyd, pe bai'n cael cynnydd triphlyg i'r capasiti profi yma yng Nghymru, na fyddai'n profi cleifion a oedd yn cael eu trosglwyddo o ysbytai i gartrefi gofal o hyd. Cymerodd bythefnos gyfan o'r newid polisi mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i Lywodraeth Cymru ddal i fyny. Pam ddigwyddodd yr oedi cyn cynnal profion yma yng Nghymru, y mae'r llys bellach wedi dyfarnu ei fod yn anghyfreithlon?
I fod yn eglur, nid yw'r llys wedi canfod dim byd anghyfreithlon o ran Cymru, oherwydd nid oedd Cymru yn rhan o'r achos Uchel Lys hwnnw. Ni chymerodd unrhyw dystiolaeth o Gymru, ni edrychodd ar unrhyw ddogfennau yn ymwneud â Chymru, felly, gadewch i ni fod yn eglur ar gyfer y cofnod: pan fo'r Aelod yn dweud bod y polisi yn anghyfreithlon, yr hyn a ddarganfu'r llys oedd ei fod yn anghyfreithlon yn Lloegr, lle'r oedd ei blaid ef wrth y llyw. Ni wnaeth unrhyw sylwadau o gwbl am yr hyn a ddigwyddodd yma yng Nghymru.
Nid wyf i'n mynd i esgus y gallwn ni, mewn ateb ar lawr y Senedd, archwilio mater a gymerodd 75 tudalen o ddyfarniad Uchel Lys i'w archwilio. Ac fel y mae'r Aelod newydd gyfaddef, er mwyn gwneud synnwyr o'r hyn a ddigwyddodd yma yng Nghymru, mae angen i chi wneud synnwyr o'r cyd-destun ehangach hwnnw yn y DU. Byddwn yn ymateb, wrth gwrs, i'r materion hynny, y materion pwysig iawn hynny a oedd wrth wraidd achos yr Uchel Lys, ond byddwn yn gwneud hynny yn ein tystiolaeth i'r ymchwiliad, yr wyf i'n hyderus iawn y bydd yn archwilio'r mater hwn ynghyd ag amrywiaeth eang o faterion eraill sydd yn ei gylch gorchwyl pan fydd yn dechrau ar ei waith yn ddiweddarach eleni.
Prif Weinidog, gwrandewais yn ofalus iawn ar eich ymateb i fy ail gwestiwn. Gofynnais i chi pam y cymerodd safbwynt polisi Llywodraeth Cymru bythefnos arall i newid i brofi cleifion a oedd yn cael eu trosglwyddo i gartrefi gofal. Nodais hefyd, ar y pryd eich bod chi wedi dweud—eich bod chi wedi dweud—nad oedd unrhyw werth cynnal y profion hyn a bod eich Gweinidog iechyd—unwaith eto, ei eiriau ef—wedi dweud, pe bai cyfanswm y capasiti profi yn cael ei dreblu na allai weld y rheswm o hyd am brofi cleifion a oedd yn cael eu trosglwyddo o ysbytai i gartrefi gofal. Dyna wnes i ei ofyn i chi, Prif Weinidog. Ni wnaethoch chi gynnig unrhyw amddiffyniad o gwbl i fy nghwestiwn i chi. Dyna pam mae angen ymchwiliad annibynnol arnom ni yma yng Nghymru sy'n edrych ar safbwynt polisi Cymru. Rydym ni'n gwybod fel ffaith, fel yr wyf i wedi ei amlinellu yma, fod gwahaniaeth amlwg yn y polisi yr ydych chi wedi ei ddilyn yma yng Nghymru ar y mater hwn a llawer o faterion eraill. Mae'n ffaith, yn anffodus, mai gennym ni y mae'r gyfradd farwolaethau uchaf o unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig; mae'n ffaith yr anfonwyd llythyrau anghywir i lawer o bobl a oedd yn gwarchod; ac mae'n ffaith bod eich safbwynt polisi chi wedi rhoi mwy o gleifion mewn perygl oherwydd na wnaethoch chi gyflwyno profion y canfuwyd ers hynny eu bod yn rheidrwydd ar y pryd. A yw'n wir, Prif Weinidog, eich bod chi'n rhwystro'r ymchwiliad hwn rhag digwydd yma yng Nghymru oherwydd bod ofn craffu arnoch, neu ddim ond trahauster bod eich safbwynt chi yn iawn ac na ddylai ymchwiliad annibynnol yma yng Nghymru graffu arno? Oherwydd rwy'n methu â gweld pam rydych chi'n dal i wrthwynebu yn gadarn ymchwiliad annibynnol yma yng Nghymru a fyddai'n edrych ar y safbwyntiau polisi hyn a fabwysiadwyd gan eich Llywodraeth, ac a amlygodd cleifion yma yng Nghymru i fwy o risgiau yn y pen draw.
Wel, Llywydd, ni allai'r Aelod fod yn fwy anghywir. Atebodd ei gwestiwn ei hun yn ei gyfres gyntaf o sylwadau: ni fyddai ymchwiliad annibynnol a oedd yn canolbwyntio ar Gymru yn unig byth yn gallu gwneud synnwyr o'r union fathau o benderfyniadau y mae wedi cyfeirio atyn nhw. Pe bai wedi bod yn dilyn yr hyn a ddywedodd yr Uchel Lys mewn gwirionedd, byddai wedi gweld bod yr Uchel Lys wedi cyfeirio at y cyngor a oedd ar gael i Lywodraeth y DU, sef yr un cyngor a oedd ar gael i'r Llywodraeth yma yng Nghymru. Ni allwch chi ddeall y penderfyniadau a gafodd eu gwneud yng Nghymru drwy ysgaru'r penderfyniadau hynny o gyd-destun y DU, cyngor y DU, lefel ddealltwriaeth y DU ar y pryd, a'r ffordd yr oedd hynny ar gael yma yng Nghymru. Dyna pam yr wyf i wedi dadlau erioed mai'r ffordd orau y gall pobl gael atebion i'r cwestiynau y maen nhw'n gwbl briodol eisiau eu gweld yn cael eu harchwilio, a bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan yn yr ymchwiliad annibynnol dan arweiniad y Barnwr Hallett yn y ffordd fwyaf agored y gallwn. Byddwn yn darparu'r holl ddogfennau sydd gennym ni; byddwn yn darparu'r holl dystiolaeth a oedd ar gael i ni, a byddwn yn gwneud hynny mewn ffordd na fwriedir iddi amddiffyn y safbwynt a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru ar unrhyw fater. Rwyf i eisoes wedi cyfarwyddo'r bobl hynny sy'n helpu i baratoi tystiolaeth Llywodraeth Cymru bod y dull yr wyf i eisiau i ni ei fabwysiadu yn un lle byddwn ni'n esbonio pam wnaethom ni'r penderfyniadau a wnaethom ac yna ei adael i'r ymchwiliad benderfynu a oedd modd amddiffyn y penderfyniadau hynny. Nid wyf i am fynd i ymchwiliad gan geisio cyfiawnhau neu amddiffyn—termau a ddefnyddiodd yr Aelod oedden nhw; nid dyna'r termau y byddaf i'n eu defnyddio. Byddwn yn mynd yno i egluro a byddwn yn darparu'r holl dystiolaeth a allwn o pam wnaethom ni'r penderfyniadau a wnaethom, ac yna mater i'r ymchwiliad, nid i Lywodraeth Cymru, ac os caf i ddweud hynny, nid i arweinydd yr wrthblaid ychwaith, fydd penderfynu a oedd modd amddiffyn y penderfyniadau hynny ai peidio yng nghyd-destun yr adeg y cawson nhw eu gwneud.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Fe wnaeth yr Uchel Lys, yn ei benderfyniad, y pwynt cyffredinol, onid wnaeth? Daeth i'r casgliad cyffredinol, o gofio'r ddealltwriaeth gynyddol bod trosglwyddo asymptomatig yn bosibilrwydd gwirioneddol, y dylid bod wedi newid y dull o ryddhau cleifion o ysbytai i gartrefi gofal ac, yn benodol, y dylai cleifion asymptomatig fod wedi eu cadw ar wahân i breswylwyr eraill am 14 diwrnod. Y cyngor hwnnw, sef yr unig safbwynt cyfreithlon yn ôl yr Uchel Lys, a gafodd y cyngor hwnnw, a gafodd y polisi hwnnw ei ymgorffori yma yng Nghymru yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill? A roddwyd y cyngor hwnnw i gartrefi gofal?
Wel, unwaith eto i fod yn gwbl eglur gydag arweinydd Plaid Cymru, nid yw hwnnw yn sylw y mae'r Uchel Lys wedi ei wneud wrth glywed unrhyw beth o gwbl am benderfyniadau a wnaed yng Nghymru. Gall yr Aelod geisio os hoffai geisio awgrymu hynny oherwydd iddo wneud sylw cyffredinol y mae'n rhaid iddo, rywsut, fod yn berthnasol yma yng Nghymru. Nid wyf i'n credu bod ganddo hawl i wneud hynny. Gwrandawiad am ddau achos yn Lloegr oedd hwn. Ni chymerodd yr un gair o dystiolaeth am yr hyn a ddigwyddodd yng Nghymru. Ond mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei ofyn yn ymwneud â throsglwyddiad asymptomatig. Rwy'n credu y bydd angen i'r ymchwiliad archwilio'r pwynt pan ddaeth yn amlwg bod y coronafeirws yn glefyd y gallai unigolion asymptomatig ei ledaenu; pryd y gwnaeth y cyngor hwnnw ddod i'r amlwg a dod yn hysbys i Lywodraethau; ac ar yr adeg y daeth i'r amlwg, beth fyddai canlyniadau polisi hynny. Maen nhw yn gwestiynau cwbl briodol—nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl am hynny—a bydd yr ymchwiliad yn dymuno mynd i'r afael â nhw.
Wel, gall yr Uchel Lys ein helpu ni yn y ffordd honno, oni all? Gan ei fod mewn gwirionedd yn ymchwilio i'r union gwestiwn yr ydych chi newydd ei godi, Prif Weinidog. Dyma mae'n ei ddweud:
'nid oedd unrhyw brawf gwyddonol yng nghanol mis Mawrth 2020 bod trosglwyddiad asymptomatig yn digwydd, ond cydnabuwyd yn eang gan yr arbenigwyr fod trosglwyddiad o'r fath yn bosibl.'
'Roedd ymrwymiad ar Weinidogion', maen nhw'n mynd ymlaen i'w ddweud, barnwyr yr Uchel Lys,
'i bwyso a mesur nid yn unig y tebygolrwydd bod trosglwyddiad asymptomatig yn digwydd, ond hefyd y canlyniadau difrifol iawn pe bai yn digwydd.'
Yr union bwyntiau a oedd yn cael eu gwneud yma yng Nghymru hefyd. Nid oedd gwyddoniaeth trosglwyddiad asymptomatig yn wahanol, onid oedd, yma yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr. Roedd lefel yr wybodaeth yn ystod y cyfnod yr oedd yr Uchel Lys yn cyfeirio ato yr un fath yma, ac roedd canlyniadau gwneud pethau'n anghywir—y canlyniadau angheuol, rwy'n drist o ddweud, o'i gael yn anghywir—yn union yr un fath. Felly, onid ydych chi'n derbyn, yn seiliedig ar y dyfarniad a gyflwynwyd gan yr Uchel Lys, fod y methiant i gydnabod y posibilrwydd o drosglwyddiad asymptomatig wedi arwain at ganlyniadau angheuol dros ben yma yng Nghymru? A byddai'n dda cael ateb gonest i hynny nawr gan y Prif Weinidog, o gofio cryfder y teimladau sy'n bodoli ymhlith y cyhoedd yng Nghymru, yn enwedig ymhlith y teuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth.
Wel, Llywydd, rwy'n ceisio rhoi ateb gonest bob tro y byddaf i'n siarad wrth y blwch traddodi hwn. Nid yw hynny'n golygu y byddaf i'n rhoi ateb yr hoffai'r Aelod i mi ei roi. Nid yw hynny'n brawf o onestrwydd. Ni ddylai awgrymu ei fod. Dywedodd eiliad yn ôl fod yr Uchel Lys wedi canfod, ar yr adeg pan oedd penderfyniadau yn cael eu gwneud, nad oedd sicrwydd gwyddonol bod trosglwyddiad asymptomatig yn digwydd. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i bobl gydnabod am eiliad yr oeddem ni, ar yr adeg hon yn hanes deall y clefyd hwn, yn dysgu, roedd pawb yn dysgu pethau newydd amdano bob un dydd.
Rwy'n cytuno â'r pwynt y mae arweinydd Plaid Cymru yn ei wneud na allwch chi wahanu'r ddealltwriaeth yng Nghymru oddi wrth y ddealltwriaeth ledled y Deyrnas Unedig gyfan, gan fod y cyngor yr oeddem ni'n dibynnu arno yn gyngor a ddaeth, yn aml iawn, o lefel y DU honno. Dyna pam mae'r gred gyson y gallai ymchwiliad i Gymru yn unig roi atebion i chi mor anghywir, gan na fyddai'n gallu archwilio'r union fater hwnnw, gan na fyddai'r un o'r bobl hynny o gwmpas y bwrdd yn gallu rhoi tystiolaeth i ymchwiliad Cymru yn unig.
Nid wyf i'n credu y bydd o fudd i unrhyw un i'r Siambr weithredu fel pe bai'n gomisiwn ymchwiliad. Nid ydym. Mae'r comisiwn ymchwiliad yn annibynnol ar y Senedd hon, ac mae hefyd yn annibynnol ar y Llywodraeth yma. Mae'r materion hyn, sy'n faterion cwbl briodol, yn haeddu cael eu clywed yn y manylder y byddai eu hangen arnyn nhw, gyda'r archwiliad fforensig y bydd yr ymchwiliad yn ei ddarparu. Yna cawn weld a oedd modd amddiffyn y penderfyniadau a wnaed yma yng Nghymru, yn y sefyllfa o ran gwybodaeth ar y pryd, gyda'r dystiolaeth a'r cyngor a oedd ar gael i ni, ai peidio.
Rydych chi'n cyfeirio at y dadansoddiad cynhwysfawr a'r dystiolaeth a aeth i mewn i'r un cwestiwn hwn o ran Lloegr; a allwch chi addo y bydd y teuluoedd hynny sydd wedi dioddef profedigaeth yn cael yr un lefel o ddadansoddiad fforensig a chynhwysfawr ag y mae'r teuluoedd yn Lloegr wedi ei chael drwy'r Uchel Lys o ran y cwestiwn penodol hwn? A fydd cylch gorchwyl ymchwiliad y DU yn cynnwys ateb y cwestiwn a oedd y polisi o ran rhyddhau cleifion i gartrefi gofal yng Nghymru yn gyfreithlon? Neu, os na fydd, ai'r unig opsiwn sydd ar gael i'r teuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth yw bod yn rhaid iddyn nhw ddilyn y llwybr cyfreithiol hefyd, i gael y math o sicrwydd sydd bellach wedi ei gyflwyno gan yr Uchel Lys mewn cysylltiad â Lloegr? Fel yr wyf i'n deall eich safbwynt, nid ydych chi'n derbyn ei fod yn berthnasol i Gymru. A allwn ni fod yn siŵr y byddwn ni'n cael yr un lefel o bwyslais ar y penderfyniadau a wnaed yng Nghymru gydag ymchwiliad y DU? A fydd y teuluoedd yn cael y sicrwydd drwy'r broses honno?
Rwy'n credu ei bod hi'n iawn ac yn briodol, ac yn anochel yn wir, y bydd yr ymchwiliad annibynnol yn wir yn canolbwyntio ar y mater hwn ochr yn ochr â chyfres o faterion eraill y mae teuluoedd wedi eu codi. Fel y mae'r Aelod yn gwybod, rwyf i wedi cyfarfod fy hun â chynrychiolwyr teuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth yma yng Nghymru. Ymrwymais bryd hynny i ysgrifennu ar eu rhan, yn yr ymateb yr ydym ni wedi ei roi i'r rownd ddiweddaraf o ymgynghoriadau ar y cylch gorchwyl, gan ofyn a ellid codi rhai materion penodol a oedd, rwy'n credu, yn ymhlyg yn y cylch gorchwyl, i'w gwneud yn eglur ar wyneb y cylch gorchwyl hwnnw. Nid oes gen i unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar y mater hwn. Fel y dywedodd arweinydd Plaid Cymru, yr oedd yn fater o ddiddordeb ac ymchwiliad cyhoeddus sylweddol o'r cychwyn, a mater i'r barnwr, rwy'n credu, yn y pen draw—. Mae'n rhaid i mi fod yn ofalus i beidio â thresmasu ar bethau y gellid ei ystyried fel ei fod yn ymyrryd mewn unrhyw ffordd â'i hannibyniaeth, ond mae'n ymddangos yn amhosibl i mi na fydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar hyn, gyda lefel o fanylder fforensig yr wyf i'n credu y bydd y pwnc yn ei haeddu.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth 5G yng Nghymru? OQ57951
Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am delathrebu. Yn ôl Ofcom, mae darpariaeth awyr agored 5G gan o leiaf un gweithredwr ar hyn o bryd yn cynnwys mwy na 23 y cant o eiddo yng Nghymru.
Diolch, Gweinidog. Mae cysylltedd 5G yn elfen ganolog o'r Llywodraeth hon yn cyflawni ei huchelgeisiau i gael 30 y cant o weithlu Cymru yn gweithio gartref. Hefyd, mae llawer o'ch polisïau—er enghraifft, lleihau traffig i helpu i wella ansawdd aer a lleihau allyriadau carbon deuocsid ar y ffyrdd, a gwella cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac ehangu'r defnydd o dechnoleg ar gyfer datblygiadau arloesol fel ffermio clyfar—yn dibynnu cymaint ar gysylltedd 5G. Mae ein heconomi, ac yn enwedig ein heconomi wledig, wedi dioddef cymaint yn sgil y pandemig, ac mae bellach yn ras yn erbyn amser i osod 5G ledled Cymru. Fel yr wyf i'n siŵr y mae'r Prif Weinidog yn gwybod, datgelodd adolygiad marchnad agored band eang 2021, er gwaethaf y gweithrediad presennol ledled Cymru, ymhen tair blynedd, bydd bron i 118,000 o eiddo yn dal i fod heb ddefnydd o fand eang â gallu'r genhedlaeth nesaf, a bydd 118,000 o eiddo eraill yn dal i gael eu hadolygu. O ran band eang â gallu gigabit ymhen tair blynedd, bydd bron i 330,000 o eiddo yn dal i fod heb fynediad, a bydd 660,000 o eiddo eraill yn cael eu hadolygu. Mae'r cyfnod cymharol hir hwn yn sicr yn effeithio ar fusnesau newydd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac yn lleihau mantais gystadleuol Cymru o ran denu busnes newydd. Er bod cyllid ar gael gan Lywodraeth y DU o dan Brosiect Gigabit i gefnogi uwchraddio i 5G, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, y ffactor sy'n cyfyngu bellach yw gallu Llywodraeth Cymru i gaffael gan gwmnïau technoleg—
Rwy'n credu y bydd angen i chi ddod at eich cwestiwn nawr, Joel James.
—i osod ac uwchraddio rhwydweithiau. Prif Weinidog, pa sgyrsiau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda diwydiant i wella effeithlonrwydd y broses o gyflwyno 5G, a pha asesiad effaith y mae'r Llywodraeth hon wedi ei gwneud o effeithiau negyddol hirdymor cynifer o eiddo yn methu â chael mynediad at fand eang y genhedlaeth nesaf a band eang â gallu gigabit? Diolch.
Rwyf i yn gobeithio y bydd yr Aelod yn dod o hyd i amser i roi'r hyn y mae newydd ei ddweud wrthym ni mewn llythyr y gall ei anfon at y Gweinidog sy'n gyfrifol am y materion hyn, sy'n Weinidog yn Whitehall, nid yng Nghymru. Fel y ceisiais egluro mor syml ag y gallwn yn fy ateb gwreiddiol, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y materion hyn. Nid yw'n fater sydd wedi ei ddatganoli i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi camu i mewn i ddarparu rhai cyfleusterau prawf i wirio sut y gall technolegau 5G ddatblygu, er enghraifft, mewn lleoliadau gwledig. Roedd ein rhaglen Datgloi 5G Cymru yn canolbwyntio ar Raglan yn etholaeth Sir Fynwy ac yn ardaloedd y Cymoedd hefyd, lle'r oedd yr un rhaglen honno yn gallu profi'r ffordd orau o ddefnyddio technoleg 5G yng Nglynebwy fel prawf ar gyfer cymunedau'r Cymoedd.
Dyna'r swyddogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei chyflawni. Gallwn helpu i wneud yn siŵr bod y dechnoleg yn cael ei dyrannu orau yng Nghymru, ond Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ddyrannu'r dechnoleg. Eu cyfrifoldeb nhw ydyw. Nid wyf i'n gweld bod gan yr Aelod bwynt arbennig o berthnasol i'w wneud wrth ofyn beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud. Fe wnaf ei atgoffa ei fod wedi sefyll ar sail maniffesto flwyddyn yn ôl a oedd yn dweud y byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn cael gwared ar unrhyw wariant gan Lywodraeth Cymru ar gyfrifoldebau nad oedden nhw wedi eu datganoli, a fyddai'n golygu na fyddai unrhyw wariant o unrhyw fath ar faterion 5G nac unrhyw faterion band eang eraill. Yn ffodus, ni wnaethom ni ddilyn y cyngor hwnnw ac ni wnaeth poblogaeth Cymru chwaith.
Mae Ofcom yn dweud wrthym fod y broses o gyflwyno technoleg 5G yn mynd yn dda yng Nghymru a bod hynny yn arbennig o wir ar hyn o bryd am y llain drefol o amgylch arfordir y de. Mae'n mynd yn dda yn bennaf yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe. Rwy'n gobeithio, am y rhesymau a nodwyd gan yr Aelod, ei bod yn parhau i fynd yn dda, oherwydd, fel y dywedodd, mae'n galluogi cyfres o amcanion polisi pwysig iawn i gael eu dilyn yma yng Nghymru. Ond mae'r cyfrifoldeb yn eglur iawn, ac rwy'n gobeithio y bydd, i'r un graddau helaeth ag y cyflwynodd ei bwyntiau i ni, yn eu gwneud i'r Gweinidogion sy'n gyfrifol amdanyn nhw mewn gwirionedd.
Prif Weinidog, rwy'n deall nad yw band eang yn fater sydd wedi ei ddatganoli ac, yn anffodus, nad yw gogledd Cymru wedi cael dim o'r £5 biliwn y mae Llywodraeth y DU wedi ei neilltuo ar gyfer cyllid seilwaith band eang. Rwy'n deall y gallai fod yn ddwy flynedd arall. Fodd bynnag, rwyf wedi cyffroi ac yn falch o glywed bod consortiwm, yn Ynys Môn, sy'n cael ei arwain gan Brifysgol Bangor a'r sector preifat, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, a bod ganddo raglen dreialu i ategu a chynyddu rhwydwaith digidol presennol Llywodraeth Cymru i alluogi cyflwyniad cyflym o seilwaith 5G. Bydd hyn yn targedu ardaloedd gwledig yn bennaf, gan ddefnyddio arloesedd a thechnoleg bresennol Prifysgol Bangor, drwy eu canolfan prosesu signalau digidol. Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i obeithio y bydd Llywodraeth y DU yn sylweddoli ansawdd y fenter leol hon ac yn cefnogi'n ariannol y seilwaith band eang gwledig y mae taer angen amdano ar gyfer y gogledd, ac yn rhoi rhywfaint o'r £5 biliwn hwnnw a neilltuwyd i'r gogledd?
Mae hwnna yn bwynt pwysig iawn y mae'r Aelod yn ei wneud ar ran y rhanbarth y mae'n ei gynrychioli yma yn y Senedd. Fel y mae'n digwydd, cefais gyfle i drafod y cynnig sydd wedi ei gyflwyno gan y ganolfan Prosesu Signalau Digidol gyda swyddogion Llywodraeth Cymru yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf. Mae'n gynnig sy'n arloesol, o ran y gronfa y gwnaed y cais ar ei chyfer. Mae'n gronfa sydd â'r nod pennaf o gynyddu nifer yr aelwydydd sydd â mynediad at fand eang. Mae hwn yn gynnig sy'n cyfuno gwaith ymchwil i'r defnydd gorau o dechnolegau 5G, a hefyd, drwy'r gwaith ymchwil hwnnw, yn ymestyn nifer yr aelwydydd sydd â mynediad atyn nhw. Gwn fod swyddogion Llywodraeth Cymru wrthi'n trafod gyda'r ganolfan, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi adborth i'r ganolfan ar y cynigion cyn gynted â phosibl, ac yn sicr erbyn i ni dorri ar gyfer yr haf.
4. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch goruchwylio rheoleiddiwr pêl-droed newydd Lloegr? OQ57969
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Ni chafodd Llywodraeth Cymru ei gwahodd i gyfrannu at yr adolygiad o lywodraethu pêl-droed yn Lloegr dan arweiniad cefnogwyr. Bydd y rheoleiddiwr annibynnol newydd arfaethedig ar gyfer pêl-droed yn Lloegr yn cael rhywfaint o effaith ar glybiau Cymru sy'n chwarae yng nghynghreiriau Lloegr, ond mater i Lywodraeth y DU fydd goruchwylio'r rheoleiddiwr.
