Y Cyfarfod Llawn

Plenary

20/01/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. A dwi eisiau atgoffa'r Aelodau bod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma.

Dwi hefyd eisiau hysbysu'r Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wedi cael Cydsyniad Brenhinol heddiw.

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Yr eitem gyntaf, felly, ar ein hagenda ni ar gyfer y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jayne Bryant.

Cyflwyno Brechlyn COVID-19

1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno brechlyn COVID-19 yn ne-ddwyrain Cymru? OQ56151

Diolch. Ar 11 Ionawr, cyhoeddais ein cynllun brechu cenedlaethol, gyda cherrig milltir a blaenoriaethau allweddol ar gyfer ei gyflawni. Mae'r cynllun yn adlewyrchu misoedd o waith cynllunio manwl gan y GIG, ynghyd â chefnogaeth gan gymheiriaid yn y lluoedd arfog a llywodraeth leol. Yng Ngwent, mae 72 o’r 74 practis meddyg teulu yn cefnogi’r gwaith o gyflawni'r rhaglen frechu, ac mae pum canolfan frechu dorfol hefyd yn weithredol.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae'n galonogol iawn clywed bod y gyfradd frechu’n cynyddu’n gyflym yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Gwn o dystiolaeth anecdotaidd a thrwy etholwyr sydd wedi cysylltu â mi fod hyn hefyd yn wir yng Nghasnewydd. Yr hyn sydd wedi bod yn peri pryder i fy etholwyr yw'r cyfathrebu a'r awgrym nad yw Llywodraeth Cymru yn gweithio mor gyflym â phosibl. Mae llawer o'r rheini sy'n oedrannus ac yn agored i niwed yn y grwpiau blaenoriaeth cyntaf hyn wedi bod ar y rhestr warchod ers 10 mis, ac mae rhai ohonynt ond wedi bod allan o’r tŷ lond llaw o weithiau. Maent hwy a'u teuluoedd yn ysu i wybod nad ydynt wedi cael eu hanghofio ac eisiau clywed y bydd y Llywodraeth yn gwneud ei gorau glas i sicrhau eu bod yn cael y brechlyn hwn. Weinidog, a allwch sicrhau fy etholwyr a minnau ynghylch cyflymder y broses o gyflwyno'r brechlyn yng Nghymru, ac yn benodol yng Nghasnewydd, fod y flaenoriaeth a'r ffocws ar ddarparu'r brechlyn cyn gynted ac mor ddiogel â phosibl, ac y bydd y bobl dros 80 oed nad ydynt wedi clywed unrhyw beth eto yn cael clywed cyn bo hir?

Gallaf roi sicrwydd i chi ein bod yn mynd mor gyflym â phosibl. Yn fwyaf arbennig, yr wythnos hon, rydym wedi rhyddhau 60,000 o frechlynnau Pfizer i'r system i helpu mewn canolfannau brechu torfol. Rydym hefyd wedi cael cynnydd sylweddol yn ein cyflenwad o frechlyn AstraZeneca gan raglen gaffael y DU, felly bydd modd inni fynd ati’n llawer cyflymach—unwaith eto, preswylwyr cartrefi gofal a phobl dros 80 oed. Dyna pam fod y 72 practis meddyg teulu hynny ar draws ardal Gwent mor bwysig i ni er mwyn cyrraedd y ddau grŵp categori cyntaf hynny. Felly, rwy'n disgwyl nawr y byddwn yn cyhoeddi, bob wythnos—fel rwyf wedi ymrwymo i’w wneud—mwy o wybodaeth i ddangos ble rydym arni gyda'r grwpiau blaenoriaeth a’r gwaith o ddarparu’r brechlyn yn llwyddiannus. Ac rwyf hefyd wedi nodi fy mod yn credu y bydd byrddau iechyd ledled Cymru yn dechrau anfon gwahoddiadau at bobl dros 70 oed dros yr wythnos nesaf, gan fy mod yn hyderus y byddwn wedi brechu nifer uchel o bobl dros 80 oed erbyn diwedd yr wythnos hon hefyd. Felly, mae Powys eisoes yn gwneud hynny, ac ni chredaf y bydd Aneurin Bevan ymhell ar eu holau. Unwaith eto, hoffwn ddweud 'diolch' wrth yr holl staff sy'n gweithio hyd eithaf eu gallu i helpu i ddiogelu pobl ledled y wlad. Ac rwy'n credu bod Aneurin Bevan yn gwneud gwaith gwych yn hynny o beth, fel y byrddau iechyd eraill, yn wir.

Weinidog, hoffwn eilio hynny—credaf fod Aneurin Bevan yn gwneud gwaith gwych, o'r hyn y gallaf ei weld, ac mae pawb yn gweithio mor galed i ddarparu’r brechlyn hwn cyn gynted â phosibl. Ond ymddengys bod llawer o bethau disynnwyr yn digwydd. Rwy'n cael llawer iawn o e-byst yn fy mewnflwch ynglŷn â chyplau nad ydynt yn cael eu brechu ar yr un pryd. Yn amlwg, rydym yn brechu’r henoed ar hyn o bryd, ac rydym yn mynd i lawr at y bobl 70 oed. A allwch warantu eich bod—? Neu beth rydych yn ei wneud ynglŷn â'r ffaith bod un aelod o bâr yn cael dyddiad brechu, ac yna caiff yr unigolyn arall ddyddiad sy'n bell oddi wrtho? Nid yw hynny'n gwneud synnwyr. Yn amlwg, maent yn oedrannus ac mae cyrraedd y mannau hynny’n her hefyd. Felly, a wnewch chi ymchwilio i hynny, os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes? Neu beth rydych wedi'i wneud i sicrhau na fydd hynny'n parhau, gan fy mod yn cael llawer o e-byst ynglŷn â hyn? Diolch.

Wel, byddai'n ddefnyddiol pe gallech roi manylion i mi ynglŷn â’r achosion y cyfeiriwch atynt, a byddai hefyd o gymorth pe byddech yn dweud yn glir a ydych wedi codi achosion yr unigolion hyn naill ai gyda phractis cyffredinol neu gyda'r bwrdd iechyd. Rydym yn awyddus i sicrhau bod y rhaglen frechu’n cael ei chyflwyno cyn gynted â phosibl, ond hefyd mewn ffordd sy'n rhoi hyder ac sy’n deall yr heriau ynghylch sut y mae pobl yn byw eu bywydau. Rwyf wedi gweld llawer o enghreifftiau o ble mae cyplau wedi cael eu gwahodd gyda'i gilydd yn fwriadol i sicrhau y gallant gael y brechlyn ar yr un pryd. Felly, nid wyf yn ymwybodol o'r broblem y cyfeiriwch ati, ond os gallwch roi mwy o fanylion i mi, rwy’n fwy na pharod i edrych ar hynny er mwyn ceisio datrys y mater.

13:35

Ar draws Islwyn, mae gwasanaeth iechyd gwladol Cymru yn ei gyfanrwydd yn ymateb i her y pandemig hwn, ond mae llawer o bryder o hyd ynglŷn ag ymgyrch i ledaenu camwybodaeth, sef yn benodol fod y rhaglen frechu ymhell o gyrraedd ei tharged a heb fod ar y trywydd cywir, ac mae unrhyw godi bwganod bwriadol o’r fath yn gwaethygu'r gorbryder a'r ofn sydd eisoes yn bodoli yn ein cymunedau. Y gwir amdani yw ein bod, bob dydd, yn brechu mwy a mwy o bobl yng Nghymru. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 161,900 o bobl wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn, fod cyfartaledd o 10,000 o bobl bob dydd bellach yn cael y dos cyntaf o'r brechlyn. Felly, bob wythnos, mae'r rhaglen frechu'n cyflymu wrth i fwy o glinigau gael eu hagor ac wrth i fwy o frechlynnau ddod ar gael i'r llu o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n darparu’r brechlynnau, mewn 28 o ganolfannau brechu ledled Cymru, gan gynyddu i 45, a 100 o bractisau meddygon teulu sy'n darparu'r brechlyn, ffigur a fydd yn cynyddu i 250 yn ystod y pythefnos nesaf. Felly, Weinidog, sut y byddech yn asesu llwyddiant y broses o ddarparu’r brechlyn ar draws Islwyn ar hyn o bryd yn y cyd-destun hwn, a sut y gwelwch hynny'n parhau yn y dyfodol?

Wel, credaf ei bod yn deg dweud ein bod wedi dechrau ar raddfa gweddol fach o gymharu â gwledydd eraill y DU, ond o gymharu â gwledydd eraill ym mhob rhan o'r byd, rydym wedi dechrau'n gyflym iawn dros yr ychydig wythnosau cyntaf. Os ystyriwch yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod y tair wythnos diwethaf, fe welwch gynnydd sylweddol iawn yng nghyflymder ein hymdrech frechu, wrth roi'r seilwaith ar waith i ganiatáu i fwy o ganolfannau brechu torfol gael eu darparu, ac mae hynny'n bwysig iawn ar gyfer darparu brechlyn Pfizer. Wrth inni gael mwy o gyflenwad o frechlyn AstraZeneca, mae ein gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol yn benodol—ymarfer cyffredinol, gyda fferylliaeth, deintyddiaeth ac optometreg—yn defnyddio’r staff a fydd yn ymuno â hwy yn y dyfodol agos iawn hefyd. Mewn gwirionedd, mae'r ffigurau heddiw wedi cynyddu hyd yn oed yn fwy. Rydym bellach wedi brechu, gydag o leiaf un dos o'r brechlyn, bron i 176,000 o bobl yng Nghymru, bron i 14,000 o bobl yn y ffigurau rydym wedi'u darparu ar gyfer y diwrnod diwethaf, a gallwch ddisgwyl, erbyn diwedd yr wythnos hon, y byddwn wedi cymryd cam sylweddol arall ymlaen o gymharu â'r wythnos diwethaf. Felly, mae'n bendant yn cyflymu. Mae'r niferoedd yn dangos hynny, ac edrychaf ymlaen at weld nifer fawr o bobl yn Islwyn yn cael eu brechlyn yn y dyfodol agos iawn, ac rwy'n ddiolchgar iawn i bob practis cyffredinol yn etholaeth Islwyn sy'n chwarae eu rhan yn y gwaith o frechu a diogelu eu trigolion cyn gynted â phosibl.

Gofal Cartref

2. A wnaiff y Gweinidog amlinellu effaith y pandemig ar ddarparu gofal cartref gan y gwasanaethau cymdeithasol? OQ56130

Mae’r holl bobl sy'n gweithio ym maes gofal cartref yn gwneud ymdrechion aruthrol i ddarparu'r gwasanaeth hanfodol hwn yn ddiogel. Ceir llu o wahanol fathau o bwysau, ac rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol, byrddau iechyd a rhanddeiliaid eraill i helpu i reoli'r pwysau hwn.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb? Hoffwn bwysleisio'r gwaith pwysig a wneir ym maes gofal cartref. Weithiau, ceir dryswch rhwng effeithlonrwydd a thrawsnewid a gwasanaeth salach ac amodau gwaith salach. A wnaiff y Gweinidog gefnogi awdurdodau lleol i ddarparu mwy o wasanaethau gofal cartref yn uniongyrchol?

Diolch i Mike Hedges am ei ymateb, a hoffwn adleisio ei eiriau ynglŷn â pha mor hanfodol bwysig yw gofal cartref. Rydym yn ymwybodol iawn o'r heriau yn y sector hwnnw. Ar y cyfrif diwethaf, dim ond 6 y cant o wasanaethau gofal cartref a gâi eu rheoli gan awdurdodau lleol, sy'n amlwg yn ffigur bach iawn. Fel y gŵyr yr Aelod, rydym yn edrych ar y cydbwysedd hwn rhwng darparwyr gofal annibynnol ac awdurdodau lleol yn ein Papur Gwyn ar ddyfodol gofal cymdeithasol. Ac yn ddiweddar hefyd, rydym wedi sefydlu'r fforwm gofal cymdeithasol i edrych ar sut y gallwn ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael i ni yng Nghymru i wella amodau gwaith ym maes gofal cymdeithasol. Felly, rydym yn edrych ar y mater y mae'r Aelod yn ei godi.

Weinidog, mae hwnnw’n ateb calonogol, ond credaf fod pob un ohonom yn cydnabod bod y rhain yn weithwyr rheng flaen, ac mae pwysigrwydd gofal cartref i ganiatáu i bobl eiddil a phobl hŷn fyw bywydau mor llawn â phosibl o ran llesiant yn hanfodol bwysig. Ac o ystyried y gwasanaeth tameidiog, gyda llawer ohono yn y sector annibynnol neu breifat, hoffwn wybod pa gefnogaeth a roddir i weithwyr gofal cartref sydd angen ynysu am ba reswm bynnag?

Wel, fel y gŵyr David Melding, mae mwyafrif llethol y darparwyr gofal cartref yn y sector annibynnol, ac felly, yn amlwg, eu cyflogwyr sy’n gyfrifol am sicrhau bod ganddynt yr amodau gwaith cywir a'r gefnogaeth gywir. Ond wrth gwrs, os oes rhaid iddynt ynysu, byddant yn derbyn yr un budd-daliadau â'r bobl yn y sector cyhoeddus a fydd yn cael arian ychwanegol at eu cyflog, ac edrychir ar eu holau yn yr un math o ffordd. Gan fod y sector mor dameidiog, mae'n bwysig iawn ein bod yn defnyddio'r holl ysgogiadau sydd gennym i geisio eu cyrraedd, a dyma un o'r pwyntiau allweddol yn y Papur Gwyn rydym wedi'i gyhoeddi'n ddiweddar.

13:40

Weinidog, mae gennyf bryderon dybryd ynglŷn â diogelwch pobl sy'n byw â chymorth, yn enwedig oedolion ag anawsterau dysgu. Yn ddealladwy, mae'r pandemig wedi rhoi systemau iechyd a gofal dan straen aruthrol, ond ni allwn esgeuluso'r bobl fwyaf agored i niwed na'u rhoi mewn mwy o berygl. Mae etholwyr wedi cysylltu â mi i fynegi pryderon am aelodau o'r teulu sy'n wynebu perygl mwy o ddal COVID gan y gweithwyr gofal cartref sy'n dod i mewn i'w cartrefi. Felly, Weinidog, a fydd pobl sy’n byw â chymorth yn cael y brechlyn ar yr un pryd â'r rheini sy'n byw mewn cartrefi gofal, os gwelwch yn dda?

Bydd y rheini sy'n byw mewn lleoliadau byw â chymorth yn cael y brechlyn yn rhan o'r gyfran gyffredinol gyntaf y gobeithiwn ei chwblhau erbyn canol mis Chwefror. Ond rwy'n derbyn eu bod mewn sefyllfa fregus iawn, ac fel y gŵyr yr Aelod, mae gweithwyr gofal cartref bellach yn cael eu profi hefyd, sy'n eu galluogi i roi cymorth cynyddol. Ond rwy'n deall bod perthnasau’n bryderus iawn am rai o'u hanwyliaid sy'n byw yn y sefyllfaoedd hyn, ac mae llawer ohonynt wedi cysylltu â minnau hefyd. Felly, yn sicr, rydych yn gwneud pwynt dilys, ond rydym yn gwneud yr hyn a allwn i ddiogelu'r bobl hynny.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies. 

Diolch, Lywydd. Weinidog, yn gynharach yr wythnos hon, cafwyd adroddiadau y bu’n rhaid gwrthod 26,000 dos o frechlyn AstraZeneca ar y cam profi. Roedd y dosau hyn wedi’u dynodi ar gyfer Cymru. A allwch roi diweddariad i'r Cyfarfod Llawn ynghylch eich dealltwriaeth o'r rheswm pam y cawsant eu gwrthod, a sut y gallai hynny effeithio ar y cyflenwad yng Nghymru?

Gallaf. Mae'n ymwneud ag oedi yn y broses o swp-brofi’r dosau. Felly, credwn y bydd oedi i'r cyflenwad yng Nghymru, yn hytrach na’u bod yn cael eu colli’n gyfan gwbl, ac mae'n fater sy'n effeithio ar y DU hefyd. Felly, mae gennyf gyfarfod arall gyda'r Gweinidog brechlynnau, Nadhim Zahawi, o Lywodraeth y DU yr wythnos hon. Rwy'n cael cyfarfod arall gyda Gweinidogion Cabinet cyfatebol ar gyfer iechyd o bob rhan o'r DU yr wythnos hon hefyd. Felly, rydym yn parhau i siarad gyda’n gilydd am faterion cyflenwi a darparu’r brechlyn, a hyd y gwelaf, nid oes problem benodol y gallaf roi mwy o fanylion yn ei chylch yn y ffordd y mae’r Aelod yn gofyn, heblaw dweud fy mod yn gobeithio rhoi sicrwydd defnyddiol ynghylch y ffaith bod y pedair gwlad yn gweithio gyda'i gilydd, ac mae'r oedi i'n cyflenwad yn rhywbeth rydym yn disgwyl gallu gwneud iawn amdano fel y gall ein staff a'n cydweithwyr gwych a gweithgar yn y GIG barhau i gyflwyno'r rhaglen frechu i helpu i ddiogelu pobl ledled y wlad.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Hoffwn gadarnhau: roeddwn yn sôn am frechlyn AstraZeneca, nid yr oedi tra hysbys—

—gydag ad-drefnu'r ffatri a brechlyn Pfizer.

Ond os caf eich holi hefyd ynglŷn â thystiolaeth a ymddangosodd ym mhapurau'r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau mewn perthynas â’n cymunedau o bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a'r gwaith y mae SAGE wedi'i wneud ar ganfyddiad y cymunedau hynny o’r rhaglen frechlyn, roedd y gwaith a wnaethant yn nodi bod canran uchel—72 y cant, mewn gwirionedd—o'r bobl a holwyd naill ai'n annhebygol neu'n annhebygol iawn o gael y brechlyn. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i dawelu ofnau pobl yn ein cymunedau o bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ac i fynd i'r afael â'r dystiolaeth y mae SAGE wedi'i chyflwyno fod y cymunedau hynny’n gyndyn o fanteisio ar y brechlyn?

Wel, rydym eisoes yn gweithio nid yn unig gyda ffigurau sydd wedi ein helpu yn y gorffennol—felly mae Emmanuel Ogbonna a Ray Singh hefyd yn awyddus i fod o gymorth—ond hefyd Race Council Cymru. Rydym yn awyddus i estyn allan at arweinwyr cymunedol, fel rydym wedi bod yn ei wneud, gan fy mod yn cydnabod bod hyn yn bryder gwirioneddol. Felly, mae gennych y cyfosodiad hwn lle mae pobl o gymunedau o darddiad du ac Asiaidd ar y naill law yn fwy tebygol o ddioddef niwed yn sgil COVID, ac ar y llaw arall, yn hytrach na bod yn fwy awyddus i gael eu diogelu gan y brechlyn, dyna ble y ceir fwyaf o amheuaeth ynghylch y brechlyn. Ac fel y gwyddoch, mae llawer o newyddion ffug yn cael ei ledaenu ynglŷn â’r brechlyn, am ei effeithiolrwydd, am bandemig COVID yn gyffredinol a dweud y gwir, ac mae'n un o'r achlysuron pan nad yw'n ymwneud â'r Llywodraeth hon yn unig yn fy marn i, ond â'r pedair Llywodraeth a’r holl bobl ar ben cyfrifol gwleidyddiaeth, ni waeth o ba blaid, yn rhoi neges unedig i’n hetholwyr, sef bod y brechlynnau hyn wedi cael eu cymeradwyo gan reoleiddiwr annibynnol yn unig. Nid oes unrhyw wleidydd yn penderfynu a yw'r brechlynnau'n ddiogel ac yn effeithiol. Y rheoleiddiwr sy’n penderfynu a ellir eu defnyddio a sut y gellir eu defnyddio, a gwaith gwleidyddion a'n gwasanaethau iechyd wedyn yw sicrhau eu bod yn cael eu darparu. Felly, byddwn yn annog pawb, pan ddaw eich tro, i sicrhau eich bod yn barod, i gael y brechlyn, i gael eich diogelu a byddwch yn diogelu eich hunan, eich anwyliaid, ac wrth gwrs, llawer o bobl eraill ledled y wlad hefyd.

13:45

Diolch am eich ateb, Weinidog, ac os gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni yn rheolaidd ar y ffigurau hyn wrth i'r broses o gyflwyno'r brechlyn yma yng Nghymru fynd rhagddi, gan eu bod yn eithaf brawychus—72 y cant ym mhapurau’r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau. Felly, credaf ei bod yn bwysig ein bod yn ceisio tawelu unrhyw ofnau a allai fod yn treiddio i'r cymunedau hynny gan atal pobl rhag cael y brechlyn.

Ond hefyd, mae tystiolaeth yn dod i'r amlwg bellach, wrth i’r rhaglen frechu fynd rhagddi, fod un o bob pum aelod o staff cartrefi gofal, er enghraifft, yn gwrthod cael y brechlyn. Nawr, dyna yw eu dewis, oherwydd yn amlwg, mae pobl yn cael cynnig y brechlyn ac nid oes unrhyw orfodaeth, ond os yw un o bob pum aelod o staff yn gwrthod cael y brechlyn, mae hynny'n cael effaith, yn arbennig wrth gwrs, ar breswylwyr, a allai fod wedi cael y brechlyn. A ydych yn ymwybodol o’r ffigur hwnnw o un o bob pump yn gwrthod manteisio ar y brechlyn? Ac os ydych yn ymwybodol ohono, pa waith sydd wedi'i wneud i dawelu meddwl aelodau staff, sydd mewn lleoliad bregus, fod y brechlyn yn ddiogel ac yn y pen draw yn ddiogel ar gyfer diogelu'r preswylwyr y mae'r staff mor ymroddedig iddynt?

Ydw, rwy'n ymwybodol fod problem gyda rhai staff yn gwrthod manteisio ar yr amddiffyniad y mae'r brechlyn yn ei gynnig. Mewn gwirionedd, cefais sgwrs gyda Vikki Howells ynglŷn â hyn ddoe ar y gwaith rydym yn bwriadu ei wneud, nid yn unig gyda darparwyr a chomisiynwyr, ond hefyd gyda chynrychiolwyr undebau llafur i bwysleisio i'w haelodau, unwaith eto, y pwynt a wneuthum yn eich ail gwestiwn: nid yw’r brechlynnau’n cael eu darparu oni bai bod y rheoleiddiwr annibynnol yn eu cymeradwyo fel rhai diogel ac effeithiol, a cheir amodau ar gyfer eu defnydd hefyd.

Felly, mae'n bwysig iawn dweud hynny'n uchel ac yn glir o bob safbwynt gwleidyddol: annog staff i dderbyn y brechlyn pan fydd ar gael; i gydnabod eu bod mewn sefyllfa lle maent yn gofalu am rai o'n dinasyddion mwyaf bregus—mae'n ymwneud â'u diogelu hwy, y bobl y maent yn gweithio gyda hwy, y bobl y maent yn gofalu amdanynt, yn ogystal â phobl yn eu teuluoedd a'u cymunedau. Byddwn yn parhau i edrych ar gyfraddau derbyn i sicrhau ein bod yn darparu amddiffyniad y brechlyn i gymunedau cyfan, fel y mae pob un ohonom yn dymuno’i weld, a llwybr allan o'r argyfwng hwn. Pan ddaw’r pandemig i ben yn y pen draw ar ryw bwynt, bydd gennym gryn dipyn o waith ar ôl i'w wneud o hyd mewn perthynas ag adfer, darparu gofal iechyd ac mewn termau economaidd. Fodd bynnag, gallwn gyrraedd yno’n gynt o lawer os gallwn gyflwyno'r rhaglen frechu cyn gynted â phosibl ac os yw pobl yn derbyn eu brechlynnau pan gânt gynnig cyfle i wneud hynny.

Diolch, Llywydd. Y bore yma, mae yna awgrym y gallai'r JCVI argymell newid y grwpiau blaenoriaeth ar gyfer brechi os ydy tystiolaeth, sy'n dechrau ymddangos rŵan, yn dangos fod brechi yn cael effaith ar sut mae'r feirws yn cael ei drosglwyddo hefyd. Hynny ydy, ei fod o nid yn unig yn stopio rhywun rhag mynd yn sâl ond yn gwarchod pobl eraill o'u cwmpas nhw hefyd. Dwi'n gwybod mai dilyn cyngor y JCVI ydy polisi Llywodraeth Cymru, ond all y Gweinidog ddweud wrthym ni pa mor barod ydy'r Llywodraeth i newid y strategaeth, os oes angen, o ran yr isadeiledd digidol angenrheidiol ac ati? Ydy'r Llywodraeth yn gallu gweithredu polisi newydd ar fyr rybudd os mai dyna ydy'r cyngor mae'r Llywodraeth yn ei gael?

