Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol
Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
17/07/2024Aelodau'r Pwyllgor a oedd yn bresennol
Committee Members in Attendance
Alun Davies | |
Carolyn Thomas | |
Delyth Jewell | Cadeirydd y Pwyllgor |
Committee Chair | |
Heledd Fychan | |
Laura Anne Jones | |
Lee Waters | |
Swyddogion y Senedd a oedd yn bresennol
Senedd Officials in Attendance
Joanne McCarthy | Ymchwilydd |
Researcher | |
Lleu Williams | Clerc |
Clerk | |
Madelaine Phillips | Ymchwilydd |
Researcher | |
Osian Bowyer | Ymchwilydd |
Researcher | |
Sara Moran | Ymchwilydd |
Researcher | |
Tanwen Summers | Dirprwy Glerc |
Deputy Clerk |
Cynnwys
Contents
Cofnodir y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y pwyllgor. Yn ogystal, cynhwysir trawsgrifiad o’r cyfieithu ar y pryd. Lle mae cyfranwyr wedi darparu cywiriadau i’w tystiolaeth, nodir y rheini yn y trawsgrifiad.
The proceedings are reported in the language in which they were spoken in the committee. In addition, a transcription of the simultaneous interpretation is included. Where contributors have supplied corrections to their evidence, these are noted in the transcript.
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 10:40.
The committee met in the Senedd and by video-conference.
The meeting began at 10:40.
Bore da. Hoffwn i groesawu'r Aelodau i'r cyfarfod yma o'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.
Good morning. I'd like to welcome Members to this meeting of the Culture, Communications, Welsh Language, Sport and International Relations Committee.
Fel bydd yr Aelodau'n ymwybodol, yn dilyn ymddiswyddiad Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg ddoe, mae ein sesiwn graffu weinidogol wedi'i chanslo, a byddwn ni'n edrych ar opsiynau ar gyfer aildrefnu'r sesiwn hon yn dilyn y toriad. Oes gan unrhyw Aelodau fuddiannau i'w datgan? Dwi ddim yn gweld bod yna.
As Members will be aware, following the resignation of the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Welsh Language yesterday, our planned ministerial scrutiny session has been cancelled, and we'll look at options for rescheduling this session following recess. Do Members have any declarations of interest? I don't see any.
Felly, fe wnawn ni symud yn syth ymlaen at eitem 3, sef papurau i'w nodi. Yn y papurau, rydyn ni'n mynd o 3.1 yn y papurau i'w nodi hyd at 3.4. Oes unrhyw un eisiau sôn am unrhyw beth, cyn inni fynd yn breifat, yn y papurau hynny? Ydyn ni'n hapus i'w nodi nhw? Hapus i nodi. Ocê. Felly, fe wnawn ni nodi'r papurau hynny. Ac, i unrhyw un sy'n gwylio, byddwn ni'n trafod nifer o'r papurau hynny pan fyddwn ni'n breifat hefyd, ond dwi'n cymryd bod neb eisiau dweud unrhyw beth yn gyhoeddus.
So, we will proceed immediately to item 3, papers to note. We go from papers 3.1 to 3.4. Does any Member want to raise anything before we move into private session? Are we content to note those papers? We are. So, we will note those papers. And, for anyone watching, we will be discussing many of those papers when we move into private session, but I assume that there are no comments to be placed on the record.
Cynnig:
bod y pwyllgor yn penderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi).
Motion:
that the committee resolves to exclude the public from the remainder of the meeting in accordance with Standing Order 17.42(vi).
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.
Felly, rwy'n cynnig, o dan Reol Sefydlog 17.42, gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn. Ydy'r Aelodau yn fodlon i ni wneud? Ocê. Fe wnawn ni aros i glywed ein bod ni'n breifat.
So, I propose, in accordance with Standing Order 17.42, to resolve to exclude the public from the remainder of this meeting. Are Members content? Yes. We'll wait to hear that we are in private session.
Derbyniwyd y cynnig.
Daeth rhan gyhoeddus y cyfarfod i ben am 10:41.
Motion agreed.
The public part of the meeting ended at 10:41.