Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
13/01/2021Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. Dwi eisiau atgoffa Aelodau hefyd am y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn, ac mae'r rheini'n berthnasol wrth gwrs i'r cyfarfod yma heddiw.
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid yw'r eitem gyntaf ar ein hagenda ni, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan John Griffiths.
1. Pa ddarpariaeth ariannol bellach y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gwneud o fewn ei chyllideb flynyddol i fynd i'r afael ag effaith COVID-19 ar anghydraddoldebau a oedd eisoes yn bodoli yng Nghymru? OQ56099
Diolch. Gan adeiladu ar y dyraniadau a wnaed eleni i liniaru effaith yr argyfwng ar y rhai mwyaf agored i niwed, mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22 yn nodi cynlluniau sy’n cynnwys £23.1 miliwn yn ychwanegol ar gyfer prydau ysgol am ddim a £200 miliwn ar gyfer tai fforddiadwy a thai cymdeithasol.
Diolch, Weinidog. Credaf ei bod yn amlwg fod y pandemig wedi cael effaith arbennig ar y rheini a oedd eisoes yn ei chael hi'n anodd mewn sawl ffordd—felly, mae pobl o gefndiroedd mwy difreintiedig wedi dioddef mwy, o ran iechyd, yn economaidd ac yn gymdeithasol. Yn y cyd-destun hwnnw, croesawaf y £23 miliwn ar gyfer ehangu'r hawl i brydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau hyd at y Pasg y flwyddyn nesaf. Credaf fod hynny’n unol â'r hyn y mae sefydliadau fel Sefydliad Joseph Rowntree wedi'i ddweud—fod angen ichi gynyddu incwm teuluoedd a lleihau eu halldaliadau er mwyn trechu tlodi. A chredaf ei bod yn dda iawn fod pobl fel Marcus Rashford, sydd wedi ymgyrchu mor effeithiol dros y pethau hyn, wedi croesawu cyllid Llywodraeth Cymru o £23 miliwn a mwy. Ac mae'n dda gweld ymgyrchwyr o’r fath, Weinidog, yn defnyddio eu proffil a'u profiad bywyd eu hunain i helpu eraill ac yn arddel y safbwynt cymdeithasol ehangach hwnnw. Mae'n dda iawn hefyd, yn y cyfnod hwn o ansicrwydd yn ystod y pandemig, fod y rhaff achub hon ar gael i'n teuluoedd. Felly, gyda'r holl fanteision hynny yn sgil y ddarpariaeth hon, Weinidog, tybed a fydd Llywodraeth Cymru, maes o law, yn ystyried gwneud hon yn ddarpariaeth barhaol yma yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn i John Griffiths am godi'r mater pwysig hwn. Mae’n wir, wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ymestyn ein darpariaeth o brydau ysgol am ddim drwy'r gwyliau ymhell cyn iddynt wneud y penderfyniad hwnnw dros y ffin yn Lloegr. Ac rwy’n cymeradwyo pobl ysbrydoledig fel Marcus Rashford, sydd wedi defnyddio'r llwyfan sydd ganddo i sicrhau newid dros y ffin. Rwyf yn meddwl o ddifrif fod hynny'n ysbrydoledig.
O ran symud ymlaen, rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cynnwys y dyraniad hwn yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf hefyd, er mwyn rhoi sicrwydd o’r fath i deuluoedd. Daw hynny ochr yn ochr â'r cyllid ychwanegol o £2.2 miliwn rydym yn ei ddarparu ar gyfer rhaglen gwella gwyliau’r haf, ac mae’r rhaglen honno ar gyfer plant rhwng saith ac 11 oed mewn ardaloedd difreintiedig yn ystod gwyliau'r haf fel y gallant elwa o gyfarfod â'u ffrindiau, o ddysgu mewn amgylchedd llawer mwy anffurfiol, a chael mynediad at brydau iach drwy'r dydd, ac ati. Felly, rwy'n falch y bydd y ddwy fenter ar waith ochr yn ochr â'i gilydd.
O ran blynyddoedd i ddod, yn anffodus unwaith eto, cylch gwario un flwyddyn yn unig rydym wedi’i gael gan Lywodraeth y DU. Ac roeddem yn disgwyl yn awchus am ein hadolygiad cynhwysfawr o wariant, nad yw wedi cyrraedd eto, ond gobeithiaf y byddwn mewn sefyllfa maes o law i gael golwg fwy hirdymor ar gyllid cyhoeddus ac i allu darparu rhai setliadau amlflwydd a rhoi sicrwydd ble bynnag y gallwn.
Fel y dywedodd y Gweinidog, mae John Griffiths wedi codi cwestiwn pwysig iawn. Credaf mai un o'r pethau mwyaf syfrdanol, yn sicr pan fyddwn yn edrych yn ôl ar hyn yn y dyfodol—y pandemig hwn—fydd y ffordd y mae wedi effeithio'n anghymesur ar wahanol rannau o’r gymdeithas a'r rheini sy'n dioddef o anghydraddoldebau cymdeithasol ac iechyd sy'n bodoli eisoes. Weinidog, rydych wedi sôn am brydau ysgol am ddim, rydych wedi sôn am dai cymdeithasol; ceir anghydraddoldebau iechyd hefyd, megis diabetes, dewisiadau ynghylch ffyrdd o fyw, gordewdra. Felly, nid oes un ateb syml i’w gael, nac oes, er mwyn mynd i’r afael â'r broblem wrth symud ymlaen? Felly, o ran y gyllideb hon a chyllidebau'r dyfodol, sut y byddwch yn sicrhau y bydd yr holl elfennau gwahanol hyn yn cael eu dwyn ynghyd, fel y gellir cael trosolwg, er mwyn—gobeithio na fyddwn yn gweld pandemig arall fel hwn yn y dyfodol agos, ond mae'r anghydraddoldebau hyn yn bodoli eisoes beth bynnag—er mwyn datrys y materion hyn, fel nad yw pobl dlotach yn cael eu heffeithio'n anghymesur yn y dyfodol pan fydd problemau iechyd fel hyn yn codi?
Mae Nick Ramsay yn llygad ei le wrth ddweud bod anghydraddoldebau wedi eu gwaethygu gan bandemig COVID, ac rydym wedi gweld sefyllfa’r bobl a oedd eisoes dan anfantais yn gwaethygu o ganlyniad i'r pandemig. Credaf fod y gwaith rydym wedi'i wneud i gefnogi'r trydydd sector yn y flwyddyn ariannol hon wedi bod yn bwysig iawn o ran ehangu ein cyrhaeddiad i mewn i gymunedau. Rydym ni, yn y flwyddyn ariannol hon, wedi darparu £26.5 miliwn drwy ymateb ein trydydd sector i argyfwng COVID-19, a chyflawnwyd hynny drwy ddulliau amlasiantaethol gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a’r 19 cyngor gwirfoddol yn gweithio ochr yn ochr â’u partneriaid statudol. Felly, mae dros 270 o sefydliadau wedi cael cymorth o dan y gronfa argyfwng i adfer y gwasanaethau gwirfoddol, gan alluogi bron i 9,000 o wirfoddolwyr i roi cymorth i dros 975,000 o fuddiolwyr, ac mae'r cyllid hwnnw’n darparu ar gyfer ystod o wahanol fathau o gymorth, gan gynnwys darparu cyngor, mynediad at barseli bwyd, dosbarthu meddyginiaethau ac yn y blaen. Felly, credaf fod ein hymateb i'r argyfwng hwn wedi creu rhwydwaith cryf iawn y gallwn adeiladu arno yn y blynyddoedd i ddod.
2. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i gefnogi pobl y mae'r coronafeirws yn Nwyrain De Cymru wedi effeithio arnynt wrth lunio cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22? OQ56117
Gan gydnabod mai’r rhai mwyaf agored i niwed sydd wedi cael eu taro galetaf gan y pandemig, rydym yn buddsoddi £40 miliwn ychwanegol ar gyfer y grant cymorth tai ac yn darparu £176 miliwn ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol fel y gallant barhau i gefnogi pobl a chymunedau yr effeithir arnynt gan y coronafeirws ledled Cymru.
Diolch, Weinidog. Fe ddywedoch chi wrth y Pwyllgor Cyllid yr wythnos diwethaf fod angen gwario oddeutu £800 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn yn y flwyddyn ariannol hon os yw Llywodraeth y DU yn parhau i wrthod rhoi hyblygrwydd i chi ei gario ymlaen. Fe sonioch chi bryd hynny eich bod yn disgwyl defnyddio rhywfaint o’r arian hwn i roi rhagor o gymorth i fusnesau, a'ch bod hefyd yn ystyried rhoi mwy tuag at gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a'r gronfa cymorth dewisol. Hoffwn achub ar y cyfle i gynnig ambell syniad arall. Er enghraifft, mae Sefydliad Bevan wedi cyflwyno pum cynnig, gan gynnwys ymestyn y taliad hunanynysu ar gyfer gweithwyr ar incwm isel, darparu gliniaduron i blant sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol, a dileu benthyciadau o dan y cynllun benthyciadau arbed tenantiaeth. Mae'r grŵp ymgyrchu Undod hefyd wedi awgrymu cynnig ysbaid o dalu’r dreth gyngor i bobl sy'n byw yn y ddau fand isaf fel ffordd o ddarparu cymorth mawr ei angen i'r rheini sydd ei angen fwyaf. Ac yn olaf, Weinidog, syniad arall fyddai cynnig cyllid i gynghorau yn lle eu codiadau arfaethedig i'r dreth gyngor. Gwn fod llawer o drigolion, gan gynnwys pobl yng Nghaerffili er enghraifft, yn ofni’r cynnydd o 4 y cant y maent yn ei wynebu. Felly, Weinidog, a wnewch chi ystyried rhai o'r syniadau hyn os ydych mewn sefyllfa i fod angen dyrannu arian ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon?
Diolch i Delyth am godi'r materion pwysig iawn hyn, ac yn wir, yn y Pwyllgor Cyllid ddydd Gwener diwethaf, nodais ein sefyllfa ariannol gyfredol yn ystod y flwyddyn a rhai o'r dyraniadau rwy’n disgwyl eu gwneud. Felly, soniodd Delyth am y dyraniadau posibl ar gyfer cymorth pellach i fusnesau, cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, a chymorth arall a allai fod ar gael ar gyfer y cynghorau a thrwyddynt, yn ogystal â’r gronfa cymorth dewisol sydd wedi bod yn allweddol er mwyn cefnogi pobl sydd wedi cael eu taro’n wirioneddol galed gan y pandemig.
Felly, byddaf yn gwneud cyfres o ddyraniadau rhwng nawr a'r drydedd gyllideb atodol ym mis Chwefror. Rwy'n cael trafodaethau yn rhai o'r meysydd a godwyd, er enghraifft, mater diwallu anghenion plant sy’n dal i fod wedi'u hallgáu'n ddigidol. Rydym wedi darparu cryn dipyn o gyllid hyd yma ac wedi galluogi llawer o blant i gael dyfeisiau MiFi ac offer arall sydd ei angen arnynt i fynd ar-lein i allu cymryd rhan yn eu dosbarthiadau, ond rydym yn ymwybodol iawn fod mwy i'w wneud yn y maes hwnnw. Felly, dyna un o'r meysydd rwy’n cael trafodaethau penodol yn eu cylch gyda'r Gweinidog addysg gyda'r bwriad o weld beth arall y gallwn ei wneud yn y maes hwnnw. Ond fel rwy'n dweud, rhwng nawr a'r drydedd gyllideb atodol, rwy'n bwriadu gwneud rhai dyraniadau sylweddol iawn.
Bydd gwybodaeth, sicrwydd a chyllid parhaus yn gwbl allweddol er mwyn cadw ein busnesau yng Nghymru yn fyw eleni ac yn y blynyddoedd i ddod. Mae'n amlwg, Weinidog, y bydd angen cymorth y Llywodraeth ar fusnesau Cymru, cymorth ariannol am beth amser ar ôl i'r pandemig hwn ddod i ben, ond a allwch roi sicrwydd iddynt y bydd darparu'r cymorth ariannol hwnnw y mae ei wir angen arnynt, ac y bydd ei wir angen arnynt, yn cael blaenoriaeth wrth ichi wneud penderfyniadau ynghylch llunio cyllidebau yn y dyfodol? A beth rydych wedi'i wneud i roi cymorth i’r busnesau sydd wedi cwympo drwy’r bylchau o ran gallu cael cyllid y tro hwn, gan nad ydym am golli’r busnesau hollbwysig hynny? Diolch.
Diolch yn fawr am godi'r cymorth i fusnesau, gan fod diogelu bywydau a bywoliaeth pobl wedi bod yn flaenoriaethau i ni yn ystod ein hymateb i'r pandemig. Ac fe fyddwch yn gweld rhai dyraniadau sylweddol o ran ein hymagwedd tuag at yr economi a chefnogi swyddi a chreu swyddi yn ein cyllideb ddrafft, sydd wedi'i chyhoeddi, a chawsom gyfle i'w thrafod ddoe. Ond rwy'n ymwybodol iawn fod rhai unigolion a busnesau nad yw’r cymorth wedi eu cyrraedd o hyd am amryw o resymau, a dyna un o'r rhesymau pam y cyfarfu fy nghyd-Aelod y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ag ExcludedUK yn ddiweddar i gael gwell dealltwriaeth o’r heriau y mae'r bobl y maent yn eu cynrychioli yn eu hwynebu. Ac wrth gwrs, byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am gymorth pellach hefyd, er mwyn diwallu anghenion busnesau, gan ein bod yn ystyried mai ymdrech ar y cyd yw hon yn bendant iawn. Yn sicr, mae rôl benodol i Lywodraeth y DU, o ran ffyrlo ac ati, ac rydym bob amser yn anelu at wella ac ychwanegu at yr hyn sydd ar gael, a dyna pam ein bod yn gallu darparu'r pecyn cymorth gorau posibl yn unrhyw ran o'r DU.
Ar sawl achlysur, rydym wedi ceisio llenwi'r bylchau y gwyddem eu bod yno eisoes. Felly, fe fyddwch yn cofio inni gyflwyno'r grant dechrau busnes o £5 miliwn i gefnogi busnesau a oedd wedi cychwyn yn 2019 gyda grant o £2,500 yr un. Ac rydym hefyd wedi cyflwyno cronfa gwerth £10.5 miliwn ar gyfer y gymuned lawrydd, gan ein bod, unwaith eto, yn gwybod eu bod hwy wedi bod yn cwympo drwy rai o'r bylchau. Ac yn ychwanegol at hynny, rydym wedi cadarnhau y bydd cymorth dewisol yn parhau i fod ar gael drwy awdurdodau lleol fel eu bod yn gallu cefnogi busnesau nad ydynt yn rhan o'r system ardrethi annomestig ac yr effeithiwyd arnynt yn sylweddol gan y pandemig, ac yno, mae grantiau dewisol o hyd at £2,000 ar gael. Ond wrth gwrs, rydym bob amser yn edrych i weld beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi pobl nad ydynt wedi llwyddo i gael mynediad at unrhyw gymorth hyd yn hyn.
Weinidog, yn ne-ddwyrain Cymru rydym ar gyfartaledd wedi dioddef lefel uwch o’r coronafeirws na'r cyfartaledd ledled Cymru, a tybed i ba raddau rydych yn ystyried bod costau ychwanegol mynd i'r afael â hynny ar lefel ranbarthol, lle mae nifer yr achosion wedi bod yn uwch, yn cael eu cynnwys yn y dyraniadau yn y gyllideb.
Wel, mae’r gronfa galedi i awdurdodau lleol wedi galluogi awdurdodau lleol i ddarparu eu ceisiadau eu hunain am gyllid. Felly, mae'r cyllid sy'n mynd i'r awdurdodau lleol unigol yng Nghymru drwy’r gronfa honno yn cael ei ddarparu ar sail angen lleol a chost leol, yn hytrach na ffactor y pen, er enghraifft. Felly, credaf fod honno wedi bod yn ffordd o allu ymateb i'r effeithiau gwahaniaethol rydym wedi'u gweld ledled Cymru hyd yma. Ac wrth gwrs, mae’r pandemig yn effeithio’n wahanol ar wahanol fannau. Ychydig wythnosau yn ôl yn unig, roeddem yn edrych o'r de yn eiddigeddus iawn ar ogledd Cymru o ran y ffigurau ar gyfer y pandemig yno. Felly, credaf fod angen inni fod yn ymwybodol bob amser y gallai pethau newid yn sydyn iawn, a gallu sicrhau bod gennym gymorth hyblyg, fel y credaf sydd gennym ar gael i awdurdodau lleol ac i eraill.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.
Diolch, Lywydd. Yn ystod y pandemig, mae mater gwerth am arian wedi dod yn fater amlwg iawn, yn ogystal â sicrhau, Weinidog, ein bod yn cael y gorau o bob punt Gymreig a werir. Dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, mae wedi dod i'r amlwg fod Llywodraeth Cymru yn ad-dalu €3.4 miliwn o gyllid gwledig i'r Comisiwn Ewropeaidd, yn dilyn adroddiad Archwilio Cymru y llynedd ar y rhaglen datblygu gwledig. Nawr, gwn fod cosb ariannol yr UE wedi’i lleihau o ychydig dros €33 miliwn i €3.412 miliwn, ond a allwch roi diweddariad i ni ar y sefyllfa bresennol gyda'r ad-daliad hwn, a pha wersi y mae Llywodraeth Cymru wedi'u dysgu?
Diolch i Nick Ramsay am godi mater y gosb ariannol yma yn y Senedd y prynhawn yma. Mae hwn yn fater yr ymdriniwyd ag ef yn bennaf gan fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, gan mai hi yw deiliad y gyllideb ar gyfer y rhaglen benodol honno. Felly, os yw'n dderbyniol i Nick Ramsay, byddaf yn sicr o ofyn i fy nghyd-Aelod ddarparu'r diweddariad hwnnw, oherwydd, fel y dywedaf, caiff ei reoli o fewn llinell y gyllideb benodol honno.FootnoteLink
Rwy'n cael y teimlad fy mod yn cael fy ngorchymyn i symud ymlaen o'r pwnc hwnnw, felly rwy'n derbyn ei fod yn rhan o’i llinell hi. Os caf ehangu hynny i sôn am werth am arian yn y gyllideb yn gyffredinol, Weinidog, fel y dywedais yn y ddadl ar y gyllideb ddoe, rydym yn aml yn sôn am adeiladu nôl yn well, ac rydych chi wedi sôn am adeiladu nôl yn well ac adeiladu nôl yn fwy gwyrdd, ac mae’r Prif Weinidog wedi sôn am hynny hefyd. Nawr, mae hwnnw’n nod cwbl resymol i'w gael, ond mae'n haws dweud na gwneud. Wrth edrych drwy'r gyllideb, mae'n cynnwys rhai agweddau amgylcheddol, fel y £5 miliwn—credaf fy mod yn iawn i ddweud—tuag at y goedwig genedlaethol; efallai y byddwch yn fy nghywiro ar yr union ffigur ar gyfer hynny. Mae'n amlwg fod prosiectau o’r fath yn cael effaith ar gyllidebu carbon a darparu dalfeydd carbon, ond a allwch ddweud wrthym sut arall rydych chi'n sicrhau bod y gyllideb yn darparu cyllidebu carbon cywir, neu o leiaf yn cyfeirio at hynny’n digwydd yn y dyfodol, fel ein bod, yn ogystal â defnyddio'r holl ddatganiadau bachog am adeiladu nôl yn fwy gwyrdd ac yn well, yn gweld Cymru yn y dyfodol lle bydd ystyriaethau amgylcheddol wrth wraidd popeth a wnawn?
Rwy’n fwy na pharod i roi’r diweddariad hwnnw. Fe fyddwch yn cofio, y llynedd, inni gyhoeddi ein cynllun gwella’r gyllideb cyntaf erioed, ac roedd hwnnw’n nodi peth o’r gwaith y byddem yn ei gychwyn eleni er mwyn deall effaith ein gwariant yn well, ond hefyd er mwyn caniatáu inni wneud penderfyniadau gwell o ran cyllidebu ar sail rhyw, er enghraifft, ond hefyd i ddeall effaith y dyraniadau rydym wedi'u gwneud ar garbon. Felly, ochr yn ochr â'r gyllideb eleni, byddwch yn gweld sawl darn newydd o waith yn cael eu cyhoeddi. Un ohonynt yw effaith ddosbarthiadol y gwariant ar wasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae hwnnw’n waith newydd rydym wedi’i gychwyn i gael gwell dealltwriaeth o’r effaith ar y gwahanol grwpiau economaidd-gymdeithasol yng Nghymru. Fe fyddwch hefyd yn gweld y gwaith rydym wedi dechrau ei ddatblygu ar gyllidebu ar sail rhyw.
Ond yn olaf, trydedd ran y dull newydd yw'r cynllun peilot i fodelu'r allyriadau nwyon tŷ gwydr a amcangyfrifir. A dyma'r tro cyntaf erioed inni roi cynnig ar unrhyw beth o’r fath yng Nghymru, ac mae'n ymateb i'r pryderon rydych chi ac eraill wedi'u codi yn y Pwyllgor Cyllid ac mewn mannau eraill, a bod hyn yn rhywbeth y byddech yn awyddus i’w wneud. Felly, ochr yn ochr ag adroddiad y prif economegydd, cyhoeddais y gwaith archwilio cychwynnol y gwnaethom gomisiynu’r Uned Ymchwil i Economi Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd i'w wneud ar ein rhan, ac maent yn amcangyfrif yr allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n gysylltiedig â gwariant Llywodraeth Cymru. Gwnaethant hynny yn y lle cyntaf ar y gyllideb refeniw fwyaf ar gyfer y prif grŵp gwariant iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ac mae hynny'n seiliedig ar ffigurau'r llynedd, ond rydym yn gobeithio, rhwng nawr a'r gyllideb derfynol, y gallwn gyrraedd pwynt lle rydym wedi edrych ar ffigurau eleni, ac wedi edrych hefyd ar bob un o'r gwahanol brif grwpiau gwariant. Felly, yn sicr, nid yw'n waith gorffenedig o ran deall ein heffaith mewn perthynas â charbon, ond mae'n bendant yn gam pwysig ymlaen yn y ffordd rydym yn dangos effaith y dewisiadau a wnawn.
Diolch, Weinidog. Rwy’n hollol o blaid cyllidebu carbon a chredaf ei bod yn wych ein bod yn mynd i’r cyfeiriad hwnnw, ond rwy'n sylweddoli pa mor gymhleth yw ceisio cyflawni hynny. Ond fel rydych wedi’i nodi, mae'n rhaid inni ddechrau yn rhywle.
Wrth edrych ar agweddau eraill ar y gyllideb ddrafft, ac rwy’n cydnabod mai cyllideb ddrafft yw hi o hyd, ond tai, er enghraifft. Gallaf ddeall sut y mae cyllidebu carbon yn berthnasol i ddarparu band eang gwell, ac ati, oherwydd mae hynny'n amlwg yn golygu llai o bobl ar y ffyrdd, ond mae eich penderfyniad ynghylch treth trafodiadau tir, ac er enghraifft, dychwelyd at y gyfradd flaenorol ar gyfer eiddo rhwng £160,000 a £250,000—credaf eu bod yn ôl i'r lefel o 3 y cant a oedd yn weithredol cyn y pandemig—mae'n anodd gweld sut y bydd hynny’n helpu'r bobl ar ben isaf y farchnad dai, yn sicr—prynwyr tro cyntaf—i gamu ar yr ysgol dai. Felly, pwy yw eich cysylltiadau a pha dystiolaeth rydych wedi'i hystyried wrth wneud y penderfyniadau hynny ar dreth trafodiadau tir? Ac a ydych yn siŵr neu'n argyhoeddedig y bydd y refeniw a geir o wneud hynny yn cyfiawnhau unrhyw effeithiau negyddol ar farchnad dai prynwyr tro cyntaf?
Wel, bwriad cyflwyno'r gostyngiad presennol sydd i fod i ddod i ben ar 31 Mawrth—sydd hefyd, neu o leiaf mae amserlen debyg yn cael ei hystyried dros y ffin yn Lloegr yn ogystal—oedd sicrhau bod rhai o'r trafodiadau'n cael eu cyflwyno'n gynt na'r flwyddyn nesaf. Felly, y bwriad bob amser oedd iddi fod yn ymyrraeth am gyfnod penodol i gynyddu nifer y cartrefi sy'n cael eu prynu a'u gwerthu yn y flwyddyn ariannol hon. Ond wedi dweud hynny, hyd yn oed pan fyddwn yn mynd yn ôl i’n cyfradd wreiddiol, ni fydd y rhan fwyaf o brynwyr tai yng Nghymru yn talu treth trafodiadau tir, neu byddant yn talu llai, ac yn sicr, byddant yn talu llai nag y byddent wedi'i dalu yn rhywle arall. Ac rydym hefyd mewn sefyllfa yng Nghymru lle mae prisiau tai ar gyfartaledd yn is o lawer nag mewn mannau eraill. Rwy'n dderbyn bod y sefyllfa’n wahanol yn yr etholaeth y mae Nick yn ei chynrychioli. Ond hyd yn oed wedyn, rwy’n dal i feddwl y bydd gennym y dull mwyaf blaengar o weithredu yn y DU.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae yna gryn sylw wedi cael ei roi ar draws y Deyrnas Unedig yr wythnos yma i ginio ysgol am ddim ar ôl y sgandal o brydau cwbl annigonol yn cael eu rhoi gan gontractwyr preifat i blant yn Lloegr yn ystod y pandemig. Ond mae cefnogaeth yn gyffredinol yn dal yn annigonol i blant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru; rydym ni wedi cyfeirio'n barod yn ystod y sesiwn yma at ymestyn cinio ysgol am ddim yn ystod y pandemig, ond gadewch inni edrych y tu hwnt i'r pandemig yma.
Mae yna 70,000 o blant yng Nghymru, yn ôl y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, lle mae eu teuluoedd nhw yn derbyn credyd cynhwysol ond sydd ddim yn gymwys i gael cinio ysgol am ddim. Rŵan, ar ddau achlysur yn ddiweddar mi ydych chi fel Gweinidog wedi cyfeirio at y ffaith bod costings wedi cael eu gwneud gan eich swyddogion chi ar roi cinio ysgol am ddim i bob un o'r rheini, y cyntaf mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig gan Adam Price ar 4 Ionawr, y llall mewn ymateb i Siân Gwenllian yn y Pwyllgor Cyllid ychydig ddyddiau yn ddiweddarach. Ydych chi yn gallu dweud wrthym ni i ba gasgliad ddaethoch chi ynglŷn â faint fyddai fo'n gostio i sicrhau bod pob plentyn sydd yn byw mewn tlodi yn gymwys i gael cinio ysgol am ddim?
Lywydd, ymrwymais yn y Pwyllgor Cyllid ddydd Gwener i ysgrifennu at y pwyllgor gyda'r manylion llawn am y gwaith modelu rydym wedi'i wneud i archwilio cost ymestyn y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim, a byddaf yn siŵr o’u rhannu hefyd gyda Rhun ap Iorwerth yn ogystal â'r Pwyllgor Cyllid i roi’r lefel honno o fanylder. Wrth gwrs, codwyd y mater hwn eto gyda'r Prif Weinidog yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog yr wythnos hon, a gwnaeth yr her—un gwbl ddilys yn fy marn i—yn yr ystyr, os ydym am ystyried gwario degau o filiynau o bunnoedd ychwanegol ar y fenter benodol hon—ac wrth gwrs, ceir dadl gref iawn dros gefnogi teuluoedd yn y ffordd hon—mae angen inni archwilio o ble yn y gyllideb y byddem yn mynd â’r arian hwnnw. Felly, credaf fod yn rhaid inni edrych ar y ddwy ochr i'r geiniog honno wrth wneud y dewisiadau hyn, ond byddaf yn rhannu'r wybodaeth honno cyn gynted ag y gallaf.
Diolch yn fawr iawn, a dwi yn deall yn iawn, wrth gwrs, mai mater o flaenoriaethu ydy hyn ond dwi'n gobeithio y byddwch chi fel Gweinidog cyllid yn cytuno nad oes yna lawer mwy o flaenoriaeth na rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar blant sy'n byw mewn tlodi, ac, yn wir, i'w tynnu nhw allan o dlodi. Ar ôl gwneud y costio, mi benderfynoch chi am ryw reswm bod hyn ddim yn ddigon o flaenoriaeth i roi yn y gyllideb ddrafft. A wnewch chi rŵan ailystyried hyn wrth weithio ar y gyllideb derfynol?
