Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
24/03/2021Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'n cyfarfod olaf ni o'r pumed Senedd. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau yn y cyfarfod yma, fel ym mhob cyfarfod arall. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. Dwi eisiau atgoffa'r Aelodau hefyd fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu ysgol feddygol yng ngogledd Cymru? OQ56475
Gwnaf. Ym mis Mehefin 2020, creais grŵp gorchwyl a gorffen i archwilio dichonoldeb cynigion a gyflwynwyd gan Brifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer ysgol gwyddorau meddygol ac iechyd yng ngogledd Cymru. Mae'r gwaith hwn bellach wedi symud ymlaen i ddatblygu achos busnes llawn, ac fel y gwyddoch, mae fy mhlaid wedi addo sicrhau yn yr etholiad sy’n dod fod hwnnw’n cael ei gwblhau’n llwyddiannus.
Diolch. Ers i Lafur Cymru gael eu hethol yn ôl yn Llywodraeth ym mis Mai 2016, mae nifer y llwybrau cleifion sy’n aros dros 36 wythnos i ddechrau triniaeth wedi cynyddu o 4,078 i 50,143. Rydych wedi llywodraethu dros gynnydd o 1,130 y cant dros bum mlynedd. Nawr, er ein bod yn sylweddoli bod y pandemig wedi gwaethygu'r sefyllfa, roedd y sefyllfa eisoes yn wael yma yng ngogledd Cymru. Erbyn mis Chwefror 2020, roedd nifer y llwybrau triniaeth a oedd yn aros dros 36 wythnos eisoes wedi cyrraedd 11,296. Mae datblygu ysgol feddygol yn gyflym yn rhan fawr o'r ateb. Mae hyd yn oed Coleg Brenhinol Meddygon Cymru wedi bod yn gefnogol ers amser maith i ehangu ysgol feddygol. Ac fel y dywedasant wrthyf yr wythnos hon, mae bylchau mawr parhaus yn y rota hyfforddeion ym mhob un o'n hysbytai, ac ni all hyn barhau, gan ei fod yn cael effaith uniongyrchol ar ansawdd gofal cleifion. Yn gynharach y mis hwn, fe wnaethoch chi gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar addysg feddygol yng ngogledd Cymru. Er fy mod yn croesawu’r ffaith bod cyfanswm o 19 o fyfyrwyr wedi dechrau eu hastudiaethau ar raglen C21 yn 2019-20, fe ddisgynodd y nifer i 18 o fyfyrwyr yn y flwyddyn wedyn. Pa gamau y byddwch chi'n eu rhoi ar waith i wella ymwybyddiaeth o gyfleoedd yng ngogledd Cymru a sicrhau bod nifer y myfyrwyr sy’n derbyn addysg feddygol yma yn cynyddu yn hytrach na lleihau? Diolch.
Diolch am y cwestiwn. Rwy'n credu ei bod hi'n bryd cywiro rhai o'r honiadau a wnaed nid yn unig drwy hyn, ond gan yr Aelodau Ceidwadol rheolaidd. Cyn y pandemig, gwelsom yr amseroedd aros gorau mewn chwe blynedd, tan y flwyddyn cyn y pandemig. Yna gwelsom ddirywiad, nid yn unig yng Nghymru, ond ym mhob rhan o'r DU o ganlyniad uniongyrchol i newidiadau treth a phensiwn a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr yn San Steffan. Fe welwch y gydberthynas uniongyrchol honno ym mhob gwlad yn y DU—peidiwch â chymryd fy ngair i am y peth, ewch i siarad â Chymdeithas Feddygol Prydain am yr effaith uniongyrchol a gafodd hynny ar eu haelodau ac ar y gallu i barhau i wella amseroedd aros.
O ran y pwyntiau am yr ysgol feddygol ac addysg feddygol yng ngogledd Cymru, mae gan y Llywodraeth hon hanes da o wneud penderfyniadau i ehangu cyfleoedd i ymgymryd ag addysg feddygol yng ngogledd Cymru. Rydym wedi ymrwymo nid yn unig i'r grŵp gorchwyl a gorffen a'r gwaith ar gyflwyno achos busnes ar gyfer gogledd Cymru, ond wrth gwrs, fel y nodais, ceir prif addewid maniffesto clir i weld hynny’n cael ei gwblhau’n llwyddiannus os caiff Llafur Cymru eu hail-ethol i arwain Llywodraeth Cymru eto gan bobl Cymru.
Mae gennym hefyd hanes da o hyfforddi meddygon yng ngogledd Cymru mewn ystod eang o feysydd. Er enghraifft, mewn ymarfer cyffredinol, rydym bellach yn llenwi nifer sylweddol o leoedd hyfforddi meddygon teulu yn rheolaidd. Mewn gwirionedd, rydym yn gorlenwi'r lleoedd hyfforddi hynny, gan gynnwys llenwi'r holl leoedd hyfforddi meddygon teulu sydd ar gael yng ngogledd Cymru hefyd yn rheolaidd . Felly, ar ein cyflawniad, rydym yn cyflawni’n dda, ac ar ein huchelgais ar gyfer y dyfodol, rwy'n credu y bydd pobl Cymru yn parhau i ymddiried ynom ac edrychaf ymlaen at weld beth fydd eu dyfarniad ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mai.
Weinidog, mae ysgol feddygol ar gyfer gogledd Cymru yn rhywbeth y bûm yn galw amdano ers amser maith, ac mae'n rhywbeth sy'n arbennig o bwysig i ranbarth gogledd Cymru. A ydych yn cytuno mai Llywodraeth dan arweiniad Mark Drakeford sydd wedi ymrwymo i gyflawni hyn ac mai'r unig ffordd y mae hyn yn fforddiadwy ac yn bosibl ei gyflawni yw gydag ef yn Brif Weinidog?
Rwy'n cytuno'n llwyr. Ac mae’r Aelod yn gywir i dynnu sylw at y ffaith bod Llafur Cymru wedi gwneud y gwaith caled fel Llywodraeth ar ehangu cyfleoedd addysg a hyfforddiant meddygol yng ngogledd Cymru. Rydym wedi gwneud hynny'n llwyddiannus. Mae'n brif addewid maniffesto uniongyrchol clir: os pleidleisiwch dros Lafur Cymru, byddwn yn gweld ysgol feddygol yng ngogledd Cymru yn cael ei chwblhau’n llwyddiannus—mwy o gyfleoedd i hyfforddi ac aros yng Nghymru, ac yn hollbwysig, byddant yn gweithio ochr yn ochr â'r ysgolion meddygol sydd gennym eisoes yn Abertawe a Chaerdydd, yn darparu'r hyn y credaf y bydd yn addysg feddygol o ansawdd uchel, ac i gadw meddygon i hyfforddi yng Nghymru, ac iddynt aros i hyfforddi, gweithio a byw yng Nghymru.
Weinidog, yn ystod ymgyrch y refferendwm, ac ymhell ar ôl hynny, roeddwn bob amser yn teimlo anesmwythyd mawr gan mai un o’r dadleuon mawr dros aros, ac yna dros lesteirio’r bleidlais, oedd y modd y gallai ecsodus o weithwyr yn y GIG effeithio ar y GIG. Roedd hi bron fel pe bai arweinwyr dinesig a gwleidyddion yn dathlu'r ffaith bod gwasanaethau iechyd a hyfforddiant gwledydd eraill yn cael eu hysbeilio gan y DU, ac nid oeddwn yn deall y safbwynt hwnnw. A ydych yn cytuno y bydd ysgol feddygol yng ngogledd Cymru yn rhan o'r ymgyrch i fod yn hunangynhaliol yn y GIG, gan gymryd cyfrifoldeb am hyfforddi ein gweithlu ein hunain, os mynnwch, ac mae'n rhaid bod hynny’n rhywbeth gwirioneddol dda? Diolch.
Wel, rwy'n credu bod pwyntiau'r Aelod at ei gilydd yn hurt. O ran y sefyllfa gyda'r refferenda a'n gorffennol, mewn gwirionedd mae Brexit wedi bod ac wedi'i wneud ac rydym allan o'r Undeb Ewropeaidd ni waeth a ydym yn hoffi hynny ai peidio. Dyna realiti'r sefyllfa rydym ynddi, a bydd yn effeithio ar ein gallu i recriwtio o aelod-wladwriaethau cyfredol yr Undeb Ewropeaidd. Ac nid wyf yn rhannu barn yr Aelod fod hyn yn ymwneud ag ysbeilio rhannau eraill o'r byd. Rydym yn gweld pobl sy'n hyfforddi yma yn y DU ac sy'n mynd i weithio mewn rhannau eraill o'r byd hefyd. A dylwn atgoffa nid yn unig yr Aelod, ond pawb fod y GIG bob amser wedi bod yn llwyddiant rhyngwladol. Pe na baem wedi recriwtio pobl o bob cwr o'r byd, ni fyddai ein GIG wedi darparu’r gofal eang y mae wedi bod yn ei ddarparu. Ni fyddai’n ymgorffori’r sefydliad cyhoeddus mwyaf poblogaidd y gellir ymddiried ynddo yn y wlad hon. Ewch i mewn i unrhyw ysbyty yng Nghymru, ac fe welwch gast rhyngwladol yn darparu gofal iechyd o ansawdd uchel, gan newid a gwella ein gwlad, nid yn unig fel gweithwyr, ond fel ffrindiau ac aelodau o'r gymuned—pobl rydym yn byw ochr yn ochr â hwy ac y mae eu plant yn mynd i'r un ysgolion â’n plant ni. Rwy'n falch iawn o'n cysylltiadau rhyngwladol. Edrychaf ymlaen at gynnal y cysylltiadau rhyngwladol hynny i recriwtio ac i helpu rhannau eraill o'r byd, ac edrychaf ymlaen at adeiladu ar lwyddiant y Llywodraeth hon yn recriwtio, hyfforddi a chadw mwy o'n staff ar draws y gwasanaeth iechyd—y nyrsys, y meddygon a’r therapyddion a'r gwyddonwyr eraill hynny hefyd y mae pawb ohonom wedi dod i ddibynnu arnynt hyd yn oed yn fwy na'r arfer yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hon.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am farwolaethau mewn cartrefi gofal o ganlyniad i COVID-19 yng Nghymru? OQ56498
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cofnodi 1,643 o farwolaethau cofrestredig yn gysylltiedig â COVID-19 ymhlith preswylwyr cartrefi gofal Cymru hyd at 12 Mawrth. Mae hyn oddeutu 21 y cant o'r holl farwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID-19.
Ar 13 Mawrth y llynedd, fe wnaethoch gyhoeddi cyfarwyddeb i bob bwrdd iechyd ohirio pob gweithgaredd dewisol nad oedd yn weithgaredd brys, er mwyn caniatáu iddynt baratoi ar gyfer y cynnydd disgwyliedig yn y llwyth gwaith wrth ymdopi â'r pandemig. Dyna oedd geiriau eich Llywodraeth ataf mewn llythyr. Ar yr un pryd, roedd Llywodraeth Cymru yn clirio gwelyau GIG trwy anfon cleifion o ysbytai i gartrefi gofal heb iddynt gael eu profi. Roedd yn beth syfrdanol i'w wneud. Roedd y canlyniadau'n angheuol ac fe arweiniodd at drasiedi fawr i lawer o deuluoedd. Erbyn mis Chwefror 2021, mae ystadegau eich Llywodraeth yn dangos bod marwolaethau mewn cartrefi gofal er mis Mawrth 2020 43 y cant yn uwch na'r un cyfnod ddwy flynedd yn ôl. Mae eich plaid yn galw yn awr am ymchwiliad annibynnol i'r modd y mae Llywodraeth y DU wedi ymdrin â'r pandemig yn Llundain. Mae Propel, yn 'Ein Contract gyda Chymru', wedi ymrwymo i weithredu ymchwiliad annibynnol yng Nghymru ar y diwrnod cyntaf ar ôl yr etholiad ym mis Mai. O ystyried y niferoedd gwarthus o farwolaethau y gellid bod wedi eu hosgoi mewn cartrefi gofal a bod gweithredoedd eich Llywodraeth wedi gwaethygu'r broblem, a ydych chi'n derbyn bod yn rhaid cynnal ymchwiliad annibynnol i'r modd y mae eich Llywodraeth chi wedi ymdrin ag argyfwng COVID?
Diolch i Neil McEvoy am y cwestiwn. Mae’n amlwg fod yr hyn sydd wedi digwydd mewn cartrefi gofal yn drasiedi lwyr, ac mae’r Llywodraeth yn cydymdeimlo â’r holl breswylwyr a’r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt. Nid oes unrhyw amheuaeth ynghylch y drasiedi sydd wedi digwydd. Rwy'n credu y bydd yr Aelod yn cydnabod mai aelodau hŷn a mwy agored i niwed o’r gymdeithas yw’r mwyafrif o'r unigolion sy'n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru, ac maent yn un o'r grwpiau sy'n wynebu'r perygl mwyaf o ganlyniadau difrifol yn sgil dal y clefyd.
Awgrymodd y dadansoddiad a wnaed gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, i edrych ar y ffactorau risg ar gyfer yr achosion o COVID-19 mewn cartrefi gofal, fod effaith rhyddhau o ysbytai ar achosion mewn cartrefi gofal yn isel iawn. Hefyd, cafwyd ymchwil ddiweddar gan Brifysgol Abertawe sydd wedi olrhain taith cleifion o'r ysbyty ar ôl eu rhyddhau i gartrefi gofal, ac amcangyfrifir y gallai hyd at 1.8 y cant o'r cleifion a ryddhawyd o ysbytai i gartrefi gofal fod wedi bod yn cario'r haint. A'r ffactorau a ddylanwadodd ar y canlyniad mewn gwirionedd oedd maint cartref gofal o ran nifer y gwelyau cofrestredig yn ogystal â nifer yr achosion o COVID-19 yn y gymuned, a hynny a gafodd yr effaith fwyaf ar nifer y marwolaethau. Ond beth bynnag a achosodd hyn, mae'n drasiedi ac wrth gwrs, rwy'n cefnogi ymchwiliad i pryd a pham y digwyddodd hyn. Rwy'n credu'n sicr mai dyna'r peth iawn i'w wneud a rhaid inni ddysgu o'r hyn sydd wedi digwydd.
Weinidog, un o'r pethau sy'n helpu i ddiogelu preswylwyr cartrefi gofal, wrth gwrs, yw llwyddiant y rhaglen frechu mewn cartrefi gofal ledled Cymru. Ond mae yna unigolion a fydd wedi derbyn eu dos cyntaf mewn cartref gofal ac yna wedi dychwelyd i leoliad gofal gwahanol, eu cartref eu hunain weithiau, heb fod wedi cael ail ddos. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod yr unigolion hynny’n cael eu holrhain yn briodol fel y gallant gael eu hail ddos? Nid yw’n ymddangos bod nifer o etholwyr yn fy ardal i wedi cael eu galw’n ôl am yr ail ddos pwysig hwnnw i roi'r amddiffyniad llawn y gall y brechlyn ei gynnig.
Diolch i Darren Millar am y cwestiwn hwnnw. Mae'r rhaglen frechu yn parhau i fynd rhagddi'n dda. Mewn cartrefi gofal, mae bron i 96 y cant o drigolion cartrefi gofal bellach wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn, sy'n gynnydd mawr. Mae'n gwneud pwynt pwysig am bobl yn symud i wahanol leoliadau a sicrhau bod y dos dilynol yn cael ei roi, a byddwn yn sicr yn rhoi camau ar waith i sicrhau ein bod yn rhybuddio lleoliadau ynghylch y posibilrwydd hwnnw fel y gellir dod o hyd i'r bobl hyn. Nid wyf wedi cael gwybod am unrhyw ddigwyddiadau fy hun, ond os yw'r Aelod wedi cael gwybod am ddigwyddiadau o'r fath mae'n amlwg yn bwysig iawn ein bod yn mynd ar drywydd y rheini.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau ac, yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr, Angela Burns.
Diolch, Lywydd. Diolch. Weinidog, rwy’n credu bod eich blaengynllun COVID-19 a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn grynodeb teg iawn o'r sefyllfa sy'n ein hwynebu yng Nghymru heddiw. Rwy'n credu ei fod yn amlinellu'n daclus yr heriau sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol. Ond rwyf hefyd yn teimlo ei fod yn brin iawn o atebion allweddol y mae'n rhaid i ni eu gweld. Felly, er enghraifft, a allech chi egluro pa gynlluniau penodol sydd gennych ar waith i ymdrin â'r argyfwng sy’n gwaethygu mewn perthynas ag amseroedd aros ar gyfer llawdriniaethau dewisol?
Wel, mae arweinwyr clinigol yn gweithio drwy’r cynlluniau a'r manylion hynny. Roeddwn yn ffodus iawn i gael sgwrs ddefnyddiol iawn gydag arweinwyr clinigol a phrif weithredwr y GIG yr wythnos diwethaf, ac fe aethom drwy'r ffyrdd bwriadol sydd gennym i geisio newid y sefyllfa. Felly, pan fydd y cynllun yn sôn am yr angen i newid rhai o'n ffyrdd o weithio, mae'n cydnabod na allwn ddychwelyd at geisio prynu gweithgaredd a dim ond mater o daro bargen gyda'r sector annibynnol. Felly, rydym yn mynd i fod angen atebion lleol, atebion rhesymol, atebion wedi’u cyfarwyddo’n genedlaethol. Nid oes cynllun cyflawni gweithredol cadarn ar waith yn awr. Daw hynny yn sgil y fframwaith ac fe ddaw yn y cynlluniau nid yn unig gan y byrddau iechyd, ond fel y dywedaf, mae angen sicrhau troshaenau lleol a rhanbarthol.
Y rheswm arall yw nad ydym wedi cefnu ar y pandemig eto. Felly, mewn gwirionedd, mae'r rhestrau'n mynd i gynyddu cyn i ni gyrraedd y pwynt hwnnw. Mae hynny'n rhannol oherwydd bod gennym sefyllfa, fel y gwyddoch, lle na all y GIG weithio yr un mor effeithlon yn weithredol, am fod gennym fesurau ychwanegol ar waith o hyd, gofynion profi a chyfarpar diogelu personol, ac rydym hefyd yn dal i fod mewn sefyllfa lle na allwn droi’n ôl at yr holl weithgaredd dewisol sy'n dal i fod wedi’i ohirio—ac unwaith eto, fe fyddwch chi'n gwybod hyn oherwydd gwn eich bod yn edrych ar y ffigurau—am fod ein hunedau gofal critigol yn dal i fod ar fwy na 100 y cant. Felly, gallwch ddisgwyl i fwy o gynlluniau gweithredol gael eu cyflawni, pwy bynnag yw'r Llywodraeth nesaf, a chaiff y gwaith hwnnw ei wneud gan arweinwyr clinigol, ynghyd â byrddau iechyd, a bydd yn rhaid i bwy bynnag yw'r Gweinidog iechyd nesaf benderfynu sut i gefnogi'r rheini a gwneud dewisiadau ynglŷn â meysydd lle mae angen i fyrddau iechyd weithredu ar eu pen eu hunain neu gyda'i gilydd, ac rwy'n credu y bydd y gwaith yn galw am elfen angenrheidiol o gyfarwyddyd gan bwy bynnag yw'r Gweinidog iechyd nesaf.
Rydych chi'n siarad am bwysigrwydd cynlluniau gweithredol, ac rwy'n cytuno â chi ei bod hi'n bwysig iawn gweithio gyda'r holl randdeiliaid i ddrafftio cynlluniau gweithredol gwirioneddol gyflawnadwy. Wrth gwrs, er mwyn gwneud y cynlluniau gweithredol hynny'n wirioneddol gadarn, mae'n rhaid i chi gael data da a gwybodaeth gydlynol wirioneddol gyfredol ac rwy'n falch iawn fod eich blaengynllun COVID-19 yn cydnabod hynny, ac rwy’n meddwl bod gennych bennod gyfan ar sut y gallwn wella a defnyddio ein data. Felly, a wnewch chi wrando hefyd ar alwadau sefydliadau, fel Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, sy'n gofyn, nid yn unig am fodelu a chyhoeddi amcanestyniadau ar nifer y bobl sydd angen llawdriniaeth yng Nghymru—oherwydd maent yn dweud nad yw hynny'n glir ac nid ydym yn glir faint o lawdriniaethau dewisol a llawdriniaethau eraill a gafodd eu gohirio neu eu canslo’n llwyr oherwydd y pandemig—ond hefyd maent yn gofyn i chi gyhoeddi lefelau gweithgaredd llawdriniaethau wedi'u cynllunio yn fisol ar gyfer y byrddau iechyd yng Nghymru i annog adferiad gweithgaredd llawfeddygol a sicrhau mynediad cyfartal at wasanaethau llawfeddygol i gleifion? Mewn geiriau eraill, dwyn y byrddau iechyd i gyfrif ar y mater hwn.
Wel, roedd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn y cyfarfod a ddisgrifiais gydag arweinwyr clinigol ac mewn gwirionedd mae'r canllawiau y maent wedi'u cyhoeddi wedi bod o gymorth i ganiatáu i rywfaint o weithgaredd barhau mewn gwahanol rannau o Gymru, ond mae'n adlewyrchu realiti ein sefyllfa ar lawr gwlad, nid dim ond gyda COVID, ond gyda ffactorau niweidiol eraill sy'n dod i mewn. Oherwydd rwy'n credu mai rhan o hyn yw, rydych chi'n iawn ynglŷn â data a deall beth yw'r data hwnnw, ond mae'n dal i fod yn ymwneud â'r penderfyniadau a'r ddealltwriaeth o ble mae pobl ar y rhestr aros honno. Bydd rhai pobl sy'n flaenoriaeth glinigol uwch a'r ddealltwriaeth o sut y mae hynny'n cael ei wneud i ymdrin â phobl er mwyn osgoi cymaint â phosibl o niwed, a bydd hynny'n wahanol mewn gwahanol feysydd o'r gwasanaeth. Ac unwaith eto, bydd yr Aelod yn gwybod y gall gohirio triniaeth mewn rhai meysydd arwain at niwed na ellir ei wrthdroi, er enghraifft, colli golwg. Mewn meysydd eraill, gall arwain at anesmwythyd a dirywiad yn llesiant yr unigolyn, os ydych yn aros am lawdriniaeth i gymal, er enghraifft. Ond gellir gwella'r niwed hwnnw. Felly, mae'n fater o ddeall sut i flaenoriaethu'r rhestr aros ac yna deall sut rydych yn barnu'n deg lefel y gweithgarwch y mae pob sefydliad yn ei gyflawni.
Felly, byddwn yn fwy na pharod i barhau'r sgyrsiau a gawsom eisoes gyda Choleg Brenhinol y Llawfeddygon ar sut y gallwn fod yn agored ac yn dryloyw ynglŷn â'r lefelau gweithgaredd sy'n cael eu hailgychwyn, ond peidio â defnyddio, 'Rydych chi rywle ar dabl cynghrair ac mae'n rhaid i chi symud i rywle arall' syml, oherwydd, fel y dywedais, nid yw'r pandemig wedi dod i ben eto. Pan fyddwn wedi symud y tu hwnt i'r pandemig, yna, iawn, rwy'n credu y bydd mwy a mwy o ddata a mwy a mwy o ddisgwyliad o ran fy ymateb i'ch cwestiwn cyntaf: sut rydym wedi llwyddo i baratoi gwahanol ffyrdd o weithio i ddarparu'r lefelau gofynnol o weithgaredd, tra'n gofalu ar yr un pryd wrth gwrs am ein staff a fydd wedi ymlâdd pan ddaw'r pandemig i ben yn y pen draw?
