Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Children, Young People and Education Committee
26/09/2024Aelodau'r Pwyllgor a oedd yn bresennol
Committee Members in Attendance
Buffy Williams | Cadeirydd y Pwyllgor |
Committee Chair | |
Cefin Campbell | |
Gareth Davies | |
Lee Waters | yn dirprwyo ar ran Hefin David |
substitute for Hefin David | |
Tom Giffard | |
Vaughan Gething | |
Y rhai eraill a oedd yn bresennol
Others in Attendance
Angharad Morgan | Rheolwr Polisi, Mudiad Meithrin |
Policy Manager, Mudiad Meithrin | |
Dr Gwenllian Lansdown Davies | Prif Weithredwr, Mudiad Meithrin |
Chief Executive, Mudiad Meithrin | |
Dr Gwennan Schiavone | Prif Swyddog Gweithredol, Y Gymdeithas Ysgolion dros Addysg Gymraeg (CYDAG) |
Chief Executive Officer, CYDAG | |
Efa Gruffudd Jones | Comisiynydd y Gymraeg |
Welsh Language Commissioner | |
Heini Gruffudd | Cadeirydd, Dyfodol i’r Iaith |
Chair, Dyfodol i’r Iaith | |
Myfanwy Jones | Cyfarwyddwr, Mentrau Iaith Cymru |
Director, Mentrau Iaith Cymru | |
Osian Rhys | Aelod, Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith |
Member, Cymdeithas yr Iaith Education Group | |
Professor Enlli Thomas | Dirprwy Is-ganghellor a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Bangor |
Pro Vice-chancellor and Head of College of Arts, Humanities and Social Sciences, Bangor University | |
Professor Gwenno Ffrancon | Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol y Gymraeg, Treftadaeth a Diwylliant a Chyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe |
Deputy Pro Vice-chancellor Welsh Language, Heritage and Culture and Director Academi Hywel Teifi, Swansea University | |
Toni Schiavone | Cadeirydd, Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith |
Chair, Cymdeithas yr Iaith Education Group |
Swyddogion y Senedd a oedd yn bresennol
Senedd Officials in Attendance
Jennifer Cottle | Cynghorydd Cyfreithiol |
Legal Adviser | |
Manon Huws | Cynghorydd Cyfreithiol |
Legal Adviser | |
Naomi Stocks | Clerc |
Clerk | |
Osian Bowyer | Ymchwilydd |
Researcher | |
Sarah Bartlett | Dirprwy Glerc |
Deputy Clerk | |
Tom Lewis-White | Ail Glerc |
Second Clerk |
Cynnwys
Contents
Cofnodir y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y pwyllgor. Yn ogystal, cynhwysir trawsgrifiad o’r cyfieithu ar y pryd. Lle mae cyfranwyr wedi darparu cywiriadau i’w tystiolaeth, nodir y rheini yn y trawsgrifiad.
The proceedings are reported in the language in which they were spoken in the committee. In addition, a transcription of the simultaneous interpretation is included. Where contributors have supplied corrections to their evidence, these are noted in the transcript.
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:17.
The committee met in the Senedd and by video-conference.
The meeting began at 09:17
I would like to welcome Members to today's meeting of the Children, Young People and Education Committee. We have received apologies from Hefin David MS. Lee Waters MS will be substituting for items 1 to 6. Welcome, Lee. Vaughan Gething MS will be joining us for item 7 onwards. I would like to take this opportunity to place on record my thanks to Jack Sargeant MS for his work on this committee. We wish him the very best of luck in his new role. The public items of this meeting are being broadcast live on Senedd.tv. A Record of Proceedings will be published as usual. The meeting is bilingual and simultaneous translation from Welsh to English is available. Are there any declarations of interest from Members?
Os caf i, Gadeirydd, fel rŷch chi’n gwybod, fel Aelod dynodedig yn flaenorol, fe fues i’n gweithio’n agos iawn gyda’r Gweinidog addysg ar y pryd ar ddatblygu rhan helaeth o’r Bil yma, ond dim popeth sydd ynddo fe. Diolch.
If I may, Chair, as you know, as the designated Member previously, I worked very closely with the then Minister for education on developing of a large part of this Bill, but not everything contained within it. Thank you.
Thank you.
Cynnig:
bod y pwyllgor yn penderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 3 a 9 y cyfarfod yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(ix).
Motion:
that the committee resolves to exclude the public from items 3 and 9 of the meeting in accordance with Standing Order 17.42(ix).
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.
Moving on to item 2, I propose in accordance with Standing Order 17.42(ix) that the committee resolves to meet in private for items 3 and 9 of the meeting. Are Members content? We will now proceed in private for item 3.
Derbyniwyd y cynnig.
Daeth rhan gyhoeddus y cyfarfod i ben am 09:18.
Motion agreed.
The public part of the meeting ended at 09:18.
Ailymgynullodd y pwyllgor yn gyhoeddus am 09:31.
The committee reconvened in public at 09:31.
We move on now to agenda item 4. This is the second evidence session on the Welsh Language and Education (Wales) Bill. Please can you introduce yourself, Commissioner, and also outline briefly what, if any, involvement you have had in the development of the Bill?
Bore da. Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg. O ran ymwneud â datblygu’r Bil, dwi a fy swyddogion wedi ymateb i’r Papur Gwyn ac wedi cynnal rhai trafodaethau gyda swyddogion Llywodraeth Cymru yn ystod y broses o ddatblygu’r gwaith polisi.
Good morning. I’m Efa Gruffudd Jones, I’m the Welsh Language Commissioner. In terms of developing the Bill, my officials and I have responded to the White Paper and we have held some discussions with Welsh Government officials during the process of developing the policy work.
Thank you. I’ll now ask Members to ask questions, and I’ll begin. Could you outline your initial thoughts on the Bill and the extent to which it will support the work and progress required to achieve the 'Cymraeg 2050' target of 1 million Welsh speakers?
Diolch yn fawr. Y peth cyntaf hoffwn i ddweud yw fy mod i’n croesawu’n fawr y ffaith fod Llywodraeth Cymru am ddeddfu yn y maes yma. Dwi’n meddwl ei fod e’n ddatblygiad cyffrous ac yn un hollbwysig. Rydyn ni’n gwybod yn dda am dargedau a strategaeth 'Cymraeg 2050', ond os ydyn ni’n edrych ar sut mae addysg cyfrwng Cymraeg, er enghraifft, wedi datblygu dros y ddegawd ddiwethaf, rydyn ni angen gwneud rhywbeth yn wahanol o hyn ymlaen os ydyn ni wir am gyflawni’r uchelgais hwnnw. Felly, dwi’n meddwl ei fod e’n gyffrous iawn. Dwi’n meddwl bod pethau arbennig o ddiddorol yn y Ddeddf—defnyddio cod ar gyfer disgrifio gallu ieithyddol, ac yn y blaen, gan ddilyn arfer dda o wledydd eraill. Felly, yn gyffredinol, dwi’n croesawu’n fawr y datblygiad yma, ond mae gyda fi, wrth gwrs, fel y byddech chi’n disgwyl, efallai, rhai sylwadau dwi’n edrych ymlaen at rannu gyda chi heddiw.
Thank you very much. The first thing I'd like to say is that I very much welcome the fact that the Welsh Government are legislating in this area. I think it's an exciting development and a vital one. We know very well about the targets of the 'Cymraeg 2050' strategy, but if we look at how Welsh-medium education, for example, has developed over the last decade, we need to do something differently from now on if we really want to achieve the ambition of 'Cymraeg 2050'. So, I think it's very exciting. I think that there are very interesting things in the Bill—using a code for describing linguistic ability, and so forth, following good practice from other countries. Therefore, in general, I very much welcome this development, but, of course, as you would expect, perhaps, I do have some issues that I’d like to share with you today.
Thank you. The Bill makes the target of 1 million Welsh speakers a statutory target. What is the value of placing the target on the statute book, and how will it affect your work and role?
Dwi’n croesawu’r ffaith bod y Ddeddf yma yn mynd i roi gofynion ychwanegol i’r hyn sydd yn Neddf 2006. Dwi’n meddwl ei fod e’n bwysig yn symbolaidd y bydd y targedau yn cael eu rhoi ar flaen Deddf mewn deddfwriaeth. Fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod bod angen gwneud mwy na gosod mewn Deddf er mwyn cyflawni. Serch hynny, dwi’n meddwl ei fod e’n bwysig iawn, yn enwedig o ystyried rhychwant amser, na fydd ein dyheadau ni ar hyn o bryd ddim yn gallu cael eu lleihau a’u glastwreiddio wrth i amser fynd yn ei flaen. Felly, dwi’n croesawu’n fawr y ffaith bod y targed yn bwriadu cael ei osod ar flaen o Bil.
O ran fy ngwaith i a fy rôl i, y prif waith dwi’n gyfrifol amdano fe yw cynyddu’r cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg. Dwi’n gweithio gyda chyrff cyhoeddus ac yn gosod safonau’r Gymraeg arnyn nhw fel eu bod nhw’n cynyddu’r cyfleoedd sydd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg. Felly, mae’n bwysig iawn i fi fod yna sylw i ddefnyddio’r Gymraeg yn y Ddeddf hefyd. Mae yna gysylltiad hefyd rhwng fy ngwaith i a’r Ddeddf yn yr ystyr os na chawn ni fwy o bobl yn dod drwy'r system addysg yn siarad Cymraeg, ni fydd yna neb i ddefnyddio'r gwasanaethau maes o law.
Mae yna feysydd gwaith sydd o fewn cwmpas fy nylanwad i, ac mae gyda fi ddiddordeb penodol ynddyn nhw, sy'n cyd-fynd â'r hyn sydd yn cael ei gynnig yn y ddeddfwriaeth, er enghraifft datblygu'r Gymraeg yn y gweithle, a'r ffaith ein bod ni'n gobeithio y bydd pobl ifanc nawr ac yn y dyfodol yn gallu defnyddio'u Cymraeg nhw yn eu bywyd gwaith nhw ar ôl iddyn nhw orffen eu cyfnod yn yr ysgol. Felly, yn gyffredinol, dwi'n meddwl bod y Ddeddf yn berthnasol i fy ngwaith i, ac fe ddylai canlyniadau'r Ddeddf hwyluso fy ngwaith i o sicrhau mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.
I welcome the fact that the Bill is going to place additional requirements on what is in the 2006 Act. I think that it is important symbolically that targets will be set on the face of the Bill in legislation. However, we know that there is a need to do more than just setting in legislation to achieve. However, I think it's very important, given the range of time, that our aspirations currently are not reduced or diluted as time progresses. So, I very much welcome the fact that the target intends to be set on the face of the Bill.
In terms of my work and my role, the main work that I'm responsible for is increasing the opportunities for people to use the Welsh language. I work with public bodies and set Welsh language standards so that they increase the opportunities available for people to use the Welsh language. So, it’s very important to me that attention is given in the Bill to the use of the language. There is also a link between my work and the legislation in terms of if we don't have more people coming through the education system speaking Welsh, there will be nobody available to use the services in due course.
There are areas within the scope of my influence, and that I have specific interest in, that align with what is being proposed in the legislation, for example developing Welsh in the workplace, and the fact that we hope that young people now and in the future will be able to use their Welsh in their work life after they've finished their time in school. So, in general, I do think that the legislation is relevant to my work, and that the outcomes should facilitate the work that I do in ensuring more opportunities for people to use the Welsh language in their everyday lives.
Thank you. There is a duty in the Bill for the Welsh Ministers to publish an analysis of the situation of the Welsh language in Wales once every five years. Does this not replicate the statutory duty placed on you to publish five-year reports on the position of the Welsh language, risking duplication?
Roedd diddordeb mawr gyda fi i weld bod hyn wedi'i awgrymu yn y Ddeddf. Yn fy marn i, mae'r ddau adroddiad yn bethau gwahanol iawn. Mae'r gofyniad yn y Ddeddf ar Weinidogion i adrodd ar ddefnydd ac ar y maes addysg, lle mae'n glir iawn imi fod fy adroddiad i'n un annibynnol sydd yn edrych ar ystod o feysydd polisi. Gallaf i sôn am iechyd a gofal, darlledu, busnesau, elusennau, yn ogystal ag addysg, lle dwi'n gweld bod yr adroddiad yma'n mynd i ganolbwyntio'n naturiol fwyfwy ar addysg, a dylanwad hwnnw. Yn fy marn i, maen nhw'n bethau gwahanol. Dwi'n credu ei bod hi'n bwysig imi gynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod dim dyblygu, ond dwi ddim yn eu gweld nhw'n gwrthdaro â'i gilydd mewn unrhyw ffordd. Y mwyaf o wybodaeth sydd gyda ni am sefyllfa'r Gymraeg, y gorau yw hynny. A hefyd, yn fy marn i, mae gan Lywodraeth Cymru fwy o gapasiti o ran cynnal gwaith ymchwil, ac arbenigedd, na sydd gyda fi, felly dwi ddim yn gweld problem gyda chael dau fath o adroddiad.
I was very interested to see that this had been suggested in the Bill. In my view, both reports are very different things. The requirement in the legislation is on Ministers to report on usage and education, whereas it's very clear to me that my report is an independent report that looks at a range of policy areas. I can cover health and care, broadcasting, business, charities, as well as education, whereas I see that the report in the Bill will naturally focus more on education and its influence. In my view, they are different things. I think it's important that I do have discussions with the Welsh Government to ensure that there is no duplication, but I don't see them as conflicting with each other in any way whatsoever. The more information we have on the situation of the Welsh language, the better. In my view, the Welsh Government has more capacity in terms of conducting research, and has more expertise than my office has, so I don't see any problem with having two kinds of reports.
Thank you. Should the provisions in section 3 of the Bill regarding data collection on the number of Welsh speakers be expanded to include calculating use of Welsh, and does the commissioner have views on the process for collecting such data?
Dwi'n croesawu'r ffaith bod adran 1 y Ddeddf yn nodi targedau statudol am ddefnyddio'r Gymraeg. Mae mesur defnydd iaith yn rhywbeth mwy anodd na chyfrifo nifer, ond dwi'n croesawu unrhyw ymdrech i drio gwneud hynny. Mae'n haws casglu niferoedd, onid yw hi? Mae gyda ni ganlyniadau'r cyfrifiad; mae gyda ni arolygon eraill. O ran defnydd iaith, mae gyda ni arolwg defnydd iaith ar hyn o bryd, sydd wedi bod yn cael ei gynnal bob ryw pum i chwe blynedd, ond byddwn i'n croesawu ymrwymiad cadarnach i gynnal hwnnw'n fwy rheolaidd, neu fod cytundeb hirdymor iddo fe gael ei gyflwyno'n fwy systematig, a byddwn i'n croesawu bod yn rhan o'r gwaith hwnnw.
Dwi'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cynnal arolwg o'r enw Prosiect BRO ar hyn o bryd. Dwi'n meddwl y bydd y math yna o waith dadansoddi o ran defnydd yn bwysig i ni i gyd sy'n gweithio yn y maes iaith. Felly, dwi'n croesawu'r symudiad i geisio cyfrifo defnydd iaith. Mae yna ddau darged, fel rŷn ni'n gwybod yn dda, yn y strategaeth, beth bynnag—un o ran niferoedd, ac un o ran defnyddio. Ac rŷn ni eisiau dysgu a siarad Cymraeg er mwyn ei defnyddio hi, onid ydyn ni?
I welcome the fact that section 1 of the Bill notes statutory targets on language use. Measuring the use of the language is more difficult than counting the numbers of speakers, but I welcome any attempt to seek to do that. It's easier to collect numbers, isn't it? We have the census results; we have other survey data available. In terms of language use, we have a language use survey at the moment, which has been held every five to six years, but I would welcome a firmer commitment to hold that more regularly, or that there should be a long-term agreement that it would be brought forward in a more systematic manner, and I would welcome being part of that work.
I am aware that the Welsh Government is undertaking a survey entitled Prosiect BRO at the moment. I think that kind of analytical work in terms of language usage will be important to all of us working in this area. So, I welcome the move to seek to focus on language usage. There are two targets, as we well know, in the strategy—one in terms of numbers, and one in terms of use. And we want to learn Welsh and speak Welsh in order to use it, don't we?
Thank you. Could you expand on the proposals in the Bill to review the Welsh language standards? How this might impact your work?
Dyma rywbeth dwi'n ei groesawu unwaith eto sy'n cael ei gynnig. Fel eglurais i ar y dechrau, dwi eisiau pobl i ddefnyddio'r Gymraeg. Dwi hefyd yn croesawu'n fawr y ffaith ein bod ni'n trio sicrhau bod deddfwriaeth a mesurau sy'n ymwneud â'r Gymraeg yn siarad â'i gilydd. Felly, dwi'n meddwl ei fod e'n synhwyrol iawn bod yna gynigion yn y Ddeddf i ailedrych ar rai o'r safonau y byddaf i wedyn yn gallu eu rheoleiddio.
O ran y gwaith sy'n cael ei gynnig, mae yn cyd-fynd yn llwyr â'r blaenoriaethau dwi wedi eu gosod yn y bron i ddwy flynedd diwethaf, sef gweithio ar safonau sydd yn ymwneud â'r gweithlu a gweithleoedd, a sut gall pobl siarad mwy o Gymraeg mewn gweithleoedd. Fe fydd ystyried cod iaith a disgrifiadau iaith yn gallu gwneud y safonau yna yn fwy effeithiol
O ran safonau hybu'r Gymraeg, unwaith eto, mae hyn yn faes o flaenoriaeth i fi. Mae yna safon ar hyn o bryd o ran hybu'r Gymraeg, ond byddwn i'n croesawu gweld hynny yn cael ei chryfhau. Felly, o'm rhan i, mae'r bwriad i ddatblygu'r safonau yna yn cyd-fynd â'r blaenoriaethau sydd gyda fi yn barod, a dwi'n edrych ymlaen at gyfrannu at y gwaith hwnnw.
This is something that I welcome once again in terms of what is being proposed. As I explained at the beginning, I want people to use the Welsh language. I also welcome very much the fact that we are trying to ensure that legislation and measures relating to the Welsh language speak to each other. So I think it's very sensible that there are proposals in the legislation to look again at some of the standards that I will then be able to regulate.
In terms of the work that's being proposed, it aligns completely with the priorities that I have set in the last year or two, namely working on standards that relate to the workforce and workplaces and how people can speak more Welsh in workplaces. Considering a language code and language descriptions would be able to make those standards more effective.
In terms of standards relating to the promotion of Welsh, again, this is a priority area for me. There are standards in terms of promoting the Welsh language, but I would welcome those being strengthened. So from my part, the intention to develop those standards aligns with the priorities that I have already, and I'm looking forward to contributing to that work.
Thank you. Cefin.
Diolch. Os caf i ddod mewn ar gefn y cwestiwn olaf ar safonau iaith—a diolch yn fawr i chi am y dystiolaeth rŷch chi wedi'i chyflwyno; mae'n hynod o ddefnyddiol i ni fel pwyllgor—ydych chi yn gweld ffordd y gall dylanwad y safonau iaith, sydd â grym deddfwriaethol, wrth gwrs, ymestyn i ysgolion unigol? Sut mae modd i chi fel comisiynydd ddylanwadu ar ddatblygu sgiliau iaith y gweithlu, a hefyd hyrwyddo—rŷch chi'n sôn am hybu a hyrwyddo—y defnydd o'r Gymraeg y tu allan i'r dosbarth hefyd?
Thank you. If I could come in on the back of that last question on language standards—and thank you for the evidence that you've submitted; it's very useful to us as a committee—do you see any way in which the influence of language standards, which do have legislative force, of course, could extend to individual schools? How could you as commissioner influence the language skills development of the workforce and also promote the use of the Welsh language outside the classroom too?
Roedd nifer o gwestiynau yn fanna. Gwnaf drio delio â nhw yn eu tro. O ran ysgolion unigol, dwi ddim yn meddwl y byddai fe'n ymarferol i ni osod safonau'r Gymraeg ar bob corff llywodraethu, er enghraifft, er y byddai fe'n dechnegol bosibl. Felly, dwi'n gweld beth sy'n cael ei awgrymu yn y Bil o ran cynlluniau cyflawni yn fwy effeithiol neu yn fwy ymarferol na chyflwyno safonau'r Gymraeg arnyn nhw. Fodd bynnag, mae yna gyrff sy'n ymwneud â datblygu'r gweithlu a chofrestru a'r gweithle y gall safonau ddylanwadu arnyn nhw.
Yn gyffredinol, dwi'n gweld yn fy ngwaith bod safonau'r Gymraeg yn arwain at fwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg. Yn sicr, o ran plant a phobl ifanc y tu allan i'r dosbarth, dyw e ddim yn syml. Os ŷn ni'n meddwl am weithgareddau ieuenctid mewn cynghorau sir, er enghraifft, dyw'r safonau ddim yn golygu bod angen i'w darpariaeth nhw fod yn ddarpariaeth Gymraeg. Fodd bynnag, dwi'n gweld cyfle inni gryfhau'r safonau hybu fel bod mwy o wasanaethau i blant a phobl ifanc ar gael yn Gymraeg, sydd, yn ôl llythyren y safon ar hyn o bryd, ddim yn bosib i ni orfodi.
Eleni, rŷn ni'n bwriadu rhoi sylw penodol i'r safon hybu sydd ar awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol. Ond dyw'r safon ar hyn o bryd, yn fy marn i, ddim yn rhoi digon o bwerau i fi i wthio mor bell ag y gallwn i, er fy mod i'n awyddus iawn i gydweithio â'r cyrff yma i roi hyfforddiant iddyn nhw a'u hannog nhw i feddwl yn holistig am y Gymraeg, ac i beidio cadw at y safon yn unig. Ond mae'n rhaid i fi, ar hyn o bryd, wneud hynny drwy argyhoeddi a pherswâd yn hytrach na grym y gyfraith, sydd wrth gwrs yn dechneg effeithiol, yn gallu bod, hefyd, ond mae'n ffordd dwi am i'n sefydliad symud tuag ati hi, sef annog a chynorthwyo, ond os yw'r safon mor gryf ag y gallai fod, mae hynny yn fy nghynorthwyo i. Felly, dwi wastad yn chwilio am ffyrdd i ddefnyddio'r safonau a'r pwerau sydd gyda fi i gynnig a datblygu mwy o gyfleoedd i bobl allu defnyddio'r Gymraeg yn hwylus.
There were a number of questions there. I'll try and deal with them in turn. In terms of individual schools, I don't think it would be practical for us to set Welsh language standards on every governing body, for example, even though it would be technically possible. So I see that what's been proposed in the Bill in terms of delivery plans is more effective or more practical than placing standards on them. However, there are bodies relating to developing the workforce, registration and looking at workplaces, and standards could influence them.
In general, I see in my work that Welsh language standards do lead to more opportunities for people to use the Welsh language. Certainly in terms of children and young people outside the classroom, it's not simple. If we think of youth activities in county councils, for example, the standards do not mean that there is a need for that provision to be a Welsh-medium provision. However, I see an opportunity for us to strengthen the standards in terms of promotion so that more services for children and young people are available through the medium of Welsh, which, according to the letter of the standard at the moment, is not possible for us to enforce.
This year, we intend to give specific attention to the promotion standard on local authorities and national parks. But that standard currently, in my view, doesn't provide enough powers for me to push as much as I would like, even though I'm very keen to work with these bodies to provide them with training and to encourage them to think holistically about the Welsh language, and not just to stick to the standard itself. But currently I have to do that through encouragement and persuasion rather than using legislation, which of course is an effective technique, but it's a way that I'd like my organisation to move towards, which is to encourage and support, but if the standard is as strong as it could be, then that would assist me. But I'm always looking at ways of using the standards and the powers that I have to develop more opportunities for people to use the language easily.
Thank you. We now move on to questions from Cefin.
Nesaf, mae gyda fi floc o gwestiynau o gwmpas y CEFR, y fframwaith Ewropeaidd. Rŷch chi wedi nodi yn eich tystiolaeth sylwadau ynglŷn â hynny. Ydych chi'n meddwl bod y CEFR yn gyffredinol yn gweddu ar gyfer sefyllfa Cymru? Achos mae e wedi ei waelodi yn nhrefn addysg Ewrop ers blynyddoedd lawer, ond mae'n rhywbeth newydd i ni.
I have a block of questions around the CEFR, the common European framework of reference. You've noted in your evidence some comments on that. Do you believe that the CEFR in general terms is appropriate for the situation here in Wales? Because it has been a part of the European education system for a while, but it's new for us.
Gan ddatgan diddordeb oherwydd fy rôl flaenorol, lle roeddwn i'n gweithio i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, dwi yn gyfarwydd â'r CEFR oherwydd bod y cwricwlwm a'r deunyddiau dysgu i gyd ym maes Cymraeg i oedolion wedi eu seilio ar y CEFR ers blynyddoedd. Felly, dwi'n deall y cysyniad a dwi yn meddwl y byddai modd ei gymhwyso fe i'r sector addysg. Dwi'n gwybod, eto trwy fy ngwaith blaenorol, fod modd creu deunyddiau ac adnoddau hyfryd i gyd-fynd ac i hwyluso a chefnogi'r broses ddysgu, ac mae hynny ar hyn o bryd yng Nghymru yn wir yn y sector oedolion, ond nid yn y sector ysgolion. Felly, y man cychwyn yw sefydlu'r cod o ddisgrifio, a dwi'n meddwl bod seilio hwnnw ar y CEFR yn syniad da. Mae e'n ddull sydd wedi ei dderbyn.
Mae yna waith i'w wneud i sicrhau ei fod e'n gymwys i Gymru o ran—. Hynny yw, allwch chi ddim jest ei ddefnyddio fe yn union fel mae e. Dwi'n siŵr bod yna waith yn mynd i ddigwydd i'w gymhwyso fe ar gyfer plant a phobl ifanc, ond, yn fy marn i, dwi'n croesawu'n fawr y symudiad i ddefnyddio'r CEFR fel sail i ddisgrifio gallu a mesur datblygiad ieithyddol plant a phobl ifanc.
Declaring an interest in terms of my previous role, where I worked for the National Centre for Learning Welsh, I am familiar with CEFR because the curriculum and the teaching resources in the area of Welsh for adults are based on the CEFR system, and have been so for years. So, I understand the concept and I do think that there would be a way of applying it to the education sector. I also know through my previous work that you can create resources and lovely materials that go with and facilitate and support the process of teaching, and that is currently true in Wales in the adult sector, but not in the school sector. So, the starting point is establishing the code of description, and I think that basing that on CEFR is a good idea. It's a method that's been accepted.
There is work to be done to ensure that it is suitable for Wales—. You can't just use it exactly as it is. I'm sure that work is going to happen to make it suitable and applicable to children and young people, but, in my view, I very much welcome the move to use the CEFR as a basis for describing the ability and a means of measuring the linguistic development of children and young people.
Digwydd bod, yn y sesiwn wythnos diwethaf mi wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am y Gymraeg ddweud bron â bod fod pawb yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg yng Nghymru, oni bai eu bod nhw newydd gyrraedd yma. Felly, ydych chi'n meddwl bod y CEFR yn gallu adlewyrchu'r ystod eang yna o bobl sydd ag ychydig bach, bach o Gymraeg i'r rhai sydd yn gwbl rugl ac yn hyddysg?
As it happens, in last week's session the Cabinet Secretary responsible for the Welsh language said that almost everyone can speak some Welsh in Wales, unless they've just arrived here. So, do you think that the CEFR can reflect that broad range of people who have very, very little skill in the Welsh language to those who are entirely fluent and versed in the language?
Er fy mod i wedi dweud bod gyda fi brofiad blaenorol, dwi ychwaith ddim yn arbenigwr yn y maes. Beth fuaswn i'n dweud yw, os dwi'n cofio'n iawn, yn Saesneg, er enghraifft, ar gyfer plant ifanc mae yna Cambridge English a rhai lefelau sydd o dan yr A1 ar gyfer plant ifanc. Dwi'n meddwl ar gyfer y lefelau top bod ni'n iawn, ond efallai fod angen edrych ar y lefelau is na A1 i blant ifanc. Dwi, wrth gwrs, yn cytuno bod pawb yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg, neu wedi o leiaf gweld Cymraeg o gwmpas, ond nid beth rŷn ni'n moyn ar ddiwedd y broses hon yw miliwn o bobl yn gallu dweud 'Bore da' na miliwn o bobl ar A1.
Felly, mae yna ryw rinwedd efallai mewn dweud y gall pobl fod o dan A1—mae hwnna'n un categori o bobl—ond wedyn bod pobl mewn categorïau uwch. Felly, dwi ddim yn siŵr os yw A1 yn cyfro'r bobl yna sy'n gallu dweud 'Bore da' yn unig, ond efallai, yn syml iawn, byddai modd dweud nad ydyn nhw ar lefel A1, fel datrysiad syml. Ond mae hwn, dwi'n credu, angen ei weithio allan gydag arbenigwyr o ran y cod ei hun ac ystyried anghenion plant ifanc, efallai, yn arbennig.
Although I have said that I have previous experience, I'm not an expert in this area. What I would say is that, if memory serves me correctly, in English, for example, for young children there is Cambridge English and certain levels below the A1 for very young children. I think for the upper levels, we'll be fine, but perhaps we do need to look at levels below A1 for young children particularly. Now, of course, I agree that everyone in Wales can speak some Welsh, or will have at least seen the Welsh language around them, but what we want at the end of this process is not a million people able to say 'Bore da' or a million people on level A1.
So, there is some merit, perhaps, in saying that people could be below A1—that's one category of people—but then there are people in the upper categories too. So, I don't know if A1 covers those people who can only say 'Bore da', but, simply, you could say that they aren't at A1 level, as a simple solution. But I think this needs to be worked out with specialists in terms of the code itself, and to consider the needs of young children, particularly.
A'r cwestiwn olaf yw: a ydych chi'n gweld rôl i chi fel comisiynydd o ran hwyluso ymwybyddiaeth o'r CEFR pe bai hyn yn dod yn rhan o'n system addysg ni?
And the final question is: do you see a role for yourself as commissioner in terms of facilitating awareness of the CEFR if this became part of our education system?
Reit. Felly, i glymu nôl i fy sylwadau blaenorol i ynglŷn â datblygu safonau newydd yn ymwneud â'r gweithlu, dyna'r union le y byddwn i'n disgwyl i ddisgrifyddion y CEFR gael eu hymgorffori yn y safonau hynny, er mwyn ei gwneud hi'n gliriach i weithwyr ac i weithleoedd beth yw'r anghenion a'r lefelau sydd eu hangen ar gyfer swydd. Felly, yn fy marn i, mae'n bwysig bod y safonau yn cael eu hadolygu er mwyn cau'r cylch. Gyda lwc, bydd pobl yn gorffen y system addysg yn gwybod ar ba lefel y maen nhw ar y CEFR. Ac felly, pan fyddan nhw'n gweld swydd sydd yn dweud eich bod chi angen B2 er mwyn gallu ateb y ffôn, ond rŷch chi angen C2 er mwyn gallu ysgrifennu dogfennau, bydd pobl â gwell dealltwriaeth o ble maen nhw.
Yr unig beth arall fuaswn i'n dweud o fy mhrofiad blaenorol hefyd yw bod y lefel rŷch chi'n ei chyrraedd ar y CEFR ddim o angenrheidrwydd yn golygu pa mor hyderus rydych chi'n defnyddio'r Gymraeg sydd gyda chi. Felly, mae angen ychydig bach o ofal weithiau, ond o'm rhan i, byddai cau'r cylch CEFR gyda'r safonau yn rhywbeth fyddai'n gwneud synnwyr llwyr.
Right. To refer back to my previous comments on developing new standards in relation to the workforce, that's exactly where I would expect the CEFR descriptors to be incorporated in those standards, in order to make it clearer to the workforce and workplaces what the requirements and levels are for any particular role. So, in my view, it's important that the standards are reviewed in order to complete that circle. With luck, people will leave the education system knowing what level they're at on the CEFR. And when they see a job that states that you need B2, for example, in order to be able to answer the phone, but you need C2 in order to draft documents, people will have a better understanding of where they are on the continuum.
The only other thing I'd say from previous experience too is that the level you get to on the CEFR doesn't necessarily reflect how confident you are in using the Welsh language skills that you have. So, we do need to be slightly careful in that regard, but I think that completing that CEFR circle with standards would be something that would make complete sense.
Ac, wrth gwrs, mae'r CEFR yn mesur sawl ystod o sgiliau hefyd, nid yn unig y gallu i siarad—
And, of course, the CEFR measures a range of skills as well, not just the ability to speak—
Na, y pedwar sgil.
No, the four skills.
—ond hefyd ysgrifennu, gwrando, darllen, ac yn y blaen. Felly, gallai person fod ar wahanol lefelau ar bob un o'r sgiliau yna yw'r pwynt.
—but also writing, listening, reading, and so forth. So, people could be at different levels on each of those different skills is the point.
Mewn theori, rwy'n meddwl, ond yn gyffredinol rŷch chi'n chwilio am un lefel y mae pobl yn ei chyrraedd.
In theory, yes, but I do think that generally speaking you're looking for a single level that an individual would attain.
Diolch yn fawr. Diolch.
Thank you very much. Thank you.
Thank you. We now go online to Tom Giffard, please.
Diolch, Gadeirydd. Bore da, Efa.
Thank you, Chair. Good morning, Efa.
Bore da.
Good morning.
Rydych chi'n nodi yn eich tystiolaeth ysgrifenedig fod gennych chi rai pryderon o ran lefel y manylion yn y Bil ynglŷn â'r categorïau iaith fydd yn cael eu cymhwyso i ysgolion. A allwch chi ymhelaethu ar hyn ac egluro a ydych chi'n ei weld fel cam ymlaen neu yn ôl o'r trefniadau presennol a nodir mewn canllawiau anstatudol?
You noted in your written evidence that you had some concerns in terms of the level of detail in the Bill regarding the language categories that will be applied to schools. Can you expand on this, and explain whether you see it as a step forward or a step back in terms of the current arrangements set out in non-statutory guidance?
Diolch yn fawr am y cwestiwn. Yn sicr, dwi'n gweld hwn fel cam sylweddol ymlaen. Dwi'n croesawu'r eglurder sy'n gallu cael ei roi i rieni, a disgyblion, sydd ddim bob amser yn glir ar hyn o bryd. A dwi'n cefnogi'n llwyr y syniad o osod categorïau er mwyn i ysgolion eu cyrraedd nhw, yn hytrach na'n bod ni'n trio categoreiddio ar sail ystod enfawr o amrediad fel sydd ar hyn o bryd. Yr amrediad eang yna sydd yn lleihau eglurder i rieni a disgyblion ar hyn o bryd.
Fodd bynnag, dwi'n mynegi rhywfaint o bryder—a dwi'n deall pam nad yw'r manylion yn y Ddeddf ac mai mewn is-ddeddfwriaeth y byddwn ni'n gweld y manylion—ond rhywbeth i fod yn ofalus ohono fe, o bosibl, yw'r amrediad eang a allai fod yn y categori prif iaith Cymraeg, er enghraifft. Ar hyn o bryd, mae yna ysgolion sy'n 100 y cant Cymraeg, 90 y cant Cymraeg, ond, o fewn y categori top, gallwch chi fod yn ysgol â 60 y cant o'r ddarpariaeth yn Gymraeg i 70 y cant o'r disgyblion, er enghraifft. Mae yna amrediad eang iawn o ran beth allai fod yn y categori prif iaith Cymraeg. Dwi'n meddwl bod y comisiwn cymunedau wedi cyfeirio at gategori posibl o 80 y cant fel lleiafswm ar gyfer ysgol cyfrwng Cymraeg, fel y byddem ni'n ei ddeall e. Felly, o bosibl y byddai'r Ddeddf yn gallu cael ei chryfhau o bennu isafswm ar gyfer y categori hwnnw. Ond dwi yn deall pam, yn ymarferol, ei bod hi'n well cael y math yma o wybodaeth mewn is-ddeddfwriaeth, ond jest i ni ochel rhag ein bod ni'n gwneud y categori mor eang fel ein bod ni'n ychwanegu unwaith eto at y cymhlethdod rŷn ni'n trio ei osgoi drwy greu'r categorïau clir yma. Felly, rhywbeth i chi i'w ystyried, efallai, wrth i chi feddwl ymhellach.
Thank you very much for that question. Certainly, I see this as a significant step forward. I welcome the clarity that can be provided to parents, and pupils, who aren't always clear on these issues at the moment. And I fully support the concept of having categories in place so that schools can strive for them, rather than trying to categorise on the basis of a huge range, which is currently the case. It is that broad range that reduces clarity for parents and pupils alike at the moment.
However, I would express some concern—and I understand why the details aren't in the Bill and that they will be set out in subordinate legislation—but something to be guarded of, possibly, and that is the broad range that could exist in the primarily Welsh language category, for example. At the moment, there are schools that are 100 per cent Welsh, 90 per cent Welsh, but, in that top category, you could be a school with 60 per cent of provision in Welsh for 70 per cent of the pupils, for example. So, there's a very broad range of what could be included in that primarily Welsh language category. I think that the communities commission referred to a possible category of 80 per cent as a minimum for a Welsh-medium school, as we would understand it. So, perhaps the Bill could be strengthened in terms of placing a minimum level for that category. But I do understand why, in practical terms, it's better to have that kind of information in subordinate legislation, but we must just guard against making the category so broad that we add again to the complexity that we're trying to avoid by creating these clear categories in the first place. So, that's something for your consideration perhaps, as you move forward.
Sorry, Tom, could I bring Lee in quickly here, please?
[Inaudible.]
Mae'n flin gyda fi, dwi ddim—
I'm sorry, I can't—
Sorry, did you understand that?
Na.
No.
No. Sorry, Lee, you're breaking up dreadfully.
Sorry. I was just saying I'll probably wait until Tom has finished his questions.
Okay. Thanks, Lee. Tom.
Diolch. Rydych chi wedi sôn dipyn bach am hyn yn barod, ond dwi'n mynd i ofyn y cwestiwn ta beth. Mae'r Bil yn pennu isafswm darpariaeth addysg Gymraeg, 10 y cant, y mae’n rhaid ei ddarparu mewn ysgolion prif iaith Saesneg, rhannol Gymraeg, ond does dim isafswm o'r fath ar gyfer ysgolion dwy iaith neu ysgolion Cymraeg yn bennaf. Ydych chi’n pryderu o gwbl fod y Bil yn canolbwyntio’n ormodol ar ysgolion cyfrwng Saesneg ar ben isaf y sbectrwm a dim digon ar sicrhau bod disgyblion yn datblygu eu sgiliau Cymraeg yn llawn mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg?
Thank you. You've spoken a little bit about this already, but I'll ask the question anyway. The Bill sets a minimum amount of Welsh language education provision, 10 per cent, that must be provided in primarily English language, partly Welsh schools, but there's no such minimum amount for dual language or primarily Welsh language schools. Are you concerned at all that the Bill focuses overly on English-medium schools at the lower end of the spectrum and not enough on ensuring pupils fully develop their Welsh language skills in Welsh-medium schools?
Diolch. Dwi'n meddwl fy mod i wedi ateb rhan o'r cwestiwn yn fy ateb blaenorol. Fodd bynnag, un pwynt yr hoffwn i dynnu'ch sylw chi ato fe yw mai ysgolion cyfrwng Cymraeg fydd yn cynhyrchu'r siaradwyr mwyaf hyderus i'r dyfodol. A thra fy mod i'n digwydd credu ei bod hi, a dweud y gwir, yn fater o gyfiawnder cymdeithasol bod pob plentyn yng Nghymru yn dysgu'r Gymraeg, fodd bynnag, ysgolion cyfrwng Cymraeg fydd yn cynhyrchu'r siaradwyr mwyaf hyderus. Ac mae tystiolaeth yn dangos mai siaradwyr hyderus sydd fwyaf tebygol o ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd ac o drosglwyddo'r iaith i'w plant nhw, sydd wrth gwrs yn rhywbeth hynod o bwysig. Felly, tra'n croesawu yr hyn sy'n cael ei awgrymu o ran ysgolion cyfrwng Saesneg, dwi ddim eisiau i hynny fod ar draul datblygiad addysg cyfrwng Cymraeg—ac efallai down ni ymlaen, yn nes ymlaen, i siarad am y gweithlu—ond mae angen datblygu addysg cyfrwng Cymraeg fel blaenoriaeth, yn ogystal â rhoi'r cyfle i bawb ym mhob ysgol i ddysgu'r Gymraeg yn well nag y maen nhw'n ei wneud ar hyn o bryd.
Thank you. I think I've already answered part of that question in my previous response. However, one point that I would like to highlight is that it is Welsh-medium schools that will produce the most confident Welsh speakers for the future. And whilst I happen to believe that it is, actually, a matter of social justice that every child in Wales should learn Welsh, however, it's Welsh-medium schools that will produce the most confident Welsh speakers. And evidence does demonstrate that it's confident speakers who are most likely to use the Welsh language in their daily lives and are most likely to transfer the language to their children, and that of course is hugely important. So, whilst I welcome what is suggested in terms of English-medium schools, I don't want that to be at the expense of the development of Welsh-medium education—and perhaps we will come on to talk about the workforce later—but we need to develop Welsh-medium education as a priority, as well as providing everyone in every school with the opportunity to learn Welsh better than is currently the case.
Diolch. Pa mor effeithiol ydych chi'n rhagweld y bydd y cynlluniau cyflwyno addysg Gymraeg ysgolion yn gweithio yn ymarferol? Ac, a oes gennych chi farn ar y ddarpariaeth ar gyfer yr ysgolion prif iaith Saesneg, rhannol Gymraeg, i allu gwneud cais am eithriadau dros dro o'r gofyniad i ddarparu 10 y cant o addysg Gymraeg?
Thank you. How effectively do you anticipate schools' Welsh language education delivery plans working in practice? And do you have any views on the provision for primarily English, partly Welsh schools, to be able to apply for temporary exemptions from the requirement to provide 10 per cent of Welsh language education?
Wel, dyma gynnig eto dwi'n ei groesawu'n fawr. Mae'r Ddeddf yn cynnig fframwaith ar gyfer cynllunio sydd â fframwaith lefel uchel, y cynlluniau CSCA sydd wedyn yn gweithio lawr i'r cynlluniau cyflawni lleol, felly ysgolion unigol. Felly, dwi'n croesawu'r cysyniad yn fawr. Mae hwnna'n fwlch sydd, ar hyn o bryd, o ran cyfrifoldeb, ar ysgolion unigol, felly dwi'n sicr yn croesawu'n fawr defnyddio hwn fel dull i symud ysgolion ar hyd y continwwm ieithyddol.
Dwi'n deall pam mae yna brosesau'n cael eu cynnig ar gyfer yr eithriadau dros dro, ac, os ydw i wedi deall yn iawn, mae'r eithriadau dros dro yn gallu golygu y byddai yna oedi o 10 mlynedd ar gyfer rhai ysgolion. Tra, eto, efallai ein bod ni'n gallu deall y rhesymau pam am hynny, mae hwnna'n teimlo'n amser hir, a hyd yn oed mewn achos o eithriadau, mae angen paratoi nawr neu byddwn ni jest yn cyrraedd pwynt mewn saith mlynedd, a byddwn ni'n dweud, 'Rŷn ni wedi anghofio meddwl am hynny.' Felly, hyd yn oed mewn sefyllfa o eithriad, fe ddylai'r cynllunio ddechrau nawr. Ond dwi'n croesawu'r cysyniad a'r dull sy'n cael eu hawgrymu.
Well, this is another proposal that I warmly welcome. The legislation does provide a framework for planning, which has a high-level framework, it has the WESPs that then feed down into the local delivery plans, and therefore individual schools. So, I welcome the concept very much. That is a gap in the system at the moment, in terms of the responsibility on individual schools, so I certainly warmly welcome using this as a means to move schools along the linguistic continuum.
I understand why processes are being proposed for those temporary exceptions, and, if I've understood it correctly, the temporary exemptions could mean that there would be a delay of 10 years for some schools. Whilst we can perhaps understand the reasons for that, that does feel like a very long time, and even in a case of an exemption, we need to prepare now or we will just reach a point in seven years' time, and we will be saying, 'We've forgotten to think about that.' So, even in a position of an exemption, the planning should start now. But I welcome the concept and the method set out.
Diolch. Y cwestiwn olaf wrthyf fi: a yw'r Bil, yn eich barn chi, yn gwneud digon o ran sicrhau bod y gweithlu addysg angenrheidiol yn ei le i gyflawni'r cynnydd yn y ddarpariaeth addysg Gymraeg a ragwelir? Os nad ydyw, sut gellid ei gryfhau?
Thank you. And my final question: does the Bill, in your view, do enough in terms of ensuring the necessary education workforce is in place to deliver the increased amount of Welsh language education provision envisaged? If not, how could the Bill be strengthened?
