Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

10/02/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:00 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da. Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn yma, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. Dwi eisiau atgoffa Aelodau am y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn, ac mae'r Rheolau Sefydlog hynny, wrth gwrs, yn berthnasol i'r cyfarfod yma heddiw.

1. Dadl: Cyfnod 3 Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)

Yr eitem gyntaf, felly, ar ein hagenda ni ar gyfer y prynhawn yma yw Cyfnod 3 ar gyfer y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru). 

Grŵp 1: Seiliau adfeddiannu (Gwelliannau 32, 33, 46, 51, 52)

Fe fyddwn ni'n trafod grŵp 1 o welliannau yn gyntaf, ac mae'r grŵp hynny'n ymwneud â seiliau adfeddiannu. Gwelliant 32 yw'r prif welliant yn y grŵp a dwi'n galw ar Delyth Jewell i gyflwyno'r gwelliant yma ac i siarad i'r gwelliannau eraill yn y grŵp. Delyth Jewell. 

Cynigiwyd gwelliant 32 (Delyth Jewell).

Diolch, Lywydd. Nid yw'n gyfrinach ein bod yn credu y dylid gwahardd troi allan heb fai, ac mae'r gwelliannau rydym wedi'u cyflwyno heddiw yn adlewyrchu'r safbwynt hwn. Mae ein gwelliannau yn y grŵp hwn yn seiliedig ar fodel yr Alban, sy'n gwahardd troi allan heb fai ond yn caniatáu troi allan mewn nifer gyfyngedig o amgylchiadau. Nid oherwydd ein bod yn meddwl ei fod yn berffaith yw'r rheswm dros ddefnyddio dull yr Alban, er ei fod yn well o lawer na'r dull a gynigir heddiw, ond pe baem yn mynd am waharddiad llwyr, o gofio’r hyn a ddywedwyd mewn cyfnodau blaenorol, rwy'n tybio byddai'r Gweinidog yn dadlau y byddai hyn mewn perygl o fod yn anghydnaws â deddfau hawliau dynol. Yn bersonol, credaf y byddai troi pobl allan a gwneud pobl yn ddigartref heb reswm yn mynd yn groes i hawliau dynol ynddo'i hun, ond yn anffodus, nid oes gan bobl ddigartref yr adnoddau ariannol i sefydlu grwpiau lobïo ar gyfer pob plaid ac i ddwyn achosion llys yn erbyn y Llywodraeth. Felly, yn hytrach, rydym wedi benthyg model yr Alban, sydd, wrth gwrs, wedi bod yn gyfraith ers blynyddoedd lawer, ac felly mae'n rhesymol i bob un ohonom dybio y byddai'n gydnaws â chyfraith hawliau dynol. Yn sicr, byddai’n cryfhau hawliau tenantiaid yn sylweddol ac yn golygu y byddem yn llawer agosach at roi diwedd ar droi allan heb fai. Yng Nghyfnod 2, esboniodd y Gweinidog y gallai'r seiliau fod yn rhy gul ac y gallent atal landlord rhag adhawlio eu heiddo pe baent heb eu cynnwys ar y seiliau hyn. Felly, dyna pam fod y gwelliant yn rhoi pŵer i'r Gweinidog addasu'r seiliau.

Yn fwy cyffredinol, hoffwn amlinellu safbwynt fy ngrŵp ar y ddeddfwriaeth. Sef, nid ydym yn credu bod y Llywodraeth wedi taro'r cydbwysedd iawn rhwng hawliau tenantiaid, sef y rhai tlotach yn aml, a landlordiaid, sef y grŵp a chanddynt y pŵer lobïo yn hanesyddol. Nid yw’r Llywodraeth wedi gwneud digon o symud ar hyn, o leiaf i'r cyfeiriad yr hoffem ei weld. Cafwyd addewid, wrth gwrs, gan y Prif Weinidog am waharddiad llwyr ar droi allan heb fai, ond mae hyn wedi'i lastwreiddio i gynyddu'r cyfnod rhybudd gofynnol yn unig o ddeufis i chwe mis. Mae hwnnw’n gam sylweddol tuag at safbwynt y landlordiaid, ac mae arnaf ofn ei fod yn adlewyrchu'r anghydbwysedd grym mewn perthynas â gwahanol grwpiau a'u gallu i ddeall y materion hyn a gallu lobïo dros newid. Ein dealltwriaeth o hyd yw bod Llywodraeth y DU yn bwriadu gwahardd troi allan heb fai yn Lloegr, ond maent wedi gohirio'r ddeddfwriaeth honno oherwydd y pandemig. Serch hynny, golyga hynny y byddai pasio'r ddeddfwriaeth hon heddiw yn golygu mai Cymru fyddai’r eithriad. Hawliau tenantiaid yng Nghymru fyddai'r gwannaf, ac mae honno’n sefyllfa na all fy ngrŵp ei chefnogi.

O dan unrhyw amgylchiadau eraill, gallem o leiaf ystyried bod y symudiad bach hwn yn werth chweil, ond mae'r pandemig, i bob pwrpas, yn golygu ein bod yn trafod yma beth fydd y drefn gyfreithiol ar ôl y pandemig. Felly, ni fydd beth bynnag sy'n digwydd y prynhawn yma'n effeithio’n ymarferol ar hawliau tenantiaid ar hyn o bryd, yn y tymor byr. Fodd bynnag, yn y tymor hwy, byddai pasio’r Bil hwn yn niweidiol, gan y byddai'n anochel yn gohirio'r newidiadau y byddem am eu gweld yn cael eu rhoi ar waith. Fel y cyfryw, heb unrhyw symudiadau sylweddol gan y Llywodraeth heddiw, byddwn yn pleidleisio yn erbyn y Bil ac yn ceisio cyflwyno Bil llawer cryfach, pe baem yn llwyddo i ffurfio'r Llywodraeth nesaf. Byddai hwnnw'n ddull tecach i bawb, ac yn nodi ein bwriad clir i gyflwyno ein deddfwriaeth ein hunain yn hytrach na derbyn yr hyn a gynigir yma. Edrychaf ymlaen at y ddadl. Diolch yn fawr.

13:05

Mae gwelliannau 51 a 52 y Ceidwadwyr yn cyflwyno rhai seiliau gorfodol dros adennill meddiant. Rwy'n gefnogol i nod cyffredinol y Bil o gynyddu sicrwydd deiliadaeth ar gyfer rhentwyr, fel y mwyafrif ohonom ar draws y Siambr. Fodd bynnag, mae'n werth cydnabod pryderon llawer o landlordiaid ac asiantiaid gosod eiddo am yr effaith y gallai'r Bil ei chael ar eu gallu i adennill meddiant ar eu heiddo pe bai angen iddynt fel cam olaf un. Gwaethygwyd y pryderon hyn o ystyried y dagfa yn llysoedd Cymru ar hyn o bryd, gydag ymchwil gan Gymdeithas Genedlaethol Landlordiaid Preswyl (NRLA) Cymru yn dangos ei bod bellach yn cymryd 22.6 wythnos ar gyfartaledd rhwng bod landlord preifat yn gwneud cais yn y llysoedd i eiddo gael ei adfeddiannu a bod hynny’n digwydd mewn gwirionedd. Mae hyn yn achosi aflonyddwch a phryder i landlordiaid, yn cynyddu cost camau gweithredu, ac yn atal tai rhag bod ar gael i bobl sydd eu hangen. Fel y cyfryw, mae’r Gymdeithas Asiantaethau Gosod Preswyl (ARLA) wedi galw am gynnwys seiliau gorfodol ychwanegol yn y Bil i sicrhau ei fod yn gweithio ac yn ddull cytbwys. Felly, mae gwelliant 51 yn cynnwys seiliau megis os yw’r landlord yn bwriadu gwerthu'r eiddo neu symud i mewn i’r eiddo fel yr awgrymwyd gan ARLA. Er nad oedd y Gweinidog yn cytuno â hyn yng Nghyfnod 2, mae'n bwysig cydnabod bod amgylchiadau pobl yn newid. Os yw landlord yn wynebu digartrefedd neu anawsterau ariannol, yna efallai y bydd angen iddynt symud i mewn i'w heiddo neu ei werthu, a dylai'r Bil gydnabod yr amgylchiadau eithriadol hyn.

Mae gwelliant 51 hefyd yn cynnwys seiliau ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol a cham-drin domestig. Byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod sut y byddai'r Gweinidog yn ymateb i dystiolaeth ysgrifenedig gan Sefydliad Tai Siartredig Cymru, sy’n nodi

y byddai angen sefydlu proses fonitro ofalus i ddysgu am brofiadau tenantiaid a landlordiaid

er mwyn sicrhau na cheir unrhyw ganlyniadau anfwriadol sy'n tanseilio gallu landlordiaid i ymateb i faterion difrifol o’r fath.

Mae gwelliant 52 yn galluogi benthyciwr morgeisi i adennill meddiant ar eiddo. Er eu bod yn cefnogi bwriad y Bil, mae UK Finance yn nodi pryderon y gallai effaith y risg credyd uwch wanychu’r sector rhentu preifat yng Nghymru, a fyddai’n mynd yn groes i ddyhead Llywodraeth Cymru i weld sector rhentu preifat bywiog, hyfyw, o ansawdd uchel ac sy’n tyfu ar gyfer y rheini sy'n ei ddewis neu sydd ei angen. Mae pob un ohonom yn ymwybodol o'r problemau gyda'r cyflenwad tai yng Nghymru, ac mae'n bwysig nad yw'r Bil yn cael unrhyw ganlyniadau anfwriadol ar argaeledd tai. A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i adolygu effaith y Bil ar y cyflenwad tai yng Nghymru, fel rhan o'r adolygiad ôl-weithredu? Diolch.

Diolch, Lywydd. Fel y mae Delyth wedi’i ddweud, byddai ei gwelliannau 32 a 33 gyda'i gilydd yn cael gwared ar allu'r landlord i gyflwyno rhybudd o dan adran 173 mewn perthynas â'r mwyafrif helaeth o gontractau meddiannaeth, gan ei osod yn lle hynny gyda seiliau dros feddiannu sy’n debyg ond nid yr un peth â'r dull sydd ar waith yn yr Alban. Mae'r seiliau newydd hyn a nodir mewn Atodlen 8ZA newydd naill ai'n orfodol neu'n ddisgresiynol ac yn ei gwneud yn ofynnol i landlord gyflwyno o leiaf 12 mis o rybudd cyn y gellir gwneud cais am feddiant. Fodd bynnag, dim ond ar gyfer contractau meddiannaeth a nodir yn Atodlen 8A, sy'n darparu o leiaf ddeufis o rybudd, y byddai gallu landlord i gyflwyno rhybudd adran 173 yn cael ei gadw, felly dyma fyddai'r amddiffyniad gwannaf yn y Deyrnas Unedig mewn gwirionedd, ac nid y cryfaf, fel roedd hi'n ei honni.

Nid wyf yn hyderus fod y seiliau a restrir yn yr Atodlen 8ZA newydd o reidrwydd yn cynnwys yr holl resymau pam y gallai landlord fod yn awyddus i geisio meddiant. Mae angen ystyriaeth fanwl ac ymgynghori ar ddeddfwriaeth fel hon sy’n seiliedig ar seiliau i sicrhau bod y seiliau y darperir ar eu cyfer yn cynnwys yr holl sefyllfaoedd a all godi. Heb y gwaith hwn, mae'n bosibl y bydd landlordiaid mewn sefyllfa ble na allant fyth adennill meddiant ar eu heiddo.

Ni chredaf fod y cydbwysedd rhwng seiliau gorfodol a disgresiynol yn iawn, chwaith—er enghraifft, sail orfodol ar gyfer meddiant morgeisai, ond sail ddisgresiynol ar gyfer newid eiddo yn ôl i fod yn gartref teuluol. Yn ychwanegol at fy mhryderon ynghylch y seiliau newydd hyn, yr hyn sy’n anodd yn fy marn i gyda gwelliannau Delyth yw'r gofyniad i landlord ddarparu o leiaf 12 mis o rybudd. Mae Rhentu Cartrefi bob amser wedi ceisio taro'r cydbwysedd cywir rhwng sicrwydd deiliadaeth digonol i ddeiliad contract a’r gallu i landlord gymryd meddiant ar eu heiddo. Ni chredaf y gellid honni hyn pe baem yn cael gwared ar y gofyniad hwn am gyfnod rhybudd o 12 mis cyn y gallai achos adennill meddiant gychwyn. Am y rhesymau hyn, ni allaf gefnogi gwelliannau 32 a 33.

Gan droi at welliannau Laura, 46 a 51, mae gennyf bryderon difrifol iawn ynglŷn â sut y mae'r rhain yn effeithio ar sicrwydd deiliadaeth deiliad contract. Mae'r diwygiadau'n nodi nifer o seiliau gorfodol ac yn galluogi landlord i geisio meddiant gyda deufis yn unig o rybudd ar y mwyaf. Nid wyf yn cefnogi cyflwyno seiliau gorfodol newydd o fewn Bil a chanddo’r nod o gynyddu sicrwydd deiliadaeth. Ystyriwyd y defnydd o seiliau gorfodol yn ofalus iawn gan Gomisiwn y Gyfraith wrth baratoi Rhenti Cartrefi, ac maent yn parhau mewn nifer fach iawn o achosion yn unig. Sail y Bil hwn yw darparu o leiaf chwe mis o rybudd i ddeiliad contract nad yw wedi gwneud unrhyw beth o'i le yn ystod eu meddiannaeth. Rwy'n deall y gallai fod gan landlord resymau da dros fod yn awyddus i werthu'r eiddo neu fyw ynddo eu hunain, ond nid deiliad y contract sydd ar fai, ac yn sicr, ni ddylai'r rhesymau hyn gael blaenoriaeth dros eu gallu i ddod o hyd i gartref addas arall. Byddai deufis o rybudd o dan yr amgylchiadau hyn yn cynnal y system bresennol a'r effaith ddinistriol y mae'n ei chael ar deuluoedd sy'n derbyn hysbysiadau byr o'r fath.

Yn yr un modd, mewn perthynas â gwelliant 52, nid yw deiliad contract ar fai os yw morgeisai yn dymuno ceisio meddiant, ac ni allaf dderbyn bod sail orfodol o ddeufis o rybudd yn unig yn angenrheidiol yma chwaith. Fel y dywedaf, mae'r Bil hwn yn ceisio ymestyn y cyfnod a fydd gan ddeiliad contract i ddod o hyd i gartref addas, nid ei leihau, ac am y rhesymau hyn, Lywydd, ni allaf gefnogi'r gwelliannau hyn. Diolch.

13:10

Diolch, Lywydd. Diolch i'r Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl. Credaf mai dyma'r tro cyntaf i Laura a minnau ymateb i ddeddfwriaeth gyda'n gilydd ers iddi ddod i’r rôl hon, felly rwy'n ei chroesawu iddi. Credaf fod y ddadl fer rydym newydd ei chael yn dangos bod anghydbwysedd o hyd o ran dylanwad rhwng tenantiaid a landlordiaid. Byddwn yn sicr yn cytuno â'r hyn roedd y Gweinidog yn ei ddweud am welliannau'r Ceidwadwyr. Rwy'n dal i feddwl bod angen inni fynd ymhellach yng Nghymru, ac am y rheswm hwnnw, byddwn yn gwthio ein gwelliannau yn y grŵp hwn i bleidlais, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n ystyried yr hyn a ddywedwyd. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn, felly, yw a ddylid derbyn gwelliant 32. A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly fe wnawn ni atal y cyfarfod dros dro er mwyn paratoi ar gyfer y bleidlais. Fe fyddwn ni ond yn gwneud hyn unwaith yn ystod ystyriaeth Cyfnod 3. Felly, atal y cyfarfod dros dro. Diolch.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 13:12.

13:15

Ailymgynullodd y Senedd am 13:17, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

Felly, dyma ni'n cyrraedd ein pleidlais gyntaf ni, ac rŷm ni'n pleidleisio nawr yn gyntaf ar welliant 32 yn enw Delyth Jewell. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, mae wyth yn ymatal ac mae 32 yn erbyn, felly mae gwelliant 32 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 32: O blaid: 8, Yn erbyn: 32, Ymatal: 8

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 33 (Delyth Jewell).

Ydy. Thumbs up yn golygu ei fod e'n cael ei symud. Gwelliant 33, felly. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 33? Unrhyw un yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly gawn ni bleidlais ar welliant 33 yn enw Delyth Jewell. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, neb yn ymatal, 40 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 33 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 33: O blaid: 8, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 2: Cyfnod hysbysu (Gwelliannau 34, 35, 36, 37, 38, 39, 40, 41, 42, 43, 44, 45)

Grŵp 2 yw'r grŵp nesaf o welliannau, ac mae'r rhain yn ymwneud â chyfnodau hysbysu. A gwelliant 34 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar Delyth Jewell i gyflwyno'r gwelliant yma ac i siarad i'r gwelliannau eraill yn y grŵp. Delyth Jewell. 

Cynigiwyd gwelliant 34 (Delyth Jewell).

Diolch, Lywydd. Mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn hefyd yn adlewyrchu ein safbwynt ein bod yn awyddus i roi diwedd ar droi allan heb fai. Rydym wedi eu cyflwyno yn yr ysbryd o geisio dod o hyd i gyfaddawd gyda'r Llywodraeth, gan y byddem yn ystyried cefnogi'r Bil pe bai'n ymestyn y cyfnod dim bai. Felly, mae'r gwelliannau hyn yn ymestyn y cyfnod rhybudd y mae'n rhaid ei roi ar gyfer troi allan heb fai, ac rydym wedi darparu sawl opsiwn yma i'r Aelodau eu hystyried, a dyna pam fod gennym y gyfres hon o bleidleisiau.

Felly, mae gwelliannau 34 ac 20 yn ymestyn y cyfnod hwnnw i flwyddyn; mae gwelliannau 35 a 21 yn ymestyn y cyfnod i ddwy flynedd; mae gwelliannau 36 a 22 yn ymestyn y cyfnod hwnnw i dair blynedd; mae gwelliannau 37 a 23 yn ymestyn y cyfnod i bedair blynedd; mae gwelliannau 38 a 24 yn ymestyn y cyfnod i bum mlynedd;, ac yn olaf, mae gwelliannau 39 a 25 yn ymestyn y cyfnod i 10 mlynedd. Felly, rwy’n awyddus i wybod beth y mae pobl yn meddwl sy'n gyfnod rhybudd derbyniol i'w roi i denantiaid pan nad ydynt ar fai.

Yn fy marn i, nid yw chwe mis yn ddigon o rybudd i bobl mewn llawer o amgylchiadau. Rwy’n derbyn y pwynt a wnaeth y Gweinidog mewn cyfnodau blaenorol ei fod, i bob pwrpas, yn rhoi blwyddyn o sicrwydd. Rwy'n dal i feddwl nad yw hyn yn ystyried rhai o'r sefyllfaoedd mwyaf cymhleth y gall tenantiaid eu hwynebu, er enghraifft: teuluoedd â phlant sy'n mynychu ysgol leol ac sydd angen parhau i fyw yn yr ardal gan fod newid ysgol yn aflonyddgar; teuluoedd sy'n cynnwys pobl nad ydynt yn ymdopi’n dda â newidiadau i'w ffordd o fyw, fel pobl ar y sbectrwm awtistig; pobl sydd â chyfrifoldebau gofalu am deulu sy'n byw gerllaw; neu bobl efallai nad ydynt yn gyrru ond sydd ag ymrwymiadau gwaith lle gallai symud tŷ beryglu'r gyflogaeth honno, gan fod angen i'r unigolyn allu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus addas. Mae'r rhain yn bobl y bydd cael eu troi allan yn arbennig o anodd ac aflonyddgar iddynt. Pam y dylai plant wynebu aflonyddwch newid ysgol yn aml am ein bod wedi methu darparu tai diogel yn hirdymor? Pam y dylai pobl wynebu aflonyddwch enfawr pan nad oes unrhyw fai arnynt hwy eu hunain? Nid yw cyfnod rhybudd o chwe mis yn ddigon o amser i lawer o deuluoedd mewn cymunedau gwledig neu yng nghymunedau’r Cymoedd ddod o hyd i lety arall yn yr un ardal. Mae hynny'n rhywbeth nad yw'r rheini sy'n byw mewn dinasoedd mawr a chanddynt farchnad rentu fywiog yn ei ystyried yn aml. Nid yw'n ddigon o amser chwaith i bobl ag anableddau ddod o hyd i gartref arall addas lle mae angen gwneud addasiadau.

Ar y sail honno, credaf fod ymgais y Llywodraeth i gyfaddawdu â lobïwyr y landlordiaid yn anghydnaws â deddfau cydraddoldeb, ac o bosibl, â hawliau'r plentyn. Felly, cyflwynais y gyfres hon o welliannau i gywiro hyn, gan ddechrau gyda'r cyfnod derbyniol byrraf y byddai fy ngrŵp yn ei ystyried er mwyn cefnogi'r ddeddfwriaeth. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n ystyried goblygiadau’r hyn a ddywedwyd mewn perthynas â chydraddoldeb, ac edrychaf ymlaen at y ddadl. Diolch.

13:20

Diolch, Lywydd. Fel y mae Delyth wedi’i ddweud, mae gwelliannau 34 i 39 yn nodi ystod o gyfnodau rhybudd amgen hirach y mae'n rhaid i landlord eu rhoi er mwyn dod â chontract cyfnodol safonol i ben o dan adran 173 yn Neddf 2016. Mae gwelliannau 40 i 45 yn gwneud yr un peth mewn perthynas â hysbysiadau a roddir o dan gymal terfynu landlord mewn contractau safonol cyfnod penodol. Mae'r Bil, wrth gwrs, eisoes yn ymestyn cyfnodau rhybudd yn y ddau achos o ddau i chwe mis. Mae'r cyfnod rhybudd hirach yn gydbwysedd rhwng buddiannau landlordiaid a deiliaid contractau, ac mae'n safbwynt a gefnogwyd eisoes gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn ei adroddiad Cyfnod 1 ar y Bil.

Rwy’n deall yn llwyr fod Delyth yn awyddus i gyrraedd sefyllfa lle mae’r sector rhentu preifat yn rhoi’r math o sicrwydd deiliadaeth y byddai pobl mewn tai cymdeithasol yn ei gael yn ddelfrydol, ond byddwn yn dadlau y bydd rhai o’r gwelliannau hyn yn arwain at ganlyniadau anfwriadol y byddai angen i ni eu hystyried pe baem yn ceisio ymestyn y cyfnodau rhybudd yn y ffordd hon, yn anad dim y byddai pobl yn ymadael â’r sector rhentu preifat yn gyfan gwbl pe bai'n rhaid iddynt aros sawl blwyddyn i gael tŷ yn ôl mewn amgylchiadau lle gallai fod ei angen arnynt am resymau da. Felly, mae hyn bob amser yn ymwneud â'r cydbwysedd rhwng angen y landlord i gadw eu heiddo at eu defnydd eu hunain neu er mwyn ei werthu neu beth bynnag, ac i'r tenant gael sicrwydd deiliadaeth sy'n caniatáu iddynt aros yn yr ardal lle mae eu plant yn yr ysgol a lle maent wedi ymsefydlu fel teulu, fel y dywed Delyth, ac mae gennym gryn dipyn o gydymdeimlad â hynny. Yn sicr, rydym yn awyddus i gael y cydbwysedd yn iawn, a chredwn fod yr hyn rydym yn ei nodi yn y Bil yn taro'r cydbwysedd hwnnw, ac na fydd yn arwain at unrhyw ganlyniadau anfwriadol.

Yn ychwanegol at hynny, ac mae'n bwynt rwyf wedi'i wneud o'r blaen ond mae'n werth ei wneud eto: o dan y Bil fel y'i drafftiwyd, bydd gan denantiaid yng Nghymru fwy o sicrwydd deiliadaeth mewn perthynas â hysbysiad dim bai nag yn unrhyw le arall yn y DU. Yn yr Alban, er enghraifft, nid oes yn rhaid i denant fod ar fai i gael 28 diwrnod o rybudd yn unig yn ystod chwe mis cyntaf eu tenantiaeth a llai na thri mis o rybudd ar ôl hynny. Byddai'r cyfnod hysbysu byrraf amgen yn y gwelliannau hyn yn amharu ar y cydbwysedd rhwng hawliau deiliad y contract a’u landlord, ac mae'n ddigon posibl y byddai iddo ganlyniadau anfwriadol yn y sector rhentu preifat. Fel y nodais wrth y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol pan gyflwynwyd yr un gwelliannau hyn yng Nghyfnod 2, ni chredaf y gellid cyfiawnhau’r cynnydd hwn, ac am y rhesymau hyn, Lywydd, er fy mod yn deall eu bod yn llawn bwriadau da, ni allaf gefnogi gwelliannau 34 i 45.

Diolch, Lywydd. Rwy'n sylweddoli bod y Gweinidog yn cydymdeimlo â'r cymhelliant y tu ôl i'r gwelliannau hyn. Diolch iddi am ei hymateb. Mewn gwleidyddiaeth, credaf fod angen inni ddod o hyd i gydbwysedd bob amser wrth gwrs—crefft yr hyn sy'n bosibl. Rwy'n dal i deimlo bod angen goleddfu'r cydbwysedd yn yr achos hwn o blaid y bobl sydd mewn sefyllfaoedd ansicr iawn neu sy'n agored i'r mathau o niwed sy'n rhy gyffredin o lawer, fel rwyf wedi'i nodi. Am y rhesymau hynny, er fy mod yn deall yr hyn a ddywed y Gweinidog, byddwn yn gwthio'r gwelliannau hyn i bleidlais, a diolch iddi am ei hymateb. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n ystyried yr hyn rydym wedi'i ddweud pan fyddant yn pleidleisio. Diolch.

13:25

Dyma ni'n cyrraedd y bleidlais, felly. A dim ond i ddweud, os derbynnir gwelliant 34, bydd gwelliannau 35, 36, 37, 38 a 39 yn methu. Y cwestiwn yw, felly: a ddylid derbyn gwelliant 34? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly, i mewn i bleidlais ar welliant 34. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, neb yn ymatal a 41 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 34 wedi'i wrthod.

Gwelliant 34: O blaid: 8, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Ocê, ydy. Efallai bod well cadarnhau yn llafar hefyd, rhag ofn bod thumbs up ddim yn cael ei gofnodi ar y Cofnod swyddogol. Felly, ydy e'n cael ei symud, Delyth Jewell?

Cynigiwyd gwelliant 35 (Delyth Jewell).

Diolch yn fawr. Felly, gwelliant 35, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 35? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 35. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, neb yn ymatal a 41 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 35 wedi'i wrthod.

Gwelliant 35: O blaid: 8, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 36 (Delyth Jewell).

Pleidlais, felly—. A oes gwrthwynebiad i welliant 36? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly pleidlais ar welliant 36. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, neb yn ymatal a 41 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 36 wedi'i wrthod.

Gwelliant 36: O blaid: 8, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 37 (Delyth Jewell).

Oes gwrthwynebiad i welliant 37? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, symudwn i bleidlais ar welliant 37 yn enw Delyth Jewell. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, neb yn ymatal a 41 yn erbyn. Mae gwelliant 37 wedi'i wrthod.

Gwelliant 37: O blaid: 8, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 38 (Delyth Jewell).

Oes gwrthwynebiad i welliant 38? [Gwrthwynebiad.] Oes, ac felly, fe wnawn ni gymryd pleidlais ar welliant 38 yn enw Delyth Jewell. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, neb yn ymatal a 41 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 38 wedi'i wrthod.

Gwelliant 38: O blaid: 8, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 39 (Delyth Jewell).

Gwelliant 39. A oes gwrthwynebiad i welliant 39? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 39 yn enw Delyth Jewell. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, neb yn ymatal a 41 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 39 wedi'i wrthod.

Gwelliant 39: O blaid: 8, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 40 (Delyth Jewell).

Oes gwrthwynebiad i welliant 40? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe gymrwn ni bleidlais ar welliant 40 yn enw Delyth Jewell. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, neb yn ymatal a 41 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod. 

Gwelliant 40: O blaid: 8, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

13:30

Cynigiwyd gwelliant 41 (Delyth Jewell).

Oes gwrthwynebiad i welliant 41? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe symudwn ni i bleidlais ar welliant 41. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 41 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 41: O blaid: 8, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 42 (Delyth Jewell).

Oes gwrthwynebiad i welliant 42? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, symudwn i bleidlais ar welliant 42 yn enw Delyth Jewell. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 42 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 42: O blaid: 8, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 43 (Delyth Jewell).

Oes gwrthwynebiad i welliant 43? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, felly pleidlais ar welliant 43. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 43 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 43: O blaid: 8, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 44 (Delyth Jewell).

Oes gwrthwynebiad i welliant 44? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, symudwn i bleidlais ar wellliant 44 yn enw Delyth Jewell. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 44 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 44: O blaid: 8, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 45 (Delyth Jewell).

Oes gwrthwynebiad i welliant 45? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad. Felly, dyma ni'n symud i bleidlais ar welliant 45. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 45 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 45: O blaid: 8, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 3: Contractau safonol a chyfnod penodol y gellir eu terfynu ar ôl cyfnod hysbysu o ddau fis (Gwelliannau 9, 53, 54)

Sy'n ein harwain ni at grŵp 3. Mae'r grŵp nesaf yma, sef grŵp 3, yn ymwneud â chontractau safonol a chyfnod penodol y gellir eu terfynu ar ôl cyfnod hysbysu o ddau fis. Gwelliant 9 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar y Gweinidog, Julie James, i gyflwyno'r gwelliant a'r grŵp. 

Cynigiwyd gwelliant 9 (Julie James).

Rwy'n cynnig gwelliant 9 yn fy enw i. Mae gwelliant 9 yn egluro ymhellach pryd y gall sefydliad addysg uwch ddarparu rhybudd o ddeufis o dan naill ai adran 173, neu o bosibl, cymal terfynu landlord. Dim ond i ddeiliad contract y darparwyd llety iddynt allu dilyn cwrs astudio y caniateir i sefydliad addysg uwch roi deufis o rybudd. Mae hyn yn berthnasol p'un a yw'r llety wedi'i ddarparu at ddiben arall hefyd ai peidio. Rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliant hwn.

O ran gwelliant 53 a gyflwynwyd gan Laura Anne Jones, fel y nodais pan gyflwynwyd yr un gwelliant yng Nghyfnod 2, rwy'n cydnabod y mater y mae'r gwelliant yn ceisio mynd i'r afael ag ef. Ers cyfarfod pwyllgor Cyfnod 2, mae fy swyddogion wedi cyfarfod â chynrychiolwyr tri ffederasiwn teuluoedd y lluoedd arfog a chyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Y prif bryder yw mai tri mis o rybudd yn unig y mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn ei roi i derfynu meddiannaeth llety’r lluoedd arfog. Felly, os yw eiddo sy’n eiddo i aelod o’r lluoedd arfog wedi’i rentu’n breifat, gallai’r gofyniad cyffredinol o dan y Bil i roi chwe mis o rybudd beri anawsterau. Fodd bynnag, mae'n amlwg o'r trafodaethau a gafwyd fod yna gymhlethdodau y mae'n rhaid eu harchwilio ymhellach i sicrhau bod unrhyw ddarpariaeth a wnawn i fynd i'r afael â'r broblem hon yn gadarn. Hefyd, mae angen inni ystyried sefyllfa rhywun y mae eu landlord yn ymuno â'r lluoedd arfog ar ôl dyddiad cychwyn eu contract, ac y gallent, o bosibl, wynebu newid yn eu sicrwydd deiliadaeth o ganlyniad. Felly, nid wyf yn cefnogi diwygio'r Bil ar hyn o bryd cyn bod y cymhlethdodau wedi eu deall yn llawn. Fel y saif pethau, mae gennym eisoes bwerau gwneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer eithriad o'r fath os bydd hynny’n briodol ac yn angenrheidiol.

Mae gwelliant 54, a gyflwynwyd hefyd gan Laura Anne, yn ymwneud â gosod eiddo sydd fel arfer yn cael ei feddiannu gan weinidogion crefydd. Mae rhentu preifat o'r fath, rwy'n deall, yn eithaf cyffredin am gyfnodau pan nad oes angen eiddo o'r fath i ddarparu cartref i weinidog crefydd. Nodais yng Nghyfnod 1 nad oeddwn yn gweld achos dros roi deufis o rybudd yn unig i rywun yn y fath amgylchiadau—barn roedd y pwyllgor yn cytuno â hi. Rwy’n dal i fod yn argyhoeddedig fod hyn yn angenrheidiol, ac felly nid wyf yn cefnogi’r gwelliant hwn. Fodd bynnag, os penderfynir ar ryw adeg ei fod yn angenrheidiol, ceir pŵer i wneud rheoliadau eisoes y gellid ei ddefnyddio ar gyfer eithriad o'r fath.