Mae arnaf ofn mai dyma lle rwy'n anghytuno â chi braidd, oherwydd mae pawb yn sôn am 'pan fydd y pandemig ar ben', ac rwy'n credu ein bod wedi mynd heibio i hynny—rydym wedi mynd heibio i'r argyfwng. Rydym bellach mewn sefyllfa lle mae hyn yn endemig. Rydym yn mynd i gael sefyllfa lle rydym yn mynd i fod yn y sefyllfa hon am amser hir iawn. Ni allwn barhau i ddweud, 'O, rydym mewn argyfwng; rydym mewn argyfwng—sut mae ymdopi â hynny?' Mae'n rhaid i ni edrych y tu hwnt i hynny.
Roeddwn yn meddwl bod blaenraglen waith COVID-19 yn cynnwys rhai pethau da, ond daw'n ôl at rai o'r materion a welsom mewn gwirionedd pan wnaethom y grŵp seneddol trawsbleidiol ar sut i ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol. Mae yna lawer o, 'Rydym yn gwybod beth yw'r heriau', ond nid oes llawer o, 'Sut rydym ni'n mynd i'w datrys?' Ac rydych chi eich hun newydd sôn am ein staff lluddedig yn y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol. A gwrandewais ar gyfarwyddwr y Coleg Nyrsio Brenhinol neithiwr yn y digwyddiad coffa yn sôn am ba mor lluddedig ac wedi'u trawmateiddio y mae cynifer o'r staff yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Ac rwy'n poeni, wrth ddarllen y blaengynllun COVID-19 hwn—mae'n sôn am, 'Mae gennym brinder gweithlu'; wel, mae'n fwy na phrinder bach yn y gweithlu. Sut y gallwn reoli hynny yn ogystal â chreu lle i ganiatáu i'r rheini sydd wedi bod yn gweithio mor galed dros y flwyddyn a aeth heibio ac sydd wedi ymlâdd i'r fath raddau—sut y gallwn roi amser iddynt wella a dychwelyd a dechrau mynd ar drywydd yr holl lawdriniaethau dewisol hyn? Ac nid oedd llawer o sôn am bolisïau recriwtio, polisïau ailhyfforddi, polisïau cadw staff. Rydych chi'n gwybod am ein cynllun ni, mae gennym bolisi recriwtio, cadw ac ailhyfforddi cryf iawn. Ni welais lawer o hynny. A allwch roi rhywfaint o drosolwg inni o sut y gallwch gryfhau'r gweithlu gweithgar ond lluddedig hwnnw?
Gyda phob parch, nid wyf yn meddwl ein bod ni wedi cyrraedd pwynt lle mae COVID bellach wedi'i reoli ac yn endemig. Rwy'n credu mai dyna lle byddwn yn ei gyrraedd, ond nid wyf yn meddwl ein bod ni yno eto. Fel y dywedais, pan fo gofal critigol yn dal i weithredu ar dros 100 y cant o'i gapasiti, a niferoedd sylweddol o gleifion COVID positif yn dal i fod gennym yn ein hysbytai, nid ydym yno eto. Ond rwy'n credu ein bod ar y trywydd iawn, ac mae pob cam o lacio'r cyfyngiadau'n golygu bod maes gweithgaredd arall y gellir ei adfer mewn bywyd ehangach ac mae'n ein rhoi ymhellach ar y llwybr i allu ymdopi â sefyllfa normal newydd ar gyfer ein system iechyd a gofal. Felly, rwy'n meddwl efallai fod gennym bersbectif gwahanol ynghylch pa bryd y daw'r pwynt pan fydd gweithgaredd mwy normal yn gallu ailgychwyn, a chyda phob parch, nid wyf yn credu bod y ffigurau'n cadarnhau ein bod ar y pwynt hwnnw yn awr.
Ond rwy'n gwybod bod realiti'r ffordd y rheolwn ac y gofalwn am ein staff yn eithriadol o bwysig. Felly, fe welwch sylwadau ar hynny yn y cynllun adfer. O ran y manylion, credaf mai mater i faniffestos yr etholiad yw hynny. Ond mae gennym hanes da iawn o ran niferoedd y staff rydym wedi'u recriwtio, hyfforddi a chadw dros y tymor diwethaf hwn a thu hwnt. Rydym wedi llwyddo i sicrhau cynnydd o dros 10,000 yn niferoedd staff y GIG dros dymor y Senedd hon yng Nghymru. Mae hynny'n dangos manteision recriwtio, cadw a hyfforddi cyson. Felly, rwy'n credu y gall pobl ymddiried yn ein cyflawniad, oherwydd mae'n un cryf.
Ond hyd yn oed gyda hynny, a hyd yn oed gyda mantais y buddsoddiad ar gyfer y dyfodol y disgwyliaf y byddwch yn ei weld yn ein maniffesto, mae gennym dasg wirioneddol sylweddol o hyd o ran gofalu am ein staff a pheidio â gosod disgwyliadau afrealistig ynghylch pa mor gyflym y bydd yr ôl-groniad enfawr sy'n bodoli yma'n cael ei leihau a'i ddileu. Rwy'n credu y bydd yn cymryd tymor Senedd llawn yng Nghymru. Dyna'r gonestrwydd y credaf fod angen i bobl Cymru ei glywed. Dyna'r gonestrwydd y credaf fod angen i'n staff ei glywed hefyd, nad ydym yn mynd i ddisgwyl iddynt gael gwared yn gyflym ar yr holl ôl-groniad enfawr sydd wedi cronni o reidrwydd er mwyn atal pobl rhag colli eu bywydau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac fe fyddwch yn clywed mwy gennym ni, gan Lafur Cymru, pan ddaw'n adeg lansio'r maniffesto, a chredaf y byddwch yn clywed digon am gynlluniau recriwtio a chadw staff yn y dyfodol a fydd yn cael eu hariannu ac yn gwbl gyflawnadwy.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Wel, yn y sesiwn gwestiynau iechyd a gofal olaf yn y Senedd yma, gaf i ddefnyddio'r cyfle yma i ddiolch i'r Gweinidog a'i swyddogion am eu cydweithio dros y cyfnod diweddar? Dydyn ni ddim wastad wedi gweld lygad yn llygad, ond tra ydw i wedi bod yn barod iawn i gefnogi'r Llywodraeth pan ydw i'n meddwl eu bod nhw wedi cael pethau'n iawn dros y flwyddyn ddiwethaf, rydw i'n gwybod bod y Gweinidog yn sylweddoli pwysigrwydd sgrwtini ac yn gwerthfawrogi rôl gwrthblaid yn ceisio dylanwadu ar bolisi a newid cyfeiriad pan ydyn ni'n meddwl bod angen hynny. Dyna pam, pan oedd y Gweinidog yn dweud bod yna ddim achos dros ysgol feddygol i'r gogledd, roedden ni'n benderfynol o barhau i geisio bwrw'r maen i'r wal, a rydyn ni'n falch o weld newid meddwl ar hynny.
At COVID, mae'r sefyllfa yng Nghymru'n gwella, mae hynny'n dda o beth. Mae yna broblemau yn ardal Merthyr Tudful ac yn fy etholaeth i, yn digwydd bod. Mae isio cefnogi'r ardaloedd hynny rŵan. Mi oedd yna dîm da o wirfoddolwyr allan yng Nghaergybi y bore yma yn rhannu profion COVID o dŷ i dŷ. Roeddwn i'n un ohonyn nhw, yn digwydd bod, ond mae o'n bryder i fi bod proses fel yma, un, yn or-ddibynnol ar wirfoddolwyr a, dau, yn rhoi straen aruthrol ar adnoddau staffio awdurdod lleol. Ydy'r Gweinidog yn cytuno bod angen edrych ar ffyrdd o roi rhagor o gefnogaeth i gynghorau wrth ymgymryd â thasg fel hyn, achos os oes yna ymyriadau fel hyn eu hangen dro ar ôl tro mewn gwahanol gymunedau, rydw i'n ofni bod hynny yn mynd i fod yn anodd i'w ddelifro?
Wel, rwy'n credu bod llawer o wersi i'w dysgu, nid yn unig o'r hyn rydym yn gorfod ei wneud heddiw ac yn y dyddiau i ddod mewn perthynas â Chaergybi—nid Ynys Môn i gyd, ond o amgylch Caergybi, a'r un peth mewn rhannau o Ferthyr Tudful. Rydym wedi dysgu hefyd o'r peilot a gynhaliwyd gyda'r tri awdurdod lleol ar draws Cwm Taf Morgannwg gyda mwy o brofion cymunedol, ac rwy'n siŵr y byddwch wedi gweld yr adolygiad cadarnhaol iawn o'r rhaglen brofi cymunedol honno. Ac mewn gwirionedd, o fewn hynny, rwy'n credu ein bod wedi llwyddo i ymgysylltu'n fwy llwyddiannus â'r cyhoedd mewn perthynas â'r profion hynny ar gyfer cymunedau cyfan na'r cynlluniau peilot yn Lerpwl a Glasgow. Mae hynny'n newyddion da iawn. Llwyddwyd i dynnu sylw at y ffaith ein bod, oherwydd hynny, yn credu ein bod wedi nodi mwy o achosion ac wedi atal mwy o bobl rhag gorfod mynd i'r ysbyty, gan gynnwys atal nifer o farwolaethau yn ôl pob tebyg.
Mae hynny'n golygu, serch hynny, fod angen inni ddysgu sut y mae angen inni gefnogi awdurdodau lleol. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud â chyd-gymorth, mae rhywfaint ohono'n ymwneud â'r drafodaeth barhaus sydd gennym rhwng iechyd, llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru ynglŷn â sut rydym yn eu cefnogi. A gallaf ddweud yn onest fy mod wedi gweld arweinwyr llywodraeth leol yn bod yn adeiladol ac yn onest ni waeth beth fo'u plaid, ac nid ydym bob amser wedi cytuno ar bob pwynt, ond rydym wedi dod o hyd i atebion synhwyrol yn fy marn i ar gyfer symud ymlaen, ac fel arfer, rydym yn dal i ddysgu wrth i ni fynd. Y newyddion da, serch hynny, yw ei bod yn ymddangos bod y cynnydd yng Nghaergybi ac mewn rhannau o Ferthyr Tudful yn gwastatáu gyda gostyngiad yn y gyfradd achosion ym Merthyr Tudful yn y ffigurau heddiw yn enwedig. Mae hynny'n newyddion da, nid yn unig i bawb gyda'r potensial o agor gyda mwy o deithio o amgylch Cymru, ond newyddion da i'r cymunedau yn yr ardaloedd sy'n edrych ymlaen at y cam nesaf yn ein llwybr allan o'r cyfyngiadau symud.
Mae'r wythnos yma'n wythnos o gofio, wrth gwrs, ac yn wythnos o fyfyrio flwyddyn union ar ôl dechrau'r cyfnod clo cyntaf. Mae Prif Weinidog Prydain wedi cyfaddef ei fod o wedi gwneud rhai penderfyniadau anghywir wrth ddelio efo'r pandemig, ond dwi ddim am ofyn y cwestiwn cyfatebol i'r Gweinidog. Beth dwi eisiau i'r Gweinidog ei wneud ydy edrych yn ôl ar yr 20 mlynedd a mwy o reolaeth Llafur o'r gwasanaeth iechyd a gofal yn arwain at y pandemig. Un wers rydyn ni wedi'i dysgu ydy bod gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru ddim yn ddigon gwydn i ddelio efo pandemig. Ydy'r Gweinidog yn derbyn na all yr un Llywodraeth arall fforddio gadael gwasanaethau hanfodol mewn cyflwr mor fregus eto?
Ar ddechrau'r pandemig, roedd iechyd a gofal a gwasanaethau cyhoeddus ehangach yn dal i wella ar ôl degawd o gyni ac fe fyddwch yn cofio'r dewisiadau anodd iawn y bu'n rhaid i'r Llywodraeth ac Aelodau eu gwneud wrth gefnogi cyllidebau ar gyfer symud arian o gwmpas. Credaf mai blaenoriaethu'r gwasanaeth iechyd oedd y peth iawn, ond achosodd hynny anawsterau gwirioneddol i lywodraeth leol ym mhob rhan o'r wlad gan ei fod yn golygu gostyngiad yn incwm llywodraeth leol. Er nad oedd y toriadau y bu'n rhaid iddynt ymdopi â hwy ar y raddfa y bu'n rhaid i gymheiriaid yn Lloegr ei hwynebu, roeddent yn dal i fod yn anhygoel o anodd serch hynny ac roeddent yn rhoi ein partneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus mewn sefyllfa lai teg nag y byddech yn ei ddymuno; roeddent yn llai cadarn nag y dylent fod. Yr un peth gyda'r heddlu, wrth gwrs, sydd wedi bod yn bartneriaid allweddol yn yr ymateb i'r pandemig gyda gostyngiad sylweddol yn y gweithlu a phlismona rheng flaen yn ogystal.
Felly, roeddem yn fwy agored i niwed nag y byddwn wedi dymuno i ni fod ar ddechrau'r pandemig hwn. Er gwaethaf hynny, yr hyn a welsom gan arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus lleol yw parodrwydd gwirioneddol i gydweithio ac mae'n fantais wirioneddol fod hynny wedi tynnu iechyd a llywodraeth leol ynghyd â phartneriaid eraill oherwydd yr angen, a chredaf fod honno'n sail dda i'r bobl hynny gydweithio.
Rydym yn anghytuno ynglŷn ag a ddylid ad-drefnu cyfrifoldebau iechyd a gofal cymdeithasol yn sylweddol. Yn fy marn i, dyna'r peth anghywir i'w wneud—gyda phandemig yn dal i fynd rhagddo—cael ad-drefnu mawr. Ond rwy'n credu bod sail dda nid yn unig i ganmol ymateb iechyd a llywodraeth leol gyda'i gilydd, ond i fod eisiau adeiladu ar hynny yn y math o gydweithio y gwelsom mewn gwirionedd nad oedd mor hawdd ag y dymunem ei weld ar y raddfa a'r cyflymder rydym am ei weld ar gyfer y trawsnewid sydd ei angen o hyd i sicrhau bod iechyd a gofal cymdeithasol yn system wirioneddol gynaliadwy sy'n gweithio gyda'n gilydd.
Rhaid ichi gofio i'r sector iechyd a gofal yng Nghymru gychwyn ar ddegawd o gyni ar ôl degawdau o esgeulustod gan Lywodraethau Llafur a Cheidwadol olynol yng Nghaerdydd ac yn San Steffan. Mae'n amlwg i mi nad oedd gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru yn barod ar gyfer y pandemig hwn. Roedd iechyd y cyhoedd a'r sector gofal yn arbennig wedi'u hesgeuluso. Gwyddom fod cynllunio ar gyfer pandemig yn druenus o bell o ble y dylai fod wedi bod ar draws iechyd a gofal. Roedd llawer gormod o ddibyniaeth yn fy marn i ar ymroddiad llwyr staff a fyddai bob amser yn barod i fynd yr ail filltir i ofalu am gleifion, ond a oedd wedi'u gorweithio a heb eu cefnogi ddigon. Dyna pam na all adferiad COVID yn awr olygu mynd â ni'n ôl i'r sefyllfa roeddem ynddi o'r blaen. Nid wyf eisiau ad-drefnu chwaith; rwyf am weld ffocws newydd a dyna pam y mae Plaid Cymru am arwain y gwaith o drawsnewid iechyd a gofal yng Nghymru, ac ar ôl 20 mlynedd a mwy o fethiant i sicrhau'r trawsnewid roedd ei angen ar iechyd a gofal yng Nghymru cyn COVID, a wnaiff y Gweinidog gytuno nad oes rheswm i bobl gredu y gall Llafur arwain y trawsnewid hwnnw ar ôl COVID ychwaith?
Rwy'n credu ei bod yn ymgais braidd yn ffôl i geisio ailysgrifennu hanes yr hyn sydd wedi digwydd gyda'r gwasanaeth iechyd a chyllid a gwasanaethau cyhoeddus. Cofiaf dyfu fyny'n ddyn ifanc gyda 18 mlynedd o'r Ceidwadwyr mewn grym yn y DU. Cofiaf ddatganoli'n cael ei greu, cofiaf y chwistrelliad sylweddol o arian cyhoeddus i iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill a ddigwyddodd gyda dyfodiad Llywodraeth Lafur yn 1997. Manteisiodd y sefydliad hwn ar ddull gwahanol iawn o ymdrin â gwariant cyhoeddus a buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus oherwydd bod Llywodraeth Lafur ar draws y Deyrnas Unedig, ac nid oes diben ceisio honni nad oedd hynny'n wir—mae'n ffaith, a dyna pam y gwelsom fuddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau cyhoeddus, yn union fel y mae'n ffaith ein bod wedi gweld degawd o gyni gan Brif Weinidog a Changhellor Ceidwadol. Ffeithiau yw'r rheini.
O ran cynllunio ar gyfer pandemig, roedd ein gwaith cynllunio wedi'i anelu at rywbeth tebycach i bandemig ffliw, a oedd yn y llond llaw uchaf o risgiau i'r Deyrnas Unedig. Yna, gwelsom rywbeth nad oedd yn ymddwyn yn union fel y mae ffliw wedi'i wneud, felly mae pob un ohonom wedi gorfod dysgu—nid yn unig yma, ond ar draws Ewrop—a chredaf fod yr ymgais i geisio cael safbwynt unigryw o feirniadol ar gynllunio ar gyfer pandemig yma yng Nghymru braidd yn gyfeiliornus, ond gall y cyhoedd benderfynu drostynt eu hunain beth yw eu safbwynt ar hynny. Rydym wedi gweld ymateb aruthrol ar draws y gwasanaethau cyhoeddus a chan y cyhoedd eu hunain, a'r sector preifat, sydd wedi cefnogi ein gwasanaeth iechyd gwladol. Credaf fod y bobl yn ymddiried yn gyffredinol ac yn gwerthfawrogi'r arweiniad y mae'r Llywodraeth hon wedi'i ddarparu i Gymru drwy'r pandemig, a phan ddaw'n fater o bwy rydych yn ymddiried ynddynt i gwblhau'r dasg anorffenedig o'n gweld drwy'r pandemig hwn, rwy'n hyderus y bydd pobl Cymru yn cydnabod y rhan y mae Llafur Cymru wedi'i chwarae yn hynny, ac yn adnewyddu eu ffydd a'u hymddiriedaeth ynom i arwain ein gwlad yn ei blaen ac i gael uchelgais gwirioneddol ar gyfer adeiladu Cymru'n ôl yn well.
Rwyf wedi mwynhau ein sgyrsiau ar draws y fforwm penodol hwn. Nid wyf yn gwybod a oes gennych gwestiwn atodol yn nes ymlaen, ond nid ydym bob amser wedi cytuno, ac edrychaf ymlaen at weld pobl Cymru yn ffurfio'u barn eu hunain ynglŷn â phwy ddylai wasanaethu yn y rôl hon ac eraill ar ôl yr etholiad ar ddechrau mis Mai.
3. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru? OQ56499
Un o uchelgeisiau canolog y Llywodraeth hon yw gwneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau annerbyniol mewn canlyniadau iechyd rhwng ein cymunedau mwyaf a lleiaf cefnog. Byddwn yn parhau i ddefnyddio dull Llywodraeth gyfan o fynd i'r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldebau iechyd.
Weinidog, mae anghydraddoldebau iechyd yn y DU a Chymru yn peri cryn bryder. Mae dynion yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yn byw 10 mlynedd yn llai ar gyfartaledd na'r rheini yn y cymunedau lleiaf difreintiedig, ac i fenywod, mae'r gwahaniaeth bron yn wyth mlynedd. Ac o ran blynyddoedd iach bywyd, mae'r gwahaniaeth bron yn 19 mlynedd, ac mae hynny'n wir am y ddau ryw. Felly, gyda'r math hwnnw o gefndir, dyna pam y cyfarfu Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru ag oddeutu 30 o sefydliadau i edrych ar y sefyllfa hon, ac i ystyried ymchwil a ddangosai y gallai penderfynyddion cymdeithasol iechyd neu afiechyd—tai, addysg a thlodi—fod yn bwysicach i ganlyniadau iechyd na gofal iechyd ei hun, neu'n wir, dewisiadau ynghylch ffordd o fyw. Felly, wrth edrych ar y sefyllfa hon, credant y dylai Llywodraeth Gymru fabwysiadu dull mwy trawsbynciol a chynnwys pob Gweinidog a phob adran i newid yr hyn sydd angen ei newid er mwyn mynd i'r afael â'r sefyllfa gwbl annerbyniol hon.
Felly, clywais yr hyn a ddywedoch chi, Weinidog, am ddull Llywodraeth gyfan, ond o ran yr awgrymiadau a’r cynigion hynny gan y coleg brenhinol a’r oddeutu 30 o sefydliadau hynny, a wnewch chi ystyried yn ofalus yr hyn y credant sydd ei angen wrth benderfynu sut y gallwn wneud rhagor o gynnydd ar y materion a'r problemau hirsefydlog hyn?
Ie, credaf fod adroddiad Coleg Brenhinol y Meddygon yn ddefnyddiol i'n hatgoffa o'r angen i weithredu mewn modd trawslywodraethol, gan nad yw'r rhan fwyaf o anghydraddoldebau gofal iechyd yn deillio o weithgarwch gofal iechyd, maent yn deillio o'r penderfynyddion allanol hynny. Dyma pam, er enghraifft, fod Sefydliad Iechyd y Byd wedi cydnabod effaith uniongyrchol ein gwelliannau i ansawdd tai ar ofal iechyd. Mae'r ffaith bod cael cartref cynnes o ansawdd da yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'ch iechyd wedi cael ei gydnabod yn rhyngwladol, ac mae ein dull o weithredu yma yng Nghymru wedi cael ei ganmol. Rwy'n falch o ddweud y gallwch weld yr arweinyddiaeth barhaus honno gan Julie James fel ein Gweinidog tai, yn y ffordd y caiff ansawdd y stoc dai ei wella a'r ôl troed amgylcheddol hefyd. Gallwch weld hynny yn y gwaith ar draws addysg, y gwaith rydym wedi'i wneud a'r sgyrsiau ddoe gyda Kirsty Williams a Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am yr ymagwedd ehangach tuag at iechyd plant a phobl ifanc, a'u llythrennedd iechyd ar gyfer iechyd meddwl a chorfforol. Gallwch ei weld yn y gwaith y mae Ken Skates wedi'i wneud ar y contract economaidd, yn sicrhau y ceir dealltwriaeth fod iechyd meddwl a chorfforol yn ganlyniadau allweddol i berthynas waith dda, lle mae gan bobl waith da, telerau ac amodau da. Os edrychwch ar anghydraddoldebau gofal iechyd, maent bob amser yn cydredeg ag anghydraddoldebau economaidd yn ogystal. Rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd, cynnydd y credaf y gallwn fod yn falch ohono. Gwyddom fod llawer mwy i'w wneud a chyfle gwirioneddol i wneud hynny wrth inni geisio ailadeiladu Cymru ar ôl y pandemig hwn, i orffen y gwaith gyda’r pandemig ac ailadeiladu Cymru well a thecach.