Diolch yn fawr am y cwestiwn. Roedd hwn yn un maes roeddwn i eisiau tynnu eich sylw chi ato fe heddiw. Dyw'r anawsterau o ran datblygu'r gweithlu ddim yn syndod i chi fel pwyllgor. Rŷn ni yn ymwybodol bod holl gyflawni'r Ddeddf yma yn dibynnu ar gael gweithlu cymwys. Mae yna sôn yn y Ddeddf am ddatblygu gweithlu, ond fy marn i yw y byddai hwnna'n gallu cael ei gryfhau ymhellach, efallai drwy ofyn i'r fframwaith sôn yn benodol am ddatblygu cynllun datblygu gweithlu. Mae'r athrofa yn cynnig ffordd i gefnogi athrawon ac i greu adnoddau, ond dwi'n meddwl mai Llywodraeth Cymru sydd â rhai o'r levers, efallai, lefel uwch o ran addysg gychwynnol athrawon, a sicrhau bod pawb sydd yn cymhwyso yng Nghymru fel athro yn derbyn cefnogaeth i ddatblygu eu sgiliau iaith nhw, er enghraifft.
Mae yna waith wedi digwydd i'r cyfeiriad yma mewn blynyddoedd diweddar. Mae gennym ni gynllun datblygu'r gweithlu, ond os ŷch chi yn edrych ar y ffigurau, mae yna waith eto i'w wneud i'r cyfeiriad hwn, yn sicr, os ŷn ni am weld y Ddeddf yn llwyddo, fel ŷn ni'n gobeithio. Felly, unrhyw beth y byddai modd ei wneud i gryfhau y gofyniad i gynllunio ar gyfer datblygu'r gweithlu, byddwn i'n croesawu hynny.
Thank you very much for the question. That was one area that I did want to draw to your attention today. The difficulties in developing the workforce will come as no surprise to you as a committee. We are aware that the delivery of this whole Act will depend on having a qualified workforce. There is mention in the legislation about workforce development, but my view is that that could be further strengthened, perhaps by asking the framework to refer specifically to the development of a workforce plan. The athrofa provides a means to support teachers and to create resources, but I do think that it's the Welsh Government that has some of the high-level levers in terms of initial teacher training, and ensuring that everyone who qualifies as a teacher in Wales does receive support to develop their own language skills, for example.
There has been some work done in this regard in recent years. We do have a workforce development plan, but if you look at the figures, then there is still work to be done in this regard, certainly if we want to see this legislation succeeding as we would hope. So, anything that could be done to strengthen that requirement to plan and develop the workforce, I would welcome that.
Os caf i jest gydio yn y pwynt olaf: ydych chi'n gweld gwerth mewn gosod targedau penodol ar gyfer datblygu'r gweithlu, fel bod hynny yn nod i'r Llywodraeth?
If I could just come in on the last point: do you see value in placing specific targets for developing the workforce, so that that is an aim for the Government?
Wel, mae gosod targed yn gallu ffocysu'r meddwl, onid yw e? Tua 1,000 sy'n hyfforddi i fod yn athrawon ar hyn o bryd, os ydw i'n cofio'n iawn, a dwi ddim yn gwybod beth yw'r ffigurau ar gyfer faint sy'n siarad Cymraeg neu'n bwriadu dysgu Cymraeg fel rhan o'r rheini, ond os ydyn ni'n sôn am ddatblygu ysgolion a symud ysgolion ar hyd y continwwm, mae'n gwneud synnwyr ein bod ni'n gallu gweithio allan faint o athrawon rŷn ni eu hangen sy'n gallu siarad Cymraeg. Dwi wedi gweld ffigurau am nifer yr athrawon sy'n ymddeol, er enghraifft, dros y 10 mlynedd nesaf, ac mae'r corff sy'n cofrestru athrawon yn cofnodi iaith athrawon a sgiliau iaith athrawon. Felly, mae llawer o'r data yn cael ei gasglu ac, ie, pam lai gosod targed penodol fel ein bod ni'n gwybod beth rŷn ni'n trio'i gyflawni?
Well, setting targets can certainly focus the mind. There are around 1,000 people training to be teachers at the moment, if memory serves me correctly, and I don't know what the figures are in terms of how many are Welsh speakers or intend to learn the language, but if we are talking about developing schools and moving schools along the continuum, then it makes sense that we should be able to work out how many teachers we need that can speak Welsh. I have seen some figures in terms of the numbers of teachers due to retire over the next 10 years, and the body responsible for registering teachers does record teachers' language skills. So, there's a great deal of data being collected and, yes, why not set a specific target so that we know what we're seeking to deliver?
Ie. Diolch.
Yes. Thank you.
Thank you. We'll go over to Lee now, please. Lee.
Thank very much. I just want to touch on that entire—[Inaudible.]—points on language categorisation, because, as you said there, you think it's a matter of social justice that it's important that all children get the chance to learn Welsh. 'But', you said, and a quite significant 'but'—and it's strong in your evidence paper as well—you think the emphasis should be on immersion provision and on Welsh-medium provision. Given that the majority of pupils in Wales are not going to be in Welsh-medium categories for some time to come, and given that the majority of staff that we have are the staff that are going to be in the system for some time, it seems to me we have a pretty stubborn problem on our hands here if we are sincere about your first comment, about ensuring social justice. Do you think the Bill says enough? And do you think you and your office are doing enough to focus on the majority of students and the quality of Welsh teaching that they're having, rather than simply saying, 'We need to focus on the more proficient end'?
Lee, a bod yn onest, dwi ddim yn dy glywed di’n hollol glir, ond dwi'n credu fy mod i wedi deall yr hyn roeddet ti'n ei ofyn. Os dwi ddim yn ateb y cwestiwn, wnei di ddod yn ôl ataf i? Y pwyntiau rwyt ti’n gofyn yw’r rheswm dros y Ddeddf yma, dwi'n credu, sef ein bod ni am gynyddu a gwella dysgu’r Gymraeg i ddisgyblion mewn categorïau prif iaith Saesneg. Mae yna lawer o'r ffocws, o ran yr athrofa, ar ddatblygu’r deunyddiau a'r adnoddau er mwyn gwella dysgu’r Gymraeg mewn ysgolion prif iaith Saesneg, felly dwi'n meddwl bod hynny'n rhywbeth pwysig sydd angen ei wneud.
Ie, mae'n anodd, onid yw e? Mewn byd delfrydol, byddai gyda ni ddigon o athrawon yfory i wneud y gwaith yma. Ond dyna pam mae camau wedi eu gosod yn y Ddeddf, fel y mae hi, o ran yr eithriadau gan ein bod ni yn deall, a dyna pam dwi o'r farn bod angen y cynllun datblygu’r gweithlu i gyd-fynd â'r Ddeddf, fel ein bod ni'n gwella capasiti, yn cefnogi ysgolion i symud ar hyd y continwwm, ond ar yr un pryd ddim yn cadw’n llygaid oddi ar ddatblygu y nifer o ysgolion cyfrwng Cymraeg sydd ar gael. Dyw addysg cyfrwng Cymraeg ddim y dewis hawsaf mewn llawer iawn o ardaloedd yng Nghymru ar hyn o bryd, a dwi'n meddwl y byddai llawer iawn mwy o rieni yn dewis addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant nhw pe byddai hi'r ysgol agosaf atyn nhw, er enghraifft. Felly, dwi o'r farn bod angen cadw ffocws ar ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg, ond, wrth gwrs dwi am weld pawb yng Nghymru yn cael y cyfle i ddysgu a bod y ffordd rŷn ni'n dysgu plant mewn ysgolion cyfrwng iaith Saesneg yn gwella. Mae angen, er mwyn gwneud hynny, adnoddau gwell, cefnogaeth well i athrawon, a mwy o athrawon sydd wedi eu hyfforddi i ddysgu’r Gymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg.
Fe wnest ti ofyn cwestiwn am fy ngwaith i a'r sefydliad. Fel gwnes i egluro ar y dechrau, mae fy rôl i yn ymwneud mwy â chynnig cyfleoedd i bobl ddefnyddio’u Cymraeg nhw yn y gweithle a sicrhau bod pobl, wrth fynd o amgylch eu bywydau bob dydd ac wrth ymwneud â’r sector gyhoeddus yng Nghymru, yn gallu defnyddio eu Cymraeg nhw yn fwy hwylus.
Dwi ddim yn siŵr os oedd hynna'n ateb y cwestiwn.
Lee, to be honest, I'm not hearing you very clearly, but I think I’ve understood what you were asking. If I’m not answering the question, will you come back to me? The points that you ask is the reason for this legislation, I think, namely that we want to increase and improve the teaching of Welsh to pupils in primarily English language schools. There is an emphasis, as regards the institute, on developing resources and materials to improve the teaching of Welsh in primarily English language schools, so I think that's an important piece of work that needs to be done.
It's difficult, isn't it? In an ideal world, we would have enough teachers tomorrow to do this work. But that's why steps have been put in place in the legislation, because we understand the situation, and that's why I'm of the view that we need the education workforce development plan to go with that legislation so that we improve capacity, that we support schools to move along the continuum, but also, at the same time, stay focused on increasing the number of Welsh-medium schools that are available. Welsh-medium education is not the easiest choice in many areas of Wales at the moment, and I do think that many more parents would choose Welsh-medium education for their children if it was the nearest school to them, for example. So, I am of the view that there is a need to keep a focus on developing Welsh-medium education, but, of course, I also want to see everybody in Wales having the opportunity to learn Welsh and that the way we teach pupils in English-medium schools improves. In order to do that, there is a need for better resources, better support for teachers, and more teachers who have been trained to teach the Welsh language and through the medium of Welsh.
You asked a question about my work and the organisation. As I explained at the beginning, my role relates more to offering opportunities for people to use their Welsh language in the workplace and to ensure that people, as they go about their everyday lives and when they engage with the public sector, can use their Welsh more easily.
I'm not sure whether that has answered the question.
Yes, in part, thank you. My sound's better now; apologies for that. My concern, really, is the transition from the system where the bulk of children currently are in English-medium schools to having far stronger Welsh-medium provision. I agree with that, and I agree with your point on the need for a workforce strategy. But the reality is that, for quite some time, we’re going to have the larger section of the school population poorly served by Welsh language provision. The focus in your evidence is on the importance of targets, and I understand targets drive change, but we also know the reality of the workforce as it stands, and we also know that the reality of the attempts to change that over recent years, which have not been very successful, is that we have a pretty stubborn problem in terms of the ability of the system to deliver to those targets. And I worry about the unintended consequences of setting targets when we don’t have the ability to deliver on them. And your evidence is silent on that.
Diolch am y pwyntiau rwyt ti’n eu gwneud. Yn fy marn i, ac yn deillio o fy mhrofiad i gyda dysgu’r Gymraeg i oedolion, byddai modd, yn eithaf cyflym, datblygu adnoddau gwell i ysgolion a gwell cefnogaeth i ysgolion i ddysgu’r Gymraeg fel pwnc. Dyw e ddim yn gwneud dim synnwyr i fi—a dwi’n datgan diddordeb oherwydd fy ngwaith blaenorol—fod buddsoddiad helaeth wedi bod mewn datblygu adnoddau i oedolion, ond nad oes dim byd cyfatebol wedi digwydd ar y raddfa honno ar gyfer disgyblion ysgol. Felly, mae yna quick wins yn bosib yn y broses yma.
Fel dywedais i ar y dechrau, y deddfu yw’r darn hawdd o’r gwaith yma, ond dwi’n meddwl bod gosod targed, gosod cyfeiriad, mynd â phobl ar siwrne, a bod yn glir am y continwwm ieithyddol, a’r ffaith ein bod ni am i ysgolion gael yr uchelgais, a bod y pethau yma, gydag amser, yn gallu gwella—. Ond mae yna rai pethau, dwi’n credu, y byddai modd eu gwneud yn gyflym iawn i wella’r profiad o ddysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng prif iaith Saesneg.
Thank you for the points that you make. In my view, and stemming from my experience in the field of teaching Welsh to adults, there would be a way, quite quickly, of developing better resources and better support to schools to teach Welsh as a subject. It doesn’t make any sense to me—and I declare an interest because of my previous work—that there’s been a vast investment in developing resources for adults but no corresponding investment on that scale for school pupils. So, there are quick wins that are possible in this process.
As I said at the beginning, legislating is the easiest part of this work, but I think that setting targets and setting a direction, taking people on a journey, and being clear in terms of the linguistic continuum, and the fact that we want schools to have that ambition, and that these things, with time can improve—. But there are some things that I feel that could be done quite swiftly to improve the experience of learning Welsh in primarily English language schools.
Diolch.
Thank you. Thank you, Lee. We'll now go on to Gareth Davies, please.
Thank you very much, Chair. Good morning, everybody, and good morning, Efa. I just want to focus on part 4 of the Bill, if I may. The Welsh Government wants to establish a clear line of accountability at a national, local and school level for the planning of Welsh language education. To what extent do you believe that the Bill does this?
Ie, dwi’n croesawu hynny'n fawr. Dwi’n meddwl bod y syniad o lunio fframwaith cenedlaethol, sy’n eistedd o dan y strategaeth genedlaethol, yn syniad da. Dyma fydd yn gosod y targedau o ran addysg, ac yn gosod y cyd-destun ar gyfer y CSCAau lleol a chynlluniau ysgolion. Felly, i fi, mae’n gwneud synnwyr bod yna lif yn mynd o un i’r llall, a bod yna linell atebolrwydd rhwng un peth a’r llall. Ac, yn fy marn i, mae hyn yn llawer cryfach na’r hyn sydd wedi bod yn y gorffennol. Felly, dwi’n croesawu hynny.
Yes, I warmly welcome that. I think that the concept of drawing up a national framework, which would sit below the national strategy, is a good idea. That’s what will set targets in terms of education, and will set the context for the WESPs at a local level and school plans. So, for me, it makes sense that one flows into another, and that there is a line of accountability between one and the other. And, in my view, it is far stronger than what has existed in the past. So, I welcome that.
Thanks for that answer. In his evidence to the CYPE committee last week, the Minister, Mark Drakeford, mentioned that there would be some flexibility, potentially, within that, particularly in regard to schools that may have more challenges in the delivery of Welsh language, particularly more areas in the east of Wales. Would that be something that you would share as commissioner—Mark Drakeford’s view on that—obviously bearing in mind the geographical differences, and the demographics as well, in the delivery of that at a school level?
Ie, dwi’n deall y pryderon yna, a dyna pam dwi’n credu bod y system o esemptiadau wedi’u gosod yn y Bil. Fel y soniais i mewn ateb i gwestiwn blaenorol, mae hwnna’n gallu para am 10 mlynedd, sydd, i fi, yn teimlo ychydig yn hir, ond dwi’n deall, oherwydd y rhesymau rŷch chi newydd esbonio, taw dyna pam mae'r hyblygrwydd yna yn y Ddeddf.
Dwi’n croesawu'r ffaith y bydd hi’n haws i ysgolion symud ar hyd y continwwm oherwydd y darpariaethau sydd yn y Ddeddf, a dwi’n teimlo bod yr hyblygrwydd sydd yn y Ddeddf o ran esemptiadau ar hyn o bryd yn addas, am yr union resymau rŷch chi wedi’u nodi.
Yes, I understand those concerns, and that’s why I think that the system of exemptions is included in the Bill. As I mentioned in response to a previous question, that could go on for 10 years, which, for me, feels slightly too long, but I do understand, because of the reasons that you’ve outlined, that that's why that flexibility exists within the Act.
I welcome the fact that it will be easier for schools to move along the continuum because of the provisions contained within the legislation, and I do think that the flexibility contained in the legislation in terms of exemptions is appropriate, for the exact reasons that you set out.
Yes. Thank you very much. To what extent is the Bill clear enough about what it means by
'increasing the provision of Welsh language education in schools'?
For example, does it adequately distinguish between the two distinct aims of the Bill in increasing the number of pupils attending primarily Welsh language schools and increasing the amount of the Welsh language in dual language schools? So, it's a bit of an extension to the question, but, in terms of that wording of the Bill, is that something that's covered, and to what extent? And is that satisfactory?
Ie, diolch am y cwestiwn. Dwi yn meddwl bod hwn yn rhywbeth ichi ei ystyried fel pwyllgor ac yn un elfen y buaswn i, fy hunan, yn meddwl sydd angen ei chryfhau. Dwi ddim yn cwestiynu'r bwriad polisi sydd yn y Bil, ac mae'r memorandwm esboniadol yn gwneud yn glir beth yw'r bwriad. Ond weithiau, yn y Ddeddf, mae yna sôn am ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg, a dwi'n credu y byddai modd i hyn gael ei egluro yn gadarnach. Dwi wedi cyfeirio yn fy ymateb ysgrifenedig at rai o'r enghreifftiau lle dwi'n pryderu am y rhain. Hynny yw, mae yna sôn am gynyddu darpariaeth addysg Gymraeg heb ei bod hi'n hollol glir ai addysg cyfrwng Cymraeg neu ddysgu'r Gymraeg mewn ysgol prif iaith Saesneg yw hynny. Fel dywedais i, dwi'n meddwl bod y bwriad polisi'n glir. Mae e wedi ei osod allan, ond dwi'n meddwl ei bod yn fater o eirio mewn rhai llefydd er mwyn gwneud hynny'n gliriach, achos dwi ddim am weld lleihad na glastwreiddio'r cysyniad o addysg cyfrwng Cymraeg, a bod hynny'n glir.
Thank you for the question. I do think that this is something for you to consider as a committee and is an element that I, myself, think needs to be strengthened. I'm not questioning the policy intention in the Bill, and the explanatory memorandum makes clear what the intention is, but sometimes in the Act there is mention of Welsh-medium education provision, and I think this could be explained more robustly. I have referred in my written evidence to examples where I am concerned about this. There is talk about increasing the provision of Welsh language education without it being clear if it's Welsh-medium education or teaching Welsh in primarily English language schools. As I said, I think the policy intention is clear, and that has been set out, but I think it's a matter of wording in some places in order to make that clearer, because I don't want to see that reduction or dilution of the idea of Welsh-medium education, and that needs to be clear.
One second, Gareth. Is it—
Comparing again that national, local and school level, do you agree with the shift in the purpose and approach of local authorities in WESPs, whereby the Welsh Government sets the targets and local authorities plan and implement them? Do you have any views on the retention of the name of the WESPs, rather than the Welsh education implementation plans, WEIPs, as was proposed in the White Paper?
Dwi'n hapus, yn yr achos yma, gyda beth sy'n cael ei gynnig yn y Ddeddf. Dwi ddim yn meddwl bod y newid geiriad yn arwyddocaol. Mae awdurdodau lleol erbyn hyn wedi croesawu ac yn gweithredu CSCAau, ac mae'r drefn, o beth dwi'n gallu gweld, yn dechrau gweithio'n dda. Ond dwi'n meddwl bod gwendid wedi bod yn y targedau cenedlaethol sy'n cael eu gosod. Felly, mae'r gyfundrefn hon yn caniatáu gwneud hynny. Felly, dwi'n meddwl bod yr hyn sy'n cael ei gynnig yn ddatblygiad cadarnhaol ac yn rhoi mwy o gysylltiad rhwng y CSCAau a'r weledigaeth a'r uchelgais genedlaethol.
I'm happy in this case with what's proposed within the legislation. I don't think that the change of wording is significant. Local authorities have now welcomed and are implementing the WESPs, and the regime, as far as I can see, is starting to work well. But I do think that there has been a weakness in the national targets that are set. So, I think that this regime does allow for that to happen. So, I think that what is proposed is a positive development and provides more connection between the WESPs and the national vision and ambition.
Gareth—
Yes, and just finally—and this is my final question on this part, because we've discussed WESPs already—obviously, the wider aim is to achieve 1 million Welsh speakers by 2050 under the Cymraeg scheme. Obviously, in that time—and all Members and parties are signed up to that, and that's something that—. I just want to seek a view from you on how achievable you believe that is, given that we've had, unfortunately, a drop in Welsh speakers since that pledge was signed and directed towards—. So, do you think that it is achievable, and do you think that this is a key part of achieving that, given the issues I've already mentioned in my earlier questioning about some of those geographical differences across Wales and some of the barriers to delivering that?
Ie, dwi yn meddwl ei bod hi'n bosibl, dim ond os ydyn ni'n gwneud pethau fel deddfu yn y maes yma a sicrhau bod plant yn gadael y system addysg yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg. Nid dim ond deddfu fel hyn sydd ei angen; mae Llywodraeth Cymru newydd dderbyn adroddiad gan Gomisiwn Cymunedau Cymraeg ac wedi derbyn nifer o argymhellion am sut gallwn ni gryfhau'r Gymraeg yn gymunedol. Mae yna bethau o ran fy ngwaith i y gallwn ni eu datblygu o'u cwmpas nhw. Felly, gyda'i gilydd, mae'r pethau yma'n rhoi cyfle da inni gyrraedd y targed hwnnw.
Felly, yn sicr, dwi'n optimistig ein bod ni, gyda'n gilydd—er ein bod ni'n byw mewn gwlad drws nesaf i un o ddiwylliannau mwyaf dylanwadol y byd—yn gwneud ein gorau fel iaith i sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau defnyddio ei chyfoeth hi a sicrhau bod pobl i'r dyfodol yn cael y rhodd o siarad Cymraeg a siarad mwy nag un iaith.
Yes, I do think it is possible, only if we do things such as legislate in this area and ensure that children leave the education system in Wales able to speak Welsh. Legislation such as this isn't the only thing that's required; Welsh Government has just had the Commission for Welsh-speaking Communities report and had a number of recommendations about how we can strengthen the Welsh language on a community level. There are things in terms of my work that we could develop around them. So, together, all these things provide a good opportunity for us to reach that target.
Therefore, certainly, I am optimistic that, together—even though we live in a country next door to one of the world's most influential cultures—we are doing our best as a language to ensure that future generations can enjoy using the richness of that language and ensure that people in the future have the gift of speaking Welsh and speaking more than one language.
Diolch yn fawr iawn.
Thank you very much.
Thank you. Can I bring Cefin in quickly here?
Diolch yn fawr iawn. Yn fyr iawn, os gallaf fynd yn ôl i'r ateb rhoddoch chi ynglŷn â beth rŷch chi'n ei weld yn broblematig, sef gwahaniaethu rhwng addysg Gymraeg ac addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, beth ŷch chi'n teimlo gallai fod canlyniadau anfwriadol hynny ar ganfyddiad rhieni o bosibl?
Thank you very much. Very briefly, if I could return to your response on what you see as being problematic, namely that differential between Welsh language education and education through the medium of Welsh, what do you think could be the unintended consequences of that on the parental perception perhaps?
Dyna'n union beth dwi'n meddwl yw un o'r canlyniadau anfwriadol, os ydych chi'n rhiant sydd eisiau gwneud dewis i'ch plentyn. Hynny yw, gadewch inni fod yn glir: os ydych chi'n anfon eich plentyn i addysg cyfrwng Cymraeg, fe fyddwch chi'n ddwyieithog. Does dim sicrwydd y dewch chi allan o addysg ddwyieithog—addysg ddwyieithog fel y mae hi ar hyn o bryd—yn siarad y Gymraeg a'r Saesneg gyda'r un rhuglder a hyder. Felly, addysg cyfrwng Cymraeg sy'n creu siaradwyr dwyieithog. Felly, dyna un o'r—. Hefyd, mae'n ymwneud â'r ffaith y byddai'n hawdd iawn inni ddweud, 'Mae pob ysgol yn cynnig addysg cyfrwng Cymraeg', ond wrth gwrs, nid dyna fydd canlyniad y Ddeddf, ac nid dyna, ychwaith, rŷn ni am ei weld. Dwi yn sicr am weld ysgolion addysg cyfrwng Cymraeg yn datblygu ac yn cael eu meithrin ymhellach ac wrth gwrs gwella'r ddarpariaeth mewn ysgolion Saesneg eu prif iaith a dwyieithog.
That's exactly what I think one of the unintended consequences is, if you are a parent who wants to make a choice for your child. That is, let us be clear: if you send your child to Welsh-medium education, that pupil will be bilingual. There is no guarantee that you will emerge from bilingual education, as it currently exists, as a speaker of Welsh and English with the same level of fluency and confidence. So, it's Welsh-medium education that creates bilingual speakers. And so—. Also, it relates to the fact that it would be very easy for us to say, 'Well, every school provides Welsh-medium education at some level', but, of course, that won't be the upshot of the legislation, and that's not what we want to see either. Certainly, I want to see Welsh-medium schools developing and nurtured further and also of course to see improved provision in primarily English language and bilingual schools.
Diolch.
Thank you.
Okay, thank you. We'll go back online now to Lee, please.
Thank you. I just want to touch on the National Institute for Learning Welsh. You say, understandably, in your evidence that you're concerned about the budget and you'd like the explanatory memorandum to say more about that, although I'd have thought the explanatory memorandum would generally not cover that in detail; that's a matter for budgets. But I wonder if you would expand on that.
But also, you say something—[Inaudible.]—you say that the duties and functions placed on the new institute would compensate for the serious loss of students studying in universities outside of Wales. Can you say a little bit more about your concern there, please?
Ie, dwi ddim yn siŵr am ail ran y cwestiwn, a ydw i wedi sôn am hynny. Fodd bynnag, o ran sefydlu'r athrofa, y pwynt roeddwn i am ei wneud mewn gwirionedd oedd, os ŷn ni'n disgwyl i'r athrofa wneud y pethau gwych y gall yr athrofa ei wneud, mae angen iddo gael cyllideb ddigonol. Mae'r memorandwm yn sôn rhywfaint am y ffaith does dim modd ar hyn o bryd i'r gyllideb fod yn eglur oherwydd newidiadau i'r haen ganol, er enghraifft, felly, dwi'n deall y rhesymau am hynny, ond y pwynt roeddwn i am ei wneud oedd, os ydym ni am i'r athrofa wneud y gwaith dwi'n credu y gall ei wneud, mae angen sicrhau ei bod hi'n cael cyllideb ddigonol, gan sylweddoli'r sefyllfa gyllidol rŷn i gyd ynddo fe. Serch hynny, os ydym ni am i bethau da ddigwydd, mae angen inni sylweddoli bod angen buddsoddi ynddi hi.
Dwi ddim yn siŵr—. Dwi ddim yn meddwl fy mod i wedi cyfeirio'n benodol at fyfyrwyr yn gadael Cymru, ond—
Yes, I'm not sure about the second part of the question, if I've mentioned that. However, in terms of establishing the institute, the point I really wanted to make, really, was that, if we expect the institute to do the excellent work that we think the institute can do, it needs sufficient funding. The memorandum does mention a little that there's no way at the moment that the budget can be clear because of changes to the middle tier, for example, so, I understand the reasons for that, but the point I wanted to make was that, if we want the institute to do the work that I think it can do, we need to ensure that it receives adequate funding, realising the budgetary position that we are all in. However, if we want good things to happen, we do need to realise that we need to invest in it.
I'm not sure—. I don't think I've referred specifically to students leaving Wales, but—
Forgive me, that's my mistake. I've mixed your evidence up with—[Inaudible.]
Popeth yn iawn. Na, na, dim problem, ond, yn amlwg, dwi ddim eisiau gweld myfyrwyr yn gadael Cymru chwaith.
It's okay. No problem, but, clearly, I don't want to see students leaving Wales either.
Okay. Diolch.
Thank you. Thank you, commissioner, for your time this morning. We really appreciate you joining us and your contribution. You'll be sent a transcript for checking in due course. Diolch.
Diolch yn fawr a phob lwc gyda'r gwaith.
Thank you and best of luck with your work.
We will now take a short break until 10:45.
Gohiriwyd y cyfarfod rhwng 10:20 a 10:43.
The meeting adjourned between 10:20 and 10:43.
Welcome back. We now move on to agenda item 5. This is the third evidence session on the Bill. Our witnesses are joining us virtually. You are very welcome. Please can the witnesses introduce themselves and also outline briefly what, if any, involvement they've had in the development of the Bill?
Mi wnaf i gychwyn, iawn? Felly, yr Athro Enlli Thomas, Prifysgol Bangor. Dwi yn aelod o gyngor partneriaeth y Gymraeg, felly mae yna lot o drafodaethau wedi bod ynghylch y Bil yn y cyfarfodydd hynny, ond, heblaw am hynny, dim unrhyw ymwneud penodol efo'r Bil.
Shall I start? I'm Professor Enlli Thomas from Bangor University. I am a member of the Welsh language partnership council, so there has been a great deal of discussion on the Bill in those meetings, but, other than that, I've had no particular involvement with the Bill.
Bore da. Gwenno Ffrancon ydw i. Dwi'n gyfarwyddwr Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe, a hefyd yn ddirprwy is-ganghellor cynorthwyol ar gyfer y Gymraeg, treftadaeth a diwylliant, ac, o ran ymwneud â'r Bil, roeddwn i'n rhan o'r tîm oedd yn ymateb i'r Papur Gwyn wrth baratoi ar gyfer y cyfnod hwn ar ran Prifysgol Abertawe.
Good morning. I'm Gwenno Ffrancon. I am the director of Academi Hywel Teifi at Swansea University, and also deputy pro vice-chancellor for the Welsh language, heritage and culture, and, in terms of engagement with the Bill, I was part of the team that responded to the White Paper prepared for this Bill on behalf of Swansea University.
Thank you. I'll now ask Members to ask questions, and I'll begin. Could you outline your initial thoughts on the Bill and the extent to which it will support the work and progress required to achieve the 'Cymraeg 2050' target of a million Welsh speakers, please? I don't know which one wants to go first.
Af i gyntaf os wyt ti eisiau, Gwenno.
I'll go first, if that's okay, Gwenno.
Okay.
Diolch yn fawr. Felly, at ei gilydd, dwi’n—[Anghlywadwy.]—pellgyrhaeddol ac arloesol i’r Gymraeg mewn rhai mannau, buaswn i’n dweud, i sicrhau bod yna amodau ffafriol, fel mae 'Cymraeg 2050' yn sôn amdanynt, yn eu lle a fydd yn helpu gwireddu prif nodau ac amcanion y strategaeth honno. Ond, yn bersonol, dwi’n meddwl bod gosod lefel statudol i’r amodau hynny o fewn beth ydy un o’r meysydd pwysicaf a mwyaf allweddol i lwyddiant y Gymraeg, sef y gyfundrefn addysg, yn rhoi’r cyfle gorau inni wireddu thema un a dau 'Cymraeg 2050', cyrraedd y miliwn o siaradwyr a chynyddu’r defnydd. Ac os cawn ni hwn yn iawn, yna mae gennym ni gyfle euraidd yn fan yma, dwi’n meddwl, i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu ac yn gynaliadwy dros y blynyddoedd i ddod.
Thank you. Generally speaking, I think this is far-reaching and groundbreaking for the Welsh language in certain areas, in ensuring that there are favourable conditions, such as those mentioned in 'Cymraeg 2050', that will help to achieve the main aims and ambitions of that strategy. But, personally, I think providing those conditions on a statutory level in one of the most important areas for the success of the Welsh language, namely the education system, provides us with the best opportunity of delivering themes one and two in 'Cymraeg 2050', reaching a million speakers and increasing language use. If we get this right, then we have a golden opportunity here, I think, to ensure that the Welsh language prospers and is sustainable over coming years.
Fe ddof innau i mewn i ategu’n union beth mae Enlli wedi ei gyfleu y bore yma. Yn sicr, mae’r Bil yn un i’w chroesawu; mae’n cynnig addewid o gydweithio traws-sectorol o fewn addysg a byddai hynny’n fuddiol tu hwnt o ran hyrwyddo’r Gymraeg. Mae mannau lle dwi’n teimlo bod yna le i gryfhau’r hyn sydd wedi ei amlinellu, ac rwy’n siŵr y gallwn ni ddod at hynny maes o law, ond yn gyffredinol mae croeso cynnes yn cael ei gynnig i’r Bil ar y pwynt yma.
I'll come in to endorse exactly what Enlli has conveyed. Certainly, the Bill is something we welcome; it offers the promise of cross-sector working in education, and that would be very useful in promoting the Welsh language. There are areas where I feel that things could be strengthened in what's been outlined, and I'm sure we could get to that in due course, but, in general, there is a warm welcome for the Bill at this point.
Thank you. The Bill makes the target of a million Welsh speakers a statutory target. What is the value of placing the target on the statute book?
Fe ddof innau i mewn y tro cyntaf fan hyn nawr. Roeddwn i’n gwrando ar y cyfarfod yr wythnos diwethaf a Gweinidog y Gymraeg, Mark Drakeford, yn nodi’n glir ei farn e fod gosod targed ar y llyfr statud yn gwarchod y targed hwnnw ac yn ei atgyfnerthu fe o fewn cylch gwaith a gofalaeth Gweinidogion Llywodraeth Cymru, ac efallai awdurdodau lleol, ac yn rhoi statws pellach i’r Gymraeg. Dwi’n teimlo bod hwnna yn gywir, ac mae gosod hyn ar y llyfr statud yn mynd i alluogi hynny. Mae fe’n mynd i fod yn fodd o sicrhau bod rhanddeiliaid ym mhob rhan o’r system addysg orfodol yn ymrwymo i gyflawni, ac yn sicr fe fydd e’n fodd o grisialu’r meddwl tuag at gyflawni’r nod. Mae fe’n rhoi sicrwydd i’r amcan ac mae’n allweddol bod y fframwaith ar gyfer cyflawni hynny, felly, yn addas at bwrpas. Dyna le byddwn i, efallai, wedyn yn cynnig rhai awgrymiadau ar gyfer cryfhau hynny. Wn i ddim os ŷch chi eisiau i fi amlinellu’r rheini ar y pwynt hwn, neu ddod nôl ar hynny.
If I could go first this time. I was listening to last week's session, and the Minister for the Welsh language, Mark Drakeford, set out clearly his view that having a target on the statute book protected that target and actually reinforced it within the remit of Welsh Ministers, and perhaps local authorities too, and gave further status to the Welsh language. I think that's accurate, and that having this on statute will allow that. It will be a means of ensuring that stakeholders in all parts of the compulsory education system commit to delivering, and it'll be a means of crystallising our thoughts in delivering the goal. It provides some assurances in terms of the objective, and it is key, therefore, that the framework for delivery is fit for purpose. That's where I perhaps would make some suggestions to strengthen that. I don't know if you want me to outline those at this point, or shall we come back to those?
Yes, please, if you would.
Dwi jest yn teimlo efallai fod yna le i gryfhau rhai o’r drivers ar gyfer cyflawni’r amcanion i gyd. Efallai dydyn nhw ddim i gyd wedi eu hadnabod yn effeithiol. Mae angen cadarnhau’r targedau penodol o fewn y statud o fewn y sector a thynhau’r amserlenni, dwi’n teimlo, er mwyn sicrhau na fydd llithro wrth geisio cyrraedd y nod, sef beth fydd yn darged statudol o filiwn o siaradwyr erbyn 2050. Diolch.
I just feel that perhaps there is scope to strengthen some of the drivers for delivering all of the objectives. Perhaps they all haven't been identified effectively. We need to confirm the specific targets in the legislation within the sector and to tighten the timetable to ensure there's no slippage in delivering the aim, namely what will be a statutory target of a million Welsh speakers by 2050. Thank you.
Thank you. Should the provisions in section 3 of the Bill regarding data collection on the number of Welsh speakers be expanded to include calculating use of Welsh and will this provide sufficient data to analyse progress?
Ddof i i mewn yn gyntaf yn fanna, te, ie, Gwenno? Wrth gwrs, mae sut rydym ni’n mesur a chofnodi siaradwyr yn y bôn yn dibynnu ar bwrpas y data yna. At bwrpas gwleidyddol, efallai dydy cofnodi defnydd ddim yn mynd i ddangos cymaint o gynnydd a chofnodi nifer, ond os mai beth rydym ni eisiau ei wybod ydy os oes yna gynnydd cynaliadwy sydd yn gynnydd ystyrlon yna mae’n allweddol ein bod ni’n mesur defnydd. Felly, dyna sydd yn rhoi gwybodaeth i ni. Y defnydd sydd yn rhoi gwybodaeth inni am fywiogrwydd, os ydych chi eisiau, yr iaith, ac mae gallu mesur a chofnodi bywiogrwydd iaith yn ein helpu ni wedyn i symud y naratif i ffwrdd o’r Gymraeg fel iaith y lleiafrif, iaith dan fygythiad ac yn y blaen. Buasai hynny wedyn yn rhoi statws llawer iawn cryfach i’r iaith, felly. Yn bersonol, mi fuaswn i’n dweud ein bod ni angen sicrhau bod y mesuryddion yna yn cynnwys beth rydym ni’n ei anelu tuag ato fo yng ngham 1 a cham 2 o strategaeth 2050.
I'll start here, then, Gwenno. Of course, how we measure and record speakers depends on what the purpose of that data is. Perhaps, for political purposes, recording use isn't going to show as much progress as recording the number, but if what we want to know is if there's been a sustainable increase that's a meaningful increase then it is key that we measure the use of the language. So, that's what provides us with that information. Use of a language gives us information about the viability of the language, and that helps us then to move the narrative away from the Welsh language as a minority language, as a language that's under threat and so on. That would then provide a much stronger status to the language. So, personally, I would say that we need to ensure that those indicators include what we're aiming for in step 1 and step 2 of the 2050 strategy.
Os caf i ddod i mewn a chytuno gyda hynny, rwy’n credu oes, mae angen cofnodi’r niferoedd, ond, o ran y defnydd, dyna lle rŷn ni’n sicrhau [cywiriad: lle rŷn ni angen sicrhau] bod yr iaith yn un fyw a rwy’n teimlo efallai fod yna le o fewn y Bil i edrych ar gydweithio neu adnabod sut y gallwn ni fod yn cwmpasu hyn o fewn y—[Anghlywadwy.]—[cywiriad: o fewn y Bil a sicrhau cydweithio gyda’r sefydliadau] sy'n cylchdroi o gwmpas y sector addysg. Felly, ie, addysg sy'n greiddiol i'r Bil hwn, ond mae yna gynifer o sefydliadau sy'n cefnogi'r broses o gaffael iaith nad ydyn nhw, efallai, yn sefydliadau uniongyrchol mewn cyd-destun addysgiadol, ond maen nhw yno i gefnogi datblygiad addysg a throsi'r sgiliau sy'n cael eu datblygu i mewn i rywbeth cymunedol. Rwy'n meddwl yn benodol am y canolfannau Cymraeg, mentrau iaith, Urdd Gobaith Cymru a gwasanaethau ieuenctid a dysgu gydol oes yn yr awdurdodau lleol. Mae yna le, efallai, i edrych ar hynny o fewn y Bil.
If I could come in and agree with that, I think, yes, we need to record numbers, but it's language use, that's where we ensure [correction: where we need to ensure] that the language is viable and I think there is scope within the Bill to look at co-operation or how we identify and encapsulate this in—[Inaudible.]—[correction: in the Bill and ensure co-operation with the organisations] around the education system. So, education is at the core of this Bill, but there are so many organisations and institutions that support language acquisition that aren't directly educational establishments, but are there to support the development of the Welsh language and to transfer those skills into communities. I'm thinking of the canolfannau Cymraeg, mentrau iaith, Urdd Gobaith Cymru and the lifelong learning provision of the local authorities. So, there is scope to look at that within the Bill, I believe.
Thank you. We'll now move to questions from Cefin Campbell, please.
Bore da ichi. Cefin Campbell sydd yma, Aelod o'r Senedd. Diolch yn fawr iawn ichi am y dystiolaeth rŷch chi wedi'i chyflwyno; mae hynny'n ddefnyddiol iawn. Dwi eisiau gofyn cwestiwn cyffredinol i chi, i ddechrau, ar y CEFR, wedyn cwestiynau mwy manwl arno fe. Mae'n amlwg bod y fframwaith yma'n gyfarwydd iawn yng ngwledydd Ewrop. Heblaw am Gymraeg i oedolion, mae e'n gysyniad dieithr iawn. Rŷn ni'n argymell cyflwyno hyn fel fframwaith i'n cyfundrefn addysg ni yng Nghymru. Ydych chi'n croesawu hynny'n gyffredinol? Dyna'r cwestiwn cyntaf dwi eisiau gofyn i chi.
Good morning to you. I'm Cefin Campbell, Member of the Senedd. Thank you very much for the evidence that you have submitted; that is very useful. I want to ask a general question to start with on the CEFR, and then perhaps more detailed questions on that. It's clear that this framework is very familiar to people in European countries. Except for Welsh for adults, it's an unfamiliar concept for some. We are recommending introducing this as a framework for our education system in Wales. Do you welcome that in general? That's the first question I want to ask.
Dof i i mewn yn fanna, os wyt ti eisiau, Gwenno. Yn sicr, dwi'n meddwl un o'r heriau sydd wedi wynebu’r Gymraeg a sut oeddem ni'n mesur llwyddiant y Gymraeg yn y gorffennol oedd y ffaith nad oedd gennym ni'r CEFR. Felly, mae hynny wedi golygu bod ein mesuryddion ni yn disgyn—[Anglywadwy.]—o fyfyrwyr sydd yn astudio TGAU Cymraeg iaith gyntaf, a faint sydd yn astudio'n ail iaith. Ond, wrth gwrs, mae yna gymaint fwy i iaith na hynny, mae yna gymaint fwy i lwyddiant, rhuglder a hyder unigolion i ymwneud efo'r iaith. Wrth gwrs, mae'r CEFR yn cynnig y codau yna a'r labeli o ran sut mae rhywun yn gallu disgrifio'i hun fel siaradwr, ond mae yna hyblygrwydd ychwanegol hefyd i rywbeth fel y CEFR, achos ei fod o'n gontinwwm i gychwyn efo hi, ac mae yna naratif o gwmpas sut rydyn ni'n gallu sicrhau bod ein siaradwyr ni ar gontinwwm. A beth sy'n grêt efo continwwm ydy bod rhywun wastad yn gallu symud yn ei flaen, ac felly mae hynny'n help mawr efo'r syniad yma ein bod ni'n mynd i drio cefnogi dysgwyr i fod yn ymwneud â dysgu'r Gymraeg ar hyd oes. Felly, dwi'n meddwl ei fod o'n bwydo i mewn i'r cysyniad yna'n gyffredinol llawer iawn gwell na beth rydyn ni wedi bod yn ei ddefnyddio yn y gorffennol.
I can come in there, Gwenno. Certainly, one of the challenges that has faced the Welsh language and how we measured the success of the language in the past is the fact that we didn't have the CEFR. That has meant that our indicators have fallen—[Inaudible.]—of students studying GCSE Welsh first language, and how many study through the medium of the second language. But, of course, there is so much more to language than that, there is so much more in terms of the success, fluency and confidence of individuals in becoming involved with the language. So, the CEFR does provide those codes and those particular labels in terms of how one would describe oneself as a speaker, but there is additional flexibility, too, in the CEFR, because it is a continuum, and there's a narrative around how we can ensure that our speakers are on a continuum. And what's wonderful with a continuum is that one can always make progress. And I think that is of great assistance in terms of this concept of trying to support learners to be involved with and learn Welsh throughout their lives. So I do think that it feeds into that general concept far better than what we've been using in the past.
Mi fyddwn innau'n cytuno gyda hynny, achos nid yn unig mae e'n ein galluogi ni i adnabod lefel cyrhaeddiad o fewn cyd-destun addysg, mae e hefyd yn trosi i mewn i'r byd gweithle, lle mae yna ddealltwriaeth well, wedyn, o'r hyn y gall cyflogwr ei ddisgwyl o ran lefel sgiliau. Ac fel cyflogwr, ym Mhrifysgol Abertawe, rŷn ni yn y broses o gyflwyno'r union fframwaith yma i'n polisïau cyflogaeth ni. Felly fe fyddem ni, fel sefydliad, yn croesawu hynny.
I would also agree with that, because not only does it enable us to identify attainment level within an education context, it also translates into the workplace, where there is a better understanding, then, of what an employer can expect in terms of skill level. And as an employer, at Swansea University, we are in the process of introducing this exact framework into our employment policies. So, as an organisation, we would welcome that.
Diolch yn fawr iawn. Yn benodol, yn eich profiad chi o astudio dwyieithrwydd ar lefel Ewropeaidd a'ch dealltwriaeth chi o'r fframwaith CEFR, ydy hi'n realistig disgwyl i blentyn sydd mewn ysgol Saesneg yn bennaf gyrraedd lefel B2 mewn Cymraeg llafar erbyn iddyn nhw gyrraedd oed gadael ysgol?
Thank you very much. Specifically, in your experience of studying bilingualism at a European level and your understanding of the CEFR framework, is it realistic to expect a pupil who is in a primarily English school to reach the B2 level in spoken Welsh by the time they leave school?
