Y Cyfarfod Llawn
Plenary
14/12/2021Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn inni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda chi. A dwi eisiau atgoffa Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol, wrth gwrs, i'r cyfarfod yma.
Cwestiynau i'r Prif Weinidog sydd yn gyntaf y prynhawn yma, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Darren Millar.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddigonolrwydd amddiffynfeydd rhag llifogydd yng Ngorllewin Clwyd? OQ57361
Llywydd, Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru sy'n asesu digonolrwydd amddiffyn rhag llifogydd. Yna maen nhw'n cynllunio, yn hyrwyddo ac yn darparu cynlluniau i leihau perygl llifogydd yn eu hardaloedd. Mae Llywodraeth Cymru yn pennu polisi cenedlaethol ac yn darparu cyllid, gan gynnwys £5.24 miliwn ar gyfer cynlluniau yng Ngorllewin Clwyd yn y flwyddyn ariannol hon.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwyf i wrth fy modd bod arian yn cael ei ddyfarnu i wella amddiffynfeydd rhag llifogydd yng Ngorllewin Clwyd. Un o'r ardaloedd hynny sydd i lawr i'w gwella yn fuan iawn yw'r llain arfordirol rhwng Tywyn a Bae Cinmel, sydd, wrth gwrs, yn eithriadol o bwysig o ran y tymor ymwelwyr, a lle mae'r amddiffynfeydd môr arfordirol hynny yn diogelu miloedd lawer o eiddo a busnesau. Un o'r pryderon a godwyd gyda mi am y cynlluniau, sydd wedi cael eu cyhoeddi erbyn hyn, ar gyfer gwella'r amddiffynfeydd môr yn yr ardal hon yw nad yw'r cynlluniau yn ddigon deniadol i'r bobl leol na'r ymwelwyr a fydd eisiau defnyddio'r llwybr arfordirol a'r llain arfordirol yn rhan o'u hamwynder lleol ar gyfer cyfleusterau. Yn ogystal â hynny, yn amlwg, ataliwyd nodyn cyngor technegol 15 dros dro o ran gweithredu'r nodyn cyngor technegol newydd, a fydd yn rhoi mwy o amddiffyniad i gartrefi a busnesau yn y dyfodol. Pa sicrwydd allwch chi ei roi i mi, ar ran Llywodraeth Cymru, y bydd pobl Tywyn a Bae Cinmel yn cael lefel dda o ddiogelwch rhag llifogydd er gwaethaf y ffaith nad yw'r nodyn cyngor technegol newydd wedi cael ei weithredu, a pha sicrwydd allwch chi ei roi o ran pa mor ddeniadol y gall yr amddiffynfeydd rhag llifogydd hyn fod, o ystyried y pryderon am y ffaith bod y rhain mewn ardal cyrchfannau twristiaeth?
Llywydd, diolch i Darren Millar am y cwestiynau yna. Gwn pa mor fawr yw ei ddiddordeb mewn materion llifogydd ac erydu arfordirol yn ei etholaeth, a gwn fod ganddo, yn ei hanes personol ei hun, brofiad uniongyrchol o'r hyn y mae'n ei olygu i ddioddef o lifogydd, felly gwn ei fod yn dod â llawer iawn o angerdd ac arbenigedd i'r materion hyn. Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu adolygu'r achos busnes amlinellol ar gyfer cynllun arfordirol Llanddulais-Bae Cinmel. Rydym ni wedi gallu dyfarnu gwerth £450,000 o gyllid i gyngor Conwy ar gyfer yr achos busnes llawn a'r dyluniad manwl. Rwy'n gobeithio y bydd hynny yn gyfle i gymryd i ystyriaeth y pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud am y ffaith, yn ogystal â'r angen dybryd i ddiogelu cartrefi pobl, bod yr arfordir yn ased cenedlaethol yma yng Nghymru—mae'n dod â llawer o ymwelwyr—a bod angen gwneud y gwaith hwnnw mewn ffordd sensitif i wneud yn siŵr bod yr agweddau economaidd pwysig iawn hynny yn cael eu cynnal i'r dyfodol. Rwy'n diolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd am TAN 15, Llywydd. Mae'r dyddiad gweithredu wedi cael ei ohirio am 18 mis fel y gallwn ni wneud yn siŵr bod y sail ar gyfer seilio'r cyngor hwnnw—y mapiau ac yn y blaen—yn y drefn orau bosibl. Ond diben TAN 15 yw gwneud yn siŵr nad yw tai yn cael eu hadeiladu yn y dyfodol mewn mannau sy'n eu rhoi mewn perygl uniongyrchol o lifogydd. Nid oes unrhyw ddal yn ôl o gwbl y tu mewn i Lywodraeth Cymru o ddiben sylfaenol TAN 15 a'r nodyn cyngor diwygiedig a fydd yn cael ei gyhoeddi. Rydym ni eisiau ei gael cystal ag y gallwn. Bydd yr oedi yn caniatáu i ni weithio ymhellach gydag awdurdodau lleol ar yr wybodaeth fanwl sy'n sail i'r polisi, ac yna bydd angen iddo wneud yr hyn y mae Darren Millar yn ei ddweud, o ran gwneud yn siŵr ei fod yn diogelu'r cymunedau hynny a fyddai mewn perygl fel arall.
Rwyf i angen gwirio a ellir fy nghlywed i ar hyn o bryd. A all unrhyw un—? Iawn, gellir fy nghlywed. Diolch. Fy mhroblem i yw nad wyf i'n gallu eich clywed chi. Nid yw hynny yn rhoi caniatâd i chi wneud beth bynnag yr ydych chi'n ei ddymuno, ond fe wnaf i alw'r cwestiwn nesaf. Cwestiwn 2, Rhys ab Owen.
2. Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cynnal gyda Chyngor Caerdydd ynglŷn â chyfraddau ailgylchu yng Nghaerdydd? OQ57356
Diolch yn fawr i Rhys ab Owen am y cwestiwn. Mae Gweinidogion a swyddogion wedi bod yn trafod yn uniongyrchol â Chyngor Caerdydd am ei berfformiad ailgylchu, ac mae’r trafodaethau hynny yn parhau.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae yn siomedig bod cyfraddau ailgylchu Caerdydd gyda’r gwaethaf yng Nghymru. O’r tri awdurdod lleol wnaeth fethu â chyrraedd y targed o 64 y cant ym Mesur Gwastraff (Cymru) 2010, Caerdydd yw’r gwaethaf o bell ffordd, ar 55.8 y cant. A dwi’n siŵr bod cau canolfannau ailgylchu yn Heol Wedal a Heol Waungron yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi cael effaith wael, ond disgwyliedig, ar y cyfraddau ailgylchu. Ond nid yn unig y mae’r gyfradd ailgylchu yn isel, dyw e ddim yn glir pa fath o ailgylchu sy’n digwydd. Mae’n bwysig yn amgylcheddol ac yn economaidd fod gwastraff yn cael ei addasu yma yng Nghymru at ddibenion gwahanol yn hytrach na mynd dramor, yn enwedig, yn rhy aml o lawer, i wledydd difreintiedig. Felly, sut mae modd cynyddu’r cyfraddau ailgylchu yma yng Nghaerdydd a sicrhau bod gwastraff Cymru yn cael ei ailgylchu a’i ailaddasu yma yng Nghymru? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr am y cwestiynau ychwanegol. Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio’n galed i dreial gwneud mwy i roi’r ffigurau ailgylchu yn y lle ble rŷn ni i gyd eisiau eu gweld nhw. Bydd strategaeth newydd o flaen y cabinet yng Nghaerdydd yn ystod yr wythnos hon ac, fel rwy’n siŵr fod yr Aelod yn gwybod, maen nhw’n mynd i dreial mas nifer o bethau newydd yng Ngorllewin Caerdydd, y lle rwyf i'n ei gynrychioli. Yn Radyr a Llandaf, ym mis Ionawr, bydd system newydd ar waith i dreial rhoi mwy o bethau mewn lle i godi’r ffigurau ailgylchu yn y ddinas. Mae’r swyddogion wedi gweithio’n galed gyda Chyngor Caerdydd i weld beth sydd y tu ôl i’r ffigurau ac mae rhai pethau sydd yn berthnasol i Gaerdydd—mae nifer y tai sy'n HMOs, fel rŷn ni'n eu galw nhw yn Saesneg, yn heriol i Gyngor Caerdydd, ond mae cynllun newydd gyda nhw, a dwi'n hyderus y bydd hwnna'n cael effaith bositif ar y ffigurau.
A dwi'n gwybod, Llywydd, fod y Gweinidog Julie James wedi ymateb i gwestiynau ar lawr y Cynulliad ac wedi rhoi gwybodaeth fanwl am ble mae popeth rŷn ni'n ei gasglu gyda'i gilydd i'w ailgylchu yn mynd. Ac mae mwy na hanner yn cael ei ddelio ag e yma yng Nghymru, ac mae tua 30 y cant yn mynd dros y ffin i Loegr, ac mae rhai pethau yn mynd dramor. Ond mae cynllun gyda ni i dynnu nôl ar faint sydd yn mynd dramor ac i wneud mwy gyda phopeth rŷn ni eisiau ei ailgylchu yma yng Nghymru.
Rwy'n mynd i alw Joel James nawr.
Diolch, Llywydd. Mae Cyngor Caerdydd, fel y mae'r Aelod blaenorol wedi ei esbonio, wedi methu'n gyson â chyrraedd y targedau ailgylchu a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, ac mae'r cyngor wedi rhagweld y bydd yn rhaid iddo fuddsoddi mewn ailgylchu eilaidd er mwyn eu cyrraedd nhw. Yn wrthnysig, nid oes ganddyn nhw'r gyllideb i weithredu ailgylchu eilaidd, ac mae'r cyngor yn rhagweld y bydd y ddirwy amcangyfrifedig y byddan nhw'n ei hwynebu, oherwydd nad ydyn nhw'n cyrraedd eu targedau ailgylchu, yn fwy na £10 miliwn erbyn 2025. Fel yr wyf i'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cytuno, mae er budd pawb gweld Cyngor Caerdydd yn cyrraedd y targedau ailgylchu hyn, ac i'r cyngor allu buddsoddi mewn ailgylchu eilaidd. Yn wir, gallen nhw hyd yn oed gynhyrchu refeniw iddyn nhw eu hunain drwy wneud y buddsoddiad hwn a chael mynediad at farchnadoedd ailgylchu o ansawdd uchel y bydd y buddsoddiad hwn yn eu hagor. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog esbonio pa gyllid sydd ar gael i gynghorau fel Caerdydd sy'n caniatáu iddyn nhw wneud y gwelliannau hyn, a pha fuddsoddiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i gael mynediad at y marchnadoedd ailgylchu o ansawdd uchel hyn y gallai economi Cymru elwa arnyn nhw?
Wel, rwy'n cytuno â'r Aelod bod cyfleoedd i Gaerdydd fel awdurdod lleol wneud yr hyn yr wyf i'n gwybod y mae'r awdurdod lleol ei hun eisiau ei wneud, sef arallgyfeirio'r polisïau sydd ganddo ar waith a darparu gwell gwasanaethau ar gyfer ei drigolion ei hun, ac yn wir, o bosibl, gallu darparu gwasanaethau i eraill hefyd. Rwy'n credu y dylwn i egluro, Llywydd, bod system ddirwyo wedi'i nodi yn ein rheoliadau. Mae gan Weinidogion ddisgresiwn yn y ffordd gyfyngedig hon: gall Gweinidogion benderfynu naill ai i ddirwyo yn llawn neu i beidio â dirwyo o gwbl—nid oes sefyllfa hanner ffordd ar gael yn ein rheoliadau, ac nid oes gan Weinidogion ddisgresiwn chwaith dros faint y ddirwy. Mae hynny yn cael ei bennu gan fformiwla y mae'r rheoliadau, unwaith eto, yn ei nodi. Felly, nid oes dim byd anochel ynghylch awdurdodau lleol yn cael eu dirwyo, ac, yn y gorffennol, mae Gweinidogion wedi gwneud penderfyniadau erioed ar y sail a oes gan awdurdodau lleol gynlluniau credadwy ar waith i roi eu hunain yn y sefyllfa y mae'r mwyafrif llethol o awdurdodau lleol ynddi yng Nghymru, a chydymffurfio â'r targed yw honno.
Ers datganoli, Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1 biliwn mewn ailgylchu cartrefi, ac mae llawer iawn o'r arian hwnnw yn mynd i awdurdodau lleol i'w cynorthwyo i greu'r amodau lle mae'r ffigurau da iawn yr ydym ni'n eu gweld yng Nghymru yn rhagori ar ein targed ar sail Cymru gyfan, gyda nifer o awdurdodau lleol yn rhagori ar y targed o 70 y cant sydd y tu hwnt i ni ac na fyddai wedi bod yn bosibl heb fuddsoddiad sylweddol iawn. Mae Caerdydd wedi elwa arni, ond mae'n system y mae'n rhaid iddi fod yn deg i bob awdurdod lleol a gwneud yn siŵr y gellir cynnal y cynnydd—y cynnydd sylweddol iawn y mae pob awdurdod lleol, gan gynnwys Caerdydd, wedi ei wneud—i'r dyfodol.
Fel y gallwch chi ddweud o rai newidiadau gwyllt o glustffonau ar fy rhan i, rwy'n cael trafferth clywed popeth sy'n digwydd ar hyn o bryd, ac mae honno yn sefyllfa beryglus iawn i Lywydd fod ynddi. Felly, bydd angen i mi alw toriad technegol byr, a byddwn yn ailddechrau cyn gynted ag y gellir datrys fy mhroblem. Toriad technegol byr, felly.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 13:42.
Ailymgynullodd y Senedd am 13:52, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Felly, rŷn ni'n barod nawr i ailgychwyn. Ymddiheuriadau am y toriad am resymau technolegol. Felly, dwi nawr yn galw ar arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig i ofyn cwestiynau arweinyddion—Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Heddiw, Prif Weinidog, mae'r astudiaeth gyntaf yn y byd go iawn ar frechlynnau yn erbyn haint omicron wedi cael ei chyhoeddi. Mae'n bwysig nodi bod y data hwn yn deillio o dair wythnos gyntaf yr achosion, felly gallai newid, ond dyma'r astudiaeth ddifrifol gyntaf o'i math. Mae'r canfyddiadau yn dangos bod amrywiolyn y feirws 29 y cant yn ysgafnach, bod dau ddos o frechlyn Pfizer 30 y cant yn effeithiol o ran lleihau trosglwyddiad, ac, yn bwysig, bod dau ddos o frechlyn Pfizer 70 y cant yn effeithiol o ran lleihau niferoedd y mae'n rhaid iddyn nhw fynd i'r ysbyty.
Prif Weinidog, rwy'n sylweddoli mai dim ond newydd gael ei gyhoeddi y bore yma y mae'r data hwn, ond a gaf i eich ymateb i'r astudiaeth hon, ac ymateb eich cynghorwyr? A pha effaith fydd yr wybodaeth hon yn ei chael ar gynlluniau posibl ar gyfer gosod cyfyngiadau ddydd Gwener, ac yn y pen draw osgoi cyfyngiadau symud llwyr yng Nghymru?
Llywydd, diolch i Andrew R.T. Davies am hynna. Rwy'n ymwybodol o'r astudiaeth. Fel y mae'n ei ddweud, dyma'r astudiaeth gyntaf o'i math, ond mae'n anochel ei bod hi felly—fel yr awgrymodd ef ei hun rwy'n credu—yn rhagarweiniol. Mae'n dweud rhywbeth wrthym ni am y cyfnod cynnar. Nid yw'n dweud wrthym ni eto am yr hyn sy'n digwydd wrth i'r amrywiolyn omicron gymryd gafael ac wrth i fwy o wybodaeth ddod i'r amlwg am gynnydd y clefyd. Mae hefyd yn astudiaeth yng nghyd-destun De Affrica, sy'n wahanol mewn sawl ffordd i'n un ni ein hunain. Felly, calonogol yn ei ffordd, ond ni ellir dibynnu arni fel sail gref ar gyfer gwneud penderfyniadau polisi. Ac mae ymdeimlad lle mae'r materion y mae'n eu hadrodd—difrifoldeb y salwch ac i ba raddau y mae'n dianc rhag y brechlynnau presennol—yn gwestiynau eilradd. Oherwydd os yw cyfradd drosglwyddo'r feirws ar y cyflymder yr ydym ni'n ei gweld ar hyn o bryd yn yr Alban ac yn Llundain, yna, hyd yn oed os yw'n ysgafnach, a hyd yn oed os yw'r brechlyn ychydig yn fwy effeithiol, bydd nifer fawr iawn, iawn o bobl yn mynd yn sâl o hyd, a bydd canran o'r bobl hynny yn mynd yn ddifrifol wael, a bydd y niferoedd mawr hynny yn peri i bobl fod angen cymorth y GIG. Felly, astudiaeth ragarweiniol, na ddylid gor-ddibynnu arni, a hyd yn oed os yw'n sail ar gyfer rhywfaint o optimistiaeth ragarweiniol yn wir, ni fydd yn ein hachub ni rhag yr ymosodiad y mae'r amrywiolyn newydd hwn yn debygol o'i greu ar draws y Deyrnas Unedig ac yng Nghymru hefyd.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog, ac roedd hi'n dda cael rhywfaint o optimistiaeth o'r adroddiad hwnnw a gyhoeddwyd y bore yma.
Yn amlwg, elfen arall o waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yw cyflwyno'r ymgyrch pigiadau atgyfnerthu, ac mae'r Gweinidog iechyd wedi bod yn cynnal cynhadledd i'r wasg y bore yma, gan sôn y bydd pawb wedi cael cynnig erbyn diwedd mis Rhagfyr, nid o reidrwydd yn cael eu hapwyntiad erbyn diwedd mis Rhagfyr. Pa mor bell i mewn i'r flwyddyn newydd y bydd disgwyl i bobl gael y cynigion hynny cyn iddyn nhw gael y pigiad atgyfnerthu? Oherwydd mae honno yn ystyriaeth bwysig iawn. Un peth yw cael y cynnig; peth arall yw cael y pigiad.
Wel, wrth gwrs, mae arweinydd yr wrthblaid yn llygad ei le yn hynny o beth. Mae ein cynnig ni yr un fath ag y mae yn unman yn y Deyrnas Unedig—sef gwneud yn siŵr bod pawb, erbyn diwedd y mis hwn, wedi cael cynnig. Bydd y cynnig yn ymestyn i'r flwyddyn newydd i'r graddau byrraf posibl. Ond nid yw hynny yn nwylo'r Llywodraeth yn llwyr, oherwydd mae dau beth ar waith yma. Ceir y gyfradd y gallwn ni gynyddu cyflenwad y brechlyn arni—ac mae llawer iawn yn cael ei wneud i wneud yn siŵr bod gennym ni ganolfannau brechu yn agored am fwy o oriau, canolfannau brechu â mwy o lonydd, canolfannau brechu â chapasiti galw i mewn yn ogystal â chapasiti apwyntiadau, dim ond i roi rhai enghreifftiau. Ond, yn ogystal â'r ochr gyflenwi, mae'r ochr alw—i ba raddau y mae pobl yn dod ymlaen i fanteisio ar yr apwyntiadau sy'n cael eu cynnig iddyn nhw. Ac os nad yw pobl yn dod ymlaen yn y niferoedd yr ydym ni angen eu gweld, neu os bydd pobl yn gofyn i'w hapwyntiadau gael eu haildrefnu, yna bydd hynny yn gwthio'r dyddiad hwnnw ymhellach i'r flwyddyn newydd. Felly, os oes un neges y byddwn ni eisiau ei chyfleu yn y sesiwn heddiw—rwy'n gobeithio y bydd llawer o Aelodau'r Senedd yn helpu yn hyn o beth, i rannu'r neges honno hefyd—y neges honno yw nad oes dim byd pwysicach y gall unrhyw unigolyn ei wneud na chadw'r apwyntiad hwnnw sy'n cael ei gynnig iddo. Oherwydd po fwyaf o bobl sy'n cadw'r apwyntiad, cyflymaf y byddwn ni'n trin y niferoedd, ac felly bydd angen llai o ddiwrnodau arnom ni yn y flwyddyn newydd i gwblhau'r rhaglen.
Rydym ni wedi cael y canlyniadau rhagarweiniol hyn y bore yma, Prif Weinidog, o'r arolwg yn Ne Affrica. Mae gennym ni'r ymgyrch pigiadau atgyfnerthu hefyd, yr wyf i newydd eich holi amdani, a chyflwyniad yr ymgyrch pigiadau atgyfnerthu honno, ond hefyd, yn y gynhadledd i'r wasg a gynhaliodd y Gweinidog iechyd y bore yma, tynnodd sylw at yr effaith ar wasanaethau—gwasanaethau iechyd cyffredinol—boed yn llawfeddygaeth sylfaenol, neu'n llawfeddygaeth ddewisol. Ond un peth y gwnaeth Chris Whitty annerch Cabinet y DU yn ei gylch y bore yma oedd effaith cyfraddau heintio posibl ar weithlu'r GIG. A oes gennych chi unrhyw fodelu a fyddai'n dangos yr hyn y byddai hynny yn gyfystyr ag ef, o safbwynt Cymru, o ran staff y GIG yma yng Nghymru a allai, o bosibl, yn amlwg, fod i ffwrdd o'r gwaith am gyfnod sylweddol o amser, gyda chyfraddau heintio fel y mae Chris Whitty wedi bod yn tynnu sylw Cabinet y DU atyn nhw y bore yma? Ac os yw'r wybodaeth honno gennych chi, a wnewch chi ei rhannu gyda ni, fel y gallwn ni ddeall yr effaith ar wasanaethau'r GIG ledled Cymru?
Wel, diolch i Andrew R.T. Davies am hynna, oherwydd mae hwnna yn bwynt pwysig iawn. Ar ran anoddaf y sbectrwm hwn, fe allem ni weld nifer sylweddol uwch o bobl sydd angen cymorth gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn dod wyneb yn wyneb â gwasanaeth lle mae llai o bobl ar gael i ddarparu'r cymorth sydd ei angen, oherwydd bydd yr aelodau staff hynny yn agored i effaith amrywiolyn omicron ochr yn ochr â phawb arall. Nawr, y newyddion da yw bod gennym ni eisoes, yn y poblogaethau hynny, gyfraddau uchel iawn sydd wedi cael y brechlyn atgyfnerthu. Felly, bydd hynny yn diogelu'r gweithlu hwnnw. Ond os byddwn ni'n gweld ton fawr iawn, sy'n effeithio ar nifer fawr iawn o bobl, yna bydd pobl sy'n gweithio yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu cynnwys ynddi hefyd. Hyd yn oed heddiw, nid yw 11 y cant o'n gweithlu meddygon teulu yn y gwaith oherwydd amrywiolyn delta y coronafeirws. Felly, os gwnewch chi allosod hynny a dychmygu effaith ton omicron o'r math y bydd Chris Whitty wedi bod yn ei ddisgrifio i Gabinet y DU, yna gallwch weld y gallai'r effaith fod yn sylweddol iawn. Nawr, mae hynny i gyd yn cael ei fodelu drwy'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud gyda Phrifysgol Abertawe a chyda'n byrddau iechyd lleol, ac mae camau yn cael eu cymryd—fel y dywedais, yn enwedig drwy flaenoriaethu'r staff hynny ar gyfer yr ymgyrch pigiadau atgyfnerthu—i ddiogelu cynifer o'r bobl hynny â phosibl. Bydd rhai newidiadau i'r gofynion hunanynysu i weld a all pobl ddychwelyd yn ddiogel i'r gweithle eto cyn gynted â phosibl hefyd yn rhan o'r holl ystyriaeth honno. Ond, gall pob un ohonom ni wneud pethau i ddiogelu ein hunain, a thrwy ddiogelu ein hunain rydym ni'n diogelu pobl eraill, ac mae hynny yn cynnwys y bobl y byddwn ni'n dibynnu arnyn nhw i'n helpu os bydd ton omicron yn ein taro fel y mae rhai o'r modelau yn awgrymu y gallai.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Mae rhywfaint o newyddion optimistaidd yn y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg y cyfeiriodd Andrew R.T. Davies ati, ond mae hefyd yn canfod bod dau ddos o frechlyn AstraZeneca yn cynnig dim amddiffyniad rhag amrywiolyn omicron, er bod yr un cafeatau yn berthnasol i'r dystiolaeth honno—sampl fach, canfyddiadau rhagarweiniol, ac yn y blaen. Mae yn canfod, hyd yn oed yn achos AstraZeneca, y byddai pigiad atgyfnerthu yn cynyddu lefel yr amddiffyniad i 71 y cant. Yn amlwg, mae cael y pigiad atgyfnerthu i bawb erbyn diwedd y mis, rwy'n credu, yn nod pwysig iawn, ond a oes rhywfaint o ystyriaeth yn cael ei rhoi, yng ngoleuni'r dystiolaeth hon, i roi blaenoriaeth i'r rhai a gafodd frechiad AstraZeneca?
Wel, Llywydd, mae Adam Price yn llygad ei le, sef nad yw'r dystiolaeth ar effeithiolrwydd y ddau ddos yn wych ar gyfer Pfizer nac AstaZeneca—roedd hyd yn oed Pfizer, yn yr astudiaeth honno, yn cynnig tua 30 y cant o amddiffyniad—a dyna pam mae'r rhaglen pigiadau atgyfnerthu mor gwbl hanfodol. Oherwydd nid yw dau ddos o AstraZeneca yn eich diogelu chi; mae dau ddos o AstraZeneca a phigiad atgyfnerthu yn mynd â'r amddiffyniad hwnnw i fyny dros 70 y cant. Nawr, byddwn yn parhau i ddilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yng Nghymru ynghylch sut rydym ni'n blaenoriaethu galw pobl ymlaen i gael eu brechu gyda'r pigiad atgyfnerthu. Ceir rhywfaint o gytgord rhwng rhestr flaenoriaethau'r Cyd-bwyllgor a phobl a gafodd AZ yn y ddwy rownd gyntaf o frechiadau. Felly, mae gan y pethau hyn rywfaint o gysondeb â'i gilydd. Byddwn yn gweithio ein ffordd i lawr yr ystodau oedran, ac rydych chi'n cyrraedd pwynt gyda phobl yn eu 30au pryd yr oeddem ni'n defnyddio Pfizer yn hytrach nag AZ ar gyfer y rhan fwyaf o bobl. Felly, rwy'n credu mai cadw at gyngor y Cyd-bwyllgor, sef galw pobl ymlaen yn nhrefn pa mor agored i niwed clinigol ydyn nhw, yw'r peth iawn i'w wneud, ac i raddau sylweddol, nid i raddau perffaith, ond i raddau sylweddol bydd hynny yn mynd i'r afael â'r mater y mae Adam Price newydd ei godi gyda mi.