Wel, mae cwestiwn damcaniaethol yno i raddau ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud os caiff newid penodol ei wneud neu beidio. Yr hyn y credaf sy'n llawer cliriach, serch hynny, a chredaf ei fod yn gwestiwn teg i'w ofyn, pe bai'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu—y grŵp arbenigol annibynnol sydd wedi rhoi cyngor i ni ar sut i wneud y defnydd gorau o frechlynnau, sut i sicrhau’r budd iechyd y cyhoedd mwyaf a sut i achub y nifer fwyaf o fywydau—pe bai eu cyngor yn newid, beth fyddai safbwynt y Gweinidogion? Credaf fod hwnnw'n gwestiwn teg, ac rwy'n barod i ddweud, pe bai'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn newid eu cyngor, byddwn yn amlwg yn ei ystyried gyda'r cyngor a gaf gan fy mhrif swyddog meddygol a byddwn yn disgwyl wedyn i safbwynt a chyfeiriad polisi Llywodraeth Cymru newid hefyd. Oherwydd drwy gydol hyn, rwyf wedi bod yn awyddus i wneud dewisiadau sy'n dilyn y cyngor mor agos â phosibl, a helpu i achub bywydau. Pe bai'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu o'r farn fod ffordd wahanol neu ffordd well o wneud hynny, wrth inni ddod i ddeall mwy am y brechlynnau sydd ar gael gennym, wrth inni ddeall mwy am COVID a'i wahanol straeniau a mathau, yna wrth gwrs, rwy’n barod i newid fy mhenderfyniad a’r hyn y mae hynny'n ei olygu i Lywodraeth Cymru a'n gwasanaeth iechyd gwladol a’n gwasanaeth brechu.

13:50

Dydy hynny ddim yn ateb fy nghwestiwn i. Nid gofyn a fyddech chi'n newid y polisi y gwnes i ond: ydy'r capacity gennych chi? Ydy'r gallu gennych chi o fewn eich systemau i ddilyn trywydd newydd os oes angen? A pha baratoadau sy'n cael eu gwneud am hynny? 

Os caf i symud ymlaen, mae'n amlwg mai'r brechlyn Rhydychen-AstraZeneca sydd wedi bod yn cael ei ffafrio, achos ei fod yn fwy hyblyg; yn haws i'w ddefnyddio o ran ei storio a'i drosglwyddo, ac yn y blaen. Ond, wrth i dystiolaeth ein cyrraedd ni, o Israel yn arbennig, dwi'n meddwl, am sut mae'r feirws yn cael ei drosglwyddo gan bobl sydd wedi cael eu brechu, mae'n edrych yn bosib—ac nid rhywbeth rhethregol ydy hyn, achos mae angen paratoi ar gyfer pob amgylchedd gwahanol—mai dim ond yr un Pfizer fyddai'n dangos y gwelliant yma o ran trosglwyddiad. Rŵan, mae hwn yn fath newydd iawn o frechiad. Mae'r dechnoleg newydd yma, mRNA, yn debyg o fod yn rhan amlwg iawn wrth ddelio efo pandemigau yn y dyfodol. Mi fydd angen isadeiledd, wedyn, sy'n caniatáu rholio allan y brechlynnau mRNA yn gyflym iawn a'r angen i'w cadw nhw'n oer, ac ati. Ydy'r Llywodraeth rŵan, yng nghanol y pandemig yma, â'i llygaid ar ddatblygu'r math yna o isadeiledd ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â gweld pa mor gyflyn mae'n bosib ei rolio allan ar gyfer y broblem dŷn ni'n ei wynebu heddiw?

Wel, wrth gwrs, byddwn yn ystyried y sylfaen dystiolaeth sy'n datblygu ar effeithiolrwydd a nodweddion brechlynnau a'r bygythiadau rydym yn ceisio ymladd yn eu herbyn. Credaf fod mynd y tu hwnt i hynny braidd yn ddi-fudd ac yn ddamcaniaethol, gan fod angen inni ddeall y dystiolaeth sydd wedi’i chadarnhau, yn hytrach na'r hyn a allai fod yn datblygu neu beidio. Ceir posibilrwydd bob amser y bydd gwahanol bethau’n digwydd ar wahanol adegau. Rwy'n hyderus, serch hynny, fod yr hyblygrwydd a'r agwedd gadarnhaol y mae ein GIG wedi eu dangos drwy gydol yr argyfwng hwn yn rhywbeth a fydd hefyd yn ein helpu gyda digwyddiadau yn y dyfodol.

Credaf ei bod yn werth nodi hefyd y dylem edrych ymlaen at ddiwedd mwy optimistaidd i 2021 na'r flwyddyn rydym newydd ddod drwyddi, ond nid yw hynny'n golygu y bydd y flwyddyn yn ddi-risg. Hyd yn oed wrth inni frechu'r boblogaeth o oedolion, ni chredaf y gall pobl edrych ymlaen at ddychwelyd yn gyfan gwbl at y ffordd roedd pethau ar y pwynt hwn ym mis Ionawr 2020. Credaf mai'r her yw ein bod yn mynd i orfod byw gyda COVID am beth amser. Ar ôl inni gael ein diogelu gan y brechlyn, bydd gennym y newidiadau y byddech chi a minnau'n eu gweld bob blwyddyn gyda'r ffliw, er enghraifft, lle mae gwahanol straeniau’n dod i'r amlwg ac mae angen ystyried y ffordd orau o ddiogelu pobl a'r hyn y mae angen i ni ei adeiladu'n rhan reolaidd o'n seilwaith, a bydd hynny, wrth gwrs, hefyd yn rhan o'r ffordd rydym yn ymdrin â bygythiadau newydd a bygythiadau sy'n dod i'r amlwg, boed yn straen gwahanol o COVID, neu'n wir, yn fygythiadau gofal iechyd eraill yn ogystal.

Diolch. Mae’n rhaid imi ddweud, rwy'n siomedig eich bod yn ymddangos fel pe baech yn diystyru fy nghwestiynau fel rhai damcaniaethol. Rwyf am weld Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd, oherwydd os ydym wedi dysgu unrhyw beth dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld y gall y pandemig hwn daflu pob math o bethau atom ac mae angen inni baratoi ar gyfer gwahanol ganlyniadau.

Nawr, gyda niferoedd yr achosion yn gostwng, diolch byth, mae llawer o bobl yn dioddef hefyd ar ôl bron i flwyddyn o gyfyngiadau difrifol ar eu bywydau, ac yn ddealladwy, byddant yn awyddus i wybod yn awr beth yw'r amserlen ar gyfer pa bryd y gallant roi eu bywydau yn ôl ar y trywydd iawn. Nawr, nid wyf am ofyn i chi roi'r amserlen honno i ni heddiw, oherwydd, fel y dywedaf, mae'r pandemig hwn wedi bod yn un syndod ar ôl y llall, felly gall pethau newid mewn ychydig wythnosau, hyd yn oed, ond yr hyn rwy’n awyddus i’w gael yw sicrwydd fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y caledi a'r problemau iechyd gwirioneddol a achosir gan y cyfyngiadau symud eu hunain, ac mai ffocws canolog y Llywodraeth yw cael strategaeth i ymadael â'r cylch o gyfyngiadau symud, ac y byddwn yn cael cyfnod adfer sy'n mynd i'r afael â'r niwed a wnaed, yn enwedig, er enghraifft, i blant a phobl ifanc.

Wel, wrth gwrs, rydym yn cydnabod bod cyfyngiadau symud yn achosi niwed yn ogystal â manteision, ac rydym wedi bod yn onest iawn ynglŷn â hynny mewn datganiadau a wnaed gennyf fi, gan y Prif Weinidog a chan y papurau tystiolaeth rydym wedi'u cyhoeddi gan ein grŵp cynghori technegol, ac yn wir, y datganiadau a gyhoeddwyd gan ein prif swyddog meddygol. Felly, nid yw hyn yn ffactor newydd i ni ei ystyried. Mae bob amser yn gydbwysedd rhwng y niwed y gall cyfyngiadau symud ei achosi ar ffurf mwy o arwahanrwydd, y dadleoli rhwng gwahanol bobl a'r effaith ar blant a phobl ifanc, a dyna pam ein bod wedi bod mor awyddus i geisio cynnal dysgu wyneb yn wyneb cyhyd ag y bo modd; dyna pam mai hon yw ein blaenoriaeth arwyddocaol gyntaf, fel rydym wedi’i ddweud bob amser, o ran gallu dod allan o gyfyngiadau symud lefel 4 fel y maent heddiw.

Felly, rydym yn cydnabod effaith mwy hirdymor y cyfyngiadau symud rydym yn eu rhoi ar waith, ynghyd â'r manteision sylweddol y mae cyfyngiadau symud yn eu darparu i helpu i leihau cyfraddau heintio, a helpu i atal pobl rhag dal COVID a'r niwed y byddai hynny’n ei achosi. Rydym eisoes wedi gweld ystadegau brawychus ac ofnadwy ar nifer y bobl sydd yn yr ysbyty ar hyn o bryd, nifer y bobl sydd wedi colli eu bywydau a chanran y marwolaethau ychwanegol, sy'n gymaint ac yn fwy nag unrhyw ganran o farwolaethau ychwanegol a welwyd ers yr ail ryfel byd. Rydym yn byw drwy gyfnod eithriadol ac mae cyfyngiadau symud yn set eithriadol o fesurau.

Bydd angen i'r adferiad fod yn economaidd, ac mae colli gwaith yn creu niwed i iechyd pobl hefyd. Gwyddom y bydd niwed corfforol i wella ohono ac i roi cyfrif amdano, ac nid yn unig ar ffurf cyflyrau fel strôc a chanser, ond bydd her sylweddol hefyd o ran iechyd meddwl a llesiant. Felly, rydym yn cydnabod y bydd yr adferiad iechyd yn hir ac yn sylweddol, ond rwy'n hyderus y bydd ein GIG yn goresgyn yr her honno. Fe fydd arno angen ein cefnogaeth, bydd arno angen ein dealltwriaeth a bydd arno angen inni wneud dewisiadau am y cyllidebau sydd ar gael i ni.

Er y bydd y flwyddyn nesaf yn anodd—tymor nesaf y Senedd hon, er y bydd yn llawn o heriau sy'n gysylltiedig â COVID—fe fydd yn flwyddyn lawer mwy optimistaidd i edrych ymlaen ati gyda'r ymdeimlad hwnnw o adferiad, yn hytrach na’r 10 neu 11 mis diwethaf rydym newydd ddod drwyddynt. Felly, credaf y gall pob un ohonom fod yn hyderus y bydd ein GIG yn dal i fod yma ac yn addas at y diben, cyhyd â'n bod yn gwneud dewisiadau ynglŷn â sut rydym yn ei gefnogi fel Aelodau etholedig yma yn y Senedd.

13:55
Amseroedd Aros

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y cleifion yn Nwyrain De Cymru sy'n aros mwy na 36 wythnos rhwng triniaeth ac atgyfeiriad? OQ56152

Diolch. Yn ystod y pandemig, mae'r capasiti sydd ar gael i alluogi mesurau cadw pellter cymdeithasol priodol wedi lleihau, ac mae angen rhoi gwell mesurau atal a rheoli heintiau ar waith. Fel rwyf wedi’i ddweud o'r blaen ar sawl achlysur, mae'r mesurau hyn, a chynnydd yn y defnydd a’r gofynion ar gyfer cyfarpar diogelu personol, wedi lleihau cyfraddau llif cleifion yn ein GIG yn sylweddol. Mae byrddau iechyd wedi canolbwyntio ar drin y cleifion sydd â'r anghenion mwyaf, ac yn anffodus, mae hyn wedi arwain at amseroedd aros cryn dipyn yn hirach i rai cleifion.

Diolch, Weinidog. Yn ôl ymchwil gan y South Wales Argus, roedd dros 32,000 o gleifion wedi aros y tu hwnt i'r cyfnod o 36 wythnos yng Ngwent hyd at fis Hydref, sef y dyddiad diweddaraf roedd ganddynt ffigurau ar ei gyfer. Un o'r prif resymau dros yr oedi yw nad oes digon o staff ar gael gan eu bod adref o’r gwaith yn sâl neu'n hunanynysu.

Yn ôl Cymdeithas Feddygol Prydain, newidiodd Llywodraeth Cymru ei pholisi ar gyfer brechu staff y GIG yn ddiweddar, gan orfodi llawer i aros 12 wythnos am eu hail ddos ​​o frechlyn Pfizer. Mae hyn yn mynd yn groes i gyngor Sefydliad Iechyd y Byd y dylid ei roi o fewn tair wythnos, ac yn sicr heb fod yn hwy na chwe wythnos. Mae hyn yn golygu nad yw meddygon a wirfoddolodd i weithio ar y rheng flaen yn teimlo'n ddiogel i wneud hynny tan eu bod yn gwybod eu bod wedi'u brechu'n llawn.

Adroddodd Huw Edwards ddoe fod uwch-glinigydd wedi awgrymu y gellid ei hystyried yn weithred droseddol pe bai aelod o staff yn marw o ganlyniad i gael eu heintio tra ar ddyletswydd rhwng cael y dos ​​cyntaf a’r ail ddos. Ni allaf orbwysleisio pa mor gryf y mae meddygon yn teimlo ynglŷn â hyn. A wnaiff y Gweinidog, felly, wrthdroi’r polisi hwn ac ailddechrau rhoi eu hail ddos ​​i weithwyr iechyd rheng flaen o fewn tair wythnos, er mwyn diogelu ein gweithwyr rheng flaen a chaniatáu iddynt ddychwelyd i’r gwaith i’n cadw’n ddiogel ac yn iach?

Rwy'n deall bod pryder gwirioneddol gan bawb sy'n weithiwr iechyd a gofal rheng flaen, ond ni chredaf ei bod yn gymwys i Huw Edwards hyrwyddo, ar y cyfryngau cymdeithasol, y sylw tanllyd hwnnw nad oes iddo unrhyw sail yn y cyngor iechyd cyhoeddus rydym wedi'i dderbyn ac yn ei ddilyn.

Efallai y byddai'n ddefnyddiol pe bawn yn egluro i'r Aelod sut rydym yn cyrraedd y pwynt hwn unwaith eto. Felly, eglurais yn gynharach mai dim ond pan fydd y rheoleiddiwr annibynnol yn rhoi cymeradwyaeth i’w defnyddio y caiff brechlynnau eu cymeradwyo. Mae’n rhaid i'r cyngor rydym yn ei ddilyn, felly, ar ddarparu’r brechlynnau hynny gydymffurfio â'r amodau a osodwyd ganddynt. Wedyn, mae hefyd yn mynd drwy'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu er mwyn cynghori pedair Llywodraeth y DU sut i wneud y defnydd gorau o'r brechlynnau hynny.

Eu cyngor, sydd wedi'i gymeradwyo gan y pedwar prif swyddog meddygol yn y DU, gan gynnwys ein prif swyddog meddygol ein hunain, Frank Atherton wrth gwrs, yw mai'r peth iawn i'w wneud yw darparu'r amddiffyniad y mae'r brechlyn yn ei gynnig gyda’r dos cyntaf i gynifer o bobl â phosibl cyn gynted â phosibl ac i feddwl amdano yn y ffyrdd hyn: os oes gennych ddau ddos ​​o'r brechlyn ar gael a dau feddyg neu nyrs, gallech ddewis rhoi'r ddau ddos ​​hynny, o fewn cyfnod o amser, i un meddyg neu un nyrs, ac yna byddai'n rhaid i'r llall aros hyd nes bod mwy o gyflenwadau ar gael yn llawer hwyrach. Felly, byddai'r unigolyn hwnnw'n gweithio heb unrhyw amddiffyniad. Y newyddion da yw bod y ddau frechlyn sydd ar gael gennym yn darparu lefel uchel o amddiffyniad gyda'u dos cyntaf. Felly, mae gennych ddewis rhwng darparu amddiffyniad da i gymaint o bobl â phosibl mor gyflym ac mor eang â phosibl, neu gallwch ddarparu amddiffyniad rhagorol, a gadael i bobl eraill wynebu risg wahanol drwy fod heb unrhyw amddiffyniad o gwbl. Credaf ei bod yn hawdd iawn deall cyngor iechyd y cyhoedd—wedi'i gymeradwyo gan Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd. Dyna'r cyngor rwyf wedi’i gael fel Gweinidog.

Mae wedi bod yn amlwg iawn hefyd y byddai peidio â dilyn y cyngor hwnnw nid yn unig yn golygu y byddwn yn anwybyddu cyngor uniongyrchol y prif swyddog meddygol a chyngor uniongyrchol y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, ond byddwn yn gwneud hynny ar sail y ddealltwriaeth, a'r cyngor a roddwyd i mi, y byddai hynny'n arwain at gannoedd o farwolaethau y gellir eu hosgoi. Felly, rydym yn gwneud y peth iawn o ran y cyngor iechyd y cyhoedd rydym wedi'i dderbyn, ac rydym wedi dweud hynny'n glir ar sawl achlysur. A dyna'r cyngor rwyf wedi penderfynu ei ddilyn, yn yr un modd ag y mae Gweinidog iechyd Unoliaethwyr Ulster wedi’i wneud yng Ngogledd Iwerddon, Gweinidog iechyd Plaid Genedlaethol yr Alban wedi’i wneud yn yr Alban, a Gweinidog iechyd Ceidwadol wedi’i wneud yn Lloegr. Mae hwn yn gyngor iechyd y cyhoedd syml, a dyma'r ffordd rydym yn mynd i gyflwyno'r rhaglen hon i amddiffyn cymaint o bobl â phosibl, gan gynnwys staff y GIG a'r staff gofal cymdeithasol sy'n gweithio ar y rheng flaen, ac rwy'n hynod ddiolchgar am bopeth y maent wedi’i wneud drosom ac y byddant yn parhau i'w wneud wrth i'r argyfwng hwn ddatblygu a dod i ben yn y pen draw.

14:00

O ran y gallu i ymdrin â'r coronafeirws yn ne-ddwyrain Cymru, tybed a allech roi diweddariad i ni, Weinidog, ar Ysbyty Athrofaol y Faenor a’i rôl yn darparu triniaeth i bobl sy'n dioddef o COVID-19.

Mewn sgyrsiau uniongyrchol rwyf wedi'u cael gyda'r bwrdd iechyd—ac rwy'n siŵr fod yr Aelod wedi bod rhan o’r sesiynau briffio rheolaidd y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn eu darparu—mae darparu a chwblhau ysbyty’r Faenor yn gynnar yn rhan allweddol o'r ymateb ymarferol i COVID. Mae'n caniatáu ar gyfer ynysu llawer haws a gwell, oherwydd yr ystafelloedd sengl a ddarperir yn y cyfleuster drwyddo draw. Mae'n caniatáu llawer mwy o le na'r hen seilwaith a oedd yn bodoli yn Ysbyty Brenhinol Gwent, a'r ysbyty yn y Fenni y gwn y bydd llawer o etholwyr yr Aelod wedi bod ynddi, a dyna ble y bu farw fy nhad innau hefyd wrth gwrs. Felly, nid wyf yn beirniadu'r ysbytai hynny na'r seilwaith hwnnw—dim ond cydnabod bod angen ei ddiweddaru. Dyna pam y bu’r Aelod, ac Aelodau eraill o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol yn wir, gan gynnwys Lynne Neagle wrth gwrs—dylwn ei chrybwyll—yn ymgyrchu dros gwblhau gweledigaeth Dyfodol Clinigol, gydag ysbyty’r Faenor yn ganolog ynddi. Nid oeddem yn gwybod pan wneuthum y dewis i fwrw ymlaen â'r ysbyty hwnnw o fewn y tymor hwn y byddai'n chwarae rhan mor allweddol yn yr ymateb i’r pandemig. Mae hefyd, wrth gwrs, wedi darparu lle llawer gwell ar gyfer darparu gofal brys hefyd. Felly, credaf fod y penderfyniad i gwblhau Ysbyty Athrofaol y Faenor, i gyflymu’r gwaith o’i gwblhau, eisoes wedi sefyll prawf amser, ac os gwrandewch, fel y gwnewch, ar leisiau staff sy'n gweithio yn yr ysbyty hwnnw, rwy'n sicr y byddant yn dweud bod ei gael yn rhan o'n seilwaith gofal iechyd wedi bod o fudd gwirioneddol iddynt hwy a'r bobl y maent yn eu gwasanaethu ac yn gofalu amdanynt.

Gweithwyr Gofal Cymdeithasol

4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno'r brechlyn i'r rhai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol? OQ56135

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn ac wedi dilyn argymhellion y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, ac wedi ymrwymo i sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol rheng flaen yn cael eu brechu fel blaenoriaeth. Mae gweithwyr gofal cymdeithasol rheng flaen, wrth gwrs, yn y rhestr gyfredol o grwpiau â blaenoriaeth. Mae preswylwyr cartrefi gofal, a'r staff sy'n gofalu amdanynt, yn y grŵp blaenoriaeth uchaf ar gyfer cael eu brechu.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Hoffwn godi mater pobl sy'n darparu gofal cartref, y rheini sy'n mynd i mewn i gartrefi'r henoed a phobl agored i niwed er mwyn darparu gofal, yn enwedig y rheini a gyflogir drwy daliadau uniongyrchol, neu'r rheini sy'n darparu gofal yn breifat. Rwyf wedi siarad â rhai yn y gweithlu, ac maent yn ansicr a fyddant yn rhan o'r gweithlu gofal cymdeithasol a gaiff eu blaenoriaethu i gael eu brechu. A allwch ddarparu unrhyw eglurhad iddynt, os gwelwch yn dda?

Gallaf. Mae gweithwyr gofal cartref yn weithwyr gofal cymdeithasol. Mae pobl sy'n mynd i mewn i gartrefi pobl i ddarparu gofal yn sicr yn weithwyr rheng flaen, ac nid gennyf fi yn unig y byddech yn clywed hynny. Gallaf weld nid fy unig fy nirprwy—gwelaf gyn-Weinidogion sydd wedi bod yn gyfrifol am y briff hwnnw—ac rwy'n credu y byddant yn cydnabod bod y gweithwyr rheng flaen hyn wedi cael mwy o gydnabyddiaeth fel arwyr yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol, lle nad oeddent yn cael cydnabyddiaeth heb fod mor bell yn ôl â hynny. Felly, rwy'n disgwyl y cânt eu cynnwys yn yr ychydig grwpiau blaenoriaeth cyntaf, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn ymuno ag eraill ar draws y sbectrwm gwleidyddol i'w hannog i dderbyn y brechlyn pan fydd yn cael ei gynnig iddynt, er mwyn iddynt gael yr amddiffyniad y bydd yn ei roi iddynt a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt.

14:05

Mae’n ddigon posibl y gallai’r cwestiwn hwnnw fod wedi codi gan fod cymaint o bwyslais wedi’i roi ar weithwyr gofal cymdeithasol mewn cartrefi gofal. Mae gennyf gwestiwn am y rheini sy'n rhoi gofal personol i blant mewn ysgolion. Credaf y gallwn gytuno nad oedd y cyfathrebu ynghylch blaenoriaethu'r unigolion hyn yn wych—gwnaethoch gyfaddef hynny i bob pwrpas yr wythnos diwethaf, Weinidog. Ond eglurodd y Gweinidog addysg ymhellach y bydd yr holl staff, boed mewn ysgolion arbennig, ysgolion prif ffrwd neu golegau addysg bellach, os ydynt yn ymwneud â gofal personol disgyblion, yn cael eu categoreiddio fel staff gofal cymdeithasol. Felly, bydd hynny'n cynnwys athrawon perthnasol, rwy'n cymryd. Sut y bydd y wybodaeth ynglŷn â phwy yw'r holl staff perthnasol—sut y mae’r wybodaeth honno’n mynd i gael ei chynnwys ar y rhestrau y mae'r byrddau iechyd lleol yn eu gweithredu, yn enwedig gan ei bod yn swnio fel pe baent yn ychwanegiadau diweddar at y rhestr flaenoriaeth hon o dan y pennawd staff gofal cymdeithasol?

Rydym yn gweithio drwy hynny gyda chymheiriaid nid yn unig yma ym maes addysg—ac mae gan y Gweinidog addysg a minnau berthynas waith adeiladol a da iawn wrth rannu gwybodaeth a gwneud penderfyniadau—ond hefyd, wrth gwrs, gyda staff mewn llywodraeth leol ac yn y sector ysgolion i nodi staff perthnasol, i sicrhau y cânt eu nodi ar gyfer y broses frechu. Bydd angen inni barhau i weithio drwy hynny i sicrhau ein bod yn deall pwy yw'r bobl hynny, fel y gellir eu gwahodd i gael eu brechu. Os oes gan yr Aelod enghreifftiau unigol lle mae'n poeni y gallai fod rhai pobl heb eu cynnwys, rwy’n fwy na pharod i ystyried y rheini gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog addysg.

Cyflenwi a Defnyddio Brechlynnau

5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o unrhyw fylchau rhwng y cyflenwad o frechlynnau a'r capasiti i ddefnyddio'r brechiadau hynny yng Nghymru? OQ56124

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch cyflymder cyflwyno’r brechlyn yng Nghymru? OQ56138

Diolch. Lywydd, rwy'n deall eich bod wedi rhoi eich caniatâd i gwestiynau 5 ac 8 gael eu grwpio. Mae'r holl fyrddau iechyd yn paratoi i ehangu capasiti’n sylweddol ym mis Ionawr, pan fydd brechlyn Rhydychen-AstraZeneca yn dechrau cael eu darparu. Mae ein cynlluniau’n dibynnu ar weld Cymru'n derbyn ei chyfran deg o’r brechlyn mewn da bryd. Mae'r cyflenwad y tu hwnt i'n rheolaeth, ond mae Gweinidog brechlynnau'r DU wedi ail-gadarnhau ei sylwadau blaenorol y bydd ei chyfran deg o'r cyflenwad o'r brechlyn yn cael ei darparu i Gymru ar amser.