Dof i i mewn yn fanna. Gaf i ddarllen dyfyniad gwnes i ddod ar ei draws o'n gynharach yr wythnos yma? Mae'n ddyfyniad ar y cyfryngau cymdeithasol gan Li Wei, sydd yn arbenigwr ym maes amlieithrwydd. Beth mae o'n ei ddweud ydy hyn:
I'll come in there. If I could just read a quote that I came across earlier this week. It's on social media from Li Wei, who is an expert in the area of multilingualism. What he says is this:
'The assumption that the end state of second language learning is monolingualism in the target language is wrong and unachievable. The objective of second language learning is to become bi- or multi-lingual.'
Felly, dwi'n meddwl ei fod yn bwysig ofnadwy, os ydyn ni'n cymeradwyo defnydd o'r CEFR, bod pawb yn ymwybodol o beth mae bod ar wahanol haenau o'r daith ieithyddol yn ei olygu, ac i ba raddau mae gosod disgwyliadau pellgyrhaeddol—. Dwi'n meddwl bod rhoi disgwyliad eithaf pellgyrhaeddol yn beth da i'w wneud, achos mae'n bosib cyrraedd hynny. Os ydyn ni'n gosod y targed yn rhy isel, yna dydyn ni ddim yn symud yn ein blaenau o gwbl. Dwi’n meddwl ei fod yn allweddol bod pobl yn deall yn union beth ydy dysgu iaith a beth mae rhywun yn gallu ei ddisgwyl oddi wrth unigolyn.
Fel roeddwn i’n ei ddweud, beth sy’n dda am y CEFR ydy ei fod o’n amlhaenog, felly mae yna lefelau o'r CEFR lle mae rhywun yn gallu cael gwahanol ddisgrifiadau ynghylch eu hyder nhw’n siarad, eu gallu nhw’n ysgrifenedig, eu dealltwriaeth nhw o’r iaith, ac ati. Felly, dwi’n meddwl bod modd bod ychydig bach yn fwy hyblyg na jest disgwyl bod rhywun yn gorfod cyrraedd rhyw darged penodol a bod rhywun heb lwyddo os nad ydyn nhw’n cyrraedd y darged honno. Felly, dwi’n meddwl bod y naratif o gwmpas hyn jest angen ei ddatblygu dipyn bach ymhellach.
So, I feel it's very important, if we're to approve the use of the CEFR, that everyone is aware of what being on different levels of the linguistic journey means, and to what extent setting expectations that are far-reaching—. I think setting a far-reaching target is a good thing to do, because it's possible to reach that. If we set the target too low, then we’re not moving forward at all. I think it's key that people understand exactly what learning a language entails and what someone can expect from an individual.
As I said, with the CEFR, what's good about it is that it is multilayered, and therefore there are levels of CEFR where someone can have different descriptions that relate to their confidence in speaking, their written ability, their understanding of the language, and so forth. So, I think there is a way of being a little bit more flexible than just expecting that somebody has to reach a specific target and that somebody hasn’t succeeded if they don’t reach that target. So, I think the narrative around this needs to be developed a little bit further.
Sori, doeddwn i ddim yn siŵr os oedd Gwenno eisiau dod i mewn ar y pwynt yna.
Sorry, I didn't know if Gwenno wanted to come in on that point.
Nac ydw.
No.
Dim problem o gwbl. Dr Enlli yn benodol, yn eich tystiolaeth chi, rydych chi’n nodi amheuon am blant yn cyrraedd lefel C1 neu C2 mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Allech chi ymhelaethu ychydig bach ar ba sail rydych chi’n dweud hynny?
No problem. Dr Enlli particularly, in your evidence, you set out some doubts around children achieving C1 or C2 level in Welsh-medium schools. Can you expand a little on the basis for those comments?
Dwi’n meddwl bod y sylw yna yn mynd â ni at bwynt arall sy’n allweddol yng nghyd-destun y Bil yn ei gyfanrwydd, sef y gefnogaeth sydd yna ar gyfer y sector cyfrwng Cymraeg. Mae yna bryder gen i bod yna ryw feddylfryd y 1970au bron iawn bod ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ysgolion trochi naturiol a bod jest gollwng plentyn o gartref di-Gymraeg yn y gyfundrefn yna yn golygu bod y plentyn jest yn naturiol yn troi’n siaradwr rhugl a hyderus. Wrth gwrs, dyna’r sector sydd â’r llwyddiant gorau a’r gallu i drosi siaradwyr i fod yn siaradwyr hyderus a rhugl, wrth reswm, oherwydd yr ymwneud efo’r Gymraeg, ond ydyn ni’n deall yn union faint o ymwneud efo’r Gymraeg sydd yn digwydd bellach ar lawr y dosbarth gan ystyried yr amrywiaeth o ddisgyblion o wahanol gefndiroedd ieithyddol sydd o fewn yr un dosbarth ac i gyd yn cael eu haddysgu drwy iaith leiafrifol?
Felly, dwi’n meddwl bod yn rhaid i ni fod yn realistig ynghylch beth ydy’r sicrwydd bod rhai o’r plant sydd o gartrefi di-Gymraeg—sydd ddim yn siarad llawer o Gymraeg tu allan i’r dosbarth, weithiau ddim yn defnyddio llawer o Gymraeg o fewn y dosbarth chwaith—i ba raddau mae gosod y targed yna o C1 ac C2 ar gyfer rhai o’r disgyblion yna yn mynd i gael knock-on effects ar y gallu iddyn nhw fod yn gwbl rhugl ac yn siaradwyr B arbennig o dda. Dwi’n meddwl bod hwnnw, ar gyfer rhai disgyblion, yn mynd i fod yn llwyddiant iddyn nhw. Felly, mae jest eisiau ailystyried yn union beth yw’r disgwyliadau, gan ystyried beth ydy’r profiadau mae rhai disgyblion yn eu cael mewn rhai ysgolion mewn rhai ardaloedd penodol yng Nghymru.
I think that comment takes us to another point that is key in terms of the context of the Bill as a whole, which is the support that’s available for the Welsh-medium sector. I have a concern that there is some sort of mindset of the 1970s that Welsh-medium schools are natural immersion schools and that just dropping a child from a non-Welsh speaking background into that regime means that the child will then turn into a proficient and confident Welsh speaker. Of course, that is the sector that has the greatest success and the ability to turn speakers into confident and fluent speakers, because of the involvement with the Welsh language, but do we really understand how much involvement with the Welsh language is now happening at classroom level, given the range and variation of pupils from different linguistic abilities that are within the same class, and all being educated through a minority language?
So, I think we have to be realistic in terms of what is the assurance that some children who are from non-Welsh speaking backgrounds—who don't speak much Welsh outside the classroom, perhaps not using Welsh within the classroom either—in what way is setting that target of C1 or C2 for some of those pupils going to have a knock-on effect on their ability to be completely fluent and be very good B speakers. I think that that, for some pupils, is going to be a success for them. So, I think we just need to reconsider what the expectations are, given the linguistic experiences of some pupils in some schools in some areas of Wales.
Iawn, diolch yn fawr.
Okay, thank you very much.
Thank you. I think Lee wanted to come in here.
Thank you. Just briefly on a related point. Professor Thomas, in your written evidence, you mention that there is no guidance regarding ALN children in the immersion units. I wonder if you'd just elaborate a little bit about your point.
Dwi'n meddwl nid yn unig yn y Bil yma, ond mewn nifer o ddogfennau eraill, pan fo’r cyfeiriad yn cael ei wneud at blant efo anghenion dysgu ychwanegol, yn aml iawn mae’r cyfeiriad yn fyr ofnadwy, a dwi’n meddwl ei fod yn anodd penderfynu beth yn union ydy’r gefnogaeth sydd yn angenrheidiol yn y cyd-destun yna. Yn y cyd-destun Cymreig, dwi’n meddwl ei bod hi’n eithaf teg dweud bod yna bryder ymysg rhieni am blant sydd efo anghenion dysgu ychwanegol, ac mae’r ddadl yma wedi codi yn Iwerddon efo’r busnes o fedru eithrio allan o ddysgu’r Wyddeleg o fewn y sector yn fanna.
Ond y gwir plaen ydy bod yna dystiolaeth yn dangos bod sicrhau bod y plentyn yn datblygu'n ddwyieithog, ac yn cael profiadau dwyieithog, yn allweddol, ond mae angen mynd fesul plentyn, ac edrych yn fanwl ar anghenion y plentyn. Ond does yna ddim llawer o arweiniad i athrawon. Ac wrth gwrs, pan ydyn ni'n sôn am anghenion dysgu ychwanegol, rydyn ni'n sôn am amrywiaeth eang iawn o blant sydd jest efallai ddim yn arbennig o dda efo'r iaith yn ysgrifenedig, ac yn y blaen, ac eto mae yna rai eraill wedyn sydd efo anghenion sydd ddim byd i wneud efo iaith. Felly, mae yna amrywiaeth eang yn fanna, ond dwi ddim yn meddwl bod yna—. Wel, does dim cyfeiriad yn y Bil, beth bynnag.
I think not only in this Bill but also in a number of other documents, when reference is made to children with additional learning needs, very often it’s a very brief reference, and I think it is difficult to understand exactly what support is necessary in that context. In the Welsh context, I think it would be quite fair to say that there is concern among parents about children with additional learning needs, and this issue has come up in Ireland with the issue of being able to opt out from the teaching of Irish in the sector there.
But the truth of the matter is that there is evidence that demonstrates that ensuring that the child develops bilingually and has bilingual experiences is crucial, but you need to look at it on a case-by-case basis, and to look at the individual child's needs. But there isn't much guidance for teachers here. And, of course, when we're talking about ALN, we are talking about a very broad range of children, some who perhaps don't cope well with written language, and then there are others who will have needs that are nothing to do with language. So, there's a broad range there, and I don't think there is—. Well, there's no reference to that in the Bill, anyway.
I take from that that you think there should be additional guidance. Do you think that should be statutory guidance within the Bill, or can that sit outside of the Bill?
Buaswn i'n licio gweld rhyw fath o gyfeiriad ato fo yn y Bil. O ran y canllawiau, dwi'n siŵr bod yna le i'r rheini gael eu datblygu'n well mewn guidance eraill sydd yn edrych yn benodol ar anghenion dysgu ychwanegol.
I would like to see some reference to it in the Bill. In terms of the guidance, I'm sure that that could be better developed in other guidance that looks specifically at ALN.
Ocê. Diolch.
Okay. Thank you.
Thank you. I'll now bring in Tom Giffard, please.
Diolch yn fawr. Bore da. Beth yw eich barn chi ar y categorïau iaith a fydd yn cael eu cymhwyso i ysgolion o dan y Bil? A ydych chi o'r farn bod hwn yn gam ymlaen o'r trefniadau presennol a nodir mewn canllawiau anstatudol?
Thank you very much. Good morning. What are your views on the language categories that will be applied to schools under the Bill? Do you believe this is a step forward from the current arrangements set out in non-statutory guidance?
Fe wnaf i ymateb yn fyr drwy ddweud ei fod yn gam ymlaen o'r categorïau sydd gyda ni ar hyn o bryd, ac fe ddylai fe arwain at gynnydd—cynnydd o ran yr ysgolion o fewn y categorïau hynny, a chynnydd i symud ymlaen drwy'r categorïau iaith, a dyna beth sy'n allweddol i'w sicrhau yn y cyd-destun yma. Mae'n rhaid rhoi'r ysgolion yna ar gontinwwm iaith, fel roedd Enlli yn sôn, a mapio'n glir y camau i alluogi'r cynnydd yna yn erbyn y targedau statudol. Efallai y byddwn i'n dadlau na ddylem ddibynnu ar Weinidogion yn amrywio neu'n gallu bod yn gyfnewidiol yn eu pwyslais ar y targedau hynny, a bod y targedau hynny'n cael eu gosod yn y Bil yn glir, ac yn amlinellu'r gefnogaeth wedyn fydd ar gael i wireddu hynny.
I'll respond briefly by saying that it's a step forward in terms of the categories we have at the moment, and it should lead to progress—progress in terms of the schools within those categories, and progress in moving through those categories too, and that's what's crucial in this context. We have to put those schools on a language continuum, as Enlli mentioned, and to clearly map the steps to allow that progress to take place against the statutory targets. Perhaps I would argue that we shouldn't rely on Ministers varying the focus provided to those targets, and that those targets should be placed clearly in the Bill, and the support that will be available to deliver that.
Dwi'n cytuno efo beth mae Gwenno'n ei ddweud. Mae symlrwydd y system sydd yn cael ei gynnig dwi'n meddwl i'w gymeradwyo. Achos dwi'n ymwybodol bod yna athrawon yn y sector addysg ar hyn o bryd sydd ddim yn berffaith siŵr os mai ysgol cyfrwng Cymraeg, ysgol ddwyieithog neu ysgol cyfrwng Saesneg ydy'r ysgol maen nhw'n gweithio ynddi hi.
I agree with what Gwenno has said. The simplicity of the system that's being proposed I think is to be commended. Because I am aware that there are teachers in the education sector currently that aren't perfectly sure whether the school they're working in is a Welsh-medium school, a bilingual school or an English-medium school.
Diolch. Mae'r Bil yn pennu isafswm darpariaeth addysg Gymraeg y mae'n rhaid ei darparu mewn ysgolion prif iaith Saesneg, rhannol Gymraeg, ond dim isafswm o'r fath ar gyfer ysgolion dwy iaith neu ysgolion Cymraeg yn bennaf. A ydych chi'n pryderu o gwbl bod y Bil yn canolbwyntio'n ormodol ar ysgolion cyfrwng Saesneg ar ben isaf y sbectrwm, a dim digon ar sicrhau bod disgyblion yn datblygu eu sgiliau Cymraeg yn llawn mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg?
Thank you. The Bill sets a minimum amount of Welsh language education provision that must be provided in primarily English language, partly Welsh schools, but no such minimum amount for dual language or primarily Welsh language schools. Are you concerned at all that the Bill focuses overly on English-medium schools at the lower end of the spectrum, and not enough on ensuring pupils develop their Welsh language skills in Welsh-medium schools?
Fe wnaf i ddod i mewn yn fanna, os wyt ti eisiau, Gwenno. Oherwydd bod y ffocws ar gynyddu niferoedd, wrth gwrs mae'r ffocws ar y sector cyfrwng Saesneg a'r isafswm sydd wedi cael ei osod yn fanna. Fel roeddwn i'n ei ddweud yn flaenorol, dwi'n meddwl bod yna gamddealltwriaeth o beth yn union sydd yn mynd ymlaen mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg er mwyn gallu adnabod yn union beth fyddai isafswm a fuasai'n caniatáu i'r disgyblion fod yn rhugl ddwyieithog yn y ddwy iaith. Felly, oes, buaswn i'n dweud bod yna dipyn bach mwy o bwyslais ar yr ysgolion prif iaith Saesneg.
If I can come in there first, Gwenno. Because the focus is on increasing numbers, of course the focus naturally falls on the English-medium sector and the baseline set there. As I said earlier, I think there's been a misunderstanding of what exactly is happening in Welsh-medium schools in order to identify exactly what the baseline would be to allow those pupils to be entirely fluent in both languages. So, I would say, yes, there is a little more emphasis on the primarily English language schools in the Bill.
Tom, is it okay if Cefin comes in here, please? Thank you.
Diolch yn fawr iawn. Jest ar gefn y cwestiwn gan Tom, rŷch chi, Dr Enlli, yn eich tystiolaeth, wedi nodi—a dwi'n mynd i ddyfynnu fan hyn—fod y gofyniad lleiaf o 10 y cant ar gyfer ysgolion prif iaith Saesneg, rhannol Gymraeg yn amwys, a bod angen gwaith meddwl pellach ar hynny. A fyddech chi jest yn gallu esbonio beth yn union rŷch chi'n ei feddwl ynghylch y ffaith bod y 10 y cant yn amwys?
Thank you very much. Just on the back of the question from Tom, Dr Enlli, in your evidence, you have noted—and I'm just going to quote here—that the minimum 10 per cent requirement for primarily English, partly Welsh schools is vague and needs further thought. Would you be able to just explain what exactly you mean in terms of the fact that that 10 per cent is ambiguous?
Ydy. Hynny ydy, ai 10 y cant o'r diwrnod, ai 10 y cant o'r wythnos, ai 10 y can't o'r bynciau—beth yn union ydy'r syniad fanna? Achos fy nealltwriaeth i ydy mai'r bwriad ydy cynyddu ymwneud y disgyblion efo'r Gymraeg, ond mae yna, wrth gwrs, bob math o ffyrdd o wneud hynny sydd efallai yn mynd i fod yn fwy buddiol i ddisgyblion, os ydy'r ymwneud hynny'n digwydd, efallai, yn y peuoedd mwy cymdeithasol sydd yn digwydd yn yr ysgolion.
Hefyd, mae'r 10 y cant yna'n gorfod cael mewnbwn o ryw fath gan yr athrawon, ac os nad ydy'r gweithlu addysg yn rhugl yn y Gymraeg mewn rhai o'r ysgolion hynny, yna mae yna ffyrdd gwahanol eto y dylid mynd i'r afael â'r 10 y cant yna. Rydyn ni'n byw mewn byd digidol, felly mae yna bob math o ffyrdd o wneud hynny. Ond buaswn i'n meddwl, pe buaswn i'n gweithio mewn ysgol prif iaith Saesneg, fuaswn i ddim yn siwr iawn beth sy'n cyfri, a dwi'n meddwl bod yna ffordd o wneud y tick-box a gallu dweud ar bapur fod 10 y cant yn cael ei gynnig, ond p'un ai'r 10 y cant yna yn fuddiol ar gyfer y bwriad sydd tu ôl iddo fo, dwi ddim yn siwr.
Yes. Is it 10 per cent of the school day, 10 per cent of the school week, 10 per cent of subjects—what exactly is the concept there? Because my understanding is that the intention is to increase pupil engagement with the Welsh language, but, of course, there are all sorts of ways of doing that that could perhaps be more beneficial to pupils, if that engagement happened in the more social spheres within schools, for example.
Also, that 10 per cent does have to have some sort of input from teachers, and if the education workforce isn't fluent in Welsh in some of those schools, then there are different approaches again in terms of addressing that 10 per cent. We live in a digital world, so there are all sorts of ways of doing that. But I would have thought that if I were working in a primarily English language school, I wouldn't know exactly what would count towards that 10 per cent, and I think there's a way of ticking the box and saying on paper that 10 per cent is provided, but whether that 10 per cent is beneficial as regards delivering its ambition, I'm not entirely sure.
Os caf i neidio i mewn ar y pwynt yna ac ychwanegu at yr hyn mae Enlli wedi'i ddweud, a fyddai hwnna'n iawn, Gadeirydd?
If I could just jump in on that point and add to what Enlli has just said, would that be okay, Chair?
Yes, yes.
Diolch. Dwi'n cytuno bod yna amwysedd o gwmpas y categorïau yn gyffredinol, dwi'n teimlo, ac o ran y pwynt yna ynglŷn â throthwy 10 y cant o fewn ysgolion prif iaith Saesneg, yr hyn fyddem ni'n dymuno ei weld, ar ôl eglurder pellach ynglŷn â beth mae hwnna'n meddwl, yw bod yna fesur o fewn y Bil i adnabod dros gyfnod o amser symud yr ysgolion yna'n uwch na 10 y cant. Fyddem ni ddim dymuno gweld bod ysgolion yn aros ar y trothwy yna, gan feddwl eu bod nhw wedi cyrraedd y nod. Y gobaith yw cynyddu'r hyn y bydden nhw'n ei darparu fel ysgolion prif iaith Saesneg.
Os caf i wedyn jest nodi'r safbwynt ar gategorïau prif iaith Cymraeg, a'ch cwestiwn chi ynglŷn â sut mae'r pwyslais, o bosib, ar yr ysgolion sydd ddim yn Gymraeg neu brif iaith Cymraeg, byddwn i, efallai, yn dymuno gweld y disgwyliadau ar ysgolion y categori prif iaith Cymraeg yn cael eu diffinio'n gliriach o fewn y Bil hefyd, nodi yn glir mai addysgu cyfrwng Cymraeg yn unig fyddai yn yr ysgol yna, heblaw am ddysgu'r Saesneg fel pwnc, a darparu eglurder a gwarchod cyfle i ddisgyblion cyfrwng Cymraeg ddatblygu sgiliau yn llawn trwy gyfrwng y Gymraeg, felly. Dyna yw'r her benodol, dwi'n teimlo, ar hyn o bryd o safbwynt y sector cyfrwng Cymraeg, ac fel roedd Enlli wedi cyfeirio'n gynharach, mae hynna'n darparu heriau i'n disgyblion ni os nad ydyn nhw'n cael yr amgylchedd llwyr Gymraeg o fewn eu haddysg.
Un elfen sy'n dylanwadu arnom ni fel prifysgolion yw, ar hyn o bryd, does yna ddim eglurder o gwmpas y galw ar ysgolion i ddysgu pynciau STEM, er enghraifft, trwy gyfrwng y Gymraeg. Y disgwyliad yn gyhoeddus, o bosibl, yw bod y pynciau hynny'n cael eu haddysgu trwy'r Gymraeg o fewn ysgolion prif iaith Cymraeg. Dyw hwnna ddim ar draws y bwrdd, ar draws Cymru i gyd. Felly, mae hynny'n peri her sylweddol i addysg uwch sy'n trio hyfforddi meddygon y dyfodol, ein gwyddonwyr, ac athrawon y dyfodol a sicrhau eu bod nhw'n gallu symud yn eu blaenau i gyflwyno'r pynciau pwysig yma o fewn eu hysgolion eu hunain.
Thank you. I agree that there is ambiguity around the categories in general, I feel, and in terms of that point with regard to the 10 per cent threshold in primarily English schools, what we would wish to see, after further clarity regarding what this means, is a measure within the Bill to identify over a period of time the moving of those schools to a level higher than 10 per cent. I wouldn't wish to see schools staying on that threshold, thinking they'd reached the target. The hope would be to increase what they provide as primarily English language schools.
If I could then just note the primarily Welsh language category, and your question regarding how the emphasis possibly is on the schools that aren't primarily Welsh language, I would, perhaps, wish to see the expectations in that primary Welsh language category defined more clearly within the Bill, clearly noting that it would be only Welsh-medium education delivered in that school, except for teaching English as a subject, and provide clarity and safeguard the opportunities for those pupils to develop fully their Welsh language skills. That's the specific challenge currently, I would say, in terms of the Welsh-medium sector, and, as Enlli mentioned, that presents challenges for our pupils if they don't have that completely Welsh environment in their education.
One element that influences us as universities is that, currently, there is no clarity around the need for schools to teach STEM subjects through the medium of Welsh. The expectation in public, possibly, is that those subjects are taught through the medium of Welsh in primarily Welsh language schools. That's not true across the board and across Wales, and that presents another challenge for higher education as it tries to train future doctors and scientists, and future teachers, and ensure that they can move forward to introduce these important subjects in their own schools.
Thank you. Tom.
Diolch. I'm just going to change the order of my questions, I think, just to stay on this 10 per cent. I'm just wondering what your views are on these primarily English schools' ability to apply for these temporary exemptions to that 10 per cent Welsh language education, really. Have you got any firm views on how that would work, how that might not work, and so on?
Wel, dwi ddim yn meddwl mod i wedi deall yn iawn o'r Bil beth yn union sydd wrth wraidd y cynnig, ond yn sicr dydw i ddim yn cefnogi'r syniad yna, os nad oes yna resymau penodol iawn, iawn, iawn. Fel dwi'n dweud, dwi'n ymwybodol o'r drafodaeth hir sydd wedi bod efo'r Wyddeleg ynghlych y gallu i eithrio allan, yn enwedig yng nghyd-destun plant ag anghenion arbennig. Ond, eto, dydw i ddim yn derbyn y ddadl yna mewn rhai peuoedd, chwaith.
Felly, dwi ddim yn meddwl bod angen i unrhyw ysgol eithrio o'r isafswm, a fedraf i ddim cweit feddwl, o beth sydd yn y Bil, beth fyddai'n arwain ysgol i ofyn am hynny, heblaw bod y gweithlu angenrheidiol ddim yna i fedru cynnig y 10 y cant. Ond, fel dwi'n dweud, does dim rhaid cael unigolion sydd yn rhugl i roi'r Gymraeg i ddisgyblion ac i gael y disgyblion i ymwneud â'r Gymraeg, sef beth ydy pwrpas cynyddu'r oriau yna yn y lle cyntaf.
Well, I don't think I fully understood from the Bill what exactly is at the heart of that proposal, but certainly I wouldn't support that concept unless there were very, very specific reasons for its use. As I say, I'm aware of the lengthy debate that there's been in terms of the Irish language and the ability to opt out, particularly in the context of children with ALN. But, again, I don't accept that argument in certain spheres either.
So, I don't think that any school should be exempt from the minimum, and I can't quite imagine, from what's in the Bill, what would actually lead to a school asking for that, unless the workforce wasn't in place to provide that 10 per cent. But, as I say, you don't have to have individuals who are fluent in order to introduce the Welsh language to pupils and to engage those pupils with the Welsh language, which is the purpose of increasing those hours in the first instance.
Ac fe fyddwn innau yn cefnogi'r safbwynt yna, ac yn nodi, pe byddai'r eithriadau yn aros o fewn y Bil, y byddai angen sicrhau cyfnodau amser byr iawn ar gyfer unrhyw eithriadau fel bod yr amserlen ar gyfer yr ysgol benodol yna ddim yn llithro, i sicrhau eu bod nhw'n cyrraedd amcan y statud wedyn.
I would also support that viewpoint, and would note that if the exemptions remained in the Bill, there would be a need to ensure very short periods for those exemptions so that the timetable for that specific school didn't slip, to ensure that they achieved the statutory aim.
Tom, could Cefin come back in here?
Yes.
Thank you.
Diolch. Jest i fynd nôl at y pwyntiau olaf yna, gan ystyried bod y Gymraeg yn bwnc gorfodol yn ein hysgolion ni'n barod, a byddai rhai yn dadlau ein bod ni eisoes yn darparu rhyw 10 y cant o ran addysgu'r Gymraeg, ydy'r 10 y cant yma yn ddigonol yn eich barn chi? Ac yn arbennig, Dr Enlli, roeddech chi'n sôn am y ffaith ei fod e'n amwys. A fyddech chi eisiau rhoi arweiniad i'r pwyllgor ynglŷn â beth fyddech chi'n hoffi gweld y 10 y cant yna yn ei olygu?
Thank you. Just to go back to those final points, given that the Welsh language is a compulsory subject in our schools, and some would argue that we're already providing about 10 per cent as regards teaching Welsh, is this 10 per cent sufficient in your view? And in particular, Dr Enlli, you mentioned the fact that it was ambiguous. Would you want to provide guidance to the committee in terms of what you would like to see that 10 per cent meaning?
Ie, o'i gyflwyno fel yna, mae hwnnw'n bwynt allweddol, onid ydy, sydd jest yn ategu beth roeddwn i'n ei ddweud yn flaenorol, achos y syniad ydy bod y Bil yn sicrhau bod yna rywbeth newydd yn digwydd, rhywbeth sydd ddim wedi bod yn digwydd o'r blaen, achos os ydym ni'n cario ymlaen fel rydym ni ac yn defnyddio'r 10 y cant yna ar gyfer beth sy'n digwydd yn barod, sef dysgu Cymraeg fel pwnc, yna dydyn ni ddim yn mynd i gynyddu siaradwyr o gwbl, achos rydym ni'n gwybod dydy'r sefyllfa fel ag y mae hi ddim yn gweithio. Felly, mae hwn yn gyfle euraidd i gynnig rhywbeth newydd, onid ydy? Felly, dwi'n meddwl bod yna ddarn o waith y gellid ei wneud er mwyn adnabod beth fyddai'r cyfleoedd yna'n gallu bod.
Mae'n siŵr bod yna enghreifftiau allan yn y gwledydd Ewropeaidd ynghylch y math o bethau sydd yn digwydd yn fanna, ac rydym ni wedi, er enghraifft, cael y cysyniad o Gymraeg bob dydd yn adroddiad Sioned Davies flynyddoedd yn ôl. Ond gan fod hwnnw ddim yn statudol ac nad oes arweiniad wedi bod, mae hwnnw i'w weld wedi diflannu. Ac ymgais oedd hwnnw i sicrhau bod pob un pwnc yn gwneud rhywfaint o ddefnydd o'r Gymraeg, hyd yn oed os oedd yr athro neu'r athrawes yn agor y wers yn y Gymraeg a wedyn bod y pwnc yn gael ei ddysgu yn Saesneg. Mae yna ryw strategaethau felly y gellid eu mabwysiadu o dan yr athrofa, er enghraifft, a bod yn rhywbeth fyddai'n gallu helpu yn y cyd-destun yma.
Yes, in putting it in those terms, that's a key point, isn't it, which just echoes what I said previously, because the concept is that the Bill ensures that something new happens, something that hasn't been happening in the past, because if we continue as we have been and use that 10 per cent just for what's already happening, which is teaching Welsh as a subject, then we're not going to increase the number of speakers at all, because we know that the status quo doesn't work. So, this is a golden opportunity to provide something new. So, I think there's a piece of work that could be done in order to identify what those opportunities could be.
I'm sure that there are examples in European nations in terms of the kinds of things that happen there, and, for example, we have that concept of Cymraeg bob dydd, Welsh every day, from the Sioned Davies report years ago. But because that was not statutory and there was no guidance in place, that seems to have disappeared. And that was an attempt to ensure that every subject made some use of the Welsh language, even if the teachers simply opened the lesson in Welsh and it was then taught through the medium of English. There are strategies of that kind that could be adopted under the institute, for example, and that is something that could certainly help in that context.
Thank you. Tom.
Thank you. Just one last one on this 10 per cent exemption, obviously, you mentioned the lack of—sorry, I'm paraphrasing what you said—the lack of clarity around where this might need to be used. So, would you support the Bill listing specific circumstances, if you like, where that 10 per cent exemption would need to be used, and what would they be? You mentioned a lack of workforce and then went on to say, 'Well, actually, workforce isn't that integral because it can still be delivered even if you haven't got necessarily fluent Welsh workforces to be able to deliver it'. So, I'm just wondering what the kinds of exemptions you foresaw potentially being needed would be.
Yr ateb gennyf i ydy 'dim'. Doeddwn i ddim yn gallu meddwl beth fyddan nhw, heblaw am sefyllfa fel y gweithlu ddim yn bod ar gael, ond, fel dwi'n dweud, mae yna ffyrdd o amgylch hynny. Ac efallai dyna eto rywbeth y byddai'r athrofa yn gallu bod yn gefnogol ohono yn cynnig arweiniad i ysgolion ar sut i wneud hyn tra bod y gweithlu ddim yna.
The answer from me is 'none'. I couldn't think what they could be, except for a situation where the workforce isn't available. But, as I say, there are ways around that. And perhaps, again, that's something where the institute could support and offer guidance and leadership to schools on how to do this while the workforce isn't there.
Thank you. In your evidence, you mentioned that there are potential unintended consequences in relation to placing the same language attainments of B1 or B2 for both dual and primarily English schools, partly Welsh schools. Can you just elaborate on that?
Dwi'n gobeithio fy mod i wedi dehongli'r wybodaeth sydd yn y Bil yn gywir yn hynny o beth, ond roeddwn i'n gorfod darllen y darn yna drosodd a throsodd er mwyn trio cael fy mhen rownd beth ydoedd yn union, a gweld os oeddwn i'n iawn bod yr un cyrhaeddiad yn cael ei listio ar gyfer gwahanol fathau o ysgol. Jest bod yn wyliadwurs, dwi'n meddwl, jest o wybod sut mae rhai rhieni yn gwneud penderfyniadau dros ysgolion, ac ati, a'r ystyriaeth sydd gan rieni. Wrth gwrs, mae yna rieni sy'n gefnogol iawn o'r Gymraeg ond eisiau sicrhau bod eu plant nhw'n cael digon o fewnbwn yn Saesneg. Ac felly, os ydyn ni'n dweud, wrth yrru plentyn i ysgol prif iaith Saesneg neu i ysgol dwy iaith, bod eu cyrhaeddiadau nhw yn y Gymraeg yn mynd i fod yr un fath dim ots pa un maen nhw'n mynd iddi, mae gen i bryder bod yna lot o rieni'n mynd i optio i yrru eu plant nhw i ysgolion prif iaith Saesneg yn hytrach nag ysgolion dwy iaith. Ac os nad oes gennym ni ysgolion dwy iaith, dydyn ni ddim yn gallu symud llawer o ysgolion ymlaen i fod yn ysgolion prif iaith Cymraeg yn y dyfodol. Ac efallai, fel dwi'n dweud, fy mod i wedi cam-ddehongli'r darn yna—mi roeddwn i wedi gorfod ei ddarllen fwy nag unwaith.
I hope that I've interpreted the Bill correctly in that regard, but I had to read that section time and time again just get my head around what exactly it entailed, and to consider if I was right in terms of the same attainment being listed for different kinds of schools. I think we just need to be mindful in terms of knowing how some parents make decisions on schools, and so on, and parents' considerations. Of course, there are those parents who are very supportive of the Welsh language but want to ensure that their children have enough education through the medium of English too. So, if we say that, in sending a child to a primarily English school or a dual language school, their attainment through the medium of Welsh will be the same, whichever they choose, then I have some concern that many parents will opt for the primarily English school rather than for the dual language school. And if we don't have dual language schools, then we can't move those schools forward on the continuum to become Welsh-medium schools in future. And perhaps, as I say, I've misinterpreted that particular section—I did have to read it more than once.
Diddorol. Diolch. Ac un cwestiwn i gloi: a yw'r Bil, yn eich barn chi, yn gwneud digon o ran sicrhau bod y gweithlu addysg angenrheidiol yn ei le i gyflawni'r cynnydd yn y ddarpariaeth addysg Gymraeg a ragwelir? Os nad ydyw, sut gellid cryfhau'r Bil?
Interesting. Thank you. And one question to end on: does the Bill, in your view, do enough in terms of ensuring the necessary education workforce is in place to deliver the increased amount of Welsh language education provision envisaged? If not, how could the Bill be strengthened?
Gallaf fi ddod i mewn ar y pwynt hwn, efallai, a nodi bod yna le i gryfhau, dwi'n credu, yr hyn sy'n cael ei amlinellu. Mae yna ddiffyg eglurder, efallai, ynglŷn â ble mae'r hyfforddiant ar gyfer y sgiliau hynny'n gorwedd a'r cyfrifoldeb ar gyfer hynny. Mae yna gymaint o sefydliadau sy'n awyddus i gyfrannu ac i gynorthwyo â'r nod benodol yna—y ganolfan dysgu Cymraeg, y coleg Cymraeg, Cyngor y Gweithlu Addysg, yr awdurdodau lleol, a ninnau yn y prifysgolion. Mae yna ymyrraethau gwahanol yn amlwg yn gallu cael eu cynnig yn ystod gyrfa athro i ddysgu neu loywi'r iaith, er enghraifft—[Anghlywadwy.]—neu ddilyn [cywiriad: er enghraifft, tra'n dilyn] cwrs addysg uwch ar gyfer hyfforddi i fod yn athro, ac eto wedyn yn y gweithle. Felly, byddai hi'n fanteisiol, efallai, i adnabod ble mae'r cyfrifoldebau a'r cyllid penodol ar gyfer hynny yn y Bil.
Fe fyddwn i hefyd yn teimlo bod yna le i gynnwys mwy o randdeiliaid yn yr elfen yma. Mae'r prifysgolion yn eithaf anweladwy o fewn y Bil. Does yna ddim sôn am ymgynghori'n uniongyrchol â phrifysgolion, ac yn benodol ysgolion addysg prifysgolion, lle mae'r gwaith hyfforddi athrawon yn digwydd. Felly, fe fyddwn i'n awgrymu bod hwnna'n un peth i'w ystyried. Ac yn ein hymateb ni fel prifysgol i'r Papur Gwyn yn wreiddiol, fe wnaethom ni gynnig bod lle i ystyried adeiladu cyfnod penodol o gyflwyno'r iaith neu loywi'r iaith o fewn y cwrs hyfforddiant i athrawon—bod hynny'n digwydd cyn eu bod nhw allan yn y gweithle, lle mae pwyslais a phwysau arnyn nhw i gyflawni pethau eraill wrth eu gwaith dydd i ddydd—a bod yna gyfle i ni edrych ymhellach ar yr hyfforddiant y gallen ni fod yn ei gynnig yn ieithyddol yn ystod eu proses o hyfforddi i fod yn athrawon.
If I could come in at that point, maybe, and note that there is scope to strengthen what is being outlined, I think. There is a lack of clarity perhaps in terms of where the training for those skills lies and who is responsible for that training. There are so many organisations who are eager to contribute and to help with that aim—the centre for learning Welsh, the coleg Cymraeg, the Education Workforce Council, local authorities, and us as universities. There are different interventions of course that can be introduced in terms of a teacher's career, to learn or to strengthen their language skills, for example—[Inaudible.]—or [correction: for example, while undertaking] the higher education course to train to become a teacher, and also there's training in the workplace. So, it would be interesting to know, in the Bill, where exactly does the responsibility and funding for that lie.
I would also think that more stakeholders could be included in this element. The universities are relatively invisible within the Bill. There is no talk of consultation directly with universities, and specifically schools of education in universities, where teacher training happens. So, I would suggest that that is one thing that could be considered. And in our response as a university to the White Paper originally, we proposed that there was scope to consider including a specific period in order to introduce the language, or improve language skills, within the initial teacher training course—that this should happen before they're out in the workplace, where there is huge pressure on them to deliver other things in their day-to-day responsibilities—and so that there's an opportunity for us to look further at the training that we could be providing in linguistic terms during their initial teacher training processes.
Okay. Thank you, Tom.
Diolch yn fawr.
Thank you very much.
Thank you. We'll now move on to questions from Gareth Davies, please.
Thank you very much. Good morning, everybody. I want to focus on Part 4 of the Bill this morning, if I may, in my set of questions. The Welsh Government wants to achieve a clear line of accountability at a national, local and school level for the planning of Welsh language education. To what extent do you believe the Bill does this?
Wyt ti eisiau mynd yn gyntaf, Gwenno?
Do you want to go first, Gwenno?
Iawn. Roedd hwn yn faes sydd y tu hwnt i fy maes arbenigedd i, mewn ffordd, ond roeddwn i'n gallu gweld bod yna fwriad i glymu'r elfen ysgol a llywodraethwyr—dwi'n teimlo bod cynnwys y llywodraethwyr yn allweddol—awdurdodau lleol, a wedyn Llywodraeth Cymru. Ar fater pwy ddylai fod yn rhan wedyn o'r ymgynghori ar y fframwaith cenedlaethol, roeddwn i'n teimlo, fel roeddwn i'n dweud, fod yna randdeiliaid ar goll yn benodol o hynny—prifysgolion. Rŷn ni ar hyn o bryd, er enghraifft, yn rhan o'r pwyllgorau CSCA sy'n digwydd o fewn yr awdurdodau lleol—yn sicr, dyna beth yw rôl Prifysgol Abertawe—fel ein bod ni'n gallu edrych ar draws y continwwm addysg. Rŷn ni hefyd yn teimlo ein bod ni'n gallu cyfrannu at elfennau eraill o'r hyn sy'n digwydd o fewn y sector addysg—er enghraifft, dysgu gydol oes. Ac ar hyn o bryd, dyw'r ymgynghoriaeth yna ddim yn cynnwys prifysgolion, nac ychwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Felly, roeddwn i'n gweld hwnna, efallai, yn rhywbeth ddylai fod yn cael ei gynnwys o fewn y broses yma, ond, fel arall, mae'r llinell atebolrwydd yn rhesymol, jest efallai pwy yw'r rhanddeiliaid sy'n ymgynghori sydd angen sylw pellach.
Yes. This was an area that's beyond my field of expertise, in a way, but I could see that there was an intention to tie in the element of schools and governing bodies—I think including governing bodies is essential—and also local authorities, and then the Welsh Government. On the issue of who then should be part of the consultation on the national framework, I felt that there were stakeholders that were missing specifically from this—universities. Currently, we are part of the WESP committees in local authorities—that's the role, certainly, of Swansea University—so that we can look across the whole education continuum. We also feel that we can contribute to other elements of what's happening within the education sector—for example, lifelong learning. And currently, that consultation doesn't include universities, and neither does it include the Coleg Cymraeg Cenedlaethol. So, I saw that, perhaps, as something that should be included within this process, but the accountability line is reasonable, just who are the stakeholders that are to be consulted on needs further attention perhaps.
Ie, fel Gwenno, dwi ddim yn teimlo bod fy arbenigedd i yn y darn yma o'r gwaith, felly, a dwi ddim yn gyfarwydd iawn efo'r system bresennol, ond mae beth sydd yn y Bil yn edrych yn synhwyrol i mi, fel dywedodd Gwenno.
Like Gwenno, I don't think that I'm particularly expert in this part of the work, and I'm not particularly familiar with the current system, but what's contained within the Bill looks sensible to me, as Gwenno's outlined.
Yes, I think that's a fair point, and I'm sure we can certainly note that as a committee and make representations to that, because—. Anyway, in my view, if we are to get to 'Cymraeg 2050' and having 1 million Welsh speakers, then surely the scope of the Bill should be all-encompassing and include as many bodies as possible—it seems a no-brainer, in that sense. [Inaudible.]—WESPs as well, the Welsh in education strategic plans, whereby the Welsh Government set the targets on local authorities to plan and implement. Do you have any views on the retention of the name of the WESPs, rather than the WEIP, Welsh in education implementation plan, as proposed initially in the White Paper?
Os dof i mewn fanna, efallai yn benodol ar yr enw. Byddwn i'n cynnig bod 'CSCA' wedi'i wreiddio erbyn hyn, ers cael ei gyflwyno rhai blynyddoedd yn ôl. Mae dealltwriaeth ynglŷn â beth yw e, ac efallai ei fod e'n cwmpasu amcanion y Bil yn well, sef y Gymraeg o fewn y cwricwlwm addysg, ond hefyd y Gymraeg yn gyfrwng addysg. Felly, mae'r teitl, i mi, fel y mae e ar hyn o bryd, yn gweithio.
O ran y cynlluniau hynny a mynd ati i osod targedau, ydy, mae'n rhesymol, ond beth fyddwn i efallai yn ei ddweud yw mai'r ffordd orau o gyrraedd targedau yw cydweithio i'w hadnabod nhw yn y lle cyntaf, ac felly byddwn i efallai yn awgrymu bod yna le i gynnal deialog rhwng yr awdurdodau lleol a'r Llywodraeth, gan fod gan yr awdurdodau lleol ddealltwriaeth o'r heriau maen nhw'n eu hwynebu yn lleol, eu huchelgeisiau lleol nhw, a wedyn rôl y Llywodraeth fyddai herio hynny'n benodol yn ychwanegol.
If I can come in first, particularly on the name. I would suggest that 'WESP' has taken root now, since being introduced some years ago. There is an understanding of what it is and perhaps it encompasses the objectives of the Bill more effectively, namely Welsh within the education curriculum, but also Welsh as a medium for education. So, the title, for me, as it currently exists, works.
In terms of those plans and target setting, yes, it's reasonable, but I would say that perhaps the best way of achieving targets is to collaborate to identify those targets in the first instance, so I would say that there is perhaps scope to have dialogue between local authorities and Government, because the local authorities do have an understanding of the challenges that they face locally, their local ambitions, and then the role of Government would be to challenge that specifically.
Enlli, any additional comments?
Na, dwi'n cytuno, a dwi'n meddwl bod cael y Llywodraeth yn gosod targedau yn allweddol, achos mae hynny yn caniatáu i'r Llywodraeth wedyn gael trosolwg o'r sefyllfa ar hyd a lled y wlad hefyd, ac i fonitro'r cynnydd. Felly, na, dwi'n cytuno efo beth oedd Gwenno yn ei ddweud.
No, I agree, and I think that the Government setting targets is crucial, because that then allows the Government to have an overview of the situation across the country too, and to monitor progress. So, I agree with Gwenno's comments.
Thanks very much. And just finally: do you believe the Welsh Government has struck the right balance between the need for WESPs to be short enough to ensure sufficient accountability and giving local authorities flexibility to plan over a long enough period? The reference I make to that is the timespan for WESPs, from three years to 10 years, in order to facilitate longer term planning, but the Bill reduces that back to five years. Do you see that as an issue at all, and what would be your remarks on that matter?
Eto, dwi ddim yn teimlo bod fy arbenigedd i yn y fan yma, ond mae pum mlynedd yn amser hir, onid ydy, ac yn gallu bod yn brofiad cyfan disgybl yn y sector uwchradd, er enghraifft, felly os dydy rhywbeth ddim yn gweithio am bum mlynedd, rydym ni wedi colli nifer o siaradwyr. Felly, dwi'n meddwl bod sicrhau bod y cynlluniau yma'n cael eu herio yn lled reolaidd yn gwneud synnwyr i fi.