Ac o ran yr hyn glywsom ni gan y Prif Weinidog ddoe, oni bai eich bod chi'n gallu fy nghywiro i dwi'n meddwl bod y Prif Weinidog ddoe wedi camddehongli yr hyn rydym ni'n edrych arno fo drwy awgrymu ein bod ni'n sôn am 70,000 o deuluoedd yn fan hyn. Os buasai un plentyn ym mhob teulu, mi fuasai'n costio £33 miliwn meddai fo, mwy os oes yna ddau blentyn yn y teulu, gymaint â £101 miliwn os oes yna dri phlentyn mewn teulu, ond sôn am 70,000 o blant ydyn ni yn fan hyn. Ar sail y ffigurau yna gawsom ni gan y Prif Weinidog felly, allwn ni gasglu mai £33 miliwn fyddai'r gost o ymestyn cinio am ddim i'r 70,000 o blant?
Fel y dywedaf, byddaf yn rhannu'r gwaith modelu rydym wedi'i wneud ac sy'n cael ei gwblhau gan ein swyddogion yn Llywodraeth Cymru gyda Rhun ap Iorwerth a hefyd gyda'r Pwyllgor Cyllid, a chredaf mai dyna’r adeg i archwilio ble fyddai cyd-Aelodau’n awgrymu y dylid gwneud toriadau yn y gyllideb ddrafft er mwyn darparu ar gyfer newid i’r dull hwn.
Iawn. Fe ailadroddaf unwaith eto fod yn rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth, does bosibl. Rydym yn sôn am blant yn byw mewn tlodi, ac angen pob cymorth y gallant ei gael, ac o gyllideb o £22 biliwn, rhaid bod modd dod o hyd i £33 miliwn. Rydym wedi gweld gwarth y bocsys bwyd annigonol. Rydym wedi gweld y rhwystredigaeth a'r dicter yn sgil ymgyrch Marcus Rashford. Gadewch inni gael trefn ar hyn. Edrychwch ar eich cyllid canlyniadol ar gyfer COVID nad yw wedi cael ei ddyrannu; a oes cyfraniad yno? Gwyddom fod COVID wedi chwyddo problemau tlodi yng Nghymru. Mae Plaid Cymru yn galw’n glir am hyn. Mae cynghorwyr Llafur yn Sir Gaerfyrddin, yn ôl yr hyn a ddeallaf, wedi cefnogi cynnig gan Blaid Cymru sy’n gofyn i Lywodraeth Cymru ymestyn prydau ysgol am ddim i gynnwys pob plentyn mewn teuluoedd sy’n derbyn credyd cynhwysol. Mae'n bryd i'r Llywodraeth Lafur weithredu ar hyn.
Credaf ei bod yn bwysig cydnabod bod prydau ysgol am ddim yn un rhan o becyn pwysig o gymorth rydym yn ei ddarparu i blant a theuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd. Byddwch wedi fy nghlywed yn sôn eisoes y prynhawn yma am yr arian ychwanegol rydym yn ei ddarparu ar gyfer rhaglen gwella gwyliau’r haf, sy'n ymwneud â mwy na darparu bwyd yn unig i'r teuluoedd hynny ond cyfleoedd i blant allu cyfarfod â ffrindiau a chael profiadau dysgu drwy'r gwyliau fel nad ydynt ar ei hôl hi. Rydym wedi buddsoddi'n sylweddol yn ein grant datblygu disgyblion, sy'n darparu cyllid ychwanegol i ysgolion, y blynyddoedd cynnar a lleoliadau eraill, i alluogi dysgwyr difreintiedig i gyflawni eu canlyniadau addysgol gorau, ac yn y flwyddyn ariannol hon, cafodd dros £92 miliwn o hynny ei ddirprwyo’n uniongyrchol i ysgolion a lleoliadau addysgol fel y gallant gefnogi'r teuluoedd y gwyddant eu bod ei angen. Ac wrth gwrs, fe welwch gyllid ychwanegol i gefnogi plant drwy'r gwaith ychwanegol rydym yn ei roi yn ei le ar gyfer cymorth iechyd meddwl, er enghraifft, felly un rhan yn unig yw hon o gyfres eang o raglenni cymorth rydym yn ei rhoi ar waith i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd. Cyfeiriaf unwaith eto at yr ymrwymiad a wneuthum yn y Pwyllgor Cyllid i rannu rhagor o fanylion a gwybodaeth.
3. Pa flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i ariannu gwasanaethau ieuenctid yng nghyllideb y flwyddyn nesaf? OQ56107
Mae cefnogi pobl ifanc Cymru sydd wedi’u taro galetaf gan y pandemig yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Yn ogystal â chynnal £10 miliwn ar gyfer y grant cymorth ieuenctid, gan gynnwys cymorth i fynd i’r afael ag iechyd meddwl a digartrefedd ymhlith pobl ifanc, rydym yn darparu cynnydd o £176 miliwn i lywodraeth leol i gefnogi gwasanaethau lleol hanfodol.
Yn amlwg, mae cryn dipyn o bryder ynghylch hyfywedd gwasanaethau ieuenctid yn y dyfodol. Amlygodd adroddiad diweddar gan yr Asiantaeth Genedlaethol Ieuenctid y gallai bron i 70 y cant o glybiau ieuenctid yn Lloegr gael eu gorfodi i gau yn sgil gwasgfa cyni’r Torïaid ar eu cyllid drwy awdurdodau lleol, sydd wedi eu gorfodi i dorri gwasanaethau i'r bôn. Rwy'n derbyn ein bod ni yng Nghymru wedi gwneud pob ymdrech i ddiogelu awdurdodau lleol rhag rhaglen gyni’r DU, ac rwy'n hynod ddiolchgar fod cyngor Caerdydd, ac yn wir, sefydliadau gwirfoddol fel yr YMCA wedi parhau i ddarparu allgymorth i bobl ifanc ar y stryd, er nad ydynt wedi gallu parhau i ddarparu cymorth dan do yn ystod y pandemig, ond gwyddom am y cynnydd mewn hunan-niweidio a theimladau hunanladdol ymhlith pobl ifanc, a'r ffaith bod cau ysgolion yn effeithio'n wahaniaethol yn llawer mwy difrifol ar deuluoedd difreintiedig. Sut y credwch y gallwn wneud y defnydd gorau o'r gyllideb hon er mwyn sicrhau y gall gwasanaethau ieuenctid statudol a'r cymorth gan y sector gwirfoddol a chymunedol barhau i fod ar gael i bobl ifanc i'w helpu i ymadfer yn sgil effaith ddinistriol y pandemig hwn?
Credaf fod y cyfuniad hwnnw o wasanaethau statudol a chymorth gan y sector gwirfoddol yn gwbl hanfodol, a dyna pam ein bod, ers 2019, wedi darparu dros £10 miliwn y flwyddyn o gyllid uniongyrchol ar gyfer gwaith ieuenctid i awdurdodau lleol a'r sector gwirfoddol er mwyn sicrhau y ceir y dull deuol hwnnw.
Yn ystod y pandemig, ers y cychwyn cyntaf mewn gwirionedd, rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r sector gwaith ieuenctid i sicrhau bod ganddynt yr adnoddau angenrheidiol i barhau i fod yn hyderus yn eu gwaith drwy gydol senario’r pandemig, ac mae hynny wedi cynnwys mwy o gymorth yn ymwneud â diogelu, gan ddefnyddio adnoddau a phlatfformau ar-lein, ynghyd â rhannu arferion gorau wrth weithio mewn ffyrdd gwahanol iawn. Mae ein pecyn cymorth gwerth £24 miliwn ar gyfer y trydydd sector yn cynnwys cronfa argyfwng y gwasanaethau gwirfoddol, ac mae honno wedi cefnogi wyth sefydliad hyd yn hyn, ac mae tri o'r rheini yng Nghaerdydd, ac maent wedi derbyn cyfanswm o £141,000 o gyllid. Mae effaith hynny wedi bod yn hollbwysig, gyda chyllid wedi'i ddyrannu i Fyddin yr Eglwys, er enghraifft, i gwnselwyr ddarparu'r gefnogaeth honno dros y ffôn i bobl ifanc sydd mewn perygl o hunan-niweidio. Mae cronfa adfer y gwasanaethau gwirfoddol hefyd wedi cefnogi chwe sefydliad sy'n nodi eu bod yn wasanaethau ieuenctid, gyda chyfanswm o £123,000. Unwaith eto, o'r rheini, mae tri ohonynt yng Nghaerdydd. Dyfarnwyd cyllid i un o'r derbynwyr, Sefydliad SAFE, i gefnogi iechyd meddwl cadarnhaol ymhlith pobl ifanc y mae COVID-19 wedi effeithio arnynt yn benodol. Felly, mae ein hymateb i'r pandemig yn sicr wedi ymwneud â dangos ein gwir bryder ynghylch yr effaith ar iechyd meddwl pobl ifanc.
Tybed a allech roi syniad i ni ble yn y gyllideb y gallem ddod o hyd i gymorth i'r Urdd a'r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig—neu EYST—sydd ill dau’n gwneud cyfraniadau hanfodol i waith ieuenctid yn fy rhanbarth, yn targedu grwpiau penodol o bobl ifanc fel rhan o waith polisi arall Llywodraeth Cymru. Nid wyf yn siŵr fod pob cyngor yn edrych ar yr Urdd yn enwedig fel sefydliad a all eu cefnogi mewn nifer o nodau polisi, yn enwedig gwaith ieuenctid cymunedol. A nodaf o'ch ateb blaenorol yr ymddengys bod Caerdydd wedi gwneud yn eithaf da o'r arian argyfwng yma, yn hytrach na chlywed gan rannau eraill o Gymru.
Diolch i Suzy Davies am godi hynny. Ymatebais gan gyfeirio'n benodol at Gaerdydd oherwydd mai Jenny Rathbone oedd yr Aelod a gyflwynodd y cwestiwn wrth gwrs, ac mae hi’n cynrychioli Caerdydd, felly roeddwn yn sicr o gael y ffigurau hynny wrth law i ymateb i hynny. Rydym yn cefnogi ein gwasanaethau ieuenctid, fel y dywedais, drwy'r cyllid hwnnw o £10 miliwn ar gyfer gwasanaethau ieuenctid, a weinyddir i awdurdodau lleol a'r sector gwirfoddol i sicrhau eu bod yn gallu ymateb gyda'i gilydd i anghenion pobl ifanc ledled Cymru. Rwy'n gyfarwydd â gwaith EYST yn enwedig yma yn Abertawe a'r gwaith rhagorol a wnânt i'n cymuned.
Mae'r gwaith y mae'r Urdd wedi bod yn ceisio'i wneud drwy gydol y pandemig wedi creu argraff fawr arnaf. Byddwch wedi gweld yn yr ymateb i'r pandemig gyda'n dyraniadau yn ystod y flwyddyn fod y Gweinidog addysg wedi darparu cyllid i'r Urdd i sicrhau eu bod mewn lle da i oroesi’r argyfwng, ac na fyddent, fel sefydliad, wedi cael eu heffeithio i’r fath raddau fel na fyddai modd iddynt gyflawni eu gwaith da hefyd. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch yn gallu sicrhau rhywfaint o arian ar gyfer gwasanaethau ieuenctid y flwyddyn nesaf, sy'n eithaf clir yn y gyllideb ddrafft, ond y gallwch fod yn ffyddiog hefyd ein bod ni wedi bod yn gwneud dyraniadau sylweddol yn y ffordd honno hefyd eleni.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei hateb, yn enwedig i Suzy Davies. Hoffwn fynd ar drywydd mater cyllid ar gyfer yr Urdd. Mae'r cyllid a ddarparwyd eisoes wedi bod o gymorth aruthrol, ond rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog cyllid a Gweinidogion perthnasol eraill yn ymwybodol fod yr Urdd wedi wynebu colled o £14 miliwn yn eu hincwm—yr incwm y maent yn ei gynhyrchu ei hunain, eu hincwm masnachol, os mynnwch—y llynedd. Mae rhai swyddi gweithwyr ieuenctid medrus iawn Cymraeg eu hiaith yn parhau i fod mewn perygl. Tybed a gaf fi ofyn i'r Gweinidog sicrhau ei bod yn edrych ar faterion cyllido'r Urdd gyda Gweinidogion ar draws y portffolios—y Gweinidog addysg, yn amlwg, ond y Gweinidog â chyfrifoldeb am y Gymraeg hefyd, a byddwn yn dadlau, y gyllideb ar gyfer diwylliant hefyd. Oherwydd mae hwn yn sefydliad mor werthfawr i ni. Dyma'r sefydliad gwaith ieuenctid gydag aelodaeth mwyaf yn Ewrop, a byddai—rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi—yn drasiedi pe bai'n rhaid diswyddo mwy o bobl, gyda'r risg y byddai’r sgiliau a'r cyfleoedd hanfodol hynny i bobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i addysg ffurfiol yn cael eu colli’n barhaol.
Rwy'n edmygu gwaith yr Urdd yn fawr, ac rwyf wedi cael trafodaethau gyda'r Gweinidog Addysg yn ogystal â’r Gweinidog â chyfrifoldeb am y Gymraeg, pan oedd yn ei phortffolio blaenorol, er ei bod yn dal i fod yn gyfrifol am y Gymraeg nawr, ynglŷn â dyfodol yr Urdd a pha gymorth y gallai fod ei angen arnynt yn y tymor byr, a hefyd o ganlyniad i'r heriau cyffredinol sy'n wynebu'r sefydliad. Credaf mai un o'r pethau pwysig rydym wedi’u gwneud yw cymeradwyo cais am arian ychwanegol ar 25 Mai y llynedd, 2020, ac o ganlyniad i hynny, bydd y cyllid cyfalaf ychwanegol yn cynyddu eu dyraniad cyllid ysgolion yr unfed ganrif ar hugain o £2.75 miliwn i £5.5 miliwn. Byddant yn gallu gwneud rhywfaint o waith hanfodol yn eu canolfannau preswyl, a chredaf fod buddsoddiad ar y lefel honno’n rhoi sicrwydd ein bod yn hyderus ynglŷn â'r dyfodol cryf hwnnw i'r Urdd, ac yn awyddus i'w weld.
4. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau'r risgiau i gyllid cyhoeddus yn sgil pandemig COVID-19? OQ56115
Rwy'n cadw cronfa wrth gefn o fwy nag £800 miliwn o adnoddau cyllidol yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2021-22 i ymdopi â llwybr ac effaith ansicr y pandemig yn y dyfodol. Mae'r fframwaith cyllidol yn diogelu'r gyllideb rhag yr effaith ar refeniw datganoledig ergydion economaidd ledled y DU sydd wedi'u hachosi gan y pandemig.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog, a blwyddyn newydd dda ichi. Y llynedd, codais y pwynt fod Llywodraeth Cymru, drwy fanc datblygu Cymru, yn benthyca arian i gynghorau lleol brynu a gosod eiddo masnachol i ddatblygwyr eiddo. Y flwyddyn ariannol ddiwethaf, roedd yn fwy na £35 miliwn, ac eleni, gallai fod mor uchel â £97 miliwn. Fy mhrif bryder oedd y newyddion fod y pandemig COVID wedi gweld prisiau ac enillion eiddo masnachol yn dirywio'n eithafol, gan roi'r arian cyhoeddus rydych wedi'i fuddsoddi mewn perygl enfawr.
Cyfaddefodd y Prif Weinidog fod holl werthoedd eiddo masnachol y mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi arian cyhoeddus ynddynt wedi cael eu heffeithio gan y pandemig, a dywedodd ei fod yn disgwyl i benderfyniadau benthyca gael eu graddnodi yn awr i'r set bresennol o amgylchiadau sy'n ein hwynebu. Os nad oes unrhyw newidiadau wedi'u gwneud eto i'r meini prawf benthyca, mae risg enfawr i werth £97 miliwn o arian cyhoeddus. Dywedwch wrthyf pa drafodaethau rydych wedi'u cael, a pha benderfyniadau cadarn a wnaed sydd wedi newid y meini prawf benthyca a oedd ar waith cyn y pandemig i feini prawf sydd, yng ngeiriau'r Prif Weinidog ei hun, wedi'u graddnodi i'r set bresennol o amgylchiadau.
Diolch am ofyn y cwestiwn, a blwyddyn newydd dda i chi hefyd. Rwyf wedi ymchwilio i hyn, oherwydd roedd gennyf ddiddordeb yn y cwestiwn a ofynnwyd gennych gyda'r Prif Weinidog yn flaenorol. Ar hyn o bryd, dim ond un fargen sydd—sef y swm cyfan o £122 miliwn sydd wedi'i fuddsoddi—lle mae ad-dalu'r benthyciad yn dibynnu ar werthu datblygiad masnachol o fewn prosiect. Felly, rwy'n credu y gallwn fod yn hyderus nad yw hwn yn fater sy'n creu pwysau ar hyn o bryd. Yn amlwg, mae swyddogion yn cyfathrebu'n rheolaidd â banc datblygu Cymru. Maent yn hyderus, ac maent yn rhoi sicrwydd i mi a Ken Skates, sydd â banc datblygu Cymru yn rhan o'i adran, fod gan fanc datblygu Cymru agwedd ddarbodus tuag at fuddsoddi yn y cyfnod ansicr hwn, yn enwedig mewn perthynas â'r gyfradd uchaf o fenthyciad mewn cymhariaeth â gwerth sydd ar gael ar gyfer buddsoddi hefyd. Ond rydym wedi cael sicrwydd bod yr hyn sydd wedi'i wneud yn gwbl briodol.
Rwy'n pryderu'n benodol am y sector BBaCh, a gafodd ei daro'n wael iawn gan argyfwng COVID, sydd wedi cau'r stryd fawr ac wedi gorfodi dulliau gweithio gwahanol iawn—a hynny o reidrwydd, wrth gwrs. Er lles iechyd ein strydoedd mawr, er lles iechyd yr economi sylfaenol—ac mae llawer o'n strategaeth economaidd yn ymwneud â datblygu'r sector busnesau bach a chanolig—a allwch chi ein sicrhau y bydd yn flaenoriaeth uchel iawn mewn cynlluniau cymorth busnes yn y dyfodol ac yn wir, yng nghydbwysedd yr adnoddau a gaiff o gyllideb Llywodraeth Cymru?
Rwy'n fwy na pharod i roi'r sicrwydd hwnnw. Busnesau bach a chanolig yw asgwrn cefn yr economi yma yng Nghymru. Credaf fod ein hymagwedd at y pandemig wedi dangos ein cefnogaeth i fusnesau bach a chanolig eu maint yn arbennig. Fe fyddwch yn cofio bod cryn dipyn o gynnwrf ynglŷn â phenderfyniad cynnar Llywodraeth Cymru i beidio â dyrannu rhyddhad ardrethi, o ran ardrethi annomestig, i fusnesau mawr gyda gwerth ardrethol o dros £500,000. Ond nawr, wrth gwrs, rydym yn gweld busnesau fel Tesco yn cynnig arian yn ôl dros y ffin yn Lloegr lle roeddent wedi derbyn y cyllid hwnnw. Gwnaethom y penderfyniad hwnnw'n gynnar iawn, ac roedd hynny'n caniatáu inni addasu llawer o'r cyllid wedyn—tua £150 miliwn os cofiaf yn iawn—yn ôl i fusnesau bach a chanolig eu maint, oherwydd roeddem yn deall fod llawer mwy o angen y cyllid arnynt hwy nag ar y busnesau mwy o faint.
Roedd gennyf ddiddordeb mawr yn y cwestiwn gan Michelle Brown. Mae cynghorau yn Lloegr wedi benthyca llawer mwy na 100 y cant o'u hincwm blynyddol ar gyfer eiddo masnachol, sy'n sicr yn destun pryder i bob un ohonom, oherwydd mae'n effeithio ar economi Prydain. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrth y Gweinidog yw: a ydych yn cytuno mai'r ffordd orau o fynd i'r afael â dyled y Llywodraeth yw tyfu'r economi, ac felly cynyddu'r dreth a dderbynnir? Roedd y dreth a dderbyniwyd yn 2018 bron 50 gwaith yn fwy na 50 mlynedd ynghynt. Po fwyaf y byddwch yn tyfu'r economi, po fwyaf o dreth y byddwch yn ei derbyn, y lleiaf pwysig yw dyled mewn gwirionedd.
Diolch i Mike Hedges am godi hyn. Ar fater awdurdodau lleol, rydym yn darparu canllawiau statudol i awdurdodau lleol pan fyddant yn gwneud eu penderfyniadau benthyca a buddsoddi mewn ffordd sy'n briodol i'w cyfrifoldebau statudol. Ar ail ran y cwestiwn, rwyf hefyd yn cytuno â Mike Hedges fod angen inni dyfu'r economi yma yng Nghymru a sicrhau ein bod yn tyfu ein sylfaen drethi yma yng Nghymru. Mae gennym rai problemau a heriau strwythurol mewn perthynas â'n sylfaen drethi, ond os gallwn weithio'n ofalus iawn drwy hynny, credaf y gallwn symud ymlaen. Os edrychwn ar yr hyn rydym yn ei wneud o ran tai a chynllunio ac ym maes addysg, er enghraifft, credaf fod yr holl bethau hynny'n ysgogiadau a fydd yn ein helpu i dyfu'r sylfaen drethi yn y dyfodol. Mae'n rhywbeth rwyf wedi gofyn i'r grŵp ymgysylltu ar drethi feddwl amdano hefyd. Cawsom gyfarfod o'r grŵp ymgysylltu ar drethi yn ôl ym mis Tachwedd, ac fe wnaethom ystyried rhai o'r heriau i dyfu sylfaen drethi Cymru, gan gynnwys y dirywiad yn amodau'r farchnad lafur sy'n gysylltiedig â phandemig COVID-19. Felly, mae'n fater rydym yn awyddus i gael cyngor arbenigol arno hefyd. Ond mae rhesymeg yr hyn y mae Mike Hedges yn ei ddweud yn gadarn iawn.
5. Pa adnoddau sydd wedi'u neilltuo yng nghyllideb 2021-22 ar gyfer addysg yn y cyfnod ôl-COVID? OQ56104
I gydnabod yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar ein plant a'n pobl ifanc, rydym yn rhoi hwb ychwanegol o £102 miliwn i'r gyllideb addysg yn 2021-22. Mae hyn yn ychwanegol at y cynnydd o £176 miliwn i lywodraeth leol, a fydd yn cefnogi gwasanaethau rheng flaen, gan gynnwys ysgolion.
Mi fydd angen cynllun addysg uchelgeisiol er mwyn cefnogi ein plant ni yn y cyfnod nesaf ôl-COVID, yn enwedig y plant rheini sydd wedi colli allan fwyaf ar eu haddysg—llawer o'r rheini o gefndiroedd difreintiedig. Dydw i ddim wedi gweld cynllun o'r math eto, ond yn sicr fydd hi ddim yn bosib talu am y gwaith ychwanegol anferth sydd ei angen o fewn y setliad i lywodraeth leol yn y gyllideb nesaf. Felly, hoffwn i ddeall sut rydych chi a'r Gweinidog Addysg yn bwrw ati yn gyntaf i weithio allan faint o arian fydd ei angen ar gyfer cynllun adfer addysg ystyrlon. Ac yn ail, wnewch chi egluro pa opsiynau sydd ar agor ichi o ran talu am gynllun uchelgeisiol sydd angen cychwyn eleni a pharhau i'r dyfodol?
Diolch yn fawr am y cwestiwn. Mae'r gyllideb adnoddau a chyfalaf addysg bellach yn £1.9 biliwn ar gyfer 2021-22, ac mae hwnnw'n gynnydd, fel y dywedais, o £102 miliwn, neu 5.8 y cant o'n llinell sylfaen ddiwygiedig. Felly, mae cyllid ychwanegol sylweddol yn mynd i brif grŵp gwariant addysg. Ond wrth gwrs, mae'r sefyllfa o fewn awdurdodau lleol hefyd yn eithriadol o bwysig o ran cyllid ar gyfer ysgolion. A dyna un o'r rhesymau pam rydym wedi rhoi cymaint o bwys ar roi'r setliad gorau posibl i lywodraeth leol yn y gyllideb—felly, £176 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol i'w galluogi i gefnogi ysgolion.
O ran ein hymateb uniongyrchol, fe welwch £12 miliwn o gyllid ychwanegol i gefnogi dysgu dal-i-fyny mewn ysgolion i helpu i fynd i'r afael â'r ffaith bod disgyblion wedi colli dysgu, sgiliau a chynhyrchiant o ganlyniad i'r pandemig. Fe fyddwch yn cofio inni wneud cyhoeddiad ychydig yn ôl y byddem yn darparu cyllid ar gyfer recriwtio cyfwerth â 900 o swyddi newydd llawnamser ychwanegol yn y system addysg, ac maent yn cynnwys athrawon, cynorthwywyr addysgu a rolau eraill a gynlluniwyd i gefnogi dysgwyr sy'n wynebu'r heriau mwyaf. Rwy'n falch iawn fod awdurdodau lleol yn adrodd am lefelau recriwtio da iawn yn y cyd-destun hwnnw, o ran cyflawni'r prosiect penodol hwnnw, sy'n rhan o'n hymateb mwy cyflym ac uniongyrchol i'r heriau y mae pobl ifanc a phlant yn eu hwynebu o ganlyniad i'r pandemig. Ond yn amlwg, fel y mae Siân Gwenllian yn cydnabod ac yn dweud, nid yw hyn yn rhywbeth y gellir ei ddatrys ar unwaith; mae'n mynd i alw am fuddsoddiad parhaus.
6. Pa gyllid ychwanegol y mae’r Gweinidog yn bwriadu ei roi i gyllideb yr amgylchedd a materion gwledig yn y flwyddyn ariannol bresennol? OQ56111
Disgwylir i'r drydedd gyllideb atodol gael ei chyhoeddi ar 9 Chwefror 2021. Bydd unrhyw ddyraniadau yn y flwyddyn ariannol gyfredol ar gyfer yr amgylchedd, ynni a’r portffolio materion gwledig yn cael eu cynnwys yn y gyllideb honno.
Wel, dŷn ni'n gwybod, wrth gwrs, bod adroddiad Archwilio Cymru wedi amlygu problemau gyda sut mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn dosbarthu pres y cynllun datblygu gwledig. Mi glywon ni yn gynharach sut rŷch chi nawr yn mynd i orfod talu £3 miliwn yn ôl i'r Undeb Ewropeaidd oherwydd camweinyddu'r pres hwnnw. Gaf i ofyn, yn eich trydedd gyllideb atodol, felly, i chi dalu hwnnw o goffrau canolog y Llywodraeth? Oherwydd mi awgrymoch chi'n gynharach y byddai hwnnw'n gorfod dod o gyllideb y Gweinidog. Nawr, byddai hynny'n meddwl, wrth gwrs, bod yna rywbeth arall yng nghyllideb y Gweinidog sydd ddim yn gallu cael ei ariannu oherwydd bod yr arian yn mynd at hwnnw, a'r hyn y byddech chi'n ei wneud, i bob pwrpas, ydy cosbi cefn gwlad yn ariannol oherwydd methiannau'ch Llywodraeth chi.
Lywydd, hyd yn hyn, nid wyf wedi cael cyfle i gael trafodaeth gyda'r Gweinidog ynglŷn â’r mater penodol hwn, ond yn amlwg, rwy’n bwriadu gwneud hynny a byddaf yn adlewyrchu canlyniad y trafodaethau hynny yn y drydedd gyllideb atodol. Ac wrth gwrs, rwy’n fwy na pharod i rannu'r wybodaeth honno gyda Llyr cyn y pwynt hwnnw.FootnoteLink
7. Pa fesurau sydd ar waith i wella tryloywder proses gyllidebol Llywodraeth Cymru? OQ56082
Rwyf wedi rhoi camau ychwanegol ar waith eleni i ddarparu tryloywder llawn ynghylch goblygiadau cyllidol y pandemig i gefnogi craffu cadarn ar benderfyniadau gwariant. Mae'r mesurau'n cynnwys cyhoeddi dwy gyllideb atodol, ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid gyda manylion cyllid canlyniadol, a darparu diweddariadau rheolaidd i'r Senedd yn y Siambr.
