Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
09/03/2021Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. A dwi eisiau atgoffa'r Aelodau hefyd fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma.
Cwestiynau i'r Prif Weinidog sydd gyntaf ar yr agenda heddiw, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflawni cynllun adfer COVID-19 ar gyfer busnesau? OQ56423
Llywydd, i gynorthwyo busnesau i adfer yn sgil COVID-19, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu'r pecyn cymorth mwyaf hael o'i gymharu ag unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Ddydd Mercher diwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog cyllid y bydd ein cynllun rhyddhad ardrethi busnes 100 y cant, sy'n cynorthwyo dros 70,000 o fusnesau, yn parhau drwy'r holl flwyddyn ariannol nesaf.
Diolch. Mae ein Prif Weinidog yn y DU cryf wedi rhoi llawer o sicrwydd a chymorth i'n busnesau. Dim ond yr wythnos diwethaf, estynnodd ein Llywodraeth ni yn y DU faint y cynllun cadw swyddi drwy gyfnod y coronafeirws a'r gyfradd TAW ostyngedig o 5 y cant i'r sectorau twristiaeth a lletygarwch. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n frwdfrydig i ymuno â mi a chydnabod bod camau Llywodraeth y DU wedi achub swyddi a busnesau yng Nghymru, gan ddiogelu bron i 400,000 o fywoliaethau, cynorthwyo mwy na 100,000 o bobl hunangyflogedig a chefnogi dros 50,000 o fusnesau drwy fenthyciadau. A dweud y gwir, mae ein Prif Weinidog y DU wedi mynd gam ymhellach na chi, oherwydd er ei fod wedi darparu map ffordd allan o'r cyfyngiadau symud i Loegr, rydych chi'n dal i fethu â chyflawni dros Gymru. Er gwaethaf y pryderon a godais gyda chi yn y pwyllgor ar 11 Chwefror ynglŷn â'r angen am eglurder ynghylch pryd y gallai lletygarwch fod yn agor, fe'n gadawyd i ganolbwyntio ar eich system haenau, sydd wedi chwalu'n llwyr, oherwydd ei bod yn nodi y dylai fod cyfradd achosion a gadarnhawyd o fwy na 150 o achosion fesul 100,000 i fod yn lefel 3. Yr wythnos diwethaf, cofnododd Cymru gyfartaledd saith diwrnod treigl o 57, ac mae eisoes wedi gostwng i 44 erbyn hyn. A ydych chi'n cytuno â mi ei bod hi'n wirioneddol ofnadwy yr hyn yr ydych chi'n ei wneud i fusnesau yng Nghymru drwy wrthod darparu map ffordd eglur allan o'r cyfyngiadau symud a pheidio â glynu wrth eich system haenau eich hun? Diolch.
Llywydd, rwy'n croesawu'r holl gefnogaeth y mae Llywodraeth y DU wedi ei rhoi i fusnesau yng Nghymru, ac rwyf i wedi gwneud hynny ers dyddiau cynharaf y pandemig. Wrth gwrs, yma yng Nghymru rydym ni wedi darparu cannoedd o filiynau o bunnoedd yn ychwanegol at y cymorth sydd wedi dod i Gymru o ganlyniad i'r ymdrechion hynny ar lefel y DU.
Rwy'n croesawu cydnabyddiaeth yr Aelod o lwyddiant y mesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i reoli coronafeirws, mesurau y bydd yn cofio iddi hi a'i phlaid eu gwrthwynebu yn chwyrn ar yr adeg y cawsant eu cymryd. Pe byddem ni wedi dilyn ei chyngor hi bryd hynny, yn sicr ni fyddem ni yn y sefyllfa gymharol radlon yr ydym ni ynddi yng Nghymru heddiw. Byddwn yn adeiladu o'r sefyllfa honno, gan gofio drwy'r amser ansefydlogrwydd parhaus yr adferiad yn sgil coronafeirws, a chyda chylchrediad amrywiolyn Caint o'r coronafeirws yma yng Nghymru i'w gadw mewn cof yn arbennig wrth i ni ailagor ein heconomi.
Ddydd Gwener yr wythnos hon, Llywydd, byddaf yn cyflwyno rhagor o fanylion am sut y gellir ailgyflwyno rhyddid ym myd busnes, yn ein bywydau personol, gan roi blaenoriaeth fel erioed i'n plant a'n pobl ifanc, a bydd hynny yn rhoi'r eglurder sydd ei angen ar bobl, gyda'r realaeth sydd ei hangen hefyd.
Prif Weinidog, beth bynnag fo'ch cynlluniau ar gyfer helpu busnesau Cymru, a wnewch chi sicrhau eu bod nhw'n deg ac yn gyfiawn? Rwyf i wedi codi trafferthion arcedau'r stryd fawr o'r blaen, y mae eich Llywodraeth yn gwrthod eu helpu. Mae'r busnesau hyn wedi dioddef yr un colledion â busnesau hamdden eraill, ac eto rydych chi'n gwrthod unrhyw hawl iddyn nhw gael cymorth busnes. Mae Llywodraeth Cymru yn hapus i gasglu eu hardrethi busnes, ond eto nid yw eisiau helpu'r busnesau hyn i barhau i weithredu. Fel busnesau eraill yn y sector hamdden, mae eu costau wedi parhau i gynyddu, ond, gan eu bod nhw'n dal i fod ar gau, nid oes ganddyn nhw unrhyw incwm. Heb gymorth, gallai'r busnesau hyn gau yn barhaol, gan arwain at golli llawer o swyddi, ac mae'r swyddi hyn ar gyfer eu cyflogeion a fydd yn ysgwyddo baich hyn i gyd yn y pen draw. Mae eu sefyllfa yn enbyd erbyn hyn, felly a wnewch chi ailystyried eich safbwynt, os gwelwch chi'n dda? Diolch.
Wel, Llywydd, nod Llywodraeth Cymru drwy gydol y pandemig fu defnyddio'r cyllid sydd gennym ni i lenwi'r bylchau yn y cymorth a ddaw oddi wrth Lywodraeth y DU. Nid yw'n bosibl gyda'r cyllid sydd gennym ni i lenwi pob un bwlch sy'n bodoli. Serch hynny, mae £1.9 biliwn wedi gadael coffrau Llywodraeth Cymru ac mae eisoes yn nwylo busnesau yma yng Nghymru—degau o filoedd o fusnesau, ym mhob rhan o'n gwlad, yn elwa ar y cynlluniau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi ar waith a pha mor gyflym y mae'r cymorth hwnnw wedi ein gadael ni ac wedi cyrraedd y busnesau eu hunain. Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £200 miliwn yn ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf i allu parhau'r cymorth yr ydym ni'n ei ddarparu i fusnesau Cymru. Ac wrth i ni wneud hynny, rydym ni bob amser yn adolygu'r cynlluniau sydd gennym ni, i weld a yw hi'n bosibl gwneud mwy i helpu mwy o fusnesau yn y dyfodol. Ond, fel y dywedais, defnyddiwyd ein cyllid erioed i lenwi'r bylchau yn y cynlluniau y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol amdanyn nhw, ac nid yw'n bosibl ymestyn hynny i bob posibilrwydd.
Bydd y dull 'ar gyfer Cymru, gweler Lloegr' y mae'n ymddangos bod y Ceidwadwyr yn ei fabwysiadu yn arwain mewn gwirionedd at lai o gymorth busnes, fel yr ydym ni wedi ei weld dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Prif Weinidog, wrth symud Cymru allan o'r cyfyngiadau symud—rydym ni'n gallu gwneud hyn oherwydd llwyddiant, wrth gwrs, yr agwedd a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru—rwy'n pryderu'n benodol am y cymorth y byddwch chi'n gallu ei roi i fusnesau bach. Mae llawer o fusnesau yn fy etholaeth i ym Mlaenau Gwent sy'n ddiolchgar iawn am y cymorth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Maen nhw'n edrych tuag at ddechrau masnachu unwaith eto erbyn hyn ac yn edrych ar sut y gallan nhw ailadeiladu eu busnesau. A yw hi'n bosibl amlinellu sut y bydd y busnesau llai hynny yn cael eu cynorthwyo wrth i ni symud ymlaen dros y misoedd nesaf?
Llywydd, diolchaf i Alun Davies am hynna. Mae yn llygad ei le, wrth gwrs, fel y dangosodd adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru dim ond ychydig wythnosau yn ôl, pe byddem ni wedi dilyn y cynlluniau sydd ar waith dros ein ffin, y byddai busnesau Cymru filiynau a miliynau o bunnoedd yn waeth eu byd nag y maen nhw drwy fod wedi eu lleoli yng Nghymru, oherwydd y cymorth yr ydym ni wedi gallu ei roi iddyn nhw. Ac rwy'n gwybod nad yw Plaid Geidwadol Cymru yn hoffi cydnabod hynny; yn wir, fel y dywedodd Alun Davies, dim ond un presgripsiwn sydd ganddi ar gyfer Cymru, a hynny yw y dylem ni efelychu yn union yr hyn sy'n cael ei wneud gan bobl dros y ffin—byddai £300 miliwn yn llai wedi bod ar gael i fusnesau yng Nghymru. Mae bron yr holl gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu, wrth gwrs, yn mynd i fusnesau bach a chanolig eu maint. Fe wnaethom benderfyniad ymwybodol iawn i beidio ag ymestyn rhyddhad ardrethi i fusnesau â gwerth ardrethol o dros £500,000, a rhyddhaodd hynny ddegau a degau o filiynau o bunnoedd yr ydym ni wedi eu rhoi yn nwylo busnesau bach yma yng Nghymru. Gwn fod Alun Davies wedi croesawu'r £30 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd gennym ni ar gyfer y gronfa sector-benodol ym maes hamdden, twristiaeth a lletygarwch dim ond wythnos neu ddwy yn ôl. A bydd y £200 miliwn sydd gennym ni wrth gefn, y byddwn ni'n ei ddefnyddio y flwyddyn nesaf, yn cael ei dargedu at y busnesau hynny sy'n bodoli ym mhob stryd fawr yma yng Nghymru. A byddai'n llawer yn well ganddyn nhw, yn sicr, fel y mae fy nghyd-Aelod Alun Davies yn ei ddweud, fod yn masnachu a byddai llawer yn well ganddyn nhw fod yn ennill bywoliaeth nag yn aros am y siec nesaf gan Lywodraeth Cymru. Ond tra bod y pandemig presennol yn parhau, byddwn yn gwneud yn siŵr, pan na allan nhw fasnachu, y bydd Llywodraeth Cymru yn camu i mewn i'w cynorthwyo.
2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad i addysg bellach ac uwch i weithwyr yng Nghymru a allai fod yn bwriadu ailhyfforddi? OQ56422
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £40 miliwn mewn swyddi a sgiliau eleni, gan gynorthwyo unigolion sy'n chwilio am gyflogaeth neu hyfforddiant newydd neu amgen. Mae ein rhaglen cyfrif dysgu personol yn helpu pobl gyflogedig i wella eu sgiliau neu ailsgilio mewn sectorau â blaenoriaeth, gan ddarparu dysgu mewn modd hyblyg gan ystyried gwaith ac ymrwymiadau eraill presennol pob unigolyn, ac yn gwneud hynny drwy golegau ledled Cymru.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Roeddwn i'n falch iawn o weld yng nghyllideb eich Llywodraeth yr ymrwymiad i ehangu'r rhaglen cyfrif dysgu personol. Nawr, mae'r rhaglen hon, fel y dywedwch, yn rhoi cymorth hanfodol i weithwyr cyflogedig, ond hefyd i'r gweithwyr hynny sydd ar ffyrlo ac unigolion sydd mewn perygl o gael eu diswyddo. Rydym ni'n gwybod mai un o effeithiau pandemig y coronafeirws fu colli swyddi a mwy o betruso ymhlith busnesau o ran buddsoddi, a fyddai wedi creu swyddi newydd ac wedi cynnig mwy o gyfleoedd i'r rhai sy'n chwilio am waith. Mae cynllun Llywodraeth Cymru i gynorthwyo pobl i ennill sgiliau a chymwysterau lefel uwch mewn sectorau blaenoriaeth erbyn hyn yn paratoi ein gweithlu ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd wrth i ni weld yr economi yn adfer. A allech chi, felly, roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa hon a sut y bydd yn cael ei darparu i'r unigolion hynny?
Llywydd, diolchaf i David Rees am y cwestiwn pwysig yna. Gwn fod fy nghyd-Weinidog Rebecca Evans, fel Gweinidog cyllid, yn awyddus iawn i ddod o hyd i gyllid ychwanegol ar gyfer y rhaglen cyfrif dysgu personol—£5.4 miliwn o gyllid ychwanegol yn y fan honno—oherwydd y llwyddiant ysgubol a fu eisoes. Ac, fel y dywedodd David Rees, Llywydd, i weithwyr mae'n cynnig cyrsiau a chymwysterau sy'n cael eu hariannu yn llawn gan Lywodraeth Cymru, wedi'u trefnu i fod yn hylaw o amgylch ymrwymiadau presennol yr unigolion hynny. Maen nhw ar gael waeth beth fo cymwysterau blaenorol pobl, ac mae 3,000 o bobl eisoes wedi dechrau cyrsiau cyfrif dysgu personol ac mae gennym ni 6,000 a mwy o geisiadau ar gyfer y cynllun.
Ac i gyflogwyr, Llywydd, mae'n cynnig cynllun hyblyg ac ymatebol sydd â'r nod o oresgyn prinder sgiliau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, sy'n benodol i'r sector, wedi'i dargedu at ardaloedd twf newydd ac uchel yn yr economi werdd, peirianneg, adeiladu, yr economi ddigidol ac mewn gweithgynhyrchu uwch. Ac yn y modd hwnnw, fel y mae David Rees yn ei ddweud, byddwn yn datblygu cronfa o weithwyr medrus ac ymroddedig sy'n barod i fanteisio ar y cyfleoedd newydd hynny a denu'r cyfleoedd newydd hynny i rannau o Gymru, gan greu swyddi'r dyfodol.
Hyd yn oed cyn y pandemig, Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno bod ffurf yr economi fyd-eang yn newid, a dyna pam, gan gydnabod hyn, y bydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn ogystal â ReAct, yn cyflwyno cronfa ail gyfle i helpu unrhyw un o unrhyw oedran i astudio ar gyfer cymwysterau lefel 3 yn y coleg i'w helpu i symud o'r fagl cyflog isel, sgiliau isel i fyny'r ysgol yrfaol waeth ble y dechreuon nhw. A dyna'r meddylfryd sy'n sail i'n cynlluniau ar gyfer cynyddu prentisiaethau gradd hefyd. Onid ydych chi'n cytuno, serch hynny, bod llwybrau i ragoriaeth wedi culhau o dan y Llywodraeth hon yng Nghymru ac, yn hytrach na sianelu pawb drwy raddau Meistr, y dylem ni fod yn edrych ar ddoniau ac agweddau i sicrhau bod mwy o bobl yng Nghymru yn cael y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo yn bersonol ac i gredu eu bod nhw'n chwarae rhan werthfawr i helpu ein gwlad i ffynnu?
Wel, rwy'n cytuno â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud am natur newidiol yr economi fyd-eang a'r angen i'r Llywodraeth barhau i fuddsoddi yn y sgiliau y bydd eu hangen ar ein gweithlu i wynebu'r dyfodol hwnnw. Nid wyf i, wrth gwrs, yn cytuno o gwbl â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am gyfleoedd yn culhau. Mae cyfleoedd dros y pum mlynedd diwethaf wedi ehangu yn aruthrol oherwydd y newidiadau yr ydym ni wedi eu gwneud ym maes addysg uwch. Yn dilyn adolygiad Diamond, mae gennym ni'r niferoedd uchaf erioed o fyfyrwyr mewn addysg uwch yng Nghymru, gan greu cyfleoedd yn enwedig i bobl sydd eisiau astudio yn rhan-amser ar lefel nad yw'n cael ei weld yn unman arall yn y Deyrnas Unedig.
Rwy'n falch o gael cefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig i raglen prentisiaeth gradd Llywodraeth Cymru: buddsoddwyd £20 miliwn yn y rhaglen arloesol hon yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae 200 o gyflogwyr yn rhan ohoni a 600 o fyfyrwyr. Mae'n enghraifft arall o'r ffyrdd arloesol y mae Llywodraeth Cymru wedi ehangu cyfleoedd drwyddynt, ochr yn ochr â'r cyfrifon dysgu personol y cyfeiriodd David Rees atyn nhw—ystod eang o ffyrdd y mae pobl yng Nghymru yn gallu manteisio erbyn hyn ar gyfleoedd i ailsgilio ac uwchsgilio a fydd yn gwneud yn siŵr, pan fydd y cyfleoedd hynny ar gael, bod gennym ni weithlu yma yng Nghymru sy'n barod i fanteisio arnyn nhw.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, beth yw eich barn chi am y sefyllfa yn ymwneud â Liberty Steel a'i gwmnïau cysylltiedig, a'i effaith debygol ar swyddi yma yng Nghymru?
Nid wyf i'n mynd i ddyfalu am ddyfodol Liberty Steel—cwmni pwysig iawn yma yng Nghymru, ac un y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gefnogi yn y gorffennol. Mae gen i lythyr o fy mlaen gan Mr Gupta, cadeirydd gweithredol GFG Alliance, sef rhiant gwmni Liberty Steel, a ysgrifennwyd at fy nghyd-Weinidog Ken Skates ar 4 Mawrth, felly diwedd yr wythnos diwethaf, lle mae Mr Gupta yn nodi sefyllfa fasnachu Liberty Steel ac yn atgyfnerthu'r ymrwymiad sydd gan GFG i Gymru. Byddwn ni fel Llywodraeth yn parhau i weithio gyda'r cwmni a chyda'r sector dur yn fwy cyffredinol i sicrhau'r dyfodol yr ydym ni'n ffyddiog, o dan yr amodau cywir ac yn y ffordd gywir, sydd gan y diwydiant dur yma yng Nghymru.
Rwy'n cytuno â chi, Prif Weinidog; mae Liberty Steel yn gwmni pwysig yma yng Nghymru, a dyna'r rheswm am y cwestiwn. Mae'n bwysig deall pa gymorth ariannol a roddwyd ar gael i Liberty Steel yn y gorffennol ac a yw'r cwmni wedi gofyn am unrhyw gymorth ychwanegol, o ystyried eich bod chi wedi cyfeirio at lythyr yn cael ei anfon gan y cwmni at Weinidog yr economi, i sicrhau ei weithrediadau yng Nghymru. A allwch chi ddweud wrthym ni pa un a oes cynnig ar y bwrdd ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gweithrediadau Liberty Steel neu gwmnïau cysylltiedig yma yng Nghymru?
Nid oedd y llythyr gan Liberty Steel yn gofyn am arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru; nid dyna oedd diben yr ohebiaeth. Diben yr ohebiaeth oedd nodi'r anawsterau y mae Greensill, y darparwr ariannol i GFG Alliance, wedi eu cael, ond i roi ar y bwrdd hefyd sefyllfa fasnachu bresennol gref Liberty Steel Group. Ar hyn o bryd, mae prisiau dur yn Ewrop yn masnachu ar y lefel uchaf ers 13 mlynedd ac mae'r farchnad alwminiwm yn fwy bywiog nag y bu ers cryn amser yn y gorffennol. Yn ei lythyr, mae Mr Gupta yn ei gwneud yn eglur bod ffatrïoedd y mae'r gynghrair yn berchen arnyn nhw yn y meysydd hyn yn gweithredu yn llawn i fodloni'r galw mawr ac i gynhyrchu llifau arian parod cadarnhaol. Yr hyn y mae'r llythyr yn ei ddangos, yn fy marn i, yw'r berthynas agos sydd wedi bodoli rhwng y cwmni a Llywodraeth Cymru, a'r hyder y mae'r cwmni yn dymuno parhau i'w greu yn ei ddyfodol. Byddwn yn gweithio ochr yn ochr â'r cwmni er mwyn sicrhau'r swyddi y mae'n eu darparu yma yng Nghymru ac er mwyn sicrhau dyfodol y sector yn fwy cyffredinol.
Wrth sôn am gymorth, Prif Weinidog, mae dydd Gwener yn ddiwrnod nodedig, gyda'r adolygiad diweddaraf o gyfyngiadau symud yma yng Nghymru. Mae eich Gweinidog iechyd a llesiant meddwl wedi dweud, gyda'r cyfyngiadau symud a phobl yng Nghymru, os byddwch chi'n rhoi modfedd, y byddan nhw'n cymryd milltir. A gaf i wirio yn gyntaf ai dyma eich asesiad chi? A ydych chi'n cytuno â hi? Neu a ydych chi'n derbyn fy asesiad i mai gwaith caled pobl Cymru dros y cyfnod hwn o gyfyngiadau symud a fydd yn eich galluogi chi, nawr, i lacio rhai o'r cyfyngiadau hyn? A allwch chi gadarnhau pa fath o gyhoeddiadau y gallem ni fod yn edrych arnyn nhw ddydd Gwener, yn enwedig o ran manwerthu nad yw'n hanfodol? A fyddwch chi'n agor campfeydd fel y mae'r Gweinidog llesiant wedi ei awgrymu yn y gorffennol? Ac a fyddwch chi, fel yr ydych chi wedi cyfeirio ato yn y wasg dros y dyddiau diwethaf, yn diddymu'r rheol aros gartref ac yn cyflwyno rheol pum milltir, fel y gwelsom ni yr haf diwethaf?
Rwy'n ofni y bydd yn rhaid i arweinydd yr wrthblaid aros tan ddydd Gwener. Dyna pryd y bydd y cylch tair wythnos yn dod i ben. Bydd y Cabinet yn parhau i drafod y pecyn o fesurau y byddwn ni'n gallu ei gynnig bryd hynny yn ystod gweddill yr wythnos hon. Ond mae e'n iawn wrth ddweud, ar ddiwedd yr adolygiad tair wythnos diwethaf, i mi ddweud fy mod i'n gobeithio mai hwn fydd y cyfnod tair wythnos olaf pan fydd yn rhaid i ni ofyn i bobl yng Nghymru aros gartref ac y byddem ni'n gallu symud y tu hwnt i hynny. Dywedais bryd hynny hefyd y byddem ni'n parhau i wneud dychwelyd i addysg cyn gynted ac mor ddiogel â phosibl i'n plant yn brif flaenoriaeth, ac y byddem ni, ochr yn ochr â hynny, yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o ganiatáu i bobl wneud mwy yn eu bywydau personol a dechrau ailagor agweddau newydd ar economi Cymru. Dyna'r rhestr o faterion yr ydym ni'n eu trafod fel Cabinet o hyd ac rwy'n edrych ymlaen at allu gwneud cyhoeddiadau ar hynny ddydd Gwener.
Mae'r ffaith fod niferoedd y bobl yng Nghymru sy'n dioddef o coronafeirws yn parhau i ostwng, y ffaith bod y straen a'r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd yn lleihau yn y ffordd y mae—dyna'n sicr y llwyddiant sy'n perthyn i bobl yma yng Nghymru, am bopeth y maen nhw wedi ei wneud i gadw at y gofyniad anodd yr ydym ni wedi ei orfodi arnyn nhw yn ystod yr wythnosau diweddar, er mwyn rheoli'r don ddiweddaraf hon o'r pandemig. Wrth i ni lacio cyfyngiadau, byddaf yn apelio unwaith eto ar bobl yng Nghymru i beidio â mynd i'r afael â hyn drwy ofyn iddyn nhw eu hunain, 'Pa mor bell y gellir ymestyn y rheolau, beth yw'r mwyaf y gallaf i wthio pethau wrth i gyfyngiadau gael eu llacio?' Rydym ni'n dal i wynebu argyfwng iechyd y cyhoedd. Nid oes neb yn gwybod sut y bydd amrywiolyn Caint yn ymateb wrth i ni ddechrau ailgyflwyno agweddau ar ein bywydau bob dydd. Byddaf yn apelio unwaith eto i bobl yng Nghymru ofyn y cwestiwn iddyn nhw eu hunain nid, 'Beth allaf i ei wneud?' ond, 'Beth ddylwn i ei wneud er mwyn parhau i wneud fy nghyfraniad at gadw fy hun, pobl eraill a Chymru gyfan yn ddiogel?'