Again, I don't think I have particular expertise in this area, but five years is a long time, isn't it, and it can be a pupil's whole experience in the secondary sector, for example, so, if something doesn't work for five years, then we've lost a number of speakers. So, I think that ensuring that these plans are challenged relatively regularly would make sense to me, certainly.
Ie, byddwn i'n cytuno gyda hynny. Mae angen ffurf o adnabod tangyflawniad yn erbyn y targed yn ddigon buan i fedru sicrhau nad yw'r amser yn pasio heb fod cynnydd yn cael yn ei weld. Ond hefyd, wrth gwrs, mae angen cydbwysedd o fedru cael digon o amser i weithredu a gweld effaith a ffrwyth effaith newidiadau sy'n cael eu cyflwyno, neu ymyrraethau sy'n cael eu cyflwyno. So, efallai fod eisiau edrych ymhellach i sicrhau bod yr amserlen yna'n addas, gan gydbwyso'r ddwy elfen yna.
I would agree with that, yes. We need a way of identifying underattainment in terms of the target quickly enough to ensure that time doesn't pass without progress being made. But also, of course, you need to balance having enough time to implement and to see the impact of changes or interventions that are introduced. So, perhaps we need to look further at that timetable to ensure that it is appropriate, balancing those two elements.
Diolch yn fawr iawn.
Thank you very much.
Thank you. Thank you, Gareth. We'll now move on to questions from Lee Waters, please.
Yes. Just one brief question for Professor Thomas. You say in your, or you suggest in your, evidence that you envisage a potential wider role for the institute, beyond simply teaching the learning of Welsh, and I just wonder if you could elaborate a little more on what you mean by that.
Dwi'n meddwl, yn enwedig gan fod y fframwaith yn sôn am fframwaith cenedlaethol ar addysg Gymraeg a dysgu Cymraeg, dwi'n teimlo bod yr athrofa yn canolbwyntio llawer iawn mwy ar ddysgu Cymraeg, nid ar yr elfen addysg Gymraeg. A dwi'n meddwl bod hwn yn rhywbeth sydd angen ei ddatblygu ymhellach. Dwi yn ymwybodol, wrth gwrs, fod yna newidiadau mawr ar y gweill o ran professional learning ar gyfer athrawon ar draws Cymru a bod yna gamau yn cael eu rhoi mewn lle er mwyn cael hwnnw’n rhywbeth cenedlaethol, ac mi fydd, wrth gwrs, hyfforddiant i athrawon sydd yn dysgu yn y sector cyfrwng Cymraeg ac ati, ac yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg—mi fydd hynny yn rhan o'r arlwy yna, dwi'n cymryd. Ond dwi ddim yn gwybod faint o sylw fydd yn cael ei roi i hwnnw yn yr achos yna, ac felly mae gennym ni athrofa sydd yn cyfrannu at y fframwaith cenedlaethol yma, ond sydd ddim i'w weld, i fi, yn mynd ar ôl yr elfen yna o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn hollol wahanol i ddysgu Cymraeg. Mae dysgu Cymraeg, mewn ffordd, yn dysgu pwnc, onid yw? Mae o’n rhoi—[Anghlywadwy.]
Mi fedrwn ni roi y sgiliau Cymraeg gwych yma i nifer o athrawon, ond ydy'r athrawon hynny wedyn yn gwybod sut mae defnyddio'r Gymraeg i addysgu plant? Ac, wrth gwrs, yn y cyd-destun Cymraeg, fel roeddwn i'n dweud yn gynharach, pan fo rhywun yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, mae o’n sefyllfa hollol wahanol i addysgu drwy gyfrwng y Saesneg. Waeth faint o blant sydd o’ch blaen chi sydd yn siarad yr ieithoedd hynny fel mamiaith, mae yna llawer iawn fwy o heriau yn y cyd-destun o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. A dwi wedi dweud yn gyhoeddus mewn cyflwyniad flynyddoedd yn ôl, yn bersonol, dwi yn teimlo bod athrawon sy'n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn athrawon arbenigol, ac mae o’n gofyn am arbenigeddau does ddim angen eu cael os ydy rhywun yn dysgu drwy gyfrwng y Saesneg, a dwi ddim yn siŵr iawn lle mae'r hyfforddiant yna’n mynd i ddisgyn rŵan. Achos efallai bydd yna rywun yn cymryd yn ganiataol bod yr athrofa, efallai, yn paratoi'r hyfforddiant yna, ond wedyn efallai bydd yr athrofa yn cymryd yn ganiataol bod yr professional learning, sori, y dysgu proffesiynol yma, fod o'n mynd i ddigwydd yn y fan yna. Felly, jest ofn dwi fod yr hyfforddiant yna’n mynd i ddisgyn rhwng dwy stôl.
I think, particularly as the framework mentions a national framework for Welsh language education and learning Welsh, I think the athrofa or the institute would focus far more on learning Welsh rather than the Welsh language education element. And I think that this is something that needs to be developed further. I am aware, of course, that there are major changes in the pipeline in terms of professional learning for teachers across Wales and that steps are being taken in order to put that on a national level, and, of course, training for teachers in the Welsh-medium sector and so on, and those who teach through the medium of Welsh—that will be part of that offer, I assume. But I don't know how much attention will be given to that in that particular case, and so we have an institute that contributes to this national framework but doesn't seem, to me, to be pursuing that element of teaching through the medium of Welsh. Teaching through the medium of Welsh is very different to teaching Welsh. Teaching Welsh, you're teaching a subject, essentially. It provides a skill to individuals.
Now, we could provide excellent Welsh language skills for many teachers, but do those teachers then know how to use the Welsh language to teach children in other subjects? And in the context of the Welsh language, as I said earlier, when one teaches through the medium of Welsh, it's a very different situation to teaching through the medium of English. It doesn't matter how many children in front of you speak those languages as a first language, there are far more challenges in the context of teaching through the medium of Welsh. And I have said publicly in a presentation some years ago, that, personally, I feel that teachers who teach through the medium of Welsh are specialist teachers, and it requires a level of specialism that isn't required if one is teaching through the medium of English, and I'm not entirely sure where that training is going to fall now. Because one might assume that the institute would prepare that training, but then the institute might assume that the training would be provided through professional learning, and that it will happen there. So, I'm a little fearful that that training will fall by the wayside.
Gaf i ddod i mewn?
Can I come in?
[Inaudible.]—given the concerns that you and others have expressed about the finite budgets available, is there a danger of mission creep with what you suggest, and that this gradually starts to get beyond what is resourced or envisaged for?
Efallai wir, ond, fel dwi'n dweud, dydw i ddim yn gwybod lle mae'r trafodaethau ynghylch lle mae'r gefnogaeth ar gyfer athrawon yn y sector cyfrwng Cymraeg. Efallai fod y trafodaethau yna yn digwydd efo beth sy'n digwydd efo’r datblygu proffesiynol ar draws Cymru, ond dydw i ddim yn gwybod. Fel dwi'n dweud, dwi jest eisiau codi’r ffaith fod o’n gallu mynd ar goll, efallai.
Maybe so, but, as I say, I don't know where the discussions are in terms of where support for teachers in the Welsh-medium sector sits. Perhaps those discussions are happening in relation to professional development across Wales, but I simply don't know. But, as I say, I wanted to raise the fact that it could be lost.
Okay. Gwenno Ffrancon.
Diolch. I ddilyn ar y pwynt yna, ie, dyma lle dwi'n credu mae prif amwysedd y Bil. Dŷn ni ddim yn glir lle mae'r agweddau ar hyfforddiant y gweithlu yn digwydd. Dŷn ni hefyd ddim yn glir pam mae yna fwlch penodol o fewn y Bil o ran addysg uwch ac addysg bellach. Mae yna drafodaethau ynglŷn ag addysg statudol, orfodol ac wedyn addysg dysgu gydol oes, ond mae'r canol yna yn amwys tu hwnt, ac yn fanna mae yna allwedd ar gyfer cyflawni rhai o'r sgiliau angenrheidiol yna sydd eu hangen arnon ni o fewn y sector benodol. Felly, fe fyddwn i'n argymell bod angen ymgynghoriadau gyda'r prifysgolion ac ysgolion addysg y prifysgolion hynny, a hefyd gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar y pwynt yna, lle mae'r arbenigedd a'r arweinyddiaeth wedi dod, hyd yn hyn, ar gyfer hyfforddiant ar—[Anglywadwy.]—Gymraeg [cywiriad: hyfforddiant i athrawon cyfrwng Cymraeg].
Thank you. To follow up on that point, yes, I think this is where the main ambiguity within the Bill lies. We're not sure where aspects of workforce training fall. Neither are we clear why there's a specific gap in the Bill in terms of further and higher education. There is discussion of statutory education and then lifelong learning, but that middle part is very ambiguous, and that’s where the key to delivery of some of those skills lies, and we need those skills within this particular sector. So, I would recommend that we need particular consultations with universities and the schools of education within universities, and also with the Coleg Cymraeg Cenedlaethol on that point, where the expertise and guidance has come from to date, in terms of providing training through the medium of Welsh [correction: training for teachers through the medium of Welsh].
I guess the question is, though: does that need statutory provision? Does that need to be explicitly in the Bill, or can that be developed in a framework outside of the Bill or indeed does there need to be framework powers in Bill that can allow that to evolve at a later date? Do you have a view on how that's done? Is that a first-order issue?
Rwy'n credu bod angen yr eglurder fel bod y cyfrifoldebau'n glir a'r disgwyliadau ar gyfer y sectorau gwahanol yma, ond, o bosib, efallai wedyn fod glo mân yn cael ei drafod ymhellach trwy ffyrdd gwahanol sy’n go ddyrys i fi achos dwi ddim yn troi yn y meysydd penodol yna.
I think there's a need for clarity so that the responsibilities are clearly set out and the expectations of the different sectors are set out, but perhaps the minutiae are discussed further in other fora that are abstruse to me because I don’t frequent those particular circles.
Okay. Diolch.
Okay. Thank you, and thank you, both, for attending today. We really appreciate your time. You'll be sent a transcript for checking in due course. Thank you again.
Diolch yn fawr.
Thank you. We'll now take a short five-minute break.
Gohiriwyd y cyfarfod rhwng 11:30 ac 11:45.
The meeting adjourned between 11:30 and 11:45.
Welcome back. We move on now to agenda item 6. This is the fourth evidence session on the Bill. Please can the witnesses introduce themselves and also outline, briefly, what, if any, involvement they have had in the development of the Bill? We’ll start with Angharad, please.
Angharad Morgan, rheolwr polisi Mudiad Meithrin, ac wedi bod yn gyfrifol am ddrafftio ymatebion y mudiad ar y Papur Gwyn gwreiddiol, a hefyd i'r ymgynghoriad yma.
Angharad Morgan, policy manager for Mudiad Meithrin, and I've been responsible for drafting Mudiad's responses to the original White Paper, and also the consultation on the Bill.
Thank you.
Helo, sut ydych chi? Dr Gwenllian Lansdown Davies dwi. Dwi’n brif weithredwr Mudiad Meithrin, ac, fel Angharad, wedi cynorthwyo yn y gwaith o ymateb i’r ymgynghoriad i’r Papur Gwyn gwreiddiol, ac ymateb i’r ymgynghoriad ar y Bil fel mae o wedi’i ddrafftio.
Hello, how are you? I’m Dr Gwenllian Lansdown Davies, chief executive of Mudiad Meithrin, and, like Angharad, have assisted in the work of responding to the consultation on the original White Paper, and responding to the consultation on the Bill as drafted.
Helo, Gwennan Schiavone, prif weithredwr CYDAG, sef Cymdeithas Ysgolion dros Addysg Gymraeg. Dwi ddim wedi bod yn ymwneud yn uniongyrchol o gwbl efo’r Bil o ran unrhyw agwedd o ran hynny, ond fi fydd yn cydlynu’r ymateb ysgrifenedig y byddwn ni’n ei ddarparu o fewn y bythefnos, rŵan, fel rhan o’r cyfnod ymgynghori, ar sail ymgynghori gyda holl aelodau CYDAG, sef ysgolion Cymraeg a dwyieithog.
Hello, Gwennan Schiavone, chief executive, CYDAG. Now, I haven’t been directly involved at all with the Bill in terms of any aspect of it, but I will be co-ordinating the written response that we will be providing within a fortnight, as part of the consultation, on the basis of consultation with all the members of CYDAG, which is Welsh-medium and bilingual schools.
Diolch. Members have a series of questions to ask, and I'll begin. Could you outline your initial thoughts on the Bill, and the extent to which it will support the work and progress required to achieve the 'Cymraeg 2050' target of a million Welsh speakers?
Dwi’n meddwl mai 'croeso gofalus' ydy sut y buasem ni fel mudiad yn diffinio ein hymateb ni i’r Bil mewn dau air. Dŷn ni yn angerddol o blaid y targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050, a dyblu'r defnydd o’r Gymraeg, ac yn awyddus i bwysleisio pwysigrwydd gwaith blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae o ran cyfrannu at y nod hwnnw, oherwydd dŷn ni’n gwybod bod cyfraddau dilyniant o’r sector blynyddoedd cynnar i’r sector addysg statudol yn arbennig o bwysig a dylanwadol. Mae cyfraddau dilyniant oddeutu 88 y cant i 89 y cant yn bresennol—hynny yw, y canran o blant sydd yn gadael y cylchoedd meithrin i fynd ymlaen i dderbyn eu haddysg yn Gymraeg. Ac mae oddeutu 80 y cant o blant sydd yn dod i gylchoedd meithrin o gartrefi ble Saesneg, neu iaith arall oni bai am y Gymraeg, ydy iaith yr aelwyd. Felly, mae’n rhaid cydnabod pwysigrwydd y blynyddoedd cynnar i’r Bil hwn, er ein bod ni’n gwerthfawrogi nad y sector nas gynhelir neu’r sector blynyddoedd cynnar ydy prif ddiddordeb y Bil. A dŷn ni’n falch o weld mwy o gydnabyddiaeth i’r sector gofal plant, ac i weithio gyda rhieni yn y drafft o’r Bil, o’i gymharu efo’r Papur Gwyn gwreiddiol.
Felly, dŷn ni’n credu bod yna lawer iawn o waith i’w wneud, fod yn rhaid cydnabod pa mor heriol ydy’r gwaith cynllunio, gweithredu, cynllunio strategol, pan fo’n dod i dwf addysg Gymraeg, a pa mor fregus ydy agweddau ar fywyd cylchoedd meithrin, methrinfeydd dydd, yn yr union yr un modd ag y mae pethau’n fregus iawn i playgroups ac i grwpiau chwarae cyfrwng Saesneg hefyd.
Felly, ein prif ddiddordeb ni ydy cydnabod eich bod chi'n methu ysgaru, mewn ffordd, y sector blynyddoedd cynnar oddi ar yr hyn sydd yn digwydd o fewn y sector addysg statudol. Ac felly, gyda hynny mewn golwg, mae’r hyn sydd wedi’i gynnwys o fewn y Bil o bwysigrwydd ac o arwyddocâd mawr i ni fel mudiad. A dŷn ni’n credu bod yr hyn sydd yn cael ei ddisgrifio gyda’r potensial i fod yn drawsnewidiol o ran y nod fod pob dysgwr yn gadael addysg orfodol yn 16 mlwydd oed wedi cyrraedd lefel o sgil ieithyddol ar B1 neu B2.
I think we as an organisation would describe our response as a ‘guarded welcome’ in terms of the Bill. We are passionately in favour of the target of a million Welsh speakers by the year 2050, and doubling the use of the Welsh language, and we’re eager to emphasise the importance of the work in early years, childcare and play in terms of contributing to that target, because we know that progression rates from the early years into statutory education are particularly important and influential. Those rates are around 88 to 89 per cent at the moment—that’s the percentage of children leaving the cylchoedd meithrin that go on to receive Welsh-medium education. And around 80 per cent of children who come to cylchoedd meithrin are from homes where English, or a language other than Welsh, is the language spoken at home. So, you have to recognise the importance of the early years for this Bill, although we do, of course, appreciate that it’s not the non-maintained sector or the early years sector that is the main focus of the Bill. And we’re pleased to see more recognition for the childcare sector and to working with parents in the draft Bill, as compared to what was included in the original White Paper.
So, we believe that there’s a great deal of work still to be done, that you have to recognise just how challenging the planning and implementation and the strategic planning will be when it comes to the growth of Welsh-medium education, and how fragile some aspects of the life of cylchoedd meithrin and day nurseries are, just as things are very fragile for English-medium playgroups and nurseries too.
So, our main interest is recognising that you can’t divorce the early years sector from what then happens within the statutory education sector. So, with that in mind, what’s included in the Bill is important and very significant for us as an organisation. And we believe that what is described has the potential to be transformational in terms of the objective that all learners leave compulsory education at 16 years of age having reached a certain level of language skill at B1 or B2.
Ie, wel, yn sicr, dwi’n meddwl ein bod ni’n croesawu’r Bil a’r cryfder mae rhoi sail statudol yn ei roi i dargedau ac i fwriad, ac, yn amlwg, mae yna gryfderau mawr yn y Bil o ran gwneud hynny. Dwi’n meddwl mai’r peth pwysig o’n safbwynt ni ydy’r gweithredu sydd yn dod yn sgil y Ddeddf yn dod i rym, felly, a sicrhau bod y manylion yn gywir yn y Ddeddf wrth ei chyhoeddi er mwyn galluogi'r gweithredu yna i ddigwydd, er mwyn gyrru'r newid yna a bod popeth yn ddigon cryf o'i mewn i alluogi hynny.
Ar ddiwedd y dydd, dwi'n meddwl ein bod ni i gyd yn gallu dweud mai addysg sydd yn mynd i greu siaradwyr. Dyna lle mae'r naid fawr yn mynd i allu digwydd mewn siaradwyr Cymraeg yn y dyfodol, ac felly mae hwn yn faes cwbl hanfodol i fod yn cael y buddsoddiad, egni, ymdrech, amser, adnoddau y tu ôl iddo, ac yn amlwg mae cael Deddf y tu ôl i hyn yn mynd i alluogi hynny i ddigwydd. Mae'r ffaith ei bod yn rhoi'r llinellau atebolrwydd yna yn amlwg yn allweddol, yn rhoi cadernid pellach, ac felly yn amlwg byddem ni'n ei chroesawu, ond yn amlwg mae yna elfennau o'i mewn o y byddem ni'n awyddus i'w trafod ymhellach.
Yes, well, certainly, I think we welcome the Bill, and the force that statute gives to targets and the aim, and, clearly, there are great strengths in the Bill in terms of doing that. I think the important thing from our perspective is the action that comes as a result of the implementation of the Bill, and to ensure that the details are correct in the legislation as published in order to allow that implementation to happen, and to drive change and that everything is strong enough to enable that to happen.
At the end of the day, I think we can all say that it's education that will create Welsh speakers. That's where the great leap will happen in terms of Welsh speakers in the future. So, this is a crucial area and it needs the investment, the energy, the effort, resources and time, and clearly having legislation to underpin this will allow that to happen. The fact that it provides lines of accountability is crucial, and it makes it more robust, and so certainly we welcome it, but there are elements within the Bill that we would be eager to discuss further.
Okay. Thank you. I know you've just touched on this, but if you could elaborate a little bit further, please: to what extent does the Bill take adequate account of the role of the early years sector in supporting and growing the Welsh language through education?
Wel, yn sicr mae'r drafft sydd gennym ni rŵan yn welliant ar y geiriad gwreiddiol oedd yn y Papur Gwyn, oherwydd mae yna gydnabyddiaeth o bwysigrwydd y blynyddoedd cynnar a hefyd o weithio efo rhieni. Mae'r gwaith yna o hybu a hyrwyddo yn bwysig, ond dwi'n meddwl y byddem ni, fel mudiad, hefyd yn dadlau, ble mae gan rieni ddewis rhwng addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg Saesneg, weithiau mi fydd rhieni yn gwneud y dewis o blaid addysg Gymraeg, weithiau mi fydd hi'n haws iddyn nhw ddewis addysg Saesneg oherwydd hwylustod, oherwydd trefniadaeth trafnidiaeth, ac yn y blaen, ac felly mae'n rhaid i unrhyw gynllunio strategol ac ymarferol a gweithredol gymryd i ystyriaeth pethau sydd y tu hwnt i ystyriaethau o safbwynt cynllunio iaith—pethau cwbl ymarferol yn ymwneud â hwylustod. Mae hynny hefyd yn wir o fewn y blynyddoedd cynnar.
Rydyn ni'n deall mai ein natur ni fel sector yw ein bod ni yn nas gynhelir, felly gall y Bil yma ddim cynnwys lleoliadau meithrin oddi mewn i'r sector anstatudol. Ond, mae cydgynllunio sydd yn digwydd efo ysgolion a'r ffaith bod nifer fawr o gylchoedd meithrin ar safleoedd ysgolion, yn cael eu lletya gan ysgolion cynradd ac uwchradd, yn bwysig i'w gydnabod a'i ystyried wrth gynllunio. A'r hyn y buaswn i'n ei ddweud hefyd ydy, pan fydd yna gynlluniau i agor ysgolion Cymraeg newydd a chylch meithrin yn cael ei gynnwys ar y safle—ac mae hynny'n bwysig—mae'n rhaid ein cynnwys ni yn y drafodaeth yna, oherwydd mae yna ofynion gan Arolygiaeth Gofal Cymru, AGC, sydd yn benodol iawn er mwyn bod y cylchoedd meithrin yn gallu bodloni gofynion y safonau gofynnol cenedlaethol gofal plant, ac weithiau dydy hynny ddim yn cael ei gymryd i ystyriaeth. Felly, rydyn ni'n siarad am bethau prosäig iawn yn ymwneud â nifer y sinciau, nifer y toiledau, arwynebedd llawr, mynediad at yr awyr agored—nid o reidrwydd ystyriaethau mae penseiri a chynllunwyr yn meddwl amdanyn nhw wrth gynllunio gofod ysgol. Felly, mae yna agweddau fel yna, ymarferol, rydyn ni'n eu gweld sydd weithiau yn heriol yn ein gwaith ni, oherwydd rydyn ni'n cyrraedd safle ysgol a chylch meithrin newydd a dydy'r math yna o ystyriaethau heb gael eu cymryd i ystyriaeth. Wyt ti eisiau ymhelaethu, Angharad?
Well, certainly the draft we currently have is an improvement on the original wording in the White Paper, because there is recognition of the importance of early years and also the importance of working with parents. That work of promotion is important, but I think that we as an organisation would also argue that, where parents have a choice between Welsh-medium education and English-medium education, on occasion parents will make the choice for Welsh-medium education, but on occasion it will be easier for them to choose English-medium education for reasons of convenience, because of transport arrangements, and so on and so forth. So, any strategic planning and practical planning does have to take into account those issues that are beyond considerations of language planning—those very practical things relating to convenience. That's also true in early years provision.
We understand that the nature of our sector is that we are non-maintained, so this Bill cannot encompass Mudiad Meithrin sites within the non-statutory sector. But the joint planning that happens with schools and the fact that many cylchoedd meithrin are on school sites, are hosted by primary and secondary schools, is important to recognise and to consider in terms of planning. What I would also say is that, when there are plans to open new Welsh-medium schools and there is a cylch meithrin to be included on the site—and that's important—we have to be included in that discussion, because there are requirements by Care Inspectorate Wales that are very specific in terms of ensuring that the cylchoedd meithrin can meet the required national standards in terms of childcare, and on occasion, that isn't taken into account. So, we're talking about very prosaic things related to the number of sinks, the number of toilets, the floor space, access to open-air spaces. These aren't necessarily considerations that architects and planners think about in planning a school space. So, there are practical aspects such as those that we see that can occasionally be challenging in our work, because we get to a school site with a new cylch meithrin and those considerations haven't been taken into account. I don't know if you'd like to expand on that, Angharad.
Dwi'n cytuno â hynny. Dwi'n credu mai un o'r pethau eraill sydd angen ei ystyried yw bod y gwaith o ran hyrwyddo addysg Gymraeg yn digwydd o'r crud, a bod rhieni yn dechrau ar y penderfyniadau addysg yna ymhell cyn cyrraedd y ffurflen dewis ysgol gan yr awdurdodau lleol. Felly, mae angen sicrhau bod unrhyw waith o ran hyrwyddo a datblygu'r sector addysg Gymraeg yn digwydd ar y cyd gyda'r holl asiantaethau a gwasanaethau, fel y cylchoedd Ti a Fi, grwpiau Cymraeg i Blant, a'r cylchoedd meithrin, sydd â'r cyswllt cynharaf posibl yna ym mywyd teuluoedd. Mae hynny hefyd yn golygu bod angen cyd-weithio ar draws adrannau Llywodraeth Cymru, achos mae [cywiriad: nid yw] nifer o'r gweithwyr proffesiynol sy'n dod i gyswllt â rhieni yn ystod blynyddoedd cynnar plentyn yn dod o dan yr awdurdod addysg, maen nhw'n dod o'r ymwelwyr iechyd, y byd iechyd, maen nhw'n dod o fyd chwarae plant, maen nhw'n dod o grwpiau drwy wasanaethau gwybodaeth i deuluoedd. O ran yr elfen o hyrwyddo a thyfu addysg Gymraeg trwy'r gwaith hyrwyddo sy'n cael ei wneud, mae'n rhaid sicrhau cysondeb yn y gwaith hyrwyddo a'r negeseuon o ran addysg Gymraeg sy'n mynd allan ar draws yr holl sectorau yna hefyd.
I'd agree with that. One of the other things that needs to be considered is that the work in terms of promoting Welsh-medium education happens from the cradle, and that parents start to make those decisions way before they get to the school selection form provided by local authorities. So, we need to ensure that any work in terms of promoting and developing the Welsh-medium education sector happens alongside all of those services and areas, such as the cylchoedd Ti a Fi, Cymraeg i Blant groups, and the cylchoedd meithrin, which have that earliest possible contact with family life. And then that means that there is a need for co-operation across departments of Welsh Government, because many of the professionals coming into contact with parents in the early years of a child are [correction: are not] captured under the education authority, they are health visitors, they come from the health sector, they come from the child play sector, they come from information for families services. And in terms of promoting and developing Welsh-medium education through the promotion work that's undertaken, we must ensure consistency in that promotion work and the messaging on Welsh-medium education that goes out across all those sectors, too.
Thank you. My next question is to Gwennan, please. To what extent does the Bill reflect the role of Welsh-medium schools and recognise how they provide immersive Welsh language education?
Dwi'n meddwl ei fod yn deg i ddweud bod yna ddim digon o gydnabyddiaeth o ysgolion cyfrwng Cymraeg a’u cyfraniad o fewn y Bil fel y mae, ac mae yna deimlad efallai fod hynny’n cael ei gymryd yn ganiataol, ac efallai ar hynny, mae angen pwysleisio nad ydy’r sector cyfrwng Cymraeg heb ei heriau ychwaith ac mae angen y gefnogaeth honno.
O safbwynt cyfraniad y sector ysgolion cyfrwng Cymraeg, eto, i fynd yn ôl at y pwynt roeddwn i’n ei wneud yn gynt, dyna lle mae’r siaradwyr, y defnyddwyr, y rheini ar y lefel uchaf o hyfedredd yn mynd i gael eu creu—nhw sydd yn mynd i fod yn sail i ddefnyddio’r iaith wrth barhau mewn addysg, yn y gweithle, wrth fagu teulu, a throsglwyddo’r iaith ac yn y blaen. Felly, yn amlwg, mae pwysigrwydd y sector yna, hyd yn oed os ydy o’n cael ei gymryd yn ganiataol, mi ddylai fod yn gryfach, dwi’n teimlo, o ran sut y mae'r Bil yn ei gydnabod. Heb hynny, mae yna risg iddo, dwi’n meddwl, oherwydd, efallai, y pethau y byddwn ni’n dod atyn nhw yn nes ymlaen o ran y categorïau ac yn y blaen.
Yr addysg drochi yna, rydyn ni’n gwybod—mae tystiolaeth yn dangos—mai trochi iaith sydd yn sicrhau rhuglder. Yn amlwg y nod, rydyn ni i gyd yn gobeithio, yw y bydd pob ysgol yn y man yn galluogi plentyn i ddatblygu’n gwbl rugl trwy gael y profiad yna o drochi. Yn y lle cyntaf, fodd bynnag, yr ysgolion cyfrwng Cymraeg sy’n gallu darparu hynny, a’n gwaith ni, y tu hwnt i ddiogelu a chryfhau’r sector yna, yn amlwg, ydy sicrhau bod ysgolion eraill wedyn yn gallu symud ar hyd y continwwm tuag at yr uchelgais honno.
I think it is fair to say that there isn't sufficient recognition of Welsh-medium schools and their contribution in the Bill as it currently stands, and there is perhaps a feeling that it's taken for granted, and perhaps, on that, there is a need to emphasise that the Welsh-medium sector isn't without its challenges either and does need support.
In terms of the contribution of the Welsh-medium school sector, again, returning to an earlier point, that's where the Welsh speakers, the users, and those at the highest level of attainment will be created—they are going to be the basis for the use of the language as they continue in education, in the workplace, in raising a family, and in transferring the language and so on. So, clearly, the importance of that sector, even if it is taken for granted, should be reflected more strongly, I feel, in the Bill. Without that, there is a risk, I think, because of issues that we might cover later, in terms of the categories and so on.
In terms of immersive education, we know—evidence shows—that language immersion is what secures fluency. Of course, the aim, we all hope, is that all schools in future will enable children to develop total fluency by having that immersive experience. But initially, however, it is the Welsh-medium schools that can provide that, and it's our job, beyond safeguarding and strengthening that sector, to ensure that other schools then are able to move along the continuum towards that ambition.
Diolch. The Bill makes the target of a million Welsh speakers a statutory target. What is the value of placing the target on the statute book, and how will it affect your work and role?
Beth ydy gwerth unrhyw statud? Beth ydy gwerth yn unrhyw ddeddfwriaeth? Cwestiwn rhethregol, wrth gwrs. Mae yna werth symbolaidd, buaswn i'n dadlau, i’r ffaith bod y targed yna wedi’i gynnwys ar sail statudol, ond mae rhywun o hyd yn deall bod yna gyfyngiadau i ddylanwad unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth a bod yna ystyriaethau eraill o safbwynt polisi, o safbwynt cynllunio, o safbwynt ariannu a buddsoddi, yn enwedig yn y maes hwn.
Ond rydym ni fel mudiad wedi gweld yn sicr mwy o fomentwm ers mabwysiadu slogan Cymraeg 2050, a hynny fel targed. Mae o wedi gwneud ein gwaith ni'n fwy rhwydd. Mae’r CSCA hefyd wedi cael eu haddasu yn sgil adolygiad y diweddar Aled Roberts, fel bod deilliant 1 yn cynnwys y blynyddoedd cynnar. Ac felly, ein gobaith ni ydy y bydd cael yr amcan yna ar sail statudol yn cryfhau ein gwaith ni eto ac yn ei gwneud hi'n haws i fod o gwmpas y bwrdd fel partner yn cyd-drafod ac yn cyd-gynllunio gydag awdurdodau lleol a'r cyrff rheoleiddio perthnasol eraill.
What's the value of any statute? What's the value of any legislation? That's a rhetorical question, of course. There is symbolic value, I would argue, to the fact that the target has been included on a statutory basis, but one always understands that there are limitations to the influence of any piece of legislation and that there are other considerations in terms of policy, in terms of planning, in terms of funding and investment, particularly in this area.
But we, as an organisation, have certainly seen more momentum since the adoption of the Cymraeg 2050 slogan, and as a target. It has made our work easier. The WESPs have also been adapted as a result of the review by the late Aled Roberts, so that outcome 1 includes the early years, and therefore, our hope is that having that objective on a statutory basis will strengthen our work further and will make it easier to be around the table as a partner, discussing and jointly planning with local authorities and the other relevant regulatory bodies.
Dwi'n credu hefyd bod y cynllun Sefydlu a Symud gan y Mudiad, sydd yn cydweithio gyda'r targedau sydd yn y cynlluniau strategol ar hyn o bryd, o ran edrych ar ardaloedd lle mae yna fylchau o ran darpariaeth gofal blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg, er mwyn inni allu targedu'r ardaloedd hynny sydd â’r mwyaf o angen a’r mwyaf o angen o dwf ar lawr gwlad, er mwyn gallu blaenoriaethu’r ardaloedd hynny, sydd efo'r bylchau yna yn lleol i rieni—. Dwi'n credu bod hwnna'n gynllun sydd yn dangos bod y cydweithio yna a’r trafodaethau yna yn digwydd ar draws y lefelau, rhyngom ni, yr awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn ganolog, ac wedyn bod gwerth hynny’n anferth o ran tyfu’r farchnad ar lawr gwlad.
I also think that the Set up and Succeed programme by the Mudiad, which works to the targets in the strategic plans at the moment, in terms of looking at areas where there are gaps in terms of early years Welsh-medium childcare provision, so that we can target those areas of greatest need and with the greatest need of more growth on the ground, so that we can prioritise those areas, which have those gaps at a local level for parents—. I think that is a programme that shows that that collaboration and those discussions are happening across the various levels, between ourselves, the local authorities and Welsh Government centrally, and that the value of that is huge in terms of growing the market on the ground.
Dwi'n meddwl beth fyddwn i'n ei ddweud o ran hynna ydy pwysigrwydd y sail statudol yna i unrhyw darged. Mae o'n rhoi statws cryfach iddo; mae o'n lleihau’r dadlau yn ei gylch o; byddai rhywun yn gobeithio ei fod o'n cynyddu’r cyfrifoldeb tuag at gyflawni, a bod hynny wedyn yn tynnu oddi ar—. Rydyn ni i gyd yn gobeithio am ewyllys da, rydyn ni i gyd yn gobeithio am gefnogaeth ac anogaeth ac yn y blaen, ond mae yna elfen arall, wrth gwrs, lle mae angen y cadernid yna sy'n dod o fod â tharged a nod sydd yn statudol. Ac yn amlwg, byddai rhywun yn gobeithio wedyn fod y cyfrifoldeb yna'n ymestyn reit ar draws y Llywodraeth ac nid yn syrthio ar un adran, o dan un Gweinidog yn unig. Wedyn, dyna mae rhywun yn ei obeithio, sef bod y sail yna jest yn codi un cam ymhellach o ran nod ac amcan ac uchelgais wedyn.
I think what I would say is in terms of that is the importance of that statutory basis for any target. It gives it a higher status; it reduces the arguing about it; and one would hope that it would actually increase the responsibility in terms of delivery, and that that then would—. We all hope that there is goodwill, we all hope for encouragement and support and so on, but there is another element of course, where you need that robustness that comes from having a target and an objective that is placed on a statutory basis. And obviously, what we would then hope is that that responsibility would extend across Government and wouldn't simply fall on one department, under one Minister. So, that is what one would hope, namely that that basis just takes it up a step in terms of the aims and objectives and ambitions too.
Diolch. We'll now move on to questions from Cefin Campbell, please.
Diolch yn fawr iawn, a diolch i chi am y dystiolaeth, a'r dystiolaeth a ddaw, dwi'n siŵr, yn y man.
Dwi jest, yn y set yma o gwestiynau, yn mynd i ganolbwyntio ar y fframwaith CEFR. Mae e’n gysyniad newydd i ni yng Nghymru, wrth gwrs, y tu fas i Gymraeg i oedolion. Jest yn gyffredinol, beth yw eich barn am gyflwyno fframwaith fel hwn, a beth ŷch chi'n gweld yw’r manteision, ac oes yna anfanteision, oes yna heriau? Jest sylwadau cyffredinol i ddechrau.
Thank you very much, and thank you for your evidence and for the evidence that you'll provide, I'm sure, later.
In this set of questions, I'm just going to focus on the CEFR framework. It's a new concept for us in Wales, of course, outside Welsh for adults. Just generally speaking, what's your view on the introduction of a framework like this one, and what do you see as the benefits, and are there any disadvantages or challenges? If you could just give us some general comments first of all.
Rydyn ni’n gefnogol o’r fframwaith. Rydyn ni’n gefnogol o'r egwyddor bod yna fframwaith safonol sydd yn cael ei gydnabod yn fyd-eang ac yn rhyngwladol yn cael ei ddefnyddio, a does dim rheswm pam na ellid defnyddio'r fframwaith hwnnw ar gyfer cael set o safonau, os liciwch chi, neu ddisgwyliadau o ran beth mae o’n golygu i siarad y Gymraeg, fel unrhyw iaith arall.
Rydyn ni â phrofiad o ddefnyddio gwiriwr iaith yn y gorffennol, a phrofiad difyr, ond byddem ni’n dadlau bod yna werth mewn cael fframwaith sydd yn safonol ar draws gwahanol sectorau, fel ein bod ni i gyd yn gweithio o fewn yr un disgwyliadau a’r safonau hynny.
Mae yna is-lais weithiau yn y drafodaeth yma, dwi’n teimlo, fod yna rywbeth sydd yn sylfaenol wahanol am ddysgu Cymraeg o’i gymharu efo dysgu unrhyw iaith arall. Wel, mi fyddem ni’n dadlau i’r gwrthwyneb, bod y profiad o ddysgu Cymraeg yn union fel dysgu unrhyw iaith, ac felly os ydy’r fframwaith yma’n gweithio i gyrff ar draws y byd, pam na allai fo hefyd weithio yng Nghymru? Ac mae Angharad wedi gwneud gwaith ymchwil ynglŷn â’r teitlau amrwd—A1, A2, B1 ac yn y blaen. Wrth gwrs, mae yna dros 1,000 o ddisgrifiadau ar gael i ni sydd yn gorwedd o dan y disgrifiadau cyffredinol amrwd yna, felly mae o mor fanwl ag ydych chi eisiau iddo fo fod, mewn gwirionedd. Ond dwi’n meddwl mai ein barn ni fel sefydliad ydy bod y CEFR yn ffordd ddoeth a chall o safoni neu gael cyfundrefn sydd yn gydnabyddedig ac y gallwn ni i gyd weithio oddi mewn iddi.
We are supportive of the framework. We are supportive of the principle that a standard framework that is recognised globally and internationally should be used, and there is no reason why that framework couldn't be used in order to have a set of standards, if you like, or expectations in terms of what it means to speak Welsh, just as is the case with any other language.
We have some experience of using a language checker in the past, and it was an interesting experience, but we would argue that there is value in having a framework that is standardised across different sectors, so that we are all working to the same expectations and same standards.
There is an undertone in this debate on occasion, I feel, that there is something that is fundamentally different about learning Welsh as opposed to learning any other language. Well, we would argue to the contrary, that the experience of learning Welsh is exactly the same as learning any language, and therefore, if this framework works for organisations across the world, why couldn't it also work here in Wales? And Angharad has done some research on the raw titles—A1, A2, B1 and so on. Of course, there are over 1,000 descriptors available to us that sit below those general raw categories, so it is as detailed as you want it to be, in reality. But I think our view as an organisation is that the CEFR is a good way of standardising or having a system that is recognised and that we can all work within.
Mi fuaswn i'n cytuno. Dwi'n credu mai un o'r manteision o ddefnyddio fframwaith cydnabyddedig fel y CEFR yw ei fod yn rhoi strwythur inni weithio tuag ato fe. Mae'r ffaith bod yr C1, C2 yn cael ei ddisgrifio fel defnyddwyr hyfedr o’r Gymraeg yn gam arall, dwi'n credu, sydd yn gam pwysig ymlaen, a symud o'r elfen yma o ddefnyddio 'rhugl' a 'hyderus', achos dwi'n credu bod diffinio rhuglder yn anoddach, i raddau, na diffinio defnyddiwr hyderus o’r Gymraeg. A beth yw 'rhuglder'? Achos dwi'n gallu eistedd fan hyn a siarad yn Gymraeg am y Bil, am unrhyw beth i wneud efo plant, addysg, cynllunio iaith, ond pe baech chi'n gofyn i fi fynd i roi cyflwyniad ar rywbeth gwyddonol, buaswn i ddim yn gwybod ble i gychwyn, achos nid fy maes arbenigedd i yw hynny, a does gen i ddim yr eirfa yn y maes hwnnw i wneud hynny mewn unrhyw iaith. Ac felly, mae'n haws diffinio o ran hyfedredd yn hytrach na rhuglder, fel y mae'r CEFR yn ei wneud.
I would agree. I think one of the benefits of using a recognised framework such as the CEFR is that it does provide us with a structure to work within. The fact that the C1, C2 is described as proficient users of the Welsh language is another step that is an important step forward in moving away from this element of using 'confident' and 'fluent' as descriptors, because defining fluency is more difficult, to an extent, than defining a confident user of the Welsh language. And what does 'fluency' mean? Because I can sit here and speak in Welsh about the Bill, about anything related to education, children, language planning, and so on, but if you were to ask me to give a presentation on a scientific subject, I wouldn't know where to start, because it's not my area of expertise, and I don't have the vocabulary in that area to do that in any language. So, it's easier to define proficiency rather than fluency, as the CEFR actually does.
Yn bersonol, does gen i ddim barn benodol ar y CEFR fel fframwaith, felly. Mae rhywun yn tybio bod yna waith ymchwil manwl wedi cael ei wneud i ffurfio'r farn mai dyma fyddai'r fframwaith mwyaf addas. Yn amlwg, mae mabwysiadu model cyffredin safonol sydd wedi’i dderbyn a'i dreialu'n rhyngwladol, yr holl bethau hynny, yn amlwg mae yna sail i wneud y penderfyniad yna. Dwi'n meddwl mai beth fyddwn i’n ei ddweud ydy, yn amlwg mae'r pwysigrwydd yn syrthio ar ba bynnag fframwaith sydd yna, ei fod o'n golygu rhywbeth, ac yn addas i bwrpas, ac yn cael ei ddefnyddio i bwrpas, ac felly fel y byddwn i’n ei weld, pwrpas fframwaith ydy galluogi rhywun i osod amcanion wrth ddatblygu sgiliau iaith eraill, felly, ac wrth addysgu, yn fwy na sut mae person yn diffinio ei hun. Wrth edrych ar berson yn diffinio ei hun, dwi'n meddwl mai'n nod ni ydy bod yna ddim angen i rywun osod lefel ar ei hun, a ble maen nhw'n syrthio—ydyn nhw'n gallu ac yn siarad Cymraeg ac yn defnyddio'r iaith? A beth fyddwn i ddim yn awyddus i'w weld yw bod unrhyw fath o fframwaith yn cael ei ystyried fel rhyw fath o gap ar gyrraedd rhyw lefel, ac mae'r nod ydy cyrraedd rhyw lefel. Y nod ydy sicrhau siaradwyr a defnyddwyr y Gymraeg. Dyna ddylai’r uchelgais fod, ond, yn amlwg, y tu ôl i hynny, o safbwynt addysgol o safbwynt gosod gofynion mewn swyddi, neu beth bynnag, mae yna fantais a lle i osod safonau sy’n cael eu cydnabod a’u deall, a dwi’n meddwl mai’r peth pwysig yn hyn ydy pa bynnag ddefnydd dŷn ni'n gwneud ohonyn nhw, mae’n rhaid gwneud yn siŵr bod pobl yn eu deall nhw, eu bod nhw’n cael eu datblygu i bwrpas fel eu bod nhw’n cael eu deall a’u cydnabod yn hynny o beth.
Personally, I have no specific view on the CEFR as a framework. One would assume that detailed research has been done to come to the view that this would be the most appropriate framework. Clearly, adopting a common standardised model that has been accepted and trialled internationally, and so on, clearly there is a basis for making that decision. I think what I would say is that, clearly it's important that whichever framework is used means something, is fit for purpose, and is used to achieve an end, so the way I would see it, the purpose of a framework is to enable someone to set objectives in developing language skills and in educating, rather than how individuals define themselves. In looking at individuals defining themselves, I think that our aim is that there would be no need for someone to decide on their level and where they are; it's whether they can speak Welsh and use the Welsh language. What I wouldn't want to see is that any framework would be considered as any sort of cap on a level of attainment, and that the target is to reach a certain level. The aim is to secure Welsh speakers and users of the Welsh language. That's what the ambition should be. But, from an educational perspective and in terms of placing requirements for certain posts, then clearly there is a benefit and a scope for placing standards that are widely recognised and understood. So, the importance is that whatever use we make of these, we must ensure that people understand them, that they are fit for purpose so that they are understood and recognised in that regard.
Jest ar y pwynt olaf yna—cwestiwn i CYDAG, ond rwy’n hapus i glywed eich barn chi ar hyn hefyd—faint o her fydd hyn i’n hysgolion ni ac i athrawon, yn benodol, fydd yn gorfod asesu plant yn ôl fframwaith cwbl newydd iddyn nhw?
On that final point then—a question for CYDAG, but I'd be happy to hear from you too—how much of a challenge will this be for our schools and for teachers, particularly, who will have to assess children according to an entirely new framework?