Diolch i'r Gweinidog am ei hateb, ond mae mwy o dryloywder yn bendant o fudd i’r cyhoedd, ac mae hon wedi bod yn daith hir, a chryn dipyn o ffordd i fynd o hyd. Rydym ni, yn hollol briodol, yn gofyn llawer gan lywodraeth leol yn eu datganiadau ariannol a'r wybodaeth, yn wir, y maent yn ei hanfon at dalwyr y dreth gyngor, a chredaf fod angen proses debyg o ymgysylltu â'r cyhoedd fel y gallwn gael proses gyllidebol wirioneddol dryloyw yma yn y Senedd. Byddai hynny'n annog llawer o syniadau da i gael eu cynnig—ac nid o reidrwydd efallai, rwy'n mentro dweud, gan y bobl sy’n eu cynnig fel arfer—a hefyd, byddai'n nodi rhai meysydd lle ceir gwastraff. Felly, a wnewch chi ymrwymo i ddefnyddio mwy o fodelau ymgysylltu â'r cyhoedd yn y dyfodol?
Dros y flwyddyn ddiwethaf, ac yn sicr ers imi gyhoeddi'r cynllun gwella’r gyllideb cyntaf, credaf ein bod wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd, o ran tryloywder ac o ran ymgysylltiad hefyd. Credaf fod y ffaith ein bod wedi gallu parhau i fwrw ymlaen â'r gwaith o gyllidebu ar sail rhyw, yr asesiadau carbon, a'r asesiadau effaith ddosbarthiadol wedi bod yn dyst i'r flaenoriaeth a roddwn i’r agenda hon, yn enwedig yn ystod y pandemig.
Mae mwy o lawer yn digwydd. Felly, mae gennym fersiwn hawdd ei deall o'r gyllideb eleni, sy’n ddefnyddiol iawn yn fy marn i. Gwn fod llawer o bobl wedi’i lawrlwytho ar-lein. A hefyd, unwaith eto am y tro cyntaf eleni, mae gennym efelychydd y gyllideb ar gael fel y gall pobl ymweld â’r wefan, gallant fewnbynnu eu cyflog, yna gallant gyfrifo’r gyfran o’u cyflog sy'n cael ei gwario ar draws adrannau Llywodraeth Cymru mewn gwahanol ffyrdd. Felly, gall unigolion weld faint o'u trethi sy'n cael ei wario ar iechyd, ar addysg, ar y gymuned wledig ac ati. Felly, credaf fod hynny unwaith eto’n rhywbeth newydd ac arloesol, ond rwyf bob amser yn awyddus ac yn fwy na pharod i edrych ar beth arall y gallwn ei wneud i ennyn diddordeb ac i ymgysylltu ac i fod yn dryloyw hefyd.
Dylid cofio, wrth gwrs, fod y Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi canmol Llywodraeth Cymru am ei thryloywder drwy gydol yr argyfwng, a'r ffaith ein bod wedi darparu'r cyllidebau atodol hyn, er nad yw Llywodraeth y DU wedi darparu unrhyw gyllideb atodol eto. Felly, rydym yn y niwl lawn cymaint â llawer o bobl mewn perthynas â’r gwariant dros y ffin. Rwyf ar bigau’r drain yn aros i’r amcangyfrifon atodol gael eu cyhoeddi, pan fyddwn yn cael dealltwriaeth gywir o'r diwedd o’r gwariant dros y ffin a beth y mae hynny'n ei olygu o ran cyllid canlyniadol i ni yng Nghymru. Felly, credaf y gall Llywodraeth y DU ddysgu llawer o'r tryloywder rydym wedi bod yn awyddus iawn i'w gynnal eleni, a chredaf ei fod yn un o'r pethau y gallwn fod yn falch iawn ohonynt drwy ein hymateb i'r pandemig.
Ac yn olaf, cwestiwn 8—Jack Sargeant.
8. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i gyllid ar gyfer busnesau yn Alun a Glannau Dyfrdwy wrth ddyrannu cyllideb Llywodraeth Cymru? OQ56074
Rydym yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i gefnogi busnesau ledled Cymru drwy'r cyfnod anodd ofnadwy hwn, ac rydym wedi darparu'r pecyn cymorth mwyaf hael yn unrhyw ran o'r DU. Hyd yn hyn, mae’r cynllun grant ardrethi busnes COVID wedi dyfarnu 2,616 o grantiau i fusnesau ledled Sir y Fflint, sef cyfanswm o fwy na £31.3 miliwn.
Weinidog, diolch am eich ateb. Fel y dywedwch, mae hwn yn gyfnod anodd tu hwnt i fusnesau da, cadarn yn Alun a Glannau Dyfrdwy, ac rwy'n croesawu'r cymorth y maent wedi’i gael, a lansio'r rownd newydd o gyllid sy'n agor heddiw. Rwyf wedi bod yn gweithio'n galed gyda llu o fusnesau—mawr a bach—gan gynnwys awyrofod, lletygarwch, chwaraeon a hamdden a gwallt a harddwch a llawer iawn o rai eraill, ac mae'n wych gallu eu helpu gyda'r cymorth gan Lywodraeth Cymru, ac edrychaf ymlaen at weld y cymorth hwn yn parhau yn y gyllideb newydd. Fodd bynnag, mae’n rhaid imi ddweud: mae apeliadau busnesau ar y Canghellor, Rishi Sunak, yn aml wedi syrthio ar glustiau byddar. Nawr, mae wedi honni nad yw’n ymwybodol o'r 3 miliwn o fusnesau ac unigolion sydd wedi'u heithrio. Felly, Weinidog, a wnewch chi ddefnyddio eich swydd i roi grym i'w lleisiau er mwyn helpu'r Canghellor i ddechrau gwrando, ac yn bwysicach fyth, i ddechrau cymryd camau i helpu'r rheini sydd wedi'u heithrio?
Diolch yn fawr iawn i Jack Sargeant am godi'r mater hwn, ac am y gwaith y mae'n ei wneud yn cynrychioli busnesau, bach a mawr, yn ei etholaeth; mae rhai o'r busnesau mwyaf sydd gennym, a dweud y gwir, yn ei etholaeth ef. Gwn ei fod wedi bod yn arbennig o bryderus am y diwydiant awyrofod, fel y soniodd. Ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y cyfarfod y byddaf yn ei gael gyda Jack Sargeant cyn bo hir i drafod mater cymorth i'r diwydiant awyrofod yn benodol. Ond hefyd, soniodd Jack Sargeant am rai o'r busnesau lleiaf hefyd, a'r bobl sy'n hunangyflogedig. Cyfarfu’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip ag ExcludedUK ar 17 Rhagfyr, a gwn ei bod yn awyddus, fel finnau, i barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i fod yn ymatebol ac yn gyfrifol o ran cefnogi’r bobl sy’n parhau i gwympo drwy’r bylchau, ac sydd heb dderbyn y cymorth sydd ei angen arnynt eto. Ac yn sicr, yn y trafodaethau rwy’n eu cael ac y byddaf yn eu cael gyda Gweinidogion y Trysorlys, rwyf bob amser yn awyddus i nodi beth arall y mae’n rhaid i ni ei wneud i gefnogi'r rheini nad ydynt wedi cael unrhyw gymorth eto.
Diolch i'r Gweinidog cyllid.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Laura Jones.
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fesurau i alluogi myfyrwyr i ddatblygu eu haddysg yng Nghymru yn ystod y pandemig presennol? OQ56086
Diolch, Laura. Mae'r ystod o fesurau i gefnogi dysgu o bell yn cynnwys dysgu proffesiynol helaeth, buddsoddiad sylweddol mewn dyfeisiau, a'r rhaglen ddysgu carlam £29 miliwn ar ei newydd wedd. Gan adeiladu ar ganllawiau i gefnogi dysgu cyfunol, cyhoeddwyd canllawiau pellach heddiw i alluogi ysgolion i gefnogi dysgwyr yn effeithiol.
Diolch, Weinidog. Mae'r cyhoeddiad y bydd ysgolion Cymru yn parhau i fod ar gau nawr tan hanner tymor mis Chwefror yn amlwg wedi cael effaith enfawr ar iechyd meddwl plant. Ac mae’r rhieni hefyd wedi teimlo’r straen wrth geisio gweithio gartref ar yr un pryd, fel y gwyddoch, ac fel y gwn innau. Ond caiff hynny ei waethygu mewn rhai teuluoedd gan fynediad at ddyfeisiau. A gwn fod mwy o arian wedi’i ddyrannu i ddyfeisiau bellach yn dilyn trafodaethau a gawsom yn y pwyllgor, ond mae'r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant wedi mynegi pryderon fod
Plant heb fynediad at liniadur yn cael eu hamddifadu o gymorth ar gyfer addysg yn y cartref drwy brawf modd—
gyda rhai ysgolion yn cynnig cymorth i blant sy’n cael prydau ysgol am ddim yn unig. Aethant yn eu blaenau i ddweud nad yw
Tri chwarter y teuluoedd nad oes ganddynt y math o ddyfeisiau sydd eu hangen arnynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Felly, pa gamau rydych yn eu cymryd, Weinidog, i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn yn y ddarpariaeth o ddyfeisiau i alluogi dysgu yn y cartref, sy'n ddigon o straen heb fod plant yn poeni eu bod ar ei hôl hi, neu heb yr un cyfle cyfartal gartref ag y maent yn ei gael yn ysgol? Hoffwn rannu'n gyflym fy mod i, ar Facebook—cafodd ei rannu y gall pobl bellach gael mynediad at Hwb drwy ddefnyddio PlayStation ac Xbox, ac roeddwn yn meddwl bod hynny'n ddefnyddiol iawn, ond tybed beth arall rydych yn ei wneud, Weinidog? Diolch.
Diolch, Laura. Rydych yn llygad eich lle yn dweud bod mynediad at ddyfeisiau digidol yn un rhan o'r her. Ers cychwyn y pandemig, rydym wedi sicrhau bod oddeutu 106,000 o ddyfeisiau ar gael i ysgolion, dyfeisiau y gallant eu rhoi ar fenthyg i blant. Yn nhymor yr hydref, fe wnaethom sefydlu gweithgor dysgu o bell gyda'n partneriaid awdurdod lleol i ddeall ymhellach y rhwystrau i blant rhag gallu dysgu o bell pe bai hynny'n angenrheidiol. Rydym yn gweithio'n gyflym gyda'r awdurdodau lleol i fynd i'r afael ag anghenion y teuluoedd sydd wedi gofyn am gymorth ychwanegol yn nhymor yr hydref, yn ogystal ag edrych ar y materion sy'n ymwneud â chysylltedd, ac yn ôl yr hyn a ddywed awdurdodau lleol, mae hwnnw'n destun pryder mwy na’r dyfeisiau eu hunain ar hyn o bryd.
Weinidog, rwy'n siŵr y gall pob un ohonom gytuno nad oes dim yn cymharu â dysgu wyneb yn wyneb. Mae mynd i’r ysgol yn ymwneud â mwy na chyflawniad addysgol, mae'n rhan bwysig o ddatblygiad emosiynol ein pobl ifanc. Er bod COVID yn effeithio ar lefelau presenoldeb ysgolion, mae’n rhaid peidio â chaniatáu iddo effeithio ar ddatblygiad unigolyn ifanc, ac mae etholwr wedi cysylltu â mi sy'n poeni nad yw ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cynnal gwersi byw drwy gyswllt fideo, dim ond darparu llawlyfrau i’w lawrlwytho o wefan Twinkl. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi fod hyn yn annerbyniol, ac a wnewch chi sicrhau bod plant ledled Cymru yn parhau i gael gwersi byw drwy gyswllt fideo tra bo'r ysgolion ar gau?
Diolch, Caroline. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau helaeth i awdurdodau addysg lleol ac ysgolion ynghylch dysgu o bell ar yr adeg hon. Dylai pob dysgwr gael cymaint o amser dysgu ag y byddent wedi'i gael pe byddent wedi bod mewn ysgolion. Yn amlwg, mae rhai eithriadau i'r gwaith o weithredu hynny, yn enwedig i'n plant ieuengaf. Rwy'n siŵr y byddai Caroline yn cytuno â mi nad yw o fudd i'n dysgwyr ieuengaf eistedd o flaen sgrin am gyfnodau hir. Rydym yn parhau i ddarparu cymorth ychwanegol i addysgwyr wella arferion yn y maes hwn drwy ein gwasanaeth rhanbarthol gwella ysgolion ac Estyn. Rwy'n ymwybodol hefyd, serch hynny, ein bod wedi gweld cynnydd yn y defnydd o wersi byw yng Nghymru ers y cyfyngiadau symud blaenorol, ac mae hynny'n creu set wahanol o densiynau i rieni y mae'n ofynnol iddynt eistedd gyda'u plant, yn enwedig ein plant ieuengaf, er mwyn iddynt wneud y gwaith hwnnw, ac mae rhieni'n ei chael hi'n anodd o bryd i'w gilydd. Hoffwn annog pob Aelod, a rhieni yn wir, i ymweld â safle Hwb Llywodraeth Cymru i ymuno â'r 3 miliwn o bobl sy'n mewngofnodi bob mis. Mae adnoddau penodol ar gael nid yn unig i addysgwyr ddysgu o arferion da, ond hefyd cymorth i rieni fel y gallant wneud y mwyaf o'r adnoddau sydd ar gael er mwyn cadw eu plant yn ddiogel a sicrhau eu bod yn dysgu ar yr adeg hon.
Weinidog, er mwyn i'n pobl ifanc wneud cynnydd yn eu haddysg, mae angen iddynt gael eu cefnogi gan athrawon sy'n ffit ac yn iach, yn gorfforol ac yn feddyliol. Mae hyn yn arbennig o wir yn ein hunedau cyfeirio disgyblion, lle mae staff yn gweithio gyda rhai o'n pobl ifanc fwyaf heriol, gan gynnwys drwy gydol yr holl gyfyngiadau symud. Mae unedau cyfeirio disgyblion wedi’u dosbarthu’n ysgolion arbennig, a chafwyd rhyddhad a gobaith yn y sector pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar y byddai staff mewn ysgolion arbennig yn cael mynediad blaenoriaethol at y brechlyn. Fodd bynnag, ers hynny, cafwyd eglurhad fod y cyhoeddiad hwnnw’n nodi mai dim ond staff sy'n darparu gofal personol uniongyrchol fydd yn gymwys. Gan fod staff mewn unedau cyfeirio disgyblion yn gorfod dod i gysylltiad agos, disgyblion yn poeri, yn gwrthod cydymffurfio â mesurau cadw pellter cymdeithasol neu wisgo masgiau, a hyn oll yn ddyddiol, a wnewch chi ymrwymo i geisio sicrhau statws blaenoriaethol i'r staff hyn, sy'n ystyried eu bod mewn sefyllfa unigryw o agored i niwed, ac sydd o dan gryn dipyn o straen o ganlyniad i hynny?
Diolch, Vikki. Hoffwn gofnodi fy niolch enfawr i'r rheini sy'n gweithio yn ein hunedau cyfeirio disgyblion, gan weithio, fel y dywedwch yn gwbl gywir, ochr yn ochr â rhai o'n dysgwyr mwyaf agored i niwed. Dyna pam rydym wedi gofyn i awdurdodau lleol lle bo modd ar hyn o bryd i barhau i ddarparu addysg mewn unedau cyfeirio disgyblion, ac rwy'n ddiolchgar i'r staff sy'n gwneud hynny’n ddyddiol. A gaf fi atgyfnerthu'r eglurhad? Bydd yr holl staff, p'un a ydynt mewn ysgol arbennig, ysgol brif ffrwd, neu'n wir mewn coleg addysg bellach sy'n ymwneud â gofal personol disgyblion yn cael eu hystyried yn staff gofal cymdeithasol. Byddai'r tasgau y maent yn ymgymryd â hwy, pe byddent yn cyflawni'r rheini fel rhan o becyn gofal cartref, neu'n wir fel pecyn gofal, er enghraifft, mewn cartref gofal, byddent yn cael eu dosbarthu’n staff gofal cymdeithasol. A’r staff hynny fydd yn gymwys i gael y brechlyn yn y rownd gyntaf hon. Rydym yn parhau i drafod â rhannau eraill y Deyrnas Unedig, a chyda gwyddonwyr, pryd y bydd y gweithlu addysg pellach yn dod yn gymwys i gael brechlyn. Ac rwy’n awyddus iawn i weld hynny'n digwydd cyn gynted â phosibl. Golyga hynny’r holl staff sy'n sicrhau bod addysg yn parhau—felly’r rheini sy'n gweithio yn ein hysgolion a'r rheini sy'n mynd â'n plant i'r ysgol. A phan fydd cam cyntaf y broses frechu wedi'i gwblhau, rwy'n gobeithio y gallwn symud i sefyllfa lle byddwn yn derbyn cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ynghylch sut y gallwn ddiogelu gweithwyr eraill ar y rheng flaen.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sicrhau bod gan bob disgybl fynediad at yr offer a'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i alluogi dysgu o bell? OQ56097
4. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau na chaiff dysgwyr yng Nghymru eu hallgáu'n ddigidol? OQ56113
Diolch yn fawr iawn, Alun. Ar ddechrau'r pandemig, comisiynodd fy swyddogion awdurdodau lleol i nodi'r holl ddysgwyr sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol, ar y cyd â'u hysgolion. Ers dechrau’r pandemig, rydym wedi sicrhau bod oddeutu 160,000 o ddyfeisiau ar gael i ysgolion, y gallant eu benthyg i'w disgyblion, ac oddeutu 10,848 o gysylltiadau MiFi.
Rwy'n ddiolchgar, Lywydd, i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Rwy'n credu ein bod yn rhannu ymrwymiad llwyr i gydraddoldeb mewn perthynas â mynediad at ddysgu, a gwn fod y Gweinidog wedi siarad yn rymus iawn am hyn, ac rwy'n cytuno â'r dull y mae wedi'i fabwysiadu, ac rwy'n cydnabod ei hymrwymiad i sicrhau bod pob dysgwr yn cael yr un cyfle i gael mynediad at ddysgu. Ac mae hi eisoes y prynhawn yma wedi ymdrin â materion yn ymwneud ag offer—gliniaduron, tabledi, ac adnoddau argraffu. Ond mae hefyd wedi cyffwrdd, yn yr ateb blaenorol, â'r broblem gyda chysylltedd. Ac mae hwn yn rhywbeth sy'n fy mhoeni'n fawr. Bydd yn gwybod o'i hetholaeth ei hun y gall cysylltedd fod yn rhwystr difrifol iawn i ddysgu. Mae cyflymderau lawrlwytho ym Mlaenau Gwent weithiau'n isel iawn hefyd. Ac mae pwysau sylweddol ar fynediad at fand eang, yn enwedig os yw rhiant yn gweithio gartref hefyd. Felly byddai gennyf ddiddordeb mewn deall sut y gall y Gweinidog nodi'r modd y mae cymorth ychwanegol yn cael ei ddosbarthu, a sut y gall hwnnw fynd i'r afael â mynediad at fand eang a chysylltedd, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn gallu cymryd rhan lawn mewn dysgu ar-lein.
Diolch, Alun. Ac yn wir, mae ein gweithgor gydag awdurdodau addysg lleol wedi tynnu sylw at broblemau cysylltedd fel rhai sy'n peri pryder iddynt. Yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf, fel y dywedais, gwnaethom ddosbarthu mwy na 10,000 o ddyfeisiau MiFi i ddysgwyr a oedd yn cael trafferth gyda chysylltedd. Rydym yn parhau i archwilio gydag awdurdodau lleol pa ddyfeisiau pellach sy'n angenrheidiol yn hynny o beth, yn ogystal ag edrych ar atebion arloesol eraill gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet sydd â chyfrifoldeb am faterion cysylltedd ehangach, i weld beth arall y gallwn ei wneud ar hyn o bryd.
Mae hefyd yn bwysig iawn deall sut y mae'r dyfeisiau hynny'n cael eu defnyddio. Mae'n rhaid i mi ddweud, mae gennym rai pryderon ei bod yn ymddangos na fu llawer o ddefnydd ar y dyfeisiau a ddosbarthwyd yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf. Felly, unwaith eto, mae'n rhaid i ni ddeall y rhwystrau i ddysgu. Mae cyflenwi cyfarpar ac offer yn un peth, ond os na chaiff ei ddefnyddio bydd yr ymdrech honno'n ddibwrpas. Felly mae'n rhaid i ni ddeall beth arall y gallwn ei wneud, nid yn unig i gyflenwi'r cyfarpar a'r offer, ond i sicrhau bod dysgwyr a'r rhai sy'n gofalu amdanynt yn teimlo'n hyderus ac yn gallu defnyddio'r adnoddau hynny er mwyn parhau i ddysgu.
Rwy'n credu bod y Gweinidog wedi gofyn i'r cwestiwn hwn gael ei grwpio â chwestiwn 4. Os yw hynny'n wir, Weinidog, byddaf yn galw ar Lynne Neagle i ofyn ei chwestiwn atodol. Ydy. Lynne Neagle.
Weinidog, rwy’n croesawu canfyddiadau’r Sefydliad Polisi Addysg, a ddywedodd fod dyfeisiau digidol yng Nghymru wedi’u cyflwyno’n llawer cyflymach nag yng ngwledydd eraill y DU, canfyddiad a wnaethant hefyd mewn perthynas â darparu prydau ysgol wrth gwrs, ac mae hynny’n sicr wedi cael llawer o sylw yr wythnos hon. Fodd bynnag, fel y gwyddoch, wrth inni barhau i fynd i'r afael â'r pandemig hwn, mae'r sefyllfa'n parhau i fod yn heriol. A gaf fi ofyn pa drafodaethau pellach rydych wedi'u cael gydag awdurdodau lleol ynglŷn â chyllid, pe baent angen dyfeisiau eraill, a pha sicrwydd y gallwch chi ei roi y bydd y cyllid hwnnw ar gael drwy grant Llywodraeth Cymru? Diolch.
Diolch, Lynne, ac a gaf fi ddiolch ichi am gydnabod gwaith swyddogion yn Llywodraeth Cymru, swyddogion mewn llywodraeth leol, ac yn wir ysgolion eu hunain a lwyddodd i weithredu mor gyflym yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf? Rydym yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol i nodi anghenion ychwanegol ar hyn o bryd. Byddwn yn dosbarthu 36,000 o ddarnau eraill o offer yn ystod yr wythnosau nesaf, ac rydym yn gweithio'n agos iawn i nodi unrhyw adnoddau ychwanegol y bydd eu hangen yn ychwanegol at hynny, ac rwyf wedi cael sgyrsiau cynhyrchiol iawn gyda Rebecca Evans, y Gweinidog cyllid, mewn perthynas â sicrhau nad yw cyllid yn rhwystr i fynd i'r afael ag anghenion awdurdodau lleol wrth iddynt gael eu cyflwyno imi.
Weinidog, rydych wedi ateb nifer o gwestiynau am gysylltedd digidol, felly efallai y byddaf ychydig yn fwy penodol yn fy nghwestiwn. Rydych chi a minnau'n byw ym Mhowys, felly rydym yn gwybod yn iawn am y materion a'r problemau sy'n codi gyda diffyg band eang. Mae fy mhryder yn ymwneud â'r rhaniad sy'n dod i'r amlwg, rwy'n credu, yn anffodus, rhwng y Gymru drefol a'r Gymru wledig. Tybed pa drafodaethau rydych wedi'u cael yn benodol gyda'ch cyd-Aelodau yn y Llywodraeth, yn enwedig Ken Skates a Lee Waters, ar ailflaenoriaethu'r broses o gyflwyno band eang ledled Cymru, oherwydd, yn aml iawn, gwelwn fod yr ardaloedd hawdd eu cyflawni'n cael eu cyflawni yn gyntaf, a bod yr ardaloedd anoddaf yn cael eu gadael tan yn olaf, ac mae canlyniad negyddol amlwg i hynny yn sgil y ffaith bod plant yn ardaloedd gwledig fy etholaeth i a'ch etholaeth chi ar eu colled. Felly, tybed pa drafodaethau rydych chi wedi'u cael gyda hwy ynghylch ailflaenoriaethu cyflwyno band eang?
Diolch, Russell, ac a gaf fi gofnodi fy niolch i Gyngor Sir Powys, sydd wedi defnyddio rhywfaint o'u cyllideb gyfalaf eu hunain i ychwanegu at yr adnoddau sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru mewn ymdrech i gyflwyno dyfeisiau ychwanegol i bawb sy'n astudio yn y chweched dosbarth ym Mhowys yn ystod y tymor hwn? Ac mae Powys i fod i gael eu cyfran deg o'r 36,000 o ddyfeisiau ychwanegol rydym yn aros iddynt gael eu cyflenwi ar hyn o bryd, ond mae'n dangos ymrwymiad y cyngor hwnnw i geisio sicrhau bod gan bob dysgwr y cyfarpar a'r offer sydd eu hangen arnynt.
Fel y dywedais yn gynharach, mae cysylltedd yn dal i fod yn bryder ledled Cymru, ac rydym yn ymwybodol o hyn yn y Llywodraeth. Mae Lee Waters a Julie James yn edrych i weld pa atebion arloesol y gallwn eu mabwysiadu ar hyn o bryd, gan gydnabod bod y math hwnnw o gysylltedd nid yn unig yn helpu dysgwyr yn ystod y cyfyngiadau symud, ond cymunedau gwledig yn gyffredinol. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn dysgu, onid ydym, nad pethau 'braf i'w cael' yw'r rhain, ond pethau sy'n 'rhaid eu cael' yn ystod y cyfnod ansicr hwn, nid yn unig i blant a dysgwyr, ond hefyd i bobl sy'n gorfod gweithio gartref, neu sy'n ceisio dal i fynd drwy gael cysylltedd digidol.
Weinidog, mae'n amlwg nawr, onid yw, mai cysylltedd yw un o'r hawliau sylfaenol hynny sydd gan bob un ohonom, ochr yn ochr â nwy, dŵr a thrydan. Rwyf am ailbwysleisio'r pwynt sydd wedi'i wneud, a'i wneud hyd yn oed yn gliriach efallai. Gwn mai fforddiadwyedd y cysylltedd yw'r broblem mewn gwirionedd i bobl mewn rhai cartrefi yn fy etholaeth, nid argaeledd na lefel y cysylltedd. Hynny yw, gwn fod Rhondda Cynon Taf wedi gwneud cryn dipyn o waith, gan weithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru, mewn perthynas ag offer, ond hefyd yn nodi'r cartrefi lle na all pobl fforddio ei gael, ac o ganlyniad nid yw'r plant, naill ai'n agored neu'n isganfyddol, yn gallu cael mynediad at y cysylltedd hwnnw ac nid ydynt yn gallu cymryd rhan. Nawr, rwy'n gwybod ei fod yn fater y mae gan RhCT bryderon yn ei gylch. Tybed a yw'n fater y gallech roi sylwadau penodol arno—cymorth ariannol i'r teuluoedd na allant ei fforddio.
Diolch, Mick. Fel y dywedais, gallwn gynorthwyo teuluoedd i ddarparu dyfeisiau MiFi. Rydym yn gweithio'n agos gyda chymheiriaid yn yr Adran Addysg yn Lloegr, sy'n gweithio gyda chwmnïau cyfathrebu i weld beth y gellir ei wneud o ran fforddiadwyedd a mynediad at ddata. Ac er ein bod eisiau lleihau nifer y plant sy'n mynychu eu hysgolion ar hyn o bryd, ac y dylent fod ar agor yn bennaf ar gyfer plant gweithwyr allweddol a phlant sy'n agored i niwed fel rhwyd ddiogelwch sylfaenol, a gaf fi ei gwneud yn glir fod hyblygrwydd i awdurdodau lleol a phenaethiaid ddarparu ar gyfer disgyblion os yw cysylltedd yn rhywbeth sy'n rhwystr gwirioneddol i'w haddysg? A dyna'r rhwyd ddiogelwch derfynol rydym wedi'i rhoi ar waith fel bod hyblygrwydd i awdurdodau lleol ac ysgolion ymateb i hynny, o gofio ein bod yn ceisio cadw'r niferoedd yn ein hysgolion mor isel â phosibl am resymau diogelwch COVID.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Trown yn awr at gwestiynau llefarwyr y pleidiau, a'r cyntaf y prynhawn yma yw Bethan Sayed o Blaid Cymru.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn. Prynhawn da, Weinidog. Yn amlwg, mae'r tarfu ar y rhai sy'n cymryd rhan mewn cyrsiau galwedigaethol a chyrsiau technegol eraill wedi bod yn eithaf gwael. Rydym i gyd angen plymwyr a thrydanwyr drwy gydol y flwyddyn, ac rydym yn clywed gan y sector, er enghraifft, nad yw llawer o'r bobl hyn yn gallu mynd i mewn a gwneud y gwaith ymarferol i allu cwblhau eu tymor yn y flwyddyn academaidd hon. Rwy'n meddwl tybed a ydych wedi ystyried ymestyn y flwyddyn academaidd hon yn unol â rhai o'r galwadau gan sefydliadau fel Colegau Cymru, oherwydd yr anallu o bosibl i fynd i mewn i gyflawni eu gradd neu eu cwrs addysg bellach, ac os felly, a fyddech yn gallu rhoi adnoddau iddynt ymlaen llaw i'w galluogi i wneud hynny?