Prif Weinidog, adroddwyd y gallai Llywodraeth yr Alban gyhoeddi rhai newidiadau heddiw ynghylch cadw pellter cymdeithasol o ran cymysgu aelwydydd, ond ar ffurf cyngor yn hytrach na rheoliadau. Tybed a yw hynny yn opsiwn polisi sy'n cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru. Ac yn flaenorol fe wnaethoch chi ddweud, wrth ystyried mynd i fyny drwy'r lefelau statws rhybudd, y byddech chi'n canolbwyntio ar ddangosyddion rhagfynegi fel niferoedd achosion, yn hytrach na dangosyddion ôl-fynegi fel marwolaethau a niferoedd sy'n mynd i'r ysbyty. Tybed, o ystyried yr awgrym efallai nad yw'r niferoedd sy'n mynd i'r ysbyty yn olrhain nifer yr achosion mor agos ag y maen nhw wedi ei wneud gyda thonnau blaenorol, yn seiliedig ar ddata De Affrica, a ydych chi'n bwriadu cymryd rhyw fath o olwg fwy cyfannol, gan edrych ar ddangosyddion rhagfynegi ac ôl-fynegi wrth benderfynu beth fyddai'r ymateb mwyaf cymesur.
Diolch i arweinydd Plaid Cymru am y ddau bwynt yna. Rwyf i wedi cael cyfres o gyfleoedd yn ystod y dyddiau diwethaf i glywed gan Brif Weinidog yr Alban ac i gael rhywfaint o ddealltwriaeth o'r ffordd y bydd Cabinet Llywodraeth yr Alban yn trafod y materion hyn heddiw. Rwy'n credu bod y dull o ganllawiau, canllawiau cryf, ar gael i ni ac yn rhywbeth y byddwn ni eisiau ei drafod fel Cabinet yn ystod yr wythnos hon.
Yn ystod y pandemig, mae pobl yng Nghymru wedi dangos, rwy'n credu, eu bod nhw'n awyddus iawn i glywed y cyngor y maen nhw'n ei gael drwy'r prif swyddog meddygol, gan ein prif wyddonydd, ac fel y mae'n cael ei gyfleu gan Weinidogion, ac mae rhoi cyngor da iddyn nhw yn sicr yn rhan o'r repertoire sydd gennym ni ar gyfer ceisio helpu pobl i gadw eu hunain yn ddiogel. Byddwn ni bob amser yn cymryd cyfres gytbwys o ddangosyddion i ystyriaeth wrth wneud ein penderfyniadau, ac mae hynny yn cynnwys niferoedd sy'n mynd i'r ysbyty a marwolaethau—[Anghlywadwy.]
Rwy'n credu y bydd angen i mi dorri ar eich traws, Prif Weinidog. Mae'n ddrwg gennyf i, ond mae'n ymddangos bod problem gyda'ch sain ar hyn o bryd. Gadewch i mi gymryd saib cyflym. Rhowch gynnig arall arni, ac os nad yw'n bosibl, bydd yn rhaid i ni—. Rhowch gynnig arall arni, Prif Weinidog.
Llywydd—[Anghlywadwy.]
Na. Mae gennym ni broblem. Bydd yn rhaid i ni gymryd seibiant technegol arall i ailddechrau sain y Prif Weinidog. Toriad technegol, felly, eto. Ymddiheuriadau am hyn, Aelodau.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 14:06.
Ailymgynullodd y Senedd am 14:08, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Felly, dychwelwn nawr at ymateb y Prif Weinidog i gwestiwn Adam Price. Prif Weinidog.
Diolch, Llywydd. Y cwbl yr oeddwn i'n ei wneud oedd ailadrodd pwynt yr oeddwn i wedi ei wneud yn gynharach i Andrew R.T. Davies, sef hyd yn oed pe bai'r cyfraddau sy'n mynd i'r ysbyty yn is gyda omicron, os yw'r niferoedd crai o bobl sy'n mynd yn sâl gydag ef yn cynyddu yn sydyn, bydd hynny ynddo'i hun yn arwain at sefyllfa lle byddai angen i nifer fawr o bobl fynd i'r ysbyty.
Mae COVID yn glefyd a drosglwyddir drwy'r awyr, wrth gwrs, ac rydym ni'n gwybod bod awyru da a phuro aer yn effeithiol iawn o ran mynd i'r afael â haint. A oes mwy, Prif Weinidog, y gallem ni fod yn ei wneud yn hyn o beth? Mae Gwlad Belg wedi gosod monitorau carbon deuocsid mewn ysgolion ac, yn wir, gweithleoedd i weld a oes angen gwella awyriad. Mae Iwerddon wedi cyhoeddi buddsoddiad pellach o €60 miliwn yr wythnos hon mewn dyfeisiau puro aer mewn ysgolion, gan ddefnyddio cymysgedd o aer gronynnol effeithlonrwydd uchel a golau uwchfioled. O ystyried yr amcangyfrif o 3,500 o blant sy'n parhau i ddioddef symptomau COVID hir yng Nghymru, onid yw hwn yn fuddsoddiad yn iechyd ein plant, yn ogystal â phawb arall, y dylem ninnau hefyd fod yn ei wneud?
Wel, diolch i Adam Price am y pwynt pwysig yna. Wrth gwrs, mae gennym ni fonitorau carbon deuocsid ar gael yma yng Nghymru nawr ac maen nhw'n cael eu defnyddio mewn ysgolion, ond mae mwy y gellir ei wneud o ran awyru. Mae'n rhan bwysig iawn o'r ffordd y gallwn ni gadw ein gilydd yn ddiogel. Ysgrifennodd y prif swyddog meddygol a'r prif swyddog nyrsio at y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn ystod y dyddiau diwethaf yn unig yn rhoi cyngor pellach ar yr hierarchaeth o gamau y gellir eu cymryd i wneud yn siŵr bod pobl sy'n gweithio a phobl sy'n cael eu trin yn ein hysbytai a lleoliadau caeedig eraill o'r math hwnnw yn cael eu cadw mor ddiogel â phosibl, ac awyru oedd un o'r materion a bwysleisiwyd ganddyn nhw yn y llythyr y maen nhw wedi ei anfon. Rydym ni'n parhau i adolygu'r dystiolaeth o rannau eraill o'r byd ar gamau a all fod yn effeithiol o ran cynorthwyo mewn ysgolion ac mewn lleoliadau eraill—gweithleoedd, er enghraifft, yn ogystal ag ysbytai a chartrefi gofal—i helpu i wella awyru a monitro ansawdd aer. A phryd mae syniadau neu atebion ymarferol yr ydym ni'n eu canfod mewn mannau eraill, byddwn yn sicr yn agored i ddysgu ohonyn nhw a gweld beth y gallwn ni ei wneud i gefnogi eu gweithrediad.
3. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ildio patentau brechlynnau COVID? OQ57377
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynlluniau i lacio hawliau eiddo deallusol fel y gellir gwneud brechlynnau a phatentau ar gael i wledydd incwm isel i helpu i liniaru'r pwysau sy'n cael eu hachosi gan bandemig COVID-19. Rydym ni wedi cyfleu'r farn honno yn uniongyrchol i Lywodraeth y DU gan fod cyfrifoldeb am hawliau eiddo deallusol yn parhau i fod yn fater a gadwyd yn ôl.
Diolch. Yn gyntaf, hoffwn gyfeirio'r Aelodau a'r cyhoedd at fy nghyfranddaliadau datganedig sydd gen i o hyd yn AstraZeneca, er nad am lawer hirach. Rwy'n siomedig nad yw AstraZeneca na Pfizer wedi ymateb i'm cais am esboniad ynghylch pam, yng nghanol pandemig byd-eang, nad yw'r cwmnïau cyffuriau aml-wladol hyn wedi hepgor eu patentau ar y brechlynnau hyn sy'n achub bywydau. Wrth gwrs, mae cynsail ar gyfer hyn, o ran hepgor y patentau ar gyffuriau HIV pan dynnodd Nelson Mandela sylw at eu methiant i wneud hynny, a achosodd brotestiadau byd-eang. Yn yr Unol Daleithiau, mae'r Sefydliadau Iechyd Cenedlaethol yn mynd â Moderna i'r llys. A ydych chi'n ymwybodol o unrhyw gynlluniau gan Lywodraeth y DU i fynd ag AstraZeneca i'r llys i'w gorfodi i wneud y peth iawn, o gofio na fydd neb yn ddiogel rhag COVID tan fydd digon o bobl wedi cael eu brechu ledled y byd i atal COVID i lefelau y gellir eu rheoli?
Wel, Llywydd, nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw gamau o'r fath gan Lywodraeth y DU, a byddwn yn synnu'n fawr iawn pe baen nhw'n barod i gymryd unrhyw gamau, oherwydd maen nhw'n parhau i rwystro cynigion ar gyfer hepgor hawliau eiddo deallusol yn Sefydliad Masnach y Byd. Gwn y bydd Jenny Rathbone yn ymwybodol iawn ei bod hi'n flwyddyn—dros flwyddyn bellach—ers i Dde Affrica ac India gynnig hepgoriad dros dro o hawliau eiddo deallusol ar frechlynnau COVID-19 gan wneud y cynnig hwnnw i Sefydliad Masnach y Byd. Ym mis Mai eleni, cyhoeddodd yr Unol Daleithiau eu bod nhw o blaid hepgoriad o'r fath, ac mae ymhell dros 100 o wledydd bellach wedi rhoi eu pwysau y tu ôl i hynny. Mae nifer gymharol fach o wledydd ledled y byd yn parhau i rwystro'r trafodaethau hynny, ac mae Llywodraeth y DU yn un ohonyn nhw. Cyfarfu Sefydliad Masnach y Byd ddiwethaf ddiwedd mis Hydref, ac mae arnaf ofn mai'r adroddiadau oedd bod trafodaethau ar hepgoriad wedi pallu ac yn ddigyfeiriad oherwydd y llond llaw hwnnw o wledydd. Dyna pam yr wyf i wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU yn ei annog i dynnu'r Deyrnas Unedig o'r sefyllfa honno; y dylem ni gefnogi'r safbwynt a gyflwynwyd gan Dde Affrica ac India, ond gan yr Unol Daleithiau hefyd, oherwydd byddai hynny'n datgloi'r sefyllfa lle na fyddem ni'n ddibynnol ar ewyllys da cwmnïau fferyllol unigol, ond byddai safbwynt cyson ar draws y byd lle na fyddai hawliau eiddo deallusol yn rhwystr rhag brechu gweddill y byd. Fe'm hatgoffir o'r hyn a ddywedodd cyn Brif Weinidog y DU Gordon Brown ychydig ddyddiau yn unig yn ôl: bod y gorllewin sydd ag adnoddau da yn chwarae rwlét y Rwsiaid gyda COVID-19, a thra nad ydym ni'n gwneud yr ymdrech y mae angen i ni ei gwneud i wneud yn siŵr bod pawb yn cael eu brechu, rywle yn y byd, mae amrywiolyn yn datblygu a allai fod yn un sy'n dianc rhag diogelwch brechlynnau yn llwyr, a fydd yn fwy difrifol na'r fersiynau yr ydym ni'n ymdrin â nhw ar hyn o bryd. Mae er budd pawb, yn yr union ffordd y dywedodd Jenny Rathbone, i wneud yn siŵr bod poblogaeth y byd i gyd yn cael diogelwch brechiad, a byddai hepgoriad dros dro o hawliau eiddo deallusol yn un cam pwysig o ran helpu i sicrhau'r canlyniad hwnnw.
Rwyf innau'n gwybod hefyd, gan ymateb i rai o'r—. Allwch chi fy nghlywed i, Llywydd? Mae fy llun i wedi diflannu.
Rydym ni'n gallu eich clywed chi, Russell, er nad wyf i'n gallu eich gweld chi ar hyn o bryd. A! ydych, rydych chi yn ôl ar y sgrin. Parhewch.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rwy'n ymwybodol bod y DU wedi rhoi'r mwyafrif o unrhyw frechlynnau sydd dros ben yn y DU, wrth gwrs, i COVAX i gynorthwyo gwledydd datblygol, ond rwy'n deall rhywbeth gwahanol i chi, Prif Weinidog, o ran barn ddatblygol aelodau Sefydliad Masnach y Byd ar hepgoriad arfaethedig o rai o ddarpariaethau'r agwedd sy'n gysylltiedig â masnach ar gytundeb hawliau eiddo deallusol i fynd i'r afael â COVID-19. Mae Llywodraeth y DU, yn ôl a ddeallaf, wrthi'n cymryd rhan gadarnhaol yn hynny. Ond a gaf i ofyn, Prif Weinidog, a ydych chi'n rhagweld unrhyw faterion negyddol ynghylch hepgor patentau brechiadau, beth yw canlyniadau anfwriadol hynny, a sut gellir goresgyn y problemau hyn?
Yn gyntaf oll, a gaf i ddweud, yn fy llythyr at yr Ysgrifennydd Tramor ar y mater hwn yn gynharach yn y flwyddyn, ac yn fwy diweddar at Brif Weinidog y DU, fy mod i wedi bod yn awyddus iawn i ddweud pa mor gryf y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r camau y mae Llywodraeth y DU wedi eu harwain o ran rhaglen COVAX a'r ymdrechion y mae Llywodraeth y DU wedi eu gwneud i arwain camau gweithredu ledled y byd yn hynny o beth? Felly, hoffwn gydnabod hynny a'i ailadrodd y prynhawn yma.
Beth yw anfanteision hepgoriad dros dro o hawliau eiddo deallusol? Wel, rwy'n credu mai'r prif un, er fy mod i'n credu ei fod yn beth angenrheidiol i'w wneud, nid yw'n beth digonol i'w wneud ar ei ben ei hun, oherwydd bydd gwledydd nad yw'r seilwaith ganddyn nhw i ddefnyddio'r eiddo deallusol a fydd ar gael iddyn nhw wedyn. Disgrifir yr ochr eiddo deallusol weithiau fel meddu ar y rysáit. Wel, os nad oes gennych chi ffwrn, os nad oes gennych chi'r sosbenni a'r padellau ac nad oes gennych chi bopeth arall sydd ei angen arnoch chi, allwch chi ddim troi'r rysáit yn gynnyrch defnyddiadwy. Dyna pam, yn y ffordd fach iawn y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu cynnig cymorth, y mae ein cymorth mewn lleoedd fel Namibia ac Uganda, er enghraifft, wedi canolbwyntio ar wneud yn siŵr ein bod ni'n cynorthwyo'r lleoedd hynny i sefydlu'r pethau seilwaith hynny sy'n caniatáu i wledydd ddefnyddio brechlynnau wrth i frechlynnau ddod ar gael, oherwydd os nad oes gennych chi nyrsys hyfforddedig, neu os nad oes gennych chi ganolfannau brechu, neu os nad oes gennych chi gyfarpar diogelu personol, yna hyd yn oed os yw'r brechlyn gennych chi, allwch chi ddim gwneud i'r brechlynnau hynny weithio i'ch poblogaeth leol. Os oes dadl am anfantais i hepgoriad patent, rwy'n credu mai dyna'r unig un y byddwn ni'n neilltuo llawer o hygrededd iddo. Mae'n golygu, os nad oes gennych chi bopeth arall sydd ei angen arnoch chi i wneud rhaglen frechu yn effeithiol, nid yw cael hepgor hawliau eiddo deallusol ar frechlynnau yn sicrhau bod gennych chi bopeth sydd ei angen arnoch ar lawr gwlad i ddarparu rhaglen o'r fath.
Prif Weinidog, mae Boris Johnson wedi dweud wrth bobl sy'n byw yn y DU nad yw dau frechlyn yn ddigon mwyach i amddiffyn rhag amrywiolyn omicron. Yn Affrica, nid yw 70 y cant o weithwyr iechyd rheng flaen wedi cael un dos. Mae hynny, fel yr ydym ni wedi bod yn ei drafod, i raddau helaeth oherwydd anhyblygrwydd Llywodraethau fel y DU a'r Swistir, yn rhwystro ymdrechion i hepgor patentau ar frechlynnau, pan fo, fel yr ydych chi wedi ei ddweud Prif Weinidog, hyd yn oed Arlywydd UDA sy'n glos gyda'r cwmnïau fferyllol mawr, Joe Biden, o blaid hepgoriad. A ydych chi'n credu ei bod hi'n wir, Prif Weinidog, fod polisi Llywodraeth y DU o rwystro'r ymgais hon i frechu'r byd nid yn unig yn peryglu bywydau dramor yn greulon ac yn ddiangen, ond hefyd yn peryglu bywydau yma yn y DU yn sgil amrywiolion peryglus sy'n debygol o ddatblygu mewn gwledydd sy'n llai abl i gael gafael ar frechlynnau?
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt pwysig y mae Delyth Jewell yn ei wneud. Nid oes yr un ohonom yn ddiogel nes bod pob un ohonom ni'n ddiogel. A dyna'r achos dros sicrhau bod gwledydd cyfoethog fel y Deyrnas Unedig yn chwarae ein rhan—ein rhan lawn—wrth gynorthwyo gweddill y byd. Nid mater o haelioni yn unig ydyw, mae'n fater o hunan-les goleuedig. Ond hyd nes y gallwn ni fod â gweddill y byd yn y sefyllfa honno, yna'n union fel y dywedodd Delyth Jewell, ac fel y dyfynnais cyn-Brif Weinidog y DU Gordon Brown yn gynharach, rhywle yn y byd bydd amrywiolyn arall yn datblygu ac, y tro nesaf, efallai na fyddwn ni mor ffodus y bydd yr amddiffynfeydd yr ydym wedi'u creu hyd yma mor effeithiol wrth ymateb i'r amrywiolyn hwnnw fel y buon nhw yn erbyn yr amrywiolyn alffa, yr amrywiolyn delta a'r ymdrech fawr nesaf i ymdrin â'r amrywiolyn omicron. Mae angen diogelu'r byd i gyd er mwyn diogelu pob un ohonom.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith yr amrywiolyn Omicron o COVID-19 ar fusnesau lletygarwch yng Nghymru? OQ57352
Diolch i'r Aelod am hynna, Llywydd. Hyd yma, prin iawn fu effaith uniongyrchol yr amrywiolyn newydd ar fusnesau lletygarwch Cymru. Mae'n anoddach asesu effaith anuniongyrchol drwy edrych ar newid ymddygiad cwsmeriaid. O ystyried lefelau uchel o ansicrwydd, bydd Llywodraeth Cymru yn monitro datblygiadau'n fanwl ac yn ymateb yn gyflym pe bai angen hynny.
Diolch. Wrth gwrs, rydych chi'n gwybod mai twristiaeth yw asgwrn cefn yr economi yn Aberconwy, fel y mae mewn etholaethau eraill. Mae gan frenhines cyrchfannau gwyliau Cymru, Llandudno, y potensial hefyd—ac mae hyn yn ôl adroddiad diweddar yr wyf wedi bod yn ei ddarllen—i weld nifer yr ymwelwyr dydd yn cynyddu o 2.88 miliwn yn 2018 i 4.8 miliwn yn 2045, teithiau gydag arhosiad dros nos yn gweld cynnydd o 120,000, ac mae'r effaith economaidd yn codi o £388 miliwn yn 2018 i dros £0.5 biliwn erbyn 2045. Mae ein diwydiant lletygarwch wedi ysgwyddo llawer o'r amrywiolion blaenorol mewn gwirionedd. Nawr, mae ein busnesau lleol yn dioddef o ganlyniad i lawer iawn o bobl yn canslo. Mae un entrepreneur wedi colli archebion gwerth £25,000 ac mae'n gorfod ystyried diswyddo pob un o'r wyth aelod o'i staff, ac ailadroddir hyn yn y negeseuon e-bost niferus yr wyf wedi'u cael. Felly, tra'u bod nhw yn dal i aros i fanteisio ar y gronfa £35 miliwn yr ydych chi wedi'i chynllunio i helpu busnesau bach a chanolig i ail-lansio, datblygu, datgarboneiddio a thyfu, a oes unrhyw bosibilrwydd, Prif Weinidog—ac mae'n rhaid i mi ofyn—y byddwch chi'n ystyried cyflwyno cylch arall o grantiau cymorth busnes COVID-19 i helpu ein busnesau i ymdrin â'r hyn sy'n debygol o fod yn gyfnod problemus iawn iddyn nhw?
Diolch i Janet Finch-Saunders am hynna, Llywydd, ac rwy'n llwyr gydnabod yr anawsterau y mae busnesau lletygarwch yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Bydd hi'n gwybod nad yw Llywodraeth Cymru wedi newid unrhyw reolau o ran COVID yng Nghymru yr wythnos hon, ond mae'r newyddion am yr amrywiolyn omicron yn newid ymddygiad pobl, ac nid oes amheuaeth o gwbl bod hynny'n cael effaith ar fusnes yn y diwydiant lletygarwch. Rwyf wedi cael cyfres o drafodaethau gyda chyd-Aelodau yn Llywodraeth y DU dros y penwythnos ynghylch yr hyn y gallai'r Trysorlys fod yn barod i'w wneud i gefnogi busnesau yr effeithir arnyn nhw fel hyn, oherwydd, fel y gwn y bydd yn deall, mae hon yn effaith ar draws y Deyrnas Unedig. Mae busnesau lletygarwch a thwristiaeth ym mhobman yn gweld hyn. 'A fyddwn yn ystyried' yw'r hyn a ofynnodd yr Aelod, a'r ateb i hynny yw 'byddwn', wrth gwrs byddwn yn ystyried yr hyn y gallem ei wneud o'n hadnoddau ein hunain. Yna, byddem yn sicr yn gobeithio y byddai Llywodraeth y DU yn barod i gydnabod yr effaith y mae'r amrywiolyn newydd yn ei chael yn ehangach ar y rhannau hynny o'r economi yr effeithir arnyn nhw fwyaf.
Diolch iddi am ddarllen yr wybodaeth am y dyfodol posibl ar gyfer Llandudno, sy'n gyrchfan gwyliau gwych. Rwy'n gwybod y bydd ganddi hithau hefyd ddiddordeb yn y ffordd y gallwn greu dyfodol o'r math hwnnw i rywle fel Llandudno mewn ffordd sy'n annog twristiaeth gynaliadwy. Mewn rhannau o'r gogledd dros yr haf diwethaf lle gwelsom ni niferoedd uchel o ymwelwyr, gwelsom bryderon dealladwy hefyd, os nad ydych yn cynyddu niferoedd yn y ffordd gywir, rydych yn tanseilio'r pethau sy'n dod â phobl i'r ardaloedd hynny yn y lle cyntaf. Roedd y rheini'n niferoedd calonogol iawn a rannodd yr Aelod â ni yn gynharach, a nawr bydd angen i'r sgwrs ymwneud â sut yr ydym yn tyfu'r diwydiant mewn ffordd sy'n rhoi'r gallu cynaliadwy hwnnw iddo barhau i fod yn ddeniadol i bobl ymhell i'r dyfodol.
Prif Weinidog, roeddwn eisiau eich holi am ansawdd aer. Rwy'n gwybod, yr wythnos diwethaf, eich bod wedi ymateb i arweinydd y Ceidwadwyr drwy sôn am y Ddeddf aer glân, tybed a wnewch chi roi amserlen glir iawn, os yw hynny'n iawn, ar gyfer eich rhaglen ynghylch cyflwyno Deddf aer glân. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae amserlen gyda ni. Mae'n dechrau gyda'r cynllun, yn mynd trwy'r Papur Gwyn, lan i'r Ddeddf hefyd.
Er fy mod yn gwybod ac wedi gweld yr amserlen ar gyfer y broses honno—y cynllun yn gynnar y flwyddyn nesaf, y Papur Gwyn, yr ymgynghoriad, dyfodiad Bil ar lawr y Senedd yn ddiweddarach yn y tymor—nid yw gennyf i o fy mlaen i, ac rwy'n hapus iawn i ysgrifennu at yr Aelod yn nodi'r amserlen honno.FootnoteLink Ond gallaf roi sicrwydd iddi, yn bendant, fod gwaith wedi ei wneud ar amserlen o'r fath yn bendant ac rydym ar y trywydd iawn i'w chyflawni. Yn ystod tymor y Senedd hon, yn y ffordd a ddywedom yn etholiadau'r Senedd, byddwn yn rhoi Bil aer glân o flaen y Senedd.
5. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn helpu i fynd i'r afael ag anfantais iechyd, cymdeithasol ac economaidd strwythurol mewn ardaloedd lle ceir amddifadedd acíwt a lluosog? OQ57355
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi camau gweithredu ar waith ar draws ein cyfrifoldebau i fynd i'r afael â phenderfynyddion strwythurol iechyd, anfantais gymdeithasol ac economaidd. I ddyfynnu'r Aelod mewn dadl yn y Senedd yn ddiweddar, fodd bynnag, rydym bob amser yn gorfod gwneud hyn wrth nofio yn erbyn Llywodraeth y DU
'sy'n ysgubo'r rhai agored i niwed a'r rhai ar gyflogau isel ymaith.'
Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n cydnabod mai nofio yn erbyn y llanw yw hyn, ond mae cymaint mwy y gallwn ni ei wneud gyda rhaglen Llywodraeth Cymru hefyd sy'n buddsoddi'n weithredol yn y cymunedau hyn. Gwn mai lleoedd fel Caerau, cymunedau gwych fel Caerau yn fy etholaeth i, oedd y cyntaf i weld buddsoddiad Dechrau'n Deg. Cawsom y buddsoddiad mewn gofal plant i deuluoedd sy'n gweithio mewn lleoedd fel sefydliad Nantyffyllon, sefydliad y glowyr, a chymorth pandemig ar gyfer prydau ysgol yn ystod y gwyliau, buddsoddiad Ysgol Gynradd Caerau, a llawer mwy. Ond a gaf i ofyn i'r Llywodraeth hon am sicrwydd y byddwn ni, wrth i'r blynyddoedd fynd heibio, yn cynnal y lefel honno o fuddsoddiad yn y bobl hyn a'r lleoedd hyn sydd nid yn unig ei angen, ond yn ei haeddu, fel bod pawb yn cael yr un cyfle ym mhob rhan o Gymru? Maen nhw'n lleoedd gwerthfawr, yn bobl werthfawr, ac os oes angen inni ganolbwyntio'r buddsoddiad yno, yna dylai hynny ddigwydd.
Yn sicr rwy'n gallu rhoi'r sicrwydd hwnnw i'r Aelod. Rwy'n credu bod ei etholaeth ei hun yn enghraifft wych o'r buddsoddiadau a wnaed gan Lywodraethau Llafur olynol yma yng Nghymru i fynd i'r afael ag anfantais strwythurol. Soniodd Huw Irranca-Davies am Dechrau'n Deg, Llywydd; am wrthgyferbyniad rhwng y ffordd yr ydym ni wedi cynnal a pharhau i fuddsoddi yn Dechrau'n Deg yng Nghymru a'r rhaglen gyfochrog yn Lloegr, a wnaeth waith mor dda yn ystod cyfnod y Llywodraeth Lafur ddiwethaf yn y DU, yn gweld y Ceidwadwyr yn cefnu arni yn ystod y degawd diwethaf.