Dwi'n meddwl bod hwnna’n gwestiwn sydd yn gorfod cael ei ofyn yng nghyd-destun pethau eraill megis y cymwysterau o ran TGAU, Safon Uwch ac ati, ac mae’n rhaid edrych ar sut mae’r pethau yma’n mapio'n erbyn ei gilydd. Fel unrhyw beth newydd sy’n cael ei gyflwyno yn y sector ysgolion, yna mae yna waith manwl o drafod ac ymgynghori efo ysgolion sut yn union maen nhw’n mynd i fynd ati i allu gwneud hynny ac nid cymryd yn ganiataol fod cyflwyno rhywbeth newydd sydd â sail rhesymegol iddo o reidrwydd yn dilyn ac yn gweithio o fewn cyd-destun ysgol. Felly, ar y math yna o beth, byddwn i’n dweud dyna’r lle y dylai fod yna ymgynghori gwirioneddol efo’r proffesiwn a’r sector.
Fel dwi wedi dweud, mae’n rhaid i ni edrych ar beth ydy’r cymwysterau yn y pen draw mae rhywun yn eu hennill ar bwyntiau gwahanol yn eu gyrfa addysgol, ac, wrth fapio hyd at hynny, yn amlwg mae’n rhaid i CEFR neu unrhyw fframwaith arall gymryd i ystyriaeth beth ydy’r nod a’r uchelgais yn y pen draw. Ac mae’n rhaid i hynny wedyn fod yn rhan o osod cynnydd yn erbyn unrhyw gamau o fewn y cwricwlwm.
I think that's a question that would have to be asked in the context of other things such as qualifications in terms of GCSE and A-level, and we have to look at how these things map against each other. As with any new initiative introduced in schools, there is detailed work of discussion and consultation with schools as to how they are going to implement that and not just assuming that introducing something new that has a rational basis will necessarily work within the school context. So, I think that's where there should be real consultation with the profession and with the sector.
As I said, we do have to look at the qualifications that one gains at different points in their educational career, and in mapping up to that point, then, clearly, CEFR or any other framework would have to take into account what the aims and ambitions are, ultimately. And then that has to be be part of setting progress against any steps within the curriculum.
Diolch.
Thank you.
I ategu hynny, beth fuaswn i’n dweud ydy bod gennym ni gynllun trochi iaith o’r enw Croesi’r Bont. Dŷn ni’n ei weithredu ac yn ei fireinio ers blynyddoedd. Felly, dŷn ni’n hyderus bod gennym ni wybodaeth arbenigol yn seiliedig ar brofiad o fod yn cyflwyno iaith i blant sydd yn siarad Saesneg neu iaith arall, neu ieithoedd eraill, yn y cartref, a’n bod ni, felly, yn awyddus ac yn barod i rannu’r arbenigedd hwnnw gyda’r gweithlu addysg ehangach, a’n bod ni i gyd ar gontinwwm iaith mewn gwirionedd, ac, felly, bod yna newidiadau’n digwydd o’n cwmpas ni ynglŷn â’r ffyrdd gorau neu’r ffyrdd mwyaf delfrydol o gyflwyno iaith i blant, yn seiliedig ar ymchwil lleol a rhyngwladol. Fel mae Gwennan wedi dweud, yr hyn sydd yn bwysig ydy bod y gweithlu, boed hwnnw’n weithlu addysg neu'n weithlu gofal blynyddoedd cynnar, yn cael y sgaffaldau a’r gefnogaeth i’w cynorthwyo nhw, drwy hyfforddiant, i wneud hynny mewn ffordd sydd yn teimlo’n addas.
To add to that, what I would say is that we have a language immersion programme called Croesi'r Bont, Crossing the Bridge, which we've been implementing and refining for many years. So, we're confident that we do have specialist information based on experience of introducing a language to children who speak English or other languages in the home, and that we're therefore eager and willing to share that expertise with the education workforce more broadly, and that we are all on a language continuum, if truth be told, and that there are changes happening around us in terms of the best ways or the ideal ways of introducing a language to children, based on local and international research. As Gwennan has already said, what's important is that the workforce, be that the education workforce or the early years care workforce, does has that framework and support in place to help them, through training, to provide that in a way that feels appropriate.
Felly beth rŷch chi’n dweud yw bod angen tipyn o fuddsoddiad mewn hyfforddiant i’r maes gofal plant, a hefyd y gweithlu addysg.
So, what you're saying is that there needs to be investment in training in childcare, but also in the education workforce.
Yn sicr. Hynny ydy, dwi ddim yn gwybod os byddwn ni’n cyffwrdd ar y gweithlu nes ymlaen, felly, ond mae holl lwyddiant y Bill yn llwyr ddibynnol ar fuddsoddi sylweddol yn y gweithlu ar yr agwedd yna a’r agweddau eraill.
Certainly. I don't know if we'll touch on the workforce later, but the whole success of the Bill is entirely reliant on significant investment in the workforce in that aspect and other aspects too.
Ydy. Rwy'n cytuno. Cwestiwn olaf, os caf i, ar y CEFR, ac roedd yn ddiddorol clywed eich bod chi, Angharad, wedi gwneud tipyn o waith ymchwil yn benodol ar hyn. Yn y Bil drafft, mae yna feincnodau o ran lefelau cyrhaeddiad. Rŷn ni’n sôn am B2 ar gyfer pob plentyn sydd yn gadael addysg orfodol, rŷn ni’n sôn am efallai C1, C2 hefyd ar gyfer disgyblion sydd wedi bod mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Yn eich profiad a’ch arbenigedd chi, ydy hynny’n realistig o ran, er enghraifft, 10 y cant o addysg Gymraeg mewn ysgolion Saesneg i gyrraedd o leiaf B2?
I agree. A final question from me, if I may, on the CEFR, and it's interesting to hear that you, Angharad, have done some research specifically on this. In the draft Bill, there are benchmarks in terms of attainment levels. We're talking about B2 for all children leaving compulsory education, and we're talking about perhaps C1 or C2 for those pupils who have been in Welsh-medium education. In your experience and given your expertise, is that realistic in terms of having 10 per cent of Welsh language education in primarily English language schools and reaching at least B2?
O'm mhrofiad i yn rhyngwladol hefyd, buaswn i’n dweud bod angen cynyddu’r ffigwr yna i wir gyrraedd lefel B1, B2, ac felly er mwyn sicrhau yn y tymor hir fod pob un o’n dysgwyr ifanc ni yn y Gymraeg mewn ysgolion yn cyrraedd safon B1, B2, byddai angen buddsoddiad sylweddol yn y gweithlu addysg i gychwyn, er mwyn sicrhau bod digon o athrawon a gweithlu gyda ni sydd yn gallu cefnogi datblygiad sgiliau’r dysgwyr. Achos mae’n un peth dweud ein bod ni’n mynd i sicrhau bod y dysgwyr yn gadael yr ysgol ar y lefel yna, ond y gweithlu sy’n hanfodol yn hynny, ac rwyf i’n credu, er mwyn cynyddu’r cyswllt gyda’r Gymraeg, mae angen mwy o allu’r Gymraeg o fewn y gweithlu—y gweithlu newydd sy’n cael ei hyfforddi, ond hefyd y gweithlu sydd eisoes yn ei le. Mae angen y gefnogaeth yna o'r blynyddoedd cynnar yr holl ffordd drwy'r system addysg. Ac rwy'n credu mai un o'r heriau mwyaf yn hynny yw sicrhau bod y targedau yna'n cael eu rhoi yn eu lle er mwyn sicrhau bod pob un o'n dysgwyr ni ar draws Cymru, dim ots beth yw categori'r ysgol maen nhw ynddo yn y diwedd, yn gallu cyrraedd y safon B1 a B2 yna yn y tymor canolig ac erbyn 2050 ar yr hwyraf.
Ac rwy'n credu mai'r her fwyaf sydd gyda ni ydy sut ydyn ni'n gallu cefnogi'r gweithlu a hefyd sut ydyn ni'n rhannu'r wybodaeth yna gyda'r teuluoedd a'r dysgwyr eu hunain amboutu'r cynnydd yn faint o gyswllt gyda'r Gymraeg fydd yn rhan o'u haddysg nhw, a thawelu meddyliau a phryderon fydd, o bosib, yn codi wrth i'r cynnydd yna ddechrau dod i mewn i system ysgolion prif iaith Saesneg, i sicrhau bod y disgyblion yna'n cael mwy o gyswllt cymdeithasol, mwy o gyswllt â defnydd y Gymraeg mewn pynciau a sgiliau sydd, efallai, ddim jest mewn gwers Gymraeg benodol. Achos, mewn realiti, y 10 y cant o amser addysg yna ydy'r gwersi Cymraeg ffurfiol, ac os ydy'r Gymraeg ddim ond yn aros mewn gwersi Cymraeg ffurfiol, yna mae'n mynd i fod yn anodd iawn i sicrhau bod y dysgwyr yna'n gallu cyrraedd lefelau B1 a B2.
From my experience internationally too, I think we would need to increase that figure to truly achieve B1 or B2. In order to ensure, in the longer term, that all of our young learners in schools in Wales reach the B1, B2 standard, there would need to be significant investment in the education workforce first of all, in order to ensure that there was sufficient number of teachers and staff to support the development of pupils' skills. Because it's one thing to say that pupils will leave school at that level, but it's the workforce that's important in delivering that, and I think, in order to increase engagement with the Welsh language, we need greater ability within the workforce—the new workforce being trained, but also the workforce already in place. They need that support from the early years all the way through one's education journey. And I think one of the greatest challenges in that regard is to ensure that those targets are put in place in order to ensure that all of our learners across Wales, whatever the school category, ultimately do reach that B1 and B2 standard in the medium term and certainly by 2050 at the latest.
And I think the greatest challenge for us is how we can support the workforce and also how we share that information with families and the learners themselves in terms of the increased contact with the Welsh language that will be part of their education, and to calm some concerns that might arise as that increase starts to come through the system where English is the primary language, in order to ensure that those pupils do have more social contact, more usage of the Welsh language in subjects that aren't necessarily Welsh as a subject. Because, in reality, that 10 per cent is just the formal Welsh lessons that currently take place, and if it stays only in those formal Welsh lessons, then it's going to be very difficult to ensure that those learners can reach those B1 and B2 levels.
Diolch. Fe ddown ni nôl at y gweithlu, rwy'n siŵr, yn y man. Diolch yn fawr.
Thank you. I think we'll return to the workforce in due course. Thank you.
Thank you. We'll now move on to questions from Tom Giffard. Tom, just to flag with you that Cefin would like to come in on some of your questions, if possible—time permitting, please.
I expected as much from Cefin. Can I ask what your views are on the language categories that will be applied to schools under the Bill? Do you believe that it's a step forward from the current arrangements set out in the non-statutory guidance?
Dwi'n credu eu bod nhw'n gam ymlaen. Mae yna ddiffiniadau clir o'r tri chategori iaith yn y rheini. Un her yn hynny yw nad oes diffiniad ar wyneb y Bil o ran beth fydd y ganran ddisgwyliedig o ran beth yw categori prif iaith Cymraeg. Dwi'n credu, ar hyn o bryd, fod angen edrych ar o leiaf yr isafsymiau sydd yn y canllawiau anstatudol presennol. Ond, dwi'n credu hefyd fod angen sicrhau nad yw defnydd y categorïau newydd yn tanseilio'r hyn sydd eisoes yn ei le o ran addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ysgolion, a'r disgwyliad hynny yw bod 90 y cant mewn ysgol benodedig Cymraeg yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, a bod yna o leiaf 70 y cant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg sydd ddim yn ysgolion penodedig Cymraeg.
Dwi'n credu bod yna her anferth efo'r categori canol, sef yr un dwy iaith, yn y categorïau newydd, o ran sicrhau sut mae 'dwy iaith neu 'ysgol ddwyieithog' yn cael eu diffinio. Achos, yn y canllawiau anstatudol cyfredol—o'u darllen nhw eto'n ddiweddar—y pryder sydd gen i yn hynny o beth yw ei bod yn bosib llwytho'r amser cyswllt efo'r Gymraeg, yn enwedig yn y cynradd, i flynyddoedd cyntaf yr ysgol, yn ôl y diffiniad sy'n cael ei gynnwys yn y canllawiau anstatudol. Dwi'n credu bod angen sicrhau bod prif iaith a dwy iaith yn golygu bod yna ganran benodol, isafswm, ar hyd trywydd plentyn mewn addysg, nid jest o fewn blynyddoedd penodol. Mae'r holl waith ymchwil rhyngwladol yn dangos mai cyswllt dros gyfnod hir, cyson, sy'n datblygu hyder person i allu defnyddio'r iaith bob dydd, nid jest cyswllt dwys am dymor byr.
I think that they are a step forward. There are clear definitions of the three language categories. One challenge in that regard is that there is no definition on the face of the Bill in terms of the expected percentage in terms of what the primarily Welsh category would be. I think, at the moment, we need to look at at least the minimums in the current non-statutory guidance. But, I also think that we need to ensure that the use of these new categories doesn't undermine what is already in place in terms of Welsh-medium education in schools, and the expectation is that 90 per cent in a designated Welsh-medium school should be taught through the medium of Welsh, and that at least 70 per cent in schools that aren't designated Welsh-medium schools.
I think there is a huge challenge with that middle category, which is dual language, in those new categories, in terms of ensuring how 'dual language' or a 'bilingual school' is defined. Because, in the non-statutory guidance currently used—having reviewed them again recently—the concern that I would have is that there is a possibility to load that contact time with the Welsh language, particularly in the primary sector, in the early years of one's educational journey, and that's according to the definition in the current non-statutory guidance. We need to ensure that primarily Welsh and dual language mean that there should be a minimum percentage across a pupil's journey through education, not just in specific school years. All international research shows that it is regular contact over a long period of time that develops one's confidence to use the language on a daily basis, not just intensive contact in the short term.
Hefyd, o ran y cwestiwn categorïau, mae yna gyfle yn codi yn sgil y Bil yma i edrych ar gategorïau iaith o fewn y sector anstatudol, neu'r sector nas cynhelir. Felly, mi fyddwn i'n awyddus iawn i weld y Llywodraeth yn cyfarwyddo Arolygiaeth Gofal Cymru, ar y cyd â Gofal Cymdeithasol Cymru a'r cyrff rheoleiddiol eraill, i feddwl am gael set safonol o gategorïau iaith ar gyfer pob lleoliad nas cynhelir hefyd ar draws y sbectrwm iaith, fel bod yna elfen o ddilyniant a chontinwwm yn cychwyn o'r crud, i bob pwrpas, ac fel nad ydyn ni'n diweddu efo set o gategorïau gwahanol ar gyfer y sector nas cynhelir, gan gydnabod, wrth gwrs, mai’r her yn hynny o beth ydy ein bod ni yn anstatudol. Ond, dwi’n meddwl bod yna awydd ar draws y sbectrwm, ymhlith partneriaid Cwlwm, er enghraifft, i fabwysiadu categorïau iaith o fewn y sector gofal plant, blynyddoedd cynnar a chwarae hefyd.
Also, in terms of this issue of categories, an opportunity arises as a result of this Bill to look at language categories within the non-statutory or non-maintained sector. Therefore, I would be very eager to see the Government directing Care Inspectorate Wales, along with Social Care Wales and the other regulatory bodies, to think about having a standard set of language categories for all non-maintained settings too across the language spectrum, so that there is an element of progression and continuum starting from the cradle, to all intents and purposes, and so that we don't end up with a different set of categories for the non-maintained sector, whilst acknowledging, of course, that the challenge in that regard is that we are non-statutory. But, I do think that there is a desire across the spectrum, and among Cwlwm partners, for example, to adopt language categories within the childcare, early years and play sector too.
O ran y categorïau, dwi’n meddwl y byddwn i’n dweud eu bod nhw’n gam ymlaen yn yr ystyr bod y derminoleg wedi’i symleiddio a bod y labelu’n fwy dealladwy, efallai, ar yr wyneb. Tu ôl i hynny, dwi ddim yn meddwl eu bod nhw—neu efallai mai gorsymleiddio y maen nhw, a ddim yn ddigon tryloyw o ran yr union beth fydd yn cael ei ddarparu.
Byddwn i’n dweud, o ran y tri chategori presennol, fod yna gategori ar goll. Dwi’n meddwl y byddai galw—. Os ydyn ni’n mynd i osod ysgolion cyfrwng Cymraeg yn y cyd-destun yma mewn categori prif iaith Cymraeg, byddai gennyf i gonsýrn gwirioneddol am hynny o ran lle mae o’n gadael ysgolion cyfrwng Cymraeg. Ydy o’n caniatáu llithro am yn ôl? Byddai rhywun yn gobeithio na fyddai, ond mae o’n agor y drysau.
Ond hefyd, dydy o ddim yn gwneud cyfiawnder â’r hyn ydy ysgolion penodedig cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd, sydd yn gallu darparu bron 100 y cant trwy gyfrwng y Gymraeg, ac eithrio addysgu Saesneg fel pwnc. Felly, dwi’n meddwl bod unrhyw lithro o fanna, drwy ddweud 'prif iaith' heb fod yna ganrannau wedi’u gosod mewn lle, yn gallu golygu unrhyw beth, dim ond ei fod yn y mwyafrif. Byddai gennyf i gonsýrn am hwnna a byddwn i’n awgrymu bod yna le i un categori ychwanegol.
Dwi hefyd yn meddwl ei bod yn gwbl allweddol bod yna isafswm cwbl glir o ran canran yr addysg sy’n cael ei darparu drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer pob un categori. Rwy’n croesawu’r ffaith, yn y categori prif iaith Saesneg, fod y 10 y cant yna’n ymwneud â’r addysg o fewn y dosbarth ac nid yr elfennau eraill yng nghyd-destun ysgol sy’n gallu cael eu darparu trwy gyfrwng y Gymraeg. Ond byddwn i’n dweud bod angen hwnna ar gyfer pob categori. Yn amlwg, y gobaith ydy, o fewn pob un cynllun lefel ysgol wedyn, fod yna nod ac uchelgais i symud yn uwch o fewn y canrannau hynny.
Felly, fel roeddwn i'n dweud, byddwn i’n croesawu categorïau sydd yn syml ac yn ddealladwy, ac yn gwneud yr hyn maen nhw’n disgrifio y maen nhw’n ei wneud, yn enwedig o safbwynt hyrwyddo’r ddarpariaeth yna. Ond mae’n rhaid i ni fod yn gwbl dryloyw ar beth yn union rydyn ni’n ei olygu a bod yn ddigon uchelgeisiol o ran beth ydy’n disgwyliadau ni o fewn y categorïau unigol hynny.
In terms of the categories, I think I would say that they are a step forward in the sense that the terminology has been simplified and that the labels are more easily understood, on the face of it. Behind that, I don't think that they are, or perhaps they're oversimplified and aren’t transparent enough in terms of exactly what will be provided.
In terms of the current three categories, I would say that there's one missing. I think, if we are going to place Welsh-medium schools in this context in the primarily Welsh language category, I would have a very real concern about that in terms of where it leaves Welsh-medium schools. Does it allow some slippage backwards? One would hope not, but it certainly opens the door to that.
But also, it doesn't do justice to what designated Welsh-medium schools are at the moment, which can provide almost 100 per cent of the education through the medium of Welsh, apart from teaching English as a subject. So, I think any slippage in that regard, by using the term 'primarily Welsh language' without any percentages put in place, could mean anything, as long as it is the primary language. I would have concerns about that and I would suggest that there is room for an additional category there.
I also think it's crucial that there should be a clear minimum in terms of the percentage of education provided through the medium of Welsh for every one of those categories. I welcome the fact that, in the primarily English language category, the 10 per cent relates to classroom education and not other elements of school life that can be provided through the medium of Welsh. But I would say that that is needed for all categories. Clearly, the hope is that, within all school level plans, there would be aims and ambitions to move higher in terms of those percentages.
So, as I said, I would welcome simple and understandable categories that do exactly what they say on the tin, particularly in terms of promoting that provision. But we do have to be entirely transparent in terms of what exactly we mean and be sufficiently ambitious in terms of our expectations within those particular categories.
Tom, Cefin would like to come in here, if that's okay.
Diolch. Jest i’r pwyllgor fod yn glir, a chrynhoi’r hyn rydych chi wedi’i ddweud am y categori prif iaith Cymraeg, does yna ddim isafswm yn cael ei nodi ar gyfer y categori arbennig yna, a’r pwynt roeddech chi’n gwneud, Gwennan, reit ar y diwedd fanna oedd bod yna berygl—er, efallai, yn annhebyg, ond mae yna berygl—y gallai yna lithro yn ôl ddigwydd. Beth yn benodol fyddech chi eisiau i’r pwyllgor wneud er mwyn cryfhau’r elfen arbennig yna o’r categoreiddio yn y Bil fel y mae e?
Thank you. Just so the committee can be clear on this point, and to summarise what you've said about the primarily Welsh category, there is no minimum set out for that category, and the point that you made, Gwennan, at the very end there is that there is a risk—although it’s unlikely, perhaps, but there is a risk—that there could be some slippage in that regard. So, what specifically would you want the committee to do to strengthen that particular element of the categorisation in the Bill as it currently stands?
Byddwn i’n dweud, o ran y categori prif iaith Cymraeg yn benodol, fod yna berygl o ran y llithro yn ôl. Mae hwnna’n un risg. Mae yna berygl hefyd o ran ysgolion yn camgyfleu’r hyn ydyn nhw—eu bod nhw’n ysgolion â’u prif iaith yn Gymraeg. Ar sail canran, efallai eu bod nhw, ar bapur, ond gallai hwnna fod yn bell iawn, iawn o fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg sy’n trochi’n llwyr ac yn darparu addysg yn llwyr trwy gyfrwng y Gymraeg, gan sicrhau bod y disgyblion i gyd yn gadael yn rhugl ac yn hyfedr i drafod pob un pwnc y maen nhw wedi’i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, ond hefyd fod yr ethos Gymraeg a Chymreig yna hefyd o fewn bywyd yr ysgol.
Felly, byddwn i’n dweud bod yna sawl risg yn fanna o ran y cynllunio, ond hefyd o ran sut mae ysgol yn diffinio ac yn gallu gosod ei hun o fewn y categori yna. Felly, yn bersonol, byddwn i’n dweud bod yna le i ofyn y cwestiwn neu i sicrhau bod yna gategori ychwanegol ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg yna. Byddwn i’n dweud mai dyna ddylai fod yr uchelgais lawr y lein, i bob ysgol gyrraedd y pwynt hynny. Yn amlwg, mae hwnna’n mynd i ddigwydd dros gyfnod hir o amser. Ond, heb osod yr uchelgais yna, rydyn ni o reidrwydd yn camu nôl—achos mae gennym ni ysgolion felly rŵan—os nad ydyn ni’n cynnwys y categori yna. Efallai fod hyn, eto, yn anfwriadol yn yr ystyr bod addysg cyfrwng Cymraeg efallai ddim yn cael digon o sylw oherwydd ei bod hi'n bodoli ac wedi datblygu, ond, heb i ni wneud hynny, byddwn i’n dweud bod yna heriau a pheryglon o fathau gwahanol a allai ddod dros amser.
I would say that, in terms of the primarily Welsh category, there is a risk in terms of that slippage that you described. That is one risk. There is also a risk in terms of schools misrepresent what they are by saying that they are primarily Welsh. On a percentage basis, on paper, they may well be, but that could be very, very far from being a Welsh-medium school that is fully immersive and provides education wholly through the medium of Welsh, ensuring that all pupils leave as fluent Welsh speakers, proficient to discuss all the subjects that they’ve learnt through the medium of Welsh, having also had a strong Welsh ethos within school life.
So, I would say that there are a number of risks there in terms of planning, but also in terms of how a school defines itself and can place itself within that category. So, personally, I would say that there is scope to ask the question or at least to ensure that there is an additional category for Welsh-medium schools. I would say that that should be the ambition down the line, for all schools to get to that point. Clearly, that's going to happen over a very long period of time. But, without that ambition, then we will necessarily be taking retrograde steps—because we have those schools now—if we don't include that category. Maybe this is unintended in the sense that Welsh-medium education isn’t given due attention in the Bill because it already exists and has developed, but, if we don’t do that, then I would say that there would be risks and challenges that could emerge over time.
Mae yna gategori ychwanegol yn y canllawiau anstatudol. Felly, beth rydych chi'n ei argymell, efallai, yw bod hwnnw'n cael ei fabwysiadu.
There is an additional category in the non-statutory guidance. So, what you're suggesting is that that should perhaps be adopted in the Bill.
Byddwn i'n dweud yn sicr bod yna bedwerydd gategori yma. Achos nid prif iaith ydy'r Gymraeg mewn ysgol cyfrwng Cymraeg: ysgol cyfrwng Cymraeg ydy hi; Cymraeg ydy iaith yr addysgu hynny. Ac os oes yna addysgu drwy gyfrwng y Saesneg, yna mae o'n ganran fechan iawn, o fewn Saesneg fel pwnc, neu rhai ysgolion sydd yn parhau i gynnig rhai pynciau drwy gyfrwng y Saesneg, neu elfennau o'r asesu drwy gyfrwng y Saesneg, am resymau gwahanol, ond ysgolion cyfrwng Cymraeg ydyn nhw, sydd yn sicrhau'r rhuglder yna, ar draws y pynciau, drwy gyfrwng y Gymraeg, a holl fywyd yr ysgol. Nid dim ond yr addysg o fewn y dosbarth, ond mae holl fywyd yr ysgol ar sail yr ethos cyfrwng Cymraeg yna.
Yes, I think there should certainly be a fourth category. Because Welsh isn't the primary language in a Welsh-medium school: Welsh is the language of teaching in those schools. And if there is teaching through the medium of English, then it's a very small percentage of that teaching, for English as a subject, or some schools continue to provide certain subjects or elements of assessment through the medium of English, for different reasons, but they are Welsh-medium schools in essence, and that secures that fluency across the subjects taught within the school, and all school life. It's not just the education in the classroom; the whole ethos of that school would have that Welsh-medium ethos.
Diolch.
Thank you.
Thank you. Tom.
Thank you very much. Can I stick though—? Because there's been a little bit of discussion about the 10 per cent in the primarily English sector. Can I get your general views on that minimum level of provision and how that would work, and what your views are on those temporary exemptions that those schools can apply for, and how you feel they would work, or whether they would at all, or should?
Dos di'n gyntaf.
You go first.
Mae gen i bryder o bosib am bwy sy'n cael penderfynu bod ysgol yn cael ei hesemptio, ac am ba hyd. Rwy'n credu bod angen ystyried sut dŷn ni'n pontio ysgolion sydd o bosib, ar hyn o bryd, am ba bynnag reswm, yn methu darparu'r 10 y cant fel yr isafswm yna yn nyddiau cyntaf gweithredu'r Bil. Ond dwi hefyd yn meddwl bod angen sicrhau nad yw'n bosib i unrhyw ysgol sydd yn y categori prif iaith Saesneg allu cael esemptiad parhaol, ac, wrth gael esemptiad, fod yn rhaid i hwnna fod am y cyfnod byrraf posib, gyda chynllun gweithredu penodol yn cael ei rhoi yn ei le gan yr ysgol a'r awdurdod lleol, cydweithio gydag ysgolion cyfagos, neu drwy ba bynnag ffyrdd, er mwyn sicrhau dydyn ni ddim yn methu'r plant, yn y tymor hir, sydd yn mynychu'r ysgol yna. Achos, yn ei hanfod, drwy roi esemptiad i'r ysgol o ddarparu'r isafswm 10 y cant Cymraeg, y plant sydd yn mynychu'r ysgol yna ac yn cael eu haddysg yn yr ysgol yna sydd yn colli allan ar y cyfle i ddatblygu a meithrin y sgiliau Cymraeg yn yr un modd â'u cyfoedion sydd yn mynychu ysgolion eraill.
I do have concerns, because who decides that a school should be exempt, and for how long? I think that we need to consider how we transition schools that are, at present, unable to provide that minimum 10 per cent in the early implementation of the legislation. But I also think that we need to ensure that it wouldn't be possible for any school that's in that primarily English category to have a permanent exemption, and that, in having an exemption, that would have to be for the shortest possible time period, with a specific action plan put in place by the school and the local authority, and in collaboration with nearby schools, or in other ways, in order to ensure that we don't fail those children in the longer term who attend that school. Because, essentially, by providing an exemption to the school from providing that minimum 10 per cent Welsh language, it's the children who attend that school and are educated at that school who miss out on the opportunities to develop and nurture their Welsh-language skills as their peers would be doing who attend other schools.
I ategu at hynny, dwi'n meddwl mai'r cwestiwn ydy: ydy 10 y cant o amser dysgwr mewn ysgol yn galluogi'r dysgwr hwnnw i gyrraedd lefel hyfedredd B1 a B2 erbyn maen nhw'n 16? Buaswn i'n dadlau ddim, ei bod hi'n dra annhebygol. Ac felly, dwi'n cytuno'n llwyr gyda'r ddelfryd yna o gyrraedd lefel B1 neu B2, ond dwi'n cwestiynu p'un ai ydy'r isafswm 10 y cant yn ddigonol.
Dwi'n cytuno hefyd efo popeth mae Angharad wedi'i ddweud o safbwynt does yna ddim categorïau o ysgol sydd yn eithrio eu hunain yn barhaol, a bod yna berig neu risg o hynny. A hefyd, jest adlewyrchu ar y ffaith bod—. Dwi'n brif weithredwr Mudiad Meithrin ers dros ddegawd erbyn hyn, a dwi'n gwybod am ambell i ysgol gynradd sydd wedi bod ar gontinwwm yn y cyfnod yna, a dal heb gyrraedd y statws o fod yn darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, er mai dyna fu'r ddelfryd ers degawd a mwy. Felly, mae hynny'n broblemus, yn fy marn i, o ran y ffaith ein bod ni'n caniatáu i ysgolion fod mewn rhyw limbo ieithyddol am gyfnodau sydd mor hir. Felly, dwi'n croesawu'r ffaith yn y Bil bod ysgol yn methu mynd am yn ôl o safbwynt categori, ond hefyd dwi ychydig yn bryderus, ar sail profiad, ein bod ni ddim yn gallu ymdopi'n bresennol efo ysgolion sydd yn honedig ar gontinwwm, ond sydd byth yn cyflawni'r dyhead yna o ddod yn ysgol Gymraeg.
Just to add to that, I think the question here is whether 10 per cent of learner time in school enables that learner to reach a level of proficiency at B1 and B2 by the time that they are 16. I would argue that it wouldn't; I would say that it's quite unlikely that that would be case. So, I agree entirely with that ambition of reaching levels B1 or B2, but I do question whether that minimum of 10 per cent is sufficient to do that.
I also agree with everything that Angharad said in that there shouldn't be categories of schools that exempt themselves permanently from this, and that there is a risk of that happening. And also, just to reflect on the fact that—. I am chief executive of Mudiad Meithrin, and have been for over a decade now, and I know about some schools, some primary schools, that have been on a continuum during that period and still haven't reached that status of providing education through the medium of Welsh, although that has been the ambition for a decade or more. So, that's problematic, in my view, in terms of the fact that we are allowing schools to be in a linguistic limbo for such long periods of time. So, I welcome the fact that a school can't move backwards in terms of category according to the Bill, but I am also slightly concerned, on the basis of experience, that we can't currently cope with schools that claim to be on a continuum, but never deliver that aspiration of becoming a Welsh-medium school.
I ddechrau, byddwn i'n dweud bod 10 y cant yn ganran isel iawn o fewn profiad un disgybl o fewn ysgol, a byddwn i'n dweud dyw hwnna ddim yn ddigon uchelgeisiol, o ystyried ein nod ni yn y pen draw. Felly, dyna'r pwynt cyntaf y byddwn i'n ei wneud o ran hynny.
O safbwynt yr eithriadau yma, dwi'n meddwl beth fyddwn i'n ei ddweud ydy mai eithriadau dylai'r eithriadau fod, ac nid opsiwn, a dyna le mae rhywun yn bryderus: trwy alluogi ysgolion i gael eu heithrio am set o resymau, ydyn ni'n ei osod fel opsiwn iddyn nhw i'w cynnig eu hunain i gael eu heithrio? A dwi'n meddwl bod hynny'n golygu bod yn rhaid i rywun sicrhau bod ysgolion yn cael eu dal i gyfrif.
Yn amlwg, mae'n rhaid i'r Llywodraeth wneud yn siŵr bod awdurdodau lleol yn cael eu dal i gyfrif yn hynny o beth, ond byddwn i'n pwysleisio ein barn ni fyddai nid norm dylai'r eithriadau fod—nid opsiwn sydd ar gael i ysgolion ond proses sy'n gallu cael ei rhoi mewn lle er mwyn cydnabod y sefyllfa bresennol, am beth bynnag set o amgylchiadau, ond gyda chynllun cadarn mewn lle wedyn er mwyn sicrhau bod yna amserlen benodol i ddod â nhw allan o'r cyfnod eithrio yna, ac, yn sicr, ddim i fynd mewn i ail gyfnod o eithrio, heb sôn am du hwnt i hynny.
Ond dwi yn meddwl bod yn rhaid inni fod yn ofalus iawn yn fan hyn dydyn ni ddim yn cyhoeddi Deddf gan ddweud, 'Mae'n iawn, mi allech chi gael eich eithrio am dair blynedd, ac am dair blynedd bellach', achos, o ystyried nifer yr ysgolion sydd gennym ni, a'r gallu ymarferol i fod yn creu cynlluniau ar gyfer yr holl ysgolion ac ati, dwi'n meddwl bod yna risg y bydd yr eithriadau yna yn troi'n fwy cyffredin na fyddai unrhyw un yn dymuno, o ystyried yr uchelgais.
To start, I would say that 10 per cent is a very low percentage in terms of a pupil’s experience within school, and I would say that that isn't ambitious enough, given our ultimate target and goal. So, that's the first point I would make in that regard.
In terms of these exemptions, I think the exemptions should be exemptions rather than options, and that's where one is concerned: in allowing schools to seek exemptions for a particular set of reasons, are we actually providing it as an option to them to be exempted? And that means that one would have to ensure that schools are held to account.
Clearly, the Government must ensure that local authorities are held to account in that regard too, but I would emphasise that our view would be that the exemptions shouldn't be the norm—it shouldn't be an option available to schools, but a process that can be put in place to recognise the existing position of the school, for whatever set of reasons, but with a robust plan in place then to ensure that there is a specific timetable to take them out of that exemption period, and certainly not to go into a second exemption, never mind going beyond that.
But I do think that we must be very guarded here that we don't publish legislation saying, ‘Well, it's fine, you could be exempt for three years, and a further three years after that’, because, given the number of schools that we have, and the practical ability to create plans for all of those schools, I think there is a very real risk that those exemptions will become more common than anyone would want, given the ambition.
I think Lee wanted to come in quickly here, if that's okay.
Yes, please. I just wanted to test some of the unintended consequences of this, because I understand the desire to not have exemptions. There is a danger we've made the perfect the enemy of the good here, and there's also a danger we're creating local social dislocation if we are being perceived to be forcing a school into a language choice that they don't want and their community may not want. That's something we may not want to confront, but I think that's something we need to be very wary of.
And in terms of your sense that no school should be allowed to be excluded, well, of course, the private sector will be excluded. This will not apply to private schools, and we already have, albeit small, an ecosystem of private schools in Wales. You hear anecdotally a number of parents choose to send their children to private schools because they don't want them educated through the Welsh language. So, there is going to be that little oasis, if you like, for people who don't want their children taught through Welsh, and isn't there a danger, in pushing the points that you just have, that we unwittingly drive people into the arms of the private sector?
Rhaid cyfaddef dwi erioed wedi meddwl am hynny, oherwydd mae data blynyddol y mudiad rydyn ni'n ei gasglu o bob lleoliad cylch meithrin, ac yna ei ddehongli a'i rannu efo awdurdodau lleol a'r Llywodraeth, yn dangos mai ychydig iawn o blant sydd yn gadael y sector nas cynhelir cylchoedd meithrin i fynd i addysg breifat, hyd yn oed mewn ardaloedd o Gymru ble does dim dewis. Hynny yw, cymera Gwynedd neu Fôn—mae'r canran o blant sydd yn mynd o'r cylch meithrin i dderbyn eu haddysg statudol mewn ysgol breifat yn ganran hynod, hynod o isel. Felly, dwi erioed wedi ystyried y cwestiwn o'r safbwynt yna.
Dwi ddim yn siŵr chwaith a ddylem ni fod yn cynllunio system, ein cyfundrefn addysg a gofal, ar sail beth allasai rhieni benderfynu ei wneud, oherwydd, i fi, mae pob plentyn yn haeddu'r rhodd o ddod yn siaradwr Cymraeg, ac mae pob teulu yn gallu myfyrio ar y ffaith eu bod nhw wedi colli'r Gymraeg, yn cynnwys fy nheulu i. Felly, dwi'n meddwl ei fod yn bosib bod yr hyn yr ydych chi'n ei ddisgrifio yn ganlyniad anfwriadol, ond, yn hytrach, dwi'n meddwl y dylem ni fod yn cynllunio ar y sail bod plant Cymru yn haeddu dod yn siaradwyr Cymraeg, ac yn siaradwyr nifer o ieithoedd, mewn gwirionedd. Felly, gwnaf feddwl ymhellach am yr hyn dŷch chi wedi'i ofyn fel cwestiwn a dod yn ôl atoch chi yn ddiweddarach, ar ôl cael cyfle i feddwl mewn mwy o fanylder am y peth.
I have to admit I've never given that any thought, because the annual data of the Mudiad that we gather from all cylch meithrin settings, and then interpret and share with local authorities and the Government, does demonstrate that very few children leave the cylchoedd meithrin non-maintained sector to go to private education, even in areas of Wales where there is no choice. If you take Gwynedd as an example, or Anglesey, the percentage of children who go from the cylch meithrin to receiving their statutory education in a private school is a very, very low percentage. So, I've never considered that issue.
I'm not sure either whether we should be planning our education and care systems on the basis of what parents may decide to do, because, for me, every child deserves the gift of becoming a Welsh speaker, and every family can cogitate on the fact that they have lost the language, including members of my own family. So, I think it is possible that what you describe is an unintended consequence of the legislation, but I think that we should be planning on the basis that the children of Wales deserve to become Welsh speakers, and speakers of multiple languages, if truth be told. So, I will give your question further thought and come back to you later, if I may, having had an opportunity to give it greater thought.
Dwi'n meddwl bod yna gyfrifoldeb mawr yn fan hyn yn y ffordd rydyn ni'n siarad am addysg Gymraeg a chynyddu addysg Gymraeg, a'n bod ni ddim yn creu bwgan allan o rywbeth sydd ddim yn fwgan. Sicrhau cyfle i bob un plentyn yng Nghymru i ddatblygu sgil ychwanegol ydym ni fan hyn, rhywbeth maen nhw'n gallu ei fabwysiadu heb fod wedi trio, a bwrw bod yr amgylchiadau o'u cwmpas nhw yn caniatáu hynny. Cynnig rhywbeth ychwanegol ydym ni. Mae'r holl gysyniad o orfodi rhywbeth ar ysgol ac ar gymuned yn dir peryglus. Rydym ni'n gwybod hynny ar sail profiad mewn blynyddoedd blaenorol, a dwi'n meddwl bod yna gyfrifoldeb ar bawb ar draws y Llywodraeth a thu hwnt i hynny i fod yn ofalus iawn efo'r ffordd rydym ni'n siarad am addysg Gymraeg a chynyddu addysg Gymraeg ar lefel leol ac ar lefel genedlaethol. A beth rydym ni yn ei wneud fan hyn, wrth gwrs, ydy annog a sicrhau cefnogaeth. Dyna le ddylai ein pwyslais ni fod: nid mynnu er mwyn mynnu rhywbeth, ond cyflwyno rhywbeth a ddylai fod yn hawl ac yn gyfle i bob un plentyn, i bob un person, o fewn ein gwlad ni.
Ond, yn gyfochr â hynny, drwy gyflwyno Deddf a chynlluniau cadarn, gobeithio, y tu ôl iddi, beth rydym ni'n wneud, gobeithio, ydy sicrhau amgylchiadau ffafriol i hynny ffynnu mewn cyd-destun cefnogol, anogol. Dyna le fyddai rhywun yn croesawu bod yr eithriadau yna yn ffordd o drosglwyddo'r neges bositif yna o fod yn deall bod amgylchiadau weithiau yn golygu nad ydy'r uchelgais yn gyrraeddadwy a bod yna waith i'w wneud ym mha bynnag gyd-destun o fewn yr ysgol ac mewn trafodaethau efo'r llywodraethwyr a'r awdurdod ac yn y blaen. Ond ysbryd o gydweithio ydy hwnna; mae'r nod yn aros yr un peth.
Felly, dwi'n meddwl, fel dwi'n ei ddweud, mae angen inni—. Wrth i ni fabwysiadu Deddf o'r math yma, beth sy'n allweddol ydy bod pawb yn ei pherchnogi ac yn siarad yn gyfrifol am addysg Gymraeg fel rhywbeth gwerthfawr sy'n rhoi cyfle, yn hytrach na'i fod o'n rhywbeth sydd yn fyrdwn neu'n cael ei orfodi.
I think that there's a major responsibility here in terms of how we discuss and talk about Welsh language education, and that we don't create a bugbear of something that isn't one. Securing an opportunity for every child in Wales to develop a new skill—that's what we're doing here, something that they can adopt without having tried, if the circumstances around them allow them to do that. We're offering something additional. This whole idea of forcing something on a school or a community is dangerous ground. We know that from previous experience, and I think there's a responsibility on everyone across Government and beyond to be very careful in the way that we discuss Welsh language education and increasing the provision of Welsh language education at a local and national level. And what we're doing here, of course, is encouraging and securing support. That's where the emphasis should be: it's not enforcement for enforcement's sake, but introducing something that should be a right and an opportunity for every child and individual in our country.
But, alongside that, by introducing legislation and robust plans, hopefully, to underpin that, what we're doing will, hopefully, secure favourable conditions for that to prosper in a supportive, encouraging environment. I think that's where one would welcome seeing that those exemptions should be a way of expressing that positive message of understanding that circumstances sometimes mean that the ambition is not deliverable and that there is work to be done within that school, in discussion with the governors and the local authority and so on. But that's a spirit of collaboration; the objective remains the same.
So, I do think that, as I say, we need to—. In adopting legislation of this kind, what is key is that everyone takes ownership of it and speaks responsibly of Welsh language education as something that's valuable and that provides opportunities, rather than being a burden or something that's forced upon people.
Yes, I think that's a very interesting response, because that loaded, value-laden language lands very badly with some communities. You may not want them to respond in that way, but all the evidence of human behaviour is that a minority do, and it only takes a minority to create social dislocation. So, I do think we need to think a bit carefully about how we frame this and how we do bring communities with us, and I just do worry a little bit about some of the comments you were making earlier about closing down this option of exemptions could be seized upon by some, who may not share our values, but they could have an adverse effect on the broader movement of change we're trying to see.
So, just in terms of the work that you're doing, particularly the work—. I've visited a cylch in my constituency. It's a very positive example of working with communities who've lost their language, but they choose to opt into that, and there are those who don't want to make that choice. So, what experience—? I'm sure there is experience in your broader movement of dealing with that, and I wonder how that can be brought into the ambit of the Bill.
Mae o'n gwestiwn diddorol, oherwydd mae'r cysyniad o ddewis iaith yn un sydd mor loaded ac yn rhywbeth sydd angen ei ddadbacio. A dwi'n meddwl mai dim ond megis dechrau deall ydym ni ymddygiad seicolegol a dylanwadu, o bosib, mewn ffordd adeiladol. Dwi'n derbyn mai mawredd ein symudiad, ein mudiad ni, ydy ein bod ni'n gweithio efo rhieni, gan gofio, fel roeddwn i'n ei ddweud yn gynharach, fod y mwyafrif llethol—80 y cant—yn rieni sydd ddim yn siaradwyr Cymraeg. Felly, maen nhw yn gwneud y dewis ac yn optio i mewn, a dwi'n meddwl bod hi'n bwysig i ni weithio efo'r rhieni yna, fel rydym ni'n ei wneud efo rhaglenni fel Cymraeg i Blant, fel rydym ni'n ei wneud efo'r cylchoedd Ti a Fi, ac fel mae'r cylchoedd meithrin yn ei wneud.
Dwi'n meddwl, yn aml, nad ydy rhieni o reidrwydd yn optio allan o'r system cyfrwng Cymraeg, ond does dim cylch meithrin ar gael iddyn nhw'n hwylus, does dim ysgol Gymraeg ar gael iddyn nhw'n hwylus, does dim trafnidiaeth i fynd i'r ysgol Gymraeg mewn ffordd hwylus. Felly, dwi'n meddwl bod hwylustod yn trympio hawl, oherwydd mai lleiafrif o rieni sydd yn mynd i arddel eu hawl i addysg Gymraeg, ond mae yna lawer iawn o rieni yn mynd i fanteisio ar y ddarpariaeth os ydy hi ar gael yn hwylus.