Lywydd, yn gyntaf, a gaf fi groesawu Bethan Sayed yn ôl i'r Siambr, er ei bod yn un rithwir, a chofnodi fy llongyfarchiadau iddi hi a'i gŵr ar enedigaeth eu mab?
Diolch.
Bethan, rydych yn iawn: mae cymwysterau galwedigaethol yn arbennig o heriol. Mae'r dirwedd ar gyfer y cymwysterau hynny'n llawer mwy cymhleth nag ar gyfer cymwysterau cyffredinol, yn bennaf am nad yw llawer ohonynt yn cael eu rheoleiddio gan ein corff cymwysterau ein hunain. Bydd yr Aelod yn ymwybodol, wedi i ni godi'r cyfyngiadau symud y llynedd, fod y dysgwyr y mae'n cyfeirio atynt wedi cael blaenoriaeth gan eu colegau lleol i allu dychwelyd, pe bai myfyrwyr yn teimlo y gallent wneud hynny, i ganiatáu iddynt gwblhau asesiadau ymarferol fel y gallent ennill eu cymwysterau a'u hachrediad proffesiynol ar gyfer y rolau penodol hynny, a byddwn yn gweithio'n agos gyda Colegau, a sicrhawyd bod adnoddau ariannol ar gael i gynorthwyo gyda'r broses honno. Hefyd, mewn rhai achosion, roeddem yn gallu ymestyn y ddarpariaeth i'r flwyddyn academaidd newydd, ac unwaith eto, roedd adnoddau ariannol ar gael i gynorthwyo cydweithwyr yn hynny o beth. Ac rydym yn awyddus i barhau i gael sgyrsiau gyda'n penaethiaid addysg bellach ynglŷn â'r hyn y gellir ei wneud i ddiogelu dilyniant i fyfyrwyr sy'n cyflawni cymwysterau galwedigaethol ac sy'n ceisio achrediad proffesiynol.
Iawn, diolch yn fawr am yr ateb hwnnw ac am eich cyfarchion; rwy'n gwerthfawrogi hynny. Mae'n ddiddorol eich bod yn dweud bod yr arian wedi dod i'r sefydliadau. Oherwydd na all myfyrwyr fynd yn ôl nes mis Chwefror o bosibl—mae rhai ohonynt yn credu efallai na fyddant yn gallu mynd yn ôl nes yn hwyrach na hynny hyd yn oed—yr hyn rwy'n ei glywed yw y bydd yn arafu eu gallu i gwblhau eu gradd yn y tymor academaidd hwn ac yna, yn amlwg, bydd yn anos byth i ddechreuwyr newydd. Ond mae'n ymddangos eich bod yn awgrymu eu bod wedi cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Rwy'n clywed yn wahanol, ac felly a fyddech yn gallu egluro pa drafodaethau rydych wedi'u cael gyda chyrff cynrychiadol i sicrhau eu bod yn teimlo bod ganddynt ddigon o arian? Ac os nad ydynt yn teimlo eu bod yn cael digon o gefnogaeth, a wnewch chi ymrwymo i gynllun adfer addysg hirdymor ar gyfer y sector? Oherwydd, wrth gwrs, mae'n effeithio ar fwy na'r unigolion, mae'n effeithio ar ffyniant economaidd ein cenedl os na welwn y bobl hyn yn graddio.
Wel, rydych yn llygad eich lle: mae'n bwysig iawn fod yr unigolion hynny'n gallu symud ymlaen, a dyna pam y gwnaethom flaenoriaethu'r dysgwyr hynny y llynedd. Oherwydd yr aflonyddwch parhaus, unwaith eto bydd yn rhaid i ddysgwyr sydd yng ngharfan eleni gael cymorth ychwanegol. Felly, gwnaethom flaenoriaethu'r myfyrwyr hynny y llynedd, ac rydym yn awyddus i barhau i gael sgyrsiau i flaenoriaethu'r myfyrwyr hynny eleni, ac i weithio gyda'r colegau i ddeall beth sydd ei angen arnynt i ganiatáu i asesiadau ymarferol o sgiliau pobl fynd rhagddynt. Er bod colegau ar gau ar gyfer addysgu wyneb yn wyneb i'r rhan fwyaf o'u myfyrwyr, mae eithriad lle mae'n rhaid cynnal asesiadau allanol pwysig. Mae'n bosibl cynnal y rheini mewn colegau o hyd a gwn fod colegau'n gweithio'n galed i ddarparu ar gyfer myfyrwyr yn hynny o beth. Ond o ran cynllun mwy hirdymor, ac fel y nododd y Gweinidog cyllid yn gynharach, tra bod adnoddau ychwanegol ar gael ar gyfer addysg yn y flwyddyn ariannol newydd, bydd effaith COVID-19 ar ddysgu myfyrwyr yn cael ei theimlo am flynyddoedd lawer. Rydym wedi gwneud cynnydd da eleni o ran recriwtio staff ychwanegol, ond ni fyddwn yn gallu dal i fyny yn sgil y pandemig hwn mewn un flwyddyn academaidd, ac yn wir mae angen i ni gael buddsoddiad parhaus a chynllun ar gyfer dal i fyny.
Diolch, ac rwy'n falch eich bod yn cydnabod y bydd y cynllun ar gyfer dal i fyny yn llawer hwy nag un flwyddyn academaidd, ac rwy'n cytuno â hynny.
Mae fy nghwestiwn olaf yn ymwneud ag ad-daliadau rhent prifysgolion ac mae gennyf lawer o gefnogaeth i'r rhai sydd wedi bod yn cymryd rhan mewn streiciau ledled y wlad am nad ydynt eisiau talu eu rhent os nad ydynt yn gallu mynd i'w llety prifysgol. Rydym wedi gweld heddiw fod Prifysgol Caerdydd wedi dweud y byddant yn ad-dalu'r rhent os na allwch fynd. Ddoe, ymgyrchodd myfyrwyr Aberystwyth yn galed i sicrhau bod y brifysgol honno'n gwneud penderfyniad i roi ad-daliad rhent. A ydych yn credu ei bod yn deg fod myfyrwyr yn gorfod talu rhent am lety nad ydynt yn byw ynddo? Ac os nad ydych yn credu ei fod yn deg, sut y byddwch yn cefnogi prifysgolion sydd eisiau rhoi'r ad-daliad hwnnw—h.y. a wnewch chi roi mwy o gymorth ariannol iddynt wneud hynny? Ac a ydych wedi edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn y sector preifat? Rwy'n gwybod ei fod yn llawer mwy cymhleth, ond a oes unrhyw bosibiliadau ar gyfer ad-daliad rhent yno i fyfyrwyr a allai fod yn y sector rhentu preifat, sydd hefyd yn haeddu cael yr ad-daliad hwnnw, oherwydd, wrth gwrs, maent yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru i aros gartref ar hyn o bryd?
Mae gennyf bob cydymdeimlad â myfyrwyr sy'n cadw at reolau Llywodraeth Cymru ac sydd ddim yn teithio i brifysgolion ar hyn o bryd i fyw mewn llety y maent wedi talu amdano neu y maent i fod i dalu amdano o ganlyniad i gyfyngiadau parhaus. Y llynedd, roedd pob un o'n prifysgolion yn bwriadu darparu ad-daliadau ac rydym yn croesawu hynny ac rwy'n croesawu'r camau a gymerwyd gan nifer o sefydliadau yng Nghymru ar yr adeg hon i wneud yr un peth. Rwy'n cynnal trafodaethau agos gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, prifysgolion, a chydag Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru y prynhawn yma, i weld beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu o ran rhent, a chaledi ariannol cyffredinol yn wir y gallai myfyrwyr fod yn ei wynebu ar hyn o bryd, ac rwy'n gobeithio gwneud cyhoeddiad cyn bo hir.
Diolch. Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch ichi am yr atebion hynny i Bethan Sayed hefyd, Weinidog—roedd hynny'n ddefnyddiol iawn.
Hoffwn ddechrau gydag ysgolion yn cau. Yn amlwg, dywedwyd wrthym dro ar ôl tro fod ysgolion eu hunain yn amgylcheddau risg isel iawn, er bod yr amrywiolyn hwn yn fwy heintus na'r fersiwn flaenorol. Mae adroddiad diweddaraf y gell cyngor technegol yn nodi eto mai ymddygiad o amgylch ysgolion sy'n creu risg o drosglwyddo, yn hytrach nag o fewn yr ysgolion eu hunain. Ond nid yw honno'n wybodaeth newydd. Roedd Aelodau eraill o'r Senedd a minnau'n sôn am hyn gyda'n byrddau iechyd yn ôl yn yr hydref. Felly, er nad wyf yn anghytuno o gwbl â'ch penderfyniad uniongyrchol i gau ysgolion, hoffwn ofyn dau beth mewn perthynas â chau ysgolion: a ydych yn credu y byddai wedi bod yn ddefnyddiol cael ymgyrch weladwy iawn yn targedu disgyblion hŷn, myfyrwyr a'u teuluoedd i egluro mai eu hymddygiad yn gysylltiedig ag ysgol neu goleg—a chredaf mai dyna'r geiriau—yw'r rheswm dros gau ysgolion? A pha gamau sy'n agored i chi nawr i ddiogelu staff a phlant rhag y dylanwad allanol hwnnw heb fynd i gau ysgolion? Nid yw'n ymddangos bod y profi ac olrhain y sonioch chi amdano cyn y Nadolig wedi cyrraedd y nod. Nid ydym wedi clywed llawer am brofi ers hynny chwaith. Mae'n debyg eich bod wedi clywed hefyd fod anghysondeb gwirioneddol yn y cynnig i blant gweithwyr allweddol fynychu hybiau ysgol, sydd ar agor, ac nid yw hynny'n helpu'r ddadl dros gau ysgolion.
Diolch, Suzy. Yn gyntaf oll, a gaf fi ddweud bod ysgolion ac awdurdodau lleol yn ogystal â cholegau a phrifysgolion wedi gweithio'n galed iawn yn ystod mis Gorffennaf a thymor yr hydref i wneud eu hamgylcheddau mor ddiogel â phosibl rhag COVID, ac rwy'n eu cymeradwyo am hynny? Mae amrywiolyn newydd y feirws yn creu heriau newydd, er nad yw'r risg gymharol i ysgolion yn cynyddu, ond wrth gwrs, mae unrhyw le lle mae pobl yn ymgynnull yn gyfle i'r feirws ledaenu. Mae'r Aelod hefyd yn gywir i ddweud ei bod yn anodd iawn canfod lle'n union mae'r trosglwyddo'n digwydd, ac mae pryderon nid yn unig ynghylch gweithgareddau diwedd dydd—dechrau diwedd y diwrnod ysgol—ond drwy gadw ysgolion ar agor, mae'n caniatáu i oedolion eraill, nad ydynt yn yr ysgol, gymysgu'n fwy rhydd, sydd hefyd yn effeithio ar y gyfradd R.
Ar hyn o bryd, rydym yn adolygu ein canllawiau gweithredol yng ngoleuni argymhellion y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau ynglŷn â sut y gallwn wneud yr amgylcheddau hynny hyd yn oed yn fwy diogel, sut y gallwn atgyfnerthu negeseuon ynghylch ymddygiad diogel, megis sut rydych yn cerdded i'r ysgol yn y bore, rhannu ffonau symudol a chaniau diod, a'r holl weithgareddau eraill lle mae pobl, efallai, yn llai ymwybodol y gallant fod yn ffynonellau trosglwyddo y tu allan i leoliad rheoledig. Ond wrth gwrs, mae cadw lefelau cymunedol y trosglwyddiad mor isel â phosibl hefyd yn gwbl hanfodol. Mae plant a'r rhai sy'n gweithio yn ein hysgolion yn byw yn ein cymunedau, a phan fo lefelau trosglwyddo cymunedol yn uchel, mae hynny'n ddieithriad yn llwyddo i amharu ar addysg.
O ran profion asymptomatig, cyflwynwyd gweminarau ar-lein yr wythnos diwethaf ar weithredu trefn brofi i gefnogi ysgolion pan fydd mwy o blant yn gallu dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb, ac rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i nodi unrhyw rwystrau sy'n atal ysgolion ac awdurdodau addysg lleol rhag gweithredu profion asymptomatig cyn gynted â phosibl.
Iawn, wel, rwy'n edrych ymlaen at weld rhywfaint o weithgarwch mewn perthynas â'r profi hwnnw; fel y dywedais, roedd wedi mynd ychydig yn dawel. Weinidog, yn amlwg fe fyddwch yn gwybod fy mod yn cefnogi'r syniad o flaenoriaethu brechiadau i grŵp ar wahân o staff ysgol ar ôl i'r pedwar grŵp sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan risg marwolaeth gael eu trin yn llawn. Mae'r awgrymiadau presennol ar gyfer cam 2 a ddyfeisiwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn seiliedig yn bennaf ar oedran. O gofio'r goblygiadau hirdymor yn sgil parhau i golli dysgu—ac mae'r pryderon ynglŷn â hyn yn cael eu cyfleu dro ar ôl tro yn yr honiadau mai ysgolion ddylai fod yr olaf i gau a'r cyntaf i agor—rwy'n chwilfrydig i ddarganfod beth yw eich safbwynt personol ar hyn. A ydych yn credu y dylwn fod yn cael fy mrechlyn cyn unrhyw aelod o staff ysgolion oherwydd fy mod yn hŷn na hwy?
Suzy, rwy'n cefnogi gwaith y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn llwyr o ran sut y mae wedi nodi pwy sydd fwyaf tebygol o wynebu niwed difrifol neu farwolaeth o ganlyniad i ddal COVID-19. Bydd aelodau o staff, yn yr ysgol a'r rhai sy'n cefnogi addysg mewn rolau eraill, yn cael eu brechu yn unol â'u risg gymharol o niwed. Mae llawer o'r athrawon rwy'n siarad â hwy nid yn unig yn poeni am eu hunain ond yn poeni am fynd â'r feirws adref at aelod o'u teulu a allai fod yn agored i niwed. Os byddwn yn tarfu ar y rhaglen frechu, efallai y bydd yr aelod hwnnw o'r teulu yn aros ychydig yn hwy. Mae athrawon eraill yn sôn am eu pryder y gallai plant fod yn mynd â'r feirws adref i aelodau o'u teuluoedd a'u cymuned sy'n agored i niwed, ac unwaith eto, mae'r rhaglen gyffredinol wedi'i chynllunio i sicrhau cymaint o ddiogelwch rhag niwed â phosibl.
Y ffordd gyflymaf o frechu ein hathrawon yw dilyn canllawiau'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu cyn gynted â phosibl, ac mae Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd yn symud pob mynydd posibl i wneud i hynny ddigwydd. Felly, wrth i ni benderfynu pwy ddylai gael eu brechu nesaf, ni fyddai dim yn rhoi mwy o bleser imi na blaenoriaethu staff addysg, a gweithwyr rheng flaen eraill yn wir, a gwn y bydd tystiolaeth yn cael ei chyflwyno i'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wrth iddynt wneud penderfyniadau pellach ar gyflwyno'r rhaglen ymhellach. Ond yn amlwg, rwy'n awyddus iawn i weld staff ein gweithlu addysg yn cael eu brechu cyn gynted â phosibl.
Iawn, wel, diolch am hynny. Fe wnes lanast o'r blaenlythrennau hynny i ddechrau hefyd. Iawn, wel, rydych yn 'awyddus iawn'; fe gymeraf hynny fel datganiad cadarnhaol, felly.
Hoffwn fynd yn ôl, os caf, at gysondeb ansawdd a maint yr addysgu ar-lein. Rwy'n gwybod ein bod wedi siarad amdano gryn dipyn heddiw, ond tybed a allech ddweud wrthym beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn i'r £29 miliwn a ddarparwyd ar gyfer 600 o athrawon newydd a 300 o gynorthwywyr addysgu i helpu i gynnal a dal i fyny ar ddysgu, yn enwedig gan ein bod newydd glywed bod £12 miliwn arall ar ei ffordd. Rydym yn derbyn bod adferiad COVID ym maes addysg yn hirdymor, felly byddwn yn wyliadwrus ynghylch rhuthro i wario cryn dipyn o arian ar unwaith, oherwydd ei fod ar gael, os nad yw'n mynd ar staff, ond os nad yw'n mynd ar staff ond ei fod yn dal i gael ei ddefnyddio i gefnogi safonau, a allwch chi ddweud wrthym sut y mae'n cael ei ddefnyddio? Byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gwybod a oes rhywfaint o hwn yn mynd i'r consortia, er enghraifft, oherwydd eu gwaith hwy yw cynnal safonau, ac yn wir, a oes trafodaethau, a chlywsom rywfaint am hyn yn gynharach, ynghylch ei ddefnyddio i gynnig cymhorthdal at gost band eang i deuluoedd sy'n ei chael yn anodd cael digon o fynediad at fand eang, er mwyn darparu pethau fel donglau ac estynyddion Wi-Fi, neu brynu data ychwanegol iddynt.
Diolch, Suzy. Gallaf adrodd am gynnydd sylweddol yn sgil y defnydd o'r £29 miliwn, sydd yn wir wedi arwain at recriwtio, yn erbyn y targedau roeddem wedi'u gosod i'n hunain. Gwerir adnoddau ychwanegol nad ydynt yn cael eu gwario ar staff mewn amryw o ffyrdd, gan gynnwys cefnogi'r gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol i ddarparu dysgu proffesiynol parhaus, fel y gall athrawon wella eu sgiliau a gwella lefel eu hyder, yn ogystal â darparu adnoddau ychwanegol fel bod gan athrawon ddeunyddiau addysgu parod a deunyddiau cymorth y gallant eu defnyddio pan fyddant yn darparu dysgu cyfunol. Felly, mae'r adnodd ychwanegol hwnnw'n cael ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd i gefnogi'r ymdrech dysgu o bell.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cysondeb o safbwynt dysgu o bell mewn ysgolion ar draws Cymru? OQ56116
Diolch yn fawr, Llyr. Mae canllawiau clir wedi'u cyhoeddi i ysgolion ac awdurdodau lleol ar ddysgu o bell yn ogystal â ffrydio gwersi byw a gwersi wedi'u recordio ymlaen llaw. Mae lle pwrpasol i'w gael ar Hwb sy'n cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol. Cynhyrchwyd canllawiau gan Estyn a'r consortia hefyd, gydag ystod o gymorth ar gael i ysgolion ac i rieni.
Ers i fi osod y cwestiwn yma, wrth gwrs, mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd wedi cael rhywbeth i'w ddweud ar y mater yma, ac mae hi wedi disgrifio dysgu ar-lein fel rhywbeth sydd yn fratiog ac yn anghyson, ac mae yna anghysondebau dybryd rhwng nid yn unig awdurdodau addysg gwahanol, ond rhwng ysgolion unigol oddi fewn i awdurdodau addysg hefyd, a dwi ddim jest yn sôn fan hyn am fynediad i gyfarpar a chysylltedd; mae yna anghysondeb o ran faint o oriau dysgu y mae disgwyl i blant wneud bob dydd, pa fath o waith y gellir ei ddisgwyl, pa blatfformau digidol sy'n cael eu defnyddio. Mae rhai yn cael gwersi ar-lein wyneb yn wyneb; mae rhai ddim a dim ond yn cael taflenni gwaith i'w cwblhau. Nawr, dwi ddim yn gwybod os ŷch chi'n cytuno, felly, gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol y dylech chi fod wedi gwneud mwy i sicrhau gwell cysondeb ar draws Cymru trwy roi gwell arweiniad ar hyn i ysgolion ac awdurdodau lleol fel Llywodraeth, oherwydd canlyniad yr anghysondeb yma yw bod gennym ni ryw fath o loteri cod post, lle mae rhai plant ar eu hennill a rhai plant ar eu colled, a'r cyfan mae hynny'n ei wneud, wrth gwrs, yw dwysáu'r anghydraddoldebau sydd eisoes yn rhy amlwg o fewn y gyfundrefn addysg yng Nghymru ar hyn o bryd.
Diolch, Llyr. Rhaid imi ddweud, nid wyf yn gwybod ai canllawiau ychwanegol yw'r hyn rydym ei angen. Yn aml, clywn gan addysgwyr fod Llywodraeth Cymru'n cynhyrchu llawer gormod o ganllawiau a bod ceisio dal i fyny â'r cyfan yn faich ynddo'i hun. Cyhoeddwyd ein cynlluniau dysgu o bell ym mis Gorffennaf. Maent wedi cael eu diweddaru. Mae canllawiau pellach, fel y dywedais, yn cael eu cyhoeddi heddiw gyda ffocws ar ein dysgwyr hŷn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod y camau breision y mae system addysg Cymru wedi'u gwneud ar yr adeg hon, ac nid fi'n unig sy'n dweud hynny; roedd Estyn, ein harolygydd ysgolion, yn ymwneud â nifer—. Wel, mewn gwirionedd, fe wnaethant ymweld â phob awdurdod addysg yn ystod tymor yr hydref. Unwaith eto, weithiau ni châi hynny groeso gan ein hawdurdodau addysg lleol am eu bod yn teimlo bod ganddynt ddigon i'w wneud yn eu gwaith o ddydd i ddydd heb fod yn atebol i Estyn, ond mae Estyn wedi gallu darparu cymorth ac argymhellion unigol i bob un o'n hawdurdodau addysg lleol, ac mae'n dweud bod newid sylweddol i'w weld.
Gan ein bod yn trafod comisiynwyr, cynhaliodd Comisiynydd Plant Cymru ddiwrnod gwrando nôl ym mis Tachwedd, a dyfarniad unfrydol pob person ifanc a gymerodd ran yn y gwasanaeth ar-lein oedd bod cynnig ar-lein ysgolion wedi gwella'n sylweddol ers y cyfyngiadau symud cyntaf. Nawr, yn amlwg, mae angen inni barhau i nodi'r ysgolion sy'n gweld hyn yn her a chefnogi'r ysgolion hynny i ddeall y rhwystrau sydd ganddynt. Mae cyngor ac arweiniad ar gael ar Hwb, yn ogystal â chyfle i gydweithwyr gefnogi ei gilydd a dysgu oddi wrth ei gilydd. Ac mae'n rhaid i mi ganmol GwE, y consortia rhanbarthol yn y gogledd, sydd wedi gwneud ymdrechion aruthrol yn ystod tymor yr hydref, o'r hyn rwy'n ei ddeall o siarad â phenaethiaid yn y gogledd, i ddarparu cyfleoedd dysgu proffesiynol i addysgwyr wella eu sgiliau yn y maes hwn, ac rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau addysg lleol i sicrhau bod y cynnig yn gyson ac o ansawdd uchel.
Fel y dywedwyd droeon y prynhawn yma, mae rhieni a disgyblion angen mynediad ar-lein sy'n gyflym ac yn ddibynadwy. Mae hynny'n helpu i sicrhau cysondeb mewn dysgu o bell, a chredaf ei bod yn bwysig nawr, Ddirprwy Lywydd, inni gofnodi bod band eang yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Geidwadol y DU, ond mae'n rhaid imi ddweud, nid fy etholwyr sydd ar fai am eu methiannau dros y blynyddoedd. Yn yr ysbryd hwnnw, Weinidog, nid oes gan rannau o fy etholaeth, fel llawer o rai eraill ledled Cymru, y mynediad cyflym a dibynadwy iawn y maent yn ei haeddu, ac mae gan rieni le i fod yn bryderus, felly rwy'n ceisio sicrwydd yma heddiw na fydd hynny'n effeithio ar addysg eu plant. Felly, beth y gallwch ei ddweud wrth drigolion Sir y Fflint, yn enwedig, a beth y gall eich adran ei wneud i roi sicrwydd y bydd y plant hynny'n cael yr addysg y maent yn ei haeddu ac y mae ganddynt hawl iddi? Efallai y gallech roi sylw pellach, Weinidog, ar sut y byddent yn mynd ati i gael mynediad at un o'r dyfeisiau Mi-Fi hyn yn y tymor byr.
Diolch, Jack. Mae'r hyn rydych yn ei ddweud yn gywir, o ran pwy sy'n gyfrifol am gyflwyno band eang yn y pen draw. Yn wir, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo symiau sylweddol o'i hadnoddau ei hun i geisio mynd i'r afael â'r diffyg a welwn yn ein gwlad. Ond serch hynny, fel y dywedoch chi, nid yw hynny'n gysur i rieni neu fyfyrwyr sy'n cael trafferth ar hyn o bryd. Fel y dywedais, rydym wedi gofyn am asesiad cynnar gan awdurdodau lleol o'u hanghenion ar yr adeg hon, ac rwy'n siŵr y bydd Sir y Fflint yn cyflwyno ei gofynion yn fuan, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'w cynorthwyo gyda'r rheini.
Fy nghyngor i deuluoedd ar yr adeg hon os ydynt yn cael trafferth gyda gliniadur neu gysylltedd yw y dylent roi gwybod i'w hysgol yn gyntaf, rhag ofn bod cyfarpar y gellid ei fenthyg iddynt ar gael mewn ystafell ddosbarth, neu i siarad â'u hawdurdod lleol, a fyddai eisiau helpu, rwy'n siŵr.
Rwy'n credu ei bod yn deg dweud y bu rhywfaint o oedi mewn perthynas â pheth o'r offer rydym wedi gallu ei gyflenwi i ysgolion. Mae hynny oherwydd y galw byd-eang am offer TG ar hyn o bryd, ond gobeithiwn allu dosbarthu 35,000 o gyfarpar pellach yn ystod yr wythnosau nesaf ar ben y cyfarpar sydd eisoes ar gael.
Yn wahanol i Loegr, lle mae'n orfodol i ysgolion ddarparu isafswm o ddysgu o bell y dydd, wedi'i oruchwylio gan arolygwyr ysgolion, nid oes dyletswydd gyfreithiol ar ysgolion yng Nghymru i ddarparu isafswm o addysgu ar-lein, ac nid yw arolygwyr ysgolion yn goruchwylio hyn yma. Fel yr adroddwyd heddiw, dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru fod addysg ar-lein yng Nghymru tra bod ysgolion ar gau yn dameidiog ac yn anghyson, a dywedodd y dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i sicrhau cysondeb dysgu mewn ysgolion ledled Cymru, ond dywedodd hefyd fod angen arweinyddiaeth go iawn o'r brig. Sut rydych chi'n ymateb felly i riant yn Sir y Fflint a anfonodd e-bost yr wythnos diwethaf yn dweud nad oedd ei phlant ysgol gynradd wedi cael eu haddysgu'n effeithiol ac yn gofyn pam nad oedd eu hysgol mewn sefyllfa o hyd i roi gwersi byw ar-lein; ac i'r datganiad gan Ffederasiwn Penaethiaid Ysgolion Uwchradd Gogledd Cymru fod blynyddoedd 11 a 13 presennol wedi cael gostyngiad sylweddol yn eu darpariaeth wyneb yn wyneb, nad yw lefel y gostyngiad hwn yn gyfartal ar draws pob ysgol, ac nad yw'n effeithio ar bob disgybl i'r un graddau?