Ac mae'n fwy na Dechrau'n Deg yn unig; fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, mae'n ymwneud â'r ffordd yr ydym wedi buddsoddi mewn cyfleusterau gofal plant i deuluoedd sy'n gweithio mewn lleoedd fel Nantyffyllon. Rwy'n gwybod mai fy rhagflaenydd, Carwyn Jones, pan oedd yn Brif Weinidog, a agorodd Ysgol Gynradd Caerau, adeilad newydd i bobl ifanc yr ardal honno. Ac mae ein buddsoddiad mewn gwaith o ymdrin ag anghydraddoldebau strwythurol, Llywydd, wedi mynd y tu hwnt i'r hyn y gallech eu hystyried yn wasanaethau prif ffrwd safonol hefyd. Gwn fod buddsoddiad mwyaf Cyfoeth Naturiol Cymru mewn coetir cymunedol yng Nghymru yng nghoedwig Llynfi, yn etholaeth yr Aelod—coetir newydd yn tyfu ar hen safle glo.
Ond y peth arall sydd bob amser yn fy syfrdanu'n wirioneddol yn etholaeth Ogwr, Llywydd, yw'r ffordd y mae gweithredu gan wasanaethau cyhoeddus yn ysgogi ymdrech gymunedol eithriadol debyg hefyd—prosiect Skyline, a gwn fod yr Aelod yn gefnogwr brwd o'r datblygiad mawr hwnnw, ac Ymddiriedolaeth Datblygu Caerau a drafododd gyda mi yn ddiweddar, ei ehangder syfrdanol o weithgarwch a'r ymdeimlad o fenter gymunedol a ddaw yn ei sgil. Mae'n wych gweld, Llywydd, gyda llaw, fod canolfan gymunedol yr ymddiriedolaeth yn cael ei defnyddio gan swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu. A dyna fuddsoddiad arall y bydd yr etholaeth yn ei weld gan Lywodraeth Lafur.
Wrth gwrs, pan fyddwch yn ymdrin ag anghydraddoldebau strwythurol sydd wedi'u gwreiddio'n ddwfn, mae angen gwneud mwy. Ond ein gallu i roi pŵer y Llywodraeth ar waith, ochr yn ochr ag ymrwymiad cymunedau lleol, yw'r ffordd y credaf y gallwn ni weld cynnydd, ac yn etholaeth yr Aelod ei hun, yn yr enghreifftiau y mae wedi'u dyfynnu y prynhawn yma, rwy'n credu eich bod yn gweld hynny ar waith heb amheuaeth.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella bywydau pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor? OQ57374
Llywydd, diolch i Peter Fox am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r grŵp gweithredu ar gyflyrau niwrolegol i wella gwasanaethau i bawb sydd â chyflyrau niwrolegol, gan gynnwys clefyd niwronau motor. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i benderfynu beth arall y gellir ei wneud i wella bywydau pobl sy'n byw gyda'r clefyd creulon hwn.
Diolch, Prif Weinidog. Anfonodd aelodau'r Senedd neges glir iawn fis diwethaf yn ystod fy nadl, pryd y gwnaethon nhw bleidleisio â mwyafrif llethol i ddod â'r broses addasu annheg bresennol i ben lle mae dioddefwyr MND yn gaeth mewn cartrefi na ellir dianc ohonyn nhw am nad ydyn nhw'n gallu cael y cymorth angenrheidiol mewn pryd. Mae dioddefwyr MND yn glir bod angen disodli'r system bresennol gan un nad yw'n seiliedig ar brawf modd, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y Gweinidog iechyd ac, yn wir, Llywodraeth Cymru yn cefnogi hyn hefyd. Ond nawr mae angen i ni weld canlyniad pendant i ddioddefwyr MND yn dilyn y gefnogaeth unfrydol honno, rwy'n credu. Ac, i'r perwyl hwnnw, Prif Weinidog, a wnaiff y Llywodraeth gytuno i ofyn, yn wir, i annog awdurdodau lleol i weithredu eu pwerau disgresiwn i weithredu proses garlam ar gyfer addasu tai i bobl sy'n byw gydag MND yng Nghymru, oherwydd wrth i bob mis fynd heibio heb y broses garlam honno, bydd pobl ag MND yn parhau i ddioddef? Diolch, Prif Weinidog.
Llywydd, diolch i Peter Fox am hynna. Roedd ei ragflaenydd, yn Aelod o'r Senedd dros etholaeth sir Fynwy, Nick Ramsay, hefyd yn eiriolwr brwd dros anghenion pobl sy'n dioddef o glefyd niwronau motor. O ran addasiadau ffisegol penodol, nid yw tair o'r pedair rhaglen y mae Llywodraeth Cymru bellach yn eu cefnogi yn seiliedig ar brawf modd. Mae'r addasiadau ar raddfa fawr ar gyfer y grant cyfleusterau i'r anabl yn seiliedig ar brawf modd, ond nid ydyn nhw bob amser yn fath o addasiadau sydd fwyaf addas i bobl sy'n dioddef o MND o ystyried natur gynyddol y clefyd hwnnw a'r patrwm anrhagweladwy y mae'n ei ddilyn mewn unigolion.
Ond mae'r rhaglen Hwyluso, pan gynyddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar y cyllid a roddwn i awdurdodau lleol ar y sail y dylai fod yn rhad ac am ddim ar gyfer yr addasiadau bach a chanolig y mae'r rhaglen Hwyluso yn eu cefnogi, fod yn rhad ac am ddim i'r defnyddiwr, wedi cael ei chroesawu gan bron pob awdurdod lleol. Mae sir Fynwy yn un o'r awdurdodau hynny sydd wedi newid ei gweithdrefnau i sicrhau na chodir tâl ar bobl am y rheini, ac nad yw pobl yn gyfrifol am y grant addasiadau ffisegol a'r rhaglen addasu ymateb cyflym. Felly, rwy'n gobeithio, drwy gefnogi'r rhaglenni hynny sydd â symiau blynyddol sylweddol o arian, y bydd yn caniatáu i awdurdodau lleol fod â dull llwybr carlam ar gyfer pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor yng Nghymru. Mae ein ffigurau'n awgrymu bod tua 200 o bobl â'r cyflwr yng Nghymru ar unrhyw un adeg. Mae hynny'n golygu, i unrhyw awdurdod lleol, y dylech allu cael dull uniongyrchol a phersonol ar gyfer anghenion yr unigolyn hwnnw. Mae'r niferoedd yn ddigon bach i gael cynllun personol ar gyfer yr unigolyn hwnnw ac yna i wneud yr addasiadau ar garlam a all wneud cymaint o wahaniaeth iddo.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaeth ffôn 111 yn y gogledd? OQ57392
Llywydd, cafodd gwasanaeth iechyd 111 Cymru ei lansio yn y gogledd ar gyfer unrhyw fater gofal iechyd brys ym Mehefin 2021. Rydyn ni’n buddsoddi adnoddau ychwanegol yn y gwasanaeth, o ran elfennau teleffoni ac elfennau ar-lein. Bydd hyn yn cryfhau’r gwasanaeth ar gyfer y gaeaf a thu hwnt, ac rydyn ni’n parhau i ddenu staff ansawdd uchel.
Diolch ichi am eich ateb, Prif Weinidog. Mae'n rhaid i mi ddweud, mae pryderon difrifol yn cael eu mynegi wrthyf nad yw'r gwasanaeth yn gallu ymdopi â maint y galw. Yr ymdeimlad ymhlith gweithwyr nyrsio proffesiynol yw bod y gwasanaeth yn cael ei orlethu, gyda chleifion yn gorfod aros oriau am ymateb sylfaenol. Dywedwyd wrthyf, er enghraifft, fod galwadau, yn ystod yr wythnosau diwethaf heb eu hateb, a bu'n rhaid i un galwr aros 600 munud i gael ei brysbennu. Nawr, mae angen anfon rhai o'r achosion hyn ar frys i'r adran achosion brys, ond oherwydd yr ôl-groniad, wrth gwrs, maen nhw'n cael eu colli a'u gohirio, i'r pwynt pan fo rhai yn rhoi'r gorau iddi. Nid oes unrhyw arbenigwyr pediatrig ar y gwasanaeth 111 yn y gogledd, felly mae achosion sy'n ymwneud â phlant, pan fyddant yn mynd drwodd yn y diwedd, yn cael eu cyfeirio'n syth at yr adran achosion brys. Yn yr un modd, nid oes gan y ganolfan iechyd meddwl 111 ddigon o arbenigedd seiciatrig i ymdrin â'r galw presennol. Felly, a wnewch chi, Prif Weinidog, dderbyn nad yw'r gwasanaeth 111, sydd bellach, fel y dywedwch chi, wedi disodli'r gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau arferol yn y gogledd, yn cyflawni fel y dylai, oherwydd dyna'r farn a fynegwyd i mi gan weithwyr iechyd proffesiynol pryderus iawn sydd â blynyddoedd o brofiad yn y maes?
Llywydd, fe fyddwn i bob amser eisiau gwrando ar bryderon a godwyd gan leisiau o'r fath. Fe wnes i ymholiad uniongyrchol i'r bwrdd iechyd, gan wybod y byddwn i'n cael y cwestiwn hwn heddiw, a dywedwyd wrthyf nad oedd pryderon o'r math hwnnw wedi'u codi naill ai gan y bobl sy'n gyfrifol am y gwasanaeth na chan y bobl sy'n ei ddarparu, er bod y system ym mhobman yng Nghymru o dan bwysau enfawr, ac rydym ar fin gofyn i'r bobl yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw i ddarparu'r gwasanaeth 111, mewn rhai achosion, i fod yn rhan o'r system frechu atgyfnerthu newydd. Felly, nid yw'n syndod—ni all fod yn syndod—i neb ganfod nad yw'r system bob amser yn gallu darparu ymateb mor amserol i bobl ag y byddai'n digwydd mewn amgylchiadau tawelach. Gofynnais i'r bwrdd iechyd hefyd a oedd yn cael cwynion gan y cyhoedd am ansawdd y gwasanaeth, ac fe ddywedon nhw wrthyf fod llai nag un o bob 1,000 o ddefnyddwyr y gwasanaeth wedi cwyno. Felly, nid wyf am eiliad yn diystyru'r pwyntiau pwysig y mae'r Aelod wedi'u codi—a byddaf yn sicrhau eu bod yn cael eu cyfleu i'r bwrdd iechyd—ond rwy'n credu bod mwy nag un adroddiad, mae'n debyg, ynghylch y ffordd y mae'r gwasanaeth yn ceisio darparu ymateb o safon i anghenion pobl yn y gogledd, er gwaethaf y galwadau gwirioneddol yr ydym yn eu rhoi ar y gwasanaeth iechyd yn wyneb y pandemig byd-eang.
8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y lwfans cynhaliaeth addysg? OQ57390
Llywydd, mae ein hymrwymiad i barhau â'r lwfans cynhaliaeth addysg wedi'i nodi yn ein rhaglen lywodraethu. Mae adborth gan ddysgwyr yn pwysleisio pwysigrwydd y cymorth hwn i'w helpu i barhau â'u hastudiaethau. Caiff rheolau'r cynllun lwfans eu hadolygu bob blwyddyn cyn agor y cynllun i geisiadau.
Diolch am yr ymateb, Prif Weinidog.
Yn y lle cyntaf, rwy'n credu ei bod yn bwysig ailadrodd yr hyn y mae'r Prif Weinidog wedi'i ddweud wrth gydnabod bod cadw'r lwfans ar waith yng Nghymru yn darparu cymorth y mae mawr ei angen i ddysgwyr, ac rwy'n croesawu'r ymrwymiad i ddiogelu'r lwfans yn y rhaglen lywodraethu. Ond tybed a fydd y Llywodraeth yn adolygu'r lwfans ai peidio, yn benodol y swm a delir i fyfyrwyr a'r broses o wneud cais. Ar hyn o bryd, mae'r swm a delir i ddysgwyr yr un swm nawr ag yr oedd pan oeddwn i'n ei gael, ac mae wedi aros yn ei unfan, sef £30 yr wythnos, ers ei gyflwyno yn 2004. Yn y bôn, nid ydym wedi gweld cynnydd mewn bron i 20 mlynedd, felly nid yw wedi cymryd chwyddiant i ystyriaeth o gwbl. Hoffwn droi sylw'r Prif Weinidog at Goleg Pen-y-bont ar Ogwr, am eiliad yn unig, i ddangos pwynt arall, yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr, fel arfer mae ganddyn nhw rhwng 700 ac 800 o ddysgwyr addysg bellach llawn amser sy'n hawlio'r lwfans. Fodd bynnag, mae pryderon bod llawer mwy o fyfyrwyr angen mynediad. Fel y gwyddom, mae'r lwfans yn seiliedig ar brawf modd, ac mae llawer wedi dweud wrthyf fod y ffurflenni'n gymhleth ac yn anodd eu deall. Felly, byddwn yn gobeithio, wrth i'r Llywodraeth adolygu'r lwfans, y bydd y materion penodol hyn yn cael eu hystyried, wrth symud ymlaen.
Llywydd, diolch yn fawr i Luke Fletcher am y cwestiynau ychwanegol.
Wrth gwrs, rydym yn adolygu'r cynllun yn gyson. Yn ystod y flwyddyn olaf, cyn y pandemig—felly y flwyddyn olaf y byddech chi'n credu y byddai yn gymhariaeth deg—bryd hynny, cefnogwyd dros 20,200 o fyfyrwyr gan y cynllun lwfans cynhaliaeth addysg, ar gost o bron i £18 miliwn. Ac, ar ben hynny, mae Llywodraeth Cymru yn darparu £6 miliwn yn y gronfa ariannol wrth gefn, y gall colegau addysg bellach ei defnyddio, yn union er mwyn rhoi rhywfaint o hyblygrwydd ychwanegol ar ben natur prawf modd y lwfans ei hun. Rwyf wedi gweld adroddiad Sefydliad Bevan, wrth gwrs, am y ffaith pe baem yn codi'r lwfans i gynnal ei werth mewn termau real y byddai angen i ni fynd i £45. Byddai hynny'n costio £8.2 miliwn arall y flwyddyn, a phe baem yn codi'r trothwyon, i ystyried y pwynt yr oedd Mr Fletcher yn ei wneud am rai pobl ifanc nad oedden nhw'n gallu cael gafael arno, byddai hynny'n mynd â'r buddsoddiad ychwanegol sydd ei angen i dros £10 miliwn. Ac, mae arnaf ofn, ym mhob un o'r pethau hyn, fod yn rhaid gwneud dewisiadau. Mae'r rhaglen lywodraethu, gan gynnwys yr holl gytundebau sydd gennym yn y cytundeb cydweithredu rhwng ei blaid ef a fy mhlaid innau, wedi nodi mai'r prif flaenoriaethau ar gyfer buddsoddi yw prydau ysgol am ddim, gofal plant a'r ystod honno o ymrwymiadau eraill yr ydym wedi'u llunio gyda'n gilydd. Ac er y byddwn, wrth gwrs, yn parhau i adolygu'r lwfans, yr ymrwymiad presennol yw ei gynnal i mewn i dymor y Senedd hon, ac oni bai bod ein setliadau'n dod yn llawer mwy hael nag a nodwyd yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, mae'n debyg mai dyna lle bydd rhaid i'n huchelgais aros.
9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddarpariaeth gofal iechyd meddwl yn Nwyfor Meirionnydd? OQ57383
Diolch yn fawr i'r Aelod am y cwestiwn. Mae cefnogi iechyd meddwl yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon, fel y nodir yn y cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Rydyn ni’n cefnogi gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd drwy’r fframwaith ymyriad wedi’i dargedu a thrwy becyn sylweddol o gymorth strategol.
Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb hwnnw. Mae fy etholwr, David Graves, wedi bod yn aros i gael adolygiad annibynnol allanol i fewn i driniaeth a gofal ei fam ar ward Hergest ers dros dair blynedd. Gofynnwyd i Donna Ockenden, awdur adolygiad Ockenden, gynnal yr adolygiad gan y bwrdd iechyd yng Ngorffennaf 2018, ond eto ni ddilynodd y bwrdd y cais hwnnw i fyny. Mae hi, Donna Ockenden, wedi cynnig cynnal yr adolygiad unwaith eto. Dwi'n gwybod hynny am ei bod hi wedi dweud hynny wrthyf i yn bersonol rai wythnosau yn ôl. Yn 2018, fe ysgrifennodd y Gweinidog iechyd presennol at y Gweinidog iechyd ar y pryd yn gofyn ac yn mynnu bod y bwrdd yn cysylltu â Donna Ockenden i gynnal yr adolygiad annibynnol allanol yma. Rŵan bod adroddiad Holden wedi cael ei gyhoeddi, oni ddylwn i alluogi fy etholwr i fedru cau'r bennod drist yma yn ei fywyd trwy alluogi Donna Ockenden i gynnal yr adolygiad allanol annibynnol yma? A wnewch chi, Brif Weinidog, ymuno efo fi yn galw ar y bwrdd iechyd i gysylltu efo Donna Ockenden i'w chomisiynu i wneud y gwaith pwysig yma?
Diolch i Mabon ap Gwynfor am y pwyntiau yna. Wrth gwrs, dwi'n ymwybodol o achos David Graves, a dwi'n cydymdeimlo gyda fe am bopeth a oedd wedi digwydd a'r profiadau mae wedi'u cael. Dwi ddim wedi gweld dim byd oddi wrth Donna Ockenden, i ddweud y gwir. Os yw hi'n awgrymu rhywbeth, dydy hi ddim, fel dwi wedi gweld, wedi codi hynny gyda'r Llywodraeth. So, dwi ddim yn gallu cefnogi rhywbeth heb weld beth mae hi'n awgrymu. Os oes rhywbeth sydd wedi dod i mewn, wrth gwrs dwi'n fodlon edrych ar beth mae hi'n bwriadu ei wneud.
Ac yn olaf, cwestiwn 10, James Evans.
A ydw i wedi fy nad-dawelu? Dwi'n credu 'mod i.
Diolch Llywydd.
10. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am benodi comisiynydd cyn-filwyr i Gymru? OQ57360
Llywydd, mae penodi comisiynydd cyn-filwyr i Gymru yn fenter gan Lywodraeth y DU, a gyhoeddwyd heb unrhyw drafodaeth na hysbysiad ymlaen llaw gyda Llywodraeth Cymru. Serch hynny, yr wythnos hon mae'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn cyfarfod â'r Gweinidog dros Bobl Amddiffyn a Chyn-filwyr i drafod y penodiad arfaethedig hwn.
Diolch, Prif Weinidog. Mae Brycheiniog a Sir Faesyfed yn gymuned filwrol falch, a soniais yn ddiweddar yn y Siambr am y rhan bwysig y mae'r fyddin yn ei chwarae, yn gymdeithasol ac yn economaidd, yn fy etholaeth i. Rwy'n siarad yn rheolaidd â chyn-filwyr sy'n dweud wrthyf fod angen y swyddogaeth benodol hon yn ein system wleidyddol i ymdrin â'r materion a'r heriau y mae cyn-filwyr yn eu hwynebu. Mae'r Dirprwy Weinidog a minnau wedi cael trafodaethau cadarnhaol iawn ar y mater hwn. Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo, os gellir goresgyn y problemau sy'n bodoli rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar y mater hwn, y bydd eich Llywodraeth yn gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU ar benodi comisiynydd cyn-filwyr i Gymru? Diolch, Llywydd.
Llywydd, roeddwn i'n falch iawn yn ddiweddar o dreulio noson ym marics Aberhonddu ac i gyfarfod â rhai staff ymroddedig iawn yno. Llywydd, nid oes unrhyw broblemau yn bodoli rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch y mater hwn; mae'n fenter gan Lywodraeth y DU yn gyfan gwbl, a gynigiwyd ganddi hi, a gyhoeddwyd ganddi hi, a ariennir ganddi hi. Wrth gwrs, byddwn ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU arni, ond mae'n bwysig iawn bod yn glir o le y daw'r fenter a lle mae'r fenter. Gobeithio y bydd y penodiad yn llwyddiant ac y bydd yn darparu pethau da i gyn-filwyr yng Nghymru. Ond y Llywodraeth sydd wedi ei chychwyn ac sy'n ceisio bwrw ymlaen â hi sydd â'r cyfrifoldeb i sicrhau y bydd hynny'n digwydd. Mae'r cyfarfod rhwng y Gweinidog yn Llywodraeth Cymru a'r Gweinidog dros Bobl Amddiffyn a Chyn-filwyr wedi'i gynllunio i sicrhau, pan fo gennym ran i'w chwarae, ein bod yn ymwybodol o hynny, a byddwn yn sicr yn gwneud hynny'n adeiladol.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Trefnydd, mae aelod o'r gymuned Iddewig yng Nghymru wedi cysylltu â mi ynghylch mynediad i wefan Cadw. Mae'n ymddangos bod pobl sy'n ceisio cael mynediad i'r wefan yn Israel yn cael eu rhwystro rhag gwneud hynny. Nawr, gan ddefnyddio rhwydwaith preifat rhithwir, ceisiais edrych ar hyn fy hun, ac roedd yn ymddangos i mi fod gwefan Cadw yn gwbl hygyrch yn Ffrainc, yr Unol Daleithiau, Sbaen a llawer o wledydd eraill, ond nid i rywun â chyfeiriad darparwr rhyngrwyd yn Israel. Nawr, rwy'n deall y codwyd hyn gyda Cadw mor bell yn ôl â mis Medi ond, hyd yma, ni chymerwyd unrhyw gamau i fynd i'r afael â'r broblem. Byddwn i'n ddiolchgar iawn pe bai'r Gweinidog sy'n gyfrifol am Cadw yn edrych ar hyn ar frys i geisio mynd i'r afael ag ef, a rhoi esboniad i'r Senedd ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd.
Yn sicr byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am Cadw, Dawn Bowden, ymchwilio i hyn ac adrodd i'r Aelodau cyn gynted ag y bo'n bosibl.
Nos Sul, Trefnydd, roedd darllediad Boris Johnson ar deledu pobl Cymru yn dweud y byddai pawb yn derbyn trydydd brechiad erbyn diwedd y flwyddyn. Nawr, ar y pryd, roedd hwnna'n gyhoeddiad ar gyfer Lloegr yn unig, ac nid dyma'r tro cyntaf i'r Prif Weinidog wneud datganiad a gafodd ei ddarlledu ar setiau teledu yng Nghymru doedd ddim yn berthnasol i ni. Roedd yr un ym mis Mai lawer gwaeth, wrth gwrs, pan gyhoeddodd Mr Johnson bod y cyngor wedi newid o aros gartref i slogan amwys. Nid oedd y cyhoeddiad hwn yn weithredol yng Nghymru. Y cyngor yma oedd y dylai pawb barhau i aros gartref, ac nid oedd esboniad ar y pryd nad oedd y cyhoeddiad yn berthnasol i Gymru. Rwy'n credu ei fod yn amlwg bod angen newid yn y rheolau darlledu er mwyn atal gwybodaeth anghywir rhag gael ei chyhoeddi yma ac achosi dryswch, os nad perygl. Rwy'n falch felly fod y cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth yn cynnwys ymrwymiad i edrych ar sefydlu awdurdod darlledu a chyfathrebu cysgodol i Gymru, gan y gallai'r corff hwn ystyried argymell newid o'r fath. A fyddai modd i'r Llywodraeth amserlennu datganiad ar hyn rywbryd yn y flwyddyn newydd, os gwelwch yn dda, er mwyn rhoi manylion am y camau nesaf?
Diolch. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, pan fydd Prif Weinidog y DU yn gwneud y cyhoeddiadau hyn, ei fod yn ei gwneud yn glir iawn ei fod, ar yr achlysur penodol hwnnw, yn siarad ar ran pobl Lloegr, a dyna pam yr oedd yn dda iawn gweld ein Prif Weinidog ni yn annerch pobl Cymru mewn modd tebyg nos Lun. Mae'r pwynt yr ydych chi'n ei godi, fel yr ydych chi'n ei ddweud, o fewn y cytundeb cydweithredu rhwng plaid Delyth Jewell a fy mhlaid i, ac rwy'n siŵr, wrth i ni weithio drwy'r 46 o bolisïau, y bydd datganiad yn cael ei ddwyn gerbron y Senedd.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog addysg ynghylch newidiadau arfaethedig y Llywodraeth ar gyfer addysgu gwyddoniaeth mewn ysgolion yng Nghymru? O 2025 ymlaen, y sôn yw, na fydd ffiseg, cemeg a bioleg yn cael eu cynnig fel pynciau ar wahân mwyach. Yn hytrach, bydd disgyblion yn astudio ar gyfer un dyfarniad gwyddoniaeth integredig sy'n cyfuno'r tri phwnc gyda'i gilydd. Mae hyn wedi arwain at fynegi pryderon bod gwyddoniaeth yn cael, ac rwy'n dyfynnu, 'ei gorsymleiddio', ac mae gan athrawon lawer o bryder am y cwricwlwm newydd. Mae pynciau gwyddoniaeth ar wahân ffiseg, cemeg a bioleg wedi bod yn rhan o'r cwricwlwm ers blynyddoedd maith, ond mae'n ymddangos bod cynlluniau Llywodraeth Cymru i leihau'r cyfle i ddisgyblion yng Nghymru astudio'r gwyddorau penodol hyn yn gyffredin. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog yn gynnar y flwyddyn nesaf ar sut y mae'n bwriadu sicrhau bod safonau addysg gwyddoniaeth yn cael eu cynnal, ac na fydd ei gynnig yn golygu bod gwyddonwyr o Gymru yn y dyfodol, fel Dr Lyn Evans, a arweiniodd arbrofion ar y gwrthdrawydd hadron, yn dod yn fwyfwy prin? Diolch.
Fel rhan o'r cyhoeddiadau sydd wedi eu gwneud, yn sicr nid yw gwyddoniaeth yn cael ei gorsymleiddio. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cryn dipyn o waith ac adnoddau i hyrwyddo pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg ar draws pob oedran. Fel y gwyddoch chi, mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn gwneud llawer o ddatganiadau yn y Siambr, ac yn sicr ar y cwricwlwm ei hun, ac rwy'n siŵr y bydd yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau os oes angen rhagor o wybodaeth.
Trefnydd, hoffwn i gael datganiad ysgrifenedig, os gwelwch yn dda, ynglŷn â darpariaeth o barthau 20 mya mewn ardaloedd lled wledig, yn ogystal â sicrhau bod gyrrwyr yn cadw at y terfyn cyflymder hwnnw. Yn ddiweddar, dwi wedi cwrdd â chynrychiolwyr a thrigolion pentref Gwaelod-y-garth yn ngogledd-orllewin Caerdydd, ac maen nhw'n brwydro i sicrhau mwy o ddiogelwch i gerddwyr, yn enwedig yr henoed a phlant, sy'n gorfod cerdded trwy'r pentref i ddal y bws i'r ysgol uwchradd. Does yna ddim pafin mewn sawl man yn y pentref, ac, am resymau amlwg felly, maen nhw moyn parth 20 mya trwy'r pentref er mwyn ei wneud yn fwy diogel. Ond, fel y gwyddoch chi, Trefnydd, un peth yw cael y terfyn cyflymder; peth arall yw sicrhau bod gymaint o bobl â phosib yn cadw at y cyflymder hwnnw, ac mae hynny yn achosi pryder mewn llefydd ble mae parth 20 mya yn bodoli hefyd yng ngogledd-orllewin Caerdydd, yng Nghreigiau. Felly, a oes modd cael datganiad ysgrifenedig ynglŷn â'r materion hyn, plîs?
