Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
23/03/2021Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn yma heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. Dwi eisiau atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma.
Cwestiynau i'r Prif Weinidog, felly, yw'r eitem gyntaf, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Neil McEvoy.
1. Pa brofion a gynhaliwyd ar y mwd niwclear a garthwyd o'r tu allan i adweithydd niwclear Hinkley Point, cyn cael ei ollwng yn nyfroedd Cymru? OQ56489
Llywydd, cynhaliwyd profion cemegol a radiolegol yn 2009, 2013 a 2017 ar waddodion morol cyn eu gwaredu ar dir Caerdydd.
Diolch, Prif Weinidog. Yn 2018, es i i'r Uchel Lys gydag eraill i atal dympio mwd niwclear Hinkley yn nyfroedd Cymru ar gyrion Caerdydd. Pleidleisioch chi i'r dympio fynd rhagddo heb brofi am blwtoniwm. Mae eich panel arbenigol eich hun bellach wedi canfod bod unrhyw waredu pellach yn groes i fuddiannau Cymru. Cynghorir bod astudiaethau enghreifftiol yn cael eu cynnal. Mae adroddiad 'NRPB-M173' Llywodraeth y DU yn profi bod ymbelydredd alffa plwtoniwm wedi gollwng am ddegawdau heb unrhyw gynnydd i ymbelydredd gama. Felly, roeddech chi a Cyfoeth Naturiol Cymru yn anghywir o ran eich rheswm dros beidio â phrofi am blwtoniwm.
Rydych chi hyd yn oed wedi eich profi yn anghywir ynghylch ble y byddai'r mwd yn cyrraedd yn y pen draw. Mae gwyddonwyr fel yr Athro Barnham o Goleg Imperial Llundain a'r Athro Henshaw o brifysgol Bryste yn gofyn i brofion CR-39 gael eu cynnal, fel y gellir nodi gronynnau micro plwtoniwm. A wnewch chi gyfaddef eich bod chi'n anghywir i ddympio'r mwd yn 2018, ac a wnewch chi sicrhau bod profion CR-39 yn cael eu cynnal fel y byddwn ni'n gwybod yn sicr pa un a oes microronynnau o blwtoniwm yn y mwd hwnnw ai peidio? Y cwestiwn gwirioneddol yw: a wnewch chi sicrhau bod profion CR-39 yn cael eu cynnal gan fod plwtoniwm wedi gollwng i'r mwd hwnnw ers degawdau? Rydym ni'n gwybod hynny bellach. A wnewch chi gynnal prawf, os gwelwch yn dda?
Wel, Llywydd, sefydlais i'r grŵp cynghori annibynnol i archwilio pob agwedd ar leoli adweithydd niwclear yn Hinkley Point o ran sut y mae hynny yn effeithio ar Gymru. Mae'r grŵp yn cynnwys ffigurau uchel iawn o'r amrywiaeth o ddisgyblaethau perthnasol, a chyhoeddodd y grŵp ei adroddiad ddydd Mawrth yr wythnos diwethaf. Mae ei gasgliadau yn cynnwys yr angen i roi trefniadau trawsffiniol effeithiol ar waith i ymdrin ag unrhyw argyfwng, a'r angen i ailfodelu gwarediad ar dir Caerdydd o ganlyniad i'w ystyriaeth fanwl ei hun o addasrwydd tiroedd Caerdydd fel safle gwaredu o fewn ardal forol warchodedig a chydnerthedd ehangach ecosystem aber afon Hafren. Byddaf yn sicrhau bod yr adroddiad ar gael i'r rheoleiddiwr fel y gellir rhoi ystyriaeth briodol i'w gasgliadau wrth ystyried unrhyw gais a allai arwain at waredu'r gwaddodion morol ar dir Caerdydd.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi economi leol Aberafan? OQ56511
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gynorthwyo economïau lleol ledled Cymru, gan gynnwys economi Aberafan, gyda'n pecynnau cyllid sydd ar gael i fusnesau mewn ymateb i'r pandemig yn ogystal â thrwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ac a gaf i groesawu'r cymorth a roddwyd i'r miloedd o fusnesau bach ledled Aberafan yn ystod y pandemig i sicrhau, fel y dywedodd y Prif Weinidog, y gall y rhai a oedd mewn busnes yn 2019 aros mewn busnes pan fyddwn ni'n dod allan o'r pandemig hwn? Nawr, mae rhai y gallai fod angen y cymorth hwnnw arnyn nhw o hyd am ychydig yn hwy oherwydd y sectorau y maen nhw'n gweithio ynddyn nhw, fel Sonalyst yn fy etholaeth i. Ond mae'r rhan fwyaf o'n busnesau bach yn dibynnu mewn gwirionedd ar ein prif gyflogwr ym Mhort Talbot, a dur yw hwnnw, ac mae'r angen i'r Llywodraeth barhau ei gymorth i'r diwydiant dur yn hollbwysig, yn enwedig yn wyneb gwadiad y Torïaid ynghylch dyfodol y sector dur yng Nghymru. Mae'n ymddangos bod ffrindgarwch yn rhemp yn y Blaid Dorïaidd, oherwydd rydym ni'n gweld David Cameron yn lobïo Rishi Sunak am gefnogaeth i gwmni buddsoddi yn uniongyrchol, ond nid i'r busnesau hyn y mae'r buddsoddiad yn eu cynorthwyo ar hyn o bryd. Felly, a all y Prif Weinidog roi sicrwydd i weithwyr dur yn fy etholaeth i, ac yn y rhanbarth ehangach, y bydd y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn parhau i sefyll dros ein sector dur ac yn cefnogi'r diwydiant wrth iddo symud tuag at ddatgarboneiddio er mwyn adeiladu diwydiant dur cryf a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol ac am genedlaethau i ddod?
Llywydd, diolchaf i David Rees am y cwestiwn atodol yna. Wrth gwrs, mae hwn yn gyfnod pryderus i weithwyr dur. Roedd fy nghyd-Weinidog Ken Skates yn bresennol yn un o gyfarfodydd Cyngor Dur y DU—a gafodd ei oedi am amser maith, ond a gyfarfu o'r diwedd ar 5 Mawrth. Cafodd gyfarfod hefyd gyda Liberty Steel ar 18 Mawrth a chododd yr holl faterion hyn eto mewn cyfarfod pedairochrog, yn cynnwys Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru, ar yr un diwrnod. A'r pwynt y mae Llywodraeth Cymru bob amser yn ei wneud, Llywydd, yw arwyddocâd strategol diwydiant dur—ni allwch chi obeithio bod yn economi fodern, heb sôn am economi gweithgynhyrchu, heb fod gennych chi diwydiant dur cynhenid. Dyna arwyddocâd y gwaith sy'n digwydd yn etholaeth yr Aelod ei hun. Nawr, yno, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gynorthwyo yn uniongyrchol ymdrechion ym Mhort Talbot i sicrhau'r math o ddyfodol di-garbon i'r diwydiant dur y mae David Rees wedi ei gefnogi ers tro byd. Mae'r Sefydliad Dur a Metelau ym Mhrifysgol Abertawe, a agorwyd gan fy rhagflaenydd yn y swydd hon ym mis Chwefror 2018, yn canolbwyntio ar leihau allyriadau carbon yn y diwydiant dur. Mae Sefydliad ASTUTE, unwaith eto ym Mhrifysgol Abertawe, gan ddefnyddio £23 miliwn o gyllid Ewropeaidd, yn canolbwyntio ar dechnolegau gweithgynhyrchu cynaliadwy uwch a all helpu i sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r diwydiant dur. Yma yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo'r diwydiant hwnnw yn uniongyrchol, ond hefyd i wneud y ddadl mai dim ond Llywodraeth y DU all ddarparu cytundeb sector o'r math sydd ei angen ar y diwydiant dur, ac rydym ni'n gwneud y ddadl honno iddyn nhw pryd bynnag y cawn ni'r cyfle.
Diolch, Prif Weinidog, am ateb synhwyrol yn y fan yna yn hytrach na darllediad gwleidyddol. Fel y gwyddoch chi, mae'r Ceidwadwyr Cymreig eu hunain wedi ymrwymo yn llwyr i ddyfodol y diwydiant dur yng Nghymru. Mae cryn dipyn o dir ac eiddo sy'n eiddo cyhoeddus yn fy rhanbarth i o hyd, yn enwedig yn Aberafan. Fel y mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi dweud y bydd diweithdra ymhlith pobl ifanc yn cael ei lesteirio o ganlyniad i COVID, ac yng ngoleuni pryderon parhaus am gyflogwr craidd yr etholaeth, fel yr ydych chi newydd gyfeirio ato, beth yw'r ffordd orau o ddefnyddio asedau sy'n eiddo cyhoeddus i helpu i greu buddsoddiad a swyddi sydd o fudd i bobl ifanc yn Aberafan?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi symiau sylweddol o arian yn ceisio dychwelyd tir i ddefnydd buddiol, na fyddai byth yn cael ei gynnig o'i adael i'r farchnad. Yn aml, fel yn y mathau o ardaloedd y mae Suzy Davies wedi cyfeirio atyn nhw, y rheswm am hynny yw mai tir diwydiannol yw hwn lle mae halogiad wedi digwydd mewn blynyddoedd blaenorol, ac, os byddwch chi'n rhoi'r tir ar werth, yna ni all neb ei brynu gan na allan nhw ymdopi â'r costau suddedig y byddai'n rhaid eu talu cyn y gellid defnyddio'r tir. Felly, mae ein cronfa safleoedd segur, er enghraifft, wedi'i chynllunio i wneud y buddsoddiad hwnnw ar dir cyhoeddus fel y gellir ei ddefnyddio wedyn, er enghraifft, ar gyfer tai, gyda'r holl swyddi y mae hynny ynddo'i hun yn eu cynnig. Ac rwy'n cytuno â'r Aelod—ceir her wirioneddol i Gymru, pa bleidiau gwleidyddol bynnag sy'n mynd i'r afael â hi, o ran sicrhau nad yw ein pobl ifanc yn ysgwyddo baich yr argyfwng economaidd y mae coronafeirws wedi ei greu. Ac mae dod o hyd i ffyrdd y gallwn ni greu cyfleoedd iddyn nhw ym meysydd addysg, cyflogaeth, hyfforddiant fel eu bod nhw'n dod drwy'r pandemig, yn barod i fanteisio ar gyfleoedd gwaith pan fydd yr economi yn gwella, yn fy marn i, ar frig y rhestr o heriau y bydd angen i dymor nesaf y Senedd eu hwynebu.
Prif Weinidog, mae Aberafan yn dal i fod ag un o'r cyfraddau cyflogaeth isaf yng Nghymru, gyda chwarter y trigolion yn economaidd anweithgar. A ydych chi'n derbyn bod eich polisïau economaidd wedi siomi pobl Aberafan a rhanbarth cyfan Gorllewin De Cymru? Felly, yr hyn sydd ei angen ar bobl yn fy rhanbarth i yw mwy o gymorth i fusnesau domestig, yn enwedig y rhai hynny sy'n mynd ar drywydd technolegau gwyrdd, yn ogystal â gobeithio denu cwmnïau tramor. Prif Weinidog, sut gwnaiff eich Llywodraeth chi annog ysbryd entrepreneuraidd yn Aberafan? Diolch.
Wel, Llywydd, mae llawer yn yr hyn a ddywedodd yr Aelod yn ail hanner ei chyfraniad y gallaf i gytuno ag ef. Fodd bynnag, mae ei dadansoddiad yn ddiffygiol iawn. Mae'n un o nodweddion mwyaf rhyfeddol economi Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf ein bod ni wedi symud o fod ag un o'r cyfrannau uchaf o'n poblogaeth yn economaidd anweithgar, a chyfran gynyddol hefyd, ym 1999, ar ddechrau datganoli, i fod wedi gostwng y ffigur hwnnw i gyfartaledd y DU neu'n is na hynny weithiau, a phe byddech chi wedi dweud hynny 20 mlynedd yn ôl, y gellid cyflawni hynny, byddech chi wedi cael eich ystyried yn wirioneddol ar eich pen eich hun o ran posibiliadau economaidd bryd hynny. Felly, rwy'n credu bod ei dadansoddiad yn gamdybiaeth fawr, ond mae ei hawgrymiadau cadarnhaol ar gyfer yr hyn sydd ei angen ar gyfer economi Aberafan ac economi ehangach y de-orllewin yn cynnwys llawer o bethau synhwyrol.
Wrth gwrs, rydym ni eisiau annog mentrau cynhenid. Rydym ni wedi rhoi arian, yn ystod y pandemig hwn, yn uniongyrchol i gynorthwyo pobl ifanc yn arbennig, sydd â syniadau ar gyfer hunangyflogaeth, gan wneud yn siŵr bod ganddyn nhw'r mentora sydd ei angen arnyn nhw, y cymorth sydd ei angen arnyn nhw a rhywfaint o'r cyfalaf cychwyn y gallai fod ei angen arnyn nhw er mwyn troi'r syniadau hynny yn fusnesau hyfyw y dyfodol. Ac er y bu gan y Llywodraeth hon bwyslais penodol ar yr economi sylfaenol, y swyddi hynny na ellir eu symud o gwmpas y byd, rydym ni'n parhau i helpu i ddod â buddsoddiad i Gymru o fannau eraill hefyd. Does dim un ateb unigol i ddyfodol economi Cymru. Mae angen iddi fanteisio ar amrywiaeth eang o wahanol ffyrdd y gallwn ni gynorthwyo busnesau sydd yma eisoes, cefnogi doniau a brwdfrydedd pobl ifanc sydd â syniadau ar gyfer swyddi'r dyfodol, a, phan fo cyfleoedd yn codi, croesawu mewnfuddsoddiad i Gymru hefyd.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd, a, gyda'ch caniatâd, gan mai dyma'r cwestiynau olaf i'r Prif Weinidog yn y Senedd ar gyfer y sesiwn hon, hoffwn fyfyrio am eiliad ar y drasiedi y mae teuluoedd wedi bod drwyddi dros argyfwng COVID yr ydym ni newydd ei gweld y tu ôl i ni dros y 12 mis diwethaf. Mae colli rhywun annwyl yn ddifesur, ac mae'r galar y mae'n rhaid bod teuluoedd yn ei deimlo ledled Cymru gyfan yn cael ei adlewyrchu yn brudd heddiw gan holl Aelodau'r Senedd, ond hefyd ym mhob cymuned ar hyd a lled Cymru. Rydym ni hefyd wedi gweld gweithredoedd enfawr o garedigrwydd sydd wedi bod mor ysbrydoledig, caredigrwydd a thosturi ag ysbryd cymunedol gyda'i gilydd, sydd wedi cario llawer o bobl drwy'r argyfwng hwn.
Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch, fel arweinydd grŵp Ceidwadwyr Cymru, i staff y Comisiwn sydd, drwy'r sesiwn bum mlynedd hon, wedi ein tywys trwy gwestiynau a dadleuon, a hefyd i fyfyrio ar yr Aelodau nad ydyn nhw gyda ni heddiw, a ymgasglodd gyda ni ym mis Mai 2016 i ddechrau'r sesiwn hon, sydd yn drasig wedi colli eu bywydau yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
Prif Weinidog, gyda'r drydedd don yn ysgubo drwy Ewrop ar hyn o bryd, pam mae'n haws hedfan o Gaerdydd i Alicante nag yw hi i yrru i Aberystwyth?
Llywydd, ymddiheuriadau i arweinydd yr wrthblaid, gan fy mod i wedi methu'r—. Roedd oedi bach ar y llinell ar ran olaf un ei gwestiwn i mi. Os byddai cystal ag ailadrodd y llinell olaf un honno?
Iawn, Prif Weinidog. Mae'n ddrwg gen i am hynna. Pam mae'n haws hedfan o Gaerdydd i Alicante nag yw hi i yrru i Aberystwyth ar hyn o bryd yng Nghymru?
Esgusodwch fi. Diolch am hynna. Llywydd, a gaf innau hefyd adleisio'r pwyntiau cyntaf a wnaeth Mr Davies? Cawn gyfle yn ddiweddarach y prynhawn yma, mewn datganiad y byddaf i'n ei roi, i fyfyrio ar y 12 mis diwethaf eithriadol a'r rhai sydd wedi colli anwyliaid. Mae'n ddiwrnod pwysig iawn i ni wneud hynny.
Roeddwn i eisiau manteisio ar y cyfle, hefyd, fel y gwnaeth arweinydd yr wrthblaid, i fyfyrio ar greulondeb y pum mlynedd diwethaf o ran Aelodau'r Senedd. Nid ydym ni erioed wedi cael tymor tebyg iddo, pan ein bod ni wedi colli Aelodau'r Senedd o bob rhan o'r Siambr—pobl dalentog ac ymroddedig. Teimlwyd eu colled yn ddwys iawn ar draws y Siambr. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, collasom hefyd fy nghyfaill mawr, fy mentor a'm rhagflaenydd yn y swydd hon, Rhodri Morgan. Wrth agosáu at etholiad, fel yr ydym ni, rwy'n ei chael hi'n rhyfedd bob dydd i feddwl ein bod ni'n cael etholiad yma mewn Cymru ddatganoledig heb y sawl a oedd, mae'n debyg, y ffigwr mwyaf arwyddocaol yn bersonol o ran sefydlu datganoli yn y modd y mae hynny gennym ni heddiw.
O ran y mater teithio, Llywydd, mae teithio rhyngwladol i Gymru ac ohoni wedi'i rwymo gan yr un gyfres o reolau yng Nghymru ag y mae dros ein ffin ac, yn wir, yn yr Alban. Caniateir rhywfaint o deithio awyr o dan amgylchiadau cul iawn, pan fo'r pedair Llywodraeth wedi cytuno gyda'i gilydd ei fod yn angenrheidiol at ddibenion gwaith, dibenion addysg, neu pan fo pobl yn dychwelyd adref i fannau eraill yn y byd. Ar hyn o bryd, mae'r trefniadau 'aros yn lleol' yn parhau i fod yn angenrheidiol yng Nghymru oherwydd sefyllfa'r argyfwng iechyd cyhoeddus. Rwy'n dal i fod yn obeithiol, o ystyried y ffigurau presennol yr ydym ni'n parhau i'w gweld yng Nghymru a chyda'r gwelliannau yr ydym ni'n eu gweld, erbyn diwedd yr wythnos nesaf, efallai y byddwn ni'n gallu symud o 'aros yn lleol' i bobl yn gallu teithio yn ehangach ledled Cymru.
Prif Weinidog, ni all fod yn iawn, gyda'r drydedd don bresennol yn mynd drwy Ewrop, fel yr ydym ni'n ei weld, yn drasig, y gallwch chi hedfan o Gaerdydd yn haws nag y gallwch chi deithio, fel y dywedais, i Aberystwyth. Roeddwn i, y bore yma, er enghraifft, yn gallu prynu tocyn ar gyfer dydd Iau i hedfan allan o Faes Awyr Caerdydd, lle nad wyf i'n credu bod gwesty cwarantîn yn bodoli na phrofion yn y maes awyr yn bodoli. Os ydych chi'n caniatáu, allan o'ch maes awyr eich hun, i bobl hedfan i rannau o Ewrop lle ceir, o bosibl, trydedd don y feirws, pam nad oes cyfleusterau profi ym Maes Awyr Caerdydd a pham, yn wir, nad oes cyfleusterau cwarantîn?
Nid oes cyfleusterau cwarantîn, Llywydd, oherwydd nad oes unrhyw deithiau i Faes Awyr Caerdydd yn mynd i wledydd rhestr goch. Dim ond pobl sy'n teithio i'r Deyrnas Unedig o'r oddeutu 30 o wledydd ar y rhestr goch y mae angen iddyn nhw fynd i gwarantîn, ac ni chaniateir i'r un ohonyn nhw ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig drwy Gymru. Felly, nid oes dadl dros gyfleusterau cwarantîn ym Maes Awyr Caerdydd gan na fyddai'n ofynnol i neb yn unman yn y Deyrnas Unedig fynd i gwarantîn o dan yr amgylchiadau y mae'r Aelod yn cyfeirio atyn nhw.
Rwyf i yn bryderus iawn, fel y mae'r prif swyddog meddygol, fel y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y datganiadau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, ynghylch y rhagolygon o ganiatáu teithio rhyngwladol o 17 Mai ymlaen. Rwy'n rhannu pryderon yr Aelod am y drydedd don ar gyfandir Ewrop. Rwy'n rhannu ei bryderon ynghylch pobl yn cael dychwelyd i'r Deyrnas Unedig o fannau lle mae'r feirws yn cylchredeg o'r newydd, yn enwedig gan fod amrywiolion newydd sy'n ymddangos mewn gwahanol rannau o'r byd. Codais y mater hwn gyda Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn yn ein galwad reolaidd ddydd Mercher yr wythnos diwethaf. Rwyf wedi clywed Gweinidogion eraill y DU dros y penwythnos yn cymryd agwedd ychydig yn fwy rhagofalus at hyn nag a ragwelwyd yn wreiddiol ym map ffyrdd Prif Weinidog y DU ar gyfer Lloegr; rwy'n gobeithio y bydd hynny yn wir yn y pen draw am rai o'r rhesymau y mae arweinydd yr wrthblaid wedi eu nodi.
Sylwais na wnaethoch chi gadarnhau pa un a oedd profion yn y maes awyr. O'r bore yma, mae 45 o bobl wedi archebu lle ar hyn o bryd i hedfan i Gaerdydd o Alicante ddydd Iau, a 32 o bobl i hedfan y ffordd arall. Yn amlwg, mae'r penderfyniadau cytbwys a fydd yn cael eu gwneud ar y map ffyrdd gan San Steffan yn seiliedig ar yr adroddiad a fydd ar gael ar deithio rhyngwladol ar 12 Ebrill. Felly, mae'n rhyfeddol eich bod chi, fel y Prif Weinidog, yn cadw siopa nad yw'n hanfodol ar y stryd fawr ar gau, ond yn hapus i weld teithio rhyngwladol yn dod i Faes Awyr Caerdydd—maes awyr yr ydych chi'n ei reoli. A allwch chi ddeall pam mae pobl yn teimlo'n rhwystredig iawn am y posibilrwydd hwn? Maen nhw'n gweld un rheol ar gyfer un sector o'r economi a rheol arall ar gyfer sector arall o'r economi, pan fyddai'n ddiogel ar eich matrics a'ch cynllun adfer yn sgil COVID agor manwerthu nad yw'n hanfodol. Ond fel y mae hi, rydych chi'n barod i ganiatáu i bobl ddod i Faes Awyr Caerdydd pan nad oes unrhyw gyfleusterau profi yn bodoli, Prif Weinidog.
Rwy'n credu bod pobl yn gallach nag y mae'r Aelod yn credu y maen nhw. Byddan nhw'n deall bod y rheolau sy'n llywodraethu teithio rhyngwladol allan o Gymru neu i Gymru yn union yr un fath â'r rhai ym mhobman yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Os yw'r Aelod yn feirniadol ohonyn nhw, ni all ond bod yr un mor feirniadol o'r safbwynt a fabwysiadwyd gan ei Lywodraeth ei hun.
Edrychais cyn i ni ddechrau cwestiynau y prynhawn yma, Llywydd, ar y rhestr o deithiau hedfan a fydd yn dod i mewn i Heathrow y prynhawn yma—awyrennau o Cairo, awyrennau o sawl rhan o'r byd lle mae'r peryglon yn llawer mwy nag y bydden nhw ar unrhyw awyren sy'n dod i Gaerdydd. Os daw awyren i Gaerdydd, yna bydd pobl sy'n cyrraedd yma yn ddarostyngedig i'r holl reolau sydd yno. Mae hynny yn cynnwys trefn brofi, mae'n cynnwys ei gwneud yn ofynnol i bobl aros gartref yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod ar ôl iddyn nhw gyrraedd yn ôl, cael eu profi ar y dechrau, cael eu profi ar ôl wyth diwrnod—mae hynny i gyd ar waith yma yng Nghymru. Dyna'r un rheolau ag sy'n digwydd mewn mannau eraill.
Rwyf i wedi colli cyfrif o'r nifer o weithiau, Llywydd, y mae'r Aelod wedi fy annog y dylem ni ddilyn dull pedair gwlad tuag at y materion hyn yn y Deyrnas Unedig, ac eto pan rwyf i'n dilyn dull pedair gwlad yn union lle mae teithio rhyngwladol yn y cwestiwn, mae'n ymddangos ei fod yn awgrymu y dylem ni fod yn gwneud rhywbeth gwahanol yma yng Nghymru. Rydym ni'n ei wneud ar sail pedair gwlad. Rwy'n falch iawn ein bod ni'n ei wneud yn y modd hwnnw. Mae popeth yr ydym ni'n ei wneud yma yng Nghymru yr un fath ag yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, ar wahân i'r pwynt nad oedd yr Aelod wedi ei ddeall, sef na chaniateir i unrhyw deithiau rhestr goch ddod i Gymru. Dim ond yn yr Alban ac yn Lloegr y caniateir iddyn nhw lanio.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, dylai pob gweinyddiaeth edrych yn ôl ar ei chyfnod mewn grym a gofyn y cwestiwn, 'Beth ddylem ni fod wedi ei wneud yn well?' Pan fyddwch chi'n gofyn y cwestiwn hwnnw i chi eich hunan, pa ateb ydych chi'n ei roi?
Rwy'n siŵr bod llawer o atebion, oherwydd rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn y byddai unrhyw un synhwyrol eisiau myfyrio ar brofiad y pum mlynedd diwethaf. Hoffwn yn fawr iawn pe byddem ni wedi perswadio Llywodraeth y DU i daro bargen wahanol gyda'r Undeb Ewropeaidd wrth i ni ei adael. Pleidleisiodd pobl yng Nghymru i adael yr Undeb Ewropeaidd. Roedd Llywodraeth Cymru yn eglur o'r dechrau ein bod ni'n derbyn ffaith hynny, ond roeddem ni eisiau canolbwyntio ar ei ffurf. Ni wnaethom ni lwyddo i berswadio Llywodraeth y DU o'n hachos, a fyddai wedi arwain at berthynas economaidd lawer agosach gyda'n marchnad agosaf a phwysicaf. Hyd at y diwedd un, nid oeddem ni'n gallu perswadio Llywodraeth y DU, wrth daro ei bargen gyda'r Undeb Ewropeaidd, i ofalu am fuddiannau ein pobl ifanc drwy sicrhau ein bod ni'n parhau i gymryd rhan yn rhaglen Erasmus+, diffyg yr wyf i'n falch iawn o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi ei unioni dros y penwythnos hwn, fel y bydd pobl ifanc yng Nghymru yn parhau i gael cyfleoedd i weithio, astudio a gwirfoddoli dramor, fel y bydd croeso i bobl ifanc o weddill y byd yma yng Nghymru.
Mae'n rhaid i mi gyfaddef, Prif Weinidog, bod lansiad ymgyrch Llafur yn ddiweddar wedi achosi ychydig o edrych ddwywaith. Pan ofynnais i chi bedair wythnos yn ôl i heddiw i ymrwymo i roi'r cyflog byw gwirioneddol i'n gweithwyr gofal, eich ymateb bryd hynny oedd wfftio'r hyn yr oeddech chi'n ei ystyried yn addewidion anfforddiadwy. Symudwch ymlaen fis, ac mae'r cyflog byw gwirioneddol i ofalwyr yn un o'ch prif bolisïau erbyn hyn ar gyfer yr etholiad. Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi eich perswadio chi, y cwbl yr wyf i'n ei resynu, fel gyda chymaint o bolisïau eraill—ysgol feddygol y gogledd, datganoli cyfiawnder, a'r sicrwydd swyddi i bobl ifanc—yw ei fod wedi cymryd cyhyd. Ond yn yr ysbryd hwnnw o ailystyried hwyr ac ar eich cyfle olaf posibl yn y Senedd cyn yr etholiad, a wnewch chi ymrwymo nawr i ymestyn cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim? Fe wnaethoch chi gael gwared ar eich targed tlodi plant, sydd, yn ein barn ni, yn destun gofid mawr, ond a wnewch chi fanteisio ar y cyfle hwn i addo pryd poeth i bob plentyn y mae ei deulu yn derbyn credyd cynhwysol?
Llywydd, y gwahaniaeth sylfaenol rhwng maniffesto fy mhlaid i a'i blaid ef yw bod ein maniffesto ni yn gredadwy a bod ei un ef yn anghredadwy. Pan ddywedais wrtho bedair wythnos yn ôl ei bod hi'n hanfodol bwysig y gellir fforddio a chyflawni unrhyw addewidion y mae unrhyw blaid yn eu gwneud i bobl Cymru, roeddwn i'n golygu'r hyn a ddywedais. Ac mae'r gwaith y mae fy mhlaid i wedi ei wneud ar ein haddewidion yn sicrhau y gellir cyflawni pob un ohonyn nhw ac y gellir eu cyflawni mewn ffordd sy'n fforddiadwy. Nid yw'n gwneud unrhyw les i neb, Llywydd, dim ond y dywallt addewidion, un ar ôl y llall, heb unrhyw bosibilrwydd y gellir cyflawni'r addewidion hynny mewn gwirionedd, oherwydd maen nhw i gyd yn costio arian. Mae ei addewidion, dim ond o wneud asesiad ceidwadol iawn ohonyn nhw, werth ymhell dros £2 biliwn o refeniw a gwerth £6 biliwn o gyfalaf nad yw ganddo. Wnaf i ddim mynd i mewn i etholiad yn addo pethau i bobl yr wyf i'n gwybod nad ydyn nhw'n bosibl.
O ran prydau ysgol am ddim, mae gan y Llywodraeth hon hanes balch iawn yn wir. Y Llywodraeth gyntaf yn y Deyrnas Unedig i sicrhau prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau ysgol yn ystod y pandemig. Y Llywodraeth gyntaf yn y Deyrnas Unedig i sicrhau y bydd hynny yn parhau drwy gydol y flwyddyn academaidd nesaf. Y Llywodraeth gyntaf yn y Deyrnas Unedig i wneud yn siŵr bod y swm wythnosol sydd ar gael ar gyfer prydau ysgol am ddim yn ystod y pandemig ar lefel sy'n osgoi'r math o bethau cywilyddus a welsom yn Lloegr. Mae ein hanes yn falch, mae ein hanes yn gyflawnadwy a bydd yr addewidion yr ydym ni'n eu gwneud yn fforddiadwy, yn gredadwy ac yn gyflawnadwy hefyd.
Rwy'n sylwi eich bod chi wedi dweud yn y fan yna, Prif Weinidog, eich bod chi'n gwneud 'asesiad ceidwadol' o bolisïau Plaid Cymru ac rwy'n credu eich bod chi wedi defnyddio eich geiriau yn ofalus iawn, oherwydd rwy'n disgwyl nesaf i chi fod yn dyfynnu Theresa May a'r goeden arian hud. Nid yw honno'n ymgyrch etholiadol a aeth yn dda iawn iddi yn y pen draw. Bydd ein polisïau yn cael eu costio, yn cael eu dilysu yn annibynnol gan yr Athro Brian Morgan a'r Athro Gerry Holtham, economegydd yr ydych chi'n ei adnabod yn dda iawn ac yr ydych chi wedi ei ddefnyddio fel cynghorydd i Lywodraeth Cymru eich hun.
Nid wyf i'n disgwyl i'm pwerau perswadio ymestyn i dro pedol gennych chi unrhyw bryd yn fuan ar fater annibyniaeth, Prif Weinidog, ond a gaf i ofyn ychydig o gwestiynau dilys i chi yn y cwestiynau olaf hyn i'r Prif Weinidog? Yn eich gweledigaeth o reolaeth gartref, pa bwerau fyddech chi'n eu gadael yn San Steffan, o gofio y bydden nhw'n dal yn nwylo'r Torïaid y rhan fwyaf o'r amser? Ac, yn olaf—a dyma'r cwestiwn canolog i ni—os bydd y Ceidwadwyr, fel y rhagwelir ar hyn o bryd, yn ennill etholiad nesaf San Steffan, yr un ar ôl hynny, mae'n debyg, ac yn y blaen, a oes ryw adeg y byddai hyd yn oed chi, Prif Weinidog, yn derbyn bod annibyniaeth yn ddewis mwy blaengar i Gymru?
Wel, Llywydd, fy nghyngor i'r Aelod yw i godi ei galon. Brensiach, mae wedi diystyru'r posibilrwydd o ennill yr etholiad nesaf, mae wedi diystyru'r posibilrwydd o ennill yr un ar ôl hynny hefyd. Mewn gwirionedd, bydd fy mhlaid i yno, yn brwydro i wneud yn siŵr bod y canlyniadau yn wahanol. Nid ydym ni'n wangalon yn y ffordd anobeithiol y mae ef wedi bod yn y fan yna, y prynhawn yma.
Mae llawer o bethau y gallem ni eu trafod ynghylch pa faterion fyddai'n cael eu gadael ar lefel y DU. Y peth allweddol i'm plaid i yw y byddai'r holl bethau hynny yn cael eu cytuno, ein bod ni'n gymdeithas wirfoddol o bedair gwlad. Dyna ni, rwyf i wedi dyfynnu Mrs May ar ei gyfer y prynhawn yma, oherwydd dyna sut y disgrifiodd hi y Deyrnas Unedig yn ei darlith yng Nghaeredin yn yr wythnosau cyn iddi beidio â bod yn Brif Weinidog y DU. Mae cymdeithas wirfoddol o bedair gwlad yn golygu ein bod ni'n cytuno ar y pethau yr ydym ni'n dewis eu gweithredu ar lefel y DU. Mae yn ein dwylo ni, nid yn nwylo San Steffan i'w benderfynu.
Y gwir yw, Llywydd, mai'r dewis yn yr etholiad yw hwn: nid yw Plaid Geidwadol Cymru yn credu yng Nghymru, nid yw ei blaid ef yn credu yn y Deyrnas Unedig, mae fy mhlaid i yn credu yn y ddwy.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch cymunedol yn Alun a Glannau Dyfrdwy? OQ56487
Diolchaf i Jack Sargeant, Llywydd, am y cwestiwn yna. Ddydd Iau diwethaf, 18 Mawrth, cadeiriais gyfarfod diweddaraf bwrdd partneriaeth plismona Cymru. Adolygodd y bwrdd brofiad cymunedau yn ystod y pandemig, ac ailymrwymodd Llywodraeth Cymru a'r heddlu i weithredu gyda'i gilydd i gefnogi cymunedau cryf a diogel ar draws ein gwlad, gan gynnwys etholaeth yr Aelod.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Byddwch yn gwybod bod y Torïaid wedi dod i Alun a Glannau Dyfrdwy ac wedi addo 62 o swyddogion yr heddlu newydd, yn benodol yng Nglannau Dyfrdwy. Nid ydyn nhw wedi darparu yr un, yn benodol yng Nglannau Dyfrdwy. Mae Llafur Cymru wedi ariannu swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ar draws Alun a Glannau Dyfrdwy ac mae Torïaid Cymru bellach wedi ymrwymo i'w torri hwythau hefyd. Prif Weinidog, mae toriadau heddlu'r Torïaid wedi taro fy nghymuned i yn galed. A wnewch chi ymrwymo i ariannu hyd yn oed mwy o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu i weithio gyda chymunedau i wneud ein strydoedd yn fwy diogel, ac a wnewch chi barhau i gamu i mewn a gweithredu yn lle methodd Prif Weinidog y DU â gwneud hynny?
Llywydd, diolchaf i Jack Sargeant am y pwyntiau pwysig iawn yna, ac mae'n iawn: hanes y Blaid Geidwadol am ddegawd yw dadariannu'r heddlu ar draws y Deyrnas Unedig. Rhwng 2010 a 2018—i gyd yn flynyddoedd pan oedd y Blaid Geidwadol yn rhedeg Llywodraeth y DU—gostyngodd niferoedd yr heddlu yng Nghymru a Lloegr gan gyfanswm syfrdanol o 21,732 o swyddogion. Mae hynny bron i 500 yn llai o heddlu ar y strydoedd yma yng Nghymru oherwydd penderfyniadau bwriadol y Llywodraeth Geidwadol. A hyd yn oed pe byddai eu holl gynlluniau presennol yn llwyddo—fel y dywedodd Jack Sargeant, nid oes yr un o'r 62 o swyddogion a addawyd ganddyn nhw yn Alun a Glannau Dyfrdwy wedi dod i'r amlwg hyd ama—hyd yn oed pe bydden nhw'n llwyddo yn llwyr, ni fyddai'r niferoedd hynny yn gwella i ble'r oedd niferoedd plismona cyn blynyddoedd maith y Torïaid o dorri cyllidebau'r heddlu a niferoedd yr heddlu. Rwy'n falch iawn o'r ffaith bod Llywodraethau olynol yng Nghymru ers 2011 wedi ariannu 500 o swyddogion yr heddlu a swyddogion cymorth cymunedol, ac os caiff y Llywodraeth hon ei dychwelyd ym mis Mai, nid yn unig y bydd y 500 o swyddogion hynny yn parhau yn eu swyddi, ond byddwn yn ychwanegu atyn nhw gyda 100 o swyddogion eraill, fel bod mwy o bobl yn gweithio ar y strydoedd ym mhob rhan o Gymru.
Mae diogelwch cymunedol yn Sir y Fflint ac ar draws y gogledd yn gofyn am weithio amlasiantaeth cydgysylltiedig gyda chymunedau eu hunain ac mae swyddogaeth Heddlu Gogledd Cymru yn ganolog i hyn. Gan fod diogelwch cymunedol yn fater datganoledig, byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i gefnogi ac ariannu niferoedd swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yng Nghymru, gan weithio ochr yn ochr â rhaglen Llywodraeth Geidwadol y DU i recriwtio 20,000 o swyddogion yr heddlu ychwanegol yng Nghymru a Lloegr erbyn mis Mawrth 2023. Sut ydych chi'n bwriadu, felly, sicrhau gwaith partneriaeth rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU ar yr agenda hon, lle mae'r cynnydd gwirioneddol i swyddogion ychwanegol yng Nghymru a Lloegr eisoes wedi cyrraedd 6,620 erbyn 31 Rhagfyr 2020, gan gynnwys 302 o swyddogion ychwanegol yng Nghymru, a 62 yn y gogledd, gyda chynnydd pellach i ddilyn yn ystod y ddwy flynedd nesaf, gan gydnabod bod diogelwch cymunedol yn y gogledd yn gwbl ddibynnol ar waith integredig sefydledig gogledd Cymru gyda'u heddluoedd partner cyfagos yng ngogledd-orllewin Lloegr?
Llywydd, a yw'r Aelod yn gofyn o ddifrif i ni longyfarch ei blaid gan eu bod nhw wedi llwyddo i adfer un chwarter o'r toriadau i niferoedd yr heddlu a achoswyd ganddyn nhw yng Nghymru a Lloegr dros y degawd diwethaf? A yw hwnna'n gynnig difrifol y mae'n ei wneud i ni y prynhawn yma? Pan fyddaf i'n siarad â phobl sy'n poeni am ddiogelwch cymunedol, dydyn nhw ddim yn siarad â mi am weithio asiantaeth cydgysylltiedig. Yr hyn y maen nhw'n ei ofyn yw, 'Pam nad oes mwy o bobl yma, ar y stryd, yn gwneud y gwaith yr ydym ni eisiau iddyn nhw ei wneud?' A'r ateb yw: oherwydd bod ei Lywodraeth ef wedi cymryd bron i 22,000 o'r bobl hynny i ffwrdd, a Llywodraeth Cymru wnaeth gamu i mewn i ailgyflwyno'r 500 o swyddogion yr heddlu a'r swyddogion cymorth cymunedol hynny y byddem ni wedi gorfod gwneud hebddyn nhw fel arall. Nid oes diben o gwbl i'r Blaid Geidwadol yng Nghymru esgus bod eu plaid nhw wedi gwneud unrhyw beth heblaw dadariannu'r heddlu flwyddyn ar ôl blwyddyn, a'r Llywodraeth hon a gamodd ymlaen i helpu i gadw pobl yn ddiogel.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am waith Cyd-bwyllgor y Gweinidogion? OQ56481
Diolch yn fawr i Carwyn Jones am y cwestiwn yna. Jest i ddweud,
mae'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn siom, ac yn un a achoswyd gan Lywodraeth y DU. Nid yw wedi cyfarfod mewn fforwm llawn ers 2018, pan oedd ef yn bresennol ddiwethaf ar ran Cymru, ac nid yw wedi cael ei gynnull unwaith fel y fforwm i lunio ymateb pedair gwlad i'r argyfwng iechyd cyhoeddus.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. A ydych chi'n rhannu fy siom bod Llywodraeth y DU wedi claddu cyhoeddiad adolygiad Dunlop, a fydd yn cyfrannu cymaint at y peirianwaith rhynglywodraethol sydd gennym ni yma yn y DU? A yw'n rhannu gyda mi yr angen i gael system briodol lle gall Llywodraethau gydweithio i wneud penderfyniadau ledled y DU? A yw'n cytuno â mi bod angen proses datrys anghydfodau ddiduedd, nad oes gennym ni ar hyn o bryd, a ffordd well o weithio gyda'n cyfeillion yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon?
Rwy'n ymwybodol o'r ffaith mai dyma'r tro olaf y byddaf i'n siarad yn y Senedd. Nid dyma'r tro olaf y byddaf i'n mynegi barn, rwy'n siŵr, ar y mater hwn. Prif Weinidog, a ydych chi'n edrych ymlaen at ddiwrnod pan fydd gan y DU gyfansoddiad priodol, strwythur priodol, adeg pan fo rheolaeth y gyfraith wedi'i hymgorffori yn y gyfraith ac nid yn gonfensiwn yn unig, ac adeg pan fo Cymru yn bartner llawn a chyfartal yn llywodraethiant y DU?
Llywydd, rwy'n credu ei bod hi'n gwbl briodol, y tro diwethaf y bydd y cyn Brif Weinidog yn cymryd rhan yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, y dylai droi yn ôl at bwnc y mae wedi arwain y ddadl arno ers degawd ar draws y Deyrnas Unedig. Rwy'n ei longyfarch yn llwyr ar hynny. Rydym ni'n ddyledus iawn iddo am yr etifeddiaeth yr ydym ni'n manteisio arni nawr.
Mae yn llygad ei le am adolygiad Dunlop. Rwy'n cofio siarad gyda Phrif Weinidog y DU ar y pryd, Mrs May, am ei rhesymau dros sefydlu adolygiad Dunlop. Rhoddais dystiolaeth i adolygiad Dunlop fy hun. Hoffwn dalu teyrnged hefyd i'r cyfraniadau a wnaeth yr Arglwydd Dunlop yn ystod hynt y Bil marchnad mewnol drwy Dŷ'r Arglwyddi. Pe byddai'r Llywodraeth wedi bod yn ddigon doeth i gymryd ei gyngor bryd hynny, ni fyddem ni yn y sefyllfa ofnadwy o anodd yr ydym ni ynddi o ganlyniad i'r darn anghyfansoddiadol hwnnw o ddeddfwriaeth.
Mae adolygiad Dunlop wedi bod gan Brif Weinidog y DU ers ymhell dros flwyddyn, ac eto mae'n gwrthod caniatáu iddo gael ei gyhoeddi allan o Downing Street. A'r rheswm y mae'n gwrthod, rwy'n amau, yw oherwydd ei fod yn cynnig argymhelliad gwahanol iawn ar gyfer dyfodol y Deyrnas Unedig, argymhelliad tebyg iawn i'r un y mae Carwyn Jones wedi ei amlinellu: un sy'n seiliedig ar egwyddorion cydraddoldeb cyfranogiad, parch at ein gilydd, annibyniaeth o ran osgoi a datrys anghydfodau, a chyfansoddiad sydd wedi ei ymgorffori a'i wreiddio yn y gyfraith, ac nad yw yn nwylo un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig.
Yn ogystal â chladdu adolygiad Dunlop, mae'r Llywodraeth hon bellach wedi cymryd dros dair blynedd i gwblhau'r adolygiad rhynglywodraethol a gomisiynwyd yng nghyfarfod llawn diwethaf y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yr oedd Carwyn Jones yn bresennol ynddo. Sut y mae'n bosibl bod yn ffyddiog bod gan Lywodraeth y DU ddiddordeb gwirioneddol mewn sicrhau dyfodol i'r Deyrnas Unedig pan, ar bob cyfle y mae'n ei gael i wneud rhywbeth cadarnhaol ac adeiladol i'r cyfeiriad hwnnw, byddai disgrifio ei gweithredoedd fel araf y ffurf fwyaf hael posibl o ddisgrifio’r ffordd y maen nhw'n ymddwyn?
Prif Weinidog, ers i chi ddod i rym ym mis Rhagfyr 2018, rydych chi wedi bod yn feirniad cyson o Lywodraeth y DU. Rydych chi, mewn gwirionedd, nid yn unig wedi bod yn feirniadol, ond rydych chi wedi ceisio tanseilio polisi Llywodraeth y DU yn rheolaidd, yn enwedig o ran Brexit, ac yn ddiweddar fe wnaethoch chi ddisgrifio Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, fel bod yn ofnadwy. Nid yw hynny yn hwyluso perthynas waith gadarnhaol rhwng Gweinidogion. A ydych chi'n derbyn, er mwyn i Lywodraeth nesaf Cymru gael perthynas waith dda â Llywodraeth y DU, y bydd angen i bobl bleidleisio dros y Ceidwadwyr ym mis Mai?
Llywydd, mae pleidlais i'r Blaid Geidwadol ym mis Mai yn bleidlais i drosglwyddo Cymru i Whitehall, oherwydd dyna bolisi Llywodraeth Geidwadol y DU. Bydd yn dadwneud datganoli lle bynnag y gall, yn ein rhoi ni yn ôl yn ein lle, gan frwydro â Llywodraethau datganoledig yn hytrach na gweithio gyda ni. Rwy'n feirniadol o Lywodraeth y DU, wrth gwrs fy mod i, ond rwy'n ei wneud gan fy mod i'n credu yn gryf yn nyfodol y Deyrnas Unedig, ac eto mae gennym ni Lywodraeth yn San Steffan sydd bob dydd yn bwydo tân cenedlaetholdeb oherwydd y ffordd gwbl amharchus y mae'n trin cenhedloedd eraill y Deyrnas Unedig, oherwydd ei methiant i gyflawni'r rhwymedigaethau mwyaf sylfaenol, fel cyhoeddi adolygiad Dunlop a chwblhau'r adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol.
Mae cymaint y gellir ei wneud, ac rwy'n credu bod y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, dan arweiniad Carwyn Jones ac yn yr amser yr wyf i wedi bod yn Brif Weinidog, wedi arwain y ffordd o ran cyflwyno cynigion cadarnhaol ac adeiladol ynghylch sut y gall y Deyrnas Unedig barhau i fod yn llwyddiant. Dyna yr wyf i eisiau ei weld. Mae'r esgeulustod o hynny gan Lywodraeth y DU, eu cred mai'r ffordd i ymdrin â'r Deyrnas Unedig yw dileu hanes yr 20 mlynedd diwethaf, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n cael ei nodweddu gan unochroldeb ymosodol ar eu rhan nhw, yn rysáit ar gyfer chwalu'r Deyrnas Unedig. Dyna pam yr wyf yn feirniadol o Lywodraeth y DU, oherwydd mae'n ein tywys ni i gyd yn ddifeddwl i ddyfodol lle mae'r union beth yr wyf i eisiau ei weld yn cael ei osgoi yn dod yn fwy tebygol.
Prif Weinidog, rwy'n siŵr eich bod chi a'r Cwnsler Cyffredinol wedi codi cwestiwn Erasmus+ yn y Cydbwyllgor Gweinidogion. O ystyried y penderfyniad hynod siomedig gan Lywodraeth y DU i droi eu cefnau ar y rhaglen hynod lwyddiannus hon o gyfnewidiadau dysgu, a fyddech chi'n cytuno â mi bod cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd yn ariannu rhaglen ddysgu gyfatebol newydd ar gyfer tymor nesaf cyfan y Senedd yn hwb enfawr i bobl ifanc yng Nghymru?
Llywydd, a gaf i ddiolch i Lynne Neagle am hynna? Rwy'n cofio yn dda iawn bod yn un o gyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar drafodaethau Ewropeaidd pan ofynnodd Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn ar y pryd, David Lidington, i ni gyfrannu at restr o'r sefydliadau Undeb Ewropeaidd hynny y byddem ni'n dymuno aros yn aelodau ohonyn nhw ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd ei hun. Mae aelodaeth o Erasmus+ ar gael i wledydd ymhell y tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd, a gallaf sicrhau'r Aelod ei bod bob amser ar frig y rhestr o bethau y gwnaethom ni ddadlau drostyn nhw, ochr yn ochr â'r Alban, ochr yn ochr â Gogledd Iwerddon, i wneud yn siŵr bod y cyfleoedd hynny ar gael o hyd i bobl ifanc yma yng Nghymru. Ac roedd yn weithred o fandaliaeth ddiwylliannol syml gan Lywodraeth y DU i droi ei chefn ac, yn bwysicach, gwrthod cynnig i bobl ifanc ledled y Deyrnas Unedig y cyfleoedd parhaus y byddai Erasmus+ yn eu cynnig.
Rydym ni wedi parhau i wneud y ddadl—rydym ni wedi dadlau a dadlau nad yw'n rhy hwyr i'r Deyrnas Unedig fanteisio ar y cyfle hwnnw—a dim ond Llywodraeth y DU sydd wedi gwrthod gwneud hynny, ac mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn eglur, heb unfrydedd ymhlith pedair gwlad y DU, nad ydyn nhw'n gallu cynnig y cyfle hwnnw i ni. Dyna pam y gwnaethom ni'r cyhoeddiad a wnaethom dros y penwythnos, cyhoeddiad yr wyf i'n hynod falch ohono: rhaglen aml-flwyddyn sy'n sicrhau ar gyfer tymor nesaf cyfan y Senedd y bydd ein pobl ifanc yn gallu teithio dramor, gweithio dramor, astudio dramor, ac y bydd pobl ifanc o fannau eraill yn y byd yn dod yma i Gymru. Rydym ni'n cael cymaint mwy allan o hynny nag yr ydym ni'n ei gyfrannu ato.
Roeddwn i'n bresennol yn ddiweddar ar Ddydd Gŵyl Dewi mewn digwyddiad gyda myfyrwyr Seren yn Unol Daleithiau America—pedwar o bobl ifanc o Gymru yn astudio ym mhrifysgolion Harvard, Yale, Chicago a Princeton, prifysgolion Ivy League bob un ohonyn nhw. Roedden nhw'n eistedd yno yn eu hystafelloedd gyda baner Cymru y tu ôl iddyn nhw. Maen nhw'n llysgenhadon dros Gymru bob un dydd, a'r bobl ifanc a fydd yn dod i Gymru a'r bobl ifanc a fydd yn mynd o Gymru i 50 o wahanol wledydd nawr, o ganlyniad i'r cynllun hwn, fydd ein llysgenhadon gorau. Ni allwn fod yn fwy balch o'r ffaith ein bod ni bellach wedi rhoi'r cyfleoedd hynny iddyn nhw a dylem ni i gyd fod yn falch ohonyn nhw hefyd.
5. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio? OQ56508
Diolchaf i Angela Burns am y cwestiwn yna, Llywydd. Dim ond un enghraifft yw'r penderfyniad i ddarparu rhyddhad ardrethi llawn am flwyddyn i fwy na 70,000 o fusnesau yng Nghymru o'r cymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu dros y 12 mis nesaf wrth i ni gynllunio i symud y tu hwnt i'r pandemig.
Diolch am hynna, Prif Weinidog. Fel yr ydych chi'n gwybod yn iawn, mae'r sectorau twristiaeth a lletygarwch yn eithriadol o bwysig yn fy etholaeth i, sef Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, a'r wythnos diwethaf cynhaliais rith-gyfarfod bord gron gyda chynrychiolwyr o'r sector, o'r gwestai mwyaf crand i dafarndai a chlybiau sy'n ceisio goroesi'r pandemig hwn. Clywais y diolch a gynigiwyd ganddyn nhw am gynllun ffyrlo Llywodraeth y DU a gwahanol gynlluniau cymorth ariannol niferus Llywodraeth Cymru, ac maen nhw'n ddiolchgar iawn i'r ddwy Lywodraeth am hynny. Fodd bynnag, y neges arall a glywais oedd yr angen am eglurder ynghylch pryd a sut y bydd y busnesau hynny yn cael ailddechrau gweithredu, a chodasant yr her o ran staff. Mae hyn yn golygu recriwtio a hyfforddi staff medrus fel cogyddion, fel y sawl sy'n rhedeg pen blaen y bwyty, fel y sommeliers a'r holl bobl eraill hyn. Allwch chi ddim eu cael nhw oddi ar y stryd; mae angen eu datblygu a'u hyfforddi. Y pwynt yr oedden nhw'n ei wneud yw os na roddir llawer o rybudd iddyn nhw pryd y bydd y cyfyngiadau symud yn dod i ben, yna nid ydyn nhw'n gwybod faint o amser sydd ganddyn nhw i fynd allan a chael gafael arnyn nhw. Fe wnaethon nhw hefyd godi'r pryderon nad yw'r adnoddau yno mewn gwirionedd, oherwydd mae pobl wedi symud ymlaen; mae pobl yn edrych ar fathau eraill o gyflogaeth lle gallen nhw gael deiliadaeth fwy diogel ar gyfer y dyfodol. Felly, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, fel fy nghais olaf i chi fel Aelod o'r Senedd hon, gadw mewn cof y sectorau mwy bregus hyn lle mae angen llawer o waith achlysurol, llawer o lafur achlysurol, ond lle mae angen safonau da arnoch chi o hyd a'r amser i hyfforddi'r bobl sy'n gallu cefnogi'r busnesau hynny, a rhoi'r holl rybudd y gallwch chi ei roi iddyn nhw o ran pryd y byddan nhw efallai'n gallu agor a symud yn eu blaenau?
Llywydd, a gaf i ddiolch i Angela Burns am y cwestiwn adeiladol iawn yna, ac yn wir am y dôn y mae hi bob amser yn ei defnyddio wrth godi cwestiynau yma ar lawr y Senedd? Nid wyf i'n anghytuno â'r pwyntiau y mae hi'n eu gwneud o gwbl. Dyna pam yr ydym ni wedi ceisio rhoi cymaint o amser rhagarweiniol ag y gallwn ni i'r diwydiant ailagor llety hunangynhwysol, a fydd yn dal yn bosibl ar gyfer cyfnod y Pasg, rwy'n gobeithio, ac rwyf i wedi dweud, yn y cyfnod y tu hwnt i 12 Ebrill, dechrau agor lletygarwch awyr agored wedyn, sy'n rhan annatod o'r diwydiant twristiaeth, wrth gwrs, yn y de-orllewin—y bydd hynny ar y bwrdd i ni ei ystyried bryd hynny, ar yr amod bod amgylchiadau iechyd cyhoeddus Cymru yn caniatáu hynny.
Llywydd, nid wyf i'n tybio, os byddaf yn gwneud hyn, ei bod yn debyg y byddwch chi'n gallu gweld clawr y ddogfen hon—roeddwn i eisiau ei wneud, dim ond am ei fod yn dangos llun mor wych o etholaeth yr Aelod ei hun. A dyma'r ddogfen a gyhoeddwyd gennym ni yr wythnos diwethaf: 'Dewch i Lunio'r Dyfodol. Gweithio mewn partneriaeth i ail-greu dyfodol cydnerth i'r economi ymwelwyr yng Nghymru.' Mae hon yn ddogfen a luniwyd mewn partneriaeth â'r sector ei hun, ac mae'n ceisio ateb rhai o'r cwestiynau y mae'r Aelod wedi eu codi gyda ni y prynhawn yma. Mae'r darlun yn y fan yna o Draeth y Gogledd a Thraeth yr Harbwr yn Ninbych-y-pysgod yn ein hatgoffa ni i gyd o'r asedau naturiol gwych sydd gennym ni yma yng Nghymru ac y mae'r Aelod wedi eu cynrychioli yma yn y Senedd. A byddwn yn gweithio ochr yn ochr â'r sector cyhyd ag y gallwn, i wneud yn siŵr y gall ailagor fel y gwnaeth y llynedd, yn ofalus ond yn llwyddiannus ac mewn ffordd a oedd yn caniatáu iddo ymateb i'r heriau y mae'r Aelod wedi eu nodi.
Helen Mary Jones. Helen Mary Jones.
Diolch, Llywydd. Ymddiheuriadau—roeddwn i'n aros i gael fy nad-dawelu. Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol iawn o effaith hirdymor cau oherwydd COVID ar fusnesau diwylliannol. Rwy'n meddwl am rai sy'n rhannol mewn perchnogaeth gyhoeddus, fel Theatr Ffwrnes yn Llanelli, ond hefyd rhai o'n sefydliadau blaenllaw, fel canolfan y mileniwm. Yn amlwg, bydd hwn yn fater, yn y pen draw, i Lywodraeth nesaf Cymru benderfynu arno, ond a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y bydd angen cymorth ar y busnesau diwylliannol hyn ymhell i'r flwyddyn nesaf, y flwyddyn ariannol nesaf, oherwydd yr incwm y maen nhw eisoes wedi ei golli? A pha gynlluniau sydd ganddo, pe byddai'n rhan o'r Llywodraeth nesaf, i sicrhau nad ydym ni'n colli'r sefydliadau diwylliannol hanfodol hyn, yn enwedig ar ôl yr holl fuddsoddiad a chymorth a roddwyd iddyn nhw eisoes?
Wel, diolchaf i Helen Mary Jones am y cwestiwn pwysig yna hefyd, Llywydd. Bydd hi wedi gweld ddoe bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £30 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol yn y gronfa adfer diwylliannol—mae hynny yn ychwanegol at y £63 miliwn yr ydym ni wedi ei ddarparu yn y flwyddyn ariannol hon. Bydd y £30 miliwn hwnnw yn helpu'r sector yn chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol nesaf, ac mae yno am yr holl resymau y mae Helen Mary wedi eu nodi: breuder y sector yn ystod coronafeirws, pan nad yw cynulleidfaoedd yn bosibl mewn ffordd ddiogel; natur lawrydd yr economi honno—ac mae'r £30 miliwn hwnnw yn ychwanegol at y £10 miliwn yr ydym ni eisoes wedi ei ddarparu; yr unig ran o'r Deyrnas Unedig sydd â chronfa llawrydd, ac yn bwysig iawn i bobl sy'n ennill eu bywoliaeth yn y sector diwylliannol—ac oherwydd yr hyn y bydd y sector diwylliannol yn ei olygu i bob un ohonom ni pan fydd y pandemig hwn y tu ôl i ni. Oherwydd byddwn ni eisiau gwneud yn siŵr bod y sefydliadau pwysig iawn hynny a'r llawenydd y maen nhw'n ei roi i bobl, ar ôl cyfnod mor anodd—a byddwn ni yno i barhau i'w cefnogi.
Bwriedir i'r £30 miliwn, fel y dywedais, gynorthwyo'r sector hyd at fis Medi ac yna mater i Lywodraeth newydd fydd gweld beth y gellir ei wneud i'w gynorthwyo y tu hwnt i hynny, gan ein bod yn gobeithio y gallwn ddychwelyd i'r sector mwy o gyfleoedd iddo wneud yr hyn y mae eisiau ei wneud, sef croesawu pobl i'w leoliadau ac ennill bywoliaeth drosto'i hun.
6. A wnaiff y Prif Weinidog nodi'r cyllid a ddarperir gan gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru mewn meysydd y tu allan i'w chyfrifoldebau gweithredol? OQ56490
Wel, Llywydd, rydym ni wedi camu ymlaen i ddiogelu buddiannau pobl Cymru ar draws amrywiaeth o gyfrifoldebau nad ydyn nhw wedi eu datganoli, o drafnidiaeth i fand eang, o ariannu swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu i gynorthwyo gwladolion yr UE sy'n gwneud cais am statws preswylydd sefydlog. Daeth comisiwn Thomas i'r casgliad bod 38 y cant o gyfanswm y gwariant ar gyfiawnder yng Nghymru—y rheini i gyd yn gyfrifoldebau nad ydyn nhw wedi eu datganoli—erbyn hyn yn dod gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru.
Prif Weinidog, mae'n amlwg, os bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ennill etholiad y Senedd, mai un o'r pethau cyntaf y byddan nhw yn ei wneud yw diswyddo 500 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yng Nghymru. Yn eu cynhadledd ddiwethaf yn y DU, gwnaeth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig eu safbwynt yn gwbl eglur pan ddywedodd:
Bydd y pethau hynny sydd wedi eu datganoli yn cael eu rheoli gan fy Llywodraeth i, a bydd y pethau hynny nad ydyn nhw wedi eu datganoli yn cael eu rheoli gan Boris.
Ac aeth ymlaen i ddweud y byddan nhw'n dadariannu'r hyn nad yw wedi ei ddatganoli. Dyna eu haddewid, Prif Weinidog.
Mae diogelwch cymunedol yn flaenllaw yn ein meddyliau ni i gyd ar hyn o bryd. Nid yw plismona wedi'i ddatganoli, ac eto mae Llywodraeth Cymru yn talu am y 500 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu gan nad yw Llywodraeth Dorïaidd yn fodlon gwneud hynny. Ym Mhontypridd, rydym ni'n gwerthfawrogi eu cyfraniad at ddiogelwch y cyhoedd a'r rhan y maen nhw wedi ei chwarae yn ystod pandemig COVID, ac rydym ni'n gweld cymaint o wahaniaeth y maen nhw'n ei wneud o ran helpu i ddatrys ymddygiad gwrthgymdeithasol. A wnewch chi gadarnhau eich cefnogaeth a'ch ymrwymiad parhaus i ddiogelwch cymunedol a swyddogaeth ein swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yng Nghymru?
Wel, Llywydd, rwy'n hapus iawn i gadarnhau, os caiff y Llywodraeth hon ei dychwelyd i rym, bod y 500 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu hynny yn ddiogel ym mhob rhan o Gymru ac y byddwn ni'n ychwanegu atyn nhw hefyd. Fel y dywedodd yr Aelod, mae dull y Ceidwadwyr Cymreig yn berffaith eglur. Fe'i cyflwynwyd ganddyn nhw yn eu cynhadledd: os nad yw wedi ei ddatganoli, ni fyddan nhw'n ei ariannu. Dyna a ddywedodd arweinydd y blaid ar y pryd. Clywais Mark Isherwood yn ceisio gwadu hynny yn gynharach y prynhawn yma, ond mae arnaf i ofn bod pobl yng Nghymru wedi clywed yr hyn a ddywedodd ei blaid—'os nad yw wedi ei ddatganoli, ni fyddwn ni'n ei ariannu.' Nid yw swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu wedi'u datganoli; maen nhw'n rhan o'r system gyfiawnder y mae ei Lywodraeth ef yn gwrthod ei datganoli, mewn unrhyw ran, i Gymru. Byddwn ni'n eu hariannu nhw yma yng Nghymru. Nid yw'n dda i ddim, Llywydd, i Aelodau Ceidwadol edrych arnaf i fel criw o bysgod aur hen ffasiwn ar y sgrin yn y fan yma, rhyw fath o ddeinosoriaeth ddiwreiddiedig gwleidyddiaeth Cymru. Mae'r Llywodraeth hon yn eglur; byddwn yn parhau i wneud yn siŵr bod pobl yng Nghymru yn ddiogel. Nid yn unig y gwnaeth y Blaid Geidwadol gael gwared ar 40 y cant o swyddogion yr heddlu a throseddu, fe wnaethon nhw ein hamddifadu o 500 o swyddogion yr heddlu hefyd.
7. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch gweithredu argymhellion adroddiad Burns? OQ56483
Diolchaf i Jenny Rathbone am hynna, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu adroddiad interim adolygiad Syr Peter Hendy o gysylltedd undebau. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at waith comisiwn Burns a'i gynigion ar gyfer buddsoddiad mewn prif reilffordd, gan greu gorsafoedd a gwasanaethau newydd i wella cysylltedd drwy well cludiant cyhoeddus.
Yr wythnos diwethaf, mabwysiadwyd targedau lleihau allyriadau carbon mwy heriol gennym i Gymru, ac fe'u cefnogwyd gan bob Aelod, a oedd yn wych. Felly, roeddwn i'n siomedig—heb sôn am y ffaith ei fod yn anghyson—bod y Ceidwadwyr Cymreig yn dal i fwriadu gwastraffu £2 biliwn ar ffordd liniaru ddiangen yn hytrach na'r rhwydwaith cludiant cyhoeddus modern a gynigiwyd gan adroddiad Burns ac a gymeradwywyd gan eich Llywodraeth chi yng Nghymru. Rwy'n credu bod adroddiad Burns yn ffordd wirioneddol ardderchog ymlaen o ran darparu aer glân yn ogystal â'n rhwymedigaethau o ran lleihau allyriadau carbon, nid yn unig i'm hetholwyr i ond i'r de-ddwyrain i gyd.
Ond, fel y gwyddoch, Prif Weinidog, mae asgwrn cefn y cynllun metro integredig hwn, a gynigir gan Burns, yn well defnydd o'r pedair prif reilffordd rhwng Caerdydd a Chasnewydd a thu hwnt. Felly, pa drafodaethau a gafwyd gyda Llywodraeth y DU, yng ngoleuni'r adroddiad interim gan Peter Hendy, ynghylch bwrw ymlaen â'r cynllun trawsnewidiol hwn, o gofio eu bod nhw'n dal i fod yn gyfrifol am y seilwaith prif reilffyrdd?
Wel, Llywydd, rwyf yn llwyr ategu yr hyn a ddywedodd Jenny Rathbone am safon adroddiad comisiwn Burns, ac erbyn hyn, yn bwysig iawn, yr adroddiad a gymeradwywyd yn adolygiad cysylltedd undeb Syr Peter Hendy, y cyfeiriwyd ato yn benodol gan Syr Peter yn y rhagair i'r ddogfen honno, lle mae'n dweud bod datganoli wedi bod yn dda i drafnidiaeth a lle mae'n cyfeirio yn benodol at uwchraddio'r brif reilffordd, sef asgwrn cefn y comisiwn Burns hwnnw. Ac, yn wir, mae adolygiad Syr Peter Hendy, yn y ffordd y mae Jenny Rathbone newydd ei grybwyll, yn rhoi pwyslais arbennig ar ddatgarboneiddio, yr agenda amgylcheddol a'r targed carbon sero-net erbyn 2050. Felly, mae hynny i gyd yn newyddion da; yr hyn sydd ei angen arnom ni nawr yw Llywodraeth y DU i roi ei chefnogaeth i gomisiwn Burns a'i hadolygiad o gysylltedd undeb ei hun.
Nawr, cafodd fy nghyd-Weinidog Ken Skates gyfarfod gyda'r Farwnes Vere, y Gweinidog sy'n gyfrifol yn Llywodraeth y DU, ar 10 Mawrth, i drafod adroddiad interim cysylltedd undeb. Ac roedd hwnnw yn gyfle i bwysleisio i Lywodraeth y DU, unwaith eto, y rhan y gallan nhw ei chwarae o ran gwireddu argymhellion comisiwn Burns ac, ar yr un pryd, gwella cysylltedd rhwng de Cymru, de-orllewin Lloegr a thu hwnt.
Dywedais mewn ateb cynharach i Darren Millar, Llywydd, fy mod i eisiau gweld y Deyrnas Unedig yn cael ei hatgyfnerthu. Dyma adroddiad gan grŵp o bobl a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU. Maen nhw'n cyfeirio yn benodol at yr hyn y gall Llywodraeth y DU ei wneud nawr i fuddsoddi yng Nghymru i greu'r cysylltiadau hynny a fydd yn cynnal yr undeb yn y dyfodol. Gadewch i ni obeithio eu bod nhw'n dangos nad mater o fynnu hawliau Llywodraeth y DU yng Nghymru yn unig yw eu hoffter o'r undeb, ond mater o wneud buddsoddiadau a fyddai wir yn helpu i wneud i'r DU weithredu fel cyfanrwydd cysylltiedig.
A Laura Jones, ein Haelod mwyaf newydd, fydd yn gofyn y cwestiwn olaf un i'r Prif Weinidog yn nhymor y Senedd hon. Laura Jones.
8. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i wella iechyd meddwl yng Nghymru wrth benderfynu llacio'r cyfyngiadau symud? OQ56482
Wel, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn olaf pwysig iawn yna. Llywydd, mae'r 12 mis diwethaf wedi bod yn wahanol ac yn heriol i lawer o bobl yng Nghymru, gydag effeithiau dilynol ar iechyd meddwl a llesiant. Wrth i ni symud allan o'r cyfyngiadau symud, mae sicrhau effeithiau cadarnhaol ar iechyd meddwl yn cael ei ystyried yn uniongyrchol gan y Cabinet ym mhob adolygiad tair wythnos, gan bob amser gadw Cymru yn ddiogel ar yr un pryd.
Diolch. Prif Weinidog, mae manteision chwaraeon ac ymarfer corff i iechyd meddwl yn rhywbeth yr wyf i wedi sôn llawer amdano yn y Siambr ers i mi ymuno ddim mor bell a hynny yn ôl. Mae'r cysylltiad rhwng y ddau yn hysbys iawn, ac rwy'n credu y bydd yn chwarae rhan ganolog yn y cyfnod adfer yn sgil y pandemig hwn. Ar 1 Chwefror, dywedodd y Gweinidog iechyd meddwl bod cyfleusterau ffitrwydd a phyllau nofio yn hanfodol i iechyd y genedl. Felly, byddwch yn gallu deall syndod a dicter ein gweithredwyr gweithgarwch corfforol ledled Cymru at eich penderfyniad i ohirio ailagor campfeydd dim ond ychydig wythnosau ar ôl i'r Gweinidog addo y byddai clybiau iechyd a chanolfannau hamdden ymhlith y busnesau cyntaf i ailagor. Rydych chi wedi dweud y byddwch chi'n adolygu'r penderfyniad ar 22 Ebrill, sydd i'w groesawu, ond mae angen mwy o sicrwydd, Prif Weinidog, er mwyn i'r cwmnïau hyn, y busnesau hyn, baratoi ar gyfer ailagor, yn eironig, fel eu bod nhw'n ddiogel rhag COVID, yn ogystal â pharatoi meysydd, cyfleusterau a'r math hwnnw o beth yn amlwg. Onid ydych chi'n cytuno, Prif Weinidog, na ellir anwybyddu manteision eu hagor?
Yn sicr, nid wyf i'n bwriadu anwybyddu'r manteision o'u hailagor, Llywydd. Rwy'n gwybod y bydd yr Aelod wedi croesawu'r penderfyniad i ganiatáu i ailddechrau gweithgareddau awyr agored i blant yn ystod gwyliau'r Pasg, ac, wrth gwrs, mae campfeydd awyr agored eisoes ar agor yma yng Nghymru. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o adroddiad y gell cynghori technegol sy'n nodi'r risgiau a achosir o hyd gan leoedd caeedig dan do lle mae pobl yn gwneud ymarfer corff yn ystod pandemig byd-eang. Rydym yn gobeithio y bydd yr amodau yng Nghymru yn gwella digon ar ôl 12 Ebrill fel y gellir ystyried ailagor campfeydd a chanolfannau hamdden, ac rwyf i eisoes wedi dweud y bydd yn un o bedwar peth a fydd ar y rhestr o bethau y byddwn yn eu hystyried ar gyfer y cyfnod tair wythnos nesaf hwnnw. Mae hynny'n gydnabyddiaeth o'r manteision corfforol a llesiant meddyliol a ddaw pan fydd pobl yn gallu defnyddio'r lleoliadau hynny. Ond rhaid ei gydbwyso yn erbyn y risgiau a achosir. Mae'r risgiau hynny'n rhai gwirioneddol, ac maen nhw wedi'u nodi yn adroddiad TAC. Os ydych yn gwneud penderfyniadau cyfrifol mewn Llywodraeth, mae arnaf ofn na allwch chi fforddio peidio â chymryd o ddifrif gyngor sydd ddim yn ddeniadol neu at eich dant. Fe fyddwn ni'n ailagor y sector. Fe fyddwn ni'n gwneud hynny'n ofalus. Fe fyddwn ni'n gwneud hynny yn unol â'r cyngor. Fe fyddwn ni'n gwneud hynny cyn gynted ag y bydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn ei wneud yn ddiogel, ond nid cyn hynny.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf y prynhawn yma yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae dau newid i agenda yfory. Mae'r ddadl ar Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021 wedi'i lleihau i bum munud, ac mae'r ddadl ar Orchymyn Etholiadau Cymru (Darpariaethau Amrywiol) 2021 wedi'i thynnu'n ôl.
[Anghlywadwy.] —George. Russell George.
Diolch, Llywydd. Rwy'n credu eich bod wedi eich torri ymaith y tro cyntaf. Diolch.
A gaf i ofyn, Trefnydd, am rywfaint o fewnbwn gennych chi, os gwelwch chi'n dda? Gwnaeth Llywodraeth Cymru ddatganiad yr wythnos diwethaf, datganiad i'r wasg drwy'r Prif Weinidog, ynglŷn â chreu dau goetir newydd, un yn y Gogledd ac un yn y De. Fel y dywedodd datganiad i'r wasg gan Lywodraeth Cymru, y gobaith yw y byddan nhw'n fannau coffáu lle gall teuluoedd a ffrindiau gofio anwyliaid a gollwyd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig sôn am hyn ar y diwrnod penodol hwn yr ydym, yn anffodus, yn ei goffáu ar yr achlysur hwn. Hoffwn i nodi, wrth gwrs—ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol, Trefnydd—fod teuluoedd, yn anffodus, wedi colli anwyliaid mewn rhannau eraill o Gymru, yn y Canolbarth hefyd. Felly, a gaf i ofyn i'r Trefnydd ar yr adeg hon, drafod hyn efallai gyda chyd-Weinidogion? Rwy'n gwybod bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn arwain ar y prosiect penodol hwn, ond er ein bod ni mewn cyfnod etholiad, neu ar fin bod ynddo, efallai y gallech chi drafod gydag awdurdodau lleol a chwilio am goetiroedd mewn rhannau eraill o Gymru, fel yn y Canolbarth, y byddai modd eu defnyddio i goffáu, ac i blannu ynddynt yn y modd hwn hefyd. Gobeithio y gall y Trefnydd godi hyn yn briodol gyda chyd-Weinidogion.
Diolch i Russell George am godi'r hyn sy'n fater pwysig iawn, yn enwedig ar y diwrnod penodol hwn. Bydd yn bwysig yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod bod gennym lefydd priodol ledled Cymru i gymryd hoe a myfyrio a chofio am y rhai sydd wedi colli anwyliaid, a hefyd gofio am y rhai yr ydym wedi'u colli yn ystod y pandemig. Byddaf i'n sicrhau bod cyd-Weinidogion sy'n gyfrifol am gyflawni'r agenda benodol hon yn ymwybodol o'r pryder penodol hwnnw yr ydych chi wedi'i godi, a byddaf yn ymdrechu i gael y sgyrsiau hynny a awgrymwyd gennych.
Mae gen i gais am ddau ddatganiad heddiw. Heddiw, mae Siyanda Mngaza yn wynebu gwrandawiad apêl i herio'r ddedfryd y mae'n ei bwrw ar hyn o bryd am niwed corfforol difrifol. Roedd Siyanda yn fenyw anabl ddu 4 troedfedd 2 fodfedd, 20 oed, yr ymosodwyd arni gan dri o bobl wrth iddi wersylla yn Aberhonddu. Roedd dau o'i ymosodwyr yn ddynion ddwywaith ei hoedran, ac er iddi ddweud wrth swyddogion ar y pryd fod yr ymosodiad yn un hiliol, cyfaddefodd yr heddlu yn y llys na chynhaliwyd ymchwiliad i'w honiadau am yr ymosodiad. Wrth i Camilla Mngaza ymladd dros hawl ei merch i gyfiawnder heddiw, beth fydd eich Llywodraeth chi yn ei wneud i sicrhau bod menywod ifanc croenliw, fel Siyanda, yn cael eu hamddiffyn rhag hiliaeth a gelyniaeth yma yng Nghymru? A gawn ni ddatganiad am eich camau gweithredu yn y maes hwn?
Y gosb am fod yn fam, gofal di-dâl, rhagfarn data—mae'r holl dermau hyn yn ymwneud â'r anghydbwysedd dwysach y mae'r pandemig wedi'i roi ar fenywod. Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cadarnhau ei fod ond yn casglu data wedi'i rannu yn ôl rhywedd ar ddiswyddiadau lle mae unigolion yn defnyddio'r cynllun ReAct. A gaf i ddatganiad ysgrifenedig, os gwelwch chi'n dda, gan Weinidog yr Economi ynghylch casglu data wedi'u dadgyfuno ar ddiweithdra, yng ngoleuni effaith cyfyngiadau COVID ar rianta a gwaith?
O ran y mater cyntaf, rwy'n falch iawn o ddweud y byddwn ni, y prynhawn yma, yn cael datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ar gynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol Cymru. Bydd hynny'n gyfle da, rwy'n tybio, i glywed am ddull gweithredu Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, a hefyd i godi'r materion penodol hynny yr ydych chi newydd eu cyflwyno i lawr y Senedd gyda'r Gweinidog.
O ran yr ail fater, ynglŷn â rhagfarn data a chasglu data am ddiweithdra, unwaith eto fe fyddaf yn gwneud Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn ymwybodol o'r pryder penodol hwnnw, ac yn archwilio a oes mwy y gallwn ni fod yn ei wneud yn y maes hwn i ddeall yn well effaith y pandemig ar fenywod, ond hefyd ar eraill sydd â nodweddion gwarchodedig.FootnoteLink
Rwy'n gofyn unwaith eto: a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn condemnio ymddygiad gwarthus Ursula von der Leyen a'r Comisiwn Ewropeaidd wrth ymdrin â chyflwyno'r brechlyn yn Ewrop? Yn ogystal â bygythiadau i atal allforion brechlynnau i'r DU, mae ei strategaethau hi o achosi dryswch a gwneud tro pedol wedi costio miloedd lawer o fywydau ledled yr Undeb Ewropeaidd yn ddi-os. Ac ymhellach, a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth am y ffordd anhygoel y mae Llywodraethau Cymru a'r DU, yn rhydd o ymyrraeth yr UE, wedi ymdrin â chyflwyno'r brechlyn yn y DU, a thrwy hynny achub miloedd lawer o fywydau ym Mhrydain? Siawns nad yw hyn ynddo'i hun yn cyfiawnhau Brexit.
Nid wyf eisiau ailadrodd y dadleuon a gawsom yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ran ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ond fe fyddaf i'n ymateb i'r pwynt arwyddocaol hwn, dim ond i adlewyrchu'r ffaith, ar hyn o bryd, nad oes gwaharddiad ar allforion AstraZeneca yn yr UE. Rwy'n ymwybodol bod Prif Weinidog y DU yn cael rhai sgyrsiau uniongyrchol â'r UE ar hyn, ac rwy'n credu mai dyna'r peth priodol i'w wneud, o gofio nad yw'r cyflenwad o frechlynnau yn yr ystyr hwnnw wedi'i ddatganoli i'r Senedd. Ac wrth gwrs, yn ddiweddarach y prynhawn yma, yn wir, fel yr eitem busnes nesaf, fe gawn ni ddatganiad gan y Prif Weinidog ar COVID-19 flwyddyn yn ddiweddarach, a fydd yn gyfle i fyfyrio ar y 12 mis diwethaf a'r effaith a gafodd y pandemig ar ein bywydau ni i gyd.
Trefnydd, tybed a gawn ni ddatganiad gan un o'n Gweinidogion Iechyd am bwysigrwydd Mis Ymwybyddiaeth Endometriosis, sef y mis hwn. Mae hwn yn gyflwr ofnadwy sy'n effeithio ar un o bob 10 menyw. Fel arfer, byddem ni'n gorymdeithio i dynnu sylw at hyn a natur gymhleth y cyflwr hwn. Tybed a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth mewn undod ynglŷn â'r ymrwymiad i fynd at wraidd y clefyd hwn a sicrhau ein bod ni'n trin pobl yn fwy effeithiol ac yn gyflymach.
Cafodd y grŵp gweithredu iechyd menywod ei sefydlu i ddarparu'r arweiniad strategol hwnnw i ni yma yng Nghymru. Roedd yn sicrhau bod gennym y dull gweithredu Cymru gyfan hwnnw o chwalu'r rhwystrau a hefyd gydgysylltu'r llwybrau rhwng gofal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol, fel bod modd rheoli iechyd menywod yn y gymuned, lle bynnag y bo modd, heb fod angen ymyrraeth fwy dwys. Rwy'n falch iawn bod y grŵp wedi datblygu cynlluniau i ddefnyddio rhywfaint o'i gyllid i gryfhau gwasanaethau endometriosis ledled Cymru a darparu cymorth ychwanegol a fydd yn dod ynghyd i ffurfio rhwydwaith, gan weithio'n agos gyda chydlynwyr iechyd a lles presennol y pelfis, a sefydlwyd gan y grŵp hwnnw. Dylai hynny, felly, sicrhau bod menywod yng Nghymru sydd wedi eu heffeithio gan endometriosis yn cael eu cefnogi'n fwy effeithiol. Ond, fel yr ydych chi'n ei ddweud, mae'n wythnos ymwybyddiaeth, ac rwy'n falch iawn hefyd bod y grŵp wedi datblygu adnodd dysgu sy'n codi ymwybyddiaeth o'r mislif. Caiff hwnnw ei gyhoeddi yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf. Mae'n anelu at roi gwell ymwybyddiaeth a dealltwriaeth i ferched ifanc yn benodol o'r mislif arferol, gan ganiatáu iddyn nhw hefyd fynd ar y llwybr diagnostig hwnnw'n gynharach pan fydd materion yn codi, fel y gallant gydnabod pryd y gallai fod problemau. Felly, rwy'n credu bod rhywfaint o waith cadarnhaol yn digwydd ar hyn o bryd yn y maes hwn.
Trefnydd, a gaf i ofyn i Brif Weinidog y Llywodraeth hon amlinellu mewn datganiad manwl sut a phryd y bydd yn dod â chwaraeon awyr agored i oedolion yn ôl os gwelwch chi'n dda? Fel y dywedais i eisoes—a byddaf i'n ei ailadrodd oherwydd ei bwysigrwydd—mae gan ymarfer corff fanteision amlwg a hysbys, sydd wedi'u profi, a bydd yr effaith ar iechyd meddwl yn rhan bwysig o'r adferiad o'r pandemig hwn. Oherwydd hyn, rwy'n gofyn, os gwelwch chi'n dda, bod datganiad yn cael ei gyhoeddi yn amlinellu pryd yn union y mae'r Llywodraeth yn bwriadu dod â phethau yn ôl ac ailagor popeth a fydd yn galluogi plant ac oedolion i chwarae chwaraeon a chymryd rhan mewn ymarfer corff, gan gydnabod y rheini, wrth gwrs, a fydd ar agor ac yn dod i rym cyn bo hir. Mae angen amser ar ein clybiau pêl-droed a rygbi, er enghraifft, i baratoi, Prif Weinidog a Gweinidog, y meysydd a'r gemau, yn eironig er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel o ran COVID ac yn y blaen. Mae'r sector hwn yn aml yn cael ei anwybyddu o ran pwysigrwydd, ac mae angen eglurder arno, Gweinidog. Felly, a gaf i ofyn ichi sicrhau bod yna fap ffordd ar gael i glybiau a busnesau ei ddilyn fel mater o frys? Diolch.
Roeddech chi'n gallu clywed ymateb y Prif Weinidog i'ch cwestiwn yn gynharach y prynhawn yma, ond fe wnaethoch weld, yn yr adolygiad tair wythnos diwethaf, ein bod wedi ymdrechu i ddarparu mwy o fanylion ynghylch y camau a allai ddigwydd yn yr wythnosau i ddod. Bob tro, rydym ni'n ceisio rhoi cymaint o sicrwydd a rhybudd ag y gallwn ni, ond yn y sefyllfa hon sy'n symud yn gyflym gall fod yn anodd rhoi llawer o rybudd wrth edrych ymhellach ymlaen. Ond rwy'n credu bod eich pwyntiau chi am bwysigrwydd gweithgareddau awyr agored, ac yn enwedig y rhan bwysig sydd gan y clybiau chwaraeon yn ein cymunedau lleol ein hunain, wedi'u gwneud yn dda iawn ac yn cael eu deall yn dda. Ac rwy'n gwybod y bydd hyn yn cael ei ystyried wrth inni symud ymlaen drwy'r cylch adolygu tair wythnos nesaf.
Mae adroddiad terfynol tasglu'r Cymoedd wedi'i gyhoeddi, ac mae barn rhanddeiliaid yn cynnwys dweud bod y tasglu, ac rwy'n dyfynnu,
wedi cael effaith uniongyrchol eithaf cyfyngedig ar gymunedau'r Cymoedd.
Tynnodd sylw hefyd at ddiffyg adnoddau. Dyfyniad uniongyrchol arall o gasgliadau'r adroddiad:
Dechreuodd Tasglu'r Cymoedd gyda chyfres o nodau ac amcanion uchelgeisiol iawn ond nid oedd ganddo'r adnoddau na'r gallu i gyflawni'r rhain yn effeithiol.
Un mater allweddol a gafodd ei godi oedd
a ddylai Tasglu'r Cymoedd fod wedi'i sefydlu o'r cychwyn cyntaf gyda lefel ddigonol o gyllid refeniw a chyfalaf ar waith i'w alluogi i gyflawni ei nodau a'i amcanion uchelgeisiol.
Fel Aelod Senedd y Rhondda, rwyf i wedi pwyso'n gyson am fwy o fuddsoddiad, gan gynnwys cynnig penodol ar gyfer cwmni cydweithredol cyffrous a medrus o gyn-weithwyr Burberry ar y safle hwnnw i sefydlu busnes gweithgynhyrchu dillad. Mae'r tasglu wedi colli'r cyfle hwn a llawer o gyfleoedd eraill, ac mae wedi esgeuluso rhannau helaeth o'r Cymoedd y mae gwir angen datblygiad economaidd arnyn nhw.
A gafodd gwersi eu dysgu o'r profiad hwn? Mae'r Rhondda wedi cael ei siomi gan lywodraethau olynol yn Llundain ac yng Nghaerdydd ers degawdau bellach. Onid yw hyn yn dangos mai'r unig ffordd y bydd y Rhondda yn cael y datblygiad economaidd y mae'r bobl yno'n ei haeddu yw trwy Lywodraeth Plaid Cymru? A ydych chi'n derbyn hynny nawr?
Rwy'n credu eich bod wedi rhoi adlewyrchiad anghytbwys iawn o waith tasglu'r Cymoedd sydd, yn fy marn i, wedi llwyddo i gael canlyniadau arwyddocaol iawn yn Rhondda Cynon Taf ac mewn mannau eraill. Wrth gwrs, rwy'n meddwl am ymyriadau fel y gwaith sylweddol a wnaed i sicrhau bod tai nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio'n ddigonol a thai nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio o gwbl yn cael eu defnyddio unwaith eto, ac mae hynny wedi bod yn arbennig o bwysig. Yna mae swyddogaeth a chyfraniad pwysig tasglu'r Cymoedd i brosiectau Swyddi Gwell yn nes at Adref, a hefyd gynlluniau Big Bocs Bwyd, sydd wedi bod yn bwysig iawn o ran mynd i'r afael â thlodi bwyd mewn cymunedau. Felly, rwy'n credu ei bod wedi bod yn rhaglen lwyddiannus, ac mae rhan o'r llwyddiant, rwy'n credu, yn seiliedig ar y ffaith ei bod i raddau helaeth iawn yn dechrau ar lawr gwlad. Rhaglen a thasglu oedd hon i raddau helaeth a oedd yn ymwneud â gwrando ar gymunedau, gan ddeall beth oedd y blaenoriaethau a'r pryderon. Ac roedd yr holl bryderon hynny'n ymwneud ag agweddau megis pwysigrwydd swyddi a sgiliau, ac rwy'n credu bod gan dasglu'r Cymoedd stori dda i'w hadrodd ac etifeddiaeth dda yn hynny o beth.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad ynghylch yr heriau sy'n wynebu defnyddio hysbysiadau stop a phwerau gorfodi yn ystod y pandemig? Mae gennyf i hen broblem yn fy etholaeth yn Rhiwceiliog lle mae hysbysiadau stop wedi'u rhoi ar ddatblygiadau anghyfreithlon mewn ardal heddychlon a thawel iawn. Maent wedi cael eu cyhoeddi, ond maent wedi cael eu hanwybyddu'n fwriadol, lle cafwyd aflonyddu a bygythiadau gan y meddianwyr anghyfreithlon, sy'n mynd ati i rwygo cloddiau, dinistrio ecoleg sensitif, rhannau hanesyddol y safle. Ac fe allwch chi ddeall, Gweinidog, fod y trigolion lleol yn teimlo'n rhwystredig iawn. Mae'r heddlu wedi ymwneud â hyn, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymwneud â hyn, mae'r awdurdod lleol wedi ymwneud â hyn. Felly, a gawn ni ddatganiad ynghylch defnydd pwerau gorfodi a hysbysiadau stop yn ystod y pandemig, ond hefyd ddatganiad a allai egluro, os cawn ni Lywodraeth Lafur Cymru yn y dyfodol, y byddwn ni'n cyflwyno deddf amgylcheddol, a bydd gennym ni bwerau cloeon clap yn y ddeddf amgylcheddol honno, fel bod stop yn golygu stop? Pan fydd gweithgarwch anghyfreithlon yn cael ei wahardd, bydd pobl yn cael eu hatal rhag mynd i'r safle hwnnw. A phe na fyddai sylw'r gweision sifil wedi ei dynnu oddi ar broses pontio'r UE, rhaid dweud, byddem ni wedi cael y Ddeddf honno amser maith yn ôl. Felly, a gawn ni'r datganiad hwnnw, Gweinidog? Byddai'n sicrwydd mawr i drigolion Rhiwceiliog.
Hoffwn i roi'r sicrwydd hwnnw, a'r ffaith ein bod wedi bod yn glir iawn yn ein hymrwymiad y byddem yn dymuno deddfu i roi ein dull ni o weithredu egwyddorion amgylcheddol a llywodraethu ar sail statudol yma yng Nghymru. Ond, fel y dywed Huw Irranca-Davies, pan roddodd y Prif Weinidog ystyriaeth i'r rhaglen ddeddfwriaethol, dywedodd fod y pwysau a wynebwyd gennym ar ddiwedd y cyfnod pontio o'r Undeb Ewropeaidd, a hefyd, wrth gwrs, effaith COVID-19, wedi effeithio'n sylweddol ar y rhaglen waith honno a bod yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd o ran y rhaglen ddeddfwriaethol. Mae'n golygu na ellid cyflwyno'r ddeddfwriaeth ar egwyddorion amgylcheddol a llywodraethu yn y tymor hwn. Ond, ydy, mae'r Prif Weinidog wedi ailddatgan ei ymrwymiad i wneud hynny pe byddem mewn sefyllfa i wneud hynny yn y Senedd nesaf.
Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ar ddefnyddio gorchuddion wyneb mewn ysgolion yng Nghymru? Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi sydd wedi bod yn bryderus iawn bod yr ysgolion yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw wisgo gorchuddion wyneb drwy'r dydd yn yr ysgol, ac wrth gwrs mae hynny'n achosi llawer iawn o anesmwythyd i lawer o blant sy'n gorfod eu gwisgo am y cyfnod llawn. Fe wyddom, wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno profion llif unffordd rheolaidd, ddwywaith yr wythnos mewn ysgolion er mwyn lleihau'r risgiau. Felly mae'n ymddangos i mi fod angen ystyried hynny ac mae angen adnewyddu'r canllawiau ar ddefnyddio gorchuddion wyneb i sicrhau eu bod yn briodol.
A gaf i hefyd alw am ddatganiad ar y defnydd o bwerau gorfodi gan Cyfoeth Naturiol Cymru? Fe wrandawais yn astud iawn ar eich ymateb ychydig funudau'n ôl i Huw Irranca-Davies. Ond mae gennyf i broblemau yn fy etholaeth i fy hun yn ardal Rhuthun lle ceir mater o bwys o ran llygredd mwg, ac mae'n ymddangos i mi nad oes gan Cyfoeth Naturiol Cymru ddigon o adnoddau i allu cyflawni eu rhwymedigaethau i ymateb yn gyflym i'r pethau hyn wrth iddyn nhw ddigwydd. Yn wir, cafodd ymchwiliad i ffynhonnell y broblem mwg ei lansio nôl ym mis Ionawr, ac rydym ar fin cyrraedd diwedd mis Mawrth ac nid oes disgwyl cael y canlyniad tan ganol mis Ebrill. Yn amlwg, mae hynny'n anfoddhaol. Mae'n bosibl bod iechyd pobl yn cael ei beryglu o ganlyniad i'r oedi hwn, felly byddwn i'n ddiolchgar pe byddai modd cael datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd ynghylch digonolrwydd yr adnoddau sydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn ymdrin â'r problemau a gaiff eu hachosi gan lygredd aer a mynd i'r afael â nhw, yn enwedig yn y Gogledd. Diolch.
Diolch am godi'r ddau fater hynny. O ran gorchuddion wyneb mewn ysgolion yng Nghymru, gofynnaf i'r Gweinidog Addysg adolygu eich sylwadau y prynhawn yma ac ysgrifennu atoch i roi gwybod am y sefyllfa ddiweddaraf, yn enwedig oherwydd, fel yr ydych chi'n ei ddweud, y ffaith bod profion llif unffordd ar gael nawr. O ran darparu adnoddau i Cyfoeth Naturiol Cymru ymgymryd â'i waith gorfodi, gofynnaf ichi ysgrifennu at y Gweinidog gyda rhagor o fanylion ynghylch y broblem mwg benodol yr ydych chi wedi'i disgrifio y prynhawn yma er mwyn iddi hi gael y darlun llawnach ac y gall ymateb i chi.
Wrth inni i gyd fyfyrio heddiw, Trefnydd, ar brofiad y cyfyngiadau symud a'r rhai yr ydym wedi'u colli, a wnewch chi yn gyntaf ymuno â mi i longyfarch y saith cynrychiolydd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a enillodd wobrau Uchel Siryf Dyfed yr wythnos diwethaf am y gwaith y maen nhw wedi'i gyflawni ar yr adeg anodd iawn hon? Ond a gaf i ofyn yn bennaf am ddatganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd Meddwl ynglŷn â'r cymorth uniongyrchol sydd ar gael ar unwaith i bobl ifanc sy'n wynebu problemau iechyd meddwl, ac fe wyddom fod y rhain wedi gwaethygu oherwydd eu profiadau yn ystod yr argyfwng? Gwnes i gyfarfod yr wythnos diwethaf â myfyrwyr o Ysgol y Strade yn Llanelli, ac un o'u prif bryderon nhw oedd iechyd meddwl a lles eu hunain a'u cydweithwyr ifanc yn y dyfodol. Rwy'n credu y byddai'r Gweinidog ei hun yn cydnabod bod problemau gwirioneddol o ran y cyfle i fanteisio ar wasanaethau, gydag amseroedd aros hir iawn ar gyfer rhai gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed.
Fe fyddem ni ym Mhlaid Cymru, wrth gwrs, yn hoffi gweld rhwydwaith cenedlaethol o ganolfannau iechyd meddwl a lles i bobl ifanc, a hoffwn yn fawr weld un o'r rheini yn Llanelli yn fawr. Ond yn y cyfamser, fe hoffwn i glywed gan y Gweinidog Iechyd Meddwl ynghylch pa gymorth y gall hi ei ddarparu yn y tymor byr i'r bobl ifanc hynny fel bod modd ymdrin â'r amseroedd aros hir iawn am gyfle i fanteisio ar CAMHS. A hefyd fe hoffwn i glywed am y dull gweithredu y soniodd amdano o ran bod yn fwy cymunedol, gan ddefnyddio gwasanaethau fel gwasanaethau gwaith ieuenctid yn hytrach na gwasanaethau meddygol yn unig i ymdrin â phryderon y bobl ifanc hynny o Ysgol y Strade ac o bob rhan o fy rhanbarth i.
I ddechrau, hoffwn yn bendant â chi i longyfarch y saith unigolyn sydd wedi eu cydnabod yng ngwobrau Uchel Siryf Dyfed. Mae pobl wedi mynd ymhell y tu hwnt i'r disgwyliadau yn ystod y 12 mis diwethaf er mwyn gwasanaethu cymunedau a darparu'r gofal iechyd a'r cymorth sydd eu hangen ar bobl. Felly, rwy'n hapus iawn i ddweud 'llongyfarchiadau' ac estyn ein diolch yno, a hefyd, wrth gwrs, i'r holl bobl hynny sydd wedi bod yn gwneud gwaith anhygoel ac sydd, hyd yma, wedi aros o dan y radar, ac felly heb gael y cyfle i gael eu cydnabod yn ffurfiol. Ond gwyddom ni i gyd, a bydd y teuluoedd a gafodd eu heffeithio hefyd yn gwybod am eu caredigrwydd a'u proffesiynoldeb nhw wrth ymgymryd â'u swyddogaethau.
Y prynhawn yma, mae gennym ni ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ynghylch cymorth iechyd meddwl a llesiant mewn lleoliadau addysgol, a fydd, yn fy marn i, yn dechrau ymateb i rai o'r pryderon yr ydych chi wedi'u codi y prynhawn yma. Ac yna, yfory, mae gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am iechyd meddwl gwestiynau, a gwn fod sawl cyfle ar y papur trefn i glywed yn fwy uniongyrchol am y pryderon yr ydych chi wedi'u disgrifio o ran y cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i blant a phobl ifanc, a'r effaith y bydd y pandemig wedi'i chael ar eu bywydau.
Ac yn olaf, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad: un gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch y gefnogaeth i sioeau amaethyddol ledled Cymru yn dilyn y newyddion diweddar fod sioe Sir Benfro wedi'i chanslo eto eleni, sydd, wrth gwrs, yn ddealladwy. Fe fyddwch chi'n ymwybodol nad yw Sioe Frenhinol Cymru yn cael ei chynnal chwaith, yn ogystal â sioeau llai ym mhob cwr o Gymru. Nawr, mae'r sioeau hyn nid yn unig yn bwysig i'r sector amaethyddol, ond maen nhw hefyd yn ddigwyddiadau cymunedol pwysig ac maen nhw'n hanfodol i hyrwyddo ein diwylliant. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am gydlyniant cymunedol wrth iddyn nhw ddod â chymunedau at ei gilydd, ac maen nhw'n dod â phobl o ardaloedd gwledig a mwy trefol at ei gilydd. Felly, wrth i fwy a mwy o ganslo gael ei gyhoeddi yn sgil pandemig COVID, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi datganiad o gefnogaeth i'r sioeau ac, yn wir, i'r gwyliau eraill, sy'n cadarnhau sut yn union y mae'n eu cefnogi drwy'r pandemig, yn enwedig y sioeau a'r gwyliau amaethyddol llai.
Yn ail, a gaf i hefyd ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch offer diogelu personol ar gyfer gweithwyr y GIG? Mae etholwr pryderus wedi cysylltu â mi yn egluro nad yw'r offer yn galluogi gweithwyr i ddarllen gwefusau yn briodol, gan wneud bywyd yn anodd iawn i weithwyr sydd ag anawsterau clyw. Rwy'n gwybod y dylai fod offer priodol ar gael, ond rwyf wedi cael gwybod, yn yr achos hwn, fod y masgiau wyneb clir yn heriol iawn gan eu bod yn anodd eu defnyddio am gyfnodau hir, felly ni all fy etholwr ddarllen gwefusau oherwydd nad yw'r offer cywir yn cael ei wisgo. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi fod hyn yn annerbyniol. Felly mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn rhoi rhywfaint o arweiniad ar y mater hwn drwy gyhoeddi datganiad eglur yn amlinellu ei pholisi cyfarpar diogelu personol, gan esbonio pwysigrwydd offer addas i weithwyr y GIG y mae angen yr offer cywir arnyn nhw oherwydd problemau clyw, a sicrhau bod yr offer cywir ar gael i'r gweithwyr hynny.
Diolch i chi am godi'r ddau fater pwysig yna brynhawn heddiw. Mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am ran ynni, yr amgylchedd a materion gwledig wedi clywed eich cais chi am y datganiad ynglŷn â sioeau amaethyddol a chefnogaeth Llywodraeth Cymru iddyn nhw. Fe hoffwn innau ddweud fy mod i'n cytuno â chi o ran cydnabod swyddogaeth bwysig sioeau amaethyddol yng nghymunedau cefn gwlad ledled Cymru ac maen nhw'n aml yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn i lawer o bobl. Felly, mae'n amlwg yn siomedig pan nad yw pobl yn cael y cyfleoedd hyn i ddod at ei gilydd yn y ffordd neilltuol honno.
O ran cyfarpar diogelu personol, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech yn ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd yn disgrifio'r mater arbennig hwn fel y gallwn ni ymchwilio i ba raddau y mae hwn yn fater ehangach neu'n rhywbeth mwy lleol, fel y gallwn ystyried y ffordd orau o ymateb i'r pryder arbennig hwn. Diolch.
Diolch i'r Trefnydd.
Felly, yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Prif Weinidog nawr ar COVID-19, flwyddyn yn ddiweddarach. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad.
Diolch, Lywydd. Heddiw, rydyn ni’n nodi carreg filltir bwysig yn y pandemig hwn, pandemig sydd wedi cael cymaint o effaith arnon ni i gyd. Flwyddyn yn ôl i heddiw, dechreuodd pob un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig gyda’i gilydd ar gyfnod o gyfyngiadau llym am y tro cyntaf. I lawer iawn o bobl, dyma fyddai’r tro cyntaf iddyn nhw sylweddoli pa mor ddifrifol oedd yr argyfwng iechyd y cyhoedd yr ydym ni wedi bod yn byw gyda fe ers cymaint o amser erbyn hyn.