Diolch, Weinidog, ac mae’n braf clywed y sicrwydd hwnnw, gan ein bod, wrth gwrs, wedi clywed gwahanol straeon dros yr ychydig ddyddiau diwethaf am heriau gyda'r cynhyrchiant a'r gadwyn gyflenwi, a dylem ragweld y bydd camgymeriadau bach wrth inni fynd yn ein blaenau; nid yw pethau'n mynd i fod yn berffaith. Yn gyntaf, clywsom am heriau gyda brechlyn Rhydychen-AstraZeneca, gan y bu oedi dros y penwythnos gydag un o’r pedwar swp o’r brechlyn a gynhyrchwyd ar gyfer Cymru. Ac yna clywsom wrth gwrs am chwe Gweinidog iechyd yn yr UE yn ysgrifennu at y Comisiwn Ewropeaidd ynglŷn â’u pryderon difrifol ynghylch oedi yn y broses o gyflenwi brechlyn Pfizer-BioNTech. Felly, a allwch ddweud wrth y Senedd p'un a fydd y mathau hyn o heriau a fydd yn digwydd o bryd i'w gilydd gyda'r gadwyn gyflenwi a gweithgynhyrchu yn effeithio ar y gwaith o ddarparu’r brechlynnau yn ddiogel ac yn gyflym yng Nghymru a ledled y DU, neu a all y cynlluniau sydd gennych ar waith liniaru'r problemau hyn gyda chyflenwi a gweithgynhyrchu brechlynnau?

Credaf ei fod yn gwestiwn teg, a diolch i'r Aelod am y ffordd y gofynnodd y cwestiwn hefyd, gan ei bod yn bwysig nad ydym yn bwydo ofnau pobl mewn perthynas â chyflwyno’r brechlyn. Credaf fod Pfizer-BioNTech wedi gwneud datganiad cyhoeddus eu bod yn ailasesu eu proses weithgynhyrchu eu hunain a bydd saib byr cyn y bydd ganddynt broses weithgynhyrchu gadarnach wedyn ar gyfer cynhyrchu’r brechlyn ar raddfa fawr yng Ngwlad Belg. Felly, efallai y byddwn yn gweld gostyngiad bach am gyfnod o amser yn nifer y brechlynnau Pfizer a ddaw i'r DU, ond mae'r gwneuthurwyr wedi dweud yn glir eu bod yn credu y bydd ganddynt fwy o gyflenwad mwy cadarn yn dod i ni wedyn.

A chyda chyflenwad AstraZeneca, mae'n haws o ran y gadwyn gyflenwi, gan fod peth ohono wedi'i gynhyrchu yn yr Almaen, ond rydym yn disgwyl i'r uned ddosbarthu yn Wrecsam fod yn cyflenwi mwy a mwy o gyflenwad y DU. Ond rydym yn deall wedyn fod yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, yn gwbl briodol, yn swp-brofi er mwyn sicrhau bod sypiau'n cael eu profi a'u gwarantu'n iawn cyn iddynt gael eu rhyddhau i'r system. Felly, rydym wedi gweld saib yn hynny, oedi i un o'r sypiau. Gallwn ddisgwyl hynny; gallwn hefyd ddisgwyl y bydd hynny’n llyfnhau dros amser, gan fod AstraZeneca wedi ymrwymo i ddarparu niferoedd sylweddol uwch o'r brechlyn hwnnw i bob gwlad yn y DU. Ac mae'n bwysig. Gyda chadwyni cyflenwi a dosbarthu cymharol gymhleth, efallai y bydd rhai problemau bach yn codi. Os yw'r rheini'n berthnasol, byddaf yn adrodd arnynt yn agored, a'r hyn y maent yn ei olygu o ran y cyflenwad o'r brechlyn. Byddaf yn nodi’n glir p’un a yw hynny'n gohirio neu'n symud unrhyw un o'r cerrig milltir sydd gennym. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw, cyn gynted ag y cawn frechlyn y gall ein gwasanaeth iechyd ei ddefnyddio a'i ddosbarthu, bydd yn cael ei ddarparu i'w roi i bobl cyn gynted â phosibl. Hoffwn ofyn i'r cyhoedd fod yn amyneddgar gyda'n GIG. Ni fydd neb yn cael ei adael ar ôl; ni fydd pobl yn cael eu hanghofio. Gan weithio gyda'n gilydd, rwy'n hyderus y gallwn wneud rhywbeth y gall Cymru fod yn wirioneddol falch ohono gyda'n rhaglen frechu dan arweiniad y GIG.

14:10

Weinidog, a gaf fi a fy mhlaid ategu’ch sylwadau am ddiogelwch ac effeithiolrwydd y brechlyn? Byddwn i—a phob un ohonom, rwy'n credu—yn annog pobl i gael y brechlyn cyn gynted ag y caiff ei gynnig iddynt. A gaf fi ofyn i chi: ar ôl i’r Prif Weinidog ddweud ei fod wedi egluro ei sylwadau, a allech chi egluro—a yw wedi tynnu’n ôl ei ddatganiad y dylem wneud i'r brechlyn Pfizer bara hyd nes bod y cyflenwad nesaf wedi'i drefnu, neu ei ddatganiad mai'r rheswm am hynny yw er mwyn osgoi unrhyw risg y bydd brechwyr yn cicio'u sodlau heb ddim i'w wneud?

Mae’r Prif Weinidog wedi egluro ei safbwynt ar sawl achlysur, ac atebais nid yn unig y cwestiynau yn y cyfryngau, ond oddeutu 20 munud o gwestiwn brys ddoe. Rwy'n cydnabod bod cryn dipyn o ddiddordeb cyhoeddus yn hyn.

Ni chredaf y gallaf fod yn gliriach ynglŷn â'r safbwynt—nad yw'r brechlyn yn cael ei ddal yn ôl, mae’n cael ei gyflenwi i'n GIG cyn gynted ag y gall y GIG ei ddarparu, ac mae ein seilwaith wedi cynyddu'n sylweddol i ganiatáu ar gyfer darparu mwy fyth o'r cyflenwadau hynny, a byddwn yn parhau i wneud hynny. A dylwn ddweud ein bod yn yr un sefyllfa â gwledydd eraill y DU yn yr ystyr fod gennym gyflenwad o frechlyn Pfizer-BioNTech wedi’i storio mewn cyfleusterau storio sylweddol i'w ddosbarthu cyn gynted ag y gall pob gwlad ei gael. Felly, mae'r brechlyn Pfizer sy’n cael ei ddarparu heddiw yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn dod o gyflenwad y byddant eisoes wedi'i gael, yn union fel y mae yma yng Nghymru, ac mae'n ymwneud â chapasiti pob un o'n systemau cyflenwi i allu ei ddarparu i freichiau'r cyhoedd. Ac edrychaf ymlaen at y ffigurau ar gyfer diwedd yr wythnos hon i weld y cynnydd sylweddol rwy’n ei ddisgwyl yn y cyflenwad o'r brechlyn Pfizer-BioNTech a'r brechlyn AstraZeneca, ac edrychaf ymlaen at weld pobl ar draws y Siambr yn croesawu ac yn dathlu llwyddiant ein GIG wrth i hynny ddigwydd.

Wel, mae'r bwlch rhwng y cyflenwad o'r brechlynnau a'r capasiti i ddarparu’r brechlynnau hynny yng Nghymru yn achosi pryder arbennig mewn perthynas â swyddogion yr heddlu. Wrth ymateb i chi yr wythnos diwethaf, cyfeiriais at alwadau gan Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru am weld ystyriaeth o rywfaint o flaenoriaeth i blismona—nid blaenoriaeth lawn, ond rhywfaint o flaenoriaeth—yn y rhaglen frechu COVID-19. Mae llawer o swyddogion presennol a chyn swyddogion Heddlu Gogledd Cymru wedi ysgrifennu ataf ers hynny yn nodi, 'Bob dydd, mae swyddogion yr heddlu a staff yn mentro dod i gysylltiad ag unigolyn â COVID, ei ddal eu hunain a dod â'r feirws angheuol yn ôl i'w eu cartrefi eu hunain', ac yn gofyn i Lywodraeth Cymru ymrwymo i roi rhywfaint o flaenoriaeth i blismona. A ddydd Llun, dywedodd Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru wrthyf, ac rwy’n dyfynnu, fod ‘Ffynonellau dibynadwy iawn sy'n gweithio yn y canolfannau brechu’ wedi cysylltu â hwy y penwythnos diwethaf i ddweud bod ysgrifenyddion ysbytai a hyd yn oed gweithwyr cymdeithasol sy'n gweithio gartref yn cael y brechlyn, ac eto nid yw plismona ar y rheng flaen yn cael ei ystyried yn risg, na hyd yn oed yn cael defnyddio unrhyw frechlyn sbâr neu heb ei ddefnyddio. Beth yw eich ymateb felly i'w datganiad penodol y gallai hyd yn oed rhoi swyddogion heddlu rheng flaen ar restr wrth gefn, fel sy'n digwydd mewn rhai rhannau o Loegr, fod yn fan cychwyn?

Wel, credaf y dylwn fynd yn ôl at rai o'r pwyntiau y bûm yn eu hailadrodd wrth Delyth Jewell ac eraill ynglŷn â'r rhestr flaenoriaethu. Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, sy’n bwyllgor annibynnol ac arbenigol, wedi rhoi cyngor i ni ar sut i wneud y defnydd gorau o'r brechlynnau sydd ar gael gennym; mae prif swyddogion meddygol wedi cymeradwyo'r cyngor hwnnw, gan y bydd yn helpu i achub cymaint o fywydau â phosibl. Mae'r rhestr flaenoriaeth un i naw gyfredol y mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi'i hargymell—ac mae pob Llywodraeth, gan gynnwys eich cymheiriaid Ceidwadol yn Lloegr, wedi dilyn y flaenoriaeth honno, gan y dylai hynny olygu y bydd 99 y cant o'r bobl sy'n cael eu derbyn i ysbytai a'r marwolaethau wedi’u cynnwys yn y naw grŵp blaenoriaeth cyntaf hynny. Bydd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn ystyried cyngor i'w roi i brif swyddogion meddygol a Gweinidogion fel fi ym mhob un o'r pedair Llywodraeth ar gam nesaf y brechu sydd i ddod. Ac rwy'n edrych ymlaen at dderbyn y cyngor hwnnw a dealltwriaeth, os byddant yn rhoi cyngor ar grwpiau risg galwedigaethol ar gyfer ail gam y brechu—boed yn athrawon, swyddogion yr heddlu, gyrwyr tacsi neu yrwyr bysiau, mae angen i bobl ystyried risg y niwed y gall COVID ei achosi i wahanol alwedigaethau. Pan gaf y cyngor hwnnw, byddaf yn gwneud penderfyniad. Byddaf yn agored ac yn dryloyw ynghylch y penderfyniad hwnnw, ond gallwch ddibynnu ar y ffaith y bydd fy newis yn seiliedig ar iechyd y cyhoedd, er mwyn achub y nifer fwyaf o fywydau cyn gynted â phosibl.

14:15
Gofal Acíwt

6. Pa fesurau sydd ar waith i sicrhau y gall ysbytai barhau i ddarparu gofal acíwt nad yw'n gysylltiedig â COVID-19? OQ56140

Diolch. Mae'r ymateb parhaus i bandemig COVID-19 wedi arwain at newid sylweddol i wasanaethau gofal acíwt yng Nghymru. Mae ymarferwyr yn parhau i ymateb gyda hyblygrwydd ac arloesedd i fodloni gofynion y sefyllfa eithriadol hon sy'n cydbwyso cynnydd yn y galw â lefelau achosion o COVID-19 a'r pwysau na ellir ei osgoi o ganlyniad.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yn y Senedd yn awyddus i longyfarch staff gofal iechyd sydd wedi gallu darparu cryn dipyn o ofal nad yw'n gysylltiedig â COVID yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus ofnadwy hwn. Fodd bynnag, gan fod yr ail don wedi bod cymaint yn fwy difrifol na'r gyntaf hyd yn oed, gwyddom bellach fod bron i hanner y cleifion mewnol, er enghraifft, yng Nghwm Taf Morgannwg yno gyda COVID, ac ni chredaf fod y patrwm hwnnw’n wahanol iawn i lawer o ardaloedd eraill ledled y Deyrnas Unedig a Chymru, ac yn anffodus, mae rhai llawdriniaethau brys bellach yn cael eu canslo. Mae angen cynllun arnom wrth inni symud allan o gyfnod COVID gyda'r brechiad, er mwyn sicrhau bod y bobl y gohiriwyd eu llawdriniaethau brys yn cael eu trin cyn gynted â phosibl a'n bod yn gwneud asesiad risg gofalus iawn o'r holl bobl y gohiriwyd eu llawdriniaethau dewisol a llawdriniaethau brys.

Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt synhwyrol iawn. Os ydych yn cael eich newyddion gan y BBC, byddwch wedi gweld y gyfres y maent yn ei dangos yr wythnos hon ar y pwysau gwirioneddol ar ein system gofal iechyd. Efallai fod yr ysbyty yn Lloegr, ond mae'r pwysau'n real ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, ac mae’r gofal COVID hwnnw’n golygu ein bod wedi gorfod tarfu ar ofal nad yw'n ofal COVID. Rwyf wedi egluro o'r blaen fod ymestyn gofal critigol hyd at oddeutu 150 y cant o'i gapasiti, o ran ei ddefnydd, yn golygu y bu’n rhaid defnyddio pobl o fannau eraill. Mae mannau eraill fel theatrau wedi gorfod cael eu trosglwyddo i'w defnyddio fel amgylcheddau gofal critigol. Golyga hynny na allwn ddarparu gofal nad yw'n ofal COVID yn yr un modd, ac nid yw hynny’n golygu gofal dewisol yn unig. Ceir tarfu ar wasanaethau brys oherwydd y mesurau sy'n rhaid inni eu rhoi ar waith i achub cymaint o fywydau â phosibl.

Bydd hynny ynddo'i hun yn arwain at bryder a rhwystredigaeth, ond at fwy o niwed hefyd o bosibl, oherwydd efallai na fydd y GIG yn gallu unioni'r holl niwed sy’n cael ei achosi. Dyma pam fod angen i bob un ohonom weithio gyda'n gilydd i wneud y peth iawn drwy gydol yr argyfwng eithriadol hwn rydym yn byw drwyddo, ond gall yr Aelod ac eraill fod yn hyderus nid yn unig fod ein GIG yn gwneud y peth iawn drwy anterth y pandemig, ond wrth gwrs, rydym yn cynllunio ar gyfer yr adferiad sydd ei angen, gan gynnwys y pwynt a wna’r Aelod ynglŷn â cheisio asesu risg a deall y newid yn sefyllfa pobl y gohiriwyd eu triniaeth. Dyna pam rwy’n dweud y bydd y dasg enfawr hon yn dominyddu tymor cyfan Senedd nesaf Cymru o ran gofal iechyd. Ni fydd adferiad yn hawdd nac yn gyflym, ond mae'n gwbl angenrheidiol, ac mae ein GIG yn deall ac eisoes yn ceisio cynllunio ar gyfer y realiti hwnnw.

Cyflwyno'r Brechlyn yn Sir Gaerfyrddin

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwyno'r brechlyn yn Sir Gaerfyrddin? OQ56146

Diolch. Ar 11 Ionawr, cyhoeddais y cynllun brechu cenedlaethol, a oedd yn adlewyrchu misoedd o waith cynllunio manwl gan y GIG. Roedd y strategaeth yn nodi nifer o gerrig milltir allweddol y bydd yr Aelod yn gyfarwydd â hwy. Mae bwrdd iechyd Hywel Dda, sy'n gwasanaethu poblogaeth Sir Gaerfyrddin, yn cadarnhau y bydd yr holl bractisau meddyg teulu yn cymryd rhan, ac yn cynyddu nifer eu canolfannau brechu torfol o gyfanswm o ddwy i o leiaf un ar gyfer pob sir.

Diolch i'r Gweinidog am ei ateb, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r staff am bopeth y maent yn ei gyflawni i gael cleifion wedi'u brechu. Ond rwyf wedi cael gohebiaeth gan deuluoedd dau glaf dros 90 oed yn Llanelli ac un claf dros 90 oed yn Llangennech, nad ydynt, hyd yma, wedi clywed gan y GIG pa bryd y byddant yn cael eu brechu. Nawr, yn amlwg, mae'r cleifion hyn yn y grŵp oedran bregus iawn, ac o gofio bod yma fwy nag un, mae gennyf bryder y gallai fod problem gyda'r modd y mae'r bwrdd iechyd yn cyfathrebu â chleifion yn y grŵp hwn. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog ofyn i'w swyddogion sicrhau bod Hywel Dda yn cyfathrebu'n effeithiol? Oherwydd os oes angen i'r cleifion hyn aros a bod rheswm da pam fod angen iddynt aros, mae'n bwysig iawn—rwy'n siŵr y byddai'n cytuno â mi—eu bod hwy a'u teuluoedd yn deall y sefyllfa ac yn deall pryd y maent yn debygol o gael y brechlyn.

Credaf ei bod yn deg dweud y bydd rhai pobl heb glywed eto, gan y bydd y GIG yn cysylltu â mwy a mwy o'r bobl hynny'n gynyddol nid yn unig drwy’r wythnos hon, ond yr wythnos nesaf hefyd. Ac mae'n wir, mewn rhannau eraill o'r DU, y bydd pobl na fyddant wedi clywed a phobl na fyddant wedi cael gwahoddiad i apwyntiad eto, gan gynnwys pobl dros 80 oed ac mewn cartrefi gofal mewn rhai mannau hefyd. Yng Nghymru, rwy'n disgwyl gwneud cynnydd sylweddol iawn yr wythnos hon ar breswylwyr cartrefi gofal a phobl dros 80 oed. Efallai y bydd pobl yn cysylltu â chi, neu’r Aelodau eraill yn wir, ddydd Llun i ddweud eu bod yn dal heb gael eu hapwyntiad, ond rwy'n hyderus y bydd pethau'n cyflymu ymhellach yr wythnos hon. Rwy’n hyderus y bydd mwy a mwy o bobl dros 80 oed yn cael eu brechlynnau yr wythnos hon, neu’n cael eu llythyrau apwyntiad yr wythnos hon.

Mae Powys wedi llwyddo i weithredu'n gyflymach nag unrhyw fwrdd iechyd arall yn ôl pob tebyg ar fynd drwy eu poblogaeth, a dyna pam eu bod eisoes yn gallu dechrau dosbarthu llythyrau gwahoddiad i bobl dros 70 oed yn y sir honno. Rwy'n disgwyl i bob bwrdd iechyd gyrraedd y sefyllfa honno'n gyflym dros yr wythnos neu ddwy nesaf. Felly, dylai eich etholwyr naill ai gael eu pigiad neu dderbyn llythyr gwahoddiad yn y dyddiau nesaf. Unwaith eto, byddaf yn nodi’n agored ble rydym arni gyda chyflymder cyffredinol y rhaglen, a hoffwn ddweud fy mod yn credu bod Hywel Dda, drwy gydol argyfwng COVID, yn haeddu llawer o glod am y ffordd y maent wedi trefnu eu hunain, y ffordd y maent wedi dod â’u staff a'u partneriaid at ei gilydd, a chredaf eu bod yn haeddu canmoliaeth aruthrol. Rwy'n gobeithio y bydd y cyhoedd yn ystyried hynny, a bod ganddynt hyder na fydd ein GIG yn gadael pobl ar ôl. Gwyddom beth sy’n rhaid inni ei wneud i ddiogelu pobl, ac mae'r rhaglen frechu yn parhau i fod yn flaenoriaeth Rhif 1 i ni.

14:20
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jack Sargeant. 

Coronafeirws ac Iechyd Meddwl

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o sut mae pandemig y coronafeirws wedi cael effaith andwyol ar iechyd meddwl yng Nghymru? OQ56125

Member
Eluned Morgan MS 14:21:55
Minister for Mental Health, Well-being and Welsh Language

Diolch, Jack. Rydym yn parhau i fonitro effaith y pandemig ar iechyd meddwl a lles drwy ystod o arolygon a thystiolaeth arall. At ei gilydd, mae lefelau gorbryder yn parhau i fod yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig oherwydd amrywiaeth o bryderon, gan gynnwys iechyd personol, iechyd anwyliaid, a materion ariannol wrth gwrs.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Heddiw, siaradodd un o fy etholwyr yn agored ym mhapur newydd The Leader am effaith cael eu heithrio o gymorth ariannol Llywodraeth y DU, a’r effaith y mae hynny’n ei chael ar iechyd meddwl pobl. Cysylltodd perchennog busnes â mi hefyd cyn y cyfyngiadau symud cyfredol, a dywedodd wrthyf am gwsmeriaid a oedd yn siarad yn agored am roi diwedd arnynt eu hunain, ac fel cyd-ddioddefwr, rhywun ag iechyd meddwl gwael, rwy'n adnabod yr arwyddion hyn ac yn teimlo'n gryf ynglŷn â'r mater hwn. Yn aml, rydym yn sôn yn anghywir fod gan un o bob pedwar o bobl broblemau iechyd meddwl; credaf fod hyn yn llawer llai na’r realiti. Nid yw'r hen ffyrdd o estyn allan yn gweithio. Mae'n amlwg y bydd grwpiau anodd eu cyrraedd yn talu'r pris. Nid yn unig fod yn rhaid inni wneud mwy, mae'n rhaid inni wneud yn well. Felly, Weinidog, ar y sail honno, sut y gallwch chi fel Llywodraeth Cymru estyn allan yn well?

Diolch, Jack, ac mae'n ddrwg iawn gennyf glywed am eich etholwyr. Nid ydynt ar eu pen eu hunain. Rwy’n wirioneddol bryderus am y pwysau sydd ar bobl. Yn sicr, mae lefelau gorbryder wedi cynyddu. Mae pobl yn teimlo'n ynysig iawn, maent yn unig, maent yn bryderus iawn ynglŷn â cholli eu swyddi, ac mae llawer o bobl yn poeni am aelodau o'u teuluoedd. Ac wrth gwrs, rydym yn pryderu efallai y gwelwn gynnydd mewn cyfraddau hunanladdiad, a dyna pam, ar ddechrau'r pandemig, y gwnaethom gomisiynu uned gyflawni’r GIG i weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, a gofynasom i'r Athro Ann John gadeirio grŵp cynghori cenedlaethol i adolygu marwolaethau drwy hunanladdiad.

Nawr, yn amlwg, yr hyn rydym am ei wneud yw rhoi mesurau ar waith i atal hynny rhag digwydd yn y lle cyntaf. Rwyf newydd orffen galwad ffôn gydag Amser i Newid Cymru, ac rydych yn gyfarwydd â hwy, Jack, gan y gwn i chi fod yn allweddol yn gofyn i mi wneud yn siŵr ein bod yn parhau i gyllido'r sefydliad hwnnw ar adeg pan roddodd Lloegr y gorau i wneud hynny gyda’u hun hwy. A chredaf fod hynny'n gamgymeriad enfawr, atal pobl rhag siarad am faterion iechyd meddwl yng nghanol pandemig, neu roi'r gorau i ariannu sefydliad a oedd yn annog hynny i ddigwydd.

Mae'n gwbl amlwg fod rhai grwpiau'n fwy amharod nag eraill i ofyn am gymorth. Rydym yn arbennig o bryderus am gymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a dyna pam mai un o'r pethau rydym wedi’u gwneud yw rhoi cymorth ychwanegol i Diverse Cymru, fel y gallant roi cymorth i'r cymunedau sydd mewn cysylltiad â hwy. Ond y grŵp arall rwy'n arbennig o bryderus yn ei gylch yw dynion canol oed, ac mae honno'n broblem wirioneddol sydd gennym, a dyna pam ei bod yn bwysig iawn inni gefnogi grwpiau fel Siediau Dynion, ac mae'n ddiddorol iawn gweld bod llawer o'r rheini bellach wedi cydnabod pwysigrwydd eu gwaith ac yn parhau â'u gwaith ar-lein, a hoffwn annog hynny i barhau.

14:25

Weinidog, mae'n siŵr y byddwch yn ymwybodol fod fy etholaeth, Aberconwy, ym Mwrdeistref Sirol Conwy, a bod gennym y ganran uchaf o hen bobl 65 oed a hŷn yng Nghymru. Mae gennym hefyd nifer o bobl rhwng 80 a 90 oed sydd wedi bod ar y rhestr warchod ers mis Mawrth diwethaf, yn wynebu bywyd mewn ffordd na wnaethant o'r blaen, yn byw y tu mewn, yn brwydro yn erbyn unigrwydd, ofn a gorbryder. Fe'm hysbysir yn ddibynadwy gan y rheini sydd yn y byd meddygol yma fod triniaeth ar gyfer problemau iechyd meddwl wedi gwaethygu'n sylweddol ymhlith y grŵp oedran hwn a bod angen mynd i'r afael â hyn yn gyflym er mwyn osgoi canlyniadau hirdymor sy'n peryglu bywydau. Mae hyn wedi cynyddu ymhellach o ganlyniad i'r cyfyngiadau symud mwyaf cyfredol a diweddar yn sgil lledaeniad feirws mwy heintus. Ein harf mwyaf i roi sicrwydd i'r unigolion hyn yw proses frechu gyflym, ond nid yw hynny'n digwydd yma. Yn waeth byth, nid yw'r bobl hyn wedi derbyn unrhyw wybodaeth o gwbl ac mae eu pryder yn cynyddu. Ddoe, addawodd y Gweinidog iechyd yn y Senedd y byddai saith o bob 10 o bobl 80 oed a hŷn yn cael eu brechu ymhen rhyw wythnos. A allwch gadarnhau i mi heddiw y bydd hyn yn digwydd, ac y bydd ein pobl fwyaf oedrannus ac agored i niwed gyda phroblemau iechyd meddwl yn cael eu brechu o fewn yr amserlenni hyn? Diolch, Lywydd.