13:35

Weinidog, rwy’n gwerthfawrogi eich sylwadau ar ein gwelliannau. Nod gwelliannau 53 a 54 yw darparu eithriad i'r Bil ar gyfer aelodau o'r lluoedd arfog, fel rydych wedi esbonio, sydd wedi cael rhybudd i adael llety’r gwasanaethau, yn ogystal ag eiddo y mae gweinidogion crefydd yn byw ynddo. Mae'r ddau welliant yn ymateb i bryderon a godwyd ynghylch canlyniadau anfwriadol y Bil. Mae Cymdeithas Genedlaethol Landlordiaid Preswyl Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith y gallai aelodau o’r lluoedd arfog sydd wedi cael rhybudd i adael llety’r gwasanaethau wynebu risg uwch o ddigartrefedd neu anawsterau eraill ym maes tai oherwydd y gwahaniaeth rhwng y cyfnodau rhybudd y darperir ar eu cyfer yn y Bil hwn o’u cymharu â’r hyn a ddefnyddir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Rwy'n ddiolchgar i Cytûn am eu cymorth i'n helpu i ddrafftio gwelliant 54. Maent hefyd wedi mynegi pryderon ynghylch effaith y Bil ar gymunedau ffydd. Mae hyn yn cynnwys y posibilrwydd o allu cylchdroi clerigwyr yn flynyddol rhwng rolau’r weinidogaeth a phroblemau gyda chyfnod rhybudd hir cyn sicrhau meddiant ar bersondy os caiff gweinidog eu diswyddo oherwydd mater disgyblu difrifol. Weinidog, rwy'n deall eich bod eisoes wedi nodi eich bod wedi cael trafodaethau gyda rhanddeiliaid ynglŷn â’r ddau fater, fel yr amlinellwyd gennych. Er y credaf y bydd ein gwelliannau’n mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd, byddwn yn gwerthfawrogi pe gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi ynglŷn â’r gwaith y mae eich swyddogion wedi'i wneud ar hyn. Pryd y byddwch yn mynd i'r afael â'r pryderon hyn, os na chewch eich perswadio gan y gwelliannau hyn yn awr?

Mae'n ddrwg gennyf—fy nghamgymeriad i. Nid oeddwn yn siŵr a oeddech wedi colli'r sain neu ai dyna ddiwedd y cyfraniad. Mae hynny'n wych. Diolch. Nid oes unrhyw siaradwyr eraill, felly galwaf ar Julie James i ymateb i'r ddadl, os yw'n dymuno gwneud hynny.

Yn fyr, dim ond i ofyn i'r Aelodau gefnogi gwelliant 9, am yr eglurder ychwanegol y mae’n ei ddarparu. Gofynnaf i'r Aelodau wrthod gwelliannau 53 a 54 ar y sail rwyf eisoes wedi'i nodi. Rydym yn trafod gyda'r ddau grŵp o randdeiliaid a byddai'n llawer gwell gennym ddefnyddio'r pwerau rheoleiddio sydd ar gael i ni eisoes i fynd i'r afael â'r pryderon hyn ar ôl i raddau llawn y materion gael eu harchwilio'n iawn.

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu gwelliant 9? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly dyma ni'n symud i bleidlais ar welliant 9, yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, tri yn ymatal, ac un yn erbyn, ac felly mae gwelliant 9 wedi ei gymeradwyo.

Gwelliant 9: O blaid: 45, Yn erbyn: 1, Ymatal: 3

Derbyniwyd y gwelliant

Grŵp 4: Diwygiadau amrywiol i Ddeddf 2016 (Gwelliannau 10, 16, 17, 18, 19, 20, 56, 21, 25, 26, 27)

Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 4, ac mae'r grŵp yma yn ymwneud â diwygiadau amrywiol i Ddeddf 2016. Gwelliant 10 yw'r prif welliant, a dwi'n galw ar Julie James, y Gweinidog, i siarad i'r gwelliant hwnnw a'r gwelliannau eraill yn y grŵp.

Cynigiwyd gwelliant 10 (Julie James).

Rwy'n cynnig y gwelliannau yn fy enw i. Diben gwelliannau 10, 16, 17 a 19 yw dileu cyfeiriadau diangen at y Rheoliadau Personau a Ddadleolir (Diogelu Dros Dro) 2005, sydd bellach wedi'u dirymu.

Bydd Gwelliant 18 yn cael gwared ar yr enghreifftiau yn adran 33 yn Neddf 2016 o newidiadau golygyddol y gellir eu gwneud i delerau sylfaenol ac atodol a nodir mewn datganiad ysgrifenedig. O ystyried, gall yr enghreifftiau hyn fod yn ddi-fudd ac nid ystyrir eu bod yn angenrheidiol. Fel y bydd yr Aelodau'n deall, mae'n hanfodol fod y telerau a nodir mewn datganiadau ysgrifenedig yn adlewyrchu'r darpariaethau a gynhwysir yn y Ddeddf ac unrhyw reoliadau a wneir oddi tani, fel sy'n briodol. Ond lle gallai fod rhywfaint o gyfle i wella yn y maes hwn a gwella'r profiad o ddatganiadau ysgrifenedig enghreifftiol i ddefnyddwyr, ni hoffwn achub—i ddefnyddwyr, hoffwn achub ar y cyfle hwnnw. Maddeuwch i mi; fe wneuthum smonach o hynny braidd. Fe’i dywedaf eto. Lle gallai fod rhywfaint o gyfle i wella yn y maes hwn a gwella'r profiad o ddatganiadau ysgrifenedig enghreifftiol i ddefnyddwyr, fe hoffwn achub ar y cyfle hwnnw.

Mae gwelliant 20 yn egluro ymhellach yr amgylchiadau lle gall landlord cymunedol ddarparu contract safonol, yn hytrach na chontract diogel, i ddeiliad contract sy'n dilyn cwrs astudio. Nid yw’r eithriad hwn ond yn berthnasol pan ddarperir y llety er mwyn galluogi deiliad y contract i fynychu cwrs dynodedig mewn sefydliad addysgol yn unig. Lle bydd gan ddeiliad y contract hawl ychwanegol i'r eiddo y tu hwnt i'r angen am lety i astudio, mae'n ofynnol i'r landlord cymunedol ddarparu contract diogel, lle byddai hawl ychwanegol deiliad y contract fel arall yn eu gwneud yn gymwys ar gyfer contract o'r math hwnnw. Mae'r llety a nodir o dan y ddarpariaeth hon at ddiben gwahanol ac nid yw wedi'i gysylltu â’r llety a ddarperir gan sefydliad addysg uwch.

Mae gwelliannau 21 a 25 hyd at 27 yn diwygio adran 256(2) yn Neddf 2016. Ar hyn o bryd, mae'r adran hon yn caniatáu rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf 2016 i wneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfiadau, ac addasu, diddymu a dirymu deddfiadau. Bydd y gwelliant hwn yn ehangu'r pŵer hwnnw fel ei fod yn berthnasol i unrhyw un o ddarpariaethau Deddf 2016, yn ogystal ag i ddeddfiadau eraill. Nodwyd bod gwelliant o'r fath yn angenrheidiol o ganlyniad i'r ystyriaethau sy'n ymwneud â dyfarniad Jarvis v. Evans. Bydd y gwelliant hwn yn hwyluso’r broses o greu deddfwriaeth hygyrch a chlir drwy sicrhau y gellir gwneud y newidiadau canlyniadol angenrheidiol i Ddeddf 2016 ac y gellir eu gwneud yn y lle mwyaf priodol o fewn Deddf 2016.

Byddai gwelliant 56 yn cael gwared ar lety a feddiannir gan weinidogion crefydd yn gyfan gwbl o drefn Rhentu Cartrefi. Ar hyn o bryd, mae darpariaethau'r ddeddfwriaeth ddiwygio hon yn darparu mwy o sicrwydd deiliadaeth i weinidogion crefydd sy'n aml yn meddiannu eu llety drwy drwydded sylfaenol. Rydym wedi derbyn sylwadau gan Cytûn, cynrychiolwyr eglwysi yng Nghymru, sydd wedi mynegi pryder y byddai dull o'r fath yn cael effaith ar y ffordd y mae eglwysi’n gweithredu ar hyn o bryd. Er bod fy swyddogion mewn cysylltiad â Cytûn ynglŷn â'r mater hwn, rwy'n ymwybodol na ofynnwyd am farn yr holl unigolion yr effeithir arnynt eto. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i adolygu'r mater hwn ac yn ceisio defnyddio'r pwerau is-ddeddfwriaeth sydd ar gael i fynd i'r afael ag unrhyw fater sy'n codi, os bydd angen. Felly, mae arnaf ofn na allaf gefnogi gwelliant 56.

13:40

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 10? A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 10? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly mi wnawn ni symud i bleidlais ar welliant 10. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, tri yn ymatal, un yn erbyn. Felly mae gwelliant 10 wedi ei gymeradwyo. 

Gwelliant 10: O blaid: 45, Yn erbyn: 1, Ymatal: 3

Derbyniwyd y gwelliant

Laura Jones, gwelliant 53. A yw'n cael ei gynnig? Yn ffurfiol? Gwelliant 53 yn eich enw chi. A ydych yn ei gynnig yn ffurfiol?

Cynigiwyd gwelliant 53 (Laura Anne Jones) 

A oes gwrthwynebiad?  

A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 53? [Gwrthwynebiad.] Oes, gwelaf wrthwynebiad. Felly, symudwn i bleidlais ar welliant 53.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Mae gwelliant 53 wedi ei wrthod.  

Gwelliant 53: O blaid: 14, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 54, Laura Jones. A yw’n cael ei gynnig? Mae yn eich enw chi.

Cynigiwyd gwelliant 54 (Laura Anne Jones) 

Diolch. Y cwestiwn yw a oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 54. [Gwrthwynebiad.] Oes, gwelaf wrthwynebiad. Felly, symudwn i bleidlais ar welliant 54.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 36 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi ei wrthod. 

Gwelliant 54: O blaid: 13, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Delyth Jewell, gwelliant 46 sydd nesaf. Ydy e'n cael ei symud? 

Cynigiwyd gwelliant 46 (Delyth Jewell).

Os derbynnir gwelliant 46, bydd gwelliant 1 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn 46? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad. Felly, fe symudwn i bleidlais ar welliant 46. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, dau yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 46 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 46: O blaid: 8, Yn erbyn: 39, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 5: Cyfyngiadau ar roi hysbysiad (Gwelliannau 1, 2,3, 4, 11, 12, 13, 14, 15, 22, 23, 24, 28, 29, 30, 31, 8)

Grŵp 5 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â chyfyngiadau ar roi hysbysiad, a gwelliant 1 yw'r prif welliant yn y grŵp. Dwi'n galw ar Julie James, y Gweinidog, i gyflwyno gwelliant 1 a'r gwelliannau eraill yn y grŵp ac i siarad iddyn nhw. Y Gweinidog, Julie James.

13:45

Cynigiwyd gwelliant 1 (Julie James).

Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliannau 1, 23, 29 a 30 y Llywodraeth, sy'n egluro pryd y gellir cyflwyno rhybudd o dan adran 173 i ddeiliad contract drwy aildeitlo adran 175 fel bod y pennawd yn cyfateb i'r adran ei hun. Bydd hyn yn cael gwared ar y posibilrwydd o amwysedd mewn perthynas â sefyllfa lle nad yw'r contract meddiannaeth yn caniatáu i ddeiliad y contract ddechrau meddiannu'r eiddo ar unwaith. Yn aml, gall hyn godi gydag eiddo ar osod i fyfyrwyr lle mae'r contract yn caniatáu i ddeiliad y contract ddechrau meddiannu o ddyddiad yn y dyfodol. O dan yr amgylchiadau hyn ac amgylchiadau tebyg, ni all landlord roi rhybudd adran 173 yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod y gwneir y contract ac a ddaw i ben chwe mis ar ôl y dyddiad meddiannu, ac mae'r gwelliant yn sicrhau bod pennawd adran 175 yn adlewyrchu'r ffaith honno.

Mae gwelliannau 2, 24 a 31 yn egluro pryd y gall landlord roi rhybudd cymal terfynu i ddeiliad contract drwy aildeitlo adran 196 fel bod y pennawd yn cyfateb i destun yr adran. Bydd yn parhau i fod yn wir fod landlord yn cael eu hatal rhag cyflwyno cymal terfynu o dan gontract cyfnod penodol am 18 mis ar ôl i'r contract ddod i ben, gan ddechrau gyda dyddiad meddiannu'r contract. Bydd y cyfyngiad hwn yn berthnasol ni waeth pryd yr ymrwymwyd i'r contract cyfnod penodol.

Mae gwelliannau 3, 4, 8 a 15 yn dileu cyfeiriadau at Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn y Bil hwn. Mae angen cymryd camau o'r fath, yn dilyn ystyriaeth fanwl o ddyfarniad Llys Apêl Jarvis v Evans yn 2020, mewn perthynas â Deddf Tai (Cymru) 2014. Mae'r dyfarniad wedi bod yn eithaf cymhleth wrth ei roi ar waith, nid yn unig mewn perthynas â Deddf 2014, ond o ran sut y caiff hyn ei fynegi gyda Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Mae gennyf rai pryderon y gallai unrhyw welliannau a gyflwynir ar y cam hwn i gyfrif am y dyfarniad hwn fod yn anghywir ac y byddai'n anodd eu cywiro. Felly, rwyf o'r farn ei bod yn ddoeth dileu'r cyfeiriadau hyn at Ddeddf 2014 fel y gellir ystyried y mater yn llawn a chyflwyno darpariaethau yn hyderus.

Mae gwelliannau 11, 12, 13 a 22 yn rhoi eglurder pellach ar gyflwyno rhybudd adran 173 neu 186 a rhybudd cymal terfynu gan landlord nad yw wedi darparu datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract. Mae gwelliannau 11, 12 a 13 yn dileu unrhyw ansicrwydd posibl ynghylch gallu landlord i gyflwyno rhybudd lle na ddarparwyd datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract. Pan na ddarparwyd datganiad ysgrifenedig gan y landlord, boed yn ystod y cyfnod o 14 diwrnod y darperir ar ei gyfer o dan adrannau 31(1) a 31(2) ai peidio, bydd y landlord wedi’u hatal rhag cyflwyno rhybudd a nodir o dan atodlen 2 hyd nes y darperir datganiad ysgrifenedig.

Mae adran 31(1) yn darparu cyfnod o 14 diwrnod i'r landlord ddarparu datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract, gan ddechrau gyda dyddiad meddiannu'r contract. Mae adran 31(2) yn darparu cyfnod o 14 diwrnod, o’r dyddiad meddiannu neu pan ddaw'r landlord yn ymwybodol, i'r landlord ddarparu datganiad ysgrifenedig newydd i ddeiliad y contract pe bai deiliad y contract yn newid yn ystod oes y contract. Ni fydd landlord sy'n darparu datganiad ysgrifenedig o fewn y cyfnod o 14 diwrnod yn wynebu unrhyw sancsiynau pellach. Mae gwelliant 13 yn egluro bod landlord sydd wedi methu cydymffurfio â'r gofyniad hwn wedi’u gwahardd rhag rhoi rhybudd o dan adran 173 neu 186 o dan gymal terfynu landlord am gyfnod o chwe mis, gan ddechrau gyda'r diwrnod y darparodd y landlord y datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract.

Mae gwelliant 14 yn egluro bod landlord wedi'u hatal rhag cyflwyno rhybudd pan fyddant yn mynd yn groes i’r gofynion diogelwch mewn perthynas â'r contract meddiannaeth.

Mae gwelliant 28 yn ymdrin â'r tenantiaethau a'r trwyddedau presennol hynny, a fydd yn trosi'n gontract meddiannaeth ar ôl i’r Ddeddf Rhentu Cartrefi gael ei gweithredu. Bydd gan landlord presennol, ar ôl i’r Ddeddf gael ei gweithredu, gyfnod o chwe mis o'r diwrnod penodedig—y dyddiad gweithredu—i roi copi o'r datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract. Yn ystod y cyfnod hwn o chwe mis, mae'r contract meddiannaeth mewn grym ac mae’n berthnasol i’r un graddau i'r landlord a deiliad y contract. Mae gwelliant 28 yn egluro nad yw landlord wedi eu hatal rhag cyflwyno rhybudd o dan adran 173, adran 186, neu gymal terfynu landlord yn ystod y cyfnod hwn, p’un a yw'r datganiad ysgrifenedig wedi'i ddarparu i ddeiliad y contract ai peidio.

Felly, rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi'r holl welliannau yn y grŵp hwn. Diolch, Lywydd.

Diolch. Cyn i mi alw ar Laura Jones i siarad, a gaf fi ymddiheuro i Laura Jones am beidio â’i galw yn y grŵp blaenorol o welliannau? Fy mai i yn llwyr oedd hynny a byddai wedi eich drysu. Mae’n ddrwg gennyf am hynny. Felly, os ydych yn dymuno gwneud unrhyw sylwadau ar welliannau 53 a 54 o'r grŵp blaenorol fel eu bod wedi'u cofnodi, mae croeso i chi wneud hynny. Ac wrth gwrs, siaradwch am y grŵp hwn o welliannau hefyd. Ymddiheuriadau, Laura.

Diolch, Lywydd, rwy'n gwerthfawrogi hynny. Iawn, ie, fe awn yn ôl at grŵp 4. Mae gwelliant 56 yn fy enw i yn gysylltiedig â'n gwelliant 54 rydym newydd ei drafod a phleidleisio arno. Ei nod yw egluro statws meddiannaeth gweinidog crefydd, ac unwaith eto, rwy'n ddiolchgar i Cytûn am eu cymorth.

Mewn tystiolaeth ysgrifenedig, dywed Cytûn mai eu safbwynt hwy yw nad yw gweinidogion crefydd sy'n meddiannu persondai wedi’u cynnwys o fewn terfynau’r Bil. Er enghraifft, nid yw gweinidogion yr Eglwys yng Nghymru yn talu unrhyw rent, ffi’r drwydded nac unrhyw daliad arall i'r corff cynrychioliadol nac i unrhyw un o gyrff eraill yr Eglwys yng Nghymru. Mae Cytûn yn dadlau felly y byddai effaith uniongyrchol y Ddeddf yn newid y berthynas rhwng yr Eglwys a gweinidogion o fod yn berthynas nad yw'n berthynas gyflogaeth i un sy'n berthynas gyflogaeth. Fodd bynnag, maent hefyd yn cydnabod bod hwn yn ganlyniad anfwriadol i'r Bil a fyddai'n cael sylw drwy'r gwelliant hwn. Fy ngobaith yw y byddai'r Aelodau'n cefnogi hyn.

Weinidog, hoffwn ofyn hefyd am eglurhad ynghylch gwelliant 25, sy'n rhoi nifer o bwerau ychwanegol i Weinidogion Cymru dros Ddeddf 2016. Nid yw'r tabl diben ac effaith yn glir iawn ynglŷn â sut rydych yn bwriadu defnyddio'r pwerau hyn a allai fod yn bellgyrhaeddol yn y dyfodol. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi rhywfaint o eglurder ar hynny. A ddylwn fynd yn syth ymlaen at grŵp 5, Lywydd?

13:50

Cyfyngiadau ar roi rhybudd. Weinidog, byddwn yn ymatal ar welliannau 1 a 2, a'u gwelliannau canlyniadol. Ni wnaf hyn oherwydd fy mod yn anghytuno â'r bwriad o gynyddu sicrwydd deiliadaeth, ond am fy mod yn dymuno codi materion a drafodwyd gan fy nghyd-Aelod Mark Isherwood AS yng Nghyfnod 2.

Yng Nghyfnod 2, fe wnaethom gyflwyno gwelliant yn seiliedig ar argymhellion a wnaed gan yr NRLA i ganiatáu i rybudd adran 173 chwe mis gael ei gyflwyno ar ôl pedwar mis, ond i ddod i rym ar ddiwedd y cyfnod penodol o chwe mis. Er nad yw'n amharu ar fwriadau'r Bil, mae'r NRLA wedi mynegi pryderon am yr effaith y gallai hyn ei chael mewn marchnadoedd lle mae cadw cylch blynyddol, y sector myfyrwyr yn bennaf, yn hanfodol er mwyn i'r sector rhentu redeg yn ddidrafferth. Cefnogwyd hyn hefyd gan arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, cynghorydd Plaid Cymru, mewn llythyr diweddar at yr NRLA.

Gwrthododd y Gweinidog dderbyn y gwelliant hwn, gan ddadlau yn hytrach na fyddai myfyrwyr yn cael eu trin yn wahanol. Nid dyma oedd bwriad y gwelliant hwn. Ni fyddai'r gwelliant hwn chwaith wedi tarfu ar amcan Llywodraeth Cymru o flwyddyn o sicrwydd deiliadaeth a chyfnod rhybudd hirach. Ei unig fwriad oedd rhoi hyblygrwydd ychwanegol i'r landlordiaid ddiogelu'r cylch busnes sy'n hanfodol er mwyn i’r sector redeg yn effeithlon. Weinidog, sut rydych yn ymateb i bryderon dilys rhai yn y sector tai ynglŷn â’r effaith y bydd y ddarpariaeth hon yn ei chael ar y sector tai myfyrwyr, yn arbennig, a sut y gallwch leddfu'r pryderon hyn?

Gan symud ymlaen at welliant 2, fe wnaethom gyflwyno gwelliant cyfaddawd yng Nghyfnod 2, i ganiatáu ar gyfer cymal terfynu chwe mis, 10 mlynedd i'r tenant yn unig a argymhellwyd gan yr NRLA. Fodd bynnag, gwrthodwyd hyn gan y Gweinidog. Deilliai hynny o bryderon fod rhai tenantiaid yn awyddus i gael hyblygrwydd fel y gallant ymateb i newidiadau yn eu bywydau personol. Fel y cyfryw, a wnaiff y Gweinidog ddarparu sicrwydd ynglŷn â sut y mae'r Bil yn darparu ar gyfer tenantiaid sydd angen hyblygrwydd, gan gynyddu sicrwydd deiliadaeth ar yr un pryd?

Yn olaf, rydym yn ymatal ar welliant 15, gan nad ymddengys ei fod yn datrys dyfarniad achos diweddar Jarvis v. Evans yn llawn. Yn wir, mae'n dychwelyd i'r status quo, fel yr amlinellwyd yn Neddf Tai (Cymru) 2014. Fel y cyfryw, roeddwn yn awyddus i ofyn a yw hwn yn welliant dros dro cyn newidiadau pellach, neu a ydych yn fodlon ei fod yn ymateb i'r dyfarniad diweddar? Diolch.

Diolch, Lywydd. Wel, gan ddechrau gyda'r pwynt olaf hwnnw’n gyntaf, credaf i mi egluro yn fy nghyflwyniad ein bod yn dileu'r cyfeiriadau oherwydd cymhlethdod yr achos dan sylw. Mae angen ystyriaeth bellach ar gymhlethdod y dyfarniad hwnnw. Felly, rydym wedi dileu pob cyfeiriad at Ddeddf 2014 o ganlyniad i hynny.

O ran y pwyntiau eraill, rwy’n deall y pwynt y mae Laura Anne yn ei wneud, ond nid ydym yn derbyn bod y darpariaethau a nodir yma yn tarfu'n ormodol ar gylch busnes y landlordiaid. Mae'r gwelliannau yn y grŵp yn gwneud amryw o newidiadau i'r cyfyngiadau ar roi rhybudd. Rydym wedi gweithio'n galed iawn gyda'r holl randdeiliaid—tenantiaid a landlordiaid—i sicrhau bod hwn yn gyfaddawd rhesymol rhyngddynt. Gofynnaf felly i'r Aelodau gefnogi'r holl welliannau yn y grŵp. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1, felly? A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 1? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad. Felly, symudwn i bleidlais ar welliant 1. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 35, naw yn ymatal, pump yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i gymeradwyo.

13:55

Gwelliant 1: O blaid: 35, Yn erbyn: 5, Ymatal: 9

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 2 (Julie James).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, gwrthwynebiad, felly pleidlais ar welliant 2 yn enw Julie James. Agor y bleidlais. O blaid 35, naw yn ymatal, pedwar yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi'i gymeradwyo.

Gwelliant 2: O blaid: 35, Yn erbyn: 4, Ymatal: 9

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 3 (Julie James).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 3. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 35, 11 yn ymatal, dau yn erbyn. Felly, mae gwelliant 3 wedi'i gymeradwyo.

Gwelliant 3: O blaid: 35, Yn erbyn: 2, Ymatal: 11

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 4 (Julie James).

A oes gwrthwynebiad i welliant 4? [Gwrthwynebiad.] Oes, ac felly cawn ni bleidlais ar welliant 4. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, 11 yn ymatal, dau yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 4 wedi'i gymeradwyo.

Gwelliant 4: O blaid: 36, Yn erbyn: 2, Ymatal: 11

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 11 (Julie James).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Pleidlais, felly, ar welliant 11. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, tri yn ymatal, un yn erbyn. Mae gwelliant 11 wedi'i dderbyn.

Gwelliant 11: O blaid: 45, Yn erbyn: 1, Ymatal: 3

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 12 (Julie James).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 12? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, ac felly pleidlais ar welliant 12. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, tri yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae gwelliant 12 wedi'i gymeradwyo.

Gwelliant 12: O blaid: 45, Yn erbyn: 1, Ymatal: 3

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 13 (Julie James).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 13? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 13. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, tri yn ymatal, un yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 13 wedi'i dderbyn.

14:00

Gwelliant 13: O blaid: 45, Yn erbyn: 1, Ymatal: 3

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 14 (Julie James).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 14? Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 14. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, pedwar yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae gwelliant 14 wedi'i gymeradwyo.

Gwelliant 14: O blaid: 45, Yn erbyn: 0, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 15 (Julie James).

Oes gwrthwynebiad i welliant 15? [Gwrthwynebiad.] Oes, ac felly cawn ni bleidlais ar welliant 15. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, 12 yn ymatal, un yn erbyn, felly mae gwelliant 15 wedi'i dderbyn.

Gwelliant 15: O blaid: 36, Yn erbyn: 1, Ymatal: 12

Derbyniwyd y gwelliant

Grŵp 6: Tynnu hysbysiad yn ôl (Gwelliannau 47, 48, 49, 50, 55)

Grŵp 6 yw'r grŵp nesaf o welliannau, ac mae'r rheini'n ymwneud â thynnu hysbysiad yn ôl. Gwelliant 47 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar Laura Jones i gyflwyno'r gwelliant ac i siarad i'r gwelliannau yn y grŵp. Laura Jones.

Cynigiwyd gwelliant 47 (Laura Anne Jones).

Diolch, Lywydd. Rwy’n siarad am bob gwelliant: 47, 48, 49, 50 a 55 yn fy enw i, sy'n ei gwneud yn ofynnol i landlord roi rhybudd penodol i'r deiliad contract fod rhybudd wedi'i dynnu'n ôl. Mae adran 8 yn caniatáu i landlordiaid dynnu rhybudd adran 173 diffygiol yn ôl a'i ailgyhoeddi ar y ffurf gywir, gyda'r amod bod y cyfnod rhybudd yn dechrau o'r dyddiad ailgyhoeddi. Mewn tystiolaeth ysgrifenedig i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, dadleuodd Shelter Cymru fod y ddarpariaeth o dan adran 8, fel y'i drafftiwyd, yn aneglur. Mae Shelter hefyd wedi awgrymu, er mai'r goblygiad fydd bod yr hysbysiad newydd yn disodli'r rhybudd blaenorol, mae hyn yn gadael lle i ddryswch. Mae Shelter yn rhoi enghraifft o adeg y gall dryswch o'r fath ddigwydd: efallai na fydd deiliad contract yn deall pa rybudd yw'r un cywir neu gallai landlord geisio dibynnu ar naill ai/neu os oes un yn ddiffygiol. Mae'r gwelliant hwn yn sicrhau bod tenantiaid yn cael eu hysbysu pan fydd rhybudd wedi'i dynnu'n ôl, fel bod y landlord a'r tenant yn glir ynglŷn â'u hawliau a'u rhwymedigaethau. Fel y mae Shelter yn dadlau, os ydym eisiau cydymffurfiaeth, mae angen eglurhad. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi ein gwelliannau, ac edrychaf ymlaen at y ddadl.

Diolch, Lywydd. Rwy'n deall mai'r bwriad y tu ôl i'r gwelliannau hyn yw egluro, drwy fod yn fwy eglur, fod y rhybudd perthnasol yn cael ei dynnu'n ôl. Gallwn weld bod rhinwedd mewn gwneud rhai addasiadau i'r darpariaethau yn Neddf 2016, ond yn anffodus, nid ydym yn credu bod y darpariaethau hyn yn gweithio fel ag y maent. Yn anffodus, ni chodwyd y rhain yng Nghyfnod 2, lle byddem wedi croesawu cyfle i weithio gyda chi ar y geiriad, ond yn anffodus, nid yw hynny'n bosibl bellach.

Fodd bynnag, rwy'n hyderus y byddwn yn gallu atal unrhyw ddryswch posibl drwy sicrhau bod y gofynion yn hollol glir mewn canllawiau ategol, ac rwy'n ddiolchgar iawn ichi am dynnu ein sylw at y mater. Ymhellach, rwy'n ymwybodol hefyd fod gennym bŵer yn adran 236(3) o Ddeddf 2016 i ragnodi ffurf rhybuddion, a gellid defnyddio hwn hefyd, os oes angen, i sicrhau nad oes unrhyw ddryswch ynghylch hysbysiadau tynnu'n ôl. Felly, mae arnaf ofn nad yw'r Llywodraeth yn cefnogi'r gwelliannau hyn, er fy mod yn llwyr ddeall y bwriad sy'n sail iddynt. Diolch.

Rwy'n gwerthfawrogi hynny, a diolch am eich sylwadau caredig yn gynharach, Delyth. A diolch am gyfrannu at y ddadl honno. Ond heb fynd dros y ddadl eto, mae yna—. Rydym yn dal i deimlo bod y rhain yn welliannau angenrheidiol, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n eu cefnogi. Diolch.

Ocê. Y gwelliant cyntaf, felly, yw gwelliant 47. A ddylid derbyn gwelliant 47? A oes gwrthwynebiad i hynny? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad, ac felly fe wnawn ni bleidleisio ar welliant 47. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, pedwar yn ymatal, 36 yn erbyn. Mae gwelliant 47 wedi'i wrthod.

14:05

Gwelliant 47: O blaid: 9, Yn erbyn: 36, Ymatal: 4

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 48 (Laura Anne Jones).

Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 48? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 48. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, pedwar yn ymatal ac mae 36 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 48 wedi'i wrthod.

Gwelliant 48: O blaid: 9, Yn erbyn: 36, Ymatal: 4

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 49 (Laura Anne Jones).

Y cwestiwn felly yw: a oes gwrthwynebiad i welliant 49? [Gwrthwynebiad.] Oes. Pleidlais ar welliant 49. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Gwelliant 49, y canlyniad: o blaid naw, pedwar yn ymatal, 36 yn erbyn, felly mae'r gwelliant yn cael ei wrthod.

Gwelliant 49: O blaid: 9, Yn erbyn: 36, Ymatal: 4

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 50. 

Laura Jones, a yw'n cael ei gynnig, gwelliant 50?

Cynigiwyd gwelliant 50 (Laura Anne Jones).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 50? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 50. Agor y bleidlais. O blaid naw, pedwar yn ymatal, 36 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi'i wrthod. 

Gwelliant 50: O blaid: 9, Yn erbyn: 36, Ymatal: 4

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 16 yw'r gwelliant nesaf.

Julie James, a yw'n cael ei gynnig?

Cynigiwyd gwelliant 16 (Julie James).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 16? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 16. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, pedwar yn ymatal a neb yn erbyn, ac felly gwelliant 16 wedi'i dderbyn.

Gwelliant 16: O blaid: 45, Yn erbyn: 0, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 17 (Julie James).

Oes gwrthwynebiad i welliant 17? [Gwrthwynebiad.] Oes. Pleidlais ar welliant 17, felly. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, pedwar yn ymatal, neb yn erbyn, felly gwelliant 17 wedi'i dderbyn.

Gwelliant 17: O blaid: 45, Yn erbyn: 0, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Laura Jones, gwelliant 51.

Gwelliant 51, a yw'n cael ei gynnig?

Cynigiwyd gwelliant 51 (Laura Anne Jones).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 51? Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, ac felly symudwn i bleidlais ar welliant 51. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, tri yn ymatal, 36 yn erbyn—gwelliant 51 wedi'i wrthod.

Gwelliant 51: O blaid: 10, Yn erbyn: 36, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 52 (Laura Anne Jones).

Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 52? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Yes. Felly, fe wnawn ni gael pleidlais ar welliant 52. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, dau yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 52 wedi ei wrthod.

Gwelliant 52: O blaid: 11, Yn erbyn: 36, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

14:10
Grŵp 7: Newidiadau i daliadau a ganiateir o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (Gwelliannau 5, 6, 7)

Grŵp 7 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r rhain yn ymwneud â newidiadau i daliadau a ganiateir o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019. Gwelliant 5 yw'r prif welliant y tro yma, a dwi'n galw ar Julie James i gyflwyno'r gwelliant ac i siarad i'r grŵp. Julie James.

Cynigiwyd gwelliant 5 (Julie James).

Diolch, Lywydd. Mae gwelliant 5 yn diwygio Atodlen 1 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 ac yn caniatáu talu am gopi pellach o ddatganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth. Yn fras, pwrpas Deddf 2019 yw gwahardd landlordiaid ac asiantaethau gosod tai rhag gofyn am daliadau gan ddeiliaid contract neu denantiaid o dan gontract meddiannaeth safonol, oni chaniateir y taliadau hynny o dan y Ddeddf honno. Nodir y taliadau hynny a ganiateir yn Atodlen 1 i Ddeddf 2019. O ystyried bod adran 31(5) o Ddeddf 2016 yn nodi y caiff landlord godi ffi resymol am ddarparu datganiad ysgrifenedig pellach, mae angen cynnwys y taliad hwn yn Atodlen 1 i Ddeddf 2019.

Mae gwelliant 6 yn caniatáu talu taliadau gwasanaeth i landlordiaid cymunedol a darparwyr llety â chymorth mewn perthynas â chontractau meddiannaeth safonol, gydag effaith ôl-weithredol o'r dyddiad y daeth Deddf 2019 i rym. Mae gwelliant 7 yn darparu ar gyfer cychwyn gwelliant 6 yn gynnar ar gael Cydsyniad Brenhinol, a ystyrir yn gam priodol ac ymarferol i leihau'r cyfnod ôl-weithredol.