Mae hynny, wrth gwrs, yn siomedig, oherwydd, yn amlwg, mae clybiau o Gymru yn chwarae yng nghynghreiriau Cymru a Lloegr. Rydym ni i gyd yn cofio marwolaeth drasig Emiliano Sala dros dair blynedd yn ôl, y cwympodd ei awyren ar ei ffordd i Gaerdydd o Nantes. Y llynedd, cafwyd David Henderson yn euog a chafodd 18 mis yn y carchar am ei roi ar awyren a gafodd ei hedfan gan rywun nad oedd wedi ei drwyddedu i gludo teithwyr a oedd yn talu, nac i hedfan yn y nos. Fel y dywedir wrthym ni, mae rheoleiddiwr pêl-droed newydd Lloegr yn mynd i fod yn canolbwyntio ar faterion ariannol clybiau pêl-droed proffesiynol. A wnaiff Llywodraeth Cymru wneud sylwadau am yr oruchwyliaeth y mae'n rhaid i'r rheoleiddiwr feddu arni i dacluso'r ffordd y mae clybiau pêl-droed yn prynu ac yn gwerthu chwaraewyr, i'w diogelu rhag asiantau diegwyddor a phobl sy'n dymuno gwneud arian o bêl-droed, fel y gallwn ni barhau i'w galw'n gêm brydferth?
A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am y cwestiynau yna? Mae hi'n llygad ei lle wrth ddweud bod troseddau wrth wraidd y digwyddiadau trasig yn ymwneud â marwolaeth Emiliano Sala. Mae'r adolygiad dan arweiniad cefnogwyr, adolygiad Tracey Crouch, yn sicr yn werth ei ddarllen i unrhyw Aelodau o'r Senedd sydd â diddordeb yn y pwnc. Rwy'n credu ei fod yn gwneud cyfres o argymhellion pwysig iawn, a byddan nhw'n cael effaith yma yng Nghymru oherwydd cyfranogiad o leiaf pum clwb o Gymru yng nghynghreiriau Lloegr.
O ran y pwynt penodol ynghylch asiantau, rwy'n credu bod yr adolygiad yn arbennig o ddiddorol i'w ddarllen. Mae'n tynnu sylw at y ffaith y bu cyfundrefn reoleiddio yn gysylltiedig â gweithrediad asiantau pêl-droed tan 2015, pan ddaeth cyfundrefn reoleiddio FIFA i ben, ac arweiniodd at ddadreoleiddio'r diwydiant hwnnw. Mae FIFA bellach yn disgrifio'r canlyniad fel cyfraith y jyngl, lle mae gwrthdaro buddiannau yn rhemp a chomisiynau afresymol—mae'n rhoi'r geiriau 'comisiynau' mewn dyfynodau—yn cael eu hennill o bob cwr. Mae'r adroddiad yn ei gwneud yn eglur mai pêl-droed yn Lloegr yw marchnad fwyaf y byd i asiantau. Mae ganddo rai ffigurau trawiadol iawn. Mae'n dyfynnu ffigurau gan FIFA dros y degawd diwethaf. Mae'n dweud bod busnes pêl-droed Lloegr—ac mae hynny'n cynnwys y clybiau yng Nghymru, felly, sy'n cymryd rhan yng nghynghreiriau Lloegr—wedi gwario $919 miliwn wrth dalu am wasanaethau asiantau dros ddegawd. Yn yr Almaen, $376 miliwn oedd y ffigur, yn Sbaen $264 miliwn, yn Ffrainc $190 miliwn—$190 miliwn yn Ffrainc a $919 miliwn yn y gêm yn Lloegr. Fel y mae casgliadau Tracey Crouch yn ei fynegi:
'Mae'n destun pryder ei bod yn ymddangos bod clybiau Lloegr yn talu cymaint mwy nag unrhyw gynghreiriau eraill—arian sy'n cael ei golli i'r gêm. Mae hefyd yn peri pryder y gallai'r diffyg rheoleiddio asiantau, yn ogystal â chostio arian i glybiau...y gallai gweithgarwch troseddol fod yn digwydd hefyd, gan gynnwys camfanteisio ar blant.'
Mae'r rhain yn gyhuddiadau difrifol iawn sy'n cael eu gwneud, yn ddifrifol iawn yn nhestun yr adroddiad. Ceir argymhelliad yn yr adolygiad hwnnw dan arweiniad cefnogwyr. Fe'i derbyniwyd gan Lywodraeth y DU, y mae wedi ei gyfeirio ati, sef y dylai'r Llywodraeth archwilio ffyrdd o gefnogi'r gwaith o reoleiddio asiantau pêl-droed sy'n gweithredu ym maes pêl-droed yn Lloegr, drwy weithio gydag awdurdodau perthnasol, gan gynnwys FIFA.
O'r cwestiwn atodol a roddodd Jenny Rathbone ger ein bron y prynhawn yma, Llywydd, gallwch weld cryfder yr argymhelliad hwnnw, ac mae'n dda gallu dweud ei fod wedi ei dderbyn gan Lywodraeth y DU. Mae'n rhaid i ni edrych ymlaen yn awr at weld y Llywodraeth yn gweithio gydag eraill i ddod â gweithrediad asiantau pêl-droed yn ôl o dan gyfundrefn reoleiddio sylweddol y gellir ei hamddiffyn.
Rwy'n sicr yn croesawu'r adolygiad hwn dan arweiniad cefnogwyr, a fydd, gobeithio, yn sicrhau dyfodol pêl-droed am genedlaethau i ddod. Rydym yn gwybod bod nifer o faterion yn y gêm y ceisiodd yr adolygiad fynd i'r afael â nhw, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi cymeradwyo pob un o'r 10 argymhelliad strategol a geir yn yr adroddiad—yn fwyaf nodedig, rheoleiddiwr pêl-droed. Er bod yr adolygiad ar gyfer y gêm yn Lloegr, mae'n bwysig cofio, fel y nodwyd eisoes, fod nifer o glybiau yng Nghymru yn chwarae ym mhyramid Lloegr. Felly, pa effaith, yn eich barn chi, bydd yr adolygiad hwn yn ei chael ar y clybiau hynny?
Yn ail, ar ôl i Bapur Gwyn y DU gael ei gyhoeddi'n llawn dros yr haf, a gaf i ofyn i chi am gadarnhad y bydd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon yn gwneud datganiad llawn i'r Senedd ar effaith y Papur Gwyn ar glybiau yng Nghymru, ac a oes unrhyw agweddau ar yr adroddiad a'r Papur Gwyn y gall Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru eu datblygu ar gyfer y gêm yng Nghymru?
Yn olaf, rwy'n credu y byddai'n gyfle wedi ei wastraffu pe na fyddwn yn llongyfarch Dinas Abertawe ar guro Dinas Caerdydd ddwywaith y tymor hwn, sef y tro cyntaf i'r naill glwb neu'r llall gyflawni'r gamp honno. Felly, efallai, fel yr Aelod etholaeth dros Orllewin Caerdydd, yr hoffai'r Prif Weinidog ymuno â mi i longyfarch yr Elyrch hefyd.
Wel, rwy'n credu bod yr Aelod yn ddoeth i wneud ei sylwadau terfynol o ddiogelwch ei swyddfa ei hun—[Chwerthin.]—felly rwy'n ei longyfarch ar gael y rhan honno'n iawn. Mewn gwirionedd, cytunais â llawer iawn o'r hyn a oedd ganddo i'w ddweud. Rwy'n credu y bydd yr adolygiad yn cael effaith yma yng Nghymru os caiff ei argymhellion eu gweithredu. Mae'n debygol o fod yn effaith fuddiol oherwydd yr hyn y mae'n ei wneud yw pwysleisio'r ffaith bod pêl-droed yn gêm a gaiff ei chwarae er budd y rhai sy'n cefnogi clybiau pêl-droed, yn hytrach na'r rhai sy'n berchen arnyn nhw neu sy'n ceisio gwneud arian ohonyn nhw. Os oes un neges wrth wraidd yr adolygiad, mae'n ymwneud â sut yr ydych yn ail-gydbwyso'r buddiannau hynny, fel bod buddiannau cefnogwyr yn dod yn gyntaf, yn hytrach na rhai o'r ffyrdd y mae'r gêm wedi datblygu dros gyfnodau mwy diweddar.
Byddwn ni, wrth gwrs, yn darllen y Papur Gwyn â diddordeb. Byddai'n dda iawn, o'n safbwynt ni, pe bai Gweinidogion Cymru yn cael cyfle i fod yn rhan o rai o'r trafodaethau a fydd yn rhagflaenu'r Papur Gwyn hwnnw. Bydd y Gweinidog sy'n gyfrifol, rwy'n siŵr, yn cyflwyno adroddiad ar unrhyw gasgliadau sydd ganddi ar gyfer y gêm yng Nghymru i'r Senedd.
Bydd yr Aelod yn falch o wybod, rwy'n siŵr, mai'r gêm bêl-droed broffesiynol gyntaf yr es i i'w gweld erioed oedd ar Gae'r Vetch yn Abertawe, lle gwelais Abertawe o'r bedwaredd adran yn chwarae Huddersfield o'r bedwaredd adran. Ni allaf ddweud yn onest fod y gêm gyfartal 0-0 honno wedi fy ysbrydoli i ddychwelyd yn gyflym i'r cae, ond mae gen i atgofion melys iawn o fod yng Nghae'r Vetch.
5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd cyllid codi'r gwastad yn ei chael ar seilwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru? OQ57985
Llywydd, bydd unrhyw effaith o gyllid ffyniant bro yn cael ei bychanu gan y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod darparu ein cyfran o'r boblogaeth o fuddsoddiad HS2 i Gymru. Dylai Llywodraeth y DU roi ei chyfran deg o gyllid i Gymru, er mwyn caniatáu i'r penderfyniadau hynny gael eu gwneud yma yng Nghymru mewn meysydd datganoledig, gan y rhai a etholwyd i gynrychioli Cymru.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Fe wn i eich bod wedi ymrwymo i wella profiad teithwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus er mwyn lleihau nifer y teithiau mewn ceir i gyflawni sero net. Fel rhan o hyn, mae Trafnidiaeth Cymru wedi buddsoddi mewn trenau newydd ar gyfer rheilffordd Wrecsam-Bidston ac wedi recriwtio gyrwyr newydd a'u hyfforddi i gyd eisoes.
Gwnaed cais am gyllid ffyniant bro hefyd i fynd i'r afael â mater Padeswood. Roedd yn cynnwys darparu gorsaf Barcffordd Glannau Dyfrdwy hefyd, a chyfleuster parcio a theithio gorsaf Pen-y-ffordd, fel y gallwn symud ymlaen gyda gweledigaeth integredig un tocyn rheilffordd a bws. Gwrthodwyd y cais am y gwelliannau hanfodol hyn, ynghyd â llawer o rai eraill ar draws y gogledd am gyllid ffyniant bro, ac mae swyddogion y cyngor wedi dweud wrthyf fod y broses gwneud cais ar gyfer cronfeydd strwythurol yn mynd yn ôl 10 mlynedd. Nid yw'r terfynau amser yn glir. Mae'n gostus o ran adnoddau ac arian. Nid oes ganddyn nhw'r amser na'r adnoddau ar gael i wneud y ceisiadau hyn, ac yna maen nhw'n cael eu gwrthod. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi fod y cyllid ffyniant bro honedig yn gwbl anaddas i'r diben, gan ddefnyddio adnoddau awdurdodau lleol ac eithrio cynifer o gymunedau yng Nghymru rhag cael gafael ar y buddsoddiad sydd ei angen arnyn nhw? Diolch.
Llywydd, mae'n drist gen i ddweud bod yr enghraifft benodol y mae'r Aelod yn cyfeirio ati yn enghraifft dda o'r ffordd nad yw'r gronfa'n diwallu anghenion Cymru. Roedd gan Trafnidiaeth Cymru gynllun i gynyddu gwasanaethau ar y rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston i ddau drên yr awr o fis Mai eleni, o'r mis hwn ymlaen. Yn awr, ni fydd yn gallu gwneud hynny. Nid yw wedi gallu gwneud hynny oherwydd bod Network Rail wedi gwrthod caniatâd ar gyfer y ddau drên yr awr hynny, oherwydd bu gwrthwynebiad gan gludwr nwyddau, gan ddweud y byddai dau drên yr awr yn ymyrryd â'i amserlen ddydd ar gyfer cludo nwyddau. Gellid bod wedi osgoi'r cyfan pe bai'r cais hwnnw am gronfa ffyniant bro wedi ei gyflwyno—cais a gefnogwyd gan yr holl bartïon lleol, cais a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru ac, yn rhyfeddol, gan yr Adran Drafnidiaeth yn Llywodraeth y DU hefyd. Felly, yma mae gennych chi gynllun, gyda chefnogaeth pob lefel o lywodraeth y gallwch ei ddychmygu, a fethodd â chael cyllid gan y gronfa ffyniant bro, ac mae'n golygu yn awr na all Trafnidiaeth Cymru fwrw ymlaen â'r gwelliannau i'r amserlen y bydden nhw wedi eu cyflwyno ym mis Mai eleni, oherwydd bod y mater yn dal yn nwylo'r Swyddfa Rheilffyrdd a'r Ffyrdd.
Beth mae hyn yn ei ddangos, Llywydd? Wel, mae'n dangos, yn fy marn i, mewn cronfa, na chafwyd trafodaeth o gwbl gyda Llywodraeth Cymru yn ei chylch, fod cyllid a ddylai fod wedi dod i Gymru—. Cofiwch i'r Trysorlys ddweud yn wreiddiol y byddai symiau canlyniadol Barnett o'r gronfa ffyniant bro, dim ond iddo newid ei feddwl ychydig wythnosau'n ddiweddarach. Felly, dyma gyllid sy'n dameidiog, sy'n anrhagweladwy, lle mae atebolrwydd aneglur, lle mae'r risg o ddyblygu a gwerth gwael am arian yn deillio o'r ffordd y mae'r gronfa honno wedi ei llunio. Mae'n arwain at y canlyniadau gwrthnysig yr ydych wedi eu clywed gan Carolyn Thomas y prynhawn yma ac, mae arnaf ofn, trigolion y gogledd sydd ar eu colled.
6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu nifer y prentisiaethau gradd ledled Cymru? OQ57986
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae dros 1,200 o brentisiaethau gradd wedi eu llenwi yn ystod tair blynedd cyntaf y rhaglen yng Nghymru. Bydd ein pwyslais ar ehangu yn blaenoriaethu meysydd sy'n mynd i'r afael â bylchau mewn sgiliau, yn hybu cynhyrchiant ac yn cyfrannu at ein huchelgeisiau sero net.
Diolch, a hoffwn ddiolch i chi, Prif Weinidog, am eich ateb. Prif Weinidog, mae prentisiaethau gradd yn hanfodol bwysig i lenwi'r bylchau yn ein gweithlu, boed hynny yn y GIG a gofal cymdeithasol, adeiladu, peirianneg, i enwi ond rhai. Ar ddiwedd 2020, gwnaeth pwyllgor yr economi nifer o argymhellion, gan gynnwys un i alluogi, ariannu a chefnogi strwythurau neu grwpiau mwy ffurfiol i randdeiliaid a diwydiant perthnasol ddod ynghyd i ddatblygu ac adnewyddu fframweithiau prentisiaeth gradd, gan ddefnyddio eu harbenigedd galwedigaethol a sector manwl. Prif Weinidog, a wnewch chi amlinellu pa waith sydd wedi ei wneud i fynd i'r afael â'r argymhellion hyn, oherwydd os ydym am lenwi'r swyddi gwag yn ein GIG ac mewn sectorau eraill, a datblygu'r gweithlu cydnerth hwnnw y mae arnom ei angen yng Nghymru, gallai prentisiaethau gradd fod yn ateb i fynd i'r afael â bylchau yn y gweithlu a rhoi cyfleoedd i fwy o bobl gael mynediad at ddysgu gydol oes? Diolch, Llywydd.
Llywydd, rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am y cwestiwn ychwanegol yna, ac rwy'n falch iawn o allu trafod y mater hwn ar ddiwrnod pan fo prentisiaethau cyfreithiol yn cael eu lansio yng Nghymru—argymhelliad gan gomisiwn Thomas, a gyflwynwyd yn wreiddiol gan fy nghyd-Aelod Jeremy Miles, ac a gwblhawyd gan y Cwnsler Cyffredinol presennol. Rwy'n credu, os bydd yr Aelod yn astudio'r cyhoeddiad heddiw, y bydd yn gweld ei fod wedi ei ddatblygu yn unol ag argymhellion adroddiad y pwyllgor yn union, gan ei fod wedi dod ynghyd o ganlyniad i drafodaethau gyda Chymdeithas y Cyfreithwyr, o ganlyniad i adolygiad cyflym o gymwysterau yn sector cyfreithiol Cymru, a thrwy weithio gyda Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol.
Bydd fy nghyd-Aelod Vaughan Gething yn ddiweddarach y tymor hwn yn cyflwyno ein cyfres ehangach o gynigion ar gyfer sut y gallwn fynd â phrentisiaethau gradd, prentisiaethau ar lefel graddedigion, ymlaen yma yng Nghymru. Mae'n rhaid i mi ddweud, er mwyn bod yn realistig gyda chydweithwyr, o ystyried absenoldeb cyllid Ewropeaidd, fod ein gallu i wneud popeth yr hoffem ei wneud yn y maes hwn wedi ei gyfyngu. Mae llawer o feysydd lle ceir galwadau am wneud mwy mewn prentisiaethau i raddedigion oherwydd llwyddiant y cynllun. Ac nid wyf i'n credu fy mod i wedi sôn yn gynharach, Llywydd, wrth ateb cwestiwn 2, fod gan grŵp Llafur Rhondda Cynon Taf gynnig ar gyfer 150 o brentisiaethau ychwanegol a phrentisiaethau i raddedigion dros y pum mlynedd nesaf yn y rhan honno o Gymru, pe baen nhw mewn sefyllfa i wneud hynny ar ôl dydd Iau.
7. Beth yw asesiad y Prif Weinidog o'r cynnydd o ran adeiladu Cymru gynhwysol a goddefgar? OQ57988
Llywydd, rydym ni eisiau i Gymru fod yn genedl oddefgar a chroesawgar, ond yn rhy aml, nid yw profiad bywyd rhai wedi adlewyrchu'r uchelgais hwnnw bob amser. Dangosodd yr ymgynghoriad diweddar ar ein cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol fod cynnydd clir wedi ei wneud, ond bod hefyd tir sydd eto i'w ennill.
Diolch, Prif Weinidog. Yn gyntaf, hoffwn ddweud 'Eid Mubarak' wrth ein cymuned Fwslimaidd yng Nghymru. Mae'r dathliad yn nodi diwedd Ramadan a'r mis o ymprydio o'r wawr i'r cyfnos. Roeddwn i'n falch iawn o gymryd rhan ac ymuno â fy etholwyr ar gyfer swperau iftar a gêm bêl-droed ganol nos. Trefnwyd y gêm bêl-droed gan County in the Community ac Exiles Together Clwb Pêl-droed Cymdeithas Sir Casnewydd. Wrth siarad â chwaraewyr a threfnwyr, clywais am rwystrau diwylliannol a hiliaeth sy'n ei gwneud yn anodd i bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig chwarae pêl-droed o lefel lawr gwlad i'r gêm broffesiynol, ac mae hyn yn wir yn gyffredinol mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Prif Weinidog, yn unol â chynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol Cymru, a wnaiff Llywodraeth Cymru barhau i bwyso ar gyrff chwaraeon cenedlaethol ac eraill i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon a'i datrys, fel y gall pawb yng Nghymru elwa ar chwaraeon a ffitrwydd, a bod ein timau cenedlaethol yn elwa drwy dynnu o'n holl gymunedau?
Llywydd, clywais gri 'Eid Mubarak' John Griffiths yn cael ei adleisio o amgylch y Siambr y prynhawn yma, a gwn y bydd Aelodau ym mhob rhan o'r Siambr yn dymuno llongyfarch ein cydweithwyr Mwslimaidd ac ymuno yn eu dathliadau wrth i fis sanctaidd Ramadan ddirwyn i ben.
A gaf i ddweud ei bod yn wych clywed yr hyn a ddywedodd John Griffiths am fynd i sesiynau pêl-droed ganol nos? Ac eleni, rwy'n credu ein bod ni wedi gweld rhai camau gwirioneddol ymlaen, yn gyson â'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol. Mae Criced Morgannwg wedi bod yn cynnal gemau criced ganol nos ac mae Golff Cymru wedi agor eu cyfleusterau, gan gynnwys Clwb Golff y Parc yng Nghasnewydd, i sicrhau, wrth i bobl dorri eu hympryd, a dymuno gwneud rhywbeth i ddathlu hynny, fod cyfleoedd chwaraeon ar gael iddyn nhw mewn ffordd sy'n groesawgar i bobl o bob cymuned ledled Cymru. Rydym wedi blaenoriaethu cynllun gweithredu gwrth-hiliol Cymru yn y llythyrau cylch gwaith sy'n cael eu hanfon at gyrff hyd braich chwaraeon a diwylliannol yng Nghymru ar gyfer tymor y Senedd hon, ac yn y modd hwnnw, rwy'n gobeithio y gwelwn ni gamau pellach tuag at yr union fath hwnnw o Gymru wrth-hiliol y byddem ni eisiau ei weld, ac y mae angen ei adlewyrchu yng ngweithrediad ein cyrff chwaraeon a diwylliannol o ddydd i ddydd felly.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Mabon ap Gwynfor.
8. Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i gynorthwyo'r sector tai cymdeithasol yn wyneb y cynnydd mewn costau adeiladu? OQ57948
Wel, diolch yn fawr am y cwestiwn. Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda landlordiaid cymdeithasol i gefnogi'r sector. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, fe wnaethon ni dalu £11 miliwn o grantiau ychwanegol a £25 miliwn o fenthyciadau di-log i landlordiaid cymdeithasol i'w helpu i ymdopi â chynnydd mewn costau deunyddiau. Rydyn ni’n parhau i fonitro'r pwysau ar y gadwyn gyflenwi yn y sector adeiladu.
Diolch yn fawr iawn i'r Prif Weinidog am yr ateb hwnnw. Mae gan y Llywodraeth darged, wrth gwrs, o adeiladu tai cymdeithasol, ac mae eu mawr angen nhw er mwyn mynd i'r afael â'r rhestrau aros ar gyfer tai. Mae yna ddatblygiadau tai yn yr arfaeth ar hyn o bryd, ond mae contractwyr yn ei chael hi'n anodd i ddelifro rhai cytundebau oherwydd y cynnydd aruthrol mewn pris deunyddiau a llafur. Mae pris coed wedi llifio, er enghraifft, wedi cynyddu 90 y cant mewn blwyddyn. Mae dur wedi cynyddu tua 70 y cant. Mae copr, sment a deunyddiau eraill wedi cynyddu'n aruthrol hefyd.
Mae'r cynnydd mewn pris ynni wedi cyfrannu'n fawr at hyn, ond mae'r sector yn dweud wrthyf fi fod Brexit hefyd wedi chwarae rhan yn y cynnydd. Yn fwy na'r trafferthion presennol i'r sector adeiladu, mae bron yn amhosib i'r sector adeiladu a thai cymdeithasol i flaen-gynllunio. Mae'r cynnydd cyson yma yn golygu nad ydym yn gwybod os fyddan nhw'n medru cadw at dermau cytundeb yn y dyfodol. Mae'r ansicrwydd yma felly yn effeithio ar y llif gwaith, gyda rhai adeiladwyr yn gorfod gadael gweithwyr i fynd oherwydd yr ansicrwydd. Mae hyn yn arwain at waith yn stopio, ac yn effeithio ar ddatblygiadau.
Yn wyneb hyn, felly, oes yna gymorth brys ychwanegol y gall y Llywodraeth ei roi er mwyn pontio yn ystod y cyfnod anodd yma er mwyn sicrhau bod llif gwaith yn parhau, a bod y targedau adeiladu tai cymdeithasol yn cael eu cyrraedd?
Llywydd, diolch yn fawr i Mabon ap Gwynfor am y pwyntiau pwysig yna. Mae beth ddywedodd e yn wir; mae targed uchelgeisiol gyda ni fel Llywodraeth i adeiladu mwy o dai am rent cymdeithasol yma yng Nghymru, ac mae'r sector, dwi'n cydnabod, yn wynebu nifer o sialensiau ar hyn o bryd. Mae swyddogion yn cyfarfod gyda'r sector bob tair wythnos i fonitro'r pwysau ar y gadwyn gyflenwi. Ymhlith y sefydliadau yr ydym yn gweithio gyda nhw yw'r cyngor ar weinyddiaeth adeiladu. Cafodd y cyfarfod diwethaf ei gynnal ar 13 Ebrill, a daeth i'r casgliad bod y pwysau ar y gadwyn gyflenwi wedi sefydlogi yn gynharach eleni.
Ers hynny, wrth gwrs, mae Brexit, fel roedd yr Aelod yn ei ddweud, a chwyddiant, prinder llafur ac effaith y rhyfel yn Wcráin, yn parhau i greu pwysau gwirioneddol ar dai cymdeithasol. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, roedd y Llywodraeth wedi ffeindio mwy o arian—£24 miliwn, dwi'n meddwl—i helpu'r sector i ymdopi â'r problemau sydd yn codi yn y meysydd fel yna. Ac mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i liniaru'r ffactorau hyn, i'r graddau eu bod o fewn ein rheolaeth neu ddylanwad.