Diolch yn fawr iawn, Janet, ac rydym yn arbennig o bryderus am bobl hŷn sy'n byw ar eu pen eu hunain, sydd wedi bod ar eu pen eu hunain ers peth amser bellach, sy'n ofni mynd allan i'r siopau hyd yn oed, ac rydym yn poeni'n fawr am y bobl hyn, a dyna pam ein bod wedi rhoi rhai prosiectau ar waith i sicrhau ein bod yn gallu cefnogi’r bobl hyn. Felly, enw un o'r prosiectau rydym wedi'u rhoi ar waith yw Ffrind Mewn Angen, ac mae Age Cymru yn ein cynorthwyo gyda hynny. Felly, byddwn yn eich annog i ofyn i'ch etholwyr gysylltu â'r cynllun hwnnw os oes angen cymorth iechyd meddwl arnynt.

Ond rydym wedi rhoi cefnogaeth ariannol ychwanegol sylweddol i Betsi Cadwaladr, ac yn ychwanegol at hynny, rydym newydd ddarparu cynnydd o £42 miliwn i'r gyllideb iechyd meddwl. Felly, os edrychwch faint rydym yn ei wario ar iechyd meddwl nawr, mae oddeutu £783 miliwn, felly y peth allweddol nawr yw sicrhau bod yr arian hwnnw'n cyrraedd y bobl iawn. A chredaf mai'r ymyrraeth lefel isel honno ydyw; nid y math o—. Mae angen inni gyrraedd y niferoedd torfol nawr, a dyna pam fod angen inni gynyddu—ac rydym wedi cynyddu—y cymorth haen 0.

Wrth gwrs fod pobl yn poeni am y brechlyn ac rydych newydd glywed y Gweinidog iechyd yn egluro beth yw'r rhaglen mewn perthynas â'r brechlyn. Fy nealltwriaeth i yw bod Betsi Cadwaladr ar y blaen o gymharu â sawl rhan arall o Gymru mewn perthynas â chyflwyno'r brechlyn. Byddwn yn gwrando ar y sicrwydd a gafwyd gan y Gweinidog iechyd ynglŷn â'r targedau a nodwyd.

Weinidog, er fy mod yn deall ei bod yn cymryd amser i goladu ffigurau hunanladdiad oherwydd yr angen i gynnal ymchwiliadau a chwestau, hoffwn dynnu eich sylw at sylwadau crwner gogledd Cymru, John Gittins, ym mis Rhagfyr, a fu'n llywyddu dros saith achos o hunanladdiad dros yr haf yn yr un wythnos. Nododd effeithiau'r cyfyngiadau symud fel ffactor cyfrannol ym mhob un o'r achosion hynny. Ymddengys i mi fod cyfyngiadau symud parhaus, hinsawdd o ofn, ac effeithiau'r gaeaf yn destun pryder mawr. A allwch amlinellu pa gymorth ychwanegol sydd ar gael i'r rheini sy'n ei chael hi'n anodd iawn?

Diolch yn fawr iawn. Rydym yn ymwybodol iawn fod angen inni gadw llygad ar hyn, a dyna pam nad ydym yn aros hyd nes y cawn y cwestau gan y crwneriaid, a all gymryd hyd at flwyddyn. Mae angen inni gael gwell ymdeimlad o'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad mewn amser real, a dyna pam ein bod yn gweithio gyda'r heddlu. Mae gennym ystod o wasanaethau’n gweithio gyda'i gilydd i sicrhau ein bod yn dadansoddi'r data amser real ac yn rhoi mesurau ar waith. Un o'r pethau rydym yn awyddus iawn i’w sicrhau yw bod cymorth ar gael i bobl sy'n ystyried hunanladdiad. Dyna pam fod gennym raglen 'Siarad â Fi 2', ac un o nodweddion y rhaglen honno yw sicrhau bod pobl sydd wedi cael profedigaeth, a allai fod yn teimlo'n isel iawn ar hyn o bryd, yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, gan ei bod yn anodd iawn iddynt alaru mewn ffordd arferol ar hyn o bryd. Rydym yn sicrhau bod y gefnogaeth honno ar gael. Byddwn yn annog eich etholwyr i gysylltu yn gyntaf oll â llinell gymorth iechyd meddwl CALL, a byddant yn gallu cyfeirio eich etholwyr at y lefel fwyaf priodol o gymorth.

14:30
Iechyd Meddwl Amenedigol

2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith pandemig COVID-19 ar iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru? OQ56142

Fel y gwyddoch, mae gwasanaethau amenedigol wedi'u dynodi'n wasanaeth hanfodol yn ystod y pandemig. Mae timau cymunedol wedi gweithio'n galed i sicrhau bod y cymorth hwnnw wedi parhau i fod ar gael, gan gynnwys drwy gymorth digidol a chymorth dros y ffôn. Rydym yn parhau i fonitro'r dystiolaeth i lywio ein dull o weithredu, er enghraifft gydag adroddiad 'Babies in Lockdown' ac astudiaeth Ganwyd yng Nghymru.

Gwyddom fod y pandemig wedi golygu pwysau digynsail, mwy o bryder, a mwy o berygl o broblemau iechyd meddwl i rieni newydd. Gwyddom hefyd fod hyn i gyd yn digwydd ar adeg sy'n gwbl allweddol—y 1,000 diwrnod cyntaf o fywyd babi, a all ddylanwadu ar eu datblygiad drwy gydol eu hoes. Cyn y Nadolig, cymeradwyodd y Senedd hon gynnig, a gyflwynwyd gennyf fi, Bethan Sayed, a Leanne Wood, yn galw am ymdrech benodol i gefnogi rhieni newydd yn ystod y pandemig, ac yn galw hefyd am gyllid wedi'i glustnodi ar gyfer iechyd meddwl amenedigol. Er fy mod yn croesawu'r sicrwydd a roesoch yn y pwyllgor iechyd y bore yma y byddech yn edrych ar gyllid wedi'i glustnodi, credaf fod angen gwneud hynny ar frys. A gaf fi ofyn hefyd pa ddiweddariad pellach y gallwch ei ddarparu, yn enwedig mewn perthynas â sicrhau bod cymorth ymwelwyr iechyd, a gwasanaethau eraill, ar gael? Oherwydd gallwn ddweud a dweud bod y rhain yn wasanaethau hanfodol dynodedig; yn fy mhrofiad i, nid dyna'r profiad ar lawr gwlad. A gaf fi ofyn i chi gytuno hefyd i gyfarfod â Chynghrair Iechyd Meddwl Mamau Cymru, fel y gallwch weithio mewn partneriaeth â hwy i sicrhau bod rhieni newydd yn cael y cymorth y maent ei angen mor ddybryd?

Diolch yn fawr iawn, Lynne. Yn sicr, fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi adnewyddu ein cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', ac yn hwnnw rydym wedi sicrhau bod gwasanaethau amenedigol yn gwbl ganolog i'r hyn y mae angen i ni ganolbwyntio arno. Un o'r pethau allweddol rydym yn ceisio eu gwneud yw sicrhau ein bod yn cael yr holl awdurdodau iechyd i fodloni'r safonau a nodir gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion—y safonau ansawdd a nodir yno. Nawr, mae rhai awdurdodau ymhellach ar y blaen nag eraill yn hyn o beth, ac felly yr hyn sydd angen inni ei wneud, a'r hyn y byddaf yn ei wneud mewn ymateb i'ch cwestiwn heddiw, yw gweld pa mor bell y mae rhai o'r byrddau iechyd hyn wedi cyrraedd o ran cyflawni hynny. Disgwylir y byddant yn cyrraedd y safonau gwasanaeth hynny, a byddwn yn darparu digon o arian i sicrhau y gallant gyrraedd y safonau hynny. Felly, byddant yn gwneud eu ceisiadau i ni i bob pwrpas, a byddwn yn sicrhau bod yr arian hwnnw yno.

Rwy'n tybio, mewn rhai byrddau iechyd, y gallant gyrraedd y safonau hynny'n gyflymach nag eraill, ac efallai y byddant eisiau rhyddhau rhywfaint o'r arian hwnnw i roi mwy o gymorth i anhwylderau bwyta, er enghraifft, neu beth bynnag arall, os ydynt wedi cyrraedd safon benodol. Felly, rwy'n credu'n sicr y gallwn edrych ar—. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n rhaid inni edrych arno yw'r canlyniadau, yn hytrach na'r arian sy'n mynd i mewn. Dyna sydd o ddiddordeb imi, fel y dywedais wrth y pwyllgor y bore yma—canlyniadau sy'n bwysig, nid faint o arian sy'n mynd i mewn. Os ydym yn cyflawni'r canlyniadau a nodwyd, nid wyf yn credu y bydd angen i ni glustnodi arian. Ond gadewch y mater gyda mi, oherwydd rwy'n awyddus iawn i edrych ar hynny'n fanylach. Fe fyddwch yn ymwybodol hefyd ein bod wedi penodi arweinydd clinigol newydd—Sharon Fernandez—a phwrpas hynny yw helpu i gynorthwyo'r byrddau iechyd i sicrhau eu bod yn cyrraedd y safonau gofynnol a osodwyd.

O ran ymweliadau, rwy'n ymwybodol, mewn rhai ardaloedd—. Wyddoch chi, gall fod yn amser unig iawn. Mae'n gyfnod ynysig iawn i riant newydd. Ni wnaf byth anghofio aros, yn ysu i fy ngŵr ddod adref, i mi allu rhoi'r babi iddo ef ar ddiwedd y dydd, oherwydd rydych yn tynnu'ch gwallt o'ch pen. Mae angen y gefnogaeth honno arnoch, ac mae llawer o bobl yn methu cael y gefnogaeth honno, a dyna pam y mae'n hanfodol ein bod yn cadw llygad ar hyn. Mae'r cymorth yn cael ei roi ar-lein, ond os oes rheswm meddygol pam fod angen darparu'r cymorth hwnnw wyneb yn wyneb, rwy'n credu ei fod yn gallu parhau i'r perwyl hwn. 

14:35

Weinidog, rwy'n cytuno â phopeth y mae Lynne newydd ei ddweud, a byddwn yn cefnogi'r hyn y mae wedi'i ddweud. Rwy'n hapus iawn fod Llywodraeth Cymru wedi nodi bod hyn yn hanfodol, oherwydd mae'n ofal critigol, y gofal amenedigol. Mae'n gyfnod mor bwysig i'r rhieni ac i'r plant hefyd, fel yr amlinellwyd eisoes. Felly, rwy'n croesawu'r arian ychwanegol sy'n mynd tuag at iechyd meddwl, a byddwn hefyd yn gofyn i lawer ohono gael ei gyfeirio at y maes hwn yn benodol.

Fel y gwyddoch, mae gennyf fi blentyn sy'n flwydd oed. Rwy'n lwcus ei fod yn cael gweld plant eraill ei oed yn y feithrinfa ddwywaith yr wythnos, ond bydd llawer o blant yn methu gweld plant yr un oed. Yn ystod y cyfyngiadau symud go iawn, pan gaeodd meithrinfeydd hefyd, roedd yn bryder enfawr na allai weld plant eraill, ac yn amlwg ni allai gofleidio neb na gweld y bobl y byddai'n eu gweld fel arfer. Felly, mae'n bryder ynglŷn â'i ddatblygiad yn y ffordd honno. Rwy'n meddwl am yr effeithiau canlyniadol, a tybed beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud yn hynny o beth.

Ond hefyd, i'r rhieni—mae'n cymryd pentref mewn gwirionedd, nid rhieni'n unig, i fagu plentyn, ac fel rydych newydd ddweud, Eluned, mae angen gorffwys arnoch, mae angen ichi gael rhywfaint o gwsg, oherwydd nid yw rhai plant yn cysgu. Nid oedd fy mhlentyn cyntaf yn cysgu o gwbl ac mae cael y seibiant hwnnw'n effeithio'n enfawr ar eich iechyd meddwl. A yw'r Llywodraeth wedi archwilio'r posibilrwydd o ymestyn swigod cymorth i rieni newydd yn hynny o beth, fel y gallant weld plant neu fel y gallant gael cymorth ychwanegol eu hunain ar gyfer eu problemau iechyd meddwl?

A gaf fi ddechrau drwy ddweud, Laura, eich bod yn edrych yn rhyfeddol am rywun sydd â phlentyn blwydd oed, mae'n rhaid imi ddweud? Nid wyf yn gwybod sut rydych yn llwyddo i wneud hynny. Un o'r pethau rydym wedi ceisio sicrhau eu bod ar gael yw darpariaeth gofal plant, oherwydd rydym yn cydnabod bod hynny'n bwysig i gymaint o bobl. O ran swigod cymorth i rieni newydd, yn amlwg ar lefel rhybudd 4, bu'n rhaid inni atal y gallu i ffurfio aelwydydd estynedig, a olygai mai dim ond rhieni sengl neu aelwydydd sengl oedd yn gallu ffurfio swigod cymorth. Ond hyd yn oed i'r rhai nad ydynt yn rhan o swigod cymorth, o dan ein rheolau ni, caniateir i rieni babanod gael cymorth gan eu teuluoedd neu eu ffrindiau agos os oes angen, ac os nad oes dewis rhesymol arall. Felly, mae mwy o le yno efallai nag y mae pobl yn ei gydnabod. Ond wedi dweud hynny, rhaid i mi bwysleisio nad yw'r ffaith eich bod yn cael ei wneud yn golygu y dylech ei wneud. Ni allaf orbwysleisio difrifoldeb y sefyllfa, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig inni ofyn i bawb feddwl yn ofalus iawn er mwyn diogelu eu ffrindiau a'u teuluoedd.

Mae fy swyddfa i wedi cynnal arolwg drwy'r hydref a'r gaeaf y llynedd. Dŷn ni wedi cael 1,000 o ymatebion mewn un arolwg, a 300 yn yr arolwg dŷn ni wedi ei wneud yn fwyaf diweddar, yn gofyn i rieni am eu profiad nhw o wasanaethau perinatal. Dŷn ni wedi cael lot fawr o ymatebion, sydd yn dweud wrthym ni bod 80 y cant ohonyn nhw yn teimlo'n bryderus am y cyfyngiadau sy'n dal i fod yn y gwasanaethau mamolaeth, 68 y cant ohonyn nhw yn teimlo nad oedden nhw'n cael y gefnogaeth er gwaethaf profiadau gwael o ran anawsterau iechyd meddwl, ac wedyn 90 y cant ohonyn nhw'n dweud bod eu partner nhw heb gael unrhyw gyfle i drafod eu hiechyd meddwl nhw—tadau efallai'n cael eu hanghofio yn hyn oll yn aml iawn. 

Beth ydych chi'n gallu ei wneud i amlinellu i ni beth yn fwy fedrwch chi ei wneud yn yr adran yma er mwyn sicrhau bod pethau yn gallu gweithredu yn well? A fyddech chi'n cytuno i gwrdd â fi, ynghyd â rhai o'r elusennau sy'n gweithio yn y maes, i drafod yr arolwg? Mae nifer o fanylion wedi dod gerbron gan famau yn yr arolwg sydd yn mynd i allu eich helpu chi fel Llywodraeth i lywio hwn yn fwy eglur, ac i helpu mamau a thadau i symud ymlaen yn gryfach mewn cyfnod, sydd wedi cael ei ddweud gan Lynne Neagle a Laura Ann Jones, sydd yn anodd iawn ar yr adegau gorau, heb sôn am roi genedigaeth yn ystod pandemig.

Dwi wedi bod yn edrych ar yr atebion i'r arolwg. Dwi wedi bod yn dilyn beth roeddech chi'n eu cael fel canlyniadau, ac mae'n rhaid i fi ddweud, roeddwn i wedi fy syfrdanu eu bod nhw cweit mor uchel o ran peidio â chael dilyniant, ac roedd hwnna yn rhywbeth a oedd yn fy nhrafferthu i lot. Dyna pam rŷn ni yn mynd i roi fwy o arian ychwanegol i fewn, fel bod pobl yn y byrddau iechyd yn gallu cyrraedd y safonau yna sy'n ddisgwyliedig. Tu fewn i'r safonau hynny, mae yna ddealltwriaeth mai nid jest mamau sydd yn gorfod cael yr help yma; mae tadau hefyd yn gallu teimlo fel eu bod nhw'n cael eu gwthio allan, ac felly mae angen help arnyn nhw. 

Dwi ddim wedi cwrdd â phobl ar y rheng flaen yn fy swydd newydd ar yr achos yma o perinatal. Felly, beth byddwn i'n licio awgrymu yw fy mod i'n dod â phobl ynghyd. Roedd Lynne Neagle wedi gofyn i fi hefyd os byddwn i'n cwrdd â phobl. Efallai gallem ni drefnu un cyfarfod mawr, ac wedyn byddwn i'n hapus iawn i glywed o'r rheng flaen am y sefyllfa. Dwi'n awyddus iawn i beidio â jest edrych ar ystadegau, ond i wrando ar brofiad gwirioneddol pobl. 

14:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Yn gyntaf heddiw, llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. 

Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, mi gafodd adroddiad ei gyhoeddi ddoe a oedd yn dweud bod un o bob pedwar person ifanc wedi methu â dygymod efo heriau'r flwyddyn ddiwethaf yma. Mae'r rhesymau yn ddigon amlwg, ond os ydym ni am osgoi pandemig o broblemau iechyd meddwl mae'n rhaid rhoi gwasanaethau mewn lle rŵan i helpu'r bobl ifanc yma. Pa fuddsoddiadau mewn gwasanaethau ydych chi'n eu cynllunio? 

Dwi'n cydnabod bod rhaid inni ymyrryd yn gynnar, achos o beth dwi'n ei ddeall, mae 80 y cant o broblemau iechyd meddwl yn dechrau pan mae pobl yn blant ifanc neu yn bobl ifanc. Felly, mae'n gwneud synnwyr i ni ganolbwyntio unrhyw arian ychwanegol yn y maes yna. Dyna'n union beth rydym ni'n ei wneud. Rydym ni'n sicrhau bod £9.4 miliwn o arian ychwanegol yn mynd yn uniongyrchol tuag at helpu pobl ifanc. Bydd peth o hynny'n mynd drwy'r ysgolion, ond, wedyn, mae gwaith ychwanegol yn cael ei wneud i sicrhau ein bod ni yn cyflwyno nid yn unig CAMHS yn yr ysgolion—. Ar hyn o bryd maen nhw'n pilots, ond rydym ni'n gobeithio y byddwn ni, unwaith ein bod ni'n gwybod yn glir beth yw canlyniadau'r prosiect yna, yn gallu gweld hynny yn digwydd ar hyd Cymru. Felly, mae hwnna'n gam ymarferol rydym ni'n gwybod sy'n gweithio. Felly, byddwn ni eisiau gweld hwnna yn cael ei wneud o gwmpas Cymru. Ond hefyd, mae yna grŵp—y national early help and enhanced support framework—ac mae hwn yn rhywbeth rydym wedi gweld sydd wedi gweithio yn dda iawn yn ardal Gwent. Dwi'n awyddus iawn i weld y cynllun yna yn cael ei drosglwyddo drwy Gymru. Felly, dyna ddau beth yn uniongyrchol i helpu pobl ifanc. 

Dwi'n edrych ymlaen at glywed rhywbeth ar sgêl llawer mwy ac â llawer mwy o frys. Rydym ni, dros gyfnod o flynyddoedd, mewn adroddiadau gan bwyllgorau yn y Senedd yma, gan randdeiliaid eraill, wedi gweld llu o dystiolaeth o ble dydyn ni ddim yn ei chael hi'n iawn yng Nghymru o ran helpu ein pobl ifanc ni efo problemau iechyd meddwl. Un o'r problemau ydy bod pobl sydd ddim yn ffitio rhyw fodel meddygol cul o broblem urgent—maen nhw'n methu â chael y gefnogaeth maen nhw ei eisiau. Maen nhw'n cael eu troi i ffwrdd o driniaeth neu, o bosib, mae eu triniaeth nhw yn cael ei orffen yn rhy fuan. Rydych chi wedi cyfeirio at ymyrryd yn gynharach, ac mae hynny'n gwbl allweddol, ond un peth arall sy'n gweithio—mae'r dystiolaeth yn dangos hynny, dwi'n credu—ydy pan mae person ifanc, ar ôl cael mynediad cynnar, yn gallu cadw'r cysylltiad yna, adeiladu'r berthynas yna efo cwnselydd dros amser hirach. Sut mae eich cynlluniau chi ar gyfer newid y ffordd mae gwasanaethau'n cael eu darparu a'u cyllido yn mynd i ganiatáu ac, yn wir, hybu'r math yna o berthynas hirach rhwng y person ifanc a'r sawl sy'n trio ei helpu o neu hi?

Un peth dwi wedi ei ddysgu yn ystod y misoedd diwethaf yw bod yna lot o bobl sydd efallai ddim angen ymyrraeth meddygol, ond maen nhw angen lot o gefnogaeth, a'r bobl orau i roi'r gefnogaeth hynny yw pobl yn eu cymunedau nhw, pobl maen nhw'n dod ar eu traws bob amser—eu hathrawon nhw neu bobl yn eu cymunedau nhw. Felly, y syniad yma gyda'r model sydd yn gweithio yn arbennig o dda yn ardal Gwent yw eich bod chi yn hyfforddi pobl yn y cymunedau, yn hytrach na'ch bod chi'n disgwyl i arbenigwyr fod yna trwy'r amser. Felly, bydd y parhad yna wedyn ar gael ar gyfer y bobl ifanc yma, fel eu bod nhw'n gallu tapio i mewn iddo fe ac nad yw e jest yn un peth sydd yn digwydd unwaith ac wedyn yn cael ei dynnu i ffwrdd oddi wrthyn nhw. Ond mae yna lot o hyfforddiant sydd angen ei wneud yn y maes yma.

14:45

A dwi'n canmol y gwaith sy'n cael ei wneud yng Ngwent hefyd. Rwyf innau wedi bod yn cadw llygad ar y ddarpariaeth sydd yna, ar gael. Ond mae'n rhaid i'r ddarpariaeth fod ar gael ym mhob rhan o Gymru, wrth gwrs, a dwi'n cytuno'n llwyr efo chi am yr angen i sicrhau bod yna argaeledd yn ein cymunedau ni ar draws Cymru, ac mae yna frys i wneud hyn. Mi fyddwch chi wedi fy nghlywed i'n sôn am y one-stop shops rydw i a Phlaid Cymru wedi eu hargymell a fydd yn gallu helpu pobl efo problemau iechyd meddwl a phroblemau eraill mae pobl ifanc yn eu hwynebu hefyd, yn sgil diweithdra neu broblemau tai gwael, iechyd rhyw, ac yn y blaen. Mae hyn yn rhywbeth a fyddai'n gallu cael ei sefydlu ar draws Cymru ar frys, ac mae'n fy nharo i, yn sgil y problemau sydd wedi codi yn ystod y pandemig yma, a'i effaith o ar bobl ifanc, mai rŵan ydy'r amser i wneud hyn. A wnewch chi felly greu'r math o wasanaethau rydyn ni'n galw amdanyn nhw fel arwydd clir i'r un person ifanc o bob pedwar yna nad ydyn nhw wedi cael eu hanghofio dros y flwyddyn ddiwethaf?

Wel, dwi wedi bod yn edrych ar y syniadau yna a dwi wedi bod yn edrych ar beth sy'n digwydd yn Seland Newydd. Dwi'n meddwl bod pethau y gallwn ni eu dysgu, ond hefyd mae'n rhaid inni fod yn ofalus nad yw'r canolfannau hynny'n dod yn rhywle lle dyw pobl ddim eisiau cael eu gweld, ac felly mae stigma yn rhywbeth y mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol ohono yma. Mae yna hubs ar gael mewn rhai llefydd ar draws Cymru eisoes, ac felly dwi'n meddwl mai ein diddordeb ni yw gwneud mwy o ran hubs iechyd, fel ei fod yn ehangach na jest rhywbeth sy'n ymwneud ag iechyd meddwl. So, rŷn ni'n edrych ar beth sy'n bosibl, ond dwi'n meddwl bod hyd yn oed beth mae Plaid Cymru yn ei awgrymu—. Lefel fach iawn yw hi, yn ôl beth yw'r angen, dwi'n meddwl, o ran hubs. Felly, dwi'n meddwl y byddai'n well gyda fi i weld sut y gallwn ni gael y ddarpariaeth yna mewn hubs cymunedol ehangach sydd eisoes yn bodoli. 

Diolch yn fawr, Llywydd. Gweinidog, mae nifer yr athrawon sy'n siarad neu sy'n gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg wedi parhau yn weddol sefydlog ers sawl blwyddyn erbyn hyn. Mae Estyn yn disgrifio ceisiadau eleni am hyfforddiant i athrawon cychwynnol fel ymchwydd, er bod Cyngor y Gweithlu Addysg yn llai hyperbolic ac yn dipyn bach mwy realistig na hynny. Pam na wnaeth mwy o'r cohort newydd gais i ddysgu Cymraeg neu i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg? A ydych chi wedi cyrraedd y targed ar nifer y bobl sy'n cael eu hyfforddi trwy'r Gymraeg?