Diolch, Weinidog. Ydy, mae'n wir iawn fod yn rhaid mabwysiadu dull trawsbynciol a thrawslywodraethol er mwyn mynd i'r afael â'r broblem sylweddol hon. Mae'r pandemig wedi amlygu anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru yn glir, ac wedi datgelu canlyniadau methiant hirsefydlog i fynd i'r afael â'r broblem. Ni fu erioed cymaint o angen mynd i’r afael ag achosion cymdeithasol anghydraddoldebau iechyd, fel y dywedoch chi, ac efallai na ddaw gwir raddfa goblygiadau’r pandemig hwn i iechyd a lles pobl Cymru yn glir am sawl blwyddyn eto.
O ran mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau yn ein cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn benodol, Weinidog, sut rydych chi'n edrych ar wella darpariaeth gofal iechyd ar gyfer ein cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn sylweddol, darpariaeth gofal iechyd sy'n parchu gwahaniaethau diwylliannol ac sy'n cydnabod y nifer o ieithoedd sy'n cael eu siarad yn ein cymunedau fel y gallwn greu cydraddoldeb gwirioneddol yn y ddarpariaeth?
Wel, ar y mater penodol ynghylch cymunedau o darddiad du ac Asiaidd yma yng Nghymru, rydym wedi gwneud cryn dipyn i gydnabod ein hangen i wella ein gwasanaethau, boed ar gyfer iechyd meddwl neu'n iechyd corfforol. Rydym wedi dysgu mwy fyth ac yn gwneud mwyfwy o waith drwy’r pandemig—er enghraifft, gwaith yr Athro Emmanuel Ogbonna ar ddeall mwy am yr anghydraddoldebau hynny, gwaith yr Athro Keshav Singhal yn cyflawni gwaith asesu risg, yr enghraifft gyntaf yn y DU sy’n cael ei chyflwyno i rannau eraill o'r sector preifat, ond hefyd y broses o gyflwyno’r brechlyn hefyd. Ac o gofio mai John Griffiths a ofynnodd y cwestiwn cychwynnol, efallai ei bod yn briodol sôn am y gwaith y mae John Griffiths a Jayne Bryant wedi'i wneud gyda Chyngor Dinas Casnewydd, gyda'r bwrdd iechyd, ar annog mwy o bobl i gael eu brechiadau, a hefyd ar sicrhau bod y gwasanaeth iechyd a’n systemau gofal ehangach yn ailymgysylltu'n ehangach â gwahanol gymunedau nad ydynt bob amser mor agos at rannau eraill o'r wlad o ran cael mynediad at ofal iechyd o ansawdd da. Felly, mae cynnydd yn cael ei wneud nid yn unig ar un mater, ond i symud hynny yn ei flaen yn fwy cyffredinol.
Fodd bynnag, ar heriau anghydraddoldebau gofal iechyd, byddwn yn dweud wrth yr Aelod, ac unrhyw Geidwadwr arall sydd am geisio honni nad oes ganddynt gyfrifoldeb yn y maes hwn, fod pob dadansoddiad gwrthrychol yn dangos bod polisïau cyni'r Ceidwadwyr a’u hymosodiadau ar fudd-daliadau a chymorth i bobl o oedran gweithio, gan gynnwys budd-daliadau mewn gwaith, wedi cael effaith ddifrifol ar gynyddu tlodi ac anghydraddoldeb, yn enwedig ar leihau'r gwelliannau a wnaed dros ran gyntaf yr 20 mlynedd diwethaf mewn perthynas â threchu tlodi plant, gan fod pob un ohonynt wedi’u colli diolch i’r dewisiadau a wnaed gan ei phlaid. Felly, rhywfaint o hunanfyfyrdod, efallai, ar rôl polisïau Ceidwadol a'r realiti rydym wedi gorfod ymladd yn ei erbyn er mwyn dadwneud y difrod y mae ei phlaid wedi dewis ei achosi.
Tybed a yw'r Gweinidog yn cytuno y gall lleoli cyfleusterau gofal iechyd o'r radd flaenaf yn ein cymunedau tlotach gyfrannu at y gwaith o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Ac os yw'n cytuno â mi ar hynny, a wnaiff ymuno â mi i longyfarch Cyngor Sir Caerfyrddin a'r holl bartneriaid eraill ar ddatblygiad Pentre Awel yn Llanelli, a fydd wedi'i leoli ynghanol rhai o'r wardiau tlotaf yng Nghymru? Rwy'n siŵr y bydd yn ymwybodol y bydd yn cynnwys canolfan gofal clinigol a fydd yn darparu gofal amlddisgyblaethol, canolfan ymchwil clinigol a chanolfan sgiliau llesiant i ganolbwyntio ar hyfforddiant iechyd a gofal, a chanolbwyntio'r hyfforddiant hwnnw yn arbennig ar recriwtio o'r cymunedau hynny eu hunain. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ymuno â mi i longyfarch pawb sy'n gysylltiedig â hynny, a tybed a yw'n cytuno y gall y mathau hyn o brosiectau wneud gwahaniaeth go iawn yn y cymunedau lle mae fwyaf o'u hangen.
Rwy'n falch o ddweud fy mod wedi trafod y mater gyda'r Aelod etholaeth dros Lanelli, fy nghyd-Aelod yn y Llywodraeth, Lee Waters, ac yn fwy cyffredinol, yr her o fuddsoddi mewn cymunedau ledled y wlad. Ac mae'n enghraifft dda o sut y gellir a sut y dylid dwyn gwasanaethau iechyd a gofal lleol ynghyd i ddarparu cyfleusterau o ansawdd gwell, i fuddsoddi yn y gymuned honno ac i ddarparu gwell gwasanaethau, yn yr un ffordd yn union â'r cyfleuster a agorwyd yn ddiweddar yn Aberpennar a welais gyda’r cyngor a'r Aelod lleol dros Gwm Cynon—mae lobïo ac effeithiolrwydd hynny'n dangos nad yw'n ymwneud ag iechyd yn unig; mae’n ymwneud ag iechyd yn gweithio gyda phartneriaid eraill i ddarparu gwell cyfleusterau. Ac unwaith eto, mae'n mynd yn ôl at y berthynas rhwng iechyd a llywodraeth leol sydd wedi gwella'n sylweddol drwy gydol yr argyfwng, ond cyn hynny hefyd, ac mae cyfle go iawn yma i barhau i fuddsoddi mewn gofal iechyd lleol a darparu cyfleusterau llawer gwell lle mae fwyaf o'u hangen.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at driniaethau canser yn dilyn pandemig COVID-19? OQ56492
Cyhoeddwyd 'Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru - COVID-19: Edrych tua’r dyfodol' ar ddydd Llun 22 Mawrth, ac mae’r Aelod wedi cyfeirio at y ddogfen honno eisoes. Mae’n nodi'r dull y bydd y GIG yn ei ddefnyddio i adfer gwasanaethau fel rhai canser. Rydym hefyd wedi cyhoeddi datganiad ansawdd ar gyfer canser sy'n nodi'r cyfleoedd ar gyfer gwelliant parhaus i wasanaethau canser yn y blynyddoedd i ddod.
Ac mae'n debyg mai hwn fydd y cwestiwn olaf y byddaf yn ei ateb gan yr Aelod, a hoffwn ddweud nad ydym wedi cytuno bob amser, ond rwyf bob amser wedi gwerthfawrogi ymagwedd onest ac uniongyrchol, ac mae ein dadleuon bob amser wedi bod ar sail ymddiriedaeth, lle gwyddom lle rydym yn anghytuno ac mae unrhyw faterion sydd wedi'u rhannu'n gyfrinachol bob amser wedi cael eu trin yn y ffordd honno, a hoffwn ddymuno'n dda iddi ar gyfer y dyfodol.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Rwy'n gwerthfawrogi eich geiriau. Rydych yn garedig iawn ac rwyf am ymateb drwy ddweud diolch am eich tryloywder a'ch gonestrwydd ar rai o'r achlysuron pan ydym wedi gorfod edrych ar rai o'r sefyllfaoedd anodd iawn sy'n wynebu ein gwasanaethau iechyd a chymdeithasol.
Wrth gwrs, un o'r sefyllfaoedd anodd iawn sy'n ein hwynebu yw'r ddarpariaeth o driniaethau canser i bobl drwy'r pandemig. Nawr, mae Cymru wedi bod heb gynllun cyflawni ar gyfer canser ers diwedd y llynedd, a ddydd Llun yr wythnos hon, rhybuddiodd Cynghrair Canser Cymru, nad oedd ganddynt fawr o feddwl o’ch datganiad ansawdd na'ch blaenraglen waith COVID-19, fod gofal canser yng Nghymru mewn perygl heb strategaeth ganser newydd. Roedd y cynllun cyflawni a oedd gennych yn 21 tudalen o hyd, ac yn ei le, cafwyd datganiad sydd oddeutu tair tudalen o hyd. Rwyf wedi ei ddarllen; mae'n llawn o sylwebaeth braf a fawr ddim arall. I ddyfynnu'r gynghrair canser,
nid oes map trywydd clir yn y datganiad ansawdd ar gyfer sut y gall gofal canser wella fel y gall Cymru ddal i fyny â'r gwledydd sy'n perfformio orau, ac yn y pen draw, achub mwy o fywydau.
Yn fwyaf damniol, ânt rhagddynt i ddweud nad ydynt yn credu
fod hwn yn ymateb digon manwl i'r argyfwng presennol ym maes gofal canser, ac nid yw'n nodi uchelgais digonol ar gyfer gwasanaethau canser yng Nghymru.
Weinidog, fe ddywedoch chi fod gennych uchelgais go iawn i Gymru yn eich ateb i Rhun ap Iorwerth, felly a allwch ddweud ychydig mwy wrthym am yr uchelgais go iawn hwnnw ar gyfer gwasanaethau canser, a sut rydych yn ymateb i'r sylwadau damniol braidd am gynlluniau eich Llywodraeth i drin canser dros y blynyddoedd i ddod, pe baech yn ddigon ffodus i ffurfio'r Llywodraeth nesaf?
Wel, rydym eisoes wedi dechrau ar y llwybr tuag at wella canlyniadau i bobl â chanser. Os edrychwch nid yn unig ar y niferoedd ond ar wella canlyniadau yng Nghymru, rydym wedi gwneud cystal â rhannau eraill o'r DU, ac o gofio bod Cymru yn rhan hŷn a thlotach o'r DU, byddech yn disgwyl gweld bwlch posibl yn y gwelliant i'r canlyniadau. Mae hynny'n dangos y cynnydd rydym wedi'i wneud. Fe fyddwch hefyd yn ymwybodol o'r dewis rwyf wedi'i wneud i fabwysiadu dull mwy tryloyw o ddeall ble rydym arni o ran darparu’r gofal sydd ei angen ar bobl gyda'r llwybr canser sengl newydd, a chredaf y bydd hwnnw'n arwain at welliannau. Rydym wedi gweithio ar hynny gyda chlinigwyr canser a Chynghrair Canser Cymru.
Gwnaethom nodi yn 'Cymru Iachach' mai datganiadau ansawdd fyddai'r cam nesaf i sicrhau bod cynlluniau cyflawni ar wahân yn ganolog i atebolrwydd, cynllunio a chynnydd yn ein sefydliadau. Felly, mae'r datganiad ansawdd yn nodi'r canlyniadau a'r safonau disgwyliedig y byddwn yn eu gweld. Ni fwriedir iddo fod yn gynllun cyflawni, yn gynllun gweithredol ynddo'i hun. Fodd bynnag, bydd cynllun gweithredu yn cael ei ddatblygu yn y misoedd nesaf, gyda Chynghrair Canser Cymru a chlinigwyr yn cyfrannu ac yn cymryd rhan yn y gwaith hwnnw. Yna, bydd gweithrediaeth y GIG yn sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni yn y rhan ganolog o ble mae byrddau iechyd yn cyflawni hefyd. Rhan o'n her oedd cael cynllun ar wahân, ar wahân i'r prosesau cynllunio a gweithredu eraill yn y gwasanaeth iechyd. Bydd hyn yn sicrhau bod gwasanaethau canser yn ganolog i hynny, ac atebolrwydd cliriach. Felly, gallwch ddisgwyl gweld manylion gweithredu cynlluniau lefel byrddau iechyd, cynlluniau Felindre, a’r trosolwg cenedlaethol hefyd. Felly, fe welwch ddwy ran wrth i hyn gael ei gyflwyno i gymryd lle’r rhaglen gyflenwi flaenorol, a chredaf y bydd hynny'n atgyfnerthu'r uchelgais sydd gan bob un ohonom ar gyfer gofal canser o ansawdd uchel, a chredaf y bydd honno'n ffordd ddibynadwy o ymdrin â'r gwelliant y mae pob un ohonom yn dymuno’i weld mewn gwasanaethau a chanlyniadau canser.
Weinidog, clywais yr hyn rydych newydd ei ddweud, ond mae etholwr sydd wedi dioddef o ganser y fron wedi cysylltu â mi i ddweud ei bod bellach wedi cael diagnosis o ganser eilaidd y fron—nid yw’n 30 oed eto—a’i bod wedi’i siomi gyda’r datganiad ansawdd, am ei bod yn nodi nad oes unrhyw ddata go iawn ar bobl sy'n byw gyda chanser eilaidd y fron yng Nghymru ac mai dim ond un nyrs arbenigol ar ganser eilaidd y fron sydd i'w gael yng Nghymru. Nawr, rwyf wedi darllen y datganiad ansawdd, ac fel y nodoch chi'n gwbl gywir, ceir cyfeiriad ynddo at gynllun gweithredu treigl sydd i'w ddatblygu—cynllun treigl tair blynedd. Ond mae'n debyg fod pobl yn dymuno gwybod beth yn union y mae hynny'n ei olygu. Felly, pryd y gallwn gael union fanylion y cynllun hwnnw fel bod pobl yn deall yr hyn y bydd angen i’r byrddau iechyd ei gyflawni? A hefyd, yn y datganiad ansawdd, mae'n sôn am y gweithlu, ond amlygwyd y pryderon am y gweithlu yn yr adroddiad gan y grŵp trawsbleidiol ar ganser; pryd y gallwn gael cynllun manwl ar y ffordd rydych hefyd yn mynd i weithredu a chynyddu'r gweithlu er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau hyn ar gael ac yn gweithio i'r bobl?
Wel, credaf eich bod yn gofyn nifer o wahanol gwestiynau yno, felly rwyf am geisio ymdrin â lle rydym arni gyda'r cynllun gweithredu yn gyntaf a'i berthynas â'r datganiad ansawdd ar ganser. Bydd yn rhaid i'r cynlluniau gweithredu nodi sut y byddant yn bodloni'r canlyniadau a'r safonau rydym wedi'u nodi yn y datganiad ansawdd, a dyna'r pwynt. Felly, bydd yn rhaid i bob bwrdd iechyd nodi sut y maent yn bodloni'r disgwyliadau hynny a bydd gan weithrediaeth y GIG rôl hefyd fel yr arweiniad canolog, os mynnwch, y galwodd yr adolygiad seneddol amdano, a gwnaethom nodi ein hymateb yn 'Cymru Iachach', y cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal. Felly, dyna'r llwybr rydym arno a byddwch yn gweld y fframwaith hwnnw wedyn ac fe fydd yn agored, gan y bydd angen i fyrddau iechyd gyhoeddi'r hyn y maent yn mynd i'w wneud.
Bydd gennym hefyd fwy o dryloywder a data o'r llwybr canser sengl wedyn a'r ffigurau y byddwn yn eu darparu ar bob cam. Mae canser yn her amlweddog ac mae'n croesi ystod o feysydd triniaeth eraill. Felly, pan ydym yn sôn am y gweithlu, nid y gweithlu canser yn unig mohono, gan fod llawer o'r llawfeddygon rydym yn sôn amdanynt hefyd yn cyflawni llawdriniaethau eraill, ac mae'r gweithlu diagnostig rydym yn sôn amdano yn gwneud gwaith diagnostig arall hefyd. Er enghraifft, y rhaglen wella ar endosgopi a gyfarwyddir yn ganolog, a fydd yn sicr o fudd i wasanaethau canser, ond i ystod o wasanaethau eraill hefyd. Felly, credaf weithiau ei bod yn anodd dweud mai dim ond gweithlu canser sydd i’w gael. Mae angen inni feddwl, wrth gwrs, am feysydd lle rydym am weld gwelliant parhaus sy’n ymwneud yn fwy penodol â chanser, ond mae hefyd yn effeithio ar y gwasanaeth ehangach hefyd.
Pan fyddwch chi a minnau'n sefyll ar faniffesto i geisio cael ein hailethol i'r lle hwn, rwy'n hyderus y bydd yn cynnwys cynlluniau i ailfuddsoddi yn y gweithlu a chael mwy o'n staff—gan gofio’r lefelau mwyaf erioed o staff y GIG sydd gennym eisoes—y credaf y byddant yn nodi llwybr i barhau â'r gwelliant mewn gwasanaethau canser a welsom dros y tymor diwethaf hwn, ac i fynd i'r afael â'r ôl-groniad gwirioneddol a sylweddol sydd wedi datblygu mewn gwasanaethau canser a gweddill ein GIG o anghenraid yn ein hymateb i'r pandemig dros y flwyddyn ddiwethaf a mwy.
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wella gwasanaethau iechyd i bobl yn y Rhondda? OQ56505
Diolch. Mae Cwm Taf Morgannwg yn parhau i ymateb gydag ystwythder ac arloesedd i’r galw ac i’r pwysau yn sgil y pandemig i gynnal a gwella gwasanaethau iechyd. Mae'r bwrdd iechyd yn cynllunio ar gyfer darparu gwasanaethau hanfodol ac allweddol yn barhaus ochr yn ochr â’r gwaith o ofalu am gleifion yr effeithiwyd arnynt gan COVID-19. A bydd yr Aelod yn ymwybodol o glwstwr Rhondda o feddygon teulu a'r ffordd y maent wedi llwyddo i aildrefnu'r ffordd y maent yn darparu triniaethau er mwyn sicrhau eu bod yn ystyried anghenion y pandemig.
Flwyddyn wedi’r cyfyngiadau symud mae llawer wedi newid. Ar ddechrau 2020, roedd llawer ohonom yn y Rhondda a thu hwnt yn ymladd i gadw gwasanaethau damweiniau ac achosion brys dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae cynlluniau canoli eich Llywodraeth Lafur, diolch byth, wedi’u rhoi o'r neilltu, ac am byth y tro hwn, gobeithio.
Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi dangos pa mor hanfodol yw capasiti ysbytai a pha mor bwysig yw gwasanaethau iechyd lleol, ac mae angen inni ddysgu'r gwersi hynny. Ym Mhlaid Cymru, rydym am fynd gam ymhellach a sefydlu canolfan ddiagnosis canser yn y Rhondda, felly a wnewch chi gefnogi hynny? Ac a ydych bellach wedi gweld gwerth cynnal meddygaeth frys dan arweiniad meddygon ymgynghorol mewn ysbytai fel Ysbyty Brenhinol Morgannwg am gyfnod amhenodol? Ac os ydych, a wnewch chi ymrwymo yn awr, os byddwch yn y Llywodraeth wedi'r etholiad ym mis Mai, y byddwch yn diystyru dod â'r cynlluniau hyn i gau adrannau damweiniau ac achosion brys yn eu holau, am gyfnod amhenodol, ac na fyddant yn opsiwn yn y dyfodol o’ch rhan chi?
Ni fu cynllun gan y Llywodraeth erioed i gau gwasanaethau damweiniau ac achosion brys dan arweiniad meddygon ymgynghorol; roedd yn rhaid i'r bwrdd iechyd ymdrin â realiti methu recriwtio staff. Mae'n fater o lwyddiant i bob un ohonom fod y bwrdd iechyd wedi llwyddo i recriwtio digon o feddygon, gan gynnwys meddygon ymgynghorol, i sicrhau adferiad y gwasanaeth hwnnw. Ac mewn gwirionedd, wrth weld Aelodau eraill o bob rhan o ardal Cwm Taf Morgannwg ar yr alwad hon, dylwn ddweud ei bod yn ffaith y byddai'r gwasanaeth hwnnw wedi methu heb gymorth meddygon ymgynghorol o rannau eraill o'r bwrdd iechyd. Pan ymwelais ag Ysbyty Brenhinol Morgannwg, cyfarfûm â meddygon ymgynghorol o Ysbyty Tywysoges Cymru a oedd wedi dod i'r ysbyty hwnnw i sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau, ac nad oedd yn methu. Gwnaeth hynny gynnal gwasanaeth a rhoi lle i'r bwrdd iechyd fynd allan i recriwtio unwaith eto, a gwnaethant hynny'n llwyddiannus. Nid oes angen ailedrych ar y mater hwn felly gan fod ganddynt ddigon o staff. Yr her yw parhau i recriwtio a chadw staff yn yr ardal, er mwyn sicrhau nid yn unig fod gwasanaethau'n lleol ond eu bod o ansawdd uchel, a bydd dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal yma yng Nghymru yn golygu y bydd angen inni adnewyddu ein gweithlu'n barhaus ac edrych eto ar y ffordd orau o ddarparu gofal o'r ansawdd gorau. Bydd y rhan fwyaf o'r gofal hwnnw'n lleol. Bydd angen i ofal arbenigol iawn fynd i ganolfannau arbenigol; yn sicr, byddwn i'n barod i deithio am y gofal gorau i mi a fy nheulu. Ond ni chredaf y dylai unrhyw un ohonom fod o dan unrhyw gamargraff fod bygythiad i wasanaethau damweiniau ac achosion brys dan arweiniad meddygon ymgynghorol. Wrth inni siarad yn awr, neu wrth nesu at yr etholiad, rwy'n gobeithio y bydd pobl yn y Rhondda a thu hwnt yn cydnabod ac yn derbyn y sicrwydd hwnnw ynghylch dyfodol gwasanaethau damweiniau ac achosion brys dan arweiniad meddygon ymgynghorol.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y ddarpariaeth o ofal sylfaenol yn ardal Llanharan? OQ56476
Diolch. Mae angen datblygu darpariaeth gofal sylfaenol ymhellach yn Llanharan. Mae datblygiadau tai sylweddol wedi'u cynllunio yn yr ardal. Er bod digon o gapasiti gofal sylfaenol ar hyn o bryd, wrth i'r datblygiadau tai hynny fynd rhagddynt, mae'n anochel y bydd angen mwy o gapasiti, ac rwy'n cydnabod diddordeb hirsefydlog yr Aelod yn y mater hwn.
Weinidog, diolch am eich ateb, ac rwyf am gofnodi fy niolch diffuant i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac i gyngor Rhondda Cynon Taf a dau o'r cynghorwyr lleol—Roger Turner a Geraint Hopkins—sydd wedi gweithio mewn partneriaeth gyda mi drwy gyfres o gyfarfodydd, nid yn unig dros y 12 mis diwethaf ond ers dwy, dair, pedair, pum mlynedd, ar gwmpasu datblygiad posibl canolfan iechyd a lles newydd yn ardal Llanharan. Fel y dywedwch, mae'r boblogaeth wedi tyfu, mae'n dal i dyfu, ac er bod y ddarpariaeth yno'n cael ei gwasanaethu'n dda gan feddygon teulu lleol o Donysguboriau, Pont-y-clun, Pencoed ac ati, bydd angen mwy. Felly, rwy'n falch iawn ein bod ar y cam yn awr lle dywedir wrthym fod parodrwydd gwirioneddol i ystyried darparu canolfan.