Felly, rwy'n ceisio cofio pryd cawsom ni ddatganiad—rwy'n credu mai datganiad ysgrifenedig ydoedd—ar barthau 20 m.y.a. gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, ond nid wyf i'n credu bod hynny'n rhy bell yn ôl. Felly, nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw ganllawiau na rheoliadau eraill sydd wedi dod i rym o ran y parthau 20 m.y.a. ond, os oes, byddaf yn gofyn i'r Dirprwy Weinidog wneud datganiad ysgrifenedig.
Rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ddarparu cymorth i deuluoedd cyn-filwyr â chyflyrau iechyd meddwl. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Ymddiriedolaeth The Forces in Mind eu hadroddiad newydd, gan ddatblygu model y Gwasanaethau Dulliau Adferol Cyn-filwyr a Theuluoedd. Roedd hyn yn dilyn astudiaeth werthuso dair blynedd, a gafodd ei chynnal gan y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant ym Mhrifysgol Caerdydd, o wasanaeth newydd, y Gwasanaeth Dulliau Adferol Cyn-filwyr a Theuluoedd, neu RAVFS, sy'n defnyddio ymgysylltiad adferol i helpu cyn-bersonél y lluoedd arfog a'u teuluoedd i wella eu perthnasoedd, eu cyfathrebu a'u gweithredu teuluol. Mae'r gwasanaeth newydd arloesol hwn yn cael ei darparu gan elusen plant Cymru TGP Cymru, a chafodd ei ddatblygu ar y cyd â GIG Cyn-filwyr Cymru. Fel y mae'r Ymddiriedolaeth The Forces in Mind yn ei ddweud,
'ar hyn o bryd mae bwlch yn narpariaeth y cymorth i deuluoedd cyn-filwyr sydd â chyflyrau iechyd meddwl.'
Mae eu datganiad polisi ar berthnasoedd yn amlinellu, er bod cymorth ar gael i gyn-filwyr, mae eu teuluoedd yn aml yn cael eu hanghofio. Maen nhw'n argymell cymorth mwy integredig i deuluoedd mewn gwasanaethau iechyd meddwl cyn-filwyr, a mwy o gyfranogiad gan y teulu wrth bontio o fywyd milwrol i fywyd teuluol. Mae canfyddiadau'r astudiaeth hon yn awgrymu y gallai gwasanaethau fel yr RAVFS helpu i ddarparu'r cymorth coll hwn a galw am gyflwyniad ehangach, efallai i boblogaeth GIG Cyn-filwyr Cymru, ar draws holl fyrddau iechyd lleol Cymru. Rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny.
Diolch. Rwy'n credu bod Mark Isherwood yn codi pwynt pwysig, a byddwch chi'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn darparu llawer iawn o wasanaethau ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus i'n cyn-filwyr, y mae'n amlwg bod arnom ni ddyled o ddiolchgarwch iddyn nhw. Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog gwasanaethau iechyd meddwl yn ymwybodol o'r adroddiad. Efallai pan fydd hi wedi ei ystyried y gallai hi gael sgwrs â'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, i weld a oes modd gwneud unrhyw beth arall.
Trefnydd, dwi'n siŵr bydd nifer o fy nghyd-Aelodau yn ymwybodol, ond mae'r rhestrau aros gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed i bobl gael asesiadau niwroddatblygiadol megis ADHD ac awtistiaeth yn gallu bod yn erchyll o hir, gyda nifer o bobl o fewn ffiniau bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg yn cysylltu â mi am gymorth ar ôl bod yn aros dros ddwy flynedd am asesiad. Golyga hyn fod gyda ni bobl ifanc yn eu harddegau sydd yn mynd i fod yn gorffen eu haddysg cyn eu bod yn cael asesiad, gan olygu eu bod yn colli allan yn llwyr ar gefnogaeth hanfodol ar amser tyngedfennol. A gawn ni ddiweddariad yn y tymor newydd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, neu ei dirprwyon, am y sefyllfa o ran CAMHS yng Nghanol De Cymru a beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau asesiadau o fewn amser rhesymol i blant a phobl ifanc? Nid yw dwy flynedd yn rhesymol, ac mae hyn yn effeithio nid yn unig ar blant a phobl ifanc a'u teuluoedd rŵan, ond hefyd ar eu dyfodol.
Diolch. Wel, rwy'n cytuno; mae dwy flynedd yn amser hir ym mywyd unrhyw un, ond yn sicr ym mywyd person ifanc, ond byddwch chi'n ymwybodol o'r pwysau sylweddol ar ein GIG, nid yn unig yn eich rhanbarth chi ond ledled Cymru ac yn wir y DU. Rwy'n gwybod bod cryn dipyn o waith yn cael ei wneud gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ynghyd â'r byrddau iechyd, mewn cysylltiad â CAMHS, a bod cyllid yn cael ei gyflwyno hefyd.
Erbyn hyn, mae gennym ni gytundeb cydweithredu sy'n nodi diwygiadau sy'n swnio'n uchelgeisiol. Mae symud at wasanaeth gofal cenedlaethol yn syniad diddorol, a hoffwn i chi drefnu amser i'r Dirprwy Weinidog gofal cymdeithasol amlinellu'r hyn y mae gwasanaeth gofal cenedlaethol yn ei olygu, y canlyniadau yr ydym ni'n eu disgwyl i bobl, a rhan llywodraeth leol, sydd wedi brwydro'n galed ers blynyddoedd i ddarparu gwasanaethau o ansawdd da ar adeg o gyfyngiadau cyllidebol tynnach byth. A all y Gweinidog gadarnhau y bydd y gwasanaethau sydd wedi eu comisiynu gan lywodraeth leol y rhai mwyaf modern, neu a ydym ni'n wynebu ad-drefnu mawr o'r hyn y mae llywodraeth leol yn gyfrifol amdano?
Diolch, ac rydych chi'n iawn, mae gwasanaeth gofal cenedlaethol yn rhan o'r cytundeb cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru. Rwyf i o'r farn y bydd manteision enfawr iddo ar gyfer pobl y mae angen gofal arnyn nhw, a bydd yn amlwg yn cefnogi'r gweithlu ymroddedig sydd gennym ni yn y sector.
Byddwch chi'n ymwybodol ein bod ni wedi cyhoeddi £42 miliwn o gyllid yn ddiweddar ar gyfer gofal cymdeithasol. Fe fydd hwnnw'n cael ei ddefnyddio i ehangu gwasanaethau gofal cymdeithasol cymunedol, bydd yn hwyluso'r broses o ryddhau cleifion ysbyty i leoliadau gofal ac yn cefnogi llesiant defnyddwyr ein gwasanaethau gofal cymdeithasol, a bydd â'r fantais hefyd o leihau aildderbyniadau i ysbytai ac yn rhyddhau pwysau ar niferoedd y gwelyau sydd ar gael. Rydym ni'n gwybod bod y galw am ofal cymdeithasol yn cynyddu yn ystod y gaeaf, ac unwaith eto ym mis Medi fe wnaethom ddyrannu £48 miliwn i gefnogi adferiad gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Ar hyn o bryd rydym ni'n edrych ar sut y byddwn yn datblygu'r gwasanaeth gofal cenedlaethol. Mae cyngor gan y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol wedi llywio ein hystyriaethau, ac mae rhai awdurdodau lleol yn gweithio gyda'r sector annibynnol eisoes ar gynyddu cyflogau, ac rwyf i o'r farn bod hynny i'w annog hefyd i raddau helaeth iawn.
Diolch i'r Trefnydd.
Ac felly rydyn ni'n symud ymlaen i'r eitem nesaf, sef eitem 3. Hwn yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar lunio dyfodol Cymru, sef pennu cerrig milltir cenedlaethol, dangosyddion cenedlaethol diwygiedig a chyhoeddi adroddiad 'Tueddiadau'r Dyfodol'. Rwy'n galw ar y Gweinidog felly i wneud y datganiad yma. Jane Hutt.
Diolch, Llywydd. Trwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'i saith nod llesiant, mae gennym ni fframwaith ar gyfer dyfodol Cymru: Cymru gyfiawn yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol, a Chymru y byddem ni'n dymuno ei rhoi yn etifeddiaeth i'n plant a'n hwyrion.
Mae gan bob un ohonom ni ran mewn amddiffyn a gwella ein cenedl. Elfen bwysig o hynny yw ystyried sut yr ydym ni am osod y sylfeini gyda'n gilydd yn awr ar gyfer y Gymru well yr ydym ni'n ei dymuno yn y dyfodol. I Lywodraeth Cymru, mae ein gwaith ni o lunio rhaglen waith Cymru yn y dyfodol yn ymwneud â'n symud ni'n agosach at Gymru sy'n well i bawb. Rydym ni'n gosod cerrig milltir cenedlaethol yng nghyd-destun ein hadferiad parhaus ar ôl pandemig COVID-19 yn ogystal ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau Cymru gryfach, wyrddach a thecach.
Ym mis Chwefror, fe wnaethom ni ymrwymo i fap ffyrdd ar gyfer pennu cerrig milltir cenedlaethol cyntaf Cymru, gan ddiweddaru'r dangosyddion cenedlaethol a chyhoeddi adroddiad 'Tueddiadau'r Dyfodol'. Rwy'n falch iawn o fod yn siarad heddiw wrth i ni gyflawni'r tri ohonyn nhw a chyhoeddi ein hymateb i'r ymgynghoriad a'n dadansoddiad annibynnol.
Uchelgais y Llywodraeth yw i'r cerrig milltir cenedlaethol hyn ysgogi gweithredu cydweithredol a bod yn fesur allweddol o gyflymder a graddfa'r newid sydd ei angen mewn nifer o feysydd allweddol. Yn eu hanfod, eu bwriad yw ysgogi cynnydd sylweddol o ran mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb, ac maen nhw'n adlewyrchu ein penderfyniad ni i wneud hyn. Yn dilyn ein rhaglen ymgysylltu â rhanddeiliaid ac o ganlyniad i'r ymatebion i'n proses ymgynghori ffurfiol, rydym ni wedi mireinio ein cerrig milltir cenedlaethol a'n cyfres o ddangosyddion cenedlaethol, ac rydym ni wedi eu cyflwyno heddiw.
Dirprwy Lywydd, rydym ni'n ymrwymo i ddileu'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ac o ran anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050. Mae gwaith teg a chyfiawnder cymdeithasol wrth wraidd ein gweledigaeth ni o Gymru sy'n cydnabod bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym myd gwaith yn hanfodol i gymdeithas sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial heb unrhyw ystyriaeth o'u cefndir na'u hamgylchiadau. Rydym ni'n gosod targed o 75 y cant o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru i fod â chymwysterau lefel 3 neu uwch erbyn 2050. Rydym ni'n gwybod bod pobl sydd â chymwysterau a sgiliau lefel uwch yn fwy tebygol o fod mewn cyflogaeth barhaus, gydag enillion a chyflog mwy, yn enwedig i'r unigolion hynny o ardaloedd difreintiedig. Oherwydd hyn, rydym ni hefyd yn bwriadu lleihau canran yr oedolion o oedran gweithio nad oes ganddyn nhw ddim cymwysterau i 5 y cant neu'n is ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050.
Mae mynd i'r afael ag anghydraddoldebau sylweddol o'r math hwn rhwng gwahanol ardaloedd yng Nghymru yn un o uchelgeisiau sylfaenol y Llywodraeth hon a byddwn ni'n mesur cynnydd hirdymor drwy gyfrwng y cerrig milltir cenedlaethol. Bydd ein carreg filltir genedlaethol sy'n canolbwyntio ar sicrhau y bydd o leiaf 90 y cant o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050 yn mesur y camau sydd wedi eu cymryd i gefnogi pobl ifanc yn ystod cyfnod tyngedfennol yn eu bywydau. Rydym ni'n gwybod bod cyfnodau o anweithgarwch economaidd yn gynnar ym mywyd gwaith unigolyn yn cael effaith niweidiol, a bod pobl ifanc wedi bod yn arbennig o agored i newidiadau o ran cyflogaeth yn sgil pandemig COVID-19.
Rydym ni'n awyddus i weld pawb yng Nghymru yn cael y cyfle i fod mewn gwaith cynaliadwy o ansawdd da heb unrhyw ystyriaeth i'w hoedran nac ymhle maen nhw'n byw. Dyna pam rydym ni'n ymrwymo i ddileu'r bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a'r DU erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar waith teg a chodi cyfranogiad grwpiau nad oes ganddyn nhw gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur.
Fel Llywodraeth, mae'n rhaid i ni weithredu bob amser i ddiogelu iechyd a llesiant pobl Cymru a'n huchelgais ni yw dileu'r cyfan sy'n rhwystro plant rhag cael y dechrau gorau posibl i'w bywydau o ran iechyd. Rydym ni'n gwybod hefyd fod arferion da mewn plentyndod yn aml yn datblygu yn ddewisiadau iach gwell ymysg oedolion. Dyna pam rydym ni'n gosod targed i gynyddu canran y plant sydd â dau neu fwy o arferion iach i 94 y cant erbyn 2035 a mwy na 99 y cant erbyn 2050.
O feddwl am ein cyfrifoldeb byd-eang ehangach, rydym ni'n ymrwymo i sicrhau y bydd Cymru dim ond yn defnyddio ei chyfran deg o adnoddau'r byd erbyn 2050. Mae hon yn elfen bwysig o'n gweledigaeth ar gyfer datblygu Cymru gynaliadwy a chadarn ac o'n hymateb parhaus ni i'r argyfwng hinsawdd a natur, gan amddiffyn ein hadnoddau naturiol a mwyaf gwerthfawr. Rydym ni'n addo cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net yng Nghymru erbyn 2050 ac mae'r garreg filltir genedlaethol hon yn adleisio'r targedau presennol yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a'i nod yw annog a galluogi pawb yng Nghymru i chwarae eu rhan wrth leihau allyriadau, gan ein bod ni'n gwybod y bydd newidiadau cymdeithasol ac ymddygiadol yn hanfodol i gyflawni ein hamcanion. Byddwn ni hefyd yn parhau i archwilio sut y gellid cyrraedd y targed pwysig hwn yn gyflymach byth.
Rydym ni'n mynegi o'r newydd ein hymrwymiad i ddiogelu a meithrin twf y Gymraeg drwy sefydlu carreg filltir genedlaethol i gefnogi miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae'r Gymraeg yn rhan annatod o'n hunaniaeth a'n diwylliant ni yng Nghymru ac rydym ni wedi ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu i weld yr iaith yn ffynnu a'i hamddiffyn hi.
Ochr yn ochr â'r cerrig milltir cenedlaethol, rwyf i hefyd wedi gosod cyfres wedi ei diweddaru o ddangosyddion cenedlaethol gerbron y Senedd sy'n mesur cynnydd Cymru tuag at y nodau llesiant. O ganlyniad i'r adborth a gawsom yn yr ymgynghoriad, mae'r rhain yn cynnwys mesurau newydd o ran cyfiawnder, teithio, costau tai a chynhwysiant digidol—bob un ohonyn nhw'n faterion y dywedwyd wrthym ni eu bod nhw'n chwarae rhan bwysicach yn ein llesiant cenedlaethol yn awr nag yn y cyfnod cyn y pandemig. Bydd y gyfres estynedig hon o ddangosyddion cenedlaethol yn parhau i'n helpu ni i fesur cynnydd tuag at y saith nod llesiant a'n taith ni tuag at fod yn Gymru decach, wyrddach, a mwy llwyddiannus.
Mae heddiw hefyd yn nodi cyhoeddiad rhifyn diweddaraf adroddiad 'Tueddiadau'r Dyfodol'. Mae'r adroddiad hwn yn dwyn ynghyd mewn un man hygyrch wybodaeth awdurdodol am y tueddiadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol allweddol sy'n debygol o effeithio ar lesiant Cymru yn y dyfodol. Gall gosod y cerrig milltir cenedlaethol, diweddaru ein dangosyddion cenedlaethol, a bwrw golwg o'r newydd ar dueddiadau'r dyfodol sy'n llywio Cymru sicrhau bod y nodau llesiant yn parhau i fod yn berthnasol i fywydau pobl yn awr a'r heriau yr ydym ni'n eu hwynebu heddiw ac yn y dyfodol. Byddwn ni'n rhoi'r diweddariad cyntaf ar y cynnydd tuag at y cerrig milltir cenedlaethol yn adroddiad llesiant Cymru y flwyddyn nesaf, a byddwn yn parhau â'r sgwrs ynglŷn â cherrig milltir cenedlaethol yn 2022 gyda datblygiad yr ail set o gerrig milltir.
Er mwyn i'r cerrig milltir cenedlaethol fod yn llwyddiannus, mae hi'n hanfodol i bob corff cyhoeddus ystyried y ffordd orau y gall gyfrannu atyn nhw. Maen nhw'n rhan bwysig o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac maen nhw'n gosod y sylfeini ar gyfer llwyddiant. Dirprwy Lywydd, rwy'n falch iawn o fod yn cyflwyno'r cerrig milltir cenedlaethol hyn i'r Senedd; cerrig milltir sydd â chyfiawnder cymdeithasol, trechu tlodi, a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn ganolbwynt iddyn nhw. Rwy'n falch ein bod ni, gyda'n gilydd, yn llunio Cymru sy'n fwy cyfiawn, cyfartal a ffyniannus.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Joel James.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi heddiw. Hoffwn i ddechrau drwy wneud ychydig o sylwadau am y don gyntaf o gerrig milltir yn y gobaith o ganolbwyntio ar y sail resymegol y tu ôl iddyn nhw ac yn y gobaith o ddarganfod pam y mae'r Gweinidog o'r farn bod y cerrig milltir hyn yn rhai uchelgeisiol, o ystyried yr amserlen 30 mlynedd.
Yn gyntaf, Gweinidog, o ran y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, y mae gennych chi nod i'w ddileu erbyn 2050, mae'r data sy'n cael eu defnyddio yn aml—ac sydd edi eu defnyddio yn adroddiad 'Llesiant Cymru: 2021' hyd yn oed—yn fesur sy'n seiliedig ar enillion canolrifol llawnamser fesul awr. Mae'r mesur syml hwn yn coladu cyflogau dynion a menywod ac yn eu rhannu â 37 i roi cyfradd fesul awr. Yna mae'n ychwanegu data cyflog fesul awr sydd ar gael ar gyfer nifer bach o fusnesau yn unig. Trwy gynnwys y data hyn, rydych chi'n cael eich canolrif neu werth canol y set ddata.
Ond, y broblem o ran defnyddio'r data hyn yw nad yw hynny'n adlewyrchu cymhlethdod y cysylltiadau cyflogau ar draws sector cyflogedig y gymdeithas. Er enghraifft, nid yw'n ystyried profiad, lefel cymhwystra, hawliau buddion ychwanegol, cysylltiadau pensiwn, ac nid yw'n ystyried proffidioldeb busnesau na safonau'r diwydiant hyd yn oed wrth gymharu cyflogau rhwng swyddogion gweithredol cwmnïau.
At hynny, nid yw'n ystyried ymddygiad y rhywiau. Er enghraifft, a yw dynion yn fwy tebygol o deithio'n bellach na menywod i gael gwaith, ac felly'n gallu bod â swyddi sy'n talu'n well? Beth am amrywiadau daearyddol? A yw'r rhai sy'n byw ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn teithio i Loegr am waith ac felly'n cael cyflogau cyfartalog uwch? A yw menywod yn fwy tebygol o newid eu swyddi na dynion ac, o ganlyniad, yn cael mwy o gyflogaeth ar lefel mynediad? Gall y rhestr fynd yn ei blaen. Ond, yr hyn yr ydym ni yn ei wybod yw bod menywod yn fwy tebygol o fod yn gweithio llai o oriau, yn cefnogi teuluoedd, ac yn cael amser i ffwrdd i gael plant a bod hynny'n cynyddu'r bylchau rhwng y rhywiau yn sylweddol. Ond pa ystyriaeth sy'n cael ei roi o ran a yw hynny'n cael ei adlewyrchu gan ddynion yn y teulu ai peidio, fel gweithio oriau hirach, neu drwy newid swyddi ar gyfer cyflogau uwch i gefnogi eu teuluoedd? Yn y pen draw, mae angen i ni wybod sut y caiff hyn ei ystyried.
Y broblem o ran defnyddio'r garreg filltir hon, yn seiliedig ar ddata crai o'r fath, yw bod y Llywodraeth a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn cyflyru'r gymdeithas—yn enwedig menywod yn y gymdeithas—i feddwl eu bod nhw'n hanfodol yn cael llai o dâl am wneud yr un gwaith â dynion. Ac eto, nid oes gennych chi unrhyw dystiolaeth sylweddol sy'n deall y cymhlethdod o ran y cyflog rhwng y rhywiau, o'r hyn y gallaf i ei weld, i gefnogi hynny mewn gwirionedd. Rwy'n pryderu, wrth barhau i hyrwyddo cau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau heb y data angenrheidiol i gefnogi hynny, eich bod chi mewn gwirionedd yn gwneud mwy o ddrwg na da, drwy greu ymraniad nad yw'n bodoli.
O'ch dadansoddiad amrwd iawn chi, rydych chi wedi adrodd bod menywod yn cael eu talu 1.5 y cant yn fwy, ar gyfartaledd, na dynion am waith rhan-amser, sy'n dangos nad yw menywod yn y gweithle yn cael llai o dâl yn ddefodol. Ond, fel y nodwyd eisoes, mae yna ffactorau llawer iawn mwy cymhleth ar waith, y mae angen eu deall. Felly, o ystyried yr amrywiadau parhaus yn y data, efallai eich bod chi'n cyrraedd eich targedau carreg filltir eisoes, ond hyd nes y byddwch chi wedi mesur gwahaniaethau cyflog rhwng y rhywiau yn gywir a hynny'n adlewyrchu'r cymhlethdod o ran y rhywiau yn y gweithle, ni fyddwch chi byth yn gwybod, sy'n golygu yn y pen draw fod cynnwys y garreg filltir hon yn ddibwrpas.
Yn fy nhyb i, byddai cael cyfradd cyflogaeth o 60 y cant ar gyfer pobl anabl yn garreg filltir fwy ystyrlon. Nawr, byddai honno yn garreg filltir uchelgeisiol. I osgoi amheuaeth, hoffwn i dynnu sylw—ac rwy'n awyddus i'w roi ar gofnod—fy mod i'n credu yn angerddol y dylai pawb gael cyflog cyfartal am waith cyfartal, ni waeth beth fo'u rhywedd, eu hil, eu hanabledd neu eu crefydd. Rwy'n gwneud y sylwadau hyn gan fy mod i, yn anffodus, yn gweld y posibilrwydd y gallai'r Llywodraeth hon ddechrau cynllunio deddfwriaeth yn y dyfodol i gyrraedd ei thargedau, heb eu deall nhw'n iawn.
Yn ail, i ymhelaethu ar y ddadl hon, hoffwn i sôn yn fyr iawn am bwynt sydd wedi ei nodi yn adroddiad 'Llesiant Cymru: 2021', yn yr adran sy'n ymwneud â'r rhywiau, ynglŷn ag addysg. Adroddir bod cyfran uwch o ferched na bechgyn yn cyflawni'r deilliannau disgwyliedig o'r cyfnod sylfaen hyd at gyfnod allweddol 3. Mae merched yn dal i gael gwell canlyniadau addysgol mewn TGAU hefyd, ac mae cyfran uwch ohonyn nhw, rhwng 16 a 18 oed, yn aros mewn addysg amser llawn o'u cymharu â bechgyn. Mae hyn yn wir hefyd am y rhai rhwng 18 a 24 oed.
Yr hyn sy'n fy mhoeni i, a llawer iawn o bobl eraill rwy'n amau, yw a yw gwella addysg merched yn dod ar draul addysg bechgyn ai peidio. Mewn gwirionedd, pe byddai cydbwysedd rhwng y rhywiau, dylech chi bob amser gweld cyfran ychydig yn uwch o ferched neu fechgyn yn ennill graddau uwch mewn unrhyw flwyddyn benodol, ond dros gyfnod penodedig, byddai'r gwahaniaethau hynny'n diflannu ar gyfartaledd. Fodd bynnag, mae'r ffaith eich bod chi'n adrodd am y duedd hon yn golygu ei bod hi'n ymddangos bod dulliau addysgu wedi newid o bosibl i ffafrio merched yn hytrach na bechgyn. Yn bersonol, byddai hi'n dda gen i weld dileu'r bwlch cyrhaeddiad addysgol hwn yn ail don cerrig milltir cenedlaethau'r dyfodol.
Yn drydydd ac yn olaf, rwy'n credu bod ceisio lleihau niferoedd y bobl ifanc 16 i 24 oed nad ydyn nhw mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant yn nod rhagorol. Rwyf i o'r farn bod grymuso pobl ifanc ag egwyddorion gwaith yn hanfodol i'w helpu nhw i gyrraedd eu potensial gorau. Fel gwyddom ni, mae astudiaethau wedi dangos y gall amser a gaiff ei dreulio fel NEET fod ag effaith niweidiol ar iechyd corfforol a meddyliol, a'i fod yn cynyddu'r tebygolrwydd o ddiweithdra, cyflogau isel neu waith o ansawdd isel yn ddiweddarach mewn bywyd. Ond y targed yr ydych chi wedi ei osod ar gyfer 2050 yw lleihau niferoedd y NEET i ddim ond 10 y cant ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed, ac o gofio mai targed 30 mlynedd yw hwn, nid oes fawr o uchelgais yma, yn arbennig o gofio bod y niferoedd presennol o NEET eisoes ar 10.6 y cant yn Lloegr. Gweinidog, nid yw bod â tharged o 10 y cant yn garreg filltir mewn gwirionedd, onid yw hi? Mae'n weddol ddiystyr, o gofio mai'r sefyllfa bresennol yng Nghymru, o 2020, yw bod 13.9 y cant o bobl 16 i 24 oed—
Mae angen i chi ddirwyn i ben nawr.
—yn NEET. Unwaith eto, o ystyried nad yw'r data samplu yn ystyried cymhlethdod y data mewn modd cywir, er enghraifft o ran symudedd cymharol pobl ifanc a'r rhai sy'n mynychu addysg bellach, colegau neu ysgolion annibynnol, fe allai canran y bobl ifanc 16 i 24 oed sy'n NEET mewn gwirionedd fod yn llawer is eisoes ac, mewn theori, efallai fod wedi cyrraedd y targed yn barod. Mae hyn yn awgrymu nad oes gan y Llywodraeth lawer o syniadau, ei bod yn pennu targedau y mae'n rhagweld y gall eu cyrraedd yn hawdd fel na ellir ei beirniadu am fethu, ac yn y pen draw, y cyfan y mae'n ei wneud yw esgus gwella bywydau unigolion ledled y wlad.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gyda hynny mewn golwg, hoffwn i achub ar y cyfle i ddymuno pen-blwydd hapus iawn i'r Gweinidog, gan fy mod i'n credu mai yfory yw hynny. Diolch i chi.