Wel, fel rŷch chi'n ymwybodol, Suzy, rŷn ni wedi bod yn trio gwneud lot o waith yn y maes yma. Mae targedau gyda ni ac, a bod yn onest, rŷn ni'n cael trafferth i gyrraedd y targedau hynny pan fydd hi'n dod i gynyddu nifer yr athrawon, o ran ein targed ni yn arbennig mewn ysgolion uwchradd. Dyna pam rŷn ni wedi rhoi £5,000 yn ychwanegol i bobl sydd yn hyfforddi i fod yn athrawon trwy gyfrwng y Gymraeg, i geisio cael mwy ohonyn nhw i ymddiddori yn rhoi'r gwasanaeth yna. Rŷn ni wedi rhoi £150,000 yn ychwanegol i weld a allwn ni gael mwy o blant i ymddiddori mewn cymryd lefel A trwy gyfrwng y Gymraeg. A hefyd, wrth gwrs, mae'n bosibl nawr i bobl hyfforddi i fod yn athrawon o bell, a dwi yn gobeithio y bydd hwnna'n rhywbeth—. Mae'n gam newydd sydd ar gael nawr, fel bod pobl, er enghraifft, sydd yn byw yng Ngheredigion ddim yn gorfod mynd i ffwrdd i goleg ond eu bod nhw'n gallu dysgu i fod yn athro o bell. Felly, rŷn ni'n gwneud beth rŷn ni'n gallu. Rwy'n gofyn byth a hefyd a oes syniadau ychwanegol gan bobl ynglŷn â beth allwn ni ei wneud ac, felly, os oes syniadau ychwanegol gan bobl, rwy'n fwy na pharod i wrando achos rŷn ni'n cael trafferth yn y maes yma.

14:50

Diolch am hynny. Rwy'n gwybod ei bod hi'n anodd, ond roeddwn i'n meddwl a oes gyda chi unrhyw ddiddordeb mewn prentisiaethau safon gradd, er enghraifft, i athrawon sy'n dod o gefndiroedd galwedigaethol gwahanol yn hytrach na thrwy'r system rŷm ni'n ei gweld ar hyn o bryd. Efallai fod hynny'n rhywbeth i'w ystyried.

Hoffwn symud ymlaen nawr at rywbeth arall. Bron yn syth ar ôl dechrau'r cyfnod clo, clywom ni fod y galw am gyrsiau blasu ar-lein gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi cynyddu, a newyddion da iawn oedd hynny. Rwy'n deall bod oedi ar ddata ar draws eich meysydd cyflawni polisi, ond efallai y gallwch chi gadarnhau eich bod chi wedi llwyddo i ddal lan tipyn bach â hynny. A allwch chi ddweud wrthym ni faint o ddiddordeb cynnar yn y cyrsiau sydd wedi parhau, a beth sy'n newid, beth sy'n gweithio, i gadw'r dysgwyr hynny i lynu ato am gyfnod hirach?

Diolch. Rŷn ni wedi gweld bod yna gynnydd aruthrol wedi bod yn nifer y bobl a oedd yn ymddiddori mewn dysgu Cymraeg, ac nid oedd hynny jest wedi digwydd trwy'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Byddwch chi'n ymwybodol bod Duolingo a Say Something in Welsh, a'r rheini i gyd, wedi gweld cynnydd, felly mae'r rheini i gyd yn bethau rŷn ni'n eu croesawu. Wrth gwrs, y cwestiwn yw, fel ŷch chi'n gofyn, ydy pobl yn mynd i barhau i ddysgu wrth i'r pandemig yma ddod i ben, a hwnna yw'r sialens. Dŷn ni ddim yn gwybod eto, ond, yn sicr, rŷn ni wedi gweld y cynnydd yn dal i fod yna. Ond dyw'r data diweddaraf ddim gyda fi i weld a yw pobl wedi dal ati yn ystod y cyfnod, ac felly, wrth gwrs, gallaf i ddod nôl atoch chi gyda manylion ar hynny pe byddai hwnna'n helpu.

Diolch am hynny. Gobeithio y byddwch chi'n gallu rhannu unrhyw ddata newydd sy'n dangos cynnydd cyflawniad ar bolisi 2050, gan gynnwys unrhyw syniadau newydd sy'n gweithio nad ydym ni wedi'u hystyried o'r blaen.

Nawr, hoffwn i glywed yn arbennig am unrhyw gynnydd ar brentisiaethau iaith Gymraeg, a sut i brif-ffrydio mwy o sgiliau Cymraeg mewn prentisiaethau cyfrwng Saesneg. Byddwn ni yn canolbwyntio, yn amlwg iawn, ar y llwybrau galwedigaethol i ragoriaeth ym maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig, achos rydym yn gweld hon fel strategaeth a all helpu gyda nod 2050 trwy greu gofod cynhwysol a phwrpasol ar gyfer tyfu defnydd bob dydd o'r Gymraeg sy'n berthnasol i waith, hefyd.

Rwy'n siŵr eich bod chi wedi edrych ar gynllun ieithoedd swyddogol y Senedd, achos mae yna syniadau da iawn yn fanna hefyd. Ond ydy e'n bosibl i ddweud faint o brentisiaethau Cymraeg neu ddwyieithog rydyn ni wedi eu colli oherwydd COVID? Beth ydych chi'n gwneud i ledu sectorau'r prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yn y pen draw, y tu hwnt i'r Mudiad Meithrin a'r Urdd, gan gadw'r rhain hefyd, wrth gwrs?

Diolch. Dwi'n meddwl bod yna le i ni weld beth mwy y gallwn ni ei wneud i gael pobl i flasu beth mae hi fel i ddysgu, a dyna pam dwi'n gwerthfawrogi'r hyn y mae rhai ysgolion yn ei wneud, lle maen nhw'n gofyn i gynorthwywyr ysgol i ddechrau. Mae projectau, er enghraifft, mewn rhai ysgolion lle maen nhw'n gofyn i bobl a oedd yn y chweched dosbarth ddod nôl yn y flwyddyn ganlynol i ddysgu am flwyddyn, i gael blas ar ddysgu. Gobeithio y bydd hwnna yn helpu cael mwy o bobl i ymddiddori mewn ymgymryd â hyfforddi i fod yn athrawon Cymraeg.

Wrth gwrs, o ran y prentisiaethau, ar hyn o bryd—ac rydyn ni'n dal i fod yn y dyddiau cynnar ar hyn—trwy'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, beth rŷn ni wedi'i wneud hyd yn hyn yw canolbwyntio ar jest ychydig o lefydd. Un yw gofal plant a'r llall yw gofal henoed. Mae'n darpariaeth ni ar hyn o bryd wedi ffocysu ar hynny.

O ran prentisiaethau Cymraeg, un o'r problemau a oedd gyda ni oedd bod lot o brentisiaethau Cymraeg wedi dod trwy'r Urdd, ac, wrth gwrs, mae'r Urdd wedi cael ergyd aruthrol yn ystod y pandemig yma ac mae hi wedi bod yn anodd iawn iddyn nhw, o ran prentisiaethau chwaraeon yn arbennig. Mae wedi bod yn drasiedi i weld hwnna, ac rŷn ni'n siarad â'r Urdd yn gyson i weld beth allwn ni ei wneud i'w helpu nhw, achos yn y gorffennol roedden nhw'n gallu defnyddio'r arian a oedd yn dod o'r gwersylloedd i'w helpu nhw i dalu am y core funding ar gyfer prentisiaethau. So, rŷm ni'n dal i fod mewn trafodaethau gyda'r Urdd ynglŷn ag a oes yna bosibilrwydd i ni wneud mwy yn y maes yna, achos maen nhw'n gwneud gwaith anhygoel. 

14:55
Gofal Iechyd Meddwl yn Sir Gaerfyrddin

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o ofal iechyd meddwl yn Sir Gaerfyrddin? OQ56145

Diolch, Helen. Rydyn ni’n disgwyl i bob bwrdd iechyd gynnal gwasanaethau iechyd meddwl ac i fonitro ac ymateb i newidiadau mewn anghenion iechyd meddwl. Nododd y byrddau iechyd eu cynlluniau yn fframwaith gweithredol yr NHS ar gyfer chwarter 3 a chwarter 4. Roedd y rhain wedi eu cyflwyno ym mis Rhagfyr. Byddan nhw'n cynhyrchu cynllun blynyddol ar gyfer 2021-22 a fydd yn cydfynd â’r blaenoriaethau sydd wedi'u nodi yn fframwaith cynllunio blynyddol yr NHS ar gyfer eleni. 

Rwy'n ddiolchgar i chi am eich ateb, Weinidog, ond yn ystod y tair wythnos diwethaf cysylltodd nifer o etholwyr â mi, pobl yn nwyrain sir Gaerfyrddin, yn Llanelli a'r cymunedau cyfagos, ac rwy'n pryderu'n fawr am yr hyn a oedd ganddynt i'w ddweud. Roedd un yn sôn am y diffyg cymorth i oroeswyr camdriniaeth rywiol, a lle ceir cymorth, roedd rhaid aros yn hir iawn amdano; dywedwyd wrth un etholwr a oedd yn cael meddyliau hunanladdol am fynd i'r adran ddamweiniau ac achosion brys ac roedd disgwyl iddynt wneud eu ffordd eu hunain yno; pobl yn aros dros flwyddyn am gwnsela drwy therapïau siarad, pan ydym yn gwybod pa mor bwysig y gall hynny fod; a dim cymorth ar gyfer therapïau siarad drwy gyfrwng y Gymraeg, a all fod yn arbennig o bwysig yma. Os oes gan rywun broblem iechyd meddwl, mae'n hollbwysig eu bod yn gallu mynegi eu hunain mewn perthynas â'r problemau hynny yn eu dewis iaith neu yn eu hiaith gyntaf. 

Byddai pawb ohonom yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhai buddsoddiadau ariannol mawr ym maes iechyd meddwl, ond rwy'n awgrymu i chi fod y materion sy'n codi yn Llanelli a'r cymunedau cyfagos yn awgrymu bod gwir angen inni edrych yn ofalus iawn ar sut y mae'r adnoddau hynny'n cael eu defnyddio. Ac mae gennyf bryder penodol am y diffyg cefnogaeth arbenigol i oroeswyr camdriniaeth rywiol, ac am y diffyg mynediad at therapïau siarad. Yn y pen draw, Weinidog, gallwn wario llawer o arian yn y cymunedau hyn ar therapïau cyffuriau, ond nid yw'r rheini'n datrys problemau pobl; nid ydynt ond yn eu helpu i'w rheoli. Felly, os ysgrifennaf atoch mewn perthynas â'r achosion hyn—ac nid wyf eisiau crybwyll enwau neu amgylchiadau unigolion yma—a wnewch chi ymrwymo i gysylltu â'r bwrdd iechyd i edrych ar yr hyn sy'n digwydd? Efallai fod y rhain yn broblemau sy'n cael eu gwaethygu gan y sefyllfa COVID wrth gwrs, ond mae'r rhain yn bobl sydd mewn trallod difrifol ac ni ddylent gael eu trin fel hyn.

Diolch, Helen. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni bwysleisio nad y llwybr iechyd yw'r unig lwybr—gall y trydydd sector wneud llawer o waith anhygoel yn y maes hwn mewn gwirionedd. Ac un o'r pethau rwy'n awyddus iawn i'w wneud yw datblygu hyder meddygon teulu, yn arbennig, i deimlo y gallant gyfeirio at leoedd eraill yn ogystal â'r llwybr meddygol. Felly, cefais gyfarfodydd gyda Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yr wythnos diwethaf i drafod beth arall y mae angen inni ei wneud i gynyddu eu hyder fel y gallant fod yn sicr, os ydynt yn cyfeirio rhywun at sefydliad trydydd sector, y bydd ansawdd yn gysylltiedig â hynny a chysondeb o ran ble y gellir darparu hynny. Felly, rwy'n credu bod angen i'r sgyrsiau hynny barhau.

Welwch chi, nid yw'r cymorth arbenigol hwnnw o reidrwydd yn rhywbeth y mae'r bwrdd iechyd yn y sefyllfa orau i'w wneud. Mae yna sefydliadau trydydd sector sy'n gallu gwneud hyn yn well na'r bwrdd iechyd, mae'n debyg, oherwydd y sensitifrwydd sy'n gysylltiedig â'r materion hynny, oherwydd profiad bywyd, neu beth bynnag. Felly, i mi, mae'r cymorth ychwanegol ar gyfer haen 0, ar gyfer y trydydd sector, yn union lle dylai fod, ond nawr mae'n rhaid inni fagu hyder rhwng y lleoliadau meddygol, y lleoliadau gofal sylfaenol a'r trydydd sector. Mae'n gweithio'n wych mewn rhai ardaloedd, ond nid yw'n ddarlun cyson ar draws Cymru gyfan.

Cymorth Iechyd Meddwl yng Ngorllewin De Cymru

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth iechyd meddwl sydd ar gael yng Ngorllewin De Cymru? OQ56150

Diolch yn fawr. Rydyn ni wedi dynodi gwasanaethau iechyd meddwl fel gwasanaethau hanfodol yn ystod y pandemig. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n disgwyl i wasanaethau gael eu cynnal, er ein bod ni yn derbyn efallai fod angen addasu modelau cyflenwi o ganlyniad i’r cyfyngiadau.

Diolch am hynna.

Yn dilyn cwestiwn Helen Mary Jones, a'r ateb, mewn gwirionedd, rydym yn amlwg yn gwybod o ganlyniad i'r pwysau helaeth[Anghlywadwy.]—fod amseroedd aros yn eithriadol o hir a bod gwasanaethau dan bwysau. Nawr, mewn rhai ardaloedd nid oes llawer o gymorth ar gael, os o gwbl. Fodd bynnag, gwyddom hefyd fod yna gwnselwyr annibynnol ledled Cymru sy'n barod i helpu'r GIG i ymdrin â hyn nawr, ond bod angen eu talu i wneud hynny. Rwy'n sylweddoli bod gennym yr holl ddadleuon hyn ynglŷn â chynllunio'r gweithlu ac oedi ac yn y blaen, ond mae'r rhain yn bobl gymwysedig sydd bellach yn gweithio yn y sector annibynnol. Yn ogystal â hynny, mae llawer o bobl yn methu fforddio mynd yn breifat i gael y cymorth hwnnw. Felly, a wnaiff y Llywodraeth ymrwymo i fynd ati'n rhagweithiol i gysylltu â phob cwnselydd cymwysedig yng Nghymru a thalu cyfraddau'r GIG iddynt er mwyn sicrhau bod mwy o wasanaethau cwnsela a chymorth iechyd meddwl ar gael?

15:00

Rwy'n credu y byddai'n anodd iawn i mi ymrwymo i gysylltu â'r holl bobl sydd ar gael yn y maes hwn, ond rwy'n sicr yn cydnabod bod cronfa o arbenigwyr y gallem fod yn eu defnyddio, ac rwy'n credu mai un o'r pethau rwy'n awyddus i'w wneud yw gweithio gyda'r byrddau iechyd ar y cyllid ychwanegol y byddwn yn ei roi yn ei le ar gyfer y cymorth lefel haen 0 hwnnw. Nid oes unrhyw reswm pam na all y byrddau iechyd benderfynu rhoi rhywfaint o'r gwaith hwnnw ar gontract allanol, sef yr hyn y maent yn ei wneud drwy sefydliadau'r trydydd sector i bob pwrpas. A bod yn onest, byddai'n well gennyf weld hynny'n cael ei wneud drwy sefydliadau'r trydydd sector, ond rwy'n cydnabod bod prinder arbenigwyr ar hyn o bryd a bod angen inni ddefnyddio'r rhai sydd ar gael. Felly, gallwn gadw llygad ar hynny, ond wrth ymdrin â system sy'n gorfod darparu ar gyfer Cymru gyfan, mae angen systemau mawr ar waith, yn hytrach na system sy'n ceisio cysylltu pawb yn unigol.

A gaf fi fynegi fy nghefnogaeth i'r Gweinidog a fy nghred ym mhwysigrwydd cymorth iechyd meddwl, ac a gaf fi gytuno â'r hyn a ddywedodd Dai Lloyd am ddefnyddio pawb a all helpu? Rwy'n credu y bydd eithrio unrhyw grŵp o bobl yn niweidiol i iechyd meddwl yng Nghymru. Fy nghwestiwn yw: o fy mhrofiad i, mae profedigaeth yn un o brif achosion dirywiad iechyd meddwl—pa gymorth profedigaeth ychwanegol sy'n cael ei ddarparu?

Diolch yn fawr iawn, Mike. Mae cryn dipyn o gymorth profedigaeth ychwanegol ar gael, ac mae cydnabyddiaeth, yn enwedig ar ôl hunanladdiad, y gallai fod angen cymorth profedigaeth ychwanegol ar bobl yn y sefyllfaoedd hynny. Mae'n rhaid i ni gydnabod bod degau o filoedd o bobl yng Nghymru bellach wedi colli anwyliaid yn ystod yr argyfwng hwn, ac mae angen inni sicrhau bod cymorth ar gael iddynt. Mae'r cymorth profedigaeth hwnnw ar waith. Os gwelwn fod angen mwy, byddwn yn ystyried hynny, ond yn sicr, un o'r pethau rwyf wedi bod yn awyddus iawn i'w wneud yn ystod yr wythnosau diwethaf yw sicrhau bod pobl yn gwybod ble y gallant gael gafael ar gymorth yn hawdd, ac rwyf wedi bod yn pwyso'n arbennig ar fyrddau iechyd i'w gwneud yn hawdd i bobl ddod o hyd i gymorth, ac rwy'n gobeithio eich bod chi, ynghyd â holl Aelodau eraill y Senedd, wedi cael llythyr gennyf yr wythnos diwethaf, yn nodi ble y gall pobl fynd am help, ac rydym wedi sicrhau bod pob bwrdd iechyd wedi nodi'r wybodaeth honno'n glir ar eu tudalennau gwe erbyn hyn, sy'n rhywbeth a groesawyd yn fawr gan y comisiynydd plant. Gofynnodd i hynny gael ei wneud mewn ffordd lawer cliriach, fel ei bod yn haws i bobl ddod o hyd i'r wybodaeth.

Cyflyrau Iechyd Meddwl yn Dilyn Triniaeth COVID-19

5. Pa fesurau sydd ar waith i gefnogi cleifion sydd â chyflyrau iechyd meddwl yn dilyn triniaeth COVID-19? OQ56141

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi iechyd meddwl a llesiant teuluoedd y mae'r coronafeirws wedi effeithio arnynt? OQ56149

Diolch, David, a deallaf fod caniatâd wedi'i roi i grwpio'r cwestiwn hwn gyda chwestiwn 8. A yw hynny'n gywir? Gwych.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fframwaith adsefydlu cenedlaethol yn sail i ganllawiau ar gyfer poblogaethau penodol ym mis Mai 2020 i helpu gwasanaethau i ystyried cynyddu'r galw am adsefydlu, ailalluogi ac adfer ym mhob rhan o'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae anghenion iechyd meddwl a llesiant wedi'u gwreiddio ar draws y poblogaethau a nodir yn y fframwaith hwnnw.

Diolch i chi, Weinidog. A gaf fi annog bwrdd cyflawni a throsolwg y Gweinidog ar iechyd meddwl a sefydlwyd gennych i edrych ar hyn? Rydych hefyd yn ystyried adroddiad diweddar Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd, a oedd yn edrych ar y pandemig a'i oblygiadau. Bydd gennym bobl â COVID hir, rydym wedi dod yn fwyfwy ymwybodol o ôl-syndromau—fel polio, er enghraifft, unigolion a gafodd polio yn ystod yr epidemig mawr diwethaf yn y 1950au sydd â phroblemau ac mae problemau iechyd meddwl yn aml yn un ohonynt sy'n uniongyrchol gysylltiedig. A hefyd, byddai'r driniaeth, oherwydd ei natur ymyrrol, wedi bod yn brofiad trawmatig iawn i rai pobl. Bydd ganddynt broblemau iechyd meddwl real iawn a fydd yn galw am ymateb eithaf penodol sy'n ymwneud â chyd-destun yr anawsterau iechyd meddwl sy'n cael eu creu.

15:05

Diolch yn fawr iawn, David. Rydym yn llwyr gydnabod nid yn unig fod COVID hir yn rhywbeth y bydd yn rhaid i bobl fyw gydag ef, ac fel rydych wedi gweld, rydym wedi datblygu ap i geisio helpu adferiad pobl, ac rydym wedi'i lansio yr wythnos hon. Ond hefyd, rwy'n credu bod rhaid inni ganolbwyntio ar grwpiau penodol. Mae rhai o'r rheini'n bobl sydd wedi treulio amser hir yn yr ysbyty a gofal critigol, felly dyna un grŵp o bobl y mae'n rhaid i ni eu deall. Pobl nad ydynt, efallai, yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan COVID, ond sydd wedi cael eu heffeithio'n anuniongyrchol yn yr ystyr eu bod yn aros am fath gwahanol o lawdriniaeth, a gall hynny arwain at broblemau iechyd meddwl. Mae yna bobl, wrth gwrs, sydd wedi osgoi troi at wasanaethau oherwydd eu bod yn pryderu y gallent ddal COVID, neu beth bynnag, tra byddant yno. A hefyd, ceir grwpiau sydd wedi'u hynysu'n gymdeithasol lle mae'r cyfyngiadau symud wedi cynyddu'r pwysau y maent wedi'i deimlo, a diffyg cysylltedd cymdeithasol. Felly, credaf fod llawer o bethau y mae angen inni eu cydnabod, ac agweddau ychydig yn wahanol.

Mae'n amlwg fod rhaid ymdrin â phob person sy'n byw gyda phroblem iechyd meddwl fel unigolyn, a'i bod yn broblem unigol unigryw sydd angen ei deall. Ond rwy'n credu bod angen i ni ddeall nawr fel cymuned ein bod wedi profi trawma, fel cymdeithas, a bod angen dull wedi'i lywio gan drawma i lywio ein hymateb i'r pandemig. Yn sicr, bydd y bwrdd trosolwg wedi nodi COVID fel mater rydym yn cadw llygad arno a mater y bydd angen i ni barhau i fod yn hyblyg yn ei gylch.

Y mater arall sy'n werth ei nodi, mae'n debyg, yw y bydd problem benodol gyda phobl ar y rheng flaen. Ac roedd yn ddiddorol siarad â Choleg Brenhinol y Meddygon yr wythnos diwethaf ynglŷn â'r hyn y maent yn ei weld fel problem yn y tymor hwy, sef nad oes gan bobl ar y rheng flaen amser i feddwl ar hyn o bryd mewn gwirionedd, ond pan ddaw hyn i ben, mae'n bosibl y gallai straen o'r fath ar ôl trawma eu taro o ddifrif ac maent yn awgrymu y gallai hynny gymryd tua thair neu bedair blynedd i daro pobl mewn gwirionedd. Felly, mae'n rhaid inni roi'r darpariaethau hynny i gyd ar waith i baratoi ar gyfer yr hyn a allai fod yn effaith eithaf sylweddol ar y bobl sydd ar y rheng flaen.

Weinidog, rwy'n credu bod nifer y cwestiynau rydych wedi'u cael gan Aelodau heddiw ynghylch effaith COVID ar lesiant meddyliol yn tynnu sylw at yr heriau sydd o'n blaenau wrth fynd i'r afael â rhai o'r materion hynny. Ac nid yn aml y byddwn yn sôn am yr unigolion mewn perthynas â hyn, ond wrth gwrs, mae'r unigolion yn rhan o uned deuluol yn aml iawn, ac mae eu trawma hefyd yn effeithio ar deuluoedd—a chredaf fod y gair a ddefnyddiwyd gennych wrth ateb David Melding, 'trawma', yn gywir, ac mae angen inni fynd i'r afael â hyn.

Tynnodd Mike Hedges sylw at brofedigaeth a bydd heriau yno gyda phobl sy'n teimlo'n euog am nad oeddent yno gyda'r unigolyn pan ddaeth eu bywyd i ben a hynny am nad oeddent yn cael bod yno. Felly, mae'n drawma mawr i'n teuluoedd, ac mae Jeremy Miles, fy nghyd-Aelod yn yr etholaeth gyfagos yng Nghastell-nedd, wedi cychwyn rhaglen ymwybyddiaeth trawma gyda Mind Castell-nedd Port Talbot. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda sefydliadau'r trydydd sector ac elusennau iechyd meddwl i drafod sut y byddant yn mynd i'r afael â'r agenda ymwybyddiaeth trawma, a fydd yn sicr o wynebu teuluoedd yn ogystal ag unigolion?

Diolch yn fawr iawn, David. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd iawn â'r trydydd sector ac roedd yno bobl yn pwysleisio pa mor bwysig yw deall trawma. Hwy yw'r bobl sydd wedi gwneud yn siŵr fy mod wedi deall bod hynny'n hanfodol i'r ffordd rydym yn symud ymlaen fel cymdeithas—ein bod wedi bod drwy brofiad trawmatig fel cymdeithas. Ond wrth gwrs, rydych yn llygad eich lle, mae yna unigolion sy'n cael eu heffeithio, ond efallai y bydd yr unigolion hynny'n cael effaith ganlyniadol ar aelodau eraill yn y teulu, ac mae'r rheini'n bethau y mae angen i ni gadw llygad arnynt hefyd.

Rydym yn ariannu gwahanol brosiectau. Yn sicr, rydym wedi rhoi tua £750,000 i Gweithredu dros Blant a Monitro Gweithredol Mind. Felly, rydym yn cydnabod bod problem yma sy'n galw am sylw o safbwynt teuluoedd. Hefyd, rydym wedi rhoi £900,000 ychwanegol i'n hosbisau a'n gweithwyr profedigaeth i sicrhau bod y cymorth hwnnw ar gael i helpu'r teuluoedd hynny drwy gyfnod anodd iawn yn eu bywydau.