Fel sy'n wir gyda chopïau o ddatganiadau ysgrifenedig, nid yw'r rhestr o daliadau a ganiateir sydd wedi’u cynnwys yn Atodlen 1 i Ddeddf 2019 yn cynnwys taliadau gwasanaeth ar hyn o bryd—hynny yw, pethau fel cynnal a chadw tiroedd, cynnal a chadw ardaloedd cyffredin mewn blociau o fflatiau a glanhau ffenestri allanol. Mae Deddf 2019 yn canolbwyntio ar sicrhau nad yw deiliaid contract yn ddarostyngedig i ffioedd ychwanegol a/neu afresymol a godir gan asiantaethau gosod tai a landlordiaid preifat. Bydd y mwyafrif o denantiaethau yn y sector tai cymdeithasol yn gontractau diogel ac felly nid ydynt yn ddarostyngedig i'w darpariaethau. Fodd bynnag, byddai contractau safonol cychwynnol, contractau safonol gwaharddedig a chontractau safonol â chymorth a gyhoeddir gan landlordiaid cymunedol a darparwyr llety â chymorth yn ddarostyngedig i'w darpariaethau. O ganlyniad, mae taliadau gwasanaeth mewn perthynas â'r mathau hyn o denantiaethau tai cymdeithasol wedi'u gwahardd gan Ddeddf 2019. Mae'r effaith hon yn anfwriadol. Mae taliadau gwasanaeth yn elfen angenrheidiol o denantiaethau tai cymdeithasol, yn enwedig mewn llety â chymorth lle gall cost y gwasanaethau sy'n angenrheidiol i gadw pobl agored i niwed yn ddiogel ac mewn cartref addas fod yn sylweddol. Mae gwelliant 6 yn unioni'r sefyllfa hon. Mae'n ychwanegu taliadau gwasanaeth a godir gan landlord cymunedol neu ddarparwr llety â chymorth fel taliad a ganiateir o dan Atodlen 1 i Ddeddf 2019, ac eithrio sefyllfaoedd lle mae landlord cymunedol yn ymgymryd â gweithgaredd rhentu masnachol.

Hyd nes y gweithredir y system o gontractau meddiannaeth sydd i'w chyflwyno gan Ddeddf Rhentu Cartrefi 2016, mae rheoliadau darpariaeth drosiannol, a ddaeth i rym ym mis Medi 2019 ar yr un pryd â Deddf 2019, yn cymhwyso rhai Rhannau o Ddeddf 2019 i'r tenantiaethau byrddaliadol sicr presennol. Mae gwelliant 6 yn diwygio'r rheoliadau hyn fel y bydd taliadau gwasanaeth, yn ystod y cyfnod trosglwyddo, yn daliadau a ganiateir mewn perthynas â thenantiaethau byrddaliadol sicr o dan yr un amgylchiadau ag y cânt eu caniatáu mewn perthynas â chontractau meddiannaeth safonol.

Mae'r gwelliannau i'r rheoliadau trosiannol yn cymhwyso cynnwys taliadau gwasanaeth fel taliadau a ganiateir yn ôl-weithredol o'r dyddiad y daeth Deddf 2019 i rym, hynny yw, 1 Medi 2019. O ganlyniad, bydd y taliadau gwasanaeth a godir gan landlordiaid cymwys yn gyfreithlon o'r dyddiad hwnnw ymlaen. Er nad ydym yn rhagweld y bydd y newid hwn yn cael unrhyw effaith andwyol ar denantiaid, mae gwelliant 6 yn gwahardd landlord sydd wedi codi tâl gwasanaeth yn ystod y cyfnod hwnnw rhag rhoi rhybudd adran 21 am gyfnod o chwe mis. Am resymau tebyg, mae dwy ddarpariaeth arbedion wedi'u cynnwys. Mae'r cyntaf yn golygu bod unrhyw rybudd adran 21 a gyflwynir cyn i'r gwelliant ddod i rym yn parhau i fod yn annilys. Mae'r ail yn golygu bod unrhyw orchymyn ad-dalu a wneir o dan adran 22(1) o Ddeddf 2019 wedi'i arbed.

Mae diwygio Deddf 2019 i ganiatáu taliadau gwasanaeth mewn perthynas â chontractau meddiannaeth safonol a gyhoeddir yn y sector tai cymdeithasol yn hanfodol i sicrhau ei bod yn parhau i fod yn economaidd hyfyw i ddarparwyr ddarparu ar gyfer grwpiau penodol o bobl agored i niwed. Mae hyn yn arbennig o wir yn y sector llety â chymorth. Mae sicrhau bod y newid yn gymwys yn ôl-weithredol yn hanfodol er mwyn sicrhau nad yw darparwyr tai cymdeithasol yn cael eu niweidio'n ddifrifol yn ariannol drwy orfod ad-dalu arian a gasglwyd yn flaenorol, a thrwy hynny leihau eu gallu i ddarparu yn y dyfodol. Am y rhesymau hyn, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi gwelliannau 5, 6 a 7.

Weinidog, rwy'n croesawu'r gwelliannau hyn, ac yn arbennig gwelliant 6. Rwy'n deall bod llawer yn y sector tai cymdeithasol wedi cyflwyno sylwadau i chi am y mater, ac rwy'n falch eich bod wedi dod o hyd i ffordd ymlaen. Er fy mod yn deall y camau y mae'r Llywodraeth wedi'u cymryd, tybed sut y cododd y mater yn y lle cyntaf. Yn eich nodiadau esboniadol, rydych yn cydnabod bod Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 wedi arwain at rai canlyniadau anfwriadol. Mae hon yn thema sydd wedi codi yn ystod hynt Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru). Deallaf na allwn ragweld yr holl faterion a allai godi drwy ddeddfwriaeth, ond gyda phob dyledus barch rwy’n cwestiynu ai amwysedd yn y broses o ddrafftio'r ddeddfwriaeth Gymreig sy'n creu'r problemau hyn y gellid eu hosgoi yn y lle cyntaf.

Fel rydych wedi amlinellu, credir bod gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gyfanswm risg ariannol o £3.5 miliwn. Mae hyn yn pwysleisio pa mor ddifrifol yw'r canlyniad anfwriadol honedig hwn mewn gwirionedd. Yn bwysicaf oll, fodd bynnag, hoffwn eich holi am eich asesiad o'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar denantiaid, y mae llawer ohonynt ar incwm is. A fydd unrhyw denantiaid yn cael ad-daliad am unrhyw gostau yr eir iddynt, ac a allech chi roi rhywfaint o wybodaeth am eich trafodaethau gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch lliniaru unrhyw effeithiau posibl ar y budd-daliadau y gallai'r rhai yr effeithir arnynt fod yn eu cael? Hefyd, bydd pryderon ynglŷn ag a yw holl ddarpariaethau gwelliant 6 o fewn y cymhwysedd deddfwriaethol. Ac felly, byddwn yn ddiolchgar am eich eglurhad ar hyn. Diolch.

14:15

Diolch, Lywydd. Yn gyntaf, rwyf eisiau pwysleisio mai taliadau am wasanaethau a ddarparwyd yw'r rhain a rhai y mae tenantiaid wedi parhau i wneud taliadau amdanynt. Nid yw darparwyr tai cymdeithasol yn ymwybodol o unrhyw denant sydd wedi gwrthod gwneud taliad ar y sail ei fod yn anghyfreithlon o dan Ddeddf 2019. Ar y cyfan, nid yw’r gwelliant ond yn rheoleiddio'r hyn sydd eisoes wedi digwydd. Ar ben hynny, mae'n bwysig cofio y bydd cyfran fawr o'r taliadau a wnaed wedi cael eu talu gan fudd-dal tai neu gredyd cynhwysol. Pe na baem yn gwneud y newidiadau hyn yn ôl-weithredol, gallai unrhyw ad-daliad o daliadau gwasanaeth y gallai fod yn ofynnol i landlordiaid eu gwneud o ganlyniad arwain at atal budd-daliadau tra bydd cais yn cael ei ailasesu. Ar y gwaethaf, gallai arwain at alwadau i ad-dalu budd-daliadau ac i unigolion gael eu trosglwyddo o fudd-dal tai i drefniadau a allai fod yn llai ffafriol o dan gredyd cynhwysol.

Rwyf hefyd eisiau pwysleisio bod nifer o fesurau diogelwch i denantiaid wedi'u hymgorffori yng ngwelliant 6. Ar hyn o bryd, mae hysbysiadau dim bai adran 21 yn annilys lle gwnaed taliadau gwaharddedig. Hyd yn oed ar ôl i'r taliadau gael eu gwneud yn gyfreithlon, mae'r gwelliant yn mynnu y byddai unrhyw rybudd adran 21 annilys a gyhoeddwyd yn flaenorol yn parhau i fod yn annilys. Yn fwy na hynny, bydd landlordiaid sydd wedi codi tâl gwasanaeth yn ystod y cyfnod rhwng 1 Medi 2019 a’r adeg y daeth y gwelliant i rym yn cael eu gwahardd rhag cyhoeddi rhybudd adran 21 am chwe mis arall ar ôl i'r newid deddfwriaethol ddod i rym. Bydd hyn yn caniatáu amser i'r tenant ddeall y sefyllfa gyfreithiol a datrys unrhyw ôl-ddyledion taliadau gwasanaeth a allai fod wedi digwydd o ganlyniad i'r ôl-weithredu. Rwyf hefyd yn credu ei bod yn werth tynnu sylw at y ffaith na ellid codi tâl ôl-weithredol ar unrhyw denant am wasanaethau na chodwyd tâl amdanynt yn ystod y cyfnod pan oedd hyn wedi'i wahardd.

Mae'r pwynt arall a wnaeth yr Aelod yn syml iawn, Lywydd. Rydym yn fodlon bod hyn o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a Llywodraeth Cymru. Diolch.

Y cwestiwn yw, felly: a ddylid derbyn gwelliant 5? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly dyma ni'n cael pleidlais ar welliant 5. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, dau yn ymatal, un yn erbyn. Mae gwelliant 5 wedi ei gymeradwyo, felly.

Gwelliant 5: O blaid: 46, Yn erbyn: 1, Ymatal: 2

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 6 (Julie James).

Diolch. Oes gwrthwynebiad i welliant 6? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 6. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, dau yn ymatal, dau yn erbyn. Felly, mae gwelliant 6 wedi ei dderbyn.  

Gwelliant 6: O blaid: 45, Yn erbyn: 2, Ymatal: 2

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 18 (Julie James).

Oes gwrthwynebiad i welliant 18? [Gwrthwynebiad.] Oes. Pleidlais ar welliant 18. Agor y bleidlais. O blaid 45, pedwar yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae gwelliant 18 wedi ei dderbyn.

14:20

Gwelliant 18: O blaid: 45, Yn erbyn: 0, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Laura Jones, gwelliant 55 yn eich enw chi. A yw'n cael ei gynnig?

Cynigiwyd gwelliant 55 (Laura Anne Jones).

Diolch. A oes gwrthwynebiad i welliant 55? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly agor y bleidlais ar welliant 55. Cau'r bleidlais. O blaid naw, pedwar yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 55 wedi ei wrthod.

Gwelliant 55: O blaid: 9, Yn erbyn: 36, Ymatal: 4

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 19 (Julie James).

Oes gwrthwynebiad i welliant 19? [Gwrthwynebiad.] Oes. Pleidlais, felly, ar welliant 19. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, pedwar yn ymatal, neb yn erbyn. Mae gwelliant 19 wedi ei dderbyn.

Gwelliant 19: O blaid: 45, Yn erbyn: 0, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 20 (Julie James).

Oes gwrthwynebiad i welliant 20? [Gwrthwynebiad.] Oes. Pleidlais, felly, ar welliant 20. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, tri yn ymatal, un yn erbyn. Mae gwelliant 20 wedi ei dderbyn.

Gwelliant 20: O blaid: 45, Yn erbyn: 1, Ymatal: 3

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 56—

—yn eich enw chi, Laura Jones. A yw'n cael ei gynnig?

Cynigiwyd gwelliant 56 (Laura Jones).

Diolch. Oes gwrthwynebiad i welliant 56? A oes gwrthwynebiad i welliant 56?

A allaf weld—? Gallaf, gallaf weld gwrthwynebiad. [Gwrthwynebiad.] Ie, diolch i chi. Mae gwrthwynebiad a galwaf am bleidlais ar welliant 56.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 56 wedi ei wrthod.

Gwelliant 56: O blaid: 13, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 21 (Julie James).

Oes gwrthwynebiad i welliant 21? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 21. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, naw yn ymatal, pedwar yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei gymeradwyo.

Gwelliant 21: O blaid: 36, Yn erbyn: 4, Ymatal: 9

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 22 (Julie James).

Oes gwrthwynebiad i welliant 22? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 22. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, tri yn ymatal, un yn erbyn. Ac mae gwelliant 22 wedi ei gymeradwyo.

Gwelliant 22: O blaid: 45, Yn erbyn: 1, Ymatal: 3

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 23 (Julie James).

Oes gwrthwynebiad i welliant 23? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agorwn y bleidlais, felly, ar welliant 23. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, 12 yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae gwelliant 23 wedi ei dderbyn.

Gwelliant 23: O blaid: 36, Yn erbyn: 1, Ymatal: 12

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 24 (Julie James).

Oes gwrthwynebiad i welliant 24? [Gwrthwynebiad.] Oes. Pleidlais, felly, ar welliant 24. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, 12 yn ymatal, un yn erbyn, ac felly mae gwelliant 24 wedi'i dderbyn.

14:25

Gwelliant 24: O blaid: 36, Yn erbyn: 1, Ymatal: 12

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 25 (Julie James).

Oes gwrthwynebiad i welliant 25? [Gwrthwynebiad.] Oes. Pleidlais ar welliant 25. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, naw yn ymatal, pedwar yn erbyn. Felly, mae gwelliant 25 wedi'i dderbyn.

Gwelliant 25: O blaid: 36, Yn erbyn: 4, Ymatal: 9

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 26 (Julie James).

Oes gwrthwynebiad i welliant 26? [Gwrthwynebiad.] Oes, ac felly pleidlais ar welliant 26. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, naw yn ymatal, pedwar yn erbyn, ac felly mae gwelliant 26 wedi'i dderbyn.

Gwelliant 26: O blaid: 36, Yn erbyn: 4, Ymatal: 9

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 27 (Julie James).

Oes gwrthwynebiad i welliant 27? [Gwrthwynebiad.] Oes. Pleidlais ar welliant 27. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, naw yn ymatal, pedwar yn erbyn, ac felly mae gwelliant 27 wedi'i gymeradwyo.

Gwelliant 27: O blaid: 36, Yn erbyn: 4, Ymatal: 9

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 28 (Julie James).

Oes gwrthwynebiad i welliant 28? [Gwrthwynebiad.] Oes, ac felly pleidlais ar welliant 28. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, neb yn ymatal, pedwar yn erbyn, ac felly mae gwelliant 28 wedi'i dderbyn.

Gwelliant 28: O blaid: 45, Yn erbyn: 4, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 29 (Julie James).

Oes gwrthwynebiad i welliant 29? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 29. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, naw yn ymatal, pedwar yn erbyn, ac felly mae gwelliant 29 wedi'i dderbyn.

Gwelliant 29: O blaid: 36, Yn erbyn: 4, Ymatal: 9

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 30 (Julie James).

Oes gwrthwynebiad i welliant 30? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 30. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, naw yn ymatal, pedwar yn erbyn, ac felly mae gwelliant 30 wedi'i dderbyn.

Gwelliant 30: O blaid: 36, Yn erbyn: 4, Ymatal: 9

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 31 (Julie James).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 31? Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 31. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, naw yn ymatal, pedwar yn erbyn. Felly, mae gwelliant 31 wedi'i dderbyn.

14:30

Gwelliant 31: O blaid: 36, Yn erbyn: 4, Ymatal: 9

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 7 (Julie James).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 7? [Gwrthwynebiad.] Na, mae yna wrthwynebiad. Ac, felly, pleidlais ar welliant 7. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, ymatal tri, un yn erbyn. Ac, felly, mae gwelliant 7 wedi ei dderbyn.

Gwelliant 7: O blaid: 45, Yn erbyn: 1, Ymatal: 3

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 8 (Julie James).

Oes gwrthwynebiad i welliant 8? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 8. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, 12 yn ymatal, un yn erbyn. Ac, felly, mae gwelliant 8 wedi ei dderbyn.  

Gwelliant 8: O blaid: 36, Yn erbyn: 1, Ymatal: 12

Derbyniwyd y gwelliant

A dyna ni, dyna ddiwedd y pleidleisiau ar y Cyfnod 3 yma. Dŷn ni wedi cyrraedd y diwedd, felly, o'r ystyriaeth o Gyfnod 3 o'r Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru), a dwi'n datgan y bernir pob adran o'r Bil a phob Atodlen iddo wedi eu derbyn. Daw hynny felly â'n trafodion ni ar Gyfnod 3 i ben, ac fe wnaf i atal y cyfarfod dros dro, ac fe wnawn ni ailgychwyn am 2.40 p.m.. Atal y cyfarfod felly.

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o'r Bil.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 14:32.

14:40

Ailymgynullodd y Senedd am 14:40, gyda'r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Eitem 2 ar yr agenda y prynhawn yma yw cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd. Cwestiwn 1, Janet Finch-Saunders.

Y Sector Twristiaeth

1. Pa gyllid ychwanegol y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddyrannu i fynd i'r afael â phwysau ariannol yn y sector twristiaeth? OQ56268

Rydym wedi ymrwymo dros £2 biliwn i gefnogi busnesau ac mae £1.7 biliwn o'r cyllid hwnnw eisoes wedi cyrraedd busnesau ledled Cymru. Fis diwethaf, cyhoeddwyd £200 miliwn ychwanegol i gefnogi busnesau yr effeithiwyd arnynt gan gyfyngiadau lefel rhybudd 4, a fydd yn eu helpu gyda chostau gweithredol hyd at ddiwedd mis Mawrth.

Diolch. Nawr, mae llawer yn y sector twristiaeth wedi egluro i mi, gan gynnwys yn fy fforwm gwestywyr y bore yma, nad yw'r grantiau hyd yma gan y Llywodraeth hon yng Nghymru prin wedi crafu'r wyneb. Eu geiriau hwy, nid fy ngeiriau i. Ac maent hwy, fel perchnogion busnes, yn teimlo'n ddigalon ac wedi dioddef cam dan ddwylo eich Llywodraeth chi. Nawr, mae nifer o gamau y gallwch eu cymryd i helpu i adfer ein diwydiant twristiaeth yn awr: gweithio gyda'ch cyd-Aelodau ac awdurdodau lleol i sicrhau bod costau, megis trwyddedau parcio, trwyddedau priodas a gwerthu alcohol yn cael eu hepgor; rhoi sicrwydd i fusnesau drwy roi diwedd ar y camsyniad fod y system haenau yn gynllun adfer naturiol. Mae angen iddynt wybod yn awr a fyddant yn gallu agor erbyn y Pasg, er mwyn dechrau paratoi pethau fel recriwtio staff, trefnu cyflenwadau a derbyn archebion.

Mae galwadau arnoch i fynd i'r afael â'r ffaith warthus fod Dadansoddiad Cyllidol Cymru wedi canfod bod £655 miliwn o gyllid COVID-19 gan Lywodraeth y DU yn aros i gael ei neilltuo Gadewch i ni fod yn glir: y bwriad ar gyfer yr arian hwn oedd iddo gefnogi'r union fusnesau hyn, nid gorwedd yng nghoffrau Llywodraeth Cymru. Felly, pa drafodaethau rydych wedi'u cael gyda Gweinidogion eraill yn eich Llywodraeth yng Nghymru i sicrhau bod yr arian hwn yn cael ei roi i'r busnesau hyn? A pha gynlluniau adfer y byddwch yn eu rhoi ar waith fel bod gan y sector twristiaeth ganllawiau clir ar ailagor? Er fy mod yn ailadrodd y cynllun adfer ar gyfer y sector hwn a bod angen amlinellu protocolau clir sy'n berthnasol i'r risg COVID bresennol ar frys, eglurwch yn awr, heddiw, sut y byddwch yn sicrhau bod y £655 miliwn sy'n weddill yn cyrraedd ein busnesau, ac yn gwneud hynny cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Diolch.

Wel, gadewch i ni fod yn glir, Ddirprwy Lywydd, fod Dadansoddiad Cyllidol Cymru hefyd wedi nodi bod Llywodraeth Cymru wedi dosbarthu mwy o arian i fusnesau ledled Cymru nag a gawsom gan Lywodraeth y DU mewn symiau canlyniadol. Ac mae hynny'n golygu mai'r pecyn cymorth sydd ar gael i fusnesau yma yng Nghymru yw'r pecyn cymorth mwyaf hael yn unrhyw ran o'r DU.

Gallai busnes lletygarwch nodweddiadol yng Nghymru gyda'r hyn sy'n cyfateb i chwe aelod o staff amser llawn fod wedi bod yn gymwys i dderbyn rhwng £12,000 a £14,000 i'w helpu drwy gyfnod y cyfyngiadau ac i mewn i'r flwyddyn newydd. Ac mae hynny'n cymharu'n ffafriol iawn â Llywodraeth y DU, sy'n cynnig dyfarniad uchaf o £9,000 ac mae hwnnw'n cael ei roi i'r rhai sydd â gwerth ardrethol o dros £51,000. Felly, mae'n amlwg iawn fod gennym y pecyn cymorth mwyaf hael yn unrhyw ran o'r DU. Nid yw hynny'n golygu ein bod yn cymryd unrhyw ran o hyn yn ganiataol a'n bod yn llaesu dwylo. Rydym yn archwilio'n gyson beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi busnesau.

Ac o ran y cyllid ychwanegol sydd eto i'w ddyrannu, byddaf yn cyhoeddi ein trydedd gyllideb atodol yn fuan iawn wrth gwrs, a bydd honno'n nodi ystod eang o ddyraniadau ar draws portffolios Llywodraeth Cymru er mwyn ein helpu i ymateb i'r argyfwng coronafeirws. Edrychaf ymlaen at gyflwyno honno gerbron y Senedd yn fuan iawn.

Weinidog, rwy'n pryderu'n arbennig am y busnesau gwely a brecwast llai o faint na chafodd fawr ddim cymorth y llynedd os o gwbl. Roedd llawer ohonynt yn fusnesau bach ffyniannus a oedd yn darparu arian pensiwn ychwanegol a chwmnïaeth i'w perchnogion a chyflogaeth ran-amser i'r bobl leol. Pa ddadansoddiad y mae eich Llywodraeth wedi'i wneud i sefydlu'r niwed y mae'r pandemig wedi'i wneud i'r sector teithio yng Nghymru? A pha asesiad rydych wedi'i wneud o effaith y pecynnau cymorth sydd ar gael yn y sector hwn? Diolch.

Wel, mae'n hollol wir fod y pandemig wedi cael effaith ddifrifol iawn ar y sector lletygarwch ledled Cymru, a dyna pam rydym yn gweithio mor galed i roi'r gefnogaeth orau bosibl ar waith. Mae busnesau gwely a brecwast yn enwedig yn gallu manteisio ar y cymorth dewisol rydym wedi'i roi ar waith drwy awdurdodau lleol ac rydym wedi gwneud hynny oherwydd ein bod yn cydnabod y bydd yna nifer o fusnesau heb fynediad at y cyllid ardrethi annomestig rydym wedi'i roi ar waith. Felly, rydym yn ceisio bod mor hyblyg ag y gallwn er mwyn cynnig y pecyn cymorth gorau i fusnesau. Ond fel rwy'n dweud, nid ydym yn cymryd unrhyw ran o hyn yn ganiataol. Rydym yn glir iawn fod hwn yn gyfnod anodd iawn i fusnesau ac rydym yn awyddus i wneud yr hyn a allwn i'w cynorthwyo a hefyd i'w cefnogi wedyn i mewn i'r cyfnod adfer ac adnewyddu.

14:45
Y Portffolio Addysg

2. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i ddarparu cyllid ychwanegol i'r portffolio addysg? OQ56276

Rydym yn darparu £102 miliwn ychwanegol i'r portffolio addysg y flwyddyn nesaf i gydnabod effaith y pandemig ar blant a phobl ifanc. Mae hyn yn ychwanegol at y cynnydd o £176 miliwn i lywodraeth leol, a fydd yn cefnogi gwasanaethau rheng flaen, gan gynnwys ysgolion.

Pa drafodaethau rydych wedi'u cael gyda'r Gweinidog addysg ynghylch sicrhau bod yna arian ychwanegol ar gael ar gyfer mesurau dal i fyny megis ysgolion haf, fel yr awgrymwyd gan y Gweinidog?

Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda fy holl gyd-Weinidogion ynghyd â thrafodaethau penodol gyda'r Gweinidog addysg ynglŷn â sut y gallwn gefnogi'r plant a'r bobl ifanc y mae'r pandemig wedi effeithio'n wael arnynt. Mewn ymateb i'r materion sy'n ein hwynebu o ganlyniad i'r pandemig, rydym wedi lansio'r cynllun recriwtio, adfer a chodi safonau, sy'n cyflymu dysgu i unigolion a grwpiau â chyllid i ysgolion allu recriwtio staff newydd i fynd i'r afael â'r dysgu a gollwyd. Mae hynny'n golygu buddsoddiad ychwanegol o £29 miliwn ar gyfer blwyddyn academaidd 2020-21 ac mae'n darparu'r hyn sy'n cyfateb i 600 o athrawon ychwanegol a 300 o gynorthwywyr addysgu ychwanegol. Mae'n targedu'r cymorth hwnnw ym mlynyddoedd 11, 12 a 13 yn ogystal â dysgwyr difreintiedig a phlant a phobl ifanc o bob oed sy'n agored i niwed. Gwn fod awdurdodau lleol yn dweud eu bod yn falch iawn o'r ffordd y mae'r recriwtio'n digwydd yn hynny o beth. Rwy'n credu bod hynny wedi bod yn arbennig o lwyddiannus o ran ein hymdrechion i gefnogi plant a phobl ifanc. Rydym hefyd yn darparu cyllid ychwanegol o £12 miliwn yn 2021-22 i barhau â'r gwaith pwysig hwnnw i fynd i'r afael â dysgu, sgiliau a chynhyrchiant a gollwyd, er mwyn sicrhau'r manteision hynny i blant a phobl ifanc ledled Cymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Trown yn awr at gwestiynau'r llefarwyr. Y cyntaf y prynhawn yma yw llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Dwi'n siŵr bod y Gweinidog wedi darllen yr erthygl ddamniol yn BusinessLive ar 2 Chwefror, a oedd yn tynnu sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi methu â defnyddio ei phwerau benthyg yn llawn yn 2019-20 a 2020-21. All y Gweinidog egluro pam bod Llywodraeth Cymru wedi tanddefnyddio'r pwerau benthyg presennol, yn enwedig o ystyried y problemau rydyn ni'n eu hwynebu oherwydd y pandemig? Pam bod y Llywodraeth wedi penderfynu peidio â defnyddio'r cyfle i gyllido prosiectau cyfalaf a allai fod wedi cael effaith bositif ar yr economi Gymreig?

Nid wyf yn derbyn yr asesiad hwnnw o gwbl. Wrth gwrs, cafodd cyllideb 2020-21 ei heffeithio gan yr addasiadau hwyr iawn a wnaed yn ystod y flwyddyn gan Lywodraeth y DU yn ei hamcangyfrifon atodol, lle cawsom arian ychwanegol yn hwyr iawn ar ddiwedd y flwyddyn, a oedd yn ei gwneud yn anodd iawn inni reoli'r sefyllfa benodol honno. Ledled Cymru, mae ein cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru wedi cyflawni cynlluniau cyfalaf uchelgeisiol iawn. Dros y weinyddiaeth, rydym wedi dyrannu £12.2 biliwn o fuddsoddiad ar gyfer prosiectau cyfalaf ledled Cymru a £27.8 biliwn ers i ni gyhoeddi cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru yn 2012. Byddwch wedi gweld buddsoddiad, er enghraifft, o £1.7 biliwn i gefnogi'r gwaith o gyflawni ein rhaglen gwerth £3.7 biliwn i sicrhau addysg ac ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif. Mae hwnnw'n cael effaith mewn cymunedau ledled Cymru. Buddsoddwyd swm o £2 biliwn yn ystod y tymor hwn ar gyfer tai, gan ddarparu dros 20,000 o dai fforddiadwy, a chwalu ein targed, er ein bod wedi mynd drwy'r argyfwng hwn. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwneud buddsoddiadau sylweddol mewn seilwaith drwy gydol tymor y Senedd hon.

14:50

Mae'r Gweinidog yn dweud nad yw'n cytuno â fy asesiad. Nid fy asesiad i ydoedd; dim ond datganiad o lle rydym arni. Nid ni yw'r unig rai sy'n argymell defnyddio'r cyfleusterau sydd gennym. Yn yr erthygl honno a grybwyllais, dyfynnir yr economegydd Gerry Holtham yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru allu rheoli ei chyllideb i sicrhau ei bod yn gwneud llawer mwy o ddefnydd o'i phwerau benthyca cyfalaf. Aeth ymlaen i ddweud na ellid defnyddio'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi talu derbyniadau cyfalaf yn hwyr fel esgus a rhybuddiodd y gallai diffyg awydd am fenthyca cyfalaf danseilio achos Llywodraeth Cymru dros gynyddu'r lefelau presennol. Nawr, gŵyr y Gweinidog fod Plaid Cymru a minnau wedi bod yn galw am fwy o bwerau cyllidol yn ystod y pandemig hwn, fel y mae hithau. Mae wedi dweud wrthym sawl gwaith bod trafodaethau'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chaniatáu mwy o hyblygrwydd ariannol. Rwyf wedi ei hannog i fynd ar drywydd hynny'n egnïol, ond a yw'r Gweinidog yn cytuno bod Llywodraeth Cymru yn tanseilio ei hachos ei hun drwy fethu defnyddio'r pwerau benthyca sydd ganddi eisoes yn llawn?

Nid oes angen anogaeth Plaid Cymru arnaf i fynd ar y trywydd penodol hwnnw gyda Llywodraeth y DU yn egnïol, oherwydd mae'n rhywbeth rydym wedi bod yn ei wneud ers peth amser. Fodd bynnag, nid ydym eto wedi cael yr eglurhad ynglŷn â'n cais am hyblygrwydd, a fydd yn dod yn llawer cliriach inni wrth inni symud tuag at yr amcangyfrifon atodol, y bydd Llywodraeth y DU yn eu cyhoeddi maes o law. Fodd bynnag, rydym wedi cyhoeddi ein cyllideb ar gyfer 2021-22, ac mae honno'n dangos ein bod yn bwriadu benthyca'r uchafswm o £150 miliwn sydd ar gael inni o fewn ein terfyn blynyddol. Fe welwch gynlluniau uchelgeisiol iawn ar gyfer y flwyddyn nesaf ar draws ein cyllideb. Hyd yn oed lle na allwn wneud popeth y byddem eisiau ei wneud o fewn y pwerau sydd gennym, fe fyddwch wedi gweld ein bod wedi creu'r model buddsoddi cydfuddiannol er mwyn ein helpu i gyflawni'r prosiectau mwy o faint hynny na fyddai'n bosibl o fewn ein setliad cyfalaf presennol ac o fewn y pwerau benthyca sydd gennym ar hyn o bryd. Felly, rydym wedi dod o hyd i ffyrdd arloesol o fynd i'r afael â'r mater sy'n cael ei ddisgrifio.

Gall y Gweinidog wneud cymaint o esgusodion ag y mynno am yr hyn a ddigwyddodd yn 2019-20 a 2020-21, ond y realiti yw bod y Llywodraeth wedi methu bachu ar gyfle i fuddsoddi yn nyfodol Cymru. Dyfynnaf Gerry Holtham eto:

Mae methu benthyca mewn dwy flynedd ariannol yn olynol i'w weld yn anuchelgeisiol. Nid yw dweud nad ydynt yn gwybod beth fydd y dyraniad cyfalaf yn rheswm dilys gan eu bod yn gwybod beth fydd hwnnw o fewn ffin cyfeiliornad o 10-20% a gallent gynllunio ar gyfer yr annisgwyl.

A yw'r Gweinidog yn anghytuno â'i asesiad a'i ddadansoddiad, tybed? Gwyddom fod prosiectau sylweddol sydd angen bod ar y gweill—y metro, ôl-osod tai, mae rhestr hir—a chyda chyfraddau llog ar eu hisaf erioed, dyma'r amser i fuddsoddi. Mewn cyferbyniad, gan edrych i'r Alban, ers Deddf yr Alban 2012, mae Llywodraeth yr Alban wedi benthyca £1.6 biliwn mewn cyfalaf ac mae'n bwriadu codi £300 miliwn pellach mewn dyled ar log isel erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol. A wnaiff y Gweinidog gyfaddef mai'r realiti yw bod amharodrwydd i ddefnyddio pwerau cyllidol, sydd eisoes yn annigonol, yn llawn yn dystiolaeth bellach nad oes gan y Llywodraeth Lafur hon uchelgais dros Gymru?