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Prif Weinidog, ar ôl ennill etholiad arweinyddiaeth eich plaid ym mis Rhagfyr 2018, dywedasoch y dylai Aelodau'r Senedd, mewn byd toredig, ymdrechu i gael 'math mwy caredig o wleidyddiaeth'. Yr wythnos diwethaf, gorfodwyd eich cyd-aelod Llafur ac arweinydd cyngor Castell-nedd Port Talbot, Rob Jones, i gamu o'r neilltu ar ôl i recordiad ddod i'r amlwg ohono yn gwneud sylwadau ffiaidd am ein cyd-Aelod o'r Senedd Bethan Sayed. Roedd hi'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ddoe, gyda thema eleni, 'dewis herio', yn annog pobl i herio stereoteipiau a rhagfarn lle bynnag y maen nhw'n codi er mwyn sicrhau newid. Gyda hynny mewn golwg, a wnewch chi gofnodi eich condemniad o sylwadau'r Cynghorydd Jones, a dewis herio ei gasineb ofnadwy at fenywod? Ac, a ddylai ei ymddiswyddiad dros dro, yn eich barn chi, fod yn barhaol?
Roeddwn i'n bryderus o ddarllen adroddiadau am yr hyn a ddywedodd y Cynghorydd Jones, ac rwy'n siŵr ei fod wedi gwneud y peth iawn wrth gamu o'r neilltu o arweinyddiaeth cyngor Castell-nedd Port Talbot tra bod y swyddog monitro a'r ombwdsmon yma yng Nghymru yn ymchwilio yn briodol i'r sylwadau hynny. Dyna pam y mae wedi cael ei wahardd o'i aelodaeth o'r Blaid Lafur tra gellir cwblhau'r ymchwiliadau hynny. Rwy'n credu y byddai'n synhwyrol i unrhyw un aros am ganlyniad yr ymchwiliadau hynny cyn dod i gasgliadau am yr hyn a ddylai ddigwydd nesaf. Ond rwy'n siŵr bod y Cynghorydd Jones yn iawn i gamu i lawr o arweinyddiaeth y cyngor ac i gyfeirio ei hun at y swyddog monitro ac at yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus. Byddwn yn aros nawr am ganlyniad yr ymchwiliadau hynny.
Ond siawns, Prif Weinidog, hyd yn oed nawr y gallwch chi gondemnio ei sylwadau yn llwyr. Mae'r recordiad hefyd yn datgelu ffordd sinistr o ymgymryd â gwleidyddiaeth, onid yw? Yn rhyfeddol, mae'n cyfeirio at ffafrio prosiectau a gefnogir gan gynghorwyr Llafur ar gyfer arian cyhoeddus. Gan gyfeirio at enghraifft mynwent Alltygrug yn Ystalyfera, mae'n sôn am ddweud wrth swyddogion am fynd i chwilio i lawr y tu ôl i gefn y soffa i dalu am brosiect a arweiniodd, mae'n brolio, at bobl yn troi at y Blaid Lafur. Rwyf i wedi ysgrifennu at yr archwilydd cyffredinol, Prif Weinidog, yn gofyn iddo nid yn unig ymchwilio i'r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Jones yn y recordiad, ond iddo hefyd sicrhau bod mesurau rhwystrau a gwrthbwysau cadarn ar waith i ddiogelu rhag y camddefnydd posibl o arian cyhoeddus at ddibenion plaid wleidyddol mewn awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru. A fyddech chi'n cefnogi ymchwiliad o'i fath?
Mae'n bwysig bod ymchwiliadau yn cael eu cynnal, ac mae'n bwysig bod yr ymchwiliadau hynny yn cael dod i'w casgliadau eu hunain, yn hytrach na gwleidyddion ar lawr y Senedd yn rhagweld y casgliadau hynny ac yn gofyn i eraill gytuno â'r casgliadau y maen nhw eisoes wedi eu cyrraedd, yn ôl pob golwg .Nid oes unrhyw le i gasineb at fenywod mewn unrhyw ran o fywyd Cymru nac mewn unrhyw blaid wleidyddol. Rwy'n cofio bod Mr Price ei hun wedi lansio ymchwiliad i gasineb at fenywod ym Mhlaid Cymru ym mis Mehefin neu fis Gorffennaf 2019. Rwyf i wedi edrych i weld a allaf i ddod o hyd i ganlyniad yr ymchwiliad hwnnw, ond nid wyf i wedi gallu dod o hyd iddo fy hunan, ac efallai mai'r rheswm am hynny yw nad wyf i wedi edrych yn y lle iawn. Ond yn union fel yr oedd ef yn iawn, rwy'n siŵr, i sicrhau bod yr ymchwiliad hwnnw yn cael ei gynnal yn ei blaid, mae hefyd yn iawn y dylid ymchwilio i'r honiadau a wnaed yn erbyn y Cynghorydd Jones, ac yn sicr bydd canlyniadau'r ymchwiliadau hynny yn cael eu cyhoeddi.
Gofynnaf iddo yn derfynol: a wnewch chi gyfaddef bod y geiriau a ddefnyddiwyd gan y Cynghorydd Jones i ddisgrifio Bethan Sayed yn gwbl warthus? Mae gennych chi yr holl wybodaeth, siawns, sydd ei hangen ar unrhyw un i wneud y datganiad hwnnw nawr.
Yn y gyllideb yr wythnos diwethaf, wynebodd Llywodraeth y DU feirniadaeth ffyrnig am y ffordd yr oedd ei chronfa lefelu i fyny, fel y'i gelwir, yn ffafrio etholaethau Ceidwadol. Yn y gyfran gyntaf o gyllid, cynrychiolir 39 o'r 45 ardal sydd i fod i gael cymorth gan Aelodau Seneddol Ceidwadol. Fel y dywedodd fy nghydweithiwr Liz Saville Roberts,
mae ein harian cyhoeddus yn cael ei ddwyn ar gyfer y gyllideb o byngs y Torïaid.'
Ceir atsain o hynny sy'n peri pryder yn y datgeliadau sydd wedi dod i'r amlwg yn rhan o saga Castell-nedd Port Talbot, Prif Weinidog. A ydych chi'n ffyddiog nad crib y rhewfryn yn unig yw achos Castell-nedd Port Talbot, ac nad oes gan Gymru ei phroblem ei hun o ran arian i gydweithwyr o dan oruchwyliaeth y blaid Lafur?
Rwy'n condemnio casineb at fenywod lle bynnag y'i gwelir. Rwy'n credu ei bod hi'n iawn y dylai fod ymchwiliadau i'r materion hynny, ac rwy'n credu ei bod hi'n iawn i'r ymchwiliadau hynny gael eu cyhoeddi wedyn. Bydd hynny yn digwydd yn achos y Cynghorydd Jones, ac rwy'n meddwl bod hynny yr un mor berthnasol i'w blaid ef ag y mae i'm plaid i.
Nid yw'n ymddangos i mi bod ceisio tynnu achos o daflu baw cyffredinol o un digwyddiad i'r hyn sy'n digwydd ledled Cymru yn ffordd synhwyrol na chymesur o ymateb i hynny. Cymerais y rhagofal, gan feddwl y gallai hyn gael ei godi y prynhawn yma, i edrych ar hanes Llywodraeth Cymru yn y ffordd yr ydym ni'n defnyddio arian ledled Cymru gyfan. Gadewch i mi roi ychydig o ganlyniadau iddo o hynny. Yn wir, canolbwyntiaf am gyfnod ar un yn unig, rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain—un o brif raglenni y Llywodraeth, sy'n darparu ysgolion a cholegau sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Ceir 25 o ysgolion yn Sir Gaerfyrddin o dan reolaeth Plaid Cymru, 11 ysgol yn Sir Benfro o dan reolaeth annibynnol, naw ysgol yng Ngheredigion o dan reolaeth Plaid Cymru, 18 yng Ngwynedd a reolir gan Blaid Cymru, 14 yn Ynys Môn o dan reolaeth Plaid Cymru a 14 yng Nghonwy o dan reolaeth y Ceidwadwyr. Mae hanes Llywodraeth Cymru yn gwrthsefyll archwiliad ym mhob cynllun sydd gennym ni, ac nid oes unrhyw oblygiad posibl y gellid ei wneud, am y ffordd y mae arian yn cael ei ddefnyddio gan y Llywodraeth hon yng Nghymru, ar linellau pleidiol wleidyddol. Rydym ni bob amser yn gwneud hynny ar sail meini prawf agored, tryloyw sy'n seiliedig ar anghenion. Dyna'r ffordd gywir a phriodol.
Mae'r gronfa lefelu i fyny, y cyfeiriodd Adam Price ati, i'r gwrthwyneb o hynny. Bydd honno bellach yn nwylo'r Ysgrifennydd Gwladol yn adran cymunedau, llywodraeth leol a thai Llywodraeth y DU, adran nad yw'n gwybod llawer iawn am Gymru, ac nid oes neb yma i'w cynorthwyo i ddarganfod mwy. Rwy'n cofio'r hyn a ddywedodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ'r Cyffredin am yr Ysgrifennydd Gwladol pan ddyfarnodd gyllid cronfa trefi i 60 o'r 61 etholaeth yn Lloegr a oedd naill ai yn rhai ymylol yn nwylo'r Ceidwadwyr neu ar y rhestr o seddi yr oedd y blaid Geidwadol yn gobeithio eu hennill mewn etholiad. Mae hwnnw yn gynsail sy'n peri pryder mawr, ac yn un sy'n wahanol iawn i'r ffordd y mae'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn mynd ati i ddefnyddio arian cyhoeddus yng Nghymru.
3. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wireddu potensial economaidd Casnewydd yn llawn? OQ56414
Diolchaf i John Griffiths am y cwestiwn yna. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio yn agos gyda'r awdurdod lleol ac eraill yng Nghasnewydd i gefnogi mentrau sy'n hybu potensial economaidd yn y ddinas, o ddatblygiad Arcêd y Farchnad i adnewyddu Tŵr y Siartwyr a'r cyfleusterau i ymwelwyr ym mhont gludo nodedig Casnewydd.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae'r diwydiant dur yn parhau i fod yn rhan bwysig iawn o economi Casnewydd, gyda Tata Steel yn Llanwern, er enghraifft, a hefyd, wrth gwrs, Liberty Steel ym Mrynbuga. Rydym ni'n gwybod, Prif Weinidog, os yw'r DU yn ei chyfanrwydd yn mynd i gael y math o ddyfodol diwydiannol y mae'n ei haeddu, bod yn rhaid i ddur chwarae rhan bwysig yn hynny fel sector strategol. Ac rydym ni hefyd yn gwybod bod sefydliadau fel Liberty Steel yn bwrw ymlaen â pholisïau dur gwyrdd a chynaliadwy a fydd yn galluogi'r dyfodol cryf hwnnw i'r diwydiant dur. Fel y soniwyd yn gynharach yn y cwestiynau hyn, Prif Weinidog, ceir anhawster ariannu ar hyn o bryd i Liberty Steel. Mae Greensill Capital wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, a nhw oedd prif gefnogwyr ariannol Liberty Steel, felly mae angen ail-gyllido nawr, ac mae'r cwmni yn bwrw ymlaen â hynny, a chafwyd cyfarfod gyda'r undebau i drafod materion y bore yma. Prif Weinidog, cyn belled ag y mae Llywodraeth Cymru yn y cwestiwn, a allwch chi fy sicrhau i y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyfathrebu yn agos iawn gyda'r cwmni, gyda'r undebau llafur ac, yn wir, gyda Llywodraeth y DU, i wneud yn siŵr bod dyfodol cryf i'r gwaith hwn yng Nghasnewydd? Mae'n perfformio yn gryf, mae'n gynaliadwy, ac mae'n rhan o'r sector dur cryf hwnnw yr ydym ni eisiau ei weld yn parhau yng Nghymru.
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â John Griffiths am bwysigrwydd y sector dur—sector strategol, sector sydd wedi bod angen mwy o gymorth gan Lywodraeth y DU nag y mae wedi ei gael yn ystod y pandemig. Roeddwn i'n falch bod cyfarfod o'r Cyngor Dur wedi ei gynnal ddydd Gwener yr wythnos diwethaf; bu bwlch rhy fawr o lawer rhwng cyfarfod diwethaf y cyngor a'r un yma. Ond roedd nifer dda yn bresennol—ac roedd Ken Skates yn bresennol ar ran Llywodraeth Cymru, a chynrychiolwyr o Lywodraeth yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â Llywodraeth y DU, yr undebau llafur ac eraill. Felly, mae'n dda bod y Cyngor Dur yn cyfarfod unwaith eto. Bydd Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan lawn yn y cyngor. Byddwn yn gwneud y ddadl dros gynhyrchu dur yma yng Nghymru, gan gynnwys y datblygiadau, fel y dywedodd John Griffiths, sydd wedi bod yn bwysig iawn yng Nghasnewydd. Mae'r gwaith arloesol y mae Liberty Steel wedi ei wneud, y cynlluniau y mae Tata Steel, mi wn, yn awyddus iawn i barhau i'w trafod gyda Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau dyfodol hirdymor a gwyrdd i'r diwydiant hwnnw, hefyd, a bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ein gallu, fel yr ydym ni wedi ei wneud erioed, i gefnogi'r diwydiant dur, a galw ar bartneriaid eraill sydd â rhannau eraill i'w chwarae, i wneud yn siŵr eu bod nhw yn ymgysylltu i'r un graddau.
A gaf i gytuno yn llwyr â'r safbwyntiau sydd newydd gael eu mynegi o ran yr angen i ddarparu diwydiant dur cynaliadwy ledled Cymru?
A gaf i ehangu hyn i ffawd economi ehangach Casnewydd ac economi'r de-ddwyrain—economi Sir Fynwy, dylwn i ddweud—y mae'r ddwy ohonyn nhw yn dibynnu ar seilwaith trafnidiaeth cynaliadwy modern? Tybed a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ddatblygiad metro de Cymru, lle'r ydym ni gyda hynny, ac, yn benodol, a yw'r potensial ar gyfer canolfan fetro yn y Celtic Manor, yr wyf i wedi ei godi o'r blaen gyda Gweinidog yr economi—Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth—wedi ei drafod gyda rhanddeiliaid perthnasol. Byddai canolfan yn y man hwnnw o fewn y system metro yn darparu'r cyswllt coll rhwng gorsaf reilffordd Casnewydd a threfi yn fy etholaeth i, fel Trefynwy, sydd, ar ôl 6 o'r gloch, wedi eu torri i ffwrdd yn llwyr o seilwaith trafnidiaeth Casnewydd. Felly, tybed a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ddatblygiad y metro.
Llywydd, diolchaf i Nick Ramsay am y cwestiwn yna, ac er gwaethaf yr heriau y mae cyfnod y pandemig wedi eu hachosi, mae cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer metro de Cymru yn dal i fod yno, yn dal i fod wedi eu hariannu ac yn dal i fod mor uchelgeisiol ag y buon nhw erioed. Byddaf yn gofyn i'm cyd-Weinidog Ken Skates roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod am fater penodol cyswllt y Celtic Manor â'r metro.FootnoteLink
Ochr yn ochr â hynny, Llywydd, rydym ni'n edrych ymlaen at gyhoeddiad adolygiad cysylltedd y DU Peter Hendry, y darparodd Llywodraeth Cymru dystiolaeth iddo, ac y darparodd yr Arglwydd Burns, fel cadeirydd comisiwn Burns, dystiolaeth iddo hefyd, oherwydd ochr yn ochr â'r metro ar gyfer economi de-ddwyrain Cymru a Sir Fynwy, rydym ni angen i Lywodraeth y DU ymrwymo i uwchraddio'r ail reilffordd honno sy'n bodoli eisoes, gyda chynlluniau ar gyfer comisiwn Burns wedi eu nodi yn fanwl—chwe gorsaf newydd o bosibl ar ei hyd—gan wneud llawer iawn o wahaniaeth i gysylltedd yn y rhan honno o Gymru, a chyda chyfle gwirioneddol yn yr adolygiad cysylltedd i Lywodraeth y DU ddangos ei hymrwymiad i gysylltedd rhwng y de-ddwyrain a'n partneriaid masnachu dros y ffin, a'i wneud yn unol â chynllun sydd eisoes wedi ei lunio, ac wedi ei gyflwyno yn argyhoeddiadol iawn.
4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o berfformiad Cadw ledled Gogledd Cymru? OQ56393
Llywydd, mae Cadw yn parhau i gyflawni ei gyfrifoldebau statudol, ac i gynnal ei geidwadaeth o safleoedd ledled Cymru, mewn ffyrdd sy'n cadw at y cyfyngiadau sy'n angenrheidiol oherwydd argyfwng y coronafeirws.
Diolch. Prif Weinidog, roedd Neuadd Cinmel yn y penawdau unwaith eto yn ddiweddar. Mae wedi cael ei alw yn Versailles Cymru, ond mae wedi dadfeilio i gyflwr peryglus, ac mae'r darn hwn o dreftadaeth Cymru mewn perygl difrifol iawn o gael ei golli am byth, er ei fod yn adeilad rhestredig gradd I. Rwy'n gweld mai un o flaenoriaethau cyntaf Cadw yw gofalu am yr amgylchedd hanesyddol. Prif Weinidog, beth yw diben y system restru a beth yw diben Cadw os nad yw'r naill na'r llall yn diogelu treftadaeth Cymru? Diolch.
Llywydd, diolchaf i Mandy Jones am hynna, ac rwy'n rhannu ei phryderon am Neuadd Cinmel a'r adroddiadau am y dirywiad i gyflwr yr adeilad y byddaf i a hithau wedi eu darllen mewn adroddiadau. Fodd bynnag, dyma'r sefyllfa: Mae Neuadd Cinmel yn gyfleuster sy'n eiddo preifat; nid yw mewn perchnogaeth gyhoeddus. Mae Cadw wedi cyflawni ei gyfrifoldeb, sef rhestru'r adeilad. Ar ôl hynny, mater i'r awdurdod lleol—yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod yr adeilad yn cael ei gynnal mewn cyflwr sy'n cyfateb i'r rhestriad y mae Cadw wedi ei ddyfarnu iddo. Ac mae gan yr awdurdod lleol y grym i gyhoeddi atgyweiriadau statudol a hysbysiadau gwaith brys. Nawr, rwy'n deall, er bod y perchnogion presennol yn y gorffennol wedi bod yn amharod i gydnabod yr angen i weithredu i fynd i'r afael â chyflwr yr adeilad, yn fwy diweddar, bu mwy o awydd ar eu rhan i gymryd y camau sy'n angenrheidiol, a bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy mewn trafodaethau gyda nhw i wneud yn siŵr bod y camau hynny yn cael eu cymryd. Mae Cadw yn dal i gymryd rhan, ond mewn swyddogaeth ategol i'r awdurdod cynllunio lleol, gan roi dewisiadau iddyn nhw sydd ar gael i ddiogelu'r busnes—yr adeilad, mae'n ddrwg gen i. Ond nid cyfrifoldeb Cadw, ar ôl i'r rhestriad gael ei wneud, yw gwneud yn siŵr bod yr adeilad yn cael ei gadw mewn cyflwr priodol. Cyfrifoldeb y perchnogion yw hynny, a phan fo'r perchnogion yn methu â chyflawni'r cyfrifoldeb hwnnw, mater i'r awdurdod lleol yw dod i'r amlwg a gwneud yn siŵr bod y camau y dylid eu cymryd yn cael eu cymryd.
Prif Weinidog, rwyf i wedi gwrando yn astud iawn ar eich ateb am Neuadd Cinmel, sydd, fel y gwyddoch, yn fy etholaeth i. Mae'n adeilad gwerthfawr iawn, mae'n rhan bwysig iawn o'n treftadaeth genedlaethol ni fel cenedl, ac, wrth gwrs, mae gan Lywodraeth Cymru y gallu i gamu i mewn, caffael yr adeilad hwn, a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Fel y byddwch chi'n gwybod, mae Cadw nid yn unig yn gweithio gydag awdurdodau lleol ac yn rhestru adeiladau, maen nhw mewn gwirionedd yn gweithredu fel ceidwad ar gyfer llawer o adeiladau hanesyddol pwysig ledled Cymru. Felly, hoffai fy etholwyr weld Llywodraeth Cymru a Cadw yn gweithio gyda'r awdurdod lleol a'r perchnogion presennol, ond pan nad oes gan y perchnogion presennol hynny yr awydd na'r adnoddau i ddiogelu'r adeilad hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, a gaf i ofyn: a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried camu i mewn a chaffael yr adeilad hwn yn rhan o'n treftadaeth genedlaethol? Dyma gartref gwledig mwyaf Cymru, fe'i gelwir yn Versailles Cymru, ac mae'n haeddu'r lefel ychwanegol honno o ddiogelwch nad oes ei hangen ar adeiladau eraill a allai fod mewn cyflwr adfeiliedig tebyg. Felly, a allwch chi gamu i mewn os bydd yr angen yn codi?
Llywydd, diolchaf i Darren Millar am y cyfraniad yna, ac rwy'n rhannu llawer o'r hyn y mae wedi ei ddweud am arwyddocâd Neuadd Cinmel, ei phwysigrwydd i Gymru gyfan. Lle mae Cadw yn gyfrifol am gynnal a chadw henebion, adeiladau a safleoedd, y rheswm yw bod y safleoedd hynny mewn perchnogaeth gyhoeddus, ac nad yw Neuadd Cinmel mewn perchnogaeth gyhoeddus, mae ganddi berchnogion preifat, a hyd y gwn i, nid yw'r perchnogion hynny erioed wedi dangos awydd i'r adeilad gael ei dynnu allan o'u perchnogaeth a chael ei gaffael gan y Llywodraeth ar ran poblogaeth Cymru yn fwy cyffredinol. Byddai'n gam mawr iawn, oni fyddai, i'r Llywodraeth dynnu adeilad o berchnogaeth breifat yn orfodol, ac nid dyna fyddai fy newis i o ran ffordd o weithredu. Os oes awydd ar ran y perchnogion am wahanol fodel perchnogaeth yn y dyfodol, yna, wrth gwrs, byddai Llywodraeth Cymru yn rhan o'r sgwrs honno. Nid ni yw'r unig bosibilrwydd yn hynny o beth, wrth gwrs. Gwn y bydd Darren Millar yn ymwybodol iawn o weithrediad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yma yng Nghymru, ac mae nifer o ffyrdd y gall adeiladau preifat wneud eu ffordd i fathau ehangach o berchnogaeth â gwahanol lefelau o warchodaeth ar gyfer y dyfodol.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y defnydd o gyllid sydd heb ei ddyrannu yng nghyllideb flynyddol y llynedd? OQ56385
A gaf i ddiolch i Huw Irranca-Davies am hynna, Llywydd? Mae trydedd gyllideb atodol y flwyddyn ariannol hon, a fydd yn cael ei thrafod yn y Senedd yn ddiweddarach y prynhawn yma, yn cwblhau ein cynlluniau gwariant cyllidol. O gyfanswm yr adnoddau sydd ar gael o £23.3 biliwn, mae 99.6 y cant o'r arian hwnnw wedi ei ymrwymo gan Lywodraeth Cymru fel y nodir yn y drydedd gyllideb atodol.