Diolch i'r Prif Weinidog. Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae ychydig o newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Yn gyntaf, bydd Gweinidog yr Economi yn gwneud datganiad ar fesurau reoli ffiniau fel yr eitem nesaf o fusnes. Yn ail, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i leihau'r amser sydd wedi'i neilltuo ar gyfer cwestiynau i Gomisiwn y Senedd a chanslo'r ddadl fer, gan nad oes unrhyw bwnc wedi'i gyflwyno, yfory.
Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Gweinidog, hoffwn i chi sicrhau datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, iddi ymateb i'r Athro Donald Forrester, sydd wedi galw am adolygiad o waith cymdeithasol plant yng Nghymru yn dilyn marwolaeth Logan Mwangi. Dywedodd yr athro wrth BBC Cymru fod cryn nifer o farwolaethau plant wedi bod ledled y DU, y mae angen arolygon i gynnwys y gwasanaethau cymdeithasol arnyn nhw. Yn ôl yr athro, dylai adolygiad annibynnol gael ei gynnal yng Nghymru, yn debyg i'r rhai sy'n cael eu cynnal yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'r materion hyn yn eithriadol o bwysig, a byddwn yn annog y Gweinidog i nodi ymateb. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Wel, cyfeiriodd yr Aelod at achos Logan Mwangi, sy'n amlwg yn achos trasig, ac mae ein meddyliau'n llwyr gyda phawb a effeithiwyd gan farwolaeth Logan. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig nawr yw bod yr adolygiad o arferion plant a'r arolygiad arfaethedig gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn cael eu cwblhau cyn i'r Gweinidog wneud unrhyw ddatganiad.
Trefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd yn ein diweddaru ar y gwaith ar fetro de Cymru. Gyda'r gwaith yn mynd rhagddo mewn nifer o ardaloedd ledled y rhanbarth rwyf yn ei gynrychioli, rhaid cyfaddef bod trigolion wedi cael sioc o ran faint o effaith mae'r gwaith yn ei gael arnynt. Mae nifer wedi sôn wrthyf ac wedi ysgrifennu ataf yn cwyno bod y sŵn yn eu cadw'n effro dros nos, sydd wedyn yn effeithio ar eu gwaith a hefyd ar addysg eu plant, ac yn gofyn pam nad yw'r gwaith hwn yn digwydd yn bennaf yn y dydd. Byddai'n fuddiol gwybod sut mae'r gwaith yn mynd rhagddo, a sut mae cwynion a phrofiadau trigolion yn cael eu delio â nhw i sicrhau bod unrhyw amhariad, ar gwsg yn benodol, yn cael ei leihau gymaint ag sy'n bosib, tra bo'r gwaith pwysig a hanfodol yma yn mynd rhagddo.
Diolch. Mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud ar hyn o bryd, fel yr ydych chi wedi cyfeirio ato, o ran metro'r de, ac yn wir, metro'r gogledd. Rydych chi'n codi rhai pryderon—pryderon penodol, mae'n ddrwg gennyf i—gan etholwyr. Rwy'n credu y byddai'n fwy priodol ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a'i gael i ymchwilio i'r rheini.
Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth. Yn gyntaf, yr oedd llawer o fy etholwyr yn pryderu o ddifrif ynghylch sylw a wnaeth Jacob Rees-Mogg am ddyfodol yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau yn Abertawe. Hoffwn i bwysleisio pwysigrwydd y DVLA i Abertawe a'r gymuned ehangach. Dyma sut y gweithiodd ffyniant bro Llafur yn y 1960au, drwy symud un o adrannau'r Llywodraeth allan o Lundain. A all Llywodraeth Cymru wneud datganiad am bwysigrwydd cyrff sydd wedi'u hariannu gan Lywodraeth San Steffan yng Nghymru?
Yn ail, hoffwn i ofyn cwestiwn am athrawon cyflenwi. Fel rhywun sydd wedi gofyn yn barhaus am ddarpariaeth athrawon cyflenwi yn y sector cyhoeddus, rwyf i wedi credu ers tro byd fod athrawon cyflenwi'n cael eu trin yn wael. Roeddwn i'n falch iawn o weld y camau arfaethedig yng nghytundeb Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth ynghylch pryd a sut y bydd y dewis ar gyfer model mwy cynaliadwy o addysgu cyflenwi, gyda gwaith teg wrth ei wraidd, a fyddai'n cynnwys mentrau wedi'u harwain gan awdurdodau lleol ac wedi'u harwain gan ysgolion, yn cael ei weithredu.
Diolch i Mike Hedges. Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch adrannau Llywodraeth y DU, ac yn wir adrannau Llywodraeth Cymru, y tu allan i'r brifddinas. Ac rwy'n credu mai'r hyn yr ydych chi'n iawn i dynnu sylw ato yw'r rhan ysgogi bwysig y gall y Llywodraeth a'i phartneriaid yn y sector cyhoeddus ehangach ei chwarae wrth gefnogi'r adfywio hwnnw ac adnewyddu'r economi drwy ddefnyddio staff a swyddfeydd yn strategol fel rhan o strategaeth sy'n seiliedig ar leoedd. Mae'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrechu'n galed iawn i'w gefnogi yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a byddwch chi'n ymwybodol, yn ddiweddar, fod swyddfa newydd Trafnidiaeth Cymru, er enghraifft, ym Mhontypridd, a helpodd i roi hwb gwirioneddol i adfywio yn yr ardal honno, ac, yn wir, o leoliad pencadlys Banc Datblygu Cymru yn fy etholaeth i, sef Wrecsam, a fydd, gobeithio, yn tyfu eto yn ystod y blynyddoedd nesaf. Rwy'n credu, wrth i ni symud allan o'r pandemig, bydd y cyfleoedd i gael mwy o'r arfer hwn—. Ac rydym ni'n cydnabod yn llwyr bwysigrwydd y DVLA yn Abertawe. Mae wedi bod yn gymorth economaidd hanfodol i Dreforys a'r ardal ehangach drwy'r ôl troed economaidd sydd ganddo yno.
O ran eich cwestiwn ynghylch athrawon cyflenwi, mae'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg yn eistedd wrth fy ymyl, ac mae'n hapus iawn i gyflwyno datganiad.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog addysg am atebolrwydd a hawliau rhieni mewn ysgolion yng Nghymru? Y rheswm yr wyf yn gofyn am hyn yw fy mod yn ymdrin ag achos ar ran etholwr y mae ei ferch yn dioddef o orbryder ac yn aros i gael ei hasesu gan y gwasanaeth iechyd meddwl plant a'r glasoed ar hyn o bryd. Mae'r disgybl wedi'i gwahardd o'r ysgol o ganlyniad i helynt a ddigwyddodd, er nad oes prawf ei bod hi wedi cymryd rhan neu hyd yn oed, yn wir, yn gyfrifol am hyn. Cafodd fy etholwr wybod fod yn rhaid i'w ferch fynychu Canolfan Gyflawni'r Bont yng Nghasnewydd, ond nid oes lle iddi ar hyn o bryd, ac mae'n rhaid iddi barhau â'i haddysg ar-lein. Mae hyn yn gwbl groes i ddymuniadau'r rhiant, nad yw'n credu bod hyn er ei lles gorau ac yn dymuno iddi barhau i fynychu'r ysgol, wrth aros am asesiad CAMHS. Mae'r ysgol wedi gwrthod ystyried ei phenderfyniad i wahardd y plentyn a phan gysylltais i ag adran addysg Cyngor Dinas Casnewydd, cefais i wybod mai mater yn yr ysgol yw hwn ac nid mater i'r awdurdod lleol wneud sylwadau arno. Felly, Gweinidog, gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog am atebolrwydd adrannau addysg lleol am y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan eu hysgolion a pha hawliau sydd gan rieni os yw eu barn am yr hyn sydd orau i'w plentyn yn wahanol i farn yr ysgol? Diolch.
Unwaith eto, rwy'n credu y byddai'n fwy priodol pe baech chi'n ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg. Mae'n bryder penodol iawn yr ydych chi'n ei godi.
Hoffwn i gael datganiad, os gwelwch yn dda, yn amlinellu pa waith sy'n digwydd ar draws y Llywodraeth i ymdrin â'r prinder therapi adfer hormonau yn y DU. Mae etholwyr wedi cysylltu â mi sy'n pryderu'n fawr am hyn ac yn llawn ofn ynghylch sut y byddan nhw'n ymdopi os na allan nhw reoli eu symptomau menopos. Trefnydd, nid ydym ni'n siarad digon am y menopos. Mae stigma o hyd sy'n golygu bod gormod o bryderon menywod yn cael eu hanwybyddu neu nad ydyn nhw'n cael eu cymryd o ddifrif, a gallan nhw wynebu symptomau gwanychol, nid dim ond pyliau o wres neu broblemau cysgu, ond poen a phryder sy'n effeithio ar sut y maen nhw'n byw eu bywydau.
Gwnaeth arolwg diweddar ganfod fod un o bob 10 menyw sydd wedi gweithio yn ystod y menopos wedi gadael eu swydd oherwydd eu symptomau, a bydd y prinder HRT presennol yn gwneud bywydau menywod di-rif yn fwy o straen difrifol. Nawr, rwy'n sylweddoli mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gynnal y cyflenwad o feddyginiaethau, ond rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn gweithio ar draws y Llywodraeth i helpu i sicrhau bod menywod yn parhau i gael presgripsiynau. Rwy'n siŵr y byddai menywod ledled Cymru yn croesawu datganiad gan y Llywodraeth yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni i gyd am y cynnydd sy'n cael ei wneud ledled y DU i fynd i'r afael â'r prinder HRT.
Diolch, ac rwy'n credu bod Delyth Jewell yn codi pwynt pwysig iawn, sy'n effeithio, yn amlwg, ar lawer o'n hetholwyr. Rwy'n gwybod, yn sicr, gan wisgo fy het AS, yr wyf i wedi cael sylwadau. Rwy'n credu eich bod chi'n hollol gywir, nid yw pobl yn cydnabod y menopos yn y ffordd y dylai gael ei gydnabod. Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru newydd benodi un o'n swyddogion ni i fod yn eiriolwr y menopos, a gwn i y byddaf i a chydweithwyr eraill yn y Cabinet yn ymgysylltu â hi i weld beth arall y gallwn ni'i wneud i godi ymwybyddiaeth o'r mater hwn.
Gofynnaf i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—nid yw hi yn y Siambr, ond gofynnaf iddi'n sicr—a all hi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau ar draws holl weinyddiaethau Llywodraeth y DU. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyw, ond, os oes unrhyw beth y mae'n teimlo sy'n werth rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn ei gylch, gofynnaf i iddi hi wneud hynny.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi ar fesurau i reoli ffin, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad. Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Llywydd. Hoffwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ddyfodol mesurau rheoli ffiniau ym Mhrydain Fawr.
Yn dilyn fy natganiad ysgrifenedig yn ddiweddar ar 28 Ebrill, yr wythnos diwethaf, bydd yr Aelodau'n cofio i mi wneud datganiad blaenorol i'r Senedd ym mis Ionawr eleni ar gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer archwiliadau dogfennol, hunaniaeth a chorfforol ar nwyddau mewn safleoedd rheoli ffiniau o 1 Gorffennaf eleni a sut yr oeddem ni'n bwriadu eu gweithredu yma yng Nghymru.
Cafodd cyfarfod byr iawn ei gynnal, a gafodd ei alw ar fyr rybudd gan Lywodraeth y DU i gyfarfod â Llywodraethau datganoledig eraill, ar 27 Ebrill. Ni pharhaodd y cyfarfod fwy na hanner awr. Yn y cyfarfod hwn, cefais fy hysbysebu y byddai cyflwyno mwy o safleoedd rheoli ffiniau yn cael ei atal tan ddiwedd 2023 ac y byddai Llywodraeth y DU yn cyflymu ei rhaglen i ddigideiddio ffiniau Prydain. Rwy'n siomedig i ddweud bod hyn yn rhywbeth na chafodd ei drafod ymlaen llaw ar lefel weinidogol gyda Llywodraethau datganoledig.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Dywedodd y Gweinidog dros Gyfleoedd Brexit Llywodraeth y DU, Jacob Rees-Mogg, yn ei ddatganiad ysgrifenedig i Senedd y DU ar 28 Ebrill fod cyflwyno mesurau rheoli ffiniau yn bygwth cynyddu'r pwysau ar fusnesau a defnyddwyr sydd eisoes dan bwysau, sy'n ymdrin â chostau byw cynyddol a phrisiau ynni uwch. Roedd hefyd mewn perygl o achosi aflonyddwch yn ein porthladdoedd ac i gadwyni cyflenwi, gan gynyddu prisiau bwyd a nwyddau i ddefnyddwyr a busnesau hyd yn oed ymhellach, ar yr adeg waethaf bosibl.
Er fy mod i'n cytuno y bydd y newidiadau hyn yn cyfrannu rhywfaint at leddfu'r pwysau hynny, rwy'n siŵr y bydd y rhan fwyaf o'r Aelodau'n cytuno â mi y dylai Llywodraeth y DU fod yn gwneud llawer mwy i ymdrin â'r argyfwng costau byw. Rwy'n ailadrodd ein galwadau gan Lywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU gyflwyno mesurau ymarferol yn ddi-oed i gefnogi pobl, busnesau a chymunedau.
Dirprwy Lywydd, rwyf i wedi'i wneud yn glir i Weinidogion y DU y byddai angen amser ar Lywodraeth Cymru i ystyried holl oblygiadau penderfyniad diweddar iawn Llywodraeth y DU a'i effaith ar Gymru. Yn benodol, mae angen i ni ddeall cynigion manwl Llywodraeth y DU ar sut i drin nwyddau o ynys Iwerddon. Yr un mor bwysig, mae angen i ni weithio gyda'n gilydd ar sut i sicrhau bioddiogelwch. Gwyddom ni, wrth gwrs, am ganlyniadau ofnadwy achosion o glefyd anifeiliaid neu blanhigion.
Yn ogystal, mae angen i Lywodraeth Cymru weld ar frys ddeddfwriaeth ddrafft y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ei chyflwyno, y mae'n rhaid iddi ddod i rym cyn 30 Mehefin. Mae hyn yn allweddol i benderfynu a fydd angen i ni gyflwyno ein deddfwriaeth ein hunain ar gyfer Cymru, ac ychydig iawn o amser sydd ar ôl nawr er mwyn gwneud hynny. Rwy'n galw eto ar Lywodraeth y DU i weithio gyda ni ar frys i roi terfyn ar yr ansicrwydd hwn. Mae hyn yn hanfodol er mwyn i Lywodraeth Cymru a'r Senedd hon gyflawni ein cyfrifoldebau yn unol â'n gweithdrefnau democrataidd sefydledig.
Hyd nes ein bod ni'n deall cynigion manylach, ni allaf i wneud sylwadau ar effaith y cyhoeddiad ar ein rhaglen waith, gwariant nac ymrwymiadau eraill ar gyfer y dyfodol. Rwyf i eisoes wedi dweud wrth yr Aelodau fod y Llywodraeth hon yn credu y dylai unrhyw wariant ar fesurau rheoli ffiniau, ar ôl i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, gael ei ariannu gan Drysorlys y DU. Os rhywbeth, mae'r cyhoeddiad newydd hwn yn ychwanegu at gryfder ein safbwynt ni. Mae penderfyniadau Llywodraeth y DU wedi pennu ffurf ein hymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd. Mae penderfyniadau Llywodraeth y DU yn parhau i effeithio'n uniongyrchol ar gyfrifoldebau datganoledig gyda chanlyniadau ariannol. Mae arnaf i ofn nad ydym ni'n gwybod eto a fydd y newid polisi diweddaraf hwn yn effeithio ar ymrwymiad presennol Llywodraeth y DU i ariannu costau angenrheidiol adeiladu safleoedd rheoli ffiniau.
Dirprwy Lywydd, mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn hynod o rwystredig i Lywodraeth Cymru, i'n porthladdoedd ac i fusnesau Cymru. Mae arnaf i ofn dweud, er ein bod ni wedi bod yn cynllunio ar gyfer cyflwyno mesurau rheoli ffiniau, ein bod ni wedi cael ein llesteirio drwyddi draw oherwydd diffyg gwybodaeth. Mae cyfarfodydd ar y cyd gyda Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau datganoledig eraill yn y maes hwn wedi cael eu gohirio dro ar ôl tro, ac mae Gweinidogion y DU yn dal heb ymateb i fy llythyr diweddaraf, o fis Mawrth eleni.
Hoffwn i atgoffa'r Aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi etifeddu ymrwymiad polisi Llywodraeth y DU i ddatblygu safleoedd rheoli ffiniau mewndirol lle na allai porthladdoedd ddarparu ar eu cyfer, ac yr oeddem ni'n bwrw ymlaen â'r gwaith o geisio bod yn barod erbyn 1 Gorffennaf. Mae hyn wedi cymryd cannoedd o oriau o amser gweision sifil a llawer iawn o amser gweinidogol. Nid yw'n fy nghynnwys i'n unig; mae'n cynnwys Gweinidogion yn gyffredinol, gan gynnwys, yn benodol, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, ac, yn wir, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. Ac rydym ni wedi gwario £6 miliwn o arian cyhoeddus ar y rhaglen waith hon hyd yn hyn.
Mae ymgysylltiad Llywodraeth y DU â'r Llywodraethau datganoledig o ran gwneud penderfyniadau wedi bod yn gwbl annerbyniol. Mae'n gwbl groes i'r ffyrdd o weithio a gafodd eu rhagweld yn yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol a'r fframweithiau cyffredin. Dirprwy Lywydd, mae hyn, a dweud y gwir, yn amharchus i Lywodraeth ddatganoledig, ac i'r Senedd hon y mae angen iddi graffu arnom ni a'n dwyn i gyfrif.
Wrth symud ymlaen, yr wyf i eisiau cydweithio â Llywodraeth y DU i sicrhau bod gennym ni'r system gywir ar gyfer mewnforio nwyddau—system sy'n ddiogel ac yn effeithlon. Er mwyn gwneud hynny, mae angen newid agwedd ac ymgysylltiad gwirioneddol. Os oes modd cyflawni system fewnforio ddiogel ac effeithlon drwy ddefnyddio technolegau newydd arloesol i symleiddio prosesau a lleihau ffrithiant, yna mae hyn yn rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, ei gefnogi. Ond yn yr un modd, byddwn ni eisiau cael sicrwydd bod ein cyfrifoldebau strategol hirdymor i ddiogelu iechyd pobl, anifeiliaid a phlanhigion yn y wlad hon yn cael grym priodol a digonol.
Ac yn olaf, hoffwn i ymddiheuro ymlaen llaw i'r Aelodau nad wyf i'n debygol o allu ymateb i geisiadau am wybodaeth ychwanegol fanwl ar hyn o bryd, gan nad ydym ni'n gwybod yr atebion i rai cwestiynau amlwg iawn. Serch hynny, mae'n bwysig bod Aelodau'n cael cyfle i wneud sylwadau ac i ofyn cwestiynau, a byddaf i'n ystyried y sylwadau a'r cwestiynau gan Aelodau yn fy ngohebiaeth ddilynol â Llywodraeth y DU, a'r hyn a fydd, gobeithio, yn ymgysylltu mwy rheolaidd a defnyddiol â nhw. Fel y dywedais i, byddaf i'n ysgrifennu at Weinidogion y DU cyn bo hir i wneud rhai o'r pwyntiau hyn, a byddaf i, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ddatblygiadau.
Ar ran y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Rwy'n sylweddoli bod y penderfyniad i gyflwyno archwiliadau rheoli mewnforion wedi'i ddileu'n gyflym a heb ddeialog ystyrlon â Llywodraethau ledled y DU, ac felly, o ganlyniad, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cael llawer iawn o amser i ystyried y goblygiadau i Gymru mewn gwirionedd. Serch hynny, rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad hwn fel y gall Aelodau geisio deall y sefyllfa'n well a'r hyn y mae'n ei olygu, wrth symud ymlaen. Ac er gwybodaeth, Dirprwy Lywydd, rwy'n credu y dylai archwiliadau priodol cael eu gwneud ar ein ffiniau, a gobeithiaf y gall Llywodraeth y DU fwrw ymlaen â'r mater hwn cyn gynted â phosibl. Ond yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu nad dyma'r amser iawn i wneud newidiadau eraill i archwiliadau rheoli mewnforion ar y ffin, yn dilyn ymgynghoriad â'r byd diwydiant, er mwyn lleddfu'r pwysau cynyddol ar fusnesau a defnyddwyr sydd eisoes dan bwysau. Byddai gennyf i ddiddordeb mawr mewn cael gwybod pa sylwadau, serch hynny, sydd wedi cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru yn ystod y misoedd diwethaf ynglŷn â'r mater hwn. Mae'r datganiad heddiw, wrth gwrs, yn cyfeirio at gostau byw cynyddol a phrisiau ynni uwch, felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni pa sylwadau penodol y mae wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU cyn ei phenderfyniad i ddileu archwiliadau rheoli mewnforion.
Nawr, fel y mae datganiad heddiw yn ei nodi, mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cyhoeddi model gweithredu targed yn yr hydref, a bydd y model hwnnw'n destun ymgynghoriad â diwydiant a gweinyddiaethau datganoledig. Mae hyn yn golygu bod amser i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ynghylch sut y dylai'r system yn y dyfodol edrych a sut y dylai weithredu. Felly, efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni beth yw barn Llywodraeth Cymru ynghylch sut y dylai'r model edrych, ac a allai gadarnhau pa drafodaethau y mae'n eu cynnal gyda rhanddeiliaid yng Nghymru ynghylch yr hyn y maen nhw eisiau'i weld o ran y model newydd?
Bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod rhai wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU. Er enghraifft, mae SEF Langdon wedi dweud y bydd y newid mewn polisi tuag at ffin ddigidol fwy clyfar gan Lywodraeth y DU yn caniatáu llif rhydd o gynhyrchion bwyd diogel i Brydain Fawr ac y gallai'r penderfyniad arwain at fwy o gwmnïau o'r UE yn allforio i farchnad Prydain Fawr unwaith eto, cynyddu cystadleuaeth ac yn y pen draw gostwng prisiau i'r defnyddiwr. Ac felly, mae'n debyg bod cyfle ar hyn o bryd i lunio polisi tymor hwy a chael y model hwn yn iawn mewn ffordd sy'n gweithio gyda busnesau ac sy'n sicrhau bargen dda i ddefnyddwyr hefyd. Yn naturiol, mae costau wedi bod o ganlyniad i'r gwaith sydd wedi'i wneud hyd yma i sefydlu safleoedd rheoli ffiniau yng Nghymru, yn fwyaf nodedig yng Nghaergybi, ac mae'r datganiad heddiw'n amcangyfrif bod £6 miliwn eisoes wedi'i wario hyd yma. Fodd bynnag, os ydy archwiliadau rheoli mewnforio yn cael eu cyflwyno'n ddiweddarach a bod prisiau wedi cynyddu, efallai y ceir mwy o gostau yn y dyfodol. Felly, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym beth fydd dull Llywodraeth Cymru o gyllidebu ar gyfer hyn yn y dyfodol, o gofio bod modd gwneud penderfyniad i'w hailgyflwyno'n ddiweddarach, yr un mor gyflym ag y cafodd y penderfyniad i'w dileu ei wneud?
Nawr, mae'n amlwg bod Llywodraeth y DU yn ceisio digideiddio ffiniau Prydain, ac mae'r datganiad heddiw'n cyfeirio at y technolegau newydd hynny i symleiddio prosesau a lleihau ffrithiannau. Mae Llywodraeth y DU wedi cyfeirio at y ffenestr fasnach sengl a ddaw i rym y flwyddyn nesaf, sy'n canoli mynediad data i un man ac a fyddai'n caniatáu rhannu data'n well ymhlith asiantaethau'r Llywodraeth ac yn arwain at gostau is wrth fewnforio ac allforio nwyddau i fusnesau, a byddai gennyf i ddiddordeb mawr mewn dysgu ychydig mwy am y technolegau newydd sy'n cael eu defnyddio i leddfu llif masnach. Felly, efallai y gwnaiff y Gweinidog rannu gyda ni unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae wedi'i chael ynglŷn â defnyddio unrhyw dechnolegau a data newydd, a'r rhan y bydd y dechnoleg newydd hon yn ei chwarae yn y dyfodol.
Mae'r Gweinidog wedi crybwyll clefydau anifeiliaid yn ei ddatganiad a bydd hefyd yn ymwybodol o'r bygythiad o glwyf moch Affricanaidd sy'n dod i mewn i'r DU drwy stociau heintiedig o Ewrop, neu deithwyr yn dod â chynhyrchion porc halogedig i'r wlad. Mae'n fater sydd wedi'i godi gan Gymdeithas Cyfanwerthwyr Cig yr Alban, sy'n credu y gallai'r DU fod yn peryglu ein diwydiant domestig, a gwn i fod Cymdeithas Milfeddygon Prydain wedi codi pryderon tebyg hefyd. Felly, a wnaiff ddweud wrthym ni pa drafodaethau y mae wedi'u cael gyda'r Gweinidog materion gwledig, yn ogystal â'r prif swyddog milfeddygol ac undebau'r ffermwyr, o ran effaith mewnforion heb eu harchwilio a sut y gallai effeithio ar ffermio yng Nghymru, yn ogystal â beth yw eu barn am unrhyw fodelau newydd yn y dyfodol?
Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, byddai'n esgeulus i mi beidio â gofyn am ddyfodol safleoedd a oedd yn cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru, o gofio bod Johnston yn fy etholaeth i. Rwy'n sylweddoli ei bod hi'n ddyddiau cynnar, ond efallai y gallai'r Gweinidog ddweud wrthym ni pa effaith y gallai'r newidiadau ei chael ar safleoedd posibl ac a fydd Llywodraeth Cymru nawr yn ystyried safleoedd eraill, wrth symud ymlaen, gan ei bod hi nawr wedi penderfynu dileu lleoliad Johnston yn fy etholaeth i. Felly, wrth gloi, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw? Rwy'n gobeithio y gall deialog llawer mwy agored ac ystyrlon ddigwydd rhwng y ddwy Lywodraeth, wrth symud ymlaen, yn y maes hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy am y cynlluniau newydd wrth iddyn nhw gael eu datblygu. Diolch.
Diolch i'r Aelod am y gyfres o gwestiynau, y byddaf i'n ceisio eu hateb cyn gynted â phosibl. O ran y gynrychiolaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chyflwyno i Lywodraeth y DU ar gostau byw, a pholisi'r ffin ar gostau byw, rydym ni wedi mynd drwy hyn sawl gwaith yn y Siambr. Mewn sgwrs uniongyrchol sydd wedi digwydd o fewn y Llywodraeth hon, ond hefyd sylwadau wedi'i cyflwyno i Lywodraeth y DU, byddwch chi wedi clywed y galwadau rheolaidd am ardoll ffawdelw ar y gorelw mewn cyfleustodau wedi'u preifateiddio, ac roedd llawer o gwestiynau'r Prif Weinidog heddiw'n ymwneud â phwyntiau ynghylch yr argyfwng costau byw.
O ran ffiniau, fy rhwystredigaeth i yw ein bod ni wedi ceisio ymgysylltu â Gweinidogion y DU ar y sefyllfa sy'n datblygu'n gyflym, ac nid ydym ni wedi gwneud cynnydd oherwydd nid oes parodrwydd wedi bod i ymgysylltu â ni, fel yr oedd yr Aelod wedi cydnabod yn ei agoriad, gan gydnabod nad oes deialog ystyrlon wedi digwydd gyda Llywodraethau datganoledig. Rwyf i wedi nodi mai ar 24 Mawrth y cafodd fy llythyr diweddar ei anfon at Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a dim ymateb hyd yn hyn, sy'n anghwrtais.
O ran sut y dylai'r model yn y dyfodol edrych, wel, mewn sawl ffordd mae gennym ni diddordeb, mewn gwirionedd, mewn cyfrifoldebau datganoledig, wrth gwrs, yn ymwneud ag archwiliadau iechydol a ffytoiechydol—yn y bôn, iechyd planhigion ac anifeiliaid, a chynhyrchion sy'n seiliedig arnyn nhw. Nawr, yr anhawster, o ran sut y bydd y model yn y dyfodol yn edrych, yw bod hynny i gyd wedi'i ohirio. Roeddem ni'n mynd i gael model, yr oeddem ni'n bwriadu gwario arian ar greu safleoedd rheoli ffiniau, ac mewn sawl ffordd yr oedd yn waeth nag yn Lloegr, gyda mwy o arian wedi'i wario ar recriwtio staff a hefyd creu cyfleusterau ffisegol. Roeddem i fod i roi contract i Kier Construction, yr wyf i wedi'i gyhoeddi'n gyhoeddus o'r blaen, i greu cyfleusterau parhaol yng Nghaergybi yng ngwanwyn 2023. Nid ydym ni'n siŵr nawr a ydym ni'n mynd i fwrw ymlaen â'r rheini, oherwydd nid oes gennym ni'r sicrwydd ynghylch yr hyn y bydd angen i ni ei greu i gynnal yr hyn a ddylai fod yn system effeithiol a chydlynol ledled Prydain ar gyfer mewnforion. Felly, ni allaf i ddweud wrthych chi yn ddiffuant sut olwg fydd ar y model newydd gan nad ydym ni wedi cael y trafodaethau hynny ac nid yw Llywodraeth y DU wedi rhoi syniad clir i ni sut y dylai model newydd edrych yn eu barn nhw, ar wahân i'r hyn a fydd yn seiliedig ar dechnoleg. Dyna pam na allwn ni ymgysylltu'n fanwl â rhanddeiliaid yn dilyn y cyhoeddiad. Dyna hefyd pam na allaf i ddweud dim i ateb eich cwestiwn arall am y dechnoleg newydd i leddfu llif nwyddau, a diweddariad arno. Nid ydym ni ond wedi cael gwybod mai technoleg fydd hi, nid beth yw'r dechnoleg, nid pa mor bell ymlaen ydyw, na hyd yn oed sut y mae modd ei chaffael, na hyd yn oed beth fyddai'r gost i genhedloedd yn y DU ar gyfer math newydd o system. Oherwydd, mewn gwirionedd, mae gennym ni gyfrifoldebau datganoledig, ond mae'n gwneud llawer iawn o synnwyr i gael dull gweithredu cyffredin ym mhob rhan o'r DU. Ac mae'n mynd ymlaen at y pwynt y gwnaethoch chi ynghylch clwy moch Affricanaidd y byddaf i'n dod ato. Felly, rydym eisiau bod yn gydweithredol, ond mae angen i bobl siarad â ni, i rannu gwybodaeth ac yn wir i ymgysylltu go iawn ynghylch beth fydd yr ateb technolegol a faint y gall ei wneud. Gallai gyflymu llif rhai nwyddau, ond, mewn gwirionedd, mae'n ddigon posibl y bydd terfynau.
Ac mae'n dod at rai o'r pwyntiau yr ydych wedi'u gwneud ynghylch clwy moch, er enghraifft. Ar hyn o bryd mae gennym ni archwiliadau cyrchfan ar 5 y cant o dda byw sy'n dod i mewn. Mae hynny'n golygu nad yw 19 allan o 20 yn cael eu harchwilio yn y gyrchfan. Er hynny, mewn sgwrs—gwnaethoch chi ofyn i mi am sgwrs gyda'r prif filfeddyg a gyda Lesley Griffiths, yn rhinwedd ei swydd yn Weinidog materion gwledig—. Cefais i sgwrs yr wythnos diwethaf â Lesley Griffiths a siaradais â'r prif filfeddyg y bore yma, ac, yn wir, rydym ni'n ymwybodol bod rhai o'r archwiliadau cyrchfannau hynny'n datgelu heriau. Nawr, yr her yw bod mwy o risgiau, mewn gwirionedd, ar gyfandir Ewrop ar hyn o bryd. Mae'r archwiliadau cyrchfannau'n codi rhai o'r rheini ond nid pob un ohonyn nhw. Felly, mewn gwirionedd, o safbwynt bioddiogelwch, mae cael archwiliadau ar ffiniau yn bwysicach oherwydd ein bod ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ac, fel y mae Cymdeithas Milfeddygon Prydain wedi'i nodi, nid oes gennym ni nawr fynediad i'r system arolygu a rhybuddio cynnar sydd gan aelod-wladwriaethau'r UE; mae ganddyn nhw system wyliadwriaeth integredig ac ymatebol iawn nad ydym ni'n rhan ohoni. Ac nid oes gennym ni wedyn archwiliadau mesurau rheoli ffiniau i geisio ychwanegu at ein hamddiffyniadau ein hunain gan nad ydym ni nawr yn rhan o'r system honno—nid oes gennym ni gyfle i fanteisio arni. Felly, mae gennym ni sefyllfa sy'n gwaethygu o ran peidio â bod yn rhan o hynny heb, felly, greu'r seilwaith mewnforio i ddarparu mwy o ddiogelwch i gymunedau ffermio. Rwy'n gwybod y bydd yr Aelod yn ymwybodol o hynny o'i etholaeth ei hun.
O ran heriau i fusnesau mewnforio ac allforio—ac nid i'r gymuned ffermio'n unig, ond mae'n enghraifft amlwg, a dyna pam mae'r NFU wedi bod mor glir a beirniadol ynglŷn â'r penderfyniad—ni fydd nwyddau sy'n dod i mewn o'r Undeb Ewropeaidd yn destun archwiliadau, ond, mewn gwirionedd, bydd ffermwyr Prydain sy'n dymuno allforio eu cynnyrch yn destun yr archwiliadau hynny. Felly, mae sefyllfa annheg wedi'i hymestyn ar gyfer amrywiaeth o fusnesau, ac mae'n ddealladwy pam y mae'r NFU wedi bod yn feirniadol iawn o'r newid sydd wedi digwydd ar fyr rybudd.
Fe wnaf ymdrin â'ch pwyntiau olaf am safleoedd rheoli ffiniau. Wel, nid yw Johnston ar yr agenda. Rydym ni wedi esbonio'r rheswm am hynny, o'r blaen, yn y datganiad yr wyf i wedi'i wneud. Wrth gwrs, bydd angen i ni edrych ar safleoedd eraill, ond, er mwyn gwneud hynny, mae angen i ni ddeall beth fydd y seilwaith yn y dyfodol. Prin y gallaf i osod a chyfarwyddo swyddogion i fynd i edrych ar y rheini heb ddeall sut y bydd mesurau rheoli ffiniau yn y dyfodol yn edrych, faint o seilwaith ffisegol fydd ei angen a ble y byddai angen iddyn nhw fod a pha mor agos at ein porthladdoedd.
Mae hynny hefyd yn mynd at eich pwynt am gostau yn y dyfodol. Bydd angen i Drysorlys y DU lunio barn ar gostau yn y dyfodol. Rydym ni eisiau iddyn nhw ariannu'n briodol gostau mesurau rheoli ffiniau sy'n deillio'n uniongyrchol o benderfyniad y DU i gyflwyno unrhyw ffurf o adael yr Undeb Ewropeaidd gyda'r archwiliadau newydd y mae'n ofynnol i ni eu cynnal. Mae'n gwbl debygol y bydd costau adeiladu'n codi. Nid wyf i'n siŵr a fydd angen i ni aildendro ar gyfer yr ymarfer yr ydym ni eisoes wedi'i wneud, ond mae'r holl ansicrwydd hwn yn crisialu'n daclus yr her o fyr rybudd a phenderfyniad hwyr iawn a chyfeiriad polisi cwbl newydd gyda dyddiad terfynu mewn golwg heb ddealltwriaeth glir o sut i gyrraedd yno.
Ar ran Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ni allwn i gredu fy mod i'n cael y briff hwnnw gan y Gweinidog a'i swyddogion yr wythnos diwethaf, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y briff hwnnw. Ond a bod yn deg, nid wyf i'n credu y gallai'r Gweinidog gredu ei fod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am newid meddwl mor sydyn pan ddaeth i gyfleusterau ffin. Rwy'n digwydd cynrychioli'r ail borthladd fferi gyrru i mewn ac allan prysuraf yn y DU, canolfan allforio fawr, fawr i Gymru, felly rwyf i wedi dilyn datblygiad seilwaith ffiniau yn eithaf agos.
Hyd yn oed lle yr ydym ni wedi gweld seilwaith yn cael ei sefydlu eisoes, gyda safle Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, mae'n dod â phroblemau newydd yn ei sgil. Wrth gwrs, mae swyddi newydd i'w croesawu bob amser, a bydd cefnogwyr Brexit yn clodfori'r swyddi sydd wedi'u creu yng Nghaergybi yn safle rheoli ffiniau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, gan anwybyddu colli swyddi, gan gynnwys yng Nghaergybi, yn sgil ymadael á'r Undeb Ewropeaidd. Rwy'n dychmygu'r bws Brexit hwnnw pan welwn eto'r gwirionedd am arbedion Brexit yn dod mor amlwg.
Mae'r Gweinidog yn sôn am y £6 miliwn sydd wedi'i wario gan y Llywodraeth, efallai y gall ddweud wrthym ni faint sydd wedi'i wario gan lywodraeth leol, sydd â llai byth o adnoddau ac sy'n gorfod datblygu awdurdodau iechyd porthladdoedd o ganlyniad i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. O ganlyniad i'r newid meddwl munud olaf hwn gan Lywodraeth y DU, heb rybudd, heb drafodaeth, mae eu cynlluniau'n nhw'n ansicr iawn hefyd ac nid ydyn nhw'n siŵr beth sy'n digwydd nesaf. Fel yr oeddwn i'n ei ddweud, hyd yn oed gyda safle Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, yr ydym ni wedi colli arhosfan tryciau a oedd yn rhan mor bwysig o seilwaith y porthladd. Felly, rydym ni'n gweld problem ar ôl problem.
Mae gennym ni fater penodol nawr, fodd bynnag, o ran iechyd anifeiliaid, bioddiogelwch, ac nid yw'n syndod bod undebau'r ffermwyr a Chymdeithas Milfeddygon Prydain mor gryf yn eu condemniad o weithredoedd Llywodraeth y DU yn y dyddiau diwethaf. Fel y mae'r Gweinidog wedi'i wneud yn glir, mae ein ffermwyr yn gorfod mynd drwy archwiliadau ar allforion. Nid yw hwn yn deg. Tybed a all y Gweinidog ddweud wrthym ni pa drafodaethau sydd eisoes yn cael eu cynnal ynghylch cefnogi ein ffermwyr gan fod yr annhegwch hwn wedi dod yn fwy annheg byth.
Rydym ni nawr wedi colli'r diogelu a ddaeth o fod yn rhan o'r systemau gwyliadwriaeth Ewropeaidd tynn iawn hynny ar fioddiogelwch. Byddai bylchau'n cael eu llenwi gan yr archwiliadau newydd a fyddai'n cael eu cyflwyno. Tybed a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni nawr pa fesurau rhagofalus y bydd angen eu rhoi ar waith ar unwaith gan ein bod ni'n disgyn rhwng dwy stôl, nid y systemau gwyliadwriaeth Ewropeaidd yr oeddem ni'n rhan ohonyn nhw o'r blaen na'r archwiliadau newydd a fyddai'n cael eu rhoi ar waith oherwydd y safleoedd rheoli ffiniau newydd hyn. Rwy'n sylweddoli nad yw'r Gweinidog yn gallu rhoi atebion manwl, efallai, ar hyn o bryd, ond rwy'n ei annog i geisio atebion cyn gynted â phosibl.
Wrth gloi, hoffwn i gynnig fy nghefnogaeth lwyr i'r Gweinidog, wrth iddo ymdrechu i berswadio Llywodraeth y DU i roi i Gymru, pobl Cymru, porthladdoedd Cymru a'r ffermwyr a'r rhai sydd â diddordeb mewn bioddiogelwch y parch y maen nhw'n ei haeddu, oherwydd, unwaith eto, rydym ni wedi gweld diffyg parch amlwg yng ngweithredoedd Llywodraeth y DU yn ystod y dyddiau diwethaf.
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Fe geisiaf ymdrin â phob un ohonyn nhw.
O ran gwariant y cyngor, rwyf i wedi addo, yn dilyn trafodaethau gyda fy nghyd-Weinidogion, i'r ddau gyngor, sir Benfro a Chyngor Sir Ynys Môn, y byddai'r gost o recriwtio yr oedden nhw'n ymgymryd ag ef yn cael ei chynnwys. Mae llond llaw o gynigion swyddi wedi'u gwneud ar Ynys Môn, ac felly byddwn ni'n sicrhau nad yw'r costau hynny'n cael eu trosglwyddo i dalwyr y dreth gyngor. Bydd recriwtio'n cael ei ohirio o ystyried y dewis newydd sydd wedi'i wneud. Os nad yw rheoli mewnforio yn dod i mewn, mae'n anodd cyfiawnhau wedyn bwrw ymlaen â recriwtio. Felly, unwaith eto, mae hynny'n broblem fwy i DEFRA yn Lloegr, lle maen nhw wedi recriwtio llawer mwy o bobl. Mae hefyd yn her i CThEM, o ystyried y bobl yr oedden nhw wedi'u recriwtio o'r blaen ac sydd wedi cael eu hadleoli hefyd.
O ran yr heriau sy'n gysylltiedig â busnesau allforio, nid ffermio'n unig ond amrywiaeth o rai eraill lle'r ydych chi'n gwybod nad oes chwarae teg, mae'n un peth i oddef hynny am gyfnod, ond nawr i'w ymestyn am bron i ddwy flynedd, mae'n hawdd iawn deall pam mae pobl wedi'u cynhyrfu. Ac, yn wir, mae sefydliadau porthladdoedd yn Lloegr yn arbennig sydd wedi gwario llawer o'u harian eu hunain, nid arian cyhoeddus yn unig, ar baratoi ar gyfer archwiliadau eraill yn anhapus eu bod nhw wedi gwario'r arian hwnnw ac mae'n ddigon posibl y caiff hynny ei drosglwyddo i bobl sy'n defnyddio cyfleusterau'r porthladd hynny hefyd.
Pan yr ydym ni'n meddwl am y ffordd y mae masnach yn llifo ar draws ynys Iwerddon, o Gymru ac ar draws y bont dir ac i mewn i gyfandir Ewrop, gallwch chi weld bod hyn yn ganlyniad sy'n mynd y tu hwnt i Gymru hefyd. Fodd bynnag, mae hynny hefyd yn amlygu'r pwyntiau yr ydych chi'n eu gwneud am fioddiogelwch, am y ffaith y byddan nhw'n debygol o deithio i rannau eraill hefyd, unwaith y bydd planhigion a da byw yn y DU, ni waeth o ble y maen nhw wedi dod. Ni fydd geifr a allai ddod i mewn o gyfandir Ewrop o reidrwydd yn aros yn ne-ddwyrain Lloegr. Felly, dyna pam y mae'r archwiliadau cyrchfannau wir yn broblem.
Ac mae pwynt cost yma hefyd. Mae'r pwynt am fioddiogelwch ac a yw'n fwy synhwyrol cynnal yr archwiliadau hynny wrth eu mewnforio yn hytrach nag yn y gyrchfan. Rwyf i eisoes wedi dweud wrth Paul Davies mai fy nealltwriaeth i yw bod tua 5 y cant o'r rheini'n cael eu harchwilio yn y gyrchfan, felly mae'n sampl, nid pob un. Mae hefyd yn ddrutach o lawer i gynnal y system honno oherwydd bod angen mwy o filfeddygon arnoch chi, a mwy o anghyfleustra i fynd o gwmpas ac archwilio yn y gyrchfan yn hytrach na gallu gwneud hynny mewn ffordd a fyddai'n haws i awdurdodau porthladd ei rheoli mewn un lle penodol. Mae yna hefyd, wrth gwrs, y rheswm ymarferol iawn nad oes gennym ni ormod o filfeddygon. Felly, cael digon o filfeddygon i staffio'r system yn iawn—. Ac rwy'n gwybod rhywfaint am feddygaeth filfeddygol, o gofio yr oedd fy nhad yn filfeddyg am gyfnod hir hefyd. Felly, rwy'n deall bod problem ymarferol iawn yma ynglŷn â chynnal system yn effeithiol i ymdrin â bioddiogelwch ac yna cael y bobl i wneud hynny'n effeithiol hefyd.
Nawr, mae'r rheini i gyd yn faterion yr wyf i wedi'u trafod gyda Lesley Griffiths a gyda'n prif filfeddyg, ac yr ydym ni wedi rhoi arweiniad ein bod ni eisiau i brif filfeddygon gael sgwrs i geisio rhoi rhyw fath o ddealltwriaeth i ni ynghylch sut y byddai system nesaf sy'n seiliedig ar risg yn edrych—y system orau bosibl o ystyried ble yr ydym ni. Ond, mewn gwirionedd, mae ein pryder yn ymwneud mwy â dyfodol technoleg yn hyn o beth. Yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, nid yw da byw'n cydweithredu o gwbl pan ddaw'n fater o ateb cwestiynau ynghylch a oes ganddyn nhw glefyd heintus. Felly, mewn gwirionedd, bydd angen i chi wneud rhyw fath o archwiliad corfforol. Hyd yn hyn nid wyf i wedi gweld sut, mewn unrhyw ffordd gredadwy, y gallech chi gael technoleg i asesu'r risg o anifeiliaid, anifeiliaid byw neu blanhigion yn dod i mewn i'r wlad, i asesu'r risg bioddiogelwch. Felly, mae'n bosibl y gallwch chi ddefnyddio technoleg ar gyfer rhywfaint o'r hyn sydd ei angen, ond nid wyf i'n credu mai dyma fydd yr ateb llawn.
Gweinidog, rwyf innau hefyd yn pryderu am gost yr oedi i gyngor Ynys Môn, a allai fod wedi cronni costau cyflogaeth a refeniw incwm yn eu cynlluniau busnes wrth symud ymlaen am y flwyddyn, ac i'r cwmni adeiladu a fydd, o dan reolau caffael, wedi ystyried cyflogaeth a phrentisiaethau lleol y mae mawr eu hangen i adeiladu'r safle.
Os un o'r rhesymau dros oedi yw bod Llywodraeth y DU yn edrych ar ffin ddigidol symlach, pam nad ydyn nhw wedi dychwelyd y negeseuon e-bost gan FibreSpeed, yr wyf fi a gwleidyddion eraill wedi cael copi ohonyn nhw, gan gynnwys yr AS lleol? Maen nhw wedi bod yn rhoi gwybod i swyddogion Llywodraeth y DU fod cysylltiad rhwydwaith ffibr uchel sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ac wedi'i ariannu gan Ewrop ar hyn o bryd, a allai gael ei ddefnyddio gan unrhyw gludwr telathrebu neu ddarparwr gwasanaeth rhyngrwyd i ddarparu bandiau eang uchel. Bydd yn osgoi unrhyw osodiad drud a bydd yn caniatáu mynediad ar unwaith at unrhyw ofynion data, symudol a thelathrebu. Rwyf i hefyd wedi codi hyn sawl gwaith. Os gwelwch yn dda, a wnaiff eich swyddogion fynd ar drywydd hyn gyda swyddogion Llywodraeth y DU oherwydd ymddengys nad ydym ni'n mynd i unman ag ef?
A, Gweinidog, yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud wrthym ni heddiw yw bod Jacob Rees-Mogg wedi gwneud y penderfyniad i gadw mewnforion yn rhydd o ffrithiant, gan helpu busnesau tramor tra bod ffermwyr a busnesau o Gymru a Phrydain y mae angen iddyn nhw allforio nawr yn wynebu biwrocratiaeth barhaus o waith papur a chost. Ac a ydych chi'n cytuno bod hyn yn enghraifft o beidio â thrin yn yr un modd, ac y dylai Llywodraeth y DU fod wedi ymdrin ag ef yn llawer gwell? A pha iawndal y byddan nhw'n ei gael? Diolch.
Ie, rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud nifer o bwyntiau pwysig, ynglŷn â staff sydd wedi eu recriwtio gan y cynghorau eisoes ac ynglŷn â sicrhau bod y cytundebau hynny'n cael eu hanrhydeddu hefyd a bod gan y bobl hyn waith i'w wneud. Mae hyn yn ymwneud hefyd â gwastraff amser, egni ac ymdrech yn y ddau awdurdod lleol, ac rwy'n amau na fydd y staff yn awdurdod sir Benfro nac, yn wir, ar Ynys Môn yn croesawu'r ffaith ei bod hi'n ymddangos bod yr amser a dreuliwyd ganddyn nhw wedi mynd yn ofer a heb unrhyw sicrwydd ynghylch pryd y daw hyn i ben neu pan ddaw ateb pendant.
A'r posibilrwydd hefyd o ran rhai swyddi a fyddai wedi dod yn sgil adeiladu cyfleusterau dros dro a pharhaol, nid oes modd rhoi unrhyw sicrwydd i neb ynglŷn â hynny. Ond mae angen i ni wybod, o fewn cyfnod cymharol fyr, beth fydd angen i ni ei wneud, oherwydd os na chawn ni'r swyddi parhaol erbyn gwanwyn y flwyddyn nesaf yng Nghaergybi fel roeddem ni'n bwriadu, fe fydd angen i ni wybod beth yw'r cynllun i'r dyfodol, sut olwg fydd ar gyfleusterau amgen, a oes angen i ni ailosod ein caffaeliad, a fydd hi'n costio mwy o arian cyhoeddus y byddai'r Trysorlys, fel arfer, yn ei ddarparu a'i gefnogi, a'r pwynt anochel a wnaeth Paul Davies hefyd am y ffaith y byddai'r costau yn debygol o gynyddu yn ystod y cyfnod hwnnw.
Yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, mae chwyddiant yn tueddu i beidio ag aros yn ei unfan, ac ar hyn o bryd, fe fydd chwyddiant yn sicr yn cynyddu'r costau mewn amrywiaeth o brosiectau adeiladu, ond bydd yn effeithio hefyd ar y llafur a'r sgiliau sydd ar gael i ymgymryd â'r prosiect adeiladu ar amser, a bod â'r amser hwnnw i allu nid yn unig paratoi'r cyfleusterau neu'r systemau, ond sy'n hanfodol i'r busnesau eu hunain fod yn barod hefyd. Fe fydd angen iddyn nhw gynllunio ar gyfer unrhyw system newydd hefyd, ac mae hynny'n cynnwys eich pwynt chi am FibreSpeed a'r seilwaith sydd yno eisoes, ac fe fyddaf i'n siŵr o sicrhau bod fy swyddogion i'n gwneud gwaith dilynol gyda Llywodraeth y DU. Mae hyn yn cyffwrdd â'ch pwynt chi am yr angen i ddeall, wrth ddilyn hynny, sut un fydd y system newydd, gan sicrhau nad ydym ni'n dyblygu nac yn creu set ychwanegol o seilwaith yn ddiangen, ond mewn gwirionedd mae angen i ni ddeall beth fydd y cynllun i'r dyfodol beth bynnag.