Nid yw hynny'n wir o gwbl. Wrth gwrs, mae gennym setliad gwahanol iawn i'r Alban, felly nid wyf yn credu bod y cymariaethau hynny o reidrwydd yn ddilys. Os ydych eisiau edrych ar yr uchelgais sydd gan Lywodraeth Lafur Cymru, nid oes ond rhaid i chi edrych cyn belled â rhaglen buddsoddi yn seilwaith Cymru a'r hyn sydd gennym yn yr arfaeth. Mae'n ymestyn ymhell y tu hwnt i'r cyfnod rydym wedi gosod cyllidebau ar ei gyfer, ond serch hynny rydym wedi nodi prosiectau pwysig y byddwn eisiau eu harchwilio wrth symud ymlaen: trydedd groesfan Menai ar yr A55, er enghraifft, cynllun gwerth £130 miliwn i ddechrau yn 2022; coridor yr A55/A494/A458 Sir y Fflint, cynllun gwerth £300 miliwn i ddechrau yn 2022; metro gogledd-ddwyrain Cymru, £504 miliwn, a bydd ein Llywodraeth yng Nghymru yn cyfrannu at hwnnw; £1 filiwn yn rhaglen y Cymoedd Technoleg; cam nesaf rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, £2 biliwn; a metro trafnidiaeth integredig de Cymru, £738 miliwn. Mae'r rhain i gyd yn fuddsoddiadau difrifol mewn cymunedau, a fydd yn sicr o effeithio ar greu swyddi a darparu ysgogiad economaidd. Felly, nid yw'n wir dweud nad ydym yn uchelgeisiol yn y maes hwn; mewn gwirionedd, mae gennym gynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru sy'n dweud y gwrthwyneb.

Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi eu bod yn darparu grantiau ar gyfer hostelau a thai bynciau i'r Alban gyda chronfa gymorth gwerth £2.3 miliwn ar gyfer hostelau. Mae nifer o weithredwyr tai bynciau gwledig a busnesau awyr agored amgen yn y gogledd wedi ysgrifennu ataf yn galw am gronfa gymorth i hostelau a thai bynciau sy'n cyfateb i hyn yng Nghymru. Fel y dywedasant, 'Rydym yn darparu gwasanaeth i'n cymuned leol, gan ddod ag ymwelwyr i mewn drwy gydol y flwyddyn sy'n defnyddio tafarndai a siopau lleol, ond mae rheolau COVID a llai o gymysgu cymdeithasol yn effeithio'n drychinebus arnom, oherwydd rydym yn darparu llety a rennir i bobl o wahanol aelwydydd.' Sut ydych chi'n ymateb felly i adroddiad Independent Hostels UK, 'The Case for Extra Financial Support', sy'n nodi:

Heb gymorth ariannol ychwanegol y gaeaf hwn, rhagwelir na fydd 34% o hostelau'n goroesi erbyn y tymor twristiaeth y flwyddyn nesaf'

ac

Un cymorth delfrydol fyddai 'Grant Cymorth' wedi'i gyfeirio'n benodol at hostelau a llety grŵp yn y sector twristiaeth?

14:55

I ddechrau, byddwn yn annog y busnesau hynny i archwilio a ydynt wedi gwneud y gorau o'r holl gyfleoedd sydd ar gael iddynt gan Lywodraeth Cymru. Er enghraifft, os ydynt yn fusnesau sy'n talu ardrethi annomestig, a ydynt wedi cael y grantiau sy'n benodol i fusnesau yn y sector ardrethi annomestig? A hefyd wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ein cronfa gwerth £180 miliwn ar gyfer sectorau penodol. Agorwyd honno ar 13 Ionawr. Hyd yn hyn, derbyniwyd dros 7,600 o geisiadau ac mae 4,401 o gynigion gwerth £33 miliwn wedi'u gwneud. Gallai'r busnesau hynny edrych i weld a ydynt yn gymwys ai peidio. Mae wedi'i dargedu at fusnesau yn y sector lletygarwch, twristiaeth a hamdden. Byddwn yn fwy na pharod i roi manylion pellach i Mark Isherwood a gallai eu rhannu â'r busnesau hynny iddynt weld a allent gael cymorth o'r gronfa honno.

Byddwn yn hapus i roi copi o'r adroddiad hwnnw i chi os nad oes gennych un, oherwydd mae'n dangos eu bod yn ymwybodol o'r ffrydiau ariannu presennol ac wedi manteisio arnynt lle maent wedi gallu gwneud hynny.

Wrth ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Cyllid ar gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, dywedodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:

'Mae'n rhaid i'r sector gwirfoddol gael cefnogaeth ac adnoddau er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaeth ganolog yn y broses o adfer ar ôl y pandemig'

a

'Rhaid i gyd-gynhyrchu chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau ataliol.'

Aeth eu hymateb i gynigion y gyllideb ddrafft ymhellach, gan ddweud: 

'Mae'r sector gwirfoddol yn parhau i fod angen mwy o adnoddau i ymateb i'r galw cynyddol ar ei wasanaethau'

a

'Mae gan y sector lawer o grwpiau a sefydliadau sydd wedi datblygu i ddatrys problemau penodol neu eu hatal rhag gwaethygu.'

Maent hefyd yn atal pwysau ariannol ychwanegol enfawr ar wasanaethau iechyd a gofal. Sut y byddwch yn ymateb yn ariannol felly i'w pryder fod elusennau yng Nghymru wedi colli tua 24 y cant o'u hincwm eleni, neu £1.2 biliwn i elusennau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, er bod y gyllideb ddrafft yn datgan y bydd £700,000 ychwanegol yn cael ei ddarparu ar ben y £3 miliwn i gefnogi'r sector yn ei ymateb i COVID-19 a chronfa adfer COVID-19 trydydd sector Llywodraeth Cymru, sy'n werth £24 miliwn? Mewn geiriau eraill, heb y buddsoddiad ychwanegol sydd ei angen, bydd yn costio llawer mwy o arian i'r Trysorlys yng Nghymru nag y byddai ei angen arnynt fel arall i atal y galw hwnnw rhag cael ei greu.

Rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a'r sector elusennau a'r trydydd sector yma yng Nghymru drwy gydol y pandemig. Rwyf wedi cyfarfod â'r sector fy hun er mwyn clywed am yr heriau y maent yn eu hwynebu, ac maent yn sicr yn ymwneud â methu cyflawni eu gweithgareddau codi arian arferol, er enghraifft, fel y disgrifiodd Mark Isherwood. Dyna pam ein bod wedi rhoi cymorth ar waith sy'n benodol i'r sector, ond hefyd rydym wedi ceisio rhoi rhyw fath o sicrwydd iddynt ynglŷn â dyfodol yr ymateb i'r pandemig hefyd. Byddaf yn archwilio'r materion sydd wedi'u codi ym mhob un o'r pwyllgorau gyda fy nghyd-Weinidogion yn Llywodraeth Cymru wrth i ni symud tuag at y gyllideb derfynol, gan wrando hefyd ar y sylwadau a wnaed yn y ddadl ddoe a chael trafodaethau pellach ynghylch pa gymorth y gallai fod ei angen.

Rwy'n eich annog i edrych ar y gwasanaethau hanfodol sy'n cael eu darparu gan y sector, y byddai gwaith pawb yn y Llywodraeth yn anos hebddynt, ond hefyd byddai ein gwaith yn yr wrthblaid yn anos, a byddai bywydau pawb yn llawer anos hefyd. Un o'r rheini, wrth gwrs, yw hosbisau. Er i Lywodraeth Cymru ddyrannu £6.3 miliwn i gronfa argyfwng yr hosbisau ar y cychwyn, roedd hyn yn llai hael na chronfeydd cyfatebol ym mhob gwlad arall yn y DU, fel y mae'r dystiolaeth yn dangos, ac mae'n sylweddol is na'r cyfanswm a ddyrannwyd i Lywodraeth Cymru mewn cyllid canlyniadol o gymorth Llywodraeth y DU i hosbisau yn Lloegr.

Fodd bynnag, mae ein sector hosbisau a gofal lliniarol cymunedol wedi parhau i ddarparu gofal hollbwysig a gwasanaethau hanfodol drwy gydol y pandemig. Ychwanegwyd hyd at £125 miliwn at y pecyn cyllid argyfwng gwreiddiol i hosbisau ar gyfer 2020-21 yn Lloegr, ond ni ychwanegwyd rhagor o arian yng Nghymru. Mae hosbisau yng Nghymru yn wynebu diffyg cyfunol o £4.2 miliwn erbyn mis Mawrth, ond ar ôl i mi arwain y ddadl ar ofal lliniarol a gofal diwedd oes yma yr wythnos diwethaf, dim ond £3 miliwn yn ychwanegol a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru i'w cefnogi yn y flwyddyn ariannol hon. At hynny, nid oedd unrhyw arwydd yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 o gymorth parhaus i hosbisau allu cynnal eu gwasanaethau hanfodol, er gwaethaf eu hamcangyfrif o ddiffyg cyfunol o £6.1 miliwn yn ystod 2021-22. Felly, ble mae gweddill yr arian ychwanegol a gafwyd gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i'r cynnydd yn y cyllid i hosbisau yn Lloegr y flwyddyn ariannol hon i ddarparu eu gwasanaethau hanfodol? A sut y byddwch yn ymateb i anghenion ariannu dwys hosbisau yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf?

15:00

Wel, fel y dywed Mark Isherwood, mae hosbisau'n darparu gwasanaeth eithriadol o bwysig i bobl Cymru ac rydym yn llwyr gydnabod y cyfraniad enfawr a wnânt. Buom yn gweithio ochr yn ochr â'r sector hosbisau yma yng Nghymru i ddeall y cymorth ariannol penodol y byddai ei angen arnynt, a dyna'r rheswm pam ein bod wedi dyrannu £9.3 miliwn â chyllid brys i gefnogi'r hosbisau hynny drwy gydol y pandemig, ac mae hwn yn cael ei ddefnyddio i ddiogelu gwasanaethau clinigol a chryfhau cymorth profedigaeth hosbisau.

Ac mae yna ateb eithaf syml, mewn gwirionedd, sef bod y sector hosbisau yma yng Nghymru yn llai na'r hyn ydyw dros y ffin, felly dyma un o'r meysydd hynny lle nad oedd y symiau canlyniadol yn cyfateb i'r angen a nodwyd sydd gennym yma yng Nghymru. A dywedaf, 'angen a nodwyd' oherwydd gwnaethom weithio gyda'r sector i nodi'r cyllid y byddai ei angen arno. Ac mae yna feysydd, wrth gwrs, lle cawn symiau canlyniadol gan Lywodraeth y DU nad ydynt yn diwallu ein hangen a lle mae ein hangen yn llawer mwy nag ar draws y ffin. Felly, ni allwn weithredu fel blwch post ar gyfer cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU, mae'n rhaid inni weithio gyda'r sectorau unigol i ddeall yr angen a nodir. Ac fel y dywedaf, pan oeddem yn gweithio gyda'r sector, yr angen a nodwyd yw'r angen rydym wedi'i ddiwallu, ond yn amlwg, os oes trafodaeth bellach i'w chael, byddwn yn fwy na pharod i gael y trafodaethau hynny gyda'r sector.

Gwariant Cyfalaf yng Nghwm Cynon

3. A wnaiff y Gweinidog amlinellu asesiad Llywodraeth Cymru o'i gwariant cyfalaf yng Nghwm Cynon yn ystod tymor presennol y Senedd? OQ56259

Dros y weinyddiaeth hon, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £12.2 biliwn ar gyfer buddsoddi mewn prosiectau cyfalaf ledled Cymru, gan gynnwys £120 miliwn ar draws cwm Cynon ac ardal ehangach Rhondda Cynon Taf drwy raglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain, er enghraifft.

Diolch i chi, Weinidog. Nid oes unrhyw amheuaeth fod cwm Cynon wedi elwa'n sylweddol o gyllid Llywodraeth Cymru dros y pum mlynedd diwethaf. Efallai mai'r maes gwariant cyfalaf mwyaf arwyddocaol fu'r buddsoddiad parhaus mewn adeiladau addysgol yn yr ardal.

Mae cwm Cynon wedi gweld mwy o fuddsoddiad gan gyllid ysgolion yr unfed ganrif ar hugain Llywodraeth Cymru nag unrhyw etholaeth arall yng Nghymru, gwerth dros £100 miliwn, ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n falch iawn ohono yn wir. Mae tymor presennol y Senedd wedi arwain at agor campws Coleg y Cymoedd, sy'n werth £22 miliwn, yn Aberdâr; Ysgol Gynradd Cwmaman, sy'n werth £7.2 miliwn; ac ym mis Medi y llynedd, ysgol gynradd Hirwaun sy'n werth £10.2 miliwn. Weinidog, a fyddech yn cytuno bod hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn ein plant a'n pobl ifanc, a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w cyrhaeddiad addysgol a'u rhagolygon bywyd yn y dyfodol?

Byddwn yn cytuno'n llwyr â Vikki Howells yno, ac mae wedi bod yn llais cryf dros addysg yn ei hetholaeth ac yn allweddol wrth gyflwyno'r achos dros gyllid ychwanegol yn ei hardal, felly llongyfarchiadau i Vikki am yr hyn y mae wedi'i gyflawni ar ran ei hetholwyr. Ac mae'r enghreifftiau o'r prosiectau y mae wedi'u disgrifio yn gyffrous. Mae'n bwysig ein bod yn rhoi'r amgylchedd dysgu gorau i blant weithio ynddo ac i dyfu ynddo, oherwydd dyna sut rydym yn dweud wrthynt eu bod yn bwysig, a'n bod yno i'w cefnogi a'u helpu i gyflawni eu potensial llawn.

Rwy'n credu mai maes arall lle rydym wedi bod yn llwyddiannus iawn yng nghwm Cynon yw'r gefnogaeth arbennig rydym wedi'i rhoi i dai cymdeithasol. Felly, er enghraifft, rydym wedi trawsnewid Ysgol y Merched Aberdâr yn fflatiau, tai a byngalos wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. Dyna £4.8 miliwn o gymorth. A defnyddiwyd grant tai cymdeithasol o £2.7 miliwn ar gyfer datblygu hen Ysgol y Bechgyn Aberdâr yn 30 o dai fforddiadwy mawr eu hangen, unwaith eto gan gynnwys fflatiau, tai a byngalos. Ac rydym yn gwneud gwaith gyda'r gronfa gofal integredig ar ailddatblygu Llys Pen Llew i ddarparu'r cyfleuster 19 gwely i unigolion ag anabledd dysgu. Bydd gan bob preswylydd ei fflat hunangynhwysol ei hun. Felly, rwy'n credu bod cymaint o waith cyffrous yn digwydd yng nghwm Cynon, ac mae'n arwydd o'r buddsoddiad rydym wedi gallu ei wneud yn yr ardal.

15:05
Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin? OQ56275

Nid yw Llywodraeth y DU wedi ymgysylltu'n ystyrlon nac yn barchus ar y mater hwn, er gwaethaf y gwaith enfawr sydd wedi digwydd ar draws Llywodraeth Cymru a chyda sefydliadau ledled Cymru dros y tair blynedd diwethaf ar ddatblygu fframwaith newydd ar gyfer buddsoddi arian yn lle cronfeydd yr UE.

Rwy'n ddiolchgar i chi am hynny, Weinidog. Byddwch wedi gweld adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn San Steffan, a gyhoeddwyd yn yr hydref, a oedd yn adroddiad dinistriol ac yn gondemniad dinistriol o Lywodraeth y DU gan bwyllgor a oedd yn cael ei reoli'n bennaf gan Aelodau Ceidwadol. Cafwyd dwy feirniadaeth ganddynt o Lywodraeth y DU. Yn gyntaf oll, roedd y diffyg ymgysylltu a ddisgrifiwyd gennych. Yn ail, roedd yna haerllugrwydd, fel roeddwn i'n ei ddarllen, yn yr awydd i anwybyddu'r arbenigedd sydd gennym yng Nghymru ar gyfer cyflawni'r math o fuddsoddiadau rydych newydd eu disgrifio yng nghwm Cynon.

A yw'n peri cymaint o bryder i chi ag y mae'n ei wneud i mi, Weinidog, fod hyn yn frad? Mae'n frad go iawn yn erbyn pobl, nid yn unig y rhai ohonom a bleidleisiodd dros aros yn yr UE yn 2016, ond yn fwy felly, y bobl a bleidleisiodd dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016, yr addawyd iddynt na fyddent yn colli ceiniog o fuddsoddiad—y byddai Llywodraeth y DU yn gwneud iawn am yr holl fuddsoddiad a oedd yn dod i leoedd fel Blaenau Gwent. Dangoswyd bod hynny'n gelwydd noeth. Mae hynny'n golygu y bydd lleoedd fel yr etholaeth rwy'n ei chynrychioli, yr etholaeth rydych chi'n ei chynrychioli, a llawer ohonom yn y Siambr hon, yn gweld buddsoddiadau a fyddai wedi digwydd yn ein pobl, ein lleoedd a'n seilwaith, ond na fyddant yn digwydd yn awr oherwydd y modd y mae Llywodraeth y DU wedi bradychu pobl Cymru.

Rwy'n cytuno'n llwyr ag asesiad Alun Davies o'r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi defnyddio pobl i gyflawni ei hagenda ei hun, a heb gyflawni'r addewidion a wnaeth iddynt. Nid yw Llywodraeth Cymru yn dangos yr haerllugrwydd hwnnw yma. Rydym wedi gweithio'n galed iawn, gan edrych yn rhyngwladol, a throi at y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, i weld beth y gallwn ei ddysgu ynghylch sicrhau buddsoddiad rhanbarthol yn y dyfodol yma. Rydym wedi cael sgwrs genedlaethol, gan siarad â miloedd o bobl i archwilio beth fydd y ffordd orau ymlaen ar gyfer ailadeiladu a sut y gallwn ddefnyddio ein harian yn y ffordd orau yn y dyfodol.

Roedd Llywodraeth y DU yn gyflym iawn i ddadlau y byddem yn cael mwy o arian eleni na'r llynedd. Ond wrth gwrs, mae debydu'r taliadau wedi lleihau ein cyllid, ac yn anwybyddu'r ffaith, pe baem wedi aros yn yr UE, y byddai gennym ddyraniad ariannol blwyddyn lawn bellach ar gyfer rhaglenni newydd, yn ogystal â'r taliadau a fyddai'n ddyledus o'r rhaglenni sy'n dechrau dod i ben. Felly, byddem wedi bod mewn sefyllfa wahanol iawn o'i chymharu â chronfa ffyniant gyffredin gwerth £220 miliwn Llywodraeth y DU ar gyfer y DU gyfan, ac nid ydym wedi cael unrhyw fanylion yn ei chylch o hyd. Cymharwch hynny â'r £375 miliwn blynyddol y byddem wedi'i gael gan yr UE. Mae gan Lywodraeth y DU amser o hyd i gyflawni ei haddewid na fyddwn geiniog yn waeth ein byd, a byddwn yn eu hannog i wneud hynny.

Mae Alun Davies, y Gweinidog emeritws, yn cyflwyno ei ddadleuon gyda'i angerdd a'i egni arferol, ac rwy'n derbyn, hyd yma, beth bynnag—. Mae Llywodraeth Cymru wedi cwyno am ddiffyg manylion am y gronfa ffyniant gyffredin. Serch hynny, mewn egwyddor, mae'n fecanwaith a fydd, yn y pen draw, yn cyflawni dros Gymru gobeithio. Felly, gan edrych y tu hwnt i'r sefyllfa bresennol at y pwynt hwnnw, os ydym am ddatganoli mwy o bŵer i lywodraeth leol a rhoi mwy o reolaeth i awdurdodau lleol, a fyddech yn cytuno bod y gronfa ffyniant gyffredin yn rhoi cyfle delfrydol inni roi mwy o'r rheolaeth honno i awdurdodau lleol a chaniatáu iddynt gymryd rhan yn y broses o wario'r gronfa hon. Wedi'r cyfan, maent wedi cymryd rhan yn y bargeinion dinesig a'r bargeinion twf llwyddiannus. Felly, yn eich trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, a hefyd o fewn Llywodraeth Cymru gyda'r Gweinidog llywodraeth leol, a wnewch chi sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael rôl allweddol yn y broses o gyflwyno'r gronfa ffyniant gyffredin? Nid gyda ni ar hyn o bryd, rwy'n cyfaddef, ond pan gaiff y manylion eu hegluro yn y pen draw.

15:10

Wel, fel y dywed Nick Ramsay, nid yw'r manylion wedi'u hegluro eto, felly nid wyf yn gwybod a allaf gytuno â'i asesiad y bydd yn rhoi grym yn nwylo mwy o bobl leol ac yn gwneud y penderfyniadau hynny mor agos at lawr gwlad â phosibl. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu ei fframwaith rhanbarthol ar gyfer buddsoddi, ac fe'i cyhoeddwyd ym mis Tachwedd yn dilyn tair blynedd o ymgysylltu, cydweithredu ac ymgynghori. Ac roeddem yn glir mai ein meysydd blaenoriaeth fyddai busnesau mwy cynhyrchiol a chystadleuol, lleihau'r ffactorau sy'n arwain at anghydraddoldeb economaidd, cefnogi'r newid i economi ddi-garbon, a chymunedau iachach, tecach a mwy cynaliadwy. Ac rydym yn sicr yn gweld awdurdodau lleol fel partneriaid allweddol yn hynny. Ac roedd llywodraeth leol a CLlLC yn rhan weithredol yn y gwaith o ddatblygu ein fframwaith ac fe'u cynrychiolir ar y pwyllgor llywio sydd wedi arwain y gwaith hwnnw ers tair blynedd. Felly, dylai awdurdodau lleol chwarae rhan bwysig yn y dyfodol o ran datblygu rhanbarthol, a gobeithio y gallwn wneud hynny o fewn y fframwaith y buom yn ei ddatblygu yma yng Nghymru.

Weinidog, tybed a gaf fi ofyn i chi roi sylw arbennig i effaith colli cronfa gymdeithasol Ewrop a chronfeydd strwythurol ar ein rhaglenni gwaith a sgiliau yng Nghymru. Rwy'n clywed sibrydion braidd yn ddigalon—wel, maent yn fwy na sibrydion—fod bwriad yn awr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i ganoli eu rhaglenni gwaith. Nawr, rydym wedi cael rhaglenni gwaith rhagorol yma yng Nghymru, yn enwedig i'r bobl anodd eu cyrraedd sydd angen cymorth ychwanegol i gael gwaith oherwydd sgiliau a thrafnidiaeth a heriau eraill y maent yn eu hwynebu, a gwyddom sut i'w wneud. Felly, byddai'n drychinebus pe bai rhyw ddull canolog o wneud hyn, wedi'i lywio gan San Steffan, yn ailadrodd y problemau a oedd ganddynt yn rhaglenni gwaith Thatcheraidd y 1980au. Felly, Weinidog, a gaf fi ofyn i chi gyflwyno sylwadau, os yw'r rhaglenni hyn yn cael eu hailgynllunio, pan fyddant yn chwilio am bartneriaid i'w cyflwyno, eu bod yn defnyddio'r awdurdodau lleol a'r consortia rhanbarthol sydd wedi bod yn eu cyflwyno ar lawr gwlad yn llwyddiannus iawn—yn llawer gwell nag yn Lloegr ac mewn mannau eraill—yn y dyfodol hefyd? Rydym nid yn unig yn colli'r arian—mae wedi dileu ein gallu i reoli'r hyn a wnawn gyda rhaglenni cyflogaeth a sgiliau pwysig iawn.

Yn sicr. Ac yn amlwg, mae Huw Irranca-Davies yn siarad ag awdurdod go iawn ar hyn ar ôl cadeirio ein grŵp, sydd wedi bod yn edrych ar yr agenda benodol hon ers peth amser. A bydd yn gwybod yn well na neb am yr effaith y mae'r prosiectau UE hynny wedi'i chael yng Nghymru, gan greu dros 56,400 o swyddi newydd a 15,400 o fusnesau newydd ers 2007, yn ogystal â chefnogi 30,000 o fusnesau, a helpu bron i 100,000 o bobl i gael gwaith yn y cyfnod hwnnw. A dyna'r math o beth y mae angen inni barhau i'w wneud.

Rydym wedi ceisio rhoi camau buan ar waith i liniaru'r effaith gynnar, felly rydym wedi bod yn rhagweithiol wrth ymestyn nifer o'n hymyriadau economaidd allweddol a gefnogir gan gronfeydd yr UE a oedd i fod i ddod i ben yn y flwyddyn ariannol nesaf, i'w hymestyn i flynyddoedd dilynol, ac mae hyn yn cynnwys cymorth i entrepreneuriaid a busnesau bach a chanolig eu maint sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd gan Busnes Cymru. Cymorth ar gyfer gweithgynhyrchu uwch cynaliadwy, buddsoddi mewn ymchwil, datblygu ac arloesi ym maes busnes, a chymorth ar gyfer technolegau ynni carbon isel a buddsoddi mewn safleoedd twristiaeth allweddol—mae'r rhain yn bethau rydym wedi bod yn canolbwyntio arnynt wrth i ni baratoi ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Roedd cwestiwn 5 yn enw Rhianon Passmore, nad yw'n bresennol. Felly, symudwn at gwestiwn 6, David Rees.

Ni ofynnwyd cwestiwn 5 [OQ56289].

Cyllid i Ddioddefwyr Llifogydd

6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ynghylch gwella'r setliad datganoledig er mwyn darparu cyllid ychwanegol i ddioddefwyr llifogydd? OQ56273

Drwy gydol y flwyddyn, rwyf wedi ymgysylltu â Llywodraeth y DU ynglŷn ag effeithiau etifeddol y llifogydd eithriadol yng Nghymru. Rydym hefyd wedi darparu cymorth drwy ein cynllun cymorth ariannol brys, ochr yn ochr â'r £390 miliwn a fuddsoddwyd gennym ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd dros y tymor hwn, gan sicrhau budd i dros 45,000 eiddo.

15:15

A gaf fi ddiolch i chi am yr ateb, Weinidog, ac a gaf fi ddiolch hefyd i Lywodraeth Cymru am y gefnogaeth y maent yn ei rhoi i ddioddefwyr llifogydd yn Sgiwen sydd wedi cael llifogydd oherwydd bod dŵr yn dod allan o bwll glo, hen safle glofaol? Mae'r Awdurdod Glo wedi datgan yn glir nad ydynt yn atebol am ddifrod dŵr sy'n dod o'u safleoedd glofaol. Atgyfnerthwyd hyn ddoe yn Nhŷ'r Cyffredin, pan atebodd y Gweinidog gwestiwn fy nghyd-Aelod Stephen Kinnock ar y mater hwn. Nawr, os nad yw'r Awdurdod Glo yn cymryd cyfrifoldeb, a Llywodraeth y DU, y mae ei record ar hyn yn wael pan ystyriwch beth sydd wedi digwydd ym Mhontypridd—a yw'n bryd yn awr i chi bwyso ar Lywodraeth y DU am gyllid ganddynt fel y gallwn helpu'r bobl hyn? Oherwydd nid oes yswiriant da gan lawer o ddinasyddion yn yr ardal honno, ac mae'r rhai sydd ag yswiriant da yn mynd i golli arian am fod yn rhaid iddynt dalu eu tâl-dros-ben, a cheir costau ychwanegol ar ben hynny, ac maent allan o'u cartref am gyfnodau hir ac nid yw hynny'n cael ei gynnwys. Mae angen inni helpu'r bobl hyn, ac mae'n amlwg nad yw Llywodraeth y DU yn mynd i wneud hynny. Felly, a wnewch chi bwyso ar y Trysorlys am gyllid ychwanegol fel y gallwn helpu pobl yn y sefyllfaoedd hyn i sicrhau nad ydynt ar eu colled, nad ydynt mewn trafferthion a'n bod yn gallu helpu cyn gynted â phosibl?

Iawn. Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod taliadau cymorth o hyd at £1,000 yr aelwyd ar gael, a dyna'r un lefel o gymorth ag y gallem ei chynnig i bobl yr effeithiwyd arnynt gan y sefyllfa eithriadol yn sgil y stormydd fis Mawrth diwethaf. Ond wyddoch chi, yn amlwg, effeithir yn arbennig o wael ar deuluoedd ac unigolion yr effeithiwyd arnynt. Hoffwn dalu teyrnged i'r gwaith y mae'r Cynghorydd Mike Harvey wedi bod yn ei wneud yn lledaenu gwybodaeth i drigolion drwy ei grŵp trigolion WhatsApp a sicrhau hefyd fod pobl yn lleol yn cael y math o gymorth a gwybodaeth sydd eu hangen arnynt. Ond oes, mae mwy i'w wneud gyda Llywodraeth y DU ar yr agenda benodol hon, o ran y materion uniongyrchol rydym yn eu hwynebu, ond y mater mwy hirdymor ynglŷn â phyllau glo a'r safleoedd glofaol a'r gwaith adfer sy'n angenrheidiol i atal y mathau hyn o bethau rhag digwydd yn y dyfodol, a dyna pam rwy'n gobeithio y gallwn wneud rhywfaint o gynnydd gyda Llywodraeth y DU yn hyn o beth. O ran cymorth i awdurdodau lleol, rydym yn gallu, ac rydym wedi gallu, talu costau cymwys awdurdodau lleol ar yr ymateb uniongyrchol i'r llifogydd yn ystod haen 3 a haen 4 drwy ddarparu 100 y cant o'r cyllid, a chredaf fod hynny'n dangos eu pwysigrwydd i ni fel ein partneriaid lleol yn yr ymateb i'r digwyddiadau ofnadwy hyn.

A gaf fi ategu sylwadau David Rees ynglŷn â'r modd y mae pobl wedi ysgwyddo eu cyfrifoldebau yn Sgiwen? Bythefnos yn ôl, yn sgil ei gwestiwn amserol, gofynnais gwestiwn i'r Gweinidog llywodraeth leol, un na wnaeth mo'i ateb, ond credaf efallai y gallwch chi wneud hynny—efallai eich bod mewn gwell sefyllfa i wneud hynny. Yn amlwg, gyda llifogydd Sgiwen, roedd y ffocws yn fawr iawn ar rôl eiddo'r Awdurdod Glo, ond roedd fy nghwestiwn yn ehangach, ynglŷn ag atebolrwydd tirfeddianwyr y mae dŵr yn rhedeg drwy eu tir—felly, pethau fel camlesi a dyfrffosydd eraill; nid wyf yn sôn am y prif gyflenwad dŵr, ond y mathau hynny o ddyfrffosydd. Bydd peth o'r tiroedd mewn dwylo cyhoeddus, naill ai llywodraeth leol, Llywodraeth ganolog neu Cyfoeth Naturiol Cymru, felly a allwch ddweud wrthym sut y caiff cyrff cyhoeddus eu hariannu i dalu costau rhwymedigaethau o ganlyniad i fethiant seilwaith ar eu tir sy'n arwain at ddifrod llifogydd, naill ai ar eu tir eu hunain neu ar dir trydydd parti, fel y gwelsom yn Sgiwen, a sut y caiff hynny ei adlewyrchu yng nghyllideb Llywodraeth Cymru?

Diolch i chi am godi'r mater penodol hwnnw. Os yw'n dderbyniol gan Suzy Davies, fe wnaf ofyn am gyngor penodol, oherwydd credaf fod rhai o'r cwestiynau hynny'n crwydro i feysydd cyfreithiol nad wyf fi'n gymwys i siarad arnynt y prynhawn yma o bosibl. Felly, ar y rhwymedigaethau ac yn y blaen, fe wnaf ddarparu diweddariad ysgrifenedig i Suzy Davies ar rwymedigaethau.

Rwy'n sicr yn cytuno ei bod hi'n hanfodol cael rhyw fath o warant dioddefwyr llifogydd mewn perthynas â chymorth ariannol ar gyfer y dyfodol. Gwyddom fod yr Awdurdod Glo, yn Sgiwen, wedi rhoi rhyw fath o gymorth ariannol, ond dim ond ar gyfer gerddi allanol—unrhyw newidiadau sydd angen eu gwneud i'r gerddi, oherwydd yr effaith—ond nid yw hynny'n mynd hanner digon pell. Felly, byddai unrhyw beth ychwanegol yn dderbyniol iawn. Ond yn ddiweddar, byddem i gyd wedi cael llythyr ar y cyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Llywodraeth Cymru yn dweud bod siafftiau glofaol ychwanegol wedi'u canfod yma yng Nghymru. Rwy'n credu mai 2,000 yw'r nifer yn awr; arferai fod yn 1,200. Nawr, gallai fod yn fater o amser yn unig cyn y ceir digwyddiadau eraill ledled Cymru nad ydym yn gwybod amdanynt ar hyn o bryd. Ni thawelwyd fy meddwl, o'r ateb i'r llythyr, ein bod yn gwybod ble roeddent a beth oedd yn mynd i gael ei wneud fel y gallwn atal hyn rhag digwydd yn y dyfodol. Felly, beth y bwriadwch ei wneud o ran cyllidebu i sicrhau bod gennym y gefnogaeth angenrheidiol—er nad ydym am iddo ddigwydd, efallai y bydd yn digwydd eto yn y dyfodol—fel y gellir cefnogi'r dioddefwyr hyn drwy unrhyw brofiad y gallent ei wynebu?