Felly, dwi'n llawn sylweddoli pwysigrwydd cynhwysiant, cynhwysoldeb gweithio efo rhieni, gan gofio mai dyna ydy gwreiddiau ein symudiad ni: gan rieni oedd yn methu siarad Cymraeg oedd y momentwm yn dod i sefydlu darpariaeth cylch meithrin a darpariaeth feithrin drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gwaith ymchwil gan Arad yn dangos bod bron i 20 y cant o rieni yn methu â chael eu dewis nhw o ofal drwy gyfrwng y Gymraeg. A hefyd, mae gweithio mewn partneriaeth efo'r hyn rydyn ni'n ei alw'n sector Saesneg, drwy Cwlwm, er enghraifft, yn bwysig, oherwydd mae pob plentyn, os ydyn nhw'n mynd i gylch meithrin, neu i nursery, neu i playgroup, yn haeddu cael yr amser i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus. A dyna pam dwi'n gweld bod yna rinweddau i'r Bil yma. Oherwydd dydyn ni fel sefydliad a mudiad ddim yn perchnogi'r Gymraeg—mae'r Gymraeg yn perthyn i bob plentyn ac i bob unigolyn yng Nghymru. Ac felly, mae'n rhaid i ni wneud mwy i gefnogi'r sawl sy'n dymuno i'w plant nhw ddod yn siaradwyr Cymraeg. A dyna dwi'n ei weld fel yr elfen drawsnewidiol bosibl sydd o fewn y Bil.
It's an interesting question, because the concept of language choice is so loaded and something that needs to be unpacked. And I think we're only beginning to understand the psychological behaviours and influencing in a positive way. I do accept that the glory of our movement is that we work with parents, bearing in mind, as I said earlier, that the vast majority—80 per cent—are parents who don't speak Welsh. So, they are making that choice and they are opting in, and I think it's important for us to work with those parents, as we do with programmes such as Cymraeg i Blant, and the cylchoedd Ti a Fi, and how the cylchoedd meithrin also work.
I think often that parents don't always opt out of the Welsh-medium sector, but there's no cylch meithrin available to them conveniently, there's no Welsh-medium school available, there's no transport to take their children to Welsh-medium education conveniently. So, I think convenience trumps rights in that regard, because it's a minority of parents who will exercise their right to Welsh-medium education, but very many parents will take advantage of that provision if it's available conveniently.
So, I fully understand the importance of inclusion and working with parents, bearing in mind that that's at the heart of our movement: it was parents who couldn't speak Welsh that provided that momentum to establish cylch meithrin provision and nursery provision through the medium of Welsh. Research by Arad does demonstrate that almost 20 per cent of parents can't access their choice of Welsh-medium care. And also, working in partnership with what we call the English sector, with Cwlwm, for example, is important, because every child, if they go to a cylch meithrin, or a nursery, or a playgroup, deserves to have that time to become a confident Welsh speaker. And that is why I see that there are merits to this Bill. Because we as an organisation don't own the Welsh language—it belongs to all children and all individuals in Wales. And therefore, we have to do more to support those people who want their children to become Welsh speakers. And that's what I see as the possible transformational element that is within this Bill.
Thank you. I'm really conscious of time now, so I don't think we'll be able to bring in any more supplementary questions, so if you can keep answers really succinct. Thanks, Tom.
That's all right. I'll abbreviate my questions as well. Can I move on to the workforce? Does the Bill, in your view, do enough in terms of ensuring the necessary education workforce is in place to deliver the increased amount of Welsh language education provision envisaged? If it doesn't, how do you think it could be strengthened to do that?
Fe wnaf i ddechrau. Byddwn i'n dweud nac ydy, dydy o ddim yn mynd yn ddigon pell. Mae'n gosod allan bod yna her yma a bod yna waith i'w wneud, ac, yn amlwg, mae'r holl egwyddor o sefydlu athrofa a'r cyfrifoldebau a fyddai'n syrthio ar yr athrofa wedyn yn mynd rhan o'r ffordd at ddangos y math o strwythurau o gefnogaeth a allai fod mewn lle o safbwynt cynllunio i'r dyfodol, a hefyd darparu hyfforddiant iaith, ac ati, i'r dyfodol, ond byddwn i'n dweud, y tu hwnt i hynny, nad oes dim hanner digon o gydnabyddiaeth o faint yr her o sicrhau maint y gweithlu sydd ei angen arnom ni i wireddu'r uchelgais yn y cyd-destun yma. A dwi'n meddwl bod angen y gydnabyddiaeth o hynny o ran meintioli'r peth, ond hefyd y costau sydd ynghlwm â hynny.
Felly, byddwn i'n dweud bod yna angen sylw llawer manylach—gan gydnabod bod yna gynlluniau eraill yn bodoli o safbwynt datblygu'r gweithlu cyfrwng Cymraeg—ond bod angen cynllun sydd ochr yn ochr, os nad yn rhan o gyflwyno'r Bil, sy'n dangos yn glir sut mae'r holl agenda, yr holl uchelgais o ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn cydnabod yr her ac yn mynd ati i ymateb i'r her honno drwy osod y targedau, a sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu mynd ati i gyrraedd y targedau yna o ran uwchsgilio'r gweithlu presennol, ond, ar yr un pryd, ac yn fwy na hynny, byddwn i'n ei ddadlau, creu gweithlu'r dyfodol.
Beth sy'n rhaid i ni ei gydnabod efo'r gweithlu presennol ydy bod yna botensial yna, oes, ond rydych chi'n sôn yn y fan hyn am athrawon sydd o dan bwysau rhyfeddol beth bynnag, sydd ddim â bylchau yn eu hamserlenni, ac ati, efo'r holl bethau newydd yn dod i mewn o ran y cwricwlwm, cymwysterau, a'r holl bethau hynny. Mae'n rhaid i ni gydnabod bod yna botensial o'u mewn nhw, ac mae angen gweithio ac mae angen cefnogi a sicrhau rhaglenni o gefnogaeth sy'n addas i bwrpas ac yn gweithio o fewn y cyd-destunau hynny, yn sicr, ac mae angen cael yr ystod o raglenni, ond mae'n rhaid i ni wirioneddol wneud rhywbeth am ddod â mwy o bobl i mewn i'r proffesiwn sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n rhaid i ni greu athrawon o'r newydd trwy raglenni hyfforddiant athrawon sy'n sicrhau bod pob un person, byddai rhywun yn gobeithio, sy'n cymhwyso i addysgu yng Nghymru yn y dyfodol â'r gallu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, mae hi'n ddwy her wahanol, sydd ddim yn cael y gydnabyddiaeth lawn, dwi ddim yn meddwl, o fewn y Bil fel ag y mae o.
If I could start on that one. I would say that, no, it doesn't go far enough. It sets out that there is a challenge here, and that there is work to be done, and, clearly, the whole principle of establishing the institute and the responsibility that would fall on the institute go part of the way in demonstrating the kinds of support structures that may be in place in terms of planning for the future, and also providing language training, and so on, for the future, but I would say that, beyond that, there isn't nearly enough recognition of the scale of the challenge in ensuring the scale of the workforce required to deliver the ambition in this context. And I think that we need a recognition of that, in terms of its magnitude, but also the costs attached to this.
So, I would say that there's a need for far more detailed attention given to this—while recognising that there are other programmes in place to develop the Welsh language workforce—but that we do need other plans to work alongside the introduction of the Bill that set out clearly how this whole agenda, and this whole ambition of developing Welsh-medium education, acknowledges that challenge and responds to the challenge by setting targets and setting out how the Government will deliver against those targets in terms of upskilling the current workforce, whilst, simultaneously, and more importantly, perhaps, creating the future workforce.
What we have to acknowledge with the current workforce is that there is potential there, yes, but you are talking here about teachers who are under incredible pressure already, and don't have gaps in their timetables, with all of the new initiatives being introduced in terms of the curriculum, qualifications, and so on. We have to recognise that there is a potential in that workforce, and we need to support them and secure programmes of support that are fit for purpose and work within those contexts, certainly, and you need a range of programmes for them, but we really have to do something about bringing more people into the profession who can teach through the medium of Welsh. We do have to create new teachers through initial teacher training programmes that ensure that everyone who qualifies to teach in Wales in the future would, hopefully, have the ability to teach through the medium of Welsh. So, I think it's two different challenges, which isn't given full recognition, in my view, within the Bill as it currently stands.
Dwi'n credu hefyd bod angen ystyried beth ydy sgileffeithiau anfwriadol buddsoddi'r swm y bydd angen ei fuddsoddi mewn cynyddu'r gweithlu addysg. Mae'r gweithlu addysg yn gysylltiedig efo'r gweithlu blynyddoedd cynnar a'r gweithlu ar gyfer y sector addysg ôl-statudol hefyd. Mae yna lif o staff proffesiynol rhwng y sectorau hynny, ac mae angen sicrhau nad yw cynyddu ein gallu i ddarparu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, neu addysgu'r Gymraeg, yn y sector statudol yn cael effeithiau negyddol ar allu'r sectorau blynyddoedd cynnar ac ôl-statudol i barhau â'r gwaith sy'n digwydd ar hyn o bryd.
Dwi'n credu mai un o'r pethau y mae angen ei ystyried ydy bod yna gyrsiau sydd eisoes wedi cael eu datblygu ar cyd gyda'r ganolfan, ar hyn o bryd, sydd yn gyrsiau pwrpasol, penodol, ar gyfer y gweithlu blynyddoedd cynnar, o dan faner Camau, a dwi'n credu bod yna sgôp i ddatblygu ac ehangu'r math yna o ddarpariaeth, ar y cyd gyda'r ganolfan a'r athrofa yn y pen draw, i helpu a chefnogi'r staff yna sydd eisoes mewn swydd, ac fel ffordd o gamau cyntaf i ddatblygu sgiliau Cymraeg y rhai sydd yn cymhwyso o'r newydd.
Ond mae angen sicrhau bod gofynion sgiliau Cymraeg y gweithlu addysg statudol yn cael eu hystyried ochr yn ochr ag anghenion y sector blynyddoedd cynnar a'r colegau addysg bellach a phrifysgolion hefyd, achos un o'r pethau a allai godi yn sgil hyn yw ein bod ni'n colli staff o'r ddwy sector naill ochr i addysg statudol, i lenwi'r gofynion sgiliau iaith sydd yn codi o fewn sector addysg statudol.
I think we also need to consider the unintended consequences of investing the amount that will need to be invested in increasing the education workforce. The education workforce is linked to the early years workforce and the post-statutory education workforce too. There is a flow of professional staff between those sectors, and we need to ensure that increasing our ability to provide Welsh-medium education, or to teach through the medium of Welsh, in the statutory sector doesn't have a negative impact on the ability of the early years and post-statutory sector to continue with the work that is currently ongoing there.
I think that one of the things that needs consideration is that there are courses that have already been developed jointly with the National Centre for Learning Welsh, which are purpose-built for the early years workforce, under the Camau banner, and I think that there is scope to develop and expand that kind of provision, jointly with the canolfan and the athrofa, as it will be, to support those staff who are already in post and as a way of taking those first steps to developing the Welsh language skills of those who are newly qualified.
But we need to ensure that Welsh language skills and the requirements of the statutory sector are considered alongside the needs of the early years sector, and the needs of the FE colleges and HE colleges too, because one of the things that could arise as a result of this is that we lose staff in the sectors at both sides of the statutory sector, in order to fill the language skills gaps that arise within the statutory sector.
Thank you. We'll have to move on now to questions from Gareth Davies, please.
Thank you very much, Chair. I want to focus, in my time—however much time I've got—on Part 4 of the Bill. The Welsh Government wants to establish a clear line of accountability at a national, local and school level for the planning of Welsh language education. To what extent do you believe the Bill does this?
Dwi yn croesawu y ffaith y bydd yna lawer mwy o gyfeirio a gosod targedau yn digwydd gan Lywodraeth Cymru. Rydym ni'n gweithio o fewn cyfundrefn y CSGA, y cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, ac mae yna fomentwm ar brydiau, ond mae yna lawer o fiwrocratiaeth, mae yna ddiffyg symud yn ddigon cyflym, mae yna ysgolion sydd yn cymryd blynyddoedd i'w hagor neu i'w trosi i fod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae'r ffaith bod gennym ni'r CSGA yn frenin ar y gyfundrefn flaenorol, ble nad oedd hynny, ond dwi yn meddwl bod yr egwyddor fod y Llywodraeth yn cyfeirio ac yn gosod y targedau yna yn llawer gwell na'r drefn bresennol.
Dwi'n meddwl y bydd cyfraniad yr athrofa yn bwysig i rannu arbenigedd, fel rydym ni wedi'i glywed yn barod, a'n gobaith ni ydy y byddwn ni fel mudiad yn parhau i fod yn rhan o'r gwaith cynllunio a thrafod sydd yn digwydd o fewn cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg o fewn yr awdurdodau lleol, a bod y buddsoddiad angenrheidiol o ran cyfalaf, o ran refeniw, yn parhau i gael ei gynllunio mewn ffordd sydd yn hybu ac yn hyrwyddo gofal plant ac addysg gynnar cyfrwng Cymraeg, yn y ffordd mae o wedi yn flaenorol, oherwydd mi fyddai colli y math yna o gyfle yn gam gwag, yn fy marn i.
I welcome the fact that there will be far more target setting and reference provided by the Welsh Government. We are working within the WESPs regime at the moment, and there is momentum at times, but there is a great deal of bureaucracy, there is a sluggishness in terms of progress, there are schools that take years to be opened or to transfer into the Welsh-medium sector. But the fact that we do have the WESPs does improve the previous system, where we didn't have such a regime in place. But I do think that the principle that the Government should direct and set targets is far better than the current regime.
I think the contribution of the institute will be important in sharing expertise, as we've already heard, and our hope is that we as an organisation will continue to be part of the planning and discussion that happens within the WESPs in local authorities, and that the necessary investment in terms of capital and revenue will continue to be planned in a way that promotes Welsh-medium childcare and early years education, in the way that it has previously, because losing that opportunity would be a grave error, in my view.
Byddwn i'n dweud bod y llinellau atebolrwydd yn eithaf clir o fewn y Bil fel ag y mae o, o ran y disgwyliad i gynllun ar lefel ysgol fod yn atebol i'r awdurdod lleol, a'r awdurdod lleol yn atebol i'r Llywodraeth. Yn amlwg, mae hyn i gyd yn ddibynol ar y cynlluniau hynny a phawb o fewn y system yn cael eu dal i gyfrif ar weithredu a gwireddu, ond hefyd ar dryloywder yr hyn sydd yn y cynlluniau. Felly, dwi'n meddwl bod ffrâm yn glir, ond mae'n ymwneud â sut mae hynny'n cael ei ddefnyddio wedyn, a bod yr atebolrwydd yna yn ddigon cadarn, a bod yna herio lle bo angen herio hefyd.
I would say that the lines of accountability are quite clear within the Bill as it currently stands, in terms of the expectation on the school-level plan to be accountable to the local authority, and the local authority accountable to Government. Of course, this is all reliant on those plans themselves and everyone within the system being held to account in terms of implementation, but also in terms of the transparency in what's in the plans. So, I think the framework is clear, but it's about how that is implemented, and we have to ensure that the accountability is robust enough and that there is challenge where challenge is required.
Diolch. With you mentioning the WESPs, I just wanted to push a bit more on that aspect. In the White Paper, a Welsh education implementation plan was proposed as an alternative to the WESP. Do you agree with the shift in purpose and approach of local authorities, where the Welsh Government—? Because there initially seemed to be a proposed change to the WESP, but then the Bill, from the White Paper, seems to suggest keeping the WESP. So, what would have been the potential that the Welsh education implementation plan could have achieved, different to the WESP? And what would be your professional view on why the WESP has been retained in the Bill?
Cwestiwn diddorol. Dwi ddim yn gwybod. Dwi'n meddwl bod yna elfen o hollti blew o ran p'un ai ydyn ni'n ei alw fo’n gynllun gweithredu neu'n gynllun strategol. Yr hyn sydd yn bwysig ydy bod yna fomentwm, bod yna bethau’n digwydd, fod y ddarpariaeth yn cael ei chynllunio, fod yna dargedau heriol, fod yna dargedau uchelgeisiol, felly dwi'n poeni llai am yr union derm. Dwi'n poeni mwy am sicrhau bod y bobl iawn yn eistedd o gwmpas y bwrdd o fewn y gofod trafod yna gyda'r awdurdod i allu gwneud penderfyniadau mewn ffordd sy'n rhagweithiol ac yn adeiladol. Yn ein profiad ni, mae angen mwy o gyfeirio gan y Llywodraeth ar yr awdurdodau lleol, a dyna pam felly ein bod ni'n croesawu'r elfen honno, oherwydd ei fod o hefyd yn cyplysu efo'r targed cenedlaethol yna o 1 miliwn o siaradwyr erbyn 2050.
It's an interesting question. I don't know. I think there's an element of splitting hairs as to whether we call it an action plan or a strategic plan. What's important is that there is momentum and that things do happen, and that the provision is planned, and that there are challenging targets and ambitious targets. So, I am less concerned about the exact terminology used. I'm more concerned about ensuring that the right people are around the table within that discussion space with the local authority so that decisions can be made in a proactive and constructive way. In our experience, local authorities need more direction from Government, and that’s why we welcome that element, because it also links to that national target of 1 million Welsh speakers by 2050.
Thank you. Finally, I just want to ask about transport, briefly, if I may. How important, in your view, is the provision and availability of transport to families when choosing nursery or school provision in Welsh? Are you surprised to see no mention of transport in the Bill, and would you like to see better recognition of this?
Dwi'n credu bod trafnidiaeth i ysgolion ac addysg yn hollbwysig. Dwi'n credu bod angen mwy o gydnabyddiaeth o bwysigrwydd hynny i deuluoedd ar draws Cymru. Mae trafnidiaeth fforddiadwy i deuluoedd yn rhywbeth rili pwysig iddyn nhw. Mae'r plant, i bob pwrpas, yn mynychu lleoliadau addysg o dair i 18 oed, felly mae yna 15 mlynedd o deithio i fyd addysg i bob plentyn, yn ogystal â’r gofal maen nhw'n ei gael cyn cyrraedd yr ysgol.
Mae angen sicrhau bod yr elfen yna o drafnidiaeth ysgolion nid dim ond ar gael i deuluoedd ar gyfer oed addysg statudol, sef rhwng pump ac 16, mewn gwirionedd. Wrth i'r cyni ariannol ddechrau bwrw yr awdurdodau lleol, dŷn ni'n dechrau gweld gwybodaeth anecdotaidd yn ein cyrraedd ni bod awdurdodau lleol yn dweud, ‘Wel, dŷch chi’n gallu cael y bws i'r lleoliad chweched dosbarth lleol'—sydd efallai ddim yn darparu drwy gyfrwng y Gymraeg—'ond dŷn ni ddim yn fodlon talu i'r plentyn yna ddilyn yr un pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg i fynd ar y bws i'r ysgol Gymraeg leol sydd ychydig ymhellach i ffwrdd.’
Mae'r un peth yn wir o ran y plant sydd yn derbyn addysg tair oed rhan-amser. Does dim trafnidiaeth ysgolion ar gyfer addysg rhan-amser yn dair oed. Felly, i'r rhieni hynny sydd efallai ddim yn byw yn rhywle sydd yn hawdd i'w gyrraedd, yn methu cerdded yn hawdd i'r ysgol neu i'r lleoliad agosaf, maen nhw'n gorfod defnyddio’r un lleol yn hytrach na’r un efallai y bydden nhw'n ei ddewis o ran cyfrwng yr iaith, am y rhesymau hynny. Mi oedd yna adroddiad gan y pwyllgor diwylliant, dwi'n credu, oedd yn sôn am amboutu angen gwneud rhyw fath o arolwg ac asesiad, a dwi'n credu, yn sgil y Bil, mae gwir angen ailedrych ar yr argymhelliad yna, ac edrych ar roi hynny rhywle yn Bil ei hun.
I believe that school transport is crucially important. I think there needs to be more recognition of the importance of that issue to families across Wales. Affordable transport for families is hugely important to them. The children, to all intents and purposes, are attending education settings from three to 18 years of age, so there are 15 years of travel to education for all children, as well as the care that they receive before school age.
We need to ensure that that element of school transport is not only available for children in the statutory sector, between five and 16. As financial cuts begin to take effect in local authorities, we are seeing anecdotal evidence that local authorities are saying, 'Well, you can get the bus to the local sixth-form setting'—which perhaps doesn't have provision through the medium of Welsh—'but we're not willing to pay for that child to study the same subject through the medium of Welsh and to travel by bus to the local Welsh school, which is a little further away.'
I think the same is true in terms of the children in receipt of part-time education at three years of age. There is no school transport available for them. So, for those parents who perhaps don't live at a location that is easily accessible, and can't walk to that setting, they have to use the local provision rather than the one that they would choose in terms of the medium of language, for those reasons. There was a report by the culture committee, I believe, which talked about the need to carry out some sort of audit in this area. In light of the Bill, I think we really do need to look again at that recommendation, and to look at containing it within the Bill itself.
Byddwn i'n dadlau yn gwbl bendant bod angen sicrhau bod y mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg ar gael am ddim i'r ysgol agosaf i unrhyw ddisgybl, a hynny o dair i 18. Tra'n cynnwys y meithrin, dwi'n meddwl ei fod o'n bwysig ein bod ni hefyd yn cynnwys chweched dosbarth, a dydy hynny ddim yn wir ar hyn o bryd ym mhob awdurdod lleol. Felly, byddwn i'n dadlau’r achos bod trafnidiaeth yn allweddol. Mae rhieni’n gorfod gwneud penderfyniadau ar sail hwylustod a ffactorau yn ddaearyddol na ddylai fod yn cael eu hystyried lle bod cyfrwng iaith addysg yn y cwestiwn. Felly, byddwn i'n dweud, yn sicr, bod angen mwy o sylw i drafnidiaeth, gyda'r bwriad wedyn bod mynediad rhwydd ac am ddim i addysg Gymraeg ymhob achos.
I would certainly argue that we need to ensure that access to Welsh-medium education should be available free of charge to the nearest school to any pupil, between three and 18 years of age. I think it's important that we include the meithrin but also the sixth form, and that isn't currently the case in all local authorities. So, I would make the case that transport is crucial. Parents have to make decisions on the basis of convenience and geographical factors that shouldn't be considered where the medium of one's education is concerned. So, certainly, giving more focus to transport with the intention of providing free access to education, and Welsh-medium education particularly, in all cases should be a priority.
Thank you. Thank you, Gareth. We'll now move on, lastly, to Lee.
Just a brief question about the evidence paper on the position of the institute. I noticed some anxiety that the new non-tendered model could disrupt the ecosystem of various organisations playing a role in provision. If you could just elaborate a bit more on that, and if any mitigations are suggested.
Dwi ddim cweit yn deall y cwestiwn, ond dwi’n meddwl, i ymhelaethu—
I don't quite understand the question, but I do think, to expand—
As I understand it, you say in your evidence that by having a non-tendered institute, the current services that you and other organisations offer will potentially be centralised, and that could have an adverse effect.
Dwi ddim yn siŵr os mai dyna oedden ni’n bwriadu ei ddweud, os mai dyna rydyn ni wedi’i ddweud. Dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig cydnabod y berthynas bwysig adeiladol sy’n bodoli rhyngom ni fel mudiad â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a’r athrofa, maes o law, hefyd. Felly, mae parhau â’r cydgynllunio dwys yna yn bwysig, oherwydd rydyn ni eisiau cydnabod arbenigedd yr athrofa, maes o law, pan fo’n dod i ddysgu gydol oes, ond hefyd, cydnabod ein bod ni’n gweithio mewn ffordd adeiladol iawn ar nifer o gynlluniau, fel mae Angharad wedi sôn—Cymraeg Gwaith, Camau, y rhaglen arloesol i rieni, Clwb Cwtsh. Felly, beth bynnag ydy’r realiti o gwmpas trefniadaeth yr athrofa, yr hyn rydyn ni’n ei ddweud ydy bod y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi ennill ei blwy, wedi hwyluso ein ffordd ni o weithio o fewn y maes dysgu Cymraeg, a’n bod ni’n awyddus i weld cydnabyddiaeth o bwysigrwydd hynny i’r athrofa ar ei newydd wedd.
I’m not sure if that was our intention, if that’s what we have said in our evidence. I think it’s important to recognise the constructive relationship that exists between ourselves as an organisation and the National Centre for Learning Welsh, and the athrofa in due course. So, continuing with that intensive joint planning is very important, because we want to recognise the expertise in the athrofa, when it comes to lifelong learning, but also, to recognise that we work in a very constructive way on a number of plans, as Angharad has already mentioned—Cymraeg Gwaith, Camau, the innovative programme for parents, Clwb Cwtsh, for example. So, whatever the reality around the arrangements for the institute, what we’re saying is that the National Centre for Learning Welsh has actually established itself, has facilitated our way of working in terms of learning Welsh, and that we want to see recognition of the importance of that within the newly established institute.
Buaswn i’n dweud hefyd mai un o’r pethau sy’n cael ei nodi yw y bydd gan yr athrofa y gallu i gomisiynu pobl i ddarparu cyrsiau llawr gwlad, a dwi’n credu taw un o’r pethau sydd angen ei ystyried yn hynny yw bod gan y ganolfan bresennol, ar hyn o bryd, bartneriaethau gwaith rili da, arloesol gyda nifer o bartneriaid sydd wedi datblygu gwahanol gyrsiau, sydd nawr yn cael eu darparu ar draws Cymru, yn hytrach na mewn pocedi, fel oedd yn digwydd cyn dyfodiad y ganolfan ei hun ryw ddegawd yn ôl erbyn hyn.
O ran beth sy’n digwydd dros y blynyddoedd nesaf, mae angen bod y partneriaethau a’r cydweithio yna yn parhau, a bod beth bynnag sy’n digwydd wrth roi'r athrofa yn ei le ddim yn tanseilio’r gwaith adeiladu sydd wedi digwydd dros y degawd diwethaf, i roi'r cysondeb sydd gyda ni erbyn hyn ym maes Cymraeg i oedolion ar draws Cymru, yn y math o gyrsiau dŷn ni’n gallu eu cynnig i’n gweithlu blynyddoedd cynnar ni ar draws Cymru, ac i unrhyw oedolyn sydd eisiau dysgu’r Gymraeg yn y sector Cymraeg i oedolion.
I would also say that one of the things that’s noted is that the institute will have the ability to commission people to provide courses on the ground, and I think one of the things that needs to be considered in that regard is that the current centre for learning Welsh has very good working partnerships, which are innovative, with a number of partners who have developed various courses that are now being provided across Wales, rather than in pockets as was the case before the establishment of the centre itself some decade ago.
In terms of what happens over the next few years, we need to ensure that those partnerships and that co-operation does continue, and that whatever happens in establishing the institute shouldn’t undermine the constructive work that’s happened over that past decade, so that we have that consistency that we have at the moment in the area of Welsh for adults across Wales, and the kinds of courses that we can offer to our early years workforce across Wales, and also to any adult who wants to learn Welsh within that sector.
Thank you so much for attending today. We really appreciate your time. If we have any further or additional questions, is it okay if we write to you? Yes—thank you so much. You’ll be sent a transcript for checking in due course. Diolch. We'll now take a short break for lunch and return at 13:30.
Gohiriwyd y cyfarfod rhwng 12:53 a 13:31.
The meeting adjourned between 12:53 and 13:31.
Welcome back. We'll now move on to agenda item 7. This is the fifth evidence session on the Bill. I would like to take this opportunity to welcome Vaughan Gething MS to the committee. Vaughan has joined us at short notice for this afternoon's session. You are very welcome, Vaughan, and we look forward to working with you in the future.
Thank you.
Please could the witnesses introduce themselves and also outline briefly what, if any, involvement they have had in the development of the Bill?
Sori, allwch chi ailadrodd? Mae'n flin gen i. Wnes i ddim clywed yn iawn.
Sorry, could you repeat that? I'm sorry, I didn't hear.
Sorry. Please could the witnesses introduce themselves and also outline briefly what, if any, involvement they've had in the Bill?
Diolch yn fawr. Heini Gruffudd. Dwi'n gadeirydd Dyfodol i'r Iaith. Rydyn ni wedi ymateb i'r Bil yn ysgrifenedig, ond cyn llunio'r Bil, fe gawson ni air gyda rhai Aelodau o'r Senedd.
Thank you very much. I'm Heini Gruffudd. I'm chair of Dyfodol i'r Iaith. We've responded in writing to the Bill, but prior to the drafting of the Bill, we did speak to some Senedd Members regarding its content.
Myfanwy Jones, cyfarwyddwr Mentrau Iaith Cymru. Rŷn ni hefyd wedi ymateb yn ysgrifenedig yn ystod y broses ymghynghori, ond dyna'r cyfan.
I'm Myfanwy Jones, director of Mentrau Iaith Cymru. We, too, have responded in writing during the consultation process, but that's all.
Toni Schiavone, cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Rŷn ni wedi llunio'n bil ein hunain, ac rydyn ni hefyd wedi gwneud gwaith ymchwil ar oblygiadau unrhyw Fil addysg o ran twf yn yr awdurdodau lleol ac wedi cynnal cyfarfodydd gyda Gweinidogion a gyda swyddogion o fewn Llywodraeth Cymru.
Toni Schiavone, chair of Cymdeithas yr Iaith's education group. We have drawn up our own bill, and we have also done some research on the implications of any education Bill in terms of growth within local authorities, and have held meetings with Ministers and officials within the Welsh Government.
Osian Rhys, aelod o grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith. Mae Toni wedi sôn am rai o'r pethau, ond efallai ei bod hi'n werth ychwanegu hefyd mai Cymdeithas yr Iaith, dwi'n credu, oedd y cyntaf i alw am Ddeddf addysg Gymraeg, a hynny yn 2015. Felly, rydyn ni wedi bod yn ymgyrchu ers tro am Ddeddf addysg Gymraeg o ryw fath—efallai nid yn union fel y Bil rydyn ni'n edrych arno heddiw, ond dwi'n meddwl bod hynny'n berthnasol.
Osian Rhys, member of the Cymdeithas yr Iaith education group. Toni has mentioned some of the things, but it might be worth adding that Cymdeithas yr Iaith, I think, was the first to call for a Welsh language education Act in 2015, so we have campaigned for such legislation for quite some time—perhaps not exactly the legislation we're looking at today, but I do think it's pertinent.
Thank you. I'll apologise before we begin that we will need to finish on time today, so if I have to move Members on, would it be okay if I write with any other additional questions after the session? Yes. Thank you. I'll now ask Members to begin questions, and I'll start. Could you outline your initial thoughts on the Bill and the extent to which it will support the work and progress required to achieve the 'Cymraeg 2050' target of 1 million Welsh speakers? And are there any potential unintended consequences?
Gaf i groesawu'r cyfle i ddod o'ch blaen chi? Rwy'n ei werthfawrogi'n fawr. Rwy'n gwerthfawrogi hefyd y bwriad yn y Bil, sef hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg a chynyddu defnydd o'r Gymraeg. A dwi'n credu bod eisiau inni gofio mai bwriad gwirioneddol y Bil yw creu siaradwyr Cymraeg hyderus, yn arbennig lle mae'n rhaid i ddisgyblion ddod i'r cyflwr yna heb fod ganddyn nhw gyfle gartref i siarad yr iaith. O ran y Bil ei hun a chyrraedd y filiwn, mae yna broblem ynglŷn â pha ffigurau rydyn ni'n mynd i'w derbyn fel sail, ai'r cyfrifiad dengmlwyddol, neu ai—? Mae yna arolygon, onid oes? Buaswn i'n awgrymu, yn lle sôn am filiwn, ein bod ni'n cymryd unrhyw linell sail sydd gyda ni heddiw a dyblu hwnna erbyn 2050. Dwi'n credu mai dyna oedd y bwriad gwreiddiol, dyblu'r nifer oedd yng nghyfrifiad 2021. Ond os ydych chi'n cymryd ffigurau llinell sail arall, ein bod ni'n dal i ddyblu hynny.
O ran y Bil a chanlyniadau dŷn ni ddim yn eu disgwyl, mae yna ryw le gen i i ofni bod y diffiniad o addysg Gymraeg yn y Bil yn mynd i gamarwain rhieni am beth sydd yn bosibl i'w disgyblion—mae e'n newid y diffiniad o addysg Gymraeg o'r hyn sydd wedi bod yn nhrafodaeth y Llywodraeth ers 20 mlynedd. A hoffwn i ofyn efallai pam, a phwy sydd wedi newid hwnna a beth y pwrpas dweud bod dysgu Cymraeg fel pwnc yn gyfystyr ag addysg Gymraeg. Mae pob dogfen sydd gan y Llywodraeth hyd yn hyn wedi ymdrin ag addysg Gymraeg fel addysg cyfrwng Cymraeg neu ysgolion Cymraeg, ac yn fanna mae'r llithro yn mynd i ddigwydd, o bosib, yn y Bil yma. Os yw rhieni yn meddwl eu bod nhw'n cael addysg Gymraeg mewn ysgol Saesneg a disgwyl bod eu plant wedyn yn hyderus yn y Gymraeg wrth adael, fydd hynny ddim yn digwydd mwy nag y mae'n digwydd heddiw, dwi'n ofni.
If I could welcome the opportunity to appear before you. I very much appreciate the opportunity. I also appreciate the intention of the Bill, namely to promote and facilitate the use of the Welsh language and to increase use of the Welsh language. And I do think that we need to bear in mind that the true intention of the Bill is to create confident Welsh speakers, particularly where pupils have to achieve that where they don't have an opportunity to speak the language at home. In terms of the Bill itself and reaching 1 million Welsh speakers, there is a problem in terms of which figures we're going to use as a baseline. Is it the 10-year census, or is it figures from other surveys? I would suggest that, rather than talking about 1 million, we take any baseline that we have today and double that by 2050. I think that was the original intention, to double the numbers in the census in 2021. But if you take another baseline figure, we should still double that.
In terms of the Bill and any unintended consequences, I do have some fear that the definition of Welsh language education in the Bill is going to mislead parents in terms of what's possible for their children—it changes the definition of Welsh language education from what has existed within the Government for 20 years. And I would like to ask perhaps why, and who has made that change and what is the purpose of saying that teaching Welsh as a subject is the same as Welsh language education. Every document that the Government has to date has dealt with Welsh language education as education delivered through the medium of Welsh or Welsh language schools, and that's where the slippage could happen in relation to this Bill. If parents believe that they are getting a Welsh language education in English language schools and expect their children to be confident Welsh speakers when they leave, that won't happen any more than it happens today, I fear.
O safbwynt Mentrau Iaith Cymru, rŷn ni'n croesawu’r Bil, yn bendant. Rŷn ni'n falch iawn o weld y targedau 'Cymraeg 2050' yn cael eu gosod ar sail statudol, ac rŷn ni'n croesawu’r llinellau atebolrwydd clir o’r fframweithiau cenedlaethol i'r CSGA ac i’r cynlluniau ysgol. Gyda rhai amrywiaethau neu newidiadau, rŷn ni'n obeithiol y byddai'n llwyddo i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, ond rŷn ni'n gofidio rhywfaint nad yw e'n mynd tuag at gynyddu defnydd y Gymraeg, so, creu pobl sydd yn mynd i ddefnyddio'r Gymraeg, yn hytrach na dim ond gallu defnyddio'r Gymraeg. So, canlyniad anfwriadol gwael iawn fyddai cyrraedd sefyllfa fel Iwerddon, lle byddai nifer fawr o bobl yn gallu dweud eu bod nhw'n siaradwyr Cymraeg, ond eu bod nhw ddim yn defnyddio’r Gymraeg yn ymarferol. So, byddem ni'n hoffi gweld y Bil yn fwy uchelgeisiol o safbwynt defnydd yn bendant o fewn ffiniau addysg a thu allan i furiau’r ysgol. Dwi'n credu bod yna gryfhau yn bosib i'r Bil o safbwynt hynny, yn bendant.
In terms Mentrau Iaith Cymru, we do welcome the Bill, certainly. We're very pleased to see the 'Cymraeg 2050' targets placed on a statutory basis, and we welcome the clear lines of accountability from the national frameworks through the WESPs to the school plans. With some amendments, we are hopeful that it could increase the number of Welsh speakers, but we are slightly concerned that it won't move us towards increasing the use of the Welsh language, so, it won't lead to people who will use the Welsh language, just people who are able to speak it. A very negative unintended consequence would be reaching a situation such as in Ireland, where many people would say that they were Welsh speakers, but they didn't use the language on a practical, daily basis. So, I would like to see the Bill being a little more ambitious in terms of language use within education and outside the school gates. I think the Bill could be strengthened in that regard, without doubt.
O ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, rŷn ni yn croesawu'r Bil a rŷn ni'n gwerthfawrogi'r ffaith bod swyddogion wedi gweithio'n galed i gael y Bil yma o'n blaenau ni fel hyn. Rŷn ni'n gwerthfawrogi'r gwaith yna yn fawr iawn. Fodd bynnag, rŷn ni'n gweld nad yw'r Bil yn mynd i fod yn drawsnewidiol heblaw bod yna newidiadau sylweddol.
Ein man cychwyn ni yw bod 80 y cant o bobl ifanc Cymru yn cael eu hamddifadu o'r Gymraeg ac mai hwnna yw swm a sylwedd ein methiant ni yng Nghymru i newid y drefn fel ag y mae. Yn ein barn ni, yr unig addysg sy'n mynd i sicrhau cynnydd yw addysg cyfrwng Cymraeg, a'r nod, felly, yw bod pob ysgol yn ysgol cyfrwng Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Yr ysgolion yna sy'n sicrhau bod pob plentyn yn gadael ysgol yn rhugl yn y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg.
I wireddu'r nod yna, rŷn ni'n awgrymu y dylid cael nod statudol, targed o bob ysgol yn ysgol Gymraeg, a'n bod ni'n sefydlu continwwm gan gael gwared ar y syniad o ysgolion yn cael eu rhewi i mewn i gategoriau: man cychwyn yr ysgol heddiw a lle bydd hi o fewn pump, 10, 15 mlynedd, ar hyd y continwwm yna i ddod yn ysgolion Cymraeg.
Yn drydydd, rhaid sicrhau bod yna gontinwwm dysgu ac asesu. Mae'n wirioneddol drist, er bod yr argymhellion yn 2013 wedi dweud bod angen dileu Cymraeg ail iaith, fod pobl ifanc heddiw, sy'n dilyn cwricwlwm Cymraeg ail iaith, ddim hyd yn oed yn cyrraedd y lefel isaf o ran iaith gyntaf yn y Gymraeg. Felly, mae angen sefydlu continwwm dysgu ac asesu gydag un cymwyster. Rŷn ni'n dadlau y dylai pob ysgol gynnig isafswm o 30 y cant o'u haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg o fewn pum mlynedd a bod angen buddsoddiad o £20 miliwn y flwyddyn yn y gweithlu i sicrhau eu bod nhw'n abl i gyflawni'r nod yna.
In terms of Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, we welcome the Bill and we appreciate the fact that officials have worked hard to bring this Bill forward. We appreciate that work very much. However, we don't believe that the Bill will be transformational unless there are significant changes made to it.
Our starting point is that 80 per cent of young people in Wales are deprived of the Welsh language, and that indicates our failure in Wales to change the system as it currently exists. In our view, the only education that will ensure progress is Welsh-medium education, and the aim, therefore, is that every school should be a Welsh-medium school by 2050. It is those schools that ensure that all children leave school as fluent Welsh speakers as well as English speakers.
To achieve that ambition, we suggest that there should be a statutory target of every school being a Welsh-medium school, and that we create a continuum by scrapping the idea of schools being frozen into categories: a starting point of the school today and where it will be in five, 10, 15 years, moving along that continuum to become Welsh-medium schools.
Thirdly, we must ensure that a learning and assessment continuum is in place. It's very sad that, although the recommendations made in 2013 said that second-language Welsh should be scrapped, young people today, who follow the second-language curriculum, don't even achieve the lowest level in terms of first-language Welsh speakers. So, we need to establish a learning and assessment continuum with one qualification. We argue that every school should reach a minimum of 30 per cent of its education through the medium of Welsh within five years and that we would need an investment of £20 million per annum in the workforce to ensure that they are able to deliver that ambition.
I ychwanegu at beth mae Toni newydd ei ddweud, dwi'n meddwl mai un pryder mawr sydd gennym ni yw bod cymaint yn y Bil yn dibynnu ar reoliadau. Mae llawer iawn yn dibynnu ar benderfyniadau Gweinidogion a gweision sifil yn y dyfydol ac ychydig iawn, yn y bôn, yn y Bil fydd yn sicrhau bod unrhyw beth yn newid o'i gymharu â'r system bresennol. Rŷn ni'n galw am dargedau statudol ar wyneb y Bil. Mae sail statudol yn y Bil dros greu targedau mewn rheoliadau yn fater hollol wahanol.
I ni, fel y dywedodd Toni, y targed yw bod 100 y cant o ysgolion yn dysgu drwy’r Gymraeg erbyn 2050. Dyw’r Bil ddim yn gosod unrhyw darged; does dim canran. Hynny yw, dŷn ni’n meddwl mai 100 y cant yw’r targed i fod, ond mae’r Bil yn hollol annelwig. Does yna ddim targedau o ran cynyddu faint o addysg cyfrwng Cymraeg sydd, faint o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd mewn ysgolion sy’n dysgu drwy’r Saesneg ar hyn o bryd. Felly, beth bynnag yw bwriad y Llywodraeth, dwi’n meddwl bod angen i hynny fod yn eglur ar wyneb y Bil, yn hytrach na’r sefyllfa sydd gennym ni ar hyn o bryd, lle mae yna ryw deimlad o obeithio’r gorau, ac efallai fod y Bil yn iawn, gallen ni roi ffydd y bydd popeth yn gweithio'n allan yn ocê. I ni, rŷn ni'n dechrau gyda'r plant; fel y dywedodd Toni, mae 80 y cant o blant Cymru yn gadael yr ysgol, yn y bôn, heb allu siarad Cymraeg.
Mae adroddiadau’r Llywodraeth, adroddiad Sioned Davies yn 2013, wedi ei gwneud hi'n hollol glir dyw dysgu’r Gymraeg fel pwnc ddim yn creu siaradwyr hyderus. Dyna pam dŷn ni’n galw am gynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion Saesneg, troi ysgolion, yn y bôn, yn ysgolion dwyieithog, wedyn yn ysgolion cyfrwng Cymraeg dros amser, fel bod cenhedlaeth ein plant a’n hwyrion ni yn cael y Gymraeg. Does dim byd y gallwn ni ei wneud am y plant sy'n gadael yr ysgol nawr. Am y blynyddoedd nesaf, hyd yn oed y degawdau nesaf, bydd y mwyafrif o blant yn gadael yr ysgol heb siarad Cymraeg, a'n teimlad ni yw bod dim byd yn y Bil sy'n mynd i newid hynny.
To add to Toni's comments, I think one major concern we have is that so much in the Bill depends on regulation. A great deal depends on decisions taken by Ministers and civil servants in the future and there is very little in the Bill that will ensure that anything truly changes as compared to the current system. We're calling for statutory targets on the face of the Bill. A statutory basis in the Bill to create targets in regulations is very different.
Our aim, as Toni said, is for 100 per cent of schools to teach through the medium of Welsh by 2050. The Bill doesn't set any targets; there is no percentage in that regard. We think that 100 per cent should be the target, but the Bill is entirely vague and ambiguous. There are no targets in terms of increasing how much Welsh-medium education is to be provided, how much Welsh-medium provision is to be provided in schools that teach through the medium of English at the moment. So, whatever the intention of Government, I think that needs to be clear on the face of the Bill, rather than the situation that we currently have, whereby there is a feeling that we're hoping for the best, and perhaps the Bill might be okay and we can put faith in everything working out okay. But, for us, we start with the children; as Toni said, 80 per cent of children in Wales leave school without being able to speak Welsh.
Government reports, the Sioned Davies report in 2013, have made it entirely clear that teaching Welsh as a subject doesn't create confident Welsh speakers. That's why we are calling for an increase in Welsh-medium provision in English schools, turning schools into bilingual schools first of all, and then into Welsh-medium schools over a period of time, so that the generation of our children and grandchildren do learn Welsh. There's nothing we can do about the children leaving school now. And for the next years, even the next decades, the majority of children will leave school without being able to speak Welsh, and our feeling is that there's nothing in the Bill that's going to change that.
Thank you. I know you've just touched on this, but what are your views on how it is proposed under the Bill that the number of Welsh speakers will be calculated, and are there any changes you would like to see?