Weinidog, a gaf fi ofyn i chi: os byddwch yn cael eich ailethol, ac os byddwch yn dal yn yr un rôl ar ôl yr etholiad, a wnewch chi weithio gyda mi, gweithio gyda'r bwrdd iechyd, gyda RhCT a chyda chynghorwyr lleol i wireddu’r cysyniad hwnnw o'r math o beth a welsom mewn lleoedd fel y Gilfach Goch a lleoedd eraill, lle mae nid yn unig meddygon teulu, ond therapyddion galwedigaethol, ceiropractyddion, nyrsys ardal a bydwragedd yn gweithio o ganolfan yn lleol er budd ac er lles holl bobl Llanharan a'r cyffiniau?
Gwnaf, rwy’n fwy na pharod i wneud hynny, ac fel y gwyddoch, rwyf eisoes wedi cyfarfod â chi a'r Cynghorydd Geraint Hopkins, ac eraill, i drafod yr heriau yn yr ardal leol. Credaf eich bod yn iawn i nodi dyfodol amlddisgyblaethol—meddygon teulu’n gweithio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, nyrsys, therapyddion eraill, i ddarparu cyfres ehangach o wasanaethau. Unwaith eto, credaf hefyd ei bod yn bwysig defnyddio’r bartneriaeth y bydd y bwrdd iechyd ei hangen gyda'r cyngor, er mwyn deall beth yw'r gwasanaethau hynny. Efallai mai iechyd a gwasanaethau y tu allan i iechyd fydd yn gwneud canolfan yn Llanharan yn llawer mwy deniadol i'r boblogaeth leol ac yn darparu’r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl, yn union fel y mae'r enghraifft yng nghwm Cynon, yn Aberdâr, yn ei ddangos. Credaf y bydd mwy o hynny’n digwydd yn y dyfodol, a gallwch ddisgwyl gweld mwy o hynny, gobeithio, yn y maniffesto rwy'n disgwyl i'r ddau ohonom sefyll arno. Ac edrychaf ymlaen at weld beth y mae'r pleidleiswyr yn ei ddweud, ac yna, pwy bynnag yw'r Prif Weinidog newydd, ac a fyddaf yn dychwelyd yma ai peidio, yn dibynnu, wrth gwrs, ar bwy yw'r Prif Weinidog.
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau heintio COVID-19 yn Nwyrain De Cymru? OQ56500
Gwnaf. Mae gostyngiad graddol wedi bod ar draws Dwyrain De Cymru mewn cyfraddau heintio a chyfraddau profion positif. Mae cefnogaeth barhaus i’r cyfyngiadau sydd ar waith yn hanfodol os ydym am sicrhau bod y duedd gyffredinol hon ar i lawr yn parhau.
Diolch, Weinidog. Mae’r gyfradd achosion wedi bod yn syfrdanol o uchel ym Merthyr Tudful dros yr wythnosau diwethaf, er fy mod yn falch o weld y niferoedd yn gwastatáu. Gwn fod y bwrdd iechyd wedi nodi mai rhai rhesymau tebygol pam ein bod wedi gweld y cynnydd hwnnw fyddai am fod rhai aelwydydd estynedig wedi bod yn cymysgu a phobl heb fod yn dilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol. Un o gryfderau ein cymunedau yn y Cymoedd yw ein hagosrwydd, ond yn ystod y pandemig, rydym wedi dioddef oherwydd y cysylltiadau agos hynny.
Weinidog, bydd lleiafrif o bobl wedi credu camwybodaeth am y feirws, a byddwn yn gofyn i chi, yn gyntaf, sut rydych yn ceisio atal y wybodaeth anghywir honno rhag lledaenu ar Facebook, gan weithio gyda'r bwrdd iechyd. Bydd llawer o deuluoedd hefyd yn ei chael hi'n anodd iawn goroesi ar y taliad hunanynysu fel y mae ar hyn o bryd, ac yn dibynnu ar neiniau a theidiau i ofalu am eu plant, pobl sy'n ofni y byddant yn colli eu swyddi os nad ydynt yn mynd i’w gwaith. Felly, a gaf fi ofyn i chi, yn olaf, pa gymorth ychwanegol rydych yn ystyried ei roi i gymunedau fel Merthyr Tudful, lle'r ymddengys bod lleiafrif o bobl yn ei chael hi'n anodd iawn?
Fe fyddwch yn falch o glywed fy mod wedi trafod yr holl faterion hyn gyda'r Aelod etholaeth Dawn Bowden a'r pryderon ynghylch sut y mae'r gymuned yn cael ei chefnogi i wneud y dewis cywir, a sut rydych yn ceisio perswadio pobl i fod yn onest os ydynt wedi dal COVID ac yn cydnabod eu hunain eu bod wedi bod wedi mynd yn groes i'r rheolau. Dyna ran o'r rôl allweddol sydd gan ein gwasanaeth profi, olrhain, diogelu wrth gyfeirio pobl i fynd i gael y taliadau ynysu—mae llawer o bobl nad ydynt yn cyflwyno cais amdanynt pan allent wneud hynny—i sicrhau eu bod yn cael yr holl gymorth sydd ar gael, yn ariannol, ond hefyd y cymorth ehangach i sicrhau bod pobl yn gallu hunanynysu’n llwyddiannus, ac i gydnabod os yw cymuned gyfan yn cefnogi'r cyfyngiadau ac yn gweithredu yn unol â hwy, ein bod yn llawer mwy tebygol o barhau i reoli cyfraddau coronafeirws a dod o hyd i ffordd gynaliadwy allan o'r sefyllfa bresennol. Mae'n newyddion da fod y cyfraddau wedi gostwng ym Merthyr Tudful yn y ffigurau heddiw—cwymp eithaf sylweddol; mae angen inni weld hynny'n parhau yn y dyfodol. Ac mewn gwirionedd, rydym yn gweithio ochr yn ochr â'r cyngor a'u swyddogion, yn ogystal â chynrychiolwyr etholedig lleol, a'r bwrdd iechyd. Felly, mae ehangu profion cymunedol a’u hargaeledd yn rhan o hynny. Mae'n ymwneud ag annog pobl i roi gwybod ac iddynt gael hyder, os byddant yn profi'n bositif, y cânt eu cefnogi i ynysu drwy ddulliau ariannol a dulliau eraill. Bydd angen inni wneud mwy o hyn, oherwydd wrth inni ddod allan o’r cyfyngiadau symud gyda mwy o lacio, gallwn ddisgwyl gweld cynnydd yn y trosglwyddiad ar lefel leol. Mae hwn yn brawf da i ni i weld pa mor llwyddiannus y gallem fod wrth gefnogi pobl er mwyn helpu pob un ohonom i weld diwedd ar y pandemig.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Paul Davies.
8. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd i bobl sir Benfro? OQ56478
Rydym yn cydweithio gyda'r bwrdd iechyd, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynllunio ar gyfer parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ac allweddol, ochr yn ochr â gofalu am gleifion yr effeithiwyd arnynt gan COVID-19, yn ogystal â gweithio tuag at ddarparu gwasanaethau ehangach a mwy rheolaidd wrth gwrs, lle a phan fo'n ddiogel i wneud hynny.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Nawr, yn anffodus, gostyngodd nifer yr atgyfeiriadau canser brys yn ddramatig rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2020, ac mae Cancer Research UK wedi dweud yn glir, pan fydd y cleifion hyn yn dod i mewn i'r system, y bydd yn achosi problemau capasiti sylweddol ym maes diagnosteg. Yn wir, gwyddom mai canran y cleifion sy'n dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod lle ceir amheuaeth o ganser yw 65.9 y cant yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Nawr, gwrandewais yn ofalus iawn ar yr ymatebion a roesoch i fy nghyd-Aelod Angela Burns yn gynharach, ond o ystyried rhybuddion Cancer Research UK, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynllunio'n benodol ar gyfer gweithlu diagnostig a all ymdopi ag unrhyw gynnydd yn y galw yn y dyfodol? Fe'ch clywais yn dweud bod angen y cymorth cywir ar y gweithlu, ond beth a wnewch yn benodol i gefnogi'r gweithlu, fel y gellir cymryd camau wedyn i gynyddu nifer y bobl sy'n dechrau eu triniaeth o fewn 62 diwrnod, ac fel y gall pobl yn fy etholaeth gael y driniaeth frys sydd ei hangen arnynt?
Wel, fe fydd yr Aelod yn gallu gweld y swydd ychwanegol a ariannwyd gennym, a'n bod wedi sicrhau bod pobl yn cael hyfforddiant drwy'r gweithlu diagnostig ledled Cymru. Rydym mewn sefyllfa gref gyda'n swyddi gwag, a recriwtio pobl i'r swyddi hynny i hyfforddi cenhedlaeth arall. Fe fyddwch hefyd yn cofio'r buddsoddiad a wneuthum yn y gweithlu diagnostig a hyfforddi'r gweithlu diagnostig hwnnw. Mae canolfan hyfforddi yn etholaeth Huw Irranca-Davies, rwy'n credu, ym Mhencoed, lle byddwch yn gweld y bobl hyn sy'n croesawu'r buddsoddiad, a'r ffaith ei fod yn eu helpu nid yn unig i ddod yma yn y lle cyntaf, ond i aros yma hefyd. Felly, credaf fod gennym hanes da o ran gwelliannau ymarferol yn y gweithlu. Fe fyddwch yn gweld mwy o fanylion ynghylch gwella a chynyddu ein gweithlu pan ddaw'r maniffesto, ond fel y dywedaf, byddwn yn cwblhau tymor y Senedd hon, hyd yn oed ar ôl effeithiau parhaus cyni, gyda mwy na 10,000 o staff ychwanegol yn y GIG. Mae'n gyflawniad cadarn y credaf y gall pobl yng Nghymru ymddiried ynddo wrth inni edrych ymlaen at y dyfodol ac ailadeiladu gwasanaethau gwell a thecach a gwlad well a thecach, ac fel y dywedaf, edrychaf ymlaen at benderfyniad y cyhoedd yn yr etholiadau ar ddechrau mis Mai eleni.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Dai Lloyd.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogi llesiant ac iechyd meddwl yng Ngorllewin De Cymru? OQ56485
Mae amrywiaeth o gymorth iechyd meddwl ar gael yng Ngorllewin De Cymru, o ran gwasanaethau sydd yn cael eu darparu nid jest gan y trydydd sector ond hefyd gan yr NHS. Mae hyn yn cynnwys y gwasanaeth noddfa ym Mae Abertawe, sydd wedi’i ddatblygu gan wasanaethau iechyd meddwl ynghyd â bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gorllewin Morgannwg a’r elusen iechyd meddwl Hafal.
Diolch am hynna, Weinidog. Allaf i ofyn pa gynnydd sydd yna i ymdrin ag afiechyd meddwl mewn argyfwng, yn union fel rydyn ni'n ymdrin ag afiechyd corfforol mewn argyfwng? Efo trawiad ar y galon, er enghraifft, mae'r meddyg teulu'n gallu ffonio meddyg yn yr ysbyty yn uniongyrchol a chael mynediad brys y diwrnod hwnnw i'r claf ar fyrder. Roeddem ni'n gallu gwneud hynna efo salwch meddwl mewn argyfwng 20 mlynedd yn ôl, ond ddim rhagor. Rydyn ni wedi colli'r cysylltiad uniongyrchol rhwng y meddyg teulu a'r arbenigwr seiciatryddol yn yr ysbyty. Pa obaith sydd o adfer yr hen gysylltiad oesol?
Diolch yn fawr, Dai. Dwi'n gwybod bod lot fawr o waith wedi cael ei wneud o ran y gwasanaethau brys, a dyna ble dŷn ni wedi bod yn canolbwyntio ein gwaith ni ar hyn o bryd o ran iechyd meddwl. Achos beth oedd yn digwydd oedd ein bod ni mewn sefyllfa lle, pan oedd pobl yn codi'r ffôn, rhai o'r unig wasanaethau a oedd ar gael, yn arbennig ar ôl 5 o'r gloch yn y prynhawn, oedd gwasanaethau brys. Ac yn aml, nid yr heddlu neu hyd yn oed y gwasanaeth ambiwlans yw'r llefydd gorau i ymdrin â phethau sy'n ymwneud ag iechyd meddwl. Dyna pam mae gwaith aruthrol wedi cael ei wneud eisoes, o dan ymbarél y concordat, i sicrhau ein bod ni'n edrych ar hwn mewn manylder, ein bod ni'n cydweithredu gyda'r trydydd sector, a bod yna ddarpariaeth mewn lle. Achos beth dŷn ni wedi ei sylweddoli oedd, o ran y rhan fwyaf o'r bobl a oedd yn dod mewn i'r gwasanaethau brys, efallai nad gwasanaeth iechyd meddwl, o ran iechyd meddwl pur, oedd ei angen arnyn nhw, ond efallai bod angen mwy o help cymdeithasol ac economaidd arnyn nhw. Felly mae'r gwaith yna'n cael ei wneud.
Byddwch chi, dwi'n siŵr, yn ymwybodol bod Bae Abertawe wedi bod yn cynnal peilot o ran un pwynt cyswllt ar gyfer iechyd meddwl, wrth ffonio'r rhif 111. A bydd hwnna nawr yn cael ei ehangu i fwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg. Yr un peth arall dwi'n meddwl sy'n werth ei danlinellu yw'r ffaith bod gyda ni gynllun nawr sy'n helpu i gludo pobl sydd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl. Dyw hi ddim yn briodol, wrth gwrs, i gymryd pobl sydd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl mewn car heddlu, er enghraifft. Dyna pam dŷn ni'n peilota rhaglen newydd yn y maes yma hefyd.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Weinidog, ddoe, nodais bryderon ynghylch cymorth i blant ifanc, a phlant sy’n mynd yn ôl i ysgolion, sydd wedi’i chael hi’n anodd, rwy'n credu, yn ystod y pandemig hwn, a sut y gallwn fod yn sicr fod digon o adnoddau ar gael iddynt allu elwa o therapïau siarad, therapyddion a chwnselwyr. Rwy'n poeni'n fawr ein bod yn dal i fod yn brin o'r niferoedd o gwnselwyr a therapyddion yn y maes hwnnw. Beth y gallwch ei wneud i sicrhau, wrth i blant ddychwelyd i ysgolion, wrth inni wynebu’r 12 mis nesaf, yn ôl pob tebyg, o heriau i rai o’r plant hyn, y bydd digon o therapyddion, a therapyddion siarad yn enwedig, ar gael i ateb y galw a ddaw yn sgil hyn?
Diolch yn fawr, Dai. Rwy'n bryderus iawn am y sefyllfa hon. Gwyddom fod y comisiynydd plant wedi dod i’r casgliad fod oddeutu 67 y cant o'n plant rhwng 12 a 18 oed yn dioddef gyda rhyw fath o orbryder ar hyn o bryd. Ac wrth gwrs, mae bod heb drefn ddyddiol yn mynd i beri problem i lawer o bobl, ac rwy'n gobeithio y gwelwn y lefelau hynny’n gostwng yn awr, wrth i blant ddychwelyd i'r ysgol.
Ond yn bendant, bydd grŵp ohonynt angen cymorth parhaus. Dyna pam fod gennym ddull cynhwysfawr yn awr o edrych ar blant a phobl ifanc. Gwyddom fod 80 y cant o broblemau sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn dechrau pan fydd pobl yn blant neu'n bobl ifanc, a dyna pam ei bod yn gwneud synnwyr inni ganolbwyntio ar hyn. Mae gennym ddull ysgol gyfan, felly mae cyllid ychwanegol sylweddol yn cael ei ddarparu i ysgolion, ac rydym hefyd yn ymestyn ein cymorth i gynnwys cymorth cynnar a chefnogaeth ychwanegol, a fydd yn cael ei gyflwyno o fis Gorffennaf y flwyddyn nesaf, i sicrhau bod yr holl wasanaethau gwahanol yn gweithio gyda'i gilydd fel nad yw plant yn bownsio o un rhan o’r system i’r llall.
Gall y trydydd sector wneud llawer o'r gwaith hwnnw. Cefais fideoalwad y bore yma mewn gwirionedd; cawsom ein hail gyfarfod o'r grŵp trosolwg a gweithredu ar gyfer Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc. Un o'r agweddau y buom yn edrych arnynt y bore yma yw a oes gennym y gweithlu iawn ar waith, gan ei bod yn amlwg fod yn rhaid inni ddal ati i geisio cynyddu’r datblygiad hwnnw. Felly, mae'r gwaith yn parhau. Mae'n mynd rhagddo. Mae angen inni wneud mwy yn ôl pob tebyg, ond yn amlwg, byddwn yn cadw llygad. Rwy'n gobeithio y bydd y ffaith ein bod eisoes wedi darparu oddeutu £9 miliwn i gyd ar gyfer y maes hwn roi rhywfaint o gysur i chi ein bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir.
2. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo pobl sy'n dioddef o orbryder yn dilyn y cyfyngiadau symud? OQ56488
Diolch yn fawr, Jack. Rydym wedi ymrwymo £4 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn nesaf i wella mynediad at gymorth anghlinigol ar gyfer materion iechyd meddwl lefel isel fel gorbryder, a bydd hyn yn adeiladu ar gyllid rydym wedi'i ddarparu eleni i wella cymorth, gan gynnwys cyflwyno therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n siŵr fod pob un ohonom wedi siarad â phobl sy'n profi gorbryder am y tro cyntaf, pobl sy'n ansicr beth sy'n digwydd iddynt, ac yn bendant yn ansicr ynglŷn â pha gymorth sydd ar gael iddynt. Ceir llawer o drigolion Alun a Glannau Dyfrdwy, a ledled Cymru, nad ydynt wedi bod allan fawr ddim ers yr adeg hon y llynedd. Nid yn unig eu bod yn orbryderus am y coronafeirws, maent yn bryderus am fynd allan i'r byd. I rai, bydd y gorbryder yn fwy eithafol, ac mae'n ddigon posibl y bydd yn arwain at byliau o banig, rhywbeth nad wyf ond wedi'i brofi unwaith yn fy mywyd, yn fuan ar ôl i Dad farw, ac mae’ n rhywbeth na fyddwn yn ei ddymuno i unrhyw un. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â hyn, ac i sicrhau bod y GIG wedi'i arfogi'n llawn i helpu pobl, hen ac ifanc, o bob cefndir, sy’n dioddef o orbryder, gan gynnwys y rheini na fyddent yn adnabod yr arwyddion a sut i ofyn am gymorth?
Diolch yn fawr, Jack. Diolch yn fawr iawn am bopeth rydych wedi'i wneud i hyrwyddo mater iechyd meddwl. Ers ichi fod yn y Senedd, rydych wedi bod yn un o hyrwyddwyr mwyaf blaenllaw'r mater hwn. Hoffwn bwysleisio fy niolch i chi am fod mor onest am rai o'r problemau rydych wedi brwydro yn eu herbyn. Diolch yn fawr, gan fod hynny'n helpu pobl i siarad amdano. Mae’n rhaid imi ddweud mai ychydig iawn o bethau cadarnhaol sydd wedi deillio o'r pandemig, ond credaf fod y ffaith bod pobl i'w gweld yn siarad am iechyd meddwl—y bydd y stigma, gobeithio, yn cael ei leihau o ganlyniad i hyn. Oherwydd, a dweud y gwir, ni all fod llawer o bobl sydd heb eu cyffwrdd gan orbryder mewn rhyw ffordd yn ystod y pandemig. Nid ydynt wedi gwybod a fyddant yn cadw eu swyddi, nid ydynt wedi gwybod a yw eu rhieni'n mynd i ddal y feirws, nid ydynt wedi gwybod a fydd eu plant yn dioddef o fod ar ei hôl hi'n academaidd—mae pob un o'r pethau hyn yn arwain at orbryder. Credaf y gall pawb gydymdeimlo â gorbryder erbyn hyn mewn ffordd nad oedd pawb yn ei wneud o'r blaen o bosibl. Felly, mae hynny'n glir.
Yr hyn rydym wedi ceisio’i wneud, Jack, yw sicrhau bod pobl yn ymwybodol o ba gymorth sydd ar gael os ydynt yn cael pyliau o banig o'r fath. Yn amlwg, mae gennym linell gymorth iechyd meddwl CALL, sydd ar gael 24 awr y dydd. Rydym wedi rhoi mwy o gapasiti tuag at hynny. Fel y dywedaf, mae gennym y therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein. Ond un o'r pethau allweddol a oedd yn bwysig iawn i mi pan gefais fy mhenodi gyntaf oedd pa mor hawdd yw cael mynediad, gwybod i ble y gallwch fynd i gael mynediad at y pethau hyn. A’r hyn a welwch yn awr—rwy'n gobeithio bod yr holl Aelodau o’r Senedd wedi cael copi o'r e-bost a anfonais i sicrhau bod pawb yn gwybod bellach fod yn rhaid i bob bwrdd iechyd nodi’n gwbl glir pa gymorth sydd ar gael yn eu rhanbarth. Mae’n rhaid i hynny fod yn hygyrch mewn ffordd hawdd iawn. Felly, mae digon o gymorth ar gael, ond mae'n rhaid inni sicrhau bod pobl yn gwybod ble i fynd a chyfeirio at y cymorth hwnnw. Diolch yn fawr, Jack, am bopeth rydych wedi'i wneud ar y pwnc.
Roedd hwnnw'n ateb cynhwysfawr iawn, Weinidog. A gaf finnau achub ar y cyfle i ganmol Jack Sargeant am y gwaith aruthrol y mae wedi'i wneud ym maes iechyd meddwl, sydd mor bwysig, yn enwedig yn ystod misoedd y pandemig a'r cyfyngiadau symud? Roedd yn bleser gweithio gyda thad Jack, Carl Sargeant, yn y Senedd ar ystod o faterion. Roedd yn angerddol am y materion hynny ac rwy'n falch o weld bod Jack wedi parhau yn yr un modd i hyrwyddo materion sydd o bwys gwirioneddol i'r bobl yn ein cymunedau.
Weinidog, fel rydych newydd awgrymu, mae'n debygol y byddwn yn gweld cynnydd yn nifer y bobl sydd angen cymorth iechyd meddwl cymunedol i'r rheini sy'n dioddef yn sgil gorbryder ac iselder, fel un o ganlyniadau pwysig y pandemig mewn perthynas ag iechyd y cyhoedd, ac yn ôl pob golwg, gallai hynny barhau am beth amser, ac arwain at gost sylweddol. Pa drafodaethau rydych wedi'u cael gydag is-gadeiryddion byrddau iechyd lleol ledled Cymru, neu'n wir, gyda'r Gweinidog iechyd, gan gysylltu â'r byrddau iechyd hynny—y rheini sy'n gyfrifol am iechyd meddwl cymunedol a gofal sylfaenol—i sicrhau y bydd gwasanaethau lleol y GIG yn cael y ffocws sydd ei angen arnynt? Oherwydd yn amlwg, nid yn unig eu bod wedi bod o dan straen yn ystod y pandemig, ond byddant o dan straen am beth amser i ddod, wrth geisio ymdopi â chanlyniadau’r cyfnod heriol hwn.
Diolch yn fawr, Nick. Yn sicr, mae’r cymorth iechyd meddwl cymunedol hwnnw’n gwbl hanfodol, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod yn ceisio rhoi’r cymorth hwnnw, cyn belled ag y bo modd, mor agos at adref â phosibl, oherwydd, yn gyffredinol, nid yw cymorth iechyd meddwl yn rhywbeth y gallwch ei ddatrys unwaith ac am byth; mae'n rhaid ichi gael perthynas barhaus, mae'n rhaid ichi barhau i weithio arno. Dyna pam fod rhoi’r cymorth hwnnw yn y gymuned yn llawer mwy gwerthfawr, a dyna’n sicr rydym yn ceisio’i wneud.