Heddiw, mae digwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws y wlad. Am hanner dydd, fe safon ni mewn tawelwch gyda phobl eraill ar draws y Deyrnas Unedig. Yn hwyrach heddiw, byddwn ni’n cynnal ein digwyddiad ein hunain i gofio. Byddwn ni’n dod at ein gilydd i gofio pob un sydd wedi marw ac i gydnabod y gwir ymroddiad sydd wedi cael ei ddangos gan gymaint o unigolion ar draws Cymru. Heno, bydd tirnodau ac adeiladau yn cael eu goleuo ym mhob cwr o Gymru. Lywydd, rydyn ni’n canolbwyntio’n bennaf heddiw ar y nifer arswydus o uchel o unigolion sydd wedi colli eu bywydau yn ystod y pandemig, ac mae’n briodol ein bod ni’n gwneud hynny. Fel rydyn ni wedi gwneud gydol y pandemig, rydyn ni’n meddwl am bob teulu sy’n galaru ar ôl iddyn nhw golli rhywun a oedd yn annwyl iddyn nhw. Rydyn ni’n cofio am yr unigolion sydd y tu ôl i’r ffigurau sy’n cael eu hadrodd bob dydd.
Llywydd, mae hwn yn feirws dychrynllyd a chreulon. Mae wedi taro heb ystyriaeth i oedran, gan gipio'r hen a'r ifanc. Mae wedi amlygu anghydraddoldebau ystyfnig yn ein cymdeithas ni, gan ddatgelu ymraniadau ac effeithio ar y cymunedau hynny sydd fwyaf agored i niwed, yn enwedig pobl anabl, menywod, a chymunedau pobl dduon, Asiaidd, a lleiafrifoedd ethnig.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym ni wedi clywed storïau torcalonus am wŷr a gwragedd yn marw o fewn ychydig ddyddiau i'w gilydd, am frodyr a chwiorydd yn cael eu cipio i ffwrdd gan y feirws, am genedlaethau o'r un teulu yn marw oherwydd COVID-19. Fe fyddan nhw'n aros yng nghalonnau a meddyliau pawb a oedd yn eu hadnabod ac yn eu caru nhw ac rydym ninnau'n cofio amdanyn nhw heddiw hefyd. Fe fydd yna ddwy gofeb fyw barhaol yng Nghymru i bawb a fu farw, wrth inni blannu coedwigoedd yn y Gogledd a'r De. Fe fydd y rhain yn gyrchfannau i deuluoedd fel y gallant gofio am eu hanwyliaid ac yn llecynnau ar gyfer myfyrdod i eraill. Oherwydd mae'r feirws hwn wedi dwyn rhywbeth oddi ar bob un ohonom ni sydd yma heddiw; ac mae pob un ohonom ni wedi adnabod rhywun a fu farw neu rywun sydd wedi dioddef afiechyd.
Fe deimlwyd y gost yn y ffyrdd yr ydym ni'n byw ein bywydau ni bob dydd. Fe dorrwyd ar draws ein traddodiadau ar gyfer dathlu'r Nadolig, Ramadan, Diwali a'r Hanukkah. Cafodd priodasau eu canslo ac fe newidiodd ein dull ni o ffarwelio â'r rhai a gollwyd. Cafwyd cost ariannol aruthrol wrth i fusnesau gau, ac yn anffodus, ni fydd rhai ohonyn nhw byth yn ailagor, ac fe gafodd swyddi eu colli hefyd. Ac mae'r feirws wedi newid yn sylfaenol ein ffyrdd ni o ryngweithio â'n gilydd, gan daflu cysgod dros ein bywydau ni i gyd. Nid yn unig o ran cyffwrdd penelin yn hytrach nag ysgwyd llaw, neu alwadau Zoom yn hytrach na chyfarfod rhywun wyneb yn wyneb; mae'r feirws wedi ein hamddifadu ni o gyffyrddiad dynol a chyswllt dynol. Rydym wedi gweld effaith y pandemig eisoes ar iechyd meddwl a'n llesiant ni, gyda theimladau o unigrwydd, arwahanrwydd, pryder, a rhwystredigaeth ac efallai nad yw dylanwad hynny wedi cyrraedd ei uchafbwynt eto, fel y trafodwyd yn gynharach y prynhawn yma.
Ac eto i gyd, Llywydd, er mor boenus fu'r gost i bobl, mae'r flwyddyn eithriadol hon wedi dangos pa mor ddi-syfl y gall pobl fod yn ogystal â'u parodrwydd aruthrol nhw i helpu ei gilydd mewn cymunedau. Wythnos ar ôl wythnos, rydym ni wedi gweld mwy o bobl yn gwirfoddoli i helpu'r rhai sydd wedi bod yn llochesu ac i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus ni; dros 100 o wirfoddolwyr newydd yn cynnig cymorth eto yn ystod yr wythnos diwethaf. Ac wrth i ysgolion a siopau gau am gyfnodau maith, mae ein cartrefi ni wedi bod yn ystafelloedd dosbarth a gweithleoedd, ac mae busnesau wedi dod o hyd i ffyrdd arloesol o gynnig gwasanaethau o bellter. Mae ciwiau'r oriau brig wedi diflannu, bron â bod, ac rydym ni wedi dysgu sut i ddefnyddio'r botwm 'mute'—neu'r rhan fwyaf ohonom y rhan fwyaf o'r amser, o leiaf.
Llywydd, fe hoffwn i dalu teyrnged i'r ffordd ryfeddol y mae ein gwasanaethau cyhoeddus wedi ymateb i'r pandemig, ac ymroddiad a phenderfyniad y degau o filoedd o bobl sy'n gweithio yn ein GIG ni a'n gwasanaethau gofal ni ac ym mhob un o'r gwasanaethau hynny o ddydd i ddydd yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw a ddarperir gan ein hawdurdodau lleol. A thu hwnt i hynny i gyd, fe hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi rhoi eu hunain mewn perygl yn eu gwaith nhw drwy roi gwasanaeth i eraill: mewn swyddi manwerthu, gyrwyr bysiau, trenau, a thacsis, athrawon a staff ysgol—mae'r rhestr yn faith ac yn hirach nag y gallaf i ei nodi y prynhawn yma. Eich gwaith diflino chi sydd wedi ein cadw ni i gyd yn ddiogel.
Ac mae'r ymateb i'r pandemig yng Nghymru wedi bod yn ymateb o ran partneriaeth gymdeithasol, boed hynny yn ein gwasanaeth profi ac olrhain llwyddiannus ni, a gafodd ei lunio o ddim ac fe ddywedodd Swyddfa Archwilio Cymru amdano'r wythnos diwethaf ei fod yn gwneud cyfraniad pwysig at reoli COVID-19, boed hynny wrth sicrhau cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol gan fusnesau Cymru ar gyfer y GIG a gofal cymdeithasol, neu ein system wyliadwriaeth genomeg ni yng Nghymru sy'n arwain y byd, sy'n helpu i nodi amrywiolion newydd o'r feirws, ac wrth gwrs, ein rhaglen frechu wych ni, sy'n parhau i fynd o nerth i nerth gan ei bod hi'n darparu brechlynnau i bobl yn anhygoel o gyflym. Mewn llai na phedwar mis, Llywydd, mae miloedd o staff y GIG, gyda chefnogaeth personél milwrol a gwirfoddolwyr, ac yn gweithio o 600 o ganolfannau, wedi rhoi'r dos cyntaf o'r brechlyn i fwy na hanner poblogaeth oedolion Cymru. A'r brechu sy'n rhoi gobaith gwirioneddol inni am ddyfodol gwell a pherthynas wahanol â'r feirws hwn—dyfodol lle byddwn ni'n gallu byw gyda llai o gyfyngiadau.
Oherwydd, yn ystod y 12 mis diwethaf, mae pob un o bedair Llywodraeth y DU wedi gwneud penderfyniadau digynsail i ddiogelu iechyd pobl a rheoli ymlediad y feirws. Mae hynny wedi golygu ymyrryd ym mywydau pobl mewn ffyrdd na welwyd eu tebyg ers cenedlaethau. Nid oes yr un o'r penderfyniadau hyn wedi bod yn hawdd, ac yn sicr nid oes yr un ohonyn nhw wedi cael eu gwneud ar chwarae bach, ond maen nhw wedi bod yn angenrheidiol i achub bywydau a bywoliaethau pobl.
Fe hoffwn i ddiolch i bawb yng Nghymru am eu cefnogaeth a'u cymorth nhw. Eich buddugoliaeth chi yw hon ac fe ddaeth â'r feirws dan reolaeth dro ar ôl tro yn ystod y flwyddyn hon. Mae pobl ar draws y genedl wedi dilyn y rheolau ac wedi cadw eu hunain a'u teuluoedd yn ddiogel ac oherwydd hynny fe allwn ni ddechrau llacio'r cyfyngiadau hyn nawr, gan ddatgloi Cymru fesul sector yn ofalus iawn. Ac fe fyddwn ni'n parhau i wneud hyn yn raddol, gam wrth gam, fel nad ydym yn colli dim o'r gwaith caled a'r aberthau a wnaeth 3 miliwn o bobl yn ystod y tri mis diwethaf, gan fod yn ymwybodol trwy'r amser o ba mor gyflym y gall y feirws hwn ddychwelyd, fel y gwelsom ni gyda'r profiadau sobreiddiol yn Ewrop yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
Llywydd, ar draws Cymru rydym ni wedi teimlo ysbryd o undod cymdeithasol enfawr a channoedd o filoedd o weithredoedd bach unigol o garedigrwydd, a hynny hyd yn oed gyda'r holl darfu ar fywydau a bywydau'n cael eu dal yn ôl. Ac oherwydd yr ysbryd hwnnw rydym yn dechrau'r gwanwyn hwn ac yn nodi'r flwyddyn gron gydag ymdeimlad o obaith. Mae'r achosion wedi gostwng, mae'r pwysau ar ein GIG ni'n ysgafnhau; mae gennym ni fwy o brofion a phrofion amrywiol ar gael yn ogystal â brechu ar raddfa eang. Rydym ni'n dechrau datgloi ein cenedl ac rydym ni'n benderfynol o wneud hynny mewn ffordd sy'n cadw cyfraddau'r feirws yn isel. Fe fyddwn ni'n ailgodi ac yn adfer, gan adeiladu Cymru sy'n decach a gwyrddach, lle nad oes unrhyw un yn cael ei ddal yn ôl na'i adael ar ôl.
Llywydd, rydym ni'n byw gyda'r coronafeirws ac yn debygol o fod am gryn amser eto. Ond mae glynu at obaith mewn adfyd a bod yn llawn hyder a gobaith mewn hawddfyd, fel ei gilydd, yn rhan o gyflwr y ddynoliaeth. Dyma sy'n ein galluogi ni i ddweud y gall eleni fod yn wahanol ac y bydd eleni'n well na'r llynedd. Diolch yn fawr.
Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad chi'r prynhawn yma. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r teimladau a fynegwyd yn y datganiad hwn. Flwyddyn i heddiw, yn amlwg, fe osodwyd y cyfyngiadau cyntaf arnom ni, a phrin iawn y gellir dychmygu maint y drasiedi sydd wedi digwydd i 7,000 a mwy o deuluoedd oherwydd colli aelod annwyl o'u teulu, ac mae'r cariad a'r cydymdeimlad sy'n cael eu harddangos gan y gymdeithas gyfan ledled Cymru yn glod i'r ysbryd cymunedol hwnnw sy'n bodoli ym mhob cwr o Gymru.
Mae'r ymroddiad yng ngwaith y gwasanaethau wrth gefnogi teuluoedd, o'r GIG yr holl ffordd at y sector cyhoeddus a'r sector elusennol, yn esiampl i unrhyw un ei hystyried gyda balchder mawr. Rwy'n credu y gallwn ni ymfalchïo llawer iawn yn y ffordd y mae'r wlad wedi wynebu'r feirws hwn. Mae'n ddigon posibl fy mod i wedi anghytuno gyda'r Prif Weinidog o bryd i'w gilydd o ran polisi, ond mae'n ffaith bod pawb, yn wlad o 3 miliwn o bobl, wedi chwarae eu rhan wrth wynebu'r feirws, ac, fel y nododd y Prif Weinidog, nid ydym wedi cyrraedd y lan eto, ond rydym wedi cefnu ar ran fawr o'r fordaith honno, ac mae'r gwanwyn yn edrych yn llawer goleuach nag yr oedd ychydig wythnosau yn ôl.
Gyda hynny mewn golwg, Prif Weinidog, hoffwn i ofyn cyfres o gwestiynau sy'n deillio o'r datganiad, fe fyddwn i'n ddiolchgar am rai atebion. Ar ddiwedd y datganiad rydych chi'n sôn ein bod ni'n byw gyda'r coronafeirws ac mae'n debygol y byddwn ni am gryn amser eto. Rydych chi wedi cyflwyno sylwadau yn y cyfryngau yn ddiweddar eich bod chi'n credu y bydd cryn dipyn o gyfyngiadau yn parhau arnom trwy gydol 2021 ac i mewn i 2022. A wnewch chi roi amcan o'r hyn sydd ar eich meddwl, o'r wybodaeth sydd ger eich bron, ynglŷn â pha fath o gyfyngiadau y gallem ni fod yn eu disgwyl yn ystod gweddill 2021 ac i mewn i 2022? Hefyd, y pwynt yr ydych chi'n ei wneud o ran cofebion byw—rwy'n croesawu hynny, yn enwedig y ffordd yr ydych chi wedi eu lledaenu nhw'n ddaearyddol i'r Gogledd a'r De, ond tybed pam na roddwyd ystyriaeth i sefydlu cofeb yn y Canolbarth, fel bod gardd goffa fel hyn ym mhob rhan o Gymru ac y byddai modd ymweld ag un heb deithio'n rhy bell o unrhyw fan yng Nghymru. Felly, tybed a ydych chi'n ystyried y syniad o sefydlu coetir o'r fath yn y Canolbarth, gan fod hynny'n amlwg yn absennol yn y cyhoeddiad a wnaethoch chi'r wythnos diwethaf.
Mewn rhan arall o'r datganiad, rydych chi'n sôn am unigrwydd, arwahanrwydd, pryder a rhwystredigaeth, ac efallai nad yw eu penllanw nhw wedi bod eto. Pa asesiad a wnaeth y Llywodraeth o'r gofynion y mae'n ddigon posibl y byddan nhw'n creu pwysau ar y gwasanaethau iechyd meddwl sy'n cael eu darparu? Roedd sefydlu swydd arbennig Gweinidog Iechyd Meddwl nôl yn yr hydref yn ddatblygiad i'w groesawu, ac rwy'n gobeithio bod y Llywodraeth wedi gallu gwneud asesiadau o'r gofynion y mae eu hangen arnom i adeiladu ein gwasanaethau ni yn y dyfodol. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn yn y datganiad hwn, ynghylch unigrwydd, arwahanrwydd, pryder a rhwystredigaeth, oherwydd mae llawer o bobl ledled Cymru wedi teimlo hynny'n enbyd.
Ac yn olaf, rydych chi'n tynnu sylw at y llwyddiant wrth gyflwyno'r brechiadau, rhywbeth y gallwn ni i gyd ei ddathlu ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, lle mae dros 50 y cant o'r boblogaeth oedolion wedi eu brechu. Yn anffodus, mae deialog wedi bod rhwng yr Undeb Ewropeaidd a'r DU a rhannau eraill o'r byd, ac yn enwedig yr Undeb Ewropeaidd, ynghylch atal cyflenwadau. Rwy'n gobeithio'n fawr nad yw hynny'n wir. Rwy'n sylweddoli maint yr anawsterau y mae'r Undeb Ewropeaidd yn eu hwynebu yn ystod eu proses gyflwyno, ac, yn wir, mae ymdrin â'r drydedd don sy'n traflyncu'r cyfandir nawr yn rhywbeth nad oes unrhyw un ohonom ni'n dymuno ei weld. Ond rwy'n eich gwahodd chi i roi sylw ar yr hyn y byddech chi'n ei anfon mewn neges bersonol i Arlywydd yr Undeb Ewropeaidd o ran peidio â dilyn y trywydd hwn o sancsiynau a thorri cytundebau, a chaniatáu rhwydd hynt i frechlynnau a addawyd mewn cytundebau. Nid oes unrhyw un yn bwriadu gweithredu y tu allan i baramedrau'r cytundebau, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ichi fynegi hynny ar goedd, Prif Weinidog. Oherwydd mae hwn yn destun cryn bryder ac, yn y pen draw, mae'r cytundebau hynny ar waith ac nid ydym yn dymuno gweld unrhyw beth a fyddai'n llesteirio'r broses o gyflwyno brechlynnau sydd, fel y cyfeiriodd eich datganiad ato y prynhawn yma, yn gyntaf, wedi bod yn llwyddiannus iawn ac, yn ail, yn cynnig heulwen olau'r gwanwyn sydd ar gerdded yn ein gwlad ni. Diolch, Prif Weinidog.
Llywydd, rwy'n diolch i arweinydd yr wrthblaid am yr hyn a ddywedodd wrth ymateb i'r datganiad ac am y cwestiynau a gododd ef. Fe glywodd yr hyn a ddywedodd Prif Weinidog y DU ddoe ynghylch y perygl o drydedd don y feirws hwn yn y Deyrnas Unedig. Mae'n gwybod am yr amrywiolion newydd sy'n codi mewn gwahanol rannau o'r byd. Dyna pam mae'r cyngor a gefais i gan ein prif swyddog meddygol ni ac eraill yn dweud wrthyf i nad ydym wedi cefnu ar y feirws hwn eto, yn anffodus. Rwy'n credu, os bydd y cyfan yn mynd yn dda, yna erbyn diwedd eleni efallai y byddwn ni'n byw gyda'r cyfyngiadau syml—cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo, gwisgo masgiau mewn mannau poblog—y pethau yr ydym ni wedi dod yn gyfarwydd iawn â nhw er mwyn cadw ein gilydd yn ddiogel. Ond ni allwn, yn fy marn i, ddweud wrth bobl gyda'r sicrwydd y byddem ni'n ei hoffi bod yr holl risgiau oherwydd coronafeirws wedi mynd heibio eisoes. Efallai y bydd yna sawl tro arall yng nghynffon y stori. Wrth gwrs, ein nod ni yw codi'r cyfyngiadau mor gyflym ag y mae hynny'n ddiogel, ond dyna'r oeddwn i'n ei olygu pan ddywedais i fy mod i'n credu y byddwn ni'n byw gyda'r feirws hwn am gryn dipyn o amser i ddod.
Diolch i Andrew R.T. Davies am yr hyn a ddywedodd am y cofebion byw. Rwyf i wedi gweld gohebiaeth o'r Canolbarth ac fe fyddwn i'n hapus iawn i ystyried hynny. Mae e'n gwybod am ein cynlluniau ni ar gyfer coedwig genedlaethol ac rwy'n gallu gweld ffyrdd y gallai coetir coffa fod yn rhan o'r cynllun ehangach hwn ar gyfer coedwigo a fyddai'n cysylltu'r gogledd, y de a'r canolbarth gyda'i gilydd.
Cafodd y cynllun ar gyfer adfer y GIG, a gyhoeddwyd ddoe, ei lofnodi ar y cyd gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a Vaughan Gething. Dyna arwydd o ba mor benderfynol yr ydym ni fod anghenion iechyd meddwl ac anghenion llesiant y boblogaeth yr un mor arwyddocaol yn y gwaith y bydd y gwasanaeth iechyd yn ei wneud wrth inni gael adferiad o'r pandemig ag unrhyw agwedd arall ar y gwaith y mae'n ei wneud. Rwy'n diolch i arweinydd yr wrthblaid am dynnu sylw at bwysigrwydd sefydliadau yn y trydydd sector, oherwydd mae'r rhan honno o'r ddogfen a gyhoeddwyd ddoe yn tynnu sylw penodol at y ffordd y mae'r gwasanaethau adfer hynny ar gyfer pobl sy'n dioddef o unigrwydd a phryder y mae'r pandemig wedi effeithio ar eu llesiant meddyliol nhw—. Nid gwaith i'r gwasanaeth iechyd yn unig mohono. Gwaith yw hwn i'r gwasanaeth iechyd ei wneud mewn partneriaeth â'r mudiadau gwirfoddol hynny sydd â rhan mor bwysig yn iechyd meddwl a llesiant Cymru.
Ac yn olaf, gan droi at fater cyflenwad brechlynnau, wel, rwy'n adleisio'r hyn a ddywedodd Prif Weinidog y DU ddoe, sef bod eisiau i'n cyfeillion ni yn Ewrop ddod i gytundeb â ni ynglŷn â'r mater hwn. Rydym ni i gyd yn wynebu her y coronafeirws. Nid oes ganddo barch tuag at unrhyw ffiniau cenedlaethol. Rydym ni i gyd felly, yn wynebu'r her o frechu gyda'n gilydd, ac mae angen cytundeb rhyngom ni i gyd o ran y ffordd orau o sicrhau hynny er budd pawb. Fe fydd y Prif Weinidog yn cynnal trafodaethau pellach gydag arweinwyr yn Ewrop heddiw ac yfory. Fe fyddaf innau'n cael cyfarfod yn ddiweddarach heddiw gyda Michael Gove, sy'n bennaeth Swyddfa'r Cabinet; Prif Weinidog yr Alban; a Phrif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, lle y byddwn yn trafod y mater hwn eto. Dyna yw fy nghenadwri i gyfeillion a chydweithwyr mewn mannau eraill. Fe fyddwn ni'n datrys y mater hwn drwy drafod a chytuno. Dyna'r ffordd o sicrhau y byddwn ni'n dal ati i weithio er lles pob un ohonom ni.
A gaf i gymryd y cyfle yma i estyn cydymdeimladau dwys, yn y lle cyntaf, i bawb sydd wedi colli anwyliaid yn ystod creulondeb enbyd y 12 mis diwethaf a'r rhai sydd yn dal i ddioddef heddiw? Mae ein meddyliau ni i gyd gyda nhw i gyd. Fel y dywedoch chi yn eich datganiad, Brif Weinidog, fe fydd yn gryn amser nes i effaith y pandemig gael ei ddirnad yn llwyr gennym ni, ac rwy'n ofni y bydd y creithiau ar ein cymdeithas ni am yn hir iawn i'r dyfodol.
Ym mhob anobaith, mae yna obaith, a hyd yn oed yn yr oriau tywyllaf mae goleuni, ac mae ein gweithwyr allweddol wedi bod yn ffynhonnell goleuni ac wedi cynnal ni i gyd drwy'r dyddiau du hyn. Fe hoffwn i ddiolch hefyd o waelod calon iddyn nhw i gyd, i'r holl weithwyr yn y gwasanaeth iechyd; ein gweithwyr gofal; ein gofalwyr di-dal; ein hathrawon sydd wedi cynnal addysg hyd yn oed o bell; yr heddlu, sydd wedi rhoi eu hunain mewn perygl i sicrhau bod y rheoliadau yn cael eu cynnal er lles pawb ohonom ni; ein gweithwyr trafnidiaeth; y gweithwyr yn y siopau a'r archfarchnadoedd; ein cynhyrchwyr bwyd, sydd wedi diogelu ein cadwyni cyflenwi bwyd; ac i'r ymgymerwyr angladdau, sydd yn gwneud gwaith anodd ar y gorau, ond sydd wedi gorfod gwneud hynny o dan amodau gymaint yn anoddach. Diolch hefyd i bawb yng Nghymru sydd wedi chwarae rhan i gadw pawb yn ddiogel, drwy wneud yr holl aberth wrth ddilyn y rheoliadau a'r canllawiau di-gynsail sydd wedi eu gosod ar bob agwedd o fywyd. A gaf i ddiolch yn arbennig i'n pobl ifanc sydd wedi gorfod aberthu mwy na neb?
Mae yna wersi, fel y dywedodd Sir Mansel Aylward yn ddiweddar, o'r 12 mis diwethaf. Rŷm ni'n credu bod angen ymchwiliad Cymreig annibynol gan fod yna wersi sydd yn unigryw i Gymru y mae angen eu dysgu a fydd ddim yn cael ffocws, efallai, mewn ymchwiliad ymbarél Brydeinig. Ond sut ŷm ni'n gallu dysgu ac adnabod gwersi hyd yn oed nawr? Rwy'n cyfeirio at adroddiad Conffederasiwn GIG Cymru a phartneriaid eraill a oedd yn edrych ar yr arloesi sydd wedi digwydd yn ystod y cyfnod, wynebu'r heriau ofnadwy sydd wedi bod o'n blaenau ni yn ystod y 12 mis diwethaf, ond drwy hynny, canfod cryfder: Cymru ar ei gorau yn dod at ei gilydd i weithio ar draws sectorau; llywodraeth leol yn gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd ar lawr gwlad o ran y system profi ac olrhain a'r cynllun brechu; y defnydd o dechnoleg newydd a digidoli'n gweithio ar raddfa fyddai neb wedi medru dychmygu; y gallu i roi o'r neilltu biwrocratiaeth ac ymrymuso gweithwyr yn y gwasanaethau i wneud penderfyniadau'n gyflym. Sut allwn ni harneisio'r profiad yma, Brif Weinidog, yn y cyfnod newydd sydd o'n blaenau ni, sydd, wrth gwrs, yn cynnig heriau o hyd? A oes yna wersi mwy cyffredinol hefyd yn y ffaith yma ein bod ni wedi elwa o dorri ein cwys ein hunain fel gwlad yn ystod y 12 mis diwethaf?
Yn olaf, fel y mae adroddiad yr Academi Brydeinig a gyhoeddwyd heddiw wedi adleisio, mae'r pandemig wedi amlygu a gwaethygu, a dweud y gwir, yr anghyfartaledd oedd yno eisoes yn ein cymdeithas ni. Mae hynny'n wir o ran incwm a chyfoeth, o ran daearyddiaeth ac o ran rywedd a hil. Ydy'r pandemig yn foment i ni benderfynu mynd i'r afael o ddifrif â'r problemau hirdymor a dybryd sydd wedi bod yn gysgod ar ein cymdeithas a'n cenedl yn rhy hir? Onid dyma'r ymrwymiad mwyaf y gallwn ei wneud er cof am aberthau a cholledion lu'r flwyddyn anodd hon?
Llywydd, diolch yn fawr i Adam Price am y sylwadau cyffredinol yr oedd e'n eu rhoi i ni ar ddechrau ei gyfraniad ef y prynhawn yma. Dwi'n rhannu beth ddywedodd e a rŷn ni'n becso am yr effaith hirdymor ar bobl yma yng Nghymru. Does neb yn gwybod, wrth gwrs, ac mae pobl yn gallu dod at ei gilydd, fel rŷn ni wedi'i weld yn ystod y pandemig, a thynnu cryfder o hynny. Ond, o ran effaith y coronafeirws ar ein cymunedau ac ar fywydau unigolion sydd wedi colli pobl a phobl sydd wedi dioddef o'r coronafeirws, dyw hwnna ddim yn mynd i ddiflannu'n gyflym, dwi'n siŵr. Dwi'n cytuno hefyd â beth ddywedodd Adam Price am obaith: gobaith yw'r peth sy'n ein cadw ni i gyd i fynd, gobaith am y dyfodol.
Diolch i arweinydd Plaid Cymru hefyd am beth ddywedodd e am ar heddlu, pobl sydd wedi gweithio mor galed i helpu i gadw ni'n saff mewn amgylchiadau anodd dros ben, ac am yr effaith ar bobl ifanc hefyd. Dyna pam ein blaenoriaeth gyntaf ni fel Llywodraeth oedd i dynnu pobl ifanc yn ôl i addysg, i ysgolion a cholegau i dreial rhoi rhai pethau nôl iddyn nhw o fywyd normal, y gallu i gwrdd â phobl ifanc eraill ac yn y blaen. Dyna pam rŷn ni wedi dweud fel Llywodraeth os bydd y cyfle gyda ni ar ôl mis Mai, rŷn ni eisiau buddsoddi miliynau o bunnoedd mewn gwasanaethau i helpu pobl ifanc i gario ymlaen i ddysgu y pethau maen nhw wedi colli mas arnyn nhw dros y flwyddyn ddiwethaf.
Ac mae gwersi'n bwysig, wrth gwrs, fel y dywedodd Mr Price. Dwi ddim eisiau aros i dynnu gwersi tan fydd ymchwil annibynnol gyda ni. Mae'n bwysig, fel yr oedd Adam Price yn ei ddweud, i ddysgu gwersi nawr am y cryfder y mae pobl wedi dangos, am y pethau rŷn ni wedi'u gwneud mor gyflym yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Ces i'r fraint o fod yn Weinidog dros iechyd yma yn y Senedd a dwi'n cofio pa mor anodd oedd e i berswadio pobl i wneud pethau mewn ffordd ddigidol, ond nawr, wrth gwrs, rŷn ni'n ei wneud e fel yna bob dydd. Mae'n bwysig i beidio â cholli'r gwersi yna, i harnesi'r pethau rŷn ni wedi eu dysgu mewn ffordd bositif. Mae lot o bethau anodd dros ben wedi digwydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ond mae rhai pethau positif, ac mae'n bwysig i ddysgu'r gwersi ac nid aros am ymchwil annibynnol yn y dyfodol i wneud hynny.
A dwi'n cytuno hefyd â beth ddywedodd Adam Price, ac a ddywedais i yn y datganiad gwreiddiol, fod yr anghyfartaledd a oedd yno o'r blaen, y mae coronafeirws wedi ei dynnu at wyneb ein cymdeithas ni. A bydd y dyfodol ddim yn well oni bai bod y dyfodol yn decach. A dyna'r ysbryd dwi eisiau ei ddefnyddio i helpu Cymru, os gallaf, i ddod mas o'r pandemig mewn ffordd sydd yn well, wrth gwrs, i ni i gyd, ond sy'n decach, i ni ddysgu'r gwersi rydym ni i gyd wedi eu gweld ym mywydau pobl sy'n byw gydag anfantais yn ein cymunedau ni.
John Griffiths.
Nid oeddwn i wedi rhoi fy enw i gerbron ar gyfer yr eitem hon, mewn gwirionedd, Llywydd.
O. Dyna ni. Popeth yn iawn. Rhianon Passmore.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rydym ni'n nodi blwyddyn heddiw ers dechrau'r cyfyngiadau symud cenedlaethol. Ac eto i gyd, ar 8 Mawrth 2020, Scott Howell o'r Coed Duon yn Islwyn, a oedd yn 48 oed ar y pryd, oedd yr unigolyn cyntaf o Went i fynd i ofal dwys oherwydd cymhlethdodau a achoswyd gan COVID-19. Mae Scott Howell yn un o gymeriadau nodweddiadol cymunedau Islwyn ac mae'n diolch i wasanaeth iechyd gwladol Cymru am achub ei fywyd. Ond mae'n briodol iawn ein bod ni'n myfyrio ac yn cofio am bawb hefyd, yn anffodus iawn, sydd wedi trengi oherwydd y feirws creulon hwn.
Prif Weinidog, ar ran holl bobl Islwyn, a gaf i fynegi ar goedd unwaith eto, fel cynrychiolydd iddyn nhw, fy niolch i'r holl fenywod a'r dynion hynny sy'n gwasanaethu yn ein GIG ni a'n gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac sydd wedi ymladd y frwydr hon, yn aml iawn, ochr yn ochr â'n hanwyliaid ni ein hunain? Mae pobl Islwyn yn bobl gref ac rydym wedi goddef y pandemig hwn ac fe allwn ni i gyd weld y goleuni ym mhen draw'r twnnel nawr. Llywydd, gyda phob preswylydd yn Islwyn i gael cynnig o frechlyn erbyn 31 Gorffennaf, fe wyddom ni yng Nghymru fod gwasanaeth iechyd gwladol Cymru parhau i gadw at egwyddorion Llafur Aneurin Bevan, ac mae gweledigaeth ein Llywodraeth Lafur ni wedi sicrhau mai Cymru yw un o'r gwledydd mwyaf llwyddiannus wrth frechu ei phobl. Prif Weinidog, beth mae'r pandemig wedi ei ddysgu inni am werth ein gweledigaeth Lafur fyw ni o ofal iechyd rhad ac am ddim i bawb, i Islwyn ac i Gymru, yn yr unfed ganrif ar hugain?
Llywydd, a gaf i ddiolch i Rhianon Passmore a diolch iddi am dynnu sylw at brofiad Scott Howell? Mae'n bwysig iawn y prynhawn yma, yn fy marn i, ein bod ni'n cofio, wrth gwrs, am y bobl sydd wedi marw yn ogystal â dioddefaint a galar teuluoedd, ond y nifer fawr o bobl hynny hefyd na wnaethant golli eu bywydau, ond mae profiad y coronafeirws wedi effeithio ar eu bywydau nhw'n enfawr hefyd. Mae hwn yn hen salwch creulon. Ac mae'r bobl hynny sydd wedi gorfod bod mewn gofal dwys, yn ymladd am eu bywydau, wedi bod yn rhan fawr o'r coffâd heddiw. Yn y dyddiau hynny ar ddechrau'r pandemig pan oeddem yn poeni am redeg allan o welyau, rhedeg allan o beiriannau anadlu, na fyddai gofal dwys ar gael i bobl yr oedd ei angen arnynt, mae'r diolch nid yn unig am yr ymrwymiad a'r gwaith caled ond i ddyfeisgarwch llwyr y cwmnïau a'r clinigwyr ledled Cymru am greu'r amodau fel na fu'n rhaid inni wynebu'r posibiliadau mwyaf dyrys hynny.
Fe fyddech chi'n disgwyl imi ddweud, Llywydd, mai'r wers a ddysgais i o'r profiad hwn yw ymwybyddiaeth o allu sosialaeth ymarferol. Pan welaf i bobl yn mynd i gael eu brechu, rwy'n dweud wrthyf i fy hun, 'Yn y fan hon, rydych chi'n gweld gwasanaeth nad yw'n dibynnu o gwbl ar bwy ydych chi nac ar ble rydych chi'n byw nac ar bwy rydych chi'n ei adnabod neu ar a allwch chi dalu; yr unig beth y mae'n dibynnu arno yw'r ffaith mai eich angen chi sy'n dod gyntaf.' Ac rydym wedi rhoi brechiad i'r bobl hynny yn y drefn yr ystyrir eu bod fwyaf agored i niwed clinigol—pob un yn ôl ei angen, pob un yn ôl ei allu. Gallu'r rheini sy'n gweinyddu'r brechiadau yw ffynhonnell y gobaith hwnnw ym mywydau'r unigolion hyn. Rwy'n gweld yr ymdeimlad hwnnw o wasanaeth cyhoeddus ym mhopeth a wnânt. Rwy'n gweld, yn ymateb y cyhoedd yng Nghymru i hyn, yr ymdeimlad grymus o beth yw tegwch—os oes ar rywun ei angen yn fwy na chi, rydych yn barod i aros eich tro. Dyna'r hyn a welaf i yn y ciwiau o bobl sy'n aros am eu brechiad. Credaf fod hyn yn codi ein hysbryd, oherwydd mae'n dweud rhywbeth sylfaenol bwysig wrthym am ein hunaniaeth a'n cymeriad cenedlaethol ni.
Heddiw, rydym ni'n cofio am bob un a fu farw oherwydd COVID a'u teuluoedd nhw. Hefyd, fe ddylem feddwl yn fy marn i, am y rhai sy'n dioddef COVID hir, y rhai sydd wedi gweld gohirio eu triniaethau iechyd eraill, ac am yr effaith ar iechyd meddwl cymaint o bobl, a'r rhai sydd wedi dioddef waethaf yn economaidd.
Prif Weinidog, rwy'n awyddus i ddweud fy mod i'n dymuno gwneud dau sylw, cyn dweud unrhyw beth o safbwynt Plaid Diddymu Cynulliad Cymru. Mae un ohonyn nhw amdanoch chi'n bersonol. Rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith a'r ymdrech enfawr a wnaethoch chi yn ystod yr argyfwng hwn, a sut mae hynny o reidrwydd wedi eich newid chi fel arweinydd. Fe fu'n rhaid i chi ymdrin â'n cwestiynau ni o safbwyntiau gwahanol dros y flwyddyn ddiwethaf, ac yn gyffredinol rydych chi wedi gwneud hynny'n gydwybodol iawn ac mewn ysbryd da, felly fe hoffwn i ddiolch i chi am hynny.
Fe hoffwn i ddweud hefyd, beth bynnag fo ein safbwyntiau ni o ran yr hyn y dylai'r Llywodraeth ei wneud neu beidio, neu sut mae hynny'n wahanol i'r hyn y mae Llywodraeth yn ei wneud rywle arall, boed hynny o fewn y Deyrnas Unedig neu'n bellach i ffwrdd, fe'm trawyd i gan gyffredinolrwydd y profiad. Hyd yn oed mewn gwledydd yr oedd yn ymddangos eu bod yn gwneud yn dda neu'n wael, ymddengys ein bod yn dychwelyd at y man canol. Weithiau, nid yw polisïau yn cael yr effaith a ddisgwylir, ac yn gyffredinol, efallai ein bod ni'r gwleidyddion yn llai galluog i bennu'r canlyniadau ag y byddem ni'n ei ddisgwyl.
Tybed, serch hynny, Prif Weinidog, a gaf i eich holi chi ynglŷn ag un penderfyniad a wnaed cyn—[Anghlywadwy.]
Rwy'n credu ein bod o bosibl wedi colli Mark Reckless. Dof yn ôl at Mark Reckless yn nes ymlaen os gall ailymuno â ni. Laura Anne Jones, allwch chi ofyn eich cwestiwn chi nawr?
Diolch. Prif Weinidog, flwyddyn yn ddiweddarach, a gaf fanteisio ar y cyfle hwn yn gyntaf, ar y diwrnod hwn o fyfyrdod, i gofio am bawb sydd, yn drychinebus, wedi colli eu bywyd i COVID, a manteisio ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i bawb ar y rheng flaen sydd wedi mynd yr ail filltir, ac wedi gweld golygfeydd na fyddai'r un ohonom wedi dymuno eu gweld, na gobeithio bod yn dystion iddynt? Maen nhw wedi rhoi cymaint o ymdrech anhygoel i achub bywydau ledled Cymru. Cydnabyddir ei fod yn gyflawniad gwych ein bod ni, ynghyd â'r gwirfoddolwyr a'r fyddin, wedi brechu hanner poblogaeth oedolion Cymru erbyn hyn. Felly, diolch i'r Prif Weinidog a'r Llywodraeth am hynny, a'u swyddogaeth ochr yn ochr â Llywodraeth y DU i gyflawni hynny. Hefyd, gadewch imi ddiolch i'r athrawon a phawb sydd wedi ein galluogi ni i fod yn ddiogel a dal ati.
Mae'r feirws wedi bod yn anhygoel o greulon a chas, ac wedi cymryd llawer ohonom yn llawer rhy fuan. Mae ein meddyliau ni gyda nhw a'u teuluoedd heddiw a phob amser. Yn bersonol, nid oeddwn i'n credu'r adeg hon y llynedd, ar ddechrau'r cyfnod clo, y byddai'r pandemig hwn yn para mwy nag ychydig wythnosau, ac eto i gyd, dyma ni, flwyddyn yn ddiweddarach. Mae'n bwysig ein bod yn dysgu o'n camgymeriadau. Mae'n bwysig ein bod ni'n myfyrio. Mae'n bwysig ein bod ni'n galaru. Ond mae'n rhaid inni ddysgu o'r camgymeriadau a wnaed yn ystod y pandemig o ran sut rydym wedi llywodraethu, a sut rydym wedi ceisio rheoli'r feirws, a'r effeithiau a gafodd hynny ar fywoliaeth pobl, a chydnabod yr effaith a gafodd hefyd nid yn unig ar fywoliaeth, ar fusnesau, ar addysg, ond ar iechyd meddwl a chorfforol hefyd, yr hen a'r ifanc fel ei gilydd.
Yng ngham cynnar y pandemig hwn, fe fu'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd, ac nid oeddent yn mynd i fod yn benderfyniadau y byddem ni i gyd yn cytuno arnyn nhw nac yn eu hystyried nhw'n berffaith ar unrhyw adeg. Roeddem ar dir hollol newydd. Rydym ni i gyd yn cydnabod hynny, a phan fydd y rhai sydd ag awdurdod yn cyfaddef bod camgymeriadau wedi eu gwneud, bryd hynny'n unig y gallwn ni ddysgu o'r camgymeriadau hynny. Fe gafwyd llawer o benderfyniadau mawr yn y DU, a chan Lywodraeth Cymru, ac rwy'n gobeithio ein bod wedi rhoi clod lle mae'n ddyledus. Ond mae'n wir dweud hefyd na chafodd y cydbwysedd cywir ei daro bob amser. Mae ein heconomi ni wedi colli allan yn aml, gan arwain at y rhan adferol bwysig iawn o'r pandemig hwn, a fydd yn cael ei wynebu ar ôl yr etholiad sydd i ddod, i sicrhau ein bod ni'n gadael pethau yn y cyflwr iawn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. A hefyd, mae'n hanfodol bwysig ein bod ni'n ceisio mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau enfawr hynny a ddaeth i'r amlwg yn y pandemig hwn, a chymryd y cyfle gwirioneddol hwn i unioni'r camweddau hynny.
Mae ein plant ni wedi dioddef yn dawel. Maen nhw wedi ildio blwyddyn o'u plentyndod, sydd wedi effeithio ar eu datblygiad a'u haddysg, ac maen nhw wedi rhoi'r gorau i wneud ymarfer corff, er lles y rhai sy'n agored i niwed yn ein cymdeithas ni. Rydym mewn dyled enfawr iddynt. Ond mae'n rhaid inni ofyn cwestiynau. O edrych ar ffigurau cyfradd lledaeniad yr haint mewn mannau awyr agored, er enghraifft, a oedd yn gwbl angenrheidiol cau gweithgareddau awyr agored a drefnwyd am gyhyd, gan fod llawer ohonynt yn cael eu hystyried yn ddiogel rhag perygl COVID, ac fe wariwyd cannoedd arnynt i sicrhau eu bod yn ddiogel? A oedd yn gwbl angenrheidiol peidio â gadael i'n plant ni i gyd fynd yn ôl i'r ysgol, neu i leoliadau addysgol nes iddyn nhw wneud hynny? Nid yw rhai, wrth gwrs, yn ôl yn yr ysgol hyd heddiw. Mae'r effaith ar ein plant ni—
Fe fydd angen i chi ddod â'ch cyfraniad i ben a gofyn cwestiynau i'r Prif Weinidog nawr, os gwelwch chi'n dda.
Mae'r effaith, wrth gwrs, wedi bod yn aruthrol. Prif Weinidog, yn y Senedd nesaf, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd pwy bynnag sydd mewn Llywodraeth, a phob Aelod o'r Senedd, yn chwarae eu rhan nhw, ac yn gwbl onest o ran eu gwaith arfarnu a chraffu ar Lywodraeth nesaf Cymru, a'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn ei hymdriniaeth o'r argyfwng. Rwy'n gobeithio y byddwn ni'n dysgu o hynny ac yn gallu bod yn fwy holistaidd a sicrhau ein bod ni'n cael ymateb mwy effeithiol yn y dyfodol. A ydych chi'n rhannu fy marn i, sef ei bod, erbyn hyn, yn bryd inni fyfyrio yn wirioneddol ar yr hyn a wnaeth y Llywodraeth hon, a bod yn onest gyda ni ein hunain? Llawer o ddiolch.
Rwyf i am ofyn i'r Prif Weinidog ymateb, ac yna fe af i'n ôl at Mark Reckless, iddo ef gael cwblhau ei gwestiwn hefyd.
Diolch, Llywydd. Diolch i Laura Anne Jones am yr hyn a ddywedodd hi wrth agor ei sylwadau; mae hwn yn wir yn ddiwrnod ar gyfer myfyrio, ac fe ddylem ni wneud yr union beth hwnnw. Nid wyf i'n credu fy mod i erioed wedi honni bod y penderfyniadau a wnaeth Llywodraeth Cymru wedi bod yn berffaith. Weithiau, rwy'n teimlo fy mod i wedi treulio 12 mis yn cerdded ar hyd rhaff dynn gyda dibyn enfawr oddi tani—gan gadw balans bob amser, gan geisio dod o hyd i'r cydbwysedd cywir o ran disgyrchiant rhwng llawer o ddrygau cystadleuol a chymaint o anghenion cystadleuol. Ac wrth gwrs, fe allai pobl resymol anghytuno ynghylch a yw'r cydbwysedd hwnnw wedi cael ei daro'n briodol, neu yn y ffordd orau un.
Rwy'n credu mai un o gryfderau democratiaeth Cymru yw'r ffaith bod y Senedd wedi eistedd drwy gydol y pandemig. Nid ydym wedi gweld cyfnodau maith o Aelodau'r Senedd yn methu gallu gofyn cwestiynau treiddiol i'r Llywodraeth, i roi safbwyntiau gwahanol. Fe wnaethom ni gyfarfod drwy'r haf, mewn ffyrdd anarferol. A phan fyddwch chi yn y sefyllfa o fod yn ceisio gwneud penderfyniadau, a chyda'r holl ofynion a ddaw yn sgil hynny, nid bod yn atebol am yr hyn yr ydych chi'n ei wneud yw'r rhan fwyaf cyfforddus o'r swydd bob amser. Serch hynny, rwy'n credu iddi fod yn rhan gwbl angenrheidiol. Mae'r Senedd wedi arddangos cryfder datganoli yng Nghymru yn y ffordd y mae'r cwestiynau hynny wedi cael eu gosod ac yn y ffordd y ceisiwyd rhoi atebion iddyn nhw. Rwy'n gobeithio y bydd yr ymdeimlad hwnnw o graffu y mae Laura Anne Jones yn cyfeirio ato'n parhau i'r tymor nesaf, oherwydd fe fydd yna lawer o benderfyniadau anodd a chydbwyso agos eto y byddwn ni'n awyddus i'w trafod a'u gwneud yn well o ganlyniad i'r sgyrsiau a'r heriau a gawn ni yn y fan hon.
Mark Reckless, gyda gobaith, i orffen eich cwestiynau chi i'r Prif Weinidog.
Diolch, Llywydd, rwy'n gwerthfawrogi hynna. Ar ôl fy sylwadau cadarnhaol i yn fy nghyfraniad cychwynnol i'r Prif Weinidog, roeddwn i am ofyn iddo a oedd yn edifarhau am y penderfyniad ar ddiwedd y cyfnod atal byr i ganolbwyntio ar orfodi ffin â Lloegr, wrth adfer y rhyddid llwyr i symud, fwy neu lai, o fewn Cymru, o'i gymharu â'r cyfyngiadau teithio llym a oedd gennym ni cyn hynny. Fe ofynnais iddo ar y pryd pam oedd yna ganiatâd i etholwyr o Ferthyr Tudful deithio i Drefynwy, o ardal haint uchel iawn i un haint isel, ac eto roedd y ffin hon yn cael ei gorfodi rhwng Trefynwy a'r Rhosan ar Wy. A oedd hynny'n gwneud unrhyw synnwyr? Fe welsom ni rai o'r cyfraddau heintio uchaf yn y byd ychydig wythnosau wedi hynny.
Rwy'n holi, wrth inni ddod allan o gyfnod y cyfyngiadau, a fydd yn gwneud popeth o fewn ei allu i groesawu twristiaeth ddomestig yn ôl i Gymru, ac rwy'n golygu o rywle arall yn y DU, ac egluro beth fydd y sefyllfa ar ôl 12 Ebrill? Rwy'n credu, yn gynharach, iddo wneud rhai sylwadau synhwyrol mewn ymateb i Andrew R.T. Davies ynghylch twristiaeth ryngwladol, ond yr ochr arall i hynny yw os nad yw pobl yn mynd i allu teithio dramor, a fyddwn ni'n gweithio i'w croesawu nhw i Gymru mewn ffordd synhwyrol sy'n cydymffurfio â COVID.
Yn olaf, a gaf i ofyn iddo fyfyrio, efallai, ar yr hyn yr adroddir i Brif Weinidog y DU ei ddweud ddoe—ei fod ef yn gresynu ei fod wedi caniatáu i'r gweinyddiaethau datganoledig, yn ei eiriau ef, fynd eu ffordd eu hunain wrth ymateb i COVID? Fe ellid bod wedi gwneud hynny mewn ffordd wahanol drwy'r Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, yn hytrach na thrwy Ddeddf Coronafeirws 2020 ar wahân a Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984. Pa wahaniaeth fyddai hynny wedi ei wneud pe byddai hynny wedi digwydd?
Onid yw COVID wedi ein rhoi ni ar lwybr gwahanol o ran datganoli? Mae llawer o bobl nad oedden nhw'n ymwybodol o ddatganoli o'r blaen neu heb ymgysylltu'n llawn â datganoli wedi gweld y pwerau hynod eithafol y gall y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru eu defnyddio i reoli eu bywydau er gwell neu er gwaeth. Ac mae llawer o bobl sy'n teimlo'n llawn mor Brydeinig â Chymreig, neu'n Saesnig hyd yn oed mewn rhai achosion, nad ydyn nhw'n hoffi'r ffaith bod gan y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru y pwerau enfawr hynny drostyn nhw. Ar yr adegau pan mae ef wedi gwneud pethau mewn ffyrdd gwahanol iawn i Lywodraeth y DU yn Lloegr, oni wnaeth hynny leihau cydymffurfiaeth, efallai, a'i gwneud hi'n anos i bobl ddod at ei gilydd? A oes ganddo unrhyw beth i'w ddweud ynglŷn â hynny?
Diolch i chi am y sylwadau cadarnhaol iawn, Mr Reckless, ar ddechrau eich cyfraniad ac am dynnu sylw, a hynny'n gwbl briodol, at bedwar drwg coronafeirws. Fe ddylem ni i gyd fod yn myfyrio arnyn nhw heddiw. Roeddwn i'n credu ei fod wedi gwneud rhai pwyntiau diddorol iawn ynglŷn â'r ffordd y mae gwahanol wledydd ledled y byd, ar wahanol adegau, wedi gweld cyfnodau llwyddiannus o ran rheoli'r feirws, ac eto fe ddaeth y feirws yn ei ôl mewn ffyrdd sy'n llwyddo i danseilio'r gwahanol amddiffynfeydd a adeiladodd gwahanol lywodraethau. Mae hwnnw wedi bod yn brofiad cyffredin, ac mae'n debyg y byddai'n dda o beth ystyried y cyfyngiadau a brofodd unrhyw un—unrhyw un—lywodraeth o ran gallu dod o hyd i gyfres lawn o fesurau llwyddiannus.
O ran y pwyntiau y daethom ni'n ôl atyn nhw pan glywsom ni gan Mr Reckless wedyn, wrth edrych nôl dros y cyfnod atal byr, yr hyn sy'n fy nharo i fwyaf yw ein bod ni wedi ailagor y gymdeithas yma yng Nghymru ar adeg pan nad oeddem yn ymwybodol o'r ffaith bod amrywiolyn Caint yn ymledu trwy'r wlad. Fe wnaeth natur drosglwyddadwy ychwanegol yr amrywiolyn hwnnw wahaniaeth i'r gyfradd y digwyddodd llif coronafeirws ynddi yn ystod y cyfnod yn dilyn y cyfnod atal byr. Y cyfnod atal byr ei hun, yn ôl The Lancet, oedd y mwyaf llwyddiannus yng Nghymru o bob rhan o'r Deyrnas Unedig, oherwydd fe wnaethom ni ddechrau arno'n gynharach nag unman arall ac roeddem ni'n fwy trylwyr nag unman arall. Ond roeddem ni'n wynebu cyfres o amgylchiadau, wrth ddod allan ohono, nad oeddem wedi eu rhagweld nac yn gwybod amdanynt chwaith.