Dwi’n credu fy mod i wedi sôn yn fanna am y posibilrwydd o osod targed o ddyblu ar sail heddiw, pa fath o gyfrifiad rŷch chi ei wneud heddiw, neu gafodd ei wneud yn 2021, a bod hynny’n dyblu, neu mi allem ni fod mewn sefyllfa o feddwl ein bod ni wedi cyrraedd miliwn yn hawdd iawn, ond heb fod yna gamau gwirioneddol wedi eu cyrraedd ar lawr gwlad.
Ond mi fuaswn i yn meddwl hefyd ei bod hi’n bwysig nid yn unig i gyfrif—. Dyna fe, yn ôl y cyfrifiad, mae yna 0.5 miliwn yn awr yn siarad yr iaith, ond y nifer sy'n ei siarad hi bob dydd lawer yn llai; efallai fod rhyw 200,000 yn siarad yr iaith yn gyson, a dwi’n credu bod eisiau inni hefyd fesur faint o bobl yng Nghymru sy’n defnyddio’r iaith yn eu bywyd bob dydd, naill ai’n wythnosol neu’n ddyddiol, a bod yn rhaid cael cyfuniad o ystadegau wedyn ar niferoedd siarad a’r niferoedd defnyddwyr. Ac mae hynny’n greiddiol, dwi’n meddwl, os ŷn ni eisiau creu'r math o gymdeithas ddwyieithog.
Mae yna un peth fyddai'n werth sôn amdano fan hyn, sef, yng Ngwlad y Basgiaid, mae yna gynnydd mawr wedi bod mewn ysgolion Basgeg, ond mae yna ddisgwyliad hefyd gan Lywodraeth Gwlad y Basgiaid bod pob swyddog yn y Llywodraeth, pob athro yn y wlad, yn cyrraedd lefel C1. Nawr te, mae hwnna’n ffordd arall o fesur: ydym ni eisiau mesur hefyd nid yn unig y siaradwyr, ond ar ba lefel maen hwn yn llwyddo?
Nawr, buaswn i, os af i ymlaen ychydig bach, ddadlau ychydig bach am ba mor berthnasol yw hynny i lawer o ysgolion, ysgolion cynradd ac yn y blaen, ond buaswn i’n hoffi meddwl ein bod ni’n gallu mesur rhywsut pa mor hyderus yw disgyblion yn ôl eu hoed ac yn ôl eu gallu cynhenid, ac mae hynny’n rhoi i chi ryw fath o ddilyniant wedyn o’r sector cynradd hyd at ddiwedd y sector uwchradd.
I think I mentioned the possibility of setting a target of doubling the numbers in terms of the baseline that we're at today, or the census that was taken in 2021, or we could be in a situation of thinking that we've reached a million very easily without having taken real meaningful steps on the ground.
But I would think too that it is important or would be important not only to count the numbers—. According to the census, there are 0.5 million speaking the language, but, in terms of those using the language every day, the number is far less; some 200,000 regularly use the language, perhaps, and I do think that we need to measure how many people in Wales use the language in their daily lives, either on a weekly basis or a daily basis, and that we need a combination of statistics there in terms of the numbers using the language, and the numbers who actually identify as speakers. And I think that is crucial if we want to create the bilingual society that we're seeking.
There is one thing that's worth mentioning here, namely, in the Basque Country, there's been a huge increase in Basque schools, but there's also an expectation from the Basque Government that every official within Government, every teacher in the country, should reach level C1. Now, that's another way of measuring: do we want to measure not only the number of speakers, but also at what level they are?
Now, if I could just move on, we could argue about how relevant that is to many schools, primary schools and so on, but I would like to think that we could somehow measure how confident pupils are according to their age and their ability, and that gives you some sort of continuum from the primary sector up to the end of secondary.
A gaf i ategu'r hyn yr oedd Heini yn ei ddweud fanna? Mae’r mentrau iaith yn gweld gwerth mawr yn y cyfrifiad fel y mae e wedi bod, o safbwynt y ffaith ei fod e’n rhoi cyfle inni i groesgyfeirio nifer y siaradwyr Cymraeg gyda nodweddion eraill, ac yn ein galluogi ni wedyn i gynllunio ar sail hynny. Ond byddwn i’n hoffi cytuno’n llwyr bod angen ffordd o fesur defnydd, ffordd gyson, gynhwysfawr. Mae wedi bod arolwg defnydd yn cael ei redeg rhwng y comisiynydd a’r Llywodraeth fesul pum mlynedd, ond dyw e ddim wedi bod yn ddigon cyson nac yn ddigon cynhwysfawr, ac mae angen iddo fe fod yn fesur ar lefel genedlaethol a ward, fel y cyfrifiad, fel ein bod ni’n gallu gweld realiti’r sefyllfa o safbwynt defnydd y Gymraeg, yn hytrach na dim ond niferoedd.
Could I could echo Heini’s comments there? The mentrau iaith do see great value in the census in terms of providing us with an opportunity to cross-reference the number of Welsh speakers with other characteristics, and then enables us to plan on that basis. But I would like to agree entirely that we need a means of measuring language use, a consistent, comprehensive measure. There has been a language use survey run between the commissioner and the Government on a five-yearly basis, but it hasn't been consistent enough or comprehensive enough, and it does need to measure at a national level and a ward level, like the census, so that we can see the reality of the situation on the ground in terms of language use, rather than just the numbers.
Os gallwn ni fynd yn ôl at brofiadau plant, buaswn i’n dweud mai’r mesur pwysicaf ydy cyrhaeddiad plant ar ddiwedd cyfnod dysgu. Er enghraifft, os edrychwn ni ar yr ystadegau diweddaraf, mae 22.5 y cant o blant ysgolion cynradd Cymru yn rhugl yn y Gymraeg yn dilyn addysg cyfrwng Cymraeg. Ond erbyn diwedd cyfnod allweddol 4, mae hwnna wedi syrthio i 13.5 y cant. Os ewch chi i gyfnod ôl-16, mae hwnna’n syrthio eto, i lai na 5 y cant. Mae cael cynnydd o 10 y cant, yn defnyddio’r ffigurau yna fel sail ar gyfer mesur y cynnydd yna, yn allweddol, ond mae hwnna ynddo’i hunan yn dangos diffyg y drefn bresennol. Mae’r ystadegau yna wedi dod oddi wrthych chi, oddi wrth y wybodaeth a gasglwyd gan Lywodraeth Cymru.
Dyna’n man cychwyn ni bob tro: beth yw profiadau plant? I ba raddau mae’r system addysg ar hyn o bryd yn darparu ar eu cyfer nhw ac i ba raddau maen nhw’n cael eu hamddifadu o’r gallu i fod yn rhugl yn y Gymraeg, gan gynnwys, gyda llaw, y Gweinidog addysg, sydd wedi cael addysg ail iaith, sydd wedi gwneud addysg TGAU a Safon Uwch, ond sydd ddim wedi magu’r hyder i fod yn siaradwr a defnyddiwr o’r Gymraeg. Eto, yn 2013, nodwyd y methiant yma, gofynnwyd am un continwwm dysgu ac asesu, ond mae arnaf i ofn ein bod ni wedi methu â gwneud hynny, ac mae yna gyfrifoldeb arnom ni a chi i sicrhau nad yw’r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc yn cael yr un profiadau yna.
If I could return to the experiences of children, I would say that the most important measure is children's attainment at the end of education. For example, if you look at the most recent statistics, 22.5 per cent of Welsh primary school children are fluent in Welsh following Welsh-medium education. But, by the end of key stage 4, that falls to 13.5 per cent. If you look at the post-16 sector, it falls again, to less than 5 per cent. So, having an increase of 10 per cent, using those figures in terms of measuring progress, is crucial, but that in and of itself shows the deficiencies of the current system. Those statistics have come from you, from information gathered by the Welsh Government.
So that's our starting point always: what is the experience of children? To what extent does the education system at the moment provide for them, and to what extent are they being deprived of the ability to be fluent in Welsh, including, by the way, the education Minister, who's had second language education, who studied GCSE and A-level, but hasn't developed the confidence to become a speaker and user of the Welsh language. Again, in 2013, this failure was set out, and one continuum of learning and assessment was requested, but I'm afraid we've failed to deliver that, and there is a responsibility on us and you to ensure that the next generation of young people don't have those same experiences.
Yn y bôn, dwi’n meddwl—. Cymdeithas yr Iaith wnaeth alw am y filiwn yn y lle cyntaf, a gwnaeth pleidiau ei roi e yn eu maniffestos, gan gynnwys y Blaid Lafur, wrth gwrs, ac felly mae e wedi dod yn rhan o bolisi’r Llywodraeth—miliwn o siaradwyr Cymraeg. Beth dŷn ni’n ei weld yn y Bil yma yw, buaswn i’n dadlau, ymdrech gan y gwasanaeth sifil i wneud i hwnna ddigwydd heb wneud beth sydd angen digwydd i ddyblu nifer y siaradwyr Cymraeg mewn gwirionedd. Doedden ni ddim yn galw am filiwn o siaradwyr er mwyn i rywun ffeindio ffordd o dicio’r bocs yna. Hynny yw, pwrpas hynny yn y bôn oedd dangos bod angen newid sylweddol ym mholisi cyhoeddus tuag at y Gymraeg; mae angen gwneud llawer mwy. Yn lle gwneud hynny, beth dŷn ni’n cael nawr yw ei roi e ar wyneb y Bil ond hefyd gadael i'r Gweinidogion benderfynu sut mae’r filiwn yna’n cael ei gyfrifo, yn hytrach na dilyn y cyfrifiad, sef, dwi’n meddwl, beth mae pawb yn ei dderbyn oedd y filiwn yn golygu, gan mai yng nghyd-destun y cyfrifiad oedd y targed yna yn cael ei sôn amdano.
I ni, dyw’r filiwn ddim yn berthnasol i addysg yng Nghymru. Dŷn ni ddim eisiau rhoi addysg Gymraeg i blant er mwyn cyrraedd y targed yma. Hynny yw, dŷn ni eisiau i blant gael y Gymraeg yn eu hawl eu hunain, achos mae hawl gan—they have the right—mae hawl gan blant i gael y Gymraeg; plant sy’n byw yng Nghymru, beth bynnag eu cefndir nhw, ble bynnag yng Nghymru maen nhw’n byw, pryd bynnag ddaethon nhw i fyw i Gymru, dylai fod pawb yn cael y Gymraeg. Dŷn ni’n gwybod dyw'r system ail iaith ddim yn gweithio. Yr unig ffordd, felly, o fynd i’r afael â’r mater yma yw cynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg ym mhob lleoliad addysgol, a dyw e ddim byd i'w wneud â’r filiwn. Mae fe i'w wneud â hawl pob plentyn i gael y Gymraeg, a dyw cyplysu’r filiwn yn y ffordd mae’r Bil yma’n ei wneud, yn ein barn ni fel Cymdeithas yr Iaith, ddim yn ddefnyddiol o gwbl.
I think, essentially—. It was Cymdeithas yr Iaith that called for the million in the first instance, and parties placed it in their manifestos, including the Labour Party, and so it's become part of Government policy—that's a million Welsh speakers. What we're seeing in this Bill, I would argue, is an effort by the civil service to make that happen without doing what's necessary in order to double the numbers of Welsh speakers in reality. Now, we didn't call for a million speakers just so that somebody could find a way of ticking that box. The purpose of that, essentially, was to show that we need a step change in public policy in relation to the Welsh language; we need to do far more. But, rather than doing that, what we have now is putting it on the face of the Bill, but allowing Ministers to then decide how that million will be counted, rather than following the figures of the census, which I think everyone would accept was what the million meant initially, because that target was set in the context of the census.
For us, the million isn't relevant to education in Wales. We don't want to provide Welsh language education to children to deliver this target. We want children to acquire the Welsh language in their own right, because children have the right to acquire the Welsh language; whatever their background, wherever in Wales they live, whenever they came to Wales to live, everyone should have that right to the Welsh language. We know that the second language system isn't working. The only way, therefore, of addressing this issue is by increasing Welsh-medium provision in all educational settings, and it has nothing to do with the million. It's about the right of all children to acquire the Welsh language, and linking it to the million in the way that this Bill does, in our view as Cymdeithas yr Iaith, isn't useful in any sense whatsoever.
Diolch. We'll now move to questions from Cefin Campbell, please.
Diolch yn fawr iawn i chi i gyd am eich tystiolaeth, i ddechrau. Mae wedi bod yn waith defnyddiol dros ben, ac mi fydd e pan fyddwn ni’n llunio adroddiad ac argymhellion maes o law. Dwi i jest, yn y rhan yma o’r cwestiynu, yn mynd i ganolbwyntio ar y fframwaith CEFR. Mae’n ddiddorol, os caf i droi at Dyfodol i’r Iaith, sydd wedi mynegi amheuaeth ynglŷn â sut mae’r fframwaith yna’n gallu priodoli ei hun ar gyfer y ddarpariaeth neu'r gyfundrefn statudol addysg. Cwestiwn i Gymdeithas yr Iaith yn sgil sylwadau Toni ac Osian ynglŷn â chael gwared ar ail iaith, sydd rhywbeth sydd wedi bod yn ddeisyfiad ers dros ddegawd a dŷn ni wedi methu: ydych chi’n gweld y fframwaith newydd yma’n ffordd o gael gwared ar iaith gyntaf ac ail iaith a’n bod ni’n gallu mesur sgiliau iaith ar hyd continwwm, ond derbyn y pwynt rydych chi’n ei wneud bod gwella’r sgiliau iaith yna’n dibynnu ar fwy o addysgu cyfrwng yn hytrach nag addysgu fel pwnc? Mae croeso i Myfanwy ddod â sylwadau hefyd ar y CEFR yn gyffredinol. Felly, dwi i ddim yn gwybod, gaf i ddechrau gyda’r amheuon, efallai, ŷch chi wedi eu nodi yn eich tystiolaeth chi?
Thank you very much to you all for your evidence, to begin with. It's been useful work, and it will be when we draw up our report and recommendations in due course. I'm just, in this part of questioning, going to focus on the CEFR framework. It's interesting, if I could turn to Dyfodol yr Iaith, who've expressed doubts about how that framework can be used in the statutory provision or regime in education. A question for Cymdeithas yr Iaith as a result of Osian and Toni's comments with regard to getting rid of teaching Welsh as a second language, which has been an aspiration for a number of years that has failed: do you see this framework as a way of getting rid of first language and second language and that we can measure language skills along a continuum, accepting the point you make that improving those language skills depends on more education through the medium of Welsh rather than teaching Welsh as a subject? Myfanwy is welcome to give us comments on CEFR, as well. So, shall we start, perhaps, with the doubts, perhaps, that you've noted?
Mae CEFR, wrth gwrs, system CEFR, yn cael ei defnyddio yn helaeth ar draws Ewrop, yn bennaf yng nghyd-destun oedolion sydd yn dysgu iaith fel ail iaith, ac, i'r perwyl hwnnw, mae e'n gweithio'n effeithiol iawn, ac mae angen i ni yng Nghymru fabwysiadu'r cynllun yna. Un rhan o'r cynllun yna, fel y dywedais i gynnau ynghylch gwlad y Basgiaid, yw bod disgwyl i bob swyddog Llywodraeth, pob athro ac yn y blaen, pob swyddog proffesiynol, i fod wedi cyrraedd lefel C1.
Dwi ddim yn credu bod hwn yn berthnasol iawn i addysg blant. Fe gewch chi blant cefn gwlad, yn ôl eu gallu, yn siarad Cymraeg yn hollol hyderus ac efallai na fyddan nhw'n dod yn agos at C1. Mae'n rhaid inni fesur iaith plant yn ôl eu hoed ac yn ôl eu gallu cynhenid, ac rwy'n credu bod angen system wahanol o fesur cyrhaeddiad a gallu plant ysgol, yn arbennig yn y sector gynradd, wrth gwrs. Gallwch chi ddadlau yn y sector uwchradd, popeth yn dda, mae angen anelu at hynny, ond mae hynny'n rhoi'r holl ysgolion Saesneg yng Nghymru mewn anhawster mawr, achos fyddan nhw byth yn gallu cyrraedd y lefelau sydd yn bosibl i'r rhai sydd yn mynychu ysgolion Cymraeg. Ai continwwm yw'r ateb? Posib taw e. Ond, yn y bôn, mae'n rhaid inni feddwl am system realistig sydd yn addas i blant ac ysgolion, fel bod pob plentyn a phob disgybl sydd mewn ysgol yn hyderus o ran defnyddio'r iaith sydd ganddo. O ran ysgolion Saesneg, fe fyddai'n llawer iawn mwy defnyddiol roi pwyslais mawr ar yr iaith lafar yn hytrach nag ar lefelau proffesiynol fyddai eu hangen i gyrraedd lefel C1, a gallen nhw gyrraedd hwnna, wedyn, yn ddiweddarach. Mae'n rhaid anelu at y math o iaith byddai disgyblion yn gallu defnyddio'n realistig. Hynny yw, gwnes i efallai gyrraedd lefel C1 yn Ffrangeg 50 mlynedd yn ôl ac yn hollol anhyderus o ran ei siarad. Mae'n rhaid inni gael lefelau sydd yn addas i ddisgyblion ac addas i'w defnyddio mewn bywyd bob dydd, ac mae'n rhaid i hwnna fod, yn y sector Saesneg yn bennaf, ar lafar; yn y sector Cymraeg, mae yna lawer mwy o ryddid gyda chi. Felly, buaswn i dipyn bach yn amheus o dderbyn, fel fframwaith, CEFR fel yr unig fframwaith y mae sôn amdano yn y Bil hwn.
Well, the CEFR system is widely used across Europe, mainly in the context of adults learning a language as a second language, and, to that end, it works very effectively, and we in Wales need to adopt it. One part of it, as I mentioned earlier with the Basque country, is that every Government official, every teacher and so on, every professional official is expected to have reached level C1.
Now, I don't think that this is particularly relevant to children's education. You will have children in rural areas speaking Welsh entirely confidently and perhaps they wouldn't get close to C1. We have to measure children's language ability according to their age and according to their inherent ability, and I do think that we need a different system of measuring attainment and ability in terms of schoolchildren, particularly in the primary sector. You can argue in the secondary sector, that all's well and we should aim towards that, but that places all of the English-medium schools in Wales in great difficulty, because they could never achieve the levels that are possible for those attending Welsh-medium schools. Is a continuum the solution? Perhaps it is. But, essentially, we have to think of a system that's realistic and that is appropriate for children and schools so that every child and every pupil in a school is confident in terms of using what language they have. In terms of English-medium schools, it would be far more useful to place an emphasis on spoken Welsh, rather than on the professional levels that would be required to reach C1 standard, and they could achieve that later, perhaps. But we have to aim towards the kind of language that pupils could use realistically in their daily life. I maybe reached C1 in French 50 years ago, but I had no confidence in using the language. We need levels that are appropriate for pupils and fit for purpose in daily life, and that, in the English-medium sector, mainly has to focus on spoken Welsh; in the Welsh-medium sector, you have far more freedom. So, I would be a little suspicious of accepting CEFR as a framework, or the only framework, that is mentioned in the Bill.
Iawn, diolch.
Thank you.
O ran CEFR ei hun, rwy'n credu ei fod yn cynnig datrysiad o safbwynt adnabod lefelau iaith mewn ffordd ystyrlon, ond byddwn i hefyd yn ategu bod angen rhoi elfen—mae angen addasu hi, yn amlwg, i sefyllfa'r Gymraeg, ac mae'r elfen yna o fesur hyder a pharodrwydd i'w defnyddio yn bwysig o fewn y fframwaith. Hynny yw, dwi wedi gweld sefyllfaoedd lle mae rhywun mewn gweithle sy'n mesur ar fframwaith, ond nid fframwaith CEFR, lle mae rhywun yn cyrraedd lefel 3—mewn theori yn cyrraedd lefel 3 o ran gallu—ond â dim bwriad o gwbl i ddefnyddio'r iaith maen nhw wedi'i chaffael at y lefel honno. Felly, dwi'n credu bod yna elfen o fesur parodrwydd, nid parodrwydd o ran unrhyw beth emosiynol, ond hyder i ddefnyddio'r Gymraeg o fewn y fframwaith, os ydy e'n bosib adeiladu hwnna i mewn. Ac, wrth gwrs, er mwyn iddo fod yn un continwwm, byddai'n rhaid mapio fe yn erbyn pa bynnag drefn asesu sydd o fewn ysgolion. Dwi ddim yn awgrymu fy mod i'n gwybod sut byddai gwneud hynna, ond, yn amlwg, mae'n rhaid iddo, rhyw ffordd, fapio i gyfateb â'r ffordd mae ysgolion yn asesu iaith ar hyn o bryd, cyrhaeddiad ieithyddol ar hyd yr ystod o addysg Saesneg i Gymraeg.
In terms of CEFR itself, I think it offers a solution from the point of identifying language levels in a meaningful way, but I would also add that there is a need to adapt it, clearly, to the situation of the Welsh language, and that element of measuring confidence and willingness to use the language is important within the framework. That is, I have seen situations where people are in a workplace that uses a framework measure, although not CEFR, and they reach level 3—in theory, they reach level 3 in terms of ability—but have no intention whatsoever of using the language that they've acquired at that level. Therefore, I think there's an element of measuring, not willingness in terms of anything emotional, but confidence in terms of using the Welsh language within the framework, if it's possible to build that in. And for it to be one continuum, it would have to be mapped against whatever the assessment methods are in schools. I don't suggest that I know how that could be done, but, clearly, it would need to map to correspond with the way that schools assess language currently, language attainment along the range from English language to Welsh language education.
Iawn. Diolch yn fawr.
Okay. Thank you very much.
Dwi'n mynd i ddyfynnu un o'r cwestiynau. Mae CEFR wedi ei gynllunio'n benodol ar gyfer dysgu ieithoedd tramor neu ail ieithoedd. Pa mor briodol yw cymhwyso hyn i gyd-destun dysgu'r Gymraeg? Dyw e ddim. Dyw e ddim. Mae'n ddargyfeiriad. Nôl yn 2013, awgrymodd adroddiad ar ail iaith y dylem sefydlu'r fframwaith llythrennedd ar gyfer y Gymraeg, sydd eisoes gyda ni. Yn ein hysgolion ni, mae disgrifiadau lefel o gyrhaeddiad yn y Gymraeg ar ddiwedd cyfnod allweddol 1, cyfnod allweddol 2, cyfnod allweddol 3 a chyfnod allweddol 4. Pam nad ŷm ni'n defnyddio hwnna? Mae gyda ni ein ffyrdd ni yng Nghymru o fesur cynnydd, sydd wedi bodoli ac sydd yn ddealladwy. Mae pob rhiant ym mhob ysgol yn cael adroddiad ar gyraeddiadau eu plant nhw drwy'r disgrifiadau lefel. Felly, pam ŷn ni'n mynd i gyfeiriad fframwaith sydd, gyda phob parch, yn estron? Mae'n ddargyfeiriad.
I'm going to quote one of the questions. CEFR has been planned specifically for the acquisition of foreign languages and second languages. How appropriate is it to apply this to the Welsh language? Well, it's not. It isn't appropriate. It's a diversion. Back in 2013, the report on second language suggested that there should be a literacy framework for the Welsh language, which we already have. In our schools, we have descriptions of attainment levels in Welsh at the end of key stage 1, key stage 2, key stage 3 and key stage 4. So, why don't we use that? We have our own Welsh approaches in measuring progress, which have existed and are well understood. Every parent in every school gets a report on the attainment of their children through these descriptions of levels. So, why are we moving towards a framework that, with all respect, is foreign? It's a diversion.
Byddwn i'n ategu hynny. Os yw rhywun sydd mewn ysgol cyfrwng Saesneg ar hyn o bryd yn dweud eu bod nhw'n methu siarad Cymraeg, o dan y fframwaith yma, bydden nhw'n gallu dweud eu bod nhw'n lefel A1. Ydyn nhw'n well eu byd achos hynny? Dwi ddim yn meddwl eu bod nhw. Mae'n teimlo fel ein bod ni, yn y Bil, yn hytrach na mynd i'r afael â gwraidd y broblem, sef bod y system addysg yn methu ein plant ni, yn dargyfeirio'r sylw'n fwriadol, neu jest yn chwarae o gwmpas gyda phethau sydd ddim, mewn gwirionedd, yn mynd i wneud llawer o wahaniaeth. Mae'n teimlo bod y Bil yn trio gwneud llawer o bethau, a phopeth ond rhoi sicrwydd bod addysg cyfrwng Cymraeg dros amser yn mynd i fod yn rhywbeth mae pob plentyn yng Nghymru'n ei chael.
I would echo that. If somebody who's in an English-medium school at the moment says they can't speak Welsh, under this framework, they'd be able to say they're on level A1. Are they better off because of that? I don't think they are. It feels as though, with this Bill, rather than addressing the essence of the problem, namely that the education system is failing our children, we're diverting the focus, or just playing around with things that, in reality, aren't going to make much of a difference. It feels as if the Bill is trying to do many things, and everything but providing assurance that Welsh-medium education over time is going to be something that every child receives in Wales.
Yr hyn sydd yn bwysig yw bod rhieni wedi ymgyfarwyddo â'r cwricwlwm ac i'r disgrifiadau o gyraeddiadau. Pam nad ydyn ni'n defnyddio'r drefn yna ar gyfer mesur cynnydd yn y Gymraeg, ond, ar yr un pryd, cael gwared ar y syniad yma bod yna un lefel cyrhaeddiad ar gyfer ail iaith, ac yna lefel arall ar gyfer iaith gyntaf? Ar hyn o bryd, gyda phlant ail iaith, a phobl ifanc ail iaith, rŷch chi'n adeiladu pont sy'n stopio hanner ffordd dros yr afon. Mae hwnna'n anghyfrifol, ac mae'n rhaid gwneud rhywbeth am hwnna.
What's important is that parents have grown accustomed to the curriculum and to the descriptions of attainment. So, why don't we use that system for measuring progress in the Welsh language, whilst simultaneously scrapping this idea that there is one level of attainment for second language, and another for first language? At the moment, with second-language children and young people, you are building a bridge that stops halfway across the river. That's irresponsible, and something has to be done about that.
Ydych chi'n meddwl bod y fframwaith yma yn cynnig ffordd o wahaniaethau rhwng y llwybr iaith gyntaf ac ail iaith, gan y byddai pawb yn cael eu mesur ar yr un fframwaith?
Do you think this framework provides a way of differentiating between the first language and second language path, because everybody would be measured on the same framework?
Dylai pobl gael eu mesur ar yr un fframwaith.
People should be measured on the same framework.
Ond nid CEFR, yn eich barn chi.
But not CEFR, in your view.
Mae CEFR wedi cael ei gynllunio ar gyfer dysgu ieithoedd tramor ac ail iaith. Pam ydyn ni'n chwilio am rywbeth arall pan fo gyda ni'r profiad yng Nghymru o ddatblygu'r ffyrdd o fesur cynnydd? Mae gyda ni'r gallu o fewn Cymru i greu ein fframwaith ni'n hunain gan ddefnyddio ac adeiladu ar yr hyn sydd eisoes gyda ni. Mae'r fframwaith llythrennedd yn un, a'r disgrifiadau lefel cyrhaeddiad yw'r llall.
CEFR is designed for learning modern foreign languages and second languages. Why are we looking for something else when we have the experience in Wales of developing our own ways of measuring attainment? We have the ability in Wales to create our own framework, using and building upon what we already have. We have the literacy framework, and the descriptions of attainment level is the other.
Hoffwn i ychwanegu un pwynt, os gwelwch yn dda: mae'n iawn, pa ddull bynnag rŷn ni'n ei ddefnyddio i fesur, ond mae'n rhaid i'r dull o fesur gael ei wneud yn iawn. Ar hyn o bryd, mewn ysgolion yng Nghymru, y Gymraeg yw'r unig bwnc lle rŷch chi'n gallu disgyn yn safon eich gallu a'ch sgiliau wrth newid o'r sector cynradd i'r uwchradd. Mae rhyw 20 y cant, neu 25 y cant, o ddisgyblion Cymru sydd wedi bod mewn ysgolion cynradd iaith gyntaf yn trosglwyddo i ail iaith erbyn y sector uwchradd, yn arbennig yng Ngwynedd a rhai siroedd yn y gorllewin. Mae'n rhaid cael rhywbeth yn y Bil sy'n ei gwneud hi'n angenrheidiol, beth bynnag yw'ch lefel chi o ran iaith, eich bod chi'n cynyddu drwy'r system addysg, nid yn cwympo nôl, fel sy'n digwydd heddiw.
I'd like to add one point, please: it's fine, whatever method we use to measure, but the measuring method needs to be done correctly. Currently, in schools in Wales, Welsh is the only subject where you can fall in your ability and skills in moving from the primary sector to the secondary sector. About 20 per cent or 25 per cent of pupils in Wales who've been in first language schools transfer to second language in the secondary sector, especially in Gwynedd and some counties in the west. So, there needs to be something in the Bill that makes it necessary, whatever your level is in terms of language, that you progress through the system, not fall back, as is happening today.
Thank you. Sorry, Cefin, we'll have to move on to Tom's questions. We'll go online to Tom now, please.
Diolch, Buffy. You've touched on a lot of the ground I was going to ask, so, in the interest of time, I'll skip over a few of the questions I had planned. Can we talk about the exemptions? We'll start there, in terms of the provisions in the Bill for primarily English schools getting those temporary exemptions from the requirement to provide the minimum of 10 per cent Welsh language education. I know that, in written evidence, Cymdeithas yr Iaith in particular have mentioned specific concerns about the length of the exemptions, and wanted to see these provisions removed. So, maybe that's the best place to start, and then if others want to come in and elaborate—that might be the best way to approach that.
Diolch am y cwestiwn. O'n safbwynt ni, rŷn ni'n moyn i'r Bil yma fod yn gynhwysol, i gynnwys pawb, a dŷn ni ddim yn teimlo bod trafod esemptio a thynnu allan yn gymorth o gwbl. Felly, buasem ni'n bryderus iawn o unrhyw awgrym o wneud hynny. Rŷn ni eisiau cael pob ysgol a phob plentyn yn teimlo eu bod nhw'n rhan o'r un drefn o sicrhau bod y Gymraeg yn dod yn rhan o'u bywydau nhw. Mae rhai yn mynd i fedru'i chael hi yn gyflym iawn; i rai eraill, mae'n mynd i gymryd amser i wneud hynny. Ond mae'n beryglus cynnig esemptiad, yn ein barn ni, ac mae'n torri ar draws ein syniadaeth ni a'r egwyddor o ymgorffori a chynnwys pawb yng Nghymru, beth bynnag ydy eu cefndir ieithyddol, beth bynnag ydy eu sefyllfa yn y cartref. Dwi'n dod o gartref cymysg iaith; mae pobl eraill yn dod o gartref a oedd yn Gymraeg iaith gyntaf neu Saesneg iaith gyntaf. Rŷn ni eisiau cael gwared ar y rhaniadau yna fel bod pawb yn dilyn yr un llwybr tuag at ruglder yn y Gymraeg.
Thank you for your question. From our perspective, we want this Bill to be comprehensive and to include everybody, and I don't think that discussing exemptions is of assistance in that regard at all. I would be very concerned about any suggestion of doing that. We want to get every school and every child to feel that they are part of the same system of ensuring that the Welsh language becomes part of their lives. Some will be able to acquire it very quickly; others will take time to do so. But it is dangerous to provide exemptions, in our view, and it's contrary to our principles of incorporating and including everyone in Wales, whatever their linguistic background, whatever the situation is at home. I come from a mixed-language family; others come from households that are first language Welsh, or English first language. We need to get rid of those ideas and ensure that everyone is on the same continuum towards fluency in Welsh.
Os gallaf i ychwanegu at hynny, dwi'n meddwl fel rhan o'r cwestiwn hefyd, Tom, rydych chi'n sôn am y lleiafswm o 10 y cant o addysg Gymraeg. Fe wnes i wylio tystiolaeth y Gweinidog wythnos diwethaf, ac fe wnaeth y gwas sifil a oedd gyda'r Gweinidog gadarnhau bod y 10 y cant yna yn cynrychioli'r status quo, sef beth rŷn ni'n gwybod yn barod, ond mae'r cadarnhad yna yn codi mwy fyth o gwestiynau, achos os ydy'r Bil yma yn darparu bod plant sydd mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn mynd i gael 10 y cant, sef yn union beth maen nhw'n cael nawr, sut ar y ddaear mae hynny yn mynd i olygu unrhyw gynnydd o gwbl? Pam ar y ddaear byddech chi'n rhoi esemptiad i ysgolion rhag darparu rhywbeth maen nhw i fod yn ei ddarparu ar hyn o bryd? Cawson ni hefyd gadarnhad gan y cyfreithiwr a oedd yn bresennol nad yw hynny hyd yn oed yn golygu 10 y cant i bob plentyn, sy'n ddigon i ddrysu pen unrhyw un.
Yn y bôn, rydyn ni'n gwybod nad yw'r 10 y cant yna ddim yn creu siaradwyr hyderus. Mae'r Bil fel petai yn esgus ei fod e'n mynd i wneud hynny. So yn ogystal â'r diffyg esemptiad, dyw'r 10 y cant yna jest ynddo ei hun ddim yn symud dim byd ymlaen. Yn ein tystiolaeth ysgrifenedig, rydyn ni wedi sôn am darged o 30 y cant i bob ysgol yng Nghymru, fel bod tua diwrnod a hanner, efallai, o ddarpariaeth pob ysgol yn cael ei wneud trwy gyfrwng y Gymraeg. Os ydych chi'n anelu at rywbeth fel yna, rhywbeth sy'n welliant ar y sefyllfa bresennol, dwi'n meddwl ei fod e'n deg rhoi ychydig o amser i ysgolion wneud hynny, a dwi'n meddwl ein bod ni'n cynnig pum mlynedd yn ein papur ni.
Yr unig beth roeddwn i eisiau ei ddweud hefyd am yr esemptiad yw ei bod hi'n edrych i ni fel ei bod hi'n bosib—gan gymryd bod y 10 y cant yn mynd i gael ei gynyddu dros amser i rywbeth uwch na hynny, sydd yn bosibilrwydd yn y Bil—y byddai modd i ysgol wneud cais am esemptiad am y 10 y cant, sy'n chwe blynedd, ac wedyn, petasai fe'n cynyddu i 15 y cant, gallen nhw wneud esemptiad pellach, ac yn y bôn, byddai'r plant yna yn colli allan am genedlaethau. Felly, dwi'n meddwl bod hynny'n rhywbeth y byddai'r pwyllgor yn gallu edrych arno, a chysylltu â'r Gweinidog i holi a ydy'r esemptiad yna yn rhywbeth sy'n gallu digwydd bob tro mae'r cynnydd yna yn digwydd.
If I could add to that, I think as part of the question as well, Tom, you mentioned the minimum 10 per cent of Welsh language education. I watched the evidence of the Minister last week, and the official with the Minister confirmed that that 10 per cent represented the status quo, namely what we know already, and that confirmation raises even more questions, because if this Bill provides that children who are in English-medium schools are going to have 10 per cent, which is exactly what they have now, how on earth is that going to mean any progress at all? Why on earth would you give an exemption to schools not to provide something they’re supposed to be providing already? We also had confirmation from the lawyer present that it didn't even mean 10 per cent for every child, which is enough to confuse anybody.
Essentially, we know that that 10 per cent does not create confident speakers. The Bill seems to pretend that it's going to. So, as well as the exemption, that 10 per cent just in itself does not move anything forward. I think in our written evidence we've spoken about a target of 30 per cent for every school in Wales, so that about a day and a half, perhaps, of the provision of every school is through the medium of Welsh. If you're aiming at something like that, which is an improvement on the current situation, I think it is fair to give schools some time to do so, and I think we suggest five years in our paper.
The only thing I also wanted to say about the exemption is that it looks to us as if it's possible—taking that that 10 per cent is going to increase over time to something higher than that, which is a possibility in the Bill—that a school could apply for an exemption from the 10 per cent, which is six years, then if they increase to 15 per cent they could have a further exemption, and in the end those children would lose out for generations to come. So I think that is something the committee could look at and ask the Minister if this exemption can happen every time that that increase happens.
Fyddwn i ddim yn anghytuno gyda'r syniad o gynnig esemptiad er mwyn gwneud y Bil fod yn weithredol bosibl, ond a dweud y gwir, byddwn i'n awgrymu mai 10 y cant fyddai'r esemptiad. Hynny ydy, dwi ddim yn gweld pam, fel roedd Osian yn sôn, fyddai modd i rywun eithrio ei hun allan o sefyllfa maen nhw i fod yn ei wneud ar hyn o bryd. Deg y cant yw'r isafswm, sydd ddim yn gweithio ar hyn o bryd i greu siaradwyr Cymraeg, felly byddai modd rhoi esemptiad i rai sefyllfaoedd anarferol iawn i beidio cynyddu o'r sefyllfa yna yn syth bin, ond i wneud hynny yn arafach. Ond allaf i ddim gweld unrhyw fudd o gwbl mewn rhoi esemptiad i bobl rhag gorfod darparu 10 y cant. Rŷn ni'n gwybod nad yw'r 10 y cant ei hun ddim yn eu cyrraedd nhw i'r rhicyn lleiaf o safbwynt medru defnyddio'r Gymraeg, a dyna beth rydyn ni'n edrych amdano yn y pen draw. So, byddwn i'n argymell naill ai ein bod ni'n codi'r rhicyn o'r 10 y cant yna, neu ein bod ni'n gosod y 10 y cant fel yr esemptiad.
I wouldn't disagree with the concept of providing exemptions in order to make the Bill operationally possible, but I would suggest that the exemption should be at 10 per cent. I don't see, as Osian mentioned, it would be possible for someone to exempt themselves from a situation that they should be in at present. Ten per cent is the minimum currently, and that's not working in creating Welsh speakers, so it would be possible to provide exemptions in very exceptional circumstances not to increase from that level immediately, but to do so more slowly. But I can't see any benefit at all in providing an exemption for people from having to provide that minimum 10 per cent. We know that 10 per cent in and of itself doesn't get them to that lowest benchmark in terms of using the Welsh language, and that's ultimately what we're looking for. So, I would recommend that we increase that benchmark from 10 per cent or that we place the 10 per cent as the exemption.
Mae'r Gymraeg wedi bod yn iaith statudol ym mhob ysgol ers 1988. Sut yw hi fod yna rai ysgolion yn sôn am y 10 cant yna—ble mae'r cynnydd wedi bod? Dylem ni fod yn sôn am godi'r gwaelodlin yna a chynnwys pawb, pob ysgol, yn y broses yna.
The Welsh language has been a statutory language in Wales since 1988. How is it that some schools are talking about that 10 per cent—where's the progress? We should be talking about increasing that baseline and including everybody, every school, in that process.
Dwi wedi clywed rhai o sgyrsiau'r pwyllgor ar y pwnc yma, ac yn deall y byddai rhai ysgolion ar y ffin sydd heb staff addas, sydd heb athrawon Cymraeg, heb athrawon sy'n gallu siarad Cymraeg, mewn trafferth os nad oes esemptiad ar hynny, efallai gyda'r ewyllys gorau. Buaswn i'n dymuno gweld, felly, yn y Bil bod yna gyfeiriad penodol at gynyddu nifer y staff sydd yn gallu dysgu'r Gymraeg neu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn 'Cymraeg 2050', fe argymhellodd y Llywodraeth fod angen 5,400 o athrawon ychwanegol ar gyfer y sector addysg Gymraeg, a hefyd 700 o athrawon Cymraeg ychwanegol erbyn 2050. Dwi ddim yn siŵr faint o'r athrawon hynny sydd wedi eu penodi, faint sydd gyda ni, beth yw'r cynnydd sydd wedi bod, ond nawr yw'r amser, dwi'n meddwl, i gael yn y Bil dargedau cwbl benodol am nifer y staff angenrheidiol yn y sector Gymraeg a hefyd yn y sector Saesneg. Gallai hynny gynnwys staff newydd, gallai hefyd gynnwys rhoi hyfforddiant iaith i staff, ond mae'n rhaid i hwn fod yn greiddiol yn y Bil os yw'r Bil i gyrraedd y targedau eraill. Ac o wneud hynny, efallai na fydd angen esemptiad yn y dyfodol, ond ar hyn o bryd gallaf ddychmygu bod rhai ysgolion yn ei chael hi'n anodd iawn.
I've listened to some of the discussions in the committee, and I understand that some schools on the border that don't have suitable teachers or teachers who can speak Welsh would be in trouble, unless there's an exemption, even with goodwill. I would wish to see therefore in the Bill that there is a specific reference to increasing the number of staff who can teach Welsh or through the medium of Welsh.
In ‘Cymraeg 2050’, the Government recommended that there was a need for 5,400 additional teachers for the Welsh-medium sector, and also 700 additional Welsh teachers by 2050. I'm not sure how many of those teachers have been appointed, how many we have, how much of an increase there's been, but now is the time, I think, to get into the Bill specific targets regarding the number of necessary staff in the Welsh-medium sector and the English-medium sector. That could include new staff, it could also include language training for staff, but this has to be at the core of the Bill if the Bill is to reach the other targets. And in doing so, perhaps there would be no need for an exemption in the future, but at the moment I would imagine that some schools find it very difficult.
It's like you predicted my next question, because I was just about to ask you about workforce. I wonder whether others feel that the education workforce is in place to deliver the increased amount of Welsh language provision envisaged. I'm guessing that you don't feel that that is the case, and therefore how could the Bill be strengthened?
And just to come back to that last point, I suppose, about having targets, if you like, embedded into the Bill, would they be national, in your view? Could they be geographic? Because I'm conscious that if you had a target of 700 more Welsh teachers, or whatever, and you just did that in the Welsh language heartlands in the west and you didn't have those additional teachers in Flintshire and Monmouthshire and these places, it doesn't actually solve the problem you mentioned about schools on the border. So, I wonder whether there is specific consideration that you might want to give on that front as well.
Mae angen targedau cenedlaethol, yn bendant iawn, ond fel gyda gweddill y system addysg Gymraeg, mae yna dargedau cenedlaethol ac mae'r Llywodraeth yn rhoi'r targedau wedyn i'r siroedd i'w cyflawni. Wedyn, mae'r siroedd eu hunain yn eu cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg yn datblygu targedau penodol ar eu cyfer nhw. Felly, dwi'n tybio bod angen i'r Llywodraeth roi arweiniad a dweud wrth bob awdurdod lleol beth ddylai eu targedau nhw fod, a'u bod nhw wedyn yn addasu'r targedau yna ar gyfer yr ysgolion sydd gyda nhw. Ond mae'n rhaid i chi gael y gefnogaeth ganolog genedlaethol o ran ariannu cyrsiau hyfforddi athrawon a'r holl system yna.
Mae yna bwynt arall am fyfyrwyr yr hoffwn i ddod ato fe nes ymlaen, os yw hwnna'n iawn.
We do need national targets, most certainly, but as with the rest of the Welsh language education system, there are national targets and then the Government provides targets for the individual counties to deliver, and then the local authorities in their WESPs do develop specific targets. So, I assume that the Government needs to provide guidance and to tell every local authority what their target should be, and then they adapt those targets accordingly for the schools that they have. But you need that central support at a national level in terms of funding teacher training courses for that system.
There is another point on students that I'd like to come to later, if that's okay.
Mae hwnna'n bwynt pwysig. Mae'n rhaid i'r targedau fod yn wahaniaethol yn ôl sefyllfa bresennol yr awdurdodau, a dyna pam rŷm ni wedi tynnu allan dogfen fel hyn sy'n dangos beth ydy'r sefyllfa ym mhob un awdurdod. Mae angen addasu'r targed yn ôl man cychwyn pob awdurdod.
Ond i fod yn gadarnhaol, gadewch i ni atgoffa ein hunain fod 31.4 y cant o'n gweithlu ni eisoes yn rhugl yn y Gymraeg. Mae 7.7 y cant o'r gweithlu bron â bod yn rhugl yn y Gymraeg. Rŷm ni'n sôn am 40 y cant o'n gweithlu ni eisoes yn gallu cyflwyno, yn rhannol neu'n gyfan gwbl, drwy gyfrwng y Gymraeg. O dan hwnna, mae yna 25 y cant posibl o'r athrawon sydd gyda rhywfaint o afael ar y Gymraeg, ond sydd ddim wedi cael y cyfleoedd i ddatblygu'r Gymraeg yn y gweithle ac yn eu haddysg gydol oes. Ac mae bron pawb yn y system addysg wedi cael rhywfaint o addysg Gymraeg yn eu haddysg nhw eu hunain.