Diolch yn fawr iawn i chi, Joel, a diolch i chi am eich dymuniadau da. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n rhoi pam yr ydym ni'n datblygu'r cerrig milltir cenedlaethol hyn yn ei gyd-destun. Maen nhw'n pennu ein disgwyliadau o ran cynnydd yn ôl y dangosyddion cenedlaethol, ac maen nhw yn ein helpu i ddeall maint a chyflymder presennol y newid, ac a ydym ni ar y trywydd iawn. Rwy'n credu mai'r peth pwysicaf am ein sefyllfa ni heddiw, wrth i mi wneud y datganiad hwn, yw ei bod hi'n deillio o ymgynghori helaeth, ymgynghoriad ag ymateb da. Rwy'n credu eu bod nhw i gyd wedi eu cyhoeddi heddiw—rydych chi wedi gweld yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Mae'r ymgynghoriad hwnnw yn nodi cynigion ar gyfer y naw carreg filltir genedlaethol yr ydym ni'n eu hystyried heddiw, sy'n cynorthwyo Gweinidogion Cymru, a phob corff cyhoeddus hefyd, i asesu cynnydd tuag at y nodau llesiant.
Roedden nhw'n sylwadau diddorol, yn fy marn i, ynghylch dileu'r bwlch cyflog—sylwadau diddorol sydd, o ran yr ymatebion i'r ymgynghoriad, yn awgrymu bod cefnogaeth frwd iawn i amcan a phwyslais y garreg filltir genedlaethol hon, gyda 95.4 y cant o'r ymatebion yn cytuno â'r ymateb cyffredinol. Rwy'n credu os byddwch chi'n edrych ar ganlyniad yr ymgynghoriadau, daeth yr ymatebion o'r trydydd sector, er enghraifft—daeth cyfran fawr o'r trydydd sector, tua thraean o'r ymatebion, daeth y sector cyhoeddus, yn ogystal ag unigolion, addysg uwch, undebau llafur, amrywiaeth eang o randdeiliaid eraill ymlaen i ymateb i'r ymgynghoriad. Ond byddaf i yn dweud, o ran y materion penodol ynglŷn â'r bwlch cyflog, fod hyn yn bwysig iawn o ran dileu'r bwlch cyflog, ac mae hi'n bwysig ei fod ymwneud ag ethnigrwydd yn ogystal ag anabledd. Fe wnaethoch chi ganolbwyntio ar faterion y rhywiau. Rwyf i o'r farn ei fod hefyd yn ymwneud â chydnabod ein bod ni'n gweithio i sicrhau data mwy cadarn a dibynadwy ar y bwlch cyflog, ac yn enwedig ar gyfer yr holl nodweddion gwarchodedig, gan fy mod i'n gwybod, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, eich bod chi'n awyddus i sicrhau bod hyn yn ymwneud â chael ymateb teg a chyfiawn i'r garreg filltir hon o ran dileu bylchau cyflog, sy'n hanfodol bwysig fel y gwyddom ni. Byddwn ni bob amser yn ailedrych ar gerrig milltir wrth i ddata ddod ar gael, yn arbennig o ran y nodweddion gwarchodedig.
Mae hyn yn ymwneud ag ymdrechu ar y cyd. Ie, i lawer, efallai fod 2050 yn ymddangos yn bell i ffwrdd, ond mae'n gymaint o fater gan fod y bwlch cyflog mor sefydledig fel na allwn ei ddatrys dros nos. Nid oes gennym ni'r holl ysgogiadau polisi, fel cyfraith cyflogaeth, sydd wedi ei chadw, ac mae yna lawer iawn o ffactorau economaidd-gymdeithasol ehangach hefyd o ran cyflawni'r cerrig milltir. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n falch iawn o glywed ein bod ni'n sefydlu uned data cydraddoldeb, ac yn gweithio gyda dadansoddwyr eraill i ystyried gwella'r dystiolaeth o ran y data sydd eu hangen. Ond byddwn i'n dweud, yn enwedig o ran dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, fod adolygu hynny, gan weithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, EHRC Llywodraeth y DU, yn hanfodol bwysig. Rydych chi wedi canolbwyntio ar y rhywiau. Ym mis Ebrill 2021, roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru, ar sail enillion canolrifol llawnamser fesul awr, yn 5 y cant, a heb newid ers 2020. Ar gyfer gweithwyr rhan-amser yng Nghymru, y bwlch cyflog rhwng y rhywiau oedd 0 y cant, ac o'r 11 o wledydd a rhanbarthau yn y DU lle mae dynion yn ennill mwy na menywod, Cymru sydd â'r bwlch cyflog lleiaf ond un. Ond mae gennym ni fwlch cyflog mawr o ran anabledd, ac rwy'n siŵr eich bod chi'n cydnabod hynny. Yn ogystal â hynny, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â bwlch cyflog ethnigrwydd hefyd.
Rwy'n falch eich bod wedi canolbwyntio, hefyd, ar y garreg filltir i gael o leiaf 90 y cant o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050. Dyma le mae angen i ni edrych hefyd ar y rhagolygon nid yn unig ar gyfer cynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 2018, ond gan gydnabod hefyd y bydd cyflogadwyedd ein pobl ifanc yn gwella'n fawr o ganlyniad i'r warant i bobl ifanc ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig hefyd. Ond yr hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n edrych ar y gyfres o arolygon blynyddol y boblogaeth, a gaiff ei dadansoddi yn ôl oedran ac anabledd, ac edrych ar hyn o ran rhywedd, oedran, anabledd, ethnigrwydd. Mae'n rhaid i ni edrych ar y materion o ran cydraddoldeb, hefyd, i gyflawni hyn. Byddwn ni'n edrych, rwy'n siŵr, ar adroddiad 'Llesiant Cymru' y flwyddyn nesaf, oherwydd bydd hwnnw wrth gwrs yn dechrau nodi a ydym ni'n gweld unrhyw gynnydd a sut yr ydym yn gwneud cynnydd—a hynny ar gyfer Cymru gyfan; ein holl gyrff cyhoeddus—o ran y cerrig milltir cenedlaethol hyn.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r dyhead i greu Cymru gyfiawn yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol, y weledigaeth y mae'r Gweinidog wedi ei datgan, yn llywio'r fframwaith sydd wedi ei ategu gan y cerrig milltir a'r dangosyddion sydd wedi eu cyhoeddi heddiw, ac mae'n rhywbeth yr wyf i'n siŵr y gall Aelodau o bob plaid gytuno arno. Ond mae'r dyfodol, wrth gwrs, yn ansicr, gyda'r pandemig sy'n parhau o hyd ac effeithiau newid yn yr hinsawdd, er enghraifft, dau ffactor yn unig sy'n newid ein rhagolwg ar y dyfodol hwnnw a'n gallu i'w llunio.
Os mai nod y cerrig milltir cenedlaethol yw pennu llwybr ar gyfer cynnydd Cymru, gan ddefnyddio'r mesurau a fydd yn sicrhau bod y polisïau y mae'r Llywodraeth yn eu gwneud yn gweithio tuag at y Gymru gryfach, decach a gwyrddach honno, yna mae'n rhaid i ni eu gweld nhw nid yn unig yn llywio polisi ond yn amlwg yn y canlyniadau hefyd. Dylai nod y cerrig milltir cenedlaethol fod i ddangos i bobl Cymru pa gynnydd y mae angen ei wneud o ran y nodau llesiant a'r hyn sy'n cael ei gyflawni, a bod yn fodd i gyfathrebu hefyd sy'n caniatáu i'r cynnydd hwnnw fod yn amlwg yn ein bywydau bob dydd.
Pan fo cymaint o bolisïau'r Llywodraeth yn cael eu cyflawni gan awdurdodau lleol, efallai mai'r darlun lleol yn hytrach na'r un cenedlaethol sydd fwyaf ystyrlon yn aml. Mae'r garreg filltir genedlaethol i greu 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, er enghraifft, sydd wedi ei mynegi eto heddiw, yn cael ei thanseilio mor aml gan gynllunio gwael a diffyg uchelgais ar lefel leol o ran darpariaeth addysg Gymraeg. Mae'r Gweinidog wedi cydnabod yr anghydraddoldebau sylweddol rhwng gwahanol ardaloedd Cymru, ac mae yna wahaniaethau hefyd o ran y cyflawni sy'n cyfrannu at hyn. A allai setiau data lleol o fewn y dangosyddion ganiatáu i bobl gymharu a chyferbynnu perfformiad yn eu hardaloedd nhw eu hunain a gadael iddyn nhw farnu a yw'r ymdrechion cenedlaethol i lunio'r Gymru y mae llawer ohonom ni'n dymuno ei gweld yn arwain at newid yn eu cymunedau lleol? A wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni sut y caiff y darlun lleol, neu sut y gallai'r darlun lleol, gael ei adlewyrchu yn y dangosyddion a'r rhaglen waith ehangach i Lywio Dyfodol Cymru?
Rwy'n croesawu'r ymrwymiad o ran y targed sero net, sydd wedi ei gynnwys, wrth gwrs, yn y cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, ac rwy'n annog i'r gwaith i gyflymu'r targed hwnnw y soniodd hi amdano fod â blaenoriaeth lawn, gan gynnwys datganoli rhagor o bwerau a allai ein galluogi i'w gyrraedd yn gyflymach, oherwydd efallai mai dyma darged pwysicaf ein hoes ni. Rwyf i hefyd yn croesawu'r ymgais i fynd i'r afael â mater y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ac anghydraddoldeb mewn cyflogaeth. Er hynny, gan mai un o'r nodau llesiant yw Cymru fwy cyfartal ac mae lles menywod yn ymestyn y tu hwnt i gynhwysiant economaidd, a allai'r Gweinidog amlinellu sut y caiff diogelwch menywod a'r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol eu cynnwys yn adroddiad 'Tueddiadau'r Dyfodol', polisïau'r dyfodol, a'r dull hwn o lywio dyfodol Cymru?
Mae'r bwlch cyflogaeth i bobl anabl yng Nghymru wedi aros o gwmpas 30 y cant ers dros ddegawd. Yn y cyfamser, mae tuedd i weithwyr anabl ennill llai na phobl nad ydyn nhw'n anabl, ac mae hyn wedi aros yn yr unfan ers nifer o flynyddoedd. Rwy'n falch o glywed y Gweinidog yn cyfeirio at hynny heddiw yn ei datganiad a'i hymateb i Joel James, oherwydd rydym ni'n gwybod bod pobl anabl yn wynebu costau byw llawer uwch oherwydd eu hanableddau neu eu cyflyrau, sy'n gwneud y nod hwn o ddileu'r bwlch cyflog anabledd yn bwysicach byth. O gofio mai dim ond yn 2019 y cafodd y bwlch cyflog anabledd ei ychwanegu at ddangosyddion llesiant cenedlaethol Cymru, beth mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud i ddileu'r mater treiddiol hwn yn unol â'r nodau llesiant cenedlaethol?
Ym mis Rhagfyr 2020, canfu'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol nad oedd ystyriaethau ar gyfer pobl anabl yn cael eu cynnwys mewn strategaeth a pholisi trafnidiaeth yng Nghymru. Felly, rwy'n falch o glywed bod mesurau newydd ynglŷn â theithio wedi eu cynnwys o ganlyniad i adborth yr ymgynghoriad. Ar hyn o bryd, nid yw'r system drafnidiaeth yng Nghymru o safon ddigonol ar gyfer anghenion pobl Cymru, nac ar gyfer targedau sero net, a dyna pam mae hi'n bwysig ei bod yn cael ei chynnwys yn un o'r dangosyddion erbyn hyn. Serch hynny, fe ddylai unrhyw ddangosydd ynghylch teithio ystyried hygyrchedd a dibynadwyedd i bobl anabl hefyd, oherwydd bydd hyn yn allweddol ar gyfer sicrhau cynhwysiant economaidd a chymdeithasol. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog roi sicrwydd i ni fod hyn yn wir? Diolch.
Diolch yn fawr, Sioned Williams. Diolch i chi am y gefnogaeth i'r rhaglen uchelgeisiol iawn hon, i sicrhau ein bod ni yn bwrw ymlaen â hyn o ran y weledigaeth sydd gennym ni o Gymru decach, fwy cyfiawn a gwyrddach. Oherwydd bod hyn yn ymwneud â chenedlaethau'r dyfodol. Yn wir, mae datganiad heddiw yn arwyddocaol iawn. Dyma'r cerrig milltir cenedlaethol cyntaf erioed yr ydym ni'n adrodd arnyn nhw heddiw, yr ydym ni'n eu datgan heddiw, a fydd yn ein harwain ni, Gymru gyfan. Rwy'n credu bod eich pwynt mai cerrig milltir cenedlaethol yw'r rhain, i ddwyn rhywfaint o gysondeb ar lefel leol, lle rydym ni yn gweld y ffaith bod angen i ni ymgysylltu drwy ein cyrff cyhoeddus sydd â'r dyletswyddau llesiant drwy—yn wir, hefyd, drwy'r gwaith y maen nhw'n ei wneud drwy eu byrddau gwasanaethau cyhoeddus gyda'u partneriaid, oherwydd nid un corff cyhoeddus yn unig a fydd yn gwneud y gwahaniaeth.
Mae sefydlu'r cerrig milltir cenedlaethol hynny i Gymru, ochr yn ochr â'r dangosyddion cenedlaethol, yn cynnig mecanwaith cadarn i gynorthwyo Gweinidogion, yn enwedig wrth fonitro cynnydd cenedlaethol. Mae hynny'n hollbwysig o ran yr holl gerrig milltir a'u hamcanion i gyflawni ein saith nod llesiant. Ond mae hi'n hanfodol bod gan y cyrff cyhoeddus hynny y llwybr clir hwnnw hyd at 2050, ac yn uno gyda gweledigaeth unedig iawn i weithio tuag ati. Wrth gwrs, mae hi hefyd yn bwysig ein bod ni'n gallu adeiladu ar hyn o ran ein cytundeb cydweithredu ni, oherwydd bod y rhaglen lywodraethu yn cynnwys llawer iawn o feysydd polisi a fydd yn ein helpu i lwyddo i gyrraedd y cerrig milltir hollbwysig hyn. Mae rhai o'r ymrwymiadau hyn wedi eu hadlewyrchu erbyn hyn yn y cerrig milltir cenedlaethol hyn, wrth gwrs, a gafodd eu pennu cyn, mewn gwahanol ffyrdd, ein cytundeb cydweithredu, ond nawr fe allwn ni adeiladu arnyn nhw, rwy'n gwybod, o ran y ffordd ymlaen.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn eich bod chi'n codi rhai materion penodol. Mae'r materion sy'n ymwneud â sero net yn hollbwysig o ran y ffordd ymlaen, a'r ffaith ein bod ni'n galluogi hynny i fod yn rhywbeth yr ydym ni am fynd i'r afael ag ef i fod yn rhywbeth y caiff ei adeiladu arno mewn gwirionedd o ganlyniad i'n hymgynghoriadau. Mae'r ymgynghoriadau a ddaeth drwodd ar gyfer y cerrig milltir cenedlaethol yn eglur iawn hefyd, byddwn i'n ei ddweud, o ran bod Cymru yn defnyddio ei chyfran deg yn unig o adnoddau'r byd erbyn 2050. Mae hon yn garreg filltir hollbwysig i'w chysylltu â'n huchelgais sero net. O ran cyflawni hynny, mae'n rhaid i ni edrych ar hynny o ran y cyfleoedd sydd gennym ni. Mae hynny'n eglur. Dyma gyngor diweddaraf ein cynghorwyr arbenigol, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, ac mae wedi ei gynllunio yn benodol i adlewyrchu'r uchelgais mwyaf posibl, ond mewn gwirionedd yn mynd â hyn ymhellach gyda'r dystiolaeth y byddwn ni'n ei cheisio a'r dystiolaeth y mae angen i ni ei chael. Bob pum mlynedd, mae hi'n ofynnol i ni eisoes, wrth gwrs, gyhoeddi cynlluniau cyflawni pellach sy'n disgrifio yn fanwl ac yn effeithiol sut y byddwn yn cyflawni ein nod sero net. Mae hi mor bwysig bod gennym ni hynny mewn statud, onid yw, ein bod ni'n gallu mynd i'r afael â hyn a bwrw ymlaen â hyn.
Ac rwy'n falch iawn hefyd eich bod chi wedi canolbwyntio ar y bwlch cyflog anabledd. Rwyf i wedi ymateb i rai o'r materion sy'n ymwneud â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ond, wrth edrych ar y bwlch cyflog anabledd, gyda dadansoddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod bwlch cyflog anabledd yng Nghymru o 9.9 y cant yn 2018, mae hynny'n golygu bod pobl anabl yng Nghymru yn ennill ar gyfartaledd 9.9 y cant yn llai bob awr na phobl nad ydyn nhw'n anabl. Mae hwnnw'n llai, mewn gwirionedd, y bwlch cyflog, mae'n llai nag ar gyfer y DU gyfan, ac, mewn gwirionedd, hwnnw oedd y pumed lleiaf o 12 gwlad a rhanbarth y DU. Ond mae gennym ni gryn bellter i'w deithio o ran cau'r bwlch cyflog hwnnw, ac, yn amlwg, dyna le mae'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud o ran y tasglu hawliau anabledd, sy'n cyfarfod bellach—. Ac, wrth gwrs, un o'r pwyntiau a wnes i yn fy natganiad ynglŷn â'r cerrig milltir cenedlaethol yw eu bod wedi eu datblygu yng ngoleuni'r pandemig, yng ngoleuni'r ddealltwriaeth o'r anghydraddoldebau cynyddol a fu i'r rhai mwyaf difreintiedig. A dyna pam mae cysylltu anghydraddoldeb, a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb, o ran ei effaith ar sut mae hynny'n dylanwadu ar ein cerrig milltir cenedlaethol, mor bwysig.
Ac rwy'n falch hefyd eich bod wedi cydnabod bod rhai cyfleoedd i'w cael gyda'r dangosyddion newydd. Bu ymgynghoriad helaeth yn arwain at ganlyniad heddiw—ymgynghoriad helaeth â'n rhanddeiliaid. Rwyf i wedi disgrifio eisoes sut y gwnaeth pobl gymryd rhan. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig iawn yw ein bod ni, er enghraifft, wedi defnyddio'r grŵp cynghori ar hawliau plant hefyd; cawsom ni sesiwn gyda phanel o bobl ifanc. Fe wnaethon nhw i gyd ymgysylltu â hyn, yn ogystal â gweminarau cyhoeddus a chydlynwyr byrddau gwasanaethau cyhoeddus.
Ond, o ran y dangosyddion newydd, yn enwedig o ran teithio, nid canran y teithiau a wneir drwy gerdded, beicio neu drafnidiaeth gyhoeddus, wedi ei chynnwys ar hyn o bryd, mewn trafnidiaeth, hynny yw, o ran y dangosyddion cenedlaethol. Felly, mae hwn yn fwlch y mae angen i ni ei lenwi, ond mae hyn yn ymwneud â sut rydym ni am symud at ddulliau teithio mwy cynaliadwy o ran datgarboneiddio ac iechyd corfforol. Ond yna, wrth gwrs, mae angen i ni edrych ar faterion fel hygyrchedd trafnidiaeth, a chwalu'r rhwystrau penodol hynny, a fydd yn cael sylw yn ein tasglu anabledd, oherwydd yr hyn sy'n allweddol i hyn i gyd, ac sy'n sail i'r hyn yr ydych chi wedi ei ddweud, yw bod hyn yn ymwneud â nodau llesiant sy'n ymwneud â Chymru fwy cyfartal, yn ogystal â Chymru iachach, Cymru gydnerth, a Chymru ffyniannus.
A dyna le mae cyflwyno'r dangosyddion cenedlaethol newydd wedi bod mor bwysig. Felly, o ganlyniad i hyn, dylai hyn gynnwys mwy o gydlyniad cenedlaethol o ran bwrw ymlaen dwyn i gyfrif o ganlyniad i'r cerrig milltir cenedlaethol sy'n gysylltiedig â'r dangosyddion. Bydd hyn yn gosod cyfrifoldeb ar ein hawdurdodau lleol, ein byrddau gwasanaethau cyhoeddus, ond hefyd ar bawb sy'n ymwneud â darparu'r cyfleoedd y mae deddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn eu cynnig.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Rwy'n credu bod cyhoeddi'r cerrig milltir hyn yn gam cyffrous iawn, o ran rhoi'r ymdeimlad o ganolbwyntio a bod â ffon fesur i'w defnyddio i fesur y cynnydd. Felly, mae gen i rai cwestiynau ynghylch y cerrig milltir hynny. Yn gyntaf, rwy'n croesawu'r ymrwymiad i darged o 75 y cant o oedolion o oedran gweithio i fod yn gymwys hyd lefel 3 neu uwch erbyn 2050. Serch hynny, sut ydym ni am sicrhau bod pwyslais hefyd ar y prentisiaethau lefel 2 hynny, sydd yn aml yn borth i gymwysterau lefel 3 ac uwch?
Yn ail, rwyf i hefyd yn croesawu'r bwriad i leihau canran yr oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau i 5 y cant neu is erbyn 2050. Hoffwn i wybod a fyddai hyn yn cynnwys unrhyw bwyslais ar gynyddu'r ddarpariaeth o ddosbarthiadau sgiliau sylfaenol i oedolion yn y gymuned. Mae wedi ei brofi bod cyrsiau yn y lleoliadau hyn yn hollbwysig i ymgysylltu â'r rhai sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur, felly mae ganddyn nhw ran allweddol, yn fy marn i, wrth gyrraedd y garreg filltir hon.
Ac, yn olaf, mae hefyd yn gadarnhaol gweld y targed i gynyddu canran y plant sydd â dau neu fwy o arferion iach i 94 y cant erbyn 2035, a phob un erbyn 2050. Gweinidog, yn y cyd-destun hwn, a fydd pwyslais penodol ar ferched yn eu harddegau, gan fod ymchwil yn dangos yn gyson mai dyma'r grŵp sydd fwyaf tebygol o roi'r gorau i gymryd rhan mewn chwaraeon wedi eu trefnu, yn aml oherwydd pwysau cyfoedion a diffyg hunan-barch? Diolch i chi.
Diolch yn fawr iawn, Vikki Howells. Oes, mae yna gyfleoedd pwysig iawn, o ran y cerrig milltir cenedlaethol hyn, i sicrhau bod gennym ni lawer mwy o degwch o ran y gallu i ennill cymwysterau a chyflogaeth. Bydd saith deg pump y cant o oedolion o oedran gweithio yn gymwys hyd at lefel 3 neu uwch erbyn 2050, gan ein bod ni'n gwybod, gyda chymwysterau lefel uwch, fod rhywun yn llawer mwy tebygol o fod mewn cyflogaeth barhaus, ag enillion a chyflogau mwy hefyd. Ond rydym ni'n gwybod bod yn rhaid i ni ymestyn allan i'r rhai sydd bellaf i ffwrdd o'r cyfle i ennill y sgiliau a'r cymwysterau hynny a phyrth i swyddi sgiliau uwch.
Ac rwy'n credu, os gwnewch chi edrych ar rai o'r lefelau cymwysterau, gan fynd yn ôl i'r cwestiynau blaenorol ynghylch sicrhau bod mwy o gysondeb, yn ogystal â phwyslais daearyddol, ein bod ni'n gallu canolbwyntio ar y rhai y mae angen yr hwb a'r mewnbwn mwy arnyn nhw hefyd, ac yn arbennig o ran y pwyntiau a wnaethoch chi—. Oherwydd bod yn rhaid i ni sicrhau mai pob awdurdod lleol yw hyn—canran yr oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau 5 y cant neu'n is; mae pwyslais gwirioneddol ar yr awdurdodau lleol ar gyfer hyn. Ceir amrywio sylweddol. Mae'r cyfrannau uchaf o ran y rhai hynny heb gymwysterau i'w gweld yng nghymoedd y de, yn aml. Ac o ran cyfartaleddau cenedlaethol, dyna y mae angen i ni geisio amdano, er mwyn symud ymlaen. A byddwn yn gweld y gyfran heb unrhyw gymwysterau—bron i bum gwaith yn uwch ar gyfer oedolion sy'n byw yn y 10 y cant o gymdogaethau mwyaf difreintiedig. Felly, bydd y strategaeth cyflogadwyedd y byddwn ni'n ei chyhoeddi yn ystod y gwanwyn yn canolbwyntio llawer mwy ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau, darparu cymorth drwy gyfrifon dysgu personol ac, yn fy marn i, ein gwarant i bobl ifanc, a fydd yn hollbwysig i bobl dan 25 oed, fel y gwyddoch chi, ac rydych chi wedi mynegi eich cefnogaeth o ran y materion hynny.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn hefyd eich bod chi'n sôn am y cynnydd yng nghanran y plant sydd â dau neu fwy o arferion iach i 94 y cant. Ac mae hyn yn ddiddorol, oherwydd rwyf i wedi sôn y bu panel hawliau plant—daeth Cymru Ifanc â phobl ifanc at ei gilydd. Ac o ganlyniad i'r ymgynghoriad, mae'r dangosydd cenedlaethol wedi ei fynegi o'r newydd yn gadarnhaol i ganiatáu pwyslais ar y bobl ifanc nad ydyn nhw'n cynnal unrhyw arferion iach neu dim ond un. Mewn gwirionedd, mae hi hefyd yn bwysig iawn sicrhau bod camau y gellir eu cymryd i ymestyn allan i'r bobl ifanc hynny, yn arbennig menywod ifanc. Felly, materion yw'r rhain sy'n ymwneud â chamau gweithredu sydd gennym ni eisoes, o ran 'Pwysau Iach: Cymru Iach', er enghraifft, sy'n cynnig ystod lawer mwy o faterion i helpu i newid ymddygiad deietegol y boblogaeth. Mae gweithgarwch corfforol, wrth gwrs, yn hollbwysig yn hynny o beth. Ond mae'n ymwneud â sicrhau ein bod ni'n buddsoddi yn ein rhaglen i gyfoethogi gwyliau'r ysgol, yn y gemau stryd yr ydym ni wedi buddsoddi ynddyn nhw, y gronfa chwaraeon cymunedol, ac edrych ar hyn o safbwynt y bobl ifanc hefyd, a dyna pam roedd panel Cymru Ifanc mor bwysig. Diolch i chi.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Nid yw'r un o'r ddwy ohonom ni'n debygol o fod o gwmpas i gael ein holi yn 2050, felly—. Mae hyd yn oed eich targed ar gyfer 2035 ar gyfer gwella arferion iach pobl ifanc 13 mlynedd i ffwrdd. Felly, hoffwn i ofyn i chi ehangu ychydig ar sut yr ydym ni am gael naw o bob 10 o blant yn mabwysiadu dau neu fwy o arferion iach. Rwy'n sylweddoli bod prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd ac ymestyn gofal plant i blant dwy flwydd oed yn fannau cychwyn da. Ond mae adroddiad Meilyr Rowlands ar aflonyddu rhywiol gan gyfoedion, a gyhoeddwyd gan Estyn yr wythnos diwethaf, yn annifyr iawn i'w ddarllen, ac mae hi'n amlwg bod llawer iawn o waith i'w wneud i ddofi agweddau niweidiol ar dechnoleg newydd, yn enwedig ymgysylltu â rhieni a'u hannog nhw i beidio â rhoi'r offer sy'n caniatáu i bornograffi ar-lein fod ar gael i bobl ifanc.