Rwyf wedi cyfarfod â'r is-gadeiryddion ar fwy nag un achlysur bellach ers imi gael fy mhenodi i'r rôl hon, ac rwyf wedi dweud yn gwbl glir wrthynt i ba gyfeiriad yr hoffwn weld pethau'n mynd. Un yw bod gwir angen inni ddargyfeirio mwy o arian i gymorth haen 0—y cymorth cynnar iawn hwnnw—fel nad ydym yn gweld y problemau hyn yn datblygu ac yn dod yn fwy cymhleth ac yn anos eu trin. Felly, mae cymorth cynnar yn gwbl hanfodol. Yr ail beth yw bod gwir angen inni ddargyfeirio mwy o arian tuag at gefnogi plant a phobl ifanc fel cyfran o'r gyllideb. Felly, dyna'r ddwy neges rwyf wedi'u cyfleu’n gwbl glir i'r is-gadeiryddion, yn ogystal, wrth gwrs, â thanlinellu eu cyfrifoldeb i sicrhau bod yr holl wasanaethau hyn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.
Hoffwn i ddiolch i Jack Sargeant hefyd am roi cwestiwn mor bwysig gerbron, a thalu teyrnged i'w dad, Carl Sargeant, a oedd wedi fy helpu i pan wnes i gael nifer o broblemau gyda gorbryder yn sgil perthynas negyddol a dinistriol yn y gorffennol. Roedd e wedi bod yn gefn i fi, a heb ei gefnogaeth e, dwi ddim yn credu y buaswn i wedi dod mas mor gadarn ag yr ydw i wedi dod dros y blynyddoedd.
Ond mae fy nghwestiwn i ar anhwylderau bwyta. Dwi wedi treulio fy ngyrfa i gyd yn ymgyrchu ar anhwylderau bwyta, a dŷn ni wedi clywed gan Beat Cymru, sydd wedi gwneud gwaith clodwiw yn y maes yma, fod anhwylderau bwyta wedi tyfu yn ystod COVID. Mae'r gorbryder yna, eu bod nhw'n teimlo fel nad yw rhai o'r gwasanaethau ar gael iddyn nhw, eu bod nhw ddim yn cael y gefnogaeth sy'n angenrheidiol iddyn nhw, yn rhywbeth sydd yn ddybryd ar hyn o bryd. Dwi'n deall beth rydych yn ei ddweud, Weinidog, ynglŷn â siarad am iechyd meddwl, ond mae pobl wedi cael digon o siarad hefyd; maen nhw eisiau gweithredu. Ac mae yna ddiffyg gwasanaethau ar lawr gwlad i bobl sydd â llu o broblemau iechyd meddwl gwahanol.
Fy apêl i chi, ar fy niwrnod olaf i yn y Senedd, yw sicrhau bod y gwasanaethau hynny yn gwella i'r dyfodol, fel nad yw pobl yn gorfod cael gwasanaethau preifat yn y dyfodol, fel nad ydyn nhw'n gorfod teimlo fel bod eu bywyd nhw mor wael eu bod nhw eisiau dod â'u bywyd nhw i ben, fel bod mamau newydd yn gallu cael y gefnogaeth sydd yn angenrheidiol iddyn nhw. Dyna yw fy apêl i chi fel Llywodraeth nawr ac i unrhyw lywodraeth sydd yn dod gerbron ym mis Mai.
Diolch yn fawr, Bethan, a diolch am bopeth rwyt ti wedi ei wneud yn y maes yma. Dwi'n gwybod bod hwn yn rhywbeth rwyt ti wedi bod yn ymgyrchu arno fe ers sbel. Yn sicr, un o'r pethau dwi'n poeni amdano yw'r ffaith ein bod ni, yn arbennig ym maes anhwylderau bwyta, wedi gweld cynnydd yn ystod y pandemig. Mae hwn yn rhywbeth dwi wedi gofyn i fy nhîm i ffocysu arno fe.
Mae'n rhaid inni ddeall bod hyn wedi bod yn fwy o broblem. Rydyn ni wedi rhoi mwy o arian mewn iddi yn ystod y pandemig, ond dwi wedi gofyn i weld os oes angen inni roi fwy o arian i mewn iddi, achos dwi yn poeni am y sefyllfa yma. Beth sy'n hollol glir gyda'r anhwylder yma yw bod yn rhaid i chi ymyrryd yn gynnar. Os nad ydych yn ymyrryd yn gynnar, mae'r problemau yn gallu bod yn rili difrifol, ac felly, unwaith eto, yr ateb, o'm safbwynt i, yw sicrhau bod yr arian yna ar gael ar gyfer mudiadau fel Beat, sydd yn gwneud gwaith mor anhygoel.
Un o'r pethau mae'n rhaid inni ei sicrhau yw bod mwy o bobl ar lefel primary care yn fodlon anfon pobl at Beat tra'u bod nhw'n aros, efallai, i weld rhywun yn y gwasanaeth iechyd os oes yna unrhyw broblemau o ran aros am amser hir. Mae'n rhaid inni gael yr ymyrraeth gynnar yna tra bod pobl yn aros a dyw hwnna ddim wastad yn gweithio. Unwaith eto, dwi wedi gofyn bod hwnna yn cael ei wneud.
Ond dwi eisiau diolch i ti hefyd, Bethan, am bopeth rwyt ti wedi'i wneud o ran gofal perinatal ac iechyd meddwl hefyd. Dwi'n gwybod dy fod ti wedi gwneud gwaith arbennig yn y maes yma a diolch yn fawr i ti am bopeth rwyt ti wedi'i wneud yn ystod y Senedd. Mae wedi bod yn gyfnod hir iawn i ti a dwi'n gwybod dy fod ti wedi rili cael effaith aruthrol ar y Senedd yma, a diolch am bopeth rwyt ti wedi'i wneud.
Symudwn at gwestiynau'r llefarwyr yn awr, a daw’r cyntaf y prynhawn yma gan lefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n croesawu'r newyddion y bydd Llywodraeth Cymru yn lansio ail gam o'r gronfa adferiad diwylliannol gan roi ychydig mwy o sicrwydd i'r sector celfyddydau a diwylliannol. Mae yna un agwedd y mae'r sector wedi ei chodi efo mi yn barod, sef hygyrchedd y cynllun. Oes gennych chi gynlluniau yn eu lle i sicrhau bod y broses ymgeisio yn un deg, yn enwedig i unigolion sydd ddim â'r modd i ennill y ras, fel petai, a dwi'n sôn yn benodol am unigolion efo anableddau neu salwch sydd yn eu gwneud hi'n anodd llenwi ffurflenni yn sydyn, a hefyd unigolion sydd â chyfrifoldebau gofal neu waith ac felly sy'n methu bod ar gael i eistedd o flaen y cyfrifiadur am amser penodol?
Ac yn ail, o ran y gronfa, mae ysgolion perfformio wedi methu â gwneud defnydd llawn o gymorth sydd ar gael gan y Llywodraeth ar draws y sectorau gwahanol. Mae'n debyg nad ydyn nhw'n ticio'r bocsys angenrheidiol i fanteisio ar y cronfeydd sydd wedi cael eu sefydlu. Felly, wnewch chi ystyried ehangu'r sail mynediad at y gronfa adferiad diwylliannol yn yr ail gam yma er mwyn gwneud yn siŵr y gall y sefydliadau unigryw a phwysig yma dderbyn cefnogaeth?
Diolch yn fawr, Siân. Yn gyntaf, dwi jest more blês ein bod ni wedi gallu cyhoeddi'r arian ychwanegol yma. Dyw hwn ddim yn rhywbeth sydd yn digwydd yn Lloegr yn yr un modd, ac, yn sicr, mae'r help rŷn ni wedi gallu ei roi i bobl sydd yn llawrydd—freelancers—yn rhywbeth sydd yn wirioneddol wedi cael ei werthfawrogi achos does dim o hynny yn digwydd yn Lloegr. Yn sicr, roeddwn i'n ymwybodol yn ystod y cyfnod cyntaf fod yna broblemau achos roedd cymaint o bobl ac roedd y broses yn anodd i rai pobl o ran cyrraedd mewn pryd. Erbyn i ni fynd trwy'r camau i gyd, roeddem ni'n hyderus bod pob un a oedd eisiau ac angen ymgeisio wedi cael y cyfle i wneud hynny. Felly, wnaeth neb golli mas. Efallai, yn y rownd gyntaf ac erbyn diwedd y cyfnodau gwahanol, fe fyddwn ni wedi sicrhau bod pob un a oedd angen ymgeisio wedi cael y cyfle i wneud hynny. Felly, dwi'n gobeithio na fyddwn ni'n gweld y broblem welon ni yn ystod y tymor cyntaf, nid o achos unrhyw broblemau a oedd yn bwrpasol, ond jest o achos capasiti'r system i 'cope-io'. Felly, rŷn ni mewn sefyllfa wahanol nawr. Rŷn ni'n gwybod pwy oedd wedi trio y tro cyntaf, so fe fydd e lot yn haws achos bydd y wybodaeth yna i gyd gyda ni. Felly, dwi'n gobeithio bod hygyrchedd y broses lot yn well hefyd.
A diolch yn fawr am ofyn am yr ysgolion perfformio. Doeddwn i ddim yn ymwybodol o hynny, ac felly mi af yn ôl i ofyn beth yw'r sefyllfa gyda'r rheini.
I droi at faes arall sydd yn rhan o'ch dyletswyddau chi, sef digwyddiadau mawr, dwi ar ddeall fod y Llywodraeth wedi comisiynu adroddiad annibynnol am y strategaeth digwyddiadau mawr. Dwi'n deall bod gwaith wedi cychwyn ymhell cyn i'r pandemig ein taro ni a'i fod o wedi cael ei gwblhau hefyd ond nad ydy'r adroddiad wedi cael ei gyhoeddi. Fedrwch chi egluro pam nad ydy'r adroddiad wedi'i gyhoedd ac a fedrwch chi roi rhyw fath o flas o beth oedd yn yr adroddiad yna? Ac a fyddwch chi yn ei gyhoeddi fo—rydw i'n gwybod nad oes llawer o amser ar ôl rŵan cyn y cyfnod etholiad—neu a fydd yr adroddiad yma yn aros ar y silff i gasglu llwch?
Diolch yn fawr, Siân. Fel ŷch chi'n ymwybodol, mi wnaethon ni gomisiynu hwn cyn i'r pandemig daro, ac, yn amlwg, os oes yna unrhyw beth wedi cael ei effeithio gan y pandemig, digwyddiadau mawr yw hynny. Felly, i raddau, rhan o'r broblem yw y gwnaeth lot o'r adroddiad gael ei ysgrifennu cyn y pandemig, ac felly, yn amlwg, mae angen addasu nawr yn wyneb beth sy'n digwydd gyda'r pandemig, achos mae'r help sydd ei angen ar y sector nawr yn hollol wahanol i beth fyddai wedi bod ei angen cyn y pandemig. Felly, rŷn ni wedi gofyn i'r awdur ystyried hynny ac, felly, mae’r adroddiad yn dal i fod yn nwylo'r awdur, ac rŷn ni'n aros i'r awdur ddod nôl atom ni o hyd cyn ein bod ni'n gallu cyhoeddi'r adroddiad yna. Ond dwi'n gobeithio—. Dwi wedi bod yn pwyso i gael yr adroddiad yna wedi cael ei gyhoeddi ers tipyn nawr.
Felly, gobeithio y caiff o weld golau dydd ac y gwnawn ni weld yn union beth ydy'r argymhellion ar gyfer cyfeiriad y gwaith yma i'r dyfodol.
Jest i droi yn olaf at yr angen, rydw i'n credu, am strategaeth gwbl newydd ar gyfer y celfyddydau a'r sector diwylliannol yng Nghymru, dwi'n meddwl y bydd cynnal diwydiant creadigol bywiog ac arloesol efo cefnogaeth dda yn helpu Cymru i addasu i'r dirwedd ôl-COVID-19 mewn sawl ffordd. Ond y broblem ar hyn o bryd ydy bod adrannau'r Llywodraeth yn gweithio mewn seilos, ac, wrth symud at y Senedd nesaf, mae angen i'r celfyddydau, ein hiaith ni, yr iaith Gymraeg, a'n treftadaeth ni fod yn bwysig ar draws Llywodraeth, ac mae angen gosod y materion yma—y Gymraeg, y celfyddydau, diwylliant, chwaraeon—wrth wraidd polisi cyhoeddus a gweithredu gan Lywodraeth ganol a llywodraeth leol a'u tynnu nhw i mewn i ddatblygu economaidd, maes iechyd, addysg, yr amgylchedd ac yn y blaen. Ydych chi, felly, yn cytuno, o ran y celfyddydau yn benodol, fod angen cyfeiriad strategol, holistaidd, newydd a chynhwysol er mwyn datblygu’r sector yma i fod yn wirioneddol wrth wraidd popeth mae'r Llywodraeth yn ei wneud?
Wel, dwi'n meddwl bod y ffaith ein bod ni wedi cyhoeddi Cymru Creadigol, ein bod ni wedi symud ymlaen gyda'r project yna, ein bod ni wedi deall bod y diwydiant yma yn rhywbeth sydd yn cyfrannu mewn ffordd aruthrol i'n heconomi ni—. Os ŷch chi'n edrych ar y cynnydd o ran nifer y bobl sydd yn gweithio yn y celfyddydau, mae tua 50 y cant o gynnydd wedi bod yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Mae e wedi bod yn gynnydd aruthrol, ac, wrth gwrs, mae yna le inni ehangu yn fwy. Un o'r pethau rŷn ni wedi ei wneud yw canolbwyntio ar geisio sicrhau bod hyfforddi yn y lle cywir, a dwi'n meddwl bod yna le inni fynd ymhellach ar hynny. Dwi'n deall beth ŷch chi'n dweud o ran y perygl ein bod ni'n gweithio mewn seilos, ac, yn sicr, dwi'n gobeithio, os byddwn ni i gyd yn dod nôl y tro nesaf, y bydd hwn yn rhywbeth lle byddwn ni'n gweld mwy o waith ar draws y Llywodraeth.
Yn sicr o ran y Gymraeg, dwi wedi cymryd papur i'r Cabinet yn ddiweddar i danlinellu'r ffaith bod yn rhaid inni fynd lot ymhellach nag ŷn ni wedi mynd hyd yn hyn a bod yn rhaid inni sicrhau bod yna gyfrifoldeb ar bob adran y tu fewn i'r Llywodraeth i brif ffrydio'r Gymraeg. Wrth gwrs, rwy'n gobeithio, pan fyddwn ni'n dod nôl, y bydd yna raglen weithredu newydd ac y bydd yna ddisgwyl i bob adran yn y Llywodraeth gyfrannu mewn rhyw ffordd i ddangos beth maen nhw'n ei wneud o ran symud pethau ymlaen ynglŷn â'r Gymraeg.
Llefarydd y Ceidwadwyr, David Melding.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, a gaf fi ddechrau drwy sôn am yr ymgysylltiad rydym wedi'i gael? Rwyf wedi mwynhau cysgodi'r briff hwn. Cawsom sesiynau briffio yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf ar yr heriau diwylliannol sy’n ein hwynebu o ran darparu cyllid. Fodd bynnag, hoffwn siarad am iechyd meddwl a chefais fy nghalonogi gan eich cyfeiriadau yn gynharach at y sector cyrff anllywodraethol. A wnewch chi ymuno â mi i ganmol pobl ifanc sydd o ddifrif ynglŷn â'u hiechyd meddwl, yn ogystal â derbyn y cymorth sydd ar gael gan ysgolion a sefydliadau fel y Sgowtiaid, sydd hefyd yn cymryd rhan yn y gwaith hwn bellach?
Diolch yn fawr iawn, David, a diolch am yr holl waith rydych wedi'i wneud nid yn unig ar y portffolio hwn, ond hefyd am eich gwaith dros gymaint o flynyddoedd. Rydych wedi bod yn gonglfaen go iawn i ddatblygiad y sefydliad hwn, a hoffwn ddiolch yn bersonol i chi am bopeth rydych wedi'i wneud, yn anad dim am sicrhau bod y Blaid Geidwadol wedi aros gyda datganoli, a gobeithio y byddant yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol. Felly, diolch yn fawr iawn, David, am bopeth rydych wedi'i wneud. Rydych wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol ryfeddol i Gymru.
Ond hefyd, hoffwn achub ar y cyfle hwn i sôn am—rwy'n gobeithio nad oes ots gennych, oherwydd rydych yn sôn am y gwaith a wnaed i gadw mewn cysylltiad ar ochr ddiwylliannol pethau—y gwaith rhagorol a wnaed gan fy nghyd-Aelod Dafydd Elis-Thomas yn ystod ei gyfnod rhyfeddol. Mae'n ffordd mor wych iddo orffen gyrfa fel gwleidydd etholedig sydd, wrth gwrs, wedi rhychwantu degawdau lawer, ac mae ei gyfraniad i fywyd Cymru wedi bod yn wirioneddol ryfeddol. Bydd y llyfrau hanes yn cael eu hysgrifennu ryw ddydd, ac rwy'n gobeithio y byddant yn nodi cyflawniad anhygoel ei waith dros gymaint o flynyddoedd, yn gyntaf oll, rwy’n credu, fel yr Aelod ieuengaf yn Nhŷ’r Cyffredin, wedi iddo fynd yno pan oedd oddeutu 27 oed, treuliodd flynyddoedd lawer yn y siambr honno, heb golli unrhyw gyfle i hyrwyddo achos datganoli Cymreig, ac yn sicr, gwnaeth cyfraniad aruthrol yma yn y sefydliad hwn, yn anad dim fel Llywydd, gan roi ei stamp ei hun ar y rôl honno, ond hefyd, wrth gwrs, gan orffen ei yrfa wleidyddol yn y sefydliad hwn yn hyrwyddo'r achosion y gwn ei fod yn eu caru cymaint.
So, diolch yn fawr iawn, Dafydd, am bopeth rwyt ti wedi ei wneud drosom ni yma yn y Senedd ond hefyd dros ein gwlad ni.
David, diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn ar bobl ifanc hefyd. Wrth gwrs, mae'n hanfodol fod pobl ifanc o ddifrif ynglŷn â'u hiechyd meddwl. Rwy'n falch iawn fod cymaint ohonynt o ddifrif am hyn bellach. Ymddengys eu bod yn trafod y mater lawer mwy. Credaf fod hwn yn gyfnod anodd iawn i bobl ifanc. Mae llawer ohonynt heb fod gyda'u ffrindiau ers amser maith, maent wedi bod heb y drefn ddyddiol roeddent wedi arfer â hi, ac wrth gwrs, y peth arall na fu'n rhaid i'r un ohonom ni ymdopi ag ef pan oeddem yn ifanc yw gorthrwm llwyr y cyfryngau cymdeithasol. Credaf fod hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni fod o ddifrif yn ei gylch a rhaid inni helpu'r plant hyn i ddatblygu gwytnwch yn wyneb rhywbeth nad oedd yn rhaid i'r un ohonom ni ei wynebu mor ifanc. Gwn ein bod wedi rhoi cymorth sylweddol i helpu pobl ifanc. Gwn fod angen i ni wneud mwy, ond gallaf eich sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwbl glir fod angen inni wneud mwy o gynnydd eto yn y maes hwn nag a wnaethom hyd yma, gyda'r dull ysgol gyfan a'r dull system gyfan ac wrth gwrs, diwygio ein cwricwlwm, sydd, wrth gwrs, ag iechyd meddwl yn ganolog i'r hyn y mae'n ceisio ei gyflawni.
Diolch am eich ateb caredig, Weinidog, ac yn sicr, hoffwn ategu'r deyrnged a roesoch i Dafydd Elis-Thomas.
Rwyf hefyd am ganmol Mind, sy'n gweithio'n agos gyda Hafal a sefydliadau eraill. Credaf fod y sector iechyd meddwl yn rhagorol yn ei waith cydweithredol—mae'r cyrff ymbarél yn effeithiol iawn am eu bod yn gweithio gyda'i gilydd. Un o'r prif bethau y maent yn gofyn inni ganolbwyntio arnynt—ni waeth pa blaid a ddaw'n Llywodraeth nesaf Cymru—yw'r angen am ymgyrch gwrth-stigma. Nawr, rwy'n siomedig yn yr ystyr fod hyn wedi'i godi yn holl etholiadau'r Cynulliad a'r Senedd yn y gorffennol, mae'n debyg, ac mae'n dal i fod yn broblem go iawn. Felly, a wnewch chi ategu fy ngobaith y bydd pwy bynnag sy'n Llywodraeth ym mis Mai yn rhoi hyn ar frig y rhestr?
Yn sicr, David, ac a gaf fi ddweud wrthych mai un o'r pleserau o fod yn y swydd hon oedd cyfarfod yn rheolaidd â'r sefydliadau trydydd sector sy'n gwneud gwaith mor wych yn ein cymunedau, ac mae Mind a Hafal yn ddau o'r sefydliadau sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol arwyddocaol? Un o'r pethau allweddol i mi yw bod yn rhaid i ni sicrhau nad mesur sut rydym yn taro targedau o ran amserlenni yn unig a wnawn. Rhaid inni gael ymdeimlad o sut beth yw'r canlyniadau yn sgil yr ymyrraeth, ac felly mae gwrando ar yr hyn sydd gan bobl i'w ddweud yn gwbl allweddol, ac yn sicr rhywbeth roeddwn yn hapus iawn i'w wneud yn gynharach yr wythnos diwethaf oedd siarad a gwrando ar blant sy'n rhan o gyngor iechyd ieuenctid Caerdydd a'r Fro a hefyd, ar y penwythnos, y grŵp rhanddeiliaid ieuenctid cenedlaethol, oherwydd rwy'n credu o ddifrif fod gwrando ar bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau yn gwbl hanfodol, oherwydd mae angen inni wybod ganddynt hwy beth sy'n gweithio, ac os yw'n gweithio.
Ond yn sicr, o ran y stigma, fe fyddwch yn ymwybodol ein bod ni fel Llywodraeth wedi penderfynu ein bod am barhau i gefnogi Amser i Newid Cymru. Cefais fy synnu'n fawr fod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi penderfynu torri'r rhaglen honno ynghanol pandemig. Roedd yn benderfyniad syfrdanol gan y Llywodraeth Geidwadol yn fy marn i, ond gallaf eich sicrhau y byddwn yn parhau i ymladd y stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n rhywbeth sydd wedi newid yn ystod y pandemig—fod pobl yn fwy parod i siarad am eu pryderon ac i sylweddoli y gallant estyn allan a bydd pobl yn deall bod hyn yn bendant yn rhywbeth nad yw'n anghyffredin mwyach.
Mae'n ymddangos ein bod wedi colli David Melding am ei drydydd cwestiwn. David, a allwch chi fy nghlywed?
Gallaf, rwyf wedi cael fy ailgysylltu. A allwch chi fy nghlywed, Ddirprwy Lywydd?
Gallaf, mae hynny'n iawn. Mae gennych un cwestiwn arall fel llefarydd.
Af ymlaen at fy nghwestiwn olaf. Torrodd y cysylltiad pan oedd y Gweinidog yn mynd i ymosod ar y Blaid Geidwadol rwy'n credu—
Yn erbyn y blaid Dorïaidd, sy'n adeg dda i'ch cysylltiad dorri, David.