Prif Weinidog, diolch i chi am egluro hynna, a gofynnais y cwestiwn hwn i chi gan fod Llywodraeth Cymru, er iddi ddyrannu'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud wrthym ni oedd yn 99.6 y cant o'i adnodd, wedi ei beirniadu yn barhaus gan y Torïaid yma yng Nghymru, ac ar yr un pryd mae gan eu Canghellor yn San Steffan gronfa COVID wrth gefn sy'n £19 biliwn ar hyn o bryd. Felly, Prif Weinidog, mae'n amlwg erbyn hyn pe byddai Llywodraeth Cymru wedi gwario ei holl sicrwydd COVID a oedd ar gael erbyn mis Hydref 2020, fel yr awgrymwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig yng Nghymru, yna ni fyddech chi wedi gallu cyfateb y cyfnod atal byr a chyfyngiadau'r Nadolig gyda'r cymorth busnes pellgyrhaeddol a roddwyd ar waith yn gyflym. Nawr, os oes un cysondeb, Prif Weinidog, gyda'r blaid Geidwadol yng Nghymru ar hyn o bryd, ffugio dicter pan fydd ein Llywodraeth ni yng Nghymru yn gwneud y penderfyniadau cywir i gadw Cymru yn ddiogel yw hwnnw, dim ond i ymdawelu pan fydd eu plaid nhw yn San Steffan yn dilyn ein hesiampl Felly, a ydych chi'n cytuno â mi bod y Ceidwadwyr Cymreig erbyn hyn mor bell oddi ar radar Rishi Sunak fel eu bod nhw'n teimlo'n hyderus na fydd hyd yn oed yn sylwi pan fyddan nhw'n ymosod arno ef a'i bolisïau yn anfwriadol?
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â Huw Irranca-Davies. Mae'n sicr mai un peth yw peidio â gallu bod yn ddoeth cyn y digwyddiad, a dyna'n sicr yw hanes plaid Geidwadol Cymru, ond mae'n blaid sydd ddim hyd yn oed yn llwyddo i fod yn ddoeth ar ôl y digwyddiad, ychwaith. Pe byddem ni wedi cymryd cyngor y blaid honno yn ôl ym mis Hydref, yna, wrth gwrs, mae Huw Irranca-Davies yn iawn, ni fyddem ni wedi bod mewn sefyllfa o gwbl i gynorthwyo busnesau Cymru yn y ffordd yr ydym ni wedi ei wneud yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol bresennol. Yn ôl ym mis Hydref, roeddem ni wedi gwario dwy ran o dair o'n cyllideb ddwy ran o dair o'r ffordd i mewn i'r flwyddyn ariannol hon. Roeddem ni wedi gwario tri chwarter ein cyllideb pan oeddem ni dri chwarter y ffordd drwy'r flwyddyn ariannol, ac fel y dywedais i yn fy ateb gwreiddiol, ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, byddwn ni wedi gwario 99.6 y cant o'r holl arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, ac mae hwnnw, Llywydd, yn batrwm sydd wedi ei ailadrodd flwyddyn ar ôl blwyddyn yn ystod holl gyfnod datganoli. Bob blwyddyn, mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn defnyddio'r cyllid mwyaf posibl sydd ar gael gennym ni i gynorthwyo busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Ac mae ein record hanes yn cymharu yn eithriadol o ffafriol ag adrannau Llywodraeth y DU, nad ydyn nhw byth yn rheoli unrhyw beth tebyg i'r un gyfatebiaeth rhwng yr arian sydd ar gael a'r gallu i'w ddefnyddio yn dda. Mae hanes Llywodraeth Cymru yn y fan yma yn gallu gwrthsefyll archwiliad gan unrhyw un, ac mae cyngor Plaid Geidwadol Cymru a'r lol, y lol llwyr, a gynigiwyd ganddyn nhw i bobl yn ôl ym mis Hydref wedi cael ei amlygu yn eglur iawn ers hynny gan y digwyddiadau a ddaeth i'r amlwg ers hynny.
Caiff cronfa wrth gefn Llywodraeth Cymru ddal hyd at £350 miliwn; ar 1 Ebrill 2020, roedd y balans yn £335.9 miliwn. Dair wythnos yn ôl, cytunodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar hyblygrwydd ychwanegol, y tu hwnt i gronfa wrth gefn Cymru, yn parhau i 2021-22, gan alluogi Llywodraeth Cymru i gario drosodd unrhyw elfen heb ei dyrannu o'r £650 miliwn ychwanegol a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU i mewn i flwyddyn ariannol 2021-22, ar ben y ddarpariaeth bresennol i drosglwyddo cyllid rhwng blynyddoedd. Yn y flwyddyn ariannol hon, mae Llywodraeth Cymru yn cario tua £660.2 miliwn o gyllid ychwanegol 2020-21 drosodd i 2021-22. Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiad alldro ar gyfer 2020-21, gyda lefel debyg o fanylder i'r adroddiad ar gyfer 2019-20. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i hyn, a sut y byddwch chi'n sicrhau tryloywder ychwanegol o ran cyllidebau Llywodraeth Cymru pan fo Llywodraeth Cymru, er enghraifft, wedi methu â dyrannu dim o gyllid ychwanegol Llywodraeth y DU, yn wahanol i'r Alban, sy'n golygu eich bod chi wedi methu â dyrannu £1.3 biliwn yn y gyllideb y mae eich Llywodraeth yn ei chyhoeddi heddiw?
Wel, Llywydd, nid wyf i'n credu y bydd y Llywodraeth hon angen unrhyw wersi gan yr Aelod ar fwy o dryloywder. Dyma'r drydedd gyllideb atodol yr ydym ni wedi ei gosod yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae'n nodi yn gwbl fanwl yr holl ffyrdd y defnyddiwyd yr arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Ni chyhoeddodd ei Lywodraeth ef, ei Lywodraeth ef yn San Steffan, unrhyw gyllideb atodol, a dim ond, yn hwyr iawn yn y flwyddyn, wythnosau lawer yn ddiweddarach nag yr oedden nhw wedi ei addo, pan gynhyrchwyd yr amcangyfrifon, y darparwyd yr arian ychwanegol ac, yn synhwyrol o'r diwedd, cytunodd y Trysorlys ei bod hi'n rhy hwyr yn y flwyddyn ariannol i'r arian hwnnw gael ei ddefnyddio yn synhwyrol ac y ceid ei gario drosodd i'r flwyddyn ariannol nesaf. Dyna'n union, felly, y mae fy nghyd-Weinidog Rebecca Evans yn bwriadu ei wneud.
Rydym ni wedi adrodd yn ffyddlon ac yn rheolaidd ar bob penderfyniad gwario yr ydym ni wedi ei wneud i'r Senedd, yn wahanol iawn i berfformiad ei blaid ef ar lefel y DU. Wrth gwrs y byddwn ni'n cyhoeddi adroddiad alldro. Mae hynny'n digwydd bob blwyddyn, fel mater o drefn. Mae'n rhaid i ni adrodd ar ganlyniad terfynol ein cyllideb, a byddwn ni'n gwneud yn union hynny. Mae'n siom fawr i mi bod y Canghellor wedi gwrthod, ac yn parhau i wrthod, caniatáu unrhyw hyblygrwydd ychwanegol i ni gyda'n harian ein hunain, Llywydd. Dyna'r hyn yr ydym ni wedi gofyn amdano o ran cronfa wrth gefn Cymru. Nid ydym ni wedi gofyn am yr un geiniog ychwanegol gan y Canghellor; rydym ni wedi gofyn yn syml am y gallu i'r arian sydd gennym ni fel Llywodraeth gael ei reoli gennym ni mewn ffordd a fyddai'n sicrhau'r gwerth mwyaf posibl o'r arian cyhoeddus hwnnw ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Yn hytrach, rydym ni'n dal i gael ein trin gan Lywodraeth y DU fel pe byddem ni'n adran arall o'r Llywodraeth, yn hytrach na Llywodraeth a Senedd yn ein rhinwedd ein hunain. Ac rwy'n credu bod honno ddim ond yn un enghraifft arall o'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn parhau i wrthod cydnabod gwirioneddau'r Deyrnas Unedig ar ôl 20 mlynedd o ddatganoli.
Cwestiwn 6, Lynne Neagle.
Ni allaf eich clywed chi ar hyn o bryd, Lynne Neagle. Gallaf weld eich bod chi wedi dad-dawelu, ond a ydych chi wedi eich tawelu yn ganolog ar eich—?
A wnaf i roi cynnig arall arni? A yw hynna'n well?
Ydy, mae'n llawer gwell yr eildro. Diolch.
6. Pa gamau y bydd y Prif Weinidog yn eu cymryd i sicrhau bod lles plant a phobl ifanc yn cael ei flaenoriaethu wrth ystyried llacio'r cyfyngiadau symud? OQ56425
Llywydd, a gaf i ddiolch i Lynne Neagle am y cwestiwn yna ac am ei diddordeb a'i chefnogaeth barhaus i'r maes cyfan hwn? Ein blaenoriaeth wrth lacio'r cyfyngiadau yw cael cynifer o blant a phobl ifanc â phosibl mewn modd mor ddiogel â phosibl yn ôl i addysg wyneb yn wyneb. Wrth i'r amodau wella, byddwn yn archwilio sut y gall gweithgareddau awyr agored dan oruchwyliaeth ailddechrau ar gyfer plant yng Nghymru hefyd.
Diolch, Prif Weinidog. Fel y gwyddoch, yn anaml y bydd COVID yn achosi salwch difrifol mewn plant a phobl ifanc, ond rydym ni'n gwybod bod y pandemig wedi cael effaith enfawr ar eu dysgu, ar eu hiechyd meddwl ac ar agweddau eraill ar eu hiechyd corfforol. Rwyf wir yn cefnogi y dull gofalus o lacio'r cyfyngiadau symud, a dull lle'r ydym ni'n parhau i ddilyn tystiolaeth a chyngor gwyddonol. Fodd bynnag, rwy'n bryderus iawn y bydd penderfyniadau yn y dyddiau nesaf i lacio cyfyngiadau eraill yn cael gwared ar yr hyblygrwydd hanfodol sydd ei angen i ddychwelyd plant i'r ysgol yn llawn. Pa sicrwydd all y Prif Weinidog ei roi y bydd sicrhau y gall pob plentyn ddychwelyd i'r ysgol ar 15 Ebrill ar ôl y Pasg yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth iddo, a pha sicrwydd all ef ei roi y bydd yr angen i gynnal yr hyblygrwydd i blant ddychwelyd i'r ysgol yn gwbl ganolog i benderfyniadau yn y dyfodol ar lacio'r cyfyngiadau symud? Ac a gaf i ofyn hefyd pa un a yw'r Prif Weinidog yn bwriadu cyhoeddi asesiad o effaith ar hawliau plant wedi ei ddiweddaru er mwyn cyd-fynd â'r adolygiad diweddaraf o gyfyngiadau? Diolch.
Llywydd, diolchaf i Lynne Neagle am y cwestiwn yna, ac am yr holl waith y mae hi wedi ei wneud yn cadeirio'r pwyllgor plant a phobl ifanc yn y Senedd, sydd wedi gwneud cymaint o gyfraniad at y ffordd yr ydym ni wedi gallu ymdrin â'r materion heriol hyn. Prif flaenoriaeth Llywodraeth Cymru o hyd yw cael ein plant a'n pobl ifanc yn ôl i addysg wyneb yn wyneb, ei wneud mor gyflym ond mor ddiogel ag y gallwn, a dyna pam yr ydym ni wedi datblygu'r dull cam wrth gam, oherwydd dyna y mae'r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau, ein grŵp cell cynghori technegol ein hunain a'r prif swyddog meddygol wedi ei ddweud wrthym ni o'r cychwyn. Felly, mae gennym ni tua 30 y cant o blant yn ôl yn yr ysgol eisoes o ganlyniad i ddychweliad y cyfnod sylfaen. Ddydd Llun yr wythnos nesaf, byddwn yn dychwelyd pob plentyn o oedran cynradd i addysg wyneb yn wyneb, myfyrwyr arholiad yn yr ysgol uwchradd, a bydd hi wedi gweld ac wedi croesawu, mi wn, yr hyblygrwydd ychwanegol y mae'r Gweinidog addysg wedi ei gynnig i awdurdodau addysg lleol a phenaethiaid ddod â mwy o blant yn ôl i'r ysgol cyn gwyliau'r Pasg. Byddwn yn ceisio defnyddio'r hyblygrwydd sydd gennym ni i ailgyflwyno rhai agweddau eraill ar fywyd Cymru, ond rydym ni bob amser yn gwneud hynny gan roi sylw manwl i beidio â gwneud dim a fyddai'n amharu ar ein gallu i ddychwelyd ein plant a'n pobl ifanc i gyd i'r ysgol yn syth ar ôl gwyliau'r Pasg, a gallaf roi'r sicrwydd hwnnw iddi mai dyna, bob amser, yw'r safbwynt sy'n sail i'n hystyriaeth o'r agweddau eraill yr ydym ni'n gobeithio gallu gwneud rhywfaint o gynnydd rhagarweiniol arnyn nhw ar ôl cwblhau adolygiad y dydd Gwener hwn. Yn y cyfamser, byddwn yn cyhoeddi'r holl asesiadau o effaith a'r dogfennau ategol yr ydym ni wedi eu datblygu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, wrth i ni gwblhau'r adolygiad tair wythnos hwn.
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu ei buddsoddiad mewn prosiectau cyfalaf? OQ56426
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud pob ymdrech i sicrhau'r gwerth gorau posibl o'i buddsoddiadau cyfalaf, yn unol â'r arferion gorau ar gyfer stiwardiaeth arian cyhoeddus.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Pe na byddai Llywodraeth Cymru newydd roi grant o £42.6 miliwn i Faes Awyr Caerdydd, gallai fod wedi recriwtio 1,000 o nyrsys GIG newydd a'u talu nhw am ddwy flynedd. Yn ddiweddar, rhoddodd y Gweinidog trafnidiaeth y bai am yr angen i ddileu £40 miliwn o ddyled sy'n ddyledus i drethdalwyr Cymru gan y maes awyr a dyfarnu'r grant aruthrol o fawr hwn iddyn nhw ar bandemig COVID, ond nid COVID sy'n gyfrifol am hyn, nage? Nid yw Maes Awyr Caerdydd erioed wedi gwneud elw o dan berchnogaeth y Llywodraeth, ac yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth diwethaf—pan roedd ganddo, yn ôl Mr Skates, y niferoedd uchaf o deithwyr erioed yn mynd drwy'r maes awyr—gwnaeth ei golled fwyaf erioed, hyd yn oed pan fyddwch chi'n cymryd y gwariant untro ar gyfer y flwyddyn honno i ystyriaeth. Mae'n wir bod COVID wedi gwthio ein holl feysydd awyr i wneud colled, ond roedd Caerdydd eisoes yn gwneud colledion mawr cynt, gan golli £20 miliwn y flwyddyn i'r trethdalwr. Ni ddisgwylir i niferoedd teithwyr ddychwelyd i lefelau cyn COVID am fwy na thair blynedd, felly, hyd y gellir rhagweld, bydd yn rhaid i chi roi o leiaf £20 miliwn y flwyddyn i Faes Awyr Caerdydd, yr un swm o arian â chyflog blwyddyn arall ar gyfer y 1,000 o nyrsys ychwanegol hynny y gallech chi fod wedi eu recriwtio yn hytrach na hynny. Nid bargen wael i'r gogledd yn unig yw hon, mae'n fargen wael i'r wlad gyfan. Onid yw'n wir, Prif Weinidog, eich bod chi'n cadw Maes Awyr Caerdydd mewn perchnogaeth gyhoeddus am resymau gwleidyddol, gan ei fod yn achosi gormod o gywilydd i chi gyfaddef na fydd byth yn hyfyw ac na ddylech chi fyth fod wedi buddsoddi yr un geiniog o arian pobl Cymru ynddo yn y lle cyntaf? Mae'r achubiad diweddaraf i Faes Awyr Caerdydd mor ddi-sail yn fasnachol fel na fyddai hyd yn oed Banc Datblygu Cymru, sy'n cymryd mwy o risg yn fwriadol na'r farchnad, wedi rhoi benthyg unrhyw arian iddo. Felly, Prif Weinidog, a oes terfyn i faint o arian da ar ôl drwg yr ydych chi'n barod i'w daflu at Faes Awyr Caerdydd, neu a wnewch chi ddiogelu arian cyhoeddus Cymru nawr, rhoi'r gorau i ariannu'r maes awyr, a'i wario ar wella GIG Cymru yn hytrach?
Llywydd, nid wyf i'n rhannu gelyniaeth yr Aelod tuag at Faes Awyr Caerdydd. Roedd ei chrynodeb mor anghywir ag yr oedd yn hir. Yn wir, o'r brig i'r gwaelod mae'n camliwio'r achos dros fuddsoddi ym Maes Awyr Caerdydd, llwyddiant y buddsoddiad hwnnw, ac mae hi—. Mae'n gamliwiad mor sylfaenol i honni y gellid defnyddio'r arian a ddarparwyd ar gyfer Maes Awyr Caerdydd yn GIG Cymru. Nid yw ar gael yn y ffordd honno, a byddai'r ddealltwriaeth symlaf—symlaf—o sut y mae cyllid yn gweithio wedi ei hatal rhag gwneud y camgymeriad hwnnw. Oherwydd nid yw'n gamgymeriad, nac ydy? Mae'n haeriad gwleidyddol y mae hi'n ceisio ei wneud. Mae hi'n anghywir am y maes awyr, mae hi'n anghywir am y cyllid, ac nid wyf i'n meddwl y byddai unrhyw un sy'n angerddol am fuddiannau Cymru yn barod i'w dilyn yn y ddadl y mae hi wedi ei gwneud.
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol Maes Awyr Caerdydd? OQ56388
Ah, wel, diolchaf i Carwyn Jones am y cwestiwn yna am Faes Awyr Caerdydd. Mae'r pandemig byd-eang wedi cael effaith drychinebus ar y diwydiant hedfan byd-eang. Yma, rydym ni wedi gweithredu mewn modd pendant i helpu i sicrhau dyfodol Maes Awyr Caerdydd, i sicrhau bod ganddo ddyfodol cynaliadwy ac i ddiogelu gwerth y buddsoddiad cyhoeddus yn y maes awyr.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Gwrandewais ar y cwestiwn hir gan Michelle Brown. Y gwir amdani, wrth gwrs, yw bod mwy na 5,000 o swyddi yn ddibynnol ar Faes Awyr Caerdydd, ac mae bodolaeth Maes Awyr Ynys Môn yn ddibynnol ar Faes Awyr Caerdydd, ond, i Michelle Brown, mae'r swyddi hyn yn y rhan anghywir o Gymru i fod yn bwysig, a dyna'r argraff a gefais i. Roedd Maes Awyr Caerdydd yn gwneud yn dda dros ben hyd at yr argyfwng COVID.
Ond helpwch fi gyda hyn, os gwnewch chi, Prif Weinidog. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig, drwy eu Llywodraeth yn Llundain, wedi rhoi cymorth i feysydd awyr yn Lloegr, ond maen nhw'n condemnio ein Llywodraeth ni yng Nghymru gan ei bod hi wedi rhoi cymorth i'n meysydd awyr yng Nghymru. A allwch chi fy helpu i ynghylch pam mae ganddyn nhw'r safonau dwbl hynny? Neu a yw oherwydd, yn nwfn yn enaid y Blaid Geidwadol, yn rhan annatod o'u DNA, ynghyd â'u cyd-deithwyr fel Michelle Brown, bod awydd cryf i weld Cymru yn methu?
Wel, Llywydd, mae Llywodraeth yr Alban wedi rhoi cymorth i feysydd awyr yr Alban, mae Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon wedi rhoi cymorth i faes awyr Belfast; gwrthododd Llywodraeth y DU roi cymorth i Faes Awyr Caerdydd. Rhoddodd gymorth i Faes Awyr Bryste, yr oedd wedi dweud wrthym ni erioed ei fod yn gystadleuydd uniongyrchol i Gaerdydd, y rheswm pam nad oedd yn bosibl datganoli'r doll teithwyr awyr i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi camu i mewn i ddiogelu ased cenedlaethol, sef Maes Awyr Caerdydd. Fel y mae Carwyn Jones wedi ei ddweud, Llywydd, roedd y maes awyr wedi bod ar lwybr o welliant cryf o ganlyniad i'r camau a gymerodd ef pan oedd yn Brif Weinidog i wneud yn siŵr bod yr ased y mae'n rhaid i Faes Awyr Caerdydd ei fod i economi Cymru yn cael ei gadw ar gyfer pobl Cymru. Y 5,000 o swyddi sy'n dibynnu ar y maes awyr yn fwy cyffredinol, y 2,400 o swyddi sy'n dibynnu arno yn uniongyrchol—ni fydd y Llywodraeth hon yng Nghymru yn troi ein cefn ar yr effaith y mae'r pandemig wedi ei chael ar y maes awyr. Byddwn yn ei gefnogi, hyd yn oed pan na fydd eraill yn gwneud hynny.
Yn olaf, cwestiwn 9, Leanne Wood.
9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth a roddwyd i brosiect Rhondda Skyline? OQ56421
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Llywydd, mae cronfa her yr economi sylfaenol wedi cefnogi prosiect Rhondda Skyline i adeiladu ar ei astudiaeth o ddichonoldeb ac ymchwilio i sefydlu prosiect stiwardiaeth tir cymunedol, hirdymor cyntaf Cymru ar raddfa tirwedd o amgylch tref Treherbert.
Prif Weinidog, pan ddadorchuddiwyd prosiect Skyline am y tro cyntaf, roedd yn addo cymaint. Fel Prif Weinidog, fe wnaethoch chi ymateb i gwestiwn a ofynnais i am greu swyddi a chyfleoedd yn y Rhondda, gan ddadlau bod prosiect Skyline yn dystiolaeth nad oedd y Blaid Lafur wedi anghofio am y Rhondda. Ym mis Hydref 2019, fe wnaethoch chi ddweud y byddech chi'n barod i, ac rwy'n dyfynnu:
wneud beth bynnag a allwn ni i helpu'r prosiect cyffrous iawn hwnnw i ddwyn ffrwyth.
Wel, mae'r prosiect wedi'i wanhau o sefyllfa lle mae'r gymuned â rheolaeth dros 650 hectar fel y crybwyllwyd, i ddim ond 80 hectar erbyn hyn, gan gorff eich Llywodraeth chi, Cyfoeth Naturiol Cymru, ac fel pe na byddai hyn yn ddigon siomedig, mae hyd yn oed y prosiect llawer llai, cymedrol, hwn wedi ei wrthod yn llwyr oherwydd materion technegol mewnol Cyfoeth Naturiol Cymru/Llywodraeth Cymru. Mae cynlluniau tebyg yn cael eu rhedeg yn llwyddiannus mewn llawer o wledydd ledled y byd. Mae dros 200 o gymunedau sy'n berchen ar dir yn yr Alban yn gwneud yn union yr hyn y mae prosiect Skyline eisiau ei wneud, ac eto mae'n ymddangos na all model o reolaeth economaidd gymunedol ar dir coedwigaeth gyhoeddus ddechrau yn briodol yma yng Nghymru.