Yn yr un modd, os ydym ni am gael tri chwarter neu fwy o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru yn gymwys hyd at lefel 3, sut bydd hynny yn llywio'r un lefel o sylw y mae angen i ni ei roi i sgiliau technegol, yn hytrach na sgiliau academaidd, yn enwedig o ran sut y mae ysgolion yn hyrwyddo pwysigrwydd y sgiliau hynny? A sut bydd hyn yn llywio'r mesurau yr ydym ni'n eu defnyddio i asesu effeithiolrwydd neu werth ychwanegol ysgolion, yn hytrach na'i bod ychydig yn fwy ar hap na hynny, o ran nifer y plant difreintiedig a allai fod mewn ysgol benodol? Felly, rwy'n credu, yn amlwg—
Mae angen i chi ddod i ben nawr.
—dyma ddechrau'r ddadl, ond, rwy'n credu, pe gallech chi ddweud ychydig mwy am sut y byddwn yn gwella iechyd a lles pobl ifanc mewn gwirionedd, byddai hynny'n fuddiol.
Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. Ydy, mae 2050 yn teimlo'n bell i ffwrdd, ond mewn gwirionedd yr hyn sydd mor bwysig yw beth rydym ni'n ei wneud o flwyddyn i flwyddyn, a sut rydym ni'n cael ein dwyn i gyfrif a sut y gallwn ni ddefnyddio'r cerrig milltir cenedlaethol a'r dangosyddion cenedlaethol i olrhain cynnydd. Dyna pam mae gennym ni sail statudol i hyn. Byddwn i'n annog cyd-Weinidogion ac Aelodau i edrych ar adroddiad 'Tueddiadau'r Dyfodol', oherwydd bod hynny, unwaith eto, yn ddyletswydd statudol, sydd wedi ei chyhoeddi heddiw, ac mewn gwirionedd mae'n helpu ac yn cefnogi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yng Nghymru, fel y mae'n ei ddweud, i edrych i'r tymor hwy. Dyma'r adroddiad statudol cyntaf—wel, cafodd yr adroddiad cyntaf o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yr adroddiad 'Tueddiadau'r Dyfodol' cyntaf, ei gyhoeddi yn ôl ym mis Mai 2017, ond mae yn rhoi syniad eglur i ni mewn gwirionedd o'r ffordd ymlaen o ran tueddiadau'r dyfodol y mae angen i ni gysylltu â nhw o ran gwneud cynnydd pwysig hwnnw. Mae hefyd yn tynnu sylw at yr hyn y dylem ni fod yn edrych arno, o ran y tueddiadau hynny yn y dyfodol, i'n galluogi i fynd i'r afael â'r cynnydd. Ac rwy'n credu eich bod chi'n canolbwyntio, yn gwbl briodol, ar ein pobl ifanc a'r genhedlaeth honno, wrth i ni symud ymlaen. Rwyf i wedi ymateb i'r materion sy'n ymwneud ag arferion iach ein pobl ifanc, ac mae angen i ni ymgysylltu â'n pobl ifanc a'n hysgolion, a bydd y cwricwlwm newydd, wrth gwrs, yn ein helpu i symud ymlaen yn y cyswllt hwnnw.
Ond rwy'n credu, o ran canran yr oedolion o oedran gweithio sydd wedi eu cymhwyso i lefel 3 neu uwch erbyn 2050, y bydd hyn yn cael ei arwain gan ein strategaeth cyflogadwyedd newydd i raddau helaeth, ac yn edrych ar y cyfleoedd sydd ar gael i'n pobl ifanc ar gyfer sgiliau mewn byd newidiol. Mae hynny mewn gwirionedd yn ymwneud â chynyddu ein cymorth ar gyfer sgiliau sylfaenol, sgiliau sylfaen a digidol, a helpu unigolion i gael y sgiliau ar gyfer y byd newidiol yr ydym ni ynddo, gan gynyddu hyblygrwydd y gweithlu, ond ein dysgwyr ifanc wedyn, i ddatblygu'r sgiliau a chael rhai newydd. Ond mae hi, yn amlwg—. O ran yr ymatebion a gawsom ni i'r ymgynghoriad, ystyrir bod hwn yn ganllaw cryf nid i'r Llywodraeth yn unig, ond i'n cyrff cyhoeddus allu canfod y ffordd ymlaen.
Ac rwyf i wedi sôn hefyd am y ffaith ein bod ni wedi newid ein cerrig milltir, yn enwedig o ran arferion iach, i adlewyrchu dull mwy cadarnhaol. Ac rwy'n credu bod cyfranogiad pobl ifanc yn hollbwysig. Mae'n bwyslais ar ddatblygu targedau ac ymyriadau ar gyfer yr arferion allweddol ym mywyd person ifanc, gwelliannau ar lefel ymddygiad, ond yn dangos hefyd, yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig, fod yn rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n canolbwyntio ar annhegwch, a'r rhai hynny sydd wedi eu gwaethygu yn arbennig sgil y pandemig. Ond a gaf i ddweud ein bod ni'n archwilio opsiynau ar gyfer ymchwil i gael gwell dealltwriaeth o'r ysgogiadau a fydd yn sicrhau ein bod ni'n gallu helpu ein pobl ifanc i allu mabwysiadu'r arferion iach hynny a fydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i'w bywydau, ond bydd yn rhaid i hynny fod o ganlyniad i ymyrraeth i fynd i'r afael â thlodi. Ac, fel rydych chi'n ei ddweud, mae'n debyg mai darparu ymyrraeth blynyddoedd cynnar o ran gofal plant a phrydau ysgol am ddim yw dau o'r penderfyniadau allweddol pwysicaf yr ydym ni'n gwybod amdanyn nhw ac yr ydym yn gobeithio y byddan nhw'n cael eu gwireddu o ran ein cyllideb a'n cytundeb cydweithredu.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf yw datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar Fil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu). Galwaf ar y Gweinidog, Rebecca Evans.
Diolch. Ddoe, gosodais i Fil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu), ynghyd â'r memorandwm esboniadol, gerbron y Senedd. Mae datganoli trethi yn bwysig; mae'n darparu ysgogiad sylweddol i sicrhau ein bod yn gallu cyflawni blaenoriaethau strategol yn well i ddinasyddion a busnesau Cymru. Mae'r pedair blynedd diwethaf o brofiad o ddatganoli trethi wedi galluogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu gallu treth sylweddol. Rydym ni wedi sefydlu dull penodol i Gymru o lunio polisi treth ac o gyflawni'r polisi hwnnw gan Awdurdod Cyllid Cymru. Mae ein dull gweithredu yn cadw blaenoriaeth ar anghenion dinasyddion, cymunedau a busnesau Cymru.
Mae'r Bil hwn yn darparu ysgogiad cyllidol ychwanegol drwy ganiatáu i Weinidogion Cymru wneud gwelliannau mewn ymateb i newidiadau a wneir gan Lywodraeth y DU i drethi blaenorol y DU—hynny yw, i dreth dir y dreth stamp a'r dreth tirlenwi—a fydd yn effeithio ar addasiad grant bloc Cymru, ac felly'r refeniw sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Ar hyn o bryd, bob tro y mae digwyddiad cyllidol yn y DU, rydym ni'n cymryd y risg y gallai fod newid sy'n effeithio ar dreth ddatganoledig, ac efallai nad oes gennym ni'r mecanwaith priodol i ymateb yn gyflym. Gallai newidiadau o'r fath gael goblygiadau i fusnesau, y farchnad eiddo, ac effaith gyllidebol uniongyrchol ar adnoddau Llywodraeth Cymru.
Cafodd hyn ei ddangos ym mis Gorffennaf 2020 pan na ddywedodd Llywodraeth y DU wrthym ni ymlaen llaw eu bod yn torri treth dir y dreth stamp, er gwaethaf y goblygiadau clir i'r farchnad dai yng Nghymru ac adferiad economaidd y DU o'r pandemig. Er y gallwn ni amrywio cyfraddau a throthwyon ar gyfer treth trafodiadau tir drwy reoliadau, ni allwn wneud hyn ar gyfer pob newid.
Caniateir diwygiadau i Ddeddfau trethi Cymru hefyd er mwyn ymateb i nifer o amgylchiadau allanol eraill, fel sicrhau nad yw trethi datganoledig Cymru yn cael eu gosod pan fyddai gwneud hynny'n anghydnaws ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol, er enghraifft, lle mae cytundeb masnach newydd yn dod i ben gyda gwlad arall sydd â goblygiadau i'n trethi.
Bydd hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud newidiadau deddfwriaethol i ddiogelu rhag gweithgarwch osgoi, y gellir ei atal ar unwaith wedyn. Mae hyn yn cynnwys achosion lle bydd mwy o eglurder yn y ddeddfwriaeth yn ei roi y tu hwnt i amheuaeth fwriad arfaethedig y darpariaethau deddfwriaethol, ac a fydd o bosibl o fudd i drethdalwyr drwy roi'r gorau i hyrwyddo cyfleoedd osgoi nad ydyn nhw'n bodoli mewn gwirionedd. Mae camau o'r fath wedi eu cymryd gan Lywodraeth y DU i ddiogelu cyfundrefnau treth a threthdalwyr yn y gorffennol, ac rwyf i'n awyddus i Weinidogion Cymru allu cymryd camau tebyg.
Yn olaf, bydd y Bil hwn hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud newidiadau pan fo penderfyniad llys neu dribiwnlys yn nodi mater y mae Gweinidogion Cymru o'r farn y gallai elwa ar newid deddfwriaethol, neu ar egluro'r gyfraith yn well. Mae hyn yn cynnwys penderfyniadau sy'n ymwneud â Deddfau trethi Cymru, trethi rhagflaenol y DU, trethi eraill, neu gyfreithiau eraill a allai effeithio ar y trethi datganoledig.
Mae'r Bil hwn yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau a allai gael effaith ôl-weithredol. Bydd defnydd ôl-weithredol y pŵer yn cael ei ystyried fesul achos gan y gall y cyfiawnhad dros bob un fod yn wahanol, yn dibynnu ar y diben dan sylw. Fel arfer, bydd hyn yn cael ei gyfyngu i achosion lle bydd y rheoliadau yn arwain at fudd i drethdalwyr Cymru. Er enghraifft, efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn dymuno i drethdalwyr Cymru elwa ar ostyngiad i'w rhwymedigaeth dreth o'r un dyddiad ag y cafodd newid ei gyflwyno yn Lloegr. Efallai bydd Gweinidogion Cymru yn dewis cyflawni hynny drwy fabwysiadu, neu addasu, yr un polisi neu bolisi gwahanol.
Fodd bynnag, yn achos gweithgarwch osgoi, efallai y bydd Gweinidogion yn dymuno gallu cyhoeddi y bydd y cynllun yn cael ei gau gan reoliadau yn y dyfodol sy'n dod i rym ar ddyddiad y cyhoeddiad. O dan amgylchiadau o'r fath, gallai trethdalwyr ddisgwyl yn rhesymol i newidiadau ôl-weithredol gael eu cyflwyno sy'n sicrhau eu bod yn talu'r swm cywir o dreth.
Rwy'n cydnabod bod defnyddio deddfwriaeth ôl-weithredol yn gofyn am gyfiawnhad polisi a diogelwch cyfreithiol, ac mai dim ond mewn sefyllfaoedd lle mae angen hynny y dylai cael ei ddefnyddio. Dyna pam y mae'r Bil yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi datganiad ar ddefnyddio'r pŵer i wneud rheoliadau sy'n cael effaith ôl-weithredol. Ac mae drafft o'r datganiad hwn wedi ei rannu â'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
Bydd y Bil yn darparu offeryn ystwyth i Weinidogion Cymru i ddiogelu refeniw Cymru a gaiff ei godi drwy drethi datganoledig, gan gyfrannu at yr ymgyrch dros ddatganoli trethi yn sefydlog. Rydym ni wedi ymgynghori â'n rhanddeiliaid ar gynnwys y Bil, a hoffwn i fanteisio ar y cyfle i ddiolch yn ffurfiol i bawb sydd wedi cyfrannu at ei ddatblygu. Rwy'n edrych ymlaen at y broses graffu a fydd yn dilyn yn awr ac ymgysylltiad adeiladol sefydliadau sydd eisoes wedi cyfrannu a hefyd cyd-Aelodau ar draws y Siambr. Diolch.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog. Diolch am y datganiad a diolch i'ch swyddogion am eu briff technegol ddoe yn ein cyd-bwyllgor. Roedd yn ddefnyddiol iawn ac yn ddiddorol iawn. Mae gen i rywfaint o gydymdeimlad â chi; mae prosesau cyllidebol a threthiant yn bethau cymhleth iawn, ac nid yw'r cymhlethdod hwn ond wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae'n iawn, felly, i sicrhau nad yw trethdalwyr Cymru o dan anfantais o'u cymharu â threthdalwyr eraill ledled y DU pan gaiff newidiadau eu gwneud i drethi rhagflaenol, yn ogystal â chau bylchau treth fel bod modd defnyddio arian i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus—mae'n gwbl iawn ein bod ni'n gwneud hynny. Fodd bynnag, fel rhan o'ch ymgynghoriad ar y Bil, rwy'n gwybod bod rhanddeiliaid fel Sefydliad Siartredig Trethu a Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr wedi datgan mai eu safbwynt diofyn nhw yw y dylai deddfwriaeth dreth fod mewn deddfwriaeth sylfaenol, ac yn arbennig yn yr achos lle mae deddfwriaeth yn ymwneud ag arfer pwerau trethu, ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol iawn. Ac rwyf i'n cytuno â'r egwyddor hon, ac rwy'n siŵr y byddai llawer yn y Siambr—y Siambr rithwir—yn cytuno â hi hefyd.
Rwy'n credu, i adlewyrchu casgliadau'r Pwyllgor Cyllid blaenorol, fod angen mwy o sail ddeddfwriaethol arnom ni i'n prosesau cyllidebu a phennu trethi yng Nghymru i gefnogi'r gwaith democrataidd o graffu ar wariant cyhoeddus a threthiant. Yn hyn o beth, drwy ddefnyddio rheoliadau i wneud newidiadau i drethiant, gallai'r Bil hwn—ac rwy'n pwysleisio 'gallai'—gael ei ddefnyddio i fynd ymhellach na'r bwriad gwreiddiol. Nawr, rwy'n sylweddoli bod terfynau llym ar ddefnyddio'r pwerau o fewn y Bil, ond mae dal rhywfaint o amwysedd ynghylch pryd y mae modd defnyddio'r pwerau. Yn yr ymgynghoriad gwreiddiol, dywedodd y Sefydliad Siartredig Trethu
'mae'r amgylchiadau lle gellid defnyddio pŵer 1 yn gadael disgresiwn eithaf eang'
a bod nifer o dermau sydd wedi eu defnyddio yn yr adran yn amwys a heb eu diffinio. Fodd bynnag, gwrthododd y Llywodraeth y syniad o glo y Senedd ar ddefnyddio pŵer 1. A gaf i ofyn i chi, Gweinidog, y rheswm pam mae hynny'n wir? A allwch chi egluro'r amgylchiadau hefyd—ac rydych chi wedi sôn rhywfaint am hyn eisoes—lle rydych chi'n rhagweld y bydd angen defnyddio'r pŵer i addasu Deddfau trethi Cymru? Ac, yn y pen draw, pwy yn Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu pa un o'r profion diben yn adran 1 sydd wedi eu bodloni wrth gyflwyno rheoliadau drwy'r Bil?
Yn olaf, cafodd sylwadau eu gwneud yn ystod yr ymgynghoriad gwreiddiol fod perygl wrth wneud newidiadau lluosog drwy bwerau rheoleiddio o wneud y ddeddfwriaeth sylfaenol yn anodd ei dilyn oherwydd cymaint y croesgyfeirio sydd ei angen. Os oes angen llawer iawn o is-ddeddfwriaeth, a fyddai'n bosibl y byddai angen gwaith i atgyfnerthu'r rhain er mwyn sicrhau bod cyfraith treth mor hygyrch â phosibl? Diolch, Gweinidog.
Diolch i Peter Fox am y cwestiynau yna. Rwy'n falch iawn bod y briff a gafodd ei ddarparu gan swyddogion wedi bod yn ddefnyddiol. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y broses graffu fanwl, a fydd yn dechrau ar 22 Rhagfyr, fel anrheg Nadolig cynnar i bob un ohonom ni, yn y pwyllgor. Ac rwy'n gwybod y byddwn ni'n edrych yn fanylach ar lawer o'r agweddau hyn, ond rwy'n falch iawn o nodi fy ymateb cychwynnol i rai o'r cwestiynau hynny y prynhawn yma o leiaf.
Un o'r materion sylweddol y gwnaethoch ei godi, yn y bôn, oedd beth am ddefnyddio Bil cyllid, ac rwy'n gwybod bod hyn wedi bod yn fater o ddiddordeb i bwyllgorau cyllid yn y Senedd flaenorol. Fy safbwynt i o hyd yw nad wyf i'n ystyried bod yr amseru'n iawn i gyflwyno cyllideb flynyddol na Bil cyllid y gellir ei ddefnyddio i wneud newidiadau i Ddeddfau trethi Cymru. Un ystyriaeth allweddol i Ddeddfau trethi Cymru yn benodol yw nad yw nifer yr is-ddeddfwriaeth y mae'r Deddfau hyn wedi eu creu hyd yma yn arwyddocaol o gwbl, ac wrth i ni ddatblygu trethi mwy datganoledig, yna rwy'n credu, o bosibl, y gallai fod dadl gryfach dros Fil cyllid blynyddol, ond byddwn i hyd yn oed yn dadlau pe bai gennym ni Fil cyllid blynyddol, byddai dal angen y pwerau arnom ni y mae'r Bil hwn yn darparu ar eu cyfer, oherwydd eu bod nhw'n galluogi Gweinidogion Cymru i ymateb i ddigwyddiadau allanol na fydden nhw o reidrwydd yn cyd-fynd â chylch Bil cyllid Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, nid yw cyllideb y DU, lle gall newidiadau ddigwydd, ar gylch sefydlog, ac mae'n digwydd yn aml fwy nag unwaith y flwyddyn, ac mae digwyddiadau cyllidol eraill hefyd pan fo modd cyhoeddi newidiadau, er enghraifft, mae cyfraddau treth dir y dreth stamp ym mis Gorffennaf 2020 yn enghraifft o hynny, rwy'n credu. At hynny, bydd y Bil yn galluogi Llywodraeth Cymru i fod yn llawer mwy ymatebol i newidiadau ehangach, fel penderfyniadau llys a gweithgarwch osgoi, nag sy'n wir am ddull Bil Cyllid Llywodraeth y DU neu ddull gweithredu Llywodraeth yr Alban, lle caiff newidiadau eu gwneud yn aml drwy Fil cyllid yn unig.
O ran pam nad ydym yn defnyddio pwerau presennol—felly, gan feddwl am ddeddfwriaeth sylfaenol, er enghraifft—nod y Bil yw darparu offeryn hyblyg ychwanegol i ganiatáu i Weinidogion ymateb yn gyflym i amgylchiadau allanol sy'n effeithio ar ein trethi datganoledig. Yn gyffredinol, mae deddfwriaeth sylfaenol yn cymryd tua 12 i 18 mis i ddatblygu a chwblhau'r cylch hwnnw o graffu gan y Senedd, felly ni fyddai'n ein galluogi i ymateb mewn modd ystwyth pe bai angen i ni wneud hynny ar fyr rybudd, er enghraifft, i atal gweithgarwch osgoi treth.
Ac yr oedd cwestiwn hefyd o ran pam, er gwaethaf ymgynghori yn y dogfennau ar glo y Senedd, ein bod ni wedi dileu hynny o'n cynigion. Cafodd y clo ei gynnig yn wreiddiol i alluogi'r Senedd i ddynodi ei chymeradwyaeth o ddefnydd y weithdrefn gadarnhaol a wnaed, ac roedd y polisi gwreiddiol yn cynnig defnyddio pŵer y byddai modd ei ddefnyddio pryd bynnag y byddai Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn hwylus er budd y cyhoedd i wneud hynny. Bwriad y clo oedd ymateb i bryderon y byddai'r pŵer yn anarferol o eang, ond mae'r Bil bellach, fel y mae wedi ei ddrafftio ar hyn o bryd, wedi lleihau cwmpas y pŵer yn fawr i'r pedwar prawf diben hynny, nid oes modd eu defnyddio ond pan gaiff ei ystyried eu bod yn angenrheidiol neu'n briodol. Ac felly mae hynny, yn fy marn i, yn cyfyngu'n ddigonol ar y pŵer fel na fyddai clo y Senedd, a fyddai ei hun wedi bod yn anghonfensiynol ac a allai osod cynsail di-fudd ar gyfer pwerau cadarnhaol a wnaed yn y dyfodol, yn briodol, oherwydd ein bod ni wedi lleihau pethau gyda'r Bil hwn gymaint.
Ac yna i gwblhau hynny, mewn gwirionedd, hoffwn i dynnu sylw at y ffaith bod cwmpas y pŵer wedi ei gyfyngu i'r pedwar diben penodol: yn gyntaf, sicrhau nad yw treth gwarediadau tirlenwi a threth trafodiadau tir yn cael eu gosod lle y byddai gwneud hynny yn arwain at beidio â chydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol; diogelu rhag osgoi treth mewn cysylltiad â threth gwarediadau tirlenwi a threth trafodiadau tir; ymateb i newidiadau i drethi blaenorol y DU sy'n effeithio neu a allai effeithio ar y swm sy'n cael ei dalu i gronfa gyfunol Cymru; ac yna ymateb i benderfyniadau llysoedd a thribiwnlysoedd sy'n effeithio neu a allai effeithio ar Ddeddfau trethi Cymru neu reoliadau a gaiff eu gwneud oddi tanyn nhw. Felly, yn dilyn yr ymgynghoriad, rydym ni yn wir wedi lleihau cwmpas y Bil, sydd, yn fy marn i, yn dileu'r angen hwnnw bellach ar gyfer clo y Senedd, a oedd yn ein hymgynghoriad gwreiddiol. Ond rwy'n edrych ymlaen yn fawr at archwilio'r materion hyn yn fanylach yn yr wythnosau i ddod.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Jest i bigo i fyny ar rai o'r sylwadau blaenorol yn benodol ynglŷn â'r Bil cyllid neu Fil cyllideb blynyddol, dwi'n dal i deimlo fel roeddwn i pan oeddwn i'n cadeirio'r Pwyllgor Cyllid yn y Senedd diwethaf fod hynny'n rhywbeth yn sicr y byddwn i'n dymuno i ni fel Senedd symud tuag ato fe. Dwi'n derbyn beth mae'r Gweinidog yn ei ddweud ynglŷn ag, efallai, pa mor gyflym y gallwn gyrraedd y pwynt yna, ond mae'n sicr yn drafodaeth y byddwn i'n awyddus i'w chadw'n fyw ar bob cyfrif. A dwi'n cytuno hefyd efo'r Gweinidog, boed hynny'n digwydd neu beidio, mae'n dal angen y pwerau y mae'r Llywodraeth yn edrych amdanyn nhw yn y Bil sydd o'n blaenau ni heddiw.
Dwi wedi dweud yn y gorffennol, does gyda fi ddim problem mewn egwyddor i bwerau o'r math yma gael eu rhoi i Weinidogion Cymru. Mae'n gwbl resymol. Mae cael modd i gyflwyno newidiadau ar fyr rybudd fel hyn yn rhywbeth, dwi'n meddwl, sydd yn rhesymol, fel rwy'n dweud, ond mae'n gorfod digwydd o dan amgylchiadau penodol. Byddai methu ag ymateb yn arwain efallai at oblygiadau niweidiol, goblygiadau annheg, at sefyllfa afresymol. Dwi'n credu o dan yr amgylchiadau hynny ei bod hi'n rhesymol ein bod ni'n symud i'r cyfeiriad yna. Mae'n rhywbeth y mae Llywodraethau eraill yn ei gymryd yn ganiataol o gwmpas y byd. Felly, does dim byd unigryw yn hynny o beth.
Wedi dweud hynny i gyd, cyn gallu cefnogi deddfwriaeth sy'n grymuso Gweinidogion fel hyn, mae'n rhaid i ni i gyd fod yn hyderus fod y cyfyngiadau angenrheidiol yn eu lle i wneud yn siŵr bod y paramedrau yn glir o ran, yn gyntaf, o dan ba amgylchiadau mae'r Gweinidog yn gallu gweithredu, yn ail, i ba raddau mae'r Llywodraeth yn gallu gweithredu, ac yn drydydd wedyn wrth gwrs, bod yna fesurau cryf yn eu lle i sicrhau craffu a phroses o roi cydsyniad seneddol amserol, neu mor fuan ag sy'n bosib ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud. Ar yr olwg gyntaf, mae'r ddeddfwriaeth i fi yn edrych yn eithaf rhesymol ar y ffryntiau yna, ond yn amlwg dwi'n edrych ymlaen i graffu ar y ddeddfwriaeth arfaethedig dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
Dim ond un neu ddau o gwestiynau gen i yn benodol i chi, Weinidog. Mae yna risg, wrth gwrs—ac efallai rydyn ni wedi ei weld e'n digwydd mewn cyd-destunau eraill—dros amser, fod pwerau fel hyn yn cael eu defnyddio gan Weinidogion i fynd tu hwnt i'r awdurdod a roddwyd iddyn nhw. Felly, allwch chi gadarnhau ar y record y prynhawn yma mai dim ond o dan amgylchiadau eithriadol yn unig a phan fod dim opsiynau amgen y byddech chi yn bwriadu defnyddio'r pwerau fyddai'n dod i Weinidogion Cymru yn y Bil yma?
A hefyd, er mwyn cydbwyso pethau ychydig, efallai, pa ystyriaeth ydych chi wedi'i roi i gynnwys lleisiau neu bersbectifau mwy annibynnol yn y broses o benderfynu gweithredu'r pwerau yma? Hynny yw, mae'r awgrym wedi cael ei wneud efallai fod yna rôl mwy ffurfiol i'r Llywydd, o bosib, yn y broses. Mi wnaeth Prifysgol Caerdydd, wrth gwrs, yn eu hymateb nhw i'r ymgynghoriad llynedd, awgrymu bod angen sicrhau amrywiaeth yn y grŵp sy'n penderfynu pryd y dylid ddefnyddio'r pwerau hyn, a byddwn i efallai â diddordeb i glywed sut ŷch chi'n bwriadu cyflwyno rhyw ffordd o gydbwyso o fewn y broses. Diolch.