Rwy'n credu eich bod yn canolbwyntio ar blaid y DU yn hytrach na Phlaid y Ceidwadwyr Cymreig, ond nid wyf eisiau diwedd cas i fy nghwestiynau. A gaf fi ddweud fy mod wedi cael fy annog gan gyfranogiad Llywodraeth Cymru gyda'r Comisiwn Elusennau yn y rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau, y gwyddoch efallai eu bod yn edrych ar gyfrifon segur, yn y bôn, ac yn ceisio trosglwyddo'r arian hwnnw lle bo'n briodol at ddibenion elusennol gweithredol. A ydych yn cytuno â mi y dylai elusennau iechyd meddwl gael blaenoriaeth uchel iawn wrth hyrwyddo'r rhaglen ragorol hon sy'n cael ei rhedeg gan y Comisiwn Elusennau?
Yn bendant, David. Byddwn yn cytuno â chi fod hynny'n gwneud synnwyr llwyr, y dylid cyfeirio rhywfaint o'r arian hwnnw at yr elusennau iechyd meddwl hynny. Felly, byddwn yn eich cefnogi yn hynny o beth.
Diolch yn fawr iawn unwaith eto, David.
Diolch yn fawr am bopeth rydych chi wedi'i wneud i ni yng Nghymru hefyd.
3. A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynigion i gryfhau'r Gymraeg fel iaith gymunedol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ56486
Diolch yn fawr, Helen. Bydd Llywodraeth Cymru yn dyrannu £1.2 miliwn i’r mentrau iaith yn y gorllewin a’r canolbarth yn 2021-22 i hybu a hyrwyddo defnydd y Gymraeg yn y gymuned. Rŷn ni hefyd wrthi’n gweithredu argymhellion awdit cymunedol i gryfhau’r Gymraeg ar draws cymunedau Cymru yn sgil COVID.
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am eich ymateb. Dwi'n gwybod eich bod chi'n ymwybodol iawn o faint mor galed mae'r mentrau iaith a grwpiau cymunedol eraill yn gweithio, fel Menter Cwm Gwendraeth Elli, a fel maen nhw wedi dioddef y llynedd trwy golli digwyddiadau sydd mor bwysig iddyn nhw—y festivals, y digwyddiadau cymunedol, sydd yn bwysig iawn iddyn nhw o ran creu cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg, ond hefyd sydd yn bwysig iawn o ran incwm y mudiadau, felly. Dwi'n falch i glywed am y buddsoddiad sydd wedi cael ei wneud, ond a ydy'r Gweinidog yn cytuno â fi y dylai Llywodraeth nesaf Cymru, pwy bynnag ydyn nhw, flaenoriaethu cefnogaeth i'r mudiadau cymunedol yma er mwyn sicrhau bod nhw'n gallu para nes maen nhw mewn sefyllfa lle maen nhw'n gallu codi mwy o arian eu hunain, achos mae'n bell o fod yn glir y byddan nhw'n gallu cynnal y math yna o ddigwyddiadau cymunedol yn ystod yr haf yma chwaith?
Diolch yn fawr, Helen Mary, ac yn sicr rŷm ni'n ymwybodol o'r gwaith aruthrol mae'r mentrau iaith wedi bod yn gwneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Un o'r pethau rŷm ni wedi gwneud yn ystod y pandemig yw sicrhau bod ni wedi cael audit cymunedol i weld beth yw'r effaith ar y Gymraeg yn ystod y pandemig, achos mae yna lot o grwpiau, wrth gwrs, wedi methu dod ynghyd yn ystod y cyfnod yna, ac mae'r mentrau iaith wedi helpu ni gyda lot o'r gwaith yna o sicrhau bod ni'n gwybod beth sy'n digwydd ar lawr gwlad. Dwi yn falch bod ni wedi gallu rhoi arian ychwanegol i'r ganolfan yn Llandeilo—£0.2 miliwn ym mis Mawrth i Menter Dinefwr—felly rŷm ni wedi gallu rhoi arian iddyn nhw, a dwi yn gobeithio bod hwnna'n gam ymlaen.
Ond un o'r pethau rŷm ni wedi'i wneud yw o ganlyniad i'r audit, fe ddaethom ni â grŵp at ei gilydd ac mae naw o argymhellion wedi dod ger ein bron ni. Ac un o'r pethau rŷm ni'n gobeithio gwneud yw rhoi siâp newydd ar y mentrau iaith—rŷm ni wedi gwneud hyn gyda'r mentrau iaith—i sicrhau bod nhw efallai'n symud tir fel bod nhw'n deall bod rhan bwysig nawr o'u gwaith nhw'n ymwneud â datblygu economaidd, yn hytrach na jest gwaith i fynd mas i'r cymunedau i wthio'r Gymraeg. Mae actually cynnal a chadw a thrio datblygu swyddi yn yr ardal gobeithio yn mynd i ddod yn rhan o'u gwaith craidd nhw. Rŷm ni wedi bod yn gweithio'n agos gyda nhw ar hynny, a dwi'n gobeithio bydd hwnna'n helpu i'w sefydlogi nhw am y tymor hir.
Dyma'r cwestiwn mwyaf priodol fel cwestiwn olaf yma yn y Senedd hon. Ar ôl priodi, fe wnes i symud i bentref Cymraeg ei iaith yn y canolbarth a phenderfynais i fod yn ddewr ac i ddefnyddio fy Nghymraeg sylfaenol iawn, i ddatblygu'r iaith ac i fagu fy mhlant yn ddwyieithog. Ac ers cyrraedd y Senedd, fy ngweithle, wrth gwrs, dwi wedi bod yn llefarydd fy mhlaid ac rwy'n gobeithio yn enghraifft i holl ddysgwyr nad oes rhaid i chi fod yn gywir bob amser er mwyn ei gael yn iawn.
Weinidog, jest hoffwn i ddweud diolch i chi am ein perthynas waith dda dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae rhannu uchelgais realistig ar gyfer twf defnydd yr iaith, dealltwriaeth o le'r dysgwr a lle'r gweithiwr yn y weledigaeth, wedi gwneud hynny'n haws. Felly, dim syndod efallai mai dyma fy nghwestiwn. Bydd defnydd o'r Gymraeg gan famau sy'n gweithio yn hanfodol i lwyddiant strategaeth 2050. Yn ogystal â threulio mwy o amser gyda'u plant ifanc, rydym ni'n gwybod bod menywod yn fwyaf tebygol o gefnogi plant gyda gwaith ysgol, a bod yn fwyaf tebygol o gymdeithasu â theuluoedd eraill yn y cylchoedd chwarae a'r ysgol. Mae'r ffordd rydym ni'n cymdeithasu yn y gweithle hefyd wedi ei adeiladu ar wrando a rhannu trwy siarad. Sut ydych chi'n gafael yn y pethau gorau am sut mae menywod yn cymdeithasu a chyfathrebu yn eich cynllun iaith nesaf?
Diolch yn fawr, Suzy, ac rwyt ti wirioneddol yn fodel o beth rŷm ni'n treial ei gyflawni gyda'r strategaeth Gymraeg, rhywun sydd wedi datblygu o ran hyder yn y Gymraeg, a diolch i ti am gyfrannu nid yn unig wrth ddysgu Cymraeg ac wrth ymarfer Cymraeg, ond hefyd wrth siarad Cymraeg gyda dy blant di, ac maen nhw hefyd yn helpu ni i gyrraedd 1 miliwn. Felly, diolch yn fawr i ti am hynny.
Yn sicr, o ran mamau sy'n gweithio, dwi'n gwybod bod y gwaith rŷch chi wedi bod yn wneud ers sbel wedi bod yn pwysleisio'r angen yma i sicrhau bod dysgwyr yn dod yn rhan o beth rŷm ni'n treial ei gyflawni fan hyn, a gweithwyr. Mae'r ffaith bod chi'n pwysleisio rôl y fam, rôl y fenyw yn rhywbeth rŷm ni'n cydnabod. Dyna pam, er enghraifft, rydym ni wedi dod lan gyda pholisi newydd o ran trosglwyddo iaith yn y teulu, ac rŷm ni'n cydnabod bod rôl y fam yn hyn o beth yn hollbwysig; y dechrau o'r dechrau a thrio cael pobl i feddwl, cyn eu bod nhw'n cael plant, pa iaith maen nhw eisiau siarad gyda'u plant nhw hefyd.
Ond un prosiect rŷm ni wedi symud ymlaen gydag e yn ystod y sesiwn yma yw'r rhaglen Cymraeg Gwaith. Dwi'n gwybod bod hwnna yn rhywbeth roeddech chi yn gefnogol iawn ohoni, wrth gwrs. Mae hi wedi bod yn anodd gwneud hynny yn ystod y pandemig, ond dwi'n gobeithio byddwn ni'n cael cyfle i fynd yn ôl at hynny, a oedd yn profi i fod yn llwyddiannus iawn. Ond jest i danlinellu fy niolch i ti, Suzy, am bopeth rwyt ti wedi gwneud yn y Senedd yma, am bopeth rwyt ti'n gwneud dros yr iaith Gymraeg, a dwi'n siŵr bod dy gyfraniad di hefyd yn mynd i gael ei weld fel rhywbeth sydd wedi gwneud gwahaniaeth, nid jest yma yn y Senedd ond ar lawr gwlad. A diolch yn fawr i ti am bopeth rwyt ti wedi'i wneud.
4. Beth yw polisïau Llywodraeth Cymru i adeiladu partneriaethau ar gyfer iechyd meddwl da yng Nghymru? OQ56497
Mae gweithio mewn partneriaeth yn rhan sylfaenol o'n strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Fe'i hategir gan drefniadau cenedlaethol a lleol gydag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys y GIG, iechyd y cyhoedd, awdurdodau lleol, yr heddlu a'r sector gwirfoddol, fel rhan o'r dull amlasiantaethol sydd ei angen i wella iechyd meddwl.
Weinidog, un mater pwysig yw iechyd meddwl dynion a'u tuedd i beidio â siarad am eu teimladau a'u problemau, fel rydym wedi'i drafod droeon. Felly, mae'n bwysig cyrraedd dynion gyda'r negeseuon cywir drwy amrywiaeth o ddulliau a sefydliadau, a chael modelau rôl da wrth gwrs. O ystyried proffil a chyrhaeddiad pêl-droed proffesiynol, rwy'n credu bod rhan gref gan ein clybiau i'w chwarae, ac rwy'n falch iawn fod y tîm rwy'n ei gefnogi, Clwb Pêl-droed Casnewydd, wedi dangos arweiniad cadarn iawn yn y maes hwn. Ddwy flynedd yn ôl, hwy oedd yr unig glwb yng Nghymru—a dim ond y pedwerydd, mewn gwirionedd, yng Nghynghrair Pêl-droed Lloegr—i lofnodi'r Siarter Iechyd Meddwl ar gyfer Chwaraeon a Hamdden. Maent bellach yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau yn y ddinas i ddatblygu polisïau ar gyfer iechyd meddwl da. Mae ganddynt chwaraewyr fel llysgenhadon iechyd meddwl, gan gynnwys siarad am eu hanawsterau a'u profiadau eu hunain. Mae County in the Community yn sicrhau bod gweithgareddau cymunedol yn cynnwys negeseuon iechyd meddwl da. Mae ganddynt 'ddydd Mercher llesiant', lle mae'r cyfryngau cymdeithasol, a gwefan y clwb yn wir, yn cael eu defnyddio i gyfleu gwybodaeth a chyngor. Maent yn gwneud amrywiaeth o weithgareddau yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Credaf ei bod yn enghraifft dda i chwaraeon yng Nghymru yn gyffredinol, Weinidog, a tybed a wnewch chi ymuno â mi, pan fydd amgylchiadau'n caniatáu, i ymweld â'r clwb a thrafod y mentrau hyn a sut y gellir adeiladu arnynt ar gyfer y dyfodol.
Diolch yn fawr, John. Yn sicr, gwn fod eich ymrwymiad i Gasnewydd ac i'r mater pwysig hwn yn rhywbeth sy'n werth ei danlinellu. Roeddwn yn teimlo'n freintiedig iawn i allu siarad â rhai pobl yng nghymuned Casnewydd yr wythnos diwethaf i drafod mater iechyd meddwl, felly diolch am drefnu hynny.
Yn sicr, dyma un o'r pethau roeddwn yn canolbwyntio arnynt cyn imi ddod yn Weinidog iechyd meddwl, wrth ddechrau ymgyrch o'r enw 'I pledge to talk', gan weithio gyda Mind Cymru yng nghanolbarth Cymru, pan ganfuwyd bod tri achos o fewn cyfnod byr iawn, mewn cymuned fach, lle'r oedd dynion wedi cyflawni hunanladdiad. Roedd effeithiau hynny drwy'r gymuned yn aruthrol. Mae'n gwbl glir fod yn rhaid inni gael dynion i siarad, ac mae'n rhaid inni ddysgu gwrando hefyd. Yn sicr, ceir rhai enghreifftiau gwych o hyn yn digwydd. Felly, mae gennym Sheds Dynion, sy'n fenter wych yn fy marn i, ond credaf fod gan glybiau pêl-droed rôl benodol iawn yma, oherwydd gallant—. Mae ganddynt fath o effaith Heineken; gallant gyrraedd rhannau na all eraill eu cyrraedd, ac yn arbennig, efallai, estyn allan at grwpiau oedran iau nad ydynt am drafod iechyd meddwl o bosibl. Rwy'n eu canmol yn fawr am y rôl weithredol y maent wedi'i chwarae'n mynd i'r afael o ddifrif â'r mater hwn, ac yn sicr rwy'n falch iawn o weld eu bod yn gwneud hyn. Bydd yn rhaid inni weld beth sy'n digwydd ar ôl yr etholiad nesaf i weld a fyddaf yn dal i fod yn y rôl hon, ond yn sicr, os byddaf, byddwn yn hapus i ddod.
Ond yn sicr, o ran yr hyn sy'n digwydd nesaf, edrychwch, rwy'n canolbwyntio'n fawr ar y ffaith bod gweithgareddau plant yn cael dechrau eto ar 27 Mawrth. Rwy'n credu bod chwaraeon mor dda i iechyd meddwl pobl am eu bod yn digwydd yn yr awyr agored, ac fel rhywun sydd wedi ymrwymo i wneud 10 km y dydd yn ystod y Grawys, mae'n rhannol er mwyn sicrhau eich bod yn dechrau arfer newydd, mae'n gwneud yn siŵr ein bod yn codi ac yn symud, ac rwy'n credu y gallai llawer o bobl elwa o ddisgyblaeth o'r fath a dechrau arfer newydd, a chredaf y byddai clybiau pêl-droed yn wych am wneud hynny.
5. Pa wasanaethau sydd ar waith i gefnogi pobl sy'n dioddef o byliau o banig a gorbryder? OQ56493
Mae amrywiaeth o gymorth ar gael i helpu pobl sy'n dioddef o orbryder a phyliau o banig. Mae'r rhain yn cynnwys adnoddau a ariennir gan Lywodraeth Cymru megis Darllen yn Well Cymru, therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein a'n llinell wrando a chymorth cymunedol. Mae amrywiaeth o gymorth hefyd ar gael gan ein partneriaid yn y sector gwirfoddol.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Roeddem yn sôn am stigma'n gynharach, ac a gaf fi ddweud, pan fûm yn siarad yn y Siambr am fy mhrofiad fy hun o gael pyliau o banig wrth roi gwasanaeth gwleidyddol, cefais fwy o ymateb am hynny nag am unrhyw beth a wneuthum erioed yn fy ngyrfa? Fe hoffodd ymhell dros 100,000 yr hyn a roddais ar y cyfryngau cymdeithasol ar hynny, a chredaf fod hyn yn dangos—. Roeddent yn fyd-eang, gyda llaw. Mae'n dangos yr angen inni siarad am hyn, ond hefyd i wella gwasanaethau. Felly, fe'm calonogwyd gan y cwrs therapi gwybyddol ymddygiadol sydd wedi'i ddatblygu—rwy'n credu mai SilverCloud yw ei enw. Nawr, mae yn ei gamau cynnar; tybed pryd rydym yn debygol o weld y dystiolaeth o'r rhaglen honno a'r nifer sy'n manteisio arni a'i heffeithiolrwydd. Ond o ystyried bod modelu Llywodraeth Cymru yn awgrymu y gallai fod cynnydd o hyd at 40 y cant yn y galw am wasanaethau iechyd meddwl gofal sylfaenol, lle byddai'r rhan fwyaf o wasanaethau gorbryder yn cael eu darparu wrth gwrs, mae'n ymddangos i mi fod darpariaethau ar-lein—[Anghlywadwy.]
Ymddengys ein bod wedi colli David—
—yn rhan hanfodol o'r—[Anghlywadwy.]
Ymddengys ein bod wedi colli David; rwy'n credu bod ei gysylltiad yn wael, felly—. Na, mae'n ddrwg gennyf am hynny. Rwy'n credu ein bod yn mynd i symud ymlaen. Os cawn David yn ôl, efallai y caf weld a allwn gael ateb i'w gwestiwn. A gawn ni symud ymlaen at gwestiwn 6, Mark Isherwood?
6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi sector y celfyddydau yng Ngogledd Cymru? OQ56477
Diolch, Mark. Mae Llywodraeth Cymru, drwy ein partneriaeth â'r cyngor celfyddydau statudol, yn darparu cyllid yn flynyddol i gefnogi'r celfyddydau ledled Cymru. Mae'r gronfa adferiad diwylliannol gwerth £63 miliwn wedi bod yn hanfodol i gefnogi llawer o sefydliadau, ac mae'n debyg mai'r enghraifft orau yng ngogledd Cymru yw'r buddsoddiad cychwynnol o £3 miliwn a ddarparwyd gennym fel Llywodraeth ar gyfer Theatr Clwyd.
Diolch. Rwy'n falch eich bod wedi sôn am hynny, oherwydd mae'r prosiect cyfalaf i ailddatblygu Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug wedi'i lunio i ddiogelu theatr gynhyrchu fwyaf Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Fel y dywed Cyngor Celfyddydau Cymru, mae Theatr Clwyd yn hanfodol i lesiant pobl yng ngogledd Cymru, drwy ei rhaglen o sioeau apelgar o ansawdd uchel a'i gwaith allgymorth rhagorol mewn meysydd fel dementia a chyfiawnder ieuenctid. Ond mae hefyd yn darparu swyddi, yn denu ymwelwyr i Gymru ac yn codi proffil theatr Cymru gyda'i henw da ledled y DU.
Yn 2018, dyfarnwyd £1.2 miliwn iddynt tuag at ddatblygu'r cynllun, pan gydnabu'r Prif Weinidog yn ysgrifenedig fod i Theatr Clwyd arwyddocâd cenedlaethol ac fe wnaeth eu hannog i barhau â datblygiad y cynllun. Dilynwyd hyn gan gais cynllunio llwyddiannus ar gyfer adeilad rhestredig gradd II y theatr yn 2019. Cadarnhaodd Cyngor Celfyddydau Cymru eu £5 miliwn nesaf o gymorth ym mis Ebrill 2020, er gwaethaf y pandemig, a'r hydref diwethaf, fel y dywedwch, cytunodd Llywodraeth Cymru i ryddhau £3 miliwn dros ddwy flynedd ariannol i gadw'r prosiect i symud hyd at y gwaith adeiladu. Disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau yng ngwanwyn 2022, ac mae angen ymrwymiadau erbyn hydref 2021 i sicrhau cynnydd a chymhwysedd ar gyfer codi rhagor o arian. Sut felly yr ymatebwch i bryderon y bydd Theatr Clwyd mewn perygl difrifol o gau heb gyllid Llywodraeth Cymru i hyn, a'r angen iddi sicrhau nad yw penderfyniadau ar hyn yn cael eu gohirio?
Rwy'n derbyn y cyfrifoldeb sydd gennyf ar hyn o bryd fel Gweinidog y celfyddydau dros Theatr Clwyd, ond hefyd fel rhywun sydd wedi cefnogi'r theatr ers ei sefydlu gyntaf, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn rydych wedi'i ddweud am ei chyfraniad. Ond mae lleoliadau celfyddydol eraill ar draws y gogledd, fel Galeri yng Nghaernarfon, Ucheldre yng Nghaergybi, Pontio ym Mangor, Frân Wen, Theatr Bara Caws, Mostyn, Dawns i Bawb, Canolfan Grefft Rhuthun ac wrth gwrs, Canolfan Gerdd William Mathias. Mae gennym ystod eang o leoliadau celfyddydol a gweithgareddau celfyddydol rydym wedi ymrwymo i'w cefnogi, ac mae'r rhain i gyd yn rhan o Bortffolio Celfyddydau Cymru cyngor y celfyddydau. Ac rwy'n croesawu'n fawr y ffordd y mae cronfa loteri cyfalaf cyngor y celfyddydau yn gweithio ochr yn ochr â Phortffolio Celfyddydau Cymru cyngor y celfyddydau, ac rwy'n mawr obeithio y bydd hyn—wel, rwy'n sicr—y bydd hyn yn parhau, oherwydd mae Llywodraeth Cymru yn deall, fel y clywsom heddiw, fod diwylliant yn ganolog i weithgarwch Llywodraeth ddatganoledig.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Weinidog.
Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma yw Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021, a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Julie James.
Cynnig NDM7681 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021. Mae'r Gorchymyn yn gwneud newidiadau technegol i'r broses o enwebu ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Senedd a drefnwyd ar gyfer 6 Mai. Roedd y newidiadau'n pennu mai'r amser cau ar gyfer enwebiadau yw 4 p.m. ar 8 Ebrill, fel y gellir prosesu a chyhoeddi enwebiadau'n amserol, a galluogi ymgeiswyr nad ydynt yn byw yng Nghymru i nodi etholaeth seneddol yn y DU ar eu ffurflenni enwebu, lle nad ydynt yn dymuno i'w cyfeiriad cartref gael ei gyhoeddi. Mae'r newidiadau hyn yn cael eu gwneud er mwyn sicrhau y gall yr etholiad fynd rhagddo'n drefnus yn ystod y pandemig. Diolch.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Dwi'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad i gyfrannu. Mick Antoniw.
Diolch, Lywydd. Fe fuom yn ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod fore Llun, ac mae ein hadroddiad yn cynnwys dau bwynt rhinweddau. Mae ein pwynt rhinweddau cyntaf yn nodi bod y Gorchymyn yn diwygio'r ffurflen cyfeiriad cartref, sy'n caniatáu i ymgeiswyr ofyn am beidio â chyhoeddi eu cyfeiriad cartref ar ffurflenni enwebu. Lle caiff hwn ei ddefnyddio, rhaid i'r ymgeisydd ddarparu enw etholaeth y Senedd y maent yn byw ynddi. Mae'r diwygiadau a wneir gan y Gorchymyn yn caniatáu i ymgeiswyr sy'n byw y tu allan i Gymru ond yn y DU ddarparu enw etholaeth seneddol y DU y maent yn byw ynddi. Mae'r newid hwn yn berthnasol i etholiad Senedd 2021 yn unig, ond mae'r memorandwm esboniadol yn nodi y bydd angen ei ymgorffori mewn Gorchymyn diwygiedig neu newydd ar gyfer etholiadau dilynol y Senedd.