Nid yw obsesiwn yr Aelod ynglŷn â'r ffin yn un yr wyf fi'n ei rannu o gwbl. Rwyf wedi ceisio gwneud y pwynt hwn ar hyd y daith. I mi, nid mater sy'n ymwneud â'r ffin yw hwn byth; ond mater o geisio sicrhau ein bod ni'n diogelu ardaloedd lle mae yna lai o achosion rhag ardaloedd lle mae yna fwy o achosion, ble bynnag y bônt, a dyna sut y byddaf i'n parhau i ymdrin â hyn. Nid yw hwn erioed wedi bod yn fater o Gymru a Lloegr, yn fy marn i; ond yn fater o geisio sicrhau nad ydym ni'n mewnforio'r feirws unwaith eto i rannau o Gymru sydd wedi gweithio mor galed ac wedi aberthu cymaint i reoli'r niferoedd hynny.
Rwy'n awyddus iawn i groesawu ymwelwyr o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn ôl i Gymru pan fydd hi'n ddiogel inni wneud hynny. Ar hyn o bryd, nid yw Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr na Llywodraeth yr Alban ar gyfer yr Alban, na Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ychwaith, yn ystyried ei bod yn ddiogel i'w dinasyddion nhw deithio. Nawr, pan fydd y pethau hynny'n gwella, yna rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at groesawu pobl yn ôl i Gymru, oherwydd dyna pryd y bydd yn ddiogel inni wneud hynny. Ac, fel gŵyr yr Aelod, mae'n rhaid inni ystyried teimladau'r rhannau hynny o Gymru nad ydyn nhw wedi gweld ymwelwyr ers amser maith, lle mae niferoedd y boblogaeth frodorol yn gymharol isel ond yn chwyddo llawer iawn yn ystod y tymor ymwelwyr. Felly, mae'n rhaid inni feddwl am hynny i gyd hefyd.
Rwy'n ofni bod yr Aelod wedi datgelu ei feddylfryd ef ei hunan, yn sicr, ac, os oedd yn dyfynnu Prif Weinidog y DU yn gywir, meddylfryd y Prif Weinidog hefyd. Nid lle'r Prif Weinidog yw caniatáu i'r Senedd a etholir yn uniongyrchol yma yng Nghymru neu'r Senedd yn yr Alban arfer y pwerau a ddatganolwyd inni. Meddylfryd fel hyn sy'n credu mai rhyw fath o is-gorff ydym ni, rywsut, lle mae Prif Weinidog y DU yn rhoi ei ganiatâd ef i ni wneud rhai pethau neu beidio. Rwy'n siŵr y gallai dulliau eraill o weithredu fod wedi digwydd yn ystod argyfwng coronafeirws, ac fe allai'r pwerau enfawr a gafodd eu hymarfer fod wedi cael eu hymarfer gan rywun yma yng Nghymru. Rwyf i o'r farn ei bod wedi bod yn well i'r penderfyniadau sy'n effeithio ar bobl Cymru fod wedi cael eu gwneud gan bobl yng Nghymru a etholwyd gan bobl Cymru i wneud y penderfyniadau hynny ar eu rhan nhw. Rydym ni'n ddigon aeddfed i wneud hynny, ac nid oes angen i neb arall ddweud wrthym beth allwn ni a beth na allwn ni ei wneud.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Rŷn ni'n symud ymlaen, felly, i'r datganiad nesaf, sef y datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar 'Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth newydd ar gyfer Cymru'. A dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i gyflwyno ei ddatganiad—Lee Waters.
Diolch, Llywydd. Ar 19 Mawrth, roeddwn yn falch o gyhoeddi strategaeth drafnidiaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru. Mae'n gosod yr hyn a ystyriwn yn weledigaeth newydd feiddgar ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru dros y ddau ddegawd nesaf. Ac mae cyd-destun y ddogfen yn glir iawn: rydym ni yng nghanol argyfwng hinsawdd, ac mae'n bryd—yn wir, mae'n fater brys—ein bod yn troi'r consensws eang sy'n bodoli nawr o ran gweithredu i fynd i'r afael ag ef yn fesurau ymarferol a radical ar gyfer newid, a dyma'n union y mae'r ddogfen yn ceisio'i wneud.
Gelwir y ddogfen yn 'llwybr newydd', oherwydd mae'n rhaid inni ddilyn llwybr newydd a gwahanol nid yn unig i leihau ôl troed carbon trafnidiaeth yng Nghymru, sy'n cynrychioli tua 17 y cant o gyfanswm ein hallyriadau, ond wrth wneud hynny creu system drafnidiaeth ddibynadwy a fforddiadwy o ansawdd uchel a all gefnogi ffyniant a chydraddoldeb. Dyna pam y mae newid dulliau teithio wrth wraidd ein strategaeth newydd. Ei nod yw mynd i'r afael â'r ddibyniaeth fawr ar geir sy'n ganolog i gymaint o fywyd modern drwy annog llai o deithio mewn ceir a thrwy gefnogi'r seilwaith a'r newidiadau sydd eu hangen i annog cyfran fwy o lawer o deithiau gan fathau cynaliadwy o drafnidiaeth.
Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar dair blaenoriaeth syml: yn gyntaf, lleihau'r angen i deithio; yn ail, caniatáu i bobl a nwyddau symud yn haws o ddrws i ddrws drwy fathau cynaliadwy o drafnidiaeth; ac, yn drydydd, annog pobl i wneud y newid i drafnidiaeth fwy cynaliadwy. Her unrhyw strategaeth newydd yw troi syniadau'n gamau gweithredu—newid y gall pobl ei weld a newid y gall pobl elwa arno. Dyna pam yr ydym ni'n cynnwys targedau clir ac uchelgeisiol ar gyfer cynyddu nifer y teithiau a wneir ar fws, rheilffyrdd ac, ar gyfer teithiau lleol, teithio llesol. Am y tro cyntaf, byddwn yn cynyddu cyfran y teithiau a wneir trwy'r dulliau cynaliadwy hyn o 32 y cant heddiw i 45 y cant erbyn 2040, a byddwn yn mynd ymhellach ac yn gyflymach lle gallwn ni, gan adolygu ac ymestyn y targedau hyn gydag amser er mwyn cefnogi ein taith tuag at y targedau hinsawdd sero-net yr ydym ni wedi'u gosod ar gyfer 2050.
Rydym ni eisoes wedi dechrau gweithio ar y gwaith gwerth £750 miliwn o drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd a fydd yn sylfaen i fetro de Cymru, rydym ni wedi dod â rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a'r gororau yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus, ac rydym ni'n cymryd mwy o reolaeth dros gynllunio ein rhwydwaith bysiau hanfodol, gyda deddfwriaeth newydd yn cael ei pharatoi i'r Llywodraeth nesaf ei hystyried. Ac efallai'r peth yr wyf fwyaf balch ohono: rydym ni yn buddsoddi mewn seilwaith teithio llesol o ansawdd uchel—mae £75 miliwn wedi'i ddyrannu yng nghyllideb Llywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf, i fyny o'r £5 miliwn a oedd wedi ei neilltuo ar ddechrau tymor y Senedd hon.
Nawr, byddai'r strategaeth hon wedi bod yn hanfodol cyn y pandemig. Ond mae COVID-19 wedi cynyddu'r brys am newid. Oherwydd, yn ogystal â'r tristwch a'r tarfu y mae'r coronafeirws wedi eu hachosi, mae wedi cyflymu llawer o'r newidiadau enfawr sy'n effeithio ar ein cymdeithas a'n heconomi yn sylweddol: bydd newid digidol, ail-lunio canol trefi, yn ogystal â natur gwaith ei hun, yn edrych yn wahanol iawn wrth ddod allan o'r pandemig hwn. Fel y bydd yr Aelodau wedi gweld, nod y strategaeth newydd hon yw sefyll ochr yn ochr â'n fframwaith datblygu newydd, 'Cymru'r Dyfodol', a mentrau fel ein gwaith trawsnewid trefi, wrth gefnogi adferiad ac ail-lunio ein heconomi ar ôl COVID.
Mae hefyd yn ategu'r uchelgais newydd a bennwyd gennym ni, Lywodraeth Cymru, i 30 y cant o bobl ledled Cymru weithio o bell. Yn wir, mae'r strategaeth gyfan wedi'i llunio i raddau helaeth yng nghyd-destun cefnogi Gweinidogion eraill ar draws y Llywodraeth a'r partneriaid ehangach i'n helpu ni i gyd i ddefnyddio trafnidiaeth fel modd o gyflawni ein cyd-flaenoriaethau ehangach.
Fel y gwela'r Aelodau o'r strategaeth, y llinyn euraid arall sy'n rhedeg drwyddo yw tegwch. Nid yw pump ar hugain y cant o bobl yng Nghymru yn berchen ar gar, ac mae gennym ni ddyletswydd i adeiladu system drafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy a dibynadwy o ansawdd uchel i gefnogi pob cymuned yng Nghymru. Yn wir, gall system drafnidiaeth o ansawdd uchel fod yn arf pwysig i helpu i gefnogi adfywio ac i leihau tlodi mewn llawer o gymunedau yng Nghymru sydd wedi cael eu taro'n galed gan 40 mlynedd o ddad-ddiwydiannu, a dyma yr ydym ni'n ei fwriadu.
Mae hyn yn nodi newid sylweddol mewn polisi trafnidiaeth yng Nghymru, Llywydd, un sy'n cydnabod na fydd dychwelyd i'r drefn arferol yn gwneud y tro os oes arnom ni eisiau lleihau allyriadau trafnidiaeth, cyflymu newid dulliau teithio a chyrraedd ein targedau uchelgeisiol ar gyfer newid hinsawdd, yr ydym ni i gyd wedi ymrwymo iddynt. Mae hynny'n golygu newid y ffordd yr ydym ni'n gwneud penderfyniadau buddsoddi ar draws y Llywodraeth. Wrth wraidd ein dull newydd mae'r hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy newydd, sy'n amlinellu trefn newydd o ran blaenoriaethau buddsoddi ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru.
Mae'n amlwg y bydd angen meddwl o'r newydd yng nghyd-destun y strategaeth newydd hon a'r hierarchaeth newydd honno. Ni fydd hi'n gyson dychwelyd at fodel rhagweld a darparu o adeiladu ffyrdd fel yr ateb cyntaf i dagfeydd. Yn wir, credaf fod gwaith diweddar comisiwn Burns yn dangos, gyda meddwl, cydweithio ac ewyllys, fod ffordd o greu ateb amgen, cydgysylltiedig. Ond, yn yr un modd, nid yw polisi cyffredinol o beidio ag adeiladu ffyrdd newydd yn ateb ychwaith. Bydd achos dros adeiladu o'r newydd mewn rhai amgylchiadau ac mae'n amlwg y bydd angen cyflawni'r ddyletswydd statudol sydd arnom ni ar hyn o bryd i gynnal y rhwydwaith ffyrdd presennol.
Mae hynny i gyd yn golygu bod angen fframwaith newydd a deallus arnom ni er mwyn ystyried ym mha amgylchiadau y mae seilwaith newydd, gan gynnwys ffyrdd, yn cael ei ddatblygu ledled Cymru yng nghyd-destun ein targedau, y strategaeth newydd a'n hierarchaeth newydd. Ac rwyf wedi gofyn i swyddogion ddechrau gweithio gan ddatblygu'r fframwaith newydd hwnnw a chyfres o fetrigau a all fod yn sail i benderfyniadau ar gyfer seilwaith newydd yn y dyfodol. Byddwn yn gofyn i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol weithio gyda ni yn rhan o hyn—a chredaf fod yn rhaid i bwyllgorau'r Senedd nesaf chwarae rhan bwysig wrth lunio'r gwaith hwn hefyd—i ddatblygu consensws ar sut y gellir defnyddio'r metrigau newydd hyn i gyrraedd y targed yr ydym ni i gyd wedi ymrwymo iddo o sero-net erbyn 2050.
Llywydd, mae 'Llwybr Newydd' yn llwybr newydd. Bydd cyflawni ein gweledigaeth yn heriol, ond bydd yn werth yr ymdrech, ac rwy'n falch o fod wedi bod â rhan yn hynny. Diolch.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am y briff a roddodd i mi a llefarwyr eraill y gwrthbleidiau yr wythnos diwethaf a diolch i'w swyddogion hefyd am hynny? Mae gennyf rai cwestiynau penodol, yn amlwg, am y strategaeth, ond gwnaf rai sylwadau cyffredinol, oherwydd, wrth gwrs, dyma ddiwedd tymor penodol y Llywodraeth hon.
O ran trafnidiaeth a seilwaith, nid wyf yn credu y byddai'r Dirprwy Weinidog yn synnu imi ddweud nad wyf yn credu bod y Llywodraeth hon wedi cyflawni o gwbl dros bobl Cymru. A sylwais fod y Dirprwy Weinidog wedi mynegi siom dros y penwythnos nad oedd y buddsoddiad o £200 miliwn yr oedd wedi'i gyhoeddi wedi cyrraedd y penawdau newyddion, ond rwy'n dyfalu bod y cyfryngau'n teimlo'r un fath â mi: mae £200 miliwn dros 20 mlynedd yn ddiferyn yn y môr o'i gymharu â'r hyn sydd ei angen, rwy'n credu, i fuddsoddi yn ein rhwydweithiau trafnidiaeth ac annog y newid ymddygiad y mae arno ei eisiau ac yr wyf innau eisiau ei weld hefyd.
Fel Llywodraeth Lafur, mae'n ddrwg gennyf ddweud eich bod wedi methu'n gyson o ran datrys tagfeydd ar yr M4, ar yr A55, ar yr A40. Rydym ni wedi cael 20 mlynedd o drafod ac ymgynghori ond ni chafwyd atebion ymarferol o hyd, ac, er y bu'r Llywodraeth yn petruso ac yn oedi ar unrhyw gynlluniau ystyrlon, mae traffig wedi cynyddu. A chredaf mai un o fethiannau mwyaf y weinyddiaeth hon yw peidio â darparu ffordd liniaru'r M4. Roedd eich pennaeth, Gweinidog yr economi, o blaid ffordd liniaru'r M4; nid oedd eich pennaeth arall, y Prif Weinidog, o blaid. Mae'n ddi-drefn ac yn ddigyswllt, ac, yn y broses honno, mae miliynau a miliynau o bunnoedd o arian y trethdalwyr wedi'i wastraffu. Felly, fe'i gwnaf hi'n glir i'r Dirprwy Weinidog a Llywodraeth Cymru fod fy mhlaid wedi ymrwymo i adeiladu'r ffordd liniaru honno i'r M4 o'r £1 biliwn o arian gan Lywodraeth y DU, ac, os ni fydd y Llywodraeth nesaf yng Nghymru, byddwn yn adeiladu ffordd liniaru'r M4, ac, yn wahanol i'r Llywodraeth Lafur, ni fyddwn yn cefnu ar ein hymrwymiad maniffesto a byddwn yn adeiladu ffordd liniaru'r M4.
Symudaf ymlaen at rai meysydd nawr lle gallaf gytuno â'r Dirprwy Weinidog efallai—gobeithio y gallaf ddod o hyd i rai meysydd y prynhawn yma i wneud hynny. Felly, mae gennyf amrywiaeth o gwestiynau am y strategaeth newydd. Yn sicr, rwy'n credu ei bod hi'n hen bryd cael y strategaeth; credaf i Ieuan Wyn Jones gyflwyno'r strategaeth flaenorol. Cyflwynwyd sawl cynllun o dan y strategaeth honno sydd—. Daeth yr un presennol i ben beth amser yn ôl, felly, yn sicr, mae hi'n hwyr glas o ran cyflwyno cynllun. Rydych chi wedi rhestru tri phwynt, pwyntiau syml iawn, yr ydych chi wedi sôn amdanyn nhw eich hun. Ni allaf i anghytuno â phob un ohonyn nhw, a phe bawn i'n Weinidog nesaf yr economi, byddwn yn hapus i fabwysiadu'r tri phwynt hynny; mae croeso mawr iddyn nhw, o'm safbwynt i.
Fe ddywedoch chi ar ddiwedd eich datganiad heddiw, Dirprwy Weinidog, y byddai cyflawni hynny yn heriol. Cytunaf yn llwyr fod hyn yn arbennig o heriol, yn enwedig y flaenoriaeth gyntaf. Y flaenoriaeth gyntaf, wrth gwrs, yw dod â gwasanaethau i bobl er mwyn lleihau'r angen i deithio. Gallaf gytuno â hynny, ond dim ond meddwl ydw i: 'beth mae hynny'n ei olygu?' Sut fyddwch chi'n cysylltu â chyd-Weinidogion y Llywodraeth ac awdurdodau lleol yng Nghymru ynghylch hynny? Roeddwn yn siarad â rhywun o Fachynlleth y diwrnod o'r blaen y mae'n rhaid iddyn nhw wneud taith gron 60 milltir i fynd â phethau i'w hailgylchu—oherwydd caeodd y cyfleuster ailgylchu ym Machynlleth—yr holl ffordd i'r Drenewydd. Roeddwn yn ymweld ag ysgol Yr Ystog ddoe—cerddais o amgylch y pentref, mae datblygiad tai newydd ar y gweill, mae'r plant i gyd yn cerdded i'r ysgol; yn union fel ar dudalen 10 eich strategaeth, dau blentyn yn cerdded i'r ysgol. Ond sut mae hyn yn mynd i weithio pan fo'r awdurdod lleol yn bwriadu cau'r ysgol honno, felly bydd y plant hynny sydd bellach yn cerdded i ysgol Yr Ystog yn awr yn teithio mewn car neu ar fws i gyrraedd yr ysgol agosaf? Felly, mae hyn yn fater enfawr. Mae dod â gwasanaethau'n agosach at bobl o ran cyfuno systemau cynllunio a systemau iechyd yn waith enfawr, tybed pa fath o gefnogaeth yr ydych chi'n credu sydd gennych gan adrannau eraill o Lywodraeth Cymru a gan awdurdodau lleol. A, Gweinidog, yn eich datganiad, rydych chi'n sôn am yr ymrwymiad i gefnu ar y car a throi at gerdded, ac rydych chi'n sôn am y gyfran bresennol o 32 y cant ac yn codi hynny i 45 y cant—felly, yn uchelgeisiol iawn. Sut gawsoch chi'r ffigur hwnnw? Beth yw eich dadansoddiad? Sut ddaethoch chi at y ffigur hwnnw? A hefyd ffigur 2040—pam y ffigur hwnnw hefyd? Dim beirniadaeth; rwy'n gofyn cwestiwn am y rhesymeg sy'n sail i hynny.
Ac fe wnaethoch chi sôn am gefnu ar y car preifat, a'm cwestiwn i yw: beth mae hyn yn ei olygu i'r Gymru wledig? Wel, rydych chi'n mynd i'r afael â hynny, felly croesawaf hynny yn eich strategaeth. Fe ddywedoch chi drwy gynyddu trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig yn y Gymru wledig. Roeddwn yn falch iawn o glywed hynny—'yn enwedig yn y Gymru wledig'. 'Sut ydych chi'n mynd i wneud hynny?', mae'n debyg yw'r cwestiwn. Mae gennych chi gynlluniau bychain yn y strategaeth—
A wnaiff yr Aelod ddirwyn i ben os gwelwch yn dda?
Gwnaf, Dirprwy Lywydd, fe wnaf i hynny. Sut caiff y cynlluniau bychain hynny eu cyflwyno? A ydych chi'n mynd i fod yn datblygu'r rheini, neu ai'r rheini yw'r cynlluniau terfynol? Ac yn olaf, Dirprwy Weinidog, rydych chi'n sôn am gydgysylltu llawer o'r adroddiad hefyd, sut y cysylltodd eich gwaith ar y strategaeth â Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru?
Dirprwy Lywydd, roedd yna nifer o sylwadau i fynd i'r afael â nhw yn y fan yna, ac mae'n amlwg fy mod yn ymwybodol mai dyma sesiwn olaf ond un y Senedd cyn yr etholiad, ac mae Russell George yn yr ysbryd etholiadol, ac rwy'n amlwg yn ystyried hynny yn fy ymateb. Russell George gwahanol sy'n cadeirio Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau gyda chonsensws mawr, a'r un Russell George a ymrwymodd i adroddiad a ddywedodd na ddylem ni fod yn adeiladu ffyrdd newydd, y dylem ni fod yn cynnal y rhai presennol. Felly, mae ei syniadau wedi datblygu'n eithaf cyflym yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Mae'n dweud nad ydym ni wedi cyflawni dros ei etholwyr, ac rwy'n sicr fy mod yn ei gofio'n croesawu ffordd osgoi'r Drenewydd, ond eto, datblygodd ei feddylfryd yn eithaf cyflym yn yr ychydig flynyddoedd ers hynny hefyd.
Mae'n anghywir dweud bod y £200 miliwn dros 20 mlynedd, nid yw hynny'n wir. Mae ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac rydym ni yn rhoi ein harian ar ein gair. Rydym ni'n buddsoddi yn y blaenoriaethau yn strategaeth drafnidiaeth Cymru ynghylch newid dulliau teithiol. Rydym ni'n blaenoriaethu trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, ac rydym ni'n parhau i fynd ati lle mae gennym ni ymrwymiadau ar gyfer cynlluniau adeiladu ffyrdd hefyd. Mae hwn yn ddull cymysg.
Ond mae'n dweud, pe bai'n Weinidog, y byddai'n cyflawni'r tair blaenoriaeth yn y cynllun—cytunodd â'r pwyslais. Ond holl gynsail y cynllun yw cyflawni targedau newid dulliau teithio, yw lleihau'r defnydd o gar. Felly, mae'n cwyno ar y naill law nad ydym ni—. Mae'n dweud bod traffig yn cynyddu, mae'n dweud nad ydym ni wedi adeiladu'r seilwaith, mae'n dweud ei fod yn cytuno â'r cynllun i leihau'r defnydd o geir, ond yna'n ein beirniadu ni am beidio ag adeiladu mwy o ffyrdd. Felly, mae dryswch meddwl yn y fan yna, os nad oes ots ganddo i mi ddweud hynny. Nid yw'r pethau hynny'n gydnaws.
Os ydym ni am gyflawni targed o sero-net erbyn 2050, mae'r dystiolaeth yn glir iawn: rhaid inni leihau'r defnydd o geir. Mae'r ffigurau yn y strategaeth yn ymrwymo i ostyngiad o 5 y cant mewn milltiroedd ceir erbyn 2030. Nawr, mae hynny'n mynd i'r cyfeiriad arall i'r hyn yr ydym ni wedi bod yn teithio iddo, ond nid yw'n arbennig o radical o gofio bod Llywodraeth yr Alban dros yr un cyfnod yn chwilio am ostyngiad o 20 y cant yn y defnydd o filltiroedd ceir. Felly, bydd yn darged heriol i'w gyflawni, ond nid yw mor radical ag y gallasai fod. Buom yn edrych ar amrywiaeth o sefyllfaoedd, ac aethom am y mwyaf ceidwadol o'r sefyllfaoedd. Nawr, p'un a ellir cynnal hynny ai peidio yng ngoleuni'r dystiolaeth wrth i ni symud ymlaen ac wrth i ni gyrraedd ein targedau, bydd angen aros i weld, ond mae'n ein rhoi ar lwybr newydd, a dyna'r peth pwysig. Felly, mae'r ffigurau sydd gennym ni—mae'n gofyn sut y cawn ni'r ffigurau hynny—roedden nhw'n seiliedig ar ddadansoddiad sylweddol a roddwyd i ni o'r gwahanol lwybrau i gyrraedd nodau'r newid hinsawdd, a gwelwyd bod hyn yn gyraeddadwy, yn her, ond yn darged cyraeddadwy i'n cael ar y llwybr cywir.
Mae'n gofyn beth mae'n ei olygu i'r Gymru wledig; wel, rhoddais adroddiad iddo y bu i ni ei gomisiynu ar gyfres benodol o ddadansoddiadau ar gyfer y Gymru wledig a sut beth fyddai hyn, a byddwn yn hapus i ddarparu hynny i'r pwyllgor hefyd, er ei fod ychydig yn hwyr yn y dydd. Ond rwy'n credu ei fod yn dangos ein bod wedi rhoi llawer o ystyriaeth i sut y gallwn ni gyflawni'r llwybr hwn, ond bydd yn her i'r Senedd gyfan. Byddwn yn dweud wrth yr Aelodau, nid oes diben i'r un ohonom ni ymrwymo i dargedau newid hinsawdd ac yna cefnu ar effaith ymarferol y mesurau y mae angen inni eu rhoi ar waith i gyflawni hynny. Mae'n ddigon hawdd i ni geisio bod yn boblogaidd o ran cynlluniau lleol y mae dyheu amdanyn nhw ers tro byd mewn sawl rhan o Gymru, ond os ydym ni eisiau sefyll ar lwybr gwahanol, mae hynny'n golygu cyfres wahanol o ddulliau gweithredu, ac mae angen inni fod yn ddewr yn ein hargyhoeddiadau i ddwyn y maen hwnnw i'r wal. Mae'n ddrwg gennyf fod meddylfryd Russell George wedi datblygu cryn dipyn, os caf i awgrymu hynny, ond rwy'n credu bod ffordd i fynd os yw'n ddiffuant am gyflawni'r targedau y cytunodd â nhw.
Rwy'n credu efallai ein bod ni wedi colli cysylltiad.
A gawn ni droi meicroffon Alun Davies ymlaen? Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, rwy'n croesawu'n fawr y datganiad yr ydych chi wedi'i wneud y prynhawn yma, ac yn croesawu'r cefndir iddo hefyd. Credaf fod y datganiad yn chwa o awyr iach sy'n sicr yn creu gweledigaeth wirioneddol ar gyfer y dyfodol.
Mae tri pheth yr hoffwn eu codi gyda chi ar ôl y datganiad. Ni fydd yn syndod ichi fy mod yn croesawu'n fawr yr arian ar gyfer gwella'r rheilffyrdd ar reilffordd Cwm Ebwy. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn dadlau drosto ac yn ymgyrchu drosto ers peth amser. Mae Llywodraeth y DU wedi cefnu ar ei chyfrifoldebau o ran y rheilffyrdd ers peth amser, ac mae'n dda gweld Llywodraeth Cymru yn camu i'r adwy ac yn gwneud gwaith y DU drosti, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr iawn. Byddai'n ddefnyddiol inni ddeall—efallai fod hyn yn rhywbeth yr hoffech chi ysgrifennu ataf fi ac Aelodau eraill yn ei gylch—sut y gwelwch y £70 miliwn yn arwain at ddatblygiadau pellach ar y rheilffordd dros y blynyddoedd nesaf, gan y gallwn ni bellach weld y symudiad tuag at bedwar trên yr awr, gwelliannau eraill fel yr orsaf yn Abertyleri a materion eraill, a sut y gwelwch chi'r rheilffordd yn datblygu dros gyfnod y Senedd nesaf.
Mae'r ail gwestiwn yn ymwneud â'r diwydiant bysiau. Rwy'n cytuno'n llwyr â dull Llywodraeth Cymru o ran ailreoleiddio bysiau. Credaf fod y dadreoleiddio yn yr 1980au wedi bod yn un o fethiannau mwyaf trychinebus a pharhaol Llywodraethau Thatcher, ond mae'r diwydiant bysiau ei hun yn ddiwydiant sydd ar y dibyn. Rydym ni wedi gweld nifer o wahanol gwmnïau'n methdalu ac yn cael eu rhoi yn nwylo'r gweinyddwyr dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gwario swm enfawr o gyllid ar wasanaethau bysiau. Ac mae'n ddigon posibl nad yw economi bysiau ar hyn o bryd yn gweithio, a byddai'n ddefnyddiol deall sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweld yr ail-reoleiddio yn nhermau economaidd ac nid dim ond o ran gwella gwasanaethau, oherwydd mae'n amlwg bod problem strwythurol yn economi gwasanaethau bysiau ar hyn o bryd y mae angen i ni fynd i'r afael â hi.
A'r cwestiwn olaf yw hwn ar deithio llesol. Cytunaf yn llwyr â byrdwn y polisi yn y maes hwn, ond ni fydd yn syndod i'r Gweinidog—rwyf wedi dwyn hyn i'w sylw o'r blaen—ei bod hi'n llawer haws beicio o amgylch dinas ar wastatir arfordirol nag ydyw i feicio o amgylch Blaenau Gwent ym Mlaenau'r Cymoedd. Lle rwy'n eistedd yma ar hyn o bryd, mae gennyf i allt Sirhywi ychydig i'r dwyrain ohonof, a phe bawn i eisiau ymweld â chofeb Aneurin Bevan, sydd fwy na thebyg rhyw 1.5 km o le rwy'n eistedd ar hyn o bryd, byddai'n golygu dringo bryn eithaf sylweddol i gyrraedd yno, a hefyd i gyrraedd fy archfarchnad agosaf. Felly, sut ydych chi'n sicrhau nad polisi ar gyfer dinasoedd a'r llain gymudo faestrefol yng Nghaerdydd, Abertawe neu Gasnewydd yn unig yw teithio llesol, a'i fod mewn gwirionedd yn rhywbeth y gall y rheini ohonom ni sy'n byw yn y Cymoedd—ac ym Mlaenau'r Cymoedd yn yr achos hwn—ei fwynhau hefyd, oherwydd ar hyn o bryd rwy'n poeni bod y polisi'n canolbwyntio gormod ar y dinasoedd, ac nid yn canolbwyntio digon ar drefi Cymru?
Diolch. Cyfres dda o gwestiynau heriol yn y fan yna. Rydym ni wrth ein bodd ein bod yn gallu darparu'r £70 miliwn i gyflymu'r broses o ddarparu rheilffyrdd Glynebwy, y gall gwasanaethau o'r diwedd fynd i Gasnewydd yn ogystal ag i Gaerdydd, ac roedd hyn, wrth gwrs, yn un o argymhellion allweddol adroddiad Burns. Rydym ni yn awyddus iawn nad yw adroddiad Burns yn adroddiad sy'n eistedd ar silff, bod gweithredu yn perthyn iddo, bod cyflymder a momentwm yn perthyn iddo. Ac yn y modd hwnnw, rwy'n falch iawn o allu dweud wrth y Senedd heddiw ein bod wedi creu bwrdd cyflawni, a'n bod wedi penodi Simon Gibson yn gadeirydd y bwrdd cyflawni hwnnw i'n dwyn i gyfrif. Yn sicr, nid yw'n ffrind anfeirniadol i Lywodraeth Cymru, ac mae wedi cael ei benodi'n fwriadol fel rhywun a fydd yn sicrhau y byddwn yn gweithredu'n gyflym. Ac rwyf hefyd yn falch iawn o ddweud bod Dr Lynn Sloman, a oedd yn aelod o gomisiwn Burns ac yn ymarferydd blaenllaw ym maes trafnidiaeth gynaliadwy, wedi cytuno i fod yn is-gadeirydd y bwrdd cyflawni hwnnw. Felly, credaf fod y ddau ohonyn nhw yn gyfuniad grymus iawn i sicrhau bod gweithredoedd ac argymhellion adroddiad Burns yn cael eu cyflawni. Rydym yn dechrau gyda phecyn sylweddol o fysiau trydan newydd, teithio llesol ac, wrth gwrs, gyda gwelliant Glynebwy nawr.
Dylwn i hefyd ddweud fod hyn yn gondemniad o Lywodraeth y DU. Nid yw'r seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli. Dylai'r gwelliannau yng Nglynebwy fod wedi'u hariannu gan Lywodraeth y DU. Rydym ni eisoes yn cael ein tangyllido'n fawr, fel y dangosodd y gwaith gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yr wythnos hon ar seilwaith rheilffyrdd, a thros y cyfnod rheoli 10 mlynedd nesaf mae Cymru'n cael £5 biliwn yn llai nag y dylem ni fod yn ei gael gan Lywodraeth y DU. Felly, mae'n codi gwrychyn ein bod, yn ychwanegol at y tangyllido presennol hwnnw, wedi gorfod troi at gronfeydd datganoledig i ariannu darn o waith nad yw wedi'i ddatganoli, ac o gofio'r hyn a ddywedwyd gan y Prif Weinidog yn gynharach am yr ystod o gyfrifoldebau yr ydym ni yn ymhel â nhw i wneud iawn am ddiffyg diddordeb Llywodraeth y DU yng Nghymru, pan fyddant yn dweud wrthym ni, fel Plaid Geidwadol, na fydden nhw bellach yn ariannu gweithgareddau nad ydynt wedi'u datganoli. Felly, dyma enghraifft arall eto lle na fyddai'r Torïaid yn ariannu'r mesur gwella hwn yng Nglynebwy, sy'n gyson â'u safbwynt polisi.
O ran bysiau, mae angen rhaglen ddiwygio sylweddol. Fel y soniais, bydd gan y Senedd nesaf ddrafft gan Lywodraeth Cymru, neu bydd gan Lywodraeth Cymru Fil y gallant ystyried bwrw ymlaen ag ef. Mae'r cynllun bysiau brys a gyflwynwyd gennym ni o dan COVID wedi ein galluogi i wneud cynnydd mawr o ran ein perthynas â'r diwydiant bysiau drwy'r gefnogaeth y bu'n rhaid i ni ei rhoi i atal y sector preifat rhag methdalu. Rydym ni wedi gallu sefydlu perthynas gyfnewidiol â nhw i sicrhau eu bod yn ymrwymo i gynnig pecyn ehangach o gyfrifoldebau am y cyllid y byddant yn ei gael, ac mae Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd yn dechrau darn o waith sylweddol ar gynllunio sut olwg fyddai ar rwydwaith yn y dyfodol. Felly, mae llawer o waith ar y gweill eisoes, ac mae llawer mwy i'w wneud i sicrhau y gallwn ni gael system drafnidiaeth integredig, y mae cryn sôn amdano. Felly, mae hynny'n rhan annatod o'r pecyn hwnnw.
Ac yna, yn olaf, ynghylch yr her teithio llesol, sydd, yn fy marn i, yn un ddealladwy, fe ddywedaf i ambell beth. Nid yw'n agenda drefol o gwbl. Mae'r gwaith sydd wedi llywio strategaeth drafnidiaeth Cymru yn dangos, er mwyn lleihau allyriadau carbon, y bydd ceir trydan yn gwneud eu rhan, wrth gwrs, ond ni allwn ni ddibynnu ar geir trydan; rhaid inni gael newid dulliau teithio, a bydd y baich hwnnw'n pwyso'n drwm ar drafnidiaeth gyhoeddus, bysiau yn bennaf, ond hefyd teithio llesol, ar gyfer y teithiau byr hynny. Mae deg y cant o deithiau mewn ceir o dan filltir. Mae rhywbeth fel hanner teithiau car o dan bum milltir. Nawr, i rai pobl—nid i bawb, ond i rai pobl—mae modd i'r teithiau hynny newid i deithio llesol.
Nawr, ynglŷn â sylw Alun Davies byddwn yn dweud dau beth. Rydych chi'n edrych yn ôl hanner canrif ym Mlaenau Gwent ac roedd cryn dipyn mwy o feicio nag y sydd yno nawr. Dydy'r bryniau ddim wedi ymddangos dros nos. Mae llawer o hyn yn ymwneud â chanfyddiad ac mae'n ymwneud â diwylliant ac mae'n ymwneud ag arfer, ac yn sicr mae ein cyflyrau iechyd wedi gwaethygu yn y cyfnod hwnnw, ac rwy'n credu bod y ddau beth hyn yn gysylltiedig. Yn wir, mae tystiolaeth gref i ddangos eu bod nhw. Ond rwy'n credu bod beiciau trydan yn cynnig ffordd ymarferol, wirioneddol ymlaen i lawer o ardaloedd, yn enwedig ardaloedd bryniog ac ar gyfer ardaloedd gwledig a lled-wledig. Rydym ni newydd gyhoeddi prosiect treialu, arbrofol, mewn gwirionedd, mewn ardaloedd bryniog, yn y Barri ac yn Abertawe yn y lle cyntaf, gan dargedu ardaloedd mwy difreintiedig, cynllun benthyciadau cost isel y mae Sustrans yn ei reoli ar ein rhan, gan dargedu cymunedau difreintiedig i geisio cael pobl i ddefnyddio beiciau trydan, ac yna prosiect tebyg gan ddefnyddio e-feiciau cargo i geisio cael busnesau bach i ddefnyddio beiciau trydan ar gyfer danfon nwyddau y filltir olaf honno yn Aberystwyth ac mewn un dref arall na allaf ei chofio ar hyn o bryd—ymddiheuriadau. Ond os bydd hynny'n llwyddiannus, yna credaf y dylem ni fod yn cyflwyno hynny i gymunedau fel Blaenau Gwent ac yn rhan—. Gyda'r seilwaith cywir ar waith i argyhoeddi pobl ei fod yn amgylchedd diogel, ynghyd â'r beiciau trydan, rwy'n credu bod potensial sylweddol ar gyfer newid dulliau teithio.
Rydym ni eisoes wedi clywed, Gweinidog, sut mae adroddiad Burns yn cynnig glasbrint ar gyfer y math o system drafnidiaeth integredig y mae angen i ni symud tuag ati, ac rwy'n hoffi'r glasbrint hwnnw yn fawr. Rwy'n awyddus iawn i weld creu'r gorsafoedd rheilffordd newydd a fwriedir yn Nwyrain Casnewydd fel gorsaf rhodfa Magwyr, y gwn eich bod yn gyfarwydd â hi ac sy'n arloesol iawn, a hefyd yn Somerton a Llanwern. Gallwn gael cyfnewidfa fysiau yng ngorsaf drenau Casnewydd, a fydd hefyd yn helpu gyda newid dulliau teithio ac a fydd yn sylweddol iawn ac yn fuddugoliaeth gynnar bosibl, rwy'n credu, ac mae datblygiadau teithio llesol trawiadol o ran y trên. Felly, rwy'n credu ein bod yn gwneud yn eithaf da, Gweinidog, ond tybed a oes unrhyw ddiweddariad y gallech ei roi i ni, gan ddychwelyd at swyddogaeth Llywodraeth y DU, oherwydd mae arnom ni angen yr uwchraddio hwnnw i'r brif linell a'r llinellau rhyddhad os ydym ni mewn gwirionedd yn mynd i gael amlder y gwasanaeth a'r cyfle i bobl gyflawni'r newid dulliau teithio hwnnw yn y niferoedd ac i'r graddau y mae arnom ni eu hangen. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi unrhyw ddiweddariad i ni ar barodrwydd Llywodraeth y DU i wneud eu rhan.
O ran y pandemig, Gweinidog, a llygredd aer, rydym ni wedi gweld gostyngiad mewn llygredd aer. Mae pobl wedi gwerthfawrogi hynny'n fawr ac maen nhw wedi ailgysylltu â natur. Rwy'n credu bod hynny i gyd yn dda o ran cefnogaeth y cyhoedd i'r system integredig y mae arnom ni ei hangen. Tybed a allai fod rhywfaint o gyllid pellach gan Lywodraeth Cymru ar gyfer bysiau trydan—rydym ni wedi gweld niferoedd trawiadol yn cael eu defnyddio yng Nghasnewydd—a hefyd ar gyfer trosi fflydoedd tacsis i rai sy'n defnyddio tanwyddau allyriadau isel sy'n fwy ecogyfeillgar. Gan fod y tacsis hyn o amgylch canol ein trefi a'n dinasoedd drwy gydol y dydd a'r nos, a phe baent yn cael eu trosi i ddefnyddio tanwyddau mwy cyfeillgar, fel petai, credaf y byddai hynny'n gynnydd pwysig pellach yn ein hymdrechion i fynd i'r afael â llygredd aer.
I ateb y cwestiynau hynny o chwith, rydym ni wedi rhoi benthyciad o £2 filiwn i Fws Casnewydd brynu fflyd o fysiau trydan i'r ddinas i ddisodli eu fflyd sy'n heneiddio, sydd, yn fy marn i, i'w groesawu'n fawr. Ond yn amlwg, mae her fawr i'r holl ddiwydiant droi at fysiau trydan dros gyfnod y ddogfen hon, ac mae hynny'n her sylweddol iddyn nhw. Rydym ni'n ceisio cael cyswllt rhwng fy nghyfrifoldebau gweinidogol dros yr economi sylfaenol a meysydd eraill. Rydym ni'n edrych ar hyn fel cyfle i adeiladu'r bysiau hyn yng Nghymru. Gwyddom ein bod yn adeiladu trenau yng Nghasnewydd yn rhan o'r fasnachfraint newydd; hoffem fod yn adeiladu'r bysiau hefyd, ac mae cyfle i gydgasglu galw, fel y'i gelwir yn y jargon—ceisio dod â'r cwmnïau bysiau at ei gilydd i gytuno ar becyn gwaith, ac yna gallwn ddod o hyd i weithgynhyrchwyr o Gymru i gamu i'r adwy i greu swyddi'n lleol, yn ogystal â darparu'r newid angenrheidiol mewn technolegau y mae angen inni eu gweld i gyrraedd y targedau carbon. Felly, unwaith eto, mae cyfleoedd ar gyfer swyddi gwyrdd a lleol yn rhan o'r ymateb angenrheidiol hwn i'r hinsawdd hefyd.
O ran parodrwydd Llywodraeth y DU i wneud ei rhan i gyflawni adolygiad Burns, credaf fod hwnnw'n gwestiwn da; mae'n dal yn bwynt dadleuol. Rwyf yn nodi, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei gwestiynau, fod yr adolygiad o gysylltedd undebau gan Syr Peter Hendy, a ddaeth i'r amlwg yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn gadarnhaol iawn ynghylch adroddiad Burns. Ac yn sicr, yn y sgwrs a gafodd gyda'm cyd-Aelod Ken Skates, roedd yn ganmoliaethus iawn ynghylch gwaith comisiynwyr Burns a'r adroddiad a gynhyrchwyd ganddyn nhw. Roedd yn sicr yn canmol hefyd yr effaith y mae datganoli wedi'i chael, yn wahanol i Russell George, o ran darparu trafnidiaeth—dywedodd fod datganoli wedi bod yn beth cadarnhaol o ran darparu trafnidiaeth. Y cwestiwn o hyd yw pa archwaeth gweinidogol sydd yn San Steffan i gyflawni canfyddiadau'r adroddiad hwnnw. Nid oedd eu hymateb cychwynnol mor galonogol â hynny, gan eu bod wedi cefnu ar yr adroddiad ar unwaith ac wedi dechrau siarad am ffordd liniaru'r M4 er nad oedd yr adroddiad wedi dweud dim byd o gwbl am hynny. Felly, bydd Llywodraeth y DU, pan fydd yr etholiad ar ben, gobeithio, yn dygnu arni ac yn troi at y gwaith difrifol o gyflawni ac wynebu'r ffaith y buont yn osgoi eu cyfrifoldebau hyd yma.
O ran y sylw cyntaf am ddatblygu'r seilwaith rheilffyrdd, ymunais, ar ei wahoddiad, â chyfarfod â grŵp gorsaf rhodfa Magwyr y mis diwethaf ac fe wnaeth y gwaith yr oeddent wedi'i wneud fel mudiad cymunedol argraff fawr arnaf i gyflwyno'r achos dros orsaf unigryw nad oedd ganddi gyfleusterau parcio ceir, oherwydd ei bod o fewn milltir i'r rhan fwyaf o boblogaeth Magwyr ar y brif reilffordd yn barod. Roeddwn yn awyddus iawn inni gefnogi'r prosiect hwnnw, ac, mewn gwirionedd, mae'n un o'r pecynnau gwaith y mae uned gyflawni Burns yn ei gwmpasu ar hyn o bryd, ynghyd â Somerton a Llanwern, y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw. Credaf fod pecyn cyffrous o waith i bobl Casnewydd gan gomisiwn Burns i gyflawni'r hyn y dylai dinas o faint Casnewydd, a dweud y gwir, fod wedi'i gael yn y lle cyntaf, sef rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus modern.
Ond mae hyn, mae arnaf ofn, yn adlewyrchiad o'r math o danfuddsoddiad a gawsom ni mewn rheilffyrdd ers nifer o flynyddoedd, sy'n gadael dinas Casnewydd heb y seilwaith sylfaenol i ganiatáu i bobl wneud teithiau bob dydd ar drafnidiaeth gyhoeddus. Dyna'r hyn y mae'n rhaid inni ei gywiro, a chredaf mai dyna y mae'n rhaid inni ei ddangos i bobl Casnewydd—y byddwn yn ei gymryd o ddifrif ac y byddwn yn gwneud hynny'n gyflym a heb laesu dwylo. Rhaid i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan yn hynny, a hyd yn hyn, nid yw hi'n gwneud hynny.
A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Hefyd, a gaf i gydnabod ymrwymiad personol Lee Waters a Ken Skates i achos trafnidiaeth ddi-garbon? Ni ellir amau nad yw'r nodau a amlinellir yn yr adroddiad hwn, yn wir, yn nodau canmoladwy. Rydym ni i gyd eisiau gweld mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, mwy o deithio llesol a llai o ddefnydd o geir, a lle nad yw'n bosibl disodli trafnidiaeth ceir, dylai cynifer â phosibl fod yn drydanol. Yn wir, mae fy nghyd-Aelod Caroline Jones newydd ddangos ei hymrwymiad drwy brynu cerbyd o'r fath. Mae'n gysur gweld y bydd cefnogaeth ariannol sylweddol tuag at gyflawni'r nodau uchelgeisiol hyn. Croesawaf yn arbennig y benthyciad di-log o £70 miliwn i gyngor bwrdeistref Blaenau Gwent i wneud gwelliannau i reilffordd Glynebwy, ond a gaf i ofyn a fydd y benthyciad hwn yn cael ei neilltuo?
Fel y gwelir, hoffwn gefnogi'r uchelgeisiau hyn yn eu cyfanrwydd. Fodd bynnag, a gaf i roi gair o rybudd? Rhaid i'r newid o gar i fathau amgen o drafnidiaeth fod yn raddol. Rhaid annog pobl i wneud y newid, nid eu cosbi am beidio â gwneud hynny. Mae llawer na fyddant byth yn gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus at ddibenion gwaith, a llawer mwy y tu allan i ardaloedd trefol na fyddant yn gallu newid i'r beic i gael mynediad i'w gwaith. Felly, mae'n hanfodol bod yn rhaid i unrhyw gosbi y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i helpu i weithredu eu huchelgeisiau ystyried y ffactorau hyn. A wnaiff y Gweinidog, os gwelwch yn dda, fynd i'r afael â hyn?
Rhaid inni gofio bod llawer mewn cymdeithas a fyddai'n mwynhau'r cyfle i newid i gar trydan newydd sbon, ond sy'n llawer rhy dlawd yn ariannol i allu gwneud hynny. Rhaid inni dderbyn y bydd llawer o hen geir ar ein ffyrdd am beth amser i ddod, dim ond oherwydd na all llawer ohonyn nhw fforddio rhai gwell ond y bydd yn rhaid iddyn nhw eu defnyddio o hyd ar gyfer hamdden a gwaith. Gan ganolbwyntio ar geir trydan, bydd yn rhaid inni gael cynnydd sylweddol mewn cyfleusterau gwefru ar draws nid yn unig Cymru ond y DU gyfan os ydym ni eisiau gweld cynnydd mawr yn eu defnydd. Rhaid inni hefyd ymgodymu â'r ffaith na fydd y system grid yng Nghymru—
Mae angen i'r Aelod ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda.
[Anghlywadwy.]—defnyddio cerbydau trydan. A yw Llywodraeth Cymru wedi gofyn am gymorth gan Lywodraeth y DU i weithredu'r rhain?
Un sylw olaf. Ni fydd lleihau'r terfyn cyflymder mewn ardaloedd trefol i 20 m.y.a yn helpu i leihau allyriadau carbon ond, fel y mae ffigurau'r weinyddiaeth drafnidiaeth yn profi, bydd yn cynyddu allyriadau carbon. Pam mae Llywodraeth Cymru yn anwybyddu'r paradocs hwn gyda'r bwriad i weithredu'r terfynau hynny ledled Cymru? Unwaith eto, Llywydd, diolch.
Roeddech chi'n gwneud mor dda yn y fan yna. Hyd at y sylw olaf, fe'm calonogwyd. Pryd bynnag y clywaf David Rowlands yn croesawu nodau canmoladwy, rwy'n aros am 'ond' mawr, a chawsom yr 'ond' ar y diwedd gyda'i ymgyrch yn erbyn ein hymdrech i geisio achub bywydau plant rhag cael eu lladd yn ddiangen ar y ffordd. Yn sicr, nid oedd y dystiolaeth a ddeilliodd o'n hadolygiad ein hunain ar derfynau cyflymder trefol diofyn o 20 mya yn cefnogi'r farn eu bod yn cynyddu allyriadau'n sylweddol.
I ymdrin â rhai o'r sylwadau eraill, cytunwyd ar y benthyciad gyda chyngor Blaenau Gwent, mae wedi ymrwymo i'r dasg dan sylw, ac rydym yn gweithio'n agos gyda nhw. Rwyf yn cytuno â'i sylw o ran gwneud y newid graddol o ddefnyddio ceir tuag at ddewisiadau eraill, ac mae'n amlwg nad yw'n rhywbeth sy'n berthnasol i bob taith. Nid ydym yn dweud na ddylai pobl fyth ddefnyddio ceir eto. Yn amlwg, y car yw'r dewis mwyaf ymarferol ar gyfer rhai teithiau, ond, ar gyfer y rhan fwyaf o deithiau—mae'r ymchwil yn eithaf clir ynglŷn â hyn—mae trafnidiaeth gynaliadwy yn ddewis realistig, ar yr amod bod y seilwaith ar waith, bod gwasanaethau ar waith, a bod yr wybodaeth a'r cymhellion ar waith i annog pobl i wneud y newid hwnnw. Mae llawer o dystiolaeth a phrofiad o ble y gall hynny ddigwydd. Ceffyl da yw ewyllys. Nid oes angen iaith sy'n sôn am gosbi pobl; nid yw hwn yn ymwneud â dewis cosbi. O'i wneud yn iawn, gall hyn gyfoethogi a gwella bywydau pobl a gwella teithiau pobl, lleihau straen pobl a gwella iechyd pobl—mae defnyddwyr bysiau'n cerdded mwy na defnyddwyr ceir. Felly, mae'n dda i ystod eang o dargedau iechyd cyhoeddus sydd gennym ni. Mae'n iawn i ddweud na fydd yn addas i bawb, ond nid oes angen i bawb wneud hynny i gyflawni ein targedau. Fel y dywedais, rydym yn sôn am ostyngiad o 5 y cant mewn milltiroedd ceir erbyn 2030; nid yw hyn y tu hwnt i'r hyn y gellir ei gyflawni, yn sicr.