15:20

Wel, rydym wedi bod yn cael rhai trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, a ddeilliodd o'r trafodaethau am lifogydd, ond wedyn, yn amlwg, daeth yn fwy o beth ac fe wnaethom gynnwys y trafodaethau'n ymwneud â phyllau glo, ac yn awr, wrth gwrs, mae hynny wedi'i ymestyn eto i gynnwys safleoedd glofaol. Gwyddom y bydd gwaith adfer pyllau glo yn galw am waith dros—rhaglen waith 10 mlynedd mae'n debyg. Ac mae'n debyg ein bod ni, rwy'n meddwl, ar hyn o bryd—ac mae'n anodd iawn dweud yn union, ond rydym yn sôn am werth £500 miliwn o waith y byddai ei angen dros gyfnod hir o amser. Felly, mae hwn yn waith mawr. A phan fyddwn yn cynnwys safleoedd glofaol yn hyn hefyd, credaf ein bod yn sôn am gyllid eithriadol o ddifrifol y bydd ei angen i fynd i'r afael â materion sydd, fel rydych wedi nodi, yn rhai gwirioneddol bwysig na ellir eu hanwybyddu. A dyma pam ein bod yn ceisio dadlau'r achos wrth Lywodraeth y DU y dylem allu cael cyllid ychwanegol, oherwydd mae Cymru'n cael ei heffeithio'n anghymesur. Gyda phyllau glo, er enghraifft, mae gennym 40 y cant o holl byllau glo'r DU yng Nghymru, felly nid math o sefyllfa arian canlyniadol Barnett yw hon. Ond rydym yn parhau i geisio dadlau'r achos dros waith ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Sylweddolwn fod gennym ran fawr i'w chwarae yn hyn hefyd, ond credaf fod yn rhaid iddo fod yn ymateb gwirioneddol gydweithredol i fater difrifol.

Coronafeirws a'r Gyllideb

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr effaith y mae'r coronafeirws wedi'i chael ar gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru? OQ56287

Gwnaf. Gydag ansicrwydd sylweddol parhaus ynghylch llwybr y pandemig, rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu'r cyllid cywir ar yr adeg iawn. Yn 2020-21, rydym eisoes wedi dyrannu mwy na £4 biliwn, gan gynnwys bron i £2 biliwn i gefnogi busnesau, gyda dyraniadau sylweddol pellach yn ein trydedd gyllideb atodol y mis hwn.

Diolch i chi am eich ateb, Weinidog. Yn amlwg, mae gan Lywodraeth y DU fynediad at lawer mwy o arian na Llywodraeth Cymru, a bydd gwir angen cael yr arian hwnnw i'n helpu i ymadfer wedi'r coronafeirws. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ba drafodaethau a gawsoch neu y bwriadwch eu cael gyda Llywodraeth y DU i gefnogi'r gwaith o ailadeiladu cyllid Cymru?

Byddaf yn edrych yn ofalus iawn ar yr hyn a ddywedir yng nghyllideb Llywodraeth y DU ar 3 Mawrth o ran yr hyn y gallai ei ddweud ynglŷn â darparu cymorth ar gyfer yr ymdrech adfer ac ailadeiladu'r economi. Rwy'n arbennig o awyddus i weld beth sydd ganddynt i'w ddweud am gyfalaf, oherwydd, wrth gwrs, pan edrychwn ar yr hyn a ddywedodd y Canghellor yn ôl ym mis Mawrth, roeddem yn disgwyl cael tua £400 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, a byddai hynny wedi bod yn rhywbeth y gallem ei ddefnyddio i symud ymlaen gyda'r gwaith ailadeiladu, gyda'r math o brosiectau seilwaith a fydd yn angenrheidiol ar gyfer yr ymdrech ailadeiladu. Ond fel y digwyddodd, cawsom doriad i'n cyllideb cyfalaf, ac roedd hynny'n annisgwyl iawn. Felly, rwy'n meddwl tybed a fydd y Canghellor yn manteisio ar y cyfle i gyhoeddi cyllid ychwanegol ym mis Mawrth. Dyna beth fyddwn i'n gobeithio ei weld. Ac yna byddai Llywodraeth Cymru yn amlwg am weithredu'r prosiectau y cawsom gyfle i'w trafod ar ddechrau'r sesiwn gwestiynau heddiw gyda llefarydd Plaid Cymru, ynghylch y prosiectau seilwaith sydd gennym yn yr arfaeth. Felly, credaf y byddai hwnnw'n un maes lle hoffwn weld llawer mwy o weithredu gan Lywodraeth y DU, a mwy o eglurder ynglŷn â'r cyllid ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Clywais eich ymateb i David Rowlands, Weinidog, ond wrth gwrs, mater i Lywodraeth Cymru yw sut y mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu ei chyllid o'r Llywodraeth ganolog. Nawr, rwy'n pryderu bod seilwaith, yn y gyllideb ar gyfer trafnidiaeth genedlaethol, wedi mynd o £150 miliwn eleni i £129 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf. Yn sicr, mae angen prosiectau seilwaith hirdymor ac uwchraddio ledled Cymru, ac felly rwy'n ceisio deall pam y mae hynny wedi digwydd, pam y mae'r gyllideb hon wedi'i thorri'n sylweddol.

15:25

Wel, bydd nifer o heriau gwahanol mewn perthynas â thrafnidiaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf. Felly, ar yr ochr gyfalaf, fel y dywedaf, mae ein cyllideb cyfalaf wedi gostwng y flwyddyn nesaf, ond rwy'n gobeithio y bydd y Canghellor yn manteisio ar y cyfle ym mis Mawrth i ddarparu cyllid ychwanegol ac yna gallwn bob amser wneud mwy. Ar ddechrau'r sesiwn heddiw, roeddwn yn rhestru rhai o'r prosiectau penodol y byddem yn ceisio eu cyflwyno—er enghraifft, trydedd groesfan afon Menai, y gwaith ar goridor yr A55, A494, A458 Sir y Fflint a metro trafnidiaeth integredig de Cymru a'r holl fathau hynny o brosiectau. Felly, dyna ran o'r stori.

Y rhan arall, wrth gwrs, yw'r cyllid sy'n gysylltiedig â COVID ar gyfer trafnidiaeth. Felly, byddwch wedi gweld yn y gyllideb ddrafft fy mod wedi darparu cyllid trafnidiaeth ychwanegol ar gyfer bysiau, oherwydd rwy'n awyddus iawn i weld y sector hwnnw'n cael sicrwydd ar hyd y flwyddyn ariannol ac nad ydynt yn poeni, wrth inni ddod at ddiwedd y flwyddyn ariannol hon, na fydd cefnogaeth, a byddai hynny, yn amlwg, yn effeithio'n negyddol ar ddarparu gwasanaethau i deithwyr. Felly, yn amlwg, un o'r pethau nesaf rwy'n ei wneud yw archwilio beth, os rhywbeth, sydd angen inni ei weld ar hyn o bryd mewn perthynas â'r rheilffyrdd. Felly, credaf fod trafodaethau pellach i'w cael ynglŷn â chefnogaeth i'r sector trafnidiaeth, ond ar yr ochr seilwaith i bethau, yn amlwg, rydym yn fwy cyfyngedig nag y byddem eisiau bod o safbwynt y gyllideb cyfalaf.

3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg

Eitem 3 ar yr agenda yw cwestiynau i'r Gweinidog Addysg, a daw'r cwestiwn cyntaf gan Mark Isherwood.

Disgyblion Awtistig

1. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar gyfer disgyblion awtistig mewn lleoliadau ysgol yng Nghymru? OQ56257

Diolch, Mark. Rwy'n cydnabod bod yr ansicrwydd sy'n deillio o'r amgylchiadau rydym yn eu hwynebu o ganlyniad i'r pandemig presennol yn arbennig o heriol i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys awtistiaeth. Rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi dysgwyr, rhieni a gofalwyr yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn.

Diolch. Pan gynghorodd Llywodraeth Cymru ysgolion i gau y tro cyntaf mewn ymateb i'r argyfwng COVID-19, dywedodd na ddylai hyn gynnwys darpariaeth ar gyfer plant sy'n agored i niwed, neu blant y mae eu rhieni'n hanfodol i'r ymateb i COVID-19. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi bod plant sy'n agored i niwed yn cynnwys rhai sy'n cael gofal a chymorth neu sydd â chynlluniau cymorth a'r rhai sydd â datganiadau o anghenion addysgol arbennig. Fodd bynnag, daeth nifer o deuluoedd yn Sir y Fflint yr effeithiwyd arnynt i gysylltiad â mi wedyn—ond nid teuluoedd yn unman arall—i ddweud nad oeddent yn cael y ddarpariaeth ar y sail anghywir fod yn rhaid i'w rhieni fod yn weithwyr allweddol hefyd. Aeth yn sawl wythnos wedyn ar y cyngor yno'n camu nôl ar ôl i mi gael datganiad pendant gan Lywodraeth Cymru. Felly, sut rydych yn ymateb i'r cyfreithiwr sy'n cynrychioli teuluoedd ledled Cymru ac sydd wedi cysylltu â mi i ddweud bod ganddynt achos cyfreithiol, gan godi'r cwestiwn ynglŷn â pha bryd y dylid addysgu plentyn awtistig gartref neu yn yr ysgol arbennig y mae'r plentyn yn ei mynychu fel arfer—mae rhieni'r plentyn am i'r plentyn fynd i'r ysgol, gan na allant ymdopi—ac yn gofyn a yw canllawiau Llywodraeth Cymru yn caniatáu i blant ag AAA awtistiaeth neu anghenion dysgu ychwanegol fynychu'r ysgol os yw addysgu gartref yn broblem i rieni?

Diolch, Mark. Yn gwbl briodol, fel y gwyddoch, mae ysgolion yn parhau i ddarparu addysg ar y safle i blant sy'n agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol. Mae'r ddau yn annibynnol ar ei gilydd; nid oes angen ichi fod yn blentyn ag anghenion dysgu ychwanegol a phlentyn gweithiwr allweddol i gael mynediad at y ddarpariaeth honno. Ac rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sy'n ymwneud â'n hysgolion arbennig a'n hunedau cyfeirio disgyblion, yn ogystal â'n hysgolion prif ffrwd, am ddarparu'r cymorth hwnnw ar hyn o bryd. Rwy'n falch o glywed, Mark, fod ein gohebiaeth â chi ynglŷn â chynnwys ein canllawiau yn ddefnyddiol i gynorthwyo eich etholwyr, a byddwn yn eich annog i ysgrifennu ataf eto gyda'r achos a amlinellwch. Mae cryn hyblygrwydd o ran bod yn agored i niwed, ond rydym yn glir iawn, lle bo'n bosibl, y dylai plant sy'n agored i niwed allu manteisio ar ddysgu wyneb yn wyneb. Ond os hoffech ysgrifennu ataf, fe wnaf fy ngorau glas i geisio eich helpu unwaith eto.

Tynnwyd cwestiwn 2 [OQ56264] a chwestiwn 3 [OQ56269] yn ôl. Cwestiwn 4—Gareth Bennett.

Myfyrwyr yn Syrthio ar ei Hôl Hi

4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud ynghylch i ba raddau y gallai myfyrwyr fod wedi syrthio ar ei hôl hi yn ystod pandemig COVID-19? OQ56281

15:30

Mae'r tarfu ar ysgolion wedi effeithio'n sylweddol ar gynnydd, iechyd a llesiant a hyder dysgwyr. Mae wedi effeithio ar rai yn fwy nag eraill, yn enwedig carfannau arholiadau, y blynyddoedd cynnar, a'n dysgwyr difreintiedig. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu dull cynaliadwy a gwydn o hyrwyddo dysgu yn y blynyddoedd i ddod a mynd i'r afael â'r ymyriadau.

Ie, diolch am y gwerthusiad hwnnw. Mae'n sefyllfa anodd. Mae'n ymddangos i mi fod y profiad o ddysgu gartref wedi amrywio'n aruthrol, rhywbeth y dylem fod wedi'i ddisgwyl, mae'n debyg. Cyn y gallwn fynd i'r afael â sut i ddal i fyny ag addysg goll plant oedran ysgol wrth inni ddod allan o'r argyfwng COVID, bydd angen rhywun arnom i asesu'n awdurdodol ble yn union rydym arni. O ystyried hynny, a ydych yn rhagweld y bydd gan Estyn rôl fawr yn asesu ein sefyllfa, a beth yw eich barn ar hyn o bryd ynglŷn ag ailddechrau arolygiadau ysgolion yng Nghymru?

Wel, rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod y bydd pob plentyn wedi cael profiad o COVID a tharfu ar eu dysgu, ac felly, bydd angen dull gweithredu arnom sy'n cefnogi ein holl ddysgwyr, ond rydym hefyd yn cydnabod y bydd gan rai rhannau o'r garfan heriau penodol, fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, ac yn wir bydd gan rai plant unigol heriau y bydd angen i ni eu cefnogi.

Yn y lle cyntaf, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau addysg lleol, gwasanaethau rhanbarthol gwella ysgolion, yr addysgwyr eu hunain, i ddatblygu rhaglen ymyrraeth barhaus i gefnogi dysgwyr yn y tymor byr, y tymor canolig ac yn hirdymor, a byddwn yn disgwyl i Estyn chwarae rôl fel arfer, fel rhan o deulu addysg Cymru. Gobeithio y gall arolygiadau fynd rhagddynt yn ôl y bwriad, ond yn amlwg, rydym yn parhau i adolygu'r holl faterion hyn wrth inni ymdrin â chanlyniadau effaith y pandemig ar addysg.

Weinidog, a allwch ein sicrhau y bydd yr asesiad cymwysterau yn ystyried y gwahanol gyfleoedd y mae myfyrwyr wedi'u cael i ddysgu'n effeithiol gartref?

Gallaf, yn wir, David. Ddoe, cyhoeddodd CBAC ragor o wybodaeth ynglŷn â sut y bydd graddau'n cael eu dynodi gan ysgolion a cholegau. Fe'i cynlluniwyd i fod mor hyblyg â phosibl, ac i sicrhau y gellir rhoi cyfrif digonol am y gwahanol brofiadau a gaiff plant yn y broses honno. Felly, os caf roi enghraifft i chi: nid yw'n dynodi, er enghraifft, faint o ddarnau o waith sy'n angenrheidiol i allu gwneud asesiad, gan gydnabod y bydd pob myfyriwr unigol wedi cael profiad gwahanol iawn.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch. Trown yn awr at gwestiynau llefarwyr, a'r cyntaf y prynhawn yma yw llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Roeddem i gyd yn falch iawn, wrth gwrs, o'ch clywed yn cyhoeddi y bydd ysgolion cynradd ar agor ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb i ddisgyblion y cyfnod sylfaen ar ôl hanner tymor. Fodd bynnag, gyda dim ond tri diwrnod i fynd tan hanner tymor, rydym wedi gweld cyhoeddi dros nos y canllawiau y mae ysgolion wedi bod yn galw amdanynt ers dyddiau bellach. Y bore yma, mewn gwirionedd, cafodd rhieni mewn un rhan o Gymru rybudd na fyddai eu hysgol yn ailagor fel y rhagwelwyd am nad oeddent wedi cael y canllawiau ar sut i gynnal asesiadau risg, felly rwy'n gobeithio y byddant yn llwyddo i ddal i fyny.

Fe wyddoch fod undebau'r athrawon yn amharod iawn i weld eu haelodau'n dychwelyd heb fesurau ychwanegol i wneud y mannau diogel hyn yn fwy diogel byth, beth bynnag fo barn penaethiaid unigol. Felly, tybed a allech grynhoi'r camau newydd i ni, a dweud wrthym sut y byddwch yn cael yr arian neu'r deunyddiau i'r ysgolion mewn pryd iddynt allu eu gweithredu, a dweud wrthym efallai sut rydych wedi hysbysu ysgolion, gan ei bod yn amlwg heddiw nad yw rhai ohonynt yn gwybod o hyd. Diolch.

Diolch, Suzy. Rhannwyd y canllawiau â'n partneriaid yn yr undebau llafur ddydd Gwener diwethaf, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda hwy yn y cyfamser i sicrhau bod y canllawiau'n eu bodloni, ac i weithio gyda hwy yn hytrach na chyhoeddi canllawiau a gorfod eu tynnu'n ôl o ganlyniad i sylwadau a wneir gan y proffesiwn. Rwyf wedi bod yn awyddus iawn i ryddhau'r canllawiau hynny cyn gynted ag sy'n bosibl, ac rydym wedi hysbysebu ar draws sianeli cyfrwng Cymraeg y bore yma fod y canllawiau ar gael.

A gaf fi bwysleisio, serch hynny, fod yr hyn a wnaeth penaethiaid a staff ysgolion yn llwyddiannus yn nhymor yr hydref, i wneud eu sefydliadau mor ddiogel â phosibl rhag COVID, yn aros yr un fath? Gwyddom beth sy'n gweithio o ran golchi dwylo, awyru a chadw pellter cymdeithasol, cyn belled ag y bo modd, yn enwedig gyda phlant hŷn. Ond rydych yn iawn, rydym yn rhoi mesurau ychwanegol ar waith, gan gynnwys £5 miliwn o fuddsoddiad ar gyfer gorchuddion wyneb o ansawdd uchel, a fydd yr un fath ac yn cael eu dosbarthu ledled Cymru, yn ogystal â phrofion llif unffordd. Mae pecynnau profion llif unffordd wedi'u rhoi i ysgolion arbennig yr wythnos hon, a bydd profion llif unffordd i'r rhai sy'n dychwelyd i'r ysgol ar 22 Chwefror yn yr ysgolion erbyn pan fyddant yn dychwelyd.

15:35

Diolch ichi am hynny. Ac rwy'n cymryd o hynny hefyd fod yr undebau llafur yn fodlon â'r camau sydd bellach ar waith, yn sicr ar gyfer blynyddoedd y cyfnod sylfaen. Rwy'n gobeithio y byddant yn teimlo'r un fath ar gyfer ysgolion uwchradd hefyd, oherwydd, fel y gwyddom, safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yw mai pwysau ar y GIG sy'n pennu pa rannau o'n cymdeithas sy'n cael eu rhyddhau a pha bryd. Ond ei safbwynt hefyd yw y dylai ysgolion—a hynny'n gyffredinol—gael elwa ar unrhyw hyblygrwydd yn sgil y gostyngiad yn y cyfraddau heintio, sy'n swnio fel ymrwymiad i agor yr ysgolion uwchradd a'r colegau nesaf, rwy'n credu, yn hytrach na dechrau agor rhannau o'r economi.

Fe sonioch chi fod canllawiau lefel uchel ar gyfer asesu wedi mynd i ysgolion erbyn hyn ar gyfer y blynyddoedd arholiadau, sy'n caniatáu, ac rwy'n dyfynnu yma,

byddai nifer gymharol fach o ddarnau o dystiolaeth glir yn ddigon i ddangos cyrhaeddiad ar draws themâu allweddol trosfwaol ar gyfer llawer o gymwysterau.

Dyna a ddywedoch chi wrth David Melding. Ac er bod y canllawiau lefel uchel hynny'n rhybuddio yn erbyn dyfarnu graddau ar botensial dysgwr, yn hytrach na'i gyflawniadau gwirioneddol, rwy'n credu y bydd y demtasiwn yno o hyd, oni fydd, yn absenoldeb corff o waith graddedig? Felly, rwy'n meddwl tybed a allwch gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio unrhyw hyblygrwydd newydd—wedi'i gefnogi gan brofion staff ddwywaith yr wythnos—i ganiatáu cymaint o ddysgu wyneb yn wyneb â phosibl ar gyfer y blynyddoedd hynny, i'w helpu nid yn unig i ddal i fyny os ydynt o dan anfantais yn ddigidol, ond i adeiladu corff o waith graddadwy, a asesir o dan amodau rheoledig. Ac os gallwch ddweud hynny, a allwch ddweud hefyd a ydych wedi rhoi rhywfaint o ystyriaeth i ailagor ysgolion a cholegau'n llawn yn fwy lleol, gan fod y dangosyddion Safon Uwch yn parhau i amrywio ledled y wlad?

Diolch, Suzy. Yn wir, mae brwdfrydedd gwirioneddol gan yr undebau llafur ac awdurdodau addysg lleol i geisio blaenoriaethu blynyddoedd arholi, am yr union resymau rydych wedi'u hamlinellu. Hoffai athrawon i'r plant hynny ddychwelyd at gymaint o ddarpariaeth wyneb yn wyneb â phosibl, fel y gellir cynnal yr asesiadau hynny a'r gwaith mewn perthynas ag asesu. Rwyf am dawelu meddyliau: mae'r canllawiau'n dweud y gall gwaith a wneir gartref ffurfio rhan o asesiad hefyd, ond mae penderfyniad llwyr yn gyffredinol i symud yn awr tuag at ddychwelyd yn ddiogel at ddysgu wyneb yn wyneb i'r myfyrwyr hŷn hynny.

Soniodd Suzy am y pwysau ar y GIG. Dyna un o'r ffactorau y bydd angen inni ei ystyried; mae'n un pwysig, wrth gwrs. A'r perygl o lethu'r GIG a'r hysbysiad lefel 5 gan y prif swyddogion meddygol ar draws y Deyrnas Unedig a wnaeth i mi wneud penderfyniad anffodus iawn i orfod cau ysgolion ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb i fwyafrif y disgyblion. Rhaid inni hefyd barhau i fonitro lefelau trosglwyddo cymunedol. Rhaid inni hefyd barhau i fonitro lefelau profion positif, ac mae angen inni asesu beth fyddai cael mwy o fyfyrwyr yn dychwelyd at addysg wyneb yn wyneb yn ei olygu i'r gyfradd R. Ond yn amlwg, mae yna benderfyniad yn gyffredinol, ac erbyn yr adolygiad tair wythnos nesaf, gobeithio y byddwn mewn sefyllfa i amlinellu'r camau nesaf ar gyfer sicrhau bod mwy o blant a phobl ifanc yn dychwelyd at ddysgu wyneb yn wyneb.

Mae hynny'n galonogol, oherwydd mae dysgwyr hŷn a rhieni'n dechrau poeni'n fawr yn awr wrth iddynt ein gweld yn agosáu at y cyfnod arholiadau traddodiadol—rwy'n gwybod bod y broses yn wahanol nawr—ac maent yn gweld eu plant yn pryderu fwyfwy ynglŷn â hyn. Felly, gorau po gyntaf y byddant yn agor o ran hynny. Ni wnaethoch ddweud dim am wahaniaethau ledled Cymru, ond efallai nad ydych mewn sefyllfa i wneud hynny.

Roeddwn yn mynd i'ch holi am gynllun gweithredu'r cwricwlwm, ond oni bai fod Siân yn mynd i'ch holi amdano heddiw, fe wnaf ei gadw tan ein cyfarfod terfynol y mis nesaf, a gofyn cwestiwn cyflym i chi am gyllid ysgolion, os caf. Mae Aelodau wedi mynegi pryder am y lefelau uchel hanesyddol o gronfeydd wrth gefn, yn enwedig ar lefel ein hysgolion cynradd. Felly, roedd gostyngiad o 22 y cant yn y sector hwnnw fis Mawrth y llynedd, cyn COVID, yn werth ei nodi, ond ar yr un pryd roedd y gostyngiad cyffredinol yn 32.6 y cant, sy'n dangos bod ysgolion uwchradd yn dal i'w chael hi'n anodd ac mewn gwirionedd, roedd rhai ysgolion cynradd yn dechrau cael anawsterau. Ac roeddem mewn sefyllfa, nawr, wrth anelu i mewn i COVID y llynedd, gyda 35 y cant o'n hysgolion â chronfeydd wrth gefn negyddol. Felly, nid yw hynny'n ddim hyd yn oed, mae'n llai na dim. Felly, sut yr effeithir ar eich cynllun adfer COVID ar gyfer addysg gan y ffaith bod cynifer o ysgolion yn gyfystyr â methdalwyr? A chan fod naw ohonynt yn ysgolion arbennig, a fyddwch yn ceisio dod o hyd i gronfeydd anghenion dysgu ychwanegol eraill ar gyfer yr ysgolion penodol hynny?

15:40

Wel, mae cyllid ar gyfer adferiad yn ychwanegol at gyllidebau arferol ysgolion ac yn y flwyddyn ariannol hon, rydym wedi buddsoddi £29 miliwn yn ein cronfa recriwtio, adfer a chodi safonau, ac arian ychwanegol ar gyfer carfannau arholiadau, yn ogystal ag arian ychwanegol ar gyfer cynhyrchu deunydd cymorth ar gyfer carfannau arholiadau. Byddaf bob amser yn manteisio ar bob cyfle i sicrhau'r cyllid mwyaf posibl i'r system ADY, gan gydnabod yr heriau penodol sy'n gysylltiedig ag addysg i blant ag anghenion dysgu ychwanegol ac os gallaf wneud hynny, byddaf yn falch iawn o ychwanegu symiau ychwanegol at y llinell gyllideb benodol honno.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ymhen tair wythnos, fe fydd y Senedd lawn yn trafod y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru). O'i basio, fe fydd y ddeddfwriaeth yma yn gosod cyfeiriad addysgol ein cenedl am flynyddoedd lawer. Mae dysgu am gydberthynas a rhywioldeb yn cael ei gynnwys ar wyneb y Bil fel elfen orfodol i'w chynnwys yng nghwricwlwm pob ysgol. Mae dysgu am lesiant meddyliol bellach wedi'i ychwanegu i wyneb y Bil yn ystod Cyfnod 2. Fedrwch chi egluro pam fod angen i'r ddwy elfen yma fod ar wyneb y Bil?

Mae'r penderfyniad i roi addysg cydberthynas a rhywioldeb ar wyneb y Bil yn deillio o argymhelliad yr adolygiad annibynnol a sefydlais fel y Gweinidog. Mae cynnwys sicrhau bod ysgolion, wrth osod y cwricwlwm, yn ystyried iechyd meddwl a llesiant yn cyd-fynd yn llwyr â chyfeiriad polisi'r Llywodraeth hon er mwyn sicrhau dull ysgol gyfan. Felly, yr hyn rydym yn ei newid a'r hyn rydym yn ei ddiwygio yw sicrhau, wrth fynd ati i gynllunio cwricwlwm, fod iechyd meddwl a llesiant myfyrwyr yn ystyriaeth allweddol. O ran cynnwys y cwricwlwm, bydd iechyd meddwl a llesiant, wrth gwrs, yn chwarae rhan bwysig iawn o'r maes dysgu a phrofiad, sy'n rhan statudol o'r cwricwlwm.

Dwi'n cytuno'n llwyr efo chi y gallai cynnwys y ddwy elfen yma gyfrannu yn sylweddol tuag at weddnewid ein cymdeithas ni mewn ffordd gadarnhaol: helpu cael gwared ar gamdrin menywod a chreu cymdeithas gydradd; helpu dileu rhagfarn yn erbyn y gymuned LGBT; ac o ran atal problemau iechyd meddwl. Addysg ydy'r allwedd i greu'r trawsnewid sydd ei angen. Ond mae'r Bil yn wallus ac yn ddiffygiol, oherwydd dydy o ddim yn rhesymegol. 

Mae eich Bil yn ddiffygiol, oherwydd ei fod yn afresymegol.

Mae cynnwys y ddwy elfen rydyn ni'n eu trafod er mwyn sicrhau eu bod nhw'n cael eu dysgu'n gyson ar draws ein hysgolion ni, am eu bod nhw'n gallu bod yn faterion cymhleth ac anodd eu dysgu, ac am ein bod ni'n credu y gallai dysgu amdanyn nhw greu cymdeithas well yng Nghymru—. Rydych chi'n eu cynnwys nhw am y rhesymau yna, ond, eto, yr un ddadl yn union sydd yna a'r un ddadl gwbl ddilys ynglŷn â chynnwys trydedd elfen ar wyneb y Bil, sef rhoi hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth, gan gynnwys hanes pobl ddu a phobl o liw, ar wyneb y Bil. Fedrwch chi egluro'r rhesymeg dros gynnwys dwy elfen bwysig ond ymwrthod â rhoi'r drydedd un ar wyneb y Bil? 

O dan amodau'r Cwricwlwm newydd i Gymru, fe fydd addysgu hanes Cymru a hanes pobl dduon a lleiafrifoedd yn orfodol yn ein hysgolion. Y rheswm am hynny yw eu bod wedi'u hamlinellu yn ein datganiad o'r hyn sy'n bwysig, sy'n rhan statudol o'r cwricwlwm.

15:45

Ond mae eich dadleuon chi'n ddiffygiol, oherwydd dydy hynna ddim yn rhesymegol. Mae beth rydych chi newydd ei egluro rŵan yn dangos nad ydych chi'n bwriadu dyrchafu hanes Cymru, yn ei holl amrywiaeth, i wyneb y Bil yn y ffordd rydych chi wedi dewis—a dwi'n cytuno efo hynny—dyrchafu dwy elfen benodol arall i fod ar wyneb y Bil. Mae'n rhaid i hanes Cymru, yn ei holl amrywiaeth, fod ar wyneb y Bil, os ydym ni o ddifri yn ein nod o greu cwricwlwm fydd yn galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus o Gymru a'r byd, sef un o gysyniadau sylfaenol y Bil. Mae'n rhaid ei gynnwys o ar wyneb y Bil os ydym ni'n mynd i fynd i'r afael â phroblemau dwfn hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol sydd yn ddwfn ac yn systemig o fewn ein cymdeithas ni, yn anffodus. Onid ydych chi'n cytuno bod y byd wedi newid yn llwyr ers i'r Bil yma gael ei lunio ac y byddai cynnwys trydedd elfen fandadol a allai greu newid pellgyrhaeddol yn golygu pasio darn o ddeddfwriaeth llawer mwy grymus, gweddnewidiol a rhesymegol?

Mae Siân Gwenllian yn iawn; rhaid addysgu'r pynciau hyn yn ysgolion Cymru, ac fe gânt eu haddysgu yn ysgolion Cymru—[Torri ar draws.] Na, os gadewch i mi orffen, Siân Gwenllian—fe gânt eu haddysgu yn ysgolion Cymru am eu bod wedi'u cynnwys yn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, sy'n rhan orfodol o'r cwricwlwm. Rwy'n siŵr fod Siân Gwenllian yn gwybod ystyr y gair 'gorfodol'. Bydd yn ofynnol yn y gyfraith iddynt gael eu haddysgu.

A gaf fi rybuddio'r Aelod? Oherwydd rwy'n gwybod ei bod wedi rhoi amser ac ymdrech i gyfarfod â Charlotte Williams, sydd â diddordeb arbennig mewn cynghori'r Llywodraeth ar bwnc hanes pobl dduon. Nid yw Charlotte Williams yn credu y gellir gwneud yr hyn y mae Siân Gwenllian yn gobeithio ei gyflawni drwy sôn am hanes pobl dduon ym maes dysgu a phrofiad y dyniaethau yn unig. Nid yw'n credu mai dyna'r dull cywir. Os ydym am weld y gweddnewidiad y mae Siân Gwenllian yn sôn amdano, mae arnom angen i'r materion hyn gael eu haddysgu fel themâu trawsgwricwlaidd yr holl ffordd drwy'r cwricwlwm a dyna fydd yn cael ei gyflawni gan ein datganiad o'r hyn sy'n bwysig, sydd, fel rwy'n ailadrodd eto, yn orfodol ac felly bydd yn rhaid ei addysgu.

Cefnogaeth i Ddysgwyr

5. Pa ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith i gefnogi dysgwyr yng Nghwm Cynon y mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio ar eu haddysg? OQ56260

Mae'r ystod o fesurau i gefnogi dysgu yn cynnwys dysgu proffesiynol helaeth, buddsoddiad sylweddol mewn dyfeisiau a'r rhaglen ddysgu carlam gwerth £29 miliwn. Mae ysgolion yn Rhondda Cynon Taf wedi cael dros £2.3 miliwn o'r buddsoddiad hwnnw o £29 miliwn a dyraniad o dros £358,000 o'r gronfa £7 miliwn i gefnogi hyfforddi a mentora ar gyfer blynyddoedd arholiadau.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb cynhwysfawr hwnnw, Weinidog. Mae tystiolaeth wedi dangos yn gyson fod y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim mewn mwy o berygl o syrthio ar ôl eu cyfoedion wrth ddysgu gartref, am amryw o resymau cymhleth a rhyngberthynol. Cefais y fraint yn ddiweddar o fynychu Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, lle sonioch chi am y cynlluniau sy'n dod i'r amlwg i ddefnyddio'r rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol fel cyfrwng i helpu'r disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim i ddal i fyny drwy wyliau'r haf gyda'r dysgu y gallent fod wedi'i golli yn ystod y pandemig. Mae hon yn strategaeth a allai fod yn fanteisiol iawn i bobl ifanc yn fy etholaeth i a ledled Cymru. Felly, Weinidog, a allwch rannu unrhyw fanylion pellach am y cynllun uchelgeisiol hwn gyda ni heddiw?

Mae cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 yn cynnwys £4.85 miliwn ar gyfer y rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol. Dyma gynnydd o £2.15 miliwn ar y swm a oedd ar gael yn y flwyddyn flaenorol. Credwn y bydd hyn yn ein galluogi i ariannu lleoedd ar gyfer hyd at 14,000 o blant yng Nghymru. Rydym yn dal i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy'n rheoli'r rhaglen gyda ni, er mwyn gallu manteisio i'r eithaf ar y gyllideb honno. Rydym yn trafod yr angen posibl i addasu natur y rhaglen yng ngoleuni COVID i fod yn rhan ehangach o'n rhaglen adfer. Yn y gorffennol, gwn fod y rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i blant, ac mae'n rhoi model a chyfrwng gwirioneddol ddefnyddiol inni ddechrau mynd i'r afael â'r effaith wirioneddol sydd, fel rydych wedi nodi'n gwbl briodol, wedi taro plant mwy difreintiedig yn arbennig o galed.