15:10

Weinidog, mae'r rhai sy'n ddigon ffodus i adael yr ysbyty ar ôl derbyn triniaeth ar gyfer COVID-19 nid yn unig yn wynebu misoedd lawer o wella corfforol, mae'n rhaid iddynt hefyd ddod i delerau â'r trawma meddyliol y maent wedi'i ddioddef. Mae ymchwil newydd yn dangos y bydd un o bob pump o oroeswyr yn datblygu salwch meddwl ac mae llawer o oroeswyr yn cael trafferth gydag anhwylder straen wedi trawma am fisoedd ar ôl gadael yr ysbyty. Canfuwyd hefyd fod goroeswyr mewn mwy o berygl o ddatblygu dementia. Weinidog, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pob goroeswr yn cael eu monitro'n ofalus ac yn cael y cymorth angenrheidiol yn ddigon cynnar i osgoi'r cymhlethdodau mwyaf difrifol? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, ac rydych yn llygad eich lle, Caroline, fod yn rhaid i ni gydnabod, pan fydd gan bobl broblem gorfforol yn yr amgylchiadau anodd hyn, fod posibilrwydd gwirioneddol y bydd hynny'n arwain at broblem iechyd meddwl. Yn fwyaf arbennig, mae'r rheini sydd wedi bod ar eu gwely angau—mae llawer o bobl wedi bod yn agos iawn at farw ac mae hynny ynddo'i hun yn brofiad trawmatig. Dyna pam ein bod yn cydnabod bod anhwylder straen wedi trawma yn debygol o ddod yn rhywbeth y mae angen inni roi mwy o sylw iddo yn y dyfodol. Hefyd, mae angen inni fonitro pobl sydd wedi gadael yr ysbyty. Yn amlwg, ar hyn o bryd, mae pobl yn canolbwyntio'n fawr ar wella pobl, ond mae gwaith dilynol wedi bod mewn awdurdodau lleol i sicrhau bod pobl ar y trywydd iawn.

Mae dementia yn bwynt arall y sonioch chi amdano. Rwy'n credu mai un o'r pethau sy'n amlwg i mi yw bod llawer o bobl yn dechrau cael problem gyda dementia o bosibl—rydym wedi gweld bod yr unigrwydd y mae llawer wedi'i deimlo wedi cynyddu cyflymder dementia. Felly, mae hwnnw, unwaith eto, yn rhywbeth y mae angen inni gadw llygad arno, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod gennym raglen gwerth £10 miliwn sy'n mynd i'r afael â dementia yng Nghymru.

Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn y Gogledd

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru? OQ56153

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am sicrhau bod darpariaeth gwasanaethau yn cwrdd ag anghenion y gymuned leol, gan gynnwys iechyd meddwl. Nododd y byrddau iechyd eu cynlluniau ar gyfer chwarter 3 a chwarter 4 yn y fframwaith gweithredol.

Wel, mae yna amheuon mawr ynghylch a ddylai gwasanaethau iechyd meddwl Betsi Cadwaladr fod wedi cael eu tynnu mas o fesurau arbennig oherwydd y gwendidau sy'n parhau o fewn y gwasanaeth. Mewn adroddiad diweddar i'r bwrdd iechyd, fe restrodd y cyfarwyddwr nyrsio dros dro amryw o wendidau o fewn y gwasanaeth, ac mae'n rhestr ddamniol, mae'n rhaid i mi ddweud. Mi orffennodd yr adroddiad drwy ddweud ar y foment na allai roi sicrwydd llawn i'r bwrdd ynglŷn ag ansawdd y gwasanaeth. Felly, os nad yw e yn medru rhoi sicrwydd ynghylch y gwasanaeth, sut allwch chi?

Diolch. Dwi'n meddwl ei bod yn werth dweud, jest achos ein bod ni wedi tynnu allan o fod yn gyfrifol yn uniongyrchol, fel Llywodraeth, dyw e ddim yn golygu ein bod ni wedi camu yn ôl yn llwyr. Mae targeted intervention, sef y polisi rŷn ni'n ei weithredu ar hyn o bryd, yn dal yn fesur sy'n golygu ymyrraeth a sicrhau ein bod ni'n edrych yn fanwl ar beth sy'n digwydd.

Yn ogystal â hynny, cyn i ni ddod at y pwynt yna, ac mae'n werth dweud nad ni oedd wedi gwneud y penderfyniad yna—gwnaethon ni'r penderfyniad ar ôl clywed yr hyn yr oedd gan yr arbenigwyr i'w ddweud—mi oedd yna £12 miliwn yn ychwanegol wedi'i roi yn uniongyrchol i helpu iechyd meddwl yn Betsi Cadwaladr achos ein bod ni'n ymwybodol bod lot fawr o waith eto i'w wneud yn y gogledd. Dwi'n gwybod bod yr hubs I CAN—maen nhw wedi bod yn effeithiol, ac mi fyddwn ni yn edrych ar sut maen nhw'n gweithredu yn y dyfodol.

15:15
Cymorth Iechyd Meddwl yn Sir Benfro

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefel y cymorth iechyd meddwl a ddarperir i bobl Sir Benfro am y 12 mis nesaf? OQ56129

Dwi'n falch o adrodd bod bwrdd iechyd Hywel Dda wedi gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid dros y blynyddoedd diwethaf i ddatblygu eu rhaglen trawsnewid iechyd meddwl, ac maen nhw wedi adlewyrchu anghenion iechyd meddwl newidiol y gymuned yn y fframwaith gweithredol sydd wedi'i diweddaru ac a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr.

Wel, dwi'n ddiolchgar ichi, Gweinidog, am yr ymateb yna. Efallai eich bod chi'n ymwybodol bod gwasanaeth cymorth cwnsela lles emosiynol ar-lein newydd i bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed wedi'i lansio gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae'r gwasanaeth digidol hwn yn gam enfawr ymlaen. Bydd pobl ifanc yn gallu derbyn cefnogaeth yn ddienw ar ffurf cwnsela a chefnogaeth cymar i gymar, yn ogystal â chael mynediad at ystod eang o ddeunyddiau hunangymorth. Gweinidog, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda'r bwrdd iechyd am y gwasanaeth hwn? Ac a allwch chi ddweud wrthym sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo'r gefnogaeth hon ymhlith bobl ifanc ledled sir Benfro? A hefyd, allwch ddweud wrthym ni am un gwelliant gwasanaeth iechyd meddwl penodol sydd wedi digwydd ers i chi gael eich penodi'n Weinidog sy'n gyfrifol am iechyd meddwl?

Diolch yn fawr. Yn sicr, dwi yn cwrdd â'r bwrdd iechyd yn aml, ac mi ges i gyfarfod gyda nhw i glywed beth oedd eu bwriadau nhw ar gyfer transforming mental health. Dwi'n falch iawn o weld eu bod nhw wedi cyflwyno y mesur yma sydd wedi'i dargedu at bobl ifanc. Mae Kooth yn rhywbeth sydd wedi profi i fod yn help mewn rhai llefydd eisoes yng Nghymru, felly mae'n dda i weld bod hynny'n digwydd. Dwi'n gwybod bod Public Health Wales wedi bod, yn sicr, yn gefnogol i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r help sydd ar gael ar gyfer pobl ifanc, ac un o'r pethau cyntaf wnes i pan ddes i i mewn i'r swydd oedd gofyn i Public Health Wales ac i'n tîm ein hunain ni i sicrhau ein bod ni'n targedu'r wybodaeth yna at lefydd lle roedd pobl ifanc yn ei gweld hi—felly, sicrhau ei bod ar Tik Tok a llefydd fel hynny. Does dim pwynt rhoi hi mewn llefydd lle, efallai, rŷn ni fel oedolion â diddordeb i weld pethau, ond i sicrhau ein bod ni'n mynd atyn nhw. Felly, mae hynny'n rhywbeth uniongyrchol dwi wedi sicrhau sy'n digwydd. Dwi'n meddwl bod y ffaith bod bobl nawr gydag ymwybyddiaeth o beth sydd ar gael, fod e ar pob gwefan y byrddau iechyd, fod hynny lot yn gliriach i'w weld, y ffaith fy mod i'n gwbl glir bod yn rhaid inni fwrw ymlaen yn lot cyflymach—a dyna pam dwi wedi dechrau'r grŵp newydd yma i sicrhau ein bod yn gyrru ymlaen y polisïau sydd eisoes mewn lle, ond hefyd wedi sicrhau bod £40 miliwn yn ychwanegol wedi dod i mewn i'r cynllun ar gyfer y maes pwysig yma.

3. Cwestiynau Amserol
4. Datganiadau 90 Eiliad

Does dim cwestiynau amserol na datganiadau 90 eiliad heddiw o dan eitemau 3 a 4.

5. Dadl ar ddeiseb P-05-1032 Deddfu i atal newid enwau Cymraeg tai

Felly rŷn ni'n symud i eitem 5. Yr eitem honno yw'r ddadl ar y ddeiseb i ddeddfu i atal newid enwau Cymraeg tai. Dwi'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i wneud y cynnig—Janet Finch-Saunders.

Cynnig NDM7550 Janet Finch-Saunders

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb 'P-05-1032 Deddfu i atal newid enwau Cymraeg tai' a gasglodd 18,103 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, mae'n bleser gennyf agor y ddadl hon ar ddeiseb yn galw am gamau gweithredu i helpu i atal newid a cholli enwau Cymraeg tai. Cyflwynwyd y ddeiseb gan Robin Aled Davies, a chasglwyd mwy na 18,000 o lofnodion, ffaith sydd, yn fy marn i, yn dangos faint o bobl sy'n teimlo'n gryf am y mater hwn, ac am ddiogelu'r Gymraeg a threftadaeth Cymru yn ehangach. Nawr, er i'r ddeiseb ddenu llofnodion o bob rhan o Gymru—yn ogystal â thu hwnt—roeddwn eisiau nodi'r gefnogaeth arbennig o gryf yng ngorllewin a gogledd-orllewin Cymru, lle gwelir hyn fel mater arbennig o bwysig.

Ystyriodd y Pwyllgor Deisebau y ddeiseb ym mis Tachwedd y llynedd, gan nodi rhai o'r ymdrechion blaenorol a wnaed i ddiogelu enwau Cymraeg lleoedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r rheini wedi cynnwys cynnig Bil Aelodau a gyflwynwyd gan Dr Dai Lloyd AS yn 2017 ac ymchwiliad gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i'r amgylchedd hanesyddol, hefyd yn 2017. Nawr, efallai y bydd yr Aelodau a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â'r gwaith hwnnw yn hoffi dweud mwy amdanynt, er bod y Pwyllgor Deisebau wedi nodi bod yr ymchwiliad hwn wedi arwain at argymhelliad y dylai'r Llywodraeth barhau i adolygu'r mater a chyflwyno gwarchodaeth bellach os nad yw'r dull presennol yn effeithiol. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn bwriadu mynd ar drywydd y mater hwn fel rhan o'i waith etifeddol.

Nawr, wrth gwrs, gyda diwedd tymor y Senedd—mae'n prysur agosáu, ac mae'r Pwyllgor Deisebau'n cydnabod nad oes digon o amser ar ôl ar gyfer gweithredu galwad uniongyrchol y ddeiseb i gyflwyno deddfwriaeth newydd cyn hynny. Fodd bynnag, nid oeddem yn teimlo y dylai'r ffaith honno atal dadl ar y mater na'r ffynonellau gwarchodaeth y gobeithiaf y gellid eu darparu i enwau hanesyddol, yn awr ac yn y tymor hwy. Ceir rolau i amrywiaeth o gyrff ddarparu'r warchodaeth honno, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a Cadw. Bydd y dull sydd ei angen hefyd yn dibynnu ar y math o enw sy'n cael ei ystyried.

Nawr, mae'r ddeiseb hon ei hun yn benodol iawn, yn ymwneud yn uniongyrchol ag enwau tai unigol yn unig. Fodd bynnag, mae'n rhan o fater ehangach, gan gynnwys enwau aneddiadau a lleoedd eraill sy'n fwy o ran maint, nodweddion naturiol, ffermydd ac adeiladau mawr, yn ogystal ag eiddo unigol. Ar y raddfa fwyaf, mae mesurau fel safonau'r Gymraeg eisoes yn darparu rhywfaint o warchodaeth i'n dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi, gyda dyletswyddau ar awdurdodau lleol, er enghraifft, mewn perthynas ag arwyddion. Mae enwau lleoedd hanesyddol hefyd wedi'u cadw ar gofrestr ers 2017, gyda chanllawiau statudol ar waith ar gyfer cyrff cyhoeddus.

Wedyn, ar y raddfa leiaf, mae diogelu enwau tai yn debygol o fod yn anos yn ymarferol, ac mae'r Gweinidog wedi tynnu sylw at rai o'r anawsterau hynny yn ei hymateb ysgrifenedig i'n Pwyllgor Deisebau. Os mai drwy ei enw'n unig y gellir adnabod eiddo, rhaid i berchnogion wneud cais i'w hawdurdod lleol i'w newid. Nawr, rwy'n ymwybodol fod rhai awdurdodau'n darparu canllawiau i annog perchnogion i ddefnyddio enwau Cymraeg ar eu heiddo, er nad ystyrir bod hyn yn orfodol. Yn ogystal, os yw eiddo'n cael ei adnabod yn bennaf drwy rif, efallai y bydd perchnogion yn gallu ychwanegu neu newid enw heb fod angen cymeradwyaeth. Ac er enghraifft, gall perchennog weithredu busnes o eiddo, megis fferm, o dan enw gwahanol. Felly, nid yw hwn yn fater syml o bell ffordd, ac fel y mae'r ddeiseb yn helpu i'w ddangos, mae'n un sy'n ysgogi teimladau ac ymatebion cryf. Dylid disgwyl hyn, o ystyried pa mor bwysig yw enwau i gadarnhau pwy ydym ni a hanes y cymunedau rydym yn byw ynddynt ac rydym am uniaethu â hwy. Gobeithio y gall y ddadl hon heddiw ein helpu i edrych ar y sefyllfa ac i ystyried beth arall y gellid ei wneud i ddiogelu enwau traddodiadol neu hanesyddol. Diolch yn fawr.

15:20

A gaf fi ddiolch, yn gyntaf oll, i Janet Finch-Saunders fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, a hefyd i'r deisebydd a'r 18,000 a mwy o bobl a lofnododd y ddeiseb? Fel y crybwyllwyd, mae hwn yn fater sy'n agos at fy nghalon. Dyna pam y cyflwynais Fil i'r Cynulliad—y Senedd bellach—yn 2017, i geisio diogelu enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru. Fel rhan o'r Bil hwnnw, roeddwn hefyd am edrych ar ddiogelu enwau tai hanesyddol.

Mae enwau tai, enwau ffermydd ac enwau llefydd yn gyffredinol yn bwysig iawn i gof cenedl. Yn aml, mae ganddynt gysylltiad uniongyrchol efo hanes a daearyddiaeth y lle neu gysylltiad efo pobl enwog, digwyddiadau o fri, fel brwydrau am ein hannibyniaeth fel cenedl, ac elfennau pwysig yn hanes Cymru, gyda chysylltiadau i draddodiadau hynafol, diwydiant hanesyddol a chwedlau cyfoethog ein tir. 

Gwyddom fod enwau ffermdai a chartrefi hanesyddol yn cael eu colli ledled Cymru. Mae colli'r enwau hyn yn golygu ein bod yn colli rhan o'n treftadaeth leol a chenedlaethol. Roedd yn siomedig fod y Llywodraeth yn 2017 wedi pleidleisio yn erbyn yr egwyddor o ddatblygu deddfwriaeth yn y maes hwn, ac rwy'n dal i gredu bod mwy y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i ddiogelu'r enwau hyn—nid yw canllawiau'n unig yn gwneud hynny. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw warchodaeth gyfreithiol ar gyfer enwau tai yng Nghymru. Mae'n amlwg fod yna amrywiaeth o ffyrdd y gallai'r Llywodraeth wneud hynny, a gwyddom fod yna sefydliadau ac academyddion sy'n cefnogi ymyrraeth bellach gan y Llywodraeth yn y maes hwn. Mae nifer o wledydd ym mhob cwr o'r byd wedi nodi bod enwau lleoedd hanesyddol yn bwysig ac wedi datblygu deddfwriaeth er mwyn diogelu enwau o'r fath. Felly, yn sicr mae potensial yno i ddysgu oddi wrth eraill. Efallai fod lle, er enghraifft, i greu gofyniad i unigolyn ofyn am ganiatâd cyfreithiol gan awdurdod wrth geisio newid enw tŷ neu unrhyw le arall. Efallai mai'r awdurdod cynllunio lleol fydd yr awdurdod hwn, fel sy'n digwydd nawr gyda chaniatâd adeilad rhestredig. Ar hyn o bryd, os yw deiliad tŷ eisiau newid enw ei dŷ, rhaid iddynt wneud cais i'r adran awdurdod lleol sy'n gyfrifol am enwi a rhifo strydoedd. Fodd bynnag, yn gyffredinol, nid oes gan yr awdurdod lleol unrhyw bwerau i wrthod newid enw, ar wahân i achosion lle gallai'r enw fod mewn defnydd eisoes yn lleol.

Mewn achosion o geisiadau i newid enw eiddo, mae canllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru yn nodi bod disgwyl i awdurdodau lleol wirio'r rhestr genedlaethol o enwau lleoedd hanesyddol a grybwyllwyd gan Janet wrth brosesu ceisiadau o'r fath. Os oes enw hanesyddol yn ymddangos ar y rhestr honno, neu os yw swyddog yn ymwybodol o un o ffynhonnell arall, dylid annog yr ymgeisydd i gadw'r enw hwnnw. Yn anffodus, fel rwyf wedi dadlau droeon, nid yw anogaeth yn gwarantu y caiff enwau tai neu leoedd hanesyddol eu gwarchod. Mae deddfwriaeth yn gwneud hynny, a dyna pam y dylai Llywodraeth Cymru archwilio hyn ymhellach. Diolch yn fawr.

15:25

Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg i gyfrannu i'r ddadl—Eluned Morgan.

Member
Eluned Morgan MS 15:27:26
Minister for Mental Health, Well-being and Welsh Language

Diolch yn fawr, a diolch am y cyfle i drafod y pwnc pwysig yma. Mae'r ffaith bod y ddeiseb wedi denu cymaint o lofnodion yn dangos bod yna deimladau cryf iawn ynglŷn â hyn. Ac mae'n rhaid imi gyfaddef bod hwn yn fater dwi yn poeni amdano, ond mae yna broblemau ymarferol mae'n rhaid inni edrych arnyn nhw. 

Y ffaith yw bod hawl gan bobl i enwi eu tai, er da neu ddrwg. Gall unrhyw un jest rhoi plac ar flaen eu cartref heb hysbysu'r awdurdod lleol, os yw'r cartref hwnnw yn cael ei adnabod wrth enw stryd. Ond dwi yn meddwl bod rhoi enw ar dŷ yn erbyn ewyllys pobl leol yn gallu teimlo fel torri llinyn rhyngom ni a'n cymuned ni. Fe wnes i roi ymateb i'r ddeiseb yma i'r pwyllgor. Roedd hwnna yn tanlinellu'r ffaith ein bod ni eisoes wedi gweithredu o ran dinasoedd, trefi a phentrefi, ein bod ni wedi gofyn i Gomisiynydd y Gymraeg i roi cyngor i unigolion a sefydliadau am ffurfiau safonol enwau lleoedd yng Nghymru. A dwi'n meddwl bod y safonau Cymraeg yna wedi gwneud jobyn eithaf da. Mae'r ffaith ein bod ni'n gweld yr enwau yma yn golygu ein bod ni wedi gweld newid yma.

Dwi'n meddwl bod ein canllawiau statudol ni yn gofyn i awdurdodau cyhoeddus penodol i ystyried rhestr o enwau lleol hanesyddol yn eu swyddogaethau enwi. Felly, mae hwnna yn bwynt sydd yn statudol ar hyn o bryd, ac mae'n rhaid i awdurdod lleol gydnabod pwysigrwydd enwau hanesyddol yn eu polisïau ar gyfer enwau strydoedd a rhifo tai. Ac os yw'r awdurdod lleol yn cael cais newydd i newid enw hanesyddol, dylai'r cyngor yna annog yr ymgeisydd i ailystyried a chadw'r enw hanesyddol. A dyma ble dwi'n gweld pwynt Dai: ydyn ni'n gallu mynd ymhellach? Ydyn ni'n gallu dweud—yn lle ein bod chi'n gofyn yn neis, ydy e'n bosibl inni fynd ymhellach a deddfu a thynhau y canllawiau statudol yna? Felly, mae'n rhaid imi gyfaddef bod gen i lot o gydymdeimlad yn hyn o beth, a byddwn i'n eithaf hapus i siarad gydag, efallai, aelodau'r pwyllgor a Dai, i weld beth yn union y gallwn ni ei wneud i dynhau pethau fel ein bod ni ddim yn gweld mwy o hyn yn digwydd. Un enghraifft rŷn ni wedi ei gweld—. Dwi'n meddwl ei bod hi'n werth dweud, does dim byd yn atal perchennog eiddo ag enw hanesyddol rhag rhoi enw ychwanegol iddo—enw busnes, er enghraifft. So, un enghraifft sy'n gwylltio lot o bobl yw Happy Donkey Hill. Hwnna yw'r enw newydd arno, ond Faerdre Fach yw enw'r fferm o hyd, a dyw'r enw ddim wedi newid yn swyddogol, ond mae yna blac newydd ar y wal ar gyfer y busnes. Felly, mae'n rhaid i ni jest fod yn ymwybodol bod yna broblemau yn y fan hyn, ond dwi yn ddigon bodlon i weithio i weld a yw hi'n bosibl i ni dynhau yn y maes yma.

Ond dwi yn meddwl ei bod hi'n werth dweud bod y dystiolaeth rŷn ni wedi ei gweld yn dangos, mewn rhai siroedd, fod mwy o geisiadau yn eu cyrraedd nhw i roi enwau Cymraeg ar dai na'r gwrthwyneb. Er enghraifft, yng Ngheredigion, lle, chwarae teg, maen nhw rili wedi gwneud ymdrech yn y maes yma, dim ond un cais roedden nhw wedi ei gael i newid enw tŷ o'r Gymraeg i'r Saesneg, er eu bod nhw wedi cael 10 cais i newid o'r Saesneg i Gymraeg. Felly, mae rhywbeth yn gweithio yng Ngheredigion, ac efallai ei bod hi'n werth i ni edrych a oes yna bethau y mae pobl eraill yn gallu eu dysgu yn fanna.

Ond dwi hefyd yn meddwl bod gweithredu lleol—pwysau cymuned—yn gallu'n helpu ni yn y maes yma. Os ŷch chi'n edrych ar beth sydd wedi digwydd, er enghraifft, ym Mhlas Glynllifon: roedden nhw wedi trio newid yr enw yn fanna i Wynnborn Mansion, ond fe wnaeth y gymuned godi a stopio hynny rhag digwydd. Felly, mae hi'n bosibl i'r gymuned stopio'r pethau yma rhag digwydd.

Ond, diolch yn fawr i Janet. Dwi ddim yn meddwl bod hwn jest yn rhywbeth sydd yn ymwneud â thai. Dwi'n awyddus i weld ble rŷn ni'n gallu mynd ymhellach, er enghraifft, llynnoedd—mae hwnna'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni edrych arno nesaf. A hefyd, rŷn ni wedi helpu, er enghraifft, i roi arian i ddatblygu ap sydd yn dangos enwau mynyddoedd yn y gogledd-ddwyrain yng Nghymru. Felly, mae yna bethau rŷn ni'n gallu eu gwneud, ond dwi yn hapus i weld a yw hi'n bosibl i ni wneud rhywbeth yn statudol hefyd. Ond, mae'n rhaid i fi ddweud, dwi ddim yn siŵr a yw hi'n bosibl, ond dwi'n fwy na hapus i weld a allwn ni symud ymhellach yn y maes yma.

15:30

Cadeirydd y pwyllgor i ymateb i'r ddadl, felly—Janet Finch-Saunders.

Diolch am eich ymateb, Weinidog, ac i Dai Lloyd, fel Aelod, am eich cyfraniadau heddiw. Wrth gloi'r ddadl, hoffwn ddiolch hefyd i'r deisebydd, Robin Aled Davies, am gyflwyno'r ddeiseb, ac i bob un o'r 18,000 o bobl a'i llofnododd, ac sydd eu hunain wedi defnyddio'r broses ddeisebu yn ein Senedd. Rwy'n gobeithio y bydd y pwyntiau a godwyd heddiw yn cyfrannu at wneud penderfyniadau yn y dyfodol. Bydd y Pwyllgor Deisebau yn dychwelyd i ystyried y ddeiseb mewn cyfarfod yn y dyfodol, pan fyddwn yn gobeithio cael ystyriaethau pellach gan y deisebydd ac unrhyw un arall sydd wedi dilyn y ddeiseb neu'r trafodion heddiw. Diolch yn fawr.

Y cynnig yw i nodi'r ddeiseb yma. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn gweld nac yn clywed gwrthwynebiad, ac felly fe dderbynnir y cynnig yna yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Hawliau plant yng Nghymru

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar hawliau plant yng Nghymru. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r ddadl, Lynne Neagle.

Cynnig NDM7549 Lynne Neagle

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Hawliau plant yng Nghymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Awst 2020. 

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Ddeng mlynedd yn ôl, rhoddodd cyfraith newydd, Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, sail gyfreithiol i hawliau plant yng Nghymru. Mae dros chwe blynedd bellach ers i bob rhan o'r ddeddfwriaeth hon ddod yn weithredol yn llawn. Mae hyn yn golygu bod rhaid i Weinidogion Cymru ddilyn Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn bellach wrth arfer unrhyw un o'u swyddogaethau. Yr hyn sy'n amlwg yw nad yw'r ddeddfwriaeth hon erioed wedi bod yn bwysicach.