Mae ei sylw bod ceir trydan yn ddrud hefyd yn un cadarn. Dyna pam yr ydym ni eisiau sicrhau bod dewis amgen fforddiadwy a realistig drwy drafnidiaeth gyhoeddus. Credaf mai'r hyn yr ydym ni eisiau ei weld mewn gwirionedd yw i bobl beidio â bod angen sawl car fesul cartref. Felly, mae pethau fel clybiau ceir a rhannu ceir, er enghraifft, yn hytrach nag ail neu drydydd car ar aelwyd, yn bethau realistig a all ddod â phobl gyda ni ar hyd y sbectrwm newid ymddygiad mewn ffordd nad yw'n teimlo ei fod yn cyfyngu ar eu dewisiadau. Yn wir, mae'n rhoi dewisiadau ychwanegol iddyn nhw ac yn rhyddhau arian ar eu cyfer, oherwydd car yw'r ail beth drutaf y bydd deiliad tŷ yn ei brynu, ar ôl tŷ, fel y mae Caroline Jones newydd ei ddarganfod, rwy'n siŵr.
Credaf fod yr adroddiad hwn yn gwbl ragorol. Mae mor gydlynol ac yn cyd-fynd mor dda â chynllun adfer y GIG a'r egwyddor 'canol trefi yn gyntaf'. Felly, rwyf yn eich llongyfarch ar hynny. Hoffwn wneud ambell sylw, ar ôl gwrando'n astud ar yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud wrth siaradwyr cynharach eraill. Nid mewn ardaloedd gwledig yn unig y mae pobl heb fysiau. Mae rhannau, hyd yn oed, o'm hetholaeth ganol dinas i nad oes ganddyn nhw unrhyw fysiau sy'n gwasanaethu pobl oedrannus sy'n methu cerdded milltir i ddal bws. Felly, mae gennym ni dipyn o her y tybiaf mai dim ond ar ôl i ni reoleiddio'r gwasanaethau bysiau y gellir datrys y gwasanaethau bysiau, oherwydd fel arall, y cwbl sy'n digwydd yw bod pobl yn dewis a dethol yr un llwybrau llewyrchus. Os ydym ni yn ystyried adeiladu'r bysiau sydd eu hangen arnom ni yn y dyfodol yng Nghymru, yr wyf yn ei gefnogi'n llwyr, a fyddech yn ystyried gwahanol feintiau o fysiau ar gyfer llwybrau llai poblogaidd, llai poblog? A beth fyddai'r tanwydd y byddech yn ystyried ei ddefnyddio ar gyfer yr holl fysiau hyn? Ai trydan neu hydrogen? Mae'n ymddangos i mi, yn rhan o'n haddewidion di-garbon, fod angen inni feddwl nawr am hyn. A'r ail sylw yr oeddwn eisiau eich holi amdano, mewn gwirionedd, yw sut yr ydym ni'n mynd i gyflawni'r newid diwylliannol sydd ei angen fel bod yn rhaid inni dybio y bydd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn gallu beicio i'r ysgol mewn lle trefol fel Caerdydd.
A gaf i dalu teyrnged ddiffuant iawn i Jenny Rathbone am yr ymgyrchu y mae wedi'i wneud ar yr agenda hon drwy gydol ei hamser yn Aelod o'r Senedd? Mae hi wedi bod ar flaen y gad yn eiriolwr parhaus dros yr angen i symud i drafnidiaeth gynaliadwy, ac felly rwy'n falch ei bod hi yma i groesawu'r adroddiad hwn fel modd o wireddu llawer o'r themâu y mae wedi bod yn galw ar Lywodraethau olynol Cymru i'w defnyddio. Rwy'n falch ar ei rhan ei bod yn gallu bod yma i fod yn rhan o'r gyd-ymdrech hon.
O ran ei sylwadau ar y rhwydwaith bysiau, fel y dywedais, mae dau beth yn digwydd. Un ohonynt yw bod Trafnidiaeth Cymru yn modelu sut olwg fyddai ar rwydwaith bysiau lleol cynhwysfawr, a byddwn yn llunio hynny, gobeithio, yn nhymor y Llywodraeth nesaf—gobeithio y byddwn yn cynnwys hynny yn y masnachfreintiau fel y'i cynlluniwyd, er mwyn sicrhau bod darpariaeth ar gyfer yr ardal gyfan, fel ei bod yn ddewis amgen realistig i'r rhan fwyaf o bobl. Ond yn y cyfuniad hwnnw mae'r cysyniad hwnnw o sut olwg sydd ar wasanaeth bws modern, ac rydym ni yn arbrofi, fel y gŵyr Jenny Rathbone, gyda'n gwasanaeth bws Fflecsi sy'n ymateb i'r galw. Rydym yn gwneud hynny yng Nghasnewydd ac rydym yn ei wneud mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru, rhai gwledig, lled-wledig a threfol, i weld sut mae'n ymateb mewn gwahanol leoliadau. Mae hynny'n ymwneud â chael bws nad yw wedi'i drefnu, bws ar alw, a all wedyn naill ai fynd yn uniongyrchol o ddrws i ddrws neu sy'n gallu cyfrannu at wasanaeth sydd wedi ei amserlennu. Rydym ni wedi gweld hynny drwy brosiect Bwcabus ers rhai blynyddoedd yng ngogledd Sir Gaerfyrddin a de Aberteifi. Mae'n diweddaru'r cysyniad hwnnw gyda thechnoleg fodern, ac mae canlyniadau cynnar y cynlluniau treialu yn galonogol iawn. Yn wir, mae'n rhy boblogaidd i'r gwasanaeth sydd gennym ni ar waith. Felly, credaf y bydd y syniad o sut olwg sydd ar wasanaeth bws yn esblygu'n eithaf cyflym, a chredaf ein bod ar flaen y gad o ran datblygu rhai o'r modelau gwahanol hynny. O ran pa danwydd y maen nhw'n ei ddefnyddio, mae hwnnw'n gwestiwn da. Yn amlwg, byddem ni eisiau lleihau effaith tanwydd, felly rydym ni yn edrych ar fysiau trydan, rydym ni yn edrych ar fysiau llai, a chredaf fod biodanwydd hefyd yn rhan o'r cyfuniad mewn rhai lleoliadau. Mae hi'n cyfeirio'n briodol y profwyd bod hydrogen yn gludwr ynni sy'n ddefnyddiol ar gyfer storio mewn batris, ac mae hynny'n rhan o'r gwaith yr ydym ni yn ei ddatblygu drwy ein cynllun hydrogen.
Ac yna ei sylw ar y newid diwylliannol sydd ei angen ar gyfer beicio i'r ysgol. Os edrychwch chi ar y cyhoeddiad rydym ni wedi'i wneud ar deithio llesol eleni, efallai mai'r gwaith ysgolion yw'r pwysicaf a'r mwyaf heriol, ac mae cael adrannau addysg ac adrannau trafnidiaeth i weld hyn fel ymdrech ar y cyd yn her i ni. Yn draddodiadol, nid yw hynny'n rhywbeth y mae addysg wedi bod â diddordeb i'w wneud, ac mae angen i hynny newid. Rhaid imi dalu teyrnged i Gyngor Caerdydd. O dan arweiniad Huw Thomas a Caro Wild, maen nhw wedi bod yn gwneud gwaith rhagorol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf—mewn gwirionedd, yr awdurdod mwyaf blaenllaw yng Nghymru ar hyn—gan roi—. Nid yn unig y maen nhw wedi llwyddo i ddenu cyllid gan Lywodraeth Cymru, ond i roi cyllid sylweddol eu hunain, a chyflwyno mesurau caled—y mesurau seilwaith—ochr yn ochr â'r mesurau meddal, yr ymyriadau newid ymddygiad, yn enwedig mewn ysgolion. A bydd hynny, rwy'n credu, yn talu ar ei ganfed, oherwydd mae angen i chi gael y caled a'r meddal gyda'i gilydd. Dyna un o wendidau a heriau dull gweithredu Llywodraeth Cymru. Mae'n anoddach i ni ddod o hyd i gyllid refeniw nag ydyw i ddod o hyd i gyllid cyfalaf yn y maes hwn, a gwyddom na fyddwn ni, heb y ddwy elfen yna, yn gallu cyflawni'r hyn yr ydym ni eisiau ei gyflawni. Felly, gobeithiwn eleni y byddwn yn gallu neilltuo tua 10 y cant o'r £75 miliwn tuag at waith newid ymddygiad, ond mae angen iddo fod yn fwy na hynny yn y dyfodol i ateb yr her y mae Jenny Rathbone wedi'i gosod yn briodol.
Gweinidog, diolch ichi am eich datganiad ac am eich barn ar sut y gallwn ni hyrwyddo trafnidiaeth gyhoeddus well a mwy cynaliadwy yn y dyfodol. Gyda llaw, fe wnaethoch chi sôn am feiciau trydan yn gynharach yn eich datganiad ac fe'm hatgoffwyd o daith feicio yr aeth y ddau ohonom arni i lawr Dyffryn Gwy rai blynyddoedd yn ôl, pan oeddech chi'n gweithio gyda Sustrans. Rwy'n cofio i ni siarad bryd hynny am y potensial yn y dyfodol i foderneiddio'r seilwaith beicio, felly rwy'n falch eich bod wedi parhau â'r angerdd hwnnw yn y Llywodraeth.
Dau faes, os caf i: a gaf i hefyd groesawu adolygiad Burns ac ymrwymiad y Gweinidog i leihau allyriadau carbon? Rydych chi wedi sôn yn helaeth am Gasnewydd, ac mae wedi cael ei godi, mewn gwirionedd, gan lawer o Aelodau, ac rydych chi wedi dweud bod angen seilwaith trafnidiaeth modern arni ac mae wedi aros yn rhy hir am hynny. Byddwn i'n sicr yn cytuno â hynny, a byddai pobl Casnewydd yn cytuno â hynny. Ond hefyd mae angen seilwaith ar ardaloedd gwledig hefyd. Mae fy etholaeth i ychydig i'r gogledd o Gasnewydd, ond mae'n cael ei gwasanaethu'n arbennig o wael gan wasanaethau bysiau, yn sicr; gwasanaethau trên—dim ond un sydd gennym, y brif linell i Henffordd. Ar ôl 6.00 p.m., mae'n anodd iawn dychwelyd o orsaf Casnewydd, os ydych chi eisiau cymudo o orsaf Casnewydd i'm hetholaeth i. Rwyf wedi codi hyn gyda Gweinidog yr economi, gyda Ken Skates, droeon, felly fe'i codaf gyda chi hefyd: lle ydym ni arni o ran datblygu'r rhwydwaith metro ac o bosibl datblygu canolfan yn y Celtic Manor fel y gallwn ni wella cysylltiadau o Gasnewydd i ardaloedd gwledig dyfnach yn fy etholaeth i a thu hwnt ar ôl 6.00 p.m. fel y gall pobl os ydyn nhw eisiau cymudo ar drafnidiaeth gyhoeddus, wneud hynny?
Ac yn ail, ceir trydan: ie, rydych chi'n iawn fod ceir yn briodol ar gyfer rhai teithiau. Mewn ardaloedd gwledig, maen nhw'n arbennig o bwysig. Gwn beth yr ydych chi'n ei olygu wrth ddymuno peidio â chael aelwydydd aml-gar, a byddai'n ddymunol cael un car fesul cartref yn unig, ond, mewn ardaloedd gwledig, mae hynny'n aml yn anodd iawn, yn enwedig i rai o'r teuluoedd mwy. Felly, beth ydych chi'n ei wneud i wella'r seilwaith ceir trydan mewn ardaloedd gwledig? Dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl, cynlluniwyd ar gyfer gorsaf gwefru trydan newydd—cyflwynwyd cais cynllunio ar gyfer un yn Nhrefynwy, a gwrthodwyd hwnnw, rwy'n credu, ar sail anghytuno ynghylch nodyn cyngor technegol 15 ar y pryd. Rwy'n credu bod angen i'r system gynllunio gydnabod bod angen y seilwaith gwefru ceir trydan hwn arnom ni, ond mae angen iddo sicrhau nad oes rhwystrau i atal datblygu hynny, fel y gallwn ni o ran trafnidiaeth gyhoeddus a seilwaith y system ceir trydan wrth symud ymlaen barhau'r â'r gwaith o ddarparu seilwaith trafnidiaeth mwy cynaliadwy, mwy cadarn a glanach.
Diolch yn fawr iawn, ac mae'r cyfraniad yna'n tanlinellu rwy'n credu, gymaint y byddwn yn colli naws resymegol a rhesymol cyfraniadau Nick Ramsay o feinciau'r Ceidwadwyr, a dymunaf yn dda iddo.
Dim ond i fynd i'r afael â'i bwyntiau: mae'r her wledig yn un go iawn, ond mae'n un gwbl gyraeddadwy. Felly, fel y dywedais i, rydym wedi comisiynu darn o waith, y byddwn yn hapus i'w gyhoeddi, ar sut olwg fydd ar becyn o fesurau gwledig, oherwydd bydd yn wahanol i fesurau trefol, yn sicr, ond mae'n dal yn gyraeddadwy, ac, os edrychwch chi ar yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yng nghefn gwlad yr Almaen, yng nghefn gwlad y Swistir, lle mae rhwydwaith bysiau lle mae gan bob pentref wasanaeth bob awr, dyna y dylem ni fod yn anelu ato. Yn amlwg, rydym ni ymhell o gyflawni hynny, ond, os ydym ni am gyflawni'r strategaeth hon dros oes y cynllun hwn, yna mae'n rhaid inni anelu at hynny, a bydd hynny'n gofyn am symud adnoddau tuag at drafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cyrraedd y targed newid moddol. Felly, mae cyfres o fesurau y gallwn ni eu gwneud, ac, unwaith eto, mae teithio llesol a beiciau trydan yn rhan o hynny, fel y mae gwasanaeth bws Fflecsi sy'n ymateb i'r galw. Felly, mae amrywiaeth o fesurau realistig a phrofedig a all weithio mewn lleoliad gwledig i gyrraedd y targedau hyn yno hefyd.
O ran y gwaith ar y metro, mae hwnnw'n parhau'n gyflym, ac mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau—. Yn amlwg, mae COVID wedi cael rhywfaint o effaith ar hynny, ond mae'n dal ar y trywydd iawn. Dydw i ddim yn siŵr beth yw statws cyfnewidfa Celtic Manor, ond byddaf yn hapus i anfon nodyn ato ar hynny. Yna, o ran trydan, rydym ni newydd gyhoeddi ein cynllun gwefru trydan, sydd â'r nod o sicrhau bod pob car yng Nghymru yn gallu defnyddio'r seilwaith gwefru erbyn 2025, sy'n her sylweddol, o ystyried o ble yr ydym ni'n dechrau. Swyddogaeth Llywodraeth y DU, unwaith eto, yw darparu'r seilwaith hwn. Mae Llywodraeth Cymru, fel y gwnawn ni ynghylch llawer o'r pethau hyn, yn edrych i weld ymhle y gallwn ni ddarparu ymyriadau mewn bylchau, ond lle'r—. Nid yw hwn yn faes sydd wedi'i ddatganoli. Mae cyllid yn mynd drwy'r cynllun cerbydau allyriadau isel iawn ar hyn o bryd, ond rydym ni'n wynebu her sylweddol. Felly, er enghraifft, dim ond er mwyn rhoi ymdeimlad o'r her i chi, erbyn 2030 mae angen cynyddu ein seilwaith gwefru cyflym rhwng 10 a 20 gwaith. Mae hynny mewn naw mlynedd. Felly, mae'n rhaid inni dorchi llewys i gael y seilwaith yn ei le i roi hyder i bobl newid i geir trydan. Fel y dywedais i, mae ein strategaeth yn nodi sut y bwriadwn ni wneud hynny, a gobeithiwn y bydd Llywodraeth y DU yn ychwanegu gwerth ymhellach.
Diolch, Dirprwy Weinidog.
Mae eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yn ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ar gymorth iechyd meddwl a llesiant mewn lleoliadau addysgol, a galwaf ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Gydweithwyr, mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd i bob un ohonom ni. Newidiodd ein ffordd o fyw y tu hwnt i bob adnabyddiaeth wrth i ni ddysgu byw gyda pherygl presennol coronafeirws. Mae'r effaith gronnol ar ein llesiant wedi bod yn enfawr, a hyd yn oed yn fwy felly i'n plant a'n pobl ifanc. Ofn salwch, effaith ffyrlo neu golli swyddi ar yr oedolion o'u cwmpas, gwahanu oddi wrth eu cylchoedd teulu a chyfeillgarwch ehangach, a'r effaith ar eu trefn arferol, dim ond gallu mynychu'r ysgol—bydd y cyfan wedi bod yn frawychus iawn, iawn.
Fodd bynnag, os oes un peth cadarnhaol y gallwn ni ei ddysgu o'r flwyddyn ddiwethaf, gadewch iddo fod yn fater o lesiant, yn enwedig o ran plant a phobl ifanc, a swyddogaeth addysg wrth eu cefnogi. Mae bellach yn cael ei gydnabod yn llawn. Mae iechyd emosiynol a meddyliol bellach wrth wraidd addysg, ac mae iechyd a hyder plant yn un o bedwar diben canolog addysg yng Nghymru. Mae meithrin cydnerthedd dysgwyr yn allweddol i hynny.
Nid swyddogaeth ysgolion yw cynhyrchu plant sydd â chrap ar algebra neu ar ddyddiadau allweddol mewn hanes yn unig. Maen nhw yno i helpu i feithrin cydnerthedd, gan eu paratoi ar gyfer dyfodol pryd bydd ein holl bobl ifanc yn wynebu heriau, cyflawni llwyddiannau, ond weithiau'n profi siomedigaethau. Rwy'n falch iawn, fel y mae Aelodau eraill, rwy'n siŵr, fod y Senedd hon wedi pleidleisio'n ddiweddar i gefnogi cwricwlwm cenedlaethol newydd sy'n sicrhau bod iechyd a llesiant yr un mor bwysig â phynciau a meysydd dysgu mwy traddodiadol.
Yn gynharach y mis hwn, lansiais ein fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol, a fydd yn cefnogi'r cwricwlwm newydd. Bydd y canllawiau statudol yn galluogi ysgolion, wrth iddyn nhw adolygu eu hanghenion llesiant, i ddatblygu cynlluniau i adeiladu ar eu cryfderau a mynd i'r afael ag unrhyw wendidau a gwerthuso effaith eu gwaith.
Gadewch imi fod yn glir: nid ydym ni'n ceisio gwneud y broses o dyfu i fyny a'r system addysg yn bethau meddygol. Yr hyn yr ydym ni'n gofyn i athrawon a staff ysgolion ei wneud yw'r hyn y mae llawer eisoes yn ei wneud yn naturiol—y pethau bach, sy'n cael yr effaith fwyaf ar fywydau plant. Er enghraifft, cyn y cyfyngiadau symud, cynhaliodd Ysgol Uwchradd Gatholig Archesgob McGrath ym Mhen-y-bont ar Ogwr glwb rhedeg ar ddydd Gwener ar gyfer staff a dysgwyr. Roedd hwn yn gyfle, i'w rannu gan staff a dysgwyr o unrhyw allu, i fynd i redeg gyda'i gilydd yn yr ardal leol yn ystod yr egwyl amser cinio. Roedd hynny'n hybu perthynas gadarnhaol a gwerthoedd a rennir ac, wrth gwrs, buddion gwirioneddol i iechyd a llesiant dysgwyr a staff.
Yn ei hanfod mae ein fframwaith newydd yn ymwneud â datblygu perthynas ymddiriedus rhwng dysgwyr â'i gilydd a rhwng dysgwyr ac athrawon, staff ehangach yr ysgol ac, yn wir, ar draws cymuned yr ysgol gyfan. A phan ceir adegau, fel y ceir yn anochel, pan fydd athrawon yn dod ar draws rhywbeth anghyffredin a thu hwnt i'w set sgiliau benodol, yna byddan nhw'n gwybod lle i fynd i gael cymorth priodol yn brydlon.
Mae'r rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc a arweinir gan y GIG yn datblygu fframwaith cymorth cynnar a chymorth gwell. Mae hyn yn disgrifio'r cymorth sydd ar gael i feithrin cydnerthedd a system gymorth. Ynghyd â'n fframwaith ysgol gyfan, bydd hyn yn sicrhau bod y system gyfan bellach yn gweithio'n ddi-dor i ddiwallu anghenion llesiant pob plentyn.
I gefnogi gweithredu ein fframwaith ysgol gyfan, rydym ni wedi cynyddu ein cyllid yn y maes hwn 360 y cant dros dair blynedd, gyda chyllid yn dod o'r adran addysg a'r gyllideb iechyd, gan ddangos yr ymrwymiad trawsadrannol i'r gwaith hwn, sydd wedi bod yn gwbl hanfodol. Byddwn yn defnyddio'r arian ychwanegol y flwyddyn nesaf, fel y gwnaethom ni yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, i gefnogi ysgolion, awdurdodau lleol ac eraill i sicrhau gwelliannau gwirioneddol mewn cymorth llesiant; er enghraifft, drwy wella ac ehangu ein gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion, sydd ar hyn o bryd yn gweld tua 11,500 o blant a phobl ifanc bob blwyddyn.
Rydym wedi bod yn adolygu effaith yr £1.2 miliwn ychwanegol a ddarparwyd gennym ar gyfer y gwasanaeth yn y flwyddyn gyfredol. Hyd yn hyn, mae'r 18 awdurdod lleol sydd wedi ymateb wedi ein hysbysu bod ein cyllid wedi galluogi bron i 13,500 o sesiynau cwnsela ychwanegol hyd at ddiwedd mis Mawrth, gan alluogi dros 5,500 yn fwy o blant i gael cymorth.
Nawr, er bod y fframwaith wedi'i anelu at ysgolion, mae'r egwyddorion sy'n sail iddo yr un mor berthnasol mewn lleoliadau eraill, megis addysg bellach ac addysg uwch. Mae cefnogi iechyd meddwl a llesiant myfyrwyr a staff yn hanfodol os ydym am fynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad a chynyddu cyfleoedd i gyflawni llwyddiant addysgol. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn unig rydym ni wedi buddsoddi dros £56 miliwn i gefnogi iechyd meddwl a llesiant mewn colegau a phrifysgolion. Mae ein prifysgolion yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a chyda Llywodraeth Cymru drwy'r fframwaith colegau a phrifysgolion iach a chynaliadwy i sicrhau bod pob agwedd ar fywyd prifysgol wedi'i chynllunio i ddarparu'r lefel uchaf o gymorth i fyfyrwyr. Mae'r dull prifysgol gyfan hwn o ymdrin ag iechyd meddwl yn golygu y sicrheir bod iechyd meddwl a llesiant da yn rhan greiddiol o holl weithgareddau'r brifysgol fel rhan o'u cynnig i fyfyrwyr ac i'r gyfadran.
Ac rydym wedi comisiynu Estyn i gynnal adolygiad thematig o lesiant dysgwyr addysg bellach yn ystod pandemig COVID. Bydd cyllid yn arwain at adnoddau'n cael eu lledaenu ar draws y sector yn ystod 2021, gan gynnwys pecynnau cymorth a gomisiynwyd i gefnogi dulliau coleg cyfan o ymdrin â chamddefnyddio sylweddau a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Dirprwy Lywydd, i gloi, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i sicrhau bod llesiant wrth wraidd ein system addysg gyfan, a chredaf o ddifrif fod Cymru bellach yn arwain y ffordd. Hoffwn gloi drwy gofnodi fy niolch i'r Cadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am eu gwaith yn y maes hwn a hefyd aelodau o'n grŵp gorchwyl a gorffen, sydd wedi helpu i lywio ein gweithgarwch. Diolch yn fawr.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n credu y byddem ni i gyd yn cytuno bod y flwyddyn ddiwethaf wedi amlygu'r angen dynol am lesiant corfforol, meddyliol, emosiynol a hyd yn oed ysbrydol er mwyn gweithredu, heb sôn am fyw ein bywydau gorau hyd yn oed, ac rwy'n credu ei fod wedi bod yn arbennig o wir am ein plant a'n pobl ifanc a'u gallu i ddysgu, a hynny'n draddodiadol neu yn y llu o ffyrdd y maen nhw wedi'u profi yn ystod COVID. Mae hynny'n cynnwys eu gallu i fod gyda'u cyfoedion, nid oedolion yn unig, ac ystod eang o brofiadau, y gallai fod rhai ohonyn nhw fod wedi'u hanghofio. Felly, fy nghwestiwn cyntaf, rwy'n credu, yw: pa gynlluniau ydych chi wedi'u hystyried ar gyfer defnyddio gwyliau'r haf i wella llesiant mewn ffordd y gall pob plentyn a pherson ifanc fanteisio arnyn nhw?
Mae Aelodau, wrth gwrs, wedi bod yn pryderu ers tro byd am y cymorth iechyd meddwl a llesiant i'n plant a'n pobl ifanc—nid eleni'n unig—a dyna pam y mae rhai ohonom wedi bod braidd yn nerfus ynghylch dyfodol y rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc, sydd wedi bod yn sbardun mor bwysig i newid, er y bu ychydig o dorri ar grib honno, os caf ei roi fel yna.
Gweinidog, rwy'n hapus i gydnabod yr ymdrech yr ydych chi a'ch adran wedi'i rhoi o ran y fframwaith hwn ac rwy'n falch o glywed y gellir ei ddarllen ar draws y sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch, ac rwyf hefyd yn croesawu'r ymyriadau cynnar yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw yn eich datganiad, sydd, gobeithio, wedi bod yn llwyddiannus. Felly, fy nghwestiynau nesaf, mae'n debyg, yw: sut byddech chi'n mesur ymlyniad wrth y fframwaith wrth inni symud ymlaen, a sut byddwch chi'n mesur llwyddiant canlyniadau glynu wrth y fframwaith?
Rydych yn cyfeirio at sesiynau cwnsela, sydd i'w croesawu'n fawr, ond rydych chi wedi dweud yn y gorffennol fod cwnsela'n anaddas i blant iau. Mae ymyrraeth gynnar mewn lleoliadau addysg yn helpu i wrthweithio effeithiau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac yn lleihau'r angen am gymorth yn ddiweddarach mewn bywyd, felly beth sy'n cael ei ystyried ar gyfer ein plant ieuengaf, a sut mae'r fframwaith yn grymuso staff i wthio'n ôl yn erbyn yr ymyriad meddygol ei naws hwnnw y sonioch chi amdano yn eich datganiad ac mae hynny'n peri pryder i bob un ohonom ni?
Ac yna, yn olaf, ie, rhaglen a arweinir gan y GIG yw hon, ond mae'n dal i deimlo'n debyg iawn i raglen a arweinir gan addysg. Cyfeiriodd y Prif Weinidog yn gynharach heddiw at y datganiad ar iechyd meddwl a llesiant, a lofnodwyd ar y cyd gan Eluned Morgan a Vaughan Gething. Felly, pa mor gryf yw gwaith Llaw yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc a'r fframwaith hwn sy'n ymddangos yno yn y datganiad yna? Pa adnoddau fydd yn llifo i mewn i'r fframwaith gan yr adran iechyd? Ac a ydych chi'n cytuno y bydd yn amhosibl mesur effaith y buddsoddiad hwnnw gan yr adran iechyd yn y llwybr hwn i wella iechyd meddwl a llesiant plant, pan fyddwn ni'n parhau i gael yr asesiadau effaith cyfunol hyn ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cymru, nad ydyn nhw'n gwahanu oedolion a phlant ac sy'n parhau i siomi'r pwyllgor plant, pobl ifanc ac addysg a'r comisiynydd plant? Diolch.
Dirprwy Lywydd, a gaf i yn gyntaf oll, ddiolch i Suzy Davies am ei sylwadau a'i chwestiynau? O ran yr haf, rwy'n credu bod y gwyliau'n gyfle gwych i geisio cefnogi nifer o weithgareddau i sicrhau bod ein plant, sydd wedi colli'r cyswllt cymdeithasol hwnnw y soniodd Suzy amdano, yn cael cyfle i wneud yr union beth hwnnw. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'n gweithgareddau Bwyd a Hwyl llwyddiannus iawn sydd wedi'u gweithredu mewn awdurdodau lleol ledled Cymru ers i mi ddechrau ar fy swydd. Rydym wedi dyblu'r swm o arian sydd ar gael i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau bod y rhaglen honno'n cyrraedd llawer mwy o blant, ac rwy'n dal i archwilio, gyda'm swyddogion, y ffordd orau o ddefnyddio gwyliau'r haf fel rhan o'n rhaglen dysgu yn 2021, nid cael gwersi academaidd ond ceisio defnyddio amrywiaeth o ddulliau, yn ddiwylliannol, yn greadigol, chwaraeon, mynediad i'r awyr agored, gweithio gyda sefydliadau partner a'r trydydd sector, i wella, hyd yn oed y tu hwnt i'r gweithgareddau Bwyd a Hwyl, oherwydd rydym yn cydnabod, i lawer o blant, bydd rhyngweithio a'r cyfle hwnnw i ddatblygu eu cydnerthedd a dysgu mewn ffordd wahanol yn rhan bwysig o sut y gallwn ni ymateb yn gadarnhaol i'r effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar eu bywydau.
O ran pwy fydd yn edrych ar y fframwaith, wel, bydd gan y fframwaith gangen werthuso ei hun, ond yn hollbwysig, pan fydd arolygiadau wyneb yn wyneb yn barod i ddechrau eto ac yn cael eu hailgyflwyno ar yr adeg briodol, bydd y fframwaith arolygu newydd gan Estyn ei hun yn edrych ar sut mae ysgolion yn mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â llesiant fel bod cymhelliant ychwanegol, os hoffech chi, i'r ysgolion gymryd rhan weithredol yn y fframwaith, oherwydd dyna un ffordd y byddan nhw'n yn gallu dangos i arolygwyr sut y maen nhw'n mynd i'r afael â'r anghenion hyn yn eu hysgol. Felly, mae gennyf bob ffydd y bydd y fframwaith yn cael ei ddefnyddio. Yn wir, yr hyn y mae'r fframwaith yn ei ganiatáu yw rhywfaint o eglurder i ysgolion sydd wedi bod â llwyth o wahanol ddulliau yn y gorffennol, gwahanol fathau o raglenni, a all fod yn ddryslyd weithiau, weithiau'n anghyson. Mae'r fframwaith yn rhoi cynllun clir, a byddwn ni'n defnyddio adnoddau i sicrhau bod pobl ar gael yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi'r ysgolion i ddefnyddio'r fframwaith. Felly, mae'r unigolion hynny'n cael eu nodi ar hyn o bryd fel y bydd cymorth yno i ysgolion yn y ffordd y maen nhw'n defnyddio'r fframwaith a sut y gallan nhw lunio eu gwaith o'r safbwynt hwnnw.
Rydych chi yn llygad eich lle: nid yw cwnsela traddodiadol mewn ysgolion yn briodol i'n plant ieuengaf. Holl ddiben cwnsela yw eich bod yn gallu gwneud rhai newidiadau yn eich bywyd eich hun, ac nid yw gallu plentyn pum mlwydd oed neu chwech oed i wneud hynny, wrth gwrs—yn briodol. Felly, er imi ddefnyddio'r enghraifft o gwnsela traddodiadol yn fy natganiad agoriadol, mae awdurdodau lleol hefyd wedi bod yn defnyddio dulliau gwahanol i gefnogi plant iau, boed hynny'n ddulliau sy'n seiliedig ar chwarae, er enghraifft, neu'n therapi teuluol a dulliau teuluol, yn ogystal ag ysgolion yn sicrhau bod mwy a mwy o'n hymarferwyr yn cael hyfforddiant ymwybyddiaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Ac mae'r fframwaith yn rhoi'r rhyddid hwnnw i ysgolion ddod yn ymarferwyr ar sail trawma. Y defnydd o raglenni anogaeth yn ein sectorau cynradd—y gwyddom ni fod pob un ohonyn nhw'n arbennig o effeithiol ymysg ein plant ieuengaf.
Ac, wrth gwrs, mae rhai ysgolion yn dewis defnyddio rhywfaint o'u grant datblygu disgyblion i geisio cefnogi addysg plant gyda dulliau arloesol. Ddoe ddiwethaf, roeddwn yn Ysgol Gynradd Parc y Rhath, lle maen nhw'n cymryd rhan mewn rhaglen sy'n cyflwyno ci i'r ysgol, ci therapi, a'r plant yn ymgysylltu mewn gwirionedd, yn cerdded y ci yn y parc lleol, ac mae'r cwnselydd yn annog y plentyn i siarad am ei heriau â'r ci ac mae rhyngweithio mewn gwirionedd yn llwyddiannus iawn. Gwn fod yr ysgol wedi'i ddefnyddio i gefnogi plentyn sydd wedi cael profedigaeth yn ystod y pandemig, nid o COVID—yn anffodus, roedd gan fam y plentyn ganser terfynol ac mae hi wedi marw—ac mae'r ci wedi bod yn wirioneddol ddefnyddiol mewn ffordd ddi-her i'r plentyn hwnnw fynegi ei deimladau. A chwrddais â phlentyn ddoe oedd wedi bod allan yn cerdded y ci, y mae ei rieni'n weithwyr rheng flaen y GIG, ac mae effaith y pandemig ar y plentyn hwnnw wedi ei wneud yn bryderus iawn ynghylch diogelwch ei fam a'i dad, oherwydd eu bod ill dau'n feddygon ac mae wedi bod yn poeni llawer am iechyd a diogelwch ei fam a'i dad. Felly, mae dulliau arloesol iawn ac mae ysgolion yn cymryd hyn o ddifrif.
Yn olaf, a gaf i ddweud bod yr adran addysg a'r adran iechyd yn benderfynol o weithio ar y cyd ar y prosiect hwn? Ac mae'r adnoddau yr ydym ni wedi gallu eu rhoi yn y rhaglen wedi dod o'r ddwy gyllideb. Rwy'n derbyn eich pwynt am dryloywder, weithiau, y gallu i ddilyn effaith y mewnbynnau hynny, ond byddwn yn parhau, rwy'n siŵr, yn y Senedd nesaf—nid chi a fi, ond pobl eraill—i drafod sut y gellir sicrhau'r tryloywder hwnnw. Ond rwyf wedi bod yn falch iawn o'r cydweithio adrannol yr ydym ni wedi gallu ei gyflawni a'r gallu i harneisio adnoddau o'r ddwy linell gyllideb er mwyn gallu gwella'r gwasanaethau hyn.
Diolch am y datganiad. Hoffwn i hoelio sylw ar ddau fater penodol. Dwi'n gwybod eich bod chi'n cytuno ei bod hi'n hanfodol ein bod ni'n defnyddio dulliau ataliol wrth ymdrin â materion iechyd meddwl, a thra bod angen, wrth gwrs, ymateb i broblemau, mae'n bwysig hefyd gweithredu i atal problemau cyn iddyn nhw ymddangos.
Ac felly, mae angen mynd i'r afael ag un o achosion sylfaenol y problemau iechyd meddwl, ac mae tlodi yn un ohonyn nhw. Mae'n bwysig i ni gofio bod plant a phobl ifanc difreintiedig yn fwy tebygol o ddioddef o broblemau iechyd meddwl, ac felly bod mynd i'r afael â thlodi, drwy nifer o fesurau, yn ffordd effeithiol o atal problemau iechyd meddwl cyn iddyn nhw ymddangos. Mae ymchwil yn dangos bod plant sy'n mynd yn llwglyd yn llawer mwy tebygol o ddioddef o bryder—anxiety—a straen—stress—difrifol. Ac mae yna gyswllt hefyd wedi cael ei brofi rhwng newyn a thlodi mewn bywyd cynnar ag iselder a hunanladdiad yn nes ymlaen. Ac yn ychwanegol i hyn, er mwyn gweld twf ymennydd iach mewn plentyn, mae'n rhaid darparu gofynion maeth penodol iddyn nhw. Mae'r rhain yn cynnwys bwydydd sydd yn cynnwys sinc, fitamin D, haearn, seleniwm, protein, ïodin a maetholion allweddol eraill. Fel y gwyddoch chi, mae Plaid Cymru o blaid ehangu cymhwysedd ar gyfer cinio ysgol am ddim i blant i 70,000 o blant, ac yn y pen draw i bob plentyn, er mwyn sicrhau bod plant yn cael bwyd iach o leiaf unwaith y dydd. Felly, fy nghwestiwn i ydy hyn: onid ydy prydau ysgol am ddim angen bod yn gwbl ganolog i strategaeth iechyd meddwl a lles lleoliadau addysg unrhyw Lywodraeth oherwydd yr holl fanteision ataliol?
A'r ail faes dwi eisiau edrych arno fo ydy'r maes ôl-16. Mae cymorth iechyd meddwl yn allweddol mewn ysgolion, ond mae o hefyd yn hanfodol bod darpariaeth briodol yn parhau ym mhob lleoliad ôl-16, ac un maes sydd mewn perygl o gael ei ddiystyru ydy dysgu seiliedig ar waith a lles prentisiaid. Mae gan brentisiaid, yn ogystal â'r straen ychwanegol o gyflawni cymhwyster ar ôl cwblhau eu fframwaith, y pryder ychwanegol ynghylch cyflogaeth yn y dyfodol, ac yn ystod COVID mae'r pryder yna'n siŵr o fod wedi cael ei gynyddu, efo 1,690 o brentisiaid wedi cael eu rhoi ar ffyrlo llawn ers dechrau'r flwyddyn, gan ychwanegu at y pwysau. Felly, fy nghwestiwn olaf i, a'r ail gwestiwn: oes yna ddigon o gefnogaeth ar gael i'r grŵp penodol yma o ddysgwyr?
Diolch, Siân, am y pwyntiau yna. Er nad wyf yn anghytuno o bell ffordd â phwysigrwydd maeth i blant a'r swyddogaeth bwysig y mae hynny'n ei chwarae yn eu haddysg, rwy'n credu mai bod ychydig yn naïf yw credu y gall hynny, a hynny ar ei ben ei hun, fynd i'r afael â heriau hybu llesiant ac iechyd meddwl da yn ein hysgolion. A gaf i ddweud, un o'r pethau y gwyddom ni sy'n achosi llawer iawn o straen ac afiechyd meddwl yw diffyg cymwysterau, ac felly mae sicrhau bod plant yn cael hyfforddiant rhagorol ac yn gwneud cynnydd academaidd gwirioneddol mewn ysgolion yn hanfodol bwysig? Ac mae'n bleser gennyf ddweud fy mod bellach newydd gymeradwyo i swyddogion y buddsoddiad mwyaf erioed yn y grant datblygu disgyblion—y llinell gyllideb unigol fwyaf, fel y dywedais i, a gafodd y rhaglen benodol honno erioed. Wrth siarad ag athrawon am hynny, maen nhw'n bryderus iawn bod yr arian hwnnw'n parhau i lifo i'r ysgol ar ôl yr etholiad nesaf oherwydd ei fod wedi bod yn sylfaenol yn eu gallu i gefnogi plant o'n cefndiroedd tlotaf.
O ran prydau ysgol am ddim, mae'r Aelod yn gwbl ymwybodol—gwn ei bod—mai ni oedd rhan gyntaf y Deyrnas Unedig i ymrwymo i ariannu prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau ysgol, ac y bydd y cymorth hwnnw'n parhau yn y flwyddyn academaidd hon hyd at y Pasg y flwyddyn nesaf. Mae'r adnoddau sydd ar gael i'n partneriaid mewn llywodraeth leol nid yn unig yn ceisio talu costau ciniawau ysgol am ddim, ond gwyddom, i lawer o'r teuluoedd hyn, y bydden nhw wedi bod yn cael brecwast am ddim tra'r oedden nhw yn yr ysgol hefyd, ac felly—. O ran symiau ariannol i deuluoedd, unwaith eto, dyma'r gorau yn y Deyrnas Unedig. Rydym ni wedi addo parhau i adolygu meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim, ond mae ein teuluoedd sydd â'r angen mwyaf yn cael eu cefnogi gan y rhaglen honno. Mae'r teuluoedd hynny hefyd yn cael eu cefnogi, wrth gwrs, gan ein cyfrif mynediad Grant Datblygu Disgyblion, ac rwy'n falch iawn eto eleni ein bod wedi cynyddu nifer y grwpiau blwyddyn sydd ar gael i gael cymorth yn y rhaglen honno, fel y gall teuluoedd mewn ysgolion uwchradd bellach wneud cais am bob blwyddyn y mae eu plant yn yr ysgol uwchradd. Ac, wrth gwrs, er bod yr adnoddau hynny wedi'u defnyddio'n draddodiadol i brynu eitemau o wisg ysgol, mae'r rhaglen honno hefyd yn caniatáu i rieni brynu eitemau o offer a chyfarpar fel y gall eu plant fynd i'r ysgol gan deimlo'n gwbl ffyddiog bod ganddyn nhw, fel y dywedais i, y wisg ysgol a'r offer sydd eu hangen arnyn nhw fel nad ydyn nhw'n wahanol i'w cyfoedion ac nad oes ganddyn nhw ddiffyg adnoddau sy'n eu dal yn ôl.
O ran y sector addysg bellach, mae'r Aelod yn hollol gywir—mae angen inni sicrhau parhad o ran cymorth i blant a phobl ifanc wrth iddyn nhw symud drwy addysg, a dyna pam yr ydym ni wedi sicrhau, fel y dywedais i yn fy natganiad, ein bod wedi buddsoddi'n helaeth yn y sector addysg bellach ac yn y sector addysg uwch fel y caiff myfyrwyr eu cefnogi. Bydd gan lawer o'n darparwyr dysgu seiliedig ar waith, wrth gwrs, gysylltiadau â'u darparwr addysg bellach lleol, fel rhan o'u prentisiaeth, a byddem yn disgwyl i'r colegau hynny sy'n gweithio gyda darparwyr dysgu seiliedig ar waith sicrhau bod y bobl ifanc hynny'n cael y cymorth y mae arnyn nhw ei angen. Rwy'n cydnabod ei bod wedi bod yn flwyddyn arbennig o heriol i rai o'r myfyrwyr hynny. Mae eu gallu i gwblhau cymwysterau wedi bod yn anoddach gan nad ydyn nhw wedi gallu bod yn eu gweithleoedd traddodiadol neu nad ydyn nhw wedi gallu talu am yr oriau sydd eu hangen arnyn nhw i ennill eu cymwysterau, a'n disgwyliad yw y bydd colegau addysg bellach yn gwneud popeth o fewn eu gallu i'w cefnogi. Rydym ni wedi rhoi arian ychwanegol ar waith i'r dysgwyr galwedigaethol hynny gael eu dwyn yn ôl i'r coleg fel grŵp blaenoriaeth, ac, yn wir, i'w cefnogi os bydd eu cyrsiau'n rhedeg drosodd i'r flwyddyn academaidd nesaf i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi drwy gydol hynny.
Fel y dywedais i, rydym ni hefyd wedi cynyddu'n sylweddol y buddsoddiad mewn cymorth iechyd meddwl i'n prifysgolion, ac, unwaith eto, i dynnu sylw at arfer gorau, yn y gogledd, roeddwn i wrth fy modd o glywed y bore yma mewn cyfarfod gyda Phrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam sut y maen nhw yn gweithio'n galed i fod y brifysgol gyntaf sy'n seiliedig ar drawma, nid yn unig yng Nghymru, ond yn y Deyrnas Unedig, gan gydnabod yr angen i gefnogi eu dysgwyr a'u myfyrwyr. Felly, nid dull ysgol gyfan yn unig yw hwn, mae'n ddull system wirioneddol gyfan.
Gweinidog, gan mai hwn fydd ein cyfle olaf i ffeirio geiriau yn y Senedd hon, roeddwn eisiau manteisio ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch o galon ichi am eich gwaith yn y maes hwn, sydd wedi cyflawni cynnydd mor sylweddol yn y Senedd hon. Mae eich ymgysylltiad â'm pwyllgor wedi'i wreiddio mewn parch at werth pwyllgorau'r Senedd, wedi'i ysgogi gan eich ymrwymiad i iechyd meddwl plant a phobl ifanc, ac mae wedi bod yn adeiladol ac yn gynhyrchiol iawn. Fel y gwyddoch chi, yr hyn sydd wedi ysgogi fy ngwaith yn y maes hwn yw penderfyniad i achub bywydau ifanc. Nid oes gennyf amheuaeth na fydd ymgorffori iechyd meddwl ar wyneb Bil y cwricwlwm, addysg rhyw a pherthnasoedd cynhwysol gorfodol ar gyfer pob disgybl, a'r dull ysgol gyfan ar gyfer iechyd meddwl yn gwneud cyfraniad enfawr at achub bywydau ifanc yng Nghymru, ac ni ellir cael gwaddol mwy sylweddol na phwysicach na hynny, ac rwy'n diolch i chi am hynny.
Os gaf i droi yn nawr at gwestiwn am y dull ysgol gyfan, ac ystyried eich ateb i Suzy Davies, a oedd yn galonogol iawn ynghylch swyddogaeth Estyn o ran sicrhau bod y fframwaith, sy'n fframwaith rhagorol, sydd wedi'i wreiddio mewn perthynas gref, yn cael ei weithredu, a gaf i ofyn yn benodol am ysgolion uwchradd? Fel y gwyddoch chi, yn rhy dda o lawer, mae llawer o ysgolion cynradd eisoes yn dda iawn yn y gwaith hwn, ac mae gennym lawer i ymfalchïo ynddo, ond mae gennym daith hirach i fynd arni o ran ein hysgolion uwchradd. Pa gamau penodol ydych chi wedi'u cymryd a'u rhoi ar waith i sicrhau y gallwn ni wneud y newid seismig hwnnw, mewn gwirionedd, wrth ddarparu'r dull ysgol gyfan hwn yn ein hysgolion uwchradd? Diolch.
Diolch, Lynne, yn gyntaf oll am eich geiriau caredig. Rwy'n dyfalu bod bwrw prentisiaeth cyn dod yn Weinidog am ryw 16 neu 17 mlynedd ar bwyllgorau efallai'n rhoi persbectif i chi nad yw bob amser yn bresennol, weithiau. Drwy ymgysylltu â chi a'ch pwyllgor, rwy'n credu ein bod wedi cyflawni mwy na phe bai'r Llywodraeth wedi ceisio symud ar hyd y llwybr hwn ar ei phen ei hun yn unig. Ac a gaf i ddweud, i chi y mae llawer o'r diolch am hynny, eich ymrwymiad personol, sy'n mynd y tu hwnt i ymrwymiad gwleidyddol yn unig i'r agenda hon, ac, wrth gwrs, dim ond yr ychydig ofn yr oeddech yn peri i mi weithiau, ofn yr hyn a allai ddigwydd pe na baem ni'n cyflawni pethau. Ond mae'r tensiwn creadigol hwnnw rhwng y Senedd a'r Llywodraeth yn rhywbeth y dylem ni geisio ei wella bob amser, oherwydd mae'n arwain at well canlyniadau polisi i bobl Cymru. Ac wrth gwrs i'r rheini ohonom sydd wedi bod yn rhan o'r prosiect hwn ers 1999, dyna'r hyn yr oeddem ni'n bwriadu ei gyflawni, a hoffwn feddwl mai dyna'r hyn yr ydym ni wedi'i wneud yn ein perthynas, Lynne, dros y pum mlynedd diwethaf.
Roeddech chi yn llygad eich lle wrth siarad am y sector uwchradd. Byddwch yn ymwybodol o'r gwaith thematig sydd eisoes wedi'i wneud gan Estyn sy'n sôn am y gwahaniaethu, yn aml, rhwng y sector cynradd a'r sector uwchradd, a'r angen i sicrhau bod ein hymarferwyr uwchradd yn gyfarwydd iawn â'r newidiadau biolegol syml y mae ein pobl ifanc yn mynd trwyddyn nhw yn ystod y glasoed a sut y mae angen inni gofio hynny yn ein dulliau gweithredu yn y system ysgolion uwchradd. Ac rwy'n sicr y gwnes i wrth eistedd ar y grŵp gorchwyl a gorffen, ddysgu llawer ac, yn wir, addasu fy arddull rhianta fy hun gartref gyda'r ddealltwriaeth ddyfnach honno.
Wrth gwrs, weithiau nid yr ysgolion uwchradd eu hunain sy'n gyfrifol am y pwysau a roir arnyn nhw ond y Llywodraeth. A dyna pam y mae'n bwysig iawn ein bod nid yn unig yn newid ein cwricwlwm, bod gennym nid yn unig arolygiaeth ddysgu a dull gwahanol o arolygu, ond mae angen i ni fel Llywodraeth newid y ffordd yr ydym ni'n dwyn ysgolion i gyfrif am eu perfformiad. Yn y gorffennol, rydym ni wedi dwyn ysgolion i gyfrif am eu perfformiad—oherwydd mae angen gwneud hynny, nid oes dianc rhag hynny, mae'r gwaith y maen nhw yn ei wneud yn rhy bwysig iddyn nhw beidio â chael eu dwyn i gyfrif—ond maen nhw wedi'u dwyn i gyfrif ar set mor gul, gul o fesurau. Ac, er mor bwysig yw'r mesurau hynny, os nad yw COVID wedi dysgu dim byd arall i ni, mae wedi dangos bod ysgol yn rhan lawer ehangach a llawer mwy o fywydau plant na dim ond y culni yr ydym ni wedi dwyn ysgolion i gyfrif yn ei gylch. Felly, mae hefyd yn ymwneud â newid ein cyfundrefnau atebolrwydd fel Llywodraeth o ran sut ffurf sydd ar lwyddiant mewn ysgol uwchradd a sut ffurf sydd ar arfer da mewn ysgol uwchradd, ac, yn amlwg, bydd sicrhau bod y dull ysgol gyfan yn rhan annatod o ddulliau mewn ysgolion uwchradd yn bwysig iawn, wrth symud ymlaen.
Ac a gaf i dawelu meddwl pobl drwy ddweud bod dadl ffug ac artiffisial, weithiau, yn cael ei chyflwyno sef y gallwch naill ai gael rhagoriaeth llesiant neu y gallwch gael rhagoriaeth academaidd. O mam bach, does dim byd pellach o'r gwir. Yr hyn y mae'r holl astudiaethau'n ei ddangos yw, os oes gennych lesiant da yn yr ysgol, ar gyfer disgyblion a chyfadran, mae hynny mewn gwirionedd yn arwain at fwy o gyrhaeddiad addysgol. Felly, nid yw hwn yn fater o 'naill ai/neu' na 'neis i'w gael'; mae hwn yn floc adeiladu hollol hanfodol ar gyfer hyrwyddo lefelau uwch o gyrhaeddiad addysgol i'n holl blant.