Heb unrhyw eironi o gwbl, fe ddywedodd Jacob Rees-Mogg fod cyflwyno'r mesurau rheoli ffiniau fel gweithred o hunan-niweidio. Wel, fe geir dewisiadau amgen i'r sefyllfa yr ydym ni ynddi hi, ond y dewis a wnaethpwyd yn y cytundeb a negodwyd gyda'r Undeb Ewropeaidd ar gyfer sut y byddai masnach yn gweithio, ac os oes dewis arall, mae angen i bob un ohonom ni ddeall beth fyddai hwnnw, pan fyddai hwnnw'n dod i rym, ac mae'n rhaid cael sgwrs briodol a pharchus gyda Llywodraeth Cymru er mwyn i ni allu adrodd yn briodol i Senedd Cymru yma ynglŷn â'r dewisiadau y mae angen i ni eu gwneud ar ran pobl Cymru.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 4 y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, diweddariad ar Wcráin, a galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad. Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle, unwaith eto, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein gwaith parhaus i gefnogi pobl o Wcráin sy'n ffoi rhag y rhyfel erchyll hwn yn y gobaith o gael noddfa. Gyda phob diwrnod sy'n mynd heibio, rydym ni'n clywed rhagor o straeon dirdynnol gan gynnwys, dros y penwythnos, yr achos o nifer fechan o sifiliaid yn cael dianc o'r gwaith dur dan gyrch yn Mariupol oherwydd ymdrechion ar y cyd gan y Cenhedloedd Unedig a'r Groes Goch. Mae Putin yn raddol gynyddu maint yr ymladd yn nwyrain Wcráin, gan ddod â mwy o bobl ddiniwed i berygl, ond mae gwrthwynebiad ffyrnig gan luoedd arfog Wcráin yn eu hwynebu nhw yn y fan honno.
Fe wyddom ni fod dros 5.5 miliwn o bobl wedi dianc rhag y gwrthdaro hwn, ac mae hi'n galonogol nodi ein bod ni wedi gweld rhywfaint o gynnydd yn niferoedd y fisâu a ganiatawyd gan y Swyddfa Gartref. Ledled y Deyrnas Unedig fe welsom ni bron i 120,000 o geisiadau am fisâu yn cael eu cyflwyno, gyda 86,100 yn cael eu rhoi a 27,100 o bobl yn cyrraedd. O'r bobl hyn, fe ddaeth 16,000 yn rhan o gynllun teuluoedd Wcráin, a 11,100 yn rhan o gynllun Cartrefi i Wcráin. Mae data a gyhoeddwyd ar 27 Ebrill yn dangos bod 2,300 o fisâu wedi cael eu rhoi drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin i bobl sydd â noddwyr yng Nghymru. Mae cyfanswm o 670 o'r rhain ar lwybr uwch-noddwr Llywodraeth Cymru. Rydym ni'n gweld cynnydd cyson yn nifer y bobl sy'n cyrraedd Cymru, gan gynnwys i'n canolfannau croeso ni, ac rydym ni'n disgwyl y bydd y niferoedd hyn yn cynyddu wrth i fwy o fisâu gael eu cymeradwyo ac wrth i fwy o bobl wneud eu trefniadau ar gyfer teithio.
Ac er ein bod ni wedi gweld cynnydd o ran cymeradwyo fisâu, mae pryderon yn parhau o ran y dull o brosesu'r fisâu hyn a bod hwnnw'n achosi dryswch ac oedi i'r ffoaduriaid. Mae hyn yn arbennig o wir am deuluoedd nad ydyn nhw'n gallu teithio nes y bydd pob aelod o'u grŵp wedi cael ei fisa unigol, yn hytrach na bod y fisâu yn cael eu trin i gyd gyda'i gilydd. I'r rhai sydd wedi gallu cael noddfa yma, mae hi'n hanfodol, wrth gwrs, ein bod ni'n sicrhau bod yr amddiffyniadau diogelu gorau posibl ar waith. Mae hwn yn bryder a godais gyda Llywodraeth y DU sawl tro. Mae hi'n hanfodol bod y cynllun Cartrefi i Wcráin, er ei fod i'w ganmol mewn sawl ffordd—. Rydym ni'n cydnabod bod diffygion yn ei ddyluniad sy'n gallu gwneud rhai sydd angen noddfa yn agored i niwed. Rydym ni'n gweithio yn ddiflino ar draws cyrff cyhoeddus Cymru i leihau a lliniaru'r peryglon hyn, ond nid ydym ni'n gallu eu dileu nhw'n llwyr. Rydym ni'n parhau i godi ein pryderon ni gyda Llywodraeth y DU ac rydym ni'n ymyrryd pan fo'n hynny'n bosibl i atal niwed, ond ni fyddwn ni'n llwyddo ym mhob achos.
Cafodd cynlluniau blaenorol, fel rhai i gefnogi pobl yn ffoi o Affganistan, eu gweinyddu a'u monitro gan y Llywodraeth, yn debyg iawn i'n cynllun uwch-noddwr ni yng Nghymru. Roedd hyn yn caniatáu i bobl gael eu cefnogi o'r foment y gwnaethon nhw gyrraedd a chaniatáu rhoi gweithdrefnau diogelu priodol ar waith. Ar 5 Ebrill, fe wnaethom ni gyhoeddi canllawiau ynglŷn â sut y gall cyrff cyhoeddus helpu i amddiffyn pobl sy'n byw ar aelwydydd Wcrainaidd. Rydym ni hefyd yn rhoi manylion i awdurdodau lleol am y bobl sy'n cyrraedd o Wcráin drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin, i ganiatáu cynnal gwiriadau eiddo a diogelu a chynnig gwasanaethau cymorth.
Mae'r cyngor sydd gennym ni ar-lein yn annog rhai a allai gynnig llety neu geiswyr noddfa i ddefnyddio system paru Reset, yn hytrach na systemau mwy anffurfiol. Mae gan Reset flynyddoedd o brofiad yn gweithio gyda ffoaduriaid a noddwyr yng Nghymru ac yn gwybod sut i sicrhau rhyw gyfradd o gysondeb, a sicrhau bod ystyriaethau diogelu yn cael sylw. Rwy'n pryderu yn arbennig ynglŷn â pha mor agored i niwed yw ffoaduriaid o Wcráin, gyda'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n fenywod a phlant, i weithredoedd pobl ddigydwybod sy'n ceisio cymryd mantais arnyn nhw a'u cam-drin nhw.
Rydym ni wedi cyhoeddi canllawiau ar wahân hefyd ynglŷn â diogelu a chaethwasiaeth fodern ar gyfer yr awdurdodau lleol a'r noddwyr, ac wedi rhoi cyngor i staff canolfannau croesawu a chanolfannau cyswllt. Fe ddisgwylir i drydedd fersiwn o'r canllawiau diogelu a chaethwasiaeth fodern gael ei chyhoeddi'r wythnos nesaf. Rwyf i wedi pwyso ar Lywodraeth y DU i adolygu'r gweithdrefnau sydd ar waith yn barhaus, ac maen nhw wedi rhoi sicrwydd bod eu desg gymorth wedi cael ei hehangu i ymateb i bryderon o ran diogelu. Rydym ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol i egluro sut y gellir gwneud atgyfeiriadau, ac rwy'n dal i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod y gweithdrefnau gorau ar waith. Rydych chi'n ymwybodol hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi lansio llinell gymorth ar 28 Mawrth ar gyfer pobl sy'n cyrraedd Cymru o Wcráin, yn ogystal ag ar gyfer pobl sy'n noddwyr iddyn nhw. Mae'r llinell gymorth yn ceisio rhoi cyngor ac arweiniad, ac fe gafodd honno ei hymestyn erbyn hyn i fod ar waith 24/7 i sicrhau bod cymorth ar gael bob amser pan fydd ei angen.
Fe wnes i gyfarfod ag Arglwydd Harrington, y Gweinidog Ffoaduriaid, a Neil Gray Aelod o Senedd yr Alban, Gweinidog Diwylliant, Ewrop a Datblygu Rhyngwladol Llywodraeth yr Alban, wythnos diwethaf, lle codwyd materion yn ymwneud ag oedi, diogelu, ac ariannu. Nid yw cymorth ariannol fyth wedi cael ei ddarparu ar gyfer gweithredu ein canolfannau croeso uwch-noddwr ni, er mai'r rhain sy'n cynnig y llwybr mwyaf diogel a'r cymorth cofleidiol mwyaf cynhwysfawr. Fe fydd costau sylweddol heb eu hateb hyd yn hyn yn deillio o'r cynlluniau i gael fisâu i bobl o Wcráin. Mewn rhaglenni ailsefydlu eraill, fe fu yna gronfeydd hanfodol ar wahân ar gyfer gofal iechyd a hyfforddiant iaith Saesneg, yn ogystal â chyllid integreiddio ar gyfer blwyddyn 2 a blwyddyn 3, ac ni chyhoeddwyd yr un ohonyn nhw eto gan Weinidogion Llywodraeth y DU. Yn anffodus, nid yw Llywodraeth y DU yn rhoi'r cyllid angenrheidiol i Lywodraeth Cymru nac awdurdodau lleol Cymru ar hyn o bryd i allu cefnogi pobl sy'n cyrraedd o dan y cynllun teuluoedd mewn modd priodol. Rydym ni'n pwyso ar Lywodraeth y DU i roi'r un gyfradd o gymorth i deuluoedd o Wcráin â'r noddwyr a'r Wcrainiaid sy'n dod o dan gynllun Cartrefi i Wcráin.
Yn olaf, fe hoffwn i ddiolch unwaith eto i'r busnesau, y sefydliadau, yr unigolion a'r teuluoedd ledled Cymru sydd, drwy eu haelioni a'u hymdrechion, yn parhau i amlygu ysbryd haelfrydig ein cenedl ni. Rwyf i am gloi, fel o'r blaen, drwy ailadrodd bod cymorth, cyngor a chymorth ar gael drwy ein llinell gymorth rhad ac am ddim i noddwyr a phobl sy'n dod o Wcráin. Fe all noddwyr yng Nghymru ffonio'r llinell gymorth am ddim am gyngor bedair awr ar hugain y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae croeso cynnes yn aros ein cenedl noddfa ni. Diolch.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch. Diolch i chi am eich datganiad, sy'n amlwg yn datblygu yn rhywbeth a fydd yn digwydd bob wythnos ar hyn o bryd. Wrth eich holi chi ddydd Mawrth diwethaf, fe gyfeiriais i at eich datganiad ysgrifenedig a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun Cartrefi i Wcráin ar 21 Ebrill. Yn eich diweddariad dilynol chi ynglŷn â'r gefnogaeth i Wcráin ddydd Iau diwethaf ar 28 Ebrill, roeddech chi'n cyfeirio at y ffigurau diweddaraf gan Lywodraeth y DU ac roeddech chi'n dweud bod 2,300 o fisâu wedi cael eu rhoi i bobl o Wcráin ar 27 Ebrill ac ymlaen i ddod i Gymru drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin, y mae Llywodraeth Cymru yn uwch-noddwr iddo ar gyfer 670 ohonyn nhw. Yn gyfan gwbl, fe dderbyniwyd cyfanswm o 117,600 o geisiadau am fisa drwy gynlluniau Wcráin y DU, gyda 86,100 o fisâu yn cael eu caniatáu, fel roeddech chi'n dweud yn eich datganiad, a chyfanswm o 27,100 o ddeiliaid fisa wedi cyrraedd yn y DU.
Beth, felly, yw eich dealltwriaeth chi o ran y niferoedd sydd wedi cyrraedd yng Nghymru hyd yma, naill ai'n gyfan gwbl o dan y cynllun uwch-noddwyr, neu'n fwy cyffredinol o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin? Rydych chi'n dweud eich bod chi wedi cyfarfod â'r Arglwydd Harrington, Gweinidog Ffoaduriaid y DU, a gyda Neil Gray Aelod o Senedd yr Alban, Gweinidog Diwylliant, Ewrop a Datblygu Rhyngwladol Llywodraeth yr Alban, yr wythnos diwethaf,
'lle codwyd materion yn ymwneud ag oedi, diogelu, ac ariannu.'
Yn dilyn fy nghwestiynau i ynglŷn â hynny'r wythnos diwethaf, pa drafodaethau pellach a gawsoch chi'n benodol felly gyda'r Arglwydd Richard Harrington ynglŷn â'r rhesymau am y bwlch rhwng y niferoedd cynyddol o fisâu a ganiatawyd a'r cynnydd yng nghyfanswm y bobl sy'n cyrraedd ac am yr hyn sy'n cael ei wneud i nodi ac ymdrin â hynny?
Yn eich diweddariad ddydd Iau diwethaf, roeddech chi'n dweud bod dadansoddiad o awdurdodau lleol ar gael hefyd. Er hynny, mae hyn yn dangos amrywiad enfawr yn nifer y fisâu a ganiatawyd, yn amrywio o 162 yng Nghaerdydd a 153 yn sir Fynwy, gyda chyfartaledd o 63 ar draws chwe sir y gogledd, hyd at 18 ym Merthyr Tudful a phump yn unig ym Mlaenau Gwent. Er gwaethaf y gwahaniaeth amlwg ym maint y boblogaeth, beth yw eich dealltwriaeth chi o'r rhesymau am y gwahaniaeth hwn, a sut ydych chi'n anelu cymorth ar lefel leol yn unol â hynny?
Wrth i mi eich holi chi'r wythnos diwethaf, fe nodais i fod sefydliad sy'n gwrthsefyll masnachu mewn pobl yn Romania wedi dweud yng nghyfarfod Zoom ymateb gogledd Cymru i sefyllfa Wcráin y diwrnod cynt mai pobl a ddadleolwyd yw'r bobl sydd fwyaf agored i niwed, ac felly mae'r canolbwyntio ar ddiogelu nawr. Yn eich ymateb, roeddech chi'n dweud bod cysylltiad agos iawn gennych chi â'r sefydliadau hynny sy'n gwneud y gwaith i wrthsefyll masnachu mewn pobl. Fe wnaethoch chi fynegi unwaith eto hefyd eich bod chi'n datblygu eich canllawiau diogelu eich hun, ond gan weithio ar sail pedair gwlad i raddau helaeth. Pa waith yn benodol ydych chi'n ei wneud gyda sefydliadau sy'n gwrthsefyll masnachu mewn pobl wrth weithio ar lawr gwlad gyda ffoaduriaid o Wcráin yn y gwledydd cyfagos sy'n ffinio â'r wlad honno, a beth yw casgliadau pedair Llywodraeth y DU erbyn hyn o ran diogelu, wrth iddyn nhw weithio â'i gilydd?
Fel y gwyddoch chi, fe fu Prif Weinidog y DU yn annerch Senedd Wcráin drwy gyswllt fideo heddiw, ac yn canmol dewrder y wlad honno wrth frwydro yn erbyn yr ymosodiad parhaus o Rwsia, ac fe gyhoeddodd becyn cymorth newydd gwerth £300 miliwn, yn cynnwys cerbydau Toyota Land Cruiser arbenigol newydd i helpu i ddiogelu swyddogion sifil yn nwyrain Wcráin a chludo sifiliaid oddi wrth ardaloedd ar y rheng flaen, yn dilyn cais gan Lywodraeth Wcráin. I ba raddau oedd Llywodraeth Cymru, os felly o gwbl, yn ymwybodol o'r cais hwn, a sut allai'r ddarpariaeth hon eich cynorthwyo chi yn eich rhaglen chi i gludo sifiliaid mewn ardaloedd rheng flaen a dod â nhw i Gymru?
Yn olaf, ym mha ffordd ydych chi'n gweithio gyda'ch cyd-Weinidogion i sicrhau bod lleoedd ar gael mewn ysgolion a'r ddarpariaeth o ran gwasanaethau meddygon teulu a'r GIG lleol i ffoaduriaid o Wcráin pan fyddan nhw'n cyrraedd yng Nghymru?
Diolch yn fawr iawn i chi, Mark. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod y ffigurau wythnosol a roddir ar ddydd Iau—mewn gwirionedd, fe ddyfynnais i rai 27 Ebrill—yn ffigurau sy'n cael eu rhannu ar sail pedair gwlad. Felly, fel y dywedais i yn fy natganiad, fe allaf i gadarnhau unwaith eto fod 2,300 o fisâu wedi cael eu rhoi i bobl drwy gynllun Cartrefi i Wcráin, y bobl hynny sydd wedi sicrhau trefniadau i ddod i lety arbennig yma, nawdd gan eu teuluoedd, a gyda noddwr yng Nghymru. Ond, mae 670 o'r rhain, o'r 2,300, mewn gwirionedd yn dod drwy lwybr uwch-noddwr Llywodraeth Cymru, ac fe fyddan nhw'n dod i'n canolfannau croeso ni. Felly, dyna'r ffeithiau allweddol ar gyfer 27 Ebrill, ac mae hi'n amlwg y byddwn ni'n cyhoeddi'r ffeithiau, yr ystadegau, ar ddydd Iau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf.
Pan fyddwn ni'n cyfarfod—ac rydym ni wedi cyfarfod bob wythnos, mewn gwirionedd, â'r Gweinidog Ffoaduriaid, yr Arglwydd Harrington, Neil Gray a minnau—tri mater yr ydym ni wedi sôn amdanyn nhw, ac rydym ni wedi sôn amdanyn nhw am bythefnos o'r bron: yr oedi—mae hi'n hollbwysig, eich pwynt chi ynglŷn â'r oedi, oherwydd os rhoddwyd y fisâu hyn, pam nad ydym ni wedi gweld mwy o bobl yn cyrraedd—ac rydym ni wedi ystyried diogelu hefyd, a chyllid yn ogystal â hynny. Felly, o ran yr oedi, fe fu yna rwystredigaeth yn eang oherwydd roedd y Gweinidog Ffoaduriaid yn cydnabod ei hunan, wrth aros nid yn unig am—. Fe soniais i am y ffaith y bu yna rwystredigaethau yn arbennig felly lle nad yw pob aelod o deulu cyfan wedi cael ei fisa, ac rwy'n credu bod hynny'n parhau i ddigwydd. Rwy'n credu ein bod ni wedi gweld a chlywed yn y cyfryngau, a'r cyfryngau yng Nghymru, enghreifftiau o hyn yn digwydd yn gyfredol, lle ceir aros am geisiadau gan Wcrainiaid unigol ac nid o ran y teulu cyfan.
Fel mae hi ar hyn o bryd, fel dywedais i, rydym ni'n pwyso ar Lywodraeth y DU i ddiwygio'r prosesau a bod â llai o fiwrocratiaeth. Aeth y Gweinidog Ffoaduriaid, Richard Harrington, i Wlad Pwyl ychydig wythnosau nôl, ac roedd ef yn dweud fod yna rai sydd wedi cael eu fisâu erbyn hyn, ac maen nhw'n ystyried eu trefniadau nhw nawr o ran dod i Brydain, i Gymru, i'r DU. Mae'n rhaid i mi ddweud bod rhai hefyd yn ystyried a ydyn nhw am ddod oherwydd yr oedi a'r fiwrocratiaeth. Rwy'n siŵr eich bod chi wedi gweld adroddiadau fel hyn yn y wasg hefyd, sy'n peri pryder mawr oherwydd fe ddylem ni fod wedi gallu ymateb mor gyflym ag y mae'r gwledydd hynny yn yr UE wedi ymateb. Felly, fe wyddom ni fod yna oedi oherwydd y fiwrocratiaeth, oherwydd y prosesau amrywiol, ond fe gawsom ni sicrwydd ddydd Iau diwethaf gan y swyddog arweiniol yn y Swyddfa Gartref eu bod nhw am gael mwy o weithwyr achos a'u bod nhw'n cyflymu'r broses.
Mae diogelu yn hanfodol; a mater i'r pedair gwlad yw hwnnw. Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda'n gilydd, rydym ni wedi bod yn rhannu enghreifftiau, unwaith eto, o'r methiannau o ran pobl sy'n cael eu paru mewn ffordd fwy anffurfiol—efallai bod trefniadau yn chwalu o ran cynllun Cartrefi i Wcráin, a'u bod nhw'n dilyn prosesau paru anffurfiol wedyn nad ydyn nhw'n ddiogel nac yn sicr. Rydym ni wedi gweld enghreifftiau o'r hyn sydd wedi golygu rhoi menywod, yn arbennig, mewn perygl, ac fe roddir ystyriaeth i'r pethau hyn i gyd. Felly, rydym ni wedi rhoi gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar waith, gan weithio gyda'r awdurdodau lleol. Mae gennym ni lythyr, mewn gwirionedd; rydym ni wedi ysgrifennu at bartneriaid lleol a rhanbarthol ynglŷn â gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, ac fe allaf i ddangos hwnnw i chi, sydd ar gyfer y prif weithredwyr a phartneriaid statudol o ran y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, ac mae hwnnw'n trafod swyddogaeth y gwasanaeth iechyd hefyd.
Gan weithio gydag awdurdodau lleol, rydym ni'n gweithio ar lefel yr uwch swyddogion, ac mae prif weithredwyr yn cyfarfod yn rheolaidd hefyd. Wrth gwrs, y materion yr ydych chi'n eu codi o ran diogelu, atal masnachu mewn pobl a chydnabod bod hwnnw'n rhywbeth lle mae'r holl gysylltiadau, fel yr un yr ydych chi'n ymwybodol ohono ac yn ymgysylltu ag ef yn y gogledd—. Maen nhw'n bwysig iawn i'w rhannu gyda ni i sicrhau y gallwn ni atal pobl, a rhoi'r wybodaeth honno'n fwy ffurfiol o ran ein canllawiau ni. Mae hi'n hanfodol o ran addysg y gall plant gael eu derbyn i ysgolion, ac, yn wir, hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud, wrth y gwasanaeth iechyd, i'w meddygon teulu nhw, am y gwiriadau sydd ar y gweill o ran iechyd. Fe gaiff hynny ei fonitro bob dydd.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am y datganiad, Weinidog. Mae agwedd Llywodraeth San Steffan tuag at y sefyllfa erchyll yn Wcráin yn gwbl baradocsaidd. Ar yr un llaw, mae pobl Cymru a Phrydain yn unedig yn eu solidariaeth â phobl Wcráin, ac yn unedig yn eu dicter tuag at Putin ynghyd â'i ryfel anghyfreithlon a'i droseddau rhyfel anwaraidd. Ac mae Llywodraeth San Steffan yn honni ei bod yn rhannu'r teimladau cryfion hyn. Yn wir, fel y clywsom ni, bu Boris Johnson heddiw yn annerch Senedd Wcráin.
Ond er mor bwysig yw areithiau cefnogol a geiriau cynnes, mae gweithredoedd yn bwysicach, ac mae Llywodraeth Boris Johnson yn methu pobl Wcráin ac yn tanseilio ymdrechion Cymru i fod yn genedl noddfa. Y weithred fwyaf effeithiol y gallai Llywodraeth San Steffan ei gwneud i helpu pobl Wcráin yw nid mynd a datgan araith, ond sicrhau bod modd diogel a chyflym iddyn nhw ddod i Gymru ac i Brydain. Mae nifer o'r bobl hyn wedi colli anwyliaid, yn dioddef o drawma o ganlyniad i farbariaeth rhyfel. Yr hyn maen nhw angen yw cariad, cartref a chyfle, a'n cefnogaeth a'n cymorth ni iddyn nhw fedru cael y pethau hynny.
O wrando ar rethreg Boris Johnson a'i Lywodraeth, byddai rhywun yn meddwl taw dyma'n union yr ydym yn ei gynnig i ffoaduriaid Wcráin, ond dro ar ôl tro ym myd gwleidyddiaeth, gwelwn fod gagendor yn bodoli rhwng rhethreg gynnes y rhai sydd mewn grym â'u gweithredoedd llugoer. Ac mae ymateb Llywodraeth San Steffan i'r sefyllfa yn Wcráin, yn anffodus, yn enghraifft berffaith o hyn. Mae Llywodraeth San Steffan, er gwaethaf eu geiriau twym, yn gadael pobl Wcráin lawr. Mae llysgennad Wcráin i'r Deyrnas Gyfunol wedi galw ar yr Ysgrifennydd Cartref i weithredu ar frys i wella'r broses fisa, sydd, yn ei eiriau fe, yn ddiangen o hir a biwrocrataidd, gan adael miloedd o bobl yn ddiymadferth ar hyd a lled gwledydd tir mawr Ewrop.
Ac mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi clywed am rwystredigaeth y teuluoedd sy'n cyrraedd yma ar y cynllun teuluoedd yn hytrach nag ar gynllun Cartrefi i Wcráin, a bod y Cymry sy'n cynnig lloches iddyn nhw yn anghymwys i dderbyn y taliad o £350. Mae hyn yn anghyfiawnder cwbl sylfaenol, ac yn enghraifft o'r Swyddfa Gartref yn trosglwyddo eu cyfrifoldebau moesol i'r cyhoedd, â nifer o'r ffoaduriaid yn wynebu heriau, fel clywsom ni, o ran diffyg cefnogaeth a gwybodaeth, diffyg gwersi iaith, a'r ffaith bod cofrestru ar gyfer ysgol a meddyg teulu yn absẃrd o gymhleth.