Pam nad yw Llywodraeth Cymru sy'n cael ei rhedeg gan Lafur yn gallu gwneud hyn? A allwch chi ddweud wrthym ni beth sydd wedi mynd o'i le gyda'r prosiect hwn?
Wel, Llywydd, rwy'n siomedig o weld yr Aelod mor awyddus i gyhoeddi diwedd y prosiect. Fe gyfarfûm gydag uwch swyddogion ar hyn i gyd bore ddoe. Gallaf ei sicrhau hi nad yw'r trafodaethau ar ben. Mae trafodaethau'n cael eu cynnal rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a'r prosiect. Mae'n rhaid i'r trafodaethau hynny ystyried y cyngor y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ei gael gan Swyddfa Archwilio Cymru; fyddai hi ddim yn disgwyl iddyn nhw wneud dim byd llai. Mae cyfarfod arall wedi'i gynllunio heddiw rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a'r prosiect. Rwy'n credu ei bod hi'n gynamserol, Llywydd, ac rwy'n credu nad yw'n helpu i ruthro i gasgliad yn y ffordd y gwnaeth hi.
Ymwelais i â'r prosiect Skyline ac fe wnaeth y bobl y cyfarfûm â nhw a'r cynlluniau a oedd ganddyn nhw argraff fawr arnaf. Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi darparu £95,000 drwy'r gronfa her economi sylfaenol i gefnogi'r prosiect, ac rwy'n obeithiol y bydd y trafodaethau sy'n parhau rhwng y prosiect a Cyfoeth Naturiol Cymru yn dod o hyd i ffordd o wireddu'r manteision economaidd a chymdeithasol y mae'r prosiect yn eu cynnig i bobl yn y rhan honno o'r Rhondda.
Ysgrifennodd y Gweinidog sy'n gyfrifol, Lesley Griffiths, at Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Rhagfyr, gan ddweud wrthyn nhw ei bod hi eisiau dyfodol i'r prosiect a fyddai'n gwneud hynny'n union, a fyddai'n caniatáu i'r manteision economaidd a chymdeithasol llawn y mae'n eu cynnig gael eu gwireddu, ac rwyf eisiau i'r trafodaethau hynny barhau ar y sail honno.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf felly yw'r cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mike Hedges.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu hawliau dynol pobl anabl? OQ56381
Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, Mike Hedges. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i arwain y ffordd o ran dileu gwahaniaethu tuag at bobl anabl. Mae ein fforwm cydraddoldeb i bobl anabl wedi arwain y ffordd o ran amlygu effaith COVID-19 ar bobl anabl yn ystod y pandemig.
Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb yna. Mae pobl ag anabledd, yn enwedig y rhai ag anableddau cudd fel arthritis, sglerosis ymledol, encephalomyelitis myalgic a byddardod, yn aml yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y gellir rhoi mwy o gymorth i bobl sydd â'r mathau hyn o anableddau i sicrhau nad ydyn nhw o dan anfantais?
Rwy'n cydnabod yr heriau sylweddol, fel y dywedodd yr Aelod, y mae pobl sy'n byw gyda chyflyrau fel MS, ME, arthritis a byddardod yn eu hwynebu. A hefyd, yr effaith ychwanegol, wrth gwrs, y mae COVID wedi'i chael ar ofalwyr, ffrindiau a theuluoedd. Rwy'n gwybod bod yr Aelod yn cydnabod y model cymdeithasol o anabledd, y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'w ddefnyddio, ac mae'n gwneud y gwahaniaeth pwysig hwnnw rhwng nam ac anabledd, gan gydnabod bod pobl â namau yn cael eu hanalluogi gan rwystrau sy'n bodoli yn gyffredin mewn cymdeithas. Ac rydym ni hefyd yn cydnabod nad yw pob nam, fel y dywedwch chi, Mike Hedges, yn weladwy, a bod yn rhaid rhoi'r un pwysoliad i namau cudd. Ac mae'r model cymdeithasol yn cefnogi'r rhai hynny sydd ag anabledd cudd.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod bod gennym ni, yn ein fforwm cydraddoldeb i bobl anabl, aelodaeth eang, gan gynnwys Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar, Cyngor Pobl Fyddar Cymru, y Gymdeithas MS, yn ogystal â llawer o sefydliadau anabledd eraill. Ac rydym ni newydd gyflogi rhwydwaith o chwech o bobl anabl fel hyrwyddwyr cyflogaeth, a fydd yn gweithio gyda chyflogwyr ac yn cydnabod y namau cudd hyn, o ran y rhwystrau a'r cyfleoedd sydd gennym ni i'w goresgyn.
2. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am ymdrechion i atal caethwasiaeth fodern yng ngogledd Cymru? OQ56405
Diolch i Rhun ap Iorwerth am y cwestiwn yna. Rydym ni'n benderfynol o wneud pob rhan o Gymru yn elyniaethus i gaethwasiaeth fodern. Rydym yn parhau i weithio gyda chomisiynwyr yr heddlu a throseddu a'n partneriaid amlasiantaeth yng Nghymru, a ledled y DU, i amddiffyn pobl sy'n agored i niwed, ac i atal a rhoi terfyn ar y drosedd ffiaidd hon.
Diolch am yr ateb yna. Mi ges i gyfarfod yn ddiweddar efo Soroptimist International Ynys Môn, mudiad sy'n gwneud gwaith gwerthfawr iawn ym maes caethwasiaeth fodern a county lines, ac yn codi ymwybyddiaeth ac ati. Maen nhw'n poeni bod y pandemig wedi ei gwneud hi'n anoddach i adnabod caethwasiaeth fodern, efo dioddefwyr o bosibl yn fwy ynysig, wedi eu cuddio o'r golwg fwy, yn ystod cyfnodau clo. Mae yna berygl hefyd y gallai caledi economaidd yn sgil y pandemig roi mwy o bobl mewn sefyllfa fregus, lle y gallen nhw fod yn agored i gael eu hegsploitio. Ac mae yna hefyd bryder bod y ffaith bod ysgolion wedi cau yn ei gwneud hi'n anoddach i adnabod plant sydd wedi cael eu tynnu i mewn i county lines. Gaf i ofyn pa astudiaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud o effaith y pandemig ar gaethwasiaeth fodern, a pha fesurau sy'n cael eu rhoi mewn lle i helpu dioddefwyr ar un llaw, ac i atal y troseddwyr ar y llaw arall?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna. Mae'r ffaith fod sefydliadau fel Soroptimist International yn dod ymlaen ac yn cymryd hwn fel mater y maen nhw yn pryderu amdano ac yn ceisio tystiolaeth ar ei gyfer, ac yn cyflwyno sylwadau i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern—. Wrth gwrs, mae grŵp trawsbleidiol ar fasnachu pobl, o dan gadeiryddiaeth Joyce Watson, a oedd hefyd mewn gwirionedd yn gyfrifol am sicrhau ein bod yn penodi cydgysylltydd gwrth-gaethwasiaeth Llywodraeth Cymru. Ni yw'r wlad gyntaf a'r unig wlad yn y DU i benodi cydgysylltydd gwrth-gaethwasiaeth, er, wrth gwrs, nad y Llywodraeth ddatganoledig sy'n gyfrifol am holl ganlyniadau caethwasiaeth.
Ond mae eich pwyntiau am nodi effaith COVID, nid yn unig o ran pobl ddim yn dod ymlaen, ond o ran nodi dioddefwyr a chodi ymwybyddiaeth, yn hollbwysig, ac rydym ni'n gweithio'n agos gydag asiantaethau allweddol ledled y gogledd. Ac rwy'n credu eich bod chi hefyd yn gwneud pwynt pwysig o ran y materion sy'n ymwneud â llinellau cyffuriau. Felly, rydym ni'n gweithio gyda'n partneriaid i fynd i'r afael â chaethwasiaeth mewn troseddau sy'n gysylltiedig â llinellau cyffuriau, er mwyn diogelu pobl sy'n agored i niwed rhag dioddef camfanteisio. Felly, mae cydgysylltydd gwrth-gaethwasiaeth Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos iawn gydag asiantaethau allweddol yng Nghymru i bennu graddfa, mathau a lleoliad caethwasiaeth, a hefyd i wella gwybodaeth a chofnodi digwyddiadau yng Nghymru, gan ddefnyddio'r dull atgyfeirio cenedlaethol, y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol, i gynyddu achosion o fewn y system cyfiawnder troseddol.
Tynnwyd cwestiwn 3 [OQ56396] yn ôl. Cwestiwn 4, Nick Ramsay. Cwestiwn 4, Nick Ramsay.
Cwestiwn 4, Nick Ramsay. Ydw i'n cael fy nglywed? Ydw, rwy'n cael fy nglywed. Mae Nick Ramsay newydd ddiflannu o'm sgrin. Na, mae Nick Ramsay ar fy sgrin. Iawn, rwy'n mynd i symud ymlaen.
Cwestiwn 5, Helen Mary Jones.
5. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r trydydd sector yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ56413
Diolch, Helen Mary Jones, am y cwestiwn yna. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid craidd ar gyfer Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a chynghorau gwirfoddol sirol i'w galluogi i gefnogi mudiadau gwirfoddol lleol a grwpiau gwirfoddoli ledled Cymru, ac rydym ni wedi darparu £4 miliwn drwy ein cronfa ymateb COVID trydydd sector i'r trydydd sector yn y canolbarth a'r gorllewin.
Rwy'n ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog am ei hateb. Bydd y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol bod llawer o sefydliadau'r trydydd sector yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae Cysylltu Ieuenctid, Plant ac Oedolion yn Llanelli, yn fy rhanbarth i, yn un, wedi bod yn arallgyfeirio ac yn ceisio gwneud eu gweithrediadau yn fwy masnachol. Er enghraifft, yn CYCA, maen nhw wedi bod yn ceisio gosod man swyddfa ar gyfer desgiau poeth, y math yna o beth. Nawr, gydag effaith argyfwng COVID, mae'r ymdrechion hyn i ddod yn fwy masnachol o dan fygythiad, maen nhw wedi mynd yn anoddach, efallai y bydd yn rhaid cael pwyslais gwahanol. A all y Dirprwy Weinidog ddweud wrthym ni y prynhawn yma pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i'r mathau hynny o sefydliadau trydydd sector y mae eu hincwm wedi ei effeithio yn y tymor canolig?
Mae hwnna'n gwestiwn pwysig iawn o ran y pwysau ar y sector gwirfoddol yn ystod y pandemig a'r ffaith ei fod wedi gorfod arallgyfeirio, ac mae llawer wedi arallgyfeirio er mwyn ymateb i'r pandemig mewn gwahanol ffyrdd. Rwy'n cofio, wrth gwrs, ymweld â phrosiect CYCA fy hun yn y gorffennol a gweld y gwaith da y maen nhw wedi ei wneud.
Wrth gwrs, yn ôl ym mis Ebrill y llynedd, wrth ymateb i'r pandemig, cyhoeddais y pecyn cymorth hwn gwerth £24 miliwn i drydydd sector Cymru, a'r pwynt pwysig am y pecyn oedd ei fod yn ymwneud ag ymateb brys, ond roedd hefyd yn ymwneud â chadernid, ymateb i'r pandemig a chydnabod yr angen i gefnogi'r rhai a oedd yn arallgyfeirio. Felly, rwy'n credu bod y grant adfer ar gyfer gwirfoddoli yn sgil y coronafeirws yn hollbwysig o ran diwallu'r anghenion newydd hynny, ond hefyd i gydnabod ei fod yn adferiad i gyllid y gwasanaethau gwirfoddol, sydd bellach yn £7.5 miliwn, gan ganolbwyntio ar leihau anghydraddoldebau ar draws cymdeithas ac adnoddau ar gyfer newid a datblygu, gan gynnwys hefyd cymorth seilwaith, yn ogystal ag Ymddiriedolaethau Adfywio Cymru, ailadeiladu ar ôl coronafeirws. A dyma lle gallwn ni hefyd sicrhau bod sefydliadau'r trydydd sector yn gallu cael gafael ar ffynonellau cymorth eraill. Felly, mae'n gadernid, mae'n gyllid brys ac mae'n adferiad i gefnogi'r sefydliadau hyn.
Cwestiwn 6, Janet Finch-Saunders. Cwestiwn 6, Janet Finch-Saunders.
Galw bae Llandudno. Janet Finch-Saunders, a allwch chi fy nghlywed i? Rwy'n gallu eich gweld chi, Janet Finch-Saunders. Ydych chi'n gwrando? Na.
Nick Ramsay, cwestiwn 4.
Ydych chi'n gallu fy nghlywed i nawr?
Da iawn. Dydw i ddim yn siŵr beth sy'n digwydd. [Chwerthin.] Gremlins yn y system. Iawn.
4. A wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu cyfraniad y sector gwirfoddol a gwirfoddoli yn ystod y pandemig? OQ56401
Diolch yn fawr iawn, Nick Ramsay. Wrth gwrs, mae'r sector gwirfoddol yng Nghymru wedi chwarae rhan bwysig a hanfodol yn ein hymdrechion i ymladd y pandemig, fel y dywedais i. Mae'n ymwneud â darparu gwasanaethau allweddol, cydgysylltu cefnogaeth leol a helpu i gefnogi ein gwirfoddolwyr ymroddedig a thosturiol. Rwy'n siŵr y byddech chi'n ymuno â mi, a phob un ohonom ni heddiw, i ddweud 'diolch' enfawr i'n holl wirfoddolwyr a sefydliadau'r sector gwirfoddol.
Diolch, Dirprwy Weinidog, fe fyddwn i'n cytuno â hynny. Ledled Cymru rydym ni wedi gweld gweithredoedd o wir arwriaeth, gyda phobl yn cymryd rhan yn eu cymunedau lleol, yn cefnogi'r rhai sydd wedi bod yn unig ac yn ynysig. Yn ôl Age Cymru, mae unigrwydd ac arwahanrwydd yn realiti dyddiol i lawer o bobl hŷn: mae 75,000 o bobl hŷn yng Nghymru wedi dweud eu bod bob amser neu yn aml yn teimlo'n unig. Rwyf wedi codi mater unigrwydd gwledig o'r blaen, Dirprwy Weinidog. Tybed pa drafodaethau y gallech chi fod wedi eu cael neu y gallech chi eu cael gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i drafod sut y gellir ymdrin â'r agwedd benodol honno ar unigrwydd mewn ardaloedd gwledig, a sut y gall y sector gwirfoddoli helpu i ddarparu cymorth.
Wel, mae Nick Ramsay yn codi mater pwysig iawn ynglŷn â'r gwasanaethau a ddarperir gan y sector gwirfoddol, ond yr anghenion newydd, os mynnwch chi, sydd wedi codi. Bu anghenion erioed o ran pwysau a materion penodol mewn ardaloedd gwledig, ond rydych chi hefyd yn canolbwyntio ar unigrwydd ac arwahanrwydd. Rwy'n credu mai dyna ble mae'r trydydd sector a'r sector gwirfoddol wedi ymateb yn dda i'r sefyllfa mewn gwirionedd, oherwydd mae gennym ein cynghorau gwirfoddol sirol ledled Cymru ym mhob sir, ac maen nhw, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig—Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent, wrth gwrs, yn cwmpasu sir Fynwy—yn edrych ar yr anghenion penodol hynny. Mae gan lawer hefyd eu fforymau pobl hŷn sy'n edrych ar y materion hyn sy'n ymwneud ag arwahanrwydd ac unigrwydd.
Byddwn i'n dweud bod hwn yn fater traws-Lywodraethol, ac felly, ie, o ran y materion gwledig, mae'n fater i'w rannu a gweithio arno gyda Gweinidog yr Amgylchedd a Materion Gwledig, ond mae hefyd yn sicr yn gyfrifoldeb i'r Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, sy'n amlwg wedi ymarfer swyddogaeth allweddol wrth weithio gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, sefydliadau pobl hŷn, yn enwedig o ganlyniad i'r pandemig, i edrych ar ffyrdd y gallwn ni estyn allan a lliniaru'r unigrwydd a'r arwahanrwydd hwnnw. Ond mae'n ymwneud â sut y gallwn ni sicrhau bod gan y trydydd sector yr adnoddau a'r cymorth, yn enwedig, o ran gwirfoddoli, Age Cymru, Cyswllt Oedran Cymru, i wneud y cysylltiadau sefydliadol cyfeillio hynny sydd mor bwysig i bobl hŷn.
Beth am i ni roi cynnig arall arni: cwestiwn 6, Janet Finch-Saunders.
6. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am ddiogelu hawliau dynol pobl hŷn yng Nghymru? OQ56424
Diolch, Janet Finch-Saunders. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal a diogelu hawliau pobl hŷn yng Nghymru. Trwy gydol y pandemig, rydym ni wedi gweithio gyda'r comisiynydd pobl hŷn, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru ac Age Cymru i fonitro ei effaith ar hawliau pobl hŷn a chymryd camau priodol.
Ydych, a byddwn i yn erfyn arnoch chi fel Llywodraeth Cymru i wrando ar Helena Herklots, ein comisiynydd pobl hŷn eithriadol. Yn ei maniffesto ar gyfer 2021, mae hi wedi nodi'r camau y mae eu hangen ar unwaith ac yn y tymor hwy i sicrhau nad yw pobl hŷn yn cael eu gadael ar ôl. Mae hyn yn cynnwys rhoi'r fframwaith cyfreithiol cywir ar waith i ddiogelu a hybu hawliau pobl hŷn, felly ni ddylai fod yn syndod o gwbl i chi fy mod i wrth fy modd yn darllen galwadau'r comisiynydd am Ddeddf hawliau pobl hŷn (Cymru), a fyddai'n ymgorffori egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn yn y gyfraith ddomestig i ddiogelu a hybu hawliau pobl hŷn wrth ddarparu pob gwasanaeth cyhoeddus. Y llynedd, fe wnaethom ni alw am ddeddfwriaeth i ddiogelu a hybu hawliau pobl hŷn yng Nghymru, felly rwy'n gefnogol iawn i alwadau'r comisiynydd am ddeddfwriaeth. A fyddwch chi'n cefnogi'r galwadau hynny? Diolch.
Diolch, Janet Finch-Saunders. Wrth gwrs, fel y gwyddoch chi, mae gennym ni hanes hir a balch o gefnogi hawliau pobl hŷn. Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i sefydlu comisiynydd pobl hŷn, ac mae'r comisiynwyr pobl hŷn hynny dros y blynyddoedd—gan gynnwys Helena yn awr, wrth gwrs—wedi chwarae rhan mor bwysig wrth eirioli a hyrwyddo pobl hŷn. Rydym ni'n buddsoddi £1.5 miliwn y flwyddyn i gefnogi swydd y comisiynydd pobl hŷn. Ond, trwy gydol y pandemig yn arbennig, rydym ni wedi gweithio gyda'r comisiynydd pobl hŷn, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru ac Age Cymru i fonitro'r effaith ar hawliau pobl hŷn. Mae'r comisiynydd pobl hŷn yn cynnal cyfarfodydd wythnosol gyda'r Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r ddeialog, wrth gwrs, yn ymwneud â sut y gallwn ni ddiogelu hawliau pobl hŷn, ac fe fyddwch chi'n ymwybodol iawn o gyhoeddi 'Diogelu ein Hiechyd' yn ddiweddar, adroddiad arbennig y prif swyddog meddygol ar y pandemig. Mae hyn hefyd wedi tynnu sylw at yr holl anghenion sy'n pontio'r cenedlaethau, ac mae gennym ni ein hymgynghoriad cyhoeddus ar strategaeth newydd ar gyfer pobl hŷn. Mae egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn wedi llywio'r gwaith o ddatblygu'r strategaeth hon, ac mae hynny'n seiliedig i raddau helaeth ar ein hymrwymiad i sicrhau ein bod yn gwrthod rhagfarn a gwahaniaethu ar sail oedran.
Ond rwy'n credu, yn olaf, Janet Finch-Saunders, y byddwch chi'n falch o glywed ein bod ni'n disgwyl canlyniad yr adroddiad terfynol ar ein hymchwil i hybu cydraddoldeb a chryfhau hawliau dynol, sy'n edrych ar ffyrdd y dylem ni eu defnyddio i ystyried pa un a ddylem ni gael deddfwriaeth i ymgorffori confensiynau'r Cenhedloedd Unedig yn neddfwriaeth Cymru. Mae'r ymchwil hwnnw, sydd wedi ei gynnal gan brifysgolion Abertawe a Bangor gyda Diverse Cymru, i fod i gael ei gyhoeddi cyn diwedd y Senedd hon ac, rwy'n gwybod, y bydd yn ein llywio o ran bwrw ymlaen â hyn.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r ddadl ar y pedair set o reoliadau newid hinsawdd wedi'i gohirio tan yr wythnos nesaf. Mae'r busnes drafft ar gyfer y pythefnos sydd ar ôl o'r tymor wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Rwy'n galw am un datganiad gan Lywodraeth Cymru ar gefnogaeth i reilffordd Llangollen. Cyhoeddodd cyfarwyddwyr y rheilffordd treftadaeth wych hon yr wythnos diwethaf eu bod, yn anfoddog, wedi cymryd y cam o wahodd eu banc i benodi derbynnydd. Dywedodd bwrdd yr ymddiriedolaeth y bydd
angen cymryd camau i drafod gyda'r derbynnydd er mwyn ceisio sicrhau'r rheilffordd a chadw cerbydau a seilwaith gyhyd â phosibl. Bwriedir ailddechrau gweithredu maes o law ond mae hyn yn dibynnu ar gymeradwyaethau cyfreithiol a rheoliadol, gan gynnwys trwyddedu, a bydd pob un ohonynt yn amlwg yn cymryd amser.
Gallai effaith hyn ar eu staff, gwirfoddolwyr, cwsmeriaid, cyflenwyr, perchnogion locomotifau a'u sefydliadau, ac unrhyw un arall sydd â chysylltiadau â'r rheilffordd, fod yn ddifrifol, yn ogystal â'r effaith ehangach bosibl ar yr economi ymwelwyr yn Llangollen a ledled dyffryn Dyfrdwy. Felly, gofynnwyd imi godi hyn yn Senedd Cymru a rhybuddio'r Prif Weinidog a gofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn unol â hynny.
Rwy'n ddiolchgar i Mark Isherwood am godi mater rheilffordd Llangollen yn y Siambr y prynhawn yma, ac mae'n sefyllfa sy'n peri pryder, fel y mae'n ei disgrifio. Rwy'n ei wahodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn y lle cyntaf, ac rwy'n gwybod y bydd ef yn trafod y mater hwn gyda Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a'r Gogledd, i roi'r wybodaeth ysgrifenedig ddiweddaraf ynghylch y sefyllfa i Mark Isherwood, o gofio mai dim ond pythefnos o fusnes sydd ar ôl gennym ni nawr yn y Siambr.
Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad heddiw, Trefnydd, os caf i. A gaf i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Addysg ynghylch a fyddai'n ystyried estyniad i Gymru gyfan ar ymgynghoriadau ysgolion sydd wedi bod yn digwydd dan amgylchiadau pandemig? Rwy'n gwybod bod hyn yn broblem i lawer o gymunedau yn fy rhanbarth i, ym Mhowys yn arbennig, ac yn sir Gaerfyrddin. Yn dilyn adolygiad diweddar o ganllawiau Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol, penderfynodd bwrdd gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin yr wythnos diwethaf i ymestyn ymgynghoriadau ar bedwar cynnig gwahanol, gan gynnwys y cynigion o ran Ysgol Mynyddygarreg, tan 16 Gorffennaf. Byddwn i'n gwerthfawrogi cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog ynghylch a yw'n teimlo, o ystyried pa mor anodd y bu i gymunedau drefnu ac ymateb i ymgynghoriadau yn ystod y pandemig, y byddai'n briodol cael estyniad cenedlaethol ar yr ymgynghoriadau hyn.