Ac yn olaf, David Rees.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, a gaf i gofnodi hefyd fy niolch am eich stiwardiaeth o'r portffolio addysg dros y pum mlynedd diwethaf? Mae'r datganiad yr ydych chi newydd ei wneud yn dangos eich ymrwymiad i lesiant ac addysg ein plant ifanc, ein pobl ifanc, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr. Edrychaf ymlaen ac rwy'n gobeithio bod yr hyn yr ydych chi newydd ei ddweud yn dwyn ffrwyth, oherwydd mae gennyf brofiad, yn anffodus, fel sydd gan fy etholwyr, o enghreifftiau pan nad yw llesiant plant ifanc ac iechyd meddwl plant ifanc wedi cael sylw llawn yn ystod y pandemig hwn, yn enwedig plant yn yr ysgol gynradd. Fel y gwyddom ni, gall materion iechyd meddwl weithiau amlygu eu hunain fel materion ymddygiad hefyd, ac felly gall newidiadau mewn ymddygiad, yn aml gartref, nid o reidrwydd yn yr ysgol, achosi anawsterau i deuluoedd. Rwy'n gwybod am riant a aeth i ysgol i ofyn am help gyda'r newidiadau yn yr ymddygiad hynny o ganlyniad i rai o brofiadau COVID a bod gartref, a dywedwyd wrtho, 'Nid oes gennym ni wasanaethau ar gael i chi.' Ac ni chafodd y rhiant hwnnw'r cymorth hwnnw, ac felly mae angen i ni sicrhau bod y gwasanaethau ar gael i helpu rhieni gyda phlant, mewn ysgolion cynradd yn arbennig, a hefyd pan fyddan nhw'n symud i ysgolion uwchradd—y cyfnod pontio hwnnw hefyd—i sicrhau bod y gwasanaethau hynny yno fel nad yw rhieni'n wynebu'r heriau gartref oherwydd bod y system wedi methu â darparu a chefnogi'r plentyn yn y lleoliadau addysg. Felly, cyn ichi adael eich swydd ar 6 Mai, a allwch roi sicrwydd imi y byddwch yn sicrhau bod gan bob awdurdod lleol ddigon o adnoddau ar waith i sicrhau na fydd plant y mae angen y cymorth hwnnw arnyn nhw a rhieni sy'n gofyn am y cymorth hwnnw yn cael eu gwrthod?
Diolch, David, am eich geiriau caredig. A gaf i ddweud ei bod yn ddrwg iawn gennyf glywed am y profiad y mae eich etholwr wedi'i gael? Pe byddech yn fodlon rhoi mwy o fanylion i mi, yna gallaf eich sicrhau y byddaf yn gofyn i swyddogion fynd ar drywydd hynny gydag awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot a byddwn yn falch iawn o wneud hynny, oherwydd yr hyn yr ydym yn ei wybod yw pan fydd rhieni yn gofyn am gymorth, weithiau mae hynny'n ein rhoi ni mewn sefyllfa agored iawn fel oedolion. Gwyddom y gall cyfaddef weithiau ein bod yn cael trafferth neu angen help, yn enwedig pan fo hynny'n rhywbeth mor bersonol â rhianta, wneud i chi deimlo'n agored iawn, iawn i niwed, ac rydych yn poeni am gael eich barnu ac ar yr un pryd yn poeni'n fawr am yr hyn sy'n digwydd i'ch plentyn. Felly, mae'n rhaid i'r ymateb cychwynnol fod yr ymateb cywir y tro cyntaf, fel nad yw pobl yn gwangalonni rhag ceisio cymorth. Ni allaf wneud sylw, oherwydd nid wyf yn gwybod manylion llawn yr achos, ond yr hyn y mae'n rhaid i ni ei gydnabod hefyd yw, er y gallwn ddisgwyl yn realistig i ysgolion reoli rhywfaint o achosion yn yr ysgol, weithiau efallai y bydd angen cymorth ar deulu neu blentyn sydd y tu hwnt i'r cymwyseddau y gellid eu disgwyl yn yr ysgol, a dyna pryd y mae awdurdodau addysg lleol ac awdurdodau lleol yn gyffredinol, ac weithiau mewn partneriaeth â'r gwasanaethau iechyd, angen sicrhau gwasanaethau cofleidiol y gall yr ysgol gyfeirio atynt, oherwydd weithiau mae angen asiantaeth allanol sydd y tu hwnt i'r ysgol i fod yno i gynorthwyo rhiant neu i gynorthwyo plentyn.
Felly, fel y dywedais, ni allaf wneud sylw, oherwydd nid wyf yn gwybod y manylion llawn, ond gallai hynny fod yn wir, bod angen dod â gwasanaethau eraill i mewn i gefnogi'r teulu. Ond, David, gallaf eich sicrhau ein bod yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau, yn enwedig wrth i ni ddod allan o'r pandemig—a, bobl bach, gobeithio ein bod ni yn dod allan o'r pandemig—y byddan nhw'n barod i ymateb mewn dull systemau cyfan, nid dim ond gadael y cyfan i ysgolion, ond i sicrhau bod gwaith ieuenctid, mewnbwn gan y gwasanaethau cymdeithasol, a phartneriaethau gyda sefydliadau eraill ar gael i roi cymorth i deuluoedd os oes ei angen arnyn nhw. Oherwydd rydych yn llygad eich lle—nid wyf yn credu bod plant yn gynhenid ddrwg; mae ymddygiad yn cael ei sbarduno gan rywbeth ac mae angen i ni gefnogi hynny, ac yn aml mae rhywfaint o darfu gartref neu bethau sydd wedi bod yn digwydd gartref yn arwain at yr ymddygiad yn yr ysgol, ac mae angen i ni sicrhau bod cefnogaeth i'r teulu fynd i'r afael â'r hyn sydd wedi bod yn digwydd fel y gellir mynd i'r afael â'r materion ymddygiad hynny. Mae llawer o ysgolion yn gwneud hynny'n dda iawn, ond nid yw addysg, fel democratiaeth, David, byth yn dod i ben. Felly, bydd bob amser mwy o waith i Weinidog addysg, pwy bynnag fydd yn ddigon ffodus i fod yn y swydd, i'w wneud.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.
Eitem 6 ar ein hagenda yw datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ar gynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol Cymru—Cymru Wrth-hiliol, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae hiliaeth ac anghydraddoldebau hiliol wedi cael effaith andwyol ar gymdeithas fyd-eang ers cannoedd o flynyddoedd. Yn ôl ym mis Hydref 2020, cefnogodd y Senedd gynnig i fynd ati o ddifrif i ddod â hiliaeth ac ideoleg hiliol i'r wyneb, ac ymdrechu tuag at Gymru fwy cyfartal, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol systemig a strwythurol. Dywed Ymddiriedolaeth Runnymede fod anghydraddoldebau hiliol yn parhau ym mron pob maes mewn cymdeithas ym Mhrydain o enedigaeth i farwolaeth, ac mae digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf wedi dangos realiti trasig y datganiad hwnnw. Mae effaith anghymesur a mwy difrifol COVID-19 ar gymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn amlygu'r anghydraddoldeb hiliol cynhenid yn ein cymdeithas, ac yn sgil marwolaeth George Floyd, mae Black Lives Matter ac eraill wedi sicrhau bod hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol yn faterion na all neb eu hanwybyddu.
Nawr yw'r amser ar gyfer gweithredu, ac wrth i ni nodi unwaith eto y diwrnod rhyngwladol ar gyfer dileu pob math o wahaniaethu ar sail hil, rwy'n falch o gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru, yr wythnos hon, yn cyhoeddi cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol Cymru ar gyfer ymgynghoriad. Mae'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol Cymru—Cymru Wrth-hiliol yn nodi cyfres o nodau a chamau gweithredu a gynlluniwyd i wella'r canlyniadau i bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Mae'n seiliedig ar nifer o themâu a ddatblygwyd mewn cyd-gynhyrchiad â chymunedau lleiafrifoedd ethnig. Mae wedi'i wreiddio mewn tystiolaeth ac wedi'i lunio gan academyddion arbenigol o bob rhan o Gymru a'r DU ehangach.
Mae manylion a maint y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol yn feiddgar, i adlewyrchu ein gweledigaeth uchelgeisiol a radical ar gyfer Cymru—gweledigaeth o Gymru sy'n wrth-hiliol. Nid anhiliol, nid mwy cyfartal—Cymru lle nad oes dim goddefgarwch tuag at hiliaeth o unrhyw fath. Mae cymryd y safiad hwn yn hanfodol bwysig i'n rhanddeiliaid a'n cymunedau duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig gan ei fod yn darparu ar gyfer dealltwriaeth weithredol ac ymwybodol bod ein cymdeithas wedi'i strwythuro mewn ffordd sy'n eithrio lleiafrifoedd ethnig. Mae safiad gwrth-hiliol yn herio'r status quo ac yn ailadeiladu systemau er budd pob un ohonom. Mae gwrth-hiliaeth yn symud baich hiliaeth o'r dioddefwyr i bawb mewn cymdeithas. Bydd llawer o bobl yng Nghymru nad ydyn nhw yn ystyried eu hunain yn hiliol, ond mae gwrth-hiliaeth yn gofyn i bob un ohonom ni wneud ymdrech ymwybodol a gweithredol i amlygu hiliaeth lle bynnag y gwelwn ni hynny. Nid yw sefyll ac aros yn dawel yn ddigon. Mae cymryd safiad gwrth-hiliol yn gosod y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol ar wahân i unrhyw ymyrraeth polisi arall o'r math hwn, naill ai yng Nghymru o'r blaen, neu ledled y DU.
Mae nodweddion nodedig eraill yn y cynllun hwn sy'n ei osod ar wahân i gynlluniau eraill o'r math hwn. Mae'r egwyddor o gyd-greu wedi bod yn hanfodol i ddatblygu'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol. Mae cynnwys y cynllun wedi'i wreiddio ym mhrofiad byw pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Mae tua 2,000 o unigolion wedi rhannu eu barn ar yr hyn y dylai'r cynllun ei gynnwys ac ni fyddai'r cynllun wedi bod yn bosibl heb eu cyfraniadau nhw. Mae wedi bod yn anhygoel o bwerus ac mae eisoes yn gatalydd ar gyfer newid. Mae rhannu'r profiadau byw hyn wedi bod yn boenus i'r rhai sy'n gysylltiedig, ac rwy'n cydnabod y llafur emosiynol sy'n rhan annatod o waith o'r fath. Mae'r unigolion hyn wedi rhoi cymaint ohonyn nhw eu hunain wrth geisio cael cynllun sy'n creu newid pendant ac mae'n hanfodol ein bod ni nawr yn cydnabod y cyfraniadau hynny.
Rwy'n ddiolchgar i'r 17 o fentoriaid cymunedol o gymunedau duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig sy'n gweithio ochr yn ochr â swyddogion Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd ac yn rhannu eu harbenigedd. Maen nhw wedi ychwanegu gwerth, wedi cyfoethogi ein dealltwriaeth ac wedi dangos pam y mae amrywiaeth ar draws gweithlu yn hanfodol er mwyn sicrhau datblygiad polisi effeithiol. Yn ogystal â'r rhai sydd â phrofiad bywyd o hiliaeth, mae'r cynllun yn ganlyniad cydweithio rhwng llawer o randdeiliaid, ac rwyf am achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r holl gyfranogwyr am eu haelioni o ran arbenigedd, cyfraniad, arweiniad a chyngor a roddwyd i gefnogi'r cynllun. Diolch yn arbennig i'r Athro Emmanuel Ogbonna, sydd wedi rhoi arweinyddiaeth heriol, ystyriol a chefnogol ar gyfer y gwaith, ochr yn ochr â'i swyddogaeth yn cadeirio grŵp economaidd-gymdeithasol COVID-19.
Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi blaenoriaethu cydraddoldeb yn ei gwaith. Mae'r cynllun cydraddoldeb strategol a gweithredu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn enghreifftiau amlwg o'r camau yr ydym yn eu cymryd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau yng Nghymru. Bydd hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth yn orfodol o fewn y cwricwlwm newydd, a dydd Gwener diwethaf, fel tystiolaeth bellach o'n hymrwymiad i gydraddoldeb, ymrwymodd y Gweinidog Addysg i ymgorffori'r egwyddorion hyn yng Nghwricwlwm Cymru drwy dderbyn yr holl argymhellion a wnaed yn yr adroddiad terfynol gan y cymunedau duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, cyfraniadau a chynefin yn y gweithgor cwricwlwm newydd, o dan arweiniad yr Athro Charlotte Williams.
Mae'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol yn pwysleisio pwysigrwydd cau'r 'bwlch gweithredu'. Mae'n rhaid i'r cynllun, yng ngeiriau un o'n rhanddeiliaid, ein symud ni o 'rethreg i realiti'. Mae'n rhaid iddo gyflawni ein gweledigaeth wrth-hiliol a chreu newid mewn diwylliant. Mae'n rhaid i'r camau a gyflawnir fod yn ystyrlon gan arwain at ganlyniadau cyfartal pendant. Mae'n rhaid i ni feddwl yn wahanol am y ffordd yr ydym ni'n mesur ac yn monitro cynnydd a chyflawniad. Gydag amser, efallai y bydd hyn yn gofyn am sail ddeddfwriaethol, ond yn y tymor byr, byddwn yn defnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael i ni i gyflawni ein gwaith trawsnewidiol ochr yn ochr â rhanddeiliaid, fel cydberchnogion y cynllun, i sicrhau atebolrwydd.
Mae'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol yn uchelgeisiol, mae'n radical ac mae'n ganlyniad i fath unigryw o gyd-greu a chydberchnogaeth. Dirprwy Lywydd, bydd gweithredu'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol yn llwyddiannus er lles holl ddinasyddion Cymru. Bydd marchnad gyflogaeth deg yn gwella cynhyrchiant cyffredinol a thwf economaidd a fydd er lles bob un ohonom. Bydd system addysg a hyfforddiant decach yn datblygu dyhead, cyfle a chanlyniadau gwell i bob un ohonom. Bydd cyfartalu cyfleoedd a chanlyniadau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn gwella'r system i bob un ohonom. Yng ngeiriau'r Athro Emmanuel Ogbonna, 'y rheidrwydd ar gyfer gweithredu'r cynllun yw natur gydfuddiannol y canlyniadau; bydd pob un ohonom ni yn elwa ar gydraddoldeb hiliol'.
Rwy'n gwahodd holl Aelodau'r Senedd i ystyried y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol ac i rannu yn ein gweledigaeth ar gyfer Cymru Wrth-hiliol, lle mae systemau sy'n parhau anghydraddoldeb yn cael eu datgymalu, lle mae amrywiaeth hiliol yn cael ei werthfawrogi, a lle rydym ni'n gweithio i sicrhau cyfle a chanlyniadau cyfartal i bawb. Diolch.
Dirprwy Weinidog, hoffwn ddweud fy mod i'n cytuno â'r cyfan a ddywedasoch. Rydym yn croesawu'r cynllun hwn yn fawr heddiw. A gaf i achub ar y cyfle hwn yn gyntaf, serch hynny, i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog, Jane Hutt, am ei holl waith caled yn y swyddogaeth hon? Hi oedd yr unigolyn perffaith i fod â swyddogaeth o'r fath, gan ei bod yn fod dynol mor ofalgar a thosturiol ei hun. Mae hi wedi helpu'r Senedd hon a'n gwlad i gymryd camau breision wrth siarad am bynciau, trafod a gweithredu ar bynciau a oedd yn aml yn cael eu hystyried yn bynciau tabŵ.
Mae Black Lives Matter a'r pandemig wedi tynnu sylw at anghydraddoldeb systematig, yn enwedig yn ein cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Mae wir wedi amlygu problemau y mae llawer yn ein cymdeithas a'n cymunedau yn eu hwynebu bob dydd yn 2021. Ac rwy'n nodi'r flwyddyn, oherwydd mae'n eithaf anghredadwy bod yr anghydraddoldeb a'r hiliaeth ofnadwy hyn yn dal i fodoli yn ein cymdeithas ni yn 2021. Felly, mae'r cynllun i'w groesawu, mae'n amserol ac mae ei angen yn ddirfawr.
Rydym ni'n croesawu'n fawr y dull trawsbynciol ar draws adrannau o ddatblygu polisi, a'r dull rhagweithiol yn hytrach nag adweithiol y mae'r Gweinidog wedi ei amlinellu yn ei datganiad heddiw ynghylch y cynllun—er enghraifft, fel y mae eisoes wedi ei amlinellu, ymgorffori hanes pobl dduon i gael ei addysgu bellach yn y cwricwlwm newydd. Gobeithio y bydd unrhyw Lywodraeth olynol a Gweinidogion fel Kirsty Williams hefyd yn mabwysiadu'r agwedd hon yn y dyfodol. Os ydym ni fel cenedl yn wirioneddol o ddifrif o ran mynd i'r afael â hiliaeth yn ei holl ffurfiau a gweddau, yna dyma'r ffordd y mae angen i ni wneud hynny.
Yn ffodus, rwy'n credu bod llawer o hiliaeth yn ymwneud â chenhedlaeth ac y bydd yn dod i ben yn naturiol. Mae bob amser yn galonogol pan eich bod yn siarad â'n pobl ifanc pa mor bwysig yw hi ein bod ni'n mynd i'r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb yn ein cymunedau. O ran Black Lives Matter, mae gweld y rhyngweithio gyda phobl ifanc ar Twitter, er enghraifft, gyda Chlwb Pêl-droed Manchester United—rwy'n dweud hynny oherwydd fy mod i'n gefnogwr brwd fy hun—a sut y maen nhw'n cefnogi'r chwaraewyr pan fyddan nhw wedi cael eu cam-drin, a phethau o'r fath, yn wych i'w gweld ac mae'n galonogol. Os yw hynny'n arwydd o bethau i ddod, rwy'n hapus iawn i fod yn rhan ohono, ond mae' rhaid i ni gofio ein bod yn gweithredu dros y bobl ifanc hynny nawr, felly mae angen cymryd camau nawr.
Bydd arnom angen, yn amlwg, ffordd o feddwl arloesol iawn gan weithio mewn partneriaeth luosog i sicrhau ein bod yn mynd at wraidd yr anghydraddoldebau systematig hyn, a'n bod yn gweithio mewn partneriaeth â'n cymunedau lleol, a'n hawdurdodau lleol ac arweinyddion cymunedol i sicrhau bod pob cefndir, pob diwylliant, pobl o bob iaith yn ein cymunedau yn ymgysylltu â'i gilydd, ac yn cael cyfleoedd i integreiddio'n naturiol. Rwy'n crybwyll chwaraeon unwaith eto, fel y gwnaf yn aml, ond mae'n enghraifft o alluogwr perffaith i ddod â chymunedau at ei gilydd mewn ffordd naturiol. Mae'n bwysig ein bod ni'n ei ddefnyddio fel un o'r dulliau o wneud hynny.
Mae'n hanfodol ac yn hollbwysig ein bod ni'n meddwl am y pethau hyn nawr, a'n gobeithion, ein gwerthoedd a'n safiad gwrth-hiliol, a'i fod wedi ei wreiddio ym mhopeth a wnawn—yn ein hysbryd pan fyddwn yn creu polisi ledled y Senedd, ac wrth symud ymlaen i'r chweched Senedd a thu hwnt. Rwy'n falch iawn o ddweud bod y Ceidwadwyr Cymreig yn gefnogol iawn i chi, Dirprwy Weinidog, ar y cynllun hwn a'r dull gweithredu, ac rydym yn croesawu'r datganiad hwn.
Diolch yn fawr iawn, Laura, a diolch am eich geiriau caredig ac am eich cefnogaeth i'r cynllun hwn. Mae'n mynd â mi'n ôl at y ddadl honno a gawsom yn ôl ym mis Hydref 2020. Roedd yn ddadl ac yn gynnig a gefnogwyd gan fwyafrif helaeth o Aelodau'r Senedd, consensws trawsbleidiol gwirioneddol ein bod eisiau mynd i'r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb hil yng Nghymru. Mewn gwirionedd, roedd yn cydnabod yr angen am gynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol ar gyfer Cymru. Roedd yn cydnabod anghydraddoldeb strwythurol a systemig a bod yn rhaid i ni fynd i'r afael â hyn o ran datblygu cynllun. Felly, dyma'r amser i newid, fel y dywedwch. Ac wrth gwrs, mae'n gyfle i bawb sydd mewn sefyllfa o bŵer—Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol, cyrff cyhoeddus a busnes. Rwy'n falch fy mod i wedi gallu rhannu'r cynllun drafft yn barod ar gyfer ymgynghori â chyngor partneriaeth gymdeithasol yr wrthblaid, lle mae gennym ni, wrth gwrs, nid yn unig undebau llafur ond cyflogwyr, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, y Ffederasiwn Busnesau Bach, y sector preifat, yn ogystal â'r trydydd sector, yn croesawu'r cynllun ac yn cydnabod bod hyn ar gyfer Cymru gyfan. Mae ar gyfer Llywodraeth Cymru gyfan yn ogystal â Chymru gyfan.
Yr hyn yr ydym yn ei wneud hefyd, rwy'n credu, yn bwysig, yw nodi camau gweithredu y gellir eu cyflawni i fynd i'r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb. Yn ystod yr wythnosau diwethaf rwyf wedi bod yn cyfarfod â'm holl gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, oherwydd mae hyn yn ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol, mae'n ymwneud â thai, addysg, incwm a chyflogaeth, diwylliant, y celfyddydau, treftadaeth a chwaraeon. Ac rydych chi wedi rhoi'r enghraifft fyw honno lle y gwelwn yr hiliaeth honno, enghreifftiau o fynd i'r afael â hiliaeth, a hefyd ein cymunedau a'n pobl ifanc yn ymateb i hynny hefyd, o ganlyniad i'w dealltwriaeth o effaith Black Lives Matter ac maen nhw eisiau bod yn rhan o'r ymateb. Ond mae hefyd yn cydnabod bod hyn yn ymwneud ag arweinyddiaeth a chynrychiolaeth. Mae'n ymwneud â'r amgylchedd, y Gymraeg, ac mae'n ymwneud â meysydd lle yr ydym ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU, fel troseddu a chyfiawnder.
Mae'r cynllun hwn yn ymwneud â thegwch. Mae'n ymwneud â sicrhau bod gan bawb hawl i driniaeth gyfartal a gwasanaethau cyfartal, ond mae profiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, a blynyddoedd o ddata—blynyddoedd o ddata—yn dangos nad yw'n digwydd mewn gwirionedd. Yr hyn sydd wedi dod yn amlwg, fel y dywedais, yn glir iawn, yw na ddylai hon fod yn strategaeth yn unig, mae'n rhaid iddo fod yn gynllun gweithredu. Dyna pam yr ydym ni'n ymgysylltu â'r mentoriaid cymunedol hynny sydd wedi dod i mewn i Lywodraeth Cymru, gan ariannu dros 50 o sefydliadau cymunedol ledled Cymru, felly bydd gan holl Aelodau'r Senedd grwpiau yn eu cymunedau sy'n ymgysylltu â hyn—a hefyd Fforwm Hil Cymru a sefydliadau cydraddoldeb hiliol sy'n ein harwain ni drwy hyn. Ond wrth gwrs, mae effaith anghymesur COVID-19 ar bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a marwolaeth George Floyd, wedi taflu goleuni ar yr anghydraddoldebau dwfn hynny y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â nhw nawr. Rwy'n credu bod hwn yn arwydd da iawn ein bod ni'n cael y math hwn o ymateb eisoes yn y Senedd y prynhawn yma. Diolch.
Mae hiliaeth systemig a systematig yng Nghymru wedi bod yn rhemp ers tro byd. Amlygwyd anghydraddoldebau hyd yn oed yn fwy yn ystod COVID, drwy ei effeithiau anghymesur ar gymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Rwy'n dal i fod wedi fy syfrdanu ein bod yn dal heb weld menyw o gymuned pobl dduon, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig yn cynrychioli pobl yn y fan yma yn y Senedd hon o hyd, felly mae gennym ni ffordd bell iawn i fynd.
Dylai'r adroddiad gan grŵp cynghori Llywodraeth Cymru yn pwysleisio'r materion hyn fod wedi bod yn rhybudd amserol terfynol i Lywodraeth Cymru gymryd camau brys ac uniongyrchol i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hirsefydlog sy'n bodoli yn y wlad hon. Galwodd Plaid Cymru yr haf diwethaf am ymchwiliad llawn a thrylwyr i hiliaeth systemig yng Nghymru, gydag argymhellion pendant i'w hanrhydeddu. Fe wnaethom ni arwain amryw o ddadleuon yma yn y Senedd a'r tu allan, gyda rhwydweithiau amrywiol o bobl yn galw am newid—am gynnwys yn orfodol hanes pobl dduon a phobl groenliw yn y cwricwlwm newydd, i hysbysu disgyblion a gosod cynsail ar gyfer gwlad fodern, flaengar, yn rhydd o ragfarn, er mwyn gallu herio rhethreg hiliol. Ac rydym wedi arwain y dadleuon yn erbyn y rhethreg wenwynig yn hyn o beth a ddaw o'r dde eithaf, uchel eu cloch. Mae cymaint o waith i'w wneud o hyd yn hyn o beth. Rydych i gyd yn gwybod bod Plaid Cymru eisiau i Gymru gael ei system gyfiawnder ei hun fel bod gennym ni yr arfau yn y fan yma i fynd i'r afael yn briodol â'r holl wahanol fathau o anghydraddoldebau sy'n bodoli o fewn y system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys cyfraddau carcharu anghymesur pobl o gefndiroedd pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
Felly, fy nghwestiwn i chi yw: a ydych chi'n cytuno â mi y gellid gwneud mwy pe byddai'r system cyfiawnder troseddol wedi ei datganoli yn llawn? A ydych chi'n cytuno bod angen gwneud mwy o ran nid yn unig rhoi'r adnoddau ond hefyd yr hyder i staff dysgu i fynd i'r afael ag agweddau hiliol a'u herio pan eu bod yn codi yn yr ysgol? A ydych chi'n derbyn nad ydych chi wedi gweithredu'n ddigon cyflym i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hyn yr wyf wedi cyfeirio atyn nhw? Ac er fy mod i'n cymeradwyo dull sy'n ymrwymo i Gymru wrth-hiliol, a ydych chi’n derbyn bod herio rhethreg wleidyddol ac ymgorffori parch sylfaenol at wahaniaeth ar bob lefel yn ein cymdeithas a'n cymunedau yn hanfodol os yw hyn am gael ei gyflawni?
Diolch yn fawr iawn, Leanne. A diolch, Leanne, oherwydd rwy'n gwybod am eich ymrwymiad i hyn ac rydych wedi siarad ac mae'n amlwg iawn, unwaith eto, fod eich cefnogaeth i'r ffordd ymlaen o ran mynd i'r afael â hiliaeth ac anghyfiawnder hiliol yng Nghymru yn rhywbeth yr ydych yn amlwg yn ei groesawu. A dyna pam mae mor bwysig ein bod ni, mewn ffordd, wedi galluogi pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn gwirionedd i greu, i'n harwain ni a llywio'r cynllun hwn mewn gwirionedd, i'r pwynt lle nad ydym yn credu taw cynllun neu strategaeth arall yn unig y bydd hwn—mae'n mynd i fod yn gynllun sydd wedi ei lywio gan brofiad bywyd pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Ac i gael cynllun a gafodd ei greu ar y cyd yn y ffordd honno, lle mae gennym ni grŵp llywio, wedi ei gyd-gadeirio gan yr Ysgrifennydd Parhaol a'r Athro Emmanuel Ogbonna, lle'r ydym ni wedi cael mentoriaid yn dod i mewn i Lywodraeth Cymru, y gwnes i gyfarfod â nhw ddoe, a ddywedodd ei bod wedi newid eu bywydau o fod â rhywun yn gwrando arnyn nhw yn wirioneddol—eu bod wedi teimlo yn wirioneddol eu bod nhw wedi eu trin yn gyfartal a bod eu profiad bob dydd o hiliaeth yn eu bywydau, eu bod bellach yn teimlo bod siawns gwirioneddol, gobaith gwirioneddol. Ac wrth gwrs, dim ond os byddwn ni i gyd yn uno â'n gilydd ac yn cyflawni'r cynllun hwn y caiff hyn ei wireddu.
Nawr, mae'n bwysig bod y rhanddeiliaid wedi dweud y dylem ni gynnwys y system cyfiawnder troseddol yn y cynllun, er nad yw wedi ei datganoli. Ac rydym yn gwybod hynny, wrth gwrs, o ran ein pwerau ac yn wir dystiolaeth adroddiad David Lammy yn 2017, a ddatgelodd y diffyg ymddiriedaeth hwnnw yn ein system cyfiawnder troseddol, a bod yn rhaid i ni fynd i'r afael â hyn. Ac wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth yr wyf i wedi ei gyflwyno i'r bwrdd partneriaeth plismona. A dylai pawb sy'n dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol gael triniaeth gyfartal a chanlyniadau cyfartal, ni waeth beth fo'u hethnigrwydd. Ac mae'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol yn gyfrwng pwysig i'n helpu i sicrhau ei fod yn mynd i'r afael â hyn mewn gwirionedd ac yn cynnwys troseddu a chyfiawnder fel thema. Ac wrth gwrs, wrth i ni ymdrechu i gael dylanwad ym maes polisi troseddu a chyfiawnder, mae hyn yn hanfodol o ran cyflawni'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol.
Ond mae'n bwysig hefyd ein bod yn cydnabod bod hyn yn ymwneud â chyflawni a gweithredu mewn gwirionedd. Felly, cafodd y bwlch gweithredu ei amlygu yn glir iawn—awydd i fod â grŵp atebolrwydd i sicrhau, wrth i ni fynd drwy 12 wythnos o ymgynghori, fod grŵp atebolrwydd, ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth nesaf gyflawni hyn, a bydd yn cael ei brofi a'i ddwyn i gyfrif gan y Senedd, rwy'n gwybod, o ran yr ymrwymiad sy'n dod i'r amlwg. Felly, mae cyfle gwirioneddol yma, a hefyd mae'n ddisgwyliad y mae'n rhaid i bob un ohonom ei fodloni. Ac rwy'n credu bod eich pwynt ynghylch cynrychiolaeth wleidyddol yn neges yma yn y Senedd hon, onid yw, wrth i ni symud i'r cyfnod cyn yr etholiad, a chydnabod bod gan bob plaid wleidyddol y cyfrifoldeb hwnnw a'r cyfle hwnnw i unioni'r diffyg cynrychiolaeth hwnnw, ond hefyd yn ein penodiadau cyhoeddus. A dyna pam mae ein strategaeth cydraddoldeb a chynhwysiant 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru' ar gyfer penodiadau cyhoeddus mor bwysig, a pham y gwnaethom ni, am y tro cyntaf, recriwtio—unman arall yn y DU—aelodau annibynnol y panel mewn modd agored a thryloyw i gael mwy o amrywiaeth, ond mae'n amlwg bod yn rhaid i ni gyflawni hyn a dyna fydd ein disgwyliad.
Rwy'n croesawu'r cynllun gweithredu yn fawr iawn, Gweinidog, ac rwy'n derbyn yn llwyr y pwynt yr ydych wedi ei wneud, ac y mae cynifer o'r rhanddeiliaid wedi ei wneud, yn gyson dros gyfnod o amser, y bu llawer o nodi problemau, ond dim hanner digon o weithredu i fynd i'r afael â nhw, ac rwyf i'n credu mai dyna pam y mae cynllun gweithredu i'w groesawu gymaint.
Fel yr ydych wedi ei ddweud, mae'r pandemig wedi gwneud y problemau, yr anghydraddoldebau y mae ein cymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn eu hwynebu, yn glir iawn. Y bore yma, ymwelais â mosg Jamia yng Nghasnewydd, a oedd wedi ei sefydlu yn ganolfan frechu undydd ar gyfer heddiw, oherwydd na fu digon o bobl yn y cymunedau hynny yn derbyn y brechiad. Ac rydym yn gwybod eu bod wedi dioddef yn anghymesur o ran y niwed corfforol ac, yn wir, effeithiau economaidd a chymdeithasol COVID-19 drwy gydol y pandemig. Felly, mae gwaith i'w wneud yn y fan yna, ac roedd yn dda gweld y fenter honno yng Nghasnewydd heddiw.
Efallai ei bod yn rhywfaint o baradocs mewn rhai ffyrdd, Gweinidog, er y bu llawer o nodi'r problemau, nad oes gennym ni ddigon o ystadegau o hyd mewn gwirionedd o ran y rhagfarn, y gwahaniaethu, y mae ein lleiafrifoedd ethnig yn eu hwynebu yma yng Nghymru. Felly, rwy'n croesawu'n fawr yr hyn yr ydych yn ei ddweud ynghylch yr angen i ni feddwl yn wahanol o ran mesur a monitro cynnydd, oherwydd yn amlwg, os nad ydym yn gwybod ein man cychwyn ac nad ydym yn gallu mesur y cynnydd yr ydym wedi ei wneud trwy'r cynllun gweithredu, yna, nid ydym mewn sefyllfa i roi sylwadau effeithiol ynghylch ei effeithiolrwydd a gweld a oes angen ei newid a'i addasu.
Felly, tybed a wnewch chi ddarparu ychydig mwy o fanylion o ran yr hyn y mae meddwl yn wahanol yn debygol o'i olygu o ran mesur a monitro cynnydd ar y ddarpariaeth hanfodol honno. Ac yn olaf, Gweinidog, o ran y gwaith sydd wedi ei wneud hyd yma, i ba raddau y mae'n cynnwys ystyriaeth o randdeiliaid o'r gymuned Roma, y gymuned Sipsiwn a Theithwyr a dinasyddion gwladol yr Undeb Ewropeaidd sy'n dal i fyw yng Nghymru? Mae angen i ni sicrhau ei fod mor gynhwysol â phosibl ac, yn aml iawn, mae angen allgymorth i'r cymunedau hyn, a byddwn i'n ddiolchgar am eich cyngor ar ba raddau y mae hynny'n debygol o gael ei gynnwys yn y cynllun gweithredu. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr, John Griffiths, ac a gaf i ddiolch i chi, yn rhinwedd eich swydd yn Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, am ddod â hyn i'r amlwg, o ran eich adroddiadau arloesol o ran datgelu'r anghydraddoldebau, o ganlyniad i effaith coronafeirws, yn enwedig ar bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn cymunedau, ond hefyd pobl eraill mewn grwpiau â nodweddion gwarchodedig. Ac mae wedi bod yn bwysig cael y craffu hwnnw a'r cwestiynau hynny gan y Senedd o ran paratoadau ar gyfer bwrw ymlaen â'r gwaith hwn, a hefyd, o ran eich swyddogaeth yn Aelod o'r Senedd dros Ddwyrain Casnewydd.
A gwn eich bod chi a Jayne Bryant, eich cyd-Aelod, wedi cael cyfarfod, wrth gwrs, gyda Vaughan Gething yn ddiweddar, a gydag arweinwyr cymunedol, i ystyried pwysigrwydd codi'r neges o ymgysylltu â'r gymuned ynghylch cyflwyniad y rhaglen frechu, ac mae'n dda iawn clywed am y mosg yn agor ei ddrysau i fod yn ganolfan frechu. Ond mae hynny'n ymwneud ag ymddiriedaeth—ymddiriedaeth ac ymgysylltiad—yr ydych chi wedi ei ddatblygu yn eich swyddogaeth yn Aelod o'r Senedd a, hefyd, yn Gadeirydd y pwyllgor, a dweud bod hyn yn ymwneud â meddwl yn wahanol a bod yn rhaid i hyn sicrhau newid mewn gwirionedd. A, hefyd, gweld bod hyn yn rhywbeth lle, er enghraifft, un o'n mentoriaid—. Mae un o'n mentoriaid yn gynghorydd, y Cynghorydd Abdul-Majid Rahman, o Gasnewydd, sydd â phrofiad helaeth a, hefyd, ac yntau'n aelod o'r cabinet yng Nghyngor Dinas Casnewydd, yn rhoi i ni, nid yn unig ei brofiad, ond hefyd yn dweud pa mor bwysig yw llywodraeth leol o ran darparu'r gwasanaethau hynny, a chydnabod nad strategaeth yw hon, cynllun gweithredu ydyw, ac roedd gennym ni Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn rhan amlwg fel rhanddeiliad.
Ond hefyd, mae profiad Sipsiwn, Teithwyr a Roma trwy fentora a thrwy hefyd eu hymgysylltiad â'r fforwm hil, yn effeithio'n fawr iawn ar y canlyniadau yn y cynllun gweithredu. Os gwnewch chi edrych ar bob adran yn Llywodraeth Cymru, mae ganddi gyfrifoldebau a phwyntiau gweithredu sy'n cynnwys y gymuned honno. A hefyd, ein bod ni wedi llwyddo i ymestyn y cyllid ar gyfer y cymorth i ddinasyddion yr UE o ran statws preswylydd sefydlog hyd at ddiwedd y flwyddyn galendr hon a chael eu llais a'u hymgysylltiad yn ogystal i adlewyrchu amrywiaeth wych Cymru; a hefyd, i fynd yn ôl at y pwyntiau yr wyf i wedi eu codi ynghylch y cyfraniad o ran yr economi, y gymuned a'n gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn arbennig. Diolch.
Hoffwn i ddiolch i Jane Hutt am yr holl waith y mae wedi'i wneud ar y mater heriol iawn hwn, ac rydym yn gwybod nad yw ar fin dod i ben unrhyw bryd yn fuan. Mae angen gwirioneddol i ni sicrhau bod y rhai hynny ohonom sy'n dychwelyd yn y Senedd nesaf yn wirioneddol mynd i'r afael â'r mater hwn gyda dwy law gan fod hwn yn faes gwaith cymhleth iawn, oherwydd ei bod yn wych bod adroddiad yr Athro Williams ar sut yr ydym yn mynd i ddysgu hanes pobl dduon yn y cwricwlwm yn bwysig iawn, iawn. Ond nid ydym yn mynd i fod yn gweld budd hynny am flynyddoedd lawer oherwydd, yn amlwg, mae'n cymryd amser i blant weithio eu ffordd drwy'r system addysg, ac mae cymaint mwy y mae angen i ni ei wneud nawr.
Mae arnaf i ofn bod marwolaeth pobl fel Mohamud Hassan, Christopher Kapessa a Moyied Bashir yn gwneud i bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig deimlo'n ofnus iawn ynghylch sut y mae'r system cyfiawnder troseddol yn gweithio. Fel y dywedodd Leanne, mae llawer mwy o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn y carchar nag o unrhyw grŵp ethnig arall. Ond rwy'n credu bod y marwolaethau hyn nad ydyn nhw wedi eu datrys, nad oes esboniad ar eu cyfer, hefyd yn tanseilio ffydd pobl yn yr heddlu fel gwarcheidwad y gyfraith. Felly, mae llawer mwy o waith i'w wneud ar hynny.
Rwyf i hefyd yn credu ei bod yn ymwneud hefyd ag ymdeimlad pobl o gynefin yn ein cymuned. Ac un o'r pethau pwysicaf a wnaethom yn y Senedd hon yn ogystal â rhoi'r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed, oedd rhoi'r bleidlais i bob dinesydd, ni waeth beth bynnag fo'u cenedligrwydd. Ac rwyf i'n meddwl tybed, Dirprwy Weinidog, a wnewch chi ddweud wrthym sut y mae'r Llywodraeth, yn ogystal â'r Senedd, yn sicrhau neu'n ceisio estyn allan i bobl ar yr adeg anodd iawn hon i sicrhau bod pobl yn gwybod bod ganddyn nhw'r hawl i bleidleisio yn yr etholiadau ar 6 Mai. Mae cymaint o bobl yr wyf i wedi cwrdd â nhw yn y gorffennol sy'n dweud, 'O, nid oes gen i hawl i bleidleisio yn yr etholiad hwn', ac mae angen gwirioneddol i ni gyfleu hynny i sicrhau eu bod yn cael dweud eu dweud ar sut y mae eu trethi'n cael eu defnyddio ar ran pob un ohonom.
Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone, a diolch am eich holl gefnogaeth yn y maes hwn a'ch ymrwymiad i Gymru wrth-hiliol, oherwydd dyna'r weledigaeth—Cymru wrth-hiliol. Roedd yn wych dros y penwythnos gweld penawdau cenedlaethol y tu allan i Gymru yn dweud, 'Lessons on black history to be compulsory in Welsh schools'. Roedd hynny'n bennawd. Diolch i Kirsty Williams am dderbyn yr holl argymhellion ac am gomisiynu Charlotte Williams i wneud y gwaith hwnnw yn y lle cyntaf, ond hefyd i ddweud y bydd hyfforddiant gwrth-hiliaeth ac amrywiaeth gorfodol i'n holl athrawon dan hyfforddiant ac athrawon dros dro—gan fabwysiadu'r argymhelliad hwnnw. A bydd hanes pobl dduon Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn orfodol mewn ysgolion. Bydd ysgoloriaethau i gefnogi mwy o fyfyrwyr duon Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i ddechrau hyfforddiant athrawon yn ogystal â chynnig cymorth mentora a chymdeithasol i athrawon o gefndiroedd duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae hwn yn newid sylfaenol y mae'n rhaid i ni ei weld yn dod yn ôl i'r Senedd ar ôl yr etholiad hwn. Ac mae yn bwysig bod y neges hon yn mynd allan heddiw, cyn yr etholiad, a bod arweinwyr y pleidiau gwleidyddol yng Nghymru yn sefyll yn erbyn hiliaeth yn ystod yr ymgyrch etholiadol hon. A dyna beth y byddem ni yn galw amdano, o ganlyniad i fy natganiad heddiw, o ran y disgwyliadau sydd arnom ni yn awr i gyflawni'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol hwn.
Ond byddaf i hefyd yn dweud eich bod chi wedi sôn am rai achosion cyfiawnder troseddol trasig iawn: marwolaethau diweddar Mohamud Hassan a Moyied Bashir—trychinebau llwyr—ac, wrth gwrs, rydym yn meddwl am eu teulu a'u ffrindiau yn y cyfnod hwn. Ac, wrth gwrs, wedi cyfeirio at ohebiaeth Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, a hefyd tynnu sylw at ganlyniadau'r achosion hynny. Ac, wrth gwrs, dyma le mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn achub ar bob cyfle, mewn modd tryloyw ac agored, i gefnogi ein cymunedau a'r rhai yr ydym yn eu cynrychioli. Ond rwy'n credu os byddwn yn symud ymlaen o ran y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol, y bydd, fel y dywedais yn fy natganiad, er budd pob un ohonom i fanteisio ar gyfleoedd y weledigaeth honno sy'n cyflawni Cymru wrth-hiliol a fydd ar ein cyfer ni, ar gyfer ein heconomi, ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus ac ar gyfer y bobl sydd wedi dioddef hiliaeth. Mae hynny, wrth gwrs, ar flaen ein nod a'n hamcanion. Diolch yn fawr.
Eitem 7 ar yr agenda yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021. Nid wyf i'n credu y byddaf yn gweld eisiau'r holl gromfachau. A gaf i alw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig hwnnw? Vaughan Gething.
Cynnig NDM7660 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Mawrth 2021.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig ger ein bron. Cwblhawyd yr adolygiad diweddaraf o'r rheoliadau cyfyngiadau coronafeirws ar 11 Mawrth. Ers y flwyddyn newydd, mae sefyllfa iechyd y cyhoedd wedi bod yn gwella'n gyson. O ganlyniad i ymdrechion pawb yng Nghymru, rydym wedi bod mewn sefyllfa i wneud newidiadau cam wrth gam gofalus i'r cyfyngiadau presennol. Darperir ar gyfer y newidiadau hynny gan y rheoliadau diwygio sydd ger ein bron heddiw, y cyfeirir atynt fel rheoliadau Rhif 5.
Rydym wedi bod yn glir mai ein prif flaenoriaeth yw galluogi plant i ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb cyn gynted â phosibl. Dychwelodd pob disgybl ysgol gynradd a'r rhai mewn blynyddoedd cymwysterau ar 15 Mawrth; bydd pob disgybl yn dychwelyd i ddysgu ac addysgu wyneb yn wyneb ar ôl gwyliau'r Pasg ar ddydd Llun, 12 Ebrill. O 13 Mawrth, disodlwyd y cyfyngiadau aros gartref gan y rheol 'aros yn lleol' dros dro newydd. Mae hyn yn golygu y gall pobl adael eu cartrefi a theithio o fewn eu hardal leol. Mae hynny fel arfer o fewn pum milltir, er, fel yr wyf wedi egluro o'r blaen, mae hyblygrwydd, yn enwedig o ystyried y realiti i bobl sy'n byw mewn rhannau mwy gwledig o'r wlad. Hefyd o'r dyddiad hwnnw, mae pedwar person o ddwy aelwyd wedi gallu cyfarfod yn yr awyr agored, gan gynnwys mewn gerddi, ond nid cheir cymysgu dan do o gwbl o hyd, a dylid cymryd camau cadw pellter cymdeithasol o hyd.
Gall cyfleusterau awyr agored ar gyfer chwaraeon ailagor, gan gynnwys cyrsiau golff. Gallan nhw gael eu defnyddio'n lleol gan hyd at bedwar o bobl o ddwy aelwyd. Mae ymweliadau dan do â chartrefi gofal wedi cael ailgychwyn hefyd ar gyfer ymwelwyr unigol, dynodedig. Ac, o 15 Mawrth, mae siopau trin gwallt a barbwyr wedi cael ailagor ar gyfer apwyntiadau. Os bydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau'n gadarnhaol, bydd yr holl wasanaethau cyswllt agos yn agor o 12 Ebrill.
Ddoe, dechreuodd y camau cyntaf tuag at ailagor manwerthu nad yw'n hanfodol. Codwyd y cyfyngiadau ar werthu eitemau nad ydyn nhw'n hanfodol ar gyfer siopau sydd eisoes ar agor. Mae canolfannau garddio wedi cael ailagor hefyd, ac, unwaith eto, os bydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau i fod yn gadarnhaol, bydd pob siop yn cael agor o 12 Ebrill, fel y maen nhw'n debygol o allu bod yn Lloegr.
Mae newidiadau eraill a wnaed yn cynnwys dileu'r angen i Weinidogion awdurdodi digwyddiadau chwaraeon elit unigol. Erbyn hyn, gellir defnyddio theatrau a neuaddau cyngherddau ar gyfer ymarferion, pa un a ydyn nhw'n gysylltiedig â darllediad ai peidio, ac, yn olaf, diwygiwyd y dyddiad y daw'r rheoliadau hyn i ben i 31 Mai eleni.
Yr wythnos hon, byddwn yn pwyso a mesur y dystiolaeth ddiweddaraf cyn cadarnhau rhagor o newidiadau ar gyfer gwyliau'r Pasg. Os bydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau i fod ar y lefel well hon, byddwn yn codi'r cyfyngiadau 'aros yn lleol' ar 27 Mawrth ac yn dechrau'r broses o agor rhan o'n sector dwristiaeth, gan ddechrau gyda llety hunangynhwysol. Bydd gweithgareddau plant awyr agored yn ailddechrau hefyd mewn pryd ar gyfer gwyliau'r Pasg, a chaiff llyfrgelloedd ailagor hefyd. Mae'r pecyn hwn yn nodi'r cam sylweddol cyntaf tuag at ddatgloi'r cyfyngiadau lefel rhybudd 4 y bu'n rhaid i bob un ohonom ni fyw gyda nhw ers canol mis Rhagfyr.
Bydd yr Aelodau yn ymwybodol ein bod ni wedi cyhoeddi cynllun rheoli coronafeirws wedi'i ddiweddaru yr wythnos diwethaf. Mae hyn yn ystyried y cynnydd mewn brechiadau a'r amrywiolion newydd heintus iawn, yn enwedig amrywiolyn Caint. Mae'n adnewyddu'r ddau ymyriad ar bob lefel a'r ystod o ddangosyddion y bydd Llywodraeth Cymru yn eu dadansoddi. Ein diben a'n dull gweithredu yw mynd ati i godi cyfyngiadau, ar yr amod bod y feirws yn parhau i gael ei atal yn effeithiol.
Roeddwn i'n siomedig felly o glywed arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ddoe yn honni mai'r rheswm y mae rhai o wleidyddion yng Nghymru yn dymuno cadw'r cyfyngiadau symud ar waith yw eu hego grym. Yn anffodus, aeth ymlaen wedyn i honni ei bod yn hurt i wleidyddion ar y chwith sy'n dymuno parhau â'r cyfyngiadau hyn yn ddiangen. Rwy'n gobeithio y bydd arweinydd yr wrthblaid yn myfyrio ac, rwy'n gobeithio, yn tynnu'r sylwadau hynny yn ôl. Bydd ffigwr uwch mewn bywyd cyhoeddus yn honni'n ddig bod y cyfyngiadau yr ydym yn byw gyda nhw wedi eu sbarduno gan ideoleg a'u bod yn ddiangen yn drwydded i rai i beidio â dilyn y rheolau, ac mae hynny'n arwain at ganlyniadau, mae arnaf i ofn. Roedd y sylwadau ac mae'r sylwadau yn anghywir, ac, yn fwy na hynny, maen nhw'n warthus o anghyfrifol. Mae'n fater o ffaith, wrth gwrs, wrth i ni siarad, fod mwy o gyfyngiadau ar waith yn Lloegr, ac nid oes a wnelo hynny ddim â chyfyngiadau yn cael eu hysgogi yn ddiangen gan wleidyddion ar y dde neu'r chwith; mae oherwydd ein bod yn byw trwy argyfwng iechyd cyhoeddus nad yw wedi dod i ben.
Rydym yn myfyrio heddiw ar flwyddyn ers y cyfyngiadau symud cyntaf. Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn hynod o heriol i bob un ohonom ni—y pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal, y niwed economaidd, COVID hir, yr effaith ar iechyd meddwl, yr ymyriadau eithriadol ac, wrth gwrs, colli bywyd. Rwyf wedi gwneud dewisiadau, Dirprwy Lywydd—dewisiadau anodd—i geisio cadw fy ngwlad yn ddiogel yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rwyf wedi cael fy ysgogi gan y dystiolaeth wyddonol a'r cyngor ar iechyd y cyhoedd a'r cyfrifoldeb anochel. Nid yw'r dewisiadau o ran cadw cyfyngiadau ar waith wedi eu hysgogi gan ego; mae'r cyfyngiadau yn cael eu codi, mewn gwirionedd, mor gyflym ac mor ddiogel ag y gallwn. A byddwn yn parhau i fod yn agored ac yn dryloyw gyda phobl Cymru. Byddwn yn parhau i gyhoeddi papurau gan ein grŵp cynghori technegol a chyngor ein prif swyddog meddygol. Rydym yn awr yn dechrau ar y cyfnod tyngedfennol nesaf yn y pandemig anorffenedig hwn. Gallwn yn wir gweld y golau ar ddiwedd y twnnel, ond nid yw wedi dod i ben eto.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod fore ddoe, ac mae ein hadroddiad yn cynnwys tri phwynt technegol a phum pwynt rhinwedd. Mae pob un o'r tri phwynt adrodd technegol yn tynnu sylw at yr hyn sy'n ymddangos yn faterion drafftio diffygiol. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i'r pwyntiau adrodd hyn yn cydnabod y gwallau hyn, ac rydym yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i wneud y cywiriadau angenrheidiol cyn gynted â phosibl.