15:50
Y Cynllun Gweithredu Addysg Bellach a Phrentisiaethau Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog

6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran gweithredu'r cynllun gweithredu addysg bellach a phrentisiaethau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog? OQ56258

Rwy'n falch iawn o gynnydd sylweddol y coleg Cymraeg ers cyhoeddi'r cynllun gweithredu uchelgeisiol a chadarn. Cefnogwyd dros 100 o ddysgwyr ychwanegol, ac mae adnoddau iechyd a gofal cymdeithasol mawr eu hangen wedi'u creu. Mae'r modiwlau iaith Prentis-Iaith nesaf hefyd yn cael eu datblygu ar ôl i'r lefel gyntaf ragori ar ein holl ddisgwyliadau.

Lansiodd y Gweinidog y cynllun gweithredu dros ddwy flynedd yn ôl, ac er bod rhywfaint o gynnydd da wedi ei gyflawni, rydyn ni dal mewn sefyllfa lle mai dim ond 11 y cant o staff addysg bellach a 7 y cant o staff prentisiaethau sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. A all y Gweinidog egluro'r hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gan golegau yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i gyflogi mwy o staff sydd â sgiliau iaith Gymraeg i gynnig darpariaeth ddwyieithog, yn enwedig mewn meysydd fel gofal plant ac iechyd a gofal cymdeithasol, lle mae angen gweithlu dwyieithog?

Rwyf wedi darparu dros £0.5 miliwn i'r coleg eleni ar gyfer amrywiaeth o brosiectau, ac mae prosiectau strategol wedi'u hymestyn i bob coleg ym meysydd blaenoriaeth iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant a gwasanaethau cyhoeddus. Oherwydd rydych chi'n llygad eich lle; mae angen inni sicrhau bod gennym weithlu sydd â sgiliau ieithyddol i ddiwallu anghenion pob cymuned a dinesydd yng Nghymru. Mae hyn wedi galluogi'r colegau i gyflogi staff addysgu ychwanegol a rhoi strwythurau ar waith i gefnogi'r dysgwyr, ac ymgorffori darpariaeth ddwyieithog yn y colegau. Yr hyn sy'n arbennig o braf, Mike, yw bod colegau eu hunain wedi darparu arian cyfatebol i'r prosiectau hyn, sy'n dangos eu hymrwymiad i ymestyn modelau a chyrsiau dwyieithog i ddysgwyr. Mae hon yn ymdrech ar y cyd, gan y coleg ei hun a hefyd y sefydliadau unigol. Dilynodd dros 305 o staff mewn 10 coleg y cwrs Cymraeg Gwaith a ddarparwyd gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol y llynedd, ac mae ymateb y sector wedi bod yn eithriadol o gadarnhaol eto eleni drwy sicrhau bod mwy a mwy o'u staff yn gallu manteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol o'r fath. Hoffwn dalu teyrnged i'r gwaith y mae'r coleg yn ei wneud. Mae'r cynllun gweithredu ôl-16 yn gynllun hirdymor, ac mae gennyf hyder llwyr y bydd y coleg yn cyflawni ei nodau hynod ymestynnol a chadarn.

Mae fy nghwestiwn wedi cael sylw mewn cwestiwn cynharach. Diolch.

Dwi wedi clywed yma heddiw y ffaith eich bod chi'n dweud pa mor dda mae'r coleg Cymraeg yn ei wneud yn y gwaith maen nhw'n ei wneud, a dwi'n cytuno ac wedi cwrdd â nhw i drafod y gwaith hynny. Ond, pan ddaeth y Gweinidog iaith Gymraeg i'n pwyllgor ni, y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, yn ddiweddar, fe wnaethon ni godi'r mater gyda hi nad oedd dim byd yn y gyllideb ddrafft er mwyn ehangu ar y gyllideb hynny. Mae'r Coleg Cymraeg wedi gofyn am £800,000 o arian yn ychwanegol y flwyddyn yma, ac wedyn mwy o ddyraniadau yn y dyfodol er mwyn gallu cyflawni'r gwaith clodwiw yma yn ein sefydliadau addysg bellach. Beth ydych chi'n dweud wrthyn nhw ynglŷn â hynny, ac ydych chi'n bwriadu gwrando arnyn nhw i newid y gyllideb pan ddaw at y cyfnod hwnnw?

15:55

Gallaf gadarnhau bod trafodaethau wedi bod yn mynd rhagddynt rhwng yr is-adran iaith Gymraeg, yr is-adran addysg bellach a phrentisiaethau a swyddogion cyllid i archwilio ymhellach beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi gwaith pwysig y coleg.

Plant Nad Ydynt yn yr Ysgol

7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y cyfyngiadau symud presennol ar blant nad ydynt yn yr ysgol? OQ56253

Fel y dywedais yn gynharach, mae'r tarfu ar ysgolion wedi effeithio'n sylweddol ar gynnydd, iechyd a llesiant a hyder dysgwyr. Mae wedi effeithio ar rai yn fwy nag eraill—yn enwedig y rheini sydd yn y carfannau arholiadau, y blynyddoedd cynnar, a'r rhai sydd dan anfantais mewn rhyw ffordd. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i ddatblygu dull cynaliadwy a gwydn o hyrwyddo dysgu wrth inni ddod allan o'r pandemig hwn.

Diolch am yr ateb diamwys a gonest hwnnw. Fel rydych wedi crybwyll yn eich ateb, mae addysgu gartref a materion cysylltiedig wedi cyflwyno nifer o heriau i deuluoedd yn ystod y pandemig. Er bod llawer o ysgolion wedi gweld cynnydd yn nifer y disgyblion sy'n mynychu darpariaeth hybiau, mae mwyafrif llethol y plant yn dal i fod gartref, ac mae nifer fawr yn ei chael hi'n anodd, yn enwedig lle mae rhieni'n cydbwyso addysgu gartref â gweithio gartref a phethau eraill. Er fy mod yn croesawu'r £9.4 miliwn a gyhoeddwyd gan y Gweinidog iechyd meddwl a llesiant yr wythnos diwethaf, a allwch gadarnhau y gwelwn gynnydd mewn cwnsela a chefnogaeth emosiynol i blant a phobl ifanc yn ein hysgolion, a'u teuluoedd hefyd yn wir, ac y bydd hon yn flaenoriaeth frys i'r Llywodraeth yn ystod proses bresennol y gyllideb a thu hwnt i hynny, fel y gall y teuluoedd hyn gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt wrth inni ddod allan o'r pandemig?

Diolch, Nick, am eich cydnabyddiaeth o'r heriau gwirioneddol y mae teuluoedd wedi bod yn eu hwynebu ar yr adeg hon. Rwy'n credu bod pawb yn teimlo bod addysgu gartref a chefnogi dysgu o bell gartref yn hynod o heriol. Rwy'n cyfaddef hynny fy hun; mae'n anodd iawn ei wneud, ac os ydych chi eich hun yn gweithio, mae'n arbennig o heriol. Hoffwn ddiolch i rieni ledled Cymru sydd wedi bod yn gweithio i gefnogi eu plant drwy gydol y cyfnod hwn. Maent wedi gwneud gwaith rhagorol, ac rwy'n gwybod weithiau fod hynny wedi digwydd ar draul eu llesiant eu hunain. Rwy'n ddiolchgar iawn iddynt.

Wrth symud ymlaen, fel rhan o'n rhaglen adfer, mae angen inni fynd i'r afael â mater y tarfu a fu ar ddysgu o safbwynt cynnwys, ond mae angen inni hefyd sicrhau yr eir i'r afael ag anghenion iechyd a llesiant emosiynol ein plant hefyd, fel eu bod mewn sefyllfa i ddysgu. Weithiau, mae'r drafodaeth ynghylch adferiad yn ymwneud â phentyrru mwy o gyfleoedd i gael rhagor o wersi. Ond fel y dywedir weithiau fod Yeats wedi dweud, nid mater o arllwys rhagor i mewn i'r bwced yw addysg, ond mater o gynnau tanau. Bydd ein dull o adfer yn ymwneud â chefnogi dysgwyr i ailymgysylltu ac ailgynnau'r tân hwnnw yn ogystal â mynd i'r afael â chynnwys y gallent fod wedi'i golli.

Addysg Gymraeg

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg Gymraeg yn Nwyrain De Cymru? OQ56285

Mae'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn Nwyrain De Cymru yn parhau i fod yn uchel. Bydd ein buddsoddiad mewn pump o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg newydd a nifer o estyniadau i sefydliadau gofal plant ac ysgolion yn y rhanbarth hwn yn rhoi hwb pellach i'r duedd gynyddol hon. Rwy'n credu bod hyn yn newyddion calonogol wrth i awdurdodau lleol anelu at gyhoeddi eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg newydd, gyda thargedau unigol i gyd-fynd â nodau cyffredinol 'Cymraeg 2050' Llywodraeth Cymru.

Ar hyn o bryd, Weinidog, dim ond un ysgol Gymraeg sydd ym Mlaenau Gwent, ac mae teithio yno yn rhwystr, yn enwedig ar gyfer plant iau. Wrth reswm, dyw rhieni ddim eisiau rhoi plant tair mlwydd oed ar ddau fws gwahanol i fynd i ysgol sydd ddau gwm i ffwrdd. Mae ymgyrchwyr lleol wedi pryderu ers blynyddoedd am ostyngiad yn y nifer o blant o'r sir sy'n mynychu ysgolion Cymraeg; hynny ydy, tan nawr. Mae'r cyngor ym Mlaenau Gwent wedi cynnig adeiladu ysgol newydd ar safle Ffordd y Siartwyr, gan agor y dosbarthiadau cyntaf yn 2023. A fyddech chi yn gyntaf, plis, Weinidog, yn ymuno gyda fi i longyfarch yr ymgyrchwyr, megis Meryl Darkins ac Ann Bellis, a hefyd yn sicrhau y byddwch chi'n cefnogi'r cyngor er mwyn gwneud yn siŵr y bydd yr ysgol yn agor ar amser? Yn y cyfamser, Weinidog, a fyddech chi'n gallu siarad gyda'r Gweinidog dros drafnidiaeth i weld os oes yna unrhyw fodd i wella'r sefyllfa drafnidiaeth ar gyfer y plant yn y cyfamser, cyn bod yr ysgol yn agor? Ac i gau—a dwi'n addo, Dirprwy Lywydd, mae hyn i gau—dwi'n deall bod hyn oll yn fater i'r cyngor, ond gwnaethoch chi helpu i roi momentwm y tu ôl i addysg Gymraeg ym Merthyr llynedd, pan oeddech chi wedi cynnig arian grant; mae llefydd fel Blaenau Gwent a Merthyr mor ganolog i'r targed o filiwn o siaradwyr, felly byddai cefnogaeth y Llywodraeth wir yn fuddiol yma. Diolch.

16:00

Diolch, Delyth. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi Blaenau Gwent i ddatblygu'r ysgol rydych newydd gyfeirio ati gyda grant o £5.8 miliwn. Dyfarnwyd y grant hwnnw i fynd i'r afael â'r problemau logistaidd a theithio real iawn rydych wedi'u nodi, ac mae hynny wedi golygu nad yw teuluoedd a fyddai wedi dewis addysg cyfrwng Cymraeg o'r blaen wedi gwneud hynny oherwydd y pellteroedd teithio cysylltiedig. Felly, mae'n bwysig iawn fod yr angen hwn wedi'i gydnabod, a thrwy gymorth y £5.8 miliwn gan Lywodraeth Cymru, byddwn yn gweld ysgol gynradd Gymraeg newydd yn ardal Tredegar-Sirhywi. Mae'n fawr ei hangen, a llawer o alw amdani, ac fel y dywedoch chi, mae pobl wedi bod yn ymgyrchu dros hynny. Mae'r awdurdod lleol hefyd wedi nodi'r angen i wella ei strategaeth farchnata a hyrwyddo mewn perthynas ag addysg cyfrwng Cymraeg i gyd-fynd â datblygiad yr ysgol honno. Fy unig ofid yw nad fi fydd y Gweinidog sy'n cael y fraint a'r pleser o'i hagor a chroesawu plant i'r sefydliad newydd hwnnw.

Weinidog, chwe mis yn ôl mynegodd comisiynydd y Gymraeg bryder am y gostyngiad yn nifer yr athrawon newydd gymhwyso sy'n gallu addysgu Cymraeg, a dywedodd y gallai danseilio uchelgais eich Llywodraeth i gael miliwn o siaradwyr yr iaith ymhen 30 mlynedd. Tybed beth rydych chi wedi bod yn ei wneud i fynd i'r afael â hyn.

Rydych chi'n llygad eich lle. Er mwyn cyrraedd y targed yn 2050 mae angen inni recriwtio mwy o athrawon sy'n gallu addysgu yn ein hysgolion cyfrwng Cymraeg ac yn ein hysgolion dwyieithog, ac mae angen inni hefyd arfogi ein hathrawon sy'n gweithio mewn ysgolion cyfrwng Saesneg i gyflwyno gwersi Cymraeg o ansawdd uchel. Rydym wedi gosod targedau i ddarparwyr addysg gychwynnol athrawon recriwtio i'r rhaglenni addysg athrawon cychwynnol, ac er bod y pandemig wedi effeithio ychydig arni, rydym wedi sefydlu rhaglen gyfnewid newydd ar gyfer athrawon sydd wedi cymhwyso'n flaenorol i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector cynradd, lle mae gennym orgyflenwad weithiau mewn rhai rhannau o Gymru, i'w galluogi i gyfnewid yn gyflym i allu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector uwchradd. Rydym wedi gweld galw sylweddol am y rhaglen dysgu proffesiynol honno, a chredaf y bydd yn ein helpu i fynd i'r afael â rhai o'r materion a nodwyd gan y comisiynydd.

Dealltwriaeth Ryngwladol, Cydweithredu a Heddwch a Hawliau Dynol

9. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r cyfleoedd a ddarperir gan y cwricwlwm cenedlaethol newydd ar gyfer addysgu dealltwriaeth ryngwladol, cydweithredu a heddwch a hawliau dynol mewn ysgolion? OQ56277

Diolch, David. Mae dibenion sylfaenol Cwricwlwm i Gymru yn cynnwys dysgwyr i fod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus yng Nghymru a'r byd. Mae ein canllawiau'n glir fod ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn mewn dysgu ac addysgu yn allweddol i'r weledigaeth ar gyfer cwricwlwm pob ysgol, fel y gall dysgwyr ddysgu am, drwy ac ar gyfer hawliau dynol.

Diolch, Weinidog, ac rwy'n cymeradwyo'r flaenoriaeth honno. Tybed a allech hefyd ddweud a gyfrannodd Llywodraeth Cymru at ymateb Llywodraeth y DU i seithfed ymgynghoriad UNESCO ar addysg er dealltwriaeth ryngwladol? Rwy'n sylweddoli bod hyn yn benodol iawn, felly os ydych yn barod i ysgrifennu ataf gyda'r wybodaeth honno, a rhoi rhai manylion am yr ymateb efallai, oherwydd credaf fod hwn yn faes allweddol o ystyried yr hinsawdd newydd yn y Deyrnas Unedig gan ein bod bellach wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae gofynion byd-eang ychwanegol newid hinsawdd a'r pandemig yn gwneud hwn yn faes gwirioneddol bwysig ar gyfer addysg.

16:05

David, rwy'n cytuno'n llwyr â chi ac fe fyddaf yn ysgrifennu atoch, yn wir.FootnoteLink Fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, mae canllawiau ar gyfer ein cwricwlwm newydd i ysgolion yn cynnwys adran ar ddysgu am hawliau dynol, felly deall hawliau dynol a ffynonellau'r hawliau hynny; dysgu drwy hawliau dynol, sef datblygu gwerthoedd, agweddau ac ymddygiadau sy'n adlewyrchu gwerthoedd hawliau dynol; a dysgu ar gyfer hawliau dynol, sef cymhelliant gweithredu cymdeithasol a grymuso dinasyddiaeth weithredol i hyrwyddo parch a hawliau i bawb. Datblygwyd y dull hwn mewn cydweithrediad â swyddfa Comisiynydd Plant Cymru, ac rydym yn gweithio gydag ystod o randdeiliaid i ddarparu deunydd cwricwlwm ysbrydoledig a chefnogol iawn ar bynciau penodol er mwyn gallu datblygu athrawon i wneud hyn yn dda.

Yn fwyaf diweddar, roedd yn bleser mawr gennyf gyfeirio at waith Cofio Srebrenica Cymru, sydd wedi gweithio gyda ni i ddatblygu her newydd ar gyfer ein rhaglen Bagloriaeth Cymru, a defnyddio trychineb a throsedd ofnadwy Srebrenica fel cyfrwng ar gyfer deall a dysgu. Ac rwy'n ddiolchgar iawn am sefydliadau partner fel y rhai sy'n barod i weithio ochr yn ochr â ni i ddarparu'r cyfleoedd gwerthfawr ac angenrheidiol iawn hyn i blant a phobl ifanc.

Ni ofynnir cwestiwn 10 yn enw Neil McEvoy, oherwydd nid yw'n bresennol yn y cyfarfod. Cwestiwn 11, Huw Irranca-Davies.

Ni ofynnwyd cwestiwn 10 [OQ56250].

Dal i Fyny ar Addysg

11. Pa ddarpariaeth y bydd y Gweinidog yn ei rhoi ar waith i alluogi disgyblion i ddal i fyny ar addysg y mae mesurau'r pandemig wedi effeithio arnynt? OQ56251

Diolch, Huw. Ar hyn o bryd mae amrywiaeth o fesurau i gefnogi dysgu, gan gynnwys dysgu proffesiynol helaeth, buddsoddiad sylweddol mewn dyfeisiau a chysylltedd, a £29 miliwn ar gyfer y rhaglen ddysgu carlam. Rwy'n ystyried camau pellach i fynd i'r afael ag effaith y pandemig ar addysg, iechyd a llesiant dysgwyr, a byddaf yn cyhoeddi cynllun adfer dysgu cyn bo hir.

Weinidog, rwy'n falch o glywed hynny, a gwn y byddwch yn ymuno â mi i ganmol yr athrawon, y penaethiaid, yr holl bobl sydd wedi gwneud ymdrechion enfawr dros y flwyddyn ddiwethaf i barhau i addysgu ar ryw ffurf neu'i gilydd, ac i ddarparu cymorth lles a chymorth bugeiliol hefyd drwy ein system addysg. Ond rwy'n gwybod fy mod yn cael athrawon yn fy ardal fy hun yn dweud wrthyf yn awr, er eu bod yn pryderu am les, nid yn unig lles mewn perthynas â'r pandemig a staff addysgu, ond o ran cael toriad hefyd, maent am ddefnyddio'r amser sydd ar gael i ni, yn enwedig tuag at yr haf, i gael darpariaeth dal i fyny ar gyfer rhai o'n disgyblion sydd ei hangen yn ddybryd iawn. Felly, Weinidog, tybed sut y mae trafodaethau'n mynd gyda'r gwahanol undebau athrawon i weld a ydynt yn hyblyg, ac i weithio gyda'r Llywodraeth mewn gwirionedd a gweithio gydag ysgolion lleol, gyda'r ffocws ar addysg a gofal bugeiliol ein myfyrwyr a'u helpu i ddal i fyny?

Diolch, Huw, a diolch ichi am gydnabod yr ymdrechion aruthrol y mae penaethiaid, athrawon dosbarth a chynorthwywyr addysgu wedi'u gwneud, gan ddod o hyd i ffyrdd newydd arloesol o gadw plant i ddysgu ar yr adeg hon, a mynd y tu hwnt i hynny i gefnogi plant a theuluoedd. Yn amlwg, mae angen inni ddefnyddio pob cyfle i fynd i'r afael â'r tarfu ar ddysgu, a sicrhau bod plant yn cael cyfle i fynd i'r afael â'r tarfu hwnnw. Ond fel y dywedais wrth ateb cwestiwn cynharach, mae angen inni ddechrau o'r ddealltwriaeth o ymdrin â llesiant plant a'u parodrwydd ar gyfer dysgu. A Huw, rwy'n awyddus i'n rhaglen adfer gydnabod y pwysau a'r straen aruthrol y mae ein gweithlu addysgu eu hunain wedi'u dioddef dros y flwyddyn ddiwethaf hefyd, a sicrhau ein bod yn eu cefnogi i fod mewn sefyllfa i barhau i ddarparu'r cymorth hwnnw, y gwyddom y bydd yn rhaid iddo fod yn ddwys yn y tymor byr, y tymor canolig ac yn hirdymor. Felly, mae angen inni eu cefnogi i barhau i wneud yr hyn y maent yn ei wneud dros blant a phobl ifanc.

Dysgu Ar-lein

12. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu dyfeisiau TG i gefnogi dysgu ar-lein yng Ngorllewin De Cymru? OQ56274

Diolch, Dai. Ers dechrau'r pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros 138,000 o ddyfeisiau i ysgolion. Bydd 54,000 o ddyfeisiau eraill yn cael eu darparu yn ystod yr wythnosau nesaf, ac mae fy swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â chydweithwyr ym mhob awdurdod lleol, gan gynnwys y rhai sy'n ffurfio rhanbarth Gorllewin De Cymru, yn darparu cymorth ac arweiniad lle mae eu hangen.

16:10

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n dal i gael galwadau yn dweud nad yw nifer y dyfeisiau sydd ar gael mewn gwahanol gartrefi yn cyfateb i nifer y dysgwyr. A gaf fi ofyn yn benodol—. Hynny yw, nid oes rhaid i'r dyfeisiau fod yn newydd; gellir eu haddasu at ddibenion newydd—eu darparu'n ail-law. Felly, a gaf fi ofyn pa fesurau rydych wedi'u sefydlu, Weinidog, i sicrhau bod TG wedi'i addasu at ddibenion newydd, yn ei holl ffurfiau, yn cyrraedd y teuluoedd sydd fwyaf o'u hangen?

Rydych chi'n iawn, Dai. Nid oes angen inni aros i'r 54,000 o ddyfeisiau ychwanegol gael eu dosbarthu. Ar yr adeg hon, mae angen dyrannu unrhyw ddyfais mewn ystafell ddosbarth nad yw'n cael ei defnyddio'n ddyddiol i deulu. Rhaid imi ddweud, Dai, pe baech yn ysgrifennu ataf gyda'r teuluoedd sy'n dal i gael anawsterau, gallwn archwilio hynny gydag awdurdodau lleol. Rydym wedi gwneud astudiaeth sylfaenol gydag awdurdodau lleol ynglŷn ag angen nas diwallwyd. Mae gwahaniaeth ar draws eich rhanbarth, ac mae'n amlwg y byddem yn awyddus i gynorthwyo unrhyw awdurdod lleol neu ysgol unigol sy'n ei chael yn anodd cefnogi teuluoedd yn y ffordd a amlinellwyd gennych. Mae cymorth hefyd ar gael ar gyfer cysylltedd. Gwyddom weithiau mai cost cysylltedd sy'n rhwystro teuluoedd, ac mae cymorth ar gael ar gyfer dyfeisiau MiFi i fynd i'r afael â'r broblem honno hefyd.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Rydym wedi gofyn yr holl gwestiynau ar y papur trefn, felly diolch yn fawr iawn.

4. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd yw eitem 4, a David Rowlands fydd yn ateb y cwestiwn cyntaf y prynhawn yma. Cwestiwn 1, Jenny Rathbone.

Tyfu Bwyd ar Ystad y Senedd

1. Pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i dyfu bwyd ar ystad y Senedd? OQ56280

Wel, ers i'r pwnc hwn gael ei godi'n flaenorol, mae nifer o newidiadau wedi'u gwneud i'r mannau gwyrdd cyfyngedig ar yr ystâd er mwyn manteisio i'r eithaf ar eu gwerth o ran bioamrywiaeth a llesiant. Rydym yn tyfu gellyg a pherlysiau ym maes parcio Tŷ Hywel, a ddefnyddid yn rheolaidd gan ein gwasanaeth arlwyo cyn y cyfyngiadau symud. Rydym wedi newid ein rheolaeth o'r tir ar hyd ochr y Senedd, lle rydym bellach yn tyfu ystod eang o flodau gwyllt, ac rydym wedi creu pwll bach er budd amffibiaid, adar a phryfed. Eleni, rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi cynyddu haid o wenyn y Pierhead ac erbyn hyn mae gennym dri chwch cynhyrchiol.

Yn wahanol i sefydliadau eraill, y realiti yw nad oes gennym y nesaf peth i ddim lle ar gyfer tyfu. Fodd bynnag, bydd ein strategaeth cynaliadwyedd newydd, sydd i'w lansio yn y gwanwyn, yn ymrwymo i gynyddu'r mannau gwyrdd ar ein hystâd, er enghraifft drwy gyflwyno gerddi fertigol i gefnogi mwy o fioamrywiaeth.

Diolch yn fawr iawn—mae hynny'n ddiddorol iawn. Edrychaf ymlaen yn arbennig at glywed mwy am y gerddi fertigol. Mae hynny'n wych. Mae lles meddyliol pawb wedi dioddef o ganlyniad i'r holl fesurau y bu'n rhaid i ni eu cymryd i aros gartref er mwyn lleihau'r haint, ac mae hynny'n cynnwys Aelodau a'n staff, felly rwy'n gobeithio y gallwn barhau i hyrwyddo tyfu o'r fath fel y gallwn ei wneud ar yr ystâd fel rhywbeth sy'n gwella llesiant pobl.

Ie, wel, diolch, Jenny. Gallaf sicrhau Jenny ein bod, wrth gwrs, yn agored i unrhyw syniadau neu ddatblygiadau arloesol newydd y gall hi, neu unrhyw aelod o staff y Comisiwn yn wir, eu cyflwyno, a gallaf ei sicrhau bod y Comisiwn wedi ymrwymo'n llwyr i wella cymwysterau gwyrdd yr ystâd mewn unrhyw ffordd bosibl.

Y Senedd Ieuenctid

2. Pa drefniadau y mae'r Comisiwn yn eu rhoi ar waith i gefnogi'r Senedd Ieuenctid yn y Senedd nesaf? OQ56284

Y nod yw adeiladu ar lwyddiant tymor cyntaf y Senedd Ieuenctid, sy'n dod i ben yn swyddogol y mis hwn, gyda sesiwn fusnes ar y cyd rhwng ein Senedd a'r Senedd Ieuenctid ar 24 Chwefror. Mae'r tymor cyntaf yn cael ei werthuso ar hyn o bryd a bydd y gwersi a ddysgir yn cael eu cymhwyso i'r gwaith o gynllunio ar gyfer tymor nesaf y Senedd Ieuenctid. Disgwylir i'r etholiad nesaf gael ei gynnal ym mis Tachwedd 2021, a bydd y tîm addysg ac ymgysylltu â phobl ifanc yn y Senedd yn parhau i gynorthwyo gyda'r gwaith yma.

16:15

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Llywydd am ei hateb, ac rwy'n siŵr y bydd yn cytuno â mi, pan fyddwn yn edrych yn ôl ar hanes cynnar ein Senedd, y bydd sefydlu'r Senedd Ieuenctid yn un o gyflawniadau tymor y Senedd hon.

A all gadarnhau bod y staff yn trafod gyda'r sefydliadau partner sydd wedi bod yn cefnogi'r Senedd Ieuenctid a rhai o Aelodau unigol y Senedd Ieuenctid yn ystod y tymor hwn? Ac a yw'n rhagweld y bydd y berthynas honno neu berthynas debyg yn gallu parhau i'r tymor newydd?

Yn bendant iawn. Dwi'n meddwl bod y Senedd Ieuenctid gyntaf wedi cael ei chyfoethogi gan y ffaith ein bod ni wedi cael ystod eang o bobl ifanc sy'n cynrychioli gwahanol agweddau o fywyd pobl ifanc yng Nghymru, a'r lleisiau hynny i gyd yn cael eu cynrychioli yn y Senedd Ieuenctid. Dwi'n awyddus iawn i weld ein bod ni, wrth baratoi ar gyfer yr etholiadau i'r Senedd Ieuenctid nesaf, yn sicr o gynnwys y sefydliadau partneriaid hynny sy'n gallu cynnig yr ystod ehangaf posib o ymgeiswyr ar gyfer y Senedd Ieuenctid honno, oherwydd mae llais pob person ifanc yng Nghymru yn haeddu cael eu clywed, beth bynnag yw eu cefndir nhw. Mae hynna wedi sicrhau bod ein Senedd Ieuenctid gyntaf ni wedi bod yn llwyddiannus ac yn amrywiol o ran y lleisiau sydd i'w clywed, ac fe glywn ni'r lleisiau yna eto yn ein cyfarfod ni, fel Senedd, ar 24 Chwefror.

Ac fe liciwn i gymryd y cyfle yma i ddiolch i bawb sydd wedi gweithio ar greu llwyddiant y Senedd Ieuenctid gyntaf yma, yr Aelodau yn enwedig, ond pawb—y partneriaid, fel rŷch chi wedi sôn, Helen Mary, a'r staff sydd wedi gweithio o'r Comisiwn, a hefyd yr Aelodau o'r Senedd sydd wedi cydweithio, boed yn Weinidogion, yn Gadeiryddion pwyllgor, aelodau pwyllgor ac Aelodau'r Senedd. Mae'r cydweithrediad rhwng ein Senedd ni a'r Senedd Ieuenctid wedi bod yn gadarnhaol iawn dros y cyfnod yma, ac, yn sicr, dwi'n meddwl bod ein Senedd ni wedi elwa o'r ymwneud â'r Senedd Ieuenctid.

5. Cwestiynau Amserol
6. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem 6, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. Ac os caf atgoffa pawb ohonoch yn garedig: mae'r cliw yn y pennawd, '90 eiliad'. John Griffiths.

Yr wythnos hon yw Wythnos Gwirfoddoli Myfyrwyr y DU. Hon yw'r unfed flwyddyn ar hugain ers iddi gael ei sefydlu, a'i nod yw dathlu effaith myfyrwyr sy'n gwirfoddoli ac annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn bywyd dinesig. Heddiw, fel cadeirydd y grŵp hollbleidiol ar addysg bellach, hoffwn rannu stori a gafodd ei dwyn i fy sylw gan ColegauCymru—stori un cyn-ddysgwr yng Ngrŵp Llandrillo Menai.

Mae Tirion Thomas, sy'n 19 oed ac yn dod o'r Bala, wedi gwneud dros 500 awr o waith gwirfoddol i'r coleg a'r gymuned. Yn chwaraewr rygbi brwd, mae hi wedi gwirfoddoli ochr yn ochr â rhanddeiliaid o'i chlwb rygbi lleol yn y Bala. Cafodd ei gwaith caled ei gydnabod ym mis Rhagfyr y llynedd, pan enillodd wobr arwr di-glod Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru, ac o drwch blewyn yn unig y bu iddi fethu hawlio teitl y DU.

Yn ystod ei hamser yn y coleg, roedd Tirion yn allweddol yn y gwaith o ddatblygu a chefnogi'r rhaglen llysgenhadon gweithredol newydd, yn datblygu arweinwyr y dyfodol a hyrwyddo pwysigrwydd iechyd a llesiant. Bu hefyd yn rhan o'r ymgyrch urddas mislif a lansiwyd gan y coleg yn ddiweddar. A hithau bellach yn astudio bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, mae Tirion yn parhau i fod yn fodel rôl a llynedd, trodd ei sylw at helpu cyd-hyfforddwyr drwy greu rhwydwaith hyfforddwyr ifanc.

Rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn ymuno â mi i ddathlu llwyddiannau Tirion hyd yma. Mae hi'n enghraifft ddisglair o'r gymuned wirfoddoli a'r hyn y mae dysgwyr addysg bellach yn ei gyfrannu. Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn dymuno'r gorau iddi yn yr hyn a fydd yn ddyfodol disglair iawn.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yn gyfle i gydnabod pa mor bwysig yw prentisiaethau, prentisiaid a darparwyr prentisiaethau i'n heconomi.

Cyn ymuno â'r Senedd, roeddwn yn brentis peirianneg fy hun cyn ennill fy ngradd gyda chefnogaeth y cwmni a dod yn beiriannydd ymchwil a datblygu. Ddirprwy Lywydd, os ydym am adeiladu'n ôl yn fwy gwyrdd ac yn fwy teg yn sgil y pandemig coronafeirws, bydd angen mwy o brentisiaethau peirianneg arnom.

I mi, mae'r wythnos hon yn gyfle i annog eraill i ddilyn prentisiaethau, ond hefyd i ddweud diolch wrth y rhai sy'n darparu hyfforddiant personol, ac yn rhoi hyfforddiant personol i'r genhedlaeth nesaf—pobl fel Peter Holden, John Steele, Mike Halliday a phawb yn DRB Group ar ystâd ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy. Dyma'r bobl a roddodd hyfforddiant i mi, ac a hyfforddodd ochr yn ochr â mi, ac sy'n parhau i fy nghefnogi. Lywydd, rwy'n falch fy mod wedi treulio amser fel prentis, ac rwy'n falch y byddaf bob amser yn aelod o deulu DRB, lle bûm yn gwneud fy mhrentisiaeth. Diolch.

16:20

Diolch. Ddirprwy Lywydd, rydym i gyd yn gwybod, rwy'n meddwl, nad Twitter yw'r lle hapusaf bob amser. Ond yr wythnos diwethaf, cafodd fy llinell amser ei goleuo'n llythrennol gan gannoedd o lusernau hardd. Gwnaed y llusernau gan blant ar draws Sir Gaerfyrddin fel rhan o Brosiect y Lanternwyr, syniad Jayne Marciano. Ysbrydolwyd y prosiect gan y llyfr gwych i blant, Y Lanternwyr.