Mae pandemig COVID-19 yn golygu nad yw ein plant yn mynd i'w hysgolion. Caewyd eu meysydd chwarae ar ddechrau'r pandemig. Ni allant gymdeithasu â'u ffrindiau, ac mae cyfyngiadau ar fynd i'w clybiau a'u gweithgareddau hamdden arferol. Efallai y bydd rhai plant mewn mwy o berygl o gael eu niweidio gartref. Mae'n llai tebygol y bydd gwasanaethau rheng flaen yn canfod hynny am nad yw plant yn cael eu gweld gymaint yn yr ysgol, ac maent yn llai tebygol o gael cyswllt wyneb yn wyneb â'r gwasanaethau cymdeithasol. Gwyddom hefyd mai cyswllt cyfyngedig y mae plant sy'n derbyn gofal wedi'i gael â ffrindiau a theulu. I lawer o blant a phobl ifanc, yr hyn y gwyddom i sicrwydd yw bod eu hiechyd meddwl a'u llesiant yn cael eu heffeithio'n ddifrifol. Os oedd angen enghraifft ar unrhyw oedolyn o beth yw hawliau plant, a pham eu bod yn bwysig, mae'r pandemig hwn yn gwneud y pwynt yn y ffyrdd mwyaf llym.

15:35

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi gweithio'n galed i sicrhau bod hawliau plant wedi bod wrth wraidd ein holl waith yn ystod y pumed Cynulliad hwn. Mae hawliau plant yn bwysig ym mhob dim a wnawn. Mae hyn wedi bod yn wir pan fyddwn yn craffu ar bolisi'r Llywodraeth ar wasanaethau ieuenctid neu iechyd meddwl pobl ifanc, pan fyddwn yn ystyried yr angen am ddeddfwriaeth ar gosbi plant yn gorfforol, neu pan fyddwn yn edrych ar ariannu ysgolion.

Ym mis Mehefin 2019, bron i ddegawd ers cyflwyno'r Mesur hawliau plant, roeddem yn teimlo ei bod yn bryd archwilio a yw'r ddeddfwriaeth hon wedi bod yn gweithio'n effeithiol. Yn 2011, ystyrid bod y gyfraith hon yn torri tir newydd ac arweiniodd at gydnabyddiaeth ryngwladol i Gymru, ond rhaid mesur ei llwyddiant yn ôl y graddau y mae wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Y peth cyntaf a wnaethom oedd edrych ar sut y mae'r gyfraith hon yn effeithio ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru'n gwneud penderfyniadau. Roeddem hefyd yn awyddus i wybod a yw wedi gwneud unrhyw wahaniaeth i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu ei chyllid. Clywsom am rwystredigaethau amlwg rhanddeiliaid ynglŷn â pha mor gyflym y mae'r Mesur wedi dylanwadu ar bolisi a gwariant. Dywedasant wrthym nad oes digon o gyfeirio at hawliau plant mewn dogfennau strategol allweddol. Dywedasant wrthym hefyd nad oes digon o dystiolaeth fod y dyletswyddau yn y Mesur yn cael eu cyflawni ar draws Llywodraeth Cymru. Nid yw'n glir fod hawliau plant yn cael eu hystyried yn systematig ar draws y Llywodraeth. Er bod enghreifftiau da mewn rhai adrannau, rhaid gwneud mwy o gynnydd. Yn ogystal â'r enghreifftiau amlwg, megis addysg a gwasanaethau cymdeithasol, mae meysydd polisi fel tai, iechyd, cynllunio, yr economi, yr amgylchedd a thrafnidiaeth yn effeithio'n enfawr ar fywydau plant o ddydd i ddydd. Rhaid i hawliau plant effeithio ar benderfyniadau ar draws portffolio pob Gweinidog, a rhaid cael prawf mwy tryloyw fod hyn yn digwydd.

Wedyn, edrychwyd ar y dyletswyddau yn y ddeddfwriaeth newydd y bwriadwyd iddynt sicrhau bod hawliau plant yn cael eu gwireddu. Roeddem am wybod a yw'r mecanweithiau cywir ar waith i sicrhau newid. Clywsom fod asesiadau o'r effaith ar hawliau plant yn arf pwysig i gynnal y gwaith o weithredu'r ddeddfwriaeth hon. Dylai'r asesiadau hyn ddadansoddi i ba raddau y bydd camau gweithredu Llywodraeth Cymru yn cael effaith negyddol, niwtral neu gadarnhaol ar hawliau plant. Y bwriad yw sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio'n gynnar yn y broses o wneud penderfyniadau er mwyn llywio'r broses honno. Clywodd y pwyllgor bryderon fod yr asesiadau effaith hyn yn aml yn cael eu cynhyrchu'n rhy hwyr yn y broses o ddatblygu polisi. Mynegwyd pryderon hefyd eu bod weithiau'n cael eu hysgrifennu mewn ffordd sy'n edrych fel pe baent yn esbonio penderfyniadau polisi sydd eisoes wedi'u gwneud, yn hytrach na llywio penderfyniadau sydd eto i'w gwneud. Mae hyn yn dangos inni nad hawliau plant sy'n sbarduno penderfyniadau Llywodraeth Cymru yn ôl bwriad y ddeddfwriaeth.

Yn fwy diweddar, mae'n braf clywed barn Comisiynydd Plant Cymru fod ansawdd a manylion rhai o'r asesiadau effaith hyn wedi gwella. Mae un enghraifft gadarnhaol yn ymwneud â lefel y manylder a'r dadansoddiad a gyhoeddwyd gan yr adran addysg am ddarpariaeth ysgolion yn ystod y pandemig.

Roedd deddfwriaeth 2011 hefyd yn gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod oedolion a phlant yn gwybod am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Gwnaed hyn er mwyn i oedolion a phlant ddeall beth yw hawliau plant a pham y mae'r gyfraith mewn grym. Fodd bynnag, roedd llawer o'r plant a'r bobl ifanc y clywsom ganddynt yn dweud yn glir na fu dull systematig o'u hysbysu am eu hawliau. Dangosodd ein tystiolaeth hefyd fod bwlch gwirioneddol yn y wybodaeth a'r ddealltwriaeth o hawliau plant ymysg y cyhoedd.

Yng ngoleuni hyn, 10 mlynedd ers i'r ddeddfwriaeth gael ei rhoi mewn grym, rydym yn casglu ei bod yn hen bryd cael strategaeth genedlaethol i godi ymwybyddiaeth. Rydym hefyd wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddweud wrth blant a phobl ifanc sut i gwyno os ydynt o'r farn nad yw'r gyfraith newydd hon yn gweithio'n dda. Rhaid rhoi'r wybodaeth hon iddynt mewn ffordd sy'n hawdd ei deall.

Ers cyhoeddi ein hadroddiad, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun hawliau plant newydd ar gyfer ymgynghori yn ei gylch. Cynllun sy'n rhaid iddi ei chael yn ôl y gyfraith yw hwn, un sy'n nodi sut y mae'n bwriadu cyflawni'r ddeddfwriaeth yn ymarferol. Rydym yn falch o weld bod strategaeth codi ymwybyddiaeth a phroses gwyno sy'n ystyriol o blant wedi'u cynnwys yn y cynllun newydd. Yr hyn y mae'n rhaid inni ei weld nesaf yw'r manylion sy'n sail iddo ac ymrwymiad ynglŷn â pha bryd y caiff y camau hyn eu cyflawni.

Un agwedd bwysig arall ar ein hymchwiliad oedd edrych ar ba mor dda y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu erthygl 12 y Confensiwn. Mae'n dweud bod gan blant hawl i leisio barn pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt ac i'w barn gael ei hystyried. Mae'n hanfodol fod plant a phobl ifanc yn cael dylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio arnynt, nid yn unig am fod ganddynt hawl gyfreithiol i wneud hynny, ond yn bwysicach, am fod hynny'n arwain at well penderfyniadau a chanlyniadau gwell. Gwnaethom argymell bod Llywodraeth Cymru yn nodi strategaeth glir yn ei chynllun hawliau plant diwygiedig i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cymryd rhan mewn trafodaethau ar benderfyniadau'r Llywodraeth sy'n effeithio arnynt hwy. Rydym yn croesawu'r ffaith bod hyn wedi'i gynnwys yn y drafft newydd o'r cynllun hawliau plant. Byddwn yn monitro sut y mae'n mynd rhagddo yn y misoedd sy'n weddill cyn yr etholiad.

Mae'r argymhelliad olaf yr hoffwn ganolbwyntio arno heddiw yn ymwneud â chryfhau sefyllfa gyfreithiol hawliau plant. Nid yw graddau dylanwad awdurdodau lleol ar fywydau beunyddiol plant erioed wedi bod yn fwy gweladwy. Ac eto, er bod cyrff cyhoeddus, gan gynnwys byrddau iechyd, yn chwarae rhan ganolog yn darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc, ac yn cael symiau sylweddol o arian cyhoeddus, nid yw'r Mesur hawliau plant yn gosod dyletswydd arnynt. Clywsom felly nad yw Llywodraeth Cymru bob amser yn gallu sicrhau bod hawliau plant yn dylanwadu'n uniongyrchol ar y gwasanaethau y mae plant a phobl ifanc yn eu cael, na'r penderfyniadau y mae'r cyrff cyhoeddus hyn yn eu gwneud. Cawsom ein darbwyllo gan y dystiolaeth a ddaeth i law y bydd ymestyn y dyletswyddau yn y Mesur i gynnwys cyrff fel awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn helpu i gyflawni'r newid hwn.

Wrth dynnu fy sylwadau agoriadol i ben, rwyf eisoes wedi dweud bod pandemig COVID-19 wedi golygu nad yw'r Mesur hawliau plant erioed wedi bod mor bwysig. Ond mae'n rhaid inni gofio bod gweithredu'r ddeddfwriaeth hon yn briodol bob amser wedi bod yn bwysig. Fel pwyllgor, credwn fod yn rhaid cael pwyslais o'r newydd ar sicrhau bod y Mesur yn cael ei weithredu'n iawn. Nodwn hefyd fod y Cenhedloedd Unedig yn craffu ar gynnydd o ran gweithredu'r Confensiwn ledled y DU yn 2021.

Cyn y pandemig, clywsom gan blant a phobl ifanc am yr hawliau sy'n bwysig iddynt hwy a'r hyn a all ddigwydd pan nad ydynt yn cael eu gwireddu. Roedd yn wych clywed gan bron i 1,000 o bobl ifanc o bob un o bum rhanbarth y Senedd. Roedd hefyd yn wych cyfarfod â'r plant o brosiectau Lleisiau Bach yng ngogledd a de Cymru. Rhoesant groeso cynnes iawn i ni ac roeddent yn awyddus i ddweud wrthym beth oedd hawliau plant yn ei olygu i'w bywydau. Un o'r hawliau a oedd yn amlwg yn bwysig i'r bobl ifanc y buom yn siarad â hwy oedd yr hawl i fod yn ddiogel: yr hawl i fod yn ddiogel gartref; yr hawl i fod yn ddiogel yn eu cymunedau; yr hawl fod yn ddiogel ar-lein. Roedd yn ein hatgoffa'n glir, os oedd angen gwneud hynny, sut fywydau y mae rhai plant a phobl ifanc yng Nghymru yn eu byw. Roedd yn ein hatgoffa beth y mae hawliau plant yn ei olygu mewn gwirionedd.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ein helpu gyda'r gwaith hwn. Mae'r mewnbwn manwl gan randdeiliaid a barn plant a phobl ifanc wedi bod yn amhrisiadwy i'n gwaith craffu. Rydym yn arbennig o ddiolchgar i'r rhai sydd wedi aros yn amyneddgar am ein hadroddiad, a ohiriwyd gennym i'n galluogi i ganolbwyntio pob ymdrech ar ymateb y gwasanaethau cyhoeddus i'r pandemig, ac i'r rhai a roddodd adborth i ni ar ymateb Llywodraeth Cymru, er mwyn llywio'r ddadl heddiw. Gyda'u cymorth hwy, rydym wedi gwneud cyfres o argymhellion ymarferol sydd â photensial yn ein barn ni i wneud hawliau'n realiti i holl blant a phobl ifanc Cymru. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mater i Lywodraeth Cymru yn awr yw rhoi pwyslais o'r newydd ar gael hyn yn iawn. Diolch yn fawr. 

15:40

Diolch. A yw hi'n iawn i mi siarad nawr, Ddirprwy Lywydd?  Ni allaf eich clywed. Mae'n ddrwg gennyf, os ydw i—. A all pawb fy nghlywed? Gallwch, da iawn. O'r gorau. Rwy'n cymryd mai fi sydd i siarad. Iawn, diolch.

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Lynne Neagle a'r pwyllgor a phawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith pwysig hwn am yr holl waith caled y maent wedi'i wneud arno. Rwy'n croesawu'r adroddiad a'i nod o fesur cynnydd yng Nghymru tuag at yr egwyddorion a nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Cafodd yr adroddiad ei gytuno cyn y cyfyngiadau symud a chyn i effaith lawn y pandemig coronafeirws ar fywydau, iechyd a llesiant plant a phobl ifanc ddod yn hysbys. Gwyddom bellach fod y canlyniadau wedi bod yn ddifrifol. Felly, mae'r adroddiad hwn yn amserol ac mae'n garreg filltir berthnasol ar gyfer gwella hawliau plant yng Nghymru.

Mae'r pwyllgor yn gwneud 16 o argymhellion i Lywodraeth Cymru a hoffwn roi sylw i rai o'r rheini yn fy sylwadau heddiw. Mae'r tri argymhelliad cyntaf yn ymwneud yn uniongyrchol â Llywodraeth Cymru. Yn ei hadroddiad i'r pwyllgor, dywedodd y comisiynydd plant nad oes hyfforddiant ar gael i Weinidogion ar sut i roi sylw dyledus i hawliau plant drwy eu rôl. Galwodd y comisiynydd am hyfforddiant gorfodol i Weinidogion—pwynt a ailadroddwyd gan Achub y Plant y DU, a ddywedodd

heb gorff cadarn o wybodaeth am hawliau plant ymhlith yr holl swyddogion a Gweinidogion, bydd yn anodd sicrhau y bydd y ddyletswydd sylw dyledus yn effeithiol ar draws portffolios cabinet a pholisi Llywodraeth Cymru.

Credwn hefyd y dylid creu rôl weinidogol cyn gynted â phosibl, gyda chyfrifoldebau clir a diffiniedig ar gyfer plant a phobl ifanc.

Roedd y pwyllgor hefyd yn pryderu am y bylchau yn y wybodaeth am hawliau plant sy'n bodoli ymhlith oedolion a phlant. Nid yw'r ymdrechion i hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'u hawliau yn cyrraedd pob plentyn, gan gynnwys y rhai a allai fod â llai o ymgysylltiad neu dan anfantais. Mae angen gwelliannau sylweddol er mwyn rhoi gwybod i'r plant sydd â'r anghenion mwyaf am eu hawliau. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu a chyhoeddi strategaeth i godi ymwybyddiaeth genedlaethol gyda chanlyniadau mesuradwy i wella gwybodaeth a hybu dealltwriaeth ehangach ymhlith y cyhoedd. Drwy gynyddu gwybodaeth am eu hawliau, mae hefyd yn dilyn y gallai fod cynnydd yn y cwynion gan blant sy'n teimlo nad yw Llywodraeth Cymru wedi cydymffurfio â'u gofynion o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Felly, mae angen inni sicrhau bod y mecanwaith cwynion yn addas i'r diben.

Ar hyn o bryd, nid yw'r system gwynion a amlinellir yn y cynllun hawliau plant yn cael ei defnyddio'n ddigonol ac mae angen ei gwella. Cafwyd beirniadaeth hefyd ei bod wedi'i hanelu at oedolion ac nad yw'n hygyrch nac yn addas i blant. Rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â hyn a chynnwys mecanwaith cwynion cryfach sy'n ystyriol o blant yn ei chynllun hawliau plant diwygiedig er mwyn sicrhau y gall ein plant a'n pobl ifanc ddiogelu eu hawliau.

Yn 2016, rhoddodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ei ddyfarniad ar y cynnydd a wnaed ar gyflawni a gwella hawliau plant yng Nghymru. Er eu bod yn cydnabod bod cynnydd wedi'i wneud, mynegwyd pryderon ynglŷn â pha mor strategol a systematig yw ymateb Llywodraeth Cymru i'r sylwadau terfynol. Dywedodd y comisiynydd plant fod y sylwadau terfynol yn ganllaw defnyddiol iawn i'r Llywodraeth o ran yr hyn y dylent fod yn ei wneud a bod diffyg ymateb manwl gan Lywodraeth Cymru yn gyfle a gollwyd. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ymateb strategol manwl yn ystod y chwe mis nesaf, yn manylu ar y cynnydd a wnaed ac yn amlinellu'r camau sydd ar waith i ateb y sylwadau terfynol, ac i ddiweddaru hyn yn flynyddol.

Lywydd, credaf y bydd yr argymhellion yn yr adroddiad hwn yn datblygu hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru yn fawr. Hoffwn annog pawb i edrych ar yr arferion da a welais ers imi ymuno â'r pwyllgor plant a phobl ifanc y llynedd a sut y maent yn gwneud pethau. Rwy'n credu ei fod yn gam i'w groesawu'n fawr ac mae'r hyn sy'n digwydd yno wedi creu argraff fawr arnaf. Felly, byddai'n wych pe gallem ailadrodd hynny drwy'r Senedd gyfan. Credaf fod hwn yn gam cadarnhaol gan y Senedd ac edrychaf ymlaen at ymateb y Gweinidog.

15:45

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon ar ran fy mhlaid, Plaid Cymru, ond hefyd fel cyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar blant a'r grŵp trawsbleidiol ar blant sy'n derbyn gofal, rolau rwy'n falch iawn ac yn ddiolchgar o gael eu rhannu gyda David Melding. Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd a'r pwyllgor am yr adroddiad rhagorol hwn, gydag argymhellion pwerus a thystiolaeth dda iawn yn sail iddynt. Rwyf hefyd yn adleisio'r diolch a fynegwyd eisoes i bawb a gymerodd ran yn y broses o roi tystiolaeth, yn enwedig plant a phobl ifanc eu hunain.

Bydd y rheini ohonom, fel Cadeirydd y pwyllgor hwn, a oedd yn Aelodau o'r Senedd hon yn 2011 pan basiwyd y Mesur hawliau plant a phobl ifanc, yn cofio nad oedd y broses yn syml o bell ffordd a bod gwrthwynebiad gan rai rhannau o Lywodraeth Cymru ar y pryd am eu bod yn teimlo bod gosod y confensiwn ar sail gyfreithiol yn cyfyngu ar y Llywodraeth. Y lleisiau mwy blaengar a orfu, a hoffwn gofnodi eto fy niolch i bawb a'n helpodd mewn cymdeithas sifil, gyda llawer ohonynt wedi mynd ymlaen i roi tystiolaeth, ac yn enwedig i academyddion Prifysgol Abertawe.

Pan basiwyd y ddeddfwriaeth gennym, roedd yn teimlo fel datblygiad cyffrous iawn ar drywydd a fu'n rhan o lwybr ein Senedd o'r dechrau, ac un o'r pethau cyntaf y bu'n rhaid inni ymdrin ag ef oedd adroddiad ofnadwy Waterhouse ar gam-drin plant. O'r dechrau un, rydym wedi trafod y materion hyn, ac roedd pasio'r ddeddfwriaeth yn teimlo fel cam pwysig ymlaen. Yn y cyd-destun hwnnw, mae'r adroddiad hwn yn siomedig mewn rhai ffyrdd, oherwydd er gwaethaf y cynnydd pendant a wnaed, mae'n amlwg fod cymaint mwy i'w wneud.

Rwyf am roi fy nghefnogaeth bersonol a chefnogaeth Plaid Cymru i'r holl argymhellion. Nid oes amser i gyfeirio atynt i gyd yn y ddadl hon wrth gwrs. Hoffwn ddechrau drwy dynnu sylw at y rheini sy'n ymwneud ag asesiadau o'r effaith ar hawliau plant. Mae angen inni drawsnewid y diwylliant fel bod pawb sy'n ymwneud â chynhyrchu'r asesiadau hyn yn eu gweld fel yr hyn y bwriedir iddynt fod, sef adnodd i helpu'r Llywodraeth i wella ymarfer, ac nid fel baich pellach. O wybod faint o bwysau sydd ar ein gwasanaethau cyhoeddus, mae'n ddealladwy os mai dyna yw'r canfyddiad o'r asesiadau effaith hyn o bryd i'w gilydd, ond nid dyna yw'r bwriad. Mae hwn yn offeryn i'n helpu ni i gyd i wneud yn well dros blant, ac mae angen newid arnom fel bod pobl yn deall hynny. Nid yw cynnwys asesiadau o'r effaith ar hawliau plant o dan asesiadau cydraddoldeb ehangach yn gweithio. Nid ydynt yno i wneud yr un pethau. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Llywodraeth yn derbyn popeth a oedd gan y pwyllgor i'w ddweud ynglŷn ag asesiadau o'r effaith ar hawliau plant.

Rwyf am roi ein cefnogaeth yn arbennig i argymhelliad 3. Mae'n bwysig iawn fod Gweinidogion Cymru, ar y brig, yn deall goblygiadau'r Mesur iddynt hwy ac i'w gwaith, ac yn deall beth y bwriedir i 'sylw dyledus' ei olygu. Mae bob amser yn risg mewn unrhyw sefydliad ein bod yn colli cof sefydliadol, ein bod yn anghofio pam fod angen y ddeddfwriaeth hon yn y lle cyntaf, ein bod yn anghofio pa mor bwysig ydyw. Mae'r argymhelliad hwn yn gwneud llawer i fynd i'r afael â hynny, ac rwy'n gobeithio y bydd pwy bynnag sy'n ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru yn frwd eu croeso iddo.

Mae'r argymhellion ynglŷn â gwneud iawn am gamweddau hefyd yn bwysig iawn. Nid wyf am geisio mynd drwyddynt fesul un, ond rwyf wedi credu ers tro nad oes gwerth i hawliau ynddynt eu hunain oni bai y gellir gorfodi'r hawliau hynny. Yn y pen draw, Lywydd, nid oes fawr o bwynt cael cyfraith os nad oes neb yn mynd i drwbl os yw'n torri'r gyfraith honno. Dyna ddiben cyfreithiau, neu fel arall gallwn gyflawni amcanion polisi gyda chyllidebau, gyda dogfennau polisi. Ond os yw'n gyfraith, rhaid bod ffordd i rywun sy'n teimlo bod y gyfraith honno wedi'i thorri—a phlant yn benodol yn yr achos hwn—allu dweud, 'Na, ni chafodd fy hawliau eu parchu, a dyma rwyf am ei weld yn digwydd o ganlyniad i hynny'. Mae'n rhan arbennig o bwysig o'r adroddiad hwn, ac roedd y dystiolaeth yn glir iawn i mi.

15:50

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Hoffwn sôn yn fyr am argymhelliad 15, fod yn rhaid gosod pob corff cyhoeddus datganoledig o dan yr un ddyletswydd 'sylw dyledus'. Credaf fod y rheini ohonom a oedd yn rhan o'r broses o basio'r ddeddfwriaeth wreiddiol yn tybio, o bosibl, pe bai'r cyfrifoldeb hwnnw'n cael ei roi ar y Llywodraeth, y byddai'r sylw dyledus hwnnw'n treiddio i lawr i'r cyrff cyhoeddus y mae'r Llywodraeth yn gyfrifol amdanynt. Er bod ymarfer rhagorol i'w gael, mae'r adroddiad yn dangos nad yw hyn wedi digwydd ym mhobman. Mae gennyf bryder penodol nad yw wedi digwydd ym mhobman ym maes addysg a bod rhai pobl sy'n gweithio ym maes addysg, lleiafrif gobeithio, yn dal i gredu bod siarad am hawliau plant yn golygu caniatáu i blant wneud beth bynnag y maent eisiau ei wneud, ac nid yw hynny'n wir wrth gwrs. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Llywodraeth yn cefnogi hyn.

Ac yn olaf, os caf sôn am argymhelliad 16. Mae ein comisiynwyr plant wedi gwneud gwaith rhagorol, ond nid yw'n iawn fod y comisiynydd yn atebol i'r Llywodraeth ac yn cael eu penodi ganddi. Mae'n codi o'r adeg mewn hanes pan gafodd rôl y comisiynydd ei chreu. Mae'n bwysig nawr ein bod yn symud at adeg pan fydd y Senedd yn penodi comisiynwyr, a'u bod yn atebol iddi hi, a chredaf y gallem sicrhau consensws trawsbleidiol i hynny yn y Cynulliad nesaf.

Lywydd, yn bendant gwelwyd cynnydd ar wireddu hawliau plant yng Nghymru. Roedd yn fraint arbennig i mi, ac roeddwn yn arbennig o falch o fod yn ôl yn y Senedd hon i bleidleisio dros ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol a rhoi diogelwch cyfartal ag oedolion i'n holl blant, ond mae'r adroddiad hwn yn dangos pa mor bell sy'n rhaid inni fynd eto. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn ei holl argymhellion a'r angen i weithredu drwyddi draw i wireddu'r hawliau hyn. Bydd y grwpiau trawsbleidiol yn parhau i weithio gyda'r pwyllgor ac yn ei gynorthwyo i graffu ar waith y Llywodraeth yn hyn o beth. Diolch yn fawr. 

15:55

A gaf fi alw ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl? Julie Morgan.