Diolch yn fawr am godi'r gyfres yna o gwestiynau, ac am, ar y cyfan, groesawu'n gynnes yr angen am y Bil, ond yn amlwg, rydych chi'n edrych ymlaen at y broses graffu sydd o'n blaenau. Rwy'n siŵr y byddwn ni'n parhau i ddychwelyd at y cwestiwn a oes angen Bil cyllid ar hyn o bryd ai peidio, ond fel y dywedais i, byddwn ni'n parhau i adolygu hynny wrth i amgylchiadau ddatblygu a newid yn y dyfodol. Er mwyn rhoi sicrwydd, rwy'n credu bod paramedrau'r Bil yn ddigon clir, yn enwedig gan ein bod ni wedi ei leihau bellach i'r pedwar diben hynny y dylai'r Bil gael ei ddefnyddio ar eu cyfer, ac yr wyf i newydd eu hamlinellu mewn ymateb i Peter Fox. Ond rydym ni hefyd yn cydnabod gwir bwysigrwydd yr angen am graffu priodol, a dyna pam yr ydym ni wedi cynnwys mesurau diogelu sylweddol gwirioneddol, yn fy marn i, yn y Bil o ran y weithdrefn.
Byddai'r Bil yn caniatáu i reoliadau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft gael eu gosod ar ffurf ddrafft am o leiaf 20 diwrnod cyn iddyn nhw gael eu cyflwyno i'r bleidlais. Yn amlwg, os byddan nhw'n cael eu cymeradwyo, bydd modd gwneud y rheoliadau hynny, a gall rheoliadau aros am gyfnod hwy na'r 20 diwrnod cyn eu cyflwyno i'r bleidlais. O dan y weithdrefn gadarnhaol a wnaed, byddem yn ceisio cael y cyfnod hwnnw am 60 diwrnod. Ac yn amlwg, os bydd y bleidlais yn cael ei cholli, neu os daw'r cyfnod o 60 diwrnod i ben, yna mae'r rheoliadau hynny yn peidio â chael effaith o'r dyddiadau hynny, ac rydym ni wedi rhoi barn ar waith ar yr hyn y byddem ni'n ei wneud pe bai'r rheoliadau hynny yn methu. Mae'r mesurau diogelu yr ydym ni wedi eu rhoi o amgylch y weithdrefn gadarnhaol a wnaed, yn benodol, rwy'n credu, yn bwysig, oherwydd dim ond pan fydd Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y rheoliadau'n angenrheidiol oherwydd brys a dim ond at y pedwar diben yr wyf i wedi eu disgrifio y bydden nhw'n cael eu defnyddio. Un enghraifft, rwy'n credu, fyddai angen ymateb ar frys pan fyddai oedi cyn atal cynllun osgoi treth yn arwain at golli refeniw sylweddol.
Nid yw'r dull arfaethedig o weithredu yn y Bil hwn yn ddigynsail ac ni fydd yn anghyfarwydd i ymarferwyr treth. Er enghraifft, mae adran 109 o Ddeddf Cyllid 2003 yn rhoi pŵer pwrpasol i Drysorlys EM wneud rheoliadau i wneud newidiadau yn syth ond dros dro i ddeddfwriaeth treth dir y dreth stamp, ac mae rheoliadau sy'n cael eu gwneud o dan hyn yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhaol dros dro, sy'n debyg i weithdrefn gadarnhaol a wnaed y Senedd, sy'n golygu bod yn rhaid iddyn nhw gael eu cymeradwyo gan Dŷ'r Cyffredin o fewn 28 diwrnod eistedd er mwyn cael yr effaith barhaol honno. Felly, nid wyf i'n credu bod yr hyn yr ydym ni'n ei gynnig yma yn anarferol nac yn newydd yn yr ystyr hwnnw, er ei fod yn rhywbeth a fydd yn ein galluogi i ymateb yn gyflym iawn i newidiadau. O ran swyddogaethau i unigolion a phartïon, rwy'n siŵr y cawn ni gyfle i archwilio hynny'n fanylach yn y pwyllgor maes o law, ac ar lawr y Senedd, wrth gwrs. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 5 yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi ar gefnogi’r bwriad i greu banc cymunedol ar gyfer Cymru. Galwaf ar y Gweinidog, Vaughan Gething.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gan y DU un o'r systemau bancio manwerthu lleiaf amrywiol yn Ewrop. Mae'n system lle mae nifer fach o fanciau mawr iawn yn tra-arglwyddiaethu. Mae'r banciau hyn yn gweithredu yn ôl model busnes gwerth cyfranddalwyr traddodiadol sy'n ceisio gwneud y mwyaf o elw i'w perchnogion. Mae banciau manwerthu'r stryd fawr, fel y gwyddom ni, yn cilio o lawer o'n strydoedd mawr ar gyflymder cynyddol a brawychus. Yn ôl data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae nifer y canghennau banc yn y DU wedi gostwng 4,390, neu 39 y cant, rhwng 2012 a 2021. Mae'r cylchgrawn defnyddwyr Which? yn amcangyfrif mai dim ond 277 o ganghennau banc a chymdeithasau adeiladu fydd ar ôl yng Nghymru erbyn diwedd 2022.
Mae ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i gefnogi creu banc cymunedol i Gymru yn ceisio mynd i'r afael â methiant y farchnad hon o ran y bwlch yn y ddarpariaeth, effeithiolrwydd, a mynediad at wasanaethau bancio o ansawdd yng Nghymru. Mae ein gweledigaeth ar gyfer banc cymunedol Cymru yn un sy'n seiliedig ar y model cydfuddiannol, sy'n eiddo i'w aelodau, ac sy'n cael ei redeg ar eu cyfer, yn hytrach na gwneud y mwyaf o elw i gyfranddalwyr. Bydd yn fanc cymunedol modern, fydd yn cynnig gwasanaeth llawn, gyda'i bencadlys yng Nghymru. Bydd yn cynnig cynhyrchion a gwasanaethau dwyieithog mewn sawl ffordd wahanol gan gynnwys yn ddigidol, ar-lein ac mewn canghenau. Bydd y banc yn hwyluso buddsoddi'n lleol ac yn gwella'r gwaith o adeiladu cyfoeth cymunedol, gan ail-ddefnyddio cynilon fel benthyciadau ac atal cyfalaf rhag gadael ein gwlad. Bydd yn cael effaith gadarnhaol ar gymunedau a strydoedd mawr, gan wneud gwasanaethau bancio bob dydd yn haws eu defnyddio i bob dinesydd waeth beth fo'u hincwm neu gyfoeth, yn ogystal ag i fusnesau bach ledled Cymru, wrth gwrs.
Rydym ni'r Llywodraeth, fodd bynnag, yn effro i'r heriau sylweddol o sefydlu banc cymunedol. Er bod nifer o fanciau cymunedol yn cael eu datblygu ledled y DU, nid oes banc cymunedol wedi'i sefydlu eto. Mae banciau cydweithredol a chydfuddiannol newydd yn wynebu mwy o heriau o'u cymharu â banciau eraill sy'n dilyn y model cyfranddalwyr. Mae hyn yn arbennig o wir o ran sicrhau cyfalaf datblygu a rheoleiddio, sy'n ei gwneud hi'n anodd camu i'r farchnad ac yna tyfu yn organig. Yn ogystal, mae cymwyseddau deddfwriaethol a rheoleiddiol y sector bancio yn faterion a gadwyd yn ôl. Felly, rydym yn dibynnu ar feddylfryd ac uchelgais cwmnïau'r sector preifat sy'n rhannu ein gweledigaeth a'n hethos er mwyn sefydlu a gweithredu banc cymunedol i Gymru.
Ers i'n gwaith i gefnogi creu banc cymunedol i Gymru gael ei archwilio am y tro cyntaf, mae banciau traddodiadol y stryd fawr wedi encilio o'n strydoedd mawr yn llawer cynt. Yn awr yn fwy nag erioed, mae nifer gynyddol o gymunedau ledled Cymru yn cael eu gadael heb fynediad corfforol i'r hyn a ddylai fod yn wasanaeth cyhoeddus hanfodol yn ein barn ni. Nid yw effaith yr encilio hwn yr un fath ym mhobman, gyda chymunedau gwledig a'r unigolion a'r busnesau hynny ledled Cymru sy'n fwy dibynnol ar arian parod a'r berthynas wyneb yn wyneb yn cael eu taro galetaf.
Er gwaethaf yr ymgyrchoedd cymunedol amlwg niferus a gefnogir gan aelodau o bob lliw gwleidyddol yn y Senedd, mae banciau traddodiadol wedi parhau i gau canghennau. Rwy'n croesawu y gefnogaeth drawsbleidiol barhaus i greu banc cymunedol i Gymru a chydnabod bod cwestiynau'r Aelodau yn ddealladwy yn canolbwyntio fwyfwy ar yr amserlenni cyflawni, y cynlluniau i gyflwyno canghennau, a chynhyrchion a gwasanaethau i'w cynnig gan y banc cymunedol. Mae'r cwestiynau hynny'n adlewyrchu anghenion a phryderon cymunedau yn etholaethau'r Aelodau ledled Cymru.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi gwaith archwiliadol a wnaed gan Cambria Cydfuddiannol Ltd, cymdeithas gydweithredol a sefydlwyd i archwilio'r posibilrwydd o greu Banc Cambria fel banc cymunedol i Gymru. Bu'r gwaith hwn yn hanfodol wrth lywio strategaeth gyflawni Banc Cambria, ac o ganlyniad gyda datblygu ei berthynas â sefydliad ariannol sy'n bodoli eisoes. Mae'r hyn yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yn ailddatgan ein cred bod gan y dull hwn fwy o botensial i ddarparu banc cymunedol hyfyw a chynaliadwy. Mae'r dull hwn hefyd yn cyd-fynd â'r argymhellion a wnaed yn adroddiad 'Mynediad at Fancio' gan Bwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Senedd ym mis Hydref 2019. Credwn fod y dull hwn yn cefnogi cydweithio ar draws y sector, yn lleihau'r risgiau ac yn lleihau'r costau i'r pwrs cyhoeddus, ac yn cynyddu'r cyflymder y gellir datblygu a lansio Banc Cambria yn ddiogel.
Yr wythnos diwethaf, cyfarfu'r Prif Weinidog, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau â'r timau sy'n ceisio sefydlu Banc Cambria i drafod y cynnydd a wnaed, y camau nesaf a'r meysydd lle y gellir defnyddio cymorth Llywodraeth Cymru orau i wella cyflymder y datblygiad a'r ddarpariaeth. Mae'n bleser gennyf ddiweddaru a hysbysu'r Aelodau, ac rwy'n croesawu y cyhoeddiad heddiw gan Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yn datgan ei bwriad i ddatblygu ei dull o ddarparu banc cymunedol yng Nghymru. Mae darparu banc cymunedol yn addas iawn i'r gymdeithas gydfuddiannol Cymreig honno sydd â'i phencadlys yng Nghasnewydd. Maen nhw wedi bod yn gwasanaethu ac yn cefnogi aelodau a chymunedau ar draws de a gorllewin Cymru i gynilo a ffynnu ers dros 150 o flynyddoedd. Gan eu bod yn gymdeithas gydfuddiannol, maen nhw eisoes yn sefydliad sy'n gweithredu i ddiben arbennig, gan alluogi cymunedau i gael cymorth a chefnogaeth ariannol mewn lleoliadau sy'n gyfleus iddynt.
Er bod llawer o waith i'w wneud o hyd, gyda cherrig milltir allweddol ac agweddau pellach i benderfynu arnynt ar y gweill i Lywodraeth Cymru, y gymdeithas a Cambria Cydfuddiannol, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu'r holl gymorth priodol ac angenrheidiol er mwyn helpu i gyflymu'r broses o sefydlu a chyflwyno Banc Cambria ledled Cymru. Mae bellach yn briodol i Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy arwain ar y cyfathrebu ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect wrth iddo fynd yn ei flaen. Rydym yn cydnabod ac yn cytuno bod datblygu systemau cadarn, diogel a chydymffurfiol yn hollbwysig i'r gymdeithas, ei haelodau presennol ac i aelodau Banc Cambria yn y dyfodol. Byddaf yn cwrdd â'r gymdeithas a Cambria Cydfuddiannol yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ac i ddeall ble y gall ein cymorth ychwanegu'r gwerth mwyaf. Byddaf, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau fel y bo'n briodol yn dilyn camau penderfynu allweddol. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r tîm yn Banc Cambria am yr amser a roeson nhw yn ystod y misoedd diwethaf i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi a chyd-Aelodau am ddatblygiad banc cymunedol i Gymru. Ar ôl gweithio o'r blaen yn y sector cymdeithasau adeiladu cydfuddiannol am fwy na dau ddegawd, rwy'n croesawu yn arbennig y ffaith bod partneriaeth y banc â Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy wedi'i chyhoeddi heddiw, gan ganiatáu sefydlu'r gofynion gweithredol i sicrhau bod modd darparu.
Wrth siarad yma yn 2010, codais gyda'r Prif Weinidog ar y pryd y gofynion o ran rheoli risg a digonolrwydd cyfalaf a rheoleiddio y byddai'n rhaid i fanc newydd gydymffurfio â nhw, na fyddai'n rhaid i bartner a oedd yn fanc neu gymdeithas adeiladu sefydledig gydymffurfio â nhw. Yn 2013, galwodd y Ceidwadwyr Cymreig am sefydlu Buddsoddi Cymru, rhwydwaith o fanciau buddsoddi rhanbarthol sydd wedi'u gwreiddio mewn cymunedau lleol, i fenthyca i fusnesau bach a rhoi cyngor a chymorth yn seiliedig ar y model partneriaeth hwn. Yn 2017, arweiniais ddadl ar wasanaethau bancio yn y fan yma, a alwodd ar Lywodraeth Cymru i archwilio'r model bancio cymunedol nid-er-elw a ddatblygwyd wedyn yng Nghymru gan Responible Finance, a gynigiodd weithio gydag undebau credyd mewn meysydd lle na all undebau credyd weithredu, a darparu cyllid a chymorth i bobl, busnesau a mentrau cymdeithasol na allant gael gafael ar gyllid gan fanciau'r stryd fawr.
Mewn ymateb i bumed Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad, cwestiynodd y Ffederasiwn Busnesau Bach a yw'r ateb o greu banc cymunedol yn gorgyffwrdd â phethau eraill y gallai offerynnau a sefydliadau eraill sydd gennym ni eisoes ar waith yng Nghymru fod mewn sefyllfa well i'w wneud. Ac felly, gan fod hwn yn fuddsoddiad masnachol i Lywodraeth Cymru, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni diwydrwydd dyladwy a dadansoddiad trwyadl o'r cynllun busnes ar gyfer banc cymunedol cyn buddsoddi pellach. Felly, Gweinidog, pa brosesau a ddilynwyd a pha ddiwydrwydd dyladwy sydd wedi digwydd hyd yma i roi sicrwydd i bobl Cymru cyn i'r cynllun fynd yn ei flaen?
Wrth gwrs, wrth gyflawni diwydrwydd dyladwy, mae hefyd yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn ystyried yr effaith y bydd banc cymunedol yn ei chael ar y sector undebau credyd. Roedd hi'n glir o adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn 2019 fod gan undebau credyd bryderon difrifol iawn am yr effaith y gallai banc cymunedol ei chael arnynt. Yn wir, ysgrifennodd prif weithredwr Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro ar ran grŵp o 11 undeb credyd yng Nghymru i dynnu sylw at y ffaith y byddai bwriad Banc Cambria i ddarparu benthyciadau personol ar sail model cydweithredol yn cystadlu'n uniongyrchol ag undebau credyd, ac y byddai'n bygwth cynaliadwyedd y rhwydwaith undebau credyd yng Nghymru yn y dyfodol. Ac felly, yng ngoleuni'r pryderon hyn, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau nad yw cynaliadwyedd undebau credyd yn cael ei fygwth gan ddatblygiad banc cymunedol? A sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag undebau credyd sy'n awyddus i weithio gyda nhw ond sy'n awyddus i sicrhau nad yw Banc Cambria yn cymryd eu busnes na'u cyllid? O ystyried partneriaeth Swyddfa'r Post â banciau'r DU, gallai Banc Cambria hefyd gael effaith ar wasanaethau swyddfeydd post. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud felly o effeithiau Banc Cambria ar y sector swyddfeydd post? A pha drafodaethau y mae wedi'u cael gyda Swyddfa'r Post ynghylch sefydlu banc cymunedol yng Nghymru?
Gallai creu banc cymunedol gael effaith drawsnewidiol ar gymunedau lleol, yn enwedig cymunedau gwledig sydd wedi colli presenoldeb banc ar eu stryd fawr. Mae'n galonogol bod Banc Cambria eisoes wedi dweud bod cymunedau gwledig wrth wraidd yr hyn y maen nhw'n ceisio'i wneud. Mae Banc Cambria wedi ei gwneud hi'n glir eu bod yn gobeithio agor o leiaf un gangen lle mae tystiolaeth bod y sylfaen cwsmeriaid yn dioddef yn arbennig o wael o allgáu ariannol. Ac mae'r Prif Weinidog eisoes wedi sôn am leoli cangen ym Mwcle, sir y Fflint. Sut, felly, y penderfynir ar leoliadau'r canghennau, a pha sicrwydd y gallwch ei roi y bydd cymunedau gwledig sydd wedi'u hallgáu'n ariannol ar frig y rhestr flaenoriaethau? A pha sicrwydd y gallwch ei roi inni fod gan Lywodraeth Cymru y gallu i gynnig y model hwn i bob rhan o Gymru, os yw'n profi, fel y gobeithiwn, i fod yn llwyddiannus?
Mae'n hanfodol fod gennym ni'r sylfaen sgiliau gywir i gefnogi'r sector. Mewn ymateb i bumed Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad, dywedodd y Gymdeithas Banc Cynilon Cymunedol y byddai canfod y bobl sydd â'r cyfuniad cywir o sgiliau a chymhelliant moesegol i fod eisiau creu rhywbeth yng Nghymru yn anoddach na chanfod yr arian i gefnogi banc cymunedol.
Mark, rhaid i chi ddod i ben nawr.
Felly, Gweinidog, pa waith sy'n cael ei wneud i adnabod a darparu'r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi'r model ar gyfer y dyfodol? Ac yn olaf, sut mae mynediad i'r canghennau ar gyfer pobl anabl sydd â namau gweladwy a chudd yn cael ei gynllunio?
Diolch am y gyfres helaeth o gwestiynau. Os caf i ddechrau drwy ddweud fy mod i'n credu bod heddiw'n ddiwrnod mawr a phwysig iawn: mae cael sefydliad ariannol sefydledig yn cadarnhau'n gyhoeddus ei fod yn bwriadu datblygu'r cynnig mewn partneriaeth ac mai ef fydd y sefydliad sefydledig i fwrw ymlaen â materion yn gam cadarnhaol iawn ymlaen. Ac fel y dywedais i yn fy agoriad, nid oes unrhyw fanc cymunedol o'r raddfa hon neu sy'n dilyn y model hwn wedi'i sefydlu eto yn unman yn y DU. Felly, mae hwn yn faes polisi newydd lle mae Cymru'n arwain, ac rwy'n falch iawn bod gennym ni sefydliad ariannol cydfuddiannol sy'n barod ac yn fodlon cydweithio gyda ni, mewn modd a ddylai fod nid yn unig i ddarparu mwy o wasanaethau bancio cymunedol, ond mae'n debyg y bydd yn drawsnewidiol i Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy ei hun. Felly, mae hwn yn ddiwrnod cadarnhaol iawn, ac mae llawer o'r cwestiynau y mae Mark Isherwood wedi'u gofyn yn gwestiynau yr ydym ni eisoes wedi cael trafodaethau yn eu cylch ac y disgwyliaf y clywn ni fwy amdanyn nhw wrth inni symud ymlaen, oherwydd—. Eich pwyntiau ynghylch, 'A yw'r banc cymunedol yn gorgyffwrdd â gwasanaethau eraill?'—wel, mewn gwirionedd, mae arnom ni eisiau cefnogi a sefydlu banc cymunedol oherwydd encilio gwasanaethau bancio traddodiadol o lawer o gymunedau. Rwy'n gwybod fod hwn yn fater sydd, fel y dywedais i yn fy agoriad, yn cael ei gefnogi gan Aelodau o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol yn y Senedd, oherwydd mae gan bob un ohonom ni brofiad o wasanaethau bancio traddodiadol yn diflannu o gymunedau yr ydym ni'n eu cynrychioli. Mae'r un peth yn wir i Aelodau sy'n cynrychioli etholaethau trefol i raddau helaeth, yn ogystal â'r rhai sy'n wledig i raddau helaeth. Felly, mae her wirioneddol yma, yn hytrach na phroblem bod gorgyffwrdd, fel darlun eang.
Ond o ran sut y bydd y partneriaethau hynny'n gweithio, gan gynnwys, er enghraifft, y partneriaethau y byddem yn disgwyl eu gweld gyda'r mudiad undebau credyd, mae'r rheini'n bethau yr ydym ni'n disgwyl gweld mwy o fanylion amdanyn nhw mewn cynnig buddsoddi, ond hefyd mae gwaith sydd eisoes wedi'i wneud gan Fanc Cambria oherwydd, wrth gwrs, maen nhw'n rhan o'r mudiad cydweithredol a chydfuddiannol, felly maen nhw wedi sefydlu perthynas ag amrywiaeth o undebau credyd. Ond mae'n gwbl resymol i rai undebau credyd gwestiynu sut y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw a'u busnes ac na fydd hyn yn y pen draw yn rhywbeth sy'n gwasgu cystadleuaeth lle mae gwasanaethau eisoes yn cael eu darparu, yn hytrach na darparu gwasanaethau i gymunedau yr ydym ni'n cydnabod nad ydyn nhw'n cael eu gwasanaethu'n dda ar hyn o bryd.
O ran eich cwestiwn am waith diwydrwydd dyladwy gan Lywodraeth Cymru, byddwn ni ac unrhyw fuddsoddwr arall yn sicr yn gwneud gwaith diwydrwydd dyladwy yn dilyn cynnig buddsoddi. Ac rydym ni wedi cyrraedd sefyllfa nawr lle mae sir Fynwy wedi cadarnhau y byddant yn gwneud hynny, felly byddaf yn disgwyl cael cynnig buddsoddi priodol ganddyn nhw i ni edrych arno, i graffu arno, a bydd angen iddyn nhw hefyd, wrth gwrs, sicrhau eu rheoleiddiwr eu hunain am y cynigion y maen nhw'n bwriadu eu gwneud a'r hyn y mae'n ei olygu i'w haelodau presennol, yn ogystal ag ar gyfer rhai yn y dyfodol hefyd. Ac eto, mae hyn yn mynd yn ôl at un o'r pwyntiau a wnaethoch chi yn eich rhestr o enghreifftiau, lle rydych chi wedi codi materion tebyg, ynghylch y ffaith y dylai bod â sefydliad sefydledig olygu ein bod yn gallu lansio banc cymunedol yn gyflymach na phe baem ni fel arall wedi ceisio dechrau o'r newydd.
Rwy'n cydnabod eich pwyntiau am Swyddfa'r Post, ac, wrth gwrs, ar un adeg, roedd posibilrwydd o fanc post wedi'i sefydlu'n briodol—mae'r rheini'n faterion sydd yn nwylo Llywodraeth y DU, ac, wrth gwrs, bu cysylltiad sefydledig rhwng Swyddfa'r Post a Banc Iwerddon ers rhai blynyddoedd. Felly, unwaith eto, rydym ni'n edrych ar dirwedd lle mae gwasanaethau'n bodoli ac yn edrych ar sut y gallwn ni ychwanegu at yr hyn sy'n bodoli yn hytrach na chystadlu â gwasanaethau sefydledig sydd eisoes yn darparu gwasanaeth gweddus i gymunedau ledled y wlad.
O ran, rwy'n credu, eich sylwadau ehangach, fe hoffwn i ddweud hyn am undebau credyd: rydym ni'n disgwyl y bydd cytundebau asiantaeth neu bartneriaeth ar waith. Fyddech chi ddim yn disgwyl i'r rheini i gyd gael eu sefydlu gyda chyhoeddiad heddiw, ond ein disgwyliad yw y bydd hyn yn ychwanegiad gwirioneddol at y gwasanaethau bancio ac ariannol sydd ar gael mewn llawer o'n cymunedau, ac rwy'n credu bod hwn yn gam cadarnhaol iawn ymlaen. Rwy'n credu mai dim ond pan fyddwn ni'n manylu ar y cynigion sydd i'w cyflwyno y gellir ateb y manylion sylweddol yr ydych chi'n chwilio amdanyn nhw yn llawer o'ch cwestiynau, gan gynnwys, wrth gwrs, sut mae sefydliad newydd Banc Cambria yn disgwyl sefydlu canghennau a'r meini prawf y bydd yn eu defnyddio o ran ble yr hoffai sefydlu'r rheini yn y dyfodol. Ond edrychaf ymlaen at ddiweddaru Mr Isherwood ac Aelodau eraill dros y misoedd nesaf.
Llefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel y bydd llawer o Aelodau'n sôn, mae'n siŵr, mae'r datganiad hwn, yn wir, yn amserol; mae bron yn teimlo fel stori newyddion beunyddiol y dyddiau hyn bod canghennau banc yn cau yn ein trefi a'n pentrefi ledled Cymru. Rhwng 2015 a 2019, collodd Cymru dros ddwy ran o bump o'i changhennau banc—dyna 239 o ganghennau'n gyfan gwbl. Yn fy rhanbarth i yng Ngorllewin De Cymru, er enghraifft, yn fy etholaeth gartref yn Ogwr, dim ond un gangen banc sydd ar ôl yn yr etholaeth gyfan ac mae hynny ym Maesteg.
Mae'n bwysig cofio hefyd nad sôn am ganghennau banc yn unig yr ydym ni, rydym ni hefyd yn sôn am beiriannau twll yn y wal, hefyd, yn cau, sy'n golygu bod tueddiadau tuag at fancio digidol a chymdeithas ddi-arian yn dechrau eithrio rhai grwpiau'n ariannol, a fydd, wrth gwrs, yn fwy difrifol mewn ardaloedd gwledig. Y gwir amdani yw y bydd gweithredoedd y sector bancio masnachol yn debygol o waethygu anghydraddoldeb rhanbarthol, a dyna pam mae Plaid Cymru yn croesawu datblygiad Banc Cambria ac, yn benodol, yn croesawu'r ffaith y bydd Cymru'n arwain y ffordd yn y DU drwy gael y banc cymunedol cyntaf, math o fanc sy'n gyffredin ledled y byd. A byddwn yn annog Aelodau i ddarllen am ba mor gyffredin yw banciau cymunedol yn yr Unol Daleithiau. Ac, wrth gwrs, gyda Banc Cambria, caiff yr arian a fuddsoddir ei fuddsoddi yng Nghymru er budd y rhai sy'n galw Cymru'n gartref, sy'n golygu y gallai fod potensial enfawr ar gyfer datblygu economaidd yn rhai o'n hardaloedd mwy difreintiedig.