Mae'r llyfr yn gynnyrch Cymreig go iawn, wedi'i ysgrifennu a'i ddarlunio gan Karin Celestine o Sir Fynwy a'i gyhoeddi gan Graffeg yn Llanelli. Mae mewn dwy ran. Mae'r gyntaf yn stori am daith a wneir gan greaduriaid bach wrth iddynt geisio dychwelyd golau i'r ddaear ganol gaeaf, gan ganolbwyntio ar y syniad y bydd golau bob amser yn dychwelyd, hyd yn oed i'r dyddiau tywyllaf. Mae'r ail ran yn gyflwyniad byr i'r traddodiadau y mae'r stori'n eu dwyn i gof: y Fari Lwyd a'r canu gwasael.

Gwelodd y prosiect ddisgyblion yn eu cartrefi ac yn eu hybiau yn darllen y stori, yn dysgu am y traddodiadau ac yn gwneud llusernau hardd, gan ddod â golau i amseroedd tywyll. Roedd y prosiect hefyd yn rhoi cyfleoedd i'r plant fynegi eu teimladau am y cyfyngiadau symud a siarad am eu gobeithion ar gyfer y dyfodol. Mae'r llusernau'n amrywiol tu hwnt, wedi'u gwneud o ystod eang o ddeunyddiau: paentio hyfryd ar wydr, papur lliwgar, defnydd clyfar o gardbord a phlastigau a thuniau, wedi'u gwneud gan blant mor hen ag 11 oed ac mor ifanc â thair oed. Gwnaethant i fy llinell amser ddisgleirio. I mi, roeddent yn gwneud yn union yr hyn a fwriadwyd. Daethant â golau mewn cyfnod tywyll. Fe wnaeth y llusernau i mi wenu, ac roedd gweld wynebau balch y plant yn gwenu yn gwneud i mi deimlo'n obeithiol iawn, ac rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran llawer o rai eraill a welodd y llusernau hyfryd hyn hefyd.

Deallaf fod cynlluniau yn awr i ehangu'r prosiect y tu hwnt i Sir Gaerfyrddin. Felly, hoffwn ddiolch i chi. Roeddwn wedi meddwl ceisio rhestru'r holl ysgolion y gwyddwn eu bod wedi cymryd rhan, ond mae gormod, ac nid wyf am brofi amynedd y Dirprwy Lywydd. Felly, ni allaf eu henwi i gyd, ond diolch i bawb ohonoch—ysgolion, staff, teuluoedd, ac yn bennaf oll, y plant. Diolch yn fawr iawn. Rydych chi'n lanternwyr go iawn, bob un ohonoch.

Lanternwyr go iawn ŷch chi i gyd. Daw eto, haul ar fryn.

Diolch. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, rwy'n atal y trafodion yn awr tan 4.30 p.m., sef 16:30. Pan fyddwn yn ailddechrau, byddwn yn symud ymlaen ar unwaith at y ddadl Cyfnod 3 ar Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws). Felly, mae'r cyfarfod wedi'i ohirio tan 4.30 p.m.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:23.

16:30

Ailymgynullodd y Senedd am 16:31, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

7. Dadl: Cyfnod 3 Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws)

Dyma ni'n cyrraedd nawr Cyfnod 3 o'r Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws), ac felly yn symud i'r grŵp cyntaf o welliannau yn syth.

Grŵp 1: Y cyfnod cyn etholiad: Canllawiau (Gwelliannau 15, 17)

Mae'r grŵp cyntaf yma yn ymwneud â chanllawiau yn ystod y cyfnod cyn etholiad. Gwelliant 15 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a dwi'n galw ar Rhun ap Iorwerth i gyflwyno'r gwelliant ac i siarad i gwelliannau'r grŵp. Rhun ap Iorwerth.

Cynigiwyd gwelliant 15 (Rhun ap Iorwerth).

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ydw, dwi'n siarad i'r unig ddau welliant sydd gennym ni yn fan hyn: gwelliant 15 a gwelliant 17. Fel y soniwyd ddoe yn ystod trafodion Cyfnod 2, mae yna drafodaethau adeiladol wedi digwydd efo'r Llywodraeth er mwyn dod o hyd i eiriad oedd yn dderbyniol i Weinidogion a ninnau, felly y cyfaddawd a'r cytundeb a gyrhaeddon ni sydd o'n blaenau ni heddiw.

Bwriad gwelliant 15 ydy ymgorffori'r syniad o gyfnod cyn diddymu neu gyfnod cyn etholiadol ar wyneb y ddeddfwriaeth, a chreu dyletswydd ar y Prif Weinidog i gyhoeddi canllawiau yn dweud beth mae'r Llywodraeth a Gweinidogion yn cael ei wneud a beth chân nhw ddim ei wneud yn ystod y cyfnod cyn diddymu yma. Rydym ni yn credu bod angen diogelu'r egwyddor yn y ddeddfwriaeth fod rheolau am degwch y cyfnod cyn etholiad mor bwysig yn etholiad Senedd 2021 ag yn unrhyw etholiad arall, er gwaetha'r ffaith bod y Bil, wrth gwrs, yn cwtogi yn sylweddol y cyfnod diddymu statudol arferol er mwyn galluogi adalw'r Senedd i drafod busnes yn ymwneud â COVID.

Rydym ni'n credu hefyd fod angen gwarant y bydd canllawiau yn cael eu cyhoeddi gan y Llywodraeth, yn amlinellu'r gofynion a'r cyfyngiadau ar ddefnydd adnoddau ac ar fusnes y Llywodraeth yn y cyfnod yma. Mae hynny'n angenrheidiol er mwyn tryloywder ac i roi ffydd i etholwyr na fydd adnoddau cyhoeddus y Llywodraeth yn cael eu defnyddio at ddibenion pleidiol yn yr wythnosau'n arwain at yr etholiad, y bydd tegwch i Lywodraeth y dydd a'r gwrthbleidiau fel ei gilydd. Mi oeddwn i'n dweud ddoe fod canllawiau wedi'u cyhoeddi mor fuan â Rhagfyr 2015 ar gyfer etholiad Mai 2016 ond nad ydyn ni hyd yma wedi cael unrhyw beth gan y Llywodraeth eto ar gyfer etholiad 2021.

Rŵan, mae Comisiwn y Senedd eisoes wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer y cyfnod diddymu statudol, mewn paratoad ar gyfer y cyfnod diddymu mis o hyd, y cyfnod arferol y byddem ni wedi'i weld mewn amgylchiadau arferol, ac mae yna fecanwaith statudol ar gyfer cyhoeddi canllawiau ar ddefnydd adnoddau'r Senedd yn barod mewn lle o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 ac ati. Dydy'r Comisiwn ddim wedi'i gynnwys yn y gwelliant yma am y rheswm hwnnw. Er hynny, mae'n bwysig bod cyn gymaint o ganllawiau â phosib ar gael i Aelodau presennol y Senedd, ac mi ydw i'n edrych ymlaen i weld y Comisiwn yn diweddaru ac ailgyhoeddi y canllawiau sydd wedi cael eu cyhoeddi'n barod er mwyn ymateb yn gadarnhaol i ddarpariaethau terfynol y Bil yma.

At welliant 17 yn fyr: bwriad y gwelliant yma ydy creu dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau'n amlinellu'n glir y math o weithgarwch ymgyrchu sy'n cael digwydd o dan wahanol gyfyngiadau COVID wrth arwain at yr etholiad. Does yna neb yn gweld etholiad cyffredin yn digwydd eleni, ond er mwyn caniatáu cyfle cyfartal i bawb sy'n sefyll—nid jest y rhai sydd â phlatfform cryf ar y cyfryngau cymdeithasol yn barod neu rai sydd â phocedi dyfnion er mwyn talu i ddeunydd gael ei rannu—mae'n rhaid cael eglurder ar y math o weithgarwch sy'n cael ei ganiatáu. Mae'r gwelliant yma yn cyflawni'r nod hwnnw, felly, a'r disgwyliad ydy y bydd y canllawiau a gaiff eu cyhoeddi o dan y Bil wedi'i wella, o basio'r gwelliant yma, yn rhoi eglurder i gwestiynau fel, 'A oes hawl cyfreithiol gan wirfoddolwyr i ddosbarthu taflenni o dan gyfyngiadau lefel 4?', 'A fydd modd ymgyrchu o ddrws i ddrws o dan gyfyngiadau lefel 2 neu 3?' Cwestiynau pwysig, mae yna lawer o gwestiynau tebyg, ac mae'r gwelliant yma yn mynd i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu cael yr atebion iddyn nhw.

16:35

Diolch, Lywydd. Fel y dywedais yng Nghyfnod 2, roeddwn yn gyfforddus iawn â'r ysbryd sy'n sail i'r hyn roedd yr Aelod yn ceisio'i gyflawni drwy ei welliannau yn y cyfnod hwnnw mewn perthynas â chanllawiau am y cyfnod cyn yr etholiad ac am ymgyrchu. Mae'n amlwg bod y rhain ill dau yn faterion pwysig ac rydym yn sicr yn paratoi canllawiau arnynt. Felly, rwy'n falch iawn o fod wedi gallu gweithio gyda'r Aelod i baratoi'r gwelliannau hyn, a bydd y Llywodraeth yn eu cefnogi. Diolch.

Na, ond i ddiolch unwaith eto am y cydweithrediad ar y rhain. Mae'r gwelliannau yma heb os yn cryfhau y Bil, dwi'n credu.

Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn gwelliant 15? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, ac felly mae gwelliant 15 wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 2: Y broses ar gyfer cynnig gohirio o dan adran 5 (Gwelliannau 3, 16, 4, 6, 7)

Felly, y grŵp nesaf i'w drafod yw grŵp 2, ac mae'r grŵp yma yn ymwneud â'r broses ar gyfer cynnig gohirio o dan adran 5. Gwelliant 3 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a dwi'n galw ar Gareth Bennett i gynnig y gwelliant ac i siarad i'r grŵp. Gareth Bennett.

Cynigiwyd gwelliant 3 (Gareth Bennett, gyda chefnogaeth Mark Reckless).

Diolch, Lywydd. Fe fyddaf yn gryno, gan fod y ddau welliant gan fy mhlaid—Diddymu—yn eithaf syml yn eu bwriad. Gwelliant 3 yw'r gwelliant o sylwedd, tra bod gwelliant 4 yn ganlyniad i welliant 3. Felly, os na chefnogir gwelliant 3, ni fyddaf yn cynnig gwelliant 4. 

Mae'r gwelliannau'n ymwneud ag etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu, sydd i fod i gael eu cynnal yng Nghymru ar 6 Mai. Nid yw'r etholiadau hyn yn rhan o gylch gwaith Llywodraeth Cymru na'r Senedd hon, felly mae'r penderfyniad i'w cynnal ar 6 Mai yn benderfyniad a fydd yn cael ei wneud gan Lywodraeth y DU. Ein gwybodaeth ddiweddaraf, sy'n eithaf diweddar, yw mai bwriad datganedig Llywodraeth y DU yw bwrw ymlaen â'r etholiadau hyn ar 6 Mai. Nawr, rydym mewn sefyllfa gyfnewidiol wrth gwrs. Gallai sefyllfa iechyd y cyhoedd waethygu, ac mae'n bosibl na fydd etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu'n digwydd wedi'r cyfan, ond hyd y gwyddom, fel y dywedais, mae'r etholiadau hyn yn mynd rhagddynt. O ystyried hynny, mae ein gwelliant 3 yn ceisio atal Llywodraeth Cymru rhag gohirio etholiadau'r Senedd tan ddyddiad wedi 6 Mai os cynhelir etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu ar y dyddiad hwnnw. Y nod yw arbed arian cyhoeddus trethdalwyr. Ein safbwynt ni yw: os cynhelir etholiad ar 6 Mai beth bynnag, sut y gellid cyfiawnhau bod Lywodraeth Cymru yn gohirio etholiad y Senedd? Teimlwn y byddai canlyniad o'r fath yn amlwg yn wastraff amser ac arian, ac yn waeth, byddai'n ymestyn tymor y Senedd hon heb unrhyw reswm ymarferol. Dyna unig fwriad ein gwelliant 3: arbed arian cyhoeddus a sicrhau na chaiff etholiad y Senedd ei ohirio heb reswm da. Nawr, os yw etholiad y comisiynwyr heddlu a throseddu yn mynd rhagddo, gallwn fod yn sicr y bydd unrhyw ohiriad i etholiad y Senedd yn digwydd heb reswm da.

Fel y dywedais yn gynharach, gwelliant technegol yn unig yw gwelliant 3, ac mae'n ganlyniad—mae'n ddrwg gennyf, gwelliant technegol yn unig yw gwelliant 4 ac mae'n ganlyniad i welliant 3. Yr unig beth yr hoffwn ei ychwanegu yw bod gwelliant Plaid Cymru yn y grŵp hwn yn ymddangos yn un cwbl synhwyrol, ac rydym yn cefnogi hwnnw hefyd. Diolch am wrando, a gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi ein gwelliannau synhwyrol ac adeiladol. Diolch.

Byddwn yn cefnogi gwelliannau 3 a 4, ond ni allwn gefnogi gwelliant 16 Plaid Cymru. Byddai'n ymddangos yn rhyfedd iawn gorfodi'r Prif Weinidog i egluro ei resymau dros beidio â gwneud rhywbeth. Mae hyn yn gwbl ddigynsail ac nid yw'n rhywbeth y credaf fod neb, fel y dywedais ddoe mewn cyd-destun gwahanol, yn galw amdano'n fwriadol. Os credwch y dylid cynnal yr etholiad, ni chredwn y dylid llusgo'r Prif Weinidog i mewn i'r Cyfarfod Llawn i egluro pam nad yw'n mynd i dorri ar draws y broses ddemocrataidd, yn hytrach nag esbonio, fel y credwn ni, pam y dylai wneud hynny pe bai'r sefyllfa'n codi. 

Felly, rwy'n cynnig gwelliannau 6 a 7 yn fy enw i, ac ar ôl gwrando ar y ddadl yn ystod Cyfnod 2 y Bil hwn ddoe, mae ein gwelliant 6 yn gyfaddawd a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyflwyno rheoliadau drwy'r weithdrefn gadarnhaol i nodi'r meini prawf ar gyfer sbarduno cais i'r Senedd i ohirio'r etholiad o fewn 14 diwrnod wedi i'r Ddeddf gael Cydsyniad Brenhinol. Mae gwelliant 7 hefyd yn welliant cyfaddawd a fyddai ond yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi'r meini prawf sydd i'w defnyddio gan y Prif Weinidog ar gyfer penderfynu a yw'n angenrheidiol neu'n briodol gohirio'r etholiad o fewn 14 diwrnod wedi i'r Ddeddf gael Cydsyniad Brenhinol.

Rwyf wedi mynegi pryder dro ar ôl tro nad yw Llywodraeth Cymru wedi dweud pa sefyllfa y mae angen i'r pandemig fod ynddi cyn i'r Prif Weinidog ofyn yn ffurfiol am ohirio etholiad cyffredinol Cymru. Os yw eu hewyllys ddemocrataidd i gael ei gohirio dros dro, mae angen i bobl Cymru fod yn hyderus y bydd ganddynt hawl i wybod pam. Oni bai bod y ddeddfwriaeth hon yn cynnwys trothwy clir, gwrthrychol, mesuradwy i'r Prif Weinidog ofyn yn ffurfiol am ohirio etholiad cyffredinol Cymru sydd i'w gynnal ar 6 Mai, bydd yn amhosibl iddo osgoi honiadau o oportiwnistiaeth wleidyddol a gwrthdaro buddiannau pe bai'n gwneud hynny. Diolch.

16:40

Rydw i'n siarad i welliant 16 yn y grŵp yma. Eto, yn achos y gwelliant yma, fel yn y ddau ddiwethaf, mae yna drafodaethau adeiladol wedi gallu digwydd rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth ac mae'r gwelliant sydd o'n blaenau ni fan hyn yn gyfaddawd positif iawn, rydw i'n credu. Bwriad y gwelliant ydy rhoi dyletswydd ar y Prif Weinidog i wneud datganiad rhagweithiol i'r Senedd yn dweud naill ffordd neu'r llall erbyn 24 Mawrth ydy o'n bwriadu gwneud cynnig i ohirio'r etholiad ai peidio.

Mi drechwyd ein gwelliannau ni ddoe oedd yn galw am point of no return cadarn fyddai wedi golygu bod yn rhaid i'r Prif Weinidog ddechrau'r broses o wneud cais i ohirio'r etholiad erbyn dechrau'r cyfnod cyn diddymu ar yr hwyraf—7 Ebrill fyddai hynny wedi bod yn achos etholiad 6 Mai. Fel y soniais i ddoe, mae unrhyw beth ar ôl hynny yn mynd yn rhy hwyr yn ein tyb ni, o ystyried y bydd ymgeiswyr yn ymgeiswyr cyfreithiol erbyn hynny, o ystyried y bydd y cyfnod gwariant etholiadol wedi dechrau ac yn y blaen. Dan y cyfaddawd yma, er na chawn ni wybod yn gwbl bendant erbyn 7 Ebrill, bydd gennym ni fwy o sicrwydd erbyn 24 Mawrth a phenderfyniad hefyd, oni bai bod rhywbeth mawr iawn ac annisgwyl iawn yn newid, a fydd yr etholiad yn mynd yn ei flaen ai peidio.

Yn sgil pasio ein gwelliant ni ddoe oedd yn creu dyletswydd ar y Llywodraeth i gynnal adolygiad o'r paratoadau ar gyfer cynnal etholiad yn ystod pob un o'r adolygiadau tair wythnosol o'r cyfyngiadau COVID, a chyfathrebu canfyddiadau'r adolygiadau hynny, mi ddylai fod gennym ni ddarlun clir, rydw i'n credu, erbyn 24 Mawrth o'r cyfeiriad rydyn ni'n mynd iddo fe o ran y pandemig a'i effaith tebygol o ar y gallu i gynnal etholiad. Mi ddylai fod y Prif Weinidog mewn sefyllfa, felly, i wneud penderfyniad erbyn y dyddiad hwnnw. Y rheswm dros y dyddiad yna ydy mai hwnnw ydy'r diwrnod olaf mae disgwyl i'r Senedd eistedd cyn dechrau'r toriad Pasg fydd yn arwain i mewn i'r cyfnod cyn etholiadol, ac mae yna resymeg felly yn y ffaith bod y penderfyniad yn cael ei ddatgan i'r Senedd tra mae'r Senedd yn dal yn eistedd, fel y gallwn ni graffu ar y penderfyniad.

I ateb rheswm y Ceidwadwyr dros yr hyn glywsom ni, eu bod nhw'n mynd i bleidleisio yn erbyn hwn, gaf i eich hatgoffa chi bod hwn yn Fil nid yn unig i ganiatáu gohirio etholiad ond i ddangos ac i ganiatáu'r etholiad gael ei gynnal mewn ffordd ddiogel ar 6 Mai? Rydyn ni i gyd yn gobeithio mai dyna fydd y sefyllfa. Rydyn ni'n gofyn i'r Prif Weinidog amlinellu yn ei ddatganiad o i'r Senedd sut allwn ni gael sicrwydd y byddai parhau efo etholiad dan gysgod y cyfyngiadau COVID yn galluogi cael ymgyrch lawn a theg, a hynny er tegwch i bob ymgeisydd sy'n sefyll, boed yn ariannog neu ddim, ond hefyd er tegwch i bawb sy'n gymwys i bleidleisio, fel y gallan nhw gael mynediad er gwaetha'r cyfyngiadau tebygol at wybodaeth, sydd mor bwysig er mwyn gallu gwneud penderfyniad o ran i ble y dylen nhw fwrw eu pleidlais. Felly, mae'n bwysig iawn, dwi'n meddwl, bod hwn yn cael ei gynnwys yn y Bil wedi ei wella. 

Gair am welliannau 3 a 4. Rydyn ni yn erbyn y gwelliannau yma, gafodd eu cyflwyno gan Gareth Bennett efo cefnogaeth Mark Reckless, sy'n ceisio cyfyngu gallu'r Prif Weinidog i gynnig gohirio'r etholiad oni bai bod Llywodraeth Prydain wedi gwneud yr un peth ar gyfer etholiadau'r comisiynwyr heddlu. Cydnabyddwch mai dyma ein hetholiad cyffredinol ni yma yng Nghymru. Mae'r dyddiad rydyn ni'n ei osod a'r rheolaeth sydd gennym ni dros y dyddiad hwnnw yn hollbwysig i ddemocratiaeth Cymru.

At welliannau 6 a 7, rydyn ni'n cefnogi ysbryd y gwelliannau yma gan y Ceidwadwyr. Mae'n bwysig bod y Llywodraeth yn ei gwneud hi'n glir beth ydy'r trothwy ar gyfer gohirio. Mi allwn ni weld rhinwedd yng ngwelliant 7 yn enwedig, a allai atgyfnerthu'r adran newydd a gafodd ei chefnogi'n unfrydol ddoe o ran adrodd fesul tair wythnos am ba mor debygol ydy gohirio'r etholiad. Mi fyddai'r gwelliannau yma yn ffurfioli'r meini prawf sy'n sail i hynny, er mi fyddwn i'n rhoi'r cafeat na fuasem ni am weld cyfyngu ar y mathau o ffactorau fyddai angen eu pwyso a mesur wrth ddod i benderfyniad.

16:45

Rwy'n gwrthwynebu gwelliannau 3 a 4 yn gryf, gan mai effaith y gwelliannau hyn fyddai gwneud ein penderfyniad i ohirio etholiad y Senedd yn ddibynnol ar benderfyniad Llywodraeth y DU ynghylch etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu. Rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU wrth gwrs i geisio sicrhau'r cysondeb priodol rhwng yr etholiadau, ond byddwn yn gwrthod yn gryf y farn fod etholiad y Senedd rywsut yn israddol i etholiadau'r comisiynwyr heddlu a throseddu. Nodaf fod y rhain eisoes wedi cael eu gohirio am flwyddyn, rhywbeth y credaf y byddem ni a'r rhan fwyaf o'r Aelodau o'r Senedd hon yn credu ei fod yn gwbl annerbyniol yn achos etholiad cyffredinol Cymru.

Er y bydd y penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth y DU ynglŷn ag etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu ac etholiadau eraill yn Lloegr yn amlwg o bwys wrth inni ystyried a allwn gynnal etholiad y Senedd yn ddiogel, mae'n eithaf posibl y bydd y penderfyniadau hynny'n cael eu gwneud yng ngoleuni amgylchiadau mewn perthynas â'r pandemig a allai fod yn berthnasol i rannau o Loegr ond nid yma yng Nghymru. Rhaid inni fod yn rhydd i weithredu i ddiogelu'r etholiad hwnnw pe baem yn wynebu sefyllfa lle mae gallu pleidleiswyr i gymryd rhan yn ddiogel dan fygythiad. Gallai'r gwelliant hwn atal y Senedd rhag gwneud penderfyniad sydd er budd pleidleiswyr ynghanol argyfwng cenedlaethol. Mae hynny'n gwbl annerbyniol. Yn y pen draw, dylid gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar bobl Cymru yma yng Nghymru.

Rwy'n cefnogi gwelliant 16 ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am y gwaith a wnaethom gyda'n gilydd arno. Fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, y gofyniad yw i'r Prif Weinidog wneud datganiad erbyn diwrnod y Cyfarfod Llawn diwethaf cyn y toriad yn dweud a yw o'r farn ei bod yn ddiogel bwrw ymlaen â'r etholiad a pham.

Byddai gwelliant 6 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i bennu'r meini prawf i'w defnyddio gan y Prif Weinidog wrth arfer y pŵer o dan adran 5(1). Mae hwn yn gam diangen mewn proses sydd eisoes yn galw am uwchfwyafrif o Aelodau i gytuno i ohirio a gallai ein cau mewn cornel yn gwbl ddiangen. Felly, ni allaf gefnogi'r gwelliant hwn. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod cryfder y teimladau ymhlith yr Aelodau ynglŷn â'r angen am dryloywder ynghylch y meini prawf sydd i'w defnyddio gan y Prif Weinidog wrth iddo wneud ei benderfyniad, felly fe gefnogaf welliant 7 yr Aelod, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r meini prawf hynny gael eu cyhoeddi.

Diolch, bawb, am gyfrannu at y ddadl ar y grŵp hwn. Credaf fod Mark Isherwood wedi gwneud sylwadau adeiladol ac ymarferol. Credaf yn anffodus fod Rhun a Julie wedi ildio i rethreg bleidiol. Mae eu gwrthwynebiadau fel y'u nodwyd i beidio â gadael i ddyddiad etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu lywio'u gweithredoedd yn gwbl ffug, oherwydd mae Rhun yn dweud bod yn rhaid gwneud y penderfyniad ar ddyddiad yr etholiad yng Nghymru, yn y Senedd, ac mae Julie yn dweud rhywbeth tebyg. Dywedodd na ddylai ein hetholiadau fod yn israddol i etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu, ac wrth gwrs mae hi'n iawn, ac ni awgrymais erioed eu bod mewn unrhyw ffordd yn israddol i etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu. Yr holl reswm pam y cafodd etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu eu gohirio tan 6 Mai, does bosibl, yn rhannol o leiaf, oedd oherwydd ein bod yn cael etholiad yma ar 6 Mai ac felly byddent yn cyd-fynd ag etholiadau ein Senedd. Roedd dyddiad yr etholiadau ar 6 Mai ar gyfer y Senedd eisoes wedi'i gymryd, ac nid oedd yn israddol mewn unrhyw fodd i benderfyniad ynglŷn ag etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu. Felly, rhaid imi ddweud bod eu dadleuon yn ymddangos braidd yn ffug a braidd yn denau. Ond beth bynnag, rwy'n gorffen yn y fan honno, oherwydd mae'n amlwg y bydd gan bawb eu barn; mynegwyd y safbwyntiau'n glir gan bawb o'r pleidiau, a diolch iddynt am eu cyfraniadau. Gyda'ch cymorth chi, Lywydd, gobeithio y gallwn symud ymlaen i'r bleidlais ar y grŵp hwn.

16:50

Y cwestiwn, felly, yw a ddylid derbyn gwelliant 3. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly symudwn i bleidlais ar welliant 3. Cyn inni wneud hynny, mae angen inni gymryd seibiant i baratoi ar gyfer y bleidlais hon, gan mai dyma'r bleidlais gyntaf yn y gyfres hon o drafodion Cyfnod 3. Felly, fe gymerwn seibiant.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:51.

Ailymgynullodd y Senedd am 16:53, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

Dyma'r bleidlais, felly, ar welliant 3 yn enw Gareth Bennett. Agor y bleidlais ar welliant 3. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 37 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 3 wedi'i wrthod. 

Gwelliant 3: O blaid: 14, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 3: Y diwrnod olaf posibl ar gyfer etholiad (Gwelliannau 5, 9, 10, 11, 12, 13)

Grŵp 3 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r grŵp yma yn ymwneud â'r diwrnod olaf posib ar gyfer etholiad. Gwelliant 5 yw'r prif welliant yn y grŵp yma a dwi'n galw ar Mark Isherwood i gynnig y gwelliant yna ac i siarad i'r grŵp. 

Cynigiwyd gwelliant 5 (Mark Isherwood).

Rwy'n cynnig gwelliannau 5, 9, 10, 11, 12 a 13. Mae'r rhain yn nodi mai 26 Awst yw'r dyddiad diweddaraf y gellir gohirio etholiad. Fel y dywedais ddoe yn ystod trafodion Cyfnod 2, mae gohiriad o chwe mis i'r etholiad a drefnwyd ar 6 Mai yn rhy hir. Arferai Cynulliad Cenedlaethol Cymru eistedd am dymor o bedair blynedd ac mae'r Senedd yn eistedd am bump. Byddai gohirio tan noson tân gwyllt yn mynd â ni hanner ffordd drwy chweched flwyddyn. Ni chafwyd mandad gan bobl Cymru ar gyfer hynny. Yn wir, rwyf fi—ac rwy'n siŵr yr holl Aelodau rwyf wedi siarad â hwy o leiaf—yn cael negeseuon e-bost gan aelodau pryderus o'r cyhoedd, yn poeni y gallai eu hawl i bleidleisio ar 6 Mai gael ei dwyn oddi arnynt. Ni chefais unrhyw e-bost gan rywun sy'n cefnogi'r cysyniad hwnnw. Gwyddom fod y risgiau a gyflwynir gan coronafeirws a'i amrywolion ar eu huchaf yn ystod misoedd y gaeaf, ac mae'r risgiau blynyddol i'r GIG ar eu huchaf yn ystod misoedd y gaeaf. Gallaf ddeall pe bai cynnydd sydyn mewn achosion a bod y gyfradd wythnosol o achosion ym mhob 100,000 yn codi i'r lefel a welsom ym mis Rhagfyr, er enghraifft, y byddai achos dros ohirio'r etholiad tan yr haf. Ond does bosibl y byddem yn ceisio ei ohirio tan y gaeaf, pan fydd y risgiau'n fwy, neu'n cyflwyno deddfwriaeth sy'n galluogi hynny i ddigwydd.

Rydym yn derbyn dadl y Gweinidog y byddai'r gwelliant a gynigiwyd gennym ddoe wedi golygu y gallai etholiad fod wedi gwrthdaro â dychweliad plant i'r ysgol ym mis Medi, a dyna pam ein bod wedi cynnig 26 Awst yn lle hynny, er ei bod yn amlwg y byddai misoedd yr haf, mis Mehefin neu fis Gorffennaf, yn well pe bai'n rhaid gohirio o gwbl. Ni ddylai cynnal etholiad yn ystod cyfnod gwyliau fod yn rhwystr i weinyddu'r etholiad yn effeithiol nac i'r nifer sy'n pleidleisio. Nid oes unrhyw rinwedd ymarferol yn y dadleuon i'r gwrthwyneb, o ystyried y darpariaethau ehangach yn y Bil hwn a'r darpariaethau ehangach presennol ar gyfer dulliau pleidleisio amgen os oes angen. Y broblem go iawn yw bod nifer y rhai sy'n pleidleisio mewn etholiadau datganoledig wedi bod yn isel erioed, ac mae gennym gyfrifoldeb cyfunol i fynd i'r afael â hynny beth bynnag. 

Mae sefyllfa'r Ceidwadwyr Cymreig yn dal yn glir: rydym am weld yr etholiad a drefnwyd ar 6 Mai yn mynd rhagddo, yn union fel y mae etholiadau'n cael eu cynnal mewn rhannau eraill o'r byd yn ystod y pandemig hwn, a disgwylir iddynt barhau i wneud hynny. Os oes rhaid gohirio'r etholiad oherwydd ein bod mewn cyfyngiadau symud lefel rhybudd 4 er enghraifft, dylai'r gohiriad hwnnw fod mor fyr â phosibl fel y gall pobl Cymru ethol Llywodraeth newydd o'u dewis i Gymru. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi hyn felly.

16:55

Rwy'n cymeradwyo dycnwch yr Aelod mewn perthynas â lleihau hyblygrwydd i ohirio etholiadau eleni. Mewn egwyddor, fel Llywodraeth, cytunwn fod cynnal yr etholiad yn ystod misoedd yr haf yn well nag aros tan yr hydref. Ond fel y nodais yng Nghyfnod 2, credaf fod 5 Tachwedd yn taro'r cydbwysedd cywir rhwng hyblygrwydd a sicrwydd ynglŷn â pha bryd y gellid cynnal etholiadau gohiriedig yn 2021. Felly, ni allaf gefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn, sy'n lleihau'r cyfnod hiraf o ohiriad i etholiad o fewn cwmpas y Bil hwn o 6 mis i lai na 4 mis. Gadewch inni beidio ag anghofio bod Llywodraeth y DU, ar ddechrau'r pandemig, wedi gohirio etholiadau am flwyddyn gyfan. Er bod y gwelliannau'n osgoi'r anawsterau gydag ysgolion y tynnais sylw atynt ddoe, nid ydynt yn goresgyn y problemau amseru sy'n gysylltiedig â gwyliau'r haf. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio yn erbyn y gwelliannau yn y grŵp hwn. Diolch.

Rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn credu, os caiff etholiad ei ohirio, y byddai'n well ei gynnal yn ystod misoedd yr haf yn hytrach nag yn y gaeaf, oherwydd mae hi hefyd wedi dweud hynny wrthyf yn gyson yn flaenorol. Mae'n anghynaliadwy yn ddeallusol felly i alluogi'r posibilrwydd, neu ddarparu ar gyfer y posibilrwydd, o gael yr union etholiad hwnnw yn y gaeaf. Mae ein safbwynt yn gynaliadwy, mae ein safbwynt yn sefyll, ac er gwaethaf sylwadau'r Gweinidog, er fy mod yn ofni eu canlyniad, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliannau.

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 5? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad. Felly, cymerwn ni bleidlais ar welliant 5. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, tri yn ymatal, 37 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi'i wrthod. 

Gwelliant 5: O blaid: 11, Yn erbyn: 37, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 16 (Rhun ap Iorwerth).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 16? A oes gwrthwynebiad? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad. 

A ydych yn gwrthwynebu, Mark Isherwood? A gymeraf hynny fel gwrthwynebiad?

17:00

Mae'n wrthwynebiad. Roeddwn yn meddwl y byddech yn agor fy meic, ond rwy'n gwrthwynebu.

Na, mae hynny'n iawn. Diolch. Fe wnes i sylwi ar ryw chwifio baner neu rywbeth, neu chwifio ysgrifbin gennych chi, felly mae hynny'n iawn. Felly, fe'i gwrthwynebir ac fe wnawn alw pleidlais, felly, ar welliant 16.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, dau yn ymatal, 10 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi cael ei gymeradwyo. 

Gwelliant 16: O blaid: 39, Yn erbyn: 10, Ymatal: 2

Derbyniwyd y gwelliant

Diolch. Felly, nid yw gwelliant 4 yn cael ei symud i'r bleidlais.

Ni chynigiwyd gwelliant 4 (Gareth Bennett gyda chefnogaeth Mark Reckless). 