Byddwn yn dweud, Mark, nad bai'r ysgolion, yr awdurdod addysg lleol na hyd yn oed Llywodraeth Cymru yw'r disgrifiad o ddysgu uwchradd rydych newydd ei roi. Y ffaith bod gwahanol ysgolion wedi cael eu taro gan wahanol lefelau o achosion positif sydd i gyfrif am hynny. Mae rhai ysgolion yng Nghymru—yn wir, nid yw'n rhif ansylweddol—heb gael achos positif hyd yma, diolch byth, er ein bod yn gwybod bod ysgolion eraill yng Nghymru wedi'u heffeithio'n ddifrifol tu hwnt gan achosion COVID poistif, ac mae hynny wedi arwain at darfu sylweddol. Yr achosion lle rydym wedi gweld y lefelau uchaf o'r clefyd yn y gymuned yw'r ysgolion sydd wedi gweld y lefelau uchaf o darfu, ac nid oes bai ar neb am hynny. Mae'n deillio o'r ffordd y mae'r clefyd wedi anrheithio ein gwlad.
Ar ganllawiau ar gyfer dysgu o bell, mae gan Lywodraeth Cymru ganllawiau hirsefydlog sy'n glir iawn ynglŷn â'n disgwyliadau, a byddai'n well gennyf fod yn gweithio ochr yn ochr â'n harolygwyr sydd, fel y dywedais wrth Llyr Gruffydd, ac mae'n ymddangos fod Mark yn anymwybodol o hyn, wedi ymweld â phob awdurdod addysg lleol yn ystod tymor yr hydref i edrych ar ddigonolrwydd eu cynlluniau ar gyfer dysgu o bell a'u cefnogaeth i ysgolion unigol, a chafodd penaethiaid eu cyfweld fel rhan o'r broses honno fel eu bod yn gallu rhoi adborth. Mae pob awdurdod lleol wedi cael adroddiadau unigol ar eu parodrwydd a'u cefnogaeth i'w systemau ysgolion. Os oes bylchau, rwy'n siŵr y bydd yr awdurdodau lleol hynny am fynd i'r afael â hwy. Ac yn gyffredinol, dywed Estyn fod ysgolion wedi gwneud cynnydd sylweddol ar wella eu darpariaeth. Mae mwy y gallwn ei wneud drwy weithio mewn partneriaeth gyda'n gilydd; ni fydd bygwth ysgolion yn helpu ar hyn o bryd.
Weinidog, a gaf fi ddechrau drwy ganmol y gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo mewn ysgolion, gyda'r staff addysgu ond hefyd gyda'r penaethiaid a'r dirprwy benaethiaid i sicrhau'r cynnydd sydd wedi'i wneud? Nid wyf eisiau gorbwysleisio'r pwynt, ond mae canllawiau Hwb yn dda iawn ond mae'n rhoi disgresiwn llwyr i'r pennaeth a staff yr ysgol yn seiliedig ar yr amodau yn yr ysgol, yn seiliedig ar yr adnoddau sydd ar gael iddynt o ran faint o amser wyneb yn wyneb a faint o ffrydio byw sy'n digwydd. Nawr, mae honno'n gydnabyddiaeth deg o'r amodau hynny ym mhob ysgol benodol ac ym mhob amgylchedd penodol, ond Weinidog, tybed a oes gennych ymagwedd 'mewn egwyddor', gan gydnabod, ar egwyddorion tegwch, ei fod hefyd wedi'i nodi yng nghanllawiau Hwb y dylai fod cyfleoedd i gynnal cysylltiadau â staff addysgu a staff cymorth a chyfoedion yn ystod y cyfnod o arwahanrwydd cymdeithasol posibl. Felly, sut y mae sicrhau'r cydbwysedd cywir ac a ddylid cael cyswllt wyneb yn wyneb ac os felly, faint a pha mor aml?
Mae dau fater yn codi. Yn gyntaf, mae gennych wersi sy'n cael eu ffrydio'n fyw, ac rydym yn gweld y rhain yn cael eu defnyddio fwyfwy ledled Cymru, gan gydnabod fod hynny ynddo'i hun yn creu heriau gwahanol i ddysgwyr a theuluoedd unigol, a dyna pam y mae'n rhaid i ni gael disgresiwn i benaethiaid sy'n adnabod eu cymunedau a'u carfannau, eu plant ysgol a'u rhieni orau i allu creu cynnig dysgu cyfunol sy'n diwallu'r anghenion yn iawn. Byddant hefyd, wrth gwrs, yn newid yn dibynnu ar oedran y garfan. Fel y dywedais yn gynharach, nid wyf yn credu y byddai'r un ohonom eisiau i'n plant ieuengaf eistedd o flaen sgriniau am oriau bwy'i gilydd.
Ond yn gwbl briodol fel y dywedwch, mae'n bwysig i blant gael cyswllt rheolaidd, nid yn unig o safbwynt addysgeg, ond o safbwynt diogelu plant, lles ac iechyd meddwl. Felly, mae ein canllawiau'n glir iawn y dylid cael cyfarfodydd rheolaidd, nid yn unig mewn gwersi, ond cyfarfodydd rheolaidd gyda disgyblion i ddarparu cyfle i ddeall sut y mae'r profiad dysgu'n mynd, a yw'n gweithio, a yw plant yn ffynnu, ac o bosibl, i allu ystyried cymorth ychwanegol a dulliau ychwanegol os oes angen.
5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu ysgolion i ddod o hyd i ffyrdd mwy arloesol o ddarparu addysg yng nghyd-destun y cyfyngiadau a ddaw yn sgil atal y pandemig? OQ56106
Diolch, Jenny. Drwy gydol y pandemig, rydym wedi darparu ystod eang o adnoddau ar Hwb, ac mae'r rhain yn parhau i gael eu datblygu i gefnogi ysgolion. Rydym yn parhau i gasglu arferion a dulliau cadarnhaol gan ysgolion, gan eu cyhoeddi ar ein tudalennau 'Rhannu ein profiadau', ac rydym yn bwriadu manteisio ar bob cyfle i gefnogi arloesedd.
Gwych. Cyn i'r holl ddisgyblion ddychwelyd yn nhymor yr hydref, gwn fod Estyn wedi cyhoeddi dogfen yn coladu'r arferion da a ddatblygwyd gan lawer o ysgolion, a gwn fod rhai ysgolion yng Nghaerdydd wedi croesawu'r profiadau dysgu awyr agored fel rhan o'r rhaglen adfer llesiant. Ond cefais sioc o ddysgu'n ddiweddar am adwaith gelyniaethus aelodau o'r cyhoedd i un ysgol yn mynd â swigen ddosbarth i'r cae chwarae lleol, a oedd yn eithaf brawychus o ystyried y diffyg dealltwriaeth o'r hyn sydd ei angen ar blant.
Gan fod yn rhaid i ni droi'n ôl at ddysgu o bell yn awr, mae gan rai ysgolion gynlluniau dysgu cyfunol sydd wedi'u llunio'n dda iawn, gan gynnwys gwersi ar-lein priodol gyda grwpiau gwahaniaethol o ddisgyblion, yn dibynnu ar eu lefelau dysgu, ond mae eraill—. Dywedwyd wrth un athro nad oedd modd gwneud gwersi ar-lein oherwydd mater yn ymwneud â diogelu. Rwy'n ymwybodol fod gennym yr holl wybodaeth wych hon ar Hwb, sy'n destun cenfigen i athrawon yn Lloegr, ond serch hynny mae'n siŵr y bydd ymarfer yn dameidiog, o ystyried bod gan rai ysgolion gyfrifoldebau sylweddol iawn mewn perthynas â diogelu ac amddifadedd ymhlith llawer o'u disgyblion. Roeddwn yn meddwl tybed beth y gallwn ei wneud yn awr i sicrhau bod y consortia ac Estyn yn mynd ati o ddifrif i rannu'r arferion gorau ac yn rhoi'r gefnogaeth fwyaf i'r rheini sydd â'r heriau mwyaf, gan gyfeirio'n ôl at yr hyn roedd Llyr Gruffydd yn ei ddweud yn gynharach.
A gaf fi ei gwneud yn gwbl glir, er y dylid cynnal asesiad risg a rhoi cymorth a hyfforddiant i staff, nad oes dim yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru sy'n atal ysgolion rhag cyflwyno gwersi byw? Yn wir, mae'r gwersi byw hynny'n digwydd bob dydd yng Nghymru. Maent yn digwydd yn ddiogel ac maent yn gweithio'n dda, ac mae mwy a mwy o ysgolion yn croesawu'r elfen honno o ddysgu o bell fel rhan o'u darpariaeth ac fel rhan o'u cynnig. Felly, nid oes dim i atal hynny rhag digwydd, ac mae cefnogaeth ac arweiniad clir iawn ar gael i arweinwyr ac addysgwyr ysgolion i alluogi hynny i ddigwydd. Rydych yn llygad eich lle. Rwy'n cael sgyrsiau wythnosol gyda chymheiriaid yn yr awdurdodau addysg lleol fel y gallwn gydweithio i nodi ysgolion lle ceir pryderon neu drafferthion, ac i allu sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi gan y consortia rhanbarthol gyda'u datblygiad proffesiynol i fynd i'r afael â'r materion hyn. Deallaf hefyd fod gwersi byw yn creu heriau penodol i rieni, fel sy'n wir gyda dysgu o bell yn gyffredinol, felly mae adnoddau ar gael ar Hwb unwaith eto i rieni ddeall sut i ddefnyddio Hwb, sut i fewngofnodi, sut i gael mynediad am ddim at feddalwedd Adobe, mynediad am ddim at feddalwedd Microsoft Office, ac mae'n bwysig cydnabod bod y deunydd cymorth hwnnw ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg yn ogystal ag amryw o ieithoedd cymunedol hefyd i sicrhau y gall pob rhiant gael cyfle i ddefnyddio'r cymorth hwnnw.
Weinidog, a gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn i'ch gwahodd i longyfarch ysgol arbennig Headlands ym Mhenarth, sydd wedi cael gwobr cydnabyddiaeth o ragoriaeth yn ddiweddar gan Uchel Siryf De Morgannwg oherwydd y ffordd arloesol y mae wedi ymateb i'r pandemig, yn enwedig ym maes dysgu o bell a dysgu cyfunol? Un o'r pethau allweddol oedd allgymorth gweithredol, boed yn alwadau ffôn, Zoom neu Teams, fel bod rhieni a phlant sydd efallai'n cael anhawster arbennig i gael mynediad at addysg o'r fath yn cael y math o gymorth arbenigol y mae athrawon yn ei roi yn naturiol yn yr ystafell ddosbarth i'r disgyblion sydd angen ychydig o anogaeth a chymorth ychwanegol, ac mae angen i ni sicrhau bod y sgil allweddol hwnnw'n cael ei ddefnyddio'n briodol.
David, rwy'n awyddus iawn i longyfarch a mynegi fy niolch diffuant i Headlands, sy'n rhagorol yn y ffordd y maent wedi ymateb mor rhagweithiol a chyda sgil ac arloesedd gwych i gefnogi eu dysgwyr a'u teuluoedd ar yr adeg hon. Gwn eu bod hwy ac eraill yno yn awyddus iawn i allu rhannu eu harferion da, eu gwybodaeth a'u sgiliau, fel y gall ysgolion eraill ymateb mewn ffyrdd tebyg. Rydym yn gofyn cymaint gan ein system addysg ar hyn o bryd, a thra gallwn rannu'r arferion da hynny, mae'n arbed addysgwyr unigol rhag gorfod ailddyfeisio'r olwyn, ac yn aml, ystyrir mai cefnogaeth rhwng cymheiriaid yw'r cymorth mwyaf gwerthfawr. Nid yw'n fygythiol, nid yw'n cwestiynu galluoedd pobl, ac yn aml felly, cymorth rhwng cymheiriaid yw'r ffordd fwyaf priodol o ysgogi newid a sbarduno gwelliant.
6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella safonau addysg yng Nghanol De Cymru drwy gydol pandemig COVID-19? OQ56087
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu dros £7.5 miliwn o arian grant i awdurdodau lleol yng Nghanol De Cymru i recriwtio, adfer a chodi safonau. Bydd hyn yn helpu ysgolion yn ardal yr awdurdod lleol i ddarparu cymorth ychwanegol i'r plant mwyaf difreintiedig, mwyaf agored i niwed, a'r rhai a ddylai fod yn gwneud cymwysterau allanol.
Diolch am eich ateb. Rydym wedi ymdrin â chryn dipyn o faterion heddiw sy'n ymwneud â dysgu o bell. Gwn fod cefnogaeth i rieni sy'n addysgu gartref ar yr Hwb, y sonioch chi amdano'n gynharach, sy'n dda, ac rwyf hefyd yn derbyn bod mater yn codi o ran faint o ganllawiau y dylai Llywodraeth Cymru eu darparu. Mae'n ymwneud â sicrhau cydbwysedd, fel yr awgrymoch chi mewn ateb cynharach. Cyfeiriodd David Melding at arferion da Ysgol Headlands, ac rwy'n credu bod hynny'n ddiddorol, oherwydd rwy'n meddwl tybed, yn y tymor hwy, pan fyddwn wedi cefnu ar argyfwng COVID, a ydych yn rhagweld unrhyw bethau cadarnhaol yn deillio o'r profiad rydym wedi'i gael o ddysgu o bell.
Mae'n anodd dod o hyd i fanteision ar yr adegau mwyaf heriol hyn, ond yn wir mae yna bethau y mae angen inni eu dysgu. I rai plant sy'n gweld amgylchedd yr ysgol yn heriol, mae dulliau newydd ychwanegol o ddarparu addysg yn cael eu datblygu ar yr adeg hon y gellid eu defnyddio i gynorthwyo'r unigolion hynny. Siaradais ag un dyn ifanc mewn ysgol yng ngogledd Cymru a oedd wedi bod yn cael ei addysg o bell yn ystod y cyfnod atal byr, a dywedodd ei fod yn llawer gwell ganddo hynny na mynychu'r ysgol, a hynny'n unig am nad oedd yn rhaid iddo ddioddef y daith awr o hyd i'w leoliad addysg sy'n rhaid iddo ei dioddef yn y bore. Nid wyf eisiau bod yn ysgafn, ond mae yna wersi y gallwn eu dysgu, ac mae yna arferion da y gallwn eu rhannu.
Soniodd David Melding am enghraifft Headlands. Rwy'n ddiolchgar i gyngor Ceredigion, sydd wedi cynnig cyfle i gynorthwyo ysgolion mewn ardaloedd eraill, oherwydd mae ganddynt brofiad o'r rhaglen E-sgol sydd wedi bod yn mynd rhagddi ers nifer o flynyddoedd bellach, ac sy'n darparu pynciau Safon Uwch cyfan o bell yn llwyddiannus iawn. Gwn eu bod yn awyddus iawn i allu lledaenu'r arbenigedd y maent wedi'i feithrin dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn gallu datblygu a chefnogi dysgu o bell mewn rhannau eraill o Gymru, ac rwy'n ddiolchgar am hynny. Mae'n dangos y cydymdrech sy'n bodoli yn system addysg Cymru i gefnogi plant Cymru ar yr adeg heriol hon.
Ac yn olaf, cwestiwn 7, Mandy Jones.
7. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith parhau i gau ysgolion ar safonau addysgol yng Ngogledd Cymru? OQ56079
Diolch yn fawr iawn, Mandy. Mae COVID-19 wedi cael effaith fawr ar addysg, gan gynnwys y newid presennol i ddysgu ar-lein ar gyfer y rhan fwyaf o'n plant. Comisiynais Estyn i gynnal adolygiad o ddulliau awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol o gefnogi dysgu a dysgwyr sy'n agored i niwed yn ystod y pandemig, a bydd hwnnw'n cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Weinidog, rwyf wedi mynegi fy mhryderon am ein pobl ifanc yn y gorffennol, ond mae rhieni pryderus yn cysylltu â mi yn awr ynglŷn â safon a chysondeb y dysgu ar-lein y mae eu plant yn ei dderbyn. Ar wahân i'r hyn a ddywedodd Llyr a Mark yn gynharach, mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol Cymru hefyd wedi dweud y gallai fod angen prif swyddog digidol ar gyfer addysg. A allwch chi ddweud pa ganllawiau y mae ysgolion wedi'u cael mewn perthynas â darpariaeth o bell a pha ymdrechion sy'n cael eu gwneud i sicrhau dull cyson, fel nad yw'n dameidiog ac yn anghyson, er mwyn sicrhau y bydd plant yn ysgol A yn derbyn addysg ar-lein y gellir ei chymharu â'r addysg y mae plant yn ysgol B yn ei derbyn? Ac a fyddwn yn gweld swyddog addysg ddigidol posibl yng Nghymru yn fuan?
Mae gennym brif swyddog digidol ar gyfer Llywodraeth Cymru, sydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, wedi bod yn gohebu â'r comisiynydd dan sylw ynghylch y dull y mae Cymru'n ei ddilyn ar hyn o bryd. Mae cryn dipyn o ganllawiau wedi'u cyhoeddi. Mae'r canllawiau hynny'n cael eu diweddaru'n rheolaidd i ymateb i'r senario iechyd cyhoeddus a welwn ar hyn o bryd. Fel y dywedais, mae gennym hefyd ganllawiau ychwanegol i gefnogi addysgwyr, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru ond gan Estyn a'r gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol. Yn bwysicach na'r canllawiau efallai, mae cymorth ymarferol ar gael, ac yn eich rhanbarth chi, rwy'n cymeradwyo'r gwaith y mae GwE wedi'i wneud ar ddatblygu sgiliau dysgu o bell i'n haddysgwyr yn ystod tymor yr hydref, gwaith sydd wedi cael derbyniad da iawn.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog.
Eitem 3 ar yr agenda yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Bydd yr holl gwestiynau y prynhawn yma yn cael eu hateb gan y Llywydd. Cwestiwn 1, Helen Mary Jones.
1. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ymgysylltu â phleidleiswyr sydd newydd gael yr hawl i bleidleisio, yn enwedig gan fod ysgolion a cholegau wedi symud i ddysgu ar-lein unwaith eto? OQ56092
Y llynedd, cafodd adnoddau addysg eu cynhyrchu ar y cyd â phobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ym maes addysg. Addaswyd y rhain yn ddiweddarach ar gyfer dysgu gartref oherwydd cyfyngiadau COVID-19 ac fe'u cynigir yn uniongyrchol i ysgolion hefyd drwy blatfform Hwb. Ers dechrau tymor yr hydref, mae ein tîm addysg wedi bod yn cyflwyno sesiynau rhithwir i ysgolion a cholegau ar hyd a lled Cymru a byddant yn parhau i wneud hynny.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn falch iawn o glywed bod y gwaith wedi'i addasu ac yn parhau. A oes unrhyw beth arall y teimla’r Comisiwn y gallai Aelodau unigol o'r Senedd ei wneud i helpu i hyrwyddo dealltwriaeth pobl ifanc o'u hawliau newydd i bleidleisio?
Wel, cymryd pob cyfle sydd ar gael i'r Aelodau wneud hynny pan rŷch chi naill ai'n siarad yn uniongyrchol ar Zoom mewn unrhyw gyfarfod â phobl ifanc yn eich etholaeth chi, neu'n siarad ar y cyfryngau yn ehangach. Fe ges i gyfle ar y rhaglen Heno nos Lun i hyrwyddo unwaith eto yr hawl newydd sydd gan bobl ifanc yng Nghymru—pobl 16 ac 17 oed—i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd. Felly, defnyddiwch eich cyfryngau cymdeithasol, a defnyddiwch bob cyfrwng posibl arall sydd gyda chi, i hyrwyddo realiti'r sefyllfa nawr bod gan bobl ifanc y bleidlais yma, gan annog cymaint ohonyn nhw yn gyntaf i sicrhau eu bod wedi cofrestru ar eu cofrestrau lleol, ac wedyn i ddefnyddio eu pleidlais nhw. Mae'n siŵr y bydd yna damaid bach o wleidyddiaeth bleidiol yn dod i mewn i hynny wrth inni agosáu tuag at yr etholiad, ond yr hyn sydd bwysicaf oll yw bod pobl Cymru, yn eu cyfanrwydd, yn defnyddio eu pleidlais, ond bod pobl ifanc 16 ac 17 oed yn ei defnyddio hi am y tro cyntaf yn etholiad y Senedd.
Lywydd, er ein bod yn byw yn yr amgylchedd anarferol hwn, mae cyfle gwych yn codi nawr o ddysgu ar-lein. Ymddengys i mi ei fod yn rhywbeth mwy uniongyrchol, sef ei ddefnyddio hefyd fel offeryn ymgysylltu—nid ar gyfer unrhyw fath o gyfarwyddyd gwleidyddol, ond ar gyfer nodi'n benodol, ymhlith y grŵp 16 i 17 oed hwnnw, a hyrwyddo'r hawl i bleidleisio, yr hawl i gofrestru, a'i wneud yn rhan ohono. Mae'n offeryn a allai hyrwyddo hynny. Tybed a ydych wedi meddwl sut y gallai hynny ddigwydd? Gwn y gallai hynny olygu ymgysylltu â'r Gweinidog addysg neu beth bynnag, ond ymddengys i mi ei fod yn gyfle na ddylid ei golli.
Wel, rydym yn sicr yn gwybod mai ein pobl ifanc yw'r garfan o'r boblogaeth sydd fwyaf ymwybodol yn ddigidol. Felly, mae addasu’r ffordd rydym yn hyrwyddo'r hawliau newydd sydd gan bobl ifanc i bleidleisio bellach fel pobl 16 a 17 oed yng Nghymru—mae addasu hynny i blatfformau digidol y maent wedi hen arfer â hwy, naill ai ar ffurf cyfryngau cymdeithasol neu ar y platfformau addysgol y maent yn eu defnyddio bob dydd bellach, yn rhywbeth rydym yn ei wneud. Fel y dywedais yn fy ateb i Helen Mary, rydym eisoes yn rhoi ein hadnoddau sydd ar gael i ysgolion ac i bobl ifanc ar blatfform Hwb a phlatfformau eraill. Felly, rwy'n cytuno â'r cwestiwn a ofynnwyd gan Mick Antoniw, fod yna ddigon o gyfleoedd inni wneud mwy mewn ffyrdd newydd gyda phobl ifanc i hyrwyddo eu profiad democrataidd. Ond rydym yn gwneud hynny—credaf ichi ddefnyddio'r term hwn—yn y cyd-destun anarferol rydym ynddo, Mick Antoniw, ac rydym newydd glywed yr heriau y mae hynny’n eu creu i'n pobl ifanc hefyd yn y set flaenorol o gwestiynau i'r Gweinidog addysg. Felly, mae cydbwysedd i'w gael yma, ond mae arfer eu hawl ddemocrataidd yn yr etholiad nesaf yn rhywbeth rydym yn gyffrous yn ei gylch, ac rydym yn awyddus i sicrhau bod pobl ifanc yng Nghymru yn cael gwybod am yr hawl newydd honno a sut i'w harfer.
Rwy'n croesawu'r datblygiadau arloesol a wnaed ar gyfer y ddarpariaeth ar-lein o dan yr amgylchiadau anodd hyn, a chredaf eu bod yn ganmoladwy. Ond tybed a ydym yn colli cyfle yma ar gyfer y dyfodol—er ei bod yn rhy hwyr i'r un hwn, mae'n debyg. Tybed a gaf fi ofyn beth yw eich barn ynglŷn ag a fyddai'r Comisiwn yn barod i archwilio cysyniad rwy’n ei gefnogi'n gryf—sy’n rhywbeth y maent yn ei wneud mewn gwledydd eraill fel Sweden, ac yn y blaen—lle maent yn defnyddio eu hadnoddau i ddarparu etholiad go iawn mewn ysgolion, ar yr un pryd â'r etholiad sy’n digwydd yn y gymdeithas ehangach, ar gyfer pobl ifanc 14 oed, ar gyfer pobl ifanc 15 oed ac ati, fel eu bod yn barod. Yn y dyfodol, tybed a fyddai hyn yn rhywbeth y byddai'r Comisiwn, a'r arbenigedd sydd ganddo ar flaenau ei fysedd, yn barod i'w archwilio—i gymryd rhan arweiniol yn gwneud hyn yn ein hysgolion, i baratoi pobl ifanc ar gyfer ymgysylltu'n ddemocrataidd?
Wel, ffug etholiad 1983 yn Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan oedd yr etholiad cyntaf imi gymryd rhan ynddo, amser maith yn ôl, ac roedd hwnnw’n brofiad uniongyrchol iawn. Nid wyf am rannu gyda chi nawr pa blaid wleidyddol y sefais drosti ar y pryd, ond rwyf wedi dysgu o fy nghamgymeriadau ers hynny. Ond hoffwn ddweud bod rôl uniongyrchol ethol ac etholiadau mewn cyd-destun y mae'r bobl ifanc yn gyfarwydd ag ef, a chysylltu hynny â'r byd go iawn—gwyddom fod cynghorau ysgol ac ysgolion cynradd a llawer o bobl ifanc yn ymwneud â democratiaeth mewn gwahanol ffyrdd eisoes. Rwy'n credu eich bod yn awgrymu syniad diddorol ynglŷn â ffurfioli hynny ychydig yn fwy na fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae’n debyg. Fel rydych wedi awgrymu, mae'n debyg ei bod yn rhy hwyr ar gyfer y set hon o etholiadau’r Senedd, ond yn sicr, credaf ei fod yn rhywbeth y gallem ei ystyried yn y dyfodol. Yn sicr, byddai gennyf ddiddordeb mewn gofyn i Gomisiwn y dyfodol archwilio hynny ar gyfer etholiadau yn y dyfodol. Gyda llaw, fi enillodd yr etholiad yn 1983 yn Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan.
Ni chredaf fod unrhyw amheuaeth wedi bod ynglŷn â hynny. Cwestiwn 2, Mandy Jones.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi, Lywydd, am y wybodaeth honno, roedd yn wych.
2. Pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i addasu ffyrdd o weithio i Aelodau, eu staff a staff y Comisiwn gan ddefnyddio gwersi a ddysgwyd o'r cyfyngiadau symud cyn y chweched Senedd? OQ56081
Diolch am y Cwestiwn. Fel Comisiwn, rŷn ni wedi bod yn dysgu gwersi o'r dulliau newydd o weithio wrth ymateb i’r pandemig. Mae hyn wedi caniatáu inni barhau i gynorthwyo i gynnal busnes y Senedd, ar ffurfiau rhithwir a hybrid, yn ogystal â gwaith yr Aelodau yn y Senedd a'u swyddfeydd etholaethol. Yn y gwanwyn, bydd cyfarfod y Comisiwn yn ystyried gwerthuso yr hyn a ddysgwyd yn ystod y pumed Senedd, yn enwedig y flwyddyn ddiwethaf yma, a defnyddio yr hyn a ddysgwyd i baratoi ar gyfer y chweched Senedd.
Diolch am eich ateb. Hoffwn dalu teyrnged i holl staff y Comisiwn, ac yn wir, i’r holl staff cymorth gwleidyddol sydd wedi addasu mor gyflym ac mor effeithiol i ffordd gwbl wahanol o weithio. Rwy'n gweld colli bywiogrwydd y Senedd yn fawr pan fo'n gweithredu fel yr arferai wneud. Rwy'n gweld colli'r staff cymorth yno, a'r holl staff eraill o gwmpas y lle, yn enwedig y staff diogelwch—gallech gael llawer iawn o hwyl gyda hwy, ni waeth sut olwg oedd ar y tywydd y tu allan. Fodd bynnag, rydym bellach wedi profi'r cysyniad fod sesiynau hybrid yn gweithio ac yn ymarferol, yn ogystal â phleidleisio o bell. O ystyried y buddion sydd i'w cael o ran lleihau ôl troed carbon o leiaf, a yw'r Comisiwn yn bwriadu gwneud unrhyw addasiadau i’w fusnes seneddol yn chweched tymor y Senedd? Diolch.
Wel, diolch i chi am ddiolch i staff y Comisiwn, staff y grwpiau gwleidyddol—pawb sydd wedi gorfod addasu eu ffordd o weithio—yn ogystal â'r Aelodau eu hunain, wrth gwrs. Rwy'n eistedd yma yn Nhŷ Hywel, y Senedd, heddiw. Rwy'n ffigwr eithaf unig yma—nid oes llawer o staff yn bresennol. Rwyf yma’n cadeirio ac yn cynnal y bleidlais, ac edrychaf ymlaen at groesawu pob un ohonoch yn ôl i wneud yr awyrgylch yn fwy bywiog yma, er fy mod yn credu ein bod wedi cyflawni llawer wrth allu cynnal dau opsiwn y Senedd ar ei ffurf Zoom, fel y mae’n cyfarfod heddiw, a hefyd ar ei ffurf hybrid, i'n galluogi i adlewyrchu realiti'r rheoliadau rydym yn gweithio oddi mewn iddynt.