Mae ein hail bwynt rhinweddau'n ymwneud â'r ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru. Er ein bod yn croesawu'r ffaith bod ymgynghoriad wedi'i gynnal cyn i'r Gorchymyn hwn gael ei wneud, nid yw'r memorandwm esboniadol yn sôn am unrhyw drafodaethau gyda swyddogion canlyniadau etholaethau. Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru gadarnhau a gafodd unrhyw drafodaethau gyda swyddogion canlyniadau etholaethau, ac os felly, beth oedd canlyniad y trafodaethau hynny. Yn ei hymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym mai'r swyddogion canlyniadau rhanbarthol sy'n gyfrifol am gysylltu â swyddogion canlyniadau etholaethau'r Senedd yn eu rhanbarth er mwyn sicrhau dull cyson o weinyddu etholiad y Senedd ledled eu rhanbarth. Felly, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru â hwy ar y sail hon.
Yn ogystal, un o'r swyddogion canlyniadau rhanbarthol yw cadeirydd bwrdd cydlynu etholiadol Cymru, sydd â'r rôl o sicrhau cysondeb gweinyddiaeth ac arferion etholiadol ledled Cymru. Dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym hefyd ei bod yn ymgynghori â changen Cymru o Gymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol, sy'n cynrychioli gweithwyr etholiadol proffesiynol ledled Cymru, a chadarnhaodd ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiadau fod y safbwyntiau a fynegwyd yn ystod y trafodaethau hyn wedi cael eu hystyried cyn i'r Gorchymyn gael ei wneud. Diolch, Lywydd.
Diolch. Does gyda fi ddim rhagor o siaradwyr. Ydy'r Gweinidog eisiau ymateb o gwbl?
Na. Na, dim diolch.
Iawn. Felly, gwnaf holi'r cwestiwn: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn gweld nag yn clywed gwrthwynebiad, ac felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mae eitem 4 wedi'i dynnu'n ôl.
Eitem 5 yw'r eitem nesaf, Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021. A dwi'n galw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig yma eto—Julie James.
Cynnig NDM7678 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1, Yn cymeradwyo Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Yn fy natganiad ysgrifenedig ar 17 Mawrth, dywedais wrth yr Aelodau fy mod wedi gosod Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021—testun y ddadl heddiw. Nodais hefyd y byddwn yn gosod Rheoliadau Deddf Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Ymestyn Cyfnod Gwarchodaeth rhag Troi Allan) (Cymru) 2021 heddiw o dan y weithdrefn negyddol. Gyda'i gilydd, bydd y ddwy set o reoliadau'n ymestyn ymhellach, tan ddiwedd mis Mehefin, yr amddiffyniadau cyfredol rydym wedi'u rhoi ar waith. Mae'r amddiffyniadau hyn, yn y rhan fwyaf o achosion, yn atal beilïaid neu swyddogion gorfodi'r Uchel Lys rhag gweithredu gwarantau meddiannu neu orchmynion troi allan, a hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid roi rhybudd o chwe mis cyn ceisio meddiant.
Bydd yr eithriadau i'r trefniadau hyn yn parhau'n gyfyngedig iawn—er enghraifft, trais yn y cartref, ymddygiad gwrthgymdeithasol neu dresmasu. Bydd y cyfyngiadau ar orfodi gorchmynion meddiannu gan feilïaid neu swyddogion gorfodi'r Uchel Lys yn parhau i gael eu hadolygu'n rheolaidd yn ystod y cyfnod y maent mewn grym i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn angenrheidiol ac yn gymesur. Bydd ymestyn yr amddiffyniadau hyn yn sicrhau bod tenantiaid yn gallu aros yn eu cartrefi tra bod cyfyngiadau coronafeirws yn parhau. Bydd hyn yn diogelu iechyd y cyhoedd drwy leihau nifer y bobl sy'n cael eu troi allan, neu sydd mewn perygl o gael eu troi allan, i ddigartrefedd, ac yn enwedig digartrefedd ar y stryd, lle mae mwy o berygl y gallent fod yn agored i ddal y feirws, a'r tebygolrwydd y byddant yn ei ledaenu.
Bydd y mesurau hyn hefyd yn lleihau'r pwysau presennol ar wasanaethau cyngor a chymorth tai a digartrefedd, a allai ei chael yn anodd ymdopi fel arall oherwydd y galwadau presennol sy'n gysylltiedig â'r pandemig ac argaeledd llety dros dro a llety camu ymlaen. Er bod rhai mesurau eraill yn cael eu llacio i raddau cyfyngedig, mae'r amddiffyniadau a gynigir gan y rheoliadau hyn yn parhau'n hanfodol, yn enwedig yng nghyd-destun y perygl y gallai amrywiolion newydd o'r feirws gynyddu ei drosglwyddadwyedd, neu ddifrifoldeb ei effaith, neu drydedd don bosibl o heintiau. Rwy'n cydnabod y gallai ymestyn yr amddiffyniadau dros dro hyn am gyfnod pellach achosi anawsterau i rai landlordiaid yn y sector rhentu preifat. Fodd bynnag, fy mhrif flaenoriaeth yw diogelu iechyd y cyhoedd ar yr adeg hon.
Bydd yr Aelodau am wybod bod gweinyddiaethau eraill yn rhannu'r farn hon. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'n ddiweddar y bydd cyfyngiadau tebyg yn Lloegr yn cael eu hymestyn tan ddiwedd mis Mai, tra bod Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi y bydd y trefniadau yno'n cael eu hymestyn tan ddiwedd mis Medi. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig. Diolch.
Cadeirydd y Pwyllgor Cyfansoddiad, Deddfwriaeth a Chyfiawnder i gyfrannu—Mick Antoniw.
Diolch, unwaith eto, Lywydd. Unwaith eto, gwnaethom ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod fore Llun, ac mae ein hadroddiad yn cynnwys pedwar pwynt rhinweddau, y bydd rhai ohonynt, wrth gwrs, yn gyfarwydd i'r Aelodau.
Mae ein pwynt rhinweddau cyntaf yn nodi bod y rheoliadau hyn yn cyffwrdd â hawliau landlord o dan erthygl 1 o brotocol 1 y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. A nodwn fod eithriadau wedi'u cynnwys yn y rheoliadau sy'n caniatáu ar gyfer troi allan mewn amgylchiadau penodol; bod y rheoliadau'n cael eu gwneud am gyfnod penodedig yn unig; maent i'w hadolygu ar gylch tair wythnos rheolaidd; a'u bod yn cael eu gwneud yng nghyd-destun yr argyfwng iechyd presennol. Yn ogystal, nodwn hefyd ystyriaeth y Llywodraeth o gymesuredd y rheoliadau hyn yn y memorandwm esboniadol.
Mae ein hail bwynt rhinweddau'n nodi na fu ymgynghoriad ffurfiol ar y rheoliadau, ac mae ein trydydd pwynt rhinweddau'n nodi nad oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi. Wrth wneud ein trydydd pwynt, rydym yn tynnu sylw at y ffaith bod y memorandwm esboniadol yn ceisio nodi crynodeb o effaith bosibl y rheoliadau, sy'n darparu rhywfaint o asesiad ansoddol o'u heffaith.
Mae ein pedwerydd pwynt rhinweddau, a'r pwynt terfynol, yn tynnu sylw at y ffaith bod y rheoliadau hyn yn ychwanegu oddeutu 12 wythnos at y cyfnod o amser na fydd landlord yn gallu meddiannu eu heiddo oherwydd rhent heb ei dalu. Felly, ar y cyd â rheoliadau blaenorol a basiwyd ym mis Ionawr 2021 a mis Rhagfyr 2020, rydym yn tynnu sylw at y ffaith y bydd landlordiaid wedi eu hatal rhag adennill meddiant oherwydd rhent heb ei dalu am gyfnod sylweddol. Gall ôlddyledion rhent rhai landlordiaid gael effaith economaidd niweidiol arnynt, ac o'r herwydd, nodwn fod y memorandwm esboniadol yn cynnwys asesiad y Llywodraeth o'r risg hon. Diolch, Lywydd.
Does gyda fi ddim unrhyw un yn siarad yn y ddadl; dwi ddim yn gwybod a ydy'r Gweinidog eisiau ymateb o gwbl. Julie James.
Dim diolch, Lywydd.
Ocê. Felly, fe wnawn ni ofyn: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn gweld na chlywed gwrthwynebiad, ac felly mae'r eitem wedi ei chymeradwyo.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6. Does dim cwestiynau amserol wedi eu derbyn heddiw.
Felly eitem 7 yw'r eitem nesaf, y cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog ar y Biliau cydgrynhoi. A dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i symud y cynnig yn ffurfiol. Rebecca Evans.
Cynnig NDM7668 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Biliau Cydgrynhoi’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i cyflwyno Rheol Sefydlog 26C newydd, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Cynigiwyd y cynnig.
Cynigiwyd yn ffurfiol.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw, i gyfrannu.
Ac rwy'n croesawu'r cynnig, a fydd, os caiff ei dderbyn, yn rhoi gweithdrefnau ar waith a fydd yn galluogi'r Senedd ymhellach i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Dechreuodd ein pwyllgor ystyried cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cydgrynhoi cyfraith Cymru yn gynnar yn 2017. Buom yn craffu ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru), cyn iddo gael ei basio gan y Senedd hon ym mis Gorffennaf 2019. Yn anad dim, mae'n gosod dyletswydd ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidogion Cymru i baratoi o leiaf un rhaglen ar gyfer pob Senedd, gan ddechrau gyda'r chweched, a fydd yn cynnwys gweithgareddau y bwriedir iddynt gyfrannu at broses o gydgrynhoi cyfraith Cymru.
Mae cael gweithdrefn Rheol Sefydlog a fydd yn hwyluso'r broses o gyflwyno a chraffu ar Filiau cydgrynhoi o'r fath yn rhan hanfodol o'r broses o wella llyfr statud Cymru. O ystyried ein rôl yn craffu ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru), ymgynghorodd y Pwyllgor Busnes â ni ar fersiwn ddrafft o'r Rheol Sefydlog. Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r Pwyllgor Busnes am ei ymateb i'r sylwadau a ddarparwyd gennym yn ein gohebiaeth yn 2019.
Felly, gan droi at y Rheol Sefydlog arfaethedig ei hun, dylai cydgrynhoi ymwneud yn unig â'r gyfraith sy'n bodoli eisoes. Tynnaf sylw'r Aelodau at baragraff 24 yn adroddiad y Pwyllgor Busnes, sy'n crynhoi cyrhaeddiad y Rheol Sefydlog 26C.2 arfaethedig, a'r hyn y caiff Bil cydgrynhoi ei wneud. Fe wnaethom nodi nifer o bwyntiau mewn perthynas â'r rhan benodol hon o'r Rheol Sefydlog pan ysgrifenasom at y Pwyllgor Busnes. Rwy'n croesawu'r cadarnhad gan y Pwyllgor Busnes y bydd rôl glir a phwysig i bwyllgor cyfrifol y Senedd asesu a barnu'r hyn sy'n briodol ac o fewn paramedrau'r Rheol Sefydlog 26C.2 arfaethedig. Bydd cydgrynhoi cyfraith Cymru yn dasg sylweddol, ac ni ddylid bychanu rôl y pwyllgor cyfrifol a'r gwaith sydd ynghlwm wrth hyn.
Hoffwn dynnu sylw hefyd at y posibilrwydd o weld dau Fil cydgrynhoi yn mynd rhagddynt ochr yn ochr fel pecyn, rhywbeth sydd wedi'i ddogfennu yn adroddiad y Pwyllgor Busnes. Y cyntaf fyddai prif Fil cydgrynhoi, a byddai ail Fil yn cynnwys diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sy'n bodoli eisoes yng ngoleuni'r prif Fil. Byddai angen i gyfnodau diwygio ar gyfer dau Fil ddigwydd yn olynol, a rhagwelir y byddai'r Biliau hyn yn llwyddo neu'n methu gyda'i gilydd.
Yn ein gohebiaeth â'r Pwyllgor Busnes, fe wnaethom gydnabod sylwadau a wnaed gan y Cwnsler Cyffredinol y bydd yna broses o ddysgu wrth i'r Biliau cydgrynhoi cyntaf gael eu cyflwyno. Cytunwyd â'r Cwnsler Cyffredinol y dylid adolygu'r weithdrefn ar ôl i'r Senedd graffu ar y Bil cydgrynhoi cyntaf, er mwyn sicrhau bod y Rheolau Sefydlog a'r gweithdrefnau'n addas at y diben a fwriadwyd ar eu cyfer.
A hoffwn gloi fy nghyfraniad drwy ddweud nad yw hygyrchedd llyfr statud Cymru yn fater sydd ond yn effeithio arnom ni fel Aelodau wrth inni ymgymryd â'n dyletswyddau yma. Bydd gwella hygyrchedd cyfraith Cymru'n helpu ymarferwyr cyfreithiol sy'n gweithio yng Nghymru, ond hefyd, mae hygyrchedd y gyfraith a mynediad at gyfiawnder yn mynd law yn llaw. Diolch, Lywydd.
Rwy'n falch ein bod yn trafod yr eitemau niferus hyn ar y Rheolau Sefydlog ar wahân. Ni ofynnais am hynny drwy ddynodi gwrthwynebiad i'w grwpio er mwyn ymestyn y pumed Cynulliad yn ddiangen—rydym am weld y Cynulliad yn cael ei ddiddymu, nid ei barhau'n artiffisial ac yn ddiangen. Felly, rwy'n credu, serch hynny, fod llawer o'r Rheolau Sefydlog hyn yn rhai o sylwedd, a cheir ystod o faterion gwahanol sy'n haeddu dadleuon ar wahân yn fy marn i. Ac rwy'n credu bod dogfennau rhagorol wedi'u paratoi hefyd ar gyfer y Pwyllgor Busnes ar bob un ohonynt sydd hefyd yn haeddu sylw.
Ar gydgrynhoi, roeddwn yn meddwl i ddechrau fod cydgrynhoi'r gyfraith yn beth synhwyrol a heb fod yn ddadleuol iawn, mae'n debyg. Ac wrth gwrs, mae darpariaethau ar gyfer cydgrynhoi cyfreithiau yn San Steffan. Fodd bynnag, ar ôl ystyried ymhellach, nid wyf yn credu bod hynny'n wir bellach, a chredaf yn un peth y bydd y Rheol Sefydlog hon ar gydgrynhoi yn hwyluso'r llwybr at fwy o ddeddfu gan y lle hwn, ac nid wyf yn cefnogi hynny.
Cyfeiriodd Cadeirydd y pwyllgor at bwysigrwydd cydgrynhoi cyfraith Cymru, ond wrth gwrs, nid oes gennym awdurdodaeth ar wahân yng Nghymru. Mae gennym gyfraith Cymru a Lloegr, fel y'i cymhwysir yng Nghymru. A chredaf fod y pwynt hwnnw'n codi amheuon am lawer o'r pwyntiau eraill rwyf wedi'u gwneud ynghylch pam y mae hyn yn beth sydd mor amlwg yn dda i'w wneud a heb fod yn ddadleuol, i gynorthwyo defnyddwyr a gwella mynediad at gyfiawnder a hygyrchedd, ac yn y blaen.
Ym mhapur y Pwyllgor Busnes, credaf fod paragraff 2 yn cyflwyno'r achos o'r ochr arall yn eithaf da. Mae'n cyfeirio at y ffaith bod Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y pedwerydd Cynulliad wedi ystyried hyn yn ei adroddiad 'Deddfu yng Nghymru'. Cawn ddiffiniad o gydgrynhoi, neu o leiaf ddisgrifiad o gydgrynhoi'r gyfraith fel,
'mynd i'r afael â darn o gyfraith sydd wedi dadfeilio oherwydd yr haenau o ddiwygiadau ac addasiadau a wnaed iddo, a llunio un testun glân, yn unol â'r arfer cyfoes gorau.'
Nawr, nid wyf yn siŵr a yw hynny'n wir. Yn amlwg, wrth i gyfreithiau gael eu diwygio a newidiadau'n cael eu gwneud, a diwygiadau ac addasiadau, gall hynny gynyddu cymhlethdod, a gall wneud y cyfreithiau'n anos i'w defnyddio, ar gyfer ymarferwyr cyfreithiol ac o ran hygyrchedd i'r cyhoedd, ond yn aml mae hynny'n ffactor o gymhlethdod cynyddol y gyfraith, yn hytrach nag adlewyrchu, o reidrwydd, ei fod yn dod o wahanol statudau neu wahanol leoedd. Wrth i hynny ddigwydd, wrth gwrs, mae'n cynyddu'r risg o amwysedd neu wrth-ddweud, ond i'r graddau fod hynny'n digwydd, daw cydgrynhoi'r gyfraith yn broses ddadleuol oherwydd ei bod o bosibl yn datrys neu o leiaf yn dylanwadu ar yr amwysedd a'r gwrth-ddweud. A phan ddywed y pwyllgor y byddai'n arwain at un testun glân, nid wyf yn credu bod hynny'n wir yng nghyd-destun datganoli, a chyd-ddatganoli.
Yr hyn y byddai'n arwain ato, yn y rhan fwyaf o feysydd, yw testun i Gymru ac ystod wahanol o destunau ar gyfer mannau eraill yn y DU, neu o leiaf ar gyfer Lloegr, a dros amser daw'n bosibl y bydd dehongliad o'r ddau gorff cyfraith gwahanol yn dod yn wahanol, neu ei bod yn anodd iawn bod yn siŵr eich bod yn edrych ar y gyfraith gywir o ran y gyfraith achosion, oherwydd os oes gennych farnwr sy'n dehongli pethau mewn ffordd benodol, ond sy'n gwneud hynny yng Nghymru, nid yw'n glir a yw hynny wedyn yn cael ei nodi gan farnwyr yn Lloegr sy'n dehongli cyfraith Cymru a Lloegr fel y bo'n gymwys i Loegr. Ac wrth gwrs, mae llawer mwy o ddehongli o ran maint y gwaith yn digwydd yn Lloegr. Ac os cydgrynhoir, neu y cyfeirir at y pethau hynny o'r ddeddfwriaeth flaenorol, gall fod yn heriol iawn i'r cyfreithwyr a'r ymarferwyr olrhain y newidiadau hynny'n ôl i'r hyn sydd wedi digwydd yng Nghymru, ac a yw'r newidiadau hynny—. Efallai fod rhai ohonynt yn rhwymol, ond maent wedi'u gwneud gan gyfeirio at statudau eraill a darpariaethau eraill sydd, i bob golwg, wedi'u cydgrynhoi'n un testun glân, ond nid yw'n un testun glân oherwydd bod y gyfraith yn parhau i fodoli fel yr oedd yn Lloegr. Ac mae hynny, i mi, yn bwrw amheuaeth ar hyn oll, a bwriadwn wrthwynebu'r Rheol Sefydlog newydd hon i hwyluso'r llwybr at y math hwn o ymddygiad deddfwriaethol pellach.
Diolch. Does gyda fi ddim mwy o siaradwyr ar yr eitem yna. Felly, y cynnig yw i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â Biliau cydgrynhoi. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 8 yw'r eitem nesaf, a'r cynnig yma yw i ddiwygio Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud ag ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Dwi'n galw eto ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i symud y cynnig. Rebecca Evans.
Cynnig NDM7669 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Gadael yr Undeb Ewropeaidd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 21, 26, 26A, 26B, 27 a 30C, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Cynigiwyd y cynnig.
Cynigiwyd yn ffurfiol.
Rwy'n credu efallai mai dyma fy hoff eitem o'r rhai rydym yn eu trafod heddiw, am ei bod yn diwygio ein Rheolau Sefydlog i adlewyrchu ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd. Adroddiad cymharol fyr a aeth i'r Pwyllgor Busnes. Mae'n dweud, 'Pe bai'r pwyllgor'—sef y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol—
'Pe bai’r pwyllgor o’r farn nad oedd deddfwriaeth yn cydymffurfio â’r egwyddor sybsidiaredd, câi wneud sylwadau ysgrifenedig—'.
Mae hynny'n ymwneud â sybsidiaredd. Ac yna mae'n mynd rhagddo:
'i bwyllgor perthnasol Tŷ’r Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi, a hynny er mwyn cynnwys y sylwadau hynny mewn barn resymedig i’w chyflwyno gan y pwyllgor i awdurdodau perthnasol yr UE.'
Felly, mae hynny'n ymwneud â sybsidiaredd ac, yn ôl pob sôn, â phroses gyfreithiol ar gyfer sicrhau ei fod yn cael ei gymhwyso. Yr hyn nad yw'r papur yn ei ddweud yw a ddefnyddiwyd y broses honno erioed, ac os felly, a gafodd unrhyw effaith erioed. Ond mae'r papur wedyn yn parhau,
'Mae sybsidiaredd wedi'i wreiddio yn y Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd a beidiodd â bod yn gymwys yn y DU ar y diwrnod ymadael.'
Nawr, rwy'n anghytuno â'r ymadrodd hwnnw'n gryf iawn. Mae sybsidiaredd yn golygu gwneud penderfyniadau ar y lefel isaf bosibl, ac nid oedd y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi diwedd ar sybsidiaredd; mae'n cynyddu sybsidiaredd yn helaeth drwy symud nifer enfawr o bwerau a oedd wedi'u harfer ar lefel yr Undeb Ewropeaidd fel eu bod yn cael eu harfer naill ai yn San Steffan neu gennym ni yng Nghaerdydd. Cynnydd mewn sybsidiaredd yw hynny, nid rhoi diwedd arno. Wrth gwrs, roedd yn gysyniad y gwnaeth John Major wthio i'w gael wedi'i gynnwys yn y cytuniad ym Maastricht, ac rwy'n amau pa mor gymwys ydoedd mewn gwirionedd yn yr Undeb Ewropeaidd, ac yn sicr yn ymarferol, os nad yn y termau statudol penodol a ddisgrifiwyd, bydd llawer mwy o'r sybsidiaredd hwn gan ein bod bellach y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Ond mae'n synhwyrol, wrth gwrs, ein bod yn dileu'r ddarpariaeth hon sydd bellach yn ddiangen, os bu'n unrhyw beth heblaw diangen erioed, o'r Rheolau Sefydlog.
Y cwestiwn arall y mae hyn yn ei godi yw: beth am y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol? Pan oeddwn yn aelod o'r Pwyllgor Busnes am gyfnod ar ddechrau'r Cynulliad hwn, rwy'n cofio i'r pwyllgor gael ei ddisgrifio, yn answyddogol o leiaf, fel y pwyllgor Brexit. Ac roeddwn wedi deall ei fod yno i helpu gyda'r ddeddfwriaeth helaeth y bu'n rhaid ei hailystyried yng ngoleuni Brexit ac i sicrhau bod ein llyfr statud yn ymdrin yn briodol â gofynion Brexit a faint o waith y byddai hynny'n galw amdano. Felly, cytunais i sefydlu'r pwyllgor hwnnw, ond roeddwn wedi deall mai pwyllgor dros dro i'r Cynulliad hwn ydoedd, gyda hynny'n ffocws iddo. A dywedwyd wrthym fod pwyllgorau, yn y pedwerydd Cynulliad, wedi'u gorlwytho cymaint a bod cymaint o ddeddfwriaeth fel bod angen y pwyllgor deddfwriaeth ychwanegol hwn arnom, pwyllgor y gellid ei gyfuno ag edrych ar Brexit. Ond nid wyf yn siŵr faint o ddefnydd a fu arno ar gyfer hynny, neu a yw pwysau deddfwriaeth yn cyfiawnhau cael pwyllgor pellach, ac fel y clywsom yn gynharach, mae Brexit bellach ar ben. Felly, pam y mae'r pwyllgor hwn gennym o hyd? Ac a ddylem gael unrhyw gyfeiriadau yn y Rheolau Sefydlog i awgrymu y dylai barhau i'r chweched Cynulliad neu Senedd mewn unrhyw ffordd?