Hoffwn i ofyn ymhellach i'r Trefnydd am ddatganiad ynghylch y sefyllfa yn yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau yn Abertawe. Bydd y Trefnydd yn ymwybodol iawn, rwy'n siŵr, bod gweithwyr yn ystyried streicio oherwydd yr amodau gwaith yno. Nid ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel. Nawr, yn amlwg, nid yw'r DVLA ei hun wedi'i ddatganoli, ond Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am orfodi arferion gweithio diogel. A gaf i ofyn i'r Trefnydd am ddatganiad gan y Gweinidog Cymru priodol i amlinellu beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu'r gweithwyr hynny, y mae llawer ohonyn nhw, wrth gwrs, yn byw yn Llanelli, yn fy rhanbarth i? Ac a fyddai hi'n barod i ymuno â mi heddiw i anfon neges o undod i'r gweithwyr hynny wrth iddyn nhw ystyried a oes raid iddynt gymryd camau diwydiannol ai peidio, fel yr wyf fi, fel Aelod Plaid Cymru o'r Senedd, yn hapus i'w wneud?
Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar i Helen Mary Jones am godi dau fater pwysig y prynhawn yma. Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog Addysg wedi gwrando'n astud ar y cais am estyniad i Gymru gyfan o ran ymgynghoriadau a'r enghreifftiau yr ydych chi wedi'u rhoi ynghylch ymestyn tri ymgynghoriad o'r fath yn sir Caerfyrddin. Bydd hi'n rhoi ystyriaeth briodol i'r cais hwnnw, rwy'n siŵr iawn.
O ran mater y DVLA, mae'n amlwg ei fod yn destun pryder mawr i ni nad yw pobl yn teimlo'n ddiogel yn y gweithle, a byddwch chi'n ymwybodol o'r sylwadau a wnaeth Llywodraeth Cymru i gefnogi'r gweithlu yno yn y DVLA yn y cyfnod yn arwain at nawr, ac wrth gwrs rydym ni'n parhau i gefnogi'r gweithwyr hynny. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi mesurau cyfreithiol ar waith i gadw pobl yn ddiogel yn y gweithle, ond, yn amlwg, mae angen i'r mesurau hynny gael eu gweithredu, wedyn, gan y cyflogwyr. Felly, byddwn i'n hapus iawn i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf honno i'r Senedd drwy fy nghydweithiwr, Gweinidog yr Economi, o ran y gefnogaeth yr ydym ni wedi gallu ei chynnig i weithwyr DVLA hyd yma a'r sylwadau yr ydym ni wedi bod yn eu cyflwyno ar eu rhan i sicrhau eu bod yn ddiogel yn y gweithle.FootnoteLink
Tybed a fyddai modd inni gael rhywfaint o eglurder ynghylch perthnasedd yr ymgynghoriad gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar ddiwygio rheoliadau arolygu bwyd, a lansiwyd ganddi ychydig cyn inni wybod am gytundeb pontio gwan â'r UE. Mae'n codi cwestiwn ynghylch a yw'n ceisio tanseilio'r safon yr ydym ni wedi dod i'w disgwyl, yn hytrach na'i fod yn fater o addasu'r cod. A chafodd hyn ei nodi, yn wir, fel pryder gan yr Athro Terry Marsden pan oedd ef yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yr wythnos diwethaf. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad gan Lesley Griffiths i roi barn y Llywodraeth ynghylch yr hyn y gallai hyn ei olygu o ran tanseilio safonau uchel iawn bwyd Cymru, fel sydd gennym ni ar hyn o bryd.
Wel, mae Llywodraeth Cymru yn rhannu'n llwyr y pryderon y mae Jenny Rathbone wedi bod yn eu codi ers amser maith o ran effaith cytundeb gwan ar y safonau sydd gennym ni o ran bwyd, a hefyd safonau ehangach o ran yr amgylchedd a hawliau gweithwyr, ac yn y blaen. Byddaf i'n gofyn i Lesley Griffiths roi'r wybodaeth ddiweddaraf honno i Jenny Rathbone o ran goblygiadau'r ymgynghoriad penodol hwnnw y mae'r ASB yn ei gynnal ar hyn o bryd.
Ddoe, fel y gwyddoch chi, Trefnydd, oedd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ac, ynghyd ag Aelodau eraill, roeddwn i'n hapus i ddangos fy nghefnogaeth ac ymrwymiad i ddatblygu Cymru fwy cyfartal. Cefnogais i'r ymgyrch Picau ar y Maen ar gyfer Cymorth i Fenywod Cymru drwy gynnal bore coffi rhithwir gyda fy staff i drafod gwaith Cymorth i Fenywod Cymru, ac i atgoffa ein hunain o'r gwasanaethau cymorth y maen nhw'n eu cynnig a sut i fanteisio ar eu gwasanaethau. Yng ngoleuni hynny, a gaf i ofyn am ddatganiad cyfredol gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i hymdrechion i fynd i'r afael â cham-drin domestig? Efallai eich bod chi'n ymwybodol bod Heddlu Dyfed Powys, ym mis Awst y llynedd, wedi cael 900 o adroddiadau am gam-drin domestig, o'i gymharu â 350 o achosion y mis yn 2017, ac mae hynny'n dangos yr angen i ymdrin ar frys â cham-drin domestig mewn cymunedau ledled Cymru.
Yn ail, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn ag ailddechrau llawdriniaeth ddewisol ledled Cymru? Rwyf i wedi cael sylwadau gan bobl yn Sir Benfro sydd mewn cryn boen ac anghysur ac yn aros am driniaethau, ac maen nhw'n galw am gefnogaeth a sicrwydd y byddan nhw yn cael eu triniaethau. Mae'r Gweinidog Iechyd wedi egluro y gallai gymryd pum mlynedd i GIG Cymru fynd i'r afael â'r ôl-groniad o driniaethau, ac rwy'n sylweddoli y bydd dadl ar y mater hwn yfory. Ond rwy'n credu ei bod yn hollbwysig inni gael datganiad gan y Gweinidog ar ei gynlluniau penodol i ailddechrau holl driniaethau a llawdriniaethau'r GIG ledled Cymru, a sut mae'n bwriadu hwyluso'r gwasanaethau hynny fel y gall pobl sy'n aros am driniaeth ledled Cymru fod yn sicr bod gan Lywodraeth Cymru gynllun ar waith i ddarparu triniaethau nad ydyn nhw'n rhai COVID cyn gynted ag y bo modd.
Byddwn i'n falch iawn o ofyn i fy nghyd-Weinidog, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, roi'r wybodaeth ddiweddaraf honno i gydweithwyr ynghylch ymdrechion Llywodraeth Cymru i ymdrin â cham-drin domestig yng Nghymru. Mae hyn wedi bod yn bryder parhaus inni drwy gydol y cyfyngiadau symud, a'r ffaith nad yw'r cartref, i lawer o bobl, yn fan diogel. Ac rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn falch iawn o ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf ar gamau'r Llywodraeth Cymru yn hyn o beth.
Ac, fel y dywedwch, bydd dadl brynhawn yfory ar ailddechrau llawdriniaethau dewisol. Ond rwy'n gwybod bod fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Iechyd, yn gweithio ar gynllun ar gyfer y camau nesaf i'r GIG a'i fod yn bwriadu cyhoeddi rhywbeth erbyn diwedd y mis hwn a fydd yn crynhoi, gobeithio, y math o weledigaeth y mae Paul Davies yn ei cheisio y prynhawn yma.
Mae pryderon wedi'u codi gan elusennau sy'n gweithio gyda phobl â chanser y gallai llawer o bobl ledled y wlad hon fod wedi colli diagnosis o ganser. Nawr, yn y Rhondda, roedd yn broblem, cyn argyfwng COVID, fod pobl yn gadael pethau'n rhy hwyr cyn mynd i weld y meddyg am symptomau pryderus a pharhaus. Roedd llawer gormod o bobl yn cael diagnosis o ganser yn hwyr, a hynny'n aml wrth iddyn nhw fynd i gael triniaeth yn yr adran damweiniau ac achosion brys. Wrth inni symud y tu hwnt i COVID, mae angen i'r Rhondda weld ymdrech ar y cyd i fynd i'r afael â'r ôl-groniad hwn o ddiagnosis canser. A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth fel y gallwn ni ddeall sut y mae'r Llywodraeth yn cynllunio'n benodol i wneud hynny, yn enwedig mewn ardal fel ein hardal ni sydd â mwy o anghydraddoldebau iechyd? A allech chi gynnwys yn y datganiad hwnnw gefnogaeth i ganolfan diagnosis canser arbenigol a hygyrch yn y Rhondda?
A wnewch chi hefyd gytuno i oleuo holl adeiladau cyhoeddus Llywodraeth Cymru er cof am bawb yr ydym ni wedi'u colli i COVID ar ddiwrnod coffa 23 Mawrth?
Diolch am godi dau fater pwysig iawn. Ar y cyntaf, hoffwn i ategu'r hyn y mae Leanne Wood wedi'i ddweud y prynhawn yma ynglŷn â pha mor bwysig yw mynd at eich meddyg teulu pe bai gennych chi unrhyw bryderon am symptomau a allai fod yn gysylltiedig â chanser. Y neges mewn gwirionedd yw bod eich GIG yn dal i fod yno ichi yn y cyfnod anodd hwn. Mae ein canllawiau adfer canser wedi bod yn rhan o system cynllunio fframwaith y GIG ers chwarter 2 y llynedd. Mae'r byrddau iechyd eisoes yn cynllunio eu capasiti i drin gofal canser bob chwarter, a hefyd yn ymateb o ddydd i ddydd i ddarparu cymaint o driniaethau canser ag y gallan nhw yng nghyd-destun y pwysau ar eu gwasanaethau. Wrth inni ddechrau dod allan yn awr o'r ail don hon, rydym ni'n edrych yn benodol ar sut y gallwn symud yn barhaol i adfer gwasanaethau canser, a throsglwyddo hynny i'n cynlluniau adfer ffiniol ar gyfer y GIG, yr wyf i newydd gyfeirio atyn nhw mewn ateb i Paul Davies. Gallaf ychwanegu hefyd fod fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Iechyd, wedi cynnal cyfarfod cenedlaethol ym mis Chwefror, gyda GIG Cymru, i drafod adfer gwasanaethau canser yn benodol. Mae cynigion yn cael eu datblygu ar hyn o bryd i gefnogi'r adferiad hwnnw, unwaith eto fel rhan o'r dull adfer ehangach hwnnw yr oeddwn i wedi'i ddisgrifio. Felly, bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chyflwyno maes o law—fel y dywedais i, erbyn diwedd y mis—o ran adferiad y GIG.
Ar fater y diwrnod coffa, gallaf gadarnhau ein bod ni ar hyn o bryd yn ystyried yn ofalus iawn y ffordd orau y gallwn ni nodi'r hyn a fydd yn foment ddwys iawn, yn fy marn i, ar y daith yr ydym ni i gyd wedi bod drwyddi o ran y coronafeirws. Rwy'n siŵr y byddwn ni'n gallu dweud mwy am hynny cyn bo hir.
Trefnydd, rwy'n gwybod mai un o'r Gweinidogion sy'n gwylio hyn yn ofalus yw ein Gweinidog Twristiaeth. Felly, tybed a allwn i, drwoch chi, ofyn am ddatganiad neu am rywfaint o eglurhad ar y cam diweddaraf gan Tripadvisor, sydd wedi poeni llawer o'r gweithredwyr twristiaeth bach a chanolig eu maint yn fy etholaeth i. Mae Tripadvisor eisoes yn cymryd comisiwn o 15 y cant ar unrhyw werthiannau sy'n dod drwy ei safle. I'r gweithredwr bach, mae hynny'n rhan eithaf sylweddol. Ond, yn ddiddorol, yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, anfonwyd e-bost at bob gweithredwr i ddweud, o dan eu telerau ac amodau newydd, eu bod yn cyflwyno hawliau, am byth, iddyn nhw gael defnydd llawn o unrhyw luniau a deunyddiau eraill ar y gwefannau. Nawr, gallai hyn fod yn ymarfer gwbl normal. Pwy â ŵyr? Ond, maen nhw'n poeni, os byddan nhw'n gwrthod y cynnig caredig hwn gan Tripadvisor i gael hawliau am byth dros bob deunydd sy'n cael ei gynnwys ar eu gwefannau—a gyda llaw, Trefnydd, mae rhywfaint o'r deunydd cynnwys ar eu gwefannau, yn golygu deunydd Croeso Cymru hefyd—yna byddan nhw'n cael eu taflu oddi ar Tripadvisor. Ni waeth beth a ddywedwch chi am Tripadvisor, da neu ddrwg, maen nhw'n bwerus o ran creu diddordeb mewn gweithredwyr bach a chanolig eu maint. Byddaf i'n ysgrifennu at y Gweinidog ynghylch hyn hefyd, Trefnydd, ond tybed a gaf i, drwy eich swyddogaethau, ofyn am ddatganiad neu rywfaint o eglurhad ynghylch pa ganllawiau y mae modd eu rhoi i weithredwyr bach a chanolig eu maint ar y cam pendant newydd hwn gan Tripadvisor.
Diolch i Huw Irranca-Davies am godi hyn. Rwy'n gallu gweld, yng nghornel y sgrin, fy nghyd-Weinidog, y Dirprwy Weinidog Twristiaeth, ac mae ef wedi bod yn gwrando'n astud ar y sefyllfa yr ydych chi wedi'i disgrifio y prynhawn yma. Rwy'n gwybod y bydd yn awyddus i archwilio pa gymorth y gallwn ni ei gynnig i'r busnesau bach yr effeithir arnynt yn y sector twristiaeth ac y bydd yn edrych ymlaen at eich gohebiaeth fanylach.
Trefnydd, a gaf i alw am ddau ddatganiad? Daw'r cyntaf gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am iechyd meddwl ar fanteision iechyd meddwl a lles pysgota yng Nghymru. Mae llawer o bobl sy'n hoffi mynd i bysgota, yn aml ar eu pennau eu hunain, mewn mannau unig, wedi cysylltu â mi. Maen nhw wedi ei chael hi'n anodd iawn ymdopi â bywyd yn ystod y cyfyngiadau symud diweddaraf, oherwydd nid ydynt wedi gallu gyrru i fannau pysgota lleol. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y mae angen i Lywodraeth Cymru ei ystyried yn ofalus yn yr adolygiad a gawn cyn bo hir o gyfyngiadau coronafeirws. Pa un a yw'r adolygiad yn ystyried pysgota ai peidio, rwy'n credu bod y diddordeb hwn sy'n bwysig i filoedd lawer o bobl ledled Cymru yn haeddu rhywfaint o ystyriaeth gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am iechyd meddwl yn y dyfodol.
A gaf i hefyd, Trefnydd, alw am ddatganiad gennych chi, fel Gweinidog Cyllid, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ynghylch datblygu nodyn cyngor caffael ar y rheoliadau contract cyhoeddus am resymau dewisol dros ystyried eithrio busnesau rhag tendrau cyhoeddus? Byddwch chi'n ymwybodol ein bod ni wedi cael rhywfaint o ohebiaeth ar y mater hwn y llynedd yn dilyn eich ymateb i gwestiwn ysgrifenedig a arweiniodd at bryderon bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi nodyn cyngor caffael a fyddai'n effeithio'n bennaf ar genedl Israel. Byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y mater penodol hwn, oherwydd fe wnaethoch chi awgrymu yn eich gohebiaeth ddiwethaf y byddech chi'n gwneud rhai penderfyniadau terfynol ar hyn ym mis Rhagfyr. Mae bellach yn fis Mawrth, ac rwy'n credu bod pobl yn haeddu cael yr wybodaeth ddiweddaraf. Diolch.
O ran y mater cyntaf, sef y cais ynghylch datganiad ar fanteision pysgota o ran iechyd meddwl a lles, rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog sy'n gyfrifol am iechyd meddwl wedi gwrando'n astud iawn ar y cais hwnnw. Wrth gwrs, pan fyddwn ni'n trafod yr holl faterion sy'n ymwneud â'r cyfyngiadau yr ydym ni'n eu rhoi ar fywydau pobl, rydym ni'n deall pa mor anodd yw pethau i bobl. Mae'r holl bethau sydd fel arfer yn cefnogi ein lles, boed hynny'n bysgota neu gampfa neu weld teulu a ffrindiau—mae cael y pethau hynny wedi'u eu cymryd oddi wrthym ni yn amlwg yn cael effaith gryf ac anodd ar fywydau pobl. Rydym ni'n ymwybodol iawn o hynny wrth wneud ein penderfyniadau. Ond fel y dywedais i, bydd y Gweinidog wedi clywed y cais penodol hwnnw.
Fel y dywedais i y tro diwethaf y cawsom drafodaeth ar y nodyn cyngor caffael, rwyf wedi cytuno i gael rhagor o gyngor. Rydym wedi cael y cyngor hwnnw nawr, ac rwy'n dal i ystyried hynny. Ond byddaf i'n ysgrifennu atoch chi cyn bo hir ynghylch y ffordd ymlaen. Diolch.
Dau fater, os caf i, Trefnydd. Yn gyntaf, a gaf i ychwanegu fy llais—gan gynnwys Darren Millar, mewn gwirionedd, yr wythnos diwethaf—at y rhai sy'n galw am ailagor canolfannau garddio ledled Cymru? Nawr bod achosion COVID-19 yn ymddangos yn is na'r nifer a sbardunodd y cyfyngiadau symud yn wreiddiol, os ydym yn bwriadu ailagor busnesau, yn gyntaf yn y tymor byr, yna dylai canolfannau garddio, rwy'n credu, fod ar frig y rhestr honno. Maen nhw'n ardaloedd mawr, yn yr awyr agored yn bennaf, gyda digon o gyfleoedd i gadw pellter cymdeithasol. Felly, tybed a allwn ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog ynghylch unrhyw drafodaethau gyda'r sector canolfannau garddio o ran eu hailagor cyn gynted â phosibl.
Yn ail, cafodd rhaglen ddogfen y BBC The Story of Welsh Art ei dangos yn ddiweddar. Nid wyf yn siŵr faint o'r Aelodau a welodd y rhaglen. Roedd yn dangos y goeden Jesse fyd-enwog yn y Fenni, cerflun o'r bymthegfed ganrif yn eglwys priordy'r Santes Fair sy'n dangos llinach Crist o'r Beibl. Roedd trysorau Cymreig eraill o bob cwr o Gymru yn rhan o'r rhaglen honno. Mae Cymru wedi'i bendithio â thrysorau diwylliannol sydd wedi denu twristiaid i Gymru ers blynyddoedd lawer a bydd yn gallu gwneud hynny eto yn y dyfodol. Felly, tybed a gawn ni fframwaith neu'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog, wrth inni ddod allan o'r cyfyngiadau symud, ynghylch sut y mae modd defnyddio treftadaeth ddiwylliannol Cymru i roi hwb cychwynnol i'r economi dwristiaeth eto ledled Cymru. Drwy adeiladu'n ôl yn well a thyfu'n wyrddach, gallwn hefyd dyfu'n ôl yn gryfach yn ddiwylliannol a rhoi trysorau Cymru wrth wraidd y broses honno o dyfu'n ôl .
Bydd Nick Ramsay wedi clywed y Prif Weinidog yn amlinellu'r camau yr ydym ni'n eu cymryd wrth symud tuag at yr adolygiad tair wythnos hwnnw ar 12 Mawrth. Bydd ef yn ystyried yr holl gynrychiolaethau a gyflwynwyd gan gydweithwyr yn ystod yr wythnosau diwethaf, ond wedyn hefyd, wrth gwrs, yn cymryd y cyngor a gawn ni gan ein cynghorwyr gwyddonol a meddygol i benderfynu ar ble y gallwn ni lacio pethau. Nid wyf i eisiau achub y blaen ar unrhyw beth y gallai'r Prif Weinidog ei ddweud ddydd Gwener. Mae trafodaethau'n dal i fynd rhagddynt o fewn y Cabinet ac mae cyngor yn dal i gael ei gymryd wrth inni symud tuag at y pwynt adolygu hwnnw.
Rwy'n cytuno'n llwyr fod gan ein trysorau diwylliannol botensial enfawr o ran ein helpu ni gyda'r gwaith adfer, o ran y math o dwristiaeth y byddem ni eisiau ei gweld o fannau eraill yn y DU, ond hefyd ein gwyliau ni yma yng Nghymru a'n twristiaeth ein hunain y byddwn ni fwy na thebyg eisiau manteisio arnynt yn ein gwlad ein hunain yn ystod yr haf. Oherwydd rwy'n credu os yw'r coronafeirws wedi dysgu unrhyw beth inni, mae'n ymwneud â gwerthfawrogi'r pethau hynny sydd gennym yma ar garreg ein drws. Rwy'n credu bod y trysorau diwylliannol hynny megis coeden Jesse yn eglwys y Santes Fair, y mae Nick Ramsay wedi'i disgrifio, yn enghreifftiau da iawn o hynny. Rwy'n gallu gweld bod y Gweinidog yn gwrando'n astud eto ar yr awgrym am y rhan y gall y trysorau hyn ei chwarae yn ein hadferiad.
Yn olaf, Delyth Jewell.
Wrth inni nesáu at ddiwedd y tymor Seneddol hwn, Trefnydd, ac wrth inni nodi Wythnos Genedlaethol Pontio'r Cenedlaethau, fe hoffwn i gael datganiad, os gwelwch chi'n dda, gan y Llywodraeth ynglŷn â phwysigrwydd pontio rhwng cenedlaethau. Fe hoffwn i gael datganiad sy'n cydnabod yr unigrwydd gwirioneddol a ddioddefodd aelodau iau a hŷn yn ein cymdeithas ni, yn ogystal â'r rhagfarn ar sail oedran sydd wedi bod yn rhan rhy amlwg o'n sgwrs genedlaethol ni drwy gydol y pandemig. Yn aml, roedd yr hen a'r ifanc yn cael eu rhoi benben â'i gilydd yn y wasg yng nghyd-destun cyfyngiadau symud, gyda rhywfaint o'r sylwebaeth yn canolbwyntio ar hunanoldeb ymddangosiadol pobl ifanc ac eraill yn awgrymu bod amddiffyn pobl hŷn a mwy agored i niwed mewn rhai ffyrdd yn bris a oedd yn rhy uchel i'w dalu. Mae'r ddau naratif hyn wedi bod yn niweidiol iawn. Mae grwpiau o bobl ifanc a phobl hŷn fel ei gilydd wedi cael eu gwthio i'r ymylon; ac mae angen cymorth a llais cryfach ar y ddwy garfan wrth wneud penderfyniadau ar gyfer bod wrth galon ein cymunedau ni.