Yn bendant, bydd gwersi i'w dysgu a ffyrdd y byddwn yn gwneud ein gwaith mewn gwahanol ffyrdd yn y dyfodol. Bydd ein pwyllgorau a'n Cyfarfod Llawn yn edrych ar y gwersi hynny a'n profiad o ddefnyddio technoleg ddigidol a thechnoleg rithwir i'n galluogi i weithio, nid yn unig ym Mae Caerdydd, ond ym mhob lleoliad yng Nghymru. Mater i'r Senedd nesaf a'r Pwyllgor Busnes wrth gynghori'r Senedd nesaf honno fydd sut y gellir mabwysiadu'r arferion newydd hynny, ond credaf ei bod yn deg dweud ein bod wedi dysgu nifer o wersi yn ystod y flwyddyn anodd hon y mae pob un ohonom wedi byw drwyddi, a bydd rhai ohonynt o fudd i ni ar gyfer y dyfodol.
Credaf fod fy nghwestiwn yn arwain ymlaen yn dwt o gwestiwn fy nghyd-Aelod Mandy Jones. Hoffwn ategu ei diolch i'n holl staff. Credaf fod y ffordd y mae pawb wedi addasu cystal wedi bod yn rhyfeddol.
3. Pa gamau fydd yn cael eu cymryd gan y Comisiwn i adolygu strwythurau ei dimau ymgysylltu yn sgil effaith pandemig COVID-19 a'r gwariant arnynt? OQ56100
Mae'r pandemig wedi arwain at newid trawiadol yn y modd y mae'r Comisiwn yn cyflawni ei waith ymgysylltu. Pan fo modd, rydym wedi symud gweithgareddau ar-lein. Mae hyn wedi golygu datblygu teithiau rhithwir, sesiynau ymgysylltu rhithwir, yn egluro gwaith y Senedd, a chyflwyno sesiynau rhithwir i ysgolion a grwpiau ieuenctid hefyd. Cyflwynwyd seminarau a theithiau rhithwir i gynulleidfa fwy amrywiol nag erioed o'r blaen, ac rydym wedi sylwi bod demograffeg y rhai sydd wedi ymgysylltu â'n sesiynau rhithwir yn fwy cynrychioliadol o bob sector yn y gymdeithas nag yr oedd pan oeddem yn ymgysylltu wyneb yn wyneb. Rydym yn dysgu gwersi ac yn mabwysiadu arfer gorau er mwyn medru parhau ar ôl y pandemig i gyrraedd y rheini sydd ar y cyrion neu sydd â llai o ymwneud â'n Senedd genedlaethol ni.
Diolch, Lywydd. Rwyf wedi bod yn gwneud rhai ymholiadau am wariant y Comisiwn ar dimau ymgysylltu. Nawr, yn 2019-20, gwariwyd £1.3 miliwn ar staff ar gyfer ymgysylltu ag ymwelwyr, cysylltiadau â chwsmeriaid, profiad ymwelwyr, a phedwar tîm ymgysylltu arall sy'n bodoli ar hyn o bryd o fewn strwythur y Senedd. Nawr, er gwaethaf y pandemig, roedd y gwariant a ragwelwyd ym mis Tachwedd ar gyfer 2020-21—y flwyddyn ganlynol—yn £1.3 miliwn unwaith eto. Nawr, o edrych ar fanylion y ffigurau, rwy'n rhyfeddu bod gwariant gwirioneddol yn 2020-21 ar y tîm profiad ymwelwyr wedi cynyddu, gwariant ar y tîm ymgysylltu ag ymwelwyr wedi cynyddu, a bod gwariant ar y tîm ymgysylltu â'r gymuned wedi cynyddu £17,000, ac yn olaf, fod gwariant ar y tîm addysg ac ymgysylltu â phobl ifanc wedi cynyddu £36,000. Nawr, rwy'n deall yn iawn fod rhai o'r aelodau staff wedi'u secondio. Ond byddwn yn ddiolchgar pe gallech egluro pam y mae'r gwariant wedi cynyddu ar rai timau ymgysylltu, yn enwedig o gofio bod y cynnig bellach wedi symud yn gyfan gwbl o fod yn ffisegol i fod yn rhithwir, ac wrth symud ymlaen at dymor nesaf y Senedd, tybed a allech ystyried ailstrwythuro'r saith tîm ymgysylltu, er mwyn sicrhau rhai arbedion, gobeithio. Diolch.
Diolch am y cwestiwn. Ac wrth gwrs, y peth cyntaf i'w ddweud yw nad yw symud at ddarpariaeth rithwir o reidrwydd yn ffordd o arbed arian; gall cynllunio profiadau rhithwir alw am fuddsoddiad cychwynnol sylweddol. Ac fel y nodwyd gennych, Janet Finch-Saunders, bu'n rhaid gwneud newidiadau i gyfrifoldebau gwaith wrth gwrs, ac mae llawer o'r bobl a fu'n gweithio'n flaenorol mewn meysydd ymgysylltu wyneb yn wyneb wedi gwneud hynny, ac roeddech yn cydnabod y bu rhaglen secondio sylweddol i feysydd eraill sydd o dan fwy o bwysau o fewn gwaith y Comisiwn.
Yn nyddiau cynnar y pumed Senedd, nododd y Comisiwn mai un o'i brif flaenoriaethau oedd ailffocysu llawer o'n gwaith tuag at ymgysylltu â'r cyhoedd a sicrhau bod pobl Cymru yn ymwybodol o gymaint o'n gweithgarwch â phosibl. Rwy'n credu ein bod wedi gwneud cynnydd mawr tuag at hynny. Credaf fod ein pwyllgorau, yn enwedig, wedi gwneud llawer iawn ar hynny. Chi yw cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, Janet Finch-Saunders, ac yn ôl yr hyn a welaf, mae'r ymgysylltiad â'n Pwyllgor Deisebau wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cyn y pandemig, ac yn ystod y pandemig. A gobeithio eich bod wedi gallu gweld bod y gwaith gan y bobl sy'n gweithio yn y maes wedi llwyddo i annog mwy o bobl yng Nghymru i ryngweithio â ni fel Senedd. Ni fyddwn eisiau gwneud llai o waith ymgysylltu â'r cyhoedd yn y Senedd nesaf. Rwyf am i bobl Cymru fod yn fwy ymwybodol, nid yn llai ymwybodol, o'r hyn rydym yn ei wneud yma ar eu rhan. Ond fel y dywedwch, Janet, fel bob amser, mae angen i ni wneud hynny gyda golwg ar y gwariant a wneir ar y gweithgaredd hwnnw, a sicrhau ein bod bob amser yn ymdrechu i sicrhau'r gwerth gorau posibl am arian.
Diolch, Lywydd.
Eitem 4 yw'r cwestiynau amserol, ac ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau yr wythnos hon.
Felly, eitem 5 yw'r datganiadau 90 eiliad. Helen Mary Jones.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae gyrrwr bws o Lanelli, sy'n cael ei adnabod fel Mr Selfie, wedi gosod her arall iddo'i hun o bostio hunlun bob dydd eleni i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'n gofyn i eraill anfon hunluniau ato i'w rhannu i helpu i ledaenu'r neges. Cynhaliodd Keith her debyg bedair blynedd yn ôl a chododd £3,700 i Marie Curie. Sefydlwyd yr ymgyrch godi arian wreiddiol am fod ei gydweithwyr wedi bod yn tynnu coes y tad-cu i saith oherwydd ei hoffter o dynnu hunluniau. Mae ganddo dipyn o enw am hyn gyda'i gydweithwyr yn First Cymru. Yn dilyn llwyddiant ei ymgyrch flwyddyn o hyd, cafodd Keith ei ddyfarnu'n godwr arian y flwyddyn Marie Curie yn 2017. Wrth drafod pam y dewisodd godi arian ar gyfer yr ambiwlans awyr y tro hwn, dywedodd:
Rwy'n credu bod ambiwlansys awyr yn ychwanegiad mor hanfodol i'r gwasanaethau brys. Rwyf wedi'u gweld ar waith pan oedd fy llysfab yn chwarae rygbi; daethant i roi cymorth i aelodau o'i dîm ar ddau achlysur ac roeddent mor wych. Mae cymaint o fywydau'n cael eu hachub oherwydd gweithredu buan ein gwasanaethau meddygol a'r ambiwlans awyr yw'r ychwanegiad eithaf at eu gwaith anhygoel.
Bu'n rhaid i'r cyn-blymwr newid gyrfa ar ôl i afiechyd ei gwneud yn amhosibl iddo barhau yn y proffesiwn hwnnw. Cafodd ddiagnosis o golitis wlserol yn 2008, a achosodd iddo gael ei gludo i'r ysbyty ar frys a chael llawdriniaeth fawr i dynnu ei goluddyn. Penderfynodd y byddai'n well iddo fyw gyda stoma am weddill ei oes, ac ers hynny mae wedi rhoi ei amser i fod y gyrrwr bws gorau y gall fod gan godi ymwybyddiaeth o bobl sy'n byw gydag anableddau cudd a chodi arian ar gyfer amrywiaeth o wahanol elusennau ar yr un pryd. Mae ei gynhesrwydd a'i sirioldeb yn ysbrydoliaeth i bob un ohonom sy'n ei adnabod, yn rhithwir neu yn y cnawd, ac mae ei deithwyr yn ei werthfawrogi'n fawr. Mae wedi derbyn nifer o wobrau, gan gynnwys 'gyrrwr gorau' yng ngwobrau trafnidiaeth Cymru, a gwobr arian yng ngwobrau bysiau'r DU yn 2019.
Gyda'r epidemig coronafeirws, mae'n mynd i fod yn her hunlun ychydig yn wahanol i Keith Thomas eleni, ond mae eisoes wedi codi £230 o'i darged o £1,000. Byddai'n wych pe gallai Aelodau eraill o'r Senedd gymryd rhan drwy anfon hunlun at Keith @keiththom2014 ar Twitter, ac annog eraill i gymryd rhan. Mae'n achos mor deilwng, gan godwr arian mor ofalgar. Diolch yn fawr.
Diolch. Eitem 6 ar yr agenda yw dadl ar y deisebau sy'n ymwneud â mynediad at gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod cyfyngiadau symud, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Janet Finch-Saunders.
Cynnig NDM7543 Janet Finch-Saunders
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r deisebau canlynol ynglŷn â mynediad at gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod cyfyngiadau symud:
a) Deiseb ‘P-05-1053 Cadwch gampfeydd ar agor ac ystyriwch eu bod nhw mor bwysig â siopau, os cyflwynir cyfyngiadau symud cenedlaethol unwaith yn rhagor’ a gasglodd 20,616 o lofnodion;
b) Deiseb ‘P-05-1063 Dylid agor cyrsiau golff gan eu bod yn chwarae rôl hanfodol o ran gwella iechyd corfforol ac iechyd meddyliol’ a gasglodd 6,317 o lofnodion; ac
c) Deiseb ‘P-05-1074 Cynyddwch nifer y bobl sy'n cael bod mewn mannau awyr agored fel y gall pob tîm yng Nghymru ailddechrau chwarae pêl-droed’ a gasglodd 5,330 o lofnodion.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Nawr, mae'r ddadl hon yn mynd i ymdrin â thair deiseb fawr a gyfeiriwyd at y Pwyllgor Deisebau ddiwedd y llynedd. Mae'r pwyllgor wedi gofyn iddynt gael eu trafod gyda'i gilydd oherwydd eu bod i gyd yn ymwneud â'r effaith y mae cyfyngiadau symud, a chyfyngiadau coronafeirws eraill wedi'i chael ar allu pobl i hyfforddi a chymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol.
Mae'r ddeiseb gyntaf a'r fwyaf yn ymwneud â mynediad at gampfeydd. Dyma un o nifer o ddeisebau sydd wedi'u cyflwyno i'r Senedd ar y pwnc hwn ers dechrau'r pandemig. Yn ogystal â mwy nag 20,000 o lofnodion a gasglwyd gan y deisebydd, mae'n dangos yr awydd cryf sydd gan lawer o bobl i weld campfeydd yn aros ar agor oherwydd y manteision pwysig y gallant eu cynnig mewn perthynas ag iechyd corfforol a meddyliol. Mae'r ddeiseb hon, a gyflwynwyd gan Michelle Adams, yn galw am ystyried campfeydd yn wasanaethau hanfodol, ac o ganlyniad, iddynt allu aros ar agor hyd yn oed yn ystod y cyfyngiadau symud. Fel y gŵyr yr Aelodau, nid yw hyn yn digwydd ar hyn o bryd, gyda champfeydd yn gorfod cau yn ystod y cyfyngiadau symud presennol, yn ogystal ag yn ystod cyfyngiadau cenedlaethol a lleol eraill yn flaenorol.
Yn ei thystiolaeth i'n pwyllgor, tynnodd y deisebydd sylw at effaith cau campfeydd ar y bobl sy'n eu defnyddio i fynychu dosbarthiadau, i weithio ar eu ffitrwydd corfforol, ac o bosibl, fel lle i ymlacio neu ddianc rhag pwysau arall yn eu bywydau. Tynnodd sylw hefyd at gost ariannol cau campfeydd i berchnogion campfeydd, hyfforddwyr personol, ac eraill sy'n eu defnyddio i wneud bywoliaeth.
Nawr, cwestiwn cyffredin a ofynnir gan bobl sydd wedi creu deisebau ar y pwnc hwn yw'r dystiolaeth wyddonol sy'n sail i'r cau. Mae llawer wedi mynegi barn, gan ddyfynnu ystadegau'n aml, fod campfeydd wedi'u cysylltu â thystiolaeth fod llai o feirws yn cael ei drosglwyddo yn y mannau hyn na lleoliadau eraill megis siopau, caffis a bwytai. Wrth gwrs, mae'r pwyllgor hefyd yn nodi, hyd yn oed os yw hyn yn wir, nid yw ond yn un o nifer o ffactorau sy'n llywio penderfyniadau Llywodraeth Cymru. Serch hynny, gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu dweud rhywbeth am hyn wrth ymateb i'r ddadl.
Hefyd, o dan y lefelau rhybudd a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ddiwedd y llynedd, nodwn y gall campfeydd, cyrsiau golff a chyfleusterau hamdden eraill aros ar agor ar bob lefel ac eithrio ar lefel 4. Credaf fod llawer o ddefnyddwyr a gweithredwyr yn croesawu'r eglurder hwn, er nad yw'n fawr o gysur ar hyn o bryd wrth gwrs gyda mesurau lefel rhybudd 4 ar waith yng Nghymru gyfan.
Nawr, mae'r ail ddeiseb rydym yn ei thrafod heddiw yn ymwneud â chyrsiau golff, ac mae hefyd yn pwysleisio'r manteision i les corfforol a meddyliol y gall golff ei gynnig i'r bobl sy'n ei chwarae. Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sam Evans, a denodd dros 6,300 o lofnodion. Unwaith eto, mae'n un o nifer o ddeisebau a gyflwynwyd i'r Senedd ar y pwnc penodol hwn drwy gydol y pandemig. Mae'r ddeiseb hon yn dadlau bod natur awyr agored a'r pellter cymdeithasol naturiol sy'n digwydd gyda golff yn gwanhau'r ddadl dros gau cyrsiau golff. Fodd bynnag, fel gyda champfeydd, mae'n ofynnol i gyrsiau golff gau yn ystod cyfyngiadau lefel 4, fel y rhai sydd mewn grym ar hyn o bryd.
Roedd deiseb arall a gyfeiriwyd at y pwyllgor ar y pwnc hwn yn gwneud y pwynt fod golff yn fath o ymarfer corff a rhyngweithio cymdeithasol y mae llawer o bobl hŷn yn ei fwynhau, pobl nad ydynt yn gallu gwneud mathau eraill o ymarfer corff awyr agored. Gallai hyn fod yn arwyddocaol, o ystyried yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar y grŵp hwn, gan gynnwys drwy ofynion gwarchod ac ynysu cymdeithasol dwys. Yn fwy cyffredinol, er eu bod yn fathau gwahanol iawn o weithgarwch chwaraeon, mae'n amlwg y gall chwarae golff gynnig manteision tebyg o ran iechyd meddwl a lles i ddefnyddio'r gampfa neu gymryd rhan mewn chwaraeon eraill.
Ac rwyf am droi yn awr at sefyllfa chwaraeon tîm. Mae'r drydedd ddeiseb sy'n cael ei thrafod heddiw yn ymwneud â phêl-droed amatur. Fe'i crëwyd gan Mark Morgans a'i llofnodi gan fwy na 5,300 o bobl. Fodd bynnag, nid oes gennyf amheuaeth na fyddai llawer o'r pwyntiau y mae'n eu gwneud yr un mor berthnasol i chwaraeon tîm eraill ac yn rhannol, mae'r pwyllgor wedi cytuno i gyflwyno'r ddeiseb ar y sail honno. Mae'n bosibl fod sefyllfa chwaraeon tîm yn fwy cymhleth na'r pethau eraill a nodais hyd yma. Cânt eu chwarae mewn amrywiaeth llawer ehangach o leoliadau, o stadia bach i barciau lleol, ac o dan reolau a oruchwylir gan amrywiaeth o wahanol gyrff llywodraethu. Ac wrth gwrs, gall ffactorau eraill effeithio ar y risg o drosglwyddo feirysau, megis a yw'r gamp dan sylw'n cael ei chwarae dan do neu yn yr awyr agored a lefel y cyswllt corfforol rhwng y rhai sy'n cymryd rhan a maint y timau sy'n cystadlu.
Mae nifer o'r mesurau sydd ar waith hefyd yn effeithio ar chwaraeon tîm. Fodd bynnag, y broblem benodol a godwyd gan y ddeiseb hon yw'r 'rheol 30' fel y'i gelwir—nifer y rhai y caniateir iddynt gymryd rhan mewn gweithgaredd a drefnir yn yr awyr agored. Cyflwynwyd y ddeiseb hon cyn cyflwyno cyfyngiadau lefel 4, lle gwaherddir y rhan fwyaf o weithgarwch wedi'i drefnu. Fodd bynnag, ar ryw bwynt, fel rydym i gyd yn gobeithio ac yn gweddïo, fe fydd Cymru mewn sefyllfa i ddychwelyd at lefel is o gyfyngiadau ac mae'n debyg y bydd yr uchafswm o 30 o bobl i allu cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored neu 15 ar gyfer gweithgareddau dan do yn weithredol unwaith eto. Felly, mae'r ddeiseb yn gwneud y pwynt fod hyn yn ei gwneud hi'n anodd cynnal gemau amatur cystadleuol, o ystyried eu bod yn cynnwys swyddogion a staff yn ogystal â'r chwaraewyr eu hunain.
Nawr, mae'r pwyllgor wedi ystyried tystiolaeth gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn ddiweddar mewn perthynas â deiseb arall. Ynddi, nodwyd eu cefnogaeth i gynnydd yn nifer y bobl y caniateir iddynt gymryd rhan mewn chwaraeon awyr agored wedi'u trefnu, ac argymhellwyd y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cynyddu'r uchafswm i 50 o bobl o dan gyfyngiadau lefel rhybudd 2 er mwyn creu dull mwy graddol o symud drwy'r haenau hyn.
Nawr, rwy'n cydnabod na fyddai hyn yn cael effaith ar unwaith a bod cyfyngiadau lefel 2 yn ymddangos braidd yn bell ar hyn o bryd. Fodd bynnag, efallai mai dyma'r union fath o neges gadarnhaol a allai helpu mwy o dimau a'u chwaraewyr i gynllunio ar gyfer ailddechrau'n llawnach yn nes ymlaen yn y gwanwyn a'r haf, pan fyddwn i gyd yn gobeithio, rwy'n siŵr, y bydd dyddiau tywyllach y pandemig hwn y tu ôl i ni.
Wrth gloi'r sylwadau agoriadol hyn, Ddirprwy Lywydd, hoffwn gydnabod bod pob un o'r deisebau hyn yn codi materion gwahanol a'u bod yn ymwneud â set wahanol o gyfyngiadau ac amgylchiadau. Ein bwriad, fel pwyllgor, yw y dylai eu trafod gyda'i gilydd ymestyn yn hytrach na lleihau arwyddocâd y materion a godwyd. Credwn ei fod yn tynnu mwy o sylw at bwysigrwydd chwaraeon a gweithgarwch corfforol i'r nifer fawr o bobl sy'n cymryd rhan ynddynt, ac i'r rhai sy'n gwylio, yn wir. Edrychwn ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau eraill heddiw yn ystod y ddadl a diolch i bob un ohonoch am y cyfle i drafod y materion pwysig hyn heddiw. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr am gyflwyno'r deisebau hyn. Rwy'n llwyr werthfawrogi, oherwydd rwyf wedi cael llawer o etholwyr yn cyfrannu at y drafodaeth cyn y ddadl hon am y ffordd y gall campfeydd fod yn achubiaeth i rai, yn llythrennol fel ffordd o oresgyn, neu weithio drwy brofiadau trawmatig. Felly, rwy'n llwyr gydnabod rôl bwysig y math hwnnw o ymarfer corff dwys i weithio drwy'r tensiynau—tensiynau corfforol a meddyliol—y mae llawer o bobl yn gorfod eu goresgyn.
Er y byddwn yn annog unrhyw un na all ddefnyddio campfa ar hyn o bryd am fod rhaid inni eu cau i sicrhau eu bod yn ymarfer yn yr awyr agored tra na fydd hi'n bosibl gwneud hynny, rwy'n deall, fodd bynnag, y byddai ymarfer corff yn yr awyr agored, yn enwedig yn y gaeaf, yn heriol iawn, naill ai oherwydd eu bod yn fregus neu oherwydd anabledd corfforol sy'n eu hatal rhag cerdded yn bell iawn. Er enghraifft, os ydych chi'n ddall, gall cerdded neu redeg yn yr awyr agored fod yn beryglus iawn oherwydd celfi stryd a allai achosi anaf difrifol iawn iddynt os nad ydynt yn ei wneud gyda rhywun arall.
Ac i lawer sydd ag anabledd—problem cefn efallai—nofio yw'r math gorau o ymarfer corff mewn gwirionedd. Er enghraifft, i fenywod yng nghamau hwyr beichiogrwydd. Nid sbrint yw rhoi genedigaeth, mae'n farathon, a gorau po ffitiaf y byddant ar gyfer yr her gorfforol, feddyliol ac emosiynol fwyaf gwych ond mwyaf anodd y maent yn debygol o'i hwynebu yn eu bywydau. Yn anffodus, mae'r pwll nofio yn fy etholaeth i, Canolfan Hamdden Pentwyn, wedi bod ar gau ers mis Mawrth ac nid oes unrhyw arwydd pa bryd y bydd yn ailagor, er ei fod wedi'i leoli yn un o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru gyfan, mewn ardal gynnyrch ehangach o amddifadedd, lle nad oes gan dros hanner y trigolion gar at eu defnydd ac yn sicr ni fyddant wedi cael unrhyw brofiad gwyliau neu hamdden arall y tu hwnt i gerdded yn y 10 mis diwethaf.
Gan droi at golff, nid oes gan y gamp ddelwedd wych, hyd yn oed cyn i Donald Trump gael ei chysylltu â hi, gan fod iddi'r ddelwedd mai camp ar gyfer pobl gyfoethog yn unig yw hi. Ond rwy'n derbyn bod bod yn yr awyr agored a cherdded ar hyd cwrs penodol yn gamp wych ar gyfer yr awyr agored, ac mae'n siomedig iawn ein bod wedi gorfod cau cyrsiau golff nawr, oherwydd pan gawsant ailagor, aethant ati o ddifrif i weithredu negeseuon o ran systemau unffordd, archebu ymlaen llaw, a peidio â chaniatáu i bobl fynd i mewn i'r clwb i gymdeithasu. Felly, unwaith eto, gobeithio y byddwn yn gallu ailagor cyrsiau golff eto yn y dyfodol.
Ar bêl-droed, mae arnaf ofn nad yw'r gweithwyr proffesiynol ym maes pêl-droed yn ein hannog i feddwl bod pêl-droed yn rhywbeth y gallwn ei wneud yn ddiogel, oherwydd rydym i gyd wedi gweld ar y teledu y ffordd y mae pêl-droedwyr yn cofleidio'i gilydd bob tro y byddant yn sgorio gôl. Felly, ni chaniateir hyn o gwbl ar hyn o bryd. Ond serch hynny, yn fuan iawn dylai fod yn bosibl rhagweld ffyrdd y gallwn ailagor clybiau amatur ar raddfa fach—grwpiau ifanc pump bob ochr, saith bob ochr sy'n gysylltiedig â hynny—ac rwy'n gobeithio'n fawr y byddwn yn gallu bod yn ddigon hyderus cyn bo hir ynghylch graddau'r amrywiolyn newydd i'n galluogi i wneud hynny. Ond am y tro, rwy'n llwyr gefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru ar yr adeg hon, gydag ysbytai yn agos at fethu ymdopi, na allwn ganiatáu unrhyw weithgareddau ychwanegol fel y rhai hyn, sy'n rhai rhagorol ynddynt eu hunain. Felly, edrychaf ymlaen at y diwrnod pan allwn wneud pob un o'r tri gweithgaredd yn flaenoriaeth ar gyfer ailagor.
Mae manteision gweithgarwch corfforol i iechyd a lles yn hysbys iawn, a bydd llawer wedi hen arfer â fi'n tynnu sylw at y rhain drwy gydol fy nau dymor yn y swydd, fel un sy'n dadlau'n frwd dros yr holl fanteision corfforol a meddyliol a ddaw yn sgil gweithgarwch corfforol a chwaraeon. Ond mae ei bwysigrwydd yn ystod y pandemig hwn wedi cynyddu'n ddramatig fel ffordd i bobl hen ac ifanc ymdopi yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau symud. Mae gweithgarwch corfforol yn allweddol ac yn ffordd hanfodol o reoli iechyd meddwl a lles. Mae astudiaethau wedi dangos bod ymddygiad llonydd gorfodol wedi arwain at deimladau o ddigalondid a hwyliau gwael mewn pobl iach. Gan ystyried y sefyllfa bresennol, gyda chyfnodau gorfodol o gyfyngiadau symud ac ynysu, mae hyn yn effeithio'n fawr ar iechyd meddwl a lles llawer o bobl, a hyd yn oed yn fwy felly os nad ydynt yn cymryd rhan mewn unrhyw fath o weithgarwch corfforol.
Mae hyn wedi bod yn amlwg iawn mewn plant sydd wedi arfer â mwy o weithgarwch corfforol yn ystod ac ar ôl eu diwrnod ysgol. Mae fy mab fy hun, sy'n 10 oed, yn hoffi chwaraeon ac yn cymryd rhan mewn llawer o weithgareddau ar ôl ysgol, yn ogystal â dwli ar wneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod ei ddiwrnod ysgol. Mae'r manteision corfforol yn amlwg, ond nawr hefyd mae effeithiau meddyliol negyddol colli'r gweithgareddau hyn i'w gweld arno ef a phlant eraill. Efallai y bydd pobl yn dweud, 'Wel, cerddwch y tu allan ger eich cartref neu rywbeth', ond nid oes dim i gymryd lle faint o ymarfer corff y byddent yn ei wneud fel arfer, am fod rhieni'n gweithio hefyd yn ystod y dydd, gartref neu lle bynnag, yn ystod golau dydd, ac ar yr adeg hon o'r flwyddyn, mae'n dywyll pan fyddant yn gorffen gweithio, ac felly mae gweithgarwch corfforol yn un o'r pethau na fydd yn digwydd ar ôl y diwrnod ysgol nawr.