Diolch yn fawr iawn. Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd ac i holl aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am yr adroddiad cynhwysfawr iawn hwn ar hawliau plant yng Nghymru. Mae ymateb llawn y Llywodraeth i'r argymhellion i'w weld ar dudalennau gwe'r pwyllgor. Yn ogystal â'r ymatebion i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, rwyf hefyd wedi cynnal trafodaeth bord gron gyda rhanddeiliaid allweddol o'r sector plant i glywed eu barn ar hawliau plant yng Nghymru, ac roeddwn wrth fy modd fod clerc y pwyllgor wedi gallu bod yn bresennol ar ran y pwyllgor a bod rhai o'r Aelodau wedi gallu dod hefyd.

O'r 16 argymhelliad, rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru yn derbyn 11 ohonynt, ac yn derbyn un argymhelliad pellach mewn egwyddor. Rydym wedi gwrthod pedwar o'r argymhellion. Fe ddefnyddiaf yr amser hwn i fynd drwy'r argymhellion.

Mae argymhelliad 1 yn gofyn inni ailadrodd pwysigrwydd hawliau plant ar bob cyfle, rhywbeth rydym o ddifrif yn ei gylch ac rydym wedi'i dderbyn wrth gwrs. Credaf fod cryn dipyn o sylwadau wedi bod heddiw ynghylch yr adeg y pasiwyd y Mesur am y tro cyntaf a'r brwdfrydedd a welwyd ar y pryd, ac rwy'n credu mai'r hyn rydym am ei wneud yw adfer y brwdfrydedd hwnnw. Rydym am ailddatgan pwysigrwydd hawliau plant, ac rydym yn derbyn argymhelliad 1.

Mae cynnydd eisoes wedi'i wneud ar fwrw ymlaen â nifer o'r argymhellion. Mae pump o'r argymhellion a dderbyniwyd wedi'u hymgorffori yn y cynllun hawliau plant diwygiedig a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr ac sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd. Argymhellion 3, 4, 5, 10 a 12 yw'r rhain. Daw'r ymgynghoriad i ben ar 26 Mawrth, ac edrychaf ymlaen at gael barn y pwyllgor a'r Aelodau ar ein cynllun diwygiedig. 

Mae gwaith ar y gweill hefyd ar argymhelliad 8. Byddwn yn datblygu strategaeth codi ymwybyddiaeth genedlaethol mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol. Soniodd nifer o'r Aelodau, a'r Cadeirydd yn sicr, am ddiffyg ymwybyddiaeth pobl o hawliau plant. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gyflawni gofynion deddfwriaethol pob asesiad effaith, gan gynnwys lle mae'r rhain yn ymwneud ag asesu ein penderfyniadau ariannol, fel y nodir yn argymhelliad 6. 

Derbyniwyd argymhelliad 9, gan y bydd datblygu ymwybyddiaeth o hawliau dynol yn rhan orfodol o'r cwricwlwm i Gymru. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ein hymateb strategol i sylwadau terfynol Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn 2016, a dyna yw argymhelliad 13. Yn ogystal, rydym yn paratoi ymateb i Lywodraeth y DU ar argymhelliad 11, ac rwy'n bwriadu cyhoeddi'r ddau ddiweddariad cyn diwedd tymor y Senedd. Rydym hefyd wedi derbyn argymhelliad 14, a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn flynyddol. 

Mae argymhelliad 3, darparu hyfforddiant i Weinidogion, wedi'i dderbyn mewn egwyddor, ac rwy'n derbyn yn llwyr mai dyma'r peth iawn i'w wneud, oherwydd ni fyddai llawer o'r Gweinidogion wedi bod o gwmpas pan basiwyd y Mesur hwn. Rwy'n credu bod Helen Mary Jones wedi cyfeirio at wybodaeth hanesyddol am hanes y ddeddfwriaeth hon. Felly, rydym yn datblygu dull o hyfforddi ar gyfer cyflwyno hyfforddiant i Weinidogion.

Mae hynny'n gadael y pedwar argymhelliad nad ydym wedi gallu eu derbyn. Argymhellion 2, 7, 15 ac 16 yw'r rheini. Mae argymhelliad 2 yn ymwneud â chael Gweinidog penodol. Mae'r ddyletswydd sylw dyledus o dan adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn glir fod y ddyletswydd hon yn cael ei gosod ar holl Weinidogion Cymru wrth iddynt arfer unrhyw un o'u swyddogaethau. Yn ogystal â hyn, mae gennym Weinidog eisoes sy'n gyfrifol am y gwaith penodol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyrwyddo hawliau plant, a fi yw'r Gweinidog hwnnw. Ond rwy'n credu ei bod yn hollol gywir nad ydym yn cyfyngu'r gwaith ar hawliau plant i un Gweinidog penodol. Rwy'n credu bod y ddyletswydd sylw dyledus yn ei gwneud yn glir fod rhaid i'r holl Weinidogion ysgwyddo cyfrifoldeb am blant ac am hawliau plant. Felly, dyna pam ein bod yn gwrthod yr argymhelliad hwnnw.

Argymhelliad 7: rydym yn croesawu barn y pwyllgor, ond ein safbwynt o hyd yw ein bod yn credu bod mabwysiadu dull integredig o asesu effaith y gyllideb ddrafft drwy'r asesiad effaith integredig strategol yn adlewyrchiad gwell o'n cyfrifoldeb i ystyried ein penderfyniadau yn eu cyfanrwydd, drwy nifer o lensys, er mwyn deall eu heffaith, gan gynnwys ystyriaeth o hawliau plant. Ond rwy'n bwriadu cael trafodaethau pellach ynglŷn â hynny gyda'r Trefnydd.

Argymhelliad 15: ym mis Ionawr 2020, comisiynodd Llywodraeth Cymru gonsortiwm ymchwil dan arweiniad Prifysgol Abertawe i wneud ymchwil ar gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. A bydd yr adroddiad terfynol, gan gynnwys y prif ganfyddiadau ac argymhellion, yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd mis Chwefror 2021. Felly, mae angen inni aros am ganlyniadau'r gwaith ymchwil hwn cyn inni wneud unrhyw benderfyniadau pellach am argymhelliad 15.

Argymhelliad 16: Rwy'n deall barn y pwyllgor a'r comisiynydd ar y pwnc hwn. Fodd bynnag, at ei gilydd, credaf fod y trefniant presennol ar gyfer yr holl gomisiynwyr—oherwydd yn amlwg, byddai'n cynnwys mwy na'r comisiynydd plant yn unig—sy'n cynnwys panel penodi trawsbleidiol o Aelodau o'r Senedd ar gyfer penodiadau, yn gweithio'n dda, ac nid ydym yn gweld angen i newid y trefniant mewn gwirionedd, ac yn ogystal, bydd angen deddfwriaeth sylfaenol ar gyfer unrhyw newid i'r trefniadau penodi ac atebolrwydd sy'n ymwneud â Chomisiynydd Plant Cymru, ac nid oes amser i greu deddfwriaeth yn nhymor y Senedd hon, felly mae hwnnw'n rheswm ymarferol pam na allwn ei wneud, ond at ei gilydd, credaf ei fod yn gweithio'n dda.

Felly, dyna fynd drwy'r argymhellion yn gyflym, a hoffwn ddiolch yn fawr iawn am safbwynt Laura Anne a chyfraniad Helen Mary, a diolch i'r Cadeirydd am arwain y pwyllgor i wneud argymhellion mor dda, ac mor ymarferol a chlir, sy'n sicr yn ein hannog i wneud popeth yn ein gallu i hyrwyddo'r maes hwn o waith plant. Dywedodd y Cadeirydd ar ddechrau ei sylwadau nad yw hawliau plant erioed wedi bod mor bwysig ag yn y pandemig hwn, a hoffwn orffen, mewn gwirionedd, drwy ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr â'r sylw hwnnw. Yn sicr, wrth benderfynu ar y mesurau i'w rhoi ar waith yn ystod y pandemig, mae hawliau plant wedi bod ar frig y rhestr i'r Llywodraeth. Rydym hefyd wedi gallu gweithio gyda'r comisiynydd plant a phartneriaid eraill i sicrhau mai ni, yn ôl yr hyn a ddywed UNICEF wrthyf, yw'r unig Lywodraeth mewn unrhyw wlad sydd wedi cynhyrchu'r holiadur plant helaeth a gynhyrchwyd gennym ac a lwyddodd i gyrraedd 24,000 o blant. Felly, rwy'n credu bod cynhyrchu hwnnw'n dangos ein hymrwymiad i hawliau plant. A hefyd, hoffwn dynnu sylw'r Senedd at y cyfarfodydd niferus a gafwyd yn uniongyrchol gyda phlant yn ystod y cyfnod hwn. Yn sicr, rwyf wedi cynnal nifer o gyfarfodydd; gwn fod y Prif Weinidog wedi ymgynghori â phlant yn ystod y cyfnod hwn, a gwn fod y pwyllgor wedi gwneud llawer o waith yn ymgynghori â phlant. Felly, diolch yn fawr iawn i'r pwyllgor am yr adroddiad hwn, ac edrychaf ymlaen at hyrwyddo ei argymhellion.

16:00

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Rwyf am geisio nodi rhai o'r pwyntiau a wnaed. A gaf fi ddiolch i Laura Jones am ei chyfraniad ac am ei geiriau caredig am y pwyllgor? Credaf i Laura dynnu sylw'n werthfawr iawn at yr hyn a ddywedodd y pwyllgor am bwysigrwydd cael rôl weinidogol bwrpasol ar gyfer plant, ac er gwaethaf yr hyn rydym newydd ei glywed gan y Gweinidog, dyna yw safbwynt y pwyllgor ar y mater o hyd, gan fy mod yn credu i'r pwyllgor weld ei bod hi weithiau'n anodd sicrhau dull trawsadrannol o weithredu ar blant heb gael rhyw fath o strwythur ar waith, fel y gwnaethom pan oedd is-bwyllgor Cabinet ar blant yn bodoli. Felly, rydym yn awyddus iawn i rai strwythurau gael eu rhoi ar waith ac rwy'n gobeithio y gallwn barhau i drafod hynny ymhellach.

Fel y dywedodd Laura, mae'r mecanwaith cwynion yn hanfodol bwysig, ac adleisiwyd hynny gan Helen Mary Jones, a ddywedodd fod hawliau'n ddiystyr oni bai fod gennych ffordd o wneud iawn am gamweddau, ac mae hynny'n hollol gywir. Dyna pam y credwn fod angen bwrw ymlaen â hyn ar frys, fel y gallwn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu arfer eu hawliau.

Hoffwn ddiolch i Helen Mary Jones am ei chyfraniad. Gwn fod Helen Mary wedi bod ag ymrwymiad hirsefydlog iawn ym maes hawliau plant. Roedd yn werthfawr iawn ei bod wedi ein hatgoffa o'r ffordd yr aethpwyd ati i gael y comisiynydd plant cyntaf un, rhywbeth a oedd wedi'i gynnwys yn adroddiad sobreiddiol Waterhouse. Rwy'n credu bod rhaid inni gofio nad pethau ychwanegol yw'r rhain, yr hawliau hyn—mae'r rhain yn ymwneud yn llwyr â diogelu plant a phobl ifanc. 

Diolch i chi am ganolbwyntio ar yr asesiadau o'r effaith ar hawliau plant, a bydd y pwyllgor yn parhau i fynd ar drywydd y rheini. Rydym hefyd yn teimlo, fel chithau, nad yw asesiadau effaith strategol yn ddigon da, ac rydym wedi bod yn cael y ddeialog barhaus honno gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r angen am asesiad ar wahân o'r effaith ar hawliau plant yn y gyllideb. Oherwydd mae'n hanfodol ein bod yn cofio bod plant yn grŵp unigryw, ac nad oes ganddynt bleidlais, ac felly nid oes ganddynt yr un llais â grwpiau eraill mewn cymdeithas, felly mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau'n bendant fod y penderfyniadau hollbwysig hynny'n ystyried eu hanghenion.

Ategodd Helen Mary y pwynt am hyfforddiant hefyd, a gwn fod hynny wedi'i dderbyn mewn egwyddor, yr argymhelliad ar hyfforddiant. Rwy'n gobeithio y gellir bwrw ymlaen â hynny. Gwn fod pawb yn brysur, ond mae'n gwbl hanfodol fod pawb yn Llywodraeth Cymru yn deall yn glir beth yw'r disgwyliadau o dan y Mesur hawliau plant. 

Diolch, Helen Mary, am eich cefnogaeth ar yr angen i bob corff cyhoeddus gael eu gosod dan ddyletswydd sylw dyledus. Gobeithio bod hynny'n rhywbeth y gallwn barhau i'w drafod ymhellach gyda Llywodraeth Cymru, ac roeddwn am ddweud mai un o'r sesiynau tystiolaeth mwyaf pwerus a gawsom yn ystod yr ymchwiliad oedd yr un gydag Ysbyty Plant Arch Noa, a ddaeth i ddweud wrthym sut roedd diffyg asesiadau o'r effaith ar hawliau plant mewn gwariant ymchwil yng Nghymru yn cael effaith enfawr ar eu gwaith, ac nad oeddem yn gweld y gwaith ymchwil y dylem fod yn ei weld ym maes iechyd plant, a bod plant—fel un enghraifft weladwy iawn—yn gorfod cael eu hanfon i Lundain i gael mathau penodol o driniaeth canser oherwydd nad oedd yr ymchwil honno'n digwydd yng Nghymru. Felly, rwy'n credu na ddylem byth anghofio nad syniadau haniaethol yw'r rhain, maent yn bethau diriaethol sy'n effeithio ar fywydau plant a phobl ifanc. 

Rwy'n cytuno'n llwyr ynglŷn â rôl y comisiynydd plant. Nodaf ymateb parhaus Llywodraeth Cymru ar hynny, a'r diffyg amser nawr ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol. Ond rwy'n gobeithio bod hynny'n rhywbeth a fydd yn cael ei ystyried yn y Senedd nesaf, oherwydd mae'n gwbl amlwg, yn fy marn i. Sefydlwyd swydd y comisiynydd plant fel y mae ar hyn o bryd pan oedd y Cynulliad yn gorff gwahanol iawn, pan na cheid pwerau ar wahân, ac rwy'n credu ei bod hi'n iawn bellach i symud at fodel llawer mwy cadarn sy'n sicrhau rhyddid llwyr i'r comisiynydd plant.  

A gaf fi ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei hymateb ac am ei hymgysylltiad cyson a pharhaus â'r pwyllgor, a'r ymrwymiad personol a diffuant sydd ganddi i hawliau plant? Rwy'n croesawu'r hyn rydych wedi'i ddweud am barhau i drafod rhai o'r materion lle nad oeddech yn gallu derbyn yr argymhellion yn llawn, ac mae'r pwyllgor yn edrych ymlaen yn fawr at gael y ddeialog honno gyda chi, a bwydo i mewn i'r cynllun hawliau plant newydd.

A hoffwn gloi drwy ddiolch eto i bawb a ymatebodd i ymchwiliad y pwyllgor, yr holl staff yn nhîm y pwyllgor sydd, fel bob amser, wedi gweithio mor galed, ond rwy'n credu bod rhaid i'r diolch terfynol fynd i'r plant a'r bobl ifanc a gyfrannodd at yr ymchwiliad, ac a roddodd o'u hamser i ddweud wrthym beth y mae hawliau plant yn ei olygu iddynt hwy. Ac mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau yn awr ein bod yn bwrw yn ein blaenau ac yn parhau i wireddu'r hawliau hynny'n llawn. Diolch yn fawr.

16:10

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld gwrthwynebiad, felly o dan Reol Sefydlog 12.36 derbyniwyd adroddiad y pwyllgor.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl Grŵp Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio: Mesurau yn y dyfodol i atal a mynd i'r afael â lledaeniad COVID-19

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, gwelliant 2 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 3 a 4 yn enwau Mark Reckless a Gareth Bennett. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddewiswyd gwelliant 5 a gyflwynwyd i’r cynnig.

Symudwn ymlaen yn awr at ddadl grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio: mesurau yn y dyfodol i atal a mynd i'r afael â lledaeniad COVID-19, a galwaf ar David Rowlands i wneud y cynnig. David Rowlands.

Cynnig NDM7547 Caroline Jones

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y niwed a achosir gan fesurau a gymerwyd i atal feirws SARS-CoV-2 rhag lledaenu.

2. Yn credu bod mesurau lliniaru coronafeirws wedi arwain at ddifrod i economi Cymru ac wedi effeithio'n negyddol ar gyfleoedd bywyd cenedlaethau iau.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i warantu mai'r cyfyngiadau symud presennol yw'r rhai olaf, drwy sicrhau:

a) bod gan Gymru drefn brofi, olrhain ac ynysu ddigonol a'i bod yn darparu cyfleusterau i ganiatáu i unigolion ynysu eu hunain yn llwyr oddi wrth bob cyswllt wyneb yn wyneb;

b) bod gan GIG Cymru fwy o welyau gofal critigol, gyda nifer y gwelyau ICU y pen yn nes at y nifer o welyau sydd gan yr Almaen neu'r Unol Daleithiau, y le mae llai o farwolaethau y pen o'r boblogaeth na Chymru.

4. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i roi terfyn ar y loteri cod post cymorth busnes, gan sicrhau bod pob busnes yng Nghymru sy'n gorfod cau o ganlyniad i gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru yn cael ei ddigolledu'n ddigonol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad i'r ddadl hon drwy ailddatgan fy niolch parhaus i bawb yn ein GIG a gwasanaethau hanfodol eraill, sy'n gweithio mor galed yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn. Rwyf hefyd am ddechrau fy nghyfraniad drwy ymddiheuro am y llu o ystadegau sydd ynddo, ond mae ystadegau'n cael eu defnyddio i orfodi'r cyfyngiadau symud, felly rhaid craffu ar yr ystadegau hyn a'u herio. 

Yr hyn sy'n fy syfrdanu yw mai ymateb anochel Llywodraeth Cymru i'r cyfyngiadau a basiwyd gan Lywodraeth y DU yw'r cyfyngiadau presennol, ac eto mae Plaid Cymru wedi cefnogi'r cyfyngiadau symud, heb gwestiynu'r polisïau a arweinir gan Lywodraeth y DU, a heb gwestiynu'r ffigurau y seiliwyd y polisïau hyn arnynt. Wrth gwrs, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn gweithio gyda'u dwylo wedi'u clymu am na allant feirniadu polisi Llywodraeth y DU. Felly, mae'r ddwy blaid yn cyfyngu eu beirniadaeth i sylw anffodus gan y Prif Weinidog am y cynllun brechu gwib, sy'n eithaf dealladwy o ystyried y pwysau sydd arno, a dull braidd yn araf Cymru o gyflwyno brechlynnau, y credaf fod Llywodraeth Cymru wedi ymroi i'w gywiro'n gyflym. Mae'n ymddangos mai fy ngrŵp i'n unig a rhai aelodau annibynnol yw'r unig ddau wrthwynebiad i'r strategaeth cyfyngiadau symud.

Yn groes i honiadau'r Prif Weinidog mewn dadleuon blaenorol, mae fy ngrŵp a minnau'n cydnabod bod COVID-19 yn glefyd peryglus. Yr hyn rydym yn ei ddadlau yw nad yw'n fwy peryglus nag unrhyw haint COVID arall, a gadewch imi esbonio yma fod COVID yn derm generig ar lawer o heintiau'r llwybr anadlu, ac mae ffliw cyffredin yn un ohonynt, yn ogystal â'r feirws SARS yn 2003, a oedd, gyda llaw, â chyfradd marwolaeth o un o bob 10. Rydym yn dadlau felly bod y mesurau a fabwysiadwyd ar gyfer pob un—[Anghlywadwy.]—COVID-19 yn gwbl anghymesur â'r perygl y mae'n ei achosi i 99.9 y cant o'r boblogaeth. Cyfeirir at gyfradd yr haint fel y rheswm dros y mesurau llym y mae'r boblogaeth yn ddarostyngedig iddynt, ond mae'r drefn brofi a ddefnyddir i ganfod heintiau, y prawf adwaith cadwynol polymerasau, yn cael ei herio fwyfwy fel arf addas, neu ddibynadwy hyd yn oed. Yn wir, mae nifer o achosion llys ar gychwyn ym mhob rhan o'r byd i herio cyfreithlondeb cyfyngiadau symud yn seiliedig ar y profion hyn.

A gaf fi droi yn awr at gywirdeb yr ystadegau marwolaethau COVID, sydd wrth gwrs yn ganolog i'r cyfyngiadau symud rydym yn ddarostyngedig iddynt? A phe bai'r gwir ffigurau'n cael eu rhoi, fe welid nad yw'r feirws fawr ddim peryclach, os o gwbl, na chlefydau heintus eraill sy'n gyffredin yn y boblogaeth bob blwyddyn. Rwy'n ailadrodd eto mai 92,000 oedd ffigur y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer marwolaethau o glefydau heintus yn 2018, ffigur y mae holl Lywodraethau'r DU yn dewis ei anwybyddu. Fodd bynnag, os derbyniwn fod y ffigur wedi'i ddatgan, dywedir wrthym fod 90,000 o farwolaethau COVID-19 wedi bod a bod 3.6 miliwn wedi profi'n bositif am y clefyd. Hyd yn oed yn ôl yr ystadegau hyn sydd wedi'u gorliwio, golyga mai 2.5 y cant yn unig yw'r gyfradd farwolaeth sydd gennym. Serch hynny, mae amcangyfrifon gan arbenigwyr yn ddiweddar yn dweud bod o leiaf un o bob wyth o'r boblogaeth â'r coronafeirws arnynt, neu wedi'i gael. Mewn poblogaeth o 68 miliwn, mae hynny ddwywaith y nifer sydd wedi cael prawf positif hyd yma, felly gellir cyfrifo bod y gyfradd farwolaethau ychydig dros 1 y cant.

Fodd bynnag, os edrychwn ymhellach ar yr ystadegau, nid yw'r ffigur o 90,000 yn gwahaniaethu ar gyfer marwolaethau lle roedd COVID yn achos gwaelodol, a lle ceir cyfeiriad yn unig at COVID ar y dystysgrif marwolaeth. Felly, gallwn allosod bod y marwolaethau gwirioneddol o ganlyniad uniongyrchol i COVID o'r ffigurau hyn yn debygol o fod tua 60,000, sy'n golygu bod cymhareb wirioneddol y marwolaethau o'r haint yn llai nag 1 y cant. Mae'r ffigur hwn yn cyd-fynd â gwyddonwyr yng Ngholeg Imperial Llundain ac yn cael ei adleisio gan lawer o sefydliadau amlwg eraill ledled y byd, sy'n amcangyfrif mai dim ond 0.66 y cant yw cymhareb y marwolaethau o COVID-19. Mae'r darlun ehangach yn dangos mai cyfanswm y ffigurau ar gyfer marwolaethau yng Nghymru a Lloegr yn 2020 oedd 538,000. Y ffigur ar gyfer 2019 oedd 599,000 ac nid oedd y ffigur ar gyfer 2018 yn llawer is na 2020. Mae'r ffigurau hyn yn codi'r cwestiwn sylfaenol: a ydym yn wynebu pandemig marwol o'i gymharu â blynyddoedd eraill? Ac mae'n amlwg mai 'na' yw'r ateb. Yn ogystal, mae'r mwyafrif helaeth o'r marwolaethau o COVID ymysg pobl dros 75 oed. Yn erbyn hyn, mae Llywodraeth y DU ei hun wedi amcangyfrif y bydd o leiaf 200,000 o bobl, dros y blynyddoedd nesaf, yn marw o ganlyniad uniongyrchol i'r cyfyngiadau symud, a bydd llawer ohonynt yn llawer iau na 75. Mae'r ffigurau hyn—unwaith eto, i gyd yn seiliedig ar ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol—yn dangos nad oes pandemig go iawn yn bodoli a bod y niwed gormodol y mae'r cyfyngiadau symud yn ei gael ar fusnesau ac iechyd cyffredinol pobl yn gwbl anghymesur â bygythiad COVID-19. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

16:15

Diolch. Rwyf wedi dethol pedwar gwelliant i'r cynnig. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23, nid yw gwelliant 5 wedi'i ddethol. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Russell George i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Russell.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod effaith COVID-19 ar wasanaethau cyhoeddus a busnes yng Nghymru.

2. Yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd i ddiogelu bywydau a bywoliaethau yng Nghymru a chefnogi ymateb y sector cyhoeddus i'r pandemig, gan gynnwys:

a) £5.2 biliwn o gymorth ariannol i Lywodraeth Cymru;

b) y cynllun cadw swyddi drwy gyfnod y coronafeirws;

c) y cynllun cymorth incwm i’r hunangyflogedig

d) cynllun benthyciadau tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws

e) y cynllun benthyciadau arfer;

f) caffael brechlynnau a cyfarpar diogelu personol yn y DU; a

g) defnyddio'r lluoedd arfog.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) dyrannu'r adnoddau nas defnyddiwyd sy'n weddill a ddaeth i law wrth Lywodraeth y DU i gefnogi busnesau Cymru;

b) rhoi terfyn ar ddosbarthu cymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau ar sail cyntaf i'r felin a chanolbwyntio adnoddau ar y rhai mwyaf anghenus;

c) gwarantu bod cymorth busnes ar gael ar unwaith pan gaiff cyfyngiadau eu cyflwyno; a

d) datblygu cynllun cynhwysfawr i sicrhau adferiad yn dilyn y pandemig gyda phrosiectau seilwaith arloesol ac amgylchedd croesawgar i fusnesau yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.