Sut mae Llywodraeth Cymru am oresgyn yr anghysonderau hyn, yn wyneb difaterwch a blerwch anhrefnus Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol? Mae 2,300 o fisas wedi eu cyhoeddi yng Nghymru o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin. Ac fel y gwnaethoch chi sôn, o'r rhain, 670 wedi'u huwch-noddi gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Alban wedi cael 5,200 o fisas wedi eu cyhoeddi, gyda 3,000 ohonynt wedi'u huwch-noddi gan Lywodraeth yr Alban. Mae'r bwlch yma rhwng y ddwy wlad yn eithaf sylweddol. Felly, a all y Gweinidog egluro'r rheswm dros yr anghysondeb hwn rhwng Cymru a'r Alban? Ydy'r Gweinidog yn ffyddiog nad oes unrhyw ffactor y tu hwnt i hap a damwain yn gyfrifol am hyn?
Mae'n debygol y bydd ffoaduriaid sy'n cyrraedd yma, yn enwedig menywod a phlant sy'n agored i niwed, eisoes wedi dioddef trawma. Ac felly, fel y gwnaethoch chi sôn, ac fel y gwnaeth Mark Isherwood sôn, mae sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn cael gofal pan fyddant yn cyrraedd yn hollbwysig, ac rwy'n croesawu yr hyn yr ydych wedi sôn amdano fo o ran sut rŷch chi'n ceisio mynd i'r afael â hyn. Ond mae nifer o fudiadau ffoaduriaid a gwrth-fasnachu pobl wedi ysgrifennu at Michael Gove i fynegi eu pryderon dwys ynghylch diogelu, a'r cynllun, gyda masnachwyr pobl eisoes yn targedu pobl, menywod a phlant o Wcráin.
Dyma sefyllfa cwbl dorcalonnus, sy'n cyferbynnu'n llwyr gyda rhethreg Llywodraeth Prydain. Nid oes unrhyw reswm pam na ddylem neu y gallem gael cynllun cwbl ddyngarol, sy'n croesawu ffoaduriaid, ac sy'n eu diogelu'n llwyr rhag camdriniaeth.
Doedd e ddim yn swnio i fi fel bod y Gweinidog yn hollol fodlon bod y gwiriadau hyfforddiant a chymorth proffesiynol sydd ar waith ar hyn o bryd ynghylch y cynllun yma yng Nghymru yn ddigonol i sicrhau diogelwch i ffoaduriaid Wcráin. Felly, beth mwy y gellir ei wneud? Diolch.
Diolch yn fawr, Sioned. Dyma un o ddibenion cyfarfod â'n gilydd, fel y gwnaethom ni'n rheolaidd dros yr wythnosau diwethaf, fi a'r Gweinidog Ffoaduriaid, yr Arglwydd Harrington, a Neil Gray, y Gweinidog yn Llywodraeth yr Alban oherwydd mae'r Gweinidog yn Llywodraeth yr Alban a minnau'n cytuno yn hyn o beth gan fynegi, ac fe wnaethom ni hynny'n eglur iawn o'r cychwyn, hynny yw, mewn gwirionedd, y llwybr uwch-noddwyr, sy'n golygu, gyda'n hymrwymiad ni yng Nghymru i gefnogi 1,000 o bobl, gan anwybyddu'r angen i nodi noddwyr unigol, a rhoi nawdd yn uniongyrchol oddi wrth Lywodraeth Cymru, neu Lywodraeth yr Alban—.
Maen nhw wedi gweld oedi fel hyn yn yr Alban hefyd, er bod ganddyn nhw fwy hyd yn oed yn gwneud cais yno mewn gwirionedd; mae niferoedd uwch ganddyn nhw yno sy'n gwneud cais i fynd drwy eu llwybr uwch-noddwr nhw o ran cyfran y boblogaeth. Mae hynny'n ddigon teg, ond maen nhw'n parhau i weld oedi fel ninnau. Ond gan ddweud hefyd y gall hynny, mewn gwirionedd, fynd i'r afael â'r mater sy'n ymwneud â diogelu, oherwydd, er enghraifft, o ran y cynllun teuluol, yr wythnos diwethaf fe ddywedais i wrth y Swyddfa Gartref ac wrth y Gweinidog, 'A wnewch chi roi niferoedd ac ardaloedd y teuluoedd sydd wedi dod drwy'r llwybr teuluol i ni?' Nid ydyn nhw'n gallu dweud wrthym ni. Nid yw'r wybodaeth honno ganddyn nhw. Ni allan nhw ddweud wrthym ni faint o ffoaduriaid Wcrainaidd sydd wedi dod drwy'r llwybr teuluol, ac nid oes cyllid o gwbl ar gael i'r teuluoedd, ac, mewn gwirionedd, wrth gwrs, fel y dywedais i yn fy ystadegau, mae mwy wedi dod drwy'r llwybr teuluol na thrwy unrhyw lwybr arall. Y nhw a gafodd eu fisâu yn gyntaf, y rhain a ddaeth drwodd. Ni roddwyd unrhyw wybodaeth i ni am gyllid na'r ffigurau. Nid ydyn nhw'n gallu ei rhoi, hyd yn oed os—. Fe ofynnais i iddyn nhw amdani hi. Felly, mae'r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi mynd i'r afael â'r argyfwng ffoaduriaid yn ddiffygiol iawn.
Ac fel y dywedais i'n gynharach, yn yr ymateb i Mark Isherwood, os edrychwch chi ar—. Ac yn hyn o beth fe fu yna raglenni, a straeon yn y wasg, a theuluoedd yn gwneud sylwadau. Y berthynas ragorol a'r undod a'r gefnogaeth y credaf ein bod ni wedi clywed amdanyn nhw, mewn gwirionedd, gan y rhai sydd wedi dod i gwrdd â theuluoedd Cymru, maen nhw wedi cwrdd â'u noddwyr—. Felly, mae'n rhaid i ni gydnabod bod cryfderau mawr pan fo hynny'n gweithio gyda threfniadau Cartrefi i Wcráin. Ond fe sylwais i ar ffoadur a oedd wedi gwrthod dod i'r DU. Fe ddigwyddodd popeth mor gyflym yn yr Almaen. Maen nhw'n ei gwneud hi'n hawdd iawn i bobl o Wcráin gael budd-daliadau, a chael gwaith, a chael cymorth. Pam nad ydym ninnau yn y sefyllfa honno?
Felly, rwyf i wedi sôn yn fy natganiad i heddiw, am y tro cyntaf, am y gymhariaeth â'r trefniadau a oedd gennym ni, ac a gefnogwyd gan Lywodraeth y DU, pan oedd y ffoi o Affganistan fis Awst diwethaf, pan oeddem ni'n gwybod pwy oedd yn dod ac roeddem ni'n gallu eu cefnogi nhw. Felly, rydym ni'n parhau i bwyso yn hynny o beth, oherwydd rwyf i o'r farn fod diogelu yn hollbwysig. Ac os caf i ddweud heddiw, os gallwn ni fynegi'r neges ei bod hi'n beryglus i hyd yn oed ystyried neu rannu unrhyw beth ar y cyfryngau cymdeithasol, fel Facebook, neu unrhyw gyfleoedd i wneud trefniadau newydd—oherwydd mae hynny wedi gallu arwain at gamfanteisio rhywiol mewn gwirionedd. Dyna'r hyn yr ydym ni'n ei godi. Felly, rwyf i wedi dweud nad oedi yn unig yw ystyr hyn; ond oedi, ie, a diogelu ac ariannu hefyd, sef yr hyn yr ydym ni'n ei bwysleisio bob wythnos gyda Llywodraeth y DU, oherwydd mae yna bobl sydd, yng Nghymru, yn awyddus iawn i groesawu teuluoedd. Fe welsom ni rai neithiwr ar raglen BBC Wales. Ac maen nhw'n ysu am gael dod yma, maen nhw'n cael eu rhwystro, mae'r arian yn prinhau ac fe fyddwn ni'n gwneud popeth yn ein gallu i'w cael nhw yma a'u cefnogi nhw.
Gweinidog, mae'r cyfan yr ydych chi wedi'i ddweud yn eich datganiad chi heddiw yn adleisio profiadau teuluoedd sy'n gwahodd yn fy etholaeth i nawr. Mae rhai o'r rhain—. Maen nhw'n deuluoedd anhygoel. Maen nhw'n byw mewn tai teras yn fy etholaeth i, nid oes ganddyn nhw lawer o fodd eu hunain, ond maen nhw wedi agor eu cartrefi i deuluoedd o Wcráin, maen nhw'n awyddus iawn i ddod â nhw yma nawr. Ac maen nhw'n gorfod mynd drwy'r hyn y maen nhw'n ei hystyried yn gyfundrefn dywyll iawn, heb unrhyw ddolen ar gyfer adborth o gwbl iddyn nhw nac i'r teuluoedd, sy'n araf, hynny yw sy'n rhoi fisâu i rai aelodau o'r teuluoedd ond nid i eraill, ond mae'r teuluoedd hyn yma yn Ogwr—ac mae hyn yn nodweddiadol o bobl ledled Cymru a'r DU—wedyn yn ceisio rhoi cymorth ariannol i'r teuluoedd hyn sy'n byw mewn mannau eraill yng ngwledydd Ewrop sydd wedi dod â nhw i mewn yn gyflym iawn, ac maen nhw'n rhwystredig iawn.
Rwy'n gofidio, Gweinidog, fod troednodiadau'r bennod hon wedi cael eu hysgrifennu eisoes, sef fod gennym ni wledydd yn y Deyrnas Unedig, fel yr Alban, fel Cymru, sydd wedi estyn eu breichiau a dweud, 'Dewch atom ni, dewch atom ni nawr. Rydym ni am roi'r gweithdrefnau hyn ar waith i sicrhau eich bod chi'n ddiogel wrth wneud hyn yn swyddogol drwy sianeli swyddogol', a'r hyn yr ydym ni'n teimlo yn rhwystredig ynglŷn ag ef, ac nid pwynt gwleidyddol mo hwn, pwynt o ran moesoldeb ydyw—. Pan oedd pobl yn dadlau ynghylch rheoli ein ffiniau ni unwaith eto, nid oeddwn i o'r farn mai dweud bod angen rheoli ffiniau ar gyfer atal ffoaduriaid rhag dod yma i'r DU yr oedden nhw, ffoaduriaid sydd ag angen dirfawr am noddfa amserol. Ond dyna sy'n digwydd ar hyn o bryd.
Felly, Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am dderbyn sylwadau a gyflwynais i chi ar ran fy etholwyr sy'n awyddus i agor eu cartrefi i'r teuluoedd hyn nawr? Ond rwy'n eich annog chi, Gweinidog, i barhau i ddadlau fel hyn, oherwydd rwyf i o'r farn mai pennod fydd hon y byddwn ni'n ymfalchïo yn haelioni pobl y cenhedloedd hyn ynddi hi, gyda balchder yng ngwaith rhai o'n Llywodraethau datganoledig ni, ac, mae'n rhaid i mi ddweud, ar hyn o bryd fel rydym ni'n sefyll yma, rwy'n teimlo cywilydd mawr iawn oherwydd safbwynt Llywodraeth y DU, sy'n ymddangos—fel bydd fy etholwyr i'n dweud wrthyf i—ei bod wedi rhoi pob rhwystr posibl yn ffordd teuluoedd sy'n dod yma mewn angen gwirioneddol. Dyna beth oedd ystyr rheoli ffiniau unwaith eto.
Diolch yn fawr iawn i chi, Huw Irranca-Davies. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n rheswm pwysig arall pam mae angen i mi ddod gyda fy natganiadau i'r fan yma, mor rheolaidd ag y bydd y Llywydd a'r Senedd yn caniatáu i mi wneud felly, oherwydd mae angen i ni gael adborth fel hyn. Mae angen i mi gael adborth fel hyn, fel y cefais i heddiw. Mae'r holl eiriau a ddefnyddiwyd, 'didrefn, 'gwarthus'—nid pwynt moesol na moesegol iawn yn unig mohono, mae'n un pwysig iawn o ran diogelu. Oherwydd ni cheir unrhyw reolaeth. Mae hyn yn ymwneud â 'Bwriwch chi ymlaen', ac os yw hynny'n gweithio, ardderchog, fel gyda'r teuluoedd rhagorol sydd wedi dod ymlaen, ond mae hwn yn bwynt o ran gweithredu hefyd. Dyma sut rydych chi'n rheoli pethau fel eu bod nhw'n gweithio. Fe wnaethom ni lwyddo, gyda Llywodraeth y DU, mewn ffordd hyblyg iawn, gyda'r cynllun i ddadleoli ffoaduriaid o Syria, ac mae llawer ohonom ni'n gwybod am yr holl deuluoedd o Syria sydd wedi ymgartrefu yn ein cymunedau ni, a hefyd gyda chynllun ffoaduriaid o Affganistan yn ystod yr haf. Felly, mae hi'n bwysig—ac rwyf i gyda fy nghyd-Aelod o Lywodraeth yr Alban—rydym ni'n gytûn iawn yn hyn o beth pan fyddwn ni'n cyfarfod â'r Gweinidog Ffoaduriaid, Richard Harrington.
Ond mae hi'n bwysig iawn hefyd—fe fyddwn i'n dweud, yn olaf—ein bod ni'n gweithio gyda'r gymuned Wcrainaidd yng Nghymru, y trydydd sector. Rydym ni'n magu cysylltiadau ar lawr gwlad i estyn allan at bobl i sicrhau bod y canolfannau croeso—. Nid yw'r awdurdodau lleol yn cael yr arian, nid ydyn nhw hyd yn oed yn cael yr un arian ag a gawsom ni ar gyfer argyfwng y ffoaduriaid o Affganistan. Unwaith eto, mae awdurdodau lleol o dan bwysau aruthrol o ran diwallu'r anghenion hyn. Mae angen i ni wneud hyn yn iawn. Er nad yw'r arian yn dod i ni, mae angen i ni wneud hyn yn iawn ym mhob ardal awdurdod lleol, gyda phob un o'n byrddau iechyd ni, a chydnabod bod gennym Urdd Gobaith Cymru, mae gennym ni lawer o sefydliadau sy'n ein helpu gyda'n canolfannau croeso, a llawer o wirfoddolwyr yn gweithio i wneud hon yn genedl noddfa, sef yr hyn ydyw Cymru.
Ac yn olaf, Heledd Fychan.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel rydym yn anffodus yn gwybod, yn aml mae trais a chamfanteisio rhywiol yn rhywbeth sydd yn digwydd fel rhan o ryfel. Mae nifer o adroddiadau am fenywod yn cael eu treisio gan filwyr o Rwsia yn Wcráin. Yn wir, ar 11 Ebrill fe ddarlledodd y BBC dystiolaeth ddirdynnol o Wcráin ynglŷn â hyn. Mae'n anodd dirnad pa mor echrydus mae'r menywod yma wedi cael eu trin, gyda milwyr o Rwsia yn dweud wrth rai ohonynt mai eu bwriad yw eu treisio i'r pwynt lle na fyddent eisiau cysylltiad rhywiol ag unrhyw ddyn, i'w hatal rhag cael plant o Wcráin.
Mae nifer o elusennau wedi bod yn anfon tabledi erthylu meddygol a thabledi atal cenhedlu brys, y morning-after pill, i ardaloedd yn Wcráin sydd wedi eu heffeithio fwyaf. Yn amlwg, fe fydd rhai menywod fydd yn dod i Gymru am noddfa wedi dioddef trais. Fel rhan o'n cyfraniad cymorth dyngarol, pa gefnogaeth sydd wedi ei roi i fenywod sydd wedi eu treisio sydd yn parhau i fod yn Wcráin a hefyd i'r rhai sydd neu a fydd yn dod i Gymru?
Diolch yn fawr, Heledd Fychan, a diolch i chi am godi'r mater pwysig yna hefyd. Yr erchyllterau—nos ar ôl nos, dyna yw'r hyn yr ydym ni wedi'i weld, erchyllterau'r troseddau, troseddau rhyfel a threisio menywod. Mae hyn yn rhywbeth sy'n hanfodol bwysig, y gallwn ni ei gefnogi, ond hefyd cael y dystiolaeth. Mae hyn yn rhywbeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn rhoi sylw iddo hefyd o ran sicrhau ein bod yn cael y cyhuddiad hwnnw, fel y daw, o ran erchyllterau'r troseddau rhyfel gan filwyr Rwsia yn Wcráin.
Ond hefyd rydych chi'n gwneud pwynt mor allweddol, nid yn unig y maen nhw'n dod—. Menywod a phlant yn bennaf sy'n dod yma fel ein ffoaduriaid ni, felly mae hynny'n golygu eu bod yn dod gyda'r cyfan y maen nhw wedi'i brofi a'u colledion—mae eu dynion ar y rheng flaen—eu profiadau, a gyda'u plant. Ond hefyd, pan fyddan nhw'n dod yma, mae angen iddyn nhw gael mynediad i'r cwnsela hwnnw, y gefnogaeth honno, ein gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Hefyd, mae hynny'n ei gwneud mor bwysig ein bod wedyn yn gallu rhoi sicrwydd iddyn nhw y byddwn ni yn eu diogelu pan fyddan nhw'n dod i Gymru.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar bresenoldeb ysgol. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydyn ni i gyd yn gyfarwydd â'r heriau sydd wedi dod i ran ein cymuned addysg ni yn sgil y pandemig. Un o'r rhain yw'r cynnydd yn absenoldeb dysgwyr, a hynny ymhob grŵp blwyddyn ac ymhlith dysgwyr o bob math. Rydyn ni'n gwybod bod yna resymau amrywiol dros yr absenoldeb yma, a bod y sefyllfa wedi gwaethygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hyn yn un o'r prif elfennau sydd wedi dod i'r amlwg yn sgil yr adolygiad o batrymau absenoldeb, adolygiad y gwnes i ei gomisiynu ddiwedd 2021.
Er mwyn ymateb i'r her gynyddol yma, bydd angen inni edrych ar y system yn ei chyfanrwydd. Heddiw, fe fyddaf i'n datgelu nifer o gamau y byddwn ni fel Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi'r gymuned addysg i gefnogi ei dysgwyr.
Mae yna gysylltiad sydd wedi'i hen sefydlu rhwng presenoldeb, cyrhaeddiad a lles. Fy mlaenoriaeth i, uwchlaw dim arall, yw sicrhau bod pob person ifanc yn cael y cyfle i gyflawni ei botensial, beth bynnag ei gefndir. Mae mynd i'r afael gydag absenoldeb yn allweddol i hyn. Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd 10.5 y cant o ddisgyblion uwchradd a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn absennol, o gymharu â 4.7 y cant o'r rheini nad oedden nhw'n gymwys am brydau ysgol am ddim. Mae'r ffigurau hyn yn drawiadol ac yn galw am ymateb cenedlaethol.
Mae'r lefelau uchel o absenoldeb wedi bod yn dueddiad ar draws y Deyrnas Unedig, ond rhaid inni fod yn ofalus wrth gymharu. Mae ffigurau Lloegr yn seiliedig ar arolwg o ysgolion gyda dim ond 50 y cant i 60 y cant ohonyn nhw wedi ymateb; mae Cymru yn aml yn llwyddo i sicrhau bod bron i 100 y cant o'r ysgolion yn ymateb.
Hefyd, ar gyfer y rhan fwyaf o’r pandemig, mae ein data ni wedi mesur 'ddim yn bresennol'. Felly, mae pob disgybl wedi'i gyfrif yn absennol, hyd yn oed os oedden nhw'n dysgu gartref. Rhesymau diogelu sy'n gyfrifol am hyn. Felly, nid yw bod yn absennol o'r ysgol yr un fath â bod yn absennol o'r dysgu.
Yn gyntaf, fe hoffwn i sôn am gynnydd yn ein cyfathrebu gyda theuluoedd ar lefel genedlaethol ynghylch pa mor bwysig yw hi fod eu plentyn yn mynychu'r ysgol. Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn anhygoel o anodd i lawer o deuluoedd, ac mae'n ddealladwy pam mae hyn wedi creu pryder i gymaint. Rydyn ni wedi bod yn ymwybodol o'r pryderon hyn, ond mae'r cydbwysedd rhwng gwahanol ffactorau niweidiol yn glir bellach.
Mae angen i bobl ifanc fynychu'r ysgol, gweld eu ffrindiau a dysgu yn y dosbarth. Mae hyn yn hanfodol o ran eu lles, yn ogystal â'u haddysg. Fe fyddwn ni felly'n cynyddu ein cyfathrebu gyda rhieni a gofalwyr i fynd i'r afael gydag unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw o hyd, gan bwysleisio pwysigrwydd mynd i'r ysgol.
Bydd ein pwyslais ar ysgolion bro yn chwarae rhan allweddol wrth ymateb i'r her hon. Mae swyddogion ymgysylltu â theuluoedd yn hanfodol i sicrhau bod partneriaethau cadarnhaol yn cael eu creu a bod cymorth pwrpasol yn cael ei gynnig. Gall ysgolion sy'n adnabod eu teuluoedd yn dda sicrhau bod mesurau'n cael eu rhoi ar waith a fydd yn helpu plant i gynnal ymgysylltiad a phresenoldeb da. Rydym wedi darparu £3.84 miliwn yn ddiweddar ar gyfer swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, a fydd yn sefydlu perthynas gadarnhaol gyda rhieni ac yn rhoi arweiniad a gwybodaeth glir am bresenoldeb da.
Er bod hysbysiadau cosb benodedig am ddiffyg presenoldeb wedi bod ar gael i awdurdodau lleol yn ystod y pandemig, rydym wedi argymell yn gyffredinol yn erbyn eu defnyddio. Rydym yn awr mewn cyfnod lle y gallwn ni ddychwelyd yn ôl at y polisi blaenorol, pryd y gellir eu defnyddio pan fetho popeth arall. Rydym yn parhau i fod yn glir mai dim ond yn yr achosion mwyaf eithafol y dylid defnyddio dirwyon, fel rhan o amrywiaeth o ddewisiadau a phan fydd pob ymdrech i ymgysylltu â'r teulu wedi'i cheisio ac wedi methu, a phryd mae'n amlwg nad oes unrhyw resymau sylfaenol sy'n effeithio ar bresenoldeb yn yr ysgol. Yn effeithiol ar unwaith, felly, dylai pob awdurdod lleol ddychwelyd at ganllawiau ar ddefnyddio hysbysiadau cosb benodedig a gynhwysir yng nghanllawiau 2013 ar hysbysiadau cosb am ddiffyg presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol.
I gydnabod y newid yn y cyd-destun, byddwn yn diweddaru fframwaith presenoldeb Cymru gyfan. Fel rhan o'r gwaith hwn, rwyf yn awyddus i ni adolygu'r diffiniad o absenoldeb 'parhaus', yr ystyrir ar hyn o bryd ei fod yn fwy nag 20 y cant. Mae hwn yn fesur pwysig, gan ei fod yn aml yn cael ei osod fel sbardun ar gyfer mathau penodol o ymyrraeth, fel cynnwys y gwasanaeth lles addysg. Felly, credaf fod rhinwedd mewn ystyried cael trothwy is ar gyfer ymyrryd, a fyddai'n cyd-fynd â chynnydd yn y cymorth i'r gwasanaethau hyn.
Yn ystod y pandemig, mae absenoldeb wedi bod ar ei waethaf ymhlith blwyddyn 11. Er mwyn cefnogi'r dysgwyr hyn i baratoi ar gyfer arholiadau, gwnaethom ariannu'r ddarpariaeth o gymorth pontio wedi'i dargedu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o £1.28 miliwn ar gyfer dysgwyr blwyddyn 11 i'w cefnogi i symud ymlaen yn hyderus a gwneud penderfyniadau gwybodus am drosglwyddo i'r camau nesaf, gan gynnwys addysg bellach ac addysg uwch.
Rwyf hefyd yn pryderu y dylem gymryd yr holl gamau a allwn ni i leihau'r risg y gallai lefel uchel o absenoldeb yn y grŵp hwn o ddysgwyr arwain at nifer uwch nad ydyn nhw mewn addysg na hyfforddiant cyn bo hir. Dyna pam yr ydym ni wedi darparu £8.5 miliwn o gyllid pontio penodol i golegau a chweched dosbarth mewn ysgolion i gefnogi pobl ifanc wrth iddyn nhw symud i gam nesaf eu haddysg neu eu gyrfa, gan alluogi gweithgareddau fel mentora, sesiynau blasu a thiwtora ychwanegol.
Wrth gwrs, mae gan Estyn ran i'w chwarae o ran sicrhau bod presenoldeb yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol. Bydd Estyn yn casglu data ar bresenoldeb disgyblion, ac, fel rhan o'u gwaith treialu fframwaith arolygu, maen nhw'n ystyried darpariaeth i unedau atgyfeirio ysgolion a disgyblion ar gyfer monitro a gwella presenoldeb. Fel rhan o'u hadolygiad o'r trefniadau arolygu newydd ar gyfer mis Medi 2022, rwy'n croesawu'r ffaith bod Estyn hefyd yn ystyried sut i gryfhau eu gofynion adrodd ar bresenoldeb disgyblion fel rhan o'u pwyslais cynyddol ar degwch mewn addysg.
Mae'n hanfodol, Dirprwy Lywydd, fod gan bob ysgol bolisi presenoldeb clir. Er mwyn helpu i sicrhau bod hynny'n digwydd, byddaf yn gofyn i bob ysgol gyhoeddi eu polisïau presenoldeb. Dylai'r rhain fabwysiadu dull ysgol gyfan ac amlinellu sut mae ysgolion yn gweithredu yn dilyn absenoldeb dysgwyr, ac amlygu pa gamau y mae ysgolion yn eu cymryd i gefnogi dysgwyr, yn enwedig gweithdrefnau ar gyfer nodi ac ailintegreiddio disgyblion sy'n absennol dros dymor hir.