Felly, mae yna lawer o bobl nad ydynt yn cael y lefel o weithgarwch corfforol sydd ei hangen arnynt, tra bod amser sgrin, fel y gwelwn, yn cynyddu. Ac nid yw mynd am dro gyda'ch teulu yn cymryd lle'r rhyngweithio cymdeithasol y mae ein plant, ac oedolion, gymaint o'i angen. Rydym i gyd yn deall difrifoldeb a risg COVID a'r straen newydd, ond ni ellir anwybyddu pwysigrwydd chwaraeon ac ymarfer corff, a dyna pam rydym angen ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru mai chwaraeon di-gyswllt awyr agored fydd y peth cyntaf a ganiateir pan fydd ffigurau COVID yn gwella, gan ei fod yn hollbwysig i iechyd a lles llawer o bobl ledled ein gwlad, wedi'u dilyn cyn gynted â phosibl gan yr holl chwaraeon awyr agored a chwaraeon dan do a champfeydd. Fel y gwyddom, yn wyddonol, mae'r risg yn yr awyr agored mor isel—yn fychan iawn, fel y gwyddoch, Weinidog—gan nad yw'n wahanol i gerdded neu feicio, sy'n bethau a ganiateir, pethau y gallwn eu gwneud ar hyn o bryd o'n cartrefi.
Gan fod Cymru wedi'i symud yn ddiweddar i gyfyngiadau haen 4, yn anffodus unwaith eto, ni chaniateir i blant gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon wedi'u trefnu—er ein bod yn deall pam—hyd yn oed os ydynt yn weithgareddau awyr agored. Mae hyn yn wahanol iawn i'r sefyllfa yn Lloegr, lle caniateir i ardaloedd haen 4—lle caniateir i weithgareddau chwaraeon awyr agored i bobl ifanc dan 18 oed a phobl ag anableddau barhau, er gwaethaf y cyfyngiadau. Drwy gydol y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi gwahaniaethu rhwng gweithgareddau dan do a gweithgareddau awyr agored, a gallai fod synnwyr mewn gwneud hynny eto mewn perthynas â gweithgareddau plant yn awr, fel y mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud gydag ardaloedd haen 4 yn Lloegr. Er fy mod yn parhau i fod yn obeithiol y bydd Llywodraeth Cymru yn dod â chwaraeon yn ôl cyn gynted â phosibl, a gaf fi ofyn am wahaniaethu rhwng gweithgareddau awyr agored a gweithgareddau dan do, chwaraeon cyswllt a chwaraeon digyswllt, fel y gallwn o leiaf gael rhai gweithgareddau chwaraeon yn ôl, os nad pob un?
Ond Lywodraeth Cymru, ystyriwch pa mor ddiogel rhag COVID yw ein clybiau nawr a lefel y risg sy'n gysylltiedig â'u cychwyn eto. Mae gennyf lawer iawn o gydymdeimlad â chlybiau sy'n colli cymaint o arian, ac rwy'n rhannu eu rhwystredigaethau mewn sawl ffordd, rhwystredigaethau sydd eisoes wedi'u hamlygu heddiw. Yn yr hinsawdd sydd ohoni, rwy'n credu bod llawer o bobl yn deall pryder Llywodraeth Cymru, a phryderon pob un ohonom, ynghylch y straen newydd o COVID yn arbennig, ond mae angen sicrhau cydbwysedd rhwng diogelwch a phryderon iechyd eraill cyn gynted ag y gallwn wneud hynny. Diolch.
Diolch. Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd; diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl yma. Dwi wedi codi droeon yn y Siambr rithiol, ac mewn cyfathrebiaeth efo'r Llywodraeth dros y misoedd diwethaf, yr angen i wneud popeth posib drwy ddyddiau anodd y pandemig i sicrhau bod pobl yn cael cefnogaeth ac anogaeth i ymarfer corff, i gael awyr iach, a hynny nid yn unig oherwydd yr elfen o les corfforol mae'n ei wneud, ond hefyd oherwydd y budd o ran llesiant meddwl ac iechyd meddwl.
Dwi'n ffodus iawn fy mod i'n gallu ymarfer corff yn rheolaidd o gartref, a chael cwmni i wneud hynny hefyd. Ers dechrau y lockdown cyntaf, rhyw bum diwrnod yr wythnos, tua 7 y bore fel arfer, mae fy ngwraig a minnau yn mynd i redeg. Mae'n amrywio o ryw 2 filltir, 2 filltir a hanner i ryw 6 milltir, ac mae'r ddau ohonom ni'n grediniol bod y ffaith ein bod ni wedi gallu gwneud hynny, a gwneud hynny'n rheolaidd, o ran y llesiant corfforol—y ffaith ein bod ni'n dechrau'r dydd mewn ffordd bositif ac ati, dros ffordd dywyll, oer a gwlyb y dyddiau yma—wedi ein helpu ni drwy'r cyfnod yma. Ond dydy pawb ddim yn gallu gwneud hynny. Mae yna bob mathau o resymau pam mae pobl angen rhywbeth arall, rhywbeth mwy strwythuredig, o ran help i gynnal eu ffitrwydd—rhesymau o ran hygyrchedd, fel dywedodd Jenny Rathbone. O bosib, mae gan bobl resymau penodol pam nad ydyn nhw'n gallu mynd i'r awyr agored—unigrwydd ac yn y blaen. Ac mae colli campfeydd wedi dod fel ergyd fawr i lawer o bobl. Mae Michelle Adams—y deisebydd sydd y tu ôl i'r ddeiseb ar gadw campfeydd ar agor—yn etholwraig i mi, ac mae'n aelod o CrossFit Place yng Nghaerwen. Ac yn ogystal â'r perchennog, Phil Brown, dwi wedi clywed gan nifer o aelodau o'r gampfa honno am eu tor calon nhw—dydy hynny ddim yn rhy gryf i'w ddweud—pan fo'r gampfa wedi gorfod cau ar wahanol adegau dros y flwyddyn ddiwethaf, o ran y gwmnïaeth a'r iechyd corfforol a meddyliol.
Beth ofynnais i i'r Llywodraeth mewn llythyr i'r Gweinidog iechyd yn ôl ym mis Hydref oedd: gadewch i gyms wneud yr achos i allu agor yn ddiogel; gadewch iddyn nhw ddangos eu bod nhw yn gallu. Dwi'n adnabod yn CrossFit Place, er enghraifft, mae yna ddrws roller shutter anferth o'r llawr i'r to er mwyn sicrhau digon o awyr iach. Mae'n bosib bod yna rai gyms sydd yn methu â rhoi trefniadau diogel mewn lle, ond gadewch iddyn nhw drio. Yr agwedd pan fo'n dod at ymarfer corff, dwi'n credu, ydy y dylid ei ganiatáu os ydy hynny yn bosib o gwbl. A bydd, mi fydd adegau pan fydd nifer yr achosion ar ei fwyaf uchel, fel rydym ni wedi'i brofi rŵan, neu mewn rhai ardaloedd lle mae hynny yn wir, lle o bosib does yna ddim modd i unrhyw gampfa fod ar agor, ond sôn am asesiadau risg, deinamig rydym ni yn fan hyn er mwyn hybu y math yna o ymarfer corff, a dwi'n gofyn eto i'r Llywodraeth feddwl yn y ffordd yna.
Yr un fath efo'r deisebau eraill: prin allwch chi ddychmygu camp fwy diogel na golff. Mae yn yr awyr agored, mae pobl yn gallu cadw ymhell iawn oddi wrth ei gilydd. A chofiwch nid sôn am agor y clubhouse ydyn ni—er, ar hyn o bryd, mi allwch chi fynd draw i'r clubhouse i ôl têc-awe, ond allwch chi ddim mynd draw yno i gael gêm o golff yn yr awyr agored.
A dwi wedi mynd ar ôl y mater o geisio caniatáu chwaraeon tîm i gael eu chwarae a'u gwylio dros y misoedd diwethaf hefyd. Mae gen i gariad mawr at bêl-droed, sy'n ffocws ar y ddeiseb yma—rygbi hefyd. Dwi wedi hyfforddi ieuenctid llawer iawn dros y blynyddoedd, ac mae annog chwaraeon tîm mor bwysig, eto i iechyd meddwl a chorfforol, ond yn gymunedol hefyd. Mae rhwyfwyr môr cystadleuol wedi bod yn rhwystredig yn Ynys Môn, er enghraifft, eu bod nhw wedi methu â chael mynd allan am gyfnodau dros y misoedd diwethaf. Felly, mae fy apêl i yr un fath: plîs a wnaiff y Llywodraeth feddwl am eu hunain fel hwyluswyr yn fan hyn, fel enablers, a meddwl mai beth sydd eisiau ei wneud ydy caniatáu ac annog gweithgaredd corfforol lle bynnag y mae hynny yn bosib? Rwy'n cefnogi'r cyfyngiadau Cymru gyfan sydd gennym ni ar hyn o bryd—mae pethau'n edrych yn well, yn symud i'r cyfeiriad cywir rydw i'n gobeithio, ond mae'r sefyllfa'n dal yn ddifrifol—ond tra mae yna bethau sydd ddim yn gallu cael eu hystyried yn angenrheidiol ar hyn o bryd, mae annog ffitrwydd corfforol a meddyliol yn gorfod bod yn flaenoriaeth, felly gwnewch bopeth allwch chi.
A gaf fi ddweud cymaint rwy'n cefnogi'r egwyddorion sy'n sail i bob un o'r deisebau hyn? Rydym i gyd yn ymwybodol o'r sefyllfa ddifrifol iawn gyda'r coronafeirws ar hyn o bryd, ac rwy'n credu bod pawb yn ymwybodol na allwn wneud pethau y byddem yn dewis eu gwneud neu beidio â'u gwneud ac ymddwyn yn y ffordd y byddem fel arfer, ac mae hynny'n ddealladwy. Ond wrth i'r Llywodraeth sefydlu cyfyngiadau a rheoliadau, rydym hefyd yn ymwybodol fod pethau y gallwn eu gwneud o hyd a phethau sy'n fwy cyfyngol, ond mae hyd yn oed y rheoliadau mwyaf cyfyngol y mae'r Llywodraeth wedi'u gosod wedi cydnabod lle a phwysigrwydd hamdden corfforol ac ymarfer corff. Ar bob adeg pan fyddwn wedi bod drwy gyfnod o gyfyngiadau yng Nghymru ac mewn mannau eraill, nid yn unig yn y Deyrnas Unedig ond mewn mannau eraill ym mhob cwr o'r byd, mae pob Llywodraeth wedi cydnabod pwysigrwydd ymarfer corff, bron yn ddieithriad, ac mae honno'n egwyddor bwysig, oherwydd rydym yn cydnabod felly fod ymarfer corff a chwaraeon yn bwysig i ni lle bynnag y byddwn.
Nawr, mae'n ddigon posibl y gallaf gerdded o amgylch llyn, er enghraifft, ond hoffai Clwb Pysgota Parc yr Ŵyl yng Nglynebwy, er enghraifft, bysgota ynddo hefyd, ac mae'n ymddangos yn enghraifft ryfedd iawn i'w defnyddio, gan y gallwn loncian o amgylch y llyn, ond ni fyddwn yn cael stopio a physgota yno. Credaf fod yna fannau lle mae'r rheoliadau'n mynd yn anodd eu cynnal. Nawr, deallwn mai prif amcan polisi o reidrwydd yw atal a dileu'r feirws. Nid oes dadl ynglŷn â hynny. Mae'n fater o sut rydym yn ei wneud a sut rydym yn diogelu pobl wrth i ni ei wneud a phryd rydym yn ei wneud.
Defnyddiais Glwb Pysgota Parc yr Ŵyl yng Nglynebwy fel enghraifft; gallwn hefyd ddefnyddio Clwb Golff Gorllewin Sir Fynwy yn Nant-y-glo fel enghraifft arall, un o'r lleoliadau harddaf ar gyfer clwb golff—rwy'n siŵr fod y Gweinidog yn gyfarwydd iawn ag ef. Nid wyf erioed wedi chwarae rownd o golff yno, mae'n rhaid i mi gyfaddef; rwyf wedi cerdded y cwrs golff, ac wrth i chi gerdded ar draws y cwrs, gallwch weld o Fynydd Pen-y-fâl draw i Fannau Brycheiniog, ar draws Blaenau'r Cymoedd i gyd, lleoliad hardd a man lle gallwch ymarfer corff a gwneud hynny'n ddiogel. Mae pwyllgor y clwb golff yn deall yn iawn yr angen i sicrhau diogelwch i bobl wrth iddynt wneud hynny, ac maent eisoes wedi rhoi nifer o fesurau ar waith i sicrhau bod pobl yn gallu gwneud hynny'n ddiogel.
Ar yr un pryd, mae gennym yr holl sefyllfa gyda champfeydd. Gallaf feddwl yn hawdd am nifer o gampfeydd sy'n cael eu rhedeg yn dda iawn—yma yn Nhredegar, ond ar draws Blaenau Gwent ac mewn mannau eraill. Mae'r gampfa rwy'n aelod ohoni yn y fan hon yn Nhredegar, Fresh Active, yn cael ei rhedeg yn eithriadol o dda, lle maent wedi rhoi'r rhagofalon mwyaf posibl ar waith i sicrhau diogelwch pob un ohonom a fydd yn defnyddio'r cyfleuster, ac mae hynny'n bwysig, nid yn unig i iechyd corfforol, ond i iechyd meddwl pobl hefyd. Rwy'n arbennig o bryderus am iechyd meddwl dynion ifanc, Weinidog, a byddwn yn ddiolchgar am eich sylwadau ar hyn, oherwydd roeddwn yn siarad ag etholwr cyn y Nadolig yng nghwm Ebwy Fach, a oedd yn dweud wrthyf fod yna ddegau, ac efallai cannoedd hyd yn oed, o ddynion ifanc yr effeithiwyd yn fawr arnynt yn sgil cau campfeydd o ganlyniad i'n rheoliadau.
Y pwynt olaf rwyf am ei wneud, Ddirprwy Lywydd, yw hwn: siaradodd Laura Jones am ei mab 10 oed, wel, mae gennyf innau fab 10 oed hefyd, ac rwy'n siŵr nad ni yw'r unig rai sydd â'r lobïwr mwyaf effeithiol y daethom ar eu traws erioed yn eistedd gyferbyn â ni bob hyn a hyn. Ac mae'n bwysig—mae'r ddeiseb yn sôn am bêl-droed, ond fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth, gallai fod yn rygbi neu'n unrhyw gamp tîm arall—ein bod yn gallu sicrhau bod ein plant yn enwedig, ac rwy'n meddwl yn arbennig am chwaraeon grŵp oedran, yn gallu cynnal y cyswllt cymdeithasol hwnnw. Buom yn siarad yn y cwestiynau addysg yn gynharach am bwysigrwydd cymdeithasu mewn ysgolion ac addysg. Ac wrth gwrs, mae fy mab, ac rwy'n siŵr fod plant Laura a phobl eraill hefyd yn cymdeithasu nid yn unig yn yr ystafell ddosbarth, ond yn fwy felly, mewn gwirionedd, drwy chwaraeon ac ymarfer corff. A gwn am y cyffro y mae fy mab yn ei deimlo; mae'n dweud wrthyf yn hyglyw iawn ar fore Sadwrn pan fydd yn mynd i'w ymarfer pêl-droed. Ac mae'n rhan bwysig o bwy ydym ni ac wrth gwrs, mae hynny'n gosod y sylfaen ar gyfer oes o iechyd a gweithgarwch corfforol.
Felly, Weinidog, wrth ymateb i'r ddadl hon, nid wyf yn credu bod neb yn dadlau y gall newid ddod ar unwaith ac mae pawb, rwy'n credu, yn deall pwysigrwydd dileu ac atal y feirws heddiw. Ond rydym hefyd yn deall ein bod yn mynd i deithio ar hyd ffordd, llwybr, dros y misoedd nesaf, a chredaf mai'r hyn rydym yn ceisio'i ddadlau yw y dylai dechrau llacio'r cyfyngiadau hyn ddigwydd gyda'r gweithgareddau y gellir eu cynnal yn ddiogel yn yr awyr agored yn bennaf, er nad y rheini'n unig, a'r gweithgareddau sy'n cyfrannu at iechyd a lles pobl yn ein cymunedau. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu cydnabod bod campfeydd yn hanfodol i'n ffitrwydd a'n hiechyd a'n lles; boed yn bysgota neu'n golffio, ein bod yn gallu gwneud hynny'n ddiogel yn y dyfodol; a hefyd wedyn, fod y gweithgareddau chwaraeon a chwaraeon sy'n hybu iechyd a ffitrwydd a lles mewn cymuned hefyd yn gallu ailddechrau'n syth gyda dechrau'r broses o lacio. Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn ymdrin yn bennaf â'r ddeiseb gyntaf a grybwyllir yn y ddadl hon, sy'n ymwneud â chau campfeydd. Mae'n ffaith ddiamheuol mai cyflwr iechyd cyffredinol unigolyn yw un o'r ffactorau pwysicaf yn eu gallu i wrthsefyll heintiau o bob math, gan gynnwys COVID-19. Dywedwyd wrthym ers blynyddoedd lawer am gadw'n heini ac ymarfer corff er mwyn atal afiechyd. Mae'n ffaith ddiymwad fod y canolfannau ffitrwydd a'r campfeydd yn cyfrannu'n aruthrol at iechyd cyffredinol y genedl. Dywedir wrthym yn gyson hefyd fod ein gwasanaeth iechyd o dan straen ddifrifol, ac eto yma mae gennym gyfleuster sy'n cael effaith fuddiol brofedig ar iechyd ac effaith liniarol sylweddol felly ar feirws COVID i'r rhai sy'n ei ddal, a ddylai olygu, wrth gwrs, na fyddant fawr o angen defnyddio cyfleusterau gofal iechyd, os o gwbl, boed yn wasanaethau gofal sylfaenol neu'n gyfleusterau ysbyty. Bydd hyn, wrth gwrs, yn lleddfu'r pwysau ar yr holl wasanaethau iechyd. Byddai rhywun wedi meddwl y byddai'r Llywodraeth wedi ystyried yr effeithiau cadarnhaol iawn sy'n gysylltiedig â champfeydd a chyfleusterau ymarfer corff cyn eu gorfodi i gau. Pam y mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu eu ffigurau heintiau COVID eu hunain, sy'n dangos mai cyfradd heintio o 1.7 y cant yn unig sydd gan gampfeydd?
O ran y ddwy ddeiseb arall, golff fyddai un o'r campau hawsaf i allu arfer canllawiau'r Llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol. Ac os yw'n gyfyngedig i ddau chwaraewr y gêm, bron na fyddai unrhyw berygl o drosglwyddo'r feirws. Yn wir, llawer llai o berygl nag mewn unrhyw archfarchnad.
Mewn perthynas â'r drydedd ddeiseb, credaf fod pêl-droed a gemau maes eraill bob amser wedi'u trefnu'n dda o dan reolau'r gymdeithas, ac felly mae hi bron yn sicr y byddent yn amgylcheddau diogel i bobl allu ymgynnull. Unwaith eto, ni allwn orbwysleisio gwerth ffitrwydd corfforol i wneud pobl yn llawer mwy tebygol o allu gwrthsefyll feirws COVID ac ni allwn ychwaith anwybyddu'r effaith y mae lles corfforol yn ei chael ar iechyd meddwl.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, mae'n bwysig dros ben fod y boblogaeth gyfan yn ystyried bod unrhyw gyfyngiadau'n ddilys a chymesur er mwyn iddynt fod yn barod i gydymffurfio â'r mesurau. Nid yw'r cyfyngiadau a grybwyllir yn y deisebau hyn yn ymddangos yn briodol nac yn synhwyrol yn wir, o ystyried eu bod mewn perygl o wneud i lawer mwy o bobl fod yn ddifrifol o sâl gyda COVID, yn hytrach na diogelu pobl rhag canlyniadau dal COVID-19. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Mae'n sicr yn wir, onid yw, yn ystod y pandemig, fod llawer o bobl wedi dod i sylweddoli a deall o'r newydd beth yw gwerth gweithgarwch corfforol a chwaraeon? Ie, ar gyfer iechyd corfforol, ond, fel mae pobl wedi dweud, ar gyfer iechyd meddwl hefyd, ar gyfer ansawdd bywyd a mwynhad, ac rwyf wedi cael llawer iawn o negeseuon e-bost gan etholwyr sy'n arbennig o bryderus am eu plant. Mae gweithgareddau eu plant y tu allan i'r ysgol mewn perthynas â gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn bwysig iawn iddynt fel teuluoedd, yn bwysig iawn i brofiad y bobl ifanc hyn, ac maent yn meithrin arferion da am oes pan fyddant yn cymryd rhan mewn pêl-droed, tenis, criced, gymnasteg, dawns neu beth bynnag y bo. Felly, mae cynnal iechyd da a diddordebau pleserus drwy gydol eich oes yn werthfawr iawn.
Yn lleol i mi, mae cymaint o glybiau pêl-droed, rygbi, criced llawr gwlad i'w cael, sy'n cynnal gweithgareddau ar gyfer yr holl ystod o oedrannau, o'r plant ieuengaf hyd at bobl hŷn, ac mae'n werthfawr iawn i bob un ohonynt. Mae Clwb Criced Casnewydd yn enghraifft dda iawn lle mae ganddynt dimau merched hynod o dda a thîm menywod sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn. Maent wedi adeiladu eu gweithgareddau a'u cyfleusterau dros gyfnod o amser ac wrth gwrs, mae'n anodd iawn iddynt orfod torri ar draws hynny nawr ac mewn rhai ffyrdd, i hyd yn oed weld y cynnydd a wnaethant dros flynyddoedd lawer yn cael ei wrthdroi.
Er enghraifft, ar athletau a phobl ifanc, cefais e-bost gan Wendy mewn perthynas â'i merch Anya Brady, sy'n rhedwr pellter canol iau talentog iawn, ac mae Anya wrth ei bodd yn rhedeg yn stadiwm Spytty lle mae Clwb Athletau Harriers Casnewydd yn gweithredu. Mae hi wrth ei bodd â'r ochr gymdeithasol, a chyfarfod â'i ffrindiau, mae hi wrth ei bodd â'r trac, y llifoleuadau a'r cyfleusterau yno, ac iddi hi, mae'n hynod o bwysig. Dywedodd ei mam mewn e-bost ataf fod y rhain yn blant ffit sy'n ymarfer corff yn rheolaidd, mae angen iddynt barhau i ymarfer corff er eu lles corfforol, ond hefyd er mwyn eu lles meddyliol yn y cyfnod anodd hwn.
Mae hynny'n adlewyrchu llawer o negeseuon e-bost a galwadau ffôn a gefais gan etholwyr ers y gwanwyn diwethaf. Mae'r ffordd y mae llawer o'r clybiau llawr gwlad hyn wedi rhoi mesurau gwych ar waith i sicrhau eu bod yn gweithredu'n ddiogel wedi creu argraff fawr arnaf. Maent wedi bod yn gyfan gwbl o ddifrif ynglŷn â'r canllawiau ac wedi rhoi pethau mewn trefn, fel petai, ac mae hynny hyd yn oed yn fwy gwir, rwy'n credu, mewn gweithgareddau mwy proffesiynol fel Casnewydd Fyw. Casnewydd Fyw yw'r ymddiriedolaeth hamdden yng Nghasnewydd ac mae ganddynt gyfleusterau gwych, a rhai ohonynt wedi'u darparu ganddynt ar gyfer adsefydlu COVID hir, sef felodrom Geraint Thomas, lle maent, ar y cyd â'r bwrdd iechyd, wedi darparu eu cyfleusterau er mwyn galluogi pobl sy'n cael trafferth gyda COVID hir i gyflymu eu proses adsefydlu. Mae honno'n enghraifft wych, rwy'n meddwl, o'r hyn y mae angen i ni weld mwy ohono: cydweithio agos iawn rhwng ein sector iechyd a'n gweithredwyr chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Mae eu cyfleusterau a'u dosbarthiadau wedi bod mor bwysig i gynifer o bobl drwy COVID-19. Gwyddom fod 60 y cant o oedolion a dwy ran o dair o bobl ifanc yn dweud bod eu hiechyd meddwl wedi dioddef yn ystod y pandemig. Gwyddom fod chwaraeon a gweithgarwch corfforol wedi chwarae rhan werthfawr iawn yn lleihau iselder a phryder. Felly, credaf mai un o'r gwersi—wyddoch chi, rydym yn sôn mor aml am adeiladu nôl yn well—un o'r enghreifftiau y mae gwir angen inni bwyso arni o'n profiad yn ystod COVID-19 yw pwysigrwydd chwaraeon a gweithgarwch corfforol i iechyd corfforol a meddyliol. Mae angen cydweithio ac integreiddio llawer agosach rhwng ein polisïau a'n strategaethau iechyd, chwaraeon a hamdden, ac rwy'n credu bod gennym enghraifft o hynny'n lleol yng Nghasnewydd rhwng Casnewydd Fyw a'r sector iechyd, nid yn unig mewn perthynas â COVID-19, ond yn mynd yn ôl yn llawer pellach na hynny, lle rwyf wedi bod yn rhan o lawer o gyfarfodydd i geisio sicrhau cydweithio agosach, gwell integreiddio.
Felly, hoffwn ddweud i gloi, Ddirprwy Lywydd, fy mod yn credu, pan fydd rhywfaint o ryddid i lacio'r cyfyngiadau sydd gennym ar hyn o bryd, mai'r dosbarthiadau chwaraeon a gweithgareddau hynny i'n pobl ifanc ddylai fod tuag at flaen y ciw, ac yn dynn wrth eu sodlau, dylem weld chwaraeon a hamdden i bob oedran yn agor yn llawer mwy cyffredinol. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r apêl a'r alwad honno.
A gaf fi alw yn awr ar Dafydd Elis-Thomas, y Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, Janet Finch-Saunders, am ddilyn y broses ddeisebau a chyflwyno'r ddadl yma heddiw. Fy nheimlad i ydy, er bod y ddadl yma yn dod trwy broses gan y Senedd, efallai ei bod hi'n ddadl sydd wedi digwydd yn rhy gynnar. Ond wedi dweud hynny, mae o'n gyfle i mi ymateb ar ran y Llywodraeth mewn ffordd hollol glir, gobeithio.
Fel y gwyddoch chi, iechyd cyhoeddus yw'r brif ystyriaeth yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd. Yn wir, mae'r sefyllfa wedi gwaethygu yn sylweddol ers pan gyflwynwyd y deisebau yma yn wreiddiol. Mae gen i gyfrifoldeb, wrth gwrs, am gael trosolwg ar weithgaredd corfforol fel Gweinidog chwaraeon o fewn y Llywodraeth, ond mae'n rhaid i mi weithredu'r cyfrifoldeb yna o fewn cyd-destun iechyd cyhoeddus, ac mae lefel y rhybudd yr ydym ynddi hi ers 20 Rhagfyr, lefel 4, yn adlewyrchu difrifoldeb y sefyllfa.
Mae'r cyfan o'r polisi a'r gweithredu y mae Llywodraeth Cymru wedi eu dilyn, sydd ddim mor annhebyg â hynny i beth sydd wedi digwydd yn Lloegr, yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban, er bod yna eithriad yna ynglŷn â golff yn yr Alban—mae'r polisïau a'r gweithredu yn gyffredinol yn debyg. Maen nhw'n debyg oherwydd eu bod nhw wedi cael eu darparu yn y gwledydd yna i gyd ar sail cyngor iechyd cyhoeddus sydd wedi'i gytuno yn gyson rhwng y prif swyddogion meddygol. Os digwyddodd rhai ohonoch chi weld, fel y gwelais i, amser cinio heddiw, y ddau brif swyddog meddygol sydd yn rhan o Lywodraeth Cymru a'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, mi fyddech chi wedi cael y dystiolaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r sefyllfa yna.
Tra bydd y cyngor yn dweud wrthym ni am aros gartref ac am gymryd gofal, ac am beidio â chaniatáu gweithgareddau corfforol y tu fewn i adeiladau megis campfeydd, yna mae cydbwysedd y farn gyhoeddus a'r cyngor arbenigol yr ydym ni wedi'u cael yn pwysleisio'r pwysigrwydd i ni helpu i ddiogelu pobl Cymru, rhoi cyngor clir a diamwys, ac wrth gwrs diogelu gweithgareddau ein gwasanaeth iechyd. Mae hynny yn golygu o hyd ein bod ni'n parhau i gadw cyfleusterau dan do ar gau. Er bod, fel y dywedais i gynt, y gweithgareddau awyr agored fel golff a phêl-droed yn ymddangos yn fwy diogel, y cyngor iechyd cyhoeddus ydy bod y risg sydd o fewn y gweithgareddau yma hefyd, o ran cefnogwyr ac o ran cyfranogwyr, yn fwy nag y gallwn ni ganiatáu.
