Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee

29/06/2023

Aelodau'r Pwyllgor a oedd yn bresennol

Committee Members in Attendance

Alun Davies
Carolyn Thomas
Delyth Jewell Cadeirydd y Pwyllgor
Committee Chair
Hefin David
Heledd Fychan
Tom Giffard

Swyddogion y Senedd a oedd yn bresennol

Senedd Officials in Attendance

Haidee James Ail Glerc
Second Clerk
Lleu Williams Clerc
Clerk
Manon Huws Cynghorydd Cyfreithiol
Legal Adviser
Osian Bowyer Ymchwilydd
Researcher
Rhea James Dirprwy Glerc
Deputy Clerk
Robin Wilkinson Ymchwilydd
Researcher
Sara Moran Ymchwilydd
Researcher

Cofnodir y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y pwyllgor. Yn ogystal, cynhwysir trawsgrifiad o’r cyfieithu ar y pryd. Lle mae cyfranwyr wedi darparu cywiriadau i’w tystiolaeth, nodir y rheini yn y trawsgrifiad.

The proceedings are reported in the language in which they were spoken in the committee. In addition, a transcription of the simultaneous interpretation is included. Where contributors have supplied corrections to their evidence, these are noted in the transcript.

Cyfarfu’r pwyllgor drwy gynhadledd fideo.

Dechreuodd y cyfarfod am 09:30. 

The committee met by video-conference.

The meeting began at 09:30. 

1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1. Introductions, apologies, substitutions and declarations of interest

Bore da. Hoffwn i groesawu'r Aelodau i'r cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. Oes gan unrhyw Aelodau fuddiannau i'w datgan? Nac oes. 

Good morning. I'd like to welcome Members to this meeting of the Culture, Communications, Welsh Language, Sport and International Relations Committee. Does any Member have any declaration of interest? No.

2. Papurau i'w nodi
2. Papers to note

Gwnawn ni symud yn syth ymlaen at y papurau i'w nodi. Mae gennym ni'r papurau yn ein pecynnau o 2.1 i 2.9. A ydy'r Aelodau yn fodlon i ni nodi'r papurau hynny? Mae yna un papur gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol am y sensws. Maen nhw'n cynnig i ni gael briefing yn San Steffan, ond maen nhw hefyd yn cynnig eu bod nhw'n gallu rhoi briefings pellach. Efallai byddem ni'n gallu ysgrifennu atyn nhw i ofyn am hwnna. 

We will move immediately to the papers to note. Your papers from 2.1 to 2.9 are in your pack. Are Members content to note those papers? There is one paper from the Office for National Statistics on the census. They are offering us a briefing in Westminster, but they also suggest that they could provide further briefings, and perhaps we could write to them to ask for that.  

Ie. Dwi'n meddwl y byddai hynny'n fuddiol. 

That would be beneficial, yes. 

Grêt. Ydy pawb yn fodlon nodi'r papurau eraill? Mae yna un gan Gynulliad Seneddol Prydain ac Iwerddon ar ieithoedd lleiafrifol. Efallai fyddai o fudd i ni fynd yn ôl ato fe yn y dyfodol buan.

Okay. Is everyone content to note the other papers? There's one from the British-Irish Parliamentary Assembly on minority languages. We may want to return to that in the near future. 

3. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn
3. Motion under Standing Order 17.42 to resolve to exclude the public from the remainder of this meeting

Cynnig:

bod y pwyllgor yn penderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi).

Motion:

that the committee resolves to exclude the public from the remainder of the meeting in accordance with Standing Order 17.42(vi).

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Os ydy Aelodau yn fodlon i ni fynd yn breifat, rwy'n cynnig, o dan Reol Sefydlog 17.42, gwahardd y cyhoedd o weddill ein cyfarfod. Ydych chi'n fodlon i ni wneud hynny? Ydych. Felly, gwnawn ni aros i glywed ein bod ni'n breifat.

If Members are content for us to move into private session, I propose, in accordance with Standing Order 17.42, to exclude the public from the remainder of our meeting. Are you content to do so? Yes. We'll wait for confirmation that we are in private. 

Derbyniwyd y cynnig.

Daeth rhan gyhoeddus y cyfarfod i ben am 09:31. 

Motion agreed.

The public part of the meeting ended at 09:31.