Cynigiwyd gwelliant 6 (Mark Isherwood).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, wnawn ni symud i bleidlais ar welliant 6. Agor y bleidlais. 

Cau'r bleidlais.

O blaid 12, ymatal tri, yn erbyn 37. Felly, mae gwelliant 6 wedi cael ei wrthod. 

Gwelliant 6: O blaid: 12, Yn erbyn: 37, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 7 (Mark Isherwood).

Oes gwrthwynebiad i welliant 7? 

A oes gwrthwynebiad i welliant 7? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gallaf weld un.

Lywydd, rwy'n ymddiheuro am dorri ar eich traws. Fe bleidleisiais pan oeddech yn gofyn i mi a oedd fy mhleidlais wedi'i nodi. Roedd wedi'i nodi ar fy sgrin i, ond—

Peidiwch â phoeni—fe gafodd ei nodi ar fy sgrin innau yn y diwedd hefyd, felly fe gafodd eich pleidlais ei bwrw.

O'r gorau. Diolch, Darren. Fe gafwyd gwrthwynebiad i welliant 7, felly galwaf am bleidlais ar welliant 7.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 47, pedwar yn ymatal, un yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 7 wedi ei dderbyn. 

Gwelliant 7: O blaid: 47, Yn erbyn: 1, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Grŵp 4: Diwrnodau ychwanegol ar gyfer pleidleisio (Gwelliant 8)

Sy'n dod â ni at grŵp 4, ac mae'r grŵp 4 yma yn ymwneud â gwelliannau sydd yn ymwneud â diwrnodau ychwanegol ar gyfer pleidleisio. Gwelliant 8 yw'r prif welliant, yr unig welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar Mark Isherwood i gyflwyno'r gwelliant yma. Mark Isherwood. 

Cynigiwyd gwelliant 8 (Mark Isherwood).

Diolch, Lywydd, ac rwy'n cynnig gwelliant 8 yn fy enw i. Yn syml, mae'r gwelliant hwn yn gadael adran 6 allan er mwyn atal pleidleisio ar fwy nag un diwrnod. Fel y dywedais ddoe, rydym yn cydnabod yr angen i bleidleisio ddigwydd ar un diwrnod a heb ei wasgaru dros fwy nag un diwrnod. Mae etholiad a gynhelir dros fwy nag un diwrnod yn cynyddu pryderon diogelwch yn ymwneud ag uniondeb yr etholiad. Fel y dywedais, ble fydd blychau pleidleisio yn cael eu storio a sut mae amddiffyn a gwarantu eu diogelwch? Er i'r Gweinidog ddweud ddoe fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda swyddogion canlyniadau i geisio mynd i'r afael â hyn, a'i bod yn drosedd ymyrryd â blychau pleidleisio ac felly, ag ewyllys ddemocrataidd y bobl, byddai pleidleisio dros fwy nag un diwrnod yn anochel yn creu mwy o risg o hyn, gan olygu bod angen i fwy nag un asiantaeth gymryd rhan a chostau uwch.

Beth fydd yr effaith ar y lleoliadau cymunedol sy'n gorfod cau er mwyn bod yn orsaf bleidleisio, am ddiwrnod yn unig fel arfer? Mae hyn hefyd yn creu risg y bydd rhai pleidleiswyr yn cael eu dylanwadu'n ormodol gan y ffordd y mae eraill wedi pleidleisio, ac yn gosod cynsail anffafriol na allwn ei gefnogi. Yn wir, credaf nad ydym wedi gweld pleidleisio dros fwy nag un diwrnod yn unman, yn sicr yn y DU, ers diwedd y rhyfel byd cyntaf. Daeth i ben am resymau democrataidd cadarn, a byddai'n beryglus inni ei adfer yn fy marn i.

Fel y dywedais ddoe, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn darllen gyda diddordeb y cynllun cyflawni a gyhoeddwyd gan Swyddfa Cabinet Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf, sy'n nodi—. Esgusodwch fi. Technoleg fodern—mae popeth newydd neidio. Sut y gellir cynnal etholiadau'n ddiogel ar 6 Mai 2021 yng Nghymru a Lloegr. O gofio y bydd gorsafoedd pleidleisio yng Nghymru eisoes yn cynnal etholiad ar 6 Mai a 6 Mai yn unig, i ethol comisiynwyr heddlu a throseddu, byddai'n rhyfedd ymestyn y pleidleisio dros fwy nag un diwrnod ar gyfer etholfraint arall. Rhaid cynnal etholiadau'r Senedd ar un diwrnod, ac yn ein barn ni, dydd Iau 6 Mai ddylai'r un diwrnod hwnnw fod. Diolch.

17:05

Diolch, Lywydd. Fel yr eglurais ddoe, bwriad y Llywodraeth yw y dylai pleidleisio cynnar fod ar gael os, a dim ond os, caiff etholiad y Senedd ei ohirio wedi 6 Mai ac na chaiff ei gyfuno wedyn ar ddyddiad newydd gydag etholiadau'r comisiynwyr heddlu a throseddu. Ni allwn gefnogi'r gwelliant yn y grŵp hwn gan y byddai'n dileu'r pŵer sydd ei angen arnom i roi grym i'r bwriad hwnnw. Fel y mae'r Aelod ei hun wedi ein hatgoffa dro ar ôl tro, cynhaliwyd etholiadau ym mhob rhan o'r byd yn ystod y pandemig hwn. Mae hyn wedi digwydd yng Nghanada a Seland Newydd, er enghraifft, ac yn y ddwy wlad, mae pleidleisio cynnar yn bersonol yn gyffredin. Testun dryswch i mi yw ymdrechion parhaus yr Aelod i ddileu'r gallu i bleidleisio'n gynnar a'r perygl felly o ddifreinio llawer nad ydynt efallai'n teimlo'n gyfforddus neu nad ydynt hyd yn oed yn gallu bod yn bresennol ar ddiwrnod yr etholiad. Mae'r holl dystiolaeth ynglŷn â thwyll pleidleiswyr yn y DU yn awgrymu ei fod yn brin ac yn ymwneud bron yn gyfan gwbl ag etholiadau llywodraeth leol mewn llond llaw o ardaloedd awdurdodau lleol, gyda phob un ohonynt yn Lloegr. Felly, hoffwn ofyn i'r Aelod dynnu gwelliant yn ôl y gellid ei ystyried yn hawdd fel ymgais fwriadol i wneud pleidleisio'n anos i'r rheini sy'n agored i niwed neu'n poeni am y pandemig. Diolch, Lywydd.

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 8? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly, fe wnawn ni symud i bleidlais ar welliant 8. Agor y bleidlais.

O, ydych, Mark Isherwood. Mae'n ddrwg iawn gennyf. Ymatebwch os gwelwch yn dda.

Peidiwch â phoeni, rydych wedi cael dau ddiwrnod hir iawn, wedi'r cyfan.

Mae safbwynt y Gweinidog yn peri dryswch i mi, a chredaf y byddai'n lleihau hawliau democrataidd yr holl etholwyr. Mae ffyrdd eraill o bleidleisio, a chânt hwythau hefyd sylw o dan rannau o'r Bil hwn, neu ddarpariaeth sy'n bodoli cyn y Bil hwn. Ni fyddai cyflwyno'r cynsail newydd hwn ar hyn o bryd yn cyflawni'r nodau a nodwyd gan y Gweinidog, a chredwn, i'r gwrthwyneb, y gallai fynd yn groes iddynt mewn gwirionedd. Felly, ni fyddaf yn tynnu'r gwelliant hwn yn ôl.

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 8? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad ac felly symudwn ni i'r bleidlais ar welliant 8. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, un yn ymatal ac mae 37 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 8 wedi'i wrthod.

17:10

Gwelliant 8: O blaid: 14, Yn erbyn: 37, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 9 (Mark Isherwood).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 9? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, ac felly, cawn ni bleidlais ar welliant 9. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, pedwar yn ymatal a 37 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 9 wedi'i wrthod.

Gwelliant 9: O blaid: 11, Yn erbyn: 37, Ymatal: 4

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 17 (Rhun ap Iorwerth).

Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 17? A oes gwrthwynebiad? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad i hynny, ac felly, mae gwelliant 17 wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 10 (Mark Isherwood).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 10? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad. Felly, cawn ni bleidlais ar welliant 10. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, pedwar yn ymatal ac mae 37 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 10 wedi'i wrthod.

Gwelliant 10: O blaid: 11, Yn erbyn: 37, Ymatal: 4

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 11 (Mark Isherwood).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad. Felly, pleidlais ar welliant 11. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, pedwar yn ymatal a 37 yn erbyn. Mae gwelliant 11 wedi'i wrthod.

Gwelliant 11: O blaid: 11, Yn erbyn: 37, Ymatal: 4

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 12 (Mark Isherwood).

Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 12? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad. Agor y bleidlais ar welliant 12. Cau'r bleidlais. O blaid 11, pedwar yn ymatal a 37 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 12 wedi'i wrthod.

Gwelliant 12: O blaid: 11, Yn erbyn: 37, Ymatal: 4

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 13 (Mark Isherwood).

Oes gwrthwynebiad i welliant 13? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly cymrwn ni bleidlais ar welliant 13. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, pedwar yn ymatal a 37 yn erbyn. Felly mae gwelliant 13 wedi'i wrthod.

Gwelliant 13: O blaid: 11, Yn erbyn: 37, Ymatal: 4

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 5: Gorchmynion a rheolau ynglŷn â chynnal etholiadau yn 2021 (Gwelliannau 1, 2)

Mae hynny'n dod â ni at grŵp 5 o welliannau. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â gorchmynion a rheolau ynglŷn â chynnal etholiadau yn 2021. Gwelliant 1 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud y cynnig ar y prif welliant ac i siarad i'r grŵp—Julie James.

17:15

Cynigiwyd gwelliant 1 (Julie James).

Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd yn fy enw i. Mae'r gwelliannau'n darparu bod rheoliadau sy'n gwneud diwygiadau dros dro i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007, a adwaenir yn gyffredinol fel y Gorchymyn ymddygiad, ar gyfer etholiad y Senedd 2021 yn unig, yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol 'gwnaed', yn hytrach na'r weithdrefn gadarnhaol. Mae hyn er mwyn sicrhau y gall unrhyw newidiadau sydd angen eu gwneud ddod i rym yn gyflym, ac y gall gweinyddwyr etholiadol ddibynnu arnynt er mwyn rhoi trefniadau ar waith yn amserol.

Lluniwyd y gwelliant yn fras er mwyn sicrhau y gall Llywodraeth Cymru ymateb yn gyflym i helpu gweinyddwyr a diogelu hawliau pleidleiswyr os bydd materion yn codi rhwng deddfu'r bil a'r etholiad. Cytunodd y Senedd ar y Gorchymyn diwygio i'r Gorchymyn ymddygiad cyn y Nadolig, yn unol â chonfensiwn Gould. Ond yn y sefyllfa hon sy'n newid yn gyflym, efallai y bydd angen i ni wneud newidiadau pellach. Os byddwn yn gwneud hynny, bydd yn digwydd drwy ymgynghori agos â'r Comisiwn Etholiadol a gweinyddwyr etholiadol.

Ar hyn o bryd, mae ein bwriadau polisi penodol ar gyfer y ddarpariaeth hon yn ymwneud â chreu mwy o opsiynau ar gyfer defnyddio disgrifyddion tiriogaethol ar bapurau enwebu a phleidleisio, a helpu i osgoi gwallau ar ddatganiadau pleidleisio drwy'r post. Roedd y Gorchymyn diwygio yn gwneud darpariaeth ar gyfer defnyddio'r disgrifyddion tiriogaethol 'Cymreig' a 'Cymru' fel ychwanegiadau i enw cofrestredig plaid ar bapurau enwebu a phapurau pleidleisio. Mae darpariaeth debyg eisoes yn bodoli yn yr Alban. Rydym yn ystyried a ellid ehangu'r ddarpariaeth hon er mwyn rhoi mwy o ddewis i bleidiau gwleidyddol ynglŷn â sut y cânt eu disgrifio.

Rydym hefyd wedi cael gwybod am wall sydd weithiau'n cael ei wneud ar y datganiad pleidleisio drwy'r post y mae'n rhaid i bleidleisiwr ei ddychwelyd gyda'i bapur pleidleisio drwy'r post. Mae'r datganiad yn ei gwneud yn ofynnol i'r pleidleisiwr nodi ei ddyddiad geni i'w wirio yn erbyn y dyddiad a roesant ar eu cais am bleidlais bost. Mae rhai pleidleiswyr yn mewnosod dyddiad llofnodi datganiad y bleidlais bost yn hytrach na'u dyddiad geni, sy'n arwain at wrthod eu pleidlais.

Yr arwyddion, o arolwg diweddar y Comisiwn Etholiadol er enghraifft, yw y gallai cyfran y pleidleisiau post godi, ac rydym yn annog pobl i ystyried gwneud cais am bleidlais bost, yn enwedig pobl sy'n gwarchod. Gyda mwy o bleidleisiau post daw'r risg y gallai'r gwall hwn ddod yn fwy cyffredin. Felly, rydym yn ystyried a ellid gwneud darpariaeth yn y Gorchymyn ymddygiad i helpu i osgoi'r camgymeriad hwn a lleihau nifer y pleidleisiau post a wrthodir o bosibl. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliannau hyn. Diolch.

Ymddiheuriadau, Lywydd, ond nid oedd gennyf ddim i'w ddweud am y grŵp hwn. Rydym yn gwrthwynebu'r gwelliannau hyn. Nid oeddwn eisiau siarad ar y cam hwn, ond diolch.

O'r gorau. Iawn, mae hynny'n iawn. Y Gweinidog i ymateb, os oes ymateb. Na. O'r gorau.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1, felly? A oes gwrthwynebiad i welliant 1? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad i welliant 1. Felly, gwnawn ni gynnal pleidlais ar welliant 1. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 47, un yn ymatal, pedwar yn erbyn, felly mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.

Gwelliant 1: O blaid: 47, Yn erbyn: 4, Ymatal: 1

Derbyniwyd y gwelliant

Julie James, gwelliant 2.

A yw gwelliant 2 yn cael ei gynnig?

Cynigiwyd gwelliant 2 (Julie James).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, cawn ni bleidlais ar welliant 2. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 48, un yn ymatal, tri yn erbyn, felly mae gwelliant 2 wedi'i dderbyn.

Gwelliant 2: O blaid: 48, Yn erbyn: 3, Ymatal: 1

Derbyniwyd y gwelliant

Grŵp 6: Pleidleisio drwy ddirprwy (Gwelliant 14)

Grŵp 6 yw'r grŵp nesaf, a'r grŵp yma yn ymwneud â phleidleisio drwy ddirprwy. Gwelliant 14 yw'r prif welliant, a'r unig welliant yn y grŵp. Dwi'n galw ar Mark Isherwood i gyflwyno'r gwelliant.

Cynigiwyd gwelliant 14 (Mark Isherwood).

Diolch. Rwy'n cynnig gwelliant 14, a gyflwynwyd yn fy enw i. Fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, mae'r Bil hwn yn rhoi trwydded i unrhyw un gael pleidlais drwy ddirprwy am bron unrhyw reswm, gan osod cynsail peryglus ac un a allai fod yn agored i gamdriniaeth. Felly, byddai gwelliant 14 yn ei gwneud yn ofynnol i'r sawl sy'n gwneud cais gynnwys nodyn hunanynysu coronafeirws y GIG gyda'i gais am bleidlais drwy ddirprwy ar y diwrnod pleidleisio. Bydd hyn, wrth gwrs, yn ychwanegol at gymhwysedd o dan yr amgylchiadau arferol presennol. Felly, mae ein gwelliant yn gyfaddawd doeth ac ymarferol sy'n adlewyrchu'r unig reswm a nodwyd dros y Bil hwn—y pandemig coronafeirws COVID-19 presennol. Rwy'n annog yr Aelodau i'w gefnogi yn unol â hynny.

17:20

Diolch, Lywydd. Nod y Bil hwn yw sicrhau etholiad diogel a theg i bobl Cymru yn wyneb argyfwng iechyd cyhoeddus nad ydym wedi gweld ei debyg o'r blaen yn ystod ein hoes ni. Yr amcan yn y cyfnod eithriadol hwn yw sicrhau y gellir cynnal yr etholiad mewn modd sy'n ddiogel rhag COVID ac amddiffyn yr hawl sylfaenol i bleidleisio. Mae'n destun pryder, felly, fod yr Aelod yn parhau i hyrwyddo gwelliant a fyddai ar y gorau'n culhau'r meini prawf ar gyfer ceisiadau pleidleisio drwy ddirprwy ac ar y gwaethaf yn difreinio'r rheini sydd, oherwydd eu bod yn dilyn y gyfraith a chanllawiau i aros gartref, yn canfod na allant bleidleisio'n bersonol.

Hoffai'r Aelod ychwanegu gwelliant sy'n ei gwneud yn ofynnol i unigolyn sy'n gofyn am bleidlais drwy ddirprwy gael nodyn hunanynysu'r GIG fel gofyniad angenrheidiol. Darperir y nodiadau hunanynysu hyn gan y GIG i bobl nad ydynt yn gallu gweithio am fwy na saith diwrnod oherwydd coronafeirws, a gellir gofyn amdanynt drwy ddefnyddio gwefan y GIG. Mae'n bwysig deall nad yw'r nodiadau ond ar gael i gleifion sy'n cael eu cynghori i hunanynysu gan y gwiriwr symptomau ar-lein ac sy'n gyflogedig. Byddai gwelliant yr Aelod, felly, yn atal y rhai sydd wedi cael eu cynghori i warchod, y rhai nad ydynt yn arddangos symptomau ar hyn o bryd, a'r rhai nad ydynt mewn cyflogaeth rhag gallu gwneud cais am bleidlais frys drwy ddirprwy. Yn olaf, fe'n cynghorwyd y gallai pa mor gyflym y caiff y nodiadau hunanynysu hyn eu derbyn amrywio yn dibynnu ar y cais. Y pryder yma yw'r perygl na fyddai'r nodyn yn cael ei ddychwelyd mewn pryd i bleidleiswyr sy'n canfod na allant bleidleisio'n bersonol allu trefnu'r bleidlais drwy ddirprwy. Gyda'r holl bryderon hyn, rwy'n gofyn: pam y mae'r Aelod am ddifreinio'r bobl hyn? Rhaid inni hefyd gydnabod y pwysau sylweddol y byddai gorfod gweinyddu'r nodiadau hyn yn ei roi ar GIG sydd eisoes yn ymdrin â phandemig.

Mae'r Aelod eisoes wedi sôn am y perygl o dwyll, sy'n bryder dilys ym mhob etholiad. Fodd bynnag, hoffwn dawelu ei feddwl. Yn 2019, blwyddyn a welodd etholiad cyffredinol, etholiad Ewropeaidd ac etholiadau lleol, dim ond 142 o honiadau o dwyll pleidleisio a gofnodwyd. O'r nifer fach hon o honiadau, dim ond dau achos a arweiniodd at erlyniad, y ddau ohonynt yn ymwneud â phersonadu mewn gorsaf bleidleisio, nid pleidleisiau post na phleidleisio drwy ddirprwy. Er bod protestiadau parhaus yr Aelod o dwyll yn swnio'n frawychus, mae'n ymddangos eu bod yn ddi-sail.

O ystyried ein pryderon y byddai'r gwelliant hwn yn culhau'r meini prawf ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy, gyda'r perygl o ddifreinio pleidleiswyr a rhoi pwysau pellach a diangen ar y GIG, rydym yn gwrthwynebu'r gwelliant hwn. Mae'r rhesymau y byddech yn eu rhoi dros gael pleidlais drwy ddirprwy yn yr amgylchiadau brys hyn yn ymwneud yn unig â'r coronafeirws, ac felly rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio yn erbyn y gwelliant hwn. Diolch.

Diolch. Yn amlwg, ni fyddem am eithrio pobl sydd, er enghraifft, yn gwarchod, neu'n grwpiau eithriadol o agored i niwed, ac fel y dywedais, byddai cymhwysedd sy'n bodoli eisoes o dan y ddeddfwriaeth bresennol ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy yn parhau'n unol â hynny, ac nid ydym ond yn sôn yma am bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad, nid fel arall, lle byddai rheolau arferol yn parhau i fod yn gymwys hefyd. Credaf fod hynny'n dirymu ymateb y Gweinidog a oedd yn codi bwganod braidd, ac yn hytrach, mae'n canolbwyntio diben y Bil hwn ar y mater y mae i fod i ymwneud ag ef yn unig, sef y pandemig, gan sicrhau bod y meini prawf cymhwysedd eraill ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy yn parhau fel arfer i ddiogelu pawb arall. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i'w gefnogi.

Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn gwelliant 14? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, cawn ni bleidlais ar welliant 14. Agor y bleidlais.

Mae eich pleidlais wedi'i bwrw. Pob pleidlais wedi'u bwrw.

Cau'r bleidlais, felly. O blaid 11, pump yn ymatal, 36 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 14 wedi ei wrthod.

17:25

Gwelliant 14: O blaid: 11, Yn erbyn: 36, Ymatal: 5

Gwrthodwyd y gwelliant

Dyna ni, felly. Dŷn ni wedi dod i ddiwedd ein hystyriaeth o Gyfnod 3 o Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws), ac rwy'n datgan y bernir bod pob adran o'r Bil a phob Atodlen iddo wedi'u derbyn. Hefyd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.50A, gallaf gadarnhau nad yw darpariaethau'r Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) yn ymwneud â phwnc a warchodir yn fy marn i.

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.

8. Dadl: Cyfnod 4 Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws)

Yr eitem olaf felly yw'r cynnig i gymeradwyo'r Bil etholiadau Cymru, Cyfnod 4 y Bil, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig hwnnw—Julie James.

Cynnig 

Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol. Cynhyrchwyd y Bil hwn o fewn amserlen heriol mewn cyfnod o hanes nad yw heb ei heriau unigryw ei hun i'n ffyrdd arferol o weithio. Hoffwn ddiolch nid yn unig i'r swyddogion a'i lluniodd drwy gyfnod dwys o waith caled, ond hefyd i'r Aelodau yma y mae eu cyfraniad i'r gwaith o graffu ar y Bil hwn wedi bod yn amhrisiadwy. Yn fwyaf arbennig, hoffwn ddiolch i Gadeirydd, aelodau a staff y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad am ystyried a chyflwyno adroddiad ar y Bil mor gyflym. Gwnaethom gyflwyno nifer o welliannau yng Nghyfnod 2 i roi grym i'w gwelliannau, gan wneud y Bil yn fwy cadarn. Hoffwn ddiolch hefyd i Rhun ap Iorwerth am ei ddull cydweithredol wrth fynd ati i ddiwygio'r Bil hwn. Drwy'r dull hwn, gallasom ddod o hyd i gonsensws ar welliannau sydd wedi gwella'r Bil yn fawr ynghyd â thryloywder y deunydd dan sylw.

Ar thema tryloywder, rwyf hefyd yn falch ein bod wedi gallu cefnogi gwelliant Mark Isherwood yn ei gwneud yn ofynnol i gyhoeddi'r meini prawf ar gyfer y cynnig i ohirio etholiad y Senedd. Fel y dywedais droeon yn ystod taith y Bil hwn, barn gadarn y Llywodraeth yw y dylid cynnal yr etholiadau, yn ôl y bwriad, ar 6 Mai, ac mae honno'n farn a rennir ar draws y Siambr. Ond mae angen mandad newydd ar y Senedd a Llywodraeth Cymru, ac ni fwriedir i'r Bil hwn atal hynny. Fodd bynnag, mae'r pandemig wedi dangos nad yw bob amser yn dilyn trywydd y gellir ei ragweld. Byddai'n anghyfrifol inni beidio â chael cynllun wrth gefn pe bai sefyllfa iechyd y cyhoedd yn golygu nad yw'n ddiogel i'r etholiad gael ei gynnal yn ôl y bwriad. Diolch i'r gwaith trawsbleidiol ar y Bil hwn, mae gennym fodd o sicrhau y gall yr etholiad ddigwydd yn ddiogel ym mis Mai, os yw'r sefyllfa iechyd y cyhoedd yn caniatáu, yn ogystal â chynnal yr etholiad cyn gynted â phosibl os nad yw'n caniatáu hynny. Diolch.

Dylai pob deddfwriaeth basio'r prawf teilyngdod o wneud yr hyn y mae'n ei ddweud ar y label, ac mae hynny'n arbennig o hanfodol pan fo'n ddeddfwriaeth frys. Felly, ceisiodd ein gwelliannau sicrhau bod hyn yn digwydd. Mae'n destun gofid felly, ac yn peri pryder fod pob un ond un o'r rhain wedi'u trechu, ac o ganlyniad, fod honiadau y gellid bod wedi eu hosgoi am gymhellion y Prif Weinidog yn sicr o gael eu gwyntyllu os yw'n dewis arfer y pwerau a roddwyd iddo gan y Bil hwn. Mae'r bobl yn haeddu gwell. Deallwn fod angen rhywfaint o hyblygrwydd ar Lywodraeth Cymru os ceir ymchwydd yn nifer yr achosion o'r coronafeirws yn yr wythnosau cyn dyddiad presennol yr etholiad. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi dweud yn glir y bydd etholiadau lleol ac etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu yn cael eu cynnal ar 6 Mai, gyda chynllun cyflawni cadarn sy'n lleihau'r risg o ledaenu'r coronafeirws, a dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ei hymdrechion ar sicrhau bod hyn yn digwydd ar gyfer etholiad y Senedd hefyd.

Drwy gydol proses y Bil hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi methu nodi beth fyddai'r meini prawf i sbarduno gohiriad i'r etholiad, a heblaw am gefnogaeth sydd i'w chroesawu i un gwelliant, gwrthododd gefnogi ein cynigion ym mhob Cyfnod i gynnwys hyn yn y Bil. Am y rhesymau hyn, byddwn yn ymatal ar y Bil hwn.

Mae'r Bil hwn yn anghywir mewn egwyddor ac yn ddiangen yn ymarferol. Gwelwn frechlynnau'n cael eu cyflwyno'n llwyddiannus, gwelwn nifer y rhai a heintiwyd ac yn gynyddol, nifer y marwolaethau o'r feirws, yn gostwng yn helaeth. Rydym o fewn tri mis i'r etholiad a ragwelir, ac ni chaiff yr awgrym fod angen pwerau brys arnom i ohirio'r etholiad ei gadarnhau gan y cefndir ffeithiol hwnnw.

Rydym eisoes wedi cael Llywodraeth y DU yn dweud y bydd etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu ar gyfer Cymru a Lloegr yn mynd rhagddynt ar 6 Mai. Felly, nid yw'r diben a nodir ar gyfer y Bil hwn yno mwyach. Clywsom gan y Gweinidog amrywiol bryderon, anghyson braidd yn fy marn i, ynglŷn â'n bod yn israddol neu'n eilradd i etholiadau'r comisiynwyr heddlu a throseddu, neu ein bod wedi gorfod gweithredu er lles pleidleiswyr, ond os oes etholiad eisoes yn mynd i fod ar 6 Mai oherwydd bod Llywodraeth y DU mor benderfynol, sut ar y ddaear y byddem yn diogelu pleidleiswyr drwy ei gwneud yn ofynnol iddynt bleidleisio ddwywaith drwy ohirio ein hetholiad ni? Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr.

Y peth mwyaf brawychus am hyn yn fy marn i yw ymestyn ein tymor y tu hwnt i bum mlynedd. Ers Deddf y Senedd 110 mlynedd yn ôl, nid yw Tŷ'r Cyffredin wedi gallu ymestyn ei dymor ei hun—rhaid i Dŷ'r Arglwyddi gydsynio. Fodd bynnag, diolch i Ddeddf Cymru 2017 a basiwyd gan y Ceidwadwyr heb ystyried y mater hwn hyd y gwelaf fi, gwelwn ein bod ni, yng Nghymru yn gallu osgoi'r gofyniad hwnnw—ni chaiff pwerau yr arferid eu harfer yn amodol ar yr ataliad democrataidd hwnnw eu harfer felly mwyach. Ac yn hyn o beth, efallai ein bod yn eithaf rhesymol yn pennu chwe mis yn unig o dymor ychwanegol, ond nid oes dim i'n hatal rhag mynd ymhellach. Pam y mae'n iawn yng Nghymru ein bod yn cael ymestyn y tymor hwn, fel sefydliad un siambr, heb ganiatâd neb arall pan fo amddiffyniadau democrataidd blaenorol bellach wedi'u dileu? 

Mae'n ofid i mi fy mod yn cofio o leiaf dri Aelod Llafur oddi ar feinciau Llafur yn dweud na fyddent yn pleidleisio dros ganiatáu gohirio'r etholiad. Ac eto, maent yn gwneud hynny heddiw. Mae'n ofid i mi fod Deddf 2017 yn rhoi'r pwerau inni wneud hynny. Gyda mwy o bwerau'n cael eu cymryd gan y lle hwn, yn groes i'r hyn a gytunwyd yn refferendwm 2011, nid wyf yn credu ei bod yn syndod fod mwy a mwy o bobl bellach yn bwriadu pleidleisio dros ddiddymu'r sefydliad hwn.

17:30

Mae hwn yn Fil nad oes unrhyw un yn dymuno bod ei angen. Rydyn ni i gyd yma'n eiddgar i bobl Cymru gael penderfynu mor fuan â phosib ar y dyddiad a bennwyd yn wreiddiol—6 Mai—pwy ddylai gael ffurfio Llywodraeth Cymru am y blynyddoedd nesaf. Ond, mae'r argyfwng rydyn ni wedi bod drwyddo fo wedi bod yn un digynsail yn yr oes fodern, a'r gwir ydy bod y feirws yma ddim yn un sydd yn parchu'r broses ddemocrataidd. Dwi ddim, serch hynny, yn credu bod rhaid inni fod wedi dilyn proses mor funud olaf â hyn, ond, o ddilyn proses frys hyd yn oed, dwi'n hyderus ein bod ni wedi diweddu efo Bil sydd lawer cryfach nag oedd gennym ni ar ddechrau'r broses. A beth dwi'n feddwl wrth 'cryfach' ydy ei fod o'n fwy tebyg o ganiatáu tegwch i ymgeiswyr, i drefnwyr etholiadau ac, uwchlaw popeth, i etholwyr Cymru a'r broses ddemocrataidd ei hun. Fel dwi wedi'i ddweud droeon, Bil ydy hwn, ie, i ganiatáu oedi pe bai rhaid, ond hefyd i ganiatáu cynnal etholiad. Ydy, mae o'n caniatáu gohirio os oes angen hynny—os oes wir angen hynny—er mwyn sicrhau etholiad teg yn wyneb y pandemig, ond hefyd mi ddylai fo rŵan helpu i sicrhau bod modd cynnal etholiad a chael trafodaeth gynhwysfawr efo pobl Cymru os caiff yr etholiad ei gynnal fel rydyn ni eisiau ei weld ar 6 Mai.

Diolch, Lywydd. Diolch i'r Aelodau y soniais amdanynt yn gynharach am eu cyfraniadau i'r ddadl. Os caiff y Bil ei basio heddiw, byddwn yn gwneud pob ymdrech i'w weld yn dod yn gyfraith cyn gynted â phosibl. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda swyddogion canlyniadau, gweinyddwyr etholiadol, y Comisiwn Etholiadol, y Llywodraethau eraill yn y DU a phawb arall sy'n rhan o'r etholiadau eleni, er mwyn galluogi ein pleidleiswyr i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd yn y cyfnod digynsail hwn. A thrwy'r dyletswyddau a osodir arnom gan y Bil a'n gwaith ehangach, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y paratoadau ar gyfer 6 Mai.

Hoffwn sôn unwaith eto wrth yr Aelodau, fel y soniais droeon yn ystod y ddadl hon, ein bod yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU, sydd hefyd wedi mabwysiadu ymagwedd bragmatig at y mater hwn, ac er eu bod wedi dweud yn glir ar yr adeg hon yr hoffent i'r etholiadau fynd rhagddynt, nid yw hynny'n wahanol i'r hyn rydym ni wedi'i ddweud. Hoffem ninnau i'r etholiadau fynd rhagddynt hefyd. Dull pragmatig yw hwn o sicrhau y gall y broses ddemocrataidd barhau, ac fel y mae llawer o Aelodau wedi gweld, os yw'r pandemig yn datblygu mewn ffordd annisgwyl fel y gwyddom yn iawn y gall yn y cyfnod digynsail hwn. Felly, am y rhesymau hynny, rwy'n cymeradwyo'r Bil hwn i'r Senedd ac yn gobeithio y bydd pob Aelod yn teimlo y gall gytuno ag ef. Diolch, Lywydd.

17:35

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cynnal pleidlais wedi ei chofnodi ar gynigion Cyfnod 4. Felly, dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig i gymeradwyo Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws). Agor y bleidlais. O blaid 36, yn ymatal naw, pump yn erbyn. Felly, mae'r bleidlais ar y cynnig yna o dan Gyfnod 4 wedi ei gymeradwyo.

Cynnig Cyfnod 4 i gymeradwyo Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws): O blaid: 36, Yn erbyn: 5, Ymatal: 9

Derbyniwyd y cynnig

A dyna ni. Dyna ddiwedd ar ein gwaith am y dydd heddiw. Diolch i chi i gyd am eich cydweithrediad dros ddau ddiwrnod trwm o bleidleisio, a diolch i'r holl swyddogion sydd wedi gweithio tu ôl i'r llenni i ganiatáu i hynny fod mor effeithiol ag oedd yn bosib ac o bell. Felly, nos da i chi i gyd.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:38.