Arweiniodd y pandemig at gynnydd yn nifer y plant a oedd yn cael eu haddysgu yn y cartref. Bydd y cynigion addysg ddewisol yn y cartref sy'n cael eu datblygu gennym ar hyn o bryd yn helpu i sicrhau bod y dysgwyr hynny'n cael mynediad at addysg effeithlon ac addas. Mae'r pecyn cymorth ehangach yr ydym yn ei ddarparu yn elfen hanfodol a fydd yn gwella eu profiad dysgu a'u cyfleoedd datblygu, a bydd yn cynnwys mynediad llawn i'r adnoddau addysgol ar Hwb. Rydym yn annog awdurdodau lleol i gydweithio â theuluoedd drwy ddull cefnogol i alluogi pobl i ddychwelyd i'r ysgol.
Heddiw, rwyf wedi amlinellu rhai o'r camau y byddwn yn eu cymryd. Wrth i ni symud i ddull tymor hwy ar gyfer ymateb i coronafeirws, byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod hawliau plant a'r hawl i addysg wrth wraidd popeth a wnawn.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr am eich datganiad, Gweinidog. Rydym yn croesawu, wrth gwrs, yr hyn yr ydych chi wedi'i amlinellu a'r hyn sy'n cael ei wneud hyd yma ar yr hyn sy'n gynnydd pryderus iawn o ran presenoldeb mewn ysgolion ar hyn o bryd yng Nghymru. Wrth gwrs, mae'r cyfan yn ymwneud, yn fy marn i, ag ymddygiad, dewis a diffyg cefnogaeth, ac wrth gwrs effaith COVID ar iechyd meddwl, yn arbennig.
Fel yr ydych chi wedi sôn, mae effaith COVID wedi cael effaith sylweddol iawn ar ein bywydau ni i gyd a phob agwedd ar addysg yng Nghymru. Fel y gwyddom, cyn y pandemig, cyhoeddwyd data presenoldeb ysgol a gynhelir yn flynyddol ar ffurf a grynhowyd ar gyfer blwyddyn academaidd gyfan. Y data diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer y cyfnod cyn y pandemig yw blwyddyn academaidd 2018-19. Fodd bynnag, mae'r data ers dechrau'r pandemig wedi dangos tueddiadau sy'n peri pryder mawr. Mae cyfraddau uwch o absenoldebau mewn ysgolion uwchradd, mae cyfraddau uwch mewn ysgolion cynradd, a llawer mwy o absenoldebau o ran dysgwyr difreintiedig, y rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, y rhai â datganiad anghenion addysgol arbennig neu'r rhai sy'n destun gweithredu gan yr ysgol a mwy.
Yn ystod y pandemig, gwelsom fod ysgolion wedi adrodd i'r adolygiad presenoldeb bod eu presenoldeb wedi gostwng, 5 y cant yn nodweddiadol ac fel arfer rhwng 2 y cant a 10 y cant. Fel y mae'r adroddiad yn amlygu, roedd rhai dysgwyr wedi sefydlu patrwm o beidio â mynychu'r ysgol yn ystod y cyfyngiadau symud y maen nhw a'u teuluoedd yn ei chael yn anodd eu newid neu'n gweld hyn yn ddiangen. Mae'r adolygiad hyd yn oed yn awgrymu, hyd yn oed ar ôl dadgyfuno rhesymau sy'n gysylltiedig â COVID, nad yw presenoldeb yn gyffredinol wedi dychwelyd i lefelau cyn COVID eto. Mae hyn yn amlwg yn broblem. Gweinidog, sut ydych chi am fynd i'r afael â'r mater ac annog pobl i ddychwelyd yn llawn i'r dosbarth o leiaf i lefelau cyn y pandemig? Nid yn unig y mae angen i ni weld anogaeth gadarn yn ôl i'r ystafell ddosbarth, ond mae angen i ni gael gwell diogelwch a chefnogaeth—cymorth yn bennaf—ar waith, i'r rheini sydd ag absenoldebau hirdymor anesboniadwy.
Hefyd, Gweinidog, sut ydych chi yn mynd i fonitro absenoldebau hirdymor yn well, ac a wnewch chi newid y trothwy cysylltiedig ar gyfer ymyriadau er mwyn sicrhau na chaiff absenoldebau eu methu? Mae'n hysbys hefyd o'r adolygiad presenoldeb y gall absenoldeb sy'n dirywio fod yn rhagflaenydd i ystod o broblemau ymddygiadol ac emosiynol i ddysgwyr a allai, os na eir i'r afael â nhw, arwain at wahardd y dysgwyr hyn o'r ysgol. Felly, mewn gwirionedd, camu i mewn ar yr adeg iawn—.
Ac yn olaf, Gweinidog, mae'n amlwg bod hwn bellach yn gyfle da i fynd i'r afael â thriwantiaeth a chyfle i ni i sicrhau bod myfyrwyr yn yr ystafell ddosbarth. Felly, a wnewch chi gynnal ymchwil pellach i'r defnydd o hysbysiadau cosb benodedig a'u heffaith ar batrymau presenoldeb dysgwyr, gwella profiadau dysgwyr, gan fod dirwyon bellach yn dychwelyd, i weld a ydyn nhw yn gweithio ai peidio? Fodd bynnag, yr hyn sy'n glir, serch hynny, yw, cyn y pandemig, roedd un o'r ffyrdd gorau o wella presenoldeb wedi ei seilio ar y gydnabyddiaeth bod presenoldeb yn gwella os yw dysgwyr eisiau dod i'r ysgol ac os ydyn nhw'n canfod fod yr hyn a gynigir yn atyniadol, yn ddiddorol ac yn berthnasol iddyn nhw, ac, wrth gwrs, yn amlwg, ers y pandemig, pa un a yw'r cymorth wedi bod yno ai peidio. Rwy'n gwybod gan fy mod wedi bod yn mynd o gwmpas y de-ddwyrain yn ddiweddar, rwyf wedi cwrdd â llawer o ddisgyblion sydd wedi ei chael yn anodd dychwelyd i'r ysgol, dim ond oherwydd effaith y pandemig ar iechyd meddwl a'r trafferthion a gawson nhw.
Rhaid i ni fabwysiadu ymagwedd amlbroffesiwn tuag at y mater hwn a defnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael i'r Llywodraeth, boed hynny'n cryfhau hysbysiadau cosb benodedig neu'n sicrhau bod y cynnig addysgol yn cyrraedd safon benodol ac yn ddeniadol i'r dysgwr, a bod y cymorth hwnnw—y cymorth hwnnw'n bennaf—ar waith.
Gweinidog, er bod eich datganiad yn fan cychwyn, ni allwn laesu dwylo a dylem ni yn awr fod yn ceisio manteisio i'r eithaf ar y cyfle hwn ar ôl yr adolygiad hwn i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn colli amser yn yr ystafell ddosbarth yn ddiangen os yw hynny'n bosibl. Diolch.
Diolch i Laura Anne Jones am ei chwestiynau ac rwy'n credu ei bod yn gwneud rhai pwyntiau pwysig iawn yn ei chyfraniad, os caf i ddweud. Rwy'n credu ei bod yn iawn, fel y mae hi'n ei ddweud, fod hon yn gyfres o heriau pryd nad yw symud o bandemig i gyflwr endemig o ran ymateb y system ysgolion i COVID yn mynd i warantu ein bod yn dychwelyd i'r lefelau presenoldeb a ddigwyddodd cyn COVID. Mae hynny'n gwbl glir, ac rwy'n llwyr gefnogi'r pwynt a wnaeth fod yn rhaid i'r Llywodraeth gael amrywiaeth o ddulliau i gefnogi'r system, ond ein bod yn gwneud y cynnydd mwyaf o ran parhau â'r dull yr ydym wedi'i fabwysiadu drwyddi draw, sef cefnogi teuluoedd, cefnogi dysgwyr i ddychwelyd i'r ysgol, felly rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau hynny y mae'n eu gwneud.
Mae her, yn amlwg, wrth ofyn i ysgolion, i bob pwrpas, fynd i'r afael â chyfres newydd o heriau yma, a dyna beth mae hyn yn ei olygu. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y buddsoddiad ychwanegol mewn cysylltiad â gweithlu'r swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, fel yr wyf yn disgwyl, yn werthfawr ac yn cael ei groesawu. Drwy waith y gweithlu hwnnw, y rhan honno o'n gweithlu proffesiynol, sy'n ymwneud â sefydlu perthynas gadarnhaol â rhieni, gyda gofalwyr, gyda dysgwyr eu hunain, darparu arweiniad clir, cyfres glir o ddisgwyliadau, ond hefyd y math o sicrwydd sy'n mynd gyda hynny, a deall hefyd, fel yr ydym ni wedi dweud droeon yn y Siambr hon, bod profiad dysgwyr unigol dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn unigol iddyn nhw, onid yw e', ac rwy'n credu i'r graddau y gallwn ni, adlewyrchu hynny a chael rhyw fath o ddull pwrpasol wedi'i deilwra i anghenion teuluoedd unigol cyn belled ag y bo hynny'n bosibl.
Gofynnodd am y trothwyon—rwy'n credu mai dyna'r term a ddefnyddiodd—a byddwn yn edrych ar rai o'r rheini, gan gynnwys, fel y soniais i yn fy natganiad, y diffiniad o absenoldeb parhaus. Rwy'n poeni y gallai hynny fod wedi'i osod ar lefel rhy uchel ar hyn o bryd, ac felly dylai'r math o ymyriadau y bydd eu hangen arnom ni fod ar gael—dylen nhw gael eu sbarduno, os mynnwch chi—ar lefel is o absenoldeb yn hytrach na fel arall efallai, felly rwyf wedi gofyn i waith gael ei wneud i edrych ar hynny. Fel y byddwch wedi gweld, mae hynny'n argymhelliad yn yr adroddiad ei hun.
Rwy'n credu bod y cysylltiad rhwng absenoldeb ac iechyd meddwl a llesiant yn achos ac yn effaith, os mynnwch chi; rwy'n credu bod ganddo berthynas gymhleth â llesiant. Ac felly mae angen i'r gwaith yr ydym ni eisoes yn ei wneud, ond gan adeiladu arno, o ran y dull system gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol, fod yn ymwybodol iawn o'r cysylltiad hwnnw.
Cododd y pwynt yn benodol ynghylch profiad dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Rydym yn edrych ar—. Rydym yn mynd i adolygu neu ailedrych ar ein canllawiau ar allgáu. Rydym eisoes wedi comisiynu rhywfaint o ymchwil gan brifysgolion i'n helpu ni i ddeall y cysylltiad rhwng allgáu a nodweddion amrywiol, gan gynnwys anghenion dysgu ychwanegol, a byddwn yn gweithio yn ystod y flwyddyn hon ar ddiwygio'r canllawiau hynny i ddarparu offeryn mwy defnyddiol, gan adlewyrchu'r ddwy flynedd ddiwethaf.
I gloi, rwy'n credu mai un o'r themâu mewn nifer o'n hymyriadau yw gwneud ffiniau'r ysgolion yn fwy mân-dyllog, os mynnwch chi. Felly, pa un a yw'n sicrhau bod adnoddau Hwb ar gael i'r rhai sy'n dysgu gartref, neu ehangu ein model ysgolion bro, ac mae hynny'n cynnwys, hefyd, cymorth i dreialu swyddogaeth rheolwyr ysgolion cymunedol, mae'n galluogi i'r gwaith o bontio byd yr ysgol a byd y cartref fod ychydig yn fwy di-dor. A rhan o hynny yw adolygiad, sydd eisoes ar y gweill, o'n strategaeth dysgu cyfunol, sydd, yn fy marn i, yn mynd rhan o'r ffordd i adlewyrchu o leiaf un o'r pwyntiau a wnaeth yn ei chwestiwn, sy'n ymwneud â sicrhau, pan nad ydyn nhw yn yr ysgol, fod cefnogaeth i'r dysgwyr hynny i brofi dysgu cyfunol a dod yn ôl i fyd yr ysgol maes o law.
Ar ran Plaid Cymru, Heledd Fychan.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n hyfryd gweld cymaint o blant ifanc yn ein gwylio ni y prynhawn yma yn y Siambr—croeso i chi.
Gwyddom oll pa mor bwysig yw presenoldeb ysgol o ran cyrhaeddiad a lles plant a phobl ifanc, fel y gwnaethoch ei nodi yn y datganiad. A fel rhywun a fu yn y gorffennol yn lywodraethwraig ysgol gyda chyfrifoldeb am bresenoldeb, gwn hefyd pa mor heriol y gall fod i ysgolion, a bod athrawon ledled y wlad yn ceisio llu o ffyrdd amrywiol a gwahanol i sicrhau bod lefelau presenoldeb mor uchel â phosib.
Mae'n bwysig hefyd cofio bod rhesymau dilys iawn pam bod rhai plant yn peidio â mynd i'r ysgol. Cyfarfûm â rhiant oedd eisiau i ysgol roedd ei phlant ynddi ddiddymu system a oedd yn gwobrwyo presenoldeb gan fod gan un o'i phlant gyflwr meddygol oedd yn golygu ei fod yn colli nifer o ddyddiau ysgol oherwydd apwyntiadau a thriniaethau meddygol. Roedd ei phlentyn yn teimlo'n fethiant oherwydd y negeseuon parhaus yn yr ysgol am bwysigrwydd presenoldeb ac yn crio os oedd yn rhaid iddyn nhw golli diwrnod o ysgol—rhywbeth a oedd yn gorfod digwydd yn wythnosol.
Dwi'n falch o glywed y Gweinidog, o ran yr hysbysiadau cosb benodedig, yn pwysleisio bod rheswm dilys angen cael ei gymryd i ystyriaeth. A gaf i ofyn, felly, pa asesiad sydd wedi'i wneud o effeithiolrwydd y system cosb benodedig, ac oes yna unrhyw newidiadau wedi'u gwneud i ganllawiau 2013? Oherwydd, wedi'r cyfan, mi ydyn ni wedi clywed straeon am rieni yn derbyn y gosb yma er gwaethaf y ffaith bod rhesymau dilys.
Awgrymodd adroddiad Erlyn Rhieni y gall bygwth ac erlyn rhieni fod yn ddibwrpas ac yn niweidiol. Ac mi oedd y mwyafrif a wnaeth ymateb i arolwg gan Erlyn Rhieni yn nodi, oherwydd absenoldeb eu plant, fod y mwyafrif yn gwrthod mynd i'r ysgol oherwydd bod ganddyn nhw anawsterau ymddygiadol, niwrolegol neu, fel y cyfeiriwyd ato eisoes, iechyd meddwl gwael, a'u bod nhw wedi cael trafferth cael apwyntiadau CAMHS ac ati a chefnogaeth i'w plant. Roedd pob rhiant wnaeth ymateb i'r arolwg hwnnw yn dymuno cael eu plant i'r ysgol, ond mi oedden nhw'n dweud yn aml ei bod hi'n amhosib, oherwydd bod yr adwaith mor eithafol o ran ofn a gorbryder, methu cysgu, hunan-niweidio ac ati, ei bod hi'n drawmatig ofnadwy i'r rhieni a'r gofalwyr hynny o ran ceisio cael eu plant i'r ysgol. Hefyd bod plant yn cael eu bwlio oherwydd, efallai, anallu mynd i'r ysgol, oherwydd cyflwr meddygol ac ati. Dwi'n meddwl ei bod hi'n eithriadol o bwysig ein bod ni'n cael hyn yn iawn wrth ichi fod yn annog awdurdodau unwaith eto i fod yn rhoi hysbysiadau cosb benodedig. Fedrwn ni ddim bod yn cosbi rhieni a gofalwyr yn y sefyllfa fan hyn pan fod dirfawr angen mwy o wasanaethau i gefnogi'r plant a phobl ifanc yma.
Mi wyddom ni hefyd fod yr argyfwng costau byw yn cael effaith mawr o ran presenoldeb ar adegau. Rydyn ni wedi cyfeirio ato yn y gorffennol, rydyn ni'n gwybod bod absenoldebau'n uwch ar ddiwrnodau gwisgo, fel Diwrnod y Llyfr, ac ati. Rydyn ni hefyd yn gwybod os ydy rhieni'n cael trafferth o ran talu am gostau bws, os ydy plentyn wedi colli bws i'r ysgol, fod hwnna, weithiau, yn rheswm. Hefyd, mae rhai rhieni dim ond yn gallu fforddio mynd â phlant ar wyliau, rŵan, yn ystod y tymor ysgol. Mae nifer o brifathrawon yn sensitif iawn o ran hynny os ydy presenoldeb wedi bod yn uchel fel arall, ond mae'n rhaid inni gydnabod bod gan blant yr hawl i gael hwyl a gwyliau hefyd, nid dim ond addysg, a bod teuluoedd dan straen aruthrol.
Mae'n rhaid sicrhau, felly, fod unrhyw strategaeth a chyfathrebiad yn sensitif o ran y rhai hynny lle mae rhesymau dilys iawn o ran colli'r ysgol, a lle mae presenoldeb o unrhyw fath, megis i blentyn sydd â nifer o apwyntiadau meddygol, yn rhywbeth i’w ddathlu. Rhaid bod targedau pob ysgol yn cymryd disgyblion o'r fath i ystyriaeth, gan gynnwys y gefnogaeth sydd ar gael i ddysgwyr a'u rhieni. Fe gyfeirioch yn benodol at rôl allweddol Estyn yn hyn, a mawr obeithiaf y byddant yn sicrhau bod modd i ysgolion gofnodi yr ystod o resymau pam fod dysgwr yn absennol i ni ddeall yn well pam fod problem.
Fe gyfeirioch yn y datganiad at y buddsoddiad gafodd ei neilltuo ar gyfer dysgwyr blwyddyn 11 yn benodol. Yn amlwg, mae hyn yn destun pryder a da gweld bod gwariant penodol wedi ei neilltuo ar ei gyfer. Fyddai'r Gweinidog yn gallu amlinellu sut cafodd yr arian hwn ei wario a pha mor effeithiol oedd y gwariant o ran gwella presenoldeb? Ac oes asesiad wedi ei wneud o hyn? Diolch.
Diolch i Heledd Fychan am y cwestiynau hynny. Does dim byd yn y datganiad y gwnes i ei wneud sydd yn awgrymu y dylai'r pethau pwysig y gwnaeth hi eu codi yn ei sylwadau gael eu hanwybyddu. Mae, wrth gwrs, yn bwysig ein bod ni'n teilwra'r ffordd rŷn ni'n ymateb i'r heriau yma yn ôl amgylchiadau dysgwyr unigol a sefyllfa'r teulu, ac mae wedi rhoi amryw o enghreifftiau ac mae llawer eraill o enghreifftiau dilys hefyd, sydd yn disgrifio'r berthynas gymhleth, efallai, mewn amryw o gyd-destunau rhwng absenoldeb a phresenoldeb a'r ffactorau eraill y gwnaeth hi sôn amdanyn nhw.
Un o'r prif newidiadau, efallai, o'r canllawiau yn 2013—does dim newid wedi bod i'r canllawiau eu hunain—yw i gefnogi ysgolion i allu darparu'r modd mwy cefnogol hwnnw, i gydweithio gyda theuluoedd i wneud hynny, sy'n adlewyrchu amgylchiadau penodol y teulu hwnnw. Felly, mae'r buddsoddiad ychwanegol, gyda'r bwriad o greu mwy o gapasiti a mwy o arbenigedd a mwy o allu yn ein hysgolion i allu gwneud hynny hefyd. Dwi eisiau jest bod yn glir: gwnaeth hi ddweud yn ei datganiad am y ffaith ein bod ni'n annog awdurdodau lleol i wneud hyn. Nid dyna rwy'n ei wneud heddiw, rwyf i jest yn dweud bod cyfle i fynd nôl i'r canllawiau a oedd gennym ni cyn y cyfnod COVID. Mae wir yn bwysig bod hyn yn digwydd fel rhan o ystod o gamau y gall awdurdodau lleol ac ysgolion eu cymryd. Ac fel y gwnes i ddweud yn fy ateb i gwestiynau Laura Anne Jones, mae'n rhaid cefnogi a chydweithio, a dyna'r ffordd fwyaf adeiladol i'r rhan fwyaf o bobl allu sicrhau bod eu plant nôl yn yr ysgol.
Mae'n gwneud pwynt pwysig ynglŷn â chostau'r dydd ysgol. Bydd yr Aelod yn gwybod ein bod ni wedi, wrth gwrs, cymryd amryw o gamau i gefnogi'r teuluoedd sy'n ei chael hi'n fwyaf anodd i allu fforddio rhai o'r prif elfennau o gost y diwrnod ysgol, a rŷn ni hefyd wedi darparu canllawiau pellach drwy gydweithio â'r trydydd sector i sicrhau bod gan ysgolion ganllawiau penodol ynglŷn â sut i leihau'r risg pwysig y mae hi'n sôn amdano fe, a bod hynny yn digwydd. Mae'r profiad o wybod eich bod chi ddim yn gallu fforddio, fel yr oedd hi'n ei ddweud, gwisgo i fyny neu fynd i'r ysgol ar ddiwrnodau penodol, mae hynny, wrth gwrs, yn destun gofid i lawer o deuluoedd. Felly, mae wir yn bwysig bod ysgolion yn ymateb i'r canllawiau hynny.
Jest i gloi, mae gan bob rhan o'r system addysg rôl i'w chwarae yn hyn, ac fel yr oedd hi'n sôn yn ei chwestiynau, mae rôl bwysig gan Estyn i sicrhau'r berthynas ag ysgolion i ddeall beth yw'r patrwm, i ddeall beth yw'r data, os hoffech chi, ond hefyd i ddeall pam fod hyn yn digwydd—mae hynny'n rhan bwysig hefyd o'r dadansoddiad ac o'r ymateb.
Ac yn olaf, Jayne Bryant, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am eich datganiad sydd i'w groesawu'n fawr y prynhawn yma a'r manylion yr ydych chi wedi'u darparu ynddo. Fel yr ydych chi wedi dweud, mae mynd i'r afael ag absenoldeb dysgwyr yn allweddol, ac rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi cytuno heddiw ei fod yn fater hollbwysig. Rydw i'n cydnabod yr anawsterau wrth fynd i'r afael ag ef gyda'r heriau ychwanegol a ddaeth yn sgil y pandemig. Bydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn dechrau darn byr o waith â phwyslais, gan edrych ar y materion sy'n ymwneud â phresenoldeb disgyblion, a bydd yn ystyried eich datganiad heddiw a'r adroddiad.
Hoffwn ganolbwyntio ar un agwedd, ac mae Aelodau eraill wedi crybwyll hyn hefyd. Pan ysgrifennodd y pwyllgor at awdurdodau lleol ynghylch sut yr oedden nhw'n ymdrin ag absenoldeb parhaus, nododd rhai yr hoffai awdurdodau lleol weld ailgyflwyno'r hysbysiadau cosb benodedig. Ac rydych chi wedi cyhoeddi heddiw bod y cyngor gan Lywodraeth Cymru ar ddefnyddio hysbysiadau cosb benodedig wedi newid, o gael eich cynghori i beidio â'u defnyddio i ddweud y gallai fod yn briodol ar gyfer nifer fach o achosion sy'n ymwneud ag absenoldeb parhaus nad ydynt yn gysylltiedig â phandemig COVID. Ac rydych chi wedi dweud eich hun heddiw eich bod chi'n ei weld fel y dewis olaf. Felly, pa ran, yn eich barn chi, all yr hysbysiadau cosb benodedig hynny ei chwarae mewn cysylltiad ag ymdrin ag absenoldebau parhaus mewn ysgolion? A sut y byddwch chi'n parhau i fonitro hyn fel arf, a'r effaith ar lesiant meddyliol ein plant a'n pobl ifanc?
Diolch i Jayne Bryant am y sylwadau yna a'r cwestiynau. Pan wnes i fy natganiad, rydw i am fod yn glir ynglŷn â'r hyn yr ydym ni'n ei wneud: mewn gwirionedd, dydyn ni erioed wedi newid y gyfraith ar unrhyw adeg mewn cysylltiad â hysbysiadau cosb benodedig. Efallai ei bod hi'n cofio i ni benderfynu peidio â gwneud hynny, ond y byddem yn mynegi barn, os mynnwch chi, ynghylch i ba raddau y dylid eu defnyddio yng nghyd-destun y ddwy flynedd ddiwethaf. A'r hyn yr ydym ni'n ei wneud heddiw yw dweud y dylid adfer y canllawiau oedd yn bodoli o'r blaen. Ond mae ei chwestiwn yn rhoi cyfle i mi bwysleisio unwaith eto fy mod i'n credu ei bod yn bwysig gweld hyn—yn y ffordd yr oedd Laura Anne Jones yn dweud yn ei chwestiwn—fel rhan o ystod o gamau ac, mewn gwirionedd, y bydd y pwyslais i raddau helaeth ar gefnogi dysgwyr a theuluoedd i wneud yn siŵr, drwy waith swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, drwy'r canllawiau, y tawelwch meddwl, drwy'r gwaith mewn cysylltiad â'r adolygiad dysgu cyfunol, drwy'r olwg newydd honno ar y pwynt pryd y mae'r ymyriadau cefnogol amrywiol sydd ar gael i'r ysgol yn dechrau bod ar gael, drwy edrych eto ar y trothwy absenoldeb parhaus yn benodol, ond pwyntiau sbarduno eraill hefyd, mae'r holl ymyriadau hynny'n dod at ei gilydd. Ac rwy'n gwybod y bydd hi wedi gweld hyn yn yr adroddiad: mae ymdeimlad o'r ystod o offer sydd ar gael i ysgolion ac rwy'n glir iawn y bydd angen hysbysiadau mewn nifer fach iawn o achosion. I'r mwyafrif llethol, rwy'n ffyddiog mai'r gwaith y bydd ysgolion yn ei wneud, y maen nhw'n fedrus iawn yn ei wneud, a gyda'r adnoddau ychwanegol yr ydym ni'n eu darparu, rwy'n ffyddiog, i'r rhan fwyaf o ddysgwyr, i'r rhan fwyaf o deuluoedd, mai dyna'r ffordd orau o sicrhau bod dysgwyr yn dod yn ôl i'r ysgol, yn dysgu gyda'u cyfoedion wyneb yn wyneb â'u hathrawon, sy'n fuddiol iawn o ran eu haddysg, ond hefyd, fel yr adlewyrchodd nifer o gyfraniadau heddiw, yn gwbl hanfodol i'w llesiant hefyd.