Mae'r esblygiad ar y feirws wedi bod yn annisgwyl i rai pobl, ond doedd e ddim yn annisgwyl i unrhyw un sydd wedi bod yn astudio'r sefyllfa iechyd cyhoeddus a'r sefyllfa o ran argyfyngau pandemig a phla cyhoeddus, fel yr ydym ni'n ei ddioddef ar hyn o bryd. Dyna pam na allwn ni ganiatáu eithriadau na chonsesiynau ar hyn o bryd, er mwyn cadarnhau'r neges ynglŷn ag aros gartref. Mae'n rhaid i benderfyniadau Llywodraeth Cymru fod yn seiliedig ar realiti'r sefyllfa yng Nghymru a blaenoriaethau iechyd cyhoeddus.
Dydy hynny ddim yn golygu nad ydw i'n cytuno â'r cyfan sydd wedi cael ei ddweud ar bwysigrwydd ymarfer corfforol. Dwi'n ffodus, oherwydd fy mod i wedi arfer, oherwydd lle dwi'n byw yn y gogledd—bellach yn fan hyn y rhan fwyaf o'r amser, bron drwy'r amser, yng Nghaerdydd, oherwydd fy mod i ddim yn gallu teithio i unman oherwydd fy oedran—ond mae parhau i ymarfer tu allan mewn caeau, yn rhedeg ac yn y blaen, yn bethau sydd yn parhau nid yn unig yn bleser i fi ond yn angenrheidrwydd yn fy mywyd. Nid fy mod i ddim yn deall y dadleuon yna, ond mae'n rhaid i mi ddweud yn gwbl glir bod yn rhaid i ni ar hyn o bryd sicrhau ein bod ni yn cefnogi'r sector chwaraeon. Rydyn ni wedi neilltuo £23 miliwn i helpu'r sector chwaraeon a hamdden yn ystod y pandemig yma, ond nid dyma'r amser i ni agor y drws na mynd tu fas i'r drws, na mynd tu mewn i'r drws os nad ydy hynny yn ddiogel.
Dwi yn ddiolchgar iawn am y datblygiadau gwyddonol rydyn ni wedi eu cael ynglŷn â brechlynnau, ond mae'n bwysig ein bod ni ddim yn tanseilio unrhyw fantais o effeithiolrwydd brechlynnau o ran iechyd cyhoeddus drwy ganiatáu agor gweithgareddau sydd ddim yn mynd i fod yn ddiogel. Nid mater pleidiol wleidyddol ydy hwn, wrth gwrs; mae o'n rhy bwysig i hynny—mae o'n fater o fywyd.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Dwi'n galw nawr ar Gadeirydd y pwyllgor i ymateb i'r ddadl—Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch yn gyntaf i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan heddiw, yr holl gyfraniadau rhagorol yn cydnabod egwyddor a rhinweddau'r deisebau hyn? I gloi, mae maint ac ehangder y deisebau a gawsom ar bwnc chwaraeon a gweithgarwch corfforol wedi sicrhau nad oes unrhyw amheuaeth gan ein pwyllgor, y Pwyllgor Deisebau, ynglŷn â phwysigrwydd gweithgareddau o'r fath i gynifer o bobl yng Nghymru. Rwy'n siŵr nad oes fawr o bobl yn amau pwysigrwydd yr aberth rydym i gyd yn ei wneud ac sydd ei angen i fynd i'r afael â'r feirws hwn, ac i ddiogelu pobl Cymru a'r GIG rhag ei effeithiau gwaethaf.
Mae hefyd yn wir fod gan gyfleoedd i wella a chynnal ffitrwydd corfforol rôl hanfodol hefyd yn helpu i amddiffyn pobl rhag salwch difrifol ac yn wir, rhag cyflyrau iechyd eraill. Crybwyllwyd llawer ohonynt heddiw yn y cyfraniadau gwych a wnaed, a chan y Gweinidog yn wir; diolch am eich ymateb chi hefyd. Ac fel y mynegwyd yn gryf drwy'r deisebau a gawsom, maent hefyd yn chwarae rhan hollbwysig yn cefnogi lles ac iechyd meddwl, rhywbeth nad yw erioed wedi bod mor bwysig ac na fu erioed mwy o brawf arno na nawr yn ystod yr adegau hyn.
Ar fy rhan i a'r pwyllgor a'n tîm clercio, hoffwn gofnodi ein diolch i'r deisebwyr, ac unrhyw unigolion eraill sydd wedi caniatáu i'w profiadau personol gael eu rhannu. Rwy'n credu ein bod i gyd yn edrych ymlaen at y diwrnod y cawn weld ein campfeydd, ein cyrsiau golff, ein pyllau nofio, ein timau pêl-droed amatur yn ailagor, ond ar hyn o bryd, hoffwn ddiolch i bawb, mewn gwirionedd—yr Aelodau—am eu diddordeb yn y pwnc hwn. Diolch yn fawr, Lywydd.
Y cynnig, felly, yw i nodi'r deisebau. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Unrhyw wrthwynebiad? Na. Dwi ddim yn gweld na chlywed gwrthwynebiad, ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mae eitem 7 wedi ei ohirio.
Does dim pleidleisiau heddiw o dan y cyfnod pleidleisio.
Sy'n mynd â ni'n syth at y ddadl fer. Dwi'n galw ar Mark Reckless nawr i gyflwyno'r ddadl fer yn ei enw ef. Mark Reckless.
A gaf fi wneud yn siŵr eich bod yn fy nghlywed?
Gallwn, fe allwn. Gallwch barhau.
Diolch. Mae materion cyfansoddiadol yn peidio â bod yn esoterig pan fyddant yn penderfynu ai eich mam neu eich tad-cu sy'n cael brechiad a fydd yn achub eu bywydau. Efallai nad yw Gweinidogion Cymru am sbrintio na chystadlu, ond mae'n anochel fod cyflymder brechu a'r ffaith ein bod yn llusgo ar ôl gweddill y DU yng Nghymru yn adlewyrchiad ar ddatganoli. Efallai mai dim ond y llynedd y daeth llawer o bobl yng Nghymru yn ymwybodol o ba mor ormodol yw pwerau Gweinidogion Cymru, ond ar y cyfyngiadau symud, maent yn deillio'n gyffredinol o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984. Mae'r cyfeiriad at Weinidogion Cymru yn adlewyrchu ein sefyllfa ers Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
Fodd bynnag, newidiodd ystyr cyfeiriadau deddfwriaethol at 'yr Ysgrifennydd Gwladol' ar gyfer llawer o swyddogaethau yng Nghymru ymhell cyn datganoli yn 1999, gyda chreu Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn 1964 a sefydlu'r Swyddfa Gymreig yn 1965. Efallai ei bod yn anodd dychmygu Cledwyn Hughes, heb sôn am George Thomas, yn rhoi datganiad unochrog o annibyniaeth ar sut i reoli pandemig yng Nghymru, ac roeddent, wrth gwrs, yn ddarostyngedig i gyfrifoldeb cyfunol y Cabinet, ond roeddent yn meddu ar hadau, fan lleiaf, y pwerau cyfreithiol a ddefnyddir heddiw. Felly, ynghanol y 1960au y dechreuasom weld Cymru'n gwahanu'n weinyddol oddi wrth rai o adrannau Whitehall y DU—gwahaniad a ddefnyddiwyd wedyn i fynnu datganoli. Pam y dylai'r gwasanaeth iechyd gwladol, a sefydlwyd o Gymru gan Aneurin Bevan ar gyfer y Deyrnas Unedig, gael ei chwalu fel hyn? Pa mor uchel yw'r pris y mae'n rhaid inni ei dalu yn awr am y rhwystr a godwyd rhwng ein GIG yng Nghymru a Llywodraeth y DU?
Methodd y system iechyd ddatganoledig yng Nghymru gyflawni profion torfol, cyn ceisio cymorth gan Lywodraeth y DU o'r diwedd, ac mae bellach ar ei hôl hi gyda brechu torfol. Yng Nghymru, rydym dan anfantais oherwydd y rhyngwyneb hwnnw, a syrthni gweinyddol ymddangosiadol ein system ddatganoledig. Rydym hefyd ar ein colled o gymharu â sut y byddai pethau pe byddem yn deyrnas wirioneddol unedig, oherwydd mae pwerau i bennu'r grwpiau blaenoriaeth ar gyfer brechu wedi'u datganoli. O dan ddatganoli, rydym yn penderfynu sut i ddosbarthu cyfran y boblogaeth o frechlyn. At ei gilydd, rydym yn mabwysiadu'r un categorïau a threfn â Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr, ond rydym yn cael y brechlyn i mewn i freichiau pobl yn llai cyflym. Pe bai Llywodraeth y DU yn rheoli'r drefn yng Nghymru yn ogystal ag yn Lloegr, gyda'r un categorïau brechu, byddem yn elwa nid yn unig o'u cyflwyno'n gyflymach, ond o gyfran uwch na'r boblogaeth, oherwydd bod ein poblogaeth yn hŷn. Diolch i ddatganoli, nid yw hyn yn digwydd. Ai dyma'r hyn roedd pobl ei eisiau pan wnaethant bleidleisio mewn refferenda yn 1997 neu yn 2011 neu'n wir, yn 1979? A oedd unrhyw un o ddifrif o'r farn fod cynnwys iechyd, yn arbennig, ymhlith y rhestr o gymwyseddau datganoledig yn golygu y gallai Llywodraeth Cymru benderfynu pryd y gallent adael eu tŷ, neu orfodi ffin â Lloegr i atal pobl rhag dod i mewn i Gymru neu ei gadael? Wrth gwrs nad oeddent.
Nawr, mae gan y Gweinidog hanes wrth gwrs pan ddaw'n fater o geisio anwybyddu canlyniadau refferenda nad yw'n eu hoffi. Pan bleidleisiodd Cymru a'r Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd, addawodd barchu'r canlyniad, ac eto treuliodd lawer o'r pedair blynedd a hanner nesaf yn ceisio ei rwystro. Diolch byth, fe fethodd hynny, ond mae gwaddol yr ymgais honno, gosod y Senedd hon yn erbyn pobl Cymru a'r hyn y gwnaethant bleidleisio drosto yn y refferendwm hwnnw, wedi tanseilio datganoli. Llywodraeth y DU a gyflawnodd Brexit, yn wyneb ein gwrthwynebiad sefydliadol a chyda chefnogaeth ddigynsail ar draws llawer o Gymru. Yn yr un modd, er bod y Gweinidog a'i gydweithwyr yn hoffi galw am barchu refferendwm Cymru yn 2011, nid ydynt wedi ei barchu ronyn yn fwy na'r Ceidwadwyr. Ar ôl pleidlais dros ddatganoli pwerau deddfu mewn 20 maes diffiniedig, gyda'r gweddill wedi'i gadw'n ôl i San Steffan, penderfynasant wneud y gwrthwyneb i'r hyn y pleidleisiwyd drosto, drwy ddatganoli'r holl bwerau oni bai eu bod wedi'u cadw'n ôl.
Cafodd pwerau pellach eu datganoli hefyd, nid yn unig heb refferendwm pellach, ond yn benodol groes i fandad y refferendwm hwnnw yn 2011. Gwarantodd y refferendwm i bleidleiswyr na fyddai pwerau codi trethi'n cael eu datganoli heb refferendwm pellach—safbwynt a ymgorfforwyd yn y gyfraith. Argraffwyd datganiad hyd yn oed ar y papur pleidleisio ei hun yn datgan
'Ni all y Cynulliad ddeddfu ar drethiant beth bynnag fydd canlyniad y bleidlais hon.'
Ac eto, mae gan y sefydliad hwn, a ailenwyd yn Senedd Cymru, heb ganiatâd ein pleidleiswyr, a ailddiffiniwyd gennym i gynnwys pobl ifanc 16 oed a'r holl wladolion tramor sy'n byw yng Nghymru i bob pwrpas, bŵer erbyn hyn i godi treth incwm gymaint ag y mae ei eisiau. Mae telerau refferendwm 2011 wedi'u bwrw o'r neilltu.
Rydym hefyd yn gweld diwedd ar ein gorgynrychiolaeth yn San Steffan bellach wrth inni weld lleihau nifer yr ASau o 40 i 32, yn union fel y gwelodd yr Alban nifer ei ASau yn gostwng o 72 i 59 ar ôl datganoli—cafodd hyn ei ohirio ar gyfer Cymru tan yr adolygiad o ffiniau yn dilyn datganoli pwerau deddfu sylfaenol. Nid oedd yn un o ganlyniadau refferendwm 2011 y dewisodd yr ochr 'ie' eu hegluro wrth geisio ein rhyddhau o'r gweithdrefnau ar gyfer Gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol, na ellir gwadu eu bod yn feichus. Ac wrth gwrs, nid oedd y refferendwm hwnnw'n rhoi'r dewis i Gymru roi diwedd ar ddatganoli; dim ond un ffordd y caniatawyd i'r broses honno fynd byth—i gyfeiriad annibyniaeth.
Pan bleidleisiodd Cymru yn erbyn datganoli yn 1979, gofynnwyd iddi bleidleisio eto yn 1997, ond ar ôl pleidleisio drosto bryd hynny o drwch blewyn, ni chaniatawyd unrhyw gyfle i ailystyried. Digon teg, fe'ch clywaf yn dweud, os na ddylai refferendwm o'i fath fod yn fwy na digwyddiad unwaith mewn cenhedlaeth. Efallai nad yw 24 mlynedd yn genhedlaeth eto, gyda'r oedran cyfartalog rydym yn cael ein plant cyntaf yn codi, ond nid yw'n bell ohoni. Beth yw grym y status quo? Beth fyddai sefyllfa Cymru pe na bai gennym ddatganoli; pe bai'r sefydliad hwn a'r Llywodraeth yn cael eu diddymu, fel y mae fy mhlaid yn dymuno, yn ymgyrchu amdano ac yn dadlau drosto? Mae ein gwrthwynebwyr yn hoffi awgrymu mai'r dewis arall yw rhyw fath o raglaw sy'n dod i lawr o Lundain neu dde-ddwyrain Lloegr i lywodraethu Cymru, ac wrth gwrs, wynebodd John Redwood feirniadaeth lem am ddychwelyd i Wokingham i gysgu gyda'i wraig. Ond nid wyf yn credu bod y Gweinidog am awgrymu bod deiliaid presennol y Swyddfa Gymreig ronyn yn llai Cymreig nag ef.
Yn 1979, dadleuodd Llafur, ar lefel lywodraethol swyddogol o leiaf, fod angen gwneud y Swyddfa Gymreig yn fwy atebol yn ddemocrataidd am ei bod yn arfer pŵer. O bedwar i un, dywedodd pobl Cymru 'na', ac rwy'n cynnig eu bod wedi gwneud hynny, nid oherwydd nad oeddent yn credu mewn atebolrwydd democrataidd, ond oherwydd nad oeddent yn cefnogi holl raddau'r datganoli gweinyddol roedd carfan leiafrifol o fewn y Blaid Lafur am ei orfodi arnynt.
Mae cyfyngiadau symud yn fy ngwahanu oddi wrth y silff yn fy swyddfa o ddyddiaduron, atgofion a bywgraffiadau prif enwogion Llafur yng Nghymru yn y 1960au a'r 1970au, ond cofiaf gyn lleied y mae'r llyfrau hynny'n ei ddweud am rannu rhannau o adrannau Llywodraeth y DU yn Swyddfa Gymreig, na beth oedd y rhesymeg dros wneud hynny. Nid oedd maniffesto Llafur 1964 ond yn datgan mewn cynllun ar gyfer y rhanbarthau:
Yng Nghymru, bydd creu Ysgrifennydd Gwladol, fel rydym wedi ymrwymo i'w wneud, yn hwyluso'r weinyddiaeth unedig newydd sydd ei hangen arnom.
Roedd ffigyrau blaenllaw ar y pryd fel Roy Jenkins a Jim Callaghan yn cynrychioli etholaethau Cymreig, ond ffigurau'r DU oeddent ac nid eu prosiect hwy oedd hwn. Roedd gwahaniaeth polisi yn y rhan fwyaf o feysydd yn gyfyngedig, Awdurdod Datblygu Cymru oedd datblygu economaidd, ac efallai fod ymagwedd an-Thatcheraidd Nicholas Edwards yn eithriad ar y pryd.
Gallai troi'n ôl at fodel y Swyddfa Gymreig, a welsom rhwng 1965 a 1999, dynnu ein Teyrnas Unedig at ei gilydd eto, gyda llai o fod yn wahanol er mwyn bod yn wahanol, gan arbed y £65 miliwn y flwyddyn a wariwn ar y Senedd hon, i ddechrau. Ond beth fyddai o'i le ar droi'n ôl at y trefniadau cyfansoddiadol a oedd gennym cyn y Swyddfa Gymreig ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru? Gallem integreiddio pob adran yn iawn; gallem rymuso llywodraeth leol, gan roi mwy o ryddid i gynghorau Cymru nag sydd ganddynt yn awr; gallem sicrhau bod addysg Cymru yn dychwelyd i gyrraedd o leiaf y safon a welir yn Lloegr; gallem unwaith eto ddibynnu ar un GIG integredig, i gyd-fynd â model Aneurin Bevan, a mynd i'r afael â COVID gyda'n gilydd.
Nid oes dim am fodel San Steffan sy'n atal deddfwriaeth benodol i Gymru, pan fo'n briodol, os oes angen, i hyrwyddo mwy o rôl i'r Uwch Bwyllgor Cymreig. Caniataodd y dull hwnnw o weithredu Ddeddfau addysg penodol i Gymru a datblygu polisi iaith Gymraeg; arweiniodd at ddatgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru a roddwyd mewn grym yn y pen draw yn 1920; ac ymagwedd wahaniaethol tuag at gau ar y Sul rhwng 1881 a 1996. Yn hytrach, mae gennym broses ddatganoli anghytbwys. Ni cheir setliad byth, er gwaethaf Deddfau Llywodraeth Cymru yn 1998, 2006, 2014 a 2017; proses sydd ond yn symud i un cyfeiriad—tuag at annibyniaeth. Er gwaethaf y pedair Deddf, mae Llywodraeth Cymru bob amser yn mynnu mwy. Yn ddiweddar, datganoli cyfiawnder ydoedd, a galw am ddileu'r trothwyon ar fenthyca yng Nghymru, gyda llai o gyfyngiadau gan y DU ar Drysorlys Cymru nag a ddarparai'r UE ar gyfer Gwlad Groeg. Weinidog, pryd y daw eich galwadau i ben? Pam y mae'n rhaid inni gael ein llusgo ar ôl yr Alban fel pe bai eu hanes a'u rhagolygon hwy yn eiddo i ni? Ac os yw datganoli bob amser yn broses ac mai mwy ohono'n unig y gellir ei gael, nid llai, sut y gall pobl byth ddod yn gyfforddus ag ef? Os nad yw datganoli'n sefydlog ac nad yw'n gynaliadwy, oni fydd yn rhaid i ni, yn gynt neu'n hwyrach, ddod ag ef i ben? Rhaid i ni ddiddymu'r lle hwn yn y pen draw, neu gerdded yn ein cwsg tuag at annibyniaeth.
Y Cwnsler Cyffredinol i ymateb—Jeremy Miles.
Diolch, Llywydd. Ac felly, dyma ni yn ôl y prynhawn yma unwaith eto, gyda dadl gwbl ddi-sail—mai'r hyn sydd ei angen ar Gymru yn awr, yng nghanol sawl argyfwng byd-eang, ydy llai o atebolrwydd democrataidd. Hynny yw, dylid cael gwared ar y Senedd hon ac, yn ôl araith yr Aelod, unrhyw gysyniad o'r Gymru fodern.
Mae Cymru yn elwa ar fod yn rhan o undeb—undeb wirfoddol, gyda llaw—o bedair gwlad, ond mae pandemig y coronafeirws, yn enwedig, wedi dangos bod y wlad hefyd yn elwa ar y ffaith y gall y Senedd hon wneud penderfyniadau yn benodol i amgylchiadau Cymru: penodol i'n pobl ni, i'n gwasanaethau cyhoeddus ni, ac i'n heconomi ni, er bod cyfraniad yr Aelod wedi bod yn gatalog o ddatganiadau cwbl gamarweiniol am y sefyllfa honno, fel y mae ef, wrth gwrs, yn gwybod.
Ar ben hynny, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ddiweddar, mae'n glir nad yw ein llais yn cael llawer o ddylanwad ar Brif Weinidog presennol y Deyrnas Unedig. Mae Llywodraeth San Steffan, ar ei gorau, yn ddi-hid ynglŷn â datganoli, ac, ar ei gwaethaf, yn gwbl wrthwynebus iddo. Fel y mae ei ffordd hi o ddelio gyda Brexit a'r coronafeirws wedi dangos, mae Llywodraeth San Steffan yn dilyn blaenoriaethau gwahanol iawn i flaenoriaethau Cymru. Dim ond y Senedd hon, yn y cyd-destun hwnnw, sydd â'r mandad a'r pwerau democrataidd i sefyll cornel Cymru.
Mae hyn yn ymwneud â mwy na'r pandemig neu Brexit yn unig. Mae'n berthnasol i'r ystod lawn o benderfyniadau sydd wedi'u datganoli. Gall penderfyniadau a wneir yng Nghymru gan y Senedd hon adlewyrchu ein hanes, ein diwylliant, ein hiaith, yn ogystal â'n hamgylchedd a'n pobl a'n dyheadau cenedlaethol.
Mae datganoli wedi hen ennill ei blwyf yn nhirwedd gyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, ac mae wedi'i sefydlu o dan y gyfraith, a'i gefnogi mewn dau refferendwm. Yn yr ail o'r rhain, gwelwyd cynnydd yn y mwyafrif a oedd o blaid rhagor o bwerau i'n Senedd.
Mae dal yn peri syndod i mi bod Aelod sydd wedi pregethu am yr angen i barchu canlyniad refferendwm ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd nawr yn ceisio gwyrdroi penderfyniadau democrataidd diweddar. Y ffordd briodol o wneud hynny, wrth gwrs, fyddai ennill mandad yn etholiad y Senedd ym mis Mai, ac yna ffurfio Llywodraeth ac ennill hyder y Senedd ar y mater, ac wedyn gofyn am y refferendwm gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Byddai angen mandad tebyg, gyda llaw, ar gyfer y rhai sy'n ceisio tynnu Cymru allan o'r Deyrnas Unedig. Nid ydym am i hynny ddigwydd am y rhesymau a amlinellais yn gynharach. Cymru gref y mae ei llais wedi'i glywed a'i hanghenion yn cael eu hadlewyrchu—ac yn sicr wedi'u clywed a'u hadlewyrchu'n well na heddiw—mewn DU gref yw'r hyn rydym am ei weld. Nid dyma'r amser, mor fuan ar ôl i Lywodraeth y DU ein tynnu allan o'n teulu Ewropeaidd o genhedloedd, ar gyfer gwahanu ymhellach nac ar gyfer lleihau ein democratiaeth yng Nghymru, fel y mae'r Aelod am ei weld.
Annibyniaeth, wrth gwrs, yw'r llwybr y mae Llywodraeth bresennol yr Alban yn ceisio'i ddilyn i'w phobl. Nid ydym am weld yr Alban yn gadael yr undeb, er ein bod yn parchu hawl pobl yr Alban i wneud y penderfyniad hwnnw. Pe bai'n digwydd, byddai angen inni ailedrych yn sylfaenol ar berthynas Cymru â Lloegr. Ond y ffordd sicraf o arwain at ddiddymu'r undeb yw amddiffyn y status quo. Gadewch imi fod yn glir: nid oes dadl dros gadw'r status quo. Fel y dywedodd erthygl olygyddol yn y Financial Times yn ddiweddar, mae cyfansoddiad Prydain yn llanast. Mae'r undeb ei hun mewn perygl. Y ffordd orau o gefnogi'r undeb a'i gyfansoddiad, yn groes i thema'r Aelod, yw parchu, ac ymestyn datganoli pŵer i Gymru a ledled y DU.
Ac eto, mae Llywodraeth y DU wedi cyflawni fandaliaeth gyfansoddiadol ar wahanol bwerau, yn fwyaf diweddar—er gwaethaf ymdrechion aruthrol Tŷ'r Arglwyddi, dylwn ddweud—drwy Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, sy'n bygwth cyfyngu ar allu deddfwriaethol y Senedd mewn meysydd sydd wedi'u datganoli ar hyn o bryd. Mae'n bygwth Deddf Llywodraeth Cymru 2006, a gostyngiad mewn grym datganoledig, i gyd ar fympwy Llywodraeth y DU. Mae'n sefyllfa echrydus fy mod i, fel swyddog y gyfraith, yn teimlo rheidrwydd i ystyried troi at ymyrraeth y llysoedd hyd yn oed.
Rwyf am gydnabod y rhaglen waith hir rhwng y pedair Llywodraeth ar gydweithredu o fewn y DU yn y maes hwnnw, ac rwy'n talu teyrnged i weision sifil ym mhob gwlad, a'n partneriaid a'n rhanddeiliaid, am yr ymdrechion y maent wedi'u gwneud i sicrhau ein bod wedi sefydlu'r fframweithiau cyffredin ar gyfer diwedd y cyfnod pontio. Ond yn sicr ni chafodd yr ysbryd cydweithredol hwnnw ei adlewyrchu yng ngweithredoedd Llywodraeth Johnson wrth iddi osod y ddeddfwriaeth hon yn unochrog. Yn ogystal ag anwybyddu gwrthodiad y Senedd i gydsynio i Ddeddf marchnad fewnol 2020, ni wnaeth Llywodraeth y DU drafferthu rhoi digon o amser i unrhyw un o'r deddfwrfeydd yn y DU graffu ar y ddeddfwriaeth—gwarth cyfansoddiadol newydd, yn enwedig o gofio mai Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Berthynas yn y Dyfodol) 2020 yw un o statudau cyfansoddiadol pwysicaf hanes diweddar. Dim ond yn y tymor canolig y daw ei effeithiau llawn yn glir. Mae Llywodraeth y DU wedi torri confensiwn Sewel, a byddwn ni fel Llywodraeth yn parhau i sicrhau y gall y Senedd arfer ei hawl i graffu ar ddeddfwriaeth o fewn ein cymhwysedd datganoledig, ond mae'n ofid mawr inni na allwn warantu y bydd cydsyniad y Senedd yn cael ei barchu.
Lywydd, rwy'n ofni fy mod wedi paentio darlun llwm, felly gadewch i mi orffen ar nodyn mwy cadarnhaol. Mae'r pandemig wedi dangos bod Cymru'n gweithredu ar ei gorau, fel cenedl hyderus a gofalgar a all gydweithio o fewn y DU ac yn rhyngwladol, tra'n gwneud ei phenderfyniadau ei hun ar ran ei phobl ei hun—drwy'r cyfnodau gwaethaf, rydym wedi cefnogi ein gilydd, ac oherwydd ein bod yn rhan o'r DU ac oherwydd bod gennym bwerau datganoledig i ymateb i anghenion ein dinasyddion a'n cymunedau. Byddwn yn dweud bod Llywodraeth Cymru ar y blaen gyda syniadau cyfansoddiadol, creadigol ac adeiladol yn y DU oherwydd ein bod yn credu mewn Cymru o fewn undeb diwygiedig, ac wrth i ni addasu i fywyd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, a chyn bo hir i fywyd ar ôl coronafeirws, ni fu erioed mor bwysig ein bod yn cydlywodraethu'r DU. Dyna a nodwyd gennym yn 'Diwygio ein Hundeb' yn 2019—20 argymhelliad ar gyfer trafodaeth gyhoeddus ar ddyfodol cyfansoddiadol mwy uchelgeisiol a mwy democrataidd. Nid ydym yn esgus bod gennym yr holl atebion—nid oes gan neb yr holl atebion—ond credwn ein bod wedi gofyn y cwestiynau cywir, ac mae'n bryd inni ddod at ein gilydd yn awr fel gwleidyddion ac fel cymdeithas sifil i ateb y cwestiynau hynny a chynnig llwybr o ddiwygio radical sy'n diwallu anghenion Cymru heddiw ac yfory.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol. Dyna ddiwedd y ddadl yna a diwedd ar ein trafodion ni am y dydd heddiw. Prynhawn da.
Daeth y cyfarfod i ben am 16:42.