Bydd tri o'n pwyntiau adrodd ar rinweddau yn gyfarwydd i'r Aelodau. Rydym wedi nodi cyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol, na fu ymgynghoriad ffurfiol ar y rheoliadau, ac nad oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i gynnal. Mae ein dau bwynt rhinwedd olaf yn ymwneud â materion pwysig yn ymwneud â sut y gall dinasyddion Cymru ddeall y gyfraith sy'n berthnasol iddyn nhw. Mae pwynt 7 yn ein hadroddiad yn nodi bod y newidiadau a ddaw i rym gan y rheoliadau yn cael effaith, i raddau helaeth, drwy ei gwneud yn ofynnol i ddarllenydd y rheoliadau ddarllen darpariaethau amrywiol mewn ffordd arbennig. Yn nodedig, gwahoddir darllenwyr i ddarllen Atodlen 4 i'r prif reoliadau fel pe bai geiriad yr Atodlen honno yn wahanol i'r union eiriad sy'n ymddangos ynddo. Defnyddiwyd y dull hwn yn hytrach na diwygio'r prif reoliadau. Rydym yn cydnabod mai'r rheswm am hyn yn rhannol yw bod y newidiadau yn gyfyngedig o ran amser. Rydym hefyd yn cydnabod y pwysau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu ar hyn o bryd yn hyn o beth. Fodd bynnag, mae defnyddio'r dull cymhleth hwn yn golygu ei bod yn debygol, mewn llawer o achosion, mai dim ond darllenwyr deddfwriaeth profiadol a allai ddarganfod gwir effaith y rheoliadau, ac mae hyn yn amlwg yn codi materion yn ymwneud â'r diffyg elfen o dryloywder yn y gyfraith.
Wrth ymateb i'n pryderon, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod, ar y cyfan, o'r farn mai dyma'r ffordd fwyaf priodol o wneud y newidiadau gofynnol wrth gadw'r prif ofynion a strwythur craidd Atodlen 4 yn gyfan. Mae ymateb y Llywodraeth hefyd yn dangos, er ei bod yn gobeithio na fydd angen, y byddai'r system y darperir ar ei chyfer yn y rheoliadau yn galluogi dychwelyd at gyfyngiadau llymach yn gyflymach, naill ai ar gyfer Cymru gyfan neu ran o Gymru. Yn ei hymateb i'n hadroddiad, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cydnabod pwysigrwydd y rheoliadau i'r cyhoedd.
Rydym yn croesawu penderfyniad y Llywodraeth i gyhoeddi dogfen enghreifftiol ar dudalennau coronafeirws a'r gyfraith yn llyw.cymru sy'n dangos y cyfyngiadau a'r gofynion lefel 4 rhybudd fel y maen nhw wedi eu haddasu dros dro. Rydym hefyd yn croesawu bwriad y Llywodraeth i ystyried ffyrdd o dynnu sylw'r cyhoedd at y ddogfen hon pe byddai'r dull drafftio hwn yn parhau i gael ei ddefnyddio yn y dyfodol.
Yn olaf, mae pwynt adrodd 8 yn dilyn y pwynt blaenorol ac yn tynnu sylw at ddrysfa arbennig o gymhleth o ddarpariaethau, sy'n cael eu hesbonio'n llawn yn ein hadroddiad. Mae'r pwynt yn ymwneud â'r newid a wnaed gan reoliad 3(2) o reoliadau diwygio Rhif 5. Felly, wrth ymateb i'n pryderon, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn ystyried bod y drafftio yn ddigon clir. Fodd bynnag, mae wedi cytuno i ystyried ffyrdd ychwanegol o sicrhau rhwyddineb y darpariaethau hyn pe byddai angen gwneud addasiad tebyg mewn rheoliadau diwygio yn y dyfodol. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Mae'r rhain yn rheoliadau eang, ac a gaf i ddweud i ddechrau dwi'n cefnogi'r cyfeiriad cyffredinol rydym ni'n symud iddo fo a chyflymder neu bwyll y symudiadau tuag at godi cyfyngiadau yn gyffredinol? O ran ailagor ysgolion a cholegau, rydym ni i gyd, dwi'n credu, yn gweld hynny fel blaenoriaeth. Dwi'n falch ein bod ni wedi symud o gyfnod aros gartref i aros yn lleol, ac, er mai mater o ganllawiau, nid rhywbeth sydd yn y rheoliadau eu hunain ydy hynny, dwi'n cefnogi'r sylweddoliad y tro yma, yn wahanol i'r llynedd, fod angen rhywfaint o hyblygrwydd wrth ystyried beth ydy 'lleol' a bod 'lleol' yn golygu rhywbeth gwahanol mewn ardaloedd gwledig a threfol. Dwi'n falch o weld llefydd trin gwallt ar agor. Dwi'n cyd-fynd â chaniatáu chwaraeon elît.
A rhoi sylw arbennig i ganiatáu hyd at bedwar oedolyn o ddwy aelwyd wahanol i ddod at ei gilydd yn yr awyr agored, yn cynnwys mewn gerddi, dwi yn croesawu hyn. Dyma'r cyfeiriad rydym ni eisiau bod yn mynd iddo fo, wrth gwrs, achos dyna'r math o lacio gofalus a diogel sydd wir yn gallu gwneud gwahaniaeth i lesiant pobl.
Dwi am egluro, serch hynny, pam mai ymatal ein pleidlais fyddwn ni heddiw. Dau beth yn arbennig. Dydw i ddim cweit yn deall pam fod y Llywodraeth wedi penderfynu caniatáu i archfarchnadoedd werthu unrhyw beth y mynnon nhw ar y pwynt yma yn arbennig. Mi allaf i ddweud wrthych chi fod llawer o fanwerthwyr yn gweld hyn fel tipyn o gic. Â ninnau, gobeithio, mor agos at weld siopau yn gyffredinol yn cael agor, pam rhoi cymaint o fantais i archfarchnadoedd mawr rŵan? Mae'r Llywodraeth, roeddwn i'n meddwl, wedi bod yn glir ers y llynedd bod rhoi tegwch i fanwerthwyr bach, yn ogystal â rhesymau diogelwch COVID, yn egwyddor greiddiol y tu ôl i beidio â chaniatáu gwerthu nwyddau doedd ddim yn hanfodol.
A'r elfen arall ydy buaswn i wedi licio gweld mwy o ymgais i drio caniatáu llefydd ymarfer corff i agor dan do. Hynny ydy, dydw i ddim wedi galw am ganiatáu agor pob gym yn syth. Dwi'n meddwl y byddai angen asesiadau risg a'r math yna o beth, ond dwi eto yn galw am roi'r hawl i lefydd ymarfer corff wneud yr achos o leiaf dros allu agor yn ddiogel. Mae ymarfer corff, wedi'r cyfan, yn dda i'r corff a'r meddwl ar ôl blwyddyn mor heriol.
Mi wnaf i apêl hefyd i'r Llywodraeth fireinio ei negeseuo a thrio gweithio ar roi cymaint o rybudd â phosib ymlaen llaw, yn sicr rhai wythnosau, o fwriad i lacio cyfyngiadau i helpu busnes i baratoi, a phob un ohonon ni i gael gwell syniad o beth sydd i ddod, er bod beth sy'n digwydd yn fy etholaeth i rŵan, yn ogystal ag ambell ran arall o Gymru, yn dangos bod y feirws yma a'r pandemig yn gallu newid cyfeiriad yn sydyn.
Pwynt arall gwnaf i dynnu sylw ato fo ydy ein bod ni rŵan mewn cyfnod lle mae rheoliadau yn mynd i fod yn mynd â ni y tu hwnt i gyfnod yr etholiad a ffurfio Llywodraeth newydd. Dydyn ni ddim yn gwybod pwy fydd yma bryd hynny, ond pwy bynnag fydd mi fydd angen gweithredu'n gyflym i sicrhau sylfaen o reoliadau sy'n berthnasol i'r sefyllfa ar y pryd.
Ac i gloi, yn sydyn gen i, ar y ffaith ein bod ni rŵan flwyddyn ers dechrau'r cyfnod clo cyntaf. Mae'n ddiwrnod o fyfyrio ac o gofio. Mae wedi bod yn flwyddyn anodd i bawb ac yn eithriadol o boenus i lawer. Dwi, mi ydym ni'n cydymdeimlo efo nhw heddiw ac, unwaith eto, yn dweud diolch i bawb sydd wedi gofalu amdanon ni a helpu eu cymunedau yn y flwyddyn ryfeddol a fu.
Fe wnes i rai sylwadau cyffredinol yn gynharach, ond o ran manylion y rheoliadau, rwy'n croesawu yn gyffredinol bod pethau yn symud i gyfeiriad rhyddfrydoli. Rwyf i yn cael trafferth deall pam, gan geisio cysylltu cyflymder agor i'r cyflymder y mae'r data'n gwella. Mae'n fy nharo bod data wedi bod yn gwella y tu hwnt i'n disgwyliadau gorau yn ystod yr wythnosau diwethaf, ond nid yw'n ymddangos bod hynny'n bwydo trwyddo i gyflymu'r broses o agor. Roedd gennym ni'r cyfyngiadau cam 4 ac mae'n ymddangos bod lefelau cyffredinol yr achosion a'r profion amrywiol a wnaed yn llawer mwy tebyg i lefel 2, ond nid yw'n ymddangos bod y rheoliadau'n symud ar gyflymder tebyg i ganiatáu i hynny agor. Rwy'n gwybod y bu llawer o sôn am amrywiolyn Caint, ond siawns bod hynny wedi ei ystyried yn yr ystadegau yr ydym yn eu gweld yn awr.
Rwy'n difaru—. Mae gennym ni rai newidiadau. Nid wyf i wedi manteisio ar y toriadau gwallt sydd ond ar gael yng Nghymru eto, ond rwy'n gwybod bod rhai pobl yn gwerthfawrogi hynny, ac mae hynny'n un maes lle'r ydym ar y blaen i Loegr. Y meysydd y mae'n ymddangos ein bod ar ei hôl hi: nid wyf i'n glir beth sy'n digwydd o ran ailagor campfeydd a chwaraeon dan do, na pham y mae'n rhaid gwneud hynny'n arafach. Rwy'n credu mai dim ond y gwahaniaethau bach hynny—. Unwaith eto, mae'r Gweinidog yn ymosod yn dda ar rywun o'r canol-de sy'n awgrymu bod gwleidyddion o'r canol-chwith yn fwy awyddus i reoli ac am reolau a rheoliadau. Fe wnaeth ddigio yn fawr ynghylch hynny. Ond unwaith eto, rwy'n gwneud y pwynt, i'r rhai hynny ohonom ni sy'n undebwyr ac y byddai'n well ganddyn nhw pe bai'r penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn hytrach na Llywodraeth Cymru, fod cael gwahaniaethau bach ar bob cam (a) yn cymhlethu'r cyfathrebu, ond (b) rwy'n credu ei bod yn rhoi heriau o ran cydymffurfio a fyddai'n llai pe byddai Llywodraeth Cymru yn ymdrechu'n fwy i gadw'n agosach at ddull pedair gwlad mewn mwy o feysydd ac yn nes at yr hyn yr oedd Llywodraeth y DU yn ei wneud.
Fy mhryder mwyaf ynghylch y rheoliadau hyn, neu o leiaf sut y maen nhw'n cael eu gweithredu ar lawr gwlad, yw ysgolion. Dywedwyd wrthym mai cael plant yn ôl i'r ysgol oedd y peth pwysicaf, ac eto dyma'r drydedd wythnos y mae pob plentyn wedi bod yn ôl yn Lloegr, ac eto rydym ni'n gweld niferoedd enfawr o blant yn dal i beidio â mynd i'r ysgol, yn gorfforol o leiaf, a byddwn i'n cwestiynu pa mor effeithiol yw rhai o'r addysgu ar-lein o'i gymharu, yng Nghymru. A dywedir wrthym y gall pobl alw i mewn, ond rwy'n siarad â phlant etholwyr sydd ag un diwrnod lle maen nhw'n galw i mewn, ym mlwyddyn 7, 8 neu 9, yn y cyfnod cyn y Pasg, ac rwyf i'n amau a yw hynny'n foddhaol ac na allem ni fod yn gwneud mwy yn hynny o beth. Rydym yn bwriadu ymatal ar y rheoliadau hyn. Diolch.
Nid oes urnhyw Aelod wedi dweud ei fod yn dymuno ymyrryd, felly galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Fe wnaf i ddechrau trwy ddiolch i Mick Antoniw a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad unwaith eto. Rydym yn mynd trwy'r meysydd y maen nhw'n eu codi yn rheolaidd i'w gwella neu eu hegluro, ac rwyf i'n dweud yn rheolaidd, ac fe wnaf i ddweud eto, rwy'n credu bod craffu yn golygu bod gennym ni lyfr statud gwell â mwy o eglurder i aelodau'r cyhoedd ac, yn hollbwysig, i bobl mewn busnesau ac ardaloedd a'u cynrychiolwyr cyfreithiol ddeall ystyr ac effaith y mesurau eithriadol hyn mewn darlun sy'n dal i symud yn gyflym. Ac efallai y bydd yn ofynnol i ni wneud rheoliadau gwahanol yn y dyfodol i gadw pobl yn ddiogel, ond rwyf i yn credu yn wirioneddol bod y pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn rhan allweddol o'n helpu i sicrhau bod hynny'n digwydd.
Rwy'n croesawu pwyntiau eang Rhun ap Iorwerth ynglŷn â chroesawu'r cyfeiriad a'r dull gofalus sydd wedi ei gymryd. Rwy'n nodi bod ei grŵp yn mynd i ymatal. O ran manwerthu nad yw'n hanfodol, roedd gennym ni ddewis anodd i'w wneud, nid un syml, ynghylch p'un a ydym yn agor meysydd newydd, a gallai hynny ynddo'i hun fod yn anniben ac yn gymhleth, neu a ydym yn ailagor y lleoliadau hynny sydd eisoes ar agor a byddai hynny wedi bod yn dderbyniol dim ond yn y ffordd yr ydym wedi gwneud hynny, o ran sicrhau bod rhagor o gymorth ar gael i'r busnesau hynny nad ydyn nhw eto wedi gallu agor, er y gallan nhw i gyd weld y datganid clir mai 12 Ebrill fydd y dyddiad i ailagor yn llawnach. Ac unwaith eto, daw hynny yn ôl at y pwynt ynglŷn â phroses ddychwelyd raddol briodol a gallu rhagweld y newidiadau hynny. Ac mae'r broses ddychwelyd raddol i ysgolion wedi golygu ein bod wedi bod â rhywfaint o le i wneud pethau'n wahanol, ond nid i'r graddau y gallem ni agor yr holl fanwerthu nad yw'n hanfodol ar yr un pryd, ac felly bu'n rhaid gwneud dewis.
O ran eich pryder ynglŷn â chydbwysedd ymarfer corff dan do ac yn yr awyr agored—ac rwy'n sylwi na wnaethoch chi roi term absoliwt, gan ddweud agor llawer mwy o ymarfer dan do—mae'n dod yn ôl at bwynt rwy'n credu y gwnaethoch chi yn gynharach yn eich cyfraniad: mae tuedd i weithgareddau awyr agored fod yn llai peryglus, a dyna pam—fel y gwnaethom yr haf diwethaf a'r gwanwyn diwethaf—ein bod yn ceisio agor gweithgareddau awyr agored fel arfer yn gyntaf o ran ymarfer corff a chymysgu posibl. Mae hynny'n ffordd fwy diogel o wneud hyn. Rydym yn ystyried agor ymarfer corff dan do a gweithgarwch dan do yn fwy graddol, ac wrth gwrs mae'n rhaid i ni feddwl am gydbwysedd y risg a'r lle sydd ar gael i ni yn y cyngor yr ydym yn ei gael gan ein cynghorwyr gwyddonol a'r prif swyddog meddygol.
Er hynny, rydym ni wedi darparu rhagolwg ar gyfer y dyfodol; mae gennym syniad o ryw chwe wythnos o'r hyn sy'n debygol o ddigwydd yn ein barn ni, ond ni allwn warantu y bydd y pethau hynny yn digwydd. Fel y gŵyr yr Aelod, yn eich cyfeiriad at faterion yn eich ardal leol chi o amgylch Caergybi, mae'n bosibl y gall amgylchiadau newid, mae'n bosibl y byddwn yn gweld cynnydd anffodus a mwy eang yn nifer yr achosion a allai olygu bod angen i ni oedi. Felly, fel arfer, dyna pam yr ydym yn cael ein hysgogi gan ddata ac nid dyddiadau ar y cyfan.
Fe wnaf i ymdrin â phwynt Mark Reckless, ac rwy'n credu, pan ddaw'n fater o'r data yn symud yn gyflymach na'r broses agor, rwy'n credu, â phob parch, nad yw hynny'n ystyried y cyngor clir yr ydym wedi ei gael ac yr ydym wedi ei gyhoeddi, nac ychwaith y sylwadau cyhoeddus iawn gan y grŵp cynghori technegol, gan y pwyllgor SAGE, a gan brif swyddogion meddygol ledled y DU. Mae Prif Swyddog Meddygol Lloegr wedi rhoi cyngor clir iawn ar beidio ag ailagor yn rhy gyflym, oherwydd byddai hynny'n peryglu heintiau coronafeirws yn dychwelyd yn sylweddol gyda'r holl niwed a achosir yn gorfforol, yn feddyliol ac, yn hollbwysig, yn economaidd hefyd. Rwy'n cydnabod bod gan yr Aelod awydd i weld cymaint o ryddfrydoli cyn gynted â phosibl; rydym ni, yn syml, yn ystyried cyngor iechyd y cyhoedd a gwyddonol o ddifrif ar sut i wneud hynny mor ddiogel â phosibl cyn gynted â phosibl, a dyna fydd y sefyllfa o hyd yn ystod oes y Llywodraeth hon.
Sylwaf iddo ddigio ar ran Andrew R.T. Davies. Rwy'n credu, â phob parch, pan fo arweinydd yr wrthblaid yn gwneud y sylwadau a wnaeth ac yn ensynio cymhellion y gwleidyddion sy'n gwneud dewisiadau eithriadol o anodd, nid wyf i'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylid ei adael heb roi sylw arno. Ac rwy'n credu, â phob parch, ei fod wedi cymryd pwynt llawer ehangach o'r materion penodol iawn, lle'r wyf i yn credu y dylai arweinydd yr wrthblaid fyfyrio ar y safbwynt y mae wedi ei nodi yn gyhoeddus. Nid yw'r rheoliadau hyn a'r mesurau y bu'n rhaid i mi eu cyflwyno—y mesurau y bu'n rhaid i holl Aelodau'r Cabinet gymryd rhan ynddyn nhw—wedi eu gwneud oherwydd ego, ond oherwydd realiti ein sefyllfa, ac ar ddiwrnod pan rydym yn myfyrio ar flwyddyn o gyfyngiadau symud ers yr un cyntaf a'r golled anhygoel mewn bywydau yr ydym wedi'i gweld er gwaethaf y mesurau hynny, rwyf i'n credu ei fod yn ddewis gwael o naws yn ogystal â chynnwys bwriadol y geiriau hynny ddoe gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig i awgrymu bod egos amherthnasol ac ideolegol eraill, yn hytrach na chadw'r cyhoedd yn ddiogel.
O ran bod yn undebwr, rwy'n dweud fy mod i'n undebwr hefyd. Ond nid wyf i'n dymuno troi datganoli yn ôl yn y ffordd y mae ef yn dymuno'i wneud. Mae'r pwerau y mae pobl Cymru wedi pleidleisio amdanyn nhw ar ddau achlysur yn golygu mai dyma pam yr ydym yn cael y dadleuon hyn, dyma pam y mae Gweinidogion Cymru yn gwneud yr ystod o benderfyniadau yr ydym wedi eu gwneud. Ac â phob parch, mae'n gwybod yn iawn ein bod yn anghytuno ar hyn, ond rwyf i yn gwrthwynebu'r awgrym i fod yn undebwr mae'n rhaid i chi fod o blaid troi pwerau yn ôl a'u hanfon yn ôl i San Steffan, yn hytrach na rhannu cyfrifoldeb a phwerau yn briodol ledled y Deyrnas Unedig mewn modd sy'n parchu'r ddau refferendwm datganoli yr ydym wedi eu cael. Ac roeddwn i yn meddwl bod Mr Reckless yn hoffi parchu canlyniadau refferenda, ond nid yn yr achos hwn yn ôl pob tebyg.
Pan ddaw'n fater o ddychwelyd i ysgolion yn raddol, rydym yn parchu'r cyngor gan SAGE a'n grŵp cynghori technegol ein hunain a'r prif swyddog meddygol. Mae dychwelyd yn raddol i ysgolion—
Mae angen i'r Gweinidog ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda. Mae'n ddrwg gen i, mae amser yn brin.
Rwy'n dirwyn i ben yn fan hyn. Ac mae hynny'n golygu ein bod yn gwneud yn union fel y mae'r cyngor wedi ei ddweud. Rwy'n edrych ymlaen at weld pob plentyn yn dychwelyd i addysg wyneb yn wyneb ar 12 Ebrill yn unol â'r cyngor yr ydym wedi ei gael, a sut yr ydym yn ceisio defnyddio'r hyblygrwydd arall sydd ar gael i ni. Rwy'n gobeithio y bydd y mwyafrif o'r Aelodau yn cefnogi'r rheoliadau sydd ger ein bron.
Diolch. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwelaf wrthwynebiad. Iawn, felly gohiriwn bleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda yw'r cynnig i atal y Rheolau Sefydlog er mwyn caniatáu i'r cynigion o dan eitemau 8 a 10 ar ein hagenda gael eu trafod, a galwaf ar y Gweinidog Addysg i gynnig y cynnig. Kirsty Williams.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021—
Na. Mae'n ddrwg gen i, a wnewch chi gynnig y cynnig yn ffurfiol i atal y Rheolau Sefydlog? Yna, byddwn yn dod i'r ddadl, os cawn atal y Rheolau Sefydlog.
Cynnig NNDM7686 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a Rheol Sefydlog 27.7 i ganiatáu i NNDM7684 a NNDM7685 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar 23 Mawrth 2021.
Cynigiwyd y cynnig.
Mae'n ddrwg gen i. Cynigiaf y cynnig.
Diolch. Y cynnig yw atal y Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, nid wyf i'n gweld unrhyw wrthwynebiad. Felly, symudwn ymlaen.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cynnig, o dan Reol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, yw y bydd y pedwar cynnig o dan eitemau 8 i 11, y rheoliadau anghenion dysgu ychwanegol, yn cael eu grwpio i'w trafod, ond byddwn wedyn yn pleidleisio ar wahân. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, nid wyf i'n gweld gwrthwynebiadau.
Felly, gofynnaf yn awr i'r Gweinidog Addysg gynnig y cynigion. Kirsty Williams.
Cynnig NNDM7684 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o God Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2021.
Cynnig NDM7665 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Mawrth 2021.
Cynnig NNDM7685 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Galluedd rhieni a phersonau sy'n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2021.
Cynnig NDM7662 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 2021 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2021.
Cynigiwyd y cynigion.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac ymddiheuriadau. Roeddwn yn mynd i egluro i fy nghyd-Aelodau pam mae angen i ni atal y Rheolau Sefydlog, ond rwy'n ddiolchgar i fy nghyd-Aelodau am ganiatáu i hynny ddigwydd fel y gall y ddadl hon fynd rhagddi yn awr. Rwy'n ddiolchgar iawn am waith Mick Antoniw a'i bwyllgor a wnaeth eu gwaith craffu ar y Gorchmynion hyn ddoe. Rwy'n ddiolchgar iddyn nhw.
Yn 2016, Dirprwy Lywydd, cyflwynodd y Llywodraeth hon ddeddfwriaeth uchelgeisiol newydd a baratôdd y ffordd ar gyfer system arloesol i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, sef Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru), a ddaeth yn Ddeddf yn 2018. Y Ddeddf oedd y cam cyntaf yn y rhaglen trawsnewid ADY a'r cam cyntaf tuag at gyflawni ymrwymiad hirsefydlog a blaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon, i ddiwygio'r system anghenion addysgol arbennig bresennol yng Nghymru, system sydd dros 30 mlwydd oed ac sy'n cyflwyno heriau sylweddol i ddysgwyr a'u teuluoedd. Ers yr ymgynghoriad ar ddrafft y cod ADY a'r rheoliadau yn ôl yn 2019, rydym wedi gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i gyd-lunio a helpu i ffurfio'r is-ddeddfwriaeth i sicrhau'r effaith gadarnhaol fwyaf posibl ar blant a phobl ifanc ag ADY, a heddiw rwy'n falch iawn o allu cyflwyno'r cod a'r rheoliadau ADY dilynol i'r Aelodau.
Fel y bydd fy nghyd-Aelodau yn gwybod, bydd gan bron i chwarter yr holl blant a phobl ifanc yn ein hysgolion a'n colegau ryw fath o ADY yn ystod eu bywyd addysgol. Nod ein rhaglen trawsnewid ADY yw sicrhau bod y dysgwyr hynny'n cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial llawn, ac i sicrhau eu bod yn gallu bod â dyheadau ar gyfer eu dysgu, i fod â breuddwydion mawr ac i fod â hyder y byddan nhw, pa lwybr bynnag y byddan nhw'n ei ddilyn mewn bywyd ac addysg, yn cael eu cynorthwyo i wneud hynny. Bydd hefyd yn gwella'r broses o gynllunio a darparu cymorth i ddysgwyr ag ADY o ddim i 25 oed, gan greu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n rhoi eu hanghenion, eu safbwyntiau, eu dymuniadau a'u teimladau wrth wraidd y broses. Yn olaf, bydd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd nodi anghenion yn gynnar a rhoi ymyriadau amserol ac effeithiol ar waith a gaiff eu monitro a'u haddasu i sicrhau eu bod yn cyflawni'r canlyniadau a ddymunir ar gyfer y dysgwr unigol. Mae cael fframwaith deddfwriaethol addas ar waith i gynorthwyo dysgwyr i ffynnu a chyrraedd eu potensial llawn wrth gydnabod a diwallu eu hanghenion yn hanfodol, ac er mwyn cyflawni hyn, mae angen i ni sicrhau bod gan ein darparwyr gwasanaethau gyfraith ac arweiniad clir i'w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod darparwyr yn gallu darparu'r ddarpariaeth dysgu ychwanegol amserol ac effeithiol honno i'r rhai sydd ei hangen, a byddem ni i gyd yn dymuno gweld hynny.
Mae'r cod ADY a'r rheoliadau a gyflwynir i chi heddiw yn darparu'r gyfraith a'r arweiniad clir hwnnw ac yn cynrychioli cam arall ymlaen tuag at gyflwyno system gyson a llawer gwell ar gyfer diwallu anghenion dysgwyr ag ADY, rhywbeth sy'n hanfodol ar gyfer cynyddu cyfleoedd bywyd rhai o'n dysgwyr mwyaf agored i niwed. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf i alw yn awr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw?
Diolch eto, Dirprwy Lywydd. Mae'r rheoliadau hyn, wrth gwrs, yn rhan bwysig o'r system cyfiawnder gweinyddol ddatganoledig sydd gennym ac sy'n datblygu yng Nghymru. Fe wnaethom ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod fore ddoe, ac mae ein hadroddiadau ar bob un o'r pedair cyfres o reoliadau wedi eu cyflwyno i gynorthwyo gyda'r ddadl y prynhawn yma. Bydd fy sylwadau y prynhawn yma yn canolbwyntio ar y rheoliadau anghenion dysgu ychwanegol a rheoliadau tribiwnlys addysg Cymru yn unig.
Mae ein hadroddiad ar y rheoliadau ADY yn cynnwys un pwynt rhinwedd yn unig. Mae'r memorandwm esboniadol i'r rheoliadau yn ddogfen gyfansawdd sy'n ceisio ymdrin â'r gyfres o reoliadau a'r cod ymarfer cysylltiedig, a gyhoeddwyd ar yr un pryd. Fe wnaethom nodi bod y memorandwm esboniadol yn ymdrin yn fanwl â chanlyniadau'r ymgynghoriad, yr asesiad o'r effaith ar gyfiawnder a'r asesiad effaith rheoleiddiol manwl. Fodd bynnag, ac o gofio pwnc y rheoliadau, nid oedd yn glir i ni a gynhaliwyd yr asesiadau manwl o'r effaith ar gydraddoldeb a hawliau dynol hefyd. Os oes asesiadau effaith perthnasol wedi eu cynnal, fe wnaethom ni ddweud y byddai'n ddefnyddiol cynnwys cyfeiriad atyn nhw a'u canfyddiadau yn y memorandwm esboniadol i asesu cymesuredd y rheoliadau.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Mewn ymateb i'n pwynt adrodd, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei bod wedi cynnal asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb yn rhan o'r asesiad effaith integredig ar gyfer y pecyn o reoliadau sydd ger ein bron heddiw. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu manylion yn ymwneud â ble y gellir dod o hyd i'r crynodeb o'r asesiad effaith integredig hwnnw ar ei thudalennau gwe, ac rydym yn ddiolchgar am hynny.
Gan droi yn awr at reoliadau'r tribiwnlysoedd addysg, mae ein hadroddiad ar y rheoliadau yn cynnwys pum pwynt technegol ac un pwynt rhinwedd. Gan ymdrin â'r pwynt rhinwedd yn gyntaf, mae ein hadroddiad yn nodi bod y rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 1 Medi 2021, yn cynnwys cyfeiriadau at ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 nad ydyn nhw wedi eu cychwyn eto. Felly, bydd angen i Weinidogion Cymru ddod â darpariaethau perthnasol Deddf 2018 i rym erbyn 1 Medi er mwyn i ddarpariaethau perthnasol y rheoliadau hyn weithredu'n effeithiol.
Mae pedwar o'n pwyntiau adrodd technegol yn ymwneud â materion drafftio diffygiol posibl. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymchwilio i'n pryderon ac, yn ei barn hi, nid yw o'r farn bod unrhyw un o'r pedwar pwynt yr ydym yn eu codi yn gyfystyr â darpariaethau diffygiol yn y rheoliadau. Nododd ein pumed pwynt adrodd technegol, er bod rheoliad 64 wedi ei gynnwys o dan bennawd cyffredinol 'plant nad oes ganddynt alluedd a chyfeillion achos', nad yw'n ymddangos bod rheoliad 64 yn gysylltiedig â'r pennawd hwn. Fe wnaethom awgrymu bod rheoliad 64 yn ymwneud yn hytrach ag argymhellion y tribiwnlys addysg i gorff GIG. Er ein bod yn derbyn nad oes effaith gyfreithiol i benawdau mewn rheoliadau, fe wnaethom godi'r pwynt hwn oherwydd y gall beri dryswch i'r darllenydd. Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn ceisio unioni'r mater hwn drwy ffurflen gywiro. Diolch, Llywydd.
Cyn i mi fynd ymlaen at y cod ei hun, tybed a gaf i dynnu sylw at reoliadau'r Ddeddf cydraddoldeb sy'n cael eu trafod heddiw, oherwydd eu bod yn cyflwyno amddiffyniad ychwanegol i bobl ifanc sy'n herio eu hysgol, drwy eiriolwr os oes angen, ar sail gwahaniaethu. Ac rwy'n ei godi oherwydd bod y cod ADY hefyd wedi gwella ei gynnwys o ran galluedd meddyliol yn y bennod 31 newydd. Yr hyn sy'n ddiddorol, wrth gwrs, ynghylch rheoliadau'r Ddeddf cydraddoldeb yw eu bod nhw hefyd yn cynnwys pobl ifanc y tu hwnt i oedran ysgol gorfodol. Ac rwy'n gwerthfawrogi bod y ddeddfwriaeth yn cynnwys pobl ifanc hyd at 25 oed os oes angen, ond mae COVID wedi dangos i ni pa mor fregus a thameidiog y gall y cam addysg fod ar gyfer pobl ifanc ôl-16 heb anableddau os nad ydym yn ofalus, a tybed a yw'r amser wedi dod i ymestyn oedran addysg neu hyfforddiant gorfodol i 18 oed o'r diwedd.
Rwy'n credu y byddai cam o'r fath hefyd yn datrys problem eithriadol gyda'r cod ei hun, sef darpariaeth trafnidiaeth sicr, ddiogel a hygyrch i bobl ifanc ag ADY sydd y tu hwnt i oedran ysgol gorfodol, ond sy'n dal i fynychu, ac efallai rhai o'r pryderon eraill a godwyd gan Natspec a Chynghrair Anghenion Ychwanegol y Trydydd Sector. Byddwch yn gwybod, Gweinidog, fod rhywfaint o bryder o hyd ynghylch yr atebolrwydd am drosglwyddo i addysg ôl-orfodol, yn ogystal â bywydau ar ôl addysg, yn enwedig o ran cyngor gyrfaoedd, y mae angen iddo fod yn fwy arbenigol, yn hytrach na llai. Mae'r sefydliadau hyn yn poeni y gallai diffyg eglurder ac atebolrwydd arwain at wneud penderfyniadau hwyr, trosglwyddiadau wedi'u cynllunio'n wael, y perygl o fethiannau mewn lleoliadau, a chynnydd mewn tribiwnlysoedd a nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Gallaf weld bod y gwaith wedi ei wneud ar hyn, ond roedd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn eithaf clir na all y gwaith hwnnw arwain at ymateb symbolaidd yn unig.
At hynny, o ran y cod ei hun, rwy'n diolch i'r Gweinidog am ystyried rhai o argymhellion y pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y cod drafft—argymhellion a wnaethom yn dilyn ein hymgynghoriad trylwyr ein hunain. Mae'r deunydd ar CADY wedi gwella, ond mae'r sector wedi tynnu sylw at y ffaith bod bwlch eglurder o hyd rhwng canllawiau a sut i weithredu'r canllawiau hynny, ac er fy mod i'n deall yn llwyr eich amharodrwydd i fod yn rhagnodol, gan fod pob awdurdod yn wahanol, bydd yn ddiddorol, yn yr adolygiad cyntaf ar ôl cyflwyno, gweld ble mae'r anghysondebau a sut y maen nhw'n effeithio ar blant. Bydd anghysondeb a diffyg adnoddau, yn ddynol ac yn ariannol, yn parhau i fod yn fygythiad i lwyddiant y Ddeddf.
Yn olaf, rwy'n falch iawn o weld yr angen am seicolegwyr addysg wedi ei gynnwys yn y rheoliadau hyn, Gweinidog. Gan fod cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn fy rhanbarth i yn ystyried gorfod cael gwared ar rai o'u rhai nhw, byddai croeso mawr i e-bost cynnar i'w prif weithredwr. Felly, byddwn yn cefnogi'r cynigion hyn ar y sail na fydd y pryderon a godwyd ar ran plant a phobl ifanc ag ADY yn cael eu hanghofio, y bydd y cod yn cael ei brofi'n ymarferol a data eu casglu yn drylwyr, ac y bydd unrhyw newidiadau a nodwyd yn cael eu gwneud yn gyflym. A bydd angen i Weinidog cyllid yn y dyfodol fod yn barod i ymrwymo'r arian ar gyfer hyn hefyd, rwy'n credu. Mae'r cod yn dal i roi lle i awdurdodau wneud penderfyniadau sy'n cael eu gyrru gan gyllid, a oedd, wrth gwrs, yn un o'r prif gwynion am y system anghenion addysgol arbennig. Mae pob un ohonom yn dymuno i'r Ddeddf hon weithio, fel bod gan ein plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed, a'u teuluoedd, ddyfodol i edrych ymlaen ato. Diolch.
Mae rhanddeiliaid yn y maes yma wedi codi, ac maen nhw'n dal i godi, nifer fawr o bryderon ynglŷn â'r cod yma, gan gynnwys ansawdd gwybodaeth a chyngor, pontio a'r sefyllfa ôl-16, cymwysterau'r cydlynwyr a'r ffaith nad ydy'r cod yn god ymarfer, y broses apeliadau, a'r amser adolygu. Mae hynny'n rhestr hir o bryderon, ac mae angen i'r Llywodraeth ymateb i bob un ohonyn nhw a chynnig mwy o sicrwydd i'r rhanddeiliaid allweddol. Dwi ddim yn mynd i ofyn ichi sôn am bob un o'r materion dwi wedi eu rhestru brynhawn yma, yn amlwg, neu fe fyddwn ni yma am oriau, ond a fedrwch chi roi sicrwydd i'r Senedd nad ydy'r pryderon dilys yma yn mynd i gael eu gwthio o dan y carped, a pha drefniadau, felly, fydd yn cael eu rhoi ar waith i leddfu'r pryderon yma?
Ar hyn o bryd, mae yna tua 100,000, neu 21 y cant, o blant oed ysgol yn cael eu diffinio fel rhai gydag anghenion addysgol arbennig, sef term yr hen system, wrth gwrs. Roedd Llywodraeth Cymru yn disgwyl y byddai nifer y disgyblion ysgol fydd yn cael cymorth o dan y system newydd—y system anghenion dysgu ychwanegol—rywbeth yn debyg i'r nifer sy'n cael cymorth ar hyn o bryd, ond mi ydw i'n clywed gan nifer o athrawon ac arbenigwyr fod yna bryder bod y pandemig wedi creu sefyllfa lle bydd yna lawer iawn mwy o blant angen cymorth ychwanegol, ond, oherwydd y diffiniad newydd, y bydd hi'n anoddach iddyn nhw ei gael o. Beth ydy eich ymateb chi i hynny, a sut mae gweddill y system yn mynd i ymdopi efo'r heriau newydd o ran mwy o blant angen cymorth, efallai, efo anghenion ychwanegol yn sgil y pandemig?
Ac i gloi, a gaf i jest sôn am un o'r pryderon y gwnes i sôn amdanyn nhw ar y dechrau, sef y ffaith nad ydy'r cod yn god ymarfer ac felly ei fod o'n agored i ddehongliad reit eang? Gallai hynny gael effaith andwyol ar bobl ifanc sydd efo anghenion isel, ac anghenion uchel, a bod y drysau ar agor ar gyfer loteri cod post yn y ddarpariaeth. Ac er bod gweithdrefnau'r tribiwnlys ar waith i herio penderfyniadau sydd wedi eu gwneud, oni fydd angen cryn ddyfalbarhad gan rieni i herio penderfyniadau, ac, unwaith eto, y teuluoedd tlotaf yn methu ag ymlwybro eu ffordd drwy system gymhleth? Diolch.
Rwy'n credu y bydd gan genedlaethau'r dyfodol lawer iawn i ddiolch i'r Gweinidog hwn amdano. Bydd y diwygiadau y mae wedi eu gwneud mewn pum mlynedd yn gwrthsefyll prawf amser. Trwy osod y rheoliadau hyn a'r cod hwn heddiw, bydd hefyd yn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cael ei adael ar ôl, ac mae hynny'n record eithriadol o un tymor seneddol.
Pan wnaethom gyflwyno'r ddeddfwriaeth yn ôl yn 2016, roedd uchelgais glir—uchelgais glir—i sicrhau bod ein system addysg yn darparu ar gyfer pawb, beth bynnag fo'u hanghenion, beth bynnag fo'u gofynion, a bod addysg ar gael i bawb a bod pob pawb yn cael yr un cyfle i gyflawni eu potensial. Gosododd y ddeddfwriaeth sail y system hon, ac mae'r cod hwn yn ei chyflawni. Rwy'n falch iawn o fod wedi chwarae fy rhan i fynd â rhywfaint o'r ddeddfwriaeth hon drwodd. Mae'n werth nodi, yn ystod y cam olaf hwn o'r broses, fod y Gweinidog sydd yma heddiw wedi sefyll a gweithio'n galed gyda mi ac ochr yn ochr â mi i wneud hynny. Cawsom gefnogaeth lawn ei swyddfa ar bob cam y gwnaethom ei gymryd ac ym mhob dadl a thrafodaeth a gawsom, ac mae'n werth myfyrio, wrth i ni, rwy'n gobeithio, i gyd ymuno â'n gilydd i bleidleisio dros y cod hwn heddiw, fod hyn yn rhoi rhai dysgwyr sy'n gorfod wynebu a goresgyn rhai o'r anawsterau mwyaf posibl wrth ddysgu wrth wraidd yr hyn yr ydym yn ei wneud a'r hyn yr ydym yn ei gyflawni. Nid yw'r cod wedi ei ddyfeisio ym Mharc Cathays ond mae wedi ei greu gan y sgyrsiau ar hyd a lled Cymru gyda phobl sy'n darparu addysg ac nid dim ond siarad amdani, gyda rhieni a gyda dysgwyr, yn siarad â'i gilydd, gwrando ar ei gilydd ac yn dysgu oddi wrth ei gilydd. Gwelais a chymerais ran mewn rhai o'r sgyrsiau hynny, ac rwyf i hefyd wedi gweld sut y mae'r Gweinidog heddiw wedi gyrru'r broses hon drwodd gyda'r un penderfyniad a'r un rhagwelediad ag yr ydym wedi eu gweld ar faterion eraill.
Felly, byddaf yn falch iawn o gefnogi'r cod hwn y prynhawn yma, yn falch iawn o bleidleisio dros y ddeddfwriaeth hon, yn falch iawn o bleidleisio i roi dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol wrth wraidd ein taith, ac yn falch iawn, hefyd, o gofnodi fy niolch a fy ngwerthfawrogiad fy hun i'r Gweinidog am wneud i hyn ddigwydd.
Y Gweinidog Addysg i ymateb i'r ddadl—Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. A gaf i ddiolch i fy nghyd-Aelodau am eu sylwadau a chydnabod y gwaith a wnaeth Alun Davies ar y Bil ADY pan oedd yn gwasanaethu fel fy nirprwy yn yr adran addysg? Rwy'n ddiolchgar iawn am hynny ac rwy'n gwybod ei ymrwymiad personol ei hun i'r agenda hon.
Cododd Suzy a Siân Gwenllian nifer o faterion. A gaf i geisio ymateb, mor fyr ag y gallaf, Llywydd? Rwy'n gweld ei bod yn hwyr. O ran trafnidiaeth, mae'r ddarpariaeth ar gyfer trafnidiaeth yn dod o dan gyfraith ar wahân, sef Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Fodd bynnag, mae'r cod ADY yn darparu ar gyfer adran yn ffurflen safonol y cynllun datblygu unigol i gofnodi trefniadau teithio lle y gallai hyn fod yn briodol. A gaf i ddweud, nid oedd hynny'n rhywbeth a oedd yn y cod gwreiddiol, ond cafodd ei newid o ganlyniad i sgyrsiau ac ymgynghori i fynd i'r afael â phryderon a godwyd? Ac rwyf i hefyd yn awyddus iawn i sicrhau'r Aelodau nad wyf i'n credu y bydd y diwygiadau yn codi'r bar ar gyfer darparu CDU. Nid yw'r prawf i benderfynu pwy sydd ag ADY wedi newid, ac mae'r dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy'n egwyddor ganolog i'r system yna, ac felly nid wyf i'n credu y bydd dysgwyr â lefelau is o ADY o dan anfantais mewn unrhyw ffordd. A byddwch yn dawel eich meddwl, o dan y system ADY newydd bydd gan blant y nodir bod ganddyn nhw ADY hawl i CDU.
O ran y mater o oedran gadael ysgol gorfodol, Suzy, fe'ch cyfeiriaf at ddarn o waith y gwnes i ei gomisiynu fel ymchwil polisi annibynnol i ystyried yr oedran gorfodol. Fe'i cyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru, rwy'n credu, fis diwethaf. Mae'n adolygiad interim o'r dystiolaeth sydd ar gael, ledled y byd, ynghylch a ddylid codi oedran ysgol gorfodol. Mae'n rhaid i mi ddweud, cefais fy synnu braidd gan y canfyddiadau, ac wrth gwrs mae amser wedi gweithio yn fy erbyn i allu bwrw ymlaen â hynny. Ond rwy'n credu ei bod yn sicr yn ddadl y bydd angen parhau â hi yn y tymor nesaf, a gobeithio y bydd y gwaith sydd wedi ei wneud yn y tymor hwn yn helpu i lywio'r camau nesaf yn hynny o beth.
Fel y dywedodd Alun Davies, yr holl bwyslais yn y ddeddfwriaeth newydd hon yw sicrhau bod gan bawb sy'n gweithio gyda'n plant ag ADY y sgiliau cywir a'u bod yn gallu defnyddio'r system, ac mae'r cod hwn yn rhan bwysig o hynny, wrth wneud y Ddeddf yn real i bobl. Mae pum arweinydd trawsnewid ADY wedi bod ar waith ers 2018, yn rhoi cyngor, cymorth a her i awdurdodau lleol, ysgolion, lleoliadau blynyddoedd cynnar a sefydliadau addysg bellach wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer gweithredu'r diwygiadau. Bydd ein harweinwyr trawsnewid ADY hefyd yn monitro gweithrediad y system newydd ar lawr gwlad ac yn gallu bwydo'n ôl i weld a oes newidiadau y byddai angen eu gwneud.
Gyda'ch cymeradwyaeth heddiw, rwy'n credu y bydd yn nodi cam nesaf pwysig yn ein hagenda ddiwygio yma yng Nghymru, a bydd ganddi arwydd clir i'r genedl bod y Senedd wedi gweithio'n galed, ochr yn ochr â'r Llywodraeth, i sicrhau'r canlyniadau a'r cyfleoedd gorau i blant a phobl ifanc ag ADY. Rwy'n annog yr Aelodau i ddangos eu cefnogaeth y prynhawn yma. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dydw i ddim yn gweld gwrthwynebiad, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yr eitem nesaf yw eitem 12, a'r eitem hynny yw'r Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2021. Dwi'n galw ar y Gweinidog cyllid.
Diolch, Llywydd. Rwyf i'n falch o gyflwyno—
Mae'n ddrwg gennyf i, a gaf i dorri ar eich traws chi? Mae'n ddrwg gennyf i, Gweinidog, rwyf i—. A ie, rwy'n gweld beth yr wyf i wedi'i wneud. Rwyf i wedi symud ymlaen yn rhy gyflym. Mae angen i mi holi ynghylch yr holl gynigion a gafodd eu trafod yn ystod y ddadl ddiwethaf.
Fe af i drwyddyn nhw un wrth un. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad, ac felly mae'r bleidlais ar eitem 9 yn cael ei gohirio tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 10? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad eto, ac felly mae eitem 10 yn mynd i gael ei phleidleisio arni yn ystod y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Y cwestiwn, felly, i orffen yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 11? A oes Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, ac felly rwy'n gohirio'r bleidlais yna hefyd.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Sydd yn dod â ni nawr at y Gorchymyn ystadegau swyddogol. Ymddiheuriadau i'r Gweinidog. Gall y Gweinidog nawr gynnig y Gorchymyn yma. Rebecca Evans.
Cynnig NDM7661 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2021.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Mae'n bleser gennyf i gyflwyno Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2021. Mae'r pŵer i Weinidogion Cymru wneud y Gorchymyn wedi'i gynnwys yn adran 6(1)(b) o Ddeddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007. Mae adran 65(7) y Ddeddf honno yn datgan na chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Gorchymyn heb gymeradwyaeth gan y Senedd.
Diben y Gorchymyn diwygio yw dynodi'r ystadegau sydd wedi'u cynhyrchu neu sydd i'w cynhyrchu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru sydd newydd ei greu fel ystadegau swyddogol. Mae gwneud hynny'n cynnig sicrwydd bod yr ystadegau y maen nhw'n eu cynhyrchu yn ddibynadwy, o safon, ac o werth cyhoeddus. Mae hefyd yn golygu y bydd yr ystadegau hyn wedyn yn destun monitro ac adrodd gan Awdurdod Ystadegau'r DU. Cafodd y pŵer i wneud Gorchymyn ystadegau swyddogol hwn ei arfer yn gyntaf gan Weinidogion Cymru yn 2013, pan gafodd pum corff eu rhestru. Cafodd Gorchymyn pellach ei wneud yn 2017, i gynnwys 14 corff ychwanegol ledled gwahanol sectorau yng Nghymru. Mae'r Gorchymyn diwygio hwn yn adlewyrchu'r broses o drosglwyddo swyddogaethau a staff Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru o ymddiriedolaeth GIG Felindre i'r corff newydd.
Mae pwysigrwydd ystadegau a data swyddogol yn fwy cyffredinol, a diddordeb y cyhoedd ynddo, wedi'u hamlygu yn ystod y pandemig. Mae cyhoeddi ystadegau swyddogol a gwybodaeth reoli ynghylch COVID-19 yn cynnwys nifer o sefydliadau ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, yn enwedig Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd eisoes wedi'u henwi yn y Gorchymyn, a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Nid yw Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn cyhoeddi ystadegau COVID na gwybodaeth reoli eu hunain yn uniongyrchol, ond maen nhw'n darparu data i gefnogi eu cyhoeddi, er enghraifft, gwybodaeth frechu o system imiwneiddio Cymru. Felly, mae'n bwysig bod Iechyd a Gofal Digidol Cymru, fel sefydliad olynol, yn parhau i weithio yng nghyd-destun ystadegau swyddogol a'r cod ymarfer. Mae'r Gorchymyn yn galluogi Iechyd a Gofal Digidol Cymru i gyhoeddi data fel ystadegau swyddogol pan fyddan nhw o'r farn ei bod yn briodol a phan fydd trefniadau cadarn wedi'u sefydlu i wneud hynny.
Mae ystadegau swyddogol yn darparu ffenestr ar ein cymdeithas, yn llywio'r broses o wneud penderfyniadau ac yn galluogi'r cyhoedd i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif. Mae'r Gorchymyn hwn yn sicrhau y bydd y corff newydd sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal digidol i gleifion a'r cyhoedd yng Nghymru yn darparu ystadegau dibynadwy o safon a fydd yn helpu i lywio a llunio lles cenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r Gorchymyn.
Rwy'n siarad i wrthwynebu'r Gorchymyn hwn. Mae eisoes gennym ni 19 o ddarparwyr ystadegau swyddogol yn benodol ar gyfer Cymru, fel y disgrifiodd y Gweinidog, ac rydym ni nawr yn gweld Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cael ei ychwanegu atyn nhw. Fel y mae'r Gweinidog yn ei ddweud yn gywir, mae rhai o'i dasgau'n dod o Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ac ymddiriedolaeth GIG Felindre, ond hyd y gwn i, nid yw'r un o'r sefydliadau hynny'n cael eu dadgofrestru o'r broses hon, ac mae gennym ni ddarparwr ystadegau swyddogol newydd arall fel rhan o'r hyn y mae'r Gweinidog iechyd yn ei ystyried yn 'deulu GIG Cymru'.
Rwy'n ei chael hi'n fwyfwy anodd llywio drwy ystadegau a arferai gael eu cyflwyno'n gyson ledled y Deyrnas Unedig. Mae'r Gweinidog yn sôn am gael ystadegau ar sail Cymru gyfan, ond mewn gwirionedd, os ydych chi'n llunio'ch ystadegau ar sail Cymru gyfan, yn ôl gweithdrefnau'r 19 corff hyn, sydd nawr yn 20, maen nhw'n dueddol o symud oddi wrth y modd y mae ystadegau'n cael eu llunio mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig. Mae'r Gweinidog yn sôn, a hynny'n briodol, y dylai cyrff sy'n gwneud hyn fod yn ddibynadwy, gydag ystadegau o safon; ystadegau y mae'r cyhoedd yn eu gwerthfawrogi. Synhwyrol iawn. Rwy'n credu y dylen nhw hefyd fod yn ystadegau sy'n caniatáu cymhariaeth ledled y Deyrnas Unedig, ac nid o fewn un o'r gwledydd yn unig. Mae'r Gweinidog yn sôn am fod ag atebolrwydd dros Lywodraeth Cymru, ond y gwirionedd yw bod y gwahaniaeth hwn mewn ystadegau yn gwneud yr atebolrwydd hwnnw'n llai a llai, oherwydd ni allwn ni gymharu sut mae Llywodraeth Cymru yn gwneud o'i chymharu â mannau eraill.