Felly, gallwn ni adeiladu ar sylfaen llawer iawn cryfach na'r hyn sydd yn cael ei awgrymu. Ac fel roeddwn i'n dweud wrth y Gweinidog addysg ddoe, mae'r un problem o ran gweithlu ymysg athrawon a gofynion o ran gwyddoniaeth a mathamateg. Dyw hwnna ddim yn esgus dros beidio â chyflwyno'r pynciau yna. Ein job ni ydy sicrhau bod yr athrawon mewn swydd a'r rhai sy'n dod i fewn i'r gwaith yma yn datblygu eu sgiliau iaith nhw tra eu bod nhw yn y gweithle, yn yr ysgolion, yn ogystal â chyn eu bod nhw'n cyrraedd yna.
That's an important point. The targets need to differentiate according to the current situation of the authorities, and that's why we've drawn up a document like this that states the situation in every authority. There's a need to adapt the target according to each authority's starting point.
But just to be positive, let's remind ourselves that 31.4 per cent of our workforce are already fluent in Welsh; 7.7 per cent of the workforce are nearly fluent in Welsh. So, we're talking about 40 per cent of our workforce already being able to present, partially or fully, through the medium of Welsh. Under that, a possible 25 per cent of teachers have some grasp of Welsh, but they haven't had the opportunity to develop the language in the workplace and in their lifelong learning. Nearly everyone in the education system has had some amount of Welsh language education in their own education.
So, we can build on a much stronger basis than is being suggested. And as I said to the education Minister yesterday, there's the same problem in terms of workforce among science and mathematics teachers. It's not an excuse for not introducing those subjects. Our job is to ensure that the teachers are in post and that those coming into this work are developing their language skills while they're in the workplace, in the schools, as well as before they get there.
Mae'n dod nôl, mewn ffordd, i'r diffyg targed addysg yn y Bil, achos pe bai yna darged addysg Gymraeg yn y Bil erbyn rhyw ddyddiad, gallech chi roi dyletswydd ar y Gweinidogion i sicrhau bod yr hyfforddiant yna yn cael ei ddarparu er mwyn cyflawni amcanion y Bil, neu beth bynnag. Dwi'n meddwl bod y Llywodraeth yn dweud eu bod nhw wedi bod yn trio yn barod. Dwi'n meddwl bod yr ymdrech sy'n cael ei gwneud ar hyn o bryd gan y Llywodraeth o ran Cymreigio'r gweithlu yn druenus, a dweud y gwir, hyd yn oed ar gyfer y galw presennol, heb sôn am os oes cynnydd i fod, ac felly, p'un ai ydyw e yn y Bil neu'n rhywle arall, yn sicr mae angen i'r Llywodraeth edrych eto ar ei chynlluniau o ran hyfforddi gweithlu sy'n gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae hyd yn oed y lleisiau mwyaf ceidwadol sy'n siarad gyda chi yn awgrymu bod y sefyllfa bresennol yn annigonol o ran hynny, dwi'n meddwl.
It comes back to the lack of educational targets in the Bill, because if there was a target for Welsh language education by some date, you could place a duty on Welsh Ministers to ensure that that training is provided in order to deliver the objectives of the Bill. I think the Government have said that they have been trying, but I think the efforts being made at present by Government in terms of providing Welsh language skills in the workforce are pitiful, if I'm honest, even for the current demand, never mind if there is to be progress in this area, so whether it's in the Bill or somewhere else, then certainly the Government needs to look again at its plans in terms of training a workforce that can teach through the medium of Welsh, and even the most conservative voices that you've heard from have suggested that the current situation is inadequate in that regard, I think.
Dylai'r gweithlu gynnwys y cymorthyddion. Mae 26,000 o athrawon gyda ni, ond mae 31,000 o gymorthyddion yn gweithio yn y gyfundrefn addysg. Mae llawer iawn o'r rheini yn syrthio tu allan i'r trefniadau arferol o ran hyfforddiant ar lefel genedlaethol ac ar lefel awdurdod lleol. Felly, mae'n rhaid i unrhyw gynllun datblygu'r gweithlu ymgorffori'r holl weithlu. Ac, allan o'r 31,000 yna o gymorthyddion, mae yna, siŵr o fod, rhai miloedd a fuasai, gyda'r gefnogaeth a'r arweiniad a'r anogaeth, yn gallu dod yn athrawon cyfrwng Cymraeg, ond mae angen y cynllun a'r strategaeth ar gyfer y gweithlu yn ei gyfanrwydd. Mae'n gwestiwn pwysig.
The workforce should include the assistants. There are 26,000 teachers in our schools, but there are 31,000 assistants working in the education system. Many of those fall outside the usual arrangements in terms of training at a national level and at a local authority level. So, any plan regarding the development of the workforce needs to include everybody. And, out of those 31,000 assistants, there are probably thousands that, with the right support, encouragement and guidance, could teach through the medium of Welsh, but there is a need for a plan and a strategy for the workforce as a whole. It's an important question.
In the interest of time, I've got loads more, but I'll leave it there, because I know you've got to get on.
Okay. Thank you. Thank you, Tom. We'll now move to Gareth, please.
Thank you very much, Chair. Good afternoon, everybody. I want to focus on Part 4 of the Bill, if I may: the Welsh Government wants to establish a clear line of accountability at a national, local and school level for the planning of Welsh language education. To what extent do you believe the Bill does this?
Gwnaf i gychwyn. Ie, rŷm ni'n croesawu'r llinell glir o gynllunio ac yn croesawu'r gosod targedau a fframwaith cenedlaethol lawr i'r sirol, a'r syniad newydd o roi'r cynlluniau i ysgolion. Yr unig beth—. Wel, mae sawl peth yn fy mhoeni i, ond y prif beth dwi ddim yn siŵr amdano yw pwy sy'n mynd i fod yn gyfrifol am fesur a ydy'r ysgolion yn llwyddo i gyflawni'r cyrhaeddiad ieithyddol sydd yn eu categori nhw—dwi ddim yn deall yn iawn, o ran y Bil. Mae yna gyrhaeddiad ieithyddol ar gyfer y disgyblion yn glir wrth bob categori, ond dwi ddim yn gallu gweld pwy sy'n mynd i fod yn gyfrifol am sicrhau bod hynna yn cael ei gyrraedd. A dwi ddim ychwaith yn gweld digon o bwyslais ar sicrhau bod ysgolion, yn eu cynlluniau ysgol nhw, yn cynllunio cynnydd; hynny yw, yn hytrach na dim ond o fewn eu categori, eu bod nhw'n cynllunio symud o un categori i'r llall. Byddai'n rhaid i hynna fod yn gliriach, dwi'n meddwl, iddo fe weithio.
A'r elfen arall o safbwynt y tair lefel o gynllunio dwi ddim cweit yn sicr amdani yw bod yna gyfeiriad at y cynlluniau ysgol o greu ethos Cymraeg a chynyddu defnydd y Gymraeg ymysg y disgyblion, ac mae hynna'n llai clir yn y CSCA ac yn hyd yn oed llai clir yn y fframwaith cenedlaethol. Ac rŷm ni'n gwybod pwysigrwydd creu cyfleodd a chynnal cyfleodd i bobl ddefnyddio'u hiaith yn hytrach na dim ond ei dysgu hi ar lawr y dosbarth, a dwi'n gweld hwnna ar goll o safbwynt creu defnyddwyr Cymraeg. Does dim digon o bwyslais ar yr elfen yna o du allan yr ystafell ddosbarth, o greu ethos Cymraeg, ymwybyddiaeth o'r iaith, a chreu defnydd.
If I could start. Yes, we welcome the clear line for planning and we welcome that there are targets set and that there is a national framework that works its way down to the counties, and this new idea of giving the plans to schools. The only thing—. Well, there are a number of things that concern me, but the main thing that I'm not sure about is who's going to be responsible for measuring whether schools are succeeding in reaching the language attainment within their category—I don't fully understand, from the Bill. Language attainment by pupils is clearly set out for each category, but I can't see who's going to be responsible for ensuring that that's achieved. And neither do I see enough emphasis on ensuring that schools, in their school plans, are planning for progress; that is, rather than just remaining within their category, that they are planning to move from one category to the next. That would have to be clearer, I think, for it to work properly.
And the other element in terms of the three levels of planning that I'm not quite sure about is that there is reference to the school plans in terms of creating a Welsh ethos and increasing the use of the Welsh language among pupils, and that is less clear in the WESPs, and even less clear in the national framework. And we know about the importance of creating opportunities and providing opportunities for people to use the Welsh language, not just to learn it in the classroom, and I think that that is missing in terms of creating Welsh language users. There's not enough emphasis on that element of what happens outside the classroom in terms of creating a Welsh ethos, an awareness of the language, and generating usage.
Dwi'n meddwl, i ni, yr atebolrwydd sy'n peri'r mwyaf o bryder yw atebolrwydd y Llywodraeth. Gan fod cymaint o'r Bil yn trosglwyddo popeth drosodd i'r is-reoliadau, yn y bôn, mae'n golygu bod modd i Weinidogion osod targed, wedyn os ŷn nhw'n teimlo, 'O, efallai roedd hwnna'n rhy uchelgeisiol', gallen nhw addasu'r targed. Petasai yna dargedau statudol ar gyfer addysg Gymraeg yn y Bil, dwi'n meddwl y byddem ni'n llai pryderus am yr atebolrwydd yna. Dwi'n gwybod ein bod ni efallai'n ailadrodd ein hunain wrth sôn am y diffyg targedau yma, ond, yn y bôn, yr unig ffordd o gael atebolrwydd go iawn yw os oes rhywbeth yn y Bil nad oes modd i Weinidogion a gweision sifil eu haddasu, a dwi'n meddwl, fel mae pethau ar hyn o bryd, dŷn ni ddim yn gweld hynny.
For us, I think the accountability that causes us the greatest concern is the accountability of the Government. Because so much of the Bill transfers everything over to the regulations, essentially, that means that Ministers could set a target and then if they feel, 'Oh, perhaps that was too ambitious', they could adapt the target. If there were statutory targets for Welsh language education in the Bill, I think we'd be less concerned about that accountability. Perhaps we're repeating ourselves in talking about this lack of targets, but, essentially, the only way of getting proper accountability is if there's something in the Bill that there's no way for Ministers and civil servants to adapt, and at the moment, we're not seeing that.
Os gallaf ddilyn fyny ar hwnna: os meddyliwch chi am y drefn ar lefel genedlaethol, mae'r Bil yma yn gosod cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i sefydlu'r strategaeth. Mae e fyny, wedyn, i'r awdurdodau lleol i lunio’r cynlluniau gweithredu i droi’r strategaeth yna yn weithrediad ar lawr gwlad. Ac mae fyny, wedyn, i ysgolion, trwy eu cynlluniau ysgol nhw, i ddangos sut mae’r nodau a’r strategaeth ar lefel awdurdod i gael eu gweithredu o fewn yr ysgol. Mae’r haenau yna yn ddefnyddiol iawn. Y cwestiwn yw: pwy ydy’r bobl orau i sicrhau bod y cynlluniau yna yn weithredol i’r graddau eu bod nhw’n cael effaith go iawn? Wel, mae’n amlwg, o ran yr awdurdodau lleol, fod angen corff uwchben yr awdurdodau lleol i edrych yn fanwl ar y cynlluniau yna. Mae Llywodraeth Cymru—swyddogion Llywodraeth Cymru—wedi bod yn gwneud hynny, ond dwi’n cwestiynu os oes ganddyn nhw’r capasiti, a gyda phob parch, y gallu, i fedru gwneud hynny mewn ffordd effeithiol iawn. Ac a gaf i awgrymu efallai bod y degawd o’r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, sydd ddim wedi rhoi’r math o dwf disgwyliedig i ni, yn awgrymu nad yw’r capasiti yna? Felly, rŷn ni’n awgrymu, fel rhan annatod o waith Estyn, dylen nhw hefyd fod yn gyfrifol am adolygu ac arolygu cynlluniau strategol a chynlluniau gweithredu ar lefel awdurdod lleol.
O ran yr ysgolion, cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw e, fel man cychwyn, i edrych ar y cynlluniau yna, ac i weld i ba raddau mae’r cynlluniau yna yn cyflawni nodau ac yn ymateb i gynlluniau gweithredu yr awdurdodau lleol. Felly, mae yna fodd i adnabod llinell atebolrwydd, ond mae’n rhaid nodi e’n gwbl glir yn y Bil. Ar hyn o bryd, mae braidd yn rhy annelwig, a dwi yn meddwl byddai cael rhywbeth gwrthrychol—corff fel Estyn—yn edrych, yn sicr ar lefel awdurdod lleol, a nodi bod hyn yn rhan o’u cyfrifoldeb nhw, nid yn seiliedig ar fympwy—. Mae ganddyn nhw’r hawl nawr i wneud hynny, ond dyw e ddim yn digwydd. Rŷn ni’n dweud y dylai fod yn digwydd yn rheolaidd fel rhan annatod o’u gwaith nhw.
If I could follow up on that: if you think of the system at a national level, this Bill places a responsibility on the Welsh Government to establish the strategy. It's then up to local authorities to draw up the implementation plans to implement that strategy on the ground. It’s then up to schools, through their own school plans, to show how the objectives and the strategy at the local authority level are being implemented within that school. Now, those tiers are very useful, but the question is: who is best placed to ensure that those plans are operational to the extent that they're having a real impact? Well, it’s clear, from the perspective of the local authorities, that you need a body above the local authorities to look in detail at those plans. The Welsh Government—Welsh Government officials—have been doing that, but I question whether they have the capacity, and, with all due respect, the ability, to do that in an effective way. And may I suggest that the decade of Welsh in education strategic plans, which haven't provided us with the expected growth, suggests that the capacity isn’t there? So, we suggest that, as an integral part of the work of Estyn, they should be responsible for reviewing and inspecting the strategic plans and the implementation plans at the local authority level.
In terms of the schools themselves, it’s the responsibility of local authorities, as a starting point, to look at those plans, and to see to what extent those plans are delivering the objectives of, and responding to, the local authority's implementation plans. So, one can identify a line of accountability, but it has to be clearly set out in the Bill. At the moment, it’s a little too ambiguous, and I think that having something objective—a body such as Estyn—looking at it, certainly at a local authority level, and noting this as one of their responsibilities, not happening by accident—. They have the right to do that now, but it’s not happening at the moment. We say it should be happening regularly as an integral part of their work.
Efallai y cwestiwn yw: atebolrwydd am beth? Hynny yw, beth yw pwrpas y Bil yma? A dwi’n meddwl dyna, efallai, sydd ddim yn eglur. Ai rhoi addysg Gymraeg i bawb? Achos os felly, dywedwch hynny, ac os nad hynny, dywedwch hynny hefyd. Hynny yw, beth yw pwrpas y Bil, ac felly, sut mae modd mesur atebolrwydd unrhyw un?
Perhaps the question is: accountability for what? That is, what is the purpose of this Bill? And I think that’s what’s not clear. Is it Welsh language education for everybody? Because if so, say that, and if not, say that as well. That is, what is the purpose of the Bill, and, therefore, how can the accountability of anybody be measured?
Os caf i ddweud gair bach fan hyn. Popeth yn iawn am linellau atebolrwydd—mae angen gweithio hwnna mas yn fanwl. Mae’n rhaid cofio bod Gweinidogion ac Ysgrifenyddion yn gallu newid o flwyddyn i flwyddyn, felly mae’n rhaid i chi gael rhyw fath o system weddol barhaol sydd yn gyson dros 10 mlynedd. Ond fy mhrif ofid i am Ran 4 yw bod sôn cyson yma am addysg Gymraeg, ond addysg Gymraeg yn yr ystyr o ddysgu’r Gymraeg fel pwnc, nid darpariaeth Gymraeg. Gallwch chi, mewn ysgol Saesneg, gael darpariaeth Gymraeg, ond gallwch chi ddim cael addysg Gymraeg. Does dim un sôn yn y Bil yma, nac yn yr adran yma, am ysgolion Cymraeg, am ysgolion cyfrwng Cymraeg, am y system drochi cynnar; holl seiliau’r Llywodraeth hyd yn hyn, dros 20 mlynedd o sut i ddatblygu addysg Gymraeg, dyw e ddim yn y Bil. Ac mae hwnna’n destun rhyfeddod, dwi’n credu, ac mae’n mynd i fod yn golled enfawr os yw’r drafodaeth am addysg Gymraeg yn mynd i symud i sut rŷch chi’n dysgu Cymraeg fel pwnc. Ac nid dyna yw e. Mae’n rhaid dysgu Cymraeg fel cyfrwng mewn ysgolion Cymraeg yn bendant, ond fwyfwy mewn ysgolion Saesneg.
Un gwendid arall sy’n codi o hwnna yn y Bil yw nad oes un categori yn y Bil yn diffinio beth yw ysgol Gymraeg. Mae yna ysgol prif iaith Cymraeg yn y Bil, ond gallai hwnna fod yn ysgol ddwyieithog, yn ysgol lle mae 51 y cant o’r dysgu trwy’r Gymraeg, neu 51 y cant o’r myfyrwyr mewn ysgol. Addysg Gymraeg, yn draddodiadol, yw ysgol lle mae 100 y cant o’r disgyblion yn derbyn o gwmpas 80 y cant o’u pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n rhaid i hwnna fod yn y Bil os yw’r Bil i fod yn berthnasol. Yng Ngwlad y Basg, dŷn nhw ddim wedi dileu categori D, sef ysgolion Basgeg, am ryw resymau rhyfedd, ond rŷn ni fan hyn yn bwriadu dileu categori ysgolion Cymraeg o’r Bil, a dwi’n ffeindio hwnna yn eithaf anghredadwy.
Felly, dau beth buaswn i eisiau dweud. Un: mae'n rhaid cael categori ysgol Gymraeg yn y Bil fel pedwerydd categori, neu addasu categori 3. A hefyd, mae’n rhaid i ni wedyn addasu’r diffiniad o 'addysg Gymraeg' i fod yr hyn rŷn ni’n draddodiadol yn ei feddwl wrth addysg Gymraeg, nid darpariaeth Gymraeg, fel sydd yn y rhan fwyaf o’r Bil. Os yw’r Bil am ddilyn gweddill trafodaeth addysg y Llywodraeth yma dros 20 mlynedd, mae’n rhaid sôn am dwf addysg Gymraeg. Does dim sôn am dwf addysg Gymraeg yn benodol yn y Bil. Does dim sôn yma, er enghraifft, am faint o ysgolion cynradd newydd sy'n cael eu sefydlu a faint ohonyn nhw ddylai fod yn ysgolion Cymraeg. Mae yna le i ddadlau dylai bob un fod yn Gymraeg, os ydych chi o ddifrif eisiau cynyddu nifer y disgyblion sydd yn gallu siarad Cymraeg. Felly, dyna'r ddau beth dwi'n ofni sydd ddim yn y fframwaith, a buaswn i'n dymuno'n fawr i hwnna newid, ond mae hwnna'n golygu wedyn ein bod ni'n newid llawer iawn o eiriad y Bil, bron o'r dechrau i'r diwedd, o ran categoreiddio ysgolion a hefyd diffinio beth yw addysg Gymraeg. Diolch.
If I can say a word here. Everything is fine about lines of accountability—that needs to be worked out in detail. You must remember that Ministers and Secretaries can change from year to year, so you have to have some sort of system that’s quite permanent over a period of 10 years. But my main concern about Part 4 is that there’s a lot of talk about Welsh language education, but Welsh language education in the sense of teaching it as a subject, not provision. In an English school, you can have Welsh language provision, but you can’t have Welsh language education. There’s no mention at all in this Bill, or in this part, about Welsh language schools, Welsh-medium schools, the early immersion system; all of the Government's underpinnings so far, over 20 years of developing Welsh language education, are not in the Bill. And that’s a surprise, I think, and it's going to be a great loss, if the discussion about Welsh language education is going to move to how you teach Welsh as a subject. And that’s not it. You have to teach the Welsh language as a medium in Welsh schools certainly, but increasingly so in English language schools.
One other weakness that arises from that in the Bill is that there is not one category in the Bill defining what is a Welsh-medium school. There is a primarily Welsh language school in the Bill, but that could be a bilingual school, where 51 per cent of the teaching is through the medium of Welsh, or 51 per cent of the students in a school. But Welsh-medium education, traditionally, is a school where 100 per cent of the pupils receive about 80 per cent of their subjects through the medium of Welsh. That has to be in the Bill if the Bill is to be relevant. In the Basque country, they haven’t got rid of category D, which are Basque language schools, for some very strange reasons, but here we intend to get rid of the category of Welsh-medium schools from the Bill, and I find that quite unbelievable.
So, two things I would want to say. One: you must have a Welsh-medium school category in the Bill as a fourth category, or adapt category 3. And also, we have to then adapt the definition of 'Welsh language education' to be what we traditionally mean by Welsh language education, not Welsh language provision, as is in the majority of the Bill. If the Bill is to follow the rest of this Government’s education discussion over the last 20 years, it has to talk about the growth of Welsh-medium education. There’s no specific mention of the growth of Welsh-medium education in the Bill. There's no mention, for example, of how many new primary schools are being established and how many of those should be Welsh-medium schools. There is room to argue that they should all be Welsh-medium schools, if you want to increase the number of pupils who can speak Welsh. So, those are the two issues that I'm afraid aren't in the framework, and I would very much wish for that to change, but that means then that we change a lot of the wording of the Bill, from almost the beginning to the end, in terms of categorising schools and also defining what Welsh-medium education is. Thank you.
Gaf i ategu? O safbwynt Mentrau Iaith Cymru, rwy'n creu mai dyna'r gofid mwyaf byddai gyda ni am y Bil fel mae e'n sefyll ar hyn o bryd, sef y categori uchaf sydd yn bodoli yn y Bil hwn, achos mae ein profiad ni o gynllunio ieithyddol yn nodi, dro ar ôl tro, bwysigrwydd creu gofodau Cymraeg. O safbwynt cynnal defnyddwyr Cymraeg, mae angen sefyllfaoedd lle maen nhw'n gallu defnyddio eu Cymraeg yn naturiol, yn ddiofyn, ac rŷn ni'n cydnabod hynna yn gymdeithasol, bod gofodau Cymraeg yn hynod o bwysig. Wel, dyna, mewn ffordd, yw'r ysgolion Cymraeg ar hyn o bryd i bobl ifanc. Maen nhw'n ofodau Cymraeg sy'n cael eu gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae eu holl weithgaredd allgyrsiol nhw drwy gyfrwng y Gymraeg, a thu hwnt i hynny, mae yna bontio rhwng y Gymraeg maen nhw'n ei defnyddio yn yr ysgol a'r Gymraeg maen nhw'n ei defnyddio yn y cymunedau, a dyna un o brif bwrpasau mentrau iaith, sef sicrhau bod y defnydd o'r Gymraeg yna sy'n cael ei gaffael yn yr ysgol yn wirioneddol yn cael ei ddefnyddio'n gymunedol. Heb y categori uwch yna, rŷn ni'n diystyru neu'n israddio gofodau Cymraeg, ac mae hi'n hollbwysig bod hynna yn nod, i gynyddu'r gofodau Cymraeg yna, yr ysgolion yna sy'n darparu drwy gyfrwng y Gymraeg ac sy'n darparu holl brofiad cyfannol y disgybl yn Gymraeg, fel bod modd iddyn nhw fod yn ddefnyddwyr hyderus.
If I could add. From the perspective of Mentrau Iaith Cymru, I think that would be our major concern about the Bill as it currently stands, namely the highest category as it exists in this Bill, because our experience of language planning does highlight, time and time again, the importance of creating Welsh language spaces. In terms of supporting those who use the Welsh language, they need spaces where they can use the Welsh language naturally, by default, and we recognise that socially, that Welsh-speaking spaces are important. Well, that, in a way, is what Welsh-medium schools are at the moment for young people. They are Welsh spaces that operate through the medium of Welsh, and all of their extracurricular activities are conducted through the medium of Welsh, and beyond that, there is a bridge between the Welsh that they use in school and the Welsh that they use within their community, and that's one of the main purposes of the mentrau iaith, namely to ensure that the use of the Welsh language that is acquired in school can truly be used on a community basis. Without that higher category, then we are disregarding or downgrading Welsh language spaces, and it is crucial that that should be an aim, to increase those Welsh language spaces, those schools that provide through the medium of Welsh and that provide a comprehensive experience for pupils through the medium of Welsh, so that they can become confident Welsh speakers.
Rŷn ni'n cytuno â'r safbwyntiau yna o ran bod addysg cyfrwng Cymraeg angen ei diffinio ac mewn ffordd dyna'r nod i bob ysgol anelu ato. Dyna beth rŷn ni eisiau gweld pawb yn mynd tuag ato. I ni, dydyn ni ddim yn credu yn y categoreiddio ysgolion—dwi'n siŵr y gwnaiff Toni sôn mwy am hynna mewn eiliad. Ond i ni, er mor bwysig yw diffinio addysg cyfrwng Cymraeg, ein pryder mwyaf ni yw pen arall y sbectrwm, fel roeddwn i'n sôn, yr 80 y cant sydd ar hyn o bryd yn cael eu gadael lawr ac a fydd, hyd y gwelwn ni, yn dal i gael eu gadael lawr. Felly, mae eisiau edrych ar y peth o safbwynt y plentyn, ac rŷn ni'n gobeithio bydd y Gweinidog, sydd wrth gwrs yn berson sy'n rhoi sylw i fanylder, yn gwrando ar dystiolaeth y gymdeithas ac eraill, a hefyd y pwyllgor plant, wrth gwrs, sy'n rhoi plant yn ganolog yn eich holl waith. Dydyn ni ddim yn dechrau gyda, 'Wel, faint o athrawon sydd gyda ni? O, os felly, gwnawn ni weld beth allwn ni ei wneud.' Rŷn ni'n dechrau gyda'r egwyddor, 'Ydyn ni eisiau i bob plentyn gael y Gymraeg neu beidio?' Ac os ydyn ni, mae'n rhaid inni wneud i hynny ddigwydd drwy ba bynnag ddull sy'n peri i hynny ddigwydd.
We agree with those perspectives in that Welsh-medium education needs to be defined and in a way that should be the aim for every school. That's what we want every school to aim for. For us, we don't believe in the categorisation of schools—I'm sure Toni will talk more about that in a second. But for us, as important as defining Welsh-medium education is, our greatest concern is the other end of the spectrum, as I mentioned, the 80 per cent at the moment that are being let down and, as far as we can see, are going to be still let down. So, there's a need to look at it from the perspective of the child, and we hope that the Minister, who of course is a person who puts great emphasis on detail, will listen to our evidence and the evidence of others, and also to the children's committee, which places children at the centre of all your work. We're not starting with, 'Well, how many teachers do we have? Oh, if so, we'll see what we can do.' We're starting with the principle of, 'Do we want every child to have Welsh or not?' And if we do, we have to ensure that that happens through whatever method will enable that to happen.
Gareth.
Thank you very much for those comprehensive responses and really interesting responses in that regard. I'm sure we can note those as a committee and represent those. I want to focus on the WESP now. It's been mentioned in a couple of the responses. I just want to dig a bit into the WESP itself and the naming of it. Do you have any views on the retention of the name 'Welsh in education strategic plan', rather than the 'Welsh education implementation plan', which was proposed in the White Paper initially? I'm just trying to gauge, really, whether it is just a simple technical name change, or whether there were any initial alternative plans within the Welsh education implementation plans that would have been different or would have perhaps had higher levels of efficacy in terms of what the Bill wants to achieve. So, I'm just trying to seek a professional response, really, as to how those name changes could potentially make a difference to the efficacy of the Bill, or whether it is just a simple difference in the terminology. Thanks.
Mae hynna hefyd yn bwysig. Mae yna wahaniaeth rhwng strategaeth, cynllun gweithredu a chynllun cyflawni, a dwi'n credu bod gofyn i'r awdurdodau lleol lunio cynlluniau gweithredu o fewn eu strategaeth ehangach nhw o ran y Gymraeg yn gam i gyfeiriad eu gorfodi nhw i lunio sut y maen nhw'n mynd i greu newid o fewn eu hawdurdod nhw. Ac yn yr un modd, yn hytrach na jest cydnabod bod yna gynllun strategol Cymraeg mewn addysg yn yr awdurdod, gofyn i bob ysgol i edrych, i ddadansoddi eu sefyllfa ieithyddol nhw ar hyn o bryd ac i gynllunio i newid hwnna er gwell, er budd pobl ifanc. Dim ymarferiad papur y dylai fod.
O'r profiad o fod wedi edrych ar gynlluniau strategol y gorffennol, a oedden nhw'n gweithio, i Lywodraeth Cymru, ac ar ôl hynny, i raddau helaeth iawn, maen nhw'n tueddu i fod yn adroddiadau ar y sefyllfa lle maen nhw, yn hytrach na chynlluniau gweithredu i newid a sicrhau bod yna gynnydd yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Felly, mae'r geiriau, yn fy marn i, yn bwysig, ond, y tu ôl i'r geiriau yna, mae angen cynllunio sut i sicrhau—eich cwestiwn cynt chi—atebolrwydd eu bod nhw yn gweithredu. Mae profiad 10 mlynedd o gynlluniau strategol addysg wedi dangos nad ydyn nhw wedi arwain at y twf disgwyliedig, felly mae angen cwestiynu a yw'r eirfa a'r gofynion wedi gweithio, ac mae'r dystiolaeth yn awgrymu dydyn nhw ddim wedi.
That's also important. There is a difference between a strategy, an implementation plan and a delivery plan, and I think asking local authorities to develop implementation plans within their broader strategies in terms of the Welsh language is a step towards requiring them to set out how they will generate change within their authorities. And likewise, rather than just acknowledging that there is a Welsh in education strategic plan in any authority, to ask every school to analyse their linguistic situation at the moment and to plan to change that for the better, for the benefit of young people. It shouldn't be a paper-based exercise.
From the experience of having looked at strategic plans in the past, how they were working, for the Welsh Government, and after that, to a great extent the reports tend to describe where schools are at the moment, rather than being implementation plans to generate change and to ensure that there is progress and an increase in Welsh-medium provision. So, the wording in my view is important, but, behind those words, we need to plan how to ensure, in relation to your earlier question, accountability for implementation. The 10-year experience of the WESPs has shown that they haven't led to the expected growth, so we need to question whether the wording and the requirements have worked, and the evidence suggests that they haven't.
Fuaswn i ddim yn poeni gormod am y teitl. Dwi'n credu os yw'r siroedd yn gyfarwydd â'r teitl 'cynlluniau strategol addysg Gymraeg', popeth yn dda, ond mae eisiau i'r rheini wedyn fod yn gyson â'r Bil. Ar hyn o bryd, yng ngeiriad y cynlluniau strategol, mae'r frawddeg yma:
'gwella’r broses o gynllunio’r modd y mae addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei darparu yn ei ardal'.
Does dim addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn y Bil o gwbl, felly mae'n rhaid cael rhywfaint o gysondeb rhwng y Bil a'r hyn sydd yn digwydd nawr.
Yn yr ail le, o ran gwella'r systemau gweithredu, mae'n rhaid cael cydlynu mwy agos rhwng cynlluniau strategol y Gymraeg a'r cynlluniau ar gyfer yr arian cyfalaf datblygu ysgolion sydd ar gael gan y Llywodraeth o dan adrannau eraill. A fydd dim twf mewn gwirionedd mewn ysgolion Cymraeg heb eich bod chi'n cydlynu'r ochr cyfalaf iddo fe. Felly, mae'n rhaid edrych ar y cyfan yna, ond dwi'n tybio bod modd gwneud hynny trwy'r fframwaith maes o law.
I wouldn't worry too much about the title. I think that if authorities are familiar with the term WESPs, that's fine, but there's a need for those, then, to be consistent with the Bill. Currently, in the wording of the strategic plans, there's a sentence about
'improving the planning of the provision of Welsh-medium education in its area'.
There is no education through the medium of Welsh in the Bill at all, so there needs to be some consistency between the Bill and what's happening now.
Secondly, in terms of improving the implementation systems, there needs to be closer co-ordination between WESPs and the capital programme for developing schools that the Government has under other departments. And there'll be no growth, really, in Welsh schools until you co-ordinate the capital side of it. So, there's a need to look at all of that, but I would think that there's a way of doing so through the framework in due course.
Thank you, Gareth. We'll have to move on now, to questions from Vaughan Gething, please.
Diolch, Cadeirydd. Just a couple of questions on the National Institute for Learning Welsh, which is Part 5 of the Bill. The first is whether you think the Bill and the explanatory memorandum provide sufficient clarity on the resource and funding requirements being made available for the national institute to achieve its own functions and objectives.
Does dim pwrpas sefydlu athrofa oni bai eich bod chi'n sicrhau bod yna gyllido teilwng i gyflawni'r newid. Felly, mae angen llawer iawn mwy o fanylder o'n persbectif ni ar beth yn union mae'r athrofa yn mynd i'w wneud a sut mae'n mynd i'w wneud e, a beth yw'r cyllid a'r adnoddau fydd ar gael i'r athrofa yna i gyflawni'r nod yna. Dwi'n dod yn ôl i'r pwynt creiddiol: mae 80 y cant o'n plant ni'n cael eu hamddifadu o'r Gymraeg; rhaid i'r athrofa yma daclo'r issue yna ac nid jest paratoi manion ar gyrion y drefn addysg sydd ar hyn o bryd i symud peth ymlaen fan hyn a fan draw. Mae angen athrofa sydd—
There's no purpose in establishing a national institute unless you ensure that there is adequate funding to deliver the change. So, we need a lot more detail from our perspective in terms of what exactly the institute will deliver and how it will deliver, and what funding and what resources will be available to that institute to deliver that objective. I return to that core point: 80 per cent of our children are being deprived of the Welsh language; this institute has to tackle that issue and not just prepare things at the periphery of the current education system to move things on here and there. We need an institute that—
With respect, that's answering a different question. The question is whether you think the resources set out will meet the objectives set out, not—. Entirely reasonably, you have a different set of objectives that you'd like to achieve, which you say aren't in the Bill. So, it's whether you think that, for what the institute itself has set out to do, whether the explanatory memorandum of the Bill sets out the resources available to do that.
Wel, dwi'n meddwl, beth yw amcanion y Bil, dyw e ddim yn eglur. Os ydy'r pwyllgor yn meddwl eu bod nhw'n eglur, bydden ni'n gwerthfawrogi'r eglurder yna gennych chi. Hynny yw, mi allai'r Bil fod yn symud ysgolion tuag at ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2050, ond mi allai fe hefyd gadw at y status quo neu unrhyw beth yn y canol. Yn bersonol, byddwn i o blaid bod yna ddyletswydd ar Weinidogion i ariannu'r athrofa newydd yn ddigonol, ac, mewn ffordd, er mwyn gwneud hynny mae angen rhyw nod yn y Bil—hynny yw, yn ddigonol er mwyn cyflawni'r nod penodol.
I ni, hefyd, mae'n fater o gall y ddarpariaeth fod yn yr athrofa, ond oes yna ddyletswydd ar awdurdodau lleol ac ysgolion i ymgymryd â'r ddarpariaeth yna? Hynny yw, dyw e ddim jest bod y ddarpariaeth ar gael, mae hefyd angen rheidrwydd ar y system addysg gyfan i ymgymryd â'r ddarpariaeth yna.
Well, what the objectives of the Bill are, I don't think that's clear. If the committee feels that they are clear, then we would appreciate some clarity from you on that. Now, the Bill could move schools towards providing through the medium of Welsh by 2050, but it could also retain the status quo or anything in between. Personally, I would be in favour of placing a duty on Ministers to fund the new national institute adequately, and, to do that, you need an objective in the Bill—that is, adequately to deliver the particular aim.
For us, too, it's a matter of that the provision could be through the institute, but is there a duty on local authorities and schools to engage with that provision? It's not just about making the provision available, it's about ensuring that the whole education system does engage with that provision.
Rwy'n credu byddai fe'n beth da iawn ei fod e yn y Bil, o bosib, fod yr athrofa yn cydweithio'n agos gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a hefyd gyda phrifysgolion i ddarparu cyrsiau dysgu Cymraeg dwys i athrawon. Roedd cyrsiau o'r fath yn boblogaidd 20 mlynedd yn ôl. Roedd pobl fel Cennard Davies a Basil Davies yn llwyddiannus iawn, iawn i gael athrawon cynradd yn arbennig, ac uwchradd, i ddysgu Cymraeg mewn blwyddyn mewn cyrsiau dwys iawn. Mae'r rheini wedi hen ddiflannu. Mae yna rai cyrsiau tymor ar gael, ond llawer llai na’r hyn oedd o'r blaen. A dwi'n credu byddai’n dda pe bai rhyw gymal yn y Bil i ychwanegu y dylai’r athrofa anelu at gynnal nifer ddigonol, mewn partneriaeth gyda'r lleill, o gyrsiau dysgu Cymraeg dwys, a bod y rheini wedyn yn cael eu hariannu, mae'n siŵr, gan y Llywodraeth.
I think it would be a very good thing if it were included in the Bill, possibly, that the institute should work closely with the Coleg Cymraeg Cenedlaethol, and also with universities, to provide intensive Welsh learning courses to teachers. Such courses were popular 20 years ago. People such as Cennard Davies and Basil Davies were very successful indeed in getting primary teachers, in particular, and secondary school teachers, to learn Welsh in a year in very intensive courses. Those have long gone. There are some one-term courses, but there are far fewer than what we had in the past. I think it would be good if there were a section in the Bill where it stated that the institute should aim, in partnership with the other bodies, to establish a sufficient number intensive Welsh learning courses, and that those then are funded by the Government.
Gaf i ategu un bach—?
If I can add one minor point—.
Yes, and then I have one final question.
Yn gyflym, dwi ddim yn honni gwybod os ydy'r Bil yn rhoi digon o adnodd, o ystyriaeth adnoddol neu gyfrifoldebau i'r athrofa, ond byddwn i yn hoffi ychwanegu bod angen rhywbeth sydd yn nodi bod yn rhaid creu partneriaeth rhwng dysgu—addysgu pobl i siarad Cymraeg—a rhoi cyfleoedd iddyn nhw i ddefnyddio'r Gymraeg. Dyw hynna ddim yno ar hyn o bryd. So, mae gen ti athrofa sydd yn gyfrifol am sicrhau bod pobl yn dysgu'r Gymraeg, ond does dim byd yn ei le i nodi bod angen sicrhau bod cyfleoedd i'r bobl hynny i ddefnyddio eu Cymraeg fel eu bod nhw'n croesi'r bont i fod yn siaradwyr hyderus.
Just very briefly, I'm not claiming that I know whether the Bill provides sufficient resource, sufficient consideration of resources or responsibilities for the institute, but I would like to add that there needs to be something that notes that there should be a partnership between teaching people to speak Welsh and providing them with opportunities to use the Welsh language. That's not there at the moment. So, you have an institute that's responsible for ensuring that people learn Welsh, but there's nothing in place to note that we need to ensure that there are opportunities for those people to use the Welsh language skills that they have so that they do become proficient and confident speakers.
I understand the point that you're making and it's whether that's in the scope of the Bill, and I understand the argument you're making about that.
Just a final question. It's about some of the evidence from Dyfodol i'r Iaith. Your evidence says that the duties and functions placed on the institute will not compensate for the serious loss of students studying at universities outside Wales. So, I just wanted to understand whether you're saying that that is a fault in the Bill and there's something that the Bill could do about that or whether you're saying that that's really about what we do to encourage more people to study in Wales, or to return to Wales if they study outside of Wales, so that they don't leave Wales and take the language with them, but they return as well. So, I'm trying to understand the points being made.
Diolch yn fawr. Y pwynt sylfaenol yw, ers 2004, yn wahanol i’r Alban a Gogledd Iwerddon, mae Cymru'n talu’n llawn i bob myfyriwr sydd am astudio y tu allan i Gymru. Effaith hwnna yw bod 40 y cant o’n myfyrwyr ni nawr yn astudio y tu allan i Gymru. Yn yr Alban, mae 5 y cant yn astudio y tu allan i'r Alban, a 25 y cant yn astudio y tu allan i Ogledd Iwerddon. Mae’r Alban yn talu’n llawn i fyfyrwyr aros yn yr Alban, mae Gogledd Iwerddon yn talu 75 y cant, ond dŷn ni ddim yn gwahaniaethu. Dwi'n credu bod yr amser wedi dod i ddechrau gwahaniaethu.
Yr ail beth y mae’r Llywodraeth wedi ei wneud yw, dros y pum mlynedd diwethaf, gwario £11 miliwn ar gynllun Seren, sydd yn denu myfyrwyr Cymru i astudio’n bennaf ym mhrifysgolion Grŵp Russell—pob un ond un y tu allan i Gymru. Gyda chynllun Seren, mae 70 y cant o'u myfyrwyr nhw yn astudio y tu allan i Gymru. Mae fel pe baem ni'n fwriadol yn gyrru ein talent ni allan o Gymru. Yn flynyddol, rŷn ni'n talu £0.5 biliwn y flwyddyn i brifysgolion y tu allan i Gymru.
Rwy’n credu bod yn rhaid inni edrych o ddifri ar sut mae newid hynny. Oes lle i hynny yn y Bil, sy'n beth arall, a dwi'n credu bod. Pe bai’r Bil yn rhoi targedau ar nifer myfyrwyr, cynyddu nifer y myfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru, canrannau’r myfyrwyr sydd yn cael eu hyfforddiant addysg fel athrawon yng Nghymru, byddai hwnna’n beth da. Ar hyn o bryd, mae'r holl fyfyrwyr yma sydd yn mynd y tu allan i Gymru yn rhwym o astudio eu holl bynciau trwy'r Saesneg, dŷn nhw ddim yn cael cyrsiau hyfforddi i fod yn athrawon gydag elfen o'r Gymraeg, ac rŷn ni'n colli cyfleoedd mawr, dwi'n meddwl, i wella ar hynny.
Un peth rhyfedd yw dyw'r Llywodraeth ddim yn cadw unrhyw fath o gofnod o faint o’r myfyrwyr yna sydd yn dod yn ôl, er ein bod ni'n eu gyrru nhw allan. Byddwn i'n hoffi gweld yn y Bil ryw elfen o gyfeirio at fodd o, o leiaf, annog myfyrwyr, drwy wahanol ddulliau, ariannol o bosibl, i astudio yng ngholegau Cymru ac i adeiladu gweithlu dwyieithog yng Nghymru, adeiladu’r economi yng Nghymru—mae yna fanteision llawer pellach na jest yr iaith yn hynny.
Thank you very much. The basic point is that, since 2004, in contrast to Scotland and Northern Ireland, Wales pays in full for every student who wants to study outside of Wales. The impact of that is that 40 per cent of our students are now studying outside of Wales. In Scotland, 5 per cent study outside of Scotland, and 25 per cent study outside of Northern Ireland. Scotland pays in full for students to stay in Scotland, Northern Ireland pay 75 per cent, but we don't differentiate. I think the time has come to start to differentiate.
The second thing that the Government has done is, over the last five years, spend £11 million on the Seren scheme, which encourages Welsh students to study mainly in Russell Group universities—all, bar one, outside of Wales. With the Seren scheme, 70 per cent, I think, of them study outside of Wales. It's as if we're deliberately driving our talent out of Wales. On an annual basis, we're now paying £0.5 billion a year to universities outside of Wales.
I think we have to look seriously at how to change that. Is there room for doing so in the Bill is another matter, and I think there is. If the Bill set targets on increasing the number of students who study in Wales, the percentage of students who receive their teacher training in Wales, that would be a good thing. Currently, all of these students who go outside of Wales will study their subjects through the medium of English, they don't receive teacher training courses with an element of Welsh in them, and we're missing great opportunities to improve on that.
One strange thing is that the Government doesn't keep any sort of record of how many of those students return to Wales, even though we are driving them out of Wales. I would like to see in the Bill some element of referring to encouraging students, through different methods—financially, possibly—to study in Welsh universities and colleges and to build a bilingual workforce in Wales, build the economy in Wales—there are far broader advantages than just the language in that.
Thank you. I'm sorry we can't carry on, but I understand that we're out of time, Chair, so I won't press the issue.
Thank you. Thank you all for attending today, we really do appreciate your time. There will be a transcript sent to you for checking in due course, but we do appreciate your time today and sorry it was so brief.
Diolch yn fawr iawn am y cyfle—gwerthfawrogi'n fawr.
Thank you very much for the opportunity; I very much appreciate it.
Right, we'll now move on to item 8, which is papers to note. Full details of the papers are set out on the agenda and in the paper pack. Are Members content to note the papers together? Yes.
I would like to highlight the first paper to note, which is the response from the Welsh Government to our interim report on implementation of education reforms. The response states that the Welsh Government accepts four of our recommendations in full, three in part and rejects one. The Senedd debate on our report will be held on Wednesday, 16 October.
As agreed earlier in the meeting, we will now move on to private session for item 9.
Daeth than gyhoeddus y cyfarfod i ben am 14:36.
The public part of the meeting ended at 14:36.