Mae'n bwysig bod Banc Cambria, fel y mae Mark Isherwood eisoes wedi cyfeirio ato rwy'n credu, yn cael ei ystyried yn fanc i Gymru gyfan, yn enwedig pan ymddengys hi fod llawer o fanciau'r stryd fawr wrthi'n cefnu ar Gymru. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allai'r Gweinidog roi unrhyw arwydd o ble y bydd Banc Cambria yn ceisio sefydlu ei don gychwynnol o ganghennau banc, yn ogystal â lle y gallai Banc Cambria fod â'i bencadlys. Clywais Gasnewydd yn cael ei grybwyll yn y datganiad; mae'n bwysig, rwy'n credu, fod ei bencadlys y tu allan i Gaerdydd, ond, fel bachgen o Bencoed, byddaf yn manteisio ar y cyfle hwn i estyn gwahoddiad a dweud na fyddai ots gen i weld cangen wedi agor ym Mhencoed, nac i Fanc Cambria hyd yn oed gael ei bencadlys yno. Ond mae'n bwysig, wrth gwrs, bod Banc Cambria yn bresennol mewn cymunedau ledled Cymru, o gymunedau ar y ffin i'r Cymoedd, i'r Fro Gymraeg ac i'n trefi glan môr.
Wrth gwrs, un mater cyson a gawn ni gyda banciau yng Nghymru yw bod diffyg gallu, neu anallu, i fancio drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym ni wedi clywed am sawl stori—un ddiweddar gyda HSBC—lle mae cymunedau Cymraeg wedi cael eu siomi yn hyn o beth. Rwy'n croesawu, fel y nododd y Gweinidog yn ei ddatganiad, y bydd gwasanaethau ar gael yn ddwyieithog. Ond a allai'r Gweinidog roi unrhyw arwydd a fydd holl wasanaethau Banc Cambria yn ddwyieithog ai peidio, gan gynnwys gwasanaethau mewn cangen yn ogystal â bancio ar-lein?
Yn olaf, chwe mis yn ôl, gofynnais i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a oedd Llywodraeth Cymru wedi ystyried sut y gallem ni ddefnyddio model cymunedol Banc Cambria ar gyfer busnesau eraill lle mae'r awenau yn nwylo cymunedau, efallai ym maes ynni neu ddur, er enghraifft, a pha gymorth y mae'r Llywodraeth yn ei ddarparu ar gyfer hyn. Roedd y Gweinidog ar y pryd yn ymddangos yn agored i'r syniad, ond roedd am ganolbwyntio ar sefydlu Banc Cambria yn gyntaf, sy'n gwbl ddealladwy. Ond gan y bu peth cynnydd yn natblygiad Banc Cambria, a bod y portffolio bancio cymunedol wedi'i symud i'ch portffolio, Gweinidog, a oes mwy o ystyriaeth wedi'i rhoi i sut y gellid defnyddio'r model hwn mewn mannau eraill yn economi Cymru?
Diolch am y cwestiynau a'r sylwadau. Rwy'n cytuno â'ch sylwadau am yr her o ran nad yw hyn yn ymwneud â gwasanaethau cangen yn unig, ond am fynediad at wasanaethau arian parod hefyd—nid peiriannau twll yn y wal yn unig ond, yn arbennig, peiriannau twll yn y wal di-dâl hefyd. Mae rhan o'r ymgyrch y tu ôl i hyn yn gydnabyddiaeth bod ymadawiad canghennau traddodiadol a gwasanaethau arian parod yn golygu bod rhaniad cynyddol rhwng y rhai sydd â sgiliau digidol, yn enwedig bancio ar ddyfeisiau symudol, ond hefyd y rhai y mae angen arian parod arnyn nhw i redeg eu busnes arferol o ddydd i ddydd. Felly, mae her yma, o ran peidio â gweithredu a'r hyn a fyddai gennym ni fel arall.
Rwy'n falch o'r gwaith yr ydym ni wedi'i wneud yn llwyddiannus dros gyfnod o amser, gyda chymorth nifer o bleidiau, o ran ceisio darparu gwasanaethau ariannol drwy undebau credyd yn arbennig hefyd. Ond rwy'n credu y bydd Banc Cambria yn llenwi bwlch penodol sy'n dal i fodoli, ac rwy'n falch o gael cefnogaeth eang Plaid Cymru wrth wneud hynny.
Byddwn yn disgwyl i gynlluniau manylach ynghylch canghennau gael eu cyflwyno gyda'r cynnig buddsoddi hwnnw, ond mae Banc Cambria yn dweud eu bod yn disgwyl agor hyd at tua 30 o ganghennau yn ystod eu degawd cyntaf. Nawr, nid yw'n brawf teg dweud bod disgwyl i Fanc Cambria agor nifer cyfatebol o ganghennau i'r hyn y mae canghennau traddodiadol a hirsefydlog wedi eu cau, ac i allu gwneud hynny o fewn cyfnod byr. Rydym ni'n dal i edrych ar rywbeth sydd, fel y dywedais i, yn ymyriad polisi newydd, i allu creu banc cymunedol newydd. Ac rydych chi'n gywir i dynnu sylw at y ffaith bod gan rannau eraill o'r byd rwydwaith gwahanol iawn, ac nad oes gennym ni, fel y dywedais i yn fy agoriad, sector bancio amrywiol iawn o gwbl. Mae'r banciau mwy newydd sydd wedi dechrau cystadlu yn tueddu i fod yn fanciau ar-lein. Felly, mae bwlch o hyd y credwn ni y gall Banc Cambria helpu i'w lenwi.
Pan ddaw'r cynnig buddsoddi manwl hwnnw, nid diwydrwydd dyladwy fydd yr unig elfen o hynny. Mae arnom ni eisiau gweld beth yw eu bwriad ac i osod cynllun ar gyfer sut y byddan nhw'n egluro ble yr hoffen nhw sefydlu canghennau a gwasanaethau. Felly, rwyf yn sylweddoli, gyda llawer o'r cwestiynau a ofynnir heddiw, na fyddaf yn gallu rhoi atebion pendant ichi, ond i allu dweud eu bod yn disgwyl sefydlu canghennau newydd dros y degawd cyntaf. Maen nhw'n disgwyl gallu dweud mwy am y cynhyrchion a'r gwasanaethau y byddan nhw yn eu darparu. Bydd y cynnig buddsoddi yn helpu i fanylu ar hynny ac i egluro hynny.
Mae'r ffaith bod Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yn gwneud hyn eisoes yn golygu bod gennym ni sefydliad sydd â'i bencadlys yng Nghymru. Mae pencadlys y Gymdeithas yng Nghasnewydd, a heb edrych ar y ddau Aelod etholaeth ar gyfer dinas Casnewydd, byddwn wedi meddwl yr hoffen nhw weld Banc Cambria yn parhau i gael ei sefydlu ac â'i bencadlys yn y ddinas honno. Nid wyf yn ceisio codi cynnen rhwng rhanbarthau, ond y pwynt ydy bod gennym ni sefydliad ariannol sefydledig sydd â'i bencadlys a'i wreiddiau yng Nghymru ac sydd wedi bod yma ers canrif a hanner. Mae hynny'n beth da, o ran yr addasrwydd yr ydym ni'n chwilio amdano ar gyfer rhywun sydd wedi ymrwymo i wasanaethau bancio cymunedol.
Nid yw hynny'n golygu, wrth gwrs, na fyddant yn ymwneud â chefnogi busnesau. Rwy'n credu y byddan nhw—yn enwedig busnesau llai. Yr her fydd, os ydym ni'n edrych ar unedau economaidd mwy, ynghylch o ble y daw'r cyfalaf ar gyfer hynny. Felly, nid fy mod yn dweud na chân nhw ac na chaniateir iddyn nhw wneud hynny; mae'n ymwneud mewn gwirionedd â'r angen i sefydlu'r model bancio cymunedol yn gyntaf fel gwasanaeth priodol sy'n llwyddiannus, ac yna mae'n ymwneud ag uchelgais y sefydliad a'r hyn y gall ei gyflawni mewn gwirionedd.
Ond, unwaith eto, nid wyf yn siŵr y byddai'n brawf teg dweud bod yn rhaid iddo ymwneud â'r un raddfa o gyllid y gallech ei weld fel arall mewn diwydiannau fel y sector dur. Ond mater i'r sefydliad yw nodi cynnig buddsoddi priodol y gall Llywodraeth Cymru ei gefnogi. A gallaf ddweud mai fy nisgwyliad i yw na fydd gwasanaethau Cymraeg ar-lein yn unig; bydd gwasanaethau Cymraeg mewn canghennau hefyd. Mae'n rhan o'r atyniad o gael partneriaeth briodol gyda sefydliad lleol sy'n deall yr angen i wneud hynny. Felly, rwy'n credu y byddai'n beth da i'r gwasanaethau iaith a bancio cymunedol, yn ogystal ag i ehangder yr hyn y byddwn yn gallu ei wneud dros amser. Y cam cyntaf, serch hynny, yw cyhoeddiad cyhoeddus heddiw am y sefydliad ariannol. Y cam nesaf fydd cynnig buddsoddi priodol a'r gwaith diwydrwydd dyladwy, ac yna gobeithiwn y byddwn yn bwrw ymlaen i sefydlu canghennau Banc Cambria yn ystod tymor y Senedd hon.
Mae gennyf sawl Aelod sy'n dal yn dymuno siarad, felly a wnewch chi i gyd wneud yn siŵr eich bod yn cadw o fewn eich dyraniad amser? Ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ein helpu drwy fod yn gryno yn ei atebion. Jack Sargeant.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, fe wyddoch chi, yn amlwg, y bûm i'n ceisio gweithio'n galed iawn i ddod â changen banc cymunedol i Fwcle yn fy etholaeth i, ac rwy'n credu ei bod hi'n werth nodi bod ymrwymo i ddechrau banc cymunedol cyntaf Cymru ac agor cangen yn un beiddgar ac yn un i'w groesawu. Felly, rwyf yn ddiolchgar iawn i chi a'ch swyddogion, ond hefyd yn ddiolchgar iawn i'r Prif Weinidog, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Ken Skates, am ei amser yn hyrwyddo'r syniad yn y Llywodraeth. Ac rwy'n credu ei bod hi'n drawiadol bod gennym ni wir gefnogaeth drawsbleidiol i'r syniad yma. Rwy'n credu fod hynny'n dangos y Senedd ar ei gorau.
Mae'r cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yn dod â ni gam enfawr yn nes at fanc cymunedol trwyddedig yng Nghymru, ac rwy'n credu bod hynny'n gyflawniad aruthrol wrth wireddu uchelgais y syniad hwn. Nawr, er mai Banc Cambria fydd y cyntaf o'i fath yng Nghymru, rwy'n gwybod y bydd llawer ledled y DU yn gwylio i ddilyn eu harweiniad, ond y cwestiwn pwysig i drigolion Bwcle, Gweinidog, yw: pryd y bydd canghennau Banc Cambria yn agor ar ein strydoedd mawr, a pha mor hir y bydd hynny'n ei gymryd?
Ond, Dirprwy Lywydd, os wnewch chi ganiatáu imi wrth gloi, rwy'n gwybod fod gen i dipyn o enw fel Sinach y Senedd, ond rwyf i yn yr ysbryd Nadolig hwnnw heddiw ac, fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, rwyf weithiau'n canu carolau Nadolig, ac rwyf yn canu'r un peth ag yr wyf wedi'i ganu o'r blaen, felly'r cwbl yr hoffwn ar gyfer y Nadolig, Gweinidog, yw banc ym Mwcle. Diolch yn fawr.
Wel, rwy'n siŵr y bydd y bobl dda ym Manc Cambria wedi'ch clywed chi cyn heddiw, yn ogystal â heddiw, ac rwy'n gwybod y byddan nhw'n ymddiddori yn y ddadl heddiw y mae'r holl Senedd yn rhan ohoni. Edrychwch, rydym yn disgwyl derbyn cynnig buddsoddi dros y flwyddyn galendr nesaf, felly yn ystod 2022, a bydd angen i ni wedyn gynnal ein hymarfer diwydrwydd dyladwy, fel yr wyf wedi'i nodi o'r blaen. Felly, ni allaf roi union amserlen i chi ar gyfer hynny. Ond y disgwyliad amlinellol yw y gallem ni weld canghennau'n dechrau agor cyn diwedd 2023. Bydd angen i ni weld manylion hynny a ble y byddant yn y cynnig buddsoddi, a mater i Fanc Cambria yw cyflwyno eu cynnig ac i nodi sut y bydden nhw'n ceisio lleoli canghennau newydd a ble y bydden nhw'n dechrau arni. Rwy'n siŵr y bydd ceisiadau eraill, ond, fel y dywedais i, mae'r Aelod wedi bod yn gyson iawn am Fanc Cambria.
Mae'n werth nodi, pan siaradais yn gynharach am gytundebau asiantaeth, mai un o'r pethau y mae Banc Cambria eisoes wedi'i wneud yw rhywfaint o waith gydag Undeb Credyd y Cambrian yn y gogledd i edrych ar gytundeb asiantaeth posibl a allai eto helpu i sicrhau fod y gwasanaethau hynny ar gael i fwy o bobl ac i wneud hynny mewn ffordd sy'n bartneriaeth wirioneddol, yn hytrach nag mewn modd a fydd yn cystadlu â gwasanaethau undebau credyd hefyd. Mae amrywiaeth o bethau'n dod o hynny, a dyna pam y ceisiais nodi fy mod yn edrych ymlaen at allu dychwelyd yma gyda mwy o fanylion fel y gellir dechrau sefydlu canghennau, ac yna bydd hynny'n ffitio'n daclus i'r sector cyfiawnder cymdeithasol a bancio cymunedol mewn ffordd y credaf y byddai'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedyn yn Weinidog arweiniol, unwaith y bydd wedi'i sefydlu'n iawn.
A gaf i ychwanegu at y gefnogaeth drawsbleidiol a adleisiwyd drwy'r Siambr rithwir y prynhawn yma? Diolch yn fawr i'r Gweinidog ac i'ch tîm ac i'r Prif Weinidog hefyd am eich holl waith yn cyflwyno hyn. Mae'n ddatblygiad cyffrous, arloesol a thra bod gen i'r cyfle hwn, mae canolbarth Cymru eisiau datblygu ei sector ariannol, ac mi fyddem ninnau hefyd yn croesawu pencadlys Banc Cambria yn unrhyw le yng nghanolbarth Cymru. Felly, ystyriwch hynny hefyd.
Mae mor bwysig i ardaloedd trefol a gwledig, ac fe hoffwn i ddim ond dal sylw ar yr heriau sy'n wynebu ardaloedd gwledig heb eu banciau. Cefais y fraint fawr o gyfarfod â Banc Cambria yn Llanidloes, tref a gollodd ei banc diwethaf yn 2017, ac yn y Gelli Gandryll, lle rwy'n byw, caeodd y banc diwethaf yn 2018. Felly, mae hwn yn ddatblygiad cyffrous ac arloesol iawn. Mae banciau'n hanfodol mewn ardaloedd gwledig gan eu bod yn cefnogi busnesau bach, maen nhw'n cefnogi ffermwyr ac amaethyddiaeth, ac maen nhw'n cefnogi'r rhai na allan nhw gael mynediad i'r rhwydweithiau digidol. Felly, rydym ni'n croesawu hyn.
Nid wyf am ofyn eto y cwestiynau a ofynnwyd o'r blaen, oherwydd rydych chi wedi bod yn glir bod datblygiadau i ddod o hyd, ond byddwn yn gofyn ac yn annog bod Banc Cambria a chithau'n gallu parhau i gyfathrebu'n effeithiol â'r cymunedau yr effeithir arnyn nhw gan golli eu banciau a bod proses ymgynghori dda sy'n caniatáu i bobl gyfrannu at hynny. Hoffwn hefyd adleisio safbwynt Luke Fletcher ar yr iaith Gymraeg, ac rydych chi eisoes wedi rhoi'r sicrwydd ynghylch sut y gall Banc Cambria fodloni'r disgwyliadau hynny. Diolch yn fawr, Gweinidog. Diolch yn fawr iawn.
Diolch, a diolch eto am y croeso eang. A'r sylw am ymgynghori a'r posibilrwydd i ganghennau newydd fod yn gatalydd gwirioneddol ar gyfer adfywio'r stryd fawr yn ogystal â chyfoeth cymunedol, mae hynny'n sylw yr wyf yn gwybod bod gan Aelodau ar draws y Siambr ddiddordeb mawr ynddo, a sut i wneud hynny mewn ffordd yr ydym ni'n ei deall a bod Banc Cambria, pan fyddan nhw'n datblygu cynnig, yn deall sut y gallan nhw wneud hynny, a gweithio gyda chymunedau yn hytrach na gwneud rhywbeth i gymunedau. Credaf y bu hynny yn ganfyddiad gydag enciliad rhai canghennau bancio traddodiadol, bod pobl wedi teimlo bod pethau wedi'u gwneud iddyn nhw heb ystyried yr effaith o reidrwydd. Ac mae'n broblem yn y Gymru drefol hefyd, ond rydym ni'n cydnabod ei bod hi'n arbennig o ddifrifol yng nghefn gwlad Cymru. Ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi am ddiolch i'r tîm; y tîm yma yn Llywodraeth Cymru—mae rhai o'n swyddogion wedi gweithio'n eithriadol o galed ar yr hyn sy'n faes cymhleth a dyrys—ond hefyd y tîm yng Nghymdeithas Adeiladu Sir Fynwy sydd wedi ymrwymo mewn difri calon i gyflawni hyn. Heb yr ymrwymiad hwnnw ganddyn nhw, ni fyddem ni yma heddiw a byddem yn dal i siarad am syniad yn hytrach na chynnig priodol lle y gallwn ni ddisgwyl cynnig buddsoddi pendant y flwyddyn nesaf. Felly, byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau, ac rwy'n gwybod y bydd Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, ynghyd â Banc Cambria, yn parhau i wneud hynny hefyd.
A gaf i ddweud 'diolch' am eich datganiad, Gweinidog? Rydych chi wedi cyfeirio at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn helaeth, fel y mae Mark Isherwood wedi gwneud hefyd, ond roedd yn fraint gen i gadeirio'r pwyllgor hwnnw, ac rwy'n credu ei bod hi'n wych ein bod ni, ar sail drawsbleidiol, wedi cefnogi gwaith Banc Cambria yn fawr iawn ac wedi gwneud cyfres o argymhellion, a oedd, gobeithio, wedi helpu i symud materion yn eu blaen.
Gydag arian cyhoeddus, Gweinidog, a gaf i ofyn sut y byddwch chi a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod chwarae teg i bawb, ac yn enwedig i gymdeithasau adeiladu nad ydyn nhw'n ymwneud â Banc Cambria efallai?
Mae hwnnw'n gwestiwn teg, ac, edrychwch, yr hyn yr ydym ni'n edrych arno yw, rydym ni'n edrych ar rywbeth a fyddai'n gynnig buddsoddi priodol ar sail fasnachol. Felly, nid yw fel pe baem ni'n ceisio darparu llinellau credyd ffafriol; mae'n ymwneud â dod o hyd i bartner a all ddarparu cynnig buddsoddi masnachol manwl iawn, darparu elw ar fuddsoddiad y byddai Llywodraeth Cymru yn ei wneud. Ac felly, byddai gwaith diwydrwydd dyladwy priodol ynghylch hynny, ac ni fyddai hyn, mewn ffordd, yn dangos ffafriaeth, 'Rydym ni'n gofalu am un sefydliad.' Ac, mewn gwirionedd, roedd galwad agored, ac aeth Banc Cambria ati eu hunain i chwilio am amrywiaeth o sefydliadau i weithio gyda nhw a siarad â nhw. Roedd Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy eisiau gwneud hyn, yn barod i wneud hyn, ac yn cydnabod bod angen i'r sefydliad fod wedi ymrwymo mewn ffordd nad oedd ar rai sefydliadau eisiau bod. Nawr, mae hynny'n gwbl deg. Mater i bob sefydliad yw penderfynu sut y mae am reoli ei hun a buddsoddi ei egni ei hun. Rwy'n falch iawn o fod â Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy fel partner dibynadwy, yn gweithio gyda ni nawr.
A dylwn i ddweud ein bod ni wedi ystyried argymhellion y cyn bwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau a gadeiriwyd gan yr Aelod—mae'n debyg y byddwn yn cytuno â llawer mwy o bethau a ddywedodd fel Cadeirydd y pwyllgor nag yn ei swyddogaeth bresennol. Ond, na, rydym ni wedi cymryd o ddifrif yr hyn a ddywedodd y pwyllgor, ac mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn i ni allu gweithio o sail lle gwyddom ni fod cefnogaeth drawsbleidiol ac y gallwn ni geisio darparu rhywbeth a ddylai wneud gwahaniaeth, lle gall pawb gydnabod ein bod ni'n gwneud rhywbeth i fynd i'r afael ag angen gwirioneddol. Ni waeth sut y mae pobl yn pleidleisio, mae gwir angen ledled Cymru i ni wneud rhywbeth i lenwi'r bwlch hwn mewn gwasanaethau bancio lleol.
Diolch, Gweinidog. Mae banc cymunedol Cymru yn syniad pwysig iawn, gan roi ei aelodau a'i gymunedau yn gyntaf yn hytrach na chyfranddalwyr ac elw. Ynghyd â llawer o fy etholwyr, edrychaf ymlaen at weld y cynlluniau yn cael eu cyflwyno, ond nodaf eich sylwadau ynghylch yr heriau o ran rhoi'r model newydd ar waith.
Fe wnaethoch chi sôn am fanciau traddodiadol yn encilio'n gynt nag erioed o'r stryd fawr, ac rwy'n drist i nodi mai banc Barclays fu'r diweddaraf i adael y stryd fawr yn Aberdâr. Un syniad y gofynnodd etholwyr imi ei godi gyda Barclays yw'r syniad o ganolfan fancio lle gall nifer o fanciau ddod at ei gilydd mewn un adeilad ar y stryd fawr i gynnig eu gwasanaethau i'r gymuned. Gweinidog, byddwn yn croesawu eich barn ar ganolfannau bancio, ynghylch a allen nhw fod yn rhan o'r ateb i wasanaethau bancio yn gadael y stryd fawr. Fe wnes i gyfarfod â phenaethiaid Barclays ddoe a chyflwyno'r syniad hwn iddyn nhw. Fe wnaethon nhw ddweud wrthyf i eu bod nhw eisoes yn gweithio gyda banciau eraill i ddatblygu'r cysyniad hwn, gyda'r ganolfan fancio gyntaf ar fin agor yn Lloegr yn fuan. Felly, gyda hynny mewn golwg, a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda'r sector i geisio sicrhau canolfannau bancio yng Nghymru?
Diolch. Mae'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yng Nghymru gyda'r banc cymunedol yn ddull newydd o ran polisi nad yw wedi bod yn llwyddiannus yn unman arall. Mae canolfannau bancio yn treialu'r hyn y gallen nhw ei wneud, ac mae'r Aelod yn iawn i dynnu sylw atyn nhw fel rhan o'r ateb ar gyfer y dyfodol. Felly, rydym ni'n disgwyl cael adroddiad arbrofol ar ganolfannau bancio ar y cyd yn fuan, ac rwy'n deall bod dau gynllun yn arbrofi gyda chanolfannau bancio, un yn Swydd Lanark ac un yn Essex, ac mae yna hefyd fynediad cymunedol at gynllun arbrofol arian parod yn cael ei ddatblygu yn y Gelli Gandryll. Felly, byddwn yn edrych gyda gwir ddiddordeb ar y tri chynllun arbrofol gwahanol hynny i ddeall yr hyn y gallai hynny ei ddweud wrthym ni, naill ai am ein cynnig ni o ran sefydlu banc cymunedol, neu a oes ffyrdd eraill o geisio darparu gwasanaethau cynhwysiant ariannol i gymunedau ledled Cymru. Mae'n ddrwg gen i glywed bod Barclays yn bwriadu gadael Aberdâr. Mae'r Aelod yn tynnu sylw'n daclus iawn at yr union her yr ydym ni'n ceisio mynd i'r afael â hi, a byddwn i'n fwy na pharod i'w diweddaru hi ac eraill am yr hyn y gallwn ni ei wneud gyda'r sector bancio manwerthu presennol a'r posibiliadau o ganolfannau bancio sy'n helpu i lenwi rhai o'r bylchau y maen nhw yn eu gadael ar ôl.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Byddwch chi'n ymwybodol, Gweinidog, imi gyfarfod â Banc Cambria yn Abertyleri rai wythnosau'n ôl i drafod y posibilrwydd o leoli cangen yn y dref. Mae llawer o'n cymunedau yn y Cymoedd wedi gweld gwasanaethau ariannol yn cael eu tynnu'n ôl ac wedi gweld caledi gwirioneddol, i fusnesau lleol a phobl leol, o ganlyniad i hynny. Bydd llawer o bobl yn edrych ar hyn fel cyfle i weld gwasanaethau ariannol yn ôl ar y stryd fawr fel rhan o gyfle i adfywio canol trefi yn y Cymoedd ac mewn mannau eraill. A fyddech chi, Gweinidog, yn gweithio gyda Banc Cambria, ac Aelodau sy'n cynrychioli seddi yn y Cymoedd, i edrych ar sut y gallwn ni sicrhau bod gennym ni raglen o ganghennau a chyfle i sicrhau bod gwasanaethau ariannol ar gael i bobl ar hyd a lled y wlad lle bynnag y bo nhw'n byw, boed hynny'n Abertyleri, Tredegar, Glynebwy, Brynmawr neu rywle arall? Diolch.
Yn wir, rwy'n deall bod yna bobl nad ydyn nhw'n byw yn etholaeth yr Aelod, ond rwy'n ei ganmol am sôn am nifer o'i drefi etholaethol. Edrychwch, mae her wirioneddol, ac mae'r Aelod yn tynnu sylw at yr her yma eto, am adfywio canol trefi yn creu dyfodol llwyddiannus iawn i'n strydoedd mawr lleol, ac mae'n bwysig iawn o ran ymdeimlad o le yn y trefi hynny a'r hyn y mae pobl yn ei ddisgwyl am y man lle maen nhw'n byw. Felly, byddwn i'n fwy na pharod i barhau â'r sgwrs gydag ef wrth i ni gael y cynnig buddsoddi ynghylch Banc Cambria, wrth i ni ddeall mwy o'r manylion am ble maen nhw'n bwriadu lleoli eu canghennau, ond yn hollbwysig sut mae hynny'n cyd-fynd â'n hymyriadau eraill beth bynnag. Oherwydd nid oes a wnelo hyn â Banc Cambria yn unig—ac rwy'n sylweddoli na ddywedodd yr Aelod hynny—ond sut y gall ychwanegu at yr hyn yr hoffem ni ei wneud i sicrhau bod dyfodol gwirioneddol i drefi'r Cymoedd a threfi eraill ledled y wlad. Felly, byddwn i'n fwy na pharod i barhau â'r sgwrs honno gyda'r Aelod pan fo ar ei orau yn adeiladol.
Ac yn olaf, Rhianon Passmore.