Roedd y Gweinidog yn sôn rywfaint am y gwaith yr oedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ei wneud ar COVID, ac rwy'n credu y dylem ni gydnabod y gwaith gwych y mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi'i wneud—ac mae 'cenedlaethol' yn y cyd-destun hwnnw'n golygu cenedlaethol, y Deyrnas Unedig. Mae hi wedi cynnal arolwg ar draws y pedair gwlad, rwy'n credu, sydd wedi darparu gwybodaeth ddefnyddiol iawn ynghylch nifer yr achosion, ac mae hi wedi gwneud hynny mewn ffordd wirioneddol amserol. Cyn i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ymgymryd â hynny, ni wnaeth sefydliadau iechyd a oedd yn gwneud hyn, p'un ai yma neu mewn man arall yn y DU, y gwaith gyda'r ansawdd a'r safon yr ydym ni wedi'u gweld gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Felly, rwy'n credu y dylem ni gydnabod yr hyn y maen nhw wedi'i wneud.
Rwy'n pryderu, gan fod gennym ni fwy a mwy o ddarparwyr ystadegau yn gwneud eu hystadegau eu hunain ac yn eu gwneud ar sail Cymru, yn hytrach na sail y DU, ein bod ni'n tanseilio'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn y pen draw—sydd wedi'i lleoli yng Nghasnewydd, ac yn rhywbeth y dylem ni yng Nghymru fod yn falch iawn ohono, ac yn rhanbarth y de-ddwyrain rydym ni yn falch iawn ohono. Nid wyf i'n credu ei bod hi'n syniad da bod â mwy a mwy o ymwahanu ystadegol. Dylem ni fod â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wrth y llyw a dylen nhw drefnu ystadegau'n fwy ar sail y DU, a dylem ni fod â llai o ymwahanu a mwy o gysondeb. Felly, oherwydd y rheswm hwnnw, rwy'n cydnabod hyn fel cam bach ar y ffordd, yn hytrach nag un mawr, ond serch hynny hoffem ni osod arwydd a gwrthwynebu'r Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2021 hwn.
Y Gweinidog Cyllid i ymateb.
Rwy'n ddiolchgar i Mark Reckless am ei gyfraniad i'r ddadl y prynhawn yma, er ein bod ni'n amlwg yn dod o safbwyntiau gwahanol iawn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod gennym ni wybodaeth ac ystadegau a data cadarn ar lefel Cymru ar gael i ni er mwyn helpu Llywodraeth Cymru i wneud penderfyniadau da, ond yna hefyd i ganiatáu i eraill, gan gynnwys Mark Reckless, ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rwy'n credu bod tryloywder ac annibyniaeth wrth gynhyrchu data ac ystadegau yn gwbl hanfodol a dyna'r hyn y mae'r Gorchymyn hwn yn caniatáu iddo ddigwydd yn achos Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Bydd hefyd yn rhoi sicrwydd bod yr wybodaeth a gaiff ei darparu o safon uchel iawn a'i bod yn ddibynadwy ac o werth cyhoeddus da. Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig myfyrio ar y ffaith bod gan Lywodraeth Cymru berthynas waith ragorol â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Yn amlwg, rydym ni'n cael trafodaethau aml ynghylch y math o wybodaeth sydd ei hangen arnom ni yma yn Llywodraeth Cymru a'r ffyrdd y gallwn ni gydweithio i sicrhau bod gwybodaeth o'i holl ffynonellau yn ddefnyddiol ac y mae modd ei chymharu mewn ffyrdd defnyddiol hefyd. Felly, nid wyf i'n credu bod unrhyw densiwn yno o ran cael data penodol i Gymru gan hefyd weithio o fewn y cyd-destun ehangach hwnnw. Ar y sail honno, byddwn i'n annog cyd-Aelodau i gefnogi'r Gorchymyn y prynhawn yma.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Oes. Dwi'n gweld gwrthwynebiad ac felly, byddwn yn gohirio'r eitem tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 13 yw'r eitem nesaf, a'r eitem hynny yw'r Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021. Dwi'n galw ar y Gweinidog Amgylched, Ynni a Materion Gwledig i wneud y cynnig—Lesley Griffiths.
Cynnig NDM7658 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2021.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Hoffwn egluro'n gryno gefndir y ddadl heddiw ar Reoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Cynnwys Anifeiliaid) (Cymru) 2021. Yn gyntaf, bydd adran 1(1) Deddf Anifeiliaid Anwes 1951 yn peidio â bod yn effeithiol o ran Cymru a bydd y rheoliadau hyn yn eu disodli. Yn ail, ac efallai'n fwy arwyddocaol, mae'r rheoliadau'n ei gwneud yn drosedd gwerthu ci bach neu gath fach nad yw'r gwerthwr wedi'i fridio ei hun ar y safle. Gwnes i ymrwymo yn gyntaf i ymchwilio i wahardd gwerthiannau masnachol trydydd parti cŵn bach a chathod bach ym mis Mehefin 2018. Mae hi wedi bod yn daith hir, ond ar hyd y ffordd, rydym ni hefyd wedi cymryd camau eraill i gryfhau gallu awdurdodau lleol ledled Cymru i orfodi'r rheoliadau presennol, yn ogystal â'r rheoliadau newydd hyn.
Mae'r rheoliadau hyn yn gam arall eto tuag at sicrhau lles cŵn bach a chathod bach sy'n cael eu bridio a'u gwerthu ymlaen i drydydd partïon ar hyn o bryd. Mae eu lles yn gwella'n sylweddol drwy gael eu gwerthu gan fridwyr yn uniongyrchol i'r perchennog newydd yn unig. Ar hyn o bryd, gall trydydd partïon masnachol werthu cŵn bach a chathod bach, sy'n golygu, yn y rhan fwyaf o achosion, na fydd prynwyr yn gweld y ci bach na'r gath fach yn rhyngweithio â'r fam neu'r brodyr a chwiorydd. Efallai eu bod hefyd wedi gorfod dioddef nifer o deithiau cyn cyrraedd eu cartref newydd.
Daw'r rheoliadau sy'n cael eu gwneud heddiw i rym yn llawn ar 10 Medi. Yn ystod y cyfnod hwn, caiff canllawiau statudol eu cyd-gynhyrchu i gefnogi gorfodaeth gan awdurdodau lleol, a bydd yr amserlen hon hefyd yn caniatáu i werthwyr presennol y mae hyn yn effeithio arnyn nhw i wneud newidiadau ac ystyried model gweithredu gwahanol i liniaru unrhyw effaith bosibl. Hoffwn i ei gwneud yn glir y bydd canllawiau statudol ar gyfer swyddogion gorfodi yn rhoi'r hyblygrwydd sydd ei angen ar swyddogion awdurdodau lleol i orfodi'r gyfundrefn drwyddedu, sy'n llywio oddi wrth un dull gweithredu sy'n addas i bawb.
Rydym ni'n cyflwyno rheoliadau sy'n cau bylchau, o ran creu disgresiwn ar orfodi i weithio gyda sefydliadau allweddol sy'n ymwneud naill ai â gweithgareddau ailgartrefu neu achub. Maen nhw'n darparu sianel i awdurdodau lleol asesu a yw'r anifeiliaid yn cael eu defnyddio er budd ariannol yn unig drwy'r prawf busnes, a'u nod yw gwella lles anifeiliaid, gan gefnogi penderfyniadau gwybodus gan y cyhoedd sy'n prynu. Rwy'n cymeradwyo’r cynnig i'r Senedd. Diolch.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd. Gwnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn yn ffurfiol yn ein cyfarfod fore ddoe ac mae ein hadroddiad yn cynnwys dau bwynt teilyngdod. Mae ein pwynt rhinweddau cyntaf yn nodi bod rheoliad 12 o'r rheoliadau yn caniatáu i awdurdodau lleol godi ffioedd i dalu'r costau a ddaw i'w rhan wrth gyflawni eu swyddogaethau trwyddedu. Mae ein hail bwynt rhinweddau yn dangos bod pryderon wedi'u codi gyda ni ynglŷn â'r ymgynghoriad a gafodd ei cynnal o ran y rheoliadau hyn a chanlyniadau anfwriadol posibl. Oherwydd y rhesymau hyn, gwnaethom ni benderfynu ysgrifennu at y Gweinidog cyn i ni ystyried y rheoliadau'n ffurfiol, i dynnu ei sylw at y pryderon hyn. Rydym ni'n croesawi'r yr ymateb manwl y mae'r Gweinidog wedi'i ddarparu, ac rydym ni'n nodi cyfeiriadau'r Gweinidog at gynhyrchu canllawiau pellach a'r ymgynghoriad a fydd yn cael ei gynnal. Diolch, Llywydd.
Rwyf i wrth fy modd, mewn gwirionedd, o allu cadarnhau cefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig i'r rheoliadau hwyr hyn, rheoliadau sy'n debyg iawn i Reoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Cynnwys Anifeiliaid) (Lloegr) (Diwygio) 2019, a ddaeth i rym bron flwyddyn yn ôl. Felly, rwyf i yn dal yn siomedig, felly, na fydd ein rheoliadau ni'n dod i rym tan 10 Medi 2021.
Fel yr ydym ni i gyd yn ymwybodol, cafodd Lucy ei hachub o fferm cŵn bach yng Nghymru yn 2013—wyth mlynedd yn ôl—a gallai Llywodraeth Cymru fod wedi bod y cyntaf i ymateb i fater difrifol yng Nghymru ac ymgyrch bwysig a gafodd gefnogaeth glir gan etholwyr. Mae wedi bod yn fater deddfwriaethol a oedd yn hawdd ei gyflawni, ac mae'n ddirgelwch i mi pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n gynt.
Er hynny, bydd y Gweinidog yn falch o glywed ein bod ni'n croesawu sawl agwedd ar y rheoliadau, gan gynnwys y gofyniad yn rheoliad 4.2(a), bod
'Rhaid i'r awdurdod lleol—
'(a) penodi un neu ragor o arolygwyr â chymwysterau addas i archwilio unrhyw fangre lle mae'r gweithgaredd trwyddedadwy neu unrhyw ran ohono yn cael ei gynnal neu i'w gynnal'
ac rydym ni'n cefnogi cyfyngu trwyddedau i flwyddyn a'r gofyniad i gadw anifeiliaid bob amser mewn amgylchedd sy'n addas ar gyfer eu rhywogaethau a'u cyflyrau.
Mae gennyf i ychydig o gwestiynau, serch hynny, Gweinidog. Bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am orfodi'r rheoliadau. Rydych chi'n cynghori nad oes cost ychwanegol iddyn nhw, ac rydym ni'n gwerthfawrogi'r hyblygrwydd o ran ffioedd, ond, ar hyn o bryd, nid oes gennym ni syniad oddi wrthych chi ynghylch nifer yr arolygwyr sydd yng Nghymru ar hyn o bryd a faint yn rhagor y byddwch chi'n eu disgwyl i gyflawni'r rheoliadau hyn, oherwydd mae hynny'n sicr yn mynd i effeithio ar y ffioedd y gall cynghorau eu codi.
Mae rheoliad 26 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol ddarparu rhai manylion o ran nifer y trwyddedau sy'n cael eu gorfodi yn yr ardal a lefel y ffioedd ar gyfartaledd, ond nid yw'n ymddangos ei fod yn cynnwys nifer o weithiau y caiff y drwydded ei thorri a rheswm dros hynny. Rwy'n tybio pam nad yw hynny wedi'i gynnwys yn y rheoliadau hyn. Mae'r Dogs Trust wedi tynnu sylw at y ffaith y gallai un gofalwr fod yn gyfrifol am hyd at 180 o gŵn aeddfed a chŵn bach ar yr un adeg, a byddwn i'n falch os gallech chi egluro sut y gallwn ni fod yn hyderus y bydd eu hanghenion lles yn cael eu diwallu gyda dim ond un ymweliad Atodlen 2 y dydd.
Ac i orffen, gofynnodd Janet Finch-Saunders i chi am allu sefydliadau achub ac ailgartrefu yng Nghymru, i barhau i ailgartrefu anifeiliaid sy'n cael eu hachub o sefyllfaoedd o esgeulustod, os oes rhaid iddyn nhw aros tan fod eu cathod bach neu gŵn bach o leiaf chwe mis oed cyn ailgartrefu'r rhieni, a gwnaethoch chi ddweud wrthi fod gan awdurdodau lleol elfen o ddisgresiwn wrth ystyried a fyddai angen trwydded ar eu canolfannau achub ac ailgartrefu di-elw cyfreithlon. Rwy'n chwilfrydig pam nad ydych chi wedi ymdrin â hynny yn y rheoliadau hyn.
Ac yna, dim ond un arall: mae Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru wedi esbonio wrthym ni fod angen rhagor o ymgynghori pwrpasol ar les anifeiliaid, a tybed pam nad yw hynny eisoes wedi digwydd yn ystod Senedd bum mlynedd. Ond a ydych chi'n disgwyl i Lywodraeth nesaf Cymru wneud hynny, waeth pa liw ydyw hi? Ond, er mwyn cadarnhau, Gweinidog, byddwn ni'n pleidleisio o blaid y rheoliadau heddiw ac yn cytuno â chi pan wnaethoch chi alw hyn yn gam ymlaen ychydig funudau'n ôl; mae'n drueni nad dyma'r nod terfynol. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog am y ffaith ein bod ni'n cael y ddadl yma. Fel clywon ni, efallai'n hwyrach nag y byddai nifer ohonom ni wedi'i ddymuno, ond mi fydd Plaid Cymru yn cefnogi'r rheoliadau yma hefyd, oherwydd mae e'n faes lle mae angen mynd i'r afael ag e, ac rŷm ni wedi aros yn hirach efallai nag y dylem ni i gyrraedd y pwynt yma.
Nawr, rwyf innau hefyd eisiau codi y consérn y mae nifer yn y sector wedi'i godi o gwmpas nad yw hi'n glir ynglŷn ag eithrio mudiadau achub ac ailgartrefu anifeiliaid. Mi glywon ni gyfeiriad yn gynharach i'r ffaith eich bod chi wedi awgrymu bod yna ddisgresiwn i awdurdodau lleol. Wel, mae yna risg yn fanna bod hwnna'n mynd i arwain at bob math o anghysondebau ar draws Cymru. Felly, mae angen bod yn glir ynglŷn â hynny. Rŷn ni'n gwybod yn yr Alban, wrth gwrs, mae'r sefyllfa wedi cael ei delio â hi drwy gyflwyno system o gofrestru a thrwyddedu canolfannau o'r fath. Nawr, dwi ddim yn gwybod os ydy hynny'n rhywbeth rŷch chi yn ei ystyried, ac, os ydych chi, a ydy hwnna'n rhywbeth fyddai'r Llywodraeth yn gallu symud arno fe'n weddol fuan ar ôl yr etholiad? Dwi ddim yn gwybod, ond buaswn i'n hoffi clywed mwy gennych chi ynglŷn â chael yr eglurder o gwmpas y risg y bydd rhai o'r canolfannau a'r mudiadau yma sydd yn ailgartrefu cŵn a chathod ddim yn gallu gweithredu, efallai, yn y modd y maen nhw pan mae'n dod i gyflawni'r hyn maen nhw eisiau ei wneud.
Mae'r pwynt yma ynglŷn â chapasiti, dwi'n meddwl, yn bwysig. Dwi eisiau clywed mwy gan y Llywodraeth ynglŷn â sut yn union mae awdurdodau lleol yn mynd i gwrdd â'r galw yma, oherwydd, gallwn ni basio'r rheoliadau gorau yn y byd, ond, oni bai bod modd i orfodi'r rheoliadau yna'n effeithiol, yna, yn amlwg, dŷn nhw ddim yn mynd i gael yr effaith rŷn ni'n ei ddymuno. Felly, yn yr ysbryd o sicrhau bod y rheoliadau hyn yn cael yr effaith rŷn ni gyd am ei weld, dwi'n gofyn i chi, efallai, i sôn ychydig mwy wrthym ni ynglŷn â sicrhau bod gan yr awdurdodau lleol y capasiti sydd ei angen. Diolch.
Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl—Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Hoffwn i ddiolch i'r Aelodau am eu cefnogaeth. Hoffwn i ddiolch hefyd i bawb sydd wedi cyfrannu at gael y rheoliadau hyn i'r cam hwn, a hoffwn i ddechrau gyda fy swyddogion yn swyddfa Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, sydd wedi cael cefnogaeth dda gan gydweithwyr eraill ledled Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod ni'n gallu cyflwyno'r rheoliadau hyn cyn diwedd y tymor. Rwyf i hefyd eisiau cydnabod y lobïo penderfynol gan unigolion, ac mae hynny'n cynnwys Aelodau'r Senedd a hefyd sefydliadau'r trydydd sector ar y mater hwn.
O ran rhai o'r cwestiynau a gafodd eu codi gan Aelodau, rwy'n pwysleisio eto fod y rheoliadau hyn yn mynd y tu hwnt i gyfraith Lucy, ac rwy'n falch bod Aelodau o'r gwrthbleidiau'n hapus i gefnogi'r rheoliadau wrth fynd ymlaen. Rwy'n credu mai'r hyn y mae gwahardd hefyd yn ei wneud yw annog agweddau parchus a chyfrifol, ac mae hynny'n arbennig o bwysig i mi o ran datblygu agweddau plant a phobl ifanc tuag at anifeiliaid, a bydd hefyd yn cyfrannu at well canfyddiad o eiddo trwyddedig, ac yn grymuso awdurdodau lleol i weithredu os ydyn nhw'n teimlo bod ganddyn nhw bryderon ynghylch sut mae cŵn bach a chathod bach yn cael eu bridio a'u gwerthu.
Bydd y rheoliadau newydd yn darparu mecanwaith deddfwriaethol ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol—gofynnodd Suzy Davies y cwestiwn hwnnw—i gynnwys diweddariad o'r sefydliadau lles anifeiliaid trwyddedig, ac mae hynny'n cynnwys, ond nid yn unig, pob stabl, er enghraifft, ysgolion marchogaeth a sefydliadau lletya cŵn. Efallai y byddai hefyd yn briodol ystyried cynnwys y rheoliadau bridio cŵn pan gaiff y rhain eu hadolygu yn y dyfodol. Mae prosiect gorfodi awdurdodau lleol yn brosiect tair blynedd wedi'i ariannu, ac mae hynny'n mynd i gasglu rhagor o ddata a gwybodaeth ynghylch y ffordd orau o orfodi'r rheoliadau, ond hefyd ar yr hyn y mae modd ei wneud i'w gwella.
Nid bwriad y polisi yw cyflwyno cyfundrefn drwyddedu newydd ar gyfer canolfannau ailgartrefu, ond rwy'n credu ei bod yn hanfodol iawn nad ydym ni'n defnyddio eithriadau cyffredinol o fewn y rheoliadau hyn, a allai wedyn gyflwyno cyfleoedd i gamfanteisio. Felly, bydd yn bosibl i awdurdod lleol ddefnyddio ei ddisgresiwn a'i ystyriaeth o ran a oes angen trwydded ar y canolfannau achub ac ailgartrefu di-elw cyfreithlon.
O ran yr effaith ariannol ar awdurdodau lleol, caiff effeithiau posibl y ddeddfwriaeth newydd eu hystyried yn y memorandwm esboniadol a'r asesiad effaith rheoleiddiol, ac mae angen i werthwyr masnachol trydydd parti eisoes wneud cais am drwydded, ond maen nhw eisoes yn destun arolygiadau parhaus. A bydd awdurdodau lleol yn gallu pennu ffi'r drwydded i dalu'r costau cofrestru, arolygu a gorfodi sy'n cael eu rhagweld a hynny drwy godi ffi am roi trwydded.
Rwy'n credu y bydd gwaharddiad ar werthiannau trydydd parti masnachol cŵn bach a chathod bach yn gwneud rhywfaint i ailddatblygu enw da Cymru—sydd wedi'i niweidio'n annheg mewn sawl ffordd—o ran bridio cŵn, a bydd yn addysgu ac yn amddiffyn y cyhoedd yn well wrth wneud penderfyniadau gwybodus cyn prynu ci bach neu gath fach. Rwy'n credu ei fod yn gam mawr ymlaen heddiw o ran lles anifeiliaid yng Nghymru, ac rwy'n falch bod Aelodau wedi dweud y byddan nhw'n cefnogi heddiw. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn gweld unrhyw wrthwynebiad i hynna, ac felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 14 sydd nesaf, a'r rhain yw Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021. Dwi'n galw ar y Gweinidog i gyflwyno'r rheoliadau—Lesley Griffiths.
Cynnig NDM7657 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Mawrth 2021.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Diolch. Rwy'n cynnig y cynnig. Hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am graffu ar yr offeryn statudol hwn. Yn dilyn adborth gan y pwyllgor, mae'r offeryn wedi'i ddiwygio a'i ailosod, gan sicrhau bod y rhan fwyaf o'r pwyntiau craffu technegol sydd wedi'u codi wedi'u hymdrin â nhw. Bydd y newid angenrheidiol i ymdrin â'r pwynt technegol sy'n weddill yn cael ei wneud ar y cyfle addas nesaf. Mae Rhannau 2 i 4 o'r rheoliadau yn diwygio deddfwriaeth yr UE a ddargedwir a deddfwriaeth Cymru i ddarparu fframwaith rheoleiddio i alluogi cynlluniau cymorth datblygu gwledig domestig newydd, ochr yn ochr â rhaglen datblygu gwledig yr UE 2014-20. Ymgynghorwyd ar y gwelliannau eu hymgynghori arnyn nhw yn yr ymgynghoriad 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir', y gwnes i ei lansio ar 31 Gorffennaf 2020 ac a ddaeth i ben ar 23 Hydref y llynedd. Mae Rhan 5 o'r offeryn yn gwneud mân ddiwygiadau i ymdrin â gwallau a oedd wedi'u nodi yn neddfwriaeth yr UE a ddargedwir sy'n ymwneud â thaliadau uniongyrchol er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gywir a'i bod yn gweithredu'n effeithiol. Diolch.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd. Fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod fore ddoe, ac mae ein hadroddiad yn cynnwys un pwynt technegol a dau o bwyntiau rhinweddau. Gwnaethom ni nodi fersiwn blaenorol o'r rheoliadau hyn ac adroddiad drafft ar y rheoliadau hynny yn ein cyfarfod ar 15 Mawrth. Fel y mae'r Gweinidog newydd ei gadarnhau, yn dilyn ein hadroddiad, tynnodd Llywodraeth Cymru y rheoliadau hynny'n ôl ac ail-lunio set newydd, sy'n destun y ddadl heddiw. Mae'r pwynt technegol yn tynnu sylw at yr hyn sy'n ymddangos yn fater o ddrafftio diffygiol. Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym ni ei bod yn cytuno â'n hasesiad ac y byddai'n cywiro'r cyfeiriadau ar y cyfle addas nesaf.
Mae ein pwynt rhinweddau cyntaf yn nodi anghysondeb yn y defnydd o 'shall' a 'must' yn y rheoliadau. Mae 'Ysgrifennu cyfreithiau ar gyfer Cymru: canllawiau ar ddrafftio deddfwriaeth', a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn datgan
'Ni ddylai deddfwriaeth Cymru ddefnyddio "shall" yn y testun Saesneg.... Dylai darpariaethau sy’n gosod rhwymedigaethau ddefnyddio "must"'.
Cafodd yr anghysondeb ei dynnu at sylw Llywodraeth Cymru pan ystyriodd y pwyllgor y fersiwn blaenorol o'r rheoliadau. Nododd Llywodraeth Cymru y pwynt ond ymatebodd na fydd defnyddio 'shall' yn newid effaith y testun.
Mae ein hail bwynt rhinweddau yn tynnu sylw at adran benodol o'r memorandwm esboniadol, sy'n nodi bod swyddogion Llywodraeth Cymru o'r farn bod y rheoliadau'n 'ddiwygiadau technegol rheolaidd i'r fframwaith deddfwriaethol datblygu gwledig'. Fodd bynnag, mae'r memorandwm esboniadol hefyd yn nodi bod y rheoliadau'n
'rhoi fframwaith domestig ar waith i ariannu cynlluniau datblygu gwledig newydd yng Nghymru ar ôl diwedd Cyfnod Gweithredu'r UE'.
Rydym ni wedi tynnu sylw arbennig at y datganiadau hyn oherwydd bod y cod ymarfer ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol yn ei gwneud yn ofynnol i gynnwys asesiad effaith rheoleiddiol yn rhan o'r memorandwm esboniadol, wedi'i osod ochr yn ochr ag offeryn statudol drafft sydd i'w wneud gan Weinidogion Cymru oni bai bod rhai eithriadau'n berthnasol. Un eithriad yw lle mae angen diwygiadau technegol rheolaidd i ddiweddaru rheoliadau. Felly, er ei bod yn ymddangos bod yr eithriad yn gymwys i rai o'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y rheoliadau, mae'n ymddangos bod darpariaethau sy'n rhoi fframwaith domestig ar waith i ariannu cynlluniau datblygu gwledig newydd yn fwy na diwygiadau rheolaidd.
Pan wnaethom ni fersiwn blaenorol y rheoliadau, gwnaethom ni ofyn i Lywodraeth Cymru gadarnhau pa eithriad o dan y cod sy'n berthnasol i'r penderfyniad i beidio â chynhyrchu asesiad effaith rheoleiddiol. Wrth gadarnhau ei bod yn ystyried bod y rheoliadau'n cynnwys diwygiadau technegol a ffeithiol arferol, dywedodd ymateb Llywodraeth Cymru hefyd nad yw'r rheoliadau'n creu unrhyw oblygiadau ariannol newydd, sancsiynau troseddol neu feichiau gweinyddol a fyddai'n effeithio ar y sectorau cyhoeddus neu breifat, elusennau neu'r sectorau gwirfoddol. Diolch, Llywydd.
Mi fydd Plaid Cymru yn cefnogi'r rheoliadau yma, wrth gwrs, a tra eu bod nhw efallai yn eithaf technegol eu natur, dwi'n credu ei bod hi'n bwysig bod parhad yn y gefnogaeth ar gael i ffermwyr Cymru yn y cyfnod ar ôl yr Undeb Ewropeaidd a'r polisi amaeth cyffredin, wrth gwrs, ac mi fydd y rheoliadau yma'n rhoi rhywfaint o sicrwydd yn hynny o beth. Dwi'n falch bod y Llywodraeth wedi ailystyried ynglŷn â chefnogaeth i ffermwyr ifanc. Dwi'n meddwl bod hynny'n bwysig iawn ac, wrth gwrs, mae angen mae mwy na dim ond hynny, ond mae e'n rhywbeth positif.
Mi fyddem ni, wrth gwrs, yn awyddus—a dwi wedi treial codi hyn yn y gorffennol gyda'r Gweinidog a dwi ddim o reidrwydd wedi cael ateb pendant. Ond rŷn ni'n gwybod, wrth gwrs, bod yna ymrwymiadau wedi cael eu gwneud na fydd yna geiniog yn llai yn cael ei thalu neu ar gael inni gefnogi amaethwyr ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, fe welsom ni sut y gwnaeth y
Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan dorri £137 miliwn o'r gyllideb honno yn syth a thorri pob addewid oedd wedi ei roi cyn hynny. Ond, wrth gwrs, mae yna ran o'r fargen honno y mae angen i Lywodraeth Cymru hefyd ei chydnabod, sef, wrth gwrs, gyda'r cydariannu domestig y byddai Llywodraeth Cymru wedi ei ddarparu i'r cynllun datblygu gwledig yn y cyfnod 2021-27. Mi fyddwn i'n gofyn i'r Llywodraeth ei wneud yn glir ei bod i'n fwriad gan Lywodraeth Cymru i barhau â'r ymrwymiad hwnnw doed a ddelo. Dwi'n meddwl y byddai hynny efallai hefyd yn rhywbeth y dylen ni fod yn ei wneud yn glir, felly, fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog ymateb yn hynny o beth.
Ond gan, hefyd, mai hwn yw'r cyfle olaf efallai i fi ymateb i'r Gweinidog yn ffurfiol yn y Senedd yma, dwi eisiau diolch iddi am ei gwaith. Dŷn ni ddim wedi gweld llygad yn lygad bob tro, a dwi yn eithaf siŵr bod lle rŷn ni eisiau ei gyrraedd yn debyg iawn efallai, ond mai anghydweld ynglŷn â'r ffordd yna efallai rŷn ni wedi gwneud dros y cyfnod diwethaf yma. Ond, yn sicr, er gwaethaf unrhyw anghytuno, mae wedi ymwneud â fi fel cysgod Weinidog yn sicr mewn modd hawddgar a theg, ac am hynny yn sicr dwi eisiau dweud diolch.
Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl—Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. O ran ymateb Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, fe wnaf gadarnhau eto y bydd y newidiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud i ymdrin â'r un pwynt technegol sy'n weddill ar y cyfle addas nesaf.
Hoffwn i ddiolch i Llyr Huws Griffiths am ei eiriau caredig iawn. Mae ef yn llygad ei le, nid ydym ni bob amser wedi cydweld, ond rydym ni bob amser wedi ymwneud â'n gilydd, fel y dywedodd ef, mewn modd cyfeillgar, ac rwyf i bob amser wedi bod â diddordeb mawr yn ei farn ac wedi parchu'r sylwadau y mae wedi'u cyflwyno.
Ond o ran y mater ariannu, nid wyf i eto wedi rhoi'r gorau i gredu y bydd Llywodraeth y DU yn ein hariannu ni'n iawn. Ddoe ddiwethaf, fe wnes i drafod hyn gydag Ysgrifennydd Gwladol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn ein cyfarfod grŵp rhyng-weinidogol diweddaraf gan DEFRA, ac eglurais i eto sut yr oedd Llywodraeth y DU wedi torri ei haddewid na fyddai Cymru'n colli ceiniog os byddem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r trafodaethau hynny'n dal i fynd rhagddynt, a gallaf i weld fy nghyd-Weinidog y Gweinidog Cyllid yn y Cyfarfod Llawn heddiw, ac rwy'n gwybod ei bod hi'n parhau i ymladd hynny hefyd.
Mater i'r Llywodraeth nesaf, yn amlwg, fydd edrych ar sut y byddai modd nodi'r cyllid hwnnw, ond, yn amlwg, mae £137 miliwn yn swm enfawr o arian i ddod o hyd iddo, ond byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gadw eu haddewid, wrth symud ymlaen. Diolch.
Diolch. A'r cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad i'r cynnig yma, felly mae'r cynnig yn cael ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 15 yw'r eitem nesaf. Y rheini yw'r Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2021. Dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid i gyflwyno'r rheoliadau yma—Rebecca Evans.
Cynnig NDM7656 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2021.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Mae'n bleser gennyf i agor y ddadl ar Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2021. Diolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiadau.
Fis Gorffennaf diwethaf, fe wnes i reoliadau i gyflwyno cyfnod gostyngiad treth dros dro ar gyfer Treth Trafodiadau Tir. Fe wnaeth y Senedd gymeradwyo'r broses o wneud y rheoliadau hynny ym mis Medi. Diben y rheoliadau diweddaraf yw ymestyn y cyfnod gostyngiadau treth dros dro o'r dyddiad dod i ben gwreiddiol, sef 31 Mawrth i 30 Mehefin. Rwyf i wedi gwrando ar bryderon prynwyr tai ledled Cymru a gweithwyr proffesiynol yn y farchnad dai ynghylch oedi a allai fod yn effeithio ar rai o'r bobl a allai fod wedi disgwyl gallu cwblhau eu trafodiadau erbyn 31 Mawrth. Mae'r estyniad hwn i'r cyfnod gostyngiadau treth dros dro yw rhoi amser ychwanegol i'r trethdalwyr hynny gwblhau prynu eu heiddo.
Dylai prynwyr sy'n mynd i drafodiadau ar hyn o bryd gynllunio ar gyfer y posibilrwydd y gallai fod ganddynt Dreth Trafodiadau Tir i'w thalu neu fod cynnydd yn eu hatebolrwydd treth. Mae'n rheol syml a chlir: os byddwch chi'n cwblhau ar, neu cyn 30 Mehefin, bydd y cyfnod gostyngiad yn berthnasol; os byddwch chi'n cwblhau wedyn, bydd y cyfraddau safonol yn berthnasol. Yn bwysig, mae ein cyfnod gostyngiad treth dros dro, yn wahanol i weddill y DU, mae'n berthnasol i'r rhai sy'n talu'r prif gyfraddau preswyl yn unig. Nid oes unrhyw ostyngiadau treth i fuddsoddwyr mewn eiddo prynu i osod, eiddo gwyliau wedi'u dodrefnu ar osod neu ail gartrefi. Mae hyn yn sicrhau bod manteision yr amrywiad dros dro hwn yn cael eu darparu'n fras i'r rhai sy'n prynu cartrefi i fyw ynddyn nhw.
Mae'r estyniad i'r cyfnod gostyngiadau treth dros dro, er y bydd yn parhau i ddarparu ysgogiad economaidd ac yn parhau i gefnogi'r economi yng Nghymru, wedi'i gyfeirio'n bennaf at helpu prynwyr tai sydd wedi wynebu oedi yn y broses prynu cartref yn y cyfnod cyn 31 Mawrth. Dylai'r rhan fwyaf lwyddo i gwblhau erbyn y dyddiad cau newydd.
Mae'r estyniad i'r cyfnod lleihau treth dros dro yn ymateb cytbwys a syml gan y Llywodraeth hon. Mae'r estyniad yn deg i'r prynwyr tai hynny nad ydyn nhw wedi gallu cwblhau prynu eu heiddo, ac yn syml, drwy barhau i weithredu drwy gyfeirio at derfyn amser clir. Rwy'n gofyn felly am gefnogaeth y Senedd i gadarnhau'r estyniad i'r cyfraddau Treth Trafodiadau Tir dros dro.
Fel y gwnaethom ni ei glywed, mae'r rheoliadau hyn yn pennu estyniad i'r amrywiad dros dro presennol i'r Dreth Trafodiadau Tir a chyfraddau a bandiau Treth Trafodiadau Tir a fydd yn berthnasol i bryniannau a thrafodiadau eiddo preswyl penodol, gan ddechrau ar 1 Ebrill ac yn dod i ben ar 30 Mehefin 2021, gyda'r cyfraddau a bandiau'n dychwelyd yn ôl i'r rhai a oedd mewn grym cyn 27 Gorffennaf 2020 ar ôl y dyddiad hwnnw. Rydym ni, wrth gwrs, yn cefnogi'r estyniad hwn, er ein bod ni'n gresynu bod y terfyn uchaf ar y band sero yn aros ar £250,000.
Yn dilyn cyhoeddiad Canghellor y DU bod gwyliau presennol y dreth stamp yn Lloegr, gyda band cyfradd sero hyd at £500,000, yn cael ei ymestyn tan ddiwedd mis Mehefin, ac y bydd y band cyfradd sero wedyn yn £250,000 tan ddiwedd mis Medi i hwyluso'r pontio, gan ddychwelyd i'r gyfradd arferol yno o 1 Hydref, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ymestyn dros dro y cyfnod gostwng treth dros dro Treth Trafodiadau Tir gyfatebol yng Nghymru tan 30 Mehefin ond yn dal i gadw'r terfyn uchaf y band cyfradd ar £250,000.
Yn Lloegr, bydd y gyfradd sero ar gyfer prynwyr tro cyntaf o 1 Gorffennaf yn dal i fod hyd at £300,000, ond, o 1 Gorffennaf yng Nghymru, dim ond hyd at £180,000 y bydd y band cyfradd sero, ac yna'n codi i 3.5 y cant hyd at £250,000 a 5 y cant dros £250,000. Wel, fel y dywedodd rhywun a gafodd ei fagu yng ngogledd Cymru wrthyf i, maen nhw'n prynu tŷ newydd sbon yn Wrecsam am £280,000, ond bydd hyn yn ychwanegu cost arall o £3,950 at eu pryniant ac felly maen nhw'n ystyried dod o hyd i rywbeth yn Lloegr yn lle hynny. Ac er y bydd y terfyn uchaf ar y band cyfradd sero yn Lloegr yn gostwng i £125,000 o 1 Hydref, ni fydd prynwyr tro cyntaf yno wedyn yn talu dim ar bryniannau hyd at £300,000, yn wahanol i Gymru. Er bod Llywodraeth Cymru yn sôn am brisiau prynu cyfartalog prynwyr tro cyntaf yng Nghymru, nid yw'r rhain yn berthnasol i nifer fawr o boblogaeth Cymru, yn enwedig mewn rhanbarthau poblog trawsffiniol. Felly, ni allwn ni gefnogi'r rheoliadau hyn a byddwn ni'n ymatal yn unol â hynny.
Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Rydym ni'n gresynu na all y cyfraddau is hyn o Dreth Trafodiadau Tir gael eu hymestyn tan 30 Medi, oherwydd, pe baen nhw'n gwneud hynny, byddem ni'n cael cyfnod o dri mis lle'r oedd gennym ni drothwy hyd at £250,000 a oedd, unwaith eto, yr un fath yng Nghymru a Lloegr, y byddem ni, wrth gwrs, yn dymuno'i gael. Fodd bynnag, hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am wneud yr estyniad o gwbl, oherwydd yn fy mag post i roedd gennyf i nifer o bryderon i raddau mwy, neu i raddau mwy byth, eu bod nhw'n ofni colli cyfle ar 30 Mawrth oherwydd ni fyddai cyfreithwyr neu fel arall yn gallu mynd drwy drafodiadau fel yr oedden nhw'n ei ddisgwyl. Gwelais i heddiw o ddata Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gyfer mis Chwefror, ac rwy'n tybio ei fod yn ymwneud â'r dreth dir ar y dreth stamp ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon yn unig, fod cynnydd o tua 50 y cant o flwyddyn i flwyddyn. Felly, gobeithio bod y Gweinidog yn cael swm da o refeniw treth trafodiadau tir gan bobl sy'n rhuthro i gwrdd â'r dyddiad cau ac efallai'n fwy byth nawr gan ei fod wedi'i ymestyn. Felly, er fy mod i'n gresynu nad yw'n cael ei ymestyn ymhellach i gyfateb â chyfradd y DU ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon dros drydydd chwarter cyfnod y flwyddyn galendr, hoffwn i ddiolch iddi serch hynny am wneud yr estyniad hwnnw, a gafodd dderbyniad da gan lawer o unigolion a oedd yn ofni colli cyfle heb fod unrhyw fai arnyn nhw. Diolch.
Y Gweinidog i ymateb.
Diolch am y cyfraniadau i'r ddadl y prynhawn yma, ac mae'r penderfyniad yr wyf i wedi'i wneud yma yng Nghymru yn briodol iawn i'r farchnad dai, oherwydd mae'r band cyfradd sero dros dro bellach tua £66,000 yn uwch na chost gyfartalog cartref yma yng Nghymru, sef £184,000. Ac mae hefyd £70,000 yn uwch na'r trothwy cychwynnol arferol, sydd, wrth gwrs, yn £180,000. Ac fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, prif ddiben ymestyn yw darparu'r amser ychwanegol hwnnw i'r bobl hynny nad ydyn nhw'n gallu cwblhau erbyn 31 Mawrth, ond mae'n wir bod y farchnad dai yng Nghymru wedi bod yn hynod gadarn hyd yn oed yn ystod y 12 mis diwethaf, ac mae'r data trafodiadau preswyl a gafodd eu cyhoeddi gan Awdurdod Cyllid Cymru yn dangos bod lefelau trafodiadau yn y misoedd o fis Hydref i fis Ionawr wedi dychwelyd i tua lefelau cyn pandemig. Felly, mae'r farchnad dai'n syndod o gadarn, rwy'n credu, yma yng Nghymru.
Mae rhai cwestiynau wedi'u codi ynghylch pam na wnaethom ni benderfynu ddilyn yr un dull â Llywodraeth y DU o ran y polisi, ac rydym ni wedi dewis dull gweithredu gwahanol yn fwriadol, sy'n briodol i'n marchnad dai ein hunain yma yng Nghymru. Oherwydd, wrth gwrs, byddai darparu'r un polisi ag sydd ganddyn nhw dros y ffin wedi dileu treth, neu wedi darparu gostyngiadau treth mawr iawn, iawn, ar gyfer rhai o'r eiddo preswyl drutaf sydd gennym ni yng Nghymru, o gofio bod y prisiau cyfartalog sydd gennym ni'n wahanol iawn. Ac wrth gwrs, roedd y polisi yn Lloegr wedi'i gynllunio'n fawr iawn i ymateb i brisiau tai yn Llundain a'r de-ddwyrain. Ac wrth gwrs, gwnaethom ni benderfyniad gwahanol, ac roedd ein penderfyniad yn golygu nad ydym ni wedi darparu'r gostyngiadau treth hynny i brynwyr ail gartrefi neu eiddo prynu i osod, felly rydym ni wedi cael polisi llawer mwy pwyllog yma yng Nghymru, a oedd yn golygu hefyd, wrth gwrs, ein bod ni wedi gallu buddsoddi arian ychwanegol yn y farchnad tai cymdeithasol, sy'n golygu bod ein dull gweithredu yn llawer mwy blaengar hefyd.
Nid wyf o'r farn mewn gwirionedd fod unrhyw rinwedd yn y math hwnnw o ddull gweithredu graddol y mae Llywodraeth y DU wedi'i gymryd o ran tynnu'n ôl o'r newidiadau diweddaraf, oherwydd, dros y ffin, darparodd gwyliau'r dreth dir y dreth stamp ostyngiad treth o hyd at 3 y cant ar gost eiddo, a £15,000 byddai'r uchafswm arbediad yno wedi bod, unwaith eto'n adlewyrchu'r farchnad dai wahanol dros y ffin, ond mae'r cyfnod gostyngiad Treth Trafodiadau Tir hyd at uchafswm o 1 y cant yn golygu arbediad uchaf o £2,450, felly, unwaith eto, yn adlewyrchu'r gwahanol brisiau tai a'r darlun sydd gennym yma yng Nghymru. Ond, pan fyddwn ni'n dychwelyd at y trothwy cychwynnol arferol ar gyfer Treth Trafodiadau Tir, a'r ddwy dreth trafodiadau eiddo arall yn y DU yn dychwelyd i'w lefelau arferol, bydd yn golygu mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU o hyd gyda throthwy cychwynnol ar gyfer talu treth sydd tua phris cyfartalog tai, ac, wrth gwrs, yn Lloegr, y trothwy cychwynnol arferol yw £125,000, sef tua hanner y pris cyfartalog dros y ffin. Felly, hyd yn oed pan fyddwn ni'n dychwelyd at y prisiau arferol—neu'r cyfraddau arferol, dylwn i ddweud—yna bydd gennym ni'r system fwyaf blaengar o hyd. Ac wrth gwrs, mae ein gostyngiad i holl brynwyr cartrefi, yn hytrach na chynnig hynny i brynwyr tro cyntaf yn unig, sydd, yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, yn fwriad y Blaid Geidwadol, pe baen nhw mewn sefyllfa yng Nghymru i gyfyngu eu cefnogaeth i brynwyr tro cyntaf yn unig, yn hytrach na phob prynwr tŷ.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly mae'r bleidlais ar y cynnig yna'n cael ei gohirio tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Yr eitem ddiwethaf y prynhawn yma yw'r ddadl ar ddiwygiadau i setliadau llywodraeth leol a'r heddlu 2020-21, a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol sy'n gwneud y cynnig yma. Julie James.
Cynnig NDM7659 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo’r Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2021-22 (Setliad Terfynol—Cynghorau) Diwygiedig a'r Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2020-21 (Setliad Terfynol—Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu) Diwygiedig a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mawrth 2021.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Heddiw, rwy'n cyflwyno adolygiad technegol o setliadau llywodraeth leol a'r heddlu ar gyfer 2020-21 i'r Senedd i'w gymeradwyo. Mae hynny ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd ar fin dod i ben. Mae'r adroddiadau cyllid llywodraeth leol diwygiedig yn adlewyrchu'r addasiadau a gafodd eu gwneud yn y drydedd gyllideb atodol a oedd yn darparu ar gyfer y cynnydd yn y grant cynnal refeniw. Fel yr ydym ni i gyd yn ymwybodol, mae setliadau llywodraeth leol a'r heddlu yn cynnwys ardrethi annomestig wedi'i ailddosbarthu, ardrethi annomestig, a grant cynnal refeniw Llywodraeth Cymru. Gyda'i gilydd, mae'r rhain yn ffurfio cyllid allanol cyfanredol. Mae swm dosbarthadwy'r ardrethi annomestig ar gyfer pob setliad llywodraeth leol yn cael ei amcangyfrif ar yr adeg y mae'r setliad yn cael ei gyfrifo. Rheolir cyfrif yr ardrethi annomestig dros fwy nag un flwyddyn ariannol er mwyn rheoli risgiau amrywiadau economaidd lleol a chenedlaethol o flwyddyn i flwyddyn.
Mae'r adroddiadau cyllid llywodraeth leol diwygiedig ger eich bron heddiw yn ailgydbwyso cyfrannau'r grant cynnal refeniw ac ardrethi annomestig, yn setliad y flwyddyn gyfredol. Ni fydd cyfanswm cyffredinol y cyllid allanol yn newid ar lefel Cymru gyfan a'r awdurdod unigol a'r heddlu, h.y. ni fydd unrhyw awdurdod na heddlu yn colli nac yn elwa o'r newid hwn. Mae'n addasiad cwbl dechnegol. Bydd gwneud hyn yn galluogi'r Llywodraeth i reoli'r diffyg ar y cyfrif ardrethi annomestig, yn fwy effeithiol yn ystod nifer o flynyddoedd. Bydd yn sicrhau ein bod ni'n defnyddio'r cyllid covid-benodol ac amser cyfyngedig sydd gennym ni i ymateb i effaith y pandemig ar ardrethi busnes, fel yr ydym ni wedi'i wneud o ran y dreth gyngor ac incwm arall. Mae hwn yn ddull doeth. Mae'n anodd asesu'r rhagolygon hirdymor ar gyfer ardrethi annomestig, ond mae sawl ffactor yn awgrymu na fydd yn gwella yn y tymor byr o ystyried y disgwyliad y bydd angen i'r Llywodraeth barhau i osod cyfyngiadau ar fusnesau ac unigolion i reoli effeithiau pandemig COVID-19 ar iechyd y cyhoedd. Er nad oes dim yn sicr yn y byd ansicr hwn, dylai cymryd y cam hwn nawr olygu y bydd llai o ddiffyg ar gyfrif yr ardrethi annomestig, i'r Llywodraeth nesaf ei ystyried wrth bennu ei chyllideb ar gyfer 2022-23.
Yn ogystal â'r cyllid sydd wedi'i ddarparu ar gyfer y setliad llywodraeth leol, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth ychwanegol drwy'r gronfa galedi a grantiau eraill o dros £660 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon i alluogi awdurdodau lleol i ymateb i effeithiau pandemig COVID-19. Mae ymateb llywodraeth leol a'r heddlu i heriau'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn aruthrol, ac o adael yr UE, llifogydd a thywydd eithafol i effaith y pandemig, mae gweision cyhoeddus wedi ymateb i anghenion dinasyddion Cymru. Mae awdurdodau lleol wedi rhoi cymorth i unigolion, cymunedau a busnesau. Maen nhw wedi cynnal, gyda'r GIG, ein system olrhain cysylltiadau ac wedi sicrhau bod y bobl hynny sy'n hunanynysu yn cael eu cefnogi. Maen nhw wedi parhau i ddarparu ar gyfer addysg ein plant a'r gwasanaethau o ddydd i ddydd fel gwastraff ac ailgylchu yr ydym ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw. Mae'r heddlu wedi parhau i'n cadw ni'n ddiogel ar ein strydoedd, yn ein cartrefi ac ar ein ffyrdd. Maen nhw wedi gwneud hynny mewn hwyliau da a gydag amynedd gan ein bod ni i gyd wedi dysgu byw y tu mewn ac y tu allan i gyfyngiadau, gan gynnwys, pan fo'n briodol, gorfodaeth fwy cadarn. Felly, rwy'n gofyn i Aelodau'r Senedd gefnogi'r cynnig hwn heddiw. Diolch.
Diolch. Does gyda fi ddim siaradwyr yn y ddadl yma. Dwi'n cymryd bod y Gweinidog ddim eisiau ymateb. Felly, dwi'n gofyn a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r cynnig yma? [Gwrthwynebiad.] Oes, ac felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
A dyma ni yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac felly fe gymerwn ni doriad byr iawn i baratoi yn dechnegol ar gyfer y bleidlais. Toriad byr, felly.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 19:18.
Ailymgynullodd y Senedd am 19:22, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Iawn, dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio ac mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 7, y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36—. Cywiriad. O blaid 37, 11 yn ymatal, un yn erbyn, ac felly mae'r rheoliadau wedi eu derbyn.
Eitem 7 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021: O blaid: 37, Yn erbyn: 1, Ymatal: 11
Derbyniwyd y cynnig
Yr eitem nesaf yw'r Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 47, dau yn ymatal, neb yn erbyn. Mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
Eitem 9 - Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021: O blaid: 47, Yn erbyn: 0, Ymatal: 2
Derbyniwyd y cynnig
Eitem 10 yw'r bleidlais nesaf, ar y Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Galluedd rhieni a phersonau sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol) (Cymru) 2021. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais, felly. O blaid 44, pedwar yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Eitem 10 - Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Galluedd rhieni a phersonau sy’n hyn na’r oedran ysgol gorfodol) (Cymru) 2021: O blaid: 44, Yn erbyn: 0, Ymatal: 4
Derbyniwyd y cynnig
Yr eitem nesaf i'w phleidleisio arni yw eitem 11, Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 2021. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, dau yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Eitem 11 - Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 2021: O blaid: 46, Yn erbyn: 0, Ymatal: 2
Derbyniwyd y cynnig
Eitem 12 yw'r eitem nesaf, y Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2021. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Cau'r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, tri yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Eitem 12 - Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2021: O blaid: 46, Yn erbyn: 3, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Eitem 15 yw'r eitem nesaf i'w phleidleisio arni, Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2021. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yma, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, naw yn ymatal, un yn erbyn. Mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
Eitem 15 - Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2021: O blaid: 39, Yn erbyn: 1, Ymatal: 9
Derbyniwyd y cynnig
Y bleidlais olaf yw eitem 16, ar y ddadl ar ddiwygiadau i setliadau llywodraeth leol a'r heddlu 2020-21. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Diolch. Rydych chi wedi pleidleisio nawr. Dyna ni. Felly, cau'r bleidlais. O blaid 36, pump yn ymatal, wyth yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna hefyd wedi ei dderbyn.
Eitem 16 - Dadl: Diwygiadau i Setliadau Llywodraeth Leol a’r Heddlu 2020-21: O blaid: 36, Yn erbyn: 8, Ymatal: 5
Derbyniwyd y cynnig
Diolch i bawb. Nos da.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:29.