Does gen i ddim siaradwyr eraill. Felly, y cynnig yw i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas ag ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nag oes. Neb yn gwrthwynebu ar y pwynt yma, felly, ac felly mae'r cynnig yma yn cael ei gymeradwyo yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 9 yw'r eitem nesaf a chynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog sydd yn ymwneud â busnes cynnar yn dilyn etholiad Senedd. Rebecca Evans i gyflwyno'n ffurfiol.
Cynnig NDM7670 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Busnes Cynnar yn dilyn Etholiad y Senedd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 6, 7, 8 a 17, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Cynigiwyd y cynnig.
Cynigiwyd yn ffurfiol.
Dywedwyd wrthym ym mhapur y Pwyllgor Busnes ar dynnu enwebiad yn ôl, nad yw enwebiad y Prif Weinidog na gweithdrefnau ethol Llywydd yn gwneud darpariaeth benodol ar gyfer tynnu enwebiad yn ôl, ac mae'r ddwy Reol Sefydlog yn defnyddio iaith orfodol i'w gwneud yn ofynnol cael cylchoedd pleidleisio pellach os nad oes unrhyw ymgeisydd yn llwyddiannus mewn cylch pleidleisio penodol. Felly, wrth gwrs, nid ydynt yn cynnwys darpariaethau penodol sy'n ymwneud ag ymgeisydd yn tynnu'n ôl, oherwydd mae ganddo iaith orfodol sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r broses honno gael ei chwblhau, ac os ydych yn ymgeisio am un o'r swyddi hyn o dan ein Rheolau Sefydlog, rydych yn ymrwymo i gwblhau'r broses honno. Ac os ceir cytundeb gwleidyddol yn sgil canlyniad cyfartal, fel y byddai rhai Aelodau o'r Cynulliad yn newid eu pleidlais mewn pleidlais yn y dyfodol, dylem gael y bleidlais honno yn y dyfodol fel y gallwn eu gweld yn newid eu pleidlais, ac fel bod hynny'n gyhoeddus, ac yn hollbwysig, dylem barchu a chymhwyso ein Rheolau Sefydlog. Ac mae arnaf ofn yn yr achos hwn, na ddigwyddodd hynny.
Lywydd, fe ddywedoch chi wrthym na allai'r Rheolau Sefydlog ystyried pob senario bosibl ac mewn sefyllfaoedd o'r fath, eich cyfrifoldeb chi yw dehongli'r Rheolau Sefydlog. Ond nid oedd angen dehongli'r Rheolau Sefydlog hyn. Fel y dywedodd y Pwyllgor Busnes, maent yn defnyddio 'iaith orfodol'. Fe benderfynoch chi fod yr iaith yn afresymol ac fe benderfynoch chi wneud rhywbeth arall, ac o ganlyniad i hynny, ni chafodd arweinydd Plaid Cymru, eich plaid chi, yr embaras o gael pleidlais bellach a cholli'r bleidlais honno, ar ôl mynd i mewn i'r broses hon o dan y Rheolau Sefydlog cytûn hynny a gafodd eu datgymhwyso wedyn ran o'r ffordd drwodd, mae arnaf ofn. Nid ydym yn cefnogi'r newidiadau hyn. Roeddem o'r farn bod honno'n broses synhwyrol, y broblem yw na chafodd ei chymhwyso. Ni ddylech godeiddio i barchu cynsail pan nad oedd y cynsail hwnnw, yn fy marn i o leiaf—ac nid wyf wedi clywed unrhyw farn fel arall sy'n argyhoeddi—yn cydymffurfio â'r Rheolau Sefydlog a oedd mewn grym ar y pryd.
Y mater pwysig iawn arall yma yn fy marn i—ac rwy'n ei chael yn anos asesu'r mater hwn, ond mae'n bwysig tu hwnt—yw'r un sy'n ymwneud â Rheol Sefydlog 6 ac yn enwedig Rheol Sefydlog 8, yr un mewn perthynas â'r Prif Weinidog. Fe gymeraf Reolau Sefydlog 6.9 a 6.10 fel enghraifft, yn hytrach na Rheol Sefydlog 8. Lle mae gennych ddau Aelod yn sefyll, pa un bynnag sy'n cael y bleidlais fwyaf sy'n dod yn Brif Weinidog, ond wedyn os bydd tri neu fwy'n sefyll, ceir darpariaeth wahanol o ran beth yw'r rhwystr i ddod yn Brif Weinidog. Mae hynny'n fy nharo'n rhyfedd iawn. Nid yw'n glir pam y dylai nifer yr ymgeiswyr cychwynnol adlewyrchu'r rhwystr gofynnol i ddod yn Brif Weinidog. Mae'n fater gwirioneddol ddifrifol, os oes gennym dri neu fwy o Aelodau'n sefyll, fod gofyn i un o'r Aelodau hynny gael mwyafrif o'r holl bleidleisio, gan gynnwys y rhai sydd wedi ymatal a phapurau pleidleisio a allai fod wedi eu difetha, yn hytrach na lluosogrwydd, yn enwedig o gofio bod hynny'n wahanol lle ceir dau ymgeisydd. Rwy'n credu bod honno'n ddarpariaeth ryfedd iawn.
At ei gilydd, rydym yn gwrthwynebu'r newidiadau hyn, yn gyntaf ar sail y newid arall roeddwn yn ei drafod yn awr, ond hefyd, at ei gilydd, ar sail hyn. Oherwydd pe baem yn cadw hyn a'n bod yn cael Rheol Sefydlog 6.10, o leiaf fel y mae'n gymwys i'r Prif Weinidog, mae'n golygu, hebddo—heb y newid—pe bai grŵp Diddymu o Aelodau yn y Cynulliad nesaf, dyweder, cyn belled â'n bod yn sicrhau bod tri neu fwy o Aelodau'n sefyll ac na fyddai fel arall, yna drwy ddifetha pleidleisiau a chymryd rhan ond ymatal, gallem o bosibl atal penodiad Prif Weinidog, os ceir lluosogrwydd ond nid mwyafrif o blaid yr ymgeisydd sydd ar y blaen. Felly, byddai gennym Gynulliad neu Senedd o hyd, ond heb Brif Weinidog a heb Lywodraeth Cymru oddi tano, a fyddai'n gam cadarnhaol, fel y byddem ni yn ei asesu. Felly, byddai'r posibilrwydd o rwystro penodiad Prif Weinidog a gadael y sefyllfa mewn limbo—efallai y gallai Llywodraeth y DU gamu i mewn a'n cynorthwyo—yn un y byddem yn ei groesawu.
Am y rheswm hwnnw, ni fyddwn yn pleidleisio dros y newidiadau hyn, ond rwy'n sicr yn deall pam y mae aelodau eraill o'r Pwyllgor Busnes wedi'u cynnig, o ystyried yr anghysondeb enfawr a phwysig iawn rhwng y sefyllfa a'r rhwystr sy'n berthnasol lle mae dau neu dri neu fwy o Aelodau a fyddai'n hoffi bod yn Brif Weinidog ar y dechrau; ac wrth gwrs, mae'r sefyllfa yr un fath ar gyfer y Llywydd.
Does neb arall eisiau siarad, felly y cynnig y tro yma yw i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â busnes cynnar yn dilyn etholiad y Senedd. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, mae yna wrthwynebiad i hynny ac fe fydd y bleidlais yn cael ei ohirio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog ar sub judice. Dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i gyflwyno'n ffurfiol—Rebecca Evans.
Cynnig NDM7671 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Sub Judice’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 13.15 a 17.28, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Cynigiwyd y cynnig.
Cynigiwyd yn ffurfiol.
Credaf y gallai'r rhain hefyd fod yn welliannau eithaf pwysig ac nid wyf yn hollol siŵr pam eu bod yn cael eu gwneud. Credaf fod rhai ohonynt yn synhwyrol, fel y cyfeiriadau at y comisiynwyr a'r ombwdsmon. Mae dileu'r rheini a chael darpariaeth gyffredinol yn hytrach na cheisio diweddaru ar gyfer pob comisiynydd neu ombwdsmon penodol yn ymddangos yn synhwyrol.
Ond ar hyn o bryd, mae gennym reol sy'n caniatáu i'r Llywydd benderfynu y gellir codi mater sy'n ymwneud ag achosion barnwrol gweithredol. Ac mae ein Rheolau Sefydlog wedi datgan y gellir codi'r mater os yw'r Llywydd yn fodlon ei fod yn amlwg yn ymwneud â mater o bwys cyhoeddus, neu benderfyniad gan Weinidog, a chredaf fod hynny'n synhwyrol. Heb hynny, mae gennym sefyllfa lle gall unrhyw un hawlio adolygiad barnwrol—gallwch gyflwyno un o'r rheini ac mae cynsail na ddylai'r gost drwodd i'r cam caniatâd fod yn fwy na chwpl o £1,000 efallai ac weithiau gall hynny gymryd sawl mis—ac ar ôl gosod yr hawliad hwnnw, mae hynny wedyn yn achos gweithredol yn y llys, ac fel deddfwrfa, ni allwn drafod unrhyw fater y mae hynny'n ymwneud ag ef.
Credaf fod hynny'n rhy eang o lawer, yn enwedig ym maes adolygiadau barnwrol sy'n cwestiynu penderfyniadau awdurdodau cyhoeddus. Os bydd Gweinidog yn penderfynu rhywbeth sy'n destun dadl wleidyddol a bod rhai ohonom yn ei gefnogi ac eraill heb fod yn ei gefnogi, a'n bod am barhau i drafod y rhinweddau, mae'n ymddangos y byddai'r newid hwn yn y Rheolau Sefydlog yn darparu ar gyfer torri'r drafodaeth honno ar Aelodau etholedig am fod un dinesydd preifat, dyweder, yn penderfynu hawlio adolygiad barnwrol. Ni all hynny fod yn iawn yn fy marn i. Mae yna eithriad yn y Rheol Sefydlog newydd a gynigir, ond mae'n llawer culach. Ac wrth gwrs y dylem drafod deddfwriaeth, neu is-ddeddfwriaeth, ond pam ar y ddaear na allwn drafod penderfyniad sydd wedi'i wneud gan Weinidog sy'n ddadleuol am fod rhywun arall mor wrthwynebus iddo fel eu bod yn hawlio adolygiad barnwrol? Ceir cyfeiriad,
'ac eithrio i'r graddau a ganiateir gan y Llywydd',
ond mae'n eithriad llawer culach. Mae sefyllfaoedd lle dylai'r Llywydd ystyried caniatáu i ddadl barhau hyd yn oed os oes mater gerbron y llysoedd wedi'u nodi bellach, a phan nad ydynt wedi'u nodi, rwy'n credu y bydd yn llawer anos i Lywydd ganiatáu i drafodaeth o'r fath barhau.
Yn amlwg, ar hyn o bryd, mae'n iawn fod gennym gyfyngiadau ar faterion sy'n mynd gerbron rheithgor neu achos ar fater teuluol, ond ar gyfer achosion eraill lle mae gennych farnwr neu farnwyr yn eistedd, yn enwedig ym maes adolygiadau barnwrol, credaf fod y syniad na allwn ni fel deddfwyr drafod unrhyw faterion o'r fath yn anghywir. Mae'r perygl y bydd ein dadl yn dylanwadu ar y barnwr neu'r barnwyr yn fach iawn yn fy marn i ac mae'n rhywbeth y gallent ymdrin yn hawdd ag ef. Rwy'n credu bod dyfarnu na chawn drafod hyn o gwbl yn hollol anghywir. Mae gennym ffyrdd cwbl synhwyrol o ymdrin â'r mater ar hyn o bryd—mae gennym eitem arno yn nes ymlaen—a chredaf y dylai'r dulliau hynny barhau, yn hytrach na newid y Rheolau Sefydlog mewn ffordd gwbl ddiangen.
Does neb arall eisiau siarad, felly y cwestiwn yw: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â sub judice? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe ohiriaf i'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 11 sydd nesaf, cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog ar adalw'r Senedd. Rwy'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i gyflwyno'r cynnig—Rebecca Evans.
Cynnig NDM7672 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Adalw’r Senedd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i cyflwyno Rheol Sefydlog 12.3A newydd, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Cynigiwyd y cynnig.
Cynigiwyd yn ffurfiol.
Credaf fod y gwelliannau hyn yn synhwyrol ar y cyfan. Ar hyn o bryd, dim ond ar gais y Prif Weinidog y cawn adalw'r Senedd, yn amodol ar benderfyniad y Llywydd. Ei phenderfyniad hi ydyw, ond fel y mae'n darllen ar hyn o bryd, credaf mai dim ond ar gais y Prif Weinidog y gellir ei wneud. Nid yw'n ymddangos i mi ei bod hi'n iawn atal y ddeddfwrfa rhag cael ei hadalw oni bai bod pennaeth y weithrediaeth yn dymuno hynny, felly rwy'n cefnogi'r newidiadau hyn. Mae'n agor y gallu i rywun arall adalw'r Senedd—y gall y Llywydd gymryd y cam i'w hadalw ond pan fydd hi neu ef yn gwneud hynny, dylai fod wedi ymgynghori â'r Prif Weinidog a'r Pwyllgor Busnes. Rwy'n credu bod hynny'n synhwyrol ar y cyfan. Bûm yn ystyried a allai hefyd fod yn synhwyrol ei gwneud yn ofynnol fan lleiaf i ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes ar adalw pan gaiff ei gynnig gan y Prif Weinidog, ond at ei gilydd, os yw'r Prif Weinidog a'r Llywydd yn cytuno, rwy'n fodlon i'r newid gael ei wneud, oherwydd rwy'n credu bod dod ag ail ben i mewn ar gyfer adalw'r Senedd yn welliant. Diolch.
Y cwestiwn yw, felly: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas ag adalw'r Senedd? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hyn? Dwi ddim yn meddwl fod yna, ac felly fe dderbynnir y cynnig yna yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Item 12 yw'r nesaf, cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog ar aelodaeth pwyllgorau yw'r rhain. Aelod o'r Pwyllgor Busnes i gynnig yn ffurfiol—Rebecca Evans.
Cynnig NDM7673 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth Pwyllgorau’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 17, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Cynigiwyd y cynnig.
Cynigiwyd yn ffurfiol.
Unwaith eto, credaf, ar y cyfan, fod hwn yn newid rwy'n ei gefnogi i'r Rheolau Sefydlog. Rwy'n credu ei bod yn destun gofid ein bod wedi colli sylfaen deddfwriaeth y DU a oedd yn darparu, os na allem ddod i gytundeb o ddwy ran o dair ynghylch cyfansoddiad ein pwyllgorau, y dylid cymhwyso D'Hondt. Credaf fod hynny'n rhoi ôl-stop sylfaenol a diogelwch i'r broses, sydd i raddau'n cael ei golli. Ond rwy'n credu ei bod yn well ei gael yn y Rheolau Sefydlog na pheidio â'i gael o gwbl. Er mai fy newis i fyddai iddo fod yn Ddeddf Seneddol y DU sy'n farnadwy yn llysoedd Cymru a Lloegr, nid dyna a geir, o ystyried y newid anffodus, yn fy marn i, sydd eisoes wedi digwydd. O ystyried hynny, rwy'n credu ei bod yn syniad da, mae'n debyg, i gael yr ôl-stop hwn yn y Rheolau Sefydlog, fel bod D'Hondt yn gymwys os na allwn ddod i gytundeb ar bwyllgorau drwy fwyafrif o ddwy ran o dair. Rwy'n credu mai dyma un o'r achosion prin lle rwy'n credu fy mod o blaid gweld Aelodau Llafur a Phlaid Cymru yn arfer eu mwyafrif o ddwy ran o dair i geisio rhwymo Cynulliadau neu Seneddau yn y dyfodol, am mai deddfwriaeth y DU oedd hon, ac yn anffodus fe'i collwyd ac mae'n cael ei hadfer a'i hailsefydlu gyda mwyafrif o ddwy ran o dair fel roedd Senedd y DU wedi darparu ar ei gyfer yn wreiddiol. Felly, ar y mater hwn, credaf fod y cynnig yn un da, er ei fod yn rhwymo Senedd yn y dyfodol. Diolch.
Y cynnig, felly, yw i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas ag aelodaeth pwyllgorau. Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hyn? Na, dwi ddim yn gweld—[Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Oes. Ymddiheuriadau, wnes i ddim ei weld e'n sydyn iawn. Felly, dwi wedi gweld gwrthwynebiad ac fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 13 yw'r nesaf, sef cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog, newidiadau amrywiol. Aelod o'r Pwyllgor Busnes i gyflwyno'r cynnig—Rebecca Evans.
Cynnig NDM7674 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau amrywiol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 1, 11 a 20 fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Cynigiwyd y cynnig.
Cynigiwyd yn ffurfiol.
Mae'n dda gweld o leiaf un Aelod arall yn cymryd rhan yn y broses i'r graddau eu bod yn gwrthwynebu, er ei bod yn ymddangos fy mod ar fy mhen fy hun yn siarad am y dadleuon hyn. Roedd yr adran hon ar newidiadau amrywiol yn arbennig o ddiddorol yn fy marn i. Mae yma amrywiaeth o newidiadau gwahanol i'r Rheolau Sefydlog, mewn meysydd go wahanol mewn gwirionedd, ond mae arnaf ofn na allaf fynnu dadleuon ar wahân ar y rhain, felly fe wnaf ymdrin â hwy fel grŵp.
Mae gennym gynllun pensiwn y Senedd, a gallaf ddeall pam y cynigir y newid hwn i'r graddau ei bod yn ymddangos bod y Rheolau Sefydlog presennol yn gwrth-ddweud y trefniadau sydd gennym lle mae'r bwrdd taliadau wedi cymryd cyfrifoldeb am benodi'r ymddiriedolwyr i'r cynllun pensiwn, ac eto roedd gennym y Rheol Sefydlog 1.7 hon o hyd, rheol sy'n sefydlu proses sy'n cystadlu i bob golwg. Nid wyf yn glir pam y mae'r bwrdd taliadau yn gwneud hyn. Rheolau'r cynllun yw'r rhain, ac mae'r cynllun pensiwn er budd ei aelodau, pensiynwyr presennol a phensiynwyr y dyfodol, a gwaith yr ymddiriedolwyr yw goruchwylio eu buddiannau'n briodol o fewn y gyfraith. Felly, o ystyried hynny, pam y mae gennym y corff annibynnol hwn, y bwrdd taliadau, yn penderfynu sut y dylid penodi pobl i gynrychioli buddiannau aelodau? Fel gyda'r Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol yn Nhŷ'r Cyffredin, gyda'r bwrdd taliadau sydd gennym yma, mae'n debyg ei bod yn egwyddor dda cael y rhaniad hwn rhwng Aelodau a chorff annibynnol sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch dognau Aelodau, fel petai, ond nid yw'n ymddangos mai dyna sy'n digwydd yma.
Mae ein cyfraniadau pensiwn yn cael eu talu, mae'r system wedi'i sefydlu. Hoffwn weld y cynllun pensiwn yn cael ei reoli'n well, gan ganolbwyntio mwy ar adenillion. Mae gennyf bryderon penodol am y pwyslais ar y giltiau indecs gyswllt a'r methiant i gael dyraniad cytûn tuag at ecwitïau'r DU, sydd wedi bod yn perfformio'n llawer cryfach yn ddiweddar. Ond does bosibl nad oes budd i'r Aelodau o reoli'r cynllun hwnnw'n dda, a diddordeb gan y Comisiwn i'w weld yn cael ei reoli'n dda, fel y gellir lleihau cyfraniadau arian trethdalwyr yn y dyfodol, a byddwn wedi meddwl bod hynny i'w weld yn cael ei wneud yn dda gyda'r ymddiriedolwyr o dan y gyfraith gyffredin sy'n cynrychioli buddiannau'r aelodau, ac mae hynny'n eithaf priodol o'i fewn. Felly nid yw'n eglur i mi pam nad ydym yn gwneud hynny a chael corff annibynnol i benderfynu yn lle hynny. Ond ar hyn o bryd mae'n ymddangos bod y rheini'n gwrth-ddweud ei gilydd. Nid wyf yn gweld hynny fel rheswm dros wrthwynebu hyn, er pe bai'n bosibl cael pleidlais ar y Rheol Sefydlog benodol hon, yn hytrach na chael y rhain wedi'u grwpio mewn meysydd mor wahanol, efallai y byddwn wedi ffurfio barn wahanol.
Maes arall sy'n ddiddorol yma yw'r gwahaniaeth rhwng Aelodau etholaeth ac Aelodau'r rhestr. Dywedwn yn ein Rheolau Sefydlog y dylid trin Aelodau etholaethol a rhanbarthol yn gyfartal a'u bod o werth cyfartal. Mae'n ymddangos bod rhai Aelodau'n bwrw amheuaeth ar hynny weithiau, ond dyna'r ddarpariaeth yn y Rheolau Sefydlog, a chredaf ei bod yn gywir. Ac eto, mae gennym y Rheol Sefydlog sydd â darpariaeth ar ymddiswyddo sydd ond yn cyfeirio at adran 10 o Ddeddf Llywodraeth Cymru, ac nid adran 11, ac mae hynny wedyn yn golygu ei bod yn gymwys ar gyfer yr etholaeth ond nid y rhanbarth. Ond nid wyf yn hollol siŵr pam fod angen Rheol Sefydlog 1.9. Mae ganddi ddarpariaeth lle mae'n dweud 'neu fel arall' beth bynnag, felly ceir disgresiwn eang ac nid wyf yn gweld pam fod angen inni fynd y tu hwnt i'r cyfeiriad statud at swydd wag er mwyn penderfynu drwy ddefnydd synhwyrol o'r Saesneg a chyfeirio angenrheidiol at y llysoedd pan fydd swydd yn dod yn wag, ac o ystyried ei bod mewn deddfwriaeth, mae'n debyg y byddai hynny'n drech na dehongliad y Rheolau Sefydlog beth bynnag, felly nid wyf yn siŵr a oes angen y Rheol Sefydlog hon. Yn fy marn i, mae'n bosibl ei bod yn ddiangen ac efallai y byddai'n well ei dileu, ond o ystyried ei bod yno, credaf ei bod yn well iddi gyfeirio at y darpariaethau rhanbarthol ac etholaethol yn y Ddeddf ar sail gyson, felly nid wyf yn bwriadu ei gwrthwynebu.
Credaf hefyd ei bod yn synhwyrol tynnu Cadeirydd y Pwyllgor Busnes o'r cyfeiriad—credaf fod cryn dipyn o drafod ar hynny pan ymunais â'r Pwyllgor Busnes ar ddechrau'r tymor—ac i'r graddau fod y Pwyllgor Busnes yn cael ei gadeirio gan y Llywydd. Mae'n ymddangos yn briodol na ddylai fod yn rhan o'r cydbwysedd pleidiol, er gwaethaf aelodaeth bosibl y Llywydd o blaid wleidyddol. Diolch.
Does neb arall eisiau siarad, felly'r cynnig yw i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i wneud newidiadau amrywiol. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hyn—y cynnig yma? Nac oes. Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 14 yw'r nesaf, y cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog dros dro, a'r aelod o'r Pwyllgor Busnes i gyflwyno'r cynnig—Rebecca Evans.
Cynnig NDM7675 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog dros-dro’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12 a 34, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Nodi argymhelliad y Pwyllgor Busnes ynghylch defnyddio pleidleisio electronig o bell o dan Reol Sefydlog 34.14A, yn dilyn etholiad y Senedd, gan gynnwys at ddibenion ethol y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd.
Cynigiwyd y cynnig.