Ddiwedd y llynedd, Trefnydd, fe sefydlodd nifer ohonom grŵp trawsbleidiol ar bontio'r cenedlaethau, a'r wythnos hon fe fyddwn ni'n cyhoeddi ein hargymhellion ni i nodi wythnos pontio'r cenedlaethau. Mewn ymateb i'r rhain fe hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch chi'n dda. Mae ein grŵp ni'n teimlo, gydag un llais, y dylai cynlluniau ar gyfer adferiad wedi COVID hyrwyddo undod rhwng cenedlaethau, y dylai Gweinidog fod yn gyfrifol am oruchwylio hynny, y dylid rhoi mwy o arian i grwpiau cymunedol i hyrwyddo undod rhwng cenedlaethau, ac y dylai hynny gael ei ymgorffori yn y cwricwlwm. Wrth inni ymlwybro ar ein ffordd allan o'r pandemig, mae'r penderfyniadau ynghylch blaenoriaethu brechlynnau, diogelu'r cyhoedd, ac ailagor cymdeithas yn gyfredol, maen nhw'n amrywiol ac yn gymhleth. Mae ailgyhoeddi pwysigrwydd dealltwriaeth rhwng cenedlaethau yn hanfodol yng nghyd-destun pob un o'r penderfyniadau hyn, oherwydd mae'r berthynas rhwng cenedlaethau yn cyfoethogi ein cymdeithas ni, mae'n bwysig, ac fe ddylid ei chryfhau.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y ffordd y mae Delyth Jewell newydd bortreadu'r gwaith a wnaeth y grŵp trawsbleidiol. Os nad oes copi gan Lywodraeth Cymru eto, fe fyddwn i'n awyddus iawn inni gael un, fel y gallwn ni ystyried ac archwilio'r argymhellion hyn yr ydych chi newydd eu disgrifio. Rwy'n cytuno'n llwyr fod y dull o fynegi peth o'r ddadl a gawsom ni drwy gydol y pandemig wedi ceisio rhoi grwpiau benben â'i gilydd. Ond, mewn gwirionedd, rydym ni i gyd yn rhan o hyn, ac mae'r rhai sydd wedi gweld effaith fwyaf y pandemig wedi bod o blith ein dinasyddion hynaf ni, ac o blith ein dinasyddion ieuengaf ni hefyd; y ddau grŵp hyn sydd wedi talu'r pris uchaf mewn gwahanol ffyrdd. Felly, rwy'n awyddus iawn i weld y darn hwn o waith ac archwilio'r syniadau y bydd Delyth a'i chydweithwyr yn eu cyflwyno.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y diweddaraf am frechiadau COVID-19. Y Gweinidog, Vaughan Gething.
Rwy'n falch o gyhoeddi ein bod ni wedi cael wythnos arall o gynnydd ac uchafbwyntiau gwirioneddol yn ein rhaglen frechu ni yma yng Nghymru. Erbyn hyn, fe gafodd miliwn o bobl eu dos cyntaf o'r brechlyn hwn sydd â'r gallu i achub bywydau. Newyddion rhagorol, felly—carreg filltir bwysig arall i'r rhaglen wirioneddol ryfeddol hon. Unwaith eto, rydym ni wedi cyrraedd y nod hwn o flaen y dyddiad a ymddangosodd yn ein diweddariad ni o'r strategaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Fe ddigwyddodd hynny oherwydd gwaith caled a phenderfyniad y cannoedd ar gannoedd o bobl sy'n gweithio y tu ôl i'r llenni ac mewn clinigau i weinyddu'r brechlynnau ledled y wlad.
Rwy'n ddiolchgar iawn i bob unigolyn sydd wedi manteisio ar gynnig o'r brechlyn. Maen nhw wedi gwneud eu rhan, wedi sefyll yn y bwlch, yn yr ymdrech genedlaethol hon i gadw Cymru'n ddiogel, ac fe ddylen nhw fod yn falch o'r cyfraniad a wnaeth pob un ohonynt yn yr ymdrech genedlaethol hon. Mae pob un dos yn wirioneddol bwysig. Mae pob brechlyn a roddir yn golygu un cam yn nes at ddyfodol mwy disglair i bob un ohonom ni. Mae'r brechlynnau yn ddiogel ac yn effeithiol, ac rwy'n annog pawb i fanteisio ar y cynnig pan ddaw eu tro nhw. Rwy'n edrych ymlaen at gael fy mrechlyn cyntaf innau yn ystod y dyddiau nesaf.
Rydym yn gwneud cynnydd sylweddol o ran cyrraedd yr ail garreg filltir, fel y'i nodir yn ein diweddariad ni ar y strategaeth frechu. Mae dros 85 y cant o bobl rhwng 65 a 69 oed wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn eisoes, ac mae pobl yn y grwpiau oedran 50 i 64 oed wedi cael eu galw am eu hapwyntiadau nhw. Gyda phedwar o bob 10 o'r boblogaeth oedolion wedi cael eu brechu unwaith o leiaf erbyn hyn, rydym ni'n gwneud cynnydd ardderchog.
Fe hoffwn i orffen drwy ddiolch i bawb sydd wedi gwneud eu rhan nhw, nid yn unig yn y llwyddiant a fu hyd yn hyn, ond yn fwy felly, i gydnabod bod hyn wedi digwydd gyda chefnogaeth o bob ochr yn y fan hon a'r tu allan, ac rwy'n edrych ymlaen at gael mwy o gefnogaeth i'n rhaglen frechu yn y dyddiau a'r wythnosau sydd i ddod. Mae gennym dasg sylweddol o'n blaenau ni o hyd, ond rwy'n hyderus y byddwn ni'n ei chyflawni mewn da bryd ac mewn ffordd wirioneddol lwyddiannus, fel y gwnaethom ni hyd yn hyn. Diolch, Llywydd.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi, ac unwaith eto, dyma newyddion da ein bod ni'n brechu cynifer o bobl ar hyn o bryd yng Nghymru. Er hynny, mae gennyf i un neu ddau o gwestiynau i'w gofyn i chi, am y rhaglen frechu, yn gyffredinol.
Y cyntaf yw nad yw 15 y cant o staff cartrefi gofal wedi cael eu brechu eto, o'i gymharu â llai na 5 y cant o breswylwyr, ac mae hwnnw'n rhif llawer is na'r staff gofal iechyd—mae 87.5 y cant ohonyn nhw wedi cael eu brechu. A ydych chi'n fodlon bod popeth yn cael ei wneud i argyhoeddi'r aelodau staff mwy amheus i gael eu brechu, a beth a allwn ni ei wneud i'w hannog nhw, oherwydd, fel y gwyddom ni, mae trigolion ein cartrefi gofal ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ni?
Mae fy ail gwestiwn i'n ymwneud ag achosion coronafeirws mewn ysbytai. Pa adolygiad sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd o ran achosion yn torri allan mewn ysbytai? Maen nhw'n digwydd yma a thraw o hyd, ac maen nhw'n rhwystr i ailddechrau gwasanaethau. Esgusodwch fi. Rwyf wedi darllen eich fframwaith chi ar gyfer profion COVID-19 i gleifion mewn ysbytai yng Nghymru, ond, wrth gwrs, nid yw hynny'n cynnwys atal yr haint mewn ysbytai mewn gwirionedd, ac roeddwn i'n meddwl tybed a oeddech chi'n teimlo y dylem ni wneud mwy i geisio symud yr agenda honno ymlaen. Fe wn i, er enghraifft, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, fod gennym nifer o achosion wedi torri allan ar hyn o bryd yn Llwynhelyg, ac mae hynny'n rhwystr i ailddechrau gwasanaethau.
Gan ein bod yn sôn am fyrddau iechyd, a fyddech chi'n ystyried pa gyngor y gellid ei roi i fyrddau iechyd o ran gohirio ac aildrefnu apwyntiadau brechu? Mae llawer o bobl wedi cysylltu â mi i ddweud eu bod nhw wedi cael negeseuon testun, ac maen nhw'n awyddus iawn i fynd i gael eu brechlyn nhw, ond ni allant gyrraedd y fan am ryw reswm neu ei gilydd, ond nid ydyn nhw wedi llwyddo i gael gafael ar neb i aildrefnu. Ac mae yna deimlad o euogrwydd—mae'n rhaid imi gyfaddef, rwyf i'n un o'r rhain—lle na allwn gael gafael ar neb i aildrefnu fy apwyntiad i, felly fe gollais i'r un cyntaf, ond ni allwn i ddweud wrth neb, ac maen nhw'n ceisio gwneud yr ail un nawr. Ond dim ond un llais yn unig ydw i; mae torreth o bobl wedi cysylltu â mi. Maen nhw naill ai'n cael negeseuon testun lle nad oes rhif ffôn i'w ffonio na chyfeiriad e-bost i'w ddefnyddio. Ac, wrth gwrs, mae'n amhosibl i bawb ymddangos yn sydyn bob amser ar gyfer dyddiad neu amser penodol. A allwn ni wneud rhywbeth ynghylch hynny? Oherwydd rwy'n credu bod hyn yn atal rhai rhag cael y brechlynnau, yn enwedig rhai o'r grwpiau sy'n fwy anodd eu cyrraedd yr ydym ni wedi sôn amdanyn nhw lawer tro cyn hyn.
Mae Andrew Evans, y prif swyddog fferyllol, wedi dweud bod y capasiti gennym ni yng Nghymru i weinyddu mwy na 30,000 o frechlynnau bob dydd. Nawr, nid ydym wedi taro 30,000 o frechlynnau mewn diwrnod ers 4 Mawrth. Rwy'n deall bod rhywfaint o hynny'n ymwneud â diffyg cyflenwad, ond wrth ddarllen eich diweddariad chi ar COVID, dyddiedig 9 Mawrth, rydych chi'n disgwyl i hynny gynyddu gyda'r cyflenwad o frechlynnau, gan ddechrau o'r wythnos hon ac wrth symud ymlaen, na ddylai fod unrhyw broblemau. A ydych chi o'r farn y byddwn ni'n gallu cyflawni'r nod hwnnw o 30,000?
Yn olaf, roeddwn i'n awyddus i'ch holi chi ynglŷn â chynlluniau'r dyfodol. Canolfannau brechu torfol—mae nifer ohonyn nhw mewn adeiladau a chyfleusterau a ddefnyddir ar gyfer pethau eraill, fel canolfannau hamdden, ac yn y pen draw fe fyddan nhw'n dechrau cynnal eu gweithgareddau priodol nhw unwaith eto, ac, felly, ni fyddwn ni'n gallu eu defnyddio nhw'n ganolfannau brechu torfol. Mae staff a gwirfoddolwyr yn ein helpu ni ar hyn o bryd, ond rywbryd, fe fydd yn rhaid iddyn nhw ddychwelyd at eu bywydau a'u swyddogaethau arferol. Pa gynlluniau sy'n cael eu rhoi ar waith neu a ystyrir ar hyn o bryd i sicrhau y bydd gennym gyfleusterau ac adnoddau dynol i allu parhau o hyd i frechu ar gyflymder, yn enwedig os ydym yn rhagweld trydedd don? Wrth gwrs, rydym ni'n dechrau meddwl efallai y bydd angen cael brechiad blynyddol rheolaidd er mwyn ein hamddiffyn ni rhag coronafeirws a'r gwahanol fwtadiadau sy'n dod i'r amlwg, ac felly fe fydd angen inni allu cynnwys hyn yn ein system ni. Tybed a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am hynny? Diolch yn fawr iawn. Ymddiheuriadau am y pwl o beswch.
Mae'n drueni na allwn roi cwpanaid arall o ddŵr ichi, Angela. [Chwerthin.]
Diolch.
Diolch am y cwestiynau. Nid oes angen ymddiheuro am orfod cymryd hoe fach oherwydd peswch. O ran staff cartrefi gofal a'r gyfradd frechu, rydych chi'n iawn i dynnu sylw at y niferoedd is ymhlith staff sy'n manteisio ar y brechlyn o'u cymharu â niferoedd y preswylwyr. Mae honno'n nodwedd o'r petruster am y brechlyn a welwn ni mewn amrywiaeth o grwpiau oedran. Wrth gwrs, mae staff cartrefi gofal yn cynnwys pobl o wahanol oedrannau, gan gynnwys y grŵp oedran iau, lle rydym ni'n sylweddoli bod mwy o betruster ynghylch yr angen neu'r rheswm dros fanteisio ar y brechlyn i bobl dan 40 oed. Mae rhai o'r mythau hyn ynglŷn â brechlynnau a gaiff eu lledaenu gan y garfan wrth-frechu, y gweithiau ffuglen, yn effeithio ar bobl sy'n awyddus, efallai, i gael plant eto yn y dyfodol. Felly, mae yna bryder y gallai hyn effeithio ar ffrwythlondeb dynion neu fenywod; nid oes sail o gwbl i hynny, ond mae hon yn chwedl barhaus sy'n ailymddangos ym mhob rhan o'r DU a'r tu hwnt hefyd. Dyma un o'r meysydd hynny lle rwyf i'n credu mai un o'r pethau gorau y gallwn ni ei wneud, unwaith eto, yw gweithio ledled y DU, ni waeth beth fyddo lliw ein cotiau gwleidyddol ni ym mhob un o'r Llywodraethau, ac yn y fan hon hefyd hyd yn oed, i fod yn eglur iawn nad oes yna unrhyw wirionedd o gwbl yn hynny. Ac mae'n ymwneud â chyflwyno neges ddibynadwy ac unol i berswadio pobl i fanteisio ar y brechlyn, ac ailystyried y dystiolaeth amdano. Fel y dywedais, nid yw diogelwch nac effeithiolrwydd y brechlyn yn digwydd oherwydd fy mod i'n dweud ei fod yn ddiogel ac yn effeithiol, ond mae gennyf gyfrifoldeb i fod yn eglur iawn ynghylch hynny. Mae hynny'n deillio o'r sgyrsiau mwyaf dibynadwy a gaiff pobl gyda'r bobl y maen nhw'n eu credu: sef staff ein gwasanaeth iechyd, gwyddonwyr a theulu a ffrindiau yn aml, pobl yr ydych chi'n agos atyn nhw. Ac yn anffodus, er y gall pobl rannu gwybodaeth sy'n ddibynadwy, mae cyfeiliorni a chamwybodaeth hefyd yn digwydd fel hyn. Felly, mae'r gwaith o berswadio pobl yn waith parhaus. Er gwaethaf hynny, rydym yn gweld cyfraddau uchel iawn o frechu mewn cartrefi gofal, ond yn sicr mae mwy i'w wneud, ac fe fyddwch chi'n gweld hynny eto pan fyddwn yn symud i'r cam brechu ar ôl cwblhau grwpiau 1 i 9.
O ran achosion yn torri allan mewn ysbytai, a'r gwaith a wnawn ni ynglŷn â throsglwyddiad nosocomiaidd, hynny yw trosglwyddiad rhwng staff iechyd a gofal a phobl eraill, dyna ran o'r rheswm pam rydym ni'n credu bod yr ystyfnigrwydd yn parhau n y gogledd-orllewin. Bu achosion yn Ysbyty Gwynedd, ac rydym ni'n credu bod hynny wedi arwain at ffigurau uwch yn y fan honno nag a fyddai wedi bod fel arall. Rydym ni ar fin cyhoeddi diweddariad ar y cyngor a'r arweiniad ynglŷn â phrofi mewn ysbytai. Mae rhan sylweddol o hynny'n ymwneud â'n gwaith ni ar drosglwyddiad nosocomiaidd, ac rydym yn nodi yno sut rydym yn defnyddio dyfeisiau llif ochrol yn ogystal â phrofion adwaith cadwyn polymerase. Wrth gwrs, fe gaiff y gwaith hwnnw ei arwain gan y dirprwy brif swyddog meddygol a'r prif swyddog nyrsio yma yng Nghymru, felly fe gaiff ei arwain gan bobl sydd ag arweinyddiaeth a pharch proffesiynol gwirioneddol. Fe gaiff ei gefnogi hefyd gan y cyngor parhaus a ddarparodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn â sut i leihau'r rhagolygon ar gyfer trosglwyddiad nosocomiaidd, oherwydd fe all yr achosion hynny achosi niwed gwirioneddol. Nodwedd gadarnhaol o'r gostyngiad yng nghyfraddau coronafeirws fydd bod yr achosion hynny'n llai lluosog nag y bydden nhw wedi bod fel arall, a diolch am waith caled pawb ledled y wlad wrth helpu i leihau'r cyfraddau trosglwyddo.
O ran eich pryder chi ynghylch byrddau iechyd yn canslo neu'n aildrefnu apwyntiadau, rwy'n cydnabod bod hyn yn digwydd o bryd i'w gilydd, ac mae hyn yn ymwneud â phobl yn gallu aildrefnu eu hapwyntiadau nhw neu beidio. Fe fu'n rhaid i mi aildrefnu apwyntiad fy mam innau hefyd, ac fe gymerodd beth amser imi fynd trwodd ar y ffôn, ond fe wnes i yn y pen draw, ac nid oedd yna unrhyw drafferth o gwbl i aildrefnu'r apwyntiad. Mae'n ymwneud ag annog pobl i wneud yr ymdrech i aildrefnu a bod yn eglur iawn na fydd y GIG yn gadael neb ar ôl. Felly, os yw pobl yn ei chael hi'n anodd bod yn bresennol ar gyfer eu hapwyntiadau nhw, ac nad ydyn nhw wedi gallu mynd drwodd ar y ffôn, fe allan nhw aildrefnu o hyd ac fe ddylen nhw wneud hynny a derbyn y cynnig sydd ar gael, ac mae hynny'n cynnwys pobl sydd newydd newid eu meddyliau ac yn dymuno cael y brechlyn nawr.
Rwy'n credu eich bod chi'n iawn i dynnu sylw at yr heriau a fydd gennym ni yn y dyfodol ynghylch canolfannau aml-frechu yn dychwelyd i'w diben blaenorol yn y dyfodol. Ond mae honno'n broblem dda i'w chael, mae'n ymwneud â'n llwyddiant ni wrth yrru'r trosglwyddiad i lawr a'r angen i sicrhau bod cyfleusterau cyfredol ar gael mewn ffordd arall. Yr agwedd gadarnhaol, serch hynny, yw bod gennym 546 o wahanol leoliadau lle mae'r brechlyn yn cael ei weinyddu eisoes. Felly, wrth inni fynd trwy fwy o gamau eto a brechu'r grwpiau presennol o'r boblogaeth yn llwyddiannus, fe fydd yr her yn lleihau. Ond mae eich pwynt chi am ddyfodol y tymor hwy yn un teg hefyd. Fe fyddwn ni'n dysgu llawer o'r cam brechu hwn am yr hyn y mae'n debygol y bydd angen inni ei wneud o ran gweinyddu brechlyn COVID eto yn y dyfodol. Yr hyn nad ydym ni'n ei wybod eto yw pryd y gallai hynny fod a'r math o raglen a fyddai'n rhaid inni ei chael. Mae'r rhaglen frechu bresennol rhag y ffliw, er enghraifft, yn cael ei gweinyddu mewn practisau cyffredinol a fferyllfeydd cymunedol yn bennaf. Nid ydym yn gwybod eto a fydd y normaleiddio hwnnw'n bosibl yng ngham nesaf y brechlyn, os mynnwch chi, ar ôl inni ddiogelu'r boblogaeth o oedolion yng Nghymru. Ond rydym yn credu bod yr hyblygrwydd gennym ni eisoes ar gyfer cyflawni yn y dyfodol i gynnwys pob oedolyn yn y wlad.
Yn olaf, ynglŷn â phwynt Andrew Evans am ein hangen ni i gyflawni a'n gallu i ddarparu mwy na 30,000 dos y dydd, ydym, rydym yn credu y byddwn ni'n gallu gwneud hynny. Nid ydym wedi gwneud hynny yn y gorffennol diweddar. Maint y cyflenwad yw'r unig reswm am hynny. Ond, rydym ni yn credu, yn ystod gweddill yr wythnos hon, y byddwch chi'n dechrau gweld y ffigurau hynny'n mynd yn ôl i tua 30,000 dos y dydd, ac fe fyddwch chi'n gweld hynny'n parhau am gyfnod byr, yna fe fydd cyfnod tawelach ac yna fe fydd cyfradd gyson o weinyddu brechlynnau wrth i'r cyflenwad normaleiddio. Ac, ar y sail honno, rydym ni'n dal i fod yn y sefyllfa ffodus o gael y gyfradd orau o frechu yn unrhyw un o wledydd y DU, gyda chyfran fwy o bobl yng Nghymru wedi cael dau ddos o'r brechlyn. Mae hynny'n newyddion da i ni, ond mae'n dangos hefyd ein bod ni ar frig grŵp llwyddiannus iawn o genhedloedd ledled y DU ar hyn o bryd, ac rwy'n edrych ymlaen at adrodd am fwy o lwyddiant yn y dyddiau a'r wythnosau nesaf.
A gaf i eto longyfarch pawb sydd wedi sicrhau ein bod ni wedi cyrraedd y cerrig milltir rhyfeddol yma—dros 1 filiwn o bobl wedi cael y dos gyntaf, ac 1.2 miliwn, bron, wedi cael y dos gyntaf neu'r ail. Mae'n argoeli'n dda ar gyfer cyrraedd y targedau yn y misoedd i ddod.
Gwnaf i gwpwl o bwyntiau, fel dwi'n ei wneud bob wythnos. Does dim eisiau ichi ymateb i'r rhain, Weinidog, achos rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n anghytuno arnyn nhw. Dwi'n meddwl ein bod ni mewn lle mor dda y gallem ni fod yn rhedeg cynllun paralel efo hwn er mwyn sicrhau bod gweithwyr sy'n fwyaf tebygol o ddod ar draws y feirws yn gallu cael eu brechu ynghynt. Ond dydyn ni ddim yn cytuno ar hynny. Hefyd, mi wnaf i ofyn eto, fel dwi wedi ei wneud gymaint, plis gawn ni'r data llawn ar faint o bob brechiad sy'n cael ei roi i bob gwlad? A dweud y gwir, mae'r dyddiau diwethaf wedi bod yn enghraifft dda o pam y byddai hynny'n ddefnyddiol. Mae yna lot wedi bod yn cysylltu efo fi dros y dyddiau diwethaf yn tynnu sylw at y ffaith bod yna fwy yn gymharol o'r ail ddos wedi bod yn cael ei roi yng Nghymru. Mae pobl yn gweld ein bod ni'n disgyn ar ei hôl hi, yn eu llygaid nhw, o ran y dos cyntaf. Buasai'n ddefnyddiol cael eglurhad gennych chi ar y record yn fan hyn o beth sy'n digwydd yma, pam fod y strategaeth yma wedi sifftio tuag at yr ail ddos, ac a oes a wnelo hynny mewn unrhyw ffordd â'r ffaith bod yna ddiffygion yn y cyflenwad o un o'r ddau frechiad yn dod i Gymru. Felly, eglurwch beth sydd wedi digwydd yn y fan honno, achos mae pobl yn edrych yn ofalus iawn ar y data—lot o bobl—ac maen nhw'n gallu gweld patrymau ac maen nhw'n gallu gweld bod yna newid wedi bod mewn dyddiau diweddar.
Dau gwestiwn sydyn arall: gofalwyr di-dâl—dwi'n sicr yn falch eu bod nhw wedi cael eu cynnwys rŵan yng ngrŵp blaenoriaeth chwech ar gyfer y brechiad. Dwi'n gwybod bod y ffurflen ar-lein rŵan ar gael iddyn nhw i'w lenwi gan y rhan fwyaf o'r byrddau iechyd. Dwi'n meddwl bod pob un heblaw un wedi ei wneud o ar gael. A gaf i jest gofyn pa waith cyhoeddusrwydd sy'n cael ei wneud i wneud yn siŵr bod gofalwyr di-dâl yn ymwybodol o'r ffurflen yna a lle i ddod o hyd iddo fo?