Diolch i'r Gweinidog.
Cyn i ni symud ymlaen, rydw i'n siŵr y bydd yr Aelodau'n ymuno â mi i ddweud ei bod yn bleser gweld cynifer o bobl ifanc yn yr oriel heddiw, a'u canmol hefyd am eu hymddygiad eithriadol pan oedden nhw yno, ac roedd hi'n wych gweld mwy yn dod i mewn. Rwy'n credu eu bod nhw'n dod o Ysgol Y Wern.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar hawliau dynol, a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i wneud y cynnig. Mick Antoniw.
Cynnig NDM7991 Lesley Griffiths, Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gryfhau a hyrwyddo hawliau dynol, cydraddoldeb a diogelu cymunedau lleiafrifol yng Nghymru.
2. Yn nodi â phryder difrifol y symudiadau mynych gan Lywodraeth y DU i leihau hawliau dynol.
3. Yn credu bod cynigion Llywodraeth y DU i ddiddymu'r Ddeddf Hawliau Dynol yn tanseilio amddiffyniadau allweddol i ddinasyddion ac yn codi materion cyfansoddiadol sylweddol.
4. Yn credu bod Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd yn tanseilio hawliau cymunedau lleiafrifol ac yn peryglu'r hawl i brotestio’n gyfreithlon ac yn heddychlon.
5. Yn cytuno â Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig y byddai'r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn tanseilio'n ddifrifol y broses o ddiogelu hawliau dynol ac yn arwain at ymyriadau difrifol â hawliau dynol.
6. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi ei dull o ymdrin â Hawliau Dynol, sy’n gam yn ôl, a'r tramgwyddo’n erbyn y cyfansoddiad yn sgil hynny.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf agor y ddadl hon ar adeg hollbwysig i hawliau dynol yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a'r byd. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyd-noddi'r ddadl ac am ddangos eu hymrwymiad ar y cyd. Hoffwn ddiolch hefyd am gefnogaeth arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds.
Yn amlwg, rydym yn cyfarfod yn gyson am y rhyfel yn Wcráin. Mae miloedd eisoes wedi marw oherwydd dirmyg arweinydd Rwsia tuag at gyfraith ryngwladol. Mae miliynau yn rhagor wedi ffoi o'u cartrefi a'u gwlad. Mae rhai ohonynt bellach yn cyrraedd y Deyrnas Unedig a Chymru, gan daflu goleuni newydd ar sut yr ydym yn trin pobl yn yr amgylchiadau mwyaf enbyd a sut yr ydym yn cyflawni ein hymrwymiadau hawliau dynol rhyngwladol ein hunain.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad clir a hirsefydlog i hyrwyddo a diogelu hawliau dynol. Mae hyn yn rhan annatod o ddeddfwriaeth sefydlu Llywodraeth Cymru, ac rydym ni'n cymryd camau newydd i gryfhau a hyrwyddo hawliau dynol yng Nghymru, sydd hefyd yn cael ei adlewyrchu ar draws ein cytundeb cydweithredu. Wrth gwrs, byddem yn gobeithio sefyll yn gadarn gyda Llywodraeth y DU nawr, gan gadarnhau a dangos ymrwymiad diamod cyffredin i hawliau dynol ledled y byd. Yn hytrach, beth yr ydym ni'n ei weld yw cyfres gyfan o fesurau gan Lywodraeth y DU sy'n cael eu cyfrifo'n fwriadol i danseilio egwyddorion mwyaf sylfaenol hawliau dynol. Gyda'i gilydd, ni allant ond rhoi arwydd i'r byd bod y DU yn atchwelyd o ran hawliau dynol.
Ni allaf wneud dim gwell yn y ddadl hon na chyfeirio at ganfyddiadau adolygiad annibynnol Llywodraeth y DU ei hun o Ddeddf Hawliau Dynol 1998: mae'r Ddeddf wedi cael effaith gadarnhaol ar orfodi a hygyrchedd hawliau yn y DU; achosion yn cael eu clywed yn gynt ac yn llai costus; barnwyr y DU yn gallu ystyried ein cyd-destun cenedlaethol yn well wrth wneud penderfyniadau na barnwyr yn Strasbourg; ni all y llysoedd wrthdroi deddfwriaeth sylfaenol, mae'r Ddeddf yn cynnal sofraniaeth seneddol yn llwyddiannus; mae'r Ddeddf yn rhan ganolog o setliad datganoli'r DU a byddai diwygio'r Ddeddf Hawliau Dynol yn risg enfawr i'n setliad cyfansoddiadol ac i orfodi ein hawliau. Dyma gasgliad adolygiad annibynnol y Torïaid ei hun, yr un a sefydlwyd ganddyn nhw, ond, wrth gwrs, ni ddaeth i'r casgliadau yr oedden nhw eisiau eu cael, felly maen nhw'n ei anwybyddu ac yn prysuro ymlaen beth bynnag.
Maen nhw bellach yn datblygu eu cynigion eu hunain i ddadfeilio hawliau dynol drwy fil hawliau fel y'i gelwir, deddfwriaeth sydd, ynghyd â deddfwriaeth arall, yn cael ei gyrru'n ideolegol ac yn wleidyddol ac sydd â dim ond un amcan: tanseilio rhai o'r egwyddorion sylfaenol sy'n sail i hawliau democrataidd a rheolaeth y gyfraith yn y DU a galluogi—
Tybed a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ildio ar yr union bwynt yna. Un o'r egwyddorion sylfaenol y bydd hyd yn oed myfyriwr Safon Uwch yn ei ddysgu am hawliau dynol yw eu bod yn gyffredinol—does dim modd eu trafod, maen nhw'n gyffredinol, yn berthnasol i bawb. Sut felly mae'n dehongli signal Llywodraeth y DU, gan wrthod, fel mae'n ei ddweud yn gywir, yr hyn y maen nhw wedi'i glywed yn yr ymgynghoriad, y dylid gwahaniaethu rhywfaint rhwng y rhai haeddiannol a'r rhai nad ydynt yn haeddiannol? Mae'n ymddangos i mi, oni bai fy mod yn colli rhywbeth, ei fod yn mynd yn groes i'r ddealltwriaeth Safon Uwch sylfaenol o beth yw hawliau dynol. Os ydyn nhw'n gyffredinol, ni allwch wahaniaethu rhwng haeddiannol ac anhaeddiannol. Mae pawb yn haeddu hawl i gyflwyno eu hachos o ran hawliau dynol.
Mae'r Aelod yn llygad ei le, ni ddylid gwahaniaethu o gwbl rhwng haeddiannol ac anhaeddiannol fel y'i gelwir, oherwydd mae hynny'n taro ar yr egwyddor bod hawliau dynol yn perthyn i bawb mewn gwirionedd. Wrth gwrs, dywedodd Dominic Raab, yr Arglwydd Ganghellor, yn 2009, cyn iddo fod yn Arglwydd Ganghellor:
'Dydw i ddim yn cefnogi'r Ddeddf Hawliau Dynol a dydw i ddim yn credu mewn hawliau economaidd a chymdeithasol.'
Dyna'n union sy'n sail i gyfeiriad y Llywodraeth yn ideolegol. Fel mae adroddiad diweddaraf Tŷ'r Cyffredin a Chyd-bwyllgor Hawliau Dynol Tŷ'r Arglwyddi yn ei ddweud, yng ngoleuni ein cefnogaeth i Wcráin a'u brwydr dros ddemocratiaeth, hawliau dynol a rheolaeth y gyfraith, byddai'n eironi ofnadwy nawr i ni fod yn gwanhau ein hamddiffyniadau ein hunain wrth i ni wneud hynny.
Wrth gwrs, mae materion cyfansoddiadol allweddol eraill yn y fantol, mae'r Ddeddf Hawliau Dynol yn hanfodol i ddemocratiaeth Cymru. Rhaid i ddeddfwriaeth sy'n cael ei phasio yn y Senedd hon fod yn gydnaws â'r Ddeddf, felly rhaid i unrhyw weithred neu newid gael cytundeb holl ddeddfwrfeydd cenedlaethol y DU. Mae cynigion Llywodraeth y DU bron yn gyfan gwbl yn anwybyddu'r effaith bosibl ar ein fframwaith cyfansoddiadol, cyfreithiol a pholisi datganoledig.
Gadewch i ni droi nawr at Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd 2022, Deddf sy'n ymosodiad ar ryddid sydd wedi bodoli ers canrifoedd. Mae'n gosod cyfyngiadau mawr ar yr hawl ddemocrataidd i brotestio. Mae'n cynnwys rhai elfennau sy'n debyg i gyfyngiadau ar ryddid sydd wedi'u cyflwyno yn Rwsia Putin ac mae'n dileu'n raddol sylfeini hawliau ein pobl i lefaru rhydd a'r hawl i brotestio, yr hawl i herio arfer pŵer gan y Llywodraeth a cham-drin pŵer.
Bydd y newidiadau arfaethedig yn effeithio ar fywydau pobl ledled Cymru, ac rydym ni wedi brwydro erioed i sicrhau bod llais y Senedd yn cael ei glywed drwy gydol y broses ddeddfwriaethol. Fodd bynnag, mae agweddau ar y Bil sy'n sbarduno gwrthwynebiad moesol iawn. Gwrthododd y Senedd gymalau yn ymwneud â phrotestio a gwersylloedd diawdurdod. Pwysleisiodd ein Senedd yr ymrwymiad i'r hawl i ymgynnull yn heddychlon a phrotestio, a mynegwyd arswyd am yr ymgais i droseddoli pobl o gefndiroedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Ni all fod, o ystyried digwyddiadau rhyngwladol, ac o ystyried pwy yr ydym ni'n dweud ydym ni fel cenedl, y gall unrhyw un gyfiawnhau'r symudiadau atchweliadol iawn hyn.
Mae'r un peth yn wir am Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022, sy'n amlygu, rwy'n credu, y man gwan hiliol o ran meddwl Llywodraeth y DU, ac y mae'r Cenhedloedd Unedig yn dweud y bydd hefyd yn torri cyfraith ryngwladol. Bydd yn parhau i erydu ein hawliau dynol sylfaenol. Mae'r Ddeddf yn gwbl groes i'n hathroniaeth o genedl noddfa a nod cyffredinol Llywodraeth Cymru i gael Cymru fwy cyfartal. Bydd yn creu system ddwy haen yn seiliedig ar ddull unigolyn o gyrraedd y DU yn unig ac nid ar sail teilyngdod ei achos. Bydd y Ddeddf yn cael effaith andwyol ar ddarparu cymorth integreiddio yng Nghymru, yn gwaethygu ansefydlogrwydd ac yn cynyddu'r camddefnydd o fudwyr a gweithio anghyfreithlon yn ein cymunedau—pobl sydd eisoes yn agored i niwed ac y bydd eu natur agored i niwed yn cynyddu ymhellach. Bydd yn cynyddu digartrefedd ac o bosibl yn peryglu iechyd y cyhoedd, gan fod y rheini sydd heb droi at arian cyhoeddus yn debygol o ofni dod ymlaen i gael gofal iechyd.
Mae hyn, wrth gwrs, heb sôn hyd yn oed am gynllun Rwanda'r Llywodraeth—cynllun ffiaidd a fydd yn sicr o ddod â bygythiadau difrifol a gwirioneddol i ddiogelwch, yn enwedig diogelwch rhag masnachu mewn pobl, a godwyd gan y cyn Brif Weinidog Theresa May, cynllun a ddisgrifiwyd gan bennaeth Eglwys Loegr fel un
'Yn groes i natur Duw.'
Gadewch i mi fod yn gwbl glir: yr hyn yr ydym ni'n ei weld yma yw ymosodiad ideolegol sylfaenol ar hawliau dynol, cwrteisi sylfaenol a moesoldeb dynol. Mae'r cynigion hyn, gyda'i gilydd ac yn unigol, yn elyniaethus iawn i egwyddorion sylfaenol ein democratiaeth a hanfod tosturi Cymru. Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gryfhau a hyrwyddo hawliau dynol i bawb yng Nghymru yn parhau i fod mor gryf ag erioed, a gwn fod y penderfyniad hwn yn cael ei adleisio ymhlith mwyafrif o'n Haelodau.
Cyhoeddwyd ein hadroddiad 'Cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru' fis Awst diwethaf, sef yr ymchwil a arweiniwyd gan Brifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor, Diverse Cymru a Chymru Ifanc. Trafodwyd ein hymateb i'r adroddiad mewn cyfarfod o'r grŵp llywio cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yr wythnos diwethaf, a gadeiriwyd gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ac roeddwn innau'n bresennol hefyd. Bydd ein hymateb terfynol yn cael ei gyhoeddi'n fuan a byddwn hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp hawliau dynol trawsbleidiol a chomisiynwyr Cymru. Mae'n nodi'r prif feysydd gwaith y byddwn ni’n eu datblygu: datblygu cyfres o ganllawiau ar hawliau dynol, adolygu dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, ychwanegu hawliau dynol at ein hasesiadau effaith integredig, a chynyddu'r ffordd yr ydym ni’n hyrwyddo'r materion hyn yng Nghymru.
Byddwn yn awr yn datblygu cynllun gweithredu ac amserlen fanwl i gwmpasu'r holl ffrydiau gwaith hyn, a byddwn hefyd yn gwneud gwaith paratoi a fydd yn ein galluogi ni i ystyried dewisiadau ar gyfer ymgorffori confensiynau'r Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru yn unol ag argymhelliad cyntaf yr adroddiad ac ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu ein hunain yn y maes hwn. Diben Bil o'r fath fyddai cryfhau hawliau holl ddinasyddion Cymru, a lliniaru, cyn belled ag y bo modd, effeithiau negyddol camau gweithredu gan Lywodraeth y DU. Rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau'n ymuno â ni heddiw i ailddatgan ymrwymiad y Senedd i hawliau dynol—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wel, rydw i ar y diwedd, ond mi wnaf fi dderbyn ymyriad.
Dwi'n gwybod. Roeddwn i eisiau dweud pa mor falch yr ydw i o glywed eich bod chi'n mynd i wneud hynny. Yn amlwg, rydw i wedi fy siomi bod gwrthwynebiad wedi bod i ystyried egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rydw i'n gobeithio y bydd eich darn o ddeddfwriaeth yn cwmpasu'r ddeddfwriaeth hawliau pobl hŷn ynddo. A allwch chi gadarnhau y bydd hynny'n digwydd? Mae'n rhywbeth yr ydw i wedi bod yn ei hyrwyddo ers blynyddoedd lawer, a byddwn yn falch o weld rhywfaint o oleuni ym mhen draw'r twnnel.
Rydw i'n croesawu'r cyfraniad yna, oherwydd, ie, yr amcan yw edrych ar sut y gallwn ymgorffori holl gonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig o fewn ein fframwaith cyfreithiol er mwyn eu diogelu, ond hefyd eu rhoi wrth wraidd ein syniadaeth ddeddfwriaethol. Felly, mi allaf gadarnhau hynny. Yn sicr, nid yw'n broses hawdd, mae'n gymhleth, ond, yn sicr, byddwn ni'n ystyried hynny'n gryf.
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ildio ar y pwynt yna?
Fe wnaf fi ildio am y tro olaf.
Yn syml, rwyf innau hefyd yn croesawu'r ymyriad yna. Yn wir, mae Darren wedi hyrwyddo hynny ers tro byd. Os bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen yn y modd hwnnw, ac yn naws yr ymyriad gan Darren, mae hynny'n ei gwneud yn eithaf diddorol, oherwydd gallem yn y pen draw gael cefnogaeth drawsbleidiol i ymgorffori'r egwyddorion hawliau dynol yn ein deddfwriaeth ni ein hunain yma yng Nghymru, ac mae hynny'n foment dda i'r Senedd hon, Darren.
Rydw i'n croesawu'r gefnogaeth honno'n fawr, ac mae hon yn ddadl, mae'n siŵr, y byddwn ni'n parhau â hi.
[Anghlywadwy.]—tynnu'r gwelliant yn ôl. [Chwerthin.]
Fe wnaf i gydnabod hynny a chadarnhau y byddwn ni'n ymgorffori cefnogaeth ysgubol yr Aelod i'r cyfeiriad yr ydym ni'n dymuno mynd iddo.
Diolch i'r Aelodau am y sylwadau yna ac rwy'n cadarnhau ein hymrwymiad ysgubol i hawliau dynol yn y Senedd hon. Diolch.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig. Dwi'n galw ar Altaf Hussain nawr i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddiogelu a chynnal hawliau dynol.
2. Yn nodi cynigion Llywodraeth y DU i foderneiddio a gwneud deddfwriaeth hawliau dynol yn addas i'r diben.
3. Yn credu bod angen cydbwysedd priodol rhwng hawliau a chyfrifoldebau unigol.
4. Yn gresynu at record Llywodraeth Cymru o bleidleisio yn erbyn hawliau dynol gan gynnwys pleidleisio yn erbyn cyflwyno Bil hawliau pobl hŷn yn ystod y Pumed Senedd.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rydych chi wedi gwneud gwaith da. Mae'n bleser gen i gyfrannu at y ddadl hon heddiw. Rwy'n talu teyrnged i'r Gweinidog am ddod â'r ddadl i'r Senedd.
Hoffwn siarad am y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Darren Millar, ac rydw i am fynd i'r afael yn uniongyrchol â'r cyhuddiadau bod Llywodraeth y DU yn ceisio erydu hawliau dynol. Mae hawliau unigolion a grwpiau o bobl yn cael eu cefnogi mewn sawl ffordd, drwy wahanol feysydd o statudau a thrwy ddatblygu'r materion hynny sy'n cael eu hystyried gan y llys. Mae gan y DU draddodiad balch o sicrhau bod yr hawliau y mae pobl wedi'u mwynhau yn cael eu cynnal a'u hamddiffyn yn y ffordd y byddem ni'n disgwyl ei gweld mewn gwlad sy'n seiliedig ar werthoedd rhyddfrydol, democrataidd. Yr egwyddorion hynny yw rhyddid mynegiant, rhyddid barn, rhyddid i ymgynnull a rhyddid i addoli. Mae gwerthoedd a hawliau yr ydym ni'n eu gweld wedi'u plethu i wead hanes y sir hon yr un mor bwysig yn awr ag y buont erioed.
Mae ein gwelliannau'n atgoffa pobl Cymru y byddai unrhyw Lywodraeth, wrth ddeddfu i ddiogelu hawliau dynol, yn adolygu effeithiolrwydd y fframwaith deddfwriaethol presennol i sicrhau ei fod yn gweithio ac yn addas i'r diben. Fel mae ymgynghoriad Llywodraeth y DU yn ei wneud yn glir:
'Byddwn yn parhau'n ffyddlon i'r egwyddor sylfaenol hawliau dynol, y gwnaethom gytuno arni yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol gwreiddiol'.
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi'i gwneud yn glir y bydd y mesur hawliau arfaethedig
'yn cryfhau swyddogaeth Goruchaf Lys y DU wrth arfer y swyddogaeth farnwrol, yn diogelu hawliau democrataidd y Senedd wrth arfer ei swyddogaeth ddeddfwriaethol, ac yn cefnogi uniondeb y DU, wrth barchu'r setliadau datganoli.'
Ni allaf weld beth sydd o'i le ar hyn. Yn wir, dylid croesawu'r cam hwn.
At hynny, byddai'r bil hawliau arfaethedig yn sicrhau ein bod yn parchu ein rhwymedigaethau rhyngwladol fel plaid i'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, ac y byddwn hefyd yn parhau i gefnogi diwygiadau pellach i Lys Hawliau Dynol Ewrop yn Strasbwrg.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Os gwelwch yn dda.
Diolch. A oes unrhyw gydnabyddiaeth bod Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd 2022 yn llesteirio'r hawl i brotestio?
Beth bynnag, gadewch i mi barhau. Bydd y Bil yn cadw'r holl hawliau sylweddol yn Neddf Hawliau Dynol 1998 a'r confensiwn. Unwaith eto, ni allaf weld beth sydd o'i le ar hyn.
Gallwn i gyd gytuno bod y GIG yn rhywbeth y gallwn ni i gyd fod yn falch ohono. Fodd bynnag, o dan faner y GIG, nid yw'r Ddeddf Hawliau Dynol y mae Llafur eisiau ei chadw bob amser yn diogelu hawliau cleifion. Mae'r GIG yn sefydliad deniadol ar gyfer yr ymarferwyr meddygol gorau ledled y byd, ond mae rhai sy'n dod i weithio yn y DU heb y ddealltwriaeth gywir o hawliau cleifion Prydain. Mewn rhai gwledydd o le yr ydym ni’n barod i dderbyn staff sydd wedi'u hyfforddi'n feddygol, prin yw'r foeseg feddygol. Yn 2019 collodd uwch nyrs ei swydd am ffugio 16 o dystysgrifau meddygol. Er bod yr achosion hyn yn brin iawn, ac er y gallwn ni fod yn falch o'n GIG, mae angen Bil hawliau dynol sy'n addas i'r diben, sydd dim ond yn caniatáu i ymarferwyr meddygol tramor sy'n bodloni ein safonau meddygol balch ni, i ddiogelu cleifion a staff y GIG. [Torri ar draws.] Fe wnaf fi barhau.
O ran mamolaeth, mae angen ystyried triniaeth yn feddygol, ond hefyd yn dosturiol. Nid yw'n ddigon i ymarferydd roi cyngor a thriniaeth yn seiliedig ar dystiolaeth feddygol yn unig. Gall y ffordd y mae mam yn edrych yn ôl ar y profiad geni gael effaith enfawr ar ei hiechyd meddwl ar ôl genedigaeth. Yn ystod y pandemig, roedd rhieni'n aml yn cael eu hynysu oddi wrth eu babanod, neu oddi wrth ei gilydd, yn ystod cyfnod emosiynol iawn. Mae hyn yn amlwg wedi bod yn drawmatig iawn i gynifer o bobl, ac yn aml gall godi trawma o’r gorffennol. Camesgoriad yw'r digwyddiad mwyaf torcalonnus y gall unrhyw fam ei ddioddef, ond mae mamau sydd wedi wynebu hyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi gwneud hynny ar eu pennau eu hunain.
Pan fydd gweithdrefnau meddygol yn digwydd heb ganiatâd, mae hyn yn torri preifatrwydd bywyd teuluol, ac yn rhoi gwneud penderfyniadau o flaen uniondeb corfforol a hunan-benderfyniad. Ac mae defnyddio gorchmynion DNAR—hynny yw, peidiwch â cheisio dadebru—i rai cleifion heb ei drafod gyda'r perthnasau yn torri cyfansoddiad y GIG. Gall hyn i gyd gael effaith enfawr ar les cyffredinol.
Ond yn bwysicaf oll, rhaid tynhau hawliau dynol plant. Mae marwolaeth drasig Logan yn achos trasig pryd nad oedd hawliau plant wedi'u diogelu gan y wladwriaeth er gwaethaf yr arwyddion rhybudd. Mae'r rhain yn cynnwys hawliau bywyd, goroesiad, datblygiad, iechyd a lles. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto.
Mewn dyfarniad diweddar, mae polisi'r Llywodraeth ar ryddhau cleifion heb eu profi o ysbytai i gartrefi gofal yn Lloegr ar ddechrau pandemig COVID wedi'i ddyfarnu'n anghyfreithlon gan yr Uchel Lys, sy'n fethiant polisi dinistriol yn yr oes fodern, ac roedd y dioddefwyr mwyaf agored i niwed yn dod o'n poblogaeth oedrannus. Mae gan y dyfarniad hwn oblygiadau i Lywodraeth Cymru, a welodd, yng ngeiriau'r Prif Weinidog, 'ddim gwerth' mewn profion torfol. Ond er bod Llywodraeth Cymru'n ymosod yn wan ar Lywodraeth y DU, mae wedi methu ag edrych yn y drych ei hun—fel y nodwn yn ein gwelliant, mae gwleidyddion Llafur wedi cael y cyfle ers y pumed Senedd i gytuno ar Fil hawliau pobl hŷn, ond wedi gwrthod. Maen nhw'n dweud un peth ond yn gwneud rhywbeth arall, ond diolch i chi'ch hun, erbyn hyn dim ond un peth yw e. [Torri ar draws.]
Rydw i wedi bod yn hael iawn gydag amser.
Mae'n ddrwg gen i. Fe wnaf fi orffen. Rhowch eiliad i mi, os gwelwch yn dda.