A'r ail gwestiwn ydy ynglŷn ag asthma. Mae ymchwil yn dangos bod pobl efo asthma mewn perygl ychydig yn uwch o fynd i'r ysbyty os ydyn nhw'n cael y feirws yma, a hefyd yn llawer mwy tebygol o ddioddef COVID hir. Ond, dwi wedi cael un enghraifft o etholwraig yn methu â ffeindio allan os oedd hi'n gymwys i gael y brechiad. Yn y pen draw, mi gafodd hi. Bues i'n cyfathrebu efo'r bwrdd iechyd ar ei rhan hi. Ond dwi'n deall bod yna wybodaeth wedi cael ei rhannu efo meddygfeydd rŵan ynglŷn â phwy efo asthma ac ati ddylai fod yn gymwys. A fyddech chi'n gallu gwneud y wybodaeth yna'n gyhoeddus?
Diolch am y pwyntiau a'r cwestiynau. Rwy'n croesawu eich bod chi'n llongyfarch y tîm a arweinir gan y GIG oherwydd y cyflawniad sylweddol a wnaed hyd yma, a'r hyder wrth gyflawni'r rhaglen frechu hon a arweinir gan y GIG yng Nghymru i'r dyfodol. Ac, unwaith eto, rydych chi'n iawn, rydym yn anghytuno ar gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, a sut y dylem ni ddilyn hwnnw, ac a ddylem ni flaenoriaethu un grŵp ac amddifadu un arall o flaenoriaeth. Felly, mae honno'n ffaith ein bod ni'n anghytuno ar hynny.
O ran dosbarthu ail ddos, rydym wedi gwneud dewis o ran rheoli ein stoc ni o frechlyn Pfizer fel y gallwn ni weinyddu'r ail ddos yn effeithiol. Mae hyn yn ymwneud â pha mor effeithlon yw ein rhaglen ni o ran sicrhau bod pobl yn cael eu hail ddos nhw mewn da bryd, a'n bod ni'n osgoi problem yn ddiweddarach yn y mis hwn pan na fydd digon o stoc o'r ail ddos ar gael inni o bosibl. Ac fe fyddai honno'n broblem fawr iawn, yn fy marn i. Mae llawer o bobl yn pryderu am orfod cymysgu brechlynnau. Wel, nid ydym ni am wneud hynny yng Nghymru: mae'r agwedd at hyn yn glir iawn. Rydym ni'n ceisio bod yn effeithlon, ac mae ein hagwedd ni tuag at risg yn wahanol, rwy'n credu, o'i chymharu â gwledydd eraill ynglŷn â'u dull nhw o weinyddu'r dosau hyn yn fwriadol, oherwydd rydych chi'n iawn fod yna rywfaint o wahaniaeth yn y ffigurau. Cyfanswm cyffredinol y dosau cyntaf a ddarparwyd—cyfartaledd y DU yw 33.5 y cant o'r dosau cyntaf ar gyfer y boblogaeth gyfan; mae ychydig o dan hynny yma yng Nghymru. Ar gyfer yr ail ddos, mae'n 1.7 y cant, ond mae'n 5.8 y cant ar gyfer yr ail ddos yng Nghymru. Ac ar gyfer cyfanswm y dosau a ddarparwyd, cyfartaledd y DU yw 35.2 y cant; yng Nghymru, mae'r cyfanswm yn 37.5 y cant. Felly, rydym ni'n gweinyddu mwy o frechlynnau y pen nag unrhyw wlad arall yn y DU. Ac mae'r wybodaeth honno ar gael i'r cyhoedd, ac rwy'n awyddus i sicrhau ein bod ni'n cyhoeddi nid yn unig y tablau ar y ffigurau, ond rhai o'r ffigurau hynny ynglŷn â phwyntiau o gymhariaeth â'r DU hefyd. Felly, nid oes raid ichi aros am fy natganiad i; fe fyddan nhw'n rhan reolaidd o'r ffordd yr ydym ni'n cyhoeddi gwybodaeth. Ac mae pob gwlad yn cyhoeddi ei ffigurau eisoes ynglŷn â sut maen nhw'n defnyddio eu stociau nhw o frechlynnau. Felly, yn hytrach nag ymgais gennyf i yn rhoi sylwebaeth ar y sefyllfa mewn gwledydd eraill, rwy'n gallu siarad am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud a sut rydym ni'n rheoli'r stociau sydd gennym ni'n effeithiol mewn ffordd sydd, yn fy marn i, yn llwyddiannus i raddau helaeth iawn.
O ran gofalwyr di-dâl, mae'n bosibl y byddaf i'n siarad yn nes ymlaen yr wythnos hon gyda chadeirydd un o'r byrddau iechyd lle nad yw'r ffurflen ar-lein yn weithredol er mwyn deall pam nad yw'r ffurflen ar-lein honno ar gael ganddyn nhw. Mae ar gael ar-lein, ac mae pobl yn cael eu gwneud yn ymwybodol ohoni nid yn unig drwy ofal sylfaenol ond, yn hollbwysig, drwy sefydliadau'r gofalwyr, sydd—. Fe aethom ni drwy raglen o gyd-ddylunio'r ffurflen—y Llywodraeth, y GIG a'r sefydliadau hynny i ofalwyr—ac fe wnaethom ni setlo ar rywbeth yr ydym ni o'r farn y bydd yn gweithio. Ac mae'r ffurflen honno'n eich tywys chi drwy gyfres o gwestiynau i sicrhau eich bod chi'n cael yr hyn sy'n haeddiannol. Yna, fe gaiff yr wybodaeth honno ei bwydo i system imiwneiddio Cymru, ac yna fe ddylai hynny gynhyrchu'r apwyntiad. Felly, rydym ni'n awyddus i weld cymaint o ddefnydd â phosibl o'r ffurflen ar-lein honno er mwyn darparu profiad cyson i bobl ledled y wlad.
O ran asthma, rydych chi'n iawn, mae llythyr wedi cael ei anfon gan un o'r uwch arweinwyr clinigol yn y Llywodraeth, ac mae llythyr wedi mynd allan i ofal sylfaenol, ac, o ystyried y bydd hwnnw wedi mynd allan i ystod eang o ddarparwyr gofal sylfaenol, rwy'n credu ei fod yn gyhoeddus yn y bôn. Fe fyddaf yn sicrhau bod trefniadau'n cael eu gwneud i gyhoeddi'r cyngor hwnnw, fel y gall pawb weld sut y darparwyd y cyngor hwnnw ac fe all gofal sylfaenol reoli eu rhestrau nhw o bobl wedyn mewn ffordd a ddylai fod, unwaith eto, mor gyson â phosibl ledled y wlad. Nid wyf i o'r farn fod unrhyw anhawster wrth wneud hynny, ac rwy'n siŵr y gallwn ni gyhoeddi datganiad ysgrifenedig syml ar hynny yn ystod y dyddiau nesaf.
Mae pobl Islwyn, yr wyf i'n eu cynrychioli, yn eich llongyfarch chi a Llywodraeth Lafur Cymru ar achlysur cyrraedd carreg filltir hanesyddol, sef miliwn o frechiadau. Yn fy etholaeth i, sef Islwyn, mae'r brechu torfol yng nghanolfan hamdden Trecelyn yn effeithiol iawn, ac yn fedrus iawn, yn brechu niferoedd mawr o bobl. Gweinidog, gyda phedwar o bob 10 ymhlith poblogaeth oedolion Cymru wedi cael o leiaf un dos, beth yw eich neges chi i gymunedau Islwyn o ran y cynnydd sy'n cael ei wneud i frechu pob oedolyn erbyn 31 Gorffennaf?
Rwy'n credu y gall pobl fod â lefel uchel iawn o hyder am ein sefyllfa ni, ar ganol mis Ebrill, ac, yn wir, erbyn diwedd mis Gorffennaf hefyd, gan ddibynnu ar y cyflenwadau. A'r cyflenwad yw'r unig fater a allai ein dal ni'n ôl. Rwy'n credu, a bod yn deg, mai'r un fyddai'r ateb pe byddech chi'n siarad ag unrhyw un o'r rhaglenni a arweinir gan y GIG yn y DU. Fe allem fod wedi gwneud mwy erbyn hyn pe byddai yna fwy o gyflenwad wedi bod ar gael. Nid beirniadaeth mohoni; dim ond datgan ein sefyllfa ni, ac rwy'n credu bod hynny'n mynd yn ôl at gwestiynau Angela Burns hefyd. Felly, os ydych chi'n aros am eich brechlyn chi, a'ch bod chi yn perthyn i grwpiau 1 i 9, fe allwch fod yn hyderus y byddwch wedi cael cynnig un, neu fe ddylech gael cynnig un, erbyn canol mis Ebrill. Rwyf i o'r farn fod hynny'n golygu ein bod ni mewn sefyllfa dda i fod yn cynnig brechlyn i weddill y boblogaeth oedolion yng Nghymru, os bydd y cyflenwadau yn ateb y gofyn, o ganol mis Ebrill ymlaen. Ac, unwaith eto, fe ddylai'r rhagolwg i'r tymor hwy, o ran sefydlogrwydd y cyflenwad o frechlynnau, olygu y gallwn ni wneud hynny erbyn diwedd mis Gorffennaf. Mae'n mynd yn fwy ansicr po bellaf i'r dyfodol yr edrychwn. Ond, yn y sgyrsiau yr wyf i wedi eu cael nid yn unig â Gweinidog y DU ynglŷn â'r cyflenwad o frechlynnau, ond gyda Gweinidogion Iechyd eraill yn y DU, ac, yn wir, gyda'r ddau gwmni sy'n cyflenwi'r brechlynnau yr ydym ni'n eu defnyddio ar hyn o bryd, sef Pfizer ac AstraZeneca, rwyf i o'r farn y bydd gennym y lefel o gyflenwad i ganiatáu inni wneud hynny. Ac fe fydd hynny, unwaith eto, yn rhoi dewisiadau amrywiol inni ynglŷn â sut y gall y cyhoedd fwrw ymlaen â'u bywydau a chael mwy o normalrwydd, gan barhau i reoli'r perygl oherwydd yr hyn sy'n dal i fod yn bandemig nad yw wedi dod i ben eto. Ond rwy'n falch iawn o glywed bod yr etholaeth yr ydych chi'n ei chynrychioli yn gwerthfawrogi'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yn y rhaglen hon dan arweiniad y GIG.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021. A dwi'n galw ar y Gweinidog unwaith eto i gyflwyno'r rheoliadau yma—Vaughan Gething.
Cynnig NDM7614 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Chwefror 2021.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig sydd ger bron. Mae'r Aelodau yn ymwybodol bod Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 wedi cael eu hadolygu ar 18 Chwefror, ac fe ddaethpwyd i'r casgliad y dylai Cymru i gyd aros ar lefel rhybudd 4. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i bawb ddal ati i aros gartref am y tro. Mae'n rhaid i'r holl siopau nad ydynt yn hanfodol, mannau lletygarwch yn ogystal â safleoedd trwyddedig a chyfleusterau hamdden aros ar gau. Mae hyn yn golygu nad yw pobl, ar y cyfan, yn gallu ffurfio aelwydydd estynedig, sef yr hyn a elwir hefyd yn 'swigod'. Hyd nes i'r diwygiadau diweddaraf gael eu gwneud i'r rheoliadau, yr unig eithriad fu ar gyfer aelwydydd un oedolyn cyfrifol, oedolion sy'n byw ar eu pennau eu hunain, neu sy'n byw ar eu pennau eu hunain gyda phlant, a allai ffurfio swigod cymorth gydag un aelwyd arall. Ers i Gymru symud i rybudd lefel 4, mae aelwydydd sydd angen cyswllt ar sail dosturiol, neu i gynorthwyo gyda gofal plant, wedi gallu gwneud hynny.
Fodd bynnag, cafodd y rheoliadau eu diwygio fel y gall aelwydydd ag unrhyw blant dan un oed ffurfio swigod cymorth—unwaith eto, gydag un aelwyd arall. Mae hyn yn ceisio sicrhau y gall rhieni newydd neu warcheidwaid plant dan flwydd oed gael cymorth gan ffrindiau neu deulu yn ystod blwyddyn gyntaf hanfodol bywyd baban. Fe fydd hyn yn helpu gyda datblygiad y baban hefyd. Yn ogystal â hynny, mae'r rheoliadau diwygiedig ar gyfer y cyfyngiadau yn caniatáu i bobl ifanc 16 ac 17 oed sy'n byw ar eu pennau eu hunain, neu gyda phobl o'r un oedran, heb unrhyw oedolion, ffurfio swigod cymorth yn yr un modd. Ac yn olaf, mae'r rheoliadau diwygiedig yn caniatáu i bob lleoliad a gymeradwyir ar gyfer gweinyddu priodasau, seremonïau partneriaeth sifil, neu seremonïau priodas amgen, agor at y diben cyfyngedig hwn. I fod yn eglur, ni chaniateir ciniawau priodas ar hyn o bryd.
Rydym wedi nodi'n glir mai ein blaenoriaeth gyntaf ni yw gweld cymaint o blant a myfyrwyr â phosibl yn dychwelyd i addysg wyneb yn wyneb cyn gynted ag y bo modd. Gyda hyn mewn golwg, fe fydd ein dull ni o lacio'r cyfyngiadau yn digwydd mewn camau graddol. Fe fyddwn ni'n parhau i wrando ar y cyngor meddygol a gwyddonol ac, wedi hynny, fe fyddwn ni'n asesu effaith y newidiadau a wnaed. Er gwaethaf y cynnydd enfawr o ran gweinyddu brechlynnau yr ydym ni newydd sôn amdano, a'r sefyllfa sy'n gwella o ran iechyd y cyhoedd, rydym wedi gweld pa mor gyflym y gall y sefyllfa ddirywio. Yn wyneb amrywiolion newydd o'r coronafeirws, yn arbennig amrywiolyn Caint, sy'n ymledu ar raddfa lawer cyflymach, ni allwn ddarparu cymaint o sicrwydd na rhagweld cymaint ag y byddem ni'n ei hoffi fel arall. Fe fyddwn ni'n rhoi cymaint o rybudd i bobl a busnesau ag y gallwn ni cyn gwneud unrhyw newidiadau. Pan fyddwn ni o'r farn ei bod yn ddiogel llacio'r cyfyngiadau, fe fyddwn ni'n gwneud hynny. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau hyn, sy'n parhau i fod â rhan bwysig wrth addasu rheolau coronafeirws yma yng Nghymru er mwyn sicrhau eu bod nhw'n dal i fod yn effeithiol a chymesur. Diolch.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Diolch i chi. A gaf i alw nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw?
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gennyf i ychydig o sylwadau byr i'w rhoi. Fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ni bore ddoe, ac mae ein hadroddiad ni'n cynnwys tri phwynt teilyngdod sy'n gyfarwydd iawn i'r Aelodau. Mae ein pwynt teilyngdod cyntaf ni'n nodi cyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol. Rydym wedi tynnu sylw arbennig at nifer o baragraffau allweddol yn y memorandwm esboniadol sy'n cyfeirio'n uniongyrchol at erthyglau 2, 5, 8, 9 ac 11 o siarter hawliau sylfaenol Ewrop ac erthygl 1 o'r protocol cyntaf. Ac mae ein hail a'n trydydd pwynt teilyngdod yn nodi na fu yna ymgynghoriad ffurfiol ar y rheoliadau, ac nad yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal asesiad effaith rheoleiddiol. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Dau newid yn y fan hyn rydyn ni'n cytuno â nhw, y cyntaf yn ymwneud â mangreoedd ar gyfer seremonïau priodas sifil a phartneriaethau sifil, y llall yn caniatáu i aelwydydd efo, beth bynnag, un plentyn dan un oed ffurfio aelwyd estynedig. Dwi yn falch o weld hyn yn digwydd o ran llesiant, a dwi'n cyfeirio'n benodol at y gwaith mae Bethan Sayed wedi'i wneud yn y maes yma'n benodol, dwi'n meddwl, yn codi ymwybyddiaeth, fel rhiant ifanc ei hun hefyd, wrth gwrs. Felly, fel dwi'n dweud, mi fyddwn ni'n cefnogi hwn.
Gwnaf i gyfeirio, os caf i, jest yn sydyn, at yr adolygiad nesaf. Dwi yn gobeithio, eto o ran llesiant, y byddwn ni'n gallu symud i gyfnod 'aros yn lleol', rŵan, yn hytrach nag 'aros gartref'. Dwi'n credu buasai fo yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran llesiant pobl, a dwi'n edrych ymlaen at gael mwy o fap ynglŷn â'r ffordd ymlaen. Ond Ynys Môn ydy fy etholaeth i. Rydym ni'n gwybod bod Ynys Môn yn un o'r ardaloedd lle mae nifer yr achosion ar ei uchaf. Rydym ni'n gwybod am yr effaith mae'r math newydd o goronafeirws yn ei gael, pa mor hawdd ydy o i ledaenu. Rydym ni'n gweld y ffigurau diweddaraf, eto'r prynhawn yma, ynglŷn â nifer yr achosion yn Ysbyty Gwynedd ac yn y blaen. Felly, mae'n rhaid symud ymlaen yn bwyllog iawn, iawn, iawn. Felly, jest cwestiwn sydyn: sut bydd y Llywodraeth yn cyfathrebu mor glir â phosib na all pobl ddefnyddio'r ffaith bod cil y drws yn agor fel rheswm i wthio'r drws yna ar agor led y pen, achos dydyn ni ddim yn barod am hynny?
Diolch. A gaf i alw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl? Vaughan Gething.
Diolch i'r pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder, unwaith eto, am graffu ar y rheoliadau. Unwaith eto, mae adolygiadau rheolaidd y pwyllgor hwn yn ein helpu ni i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn ateb ei diben a'i bod wedi ei drafftio'n addas, ac mae'r pwyllgor, o bryd i'w gilydd, wedi sylwi ar wahaniaethau bychan, ond pwysig iawn, yn fy marn i, yn y rheoliadau, y gwnaethom ni eu cywiro, ar ôl i'r pwyllgor eu hadolygu. Mae hynny o gymorth mawr bob amser.
Ynglŷn â phwynt Rhun ap Iorwerth, rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth i'r rheoliadau hyn. Ynglŷn â'ch pwynt ehangach chi am reoliadau posibl yn y dyfodol, rydych chi wedi clywed y Prif Weinidog a minnau'n cyfeirio at y posibilrwydd o gyfnod 'aros yn lleol' cyn y gellir cael symudiad ehangach o ran teithio. Ac nid oes dim byd yn berffaith yn hynny, ond rydym ni'n cydnabod, wrth symud o un cam i'r llall, y gallai cyfnod pontio 'aros yn lleol' fod yn ddefnyddiol. Ac mae hyn yn golygu pobl yn ymddwyn yn synhwyrol gydag unrhyw reolau neu ganllawiau. Ac os byddwn ni'n rhoi arweiniad ar hyn, dyna'n union fyddai hynny, nid rheol haearnaidd. Rydym yn gofyn i bobl fod yn synhwyrol ynglŷn â sut y maen nhw'n mynd o gwmpas hynny. Ac rwy'n sylweddoli, pe byddwn i'n byw yng nghanol Powys, y gallai 'aros yn lleol' olygu rhywbeth gwahanol iawn i fyw yma ym Mhenarth neu yn y rhan o Gaerdydd sydd yn fy etholaeth i. Ac felly rydym yn gofyn i bobl ddefnyddio eu synnwyr cyffredin a dangos y gefnogaeth sydd wedi ein cynnal ni hyd yr awr hon. Yr hyn nad ydym yn awyddus i'w weld yw pobl yn cymryd agwedd tuag at unrhyw lacio posibl sy'n ein dwyn ni ymhell y tu hwnt i'r sefyllfa y mae angen inni fod ynddi hi, oherwydd rwy'n eiddgar i weld cynnydd graddol a diogel wrth symud oddi wrth ein cyfyngiadau presennol a fyddai'n golygu na fyddai angen inni arafu unwaith eto.
Os ydyn nhw'n mynd i deithio, mae angen i bobl gydnabod a gwneud yn siŵr eu bod yn dal i gadw at y cyfyngiadau eraill a fydd yn parhau i fod yn weithredol ac yn eu lle, ac yn enwedig yr heriau i bob un ohonom ni wrth sicrhau ein bod yn cadw pellter oddi wrth bobl, yn cofio am hylendid dwylo, ac yn enwedig ddim yn cymysgu dan do. Hwnnw yw'r dull mwyaf peryglus o gysylltu â phobl o hyd ac, fel y dywedais i, mae amrywiolyn Caint yn golygu ei fod yn amrywiolyn sy'n llawer haws iddo drosglwyddo na'r un yr ydym wedi bod yn ymdrin ag ef hyd yma, ac felly dyna pam mae angen gofal ychwanegol. Mater i bob un ohonom ni, serch hynny, yw gwneud ein rhan fel y gallwn wneud dewisiadau eraill yn y dyfodol, a dewisiadau eraill yr wyf i'n sicr yn gobeithio y gallwn ni i gyd gytuno na fyddem yn dymuno eu bod yn cael eu gwrthdroi.
Felly, diolch am eich sylwadau a'ch cefnogaeth gyffredinol, ac rwy'n edrych ymlaen at obeithio y bydd yr Aelodau yn cytuno nawr ar y rheoliadau sydd ger bron.
Diolch. Y cynnig yw ein bod ni'n derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, nid wyf i'n gweld unrhyw un sy'n gwrthwynebu. Gan hynny, fe dderbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cafodd eitemau 5, 6, 7 ac 8 ar ein hagenda ni eu gohirio tan yr wythnos nesaf.
Felly, eitem 9 yw Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau sy'n ddarostyngedig i ddyletswydd ynghylch Anghydraddoldebau Economaidd-Gymdeithasol) (Cymru) 2021, ac rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i gynnig y cynnig, Jane Hutt.
Cynnig NDM7616 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd ynghylch Anghydraddoldebau Economaidd-gymdeithasol) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror 2021.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'r Aelodau yn ymwybodol bod y Prif Weinidog, yn ei ddatganiad rhaglen ddeddfwriaethol ar 15 Gorffennaf 2020, wedi cyhoeddi bod y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn un o bum maes i'w cyflawni cyn diwedd y tymor Seneddol hwn. Dyma un o'n hysgogiadau ni i leihau anghydraddoldeb, ac rwy'n falch ein bod ni'n gallu trafod y rheoliadau a osodwyd gerbron Aelodau'r Senedd heddiw, sef rhan allweddol o gyflawni'r ymrwymiad hwn. Os byddant yn cael eu pasio, fe fydd y rheoliadau'n rhoi dyletswydd ar rai cyrff cyhoeddus, ac yn ei gwneud yn ofynnol iddynt, wrth wneud penderfyniadau strategol fel penderfynu ar flaenoriaethau a phennu amcanion, ystyried sut y gallai eu penderfyniadau nhw helpu i leihau anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae'r rheoliadau sydd ger eich bron yn rhestru cyrff cyhoeddus Cymru sy'n cael eu cynnwys o ran y ddyletswydd hon, felly mae'r diffiniad o awdurdod perthnasol yn golygu fy mod i wedi fy nghyfyngu i'r cyrff cyhoeddus hynny y gall y ddyletswydd hon fod yn berthnasol iddyn nhw. Serch hynny, rwyf wedi cynnwys pob corff cyhoeddus y mae'r diffiniad hwn yn berthnasol iddo, gan sicrhau'r budd mwyaf posibl i bobl Cymru. Mae'r ddyletswydd yn cysylltu hefyd â chynlluniau ar gyfer y Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus (Cymru) drafft, sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd. Mae'r ddau ddarn o ddeddfwriaeth yn ceisio cryfhau ein trefniadau ni gyda'r bartneriaeth gymdeithasol a'r agenda gwaith teg sydd gennym ni, gan fod y ddau beth yn helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb o wahanol safbwyntiau.
Diolch. Rwy'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ystyried y rheoliadau hyn ar 1 Mawrth ac mae ein hadroddiad ni'n cynnwys dau bwynt teilyngdod, y byddaf i'n eu crynhoi yn fyr ar gyfer yr Aelodau y prynhawn yma.
Nododd ein pwynt teilyngdod cyntaf ni nad oes asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer y rheoliadau ac fe wnaethom ofyn i Lywodraeth Cymru egluro pa drefniadau a wnaed i gyhoeddi adroddiad ar asesiad o'r fath, yn unol â Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011. Mewn ymateb i'n pwynt teilyngdod cyntaf, fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru fod asesiad effaith integredig llawn ar y rheoliadau wedi cael ei gwblhau. At hynny, fe gadarnhaodd ymateb y Llywodraeth hefyd fod adrannau 1, 3 a 7 o'r asesiad effaith integredig wedi cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ar 23 Chwefror, a bod crynodeb o'r asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb i'w weld yn adran 7.2. Dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym hefyd y byddai'r gweddill o adrannau'r asesiad effaith integredig ar gael, fel mater o drefn, pe byddai gofyn amdanynt.
Roedd ein hail bwynt teilyngdod yn ymwneud ag adolygiad ôl-weithredu o'r rheoliadau. Roeddem yn tynnu sylw at y ffaith bod asesiad yr effaith rheoleiddiol sy'n cyd-fynd â'r rheoliadau yn nodi, o ystyried y canlyniadau lluosog a ragwelir o ganlyniad i'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, y caiff rhaglen fonitro a gwerthuso ei datblygu i gyfateb i weithgareddau allweddol. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch. Rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i ymateb.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am yr adroddiad ar deilyngdod. Fe lwyddodd ef i ateb y pwyntiau a wnaed yn eich cwestiynau chi am yr asesiad effaith integredig, a beth fyddai effaith y gwaith hwnnw o ran canllawiau, o ran cyhoeddi'r adrannau hynny a oedd yn crynhoi pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried. Ac fe fyddwn i'n dweud hefyd y byddwn ni'n parhau i gefnogi cyrff cyhoeddus ar ôl i'r ddyletswydd honno ddod i rym.
Felly, fe fydd dechreuad y ddyletswydd yn ein dwyn ni ymlaen, wrth gwrs, o ran y canllawiau anstatudol a gyhoeddwyd gennym llynedd. Fe baratowyd pecyn sylweddol o gymorth ar gyfer cyrff cyhoeddus oherwydd y ddyletswydd ac mae yna rai eisoes yn gweithio yn y ffordd a fwriadwyd, ac felly rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynnig hwn.
Diolch. Y cynnig yw ein bod ni'n derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwy'n gweld gwrthwynebiadau, felly, fe fyddwn ni'n pleidleisio ar yr eitem hon yn ystod y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 10 ar yr agenda yw Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021. Rwy'n galw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig, Julie James.
Cynnig NDM7615 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror 2021.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Wedi i'r Senedd ystyried a phasio Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 y llynedd, rwy'n ceisio gwneud y darpariaethau angenrheidiol erbyn hyn ar gyfer gweithredu rhai o'r diwygiadau a ddarparwyd gan y Ddeddf. Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ei hanfod wedi cryfhau a grymuso llywodraeth leol. Mae'r drefn perfformiad a llywodraethu newydd a nodir yn Rhan 6 y Ddeddf yn elfen sylfaenol o hynny, gan ddiffinio, yn ddi-syfl, brif gynghorau yn sefydliadau sy'n gwella eu hunain drwy gyfrwng system sy'n seiliedig ar hunanasesu ac ar asesu perfformiad panelau. Bwriad y drefn newydd hon o ran perfformiad a llywodraethu yw cefnogi ac adeiladu ar ddiwylliant lle mae cynghorau'n herio'r sefyllfa bresennol trwy'r amser, ac yn gofyn cwestiynau am sut y maen nhw'n gweithredu a rhoi ystyriaeth i'r arfer gorau yng Nghymru ac mewn mannau eraill. Fy mwriad i yw gwneud y drefn newydd yn rhannol berthnasol o 1 Ebrill eleni, gyda'r darpariaethau sy'n weddill yn dod i rym yn etholiadau llywodraeth leol 2022. Fe fydd y rheoliadau diwygiadau canlyniadol sydd ger eich bron heddiw yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sylfaenol a'r is-ddeddfwriaeth bresennol yn adlewyrchu'n gywir y newidiadau deddfwriaethol sy'n deillio o'r gyfundrefn newydd, ac rwy'n gofyn i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw. Diolch.
Diolch. Rwy'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel y rheoliadau blaenorol a drafodwyd y prynhawn yma, fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn hefyd ar 1 Mawrth ac mae ein hadroddiad ni'n cynnwys dau bwynt teilyngdod.
Mae'r rheoliadau yn diwygio Deddf Llywodraeth Leol 1999 er mwyn, ymhlith pethau eraill, ganiatáu i grantiau gael eu rhoi gan Weinidogion Cymru i Swyddfa Archwilio Cymru o ran gwariant a fu neu i ddod eto gan Archwilydd Cyffredinol Cymru dan bennod 3 o Ran 6 Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Roedd ein pwynt teilyngdod cyntaf ni'n nodi nad yw pennod 3 o Ran 6 Deddf 2021 mewn grym eto. Fel y cyfryw, fe ofynnodd ein hadroddiad ni i Lywodraeth Cymru gadarnhau pryd a sut y byddai'r darpariaethau yn y bennod hon o Ddeddf 2021 yn cael eu rhoi ar waith.
Gan symud ymlaen at ein hail bwynt teilyngdod ni, mae'r memorandwm esboniadol i'r rheoliadau yn cyfeirio at Orchymyn 2021, sy'n dod â phennod 1 o Ran 6 Deddf 2021 ac adran 169 Deddf 2021 i rym. Roedd ein hail bwynt adrodd ni'n nodi nad oedd Gorchymyn 2021 wedi ei wneud ar adeg ysgrifennu'r adroddiad, ac roeddem ni'n gwahodd Llywodraeth Cymru i gadarnhau pryd y disgwylir i hyn ddigwydd.
Yn ein cyfarfod ni ddoe, fe wnaethom ystyried ymateb gan y Llywodraeth, ynghyd â llythyr gan y Gweinidog, sy'n rhoi trosolwg o'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i gefnogi gweithredu Deddf 2021. Mewn ymateb i'n dau bwynt adrodd ni, mae Llywodraeth Cymru yn nodi y bwriedir cychwyn pennod 3 o Ran 6 Deddf 2021 yr un pryd â phennod 1, ar 1 Ebrill 2021. Mae wedi cadarnhau hefyd y bwriedir gwneud y Gorchymyn cychwyn sy'n dod â'r darpariaethau hyn i rym ym mis Mawrth ar yr un pryd â'r rheoliadau hyn sydd ger ein bron heddiw, yn ddarostyngedig i'r Senedd yn cymeradwyo'r rheoliadau. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch. Rwy'n galw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb.
Nid oes angen ymateb. Fe nododd Cadeirydd y pwyllgor yr ateb i'w gwestiynau ef ei hun eisoes, ac rwy'n hapus iawn gyda hynny, felly rwy'n galw ar yr Aelodau i gymeradwyo'r rheoliadau heddiw. Diolch.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf i'n gweld unrhyw un yn gwrthwynebu, felly fe dderbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 11 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar drydedd gyllideb atodol 2020-21, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig, Rebecca Evans.
Cynnig NDM7622 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30:
1. Yn cymeradwyo'r Drydedd Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 2 Mawrth 2021.
2. Yn nodi bod y categori adnoddau cronnus ar gyfer Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o dan Ran 2 o Atodlen 4 i Gynnig y Gyllideb Atodol ar dudalen 22 wedi'i ddiwygio i gynnwys 'ad-dalu arian pensiwn dros ben’ fel yr adlewyrchir yn y Memorandwm Esboniadol a gyflwynwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i'r Pwyllgor Cyllid i'w ystyried yn ei gyfarfod ar 15 Ionawr 2021.
3. Yn nodi ymhellach yr addasiadau cyfatebol yn Atodlen 6 ar dudalennau 27 a 28 i gysoni'n gywir yr adnoddau y gofynnir amdanynt drwy leihau DEL Adnoddau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru £974,000, cynyddu’r AME Adnoddau £974,000 a chynyddu'r Gronfa Adnoddau DEL heb ei Dyrannu £974,000.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Mae'r gyllideb atodol hon yn cyflwyno cynlluniau gwariant terfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae'n adolygu'r cynlluniau ariannu a gwariant a gafodd eu cymeradwyo gan y Senedd yn yr ail gyllideb atodol ym mis Tachwedd. Mae cynnydd o £2 biliwn i adnoddau cyffredinol Cymru. Mae hwn yn gynnydd pellach o 8 y cant ar y sefyllfa a nodwyd yn yr ail gyllideb atodol a hynny'n adlewyrchu'r holl gynnydd o fwy na 32 y cant ar ben y cynlluniau gwariant a bennwyd ar ddechrau'r flwyddyn.
Yn y gyllideb atodol hon, mae cynlluniau gwariant cyllidol Llywodraeth Cymru wedi cynyddu £2.13 biliwn. Mae hyn yn cynnwys £318 miliwn ar gyfer y pecyn ailadeiladu a gyhoeddwyd ym mis Hydref, ynghyd â dyraniadau allweddol sy'n parhau i gefnogi ymateb y Llywodraeth i effaith y pandemig coronafeirws. Darparwyd cyfanswm o £660 miliwn ar gyfer cymorth busnes hyd at ddiwedd mis Mawrth. Mae hyn yn cynnwys £134.5 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer cyfnod atal byr mis Hydref, £5 miliwn ychwanegol ar gyfer y gronfa cymorth dewisol, a chymorth a anelir o £220 miliwn ar gyfer cronfa cyfyngiadau busnes y Gronfa Cadernid Economaidd, a chymorth sy'n benodol i'r sector. Felly, cafodd £12.2 miliwn ei ddyrannu ar gyfer y gronfa adferiad diwylliannol i roi cymorth hanfodol i theatrau, safleoedd cyngherddau, safleoedd treftadaeth, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, orielau a sinemâu annibynnol, ac yn cynnwys y gronfa gyntaf yn y DU ar gyfer gweithwyr llawrydd.
Rydym wedi dyrannu £32 miliwn i roi taliad o £500 i gefnogi pobl y gofynnwyd iddynt hunanynysu, neu rieni a gofalwyr plant y gofynnwyd iddynt hunanynysu drwy wasanaethau profi, olrhain a diogelu, a dyrannwyd £16.7 miliwn i ychwanegu at dâl salwch statudol i weithwyr gofal cymdeithasol. Ochr yn ochr â'n hymdrechion ni o ran olrhain cysylltiadau a chymorth ar gyfer hunanynysu, rydym ni'n cyflwyno'r rhaglen frechu fwyaf a welodd Cymru erioed. I sicrhau llwyddiant y rhaglen, rydym wedi dyrannu £27 miliwn ar gyfer gweinyddu brechlynnau, ac fe roddir y rhan fwyaf ohono i'r byrddau iechyd. Rhoddwyd £69 miliwn ar gyfer cymorth caledi i addysg uwch ac addysg bellach i gefnogi'r nifer fawr o fyfyrwyr sydd wedi wynebu trafferthion yn sgil y pandemig, ac rydym ni'n parhau i gefnogi awdurdodau lleol gyda £30.7 miliwn ychwanegol ar gyfer cynllun lleihau'r dreth gyngor a cholledion gyda chasglu'r dreth gyngor.
Yn ogystal â'r mesurau hyn i ymateb i'r pandemig, fe ddyrannwyd tua £825 miliwn yn y gyllideb atodol hon i gefnogi meysydd eraill, fel £62 miliwn ar gyfer bargeinion dinas a thwf, gan roi £36 miliwn i fargen dinas-ranbarth Bae Abertawe, £16 miliwn i fargen twf y gogledd a £10 miliwn i fargen dinas-ranbarth Caerdydd. Fe ychwanegwyd £30 miliwn i fynd i'r afael â'r gost a welwyd wrth ymdrin â'r atgyweirio oherwydd effaith y llifogydd ym mis Chwefror 2020, ac ar gyfer diogelwch tomennydd glo. Fe ychwanegwyd estyniad o £270 miliwn i gronfa fuddsoddi hyblyg Cymru, yn ogystal â £50 miliwn i gefnogi costau cyfalaf cynnal a chadw ysgolion i awdurdodau lleol.
Fe hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am graffu ar y drydedd gyllideb atodol hon, ac fe fyddaf i'n rhoi ystyriaeth ac yn ymateb yn llawn i'w chwe argymhelliad ar gyfer Llywodraeth Cymru maes o law. Ond gallaf i ddweud nawr fy mod i'n bwriadu eu derbyn nhw. Rwy'n croesawu cydnabyddiaeth y pwyllgor o'r heriau sy'n ein hwynebu eleni o ran ymgysylltu a chyfathrebu â Llywodraeth y DU, o ran yr angen am newidiadau clir a systematig i'r broses ariannu, ac o ran materion penodol megis seilwaith ar gyfer porthladdoedd Cymru a'r diffyg manylion ynglŷn â chronfa ffyniant gyffredin y DU. Rwy'n cydnabod argymhelliad y pwyllgor hefyd i gynnal tryloywder gwariant Llywodraeth Cymru yn ei adroddiad alldro blynyddol, a'r ymrwymiad i'n protocol cytûn ni a oedd yn sefydlu'r elfen bwysig hon o'n fframwaith adrodd.
Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynnig.
Diolch. A gaf i nawr alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd?
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, ac mae'n bleser gen i siarad yn y ddadl yma heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid. Mi gafodd y pwyllgor gyfarfod ar 24 Chwefror i drafod trydydd cyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21. Fel y bydd y Siambr yn gwybod, mae cael trydedd cyllideb atodol yn beth anghyffredin iawn, wrth gwrs, ond mae'n adlewyrchu efallai’r effaith y mae COVID-19 yn ei chael o hyd. Felly, rŷn ni yn diolch i'r Gweinidog am ddwyn y gyllideb atodol yma ymlaen a’r tryloywder y mae hyn yn ei gynnig i'r Senedd.
Mae'r gyllideb hon yn cydgrynhoi addasiadau sy'n deillio o amcangyfrifon atodol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac fe wnaethom ni glywed bod hyn yn rheoleiddio dyraniadau i mewn ac allan o gronfeydd wrth gefn, a throsglwyddiadau o fewn a rhwng portffolios. Mae hefyd yn cynnwys addasiadau i gyllidebau Comisiwn y Senedd, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac Archwilio Cymru.
Yn ystod yr ail gyllideb atodol, roedd llawer o argymhellion y pwyllgor yn ymwneud â’r mater o dryloywder. Dyw'r sefyllfa hon ddim wedi newid, ac er ein bod ni'n cydnabod bod y pandemig yn parhau i roi straen ar y fframwaith cyllidol, mae wedi bod yn anodd i'r pwyllgor a'r Senedd hon gael darlun clir o'r cyllid sy’n cael ei ddarparu i Lywodraeth Cymru. Ein hargymhelliad cyntaf yw bod Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig am newidiadau clir a systematig i'r broses ariannu mewn perthynas â strwythur digwyddiadau cyllidol y Deyrnas Unedig.
Fe gafwyd cynnydd o £244.5 miliwn ym mhrif grŵp gwariant iechyd a gwasanaethau cymdeithasol o'i gymharu â'r ail gyllideb atodol, a rŷn ni'n credu bod hyn yn ddoeth o ystyried yr ansicrwydd a fydd yn parhau hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol hon. Mae'r pandemig wedi effeithio'n sylweddol ar incwm awdurdodau lleol a bydd hyn yn parhau, wrth gwrs, tan ddiwedd y flwyddyn ariannol o leiaf a'r flwyddyn ariannol nesaf hefyd wrth gwrs, o leiaf. Drwy gydol y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid brys i awdurdodau lleol, gyda'r mwyafrif yn dod drwy'r gronfa caledi awdurdodau lleol. Hoffem ni gael sicrwydd gan Lywodraeth Cymru bod y cyllid sy'n cael ei ddarparu i awdurdodau lleol yn rhoi ystyriaeth lawn i’r effaith wahaniaethol y mae COVID-19 yn ei chael ar incwm awdurdodau lleol.
Mae’r sefyllfa hefyd wedi cael effaith ar allu'r trydydd sector i godi refeniw. Mae'r trydydd sector yn chwarae rhan allweddol o ran darparu cymorth a gwasanaethau sy'n cefnogi gwasanaethau iechyd, cymdeithasol a lleol. Er ein bod ni'n croesawu'r cyllid ychwanegol sy’n cael ei ddarparu yn y drydedd gyllideb atodol ar gyfer y gronfa cymorth dewisol a chronfa ymateb y trydydd sector, mae lefel y cyllid ychwanegol yn gymedrol o'i chymharu â'r cymorth sy’n cael ei roi i'r gwasanaethau iechyd. Dylai Llywodraeth Cymru felly gadarnhau bod y cyllid ychwanegol sy’n cael ei ddarparu yn adlewyrchu'n llawn yr effaith ar wahanol feysydd a sefydliadau y trydydd sector.
Y gyllideb atodol hon yw'r un gyntaf ers cytuno ar fargen fasnach yr Undeb Ewropeaidd. Fe wnaeth y Gweinidog ddweud wrthym ni fod trafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau ynghylch ariannu'r costau seilwaith i ddiweddaru porthladdoedd. Rŷm ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi diweddariad am y trafodaethau hyn pan fydd modd gwneud hynny.
Mae cronfa ffyniant gyffredin y Deyrnas Unedig yn parhau i fod o ddiddordeb i'r Pwyllgor ers 2017, pan gyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyntaf y byddai'n disodli cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd. Bryd hynny, ychydig iawn o fanylion oedd yn hysbys a dyw'r sefyllfa hon ddim wedi gwella ryw lawer er gwaethaf ymdrechion y pwyllgor a Llywodraeth Cymru i gael gwybodaeth ar sut y bydd y gronfa hon yn cael ei dyrannu neu ei gweinyddu. Yfory, mi fydd y Pwyllgor Cyllid, ynghyd ag aelodau o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, yn cymryd tystiolaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol, ac mi fyddwn ni'n mynd ar drywydd y newidiadau ariannu hyn. Rŷm ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau setliad cyllido teg i Gymru ac nad yw Cymru yn colli allan ar yr un geiniog.
Fel y soniwyd ar y dechrau, mae'r cynnig hwn ar y gyllideb hefyd yn cynnwys addasiadau i gyllidebau Comisiwn y Senedd, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac Archwilio Cymru, ac mae'r pwyllgor yn fodlon â'r amrywiad yn y cyllidebau hyn.
Yn olaf, rŷn ni’n falch bod Trysorlys y Deyrnas Unedig wedi cytuno y gall Llywodraeth Cymru gario cyllid o £650 miliwn drosodd, a ddarparwyd yn hwyr yn y flwyddyn ariannol, a hynny ar ben y cyfyngiadau cyfredol i gronfa wrth gefn Cymru. Hoffwn bwysleisio bod y pwyllgor o blaid hyblygrwydd diwedd blwyddyn. Byddai cael hyblygrwydd, hefyd, ynghylch terfynau benthyca, a chronfeydd wrth gefn, yn helpu gwaith cynllunio Llywodraeth Cymru hefyd, wrth gwrs, yn enwedig o dan yr amgylchiadau presennol. Diolch.
Mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid y mis hwn, fel y clywsoch chi, ar drydedd gyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 yn nodi bod hyn yn dyrannu bron i £1.3 biliwn o adnoddau cyllidol ychwanegol a bron i £837 miliwn mewn cyfalaf, gyda'r prif gynnydd yn yr economi a thrafnidiaeth, tai a llywodraeth leol, ac addysg. Y cefndir yw'r £5.2 biliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru er mwyn brwydro yn erbyn pandemig COVID-19 yn 2020. Mae'r £650 miliwn ychwanegol y flwyddyn ariannol hon yn dod â hyn i £5.85 biliwn, ar ben £1.4 biliwn yn fwy o gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 yn dilyn mwy o wariant ar wasanaethau cyhoeddus yn Lloegr. Mae Canghellor Trysorlys y DU eisoes wedi cadarnhau y bydd gan Lywodraeth Cymru o leiaf £1.3 biliwn ychwanegol i'w wario yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, ac ychwanegodd ei gyllideb yr wythnos diwethaf £740 miliwn pellach o gyllid i Lywodraeth Cymru. Mae'r Pwyllgor Cyllid yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am newidiadau clir a systematig i'r broses ariannu mewn cysylltiad â strwythur digwyddiadau cyllidol y DU.
At hynny, dywedodd y Gweinidog wrthym fod Prif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd o ran bwrw ymlaen ag unrhyw symiau canlyniadol a gynhyrchwyd drwy weithredu fformiwla Barnett yn ychwanegol at y £5.2 biliwn o gyllid gwarantedig a gadarnhawyd yn flaenorol ar 23 Rhagfyr. Felly, mae'r gyllideb atodol yn manylu ar y £660 miliwn a ddygir ymlaen i'r flwyddyn nesaf, ac mae hynny oherwydd yr hysbysiad hwyr iawn. Fodd bynnag, nid yw'n cydnabod bod yr esgus a roddir yn gyson gan Lywodraeth Cymru am ei hymatebion araf i bopeth bron iawn, pandemig COVID-19, hefyd yn berthnasol i Lywodraethau eraill, a bod Trysorlys y DU, er gwaethaf hyn, wedi gweithio'n agos gyda phob un o'r tair Llywodraeth ddatganoledig yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Fel y dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys yn ei lythyr ar 23 Chwefror at y Pwyllgor Cyllid, mae swyddogion wedi ymgysylltu'n amlach fyth; darparwyd dadansoddiad llawn o gyllid 2021-22 yn adolygiad gwariant 2020 fis Tachwedd diwethaf, a byddant hefyd yn cyhoeddi'r iteriad nesaf o dryloywder y grant bloc yn ddiweddarach eleni, a fydd, unwaith eto, yn cynnwys dadansoddiad llawn a manwl o'r cyllid. Mewn gwirionedd, felly, mae'r Gweinidog yn ymdrechu'n rhy galed i gyfiawnhau dwyn cymaint o arian ymlaen i'w wario yn ddiweddarach.
Fel y dywed ein hadroddiad hefyd, mae angen sicrwydd gan Lywodraeth Cymru bod yr arian a ddarperir i awdurdodau lleol yn rhoi ystyriaeth lawn i effaith wahaniaethol COVID-19 ar incwm awdurdodau lleol. Ac mae'r pwyllgor yn cydnabod yr effeithiwyd hefyd ar swyddogaeth y trydydd sector wrth ddarparu gwasanaethau sy'n cefnogi gwasanaethau iechyd, cymdeithasol a lleol, o ran y gallu i godi refeniw. Mae lefel y cyllid ychwanegol y mae'r sector hwn yn ei gael yn fach o'i gymharu, fel y dywedodd y Cadeirydd, â'r cymorth a roddir i'r gwasanaeth iechyd, a bydd hynny'n costio'n ddrud i'r gwasanaeth iechyd.